Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/02/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. A’r cwestiwn cyntaf, Neil McEvoy.

Canfyddiadau’r Gyllideb Werdd

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r canfyddiadau yng Nghyllideb Werdd flynyddol ddiweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid? OAQ(5)0090(FLG)

Lywydd, mae cyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos nad yw’r polisi caledi y mae Llywodraeth y DU wedi’i osod iddi’i hun yn gweithio, a bod pobl yng Nghymru yn wynebu’r posibilrwydd uniongyrchol o godiadau treth a thoriadau yn y gwariant, gyda rhagolygon mwy hirdymor y bydd y polisïau aflwyddiannus hyn yn ymestyn i mewn i’r degawd nesaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn gywir, mae’r gyllideb werdd yn sôn am godiadau treth neu doriadau a wynebwn, a dyfodol anodd iawn yng Nghymru. Ond un peth y gallem ei wneud i helpu fyddai atal arian rhag gadael Cymru. Fe roddaf enghraifft. Yng Ngorllewin Caerdydd, mae Iarll Plymouth ar fin gwneud tua £1.4 biliwn yn fras o werthiant tir a fydd yn dinistrio cefn gwlad yno. Felly, y cwestiwn yw: pam na wnewch chi ddeddfu, fel bod cyngor Caerdydd, a chynghorau eraill tebyg iddo, yn gallu ailddosbarthu tir yn gyflym fel tir amaethyddol? Yna, gallai Llywodraeth Cymru ei brynu—yn yr achos hwn, am oddeutu £7 miliwn. Ac yn yr achos hwn, gallech atal £1 biliwn rhag gadael Cymru, gan ddiogelu’r ased ar yr un pryd.

Lywydd, nid oes dim yng nghyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy’n darparu cyngor ar y mater hwnnw.

Mae adroddiad cyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos yr amrywiaeth eang yng nghanran y rhai sy’n hawlio budd-dal analluogrwydd ar draws y DU, gyda de Cymru yn cyrraedd 8 y cant yn gyson, ochr yn ochr â lleoedd eraill megis gogledd-ddwyrain Lloegr, a Glannau Merswy, a gorllewin yr Alban, tra bo’r ganran sy’n hawlio yn is na 4 y cant mewn rhannau mawr o dde Lloegr. Felly, a yw’n cytuno y byddai unrhyw newidiadau y gallai’r Canghellor eu gwneud i bolisïau yn y maes hwn yn effeithio’n anghymesur ar dde Cymru’n benodol, ac y byddai angen adnoddau ychwanegol sylweddol i’w cyflawni?

Wel, Lywydd, mae Julie Morgan yn llygad ei lle i dynnu sylw at effaith anghymesur polisïau diwygio lles Llywodraeth y DU ar Gymru. Ac fel Llywodraeth, ac yn wir, ar draws llawer o rannau o’r Cynulliad hwn, rydym wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU i newid y llwybr y mae’n ei ddilyn yn hynny o beth. Weithiau, dywedir mewn llaw-fer, Lywydd, oni wneir—fod Cymru’n hŷn, yn fwy sâl, ac yn dlotach na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig? Ac mae pob un o’r tair elfen honno yn effeithio’n uniongyrchol ar y bobl a fyddai’n dymuno gallu hawlio budd-daliadau i’w helpu gyda phroblemau salwch ac analluogrwydd sydd ymhell y tu hwnt i’w rheolaeth hwy.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi galw arnaf. Mae’n ymddangos bod y prif holwr wedi gadael y Siambr.

Carwn ofyn i’r Ysgrifennydd cyllid am yr adroddiad a ddaeth allan ddoe, mewn perthynas â’r fframwaith cyllidol a gyflwynwyd gennych chi, a Llywodraeth y DU, sydd â’r potensial i allu darparu £600 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i ddod. A ydych yn cydnabod y ffigur hwnnw, a’r manteision y bydd y fframwaith cyllidol yn eu dwyn i Lywodraeth Cymru, o ran bodloni rhai o’r amcanion sydd wedi’u cynnwys yn yng nghyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid? Oherwydd mae hwnnw’n ffigur sylweddol a allai gyrraedd rhai o’r nodau hynny yn y pen draw.

Rwy’n cytuno gydag Andrew R.T. Davies fod rhaid i chi gymryd y fframwaith cyllidol ochr yn ochr â chyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan fod peth potensial gan un i liniaru’r llall. Mae’r ffigur o £600 miliwn yn yr adroddiad a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru o fewn yr ystod o £500 miliwn i £1 biliwn a nodwyd gennym yn ein hamcangyfrif o’r hyn y byddai’r fframwaith cyllidol yn ei ddwyn i Gymru. Mae yno, Lywydd, i’w gloriannu yn erbyn rhai o’r risgiau yr ydym yn eu cymryd fel rhan o’r fframwaith cyllidol. Serch hynny, mae ein hamcangyfrif yn agos at un yr adroddiad ddoe, ond yn dangos, hyd yn oed wrth ystyried y risgiau hynny, y bydd y fframwaith cyllidol yn dod â refeniw ychwanegol i Gymru, a byddwn am ei roi ar waith i liniaru rhai o’r toriadau y mae’r gyllideb werdd yn dangos eu bod ar y ffordd yma.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno nad yw caledi byth yn gweithio. O Arlywydd Hoover yn yr Unol Daleithiau i Wlad Groeg heddiw, y cyfan y mae caledi wedi’i wneud yw gwneud pethau’n waeth. Pan gyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ei gyllideb werdd, gwyddom fod ei gyfarwyddwr wedi dweud y byddai’r ychydig flynyddoedd nesaf yn cael eu diffinio gan y toriadau mewn gwariant a gyhoeddwyd gan George Osborne. Pa effaith y bydd y toriadau arfaethedig hyn yn y gwariant yn ei chael ar bobl Cymru?

Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r hyn a ddywedodd Mike Hedges. Mae polisi caledi yn bolisi hunandrechol. Mae’n gwneud pethau’n waeth yn hytrach nag yn well, ac mae modd dangos hynny o’r effaith a welwn ar waith yn ymarferol mewn mannau eraill. Ar effeithiau uniongyrchol y toriadau yn y gwariant a nodir yng nghyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yr hyn y gwyddom ei fod yn dod i Gymru yw gostyngiad yn ein refeniw o 8 y cant rhwng y flwyddyn 2009 a 2019, a thoriad o 21 y cant yn ein cyllideb gyfalaf rhwng 2009 a 2019, ac nid yw hyn yn cynnwys y toriadau o £3.5 biliwn y mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddweud y bydd yn eu gwneud i gyllidebau yn 2019-20. Cyfarfûm â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ddoe, gyda Gweinidogion cyllid o’r Alban a Gogledd Iwerddon. Gyda’n gilydd, fe wnaethom bwysleisio wrth y prif ysgrifennydd yr angen i Lywodraeth y DU roi’r gorau i’w chynlluniau ar gyfer y toriadau niweidiol hyn a’r effeithiau y buasent yn eu cael ar y gweinyddiaethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig. 

Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Caerdydd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Caerdydd o fudd i’r Cymoedd i’r gogledd? OAQ(5)0097(FLG)

Gyda threfniadau llywodraethu wedi’u cytuno, yn awr mae’n rhaid i fargen ddinesig prifddnas-ranbarth Caerdydd symud ymlaen i nodi, blaenoriaethu a chytuno ar brosiectau, rhyngweithiadau ac ymyriadau sydd o fudd i’r rhanbarth cyfan, gan gynnwys y Cymoedd gogleddol. Hoffwn longyfarch pob un o’r 10 o awdurdodau lleol am gadarnhau’r fargen mewn modd amserol ac effeithiol.

A dylwn ddatgan buddiant, Lywydd, fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ychydig wythnosau yn ôl, pleidleisiais o blaid gweld Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn y fargen ddinesig.

Da iawn.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, bûm yn cadeirio grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig eu maint, a’r siaradwr gwadd oedd yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion. Crybwyllodd y cysyniad o ddinas-ranbarth a chyfeiriodd yn benodol at Fanceinion Fwyaf, a dywedodd, er ei fod yn gweithio fel cysyniad mewn sawl ffordd, y buasai’n werth i Gymru ddysgu o rai o’r problemau y maent wedi’u cael yno. Yn bennaf ymhlith y rhain oedd y ffaith fod economi canol dinas Manceinion yn llawer cryfach ac yn fwy llewyrchus na’r trefi lloeren pellaf. Rwy’n credu yn y fargen ddinesig, ond rwyf hefyd yn credu bod angen i ni wneud yn siŵr ei bod o fudd i gymunedau’r Cymoedd gogleddol, ac i mi, mae hynny’n golygu y trefi a’r pentrefi nad ydynt yn ymddangos ar arwyddbyst ar yr M4 neu’r A465. Nid yw’r ardaloedd hyn wedi elwa o fuddsoddiad cyhoeddus neu breifat ar yr un raddfa ag a welir ar goridor yr M4 a Blaenau’r Cymoedd, ac felly, sut y bydd bargen ddinesig priddinas-ranbarth Caerdydd yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn y dyfodol?

Diolch i Hefin David am y cwestiwn. Rwy’n cytuno ag ef yn llwyr fod yna lawer iawn i’w ddysgu o’r gwaith sy’n digwydd mewn mannau eraill. Roeddwn yn falch fy hun o dderbyn gwahoddiad gan yr Athro Karel Williams i roi darlith yn Ysgol Fusnes Manceinion yn ddiweddar, i rannu profiad o Gymru i gyd-fynd â’r profiad y gallant hwy ei gynnig i ni. Un o’r ffyrdd y credaf y bydd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ateb y cwestiwn y mae’r Aelod yn ei ofyn yw ein bod, ynghyd â’n Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, yn cynnig creu dyletswydd statudol newydd ar gyrff rhanbarthol o’r fath i ganolbwyntio ar ganlyniadau gorau ar gyfer y rhanbarth cyfan. A bydd hynny’n golygu edrych ar gyfrifoldebau sy’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’r rhanbarth cyfan yn hytrach na’u bod ond yn dilyn y rhan benodol o’r ddaearyddiaeth honno y daw unrhyw unigolyn ohoni. Byddaf yn sicr yn cynnwys y rhannau o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd y tynnodd sylw atynt yn ei gwestiwn, fel y gwnaeth yn y ddadl fer a gyflwynodd Nick Ramsay ar lawr y Cynulliad ar 1 Chwefror, pan ganolbwyntiodd Hefin David ar barc busnes Caerffili a modelau yno y gellir eu defnyddio ar draws y rhanbarth cyfan.

Diolch i’r Aelod dros Gaerffili am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Roedd gennyf ddiddordeb yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet pan siaradodd am y ddyletswydd statudol. I ba raddau y bydd y ddyletswydd statudol honno’n gosod darpariaethau ar gyfer ailddosbarthu cyfoeth yn deg ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd? Er enghraifft, a fydd disgwyliad y bydd y brifddinas-ranbarth yn creu clystyrau twf dynodedig ar draws y brifddinas-ranbarth fel bod yr angen i fuddsoddi yn ardaloedd ymylol y brifddinas-ranbarth wedi’i ymgorffori yn y cynllun economaidd hwnnw, er mwyn i ni allu troi ardal Blaenau’r Cymoedd, er enghraifft, yn fwa o ffyniant yn hytrach na choridor o danfuddsoddi?

Mae’r Aelod yn nodi pwyntiau diddorol iawn a chawsant eu hadlewyrchu i raddau yn adroddiad Greg Clark ar dwf a chystadleurwydd ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd. Yn y diwedd, Lywydd, mater i’r cabinet, a fydd yn cael ei ffurfio yn awr o ganlyniad i’r bleidlais a gynhaliwyd yn y 10 awdurdod lleol, fydd gwneud penderfyniadau sydd o fudd i’r rhanbarth cyfan. Byddant yn cyflwyno prosiectau y bydd gennym broses briodol ar eu cyfer bellach i gwestiynu a chytuno ar y prosiectau hynny. Y pwynt a wneuthum mewn perthynas â chwestiwn Hefin David oedd y byddwn yn cyflwyno cynigion drwy’r Papur Gwyn ar gyfer deddfu fel ei bod yn glir i’r bobl o gwmpas y bwrdd fod yn rhaid iddynt ganolbwyntio ar anghenion yr holl ranbarth pan fyddant yn gwneud y penderfyniadau hynny, er y bydd pob un ohonynt yn cynrychioli un o 10 o gydrannau bwrdd y ddinas-ranbarth.

Un o’r cyfleoedd a nodwyd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd yw y bydd yn galluogi pobl, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, fel y Cymoedd gogleddol, i fanteisio ar raglenni a chyfleoedd addysg a hyfforddiant presennol. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda chyd-Weinidogion ac awdurdodau lleol ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd ynglŷn â chynorthwyo pobl ifanc gyda’r costau teithio sy’n gysylltiedig â chyrraedd addysg a hyfforddiant gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi canslo ei chynllun tocynnau bws rhatach i bobl ifanc?

Byddaf yn trafod ystod gyfan o faterion o’r fath gyda chyd-Aelodau o’r Cabinet yn rhinwedd fy swydd fel Ysgrifennydd llywodraeth leol, a hefyd yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog cyllid dros Lywodraeth Cymru, a gallaf sicrhau’r Aelod fod y materion hynny’n cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn gwyro’n sylweddol oddi wrth y cynigion a amlinellwyd yn y Bil drafft blaenorol drwy fod 24 cynnig o’r fath naill ai wedi’u hepgor, a 13 wedi’u diwygio. Byddai rhai o’r rhain wedi caniatáu mecanweithiau adrodd a fuasai’n galluogi etholwyr i fod yn llawer mwy gwybodus, ac yn llawer mwy abl hefyd i ddwyn eu haelodau etholedig i gyfrif. Nawr, rydym yn cefnogi’n fawr y cynigion i arweinwyr cynghorau gynnal cyfarfod cyhoeddus blynyddol ac i gynghorwyr etholedig gynhyrchu adroddiad blynyddol, ac eto rydych yn awr yn ystyried bod y rhain yn rhy anhyblyg. Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, a roddwyd ar waith gan eich Llywodraeth, yn cefnogi’r canllawiau hyn ar gyfer sicrhau atebolrwydd democrataidd o’r fath. Pam rydych yn ei wrthod yn awr?

Wel, Lywydd, ein hymagwedd yn y Papur Gwyn yw bod yn glir ar yr amcanion a geisiwn, ac mae’r amcanion yn rhai rwy’n eu rhannu â’r hyn a ddywedodd yr Aelod wrth gyflwyno ei chwestiwn—y dylai gwleidyddion lleol fod yn atebol ac mewn perthynas barhaus â’u poblogaethau lleol. Roedd y BIl drafft a gyhoeddwyd yn y Cynulliad diwethaf yn cynnig set benodol o ffyrdd y gallai unigolion ddangos hynny, a’r hyn a wnaethom yw symud oddi wrth hynny yn y Papur Gwyn i ddweud bod gwahanol ffyrdd mewn gwahanol leoedd y gallech ddangos eich bod yn gwneud yr hyn y mae pawb ohonom yn gytûn fod angen i chi ei wneud. Mae’n rhaid i chi allu dangos hynny. Ond os ydych yn dychmygu eich bod yn gynghorydd ward da a’ch bod yn dosbarthu tri neu bedwar cylchlythyr bob blwyddyn o amgylch eich ward, beth yw pwynt dweud wrthych fod yn rhaid i chi gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ben hynny? Oherwydd rydych mewn cysylltiad â’ch poblogaeth dair neu bedair gwaith y flwyddyn fel y mae. Felly, mae’n rhaid i chi ddangos hynny. Mae mwy nag un ffordd o ddangos hyn, a chredwn y bydd rhoi hyblygrwydd lleol o’r fath, yn y pen draw, yn darparu ffyrdd mwy effeithiol o ddiogelu’r berthynas honno na meddwl bob amser y gallwn bennu’r pethau hynny yma yng Nghaerdydd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnig adeiladu ar drefniadau rhanbarthol presennol lle y maent ar waith. Fodd bynnag, mae Estyn wedi beirniadu rhai consortia addysgol ynglŷn â’u trefniadau llywodraethu a’u perfformiad. Er enghraifft, ym mis Mehefin 2016, beirniadwyd consortiwm addysg gogledd Cymru ganddynt am safonau gwaith gwael, am mai’r gyfradd wella mewn llawer o ddeilliannau disgyblion oedd yr arafaf o bedwar rhanbarth, ac am fod y consortiwm wedi bod yn araf i sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn cyd-fynd â model cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio rhanbarthol. Os oes gennych fodel yn awr gyda beirniadaeth mor hallt ac nad yw i’w weld yn gweithio’n effeithiol, pam y buasech eisiau ailadrodd hynny?

Wel, rwy’n meddwl bod yr Aelod yn unochrog ac yn ddetholus iawn ei barn ar y consortia addysg, oherwydd mae llawer iawn o bethau llwyddiannus yn eu cylch y gallant eu dangos ar draws Cymru. Mae’r ffordd ranbarthol o weithio yn un sy’n cael ei chymeradwyo’n gadarn yn ein Papur Gwyn. Yr hyn y gallwn ei wneud yw ateb y feirniadaeth ynglŷn â llywodraethu a grybwyllodd yr Aelod, gan ein bod yn dweud yn ein Papur Gwyn, ar ôl cytuno ar drefniadau rhanbarthol, ac ar ôl cytuno ar y swyddogaethau a gaiff eu cyflawni ar y lefel ranbarthol, byddwn yn deddfu i greu dull cyson o lywodraethu ar draws Cymru. Rwy’n credu y bydd hynny’n mynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at ateb rhai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â rhai agweddau ar lywodraethu mewn rhai trefniadau rhanbarthol.

Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mewn ymateb i gwestiwn Cynulliad ysgrifenedig ataf yn ddiweddar, rydych yn datgan eich bod wedi gofyn i awdurdodau lleol dynnu sylw at y ffyrdd y byddant yn ymgynghori, ond mae’n ymddangos mai’r canlyniad y cytunwyd arno yw annog cyfranogiad gan ddinasyddion drwy eu gwefannau. Fodd bynnag, mae’r ymgynghoriad hwn yn sicr yn mynd i fethu cyrraedd nifer o’n hetholwyr ledled Cymru, a chadarnhawyd hynny’n ddiweddar gan aelod cabinet cyngor Llafur Abertawe dros drawsnewid a pherfformiad, pan ddywedodd,

Er bod mwy o wasanaethau a gwybodaeth y cyngor yn cael eu darparu ar-lein y dyddiau hyn, rydym yn deall nad oes gan bawb fynediad at y rhyngrwyd, yn enwedig pobl hŷn a rhai ar incwm isel, sef y bobl, yn aml, sydd fwyaf o angen ein gwasanaethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, dyma’r union bobl y credaf fod ganddynt hawl i wybod bod eu model llywodraeth leol yn newid a’i fod yn symud yn fwy tuag at sail ranbarthol. Sut rydych chi’n argyhoeddi’r Siambr hon felly y bernir bod hyn yn dderbyniol o ran cyfathrebu â phobl Cymru sydd â hawl i wybod sut y bydd eu gwasanaethau lleol yn cael eu darparu?

Lywydd, rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, yn yr ystyr fod gennym uchelgais a rennir i wneud yn siŵr fod y cynigion yn y Papur Gwyn yn cael eu dwyn i sylw cymaint o bobl ag sy’n bosibl ar draws Cymru a’n bod yn gwneud ymdrechion penodol i gyrraedd y bobl na fyddent fel arall yn cael gwybod am y materion hyn o bosibl. Rwy’n bendant yn disgwyl i awdurdodau lleol chwarae eu rhan yn hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan. Os caf ddweud wrth yr Aelod, rwy’n meddwl bod gan bleidiau gwleidyddol gyfrifoldeb yn hyn hefyd. Mae llywodraeth leol yn fusnes i bawb ohonom, a cheisio perswadio dinasyddion i gefnogi ein dewisiadau polisi, ac rwy’n gobeithio y bydd pob plaid wleidyddol yma, wrth iddynt baratoi ar gyfer etholiadau mis Mai, yn meddwl bod dyfodol llywodraeth leol a gwahanol ffyrdd o wella’r dyfodol hwnnw yn rhywbeth y byddwn ni ein hunain yn awyddus i sicrhau ein bod yn tynnu sylw ato wrth i ni gyfathrebu gyda’r etholwyr.

Diolch, Lywydd. Weinidog, un o swyddogaethau traddodiadol cynghorau lleol yw’r maes tai. Ond weithiau gall rheoleiddio gormodol fod yn faen tramgwydd, yn enwedig i gwmnïau adeiladu tai llai o faint, ac mae rhai o’r rheoliadau hyn yn ymwneud â madfallod dŵr cribog. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Papur Gwyn sy’n cynnig cynllun gwrthbwyso ar gyfer madfallod. Byddai hyn yn caniatáu i ddatblygwyr adeiladu ar safleoedd sy’n cynnwys pyllau madfallod cyn belled â’u bod yn talu am ddarparu cynefinoedd da ar gyfer madfallod mewn mannau eraill, fel bod y madfallod, fel rhywogaeth, yn parhau i ffynnu. Roeddwn yn meddwl tybed a oeddech o’r farn y gallai cynghorau lleol yng Nghymru fynd i’r afael â’r prinder tai yn well pe bai cynllun o’r fath yn cael ei gyflwyno yma.

Wel, Lywydd, nid wyf yn gyfarwydd â’r cynllun, er fy mod yn siŵr fod fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, sydd â chyfrifoldeb am dai, yn ymwybodol ohono. Mae gennym darged uchelgeisiol iawn ar gyfer tai fforddiadwy yma yng Nghymru. Rydym yn edrych ar bob math o ffyrdd o gyflymu’r broses o gyflawni’r targed hwnnw. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd i gynnal ein bywyd gwyllt a’n rhywogaethau dan fygythiad yn bwysig hefyd. Rwy’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod eisiau edrych ar y cydbwysedd a geir yn y Papur Gwyn i weld a oes unrhyw beth y gallem ddysgu ohono yng Nghymru.

Ie, diolch. Mae angen cael cydbwysedd, ond rwy’n falch eich bod yn ei ystyried er fy mod yn sylweddoli mai cyfrifoldeb Gweinidog arall ydyw yn awtomatig. Ond diolch i chi.

Nawr, gall cydymffurfio â rheoliadau fod yn fater sy’n codi dro ar ôl tro i gynghorau. Yn amlwg, mae angen rheoliadau—rheoliadau synhwyrol, hynny yw—ond mae rheoliadau’n ychwanegu cost. Un ddadl fynych y byddwn yn ei chael yma dros y ddwy flynedd nesaf yn ôl pob tebyg fydd pa reoliadau’r UE y byddwn eisiau eu cadw mewn gwirionedd. Cafwyd problemau mawr gyda chasgliadau gwastraff cartref yn y blynyddoedd diwethaf. Yng Nghaerdydd, mae’r gweinidog cabinet perthnasol, Bob Derbyshire, wedi nodi’r angen i gydymffurfio â rheoliadau’r UE ar sawl achlysur, ond yn fuan ni fydd yn rhaid i ni gydymffurfio â hwy mwyach. O ystyried hynny, a yw’n amserol i gynghorau adolygu eu polisïau casglu gwastraff yn awr?

Wel, yn gyffredinol, Lywydd, rwy’n cytuno â’r pwynt, a chyda’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae angen i bob awdurdod cyhoeddus a fydd mewn sefyllfa wahanol ar ôl Brexit ddechrau meddwl am y dewisiadau sydd ganddynt yn y cyd-destun hwnnw. Ar y cyfan, mae’r rheoliadau yno i wasanaethu dibenion gwleidyddol a chyhoeddus pwysig. Fodd bynnag, lle y ceir gwahanol gyfleoedd yn y dyfodol—er enghraifft, ym maes caffael, o ran Llywodraeth Cymru—mae’n awgrym synhwyrol y dylai awdurdodau lleol hefyd edrych ar y newid yn eu hamgylchiadau a dechrau meddwl yn awr ynglŷn â sut y byddant yn dymuno gwneud unrhyw gymwysiadau.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, y tro diwethaf y gofynnais gwestiynau i chi yn rhan o’ch brîff llywodraeth leol, roeddwn yn sôn am daliadau traffig yng Nghaerdydd ac fe ddywedoch y byddech yn ysgrifennu ataf, ac yn wir, fe wnaethoch hynny. Felly, diolch i chi am y wybodaeth a roesoch. O ran taliadau parcio a throseddau traffig a gâi eu casglu gan gyngor Caerdydd a chynghorau eraill—Caerdydd oedd yr enghraifft a ddefnyddiais; wrth gwrs, mae’n berthnasol drwy Gymru—fe ddywedoch y byddai’r dirwyon hyn yn cael eu clustnodi ar gyfer yr adran benodol dan sylw. Felly, rwy’n meddwl tybed sut rydych chi, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod dirwyon yn cael eu clustnodi.

Lywydd, yr hyn y cofiaf ei ddweud wrth yr Aelod pan soniodd am hyn ddiwethaf oedd y buaswn, yn ogystal ag ysgrifennu ato gyda manylion, yn ychwanegu’r eitem hon at yr agenda o faterion y byddaf yn eu trafod gydag awdurdodau lleol pan wyf mewn cysylltiad â hwy. Rwyf wedi gallu dechrau gwneud hynny. Rwy’n bwriadu defnyddio’r misoedd nesaf, tra bo’r Papur Gwyn yn destun ymgynghoriad, i ddefnyddio’r cyfle i siarad ag awdurdodau lleol am bethau heblaw diwygio llywodraeth leol. Felly, edrychaf ymlaen at allu rhoi’r mater a grybwyllodd yr Aelod wrthyf yn flaenorol ar yr agenda gydag awdurdodau lleol, a gwneud hynny gyda nifer fwy ohonynt yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ar leoliad yr awdurdod refeniw newydd, fe ddywedodd y Prif Weinidog hyn:

rŷm ni yn siarad am swyddi sydd ag arbenigedd sydd ddim ar gael yng Nghymru, fwy neu lai.’

Aeth ymlaen i ddweud:

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’.

Eto, pan holwyd cyfarwyddwr cyflawni’r awdurdod yr un cwestiwn yn y Pwyllgor Cyllid y diwrnod wedyn, sef a yw’r arbenigedd perthnasol yn bodoli yma yng Nghymru ac a fydd yr awdurdod yn recriwtio yng Nghymru, fe ddywedodd y cyfarwyddwr fod y sgiliau ar gael yma ac y bydd yr awdurdod yn recriwtio yng Nghymru. Pwy, felly, yn eich barn chi, y dylwn ni wrando arnyn nhw? Y Prif Weinidog ynteu’r arbenigwr sydd wedi’i apwyntio i sefydlu’r corff yma? Os mai barn yr arbenigwr sy’n ddilys, ydy’r Prif Weinidog yn euog o gamarwain y Cynulliad? Yn sicr, mae o’n euog o bardduo a thanbrisio a bychanu Cymru. Unwaith eto, mae Llafur yn dweud bod Cymru yn ‘too poor, too small, too stupid’, i ddyfynnu’r anfarwol Alex Salmond. Mae hynny’n warthus, ac mae angen i’r Prif Weinidog ymddiheuro.

Wel, rwy’n gwrthod bron bopeth y mae’r Aelod newydd ei ddweud, Lywydd. Nid oes gwrthdaro rhwng yr hyn y mae’r ddwy ffynhonnell a ddyfynnodd wedi’i ddweud wrthych. Bydd 40 o bobl yn gweithio yn Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd nifer o’r rheini’n cael eu recriwtio o Gymru. Bydd nifer ohonynt yn ddi-os yn cael eu recriwtio o’r tu hwnt i Gymru. Rydym yn sefydlu proffesiwn treth ar gyfer Cymru am y tro cyntaf erioed. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru angen sgiliau sy’n brin ac yn benodol iawn. Cefais gyfarfod ddoe â chadeirydd a phrif weithredwr Revenue Scotland. Archwiliais yn benodol iawn gyda hwy yr hyn yr oeddent yn dweud wrthyf sy’n her gyson o ran gallu recriwtio a chadw staff prin. Roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn recriwtio ar gyfer Revenue Scotland o’r tu hwnt i’r Alban, ac yn wir, y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig. Nid oes ganddynt bobl o fewn yr Alban yn unig, ac maent hwythau hefyd yn sefydlu proffesiwn am y tro cyntaf. Bydd arnom angen pobl o Gymru, ond yn sicr bydd angen i ni gael pobl sy’n gweithio tu hwnt i Gymru ar hyn o bryd, a byddwn yn falch iawn, ar yr ochr hon, o ddenu pobl sy’n barod i wneud eu dyfodol yn rhan o’n dyfodol ni yma yng Nghymru.

A gaf i jest eich atgoffa chi o beth ddywedodd y Prif Weinidog? Mi ddwedodd o:

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’.

Rydw i’n symud ymlaen i’r Papur Gwyn a gafodd ei gyflwyno gennych chi, ychydig o wythnosau yn ôl, ar ddiwygio llywodraeth leol. Mae yna nifer o gwestiynau yn codi, yn bennaf: a fydd y math o drefniadau rhanbarthol sy’n cael eu cynnig yn creu cymhlethdod a dryswch i bobl Cymru? Un o brif broblemau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl adroddiad y comisiwn Williams, yw ei fod yn rhy gymhleth, ac felly’n rhwystro awdurdodau lleol rhag darparu ac ymgysylltu yn effeithiol. Rydw i’n tynnu sylw’r Cynulliad at y model fframwaith a phatrwm daearyddol a gynigir yn y papur, sef pwynt 2.6.10. Gallai hyn olygu, er y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno ar lefel ranbarthol, gallai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan bartneriaethau eraill isranbarthol, neu hyd yn oed bartneriaethau isranbarthol a fydd yn croesi’r ffiniau rhanbarthol. Felly, yn gyntaf, a ydych chi’n meddwl bod y model hwn yn symleiddio’r ffordd y bydd awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau, ynteu a fydd yr holl system yn ddryslyd tu hwnt, ac y bydd atebolrwydd yn mynd ar goll?

A gaf i ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, rydw i’n cydnabod y ffaith bod cymhlethdod yn rhywbeth pwysig i feddwl amdano, pan rydym ni’n cynllunio dyfodol awdurdodau lleol? Os oes syniadau yn dod i mewn pan fydd pobl yn ystyried y Papur Gwyn, byddwn ni’n gallu gwneud mwy i symleiddio pethau, a mwy i wneud y system yn fwy atebol i bobl leol yn y dyfodol, ac rydw i’n hollol agored i glywed beth mae pobl yn mynd i ddweud. Mewn egwyddor, nid ydw i’n meddwl bod y pethau yn ein Papur Gwyn ni yn mynd i wneud mwy i greu cymhlethdod nag oedd ym maniffesto Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf, pan oedd Plaid Cymru yn dweud:

We will legislate to create…regional combined authorities’.

The same arguments would have been implicit in that proposal, and I’m keen to find ways of bearing down on them, and trying to solve them, and I’m sure the discussions that will happen during the White Paper will help us to address the issues which she identified, and which I share with her, as important matters to be resolved.

Diolch. Mae Plaid Cymru yn dadlau am ranbartholi syml, a dyna ydy’r cynghorau cyfunol. Rydym ni hefyd yn dadlau dros gyflwyno meiri etholedig fel ffordd o sicrhau atebolrwydd. Mae Plaid Cymru yn croesawu cynnwys y Papur Gwyn o ymrwymo i gyflwyno pleidlais gyfrannol fel ffordd o gynnal etholiadau llywodraeth leol. Mi fuasem ni’n gwneud pleidlais gyfrannol drwy STV yn fandadol i bob cyngor, ond mae cynnig y dewis yn gam i’r cyfeiriad cywir.

Mae’r ddadl dros gyflwyno system bleidlais gyfrannol bellach yn ddadl sydd yn derbyn cefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad, ac yn San Steffan hefyd, efo Aelodau nodedig o’ch plaid chi yn galw am system bleidleisio gyfrannol ar lefel genedlaethol hefyd. Felly, a ydych chi’n cytuno bod cynnig system bleidleisio gyfrannol drwy STV ar gyfer etholiadau cyngor, a’r egwyddor ar gyfer etholiadau cenedlaethol hefyd, yn ffordd ymarferol werthfawr o fywiogi ac adfer democratiaeth, a sicrhau bod pobl yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfri, gan ddiogelu cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol yng Nghymru?

Lywydd, mae systemau pleidleisio yn faterion y ceir amrywiaeth o safbwyntiau yn eu cylch o fewn y pleidiau gwleidyddol, yn ogystal â rhwng pleidiau gwleidyddol. Y cynnig yn y Papur Gwyn yw caniatáu i awdurdodau lleol wneud y penderfyniad sy’n iawn iddynt hwy yn eu cyd-destun eu hunain. Rwy’n siŵr y bydd trafodaeth fywiog yma yn y Cynulliad am y gwahanol safbwyntiau a fydd gan unigolion a phleidiau ynglŷn â’r ffordd orau o sicrhau system bleidleisio yn genedlaethol yng Nghymru sy’n galluogi pobl i deimlo cysylltiad â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, ac i deimlo bod y ffordd y maent yn bwrw eu pleidlais yn dylanwadu ar y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yma.

Rhyddhad Ardrethi Busnes

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0089(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, rhyddhad trosiannol a rhyddhad wedi’i dargedu ar gyfer y stryd fawr, i’w helpu i fuddsoddi a sicrhau twf economaidd hirdymor yng Nghymru, gan gynnal ffrwd ariannu gynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog—ac rwy’n sylweddoli eich bod i ffwrdd mewn cyfarfod cyllid ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gobeithio eich bod wedi cael gwybod gan eich swyddogion—fe nododd y Prif Weinidog y buasech yn cyflwyno datganiad ddiwedd yr wythnos hon yn amlinellu sut y mae’r £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn mynd i gael ei ddosbarthu i fusnesau sy’n dioddef yn sgil yr ailbrisio. A gaf fi eich annog i ddefnyddio’r cyfle hwn, efallai—y trydydd cwestiwn yn y cwestiynau cyllid—i roi gwybod i’r Cyfarfod Llawn sut y bwriadwch wneud hynny yn hytrach nag aros tan ddiwedd yr wythnos pan na fydd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau y maent yn eu hystyried yn briodol o ystyried diddordeb eu hetholwyr yn y mater penodol hwn?

Wel, Lywydd, rwy’n gwneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr y ceir datganiad o’r fath cyn y toriad, ac rwy’n falch o gadarnhau yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Rydym yn y camau olaf un o roi’r holl gynigion hyn at ei gilydd. Rydym yn dal i aros am rywfaint o’r data diwethaf un gan yr awdurdod prisio er mwyn caniatáu inni wneud hynny. Wrth gwrs, rwy’n deall y bydd gan lawer o’r Aelodau yn y Siambr ddiddordeb uniongyrchol yn y manylion. Os bydd unrhyw Aelod angen rhagor o wybodaeth, neu os oes ganddynt gwestiynau y maent am eu gofyn, rwy’n hapus iawn i ddweud y gwnaf fy ngorau i ymateb iddynt yn unigol cyn gynted â phosibl, ar ôl i’r datganiad hwnnw gael ei wneud.

Ysgrifennydd y Cabinet, ar ddiwrnod pan ydym yn aros am ganlyniadau pleidlais Tata Steel mewn perthynas â’r diwydiant dur a dyfodol hynny, mae’n bwysig ein bod yn egluro’r sefyllfa o ran ardrethi busnes gyda dur. Soniwyd droeon yn y Siambr hon am y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi. A ydych wedi cael trafodaethau pellach gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU neu swyddogion yr UE mewn perthynas â’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i leihau’r ardrethi busnes? Oherwydd mae honno’n elfen bwysig er mwyn sicrhau chwarae teg ar draws Ewrop.

Wel, diolch i David Rees am hynny. Prin yw’r cwestiynau, Lywydd, sy’n pwyntio at sector lle y mae gwerthoedd ardrethol wedi lleihau’n sylweddol o ganlyniad i ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ddiweddar. Yma yng Nghymru, bydd y gostyngiad yn y biliau a delir gan y diwydiant dur yn effeithio’n sylweddol ar y diwydiant hwnnw. Yn wahanol i Loegr, byddwn yn caniatáu i’r diwydiant gael y budd llawn o’r gostyngiadau hynny am nad ydym yn ariannu’r cymorth a roddwn i bobl y mae eu biliau’n codi drwy fynd ag arian oddi wrth gwmnïau y mae eu biliau’n gostwng. Rwy’n gwybod bod llawer o sylwebaeth wedi bod yn Lloegr yn galw am drin y diwydiant dur yn Lloegr yr un mor fanteisiol â’r diwydiant dur yng Nghymru. Felly, diolch i’r Aelod am y cwestiwn am ei fod yn tynnu sylw at ran arbennig o bwysig o’r ffordd yr ydym yn cyflawni’r pethau hyn yma yng Nghymru.

Weinidog, mae masnachwyr ym marchnad Castell-nedd wedi cael cynnig llai o ardrethi busnes ers peth amser, gyda rhai yn elwa o dalu dim o gwbl. Fodd bynnag, yn ddiweddar, bûm yn siarad gyda rhai masnachwyr yn y farchnad a ddywedodd wrthyf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi codi eu rhenti i’r pwynt lle y bydd rhai yn cael eu gorfodi i gau neu symud eu busnes i fannau eraill. A fuasech yn cytuno bod cynnig cymhelliad economaidd ar ffurf gostyngiad mewn ardrethi busnes, a chodi rhenti wedyn ar yr un pryd, yn tanseilio holl bwynt y gostyngiad yn yr ardrethi busnes? Ac a wnewch chi ymuno â mi o bosibl i ysgrifennu at gyngor Castell-nedd Port Talbot i fynegi’r pryderon hyn? Mae’n fater real iawn ar hyn o bryd, lle y mae llawer o’r masnachwyr yn dweud na allant weld dyfodol yn y farchnad os na fydd pethau’n newid.

Nid wyf yn ymwybodol o’r mater, ond rwy’n hapus iawn i gytuno i ysgrifennu at y cyngor i ddarganfod mwy am y camau y maent wedi’u rhoi ar waith.

Gwariant Cyhoeddus

4. Pa wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am gyfanswm y gwariant cyhoeddus a gafodd ei wario mewn unrhyw ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru? OAQ(5)0100(FLG)

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw, neu â mynediad at ystod eang o ddata yn cwmpasu amrywiaeth o olion traed daearyddol ledled Cymru. Aiff bron i dri chwarter yr holl wariant refeniw gan Lywodraeth Cymru ar ddyraniadau i awdurdodau lleol, cyrff iechyd lleol ac awdurdodau’r heddlu.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Tynnodd sylw yn ei ymatebion cynharach at effeithiau niweidiol polisïau caledi Torïaidd. Bydd pwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf, ac ni fydd y cymhlethdod o fynd i’r afael â’r heriau’n dod fymryn haws. A fuasai’n cytuno y buasai darlun clir a chynhwysfawr o holl wariant cyhoeddus—lleol, Llywodraeth Cymru a ledled y DU, yn cwmpasu iechyd, budd-daliadau, addysg ac yn y blaen—ar lefel awdurdod lleol neu, os caf ddweud, ar lefel cod post, yn amcan gwerthfawr y dylem i gyd fod yn ymgyrraedd tuag ato? Ac os yw’n cytuno, a oes unrhyw drafodaethau cyfredol ar y gweill, neu a yw’n rhagweld y bydd yn cael y trafodaethau hynny yn y dyfodol?

Wel, Lywydd, mae data ar gael mewn nifer o ffyrdd eisoes ar y lefel leol honno. Mae cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, er enghraifft, yn cofnodi gwariant ar lefel cod post, mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru wedi gweithredu ers amser ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen is, a bydd dadansoddiad o wariant caffael 2015-16 yng Nghymru, sydd ar fin dod i ben, hefyd yn caniatáu i wariant gael ei ddadansoddi ar lefel cod post o’r fath. Felly, rwy’n rhannu diddordeb yr Aelod yn y pwnc am y rhesymau a ddisgrifiodd. Rwy’n siŵr y bydd yn cydnabod bod yna rai cyfyngiadau ar sut y gallwch ddefnyddio data yn y ffordd honno. Mae yna wahaniaeth rhwng gwariant ac effaith, er enghraifft. Os adeiladwch ysgol uwchradd, a gweithredu ysgol uwchradd, bydd yn effeithio’n fawr iawn ar lefel cod post, ond teimlir effaith y gwariant, wrth gwrs, yn llawer ehangach na’r cod post ei hun.

Rwy’n meddwl bod yr Aelod wedi gwneud pwynt pwysig yn ei gwestiwn, ein bod dros amser wedi symud ymlaen o fod â diddordeb mewn mewnbynnau ac allbynnau, i gael llawer mwy o ddiddordeb mewn canlyniadau—beth yw effaith y gwariant y gallwn ei ddarparu ar fywydau pobl y gobeithiwn y byddant yn elwa ohono? Ac un peth yw casglu data; mae gwneud synnwyr ohono a gwneud defnydd ohono yn fater arall.

Yn nhermau gwariant cyfalaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae cynrychiolwyr cynghorau lleol yn Lloegr sy’n ffinio â Chymru wedi crybwyll bod yna ddiffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn Lloegr yn nhermau manylion projectau a gwariant isadeiledd sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Felly, yn dilyn hynny, pa gamau a ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu ag awdurdodau cyhoeddus dros y ffin i ddelifro projectau isadeiledd sy’n gydgysylltiedig?

Wel, rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Wrth gwrs, mae lot o’r pethau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru ar y ffin yn dibynnu ar bethau sy’n mynd ymlaen dros y ffin hefyd, ac mae’r penderfyniadau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru yn cael effaith yn Lloegr ac mae pethau y maen nhw’n eu gwneud yn Lloegr hefyd, y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud, yn cael effaith arnom ni, ac ym maes cyfalaf, mae hynny’n bwysig. Rŷm ni yn rhannu gwybodaeth pan fydd pobl yn gofyn inni am y wybodaeth a phan ŷm ni’n cydweithio gyda’r awdurdodau dros y ffin hefyd.

Nid wyf wedi dod ar draws unrhyw le ble rwy’n gallu cofio problemau yn codi, ond os oes mwy o fanylion gyda’r Aelod am ble mae pethau yr ŷm ni’n gallu eu gwneud yn well, rwyf i wrth gwrs yn hollol hapus i ystyried hynny.

A gaf fi groesawu’r symudiad at ddefnydd mwy soffistigedig o ddata, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn, gan ei fod yn caniatáu i ni, neu’n rhoi cyfle i ni sicrhau’r potensial mwyaf posibl o wariant cyhoeddus. Er enghraifft, mewn ardaloedd lle y darperir lefel uchel o ofal plant o ffynonellau’r wladwriaeth, buaswn yn disgwyl gweld llawer o’r boblogaeth leol yn ymwneud â darparu’r gwasanaethau gofal plant hynny, ac os nad ydynt, mae’n golygu, yn amlwg, fod pobl yn dod i mewn o’r tu allan i’r ardal honno i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw—peth da ynddo’i hun, ond nid ydym yn cael y gorau am y bunt Gymreig o reidrwydd yn yr ardaloedd mwy difreintiedig os nad yw gwariant cyhoeddus yn cael ei ailgylchu’n drylwyr yn eu heconomi.

Wel, mae’r Aelod yn gwneud y pwynt, yn fwy huawdl nag y gwnes i, pwynt y ceisiais ei wneud yn gynharach, fod yn rhaid inni fod â diddordeb mewn elw ar fuddsoddiad, nid buddsoddiad yn unig. Yn hanesyddol, rwy’n meddwl y byddai’n rhaid i chi ddweud bod awdurdodau cyhoeddus wedi bod yn dda iawn am gasglu data a heb ymdrechu agos cymaint i ddadansoddi data. Felly, rydych yn cael llawer iawn o bethau ar eich bwrdd, ond nid oes neb i’ch helpu i wneud llawer o synnwyr ohono. Holl bwynt gwneud synnwyr ohono yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr elw ar y buddsoddiad a wnaethom, sy’n gweithio ar gyfer y cymunedau lle y caiff yr arian ei wario, a’r bobl sy’n byw ynddynt.

Awdurdod Cyllid Cymru

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu Awdurdod Cyllid Cymru? OAQ(5)0099(FLG)

Diolch i Nick Ramsay am hynny. Mae cynnydd da wedi’i wneud ar sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Yfory, bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer swydd cadeirydd yr awdurdod hwnnw.

Rwy’n credu bod yna adlais yn y Siambr hon heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n bwnc pwysig, felly rwy’n pwysleisio. Roedd dydd Llun, fel y dywedoch, yn ddiwrnod pwysig arall ar daith dreth Cymru: cyhoeddi Kathryn Bishop fel hoff ymgeisydd Llywodraeth Cymru i ddod yn gadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru. Fel y gwyddoch, bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal sesiwn wrandawiad cyn penodi yfory. Pan fynychais un o gyfarfodydd embryonig Awdurdod Cyllid Cymru yn Stadiwm y Mileniwm, rwy’n eich cofio’n dweud, yn eich datganiad swyddogol, y buasai’n rhaid i natur swydd y cadeirydd gael ei benderfynu’n derfynol cyn y penodiad, h.y. a yw’n gadeirydd trosiannol neu’n gadeirydd parhaol, a yw’n gadeirydd gyda phrofiad blaenorol o reoli a sefydlu cyrff fel hyn neu brofiad cyllidol, ac ai cadeirydd sy’n mynd i chwarae’r brif rôl gyhoeddus neu’r prif weithredwr. Wrth i ni nesáu at y penodiad hwn, a allwch daflu ychydig o oleuni ar y math o gadeirydd y gallwn ddisgwyl i Kathryn Bishop fod? Rwy’n rhagdybio y bydd yn cyflawni un o’r rolau pwysicaf—byddwn yn trafod hyn yfory, fel y dywedodd Simon Thomas—un o’r rolau pwysicaf ym mywyd cyhoeddus Cymru. Rwy’n meddwl bod angen i ni wybod beth yw natur y swydd y penderfynwyd arni cyn i’r broses recriwtio ddechrau.

