Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/01/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. A gaf i gychwyn drwy ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Ac fe symudwn ni ymlaen i’r eitem gyntaf, sef cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, David Rees.

Cefnogi Twf Economaidd

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynigion ar gyfer cefnogi twf economaidd yn ystod 2017 yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0350(FM)

Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer Gorllewin De Cymru yn cynnwys cefnogi busnesau i dyfu, buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel a gwella amodau ar gyfer busnesau.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae cynhyrchu dur yn elfen hollbwysig o'r economi yng Ngorllewin De Cymru a dyma galon yr economi yn Aberafan. Mae'r heriau a wynebwyd gan y diwydiant y llynedd wedi lleddfu, ond nid ydynt wedi diflannu. Nawr, rwy’n canmol Llywodraeth Cymru ar anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi'r diwydiant, gyda chyhoeddiad cymorth ariannol o hyd at £12 miliwn ym mis Rhagfyr. Rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud dim a’i bod yn ymddangos mewn gwirionedd ei bod yn troi ei chefn ar y sector diwydiannol. Brif Weinidog, cyn y Nadolig, cafodd Lee Waters, John Griffiths a minnau gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Tata Steel UK, ac fe’i gwnaeth yn gwbl eglur bod y fenter ar y cyd gyda Thyssenkrupp yn dal ar yr agenda hyd yn oed os bydd yr undebau llafur yn derbyn y cytundeb ddiwedd y mis hwn. Gyda’r farn hysbys honno ar y broses o gyfuno’r diwydiant, a'r problemau o ran y diffygion pensiwn hefyd, pa drafodaethau fyddwch chi’n eu cael a pha ymgysylltu fyddwch chi’n ei wneud gyda Thyssenkrupp a Tata i sicrhau bod gan weithwyr dur yng Nghymru ddyfodol mwy diogel?

Gallaf ddweud y bydd unrhyw gymorth a ddarparwn yn amodol ar ddiogelu gweithgarwch economaidd yng Nghymru. Bydd ein cymorth yn amodol—ein cymorth ariannol, hynny yw—ar Tata yn cytuno i amodau sy’n rhwymo mewn cyfraith, ac ni fydd Tata yn cael unrhyw gyllid oni bai bod yr amodau hynny’n cael eu cytuno. Ac mae'n bwysig bod gweithwyr yn deall bod yr arian a fydd ar gael i Tata yn amodol. Rydym ni eisiau sicrhau bod yr arian hwnnw’n sicrhau ein bod yn cadw’r swyddi hynny yng Nghymru ac, yn bwysig, ein bod ni’n parhau i fod â dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.

Llwyddodd Aelodau o'r Cynulliad i gael cyfarfod ffurfiol o’r diwedd gyda phrif weithredwyr ac arweinwyr y cyngor i drafod dinas-ranbarth Bae Abertawe cyn y toriad, ac mae'n amlwg eu bod yn ystyried buddsoddi mewn trafnidiaeth—soniasoch am seilwaith yn eich ateb i David Rees—fel sbardun allweddol i ragolygon economaidd y rhanbarth. A ydych chi'n meddwl bod ail ddinas Cymru, sydd wrth wraidd yr ehangu rhanbarthol hwn, yn ddigon mawr ac yn ddigon uchelgeisiol i edrych y tu hwnt i fysiau, sef yr hyn a awgrymwyd yn ddiweddar gan Stuart Cole?

Na, rwy’n meddwl y gall atebion trafnidiaeth edrych ar unrhyw nifer o wahanol fathau o drafnidiaeth. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y cytundeb dinas yn cael ei gymeradwyo ac yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU, ac rydym ni’n gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol.

Brif Weinidog, yn y gorffennol, rydych chi wedi cydnabod pwysigrwydd pensiynau yn yr economi pan rwyf wedi codi materion gyda chi ynghylch Visteon UK a'r ymgyrch yr oedd llawer ohonom ni’n rhan ohoni ar y pryd, o ran economi Gorllewin De Cymru, a, phe byddai’r pensiynau hynny’n cael eu bygwth mewn rhyw ffordd, sut y byddai hynny'n effeithio ar yr economi. Felly, rwy’n meddwl tybed a allem ni gael trafodaeth felly ar sefyllfa pensiynau Tata, oherwydd nid ydym eisiau cael ein beirniadu am gadw allan o'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod gwleidyddion yn rhan o'r drafodaeth hon fel y gallwn arwain ar yr agenda hon. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, felly, i ni gael trafodaeth ar hyn, fel y gallwn ddeall pa gynlluniau wrth gefn fydd eich Llywodraeth yn eu rhoi ar waith o ran nifer y canlyniadau sy'n bosibl. Er enghraifft, os derbynnir y cytundeb, neu os caiff ei wrthod, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod â safbwynt ar hynny, oni fydd?

Rwy'n credu ei bod yn anffodus bod Visteon yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft, gan fod Visteon wedi cau. Rwy'n credu ei bod hefyd yn anffodus i awgrymu bod undebau llafur yn gwneud cam â’u haelodau. Maen nhw’n ceisio cynrychioli budd pennaf eu haelodau, ac maen nhw wedi mynegi barn ar y sylwadau a wnaed. Mater iddyn nhw yw hynny. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hynod bwysig yw bod dealltwriaeth, ar hyn o bryd, nad oes unrhyw beth arall ar y bwrdd. Pe byddai dewisiadau eraill dilys, yna mae hynny'n rhywbeth y gellid ei ystyried ymhellach, ond nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ac, felly, mae’n rhaid i ni ystyried y ffaith honno—nad yw Llywodraeth y DU yn barod i genedlaetholi'r diwydiant. Nid ydyn nhw erioed wedi awgrymu hynny, er fy mod i wedi eu hannog i wneud hynny yn y gorffennol pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog. Felly, yr unig becyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yw'r pecyn y mae Tata wedi ei roi yno, ond mater i’r gweithwyr a'r undebau llafur yw dod i'w casgliadau eu hunain o ran y dyfodol, yn enwedig dyfodol Port Talbot.

Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r economi yn fy rhanbarth i o hyd yn ystod 2017 yw seilwaith gwael. Mae economi ffyniannus yn dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth da. Gyda gwaith trydaneiddio yn cael ei wneud ar y rhwydwaith rheilffyrdd, mae busnesau yng Ngorllewin De Cymru ar drugaredd y llif traffig ar yr M4. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i leihau tagfeydd ar yr M4 dros y misoedd nesaf?

Wel, y peth cyntaf yr ydym ni eisiau ei weld yw Llywodraeth y DU yn cadw ei gair ar ei hymrwymiad i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd Canolog a’r gorllewin. Nawr, nid ydyn nhw wedi rhoi dyddiad ar hynny. Y cynllun gwreiddiol, wrth gwrs, oedd trydaneiddio i Gaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe, a wnaeth i mi feddwl beth yr oeddwn i wedi ei wneud i’w siomi nhw yn y fath fodd fel y dylid cael bwlch rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Ond, ar hyn o bryd, nid oes dyddiad ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd honno. Mae angen i ni gael y dyddiad hwnnw fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o foderneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, yr ydym yn gwybod y bydd yn mynd â mwy o geir oddi ar y ffordd.

Plant a Phobl Ifanc yn Nhorfaen

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn Nhorfaen? OAQ(5)0355(FM)

Wel, rwyf i wedi cyflwyno fy mlaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn y rhaglen lywodraethu newydd, 'Symud Cymru Ymlaen', a lansiwyd fis Medi diwethaf. Rwyf i eisiau i bob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd ac rwyf i wedi cydnabod pwysigrwydd pwyslais ar y blynyddoedd cynnar.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o fy mhryder bod penderfyniad wedi’i wneud i roi terfyn ar Her Ysgolion Cymru yn y gyllideb ddrafft, ac y gwnaed y penderfyniad hwn cyn i Lywodraeth Cymru dderbyn y gwerthusiad o'r cynllun. Ac mae'n amlwg bod llawer o ardaloedd wedi gweld manteision sylweddol iawn drwy'r rhaglen, ond mae hefyd yn amlwg bod rhagor o waith i'w wneud mewn ardaloedd fel fy un i, lle mae gennym ni nifer o ysgolion her. A gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i roi cyllid ychwanegol parhaus ar gael i ysgolion a oedd yn elwa o dan y rhaglen, ond nad ydynt wedi gwneud rhagor o gynnydd eto? A sut y byddwn ni’n sicrhau y gellir cyflwyno’r arferion da a welwyd mewn rhannau eraill o Gymru ym mhobman?

Wel, mae'n sicr yn wir fod y rhan fwyaf o ysgolion wedi elwa o dan Her Ysgolion Cymru. Nid oes angen y cymorth hwnnw arnynt mwyach; maen nhw’n gallu sefyll ar eu traed eu hunain erbyn hyn. Ceir rhai ysgolion nad ydynt yn y sefyllfa honno. Gallaf roi’r sicrwydd i’m cyfaill a’m cydweithiwr ein bod ni’n ystyried sut y gallwn ni helpu’r ysgolion hynny nad ydynt wedi gwneud cystal, i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl, ac i wneud yn siŵr bod yr arfer da sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion Her Ysgolion Cymru eraill yn trosglwyddo i’r ysgolion hynny nad ydynt wedi gwneud cystal ag y byddem yn dymuno, er mwyn iddyn nhw allu llwyddo yn y dyfodol.

Blwyddyn newydd dda i'r Gweinidog ac i bawb yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu amodau i roi'r cyfle gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd diddymu’r cynllun sy'n cynnig traean oddi ar docyn teithiau bws i bobl 16 i 18 mlwydd oed yn helpu pobl ifanc yn Nhorfaen, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, i gael mynediad at swyddi neu hyfforddiant, lle maen nhw’n mynd i fynd, ac sy’n sicr o fod yn gost helaeth iddyn nhw?

Wel, mae’r cynllun presennol yn dod i ben yn naturiol. Mae'n iawn i ddweud nad yw’r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun wedi bod mor sylweddol ag y bwriadwyd yn wreiddiol. Ond, serch hynny, mae'r Gweinidog wedi bod mewn trafodaethau â'r cwmnïau bysiau a choetsys er mwyn iddyn nhw gynnig cynllun arall priodol—erbyn mis Ebrill eleni, rwy’n credu. Felly, nid yw'n wir fod y cynllun yn dod i ben ac na fydd unrhyw beth yn dod yn ei le; rydym ni’n chwilio am ffyrdd o gael cynllun arall a'i wneud yn fwy effeithiol o ran faint sy’n ei ddefnyddio.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, nid oes unrhyw arwydd bod problemau cyfarwydd yr amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac o ran ambiwlansys, yn gwella. Ond, mae cwestiwn brys ar hynny, felly hoffwn eich holi chi am argyfwng o ran amseroedd aros nad yw'n aml yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Gofynnais i chi ddechrau'r tymor diwethaf am amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dywedasoch bryd hynny,

‘Mae'r adnoddau wedi eu sefydlu ac rwyf yn llwyr ddisgwyl i'r amseroedd aros a’r niferoedd leihau wrth i’r adnoddau hynny weithio drwy'r system.'

Brif Weinidog, sut mae hynny’n mynd? A yw'r amseroedd aros wedi lleihau?

Wel, os edrychwn ni ar amseroedd aros o ran derbyniadau iechyd meddwl, rydym ni’n gwybod y bu 9,570 o dderbyniadau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016, oddeutu 1,400 o gleifion preswyl mewn ysbytai ac unedau ledled Cymru. Felly, rydym ni’n gwybod bod nifer y derbyniadau wedi aros yn gyson, ac, wrth gwrs, rydym ni’n disgwyl nawr gweld yr arian ychwanegol—yr £8 miliwn ychwanegol—sy'n cael ei roi i mewn i wasanaethau iechyd meddwl plant, yn arbennig, yn helpu i leihau rhestrau aros, ac rydym ni’n gweld hynny ledled Cymru—amseroedd aros, mae’n ddrwg gen i.

Brif Weinidog, yr ateb i'r cwestiwn a ofynnais i chi yw nad yw amseroedd aros ar gyfer CAMHS wedi gwella. Gwaethygodd nifer y bobl sy'n aros dros 16 wythnos ychydig yn ystod y flwyddyn, ac, yn ogystal ag aros yr un fath dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r amseroedd aros yn parhau i fod yn sylweddol waeth nag yr oeddent dair blynedd yn ôl. Nawr, un esboniad yr ydych chi wedi ei roi am hyn yw bod gormod o blant yn cael eu hatgyfeirio. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2015, dywedasoch fod,

tystiolaeth yn awgrymu nad oes gan tua un o bob tri unigolyn ifanc a atgyfeirir at CAMHS arbenigol unrhyw salwch meddwl.

A dywedasoch,

Mae gan un o bob tri arall anawsterau lefel isel na fyddai'n cyrraedd y trothwy ar gyfer triniaeth gan wasanaeth arbenigol.

Ac ailadroddwyd y safbwyntiau hynny gan eich Gweinidog iechyd blaenorol. A ydych chi’n sefyll wrth y farn honno, Brif Weinidog?

Wel, a dweud y gwir, does dim tystiolaeth—dim tystiolaeth o gwbl—bod plant yn cael eu hychwanegu at restrau aros heb reswm. Nawr, amlygodd adroddiad 2014 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod yn rhaid i lawer o blant aros tan fod eu cyflwr yn gwaethygu i gael gafael ar gymorth. Mae'r elusen YoungMinds wedi dweud bod llawer o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod wedi cael eu gwrthod rhag cael gafael ar wasanaethau yn aml gan fod y trothwy ar gyfer triniaeth yn rhy uchel iddyn nhw. Brif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn cynyddu nad oes digon o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl. Gofynnaf yr un cwestiwn i chi a ofynnais i chi ym mis Medi y llynedd: pryd all pobl ddisgwyl gweld gwelliannau i’r rhestrau aros, yr ydych chi wedi eu haddo i’r Cynulliad hwn dro ar ôl tro?

Yn gyntaf oll, gwasanaeth acíwt yw CAMHS; ni fyddwn yn disgwyl i bobl gael eu hatgyfeirio at CAMHS yn awtomatig. Rwy'n disgwyl i bobl ifanc weld eu meddygon teulu ac i’r meddyg teulu atgyfeirio os yw hynny'n angenrheidiol. Yn ail, mae gan bob ysgol uwchradd gwnselydd, ac mae’r gwasanaeth cwnsela hwnnw ar gael i'r rhai sydd ei angen. Ni fyddwn yn disgwyl i bawb, yn yr un modd na fyddwn yn disgwyl i bawb sy'n mynd at feddyg teulu gael eu hatgyfeirio'n awtomatig at wasanaeth gofal eilaidd, i wneud hynny.

O ran CAMHS, rydym ni wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn CAMHS; nid oes dadl am hynny. Mae'r arian wedi mynd i mewn ac rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd sylweddol pellach yn ystod y flwyddyn hon. Byddaf, er hynny, yn ysgrifennu at arweinydd yr wrthblaid ynghylch y sail dystiolaeth sydd gennym ni o natur atgyfeiriadau i CAMHS, a byddaf yn darparu'r wybodaeth honno iddi.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, dros gyfnod y Nadolig ac yn ddiweddar dros y diwrnodau diwethaf, bu cryn sôn am rinweddau neu beidio, yn ôl y digwydd, y cytundeb sydd gerbron y gweithwyr dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill ledled Cymru—Trostre , Llanwern a Shotton. Cyn i ni dorri ar gyfer y Nadolig, dywedasoch yn eglur wrthyf i wrth gael eich holi bod hwn yn gytundeb da iawn a'i fod yn gytundeb y gallwch ei gymeradwyo ac sy'n cynnig dyfodol i'r gwaith. Ai dyna safbwynt y Prif Weinidog o hyd o ran y cytundeb hwn, gan nad wyf yn ymwybodol o unrhyw gynllun wrth gefn os caiff y cytundeb hwn ei wrthod?

Rwy'n ymwybodol o'r pryderon, wrth gwrs, o ran proses y cynllun pensiwn ac mae Aelodau yn y Siambr hon wedi ailadrodd y pryderon hynny, ond mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn gweld bod unrhyw ddewis arall ar y bwrdd ac felly, er ei fod yn fater i weithwyr wneud eu penderfyniadau eu hunain, mae'r cynnig sydd ar y bwrdd, rwy’n credu, yn un a fydd yn cadw’r diwydiant dur yn y de. Nid oes unrhyw beth arall. Nid oes cynllun wrth gefn.

Diolch i chi am yr eglurder, gan fy mod i’n credu ei bod yn bwysig deall difrifoldeb y penderfyniad y mae'r gweithwyr dur yn ei wynebu, a’u penderfyniad nhw yw hwn, er tegwch, gan y gofynnir iddynt roi rhywbeth yn gyfnewid am sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor y diwydiant dur yma yng Nghymru. Rydym ni’n deall nawr gan Blaid Cymru eu bod nhw o’r farn y dylai’r cytundeb hwn gael ei wrthod. Beth yn eich barn chi fydd y canlyniadau os caiff y cytundeb hwn ei wrthod i ddyfodol hirdymor a thymor canolig y gweithfeydd hynny a oedd yn meddiannu cymaint o'r agenda wleidyddol yn ogystal â'r agenda gymunedol yn y cymunedau hynny trwy gydol 2016?

Rwy’n deall y pryderon y mae Aelodau wedi eu mynegi, ond, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, nid oes dewis arall ar y bwrdd. Roedd y consortia eraill a oedd â diddordeb mewn cymryd drosodd i gyd yn pryderu am y cynllun pensiwn hefyd. Felly, nid yw mater y cynllun pensiwn byth yn mynd i ddiflannu. Y dewis arall, mae'n debyg, yw y gallai Llywodraeth y DU genedlaetholi'r diwydiant. Gwnaeth eich plaid chi hi’n eglur iawn na fyddwch yn gwneud hynny, ac felly, mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd mai’r cynllun hwn yw hi, neu ddim cynllun o gwbl. Dyna’r hyn y mae’n rhaid i’r gweithwyr ei ystyried.

Mae'n destun gofid i mi nad yw Llywodraeth y DU—roedd pethau’n wahanol o dan y Prif Weinidog blaenorol, os ydw i'n berffaith onest—wedi cymryd diddordeb yn y diwydiant dur yng Nghymru; nid ydynt wedi rhoi sylw i'r mater o brisiau ynni yn briodol; nid ydynt wedi cael unrhyw drafodaethau gyda ni, fel Gweinidogion, ar fater dyfodol y diwydiant dur, neu ychydig iawn, ers i'r Prif Weinidog newydd ddechrau yn y swydd, ac rwy’n gresynu hynny. Nodais yn ofalus yr hyn a ddywedodd Theresa May ddoe am ymyrryd yn y farchnad, ond nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny o ran cymorth i ddiwydiant dur Cymru.

Rwy’n credu bod gennym ni Lywodraeth y DU gefnogol iawn, Brif Weinidog, pan ddaw i’r mater hwn, a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sawl cais a wnaed i Stryd Downing am gyfarfod ar y mater dur penodol. A ydych chi'n cytuno â Stephen Kinnock, ac yn aml iawn— [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Dirprwy Weinidog yn grwgnach ar ei eistedd, ond efallai yr hoffai wrando ar y cwestiwn yn gyntaf, ac yna efallai y byddwn yn cael ateb a fyddai'n hysbysu ei etholwyr yn ogystal â phobl eraill yng Nghymru. Ydych chi’n cytuno—?

A allwn ni ganiatáu i arweinydd y Blaid Geidwadol gael ei glywed os gwelwch yn dda?

A ydych chi’n cytuno, Brif Weinidog, â Stephen Kinnock, bod y cynigion a roddwyd ar y bwrdd gan Tata Steel yn gynigion trawiadol, a’u bod wir yn datgloi buddsoddiad sylweddol ar gyfer y gweithfeydd dur ledled Cymru, ac yn cynnig dyfodol diogel, yn sicr yn y tymor byr a’r tymor canolig, i’r miloedd lawer o swyddi sy'n dibynnu ar ddatgloi’r buddsoddiad hwn? Mae saith mil o swyddi—

Gofynnais am i arweinydd y Blaid Geidwadol gael ei glywed, ac rwy'n bwriadu i bobl wrando arnaf pan fyddaf yn gofyn.

Mae saith mil o swyddi yn dibynnu ar y cytundeb hwn. A ydych chi’n cytuno â hynny?

Yn absenoldeb unrhyw beth gan Lywodraeth y DU, a’r diffyg diddordeb gan Lywodraeth y DU ers i’r Prif Weinidog diwethaf adael ei swydd, rwy’n credu mai dyma'r unig gytundeb sydd ar y bwrdd. Rydym ni wedi darparu swm sylweddol o arian, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw beth, ac rydym ni’n credu bod y pecyn hwnnw—wel, byddwn yn mynnu bod y pecyn hwnnw—yn helpu i ddiogelu’r miloedd o swyddi yn y diwydiant dur yng Nghymru.

A gaf i groesawu'r Prif Weinidog yn ôl o’i daith i Norwy? Efallai y gallai ddweud wrthym ba gasgliadau y daeth iddynt yn sgil hynny. A yw'n ymwybodol bod 70 y cant o bobl Norwy yn dal i wrthwynebu aelodaeth o'r UE yn bendant? Ac o ran aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, a wnaiff ef gadarnhau bod Norwy yn aelod o gytundeb Schengen, ac felly mae mynediad dilyffethair at y farchnad sengl, y mae'r Prif Weinidog o’i blaid bob amser, yn mynd i olygu mynediad dilyffethair hefyd i'r DU ar gyfer niferoedd diderfyn o fewnfudwyr o’r UE?

'Na' yw'r ateb i hynny, oherwydd mae pobl yn Norwy—. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith nad ydyn nhw’n cefnogi aelodaeth o'r UE, ond maen nhw’n cefnogi aelodaeth o AEE a rhyddid i symud yn gryf. Ond, mae gwahaniaeth, ac rwy’n credu bod hwn yn fater sy'n llwybr proffidiol i ni ei ddilyn yn y DU: mae rhyddid i symud yn Norwy yn golygu rhyddid i symud i weithio. Nid yw'n system ddiderfyn o ryddid i symud. Ceir rhai rheolau ynghylch sut y gall pobl chwilio am waith os byddant yn colli swydd, ond nid yw'n hawl dilyffethair i symud fel y mynnant. Y cwbl maen nhw’n ei wneud, mewn gwirionedd, yw dilyn y rheolau Ewropeaidd yn llythrennol, rhywbeth na wnaeth y DU. Roedd y DU yn fwy rhyddfrydol ei hymagwedd ac aeth y tu hwnt i'r hyn yr oedd y rheolau’n gofyn amdano. Os mai dyna sy'n ofynnol er mwyn cael mynediad i’r farchnad sengl, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y byddai pobl yn ei ystyried yn gwbl resymol.

Wel, canfuom yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yng nghanlyniad y refferendwm ei hun, oherwydd cymhellwyd y refferendwm, y canlyniad, i raddau llethol—ac mae’n ymddangos bod pawb yn cytuno ar hyn—gan ofnau am fudo dilyffethair, ac o ran—. [Torri ar draws.]

O ie. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos mai dyna oedd y ffactor a benderfynodd y canlyniad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, nid yn unig o blaid aelodaeth lawn o'r farchnad sengl, ond maen nhw hefyd o blaid aelodaeth lawn o'r undeb tollau, a fyddai'n ein hatal rhag gwneud cytundebau â gwledydd trydydd parti hefyd. Felly, o leiaf nid yw’r Blaid Lafur wedi mynd mor bell â hynny yn ei ffyddlondeb i aelodaeth o'r UE. Ond, onid y gwir yw, Brif Weinidog, bod gan 508 miliwn o bobl hawl mynediad ar hyn o bryd, gan eu bod yn ddinasyddion yr UE, i'r wlad hon, i ddod yma i fyw ac i weithio, a phe byddem ni’n aelodau o’r AEE, yna byddai hynny, i bob pwrpas, yr un fath ag y mae nawr?

Na fyddai, oherwydd os byddwch yn dehongli'r rheolau’n llym, dyna a gewch: rydych chi’n cael rhyddid i symud i weithio. Rwy’n credu y byddai pobl yn derbyn hynny. Rwy'n credu os yw pobl yn credu bod rhywun yn dod i swydd sydd ganddynt, y byddai hwnnw’n safbwynt rhesymol i’w fabwysiadu. Y peth arall y mae’n rhaid i ni ei gofio yw y bydd gan y DU ffin agored â'r UE. Bydd ganddi ffin agored yn Iwerddon, na fydd yn cael ei phlismona mewn unrhyw ffordd ac na fydd yn cael ei monitro mewn unrhyw ffordd. Nawr, pryd bynnag y bydd hyn yn cael ei grybwyll yn y trafodaethau yr ydym ni’n eu cael gyda Gweinidogion y DU, rydym ni’n gweld yr hyn sy'n cyfateb i estrys yn plymio ei ben i mewn i'r tywod. Maen nhw’n dweud yn barhaus, 'Bydd popeth yn iawn,' ond y gwir yw, o ystyried y ffaith y bydd ffin agored â'r UE, o ystyried y ffaith y bydd Llywodraeth y DU eisiau monitro wedyn a oes gan rywun yr hawl i weithio yn y DU, sut mae unigolyn yn profi’r hawl hwnnw? Mae pasbortau yn ddewisol, mae trwyddedau gyrru yn ddewisol; bydd gennych chi system cardiau adnabod gorfodol yn y pen draw. Nid oes unrhyw ffordd arall o’i wneud. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth nad yw wedi ei ystyried yn briodol, ymhlith llawer iawn o gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn.

Yn y ffordd garedicaf bosibl, hoffwn annog y Prif Weinidog i dreulio mwy o amser dramor, a mynd i wledydd eraill lle y gall ddysgu rhywbeth am y ffordd y mae’r byd yn gweithredu y tu allan i'r UE. Yn arbennig, hoffwn ei annog i fynd i Dde Korea, gan fod De Korea wedi—. Nid yn unig oherwydd ei fod mor bell—[Chwerthin.] Trwy Los Angeles efallai. Gan fod De Korea wedi llwyddo mewn gwirionedd i ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE. Felly, nid yw'n rhan o'r farchnad sengl, ond mae ganddi holl fanteision masnach aelodaeth o’r farchnad sengl heb unrhyw un o'r llyffetheiriau o ryddid i bobl symud. Gan fod hyn wedi ei ganmol gan gomisiynydd masnach yr UE, Cecilia Malmström, yn y termau hyn mae’n dweud,

Dylai tystiolaeth ein cytundeb gyda Korea helpu i argyhoeddi'r rhai nad ydynt yn argyhoeddedig bod Ewrop yn elwa'n fawr ar fwy o fasnach rydd... mae'n sbarduno twf Ewropeaidd. Mae'n diogelu ac yn creu swyddi.

Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog a minnau yn cytuno’n llwyr ar y pwynt hwnnw. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn, rwy’n credu, i’r DU yn gyffredinol pe byddai'n ychwanegu ei bwysau sylweddol at y ddadl dros fwy o gytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd, sy’n rhywbeth y gallwn ei drafod dim ond y tu allan i'r undeb tollau a'r tu allan i'r UE.

Wel, nid wyf yn gwybod a yw'n golygu pwysau gwleidyddol neu gorfforol. Byddaf yn ceisio bod yn obeithiol o ran yr hyn y mae'n ei olygu. [Chwerthin.] Y gwir yw hyn: mae cytundebau masnach rydd yn cymryd llawer iawn o flynyddoedd i’w cytuno. Ni fydd gan y DU gytundeb masnach rydd o fewn dwy flynedd. Pryd bynnag yr wyf i wedi siarad â swyddogion sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau o'r fath, maen nhw’n credu ei bod yn chwerthinllyd y gall pobl hyd yn oed ddweud hynny. Mae'n cymryd bron i ddwy flynedd i bennu’r fframwaith ar gyfer y trafodaethau. Y pryder sydd gennyf yw y bydd y DU, ymhen dwy flynedd, yn disgyn oddi ar ymyl y clogwyn ac na fydd ganddi gytundeb masnach rydd â neb, oherwydd ni fydd unrhyw drefniadau pontio. Felly, bydd trefniadau pontio yn gwbl hanfodol y tu hwnt i fis Mawrth 2019. Fel arall, ni fydd unrhyw beth.

Mae'n sôn am Korea. Yr hyn nad wyf i ei eisiau yw i'r DU ddod yn rhyw fath o Ogledd Korea Ewropeaidd sydd wedi ei thorri i ffwrdd oddi wrth weddill y byd, heb unrhyw fath o drefniadau masnachu gydag unrhyw un. Nid yw hynny o fudd i neb, does bosib. Ond mae'n rhaid cael dos o realaeth yn y fan yma. Dywedwyd y 'Bydd y byd yn syrthio wrth draed y DU.' Nid wyf yn credu hynny o gwbl. Mae'r DU yn fach o'i chymharu â blociau masnachu eraill. Mae'n rhaid i ni fod yn realistig ac mae’n rhaid i ni gynnal trafodaethau gyda meddwl agored. Mae’n rhaid i ni ddeall hefyd, cyn belled ag y mae mynediad at y farchnad yn y cwestiwn, bod quid pro quo. Ni allwn fynnu cael popeth yr ydym ni ei eisiau gan yr Undeb Ewropeaidd a disgwyl ei gael. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Nid yw’n mynd i ddigwydd yn y ffordd honno. I mi, mae dewis: naill ai rydych chi’n dweud, 'Rydym ni’n mynd i gyfyngu ar fewnfudo', sy'n amhosibl oherwydd y ffin agored, neu rydych chi’n dweud, 'Rydym ni’n mynd i gael mynediad at y farchnad sengl.' I mi, mynediad at y farchnad sengl yw’r mater pwysicaf i ni yng Nghymru yn bendant, ac felly gellir cyfaddawdu ar unrhyw beth arall. Credaf os byddwn ni’n dweud wrth bobl Cymru, 'Mae rhyddid i symud i weithio', yna mae hynny'n rhywbeth y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei dderbyn fel rhywbeth cwbl synhwyrol.

Datblygu Economaidd Rhanbarthol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd datblygu economaidd rhanbarthol er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ(5)0352(FM)[W]

Rŷm ni wedi ymgynghori ar ein gweledigaeth ddrafft ar gyfer cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y ddogfen derfynol yn rhoi sylw i’r berthynas rhwng y Gymraeg a datblygu economaidd a byddwn yn cyhoeddi’r strategaeth derfynol yn ddiweddarach eleni.

Diolch. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn credu’n gryf bod yn rhaid i ni gael bwrlwm cymdeithasol a ffyniant economaidd yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith os ydyw’r Gymraeg i gryfhau ac rydym yn credu mewn datblygu ardaloedd trefol penodol, megis ardal y Fenai. A ydych yn cytuno bod angen bachu ar bob cyfle i greu sefydliadau cenedlaethol newydd mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf, a hynny fel rhan o’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr? A ydych yn cytuno bod creu’r awdurdod cyllid newydd y bydd ei angen i weinyddu’r pwerau trethu newydd sy’n dod i Gymru yn gyfle gwych i greu swyddi dwyieithog o ansawdd uchel mewn ardal megis ardal y Fenai yn y gogledd-orllewin? A gaf i awgrymu Caernarfon fel lleoliad delfrydol achos mae gan y Llywodraeth adeilad hanner gwag yno ac y mae’n barod i’w ddefnyddio? Byddai sefydlu’r awdurdod cyllid yn fanno yn hwb mawr i’r Gymraeg yn lleol, ond yn genedlaethol hefyd.

Mae hwnnw’n gwestiwn pwysig dros ben. Mae rhai wedi sôn am Borthmadog, wrth gwrs, hefyd. Rwy’n deall, wrth gwrs, pam y mae’r Aelod yn cefnogi Caernarfon. Mae hwn yn rhywbeth rwy wedi gofyn i swyddogion i’w ystyried. Y pwynt sy’n cael ei godi yw a fyddai’n bosib sicrhau bod yna ffyniant o sgiliau yn yr ardaloedd llai trefol. Mae hwnnw’n gwestiwn agored ar hyn o bryd. Ond, rwy’n deall, lle mae corff newydd yn cael ei greu—corff cyhoeddus newydd, felly—dylem edrych y tu fas i Gaerdydd, ac efallai y tu fas i’r de hefyd, er mwyn gweld a oes yna fodd i sicrhau bod y corff hwnnw yn gallu bod rhywle arall yng Nghymru. Felly, mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd.

Cyhoeddodd y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a datblygu economaidd argymhellion ar sut y gellid gwella dwyieithrwydd a datblygiad economaidd. Awgrymodd tystiolaeth o'r adolygiad bod gwahaniaethau rhwng sut y mae BBaChau a busnesau mwy yn defnyddio'r Gymraeg, gyda llawer o BBaChau yn dweud mai cost yn hytrach na budd yw’r Gymraeg. Ers cyhoeddi’r adolygiad dair blynedd yn ôl, a gaf i ofyn pa gefnogaeth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi yn benodol i BBaChau i gynyddu manteision masnachol gweithredu yn ddwyieithog?

Wel, dau bwynt: yn gyntaf oll, yn hytrach na’i fod yn gost, mae'n gyfle i fusnes. Os gwelir bod busnes yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn cael ei dderbyn yn fwy ffafriol gan y gymuned gyfan. Nid oes amheuaeth am hynny yn fy meddwl i. Yn ail, ar bwynt mwy ymarferol, ceir prosiect arbrofol sydd wedi bod yn gweithredu yn nyffryn Teifi, yn gweithio gyda busnesau, yn eu helpu i gynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn eu helpu i ddeall manteision economaidd gweithredu yn ddwyieithog iddyn nhw fel busnes. Mae'r prosiect hwn yn bwysig o ran ein gallu i gasglu’r dystiolaeth o’r hyn a fydd yn gweithio yn y dyfodol o ran helpu BBaChau i ddatblygu eu cynnig iaith yn rhan o'u busnes.

‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’

4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi’u cael ag Ysgrifenyddion y Cabinet ynghylch adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y pedwerydd Cynulliad, ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’? OAQ(5)0347(FM)

Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi rhoi llawer o ystyriaeth i hyn. Mae wedi arwain ar hyn, o gofio ei chyfrifoldeb am faterion ynni. Mae ein hymateb cynhwysfawr i adroddiad y pwyllgor wedi cynnwys gwaith ar draws y Llywodraeth ac mae bellach ar gael i'w weld ar wefan y pwyllgor.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd yn gwybod bod blwyddyn newydd yn aml yn amser ar gyfer addunedau blwyddyn newydd hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fydd ef a'r Ysgrifennydd Cabinet galluog iawn yn ymgymryd—yn addunedu—i weithio gyda'r Cynulliad a gweithio ar draws y Llywodraeth i fwrw ymlaen â chymaint â phosibl o’r 19 o argymhellion hynny, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i gartrefi sy’n agos at fod yn ddi-garbon; a oedd yn cynnwys ymrwymiad i fwrw ymlaen mewn chwyldro tuag at ynni cymunedol a lleol a fyddai'n mynd i'r afael ag oligopoli y cyflenwyr ynni mawr, gan ddefnyddio cynllunio a dulliau polisi eraill i roi hwb enfawr i ynni cymunedol; a hefyd i ysgogi’r chwyldro hwnnw hefyd mewn swyddi ynni gwyrdd glân, ledled Cymru, trefol a gwledig fel ei gilydd? Un o nodweddion arbennig y Llywodraeth hon a'r Cynulliad hwn mewn gweinyddiaethau olynol fu’r ymrwymiad i hybu’r amgylchedd a chynaliadwyedd gwirioneddol. Ai hon fydd y Senedd, ac ai hwn fydd y Cynulliad, ac ai hon fydd y Llywodraeth a fydd yn gwneud hyn yn realiti—chwyldro ynni gwyrdd go iawn, a’r hwb i swyddi a fydd yn dod o ddyfodol ynni mwy craff i Gymru?

