Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) heddiw.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Cwestiwn 1, Huw Irranca-Davies.

Amddiffyniadau Amgylcheddol

1. Pa sicrwydd y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i sicrhau y caiff yr amddiffyniadau amgylcheddol sydd yn eu lle o dan ddeddfwriaeth yr UE, yn arbennig cyfarwyddebau natur, eu cadw yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0140(ERA)

Diolch. Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella ein safonau amgylcheddol, ac rydym yn cydnabod bod ein hadnoddau naturiol yn hanfodol i ddyfodol Cymru ar ôl gadael yr UE. Mae deddf yr amgylchedd a deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol eisoes wedi rhoi sylfaen gref ar waith sy’n seiliedig ar ymrwymiadau rhyngwladol na fydd yn cael eu heffeithio gan Brexit.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Ond gan siarad fel hyrwyddwr cornchwiglod y Cynulliad, nodaf fod y cyfarwyddebau cynefinoedd ac adar yn sicrhau y gellir amddiffyn a gwella nifer o rywogaethau a chynefinoedd pwysig ledled Cymru. Mae ein safleoedd arbennig yn cynnwys twyni tywod arfordirol, gorgorsydd, gwlyptiroedd, safleoedd morol, oll o dan y ddeddfwriaeth hon, ac mae rhywogaethau eiconig megis y dolffiniaid trwyn potel, y dyfrgwn, y bodaod tinwen, gwyddau talcenwyn yr Ynys Las a’r frân goesgoch yn cael eu hamddiffyn. Felly, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cadw’r amddiffyniadau hyn yn y dyfodol. Ychydig fisoedd yn ôl yn unig, adroddodd y Comisiwn Ewropeaidd, yn eu hasesiad o’r cyfarwyddebau, eu bod wedi canfod eu bod yn addas at y diben, ond bod angen i’r aelod-wladwriaethau eu rhoi ar waith yn well er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau rhyngwladol. Ac mewn astudiaeth y llynedd, canfuwyd bod y cyfarwyddebau natur yn fframwaith rheoleiddio hanfodol, a all ein helpu, wrth iddynt gael eu gweithredu’n fwy cyflawn, i gyflawni, gan gynnwys Cymru, ein rhwymedigaethau o dan y targedau Aichi, a chytundebau amgylcheddol amlochrog eraill. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn a ydych wedi gallu cael unrhyw drafodaethau gyda chymheiriaid gweinidogol, yn arbennig Andrea Leadsom, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynglŷn â phwysigrwydd cadw’r amddiffyniadau pwysig hyn ar ôl Brexit?

Ydw, yn sicr, rwyf wedi bod yn cael y trafodaethau hynny, ac rwy’n sicr yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â materion sy’n ymwneud â materion pontio yr UE, a Gweinidogion o’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Roedd y cyfarfod diwethaf ar 20 Ebrill. Nid oes un gennym y mis hwn, yn amlwg, oherwydd yr etholiad, a byddwn yn cyfarfod nesaf ar 21 Mehefin. Rydym yn cefnogi cynllun gweithredu’r Comisiwn Ewropeaidd, sy’n anelu at wella effeithlonrwydd y broses o roi’r cyfarwyddebau natur ar waith, a sicrhau mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y caiff y cyfarwyddebau eu rhoi ar waith er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda’u cymheiriaid yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn ogystal â’r Alban a Gogledd Iwerddon, i sicrhau bod ymateb y DU i’r cynllun gweithredu’n adlewyrchu’n llawn ein hymagwedd tuag at reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, fel y nodir yn ein Deddf amgylchedd.

Credaf fod hynny’n ein rhoi mewn sefyllfa gref i barhau i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol.

Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad yw cyfarwyddeb yr UE ar ddiogelu safleoedd bridio llamidyddion wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith y DU, a gobeithiaf y gall Llywodraeth Cymru, ar ôl Brexit, naill ai ddewis cyflwyno ychydig o’i hamddiffyniadau ei hun, neu weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud hynny. Mewn gwirionedd, gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn ar ran etholwyr ym Mhorthcawl, ac etholwyr eraill yn ardal bae Abertawe. Os ydych yn barod i fwrw ymlaen â rhywbeth tebyg i hyn, a fyddai’r amddiffyniadau hynny’n ddigon penodol i ddiogelu ardaloedd rhag effeithiau cysylltiedig datblygu ffermydd gwynt ar y môr?

Mae’n rhywbeth y gallwn ei ystyried. Mewn gwirionedd, mae rhywbeth ar fy nesg i fyny’r grisiau ynglŷn â llamidyddion. Felly, byddwn yn sicr yn ei ystyried, ac yn amlwg, byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

Diffyg Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg ffrwythau a llysiau yng Nghymru? OAQ(5)0150(ERA)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant amaethyddol a’r diwydiant bwyd mewn partneriaeth ag Amaeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Mae yna botensial i ddatblygu garddwriaeth a chyfle wrth i Gymru addasu i Brexit. Rydym yn cydnabod y manteision i iechyd o fwyta ffrwythau a llysiau ac wedi cymryd camau i’w hyrwyddo.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a chroeso’n ôl, gyda llaw. Dyma fy nghyfle cyntaf i ddweud hynny wrthych.

Nid ydym ond yn cynhyrchu oddeutu 10 y cant o’r hyn a ddefnyddiwn, felly mae’r diffyg gymaint â 90 y cant, yn sicr o ran ffrwythau a llysiau y gellir eu tyfu yn ein hinsawdd. Gyda 2 y cant o dir amaethyddol Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythau a llysiau, er bod y ffigur hwnnw’n 10.5 y cant o dir gradd 1 i radd 3, byddem mewn gwirionedd yn cynhyrchu popeth sydd ei angen arnom. Felly, gobeithiaf, wrth lunio unrhyw bolisi yn y dyfodol ar ôl Brexit, y byddwn yn gweld pwysigrwydd y maes hwn. Roeddem yn arfer cynhyrchu mwy; dylem gynhyrchu mwy eto.

Ie, credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ac wrth inni ystyried Brexit, nid yw’n ddu i gyd—mae cyfleoedd i’w cael. Credaf mai un o’r cyfleoedd yw y gallem, o bosibl, edrych ar wahanol ddefnyddiau posibl ar gyfer tir, os mynnwch, ac rydym wedi dechrau cwmpasu’r gwaith hwnnw. Yn amlwg, penderfyniad y tirfeddiannwyr yw’r hyn y dymunant ei wneud gyda’u tir, ond credaf fod cyfle i wneud hynny. Fel y dywedaf, rydym yn ei gwmpasu ar hyn o bryd gan y bydd angen y wybodaeth honno arnom er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud.

Yn amlwg, mae’r hinsawdd yn cael effaith, yn ogystal â dewis defnyddwyr, ac mae defnyddwyr yn galw am lysiau y tu allan i’r tymor tyfu, os hoffwch. Felly, credaf y dylid ystyried yr holl benderfyniadau a’r wybodaeth, ond credaf yn sicr, ar ôl Brexit, y bydd cyfle i wneud hynny.

Gobeithiaf na fyddwn yn aros tan Brexit cyn gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn gan fod sawl peth y gallai’r Llywodraeth ei wneud yn awr. Un yw y gallem blannu mwy o goed ffrwythau, gan fod angen i ni blannu mwy o goed yn gyffredinol, a phe bai gennym goed ffrwythau, byddai eu cynnyrch ar gael. Ond yn fwy strategol, tybed a allem gael mwy o frys yn ein hymagwedd tuag at ein polisi caffael cyhoeddus mewn perthynas â bwyd, yn enwedig er mwyn ein galluogi i ddilyn arweiniad Sir y Fflint, sy’n mabwysiadu’r ardystiad ‘Bwyd am Oes’, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion sicrhau bod 75 y cant o’u seigiau wedi’u cynhyrchu’n ffres. Byddai hynny’n amlwg yn annog y diwydiant garddwriaethol i ddarparu’r llysiau a’r ffrwythau y byddai eu hangen ar ysgolion. Byddai’r un peth yn wir am ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill. Rydym wedi mabwysiadu’r ymagwedd hon yma yn ein ffreutur yn y Senedd. ‘Does bosib na allwn ymestyn hyn i bob un o’n plant.

Yn sicr nid oes rhaid inni aros tan ar ôl Brexit—dyna lle roeddwn yn siarad yn benodol am y gwaith a wnawn wrth edrych ar ddefnyddio tir mewn ffordd wahanol. Yn sicr, rydym wedi bod yn edrych ar y drefn gaffael bresennol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny.

Mae gennyf Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ac yn amlwg, cynllun gweithredu’r diwydiant bwyd a diod, a chredaf fod hynny’n sicr yn cydnabod pwysigrwydd bwyta’n iach, yn enwedig yn ein hysgolion ac mewn rhannau eraill o’n sector cyhoeddus. Mae gennym hefyd y fenter Peas Please, a ddechreuwyd gan y Food Foundation, ac mae honno’n dod â ffermwyr a manwerthwyr a siopau bwyd cyflym ac arlwywyr a phroseswyr a Llywodraethau ynghyd, ac mae’n edrych o ddifrif ar y gadwyn gyflenwi a sut y gallwn gynhyrchu rhagor o fwyd a llysiau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.

Diolch, Llywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i’r lle hwn. Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet, fel finnau, yn croesawu adroddiad Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, a gyhoeddwyd ddoe, ‘Ffermio—Creu Cymru Unedig’. Gwn ei bod wedi mynychu lansiad yr adroddiad. Mae’n nodi sut y mae ffermio’n cyfrannu at y saith nod lles yn neddfwriaeth y Llywodraeth ei hun—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015—a chredaf ei fod yn rhan o’r gwaith y mae’n rhaid i bawb ohonom ei wneud ar bennu’r dadleuon parhaus o blaid cymorthdaliadau a pharhau i gefnogi ffermio a’r gymuned wledig ehangach wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwnnw, roeddwn yn synnu pan gyhoeddwyd maniffesto Llafur Cymru, gan nad yw’n ymddangos ei fod yn cynnwys unrhyw ymrwymiad i barhau â’r taliadau hynny dros dymor cyfan y Senedd nesaf, a thybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam.

Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud lawer gwaith na allaf ddychmygu adeg pan nad oes angen i ni gynorthwyo ein sector amaethyddol. Yn amlwg, lansiwyd y maniffesto, roedd pennod bwysig yn y maniffesto ynglŷn ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd, ar draws fy mhortffolio. Rydym wedi dweud o’r dechrau na wyddom pa gyllid a fydd gennym ar ôl Brexit, ond os cofiwch, yn ystod yr ymgyrch ar gyfer refferendwm yr UE, dywedwyd wrthym na fyddem yn colli ceiniog, a byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair.

A finnau hefyd, ond roeddwn o dan yr argraff eich bod yn awyddus i ddod yn Llywodraeth y DU ac felly’n ceisio gwneud ymrwymiadau ariannol ar gyfer Llywodraeth nesaf San Steffan, gan mai am y fan honno yr ymleddir ar 8 Mehefin. Yr un peth a ddywedwch yn eich maniffesto, fodd bynnag, yw hyn:

Llusgwyd y Ceidwadwyr i’r llys a’u gorfodi i gyhoeddi eu cynllun nitrogen deuocsid drafft. Ond mae eu hymrwymiadau yn destun siom ac maent yn brin o wybodaeth am y camau angenrheidiol i fynd i’r afael ag allyriadau yn y DU, ac nid ydynt yn rhoi unrhyw fanylion am gynllun sgrapio diesel.

Credaf fod hynny’n ffeithiol gywir, ond a yw hyn yn golygu bod Llafur Cymru yn mynd i gyflwyno cynllun sgrapio diesel yng Nghymru?

Mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid edrych arno. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â Llywodraeth y DU, ac rwyf wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag ansawdd aer. Gwyddoch fod hynny’n flaenoriaeth bersonol i mi. Credaf ei fod yn bwysig iawn, ac rwyf wedi ysgrifennu at DEFRA yn ddiweddar yn ei gylch. Byddwch yn gwybod bod DEFRA wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y cyd yn ddiweddar. Un o’r pethau rydym wedi ymrwymo i’w wneud yw ymgynghori, o fewn y 12 mis nesaf, ar fframwaith parth aer glân i Gymru.

Mae hynny’n wir o ran yr hyn a wnewch fel Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n ei groesawu i’r graddau y mae’n mynd, ond mae’n tanlinellu’r ffaith nad yw’n ymddangos eich bod, fel plaid, o ddifrif o gwbl ynglŷn â bod mewn grym yn San Steffan. Nid oes gennyf unrhyw gynigion cadarn neu warantau ac ymrwymiadau ariannol o ran sut y byddwch yn cefnogi’r camau hyn yn y dyfodol.

Fodd bynnag, gadewch i ni edrych ar rywbeth sy’n digwydd yma yng Nghymru, gan y credaf y gallwn gytuno, neu mae’n bosibl y gallwn gytuno, o leiaf, os cawn gynllun sgrapio diesel neu ryw fath o ddull o’r fath, y byddwn yn ymbellhau oddi wrth ddiesel a thuag at, ie, rhagor o betrol, ond hefyd tuag at gerbydau trydan, y rhagwela’r ‘Financial Times’ bellach y byddant yn costio’r un faint â cherbydau petrol erbyn 2018. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 100,000 o gerbydau trydan wedi’u cofrestru yn y DU. Ceir 1,500 o bwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan yn Lloegr a’r Alban. Gellir gyrru o ogledd Cymru i Ynysoedd Orkney mewn car trydan gan ddefnyddio pwyntiau gwefru cyflym, ond ni allwch yrru o ogledd Cymru i Gaerdydd. Nid oes ond 13 pwynt gwefru cyflym yng Nghymru gyfan, a dim un o gwbl yng nghanolbarth Cymru. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud gyda’i chydweithwyr, gan fod gennym adroddiad a luniwyd yn 2015 nad oes unrhyw beth wedi’i wneud yn ei gylch hyd yn hyn, i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydanol ledled Cymru ac yn enwedig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru?

Mewn gwirionedd, cefais drafodaeth ynglŷn â hyn y bore yma gan fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno. Ar lefel bersonol, rwy’n gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gosod rhai pwyntiau gwefru cyn gynted ag y bo modd. Yn anffodus, am sawl rheswm nad wyf am eich diflasu â hwy, staff yn unig fydd yn gallu eu defnyddio i gychwyn, ond credaf ei fod yn bwysig iawn. Byddwch yn gwybod am ap sydd gennym i sicrhau ein bod yn gwybod ble mae’r pwyntiau gwefru. Un awgrym a gawsom yw efallai y dylem osod pwyntiau gwefru yn yr un mannau â thoiledau cyhoeddus.

Felly, mae angen cryn fuddsoddiad mewn pwyntiau gwefru, oherwydd, fel y dywedwch, nid oes digon ohonynt gennym yng Nghymru hyd yn hyn. Nid wyf am i hynny effeithio ar ein cynnig twristiaeth, a gwn nad yw fy nghyd-Aelod, Ken Skates, am i hynny ddigwydd chwaith. Felly, mae angen inni feddwl am hynny hefyd, oherwydd, fel y dywedwch, mae angen i chi allu symud yn rhydd o gwmpas Cymru gan wybod bod y pwyntiau hynny ar gael.

Diolch, Llywydd. Fel eraill, rwy’n hapus eich gweld yn dychwelyd i’r Siambr hon, a gobeithiaf y byddwch yn gwella’n llawn yn y dyfodol agos iawn.

Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru yn ddiweddar mai ffermwyr ifanc yw dyfodol y diwydiant a bod angen i ni fuddsoddi ynddynt er mwyn sicrhau dyfodol disglair ar eu cyfer hwy a’r diwydiant hwn. Wrth gwrs, cytunaf yn llwyr â chi ar hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a allech ddweud wrthym pa bolisïau penodol rydych wedi’u cyflwyno yn ystod eich cyfnod fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar gyfer ffermwyr ifanc er mwyn sicrhau bod ganddynt ddyfodol disglair?

Nid wyf yn siŵr am bolisïau penodol, ond rwy’n sicr wedi eu cefnogi’n ariannol. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r buddsoddiad sylweddol rydym wedi’i roi i ffermwyr ifanc. Er enghraifft, mae gennym yr Academi Amaeth, sy’n llawn o ffermwyr ifanc, dynamig sy’n barod iawn i roi cymorth i mi wrth lunio polisïau ar gyfer y dyfodol, ac rwyf wedi eu cyfarfod yn rheolaidd. Rwyf hefyd wedi gwneud dewis personol i ymweld â chymaint o ffermwyr ifanc ar eu ffermydd ag y gallaf. Yn sicr, gallaf feddwl am un neu ddau yr ymwelais â hwy yng ngogledd Cymru—roedd un ohonynt yn lesio’r fferm ac yn awyddus i siarad â mi yn benodol am yr hyn y gallem ei wneud yn ein polisïau i annog pobl ifanc i allu lesio eu ffermydd. Yna, ysgrifennais at bob awdurdod lleol i geisio eu hannog i beidio â gwerthu eu ffermydd, gan ei bod yn ymddangos, yn anffodus, fod rhai awdurdodau lleol yn gwneud hynny ar gyflymdra sy’n peri pryder.

Daeth adroddiad diweddar gan NatWest i’r casgliad fod, 

ffermwyr ifanc angen mwy o gefnogaeth i arallgyfeirio ac er bod y syniadau entrepreneuraidd yno, mae lle i wella’r rhwydweithiau cymorth.

Felly, mae’n hanfodol fod mwy o gefnogaeth yn cael ei chynnig i ffermwyr ifanc, ar ffurf cyngor a chymorth, ac ar ffurf cyllid hefyd. Felly, yng ngoleuni’r adroddiad hwn, a wnewch chi gadarnhau pa gyllid y byddwch yn ei roi yn awr i wella cymorth i ffermwyr ifanc sydd am arallgyfeirio?

Gall hynny fod yn rhan o’n rhaglenni. Fe fyddwch yn gwybod am y grantiau busnes i ffermydd a gyflwynwyd gennym. Maent ar gael nid yn unig i ffermwyr ifanc, ond i bob ffermwr, a phan gawsant eu lansio’n ddiweddar, gwn fod ffermwyr ifanc wedi dweud wrthyf eu bod yn llawer o gymorth iddynt, oherwydd os oeddent yn awyddus i gael darn o gyfarpar na allent ei fforddio, nid oedd yn rhaid iddynt fynd drwy’r cynllun busnes hir hwnnw a chael sawl dyfynbris—rydym wedi cael gwared ar yr holl waith caled hwnnw. Wrth symud ymlaen, gallwn edrych ar ba gefnogaeth benodol y gallwn ei rhoi iddynt wrth inni lunio polisi amaethyddol Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, daeth yr un adroddiad i’r casgliad fod

argyfwng cenedliadol ym maes ffermio,

sydd wedi peri pryder i sawl un yn y byd amaeth ers peth amser. Yn wir, yn ôl Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, roedd canran y ffermwyr o dan 45 oed wedi gostwng i 13 y cant yn unig yn 2015, i lawr o 18 y cant yn 2003. Felly, yn sgil yr angen dybryd i ddenu pobl ifanc i mewn i’r proffesiwn ffermio, a’r angen i gadw pobl ifanc yn y proffesiwn ffermio, pa gamau uniongyrchol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i sicrhau nad yw canran y ffermwyr o dan 45 oed yn parhau i ostwng yn y dyfodol?

Nid wyf yn gyfarwydd â’r ffigurau hynny. Nid wyf yn siŵr a oeddech yn dweud mai ffigurau DEFRA oeddent, gan nad wyf yn credu bod hynny’n wir yng Nghymru—y gostyngiad sylweddol hwnnw. Nid wyf yn hoffi’r gair ‘argyfwng’. Rwy’n deall ei bod yn anodd iawn i ffermwyr ifanc os nad ydynt yn rhan o deulu sy’n ffermio—os ydynt yn awyddus i ddod i mewn i’r byd ffermio o’r newydd, os mynnwch, mae’n anodd iawn iddynt allu gwneud hynny. Un peth rydym wedi bod yn gweithio arno gyda ffermwyr ifanc yw sicrhau ein bod yn eu helpu i fynd i mewn i’r byd amaethyddol. Dychwelaf at yr hyn a ddywedais ynglŷn â gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio eu hannog i beidio â gwerthu’r ffermydd sydd ganddynt yn eu portffolios, oherwydd, yn sicr, o siarad â ffermwyr ifanc, dyna un o’r ffyrdd y gallant ddechrau ffermio. Soniais am rywun yng ngogledd Cymru; mewn gwirionedd, daw o gefndir amaethyddol, ond roedd yn awyddus i fynd i gael ei fferm ei hun. Yn 21 oed, mae wedi lesio fferm, sy’n ardderchog.

Diolch, Llywydd. Nid wyf am gael fy ngadael allan o dorf o gefnogwyr Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n ei chroesawu’n ôl i’r Siambr, a hoffwn ddweud pa mor falch rwyf innau o’i gweld yn edrych mor iach a chryf.

Hoffwn ddychwelyd at y cwestiwn ynghylch maniffesto’r Blaid Lafur, i fynd ar ôl y pwynt a wnaeth Simon Thomas ar ddechrau’r trafodion heddiw. Hyd y gwelaf yn y maniffesto hwn, mae dau baragraff am ffermio yn y bennod ar drafodaethau Brexit, ac yna, yn fras, mae un paragraff bach o dan faterion amgylcheddol a gwledig. O ystyried bod amaethyddiaeth yn fater cwbl ddatganoledig, a’n bod ar ganol ymgyrch etholiad cyffredinol, credaf y bydd y gymuned ffermio yn synnu bod ffermio’n cael cyn lleied o sylw yn y ddogfen weddol drwchus hon.

O ystyried bod y Prif Weinidog wedi beirniadu fy mhlaid ac eraill am ddiffyg eglurder o ran ein gweledigaeth ôl-Brexit—dof at hyn yn y man—mewn gwirionedd, nodwyd ein gweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth y llynedd yn etholiadau’r Cynulliad, yn ein maniffesto yno, lle roeddem yn eithaf clir y byddem yn parhau â chynllun y taliad sylfaenol, ar sail £80 yr erw bryd hynny. Byddai’n rhaid inni edrych eto ar y ffigur hwnnw—gall fod yn bosibl ei gynyddu, gyda thaliadau ychwanegol i ffermydd mynydd yn seiliedig ar niferoedd o fewn rheolau Sefydliad Masnach y Byd ac ati. Dyma’r pwynt sylfaenol y mae pawb yn awyddus i gael rhywfaint o sicrwydd yn ei gylch: a fydd unrhyw gynllun taliad sylfaenol yn parhau yng Nghymru ar ôl Brexit, ac a fydd y drefn bresennol ar gyfer taliadau’n cael ei hailadrodd. Rwy’n derbyn, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, na wyddom eto beth a gawn gan Lywodraeth San Steffan o ran setliad ariannol, ac fel hithau a’i phlaid, mae UKIP o’r farn y dylem gael pob ceiniog o arian trethdalwyr Prydain sy’n cael ei wario ar hyn o bryd gan Frwsel yng Nghymru, ond ar y sail honno, dylai fod yn bosibl iddi hi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros amaethyddiaeth roi’r math o sicrwydd pendant y mae ffermwyr ei angen.

Wel, rwyf wedi rhoi’r sicrwydd hwnnw i ffermwyr. Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers blwyddyn bellach, ac yn sicr, rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn na allwn ragweld adeg pan na fydd angen y cymorth hwnnw ar ein sector amaethyddol. O ran sut olwg fydd ar gynllun y taliad sylfaenol ar ôl Brexit, fel y dywedais, mae hynny’n dibynnu ar y cyllid a gawn, ond fel chithau, credaf y dylem gael pob ceiniog a addawyd inni. Dywedwyd wrthym na fyddai Cymru’n colli’r un geiniog, a byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair.

A’r cwestiwn arall sy’n codi yw’r rhyddid a fydd gennym i ystyried y drefn reoleiddio a fydd yn gymwys i ddiwydiannau gwledig yn gyffredinol. Er fy mod yn derbyn y pwyntiau a wnaeth Huw Irranca-Davies yn ei gwestiwn blaenorol ynglŷn â chynnal rheoliadau hanfodol, ni ellir dweud bod y corff presennol o reoliadau a orfodir arnom ar hyn o bryd gan yr UE yn berffaith ym mhob ffordd, ac efallai fod ffyrdd y gallwn leihau costau’n sylweddol heb beryglu’r buddiannau cyhoeddus rydym oll yn awyddus i’w cael mewn perthynas â gwarchod yr amgylchedd ac yn y blaen. Mae incwm ffermwyr yn isel iawn, ac mae baich gweinyddol trefn reoleiddio’r UE yn aml yn pwyso’n drwm arnynt. Nid oes ganddynt y lefelau incwm a fyddai’n gwneud bywyd yn haws iddynt allu cyflogi staff i lenwi’r holl ffurflenni, ticio blychau a’r holl gymhlethdodau eraill sydd ynghlwm wrth fywyd yn y diwydiant ffermio. Felly, rwy’n gobeithio, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb i David Melding yn gynharach, nad yw’n ddu i gyd ar ôl Brexit—roeddwn yn falch iawn o’i chlywed yn dweud hynny a’i bod yn mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol tuag at y cyfleoedd hyn—ac y byddwn yn mabwysiadu ymagwedd agored sy’n seiliedig ar wyddoniaeth tuag at reoleiddio, a thros amser, amser maith mae’n siŵr, byddwn yn mynd drwy’r corff o reoliadau yn ei gyfanrwydd er mwyn gweld sut y gallwn gael gwared ar feichiau gweinyddol ar ffermwyr heb golli unrhyw fuddion cyhoeddus mawr sy’n werthfawr i’r gymuned anamaethyddol.

Wel, rwy’n ceisio ystyried y gwydr hanner llawn, yn hytrach na’r gwydr hanner gwag, felly rwy’n ceisio gwneud yn fawr o’r cyfleoedd y credaf eu bod yno pan fyddwch yn chwilio amdanynt. Roeddwn yn angerddol o blaid aros yn yr UE, ac ni fydd unrhyw beth yn gwneud i mi gredu bod gadael, bod Brexit yn dda i ni, ond mae’n rhaid inni chwilio am y cyfleoedd hynny. Roedd rheoliadau yn un o’r rhesymau a grybwyllodd ffermwyr wrthyf ynglŷn â pham fod—nid wyf am ddweud mwyafrif, ond yn sicr o ran y bobl y siaradais â hwy, pam fod y rhan fwyaf ohonynt wedi pleidleisio dros adael. Fodd bynnag, bydd safonau a rheoliadau amgylcheddol, o leiaf, yn cael eu cynnal. Rwy’n dweud hyn wrthynt dro ar ôl tro: gallem eu cryfhau lle bo angen, a phan fyddwn yn edrych ar bob un ohonynt yn unigol, mae miloedd o reoliadau yn fy mhortffolio, yn llythrennol, ac efallai y byddwn yn cryfhau rhai ohonynt. Felly, efallai y dylai rhai ohonynt fod wedi bod yn ofalus ynglŷn â beth roeddent yn dymuno. 

Felly, byddwn yn dweud bod y drefn reoleiddio honno’n hanfodol. Fodd bynnag, bydd angen i ni ystyried pob achos yn unigol.

O fod wedi siarad â llawer o sefydliadau amaethyddol a ffermwyr unigol, gwn eu bod yn gwerthfawrogi ymagwedd agored Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir, ei hygyrchedd cyffredinol a’i pharodrwydd i drafod y materion hyn yn eu cyfanrwydd. Mae un achos penodol yr hoffwn ei ddwyn i’w sylw yn awr lle byddai modd iddi wneud rhywbeth.

Bydd yn gwybod bod y drefn ar gyfer symud da byw ar ffermydd, wrth inni agosáu at gyfnod y sioeau sir, bellach yn destun dadlau, wrth i’r unedau cwarantin newydd gael eu cyflwyno ar 10 Mehefin yn lle hen drefn yr unedau ynysu cymeradwy ar ffermydd. Cafwyd cryn dipyn o gwynion fod hyn yn annerbyniol o fiwrocrataidd. Ceir 61 rheol yn rhan o’r system newydd, sy’n cynnwys gosod gatiau dwbl a ffensys dwbl, yn ogystal â gwisgo dillad arbenigol. Hefyd, wrth gwrs, ceir trefn dalu ffioedd o £172.80 am un uned gwarantin a £244.80 am ddwy, ac mae llawer o ffermwyr yn ei chael yn anodd deall pam y dylai hwn fod yn gynllun mor fiwrocrataidd. Dywed llawer ohonynt nad yw’n werth yr ymdrech bellach i fynd â da byw i sioeau sir a dangos anifeiliaid. Felly, tybed a fyddai modd inni edrych eto ar y cynllun hwn a chyflwyno ychydig mwy o hyblygrwydd nag sydd i’w weld ynddo ar hyn o bryd, o ystyried bod gennym drefn effeithiol eisoes ar waith gyda’r defnydd o unedau ynysu cymeradwy, ac am nad oes unrhyw dystiolaeth, mewn gwirionedd, i ddangos bod amgylchiadau cyfyngedig symud anifeiliaid i ac o sioeau sir yn peryglu lles neu iechyd anifeiliaid.

Cyn i mi sôn am unedau cwarantin, i nodi eich pwynt cyntaf ynglŷn â hygyrchedd, yn sicr, rwy’n awyddus i gael y trafodaethau hynny gyda’r sector ac un o’r rhesymau pam y sefydlais y grŵp rhanddeiliaid yn syth ar ôl y refferendwm fis Mehefin diwethaf—credaf inni gyfarfod am y tro cyntaf ar 4 Gorffennaf—oedd er mwyn sicrhau ein bod yn dod â’r sector amaethyddol a sector yr amgylchedd at ei gilydd. Roeddwn o’r farn ei bod yn bwysig iawn nad oedd gennym y seilos hynny. Mae’n rhaid i mi ddweud, mae’n siŵr ein bod wedi cael oddeutu 10 cyfarfod bellach, ac mae wedi bod yn braf iawn gweld y ddau sector yn gweithio mor gadarnhaol gyda’i gilydd.

Ar fater unedau cwarantin, pan ddechreuais yn y swydd hon flwyddyn yn ôl, dywedwyd wrthyf fod angen inni symud yn gyflym iawn gyda’r trefniadau newydd hyn, a chefais fy meirniadu yn ystod yr haf am beidio â’u cyflwyno’n ddigon cyflym. Rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda’r sector ar y polisi hwn. Mae fy swyddogion wedi gweithio ar y cynigion hynny gyda’r grŵp cynghori ar adnabod da byw, ac rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar y gwaith o gyflawni’r prosiect. Nid yw’n gynllun gorfodol, felly, gallant ddewis: os yw’n well ganddynt y gwaharddiad symud am chwe diwrnod na’r uned gwarantin, gallant ddewis gwneud hynny. Gwn fod cost ariannol, ac unwaith eto, os ydynt yn dewis peidio â chael uned gwarantin, bydd unrhyw symudiadau i’w ffermydd yn sbarduno’r gwaharddiad symud am chwe diwrnod. Mae angen iddynt bwyso a mesur pa gynllun sydd orau ar eu cyfer hwy’n bersonol.

Gwella Ansawdd Aer Ledled Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd a gaiff ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru? OAQ(5)0147(ERA)

Diolch. Er bod ansawdd aer yng Nghymru yn gwella, mae ambell i ardal yn parhau i beri problemau. Wrth i ni weithio i gwblhau fframwaith parth aer glân newydd i Gymru, caiff pob sector a phob corff cynrychiadol—yn enwedig yn y sector preifat—eu hystyried yn rhanddeiliaid gweithredol. Bydd eu hymgysylltiad â’r gwaith hwn yn hanfodol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod llygredd aer yn effeithio ar ein hamgylchedd ac ar ein hiechyd. O ran y materion amgylcheddol, rydym mewn gwirionedd yn gweld yr effeithiau ar ein rhywogaethau, ein planhigion ac yn ein trefi. Dewch i Tai-bach yn fy etholaeth er mwyn gweld rhai o’r effeithiau gweledol eich hun. Ond hefyd, mae llawer o sefydliadau ym maes iechyd yn nodi bod llygredd aer yn cyfrannu at dros 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yma yng Nghymru oherwydd pethau fel pyliau o asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac efallai chwyddiadau a thrawiadau ar y galon o ganlyniad i lygredd aer.

Rwy’n sylweddoli mai Gweinidog arall sy’n gyfrifol am yr agenda iechyd, ond chi sy’n gyfrifol am yr agenda ansawdd aer. Beth a wnewch i gael trafodaethau ar draws y Cabinet i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau ar lygredd aer ledled Cymru? Ac a wnewch chi hefyd, o bosibl, ystyried cryfhau rheoliadau’r UE, cyn ac ar ôl Brexit, er mwyn edrych ar sut y gallwn sicrhau y caniateir llai o dramgwyddau i wneud yn siŵr fod ansawdd yr aer yn well, yn ogystal â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, efallai, yn plismona hynny?

Mae iechyd pobl ac amgylchedd Cymru yn mynd law yn llaw ac rwyf wedi ymrwymo i ddiogelu pobl ac amgylchedd Cymru. Mae fy swyddogion, a swyddogion iechyd yn sicr, ac yn enwedig swyddogion y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd, ac rydym wedi adolygu’r canllawiau newydd, y gwyddoch amdanynt mae’n siŵr, ar reoli ansawdd yr aer yn lleol. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd gyfunol gydag iechyd y cyhoedd wrth ddatblygu fframwaith parth aer glân i Gymru, a bydd hwnnw’n cael ei adlewyrchu yng ngwaith gweithgor o’r grŵp rhanddeiliaid Brexit ar yr aer a’r hinsawdd. Byddwch yn gwybod am adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac rwyf eisoes wedi dweud wrthynt fod lle i gysoni’r drefn ar gyfer ansawdd aer lleol a chenedlaethol yn well ar ôl i ni adael yr UE.

Ysgrifennydd y Cabinet, croeso’n ôl i’r Siambr. Mae’r pwynt ynglŷn â 2,000 o bobl yn marw cyn pryd yng Nghymru oherwydd ansawdd aer gwael—mae hynny’n bump o bobl bob dydd—yn sicr yn un o’r heriau, un o’r problemau mwyaf sy’n ein hwynebu o ran iechyd y cyhoedd. Rwyf wedi gwrando ar nifer o’ch atebion a chroesawaf y camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd ar draws y portffolios. Ond pa mor hyderus y gallwn fod, erbyn i’r Cynulliad hwn fynd gerbron yr etholwyr yn 2021, y byddwn yn gweld gostyngiad yn y niferoedd hynny o farwolaethau cyn pryd yma yng Nghymru? Fel y dywedais, ac mae’n werth ei ailadrodd, mae 2,000 o bobl yn marw cyn pryd oherwydd ansawdd aer gwael. Mae hynny’n bump o bobl bob dydd. Ble y gallwn eich marcio, fel Llywodraeth, yn 2021 mewn perthynas â’r marwolaethau cyn pryd hynny yma yng Nghymru?

Fel y dywedwch, mae angen i ni wneud cryn dipyn o waith ar hyn, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod hyn yn flaenoriaeth i mi. Gwyddoch ein bod wedi cael ymgynghoriad yn ddiweddar, ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod, yn gyffredinol, yn cefnogi’r camau rydym yn eu cymryd. Rydym yn ailadrodd pwysigrwydd lleihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer drwy sicrhau bod crynodiad cyfartalog nitrogen deuocsid mewn anheddau yn un o ddangosyddion fframwaith canlyniadau cenedlaethol Cymru ar gyfer iechyd a lles y cyhoedd, felly gallwch ein dwyn i gyfrif mewn perthynas â hynny. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau polisi ansawdd aer newydd i awdurdodau lleol y mis nesaf, a byddant yn nodi ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymhlith pethau eraill, fel lleoliadau sensitif ar gyfer gosod derbynyddion. Ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol fabwysiadu dull o weithredu sy’n seiliedig ar risg ar gyfer lleoli eu monitorau, ond credaf ei bod yn bwysig iawn eu bod yn ystyried hynny hefyd. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd ac iechyd y cyhoedd yn GIG Cymru, gan fy mod yn credu bod angen inni weithio’n agos iawn gyda staff GIG Cymru ar hynny, a chredaf fod angen iddynt hwythau sicrhau bod y cyhoedd ac asiantaethau eraill yn ymwybodol o beryglon ansawdd aer gwael i iechyd y cyhoedd. Rwyf hefyd yn bwriadu cael ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ansawdd aer yn y dyfodol.

Gollwng Sbwriel

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau achosion o ollwng sbwriel? OAQ(5)0146(ERA)

Diolch. Nod Llywodraeth Cymru yw atal sbwriel rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf. Rydym yn cefnogi ac yn ariannu ystod o raglenni sy’n canolbwyntio ar addysg, gwella camau gorfodi, ac ymgysylltiad a chyfranogiad y gymuned. Trwy annog pobl i ymfalchïo yn eu hamgylchedd, byddwn yn sicrhau gwelliannau a fydd yn para’n hirach.

Mae’n dda eich gweld yn ôl, a gwn y byddwch chithau, fel finnau, a’r rhan fwyaf o’r Aelodau Cynulliad eraill yma, wedi cael nifer o sylwadau gan etholwyr am eu pryderon ynglŷn â sbwriel, baw ci a thipio anghyfreithlon, ac wrth gwrs, mae’n hanfodol i iechyd y cyhoedd, ac yn arbennig mewn ardaloedd sy’n dibynnu ar dwristiaeth, fod gennym strydoedd glân, diogel a dymunol i gerdded ar hyd-ddynt. Cydnabuwyd yn ddiweddar, drwy’r ymgyrch ‘pa mor lân yw ein strydoedd?’, mai Sir Benfro sydd â’r strydoedd glanaf yng Nghymru, ac nid oes cywilydd gennyf ddweud bod hyn yn bluen yn het Sir Benfro. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi, yn gyntaf oll, i ganmol gwaith y timau glanhau strydoedd yn Sir Benfro, sydd allan yno’n gofalu am y strydoedd hyn drwy’r amser, yn enwedig yn nhywydd Sir Benfro, sydd naill ai’n wych neu’n arw iawn. Ond yn anad dim, a allech ddweud wrthym sut rydych yn bwriadu defnyddio’r enghraifft honno o arfer orau i’w lledaenu ledled Cymru er mwyn gwella ein strydoedd yn gyffredinol, sbwriel, baw ci, sydd mor aml yn peri pryder i gymaint o’n hetholwyr.