Wel, diolch i Nick Ramsay am hynny. Rwy’n awyddus iawn i beidio â thresmasu ar diriogaeth y Pwyllgor Cyllid, a fydd, rwy’n siŵr, eisiau archwilio’r union faterion hyn gyda’r ymgeisydd penodol dan sylw. Os yw’n gofyn i mi beth y credwn fy mod yn chwilio amdano’n benodol, yna roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig iawn rhoi pwyslais ar ddenu ymgeisydd a fyddai â brwdfrydedd gwirioneddol tuag at y gwaith sydd angen ei wneud wrth sefydlu corff newydd. Rwy’n meddwl bod pobl yn dod â sgiliau i gorff sydd eisoes mewn sefyllfa sefydlog, a’u gwaith hwy yw sicrhau ei fod yn parhau i weithredu mewn modd effeithiol, ac rwy’n meddwl y gallai fod set ychydig yn wahanol o brofiadau a diddordebau i rywun sydd â’r gwaith o osod sefydliad Cymreig newydd pwysig ar ei draed ac ar waith. Pan oeddwn gyda Revenue Scotland ddoe, Lywydd, cyfarfûm â phrif weithredwr a chadeirydd yr awdurdod, ac roeddent yn dweud wrthyf, ‘Pa gynllun bynnag sydd gennych ar ddechrau Awdurdod Cyllid Cymru, rhaid i chi wynebu’r ffaith y byddwch yn newid y cynllun hwnnw’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn gyntaf am na fydd profiad a disgwyliad yr un fath.’ Mae angen rhywun, felly, sy’n ddigon hyblyg ac mewn cytgord â hynny i wneud y swydd yn llwyddiannus. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgeisydd y bydd y Pwyllgor Cyllid yn clywed ganddynt yfory yn ateb y gofyn hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weld beth fydd gan y Pwyllgor Cyllid i’w ddweud o ganlyniad i’w waith craffu.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau bod costau rhedeg Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau o fewn yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd y llynedd?

Wel, Lywydd, llofnodais lythyr yn gynharach heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—un o nifer o lythyrau a anfonais at y Cadeirydd heddiw—lle y nodais y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â chostau Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n ymrwymo i ddarparu diweddariad pellach tra bydd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn y llythyr hwnnw rwy’n dweud ein bod yn parhau’n hyderus y bydd costau sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau o fewn y £4.8 miliwn i £6.3 miliwn a nodwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, a’n bod yn parhau i ddisgwyl i Awdurdod Cyllid Cymru weithredu mewn sefyllfa sefydlog rywle rhwng £2.8 miliwn a £4 miliwn y flwyddyn.

Data Mawr

6. Pa gynlluniau sydd i ddefnyddio data mawr i newid y ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0088(FLG)

Mae harneisio datblygiadau yn y byd digidol a data yn cynnig cyfleoedd go iawn i wasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y gallu i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn, er enghraifft, drwy fuddsoddi yn y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn Abertawe a thrwy weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth iddynt ddatblygu eu campws gwyddor data yng Nghasnewydd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae Cyngor Harrow wedi defnyddio data mawr i symleiddio gwasanaethau casglu sbwriel a thorri gwair, gan wneud £4 miliwn o arbedion drwy gyfrifo’r llwybrau gorau i gasglu’r biniau ac atal gorgyffwrdd. Mae Cyngor Camden wedi lleihau galwadau atgyweirio 14 y cant drwy ddefnyddio data mawr i binbwyntio ble y mae problemau’n codi. Wrth ystyried sut y caiff darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ei hailgynllunio, a wnewch chi sicrhau bod arloesi digidol yn gwreiddio fel y gallwn fod ar flaen y gad yn y chwyldro data mawr?

Diolch i’r Aelod am hynny. Mae yna bethau yr ydym yn eu dweud ar y pwnc hwn yn y Papur Gwyn ar lywodraeth leol, a rhannaf ei ffocws ar y ffordd y gall dadansoddi data mawr wneud gwahaniaeth i’r agweddau mwyaf bob dydd ar yr hyn y mae awdurdodau lleol yn eu darparu. Yn gynharach yr wythnos hon, clywais gan gwmni dadansoddi data mawr am y ffordd y mae rhywrai mewn rhan arall o’r byd wedi gallu gwneud gwahaniaeth radical i’r ffordd y caiff ffyrdd eu clirio pan fydd hi’n bwrw eira drwy gasglu data gan ddinasyddion. Trwy fynd i wraidd data o’r math hwnnw, gall cynghorau wynebu dyfodol anodd iawn drwy ddefnyddio’u hadnoddau cyfyngedig yn y ffordd fwy uniongyrchol effeithiol honno.

Y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol Arfaethedig

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y pŵer cymhwysedd cyffredinol arfaethedig ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0086(FLG)

Lywydd, roedd cefnogaeth eang i bŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru pan ymgynghorodd y Llywodraeth flaenorol ar y drafft o Fil Llywodraeth Leol (Cymru). Mae’n parhau i fod yn rhan allweddol o’n cynlluniau ar gyfer diwygio, fel y nodwyd yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 31 Ionawr.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Galwyd amdano gan awdurdodau lleol ers o leiaf 30 mlynedd. A all Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y bydd o fudd i awdurdodau lleol, a chadarnhau ei fod yn cael gwared ar yr angen i brofi capasiti dros ben er mwyn gwerthu nwyddau a gwasanaethau i’r sector preifat?

Wel, Lywydd, pŵer i’w ddefnyddio fel man cychwyn yw’r pŵer cymhwysedd cyffredinol. Mae’n caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni pethau er lles eu poblogaethau lleol heb fod angen dod o hyd i’r pŵer penodol sy’n caniatáu iddynt wneud hynny. Mae’n bŵer cyffredinol, wrth gwrs, a luniwyd i roi mwy o ryddid o fewn y gyfraith i awdurdodau lleol, yn hytrach na rhyddid rhag y gyfraith.

Cyflog Teg i Staff Llywodraeth Leol

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflog teg i staff llywodraeth leol? OAQ(5)0093(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r Llywodraeth yn cefnogi cyflog teg ar draws y sector cyhoeddus datganoledig. Er bod cyflogau staff llywodraeth leol yn parhau i fod yn fater i awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd fel cyflogwyr, mae Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo yn y gwaith hwnnw drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Chomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus, er enghraifft.

Ysgrifennydd y Cabinet, cysylltodd nifer o etholwyr â mi ar ôl cael eu heffeithio gan yr adolygiad cyflogau a gynhelir gan awdurdodau lleol. Mae pobl sydd wedi bod yn gweithio mewn rolau sgil uchel ers degawdau wedi darganfod yn sydyn fod eu swyddi wedi cael eu hailddosbarthu fel rhai heb sgiliau, ac o ganlyniad, mae fy etholwyr wedi gweld toriad yn eu cyflogau, weithiau cymaint â 25 y cant. Yr ofn ymhlith llawer o weithwyr llywodraeth leol yw eu bod yn cael eu targedu mewn ymgais i dorri costau. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae’n deg pan fydd swyddogion ar lefel uchel mewn llywodraeth leol yn ennill mwy na’r Prif Weinidog, ac eto bod gweithwyr llywodraeth leol ar gyflog is yn gweld toriad yn eu cyflogau? Pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau nad yw hyn yn parhau, ac i unioni’r materion y mae etholwyr wedi bod yn cwyno wrthyf yn eu cylch? Diolch.

Wel, Lywydd, buaswn yn disgwyl i unrhyw gamau gweithredu gan awdurdodau lleol wrth adolygu swyddi a wneir gan staff gael eu cynnal mewn ffordd sy’n gyson â’r cyngor a ddarperir gan y Llywodraeth hon a’r cytundebau rhwng yr awdurdodau lleol hynny a’u hundebau llafur. Un o’r ffyrdd y byddwn yn helpu i wneud yn siŵr fod hynny’n digwydd yn y dyfodol yw drwy’r Bil Undebau Llafur (Cymru) yr ydym yn ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn i wneud yn siŵr nad yw hawliau undebau llafur yn cael eu herydu a’u bod yn gallu parhau i ddiogelu eu haelodau mewn amgylchiadau tebyg i’r rhai y mae’r Aelod wedi eu disgrifio. Edrychaf ymlaen at gefnogaeth ei phlaid wrth i’r Bil hwnnw wneud ei ffordd drwy’r Cynulliad Cenedlaethol.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf—Hannah Blythyn.

Achos 24 Amwythig

1. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch achos 24 Amwythig? OAQ(5)0023(CG)

Bydd yr Aelodau’n gwybod bod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn gyfarwydd—ond efallai na fydd yr Aelodau’n gyfarwydd, o’r sgyrsiau a gefais yr wythnos hon—ag achos 24 Amwythig. Yn y 1970au cynnar, cafwyd y streic genedlaethol gyntaf, a’r unig un erioed gan weithwyr adeiladu, pan aeth gweithwyr ar streic am 15 diwrnod, ac ar adeg pan oedd gweithwyr adeiladu ar waelod y raddfa gyflog a phan nad oedd iechyd a diogelwch yn bodoli, gyda gweithwyr adeiladu’n cael eu lladd yn llawer rhy reolaidd.

Yn dilyn y streic, arestiwyd gweithwyr a fu’n bicedwyr gwib, gan gynnwys dau etholwr i mi, Arthur Murray a Terry Renshaw, a’u clirio wedyn yn Llys y Goron yr Wyddgrug. Yna fe’u hailarestiwyd a’u hanfon i wynebu achos yn Llys y Goron Amwythig, lle y cafwyd y picedwyr yn euog ar nifer o gyhuddiadau ac anfonwyd rhai ohonynt i garchar.

Bron i 40 mlynedd yn ddiweddarach, ni chafwyd cyfiawnder ac mae llawer o gwestiynau’n parhau, er enghraifft: pham y cawsant eu clirio yn yr Wyddgrug a’u hailarestio i wynebu achos yn Amwythig? Gwnsler Cyffredinol, er fy mod yn cydnabod bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod heb ei ddatganoli, a gaf fi ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i sut y mae’r anghyfiawnder hwn wedi effeithio ar weithwyr Cymru ac a wnewch chi gyfarfod â mi i drafod hyn ymhellach?

Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae’r ymgyrch ar ran picedwyr Amwythig yn un o nifer o ymgyrchoedd camweinyddu cyfiawnder o’r 1970au a’r 1980au, a Hillsborough ac Orgreave yn eu plith. Wrth gwrs, y mater cyffredin sy’n codi yn yr ymgyrch honno ac eraill yw’r un sy’n ymwneud ag uniondeb y system farnwrol a’r honiad o gamddefnyddio pŵer.

Wrth gwrs, y nodwedd gyffredin yn yr achosion hyn yn aml yw’r defnydd o ddeddfau cynllwyn. Roedd hynny’n bendant yn wir yn Orgreave ac roedd yn sicr yn wir mewn perthynas â 24 Amwythig. Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio’r problemau gyda’r defnydd o ddeddfau cynllwyn mewn perthynas â’r ymgyrchoedd yn erbyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y 1970au ac yn wir, yn y 1980au gyda’r ymgyrch dros sianel S4C.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau hefyd, wrth gwrs, fy mod yn cofio cyfarfod ag un o’r rhai a oedd yn y carchar yn glir iawn, sef Dessie Warren, yn y 1970au, mewn perthynas ag ymgyrchoedd yn ymwneud â’r union faterion hynny. Felly, rwy’n gyfarwydd iawn ac yn effro iawn i’r materion hyn mewn gwirionedd.

Efallai mai’r hyn y gallwn ei wneud yw gofyn i’r Aelod a fuasai’n ysgrifennu ataf o bosibl gyda’i chais am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a chyfarfod a byddaf yn sicrhau bod cais o’r fath yn cael ei ystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru.

Roedd gennyf ddiddordeb yng nghwestiwn Hannah ac fe edrychais ar yr achos yr oeddwn wedi rhyw lun o glywed amdano flynyddoedd yn ôl. Rwy’n credu ei fod yn arfer cael ei alw’n 2 Amwythig, yn hytrach na 24, ond rwy’n casglu mai’r un achos ydyw. Pan geisiais ei roi mewn cyd-destun gwleidyddol, y casgliad y deuthum iddo oedd na chyflwynwyd cyfyngiadau undebau llafur llymach ar faterion fel picedwyr gwib tan yn ddiweddarach. Felly, gan nad oedd rheoliadau llym ar bicedu yn 1972, mae’n bosibl fod y Llywodraeth wedi defnyddio deddfau cynllwyn braidd yn gyfrin i erlyn rhai neu bob un o’r 24 o bosibl. Felly, efallai fod yma anghyfiawnder posibl. Yn sicr, dylid caniatáu i’r cyhoedd weld y ffeiliau sy’n ymwneud â’r achos.

Yr unig broblem yr oeddwn am fynd ar ei hôl gyda chi, Gwnsler Cyffredinol, oedd un yn ymwneud ag arian cyhoeddus, oherwydd er ei fod yn amlwg yn fater o bryder i Hannah Blythyn am ei fod yn ymwneud â rhai o’i hetholwyr, ac rwy’n deall hynny’n llwyr, mae’n rhaid i ni gydnabod y gall ffioedd cyfreithiol gynyddu yn y mathau hyn o faterion. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn ymwneud â hyn, rwy’n gobeithio y gallem gael amcangyfrif ar ryw bwynt o’r ffioedd cyfreithiol tebygol a fuasai’n codi i drethdalwyr Cymru.

Wel, rwyf am ddweud wrth yr Aelod nad yw materion cyfiawnder a materion ynghylch datgelu ffeiliau yn rhan o awdurdodaeth Llywodraeth Cymru. Nid yw’n fater sydd wedi’i ddatganoli. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, yr hyn y mae’r Aelod yn sôn amdano yw effaith achosion canfyddedig o gamweinyddu cyfiawnder, sut y cânt eu gweld yng Nghymru, ac effaith hynny ar uniondeb y system farnwrol.

Cyfreithiau’r UE yng Nghymru

2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch cymhwyso cyfreithiau’r UE yng Nghymru ar ôl gadael yr UE? OAQ(5)0025(CG)

Mae’r cwestiwn hwn yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith. Ond gallaf ddweud ein bod ar bob lefel yn gweithio i sicrhau y bydd pwerau yng Nghymru i ymdrin â deddfwriaeth yr UE mewn meysydd datganoledig yn dilyn ymadael â’r UE fel y bydd penderfyniadau ynghylch polisi yn y dyfodol yn y meysydd hynny’n cael eu gwneud gan Gymru ac er budd gorau Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth feirniadol o Fil diddymu mawr Llywodraeth y DU.

Diolch i chi am hynny. Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol, felly, o’r meysydd cymhwysedd deddfwriaethol yr effeithir arnynt fwyaf a pha gamau lliniaru y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn sgil Brexit?

Bydd yr Aelod yn deall bod llawer o ffactorau anhysbys ac ansicrwydd yn holl ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at y maes hwn. Mae’n amlwg fod yna nifer sylweddol o feysydd lle y mae’r UE wedi deddfu ond sy’n dod o fewn cymhwysedd datganoledig. Ymysg y rhain, bydd amaethyddiaeth, pysgodfeydd, safonau bwyd, adnoddau dŵr, gwastraff, atal a rheoli llygredd, newid yn yr hinsawdd, gwarchodaeth natur, gan gynnwys y gyfarwyddeb cynefinoedd, cynlluniau asesu amgylcheddol, gan gynnwys asesiadau o’r effaith amgylcheddol, iechyd planhigion, iechyd anifeiliaid, addysg uwch, ac iechyd y cyhoedd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddeddfu yn y Cynulliad i wneud darpariaeth ar gyfer sut i ymdrin â chyfraith yr UE mewn meysydd datganoledig yn dilyn ymadael â’r UE os gwelir bod y Bil diddymu mawr yn annigonol. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod yna bryderon sylweddol ynglŷn â beth fydd y Bil diddymu mawr, beth fydd ei gynnwys mewn gwirionedd, a sut y bydd yn effeithio ar Gymru. Mae yna bryderon difrifol ynglŷn â graddau ymgysylltiad Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth benodol honno, felly caiff y sefyllfa ei monitro’n agos iawn, ond yn amlwg, ceir effeithiau arwyddocaol ar feysydd cyfrifoldeb Cymreig ac maent yn cael eu hystyried yn ofalus iawn.

Dinasyddion yr UE

3. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch statws cyfreithiol dinasyddion yr UE yng Nghymru? OAQ(5)0024(CG)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn: rydym wedi galw am warantu ar unwaith hawliau mudwyr o’r UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i chi am eich ymateb, Gwnsler Cyffredinol. Yr wythnos diwethaf, yn y Siambr hon, cyfeiriais at achos penodol yn sôn am yr ansicrwydd sy’n wynebu teulu gwladolion o’r Almaen sydd wedi setlo yng Nghymru ynghylch y diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â sefyllfa dinasyddion o’r UE sy’n byw yn y wlad hon. Fel y gwyddom, mae’n fwy na’r effaith bersonol y mae’r ansicrwydd yn ei gael ar filoedd o deuluoedd ar draws y DU, gyda llawer ohonynt yng Nghymru; gwyddom hefyd i ba raddau y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a’n diwydiant preifat yn dibynnu ar sgiliau y mae dinasyddion yr UE yn eu hychwanegu i’w gweithluoedd. Felly, a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ei bod yn annerbyniol i wladolion yr UE a’u teuluoedd gael eu trin yn y modd hwn, a chael eu defnyddio fel testunau bargeinio i bob pwrpas gan Theresa May yn ei thrafodaethau ar Brexit, ac y dylai wireddu ei honiad ei bod am sicrhau eu hawl i aros yn y DU cyn gynted â phosibl a rhoi’r warant hon yn awr, o gofio bod ganddi’r pwerau i wneud hynny?

A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fy mod yn deall yn iawn y pwyntiau y mae’n eu gwneud, sy’n adlewyrchu’n fawr iawn y sylwadau a wnaed ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru? Er enghraifft, rwy’n deall bod oddeutu 120,000 o ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Ceir 1,360 o staff academaidd, ac mae llawer yn ein GIG a’r sector gofal. Ac rwy’n meddwl yn ôl—ac rwy’n siŵr y gallai pob un ohonom wneud yr un peth—at effaith y rhain. Bu farw fy mam rai blynyddoedd yn ôl. Pe bai hi’n dal yn fyw, buasai yn yr un sefyllfa’n union, fel gwladolyn Danaidd, a buaswn yn eistedd yma’n ateb y cwestiwn ynglŷn ag a ddylai fy mam gael ei chaniatáu i aros yn y wlad hon ai peidio. Mae yna lawer iawn o bobl yn y sefyllfa honno.

Ymddengys i mi mai’r hyn y mae’n galw amdano gan Lywodraeth y DU yw dewrder, gonestrwydd, ac arweinyddiaeth go iawn, gan na all fod yn iawn i ddefnyddio unigolion a theuluoedd fel testunau bargeinio. Ac weithiau, o ran Llywodraeth y DU, mae’n ymddangos i mi fod angen iddi sefyll a gwneud yr hyn sy’n iawn. Felly, cytunaf yn llwyr â’r hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud.

Rydw i’n cydsynio’n llwyr gyda beth mae’r cwnsler newydd ei ddweud. Mae nifer fawr o bobl sy’n byw yn fy rhanbarth i, ac yn enwedig mewn tref fel Aberystwyth, lle mae prifysgol ac ysbyty, yn ddinasyddion o Ewrop sydd wedi priodi pobl o Gymru yn ogystal, ac maen nhw’n poeni yn enfawr—gallaf ond pwysleisio eu bod yn poeni yn enfawr—am yr ansicrwydd sydd iddyn nhw a hefyd eu plant, achos mae plant gyda nhw yn ein hysgolion ni yng Ngheredigion, yn ogystal. Yn ogystal â gwneud y safbwynt yn glir o ran Llywodraeth Cymru, beth arall fedrwch chi ei wneud ar ran y Llywodraeth i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i beidio â defnyddio dinasyddion Ewropeaidd yn y modd yma? Pe baem ni’n dangos ewyllys da ar ddechrau trafod ymadael â’r Undeb Ewropeaidd drwy sicrhau diogelwch i ddinasyddion y gwledydd eraill, byddwn i’n tybio y byddwn ni’n cael gwrandawiad tecach yn y pen draw yn ystod y trafodaethau yna yn ogystal—o gofio, wrth gwrs, bod dinasyddion o’r fath hefyd yn bleidleiswyr i ni fel Aelodau’r Cynulliad.

Mae’r Aelod yn llygad ei le. Ac wrth gwrs, mae llawer o’r dinasyddion hyn wedi gwneud y pwynt y gallant fod wedi byw yng Nghymru, neu yn y Deyrnas Unedig, ers 30 neu 40 mlynedd a mwy, ac efallai eu bod wedi pleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd, ac eto cawsant eu heithrio rhag cymryd rhan yn y refferendwm, ac maent yn teimlo anghyfiawnder. Cyflwynwyd sylwadau ynglŷn â’r effaith a’r posibilrwydd y caiff teuluoedd eu chwalu, lle y gallai fod yn rhaid i un aelod adael ei wraig a’i fab.

Nawr, mae’n ddigon hawdd i Lywodraeth ddweud, ‘O, peidiwch â phoeni, caiff y cyfan ei ddatrys, cyn gynted ag y byddwn wedi datrys pethau i’n dinasyddion draw yno’. Ond mae hynny’n golygu ein bod, i bob pwrpas, yn eu defnyddio fel testunau bargeinio. I mi, rwy’n ystyried hynny’n gwbl anfoesol ac yn hollol anghywir. Ac mae’n warthus nad yw’r Llywodraeth yn meddu ar ddigon o uniondeb ar hyn o bryd i sefyll dros y dinasyddion hyn sydd wedi cyfrannu cymaint i’n cymunedau a’n cymdeithas.

Wel, onid yr hyn sy’n anfoesol ac yn hollol anghywir yw’r ymgyrch godi bwganod, sy’n dal i ddigwydd wyth mis ar ôl ymgyrch y refferendwm—prosiect ofn y gwersyll ‘aros’? Fel y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod, mae’r Deyrnas Unedig yn un o’r rhai a lofnododd Gonfensiwn Fienna ar Gyfraith Cytuniadau 1969, sy’n cyfeirio at hawliau caffaeledig dinasyddion y gwledydd a’i llofnododd, ac sy’n eu diogelu mewn perthynas â’r hawliau y maent wedi’u cronni cyn i unrhyw newid ddigwydd i’r cytuniad. Ac felly, ni all unrhyw gytuniad dilynol a lofnodir gan y wlad honno leihau neu danseilio’r hawliau hynny. Derbyniwyd hyn gan y Gymuned Economaidd Ewropeaidd—fel yr oedd bryd hynny—pan adawodd yr Ynys Las y gymuned, a chyfeiriodd y Comisiwn at yr hyn a elwid ar y pryd yn hawliau breintiedig, a fyddai’n cael eu cadw wedi i’r Ynys Las adael yr hyn yr ydym yn awr yn ei alw’n undeb. Felly, mae unrhyw godi bwganod ar y mater yn gwbl anghywir, ac mewn gwirionedd mae’n rhyfeddol ein bod yn dal i gael y ddadl hon gymaint o fisoedd ar ôl y refferendwm.

Buaswn yn cytuno â’r Aelod ei bod yn rhyfeddol ein bod yn dal i gael y ddadl hon mor hir ar ôl y refferendwm. Efallai ei bod yn rhyfeddol fod yr Aelod hefyd yn anghytuno’n llwyr â’r aelod o’i grŵp a ymddangosodd ar ‘Sharp End’, ac a ddywedodd mewn gwirionedd ei bod hi o’r farn, ac mai safbwynt UKIP oedd y dylent gael hawliau ar unwaith, ac na ddylid eu defnyddio fel testunau bargeinio. Rhaid i mi ddweud am ymagwedd yr Aelod ei fod o leiaf yn gyson yn ei allu i fy rhyfeddu â sylwadau annynol nad ydynt yn destun syndod i mi o gwbl.

Gwnsler Cyffredinol, rwy’n gwybod y byddwch yn gwybod am achos fy etholwr sy’n wladolyn Awstraidd a ddaeth i Aberdâr yn 1996 fel cynorthwyydd iaith dramor, cyn astudio ar gyfer TAR, dod yn athrawes a sefydlu ei busnes ei hun, ond oherwydd ei bod wedi penderfynu aros gartref i fagu ei phlant—sy’n wladolion y DU—mae hi bellach yn deall nad yw’n cymhwyso fel preswylydd parhaol. Yn baradocsaidd, pe bai gŵr fy etholwr hefyd yn Awstriad, gallai wneud cais i fod yn breswylydd parhaol fel dibynnydd. Mae hyn yn effeithio ar fy etholwr, ei gŵr a’i phlant. Pa gyngor y gallech ei roi iddynt?

Y cyngor y buaswn yn ei roi iddynt yw cyflwyno’r holl sylwadau a allant drwy eu cynrychiolwyr—y Cynulliad, Aelodau Seneddol—yn ogystal â chydnabod y camau y mae Prif Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddadlau’r achos hwn. Carwn gyfeirio’n benodol hefyd—. Rwy’n credu ei bod yn werth i ni ailadrodd, efallai, y pwynt yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn y Papur Gwyn, lle y mae’n datgan yn benodol iawn fod

‘Cymru wedi elwa ar fudo o’r UE a nifer o rannau eraill o’r byd. Credwn fod mudwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i economi Cymru ac i’r gymdeithas yn ehangach. Rydym yn gresynu gweld y cynnydd diweddar mewn senoffobia a hiliaeth a waethygwyd gan naws afresymol y drafodaeth o rai cyfeiriadau o’r gymuned wleidyddol, ac rydym yn condemnio hynny.’

Diolch—

‘Rydym yn sefyll mewn undod llwyr gyda’n holl bobl, o ba wlad bynnag y maent yn dod yn wreiddiol ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod eisoes wedi dweud yn glir eu bod yn gwarantu hawliau pawb sydd yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU ar ôl i ni ymadael â’r UE. Galwn ar Lywodraeth y DU i wneud datganiad clir ynghylch hyn er mwyn tawelu meddyliau dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru a thu hwnt yn y DU. Galwn ar yr UE i wneud datganiad cyfatebol mewn perthynas â dinasyddion Cymru a’r DU sy’n byw yn yr UE. Gwrthodwn yn llwyr unrhyw awgrym y dylid defnyddio statws dinasyddion sydd â hawl ddilys i fyw yma i fargeinio wrth negodi ynghylch ymadawiad y DU â’r UE.’

Diolch. Ni ddylech gymryd saib hir rhwng eich brawddegau. Roeddwn ar fin torri ar eich traws pan oeddech yn eich anterth, ond ni wnes hynny. Dyna ni. Cwestiwn 4, Mike Hedges.

Cyfreithiau Morol

4. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch gorfodi cyfreithiau morol? OAQ(5)0022(CG)

Bydd yr Aelodau’n gwybod fy mod yn ystyried bod gwarchod adnoddau naturiol morol yn bwysig iawn ac fe fyddwch yn gwybod am y gwaith erlyn gweithredol sy’n cael ei wneud gennyf ar ran Llywodraeth Cymru.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Pa ystyriaeth y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i rhoi i sut y gellid erlyn am droseddau morol yn fwy effeithiol?

Nid oes amheuaeth ein bod yn mynd i fod mewn amgylchedd, yn gyntaf, sy’n mynd i fod yn fwy heriol, ond ni fu erioed yn bwysicach mewn gwirionedd i ni fod yn diogelu nid yn unig ein hadnoddau morol ac amgylcheddol, ond hefyd yn sicrhau bod deddfau Cymreig yn hynny o beth yn cael eu gwarchod a’u gweithredu’n llawn. Adroddais yn flaenorol ar nifer y troseddau a arweiniodd at erlyniadau llwyddiannus a bydd y gwaith hwnnw’n parhau mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig, nid yn unig ein bod yn erlyn, ond ein bod hefyd yn parchu rôl a gwaith ein swyddogion gorfodi, sy’n cefnogi’r broses o weithredu deddfau Cymru ddydd ar ôl dydd, yn aml mewn amgylchiadau anodd—ar y môr ac ar ein harfordir—sy’n arwain at ddiogelu ein hadnoddau.

Rwyf wedi cyfarfod â’r swyddogion gorfodi hynny. Rwyf wedi trafod y materion sy’n ymwneud â’r dystiolaeth a’r prosesau sydd ganddynt i sicrhau mewn gwirionedd fod canlyniadau eu hymchwiliadau yn llwyddiannus, a byddaf yn parhau i wneud hynny’n drwyadl. Ond hoffwn gofnodi ein diolch a’n cydnabyddiaeth o’r gwaith y maent yn ei wneud mewn gwirionedd. Mae hynny’n bwysig yn awr, ond bydd yn gynyddol bwysig yn y dyfodol hefyd.

Rhaglen i Godeiddio’r Gyfraith

5. Pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran rhaglen Llywodraeth Cymru i godeiddio’r gyfraith? OAQ(5)0028(CG)

Er ei bod yn ddyddiau cynnar, rydym wedi dechrau cwmpasu prosiectau cyfuno posibl, yn ogystal â dechrau gwaith angenrheidiol i benderfynu ar brosesau effeithiol ar gyfer codeiddio a chyhoeddi deddfau Cymru yn well. Ac fel rhan o’r broses hon rydym yn parhau i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith ar gynlluniau’r prosiect cyfuno a chodeiddio.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Rwy’n siŵr y byddwch chi a phawb arall yn cydnabod pwysigrwydd codeiddio a’r effaith a gaiff. A wnewch chi amlinellu’r manteision economaidd a chymdeithasol y bydd gwneud y gwaith hwn yn ei sicrhau mewn gwirionedd?

Mae manteision sylweddol iawn i’r rhaglen gyfundrefnu, ac nid wyf yn petruso, fel y dywedais yn y Siambr hon, rhag nodi’r ffaith na allai ddod ar amser anoddach—ar adeg pan fo cymaint o alw am adnoddau, adnoddau cyfreithiol, mewn perthynas â materion Brexit, materion yn ymwneud â’r Bil diddymu mawr a’r holl ofynion a geir yn hynny o beth, ac ar adeg pan fo adnoddau ariannol yn gyfyngedig iawn. Ar ôl dweud hynny, mae’n bwysig iawn, rwy’n meddwl, i’r gymuned fusnes, er enghraifft, fod cyfraith gynllunio wedi’i chodeiddio, ac wrth gwrs, mae gwaith sylweddol eisoes ar y gweill gyda Chomisiwn y Gyfraith yn hynny o beth.

Rwy’n credu hefyd y bydd angen i ni edrych ar ein gweithdrefnau ein hunain mewn perthynas â chodeiddio, a deddfwriaeth o bosibl, gan nad yw cychwyn ar y llwybr codeiddio yn rhywbeth y gallwch gamu i mewn ac allan ohono. Rhaid iddo fod yn waith cyson, gan mai’r hyn a wnawn yw symleiddio a chodeiddio cyfraith Cymru, a chyfraith Cymru a fydd yn tyfu ac yn arwain yn ddi-os at fater awdurdodaeth. Rwy’n ei hystyried hi’n bwysig iawn nid yn unig ein bod yn symleiddio a’r manteision a geir mewn perthynas â busnes i’r diben hwnnw, ond ein bod yn edrych yn agos iawn hefyd ar fynediad at y gyfraith, sef bod pobl yn gallu dod i gysylltiad â’r gyfraith, fod pobl yn gallu deall y gyfraith honno, a hyd y bo modd, fod cyngor a chynrychiolaeth ar gael i bobl allu manteisio ar eu hawliau yn y gyfraith mewn gwirionedd. Mae’r rhain yn feysydd anodd tu hwnt. Nid yw rhai o’r meysydd wedi’u datganoli, ond mae hon yn ffordd newydd i ni fynd ar hyd-ddi wrth i ni greu fframwaith deddfwriaethol newydd. Mae gennyf nifer o gyfarfodydd wedi’u cynllunio mewn perthynas â’r broses hon, ac edrychaf ymlaen at adrodd yn llawer mwy manwl ar y cynnydd a wnawn wrth iddi ddatblygu.

Rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno, Gwnsler Cyffredinol, nad oes diben gwneud y gwaith o wella a ‘codify-o’ yn y ffordd rydych chi wedi amlinellu oni bai ei fod yn cael ei wneud yng ngolau dydd a bod mynediad llawn at y gyfraith gan y cyhoedd yn arbennig, a gan y bobl sy’n cael eu heffeithio gan y gyfraith. A ydych chi, felly, erbyn hyn, yn gwbl hyderus bod y gwaith o roi cyfraith Cymru ar-lein yn cael y flaenoriaeth briodol gan yr archifau cenedlaethol?

O ran holl fater sicrhau bod y gyfraith ar gael ar-lein ac yn hygyrch yn y ffordd honno, rwy’n credu bod cryn dipyn o waith sydd angen ei wneud o hyd. Yn amlwg, gwnaed camau sylweddol gan fy rhagflaenydd ar gael y system ar ei thraed, ond rwy’n meddwl bod dechrau’r broses godeiddio ynddi ei hun yn creu galwadau ychwanegol a disgwyliadau ychwanegol. Rwy’n meddwl bod cyfrifoldeb arnom hefyd i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg wrth sicrhau bod y gyfraith ar gael i unigolion.

Mae mater cyfuno yn rhywbeth a aeth â sylw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rhagflaenol. Mae codeiddio wedi mynd â llawer o’n sylw bellach. Yn wir, mae llawer o fanteision i Gymru yn sgil symleiddio’r ddeddfwriaeth a’i gwneud yn dryloyw, ond mae’n dasg Sisyffaidd braidd mewn sawl ffordd. Yn wir, os ceisiwch ei wneud mewn un darn, gallai fod yn llafurus iawn, yn enwedig gan fod gennym dasgau pwysig eraill o’n blaenau, gan gynnwys trosi canlyniadau pontio Brexit wrth inni symud ymlaen. Felly, a gaf fi ofyn am syniadau’r Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â sut y gallem fynd i’r afael â hyn? Rwy’n credu ei fod wedi disgrifio o’r blaen y syniad o dreialu rhyw elfen o hyn, ond byddwn yn sicr yn dweud y byddai’n ymddangos yn ddymunol i sefydliad democrataidd ifanc fel ein hun ni i arwain y ffordd yn hyn, ond i wneud hynny mewn ffordd na fyddai’n ein hamddifadu’n gyfan gwbl drwy ddefnyddio’r adnoddau i gyd ar yr ymarfer codeiddio hwn, heb allu bwrw ymlaen ag unrhyw beth arall.

Mae’r Aelod yn llygad ei le na ddylai ein proses o godeiddio a chyfuno—y cyfuno nad yw’n diwygio a fuasai’n cyd-fynd â hynny—amharu ar y gwaith y mae’r Cynulliad hwn yn ei gyflawni a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth, ac yn wir, y rhaglenni deddfwriaethol a allai ddeillio oddi wrth Aelodau unigol ac yn y blaen. Hefyd, ni ddylai dynnu ein sylw oddi ar y dasg bwysig iawn o sicrhau ein bod yn ymdopi ag unrhyw ddeddfwriaeth a materion deddfwriaethol a fo’n ymwneud â Brexit a’r meysydd deddfwriaethol posibl a fydd yn angenrheidiol yn hynny o beth. Ond fel rwy’n dweud, po hiraf y byddwch yn gadael codeiddio, y mwyaf cymhleth ac anodd y bydd mewn gwirionedd, a dyna pam rwy’n awyddus, hyd yn oed os ydym yn ei wneud mewn ffordd gyfyngedig, ein bod yn cychwyn ar y broses a’n bod yn ymrwymo i broses barhaus. Rwy’n aml wedi ei ddisgrifio’n debyg i—rwy’n gwneud camgymeriadau gyda fy nghyfatebiaethau y dyddiau hyn—ond mae hyn yn debyg i’r metro yn yr ystyr y bydd yn cymryd 10 i 15 mlynedd i’w gwblhau, ac nid wyf yn siŵr a gaf fi byth deithio arno. Ond rwy’n siŵr y bydd yr un peth yn digwydd gyda chodeiddio: efallai na chaf fi byth weld y cynnyrch gorffenedig, ond rwy’n edrych ymlaen at y daith.

Confensiwn Sewel

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro statws cyfreithiol Confensiwn Sewel fel y mae’n gymwys i Gymru yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0027(CG)

A gaf fi, yn gyntaf oll, ddiolch i chi am y cwestiwn? Oherwydd cafwyd cryn dipyn o gamddealltwriaeth a chamliwio mewn perthynas â chanlyniad achos erthygl 50 yn y Goruchaf Lys. Hoffwn ddweud yn glir wrth y Siambr hon, fel y gwneuthum yn y gorffennol, ond nid mor eglur ag y dylwn fod wedi gwneud efallai, fod y ddau fater allweddol yr aethom i’r Goruchaf Lys yn eu cylch wedi cael eu cadarnhau mewn gwirionedd. Roedd un yn ymwneud â sofraniaeth y Senedd a heblaw am hynny, ni fuasai gennym y ddadl sy’n digwydd yn Nhŷ’r Cyffredin ac sy’n digwydd yn Nhŷ’r Arglwyddi ac a fydd yn digwydd wedyn ar y Bil diddymu mawr yn y Senedd. Yr ail fater oedd cadarnhad a chydnabyddiaeth o Sewel fel proses seneddol na ellid ei hosgoi drwy ddefnyddio’r uchelfraint. Felly, yn y ddau faes allweddol hwnnw, a oedd yn sail i’n cyflwyniadau, cadarnhaodd y llys ein cyflwyniadau mewn gwirionedd.

Hoffwn ddweud yn glir hefyd: ein cyflwyniad ar bob adeg oedd nad ydym yn credu bod yna feto. Roedd hwnnw’n gyflwyniad a wnaed hefyd gan yr Alban a chafodd hyn hefyd ei gydnabod gan y Goruchaf Lys. Y pwynt pwysig yn awr, fodd bynnag, yw’r un mewn perthynas â chonfensiwn Sewel. Yr hyn yr oedd y llys yn ei gydnabod yn gryf iawn—. Rwy’n credu ei fod yn ddatganiad pwysig iawn o fwriad gan y Goruchaf Lys pan ddywedasant,

Nid ydym yn tanbrisio pwysigrwydd confensiynau cyfansoddiadol y mae rhai ohonynt yn chwarae rôl sylfaenol yng ngweithrediad ein cyfansoddiad. Mae gan gonfensiwn Sewel rôl bwysig yn hwyluso perthynas gytûn rhwng senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig.

Felly, mae confensiwn Sewel yn hynod o bwysig yn y broses yr ydym yn mynd drwyddi ar hyn o bryd mewn perthynas â Brexit, o ran y Bil i’w sbarduno ac o ran y ddeddfwriaeth ddilynol a allai godi mewn gwirionedd. Yr hyn sy’n bwysig ei gydnabod yw bod gan Sewel, gyda Deddf Cymru 2017, statws statudol bellach. Hynny yw, mae’n barhaol. Nid yw’n farnadwy yn y Goruchaf Lys. Ni fydd y Goruchaf Lys yn rheoleiddio materion fel hynny, ond mae bellach yn rhan barhaol, yn nodwedd barhaol, o’n cyfansoddiad. Wrth gwrs, fe gydnabyddir, lle y mae confensiynau gwleidyddol fel hyn yn bodoli—a dylwn nodi bod dwy ran o dair o’n cyfansoddiad yn ôl pob tebyg yn gonfensiwn gwleidyddol; dyna’r ffordd y mae cyfansoddiad y DU wedi datblygu—mae iddo ganlyniadau gwleidyddol os na chydymffurfir ag ef. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn o freuder cyfansoddiad y DU a phwysigrwydd y rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu a cheisio consensws â’r Llywodraethau datganoledig er budd sefydlogrwydd cyfansoddiad y Deyrnas Unedig a gallu unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol i lwyddo.

Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol, am eich ateb cynhwysfawr. Os caf ofyn am eglurhad, yn y pwyllgor yn gynharach yr wythnos hon, cynigiodd David Jones, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, y posibilrwydd y gallai’r Bil diddymu mawr ei hun fod yn Fil byr ac y gallai fod nifer o Filiau unigol sy’n dilyn o hynny. O ystyried yr hyn y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i ddweud am y gwahaniaeth rhwng confensiwn barnadwy sy’n rhwymo mewn cyfraith ac un sy’n rymus ond yn wleidyddol, os hoffwch, a oes ganddo farn ynglŷn ag a fyddai natur y Ddeddf, boed yn Fil diddymu neu’n un sy’n canolbwyntio ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd, yn un sy’n debygol o ddenu ymateb gwahanol gan Lywodraeth y DU i un a allai fod yn seiliedig ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â chymwyseddau datganoledig yn benodol?

Wel, mae hi bron yn sicr mai deddfwriaeth a geir yn sgil sbarduno erthygl 50, a bydd hynny’n sbarduno confensiwn Sewel, a bydd materion i’w trafod yn y Siambr hon ar ffurf memoranda cydsyniad deddfwriaethol a chynigion cydsyniad deddfwriaethol. Credaf fod hynny bron yn anochel, yn amodol ar y math o ddeddfwriaeth a gyflwynir mewn gwirionedd. Fel y dywedais, nid ydym yn gwybod llawer am yr hyn y mae honno’n mynd i’w gynnwys neu sut yn union y caiff ei llunio, a cheir pryderon ynglŷn ag ymgysylltiad. Ond credaf fod yn rhaid monitro mater Sewel, cydymffurfiaeth â Sewel a statws Sewel yn ofalus tu hwnt. Mae’n gonfensiwn pwysig iawn, fel rwy’n dweud, sy’n mynd at graidd y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth ddatganoledig. Ym mhob confensiwn, canlyniad diffyg cydymffurfiaeth â chonfensiynau sy’n hyrwyddo perthynas gytûn yw cysylltiadau anghytgordiol a’r holl oblygiadau cyfansoddiadol a ddaw yn sgil hynny.

Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal â’r Bil diddymu mawr sydd newydd gael sylw gennym, un o’r consesiynau a wnaed gan y Llywodraeth wrth fwrw ymlaen â’r Bil cyfredol ar sbarduno erthygl 50 drwy Dŷ’r Cyffredin oedd pleidlais bellach yn Nhŷ’r Cyffredin ar fanylion terfynol unrhyw gytundeb a wneid gyda gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd. Yn eich barn chi, a fyddai hwnnw hefyd yn cynnwys confensiwn Sewel a phleidlais yn y Senedd hon?

Ni fyddai cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin yn gwneud hynny, ond fe fyddai deddfwriaeth. Byddai’n dibynnu—bydd deddfwriaeth, ar ffurf y Bil diddymu mawr yn ôl pob tebyg, yn rhagflaenu pleidlais. Bydd y bleidlais ar gytuniad, ac mae’n debyg y byddai’n bleidlais i’w gymeradwyo. Ond yn dibynnu ar natur hynny a pha oblygiadau a fydd i hynny o ran deddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn San Steffan, unwaith eto, byddai materion yn codi mewn perthynas â gweithredu Sewel. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fy mod yn credu y bydd angen edrych mewn gwirionedd ar sut y mae confensiynau megis Sewel wedi’u ffurfioli fwy mewn gweithdrefnau seneddol ac yn y blaen mewn gwirionedd, ond efallai fod honno’n drafodaeth ar gyfer rhyw dro eto.

Penodi Barnwr o Gymru i’r Goruchaf Lys

7. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud o ran penodi barnwr o Gymru i’r Goruchaf Lys? OAQ(5)0026(CG)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar sawl achlysur o ran penodi aelod o Gymru i’r Goruchaf Lys.

Gwnsler Cyffredinol, mae’n ymddangos i mi fod absenoldeb cynrychiolaeth o Gymru ar banel y Goruchaf Lys yn fwlch pwysig yn y fframwaith democrataidd yn y DU. A ydych yn cytuno y dylai’r corff sy’n dyfarnu ar faterion cyfansoddiadol sy’n effeithio ar boblogaeth y DU yn ei chyfanrwydd gynnwys cynrychiolwyr o’r DU gyfan?

Yr ateb yw fy mod yn sicr yn cytuno. Bu dadlau o ran yr hyn a olygwn wrth farnwr o Gymru neu gynrychiolydd o Gymru yn y Goruchaf Lys ac wrth gwrs, nid yw’n fater sy’n ymwneud yn unig â’r Goruchaf Lys, ond y llysoedd lefel is hefyd. Mae yna gyfle’n codi o ran hynny, dros y ddwy flynedd nesaf, wrth i chwe barnwr yn y Goruchaf Lys ymddeol. Cyflwynwyd sylwadau gan Brif Weinidog Cymru ac mewn gwirionedd, gan y Cwnsler Cyffredinol blaenorol, ynglŷn â’r ffaith na cheir barnwr yn y Goruchaf Lys sy’n meddu ar wybodaeth benodol am gyfraith Cymru. Ac rwyf finnau o’r farn hefyd y dylai fod barnwr yn y Goruchaf Lys sy’n meddu ar wybodaeth benodol am gyfraith Cymru. Rwyf wedi ei roi’n ofalus fel hynny, gan gofio ar hyn o bryd mai awdurdodaeth Cymru a Lloegr sydd gennym. Yr opsiwn a ffafrir yw y dylai fod yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar ddealltwriaeth neu’r gallu i gaffael dealltwriaeth o’r modd y gweinyddir cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru. Rwy’n credu bod y prosesau dethol a phenodi yn ymwybodol iawn o’r sylwadau a gyflwynwyd o Gymru, ac rwy’n credu ein bod yn edrych ymlaen yn optimistaidd at weld y sylwadau hynny’n cael eu hystyried pan wneir y penodiadau hyn.

A gaf fi ddweud hefyd fod yna fater ehangach yn codi nid yn unig o ran cynrychiolaeth o Gymru yn y Goruchaf Lys; mae mater ehangach yn codi ynglŷn ag amrywiaeth y gynrychiolaeth? Ac ar y pwynt penodol hwnnw, mae’n debyg na allaf ond gwneud fy ngorau drwy ddweud bod Llywydd y Goruchaf Lys, yr Arglwydd Neuberger, wedi dweud:

Mae haenau uwch y farnwriaeth yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o ddiffyg amrywiaeth amlwg ac yma mae’n rhaid i mi gyfaddef nad yw’r Goruchaf Lys yn sgorio’n uchel o gwbl. Mae gennym un fenyw wen a 10 o ddynion gwyn, ac er na chafodd dau o’r 11 eu haddysgu’n breifat, nid oes yr un ohonom yn dod o gefndiroedd difreintiedig.