Ie, rwy’n credu. Mae'r argymhellion yn cyd-fynd yn agos â'n cyfeiriad strategol. O'r 19 o argymhellion, roeddem yn gallu derbyn 12 ohonynt yn llawn a saith mewn egwyddor. O ran sut y mae hyn yn cael ei ddatblygu, rydym ni wedi gweld llwyddiant, er enghraifft, fferm wynt dan berchnogaeth leol Awel Aman Tawe, a'r prawf ynni lleol ym Methesda, a gafodd ei ddangos ar y rhaglen 'Money Box' y penwythnos hwn. Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rheini. Cynhaliwyd digwyddiad gennym ddydd Gwener diwethaf gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, neu BEIS fel y maen nhw’n galw eu hunain erbyn hyn, ac Ofgem, gan sicrhau bod lleisiau o Gymru yn cael eu clywed ar ymgynghoriad mawr ar system ynni craff a hyblyg.

Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r adroddiad ardderchog hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn bod pwyllgorau’n gweithio'n galed ac yn myfyrio ar waith pwyllgorau blaenorol. Gwn y bydd y pwyllgor olynol yn dychwelyd at hyn. Ond uchelgais yw hwn, a’r uchelgais hwnnw yr ydym ni eisiau iddo gael ei adlewyrchu, rwy’n credu, yn rhaglen y Llywodraeth. Ceir cyfle gwirioneddol yma, wyddoch chi. Adeiladwyd economi Cymru ar un ffynhonnell ynni fwy neu lai, ac fe wnaethom ni ddioddef oherwydd hynny ar ôl y 1920au a disodliad glo gydag olew. Mae cyfleoedd newydd o’n blaenau, a gallai’r cyfleoedd hynny ein helpu i weddnewid economi Cymru a’i gwneud yn llawer mwy gwyrdd ac yn fwy cydnerth ac wedi’i rheoli’n lleol.

Wel, mae’r gwynt yno. Bydd y llanw bob amser yno cyn belled ag y bo’r lleuad yn yr awyr. Mae'r rhain yn adnoddau gwirioneddol adnewyddadwy a all, o’u harneisio’n gywir, sbarduno ein defnydd o ynni ac, yn wir, allforion ynni, ad infinitum, o bosibl. Mae'r rhain yn faterion y mae angen i ni symud ymlaen â nhw. Bydd gennym ni wrth gwrs, ym Mil Cymru, fwy o bwerau dros gydsynio ynni. Ond, wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy’n dal i fod yn gyfrifol am yr agwedd ariannol ar ddatblygiad ynni. Edrychwn ymlaen, wrth gwrs, at yr hyn y bydd adolygiad Henry yn ei ddweud o ran y môr-lynnoedd llanw, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennym ni ynni adnewyddadwy sydd â chost refeniw isel iawn o ran cynhyrchu ac a fydd yno yn ystod y dyfodol rhagweladwy.

A gaf i argymell i Aelodau’r Cynulliad, os ydyn nhw eisiau cael cip ar y dyfodol sy’n cael ei ragweld yn adroddiad y pwyllgor, eu bod nhw’n ymweld â Pentre Solar yng Nglan-rhyd, yn sir Benfro, lle mae tai cymdeithasol newydd gael eu hagor gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a finnau’n bresennol, y dydd Iau diwethaf? Dyna’r fath o beth mae’n bosib i’w wneud nawr yng Nghymru, a dylem ni weld llawer mwy o hynny yn cael ei ddatblygu.

Ond, yn benodol, mae’r argymhelliad gan y pwyllgor ynglŷn ag ynni yn argymell sefydlu cwmni ynni nid er elw ar gyfer Cymru i gyd i fod yn ymbarél dros ddatblygiadau, fel y rhai rŷch chi newydd eu hargymell—Ynni Ogwen, datblygiadau gan lefydd fel Talgarth, Glan-rhyd hefyd—i ddod â phobl at ei gilydd ac er mwyn cael y fargen orau i’r cwsmer yn ogystal â’r amgylchedd a’r Llywodraeth. Pa gamau yr ydych chi’n eu cymryd i wneud y fath yna o ddatblygiad?

Mae yna drafodaethau wedi cymryd lle rhwng swyddogion a sawl corff ynglŷn â datblygu cynlluniau i sefydlu cwmni ynni Cymreig. Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn glir beth yw pwrpas y cwmni ei hunan cyn symud ymlaen. Ond mae’r trafodaethau hynny wedi digwydd ac maen nhw yn parhau.

Darpariaeth Gofal Sylfaenol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal sylfaenol? OAQ(5)0345(FM)

Gwnaf. Mae byrddau iechyd yn cydweithio â phartneriaid i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol fel prif gynheiliad ein system iechyd a gofal, gan weithio mewn cymunedau i fynd i'r afael ag iechyd gwael, i gefnogi pobl i gadw’n iach ac i wneud yr hyn sy'n bwysig iddynt, ac i wneud diagnosis a thrin problemau pan eu bod yn dod i’r amlwg.

A gaf i ddiolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog? Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion ers y Nadolig ynghylch darpariaeth gofal sylfaenol, mewn dwy feddygfa yn Nwyrain Abertawe mewn gwirionedd, ynghylch methu â gwneud apwyntiad, cael eu hysbysu i ffonio yn ôl y bore wedyn, meddygon yn amharod i wneud apwyntiad, anawsterau o ran cael brechiadau, amharodrwydd i wneud ymweliadau cartref. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ddarpariaeth ragorol i gleifion y mae’r meddygfeydd eraill yn ei chynnig yn fy etholaeth i. Beth all y Llywodraeth ei wneud i safoni ansawdd y ddarpariaeth a dod â meddygfeydd pob meddyg i lefel y goreuon?

Mae'n bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae'n bwynt yr wyf i, fel yntau, yn ei glywed gan bobl ar adegau. Maen nhw’n gofyn pam nad yw’r gwasanaethau’n gyson. Wel, gall y gwasanaethau hynny a ddarperir yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd fod yn gyson, ond rydym ni’n gwybod mai contractwyr annibynnol yw’r rhan fwyaf o feddygon teulu, a dyna sut y bydd y sefyllfa am rai blynyddoedd i ddod. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i'r cyhoedd allu cael mynediad at wasanaethau pan fyddant eu hangen. Rwy’n disgwyl i feddygfeydd teulu lleol a byrddau iechyd ganolbwyntio ar hyn, gan weithio gyda'i gilydd yn lleol ar draws meddygfeydd ac yn eu 64 clwstwr gofal sylfaenol lleol gyda gweithwyr proffesiynol allweddol eraill. Mae arian ar gael; ceir y gronfa gofal sylfaenol o £43 miliwn. Mae honno yno i wella ffyrdd o ddarparu gwasanaethau: er enghraifft, datblygu swyddogaeth nyrsys, fel nad yw pobl yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ymweld â'r meddyg teulu bob tro, a gosod fferyllwyr, ffisiotherapyddion a gweithwyr cymdeithasol ochr yn ochr â thimau meddygon teulu, gan ein bod ni’n gweld mwy a mwy ledled Cymru, fel y gall pobl gael y gweithiwr proffesiynol cywir sydd ei angen arnynt yn hytrach na gorfod gweld meddyg teulu nad yw'n gallu eu helpu ac yn gorfod eu hatgyfeirio, ac wedyn eu bod yn gorfod aros am fwy o amser.

Rydych chi’n gwneud pwynt cwbl gywir yn ei hanfod ein bod ni angen mwy o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol yn gweithio mewn meddygfeydd teulu er mwyn helpu i gynnal gwasanaeth o ansawdd da i staff. Felly, fy nghwestiwn i chi, Brif Weinidog, yw, y llynedd, roedd pwyslais hollol gywir ar gael mwy o feddygon i Gymru, pa un a oedd hynny i ofal eilaidd neu sylfaenol. Eleni, a fyddwch chi’n gallu ystyried sut y gallwn ni recriwtio mwy o bobl i'r proffesiynau gofal iechyd perthynol, sut y gallem ni gael lleoedd hyfforddiant digonol ar eu cyfer, sut y gallem ni annog pobl ifanc y byddai hwn yn llwybr gyrfa defnyddiol iawn iddyn nhw a dangos iddyn nhw y ceir datblygiad gyrfaol gwirioneddol? Oherwydd nid ydym ni’n mynd i ddatrys ein problemau gofal sylfaenol heb gael y strwythur eang hwnnw o unigolion cymwys yn cynnig gwasanaethau cyfannol i bobl.

Ie, yn hollol. Lansiwyd cam cyntaf yr ymgyrch recriwtio genedlaethol a rhyngwladol gennym fis Hydref diwethaf, gyda'r nod o ddenu meddygon, a meddygon teulu yn benodol, i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru, a'r arwyddion yw bod nifer y ceisiadau ar gyfer hyfforddiant meddyg teulu wedi cynyddu, gan gynnwys yn y meysydd hynny lle’r ydym ni wedi cyflwyno dull seiliedig ar gymhellion. Gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno cynlluniau ar gyfer cam 2 yr ymgyrch recriwtio yn gynharach yr wythnos hon, wedi’i dargedu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol.

Efo adrannau brys ein hysbytai ni mewn argyfwng—geiriau Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ydy’r rheini, nid fy ngeiriau i—a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod yr erydiad sydd wedi bod yng nghyfran arian yr NHS sy’n mynd at ofal sylfaenol, a’r straen y mae hynny’n ei roi ar ein meddygfeydd teulu ni yn achosi problemau wedyn i adrannau brys yn ein hysbytai ni? Ac a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno, felly, ei bod hi’n amser edrych eto ar sut mae arian iechyd yng Nghymru yn cael ei rannu er mwyn sicrhau cyllid teg i ofal sylfaenol, er mwyn cynnal NHS cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?

Wel, dau beth: yn gyntaf, nid ydw i’n credu taw dim ond cael mwy a mwy o ddoctoriaid yw’r ateb. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn mynd i’r person proffesiynol sydd yn berthnasol i beth sydd gyda nhw. Efallai taw fferyllydd fyddai hwnnw, efallai taw nyrs fyddai hwnnw, efallai taw ffisiotherapydd fydd hwnnw. Mae’n iawn i ddweud bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cadw nifer y doctoriaid lan ar y lefel iawn, ond nid dim ond doctoriaid yw rhan o’r ateb hwn.

Ar yr ochr arall, wrth gwrs, mae’n hollbwysig i sicrhau bod pobl ddim yn aros yn yr ysbyty yn rhy hir. Rŷm ni wedi gweld y problemau sydd wedi digwydd yn Lloegr o achos y ffaith eu bod nhw wedi torri nôl ar wario ar wasanaethau cymdeithasol, a gofal cymdeithasol yn enwedig. Yng Nghymru, wrth gwrs, gwnaethom ni gadw lefel yr arian ar yr un lefel er mwyn sicrhau bod hynny ddim yn digwydd yng Nghymru. Mae’n wir i ddweud bod pwysau yn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny’n iawn. Mae’n digwydd bob blwyddyn, yn enwedig yn yr adrannau argyfwng. Mae yna gynlluniau wedi bod mewn lle, ac mae’r cynlluniau hynny wedi gweithio er y pwysau sydd wedi cael eu rhoi ar y meddygon. A gaf i hefyd dalu teyrnged unwaith eto i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn yr adrannau argyfwng, am y gwaith da y maen nhw yn ei wneud, yn enwedig amser hwn y flwyddyn?

Nwyddau a Gwasanaethau o Gymru

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr Cymru i brynu nwyddau a gwasanaethau o Gymru? OAQ(5)0357(FM)

Nifer o gamau gweithredu i gefnogi twf ar draws economi gyfan Cymru—cymorth uniongyrchol trwy Busnes Cymru, ac rydym ni hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gynyddu faint o gynnyrch o Gymru sy’n dod i mewn i'r sector cyhoeddus. Wrth gwrs, yn y diwydiant bwyd a diod, mae cynnyrch o Gymru wedi’i labelu’n llawer gwell nawr nag yr oedd 15 mlynedd yn ôl, yn sicr. Efallai fod ganddo’r un profiad sydd gennyf i o fynd i mewn i siopau lleol a gweld, yn ffodus, mai cynnyrch o Gymru yw’r cyntaf i ddod oddi ar y silffoedd.

Mae gan Norwy, lle bu ar ymweliad, fel y clywsom, yn ddiweddar, Gweriniaeth Iwerddon, rhanbarth Hesse yn yr Almaen, ac eraill, i gyd frand gwlad tarddiad swyddogol a adnabyddir yn eang sydd, i raddau helaeth, wedi eu hanelu at ddefnyddwyr domestig . Nawr, os, fel y mae'n ymddangos, ydym ni’n mynd i gael ein taflu allan o'r farchnad sengl gan gynghrair atchweliadol Corbyn a May, bydd disodli mewnforio yn bwysicach fyth i ni yn y dyfodol. Felly, a allwn ni gael brand ‘cynhyrchwyd yng Nghymru’ fel y llinell gyntaf o amddiffyniad rhag y gwallgofrwydd economaidd sy’n deillio o San Steffan?

Edrychwyd ar hyn yn y gorffennol o ran pa un a oes angen brand ar gyfer cynnyrch o Gymru, neu a fyddai’n well cael adnabyddiaeth brand gref ar gyfer cynhyrchion unigol, ac mae cig oen Cymru yn un o'r cynhyrchion hynny. Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr bwyd, er enghraifft, yn labelu eu cynnyrch fel cynnyrch o Gymru. Ystyrir bod hynny’n fantais fawr iddyn nhw; maen hynny’n llai gwir i rai, ond yn sicr mae'n llawer mwy cyffredin nag yr oedd 15, 16 mlynedd yn ôl, ac mae pobl yn llawer mwy tebygol o brynu cynnyrch o Gymru erbyn hyn. Rwy’n cofio, ar adeg argyfwng clwy'r traed a'r genau, nad oedd un o'r archfarchnadoedd mawr yn labelu unrhyw beth i ddweud ei fod yn dod o Gymru bryd hynny. Roedd popeth yn gyffredinol ym mhob un siop. Mae hynny wedi newid ers amser maith, ac mae pethau'n well o'r herwydd.

Mae'r farchnad ddomestig yng Nghymru yn bwysig, ond marchnad fechan yw hi, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n parhau i wneud yn siŵr bod gennym ni bwyslais ar allforion, a chael cynnyrch â brand Cymreig i farchnadoedd tramor. Pan edrychwn ni ar fwyd o Gymru, yr un peth y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw'r sefyllfa yn Norwy, lle ceir tariff ar fwyd. Roedden nhw’n dweud wrthyf fod y tariffau mor fanwl fel bod un tariff ar gyfer eog mwg a thariff arall ar gyfer eog ffres, sy'n rhoi syniad i chi—bydd ef yn gwybod hyn beth bynnag—o ba mor gymhleth yw trafodaethau masnachu mewn gwirionedd. Ond, o ran Norwy, mae ganddyn nhw dariffau a orfodir ar eu cynnyrch amaethyddol sy’n mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Y peth olaf un sydd ei angen arnom ni yw gweld yr un peth yn digwydd i Gymru.

Roeddwn i’n falch o glywed y Prif Weinidog, yn ei ymateb, yn cyfeirio at swyddogaeth cyrff cyhoeddus Cymru o ran cefnogi nid yn unig cynhyrchwyr a chyflenwyr Cymru, ond hefyd bod ganddyn nhw swyddogaeth o ran cefnogi eu heconomïau lleol yn rhagweithiol. Byddai’n gwneud cryn wahaniaeth pe byddai pob corff cyhoeddus yng Nghymru, neu, yn wir, pob corff yng Nghymru sy'n derbyn cyllid cyhoeddus Cymru, yn gweithredu’n fwriadol, yn rhagweithiol ac yn gydweithredol â'i gilydd i gefnogi eu heconomïau lleol, ac yn cynnwys meithrin datblygiad cyflenwyr lleol a chadwyni cyflenwi lleol. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau hynny?

Wel, rydym ni’n parhau i weithio ar gydweddu’r dull seiliedig a dull SquID cymesur, fel y’i gelwir, gan symleiddio'r broses i gyflenwyr wrth wneud cais am waith yn y sector cyhoeddus a helpu i sicrhau bod pob cyflenwr yn cael cyfle teg i ennill y gwaith hwnnw. Un o'r materion, yn enwedig yn y sector bwyd a diod, a oedd yn broblem ar un adeg yw eu bod nhw’n rhy fach. Roedd cwmnïau yn rhy fach i gyflenwi sefydliadau mawr fel y GIG ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, gyda’r hyn yr oedden nhw’n ei gynhyrchu. Cafodd hynny ei oresgyn drwy’r mentrau caffael a gyflwynwyd ac rydym ni wedi gweld llawer mwy o gaffael yn digwydd yn lleol erbyn hyn nag oedd yn wir 15 neu 16 mlynedd yn ôl, yn sicr. Cymrodd gryn amser i symud awdurdodau lleol oddi wrth dendro cystadleuol gorfodol, hyd yn oed wrth i’r cysyniad ddiflannu. Pan fyddwn ni’n sôn am werth gorau i awdurdodau lleol, rydym ni’n dweud wrthyn nhw nad yw’n ymwneud â chael y dyfynbris rhataf posibl yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cael ei gadw yn yr economi leol.

Rwy'n falch bod Adam Price wedi codi’r cwestiwn hwn. Dim ond chi allai wneud i Corbyn a May swnio fel grŵp canu gwerin o’r 1960au, Adam. Byddai'n well gen i ganolbwyntio ar y mater bwyd a diod y soniodd y Prif Weinidog amdano wrth eich ateb. Rwy’n cytuno â chi, Brif Weinidog, fod gan Gymru stori wych i'w hadrodd o ran ein bwyd a diod cartref, ac rydych chi’n iawn i dynnu sylw at labelu fel arf pwysig. A fyddech chi’n cytuno â mi bod gwyliau bwyd a modelau fel hynny hefyd yn ffordd bwysig iawn i ni werthu cynnyrch o Gymru, nid yn unig i ddefnyddwyr yng Nghymru, fel y dywedodd cwestiwn Adam Price yn wreiddiol, ond hefyd i ddefnyddwyr o Loegr sy’n dod dros y ffin?

Mae’r Fenni, rwy'n siŵr, yn uchel ei pharch fel gŵyl fwyd, fel y bydd ef yn gwybod. Ond mae'n iawn, gan fod y digwyddiadau yn arddangos cynnyrch o Gymru. Roedd y neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, ar un adeg, yn rhy fach. Cafodd ei hailadeiladu ac mae bellach yn rhy fach eto yn ôl pob tebyg. Mae hynny’n arwydd o lwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru o ran ei arallgyfeirio, ei amrywiad, a'r ffaith fod cynifer o'r busnesau a sefydlwyd yn ystod y degawd diwethaf yn dal i fod yno ac yn dal i allu mynd i mewn i'r archfarchnadoedd. Mae nifer o'r archfarchnadoedd wedi newid eu meddyliau hefyd. Er y bu’n well ganddyn nhw brynu gan gyflenwyr mawr yn y gorffennol, maen nhw wedi datblygu mwy o ddiddordeb mewn cyflenwyr llai ac mewn cynnyrch lleol, sy'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei osgoi yn fwy na dim arall yw i’n marchnad fwyaf, sef Ewrop, naill ai gael ei chau i ni neu i’r telerau masnachu â’r farchnad honno fod yn llai manteisiol i ni. Ni fydd yr Unol Daleithiau fyth yn cymryd lle’r farchnad Ewropeaidd. Mae'r Unol Daleithiau yn warchodol iawn pan ddaw i amaethyddiaeth. Felly, mae cadw gallu ffermwyr Cymru i werthu ar delerau presennol y farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i ddyfodol ffermio yng Nghymru.

Ffliw Adar yng Nghymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o ffliw adar yng Nghymru? OAQ(5)0351(FM)

Mae'n fater o bryder difrifol, wrth gwrs. Mae gennym ni hanes cryf o reoli achosion o glefydau anifeiliaid. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei datganiad llafar ar ffliw adar y prynhawn yma.

Edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw yn ddiweddarach heddiw. Mae’n wir, yn ystod gwyliau'r Nadolig, bod chwiwell—math o hwyaden yw honno, i’r rhai nad ydynt yn gwybod—a laniodd yng nghanolfan gwlyptir adar y dŵr Llanelli. Hoffwn ganmol yn y fan yma y camau a gymerwyd ar unwaith gan y ganolfan ieir gwlyptir honno i gau eu drysau i'r cyhoedd am naw diwrnod oherwydd, o ganlyniad i hynny, rwy’n siŵr eu bod wedi helpu i leihau lledaeniad y ffliw adar hwnnw yn yr ardal. Rydym ni yn gwybod, fodd bynnag, ei fod wedi lledaenu, ac y bu haint yn yr ardal honno. Yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wybod yw nad yw adar yn deall ffiniau, a byddwn yn credu efallai y byddai’n ddoeth i ni gymryd sylw o’r cyfnod o dywydd oer iawn yn nwyrain Ewrop ar hyn o bryd, a allai, ac a fydd yn ôl pob tebyg yn fy marn i, yn arwain at fwy o adar yn mudo i chwilio am fwyd ymhellach i'r de, atom ni—y gorllewin yw hynny, wrth gwrs. Fy nghwestiwn i fydd, a byddaf yn ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddarach yn ôl pob tebyg, sut yr ydym ni’n mynd i ymateb i hynny a sut yr ydym ni’n mynd i ddweud wrth y cyhoedd i fod yn ymwybodol o'r adar hynny sydd newydd fudo a allai o bosibl fod yn ffynhonnell o ragor o haint yma.

Rydym ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda Llywodraethau eraill Prydain Fawr er mwyn cymryd y camau priodol. Byddwn yn annog unrhyw aelodau o'r cyhoedd i hysbysu am adar dŵr gwyllt sydd wedi marw—elyrch, gwyddau, hwyaid ac yn y blaen, neu wylanod, a dweud y gwir—i linell gymorth Prydain Fawr. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cael ei diweddaru'n barhaus gyda chyngor a byddwn yn annog pawb sy’n cadw dofednod a phawb sy'n ymwneud â gweithio yn yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd i edrych ar y wefan yn aml. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu mwy o wybodaeth maes o law y prynhawn yma.

Brif Weinidog, yn sgil yr achosion ffliw adar yma, pa waith ychwanegol ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i asesu’r effaith y gall y clefyd yma ei chael ar y sector dofednod?

Mae yna effaith, achos mae yna gyfnod o amser lle, ar ôl y cyfnod hwnnw, nid yw’n bosibl dweud bod dofednod yn ‘free range’, achos y ffaith eu bod nhw wedi cael eu cadw i mewn. Rŷm ni yn gwybod hynny, ac rŷm ni’n gwybod efallai beth fyddai’r effaith ar y rhai sy’n cadw dofednod. Ar hyn o bryd, felly, beth sy’n hollbwysig yw ein bod ni’n sicrhau bod pethau’n dal fel maen nhw er mwyn rheoli’r clwy ei hunan. Ond, wrth gwrs, rŷm ni yn deall beth yw’r sefyllfa ynglŷn â ffermwyr dofednod os byddai hyn yn parhau yn y pen draw.

2. Cwestiwn Brys: Gofal Brys

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng? EAQ(5)0097(HWS)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, a hoffwn ddechrau drwy gydnabod gwaith caled y GIG a staff gofal cymdeithasol, sy'n gweithio dan bwysau sylweddol ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn. Mae hynny, wrth gwrs, yn nodweddiadol o’r gaeaf. Nid wyf yn derbyn bod gofal brys yng Nghymru mewn cyflwr o argyfwng. Yn wir, rydym yn parhau i weithio gyda Dr Roop a chlinigwyr blaenllaw eraill, fel aelodau o’r bwrdd cenedlaethol gofal heb ei drefnu, i geisio dod o hyn i atebion ystyrlon er mwyn cefnogi canlyniadau gwell i gleifion y mae angen gofal brys a gofal heb ei drefnu arnyn nhw yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, does neb yn dymuno siarad am argyfwng yn y GIG. Mae'n destun pryder i gleifion ac mae'n digalonni ein staff rhagorol. Ond byddwch yn ymwybodol fod y Groes Goch wedi disgrifio’r sefyllfa yn Unedau Damwain & Achosion Brys Lloegr fel argyfwng dyngarol. Byddwch hefyd yn ymwybodol fod arweinydd eich plaid chi, Jeremy Corbyn, wedi disgrifio hynny fel gwarth cenedlaethol, gan fynnu bod y Prif Weinidog yn rhoi ei heglurhad ei hun i'r Senedd. Er hynny, ddoe fe ddisgrifiodd is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru y ddarpariaeth gyfredol yma fel un sydd cyn waethed â, os nad yn waeth na’r ddarpariaeth yn Lloegr. Buasai hynny'n frawychus, ond mae perfformiad ar y lefel hon yn beth hirsefydlog, ac mae’n digwydd yn flynyddol. ‘Rydym yn gyfarwydd â hyn, ac nid yw'n cynhyrchu'r un penawdau â’r rhai yn Lloegr rywsut.

Nid yw’r data ar gyfer mis Rhagfyr ar gael eto. Ond dangosodd data mis Tachwedd mai dim ond 77 y cant o gleifion a gafodd eu gweld o fewn pedair awr, a bod bron 3,000 o bobl wedi aros am fwy na 12 awr i gael eu gweld mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys mawr. Os bydd y perfformiad yn dilyn y trywydd arferol, mae'n debygol y bydd pethau'n gwaethygu wrth i'r gaeaf fynd rhagddo. Felly, pe byddech chi yn fy sefyllfa i yma, rwy'n siŵr y byddech yn deall y demtasiwn sydd i ddefnyddio'r term 'argyfwng'. Wel, nid y fi sy’n dweud hynny; ond y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, a does dim modd osgoi difrifoldeb y rhybudd, oherwydd yr argyfwng hwn, fel y maen nhw yn ei ddweud, bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae modd rhagweld y gaeaf a bod poblogaeth yn heneiddio, ac rydym yn trafod hyn bob blwyddyn. O’n hochr ni ym, rydym yn galw am well gofal cymdeithasol, ar gyfer atgyfnerthu gofal sylfaenol, gwell gwasanaethau y tu allan i oriau gan feddygon teulu, er mwyn ysgafnu’r baich ar unedau Damwain & Achosion Brys, ac ‘rydych chi yn cytuno â ni bod yn rhaid i hyn ddigwydd. Felly, pam nad yw hyn wedi digwydd? Pam fod yna’r ffasiwn fwlch rhwng yr addewidion sy'n cael eu rhoi yma, a’r hyn sy'n digwydd ar lawr daear? Ac a oes arnoch chi gywilydd, a bod yn onest, bod eich perfformiad chi eich hun yn y Llywodraeth Lafur yn tanseilio eich cydweithwyr yn San Steffan, sydd yn daer eisiau tynnu sylw at fethiannau Jeremy Hunt?

Na. Rwy'n credu, wrth inni edrych ar hyn, bod angen inni feddwl yn ddoeth am ein sefyllfa yng Nghymru, a'r gymhariaeth a wnaed â Lloegr. Lle'r Groes Goch, wrth gwrs, yw sefyll dros eu sylwebaeth eu hunain ar y system yn Lloegr—nid ydyn nhw wedi gwneud yr un sylwadau ar y system yma yng Nghymru, ac mae yna wahaniaethau yn bodoli. Mae saith o ymddiriedolaethau ysbytai amrywiol yn Lloegr wedi cyrraedd y lefel uchaf o wyliadwriaeth—ac maen nhw yn rhedeg system wahanol, felly mae'r pwysau sydd arnyn nhw’n wahanol. Rhan o'r her yw defnyddio geirfa onest am yr hyn rydym yn ei ddisgrifio mewn gwirionedd. Ar gychwyn ddoe, cafodd y datganiad a wnaed gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru ei ddiwygio wedyn, oherwydd eu bod yn cyfeirio at rywfaint o'r derminoleg yn Lloegr. Felly mae perygl gwirioneddol o beidio â bod yn fanwl gywir yn ein geirfa, a methu â chyfleu’r sefyllfa yr ydym ynddi yn iawn. A chan siarad yn wrthrychol, ‘rydym mewn gwell sefyllfa gyda llai o bwysau arnom yn y system yr wythnos hon na'r wythnos ddiwethaf. Mae yna adegau yn y gaeaf pan mae’r anghenion yn wirioneddol uchel, fel y mae pawb yn gwybod—ambell i ddiwrnod unigol gwirioneddol brysur a chyfnodau penodol yn ystod y flwyddyn, prysurdeb mawr sy'n parhau am gyfnodau o wythnosau neu fisoedd. Ein her bob amser yw hyn: sut ydym am ymdrin â hynny yn gyson a diflino, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw canlyniadau i gleifion yn cael eu peryglu a gwneud yn siŵr bod gofal cleifion a’u profiad o ofal cystal ag y gallen nhw fod, ac nad yw’r system yn chwalu? Byddwch yn cofio, pan oeddwn yn bresennol yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, yn yr ymchwiliad i brysurdeb y gaeaf, nodais ein bod mewn gwell sefyllfa nag yr oeddem y ddau aeaf diwethaf: roedd ein cynlluniau wedi eu gosod yn well, roeddem wedi dysgu gwersi o'r ddau aeaf blaenorol. Ond nid oedd yn hynny yn golygu y gallem fod yn hunanfodlon oherwydd fe fydd yna ddyddiau anodd. Ac fe ddylech chi a finnau fod yn hynod ddiolchgar nad ydym ni'n aelodau o’r staff rheng flaen sy'n ymdrin â'r pwysau ar lawr gwlad.

Ond nid yw hynny'n golygu ein bod mewn argyfwng nawr yn y fan hon, oherwydd os edrychwch ar lefelau gwrthrychol y cynnydd ym mhob un o'n hysbytai, nid yw'n gyfystyr ag argyfwng mewn gwirionedd. Mae gennym rai ysbytai ar lefel 4, ond mewn gwirionedd mae'r mwyafrif ar lefel 3 neu’n is, ac nid yw hynny yn cyfleu system gofal brys sydd mewn argyfwng. Mae angen i bob un ohonom fod yn ofalus iawn yn yr iaith a ddefnyddiwn, gan eich bod yn gywir, ar y cychwyn, pan oeddech yn siarad am ddigalonni staff drwy ddisgrifio'r system mewn ffordd nad yw’n gywir mewn gwirionedd. Rwyf am weld cefnogaeth i staff wrth iddyn nhw wneud yr hyn sy’n hynod anodd drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig felly yn ystod y gaeaf.

Ni fydd unrhyw hunanfodlonrwydd yma. Ac un o'r rhesymau pam mae ein sefyllfa ni yn wahanol i Loegr yw nad ydym ni wedi gweld y toriadau yma a wnaed ar ofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae’r mesur artiffisial hwnnw wedi golygu nad yw’r system yn gweithio yn ei chyfanrwydd. Rydym yn ceisio gweld system iechyd a gofal cymdeithasol fel un cyfanrwydd cydlynol. Yn sicr bydd gennym fwy i’w ddysgu eto y gaeaf hwn, ac os bydd argyfwng go iawn, byddaf yn barod iawn i gydnabod hynny. Nid wyf yn derbyn ein bod nawr mewn argyfwng yma, ond rwyf yn derbyn bod pwysau gwirioneddol arnom a bod rhagor i’w ddysgu bob amser wrth wneud mwy i gefnogi ein staff a sicrhau gwelliant, nid yn unig i’r gwasanaeth iechyd ei hun, ond i’r cleifion a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Rydych yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn yr eirfa yr ydym i gyd yn ei defnyddio. Rwy'n credu mai un o'r meysydd cyntaf y bydd yn rhaid i ni fod yn glir iawn yn ei gylch yw bod yr hawl gan bob un ohonom i herio—eich herio chi, herio Llywodraeth Cymru—ynghylch perfformiad y gwasanaeth iechyd. A thrwy wneud hyn, nid yw mewn unrhyw ffordd yn bychanu ​​ gwaith caled y bobl sydd yn y gwasanaeth iechyd. Pa un a yw’n ymgynghorydd o’r radd uchaf neu’n borthor sy'n hebrwng y claf o'r ambiwlans ac i mewn drwy'r system, maen nhw i gyd yn chwarae rhan werthfawr, ac mae angen inni oresgyn y broblem hon o 'Ni allwn drafod y peth, rhag inni ddilorni unrhyw un ', oherwydd nid oes yr un ohonom am ddilorni unrhyw un. Ac mae geirfa yn bwysig iawn, oherwydd roedd cadeirydd y Groes Goch yn gwbl, gwbl anghywir yn y sylwadau a wnaeth am argyfyngau dyngarol. Roedd hynny'n ddefnydd gwarthus o eirfa. A phan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth sydd yn bodoli, mae'n bennaf o achos dwy ymddiriedolaeth GIG. Mae gennym ni saith, ac mae’r saith yn ymateb mewn ffyrdd amrywiol i bwysau’r gaeaf.

Yn awr, wrth gwrs, gwnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Brys rai argymhellion clir iawn pan ddaethon nhw gerbron y pwyllgor iechyd. A gwn eich bod chi a'ch swyddogion wedi edrych ar y trawsgrifiad, gan edrych ar yr hyn yr oedd pobl yn ei ddweud, ac rydych wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r holl golegau brenhinol hyn. Felly, hoffwn i ofyn un neu ddau o gwestiynau i chi: a gawsoch chi gyfle i glustnodi neu i sicrhau bod awdurdodau iechyd sydd wedi neilltuo unrhyw welyau ar gyfer gofal heb ei drefnu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yno, fel nad oedd llawdriniaeth ddewisol yn dioddef? A oeddech yn alluog i weithredu unrhyw ganolfannau asesu’r oedrannus a’r bregus yn unrhyw un o'r prif ysbytai er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr un modd ag yr ydym yn blaenoriaethu mewn pediatreg? A ydych yn hyderus fod gwasanaethau ailgyfeirio wedi llwyddo yn eu gwaith? Ac wrth gwrs, yr hyn sy’n achosi’r chwalfa yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys a'r hyn sydd wedi achosi’r sylwebaeth gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, fel y deallaf, a oedd yn gwbl gywir wrth dynnu sylw at yr hyn a wnaethon nhw a sut maen nhw’n gweld pethau, yw cau gwelyau. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud a oes cynnydd wedi bod o gwbl mewn gwelyau cymunedol ac mewn gofal eilaidd, gan y byddai cymryd y tri neu bedwar cam hyn, mewn gwirionedd, yn helpu i leddfu'r pwysau sydd ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Y nhw, wrth gwrs, yw drws ffrynt pob un o'n gwasanaethau aciwt.

Diolch i chi am eich cyfres o bwyntiau, sylwadau a chwestiynau. Pan fyddwn yn sôn am y system dan bwysau, mae'n golygu bod gwaith y staff yn fwy anodd ac mae mwy o alw arnyn nhw, ac mae hefyd yn effeithio ar brofiad y claf. Dylem i gyd ystyried a chydnabod ein bod yn trafod y maes cyffredinol hwn. Nid wyf yn dweud, o gwbl, na ddylai Aelodau ofyn cwestiynau anodd; rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, ar adegau, i herio'r defnydd o eirfa er mwyn holi a yw'n briodol. O ran y cwestiynau a ofynnwyd gennych a'r pwyntiau a wnaethoch, rwyf yn meddwl, unwaith eto, eu bod yn ymwneud â gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel un system gyfan. Nid y rhan gofal eilaidd yn unig, nid y gwasanaeth ambiwlans a'r parafeddygon yn unig, nid yr adran achosion brys yn unig; ond system yr ysbyty cyfan, a’r llif drwy'r system honno, a’r hyn sydd angen ei wneud mewn gwirionedd, nid yn unig y blaenoriaethu yn y man pan fydd rhywun yn cyrraedd yr ysbyty, ond yr hyn a wneir cyn hynny, boed hynny gyda'r gwasanaeth ambiwlans neu yn y maes gofal sylfaenol hefyd. Ac rydym, yn wrthrychol, yn dod yn well am wneud hynny fel system.