Rwy’n siŵr y bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr yn gyfarwydd â’r hyn a ddywedwch. Mae ein bagiau post yn aml yn llawn cwynion o’r fath, ac rwy’n sicr yn llongyfarch Sir Benfro ar gael y strydoedd glanaf, ac mae’n bwysig iawn fod yr arferion gorau hynny’n cael eu rhannu. Byddwch yn gwybod am y sawl cynllun sydd gennym. Rydym yn cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus, er enghraifft, a gwn eu bod wedi cynnal arolwg yn ddiweddar o lendid strydoedd a ddaeth i’r casgliad fod 95.5 y cant o’r strydoedd a arolygwyd wedi cael gradd B ac uwch. Felly, mae hynny’n eithaf derbyniol i’r cyhoedd, ond credaf ei bod yn hynod bwysig fod pob ardal yn anelu’n uwch.

A gaf fi ychwanegu fy nghroeso at yr holl groeso rydych wedi’i gael eisoes, Gweinidog? Rydym wedi cael ambell i syniad diddorol yn ddiweddar a all helpu i leihau sbwriel. Rwy’n meddwl am syniadau ar gyfer mynd i’r afael â mater deunydd pacio gormodol ar fwyd. Efallai ei bod yn gynnar i ofyn hyn i chi, ond beth yw eich barn ar y cychwyn ynglŷn ag a allai hynny fod yn beth da?

Yn sicr, credaf fod angen inni leihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir, ac roeddwn yn arswydo wrth weld—prynodd fy merch rywbeth gan gwmni adnabyddus iawn nad wyf am eu henwi, a chredaf fod yr eitem oddeutu’r maint hwn ac roedd y deunydd pacio’n gwbl enfawr, a gwnaeth hynny i mi gysylltu â swyddogion ar unwaith i’w hatgoffa bod hyn yn rhywbeth y credaf fod gwir angen inni ei ystyried. A’r hyn rydym am ei wneud yw comisiynu astudiaeth ddichonoldeb, ac mae angen i honno edrych ar y costau a’r buddion a’r holl opsiynau sydd ar gael i leihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir ar gyfer bwyd a diod, mewn un maes. Mae angen i ni ystyried cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel fel rhan o gynllun sy’n rhoi mwy o gyfrifoldeb ar y cynhyrchwyr. Cyfarfûm â chwmni diodydd adnabyddus iawn ynglŷn â’r hyn y gallant ei wneud mewn perthynas â chwpanau untro. Credaf fod cyfleoedd enfawr yma i ni allu lleihau’r defnydd o ddeunydd pacio.

Ôl Troed Ecolegol Amgylcheddau Trefol Cymru

6. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ôl troed ecolegol amgylcheddau trefol Cymru? OAQ(5)0144(ERA)

Diolch. Mae defnydd gwell a rheolaeth well ar ein cyfoeth o adnoddau naturiol, ynghyd â defnydd mwy effeithlon o’r adnoddau sydd mewn cylchrediad, yn elfen allweddol o’n dull economi gylchol a’n hymrwymiad i dwf gwyrdd a lleihau ôl troed ecolegol Cymru.

Prif—Prif Weinidog? Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Oedd, roedd hwnnw’n ddyrchafiad cyflym.

Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio cymaint o adnoddau ag a wnawn yng Nghymru, byddai angen 2.5 planed arnom. Roeddwn yn edrych ar yr adroddiad ‘Ecological and Carbon Footprints of Wales’ gan Sefydliad Amgylcheddol Stockholm yn 2015, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, rwy’n falch o ddweud, ac mae oddeutu 11 y cant o’n hôl troed yn gysylltiedig â thrafnidiaeth—hyrwyddo beicio yw un o’r pethau gorau y gallem ei wneud. Mewn gwirionedd, mae dinasoedd Cymru yn amgylcheddau eithaf da ar gyfer hyrwyddo beicio; maent yn gymharol wastad. Ond yr hyn sydd angen inni ei wneud yw ailddynodi—[Torri ar draws.] Wel, rhannau o Abertawe, mae’n debyg. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw ailddynodi rhai o’n ffyrdd ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn unig. Hyd nes y gwnawn hynny, ni fyddwn yn gweld y math o newid moddol sydd ei angen arnom.

Ie, rwy’n cytuno â’r datganiad hwnnw. Yn sicr, roeddwn yn edrych ar lwybr beicio yn fy etholaeth yn Wrecsam a dôi i ben yn ddisymwth; nid oedd yn parhau. Felly, tybed beth fyddai rhywun yn ei wneud wrth feicio ar hyd y llwybr—i ble y byddent yn mynd? Felly, credaf fod angen i bob awdurdod lleol edrych yn ofalus iawn ar eu darpariaeth ar gyfer beicwyr, a gwneud popeth yn eu gallu i’w gwella.

Risg o Lifogydd ar Afon Tawe

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y risg o lifogydd ar afon Tawe? OAQ(5)0137(ERA)

Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am asesu perygl llifogydd o afonydd a’r môr. Mae’r cynllun rheoli perygl llifogydd lleol yn nodi ymhellach sut y bydd risgiau’n cael eu rheoli. Cwblhawyd cynllun gwerth £7 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn 2015, gan leihau’r perygl i Gwm Tawe isaf yn sylweddol.

A gaf fi dynnu sylw at lwyddiant ysgubol y gorlifdir yn Ynysforgan, sydd oddeutu chwarter milltir o ble rwy’n byw? Rwy’n gyrru heibio’n eithaf aml ac weithiau mae gennych lyn, bryd arall mae gennych ychydig o lynnoedd bychain, ac ar adegau eraill mae’n sych, ond mae’n atal llifogydd yn yr ardal honno, a arferai fod yn broblem enfawr.

A gaf fi hefyd groesawu’r cynnig i beidio â chodi treth dirlenwi ar ddeunyddiau a garthwyd o afonydd yn y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) presennol, sydd ar ei ffordd drwodd? Ar ôl gweld llwyddiant ysgubol y gorlifdir ar Afon Tawe—rydym bob amser yn barod, yn Abertawe, i allforio llwyddiannau—a oes unrhyw gynlluniau i greu gorlifdiroedd o’r fath ar afonydd eraill er mwyn atal llifogydd i dai a busnesau?

Oes, rwy’n falch iawn fod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi gallu cyflwyno gwelliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) i sicrhau bod gostyngiad yn y dreth ar gyfer deunydd a garthwyd o’r dŵr at ddibenion atal llifogydd. Credaf fod hwnnw’n welliant pwysig iawn.

Yn sicr, byddwch yn gwybod am y cyllid sylweddol rydym yn ei ddarparu ar gyfer atal llifogydd, felly, unwaith eto, mae rhannu arferion gorau bob amser yn beth da. Credaf mai’r hyn y mae ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru yn ei wneud yw hyrwyddo dulliau naturiol o reoli perygl llifogydd, ac mae’r gwaith hwnnw’n gymwys ar gyfer cyllid grant. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cryfhau’r neges honno i awdurdodau rheoli risg wrth adnewyddu’r strategaeth genedlaethol.

Rwy’n cydnabod y gwaith a wnaed yn Ynysforgan, mewn gwirionedd. Cafodd tua 300 o gartrefi eu diogelu yno. Eto i gyd, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld adeiladu newydd ar safleoedd sy’n ymddangos fel pe baent ar dir isel yn agos at yr afon. Ar y llaw arall, yn fy ngwaith blaenorol, rwy’n cofio gorfod esbonio i fenthycwyr dro ar ôl tro, er bod eu chwiliadau amgylcheddol yn dangos bod tai’n cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd, nid oedd hynny’n wir—roeddent fel arfer sawl metr yn uwch nag y dangosai mapiau risg gorlifdiroedd amgylcheddol, a byddai wedi cymryd tswnami, mewn gwirionedd, i orlifo i’r rhan fwyaf ohonynt. Pa mor aml y caiff y cynlluniau gorlifdir hyn eu hailasesu? Rwy’n gofyn nid yn unig am y gall astudiaethau bwrdd gwaith fethu nodi daearyddiaeth leol yn aml, os mynnwch, ond hefyd am y gall gorddatblygu mewn ardal benodol effeithio ar lefel trwythiad a dŵr ffo, ac mae hynny’n arbennig o bwysig mewn llefydd fel Abertawe, lle rydym yn edrych ar 20,000 o gartrefi newydd, yn ogystal â’r seilwaith cysylltiedig.

Rwy’n credu bod Suzy Davies yn codi pwynt pwysig iawn. Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â pha mor aml y caiff cynlluniau llifogydd eu hailasesu.

Yn amlwg, mae rhybuddion llifogydd yn weithredol yng Nghwm Tawe isaf, ond mae yno hefyd lawer o adeiladu newydd, fel y nodwyd. Felly, a gaf fi ofyn pa gamau rydych yn eu cymryd ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdod lleol i godi ymwybyddiaeth o lifogydd a chamau gweithredu cysylltiedig ar gyfer preswylwyr yn ystod digwyddiadau llifogydd, yn enwedig ar gyfer perchnogion tai newydd sy’n symud i’r ardal benodol hon?

Gwn fod hynny’n rhywbeth y mae swyddogion cynllunio yn gweithio arno gyda’r awdurdodau lleol, ac yn amlwg mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r ymgyrch honno. Mae’n bwysig iawn fod yr holl faterion hyn yn cael eu hystyried, ac rwy’n edrych ar y polisïau cynllunio yn gyson i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y canllawiau cywir wrth law.

Busnesau Amgylcheddol yng Nghymru

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd busnesau amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0139(ERA)

Diolch. Mae gennym nifer fawr o bolisïau a rhaglenni sy’n sicrhau twf gwyrdd, megis Twf Gwyrdd Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus, ac rydym yn darparu cymorth hyblyg i fusnesau, rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig, a chefnogaeth ar gyfer datblygiadau carbon isel, o raddfa gymunedol i gynhyrchiant canolog.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rhai busnesau amgylcheddol yn seiliedig ar y diwydiant coed, ac rwyf wedi mynegi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y diwydiant hwnnw o ran ei gyflenwad o bren ar gyfer y dyfodol. Nawr, mae llawer o gyfeiriadau wedi bod y prynhawn yma at rôl Cyfoeth Naturiol Cymru a’r swyddogaethau y mae’n eu cyflawni, ac mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn gwneud gwaith ardderchog, er enghraifft, yn atal ac amddiffyn rhag llifogydd. Ond rwy’n pryderu ynglŷn â’r ffordd y maent yn rheoli ein hadnodd coedwigaeth yma yng Nghymru, ac am y ffaith nad ydynt yn gwneud gwaith arbennig o dda. Roeddwn hefyd yn bryderus iawn am y contract gwerthu pren sydd wedi cael ei grybwyll yn y cyfryngau ac sydd bellach yn destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae hynny’n awgrymu i mi fod angen iddynt dorchi eu llewys mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau pren. Ac rwy’n meddwl tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni y bydd hwn yn fater o flaenoriaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol, ac y bydd gennym gyflenwad cynaliadwy o bren ar gyfer y diwydiant coed yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae gweithrediadau pren masnachol yn sicr yn flaenoriaeth uchel i Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r wythnos ddiwethaf yn unig, cyfarfûm â’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd a sicrhau bod cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru yno i glywed eu pryderon. Eleni, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailstocio mwy na 1,200 hectar ar ystâd goed Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cymharu’n ffafriol iawn, rwy’n credu, ag unrhyw un o’r pum mlynedd diwethaf. Mae’n bwysig iawn bod y cydffederasiwn a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd. Rwy’n clywed adroddiadau sy’n gwrthdaro’n fawr ynglŷn â lle y caiff coed eu plannu, a ydynt yn cael eu plannu yn y lle iawn, ac a oes digon yn cael eu plannu, felly mae hwnnw’n rhywbeth rwy’n gweithio’n agos iawn arno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Rwy’n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru bob mis, ac rwy’n credu ei bod yn sicr yn eitem sefydlog bellach, am ei bod mor bwysig.

Lles Anifeiliaid yng Nghymru

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella lles anifeiliaid yng Nghymru? OAQ(5)0148(ERA)

Mae ‘Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid—Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd’ yn esbonio’r dull rydym wedi’i fabwysiadu i gyflawni gwelliannau parhaus a pharhaol mewn safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru. Mae’r cynllun gweithredu blynyddol yn nodi’r camau penodol rydym yn bwrw ymlaen â hwy mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ymateb hwnnw. Nid oes amheuaeth y byddwch yn gwybod bod maniffesto etholiadol y Ceidwadwyr yn cynnwys ymrwymiad i gynnal pleidlais arall ar y gwaharddiad ar hela â chŵn, neu’r gwaharddiad ar hela llwynogod fel rydym yn ei adnabod orau yn ôl pob tebyg. A fyddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gondemnio unrhyw gynigion a allai ei gwneud yn bosibl y bydd yr arfer barbaraidd a chreulon hwn yn dychwelyd i’r wlad hon, ac a wnewch chi fy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau yn erbyn unrhyw gynigion o’r fath ac yn edrych ar bob trywydd sydd ar gael i atal hela llwynogod â chŵn rhag digwydd yng Nghymru byth eto?

Yn sicr. Byddwn yn ymuno â chi gyda hynny. Ac er bod hela â chŵn yn fater nad yw wedi’i ddatganoli, fy safbwynt yw y byddem yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gamau gan unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol i ddiddymu Deddf Hela 2004. Nid ydym yn dymuno gweld yr arfer barbaraidd, creulon ac amhoblogaidd hwnnw’n dychwelyd i Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad y Groes Las ‘Unpicking the Knots’ yn dweud wrthym, y tro diwethaf y cyflwynodd y Llywodraeth gyfraith benodol i reoleiddio gwerthiant anifeiliaid anwes, roedd Winston Churchill ar fin cymryd lle Clement Attlee am ail dymor fel Prif Weinidog, Newcastle United oedd enillwyr cwpan yr FA, ac roedd The Archers newydd basio ei gyfnod prawf. Nawr, rwy’n siwr y byddwch yn cytuno â mi fod yr oes yn sicr wedi newid ers hynny, a bod twf y rhyngrwyd yn sicr wedi cael effaith sylweddol ar y fasnach anifeiliaid anwes. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau penodol rydych wedi’u cael ynglŷn â’r angen am ddeddf wedi’i diweddaru ar gyfer rheoleiddio gwerthu anifeiliaid anwes yng Nghymru?

Yn sicr. Cefais drafodaeth gyda’r grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid. Rydym yn edrych ar eu rhaglen waith. Gallaf gofio’r tro diwethaf—wel, roeddwn yn meddwl fy mod yn gallu—i Newcastle United ennill Cwpan yr FA, felly efallai fy mod yn dangos fy oed yno. Ond rydych wedi fy atgoffa bod angen i ni wneud yn siŵr fod ein holl ddeddfwriaeth yn gyfoes, yn ogystal â’n polisïau, ac mae’n sicr yn rhywbeth y byddaf yn hapus i siarad gyda fy mhrif swyddog milfeddygol amdano.

Croeso nôl. Pan nad oeddech chi yma fel Gweinidog, fe wnes i ofyn am ddadl ynglŷn â chofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru, oherwydd mae nifer o ymgyrchoedd wedi bod yn galw am hyn. Mae’r RSPCA wedi bod yn gofyn hefyd am grŵp gorchwyl gan Lywodraeth Cymru i edrych ar yr opsiynau. Er enghraifft, yn Tennessee, mae yna restr sydd yn agored i’r cyhoedd, ac yn Efrog Newydd mae yna restr dim ond ar gyfer pobl sydd yn gwerthu neu yn prynu anifeiliaid. Felly, a fyddech chi’n cytuno y byddai rhyw fath o grŵp gorchwyl yn helpu uno’r drafodaeth gychwynnol ar y mater yma, fel bod pobl Cymru sydd yn meddwl bod hyn yn syniad da—mae deiseb wedi cael lot fawr o gefnogaeth dros Brydain i gyd—er mwyn inni gychwyn y ddadl yma ac i Gymru ddangos y ffordd ymlaen yn hynny o beth?

Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr â Bethan Jenkins. Fel y gwyddoch, mae hwn yn rhywbeth rwy’n edrych arno’n ofalus iawn ac rwy’n gobeithio y byddaf yn ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad, os nad cyn y toriad, yna’n sicr cyn gynted ag y dychwelwn.

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Y cwestiwn cyntaf—Dai Lloyd.

Gofal Plant

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd y cynnig gofal plant ar gyfer Cymru? OAQ(5)0148(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Bydd ein cynnig gofal plant yn darparu 30 awr o addysg a gofal plant wedi’i ariannu gan y Llywodraeth am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio. Byddwn yn dechrau profi’r cynnig mewn ardaloedd penodol mewn saith awdurdod lleol ym mis Medi.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Fel y gwyddoch, mae cynllun peilot o’r cynnig yn cael ei gyflwyno mewn rhannau o Abertawe, ac mae rhieni yn lleol yn amlwg yn falch o weld hynny. Fodd bynnag, mae nifer o’r ardaloedd peilot, gan gynnwys Pontarddulais a Gorseinon, yn ardaloedd twf penodedig o fewn y sir. A allwch chi sicrhau eich bod chi’n cymryd y cynnydd poblogaeth yma i mewn i ystyriaeth wrth ichi gyflwyno’r cynllun, a sut y mae hyn yn effeithio ar allu’r sector i ddelifro yn lleol?

Wrth gwrs, ac rydym yn ymgysylltu â’r sector. Rwy’n falch iawn fod yna lawer o ardaloedd yn Abertawe sy’n cael eu cynnwys yn y cynllun peilot hwn a bydd yn lledaeniad da o ardaloedd ar gyfer ei brofi ar draws safleoedd ysgolion a lleoliadau meithrinfeydd dydd preifat. Byddwn yn dysgu o hyn wrth i ni symud ymlaen, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd prawf yn dechrau arni ym mis Medi yn y tymor newydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae un o’r pryderon a fynegwyd yn ymwneud â chapasiti’r gweithlu i ateb yr her hon o ddarparu’r gofal plant ychwanegol. Mae’n uchelgais rydych chi a minnau yn ei rhannu o ran cynyddu argaeledd gofal plant, ond yn enwedig darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardaloedd di-Gymraeg yn draddodiadol. Pa gamau gweithredu, yn benodol, rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y cynnig gofal plant ar gael drwy gyfrwng y ddwy iaith swyddogol sydd gennym yng Nghymru?

Mae llu o gynigion rydym yn eu hystyried ar hyn o bryd. Mae yna gynllun peilot prawf—cynllun ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn—sy’n archwilio cyfleoedd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Mae yna broblem gyda’r gweithlu a gwneud yn siŵr fod capasiti gennym wrth i ni symud ymlaen, a dyna yw mantais cyflwyno graddol, fel rydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Yn Lloegr—rydym wedi dysgu gwersi o rai o’r problemau y maent wedi’u hwynebu yno gyda chyflwyno system yn gyflym lle nad oedd capasiti yn y system i allu darparu. Rydym wedi rhoi sylw i hynny, a dyna pam ein bod wedi mabwysiadu dull graddol.

Mae cynnig gofal plant da, wrth gwrs, yn hanfodol i gynorthwyo menywod i weithio, ac efallai y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i groesawu Soroptimyddion Rhyngwladol Castell-nedd i’r Senedd heddiw, mudiad sy’n gwneud cymaint i gefnogi merched a menywod yn fy ardal a thu hwnt. Nid yw gofal plant ond yn un rhan o’r cynnig allweddol sydd angen i ni ei wneud i deuluoedd ifanc. Y rhan arall, fel y mae rhaglenni fel Dechrau’n Deg yn ei gydnabod, yw cymorth gyda rhianta. Mae gwledydd fel Awstralia wedi arloesi gyda rhaglenni cymorth rhianta sy’n hygyrch yn eang ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel Triple P, y gellir ei ddarparu gan gynorthwywyr gofal, athrawon neu ddisgyblaethau eraill. Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod rhaglen cymorth rhianta sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn eang i rieni ifanc yng Nghymru?

Wrth gwrs, a hoffwn gofnodi fy nghroeso i Soroptimyddion Castell-nedd hefyd yn y Siambr heddiw. Rwy’n credu bod yr Aelod yn crybwyll pwynt pwysig iawn ynglŷn â’r dull cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau. Nid yw’r addewid gofal plant yn ymwneud yn unig â meddwl am rywle diogel i blentyn fod am swm penodol o oriau bob dydd. Mae hyn yn ymwneud â’r gallu i wella eu cyfleoedd mewn bywyd. Mae ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, ein haddewidion gofal plant a’n rhaglenni addysgol fel y cyfnod sylfaen oll yn arwain at gyfle gwell i bobl wrth iddynt symud ymlaen, a dyma rai o’r problemau y bydd y cynllun peilot yn dechrau mynd i’r afael â hwy mewn perthynas â mecanweithiau darparu.

Nawdd Cymdeithasol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i leddfu effaith negyddol unrhyw brosesau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i ddiwygio nawdd cymdeithasol? OAQ(5)0146(CC)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau i helpu pobl i reoli effeithiau newidiadau i fudd-daliadau lles Llywodraeth y DU. Mae gennym raglenni i helpu pobl i gael mynediad at waith cynaliadwy a thai fforddiadwy, rydym yn ariannu gwasanaethau cyngor ac yn parhau i gadw hawliau llawn ar gyfer cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Bydd yn gwybod am ddatblygiadau diweddar yn tanseilio diwygiadau i fudd-daliadau ar lefel y DU, megis adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr a oedd yn dangos bod sancsiynau budd-daliadau yn costio mwy nag y maent yn ei arbed mewn gwirionedd—enghraifft arall o doriadau creulon wedi’u gyrru gan ideoleg a orfodwyd ar bobl yn y wlad hon. Mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill, megis yng Ngogledd Iwerddon, pan wnaethant wrthod gweithredu diwygiadau lles, llwyddasant i sicrhau £2 biliwn o wariant ychwanegol gan San Steffan, ac maent wedi cael consesiynau ar ddiwygiadau yn y dyfodol. Mae rhywfaint o bwerau nawdd cymdeithasol wedi’u datganoli i Lywodraeth yr Alban ac maent yn newid pethau fel amlder taliadau credyd cynhwysol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod beth yw fy marn i: fod angen rhwyd ddiogelwch gymdeithasol yn y wlad hon hefyd, fel yn y gweinyddiaethau eraill. A allai ystyried lansio ymgynghoriad, efallai, rywbryd yn y dyfodol agos iawn ar sut y gallwn ddefnyddio’r pwerau cyfyngedig sydd gennym eisoes yn y wlad hon i helpu pobl ar nawdd cymdeithasol, ac efallai i ymgynghori ar ba bwerau y gallem fod eisiau eu defnyddio yn y dyfodol? Oherwydd rwy’n ofni y byddwn yn cael ein cosbi hyd yn oed ymhellach yng Nghymru, tra bod gweinyddiaethau datganoledig eraill yn rhoi camau rhagweithiol ar waith i ddiogelu’r bobl sydd dan ymosodiad.

Wel, rwy’n cydymdeimlo ag agwedd yr Aelod ar hyn. Dywedaf hynny gyda gair o rybudd, fodd bynnag, gan fy mod yn deall, er bod yr Alban wedi gwneud safiad ar hyn, mae yna gwestiynau mawr yn codi ynglŷn â chyllido hyn yn hirdymor. Credaf fod hwnnw’n fater ar gyfer y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a’r Alban, a hoffwn ddysgu o’r cynnig cyfan hwnnw. Wrth gwrs, rwy’n gweithio gyda nifer o sefydliadau trydydd sector a chyrff Llywodraeth ac asiantaethau sy’n gweithredu yng Nghymru ar sut y gallwn liniaru rhai o effeithiau diwygio lles. Mae’n rhywbeth sydd ar fy agenda. Byddaf yn rhoi gwybodaeth bellach i’r Siambr yn y dyfodol agos.

Yn 2010-11, gwariodd Llywodraeth y DU £177.3 biliwn ar nawdd cymdeithasol, gan gynnwys pensiynau. Yn 2016-17, roedd yn £212.6 biliwn. Faint y byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi ei weld yn cael ei wario?

Ni fyddem yn hoffi gweld unrhyw arian yn cael ei wario. Rydym eisiau gweld pobl yn ôl mewn gwaith ac yn cael eu cefnogi yn y meysydd priodol. Yr hyn y methodd yr Aelod sôn amdano gyda’r ystadegau a rannodd gyda mi heddiw yw’r ffaith y bydd 1,000 o bobl ifanc yn cael eu dadleoli ac yn ddigartref yng Nghymru, o bosibl, oherwydd y diwygiadau i fudd-daliadau lles sy’n digwydd yn Llywodraeth y DU o dan ei blaid newydd.

Rwyf wedi cyfeirio, ar sawl achlysur, at yr effaith debygol rydych newydd ei chrybwyll yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn sgil toriadau’r Llywodraeth i lwfansau tai lleol ar gyfer pobl o dan 35 oed, a’r toriadau yn y budd-daliadau i’r rhai o dan 22 oed, a fydd, yn amlwg, yn gwaethygu effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhoi cynnig ar ddull arloesol o fynd i’r afael â digartrefedd ar hyn o bryd drwy brynu un neu ddau o gynwysyddion llongau i’w trosi’n llety dros dro rhad i’r digartref. Nawr, nid yw hynny’n ymwneud â chreu getos neu’r mathau o barciau o bobl sy’n ddigartref a di-waith, ond mae’n ymwneud â darparu llety y gall pobl ei alw’n gartref tra bod atebion mwy hirdymor yn cael eu canfod, ac rwy’n credu y byddai hynny’n well na’r dewis arall, sef hostelau a llety gwely a brecwast. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynorthwyo mwy o awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflwyno mentrau tebyg ledled Cymru.

Yn wir, ac rwy’n llongyfarch Cartrefi Cymoedd Merthyr ar eu hatebion arloesol i hyn. Rwy’n clywed Aelodau’n siarad am y defnydd o gynwysyddion llongau. A dweud y gwir, mae’r rhan fwyaf ohonom yn byw mewn bocs o ryw fath—rhai a adeiladwyd o ddur, rhai a adeiladwyd o frics a morter, a rhai o ffyn. Mae’n eithaf tebyg i stori’r tri mochyn bach, rwy’n credu, o ran y gwaith adeiladu. Ond yr hyn a wyddom yw bod cael to uwch ein pennau yn hollbwysig, ac mae fforddiadwyedd hynny’n allweddol hefyd. Dyna pam ein bod wedi lansio’r gronfa arloesi £20 miliwn, ac mae prosiectau unedau modiwlaidd ar y gweill. Ond mae’n galonogol fod Cartrefi Cymoedd Merthyr eisoes wedi rhoi’r fenter honno ar waith ac yn helpu pobl ifanc yn eich etholaeth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Mark Isherwood yw’r cyntaf heddiw.

Diolch. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ganmol arloesedd cymdeithasau tai trosglwyddo.

Bythefnos yn ôl, fe siaradoch o blaid datganoli plismona ar gynnig a oedd hefyd yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel gwrthderfysgaeth, ar lefel y DU. Pe bai hyn yn digwydd, sut y byddai hynny’n gweithio, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi galw am bwerau sy’n cyfateb i’r rhai a ddatganolwyd i Fanceinion, sef pwerau comisiynydd heddlu a throseddu, ac sydd felly yn eithrio materion gweithredol? Ond hyd yn oed pe bai’n cynnwys materion gweithredol, y cynsail yn America, Ffrainc a’r Eidal, ymhlith llawer o genhedloedd eraill, yw bod gennych, yn y pen draw, ddau heddlu ar wahân ar wahanol lefelau sy’n atebol i wahanol bobl. Felly, sut y byddai hynny’n gweithio?

Wel, mae yna fodel sydd eisoes yn gweithredu yn yr Alban, lle y ceir gwaith gwrthderfysgaeth rhwng ffiniau. Nid yw hynny’n effeithio ar unigolion mewn perthynas â gweinyddiaeth y DU. Gallwn weld hynny’n gweithredu yn yr un ffordd ar sail Cymru-Lloegr a’r DU yn ogystal. Rwy’n credu mai’r hyn rydym wedi bod yn glir iawn yn ei gylch mewn perthynas â datganoli plismona yw ei fod yn cyd-fynd yn dda iawn â’r gwasanaethau a ddarperir eisoes gyda’r gwasanaethau brys a’r system farnwrol rydym hefyd yn gobeithio y caiff ei throsglwyddo i Gymru.

Wel, unwaith eto, hoffwn wybod a ydych yn rhagweld pwerau o ran comisiynwyr heddlu a throseddu yn unig, fel y mae’r Prif Weinidog, mae’n ymddangos, neu rywbeth mwy.

Ond gan ehangu’r pwnc, gwelsom sylwadau gan gydgysylltydd atal caethwasiaeth Cymru yr wythnos diwethaf, a oedd wedi mynegi pryderon na chynhelir archwiliadau mewn nifer o bwyntiau mynediad i Gymru i atal caethwasiaeth a gweithgareddau masnachu pobl. Dywedodd y byddai’r wythnos hon yn wythnos o weithredu gan luoedd Cymru gyda’r nod o fynd i’r afael â masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, y dywedodd ei fod wedi cynyddu 400 y cant mewn pum mlynedd, gan gynnwys plant dioddefwyr. A allwch ddweud wrthym pa ran rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi’i chwarae yn yr ymgyrch hon a briffio’r Cynulliad ar yr hyn sydd wedi digwydd, yn awr neu yn y dyfodol?

Byddwn yn hapus iawn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn y Siambr yn nes ymlaen ynglŷn â manylion y rhaglenni llwyddiannus rydym yn eu gweithredu. Byddwn hefyd yn cynnig gwasanaethau ein cydgysylltydd atal masnachu pobl i unrhyw Aelodau sy’n dymuno cael eu briffio ar y mater hwn—eu briffio’n bersonol neu friffio plaid hefyd. Byddwn yn hapus i ni drefnu hynny hefyd. Ni yw’r unig ran o’r DU sydd wedi buddsoddi, fel Llywodraeth Cymru, mewn cydgysylltydd atal masnachu pobl. Rwyf wedi crybwyll hyn ar lefelau uchel iawn yn San Steffan, oherwydd er fy mod yn credu ei bod yn syniad gwych cael cydgysylltydd atal caethwasiaeth, rydym yn ynys, ac nid ydym ond yn rhan o’r ynys honno. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar yr Alban a Lloegr i fynd ar drywydd y mater hwn hefyd, a byddwn yn annog yr Aelod i grybwyll hynny wrth ei arweinwyr gwleidyddol er mwyn ceisio datrys y broblem hon yng Nghymru a Lloegr.

[Anghlywadwy.]—roedd eich rhagflaenydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ei deddfwriaeth atal caethwasiaeth yn y DU a chyflwyno swyddog yno sy’n gweithio gyda’r cydgysylltydd atal caethwasiaeth yng Nghymru.

Ond gan aros gyda thema plant ar gyfer fy nghwestiwn olaf, o ystyried y tri anghydraddoldeb penodol a nodir yn adroddiad ‘Breuddwydion Cudd’ Comisiynydd Plant Cymru—. Dywedai fod angen i bobl ifanc sy’n gadael gofal

‘gael yr un math o gyfleoedd, cymorth a chefnogaeth ag y mae pob rhiant yn ceisio’u rhoi i’w plant wrth iddyn nhw ddechrau dod o hyd i’w ffordd yn y byd.’

Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd mewn gofal cymdeithasol sy’n cyrraedd 18 oed yn dal i fod â hawl i gael gofal o’r fath wrth astudio ar gyfer Safon Uwch? A pha argymhellion sydd gennych i sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn parhau i gael cefnogaeth briodol hyd nes eu bod yn 25—dwy o’r tair galwad allweddol yn yr adroddiad hwnnw rwy’n credu?

Yn wir, ac rydym yn gweithio drwy’r gwaith hwnnw gan y comisiynydd plant. Mae eich cyd-Aelod, David Melding, yn cadeirio grŵp ar blant sy’n derbyn gofal ar fy rhan. Mae’r cyngor a ddaw gan y tîm hwnnw’n amhrisiadwy ar gyfer llunio ffordd wahanol inni allu cefnogi plant yn y system gofal cymdeithasol. Rwy’n gwbl ymrwymedig i wneud newidiadau yn y maes hwnnw, ac yn ddiweddar rydym wedi lansio dyfarniad Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 miliwn, a fydd ar ei ffordd i awdurdodau lleol i’w ddosbarthu rhwng pobl ifanc dan 25 oed, y credaf y dylent gael mynediad at rywfaint o arian wrth iddynt dyfu fyny. Nid wyf wedi clustnodi hwn fel—. Rydym wedi’i glustnodi fel dyfarniad Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 miliwn, ond rwy’n hoffi meddwl am y peth fel ‘banc mam a dad’ i raddau, fel sydd gan bob un ohonom ar gyfer ein plant, lle gallant fynd at warcheidwad neu berthynas a dweud, ‘Edrychwch, rwyf eisiau mynd i’r fan hon heno’—fel y gwnâi fy merch, neu fel y gwnâi eich teulu chi. Mae’r bobl ifanc hyn mor ddifreintiedig, mae’n rhaid i ni eu cynorthwyo mewn rhyw ffordd, ac mae hwn, gobeithio, yn gam i’r cyfeiriad cywir i helpu i gynnal math arferol o fywyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni’r ymosodiad ym Manceinion yr wythnos hon, roeddwn yn credu y byddai’n briodol gofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cydlyniant cymunedol. Rwy’n gofyn yn y cyd-destun hwn: ychydig flynyddoedd yn ôl, ysgrifennais at Heddlu De Cymru yn gofyn am rai o’r rhesymau pam fod dynion ifanc yng Nghaerdydd, er enghraifft, yn troi i edrych ar eithafiaeth fel ffordd o fyw, neu fel rhywbeth a fyddai’n rhoi cysur iddynt, ac nid oeddent yn gallu rhoi’r wybodaeth honno i mi am ei bod wedi cael ei diogelu. Nid wyf yn credu bod rhai o’r materion hynny wedi diflannu a hoffwn ddeall gennych beth rydych yn ceisio ei wneud i weithio gyda chymunedau er mwyn sicrhau, os ydym yn canfod bod yna achosion lle y gallant droi at eithafiaeth, ein bod yn deall y rhesymau am hynny, a sut rydych yn gweithio gyda chymunedau i geisio atal hynny, fel bod ganddynt rywbeth i weithio gydag ef yn eu cymunedau, yn hytrach na’u bod, o bosibl—o bosibl—yn teimlo wedi’u dieithrio.

Rwy’n credu bod yr Aelod yn codi cwestiwn pwysig a pherthnasol iawn, ac rydym yn cydymdeimlo â’r teuluoedd a’r unigolion a gafodd eu heffeithio gan y bomio ym Manceinion ddau ddiwrnod yn ôl. Mae cydlyniant cymunedol yn un rydym yn ei gymryd o ddifrif, gan weithio gydag awdurdodau lleol, gyda’r heddlu, a chyda grwpiau gweithredu ar lawr gwlad. Ers 2012, rydym wedi ariannu wyth cydgysylltydd cydlyniant cymunedol rhanbarthol ar hyd a lled Cymru. Tua £360,000 yw’r grant ar gyfer swyddi a ddyfarnwyd ar gyfer 2017-18. Ni ddylem danbrisio’r rôl bwysig y mae hynny’n ei chwarae yn y gymuned, ond mae’n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol, ac mae’r ymgysylltiad a’r ymddiriedaeth yn bwysig iawn, fel y gallwn fynd y tu ôl i’r llenni lle y ceir achosion o radicaleiddio yn dod i’r amlwg. Ac rwy’n credu mai’r hyn rydym wedi llwyddo i’w wneud gyda’r cydgysylltwyr yw mynd i mewn i’r gofod hwnnw, a byddwn yn parhau i ariannu hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r pwysau hwn hefyd.

Diolch. Bydd yn ddiddorol gweld dadansoddiad o hynny, oherwydd roeddwn eisiau mynd ymlaen i ofyn yn benodol am grwpiau sydd mewn perygl, oherwydd gwyddom efallai nad yw mor syml â dweud eu bod yn gwneud hyn oherwydd bod ganddynt gŵyn wleidyddol bosibl, neu eu bod yn teimlo wedi’u dieithrio’n wleidyddol a bod hynny’n eu gyrru i wneud hyn. Mae’n bosibl, fel y gwelsom gyda throseddwyr eraill a gyflawnodd ymosodiadau yn Ewrop yn flaenorol, fod ganddynt record droseddol hir eisoes, yn aml yn cynnwys trais domestig, ac mae llawer wedi dioddef tlodi mawr, sydd hefyd, felly, yn ychwanegu at eu synnwyr o deimlo’n ynysig. Nid wyf am funud yn dweud bod yr hyn a wnant yn dderbyniol, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni geisio edrych ar y grwpiau sydd mewn perygl, a cheisio eu hatal rhag cyrraedd y cam lle teimlant fod hyn yn rhywbeth y maent angen neu eisiau ei wneud gyda’u bywydau. Felly, a oes cymunedau yng Nghaerdydd, yn y grwpiau arbennig hynny, a nodwyd gennych ac rydych yn gweithio gyda hwy ar hyn o bryd?