Rwy’n meddwl bod yna gydnabyddiaeth ac rwy’n credu ein bod yn y broses o ddiwygio a newid, nid yn unig o ran ein hawdurdodaeth ein hunain, ond hefyd o ran y ffordd y mae’r llysoedd eu hunain yn newid. Ond mae’n rhywbeth yr wyf fi, a Llywodraeth Cymru, fe wn, yn ei fonitro’n agos.

3. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf eisiau siarad am 90 eiliad am Siediau Dynion Cymru a mudiad y siediau dynion. Sefydlwyd y cysyniad gwreiddiol o siediau dynion yn Awstralia 11 mlynedd yn ôl fel rhan o seilwaith iechyd sy’n cefnogi rhaglenni i wella iechyd a lles dynion, ac i helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol.

Nawr, rydym i gyd yn gyfarwydd â’r dywediad, ‘O’r fesen fach, fe dyf coed derw nerthol’. Wel, mae Squirrel’s Nest yn fy etholaeth yn Ogwr—yn Nhon-du i fod yn fanwl gywir—yn gartref i sied y dynion i weithwyr yng Nghymru, ac ers ei sefydlu yn 2002, cefais y pleser—a gwn fod Aelodau Cynulliad eraill y mae rhai ohonynt yma heddiw wedi cael yr un pleser—o ymweld â hwy ar sawl achlysur. Ceir 34 o siediau dynion yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys ShedQuarters Maesteg. Er eu bod yn tueddu i lywodraethu a chynnal eu hunain yn gynaliadwy, a bod ganddynt fynediad drwy eu gwefan swyddogol at gyngor arbenigol ar ysgrifennu cyfansoddiad, syniadau ar gyfer ariannu, deall iechyd a diogelwch a help gydag yswiriant, mae Robert, sy’n gysylltiedig â Squirrel’s Nest, yn gyd-gadeirydd Cymdeithas Siediau Dynion Cymru, ac mae yn y broses o sefydlu cydweithrediaeth Siediau Dynion Cymru fel y brif gymdeithas yng Nghymru, gyda chymorth Canolfan Cydweithredol Cymru, gan eu galluogi i fod yn gymdeithas a chydweithrediaeth er budd cymunedol. Bydd yn enghraifft arall o Ogwr a Chymru yn arwain, a bydd Robert yn sylfaenydd-gyfarwyddwr ar y gymdeithas newydd.

Ni cheir dwy sied sydd yr un fath; maent mor unigryw ac amrywiol â siediau gwreiddiol yr ardd gefn, yn fan lle y gall dynion ddianc rhag straen bywyd bob dydd, a dianc hefyd i fynd ar drywydd eu diddordebau. Mae croeso i storïwyr, crefftwyr sy’n creu cerddoriaeth a rhai sydd â diddordeb mewn radio amatur ond yn allweddol, mae’n fan lle yr eir i’r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd mewn amgylchedd cyfeillgar a lle y gall dynion sgwrsio a mwynhau cwmni ei gilydd.

4. 4. Datganiad: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau Cychwynnol ar Ddarlledu yng Nghymru

Eitem 4, felly, yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru’, a galwaf ar y Cadeirydd, Bethan Jenkins.

Thank you. On 1 February, the Culture, Welsh Language and Communications Committee published its report, ‘The Big Picture’, setting out our initial views on broadcasting in Wales.In September last year, in my first statement to Plenary as Chair of the committee, I said that the committee would be dedicated to holding broadcasters and other media to account. It would be a committee that would ensure that the public is properly served by broadcasters, and a committee that would ensure that broadcasters would be publicly accountable for their responsibilities and commitments to Wales.

Since then, we have spent time familiarising ourselves with the issues of significance and the background. We have taken oral evidence from the BBC, ITV, S4C and Ofcom, and from the BBC director general, Lord Tony Hall. We have also made a number of visits.We have made clear that we intend to look at all aspects of broadcasting and the media over the course of this Assembly. It’s to be noted, for example, that some commentators have mentioned that we were digital light in our analysis of the media in Wales. We are happy to consider this and other issues as part of future inquiries. We have already started an inquiry into the remit, funding and accountability of S4C that we hope will be influential in the UK Government’s review of the channel, which is set to take place later this year.

Rydym hefyd yn bwriadu edrych yn fwy manwl ar y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth newyddion lleol, ar radio masnachol, ac ar y portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU. Mae adroddiad ‘Y Darlun Mawr’ yn nodi ein barn ar y prif themâu sydd wedi codi o’n gwaith cychwynnol yn y maes hwn. Fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, ni fwriedir iddo fod yn ddadansoddiad manwl o bob mater sy’n peri pryder, ond yn hytrach, yn sylfaen ar gyfer y gwaith mwy penodol y bwriadwn ei wneud yn y dyfodol. Serch hynny, mae’n gwneud rhai argymhellion pwysig ac yn tynnu sylw at nifer o bryderon. Byddaf yn hapus i ateb cwestiynau’r Aelodau ar unrhyw un o’r materion yn yr adroddiad yn yr amser sydd ar gael. Hoffwn dynnu sylw at nifer ohonynt—nifer o’r argymhellion—y credaf eu bod yn arbennig o bwysig.

Y portread o Gymru—y BBC: yn gyntaf oll, ac yn bwysicaf efallai, mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC wedi gwneud ymrwymiad cadarn y bydd BBC Cymru Wales yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer darlledu yn Saesneg yng Nghymru. Hyd yn hyn, nid yw’r Arglwydd Hall wedi rhoi ffigur ar faint o arian ychwanegol y dylid ei gael. Rydym ni wedi gwneud hynny. Rydym wedi argymell y dylid darparu £30 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer dramâu Saesneg a darlledu am Gymru. Nid yw hwn yn argymhelliad newydd. Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad blaenorol, a grŵp polisi cyfryngau y Sefydliad Materion Cymreig wedi gwneud argymhellion tebyg o’r blaen. Gallai cyllid o’r fath ganiatáu i’r allbwn ddyblu a rhoi cyfle i’r BBC gynhyrchu mwy o raglenni o ansawdd sy’n ennill eu lle ar rwydwaith y BBC. Bydd yr Arglwydd Hall yn ymddangos gerbron y pwyllgor ym mis Mawrth, ac rydym yn disgwyl iddo gyhoeddi cyllid ychwanegol sylweddol bryd hynny ar gyfer darlledu Saesneg yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio’r ffigur o £30 miliwn fel meincnod ar gyfer barnu i ba raddau y mae’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyn.

Y portread o Gymru—ITV: os yw Cymru i gael ei chynrychioli’n ddigonol ar rwydweithiau darlledu, ni allwn ddisgwyl i’r BBC ysgwyddo’r cyfrifoldeb i gyd. Mae angen i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill wneud eu rhan hefyd, yn enwedig ITV Cymru Wales. Byddai’n annheg peidio â chydnabod eu llwyddiant yn ddiweddar, er yn gyfyngedig, i sicrhau comisiynau rhwydwaith. Ond y ffaith amdani yw nad yw’r dull a ddefnyddir gan ITV Cymru Wales, ac ITV yn gyffredinol, wedi arwain at sicrhau bod lleisiau o Gymru yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar rwydwaith ITV. Mae dull y sianel o gomisiynu wedi methu cyfleu cyfoeth cymunedau Cymru, a cheir agweddau sylweddol ar fywyd Cymru na chânt eu portreadu naill ai ar rwydwaith ITV nac ar ITV Cymru Wales. Rydym wedi argymell y dylai ITV Studios fabwysiadu dull mwy rhagweithiol o ddatblygu rhaglenni i’w darlledu ar rwydwaith ITV, gan gynnwys gosod nodau penodol ar gyfer datblygu cynnyrch rhwydwaith ar Gymru sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru.

Er na fyddwn o reidrwydd yn disgwyl i holl argymhellion y pwyllgor gael eu derbyn heb sylw gan y rhai yr effeithiant arnynt, roeddwn i ac aelodau eraill y pwyllgor, wedi ein rhyfeddu gan ymateb cyhoeddus amddiffynnol iawn ITV i’r argymhelliad penodol hwn, nid yn unig yn eu hymateb corfforaethol, ond yn eu dadansoddiad i’r wasg, hefyd. Er bod yn rhaid iddo ystyried realiti masnachol, erys y ffaith fod ITV Wales yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus gyda chyfrifoldeb i adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Felly, rwy’n falch o glywed bod ITV wedi dweud eu bod yn bwriadu parhau i ymgysylltu’n adeiladol â gwaith pwysig y pwyllgor, ond mae’n rhaid i mi ddweud nad oeddwn yn ystyried eu hymateb i’r argymhelliad hwn yn arbennig o adeiladol.

S4C funding: we are deeply concerned at the severe impact of repeated cuts to S4C’s budget, which has been cut by 36 per cent in real terms since 2010. It will suffer further real-terms cuts of around 10 per cent in the period leading up to 2021, despite an ‘element of stability’ provided by licence fee funding remaining constant. This has had a marked impact on what S4C is able to do. For instance, 57 per cent of programmes are now repeats compared to just 20 per cent when the channel was launched. This is clearly far too high and is a matter of very considerable concern to us as a committee.

I mentioned earlier that the committee has already started an inquiry into the remit, funding and accountability of S4C, leading in to the UK Government’s review of the channel later this year. We need to consider the future of S4C in the round, but only after the UK Government review, and not before that. Any cut to S4C’s budget before a review would be far from acceptable in our eyes.

Scrutiny of local democracy—BBC proposals: shortly after our report was published, the BBC announced plans to help improve the scrutiny of local democracy in the UK by embedding journalists in local media organisations. This will mean 11 new local journalists—one for every two local authorities in Wales. Any move to help improve the scrutiny of local democracy is obviously to be welcomed. However, the committee was concerned that an unintended consequence of this approach could be a further reduction in the number of reporters in newsrooms across Wales.

We genuinely need to see more detail on this proposal, to decide whether it has addressed the concerns that we have raised. We suggested instead a wire-type service—a more specific service—that could be provided to local media organisations, in matters where local reporting has declined, such as in court and councils.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys ystod eang o faterion eraill, megis torri i newyddion Cymru ar radio rhwydwaith y BBC, craffu ar benodiad aelod bwrdd newydd y BBC dros Gymru, amlygrwydd S4C ar y rhestr raglenni electronig, atebolrwydd darlledwyr i’r Cynulliad Cenedlaethol a sut y gall Channel 4 wella ei phortread. Rwy’n gobeithio gallu cymryd cwestiynau gan y rhai yn y Siambr heddiw, ac wrth gwrs, rydym yn aros am ymateb gan y Llywodraeth ac yn gobeithio gallu cyflwyno dadl yn y dyfodol ar y maes penodol hwn, o ystyried bod gennym bwyllgor sydd wedi ymrwymo i edrych ar gyfathrebu yma yng Nghymru, ac yn awyddus i gadw’r ffocws cryf ar yr hyn y mae darlledwyr a’r diwydiant yn ei wneud yma yng Nghymru.

A allaf i longyfarch Bethan Jenkins, yn y lle cyntaf, ar ei chadeirio cadarn yn y pwyllgor ac arweinyddiaeth glir ynglŷn â’r ffordd bwrpasol ymlaen? Rwy’n cofio, achos rwy’n hen yn awr, mewn Cynulliadau o’r blaen, trio mynd i’r afael efo’r holl fusnes yma o sôn a thrafod am ddarlledu a phapurau newydd ac ati, a sut maen nhw’n portreadu Cymru yn gyffredinol, ac roedd hi’n anodd iawn cael dadl neu drafodaeth o gwbl ar un adeg, achos nid oedd y mater wedi cael ei ddatganoli. Rwy’n llongyfarch Bethan, felly, sydd wedi llwyddo i yrru’r cwch i’r dŵr, megis, ac rydym yn gallu cael trafodaeth eang. Rydym wedi llwyddo i gael BBC ac ITV a hefyd S4C i ymddangos o flaen ein pwyllgor, ac wedi dod i fyny efo’r adroddiad bendigedig yma—yr un cyntaf yn y maes yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, cefndir hyn oll ydy’r portread gwael, yn gyffredinol, o Gymru o fewn Cymru ac, wrth gwrs, o Gymru drwyddi draw yn y Deyrnas Unedig.

Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy: a oes bwriad i ni fel pwyllgor i fod yn craffu yn gyson ar weithgareddau’r BBC ac ITV? Rydym ni’n gwybod bod Tony Hall yn dod yn ôl nawr, ond a ydym ni’n gweld bod rhyw fath o raglen gynhwysfawr sy’n mynd i olygu bod BBC, ITV ac S4C yn mynd i ymddangos yn rheolaidd o flaen ein pwyllgor yn y lle cyntaf?

Hefyd, mae’r cwestiwn arall sydd gyda fi ynglŷn â dyfodol S4C. Mae yna, wrth gwrs, ymchwiliad yn mynd ymlaen ar raddfeydd eraill, ond yn benodol, gan fod rhai ohonom ni yn awyddus iawn i weld, efallai yn y pen draw, ddatganoli cyllid a phwerau dros S4C i’r fan hon yn gyfan gwbl, pa waith sy’n mynd i gymryd rhan fel rhan o unrhyw ymchwiliad i sut mae S4C yn gweithio i’r ffaith bod yna ddyhead o fewn Cymru ac ymhlith pobl Cymru i weld S4C yn cael ei datganoli i’r Cynulliad yma? Diolch yn fawr.

Diolch, Dai, am y geiriau caredig iawn. Gwnes i ddim talu Dai Lloyd i ddweud y pethau yna, yn sicr. Rydym ni wedi bod yn craffu yn weddol gyson ar ITV, BBC ac eraill, fel rhan o’r ymchwiliad penodol hwn, ond fel pwyllgor sydd â ‘chyfathrebu’ yn ein teitl, rwy’n credu ei bod yn bwysig inni osod yr agenda gwleidyddol er mwyn sicrhau bod y rheini sydd yn y maes cyfryngol yn ymatebol inni a’u bod nhw’n teimlo’r pwysau bod y pwyllgor newydd yma yn mynd i fod â barn am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn mynd i fod yn wyliadwrus am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rwy’n sicr yn gwybod bod y rheini sydd yn y sector yn gwylio’r hyn rydym ni’n ei wneud fel pwyllgor ac yn cymryd beth ydym ni’n ei wneud o ddifrif. Nid wyf i’n credu y byddai ITV Cymru Wales wedi ymateb mor gryf pe na baen nhw’n ein cymryd ni o ddifrif fel pwyllgor. Felly, rwy’n credu bod hynny’n bwysig. O ran y BBC, wrth gwrs, mae memorandwm o ddealltwriaeth rhwng y Cynulliad a’r BBC ac felly mae yna reidrwydd, mae yna gysondeb, i’r berthynas rhyngom ni a nhw er mwyn gallu parhau yn y dyfodol. Byddwn ni’n sicr eisiau eu cael nhw i mewn i roi mwy o dystiolaeth gerbron y pwyllgor.

O ran S4C a datganoli, wel, fel rhan o’r ymchwiliad, fel yr ydych chi’n gwybod, Dai, mae’r ymchwiliad ar S4C yn mynd i gynnwys cwestiwn yn nhermau’r ymchwiliad hwnnw am a ddylem ni edrych ar ddatganoli S4C yn benodol yn y cyd-destun hwnnw. Nid ydym ni eto wedi mynd mor bell â thrafod datganoli yn ei gyd-destun mwy eang, ond rwy’n credu, er nad oes gennym ni’r pwerau dros ddatganoli yma yng Nghymru, mae’n bwysig inni ddangos ein bod ni’n genedl a’n bod ni’n gallu arwain ar yr agenda yma, boed y pwerau sydd yn bodoli yn y lle yma ar hyn o bryd—.

A gaf fi longyfarch fy Nghadeirydd ar ei datganiad ac yn wir, yn fwy eang ar ddifrifoldeb, hiwmor a natur anymwthgar ei dull o gadeirio? Mae’n fodel o Gadeirydd pwyllgor, os caf ddweud. Rwy’n sylweddoli y gallai ei chanmol yn y Siambr ym mhresenoldeb arweinydd ei phlaid arwain at rai problemau mewnol iddi ym Mhlaid Cymru. Yn sicr, rwy’n gobeithio na wnaiff hynny. Ond mae fy nghanmoliaeth yn ddiffuant iawn.

Rwyf am gyfeirio at yr hyn y mae’r adroddiad yn ei ddweud am S4C. Yn benodol, ym mharagraff 37, rydym yn cyfeirio at y ffaith fod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU ddyletswydd statudol i sicrhau bod gan S4C ddigon o arian i gyflawni ei gylch gwaith fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Yn wyneb y toriadau y cyfeiriwyd atynt yn y datganiad a’r hyn y mae’r adroddiad hefyd yn dweud am y ffordd y mae S4C wedi gorfod torri’n ôl ar ei raglennu, a’r buddsoddiad mewn rhaglenni plant yn benodol a diffyg cynnyrch drama gwreiddiol am nifer o fisoedd y flwyddyn, tybed mewn gwirionedd a yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn torri dyletswydd statudol yn yr achos hwn. Yn bendant, rwy’n cytuno â’r adroddiad pan ddywed y byddai’n hollol anghywir i gael unrhyw doriadau pellach i gyllideb S4C tra cynhelir adolygiad ar y dyfodol. Mae S4C yn sefydliad main iawn. Maent wedi torri eu staff o 220 i lai na 130; mae eu gorbenion mewnol cyffredinol oddeutu 4 y cant o’i gymharu â chyfartaledd o tua 11 y cant neu 12 y cant yn y sector cyhoeddus. Felly, rwy’n meddwl bod S4C, mewn gwirionedd, yn llwyddiant mawr iawn ar adnoddau sy’n hynod o brin. Felly, y cwestiwn sydd gennyf i’r Cadeirydd yw a oes gennym achos hyd yn oed yn gryfach yn gyfreithiol nag sydd yna’n foesol i fynnu mwy o arian i S4C, o ystyried pwysigrwydd hyn o reidrwydd er mwyn cyflawni amcan y Llywodraeth o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a’n dyhead yn y pen draw i gael cenedl gwbl ddwyieithog.

Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, ni thelais neb am y ganmoliaeth, ond diolch yn fawr i chi beth bynnag. Rwy’n siŵr na fydd fy arweinydd yn gallu rhoi pryd o dafod i mi am rywbeth a ddywedoch chi. Byddai hynny’n rhywbeth newydd i mi, ond hei, mae rhyfeddodau’n digwydd. Beth y gallaf ei ddweud?

O ran S4C, hynny yw, wyddoch chi, byddem yn cytuno ar y meinciau hyn, wrth gwrs, na ddylai’r toriadau i S4C byth fod wedi digwydd, ac rwy’n credu mai dyna’r consensws trawsbleidiol erbyn hyn, mae’n debyg. S4C yw ein hunig sianel, ac mae eraill hyd yn oed yn dadlau yn awr y dylem gael mwy nag un sianel. Gwn fod S4C wedi creu sianel YouTube ar gyfer pobl ifanc i weld sut y buasai hynny’n ymgysylltu â hwy o bosibl, gan gael gwared ar frandio posibl neu newid y brandio er mwyn apelio at gynulleidfa newydd. Mae’n rhaid i ni hyrwyddo S4C o ddifrif, oherwydd rwy’n mynd i ysgolion yn rheolaidd ac nid yw’r rhai sy’n astudio Cymraeg drwy ysgolion cyfrwng Saesneg, a llawer o bobl, yn gwybod am S4C hyd yn oed, neu erioed wedi gwylio S4C. Mae hynny’n peri gofid mewn gwirionedd, pan wyf yn gwybod bod pobl wedi ymladd mor galed i greu’r sianel yma yng Nghymru er mwyn i ni ei defnyddio a sgwrsio amdani ac annog pobl i wylio rhaglenni drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid wyf yn gyfreithiwr—syndod y byd—felly os yw’n torri dyletswydd statudol rwy’n siwr fel pwyllgor y gallwn ofyn am gyngor cyfreithiol. Pan fyddwn yn cael yr ymchwiliad ar S4C, gallwn ofyn am gyngor cyfreithiol ar hynny oherwydd ei fod yn bwynt y credaf y dylwn edrych arno, oherwydd, wrth gwrs, nid rhwymedigaeth foesol yn unig yw hi, mae’n ymwneud â sut y maent yn ceisio cyflawni eu gofynion cyfreithiol o fewn y fframwaith statudol presennol. Felly, rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt y mae angen i ni edrych arno. Gall fod yn ddiddorol i bobl eraill yn y Siambr wybod bod S4C eisoes yn mynd y tu hwnt i’w gofynion statudol a chyfreithiol am eu bod yn gweithio yn y maes digidol, ac oherwydd eu bod yn gweithio mewn meysydd eraill. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnynt i wneud hynny, ond maent yn ei wneud oherwydd, yn amlwg, maent yn awyddus i weld y sianel yn datblygu ac maent yn awyddus i weithio mewn gwahanol ffyrdd yn y dyfodol.

O ran yr 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, wel, ie, rydym yn cynnal ymchwiliad ar hynny ar hyn o bryd ac mae angen i ni edrych ar y maes addysgol oherwydd dyna ble y clywn fod angen i’r newid ddigwydd gyflymaf, ond ni allwn anwybyddu pwysigrwydd S4C o ran gallu gwireddu’r targedau hynny, a’r cyfleuster addysgol y gall S4C ei gynnig yn hynny o beth. Er enghraifft, gwn fod yna actorion a sgriptwyr yng Nghymru yn aros i allu mynd i ysgolion i ddweud wrthynt am y sioeau sydd ar S4C, am eu bod eisiau hyrwyddo’r sianel, ac os oes ganddynt fodelau rôl yn mynd i’r ysgolion a siarad Cymraeg â hwy oddi ar y rhaglenni teledu hyn, yna bydd hynny, o bosibl, yn ysbrydoli pobl ifanc ac eraill i wylio’r sianel yn y dyfodol.

Yr hyn sy’n rhaid i ni ei sicrhau yn rhan o’n hymchwiliad yw gwneud yn siŵr fod Llywodraeth y DU yn gwybod nad yw unrhyw doriadau yn dderbyniol. Hynny yw, ni fuaswn am weld unrhyw doriadau ar ôl yr adolygiad, ond yn enwedig cyn yr adolygiad ni ddylem oddef unrhyw doriadau gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Rwy’n credu eu bod wedi gwella rhywfaint tuag at eu perthynas gydag S4C ar yr agenda hon—gan ddysgu o gamgymeriadau blaenorol yn ôl pob tebyg yn y ffordd y gwnaethant doriadau i S4C—ond mae cymaint i’w wneud eto ac rwy’n gobeithio fel pwyllgor y gallwn weithio gyda’n gilydd i wireddu hynny.

5. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei Waith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Symudwn ymlaen at eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei waith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor—John Griffiths.

Cynnig NDM6239 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl gyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ddeddfwriaeth bwysig sy’n nodi fframwaith statudol ar gyfer atal cam-drin a gwella cymorth i oroeswyr. Ond nid yw pasio deddfwriaeth yn ddigon—mae’n rhaid iddo gael ei roi ar waith yn effeithiol. Felly, penderfynodd ein pwyllgor wneud gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol i edrych ar ba mor dda yr oedd hyn yn digwydd mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth hon. Yn ystod ein hymchwiliad, cawsom dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a chynhaliwyd ymweliadau i glywed yn uniongyrchol gan oroeswyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb am gyfrannu, ond yn arbennig, rydym eisiau dweud ‘diolch’ wrth y goroeswyr a’n hysbrydolodd gyda’u nerth a’u dewrder yn rhannu eu straeon. Er eu mwyn hwy, ac er mwyn yr holl oroeswyr, rhaid i ni gael hyn yn iawn. Ni allwn droi’r cloc yn ôl i atal trais ar ôl iddo ddigwydd. Ni ddylai neb amau ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i fynd benben â’r mater hwn. Rydym yn croesawu’r ffaith fod pob un o’r argymhellion wedi’u derbyn, naill ai’n llawn neu’n rhannol. Fodd bynnag, mae’r ymateb i’n hargymhellion yn eithaf gwan ar adegau ac weithiau’n brin o fanylion. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb heddiw yn darparu sicrwydd fod y materion a nodwn yn ein hadroddiad yn cael sylw gyda’r lefel o frys sy’n angenrheidiol.

Ddirprwy Lywydd, mae’r pwyllgor yn rhannu pryderon rhanddeiliaid ynglŷn â chyflymder a chysondeb gweithredu. Aeth pum mlynedd heibio ers cyhoeddi’r Papur Gwyn, a bron i ddwy flynedd ers i’r Ddeddf gael ei phasio, ond mae llawer o elfennau allweddol yn dal i fod heb eu rhoi ar waith ac nid ydynt yn mynd i fod ar waith yn fuan iawn. Gyda phob dydd sy’n pasio rydym mewn perygl o golli momentwm a chyfleoedd i newid bywydau. Mae gwasanaethau’n cael eu torri, mae sefydliadau’n ansicr ynglŷn â’u dyfodol. Rydym yn colli amser pan allem fod yn rhoi mesurau ataliol ar waith.

Trof yn awr at rai o’n hargymhellion. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi dyddiadau, yn y cynllun cyflawni sydd ar y ffordd, ar gyfer amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys canllawiau statudol. Yn llinell gyntaf yr ymateb, dywedodd y Llywodraeth nad oedd unrhyw ganllawiau statudol yn dal heb eu cyflwyno. Fodd bynnag, mewn mannau eraill, mae’r ymateb yn nodi y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ganllawiau comisiynu statudol ym mis Gorffennaf eleni. Felly, mae’n ymddangos bod yna ganllawiau statudol sy’n dal heb eu cyflwyno. A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro’r sefyllfa honno: beth sy’n parhau i fod heb ei wneud a phryd y byddant yn cael eu cyhoeddi? Mae’r canllawiau statudol hyn yn bwysig. Dyma yw cerrig sylfaen y ddeddfwriaeth.

Yn argymhelliad 3, roeddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o gyhoeddi canllawiau statudol ar gomisiynu gwasanaethau. Dywedodd y cynghorydd cenedlaethol wrthym fod y canllawiau comisiynu yn allweddol i ddibenion y Ddeddf, ond ni fydd ymgynghori’n digwydd ar y canllawiau drafft tan fis Gorffennaf. Yn eu hymateb, mae’r Llywodraeth yn cyfeirio at y pecyn cymorth a lansiwyd gan Sefydliad Banc Lloyds a Chymorth i Fenywod Cymru ym mis Awst 2016, ond cafodd hwn ei gynhyrchu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac nid yw’n statudol. Mewn sector lle y mae comisiynu mor hanfodol i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol, mae’n rhwystredig nad yw’r canllawiau hyn yn barod eto.

Mae cysylltiad agos iawn rhwng comisiynu gwasanaethau a chyllid. Yn argymhelliad 5, roeddem yn galw am amserlen i’r bwrdd cynghori gwblhau ei waith ar fodel ariannu cynaliadwy ar gyfer y sector arbenigol. Dywedwyd wrthym fod hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn. Mae’r ymateb yn nodi yr adroddir ar gynnydd i Ysgrifennydd y Cabinet yn y grŵp ymgynghorol ym mis Gorffennaf, ond buasai’r pwyllgor yn awyddus i weld yr amserlen y galwyd amdani fel ein bod yn gwybod pryd y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau. Roeddem hefyd yn galw am ariannu digonol i ymdopi ag unrhyw alw cynyddol am wasanaethau. Roeddem yn croesawu’r cynnydd yn elfen refeniw y grant gwasanaethau cam-drin domestig, ond byddem yn gwerthfawrogi eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag a fydd y cynnydd o £400,000 yn ateb y cynnydd tebygol yn y galw, o ystyried bod y cyllid yn sefydlog ar gyfer 2017-18.

Yn argymhelliad 8, roeddem yn galw am eglurder, fel mater o frys, ynghylch statws cyfreithiol y cynllun cyflawni sydd i ddod, pan gaiff ei gyhoeddi a sut yr ymgynghorir arno. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, ond nid yw’n darparu llawer o wybodaeth yn ei gylch. Dywedir wrthym y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y bwrdd cynghori i ddatblygu’r cynllun yn ystyried y statws cyfreithiol. Dywedir wrthym hefyd y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn penderfynu ar y dyddiad cyhoeddi pan fyddant yn cyfarfod gyntaf ym mis Chwefror 2017—y mis hwn. Os nad yw’n gallu egluro’r statws cyfreithiol ac amlinellu pryd y bydd yn cael ei gyhoeddi heddiw, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro pryd y bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud.

Hoffwn symud ymlaen yn awr at ein canfyddiadau’n ymwneud ag addysg. Mae hwn wedi profi’n bwnc dadleuol. Nododd y Papur Gwyn y dylai addysg perthynas iach fod yn orfodol ym mhob ysgol, ond ni chafodd hyn ei gynnwys yn y Bil. Mae’r mater yn parhau i achosi pryder i randdeiliaid fel Barnardos, Cymorth i Fenywod Cymru, Heddlu Gwent a’r cynghorydd cenedlaethol, a oedd eisiau mwy o ymrwymiad ynglŷn â hyn. Rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydymdeimlo â’r safbwyntiau hyn, gan iddo ddweud wrthym ei fod yn cytuno bod ymyrraeth ac addysg gynnar yn allweddol i feithrin perthnasoedd iach, a’i fod yn awyddus i sicrhau cysondeb. Mae’r pwyllgor yn dal i deimlo’n gryf fod yn rhaid cael gofynion i ysgolion addysgu plant am berthnasoedd iach, neu ni fydd modd atal yr agweddau cymdeithasol gwreiddiedig a niweidiol ynglŷn â cham-drin a thrais rhywiol. Ceir cyfle gyda datblygiad y cwricwlwm newydd i gael hyn yn iawn. Mae’n hen bryd i hyn ddigwydd a byddai’n gam pwysig ymlaen. Byddai’n dda cael sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’r mater hollbwysig hwn.

Mae argymhelliad 11 yn galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi rheoliadau penodol sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar sut y maent yn arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â’r Ddeddf. Mae’n parhau i fod yn aneglur a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau adrodd erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017-18. Unwaith eto, bydd yn dda cael eglurder ar hyn heddiw.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am symud ymlaen at rôl y cynghorydd cenedlaethol. Mae hon yn rôl hollbwysig, ond clywsom fod ei heffeithiolrwydd yn cael ei llesteirio o bosibl gan adnoddau cyfyngedig. Swydd ran-amser yw hi gydag un aelod rhan-amser o staff i gynorthwyo. Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu capasiti swydd y cynghorydd ac ystyried dyrannu adnoddau pellach. Mae eu hymateb yn datgan ei fod wedi cael ei drafod a’i ystyried, a’u bod wedi cytuno i’w gadw dan arolwg. Buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â natur y trafodaethau hyn a pha fath o adolygiad sy’n cael ei wneud. Rydym yn gwybod bod cyllidebau’n dynn, ond mae’n bosibl y gallai cynnydd bach mewn adnoddau effeithio’n sylweddol ar y modd y darperir gwasanaethau.

Mae ein hargymhelliad terfynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfeirio at y cynghorydd cenedlaethol, ei chyfrifoldebau a’i chynllun gwaith blynyddol yn y cynllun cyflawni ac unrhyw strategaethau cenedlaethol neu leol yn y dyfodol. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y grŵp gorchwyl a gorffen yn gyfrifol am ddatblygu fframwaith cenedlaethol, ac y byddant yn rhoi gwybod iddynt am yr argymhelliad hwn. Carem ofyn i Lywodraeth Cymru gyflawni rôl fwy rhagweithiol yn hyn, ac i ddarparu cyfeiriad i’r grŵp gorchwyl a gorffen.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud yn glir fy mod yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond mae’r pwyllgor yn pryderu ei bod yn ymddangos bod diffyg brys ar ran Llywodraeth Cymru i roi’r camau angenrheidiol ar waith, fel yr amlinellwyd yn y Ddeddf ei hun. O ystyried pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon, mae’n rhaid cael gweithredu amserol ac effeithiol yn awr i gyd-fynd â’r ymrwymiad.

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am osod allan pryderon y pwyllgor yn glir iawn. Byddwch wedi sylwi bod nifer fawr o bryderon wedi’u codi gan y pwyllgor. Rwyf am ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb, a hefyd ar ymateb Llywodraeth Cymru i hynny: rwy’n mynd i edrych ar y cynllun cyflawni a rôl addysg.

Yn argymhelliad 8, fe alwodd ein pwyllgor am eglurder ynglŷn â statws cyfreithiol y cynllun cyflawni, ac am ddyddiadau ar gyfer cyhoeddi’r cynllun cyflawni. Mae hyn am ein bod yn benderfynol bod yn rhaid i’r cynllun cyflawni fod yn un y gellir ei orfodi yn gyfreithiol, neu bydd ei werth, heb y grym hwnnw, yn lleihau yn sylweddol. Heb ddyddiad cyhoeddi, mae perig o greu anghysondeb wrth i strategaethau lleol gael eu datblygu ac wrth i wasanaethau lleol gael eu comisiynu. Wrth ymateb i’r pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion, ond wedyn yn gwrth-ddweud ei hun mewn ffordd. Mae’n dweud y bydd statws cyfreithiol ac amserlen y cyhoeddi yn cael eu hystyried gan y grŵp tasg a gorffen a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf y mis yma. Nid yw hynny’n swnio fel mater sy’n cael sylw brys imi. Unwaith eto, rydym yn gweld Llywodraeth Cymru lawer iawn yn rhy araf wrth gyflawni. Nid oes dim sôn am ein pryderon am amserlen, anghysonderau, nac a fydd modd gweithredu’r cynllun ar ôl i’r gwasanaethau gael eu comisiynu.

Rwyf hefyd yn bryderus am ddatblygiad addysg perthnasau iach yn ein hysgolion ni. Dyma fesur ataliol allweddol hanfodol er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc ni’n tyfu i fyny i fod yn hyderus am sut i ddelio â sefyllfaoedd o gamdriniaeth, ac i adnabod camdriniaeth yn y man cyntaf. Roedd y Papur Gwyn gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth yn cynnwys addysg fandadol ar berthnasoedd iach, ac mae yna dystiolaeth gadarn iawn dros wneud hyn fel rhan o’r cwricwlwm. Rwy’n derbyn efallai y bydd yn rhan o’r cwricwlwm i’r dyfodol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi sôn, ond beth am rŵan, a beth am fis Medi nesaf? Rydym ni’n gwybod bod myfyrwyr ifanc iawn yn profi anghydraddoldeb ‘gender’ a stereoteipio yn yr ysgol, sy’n gallu amharu ar ansawdd eu haddysg a’u perthynas â’u cyd-fyfyrwyr. Mae cydnabod perthnasau sydd ddim yn iach yn hanfodol. Mae yna gryn ddadlau wedi bod yn y fan hon am hyn i gyd, ac yn y diwedd, gwnaeth y Llywodraeth gynnwys dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol, sef bod angen iddyn nhw adrodd ar sut y byddan nhw’n trin y broblem yn y byd addysg.

Ond, fe glywodd ein pwyllgor ni nad oedd yna unrhyw amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddyletswydd yma. Felly, fe wnaethom ni argymell bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu’r rheoliadau yn ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar hybu pwrpas y Ddeddf. Ein hargymhelliad ni oedd bod yr awdurdodau lleol yn dechrau cyflwyno eu hadroddiadau a bod y Llywodraeth yn gofyn iddyn nhw wneud hynny ar gychwyn y flwyddyn academaidd 2017-18, sef Medi nesaf. Yn anffodus, mae’r ymateb yn hollol annigonol. Yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei ddweud ydy efallai bod yna gyfle i gasglu data am yr hyn sy’n digwydd o ran perthnasoedd iach yn ein hysgolion, sydd yn bell o’r hyn yr oedd y pwyllgor yn ei argymell. Hynny yw, mewn rhai ysgolion penodol, efallai bod modd edrych ar beth sy’n digwydd trwy gyfrwng y gwaith y mae Cymorth i Ferched a grwpiau eraill yn ei wneud yn yr ysgolion, ond cyfyng iawn fydd hynny—tameidiog, yn hytrach na’r cysondeb yr ydym ni ei angen.

Mae yna bwynt ehangach yn fan hyn. Mae adroddiad ein pwyllgor ni yn nodi problemau mawr efo cyflawni a chyflymder y cyflawni. Yn wir, arafwch ydy’r ansoddair sydd yn dod i’r meddwl yn fan hyn ynglŷn â’r cyflawni, ac eto mae angen symud ar frys cyn i bobl ddechrau gweld mai Deddf ydy hon mewn gwirionedd sydd heb rym y tu ôl iddi ar gyfer gweithredu er mwyn gweld y gwahaniaeth yr ydym ni angen ei weld.

Rwyf finnau hefyd yn falch o siarad yn y ddadl hon mewn perthynas â’r hyn y credaf ei fod wedi bod yn waith craffu manwl iawn ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Wrth gwrs, roeddwn yn bresennol y tymor diwethaf, ar yr un pwyllgor, pan oedd y Bil ar ei daith, a’r peth allweddol a welsom ers cymryd tystiolaeth, ac yn wir yn ystod y broses o graffu ar y Bil, oedd diffyg unffurfiaeth ar draws Cymru o ran y modd y caiff y Ddeddf ei rhoi ar waith bellach. Roedd asiantaethau casglu data yn cwyno am ddyblygu gwaith. Roedd asiantaethau a grwpiau trydydd sector yn sôn am ddata’n cael ei gasglu a bod pawb yn gyndyn i rannu’r data hwnnw, ac nid yw data o unrhyw ddefnydd oni bai ei fod yn cael ei rannu ac yna, wyddoch chi, yn rhyw fath o gael ei ddefnyddio i gyflawni’r canlyniadau yr ydym i gyd yn eu ceisio.

Cyhoeddwyd y canllaw arferion da—y canllaw—a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a baratowyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, ym mis Hydref 2015 a chaiff ei ddisgrifio ar wefan Llywodraeth Cymru fel

‘adnodd hwylus i helpu i ymgorffori’r materion a’r ymagweddau hyn mewn arferion addysgu a rheoli presennol.’

Er nad yw’n ffurfio rhan o’r canllawiau statudol a wnaed o dan y Ddeddf, nododd Cymorth i Fenywod Cymru:

rydym eto i weld cynllun clir yn amlinellu sut a phryd y bydd ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn gweithredu’r canllawiau hyn, ac ni cheir llawer o dystiolaeth gyfredol fod hyn yn cael ei roi ar waith yn gyson ar draws ysgolion Cymru a lleoliadau addysgol eraill.

Yn ogystal â hynny, mynegwyd pryder arall fod y cynghorydd cenedlaethol wedi datgan mewn gwirionedd nad yw’n gwybod sut y mae’r canllaw’n cael ei ddefnyddio, sut y caiff ei ddosbarthu, neu hyd yn oed ei fonitro. Ac nid yw’n gwybod faint o ysgolion sy’n ei ddefnyddio hyd yn oed. Felly, wyddoch chi, mae rhywfaint o amwysedd ynglŷn â hynny. Nododd hefyd ei bod yn ansicr pa adnoddau a ystyriwyd yn lleol, yn rhanbarthol, neu’n genedlaethol i gynorthwyo a galluogi’r ysgolion i fwrw ymlaen â’r newid diwylliannol hwn. Dyma’r dyfyniadau; nid wyf yn dweud, wyddoch chi—.

Ymhellach, er fy mod yn deall mai’r dyddiad terfynol yw Mai 2018 roeddwn yn siomedig i nodi, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar, mai un awdurdod lleol yn unig hyd yn hyn sydd wedi cyhoeddi diweddariad o’u strategaeth, gyda’r nod o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn unol â’r Ddeddf mewn gwirionedd.

Mewn perthynas â chasglu data, dywedodd y cynghorydd cenedlaethol ei bod yn ofni, heb gyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch y disgwyliad ar gyfer gweithredu a mecanweithiau ar gyfer casglu a monitro data, fod perygl gwirioneddol y bydd yr ymrwymiadau a wnaed gan y cyn-Weinidog yn methu cyflawni newid yn ein lleoliadau addysgol. Ar hyn, mae’r adroddiad yn nodi bod llawer o randdeiliaid yn pryderu mai rhan-amser yw swydd y cynghorydd cenedlaethol, a chynghorai rhanddeiliaid y buasai’r rôl yn fwy effeithiol pe bai’n swydd amser llawn a bod tîm o staff yn gweithio ar y cyd i sicrhau eu bod yn casglu data i lywio’r strategaeth ar sail barhaus, yn hytrach na dibynnu ar grwpiau ffocws.

Nawr, er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i adolygu capasiti swydd y cynghorydd cenedlaethol, rwy’n siomedig na wnaethant sôn am gasglu data yn eu hymateb i’r adroddiad hwn, gan ei fod yn ffactor pwysig tu hwnt. Felly, hoffwn alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i geisio ymgymryd â monitro a chasglu data’n rheolaidd ac yn effeithiol, fel rhan o ymrwymiad yn y dyfodol i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau adrodd erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017-18. Nid yw unrhyw Ddeddf ond cystal â’r modd y caiff ei dehongli a’i rhoi ar waith. Ac rwy’n meddwl bod yna lawer mwy sydd angen ei wneud yn hynny o beth.

Hefyd, carem ofyn iddynt ystyried ymhellach y galwadau yn adroddiad y pwyllgor i ystyried dyrannu adnoddau ychwanegol ar gyfer ymchwil ac i gefnogi datblygiad strategaethau lleol. Carwn ofyn iddynt hefyd—o, sori. Yn olaf, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pa sancsiynau sydd ar gael i Weinidogion Cymru os na chaiff gofynion y Ddeddf eu cyflawni gan awdurdodau cyhoeddus. Er fy mod yn croesawu’r ffaith fod yr argymhelliad hwn wedi cael ei dderbyn, roeddwn yn gobeithio y byddai hyn yn arwain at rywfaint o eglurder ar y mater hwn i’n hawdurdodau lleol, ein byrddau iechyd, ond nid yw ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro beth sy’n creu rheswm da dros beidio â dilyn y rheswm. A buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hyn ymhellach. Diolch i’r pwyllgor am y gwaith, a diolch i’r holl dystion am gyflwyno tystiolaeth. Diolch.

Rwyf finnau hefyd yn croesawu’r adroddiad, ac rwy’n croesawu’r ymateb gan Lywodraeth Cymru. Mae’n sicr yn dangos eu hymrwymiad i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Rwy’n mynd i ganolbwyntio’n unig ar argymhelliad 6, ac mae’n ymwneud â chyllid i gynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg a elwir fel arall yn MARAC.

Yn aml mae cynghorwyr annibynnol ar drais domestig yn cynnig rhaff achub i ddioddefwyr a’u plant drwy helpu i sicrhau diogelwch y rhai sy’n wynebu risg uchel o niwed neu gael eu lladd gan bartneriaid, cyn-bartneriaid, neu aelodau o’r teulu. Ac mae’r gefnogaeth y maent yn ei chynnig yn amhrisiadwy, fel y byddwch i gyd yn cytuno, rwy’n siŵr. Mae Refuge, a llawer o sefydliadau eraill, wedi dweud ei fod wedi’i ddangos bod gwaith gyda hwy yn lleihau’r risg sy’n wynebu dioddefwyr cam-drin domestig yn sylweddol. Rydym i gyd yn gwybod y bydd menyw, ar gyfartaledd, wedi dioddef 35 o ymosodiadau cyn iddi alw’r heddlu am y tro cyntaf. Ac fe atgoffaf y Cynulliad, ym mis Ionawr eleni, fod o leiaf 11 o ferched o’r DU wedi cael eu lladd gan ddynion, neu mai dyn yw’r sawl a ddrwgdybir yn bennaf, yn ôl Counting Dead Women. Un ar ddeg o fenywod mewn mis yn unig—dyna un ym mhob 2.8 diwrnod, neu un mewn llai na thri diwrnod. Ac mae hynny, rwy’n meddwl, yn ein hatgoffa pam—

Mewn eiliad—pam y mae’n rhaid i gymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig fod yn flaenoriaeth.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Roeddech ar yr un pwyllgor pan oedd y Bil yn cael ei gyflwyno, ac yn awr mae gennym Ddeddf. Pam nad yw’r neges honno’n cael ei chyfleu, a sut y gall Llywodraeth Cymru, a ninnau fel Aelodau’r Cynulliad, weithio’n well i sicrhau y gallwn ddod â’r niferoedd hynny i lawr?

Mae hwnnw wedi bod yn uchelgais oes i mi, Janet, ac rwy’n meddwl y gall pawb ym mhob man ymuno yn hynny. A dyna beth rydym yn ei wneud. Ond, beth bynnag, i fynd yn ôl at yr adroddiad, yng Nghymru, mae canran y cynghorwyr annibynnol ar drais domestig sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr sy’n wynebu risg uchel o gam-drin yn 73 y cant, ac er bod hyn yn cymharu’n dda â nifer o ardaloedd yn Lloegr, fel Canolbarth Lloegr, sydd â chanran wael iawn o 40 y cant, mae’n amlwg fod lle i wella. Fel y mae ymateb y Llywodraeth i’r argymhelliad yn nodi, rwy’n deall bod cynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg yn aml yn cael eu hariannu ar y cyd gan nifer o asiantaethau a sefydliadau, a bod y cyllid hwnnw mewn gwirionedd yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall a rhwng rhanbarthau gwahanol hefyd. Yn 2014, gwn fod Heddlu Dyfed-Powys wedi gorfod gwneud gwelliannau sylweddol yn y maes penodol hwn, yn dilyn argymhelliad gan Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, a’u bod wedi gwneud hynny.

Felly, fy nghwestiwn yn hyn oll yw: gan fod cynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg yn chwarae rhan hollbwysig yn achub bywydau, ac ond yn ymyrryd ar lefel risg ganolig i risg uchel, pa sgyrsiau a thrafodaethau, Ysgrifennydd y Cabinet, a gawsoch gyda’r Swyddfa Gartref, o ran cynnal eu cyllid a’u hymrwymiad i achub y bywydau hynny, a hefyd gyda’r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, sy’n gosod eu cynlluniau, ac i wneud yn siŵr, o fewn eu cynlluniau, fod yna ymrwymiad clir i gynnal capasiti cynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg yn eu priod ardaloedd?