Edrychaf ymlaen at gyhoeddi mwy o ystadegau a mwy o wybodaeth dros y gaeaf hwn am yr hyn sy'n cael ei wneud—er enghraifft, yn ystadegau’r chwarter nesaf ar y gwasanaeth ambiwlans, y gwaith sy’n cael ei wneud i weld, clywed a thrin pobl a’u rhyddhau nhw naill ai dros y ffôn neu yn y fan a'r lle er mwyn atal teithiau diangen i mewn i system yr ysbyty; y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws gofal sylfaenol gyda chynlluniau peilot tebyg i'r un, er enghraifft, yr wyf wedi ei grybwyll o'r blaen yn Ynys Môn, ond hefyd mewn rhannau eraill o Gymru, gyda systemau tebyg a gofal uwch i gadw pobl allan o'r ysbyty a’u rhyddhau nhw’n gyflym os ydynt yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Felly, mae pobl yn gwybod pwy yw’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed. Yn aml, pobl oedrannus yw’r rhain, fel yr ydych yn ei nodi yn hollol gywir.

Rydym eisoes wedi gweld, fel y dywedais yn y pwyllgor, fod tua 300, rwy’n meddwl, o welyau ychwanegol yn y system i’w darparu fel rhan o ymateb i’r gaeaf yn ôl y cynlluniau sydd gan y byrddau iechyd. Mae hynny'n rhan arferol o gynllunio. Mae hynny'n golygu eu bod yn lleihau rhywfaint ar weithgarwch dewisol: mae hynny hefyd yn gwbl normal. Eto i gyd, hyd yn oed y gaeaf diwethaf, gwelsom fwy o weithgarwch dewisol nag a welsom yn y gaeaf blaenorol. Nid wyf am geisio rhagweld na rhoi unrhyw fath o warant i chi y bydd hynny’n digwydd nawr, oherwydd byddwn yn cyfeiliorni trwy ddweud beth fydd yn digwydd mewn gofal heb ei drefnu heb wybod beth allai ddigwydd o ran y ffliw neu dywydd mawr a'r pwysau a ddaw yn eu sgil. Ond rwyf yn disgwyl gweld cynnydd mewn gofal dewisol yn y chwarter sy'n weddill o’r flwyddyn ariannol hon. Rwyf yn disgwyl gweld y system yn dal yn gydnerth o ran gofal heb ei drefnu hefyd, a fydd yn golygu bod rhai o'n hadnoddau a’n pobl yn cael eu hailgyfeirio ar adeg briodol ac at unrhyw ran o’r system iechyd a gofal. Mewn llawer ffordd, yr hyn sy’n cynnal adran iechyd y system yw'r ffaith eu bod yn gallu cydweithio'n effeithiol â gofal cymdeithasol a'r trydydd sector trwy gael pobl i mewn ac allan o gyfleusterau iechyd i gael gofal ac yna yn ôl i'w cartrefi eu hunain gyda phecynnau gofal lle bod hynny'n briodol. Ac o ran hynny, rydym mewn llawer gwell cyflwr yng Nghymru na rhannau eraill o'r DU, gan ein bod yn cynllunio ar y cyd ag iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector. Yn ddiamau, byddaf yn ateb rhagor o gwestiynau yn y Siambr hon ac mewn pwyllgor ar wir effaith y gaeaf ar lawr gwlad ar gleifion ac ar staff.

Ysgrifennydd y Cabinet, dylai’r ffaith fod is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru yn dweud fod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu a bod staff yn cael trafferth i ymdopi â gofynion dwys fod yn achos pryder mawr i ni i gyd. Yn gam neu'n gymwys, disgrifiodd y Groes Goch y sefyllfa dros y ffin yn argyfwng dyngarol a dywedodd Dr Roop fod perfformiad mewn rhai meysydd cyn waethed â, os nad yn waeth nag yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi arian ychwanegol er mwyn lleddfu ar bwysau’r gaeaf, ond mae’r pwysau hwn yn bodoli gydol y flwyddyn ac os bydd yna achosion mawr o ffliw y gaeaf hwn byddwn mewn trafferthion enbyd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â’r arian sydd wedi ei roi yn ôl y cyhoeddiad i ddatrys pwysau’r gaeaf, sut yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael â materion ynglŷn â’r lle sydd ar ôl yng ngweddill y GIG, sydd yn effeithio ar ofal brys? Rydym yn gwybod am bobl mewn ysbytai nad oes modd iddyn nhw fynd adref oherwydd eu bod yn byw ar eu pennau eu hunain, ac o’r herwydd yn cymryd gwelyau, yn gwbl ddiangen, mewn gwirionedd, pe byddai gennym ddarpariaeth amgen i letya pobl. Dros gyfnod y Nadolig rwyf wedi cyfarfod â mudiad gwirfoddol sy'n ceisio ein helpu ni, ond byddaf yn trafod hyn yn fanylach rywbryd eto. Diolch.

Diolch am y sylwadau a godwch. Unwaith eto, rwy’n mynd yn ôl at ddweud, wrth gwrs, fy mod yn gofidio am yr eirfa a ddefnyddir a'r sylwadau a wnaed gan Dr Roop. Ond, fel y dywedais, yn wrthrychol, nid yw’r pwysau ar y system mor drwm ag y bu yn y gorffennol. Nid yw mor drwm ag yr oedd yr wythnos ddiwethaf, hyd yn oed. Mae 'na broblem wirioneddol yma, ac nid wyf yn anghytuno pan fo pobl yn dweud bod y system iechyd a gofal dan bwysau difrifol trwy’r gaeaf ac mae hynny'n gwneud gwaith y staff yn fwy anodd ac yn fwy beichus. Mae hynny'n beth gwahanol iawn i ddweud ei bod yn gyflwr o argyfwng gwirioneddol. Rwy’n dadlau â rhai o'r pwyntiau sydd wedi eu gwneud am bwysau drwy gydol y flwyddyn. Mae yna bwysau drwy gydol y flwyddyn, ond yn y gaeaf mae’r pwysau yn wahanol. Rydych yn fwy tebygol o weld pobl sy'n hŷn ac yn salach yn cael eu derbyn i'n system iechyd a gofal. Maen nhw’n fwy tebygol o fod mewn gwelyau o fewn gofal iechyd y system ac mae hynny'n rhoi mwy o bwysau ar drosglwyddo gofal a phecynnau gofal o fewn gofal iechyd, ond rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Felly, ceir math gwahanol o bwysau yn y gaeaf. Dyna beth rydym yn ei weld ar hyn o bryd a byddwn yn gweld mwy o hyn yn ystod y misoedd nesaf. Does dim pwynt esgus nad yw’r gaeaf yn cyflwyno pwysau sy’n eithriadol. Dyna pam y ceir ymateb eithriadol wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf ac wrth ddarparu yn y gaeaf hefyd. Ond rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith nad ydym wedi gweld unrhyw chwalfa o ran oedi wrth drosglwyddo gofal yma yng Nghymru. Yn wir, rydym wedi llwyddo i gynnal a rheoli rhywfaint o'r pwysau ar ddechrau'r gaeaf. Rwy'n edrych ymlaen at ddweud mwy am yr hyn sydd wedi ei wneud pan fydd y ffigurau nesaf yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd hynny'n dweud rhywbeth wrthym am iechyd y system gyfan, a'r gallu i symud pobl yn effeithiol, o'r pwynt lle mae angen rhyw fath o gymorth a gofal arnynt, yn ôl i'w cartrefi eu hunain gyda phecyn gofal, a thrwy ofal iechyd os mai dyna’r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Felly dyna, wrth gwrs, yw pwyslais ein gweithgarwch, sef yr hyn yr ydym yn disgwyl i ofal iechyd a gofal cymdeithasol ei wneud gyda'i gilydd. Ond rwy’n credu, yn wir, y dylai pob un ohonom gydnabod nid yn unig y gwaith y mae’r staff yn ei wneud, ond meddwl am y ffordd yr ydym yn trafod y swyddi y maen nhw’n eu cyflawni a'r gofal y maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer pob un o'n hetholwyr yn ddiwahan ar adegau amrywiol yn eu hanes.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandewais yn astud iawn ar eich atebion, a dywedasoch nad oedd y pwysau mor drwm ag yr oedd yr adeg hon y llynedd. Yn eich ymatebiad cyntaf un, dywedasoch hynny. Fodd bynnag, mae ffigurau diwethaf yr unedau Damweiniau ac Achosion Brys, ar gyfer y bobl sy'n aros am 12 awr neu fwy, wedi codi 22 y cant i 2,955. A ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau bod y ffigurau hynny ar eu ffordd i lawr, o ystyried eich sylwadau y prynhawn yma, a bod amseroedd aros yn dod yn fwy ymatebol yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru? A phan fydd y ffigurau diweddaraf wedi eu cyhoeddi, gan y bydd y ffigurau hynny yn eich meddiant, a fyddwn yn gweld gostyngiad yn y ffigurau hynny, o ystyried eu bod wedi dangos cynnydd o un flwyddyn i’r llall, yn ôl y ffigurau diweddaraf hyd at fis Tachwedd, o 22 y cant yn nifer y bobl sy'n aros 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru?

Mae dau bwynt i’w gwneud yma. Y cyntaf yw fy mod yn cyfaddef bod rhai pobl yn aros yn rhy hir, boed hynny ym mis Tachwedd neu ym mis Mehefin, ac mae hynny'n rhan o'n her ni wrth wella'r system. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod y bobl hynny yn cael canlyniadau gwael o ran eu canlyniadau clinigol, ond nid yw hynny bob amser yn brofiad arbennig o dda iddyn nhw. Ac mae rhywbeth i’w gael yma am ein mesuriadau dros bedair a 12 awr hefyd. Maen nhw’n dweud rhywbeth wrthym am y gofal sy'n cael ei ddarparu, ond nid y cyfan y byddem yn credu sy’n cael ei ddweud wrthym ni. Gallech chi, er enghraifft, fynd i mewn i’r ysbyty ac, yn wir, gallech gael eich gweld, eich trin a'ch rhyddhau o fewn pedair awr a hanner. Yn awr, yn ôl y ffigurau sydd gennym, byddem fwy na thebyg yn dweud, 'Dyma rywun sydd wedi aros yn rhy hir.' Ond gallech mewn difrif brofi gofal da iawn yn y cyfnod hwnnw, a gallech chi mewn gwirionedd fod yn hapus iawn gyda'r driniaeth yr ydych wedi ei derbyn. Yn yr un modd, gallech fod mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys am dair awr a byddai ein ffigurau wedyn yn dweud, 'Dyma lwyddiant', ond o bosibl ni fyddai’r profiad hwnnw yn un arbennig o dda. Felly, nid yw hyn yn dweud popeth y byddem yn disgwyl i’r ffigurau hyn ei fynegi i ni mewn gwirionedd. Tybiaf felly y bydd mwy o bwysau trwy’r gaeaf ar y ffigurau am bedair a 12 awr, ac fe wyddoch mai ffantasi fyddai ceisio dweud fel arall.

Dyma’r her: pa mor gydnerth yw ein system, sut ofal sydd yn cael ei roi, a beth ddywed profiad y claf wrthym am hynny hefyd. A'r pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud oedd ein bod, mewn gwirionedd, yn wrthrychol, mewn sefyllfa well yr wythnos hon na’r wythnos ddiwethaf. A phe byddai system mewn argyfwng, ni fyddech wedi credu y byddai'r system wedi gallu ymdopi â’r pwysau a oedd yn dod trwy'r drysau neu isgyfeirio, ac efallai y cawn weld beth sy'n digwydd ar wahanol ddiwrnodau yn ystod gweddill y gaeaf hefyd. Er enghraifft, ar 27 Rhagfyr cafwyd y nifer uchaf o dderbyniadau mewn pum mlynedd. Ar 1 Ionawr cafwyd cyfradd derbyniadau uwch o lawer nag yn y mis Ionawr blaenorol hefyd. Felly, byddwn yn gweld yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau gwahanol hynny, ond rydym i gyd yn gwybod bod mwy o bwysau ar y system yn y gaeaf. Mae angen inni ddeall y pethau yr ydym wedi eu gwneud ymlaen llaw yn ein gwaith cynllunio, pa mor llwyddiannus yr oeddent, yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu erbyn y flwyddyn nesaf. Ac yna mae angen deall y llwybr ehangach hwn o welliant drwy'r system gyfan o iechyd a gofal er mwyn ceisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu gweld, eu trin a'u rhyddhau o fewn cyfnod priodol o amser, ond hefyd yn y man priodol. Mae pob rhan unigol o'r GIG yn y DU yn cydnabod bod gormod o bobl yn dal i fynd i’r mannau nad ydynt yn briodol i’w gofal a’u triniaeth, hyd yn oed i’r mannau lle ceir y pwysau uchaf.

Felly, mae rhyw werth mewn addysgu a galluogi’r cyhoedd a rhoi gwybod iddyn nhw am y lle i fynd i gael y driniaeth briodol sydd ei hangen arnyn nhw. A dyna pam rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr iawn gan ganlyniadau cynnar y cynllun peilot 111 yn ardal Abertawe Bro Morgannwg. Credaf iddo fod yn ddefnyddiol iawn o ran cael pobl i'r mannau iawn i gael y triniaethau a'r gofal cywir. Rwy'n edrych ymlaen at roi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau am y cynllun peilot hwn, ac yna gweld a fydd yn cael ei gyflwyno wedyn mewn rhannau eraill o'r wlad.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Mae gennyf lawer o newidiadau i adrodd amdanynt i fusnes yr wythnos hon, Lywydd. Rwyf wedi ymestyn i 45 munud yr amser a ddyrennir i'r datganiad llafar ar yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu strategol drafft ar ddementia i Gymru. Rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar ffliw adar, a datganiad llafar ar y gronfa driniaeth newydd. Ac, yn olaf, gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w hateb gan Gomisiwn y Cynulliad yr wythnos hon, mae'r Pwyllgor Busnes wedi addasu amserlen yfory yn unol â hynny. Ac mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad Ysgrifennydd Cabinet—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru? Bydd yr Aelodau wedi sylwi bod rhai pryderon wedi’u codi gan Clifford Jones Timber, sefydliad sydd wedi'i leoli yn Rhuthun yn fy etholaeth i, am fethiant tir coedwigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau trefn blannu ehangach, cynnydd yn y drefn blannu, er mwyn sicrhau cnwd digonol ar gyfer y dyfodol. Rydych yn gwybod bod y busnes penodol hwnnw yn cyflogi 80 o bobl, ac yn wir, ceir miloedd lawer o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu coed yng Nghymru sy'n dibynnu ar gynhyrchu pren. Tybed, Weinidog, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, ddim ond ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn manteisio i’r eithaf ar allbwn y diwydiant hwnnw, a'i gyfraniad economaidd i Gymru yn y dyfodol?

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ynghylch y cynllun, Cyflymu Cymru, a'r ffordd y caiff ei farchnata yma yng Nghymru? Rwyf wedi derbyn nifer o gyfathrebiadau gan etholwyr sy’n bryderus iawn ynghylch y wybodaeth anghywir sy'n ymddangos ar wefan Cyflymu Cymru am argaeledd band eang cyflym iawn, yn eu hardaloedd penodol. A hyd yn oed yn fwy o achos pryder yw adborth uniongyrchol gan BT Openreach i etholwyr y mae’n ymddangos ei fod yn awgrymu, oherwydd bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cymryd y cyfrifoldeb dros farchnata Cyflymu Cymru, fod angen iddyn nhw nawr ailgofrestru eu diddordeb mewn cael mynediad ato. Dyma’r adborth a roddwyd. Gallaf weld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen, ond dyna yw’r adborth a gawson nhw—mae gennyf gopi o'r e-bost yn y fan hyn. Felly, mae’n amlwg bod rhywfaint o gyfathrebu digyswllt yno y mae angen rhoi sylw iddo, ac rwyf wir o’r farn y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth er mwyn rhoi sylw i hynny.

Diolchaf i Darren Millar am ei gwestiynau. Tynnaf sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at eich cwestiynau a phryderon ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr, os oes problem benodol yn eich ardal, yn eich etholaeth, y byddech eisiau ei godi â hi, beth bynnag. Ac, wrth gwrs, mae’r Gweinidog Sgiliau ar ei thraed mor aml yn y Siambr hon yn gwneud datganiadau am ein swyddogaeth, os swyddogaeth hefyd, o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau, o ran band eang, ac nid yn unig y marchnata, ond wrth gwrs, y cyflenwad y mae pob un ohonom yn cymryd rhan ynddo, o ran nid yn unig y rhagolygon, ond hefyd y llwyddiant o ran band eang yng Nghymru a band eang cyflym iawn.

Roeddwn yn meddwl tybed a allem gael datganiad ar ymchwiliad eich Llywodraeth i Sandfields Newydd Aberafan ac Afan (NSA Afan). Dim ond cael ar ddeall oddi wrth brif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot—gwelais e-bost a anfonwyd at arweinydd ein grŵp—fod ymchwiliad parhaus wrthi’n cael ei gynnal i achosion o afreoleidd-dra ariannol a bod arian cyllido wedi ei atal ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth—eich swyddfa archwilio chi yn y Llywodraeth—yn ymchwilio i'r sefyllfa.

Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddarparu datganiad yn ystod amser y Llywodraeth ar yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn difrif, beth mae hynny'n ei olygu, a sut y gellir cyfathrebu â phobl yn y gymuned, efallai, i geisio lleddfu rhai o'r pryderon a allai fod ganddynt, oherwydd, efallai na fydd rhai o'r gwasanaethau hynny yn gallu cael eu cyflenwi gan y sefydliad penodol hwn—Cymunedau yn Gyntaf, os yw'r ymchwiliad yn un hirsefydlog. Ac rwyf o’r farn ei fod yn rhywbeth y dylai fod pob Aelod Cynulliad wedi cael gwybod amdano, ac nid y cynghorwyr yn unig. Felly, hoffwn i ddeall pam na chyfathrebodd y Llywodraeth hefyd â ni, o ystyried bod hwn yn fater eithaf pwysig. Rydym wedi cael problemau o’r blaen, ac nid wyf yn dweud—. Ar hyn o bryd, mae ymchwiliad yn mynd rhagddo, ond rydym yn gwybod yn y Siambr hon fod problemau wedi bod yn y gorffennol gyda gwahanol sefydliadau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru. Gobeithio nad dyna yw’r sefyllfa yn yr achos hwn, ond os dyna ydyw, mae angen i ni gael gwybod, ac mae angen rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad beth sy’n digwydd.

Wel, diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol i honiadau ynghylch camddefnydd posibl o arian cyhoeddus yn NSA Afan, rydym wedi atal arian cyllido tra cynhelir mwy o ymchwiliadau. Rydym yn archwilio ffyrdd o ddiogelu darpariaeth gwasanaethau, yr ydych chi’n ei godi. Ond mae'n bwysig inni gyflawni ein dyletswydd i amddiffyn arian trethdalwyr rhag cael ei ddefnyddio, o bosibl, mewn modd amhriodol. Hefyd, mae hyn yn destun ymchwiliad, ac felly, byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar y mater hwn.

Bydd arweinydd y tŷ wedi gweld pryderon yn y wasg ar y penwythnos fod ysgolion awdurdodau lleol yn cael eu trin yn llai ffafriol nag academïau yn Lloegr o ran cyfrifo’r ardoll prentisiaethau.  Gallai cyflogres ysgol awdurdod lleol ddenu’r ardoll, tra ei bod yn bosibl na allai cyflogres academi o faint tebyg yn Lloegr wneud hynny. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad, gan nodi pa sylwadau y gallai fod yn eu gwneud i Lywodraeth y DU, er mwyn sicrhau nad yw ysgolion yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu trin yn annheg, gan fod y system yn Lloegr wedi dod yn un dameidiog a rhad ac am ddim i bawb?

Diolch i Jeremy Miles am dynnu ein sylw at hyn. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd yr ardoll prentisiaethau yn cael ei thalu gan unrhyw sefydliad sydd â chyflogres o dros £3 miliwn y flwyddyn. Treth gyflogaeth yw’r ardoll. Fe’i cyflwynwyd gan Senedd San Steffan; mae'n berthnasol i'r DU gyfan. Yng Nghymru, cynhelir yr ysgolion gan awdurdodau lleol, wrth gwrs, ac felly, bydd cyflwyno’r ardoll yn effeithio ar eu cyllidebau, waeth beth yw eu maint. Wrth gwrs, nid oes gennym system academïau Lloegr yma yng Nghymru, ond y mae’n amlwg y bydd effaith. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu ein sylw at hyn.

Yn gyntaf oll, a gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Llywodraeth am wrando, i ryw raddau, beth bynnag, ar fy etholwyr a rhai Aelodau eraill o’r Cynulliad ynghylch y mater o ryddhad ardrethi busnes? Yn amlwg, dyw hi ddim cyn belled ag y byddem ni wedi mynd, ond fe’i croesewir, cyn belled ag y mae'n mynd. Fodd bynnag, rwyf o’r farn fod arnom angen datganiad brys ar sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol hyn yn cael ei wario. Rydym yn siarad am fusnesau cymwys sydd eisoes yn bodoli yn cael mwy o arian neu yr un faint o arian am gyfnod hwy. A yw busnesau newydd yn mynd i fod yn gymwys? A fydd meini prawf newydd? Os yw'n mynd i gael ei weithredu drwy awdurdodau lleol, sut y bydd angen gwneud y ceisiadau hynny? A fyddwch yn gosod cyfyngiadau amser ar awdurdodau lleol, er enghraifft, ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymdrin â cheisiadau mewn modd amserol? A fydd unrhyw faint o'r £10 miliwn hynny yn cael ei frigdorri i dalu am y gwaith gweinyddol ychwanegol dan sylw? Rwyf o’r farn fod y manylyn hwn bellach yn fater o frys os ydych yn dymuno tawelu meddwl busnesau bach yn y modd yr wyf yn siŵr eich bod yn bwriadu ei wneud.

Yn yr hydref—ail ddatganiad yr wyf i’n chwilio amdano yma—cadarnhaodd y Llywodraeth ei hymrwymiad i'r rhaglen Esgyn a ‘Cymunedau am Waith’. Ym mis Rhagfyr, gwahoddodd Mark Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pam yr oedd y rhaglenni penodol hyn wedi eu diogelu pan oedd y canlyniadau a ragwelwyd yn cymharu'n anffafriol o ran gwerth am arian a dechrau mewn swydd, mewn gwirionedd, yn ôl y diffiniad, â Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd ymdrechion i gael data cyfamserol wedi bod yn aflwyddiannus yr adeg honno ac ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i edrych arnynt yn y flwyddyn newydd. Mae hynny'n awgrymu i mi nad oedd wedi edrych arnynt yn iawn cyn cytuno, mewn gwirionedd, i barhau â'r rhaglenni, sydd, wrth gwrs, yn costio degau o filiynau o bunnoedd. Gan fod y Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr mai’r rhaglenni ymyriadau hyn yw’r rhaglenni gorau, ac rwyf o’r farn fod angen inni weld y ffigurau hynny a thystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy cyn gynted ag y bo modd erbyn hyn. Mae angen i ni dawelu meddwl ein hetholwyr ein bod i gyd yn gwneud y peth iawn yma, ac nad dim ond rhyw weithgarwch sy’n cuddio diffyg effeithiolrwydd ydyw. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cymunedau gydag atodiadau yn cynnwys data cyfamserol ar y ffigurau perthnasol yno.

Yn olaf, rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn ddyddiau cynnar i hwn, ond dydw i ddim eisiau iddo ddiflannu o'n golwg: a allem ni gael datganiad yn weddol fuan ar y cynnydd ynghylch newidiadau sy'n cael eu hystyried i'r fframwaith rheoleiddio, a’r fframwaith cynllunio, a dweud y gwir, a godwyd gan ACau o fy rhanbarth i o ganlyniad i'r tanau sglodion pren a welsom yn ystod yr haf ac yn ddiweddarach? Fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n edrych ar y newidiadau, ac rwy'n credu y byddai'n galonogol inni i gyd weld pa gynnydd sydd wedi’i wneud ynglŷn â hynny. Diolch.

Diolch yn fawr, Suzy Davies, am y tri chwestiwn yna, a diolch i chi am groesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn wir wedi cyhoeddi’r cynllun rhyddhad ardrethi annomestig newydd, ychwanegol hwnnw ar gyfer y stryd fawr—rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru a osodwyd ar 20 Rhagfyr. Rwy’n gwybod ei fod wedi cael croeso mawr. Mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni, mae’n amlwg. Cynllun rhyddhad wedi'i dargedu ydyw, a bydd wedi ei sefydlu erbyn 1 Ebrill eleni, pan fydd yr ardrethi diwygiedig yn dod i rym. Mae'n bwysig hefyd dweud bod hyn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn, hefyd o 1 Ebrill ymlaen, ynghyd â’r £100 miliwn o doriad treth i fusnesau bach yng Nghymru a ddarperir gan y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Felly, mae bellach yn fater o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw ac, yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awr yn bwrw ymlaen â hynny. Mae cyfle y prynhawn yma yn y gyllideb derfynol eto i groesawu hyn, ac rwy'n siŵr y bydd Suzy Davies yn gwneud hynny.

O ran eich ail bwynt ar faterion ynghylch Cymunedau yn Gyntaf sy’n ymwneud â Rhaglen Esgyn a'r ffordd ymlaen, byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod proses ymgysylltu yn dal i fodoli ar y ffordd ymlaen o ran cymunedau cryf, ac mae llawer iawn o ymateb wedi bod i hynny drwy arolwg ar-lein, grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgysylltu. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, yn cael eu hystyried o ran beth yw’r ymateb, ac yn enwedig yr agweddau hynny ar ‘Cymunedau yn Gyntaf’ ac Esgyn, fel yr ydych wedi eu disgrifio. Wrth gwrs, eich trydydd pwynt, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cymryd sylw ohono o ran diweddariadau ar y fframweithiau rheoleiddio hynny.

Diolch yn fawr, Lywydd. A allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros fusnes am ei datganiad? Ym mhellach i hynny, fe wnaeth Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ddoe, ‘Expert Review of Local Museum Provision in Wales 2015 report—Update on progress’. Yn dilyn y datganiad yna, mae nifer o gwestiynau yn codi, yn enwedig yn nhermau y posibilrwydd o greu tri chorff rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau i amgueddfeydd yn y dyfodol, a’r cwestiynau ariannol sy’n codi o hynny. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n deall y gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu siartr amgueddfeydd, a’r trafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda chynghorau lleol ar y mater. Mae’n sôn am hynny i gyd yn y datganiad ysgrifenedig yna, ond oherwydd y cwestiynau yma sydd yn codi o’r datganiad ysgrifenedig yma a gyhoeddwyd ddoe, a allaf i yn garedig ofyn am ddatganiad ar lafar yn y Siambr ar y mater yma, os gwelwch yn dda?

Rwy'n falch o wybod eich bod chi’n croesawu datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n egluro nifer o bwyntiau yr ydych wedi'u codi gydag ef. Gwn y bydd cyfleoedd a chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn wir, rwy'n siŵr, mewn ymddangosiadau yn y pwyllgor, yn ogystal, ar y mater hwn.

Hoffwn godi dau fater. Yn gyntaf, cyn y Nadolig, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd i mi yma yn y Siambr, gan ddweud y byddai'n ysgrifennu ataf ynghylch cwestiwn a godais ar gynlluniau datblygu lleol. Nid wyf wedi derbyn nodyn ar hynny hyd yma, ac felly, byddwn yn ddiolchgar am ymateb—yn ddiolchgar iawn am hynny.

Yn ail, byddwn yn gofyn am ddatganiad. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at lwyddiant ralio cam coedwigoedd yng Nghymru, sy'n werth £15 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Nawr, fe gawsom ni ymateb calonogol iawn gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf, a oedd yn awgrymu bod Adnoddau Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Chwaraeon Modur wedi dod i gytundeb ar daliadau ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw ffyrdd, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am hynny. Mae'n ymddangos bellach fod camau’r canolbarth ar gyfer pencampwriaeth rali Prydain wedi eu canslo oherwydd ansicrwydd ynghylch y taliadau mewn ralïau yng nghoedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, rwyf o’r farn fod hyn yn ymwneud â gorfod codi TAW. Canlyniad uniongyrchol hyn, wrth gwrs, yw y bydd y canslo yn cael effaith ganlyniadol enfawr ar economi’r canolbarth ac y bydd yr ardal leol yn colli miloedd ar filoedd o bunnoedd. Byddwch yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ralio a chwaraeon moduro yn dod â llawer o ymwelwyr ac incwm hanfodol i’r canolbarth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Ysgrifennydd Cabinet priodol ymchwilio i hyn a chyflwyno datganiad i'r Siambr.

Diolch i chi, Russell George. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i’ch cwestiwn cyntaf. O ran eich ail gwestiwn, rwyf o’r farn ei fod yn fater o egluro beth yw'r rhesymau dros yr achos hwnnw o ganslo, oherwydd, yn amlwg, fel y dywedasoch, ceir ymateb cadarnhaol iawn i'r defnydd o'n coedwigoedd ar gyfer y pencampwriaethau hyn, sydd yn cael eu croesawu. Ond, mae rhesymau dros achosion o ganslo, ac rwyf o’r farn ei bod yn bwysig ein bod ni’n egluro, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y tynnir eich sylw chi, a sylw’r Aelodau yn ogystal, at hyn.

A wnaiff y Gweinidog osod yn ffurfiol ar y cofnod fy niolch i swyddogion, i'r heddlu ac i aelodau o'r cyhoedd am gymorth yn dilyn y lladrad yn fy swyddfa etholaeth? Gallai fod o ddiddordeb i’r Aelodau wybod nad oes unrhyw fynedfa gefn mewn gwirionedd; roedd yn rhaid i’r lladron fynd saith drws i lawr, mynd drwy ddrws, mynd i lawr at ddiwedd lôn, troi i'r chwith, fod yn gwybod bod yn rhaid mynd drwy'r strwythur sy’n debyg i sied drwy ddrws arall; cyrhaeddon nhw’r ffenestr, dadsgriwio gorchudd pren, torri trwy PVC a llifio drwy fariau dur. Efallai y dylem fod wedi bod â dur Cymru. Efallai mai dyna beth y dylem ei wneud y tro nesaf. Ond, o ddifrif, hoffwn ddiolch i’r swyddogion sydd wedi mynd i drafferth fawr i ofalu amdanaf i, fy staff a fy nheulu. Diolch yn fawr iawn i chi. Thank you very much.

4. 3. Datganiad: Ymgynghoriad ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol Drafft ar gyfer Dementia yng Nghymru

Felly, yr ydym yn symud ymlaen at yr eitem nesaf: y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r ymgynghoriad ynghylch cynllun gweithredu strategol drafft ar gyfer dementia yng Nghymru. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Lywydd. Ym mis Hydref, cyflwynais i'r Cynulliad ail gynllun cyflawni ein strategaeth 10 mlynedd ar draws y Llywodraeth, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiwyd hwnnw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, 10 Hydref. Un cam gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni yw datblygu cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Mae hwn yn ymateb i ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen'. Mae'n uchelgais clir i’r Llywodraeth hon i wneud Cymru yn genedl ddementia gyfeillgar. Rwy'n falch o wneud cynnydd pellach o fewn blwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn. Lansiais yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun gweithredu strategol cenedlaethol cyntaf ar gyfer dementia i Gymru yn Oldwell Court yng Nghaerdydd ddoe.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w ddathlu, ond, wrth i ddisgwyliad oes wella, rydym yn gwybod y bydd mwy o bobl yn datblygu dementia. Mae dementia yn un o'r heriau gofal iechyd mwyaf sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni. Yr amcangyfrif yw bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ar hyn o bryd, er nad ydynt i gyd wedi cael diagnosis. Yn amlwg, mae effaith dementia yn y gymdeithas yn llawer ehangach pan ein bod yn ystyried gofalwyr ac aelodau o'r teulu.

Mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bobl sy'n byw gyda dementia neu bobl y mae dementia yn effeithio arnynt, yn union fel y bobl a gwrddais â nhw ddoe yn Oldwell Court, oherwydd rydym eisiau deall beth sydd bwysicaf iddynt. Mae’n rhaid inni gael ffordd glir ymlaen i gefnogi pobl â dementia a’r bobl sy'n agos atynt. Mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu eisoes wedi eu cynnal ledled Cymru i glywed gan bobl sy'n byw gyda dementia, aelodau o'u teuluoedd, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, mudiadau gwirfoddol a phobl eraill sydd â diddordeb mewn dementia. Gwnaethpwyd hynny mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer a’r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia, a elwir fel arfer yn DEEP, sydd eisoes wedi ymgysylltu â dros 400 o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn bersonol. Rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn; mae eu barn a'u profiadau wedi bod yn allweddol wrth greu'r cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.

Mae'n werth cydnabod na fydd gan unrhyw ddau o bobl â dementia, na’r bobl sy'n eu cefnogi, anghenion sy’n union yr un fath. O'r gwaith cyn-ymgynghori a gynhaliwyd eisoes, mae pobl wedi dweud wrthym fod angen i wasanaethau fod yn seiliedig ar werthoedd a hawliau, ac wedi’u teilwra i'r unigolyn. Mae angen i’r cymorth hwnnw fod yn hyblyg i’r gwahanol anghenion ar wahanol gamau o'r cyflwr. Mae’r teimladau hynny wedi cael eu hadleisio mewn nifer o adroddiadau, gan gynnwys adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, 'Dementia: mwy na dim ond colli cof' ac ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i'r Gymraeg mewn gofal sylfaenol, 'Fy Iaith, Fy Iechyd'. Mae'r materion a nodwyd gan yr adroddiadau hyn yn cynnwys diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, a'r angen i gynnig asesiadau a gofal dementia drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r angen i sicrhau mynediad at gymorth, cefnogaeth a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig hefyd wedi cael sylw mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Gymdeithas Alzheimer.

Rydym, a dweud y gwir, er hynny, wedi gwneud cynnydd mawr tuag at wireddu ein hymrwymiad i greu cenedl ddementia gyfeillgar yma yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, bod mwy i'w wneud. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi nifer o feysydd blaenoriaeth ar ddementia a'r camau y byddem yn eu cymryd i roi sylw iddynt. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, camau gweithredu i wella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'r cynllun gweithredu drafft yn adeiladu ar y gwaith hwn ac mae'n cynnwys nifer o themâu yr ydym yn cynnig y bydd angen gweithredu pellach yn eu cylch dros y pum mlynedd nesaf. Ond, i sicrhau bod y cynllun yn dal i fod yn berthnasol ac wedi'i dargedu, caiff ei adolygu'n ffurfiol a'i adnewyddu ar ôl tair blynedd, a bydd y cynllun terfynol yn cynnwys rhagor o fanylion am amserlenni, enghreifftiau o arfer nodedig a disgwyliadau ar gyfer cyflawni.