Oes, ac ochr yn ochr â’r heddlu ar draws Cymru gyfan, a’r DU yn wir, mae yna ddull o weithredu sy’n seiliedig ar gudd-wybodaeth o ran sut yr edrychwn ar grwpiau penodol, a gallwn eu cefnogi yn hynny o beth. Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi—er y gallai digwyddiadau hanesyddol fod wedi cael effaith ar eu bywydau fel oedolion, nid yw hynny bob amser yn wir chwaith. A dyna pam ei bod yn anodd iawn adnabod radicaleiddio neu derfysgaeth, am na allwn ddisgrifio sut y mae terfysgwr yn edrych. Y ffaith amdani yw bod yn rhaid i ni edrych yn ôl ar rai o’u problemau hanesyddol, a dyna pam y bydd rhai o’n rhaglenni eraill, a fydd yn cydberthyn i’r broses o fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn rhoi arwydd i ni weithiau o’r llwybr y mae unigolyn yn ei ddilyn. A dyma pam ein bod yn dysgu ochr yn ochr â’n hasiantaethau eraill, ac mae llawer o waith wedi’i wneud ynglŷn â pham fod radicaleiddio’n digwydd. Rwy’n credu bod llawer iawn o waith i’w wneud o hyd, ond mae ein gwasanaethau cudd-wybodaeth yn gweithio’n galed iawn ar hyn.

Ac mae fy nhrydydd cwestiwn yn rhywbeth sydd wedi bod ar fy meddwl ers Manceinion, a llawer ohonom yma heddiw’n ogystal, mewn perthynas ag eithafiaeth, nid yn unig o ran sut y byddem yn gweld grwpiau lleiafrifol, ond grwpiau asgell dde yn ogystal, sy’n ymosod ar unrhyw un sy’n Fwslim yn ein cymdeithas ar hyn o bryd, a hynny cyn eu bod yn gwybod beth yw crefydd y cyflawnwr posibl hyd yn oed. Cawsom ddadl yr wythnos diwethaf am gam-drin ar-lein ac rydym wedi gweld cynnydd yn y math hwnnw o gam-drin gan bobl sy’n byw yn ein plith. A dweud y gwir, rwy’n teimlo cywilydd ynglŷn â rhai o’r pethau rwyf wedi bod yn eu darllen, yn ymosod ar bobl mewn cymunedau nad ydynt yn haeddu hynny am nad ydynt rithyn yn fwy euog o hyn na’r un ohonom.

Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth y gallech ei wneud o ran siarad â’r Ysgrifennydd addysg ynglŷn â chael trafodaethau gyda hi ynglŷn â chael mwy o addysg, ar oedran cynharach, mewn perthynas â sut y gallwn ddangos parch tuag at ein gilydd, sut y gallwn ddefnyddio cyfryngau ar-lein, ond hefyd, mewn perthynas â gweithgareddau terfysgol, sut y gallwn ddeall beth ydyw. Er enghraifft, bûm yn astudio ym mhrifysgol Aberystwyth ac nid oedd unrhyw gwrs ar derfysgaeth tan ar ôl i 9/11 ddigwydd, a chafodd cwrs ei gyflwyno yn arbennig er mwyn inni ddeall beth oedd hynny’n ei olygu a sut y gallem ddeall y byd mewn perthynas â hynny. Nid wyf yn gwybod a yw hynny’n digwydd ar gyfer ein pobl ifanc ac rwy’n credu ei fod yn troi cymunedau yn erbyn ei gilydd yn hytrach na’u huno. Felly, gwn ei fod yn fater cymhleth, ond sut rydych yn mynd ati i geisio deall rhai o’r rhesymau cymhleth iawn sydd gan bobl dros ymosod ar eraill nad oes ganddynt ddim i’w wneud â’r gweithredoedd ofnadwy sy’n digwydd ar lwyfan y byd?

Ie, rwy’n teimlo bod dau bwynt i gwestiwn yr Aelod: mae un yn ymwneud â’r agwedd addysgol ar hyn. Mae gwaith yn cael ei wneud yn ein hysgolion i drafod a siarad am oddefgarwch a chrefydd gydag unigolion. Rwy’n credu bod honno’n elfen bwysig wrth i ni symud ymlaen, mae’n ymwneud â chymdeithasau’n bod yn oddefgar tuag at ei gilydd a’n dealltwriaeth o gredoau crefyddol.

Gadewch i ni fod yn glir iawn, ac rwy’n cytuno â’r Aelod ar hyn—mae’n ffiaidd, y casineb sy’n ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol gan unigolion anwybodus. Gadewch i mi fod yn glir iawn: nid yw Mwslimiaid yn derfysgwyr. Terfysgwyr yw terfysgwyr, a dyna’r gwahaniaeth. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn am ein huchelgais i sicrhau bod Cymru yn lle croesawgar. Rydym eisiau helpu pobl, ac rydym eisiau cefnogi pobl. Yn sicr, nid oes lle i wybodaeth anghywir, yn seiliedig ar grefydd, ar gyfryngau cymdeithasol neu’n wir mewn unrhyw fan lle y gallwn gael sgyrsiau.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n credu bod newyddion i’w groesawu wedi dod yn ddiweddar gan eich cyd-Aelod, Lesley Griffiths, ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnwys rheol ‘asiant y newid’ mewn rheoliadau cynllunio mewn perthynas â diogelu cerddoriaeth fyw. Credaf fod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Mae’n rhywbeth a allai helpu tafarndai sy’n cynnal sioeau cerddoriaeth fyw. Efallai fod yna ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru helpu yn y maes hwn. Gwn eich bod wedi cael trafodaethau gyda CAMRA—yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn—yn gynharach yn nhymor y Cynulliad, felly roeddwn yn meddwl tybed beth oedd canlyniad y trafodaethau hynny ac a ydych yn ystyried unrhyw fesurau eraill i ddiogelu tafarndai.

Ie, ac nid cyfrifoldeb un Gweinidog yw hyn. Yn wir, ar ôl i Lesley Griffiths wneud y cyhoeddiad ar fater lleoliadau cerddoriaeth, siaradais â Ken Skates ddoe ddiwethaf am y cyfleoedd adfywio ac o bosibl, meysydd o ddiwylliant y gellid eu dynodi ar gyfer adfywio, a allai gynnwys lleoliadau celfyddydau ac adloniant yn aml.

Cyfarfûm â CAMRA, ac rydym wedi cael trafodaethau o fewn ein tîm ynglŷn â’r cyfleoedd posibl o ran ateb Cymreig i dafarndai ac adeiladau eraill sy’n cael eu cynnal yn gyhoeddus yng Nghymru. Gobeithio y byddaf yn gallu gwneud cyhoeddiad ar hynny cyn bo hir.

Iawn, diolch am hynny. Fe arhosaf am y cyhoeddiad wrth gwrs, ond mae rhai syniadau wedi cael eu gwyntyllu gan CAMRA yn y gorffennol. Nid wyf yn gwybod a yw hi’n rhy gynnar o bosibl i ofyn beth yw eich barn chi ar y rhain. Mae un ohonynt—rwy’n derbyn ei fod yn croesi portffolios i raddau—yn ymwneud â chynllunio a pha mor hawdd yw hi i dafarndai yng Nghymru gael eu newid gan y perchnogion, gan gadwyni o dafarndai, o fod yn dafarndai i fod yn siopau neu fflatiau. Y rheswm am hyn yw nad oes gennym system gynllunio mewn gwirionedd, fel sydd ganddynt yn yr Alban, lle mae angen caniatâd cynllunio datganedig ar gyfer newid defnydd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oedd hwnnw’n newid y gallech ei ystyried ar gyfer Cymru.

Fel y dywedais, mae’n fater i’w drafod ar draws y Cabinet a bydd cynllunio’n rhan o’r hyn a welwn ar gyfer ein hadeiladau cyhoeddus yn y dyfodol. Rwy’n credu bod yna lawer o ffactorau y mae’n rhaid i ni fod yn ofalus yn eu cylch hefyd. Nid oes un ateb sy’n addas i bawb, a beth bynnag sy’n digwydd yn yr Alban—os ydych am ddewis y darnau da yn yr Alban a’r darnau da yng Nghymru, mae bob amser yn anodd gwneud hynny. Mae’r materion sy’n ymwneud â hawl gymunedol i brynu ac yn y blaen, neu’r hawl i gofrestru, yn rhywbeth rwy’n edrych arno, ond rwy’n ofalus ynglŷn â diogelu adeilad nad oes unrhyw fwriad i’w brynu yn y tymor hir, er mwyn atal cais cynllunio yn unig. Mae’n rhaid inni gael cydbwysedd yn y mater. Rwy’n credu y gallai trafodaethau pellach gyda CAMRA esblygu yn dilyn fy nhrafodaethau a fy nghyhoeddiadau yn y dyfodol agos.

Iawn, diolch am hynny. Nawr, rwy’n gwybod eich bod hefyd yn gyfrifol am Swyddfa’r Post. Yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, roedd y Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr angen am gyd-leoli, sy’n rhywbeth rydym wedi siarad amdano mewn llawer o wahanol feysydd polisi. Roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw bosibilrwydd o annog tafarndai, efallai, i gyd-leoli gyda swyddfeydd post, a allai honno fod yn ffordd ymlaen i helpu hyfywedd tafarndai yn y dyfodol.

Wel, rwy’n siŵr y dylech fynd gyda Darren Millar i’w dafarn leol lle y gallwch gael peint, stamp a chyri, i gyd yn yr un lle. Ymwelais â’r dafarn, amser maith yn ôl, gyda’r Aelod. Rwy’n siŵr y byddai’n hoffi mynd â chi rywbryd i ddangos beth y gellir ei wneud yn ein cymunedau pan fo cyfleoedd yno.

Diolch yn fawr iawn. Dychwelwn at y cwestiynau ar y papur trefn yn awr. Cwestiwn 3, David Melding.

Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwreiddio egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei gwaith? OAQ(5)0145(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Ein dull yw rhoi hawliau plant wrth wraidd ein gwaith o lunio polisi. Mae’r ffordd rydym yn gwneud hyn wedi’i nodi yn ein cynllun hawliau plant ac mae ein hadroddiad cydymffurfio yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer gweithredu’r CCUHP a’u diwygio lle bo angen.

Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r safonau cyfranogiad cenedlaethol yn nodi beth y gall plant ei ddisgwyl gan y gwasanaethau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Cafodd y safonau hyn eu hadolygu y llynedd yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac o ganlyniad, roedd angen diweddaru canllawiau er mwyn i awdurdodau lleol wella eu gwaith hunanasesu. Rwy’n meddwl tybed a yw’r canllawiau hynny wedi cael eu cyhoeddi ac a ydym yn debygol o weld mwy o arferion gorau tebyg i’r hyn a ddatblygwyd gan gyngor Torfaen, lle mae’n rhaid i wasanaethau sydd ar gyfer plant neu sy’n rhyngweithio â phlant nodi’n glir sut y maent yn ymgynghori’n briodol â phlant fel defnyddwyr gwasanaethau.

Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ynglŷn â chwblhau’r cyngor hwnnw a pha un a yw wedi mynd at yr awdurdodau lleol; nid oes gennyf y manylion hynny wrth law heddiw. Ond rwy’n cytuno â’r Aelod fod gwerth ychwanegol gwych i rai agweddau ar hyn. A lle mae awdurdodau’n cyflawni’n dda iawn, megis cyngor Torfaen, dylem efelychu hynny ar draws y 22 awdurdod, gan wneud yn siŵr fod plant yn wirioneddol ganolog i’n prosesau gwneud penderfyniadau, yn hytrach na’u bod yn elfen ychwanegol yn unig i’w hôl-osod mewn polisi. Mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei godi yn un pwysig.

Y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion llety y gymuned Sipsiwn a Theithwyr? OAQ(5)0142(CC)

Yn ddiweddar, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr a gyflawnwyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac a nodai angen am 237 o leiniau preswyl a 33 o leiniau dros dro. Rwyf wedi dyrannu £26.4 miliwn rhwng 2017 a 2021 i fynd i’r afael â hyn ac rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol wneud cynnydd cyflym ar hyn.

Diolch. Ym mis Ionawr 2011, arweiniodd rhwymedigaethau i ddiwallu’r angen am safleoedd llety Sipsiwn a Theithwyr at roi caniatâd cynllunio dros dro i unigolion dynodedig am bum mlynedd ar safle yn Sir y Fflint, oherwydd sicrwydd a roddodd y cyngor i’r arolygydd cynllunio na fyddai Sir y Fflint, yn gallu ateb y galw o fewn y cyfnod hwnnw. Oherwydd iddi fethu gwneud hynny, rhoddodd Sir y Fflint ganiatâd dros dro am bum mlynedd arall ym mis Ebrill, er bod cydnabyddiaeth eang nad yw’r safle’n addas fel safle parhaol. Yna, ar ôl hynny, cafodd y caniatâd cynllunio dros dro ei ddiddymu yn y llys am fod Sir y Fflint wedi methu cyflawni ei chyfrifoldeb, a bu’n rhaid i Sir y Fflint dalu costau’r gwrandawiad.

O ystyried bod darpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 yn hyn o beth, o ran asesu anghenion llety, wedi dod i rym ym mis Chwefror 2015 a bod y ddyletswydd i ddiwallu anghenion a aseswyd a’r methiant i gydymffurfio â dyletswyddau o dan adran 103 wedi dod i rym ym mis Mawrth 2016, pa bwerau sydd gennych i ymyrryd yn yr achos hwn, lle mae rhywbeth yn amlwg wedi mynd o’i le?

Nid wyf yn gallu rhoi sylwadau ar achosion cyfreithiol sydd ar y gweill. Fodd bynnag, cyflwynodd Deddf tai 2014 ddyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion lleiniau cartrefi symudol Sipsiwn a Theithwyr yn briodol a sicrhau wedyn fod digon o safleoedd yn cael eu creu. Ni yw’r unig ran o’r DU sydd wedi rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud hyn, ac rwy’n credu ei fod yn flaengar iawn, ac fel y dysgais o’r grŵp trawsbleidiol Sipsiwn, Teithwyr a Roma yr wythnos o’r blaen, roedd y sefydliadau’n gadarnhaol iawn ynglŷn â’n hymyriadau yn hyn o beth.

Diolch yn fawr iawn. Mae cwestiwn 5 [OAQ(5)0155 (CC)] wedi cael ei dynnu’n ôl. Felly, cwestiwn 6, Lynne Neagle.

Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ran llywio polisi Llywodraeth Cymru ar blant? OAQ(5)0150(CC)

Diolch i’r Aelod dros Dorfaen am ei chwestiwn. Rydym yn gweithio ar y cyd ar draws portffolios, gan gynnwys addysg, iechyd a phlant a chymunedau, er mwyn gwella lles plant a phobl ifanc. Gall atal a lliniaru effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith sylweddol er budd teuluoedd ac unigolion, yn ogystal â’r gymuned ehangach.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wybodaeth ddefnyddiol am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn amlwg, mae gan y broses o gydnabod profiadau niweidiol penodol yn ystod plentyndod ran i’w chwarae yn y gwaith o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc, ond ceir llawer o broblemau a all effeithio ar les plentyn, ac mae’n peri pryder mawr i mi nad yw esgeulustod yn cael ei gydnabod fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Mae hyn er bod esgeulustod yn cael ei gydnabod fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod yng Ngogledd America ac er gwaethaf y ffaith mai esgeulustod yw’r rheswm mwyaf cyffredin o hyd dros gamau amddiffyn plant yng Nghymru. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd y ffocws y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn arwain at lai o ffocws ar fynd i’r afael ag esgeulustod a materion eraill a fydd yn effeithio ar les plentyn?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig iawn y mae’n ei ofyn i mi. A gaf fi roi sicrwydd i’r Aelod nad yw’n fater o’r naill neu’r llall? Mae’n ymwneud â safbwynt cyfannol ac ymgysylltu â phobl ifanc a’u teuluoedd? Un rhan o hynny y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei darparu. Os ydym yn ystyried profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a chydbwysedd dau o’r profiadau niweidiol sy’n cael eu hystyried, sef cam-drin corfforol neu feddyliol, mae’n bosibl fod y ddau’n berthnasol i ganlyniad o esgeulustod. Felly, ni fyddwn yn dweud nad ydym yn cytuno ar hyn—rwy’n credu ei fod yn ymwneud â diffiniad. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â’r Aelod a rhywun o Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio drwy’r mater er mwyn rhoi sicrwydd i’r Aelod nad yw’n faes a esgeulusir gennym mewn gwirionedd—mae hyn yn gwbl hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu cael y manteision cywir ar gyfer pobl ifanc wrth i ni symud ymlaen. 

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llai nag 1 y cant o wariant y GIG yng Nghymru yn cael ei dargedu tuag at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, eto i gyd mae 5,400 o blant a phobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol i gael eu hasesu bob blwyddyn, gyda 2,355 arall yn aros sawl mis am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf. Mae’r ffigurau diweddaraf bellach yn dangos bod 73 o blant a phobl ifanc yn aros 26 wythnos a rhagor i gael triniaeth. Mewn oedran pan fo mor hawdd gwneud argraff arnynt, a phan fyddwn yn sôn am brofiad plentyndod, onid ydych yn cytuno â mi, po gynharaf y gallwn gael ymyrraeth a thriniaeth dda i’n plant, y gorau y mae’r canlyniadau’n debygol o fod? Felly, a wnewch chi ymrwymo yma heddiw i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i leihau’r amseroedd aros annerbyniol hyn?

Rwy’n ddiolchgar fod yr Aelod yn gefnogol bellach. Rwy’n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd eisoes, fel rwy’n ei wneud gyda phob cyd-Aelod Cabinet, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg. Mae’n rhaid i ni gadw ar y blaen mewn rhai o’r materion hyn. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r presennol, ac mae’r achosion iechyd meddwl rydych yn siarad amdanynt, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn rhai sy’n peri pryder i mi hefyd, ond, mewn gwirionedd, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw edrych arno o safbwynt atal a gwneud yn siŵr nad yw profiadau pobl ifanc yn arwain at drawma iechyd meddwl yn nes ymlaen yn eu bywydau. Felly, byddwn yn annog yr Aelod, yn ei chwestiynau yn y dyfodol hefyd, i feddwl sut y mae gennym safbwynt anwleidyddol ar y cyd ynglŷn â sut rydym yn symud adnoddau o’r ochr gritigol i’r ochr atal. Mae’n broses bwysig o ran ble rydym am fod. Un pot o arian yn unig sydd yna, ac mae’n rhaid i ni ddechrau’n gynnar er mwyn sicrhau nad yw’r bobl ifanc y mae’n sôn amdanynt yn cael eu heffeithio fel oedolion yn y tymor hir.

Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod

7. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i rwystro plant yng Nghymru rhag dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod? OAQ(5)0147(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar draws adrannau i sicrhau cymorth i liniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a darparu cefnogaeth i deuluoedd sy’n agored i niwed yng Nghymru. Yn ogystal, rydym yn cyfrannu £400,000 yn 2017-18 tuag at sefydlu canolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod Cymru Well Wales.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn mai un o’r profiadau niweidiol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod yng Nghymru yw rhieni’n gwahanu, sy’n gallu cael effaith niweidiol iawn ar blant a phobl ifanc. O gofio hynny, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo cyplau i aros gyda’i gilydd er lles eu plant, ac a wnewch chi roi sylwadau ar ba cymorth sydd ar gael, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yng Nghymru ar hyn o bryd?

Ceir llawer o agweddau ar rieni’n gwahanu a phethau sy’n achosi hynny, ac maent yn aml yn gymhleth iawn. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud ar y cyd yw deall beth yw’r effeithiau hynny. Dyna pam ein bod yn buddsoddi yn Teuluoedd yn Gyntaf, yn Dechrau’n Deg, mewn rhaglenni hyrwyddo addysg ac mewn rhaglenni rhianta cadarnhaol. Ac nid yw proffilio unigolion mewn perthynas â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ond yn un rhan fach o allu teuluoedd cymhleth i symud ymlaen. Wrth gwrs, lle gallwn annog rhieni i aros gyda’i gilydd, rwy’n credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud, ond weithiau, er lles yr unigolion a’r plant, dylid gadael i’r pethau hyn ddilyn eu trywydd eu hunain. Ond rydym yn sicr yn gobeithio gwneud rhai ymyriadau yn y meysydd sy’n achosi pwysau. Mae problemau cyflogaeth ar yr aelwyd yn aml yn achosi straen teuluol. Rydym yn edrych ar wella rhagolygon gwaith ar gyfer unigolion, a materion ariannol, a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu mynd i’r afael â’r materion a gododd Janet Finch-Saunders mewn perthynas â materion iechyd meddwl hefyd.

Adroddiad ‘Breuddwydion Cudd’

8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o adroddiad Breuddwydion Cudd Comisiynydd Plant Cymru? OAQ(5)0144(CC)

Bydd y gronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 miliwn a gyhoeddais ym mis Mawrth yn cynorthwyo’r rhai sy’n gadael gofal i symud yn llwyddiannus tuag at annibyniaeth ac mae’n bwrw ymlaen â llawer o argymhellion y comisiynydd. Y grŵp cynghori gweinidogol ar wella canlyniadau i blant rydych yn gadeirydd arno sy’n arwain y gwaith hwn.

Ac rwy’n croesawu cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn fawr iawn. Credaf fod honno’n ffordd arloesol a chreadigol o wella lles bywydau llawer o blant sy’n derbyn gofal. Tybed hefyd faint o argraff a wnaed arnoch gan ganfyddiadau’r comisiynydd fod angen i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, yr adran dai a’r adran addysg gydweithredu a chydlynu eu gwaith i wella annibyniaeth y rhai sy’n gadael gofal, ac y byddai’r gwaith hwn yn sicr yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac mae’n bwysig ein bod yn trosglwyddo’r wybodaeth honno i awdurdodau lleol ac eraill.

Yn wir, ac mae’r comisiynydd yn hollol gywir i gyfeirio at hyn. Rydym yn gweld canlyniadau llawer gwell pan fo’r gwasanaethau cymdeithasol a’r adran dai yn gweithio gyda’i gilydd, yn hytrach nag ar eu pen eu hunain. Fel arall, rydym yn gweld pobl ifanc, yn y pen draw, yn aros mewn llety gwely a brecwast neu atebion eraill y maent o bosibl yn eu hystyried yn briodol yn yr adran honno. Rwyf wedi dweud wrth fy nhîm fy mod yn disgwyl i bob sefydliad sydd â rhan i’w chwarae yma i fabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig tuag at ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd mewn gofal. Rwy’n gobeithio’n wirioneddol y gallwn wneud hyn yn well wrth i ni symud ymlaen, ond rwy’n siŵr y bydd yr Aelod, drwy ei waith, yn parhau i graffu ac yn rhoi gwybod i mi sut y mae hynny’n gweithio’n ymarferol. 

Cartrefi Newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu cartrefi newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0152(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae adeiladu tai yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac mae’r ystadegau chwarterol diweddaraf yn awgrymu bod cynnydd yn nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r cynnydd hwn wedi cael ei gefnogi gan Cymorth i Brynu—Cymru, swyddogion galluogi tai gwledig a’n targed i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd yng Nghymru erbyn 2021 ac wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod fforddiadwyedd tai mewn rhannau o gefn gwlad Cymru yn broblem go iawn. Roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd y bydd canolbarth a gorllewin Cymru, sydd ag oddeutu un rhan o bump o boblogaeth Cymru, yn cael eu cyfran o’r 20,000 o gartrefi newydd hyn yng Nghymru. Pa sicrwydd y gallwn ei roi i’n hetholwyr ein hunain? 

Wrth gwrs, mae’r Aelod yn gywir ac mae hi bob amser yn dadlau dros ranbarth y canolbarth a’r gorllewin y mae’n ei gynrychioli. Ni allaf ddweud wrth yr Aelod yn bendant y byddwch yn cael un rhan o bump o’r 20,000, ond gallaf eich sicrhau y bydd y cynnyrch sydd gennym ar waith, megis Cymorth i Brynu—Cymru a’r prosiectau eraill rydym yn eu cyflawni ledled Cymru, ar gael i’ch etholwyr chi hefyd, ac mae’n broses bwysig lle rydym yn sylweddoli bod angen tai ar gyfer pobl ar hyd a lled Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i sicrhau y bydd amodau cynllunio ar gyfer cartrefi newydd yn cynnwys gofyniad fod yn rhaid i fand eang ffeibr gael ei osod?

Rwyf wedi cael ambell drafodaeth gyda’r Gweinidog cynllunio mewn gwirionedd, a chyda rhai cwmnïau cyhoeddus hefyd i wneud yn siŵr y gallwn ystyried hyn wrth i ni symud ymlaen. Mae’n rhan bwysig o symud y dechnoleg yn ei blaen, ac rwy’n aml yn clywed yr Aelod yn sôn am ddigonolrwydd band eang yn ei etholaeth ef hefyd. Ond mae’n rhywbeth rydym yn ei drafod gyda datblygwyr a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Wrth gwrs, nid yw fforddiadwyedd yn ymwneud yn unig â phrynu neu rentu cartref. Mae hefyd yn ymwneud â fforddiadwyedd cynnal a bod mewn cartref cynnes a diogel. Mae hynny’n arbennig o wir yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, lle mae llawer o gartrefi oddi ar y grid a lle nad oes ganddynt fynediad at y grid nwy yn enwedig ac maent yn dibynnu ar danwydd solet neu olew neu nwy wedi’i fewnforio. Beth a wnewch felly i sicrhau bod y cartrefi rydych yn eu hadeiladu, neu’n annog iddynt gael eu hadnewyddu, o’r safonau amgylcheddol uchaf a’u bod yn darparu manteision amgylcheddol da, ond hefyd, yn bwysig iawn, eu bod yn rhoi budd i denantiaid neu berchnogion y tai hynny o ran cynnal a chadw parhaus a chostau byw yno?

Credaf fod dwy ran i hyn. Rwy’n credu bod y buddsoddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud gyda’i rhaglenni adnewyddu mewn perthynas â boeleri nwy ac inswleiddio ac yn y blaen yn rhan bwysig o hynny. Ond mae’r arloesedd yn galonogol, ac rwy’n trafod hyn yn aml gydag un o fy Aelodau ar y meinciau cefn, Jenny, mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd a pham y dylem fod yn adeiladu mathau newydd o dai yma yng Nghymru yn hytrach na’r adeiladau brics traddodiadol. Dylem fod yn edrych ar y tymor hir, yn meddwl am arbed ynni a fforddiadwyedd tai. Rydym yn ceisio edrych ar hynny, ynglŷn â chymorth, gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’n buddsoddiad mawr o £1.2 biliwn, a beth arall y gallwn ei gael am ein harian. 

Rhaglen Cefnogi Pobl

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cefnogi Pobl? OAQ(5)0141(CC)

Diolch. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu pobl i osgoi neu oresgyn digartrefedd a byw mor annibynnol â phosibl. I gydnabod ei rôl allweddol, rydym wedi diogelu’r £124.4 miliwn o gyllid rhag toriadau ers 2015-16.

A gaf fi groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac yn sicr, y penderfyniad i ddiogelu’r arian? Hoffwn hefyd dynnu sylw at ba mor ddefnyddiol y mae’r rhaglen wedi bod yn fy etholaeth yn Nwyrain Abertawe. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae newidiadau i fudd-daliadau wedi effeithio ar y rhaglen Cefnogi Pobl?

Wel, yr hyn rydym yn ei wybod yw ein bod wedi diogelu hyn yng Nghymru. Yn Lloegr, maent wedi cael gwared ar y rhaglen Cefnogi Pobl o ran yr arian a glustnodwyd, sydd wedi cael effaith negyddol enfawr ar unigolion ar hyd a lled Lloegr. Mae gennyf sector Cefnogi Pobl blaengar iawn a gynhelir gan arweinydd gwych ar hyn o bryd sef Katie Dalton o Cymorth Cymru, sy’n gweithio’n galed iawn i sicrhau bod yr arian rydym wedi’i fuddsoddi yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad gan lawer o’r sefydliadau y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt, yn enwedig yn Nwyrain Abertawe, fel y mae wedi’i grybwyll yma heddiw.

Yn ystod y ddadl ar y rhaglen Cefnogi Pobl y llynedd, fe ddywedoch ei bod yn

‘yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG’,

yn enwedig wrth siarad am iechyd meddwl, fel y byddwch yn cofio mae’n siŵr. Rwy’n credu ein bod i gyd yn derbyn ei bod yn hynod o anodd dangos tystiolaeth a phrofi bod dulliau atal yn gweithio, ond a oes gennych unrhyw ddata a all eich helpu i hyrwyddo gwariant ar y cyd ar draws y ddau bortffolio ac ychwanegu gwerth mewn gwirionedd i’r gyllideb honno sydd wedi’i diogelu?

Wrth gwrs, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion pellach ac enghreifftiau. Ceir cyrff gweithredol gwych ledled Cymru a all ddangos buddsoddiad swm bach o ffrwd ariannu’r rhaglen Cefnogi Pobl yn glir iawn, sydd â manteision lluosog yn y ffordd honno. Wrth gwrs, dyna sut y dylai Llywodraeth ac asiantaethau fod yn meddwl wrth ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan wneud yn siŵr fod goblygiadau un yn effeithio’n gadarnhaol ar y llall, os yw’n bosibl i ni gyflawni hynny. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gydag ychydig mwy o fanylion.

Adfywio yng Nghasnewydd

11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Nghasnewydd? OAQ(5)0153(CC)

Diolch i’r Aelod dros Orllewin Casnewydd. Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i’w chwarae yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i gefnogi cymunedau cryf ym mhob rhan o Gymru. Bydd manylion pellach am raglen adfywio newydd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a bydd angen i’r blaenoriaethau adfywio ar gyfer Casnewydd fwydo i mewn i’r ystyriaethau hynny.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bythefnos yn ôl, ymunais â Cartrefi Dinas Casnewydd, swyddogion Heddlu Gwent, a thrigolion a chynghorwyr lleol ar daith gerdded o amgylch yr ailddatblygiad £7.9 miliwn sydd newydd ddechrau ym Mhillgwenlli. Mae’n hen bryd i’r gwelliannau gael eu gwneud a bydd y prosiect hwn yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r rhai sy’n byw yno. Ffrwyth gwaith gyda grŵp ymroddedig o drigolion, gan gynnwys pobl ifanc, manwerthwyr a’r gymuned ehangach, yn gweithio gyda’r gymdeithas dai yw’r cynlluniau uchelgeisiol hyn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod rhoi preswylwyr wrth wraidd cynlluniau ar gyfer adfywio o ddechrau’r prosiect hyd at ei gyflawniad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant?

Wrth gwrs, ac rwy’n ddiolchgar am y rhan a chwaraeodd yr Aelod yn y cynllun hwnnw. Rwyf wedi ymweld â Phillgwenlli dair gwaith dros y chwe mis diwethaf i weld pa gynnydd a wnaed ac roedd yn rhyfeddol yr wythnos diwethaf, y tro diwethaf i mi ymweld â’r lle. Mae’r Aelod yn gywir i grybwyll mater ymwneud cymunedol gan mai eu cymuned hwy yw hi ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei bod yn cael ei hadeiladu gyda chydnerthedd a’u bod yn bwrw ymlaen â hynny ar gyfer y dyfodol. Ac mae gwaith yr holl asiantaethau sy’n chwarae rhan yn fy nghalonogi. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm yn uniongyrchol yn awr i gymryd rhan gyda bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Casnewydd i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cael rhywfaint o drosoledd o ran sicrhau ein bod yn gallu gwella’r gymuned ym Mhillgwenlli, a’i gwneud yn llwyddiant fel oedd hi pan oedd yn ffynnu yn y blynyddoedd a fu.

4. 3. Cwestiynau Amserol
5. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, symudwn at y datganiadau 90 eiliad, a daw’r datganiad cyntaf yr wythnos hon gan Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Y penwythnos hwn bydd Eisteddfod yr Urdd yn dod i gampws Pencoed Coleg Pen-y-bont. Bydd miloedd lawer yn teithio i’r ardal o bob cwr o Gymru i fwynhau’r ŵyl ar gyfer diwylliant Cymru, ieuenctid Cymru a’r iaith Gymraeg.

Rydym yn falch iawn o groesawu Eisteddfod yr Urdd ac rwyf innau’n falch iawn o’r ffordd y mae fy nghymunedau lleol wedi cymryd at un o’r prif ddigwyddiadau yng nghalendr diwylliannol Cymru: y ffordd y mae’r staff, y rheolwyr a’r myfyrwyr yng Ngholeg Pen-y-bont wedi gweithio i baratoi ar gyfer y digwyddiad; yr ymdrechion gwych gan gymunedau ledled yr ardal i godi arian; brwdfrydedd a chyfranogiad ysgolion lleol; cefnogaeth clybiau a sefydliadau lleol, gan gynnwys clwb rygbi Pencoed a gynhaliodd dwrnamaint rygbi saith bob ochr llwyddiannus iawn; a llawer mwy sydd wedi gweithio dros fisoedd lawer i wneud Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái yn llwyddiant.

Wrth y rhai nad ydynt wedi ymweld â’r maes o’r blaen na gweld yr Eisteddfod, dywedaf: dewch i fwynhau’r hwyl a’r croeso a gynigir gan yr ŵyl ieuenctid orau un a’r gorau o’n pobl ifanc dawnus. Gobeithio y byddwn yn eich gweld chi yno ar y maes.

Y penwythnos hwn bydd gŵyl Terfysg Merthyr yn coffáu digwyddiadau Mai 1831 pan gododd gweithwyr haearn, glowyr a’u teuluoedd a sefyll yn erbyn yr amodau byw a gweithio truenus roeddent yn gorfod eu dioddef. Yn ystod y brotest, trochodd y gwrthryfelwyr eu baner mewn gwaed llo—a chredir mai dyna’r tro cyntaf i’r faner goch gael ei defnyddio fel symbol o chwyldro. Ceir adeiladau a golygfeydd ym Merthyr o hyd a chwaraeodd ran bwysig yn y terfysg, yn arbennig y llys deisyfion, lle roedd y rhai a oedd mewn dyled yn aml yn wynebu colli eu heiddo a’u meddiannau, gan eu taflu i amddifadedd pellach. Ond er bod adeiladau fel y llys yn ein hatgoffa am y terfysg, y bobl y tu ôl iddo sydd bwysicaf, ac un o’r rheini oedd Richard Lewis, neu Dic Penderyn fel yr adwaenid ef orau. Bu farw o leiaf 28 o bobl yn ystod y gwrthryfel, ond am ei fod wedi clwyfo milwr, yn ôl yr honiad, cafodd Dic Penderyn ei wneud yn fwch dihangol, ei ddwyn gerbron y llysoedd, a’i ddedfrydu i farwolaeth a’i grogi yng ngharchar Caerdydd ar 13 Awst 1831, gan brotestio ei fod yn ddieuog hyd y diwedd gyda’i eiriau olaf: ‘O Arglwydd, dyma gamwedd’. Er i’r troseddwr go iawn gyfaddef ei drosedd ar ei wely angau, nid yw Dic Penderyn erioed wedi cael pardwn, ond rwy’n falch o fod wedi ychwanegu fy enw i ddangos fy nghefnogaeth i’r ymgyrch gan ei deulu sy’n ceisio cyflawni hyn.

Felly, y penwythnos hwn byddwn yn cofio etifeddiaeth Dic ac ysbryd gweithwyr Merthyr a safodd yn erbyn anghyfiawnder a gormes, gan baratoi’r ffordd ar gyfer diwygiadau gwleidyddol a chymdeithasol ym Mhrydain yn y dyfodol, a byddwn yn parhau â’r frwydr dros gyfiawnder i Dic Penderyn.

Mae 28 Mai yn nodi seithfed Diwrnod Newyn y Byd. Caiff ei gynnal gan y Prosiect Newyn, a’r bwriad yw codi ymwybyddiaeth o’r bron i 800 miliwn o bobl ledled y byd heb ddigon o fwyd, ac i hyrwyddo atebion cynaliadwy i newyn a thlodi. Yn fyd-eang, mae newyn yn lladd mwy o bobl nag AIDS, malaria a thwbercwlosis gyda’i gilydd. Thema Diwrnod Newyn y Byd eleni yw achosion newyn cronig. Dywed y Prosiect Newyn fod hwn yn symptom o dlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol, ac mae’n gyd-destun pwysig ar gyfer nodi’r ystadegau diweddar gan Ymddiriedolaeth Trussell. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r ymddiriedolaeth yn cynnal rhwydwaith o dros 400 o fanciau bwyd o amgylch y DU, gan ddarparu bwyd brys i bobl mewn argyfwng, gyda llawer ohonynt yn blant. Mae gwybodaeth newydd yn dangos bod y cyflenwadau a ddarparwyd gan yr ymddiriedolaeth yn ystod y 12 mis diwethaf o amgylch y DU wedi cynyddu dros 70,000. Yma yng Nghymru, gwelwyd cynnydd syfrdanol o 10 y cant yn y niferoedd sy’n cael eu bwydo gan fanciau bwyd, a hynny cyn ein bod yn teimlo effaith lawn y newid i gredyd cynhwysol.

Rwy’n gwybod, o lygad y ffynnon, am y gwaith ardderchog y mae Banc Bwyd Merthyr Cynon yn ei wneud yn fy etholaeth, ac rwy’n hapus i’w cefnogi a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â’u gwaith. Ond pan fo swyddogion yr heddlu a nyrsys, yn ôl y sôn, yn dibynnu ar fanciau bwyd yma yn y DU, mae’n dod yn amlwg fod newyn yn eang ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ateb i’r her hon, yma a thramor.

6. 5. Datganiad: Asesu ar gyfer Dysgu—Dull Gwahanol yng Nghymru

Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Asesu ar gyfer Dysgu—Dull Gwahanol yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r gair ‘dysgu’ yn golygu addysgu a dysgu. Fel y mae’r Athro Dylan William o Goleg Prifysgol Llundain wedi’i nodi, mae’r persbectif ieithyddol a diwylliannol hwn yn dangos yn daclus na ellir gwahanu ansawdd addysgu a dysgu. Mae asesu ar gyfer dysgu yn golygu bod yr addysgu bob amser yn ymaddasol, yn benodol i anghenion y dysgwr ac yn cefnogi codi safonau ar gyfer pawb.