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno’r ddadl heddiw. Roedd hon yn Ddeddf lawn bwriadau da. Fodd bynnag, mae’r gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol wedi amlygu problemau difrifol gyda’i gweithredu, fel y clywsom y prynhawn yma. Un o’r problemau yw mai cynghorau lleol, i raddau helaeth, sy’n gorfod gweithredu’r Ddeddf, ond daw’n dynn ar sodlau Deddfau eraill y mae’n rhaid iddynt eu gweithredu hefyd, megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Un broblem fawr a gododd yn ystod y broses graffu ôl-ddeddfwriaethol oedd bod cynghorau’n aml yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i staff i ddyrannu’r tasgau ychwanegol hyn iddynt, ac maent hefyd yn cael trafferth i ddod o hyd i adnoddau ariannol digonol. Felly, mae’n achosi problemau.

Yn ystod y broses graffu, clywsom gan rai swyddogion cyngor galluog iawn a oedd yn bendant yn angerddol ynglŷn â lleihau trais yn erbyn menywod, ond dywedodd y rhain wrthym fod eu cynghorau’n cael trafferth o ran amser, lefelau staffio, ac arian, felly bydd gweithredu’r Ddeddf hon yn effeithiol yn parhau i fod yn dasg enfawr. Rwy’n croesawu awydd y pwyllgor i gyflwyno addysg perthynas iach mewn ysgolion, ond unwaith eto, mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn ag amser a chost ar gwricwla sydd eisoes dan bwysau o ran amser. Hefyd, dylem gofio’r pwynt a wnaed yn y Siambr yn ddiweddar, sef y gall trais domestig effeithio ar ddynion fel dioddefwyr yn ogystal â menywod, er bod hynny’n digwydd mewn niferoedd llai, ac rwy’n meddwl y gallai’r agwedd hon hefyd ffurfio rhan ddefnyddiol o wersi perthynas iach yn yr ysgol.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd pobl eraill ac efallai fy mod am wyro ychydig oddi wrth yr hyn y mae rhai o’r bobl eraill wedi’i ddweud. Rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith fod argymhelliad 4 wedi’i dderbyn, argymhelliad sy’n ymwneud â chysoni pecynnau hyfforddi, am ei bod yn gwbl hanfodol nad ydym yn gorlwytho gweision cyhoeddus â gormod o wahanol gyfarwyddiadau. Ac felly mae’n bwysig iawn i’r asesiadau anghenion a’r fframweithiau canlyniadau gael eu hymgorffori gyda’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yn ogystal â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Felly, rwy’n credu y bydd hynny’n sicrhau ymarferwyr fod yr elfen hyfforddiant yn mynd i gael ei chyflwyno’n gydlynol, a bod canllawiau’n mynd i fod ar gael hefyd ar ddatblygu strategaethau lleol ar y cyd, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn eu gwneud mewn camau hawdd eu cyflawni. Ond y peth pwysicaf sy’n rhaid inni ei gymryd o hyn yw ei bod yn hollbwysig fod unrhyw un sydd wedi gorfod ymdrin â phobl sy’n dioddef trais domestig, trais rhywiol, i gyd yn gweithredu fel un a’u bod oll yn deall eu swyddogaeth benodol naill ai i’w atal neu’n sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Rwyf am i weddill fy nghyfraniad ganolbwyntio ar yr argymhellion 9 a 10 mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod. Rwy’n deall pam mai’n rhannol yn unig y derbyniodd y Llywodraeth argymhelliad 9 ar addysg orfodol, gan fy mod yn deall yn iawn nad oes pwynt gwneud rhywbeth yn orfodol os nad oes gennych y gallu i’w fonitro. Nodaf y cytundeb i beidio â rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ysgolion i gael gwybodaeth ychwanegol at yr hyn yr ydym eisoes yn gofyn iddynt ei wneud. Felly, rwy’n meddwl fy mod yn cael fy nghalonogi gan argymhelliad 10, sef sicrhau bod yr ysgolion arloesi yn ymgorffori’r canllawiau arferion gorau yn y ffordd yr ydym yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd a bod Estyn yn mynd i arolygu ysgolion ar sail beth bynnag sydd yn y cwricwlwm newydd hwn. Mae hynny’n gwbl hanfodol i mi. Felly, nid wyf yn credu mai gwrthod argymhelliad 9 yw hyn ond yn hytrach, ei ohirio yn unol â chyflymder y teithio.

Mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod, mae’n gwbl hanfodol fod ysgolion yn deall y risgiau posibl y gallai eu merched fod yn eu hwynebu, gan ei bod yn debygol mai’r ysgolion yn unig, neu’r gwasanaethau ieuenctid efallai, gwasanaethau ôl-ysgol, sy’n mynd i allu nodi pan fydd ferch mewn perygl, oherwydd, yn anffodus, mae hwn yn arfer sy’n cael ei gyflawni’n bennaf gan aelodau o deuluoedd y merched. Felly, mae’n rhaid bod yna bobl eraill sydd ar gael i ddiogelu’r plentyn.

Mae’r data yn anodd ei ganfod, ond rwy’n meddwl ein bod yn gwybod bod mwy na 2,000 o fenywod yng Nghymru yn byw gydag organau cenhedlu wedi’u tynnu’n gyfan gwbl neu’n rhannol, yn ôl Dr Mwenya Chimba, sy’n cyd-gadeirio fforwm anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru, ac mae tua 1,200 ohonynt yn byw yng Nghaerdydd. Serch hynny, os credwch nad yw hon yn broblem arbennig yn eich etholaeth, fe’ch cyfeiriaf at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd mae yna 30 miliwn o ferched mewn perygl cyn eu pen-blwydd yn bymtheg oed ar draws y byd, felly mae gennym i gyd ein rhan i’w chwarae yn cael gwared ar yr arfer erchyll hwn.

Ond i fynd yn ôl at ferched ac ysgolion a’r rôl sydd gan ysgolion i’w chwarae yn y wlad hon, mae’n rhaid i ni sicrhau y gall ysgolion ddarllen yr arwyddion pan fydd merch yn debygol o fod mewn perygl fel y gallant roi’r camau angenrheidiol ar waith i sicrhau y bydd y llys yn diogelu’r plentyn cyn iddi fynd yn rhy hwyr, gan nad oes modd gwrthdroi anffurfiad organau cenhedlu benywod—mae’n ddigwyddiad sy’n para am oes ac yn creithio’n ddwfn.

Yn ffodus, mae’r llysoedd yn barod i weithredu ar hyn, a bellach ceir camau llawer mwy effeithiol i atal merched rhag mynd dramor. Ond yn anffodus, mae hyn wedi arwain at adfywiad newydd yn y lefelau o anffurfio organau cenhedlu benywod sy’n digwydd yn y wlad hon. Cawsom wared arno o Stryd Harley, ond arswydais wrth glywed gan Aelod Cynulliad Llundain, Jenette Arnold, a oedd yma ar Ddiwrnod Brwydro yn erbyn Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ar 6 Chwefror, fod hyn yn digwydd ym maestrefi Llundain gan ddefnyddio bydwragedd wedi ymddeol neu rai sy’n dal i weithio fel bydwragedd. Dyma bobl sydd wedi cael eu hyfforddi yn y GIG. Felly, mae’n rhaid inni sicrhau bod pawb yn deall y llw Hipocratig a bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhywbeth sy’n rhaid i ni i gyd frwydro yn ei erbyn.

Mae gwir angen i ni sicrhau bod merched yn cael lle i allu datgelu’r posibilrwydd o’r risg honno, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid inni gael hyfforddiant ysgol gyfan ar hyn i sicrhau nad ydym ond yn targedu un grwp ethnig neu’r llall. Felly, mae’n rhaid iddo fod yn ddigwyddiad ysgol gyfan ac rwyf am sicrhau bod hyn yn cael ei ymgorffori’n llawn yn Donaldson gan mai dyna’r unig ffordd y gallwn frwydro yn erbyn yr arfer hwn ymhlith merched—yn ogystal, yn amlwg, â gwaith pwysig y mae angen inni ei wneud yn y cymunedau yr effeithir arnynt.

Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, John Griffiths, am gadeirio ein pwyllgor yn fedrus. Mae fy amser byr yno wedi bod yn ddiddorol. Roedd ein hymchwiliad byr yn yr hydref y llynedd yn waith pwysig i adolygu cynnydd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n ddeddf arloesol a blaengar. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ran yn gyrru’r gwaith yn ei flaen a’i benderfyniad i wneud iddo lwyddo.

Fel y dywed adroddiad ein pwyllgor, mae’r Ddeddf hon yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel deddfwriaeth arloesol. Mae modd gweld gwerth pwyllgorau craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ein hymchwiliad byr ond pwysig. Er mwyn ei chynorthwyo i weithredu’n well a helpu Llywodraeth Cymru i wella ei hymwneud â’r strategaethau cenedlaethol a lleol, y cynlluniau cyflawni a’r ddarpariaeth addysgol, gallwn weithredu fel ffrind beirniadol sy’n gallu cynnig cyngor ac argymhellion. Mae’n dyst i’r gwaith hwn na chafodd yr un o’r 15 o argymhellion eu gwrthod. Cafodd 12 o’r argymhellion eu derbyn yn llawn, a derbyniwyd tri o’r argymhellion yn rhannol. Fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn llywodraeth leol ers dros ddegawd, rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith fod argymhelliad 1 wedi cael ei dderbyn.

Clywsom dystiolaeth gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam, ymhlith eraill, a fynegodd eu hawydd am ragor o gyfathrebu ystyrlon a chyfeiriad clir gan Lywodraeth Cymru. Caf fy nghalonogi wrth weld Llywodraeth Cymru’n datgan y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017. Bydd hyn yn sicrhau bod adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei chyflawni yn ôl y gofyn.

Pan fyddwn yn pasio deddfau yn y lle hwn, rydym yn eu pasio er mwyn gwneud gwahaniaeth buddiol i fywydau pobl Cymru. Er mwyn sicrhau hyn, mae’n hanfodol fod synergedd rhwng llywodraeth leol ac asiantaethau perthnasol a Llywodraeth Cymru, heb golli dim yn yr ymwneud rhyngddynt. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y credwch y gallwn helpu’r bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau gwell canlyniadau?

Roedd argymhelliad 10 ein pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol, fel y crybwyllwyd gan eraill heddiw, yn defnyddio’r canllaw arferion da a ddatblygwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru ac yn rhoi trefniadau monitro ar waith ar effeithiolrwydd y canllaw hwn. Fel aelodau o’r pwyllgor, cawsom dystiolaeth helaeth a chydsyniol i raddau helaeth ynglŷn â phwysigrwydd, unwaith eto, addysgu plant a phobl ifanc, fel y dywedodd Jenny Rathbone a Joyce Watson, am berthynas iach. Ein cred oedd bod addysg orfodol yn allweddol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y lle cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn ac yn datgan y bydd yn mynd i’r afael â’r mater wrth symud ymlaen drwy gyfrwng adolygiad thematig Estyn o’r ddarpariaeth bresennol ar berthynas iach sy’n digwydd yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17, a bydd hyn yn cwmpasu detholiad o ysgolion.

Roeddwn yn ddiolchgar i’r unigolion a’r sefydliadau a ddaeth i’r Senedd, fel y mae eraill wedi dweud, i roi tystiolaeth ar y mater hollbwysig hwn. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein bwriadau da, yn drawsbleidiol, yn cael eu hymgorffori’n rhan o realiti bywyd Cymru. Cyflwynodd Heddlu Gwent, yr heddlu yn fy etholaeth, dystiolaeth ysgrifenedig a oedd yn datgan mai

nifer cyfyngedig iawn o staff sydd wedi cael unrhyw hyfforddiant drwy’r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol,

ac er fy mod yn sicr y bydd hyn yn cael sylw mewn modd amserol, mae’n taro nodyn o rybudd go iawn i bawb ohonom nad yw pasio deddfau yn golygu bod y gwaith ar ben. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod effaith drawsnewidiol deddfwriaeth yn cael ei theimlo yn ein cymunedau yng Nghymru ac ar draws ein hysgolion, ein sefydliadau addysg bellach a’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Nid y llyfr statud yw diwedd y daith o greu cyfraith effeithiol. Diolch.

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am gyflwyno’r adroddiad hwn, ac i’r pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar ei gyflawni? Fel y dywedodd Rhianon Passmore, rwy’n meddwl y dylem atgoffa ein hunain ar y cychwyn, mae’n debyg, fod y Ddeddf hon yn ddeddfwriaeth arloesol sy’n symud i dir newydd lle nad oes unrhyw ddeddfwrfa arall yn y DU wedi bod. Felly roedd hi bob amser yn debygol y byddai profiadau cynnar yn amlygu lle y gellid gwneud gwelliannau, ac mae’r adroddiad hwn, rwy’n meddwl, yn cynnig argymhellion i alluogi’r Llywodraeth i wneud hynny.

Er bod eraill hefyd wedi cyffwrdd ar yr argymhellion addysg, dyna’r maes yr wyf am ganolbwyntio arno. Hoffwn siarad yn benodol hefyd am gam-drin a gyflawnir drwy ymddygiad gorthrechol, sy’n aml yn cael llai o sylw na cham-drin corfforol, er nad yw’n llai niweidiol. Mae’n digwydd yn ddieithriad dros gyfnod estynedig o amser ac yn cynnwys patrwm ymddygiad parhaus lle y bydd un partner yn gyfyngol ac yn creu ymdeimlad bron yn barhaol o ofn. Dywedir wrth y sawl sy’n dioddef beth y caiff ei wneud, pwy y caiff eu gweld, faint y caiff ei wario, beth y dylai ei fwyta a sut y dylai wisgo. Yn wir, bydd y sawl sy’n cam-drin yn rheoli pob agwedd ar fywyd y dioddefwr, gan ladd eu hyder, gwneud iddynt deimlo’n ddiwerth a gwneud iddynt gredu na allent weithredu heb i’r sawl sy’n cam-drin reoli eu bywyd.

Weithiau, efallai na fydd yr effaith ar ddioddefwyr yn amlwg ar unwaith, yn enwedig gan nad oes unrhyw greithiau corfforol, ond heb os, dros gyfnod o amser, bydd yr effaith ar ddioddefwyr mor ddinistriol ag unrhyw fath arall ar gam-drin.

Felly, mae’n bwysig fod pobl ifanc yn cael eu haddysgu ar y cyfle cyntaf ynglŷn â materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, trais rhywiol ac ymddygiad gorthrechol. Felly, rwy’n falch fod adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnwys nifer o argymhellion yn ymwneud ag addysg a bod gwefan Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar rôl ein system addysg yn addysgu pobl ifanc am berthynas iach, rhywbeth y cyfeiriodd nifer o’r Aelodau ato heddiw.

Felly, rwy’n sylwi’n arbennig ar ymateb Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad 9 yn yr adroddiad yn rhannol, argymhelliad sy’n galw am ymrwymiad i gynnwys addysgu am berthynas iach yn y cwricwlwm newydd. Efallai fod y derbyniad yn rhannol oherwydd bod cynllun y cwricwlwm yn dal i gael ei ddatblygu, i fod ar gael o 2018 ymlaen. Ond o’m rhan i, buaswn yn cefnogi’n gryf yr argymhelliad hwn. Yn wir, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno gwobrau’n ddiweddar i bobl ifanc o ysgolion Merthyr Tudful a sefydliadau ieuenctid a oedd yn gweithio ar brosiectau’n ymwneud â pherthynas iach. Heddiw, fe ddysgais, o ymweliad gan ysgol Pen y Dre ym Merthyr—daethant i’r Cynulliad y bore yma—eu bod yn mynd i barhau i gyflwyno hyn. Ni ddylid tanbrisio’r rôl hanfodol y mae addysg o’r fath i godi ymwybyddiaeth yn ei chwarae yn atal cam-drin yn y dyfodol.

Mae’n ymddangos unwaith eto mai’n rhannol yn unig y derbyniwyd argymhelliad 11 ar gyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar sut y maent yn gweithredu’r Ddeddf, yng nghyd-destun yr adolygiad o’r cwricwlwm. Buaswn yn gobeithio, fodd bynnag, y bydd cydnabyddiaeth i bwysigrwydd cynnwys addysg perthynas iach yn y cwricwlwm newydd yn creu cydnabyddiaeth yn ei sgil o’r angen i fonitro darpariaeth ac effeithiolrwydd addysg o’r fath.

A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 13, sy’n ymestyn addysg perthynas iach ein pobl ifanc i’r rhai sy’n astudio mewn addysg uwch ac addysg bellach? I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n meddwl y dylem fod yn haeddiannol falch o’r ddeddfwriaeth arloesol hon sydd gennym yma yng Nghymru a chydnabod pwysigrwydd addysgu ein pobl ifanc am bob math o gam-drin, gan gynnwys rhai nad ydynt bob amser yn cael eu hadnabod fel ffurfiau ar gam-drin. Gallai mynd i’r afael â hyn gyda phobl ifanc ar oedran cynnar fod yn ateb hirdymor i ymdrin â phatrymau ymddygiad sy’n arwain at gam-drin treisgar a gorthrechol ym mherthynas pobl â’i gilydd.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am roi’r cyfle i mi siarad yn y ddadl hon ar bwnc sydd mor bwysig i mi.

Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor hwn, ond hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am edrych ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n Ddeddf bwysig, gan fy mod o’r farn, fel y mae cymaint o bobl wedi dweud, ei bod yn ddeddfwriaeth sy’n torri tir newydd ac roeddwn yn ei chroesawu’n fawr iawn, fel y gwnaeth y Cynulliad cyfan, ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud cyfiawnder go iawn â hi o ran ei gweithrediad yma yng Nghymru, oherwydd mae’n amlwg mai’r allwedd yn awr yw sut yr ydym yn ei gweithredu.

Hefyd, hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am wneud y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol hwn yn weddol gynnar fel y gallwn weld yn awr ble y mae’r gwendidau a ble y mae angen i ni wneud newidiadau. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am wneud hynny, oherwydd gwn fod pobl wedi mynegi peth pryder ynghylch cyflymder a chysondeb gweithredu. Credaf fod yna rai gwelliannau ymarferol sydd angen eu gwneud o hyd.

Rwyf fi, fel llawer o bobl eraill, yn awyddus i sôn yn arbennig am argymhelliad 9 o adroddiad y pwyllgor ynglŷn ag addysgu am berthynas iach yn ein hysgolion. Dyna oedd yr un maes na chafodd ei gwblhau mewn gwirionedd yn y Ddeddf a gadawyd i’r adolygiad ac i adolygiad Donaldson ystyried hyn a gweld sut y byddai’n cael ei roi ar waith. Rwy’n meddwl bod rhywfaint o ddryswch ym meddyliau pobl ynglŷn â beth yn union sy’n digwydd o ran sut y caiff hyn ei ddatblygu mewn ysgolion. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe bai’r Gweinidog yn gallu egluro hyn wrth ymateb.

Cytunaf yn llwyr â’r rhan fwyaf o’r bobl eraill sydd wedi siarad ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau tuag at berthynas iach yn gynnar yn addysg plentyn, am ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi gwybodaeth a chyngor cadarnhaol yn y maes hwn i bobl ifanc. Oherwydd os na wnawn hynny, ymhle y maent yn mynd i weld modelau rôl? Pwy sy’n mynd i lywio eu barn? Rwy’n credu ein bod yn gwybod faint o wybodaeth sydd ar gael am ddim ar y rhyngrwyd ac ar gyfryngau cymdeithasol sy’n wybodaeth negyddol a gall arwain at agweddau negyddol a ffurfio agweddau afiach. Yn benodol, rwy’n meddwl bod syniadau am berthynas a chydsyniad yn rhywbeth sy’n wirioneddol bwysig—fod hynny’n cael ei drafod yn yr ysgol. A gorau po gyntaf y ceisiwn ddarparu hyn ar berthynas iach. Rwy’n gwybod ei fod yn digwydd, ond mae’n digwydd mewn ffordd ddarniog iawn, ac nid wyf yn deall a yw’n orfodol iddo ddigwydd mewn gwirionedd ai peidio, ac rwy’n teimlo’n gryf iawn y dylai fod yn orfodol—ei bod yn gwbl hanfodol fod gennym hyn yn elfen orfodol yng nghwricwlwm yr ysgol.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’n cael ei gynnwys ar hyn o bryd yng nghyfnod allweddol 2 fel rhan o addysg bersonol a chymdeithasol, sy’n cynnwys gwersi am berthynas iach a thrais domestig, ond nid oes yn rhaid i ysgolion gyflwyno’r rhaglen gyfan, er yr ystyrir bod gwneud hynny’n arfer da. Yna, ymdrinnir ag addysg rhyw a pherthynas yn fwy manwl mewn gwersi gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3, ac mae llawer o arbenigwyr yn dweud bod hyn yn rhy hwyr mewn gwirionedd ac yn canolbwyntio gormod ar agweddau biolegol. Oherwydd rydym yn awyddus i edrych ar agweddau cyffredinol—yr agweddau sydd gan ddynion ifanc tuag at fenywod ifanc, a cheisio annog perthynas iach. Gwn fod adolygiad Donaldson, ‘Dyfodol Llwyddiannus’, wedi argymell bod iechyd a llesiant yn un o’r chwe maes dysgu, ac mae hyn yn cynnwys addysg rhyw a chydberthynas. Ac unwaith eto, rwy’n meddwl bod addysg rhyw a chydberthynas yn allweddol i atal trais yn erbyn menywod. Rwy’n meddwl ein bod wedi siarad llawer amdano’n digwydd mor gynnar â phosibl; mae’n rhaid i ni fynd i mewn er mwyn i ni gael gwared ar y stereoteipiau sy’n codi, ac rydym yn gwybod beth fydd yn digwydd gyda rhai agweddau mewn ysgolion. Hefyd, pan fyddwn yn cael addysg rhyw a chydberthynas o ansawdd da sy’n addas i’r oedran mewn ysgolion ledled Cymru, hoffwn wneud y pwynt fod yn rhaid iddo fod yn gynhwysol o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol.

Gwn fod plant eu hunain yn galw am help i lywio’r dyfroedd tymhestlog hyn. Cefais gyfarfod gyda fforwm ieuenctid yng Nghaerdydd, ac ar frig eu rhestr, roedd perthynas iach. Dyna roeddent am ei gael mewn ysgolion. Ac rwyf wedi gwneud peth gwaith yn ddiweddar gyda’r ymgyrchydd dros hawliau merched, Nikki Giant, y soniais amdani yn y Siambr o’r blaen o ran y gwaith a wnaeth ar arolwg merched yn eu harddegau mewn perthynas â delwedd y corff, bwlio rhywiol ac aflonyddu. Yn ei maniffesto dros hawliau merched, mae’n dweud bod un o bob tair merch a menyw ifanc yn debygol o fod yn ddioddefwr trais a cham-drin domestig ac mae’n galw am recriwtio, hyfforddi a phenodi eiriolwyr perthynas iach ifanc mewn ysgolion ledled Cymru, yn unol â’r Ddeddf. Felly, i gloi, rwy’n meddwl bod y Ddeddf yn gam mawr ymlaen, ac rwy’n meddwl ein bod i gyd yn falch iawn ohoni, ond rwy’n meddwl mai’r peth allweddol a fydd yn mynd â hi ymhellach ac yn dechrau helpu i ffurfio agweddau pobl ifanc ar oedran cynnar yw sicrhau ein bod yn cael yr addysg honno yn yr ysgolion a’n bod yn ei gwneud yn orfodol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf yr adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Hoffwn ddiolch i John Griffiths a’r pwyllgor, a’r ystod eang o randdeiliaid a goroeswyr a roddodd dystiolaeth ac a chwaraeodd ran hanfodol yn y broses o lunio’r adroddiad. Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i’r Cynulliad hwn, gan eu bod wedi bod yn gefnogol iawn i gyflwyno’r Ddeddf hon ac yn wir, mae yna lawer o’r Aelodau yn y Cynulliad hwn wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o’i datblygu.

Lywydd, rwy’n derbyn pob un o’r 16 o argymhellion, naill ai’n llawn neu’n rhannol. Mae’r adroddiad yn cydnabod yr heriau a wynebir wrth weithredu’r ddeddfwriaeth newydd hon, ond hefyd y cynnydd a wnaed hyd yma. A gwrandewais yn ofalus ar gyfraniad llawer o’r Aelodau sy’n gywir i godi’r materion ynglŷn â pha mor gyflym y caiff ei chyflwyno. Rwyf finnau hefyd yn rhwystredig gyda’r broses honno, ond gallaf eich sicrhau fy mod wedi gwneud rhai newidiadau sylweddol i fy nhîm ac wedi edrych ar y modd y caiff ei gweithredu a sut y ceisiwn gyflawni’r strategaethau a’r canllawiau hyn, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr cyn gynted ag y bydd gennyf fwy o fanylion i’w rhannu gyda chi.

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu pwynt mewn amser, 18 mis wedi i’r Ddeddf ddod i rym, a bydd yn helpu i lywio ei gweithrediad pellach a chyflwyno’r fframwaith cyflawni. Ers i’r Ddeddf gael ei phasio, rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol cyntaf, wedi cyhoeddi’r fframwaith hyfforddi cenedlaethol ac wedi treialu ‘gofyn a gweithredu’. Rwyf wedi gwrando ar sylwadau’r Aelodau mewn perthynas â’r cyngor gan y cynghorydd cenedlaethol o ran ei llwyth gwaith, ac rwyf wedi cyflwyno secondai yn yr adran i helpu gyda’r cynghorydd cenedlaethol a hefyd i ailstrwythuro’r adran.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion a cholegau, wedi ymgynghori gyda goroeswyr, wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Ydych chi’n gwrando ac ydw i’n cael fy nghlywed?’, a hefyd wedi cyhoeddi strategaeth genedlaethol o dan y Ddeddf i adnewyddu grŵp cynghori’r gweinidog. Bwriadaf i grŵp cynghori’r Gweinidog fod yn elfen gefnogol iawn yn y wybodaeth sydd ei hangen arnaf. Mae arbenigwyr yn un peth, ac maent yn wych ac mae angen arbenigwyr arnom, ond rwyf hefyd angen profiad: pobl sydd wedi cael profiad o’r system y maent yn mynd drwyddi. Mae goroeswyr trais domestig yn hanfodol i sicrhau fy mod yn gwneud y penderfyniadau cywir a’n bod yn gallu gweithredu’r Ddeddf. Rwyf wedi dweud wrth fy nhîm fy mod yn disgwyl i hynny gael ei adlewyrchu yn y panel ymgynghorol.

O ran rhai o’r cwestiynau a ofynnodd yr Aelodau i mi heddiw: ar y strategaethau lleol, bydd y canllawiau’n cael eu dosbarthu i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gynorthwyo gyda’u strategaethau lleol ym mis Gorffennaf eleni. O ran canllawiau comisiynu, bydd y canllawiau comisiynu y bwriadwn eu cyhoeddi o dan y Ddeddf yn ceisio sicrhau nad oes gwahaniaeth ble y mae dioddefwr yn byw, fod gwasanaethau cadarn ac arbenigol yn barod yno i helpu, ac rydym yn bwriadu ymgynghori ar ganllawiau comisiynu statudol erbyn mis Gorffennaf 2017 hefyd. Rwy’n gobeithio y bydd hynny o ddefnydd i’r Cadeirydd wrth iddo gloi’r ddadl.

Cafwyd llawer o sylwadau mewn perthynas â materion penodol. Rwy’n meddwl bod Gareth wedi cyfeirio at y ddarpariaeth a’r wybodaeth a ddaeth i law’r pwyllgor ynglŷn â’r ffaith nad oedd staff ar waith weithiau, na chyllid nac unrhyw ddulliau i wneud hynny. Ni fyddaf yn derbyn y broses honno. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod hyn yn digwydd a byddaf yn gadarn iawn gyda sefydliadau sy’n dweud wrthych fod hynny’n wir, heb ddweud wrthyf fi. Byddaf yn sicrhau bod fy nghynghorydd yn mynd ar drywydd y gwaith hwnnw.

Mae’r gwaith gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a Llywodraeth y DU yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n agos iawn arno. Joyce Watson, unwaith eto, un sy’n hyrwyddo’r achos hwn—. Rwy’n falch fod y comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid ledled Cymru gyfan wedi gwneud mynd i’r afael â’r mater hwn yn un o’u blaenoriaethau allweddol yn eu cynllun gwaith. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n ddiolchgar amdano. Rydym yn aml yn cael cwerylon gwleidyddol rhwng gwahanol bleidiau a gwahanol Lywodraethau.

A gaf fi ddweud fy mod yn llwyr gefnogi Liz Truss wrth iddi gynnal adolygiad brys o’r ffordd y mae cyflawnwyr cam-drin domestig yn croesholi eu dioddefwyr yn uniongyrchol yn y llysoedd teulu? Rwyf wedi ysgrifennu at Liz Truss i ddweud hynny wrthi ac rwy’n gobeithio ac yn dymuno’n dda iddi yn y broses honno hefyd.

Dywedais yn gynharach y bydd y grŵp cynghori yn rhoi cyngor i mi ar y canllawiau comisiynu a chyllid cynaliadwy. Mae’r rhain yn rhannau hanfodol o’r broses. Am ormod o lawer o flynyddoedd, mae nid yn unig y gwasanaethau trais domestig, ond mudiadau trydydd sector yn aml hefyd wedi bod yn pryderu am y ffordd y caiff cyllid ei roi yn flynyddol. Mae’n rhaid i ni ddod i delerau â pha wasanaethau sy’n ofynnol, pwy sy’n eu darparu’n dda a sut rydym yn mynd i’w hariannu? Rwyf wedi gofyn am gyngor pellach ar ddwy elfen y grŵp gorchwyl—. Pan fyddaf wedi dod i gasgliad ar hynny byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor eto yn rhoi gwybod iddynt am hynny.

Mae un o’r negeseuon cryf a ddaeth o’r adroddiad pwyllgor hwn ac yn wir, o’r ddadl heddiw, yn ymwneud ag addysg ac ymyrraeth gynnar ac atal. Mae ein holl ethos sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mynd i’r afael ag ymyrraeth yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth hon yn frwd iawn yn ei gylch. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda’r Ysgrifennydd addysg a chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet ac rydym yn edrych yn ofalus iawn ar beth yw’r anghenion addysg. Rwyf bob amser wedi dweud fy mod yn meddwl ei bod hi’n iawn y dylem gael gweithgarwch ar berthynas iach yn seiliedig ar y cwricwlwm. Rwy’n ceisio sicrhau bod fy nghyd-Aelodau yn gallu gwneud hynny, ond buaswn yn argymell gofal os ydym yn disgwyl i’r system addysg ddarparu popeth. A dweud y gwir, mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom yn ein bywyd teuluol gartref, wrth fagu plant ac mewn ysgolion—gall pob un ohonom chwarae rhan, ond dim ond rhan. Rwy’n gobeithio y bydd ein sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn parhau i fod yn ffrwythlon.

A gaf fi gyfeirio at bwynt Dawn Bowden? Roedd hi’n iawn i roi sylw i’r modd y mae pobl yn cael eu heffeithio gan drais domestig neu holl bwynt hyn. Ceir dwy elfen i hyn: ymdrin â’r sawl sy’n dioddef trais domestig, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, boed yn aelod o’r teulu neu fel arall—. Ond dylem gofio hefyd am y sawl sy’n ei gyflawni, ac mae honno’n rhan bwysig iawn o hyn. Mae dod o hyd i gyllid i sicrhau cydbwysedd rhwng perthynas dioddefwyr a chanolbwyntio ar gyflawnwyr, lle y bydd y sawl sy’n cyflawni yn symud o un dioddefwr i’r llall, ac rydym yn gwybod bod—. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn torri’r cylch hwnnw, a dyna pam y mae’n rhaid i ni feddwl beth yw anghenion y dioddefwyr, ond hefyd beth yw anghenion y sawl sy’n cyflawni’r trais, oherwydd mae’n rhaid i ni dorri’r cylch hwnnw. Gwyddom fod rhai cyflawnwyr wedi dioddef cam-drin domestig neu drafferthion teuluol yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn ogystal, a dyna pam y mae’r ffocws ar y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—mae trais domestig yn un o’r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—rhaid i ni fynd o dan groen hynny, gan wneud yn siŵr ein bod yn gallu torri’r cylch yn y tymor hwy. Mae gwytnwch unigolion yn wahanol; mae pawb yn wahanol. Gallai rhai pobl ymdopi â hynny, ond ni all eraill, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn mynd i mewn i’r gofod hwnnw ac yn eu cefnogi yn yr ymchwil honno.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod rhai o’r cyflawnwyr mwyaf peryglus yn bobl sosiopathig narsisaidd, ac rwy’n credu mai’r perygl yw ein bod i gyd yn eu hadnabod, yn ôl pob tebyg. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom ein bod yn gallu eu hadnabod, a lle y down ar eu traws, dylem wneud rhywbeth am hynny. Mae nodweddion penodol y bobl hyn yn rhywbeth a allai beri syndod i rai pobl ac efallai na fydd yn syndod i eraill: ymdrech ysig am bŵer—ni fydd pobl sosiopathig narsisaidd yn poeni am unrhyw beth heblaw hwy eu hunain; rheolaeth bŵer ddinistriol dros bobl ydyw; patrymau ymddygiad sy’n chwilio am gariad ac edmygedd; yn bendant, nid yw’n gariad anghenus—nid yw’n ymwneud â chariad emosiynol hyd yn oed—mae’n ymwneud â phŵer, yr adnoddau i reoli a dominyddu. Ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch yn gallu adnabod hynny mewn pobl. Nid oes unrhyw ymddiheuriadau, nac euogrwydd nac edifeirwch mewn unrhyw amgylchiadau. Maent yn credu eu bod yn rhodd i’r byd sy’n ei wneud yn gyfoethocach ac yn fwy lliwgar, ac felly maent yn fwy ystumgar. Mae hyd yn oed gweithredoedd creulon yn gyfiawn.

Wel, os ydych yn briod â pherson narsisaidd sy’n llwyddiannus yn y byd arian neu’n llwyddiant proffesiynol, nid yw bob amser yn golygu y byddant yn cam-drin yn gorfforol, ond mae’n digwydd weithiau. Yr hyn y mae’n ei olygu yw y gallai ddifetha eu henw da a dinistrio’r hyn y maent wedi ei gyflawni. Unwaith eto, mae’n debygol na fydd angen iddo ychwaith. Maent yn llwyddo i gyflawni’r hyn y maent eisiau ei gyflawni yn eithaf llwyddiannus drwy eiriau a gweithredoedd. Felly, oherwydd eu bod yn gwybod pwy ydych a’r person yr ydych yn ymdrechu i fod a sut i wthio eich botymau—mewn geiriau eraill, maent yn gwybod beth sy’n bwysig i chi, yr hyn yr ydych yn ei hoffi amdanoch eich hun, felly maent yn eich dinistrio. Dyna’r union bethau y maent yn pigo arnynt. Gyd-Aelodau, mae’n ddyletswydd arnom i adnabod hyn ble bynnag yr ydym, a’n bod yn gwneud yn siŵr nad yw’n digwydd yn ein cymuned.

Yn olaf, pwynt yr adroddiad yw rhoi ffocws i feddyliau pobl—yn sicr fe roddodd ffocws i feddyliau’r Llywodraeth. Rwy’n croesawu’r adroddiad, hyd yn oed lle y ceir elfennau ohono y gellid eu beirniadu. Ond rwy’n meddwl mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw ailffocysu ein cydgyfrifoldeb ar sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ar y ddeddfwriaeth arloesol hon. Diolch yn fawr i chi.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, gan fy mod yn meddwl bod nifer y cyfranwyr yn dyst i’r teimlad cryf yn y Cynulliad hwn fod angen i ni fynd ati i bob pwrpas i atal cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod, a chynyddu ac adnewyddu ein hymdrechion i wneud yn siŵr fod y ddeddfwriaeth hon yn effeithiol?

Cafwyd cryn nifer o themâu cyffredin, ac rwy’n credu mai’r gryfaf yw’r un yn ymwneud ag addysg a pherthynas iach, ac yn ddealladwy felly os ydym yn sôn am atal, yn amlwg; mae angen i ni wneud yn siŵr fod ein pobl ifanc yn y blynyddoedd cynharaf a thrwy’r ysgol a thu hwnt yn cael y negeseuon cywir ac yn datblygu’r agweddau cywir. Felly, ar y pwyntiau a wnaed ynglŷn â dull gorfodol o weithredu, ar ba ffurf bynnag, ac ym mha ffordd bynnag y caiff ei ddatblygu, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus y bydd ein hysgolion yn rhoi addysg perthynas iach i’n disgyblion yn gyson ac yn effeithiol. Yn amlwg, mae Donaldson yn hollol allweddol o ran yr ysgolion, ac mae gennym fesurau yn y ddeddfwriaeth hefyd ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch. Cafodd hyn ei gydnabod yn y cyfraniadau heddiw. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael pethau’n iawn o ran addysg, felly roeddwn yn falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod hynny ac yn wir, yn cyfeirio at drafodaethau gyda chyd-Aelodau i sicrhau bod gennym y dull cyson y mae gofyn i ni ei gael yn ein system haddysg. Yn amlwg, bydd y pwyllgor, a phob Aelod yma, rwy’n siŵr, a rhanddeiliaid y tu allan, yn dilyn y datblygiadau’n ofalus ac yn fanwl iawn mewn perthynas â hynny.

Mae yna themâu cyffredinol hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â chyflymder y gweithredu, effeithiolrwydd y gweithredu, a chafwyd sawl enghraifft o argymhellion gan y pwyllgor a’r ymatebion gan y Llywodraeth ynglŷn â sut y mae angen edrych ar hynny eto a’i ddatblygu mor amserol ac effeithiol ag y bo modd. Unwaith eto, rwy’n falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hynny yn adroddiad y pwyllgor ac yn y ddadl heddiw, ac unwaith eto, yn ymrwymo i ailffocysu egni Llywodraeth Cymru a gweithio i sicrhau bod y pryderon hynny’n cael eu deall yn briodol a bod camau’n cael eu rhoi ar waith yn eu cylch. Unwaith eto, rwy’n siŵr y bydd pawb yma, y pwyllgor a’r rhanddeiliaid y tu allan, yn dilyn y datblygiadau’n agos iawn o ran hynny.

Rwy’n meddwl bod rhai o’r pwyntiau mwy penodol a grybwyllwyd yn ddiddorol iawn i ni, Ddirprwy Lywydd. Mae yna agweddau’n ymwneud â hyfforddiant, tanlinellu hyfforddiant, a gafodd eu cyfleu’n gryf iawn yn y dystiolaeth a gawsom, fel y dylai gofynion y ddeddfwriaeth hon gyd-fynd yn rhesymegol ac yn amlwg mewn gwirionedd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er mwyn sicrhau y gall yr awdurdodau lleol ac eraill y mae gofyn iddynt weithredu’r ddeddfwriaeth hon wneud hynny mewn ffordd gosteffeithiol drwy gysoni eu hymdrechion hyfforddi o gwmpas y gwahanol ddeddfau hyn. Oherwydd maent yn ategu ei gilydd, maent yn galw am lawer o bethau sy’n gyffredin rhyngddynt, ac felly mae honno, rwy’n meddwl, yn ymagwedd go synhwyrol.

Rwy’n meddwl bod Dawn Bowden yn llygad ei lle, a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr hyn a ddywedodd am gam-drin gorthrechol ac agweddau cyfyngol, a pha mor arwyddocaol yw hynny yn y darlun cyffredinol o gam-drin. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth ddod yn ôl at addysg perthynas iach, ei bod yn cadw’r agwedd benodol honno ar gam-drin mewn cof, a’i bod yn sicrhau bod yr agweddau iach sy’n cael eu datblygu drwy addysg yn osgoi’r peryglon posibl hynny. Mae’n ddarlun eang pan edrychwn ar y cam-drin sy’n digwydd; nid yw bob amser yr hyn y buasai pobl yn ei feddwl yn syth ac yn fwyaf amlwg, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod addysg perthynas iach yn cynnwys pob agwedd ar gam-drin.

Mae’r canllaw arferion da yn amlwg yn ddefnyddiol iawn o ran ysgolion, ac mae angen inni sicrhau, fel y dywedodd Rhianon Passmore, fod yna ddull cyson o weithredu ar hynny. Hefyd, rwy’n meddwl y dylem gydnabod cryfder yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone ynglŷn ag anffurfio organau cenhedlu benywod, y gwaith sy’n digwydd mewn ysgolion arloesi, a Donaldson, ac unwaith eto, sut y mae Estyn yn arolygu. Rhaid i hynny fod yn flaenllaw yn y datblygiadau sy’n digwydd. Siaradodd Joyce Watson, fel y gwnaeth yn effeithiol yn y pwyllgor, am y cynghorwyr annibynnol ar drais yn erbyn menywod a’r grwpiau amlasiantaeth, a phwysigrwydd uno â Llywodraeth y DU a’r comisiynwyr heddlu a throseddu, ac unwaith eto, roeddwn yn croesawu’r cyfraniad hwnnw’n fawr, gan ei fod yn bwysig iawn i’r ddadl hon.

Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, unwaith eto, at y cynghorydd cenedlaethol a rhai o’r problemau capasiti yr oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cydnabod. Ac roedd yn dda clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am ei farn fod angen i ni edrych ar y materion hyn eto, ac yn wir, mae wedi gweithredu a bydd yn ystyried materion ymhellach.

Ddirprwy Lywydd, gallaf eich gweld yn nodi bod amser yn brin iawn—yn fyr iawn wir—felly fe orffennaf drwy ddiolch i bawb, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet am ei fod wedi gwrando o ddifrif ar y ddadl ac wedi ymateb i bryderon y pwyllgor. Wrth inni symud ymlaen, gwn y byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yn siŵr fod ffocws ac ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hynod bwysig hon, a gafodd ei chydnabod yn yr holl gyfraniadau heddiw ac yn ein hadroddiad pwyllgor a chan y rhanddeiliaid dan sylw, bellach yn destun ffocws a gweithredu o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gweithredu effeithiol ac amserol hwnnw’n cael ei yrru yn ei flaen. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef y ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf ar Hannah Blythyn i gynnig y cynnig ar Fis Hanes LHDT.

Cynnig NDM6204 Hannah Blythyn, Jeremy Miles, Suzy Davies, Adam Price

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.

2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i’n cymunedau a’n gwlad.

3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.

4. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.

5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.

6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i gyd-Aelodau am gefnogi’r ddadl hon gan Aelodau unigol, sy’n ein galluogi i gael cyfle i ddathlu Mis Hanes LHDT am y tro cyntaf ar y lawr Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Mis Hanes LHDT yn cael ei ddathlu ym mis Chwefror ar draws y DU ac yn ddigwyddiad blynyddol bellach sy’n rhoi cyfle i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws Cymru a chydnabod y cyfraniad y mae pobl LHDT wedi’i wneud i’n cymunedau a’n gwlad. Yn wir, rydym wedi dod yn bell dros yr ychydig ddegawdau diwethaf yn unig o ran hawliau LHDT. Os wyf yn meddwl yn ôl fy hun, yn tyfu i fyny yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn mynd i’r ysgol yn yr etholaeth rwy’n ei gwasanaethau bellach, pe baech wedi dweud wrthyf y buaswn yn sefyll yma heddiw yn agor dadl ar gydraddoldeb LHDT, wedi’i harwain gan Aelodau Cynulliad agored lesbiaidd a hoyw am y tro cyntaf yn hanes y Cynulliad, wel, i ddechrau, nid oedd y Cynulliad yn bodoli pan oeddwn yn fy arddegau, ond yn gwbl onest ni fuaswn byth wedi dychmygu y buasai gennyf ddigon o ddewrder a hyder i fod yn rhan o hyn fel un o’r Aelodau Cynulliad cyntaf i ddod allan.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Er bod mwy y gallwn ei wneud ar hawliau LHDT, ni allwn ac ni ddylem byth fod yn hunanfodlon, ond mae’n iawn heddiw i ni roi amser i ddathlu ein hamrywiaeth a’n cynnydd fel cymdeithas. Gobeithiaf y bydd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i gyflwyno’r cadarnhaol a chynnig neges hollbwysig o obaith i bobl LHDT yng Nghymru, yn enwedig pobl LHDT iau, ac ar yr un pryd, i amlinellu’r heriau sy’n parhau a’r camau nesaf sydd eu hangen.

Themâu’r Mis Hanes LHDT eleni yw dinasyddiaeth, addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, a’r gyfraith, a chynhelir dros 1,000 o ddigwyddiadau ar draws y DU. Mae ysgolion sy’n dathlu gwahaniaeth ac yn meddu ar ymagwedd gadarnhaol tuag at gynnwys materion LHDT yn eu haddysgu ar draws y cwricwlwm yn gweld cyfraddau is o fwlio a chyflawniadau uchel ymhlith disgyblion LHDT. Mae cyflwyno’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i ddangos y gall pob ysgol ymgorffori agwedd gadarnhaol tuag at gynhwysiant LHDT yn eu haddysgu a chyflwyno addysg rhyw a chydberthynas sy’n gynhwysol o ran LHDT.

Mae angen inni weld canllawiau statudol yn cael eu cyhoeddi i bob awdurdod, ysgol a chonsortiwm addysg lleol ar addysg rhyw a chydberthynas addas i’r oedran. Mewn ysgolion uwchradd, dylent sicrhau bod materion sy’n wynebu pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yn cael eu cynnwys mewn pynciau megis cydsyniad a diogelwch ar-lein. Mewn ysgolion cynradd, dylai hyn gynnwys siarad am wahanol fathau o deuluoedd, gan gynnwys rhieni o’r un rhyw, gan wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r amrywiaeth o fywyd teuluol a mathau o berthynas cyn dechrau yn yr ysgol uwchradd, a gweithio i fynd i’r afael â stereoteipiau rhyw mewn gwersi a gweithgareddau. Yn ogystal, mae angen ymrwymiad clir i hyfforddi athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol ynglŷn â threchu bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o staff ysgolion yn awyddus i fynd i’r afael â bwlio o’r fath, ond yn aml yn teimlo nad oes ganddynt yr offer, yr hyder neu’r adnoddau cywir i wneud hynny. Ar y nodyn hwnnw, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am roi amser i gyfarfod â Jeremy Miles a minnau ac am ei hymrwymiad i fynd i’r afael â’r materion pwysig hyn.

Amser cinio heddiw, cynhaliais lansiad arddangosfa Eiconau a Chyfeillion LHDT Pride Cymru yma yn y Senedd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys 20 o fodelau rôl a chynghreiriaid o hanes LHDT a heddiw. Cefnogir yr arddangosfa gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae’n dathlu ffigyrau artistig, llenyddol, byd busnes, milwrol ac elusennol yn ogystal ag ymgyrchwyr. Efallai na fydd yn syndod i gyd-Aelodau yma fod yr arddangosfa yn cynnwys nifer o weithredwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr. Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder ac ymrwymiad y bobl a fu’n ymgyrchu ac yn ymladd dros nifer o flynyddoedd er mwyn i ni symud y ddadl wleidyddol a deddfu ar gydraddoldeb.