Mae'r themâu wedi eu strwythuro gan ddefnyddio dull llwybrau, a amlygwyd yn gryf o'r ymgysylltu yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn. Mae’r meysydd gweithredu arfaethedig yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o sut i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu dementia, neu ohirio ei ddechrau; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia drwy ehangu Ffrindiau Dementia a chymunedau a sefydliadau cefnogi dementia; sicrhau bod dementia yn cael ei gydnabod yn briodol a bod asesiadau a diagnosis amserol ar gael i bobl; cymorth a thriniaeth gynnar i bobl sydd â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, ar ôl diagnosis; a mwy o gymorth ar gael, boed hynny yng nghartref person, yn yr ysbyty, mewn cartref gofal neu hyd yn oed mewn canolfan ddydd. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys adran sy'n cefnogi gweithredu. Mae hyn yn cynnwys pwyslais parhaus ar addysg a hyfforddiant, gan ddilyn yr argymhellion a gynhwysir yn 'Gwaith Da: Fframwaith Dysgu a Datblygu ar gyfer Dementia i Gymru', a lansiwyd y llynedd yn etholaeth Hefin David, a hefyd cefnogaeth barhaus i ymchwil i ddementia.

Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn para am dri mis, gan ddiweddu ar 3 Ebrill. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn dementia i rannu eu barn. Hoffem glywed gan y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, grwpiau ffydd a diddordebau eraill. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y credwn y gallwn adeiladu Cymru sy'n wirioneddol ddementia gyfeillgar a brwydro yn erbyn problemau eraill, megis unigrwydd ac arwahanrwydd. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ein helpu i ddefnyddio profiadau ac arbenigedd pobl i ddatblygu a chyflwyno cynllun gweithredu cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Rwy’n hyderus y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod y gwaith a wnaed hyd yma. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn cynifer o bobl â phosibl, i sicrhau bod ein cynllun terfynol yn uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy, a’n bod yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, i barhau i wneud cynnydd tuag at wneud Cymru yn genedl wirioneddol ddementia gyfeillgar.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o weld bod ymgynghoriad cyhoeddus i lywio'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Hoffwn gyfeirio at y paragraff lle’r ydych yn dechrau drwy ddweud:

Mae’r ffaith fod pobl yn byw yn hirach yn rhywbeth i'w ddathlu.

Yn fy marn i, yn rhy aml, nid yw'r rhethreg o gwmpas dementia, y rhethreg o gwmpas pobl hŷn, yn gadarnhaol: maent yn blocio gwelyau, maent yn dreth ar wasanaethau cymdeithasol, ac mae dementia yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd i bawb ac mae'n mynd i fod yn gwbl echrydus. Er ein bod, wrth gwrs, yn gwybod y dylid clodfori pobl hŷn, eu bod yn rhan hanfodol o'n cymuned, a bod dementia, gyda chymorth, os caiff ei ddal yn gynnar, ac os rhoddir y triniaethau priodol, mewn gwirionedd yn gallu cael ei arafu ac weithiau ei ysgafnhau, ac y gall pobl fynd ymlaen i fyw bywydau da iawn er bod ganddynt ddementia—yn amlwg nid pawb, ond, er hynny, rhai pobl. Felly, dylid dathlu hynny.

Dim ond tri chwestiwn sydd gennyf oherwydd rwy’n hollol siŵr y bydd gan Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia nifer eithaf sylweddol o gwestiynau i chi, ac rwy’n falch iawn o fod yn aelod o'r grŵp hwnnw. Pan welwch ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, a wnewch chi sicrhau bod gan y cynllun gweithredu ganlyniadau clir a mesuradwy, a chyfres ddata gyson? Rwy'n meddwl bod hyn yn hynod o bwysig oherwydd un broblem allweddol o ran sicrhau atebolrwydd tryloyw yw bod mesuriadau yn newid dros amser, bod paramedrau’n gallu mynd yn amwys, a bod y tryloyw’n gallu troi’n anhryloyw. Rwy’n credu, os ydym eisiau gwybod pa un a yw’r cynllun gweithredu hwn yn mynd i weithio a pharhau i weithio dros y degawdau nesaf, ei bod yn hanfodol bwysig bod gennym gyfres glir a chyson o ganlyniadau a phethau i’w mesur, wrth symud ymlaen.

Fy ail bwynt yw, wrth edrych ar yr ymgynghoriad, nad yw'n cynnig llawer ar fodelau darparu. Felly, roeddwn yn awyddus i gael rhywfaint o ddealltwriaeth gennych ynglŷn ag a fyddwch yn ceisio dibynnu’n eithaf sylweddol ar gydgynhyrchu â mudiadau trydydd sector; ynteu a fyddwch chi’n ceisio cynyddu’r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru drwy, dyweder, gynyddu nifer y gweithwyr cymorth; ynteu a fyddwch chi’n rhoi llawer o'r cyfrifoldeb hwn i faes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol neu gynghorau lleol; ynteu a fyddwch chi’n ceisio cyflawni drwy'r byrddau partneriaeth?

Yn olaf, o ystyried difrifoldeb y mater o ddementia o ran y ffaith ei fod nawr yn un o brif laddwyr pobl yng Nghymru, a gan gofio ei fod hefyd yn un o'r prif resymau pam mae dioddefwyr a gofalwyr yn dioddef cymaint o arwahanu ac unigrwydd, sydd wrth gwrs yn effeithio mwy fyth ar eu lles meddyliol a chorfforol, a ydych chi’n meddwl bod y targedau sydd gennych yn y cynllun yn ddigon uchelgeisiol? Nid ydynt yn ein gwneud yn gydradd â gwledydd eraill. Rwy’n sylweddoli ei bod bob amser yn anodd mynd o un lefel i'r llall, ond 3 y cant o gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn—a yw hynny o ddifrif yn mynd i’n galluogi i gyrraedd lle yr hoffem fod yn ddigon cyflym, ynteu a allwch chi geisio gwella’r targedau hynny? Mae dementia yn lladd mwy o bobl na bron unrhyw glefyd arall yng Nghymru, ac mae gwir angen inni afael ynddi i roi sylw iddo.

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau, ac rwy’n cytuno: fel y dywedais yn fy natganiad, dylem ddathlu'r ffaith bod mwy ohonom yn byw yn hirach. Ein her bob amser yw: sut yr ydym yn byw’n iach ac yn byw’n dda am fwy o amser hefyd? Rhan o'r pwynt a wnaethoch yn gynharach am leihau ein risg neu ohirio dechrau dementia yw bod llawer iawn o dystiolaeth ynglŷn â sut y gallwn helpu ein hunain i fyw yn hirach. Buom yn siarad llawer yn y tymor diwethaf—ond nid cymaint y tymor hwn—am y ffaith bod astudiaeth Caerffili yn dangos llawer iawn inni, nid yn unig am y ddamcaniaeth, ond am realiti ymarferol yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i wneud dewisiadau gwahanol ynghylch sut yr ydym yn byw ein bywydau, i fyw bywyd iachach, i leihau ein risg o gael dementia neu, yn wir, i ohirio ei ddechreuad. Ceir hefyd ffactorau iechyd cyhoeddus pwysig mewn amrywiaeth eang o gyflyrau eraill hefyd, sy’n ymwneud â’r ffordd y gallwn leihau’r heriau penodol hynny i ni, nid dim ond er lles iechyd y genedl, ond ar gyfer unigolion hefyd. Ac mae hynny’n rhan o'r hyn yr hoffem symud ato wrth ysgrifennu’r cynllun hwn: sefyllfa lle mae gwahanol gyrff yn sôn am yr un negeseuon am yr hyn y gallai ac y dylai pob un ohonom ei wneud, yn ogystal â'r hyn yr ydym wedyn yn ei ddisgwyl gan ein gilydd yn ein cymunedau, ond hefyd gan wasanaethau cyhoeddus a'r sector preifat yn ogystal.

Ac rwy’n credu bod hyn yn mynd yn ôl at y pwynt a wnaethoch am y camau gweithredu ar gyfer gwahanol bartneriaid, oherwydd bydd pethau i’r gwasanaeth iechyd eu gwneud. Roeddem yn sôn am gyfraddau diagnosis, felly, yn amlwg mae’n rhaid i amrywiaeth o bobl fod yn rhan fawr o hynny, ond hefyd ym maes gofal cymdeithasol, yn y gofal a'r ddarpariaeth a'r ffordd yr ydym yn disgwyl i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant gael ei rhoi ar waith yn raddol, mae adrannau yn y cynlluniau gweithredu sy’n destun ymgynghoriad am yr hyn yr ydym yn disgwyl ei weld yn digwydd. Wrth i’r Ddeddf honno gael ei rhoi ar waith, bydd y trydydd sector nid yn unig yn hyrwyddwyr ac eiriolwyr, byddant yn darparu gwasanaethau—maent wedi’u comisiynu i ddarparu’r gwasanaethau hynny mewn gwahanol rannau o'r sector. Ond mae llawer iawn yn y fan yma, fel yr wyf yn ei ddweud, yn ymwneud â ni fel cymdeithas ac fel cenedl, a beth fydd pob un ohonom yn ei wneud, fel cyflogwyr unigol yn yr ystafell hon, gyda’n staff a'r ffordd yr ydym i gyd yn ymdrin â’n hetholwyr, y ffordd yr ydym yn siarad, i'r ffordd y mae busnesau a'r cymunedau ehangach mewn gwirionedd yn wirioneddol gyfeillgar ac yn deall, wyddoch chi, y nifer sylweddol o bobl sy'n byw gyda ni ar hyn o bryd ac a fydd yn y dyfodol hefyd.

Felly, nid dim ond un gyfres o bartneriaid yw hyn; mae hynny’n mynd yn ôl i sut y bydd gennym ddata cyson a mesurau ar gyfer llwyddiant. Bydd rhai o'r rhain yn haws eu mesur nag eraill. Mae sut y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael cymorth, er enghraifft, yn anoddach ei fesur yn yr un ffordd ag y gallai fod arnom eisiau mesur, er enghraifft, cyfraddau diagnosis a chael data caletach am yr hyn sy'n cael ei wneud mewn gwahanol rannau o hynny. Ond hoffwn weld sylwadau am yr hyn sydd yn y cynllun a sut y mae gennym wedyn fesurau ystyrlon, oherwydd rydym yn gwybod—ac mae hyn yn bod yn berffaith onest—ein bod i gyd, yn y gorffennol, wedi ymrwymo i ddweud y dylai'r Llywodraeth, y dylai'r Llywodraeth fesur gwahanol rannau o weithgaredd, ond nid ydynt bob amser yn dweud llawer wrthym sy'n ddefnyddiol, ac rwyf wir yn meddwl, yn y pen draw, os ydych chi eisiau rhywbeth sydd, fel y dywedais, yn realistig ac yn uchelgeisiol ar yr un pryd, mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r mesurau sydd gennym a'r ffordd yr ydym yn ceisio cynhyrchu’r wybodaeth honno fod yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol. Fel arall, gallem fesur gweithgarwch mewn ffordd sy'n hawdd dweud ein bod yn mesur rhywbeth ond nad yw wir yn dweud dim byd o werth wrthym.

Ac ar eich pwynt olaf ynglŷn â diagnosis a'r 3 y cant o gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, rwy’n credu bod hynny yn eithaf uchelgeisiol, a dweud y gwir, ac os ydym yn ei gyflawni, byddwn yn gweld nifer cynyddol o bobl yn dod i mewn i wasanaethau ac yn cael gwasanaethau mewn gwirionedd a, gobeithio, yn cael mwy o gymorth. Ond, os oes gan bobl farn wahanol, dylent ddweud hynny yn ystod yr ymgynghoriad. Ac mae wedyn yn fater hefyd o fod ag uchelgais, fel y dywedais, sy’n gyraeddadwy. Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud yw gosod lefel o uchelgais a all edrych yn wych ar bapur, ond yna gweld nad oes gennym y gwasanaethau ar y raddfa iawn i gyflawni a’n bod yn rhoi ein staff a’n gwasanaethau mewn sefyllfa lle maent yn debygol o fethu, ac yn amlwg ni all hynny fod yn iawn. Mae’n rhaid i hyn fod yn fater o sut yr ydym yn gwella ymhellach yr her sylweddol, o ddifrif a chyfredol hon i iechyd, gofal cymdeithasol a’n cenedl, her a fydd yn cynyddu yn y dyfodol.

Rwy’n falch bod strategaeth gennym ni rŵan y gallwn ni roi sylw iddi hi drwy’r ymgynghoriad a’i chryfhau hi ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym ni drwy brofiadau y bobl hynny sydd wirioneddol yn gwybod beth sydd angen ei wneud, sef teuluoedd y rheini sydd â dementia. Ac rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn y Siambr wedi clywed digonedd o straeon torcalonnus am bobl sy’n teimlo eu bod nhw’n methu â chael y gofal maen nhw’n teimlo a ddylai fod yn rhywbeth cwbl sylfaenol, sy’n haeddiannol i rywun sydd â dementia: y ddynes y bu gorfod iddi aros ar ward ysbyty am fisoedd, efo haint digon syml, oherwydd bod yna fethiant i roi pecyn gofal addas ar ei chyfer hi yn ei chymuned; y gofalwyr sy’n methu â threfnu gofal dros dro am ychydig o amser er mwyn cael rhywfaint o orffwys; y rheini sy’n teimlo nad ydy’r math o ofal dydd angenrheidiol ar gael iddyn nhw. A lleisiau’r bobl yma, y teuluoedd a’r rhai sydd â dementia eu hunain, yr wyf am eu clywed yn dod drwodd yn y strategaeth derfynol yn dilyn yr ymgynghoriad yma, ac rwy’n siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â hynny.

Rhyw bum cwestiwn oedd gennyf i. Mae dau ohonyn nhw wedi cael eu gofyn eisoes gan Angela Burns, felly mi wnaf i eu gofyn nhw fel cwestiynau rhethregol beth bynnag, er ein bod ni’n gwybod beth sydd ym meddwl yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae’n bwysig, onid ydy, cael cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol a bod yn realistig, ond mi wnaf innau ofyn: a ydy’r 3 y cant yma o gynnydd mewn diagnosau yn flynyddol yn rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn wirioneddol yn teimlo na ellir gwella arno fo gan na fydd hynny ond yn mynd â ni ymhen rhyw bum mlynedd i’r sefyllfa lle mae Gogledd Iwerddon rŵan?

Y cwestiwn rhethregol arall ydy: sut mae mesur y llwyddiant hwn yn y pen draw? Oherwydd, y gweithredu sy’n bwysig yn hyn a’r effaith y bydd strategaeth yma yn ei chael ar bobl ar hyd a lled Cymru. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn glir yn ei feddwl y bydd o’n gallu edrych yn ôl a dweud, ‘Ydy, mae hyn wedi gweithio’, neu ‘Dydy hyn ddim’?

Tri chwestiwn, o bosibl, y gallem ni gael atebion penodol iddyn nhw: a oes yna fwriad i ddatblygu ymhellach yr ochr ataliol, er enghraifft, i fuddsoddi go iawn mewn cyfleon ar gyfer, er enghraifft, ymarfer corff, er mwyn oedi neu leihau symptomau dementia, ac nid dim ond tynnu sylw a chodi ymwybyddiaeth o’r math y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei grybwyll ychydig o funudau yn ôl? Ar ddiagnosis yn y Gymraeg, fel y Gymdeithas Alzheimer’s, rydw i’n croesawu’n fawr y cynllun a’r bwriad i wella pethau rhywsut, ond tybed pa bryd y cawn ni, gan y Llywodraeth yn ogystal â gan eraill, fel rhan o’r ymgynghoriad yma, fwy o fanylion am yr hyn sydd dan sylw?

Felly, hefyd, yn olaf, yr elfennau gwledig o ofal dementia. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl y bydd y strategaeth derfynol yma ar ddementia yn rhoi darlun llawnach a chliriach i ni o’r materion penodol sy’n deillio o anghenion gofal dementia yng Nghymru wledig? Fel rydw i’n dweud, rwy’n croesawu’r ffaith bod gennym ni rŵan y strategaeth ddrafft yma i weithio ohoni hi; yr her, wrth gwrs, ydy ein bod ni yn cael strategaeth yn y pen draw sydd yn mynd i allu gwireddu’r geiriau cynnes iawn yr ydym ni i gyd yn gallu cytuno arnyn nhw ar wneud Cymru yn gyfeillgar i ddementia yn wirioneddol.

Diolch am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Dechreuaf â’ch pwyntiau olaf, ynglŷn â Chymru wledig, wrth gwrs. Rwy'n disgwyl y bydd sylwadau gan bobl o bob cwr o Gymru, yng Nghymru drefol a gwledig, am wirionedd y ddarpariaeth a’r gefnogaeth ar hyn o bryd, a'r hyn yr hoffent ei weld yn y strategaeth ac wrth gyflawni wedyn. Mae rhai pwyntiau yr ydych chi ac Angela Burns wedi eu gwneud, nid yn unig am y weledigaeth sydd gennym, a’r hyn sydd i mewn yma a’r hyn a allai fod i mewn yma neu beidio. Mae'r rheini'n bwyntiau i'w trafod a'u dadlau ac yna, yn y pen draw, bydd yn rhaid inni wneud dewis. Ond mae'n fater o sut y cânt eu cyflawni mewn gwirionedd. Felly, dyna rai o'r pwyntiau ynghylch mesurau llwyddiant a sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth, unwaith eto, a wnaethpwyd yn gyson yn ystod eich cyfraniad chi hefyd.

Byddwch yn gweld mwy o hyn oherwydd mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 3 Ebrill, fel y dywedais. Byddwch wedyn yn gweld ymateb gyda fersiwn terfynol o'r cynllun gweithredu yn cael ei lunio yn ystod y flwyddyn galendr hon, ac yna’n cael ei roi ar waith yn raddol. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu gweld bod y sylwadau a wnaethpwyd drwy'r broses ymgynghori yn cael dylanwad gwirioneddol ar yr hyn a gaiff ei weithredu a'i gyflawni yn y pen draw. Rwy’n ailadrodd eto bod yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn dod o’r sgwrs honno ac o wrando ar bobl sy'n byw gyda dementia yn awr. Yn ogystal ag eiriolwyr yn y trydydd sector, mae unigolion eu hunain, eu teuluoedd a'u gofalwyr wedi chwarae rhan wirioneddol yn y broses o lunio’r cynnig ymgynghori presennol a byddwn wrth gwrs yn gwrando arnyn nhw. Rwy'n falch iawn, a dweud y gwir, bod y Gymdeithas Alzheimer yn glir mai ei phrif neges ddoe ar ôl y lansiad oedd bod yn rhaid i bobl sy'n byw gyda dementia gymryd rhan a bod yn rhaid iddyn nhw gael eu clywed, gan ddweud wrth bobl beth yw eu profiad gwirioneddol, a pha un a yw'r ymgynghoriad yn mynd i ystyried hynny yn yr hyn yr ydym wedyn yn ei wneud yn y pen draw.

Ynglŷn â’ch pwynt am atal, wrth gwrs gwnaethom gynhyrchu'r canllawiau 'Dementia: lleihau eich risg mewn 6 cham' ym mis Mai 2015, ac nid fi oedd y Gweinidog Iechyd ar y pryd—rhywun arall oedd. Ond mae yna bwyntiau syml iawn yn y fan yna: y pwyntiau am weithredu nawr, a'r hyn y gallwn ei wneud i leihau ein risg drwy fod yn weithgar, archwilio ein hiechyd yn rheolaidd, rhoi cynnig ar bethau newydd, peidio ag ysmygu, dim ond yfed alcohol yn achlysurol—mae hynny'n her i nifer o Aelodau—a thrwy gadw golwg ar ein pwysau. Mae'r rhain i gyd yn bethau yr ydym yn chwerthin ac yn cellwair amdanynt o bryd i'w gilydd, ond maen nhw mewn gwirionedd yn cael dylanwad gwirioneddol ar ein canlyniadau iechyd yn y pen draw, yn awr ac yn ddiweddarach mewn bywyd hefyd. Felly y neges gyson yr ydym eisiau ei rhoi—ac rwy'n meddwl ei bod yn wirioneddol ddefnyddiol mewn rhai ffyrdd—yw mai dyma’r un mathau o negeseuon ag yr ydym yn eu rhoi ar gyfer amrywiaeth eang o heriau iechyd cyhoeddus eraill. Y gwir fater fydd: a allwn ni ein perswadio ein hunain a phobl yn y wlad, nid dim ond i ddeall beth yw’r negeseuon hynny, ond wedyn sut yr ydym yn ei gwneud yn haws i bobl wneud rhywbeth yn eu cylch? Nid yw'n fater o geisio tynnu’r hwyl allan o fywyd. Mae'n fater o ddweud, 'Gall y pethau hyn wneud gwahaniaeth', a sut yr ydym ni’n mynd i helpu i wneud y dewisiadau iachach hynny yn ddewisiadau haws.

Felly, mae heriau mawr i bob un ohonom, ond rwy'n weddol obeithiol ynghylch lle yr ydym ni ar hyn o bryd, ac o ran ein gallu i sefydlu cynllun sy'n briodol o uchelgeisiol, realistig, a chyraeddadwy. Wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl ar ôl tair blynedd ynghylch ble yr ydym ni, i wirio bod yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn gwneud synnwyr, ac yna’n gwirio eto ein bod yn dal yn y lle iawn o ran yr hyn yr ydym yn disgwyl i bobl ei wneud, a'r math o gynnydd yr ydym yn ei wneud.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod, hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw ac, fel eraill, rwy’n croesawu'n fawr yr ymrwymiad yr ydych chi wedi’i wneud i sicrhau bod nid yn unig y teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt, ond y bobl sy'n byw gyda’r cyflwr hefyd yn cael dweud eu dweud yn llawn drwy'r ymgynghoriad hwn. Rwy'n credu mai’r rheini yw’r lleisiau pwysicaf oll: llawer pwysicach na’n lleisiau ni, er ei bod yn bwysig ein bod ni’n dweud ein dweud. Rwy'n credu bod llawer iawn i'w groesawu yn y strategaeth ddrafft hon. Rwy'n credu ei bod yn cynnwys yr holl brif feysydd y byddwn yn meddwl y dylid eu cynnwys.

Hoffwn sôn am un neu ddau o bwyntiau penodol. Y cyntaf yw cyfraddau diagnosis. Nid wyf yn credu bod 3 y cant y flwyddyn yn ddigon uchelgeisiol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, ni fyddem yn derbyn cyfradd diagnosis o 50 y cant ar gyfer cyflwr fel canser ac ni ddylem ei dderbyn ar gyfer rhywbeth fel dementia. Rwy’n gobeithio, wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, y bydd yn bosibl cyflwyno targed mwy uchelgeisiol ar gyfer y gyfradd diagnosis.

Wrth gwrs, nid yw targedau diagnosis o werth oni bai bod gennych y gwasanaethau cymorth eu hunain ar waith ar gyfer pobl ar ôl iddynt gael y diagnosis, ac rwy'n falch bod y strategaeth yn cydnabod hynny. Yn wir, rydych yn cydnabod y ffaith nad yw triniaethau ffarmacolegol, ac yn y blaen, sy'n gallu arafu cynnydd dementia, ar gael i bobl tan ar ôl i chi gael y diagnosis. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Ond ceir diffyg manylder o hyd ar y mater hwn o weithwyr cymorth: 32 ar hyn o bryd; mae'n amlwg na fydd hynny’n ddigon i Gymru gyfan, yn enwedig os byddwn yn cynyddu cyfraddau diagnosis. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn, drwy'r ymgynghoriad, geisio gwella ar hynny.

Ac yna, yn olaf, ynglŷn â gweithredu, rwy'n falch iawn eich bod wedi bod yn benodol ynghylch y dulliau ar gyfer monitro’r strategaeth o ran y grŵp a gaiff ei sefydlu. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu cael gwybod mwy am sut yn union y bydd hynny'n gweithio ac, yn arbennig, dulliau’r grŵp hwnnw ar gyfer adrodd i'r Llywodraeth.

Roeddwn i hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith fy mod i’n falch o weld y targedau perfformiad lefel uchel yng nghefn y ddogfen, ond rwy’n credu bod angen mwy o fanylion yn y fan honno hefyd. Hoffwn ofyn ichi ai eich bwriad, drwy'r ymgynghoriad hwn, yw cynnwys rhai cerrig milltir gwirioneddol, o ran niferoedd gwirioneddol, yn yr adran honno fel y gallwn fonitro yn gwbl glir, wrth inni fynd drwy hyn, sut yr ydym yn cyflawni mewn gwirionedd yn erbyn ein hamcanion.

Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, rydym wedi cael y drafodaeth hon ynghylch pa un a ddylech fod yn rhy uchelgeisiol ynteu a ddylech chi fod yn realistig: rwy’n credu y dylem ni fod yn anelu’n uchel iawn gyda'r ddogfen hon. Bydd unrhyw un sydd wedi cael unrhyw gysylltiad uniongyrchol â dementia yn dweud wrthych ei fod yn brofiad sy'n gweddnewid pethau. Rydym yn gwybod bod nifer y bobl sy'n mynd i gael dementia yn ei wneud yn brofiad sy'n gweddnewid pethau i’n gwasanaethau cyhoeddus ac rwy’n meddwl y dylem geisio llunio strategaeth sy’n gweddnewid pethau.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Dechreuaf drwy ateb rhai o'r rhai arbennig o fanwl. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod yn croesawu'r strategaeth eang. Wrth gwrs, pwynt yr ymgynghoriad yw clywed yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud am y peth a gweld beth y gellir ei wella a'i gyflwyno mewn gwirionedd yn dilyn hynny hefyd.

Yn arbennig, mae eich pwyntiau am y grŵp monitro ar gyflawni, ac i ystyried sut y gallem o bosibl ychwanegu cerrig milltir ar gyfer cynnydd, rydym yn credu ei bod yn bwysig bod pobl yn gallu gweld pa gynnydd sy'n cael ei wneud drwy hynny, boed hynny’n ymwneud â cherrig milltir o fewn y cyflawni ei hun, o fewn y cynllun gweithredu ei hun, ynteu a yw'n ymwneud â’r grŵp monitro a sut y maent yn adrodd yn ôl ar hynny a sut y gellir ei rannu fel bod pobl yn gallu gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ac nad yw'n cael ei wneud. Oherwydd mae’n bwysig cael gonestrwydd ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud. Oherwydd pe bawn i’n sefyll ar fy nhraed ac yn ceisio honni bod popeth yn iawn ac yn wych a bod pobl yn gweld etholwyr ac yn clywed rhywbeth gwahanol, wel byddai hynny'n anodd iawn, ac nid wyf yn credu y byddai'r ymgynghoriad yn meithrin yr ymddiriedaeth yn yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, oherwydd hoffem allu siarad am y cynnydd yr ydym yn ei wneud tuag at ymdrin â her gynyddol, sylweddol i bob un ohonom ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus.

Rydym eisoes wedi gwneud buddsoddiadau, cyn i’r ymgynghoriad ddigwydd, felly mae eich pwynt am weithwyr cymorth wedi’i wneud yn dda ac mae'n un sy’n cael ei wneud yn gyson gan amrywiaeth o bobl. Rydym wedi darparu mwy o arian, er enghraifft, £0.5 miliwn i gefnogi therapi galwedigaethol ac rydym hefyd wedi rhoi £800,000 i weithwyr cymorth mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn ogystal. Mae angen inni ddeall pa effaith y mae hynny'n ei chael ac yna sut y bydd gennym, mewn gwirionedd, fwy o staff sy’n gallu darparu’r cymorth uniongyrchol hwnnw hefyd.

Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi gweld yr adroddiad ddoe, ond roedd—[Anghlywadwy.]—yn sôn am yr hyn a ddigwyddodd pan gafodd aelod o'r teulu ddiagnosis nifer o flynyddoedd ynghynt, pan nad oedd y gefnogaeth honno ar gael iddynt ar adeg y diagnosis. Nawr, mae hynny'n her wirioneddol—i’r unigolyn sydd â dementia gael gwybod ei fod bellach yn wynebu’r her hon, ond hefyd i’r teulu yn ogystal. Felly, mae hynny’n un o'r pwyntiau amlwg i’w gwella. Gallaf ddweud ei bod yn well yn awr nag yr oedd bump neu chwe blynedd yn ôl a mwy, ond ein her yw sut y byddwn yn gwella ymhellach, a sut y mae’r strategaeth hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna'r pwynt am yr hyn yr hoffem ei weld yn digwydd mewn gwirionedd.

Felly, byddwn yn edrych ar ddiagnosis, byddwn yn edrych i weld a yw'r cyfraddau sydd gennym yn ddigon uchelgeisiol ac yn ddigon cyraeddadwy a bod modd i gefnogaeth fynd o'u cwmpas, ond mae gan bobl yn yr ystafell hon ran bwysig iawn i'w chwarae fel eiriolwyr a hyrwyddwyr, ac i godi gwahanol faterion i ni yn y Llywodraeth hefyd. Ond hefyd i beidio â dibrisio profiad pobl yn yr ystafell hon, gan fod llawer o bobl ym mhob plaid wedi cael profiad unigol o ofalu am deulu a ffrindiau, ac felly nid yw hyn yn rhywbeth lle ceir diffyg profiad ac empathi yn yr ystafell hon—nid dim ond gweld etholwyr, ond yn unigol hefyd, a byddwn yn awyddus i weld hynny wedi’i gynnwys yn y ffordd y mae'r ymgynghoriad yn gweithio, ac yna yn y ffordd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Ac, wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i ddod i'r grŵp trawsbleidiol ar ryw adeg yn y dyfodol agos i gael deall mwy gan aelodau'r grŵp trawsbleidiol ac ymwelwyr allanol wrth inni symud drwy'r ymgynghoriad.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nod o wneud Cymru yn genedl ddementia gyfeillgar yn un yr ydym i gyd yn ei rannu. Dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru erbyn hyn, ac mae disgwyl i nifer y bobl y mae dementia yn effeithio arnynt gynyddu gan oddeutu 40 y cant dros y degawd nesaf. Mae croeso mawr iawn i’r ffaith y gall dioddefwyr dementia yng Nghymru, eu teuluoedd a'u gofalwyr gyfrannu yn uniongyrchol a llunio strategaeth ddementia gyntaf Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r ymgynghoriad maes o law.

O ran y strategaeth ddementia ddrafft ei hun, mae gennyf rai cwestiynau sy'n ymwneud â'r mesurau perfformiad lefel uchel. Rydych wedi gosod targed o sicrhau bod dwy ran o dair o ddioddefwyr dementia wedi cael diagnosis ffurfiol erbyn Rhagfyr 2021. Sut y gwnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn, a pham nad yw’n fwy uchelgeisiol, ac ystyried y buddion amlwg a geir drwy ddiagnosis ffurfiol? Mae'r strategaeth yn gosod targed ar gyfer canran y staff GIG sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd sydd wedi'u hyfforddi ym maes gofal dementia: y targed yw tri chwarter y gweithlu erbyn 2019. Pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld bod 100 y cant o staff y GIG wedi cael hyfforddiant ar y lefel briodol o ofal dementia?

Mae Llywodraeth Cymru, yn ddigon teg, eisiau gweld gostyngiad yng nghanran y bobl â dementia sy’n cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth wrthseicotig. Fodd bynnag, nid ydych wedi nodi targed ar gyfer y gostyngiad hwnnw. Digon teg, efallai y bydd angen hyn mewn rhai achosion, ond mae'r holl arbenigwyr yn cytuno na ddylem ni fod yn defnyddio’r meddyginiaethau hyn i drin dementia. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi’n defnyddio canllawiau i sicrhau na chaiff meddyginiaethau gwrthseicotig eu defnyddio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol?

Rwy’n croesawu’r ffaith bod y strategaeth yn tynnu sylw at y ffaith y gall dementia daro ar unrhyw oedran a sut y gall alcohol gyfrannu at hyn. Mae angen inni addysgu'r cyhoedd yn well am beryglon dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol a niwed i'r ymennydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am y ffaith y gall camddefnyddio alcohol arwain at ddementia?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i wella mynediad at glinigau camddefnyddio sylweddau, fel y gallwn, gobeithio, atal mwy o bobl rhag datblygu dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn y dyfodol? Dementia yw un o'r heriau iechyd mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn cael y strategaeth hon yn iawn. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac at weithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni ein nod cyffredin o genedl ddementia gyfeillgar. Diolch yn fawr.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy’n credu, o ran ceisio ymdrin â'r rheini, fy mod wedi ateb pwyntiau am ddiagnosis, a byddaf yn edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr ymgynghoriad i’w ddweud am yr hyn sydd gennym yn y cynllun, a'r hyn sy'n realistig ac yn gyraeddadwy inni ei gyflawni mewn gwirionedd. Rhan o'r pwynt yr ydym yn ceisio ei gyfleu yw bod angen parhau i gynyddu a gwella’r gyfradd diagnosis, ar gyfradd sy'n real ac yn berthnasol, a gweld hynny’n parhau. Nawr, rwy’n cydnabod y bydd llawer o bobl yn ein hannog i fod yn fwy uchelgeisiol. Mae angen inni ddeall yr hyn sydd wir yn dod drwy'r drws, a beth yw ein gallu wedyn i wella cyfraddau diagnosis mewn gwirionedd gyda gwahanol bartneriaid yn gweithredu ar wahanol adegau. Felly, rwy'n hapus i glywed beth fydd gan yr ymgynghoriad i'w ddweud cyn inni wneud dewis terfynol—dyna, wedi'r cyfan, yw pwynt cynnal ymgynghoriad dilys.

O ran eich pwynt am staff a hyfforddiant staff, hoffwn gyflawni'r hyn sydd yn y cynllun, a dysgu o hynny wedyn am sut y bydd gennym wedyn fwy o staff y GIG wedi’u hyfforddi a’u harfogi’n briodol. Mae hefyd yn ymwneud â staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond mewn maes ehangach hefyd, a dyna pam mae’r cyngor, y canllawiau, y gwnaethom eu lansio cyn y Nadolig wir yn gwneud gwahaniaeth. A dweud y gwir, roedd yn ddigwyddiad defnyddiol iawn i gael cwrdd â phobl go iawn yn Ysbyty Ystrad Fawr a deall yr hyn yr oeddent wedi’i wneud yn barod, yr hyfforddiant a oedd wedi digwydd a'r gwelliannau i brofiad cleifion a oedd wedi digwydd o ganlyniad i'r ffaith bod yr hyfforddiant hwnnw a’r darpariaethau ar gael.

Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnewch am ddefnyddio cyffuriau gwrthseicotig a pha bryd maen nhw'n briodol, ac mae hynny'n rhan o'r pwynt, ac rydym ni’n sôn am hynny yn y cynllun, ond rwy’n arbennig o awyddus i ymdrin â'ch sylwadau am gamddefnyddio sylweddau. Mae rhywbeth yn y fan yma am gysylltu’r gwahanol gynlluniau a strategaethau sydd gennym, gan gydnabod ein bod yn sôn am gamddefnyddio sylweddau a'r cynlluniau sydd gennym i wella darpariaeth camddefnyddio sylweddau i helpu pobl i oresgyn hynny hefyd, ac, yn arbennig, y ffordd y mae niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn croesi nifer o wahanol feysydd gweithgarwch. Rydym yn gwybod ein bod wedi bod yn cefnogi rhywfaint o waith yn Ogwr ac o amgylch Ogwr i edrych ar y mater penodol hwn o ran y driniaeth, y ddarpariaeth a'r ymchwil, ond hefyd bydd yr Aelodau a oedd yma yn y Cynulliad blaenorol wedi fy nghlywed yn trafod rhywfaint o'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd, er enghraifft, yn ardaloedd Lerpwl a Glasgow hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu oddi wrth rannau eraill o'r DU am yr hyn sy'n debygol o fod yn her barhaus. Mae mwy a mwy o bobl yn mynd i fod yn dod trwy'r drysau â heriau sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac yn y maes hwn yn arbennig hefyd, a bydd llawer o’r bobl hynny mewn gwirionedd yn grwpiau mwy cefnog o bobl yn dod i mewn â heriau sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn dementia. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am sut yr ydym am ymdrin ag amrywiaeth o'n heriau gwahanol, deall beth yw’r dystiolaeth bresennol am yr hyn sy’n effeithiol, ac yna sut y mae hynny'n effeithio yn amlwg ar ddiagnosis, ond hefyd ar y driniaeth a’r ddarpariaeth sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd, a fydd yn wahanol yn y dyfodol i’r hyn sydd gennym yn awr, hefyd.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd i'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia a Chymdeithas Alzheimer, sydd wedi eich cynorthwyo gyda hyn. Rwy’n gwybod bod eu gwaith yn fy rhanbarth i yn werthfawr iawn yn wir. Tri pheth: roeddwn i’n falch iawn â'r gydnabyddiaeth o'r angen am siaradwyr Cymraeg; mae eu hawliau nhw, wrth gwrs, yn cael eu cydnabod eisoes yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond a allwch chi gadarnhau y byddwch hefyd yn ystyried yn fanwl darparu gwasanaethau, neu gymorth, a dweud y gwir, mewn ieithoedd eraill? Rwy'n credu, yn y sefyllfa hon, nad mater o hawl haniaethol yw iaith, ond mater o ddiwallu anghenion. Ac nid wyf yn meddwl bod angen iddo olygu cyfran fawr o beirianwaith y Llywodraeth, ond rwy’n credu bod dyletswydd ar y Llywodraeth ac arnom ninnau fel Aelodau'r Cynulliad i sicrhau bod yr anghenion hynny'n cael eu diwallu.

Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth yr ydych chi’n ei olygu wrth ‘codi ymwybyddiaeth’, oherwydd rwy’n chwilfrydig i wybod sut y mae hynny’n debygol o edrych yn y gwasanaethau cyhoeddus. A ydych chi’n ystyried, er enghraifft, enwi ffrindiau dementia ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus, boed hynny’n brif weithredwr cyngor neu hyd yn oed gwmni bysiau preifat, oherwydd, wrth gwrs, mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymestyn y tu hwnt i'r sector cyhoeddus, ac mae angen i'r strategaeth hon gyrraedd mor bell â hynny hefyd?

Ac yna, yn olaf, yr effaith ar wasanaethau cymdeithasol, ac rwy’n llwyr werthfawrogi bod y strategaeth hon yn ymwneud yn llwyr ag anghenion pobl â dementia a'r rheini sy'n eu cefnogi, ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried y rheini sydd ar gael i helpu i ddarparu'r hyn sy’n diwallu’r anghenion hynny, a sut y bydd y strategaeth hon yn helpu awdurdodau lleol yn arbennig i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol mewn rhai mannau er mwyn gallu darparu mwy o gymorth mewn mannau eraill o fewn y gwasanaethau cymdeithasol. Ac er y dylid canolbwyntio, yn bendant, ar anghenion pobl â dementia, mewn gwirionedd mae angen rhoi pwys dyledus i farn y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hefyd. Diolch.

Ydw, rwy’n arbennig o awyddus i glywed gan ddarparwyr gofal cymdeithasol yn rhan o'r ymgynghoriad am yr hyn sydd i mewn yma, am brofiad eu staff ac am realiti cyflawni a darparu'r gwasanaeth, oherwydd bydd cymysgedd y ddarpariaeth honno yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad hefyd. Weithiau, bydd hynny’n briodol i'r hyn sy'n bodoli yno, ac weithiau gall fod ffyrdd eraill y gallant ddysgu oddi wrth y ffordd y mae gwahanol fodelau gofal yn cael eu darparu mewn rhannau eraill o'r wlad. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y cawn glywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n darparu gwasanaethau ar hyn o bryd, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n byw â hyn. Ceir amrywiaeth o wahanol randdeiliaid a allai ac a ddylai gymryd rhan, ac mae gennyf ddiddordeb mewn darparu’r ystod ehangaf bosibl o safbwyntiau.

O ran eich pwynt ynghylch nid yn unig y Gymraeg ond ieithoedd eraill, rwy’n cytuno â chi: mae'n fater o ddiwallu angen gwirioneddol. Mae digon o dystiolaeth y bydd pobl â dementia yn aml yn mynd yn ôl at eu prif iaith, ac weithiau bydd hi’n anoddach iddynt siarad ieithoedd eraill. Ac felly mewn gwirionedd mae angen gwirioneddol yn y fan yma am sylw, yn hytrach na dewis, ac mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaeth yn hynny o beth. Felly, bydd hynny’n darparu gwahanol heriau mewn gwahanol rannau o'r wlad, ond mae'n rhywbeth y mae angen i bob un o'n darparwyr ei ystyried wrth gynllunio ac yna darparu eu gwasanaethau.

Ac, ar y pwynt am yr hyn sydd ei angen a’r hyn y mae'n ei olygu i fod yn gymuned ac yn wlad ddementia gyfeillgar, rwy'n falch eich bod yn gwneud y pwynt bod hyn yn fwy na dim ond gwasanaethau cyhoeddus. A dweud y gwir, mae lle i bobl yn y sector gwirfoddol a’r sector busnes hefyd i fod yn gyffredinol ddementia gyfeillgar: y ddealltwriaeth y gallant ei dangos, beth mae hynny'n ei olygu i wahanol bobl hefyd. Dyna pam, pan fyddwch yn edrych ar gymunedau dementia gyfeillgar, nad dim ond pobl yn y sector cyhoeddus sydd wedi cymryd rhan a chyfrannu a’i wneud yn llwyddiant gwirioneddol; mae’n ystod lawer ehangach o bobl. Dyna beth yr oeddwn yn ceisio ei gyfleu yn fy natganiad a dyna pam mae gennyf hefyd ddiddordeb mewn clywed gan grwpiau busnes wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, ac yna dechrau cyflawni hefyd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd; diolch am fy ngalw i siarad am y strategaeth ddementia ddrafft. Rwy’n ei chroesawu ac rwy’n croesawu'r ymgynghoriad cyhoeddus sy'n digwydd. Rwy'n falch iawn y byddwn yn ymgynghori â phobl sydd mewn gwirionedd yn profi dementia, a'u teuluoedd. Roeddwn yn falch iawn o weld bod y strategaeth ddrafft yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned ehangach ac rwy'n meddwl ei bod yn hollol hanfodol bod pobl sy'n dioddef o ddementia a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn cael eu galluogi i ddal i chwarae rhan hanfodol yn y gymdeithas, a bod angen ystod o gymorth y tu allan i'r gwasanaethau statudol i sicrhau bod pobl yn gallu cynnal ansawdd bywyd da. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn ei bod hefyd yn cydnabod nad oes rhaid i’r gefnogaeth hon fod ar ffurf gweithgareddau dementia-benodol, oherwydd rwy’n credu bod rhai o'r syniadau mwyaf arloesol yn dod o gymunedau eu hunain a bod y rhai gorau yn annog pobl nad ydynt yn ddioddefwyr ddementia i gymysgu gyda phobl â dementia, yn y ffordd yr ydym yn sôn am gymunedau dementia gyfeillgar, ac yn amlwg rydym wedi sôn am beth ydynt mewn gwirionedd.

Cyn y Nadolig cefais y fraint fawr o fynd i gyngerdd yn fy etholaeth gan y Côr Forget-me-Not. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau eraill wedi clywed y Côr Forget-me-Not, ac roedd yn achlysur hollol ysbrydoledig i mi, gan fod aelodau’r Côr Forget-me-Not yn bobl â dementia a'u gofalwyr, ac maent yn cymryd rhan mewn parau. Rhoesant berfformiad hollol fythgofiadwy, lle’r oedd llawer o bobl yn dioddef o ddementia ac yn methu â siarad mewn sgwrs bob dydd, ond roedd cân yn dod yn ôl iddynt. Yn yr un modd ag y siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet am iaith yn dod yn ôl i bobl, roedd pŵer y gân mor gryf—. Roedd yn achlysur bythgofiadwy. Roedd yn ymddangos i mi bod y math hwnnw o weithgaredd—. Cafodd ei wneud ar y cyd â chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, felly roedd safon y canu yn uchel iawn, ond dyna'r math o weithgarwch yr wyf yn meddwl y dylem fod yn ei annog mewn ffordd eang, gan ei fod yn ffordd i bobl a'r gofalwyr a'r perthnasau i gymryd rhan, a gallech weld y llawenydd yr oedd yn ei roi. Roedd yn ymddangos i mi fel enghraifft o'r math o ddarpariaeth y gallem ei hannog, ac roeddwn yn falch iawn bod côr yn ymarfer yn Thornhill—ac mae un yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ac yng Nghasnewydd—ac mae'n wirioneddol gyffrous bod hyn yn digwydd. Rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau eraill yr oeddwn am eu gwneud wedi cael eu cwmpasu gan yr holl bwyntiau sydd wedi eu gwneud heddiw. Ond roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi sylwadau am y math hwnnw o weithgaredd a'r hyn y gallwn ei wneud i annog hynny.

Ie, a diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Unwaith eto, rydym yn mynd yn ôl at y ffaith bod yr ymgynghoriad drafft hwn wedi cael ei lunio gan weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia yn awr a byddwn yn clywed gan ystod ehangach o bobl drwy weddill cyfnod yr ymgynghoriad, oherwydd nid yw hyn yn fater o ddweud dyna hi, ar ôl cael diagnosis, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn byw am amser hir â dementia. Pa un a ydynt yn byw am amser hir neu amser byr, mae rhywbeth am yr ansawdd bywyd sydd ganddynt a hefyd y teuluoedd a'u gofalwyr o'u cwmpas hefyd. Un o rannau mwyaf diddorol fy ymweliad ddoe, a dweud y gwir, oedd eistedd i lawr a siarad â phobl â dementia. Fe wnes i chwarae ychydig o Scrabble gyda nhw, a wnes i ddim ennill—cefais fy symud ymlaen cyn i’r gêm ddod i ben, a oedd yn siomedig iawn, ond roeddwn yn gwrando ar bobl, yn cael sgwrs ac yn deall y rhannau o'r hyn a oedd yn dal i fod yn bwysig iddyn nhw a’r sgyrsiau yr oeddent yn dymuno eu cael, ac yna’n cael sgwrs â gofalwyr hefyd a deall yr effaith arnyn nhw, nid dim ond cael y seibiant a’r amser hwnnw, ond hefyd er mwyn iddyn nhw a'u hanwyliaid gael cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, boed hynny’n golygu’r sefydliad Forget-me-not—. Yn wir, es i ar ymweliad Forget-me-not gyda Rebecca Evans yn y gorffennol, pan oeddwn i’n Ddirprwy Weinidog, gan gwrdd â phobl sydd yn ei hetholaeth erbyn hyn a deall rhywfaint o effaith hynny ar amrywiaeth o unigolion, ond nid dim ond unigolion, ond eu teuluoedd, eu gofalwyr a'r holl bobl eraill hynny sy’n dal i wirfoddoli a gwneud y sefydliadau hynny yn llwyddiant gwirioneddol. Oherwydd mae cerddoriaeth, cân, ac ystod o weithgareddau eraill sy'n mynd i mewn i wneud rhywbeth yn gyffredinol ystyrlon i bobl sy'n byw gyda dementia, yn hytrach na rhywbeth sy'n ceisio rhoi pobl mewn warysau, a’u cadw yn rhywle lle’r ydym yn meddwl eu bod yn ddiogel—ac, mewn gwirionedd, rydych yn eu dad-sgilio ac rydych yn cymryd yr ansawdd bywyd sydd ganddynt oddi arnynt. Rwy’n credu bod hynny’n gallu achosi cryn ofid i unigolion sy’n dal i fod yn eithaf ymwybodol o bwy ydyn nhw ar amryw o wahanol adegau yn eu taith â dementia, ond hefyd i’w teuluoedd a'u gofalwyr. Felly, meddwl am sut yr ydym yn darparu’r pecyn cyfan o gefnogaeth o gwmpas unigolion yn bendant yw’r ffordd yr hoffem fod, ac yna deall sut y byddwn yn gwneud hynny, a phwy fydd yn gwneud hynny, gydag ystod o wahanol bartneriaid. Ac, fel y dywedwch, mae'r trydydd sector yn arbennig yn rhan bwysig iawn o hynny erbyn hyn, a byddant, unwaith eto, yn y dyfodol.

Mae hynny newydd fy atgoffa o ddigwyddiad. Ugain mlynedd yn ôl, gwirfoddolais i fynd i gartref preswyl i wneud ychydig o ganu carolau. Roeddem yn canu'r carolau adnabyddus i gyd, ac ar un adeg gofynnwyd i'r preswylwyr a oedd ganddyn nhw unrhyw geisiadau, a chododd un wraig ei llaw a dweud, 'Oes, rhowch y gorau i ganu.' Nawr, y rheswm pam rwy’n sôn am hynny yw oherwydd, ar ôl hynny, dywedodd aelod o staff wrthym nad oedd hi wedi siarad ers blwyddyn neu ddwy, ac fy mhwynt i oedd, does dim ots pa un a ydych yn ganwr da neu’n ganwr gwael, gallwch chi wir gael tipyn o effaith ar bobl. Ond nid oes rhaid i’r Llywodraeth drefnu hyn i chi o reidrwydd. Gallwch fynd eich hun i mewn i'ch cymuned leol a gwneud y pethau hyn.

Roedd un o fy staff yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar ddementia, lle’r oedd pobl sy'n byw gyda dementia wedi’u cynrychioli ac, yn wir, yn bresennol. Yr hyn a oedd yn amlwg oedd bod pobl sy'n byw gyda dementia yn dymuno parhau i fod yn rhan o'n cymdeithas. Maent yn dymuno helpu eraill fel 'cyfeillion', ac yn sicr maent yn dymuno cael eu clywed. Rwy’n nodi ei bod yn ymddangos bod yr ymgynghoriad hwn yr ydych wedi ei ddechrau ar fformat arferol Llywodraeth Cymru. Felly, yr hyn yr oeddwn eisiau ei wybod oedd: sut y gallwch chi sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cyrraedd y bobl y mae angen ymgynghori â nhw—y rhai sy’n defnyddio'r gwasanaethau mewn gwirionedd—a’u bod yn gallu ymateb ac y gellir diwallu eu hanghenion? A allwch amlinellu sut y mae’r ymgynghoriad hwn wedi cael ei deilwra ar gyfer hynny?

O ran gwasanaethau cymorth, roeddwn i’n meddwl tybed beth yw eich meddyliau am gyfuno adrannau gwasanaethau cymdeithasol sy'n darparu rhai o'r triniaethau a rhywfaint o’r gofal i gleifion dementia, fel arfer yn eu cartrefi eu hunain, gyda'r GIG, er mwyn sicrhau bod y llaw chwith yn gwybod yn union beth mae'r llaw dde yn ei wneud, ac i ddarparu gwasanaethau yn well ar gyfer cleifion dementia?

Wel, nid wyf i’n siŵr a oedd y pwynt cyntaf ynglŷn â rhywun nad oedd wedi siarad ers blynyddoedd yn sefyll ar ei draed ac yn siarad pan oeddech chi’n canu yn sylw am eich gallu i ganu, ynteu a yw’n ymwneud ag effaith cerddoriaeth ar y cof a sbarduno ymateb. Ond mae’r pwyntiau hynny wedi’u gwneud yn dda am wahanol weithgareddau nad ydynt yn brofiad yn unig, ond sut yr ydych yn cynnal gallu rhywun i wneud pethau hefyd a gwneud yn siŵr nad ydynt yn dirywio’n gyflymach.

Rwy’n deall y pwyntiau a wneir yn rheolaidd am y ffordd yr ydym yn ymgynghori, ond mae hon yn enghraifft dda o wrando ar, a gweithio gyda, nid dim ond y trydydd sector ac eiriolwyr a hyrwyddwyr wrth gynllunio a chyflwyno ymgynghoriad i fynd allan i grŵp ehangach o bobl, ond unigolion eu hunain, fel yr wyf wedi’i ddweud, oherwydd yn y prosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia, mae’r bobl hynny yn byw â dementia eu hunain, ac felly maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ran y bobl yr ydym wedi gwrando arnynt wrth lunio'r cynigion ymgynghori hyn. A dyna pam yr wyf yn annog, ac mae pobl eraill yn annog, yr amrywiaeth ehangaf bosibl o bobl i gymryd rhan ac ymgysylltu. Rydym yn cynnal y digwyddiadau hyn gyda'r trydydd sector, gydag amrywiaeth o wahanol bobl y maent eisoes wedi gweithio gyda nhw, pobl sy’n gwybod eu bod yn wynebu’r her hon yn awr, a phobl eraill a fydd yn cael diagnosis yn y dyfodol hefyd. Ni wnawn fyth, a bod yn onest, gyrraedd 100 y cant o bobl. Ni all unrhyw ymgynghoriad wneud hynny. Ond rwy’n meddwl ein bod yn mynd i gyrraedd nifer da o bobl a fydd wedyn yn dweud rhywbeth o werth gwirioneddol wrthym am eu bywydau, sut y maent yn eu byw, yr heriau y maent wedi eu hwynebu yn barod, beth sydd wedi gweithio iddynt, a beth nad ydyw, er mwyn deall yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud ar hyn o bryd, a'r hyn yr hoffem ei wneud yn well yn y dyfodol i sicrhau gwell canlyniadau i’r unigolion hynny a'u teuluoedd.

Mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt olaf ynglŷn ag uno adrannau rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a/neu'r GIG. Rydym wedi amlinellu agenda glir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant am y bartneriaeth yr ydym yn disgwyl ei gweld yn digwydd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a'r trydydd sector ehangach ac unigolion hefyd. Mae'n ymwneud â sut yr ydych yn grymuso pobl. Mae'n ymwneud â sut yr ydych yn lleihau rhwystrau i lunio gwasanaethau o amgylch unigolion. Bydd y Gweinidog yn gwneud mwy o waith ar hyn yn ymarferol, gan weithio gydag amrywiaeth o wahanol bartneriaid, i ddeall sut y mae cynllun y Ddeddf honno’n cael ei gyflwyno yn raddol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Ac rwy’n credu y byddwn mewn lle da yn ddiweddarach yn y tymor hwn i weld pa mor llwyddiannus y buom. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol i beidio ag ad-drefnu yn strwythurol, ond i feddwl am sicrhau canlyniadau gwirioneddol i bobl, a’r ymdeimlad hwnnw o bartneriaeth ac ymgysylltu go iawn, a gorchymyn pobl i gydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol.

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ffliw adar, ac rwy’n galw ar Lesley Griffiths i wneud y datganiad hwnnw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mewn ymateb i achosion o ffliw adar H5N8 pathogenig iawn ar draws Ewrop, gogledd Affrica a'r dwyrain canol, fel mesur rhagofalus, gwnes i ddatgan Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar ar 6 Rhagfyr 2016. Mae'r parth atal yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl bobl sy’n cadw dofednod, ac adar caeth eraill, gadw eu hadar dan do, neu gymryd pob cam priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt, ac i wella bioddiogelwch ar eu safle. Roedd hwn yn fesur rhagofalus i leihau'r risg o ddofednod ac adar caeth yn cael eu heintio gan adar gwyllt. Cyflwynwyd mesurau tebyg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau dull cydlynol ar draws y DU.

Ar 16 Rhagfyr, cadarnhawyd ffliw adar H5N8 pathogenig iawn mewn tyrcwn mewn safle yn Swydd Lincoln. Bu farw'r rhan fwyaf o'r tyrcwn ar y fferm yn gyflym o'r haint, a'r gweddill yn cael eu difa heb greulondeb. Gweithredwyd parth gwarchod 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle, gan gyfyngu ar symudiadau o safleoedd a nodir yn y parthau. Yn dilyn cadarnhad o’r clefyd yn Swydd Lincoln, rwy’n cymryd camau pellach i ddiogelu adar dofednod ac adar caeth yng Nghymru drwy gyflwyno gwaharddiad dros dro ar ddigwyddiadau lle y daw dofednod at ei gilydd megis ffeiriau gwerthu a sioeau.

Mae masnach yr UE yn dibynnu ar broses ardystio llym ar gyfer symud dofednod byw a chynhyrchion anifeiliaid. Yn dilyn yr achos yn Swydd Lincoln, ni chaniatawyd unrhyw fasnach o'r safle heintiedig, yn unol â gofynion yr UE. Yn yr un modd, ni cheir symud unrhyw ddofednod na chynnyrch dofednod i'r DU o’r parthau gwarchod na’r parthau gwyliadwriaeth a osodir mewn gwledydd eraill yr UE. Rydym yn parhau i asesu'r effeithiau ehangach ar fasnach ryngwladol, ond rydym yn ymwybodol bod rhai gwledydd y tu allan i'r UE eisoes wedi gosod cyfyngiadau.

Cadarnhawyd y clefyd mewn hwyaden wyllt, chwiwell, yn Sir Gaerfyrddin ar 22 Rhagfyr. Hwn oedd y canfyddiad cyntaf mewn aderyn gwyllt yn y DU, ac nid oedd yn annisgwyl, o gofio bod y clefyd wedi’i gadarnhau mewn rhywogaethau mudol gwyllt ledled Ewrop. Cyn y canfyddiad hwn, datblygwyd systemau gwyliadwriaeth adar gwyllt, a gostwngwyd y trothwy adrodd ar gyfer rhywogaethau a allai gael y straen firws hwn, o bum aderyn marw i un. Mae aelodau o'r cyhoedd wedi’u hannog i gysylltu â llinell gymorth Prydain Fawr ynglŷn ag unrhyw aderyn dŵr gwyllt sydd wedi marw, megis hwyaid, gwyddau, elyrch neu wylanod, a phump neu fwy o adar gwyllt sydd wedi marw, sy’n perthyn i rywogaethau eraill yn yr un lleoliad.

Ers y canfyddiad yn Llanelli, bu mwy o ganfyddiadau o ffliw adar pathogenig iawn mewn adar gwyllt marw yn Lloegr a'r Alban, ac yng Nghymru, mewn hwyaden wyllt arall, corhwyad, yng Nghonwy. Mae'n debygol y caiff mwy o achosion eu canfod, a fydd yn cael eu hadrodd yn wythnosol.

Ar 3 Ionawr, cadarnhaodd ein prif swyddog milfeddygol glefyd ar dyddyn ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd cyfyngiadau ar y safle, lle’r oedd chwe iâr a 19 o hwyaid, a chafodd yr adar eu difa heb greulondeb. Sefydlodd y prif swyddog meddygol barth diogelu 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle heintiedig er mwyn lleihau'r perygl i’r clefyd ledaenu, ac mae’r gofynion ar gyfer hyn i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y bobl y nodwyd fel bod yn cadw dofednod yn y parthau yn cael ymweliad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac yn destun ymchwiliad milfeddygol wedi'i dargedu. Mae'r achos hwn yn atgyfnerthu fy nghamau gweithredu cynharach, ac rwy’n hynod awyddus i sicrhau bod pawb sy'n cadw dofednod, yn arbennig heidiau iard gefn, yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eu hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt a allai fod wedi'u heintio.

Yr wythnos diwethaf, fe wnes i ymestyn y parth atal yng Nghymru hyd at 28 Chwefror, a ystyriais yn dilyn yr achos ym Mhontyberem, y canfyddiadau parhaus mewn adar gwyllt ar draws Prydain Fawr, ac yn dilyn cyngor arbenigol. Mae DEFRA a Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yr un fath. Rwy’n deall bod rhai sy'n cadw dofednod yn ei chael hi’n anodd cadw at holl ofynion y parth atal, yn enwedig cadw eu hadar dan do neu ar wahân i adar gwyllt. Gall cadw adar dan do nad ydyn nhw wedi arfer bod dan do na chael eu cyfyngu am gyfnod parhaus, achosi problemau o ran lles ac ymddygiad. Mae canllawiau ar sut i gynnal lles, ac amrywiaeth o ddewisiadau cyfoethogi amgylcheddol ar gyfer adar caeth, gan gynnwys dofednod, i’w gweld, unwaith eto, ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwn fod pobl sy’n cadw dofednod yn poeni am eu hadar a byddan nhw’n deall mai bwriad y camau a gymerais yw diogelu eu hadar rhag clefyd. Mae cydymffurfio â gofynion y parth atal, a'r cyfyngiadau eraill o amgylch y safle ym Mhontyberem, yr un mor berthnasol i bobl sy’n cadw heidiau iard gefn ag y maent i safleoedd masnachol mawr.

Mae'r cyfryngau wedi cael gwybod am y datganiadau sy’n gweithredu cyfyngiadau. Mae canllawiau ar gael ar ein gwefan sy’n rhybuddio'r cyhoedd a phobl sy’n cadw dofednod—ac ar draws ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Cynhaliodd y prif swyddog milfeddygol rownd o gyfweliadau yr wythnos diwethaf ar draws safleoedd cyhoeddus a masnachol sy'n cwmpasu Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, ac mae cyfres o gyfweliadau pellach wedi’u cynllunio â gorsafoedd radio rhanbarthol llai yr wythnos hon. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi bod ar gael yn eang yn y cyfryngau, ond er hynny, efallai na fydd rhai pobl sy’n cadw dofednod yn ymwybodol o'r gofynion o hyd. Mae’n rhaid i bobl sy’n cadw dofednod a chanddyn nhw 50 o adar neu fwy, gofrestru eu heidiau ar y gofrestr ddofednod, a byddwn i’n annog yn gryf bod pawb sy’n cadw dofednod, gan gynnwys y rhai a chanddyn nhw lai na 50 o adar, yn rhoi eu manylion ar y gofrestr ddofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, trwy e-bost neu ddiweddariad ar ffurf neges destun, mewn achos o glefyd adar, gan eu galluogi i warchod eu haid ar y cyfle cyntaf.

Mae'r camau gweithredu a’r mesurau rheoli a roddwyd ar waith wedi bod yn gymesur, gan dargedu gweithgareddau risg uchaf, er mwyn lleihau'r effaith ar fasnach ryngwladol, yr economi a chynaliadwyedd y diwydiant dofednod yng Nghymru. Gallaf sicrhau pawb am ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa glefyd hon sy’n datblygu'n barhaus. Rwyf wedi derbyn diweddariadau rheolaidd gan y Prif Swyddog Milfeddygol a’m swyddogion, a oedd yn gweithio drwy gydol cyfnod y Nadolig ac sy'n parhau i ymgysylltu’n agos â gweinyddiaethau eraill, gan fonitro'r sefyllfa a chymryd camau yn ôl yr angen. Ni fydd lefel y risg o ffliw adar i ddofednod ac adar caeth eraill gan adar gwyllt yn lleihau yn yr wythnosau nesaf, a gallai hyd yn oed gynyddu pan fydd cyfnod mudo’r adar gwyllt yn dechrau yn y gwanwyn. Mae gwaith ar y gweill gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban i ystyried beth allai'r strategaeth ymadael fod ar gyfer diddymu’r parth atal.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ni allaf roi digon o bwyslais ar yr angen i’r rhai hynny sy'n cadw heidiau o ddofednod ac adar domestig barhau’n effro i arwyddion o’r clefyd, i gysylltu â'u milfeddygon preifat os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ac i arfer y lefelau uchaf o fioddiogelwch.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni’n pwysleisio’r neges bod y risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws hwn yn isel iawn ac nad yw'n peri risg o ran diogelwch bwyd i ddefnyddwyr Cymru.

Rwy’n gwerthfawrogi pa mor anodd yw’r mater penodol hwn a dyna pam mae hi mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n gyflym ac yn gweithio ar y cyd â Llywodraethau eraill ar draws y DU. Mae'n hanfodol bod unrhyw waith cynllunio wrth gefn yn cael ei gydlynu â Llywodraethau eraill ledled y DU, fel nad yw polisïau Llywodraeth yn rhwystro neu hyd yn oed yn gwaethygu'r broblem bresennol.

Yng ngoleuni datganiad heddiw, gan gofio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir bod ei swyddogion yn ymgysylltu’n agos â gweinyddiaethau eraill, efallai y gallai hi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar lefel weinidogol gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill ynghylch yr achos penodol hwn, a sut y gellir cryfhau’r gwaith o fonitro bygythiadau o glefydau, fel y straen H5N8, ar draws Llywodraethau yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae’n gwbl hanfodol bod y bobl sy’n cadw llai o ddofednod a'r rhai hynny sy'n cadw ieir ac adar eraill ar lefel mwy domestig yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf mewn cysylltiad â'r straen penodol hwn, ac nid dim ond y sector dofednod masnachol. Rwy'n falch bod pobl sy’n cadw dofednod yn cael eu hannog i roi manylion am eu heidiau i'r gofrestr ddofednod, sy’n arf hollbwysig i Lywodraeth Cymru i ddeall y sefyllfa yma yng Nghymru yn well. Rwy’n mawr obeithio bod y bobl hynny sy’n cadw llai na 50 o adar hyd yn oed yn darparu eu manylion fel eu bod, mewn achos o ffliw adar, yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth briodol yn gyflym ac felly’n gallu gwarchod eu hadar yn well. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi diweddariad i ni ar faint o bobl sy’n cadw dofednod sy'n darparu eu manylion i'r gofrestr? Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu asesiad cychwynnol o effeithiolrwydd y gofrestr hon ar hyn o bryd.

Yn anffodus, gall arwyddion o ffliw adar, fel y deallaf, amrywio rhwng rhywogaethau o adar a gall amrywio o rywbeth ysgafn iawn, fel newid mewn lliw, i rywbeth llawer mwy difrifol. Fodd bynnag, oherwydd y gall y clefyd ymateb yn wahanol, mae'n anodd iawn monitro'r clefyd yn effeithiol mewn dofednod a gedwir a hyd yn oed anoddach mewn adar gwyllt. Mae gwyliadwriaeth, wrth gwrs, yn dal i fod yn rhan bwysig mewn cysylltiad â'r achos hwn, ac mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod gwyliadwriaeth adar, wrth gwrs, wedi cynyddu. Fodd bynnag, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym am sut y caiff y system gwyliadwriaeth adar well hon, yn arbennig yng nghyd-destun adar gwyllt, ei rhoi ar waith ar draws Cymru ar lefel weithredol.

Bydd y straen ffliw adar, heb os, yn cael effaith ar sector maes Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymfalchïo yn y ffaith fod yr anifail yn cael crwydro'n rhydd. Gwyddom fod 89 y cant o unedau cynhyrchu wyau yng Nghymru yn cynhyrchu wyau maes. Yn dilyn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am ba asesiad sydd wedi'i gynnal o effaith y straen o ffliw adar ar y sector arbennig hwn. Rwy’n sylweddoli bod y datganiad heddiw yn cyfeirio at ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal lles ar gyfer adar caeth, ond, a wnaiff hi ddweud wrthym a oes unrhyw oblygiadau ar les dofednod ar ffermydd maes, ac os felly, sut y mae Llywodraeth Cymru wedi lliniaru unrhyw oblygiadau posibl i les o ganlyniad i’r straen hwn o ffliw adar?

Nawr, y llynedd cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fygythiadau clefydau anifeiliaid egsotig. Gofynnais sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi Cymru, mewn achos o glefyd, i sicrhau bod ein prosesau cymorth yn gallu cael gafael ar yr adnoddau a'r cyllid priodol. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod hi’n hanfodol bod cyllid digonol wedi’i sefydlu i sicrhau bod ffermwyr, awdurdodau lleol ac asiantaethau yn hyderus bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i weithredu mesurau rheoli clefydau yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym yn awr sut y mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu adnoddau yn y maes hwn, a sut y caiff y cyllid hwnnw ei fonitro fel y gall pobl Cymru fod mor hyderus ag sy’n bosibl fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wneud Cymru mor ddiogel ag y gall fod bob amser.

Wrth gloi, Lywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr hon i wneud yr hyn a allwn i hyrwyddo pwysigrwydd bioddiogelwch effeithiol, ac i annog ein hetholwyr i roi gwybod am adar dŵr gwyllt sydd wedi marw neu adar gwyllt eraill sydd wedi marw. Rwy'n falch bod y datganiad y prynhawn yma yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraethau eraill i sicrhau y caiff dull gweithredu cydgysylltiedig symlach ei gyflwyno ar draws y DU. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn drwy ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolchaf i Paul Davies am ei gwestiynau a’i sylwadau. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn eich bod chi, i ryw raddau, wedi ailadrodd yr hyn a ddywedais am y risg i iechyd y cyhoedd: mae'n isel iawn, ni chafwyd yr un achos cyhoeddus o’r straen hwn o ffliw, ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud ei bod hi’n ddiogel iawn i fwyta dofednod ac wyau. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu’n gyflym iawn—gwnaethom y penderfyniad hwnnw ynglŷn â’r mesurau rhagofalus, fel y dywedais, ar 6 Rhagfyr—a’i ystyried yn fanwl. Rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â chynnyrch maes, yn rhywbeth a oedd, yn amlwg, yn destun pryder i mi, oherwydd, yn amlwg, y 12 wythnos yn ymwneud â’r statws maes. Wyddoch chi, nid oeddech chi eisiau dechrau’n rhy gynnar oherwydd byddai hynny'n cael effaith ar hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi’n iawn ein bod ni’n gweithredu'n gyflym ac, yn sicr, rwy’n credu bod y dull cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, yr Alban a’r DU wedi llwyddo i ddarparu’r dull cyson iawn hwnnw, ac yn amlwg dilynodd Gogledd Iwerddon yn fuan ar ôl hynny.

Rwy’n credu bod y prif swyddogion milfeddygol yn cael trafodaethau dyddiol, ac yn sicr roedd swyddogion yn cael sgyrsiau dros y ffôn bob dydd, a chynhaliwyd cyfarfodydd. Felly, ar lefel swyddogol, cynhelir y trafodaethau hynny yn aml iawn. Mewn cysylltiad â thrafodaethau rhwng gweinidogion, yr wythnos diwethaf roedd bob un o'r pedwar Gweinidog amaeth o bob rhan o’r DU yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen—mae'n ddrwg gennyf, tri oedd yno. Nid oedd Gweinidog yr Alban yno, ond yr oedd cynrychiolydd o'r Alban. Felly, eto, cafwyd trafodaethau, ar lefel gweinidogol a swyddogol.

Yn fy marn i mae’r gofrestr ddofednod—. Mae'n bwysig iawn—yn amlwg, os oes gennych chi fwy na 50 o adar yna mae'n orfodol—ond yr hyn yr wyf wedi gofyn i swyddogion ei wneud yw ystyried pa un a ddylai fod yn orfodol ar gyfer y bobl hynny sy’n cadw llai na 50 o adar, oherwydd rwy’n pryderu bod pawb yn gwybod am hyn. Os mai dwy iâr yn unig sydd gennych chi, mae'r un mor bwysig eich bod chi’n gofalu llawn cymaint am eich dofednod â’r bobl hynny a chanddyn nhw fwy. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa un a yw hi’n bosibl cyflwyno hynny hefyd. Ond, eto, rwy’n credu bod angen iddo fod yn ddull gweithredu cyson ar draws y DU, felly mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried wrth symud ymlaen.

Mae'r gofrestr ddofednod wedi bod yn weithredol, rwy’n credu, am tua 12 mlynedd, felly mae'n gofrestr a gaiff ei chynnal yn dda iawn. Ond rwy’n credu bod angen inni ystyried yr hyn y gallwn ei wneud ar gyfer pobl sy’n cadw llai na 50 o adar. Rydych chi'n hollol iawn ynglŷn â’r symptomau—gallai fod yn anadlol, gallai fod yn ddolur rhydd, gallai fod yn afliwio’r gwddf a'r wyneb, felly rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, eto, fod pobl yn ymwybodol o beth yw’r symptomau. Fe wnaethoch chi drafod cynnyrch maes, ac rydych chi’n hollol iawn—mae 89 y cant o’r wyau a gynhyrchir gennym ni yng Nghymru yn wyau maes a cheir effaith ar hynny. Mae un o'r rhesymau pam yr ydym ni’n ystyried sut y byddwn ni’n gweithredu’r strategaeth ymadael hon yn ymwneud ag wyau maes hefyd.