Roedd adroddiad diweddar y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ein taith i ddiwygio addysg yn cydnabod bod ymrwymiad i wella addysgu a dysgu yn ein hysgolion yn weladwy ar bob lefel o’r system addysg. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai ein diwygiadau ganolbwyntio ar ddatblygu proffesiwn addysgu o ansawdd uchel, gan wneud arweinyddiaeth yn sbardun allweddol ar gyfer diwygio, a chan sicrhau tegwch o ran cyfleoedd dysgu a llesiant disgyblion, a symud tuag at system newydd o asesu, gwerthuso ac atebolrwydd sy’n gyson â chwricwlwm newydd yr unfed ganrif ar hugain.

Siaradais am ein cynlluniau i ddatblygu arweinyddiaeth yn y Siambr yr wythnos diwethaf. Heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar asesu: sut beth yw asesu da, yr hyn rydym wedi ei wneud hyd yma a’r hyn y byddwn yn ei wneud i ddatblygu fframwaith asesu a gwerthuso newydd. Ac ar y ffordd, Dirprwy Lywydd, hoffwn chwalu rhai mythau am ein profion cenedlaethol hefyd. Mae gan asesu parhaus o ansawdd uchel rôl hanfodol i’w chwarae wrth addysgu, dysgu a chodi safonau. Dylai fod yn nodwedd naturiol ac annatod o ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, a bydd trefniadau asesu yn y dyfodol yn rhoi blaenoriaeth i hyn. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, consortia rhanbarthol ac yn derbyn cyngor arbenigwyr rhyngwladol ar asesu, megis Dylan William a John Hattie, er mwyn sicrhau bod yna bwyslais newydd ar asesu ar gyfer dysgu, a bod y dysgwr yn ganolog i’n hargymhellion.

Mae asesu ar gyfer dysgu yn enghraifft o addysgu ymatebol. Dyma’r bont rhwng addysgu a’r ffordd rydym yn darganfod a yw gweithgareddau a phrofiadau yn yr ystafell ddosbarth wedi arwain at y dysgu a fwriadwyd. Mae’n arf pwerus sy’n gallu sbarduno cynnydd a chodi lefelau cyrhaeddiad ein holl ddysgwyr. Ein gweledigaeth yw mai prif ddiben asesu yw darparu gwybodaeth a all lywio penderfyniadau ynglŷn â’r ffordd orau i ddatblygu dysgu pobl ifanc ac adrodd am y cynnydd hwnnw wrth eu rhieni a’u gofalwyr. Trwy wneud hynny, dylai asesu wella’r dysgu a wneir gan ddysgwyr, yr addysgu a wneir gan athrawon a dealltwriaeth rhieni a gofalwyr.

Mae ymchwil o bob cwr o’r byd wedi dangos bod asesu ar gyfer dysgu yn cynnig ffordd effeithiol i ni gyflawni ein hamcanion ar gyfer system addysg sy’n perfformio’n dda ac sy’n rhoi’r gallu i ddysgwyr fod yn ddysgwyr gydol oes. Y dysgwyr sy’n cael adborth o ansawdd uchel, sy’n deall lle maent arni yn eu dysgu, lle mae angen iddynt fynd nesaf, ac yn hollbwysig, sut i gyrraedd yno, yw’r rhai mwyaf tebygol o wneud y gwelliant mwyaf.

Fel y byddwch yn gwybod o fy natganiad ysgrifenedig yn ddiweddar, mae’n bosibl mai un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous y bydd ysgolion yn ei weld yn y blynyddoedd i ddod yw’r newid o’r profion darllen a rhifedd papur traddodiadol y mae dysgwyr yn eu gwneud bob blwyddyn, i asesiad ar-lein ymaddasol wedi’i bersonoli. Bydd yr asesiadau newydd yn addasu anhawster y cwestiynau i gyd-fynd ag ymateb y dysgwr, gan gymhwyso i ddarparu her addas i bob unigolyn. Mae hyn yn golygu y bydd pob dysgwr yn cael cwestiynau sy’n gydnaws â’u sgiliau unigol ac yn eu herio mewn darllen a rhifedd. Bydd ysgolion yn cael gwybodaeth o ansawdd uchel wedi’i theilwra am sgiliau pob dysgwr a gallant ddefnyddio’r wybodaeth honno fel tystiolaeth ychwanegol i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer addysgu a dysgu. Bydd y profion yn marcio eu hunain ac yn gydnaws â systemau rheoli gwybodaeth ysgolion. Bydd athrawon a dysgwyr yn cael adborth penodol ac uniongyrchol o ansawdd uchel, a bydd hynny’n rhoi gwell syniad iddynt ynglŷn â sut y gallant fynd i’r afael â chryfderau a gwendidau pob dysgwr. Ceir llawer o fanteision i weithredu asesiadau wedi’u personoli, ond gadewch i mi fod yn gwbl glir fod y profion papur cyfredol yn rhannu’r un diben yn union. Mae ychydig o fythau’n cylchredeg o hyd mewn perthynas â’r profion cenedlaethol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro’r sefyllfa.

Yn gyntaf, mae’r profion yn hollol wahanol i’r TASau yn Lloegr, lle y caiff canlyniadau eu cyhoeddi ac ysgolion yn cael eu graddio ar sail sgoriau profion. Cafodd ein profion eu gweithredu i gefnogi addysgu a dysgu, ac ni fwriadwyd iddynt fod yn asesiadau lle mae llawer yn y fantol. Nid yw Llywodraeth Cymru’n defnyddio canlyniadau’r profion i farnu perfformiad ysgolion. Yr allwedd i’n dull o weithredu yw bod y ffocws ar yr hyn y mae’r profion yn ei ddweud wrth athrawon, a hynny wedyn yn cael ei ddefnyddio i helpu i gynllunio ar gyfer camau nesaf y dysgwyr ac i ddatblygu sgiliau craidd a gwybodaeth. Ar hyn o bryd, gwyddom nad yw asesu ar gyfer dysgu yn rhywbeth sydd bob amser yn cael ei ddeall neu ei ymgorffori’n dda ym mhob ysgol. Dyna pam rwyf wedi ailffocysu gweithgareddau i wella hyder wrth ei ddefnyddio.

Yn gynharach eleni, deuthum â’r rhaglen wirio allanol i ben, ac amlinellais ein bwriad i sefydlu rhaglen a fyddai’n cynnal y nod gwreiddiol o wella asesiadau athrawon, ond gyda mwy o ffocws ar anghenion athrawon a’u dysgu proffesiynol. Yn ogystal, rydym wedi newid y dull o adrodd ar y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol. Yr wythnos diwethaf, hysbyswyd yr ysgolion na fyddai ond yn rhaid iddynt gynhyrchu adroddiadau rhieni ar y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar gyfer Cymraeg, Saesneg a mathemateg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, a datblygiad iaith, llythrennedd a chyfathrebu a mathemategol yn ystod y cyfnod sylfaen. Bydd cael gwared ar y disgwyliad i greu adroddiadau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm yn caniatàu i ysgolion ganolbwyntio eu hymdrechion ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd wrth gynllunio cwricwlwm effeithiol a dulliau asesu ar gyfer dysgu.

Mewn dull cydlynol a chyfunol o godi safonau a disgwyliadau, mae asesu ac atebolrwydd yn hanfodol i’n diwygiadau parhaus a datblygu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, yn y gorffennol, mae’r llinellau rhwng y ddau yn aml wedi bod yn aneglur, gan arwain at ganlyniadau negyddol anfwriadol yn yr ystafell ddosbarth a diffyg ffocws ar safonau cyffredinol. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn ag atebolrwydd. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn cydnabod ac yn hyrwyddo addysgu a dysgu o ansawdd uchel fel ein bod yn codi safonau, yn lleihau’r bwlch cyrhaeddiad ac yn darparu system addysg sy’n ffynhonnell wirioneddol o falchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ac am fy hysbysu yn ei gylch ymlaen llaw. Rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn y Siambr hon yn cytuno ein bod am weld proses asesu drylwyr yma yng Nghymru sy’n deg i’r dysgwr, sy’n helpu i roi gwybod i athrawon sut i fynd ati yn y ffordd orau i ymateb i’w hanghenion, ond sydd hefyd yn gweithredu fel system feincnodi ar hyd a lled Cymru gyfan, fel y gallwn gymharu a chyferbynnu perfformiad disgyblion o fewn ysgolion ac yn wir, cymharu a chyferbynnu perfformiad gwahanol ysgolion hefyd. 

Gwyddom nad yw’r system gyfredol yn berffaith. Mae llawer gormod o hunanwerthuso, os mynnwch, yn y system gyfredol ac nid oes digon o safoni, ac felly dyna pam roeddwn yn falch iawn o groesawu’r newid tuag at brofion ar-lein mwy ymatebol wedi’u personoli pan gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hynny’n gynharach eleni, a chredaf fod hwnnw’n sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir. Ond rwyf am ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yn rhaid i ni hefyd beidio â bod ofn parhau i roi ein plant a’n pobl ifanc mewn sefyllfa arholiad gyda phrofion papur. Oherwydd yn y pen draw, y profion papur hynny lle mae llawer yn y fantol y byddant yn eu gwneud pan fyddant yn cyrraedd oedran TGAU a phan fyddant yn cyrraedd oedran Uwch Gyfrannol a Safon Uwch—ni fyddant yn eu dychryn cymaint os ydynt wedi cael llawer o brofiad o wneud prawf. Nid ydynt yn mynd i fod yn eistedd wrth gyfrifiaduron i wneud y profion hynny, felly mae’n bwysig eu bod yn cael profiad o’r profion hyn yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr ysgolion ar wahanol adegau.

Nawr, rwy’n gwybod eich bod yn dweud—ac rydych yn hoffi gwahaniaethu’n fawr rhwng y profion TASau yn Lloegr a’r profion rydym wedi’u cael yn draddodiadol yma yng Nghymru, ac rydych yn dweud nad yw hynny’n rhywbeth lle rydym yn mynd i restru ysgolion. Ond yn y pen draw, mae angen iddynt fod yn bethau a ddefnyddir i reoli perfformiad mewn ysgolion, ac i reoli’r sylw y mae awdurdodau lleol yn ei roi i ysgolion a sylw consortia rhanbarthol i ysgolion os nodir gwendidau yn y canlyniadau hynny. Rwy’n credu ei bod yn iawn i ganlyniadau’r profion hynny gael eu rhannu gyda rhieni, oherwydd yn y pen draw, dylid grymuso rhieni i allu gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha ysgolion y maent am i’w plant gael eu haddysgu ynddynt. Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallant ei gael, yn fy marn i, gan gynnwys gwybodaeth am brofion a chanlyniadau’r profion hynny.

Rwy’n sylweddoli y gallwch wthio’r pendil yn rhy bell a defnyddio marcwyr yn unig ar bethau fel y cyflawniadau yn y mathau hyn o brofion a’u gorbwysleisio, os mynnwch, a methu ystyried pethau eraill yn briodol mewn ysgolion. Dyna pam rydym wedi bod yn gefnogol fel plaid i system y categorïau gwyrdd, melyn a choch a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n bwysig fod honno hefyd yn system gadarn. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod am i honno fod yn system gadarn sy’n adlewyrchu perfformiad ysgolion mewn ystyr hollgynhwysol a chyfannol. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod y canlyniadau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael mewn profion fel y rhai rydym yn sôn amdanynt heddiw—yr asesu ar gyfer dysgu—yn ddangosydd pwysig o berfformiad ysgolion, a rhaid inni beidio â’u hanwybyddu.

Gwyddom fod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud wrthym fod yna lawer o athrawon ar bob lefel sydd heb y sgiliau i weithredu asesiadau ffurfiannol o ansawdd a defnyddio’r data asesu hwnnw i gynorthwyo myfyrwyr gyda’u dysgu. Rwy’n credu ei bod yn iawn inni fynd ar ôl y pwynt hwnnw, ac roeddwn yn falch eich bod wedi cyfeirio at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’r gwaith y maent yn ei wneud ar oruchwylio peth o weithrediad y gwaith hwn yn y dyfodol. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, o arolwg diweddar Cyngor y Gweithlu Addysg o’r gweithlu addysg yng Nghymru, mai un o’r problemau eraill sydd gennym yw cyfathrebu’r newidiadau sy’n digwydd yma yn ein system addysg yng Nghymru i’n hathrawon. Tybed felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym sut y bwriadwch sicrhau bod yna ymateb priodol gan y gweithlu addysg i’r trefniadau profi newydd hyn wrth iddynt gael eu cyflwyno yma yng Nghymru, beth a wnewch i fonitro’r ffordd y mae’r gweithlu addysg yn defnyddio’r wybodaeth mewn ffordd hyderus i newid eu hymarfer er mwyn iddynt allu cynorthwyo dysgwyr yn well, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i ni fel Cynulliad nad ydym yn cael gwared yn gyfan gwbl ar y profion papur mewn llythrennedd, rhifedd, a’r holl bynciau eraill, fel y gallwn barhau i baratoi ein plant yn dda wrth iddynt wynebu’r profion hynny lle mae llawer yn y fantol a ddaw yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau, Darren. Roeddwn wedi gobeithio y byddai’r datganiad y prynhawn yma’n gallu helpu i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o’r gwahaniaeth rhwng asesu ar gyfer dysgu, sy’n rhan hanfodol o’r ffordd yr awn ati i godi safonau yn ein hysgolion—a sut y mae hynny’n fater gwahanol iawn i’r hyn yw atebolrwydd. Mae’r ffaith fod y ddau wedi’u cydgysylltu yn y gorffennol, gyda pheth ohono’n seiliedig mewn realiti a pheth ohono, yn aml, yn un o’r mythau sy’n bodoli ym meddyliau addysgwyr, yn un o’r rhesymau pam nad ydym yn gwneud y cynnydd sydd angen i ni ei wneud. Gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae angen atebolrwydd yn y system addysg yng Nghymru. Gwyddom o brofiad beth sy’n digwydd os na cheir atebolrwydd. Felly, byddaf yn parhau i sicrhau bod ein hysgolion, ein hawdurdodau addysg lleol, a’n consortia rhanbarthol yn cael eu dwyn i gyfrif am eu perfformiad.

Ond mae’n rhaid i fesurau atebol fod yn rhai cywir, ac rwy’n ofni bod yn rhaid iddynt fod wedi’u gwahanu oddi wrth egwyddorion asesu ar gyfer dysgu. Felly, rydych yn hollol gywir, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r system gategoreiddio i allu darparu golwg gyfannol ar sut y mae ysgolion unigol yn perfformio. Byddwn yn parhau i ddatblygu cyfundrefn arolygu gadarn, a chyhoeddi adroddiadau arolygon drwy Estyn sy’n rhoi’r wybodaeth y mae rhieni ei hangen wrth iddynt edrych ar ddarpar ysgolion ar gyfer eu plant. Ac mae mwy y gallwn ei wneud i wella categoreiddio, ac o bosibl, yn fy marn i, ar y cyd â’n trafodaethau gydag Estyn, sut y gallwn wella’r drefn arolygu hefyd. Ond gadewch i mi fod yn glir: nid yw asesu ar gyfer dysgu yn rhan o’r gyfundrefn atebolrwydd honno. Yn syml iawn, nid yw’n ffordd gadarn—nid yw’n ffordd gadarn o ddefnyddio profion asesu i farnu perfformiad ysgol. Gall cohortau amrywio’n helaeth iawn.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag ysgol Blaenymaes yn Abertawe. Mae’r plant sy’n dechrau yn yr ysgol gryn dipyn ar ei hôl hi’n ddatblygiadol o gymharu â’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl yn y boblogaeth—[Torri ar draws.]—yn y boblogaeth yng Nghymru. Mae 60 y cant o’r plant hynny’n cael prydau ysgol—[Torri ar draws.]—prydau ysgol am ddim. Mae hynny’n wahanol iawn i ysgol yn yr un awdurdod addysg lleol, ac felly nid yw dibynnu’n unig ar sgoriau profion safonedig yn ffordd deg o farnu. [Torri ar draws.] Rydych yn llygad eich lle. Y ffordd rydym yn monitro’r ysgol yw yn ôl y cynnydd y maent wedi’i wneud, ac rwy’n falch iawn fod ysgol Blaenymaes wedi cael gwerthusiad ‘da’ a ‘da’ gan Estyn yn ddiweddar oherwydd y cynnydd y maent yn gallu ei wneud ar gyfer y plant. Ond ni fyddai’n iawn inni ddefnyddio sgoriau profion plant unigol i farnu perfformiad yr ysgol honno. Ond mae angen i rieni wybod. Yn bendant, mae angen i rieni wybod, ac nid oes unrhyw gynlluniau i atal rhieni rhag gweld sgoriau profion eu plant. Mae’n bwysig iawn fel rhiant, ac rwy’n fam fy hun a fy mhlant wedi cael yr asesiadau hyn yn ddiweddar iawn. Mae’n bwysig iawn i mi a rhieni eraill wybod ble mae fy mhlentyn arni, cael asesiad meincnod safonedig i weithio ochr yn ochr ag asesiadau’r athrawon unigol o fy mhlant.

Bydd y profion papur yn cael eu diddymu’n raddol, Darren, a byddant yn cael eu disodli’n raddol gan system ymaddasol ar-lein. Un o’r problemau gyda’r profion presennol yw nad ydynt yn ystyried ble mae plentyn arni. Gallem gael plentyn gyda nifer o anghenion dysgu ychwanegol sy’n eistedd o flaen prawf, yn edrych ar y papur, ac ni all ateb y cwestiwn cyntaf. Gallai hynny fod yn ddinistriol i hyder y plentyn. Y peth da am brawf ymaddasol ar-lein yw y bydd y cwestiynau’n addasu i allu’r plentyn, i weld ble mae arni, ac yn eu gwthio i weld faint y gallant ei wneud. Mae hynny’n newyddion da i bob plentyn, oherwydd gallwch gael darlun gwell a chywirach o ble mae’r plentyn arni. Mae’r syniad syml y bydd plant yn drysu’n llwyr os ydynt yn eistedd o flaen papur arholiad yn 16 oed yn wamal, os caf ddweud, Darren. Y realiti yw bod athrawon mewn ysgolion uwchradd yn paratoi eu plant ar gyfer sefyll yr arholiadau hyn drwy ddefnyddio papurau ffug, ffug arholiadau. Mae’r pethau hynny’n digwydd, a rhaid inni wahanu’r ddau beth.

Ceir anghenion dysgu proffesiynol. Mae angen i ni wella hunanasesu. Mae’n un o’r gwendidau yn ein system. Mae Estyn wedi cydnabod hynny. Dyna pam fod safoni parhaus yn wirioneddol bwysig. Ond drwy symud peth o’r pwyslais, mae hynny’n rhoi mwy o amser i athrawon ganolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn, ac fel y gwyddoch, rydym wedi neilltuo £5.6 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer cronfeydd dysgu proffesiynol y consortia.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd Donaldson, wrth gwrs, yn ei adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’, mai anfodlonrwydd gyda’r trefniadau asesu cyfredol oedd un o’r negeseuon cryfaf a gafodd. Felly, mae’n dda gweld hynny’n cael sylw, ac rwy’n ofni defnyddio’r gair ‘profion’ yn awr braidd, ar ôl y drafodaeth honno. Mae wedi cael ei wyntyllu’n briodol, felly nid af ar ei drywydd yn ormodol, dim ond i gydnabod, wrth gwrs, yr hyn y mae Donaldson yn ei ddweud wrthym, y dylid defnyddio profion mor anaml â phosibl oherwydd eu heffaith ar y cwricwlwm ac addysgu a dysgu, gan mai’r perygl yw bod pobl yn cael eu dysgu ar gyfer y prawf, ac yna’n sydyn, fe fyddwch yn dal eich hun yn crwydro oddi ar y testun ac yn colli ffocws, o bosibl, ar y gwaith sydd angen ei wneud.

Ni chlywais i chi’n sôn am hunanasesu ac asesu cymheiriaid yn eich datganiad. Yn amlwg, maent yn ffactorau pwysig wrth annog plant a phobl ifanc i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain. Rwy’n gwybod bod fy mhlant yn cael meini prawf llwyddiant i lynu wrthynt pan fydd ganddynt waith cartref, lle y cânt dasg i’w chyflawni, ac mae angen iddynt ddeall sut y maent yn mynd i’w chyflawni, ac yna sut i ddangos yr hyn y maent wedi’i ddysgu o’r dasg honno. Felly, rwy’n siŵr y gallwch ddweud wrthym am bwysigrwydd hunanasesu ac asesu cymheiriaid yn y cyd-destun hwn, ac mae gan athrawon eu pasbortau dysgu proffesiynol yn awr—yr un fath ag ar gyfer disgyblion yn y dyfodol o bosibl; gwn fod Donaldson wedi crybwyll e-bortffolios ac e-fathodynnau hyd yn oed, i gofnodi cyflawniadau a phrofiadau allweddol, a thybed i ble rydym yn mynd ar hynny, pa un a yw hynny’n rhywbeth rydych yn mynd ar ei drywydd ai peidio.

Mae eich datganiad yn sôn am asesiad ymaddasol ar-lein wedi’i bersonoli, ac athrawon ac arweinwyr yn cael adborth penodol uniongyrchol o ansawdd uchel. Soniodd Donaldson hefyd, wrth gwrs, y dylem gynyddu’r defnydd o gyfryngau digidol ac archwilio’r cyfleoedd i wella uniongyrchedd adborth i rieni a gofalwyr. Felly, tybed a ellid ymestyn hyn i ganiatáu mynediad i rieni at rai agweddau ar hyn fel y gallant, mewn amser real os mynnwch, olrhain datblygiad eu plant. Gwn fod llawer o ysgolion yn defnyddio Incerts. A oes yna elfen sy’n addas ar gyfer y cyhoedd y gellid ei defnyddio yn hynny o beth, byddai’n dda clywed beth yw eich syniadau ar hynny.

Mae’n amlwg fod yna gryfderau yn perthyn i symud i system ar-lein fwy awtomataidd. Rwy’n edrych am sicrwydd—ac rwy’n siŵr y byddwch yn ei roi i mi—na fyddwn yn tynnu ein llygaid oddi ar y bêl o ran yr angen parhaus i adeiladu gallu athrawon i asesu, ac na fyddwn yn gadael y cyfan i gyfrifiaduron. Felly, mae hynny’n sicr yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn wyliadwrus ohono.

Mae’r pwyllgor plant a phobl ifanc yn amlwg wedi bod yn craffu ar weithrediad y cwricwlwm newydd, a chlywsom safbwyntiau cyferbyniol am y berthynas rhwng llunio’r cwricwlwm a phennu’r fframwaith asesu. Roedd rhai pobl yn dweud, ‘Wel, dywedwch wrthym beth rydych eisiau ei asesu ac fe luniwn gwricwlwm i chi’, ac roedd eraill yn dweud—ac yn gywirach hefyd, yn fy marn i—fod cwricwlwm wedi’i yrru gan ddibenion yn dechrau gyda dibenion ac yn bwrw ymlaen o’r fan honno. Er bod eich ymateb braidd yn ddryslyd, efallai, i ni yn y pwyllgor nad yw’n iâr neu’n ŵy, ei fod yn iâr ac yn ŵy ar yr un pryd—nid wyf yn siŵr a yw hynny’n bosibl, ond hoffwn i chi dawelu ein meddyliau yn awr efallai fod y sector yn cael yr eglurder sydd ei angen arno am y rhyngberthynas, a grybwyllwyd gennym yn gynharach i raddau, mewn gwirionedd, fel y gallwn fod yn hyderus fod y prosesau asesu rydym yn symud tuag atynt yn briodol ar gyfer y cwricwlwm newydd a’r dyfodol yr ydym yn symud tuag ato.

Diolch yn fawr iawn, Llyr, am y cwestiynau a’r sylwadau hynny. Rydych yn hollol gywir; dywedodd yr Athro Donaldson wrthym y dylid defnyddio profion mor anaml â phosibl, ond roedd hefyd yn glir iawn yn ei adroddiad fod profion safonol allanol yn darparu gwybodaeth bwysig ar gyfer meincnodi a dylid ei defnyddio ar y cyd â phrofion ysgol ac asesiadau athrawon. Felly, ni ddywedodd Donaldson o gwbl y dylem roi’r gorau i gynnal profion cenedlaethol. Gwelai hynny fel rhan o ddarlun cyfannol o sut y gallwn ddatblygu ein cyfundrefnau asesu. A dweud y gwir, yr hyn yr argymhellodd yr Athro Donaldson yn ei adroddiad oedd, ac rwy’n dyfynnu:

‘Dylai dulliau arloesol o asesu, gan gynnwys dulliau rhyngweithiol, gael eu datblygu’.

Felly, mewn gwirionedd, mae symud tuag brofion ymaddasol rhyngweithiol ar-lein yn ymateb i argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad hwnnw.

Rydych yn hollol glir: os edrychwch ar luniau pert o’r hyn y mae asesu ar gyfer dysgu yn edrych arno mewn gwirionedd, un o elfennau hanfodol hynny yw adolygu gan gymheiriaid a gallu plant eu hunain i edrych yn feirniadol ar eu gwaith eu hunain ac yn wir, helpu i farcio gwaith eu cyd-ddisgybl wrth eu hymyl. Nid wyf yn gwybod a yw eich plant yn defnyddio’r dull pinc ar ôl plesio/gwyrdd am gynnydd, sy’n eu galluogi i ddefnyddio aroleuwyr pinc i dynnu sylw at y darnau da, ac yna rydych yn defnyddio aroleuwr gwyrdd i nodi’r darnau sydd angen tyfu o bosibl, ac angen eu gwella, ond mae’n rhan bwysig iawn o strategaeth o ddatblygu’r hunanfeirniadaeth a’r gallu i nodi. Mae yna lwyth o ffyrdd arloesol o’i ddefnyddio. Atebion anghywir, er enghraifft: os yw dosbarth yn cael yr ateb yn gywir bob amser, pwy sy’n dysgu? Weithiau, mae angen inni gael pethau’n anghywir er mwyn nodi beth a’n harweiniodd i roi’r ateb hwnnw a myfyrio ar hynny. Felly, ceir llawer iawn o wahanol ddulliau. Ond mae’r gallu i ennyn diddordeb plant yn hynny, nid yn unig i gael eu gwaith wedi’i farcio gan athro neu fod athro’n gwneud sylwadau arno, ond mae gallu edrych yn feirniadol ar eu gwaith eu hunain a gwaith pobl eraill, mewn gwirionedd, yn hanfodol bwysig.

Fe sonioch am basbortau dysgu proffesiynol. Mae rôl bendant i’r pasbort dysgu proffesiynol, ond rwy’n meddwl y gallwn ei wneud yn well na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Nid wyf yn credu ei fod yn y cyflwr gorau posibl i ennyn diddordeb athrawon ynddo o ddifrif. Ond er lles plant, mae llawer iawn o ysgolion yn defnyddio strategaethau ar gyfer llunio e-bortffolios. Y bore yma, roeddwn yn trafod gyda phennaeth y defnydd o Building Blocks, sef ap a ddatblygwyd gan gwmni yn Llanelli. Maent yn ei ddefnyddio i gasglu a chofnodi gwaith. Mae’n galluogi pobl i fyfyrio ar hynny, ei rannu gyda chyd-ddisgyblion eraill i’w weld, a gallu ei anfon adref. Felly, rwy’n edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ddefnyddio’r math hwnnw o dechnoleg yn ein dysgu.

Un o’r gwelliannau sylweddol y gobeithiaf y bydd profion ymaddasol ar-lein yn eu rhoi i ni, Llyr, yw ymatebion mwy amserol. Fe fyddwch yn gwybod, fel finnau, fod ein plant wedi gwneud y profion nifer o wythnosau yn ôl. Nid wyf yn gwybod am ysgolion yn eich ardal chi, neu yn ardal Darren yn wir, ond byddaf yn cael profion fy mhlant yn ystod wythnos olaf y tymor mae’n debyg—wythnos olaf y tymor—pan nad oes llawer o amser i fynd i’r ysgol a chael trafodaeth gyda’r athro. Ac yna, daw gwyliau’r haf, a chollir y momentwm mewn perthynas â hynny. Felly, un o fanteision newid i’r system hon yw y byddwch yn cael canlyniadau ar unwaith a bydd ysgolion yn gallu ei wneud ar yr adegau o’r flwyddyn sy’n gweddu orau iddynt hwy a’u plant. Felly, rwy’n gobeithio mai un o fanteision symud tuag at hyn yw mwy o hyblygrwydd, ac y bydd yn caniatáu mwy o ymgysylltiad â rhieni wrth drafod canlyniadau profion gyda’u hysgolion, ac mae hynny’n hollbwysig.

Ar ôl ansawdd athro yn yr ystafell ddosbarth, gwyddom mai ymwneud rhieni yn addysg eich plentyn yw’r ail ffactor pwysicaf. Mae’n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o annog rhieni i ymwneud ag addysg eu plant. Unwaith eto, rwy’n meddwl, yn ddigidol—oherwydd, gadewch i ni wynebu’r ffaith, faint o rieni a welwch wrth gatiau’r ysgol gyda phawb ar eu ffonau clyfar—mae’r maes digidol yn un maes lle gallwn gynyddu’r sgyrsiau hynny rhwng ysgolion a rhieni am addysg eu plant.

Mae angen i ni wneud mwy o ran dysgu proffesiynol i gefnogi sgiliau athrawon mewn asesu ar gyfer dysgu. Fel y dywedais yn fy natganiad, ac fel y gwneuthum gydnabod yn fy natganiad, nid yw wedi gwreiddio i’r fath raddau ac mor gyffredinol ag yr hoffwn iddo fod, a bydd hyn yn parhau rhai o’r sgyrsiau sydd gennym ar y gweill gyda chonsortia rhanbarthol ynglŷn â dysgu proffesiynol.

Beth sy’n dod gyntaf a sut rydym yn asesu cwricwlwm newydd? Un o’r gwersi a ddysgasom gan yr Alban, rwy’n meddwl, yw eu bod wedi datblygu eu cwricwlwm ac wedi meddwl am yr asesu wedyn yn nes ymlaen. Dyna un o’r problemau y credaf fod system addysg yr Alban wedi dioddef yn ei sgil. Felly, rydym yn edrych ar asesu a gwerthuso wrth inni ddatblygu’r cwricwlwm, fel ein bod yn ymwybodol o’r ffaith fod angen inni gael dibenion yn sail iddo, ond ein bod hefyd yn ystyried sut y byddwn yn asesu ar gyfer hynny mewn gwirionedd, a sut y byddwn yn profi ar gyfer hynny wrth i ni ei ddatblygu. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol fod y gwaith hwnnw’n mynd rhagddo, ar y cyd â’r gwaith ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad, oherwydd os ydym yn ei adael tan y diwedd, ac yn ei gael fel rhywbeth ychwanegol, credaf y byddwn yn mynd yn groes i’r hyn y mae a wnelo asesu ag ef. Ac rwy’n dychwelyd at fy natganiad: ni ddylai asesu fod yn rhywbeth ychwanegol; dylai fod yn rhan annatod o ymarfer athrawon yn yr ystafell ddosbarth.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Er fy mod yn cefnogi’r defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, rhaid iddo ddigwydd bob amser mewn ffordd sy’n gwella addysg ar gyfer y plentyn, ac nid yn unig i leddfu baich gwaith yr athro. Mwy o athrawon, nid mwy o gyfrifiaduron, ddylai’r ateb fod bob amser i athrawon sy’n gorweithio. Nid oes dim a all gymryd lle clod gan athro a berchir ac a hoffir gan eu disgyblion, ac ni all cyfrifiadur roi’r anogaeth y gall athro ei rhoi. Ar y naill law, rydym yn dweud wrth rieni ei bod yn syniad gwael i’w plant dreulio gormod o amser o flaen iPads a gliniaduron, ond pan fydd yn gyfleus i ni, rydym yn ei annog yn yr ystafell ddosbarth. Drwy gynyddu’r defnydd o gyfrifiaduron ar gyfer asesu, rydym yn israddio statws athrawon ac yn annog arwahanrwydd yn yr ystafell ddosbarth, pan ddylem fod yn meithrin rhyngweithio. Rhodd i athrawon oedd ‘Apple’ i fod erioed, nid rhywbeth i gymryd eu lle.

Croesawaf y ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld gwerth asesiad wedi’i bersonoli, ond yn sicr byddwn yn cwestiynu a yw hyn yn rhywbeth newydd, fel y mae’r datganiad yn ei awgrymu. Yn sicr, mae athrawon yn asesu disgyblion mewn perthynas â datblygiad pob plentyn neu berson ifanc unigol ar sail barhaus yn barod. Yn sicr, maent wedi bod yn gwneud hyn ers i’r proffesiwn ddechrau. O ran ymdrech Ysgrifennydd y Cabinet i wahaniaethu rhwng y profion y mae disgyblion ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn eu gwneud, byddwn yn dweud ei bod yn amherthnasol i’r plentyn beth fydd yr ysgol neu unrhyw un arall yn ei wneud gyda’r canlyniadau hynny. Prawf yw prawf o safbwynt yr unigolyn sy’n ei sefyll. 

Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa ystyriaethau a roddodd i sicrhau bod plant yn parhau i gael eu haddysgu’n bennaf gan bobl yn hytrach na rhaglenwyr. A fyddai’n ddoeth argymell rhyw fath o fonitro i weld faint o amser y mae disgyblion yn ei dreulio’n gweithio ac yn cael eu hasesu drwy gyfrwng cyfrifiadur? A ydych wedi gofyn i’r bobl ifanc a’u rhieni am eu barn ar yr androideiddio cynyddol sy’n digwydd yn eu haddysg?

A gaf fi ddiolch i Michelle am ei chwestiynau? Gadewch i mi fod yn gwbl glir ar gyfer yr Aelod a’r Siambr: nid yw hyn yn ymwneud â chyfrifiaduron yn disodli athrawon; mae’n ymwneud â gallu rhoi gwybodaeth o ansawdd da ar unwaith i athrawon am alluoedd plentyn unigol—rhywbeth a wnawn mewn un ffordd ar hyn o bryd, ond rwy’n meddwl y gallwn wella arno.

Fel y dywedais yn fy natganiad, diben y profion hyn yw canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y plentyn. Mae’n ymwneud â chael y wybodaeth sydd ei hangen arnom i athrawon a rhieni er mwyn asesu sut rydym yn helpu’r plentyn i ddatblygu mwy. Mae’r ffaith ei fod mewn gwirionedd yn lleihau’r baich gwaith ar athrawon ac yn rhoi gwybodaeth o ansawdd gwell inni mewn ffrâm amser well yn rhai o’r rhesymau eraill pam fod hyn yn beth da i’w wneud. Ond rwy’n ceisio barnu fy hun, ym mhob peth a wnaf, Michelle, ar sail y mantra ‘y plentyn yn gyntaf bob amser’. Rwyf o’r farn fod newid i’r systemau hyn yn well ar gyfer plant unigol yng Nghymru.

Rydym i gyd yn pryderu am amser o flaen sgrin i blant ac effaith technoleg ddigidol ar fywydau plant. Treuliasom lawer o amser yr wythnos diwethaf yn trafod hynny yn y Siambr. Rydym i gyd yn cydnabod bod yna anfanteision a manteision, ond gadewch i mi fod yn glir: mae hwn yn brawf dros gyfnod byr o amser y mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn penderfynu ei wneud unwaith y flwyddyn yn unig. Nid yw’n golygu rhoi plant i eistedd o flaen sgrin am oriau bwy’i gilydd. Rwy’n ailadrodd: nid yw hyn yn ymwneud â disodli athrawon â chyfrifiaduron; mae’n caniatáu i ni harneisio grym technoleg newydd i helpu athrawon i wneud hyd yn oed yn well ar gyfer y plant yn eu dosbarth.

7. 6. Datganiad: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: ymgynghoriad ar god erlyn Llywodraeth Cymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â gorfodi rheolau a chyfreithiau lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd. Dros y naw mlynedd ddiwethaf, mae swyddogion gorfodi morol, yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, wedi ymchwilio i dramgwyddau yn erbyn deddfau pysgodfeydd yn ein dyfroedd, gan arwain at 38 o erlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys 11 y llynedd. Rydym hefyd wedi rhoi camau gorfodi ar waith sydd wedi cynnwys erlyn, mewn rhai achosion, mewn perthynas â thramgwyddau yn erbyn deddfwriaeth i reoli lledaeniad TB a TSE, rheoli’r modd y caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid eu trin, rheoleiddio’r broses o farchnata cynnyrch garddwriaethol a chynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl. Mae ein cyfrifoldebau erlyn hefyd yn cynnwys gofal cymdeithasol, gofal plant a gofal iechyd annibynnol.

Ym mhob maes, rydym wedi ymrwymo i erlyn yn deg ac yn effeithiol fel ffordd o gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn unigolion, y cyhoedd a’n hadnoddau, a sicrhau ein bod i gyd yn byw mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn. Rydym hefyd yn cydnabod bod goblygiadau difrifol yn deillio o bob erlyniad i bawb sydd ynghlwm wrtho, yn cynnwys tystion a diffynyddion. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw rhagddi i erlyn, mae’n bwysig fod gan y cyhoedd hyder yn ein gweithredoedd, a rhan fawr o hynny yw egluro sut y gwnaethom ein penderfyniadau a sut rydym yn cynnal cyfiawnder.

Am y rheswm hwnnw, rwy’n falch o lansio ymgynghoriad heddiw ar god erlyn arfaethedig Llywodraeth Cymru. Fy nghyfrifoldeb i fel Cwnsler Cyffredinol yw penderfyniadau erlyn yn Llywodraeth Cymru, oni bai bod penderfyniadau erlyn wedi’u cyfyngu’n benodol i Weinidogion Cymru gan y darpariaethau statudol perthnasol. Mae’r modd rwy’n gwneud y cyfryw benderfyniadau erlyn wedi’i nodi yn y cod gweinidogol. Felly, mae’n rhaid i mi arfer y swyddogaethau erlyn a freiniwyd ynof fi, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ac ni ddylai aelodau eraill y Llywodraeth chwarae rhan. Lle byddaf yn cychwyn achos, yn amddiffyn neu’n ymddangos mewn achos cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Gweinidogion Cymru, yna unwaith eto rhaid i mi weithredu’n annibynnol ar y Llywodraeth.