Gofynnir i mi’n aml pan fyddaf yn mynd i ddigwyddiadau Pride, ‘Pam y mae gennych wleidyddiaeth yn Pride? Hwyl yw hyn i fod.’ Wel, ar ei gorau, mae gan wleidyddiaeth botensial i newid bywydau, ac rwy’n falch heddiw o gynrychioli’r blaid a arweiniodd y ffordd ar ddeddfu ar hawliau cyfartal, ar hawliau LHDT, gan alluogi pobl fel fi i sefyll yma, i fyw ein bywydau drwy fod yn pwy ydym a sut rydym. Ar bwnc digwyddiadau Pride, roeddwn eisiau cynnwys un hyrwyddiad digywilydd. Byddai’n esgeulus ohonof i beidio â sôn y bydd y digwyddiad Pride Sir y Fflint cyntaf erioed yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 27 Mai eleni yng nghlwb rygbi yr Wyddgrug yn fy etholaeth. Yn amlwg, fe fyddaf yn ei fynychu. [Chwerthin.]

Mae ymdeimlad o hanes yn bwysig i gydlyniant cymunedol, yn ogystal â darparu modelau rôl sy’n ysbrydoli pobl ifanc a dangos yn gadarnhaol rôl pobl LHDT fel rhan o’n cymdeithas. Rwy’n hynod ac yn dragwyddol ddiolchgar i’r rheini a oedd yn barod i fod yn arloeswyr ar adegau llawer mwy anodd a chythryblus, y bobl a baratodd y ffordd a alluogodd bobl fel fi i fod yn fwy tebygol o godi ein pennau uwchben y parapet heddiw.

Pan ofynnwyd i mi yn gyntaf i noddi lansiad arddangosfa Eiconau a Chyfeillion LHDT, cefais fy synnu mewn gwirionedd wrth sylweddoli cyn lleied a wyddwn yn bersonol am y rhai a oedd yn rhan o’r arddangosfa. Gwnaeth i mi feddwl cymaint y brwydrais yn fy arddegau, wrth dyfu i fyny, i ddod o hyd i bobl y gallwn uniaethu â hwy neu fodelau rôl LHDT amlwg. Rwy’n falch o fod yn un o’r Aelodau cyntaf i ddod allan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac i mi, mewn gwirionedd, roeddwn eisiau bod yn agored ac yn onest yn fy ymagwedd tuag at wleidyddiaeth. I mi, roedd hi’n bwysig fy mod yn agored ac yn onest ynglŷn â phwy wyf fi. Oherwydd gwyddom fod cael ein gweld yn bwysig. Mae yna ddywediad na allwch fod yr hyn na allwch ei weld. Daeth hyn yn amlwg i mi ychydig fisoedd yn unig ar ôl i mi gael fy ethol, pan oeddwn yn mynychu digwyddiad lleol, a daeth rhywun ataf i ddweud wrthyf am ddau yn eu harddegau a oedd yn hoyw ac a oedd wedi dweud wrthynt eu bod newydd ddarganfod ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar fy mod innau hefyd, a’i fod wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol iddynt. Yr hyn a’m trawodd oedd nid yr hyn yr oeddent yn ei ddweud amdanaf fi, ond y ffaith ein bod wedi symud ymlaen cymaint fel cymdeithas mewn gwirionedd ers 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn innau tua’r un oed, a bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu bod yn agored am eu rhywioldeb.

Ond ni ddylem anghofio bod y penderfyniad i ddod allan yn wahanol i bob unigolyn a bron bob amser yn llawn o bryder. Rydym wedi dod yn bell iawn, ond mae dod allan, boed yn bersonol, yn gyhoeddus a/neu’n wleidyddol, yn dal i fod yn foment hynod o bersonol ac unigryw i’r rhan fwyaf o bobl LHDT. Daw ein dewis i ddatgelu’r rhan hon o’n hunaniaeth law yn llaw ag ofn ynglŷn â sut y bydd pobl eraill yn ymateb, sut y bydd yn effeithio arnom, ar ein bywydau neu fywydau’r rhai o’n cwmpas, a chredaf mai ein neges heddiw i bob person LHDT yng Nghymru o reidrwydd yw: rydych yn anhygoel, rydych yn bwysig ac mae gennych gyfraniad i’w wneud i’ch cymuned ac i’n gwlad fel yr ydych. Gobeithio, un diwrnod, y byddwn yn byw mewn byd lle y gall pob person LHDT ddod o hyd i rwydwaith o gyfeillgarwch a chefnogaeth sy’n eu galluogi i fod yn hwy eu hunain ac yn eu tro, i herio unigrwydd a chasineb.

Wrth ddod i ben, hoffwn ailadrodd stori. Yn ddiweddar, euthum yn ôl i fy hen ysgol i noson wobrwyo flynyddol. Gallwch godi sawl gwaith yn y Siambr hon, gallwch roi cyfweliadau yn y cyfryngau, ond gwn pan fyddaf yn cerdded drwy ddrysau fy hen ysgol fy mod yn berson 15 oed nerfus a swil unwaith eto. Un o’r cwestiynau o ofynnwyd i mi yn y sesiwn hawl i holi—y cwestiwn olaf—oedd, ‘Pa gyngor y byddech yn ei roi i fyfyrwyr yma heddiw?’ Y cyngor a roddais oedd, ‘Byddwch yn chi’ch hun a chredwch ynoch eich hun.’ Oherwydd gall ymddangos weithiau fel y peth gwaethaf yn y byd i fod yn wahanol, yn enwedig pan fyddwch yn berson ifanc lletchwith yn eich arddegau, ond mae’n gwella, credwch fi—ac rwy’n gwybod bod hynny’n beth braidd yn eironig i’w ddweud fel gwleidydd. [Chwerthin.] Credwch fi; o ddifrif, mae’n gwella.

Yn union cyn i mi gael fy ethol cymerais ran yn rhaglen Modelau Rôl Stonewall mewn bywyd blaenorol fel cynrychiolydd undeb. Mae’r dyfyniad a gymerwyd o hynny, na chefais unrhyw—. Nid oeddwn yn sylweddoli ar y pryd pa mor broffwydol y byddai. Dywedais fy mod eisiau bod yn rhan o’r gwaith o greu Cymru sy’n fwy cynrychioliadol. Rwy’n meddwl heddiw, ac wrth symud ymlaen, fod gennym gyfle diffiniol fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain ar gydraddoldeb LHDT, ac mae’n rhaid i ni arwain. Diolch yn fawr. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch’.]

Mae’n bleser gwirioneddol dilyn Hannah Blythyn ac i siarad yn y cyfle cyntaf y mae’r Cynulliad hwn yn ei gael i ddathlu hanes LHDT yng Nghymru. Unwaith, mewn digwyddiad Pride yng Nghaerdydd, fe honnais mai’r Cymry a ddyfeisiodd gyfunrhywiaeth mewn gwirionedd. Rwy’n rhoi’r bai ar ddrama Emlyn Williams yn 1937, ‘He was Born Gay’, a sioe gerdd Ivor Novello yn wir—ei sioe gerdd olaf—’Gay’s the Word’ yn 1950. Wrth gwrs, roedd y ddau yn aelodau o’r gymuned LHDT. Yn wir, ysgrifennodd Emlyn Williams hunangofiant dewr iawn yn fy marn i, ymhell o flaen ei amser mewn gwirionedd, yn cyflwyno’r gwrthdaro enbyd ar y pryd i rywun a oedd yn hannu o bentref chwarelyddol yng ngogledd Cymru o orfod ceisio cysoni gwahanol elfennau ei hunaniaeth—brithwaith ei hunaniaeth.

Mewn rhai ffyrdd, roedd cael gair am bwy rydym yn gam cyntaf—enwi pethau. Roedd pŵer yn y gair hwnnw mewn gwirionedd: ‘hoyw a lesbiaidd’, ‘LHDT’. Dyna oedd y cam cyntaf. Ond mewn gwirionedd, gwybod ein hanes yw’r cam angenrheidiol nesaf oherwydd, mewn rhai ffyrdd, rydym ni yng Nghymru wedi profi hyn mewn dimensiwn gwahanol: fel pobl lesbiaidd a hoyw yng Nghymru, rydym wedi cael ein hepgor o’n hanes ein hunain—o hanes Cymru. Rydym yn anweledig drwy gyfnodau mawr o amser. Aiff canrifoedd heibio. Fe welwch y gair ‘hoyw’ ym marddoniaeth yr oesoedd canol, ond nid yn yr ystyr sydd iddo yn y cyfnod modern wrth gwrs. Rhaid i chi fynd yr holl ffordd yn ôl, mewn gwirionedd, i’r cyfnod cynnar—neu gyfnod y chwedlau cynnar—a pheth o’r gwatwar a luchiwyd atom, oherwydd eu homoffobia eu hunain mae’n debyg. A dweud y gwir, dywedir wrthym mai cyfunrhywiaeth oedd y pechod cenedlaethol. Mae Gildas yn dweud wrthym fod Maelgwn Gwynedd yn euog ohono. Caiff ei ailadrodd, wrth gwrs, yng ngwaith Sieffre o Fynwy a Gerallt Gymro. Yn wir, am gyfeiriadau at y Celtiaid, gallwch fynd yn ôl mor bell ag Aristotle. Fe’i defnyddiwyd fel difrïad ymerodrol, ac rwy’n meddwl tybed a yw hynny, mewn gwirionedd, wedi taflu cysgod dros ein perthynas gyda’n cymuned LHDT. Yn eironig, wrth gwrs, fel y clywn am y Synod ar hyn o bryd, un o’r cyhuddiadau sarhaus y mae hyd yn oed John Peckham, a oedd yn Archesgob Caergaint, yn ei gyfres o lythyrau at Lywelyn ein Llyw Olaf, yn eu cyfeirio at Lywelyn yw’r syniad ailadroddus hwn fod y Cymry’n gyfunrhywiol. Mae yno, ar ddechrau ein hanes, y sarhad hwn. Yn eironig, wrth gwrs, roedd cariad Edward II, Tywysog Cymru a gafodd ei ddal yn 1284, yn un o’r eiconau sydd y tu allan fan hyn. Cawsant eu dal gyda’i gilydd, wrth gwrs, yn ffoi o abaty Nedd i Lantrisant. Cafodd Hugh Despenser yr Ieuaf ei ddienyddio ar unwaith; ac Edward II yn ddiweddarach. Merthyron—nid y rhai cyntaf ac nid yr olaf yn hanes y gymuned LHDT ar draws y byd, nac yma yng Nghymru. Yn anweledig, felly, am gyfnodau helaeth o’n hamser.

Fe ddowch felly i’r ugeinfed ganrif, a rhai o’n llenorion, fel y dywedais: Prosser Rhys yn ennill y goron yn 1924 gyda cherdd amdano’i hun yn ymgiprys â’i hunaniaeth rywiol. Mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn ei gofnodi fel hyn:

‘Yn 1924, yn eisteddfod genedlaethol Pont-y-pŵl, enillodd y goron ar ei bryddest ‘Atgof’, pryddest anghyffredin o ran ffurf a chynnwys a phryddest a greodd dipyn o gynnwrf.’

Tanddatganiad clasurol Gymreig. [Chwerthin.] Bu’n rhaid i feirdd a llenorion Cymru adrodd y straeon anweledig hynny: y Dave Llewellyns, y Mihangel Morgans, y Dafydd Jamesys, Sarah Waters, Peter Gills, Roger Williams, Paul Burston, Jan Morris ac eraill. Rhaid iddynt hwy adrodd y straeon anysgrifenedig. Fe wyddom ein bod yno. Os ewch yn ôl i’r chweched ganrif, ymhlith y penydau sy’n cael eu cynnig, unwaith eto, mae un am bechod sodomiaeth. O’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, fe wyddom fod pobl yng Nghymru wedi’u cael yn euog ar gam am fod yn neb ond pwy oeddent. Felly, rydym bob amser wedi bod yma. Rydym yn rhan o’r genedl hon. Rydym yn rhan o’i hanes. Ac rydym yn rhan o’i dyfodol hefyd.

Mae Stonewall Cymru wedi datgan bod 55 y cant o ddisgyblion LHD wedi dioddef bwlio ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol; fod 83 y cant o bobl ifanc trawsrywiol wedi dioddef cam-drin geiriol a 35 y cant wedi dioddef ymosodiad corfforol. Pan euthum ar drywydd achos bachgen ysgol yn Sir y Fflint a oedd wedi dioddef bwlio homoffobig, dywedwyd wrthyf gan brif swyddog addysg fod yr ysgolion uwchradd yn y sir wedi elwa o hyfforddiant helaeth mewn ysgolion iach a dulliau gwrth-fwlio, ond dywedodd y fam wrthyf wedyn, ‘Rwy’n teimlo’n gwbl rwystredig ynglŷn â chyn lleied o ddiddordeb sydd wedi’i ddangos gan yr unigolion a bennwyd i ymdrin ag achos fy mab, mae fy nghwestiynau’n dal i fod heb eu hateb, ac felly, mae’r mater yn dal i fod heb ei ddatrys’. Mae hyn yn ymwneud â deall a derbyniad.

Mae pobl LHDT yng Nghymru yn parhau i wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, a dim ond un o bob 20 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi cael hyfforddiant ar anghenion iechyd pobl LHDT, yn ôl Stonewall. Ar gyfer y ddadl hon, anfonodd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wybodaeth ataf a nodai fod cyfraddau HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi, a bod dynion hoyw a deurywiol a phobl ifanc yn parhau i ddioddef ar draws Cymru, ac eto mae mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru, gan gynnwys ar gyfer y gymuned LHDT, yn parhau i ddirywio. Roeddent yn dweud nad oes unrhyw wasanaeth iechyd rhywiol statudol yn cael ei ddarparu ym Mhowys ar hyn o bryd, a bod gwasanaethau atal a hybu iechyd rhywiol wedi cael eu datgomisiynu ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda, er gwaethaf y ffaith eu bod yn dweud mai dyma’r ardaloedd sydd fwyaf o’u hangen.

Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru, o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn datgan bod yn rhaid ei wneud mewn partneriaeth â chymunedau yr effeithir arnynt gan HIV ac afiechyd rhywiol ac ateb anghenion y grwpiau hyn yn llawn, gan gynnwys dynion hoyw a deurywiol. Mae cynllun gweithredu cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar iechyd rhywiol a lles wedi dod i ben, heb unrhyw strategaeth newydd ar waith. Maent yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio canfyddiadau ei hadolygiad presennol o HIV a gwasanaethau iechyd rhywiol, yn ogystal â thystiolaeth o’r angen am addysg rhyw a chydberthynas, i ddiweddaru ei chynllun gweithredu sydd wedi dod i ben a nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â chyfraddau cynyddol o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, cynorthwyo pobl sy’n byw gyda HIV i reoli eu hiechyd a’u lles, a sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael yr addysg rhyw a chydberthynas y maent ei heisiau a’i hangen. Dylai’r cynllun gweithredu newydd fynd i’r afael â’r materion presennol a’r materion sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â HIV ac iechyd rhywiol, gan gynnwys defnydd rhywioledig o gyffuriau ac argaeledd cyffur proffylactig cyn-gysylltiol HIV, a ddisgrifir fel rhywbeth sy’n newid pethau’n sylfaenol yn y frwydr yn erbyn HIV, gan amddiffyn pobl HIV negyddol rhag cael HIV drwy gymryd cyffuriau gwrth-HIV pan fyddant mewn perygl o ddod i gysylltiad â HIV.

Mae adroddiad newydd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, ‘Unchartered Territory’, yn taflu goleuni ar anghenion a phrofiadau pobl dros 50 oed sy’n byw gyda HIV, gan gynnwys anghenion dynion hoyw a deurywiol sy’n byw gyda HIV. Mae effeithiolrwydd triniaeth fodern yn golygu y gall pobl sy’n byw gyda’r cyflwr ddisgwyl byw bywyd llawn. Mae hyn i’w ddathlu. Fodd bynnag, daw’r llwyddiant hwn â set o heriau newydd yn ei sgil. Disgrifiwyd 58 y cant o’r bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn 50 oed a hŷn fel rhai a oedd yn byw ar, neu islaw’r llinell dlodi—dwbl y lefelau tlodi a welir yn y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd 84 y cant o’r bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn 50 oed a hŷn yn pryderu ynglŷn â sut y byddant yn rheoli cyflyrau iechyd lluosog yn y dyfodol. Mae pobl 50 oed a hŷn wedi wynebu gwahaniaethu gan weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol oherwydd eu statws HIV, ac roedd traean yn profi arwahanrwydd cymdeithasol, ac 82 y cant yn profi lefelau cymedrol i uchel o unigrwydd. Er nad yw arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd wedi eu cyfyngu i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr, roedd y rhai dros 50 sy’n byw gyda HIV yn gweld arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd fel pryderon sylweddol, yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Felly, mae’n hanfodol fod sefydliadau HIV, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ystyried sut y gellir lleddfu arwahanrwydd ac unigrwydd mewn pobl hŷn.

Mae rhagfarn a gwahaniaethu ar ddiwedd oes yn effeithio’n ddinistriol ar bobl LHDT. Ar ei waethaf, mae’n golygu y bydd rhywun yn treulio eu dyddiau olaf yn teimlo’n ynysig, yn unig, yn ofidus ac nad oes croeso iddynt. I rai sy’n colli rhywun annwyl, mae methu ffarwelio mewn amgylchedd parchus a thawel yn gallu gwneud galar a phrofedigaeth yn llawer anos i’w oddef. Felly, gadewch i ni fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo amrywiaeth ar draws Cymru gyda’n gilydd.

Rwy’n falch iawn o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, yn rhannol er mwyn dathlu Mis Hanes LHDT, ac rwy’n siarad heddiw fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb ac amrywiaeth. Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw, sydd wedi’i chefnogi hefyd gan Jeremy Miles, Adam Price a Suzy Davies. Mae’n hynod bwysig ein bod, fel prif sefydliad democrataidd Cymru, yn dathlu amrywiaeth ac yn darparu llwyfan mewn arena gyhoeddus i wyntyllu a rhannu ein barn yng ngoleuni’r cynnydd mewn adroddiadau am droseddau casineb. Mae’r Cynulliad wedi cael cydnabyddiaeth allanol am fod yn gyflogwr cynhwysol ar draws ystod o nodweddion gwarchodedig—er enghraifft, Gwobr Autism Access, hyrwyddwr Age Positive, un o’r cyflogwyr mwyaf cyfeillgar i deuluoedd sy’n gweithio, gwobr aur Buddsoddwr mewn Pobl, a gwobr gan Action on Hearing Loss, ac mae wedi cael ei gydnabod yn ‘The Times Top 50 Employers for Women’.

Fodd bynnag, heddiw hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar lwyddiannau’r Cynulliad fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth sy’n gynhwysol o ran LHDT. Fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, mae’n bwysig i mi ein bod yn gosod esiampl i sefydliadau eraill yng Nghymru a thu hwnt, ein bod yn darparu amgylchedd diogel ac amgylchedd cynhwysol ar gyfer staff ac ymwelwyr. Caiff y teimlad hwn ei rannu gan uwch-reolwyr y Cynulliad a’i staff drwy ystod o bolisïau a dulliau gweithredu a helpodd i lunio diwylliant sydd wedi cael ei gydnabod ymhlith y gorau. Y mis diwethaf, cafodd y Cynulliad ei gydnabod ym mynegai cydraddoldeb yn y gweithle Stonewall fel y pumed cyflogwr gorau yn y DU. Cawsom ein gosod yn y pump uchaf dros y tair blynedd diwethaf, ac am y bedwaredd flwyddyn yn olynol cawsom ein dyfarnu’n gyflogwr sector cyhoeddus gorau yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Ross Davies, un o reolwyr amrywiaeth y Cynulliad, a dderbyniodd wobr Cynghreiriad y Flwyddyn Cymru yng ngwobrau Stonewall Cymru i gydnabod y gwaith y mae’n ei wneud ar hyrwyddo cydraddoldeb LHDT.

Cafodd y rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer staff LHDT, OUT-NAW, ei sefydlu yn 2008 ac mae wedi gweithio’n galed i wneud ein Cynulliad yn fwy cyfeillgar i bobl LHDT dros y blynyddoedd. Bob blwyddyn, mae’n cynllunio cyfraniad y Cynulliad i Fis Hanes LHDT a’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia. Mae’n mynd â bws allgymorth y Cynulliad i ddigwyddiadau fel Pride Cymru, gydag aelodau OUT-NAW yn gwirfoddoli i’w staffio drwy gydol y dydd. Gorymdeithiodd y Cynulliad yng ngorymdaith Pride Cymru am y tro cyntaf yn 2016 ac ymunodd y prif weithredwr ac aelodau o’r bwrdd rheoli, sydd oll yn gynghreiriaid y rhwydwaith staff. Mae presenoldeb yn Sparkle Abertawe, digwyddiad traws-gynhwysol, bellach yn nodwedd reolaidd ar y calendr blynyddol o ddigwyddiadau. Datblygodd OUT-NAW achos busnes sydd wedi gweld cyfleusterau toiled niwtral o ran y rhywiau ar draws tri adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd. Mae ei gyd-gadeirydd wedi cyflwyno cynllun hyfforddi a mentora ar gyfer staff LHDT, yn ogystal â chyfle i bobl LHDT ifanc gael profiad gwaith, sydd bellach yn digwydd yn flynyddol.

Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod cydraddoldeb LHDT wedi dod yn nodwedd brif ffrwd o’r Cynulliad o ystyried ymroddiad y rhwydwaith OUT-NAW, strategaeth amrywiaeth y Comisiwn, ac ymrwymiad y bobl sy’n gweithio yma i’w wneud yn lleoliad lle y mae amrywiaeth yn ffynnu. Yn olaf, hoffwn ychwanegu, er ei bod yn bleser cael cydnabyddiaeth allanol i’r cynnydd a’n cyflawniadau wrth greu sefydliad sy’n gynhwysol o ran LHDT, yr hyn sy’n ei wneud yn fwy arbennig byth yw bod y staff yn gwneud amser i rannu eu profiad a’u hegni gydag eraill. Mae’r weledigaeth felly yn mynd y tu hwnt i’r Cynulliad ei hun ac yn bwysicaf oll yn estyn allan at sefydliadau eraill i’w helpu i greu amgylcheddau gweithio cynhwysol er budd defnyddwyr gwasanaethau a’u gweithwyr. Fel y mae Stonewall yn dweud:

Mae pobl yn perfformio’n well pan allant fod yn hwy eu hunain.

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn cytuno â mi ein bod am i bawb fod yn hwy eu hunain, ac i wneud hynny mewn amgylchedd diogel, cefnogol ac ysgogol. Mae’r cyflawniadau y siaradais amdanynt heddiw yn rhoi ymdeimlad mawr o falchder i mi ac rwy’n falch iawn o allu eu cofnodi wrth i ni drafod a dathlu yn ystod Mis Hanes LHDT.

Hoffwn longyfarch yr Aelodau unigol sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw, a bûm yn astudio gydag un ohonynt yn y brifysgol. Hoffwn bwysleisio cefnogaeth fy mhlaid i’r cynnig hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy’n bwriadu canolbwyntio fy sylwadau ar bwynt 4, i groesawu’r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf ar hawliau a derbyniad o LHDT, am fod llai na thri degawd ers i’r mater achosi i mi ymgyrchu am y tro cyntaf ar y mater hwn—pan basiodd y Senedd yn San Steffan gymal 28, a oedd yn deddfu yn erbyn addysgu

derbynioldeb cyfunrhywiaeth fel perthynas deuluol ffug.

Yn ystod y 1980au, roeddwn yn teimlo bod cyfunrhywiaeth yn cael ei gydnabod a’i dderbyn yn fwy eang ac roedd yn ddadl a oedd o leiaf yn dechrau tawelu yn ein gwlad. Credaf fod y broses honno wedi cael ei dal yn ôl, os nad ei hatal, am hyd at ddegawd, gan y darn bach hwnnw o ddeddfwriaeth.

Ymgyrchais am y tro cyntaf ar y mater pan oeddwn yn ymgeisydd seneddol ac roedd yna bâr hoyw yn yr etholaeth yr oeddwn yn ceisio’i chynrychioli a aeth ar streic newyn. Fe wnaethant hynny am y rhan orau o wythnos a chael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau, ac roeddent yn protestio am yr hawl i gofrestru eu perthynas gyda’r cyngor lleol. Roedd Ken Livingstone, yn Llundain, newydd gyflwyno cofrestr i ganiatáu i gyplau hoyw wneud hynny a gallu ymweld â’u partner yn yr ysbyty efallai a chael rhywfaint o hawliau eraill y byddai rhai cyrff cyhoeddus o leiaf yn eu cydnabod. Roeddwn yn falch pan lwyddodd y pâr hwnnw ac mewn gwirionedd, rwy’n credu mai Cyngor Medway yng Nghaint a ddaeth yn ail gyngor yn y Deyrnas Unedig i gael cofrestr o’r fath.

Ond roedd yn fuddugoliaeth ymgyrchu ag iddi ddwy ochr, oherwydd bod y cwpl dan sylw, o ganlyniad i ymateb rhai pobl o leiaf ar eu hystad leol, a bwlio homoffobig a ddeilliodd o hynny, yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael eu cartref a’r peth nesaf oedd ceisio eu helpu i gael eu hailgartrefu gyda’r cyngor. Ar y pryd, yn 2001 rwy’n meddwl, roedd cymal 28 yn dal ar y llyfr statud. Yn yr Alban, ar ddechrau Senedd yr Alban, un o’u gweithredoedd deddfwriaethol cyntaf oedd cael ei wared. Yng Nghymru, nid oedd gennym y pŵer yn y Cynulliad hwn i wneud hynny ac am resymau rwy’n dal ychydig yn gymysglyd yn eu cylch, cymerodd tan 2003 i Lywodraeth San Steffan ddeddfu i gael gwared ar gymal 28 o’r llyfr statud.

Efallai mai un o fy eiliadau balchaf, a’r fwyaf ystyrlon, fe deimlwn, fel AS yn San Steffan oedd pleidleisio ar 5 Chwefror 2013 dros briodas gyfartal. Roedd y blaid rwy’n ei chefnogi yn awr yn gwrthwynebu’r ddeddfwriaeth honno, ond rydym yn ei chefnogi yn awr, ac rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf o’r aelodau yn UKIP, fel yn y pleidiau eraill, yn cefnogi hynny. Ar y pryd, pleidleisiodd y mwyafrif—neu fwy, o leiaf, o ASau o’r blaid yr oeddwn yn aelod ohoni bryd hynny yn erbyn y ddeddfwriaeth honno nag a bleidleisiodd o’i phlaid. Ond rwy’n credu mai ychydig iawn ohonynt a fyddai’n gwneud hynny heddiw.

Rwy’n gobeithio, hyd yn oed wrth i ni ddathlu’r cynnydd a gawsom mewn cyfnod mor hynod o fyr, o leiaf yn rhychwant hanes dyn, na fyddwn yn rhy feirniadol neu’n condemnio pobl sydd wedi cymryd ychydig o flynyddoedd yn hwy na ni efallai i newid eu barn. Mae llawer o feirniadaeth o Donald Trump, ac rwy’n cytuno â llawer ohoni, ond ar y mater hwn, mewn confensiwn Gweriniaethol, fe gynhwysodd bethau yn ei araith a barodd i’r gynulleidfa godi a chymeradwyo hawliau hoyw ac i gydnabod y gymuned hoyw mewn modd nad oedd y blaid Weriniaethol yn yr Unol Daleithiau erioed wedi’i wneud o’r blaen. Ac yn 2008, yn bendant nid oedd Barack Obama yn ymgyrchu dros briodas gyfartal yn y modd y’i deallwn heddiw.

Nodaf hefyd, yn y bleidlais pan gawsom briodas gyfartal, fod pedwar o ASau y Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn hynny ac rwy’n meddwl bod o leiaf un neu ddau ddwsin o Aelodau Seneddol Llafur wedi gwneud hynny. Rwy’n gobeithio ei bod yn bosibl i bobl bleidio crefydd, o leiaf yn breifat, ac roedd llawer o bobl ac Aelodau Seneddol yn teimlo bod y bleidlais honno’n anhygoel o anodd oherwydd naill ai eu safbwyntiau crefyddol a’u cydwybod neu oherwydd y pwysau a deimlent o du rhai o’u hetholwyr a’r rhai a siaradodd allan gryfaf â hwy ynglŷn â hynny. Rwy’n credu ein bod wedi gweld gydag arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol y llynedd, ei fod wedi dod o dan bwysau mawr, pan ofynnwyd iddo a oedd yn ystyried bod rhyw hoyw yn bechod, ac roedd yn gwestiwn nad oedd am ei ateb ac rwy’n meddwl y dylai hynny gael ei barchu. Nid wyf yn meddwl bod neb yn credu mewn gwirionedd nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddigon ymrwymedig i hawliau LHDT. Ac yn yr un modd, pan ddywedodd Jeremy Corbyn, ychydig wythnosau’n ôl, rwy’n credu, fod pobl yn dewis bod yn hoyw, credaf fod hynny’n anffodus ac rwy’n credu ei fod wedi gwneud camgymeriad a’i fod o genhedlaeth sydd â barn ynglŷn â beth yw pethau. Nid wyf am eiliad yn meddwl nad yw’n ddigon ymrwymedig i hawliau LHDT ac ni fuaswn am ei feirniadu mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy’n gobeithio na fyddwn yn edrych yn ôl i’r gorffennol wrth i ni geisio gwneud fel y dywed Adam Price a dathlu pobl LHDT a’r hyn y maent wedi ei gyfrannu yn y gorffennol heb allu bod yn agored am eu rhywioldeb—rwy’n gobeithio na fyddwn yn mynd ati i feirniadu gormod ar genedlaethau blaenorol, a oedd â phersbectif gwahanol i ni ar y mater hwn, ac yn lle hynny, ein bod yn dathlu pa mor gyflym y mae pethau wedi newid a chroesawu’r cynnig hwn. Dylem gael Cymru fel lle sy’n croesawu’r gymuned LHDT a gwneud fel y dywedodd Hannah Blythyn—yn enwedig yr hyn a ddywedoch am waith mewn ysgolion—o’i gymharu â sut y dechreuais fy nghyfraniad, gyda’r hyn a wnaed 29 mlynedd yn ôl. Rydym wedi dod mor bell.

A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch iawn o allu i siarad yn y ddadl hon, a diolch i Hannah am gyflwyno’r cynnig—a’r gefnogaeth gan Aelodau eraill? Yn y ddadl flaenorol, siaradodd nifer o’r Aelodau am bwysigrwydd addysg i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc ar fater trais ar sail rhywedd. Wel, mae rôl addysg wrth fynd i’r afael â rhagfarn a bwlio mewn perthynas â materion LHDT yr un mor arwyddocaol, ac roedd hynny’n rhywbeth y cyfeiriodd Hanna ato wrth iddi gynnig y cynnig hwn. Ond cyn i mi fynd ymlaen at y prif bwyntiau yr oeddwn am siarad amdanynt, a gaf fi sôn am yr arddangosfa Eiconau a Chyfeillion yr ymwelsom â hi yn ystod amser cinio? Roedd yn ddiddorol iawn gweld Illtyd Harrington yno, un a oedd yn ddirprwy arweinydd Llafur Cyngor Llundain Fwyaf, ac a hannai o Ferthyr Tudful mewn gwirionedd. Roedd wedi byw bywyd agored fel dyn hoyw gyda’i bartner yn Llundain ymhell bell yn ôl yn y 1980au, ac fe wnes i drydar am hynny, ac roedd yn hyfryd cael ymateb gan ffrind hoyw da iawn i mi o Ferthyr Tudful a ddywedodd, ‘Mae’n dda gweld bod pethau wedi symud ymlaen ac nad oes raid i bobl adael eu hardal bellach er mwyn bod yn hwy eu hunain.’ A gwnaeth hynny i mi wenu a gwneud i mi sylweddoli cymaint y mae pethau wedi symud ymlaen.

Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes penodol sy’n ymwneud ag addysg, sef rôl staff ysgol a rôl llywodraethwyr ysgol. Ar y cyfan, nid wyf yn hoffi rhestru ystadegau, ond nododd adroddiad ar ysgolion gan Stonewall yn 2012 fod 55 y cant o ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi profi rhyw fath o fwlio’n seiliedig ar eu cyfeiriadedd rhywiol, ac 83 y cant o bobl ifanc drawsrywiol wedi profi cam-drin geiriol, a 35 y cant wedi dioddef ymosodiad corfforol. Ac mae’r mwyafrif helaeth o staff mewn ysgolion, rwy’n meddwl, eisiau gallu ymdrin â bwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig yn eu hysgol, ond yn rhy aml nid ydynt yn teimlo bod ganddynt yr adnoddau na’r hyder i allu gwneud hynny. Fel y crybwyllodd Mark Reckless, mae dros 13 mlynedd bellach ers i ni gael gwared ar gymal 28, ond mae yna lawer o staff sy’n dal i weithio yn ein hysgolion heddiw a oedd yn gorfod cyflwyno gwasanaethau addysg o dan fygythiad ac ofn erlyniad oherwydd y ddeddfwriaeth niweidiol honno, ac i rai, mae gweithio mewn amgylchedd newydd agored mewn perthynas â materion LHDT—maent yn dal i fod yn her gan fod hynny’n gwrthdaro â’r rhai sy’n fwy cyfforddus yn mynd ati i fynd i’r afael â bwlio homoffobig, a deuffobig a thrawsrywiol.

Nid yw’n syndod fod tystiolaeth glir o gyfraddau is o fwlio a chyfraddau uwch o gyflawniad ymhlith disgyblion LHDT yn yr ysgolion sydd wedi gwneud camau cadarnhaol tuag at gynnwys materion LHDT yn eu haddysgu, ond os yw staff ysgol yn teimlo bod angen mwy o gymorth arnynt i fynd i’r afael â’r materion hyn, yna’n sicr rhaid bod gan lywodraethwyr ysgol rôl i’w chwarae. Cafwyd adroddiad Stonewall arall yn 2014, a nodai mai dim ond un o bob pump o athrawon ysgolion uwchradd ac un o bob chwech o athrawon ysgol gynradd yng Nghymru a ddywedodd fod gan eu llywodraethwyr rôl arweiniol gyfeiriedig eglur o ran mynd i’r afael â bwlio disgyblion LHDT. Rwy’n tybio mai’r cam cyntaf wrth fynd i’r afael â’r broblem hon yn ôl pob tebyg yw sicrhau, cyn belled ag y bo modd, fod cyfansoddiad ein llywodraethwyr ysgol yn adlewyrchu’r gymuned leol ac y dylai pob corff llywodraethu ysgol geisio recriwtio mwy o aelodau LHDT sy’n gallu gwneud cyfraniad sylweddol i leihau bwlio gan y byddai eu profiadau bywyd eu hunain yn eu paratoi’n well i wneud hynny. Ond beth bynnag am hynny, dylai fod yn ddyletswydd glir i bob llywodraethwr ysgol, boed yn LHDT neu beidio, fynd i’r afael â phob math o fwlio yn eu hysgolion. Mae yna nifer o gamau y gellir eu cymryd i sicrhau nad yw disgyblion LHDT yn cael eu bwlio, ac mae hynny’n cynnwys: sicrhau bod polisïau gwrth-fwlio ysgolion yn cynnwys cyfeiriad penodol at fwlio sy’n gysylltiedig â LHDT; sicrhau bod cyrff llywodraethu yn cael ffigurau rheolaidd ar fwlio a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â LHDT; datgan pa hyfforddiant a ddarparwyd i staff ysgolion ynglŷn â sut i atal neu ymdrin â bwlio LHDT a chymorth i ddioddefwyr; sicrhau hyfforddiant i’r holl lywodraethwyr yn yr ysgol ar faterion LHDT; a chael yr ysgol i gofrestru ar raglen hyrwyddwyr ysgol Stonewall.

Cyfeiriais hefyd yn y ddadl ddiwethaf at ddatblygiad y cwricwlwm newydd ac fe ychwanegaf apêl arall. Mae yna gyfle euraidd i gynnwys addysg rhyw a chydberthynas sy’n gynhwysol o ran LHDT i fod yn rhan o’r cwricwlwm newydd. Byddai’n ei gwneud yn orfodol i gyrff llywodraethu roi ystyriaeth lawn i faterion LHDT a byddai unrhyw ymrwymiad i symud i’r cyfeiriad hwn yn rhoi mwy o gymhelliant i lywodraethwyr ysgol groesawu’r math o fentrau a amlinellais.

Felly, fel rhywun a fu’n ymgyrchydd gydol oes dros gydraddoldeb yn ei holl ffrydiau, rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r cynnig hwn sy’n dathlu mis hanes LHDT ac yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud. Ond mae angen cadw llygad yn barhaus hefyd ac i Gymru barhau i arwain yn y maes hwn.

Mae Russ George a minnau wedi cael bet fach ar bwy oedd yn y brifysgol gyda Mark Reckless. Fe baroch i ni feddwl yn gynharach. Gallwn weld Hannah Blythyn ysgwyd ei phen yn wyllt pan ddywedodd hynny. Ond dyna ni. A gaf fi ddiolch i Hannah Blythyn hefyd am gyflwyno’r mater pwysig hwn gerbron y Cynulliad heddiw? Rwyf hefyd yn cytuno â syniadau Joyce Watson fel comisiynydd. Ni allai Suzy Davies fod yma ar gyfer y ddadl heddiw, ond roedd hi’n awyddus i chi wybod ei bod yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn.

Er ein bod yn cefnogi’r cynnig hwn, buaswn yn dweud fy mod yn credu ein bod yn aml yn hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws Cymru bob dydd yn hytrach na’i ddathlu’n iawn. Mae yna wahaniaeth: ychydig fel yr hen wahaniaeth rhwng goddefgarwch a derbyniad. Rwy’n meddwl y dylem ymhyfrydu mewn amrywiaeth a rhoi gwerth ar ein llwythau niferus heb chwerwder llwythol. Rydym yn fwy na chyfanswm ein rhannau. Mae wedi dod yn hawdd i ni yma hybu hawliau LHDT. Dyma ni yn y Cynulliad hwn, sefydliad blaengar iawn a sefydliad sydd, yn ddigon teg, yn cael ei gydnabod am ei waith a’i lwyddiant o ran hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rwy’n gynghreiriad; mae gennyf fy ngherdyn bach ar fy nesg, a gwn fod gan Aelodau Cynulliad eraill un hefyd. Nid yw’r sefydliad byth yn sefyll yn llonydd ac ni ddylai wneud hynny. Dylem fod yn falch fod ein deddfwrfa yn arwain y ffordd.

Crybwyllodd Hannah Blythyn yr arddangosfa yn y Senedd i fyny’r grisiau yn gynharach. Credaf ei bod yn wirioneddol ysbrydoledig, waeth beth yw eich rhywioldeb neu eich rhyw. Mae’n hygyrch iawn i ni fel Aelodau’r Cynulliad. Gallwn gysylltu’n hawdd â phobl yn ein cymuned sy’n awyddus i ddweud wrthym am eu bywydau, eu llwyddiannau yn erbyn rhagfarn, eu buddugoliaeth yn erbyn gwahaniaethu, eu dymuniad i addysgu yn erbyn bwlio a’u brwdfrydedd i ddadlau dros y rhai sy’n byw gyda phoen cudd oherwydd gwahaniaeth. Mae’n hawdd i ni fel gwleidyddion gredu’r peth iawn, a dweud y peth iawn, ac efallai ychydig yn llai hawdd, i wneud y peth iawn. Deddfu ar oed cydsynio, priodas, magu plant a mabwysiadu—roeddwn yn croesawu cefnogaeth Mark Reckless i briodasau hoyw pan ddaeth hynny drwy’r Senedd—ar bensiynau, ar eiddo, cyflogaeth a hyd yn oed troseddau er mwyn osgoi gwahaniaethu ar sail LHDT: mae’n hawdd oherwydd mae gennym y pŵer yma. Rwy’n credu ei bod yn iawn fod y cynnig yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar hawliau a derbyniad o LHDT. Mae hawliau a derbyniad yn bethau gwahanol, fodd bynnag, fel y dywedais o’r blaen. Mae’n dal yn bosibl cael y naill heb y llall ac efallai mai dyma fel y bydd hi bob amser lle y mae hawliau’n gwrthdaro â’i gilydd mewn cymdeithas seciwlar neu amlgrefyddol. Ni all hawliau arferadwy a derbyniad gyrraedd hyd oni cheir dealltwriaeth a hyd yn oed yn awr, yn y swigen o gyfeillgarwch tuag at bobl LHDT yr ydym yn ffodus i fod o’i mewn, rydym yn baglu ar draws ein hanwybodaeth lariaidd ein hunain.

Mae’n 60 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Wolfenden; 60 mlynedd ers y câi’r geiriau ‘homosexual’ a ‘prostitute’ eu hystyried mor aflednais fel bod yn rhaid defnyddio’r geiriau ‘Huntley’ a ‘Palmer’ yn eu lle yn ystod yr ymchwiliad, gan roi gwawr o anlladrwydd i fisgedi ‘custard cream’ byth wedyn. [Chwerthin.] Rwy’n falch eich bod wedi deall y jôc. Cymerodd 10 mlynedd er hynny i gyflwyno’r ddeddfwriaeth i ddad-droseddoli ymddygiad cyfunrhywiol cydsyniol rhwng dynion mewn oed, ac mae wedi cymryd 60 mlynedd i sicrhau pardwn i Alan Turing yr oedd ei achos yn un o’r rhai a ysgogodd yr ymchwiliad. Dyma pam y mae’r angen i fod yn effro y mae’r cynnig yn galw amdano yr un mor bwysig â’r hybu, y dathliad a’r cynnydd—ac nid yr hawliau’n unig, ond dyfnder y derbyniad.

Bydd unrhyw un a edrychodd ar adroddiad Marie Curie, ‘Hiding who I am’, yn synnu cymaint o dyllau sydd yn ein derbyniad, neu o leiaf yn ein dealltwriaeth o’r profiad o fod yn berson LHDT, yn enwedig mewn henaint—yr anwybodaeth lariaidd honno y soniais amdani’n gynharach. Nid oedd adroddiad Wolfenden yn ffon hud. Roedd ein poblogaeth hŷn yn dal i dyfu i fyny mewn cyfnod pan oedd stigma mawr yn perthyn i fod yn berson LHDT, a gallai arwain at wahardd, trais a chael eich arestio hyd yn oed. Nid yw dod allan i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn beth hawdd o hyd. Gall y rhai sydd yng nghyfnodau diweddarach dementia ddechrau ailbrofi’r teimladau o gywilydd ac ofn a deimlent yn eu hieuenctid. Gallant hyd yn oed ddangos dicter a ffieidd-dod tuag at gyfunrhywiaeth, gan adlewyrchu’r hyn a oedd yn ofynnol yn gymdeithasol pan oeddent yn ifanc.

Felly, i gloi, Lywydd, nid yw dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth mor hawdd ag y meddyliwn. Nid yw’n ymwneud yn unig â rhai o’r straeon arswyd y clywn amdanynt mewn rhannau eraill o’r byd. Mae teyrngarwch diwylliannol ac anwybodaeth yn parhau i esgor ar wahaniaethu a rhagfarn achlysurol mewn llawer o’n cymunedau ein hunain. Ychwanegwch at hynny ailstigmateiddio tawel y rhai a ymladdodd ac a drechodd stigma ar ôl Wolfenden a gallaf weld pam y mae’r cynnig hwn yn ymwneud â hybu, nid dathlu. Rwy’n teimlo, fodd bynnag, ei fod yn gynnig gwych i gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad, ac rwy’n meddwl ei fod yn dangos yr hyn y gall y Cynulliad hwn fod ar ei orau, a phan fo’r Aelodau’n meddwl am les gorau’r sefydliad hwn a Chymru.

Mae mis hanes LHDT yn rhoi cyfle i edrych yn ôl a myfyrio ar y cynnydd a wnaed yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LHDT+. Fel y nododd siaradwyr eraill, mae 2017 yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Wolfenden, a 50 mlynedd ers pasio Deddf Troseddau rhywiol 1967 yn dad-droseddoli gweithredoedd rhywiol yn breifat rhwng dau ddyn. Ac wrth gofio’r ddau ddigwyddiad, gallwn dystio i bwysigrwydd thema eleni o eiconau a chyfeillion, gan nodi’r rôl a chwaraewyd gan John Wolfenden, Leo Abse a’r Arglwydd Arran. Wrth gwrs, roedd Deddf Troseddau Rhywiol 1967 yn rhan o’r trawsnewid agweddau cymdeithasol a ddigwyddodd yn ystod Llywodraeth gyntaf Wilson, ac rwy’n falch o allu sefyll yma heddiw fel AC Llafur pan fo cymaint o’r datblygiadau ym maes cydraddoldeb LHDT wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth Llywodraethau Llafur.

Mae record llywodraethau Blair a Brown yn arbennig o drawiadol, gyda llwyddiannau’n cynnwys: oedran cydsynio cyfartal; partneriaethau sifil; hawliau mabwysiadu; gwahardd gwahaniaethu yn y gweithle a mynediad at nwyddau a gwasanaethau; rhoi diwedd ar y gwaharddiad ar bobl LHDT rhag gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chymal 28; hawliau ffrwythlondeb i bobl lesbiaidd; hawliau i bobl drawsrywiol gael eu rhywedd wedi’i gydnabod yn y gyfraith; gweithredu yn erbyn troseddau casineb; ac yn hollbwysig, Deddf Cydraddoldeb 2010.

Rwyf yr un mor falch o’r rôl a chwaraewyd yn symud agenda hawliau LHDT yn ei blaen gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr a’i aelodau yn ne Cymru. Rwy’n siŵr fod llawer ohonom yma wedi gweld y ffilm ‘Pride’—ac os nad ydych, rwy’n eich annog i’w gwylio—sy’n dangos y ffordd ryfeddol y gwnaeth dwy gymuned, a ddieithriwyd ac a ymyleiddiwyd gan Lywodraeth Thatcher, gefnogi ei gilydd. Mae’r olygfa derfynol honno, gyda glowyr o Aberdâr, y ffatri phurnacite ac Aberpennar i gyd yn fy etholaeth fy hun yn ymuno â gorymdaith Gay Pride Llundain, yn cyfleu’r ffordd yr oedd y ddau grŵp wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd.