Mae lles adar yn bwysig iawn ac, eto, gwyddom nad yw adar wedi arfer bod dan do. Cewch wahanol glefydau pan fo gennych chi adar gyda'i gilydd. Mae diflastod yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ystyried, a dyna pam yr ydym wedi rhoi cyngor ar y wefan ynghylch cyfoethogi amgylchedd.

Mewn cysylltiad ag adnoddau a chymorth, nid ydym wedi cynnwys unrhyw adnoddau ychwanegol ar hyn o bryd. Gofynnais i swyddogion ddoe a oedd unrhyw bryderon ynghylch capasiti awdurdodau lleol, oherwydd, yn amlwg, nhw fyddai’r rhai a fyddai yn gyfrifol pe na byddai cydymffurfiad. Eto, mae’n rhaid i mi ddweud bod swyddogion yn arbennig o falch â'r ffordd yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gallu ymateb yn sgil yr achos ym Mhontyberem.

Yn olaf, ynglŷn â’ch pwynt olaf—mae’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd, ac mae'n gyfle da iawn. Un o'r rhesymau pam yr oeddwn i’n awyddus i gael y datganiad hwn heddiw oedd i ddweud eto nad ydym ond yn gallu parhau i ailadrodd pwysigrwydd bioddiogelwch, yn arbennig.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r datganiad. Fel y mae hi newydd ei ddweud, er nad ydym ni, efallai, fel gwleidyddion yn gallu bod o gymorth yn uniongyrchol wrth ddelio â’r clefyd yma, mae’n bwysig ein bod ni’n ei drafod, a bod hynny’n lledaenu neges gref gan y Llywodraeth ynglŷn â’r parth diogelwch ac ynglŷn â diogelwch y bwyd hefyd, sydd yn dal o hyd yng Nghymru, a bod y neges yna yn cael ei throsglwyddo.

A gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet, a, thrwyddi hi, i’w staff a’r prif swyddog milfeddygol am weithio dros gyfnod y Nadolig, ac am fod ar gael i’r cynghorau lleol hefyd, wrth gwrs, i gydlynu ynglŷn â’r clefyd yma a’r ffaith bod angen cydweithio yn agos â Llywodraethau eraill dros y cyfnod nesaf? Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae’r sector yma yn bwysig i economi Cymru. Efallai ein bod ni’n dueddol o feddwl am gig, cig oen a chig eidion, ond y mae 6 y cant o GDP amaeth yn deillio o’r sector dofednod ac y mae hynny’n gyfwerth â thua £100 miliwn. Felly, mae’n bwysig bod y neges yn mynd yn gryf iawn bod y bwyd yn ddiogel a bod y camau priodol yn cael eu cymryd i ddelio â’r clefyd ac i atal, gobeithio, lledaeniad y clefyd.

Mae rhan fwyaf y cwestiynau wedi cael eu gofyn ac wedi cael eu hateb, i fod yn onest—jest cwpl o gwestiynau penodol sydd ar ôl i mi gael bod yn glir yn eu cylch. Rŷm ni eisoes wedi trafod dofednod buarth neu wyau maes, neu beth bynnag yr ydych chi eisiau galw ‘free range’, ond mae e’n sector hynod bwysig i Gymru ac rwy’n meddwl ei fod e’n sector pwysicach yng Nghymru nag yn Lloegr, a dweud y gwir. Ar ôl rhyw 12 wythnos, rwy’n meddwl, mae yna berig y bydd y categori o wyau maes, er enghraifft, yn cael ei golli oherwydd bod y dofednod yn cael eu cadw dan do. Wrth gwrs, mae’n ddigon posib bod cynhyrchwyr wyau maes heb baratoi ar gyfer cadw dofednod dan do am gyfnod mor hir a bod yna effeithiau iechyd ar anifeiliaid yn y sefyllfa yna. Felly, pa gamau penodol sy’n cael eu cymryd yn y maes yma i sicrhau bod y sector yn mynd i gael ei ddiogelu, oherwydd bydd yna alw am gynnyrch o’r sector yma a bydd angen sicrhau bod y sector yn gallu goroesi unrhyw effaith gan y clefyd yma?

Mae’r ail gwestiwn yn un penodol yn deillio o’r datganiad y gwnaethoch chi ar 20 Rhagfyr pan, ar y pryd hynny, roeddech chi’n sôn nad oedd unrhyw waharddiad ar hel rhai adar at ei gilydd, yn benodol colomennod ac adar cewyll. Er, rwy’n meddwl, bod yr unig sioe yr oeddwn i’n ymwybodol ohoni wedi cael ei gohirio, mae’n dal yn bosib, o dan y gwaharddiadau presennol, rwy’n meddwl, fod y bobl sy’n hel colomennod ac ati at ei gilydd yn gallu parhau. A ydych chi wedi cael cyfle i ailedrych ar hynny yn y sefyllfa newydd a’r ffaith ei bod yn ymddangos bod y clefyd wedi ymledu yng Nghymru, ac yn y gogledd yn ogystal â’r de erbyn hyn?

Y cwestiwn olaf yw: er eich bod chi wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’r negeseuon yr ŷch chi wedi eu rhoi allan fel Ysgrifennydd Cabinet, rŷm ni i gyd yn ymwybodol nad yw’r wasg yng Nghymru efallai yn adrodd yn llawn ar faterion gwleidyddol Cymreig. A ydych chi yn saff yn eich meddwl bod pob un sy’n cadw dofednod yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd o dan yr angen i gofrestru yn statudol, wrth gwrs, yn llwyr ymwybodol o statws Cymru o ran y clefyd yma ac yn llwyr ymwybodol hefyd o’r mesurau bioddiogelwch y mae angen eu cymryd i ymatal ac atal y clefyd?

Os caf i ddechrau drwy ateb cwestiynau olaf Simon Thomas: a ydw i'n hyderus bod pawb a chanddyn nhw hyd yn oed un aderyn yn gwybod amdano? Byddwn i’n dweud 'nac ydw'. Dyna pam mae hi mor bwysig, fel y gwnaethoch chi ddweud, ein bod ni fel gwleidyddion yn rhannu’r wybodaeth honno. Cynhaliodd y Prif Swyddog Milfeddygol rownd sylweddol o gyfweliadau yr wythnos diwethaf. Ymddangosodd hi ar rwydwaith teledu brecwast y BBC. Roedd hi’n bwysig iawn yn ein barn ni bod y neges honno yn cael ei lledaenu. Felly, hoffwn feddwl bod pawb wedi gweld y neges ar ein cyfryngau cymdeithasol, ar y teledu, ar ein gwefan a’i chlywed ar y radio. Ond, wyddoch chi, a bod yn gwbl onest, a allaf i ddweud 100 y cant? Na, ond rwy’n gobeithio, hefyd, y cynhelir trafodaethau rhwng y bobl hynny sy’n cadw dofednod. Mae'r ffaith ein bod ni wedi atal dros dro y digwyddiadau ar gyfer cynnull adar yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr—ar 20 Rhagfyr—eto, caiff y neges honno ei lledaenu. Felly, rwy’n obeithiol, gan ei bod hi erbyn hyn wedi bod yn fis ers i ni gyflwyno’r parth atal, bod yr wybodaeth honno wedi’i rhannu. Felly, mae unrhyw beth y gall unrhyw un ei wneud i annog mwy o bobl i siarad amdano, yn fy marn i, yn bwysig iawn.

Fe wnaethoch chi ofyn am gynnyrch maes, a chyfeiriais yn fy ateb i Paul Davies at y penderfyniad i gyflwyno'r parth atal ar 6 Rhagfyr. Fe ddes i i’r penderfyniad ar ôl llawer iawn o gyngor ac ystyriaeth gan y Prif Swyddog Milfeddygol. Byddwch chi’n cofio mai DEFRA oedd y cyntaf i’w gyflwyno, wedi’i ddilyn yn agos gan yr Alban ac yna gan Gymru. Roedd Gogledd Iwerddon ychydig ar ein holau ni. Un o'r rhesymau pam y gwnes i ystyried y peth mor ofalus, oherwydd ei bod hi’n bwysig bod y camau yr ydym ni’n eu cyflwyno yn rhai cymesur, oedd ynglŷn â chynnyrch maes yn arbennig, gan fod 12 wythnos—. Wyddoch chi, pan fo’r cyfnod hwnnw’n dechrau—. Felly, rydym ni’n cael trafodaethau ynglŷn â’r hyn y byddwn ni’n ei wneud ar ôl Chwefror 28—yn amlwg, nawr bod y parth atal gennym ni hyd at 28 Chwefror, sy’n mynd â ni at y 12 wythnos hwnnw. Felly, bydd yn dibynnu ar ba achosion a fydd gennym ni dros y saith neu wyth wythnos nesaf, ond mae'r swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda DEFRA a chydweithwyr Albanaidd, yn arbennig, ynglŷn â gweithredu’r strategaeth ymadael honno o’r parth atal hwnnw.

Fe wnaethoch chi holi’n benodol am golomennod. Mae amodau’r parth atal yn berthnasol i bob aderyn caeth. Fodd bynnag, nid yw colomennod yn arwyddocaol o ran trosglwyddo’r straen penodol hwn o ffliw adar, felly cânt barhau i hedfan. Ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd, nid yw hi’n dymor rasio colomennod ar hyn o bryd, ac ni cheir unrhyw amserlenni rasio, mae'n debyg, cyn dechrau mis Ebrill. Felly, eto, nid wyf yn credu y byddai'n gymesur ymestyn unrhyw un o'r mesurau hyn i gynnwys chwaraeon a gweithgareddau hamdden ar hyn o bryd, ond bydd angen i ni barhau i adolygu pob dewis yn barhaus.

Rwy’n gobeithio na chaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei drysu ormod os byddaf yn cynnig fy nghefnogaeth lwyr ar gyfer y mesurau y mae hi wedi'u cymryd. Rwyf wedi’i beirniadu hi’n aml yn y gorffennol ynglŷn â chymesuredd. Credaf, yn yr achos penodol hwn, fod y camau y mae hi wedi'u cymryd yn rhai cymesur. Mae er budd pawb sy’n cadw dofednod ein bod ni’n atal lledaeniad y clefyd hwn. O fod wedi byw drwy erchyllterau straeon codi ofn gan Edwina Curry ynglŷn â salmonela mewn wyau 30 mlynedd yn ôl, pan achoswyd llawer o hysteria, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig atgoffa pobl bod ffliw adar yn dod mewn nifer o wahanol straeniau. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn fygythiad gwirioneddol, hyd yn oed i bobl sy'n cadw dofednod, heb sôn am y cyhoedd. Ni cheir unrhyw risg i ddiogelwch bwyd o gwbl, cyn belled ag y gwyddom. Felly, ni ddylai fod unrhyw sgil-effeithiau ar y rhai hynny sy'n gwerthu cynhyrchion bwyd sy'n gysylltiedig ag adar.

Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf i ba raddau y gallwn ni wella dealltwriaeth y cyhoedd yn gyffredinol am y materion hyn. Wrth gwrs, ymhlith y bobl hynny sy’n cadw dofednod, gallem ddisgwyl mwy o ddealltwriaeth na'r cyhoedd yn gyffredinol. O ran rhoi gwybod am yr adar marw a welir, ceir canllawiau sy'n dweud y dylech roi gwybod am unrhyw adar dŵr neu wylanod—neu, yn wir, unrhyw aderyn—os deuir o hyd i bump neu fwy ohonynt gyda’i gilydd. Mae honno’n wybodaeth bwysig sydd ei hangen ar awdurdodau i ddeall yn union sut y mae'r clefyd yn lledaenu, os yw’n lledaenu. Mae bioddiogelwch yn allweddol i ddatrys hyn. Yn ôl yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, mae’n swnio’n debyg y byddwn ni’n gweld y cyfyngiadau hyn yn parhau am beth amser oherwydd yr adeg o'r flwyddyn. Ar hyn o bryd, fel y soniodd hi, bydd yr adar yn mudo yn yr wythnosau nesaf. Felly, mae hyn yn debygol o achosi problemau i bobl sy'n cadw dofednod am resymau masnachol.

O ran yr heidiau llai, roedd y digwyddiad diweddaraf, ym Mhontyberem, yn ymwneud â nifer cymharol fach o adar, ac o dan yr amgylchiadau hyn, tybed beth y gellid ei wneud i annog pobl i ddefnyddio cewyll i gadw eu hadar, ac o wneud hynny ychydig iawn o darfu a ddylai fod ar fywydau’r adar eu hunain ac, yn wir, bywydau’r bobl sy’n cadw dofednod. O ystyried y goblygiadau o ran lles yr anifeiliaid o’u cadw dan do am gyfnodau sylweddol o amser, os yw hyn yn debygol o barhau am nifer o fisoedd, gall fod yn fuddsoddiad gwerth chweil i bobl gael ardaloedd wedi’u rhwydo lle y gellid gadael yr adar allan, a tybed i ba raddau y gallai ei hadran hi fod o gymorth yn hynny o beth.

Diolch. Yn sicr, nid wyf i eisiau cael fy nghymharu ag Edwina Currie, felly rwy’n croesawu eich sylwadau ynglŷn â mesurau cymesur.

Rydych chi'n hollol iawn: ceir amrywiaeth o straeniau o ffliw adar ac mae’r un yma yn un llwybr uchel, yr H5N8 hwn. Rwy’n credu eich bod chi’n codi pwynt diddorol yn ymwneud â’r cyhoedd yn gyffredinol, oherwydd, wyddoch chi, mae hi wedi bod yn ddigon anodd rhannu’r wybodaeth â’r bobl hynny sy’n cadw dofednod, ond, i'r un graddau, mae'n fater o ddiddordeb i iechyd y cyhoedd, ac mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall na cheir unrhyw effaith neu fod yr effaith ar iechyd y cyhoedd yn isel iawn—nid yw’r straen hwn erioed wedi’i ganfod mewn aelod o'r cyhoedd—a hefyd bod diogelwch bwyd yn bwysig iawn ac, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, fod dofednod ac wyau, yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn ddiogel i'w bwyta. Felly, eto, rwy’n sôn am sut yr ydym ni wedi rhoi gwybod i’r bobl hynny sy’n cadw dofednod. Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n lledaenu’r neges honno. Un o'r penderfyniadau a wnaethpwyd yr wythnos hon yw y byddwn ni’n gwneud rownd o gyfweliadau â gorsafoedd radio lleol, oherwydd bod pobl, yn amlwg, yn gwrando ar orsafoedd radio lleol hefyd, gan adeiladu ar y gwaith sylweddol a wnaeth y prif swyddog milfeddygol yr wythnos diwethaf.

Mae bioddiogelwch yn hynod bwysig, ac mae'n bwysig iawn y cynhelir safonau uchel iawn o fioddiogelwch. Mae’r parth gwarchodu—mae’n ddrwg gennyf, y parth atal—bellach gennym ni hyd at 28 Chwefror, a fydd, fel y soniais, yn mynd â ni hyd at y cyfnod 12 wythnos cyn ein bod ni wedyn yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau pwysig iawn ynglŷn â chynnyrch maes. Felly, mae’r parth ar waith gennym ni hyd at 28 Chwefror.

O ran gosod rhwydi, rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt da iawn, gan fod llawer o bobl—. Pan wnaethom ni gyhoeddi’r parth hwnnw—ac, fel y dywedais, mae'n bwysig iawn eich bod chi’n cymryd camau cymesur—roeddwn i’n ymwybodol iawn y byddai materion yn ymwneud â lles anifeiliaid yn codi, gan na fyddai pobl wedi paratoi i gadw’r dofednod dan do. Felly, os gallwch eu cadw dan rwyd, bydd hynny’n eu cadw i ffwrdd oddi wrth adar gwyllt i ryw raddau. Felly, fel yr ydych chi’n dweud, os nad yw pobl wedi gallu paratoi i gadw adar dan do yn syth, wyddoch chi, efallai y byddai'n werth cael y rhwyd honno ​​a’r rhwyll honno yn barod a gwneud yn siŵr, wrth iddyn nhw fwydo’r dofednod, nad yw’r porthiant ar gael i adar gwyllt. Mae hynny hefyd yn bwysig iawn. Felly, pe gallai pobl edrych ar y wefan, ceir llawer o wybodaeth ar ein gwefan. Rydym ni wedi rhannu’r wybodaeth honno ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol hefyd, a, gobeithio, heddiw, wyddoch chi, hyd yn oed os mai dim ond ychydig mwy o bobl sy’n cymryd sylw o'r datganiad hwn—. Efallai y gall Aelodau, wrth iddyn nhw gyflawni eu gwaith wythnosol—wn i ddim; rwy’n cynnwys cylchlythyr wythnosol ar e-bost—neu os byddwn ni, wyddoch chi, pan fyddwn ni yn ein cymorthfeydd cyngor, byddwn ni’n gallu lledaenu’r neges honno hefyd.

Nid wyf yn dymuno, Ysgrifennydd y Cabinet, oedi'r drafodaeth nac ymestyn y ddadl drwy ofyn yr holl gwestiynau a ofynnwyd eisoes, felly rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes yn unig. Mae un ohonynt wedi’i grybwyll, ond mae'n ymwneud â sut yr ydym ni am roi gwybod i'r cyhoedd am y dulliau adrodd, gan na fydd pob aelod o’r cyhoedd yn deall y broses adrodd pe bydden nhw’n dod ar draws rhywbeth yn eu barn nhw a allai fod yn amheus. Felly, efallai y gallem ystyried rhoi gwybod iddyn nhw y cânt gysylltu â’r cyngor lleol, er enghraifft, neu unrhyw awdurdod arall yn eu hardal leol a allai drosglwyddo'r wybodaeth honno wedyn ar eu rhan—gallai fod yn ddefnyddiol wrth adrodd.

Rwy'n credu mai’r maes arall efallai y gellid esbonio ychydig mwy amdano yw'r fantais i'r bobl hynny nad oes ganddyn nhw heidiau o 50 o adar neu fwy o gofrestru eu hadar mewn gwirionedd a'r budd y cânt o wneud hynny, oherwydd rwyf wedi cael gwybod gan rywun sydd â phedwar aderyn, ei fod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf fel y gall amddiffyn ei hunan.

Hefyd, rwy’n mynd i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach: mae gennym ni amgylchiad anffodus ar hyn o bryd o ran y tywydd yn nwyrain Ewrop. Adar mudol yw’r holl adar hyn yr effeithir arnyn nhw, a gallai'r mudo gynyddu os yw'r tywydd hwnnw’n parhau yn nwyrain Ewrop, o ble y daw llawer o'r adar hyn. Felly, os gallwch chi ddweud wrthym a ydych chi’n ystyried hynny.

Diolch i chi, Joyce Watson, am y sylwadau a’r cwestiynau yna. Rwy’n credu eich bod chi’n hollol iawn: mae angen i ni sicrhau bod y cyhoedd yn deall os ydyn nhw’n dod ar draws aderyn marw neu grŵp o bump o adar marw, y dylen nhw adrodd am hynny, ond mae angen iddyn nhw wybod wrth bwy i adrodd. Felly, ceir llinell gymorth Prydain Fawr, ond rydych chi’n hollol iawn: gallan nhw adrodd i'w hawdurdodau lleol hefyd.

Rwy'n credu mai’r pwynt a wneuthum—rwy’n credu ei fod yn fy ymateb i Paul Davies—oedd fy mod i wedi gofyn i swyddogion ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud dros y bobl hynny sy’n cadw dan 50 o adar i wneud yn siŵr eu bod yn cofrestru. Mae nifer ohonynt eisoes wedi cofrestru, felly byddan nhw yn cael yr e-bost a'r diweddariad testun ar unwaith. Ond fy mhryder i yw, nad yw pobl a chaddyn nhw, dywedwch, ddau neu bedwar neu chwe aderyn yn cael yr wybodaeth. Rwy'n credu mai’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy ei gwneud hi’n orfodol iddyn nhw gofrestru, ond byddai hynny yn llawer iawn o waith. Byddai angen is-ddeddfwriaeth, er enghraifft, ac fel y soniais, rwy’n credu y byddai'n beth da cael dull cyson ar draws y DU, ond mae mae’r trafodaethau hynny wedi dechrau.

Y rheswm pam y soniais fod nifer yr achosion yn annhebygol o leihau, yw oherwydd y materion y cyfeiriasoch atyn nhw mewn cysylltiad â mudo. Felly, rhoddir llawer iawn o ystyriaeth iddyn nhw yn y trafodaethau, yn arbennig yn y trafodaethau rhwng y prif swyddogion milfeddygol a swyddogion ar lefel y DU.

Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ail ddatganiad ynglŷn â hyn. Rwy’n credu bod hynny yn profi i ni fel Aelodau pa mor o ddifrif yr ydych chi’n ystyried hyn, mewn gwirionedd. Yn amlwg, roedd yn siom fawr pan ddaethpwyd o hyd i gorhwyad wedi marw yng ngwarchodfa RSPB Conwy. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, ar Twitter neithiwr, bod rheolwr y warchodfa, Julian, yn pryderu y bydd hyn yn achosi pobl i beidio ag ymweld. Felly, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni’n lledaenu’r neges gadarnhaol honno o leiaf bod hyn wedi'i nodi, a’i fod yn rhan o’ch bioddiogelwch. Ar fy ffrwd Twitter, cyhoeddais eich bod chi’n gwneud datganiad heddiw, a byddan nhw’n cadw llygad am hynny. Felly, unrhyw beth y gallwch chi ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol, er mwyn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn dal i fod yn ddiogel i ymwelwyr fynd yno.

Gan symud ymlaen, fe wnaethoch chi sôn am y tyddyn yn Sir Gaerfyrddin, a dim ond llond llaw o adar oedd hynny, mewn gwirionedd. Rwyf eisiau gofyn, ynglŷn â’r enghraifft benodol honno, a oedden nhw wedi eisoes wedi cofrestru’r ffaith eu bod nhw’n cadw dofednod, neu a oedden nhw mewn gwirionedd ar unrhyw gofrestr. Y rheswm pam rwy’n gofyn hyn: rwy’n adnabod eithaf tipyn o bobl sy'n cadw dofednod mewn gwirionedd— niferoedd isel, ond nid ydyn nhw’n gweld yr angen. Maen nhw’n tueddu i ddychmygu mai dim ond y ffermydd dofednod mwy, a'r rhai sy'n cadw anifeiliaid maes sydd angen cofrestru. Roeddwn i’n meddwl tybed a ydych chi’n gweithio gydag awdurdodau lleol fel y gallan nhw efallai, ar lawr gwlad, fod yn fwy ymwybodol.

Hefyd, yn sicr yn fy ardal i yn y gogledd, ceir nifer o hobiwyr ac atyniadau ymwelwyr sy’n cadw tai adar trofannol, adar ysglyfaethus ac wrth gwrs dofednod domestig, ac mae'n anodd iawn gosod rhwyll er mwyn bwydo adar a phopeth arall, o ran y mathau hynny o adar, heb i adar gwyllt ddod i ymweld ac, mewn gwirionedd, cael cysylltiad agos iawn. Mae'n ymwneud â sut y gallwch chi mewn gwirionedd wneud pobl yn ymwybodol iawn o'r peryglon sydd ynghlwm wrth ffliw adar a'r angen i holl berchnogion dofednod yn yr awyr agored gamu ymlaen, ymuno â'r gofrestr a’u cadw dan do. Efallai y gallai eich adran chi ddefnyddio mwy ar y cyfryngau cymdeithasol ac yna gallwn ni, fel Aelodau, gadw llygad am y neges a’i thrydaru, oherwydd rwy’n credu ei bod hi’n neges y mae angen i ni ei lledaenu.

Yn amlwg mae cymaint o gyfrifoldeb ar y perchnogion adar hyn ag sydd ar ffermwyr dofednod ar raddfa fawr, a allai fod yn ei chael hi’n anodd, fel y nodwyd gennych yn hollol gywir, cadw at ofynion y parth atal. Sut y gallwch chi sicrhau eu bod hwythau hefyd yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol o ran glanweithdra, diheintio a chofrestru? Mae’r straen H5N8 yn un pathogenig iawn ac o ystyried ei botensial i ledaenu, trawsheintio neu newid, ac mae'n amlwg na allwn ni fforddio peidio â sylweddoli y ceir peryglon posibl. Sut yr ydych chi’n ceisio atal unrhyw trawsheintio pan fo cyswllt rhwng pobl ac adar heintiedig yn anochel, oherwydd yn amlwg mae pobl yn eu bwydo nhw heb sylweddoli hynny ar y pryd? Rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn o'r blaen, ac rwyf mewn gwirionedd yn berchen ar aderyn fy hun a gwn os byddaf mewn gwirionedd yn dal y ffliw, mae'n dibynnu pa ffliw ydyw, ond mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn, oherwydd gallwch chi drawsheintio.

Yn olaf, rydych chi’n nodi y gall lefel y risg o ffliw adar gynyddu dros yr wythnosau nesaf. Mae Sefydliad Iechyd Anifeiliad y Byd yn awgrymu brechu pe byddai’r sefyllfa hon yn dod yn fwy o broblem. Roeddwn i’n meddwl tybed, o ran adnoddau, sut y byddwch chi’n gallu ystyried hynny, os—ac rwyf ond yn dweud 'os' oherwydd yn amlwg mae yna gost ynghlwm â hynny. Ond yn fwy felly, beth am y ffaith, yn ein hawdurdodau lleol ar draws Cymru, fod llawer o'n hadrannau rheoleiddio a diogelu'r cyhoedd wedi colli cyllideb ac wedi colli llawer o'u swyddogion pwysig? Sut yn eich barn chi, o ystyried bod hon yn sefyllfa a allai—? Gwyddom ei fod ar gynnydd. Beth yw eich barn chi ynglŷn â’ch sefyllfa chi—eich adran, ac mewn gwirionedd eich adrannau awdurdodau lleol i allu ymdrin mewn gwirionedd â hyn o ran sut y gall pob un ohonom fod â hyder llawn?

Diolch. Gair ynglŷn â chwestiynau’r Aelod yn ymwneud â brechu, ni cheir yr un brechlyn mewn gwirionedd yn erbyn H5N8 sydd wedi’i awdurdodi i'w ddefnyddio yn y DU ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn i’w nodi. Fe wnes i sôn, mewn ateb blaenorol, am awdurdodau lleol, ac yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd fy swyddogion yn arbennig pa mor gyflym y buont yn ymdrin â'r digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin ac yn sicr nid oedd unrhyw bryderon ynghylch gallu na chapasiti. Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd gennych am y gorhwyad farw y daethpwyd o hyd iddi yng Nghonwy—. Rwy'n credu ei bod hi’r un mor bwysig lledaenu’r neges honno ynglŷn â thwristiaeth ac iechyd y cyhoedd ar yr un pryd—ei bod hi’n ddiogel iawn i ymweld a’i bod hi’n ddiogel i fwyta dofednod ac wyau.

Eto, rwy’n credu fy mod i wedi ateb y cwestiynau ynghylch sut yr ydym yn hysbysu’r bobl sydd â llai na 50 o adar, am yr wybodaeth hon. Y ffordd orau yw rhoi eich hun ar y gofrestr ddofednod fel eich bod chi’n cael diweddariadau yn rheolaidd. Rwy'n falch iawn o glywed gan Janet ei bod hi’n defnyddio ei ffrwd cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n credu bod fy adran i wedi bod yn dda iawn, iawn. Yn sicr, dros gyfnod y Nadolig, rydym wedi llwyddo i drydaru llawer iawn o’r wybodaeth y buom yn ei lledaenu, gan fod hyn bod wedi esblygu mor gyflym ers i mi wneud y penderfyniad cyntaf ynglŷn â’r parth atal ar 6 Rhagfyr.

Bioddiogelwch—mae pobl yn ymwybodol o fioddiogelwch. Nid yw’n bosibl i mi, na fy swyddogion, ymweld â phob fferm ac ymweld â phawb sy’n cadw dofednod. Felly, eto, mae’n ymwneud â sicrhau ein bod ni’n lledaenu’r neges honno’n barhaus, oherwydd, weithiau, pan fo pethau’n tawelu, efallai na fyddai pobl yn ystyried bod risg i’w gael.yn bodoli. Felly mae'n bwysig iawn, dros y saith neu wyth wythnos nesaf, a thra bo’r parth hwnnw ar waith hyd at 28 Chwefror, ein bod ni’n parhau i fanteisio ar bob cyfle i ledaenu’r neges.

6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y gronfa triniaethau newydd. Rwy’n galw ar Vaughan Gething.

Diolch i chi, unwaith eto, Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y gronfa triniaethau newydd wedi'i sefydlu erbyn hyn ac y byddaf yn rhyddhau, ar unwaith, £12 miliwn ar gyfer y gyfran gyntaf o gyllid ar gyfer eleni. Roedd y gronfa triniaethau newydd yn ymrwymiad allweddol y gwnaethom ei gyflwyno i bobl Cymru ym mis Mai 2016 ac rydym yn cyflawni ar yr ymrwymiad hwnnw. Ein hymrwymiad oedd buddsoddi £80 miliwn yn ystod oes y Llywodraeth hon mewn cronfa triniaethau newydd. Rydym yn cyflawni, gyda'r gronfa newydd yn darparu swm ychwanegol o £16 miliwn bob blwyddyn, am bum mlynedd, i gyflymu mynediad at feddyginiaethau newydd yng Nghymru.

Bydd y gronfa'n cefnogi byrddau iechyd i sicrhau bod yr holl feddyginiaethau newydd a argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson ledled Cymru. Ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad y bore ’ma, gan ddarparu manylion am sut y bydd y gronfa triniaethau newydd yn gweithredu. Bydd y gronfa newydd o fudd i gleifion yng Nghymru mewn tri maes allweddol. Bydd yr holl feddyginiaethau newydd a argymhellir ar gael o fewn dau fis i gyhoeddi’r argymhelliad, yn hytrach na'r tri mis presennol. Bydd meddyginiaethau a argymhellir gan NICE ar gael o fewn dau fis i gyhoeddi’r penderfyniad gwerthuso terfynol am y tro cyntaf, yn hytrach nag aros am y canllawiau terfynol ar werthuso technoleg, a gaiff eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod apelio, a all fod hyd at wyth wythnos yn ddiweddarach. A bydd meddyginiaethau canser newydd a gaiff argymhelliad interim gan NICE hefyd ar gael i gleifion yng Nghymru o fewn yr un terfynau amser.

Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi ei chynllunio i drin pob cyflwr yn gyfartal. Rydym yn cydnabod y bydd pob unigolyn a gaiff ei effeithio gan gyflwr sy’n cael effaith ar ei fywyd eisiau sicrwydd bod gan Lywodraeth Cymru yr un diddordeb yn ei sefyllfa, ni waeth ble mae’n byw yng Nghymru, trwy wneud yn siŵr y caiff yr holl feddyginaiethau newydd a argymhellir eu cyflwyno cyn gynted â phosibl ac yn gyson, ac nid yw honno’n ymagwedd a fabwysiadwyd yn rhannau eraill o'r DU. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £200 miliwn yn ychwanegol i GIG Cymru yng nghyllideb 2016-17 i ariannu effaith barhaus y galw am wasanaethau iechyd a’r cynnydd mewn taliadau a chostau eraill, fel y nodwyd yn adroddiad y Sefydliad Iechyd yn ddiweddar, 'Y llwybr i gynaliadwyedd'. Mae'r cyllid ychwanegol hwn o £80 miliwn yn ystod oes y Llywodraeth hon ar gyfer y gronfa triniaethau newydd yn fuddsoddiad sylweddol pellach a fydd yn cyflawni’r cyflwyniad cynnar cyflymach a mwy cyson o feddyginiaethau newydd.

Rydym yn cydnabod bod meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu darganfod, eu datblygu a’u profi o hyd, gan gynnig gobaith o wellhad neu ansawdd bywyd gwell i bobl ag amrywiaeth o afiechydon sy'n peryglu bywydau. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i gael gwared ar ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer triniaethau newydd yn y dyfodol ac yn helpu GIG Cymru i baratoi cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd. Bydd y £12 miliwn sydd ar gael yn awr yn cael ei ddefnyddio i helpu i gefnogi cyflenwi meddyginiaethau newydd ac effeithiol a argymhellwyd ers mis Ebrill y llynedd i Gymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau newydd i drin canser y prostad a chanser yr ofari, nychdod cyhyrol a methiant y galon. Mae cost flynyddol o ryw £1 miliwn i bob un o'r rhain.

Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyflwyno meddyginiaethau newydd a argymhellwyd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, yn ogystal â'r rhai sydd yn yr arfaeth gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal y mis hwn. Mae hynny'n cynnwys meddyginiaethau newydd i drin canser, psorïasis difrifol, hepatitis C, ffeibrosis systig mewn plant dan chwech oed, asthma difrifol, a chyffur newydd sy'n driniaeth y mae angen mawr amdani ar gyfer clefydau prin yr ysgyfaint sy’n peryglu bywydau. Mae pob un o'r clefydau hyn yn peryglu bywyd a/neu’n wanychol, ac mae'r meddyginiaethau newydd hyn yn mynd i'r afael ag angen clinigol nad yw wedi’i ddiwallu neu’n cynrychioli newid sylweddol mewn triniaeth. Bydd y £12 miliwn yr wyf yn ei ryddhau yn awr i fyrddau iechyd yn helpu i gyflwyno’r holl feddyginiaethau newydd pwysig hyn sydd wedi eu hargymell yn gyflym ac yn gyson.

Bydd y gyfran olaf o £4 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael ei rhyddhau i fyrddau iechyd yn ddiweddarach y mis hwn i gefnogi cyflwyniad cyflym y meddyginiaethau hyn ac i alluogi byrddau iechyd i gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd sydd i’w gwerthuso rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2017.

Yn ystod 2017, byddwn yn gwella'r rhagolwg gwerthuso meddyginiaethau i hwyluso'r broses o ryddhau cyllid ymlaen llaw yn rheolaidd drwy gydol pob blwyddyn o'r gronfa ac i gefnogi proses gynllunio gynnar i gyflwyno'r meddyginiaethau newydd. Byddaf yn cyhoeddi cyfarwyddiadau newydd i fyrddau iechyd cyn diwedd y mis i glustnodi’r gronfa er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno meddyginiaethau newydd sydd wedi eu hargymell. Byddwn hefyd yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar feddyginiaethau newydd a'r gostyngiad mewn graddfeydd amser, gan fy mod i’n dymuno bod yn glir bod y gronfa yn cael ei defnyddio at ei diben a'i bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

I gefnogi mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru ymhellach, byddaf yn parhau i annog y diwydiant fferyllol i weithio gyda GIG Cymru i gefnogi ein hagenda i sicrhau bod meddyginiaethau newydd a argymhellir ar gael yn gyflym. Mae gan y diwydiant swyddogaeth allweddol wrth gefnogi a gwella ein prosesau blaengynllunio sy'n gysylltiedig â chreu rhagolygon ariannol tymor hirach a chynorthwyo byrddau iechyd i nodi pan fo angen seilwaith a/neu ad-drefnu gwasanaethau i gefnogi cyflwyniad meddyginiaeth newydd, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl. Os yw ein system gofal iechyd am ddarparu dull cynaliadwy, ymatebol o gyflwyno meddyginiaethau newydd sy'n gyflym ac yn gyfrifol, mae angen ymdrech dda ar y cyd gan y diwydiant, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a chroesawyd y neges hon pan siaradais yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Fferyllol ym mis Tachwedd y llynedd.