Ceir adegau pan fydd y Prif Weinidog neu un o Weinidogion Cymru yn ymgymryd â swyddogaeth erlynydd. Mae’r cod gweinidogol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddod i gysylltiad â mi er mwyn i mi roi cyngor ar y penderfyniad i erlyn fel swyddog y gyfraith. Ond ym mhob achos, mae angen i mi seilio fy nghyngor a rhoi fy mhenderfyniadau mewn grym drwy ystyried a yw’r achos yn addas ar gyfer erlyn. Gwnaf hynny drwy gyfeirio at god erlyniad. Ar hyn o bryd, rwy’n defnyddio cod Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr y Goron, sy’n galw am ystyriaeth o’r prawf cod llawn.

Mae dau gam penodol i’r prawf: yn gyntaf, y cam tystiolaethol ac yn ail, y cam lles y cyhoedd. Mae’r cam tystiolaethol yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fod yn fodlon fod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob un a ddrwgdybir am bob trosedd. Mae’r cam lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fynd ati i ystyried a oes angen erlyniad er lles y cyhoedd. Mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi nifer o ffactorau i erlynwyr eu hystyried wrth benderfynu ar les y cyhoedd.

Fodd bynnag, datblygwyd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn bennaf i’w ddefnyddio mewn perthynas â throseddau prif ffrwd. Felly, mae’n ystyried y math o erlyniadau sy’n cael eu cychwyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu. Mae yna rannau o god Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd nad ydynt yn berthnasol i Lywodraeth Cymru. Felly, yng ngoleuni hyn, ac ynghyd â’r ffaith fod swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu, rwyf o’r farn ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru ddatblygu a dilyn ei chod erlyn ei hun.

Bydd cod erlyn arfaethedig Llywodraeth Cymru felly yn darparu canllawiau i erlynwyr ar yr egwyddorion sydd i’w cymhwyso wrth wneud penderfyniadau am erlyniadau Llywodraeth Cymru. I fod yn glir, mae’r cod arfaethedig yn seiliedig ar god presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron, ond cafodd ei addasu i ystyried swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru. Felly, nid yw’r cod arfaethedig yn cynnwys pob un o’r materion sydd wedi’u cynnwys yng nghod Gwasanaeth Erlyn y Goron. Er enghraifft, nid yw’r cod yn cynnwys y prawf trothwy sy’n gymwys mewn perthynas ag achosion gwarchodaeth.

Mae ein cod, fodd bynnag, yn cynnwys ffactorau lles y cyhoedd penodol sy’n ymwneud ag erlyniadau Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, bydd angen i erlynwyr ystyried effaith unrhyw droseddu ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu ar yr amgylchedd, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad. A bydd angen i erlynwyr ystyried a oes elfen o berygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd. Mae’r cod arfaethedig hefyd yn nodi fy mhŵer cyffredinol i gychwyn erlyniadau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Fel y dywedais yn gynharach, mae’r penderfyniad i erlyn yn gam difrifol. Nod y cod arfaethedig yw sicrhau bod penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau yn cael eu gwneud o fewn Llywodraeth Cymru. Cyn i mi gyhoeddi’r cod, hoffwn roi cyfle i randdeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd roi sylwadau a lleisio’u barn. Bydd hyn yn fy ngalluogi i gyhoeddi cod erlyn Llywodraeth Cymru sy’n glir, yn hygyrch ac yn addas i’r diben.

A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Mae gorfodi deddfau lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd yn briodol yn bwysig iawn—mae’r rhain yn gyfrifoldebau pwysig. Ac wrth gwrs, gyda gorfodaeth effeithiol, ceir hunangydymffurfiaeth a chydymffurfiaeth naturiol gynyddol. Dyna, mae’n debyg, yw’r hyn rydym ei eisiau.

Mae’r pwerau hyn wedi cael eu harfer gan Lywodraeth Cymru ers peth amser, ond wrth i ni gynhyrchu mwy o ddeddfwriaeth, rydym hefyd yn creu cyfrifoldebau gorfodi newydd—er enghraifft, y rhai yn y Bil iechyd y cyhoedd yn ddiweddar. Yn y maes hwn, rwy’n credu bod y cyfeiriad at y sylfaen dystiolaeth yn bwysig, oherwydd mewn llawer o’r troseddau hyn, bydd y dystiolaeth ar eu cyfer, neu’r dystiolaeth bosibl, yn cael ei chasglu gan bobl ar wahân i swyddogion yr heddlu.

Tybed a wrandawodd y Cwnsler Cyffredinol ar y ddadl ar y Bil iechyd y cyhoedd yng Nghyfnod 3, pan gefnogodd yr holl wrthbleidiau welliant, er enghraifft, ar nodi cyfrifoldebau hawliau dynol swyddogion gorfodi yn glir. Nid yw’r swyddogion hyn o reidrwydd yn y sector cyhoeddus hyd yn oed. Yn y ddeddfwriaeth benodol honno, o leiaf, Bil iechyd y cyhoedd, cafodd ei egluro yn y diwedd—y byddent yn weithwyr awdurdodau lleol.

Ond yn bendant mae cael datganiad clir yn y gyfraith o rwymedigaethau hawliau dynol yn bwysig pan fyddwn yn casglu tystiolaeth. Ar hyn o bryd, rydym yn dibynnu ar Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a’r egwyddorion cyffredinol sydd wedi’u gwasgaru drwy’r llyfr statud, yn hytrach na’u bod wedi’u mynegi’n glir yn y ddeddf rydym yn ei phasio. Tybed a yw’n pryderu ynglŷn â’r goblygiadau ar gyfer cyflawni rhwymedigaethau hawliau dynol, sydd, wrth gwrs, yn un o’r egwyddorion cyffredinol mewn perthynas ag erlyn a nodir yn ei god arfaethedig, o dan adran 11. Felly, mae’n rhywbeth y credaf fod angen i ni roi sylw arbennig iddo, a thrwy arfer ein cyfrifoldebau’n briodol yn unig y byddwn yn rhoi hyder llawn i bobl fod y gyfraith yn cael ei gorfodi’n drylwyr ond hefyd gyda phob tegwch priodol ar yr unigolion a’r sefydliadau dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â hawliau dynol pobl. 

Hoffwn wybod hefyd a yw wedi gwneud unrhyw—. Roedd yn awgrymu bod y cyfrifoldebau hyn ar gynnydd, ond a yw wedi gwneud unrhyw asesiad o’r cynnydd tebygol mewn gweithgaredd erlyn a gorfodi a fydd yn digwydd yn awr wrth i gyfraith Cymru ddod yn fwyfwy neilltuol? Pa fath o gapasiti sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r cyfrifoldebau hynny? Yr adran gyfredol y mae’n bennaeth arni—a oes ganddi’r capasiti angenrheidiol i arfer y swyddogaethau hyn yn y dyfodol?

Rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad i’w groesawu, ac mae wedi tynnu sylw at faes yr ydym yn dal i ddysgu amdano, o bosibl, ond rwy’n tybio y daw’n fwyfwy pwysig yn y dyfodol.

Yn gyntaf, diolch i’r Aelod am y pwyntiau pwysig ac ystyriol iawn a wnaeth yn fy marn i. Wrth gwrs, mae’n hollol gywir am y pwyntiau sy’n codi, mewn gwirionedd, yn yr egwyddorion drafft mewn perthynas â hawliau dynol. Mae’r cod—er bod tebygrwydd sylweddol rhyngddo a chod Gwasanaeth Erlyn y Goron, oherwydd y cynnydd yn y cyfrifoldebau, a’r cynnydd yn y cyfrifoldebau erlyn yn arbennig, penderfynasom fod arnom angen cod Cymreig a oedd yn adlewyrchu naws a pheth o’r pwyslais arbennig, rwy’n meddwl, sy’n deillio o ddeddfwriaeth Gymreig mewn gwirionedd.

Felly, yn ogystal â’r pwynt penodol hwnnw, mae’r pwynt a wnaethom am faterion penodol effaith ar yr amgylchedd, gan fod llawer o’n pwerau’n ymwneud â phethau fel yr amgylchedd, bwyd, amaethyddiaeth ac yn y blaen. Ond mae’n hollol gywir hefyd, wrth gwrs, fod y pwerau hynny’n ymestyn i ystod eang o feysydd eraill hefyd, ac mae angen inni sicrhau nid yn unig fod y cod yn effeithiol ond bod y ffordd y mae’n cael ei gymhwyso yn gadarn.

Rwy’n meddwl mai’r pwynt yr oedd yr Aelod yn dechrau ei gyrraedd oedd y mater ynglŷn ag a fydd angen gwasanaeth erlyn Cymreig, rywbryd yn y dyfodol, yn hytrach na’r trefniadau presennol. Nid yw hynny’n fwriad ar hyn o bryd, ond nid oes sicrwydd llwyr na fydd yn digwydd—mae’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni roi cryn sylw iddo, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol, wrth i fwy o bwerau ddod, wrth i ni gynyddu deddfwriaeth ac wrth i god troseddol Cymru i bob pwrpas ddod yn fwy arwyddocaol. Wrth gwrs, mae’r holl bwyntiau am ansawdd y dystiolaeth, cadernid y dystiolaeth a’r modd y diffiniwn les y cyhoedd, a nodir yn fanwl yn y canllawiau, yn bwysig iawn yn wir.

Rwy’n meddwl mai’r pwynt arall a wnaeth yw bod yna gyrff eraill yng Nghymru wrth gwrs. Mae awdurdodau lleol, fel y crybwyllodd, yn gyrff erlyn yn draddodiadol—pwerau tebyg iawn mewn perthynas â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ardaloedd eu hawdurdodaeth. Wrth gwrs, er bod ganddynt eu cod eu hunain, rwy’n meddwl y byddem yn gobeithio, dros gyfnod o amser, y bydd y ddibyniaeth ar god Cymru yn dod yn sail i hynny. Ond mae’n amlwg fod llawer yn digwydd—llawer yn y pair.

Rwy’n credu ei fod hefyd wedi crybwyll y mater ynglŷn â sut rydym yn mynd i asesu’r cynnydd. Rwy’n credu mai’r hyn rydym wedi dechrau ei wneud yw edrych ar niferoedd yr achosion rydym wedi’u cael mewn gwirionedd dros y nifer o flynyddoedd diwethaf: sut y maent yn cynyddu a lle y gallent gynyddu, a beth yw’r heriau i’r swyddogion gorfodi a’r materion sy’n codi yn hynny o beth o ran yr offer sydd ei angen arnynt, eu diogelwch eu hunain ac yn y blaen mewn rhai amgylchiadau—mae hynny’n rhywbeth roeddwn yn ymwybodol iawn ohono pan euthum i weld rhai o swyddogion diogelu’r amgylchedd yng ngorllewin Cymru, lle roeddent yn sôn am bethau fel yr angen am gamerâu corff ac yn y blaen, a fyddai o gymorth sylweddol ac rwy’n deall bod hynny’n cael ei weithredu bellach. 

Felly, mae’r rhain oll yn cael eu hadolygu. Mae’n rhywbeth rwyf wedi bod yn canolbwyntio fy sylw arno, gan gadw’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod mewn cof. Fy mwriad maes o law yw cofnodi datganiadau pellach ar nifer yr erlyniadau, lle maent yn digwydd, er mwyn sicrhau’r tryloywder mwyaf posibl.

A gaf fi groesawu’r datganiad gan Gwnsler Cyffredinol Cymru, a chroesawu hefyd y cyfeiriad teithio cyffredinol, fel petai, o ran datblygu codau erlyn Llywodraeth Cymru, ac mae’r ymgynghoriad hwn yn bendant i’w groesawu’n fawr? Ac fel y soniodd David Melding eisoes, rydym yn sôn am faterion difrifol yma o ran lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd, rheolau a chyfreithiau y mae angen bod o ddifrif yn eu cylch.

Felly, mae un neu ddau o gwestiynau a materion yn codi. Mae gennym nifer yr erlyniadau llwyddiannus yno. Roeddwn yn meddwl tybed faint o erlyniadau a gafodd eu hystyried, ond na chawsant eu dwyn gerbron—mewn geiriau eraill, faint na chafodd eu cynnwys yn y ffigurau hynny? Mewn geiriau eraill, pa mor realistig yw’r gobaith y bydd erlyniad yn deillio o ganlyniad i droseddu o ran—? Felly, mae gennym 38 o erlyniadau llwyddiannus, ond a oes gennym syniad faint yn union o droseddu posibl a oedd yn digwydd mewn gwirionedd yn y meysydd hyn?

Yn dilyn ymlaen o hynny, a allai Cwnsler Cyffredinol Cymru gadarnhau bod gennym yr arfau cyfreithiol at ddefnydd Cymru ar hyn o bryd i roi’r deddfau Cymreig mewn grym?

A’r trydydd pwynt, yn amlwg, yw nad yw plismona a’r llysoedd wedi’u datganoli i Gymru, ac mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi sôn am hynny wrth basio o ran y pwynt cyffredinol am godau Gwasanaeth Erlyn y Goron y DU. Gan gadw mewn cof nad yw plismona a gorfodi wedi’u datganoli, a’n bod, mewn gwirionedd, yn colli rhai o’r materion gorfodi gyda’r Ddeddf Cymru newydd, os felly, a oes perygl y bydd codau Llywodraeth y DU yn disodli cod erlyn Llywodraeth Cymru yn ymarferol? Rwy’n chwilio am sicrwydd yn hyn o beth, mewn gwirionedd. Ac o ran—wel, nid dadl athronyddol mewn gwirionedd, ond o ran y penderfyniadau hollbwysig sy’n digwydd mewn gwirionedd, rwy’n siarad am y rhyngwyneb rhwng y codau erlyn hyn a materion yn ymwneud â’r Bil diddymu mawr, er enghraifft, o ran y pwerau datganoledig sydd gennym mewn amaethyddiaeth a physgodfeydd, sydd yn y lle hwn yn awr, rydym yn wynebu eu colli oni bai, wrth gwrs, fod cymeradwyaeth gyffredinol i’r Bil parhad a basiwyd gan y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau nad ydym yn colli pwerau Ewropeaidd yn y meysydd datganoledig sydd gennym yn awr. Felly, rwy’n chwilio am sicrwydd pellach gan y Cwnsler Cyffredinol, mewn gwirionedd, fod y rhyngwyneb yn rhywbeth rydym yn cadw llygad arno ac yn amlwg, fod y pwerau sydd gennym yn awr yn cael eu cadw yn ein dwylo ni. Diolch.

Diolch. Unwaith eto, rydych yn nodi nifer o achosion pwysig. Ar hyn o bryd, mae’r penderfyniadau erlyn yn cael eu gwneud gennyf i, felly bydd y dystiolaeth ger fy mron i. Lle mae yna feysydd arbenigol, ceir dadansoddiad gan asiantau a chyfreithwyr sy’n arbenigwyr yn y meysydd hynny, ac yna fy mhenderfyniad i yn y pen draw fydd a yw’r erlyniad yn digwydd ai peidio. Rydych yn nodi pwynt pwysig o ran faint o achosion a geir lle na wnaed penderfyniadau yn eu cylch. Nid yw’n faes y mae gennyf ddigon o wybodaeth amdano, ond mae’n faes pwysig. Rwy’n credu mai ein sefyllfa ar hyn o bryd yw bod nifer yr erlyniadau yn gymharol fach, a lle y gwnaed penderfyniad, rwy’n meddwl bod y gyfradd lwyddiant wedi bod yn hynod o uchel. Mae’n un o’r pethau roeddwn am edrych arno.

Y pwynt a nodir gennych, ac un pwysig iawn, wrth gwrs, yw’r sefyllfa sy’n newid ym maes awdurdodaeth gyfreithiol sy’n cydgysylltu mewn rhyw ffordd. Ac wrth gwrs, rydym am wneud yn siŵr pan fyddwn yn pasio cyfreithiau fod yna gapasiti i ymchwilio’n iawn ac i orfodi’r cyfreithiau’n briodol, fel arall ni fydd fawr o statws nac o werth i’r cyfreithiau hynny. Ar hyn o bryd, rwy’n hyderus fod hynny’n wir. Un o’r rhesymau dros gyflwyno’r datganiad a’r cod hwn gerbron y Cynulliad mewn gwirionedd yw er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am yr hyn sy’n digwydd yn y maes—beth a wnawn gyda’r pwerau erlyn sydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd, neu sydd gan y Cwnsler Cyffredinol, a sut y cânt eu defnyddio, a’u gwneud yn fwy tryloyw ac yn fwy atebol, rwy’n meddwl, o ran yr hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd. Felly, rwy’n rhagweld mwy o wybodaeth am hyn dros gyfnod o amser. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod, wrth i ni basio mwy o ddeddfau, ein bod mewn gwirionedd yn cynyddu’r meysydd penodol hynny.

Rwy’n fodlon fod gennym yr arfau cyfreithiol hynny ac rwy’n fodlon fod gennym y sgiliau. Un o’r pethau cyntaf y deuthum yn gyfarwydd ag ef ac y deuthum yn arbenigwr arno oedd rheoliadau treillio am gregyn bylchog 2012 a sawl deddfwriaeth arall debyg sydd gennym, sy’n swnio’n ddoniol ar yr wyneb mewn ffordd, ond sy’n hynod o bwysig ac yn ymwneud â gweithgareddau troseddol eithaf difrifol. Felly, mae’r erlyniadau sydd wedi digwydd wedi bod yn bwysig iawn. Ac mae rhai ohonynt, o ran diogelu bwyd—rwy’n credu bod un yr adroddais yn ei gylch wedi arwain at un unigolyn yn cael dirwy o ychydig dan £3,000, unigolyn arall yn cael 18 mis o garchar gohiriedig, a chamau gweithredu, o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002, i adfer dros £0.25 miliwn. Felly, mae’r rhain yn feysydd difrifol iawn.

Mae yna bwynt pwysig hefyd ynglŷn â’r ffaith ein bod yn cysylltu â’r heddlu—fod y swyddogion gorfodi, lle bo’n briodol, yn cael y lefel honno o ymgysylltiad. Mae hynny hefyd yn bwysig iawn oherwydd bod croesi rhwng rhai o’r troseddau sy’n digwydd mewn perthynas â deddfau Cymru, a meysydd eraill o weithgaredd troseddol hefyd. Felly, mae hynny’n rhywbeth sy’n bwysig.

A wyf fi’n poeni ynglŷn â chymhwyso cod y DU yn hytrach na’n cod ni? Wel, nac ydw. Yr unig god y byddaf yn ei gymhwyso yn y pen draw yw cod erlyn Cymru. Yn amlwg rwy’n gweithio yn yr amgylchedd sy’n bodoli ar hyn o bryd, ond wrth gwrs, unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben a phan fydd cod wedi’i gwblhau ar ôl ystyried yr holl sylwadau hynny, dyna fydd y cod y byddaf yn ei gymhwyso mewn gwirionedd ac y byddaf yn cael fy nwyn i gyfrif mewn perthynas ag ef.

O ran Brexit, colli pwerau—wel, wrth gwrs, safbwynt Llywodraeth Cymru yw gwrthwynebu unrhyw leihad yn y pwerau penodol hynny. Rwy’n sefyll yn gadarn dros hynny. Byddwn yn monitro’n agos iawn yr holl faterion sy’n codi mewn perthynas â Brexit ac unrhyw oblygiadau a fydd yn deillio o hynny. Ar y cam hwn, mae’n rhy gynnar i fod yn fwy manwl na hynny yn ei gylch—dim ond ei fod yn bwynt dilys iawn ac yn un rwy’n edrych arno’n ofalus iawn.

8. 7. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hepatitis C

Mae eitem 7 ar yr agenda, y ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, wedi cael ei gohirio tan 14 Mehefin.

9. 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Felly, symudwn ymlaen at eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar economi Cymru. Galwaf ar Russell George i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6316 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol.

3. Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau gwledig yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig yn enw Paul Davies. Nod ein cynnig yw croesawu’r hwb economaidd i economi Cymru a gyflawnir gan ymrwymiad y Prif Weinidog i gael gwared ar y tollau ar groesfan Hafren a galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yr angen i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhanbarthol mewn ffyniant economaidd, sy’n dal i fodoli yng Nghymru, drwy fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru a chanolbarth Cymru.

Yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, ceir consensws ar draws y Siambr i gefnogi dileu’r tollau ar bont Hafren. Credaf fod y tollau ar y ddwy bont Hafren yn rhwystr economaidd a symbolaidd i Gymru, a dyna pam rwyf wrth fy modd, wrth gwrs, fod y Prif Weinidog wedi gwneud yr ymrwymiad hwn, cam yr amcangyfrifir y bydd yn sicrhau hwb o tua £100 miliwn y flwyddyn i economi de Cymru. Mae’r penderfyniad hwn yn dangos i weddill y byd, wrth gwrs, fod Cymru ar agor ar gyfer busnes.

Mae’r cynnig yn galw hefyd am gydnabod yr angen am fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru a bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru er mwyn sicrhau ffyniant y ddau ranbarth yn y dyfodol. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar hyn. Rwy’n ymwybodol fod Aelodau eraill yn gobeithio cael eu galw i ganolbwyntio ar rannau eraill o’n cynnig.

Mae gan ogledd Cymru gyfuniad o asedau i fod yn rhanbarth ffyniannus yn ein cenedl. Mae ei leoliad daearyddol nid yn unig yn ei wneud yn arbennig o hardd i dwristiaeth Cymru—yn ail yn unig, wrth gwrs, i fy etholaeth yn Sir Drefaldwyn—ond mae yn y sefyllfa orau i ddatblygu cysylltiadau economaidd ag Iwerddon a dinasoedd fel Birmingham, Lerpwl a Manceinion. Ac mae Manceinion, wrth gwrs, fel y gŵyr pawb ohonom, yn ddinas a chymuned sydd wedi dangos cryfder hynod yn ystod y dyddiau diwethaf ac mae’n glod gwirioneddol, rwy’n meddwl, i weddill y Deyrnas Unedig, drwy ei hysbryd a’i phenderfyniad yn wyneb ymosodiad terfysgol erchyll. Ac wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda’r dioddefwyr a’r teuluoedd a gafodd eu dal yn y digwyddiadau brawychus hynny.

Dirprwy Lywydd, y ffaith amdani, rwy’n meddwl, yw bod 1 filiwn o bobl o oedran gweithio yn byw ar y naill ochr i’r ffin, ac yn hytrach nag edrych tua’r de i Gaerdydd, mae pobl a busnesau gogledd a chanolbarth Cymru yn tueddu i edrych tua’r dwyrain tuag at Fanceinion, Lerpwl a chanolbarth Lloegr, o ganlyniad i symudiadau trawsffiniol. Mae’n ffaith bywyd o ddydd i ddydd, ac ni chredaf y dylai’r ffin fod yn rhwystr economaidd. I’r gwrthwyneb, bydd economi gogledd Cymru yn ddi-os yn elwa’n fawr o ffyniant a thwf yng ngogledd Lloegr, gan gynnig cyfleoedd gwaith a busnes i bobl yn rhanbarth gogledd Cymru. Ac mae’r cysylltiad economaidd agos hwn, rwy’n meddwl, yn ei gwneud yn hynod o bwysig sicrhau bod cydweithredu trawsffiniol yn digwydd ar gyflawni prosiectau seilwaith trafnidiaeth, a byddai awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol yn mynd gryn dipyn o’r ffordd, rwy’n meddwl, tuag at sicrhau bod blaenoriaethau seilwaith yn cael eu pennu ar lefel ranbarthol. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn cryfhau’r seilwaith trafnidiaeth o amgylch coridor yr A55, ond ei bod yn mynd ymhellach i adeiladu perthynas waith gryfach, gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a Transport for the North, er mwyn sicrhau bod gogledd Cymru yn rhan annatod o’r rhanbarth economaidd newydd cyffrous hwn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio hefyd at bwysigrwydd datblygu cytundeb rhanbarthol tebyg ar gyfer canolbarth Cymru. Rwy’n credu y byddai bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru yn mynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at ysgogi a chynyddu cynhyrchiant a symudedd cymdeithasol yng nghanolbarth Cymru. Pan ymwelais yn ddiweddar â gwesty Llyn Efyrnwy yn fy etholaeth yn Sir Drefaldwyn i drafod eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, roedd yn amlwg fod angen dybryd am fwy o fuddsoddi mewn marchnata canolbarth Cymru fel cyrchfan benodol ar gyfer twristiaid a buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth a chreu seilwaith telathrebu o’r safon orau fel rhan o fargen dwf canolbarth Cymru i greu economi ffyniannus yng nghanolbarth Cymru. Canolbarth Cymru, sy’n lle hyfyw i wneud busnes, gan sicrhau bod sectorau allweddol megis twristiaeth ac amaethyddiaeth wedi’u cysylltu â pheiriant canolbarth Lloegr.

Felly, er mwyn i’r rhanbarth gyrraedd ei botensial, rhaid i Lywodraeth Cymru ddatganoli ysgogiadau economaidd hefyd, rwy’n meddwl, i ganolbarth Cymru, yn ogystal ag i ogledd Cymru. Rwy’n gweld bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru fel y ffordd orau ymlaen i roi mwy o bwerau i ganolbarth Cymru—cam hanfodol ac angenrheidiol er mwyn adfywio economi canolbarth Cymru, i ddarparu ateb penodol ar gyfer yr ardal gyda’r nod o ysbrydoli twf economaidd dan arweiniad lleol. Felly, cymeradwyaf ein cynnig y prynhawn yma i’r Cynulliad ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau eraill dros yr awr nesaf.

Diolch. Rwyf wedi dewis y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi’r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru.

4. Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu’r tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod blaenoriaeth frys trydaneiddio Llinell Reilffordd Arfordir y Gogledd, Prif Linell Reilffordd De Cymru a Llinellau Rheilffordd y Cymoedd a’u pwysigrwydd o ran ffyniant eu rhanbarthau perthnasol yn y dyfodol.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i’r ardal.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel rydych chi wedi cyfeirio eisoes, rwy’n falch o sefyll yma ac yn symud y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.

Mae Plaid Cymru yn credu y dylid dileu’r tollau ar bontydd Hafren, ac rydym wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd maith, a sicrhau datganoli’r pwerau i alluogi’r pontydd hyn i gael eu rheoli gan y Cynulliad yma. Wedi’r cwbl, dyma sbardun o £100 miliwn i economi Cymru, ac rydym ni eisiau rheolaeth dros y mater hefyd. Mae tollau ar bontydd eraill eisoes wedi’u dileu. Rydym ni’n gwybod am bont dros yr afon Humber yn Lloegr, ac roedd yna gryn gost ynghylch hynny. Mae’r tollau ar bont Ynys Skye yn yr Alban hefyd wedi eu dileu, ac mae pontydd mwy diweddar sydd yn sefyll yn uchel dros yr afon, megis pont Llansawel—Briton Ferry—yn fy rhanbarth i, nid oes yna ddim tollau ar y bont yna. Nid fy mod i’n awgrymu bod angen tollau ar y bont yna chwaith, ond y ffaith ydy bod yna rai pontydd efo M4 yn mynd drostyn nhw sydd efo tollau, a rhai pontydd eraill sydd heb dollau arnyn nhw. Dros y blynyddoedd, yn ôl at bontydd Hafren, rydym ni wedi talu drosodd a throsodd fel trethdalwyr a defnyddwyr y pontydd yma o dan hen gytundeb PFI pontydd Hafren. Dyna anghyfiawnder sydd yn dal i frifo nifer o bobl.

Tra ein bod ni’n sôn am hyn, mae un o’m gwelliannau ni hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgyrchu ac i ymgynghori efo cyngor sir Benfro i ddileu’r tollau ar bont Cleddau yn ogystal. Rŷm ni’n cael gwared ar un lot o dollau, man y man i ni fynd ar rôl a dileu y tollau ar bont Cleddau hefyd. Mae’r un dadleuon yn bodoli dros sbarduno a rhoi hwb economaidd i’r ardal yna hefyd sy’n deillio o ddileu tollau. Mae hynny i gyd yn wir am lannau’r Cleddau hefyd, yn ogystal â de Cymru o ddileu y tollau o bontydd Hafren.

Ond, wrth gwrs, yn ogystal â dileu tollau, mae angen buddsoddi mewn isadeiledd i roi hwb sylweddol i’n heconomi a chreu swyddi i’n pobl ifanc. Dyna sail ein gwelliannau sy’n galw am drydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru o Lundain i Abertawe ar fyrder. Rydw i wedi bod yn sefyll yn fan hyn yn sôn am hyn ers dros 10 mlynedd bellach. Yn ogystal, mae angen trydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y de a rheilffordd arfordir y gogledd. Rydym ni’n dal i aros, a dyna sail un arall o’n gwelliannau ni. Buaswn i’n falch petai pobl yn cefnogi’r rheini hefyd.

Yn olaf, dal i aros ydym ni hefyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud penderfyniad cadarnhaol o blaid ariannu morlyn llanw bae Abertawe. Mae’r dadleuon wedi eu hennill, mae pob plaid yn fan hyn yn cefnogi y syniad arloesol yma, beth am benderfyniad cadarnhaol i hybu economi Cymru? Diolch yn fawr.

Rwy’n falch o gefnogi’r cynnig hwn, ac yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar ran gyntaf cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sy’n ymwneud â phontydd Hafren. Mae’n bosibl y bydd ymrwymiad y Prif Weinidog i ddileu tollau ar bontydd Hafren yn newid pellgyrhaeddol i economi Cymru, gan ddarparu, fel y dywedodd Dai Lloyd, hwb o £100 miliwn, o bosibl. Mae hefyd yn gyffrous iawn i fy etholwyr yn sir Fynwy, sydd â chysylltiadau trawsffiniol agos â de-orllewin Lloegr, a Bryste yn enwedig—cysylltiadau sydd wedi’u rhwystro a’u llyffetheirio gan y tollau ers yn llawer rhy hir.

Wrth gwrs, fel y gŵyr pawb ohonom, mae’r tollau’n rhan o’r cytundeb gwreiddiol gyda’r cwmni a adeiladodd yr ail bont, a agorodd yn 1996—21 mlynedd yn ôl, bellach—sef Severn River Crossings PLC, ac fe’u cynlluniwyd yn wreiddiol i dalu am y gost o adeiladu a chynnal a chadw’r bont newydd a’r bont Hafren a fodolai’n barod. Ond mae diwedd y cytundeb hwnnw sydd ar fin digwydd bellach yn caniatáu i’r pontydd ddod i berchnogaeth gyhoeddus, neu i’r bont newydd ddod i berchnogaeth gyhoeddus ac i’r bont wreiddiol ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Wrth gwrs, un o’r cwestiynau amlwg a leisiwyd oedd, ‘Pwy fydd yn cyllido’r gwaith o gynnal a chadw’r pontydd yn awr?’, felly rydym yn croesawu’r cadarnhad y bydd cyllid yn cael ei amsugno’n rhan o’r costau cynnal a chadw cyffredinol ar gyfer traffordd yr M4.

Amcangyfrifodd adroddiad yn 2012 y byddai cael gwared ar y tollau’n hybu cynhyrchiant 0.48 y cant, a chynnydd o tua £107 miliwn yng ngwerth ychwanegol gros de Cymru. Rydym yn gwybod am y problemau y mae Cymru wedi’u cael gyda gwerth ychwanegol gros; rydym wedi’i grybwyll lawer gwaith yn y Siambr hon—nid yw Llywodraeth Cymru’n hoffi ein clywed yn sôn am y ffigurau gwerth ychwanegol gros, yn enwedig yn ne Cymru a’r Cymoedd. Gwyddom gymaint o broblemau a fu gyda gwerth ychwanegol gros, felly mae’n rhaid i’r penderfyniad hwn, neu’r penderfyniad arfaethedig, gan Lywodraeth y DU gael ei groesawu gan bob plaid yn y Siambr hon.

Yn ôl yn fy etholaeth, yn fy rhan i o Gymru yn Sir Fynwy, mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi nodi’r cynnydd posibl mewn twristiaeth y gallai dileu’r tollau ei hwyluso. Mae’r Cynghorydd Bob Greenland, yr aelod cabinet dros arloesi, menter a hamdden, wedi nodi tystiolaeth arolwg sy’n awgrymu bod 22 y cant o drigolion yn dweud y byddent yn disgwyl teithio i Gymru yn ystod y 12 mis nesaf pe bai’r tollau’n cael eu dileu. Pan ystyriwch fod twristiaeth yn werth £187 miliwn neu oddeutu hynny i economi Sir Fynwy yn 2015, fe sylweddolwch beth yn union y gallai cynnydd o’r fath ei olygu i’r bobl sy’n byw yn fy nghwr i o Gymru ac i economi de Cymru yn ehangach.

Wrth gwrs, mae dileu’r tollau wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol enfawr. Mewn pleidlais symbolaidd yn y Cynulliad hwn yn ôl ym mis Tachwedd 2016, cefnogwyd dileu’r tollau yn unfrydol. Felly, rydym angen i Lywodraeth Cymru weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU yn awr i sicrhau manteision llawn y polisi hwn. Rydym yn aml yn siarad am yr angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio’n agos gyda’i gilydd, ac mae hon yn sefyllfa lle y gall perthynas waith agos o’r fath sicrhau manteision go iawn i dde Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol.

Bydd aelodau eraill o fy ngrŵp ac Aelodau eraill y Cynulliad yn wir yn siarad, rwy’n siŵr, am fanteision bargen dwf gogledd Cymru a rhannau eraill o Gymru, ond hoffwn nodi, fel y soniodd Dai Lloyd, fod yna bontydd eraill yng Nghymru—credaf eich bod wedi sôn am bont Cleddau—sy’n cael eu gweithredu er mwyn gwneud elw ar hyn o bryd. Felly, credwn y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o leihau’r baich hwn i’r economi yn y dyfodol, fel y gall pob rhan o Gymru, nid de-ddwyrain Cymru yn unig, elwa o deithio di-doll. Mae’n iawn i Lywodraeth Cymru, a phleidiau eraill yn wir, i siarad am yr angen i leihau elw mewn perthynas â phontydd Hafren, ond beth am y pontydd eraill? Pan edrychwn draw ar Aberdaugleddau a draw ar rannau eraill o Gymru, beth am ledaenu manteision y tegwch o ddileu tollau i rannau eraill o Gymru? Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet yn gwenu yn y fan acw, ond rwy’n credu bod hyn yn galw am fwy na gwên, mae’n galw am weithredu ar ran Llywodraeth Cymru i—[Torri ar draws.] Mae gennych wên neis iawn, Alun, ond, yn anffodus, nid yw’n ddigon i sicrhau adfywiad economaidd llawn ar draws Cymru, ni waeth sawl gwaith y credwch weithiau ei fod.

Am y tro, gadewch i ni groesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddileu’r tollau ar bontydd Hafren ac edrych ar ffyrdd y gall Alun Davies, y Gweinidog a Gweinidogion eraill weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi cyflawniad y polisi hwn a gweithio i wneud y gorau o’r manteision economaidd llawn i Gymru yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Fel rhywun sy’n byw yng Nghasnewydd, rwy’n gwybod o lygad y ffynnon pa mor bwysig yw’r mater hwn wedi bod dros lawer iawn o flynyddoedd. Mae tollau gormodol Hafren wedi cael eu codi ar bobl sy’n gwneud teithiau hanfodol, ac maent yn dreth ar fusnesau a chymudwyr Cymru. Ers blynyddoedd, mae’r Torïaid wedi anwybyddu erfyniadau busnesau a chymudwyr ar y ddwy ochr i’r pontydd i gael gwared ar y dreth hon yng Nghymru. Mae gennyf enghreifftiau o etholwyr y bu’n rhaid iddynt wrthod cynigion swyddi oherwydd cost y tollau, sy’n cyfateb i bron awr o waith ar yr isafswm cyflog.

Mae pontydd Hafren yn rhan hanfodol o goridor yr M4 o ran seilwaith trafnidiaeth a’r economi. Ar gyfer de Cymru, dyma’r porth i mewn i Gymru. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn glir ynglŷn â phwysigrwydd dileu’r tollau i economi Cymru. Cyn belled yn ôl â 2012, canfu adroddiad gan Lywodraeth Cymru y byddai’n hwb o dros £100 miliwn y flwyddyn i gynhyrchiant. Disgynnodd hynny ar glustiau byddar yn Llywodraeth y DU. Er fy mod yn croesawu’n fawr fod y Torïaid wedi cytuno â pholisi Llafur i gael gwared ar y tollau, mae’n hanfodol ein bod yn edrych yn strategol ar y goblygiadau.

Russell George a gododd—

Canfu adroddiad gan Lywodraeth Cymru pe bai’r tollau’n cael eu dileu, y byddai cynnydd amcangyfrifedig o 12 y cant mewn traffig, sy’n cyfateb i tua 11,000 o gerbydau y dydd. Byddai hyn yn effeithio’n fawr ar dagfeydd yng Nghasnewydd, yn enwedig yn nhwnelau Bryn-glas. Eisoes, amcangyfrifir bod 80,000 o gerbydau’n defnyddio’r bont bob dydd, a bydd unrhyw gynnydd yn gwneud ateb i’r tagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas hyd yn oed yn fwy allweddol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd hyn.

Yr ail bwynt yw’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar brisiau tai yng Nghasnewydd a’r cyffiniau. Mae’r farchnad dai yn ffynnu ym Mryste, gyda phris tŷ cyfartalog oddeutu £290,000. Yng Nghasnewydd, pris tŷ cyfartalog yw £170,000. Mae Casnewydd yn lle gwych i fyw ynddo ac i ymweld ag ef. Mae gan y ddinas lawer o barciau hyfryd, mannau gwyrdd, amrywiaeth o safleoedd hanesyddol, ac mae wedi cael hwb yn sgil ailddatblygu canol y ddinas yn Friars Walk. Mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog ac ysbryd cymunedol cryf.