Rwyf hefyd yn awyddus i sôn heddiw am fy mhrofiadau fel athrawes ysgol uwchradd. Roedd elfen fugeiliol sylweddol i fy rôl, a gallai hyn ar adegau gynnwys ymdrin â myfyrwyr a’u cynorthwyo i ddod i delerau â’u rhywioldeb, ac wynebu’r cyfyng-gyngor a ddylent ddod allan ai peidio yn yr hyn a allai fod yn amgylchedd ysgol anodd a heriol iawn. Gallai heriau ddod gan gyfoedion, gan rieni ac aelodau eraill o’r teulu, ond gall myfyrwyr a phobl ifanc gael trafferth hefyd i dderbyn eu hunaniaeth rywiol eu hunain, heb sôn am wynebu gorfod sicrhau cefnogaeth a derbyniad y bobl o’u cwmpas.

Gwnaeth Stonewall Cymru beth gwaith ychydig flynyddoedd yn ôl yn tynnu sylw at ystadegau pryderus yn ymwneud â digwyddiadau homoffobaidd yr oedd pobl ifanc LHDT wedi’u profi, ac er fy mod yn falch o ddweud nad oeddwn yn dyst i unrhyw fwlio homoffobig yn bersonol yn ystod fy ngyrfa addysgu, mae Stonewall yn cyfeirio hefyd at yr ymdeimlad o arwahanrwydd y gallai pobl ifanc LHDT ei deimlo.

Felly, sut y gallwn fynd i’r afael â hyn? Mae’n bwysig iawn fod ysgolion yn addysgu derbyniad o rywioldeb drwy eu rhaglenni addysg bersonol a chymdeithasol, a chefnogaf yn llwyr yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden yn gynharach am athrawon sydd angen mwy o gymorth a hyfforddiant er mwyn cyflawni’r mathau hynny o wersi yn briodol. Mae hefyd yn bwysig i ysgolion sicrhau bod ganddynt bolisïau gwrth-fwlio llym ar waith, a bod digon o gefnogaeth yn cael ei rhoi i athrawon a staff eraill yr ysgol fel eu bod yn gallu cefnogi pobl ifanc yn ystod yr hyn a all fod yn gyfnod anodd iawn. Efallai hefyd y bydd cyfleoedd yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn awr ar hyfforddi athrawon a Dyfodol Llwyddiannus, ac rwy’n gobeithio y gellir ymchwilio i hynny’n llawn.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cynnig modelau rôl LHDT cadarnhaol i’n pobl ifanc, ac rwy’n gobeithio na fydd ots gan yr Aelodau dros Delyn, Castell-nedd a Dwyrain Caerfyrddin fy mod yn croesawu eu rôl bwysig yn hyn o beth, er ei bod yn drueni ei bod wedi cymryd 17 mlynedd i’r Cynulliad Cenedlaethol ethol ei ACau LHDT agored cyntaf, a hefyd yn drist ein bod yn dal i lusgo ar ôl Seneddau’r Alban a San Steffan o ran y gynrychiolaeth honno. Gellir gweld modelau rôl LHDT eraill ar draws pob math o yrfa, gyda llawer ohonynt yn cael sylw yn elfen eiconau’r arddangosfa heddiw a llawer ohonynt yn enghreifftiau o’r newid agwedd a welsom yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf.

Mae data o’r astudiaeth o etholiad Cymru 2016 yn dangos bod rhywfaint o elyniaeth annerbyniol yn dal i fodoli tuag at bobl LHDT, ond roedd gan nifer lawer iawn yn fwy o bobl agweddau ffafriol. Roedd gwaith pwysig a wnaed gan gyn-fyfyriwr i mi, Jac Larner, yn awr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn dangos bod pobl iau yn arddangos agweddau lawer iawn yn fwy ffafriol tuag at bobl LHDT na’u cohortau hŷn. Rhaid bod hyn yn galondid mawr i ni ar gyfer dyfodol ein cenedl, ond fel y dywedodd Ivor Novello, un o’r eiconau a ddethlir heddiw:

Anaml y bydd pethau nad ydynt yn galw am ymdrech o ryw fath yn werth eu cael.

Mae gwella cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu yn galw am ymdrech yn wir, ac maent yn bendant iawn yn werth eu cael.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, a llongyfarchiadau i’r Aelodau a’i cyflwynodd. Rwy’n credu bod hyn yn rhoi cyfle i ddathlu’r datblygiadau sy’n cael eu gwneud tuag at gydraddoldeb ac i ddathlu’r unigolion a wnaeth hyn yn bosibl.

Yn gyntaf oll, rwyf am ddweud fy mod yn credu ei bod mor bwysig fod gennym Aelodau Cynulliad hoyw a lesbiaidd yn arwain y ddadl heddiw. Dywedodd Hannah yn ei chyflwyniad, ‘Ni allwch fod yr hyn na allwch ei weld’ a chredaf fod honno’n neges mor bwysig. Rwy’n meddwl ein bod yn fwy credadwy fel Cynulliad yn awr gyda’r ddadl hon yn cael ei harwain yn y ffordd y mae’n cael ei arwain.

Roeddwn eisiau defnyddio’r amser a oedd gennyf i sôn am ddwy fenyw rwy’n eu hadnabod yn dda iawn, sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at wneud bywyd Cymru’n fwy goddefgar ac eangfrydig. Y gyntaf yw un o fy etholwyr, Janet Jeffries, a sefydlodd FFLAG—teuluoedd a ffrindiau pobl LHDT—ar ôl i’w mab ddod allan, ac mae wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros gydraddoldeb. Dywedodd wrthyf mai ei nod yn yr holl waith a wnaeth yw helpu rhieni a theuluoedd i ymwneud â’u plant gyda chariad a balchder. Ar yr adeg y sefydlodd Janet FFLAG yn 2001—un ar bymtheg o flynyddoedd yn ôl—roedd yn fyd gwahanol iawn, ac mae llawer o’r Aelodau sydd wedi siarad heddiw wedi cyfeirio at hynny. Dywedodd bryd hynny mai agwedd rhieni oedd ofn y gwahaniaethu y gallai eu plant eu hwynebu, ofn AIDS, ofn na fyddent yn gallu cael swydd, a phob dydd roeddent yn poeni am yr hyn y buasai’n rhaid iddynt ei wynebu: câi cyplau hoyw eu troi ymaith o westai, ac nid oedd yr un o’r deddfau y clywsom amdanynt heddiw’n bodoli.

Rwyf hefyd yn falch iawn fod Llafur wedi arwain y ffordd drwy basio llawer o’r deddfau arloesol, gan fod gwleidyddiaeth yn gwneud i bethau ddigwydd, ac yn sicr fe arweiniodd Llafur y ffordd. Roeddwn yn falch iawn o fod yn Nhŷ’r Cyffredin i bleidleisio dros oedran cydsynio cyfartal, i bleidleisio dros ddiddymu adran 28, y darn mwyaf niweidiol o ddeddfwriaeth y gallwn feddwl amdano, fel y mae llawer o bobl wedi dweud yma heddiw, a hefyd roeddwn yn falch iawn i bleidleisio dros y Ddeddf Partneriaethau Sifil yn 2004 a’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn 2004, ac wrth gwrs, y Ddeddf mabwysiadu.

Ar yr adeg roedd Janet yn gweithio, dywedodd ei fod yn ddigwyddiad cyffredin i lenyddiaeth a gynhyrchwyd ganddynt gael ei hanfon yn ôl gan yr argraffwyr. Dywedodd eu bod wedi anfon baner at yr argraffwyr ar gyfer y sefydliad, a’i bod wedi cael ei hanfon yn ôl am fod y gair ‘gay’ arni. Rydych yn dal i glywed am ddigwyddiadau fel hynny, megis y pobyddion yng Ngogledd Iwerddon a wrthododd bobi cacen gyda negeseuon o blaid priodasau hoyw arni. Ond credaf fod hynny’n digwydd yn llawer llai aml—mae’n llawer prinnach yn awr. Fel y dywedodd Janet wrthyf, mae’r byd wedi newid erbyn hyn, ond wrth gwrs, mae yna ffordd bell i fynd, fel y clywsom o’r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd yn yr eglwys yn ystod y dyddiau diwethaf. Dyfarnwyd medal yr ymerodraeth Brydeinig i Janet yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd am ei gwaith ymgyrchu, ac rwy’n falch iawn o’i chael yn fy etholaeth, ac yn dymuno adferiad iechyd buan iddi o’i salwch.

Y fenyw arall rwyf am sôn amdani yw Gloria Jenkins, sydd i’w gweld yn yr arddangosfa Eiconau a Chyfeillion. Hi, gyda Janet, a sefydlodd FFLAG, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchydd grymus yn ne Cymru ers blynyddoedd lawer. Hi oedd cyd-gadeirydd Stonewall Cymru ac un o’r bobl allweddol a’i sefydlodd yn gadarn fel mudiad yng Nghymru. Rwy’n adnabod Gloria ers nifer o flynyddoedd, a bu fy ngŵr, Rhodri Morgan, a oedd yn AS Gorllewin Caerdydd ar y pryd, gyda Kevin Brennan, ei gynorthwyydd ar y pryd, yn ymgyrchu gyda Gloria a’i theulu a’i ffrindiau i sicrhau bod partner merch Gloria a oedd yn dod o Ganada, Tammy, yn gallu aros yn y DU. Roedd hon yn ymgyrch ag iddi broffil uchel ac roedd yn llwyddiannus, a Tammy oedd un o’r lesbiaid cyntaf i gael caniatâd amhenodol i aros yn y DU o ganlyniad i berthynas ystyrlon rhwng pobl o’r un rhyw. Felly, dyna y dechreuodd Gloria ymgyrchu yn ei gylch, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchu byth ers hynny. Roedd yn wych ei gweld yn y derbyniad yn y Senedd heddiw, ac rwyf am ei llongyfarch am y cyfan y mae hi wedi’i wneud. Felly, roeddwn eisiau defnyddio’r cyfle i sôn am ddwy fenyw sydd wedi bod yn gynghreiriaid gwych ac wedi gweithio’n wirioneddol galed, a gwneud cyfraniad aruthrol.

Hoffwn orffen, yn olaf, ar lefel polisi, gan adleisio’r hyn y mae llawer o bobl wedi dweud yn y ddadl hon ac yn y ddadl flaenorol. Rwyf am apelio dros gynnwys addysg rhyw a chydberthynas ystyrlon mewn ysgolion. Fel y dywed Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, dylai addysg ryw o ansawdd da, sy’n addas i’r oedran, ac sy’n gynhwysol o ran LHDT, fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru.

Lywydd, mae’n bleser ymateb i’r ddadl y prynhawn yma, ar ôl gwrando ar yr holl gyfraniadau ar draws y Siambr. Nid y ddadl heddiw ar Fis Hanes LHDT yw’r tro cyntaf i ni gael trafodaeth ar gydraddoldeb LHDT yn y Senedd, ond mae’n arwyddocaol iawn fod y ddadl, am y tro cyntaf yn ein hanes, wedi cael ei harwain gan Aelodau Cynulliad sy’n lesbiaid a hoywon agored yn y Cynulliad: Hannah Blythyn, Adam Price a chyn hir, Jeremy Miles. Rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt, a Suzy Davies, yn wir, am gyflwyno’r cynnig heddiw, a hefyd am gyfraniadau nifer o’r Aelodau eraill hefyd. Rydym wedi clywed straeon personol, rydym wedi clywed am y gwaith parhaus tuag at gydraddoldeb LHDT ac rydym wedi clywed am yr hyn sy’n dal i fod angen ei wneud.

Ni all pobl nad ydynt yn LHDT wybod yn iawn faint o bwysau sy’n wynebu ein cyfeillion wrth ddarganfod, derbyn a dod o hyd i’r rhyddid i fod yn pwy ydynt, ond gall pob un ohonom, rwy’n gobeithio, fod yn gynghreiriaid da drwy ddangos empathi gyda’r profiad a’r ofn o beidio â chael eu derbyn neu’n waeth, o wynebu gwahaniaethu uniongyrchol. Ffrindiau, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella bywydau a chyfleoedd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ledled Cymru a thrwy ein grant cydraddoldeb a chynhwysiant, rydym wedi cefnogi prosiectau i herio bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion. Rydym yn gweithio ar draws asiantaethau ar gynyddu lefelau adrodd am ddigwyddiadau casineb gwrth-LHDT, ac rydym wedi cefnogi sefydlu grwpiau fel Trans*form Cymru ar gyfer pobl ifanc trawsrywiol.

Yn y Cynulliad diwethaf, cyflwynodd fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, gynllun gweithredu trawsryweddol. Un o’r blaenoriaethau yn y cynllun yw gweithrediad strategaeth drawsryweddol GIG Cymru, a fydd yn cynnwys llwybr gofal a chanllawiau ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd i gefnogi’r llwybr gofal; dyrannwyd £0.5 miliwn yn 2017-18 i wella gwasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2011 i gynnwys dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus ychwanegol a phenodol yng Nghymru hefyd wedi sicrhau newid diwylliannol pwysig yn y ffordd y mae ein cyrff cyhoeddus yn gwasanaethu anghenion pobl ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.

Lywydd, o ganlyniad, bu gwelliant amlwg yn y modd y mae cyrff yn ceisio cefnogi pobl LHDT, o ran darparu gwasanaethau ac fel cyflogwyr. Bythefnos yn ôl yn unig—llongyfarchiadau i’r Cynulliad hwn ar gael gwobr am fod y cyflogwr sector cyhoeddus gorau a’r pumed cyflogwr gorau ym Mhrydain i bobl LHDT. Er gwaethaf llwyddiant o’r fath, mae llawer mwy i’w wneud, ac rydym wedi clywed hynny gan yr Aelodau heddiw. Mae’r Aelodau yma yn gwneud yn siŵr fod camau gweithredu yn gadarn ar yr agenda. Gwn fod Jeremy wedi trafod gofal iechyd trawsryweddol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ynghyd â Hannah, sydd wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod materion LHDT yn ein hysgolion, ac addysg rhyw, addysg ar berthynas, y siaradodd Julie Morgan amdani.

Ni allwn gymryd cynnydd yn ganiataol, fodd bynnag. Mewn gwledydd o gwmpas y byd mae yna bobl sy’n ymrwymedig i gyfyngu ar hawliau LHDT. Rydym wedi ymrwymo i’w hyrwyddo, yn union fel y gwnaethom yn 2002, pan ryddhaodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau i ysgolion a roddodd ddiwedd i bob pwrpas ar y cymal 28 homoffobaidd flwyddyn cyn ei ddiddymu’n llawn yn San Steffan. Soniais am gymal 28 am fy mod yn credu ei fod yn dal i daro wrth wraidd y ddadl hon, a gyflwynwyd gan yr Aelodau yn y Siambr. Yn ymarferol, yr hyn a olygai oedd na fyddai neb byth yn dweud wrth ddisgyblion hoyw, ‘Mae’n iawn i chi fod yn pwy ydych.’ Ni chawsant erioed ddysgu am wahanol syniadau a hunaniaethau. Ni ddywedwyd wrthynt erioed neu ni chawsant erioed fodelau rôl fel Gareth Thomas, Nigel Owens, Jeremy Miles, Hannah Blythyn neu’n wir, Adam Price. Yn hytrach, fe wnaethant ddysgu bod ar wahân, bod ynghudd, bod yn ddistaw. Cafodd cenhedlaeth o bobl ifanc LHDT eu gwneud yn agored i fwlio wedi’i sancsiynu gan y wladwriaeth. Dywedwyd wrth y genhedlaeth a ddaeth o’u blaenau fod bod yn LHDT yn anghyfreithlon ac yn anghywir. Mae effaith hanes yn dal i’w theimlo heddiw. Er ein bod yn byw bellach mewn gwlad sy’n dathlu hawliau cyfartal, priodas un rhyw ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu, rhaid i ni beidio ag anghofio’r miloedd o fywydau a guddiwyd ac a gollwyd mewn gorffennol a oedd yn trin pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn llai na chyfartal. Y Mis Hanes LHDT hwn, cofiwn eu hanes, Lywydd, a dathlwn y cariad a’r dyngarwch yr ydym i gyd yn ei rannu yma heddiw. Diolch.

Diolch, Lywydd, a diolch i bob cyfrannwr y prynhawn yma, ac am yr ystod eang o gyfraniadau sydd, os caf ddweud, wedi bod yn feddylgar iawn. Petasech chi wedi dweud wrth y fersiwn 10 mlwydd oed ohonof i y byddwn i’n sefyll yma fel dyn hoyw balch ar lawr Senedd Cymru, fe fyddai fe wedi synnu ac wedi’i arswydo. Arswydo am y cywilydd, hynny yw, y byddai’r fersiwn 10 mlwydd oed wedi ei deimlo. Mae hynny sbel fawr yn ôl erbyn hyn.

Roedd darganfod fy mod yn grwtyn hoyw mewn cymuned glos, Gymreig, Gymraeg ar ddechrau’r 1980au ddim yn brofiad dymunol iawn: dim modelau rôl hoyw, dim esiamplau; dim trafodaeth, dim ymwybyddiaeth, dim cefnogaeth, dim ond synnwyr o fod wedi ynysu. Felly, pan mae pobl yn dweud, ‘Hei, nid yw’n newyddion, bellach, bod gennym wleidyddion hoyw’—na, digon teg, ond fe ddylem ni i gyd cymryd y cyfle, pan allwn ni, i gynnig rhyw lygedyn o olau i’r rhai sydd yn dal i frwydro, ac mae rhai yn dal i wneud hynny o hyd, a, gyda llaw, gynnig rhyw lygedyn o oleuni i deulu, rhieni, cymdogion a chyfeillion sydd yn chwilio am gysur, neu’n chwilio am yr eirfa iawn, neu chwilio jest am gyfle i godi’r testun. Felly, da yw cael cyfle i siarad yma ac i gydnabod heddiw rôl y gymuned LHDT yn ein hanes ac yng Nghymru heddiw.

This debate today goes to the fundamental value of a civilised society, which is equality. Equality is indivisible. My fight for equality is your fight for equality. We might be the first openly gay Assembly Members in Wales but I often look back at the first openly gay politician that many of us will remember: Harvey Milk, who was an assembly man in San Francisco in the late 1980s. He gave an important speech about the value of hope:

The only thing they have to look forward to is hope. And you have to give them hope. Hope for a better world, hope for a better tomorrow, hope for a better place to come to if the pressures at home are too great. Hope that all will be all right. Without hope, not only are the gays,’

but the black people, the seniors, the disabled, the ‘us-es’.

The “us-es” will give up.’

Equality is indivisible. This is not just for those who’ve had very public struggles for their equality: black people, the seniors, the disabled that Harvey Milk spoke about. It’s also the ‘us-es’—every one of us. We are here to celebrate difference today, and in many ways, we are all different. Sometimes, that difference is better understood. Sometimes, that difference is harder to bear than at other times. There was a time when being divorced, being a single mother, having a mixed-race grandchild were causes of shame and discrimination. Still today, there is great stigma and discrimination, say, about open conversations about mental health. Where progress has been achieved, it has only happened because people of courage, people of commitment, have fought. They have refused to sit at the back of the bus. Jonathan Sachs, who was the former chief rabbi, spoke about the dignity of difference—that we value one another not just because of what we have in common, but because we recognise in each other something that we don’t have. That dignity of difference is under threat in the world today.

Politics is about what you choose to care about—the questions you choose to ask, not whether you give the right answer to the question when you are asked it. There is a good measure of support in this Chamber for LGBT+ equality. There is a good measure of support in Westminster. But, since this is LGBT History Month, maybe you’ll forgive me a bit of a recollection. I lived in London in the early 1990s when Pride marches were marches against the Government for oppressing the LGBT community. It was not just a Government that wasn’t funding the right programmes or saying the right things. It was a Government, when I was a teenager, that not only tolerated discrimination, but actively devised novel and innovative ways to make the lives of gay people less tolerable. So, today, I want to thank all those people who fought for the rights that we enjoy today and who have led by example. Many of them we remembered today in the Senedd.

I am proud to be the Assembly Member for Onllwyn, which is where the film ‘Pride’ was based. We heard today about Dai Donovan, who worked with the Neath, Dulais and Swansea Valleys Miners Support Group to bring the LGSM—Lesbians and Gays Support the Miners—to the Dulais valley. I want to acknowledge, as Vikki did, the work of the NUM in putting LGBT equality on the public agenda in the 1980s. I want to acknowledge the work of the 1997 Labour Government, supported by other progressive parties, which swept away a raft of discrimination laws and brought in many of our equal rights. In the course of doing so, they created the political climate for many Conservatives to express their support for LGBT rights as well.

But, a country without discrimination in its laws is not the end point of a civilised society. It is the starting point. We have a lot left to do in terms of changing attitudes. Today, I feel that we have a long way to go, for example, in our attitudes towards the trans community. We are a long way from fair and healthy attitudes there. I want to acknowledge the work of the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport, who has been mentioned already today, for the work going on to move forward the health agenda for trans people, and the agreement between the Welsh Government and Plaid Cymru was the basis for that.

There are people today watching this debate who are still waiting for equality—in practice, if not in law. They will be waiting and watching for encouragement, and for political commitment. Our job, as the courageous politician instructed us, is to give them hope.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Bancio

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Cymru ac rwy’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6240 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy’n hawdd cael gafael arnynt.

2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a

ii) archwilio’r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i’r banciau cynilo lleol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae bancio yng Nghymru ers i ni golli’r olaf o’r banciau a oedd mewn perchnogaeth leol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif wedi bod yr hyn sy’n cyfateb yn ariannol i economi ffatrïoedd cangen, a nodweddir gan ganghennau lleol o gwmnïau mawr sy’n eiddo i gyfranddalwyr gyda phencadlys yn Ninas Llundain. Mae Cymru wedi dioddef, yn hynny o beth, yn sgil y system fancio fwyaf canolog a dwys yn unman yn y byd diwydiannol yn ôl pob tebyg, gyda chyfran o’r farchnad y pump mawr dros 85 y cant, rwy’n credu.

Rydym yn awr yn cychwyn ar gyfnod newydd sy’n peri pryder yn yr hanes hwnnw o oruchafiaeth, lle y mae hyd yn oed canghennau o’r economi ffatrïoedd cangen honno’n cael eu cau, a rhannau helaeth o’n gwlad—cymunedau gwledig, cymunedau tlawd, heb fod yn ddigon proffidiol i gyflawni’r math o enillion y mae banciau modern yn eu ceisio—mewn perygl o droi’n anialwch ariannol, heb unrhyw fath o wasanaeth bancio cynhwysfawr. Mewn gwirionedd mae Cymru yn cael ei tharo’n waeth na’r rhan fwyaf o’r DU, ac yn ôl UBS, mwy na thebyg ein bod yn wynebu colli 50 y cant arall o’n rhwydwaith o ganghennau sy’n weddill dros y degawd nesaf. Mae’r banciau wedi cyflwyno hyn fel rhan o symudiad naturiol tuag at fancio ar-lein yn unig—yr hyn sy’n cyfateb yn ariannol i brosesau sydd ar waith mewn rhannau eraill o’r economi. Ac mae elfen o wirionedd yn hyn, ond mae hefyd wedi’i orliwio gan fanciau sy’n ceisio cynyddu elw drwy dorri costau sy’n gysylltiedig â darparu bancio perthynas, sy’n galw am ddarpariaeth gyffredinol a gwasanaethau wyneb yn wyneb. A’r prawf o hynny yw bod canghennau’n cau yn llawer cyflymach na’r dirywiad yng ngweithgarwch canghennau.

Ac wrth gwrs, mae’n mynd yn groes i’r hyn y mae pobl yn ei ddweud. Canfu ymchwil ar ran yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn 2015 fod 63 y cant o gwsmeriaid cyfrifon cyfredol yn teimlo bod cael cangen leol gyfleus naill ai’n hanfodol neu’n bwysig iawn, a’i fod yn codi i 76 y cant ymhlith rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Ymhell o fod yn ddim ond ymateb i newidiadau yn y farchnad, mae banciau mewn gwirionedd yn dewis cau banciau mewn ardaloedd tlotach gan eu cadw—mewn gwirionedd maent hyd yn oed yn agor canghennau newydd—mewn ardaloedd mwy cefnog, yn enwedig yn Llundain. Maent yn gwneud hyn waeth beth fydd effaith cau cangen ar bobl heb fanc, pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, yr henoed, yr anabl, pobl ar incwm isel a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Ac mae’r effaith ar fusnes mewn cymunedau heb fanc yn arbennig o ddifrifol. Mae ymchwil gan Move Your Money, y grŵp ymgyrchu, gan ddefnyddio data benthyca Cymdeithas Bancwyr Prydain, yn dangos bod cau canghennau banc yn lleihau twf benthyca i fusnesau bach a chanolig o 63 y cant, ar gyfartaledd, mewn ardaloedd cod post sy’n colli cangen o fanc. Mae’r ffigur hwnnw’n codi i 104 y cant mewn ardaloedd cod post sy’n colli eu banc olaf yn y dref. Ar gyfartaledd, mae ardaloedd cod post sy’n colli eu banc olaf yn y dref yn cael £1.6 miliwn y flwyddyn yn llai mewn benthyciadau dros gyfnod o flwyddyn.

Yn anffodus, nid yw banciau’n ystyried lles y cyhoedd na’r effaith y bydd cau yn ei chael wrth wneud y penderfyniadau hyn. Mae’r rhain yn gyhoeddiadau cau a bennwyd ymlaen llaw, nid oes unrhyw ymgynghori, a dyna pam yr ystyriwn fod y protocol mynediad at fancio y cyfeirir ato yn un o welliannau’r Ceidwadwyr yn gwbl annigonol. Rydym yn dadlau bod y model bancio presennol yn y wlad hon, sy’n seiliedig ar gystadleuaeth dybiedig rhwng y pum banc mwyaf, wedi torri. Mae’r hyn a elwir yn fanciau heriol yn targedu ardaloedd sydd eisoes yn gefnog, neu yn achos banciau digidol yn unig, cwsmeriaid iau, nid yr ardaloedd lle na cheir gwasanaeth digonol. Y bobl dlotaf sy’n fwyaf tebygol o fod heb fynediad at wasanaethau banc, mae busnesau bach yn cael eu hesgeuluso, ac mae benthyg, fel y gwyddom, yn canolbwyntio’n anghymesur ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Mae sefydliadau eraill yn bodoli—mae rhai’n rhan o’r rhwydwaith cyllid cyfrifol y cyfeirir ato yng ngwelliant y Ceidwadwyr—ond maent yn ei chael hi’n anodd cystadlu mewn system a sefydlwyd er budd y banciau mawr. Yr hyn sydd ei angen arnom yn ein barn ni yw system fancio sy’n fwy amrywiol. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd eraill economi gymysg mewn bancio, sy’n darparu mwy o sefydlogrwydd ac atebolrwydd cyhoeddus. Mae arnom angen i fynediad at gyllid ar gyfer grwpiau nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol gael ei gydnabod fel mater lles y cyhoedd, a dyna pam ein bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd rhan fwy gweithredol yn darparu’r gwasanaeth sylfaenol a hanfodol hwn.

Mae’r Llywodraeth eisoes yn derbyn yr egwyddor o ymyrraeth uniongyrchol o ganlyniad i fethiant y farchnad mewn gwasanaethau ariannol. Dyna wedi’r cyfan oedd y rhesymeg wrth wraidd creu Cyllid Cymru yn ôl yn 2002, a dyna yw’r rhesymeg o hyd dros greu’r banc datblygu newydd. Wrth gwrs, bydd y banc datblygu yn dwyn yr enw ‘banc’, ond ni fwriedir iddo fod ar hyn o bryd yn sefydliad sy’n cymryd adneuon. Mae’n defnyddio cronfeydd cylchol neu fythwyrdd i ddarparu cyfalaf dyled neu ecwiti hirdymor, gan drosoli drwy bartneru gyda chyllidwyr eraill yn hytrach na defnyddio offeryn bancio wrth gefn ffracsiynol i greu credyd yn y ffordd y mae banciau’n ei wneud yn draddodiadol. Dyna pam y credaf fod angen i ni greu banc cyhoeddus i Gymru, fel y gallwn ddefnyddio’r offeryn trosoledd hwnnw a darparu’r cyfalaf ar lefel uwch yn fwy cyfartal ar draws ein cymunedau.

Mae tri model posibl y gellid eu dilyn: byddai un yn golygu bod y banc datblygu’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ariannol presennol i ddarparu mynediad at wasanaethau, o bosibl drwy rwydwaith o gyfleusterau ‘banc olaf yn y dref’ a rennir. Dyna’r math o drefniant neu bartneriaeth sydd gan y Bank of North Dakota, y sonnir amdano’n aml, banc sy’n eiddo cyhoeddus, gyda banciau yn y sector preifat yn ei dalaith. Wedi dweud hynny, mae llawer o’r sefydliadau y mae’r Bank of North Dakota yn cydweithio â hwy’n fanciau cymunedol eu hunain, sy’n rhan bwysig iawn o’r hyn sy’n cyfateb yn yr Unol Daleithiau i’r economi gymysg mewn bancio, a hyd yn hyn ychydig iawn o frwdfrydedd y mae banciau yn y DU wedi’i ddangos tuag at y model hwn o ganghennau niwtral a rennir a gafodd ei hyrwyddo ers amser maith gan yr Ymgyrch dros Wasanaethau Bancio Cymunedol.

Ail opsiwn fuasai i’r banc datblygu helpu i ddarparu cyfalaf ar gyfer rhwydwaith o fanciau cynilo lleol ar y cyd ag awdurdodau lleol, yn debyg i fodel sparkassen yn yr Almaen, er enghraifft, neu’r banciau cantonol yn y Swistir. Gallai’r banc datblygu cenedlaethol ddarparu gwasanaethau a rennir o ran y swyddfa gefn i’r rhwydwaith hwn o fanciau cynilo lleol. Dyma’r model a hyrwyddir gan y Community Savings Bank Association, sydd eisoes yn cael ei dreialu yn Hampshire gyda chymorth y sefydliad sparkassen rhyngwladol.

Trydydd opsiwn yw partneru gydag un o’r ychydig sefydliadau ariannol llwyddiannus sydd gennym yng Nghymru sy’n dal mewn perchnogaeth leol, y Principality. Roedd yn dda iawn eu gweld yn cyhoeddi canlyniadau ariannol ardderchog heddiw. Yr opsiwn yno yw eu helpu i ddatblygu hyd yn oed ymhellach i fod yn fanc clirio dan berchnogaeth gydfuddiannol.

Rydym yn gwbl agored ynglŷn â’r modd, ond mae’r nod o sicrhau banc i bobl Cymru yn un a ddylai ein huno i gyd yn y Siambr hon. Nawr fod mwy a mwy o’r banciau presennol yn troi eu cefnau ar ein pobl, mae’n bryd creu banc ar gyfer y bobl yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Fe ildiaf.

Clywais yr hyn a ddywedoch, ond a allwch gadarnhau eich bod yn dymuno i’r Principality, beth bynnag sy’n digwydd, aros dan berchnogaeth gydfuddiannol, nid troi’n debyg i’r math o fanc a ddigwyddodd o’r blaen, gyda’r rhan fwyaf ohonynt—pob un ohonynt, yn wir—wedi mynd i drafferthion ariannol?

O, yn hollol, ac mae Mike Hedges yn nodi pwynt pwysig iawn, wrth gwrs. Cawsom agweddau, oni chawsom, ar economi gymysg mewn bancio yn y degawdau a fu? Cyn y polisi trychinebus ar ddatgydfuddiannu, a gafodd wared ar ein cymdeithasau adeiladu llwyddiannus i raddau helaeth—mae rhai o’r rheini ar ôl, wrth gwrs, ac maent yn llwyddiannus iawn yn wir, ac mae rhai ohonynt hefyd yn agor canghennau, ac nid o reidrwydd ar lonydd deiliog Llundain yn unig, o bosibl—cawsom hefyd y banciau cynilo, oni chawsom? Roeddent yn rhwydwaith ac yn unedig o dan faner y Trustee Savings Bank, ac eto cafodd hwnnw ei breifateiddio’n drychinebus ac yn anffodus mae’r olaf bellach wedi cau.

Gallai Cymru, fel Catalonia, adeiladu sefydliad ariannol pwerus at ddibenion y cyhoedd fel La Caixa, sydd wedi tyfu o’i wreiddiau fel banc cynilo a anelwyd at y dosbarth gweithiol yn Barcelona i’r hyn ydyw heddiw, un o’r banciau mwyaf llwyddiannus yng Nghatalonia, sy’n darparu €500 miliwn y flwyddyn i’w elusen gysylltiedig, gan ei gwneud yn drydedd elusen fwyaf y byd i gyd. Dyna beth y gallai rhoi arian y bobl ym manc y bobl ei gyflawni dros Gymru pe bai gennym ddewrder a dychymyg o’r fath.

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a’r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy’n gynhwysfawr ac yn gweithio’n dda.

Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.

Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi’r gwaith sy’n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a’i uned wybodaeth a fydd yn targedu’n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynigiwyd yn ffurfiol.

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Mark Isherwood.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ym mhwynt 3 b), dileu ‘Banc Pobl Cymru tebyg i’r banciau cynilo lleol’ a rhoi yn ei le:

y model bancio cymuned a ddatblygwyd yng Nghymru gan Responsible Finance’

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn croesawu’r adolygiad annibynnol, ‘Access to Banking Protocol One Year on Review’ gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau’r DU.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch, Lywydd. Mae cael cangen leol hygyrch yn bwysig i bobl hŷn, pobl heb drafnidiaeth neu fynediad at y rhyngrwyd, siopwyr, busnesau bach ac eraill. Yn wahanol i’r ffyliaid a gafodd eu caniatáu i ddryllio ein system fancio, rwy’n fanciwr cymwysedig, a arferai weithio yn y sector cymdeithasau adeiladu, cydfuddiannol, ac sydd wedi ymgyrchu yn erbyn cau canghennau yn y ddau sector.

Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2013 ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau canghennau yn Llangollen, Conwy a Biwmares, tynnais sylw at bryderon a fynegwyd gan etholwyr ynglŷn â’r effaith y byddai hyn yn ei chael arnynt, ar fusnesau yn eu trefi, ar eu cymunedau, ac ar y miloedd o dwristiaid sy’n ymweld â’u hardal.

Mae’r gangen a serennai mewn hysbyseb deledu NatWest yn addo cadw pob cangen ar agor os mai honno oedd yr olaf yn y gymuned bellach wedi cau. Flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd Barclays gynlluniau i gau eu cangen ym Mwcle, Sir y Fflint, gan symud cyfrifon i’r Wyddgrug, taith gron o chwe milltir. Hwn oedd y trydydd banc mewn chwe mis i gyhoeddi ei fod yn cau yn y dref. Yn dilyn cyhoeddiad HSBC eu bod yn cau cangen yn y Waun a Rhiwabon, nododd cwsmeriaid fod yna giwiau’n aml yn y ddwy gangen a gofyn, ‘Onid yw HSBC yn ystyried effaith ganlyniadol cau ar yr ardaloedd a’r busnesau cyfagos yn ogystal â’r ddwy dref eu hunain?’

Ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau eu canghennau yn Ewloe a Chaergwrle y llynedd, ysgrifennais atynt a chyfarfod â hwy eto, ac er bod HSBC unwaith eto’n beio cynnydd mewn bancio dros y ffôn a bancio ar y we, pwysleisiais fod pryderon wedi’u lleisio unwaith eto gan etholwyr ynghylch yr effaith y byddai hyn yn ei chael arnynt hwy a’u cymunedau.

Pwysleisiais hefyd, do, y protocol mynediad at fancio a ddaeth i rym ym mis Mai 2015 i helpu i leihau effaith cau canghennau banc ar gwsmeriaid a chymunedau lleol, yn galw am asesiad cyn cau o effaith unrhyw fwriadau i gau ar y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, amlinelliad o ymgynghoriad a gofynion ymgysylltu â’r gymuned, a sicrhau darpariaeth barhaus o ffyrdd eraill o fancio.

Yn eu hymateb, roeddent yn dweud eu bod wedi glynu at y protocol, yn trafod atebion eraill gyda chwsmeriaid, a bod penderfyniadau i gau wedi dilyn astudiaeth lawn o weithgarwch cwsmeriaid ym mhob cangen, defnydd cynyddol cwsmeriaid o fancio digidol, ac agosrwydd y swyddfa bost agosaf lle y gall eu cwsmeriaid gael mynediad at eu gwasanaethau.

Cefais ymateb tebyg gan NatWest ar ôl iddynt gyhoeddi eu bod yn cau cangen Treffynnon, ymateb a oedd hefyd yn nodi y byddent yn cyflwyno cangen symudol bob dydd Mercher. Yn gynharach y mis hwn, soniais wrth y Prif Weinidog yma am gynlluniau pellach HSBC i gau canghennau yn Nhreffynnon, Caergybi a Llanrwst, a bwriadau Cymdeithas Adeiladu Yorkshire i gau canghennau yn Abergele, Prestatyn a Llangefni. Mae’r ffaith fod hyn hefyd yn effeithio ar gymdeithasau adeiladu cydfuddiannol, fodd bynnag, yn pwysleisio bod hyn yn ymwneud ag ystyriaethau ehangach nag elw preifat.

Mae ein gwelliant 2 yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y model bancio cymunedol dielw a ddatblygwyd yng Nghymru gan Responsible Finance, gan weithio gydag undebau credyd lle na all undebau credyd wneud hynny, gan godi cyfalaf o fentrau cymdeithasol eraill, busnesau, awdurdodau lleol a chynghorau tref, a darparu cyllid a chymorth i bobl, busnesau, a mentrau cymdeithasol nad ydynt yn gallu cael cyllid gan fanciau’r stryd fawr.

Maent yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru, i ddatblygu model banc cyhoeddus, ond ar hyn o bryd nid ydynt yn derbyn unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Maent yn pryderu y gallai banc datblygu Llywodraeth Cymru gystadlu â hwy yn y pen draw ar gost uwch pan fo achos busnes cryf dros weld Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo gyda chronfeydd cyfyngedig iawn. Maent yn nodi y byddai £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yn galluogi gwerth £3 miliwn o fenthyciadau, ac y gallent ddarparu swyddi am £4,000 a fyddai’n costio £35,000 yr un i fodel Llywodraeth Cymru. Felly, gadewch i ni beidio ag ailddyfeisio’r olwyn: gadewch i ni ddewis y model sydd eisoes yn datblygu yn y trydydd sector yng Nghymru.

Mae ein gwelliant 3 yn croesawu’r ‘Access to Banking Protocol—One Year on Review’ annibynnol gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016. Mae ei argymhellion yn cynnwys gwneud asesiadau o effaith cau cangen yn fwy penodol a phersonol i’r ardal ac ymgysylltiad cynnar y banc â chwsmeriaid.

Mae ein gwelliant 4 yn croesawu cytundeb partneriaeth newydd Swyddfa’r Post gyda banciau’r DU sy’n dod â threfniadau presennol Swyddfa’r Post gyda banciau unigol at ei gilydd ar ffurf un set o wasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid bron bob banc yn y DU. Bydd y gwasanaeth hwn sydd wedi’i symleiddio yn caniatáu i gwsmeriaid personol a busnes dynnu arian allan, adneuo arian parod a sieciau, a gwneud ymholiadau balans mewn canghennau o Swyddfa’r Post, ond yn allweddol hefyd bydd yn helpu presenoldeb swyddfeydd post ar y stryd fawr—neu helpu i ddiogelu presenoldeb swyddfeydd post ar y stryd fawr, rhywbeth y mae pobl yma wedi galw amdano’n fynych. Felly, rwy’n eich annog i gefnogi ein gwelliannau, er y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi unrhyw gynnig terfynol y penderfynwn arno er mwyn cyfleu neges gref a chyson.

Mi ddechreuaf i drwy gyfeirio at yr hyn yr oedd Adam yn sôn amdano fe yn ei araith agoriadol, ynglŷn â’r ffaith fod y banciau mwyaf yn dueddol o gau banciau mewn niferoedd anghymesur yn yr ardaloedd tlotaf sydd gennym ni—yr ardaloedd â’r incwm isaf—tra, wrth gwrs, yn agor canghennau yn rhai o’r ardaloedd cyfoethocaf. Mae ymchwil gan Reuters yn dangos bod mwy na 90 y cant o’r banciau a wnaeth gau rhwng Ebrill 2015 ac Ebrill 2016 wedi cau mewn ardaloedd oedd â’r incwm aelwyd ‘median’ o dan gyfartaledd y Deyrnas Unedig, tra, ar yr un pryd, yn yr un cyfnod, roedd pump o’r wyth cangen a agorodd wedi agor yn Llundain, wrth gwrs, yn Chelsea, Canary Wharf, St Paul’s, ac yn y blaen, yn yr ardaloedd cyfoethocaf. Yn wir, mae’r banciau mawr deirgwaith yn fwy tebygol o gau banciau yng Nghymru nag yn ne-ddwyrain Lloegr, os ŷch chi’n edrych ar faint y boblogaeth. Felly, mae’n hwyr bryd inni fod yn edrych ar drefniadau amgen a dulliau i ymateb yn bositif i’r sefyllfa yma. Mae rhywun yn cael yr argraff fod yna rhyw fath o ‘stampede’ ar hyn o bryd ymhlith y banciau i beidio â bod y banc olaf i gau mewn tref yn rhywle, oherwydd eu bod yn gwybod gymaint anoddach fydd hi i wneud hynny yn y pen draw.

Rŷm ni i gyd, wrth gwrs, wedi clywed y banciau yn dweud—mi glywais i am sefyllfa yng Nghorwen gwpwl o flynyddoedd yn ôl—’O, peidiwch â phoeni, fe gewch chi fynd â’ch gwasanaethau i Langollen, ychydig filltiroedd i lawr yr heol.’ Y flwyddyn wedyn, roedd Llangollen wedi’i gau—wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn fwy nag ymwybodol; mae yn ei etholaeth e. Mae Llangollen yn cau, mae sôn am Riwabon a’r Waun, wrth gwrs—erbyn hyn, Wrecsam. Mae’r un peth wedi digwydd ym Metws-y-Coed: cau Betws-y-Coed—’Ewch i Lanrwst’. Mae Llanrwst nawr yn cau, felly mae’n rhaid ichi fynd i Landudno. Mae’r gwasanaethau yn mynd yn bellach ac yn bellach i ffwrdd, ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn dderbyniol. Mae’n debyg, ar ôl i HSBC Llanrwst gau—ac nid ydym ni wedi rhoi lan eto, ond pan fydd e’n cau, os yw’r banc yn cael ei ffordd—bydd yna dros 2,000 o filltiroedd sgwâr o fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru heb gangen neu fanc. Y diffeithwch yma roedd Adam Price yn sôn amdano fe o safbwynt gwasanaethau bancio: taith o 50 milltir, yn ei chyfanrwydd, i gael mynediad at wasanaethau banc.

Ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, mai pobl hŷn sydd fwyaf dibynnol, yn aml iawn, ar ganghennau. A’r rheini yw’r rhai sydd hefyd yn fwyaf dibynnol, yn amlach na pheidio, ar drafnidiaeth gyhoeddus, sydd yn ei hunan yn creu pob math o drafferthion, a’r rhai, wrth gwrs, sydd lleiaf tebygol o fod yn defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn. Ac rŷm ni’n gwybod am ansawdd y gwasanaethau hynny mewn rhai ardaloedd yng Nghymru—ymhlith y gwaethaf ym Mhrydain. Ac rydw i yn teimlo y dylai fod ein bod ni’n gofyn i rai o’r banciau yma, ‘Os ydych chi o ddifrif ynglŷn â mynnu bod pobl nawr yn cael mynediad i’ch gwasanaethau chi ar-lein neu ar ffonau symudol, oni ddylech chi fod yn creu cronfa a chyfrannu i sicrhau bod yr isadeiledd yna yn ei le er mwyn i’ch cwsmeriaid gael mynediad i’ch gwasanaethau chi?’ Mae Cyngor Tref Llanrwst, er enghraifft, wedi galw ar HSBC i ohirio cau’r gangen tan fod pob un o’u cwsmeriaid yn yr ardal honno yn gallu cael mynediad o’u cartrefi i’r we ac i signal ffôn symudol.

Nawr, wrth gwrs, rŷm ni wedi clywed hefyd am yr effaith ar fusnesau bach, ac mae’n effaith sylweddol. Mi gaewyd cangen HSBC yng Ngherrigydrudion—dim banc ar ôl. Rydw i’n gwybod nawr am o leiaf un busnes sy’n gorfod cau am hanner diwrnod er mwyn mynd i’r banc, i fancio’r pres a dod yn ôl, ac yn y blaen, ac mae hynny yn ofid. Nid yw gwasanaethau i fusnesau, wrth gwrs, yn aml ar gael nawr mewn nifer o’r canghennau yma. Os ŷch chi eisiau siarad ag ymgynghorwr busnes yn y gogledd, mae’n rhaid ichi fynd i Landudno neu i Fangor, ac mae’r banciau’n cwyno bod y ‘footfall’ yn disgyn yn y canghennau—wel nid oes rhyfedd pan fydden nhw eu hunain yn canoli rhai o’r gwasanaethau yma.

Ac mae’r canghennau yma, mae’n rhaid inni beidio ag anghofio, yn dal i greu elw. Nid ydyn nhw’n rhedeg ar golled—jest, mae’n amlwg, nad ydyn nhw’n creu digon o elw i nifer o’r banciau yma. Mi glywom ni, wrth gwrs, am effaith cau canghennau ar fenthyg i fanciau hefyd. Ac mae banciau yn fwy na sefydliadau ariannol hefyd, wrth gwrs. Maen nhw’n rhan o isadeiledd cymuned, maen nhw’n gonglfeini ar ein stryd fawr ac maen nhw’n adeiladau eiconig ar y stryd fawr yn aml iawn: adeiladau hanesyddol, hynafol, a phan fo’r rheini’n cael eu gadael yn wag, wel, mae’r stryd fawr yn edrych yn fwy di-raen, ac yn aml iawn maen nhw yn fwy amlwg hefyd fel adeiladau pan fydden nhw’n mynd a’u pen iddyn nhw. Yn rhywle fel Rhuthun, lle mae NatWest wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau, mae NatWest, wrth gwrs, yn adeilad yr hen lys ar sgwâr y dref, yr adeilad mwyaf eiconig yn y dref—adeilad a godwyd yn y bymthegfed ganrif yn y blynyddoedd ar ôl i Owain Glyndŵr losgi’r dref i lawr. Rŷch chi’n dal i weld olion y grocbren a ddefnyddiwyd ddiwethaf yn 1679 yno. Ac felly pa fath o staen fydd hynny ar y stryd fawr yn rhywle fel Rhuthun os ydy’r adeilad yna yn mynd i gyflwr efallai lle mae’n wag ac nad yw’n cael ei ddefnyddio?