Addawodd y Llywodraeth hon i gyflwyno cronfa triniaethau newydd i roi mynediad cyflym at driniaethau newydd, arloesol ac effeithiol i bobl Cymru. Rwy’n falch o gadarnhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad ym mlwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon ac yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Byddaf yn adrodd ar y cynnydd o ran gweithredu’r gronfa newydd cyn toriad yr haf.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich datganiad heddiw, ac wrth gwrs mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn o weld £12 miliwn yn mynd i'r GIG—mae croeso mawr i unrhyw arian ychwanegol i'r GIG. Fodd bynnag, rwyf i wedi drysu braidd gan yr addewid a wnaethoch i bobl yn eich maniffesto, sef, ac fe’i darllenaf i chi, os caf i:

Byddwn yn cyflwyno Cronfa Triniaethau Newydd arloesol, a fydd yn galluogi'r cyffuriau mwyaf datblygedig a thriniaethau cost uchel ar gyfer canser ac afiechydon eraill sy'n bygwth bywyd i fod ar gael yng Nghymru yn gyntaf.

Nawr, bydd llawer o bobl wedi deall o weld hynny, mewn achosion pan fo cyffuriau wedi eu cymeradwyo o ran eu gallu technegol—maen nhw’n gwneud y gwaith—ond nid ydyn nhw wedi eu cymeradwyo gan NICE oherwydd y dadansoddiad cost a budd, bod pobl wedi ceisio cael gafael ar y cyffuriau hynny. Ac, wrth drafod cronfa triniaethau canser gan Geidwadwyr Cymreig, roeddem yn sôn am roi arian ar gyfer y mathau hynny o gyffuriau, ond mae'n ymddangos i mi bod yr arian hwn yr ydych yn sôn amdano heddiw, y £12 miliwn sy’n arwain at yr £80 miliwn dros bum mlynedd, mewn gwirionedd yn ymwneud â chael byrddau iechyd i ddarparu'r cyffuriau sydd eisoes wedi eu cytuno gan NICE, ac sydd eisoes wedi eu cytuno gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, ychydig yn gyflymach. A dweud y gwir, fe ddylen nhw fod yn gwneud hynny beth bynnag, oherwydd bod gan holl bobl Cymru, holl ddinasyddion Cymru, hawl i gael gafael ar driniaethau sydd wedi eu cytuno a'u cymeradwyo gan y cyrff hynny, ac ni ddylai unrhyw fwrdd iechyd fod yn llusgo’u traed ynglŷn â hynny.

Felly, a wnewch chi egluro i mi os gwelwch yn dda beth fydd yn digwydd gyda’r cyffuriau hynny sydd wedi eu cymeradwyo o ran eu heffeithlonrwydd technegol, ond heb eu cymeradwyo oherwydd y dadansoddiad cost a budd—cyffuriau nad ydynt yn ffitio i mewn i'r system ceisiadau cyllid cleifion annibynnol? Ydy hyn yn golygu y bydd diwedd ar y loteri cod post, lle’r oedd pobl yng Nghymru yn ceisio teithio i Loegr neu wledydd cartref eraill i gael gafael ar gyffuriau a thriniaethau nad oedden nhw ar gael yma? Os yw'n golygu rhoi diwedd ar y loteri cod post honno, fe fyddaf i ar ben fy nigon. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi egluro hynny i ni.

Ystyriais y pwynt a wnaed gan Lywodraeth Cymru mai’r broblem, mewn gwirionedd, gyda chael cronfa triniaethau ar gyfer canser yn unig, er enghraifft, oedd ei bod yn rhy gul, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod y gronfa hon ar gyfer pob salwch creulon ac anarferol, ei bod ar gyfer yr holl driniaethau newydd, ac, mewn gwirionedd, a wnewch chi gadarnhau i mi nad yw’n ymwneud dim ond â chyffuriau ond y gall hefyd gynnwys triniaethau technegol—mathau arbenigol iawn o lawdriniaeth, er enghraifft? Oherwydd hoffwn wneud yn siŵr bod y rheini hefyd wedi eu cynnwys—llawdriniaethau nad ydynt yn rhai cyffredin. A wnewch chi egluro i mi beth fyddai'n digwydd pe bai NICE yn cymeradwyo cyffur? A yw’n bosibl cael sefyllfa pan nad yw Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru o’r un farn? A oes gwrthdaro byth? Os oes gwrthdaro, a oes cynnig ar waith ar gyfer datrys y gwrthdaro hwnnw?

A wnewch chi hefyd gadarnhau i mi pa un a fydd yr arian sydd ar gyfer triniaethau newydd hefyd yn cynnwys cymorth ychwanegol o gwmpas y cyffuriau? Nawr, mi wnes i, yn amlwg, ddarllen eich paragraff sy'n dweud

i gefnogi mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru, byddaf yn parhau i annog y diwydiant fferyllol i weithio gyda

byrddau iechyd, ac ati, ond, wrth gwrs, bydd angen cymorth penodol ar gryn dipyn o'r cyffuriau hyn i'w gweithredu. Felly, a fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyffur yn unig, neu’r cyffur a'r cymorth, neu a fyddech yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ad-drefnu eu staff cymorth a’u seilwaith gan ddefnyddio eu harian eu hunain? Rwy'n credu y byddai’n ddefnyddiol cael eglurhad ar hynny, oherwydd er bod £12 miliwn, efallai £16 miliwn, y flwyddyn—£80 miliwn dros bum mlynedd—yn newyddion arbennig o dda, mae'n swm cyfyngedig iawn, ac mae llawer o gyffuriau newydd iawn yn cael eu cyflwyno i’r farchnad sy'n gallu gwneud llawer iawn i helpu i ymestyn bywydau pobl a rhoi'r triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw, ond wrth gwrs, maent yn eithriadol o ddrud ar hyn o bryd. Felly, rwy’n dymuno sicrhau bod yr arian hwnnw wir yn cael ei wario ar y cyffur yn unig ac nid er mwyn galluogi bwrdd iechyd i ad-drefnu ei hun. Diolch i chi am hynny.

Diolch am y sylwadau a'r awgrymiadau a’r cwestiynau. Fe geisiaf ymateb i’ch pwynt olaf am y cyffuriau a ddisgrifiwyd gennych yn rhai effeithiol ond eithriadol ddrud. Wel, mae’r cyffuriau hynny sy'n eithriadol o ddrud yn gyffuriau sy'n annhebygol o gael eu cymeradwyo gan NICE neu AWMSG. Dyna pam y mae gennym broses argymhell: mae’n rhaid i’r fantais fod yn unol â'r gost hefyd, oherwydd rhan o'r her pam yr oedd y gronfa cyffuriau canser yn fethiant a pham y mae wedi ei diwygio—yn wir, wedi ei gwthio o’r neilltu a’i hail-lunio yn gyfan gwbl a’i rhoi drwy broses NICE—yw y cydnabuwyd ei bod yn darparu mynediad at gyffuriau am bris nad oedd unrhyw reolaeth drosto o gwbl, sef pam y cafwyd gorwariant aruthrol, ond hefyd yr oedd yn darparu mynediad at gyffuriau, ar sawl achlysur, nad oedd modd profi eu bod yn effeithiol. Nid oes angen i chi dderbyn fy ngair i am hynny: edrychwch ar Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin; gofynnwch i Dr Sarah Wollaston am ei barn hi ar y gronfa cyffuriau canser flaenorol. Felly, mewn gwirionedd, dyna pam y mae Llywodraeth y DU wedi diddymu’r gronfa cyffuriau canser flaenorol, a oedd yn wleidyddol effeithiol ond a oedd yn gwneud defnydd gwael o arian cyhoeddus, ac wedi dilyn proses lle maen nhw erbyn hyn, mewn gwirionedd, yn cael gwerthusiad priodol trwy NICE. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud drwy'r gronfa hon yw y byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu trin yn llai ffafriol. Felly, pan fo’r cyffuriau hynny yn cael eu cymeradwyo ac yn cael gwerthusiad interim gan NICE, maen nhw ar gael yn awr yng Nghymru.

Rwyf eisoes wedi gwneud penderfyniad ar yr arwydd blaenorol a oedd wedi’i amlygu, y meddyginiaethau blaenorol. Maen nhw ar gael yng Nghymru hefyd. Rhan o'r rheswm pam yr ydym yn sôn am feddyginiaeth effeithiol yw ei bod yn mynd trwy’r broses awdurdodol honno i ddeall ei bod yn wirioneddol effeithiol. Y meddyginiaethau hynny, byddan nhw ar gael yn fwy cyson, yn fwy cyflym, oherwydd ein bod ni’n cydnabod y bu her yn flaenorol yng ngallu byrddau iechyd i gynllunio ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd, o beidio â chael y berthynas a’r drafodaeth aeddfed honno ynglŷn â’r hyn a oedd ar y gorwel, ac roedd gan wahanol fyrddau iechyd wahanol allu i reoli costau sylweddol i’r gyllideb gyffuriau. Dyna pam ein bod wedi gweld anghysondeb ar draws y rhaglen mewn gwahanol rannau o Gymru ar gyfer meddyginiaethau a gymeradwywyd. Bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol, a bydd gennym fynediad cyflymach. O ran NICE, gan ein bod ni’n gwneud hyn ar gyfnod cynharach, heb aros am y cyfnod apelio, dyna pam y bydd yn sicr y bydd gennym feddyginiaethau a argymhellwyd ar gael yn gynt yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae'n fantais wirioneddol ac yn wirioneddol arloesol, yn unol â'r addewid yn ein maniffesto.

Rwyf eisiau dychwelyd at y pwynt yr ydych yn ei wneud am y diwydiant a’r cymorth a'r ad-drefnu gwasanaethau a allai fod yn angenrheidiol. Gwnes i sylwadau am hyn a chyfeirio ato yn fy natganiad ac yn fy llythyr hefyd. Mae sôn yma amdanom yn meithrin perthynas fwy aeddfed â’r diwydiant fferyllol yma yng Nghymru, oherwydd, os ydyn nhw’n dymuno bod eu meddyginiaethau ar gael yn gyflym o fewn y system, mae’n rhaid iddyn nhw fynd trwy broses werthuso briodol, mae angen iddyn nhw fod yn agored am yr hyn sydd ar y gorwel ac ymddiried rhywfaint yn y sgyrsiau hynny â'r gwasanaeth ac yn y broses werthuso gyfan. Mae hynny'n cynnwys sut y bydd y feddyginiaeth honno yn cael ei darparu, ac rydym wedi gweld hyn mewn nifer o feysydd, pan fo’r diwydiant, mewn gwirionedd, yn fwy agored i siarad am yr hyn y byddai angen i chi ei wneud i allu darparu meddyginiaeth newydd yn effeithiol, a beth y mae hynny'n ei olygu i'r bwrdd iechyd—nid dim ond yr arian, ond y cymorth ar ei chyfer hefyd. Dyna'r hyn y bwriedir i'r gronfa helpu i’w gyflawni. Felly, rwy'n wirioneddol gadarnhaol am yr hyn yr ydym yn ei wneud i gyflawni ein haddewid maniffesto, cyflawni ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu, ac rwy’n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r GIG, ond, yn bwysicach fyth, gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru yr ydym yma i’w gwasanaethu.

Rwyf i’n sicr yn croesawu'r datblygiad hwn. Rwy'n falch ein bod ni, drwy drafodaethau yn dilyn yr etholiad a arweiniodd at y compact ac mewn trafodaethau diweddarach ynghylch y gyllideb, wedi gallu gweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau’r pecyn hwn a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i gleifion yng Nghymru. Nodaf ei bod yn bwysig aros am ganlyniad yr adolygiad IPFR, oherwydd bydd hynny yn allweddol hefyd i bobl â chlefydau prin a ffurfiau prin ar glefydau. Rwy'n falch bod y Ceidwadwyr erbyn hyn yn gweld nad oedden nhw’n canlyn buddiannau cleifion yng Nghymru trwy fynd ar drywydd y gronfa cyffuriau canser. [Torri ar draws.] Na, pe byddech chi yma funud neu ddwy yn ôl, byddech chi wedi clywed—[Torri ar draws.] Byddech chi wedi clywed eich llefarydd yn dweud bod hyn yn agor y drws yn briodol i gyllid ar gyfer cleifion sy'n dioddef o’r holl glefydau, oherwydd nid y bobl sy’n dioddef o ganser yn unig y mae angen i'r Llywodraeth eu helpu, ac rwy’n falch bod hon yn gronfa triniaethau newydd ac nid cronfa cyffuriau canser y unig, er mor bwysig yw hi i gael cyffuriau i gleifion canser.

Mae gennyf nifer o gwestiynau. Mae'r newid i ddau fis yn dilyn cymeradwyaeth i'w groesawu, ond gwyddom fod tri mis yn her i BILl ar adegau, er ei fod yn ofyniad—mae'n rhaid i ni gofio hynny—ac yn aml yr oedd angen ymyriadau gan Aelodau yma ar ran cleifion er mwyn cael mynediad at feddyginiaethau a gymeradwywyd at ddefnydd cyffredinol. Felly, mae dulliau o sicrhau darpariaeth yn allweddol yma. A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r dulliau hynny ac esbonio beth fydd yn digwydd os bydd yn clywed am BILl nad yw'n ychwanegu meddyginiaeth newydd at y rhestr fformiwlâu?

Yn ail, mae NICE ac AWMSG yn sefydliadau mawr eu parch, maen nhw’n gwneud gwaith gwerthfawr, ond gall y broses o werthuso meddyginiaethau newydd gymryd llawer o amser weithiau a gall hefyd esgeuluso ffyrdd newydd o ddefnyddio meddyginiaethau hŷn. Rwy’n meddwl, er enghraifft, am fisffosffonadau a chanser y fron. A yw'r Gweinidog yn credu bod achos dros gynnal cyfarfodydd AWMSG yn amlach yn awr i drafod y materion hyn, yn enwedig o ystyried na ddylai cyllid fod yn gymaint o broblem yn yr achosion hyn?

Nid yw'r datganiad yn sôn am ba mor hir y bydd y cyllid yn para ar gyfer pob meddyginiaeth, ond rydych chi wedi dweud eisoes bod 12 mis o gyllid cyn bod angen i Fyrddau Iechyd Lleol ariannu’r cyffuriau eu hunain. A wnewch chi gadarnhau bod hynny'n parhau a pha brosesau yr ydych yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd?

Ac yn olaf, weithiau mae’n bosibl nad yw’r driniaeth orau yn fferyllol ac mae’n bosibl nad meddyginiaeth mohoni; gallai fod yn ddarn newydd o offer neu’n dechneg ar gyfer llawdriniaeth. Gallai fod yn ymyriad anghlinigol newydd. Efallai yn y dyfodol, y byddwn ni’n gweld mwyfwy o dechnolegau y gellir eu gwisgo yn chwarae rhan wrth fonitro cleifion. Ond rydym yn gwybod, yn aml, bod Cymru, yn y gorffennol, wedi bod yn araf i addasu i’r technolegau newydd hyn hefyd. Felly, sut ydych chi’n sicrhau bod GIG Cymru yn gallu monitro’r technolegau newydd hyn er mwyn sicrhau ein bod ni, yma, yn gallu ddefnyddio'r peiriannau a’r offer diweddaraf pan fo gwneud hynny er budd gorau’r claf?

Diolch i chi am eich cyfres o gwestiynau a sylwadau. A bod yn deg, ni wnes i ymdrin yn benodol â'r cwestiwn a ofynnodd Angela Burns am dechnolegau newydd eraill, sef eich cwestiwn diwethaf chi hefyd. Yn wir, mae'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â chronfa triniaethau newydd ar gyfer meddyginiaethau. Mae prosesau a dulliau eraill o asesu effeithiolrwydd ymyriadau eraill, pa un a ydyn nhw’n sôn am therapïau neu am ymyriadau technolegol eraill mewn gwahanol rannau o’r gwasanaeth. Er enghraifft, soniais o'r blaen am ficrolawfeddygaeth newydd ar gyfer lymffedema fel menter newydd sydd mewn gwirionedd yn torri tir newydd ac yn flaenllaw yma yng Nghymru, hefyd. Felly, mae’n siom i mi glywed llefarydd Plaid Cymru yn dweud bod Cymru yn araf yn manteisio ar amrywiaeth o bethau. Mewn gwirionedd, rydym ar flaen y gad ar amrywiaeth o bethau hefyd.

Mae cydbwysedd yn yr hyn y dylem ei wneud, ac wrth siarad am yr hyn y mae GIG Cymru yn ei wneud, ond wrth gwrs, rydym bob amser yn awyddus i ddeall yr hyn y mae cynnydd yn ei olygu, lle y gellir gwneud cynnydd a sut i gael dull system gyfan o wneud hynny mewn gwirionedd. Er enghraifft, mewn technoleg, mae amrywiaeth o wahanol fesurau yr ydym yn eu defnyddio i geisio cyflawni dull ‘unwaith i Gymru’ gwirioneddol mewn ystod o’r gwahanol feysydd hyn. Ond mae hynny'n fater gwahanol sydd ar wahân i bwnc y datganiad a’r cyhoeddiad heddiw.

Ynglŷn â’r cais cyllido cleifion unigol, byddwch chi’n ymwybodol, a bydd llefarwyr iechyd ac Aelodau eraill yn ymwybodol, fy mod i’n disgwyl cael yr adroddiad er mwyn ei gyhoeddi rywbryd yn gynnar eleni, ac edrychaf ymlaen at ei gael gan y grŵp a sefydlwyd, yn dilyn trafodaethau â phobl o bob plaid. Bydd hynny’n ymdrin â’r pethau hynny nad ydyn nhw wedi eu hargymell drwy NICE neu AWMSG. Hwnnw yw’r maes anoddach, lle mae dewisiadau anodd i'w gwneud am y cydbwysedd a buddion unigol. Felly, edrychaf ymlaen at gael yr adroddiad gydag argymhellion i ni eu hystyried a’u dadlau, ac wedyn, yn y pen draw, bydd yn rhaid i'r Llywodraeth benderfynu ar ffordd ymlaen ar gyfer y gwasanaeth. Ond mae hynny'n fater ar wahân a ddaw yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rwy’n cydnabod pwynt y drafodaeth yr oeddech yn ei chael ar draws y Siambr â’r Ceidwadwyr am y ffaith bod hwn yn ddull sy’n wirioneddol yn cynnwys yr holl gyflyrau. Gwnaethom gytuno â'r hyn a ddywedodd Cronfa'r Brenin wrth sôn bod y gronfa cyffuriau canser yn codi cwestiynau moesegol anodd a’r annhegwch sy'n codi o ran prisio bywydau rhai cleifion y GIG yn fwy na phobl eraill, yn dibynnu ar natur eu cyflwr. Nid oeddem erioed yn defnyddio’r dull gweithredu hwnnw ac rydym yn gyson gyda dull gwirioneddol deg i bob cyflwr wrth gyflwyno'r gronfa triniaethau newydd.

Ynglŷn ag atebolrwydd am wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i bwrpas, dyna pam yr wyf wedi bod yn glir y bydd cyfeiriadau newydd ac y bydd monitro defnydd yr arian hwnnw. Felly, rwy’n glir bod yr arian yno i bwrpas, rwy’n disgwyl iddo gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw ac y bydd arweinwyr byrddau iechyd yn cael ei dwyn i gyfrif os profir nad yw hynny’n wir.

Unwaith eto, ynglŷn â’ch pwynt am y dystiolaeth ar gyfer amlder cyfarfodydd y AWMSG, os oes rhagor o dystiolaeth y dylai gyfarfod yn amlach, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried. Nid yw hwnnw’n rhywbeth sydd wedi ei ddwyn i’m sylw i ar hyn o bryd, gan unigolion eraill na gan y grŵp ei hun, ond rwy’n cadw meddwl agored bob tro os oes rhywbeth y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym y gallem neu y dylem ei wneud i wella'r sefyllfa yma yng Nghymru. Rwy'n hapus yn cadarnhau unwaith eto bod hyn i helpu'r flwyddyn gyntaf o gyflwyno'r meddyginiaethau newydd hyn. Ar ôl hynny, mae ein tystiolaeth yn dweud wrthym fod byrddau iechyd yn well o lawer am reoli a darparu meddyginiaethau newydd o hynny ymlaen. Felly, mae'n gwneud yn siŵr, yn y flwyddyn gyntaf, nad oes yr annhegwch hynny, boed o ran cysondeb neu gyflymder mynediad at feddyginiaethau newydd sy’n wirioneddol newid bywydau.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am eich llythyr yn gynharach heddiw. Mae’r newyddion y gall cleifion bellach elwa ar y gronfa triniaethau newydd i’w groesawu, a bydd yn rhyddhad mawr i lawer o gleifion yng Nghymru, y mae rhai ohonyn nhw wedi mynd i Loegr am driniaeth o’r blaen.

Pan drafodir mynediad at feddyginiaethau, mae’n ymwneud fel arfer â chyffuriau canser yn unig, felly mae'n braf gweld bod meddyginiaethau newydd ar gael erbyn hyn i drin cyflyrau fel ffeibrosis cystig, asthma difrifol a hepatitis C, yn ogystal â thriniaethau ar gyfer canser yr ysgyfaint, y fron a’r arennau. Yn ogystal â chroesawu cyflwyniad y gronfa, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gen i ychydig o gwestiynau i chi, gan ein bod wedi trafod y cynllun hwn yn helaeth y llynedd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich llythyr, rydych yn nodi bod 60 o feddyginiaethau newydd wedi eu cymeradwyo ers mis Ebrill. A ydych yn gweithio gyda'r sector fferyllol i sicrhau ein bod yn sganio'r gorwel yn ddigonol, i fod wedi ein paratoi yn briodol i ymdrin â gwerthusiadau meddyginiaeth newydd yn y dyfodol?

Mae eich datganiad a'ch llythyr yn sôn am gyflwyno meddyginiaethau newydd, ond nid oes llawer o sôn am driniaethau newydd. A wnewch chi gadarnhau y bydd y gronfa hefyd yn caniatáu i gleifion gael gafael ar driniaethau newydd arloesol, megis mathau newydd o radiotherapi ac unrhyw driniaeth newydd sy'n dangos budd clinigol clir i gleifion?

Rwy’n falch o weld y byddwch yn annog perthynas waith agosach rhwng y GIG a'r diwydiant fferyllol. Mae'n rhaid i ni weithio'n llawer mwy cydweithredol gyda'r diwydiant fferyllol yn y dyfodol os ydym am sicrhau gwelliannau i ofal cleifion.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r gronfa triniaethau newydd wedi ei chlustnodi’n glir i ddarparu triniaethau gwell i gleifion, felly a fyddwch yn dyrannu rhagor o adnoddau i wella'r cydweithio hwn yn y dyfodol? Mae angen gwelliannau i seilwaith y GIG os ydym am barhau i ddarparu’r triniaethau gorau sydd ar gael i gleifion yng Nghymru.

Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at gael manylion am sut y mae'r cynllun yn gweithio yn ymarferol pan fyddwch yn adrodd ar gynnydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Diolch yn fawr.

Diolch i chi am eich sylwadau a'ch cwestiynau, ac am groesawu cyflawniad y rhan hon o'r rhaglen lywodraethu. Rwy'n hapus i ailgadarnhau y pwynt am y broses werthuso ar gyfer mathau newydd eraill o dechnoleg. Mae'r gronfa triniaethau newydd yr ydym yn sôn amdani ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd ac wedi eu cymeradwyo. O ran eich pwynt ynglŷn â sganio'r gorwel am feddyginiaethau newydd; mae hynny’n rhan o’r hyn yr ydym ni’n ei wneud yn well yng Nghymru erbyn hyn oherwydd ein bod ni wedi newid natur ein perthynas â'r diwydiant. Mae’r aeddfedrwydd hwnnw yn wirioneddol bwysig i ni, i sicrhau bod gwerthoedd ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddiogel, a bod y gwerth a gawn am y meddyginiaethau newydd i’r gwasanaeth iechyd ac i gleifion yn parhau i fod ein blaenoriaeth gyntaf—ond yn yr un modd, i ddeall sut yr ydym yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i sicrhau bod hynny’n wir, ac i sicrhau, os oes buddion eraill y gellir eu cyflawni o ran y gallu i ddatblygu potensial diwydiannol y diwydiant hwn yng Nghymru, ein bod yn eu cyflawni nhw hefyd.

Ond, mewn gwirionedd, rydym yn cydnabod, wrth fod gan y diwydiant berthynas wahanol, ei bod mewn gwirionedd o fudd iddyn nhw i gael y sgwrs aeddfed hon â ni. Os ydyn nhw’n dymuno i’w meddyginiaethau newydd fod ar gael, i gael eu gwerthuso’n briodol fel y gallan nhw ddeall yr hyn y byddan nhw’n ei wneud mewn cynllun mynediad i gleifion os oes angen hynny, i ddeall yr holl gyngor a gwybodaeth sydd eu hangen i allu cynnal y gwerthusiad yn gyflym ac yn effeithiol ac yna ei gyflwyno, y mae er budd iddyn nhw gael y drafodaeth honno am yr hyn sydd ar y gorwel yn y dyfodol. Rwy'n wirioneddol optimistaidd ynglŷn â hynny—nid yn syml oherwydd fy mod yn berson naturiol optimistaidd, ond mewn gwirionedd oherwydd y sgyrsiau yr ydym wedi eu cael â’r diwydiant. Rwy’n croesawu ac yn cydnabod yn arbennig y sylwadau cefnogol a wnaed heddiw gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ynglŷn â chyflwyno’r gronfa.

O ran y pwynt am feddyginiaethau newydd—ac eto, o ran y pwynt nad yw hyn yn ymwneud â dewis dim ond canser fel yr unig gyfres o gyflyrau yr ydym yn barod i wario arian ychwanegol arni yn y ffordd hon—wrth lansio’r gronfa triniaethau newydd es i, fel y mae’n digwydd, i'r clinig feirysau a gludir yn y gwaed yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n wasanaeth i Gymru gyfan ac mae'n gwneud gwaith anhygoel i bobl ym mhob cwr o’r wlad. Yr hyn sydd wedi newid mewn gwirionedd yw’r ffaith, yn ogystal â rhoi mynediad i feddyginiaethau newydd yr ydym wedi eu cyflwyno gydag arian newydd—mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i aelodau staff a'r ffordd maen nhw’n rhwydweithio ac yn gweithio ledled Cymru—mae wedi cyflwyno ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas clinigol yn yr hyn y maen nhw’n ei ddweud am y ffordd maen nhw’n dymuno cyflawni hyn yn wirioneddol i Gymru gyfan. Felly, mewn gwirionedd, mae'r arian newydd a'r meddyginiaethau newydd wedi bod yn rhan o’r cymorth i gyflawni cynnydd gwirioneddol mewn ymddygiad, triniaeth a chanlyniadau clinigol i gleifion. Oherwydd hynny, i mi, oedd yr elfen fwyaf ysbrydoledig o’r ymweliad—cael cwrdd â chleifion sydd wedi cael gwellhad gwirioneddol yn awr yn sgil y feddyginiaeth newydd sydd wedi ei chyflwyno drwy’r buddsoddiad penodol a wnaed. Dyna beth yr wyf i’n dymuno gweld mwy ohono yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae’n newyddion da i’r gwasanaeth iechyd, ond mae’n newyddion hyd yn oed yn well i’r cleifion y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu gwasanaethu.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad hwn heddiw a'r cyllid ychwanegol sy'n dod gydag ef. Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd yr arian a fydd yn mynd i fyrddau iechyd yn cael ei neilltuo a’i fonitro. O gofio hynny, hoffwn ofyn: o fy mhrofiad i ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, maen nhw, mewn gwirionedd, yn gyflym iawn, iawn yn sicrhau bod cyffuriau ar gael i gleifion ar ôl iddyn nhw fod trwy'r broses werthuso, felly mae gen i rywfaint o bryder, drwy osod terfynau amser ar gyfer yr holl fyrddau iechyd, bod perygl y gallai pethau arafu mewn byrddau iechyd eraill lle mae'r perfformiad wedi bod, hyd yn hyn, yn arbennig o dda. Felly, a gaf i ofyn i chi am hynny, a hefyd gofyn i chi am y dull o ddyrannu adnoddau i bob bwrdd iechyd mewn gwirionedd? A fydd fformiwla yn cael ei defnyddio? A fydd yn cael ei wneud ar sail angen? Oherwydd ni fyddwn i ychwaith eisiau ein gweld ni’n talu byrddau iechyd nad ydyn nhw wedi bod yn perfformio, pan fod sefydliadau fel bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi bod yn cyflawni yn dda iawn yn y maes hwn, hyd y gwelaf i.

Roedd y pwynt arall yr oeddwn i eisiau ei godi yn ymwneud â'r AWMSG a'r ffordd y mae'n gweithio. Rwy’n croesawu cywair eich datganiad pan rydych yn siarad am yr ymdrech deg ar y cyd rhwng diwydiant, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Roeddwn i’n ddiolchgar i chi am gyfarfod â mi yn ddiweddar i siarad am Avastin, a hefyd i Roche am ddod i fy ngweld i ynglŷn â’r mater, ond rwy’n deall mai un o'r problemau y mae Roche wedi eu cael yw diffyg gwybodaeth gan AWMSG, yn wahanol i awdurdod meddyginiaethau yr Alban a NICE, sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am y rhesymau dros wrthod gwerthusiad. Nid ydyn nhw wedi gallu cael yr wybodaeth gan AWMSG. Felly, a gaf i ofyn i chi edrych ar hynny fel y gallwn ni sicrhau bod y broses hon, sy'n allweddol yn awr i gael gafael ar yr arian ychwanegol hwn, mor dryloyw ac mor agored ag y bo modd?

Diolch am y sylwadau ac am y cwestiwn. Wrth gwrs, rwy’n monitro defnydd ac effaith y gronfa. Mae'n bwysig, nid yn unig i gael datganiad lle y gallwn ddweud ein bod wedi gwneud addewid a’i gyflawni. Mae angen i ni wedyn sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn yr oeddem yn meddwl y byddai'n ei wneud ac yn darparu’r budd gwirioneddol hwnnw i unigolion ledled y wlad. Ac, wrth wneud hynny, y bydd arian ar gyfer pob bwrdd iechyd. Rwy’n dymuno sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cael cyfran briodol o'r adnodd, ond wedyn bod disgwyliad priodol y byddan nhw’n cyflawni yn sgil hynny. Nid arian mo hwn i’w roi yn y pot a gwneud fel y mynnont ag ef. Dyna pam y bydd yn cael ei neilltuo. Dyna pam y bydd yna gyfarwyddiadau. Dyna pam y byddwn yn monitro defnydd ac effaith yr arian.

Mae'r broses AWMSG wedi bod yn llwyddiannus i ni yng Nghymru. Mae o leiaf 29 o feddyginiaethau newydd wedi bod ar gael yn gyflymach o lawer nag y mae NICE wedi gallu ei wneud ar gyfer y DU gyfan hefyd. Felly, mae hynny'n fantais wirioneddol yn ein gallu ni i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn gynharach yng Nghymru. Bydd hyn yn ychwanegu at hynny hefyd. Mae rhan o'r her wedi ymwneud â chyflawni cynlluniau mynediad i gleifion—y pwynt am y budd a’r gost rhwng y pwrs cyhoeddus, y cwmni a'r unigolyn a allai elwa ar y driniaeth. Mae hynny'n golygu fy mod yn cael trafodaethau anodd weithiau â’r diwydiant fferyllol. Rwy’n dymuno gweld hyn yn gwella wrth i ni fynd rhagddi.

Mae'r wybodaeth yr wyf wedi’i chael am y mater a godwyd gennych ynglŷn â Roche ac Avastin wedi ymwneud â’r her o ddarparu gwybodaeth, yr amser y dylid ei neilltuo, y gallu a'r parodrwydd i ymuno â chynllun mynediad i gleifion, ond wedyn hefyd am y trafodaethau ynglŷn â sut y mae’r wybodaeth honno’n cael ei throsglwyddo rhwng y ddau. Byddwn yn hapus iawn i drafod â chi er mwyn ymateb i wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd mewn achos penodol, ond hefyd ar gyfer y dyfodol, oherwydd mae arnaf eisiau gweld yr aeddfedrwydd hwnnw mewn cysylltiad â'r hyn yr wyf wedi’i ddisgrifio yn cael ei ddatblygu, ac yn parhau yn y dyfodol. Oherwydd, fel y dywedais, mae er budd y diwydiant; ond yn yr un modd, mae er budd y GIG a'r cleifion yr ydym ni yma i’w gwasanaethu hefyd.

Mae'n wir, os yw Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog mewn unrhyw ran o'r DU yn cynnig arian ychwanegol i helpu cyffuriau i fod ar gael yn hawdd, sydd wedi bod yn her dros y blynyddoedd, ac yn wir, drwy'r broses weinyddol, sydd wedi bod yn feichus wrth gael y gymeradwyaeth hynny i gleifion sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, y bydd croeso cynnes yn sicr i’r penderfyniad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gobeithio’n fawr, yn amlwg, eich bod yn cyflawni hyn a'ch bod yn sicrhau nad ydym ni, mewn 12 mis, 18 mis neu ddwy flynedd, yn dal i siarad am rwystrau gweinyddol o fewn ein Byrddau Iechyd Lleol sy'n atal pobl rhag cael gafael ar y cyffuriau y mae NICE a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru wedi eu cymeradwyo. Y broblem sydd bob amser wrth graidd hyn yw'r cyffuriau nad ydynt wedi'u cymeradwyo. Rydych wedi crybwyll y ffaith y byddwch yn cyflwyno datganiad arall yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf ar y broses IPFR, ac mae Aelodau'r Cynulliad o bob rhan o'r Siambr hwn ac o bob plaid wedi gweithio gyda’i gilydd, i dynnu sylw at broblemau yn ymwneud â’r mater penodol hwn. Hwn yw’r mater sydd, dro ar ôl tro, yn arwain at achos craidd problemau llawer o deuluoedd, llawer o gleifion, ac yn wir, llawer o glinigwyr o ran cael mynediad at gyffuriau sy’n cyfoethogi ac yn gwella bywyd nad yw treialon cychwynnol wedi’u cynnal arnyn nhw ond sy’n dangos cynnydd addawol yn y gwaith datblygu sydd wedi ei wneud gan y cwmnïau fferyllol. Ydw i'n gywir i dybio na fydd yr arian hwn yr ydych wedi’i gyhoeddi heddiw yn gwneud dim i gynorthwyo'r broses IPFR, ac nad yw’r arian yr ydych wedi'i gyhoeddi heddiw ar gael i'r broses IPFR i gynorthwyo cleifion neu glinigwyr wrth wneud penderfyniadau am ddenu cyllid ar gyfer y meddyginiaethau hynny? Yn benodol, ar gyfer ffeibrosis systig, er enghraifft, Orkambi—rwy’n gobeithio fy mod i wedi ynganu hynny’n gywir; rwy’n credu eich bod chi’n gyfarwydd â'r cyffur oherwydd etholwr i chi a minnau, ond nid wyf yn gofyn i chi roi sylwadau ar yr etholwr oherwydd fy mod yn gwerthfawrogi na allwch chi wneud hynny—ni fyddai’r cyffur hwnnw ar gael o dan y cynllun yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw, oherwydd, er ei fod wedi perfformio’n addawol mewn treialon, nid yw wedi ei gymeradwyo gan NICE. A yw hynny'n wir? Ac a allwch chi werthfawrogi’r rhwystredigaeth yn awr, a phwysigrwydd cyflawni newid buan iawn mewn unrhyw drafodaethau y gallech fod yn eu cael i ddymchwel y rhwystr sydd wedi bodoli yn y broses IPFR hon yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn. Fel y dywedais i drwy'r datganiad—mewn datganiadau blaenorol a datganiad heddiw—mae hyn yn ymwneud â mynediad cyflym, cyson i feddyginiaethau effeithiol sydd wedi’u cymeradwyo. Ar gyfer y rhai nad ydyn nhw wedi eu cymeradwyo drwy NICE neu'r broses AWMSG, ceir y broses ceisiadau cyllido cleifion unigol—y broses IPFR. Mae’r Aelodau i gyd yn ymwybodol ein bod wedi ymgymryd â darn arbennig o waith gydag adolygiad cyflym i edrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn nhermau gwelliannau yr ydym yn credu y gallem fod wedi eu gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gwelliannau eraill yr ydym yn dymuno eu gwneud yn y dyfodol—ac i gael rhaglen waith ddilys a heriol i geisio ein helpu ni i wneud hynny. Nawr, rwyf wedi nodi mewn ymateb i'r cwestiynau y mae Angela Burns a Rhun ap Iorwerth wedi eu gofyn heddiw, fy mod i’n disgwyl i’r adroddiad hwnnw fod gyda mi o fewn yr wythnosau nesaf. Byddaf yn ei dderbyn o fewn mater o wythnosau, nid misoedd. Rwy'n siŵr y bydd gan bawb farn arno, a bydd yn rhaid, yn y pen draw, i'r Llywodraeth ymateb iddo. Mae hynny'n fater ar wahân. Nid dyna'r mater yr wyf i’n ei gyhoeddi heddiw. Nid dyna oedd ein haddewid maniffesto wedi’i gynllunio i’w gyflawni. Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i'r Siambr hon yn yr wythnosau nesaf i roi datganiad arall i chi, Lywydd, ar y broses IPFR, ar yr adolygiad, a sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb iddo. Felly, bryd hynny, bydd gennyf ateb ar eich cyfer ar y mater yr ydych wedi’i godi heddiw.