Mae’r cyfuniad o brisiau tai rhatach, dileu’r tollau, ac atyniad Casnewydd fel lle i fyw—gallem weld cynnydd yn nifer y bobl sy’n symud o Fryste i Gasnewydd. Bydd hyn yn effeithio’n ddramatig ar brisiau tai lleol. Yn wir, ceir tystiolaeth eisoes fod rhannau o Sir Fynwy sy’n agos at y pontydd wedi gweld cynnydd sydyn yn y prisiau. Mae hyn, wrth gwrs, yn newyddion gwych i berchnogion tai lleol, ond rhaid inni gofio a gofalu nad yw pobl leol, yn enwedig pobl ifanc, yn cael eu prisio allan o brynu tŷ yn yr ardal y cawsant eu magu ynddi. Er bod Cyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau, nid oes digon o dai fforddiadwy yng Nghasnewydd o hyd. Gallai prisiau tai’n codi dros gyfnod cymharol fyr o amser waethygu’r sefyllfa hon.

Ac yn olaf, er fy mod yn croesawu newid meddwl y Torïaid ar hyn yn fawr iawn, gallai rhai ddweud mai gêm etholiadol sinigaidd ydyw, gyda thro pedol arall. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi bod yn llusgo’u traed ers llawer gormod o amser. Mae rhai Aelodau yma yn newydd iawn i’r mater, a hoffwn dalu teyrnged i’r Aelodau Llafur yn arbennig, dros nifer o flynyddoedd, sydd wedi ymgyrchu ar y mater hwn—

Russell George a gododd—

[Yn parhau.]—yn enwedig John Griffiths, Paul Flynn, Jessica Morden a Rosemary Butler. Ewch ymlaen. Fe gymeraf ymyriad; mae gennyf amser.

Ym maniffesto’r Ceidwadwyr—maniffesto Theresa May—a fyddech yn derbyn ei bod wedi gwneud ymrwymiad llwyr a phendant mewn perthynas â phontydd Hafren, ond bod Llafur—. Ym maniffesto Jeremy Corbyn, y cyfan a ddywedwyd yno oedd—roedd yno led ymrwymiad, ‘Byddwn yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth Cymru’. Onid ydych yn derbyn bod ymrwymiad pendant llawer cadarnach ym maniffesto Theresa May?

Nid wyf yn credu bod hynny’n rhywbeth roeddech yn ei ddweud ychydig fisoedd yn ôl. Yn wir, darllenais ddyfyniad gennych ychydig fisoedd yn ôl hyd yn oed lle roeddech wedi gostwng y prisiau’n eithaf—. Cafwyd ffigur mympwyol, rwy’n meddwl, yn seiliedig ar ddim byd pendant. Tro pedol arall; nid wyf yn hollol siŵr y bydd y cyhoedd yn ei gredu. Beth bynnag, er—[Torri ar draws.] Nid ydynt ar eu pen eu hunain. Rwy’n credu ei bod ond yn deg ac yn iawn inni gydnabod record hirsefydlog Aelodau fel John Griffiths, Rosemary Butler, Paul Flynn a Jessica Morden, fel y dywedais, sydd wedi gweithio’n galed ers blynyddoedd lawer ar eu hymrwymiad hirsefydlog a diysgog i ddileu’r tollau. 

Wrth gwrs, rwy’n ddigon hen i gofio’r dyddiau cyn y bont, pan fyddem yn gyrru ar draws mewn cwrwgl, neu felly yr ymddengys wrth edrych yn ôl yn awr, ac rwy’n cofio’n dda—[Torri ar draws.] Rwy’n cofio seremoni agoriadol swyddogol y bont ei hun yn dda. Gallaf groesawu newid meddwl fy ffrindiau Ceidwadol ar y mater hwn. Ychydig fisoedd sydd, wrth gwrs, er pan oeddent yn mynegi pob math o wrthwynebiadau gorfanwl i’r polisi y maent bellach yn ei arddel. Fel y mae’r Gweinidog dysgu gydol oes, o’i eistedd, wedi’i ddweud yn graff ac yn ddireidus, mae’r blaid Geidwadol wedi cael troëdigaeth at wladoli fel egwyddor. Nid wyf lawn mor siŵr fod hynny’n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu, ond serch hynny mae’n dangos pa mor hylif yw gwleidyddiaeth heddiw.

Dim ond y tro pedol diweddaraf yw hwn dan law Theresa May, wrth gwrs, sy’n ‘Theresa May’ un diwrnod, ac efallai’n ‘Theresa May Not’ y nesaf, yn achos y newidiadau gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Yn wir, mae’r etholiad cyffredinol a gawn yn awr yn dro pedol ynddo’i hun, am ei bod, heb fod mor bell yn ôl â hynny, yn dweud, ‘Yn bendant, ni allwn gael un nes 2020—cwbl ddiangen.’ Ond erbyn hyn mae’n angenrheidiol. Serch hynny, rydym yn croesawu’r pechadur sy’n edifarhau, ac wrth gwrs, mae dileu’r tollau a’r oedi sy’n gysylltiedig â’u talu yn mynd i fod yn beth da iawn i dde Cymru.

Fel y gwyddom, de Cymru, ac yn enwedig de-orllewin Cymru yn fy rhanbarth, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd â rhai o rannau tlotaf gorllewin Ewrop. A chyda gwerth ychwanegol gros yng Nghymru yn ddim ond 75 y cant o’r cyfartaledd cenedlaethol—cyfartaledd y DU—yn amlwg, mae’n rhaid gwneud rhywbeth. Pwerau cyfyngedig yn unig sydd gan Lywodraeth Cymru—pwerau economaidd—i wella cyflwr yr economi yng Nghymru. Mae bod heb bŵer i amrywio treth gorfforaeth yn gyfyngiad sylweddol, yn amlwg, ar ei phŵer i wneud lles, ac mae cael gwared ar yr ataliadau seilwaith hyn ar wneud busnes ffyniannus yng Nghymru yn hanfodol bwysig er mwyn newid y cefndir economaidd rydym wedi byw gydag ef ar hyd ein bywydau a natur ddigalon yr economi yn rhai o rannau mwy dirwasgedig y wlad. Felly, dyma lygedyn llachar o olau yn y tywyllwch, ac rwy’n siŵr y caiff groeso ar bob ochr. Nid wyf yn gwybod lle mae’n gadael Russell George, a ddatblygodd yr achos dros hyn mor effeithiol yn ei araith, er ei fod yn annog gofal ychydig fisoedd yn ôl ynglŷn â sut oedd talu am y cyfan a beth am faint y traffig a’r effaith, fel y soniodd Jayne Bryant mor huawdl funud yn ôl. Mae hynny i gyd wedi diflannu yn awr yn heulwen y gwanwyn. Fe ildiaf.

Efallai y cofiwch fod pleidlais wedi’i chynnal ar hyn, a bod y grŵp hwn yma wedi cefnogi’r cynnig a gyflwynwyd gennych ar hyn.

[Yn parhau.]—y dylai eich pleidlais ddilyn eich llais. Ac yn y ddadl honno, rwy’n meddwl bod rhywfaint o amrywio rhwng y ddau. Mae’n ddigon posibl fod y grŵp Ceidwadol wedi cael ei heintio gan bobl yn newid eu plaid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Os felly, mae hynny i’w groesawu, oherwydd gallai fod newidiadau eraill i ddod yn y man heb unrhyw amheuaeth. Ond mae’n hanfodol bwysig i economi gyfan de Cymru, ac mae’r cysylltiadau a gafodd eu crybwyll yn araith Nick Ramsay rhwng Bryste a Sir Fynwy yn bwysig iawn. Mae’n bwysig iawn ar gyfer y dyfodol ein bod yn datblygu hynny ac nad ydym yn ynysu ein hunain draw ar yr ochr hon i bont Hafren, sef un o’r rhesymau pam y credaf y byddai annibyniaeth wleidyddol i Gymru yn gymaint o drychineb. Pe bai gennym ffin galed yr holl ffordd i lawr Clawdd Offa byddai hynny, wrth gwrs, yn negyddu llawer iawn o’r manteision a ddaw o gael gwared ar y tollau. Rydym yn clywed llawer gan Blaid Cymru am y gofid a’r gwae sy’n debygol o godi o Brexit caled, ond byddai telerau caled wrth adael y DU yn llawer iawn gwaeth o gofio bod economi Cymru’n dibynnu llawer mwy ar economi’r Deyrnas Unedig nag y mae ar yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig yn gynnes y prynhawn yma. Mae’n debyg fod hynny’n talu nôl am eu cefnogaeth i gynnig UKIP yn y termau hyn y cyfeiriodd Russell George ato eiliad yn ôl, a gawsom mewn dadl yn y Siambr hon ychydig fisoedd yn ôl.

Nid yn unig y cefnogodd y grŵp Ceidwadol fy nghynnig ym mis Tachwedd 2016 i gael gwared ar y tollau ar ôl iddynt ddychwelyd i’r sector cyhoeddus, ond deddfodd Llywodraeth Geidwadol yn 1992, y credaf efallai fod yr Aelod blaenorol wedi bod yn Weinidog ynddi, i ddileu’r tollau ar ôl i’r pontydd gael eu dychwelyd i’r sector cyhoeddus. Rwy’n credu mai un peth rwy’n ei groesawu’n fawr dros ben am y penderfyniad hwn, y mae’r Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Gwladol, ac a dweud y gwir, y grŵp hwn yn ogystal—yn ogystal ag eraill yn y Cynulliad—yn haeddu llawer o glod amdano, mewn gwirionedd, yw bod gwleidyddion yn gwneud yr hyn y maent wedi’i addo. Wedi dweud hynny, o dan Ddeddf Pontydd Hafren, ‘Caiff y bont ei hadeiladu gan y sector preifat. Byddwch yn gallu codi tollau arni hyd nes y bydd swm penodol yn cael ei godi. Mae’n dychwelyd i’r sector cyhoeddus, ac yna byddwn yn gweld y tollau’n cael eu dileu’, rydym yn gwneud hynny, a chredaf fod hynny’n dda iawn i hygrededd gwleidyddion, yn enwedig pan fyddant yn ceisio ariannu a datblygu seilwaith. Yn sicr, mae’r syniad a awgrymwyd gan Alun Davies, o’i eistedd rwy’n meddwl, fod hyn yn wladoli yn un hurt. Y gwrthwyneb sy’n wir. Mae’r sector preifat wedi adeiladu’r bont hon—y bont ddeheuol—dan ddarpariaethau’r sector cyhoeddus a Deddf Pontydd Hafren, yn amodol ar ei rhoi i’r sector cyhoeddus pan fo swm penodol wedi’i godi. Mae hynny’n digwydd, ac mae Llywodraeth y DU, mae’n bleser gennyf ddweud, yn ysgwyddo ymrwymiad llawn i gynnal a chadw’r pontydd hynny o gyllideb Highways England. Rwy’n credu ei fod yn newyddion gwirioneddol wych. Rwyf hefyd yn credu y gall y budd i economi Cymru fod hyd yn oed yn fwy na’r hwb o £107 miliwn a awgrymwyd mewn adroddiad a luniwyd rai blynyddoedd yn ôl bellach, rwy’n credu, gan fod pethau wedi symud ymlaen ers hynny. Mae’r economi’n gryfach, yn enwedig ar hyd coridor yr M4. Mae’r hyn a welsom ar ffurf ffyniant a chreu swyddi ym Mryste wedi bod yn gryf iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rwy’n meddwl hefyd fod hyder wedi dychwelyd i Gymru a rhanbarth de-ddwyrain Cymru rwy’n ei gynrychioli, ac rwy’n credu bod cael gwared ar y tollau hyn, ynghyd â thrydaneiddio a gwella’r rheilffordd—15 neu 20 munud yn gyflymach i gyrraedd Llundain ar ôl cwblhau’r trydaneiddio, a ffordd liniaru’r M4 gobeithio—. Ac mae’n bwynt pwysig y bydd mwy o dagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas ar ôl dileu’r tollau, ac mae’n bwysicach byth ein bod yn bwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu’r ffordd liniaru. Ond yn gyfunol, rwy’n credu, a hefyd gyda metro de Cymru, bydd y rhain oll gyda’i gilydd yn newid yr hyn sydd wedi bod ers amser hir yn ganfyddiad annheg, rwy’n meddwl, i’r graddau y gallai eraill mewn mannau eraill ei arddel, fod yna bellter heb sôn am unrhyw bellenigrwydd yn perthyn i dde Cymru. Ond pan fyddwch yn lleihau’r amseroedd teithio, rwy’n meddwl y byddwch yn cysylltu economi de Cymru yn llawer agosach â choridor yr M4, gyda Bryste, a chyda Llundain, gyda’r gwerth ychwanegol gros llawer uwch a welwn yn yr ardaloedd hynny, ac rwy’n credu y bydd hwb enfawr i economi de Cymru. Rwy’n credu ei bod yn wych fod y Siambr hon wedi pleidleisio’n unfrydol i gael gwared ar y tollau a bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn awr yn cyflawni hynny.

Hoffwn siarad yn fyr hefyd am ran arall y cynnig, am fargen dwf gogledd Cymru. Rwy’n credu ei bod yn galonogol iawn fod Llywodraeth y DU yn datblygu dull mwy hyblyg byth o drefnu’r bargeinion twf hyn. Mae gwahaniaeth wedi bod yn yr hyn sydd wedi’i ddatganoli rhwng gwahanol ranbarthau a hefyd faint o arian a gyfranwyd gan y Llywodraeth ganolog. Am gyfnod, rwy’n credu, roedd gofyniad fod yn rhaid i ardaloedd gael maer etholedig ar gyfer y rhanbarth metro os oeddent yn dilyn y llwybr hwnnw. Mae hynny bellach wedi’i ddileu, ar gyfer ardaloedd gwledig o leiaf neu ardaloedd trefol a gwledig yn gymysg, rwy’n credu, a gobeithio y bydd i ba raddau y mae hynny’n ddewis neu’n rhywbeth sy’n iawn i ogledd Cymru yn cael ei yrru gan ogledd Cymru a’r hyn y mae pobl yno yn ei feddwl o’r cynnig.

Ond rwy’n credu bod yr hyblygrwydd yn arbennig o bwysig i ogledd Cymru gan nad oes unman yn fwy na Glannau Dyfrdwy, hyd yn oed gyda’r cysylltiadau rhwng Casnewydd a Bryste—. Rwy’n credu bod crynhoad o weithgaredd economaidd ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr o amgylch Glannau Dyfrdwy yn hynod o bwysig ar gyfer creu ffyniant y rhanbarth yn y dyfodol, ond hefyd rwy’n credu ei fod yn ei gwneud hi’n anodd iawn cael ffin genedlaethol, mewn rhai ffyrdd, yn rhedeg drwy’r grynodref honno. Hyd yn oed os na allwn gael bargen dwf sy’n croesi ffin, rwy’n gobeithio y bydd bargen dwf gogledd Cymru yn arbennig o sensitif i’r anghenion penodol, o ystyried pa mor agos y mae’r economi yn y rhannau hynny wedi’i hintegreiddio. Er bod hyblygrwydd mawr, rwy’n credu, ar ran Llywodraeth y DU, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yr un mor hyblyg ac y bydd derbyniad go iawn na ddylai datganoli ddod i ben ym Mae Caerdydd. Ar gyfer gogledd Cymru yn arbennig, yn ogystal â’r cyfeiriadau at ganolbarth a gorllewin Cymru, mae angen sensitifrwydd ac mae angen atebion penodol sy’n mynd i fod yn iawn ar eu cyfer hwy, yn union fel y bydd dileu’r tollau ar bontydd Hafren yn iawn i dde Cymru.

Yn yr un modd ag y mae cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop yn cymryd casgliad penodol o feini prawf i rannu Cymru’n ddwy ran, felly hefyd y mae model y fargen ddinesig, er ei holl fanteision, mewn perygl o wneud yr un peth. Mae’n anodd dychmygu, a dweud y gwir, sut y bydd y rhan fwyaf o Bowys yn teimlo effeithiau y buddsoddiad trefol mawr yng Nghymru ei hun. Mae Russell George yn llygad ei le yn sôn am yr hyblygrwydd a’r gallu i ddechrau edrych tua’r dwyrain. Nid yng ngogledd Cymru yn unig, Mark Reckless, y mae angen yr elfen honno o hyblygrwydd.

Rai blynyddoedd yn nes ymlaen, ar ôl Brexit, mae’n bosibl y bydd polisi rhanbarthol wrth gwrs yn edrych yn wahanol iawn wrth inni ddod o hyd i ysgogiadau strategol a chynllunio mewn mannau annisgwyl. Efallai y bydd yr union gysyniad o gymorth rhanbarthol wedi’i lunio gan ystyriaethau nad ydym o bosibl wedi dechrau eu harchwilio eto hyd yn oed. Ni chawn fwy o gydbwysedd yn yr economi yng Nghymru, nac yn y DU, os ydym ond yn efelychu’r hyn a wnawn o dan strwythurau’r UE. Ond yn y tymor byr i ganolig, mae Cymru’n gywir i fanteisio ar bolisi rhanbarthol y DU i wneud y gorau o botensial y ddwy fargen ddinesig a bargen dwf gogledd Cymru.

Mae’n gyfle bendigedig i ddangos sut y gall Llywodraethau ac awdurdodau lleol o wahanol liwiau gwleidyddol weithio gyda phwrpas cyffredin. Os yw ffraeo lleol neu uchelgais ddi-fflach, neu hyd yn oed ddiffyg hyder yn golygu bod y cyfleoedd euraidd hyn yn cael eu gwastraffu, yna mae’n gwneud datganoli ac unrhyw honiad a wnawn ein bod yn feddylwyr mawr mewn gwlad fach yn destun sbort.

Ac yn y tymor byr i ganolig, mae angen i ni gadw ein llygaid ar annhegwch yng Nghymru a chofio, er yr holl ffocws sydd i’w groesawu ar y fargen ddinesig yn fy rhanbarth, nid yw’n fantais i fy etholwyr os yw eu cymdogion gwledig i’r gogledd yn dod i’r casgliad na allant fyw ar olygfeydd ac anelu tua’r de yn llu i swyddi, ysgolion, a thai y bydd y fargen ddinesig yn eu hybu, ond nad ydynt yno eto.

Felly, rwy’n talu teyrnged i Russell George, a ddechreuodd archwilio nôl yn y Cynulliad diwethaf sut beth fydd bargen wledig yng Nghymru. Rwy’n falch fod y syniad yn codi stêm, fel yn wir y mae ymgyrch hirsefydlog Paul Davies ar y tollau ar bont Cleddau yn codi stêm. Yn yr ysbryd hwnnw o bwrpas cyffredin y dywedaf pa mor siomedig ydwyf wrth weld gwelliannau’r Llywodraeth mewn perthynas â thollau pontydd Hafren. Er fy mod yn falch iawn o ddweud fod Jayne Bryant wedi dweud ei bod yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog ar hyn, gan nad yw ein cynnig yn honni mai eiddo deallusol y Prif Weinidog yn unig yw’r syniad o bont Hafren ddi-doll. Yn syml iawn, mae’n gwahodd yr Aelodau i groesawu ei hymrwymiad i wneud hyn, ymrwymiad sy’n dod gan rywun a fydd mewn sefyllfa i gael gwared ar y tollau hynny mewn gwirionedd. Trwy ddileu’r pwynt hwnnw, nid yw Llywodraeth Cymru yn croesawu ymrwymiad y gellir ei gyflawni gan Lywodraeth y DU er lles Cymru mewn gwirionedd, a’i bod yn well ganddynt bwdu am na chawsant gyfle i weiddi. Fe golloch y cyfle hyd yn oed i sôn am farn Jeremy Corbyn ar y tollau, felly rwy’n tybio naill ai nad ydych yn rhagweld y bydd mewn sefyllfa i gyflawni hynny, neu nad ydych yn gallu dioddef y syniad mai ef sy’n ceisio bod mewn sefyllfa i gyflawni hynny.

Ac felly dof at welliant 3, y byddwn yn ei gefnogi. Gobeithio nad oes angen i mi ailadrodd bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo’n llwyr i forlyn llanw Abertawe, yma ac yn y Senedd, ac mae’r Prif Weinidog wedi bod yn ddigon cwrtais i gydnabod hynny yn y Siambr hon yn ddiweddar iawn. Mae dadleuon ar draws yr ystod o’i effaith fel catalydd ar gyfer cynhyrchu ynni glân dibynadwy, i’w effeithiau fel catalydd ar gyfer adfywio economaidd yn y wlad hon, i’w effaith fel catalydd ar ein henw da yn y llygaid y byd—mae’n gwbl amlwg. Ond er hynny, ni allwn fynd ati’n gyfleus i gael gwared ar yr oriau o ddadleuon a wnaed gan bob plaid a’r ddwy Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gostwng costau ynni ar gyfer diwydiant a chapio prisiau ynni, a gydbwyswyd â dadleuon eraill sy’n dangos diddordeb cynyddol mewn cyflenwad ynni diogel ac aer glân. Mae’r cydbwysedd hwnnw’n anodd ei reoli, mae’n anodd dod o hyd iddo ac mae’n galw am ei drin yn ofalus gan Lywodraeth gyfrifol. Y peth olaf sydd ei angen ar y morlyn llawn yn awr yw Corbynomeg. Mae plymio i mewn ar y pwynt hwn a dweud ‘Rhowch y morlyn llawn i ni ar unrhyw gost’ yn gyfystyr ag ildio. Mae’n gyfystyr â dweud nad oes gan y cwmni na Llywodraeth y DU—na Llywodraeth y DU—ragor i’w gynnig ar hyn i’n cael yn nes at y cydbwysedd bregus hwnnw a bod cydbwysedd yn golygu penderfyniad cadarnhaol ar gyllido.

Nawr, efallai y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi helpu gydag ychydig mwy na hynny yn ôl pob tebyg—nid wyf yn gwybod, rhywbeth fel cyllid rhatach drwy ffrydiau Llywodraeth Cymru efallai yn hytrach na buddsoddiad preifat 100 y cant. O ddifrif, nid wyf yn gwybod—mae hi ychydig yn hwyr bellach, beth bynnag—ond lle y gall Llywodraeth Cymru weithredu yw drwy sicrhau bod yr amserlen ar gyfer rhoi trwyddedau morol yn cyd-fynd â’r amserlen ar gyfer y prosiectau mawr y mae angen y trwyddedau hynny ar eu cyfer. A’r tro hwn—

David Rees a gododd—

Nid oes gennyf ond 20 eiliad, mae’n ddrwg gennyf, David. Y tro hwn, mae’r cynnydd araf yn Llundain wedi cuddio oedi difrifol yma, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn falch os mai cyfrifoldebau datganoledig fyddai’r unig reswm dros oedi ar y morlyn llanw. A chydag Wylfa B o’n blaenau, nid wyf yn credu mai am drwyddedau morol y dylai pawb ohonom fod yn siarad yn nes ymlaen.

Diolch, Llywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau heddiw ac am roi cyfle i mi ymateb i’r ddadl hon? Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl benderfynol o ledaenu ffyniant, twf a chyfle ledled Cymru i greu ffyniant i bawb, a dyna yw’r sylfaen ar gyfer y gwaith o adnewyddu ein strategaeth economaidd a datblygu economi pob rhanbarth. Mae tollau pontydd Hafren, o ystyried eu pwysigrwydd strategol i Gymru, yn rhan hanfodol o’r meddwl hwn. Rydym wedi bod yn trafod yn rheolaidd â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r tollau i sicrhau mai’r trefniadau yn y dyfodol fydd y fargen orau i Gymru ac rydym wedi gwneud yn glir ar sawl achlysur fod y tollau ar y bont yn dreth annheg ar ein pobl ac ar ein busnesau. Mae’n rhwystr i weithgarwch busnes ar draws y bont, gan lesteirio twf yng Nghymru a gweithredu fel rhwystr i fewnfuddsoddi, fel y mae’r Aelodau wedi nodi. Yn benodol, mae’r tollau yn effeithio’n andwyol ar fusnesau bach sy’n awyddus i weithredu yn ne-orllewin Lloegr, yn ogystal â’r rhai sy’n cymryd rhan yn y sector twristiaeth, y sector logisteg a’r sector trafnidiaeth, sy’n dibynnu’n helaeth ar gysylltiadau croesfannau’r Hafren yn eu busnesau.

Mae nifer o’r Aelodau wedi nodi ein hastudiaeth yn 2012—yr un a gomisiynwyd gennym—a ddaeth i’r casgliad y byddai dileu’r tollau’n arwain at gynnydd o £107 miliwn yng ngwerth ychwanegol gros de Cymru. Er bod gwerth ychwanegol gros wedi tyfu’n gyflymach yng Nghymru nag ar draws y DU fel cyfartaledd yn y cyfnod diweddar, credwn y byddai’r cynnydd yn y gwerth ychwanegol gros yn sgil dileu’r tollau’n rhoi hwb enfawr i’r economi ranbarthol. Byddwn yn cytuno gyda Mark Reckless hefyd y gallai’r swm fod yn fwy na £107 miliwn, ac rwyf hefyd yn croesawu ei honiad fod yr economi heddiw bellach yn gryfach ar hyd yr M4, a bod yna hyder yn dychwelyd i dde Cymru—ac mae’r diolch am hynny, wrth gwrs, i’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru.

Er gwaethaf cefnogaeth y Ceidwadwyr yn San Steffan bellach i ddileu’r tollau, y tro diwethaf i ni drafod pontydd Hafren yma yn y Siambr, roedd gwrthwynebiad Llywodraeth y DU i ddileu’r tollau yn glir iawn. Ond rwy’n falch o weld bod y safbwynt gwan a sigledig a fabwysiadwyd gan y Prif Weinidog o’r diwedd, er yn anfoddog, wedi newid yn safbwynt gwell—un a gefnogwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru ers llawer iawn o flynyddoedd.

Roeddech yn dweud bod hyn wedi cael ei gefnogi ers llawer iawn o flynyddoedd. Pan ofynnais i Brif Weinidog Cymru, dywedodd ei fod wedi cael ei gefnogi ers maniffesto Llafur yn 2016. Rwy’n credu cyn hynny, ei fod wedi awgrymu cadw’r tollau i dalu am y ffordd liniaru.

Llawer iawn o fisoedd—a dwy flynedd, yn wir. Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am arddel safbwynt cyson iawn ar y mater hwn ei hun? Nid yw wedi arddel safbwynt mor gyson ynglŷn â pha blaid wleidyddol y dylai fod yn aelod ohoni, ond ar y mater hwn, mae wedi parhau’n gyson iawn yn wir. 

Gan droi at ein blaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru, dylwn ddweud fy mod yn falch iawn o allu bod yn bresennol yn gynharach heddiw yng nghyfarfod cyntaf grŵp gogledd Cymru ar faterion trawsffiniol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn, lle buom yn trafod nifer o faterion pwysig a wynebir gan y rhanbarth ac sy’n rhaid i ni eu hwynebu yma yn y Cynulliad yn y blynyddoedd i ddod. Fy marn i—ac rwy’n rhannu safbwynt Russell George yn ei honiad ynglŷn â photensial yr economi drawsffiniol—yw bod yn rhaid i gais bargen dwf gogledd Cymru gydblethu â’r fargen dwf sy’n dod i’r amlwg ar ochr Lloegr i’r ffin drwy Bartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington. Rhaid iddynt ategu ei gilydd a rhaid iddynt hefyd geisio adeiladu ar alluoedd presennol ardal drawsffiniol rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy a gogledd Cymru.

Rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol i’r achos dros fargen dwf gogledd Cymru gael ei gynnal—un sy’n adlewyrchu natur drawsffiniol yr economi. O ran trafnidiaeth yn unig—ac mae trafnidiaeth yn elfen hollbwysig o’r fargen dwf, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth—mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru eisoes wedi ymrwymo i wario dros £200 miliwn ar ddatrys coridor Glannau Dyfrdwy, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol. Nododd Mark Reckless ardal Glannau Dyfrdwy fel peiriant pwysig ar gyfer economi Cymru. Wel, mae’r un llwybr hwnnw—yr A494—yn hollbwysig ac angen ei uwchraddio, ac rwy’n falch iawn o fod yn ymgynghori â’r cyhoedd ar y ddau argymhelliad a ddatblygwyd gennym ar gyfer yr A494 a’r A55. Ond rydym hefyd yn ystyried buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd mewn seilwaith rheilffyrdd, er nad ydym yn gyfrifol amdano—Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am hynny—er mwyn gwella capasiti yng ngogledd-ddwyrain Cymru, datblygu’r cysyniad metro, ond gan edrych hefyd ar fuddsoddi symiau sylweddol i ddatrys mannau cyfyng yn y rhwydwaith cefnffyrdd ac wrth gwrs, bwrw ymlaen â thrydedd groesfan bwysig ar gyfer y Fenai. Wrth gwrs, yr hwb unigol mwyaf y gellid ei roi i economi gogledd Cymru fyddai trydaneiddio prif reilffordd y gogledd, ond rwy’n ofni na wnaed addewid ar hynny eto gan Lywodraeth y DU, yn sicr nid yn y dyfodol agos.

Gan ddychwelyd at gyfraniad Russell George, roeddwn yn meddwl bod ei gyfraniad ar ganolbarth Cymru yn benodol yn gwbl allweddol. Mae cysylltiadau gogledd-de yn hanfodol i’r economi ac mae canolbarth Cymru yn gwneud cyfraniad hollbwysig i ddiwylliant ac economi Cymru. Rwyf hefyd yn credu, er bod y cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de yn arwyddocaol yn wir, mae hynny’n wir am gysylltiadau dwyrain-gorllewin hefyd. Rwy’n gweld tri bwa sylfaenol o ffyniant yn dod i’r amlwg ar gyfer Cymru: un sy’n croesi gogledd Cymru, un sy’n croesi canolbarth a gorllewin Cymru a thrydydd bwa sy’n rhychwantu de Cymru—a gallai pob un o’r tri elwa o gydweithredu a chysylltiadau trawsffiniol. Rwy’n awyddus iawn—

Andrew R.T. Davies a gododd—

Mewn munud. Rwy’n awyddus iawn, o ran cefnogi canolbarth Cymru, i edrych ar sut y gallwn hybu gweithgareddau Tyfu Canolbarth Cymru, sy’n bartneriaeth bwysig. Yn sicr, mewn perthynas â bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru, byddwn yn awyddus iawn, fodd bynnag, i weld beth y mae Llywodraeth y DU, beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl 8 Mehefin, yn bwriadu ei gyflwyno mewn gwirionedd yn rhan o gynnig ehangach o fargeinion twf, o bosibl, ar gyfer y DU. Fe gymeraf ymyriad gan arweinydd y Ceidwadwyr. 

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn yr ymyriad ac yn arbennig, ei bwyslais ar Gymru gyfan—canolbarth a gogledd Cymru yn ogystal. Os caf dynnu ei sylw’n ôl at dde-ddwyrain Cymru, mae’n newyddion gwych fod y Ceidwadwyr—ac yn wir, rwy’n meddwl bod consensws bellach, yn wleidyddol, ar draws y pleidiau fod angen dileu tollau ar bont Hafren. Ond mae yna broblem go iawn, fel y clywsom gan yr Aelod dros Orllewin Casnewydd, gyda phrisiau tai cymaint yn is ar yr ochr hon i bont Hafren, a’r gweithgaredd economaidd enfawr sy’n digwydd yn ardal Bryste ac yn wir, yn ardal y de-orllewin yn ehangach mewn gwirionedd, bydd cyfoeth yn eich bwa o ffyniant yn teithio allan o Gymru a ninnau’n dod yn ardal gymudo yn y pen draw. Hoffwn ddeall sut y mae’r adran yn mynd i weithio gydag awdurdodau lleol, a busnesau’n arbennig, er mwyn sicrhau bod busnesau’n ymsefydlu yma i wthio cyflogau i fyny, ac nad ydym yn ddim mwy nag ardal noswylio.

Dyma’n rhannol yr oeddwn yn mynd i ddod ato yn fy mhwynt olaf: elfen strwythurol bwysig economi Cymru sy’n rhaid ei datrys yn rhan o strategaeth economaidd newydd. Mae angen i ni sicrhau bod cynhyrchiant yn cynyddu. Mae angen i ni sicrhau bod ein sylfaen weithgynhyrchu, yn arbennig, yn cael ei diogelu at y dyfodol yn erbyn awtomeiddio. Ac yn hanfodol, o ran osgoi cymunedau noswylio, ein bod yn codi lefelau sgiliau pobl Cymru er mwyn gallu sicrhau mwy o waith, mwy o fanteision economaidd buddsoddiadau seilwaith, nid yn unig fel tiriogaeth noswylio sy’n gwasanaethu’r de-orllewin, ond ar gyfer de-ddwyrain Cymru ac yn wir, y cyfan o dde Cymru. Ein bwriad tanbaid yw sicrhau, drwy ddull newydd o ddatblygu economaidd sy’n seiliedig ar leoedd, gan weithio gydag arweinwyr y bargeinion dinesig yn y de a’r fargen dwf yn y gogledd ac o bosibl, bargen dwf yn y canolbarth, ein bod yn symud tuag at greu cyfleoedd i dyfu cyfoeth ar draws Cymru, a sicrhau ffyniant i bawb.

Diolch. Diolch i bawb sydd wedi siarad yn y ddadl hon. Diolch i Russell George am agor hyn drwy groesawu’r hwb economaidd i economi Cymru sy’n cael ei gyflawni drwy fod Llywodraeth y DU yn dileu’r tollau ar bontydd Hafren, gan ddangos bod Cymru ar agor ar gyfer busnes. A hefyd am bwysleisio’r angen am fargeinion twf gogledd a chanolbarth Cymru, lle mae pobl a busnesau yng ngogledd a chanolbarth Cymru, nid yn unig yn edrych i’r de tuag at y Llywodraeth, ond o ran eu bywyd economaidd a chymdeithasol, eu bod yn edrych tua’r dwyrain o ran eu symudiadau trawsffiniol, a hefyd i’r gorllewin i Iwerddon. Fel y dywedodd, mae angen inni gadarnhau gogledd Cymru fel rhan gynhenid o ranbarth economaidd trawsffiniol cyffrous sydd wedi’i gysylltu â Phwerdy Gogledd Lloegr. Dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatganoli ysgogiadau economaidd i ganolbarth Cymru hefyd.

Roedd Dai Lloyd yn cefnogi dileu tollau pontydd Hafren a datganoli pwerau i’r rhanbarthau Cymreig—mae’n galonogol iawn clywed hynny—a rhannodd ei wybodaeth drylwyr am dollau pontydd ar draws Prydain. Rwy’n awgrymu ei fod yn ysgrifennu mwy am hynny; byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen am hynny. Wrth gwrs, nid oes unrhyw dollau ar bont Menai, ond mae angen trydedd groesfan ar draws y Fenai, rhywbeth y cyfeiriodd Ken Skates ato, wrth gwrs. Mae bron i ddegawd ers i Lywodraeth Cymru gomisiynu’r adroddiad annibynnol diwethaf a wnaeth argymhellion ar yr opsiynau ar gyfer hynny. Mae’n drueni ein bod wedi gorfod aros cyhyd i weld y diwrnod ailadroddus hwn yn cyrraedd eto fyth, ond rwy’n gobeithio y caiff dyhead y Gweinidog i gael penderfyniad ar gyfer symud ymlaen erbyn 2021 ei wireddu i bawb. 

Clodforodd Dai Lloyd rinweddau morlyn llanw bae Abertawe, fel y gwnaeth sawl un arall, a phwysleisiodd yr angen i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a rheilffordd arfordir gogledd Cymru, rhywbeth y mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn ei gefnogi’n gryf.

Cyfeiriodd Nick Ramsay unwaith eto at benderfyniad y Prif Weinidog i ddileu tollau ar bont Hafren fel rhywbeth a fydd yn newid pellgyrhaeddol, gyda rhagolygon cyffrous i bobl ac economi Sir Fynwy. Cyfeiriodd at ffigurau gwerth ychwanegol gros yng Nghymoedd de Cymru, wrth gwrs, yn rhan o is-ranbarth gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sydd wedi bod â’r gwerth isaf y pen o’r boblogaeth o ran nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir, neu’r gwerth ychwanegol gros, ar draws 12 gwlad a rhanbarth y DU ers bron i 20 mlynedd bellach—ers 19 mlynedd; holl gyfnod datganoli. Yn anffodus, mae’r bwlch cymharol wedi lledu, ac mae hyd yn oed y gornel fwyaf llewyrchus o ogledd Cymru a’r gogledd-ddwyrain wedi gweld y ffigur cymharol yn erbyn lefel y DU yn gostwng o bron i 100 y cant o werth ychwanegol gros y DU i 84 y cant yn unig. Pwysleisiodd yr angen i Lywodraeth Cymru weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth nesaf y DU yn cael ei gweld, beth bynnag fo’i lliw, fel partner cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru a chan Lywodraeth Cymru. 

Pwysleisiodd Jayne Bryant eto bwysigrwydd pont Hafren, yn yr achos hwn i Gasnewydd, lle hyfryd arall heb fod mor bell o’r fan hon. Rwy’n gresynu at y sylwadau pleidiol a ddilynodd—nid wyf am ymateb i’r rheini ar wahân i gydnabod ein bod yn wynebu etholiad cyffredinol. Llywodraeth y DU a gyhoeddodd y tollau yn 1962 mewn gwirionedd. Y Llywodraeth hon yn y DU sydd wedi cyhoeddi ei bod yn mynd i gael gwared arnynt. Fel y dywedodd, mae perygl—neu gostau a buddion o bosibl—o ddenu pobl o Fryste, a allai effeithio ar brisiau tai, ac mae angen cynorthwyo pobl ifanc lleol i fynd ar yr ysgol dai yma ac ym mhob man arall, yn enwedig o ystyried mai Cymru sydd wedi cael y toriadau mwyaf i gyllidebau tai fforddiadwy ar ôl datganoli o blith unrhyw un o wledydd y DU. Mae’n bwysig eich bod wedi cyfeirio at dro pedol, ond yn fy marn i, arweinwyr cryf sy’n gwrando ac yn penderfynu; arweinwyr gwan sy’n anwybyddu’r ffeithiau a saethu’r negesydd, rhywbeth a glywn yn rhy aml, yn anffodus, mewn rhai mannau eraill.