Mae yna alwadau wedi bod, wrth gwrs, i greu dyletswydd i drosglwyddo rhai o’r adeiladau pwysig yma i ddefnydd cyhoeddus, efallai am rent isel ac yn y blaen. Mae yna lawer iawn mwy rydw i’n teimlo y gallwn ni fod yn ei wneud. Yr hyn sy’n bwysig yw ei bod i fyny i ni i greu dyfodol amgen pan fo’n dod i fancio. Mi fyddai banc cyhoeddus i Gymru yn sicr yn rhan o’r ateb ond rydw i’n meddwl bod yna lawer mwy y gallwn ni ei wneud i roi pwysau ar y banciau hefyd i fod yn cyfrannu mewn ffyrdd eraill i sicrhau nad yw’r ffaith eu bod nhw’n gadael rhai o’r cymunedau yma yn gadael problemau ar eu hôl.

Yn fras, mae UKIP yn cefnogi’r cynnig ac yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Er ein bod yn cydnabod y gwaith rhagorol a wnaed gan yr undebau credyd a dymuniad Plaid Cymru i weld y cylch gwaith yn ehangu, nid ydym yn rhy siŵr ynglŷn â’r dyhead i gael banc pobl Cymru, sy’n swnio’n llawer rhy debyg i sefydliad yng Ngogledd Korea. Ond rydym yn cydnabod y byddai’n ddymunol cael dewis yn lle monopoli’r banciau masnachol, yn enwedig, fel y dywedwyd o’r blaen, gan eu bod yn diflannu ar raddfa frawychus o’r stryd fawr. Y gobaith yw y bydd undebau credyd yn chwarae rôl gynyddol yn llenwi’r bwlch mewn benthyciadau i’r cyhoedd yn gyffredinol ac yn cymryd lle benthyciadau diwrnod cyflog, sy’n ysbeilio’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Rydym hefyd yn cydnabod y bwlch ariannol sy’n bodoli rhwng y cyfleusterau credyd a gynigir gan fanciau masnachol a’r rhai y mae busnesau eu hangen, yn enwedig yn sector risg uwch busnesau sy’n cychwyn, microfusnesau, a busnesau bach a chanolig. Rydym yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru yn sefydlu sefydliadau megis Cyllid Cymru er mwyn ceisio pontio’r bwlch hwn, ond yn teimlo bod yn rhaid i Gymru symud ymlaen bellach at fodel bancio sy’n haws i’w adnabod. Mae’n wir fod banc datblygu Cymru yn gam i’r cyfeiriad hwn, ond mae ei enw’n awgrymu sefydliad sy’n ymwneud â phrosiectau economaidd ar raddfa fawr yn hytrach nag un sy’n bodoli er mwyn rhoi benthyg i unigolion a’r sector busnes fel y nodwyd yn gynharach. Mewn geiriau eraill, dylai cylch gwaith y banc fod yn eglur yn ei enw ac felly, efallai nad oedd banc pobl Cymru yn awgrym mor ddrwg wedi’r cyfan. [Chwerthin.] Mae hefyd yn hanfodol nad yw’r gwasanaethau—[Torri ar draws.] Mae hefyd yn hanfodol nad yw’r gwasanaethau y mae’r banc yn eu cynnig yn dameidiog. Mae angen iddo fod yn siop un stop a fydd yn darparu ar gyfer pob rhan o’r sector busnes, er ar wahanol lefelau o ymgysylltu. Mae cadw holl weithrediadau a bandiau benthyca o dan yr un to yn osgoi dryswch ynglŷn â’r benthyciwr perthnasol i’r rhai sy’n chwilio am gyllid. Rhaid i’r cais am gyllid fod mor syml a didrafferth â phosibl. Mae’r model presennol o asiantaethau lluosog yn ddryslyd i ddarpar ymgeiswyr ac mae hyn yn aml yn eu hatal rhag ymgysylltu.

Mae’n wir fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn nifer o fentrau nad oedd yn perfformio fel y rhagwelwyd. Ond fel rhywun a dreuliodd 40 mlynedd yn y sector busnes preifat, gwn fod risg ym mhob menter fusnes. Buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â chael ei digalonni gan yr anawsterau anochel hyn, yn enwedig gan eu bod yn aml yn benthyca i’r sector risg uchel. Cyllid parod yw’r cynhwysyn mwyaf hanfodol yn ein hymdrechion i ehangu economi Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad gyda’r ddarpariaeth hon. Byddwn yn cefnogi’r cynnig. Diolch.

Mae wedi dod yn amlwg bod yna batrwm yn datblygu, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio ato yn barod—y patrwm yma o ganoli mewn nifer o ‘hubs’ ardal, ac mae beth sy’n digwydd ar Ynys Môn yn esiampl wych o hyn. Ar Ynys Môn, ac eithrio Ynys Gybi am eiliad, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, dim ond yn Llangefni fydd yna unrhyw fanc llawn-amser ar agor o gwbl. Mae Barclays rhan-amser yn Amlwch, ond mae Caergybi, fel prif ardal boblog Ynys Môn, hefyd wedi clywed yn ddiweddar ei bod hi’n colli ei HSBC. Felly, mae yna batrwm yn datblygu yma. Y cyhoeddiadau rydym ni wedi eu cael yn ddiweddar ydy: cau NatWest yn Amlwch, yng Nghaergybi, ym Miwmares ac ym Mhorthaethwy; a HSBC yn mynd yng Nghaergybi, yn Amlwch, ym Mhorthaethwy a Biwmares yn ddiweddar. Nid dim ond y banciau chwaith, ond sefydliadau ariannol yn ehangach—Yorkshire Building Society yn Llangefni i gau hefyd.

Ac os gwnaf roi sylw i Fiwmares am eiliad, yn yr un ffordd ag y clywsom ni hanes gan Llyr Gruffydd am wasanaethau yn cael eu sugno i ffwrdd, pan gafwyd y cyhoeddiadau gan NatWest a HSBC am gau Biwmares: ‘Peidiwch â phoeni—dim ond 4 milltir i ffwrdd ydy Porthaethwy.’ Wrth gwrs, mae Porthaethwy hefyd wedi clywed bod y banciau hynny yn cau erbyn hyn.

Y rheswm rydym yn ei glywed yw bod mwy o fancio yn digwydd ar-lein; wrth gwrs, mae hynny yn ffeithiol gywir. Mae yna lawer o wasanaethau ar gael yn y post, rydym yn ei glywed; wrth gwrs bod hynny yn wir hefyd. Ond gyda phob parch i swyddfeydd post, sydd yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau o ran gallu talu arian i mewn a thynnu arian allan, nid yw’r cyngor, y gwasanaethau ychwanegol a’r gefnogaeth y gellid ei chael drwy ganghennau ddim ar gael. Dyna’r math o gefnogaeth mae’r pobl mwyaf bregus ei hangen. Nid wyf yn disgwyl gweld dychwelyd i’r dyddiau lle mae gan bob tref fach gangen o bob banc, ond rhywsut mae angen sicrhau bod gwasanaeth ariannol sylfaenol ar gael i bawb o fewn pellter synhwyrol a chymedrol.

O ran yr ymgynghori sy’n digwydd, mae gen i lythyr gan NatWest yn fan hyn ynglŷn â chau cangen Porthaethwy yn dweud bod yna bump ATM—peiriant twll yn y wal—ar gael o fewn milltir i’r gangen, felly beth ydy’r ots am golli y peiriant ATM hwnnw? Wel, beth wnes i bwyntio allan i NatWest oedd bod pedwar o’r rheini ar y tir mawr—un ohonyn nhw yn Ysbyty Gwynedd ac un ohonyn nhw yng Ngholeg Menai; hynny ydy, camarwain pobl drwy roi yr argraff bod yna wasanaethau amgen ar gael. Nid oes yna ddim; un sydd yna ar gael ym Mhorthaethwy, fel mae’n digwydd, ac nid yw hwnnw, chwaith, yng nghanol y dref.

There are, I think, a number of solutions or perhaps responses that we can look at. I believe that we should be seeking to put the onus on the banking and finance sector to provide a minimum level of access. As I said, that’s not a matter of saying, ‘Let’s have every branch open in every town’ as was the case years ago, but making it a duty for the sector to ensure that there is at least a suitable level of access. Plaid Cymru in the UK Parliament have requested that Government introduces a ‘last bank in town’ status as part of the British Bankers’ Association legislation. [Interruption.] I’ll come to you in a second. And here, of course, I sound that warning that we can’t have a race by the banks to make sure that they’re not the last bank in town.

Diolch am ildio. Gallwch ddweud nad wyf wedi cael fy enw i lawr ar gyfer y ddadl hon, felly mae’n rhaid i mi ei wneud yn y ffordd hon. Cytunaf yn llwyr â’ch pwynt olaf nad yw hyn yn golygu dychwelyd at yr hen fodel o gael cangen leol ym mhob man, ond a ydych yn cytuno—rwy’n tybio eich bod yn cytuno—fod angen i’r banc newydd, ar ba ffurf bynnag y bydd, fod â phresenoldeb lleol cryf, boed hynny ar ffurf rithwir, y rhyngrwyd neu ba ffurf bynnag? Mae’n bwysig fod pobl yn gwybod ble y mae, ac nad yw’n mewn rhyw goridor—roeddwn yn mynd i ddweud ‘myglyd’, ond dyna’r ymadrodd anghywir bellach, onid e—rhyw goridor tywyll yn rhywle.

Mae’r mynediad hwnnw’n hollbwysig, ac rydym eisoes wedi clywed awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid rhannu cyfleusterau, efallai gan gynnwys y sector ariannol sefydledig cyfredol, yn ogystal â’r posibilrwydd cyffrous o fanc pobl Cymru a allai gynnig ffordd gyffrous ymlaen i ni, gan ymateb i sefyllfa angenrheidiol. Mae argyfwng yn ein hwynebu yn sgil gwaedlif ein sefydliadau ariannol. Nid breuddwyd gwrach mohoni. Pan edrychwn ar y Bank of North Dakota a gweld ei fod yn fanc hynod broffidiol, sy’n gallu pwmpio arian yn ôl i mewn i brosiectau seilwaith yng Ngogledd Dakota, lle y mae’r Llywodraeth yn adneuo ei gyllid yn y banc hwnnw er mwyn sicrhau bod llif parhaus o arian, mae’r rhain yn rhagolygon cyffrous y credaf na allwn fforddio eu hanwybyddu. Angen yw mam pob dyfais, yn ôl y sôn. Rydym yn gwybod beth sy’n angenrheidiol; mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn atal gwaedlif y sefydliadau ariannol. Ni allwn barhau i beidio â herio’r gwaedlif hwn.

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Hoffwn wneud cyfraniad byr yn unig, gan fod llawer o bwyntiau eisoes wedi cael eu gwneud am y sector bancio a’r angen i wasanaethu ei gwsmeriaid yn well. Mae tri banc sydd dan fygythiad o gau ar hyn o bryd yn fy etholaeth, dau ohonynt mewn un dref yn Abergele, sydd hefyd wedi gweld banc NatWest yn cau flwyddyn neu ddwy yn ôl. Yn awr mae HSBC wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cau cangen, a Chymdeithas Adeiladu’r Yorkshire. Felly, mae’n amlwg nad ag elw’n unig y mae’n ymwneud os yw cymdeithas adeiladu’n bwriadu cau. Ond ar ran fy etholwyr, yn amlwg, rwyf wedi cyfarfod â’r sefydliadau dan sylw ac wedi mynegi fy ngwrthwynebiad cryf iawn i’w cynlluniau.

Yr hyn sy’n fy mhoeni’n wirioneddol yw nad oedd yn ymddangos bod y sefydliadau bancio penodol hyn wedi gadael i’w staff wybod cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud ar y cyfryngau ac yn y parth cyhoeddus, a chredaf fod honno’n anghymwynas fawr â’r aelodau gweithgar o staff yn y canghennau hyn. O ran HSBC, maent yn mynd i adael adeilad gwag enfawr ar y stryd fawr mewn man amlwg iawn, hen adeilad Cyngor Dosbarth Trefol Abergele mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnynt i sicrhau eu bod yn edrych ar ddefnydd amgen posibl i’r adeilad hwnnw ac yn gweithio gyda’r gymuned, os ydynt yn mynd i gau’r gangen, er mwyn sicrhau bod defnydd da yn cael ei wneud o’r adeilad a defnydd cymunedol mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn parhau’n ased dinesig, fel petai.

Yn ogystal, mae Cymdeithas Adeiladu Yorkshire wedi dweud wrthyf fod nifer y rhai sy’n dod i’w cangen wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Tri morgais yn unig a wnaethant dros y 12 mis diwethaf, felly rwy’n meddwl hefyd fod dyletswydd ar gwsmeriaid y banciau i wneud defnydd o’r adnoddau hyn pan fyddant ar gael ar y stryd fawr, oherwydd, a dweud y gwir, gallaf ddeall pwynt y gangen honno pan fo’n dweud nad yw’n ymarferol iddi allu cael presenoldeb yn y dref yn y modd a gafwyd yn draddodiadol. Nawr, er tegwch i Gymdeithas Adeiladu Yorkshire, maent yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu math o wasanaeth cownter drwy asiantaeth gyda chyfreithwyr lleol neu mewn man priodol arall yn y dref, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y dylem annog mwy ohono, hyd yn oed mewn mannau lle nad oes cangen ar hyn o bryd, gan fanc a allai ddatblygu presenoldeb mewn tref neu leoliad.

Soniodd Llyr Huws Gruffydd am y banc NatWest yn Rhuthun, sydd mewn adeilad amlwg iawn a hanesyddol iawn yn y dref—un o’r adeiladau ffrâm bren gorau yn y wlad, ddywedwn i. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ato yn gofyn a fyddai Cadw, neu rywun arall efallai, yn gallu camu i mewn er mwyn diogelu dyfodol yr adeilad hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig fod—. Mae ganddo hanes hir o wasanaeth cyhoeddus fel adeilad, boed fel banc, fel llys gyda’r grocbren y tu allan, neu mewn ffyrdd eraill, a chredaf fod gadael rhai o’r lleoedd hyn heb roi llawer o rybudd yn anghyfrifol iawn ar ran y banciau sy’n gwneud hynny. Nawr, er tegwch i NatWest, maent yn ceisio, eto, cynnal rhyw fath o bresenoldeb yn y gymuned drwy gynnig gwasanaethau symudol eraill, ond a dweud y gwir, nid yw’r un fath, ac maent yn sicr yn gwneud cam â’u cwsmeriaid.

Felly, rwy’n meddwl, Ysgrifennydd y Cabinet, nad cydymdeimlad yw’r hyn rwy’n edrych amdano mewn gwirionedd pan fyddwch yn ymateb i’r ddadl hon. Nid dweud yn unig ychwaith eich bod wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, ond gweld beth y gallwn ei wneud yn greadigol yng Nghymru i ehangu presenoldeb gwasanaethau bancio ar draws y wlad er mwyn i bobl eu cael mewn modd hygyrch. Rydym wedi clywed llawer am y ffordd y mae swyddfeydd post yn clirio llawer o’r llanast, os hoffwch chi, sy’n cael ei adael ar ôl gan y banciau pan fyddant yn gadael rhai o’n cymunedau, ac mae hynny’n wych—mae’n fusnes da, yn ddiau, o ran busnes trafodiadol i’r swyddfeydd post hynny. Ond maent yn greaduriaid gwahanol, y swyddfeydd post. Mae rhai pobl yn awyddus i rannu pethau’n breifat mewn banc mewn ffordd na allant ei wneud o reidrwydd ar safle Swyddfa’r Post wrth gownter sy’n llawn o bobl yn aros i gasglu eu pensiynau neu beth bynnag arall y gallent fod yn ei wneud yn Swyddfa’r Post.

Felly, rwy’n meddwl bod rhyw agwedd yma lle y gallai banc cenedlaethol y bobl fod yn ffordd dda ymlaen. Os gall hwnnw ddarparu peth elw yn ôl i’r trethdalwr yma yng Nghymru, yna rwy’n credu bod hynny’n fantais enfawr arall a allai ddeillio ohono o bosibl. Pan fyddwn yn sôn am y math o fuddsoddiad a allai fod ar y ffordd o ran prosiectau buddsoddi cyfalaf o ganlyniad i beth o’r difidend o ddatganiad yr hydref diwethaf, yna rwy’n credu bod slab o arian yno a allai fod yn ddefnyddiol i weithredu fel cyfalaf i fanc roi benthyg er mwyn gwneud elw i’r trethdalwr. Tybed a allech roi ychydig o sylwadau ynglŷn â sut y gallai hynny ddatblygu, a allai fod yn bartneriaeth gyda banciau eraill neu a allai fod yn rhywbeth ar ei ben ei hun i’r Llywodraeth ei hun ei ddatblygu. Diolch.

Rwy’n meddwl, o ystyried y sefyllfa rydym ni ynddi, bod hon yn ddadl gymedrol iawn, a dweud y gwir. Mae’r banciau, ar hyn o bryd, yn amddifadu nifer o gymunedau a nifer o unigolion o wasanaethau tra phwysig. Erbyn hyn, nid yw e’n bosib bod yn ddinesydd llawn oni fod gennych chi fynediad llawn at wasanaethau bancio. Dyna yw’r byd modern, ac rydych chi bron yn gwybod os nad oes gennych chi fynediad at system fancio eich bod chi’n mynd i fod ar eich colled yn ddirfawr yn yr economi bresennol.

O gofio’r biliynau a’r biliynau—rhywbeth fel mil o biliynau—o bunnoedd sydd wedi cael eu buddsoddi yn y banciau ers y ddegawd ddiwethaf er mwyn eu hachub nhw o sefyllfa yr oedden nhw eu hunain wedi rhoi eu hunain ynddi, mae gweld nawr eu bod nhw’n troi eu cefn ar y cymunedau a wnaeth dalu i gynnal a chadw’r banciau yna’n hyfyw yn siomedig iawn a dweud y lleiaf. Felly, rydw i’n cefnogi, yn sicr, unrhyw ymgais statudol drwy system o wneud yn siŵr bod y gangen olaf yn cael ei chadw, neu unrhyw ymgais hefyd, fel yr ydym ni wedi ei weld gyda chwmnïau ffôn symudol, lle’r ydych chi’n gorfodi pobl i ddefnyddio cyfarpar pobl eraill—achos oni bai eich bod chi’n gwneud hynny, rydych chi’n gweld pawb yn eu tro yn tynnu allan o’r cymunedau gwledig yn benodol ac yn gadael diffeithwch ac anialwch ar eu hôl. Felly mae angen ochr statudol.

Ond mae yna rywbeth mwy positif yn y ddadl yma hefyd, pan rydym ni’n trafod y cysyniad o fanc pobl Cymru sydd wedi cael ei wyntyllu. Rwy’n meddwl, pan rydych chi’n ystyried yr arian sydd yn llifo drwy’r banciau yng Nghymru drwy awdurdodau lleol, drwy’r gwasanaeth iechyd a drwy Lywodraeth Cymru—arian sydd nawr yn cael ei gadw yn y prif fanciau—nid oes unrhyw beth yn stopio’r arian yna rhag cael ei gadw mewn banc ar wahân, banc pobl Cymru, er mwyn creu’r refeniw a chreu’r cyfalaf a fydd ar gael wedyn ar gyfer buddsoddi a chynnal y math yna o rwydwaith.

Nawr, mae’n hynod siomedig, yn yr ardaloedd gwledig, nad oes, yn fy marn i, ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r ffaith nad oes band eang ar gael i bawb ac nad yw pawb, wrth gwrs, yn medru defnyddio mynediad digidol. Ond, yn fwy pwysig, ni ddylai fod yn bosib, yn sicr, i dynnu allan gwasanaethau corfforol—

Mike Hedges a gododd—

Mewn eiliad, yn wir.

[Yn parhau.]—megis canghennau, heb fod sicrwydd bod band eang ar gael i bawb yn yr ardal sy’n cael ei gwasanaethu gan y gangen. Fe wna i ildio i Mike Hedges.

Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A fuasech hefyd yn cytuno bod yna lawer o bobl, yn enwedig ymysg yr henoed, nad ydynt am wneud eu bancio ar-lein, pobl nad ydynt eisiau defnyddio cyfrifiadur ar gyfer gwneud eu bancio ac sy’n awyddus i ymweld â’u banc lleol?

Ydw, yn sicr. Prynais iPad i fy mam yn anrheg Nadolig. Nid wyf yn gwybod sut y mae’n dod yn ei blaen ag ef. Rwy’n credu mai etholwr Julie James yw hi, nid eich un chi, nawr, Mike, ond mae hi yn Abertawe yn ceisio gwneud defnydd o’r iPad. Fodd bynnag, roedd yn ddibynnol iawn ar y banc i’w helpu i fwrw ymlaen â rhai o’r pethau y gallwch eu gwneud yn ddigidol yn awr. Felly, mae yna ymrwymiad gwirioneddol yno, ymrwymiad cymunedol, ac mae angen iddo ddigwydd.

I agree entirely with that point. To highlight that point, it is true to say that people are using branches less and less, and the greatest growth isn’t online; it’s on mobile phones and the banking apps available, and that’s where the greatest growth is. There is a little bit of risk entailed here, because it does mean that easy credit is available without people, necessarily, discussing whether they have particular credit needs and can they really afford to take these loans. When you go into a bank—. I remember getting my first mortgage, and it was like going through some court of law, standing in front of the bank manager. Now, you can do it online and there are people offering you a mortgage decision in half an hour or an hour. I’m not quite sure that this is the kind of fiscal culture and the information about financial needs we want to see developing here in Wales.

There are some specific issues too. The closure of a main branch in a town, particularly a market town—and there’s a recent example in my region, in Porthmadog—has a psychological impact on the town. We’ve already heard about the buildings and how important buildings can be, but people feel that they are losing something that was an important part of their community. There may be an echo here of the time when banks were truly local banks. It was your Lloyds, TSB or Bank of the Black Sheep. People are now feeling that they are losing something, which is important to them. Small businesses particularly feel that impact. The chair of the Federation of Small Businesses, Janet Jones, said that small businesses want a relationship not with the branch but with the people in that branch and the people managing their accounts.

I orffen, Lywydd, mae’r banciau ychydig yn ddyledus i ni. Fe wnaethom eu hachub 10 mlynedd yn ôl. Fe wnaethom ganiatáu iddynt barhau—fe wnaethom ganiatáu iddynt barhau â’u ffordd braidd yn rheibus o fancio manwerthu a chyfanwerthu yn ogystal. Erbyn hyn rhaid iddynt dalu rhywfaint o sylw i anghenion democrataidd go iawn ein dinasyddion. Mae mynediad at wasanaethau bancio yn hawl sylfaenol absoliwt. Nid yw bellach yn fraint; mae’n hawl. Ni allwch fod yn ddinesydd llawn oni bai bod gennych fynediad at wasanaethau bancio. Mae’n rhaid i ni weithio gyda banciau, gweithio gyda swyddfeydd post a gweithio gyda modelau amgen, ond mae’n rhaid iddynt weithio gyda ni yn ogystal i sicrhau nad ydym yn amddifadu ein cymunedau.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw ac am y nifer o gyfraniadau gan Aelodau ar draws y Siambr. Rwy’n ymwybodol iawn o nifer o’r banciau sydd wedi cael eu crybwyll heddiw. Nododd Darren Millar a Llyr Huws Gruffydd ill dau y banc yn Rhuthun—banc y NatWest. Rwy’n cofio cael gwybod, heb fod yn rhy bell yn ôl, pan oedd banc NatWest yn fy etholaeth, ym Mrymbo, yn cau, y gallwn fod yn dawel fy meddwl fod yr Wyddgrug a Rhuthun yn ddiogel. Nawr, rydym yn gweld bygythiad i Ruthun. Byddaf yn rhybuddio fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Delyn, y dylai gyflwyno sylwadau yn uniongyrchol i NatWest i gael sicrwydd fod y gangen honno’n ddiogel.

Fel Llywodraeth Cymru, rydym hefyd yn bryderus iawn am yr effaith negyddol y gall cau banc ei chael ar fusnesau a dinasyddion lleol. Mewn llawer o gymunedau, banciau, ynghyd â siopau trin gwallt, swyddfeydd post, siopau cyfleus a thafarndai yn wir, yw’r glud yn ein cymunedau, ac mae’n arbennig o wir mewn ardaloedd difreintiedig a gwledig. Nododd Llyr Huws Gruffydd, drwy’r data, y ffaith mai’r cymunedau hynny sy’n cael eu niweidio waethaf gan benderfyniad banciau’r stryd fawr i gau canghennau. Gall cau gwasanaethau lleol effeithio’n sylweddol ac yn andwyol ar unigolion, ar fusnesau ac yn wir, ar gymunedau cyfan. Er bod rheoleiddio’r diwydiant bancio yn faes sydd heb ei ddatganoli, a bod penderfyniadau ar gau canghennau yn faterion cwbl fasnachol i’r banciau, rydym yn awyddus i ddefnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael inni i sicrhau bod busnesau ac unigolion ledled Cymru yn cael mynediad at gyfleusterau bancio o ansawdd uchel, gan gynnwys cyfleusterau adneuo a chasglu arian parod. Rydym yn awyddus i helpu i liniaru effaith colli unrhyw gyfleuster cangen a thwll yn y wal yng Nghymru lle y bo’n bosibl. Efallai fod fy etholaeth i yn enghraifft wych o ardal sydd wedi colli nifer fawr o ganghennau. Er fy mod yn cynrychioli’r fwyaf o’r holl etholaethau Llafur, un gangen yn unig sydd gennyf ar ôl yn etholaeth De Clwyd.

Darren Millar a gododd—

Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. A fuasech yn cytuno mai’r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw rhyw fath o rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol lle nad oes neb yn byw ymhellach na rhyw bellter penodol o’u cangen leol? Mae gennym ryw fath o drefniant tebyg gyda swyddfeydd post. Wyddoch chi, mae yna rwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol ar gyfer rhai cwmnïau cyfleustodau. Onid yw hwn yn un o’r gwasanaethau hanfodol hynny y dylai pawb allu cael mynediad ato?

Buaswn yn cytuno â’r Aelod y dylai pawb allu cael mynediad at fanc o fewn pellter penodol. Mae hyn yn rhywbeth y galwasom ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus iawn arno. Dof at adolygiad Griggs yn fuan, ond rwy’n meddwl bod yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud yn gywir. Mae arloesedd a thueddiadau ariannol yn y gymdeithas wedi arwain yn amlwg at gau llawer o ganghennau. Mae llawer o’r Aelodau heddiw wedi siarad am y camau enfawr sydd wedi digwydd o ran y dechnoleg ddigidol sy’n datblygu. Wrth gwrs, arweiniodd yr argyfwng ariannol yn ôl yn 2008 at nifer o ganghennau’n cau wrth i fanciau gyfuno ac uno.

Mae Cymdeithas Bancwyr Prydain yn amcangyfrif bod nifer y bobl sy’n mynd i ganghennau wedi gostwng oddeutu 30 y cant rhwng 2012 a 2015 o ganlyniad i newidiadau i dechnoleg ddigidol a chymwysiadau newydd, ac uno banciau—gostyngiad rhyfeddol mewn cyfnod mor fyr o amser. O ran talu arian i mewn a thynnu arian allan dros y cownter, rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio y gall 95 y cant o’r holl gwsmeriaid bancio gael mynediad at eu cyfrifon banc drwy Swyddfa’r Post. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd lle y mae banciau wedi cau. Er bod materion Swyddfa’r Post, wrth gwrs, heb eu datganoli, rydym yn awyddus i gefnogi swyddfeydd post ledled Cymru. Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd bod Swyddfa’r Post wedi llofnodi cytundeb i ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb, megis adneuo arian parod a sieciau ac adolygu balansau banc, i bron bob un o gwsmeriaid personol y banciau mawr a 75 y cant o’u cleientiaid busnes bach. Nawr, cyn y cyhoeddiad hwnnw, roedd amryw o fanciau yn cynnig mynediad mwy cyfyngedig drwy Swyddfa’r Post, gan gwmpasu 40 y cant yn unig o gwsmeriaid busnes. Mae’r cytundeb newydd yn cynnwys y banciau stryd fawr sefydledig a rhai o’r banciau heriol, megis TSB a Virgin Money. Er fy mod yn sylweddoli na all swyddfeydd post gymryd lle canghennau banc, mae croeso i’r datblygiad hwn, a byddaf yn parhau i annog banciau a Swyddfa’r Post i wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod ein cymunedau a busnesau yn elwa o’r fenter hon.

Gan droi at adolygiad Griggs, mae’n gwneud nifer o argymhellion i wella’r ffordd y mae banciau’n ymgysylltu â’r cymunedau sy’n mynd i weld canghennau’n cau. Mae’n cynnwys gweithio gyda chwsmeriaid busnes bach i weld sut y gallant liniaru ymhellach yr her o adneuo a chasglu arian parod i rai ohonynt yn sgil cau. Mae’r argymhellion hefyd yn cynnwys yr angen am ymgysylltu a chyfathrebu gwell rhwng y banciau a’u cwsmeriaid, a’r angen i gynnal ymgynghoriad ystyrlon a dilys os yw cangen yn wynebu bygythiad o gau. Mae hyn yn rhywbeth a drafodais gyda Barclays a HSBC dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan eu hannog i weithredu argymhellion yr Athro Griggs ac i weithio’n agos gyda Swyddfa’r Post i sicrhau bod ein cymunedau a busnesau’n elwa o’r mentrau hyn. Gwn fod y Prif Weinidog wedi trafod y materion hyn gyda phrif swyddog gweithredol RBS yn ddiweddar hefyd.

Mae hyrwyddo cynhwysiant ariannol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru yn ystod y pumed Cynulliad. Mae strategaeth cynhwysiant ariannol 2016 yn nodi sut rydym yn anelu i weithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru ac ar lefel y DU i wella mynediad at gredyd fforddiadwy a gwasanaethau ariannol. Cyhoeddwyd y cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol ym mis Rhagfyr, ac mae’n nodi’r camau gweithredu a’r mesurau sydd eu hangen i gynyddu cynhwysiant ariannol ar draws y wlad. Nid ar gyfer Llywodraeth Cymru yn unig y mae camau gweithredu a goblygiadau ariannol y cynllun. Mae’n cyd-fynd â’r camau gweithredu a geir mewn strategaethau cysylltiedig, gan gynnwys strategaeth genedlaethol Cymru ar gyfer gallu ariannol, strategaeth undebau credyd Cymru, a’r cynllun gweithredu gwybodaeth a chyngor, i adlewyrchu’r dull strategol sydd ar waith.

Felly, rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon heddiw. Mae’r Aelodau wedi siarad am bwysigrwydd undebau credyd, ac nid oes amheuaeth y gallant ac y dylent dyfu’n gryfach, drwy uno strategol o bosibl. O ran yr awgrym gan Blaid Cymru—banc y bobl—mae trafodaethau eisoes wedi digwydd gyda’r PPIW i asesu cysyniad o’r fath. Dylid gwneud y gwaith hwnnw gan roi sylw dyledus i sefydlu banc datblygu Cymru fel y soniodd yr Aelodau, yn ogystal â thechnolegau digidol newydd a rhai sy’n datblygu, potensial undebau credyd, a sefydliadau ariannol newydd, megis Chetwode, y cefais y pleser o gyhoeddi yr wythnos diwethaf ei fod yn symud i ogledd Cymru o Lundain. Fel y dywedais, rwy’n falch o allu ymateb i’r ddadl hon heddiw ac i sicrhau’r Aelodau—

Roeddwn yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad am adroddiad y PPIW. Pryd y mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gwblhau, ac a fydd yn cael ei gyhoeddi, ac a allwn gael datganiad i’r Cynulliad?

Rwy’n credu bod adroddiadau’r PPIW fel arfer yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i’w gweld gan Aelodau’r Cynulliad, ac yn sicr gan Weinidogion y Llywodraeth, a bydd y gwaith yn cael ei wneud, rwy’n credu, yn ystod yr hydref, wedi i wersi cynnar o weithrediad y banc datblygu allu cael eu hasesu. Rwy’n meddwl y bydd yn waith pwysig ac amserol, ond fel y dywedais, bydd angen iddo ystyried potensial undebau credyd, yn wir, y gwasanaethau ychwanegol sy’n cael eu cyflwyno gan Swyddfa’r Post, a sefydliadau ariannol newydd yn ogystal â banc datblygu Cymru. Ac rwy’n meddwl bod yr ymrwymiad hwnnw yn dangos hefyd ein bod yn archwilio ystod o opsiynau ac ymyriadau. Efallai fod y canghennau banc traddodiadol yn lleihau o ran eu nifer, ond yn sicr, nid yw’r angen am wasanaethau bancio hygyrch yn lleihau, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i gefnogi swyddfeydd post, undebau credyd, sefydliadau ariannol newydd, banc datblygu Cymru, ac unrhyw ymyrraeth newydd arall sydd ar gael i ni.

Wel, roeddwn i’n dechrau galaru bod cynigion yn y lle yma yn cael unrhyw effaith o gwbl, ond rwy’n falch o glywed o leiaf ein bod ni yn mynd i gael ymchwiliad i mewn i’r cwestiwn yma o fodelau amgen a chreu sefydliadau newydd, gan gynnwys y posibilrwydd o ffurf ar fanc cyhoeddus, neu banc y bobl—beth bynnag rŷm ni’n ei alw fe, yr un yw’r egwyddor. Ac mae’n siŵr gen i y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn edrych ymlaen yn arw at weld canlyniad yr ymchwiliad hynny.

Rwy’n croesawu yn fawr beth oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud, er gwaethaf y ffaith nad yw rheoleiddio banciau wedi’i ddatganoli. Felly, mae yna gyfyngiadau ar yr hyn rŷm ni’n gallu ei wneud yn y lle yma, ond nid yw hynny’n golygu na ddylem ni drial defnyddio pob lifer sydd yn ein dwylo ni, achos dyna yw ein priod waith ni, wrth gwrs. Fel yr oedd Darren Millar yn dweud, dylem ni feddwl yn greadigol. Mae’r dadansoddiad o’r broblem yn yr achos yma wedi’i rannu yn helaeth, rwy’n credu, o gwmpas y Siambr, ar sail y cyfraniadau rydym ni wedi eu clywed, ac ar sail, wrth gwrs, y profiadau rŷm ni i gyd wedi eu hwynebu fel Aelodau etholaethol. Ac felly, yr ymateb, wrth gwrs, ydy meddwl yn arloesol ac yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Felly, rwy’n croesawu yn fawr ‘commitment’ yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud beth oedd y cynnig yn ceisio gan Lywodraeth Cymru, sef ein bod ni’n gofyn cwestiwn: a allem ni saernïo model bancio i Gymru sy’n well na’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd?

Roedd Mark Isherwood, wrth gwrs—

Mae’n ddrwg gennyf, efallai eich bod ar fin ateb fy nghwestiwn, ond a ydych yn croesawu’r ffaith fod y pedwar banc cymunedol dielw yn Responsible Finance eisoes yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru ac eraill i ddatblygu’r union fath o fodel yr ydych yn ei gynnig?

Yn bendant, ac mae nifer o’r sefydliadau hynny yn rhan o’r grŵp newydd sydd yn edrych ar y banc cyhoeddus i Gymru. Rwy’n ymwybodol hefyd o waith Robert Owen Community Banking ac yn y blaen. Felly, ie, beth rŷm ni’n moyn, wrth gwrs, yw mwy o amrywiaeth yn y sector ariannol, ac adeiladu ar yr hyn sydd yno yn barod, gan gynnwys undebau credyd, lle mae ganddyn nhw rôl bwysig ac mae eisiau gweld sut yr ŷm ni’n gallu cryfhau hynny hefyd.

Roeddwn i’n croesawu sylwadau David Rowlands. Roedd e wedi newid ei farn ynglŷn â’r enw, ond fe wnawn ni roi o’r neilltu yr enw; nid dyna, wrth gwrs, fyrdwn y ddadl, ond y pwrpas. Ac mae e’n iawn, wrth gwrs—hynny yw, wrth feddwl am broblemau busnesau bychain, cyfalaf gweithio yn aml iawn ydy rhan o’r broblem, a beth sydd ei angen felly ydy banc, yntefe, sydd yn gallu cymryd blaendaliadau, sydd yn gallu symud yn gyflym, ac yn y blaen. Felly, dyna, rwy’n credu, y mae’r rhan fwyaf o fusnesau bychain yn gobeithio amdano gyda’r banc datblygu. Felly, mae yna gyfle nawr, gyda’r astudiaeth sydd wedi cael ei chyhoeddi, i edrych ar y cwestiwn ehangach yma.

Mae nifer o’m cyd-Aelodau fan hyn wedi sôn am wahanol ddimensiynau o’r creisis yr ŷm ni’n ei wynebu. Ac mae e yn greisis. Mae’r creisis yn mynd i waethygu, felly beth am inni fynd cam ar y blaen i’r creisis yma, a dechrau rhag-gynllunio y math o fodel amgen sydd yn amlwg, ar sail beth rŷm ni wedi clywed, gyda chefnogaeth eang ar draws y pleidiau—y syniad yma o nid ond banc datblygu mewn ystyr efallai mwy cyfyng, ond banc cyhoeddus i Gymru sydd yn gallu diwallu anghenion Cymru benbaladr, busnesau ac unigolion, sydd, fel mae pethau yn datblygu ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn cael eu hesgeuluso gan fanciau prif ffrwd y sector breifat?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cwestiwn Brys: Tata

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar David Rees i ofyn y cwestiwn brys. David Rees.

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi’u cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiogel? EAQ(5)0122(EI)

Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad y prynhawn yma gan yr undebau llafur dur fod eu haelodau wedi pleidleisio o blaid cynigion Tata Steel i ddiogelu dyfodol ei weithfeydd yn y DU. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam pwysig ymlaen i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y busnesau yn y DU.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, er bod angen i mi ymhelaethu ychydig ar fy nghwestiwn gwreiddiol. Ond rwy’n siwr ei fod yn derbyn, ers mis Ionawr y llynedd, fod yr awyr wedi bod yn dywyll iawn dros Bort Talbot a’r gwaith dur yno, y gymuned leol a’r economi leol. Fe welwn yn awr, efallai, ar ôl y bleidlais hon, yr awyr dywyll honno’n diflannu a mwy o sicrwydd yn dechrau ymddangos dros y tymor canolig.

Nawr, mae gweithwyr dur wedi rhoi cyfle i Tata ailfeithrin yr hyder y maent wedi’i golli, neu o leiaf wedi’i ysigo, dros y misoedd diwethaf, a gobeithio y bydd Tata yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn cyflawni’r buddsoddiad a addawyd cyn gynted ag y bo modd, ynghyd â’r pwyntiau eraill yn y cynigion, gan gynnwys cydraddoldeb i’w gweithlu â gweithfeydd ar draws yr UE.

Nawr, mae gweithwyr wedi aberthu er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r diwydiant ac rwy’n gobeithio, efallai, y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad er mwyn sicrhau bod y blaenoriaethau hynny a buddiannau gweithwyr dur yn flaenaf. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn cytuno bod angen i hynny ddigwydd ar draws pob un o’r partïon, nid Llywodraeth Cymru’n unig, ond Llywodraeth y DU a Tata ei hun.

A gaf fi gofnodi fy nghydnabyddiaeth i waith caled ac ymrwymiad yr undebau llafur, sydd wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn yn ystod y cyfnod hwn er budd eu haelodau a’r diwydiant? Ond Ysgrifennydd y Cabinet, un cam yn unig ar y llwybr i ddyfodol cynaliadwy yma yng Nghymru ac ar draws y DU yw canlyniad y bleidlais heddiw, ac mae gennym ffordd bell i fynd o hyd o ganlyniad i hynny. Felly, a gaf fi ofyn y canlynol i chi: pa drafodaethau a gawsoch gyda Tata ar eu cynlluniau buddsoddi a’r amserlenni sy’n gysylltiedig â’r cynlluniau hynny? Ac a ydych wedi cael unrhyw sicrwydd ganddynt mewn perthynas â chyflawni eu hymrwymiadau yn y cynnig hwnnw? Pa mor gyflym y gallwch chi fel Llywodraeth Cymru fod mewn sefyllfa i gefnogi buddsoddiad mewn gwirionedd? Gwn eich bod eisoes wedi ymrwymo £12 miliwn, ond pa mor gyflym y gallwch chi ymrwymo cyllid arall ar gyfer agweddau eraill, boed yn ymchwil, offer, hyfforddiant neu feysydd eraill sy’n helpu’r diwydiant? Mae bwgan cyd-fenter ThyssenKrupp yn dal i hongian dros y diwydiant cyfan ac roedd yn bodoli drwy gydol y bleidlais. Nid yw wedi diflannu; mae’n dal i fod yno. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Tata ynglŷn â goblygiadau cyd-fenter o’r fath, yn enwedig i ddiwydiant dur Cymru a’r gweithlu? A ydych wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan mai ganddynt hwy y mae’r dulliau i fynd i’r afael â llawer o’r materion a wynebir yn awr yn y diwydiant dur? Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â’u gweithredoedd, oherwydd hyd yn hyn, i fod yn onest, ychydig iawn o weithredu a welais gan Lywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn awr yn chwarae eu rhan yn gwneud y diwydiant dur yma yng Nghymru yn ddiwydiant dur diogel, un sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac un a fydd yn parhau i gyflawni? Mae’r gweithlu wedi gwneud eu gwaith. Maent wedi ymroi dros y pedwar mis diwethaf. Maent wedi cyflawni lefelau cynhyrchu y tu hwnt i’r lefelau uchaf. Maent hyd yn oed wedi cefnogi’r bleidlais hon ar gost iddynt eu hunain mewn gwirionedd. ‘Does bosibl na ddylai eich trafodaethau fod yn dweud wrth Lywodraeth y DU i sefyll ar ei thraed a rhoi camau gweithredu ar waith. Rydym eisiau gweld y camau hynny. Mae gweithwyr dur eisiau gweld y camau hynny. A allwch ddweud wrthyf beth y maent yn ei wneud?

Credaf ei bod yn bwysig cydnabod y cam aruthrol y mae’r gweithwyr wedi ei gymryd yn pleidleisio fel y gwnaethant a hoffwn dalu teyrnged i weithwyr Tata yng Nghymru a hefyd i’r undebau llafur sydd wedi cyflawni ar ran y gweithwyr dros fisoedd lawer yn y ffordd orau y gallech ei dychmygu. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn. Dyma’r cam diweddaraf, er yn gam i’w groesawu’n fawr, ond y cam diweddaraf yn unig mewn ymgyrch hir iawn i wneud y sector dur yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ond mae wedi bod yn ymgyrch a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru, nid oes amheuaeth am hynny. Rydym wedi gwneud ein rhan yn cynnig pecyn o £60 miliwn gydag amodau ynghlwm. Mae’r undebau llafur wedi gwneud eu rhan hwy, a heddiw clywsom fod y gweithwyr hefyd wedi aberthu er mwyn gwneud eu rhan a gwneud y sector yn fwy cynaliadwy i’w wneud yn fwy cystadleuol er mwyn cynnig dyfodol iddo.

Rydym bellach yn disgwyl i Tata gyflawni ei ran o’r fargen gyda gweithwyr, ond rydym hefyd bellach yn disgwyl i Lywodraeth y DU weithredu. Rwyf eisoes wedi siarad gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a byddaf hefyd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i gyfleu eto fy awydd i weld strategaeth ddiwydiannol y DU yn dangos ymagwedd ymyraethol fwy nerthol tuag at ddur. Ni allwn ond dymuno am rai o’r dulliau sydd ganddynt ar gael iddynt. Mae ganddynt y dulliau hynny. Rydym yn disgwyl iddynt eu defnyddio yn awr. Rydym yn disgwyl iddynt ddefnyddio’r strategaeth ddiwydiannol i gefnogi’r diwydiant dur. Rydym yn disgwyl iddynt roi camau ar waith o ran ymchwil a datblygu. Rydym yn disgwyl iddynt weithredu mewn perthynas â chostau ynni uchel, nid yn unig ar gyfer dur, ond yr holl weithfeydd ynni-ddwys.

O ran y ffrâm amser a grybwyllodd yr Aelod—cynhaliwyd trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a minnau; rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â phrif swyddogion Tata—fel y dywedais, rydym yn disgwyl yr addewid, y fargen y mae Tata wedi’i chynnig i gael ei chyflawni ar y cyfle cyntaf. Byddwn yn sicr yn gallu hwyluso rhai o’r cynigion a roddwyd i Tata fel rhan o’r pecyn £60 miliwn yn awr. Felly, rwy’n gobeithio gallu gwneud cyhoeddiadau cyn gynted ag y bo modd ar gymorth cyfalaf pellach ar gyfer safleoedd a hefyd prosiectau a fydd yn gwella effeithlonrwydd ynni.

O ran trafodaethau gyda ThyssenKrupp, mater masnachol i Tata yw hwn, ond bydd yr amodau a osodwn ar y cymorth a gynigiwn yn parhau, beth bynnag a ddaw yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi gofyn am gyfarfodydd gyda ThyssenKrupp i gael sicrwydd ganddynt ynglŷn â’r sector sgiliau yng Nghymru os yw’r gyd-fenter yn mynd rhagddi.

Rwy’n gadarn o’r farn fod gan y diwydiant dur yng Nghymru ddyfodol disglair iawn, ar yr amod ein bod yn cael y buddsoddiad a’r ymyriadau sy’n ofynnol ar lefel y DU ac y galwasom amdanynt ers misoedd lawer. Dros y pum mlynedd nesaf, gyda’r £1 biliwn o fuddsoddiad y disgwyliwn i Tata ei ddarparu yn awr, rwy’n credu y bydd y diwydiant, gyda’n cymorth ni, yn dod yn fwy cystadleuol, yn moderneiddio, yn dod yn fwy cynaliadwy, ac y bydd dyfodol hirdymor i ddur yng Nghymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Heddiw, yn amlwg, fel y dywedwyd, rydym wedi cael canlyniad ymgynghorol y bleidlais. Er gwaethaf yr hyn a oedd yn ddewis anodd i weithlu Tata, un a oedd yn ddewis rhwng pensiynau a buddsoddi yn y gwaith yn y dyfodol, mae’n amlwg eu bod wedi penderfynu cadw eu ffydd yn Tata Steel. Ond a fuasech yn cytuno â mi ei bod hi’n bryd i Tata Steel gyflawni eu hochr hwy i’r fargen yn awr mewn perthynas â buddsoddi?

Nid wyf yn meddwl y dylem fod dan unrhyw gamargraff ar hyn o bryd y gallwn gau’r drws ar y mater hwn. Ar bensiynau, er enghraifft, deallaf fod Tata ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda’r ymddiriedolwyr a’r rheoleiddiwr pensiynau gan eu bod yn dweud na allant fforddio parhau i noddi’r cynllun, fel y mae pawb ohonom yn gwybod. Maent yn awyddus i droi cefn ar y cynllun fel y mae a gallai ddal i fynd i mewn i’r gronfa diogelu pensiynau. Ni fydd y rheoleiddiwr yn caniatáu i hynny ddigwydd ar hyn o bryd gan fod Tata mewn gwirionedd yn gwneud elw, ond mae’r rheoleiddiwr eisoes yn edrych ar y mater a gallai gymryd blwyddyn arall i hyn gael ei unioni, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf.

Felly, mae’r cynigion y pleidleisiodd y gweithwyr arnynt yn amodol ar ateb cynaliadwy ar gyfer cynllun pensiwn Dur Prydain. Felly, gyda hynny mewn golwg, a chyda’r amodoldeb hwnnw mewn cof, os nad yw’r rheoleiddiwr pensiynau yn caniatáu i Tata droi cefn ar eu rhwymedigaethau pensiwn, neu os yw’r trafodaethau’n cymryd mwy o amser, beth fydd yn digwydd i’r cynigion penodol hyn yn ôl yr hyn a ddeallwch? A ydynt yn dal i fynd yn eu blaen er nad oes gan Tata ateb cynaliadwy i’r cynllun? Pa drafodaethau a gawsoch chi’n bersonol â’r rheoleiddiwr pensiynau a Tata ar hyn?

Pa gamau y byddwch yn eu cymryd ar unwaith i’w gwneud yn glir i Tata eich bod, fel Llywodraeth, yn disgwyl iddynt adleisio’r ffydd y mae’r gweithlu wedi’i ddangos ynddynt yn y bleidlais heddiw? A ydych yn mynd i gamu ymlaen fel Llywodraeth yn awr ac anrhydeddu’r ymrwymiadau a wnaethoch i’r gweithlu cyn y bleidlais, gan gynnwys camau gweithredu, fel y soniwyd yn gynharach, ar gyllid ar gyfer gwaith pŵer lleol a mwy o fuddsoddiad yn y ganolfan ymchwil a datblygu dur? Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig i ddur fod yn flaenoriaeth ac nid ar raddfa blaenoriaeth isel, fel y gwelsom yn nogfen Llywodraeth y DU a ddatgelwyd yn answyddogol yr wythnos diwethaf o ran ei israddio fel blaenoriaeth, a hoffwn glywed barn y Ceidwadwyr yma heddiw ynglŷn â pham y credant ei fod wedi’i israddio fel blaenoriaeth. Rwy’n credu mai’r hyn y mae pawb yn yr ystafell hon ei eisiau yw gweld dyfodol cynaliadwy, ond nid wyf yn meddwl y dylem fod dan unrhyw gamargraff mai dyma ddiwedd y drafodaeth yma heddiw. Er gwaethaf y bleidlais, efallai na fydd Tata mewn sefyllfa i newid y pensiynau, ac felly efallai na fydd y buddsoddiad yn dilyn. Ac rwy’n meddwl mai dyna beth y mae angen i bobl gael sicrwydd yn ei gylch ac mae angen iddynt gael arweiniad gennych chi a Llywodraeth y DU a Tata ar symud y mater hwn yn ei flaen yn awr.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau a’i chyfraniad, ond rwy’n anfodlon â’r alwad y dylem ni, Lywodraeth Cymru, ddangos arweiniad yn awr a chamu ymlaen i fuddsoddi yn y sector? Ym mis Rhagfyr, gwnaethom gyhoeddiad ynghylch y pecyn cyntaf o gefnogaeth a oedd yn cael ei fuddsoddi yn ein safleoedd. Roedd hwnnw’n cynnwys buddsoddiad o £4 miliwn tuag at ddatblygu sgiliau—nid mewn un safle’n unig, ond ar bob safle ar draws ein gwlad. Roedd yn cynnwys £8 miliwn tuag at fuddsoddiad o £18 miliwn yn y gwaith pŵer ym Mhort Talbot i leihau costau ynni a lleihau allyriadau carbon. Ac yn awr, fel y dywedais, rydym yn barod i gyflwyno cyfres o fesurau eraill a fydd yn gwella effeithlonrwydd ynni ar safleoedd yng Nghymru, rydym yn edrych ar raglen gwariant cyfalaf yn Shotton, a gwelliannau hefyd i’r llinell galfaneiddio ym Mhort Talbot. Mae penderfyniad heddiw yn golygu ein bod yn gallu hwyluso’r gwaith hwnnw a rhoi hyder i weithwyr y byddant yn gweithredu mewn cyfleusterau modern sy’n gystadleuol.

O ran Tata ei hun a’r hyder sydd angen ei feithrin ymhlith ei weithlu, mae angen yn awr, wrth gwrs, i Tata ddangos ei deyrngarwch i Gymru, i’r gweithwyr sydd wedi dangos y fath deyrngarwch i’r sector drwy bleidleisio fel y gwnaethant, ac fe gynigiwyd bargen yn ymwneud â phensiynau gan sicrhau gweithwyr y byddai’n gynaliadwy. Eu lle hwy yn awr yw profi hynny a chyflawni hynny, ond eu lle hwy hefyd yw darparu’r buddsoddiad yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth â hwy arno.

Weinidog, diolch i chi am roi eich atebion i’r cwestiynau brys hyd yn hyn, ac a gaf fi ymuno â chi i ganmol y gweithlu am y ffordd y maent wedi mynd ati’n benderfynol—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod beth yw’r rheswm dros y piffian, ond yn y pen draw, rwy’n meddwl bod y gweithlu wedi sefyll a gwneud eu pwynt a chadarnhau’r bleidlais heddiw mewn gwirionedd, gyda thros 70 y cant ym mhob un o’r tri chategori, rwy’n credu, o’r gwahanol undebau yn cymeradwyo hyn, gyda thros 70 cant yn pleidleisio hefyd yn y bleidlais hon, sy’n ymrwymiad ysgubol gan y gweithlu. Yr hyn sy’n bwysig yn awr i ni ei glywed, yn amlwg, gan Tata, yw sut y maent yn mynd i gyflwyno’r buddsoddiad y maent wedi siarad amdano, ac fe ddywedoch yn eich atebion cynharach eich bod chi a’r Prif Weinidog mewn deialog gyson gydag uwch-gyfarwyddwyr Tata Steel, felly a allwch chi nodi sut y bydd y ffrwd honno o fuddsoddiad yn dod yn weithredol yn awr, o gofio, rwy’n meddwl, mai’r ffigurau dan sylw yw £1 biliwn dros 10 mlynedd? A oes mwy o’r £1 biliwn i ddod ar y dechrau, fel ein bod yn gweld cyfran sylweddol o’r buddsoddiad ym mlynyddoedd cynnar y cyfnod hwnnw o 10 mlynedd, neu a yw’n mynd i fod yn fwy tuag at y dyfodol tymor canolig a hirdymor wrth i ni edrych ar y cyfnod o 10 mlynedd o fuddsoddi y siaradwn amdano?

Ac yn ail, mae’r trafodaethau uno yn parhau ac yn barhaus; a yw’r sicrwydd ynglŷn â dim diswyddiadau gorfodol gyda’r cafeat fod angen i Tata barhau i reoli’r gweithfeydd a phe bai uno’n digwydd, yna ni fuasai’r cwmni olynol yn gorfod rhoi’r sicrwydd mewn perthynas â diswyddiadau gorfodol pe bai—pe bai—uno’n digwydd? Rydym i gyd yn falch o’r sefyllfa yr ydym ynddi heddiw, o ystyried lle roeddem 12 mis yn ôl ac yn wir, drwy ymgyrch etholiad y Cynulliad, pan aeth pob plaid ati i weithio gyda’i gilydd ar hyn a phan aeth y gymuned gyfan ati i gydweithio ar hyn, ac mae cynnyrch y trafodaethau hynny, y negodi hwnnw, wedi dwyn ffrwyth heddiw. Mae llawer o waith i’w wneud, a byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr yn San Steffan ac yn y sefydliad hwn, ynghyd â Cheidwadwyr Cymreig eraill yma, i wneud yn siŵr fod gwaith yn cael ei gyflawni ar brisiau ynni uchel, ond yn anad dim, i wneud yn siŵr fod buddsoddi’n digwydd yn y gweithfeydd hyn i ddiogelu dur fel diwydiant sylfaenol. Ond yn hytrach na throi’n ôl at ryfela yn y ffosydd ar wleidyddiaeth hyn, rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr fod lleisiau gweithwyr dur yn cael eu clywed a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er budd gorau dyfodol hirdymor y diwydiant dur yma yng Nghymru ac yn y DU. Gadewch i ni beidio ag anghofio mai un o’r elfennau allweddol sydd wedi helpu i sicrhau’r ymrwymiad hwn yw dibrisiant yn y bunt sydd wedi gwneud cynhyrchu dur yn broffidiol eto yn llawer o’r gweithfeydd ar hyd a lled y wlad.

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gyfraniad. Hoffwn nodi bod y gostyngiad yng ngwerth y bunt wedi effeithio’n andwyol mewn gwirionedd ar ddeunyddiau crai sy’n rhaid eu mewnforio felly, mewn gwirionedd, nid yw’r buddion fel y byddech yn ei ddychmygu. Ond rwy’n croesawu’r ymagwedd golegaidd gan arweinydd yr wrthblaid ar y mater hwn, a’r hyn a ddywedodd am yr angen i osgoi rhyfela yn y ffosydd. Er mwyn cynnal hyn, rwy’n meddwl y gallai fod yn werth i’r Ceidwadwyr gydnabod rôl anhygoel Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ddur ddyfodol cynaliadwy. A rôl bwysig arall—ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau’r gwrthbleidiau ar hyn—yw sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyflawni yn awr ar ddur yng Nghymru ac yn arbennig, rwy’n chwilfrydig ynglŷn â photensial y fargen ddur fel rhan o strategaeth ddiwydiannol y DU. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd honno’n cael ei chyflawni cyn gynted ag y bo modd, ac y bydd yn creu manteision sylweddol i Gymru. Wrth gwrs, mae yna gronfa ymchwil, datblygu ac arloesi gwerth £2 biliwn wedi ei chyhoeddi ac unwaith eto, buaswn yn gobeithio y bydd pob Aelod yn gallu gweithio gyda’i gilydd i sicrhau cymaint o’r buddsoddiad hwnnw ag y bo modd ar gyfer dur Cymru.

Mae pedair elfen allweddol i’r cynnig, a thynnodd yr Aelod sylw at nifer ohonynt—yn gyntaf oll, yr elfen fuddsoddi: y cynllun 10 mlynedd i fuddsoddi £1 biliwn i gefnogi dur ym Mhort Talbot a sicrhau dyfodol safleoedd derbyn. Nawr, byddwn yn cael trafodaethau gyda Tata am y ffrâm amser a’r buddsoddiad a ddisgwylir dros y 10 mlynedd nesaf, ond buasem yn disgwyl iddynt sicrhau bod y cyfleuster yn dod yn fwy cystadleuol cyn gynted ag y bo modd. Mae Port Talbot eisoes yn troi cornel ar gyflymder mawr, diolch i’r ‘bridge’—y rhaglen a gyflwynwyd gan y rheolwyr lleol, ac a gefnogwyd gan weithwyr a’r undebau. Gyda’i gilydd, maent wedi ffurfio partneriaeth aruthrol. Mae’n bartneriaeth sydd wedi gweld y canlyniad a gyhoeddwyd heddiw, ac rydym yn ei groesawu’n fawr iawn.

O ran yr addewid i sicrhau swyddi, cytunodd Tata, fel rhan o’r cytundeb, i bact sy’n cyfateb i’w gytundeb gyda gweithwyr dur ar y cyfandir, ac sy’n cynnwys ymrwymiad i geisio osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol am bum mlynedd. O ran trafodaethau ar y gyd-fenter, rwyf eisoes wedi dweud yn glir y byddai’r amodoldeb a gymhwyswn i’n buddsoddiad yn safleoedd dur Tata yng Nghymru yn parhau i fod yn berthnasol, waeth pwy fydd y perchnogion yn y dyfodol. Ond am y pum mlynedd nesaf, yr hyn y mae’r amodau hynny’n ei wneud yw sicrhau bod y sector dur yng Nghymru, dan arweiniad Tata, yn gallu parhau i foderneiddio a dod yn fwy cystadleuol ac yn fwy cynaliadwy.

Gyda gweithwyr o fy etholaeth i yn Nhrostre ac ym Mhort Talbot y prynhawn yma, anadlais ochenaid ddofn o ryddhad ynglŷn â chanlyniad y bleidlais, ac er gwaethaf y cwynion a’r amheuon a oedd ganddynt am y ffordd y mae Tata wedi trin hyn dros y 12 mis diwethaf, mae’n dyst i ymrwymiad y rheolwyr lleol a’r gweithwyr eu bod yn barod i ymrwymo i achub swyddi yn eu cymunedau. Ac rwy’n meddwl y dylem gydnabod na fyddai bargen wedi bod iddynt bleidleisio arni yn y lle cyntaf oni bai am gymhellion ariannol Llywodraeth Cymru.

Ond tybed a yw’r Gweinidog yn rhannu fy anesmwythyd ynglŷn â digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf, a galwadau o’r Siambr y prynhawn yma i barhau i bwmpio symiau mawr o arian cyhoeddus i mewn i gorfforaeth fawr amlwladol ar sail barhaus? Mae hyn yn ein gwneud yn hynod o agored i fympwyon ystafell fwrdd yn India a newidiadau personoliaethau o gwmpas y bwrdd hwnnw. ‘Does bosibl nad ydym yn rhoi ein hunain mewn sefyllfa well yn y tymor hir os gwnawn ein hunain yn llai agored i’r grymoedd hyn sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, a’n bod yn adeiladu cydnerthedd ein heconomi drwy fuddsoddiad lleol, sgiliau lleol a swyddi lleol. Felly, a allai wneud yn siŵr yn ei strategaeth economaidd fod gennym gynllun, fel nad ydym yn rhoi ein hunain yn y sefyllfa hon yn y blynyddoedd i ddod?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau, ac am gydnabod hefyd yn wir nad yw’r cytundeb ond yn bosibl heddiw oherwydd y buddsoddiad a’r arweinyddiaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy na hynny?

O ran y cwestiwn ynglŷn â pherchnogaeth y mae’r Aelod yn tynnu sylw ato, yr allwedd i ddyfodol llewyrchus a diogel i weithfeydd Tata Steel yw iddynt ddod yn gystadleuol iawn, i fyny yno gyda’r gorau yn y byd. Dyna yw diben ein buddsoddiad, dyna yw diben ein cymorth: rydym yn buddsoddi yn y bobl, yn eu sgiliau. Rwyf eisoes wedi ailadrodd y pwynt heddiw ein bod wedi cyhoeddi pecyn gwerth £4 miliwn o gymorth ym mis Rhagfyr i ddatblygu’r sgiliau hynny. Rydym yn buddsoddi yn y gweithfeydd lleol ac mewn swyddi lleol.

Felly, yn anad dim, yr hyn sy’n hanfodol yw ein bod yn rhoi i’r sector dur ledled Cymru, waeth pwy sy’n berchen ar ba safleoedd a pha gyfleusterau, ein bod yn rhoi’r cyfle gorau posibl iddo fod mor gystadleuol â phosibl.

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y penderfyniad dewr gan weithlu Tata i dderbyn cynnig Tata yn helpu i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru. Mater i’r ddwy Lywodraeth bellach, yn San Steffan ac yng Nghymru, yw helpu i sicrhau cynnydd yn y galw am ddur o Gymru.

Fel y trafodwyd yn y ddadl ar y môr-lynnoedd llanw yma ddoe, mae Tidal Lagoon Power yn gobeithio caffael y rhan fwyaf o’u dur o ffynonellau yn y DU. Fodd bynnag, mae yna bryderon ynglŷn â hyn, o ystyried y ffaith mai cynhyrchwyr dur yn Ffrainc a’r Iseldiroedd yw eu prif bartneriaid. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau mai dur o Gymru yn unig y bydd y morlyn llanw yn Abertawe yn ei ddefnyddio?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Felly, mae yna oblygiadau llawer ehangach i bob sector diwydiannol mewn gwirionedd, gan fod caffael yn fater allweddol o ran sicrhau cyflenwad o ddur Cymru i nifer o’n prosiectau seilwaith mawr sydd ar y ffordd yn y blynyddoedd i ddod.

Mae angen inni sicrhau bod galw am ddur Cymru ledled Cymru, ac ar draws y DU. Mae hyn yn fater a grybwyllais wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS, ac wrth gwrs, rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi bod yn gwneud cryn dipyn o waith yn edrych ar reolau caffael, a sicrhau y gellir defnyddio dur Cymru ble bynnag a phryd bynnag y bo modd ar seilwaith yn ein gwlad. Ac rwy’n meddwl mai un enghraifft o hyn mewn gwirionedd yw ffordd gyswllt dwyrain y bae lle y mae dros dri chwarter y dur a ddefnyddir a fydd yn aros yn ei le yn dod o weithfeydd dur Cymru.

Hoffwn ailbwysleisio’r hyn y mae fy nghyd-Aelod dros Aberafan wedi dweud, ac eraill y prynhawn yma, fod yn rhaid i Tata yn awr wireddu eu hymrwymiad a’u haddewidion, a chydnabod yr aberth y mae’r gweithlu wedi’i wneud, a chamu ymlaen a pheidio â throi cefn ar eu rhwymedigaethau. Rwyf hefyd yn ychwanegu fy llais at y teyrngedau i ymroddiad yr undebau dur. Rwy’n gwybod o brofiad pa mor galed y mae’r cynrychiolwyr yn gweithio ar fy safle lleol yn Shotton, a byddaf yn parhau i weithio’n agos gyda hwy yn y dyfodol.

Rwy’n meddwl bod angen i Tata addasu hefyd i gydnabod llwyddiant yn well yn Shotton, sy’n cynhyrchu cynnyrch ymarferol ac arloesol yn ei hawl ei hun. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ni allaf bwysleisio digon pa mor llwyddiannus a hyfyw a phroffidiol yw Shotton, a hoffwn ofyn i chi gadarnhau eich ymrwymiad i gefnogi buddsoddiad yn nyfodol y safle, a gweithio gyda Llywodraeth y DU hefyd i gyflwyno pecyn cymorth y sector dur.

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau. Mae Shotton, fel pob safle arall yng Nghymru, yn hanfodol bwysig i deulu dur Cymru, a dyna pam rwy’n falch o allu symud gwaith ymlaen yn awr ar gefnogaeth bosibl i raglen gwariant cyfalaf mawr yng ngwaith dur Shotton. Hoffwn ddweud hefyd fod yr undebau dur yng ngwaith Shotton, ynghyd â chynrychiolwyr undebau dur ar bob un o’r safleoedd eraill yng Nghymru, wedi gweithredu mewn ffordd ganmoladwy ac wedi dangos arweinyddiaeth anhygoel dros yr hyn a fu’n gyfnod hynod o anodd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl ei bod yn iawn heddiw i ni gydnabod ymrwymiad y gweithlu, yr undebau llafur, rheolwyr lleol a Llywodraeth Cymru i’r diwydiant dur, fel y mae Aelodau eraill wedi dweud. I mi, wrth gwrs, mae Llanwern yn flaenoriaeth go iawn ac yn bryder mawr, ac fel gyda gweithfeydd dur eraill, mae’r gweithlu yn Llanwern wedi dangos ymrwymiad mawr dros y blynyddoedd, gan ailhyfforddi’n gyson, addasu i systemau newydd, dangos hyblygrwydd mawr ac mae’n rhaid dweud, dioddef toriadau olynol parhaus i swyddi a chynhyrchiant. Ond gwyddom fod y diwydiant dur yn ddiwydiant sydd â dyfodol go iawn yng Nghymru, yn ogystal â hanes a gorffennol gwych. Felly, fel gyda Hannah Blythyn, hoffwn bledio’r achos dros fy ngwaith dur lleol, yn wir, fel gyda Lee Waters ac eraill.

Felly, wrth fynd i’r afael â’r cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran Tata yng Nghymru, a wnewch chi’n yn siŵr fod pwyslais cryf ar Lanwern a lle cryf iddo yn y trafodaethau yr ydych yn eu cael? Yn enwedig, wrth gwrs, fel y mae Tata yn ei ddweud yn glir iawn, am ei fod yn waith integredig yng Nghymru ac mae’r holl gydrannau o Bort Talbot, ar hyd a lled Cymru, yn gweithio gyda’i gilydd ac yn gweithredu mewn modd integredig. Rwy’n credu ei bod hi’n amlwg fod yn rhaid i ni sicrhau bod yr holl gydrannau yn rhan sylweddol o’r trafodaethau sy’n digwydd ac nid eu hanwybyddu mewn unrhyw ffordd.

Hoffwn ddiolch i John Griffiths am ei gyfraniad a chytunaf yn llwyr. Hoffwn ddiolch iddo am ei ymroddiad cyson ac angerddol i’r gwaith yn ei etholaeth, fel y carwn ddiolch i’r holl Aelodau sy’n cynrychioli ardaloedd sydd â gweithfeydd dur ynddynt. Credaf mai crafu’r wyneb yn unig yr ydym wedi’i wneud o ran potensial dur fel deunydd. Bydd faint o waith ymchwil a datblygu ac arloesi a all ddigwydd ac a fydd yn digwydd, rwy’n siŵr, yn y blynyddoedd nesaf yn golygu y bydd y deunydd yn chwarae rôl fwy sylweddol yn y dyfodol nag y mae’n ei wneud heddiw.

Y nod ar gyfer Llywodraeth Cymru yw gosod dur Cymru ar y blaen mewn gwaith ymchwil a datblygu ac am y rheswm hwnnw, rydym nid yn unig yn bwriadu buddsoddi mewn ymchwil a datblygu ac arloesi o ran dur Cymru ac o fewn cyfleusterau Tata, rydym hefyd yn disgwyl i Lywodraeth y DU wneud yr un peth. Felly, fel y dywedais eisoes, rwy’n disgwyl y bydd cyfran deg iawn o’r £2 biliwn o arian ymchwil a datblygu yn dod yma i Gymru ar gyfer y gwaith dur yng Nghymru.

9. 8. Cyfnod Pleidleisio

Rydym nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Mae’r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar wasanaethau bancio. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Mae’r cynnig, felly, wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 35, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6240.

Rwy’n galw am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rwy’n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, pedwar yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 29, Yn erbyn 18, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6240.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Rwy’n galw am bleidlais, felly, ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, 10 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 37, Yn erbyn 4, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6240.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 51, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6240.

Cynnig NDM6240 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy’n hawdd cael gafael arnynt.

2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.

3. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a’r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy’n gynhwysfawr ac yn gweithio’n dda.

Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.

Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi’r gwaith sy’n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a’i uned wybodaeth a fydd yn targedu’n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

5. Yn croesawu’r adolygiad annibynnol, ‘Access to Banking Protocol One Year on Review’ gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016.

6. Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau’r DU.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6240 fel y’i diwygiwyd: O blaid 51, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6240 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

10. 9. Dadl Fer: Mynd i'r Afael ag Unigrwydd ac Unigedd yng Nghymru, Gweithio mewn Partneriaeth

Symudwn yn awr at y ddadl fer, felly, os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel, yn gyflym. Rwy’n mynd i alw ar Caroline Jones i siarad am y pwnc y mae wedi’i ddewis. Caroline.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joyce Watson, Janet Finch-Saunders a Mike Hedges.

Ysgrifennwyd y canlynol yn 1966, ac mae’n tynnu sylw yn fwy huawdl at bwnc unigrwydd ac arwahanrwydd nag unrhyw eiriau y gallwn eu cyfansoddi.

Beth a welwch, nyrsys, beth a welwch? / Beth a feddyliwch pan fyddwch yn edrych arnaf fi? / Ai hen wraig grablyd, heb fod yn ddoeth iawn, / Ansicr ei hanian, a’i llygaid ymhell, / Sy’n driblan ei bwyd ac nid yw’n ateb / Pan fyddwch yn dweud mewn llais uchel, "Hoffwn pe baech chi’n gwneud ymdrech". / Sydd i’w gweld fel pe na bai’n sylwi ar y pethau rydych yn eu gwneud / Ac yn colli hosan neu esgidiau o hyd. / Hon sydd, yn ufudd ai peidio, yn gadael i chi wneud fel y mynnwch / Gyda golchi a bwydo i lenwi’r diwrnod hir. / Ai dyna beth a feddyliwch, ai dyna a welwch? / Os felly, agor dy lygaid, nyrs, rwyt ti’n edrych arnaf fi. / Fe ddywedaf wrthyt pwy wyf fi wrth i mi eistedd yma mor llonydd! / Wrth i mi godi yn ôl dy orchymyn, wrth i mi fwyta yn ôl dy ewyllys. / Rwy’n blentyn bach 10 oed ac mae gennyf dad a mam, / Brodyr a chwiorydd, sy’n caru ein gilydd, / Merch ifanc 16 oed gydag adenydd o dan ei thraed, / Yn breuddwydio y daw câr iddi ei gyfarfod, yn fuan nawr, / A phriodferch yn fuan, yn 20 oed—mae fy nghalon yn rhoi naid, / Wrth gofio’r addunedau yr addewais eu cadw. / Yn 25 oed yn awr mae gennyf rai bach fy hun / Sydd angen i mi adeiladu cartref hapus diogel; / Menyw 30 oed, mae fy mhlant bellach yn tyfu’n gyflym, / Wedi’u huno â chlymau a ddylai bara; / Yn 40 oed, mae fy meibion ifanc wedi tyfu ac wedi mynd, / Ond mae fy ngŵr wrth fy ochr felly nid wyf yn galaru; / Yn 50 oed, unwaith eto daw mwy o fabanod i chwarae ar fy nglin, / Unwaith eto, rydym yn adnabod plant, fy ngŵr annwyl a mi. / Daw dyddiau blin, mae fy ngŵr wedi marw, / Edrychaf tua’r dyfodol, rwy’n crynu gan arswyd, / Oherwydd mae fy mhlant yn magu plant eu hunain. / Ac rwy’n meddwl am y blynyddoedd ac am y cariad a brofais; / Rwy’n hen wraig yn awr ac mae natur yn greulon—/ Ei thric yw gwneud i hen oed ymddangos yn ffwl. / Mae’r corff yn crebachu, mae gosgeiddrwydd ac egni’n ymadael, / Bellach mae carreg lle gynt roedd calon, / Ond y tu mewn i’r hen garcas, mae merch ifanc yn dal i fod, / Ac o bryd i’w gilydd mae fy nghalon gleisiog yn chwyddo, / Rwy’n cofio’r llawenydd, rwy’n cofio’r boen, / Ac rwy’n caru ac yn byw bywyd drachefn / Meddyliaf am y blynyddoedd, rhy ychydig, wedi mynd yn rhy gyflym. / Ac yn derbyn y ffaith greulon na all dim bara. / Felly agorwch eich llygaid, nyrsys, agorwch hwy a gwelwch, / Nid hen wraig grablyd, edrychwch yn nes—/ Gwelwch Fi. ‘

A dyma ateb y nyrs i’r gerdd hon:

"Beth a welwch?", gofynni, "Beth a welwn?" / Ydym, rydym yn meddwl wrth edrych arnat! / Efallai ein bod yn ymddangos yn galed pan fyddwn yn brysio’n llawn ffwdan, / Ond mae llawer ohonoch chi, a chyn lleied ohonom ni.

Hoffem lawer mwy o amser i eistedd gyda chi a siarad, / I’ch golchi a’ch bwydo a’ch helpu i gerdded. / I glywed am eich bywydau a’r pethau a wnaethoch; / Eich plentyndod, eich gŵr, eich merch, eich mab. / Ond mae amser yn ein herbyn, mae gormod i’w wneud—/ Gormod o gleifion, a nyrsys yn brin. / Galarwn wrth eich gweld chi mor drist ac unig, / Gyda neb yn agos i chi, dim ffrindiau eich hun.

Rydym yn teimlo poen pob un ohonoch, ac yn gwybod am eich ofn / Nad oes neb yn malio nawr fod eich diwedd yn agos. / Ond mae nyrsys yn bobl â theimladau hefyd, / A phan fyddwn gyda’n gilydd byddwch yn aml yn ein clywed yn sôn / Am yr hen Nain annwyl yn y gwely ar y pen, / A’r hen Dad hyfryd, a’r pethau a ddywedai, / Rydym yn siarad gyda thosturi a chariad, ac yn teimlo’n drist / Pan fyddwn yn meddwl am eich bywydau a’r llawenydd a gawsoch, / Pan ddaw’r amser i chi ymadael, / Byddwch yn ein gadael gyda phoen yn ein calon.

Pan fyddwch yn cysgu’r cwsg hir, heb ragor o boeni na gofalon, / Mae yna bobl eraill sy’n hen, ac mae’n rhaid i ni fod yno. / Felly ceisiwch ddeall os byddwn ar frys ac yn llawn ffwdan—/ Mae llawer ohonoch chi, / A chyn lleied ohonom ni.’

Mae’r gerdd deimladwy hon yn helpu i gyfleu realiti dyddiol llawer o bobl hŷn yn ein cymdeithas. Yn ôl arolwg Age Cymru a gynhaliwyd yn 2014, mae cymaint â 75,000 o bobl dros 65 oed sy’n byw yng Nghymru yn dweud eu bod yn unig. Mae bron ddwy ran o dair o fenywod wedi nodi eu bod pryderu am unigrwydd yn eu henaint. Canfu’r WRVS fod 75 y cant o bobl dros 75 oed a oedd yn byw ar eu pen eu hunain yn teimlo’n unig. Gwelsant hefyd mai dynion hŷn yng Nghymru yw’r rhai mwyaf unig yn y DU.

Dengys ymchwil fod unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol mor niweidiol i’n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd. Mae unigrwydd yn cynyddu’r tebygrwydd o farw’n gynnar tua 45 y cant. Mae unigrwydd yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefyd coronaidd y galon a strôc. Mae unigrwydd yn cynyddu’r risg o bwysedd gwaed uchel. Mae unigolion unig hefyd yn wynebu risg fwy o fynd yn anabl. Daw un astudiaeth i’r casgliad fod pobl unig 64 y cant yn fwy tebygol o ddatblygu dementia clinigol.

Felly, beth y gallwn ei wneud i atal y lladdwr cudd a thawel hwn? Mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi galw am i Fil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) osod dyletswydd ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd fel rhan o’u hymgyrch les—galwadau rwy’n eu cefnogi’n llwyr. Mae Age Cymru yn gweithredu canolfannau heneiddio’n dda yng ngogledd Cymru mewn ymdrech i integreiddio pobl hŷn yn eu cymunedau lleol a’u hatal rhag teimlo unigrwydd. Mae gan fudiad y Siediau Dynion ganolfannau sefydledig yng Nghymru. Mae’r mudiad, a ddechreuodd yn Awstralia, yn ffordd newydd i ddynion fynd ar drywydd eu diddordebau, datblygu rhai newydd, perthyn i grŵp unigryw, teimlo’n ddefnyddiol, boddhad, ymdeimlad o berthyn. Ond rwyf am ganolbwyntio ar grŵp Cymreig a sefydlwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng ngorllewin Cymru—y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref. Mae pob ymwelydd yn meddu ar sgiliau gwrando gwych ac wedi cael hyfforddiant proffesiynol priodol. Mae’r ymwelwyr bob amser yn arddangos proffesiynoldeb, yn dangos empathi ac yn ymdrin â’r bobl hŷn y maent yn gweithio gyda hwy gyda llawer iawn o ddidwylledd, gonestrwydd a pharch. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn dod i adnabod y bobl hŷn y maent yn ymweld â hwy. Maent yn ymweld â phob person dros gyfnod o 10 o ymweliadau wyneb yn wyneb ac yn defnyddio hel atgofion cywair isel i edrych ar hanes eu bywyd mewn ffordd sy’n eu helpu i gael cipolwg ar eu profiadau bywyd ac i deimlo’n dda am eu hunain. Argymhellodd Cymdeithas Alzheimer y defnydd o hel atgofion oherwydd yr effeithiau cadarnhaol y mae’n ei gael ar iechyd meddwl. Yn ôl ymchwil, mae therapi hel atgofion yn ymyrraeth nyrsio effeithiol ar gyfer gwella hunan-barch, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac iselder, ac yn darparu cysur yn y boblogaeth oedrannus.

Yn dilyn yr ymweliadau wyneb yn wyneb, mae’r ymwelydd yn y cartref yn cynnal cyswllt ffôn gyda’r person hŷn am oddeutu chwe mis. Erbyn iddynt newid o ymweliadau wyneb yn wyneb i ffonio am sgwrs, mae’r ymwelwyr yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod wedi magu perthynas gyda’r person hŷn.

Cafodd y cynllun croeso i ymwelydd yn y cartref ei ariannu drwy grant elusennol i ddarparu gwasanaeth i bobl unig ac ynysig yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae eu cyllid yn rhedeg tan fis Medi, ond maent yn awr yn ystyried cynnig y gwasanaeth i Gymru gyfan. Roedd y cyllid gan Sefydliad Sobell yn darparu ar gyfer cydlynydd prosiect a thîm bychan o ymwelwyr sydd wedi helpu tua 120 o bobl hyd yn hyn.

Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref yn wasanaeth ardderchog a allai arbed miliynau o bunnoedd drwy leihau derbyniadau y gellir eu hosgoi i’r ysbyty a dibyniaeth ar y sector gofal. Mae’r cymunedau yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi elwa’n fawr o’r prosiect hwn, ac rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda’r grŵp i sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn elwa ar y gwasanaeth gwerthfawr hwn. Diolch yn fawr.

Rwyf finnau hefyd am dalu teyrnged i Glwb Bowlwyr Anabl Sir Benfro. Mewn gwirionedd maent yn rhedeg cynllun ar gyfer pob unigolyn anabl, beth bynnag yw eich anabledd. Treuliais beth amser yno, yng nghanolfan hamdden Aberdaugleddau, yn eu cwmni ddydd Llun diwethaf. Roedd hi’n hollol glir fod pobl a oedd wedi bod yn gwbl ynysig cyn hynny bellach yn dod at ei gilydd fel grŵp ar y cyd. Hoffwn dalu teyrnged yma i Stephen a’i wraig, Olwen Whitmore, sy’n rhedeg y clwb ac wedi gwneud hynny ers pedair blynedd i wneud yn siŵr fod y bobl hynny, beth bynnag yw eu hanabledd, yn cael cyfle i ddod at ei gilydd—a geiriau’r bobl y siaradais â hwy yw’r rhain—i deimlo’n ddynol unwaith eto, i deimlo’n rhan o gymdeithas unwaith eto, ac mae wedi gwella eu hiechyd meddwl, a’u hiechyd corfforol yn ogystal. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ofyn i chi gydnabod y gwirfoddolwyr hyn, sydd weithiau’n unig eu hunain neu a fyddai’n unig eu hunain, am helpu i leihau unigrwydd, arwahanrwydd a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny.

Hoffwn dalu teyrnged i’r Aelod—Caroline, Aelod Cynulliad—am gyflwyno hyn yma heddiw. Gall yr effeithiau ar les meddwl rhywun o ganlyniad i unigrwydd ac arwahanrwydd fod yn ddinistriol. Mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi nodi unigrwydd ymysg pobl hŷn fel mater iechyd cyhoeddus pwysig. Mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo’n unig, gyda bron i hanner y rheini’n dweud mai eu teledu neu anifail anwes oedd eu prif gydymaith, a’u hunig gydymaith yn aml. Ac eto, nid yw’n ymwneud bob amser â phobl hŷn. Gall unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed, ac mae’n hanfodol nad ydym yn anghofio’r effaith y gall hyn ei chael ar les corfforol a meddyliol yr unigolyn: anobaith, iselder, mewnblygrwydd, dryswch, diffyg maeth a hylif hyd yn oed, gan fod y cymhelliant i barhau i fyw yn aml yn cael ei amharu.

Heddiw, hoffwn alw ar y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cael rhywfaint o atebion ymarferol. Gall canolfannau dydd dorri’r undonedd o fyw ar eich pen eich hun a’i gwneud yn bosibl creu ymgysylltiad cymdeithasol, ond yn aml iawn, nid ydynt yn hygyrch i bobl, felly hoffwn weld mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i’n seilwaith trafnidiaeth gymunedol. Mae angen cyllid ar gyfer hynny er mwyn i bobl allu gwneud defnydd o’r cyfleusterau hyn mewn gwirionedd. Mae arnom angen dull cydgysylltiedig o weithredu. Hoffwn dalu teyrnged i Esther Rantzen, mewn gwirionedd, a ddarparodd wasanaeth ffôn bedair blynedd yn ôl y gallwch ei ffonio, ac fe’i gelwir yn Llinell Arian. Gall pensiynwyr sgwrsio, i gael cyngor neu gymorth, neu i roi gwybod am gam-drin. Mae’n rhif 0800, mae ar gael am ddim, ac rwy’n meddwl o ddifrif, fel gwleidyddion, y dylem annog ein hetholwyr i ymgysylltu mwy, o bosibl. Y cyfan rwy’n ei wybod yw ein bod ni fel Aelodau Cynulliad, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, ond gan weithio gyda’r unigolion hyn sydd o ddifrif yn—. Fel y dywedoch yn gynharach, Caroline, gallai fod yn ni ein hunain ac efallai, yn y blynyddoedd a ddaw, mai felly y bydd hi.

Hoffwn innau ddiolch i Caroline Jones hefyd am roi munud yn y ddadl hon i mi. Rwyf wedi siarad am unigrwydd yn y Siambr hon sawl gwaith, ac mae’n fater sy’n fy mhryderu’n fawr iawn. Bwriadaf roi dwy enghraifft yn unig o unigrwydd: yn gyntaf y fenyw a ymwelodd â mi mewn cymhorthfa dair gwaith. Gofynnais iddi ar ôl ei thrydydd ymweliad beth oedd hi am i mi ei wneud i’w helpu. Atebodd hithau, ‘Rwy’n dod i’ch gweld chi am mai chi a’r cynorthwyydd wrth y til yn Somerfield yw fy unig ddau ffrind—yr unig bobl rwy’n siarad â hwy.’ Yr ail yw rhywun a ymwelodd â mi mewn cymhorthfa arall ac a arferai weithio yn y cyfryngau. Roedd ei gŵr wedi marw ac roedd hi wedi symud i ystad newydd o dai, a hi oedd yr unig berson adref drwy’r dydd—da i dderbyn nwyddau, ond golygai nad oedd yn gweld neb drwy’r dydd. Cofiwch, gall pob un ohonom wynebu unigrwydd.

Diolch yn fawr iawn. A galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, i ymateb i’r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Caroline Jones am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac i bob un o’r siaradwyr am roi cyfle i ni archwilio sut y gallwn fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn ein cymunedau yng Nghymru, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod hwn yn fater na ellir mynd i’r afael ag ef oni bai ein bod yn gweithio mewn partneriaeth.

Gall unigrwydd ac arwahanrwydd effeithio’n sylweddol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol, a dyna pam y mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ymrwymiad penodol i ddatblygu strategaeth drawslywodraethol i ymdrin ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Rydym yn cydnabod yr angen i weithio gyda’n gilydd ar draws y Llywodraeth ac rydym hefyd yn cydnabod yr angen i weithio gyda’r cyhoedd a’n partneriaid allanol. Mae hwn yn ddull o weithredu a ddefnyddiwyd gennym yn llwyddiannus eisoes mewn nifer o feysydd, gan gynnwys y gwaith a ddatblygwyd gennym drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ymagwedd hon yn ymwneud â’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, beth y gall cyrff statudol a’r trydydd sector a’r sector annibynnol ei wneud, ond hefyd, yn bwysig, mae’n ymwneud â’r hyn y gall pobl a chymunedau lleol ei wneud.

Fel y nododd Jane Hutt yn y ddadl flaenorol a gawsom ar y pwnc hwn yn ddiweddar, mae gan ein cymunedau draddodiad hir o fod yn lleoedd lle y bydd pobl yn gwneud eu gorau i helpu ei gilydd. Fodd bynnag, wrth i gymdeithas newid ac wrth i deuluoedd ddod yn fwy gwasgaredig, mae mwy o bobl yn profi unigrwydd ac arwahanrwydd, a chredaf fod yr enghreifftiau a roddodd Mike Hedges wedi dod â hynny’n fyw i ni heno.

Rydym eisoes yn gweithredu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru drwy ystod o raglenni a mentrau. Er bod y rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl hŷn, rydym yn cydnabod bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn effeithio ar fwy na phobl hŷn yn unig, ac rwy’n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ein hatgoffa o’r ffaith honno hefyd. O ran y gwaith sydd ar y gweill, mae’n cynnwys rhaglen dair blynedd o rwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr y cyfeirir atynt fel Cymunedau Tosturiol, ac rydym hefyd yn gwybod am bwysigrwydd cyfeillio. Rydym wedi darparu ystod o gyllid i gefnogi’r agenda hon, ac mae’n cynnwys cymorth i’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, sydd â ffrwd waith benodol yn edrych ar unigrwydd ac arwahanrwydd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i nifer o fudiadau trydydd sector i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn ein cymunedau. Er enghraifft, mae Diverse Cymru yn cynnal ymgyrch gyda chefnogaeth gan sefydliadau eraill i helpu i frwydro yn erbyn arwahanrwydd cymdeithasol mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae Sight Cymru yn gweithio ar brosiect i gyflwyno rhaglenni cymorth arbenigol dwyieithog dan arweiniad cleifion, sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r arwahanrwydd cymdeithasol a all ddod yn aml wrth i chi golli eich golwg. Mae rhaglen Teithiau’r mudiad Gofal yn anelu i wella ac ehangu’r model cyfredol o grwpiau cymorth gan gymheiriaid sy’n rhoi cyfle i bobl â phroblemau iechyd meddwl i rannu profiadau, meithrin hunan-barch a hyder a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Ac rydym hefyd wedi ariannu My Generation Mind Cymru i wella gwytnwch a lles pobl hŷn sydd mewn perygl o ddatblygu salwch meddwl o ganlyniad i arwahanrwydd.

Yn ddiweddar mynychais lansiad Ffrind i Mi yng Nghasnewydd. Mae’r cynllun yn anelu i recriwtio cymaint o wirfoddolwyr o gymunedau lleol ag y bo modd i ddarparu cefnogaeth i bobl eraill, ac wrth wneud hynny mae’n anelu i baru gwirfoddolwyr a phobl sydd â diddordebau a chefndiroedd tebyg, fel cyn-filwyr sy’n cefnogi cyn-filwyr, er enghraifft. Ac rwy’n credu y bydd cyfeillgarwch go iawn yn datblygu drwy’r model hwn, a fydd o fudd i’r unigolyn a’r gwirfoddolwr. Mae hon yn enghraifft dda iawn o’r hyn y gall pobl ei wneud yn lleol, ac mae’n cyd-fynd yn dda â’n model o ddatblygu cymunedau tosturiol. Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref—nid oeddwn yn gyfarwydd â hwnnw o’r blaen—yng ngorllewin Cymru a Chlwb Bowlwyr Anabl Sir Benfro hefyd. Diolch i Janet Finch-Saunders unwaith eto am dynnu sylw at y gwasanaeth pwysig y gall y Llinell Arian ei gynnig.

Rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn rhoi cyfle da iawn i ni gydnabod a diolch i’r holl wirfoddolwyr sy’n barod i roi rhywfaint o’u hamser i gefnogi pobl eraill, gan gynnwys etholwr Joyce Watson, Stephen. Er bod llawer o enghreifftiau o gynlluniau eraill tebyg, gwyddom fod mwy i’w wneud ac rydym yn sylweddoli difrifoldeb unigrwydd ac arwahanrwydd, a’r effaith ar iechyd meddwl a lles pobl. Rwy’n credu bod rhai o’r ffigurau y siaradodd Caroline Jones amdanynt yn gignoeth iawn ar ddechrau’r ddadl hon o ran dangos yr effaith ar iechyd, yn wirioneddol syfrdanol hefyd.

Ers y ddadl flaenorol ar unigrwydd ac arwahanrwydd a gynhaliwyd y mis diwethaf, mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi gwybodaeth am yr ymchwiliad y byddant yn ei gynnal. Byddant yn ystyried: y dystiolaeth ynglŷn ag achosion a maint y broblem; yr effaith ar bobl hŷn ac a yw’n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol, megis pobl â dementia; yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yr effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol; a thystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r ymyriadau sy’n gallu helpu mewn gwirionedd, ac atebion polisi cyfredol a’u costeffeithiolrwydd. Felly, rwy’n edrych ymlaen at ganlyniad yr ymchwiliad hwn, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn rhan o’r ffordd y byddwn yn datblygu ein strategaeth ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Felly, i gloi, hoffwn sicrhau’r Aelodau ein bod wedi ymrwymo fel Llywodraeth i wneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael â mater unigrwydd ac arwahanrwydd. Er bod hwn yn fater penodol i bobl hŷn, ac er y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y grŵp hwn, byddwn yn manteisio ar y cyfle i sicrhau bod grwpiau eraill o bobl sy’n dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd yn cael eu cefnogi hefyd. Mae gan bawb ohonom rôl i’w chwarae a bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth os ydym yn mynd i ddarparu cefnogaeth i ffrindiau, aelodau o’r teulu, cymdogion a chydweithwyr a allai fod yn dioddef unigrwydd neu arwahanrwydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:04.