Croesawodd Neil Hamilton gyhoeddiad Theresa May eto, gydag ychydig o sylwadau hael wedi’u hychwanegu am fy mhlaid a’i gyn-blaid. Fel y dywedodd, byddai annibyniaeth wleidyddol i Gymru yn drychineb—fel y byddai, os caf ychwanegu, i weddill y DU.

Nododd Mark Reckless mai’r Llywodraeth Geidwadol yn 1992 a ddeddfodd i ddileu’r tollau ar ôl i’r pontydd ddychwelyd i’r sector cyhoeddus, a bod y Llywodraeth Geidwadol bellach yn cyflawni hynny. Dywedodd y bydd hyn yn ychwanegu at adfer hyder ar hyd coridor yr M4, cryfhau cysylltiadau rhwng de Cymru, Bryste a Llundain. Dywedodd fod agwedd sensitif a hyblyg Llywodraeth y DU tuag at ddatblygu rhanbarthol yng Nghymru yn galonogol, ond bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin agwedd debyg.

Dywedodd Suzy Davies y gallai’r polisi rhanbarthol ar ôl Brexit edrych yn wahanol iawn yn y dyfodol, ond ei bod yn iawn i Gymru fanteisio ar bolisi rhanbarthol y DU yn awr. Fel y dywedodd—yr ymadrodd hyfryd—meddylwyr mawr mewn gwlad fach. Dylem groesawu’r ymrwymiad gan y Prif Weinidog yn hytrach na phwdu, fel y dywedodd. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i forlyn llanw bae Abertawe, fel y cydnabu’r Prif Weinidog wrthym, fel y pwysleisiodd Suzy. Y peth olaf sydd ei angen ar y morlyn llanw yn awr, meddai, yw Corbynomeg. 

Yna ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ledaenu ffyniant ledled Cymru—mae’n drueni mai ni, ers 1998, yw’r rhan o’r DU sydd wedi parhau i fod â’r gwerth ychwanegol gros isaf. Dywedodd fod tollau pontydd Hafren yn rhwystr, a dyna pam y cyhoeddodd Theresa May ei bod yn eu dileu. Yna gwnaeth osodiad gwan a sigledig fod hyder yn dychwelyd i dde Cymru, diolch i Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o bethau wedi bod yn mynd tuag at yn ôl ers datganoli—nid oherwydd datganoli ond oherwydd y llywodraeth—ond mae’n ddiddorol fod y gwelliant mewn swyddi a chyflogaeth a mewnfuddsoddi wedi digwydd ers i’r Prif Weinidog Ceidwadol a Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010. Nid oedd yn digwydd cyn hynny yn sicr. Rwy’n gresynu at y ffaith ei fod wedi ymostwng i ymosodiad personol pitw yn erbyn cyd-Aelod. Ni ddywedaf fwy am hynny.

Cyfeiriodd at gyfarfod grŵp trawsbleidiol gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy heddiw. Roeddwn innau’n bresennol hefyd. Rwy’n croesawu’r ffaith ei fod yn bresennol. Rwy’n credu fy mod wedi fy ethol yn ddirprwy gyd-gadeirydd o’r grŵp hwnnw. Mae yna waith hanfodol i’w wneud. Rhaid i’r bargeinion twf ar bob ochr i’r ffin ategu ei gilydd, meddai Ysgrifennydd y Cabinet. Na, Ysgrifennydd y Cabinet—un bargen dwf ar gyfer y ddwy ochr i’r ffin honno yw hon. Dyna pam y mae gennym Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, dyna pam y cynrychiolwyd Warrington yno heddiw ond dyna pam y cafodd Gwynedd ei chynrychioli yno heddiw hefyd. Tybed a allem ymgysylltu ag Iwerddon yn ogystal yn y dyfodol.

Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad ar goridor Glannau Dyfrdwy. Yn wir, mae naw mlynedd, rwy’n credu, ers y bu’n rhaid dileu’r cynllun diwethaf gan Lywodraeth Cymru ar ôl i’w argymhellion gael eu—[Torri ar draws.] A hoffech sefyll?

Do, ymgyrchais yn erbyn yr erchylltra 13 lôn hwnnw mewn cefnogaeth i bobl leol, a dyna a wnaeth eich cyd-Aelodau mewn gwirionedd ar ôl iddynt sylweddoli bod etholiad fis neu ddau i ffwrdd. Rhoddais dystiolaeth i’r ymgynghoriad hwnnw. Rwy’n gobeithio y bydd yr hyn a ddaw allan y tro hwn yn fwy cydnaws ag anghenion cynaliadwyedd y gymuned leol.

Fe sonioch am gapasiti rheilffordd gwell yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Byddai’n wych pe gallai Llywodraeth Cymru ddal i fyny gydag ardal Mersi, ardaloedd Lerpwl, a chyhoeddi mewn gwirionedd ei bod yn mynd i gefnogi a buddsoddi yn yr ochr hon i’r ffin, fel nad yw’r cynigion ar gyfer troad Halton yn dod i ben ar y ffin. Yn yr un modd, byddai’n braf pe gallai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod yn mynd i adfer y ddwy filltir a dynnodd oddi ar reilffordd Wrecsam-Caer.

Cyfeiriodd at drydedd groesfan y Fenai. Unwaith eto, cawsom ymgynghoriad—credaf fod wyth neu naw mlynedd ers hynny—a wnaeth gyfres o argymhellion. Mae’n ymddangos ei fod yn ddiwrnod ailadroddus ar hynny hefyd gan ein bod yn cael ymgynghoriad arall ar opsiynau ar gyfer croesfan y Fenai—cyfeiriais at hynny’n gynharach. Ond fel y dywedodd, mae angen inni sicrhau bod cynhyrchiant yn cynyddu a diogelu ar gyfer y dyfodol yn erbyn awtomeiddio drwy ddull newydd yn seiliedig ar leoedd, gan weithio gyda’r fargen dwf a gefnogir gan Lywodraeth y DU yng ngogledd Cymru, drwy’r bargeinion dinesig yn ne Cymru, a gobeithio drwy fargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru hefyd. Ond bydd hynny’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydnabod bod argymhellion ar gyfer gweledigaeth dwf gogledd Cymru ac yn y cais sy’n cael ei gyflwyno yn galw arni i ildio rhywfaint o bŵer i’r rhanbarth hefyd. Diolch yn fawr iawn yn wir.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 9. Dadl Plaid Cymru: Cerddoriaeth Fyw a’r Gyfraith Cynllunio

Yr eitem nesaf yw’r ddadl a dynnwyd yn ôl gan Blaid Cymru ar gerddoriaeth fyw.

11. 10. Dadl Plaid Cymru: Cwmni Ynni Cenedlaethol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Felly, eitem 10 yw dadl Plaid Cymru ar y cwmni ynni cenedlaethol. Rydw i’n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6318 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru a’r ymrwymiad i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru.

2. Yn nodi papur ymchwil gan Simon Thomas ar gynigion i greu Ynni Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel cwmni di-ddifidend hyd braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi elw mewn gwella gwasanaethau a phrisiau i gleientiaid.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i greu rhwydwaith o gridiau ynni lleol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n dda gennyf gyflwyno dadl yn enw Plaid Cymru sydd yn cyflwyno ac yn rhoi tystiolaeth y tu ôl i’r syniad o sefydlu cwmni ynni annibynnol yng Nghymru. Wrth ddechrau’r ddadl, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni, fel Plaid Cymru, wedi cyhoeddi papur ymchwil ar y mater yma, ac wedi defnyddio arian o gronfa polisi ymchwil a chyfathrebu’r Cynulliad er mwyn cyhoeddi’r papur yma, ac mae’r papur wedi’i ddolennu gyda’r ddadl. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Aelodau o bob plaid yn darllen y papur, i feirniadu neu i gytuno, neu beth bynnag. Mae’n bwysig, rwy’n credu, ein bod ni’n defnyddio adnoddau’r Cynulliad i adeiladu’r dystiolaeth sydd gyda ni y tu ôl i’n dadleuon ni, ac i ledaenu gwybodaeth hefyd. Os oes rhywun eisiau copi caled, fe fyddwn i’n fwy na pharod i baratoi copi caled iddyn nhw.

Mae’n wir i ddweud bod Plaid Cymru yn wastad wedi bod o blaid cwmni ynni annibynnol yng Nghymru, ond mae’r dystiolaeth a’r gefnogaeth i hynny wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai mai’r prif symud yn y maes yma oedd adroddiad y pwyllgor amgylchedd yn y Cynulliad blaenorol a welodd y cyfle ar gyfer cwmni ynni yng Nghymru i wneud llawer i gau’r bwlch ynglŷn â thlodi tanwydd, i fuddsoddi mewn ynni o fathau newydd, yn enwedig ynni adnewyddol a hydrogen yn ogystal, a hefyd y cyfle, efallai, i herio’r system fasnachu bresennol sydd gyda ni yn y maes ynni.

Y tu ôl i’r sefyllfa bresennol y mae’r cwestiwn sylfaenol: a yw’r farchnad ynni presennol yn gweithio o blaid preswylwyr pob dydd, fel petai? A ydy e’n gweithio o blaid busnes? Ac a ydy e’n gweithio o blaid buddsoddi dros gyfnod hir yn y math o ddiwydiant ynni rŷm ni eisiau ei weld yng Nghymru? Mae Plaid Cymru o’r farn mai’r ateb i’r tri chwestiwn yna yw, ‘Na, nid yw’r system bresennol yn gweithio’, a bod angen o leiaf un gweithredydd arall yn y system bresennol i wneud pethau’n fwy bywiog. Mae’r farn yn cael ei rhannu gan y Blaid Lafur—wel, o leiaf Plaid Lafur Corbyn, achos mae’r Blaid Lafur honno wedi gofyn yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin am gwmni ynni annibynnol ym mhob rhanbarth—maen nhw’n defnyddio’r gair ‘rhanbarth’. Nawr, rwy’n meddwl bod Cymru’n rhanbarth i’r Blaid Lafur yna—mae’n genedl i ni, wrth gwrs—ond dyna pam roeddwn i’n synnu, a dweud y gwir, gweld bod y Blaid Lafur yma wedi rhoi gwelliant i’n cynnig ni, yn glastwreiddio’r hyn rŷm ni’n gofyn amdano, ac megis yn tanseilio’r hyn maen nhw’n ei ddweud a’r hyn mae eu plaid nhw’n sefyll arno yn yr etholiad yma. Ond mater iddyn nhw esbonio yw hynny, ac mae’n siŵr y byddan nhw’n gwneud hynny maes o law.

Nid oes dwywaith bod system y farchnad bresennol yn gwneud drwg yng Nghymru. Mae tai gydag incwm isel, wrth gwrs, yn arbennig yn cael eu heffeithio gan brisoedd uchel. Mae hwn yn rhywbeth cyffredin i bob plaid erbyn hyn. Y Blaid Lafur a wnaeth gynnig y cap ar brisoedd ynni dwy flynedd yn ôl, a dilornwyd hynny ar y pryd gan y Blaid Geidwadol. Ond erbyn hyn, y Blaid Geidwadol sy’n cynnig cap ar brisoedd ynni. Ond mae hynny’n rhywbeth sy’n ‘fix’ dros dro; nid yw’n mynd i fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol yn y farchnad. Dyna beth rŷm ni’n ei gynnig fan hyn, sef rhywbeth mwy tymor hir a mwy gweithredol yn y farchnad yna.

Yma yng Nghymru, mae 23 y cant o gartrefi’n cael eu hystyried i fod mewn tlodi tanwydd. Mae 3 y cant, sydd yn ganran eithaf isel, ond yn nifer fawr, mewn tlodi ynni difrifol, hynny yw yn talu mwy nag 20 y cant o’u hincwm nhw ar gostau ynni. Mae hynny’n eich rhoi mewn sefyllfa anodd iawn. Beth sy’n ddiddorol yw pan rŷch chi’n cymharu hynny gyda gweddill Prydain, achos dim ond 11 y cant o gartrefi yn Lloegr sy’n cael eu hystyried i fod mewn tlodi tanwydd.

Nawr, yn y gorffennol, ac mae’n bosib heddiw hefyd, bydd rhai yn dadlau bod symud tuag at ynni adnewyddol wedi codi prisoedd ynni, ac felly rŷm ni’n gyfrifol, mewn ffordd, am ddadlau dros system ynni llai dibynnol ar garbon, achos mae hynny yn ei thro yn codi prisoedd i fyny i’r cwsmeriaid mwyaf tlawd yn ein cymdeithas. Ond beth sy’n ddiddorol yw bod prisoedd ynni yng Nghymru yn uwch o lawer na gweddill y Deyrnas Gyfunol, ond rŷm ni’n cynhyrchu llai o ynni adnewyddol na gweddill y Deyrnas Gyfunol. Felly, y canran o drydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddol yng Nghymru ar hyn o bryd yw tua 20 y cant; yn yr Alban mae’n ddwbl hynny, dros 42 y cant; yng Ngogledd Iwerddon mae e’n 26 y cant; a hyd yn oed yn Lloegr mae’n uwch na Chymru, rhyw 2 y cant yn uwch. Felly, nid oes cyswllt amlwg rhwng cynhyrchu ynni adnewyddol a phris yr ynni mae’r cwsmer yn ei dalu amdano. Mae’r farchnad yn llawer mwy cymhleth na hynny. Y ffaith amdani hefyd yw ein bod ni yn cadw problemau at y dyfodol wrth inni gario ymlaen gyda system o ddosbarthu ynni sydd yn hynod ganoledig, sydd ddim wedi ei dosbarthu yn lleol, sydd ddim wedi’i datganoli yn yr ystyr yna, ac sydd ddim felly yn addas ar gyfer y fath o gynhyrchu ynni y byddwn ni’n cael yn fuan iawn, iawn. Un o’r pethau yna yw rhywbeth rŷm ni wedi trafod eisoes gydag Ysgrifennydd y Cabinet, sef y symudiad tuag at gerbydau o bob math yn rhedeg ar drydan, neu yn sicr hydrogen, yn enwedig ar gyfer cludiant.

Y morlyn llanw—rŷm ni’n ei gefnogi yn gryf iawn ac yn siomedig nad yw’n cael ei adlewyrchu ym maniffesto Deyrnas Gyfunol y Blaid Geidwadol, er ei fod ym maniffesto pob plaid arall. Ond mae morlyn llanw hefyd yn gofyn, yn enwedig wrth ddatblygu morlynnoedd llanw yn y gogledd ac ym môr Hafren, am system ddosbarthu fwy lleol lle mae pobl leol yn gweld mwy o fudd o’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud mewn ynni adnewyddol. Nawr, er bod mwy yn cael ei ddatganoli i Gymru o ran cydsynio cynlluniau ynni, hyd at 350 MW, mae’n wir i ddweud bod y system gyllidol y tu ôl i ddatblygu ynni o bob math yn mynd i aros yn Llundain. Yn y cyd-destun hwnnw hefyd, mae sefydlu cwmni ynni i Gymru yn mynd i fod, yn ein barn ni, o fudd.

Felly, beth all cwmni o’r fath ei wneud? Wel, yn fras iawn, yn yr adroddiad rŷm ni wedi’i gomisiynu, mae’n edrych ar sut y gall gwmni brynu mewn ‘bulk’, felly prynu ynni ar ran cwsmeriaid yng Nghymru a phasio’r arbedion ymlaen yn y cyd-destun hynny. Rŷm ni’n edrych ar sut fyddai cwmni ynni yn gallu bod yn gerbyd i fod yn rhan o ddarparu rhai o amcanion eraill Llywodraeth Cymru, er enghraifft insiwleiddio, gwella ansawdd tai, effeithlonrwydd ynni ac ati. Rŷm ni’n defnyddio’r cwmni yma fel cerbyd i wneud hynny. Gall y cwmni fod yn rhyw fath o amlen ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddol. Nid wyf yn meddwl ei bod yn cael ei gydnabod yn eang iawn, yn sicr, fod Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi, i fod yn deg, yn helaeth mewn ynni adnewyddadwy. Rydw i’n credu bod gyda nhw fuddsoddiad mewn fferm haul yn Nhrefynwy, yn sir Fynwy yn rhywle—rhai miliynau wedi mynd mewn i hynny. Rŷm ni hefyd yn gweld llawer iawn o gymunedau lleol yn casglu yn lleol i fuddsoddi. Mae menter Awel Aman Tawe yn enghraifft dda iawn o hynny, ac rwy’n eu llongyfarch nhw ar gyrraedd y nod wythnos yma, rydw i’n meddwl, o dros £5 miliwn. Ond pa faint yn well y byddai hi petai cwmni cenedlaethol yn gallu cydlynu’r ymdrechion hyn, ennill gwell bargeinion yn y farchnad, yn y ddinas, fel petai, ar gyfer buddsoddiad, ac yn ei dro, basio ymlaen y ymlaen yn fwy agos at y cwsmer.

Byddai cwmni ynni cenedlaethol hefyd yn gallu arwain ymchwil—[Torri ar draws.]

Indeed. I’ll give way, yes.

I’ch helpu gyda daearyddiaeth Sir Fynwy yn y fan hon, mae yna rai datblygiadau ffermydd solar mawr—un ychydig y tu allan i Lanfable ac un heb fod ymhell o Lancaeo. A fyddech yn cytuno â mi, er cystal yw’r datblygiadau hynny, mae’n bwysig fod y cymunedau lleol yn cael y manteision angenrheidiol o’r datblygiadau hynny? Oherwydd mewn rhai achosion, nid yw’r cymunedau hynny wedi cael eu cynnwys yn llawn ar hyd y daith ac maent wedi teimlo braidd yn ynysig oddi wrth y manteision y dylent eu cael yn gyfreithlon.

Cytunaf â’r pwynt cyffredinol y mae’n ei wneud. Nid wyf yn gwybod a yw’r rheini’n brosiectau y mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi eu cefnogi. Ond rwy’n meddwl mai’r pwynt rwy’n ei wneud yw y byddai seilwaith mwy cenedlaethol yn ffordd o ddarparu’r manteision hynny’n fwy uniongyrchol i’r defnyddwyr lleol. Felly, credaf mai’r pwynt yw ei fod yn rhywbeth sydd wedi peri rhwystredigaeth dros lawer o flynyddoedd i lawer ohonom sydd am weld y datblygiadau hyn yn digwydd, ond maent hefyd yn teimlo’n rhwystredig gyda’r seilwaith cenedlaethol sy’n dal y manteision ar lefel ganolog iawn ac nid yw’n eu darparu, er bod y bobl leol mewn gwirionedd yn gweld y datblygiad hwnnw’n lleol. Rwy’n credu bod dod â’r ddau at ei gilydd yn rhywbeth y gallai cwmni ynni cenedlaethol ei wneud, o bosibl, yn y cyd-destun Cymreig.

If I could just conclude my remarks in opening this debate by saying that I, personally, and from the point of view of Plaid Cymru, would want to see this company being developed either on a co-operative basis or certainly on a basis that could include local councils or regional energy developments. It’s a cause of sadness to me that we have seen more development in England under devolved systems from central Government in England, which have used the Localism Act, for example, to allow the establishment of an energy company in Manchester and an energy company in Nottingham—Robin Hood Energy, which is well known to us. I think we, too, need to take advantage of those opportunities, and I very much hope that the spirit of the motion will be accepted by the Assembly.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl;

b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac

c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel.

3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd.

4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

A gaf fi ddechrau drwy fod yn gwrtais a chanmol menter Plaid Cymru yn defnyddio’r hyblygrwydd newydd yn adnoddau’r Cynulliad i gomisiynu prosiectau ymchwil? Yn gyffredinol, rwy’n meddwl ei fod yn syniad da ac er tegwch, rydych wedi cyflwyno eich syniadau a gallwn gael dadl ardderchog, rwy’n siŵr, ar y cynnig hwn. Felly, rwy’n credu bod angen mwy o hyn, ac rydych yn haeddu ymateb difrifol i’ch awgrym canolog.

O’m rhan ninnau, ni fyddwn yn ei gefnogi am resymau y byddaf yn eu nodi, ond yn sicr rydym yn rhannu’r nod o sicrhau defnydd mwy effeithlon o ynni am brisiau mwy cystadleuol. Yn ein barn ni, gellir cyflawni hyn heb ymyrraeth drom gan y Llywodraeth neu wladoli. Rwy’n nodi mai byrdwn argymhelliad Plaid Cymru yw cael rhyw fath o gwmni cenedlaethol y bydd cymunedau lleol ac awdurdodau lleol yn prynu i mewn iddo, o bosibl. Pe bai rhywbeth yn ymddangos sydd wedi’i ddatblygu’n lleol ac sy’n adlewyrchu rhywbeth fel Glas Cymru, yna mae’n debyg fod hynny’n fwy dichonadwy. Ond rhaid i mi ddweud bod gosod y math hwn o strwythur, gwthio’r fenter a’i gorfodi, yn rhywbeth y byddem yn amheus yn ei gylch.

Yn fyr, os caf wneud y pwynt, pe bawn yn Geidwadwr byddwn wedi meddwl y byddai cap ar ynni hefyd yn ymyrraeth lawdrom iawn yn y farchnad. [Chwerthin.]

Wel, mae’n dod â mi’n daclus at y pwynt nad yw’n farchnad effeithlon na pherffaith.

Gallaf glywed Aelod UKIP yn mwmian, ‘Nid oes ateb perffaith chwaith’, ac mae’n debyg bod hynny’n crynhoi’r anhawster rydym ynddo.

Ond mae prisiau ynni yn uchel ac maent hefyd yn anodd iawn eu deall pan fyddwch yn cael eich bil ynni. Oni bai eich bod wedi gwneud mathemateg ddwbl ar gyfer Safon Uwch, nid wyf yn meddwl bod gennych obaith, ac efallai y bydd angen i chi fod wedi astudio mathemateg yn y brifysgol hefyd. Ond yn gyffredinol, mae pris ein trydan oddeutu 15 y cant yn uwch na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac mae hynny’n gwasgu ar bob un ohonom. Mae’n arbennig o ddramatig ac anffodus i’r rhai sy’n wynebu tlodi tanwydd rwy’n credu.

Yn ôl rhai cyfrifiadau, byddai’n ddichonadwy cyflenwi ynni’n effeithiol, ei ddefnyddio’n effeithlon a lleihau’r costau gymaint â 50 y cant. Felly, os yw’r math hwnnw o arbediad yn bosibl, rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem anelu tuag ato’n bendant iawn, gydag effeithlonrwydd, wrth gwrs, yn allweddol i hynny. Os ydym i gyd yn defnyddio mwy o ynni wrth iddo ddod yn rhatach, nid yw’n mynd â ni i unman mewn gwirionedd.

Rwy’n credu ein bod yn ymrwymo i’r egwyddor fod mwy o gynhyrchu lleol yn bwysig a’r defnydd o fodelau eraill, modelau arloesol, fel cwmnïau cydweithredol. Rwy’n credu bod llawer ohonom wedi ymweld â rhai o’r cynlluniau hyn ac yn ystyried eu bod yn nodedig ac yn ysbrydoli’n fawr. Mae yna rai anfanteision. Mae angen deiet cytbwys o ddarparwyr yma mewn gwirionedd. Mae angen cydnerthedd ac nid ydych bob amser yn cael hynny mewn prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned leol. Hefyd, rydym yn dal i fod angen strategaeth ehangach, a chredaf fod hwnnw’n fater pwysig iawn i’w gadw mewn cof.

A gaf fi ddweud, er bod gennym rai amheuon ynglŷn â dull Plaid Cymru, rydym yn falch o’u nodi ac yn croesawu hyn fel rhan o drafodaeth iach? Efallai y bydd Plaid Cymru yn cael cysur yn hyn, ond mewn gwirionedd rydym yn ystyried bod gwelliant y Llywodraeth yn gywir at ei gilydd o ran ei ddull o fynd ati, er nad yw hynny’n golygu fy mod yn canmol yn llawn holl ddulliau presennol y Llywodraeth o weithredu ar ynni, a byddem yn eu hannog yn gryf i edrych ar rai o’r materion strwythurol mwy hirdymor sy’n cyfyngu ar dwf a datblygiad yng nghanolbarth a gogledd Cymru, o ran y grid a’r mynediad iddo, a sut y mae prosiectau hydro ar raddfa lai, yn arbennig, yn cysylltu ag ef. Ond a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod angen polisi sy’n seiliedig ar ddefnydd a dull dosbarthu trydan sy’n gynyddol effeithlon? Mae angen inni leihau’r defnydd o danwydd ffosil. Credaf fod hynny’n bwysig iawn a chyfeiriwyd at geir trydan, ond wrth gwrs nid yw hynny wedyn ond yn eich gwahodd i feddwl ynglŷn â sut rydych yn mynd i gynhyrchu’r trydan yn y ffynhonnell, ac nid ydym eisiau dibynnu ar danwydd ffosil, a’n nod yw economi carbon isel, ac mae digon o le hefyd ar gyfer prosiectau cymunedol arloesol. Unwaith eto, fe orffennaf drwy ganmol Plaid Cymru am—rwy’n credu mai dyma’r ddadl gyntaf ar adroddiad a gomisiynwyd gan blaid wleidyddol gan ddefnyddio’r adnoddau newydd, felly o leiaf, ar hynny, gallaf ddweud ‘da iawn’.

Os ydym ni o ddifri, wrth gwrs, am fynd i’r afael â newid hinsawdd fel un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, yna mae’n rhaid i ni, yn y lle cyntaf, leihau ein defnydd o ynni—dyna’r man cychwyn bob tro, pan mae’n dod i bolisi ynni—ond wedyn cynyddu, wrth gwrs, y gyfran o ynni sy’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Nod Plaid Cymru, er mwyn ein galluogi ni i dorri allyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050, a 40 y cant erbyn 2020, yw cynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac mi fyddai gan Ynni Cymru, wrth gwrs, ran hanfodol i’w chwarae i gyflawni’r nod hwnnw.

Fel rydym ni wedi clywed, yn y Cynulliad diwethaf, mi gynhyrchodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd adroddiad o’r enw ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’, ac mi gafodd gefnogaeth drawsbleidiol, a’r hyn yr oedd e, wrth gwrs, mewn gwirionedd, oedd ‘blueprint’ ar sut i symud yr agenda yma ymlaen. Mae’n awgrymu ffyrdd o wireddu’r potensial economaidd sy’n dod, wrth gwrs, o ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn gyfrifol ac yn gynaliadwy, a chreu swyddi a chyfoeth i bobl Cymru yn sgil hynny. Mae e’n caniatáu i ni i fynd i’r afael â thaclo tlodi tanwydd, yn amlwg taclo newid hinsawdd, a hefyd, wrth gwrs, yn ymbweru cymunedau lleol i fod yn llawer mwy rhagweithiol ac yn fwy ‘engaged’ wrth bennu eu dyfodol ynni nhw eu hunain. Ac nid oes angen i Gymru aros i gael rhagor o bwerau chwaith, o San Steffan, cyn cyflawni llawer iawn o’r hyn sydd yn y weledigaeth a wnaeth y pwyllgor ei hamlinellu. Mi allem ni ddechrau ar lawer o’r gwaith yma nawr, ac yn wir mi ddylai llawer mwy o’r gwaith fod wedi’i gychwyn ers dros flwyddyn.

Un o argymhellion y pwyllgor, wrth gwrs, yn yr adroddiad hwnnw, yw mynd ati i greu cwmni gwasanaeth ynni ymbarél dielw. Fe glywom ni fod awdurdodau lleol ar draws Lloegr wedi sefydlu cwmnïau o’r fath. Rydym ni’n gwybod am enghreifftiau ym Mryste ac yn Nottingham, ac wrth gwrs, rydym ni’n gallu defnyddio hynny hefyd i dargedu ac i daclo’r tlodi tanwydd. Rydym ni’n gwybod, yn Nottingham, fod cwmni Robin Hood Energy yn cynnig tariff arbennig ar gyfer trigolion dinas Nottingham yn unig, ond hefyd oddi fewn i hynny, maen nhw’n gallu gosod cyfraddau is mewn ardaloedd penodol lle mae yna lawer o dlodi tanwydd.

Nid yw hynny i ddweud nad oes dim yn digwydd yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr am y rhwydweithiau gwres lleol yn fanna. Mae cyngor Wrecsam, hefyd, wedi gwneud llawer o safbwynt ynni solar. Ond fe ddylai hyn fod yn norm, nid yn enghreifftiau sydd yn eithriadau yn aml iawn. A byddai creu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru yn gyfle i ni fynd at wraidd rhai o’r materion yma o dlodi tanwydd, i fuddsoddi mewn seilwaith, bargeinio ar y cyd, creu ynni, cryfhau ymchwil a datblygu yn y maes ynni, a thrwy hynny, wrth gwrs, wedyn, creu’r cyfleoedd masnachol yna a fydd yn dod â lles ehangach i bobl Cymru, heb sôn am y manteision amgylcheddol.

Mae lleihau y galw am ynni, wrth gwrs, yn ffordd bwysig iawn, neu’n rhan allweddol o’r broses yna o drosglwyddo i ddyfodol ynni craffach, ac rydym yn gwybod bod aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario tua 80 y cant o’u costau ynni ar wresogi ystafelloedd a chynhesu dŵr yn y cartref. Mae angen inni, felly, sicrhau bod cartrefi mor effeithlon ag sydd yn bosib o ran ynni. Rydym yn gwybod bod yna gynlluniau fel Arbed a Nyth yn gwneud eu cyfraniad, ond fel yr wyf wedi ei ddweud dro ar ôl tro, nid ydyn nhw’n agos at fod yn ddigon o gyfraniad i ymateb i faint yr her sydd yn ein wynebu ni a’r lefel o fuddsoddiad sydd ei hangen mewn gwirionedd, pan mae’n dod i’r agenda yna. Ond, yn sicr, byddwn i’n teimlo bod gan Ynni Cymru, hefyd, rôl yn y maes yna o safbwynt annog ac addysgu pobl ynglŷn â sut mae mynd ati i daclo yr agenda yma.

So, mae angen inni symud i ffwrdd—ac rwyf wedi dweud hyn yn flaenorol hefyd, ond ni allaf ategu’r pwynt yn ddigonol. Mae’n rhaid inni symud i ffwrdd o’r model ‘hub and spoke’ yma o gynhyrchu ynni, lle mae ynni yn cael ei gynhyrchu mewn pwerdai mawr canolog ac yn cael ei drosglwyddo yn aneffeithlon mewn modd costus ar hyd grid hynafol, sydd yn gwegian yn aml iawn. Mae angen inni symud i fodel o grid sydd yn fwy o we pry cop—grid clyfrach, gyda’r ynni yn cael ei gynhyrchu yn nes at y lle y mae’n cael ei ddefnyddio. Mi fyddai Ynni Cymru, yn sicr, yn gallu bod yn rhan o’r trawsnewidiad yna. Byddai hefyd yn gallu edrych ar systemau storio ynni yn y cartref ac ar lefel ddinesig—[Torri ar draws.] Wel, 10 eiliad sydd ar ôl gen i, yn anffodus. Mae hefyd angen edrych ar y gyfundrefn gynllunio, ac mae adroddiad y pwyllgor wedi gwneud hynny. Fy nghri i yw: mae’r templed—y ‘blueprint’—yn ei le; yr hyn sydd ei eisiau nawr yw’r ewyllys gwleidyddol i yrru’r agenda yma yn ei blaen.

Wel, rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan yn y ddadl hon ac rwyf wedi darllen gyda diddordeb y papur a gynhyrchwyd gan Simon Thomas, ond rwy’n cael peth anhawster i ddeall sut y gallai cwmni o’r fath, yn ymarferol, wneud unrhyw wahaniaeth materol i’r ddarpariaeth ynni yng Nghymru os nad oes ganddo fynediad at gyfalaf o farchnadoedd preifat. Rwy’n cymryd nad ydym yn ystyried sefydlu cwmni ynni wedi’i wladoli. Wrth gwrs, mae rôl i fentrau cydweithredol ac yn y blaen, ond nid yw hynny’n debygol o wneud mwy na gwahaniaeth ymylol i gyflwr presennol y farchnad. Nid wyf yn gwrthwynebu hyn mewn egwyddor, ond rwy’n gweld anawsterau ymarferol penodol o ran ei greu i wneud gwahaniaeth.

Rwy’n cael peth anhawster gyda rhai o’r honiadau a wneir yng nghyd-destun y papur sy’n sail i’r cynnig, a dof atynt mewn munud. Ond, hynny yw, y cefndir i hyn oll yw Deddf Newid yn yr Hinsawdd, ac mae hyn yn cael ei wneud yn glir yn y rhagair i’r ddogfen. Mae gennym ddyletswydd i leihau ein hallyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050. Mae angen i ni fod yn gwbl glir na ellir gwneud hyn heb osod costau anferthol ar gartrefi a busnesau yng Nghymru. Fel y clywsom yn y ddadl ddiwethaf, o gofio bod gennym rai o’r rhannau tlotaf nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond yng ngorllewin Ewrop hefyd, mae hwnnw’n faich sylweddol sy’n rhaid ei ystyried.

Roedd costau Deddf Newid yn yr Hinsawdd wedi’u dosbarthu ymhlith y boblogaeth yn 2014 yn £5 biliwn y flwyddyn. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein biliau trydan, yn ogystal â rhannau o gostau darparu pŵer ar ein cyfer, sy’n cael eu talu gan gwmnïau ac yn bwydo i mewn i’r biliau ynni mewn ffyrdd eraill yn ogystal—cyfuniad, felly, o drethi gwyrdd uniongyrchol ar y naill law a chynnydd yn y costau cynhyrchu ar y llaw arall. Bydd y ffigur o £5 biliwn yn 2014 yn codi i £14 biliwn y flwyddyn yn 2020. Gadewch i ni roi’r ffigurau hyn mewn persbectif go iawn. Beth y mae’n ei olygu ar gyfer aelwydydd cyffredin? Yn 2020, bydd yr aelwyd gyfartalog yn y Deyrnas Unedig yn talu £584 y flwyddyn am y rhwymedigaethau a gawsom o dan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Yn 2030, bydd y ffigur wedi codi i £875 y flwyddyn. Erbyn 2050, bydd pobl yn talu £1,390 y flwyddyn yn ychwanegol yn eu biliau trydan. Mae’r rheini ym mhrisiau cyson heddiw. Felly, yn y 16 mlynedd rhwng 2014 a 2030, bydd y cartref cyffredin yng Nghymru yn talu £11,000 ychwanegol o gostau trydan. Nid yw hwnnw’n swm ansylweddol ac wrth gwrs, po bellaf i lawr y raddfa incwm yr ewch chi, y mwyaf yw’r baich a deimlir. Felly, mae’n rhaid inni fod yn eithaf clir fod yr hyn a wnawn yn werth chweil er budd y cyhoedd yn y pen draw. Nid wyf yn credu bod hynny’n wir.

Dywedir yn y cyfiawnhad dros y newid hwn fod yna restr o heriau yn wynebu’r cyflenwad ynni yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’n cyfeirio at ragor o ddigwyddiadau tywydd ansefydlog oherwydd newid yn yr hinsawdd. Nid wyf yn gwybod am unrhyw dystiolaeth o gwbl i gyfiawnhau’r honiad hwnnw. Yn wir, mae’r dystiolaeth yn hollol i’r gwrthwyneb. Beth a welwn mewn patrymau tywydd byd-eang sy’n wahanol o gwbl i unrhyw adeg yn y 100 mlynedd diwethaf? Wrth gwrs, nid oes setiau data ar gael y tu hwnt i hynny, felly ni allwn gymharu tebyg at ei debyg am gyfnod hir iawn. Felly, rydym yn gwneud rhagdybiaethau dramatig ar sail data annigonol, ac yn seiliedig arnynt, rydym yn gosod beichiau go iawn ar bobl go iawn. Nid wyf yn credu, fel deddfwyr, fod honno’n ffordd gyfrifol i ni ymddwyn.

Os edrychwn yn unig ar gorwyntoedd, er enghraifft, ar ôl Corwynt Katrina yn 2005, fe ddywedodd y rhai sy’n codi bwganod am hinsawdd yn y byd, wyddoch chi, fod diwedd y byd gerllaw a bod pawb ohonom wedi symud i gyfnod o fwy o ansefydlogrwydd a oedd yn mynd i osod costau enfawr ar y byd. Wel, tystiolaeth data’r Weinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Genedlaethol, sy’n mynd yn ôl i 1851, yw nad oes unrhyw gorwynt mawr categori 3 neu uwch wedi cyrraedd cyfandir yr Unol Daleithiau ers Wilma ym mis Hydref 2005. Felly, dyna’r saib hiraf a gofnodwyd erioed, ac mae’r Weinyddiaeth yn dweud:

Mae’n rhy gynnar i ddod i’r casgliad fod gweithgareddau pobl—yn arbennig allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n achosi cynhesu byd-eang—eisoes wedi cael effaith ganfyddadwy ar weithgaredd corwyntoedd yr Iwerydd.

Ym mwletin Cymdeithas Feteorolegol America yn 2015, roedd yna erthygl ddiddorol iawn ar ddeall tueddiadau stormydd eithafol a chyflwr gwybodaeth. Nodai:

Nad oedd tuedd sylweddol yn nifer y corwyntoedd sy’n taro’r Unol Daleithiau ers 1900; ymddengys bod y cynnydd ers 1970 yn amrywiad naturiol.

Mae’r amrywiad yn digwydd o fewn blynyddoedd ac o fewn degawdau, ond nid dros holl gyfnod cyfan y setiau data. Mae’r un profiad i’w weld ar gyfer tornados, sychder, a phob math o dywydd naturiol arall.

Prin y gallaf ddechrau dadlau’r pwynt hwn mewn pum munud wrth gwrs. Ond y cyfan yr hoffwn ei ddweud i gloi yn y ddadl hon yw nad oes sail wyddonol y gallwn ddibynnu arni’n ddiamwys i gyfiawnhau’r costau enfawr yr ydym ni fel deddfwyr yn eu gosod yn fwriadol ar bobl gyffredin ac agored i niwed.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch i chi, Llywydd. Mae’n bleser gennyf ymateb i’r ddadl hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei huchelgais i ddarparu system ynni carbon isel ar gyfer Cymru. Wrth wneud hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru yn sgil y newid hwn ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y gwaith a wnaed ar ddatblygu model Ynni Cymru.

Yn sicr, wrth ddarllen yr adroddiad, rwy’n credu ei bod yn glir iawn fod yr adroddiad yn nodi blaenoriaethau strategol tebyg iawn i’r rhai a nodais yn fy natganiad ynni ym mis Rhagfyr: defnyddio ynni’n fwy effeithlon, symud at gynhyrchiant carbon isel, ac ennill budd economaidd o’r technolegau a’r modelau busnes newydd sy’n dod i’r amlwg o’r newid.

Mae’r rhan fwyaf o’r mathau o weithgareddau a argymhellir yma eisoes yn cael eu datblygu gan raglenni cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth Ynni Lleol, a’r cynnig cymorth i’r sector cyhoeddus. Rydym yn parhau i nodi ffynonellau cyllid cyfalaf y gellir eu defnyddio i gefnogi datblygiad prosiectau effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy ar draws pob sector. Rwy’n credu ein bod wedi cael cryn dipyn o effaith gyda’n rhaglenni effeithlonrwydd ynni hyd yma ac rydym yn awyddus i barhau i fynd i’r afael â her effeithlonrwydd ynni a nodi camau gweithredu i’w cymryd.

Rwy’n credu mai trafodaeth gychwynnol rhwng Simon Thomas a minnau a roddodd gychwyn ar y sgwrs hon i raddau, ynglŷn â chael cwmni dielw. Cefais gyfarfod cychwynnol gyda Simon Thomas ac yna cynhaliodd Llywodraeth Cymru dri digwyddiad ar draws Cymru ym mis Mawrth i gasglu tystiolaeth a safbwyntiau ynglŷn â’r potensial i gael cwmni gwasanaethau ynni ar gyfer Cymru, a siaradodd Simon yn y digwyddiad yn Aberystwyth. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn i weld bod y dyheadau y siaradoch amdanynt heddiw, Simon, wedi’u nodi’n glir yn yr adroddiad yr ydym yn ei ystyried heddiw.

Argymhellodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf y dylid sefydlu cwmni ynni ac roedd ei adroddiad yn cydnabod y risgiau a’r heriau o fynd i mewn i’r hyn sy’n awr yn farchnad gystadleuol iawn, gyda dros 50 o ddarparwyr. Yn sicr, yr adborth a gawsom o’r tri chyfarfod yw ei bod yn heriol iawn ar hyn o bryd i werthu ynni rhad sydd hefyd yn garbon isel oni bai eich bod yn berchen ar y cynhyrchiant. Mae elw, felly, yn ansicr. Fel y dywedodd un cyfranogwr wrthym mewn digwyddiad, mae’r sector cyflenwi yn ymwneud â niferoedd cwsmeriaid uchel ac elw bach iawn.

Yr adborth a gawsom oedd mai teimlad pobl oedd bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â diben cwmni ynni. Mae perygl y gallai cwmni ynni dynnu sylw oddi ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd, sef y gwaith rydym eisoes yn ei wneud yn hybu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu adnewyddadwy a seilwaith er mwyn galluogi’r newid i system ynni clyfar wedi’i datgarboneiddio yng Nghymru.

Mae angen i ni edrych ar fanteision a risgiau cwmni o’r fath. Rhaid i ni hefyd fod yn glir ynglŷn â phwrpas cwmni—gallai fynd i’r afael â phrisiau ynni, gallai fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth mewn darparwyr, neu gallai helpu i ddarparu marchnad ar gyfer cynhyrchwyr yng Nghymru, ond mae’n annhebygol y byddai unrhyw fodel unigol yn gallu mynd i’r afael â’r holl faterion.

Felly, mae’n dda gallu gweithio gyda phobl sydd â diddordeb yn y syniad hwn i ddeall pa weithgaredd sydd eisoes ar y gweill ac egluro sut y gall Llywodraeth Cymru ychwanegu gwerth yn y ffordd orau yn y maes hwn. Rydym hefyd yn ymwybodol o nifer o sefydliadau yng Nghymru sydd eisoes yn ystyried neu’n gweithredu, yn erbyn cefndir lle mae nifer y cwmnïau ynni yn cynyddu’n gyflym. Fel y dywedais, ceir 50 o ddarparwyr eisoes sydd â thrwydded gyflenwi, a rhai ohonynt â chanlyniadau cymdeithasol yn ganolog iddynt, ac yn cynnig mwy o ddewis. Fodd bynnag, rydym wedi gweld methiant GB Energy, a chredaf fod hynny’n dangos ei bod yn anodd cystadlu mewn marchnad sy’n gynyddol orlawn.

Cawsom rywfaint o adborth hefyd o’r digwyddiadau am y ffaith fod angen i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu amgylchedd polisi cefnogol a chydlynu gweithgaredd ar draws Cymru i alluogi prosiectau i gael eu cyflwyno er lles Cymru. Adborth arall oedd bod pobl yn teimlo mai gwaith y Llywodraeth yw gweithredu fel llais gonest a dibynadwy dros siarad gwerthu cyflenwyr ynni sy’n cystadlu, gan edrych ar y materion strategol a rheoleiddiol. Rydym eisoes yn gwneud hyn—rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Ofgem, gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu, y Grid Cenedlaethol a Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn cyflawni ein blaenoriaeth i ddarparu system ynni sy’n galluogi’r newid carbon isel yng Nghymru. Ni fyddai corff hyd braich heb rym y Llywodraeth i gynnull yn gallu gwneud hyn.

Rydym yn canolbwyntio adnoddau’r Llywodraeth ar nodi a mynd i’r afael â’r bylchau yn y farchnad, gan gysylltu gweithgareddau a chefnogi datblygiadau na fydd yn digwydd yn naturiol. Felly, dyma’n union a wnawn drwy gefnogi prosiectau fel Ynni Lleol ym Methesda, sy’n treialu gwerthu trydan yn lleol, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â hwy’n fuan iawn. Rwy’n credu y bydd hynny’n ein helpu i ddeall sut y mae angen i reoleiddio newid er mwyn helpu hyn i ddigwydd yn ehangach.

Rydym eisoes wedi nodi gwres fel maes allweddol, ac wedi bod yn gweithio gyda Phen-y-bont ar Ogwr i ganfod dulliau newydd o ddarparu gwres carbon isel. Rydym bellach yn casglu tystiolaeth i lywio datblygiad y gwasanaethau cymorth a ddarparwn i gyrff cyhoeddus a grwpiau ynni lleol yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau hyn eisoes wedi cael budd lleol o ddarparu prosiectau ynni ar draws Cymru, a byddant yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hymagwedd tuag at greu’r amgylchedd cywir ar gyfer y newid carbon isel yng Nghymru.

Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at gyhoeddi ein hadroddiad o’r digwyddiadau diweddar hynny, ynghyd â’n safbwynt ar y cynnig. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda Simon Thomas, ac unrhyw Aelodau etholedig eraill sy’n cefnogi ein gweledigaeth, i nodi sut i barhau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn y ffyrdd mwyaf arloesol er mwyn cyflawni ein nodau ynni.

Diolch i chi, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Rwy’n meddwl, os gallwn geisio dod o hyd i o leiaf un peth y mae pawb ohonom yn gytûn yn ei gylch, sef ei bod yn farchnad amherffaith ac nad yw’n cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd y byddech yn disgwyl i farchnad dda ei wneud—dyna pam y mae angen rheoleiddio trwm o’r fath. Rwy’n meddwl y gallwn brofi hynny drwy ofyn i’r Aelodau godi eu dwylo os ydynt yn dal gyda’r cwmni ynni gwreiddiol roeddent gydag ef cyn preifateiddio, ac rwy’n credu y byddai cryn dipyn sydd eisoes yn dynodi ychydig bach eu bod, yn wir, yn dal gyda’r cwmnïau gwreiddiol hynny—Swalec neu Nwy Prydain neu bwy bynnag y bônt. Rwy’n meddwl bod hynny ond yn dangos bod y farchnad yn anodd iawn i’r defnyddiwr cyffredin ymrafael ynddi. Dyna pam y mae angen hyrwyddwyr defnyddwyr arnom, a gallai fod yn rheoleiddiwr neu gallai fod yn gwmni a sefydlwyd i ymyrryd mewn ffordd arbennig.

Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei digwyddiadau ymgynghori, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o fanylion yn deillio ohonynt—yn sicr, pleser oedd mynychu’r un yn Aberystwyth, ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod brwdfrydedd yn y digwyddiad ynglŷn â datblygiad fel hwn, er fy mod yn derbyn y bydd diben a ffocws yn bwysig iawn. Beth fyddai’r prif bwrpas neu ffocws? Mae yna amrywiaeth eang o bethau y gallai cwmni ynni fod. Gallai fod yn dlodi tanwydd, gallai fod yn ynni adnewyddadwy, gallai fod yn fuddsoddiad, ac mae’n rhaid iddo arbenigo—wel, nid arbenigo; mae’n rhaid iddo arwain ar rai o’r rhain i fod yn effeithiol mewn gwirionedd. Mae hwnnw’n benderfyniad yr hoffwn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn ei gylch, ond nid un sy’n dweud yn syml, ‘Wel, gadewch inni barhau fel yr ydym’, oherwydd credaf fod cymaint o’i le ar y farchnad ar hyn o bryd fel y byddem yn gwneud cam â phobl Cymru os na fydd gennym ymyrraeth fwy sylweddol.

Disgrifiodd Llyr Gruffydd y senario ddelfrydol fel ymagwedd sy’n fwy o we pry cop tuag at gynnal neu ddal y pryfed neu beth bynnag y bo, ond sy’n cynnal ein hynni. Hoffwn feddwl y byddai cwmni ynni Cymru ond yn un edau—ni fyddai’n we pry cop cyfan, ond byddai’n brif edau a fyddai’n dal y we gyda’i gilydd, a’r un mwyaf gludiog, wrth gwrs; mae hynny’n bwysig iawn.

Clywsom—rwy’n meddwl bod rhan sylweddol o ddadl Neil Hamilton yn ymwneud â chostau a buddsoddi. Credaf ei bod yn bwysig nodi bod y cynnig sydd gennym—a dogfen drafod yn unig ydyw, ond un o’r cynigion yn y ddogfen yw y gallech sefydlu cwmni o’r fath, ond y byddem am i Lywodraeth Cymru gadw cyfran reoli. Ond nid oes rheswm pam na all marchnadoedd preifat fod yn rhan o hyn. Ond rwy’n credu mai camgymeriad sylfaenol yw ceisio dadlau nad yw’r byd yn newid. Mae Tsieina’n buddsoddi £300 biliwn mewn ynni adnewyddadwy erbyn 2020. Mae gan India darged i gael 60 y cant o ynni adnewyddadwy erbyn 2027. Rydym yn hen ffasiwn yn hyn o beth mewn gwirionedd; yr economïau newydd sy’n symud ymlaen.

Ac mae’n deg dweud, wrth gwrs, fod yna drethi carbon, os ydych am eu galw’n hynny, ond mae £6 biliwn y flwyddyn o gymhorthdal yn mynd i mewn i’r diwydiant tanwydd ffosil presennol—£6 biliwn; ddwywaith yr hyn sy’n mynd tuag at ynni adnewyddadwy—ddwywaith hynny—a hynny’n bennaf ar ffurf gostyngiadau treth ar gyfer olew a nwy Môr y Gogledd, wrth gwrs. Mae yna hefyd gymorthdaliadau sylweddol drwy’r pris streic i niwclear, ac rwy’n credu y byddem yn esgeulus pe na baem yn cydnabod bod yna gymhorthdal parhaus i’r ffordd rydym yn byw heddiw, ac nad yw’r galw am gymorthdaliadau newydd ar gyfer newid er mwyn goresgyn heriau’r dyfodol yn afresymol yn y cyd-destun hwnnw. Rwy’n credu—er nad wyf yn meddwl y byddai Neil Hamilton yn cytuno â hyn, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd David Melding—fod rhaid i ni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae hynny’n dda i ni yn amgylcheddol, ond mae’n dda i ni fel cenedl yn ogystal gan ei fod yn ein gwneud yn fwy dibynnol—hunanddibynnol, dylwn ddweud. Mae gennym yr ynni yma, gyda’n harfordir a’n mynyddoedd a’n hafonydd, i fod yn fwy hunanddibynnol o ran ynni. Pwy na fyddai am ddod yn fwy hunanddibynnol o ran ynni?

A yw’n cytuno bod cyfran sylweddol o’r cymorthdaliadau i danwydd ffosil ar hyn o bryd mewn perthynas â datgomisiynu ym Môr y Gogledd ac mae’n debyg y byddai hynny’n rhywbeth y mae am ei weld yn lle bod y seilwaith olew yn cael ei adael yno?

Wel, mae’n gymysgedd, i fod yn onest gyda chi; mae peth ohono’n hynny, ond nid yw hynny ond yn barhad o’r manteision treth blaenorol a oedd ar gyfer fforio. Felly, ei droi’r ffordd arall rownd a wnaethant.

Roeddwn eisiau gorffen ar hynny, mewn gwirionedd, a diolch i’r Aelodau am o leiaf gydnabod bod y ddadl hon wedi deillio, nid yn unig o bolisi Plaid Cymru, ond gan ddefnyddio adnoddau’r Cynulliad hefyd, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gweld mwy o ddadleuon fel hyn. Rwy’n annog yr Aelodau i ddefnyddio’u cronfeydd ar gyfer datblygu polisi yn y ffordd hon; roeddwn yn ofalus iawn yno, Llywydd, fy mod yn dweud yr hyn roeddwn yn bwriadu ei ddweud—ar gyfer datblygu polisi yn y ffordd hon. Cyflwynwch fwy o ddadleuon yn y ffordd hon os gwelwch yn dda. Mae’r adnoddau yno i’n cefnogi fel Aelodau’r Cynulliad. Mae’n golygu y gallwn feddwl y tu allan i’r bocs o bryd i’w gilydd hefyd. Rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth a fydd yn datblygu’n naturiol ac yn organig yng Nghymru; byddwn yn gweld cwmnïau ynni lleol yn datblygu dros gyfnod o amser. Hoffwn ein gweld yn dangos mwy o arweiniad cenedlaethol ar y mater.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r pleidleisio.

12. 11. Cyfnod Pleidleisio

Y bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 15, Yn erbyn 29, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6316.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Ac felly mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6316.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae’r gwelliant wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 44, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6316.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Ac felly fe dderbyniwyd gwelliant 4.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6316.

Cynnig NDM6316 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi’r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru.

4. Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu’r tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i’r ardal.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, chwech yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly fe dderbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6316 fel y’i diwygiwyd: O blaid 23, Yn erbyn 15, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6316 fel y diwygiwyd.

Pleidlais nawr ar ddadl Plaid Cymru ar y cwmni ynni cenedlaethol. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid saith, tri yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly fe wrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 34, Ymatal 3.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6318.

Gwelliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, tri yn ymatal, saith yn erbyn. Ac felly fe dderbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 7, Ymatal 3.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6318.

Cynnig NDM6318 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl;

b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac

c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel.

3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd.

4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 35, naw yn ymatal, neb yn erbyn. Fe dderbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6318 fel y’i diwygiwyd: O blaid 35, Yn erbyn 0, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6318 fel y diwygiwyd.

Os gwnaiff pawb adael yn gyflym ac yn dawel, mae’r ddadl fer eisoes i’w chynnal.

13. 12. Dadl Fer: Amddiffyn Cymru i'r Genhedlaeth Nesaf

Felly, rwy’n galw’r eitem ar y ddadl fer, ac yn galw ar Dai Lloyd i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Y pwnc ydy amddiffyn Cymru i’r genhedlaeth nesaf. Diben fy nadl fer heddiw yw trafod yr heriau presennol sy’n wynebu Cymru, yn enwedig anghydraddoldeb economaidd a’n perthynas â gweddill y byd. Rwy’n bendant fy marn bod fod angen amddiffyn Cymru o ystod eang o fygythiadau sydd ar y gweill os ydym yn mynd i lwyddo i wella’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn ystod fy nadl fer heddiw, hoffwn fyfyrio a gofyn, yn y bôn, pa rôl sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru a pha fodelau amgen rydym ni’n barod i’w hystyried wrth i ni edrych i amddiffyn Cymru a chenedlaethau’r dyfodol yn erbyn rhai o’r heriau yma.

Mae hanes a hunaniaeth balch y genedl yma yn mynd nôl i’r gorffennol pell ac yn cael eu hadlewyrchu’n glir yn ein hiaith, ein diwylliant, ein celf a’n ffydd. Rwyf yn aml wedi siarad am bwysigrwydd ein hanes ni yn y Siambr yma ac nid ydw i’n mynd i ymddiheuro am wneud hynny unwaith eto. Mae’n hollbwysig bod cenedlaethau’r dyfodol yn dysgu am yr hanes cyfoethog sydd gennym. Mae angen i ni glywed llawer mwy am hanes Aneirin a Taliesin, Gwenllian, Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr, yr Esgob William Morgan, Williams Pantycelyn, terfysgoedd Merched Beca, brad y llyfrau gleision, y ‘Welsh Not’ a llawer mwy. Mae dysgu am ein gorffennol a chydnabod ein llwyddiannau yn sicr yn arwain at well ddealltwriaeth am ein lle yn y byd, am yr hyn yr ydym wedi’i gyfrannu at y byd, ac yn bwysig, yn darparu cyd-destun i’r hyn y gellir ei gyflawni, a chreu cynsail er mwyn ysbrydoli ein dyfodol.

Mi oedd nifer o’r cenedlaethau cynt yma yng Nghymru yn arloeswyr. Fe wnaethon nhw greu o’r newydd, fe wnaethon nhw ddyfeisio pethau, roedden nhw’n feiddgar ac yn ymateb i sefyllfa Cymru a’r byd fel yr oedd ar y pryd. Rydym yn aml yn sôn am ein balchder am ddatblygiad y gwasanaeth iechyd gwladol yn yr ugeinfed ganrif gan Gymro, ac mae hynny’n briodol—gofal iechyd, am ddim, i bawb—Cymru’n arwain y ffordd. Ond, ymhell cyn Bevan, yn ôl yn y canol oesoedd, mi roedd meddygon Myddfai yn arloeswyr mawr yn y maes, wrth ddatblygu’r byd meddygol yn yr ynysoedd hyn, gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Wedyn, tua chanrif a hanner yn ôl, fe welsom Hugh Owen Thomas a’i nai, Robert Jones, yn arloesi ym maes llawdriniaeth asgwrn, gyda Robert Jones yn cael ai gydnabod yn fyd-eang fel arweinydd a sylfaenydd orthopaedeg fel arbenigedd.

Wrth i ni gwrdd yma heddiw, dylem fod yn falch bod gennym bellach ddwy ysgol feddygol—yng Nghaerdydd ac Abertawe—sydd yn cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o feddygon iau, llachar. Ond mae angen i ni gynhyrchu mwy, a dyna pam mae angen i ni weld sefydlu cyfleuster newydd yng ngogledd Cymru yn ogystal. Tra bod y sylfeini yno, mae’n amlwg bod angen i ni wneud mwy i ddatblygu ein harbenigedd meddygol a gwneud mwy i gefnogi arloesi meddygol yn y dyfodol.

Nid iechyd, wrth gwrs, yw’r unig faes lle mae Cymru wedi arwain y ffordd yn hanesyddol. Mae diwydiant yn un arall. Y chwyldro diwydiannol yn cael ei feithrin yma yng Nghymru—dechrau’r daith i ddyfodol mwy llewyrchus. Mae addysg yn un arall, gyda Chymru yn arwain y ffordd gyda gwaith arloesol Griffith Jones, Llanddowror, ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif, yn addysgu’r plant yn ystod y dydd ac oedolion yn ystod y nos, gyda’r rhain wedyn yn mynd ymlaen i ddysgu eraill. Fe wnaeth y system yma o ddysgu gyrraedd y pwynt lle roedd mwyafrif o boblogaeth Cymru ar y pryd yn llythrennog—chwarter miliwn o bobl allan o boblogaeth o llai na hanner miliwn. Yn wir, erbyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761, Cymru oedd â’r lefel lythrennedd uchaf yn y byd, ac fe wnaeth hyn arwain i ‘Catherine the Great’ o Rwsia anfon comisiynydd yma i Gymru i ddysgu gwersi, ac i weld fel allai’r system gael ei haddasu ar gyfer Rwsia. Cymru’n arwain y ffordd. Dyna lle rydym wedi bod, a dyna lle allwn ni fod unwaith eto.

We need to be able to turn to our history, not to find excuses for poor performance, but as an inspiration to improve our performance. For our present and future, Wales can do better. It seems like yesterday, but 20 years ago, a narrow majority of the people in Wales were bold, and had enough confidence to vote ‘yes’ to the idea that they lived in a nation that was worthy of governing itself. That confidence has grown further since then, of course, with a far stronger endorsement in 2011. As a result, we are partially self-governing now, and our nation, finally, is on a constitutional journey. It is an exciting journey, and a journey full of possibilities. But, the growing confidence of the Welsh people means that there is a duty on all of us here to innovate and to inspire.

So far, devolved Governments haven’t been able to do that on a number of fronts. They either haven’t had the powers, the ambition, or possibly a combination of both. For a country that has led the way in healthcare, education and industry, is this really the best we can do? Ever since I was first elected to the National Assembly in 1999, the regular release of statistics on unemployment, economic inequality and poverty have rarely made for positive reading. Throughout that period of 18 years, parts of Wales have remained, stubbornly, as some of the poorest in Europe. The stats in terms of GVA per head are there for all to see, but what often gets ignored are the very real human stories behind those figures. The most recent Welsh employment figures published this month show that the Swansea East constituency within my region has the highest rate of unemployment in Wales at 9 per cent, with the youth unemployment rate even higher.

Having served as a GP in Swansea for over 30 years and latterly as an Assembly Member intermittently for the last 18 years, I have seen first-hand the impact that lack of opportunity and employment can have on families and communities. Intergenerational unemployment is rife within some of our communities, not just in Swansea, but across Wales, and as a GP, I have seen families being torn apart due to mental health issues, drug and alcohol abuse, and the feeling of helplessness.

The current system is failing people. Governments are failing people. The challenge facing us in Wales of creating employment, of reducing economic inequality and reducing poverty was difficult enough as it was. The decision to leave the European Union, our major export market, makes that task even more difficult, and will result in unprecedented challenge and risk. It brings with it questions and uncertainty in terms of our economic trading capacity, employment, education, research and innovation and inward investment. This is unparalleled in the history of devolution.

As far as I am concerned, we need to see a concerted effort, a real step change, on the part of the Welsh Government and Welsh political representatives at all levels to try and defend Wales with regard to these threats. Throughout my time in this National Assembly, I have long felt that successive Governments have been far too inward looking—not being prepared to look beyond our borders. That doesn’t just mean copying what’s going on in England, but being truly outward looking and internationalist in our approach to policy and strategic development. There is so much to be gained by looking at other governments, looking at other models, where elected bodies have succeeded in delivering for their populations. We need to innovate and learn from these areas, particularly from other sub-state nations and federal structures. The Basque Country, for example, managed an annual economic growth rate of 3.69 per cent between 1995 and 2008. Whilst the Basque Country was creating employment and lifting people out of poverty, Wales was going nowhere and, in some cases, backwards.

My call to the Welsh Government and other elected representatives is that we simply cannot let another 18 years of devolution pass without making significant economic gains. That would mean that we would have failed those people in our most deprived communities, including those in Swansea East and others throughout Wales. These families, these communities, are looking for someone to truly defend their interests. As a developing institution, this National Assembly, and its Government, need to step up to the plate and really embrace and push for innovative moves that can move Wales forward. It means that we need to look with an open mind on how we can develop a model of government in Wales which can deliver for the next generation, and yes, in some instances, that means looking at our competence as an institution and what we are prepared to do for ourselves. The first opportunity to do that will undoubtedly come during the Brexit negotiations, particularly around devolution of powers currently residing in Brussels, and the potential loss of £680 million a year, which we currently receive from the European Union. Our interests have been ignored at every step of the Brexit negotiations thus far, and the Welsh Government needs to seriously up its game if those powers and moneys are to come to Wales. We should not have to accept a penny less.

Wales is at risk of becoming the forgotten nation within this so-called United Kingdom—no more than a minor English region. Why should we put up with having the most underpowered Parliament in all of the United Kingdom? The people of Wales deserve better, and this National Assembly needs the powers to properly represent the people who elect it. The current Brexit position taken by the UK Conservative Government means that Welsh industry and agriculture are at grave risk. How can we look to develop jobs and reduce poverty in west Wales and the Valleys if these two industries suffer a hammer blow? They need to be defended, not fed to the wolves. When it comes to negotiating trade deals or other economic discussions, Wales should have an equal say, particularly if they impact on devolved functions such as agriculture and health.

With businesses threatening to move away from Wales in fear of higher costs as a result of leaving the EU, we should push for Wales to have the power to set its own rates of tax, including corporation tax, air passenger duty and VAT. We need to attract businesses to Wales, and a greater range of fiscal powers would enable us to do so much more in terms of tackling our economic challenges. How is it fair that other parts of the UK have powers over corporation tax and air Passenger Duty, but Wales does not? In terms of supporting local businesses grow, we know that far too many public procurement contracts for goods and services are given to non-Welsh contractors. We should be doing much more, compared to international comparators, to support local companies to bid for these contracts, and to ensure that as much of the Welsh pound is spent here in Wales supporting local firms and employing local people through social charter clauses. We have heard much talk about this over the years, but the outcomes are still poor.

Infrastructure is clearly a key element in delivering economic growth and development and, given Wales’s lacklustre historical infrastructure spend, it should come as no surprise that parts of the country are so poor. When you look at the infrastructure in certain parts of Wales, it is simply not fit for purpose, and it is clear that we need to significantly increase our spend if we are to make progress, and we need to look at innovative models of finance to do just that. This has a key part to play in our economic recovery, whilst recognising that traditional physical infrastructure alone is not enough and that there’s a new game in town.

It is against this backdrop that I am particularly hopeful with regard to the Swansea bay city deal, with its clear focus on developing industry and jobs around technological advance. Clusters of businesses in areas such as life sciences, energy and manufacturing have the potential to significantly boost the economy in this part of the world. What is particularly pleasing about the Swansea bay deal is the ambition that has been shown, a determination not only to get by, but to aim for something different, to aim to be world leaders, to think outside the box, and this done on a cross-party basis.

It is this type of thinking that we need to see at an all-Wales level—an attitude that says that Wales has had enough of being second best and had enough of being cinderella. We need to see an attitude, particularly from the Welsh Government, that says that, actually, we’re going for something different, we’re going to aim to be world leaders, we’re going to think outside the box.

For too long, what we’ve seen from the UK and Welsh Governments is an outdated, imperial, ‘London knows best’ attitude—it does not. That type of thinking has simply resulted in west Wales and the Valleys becoming, and remaining, one of the poorest regions in Europe.

As well as fighting for greater economic powers to help tackle the inherent poverty, we also need to promote Wales abroad as a global tourist and investment option. The good work that has recently been completed at Cardiff Airport in terms of attracting Qatar Airways, for example, should be seen as the beginning. Historically, Wales would have settled for that as the end game. This cannot be the case now. If Wales is to succeed in an international setting, and attract potential visitors and investors, then it needs to be seen and it needs to be within reach.

To achieve this, we need to do much more to promote Wales abroad, so why haven’t we got any Welsh presence in UK embassies to champion our people and businesses? We need to develop an international policy for Wales, ensuring a presence on the international stage that would help develop and restore our position as a great trading nation.

We have so much untapped resource—just look at the potential tidal energy generation in Swansea bay, Cardiff and Colwyn Bay, and also the potential of managing our resources for the benefit of our own people—untapped resource and untapped wealth. It is more than possible that many of our young people, who currently leave Wales to study or to find work, in future, will find that, in actual fact, they will be able to achieve their goals and ambitions closer to home, just as people do in the rest of the world. By keeping our talented young people within Wales, to start companies, to undertake research, to lead our public bodies, Wales would take off like it has never taken off before.

But to reach that point, we need political leadership—political leadership to implement the types of ideas that I’ve discussed during this debate. Over the next 10 years or so, Wales has two very clear choices: the first will be to continue in its current form, pretty much looking to London for guidance and funding; or it can start to take the lead, start to make its own mark in the world and start to fulfil some of its significant potential.

When I opened this debate, I spoke of the lack of economic progress in the 18 years since devolution. I won’t be a GP or an Assembly Member in another 18 years’ time, but if I’m fortunate enough to be around, I would hope to see that Wales had been bold and decided to do some more of the heavy lifting for herself. Time will tell as to whether the people of Wales and its Government will step up to the mark. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Dai Lloyd. Rydych wedi rhoi cyfle inni y prynhawn yma, yn eich dadl fer, i ddarparu darlun pwysig o gyflawniadau hanesyddol ffigyrau dylanwadol a datblygu hefyd yr hyn y mae Cymru wedi’i gynnig a’i roi, nid yn unig i’w gwlad ei hun, ond i’r byd. Mae’r persbectif hanesyddol hwnnw’n cael ei golli’n rhy aml, ac mae’n bwysig eich bod wedi myfyrio ar hynny y prynhawn yma.

O’n safbwynt ni fel Llywodraeth Lafur Cymru, ac wrth gwrs, yn ystod yr adegau pan oeddem mewn partneriaeth yn ogystal, rydym wedi bod yn sefyll dros Gymru a buddiannau Cymru dros y 18 mlynedd diwethaf—ers gwawr datganoli yn wir, wrth gwrs, a buom yn myfyrio ar hynny ddoe yn y teyrngedau i Rhodri Morgan. Rydym bellach yn gosod Cymru ar lwyfan y byd gydag effaith a chanlyniadau y byddaf yn myfyrio arnynt. Byddwn yn parhau i sefyll dros Gymru a thros ein cenedlaethau i ddod yng Nghymru yn y dyfodol drwy’r polisïau a’r deddfau—a deddfau y gallwn eu gweithredu bellach, mewn gwirionedd—rydym yn eu rhoi ar waith heddiw i ymateb i’r heriau newydd a wynebwn. Mae ein gwlad yn parhau i fod yn fan lle y ceir pobl ddynamig, hael a chreadigol, a phobl dosturiol hefyd, a phobl sy’n edrych tuag allan yn ogystal â thuag at y genedl—pobl sydd â photensial enfawr. Rydym yn awyddus i feithrin y potensial hwnnw, i greu’r amodau a’r amgylcheddau i’r potensial hwnnw ffynnu a thyfu.

Dirprwy Lywydd, mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru bob amser wedi gweithredu, a bydd yn parhau i weithredu, er budd gorau Cymru. Mae canlyniadau iechyd yn gwella: mae cyfraddau goroesi canser yn gwella, mae llai o bobl yn marw o glefyd y galon, ac mae niferoedd marwolaethau o strôc yn gostwng. Mae canlyniadau addysgol yn gwella: y canlyniadau TGAU yw’r gorau a gofnodwyd erioed, ac mae’r bwlch rhwng plant sy’n cael prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn cau. Mae ein heconomi’n perfformio’n well nag erioed: mae anweithgarwch economaidd wedi gostwng, mae cyflogaeth wedi cynyddu, ac rydym wedi gweld lefelau mewnfuddsoddi gwell nag erioed. Mae’n bwysig, fel y dywedoch, ein bod yn gweld y cynnydd ar lefel leol a rhanbarthol fel bargen ddinesig bae Abertawe, sydd hefyd, wrth gwrs, yn gysylltiedig iawn ag ehangu’r brifysgol, a soniais am y datblygiad hollbwysig a gyflawnwyd gennym gymaint o flynyddoedd yn ôl, sef yr ysgol feddygol i raddedigion yn Abertawe, a’r ail gampws, na fyddai wedi digwydd, wrth gwrs, heb arian Ewropeaidd.

Rwy’n credu bod Dai Lloyd yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod Cymru, fel rhannau eraill o’r DU a’r byd gorllewinol ehangach, yn wynebu heriau—heriau a gaiff eu hwynebu gennym ni a chan y genhedlaeth nesaf. Ar ôl saith mlynedd o galedi gan Lywodraeth Geidwadol y DU sy’n benderfynol o dorri gwariant cyhoeddus, gan gynnwys torri £1 biliwn oddi ar ein cyllideb ein hunain, rydym yn gweld safonau byw’n gostwng, ansicrwydd cynyddol a bygythiad i’n gwasanaethau cyhoeddus, ond rydym yn ymdrechu i ddiogelu a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—presgripsiynau rhad ac am ddim, cadw ein presgripsiynau rhad ac am ddim: mae’r dreth honno ar iechyd mor bwysig. Mae’n ymwneud â dewisiadau a blaenoriaethau: un ffordd y gallwn amddiffyn a diogelu’r rheini sydd ar incwm isel yng Nghymru sy’n gweithio, er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er gwaethaf y toriadau i’n cyllideb o San Steffan, yn ein GIG a gofal cymdeithasol, yn ein hysgolion ac yn ein cynghorau lleol. Rydym yn adeiladu dyfodol gwell ar gyfer ein plant drwy ddiwygio ein system addysg, buddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau, mewn gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus well, ac mewn 20,000 yn rhagor o dai fforddiadwy ar gyfer y dyfodol.

Llywodraeth Lafur Cymru oedd pensaer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig:

‘Yr hyn y mae Cymru’n ei wneud heddiw, gobeithiwn y bydd y byd yn ei wneud yfory—gweithredu yn fwy na geiriau yw’r gobaith ar gyfer cenedlaethau’n dyfodol.’

Nid oes unrhyw wlad arall wedi cymryd camau mor feiddgar i ddeddfu ar gyfer nodau llesiant hirdymor. Mae Cymru ar flaen y gad mewn deialog ryngwladol sy’n ceisio ymgysylltu â phobl ar draws y byd mewn trafodaeth am y byd yr hoffent ei weld, yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd Dai Lloyd wedi gweld y newidiadau—wrth ddychwelyd i’r Cynulliad—aeddfedu’r Cynulliad hwn, y Senedd, o ran ein cyfleoedd nid yn unig i ddefnyddio ein pwerau deddfu, ond i ehangu ein pwerau cyllidol yn awr mewn gwirionedd. Rwyf am ddweud ychydig eiriau am y llwyfan rhyngwladol. Ydym, rydym yn byw mewn byd ansicr. Rydym yn wynebu bygythiad gwirioneddol a pharhaus gan derfysgaeth ryngwladol a therfysgaeth sy’n deillio o’r wlad hon, fel y gwelsom mor drasig ddoe ar ôl nos Fawrth. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau ym maes diplomyddiaeth, mae llawer o wledydd a gwladwriaethau’n parhau i fod wedi’u hanrheithio gan ryfel. Mae clefydau newydd a rhai sy’n bygwth bywydau’n dod i’r amlwg drwy’r amser, ac ychydig iawn o amddiffyniad sydd gennym yn eu herbyn. Ac wrth gwrs, rydym yn wynebu ansicrwydd dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi derbyn canlyniadau refferendwm yr UE, ond nid yw’n ormod dweud y bydd y ddwy flynedd nesaf o drafodaethau yn pennu dyfodol, nid yn unig ein gwlad, ond dyfodol ein plant.

Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o ddiogelu buddiannau allweddol y wlad hon a ffyniant Cymru yn y dyfodol, a dyna pam y cyhoeddasom, gyda Phlaid Cymru, y Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Mae’n nodi ein diddordebau strategol a’n blaenoriaethau allweddol, wrth i’r DU baratoi i adael yr UE. Cyhoeddasom y Papur Gwyn gyda’n gilydd am ein bod yn glir nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw ystyr yn golygu y bydd Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop, dealltwriaeth a rennir rhyngom, ac wrth gwrs, mae mynediad llawn a dilyffethair parhaus at y farchnad sengl yn hanfodol i’n dyfodol.

Mae yna risgiau o’n blaenau, wrth i’r DU symud tuag at Brexit, ac rydych wedi gwneud sylwadau ar y risg i’n sector a’n diwydiant amaethyddol, ein sector ffermio. Rhaid rheoli’r risgiau hyn a’u lliniaru—risgiau i warchod yr amgylchedd, risgiau i hawliau gweithwyr—ond wrth gwrs, mae yna gyfleoedd sy’n rhaid i ni fachu arnynt. Ddoe, siaradais am ymrwymiad Rhodri Morgan i Gymru a’r byd ehangach. Fe estynnodd allan, ac yfory, byddwn yn gweld cynnyrch a chanlyniadau rhaglen Cymru o Blaid Affrica, a gychwynnwyd ganddo, ond hefyd ei ymrwymiad i agor a rhannu Cymru yn y byd. Cefais fy ysgogi’n fawr gan ei ymrwymiad i osod Cymru ar lwyfan y byd ar Ddydd Gŵyl Dewi, nid yn unig yn yr Unol Daleithiau, a oedd, wrth gwrs, yn bwysig iawn o ran cysylltiadau masnach a chysylltiadau diwylliannol, ond mewn gwledydd a phrifddinasoedd Ewropeaidd mewn gwirionedd lle mae gennym y digwyddiad blynyddol pwysig hwnnw bellach.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn awyddus i adeiladu gwlad lle rydym yn buddsoddi ein cyfoeth i roi’r cyfle gorau i bawb. Mae hynny’n golygu adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen arnom i’w rhentu a’u prynu, cadw ein cymunedau’n ddiogel, rhoi’r cyllid sydd ei angen arnynt i ffynnu i ysgolion ein plant a’n GIG. Rydym eisiau Cymru—ac rwy’n credu ein bod yn rhannu hyn—lle nad oes neb yn cael eu dal yn ôl, gwlad lle mae pawb yn gallu camu ymlaen mewn bywyd, yn ddiogel yn y gwaith ac yn y cartref, yn cael eu talu am y gwaith a wnânt, ac yn byw bywyd gyda’r urddas y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:56.