7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl ar y gyllideb derfynol. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6192 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fe gafodd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Hydref, ac roedd rhaid ei llunio o dan amgylchiadau heriol iawn. Cafodd datganiad yr hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a oedd yn addo ailosod y polisïau cyllidol, ei gyhoeddi ychydig o wythnosau ar ôl cyflwyno'r gyllideb ddrafft. Yn y gyllideb derfynol, a gafodd ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr, roedd yn rhaid ystyried effaith y datganiad ar Gymru. Mae'r gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol yn cynnwys mesurau sy'n ganlyniad i drafodaethau gyda Phlaid Cymru. Rwy’n hynod ddiolchgar i Adam Price a’i dîm am sicrhau eu bod ar gael i weithio o fewn yr amserlenni tyn sy'n rhan o'r broses o lunio cyllideb. Rwy’n edrych ymlaen hefyd at weithio gyda'n gilydd ar yr agenda sylweddol sydd wedi ei chytuno ar gyfer y pwyllgor cyswllt ar gyllid dros y misoedd nesaf.

Lywydd, nid wyf yn bwriadu ailadrodd manylion y gyllideb ddrafft heddiw. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi crynhoi'r mesurau hyn yn fedrus ac yna wedi craffu arnyn nhw yn ei adroddiad. Rwy’n ddiolchgar i'r pwyllgor am ei waith ar gyllideb ddrafft 2017-18 ac am ei argymhellion adeiladol. Ddoe, fe wnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad. Heddiw, rwy’n bwriadu canolbwyntio ar ddwy agwedd. I ddechrau, byddaf yn nodi'r prif newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Byddaf yn canolbwyntio'n benodol ar effaith datganiad yr hydref. Yna, byddaf yn edrych i'r dyfodol, gan ystyried y broses o baratoi’r gyllideb y flwyddyn nesaf a'r angen i sicrhau bod ein proses ar gyfer y gyllideb yn addas ar gyfer ein cyfrifoldebau cyllidol newydd.

Let me begin then, Llywydd, with the main changes that lay between the draft and the final budget. The final budget includes an additional sum of £337 million-worth of capital over four years, allocated to key priorities. This includes £136 million for affordable housing developments, flood prevention schemes and regeneration projects across Wales. Of this, £33 million of the extra capital funding will support the work of Natural Resources Wales and local authorities on priority flood-risk management schemes over that four-year period. This is over and above the £150 million-worth of innovative coastal risk management money that will begin from 2018.

Fifty-three million pounds of the extra capital has been allocated to accelerate the delivery of the Welsh Government’s core commitment to deliver 20,000 affordable homes over the course of this Assembly term. In total, this brings our total capital investment in housing to £1.413 billion over the next few years. Fifty million pounds of the additional capital will be invested in regeneration programmes that focus on our most disadvantaged communities.

In rural Wales, we are investing £20 million in a small capital grant scheme for farmers, bringing with it match funding of a further £20 million from the Welsh Government’s rural development programme. The £40 million will help farmers to reduce carbon emissions and improve their resilience and competitiveness, including through diversification.

Wales’s transport system is boosted under the final budget by an extra £15 million capital over four years to relieve transport pinch points across the country, and an extra £50 million in capital funding will accelerate the delivery of the A483 Llandeilo bypass. And both of these allocations form part of our budget agreement with Plaid Cymru.

In health and social care, an additional capital funding of £40 million is allocated to improve Wales’s health estate, particularly targeted at the development of our primary care buildings in a further demonstration of this Government’s determination to invest at the interface of health and social care. Indeed, Llywydd, this is a budget that continues to prioritise the needs of the social care sector. In the draft budget, an additional £25 million was allocated for social services. Now, in the final budget before the Assembly this afternoon, a further £10 million of recurrent funding will be made available as part of a tripartite agreement between the Welsh Government, local government and social care employers to meet recognised costs in that sector.

Finally, as far as capital is concerned, this final budget provides an extra £40 million over four years for energy efficiency measures. It will, among other things, help a further 25,000 households heat their homes at a more affordable cost and support other green growth initiatives.

Llywydd, I turn now, briefly, to the main revenue changes contained in the final budget, primarily as a result of allocation from reserves. In 2017-18, £15.5 million in extra revenue funding will be made available for apprenticeships. This is in addition to the £111 million announced in the draft budget for apprenticeships and traineeships.

Llywydd, I’ve listened carefully to representations made directly during the consultation period. As a result, an extra £10 million revenue will be provided for a targeted rate relief grant scheme to help small businesses on the high street and in hospitality sectors with their business rates next year. And we've agreed the mechanism for distributing this £10 million with Plaid Cymru, and it will be in place by April this year. That is over and above the £10 million transitional rate relief scheme included in the draft budget.

Where local authorities are concerned, we have also allocated an additional £6 million, reflected in this final budget, which will go into the revenue support grant to help tackle the particular problems around preventing homelessness.

Finally, Llywydd, as far as revenue changes are concerned, I am especially pleased to draw attention to the additional £500,000 revenue to provide new help to children in our most vulnerable communities during the long summer holidays. This is a clear example of where applying the lens of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 has directly influenced budget making.

Recommendations 4, 5 and 6 of the Finance Committees report focus on the interplay between the Act and the budget process, and I’ve undertaken in my response to do more to reflect the Act in budget preparations and outcomes in the next budget round.

Llywydd, let me turn now, in closing, to budget preparedness for next year. The budget this Assembly will consider for 2018-19 will be the first to exercise our new fiscal responsibilities and to do so within the new fiscal framework agreed with the Chief Secretary to the Treasury in December. I will answer questions on the details of the fiscal framework in front of the Finance Committee tomorrow and will make a statement on it in this Chamber next week. All of this will require changes to both the Government’s own internal budget preparations and to its scrutiny by the National Assembly. I look forward to further discussions with both the Commission and the Finance Committee to put these new arrangements in place as we respond to the recommendations in this area set out in the committee’s report.

Let me end, then, where I began in October. The budget in front of the Assembly today combines stability and ambition. It provides a relatively short period in which to prepare for tougher times and harder choices that face us later in this Assembly term. It nevertheless invests in our future and lays the foundation for the new fiscal responsibilities that lie ahead. I look forward to this afternoon’s debate and commend this final budget to Members as a budget to take Wales forward.

Diolch, Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am agor y ddadl. Fel yntau, nid wyf eisiau ailadrodd yr hyn a ddywedwyd yn ystod y drafodaeth ar y gyllideb ddrafft. Byddaf i hefyd yn canolbwyntio fy sylwadau ar y newid sydd wedi digwydd rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, a hefyd ar rai o atebion y Llywodraeth i argymhellion y Pwyllgor Cyllid.

Mae yn drueni, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb yn briodol i’r argymhellion, fod yr amserlen rŷm ni’n gosod i’n hunain fel Cynulliad i hwn yn golygu, mae’n siŵr, nad yw Aelodau’r Cynulliad wedi cael cyfle o gwbl, a dweud y gwir, i edrych ar ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion. Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion a gyhoeddwyd dros nos neithiwr yn ymwneud â chyllido tymor hir, ond mae rhai penodol hefyd y mae’r Llywodraeth wedi ymateb iddyn nhw yn benodol wrth baratoi’r gyllideb derfynol.

Felly, byddaf i’n canolbwyntio ar rai o’r newidiadau a wnaed, nid o reidrwydd oherwydd y Pwyllgor Cyllid, er bod gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb yn y pethau hyn, ond gan bwyllgorau eraill y Cynulliad hefyd a oedd yn dod ynghyd â thystiolaeth i’r Llywodraeth ar sail y gyllideb ddrafft, gan ofyn am ragor o adnoddau, neu newid yn yr adnoddau, neu, wrth gwrs, ddeilliannau o ddatganiad yr hydref.

Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i danlinelli bod y Pwyllgor Cyllid wedi edrych yn arbennig ar gynaliadwyedd o ran ariannu iechyd, ac felly rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn argymhellion ynghylch ariannu iechyd ac yn falch iawn o weld bod yna gyfalaf ychwanegol o dros £40 miliwn a ddyrannwyd dros bedair blynedd i wella’r ystâd iechyd a chyflymu arloesedd hefyd yn y sector yma. Mae hynny yn cydblethu â diddordeb y Pwyllgor Cyllid yn y gwasanaethau ataliol, a’r cydbwysedd rhwng y cynnydd yng nghyllid y gwasanaeth iechyd gwladol a chyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Rwy’n falch, felly, o ran y dyraniad yn y gyllideb derfynol o gyllid refeniw o £10 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae hynny yn adlewyrchu’r drafodaeth yn y Pwyllgor Cyllid, a’r trafod yn y pwyllgorau pwnc yn ogystal.

Rwyf hefyd yn nodi bod tipyn o arian cyfalaf wedi cael ei ddodi yn ôl yng nghyllideb yr Ysgrifennydd Cabinet dros ynni, newid hinsawdd a materion gwledig: £10 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau arbed ynni, sydd newydd gael eu crybwyll gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; £3 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd a dorrwyd yn wreiddiol—gofid mawr i’r pwyllgor amgylcheddol, neu’r pwyllgor newid hinsawdd, fe ddylwn ddweud, y dyddiau yma, a’r Pwyllgor Cyllid hefyd; a £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol sydd newydd gael ei grybwyll hefyd ar gyfer cymunedau gwledig.

Felly, mae yna newid sylweddol sydd wedi’i hwyluso gan ddatganiad yr hydref rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, ond fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod wedi halltu rhywfaint o arian wrth gefn, rhag ofn bod datganiad yr hydref yn un andwyol i’r Llywodraeth ac i’r Cynulliad. Gan nad yw wedi bod yn andwyol i’r fath raddau, mae modd rhyddhau rhywfaint o’r arian yma tuag at bwrpas y Llywodraeth, sy’n cyd-daro â nifer o bethau yr oedd y Pwyllgor Cyllid â diddordeb ynddyn nhw.

Byddai’r pwyllgor, serch hynny, wedi hoffi gweld mwy o sicrwydd ynghylch refeniw llywodraeth leol at y dyfodol, gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn gwisgo ei het arall, am baratoi Papur Gwyn ynglŷn â diwygio llywodraeth leol, ac mae’r Pwyllgor Cyllid yn mynd i ddilyn cyllido llywodraeth leol gyda chryn ddiddordeb, rwy’n meddwl, yn ystod y cyfnod yma, gan gynnwys y posibiliad o symud oddi wrth gyllido blynyddol i gyllido mwy tymor hir, tair blynedd, cyllido ar y sail sydd i fod i ddigwydd gyda byrddau iechyd—rhyw batrwm fel yna. Byddai hynny o ddiddordeb, yn bendant, i’r Pwyllgor Cyllid.

Fe gawsom ni hefyd dystiolaeth, yn ystod ein trafodaethau yn y Pwyllgor Cyllid, ynglŷn â’r effaith posib ar y gweithlu yn y sector gwasanaeth iechyd cyhoeddus a’r sector gofal cymdeithasol gydag ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos â llywodraeth leol a’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol. Rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac yn ymrwymo felly i archwilio pob opsiwn i gadw’r gweithlu gwasanaeth iechyd cenedlaethol sydd gyda ni, gweithlu sydd yn ddibynnol i raddau helaeth iawn ar fewnfudwyr o weddill yr Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd yn ogystal, wrth gwrs.

Rwyf hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y pwyllgor ynglŷn â’r ffordd y mae’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn effeithio ar y ffordd mae’r Llywodraeth yn paratoi’r gyllideb. Byddwn i wedi dymuno gweld mwy o ôl yn y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol o ran sut y mae’r Ddeddf wedi llywio penderfyniadau’r Llywodraeth. Fe roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet enghraifft ym maes plant o’r ffordd roedd yn teimlo bod y Ddeddf wedi bod o gymorth i benderfyniadau’r Llywodraeth, ac rwy’n mawr obeithio, pan fyddwn ni’n edrych ar y gyllideb y tro nesaf, y bydd mwy o dystiolaeth o’r Ddeddf yma ar waith. Yn sicr, roedd y rhanddeiliaid yn awyddus iawn i weld hynny yn ogystal.

Wrth gloi’r sylwadau ar y gyllideb yma, mae’n deg nodi bod y Pwyllgor Cyllid yn mynd i edrych yn eiddgar iawn ar y newidiadau sydd yn dilyn yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf. Byddwn yn troi atyn nhw yn ystod y dyddiau nesaf, a dweud y gwir, yn y Cynulliad gyda datganoli cyllidol pellach, y fframwaith cyllido, sydd wedi’i gytuno rhwng y Llywodraeth a Llywodraeth San Steffan, a’r posibiliad ein bod ni fel Cynulliad yn symud at system llawer mwy Seneddol o edrych ar y gyllideb ar ffurf Bil cyllid llawn, sydd yn gallu cael ei newid neu ei ddiwygio ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, yn gallu effeithio ar gyfraddau treth yn ogystal. Mae hynny yn sicr, yn fy marn i, yn mynd i ychwanegu at ddemocratiaeth yng Nghymru.

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y gyllideb derfynol. A gaf i yn gyntaf gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a hefyd groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i rai o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, rai ohonynt a dderbyniais yn gynharach heddiw?

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth agor y ddadl hon, mae hwyrni cyllideb eleni, oherwydd amseriad datganiad yr hydref, yn ddealladwy wedi achosi anawsterau iddo ef a'i dîm. Mae hefyd wedi achosi’r pennau tost sydd yn awr yn fwyfwy cyfarwydd i'r Pwyllgor Cyllid, y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt.

Yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft cyn y Nadolig, roeddwn yn croesawu'r newyddion bod Llywodraeth y DU i ddarparu £436 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf rhwng 2016 a 2021 ar brosiectau cyfalaf, o ganlyniad i wariant ar seilwaith ychwanegol yn Lloegr. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r angen taer i fuddsoddi mewn seilwaith i dyfu ein heconomi. Rwy'n credu ein bod ni oll yn cytuno bod angen cyllideb wirioneddol gynaliadwy ar Gymru sy'n edrych i'r dyfodol.

Nodaf, yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ei fod wedi derbyn mewn egwyddor y syniad y dylai'r gyllideb gyflawni ar y nodau sydd wedi'u gosod yn y rhaglen lywodraethu. Rydych chi'n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw bob amser yn hawdd tynnu llinell rhwng cyllid a chanlyniadau, ond mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn ceisio gwneud hynny.

Yn awr, mae'n eithaf amlwg bod angen gwario’r arian cyfalaf ychwanegol hwn yn ofalus ac mae cynigion y gyllideb yn siarad am agwedd integredig, hirdymor tuag at gyllid cyfalaf. Byddwn yn dweud, wrth gwrs, ein bod wedi clywed hyn sawl gwaith o'r blaen. Efallai y bydd Aelodau'r Cynulliad a oedd yma yn y pedwerydd Cynulliad yn cofio, os oeddech yn gwrando, wrth gwrs—efallai na fyddwch yn cofio—ddwy flynedd yn ôl fy mod wedi rhybuddio y byddai’r diffyg ymrwymiad i gam dau ffordd gyswllt dwyrain y bae, y tu hwnt i gam un, yn anochel yn arwain at fwy o dagfeydd ar Rover Way yn ne Caerdydd, ar yr hyn a elwir y gylchfan i unlle. Nid oes unrhyw arwydd o hyd o weddill y ffordd gyswllt, ond rwy’n sylwi heddiw bod gennym ymrwymiad i ffordd osgoi Llandeilo, a symud ymlaen â hynny—cynllun ffordd poblogaidd iawn, rwy'n siŵr, gyda phobl Llandeilo ac ymhellach i ffwrdd a fyddai'n defnyddio'r ffordd honno—ond yr hyn y byddwn yn ei ofyn yw: a ydym yn gwbl argyhoeddedig bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ar sail gywir, gyda chynaliadwyedd tymor hir mewn golwg, yr wyf yn siŵr y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn siarad llawer amdano? Mae angen i ni fod yn sicr o hynny, ac mae angen i’r cyhoedd fod yn sicr hefyd.

Y pwynt yw weithiau yr ymddengys bod penderfyniadau yn cael eu cymryd, os caf ddweud, fel rhan o gytundeb cyllideb tymor byr, nad yw ond yn edrych—wel, nid yw hyd yn oed yn edrych tair blynedd ymlaen, nid yw hyd yn oed yn edrych un flwyddyn ymlaen, ond yn edrych ar gyfnod byr o ychydig fisoedd ymlaen. Mae hynny'n rhywbeth y mae pob un ohonom, mewn egwyddor, yn awyddus i symud oddi wrtho. Ond ar yr un pryd mae'n haws, rwy’n gwybod, ael ein denu gan rai bargeinion tymor byr y gallem eu difaru yn nes ymlaen. Yn rhy aml, mae cyllidebau wedi bod er budd gwleidyddol tymor byr, yn hytrach na mantais economaidd hirdymor. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn argymell y dylai'r gyllideb ddrafft yn y dyfodol ddangos yn eglur sut y mae'r rhaglen lywodraethu wedi llywio ac ysgogi'r broses pennu cyllideb, a sut y mae'n integreiddio gyda deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol—neu ddim yn gwneud hynny, fel yr ymddengys yn wir yn rhy aml.

Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn galwadau’r Pwyllgor Cyllid am asesiad effaith strategol o gyllidebau ar amcanion llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n gadarnhaol. Mae llywodraethu yn ymwneud â blaenoriaethau a gwneud y gorau o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Wrth gwrs rydym yn gwybod bod y cyfyngiadau hynny yn mynd i gael eu llacio: y gyllideb hon fydd yr olaf i gwmpasu cyfnod lle nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau treth neu bŵer benthyca sylweddol. Yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, tynnais sylw at y ffaith, o gofio bod datganoli treth bellach dim ond ychydig dros flwyddyn i ffwrdd, efallai y byddwn wedi disgwyl rhywfaint o gydnabyddiaeth o hyn, ac arwydd o sut y bydd pwerau treth yn cael eu defnyddio fel arf i gefnogi'r rhaglen lywodraethu yn y dyfodol. Rwy’n gwybod nad yw’r pwerau hynny gennym eto, ond nid ydynt yn bell i ffwrdd. Ac os ydym yn dymuno i feysydd eraill o sefydliadau’r sector cyhoeddus a Llywodraeth weithio mewn cyllidebau aml-flwyddyn a chylchoedd aml-flwyddyn, yna rwy’n meddwl bod angen i ni ddechrau arwain drwy esiampl yn hynny o beth.

Rwy’n sylweddoli nad mater o Lywodraeth Cymru yn cynllunio’n well ar gyfer y dyfodol yw hyn; mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, rwy’n credu, fod angen i’r DU gyfan wneud hyn hefyd. Rwy'n falch bellach fod gennym, ers y ddadl ar y gyllideb ddrafft a gawsom cyn y Nadolig, gytundeb ar fframwaith ariannol, sydd yn gam enfawr ymlaen. Rydym yn mynd i gael y datganiad hwnnw ar y fframwaith cyllidol, rwy’n gwybod, mewn amser byr i ddod, felly ni fyddaf yn trafod hynny’n ormodol yn awr; digon yw dweud y bydd, gobeithio, yn ei gwneud yn haws i Lywodraeth Cymru gynllunio ymhellach ymlaen. Mewn cysylltiad â phwerau treth, rwy’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn hanfodol bod gostyngiadau yn y grant bloc yn y dyfodol yn cael eu mynegeio’n iawn a’u bod yn briodol. Ni allwn fforddio cael hyn yn anghywir.

A gaf i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth dynnu at y terfyn, rydym yn croesawu'r symudiad tuag at gronfa triniaethau newydd? Rwy'n dal i gredu ei bod yn drueni na wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru wrando ar ein galwadau am gronfa triniaeth canser yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Dydw i ddim yn glir ynghylch y gronfa newydd hon o ran i ba raddau y mae'n ymdrin á thriniaethau presennol a’r cyffuriau hynny nad ydynt wedi cael eu cymeradwyo yn llawn. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro rhywfaint o'r dryswch ar hynny. Ond i gloi, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu'r gyllideb hon heddiw. Yn amlwg mae'n rhaid i ni gael cyllideb, ond os yw cynaliadwyedd wrth wraidd cyfansoddiad y Cynulliad, yna rwyf o’r farn bod angen i ni wneud llawer mwy i gynllunio ymhellach ymlaen a gwneud yn siŵr bod ein prosesau cyllideb mor fodern ag y bo modd. Ni fydd yn syndod i chi wybod nad ydym yn cefnogi'r gyllideb hon. Mae rhai pethau da ynddi, ond mae'n brin o fod y gyllideb hirdymor gwirioneddol gynaliadwy sydd ei hangen ar Gymru, a dyna pam na allwn ei chefnogi.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cyllid am ei ddatganiad heddiw, ac am gyflwyno cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Fel sydd wedi cael ei grybwyll eisoes, wrth gwrs, mae’r gyllideb yma yn rhannol yn ffrwyth trafodaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru—trafodaethau a godwyd o’r dull newydd o gydweithio yr ydym wedi’i ddyfeisio. Mae’n rhaid i mi ddweud, rwy’n credu bod ein gwleidyddiaeth a’n democratiaeth yn elwa o’r math yma o ddeialog, ac efallai bod angen mwy o’r ymagwedd honno. Trwy wella, wrth gwrs, y gyllideb—[Torri ar draws.] Os ydy’r Aelod gyferbyn eisiau codi ar ei draed, mae croeso iddo fe wneud hynny.

Dyma beth yw hanfod democratiaeth, wrth gwrs. Rydym ni i gyd yn cael ein hethol i’r lle yma ar sail maniffesto, a’n prif ddyletswydd ni, wrth gwrs, ydy delifro ar yr addewidion hynny rydym ni wedi rhoi gerbron y bobl sydd wedi ein hethol ni. Wrth gwrs, nid ydym ni wedi medru cael cytundeb rhyngom ni ar bob un peth yn y gyllideb yma; nid ydym ni’n cytuno ar bob un peth, ond rydym ni wedi medru, fel plaid leiafrifol yn y lle yma, rydym ni wedi medru cael dylanwad er budd, er gwell, i fywydau pobl Cymru. Ac onid dyna yw hanfod gwleidyddiaeth ddemocrataidd yn y pen draw: gwella pethau? Peth sarrug iawn yw gweld gwleidyddiaeth fel modd o wrthwynebu—dim ond i wrthwynebu bob amser. Byddwn i’n annog pleidiau eraill i fod ag ymagwedd fwy adeiladol at wleidyddiaeth, i gynnig syniadau ac os maen nhw’n anghytuno, wrth gwrs, i fod yn rhan o’r deialog hynny, ac rwy’n croesawu sylwadau Simon ynglŷn â chreu dull mwy seneddol ar gyfer y broses gyllidebol i gyd.

Fe wnaethon ni lwyddo, trwy’r cytundeb rhyngom ni, i gael rhagor o gyllid ar gyfer sectorau sydd, yn ein tyb ni, wedi dioddef yn ariannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf—sectorau fel addysg uwch, addysg bellach, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, llywodraeth leol, buddsoddiad cyfalaf ar gyfer cyfarpar diagnostig, fel y clywon ni yn y datganiad dros y Nadolig, gwariant ar iechyd meddwl, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, yn y trafodaethau a gawson ni wedyn ar ôl datganiad yr hydref, fe lwyddon ni i gael ragor o arian ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau o ganlyniad i’r ailbrisio ar gyfer ardrethu busnes, er enghraifft, a hefyd roedd yn dda i weld rhagor o arian ar gyfer atal llifogydd. Dyna’r wobr sydd yna i’r rhai ohonom ni sydd yn fodlon dod yn rhan o ddemocratiaeth ar sail deialog, ac rwy’n sicr yn amddiffyn hynny fel egwyddor bwysig, os ydy’r lle yma yn mynd i wneud ei waith yn iawn.

Gan edrych ymlaen at y dyfodol, rydw i’n credu bod modd i wella’r broses, ac rydw i’n credu bod yr Ysgrifennydd cyllid yn agored i hynny. Mae’n rhaid sicrhau bod y Senedd yma’n tyfu mewn aeddfedrwydd a chapasiti o ran ei gallu i ddylanwadu ar y gyllideb, ac mae hynny’n wir am bob plaid. Mae eisiau, wrth gwrs, mwy o dryloywder os ydym ni’n mynd i wneud ein gwaith fel Aelodau Cynulliad ac fel grwpiau. Ar gyfer y gyllideb ddrafft, fe wnaethon ni goladu, gyda chymorth y Llywodraeth, yn y pen draw, yr holl wahanol eitemau—y prif grwpiau gwariant, y meysydd rhaglenni gwariant, y camau gweithredu, y BELs, ac yn y blaen—rhyw 7,000 o linellau gwahanol. Os ydym ni’n mynd i wneud ein gwaith, mae’n rhaid ein bod ni’n rhoi’r wybodaeth yna mewn ffordd fwy clir ac agored i bob Aelod Cynulliad ac i’r grwpiau. Ac rwy’n cytuno gyda Nick Ramsay, rydym ni'n credu bod yn rhaid cysylltu gwariant gyda nodau. Roeddwn i wedi cyfeirio yn y drafodaeth ar y gyllideb drafft at ‘programme budgeting’ Robert McNamara o’r 1960au yn yr Unol Daleithiau. Hynny yw, wrth osod cyllideb, mae’n bwysig i osod mas pa gyrhaeddiant rydych chi’n bwriadu sicrhau trwy’r gwariant hynny fel bod modd, wedyn, i siecio yn erbyn y cyrhaeddiant ar ddiwedd cyfnod y gyllideb.

Ac, yn olaf, rydw i’n meddwl ei bod hi’n gwbl annerbyniol, wrth gwrs, yn y broses sydd gennym ni heddiw, mai dim ond derbyn neu wrthod y gyllideb rydym ni’n cael gwneud. Hynny yw, os ydych chi’n edrych ar yr OECD, mae gan dros hanner ohonyn nhw seneddau sydd â hawl anghyfyngedig i wella cyllideb. Felly, rydym ni reit ar yr eithaf posib i’r cyfeiriad arall, lle rydym ni dim ond yn gallu, ar hyn o bryd, dweud ‘ie’ neu ‘na’ i’r gyllideb, a thrwy hynny rydym ni’n colli’r holl syniadau. Nid oes monopoli gan neb, fel plaid nac Aelod Cynulliad, ar syniadau da, ac ar hyn o bryd, trwy’r broses ‘binary’ yma sydd gennym ar hyn o bryd, rydym ni’n colli’r cyfoeth o wahanol ‘perspectives’ sydd yn bodoli ar draws y Siambr. Felly, rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu symud tuag at Senedd sy’n cynnwys pawb—ac rydw i yn meddwl pawb—wrth i ni lunio cyllidebau ar gyfer y dyfodol.

Mae'n bleser cael dilyn Adam Price ac mae gen i ddiddordeb mawr ym mhersbectif a naws yr hyn a ddywed. Ymddengys i mi ei bod yn amlwg bod amrywiaeth o safbwyntiau o fewn ei blaid ef, a'r rhai a oedd gynt yn rhan ohoni, o ran y graddau priodol o gydweithio â Llywodraeth Lafur a'r graddau y mae Plaid yn cymryd cyfrifoldeb am y gyllideb hon. Pan oeddem yn dechrau ar y broses, roeddwn i o leiaf yn cael yr argraff ei fod yn drafodiad rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur, ac, yn gyfnewid am i’r Blaid ymatal ar y gyllideb, byddai'r Llywodraeth yn cytuno i nifer o fesurau penodol iawn yr oedd Plaid eu heisiau, a dyna oedd y fargen. Ond, wrth wrando arno yn siarad yn awr, ymddengys iddo gymryd llawer mwy o gyfrifoldeb, hyd yn oed balchder, yn y gyllideb sydd ger ein bron heddiw, hyd yn oed os bydd digwydd i’w blaid ddal i ymatal. Mae'n ei disgrifio fel rhyw fath o ffrwyth trafodaethau rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur. Ond onid y gwir yw mai ffrwyth y trafodaethau hynny oedd nifer o brosiectau penodol? Clywsom am ffordd osgoi benodol a blaenoriaethu hynny dros gynlluniau ffyrdd eraill efallai. Ond yn y diwedd nid oedd yn fargen ar y gyllideb gyffredinol ac nid yw hon yn gyllideb Plaid Cymru i amddiffyn pob rhan ohoni, oherwydd rydych ond wedi cytuno i adael rhywfaint ohoni drwyddo yn gyfnewid am gael cyfres o bethau penodol. Rwy'n credu y byddem yn elwa o gael mwy o eglurder ynghylch faint o gyfrifoldeb y mae Plaid Cymru, neu unigolion penodol a all fod yn llefarwyr, yn ei gymryd. Ildiaf.

Dydw i ddim yn siŵr a oedd yr Aelod anrhydeddus yn fy nilyn i yn yr adran honno o fy araith. Rwy'n credu fy mod wedi dweud yn eithaf clir nad oeddem yn cytuno â phopeth yn y gyllideb ac, yn wir, roedd galwadau y gwnaethom fel rhan o'n trafodaethau heb eu bodloni. Felly, rydym yn glir iawn: roeddem yn gallu gwella’r gyllideb, ond rydym yn ymatal oherwydd nad ydym yn cytuno â'r gyllideb yn ei chyfanrwydd.

Rhoddodd yr Aelod enghraifft: dywedodd fod y cyllid pellach yn y dyfodol ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn un o'r gwobrau y byddai'n ei amddiffyn drwy'r broses hon. A dweud y gwir, mae rhywfaint o gynnydd yn y gyllideb amddiffyn rhag llifogydd rhwng y gyllideb derfynol a'r gyllideb ddrafft, ond mae'r gyllideb gyffredinol, rwy’n credu, ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn dal i fod wedi’i gostwng yn sylweddol iawn. A, do, fe wrandawyd ar ein Pwyllgor Cyllid a bu rhywfaint o roi yn ôl ar yr ochr gyfalaf i gyllideb Lesley Griffiths. Ond mae gostyngiadau sylweddol iawn yn dal i fod sy'n effeithio ar yr hyn sydd, ar gyfer rhoi arwydd o rinwedd mawr, yn cael eu disgrifio fel 'prosiectau newid hinsawdd'. Mae toriadau yno, ac mae'n sôn am amddiffyn y codiadau hyn ymhellach gyda balchder, ond nid dyna mewn gwirionedd yw’r sefyllfa. Os bydd yn edrych ar y gyllideb lawn— [Torri ar draws.] —yn hytrach na'r manylion. Wel, dydw i ddim yn hollol siŵr eich bod wedi gwneud hynny, Adam. Rwy'n siarad am yr adran hon yma. Rydych wedi cytuno ar gyfres o bethau penodol iawn, y mae’n rhaid i Lafur wedyn ddod o hyd i arian yn rhywle arall i dalu am yr hyn y maent wedi cytuno ei roi i chi er mwyn i chi ymatal, a'r elfen unigol fwyaf o hynny, yn bennaf ar yr ochr gyfalaf, yw’r gostyngiadau i brosiectau newid hinsawdd. Rwy’n meddwl bod angen i chi gydnabod hynny, yn hytrach na hoffi hawlio cefnogaeth i’r pethau yr ydych yn eu gwerthfawrogi, ond nid i bethau eraill.

Fodd bynnag, rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud a'r hyn a ddywedodd Simon yn nhermau symud at yr hyn yr wyf yn credu y dywedodd Simon oedd yn broses fwy seneddol o Fil cyllid y gellid ei ddiwygio’n llwyr. Wrth gwrs, yn Senedd San Steffan, mae'r Bil cyllid yn ymdrin â threth yn unig a bydd hynny, hyd yn oed y flwyddyn nesaf, yn parhau i fod yn gyfran gweddol fach o'r hyn a wnawn. Y maen prawf allweddol i mi yw a yw ochr gwariant y gyllideb hon yn mynd i fod yn un y gellir ei diwygio ac, yn benodol—ac fe wrandawyd ar rai o'n sylwadau yn y Pwyllgor Cyllid ac rwy’n gwerthfawrogi hynny-a fydd cyfle i ddiwygio llinellau gwariant y gyllideb yn y Pwyllgor Cyllid, lle, o leiaf mewn egwyddor, mae gan yr wrthblaid fwyafrif.

Mae gennym rai newidiadau. Siaradodd y Gweinidog Cyllid ynghylch y cynnydd o £46 miliwn mewn gwariant refeniw rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Disgrifiodd fod hyn yn dod yn bennaf o gronfeydd wrth gefn. Dydw i ddim yn hollol glir sut y mae'n ei asesu yn y ffordd honno, o gofio, rhwng y drafft a'r gyllideb derfynol, y cawsom gynnydd o £23.4 miliwn mewn gwariant refeniw sydd ar gael gan Lywodraeth y DU drwy ddatganiad yr hydref. Dyna ychydig dros hanner y cynnydd sydd ganddo bellach yn y refeniw. Felly, dydw i ddim yn glir bod hynny yn dod o'r cronfeydd wrth gefn. Rhywfaint o'r hyn y mae hynny wedi cael ei wario arno—£10 miliwn ar gyfer y rhyddhad ardrethi busnes a rhywfaint o'r cynnydd mawr sy’n cael ei liniaru yno—roeddwn yn meddwl tybed a allem efallai ddangos yn fwy clir o flaen llaw trwy'r prisiadau yr hyn y byddai angen i fusnesau ei gael. Croesawaf yn arbennig y £6 miliwn ar gyfer atal digartrefedd. Nodaf fod nifer o eitemau eraill sy'n bwydo drwodd i lywodraeth leol y rhoddwyd cyllideb wastad yn fras iddynt o'r blaen. Fy mhryder i o hyd yw bod toriadau llym yn dod i mewn ym maes llywodraeth leol, ond mae’r Llywodraeth wedi ystyried ei bod yn ddoeth gohirio'r rheini nes ar ôl yr etholiadau lleol.

Sylwch ar y newidiadau pellach yn y cyllidebau cyfalaf: rydym yn mynd i gael £7 miliwn arall ar gyfer ffyrdd y flwyddyn nesaf, ac yna £83 miliwn yn ystod y cyfnod o bedair blynedd ar gyfalaf. Mae’r swm hwnnw, wrth gwrs, yn cael ei lethu gan y swm o arian y byddai Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r llwybr du, a amcangyfrifir i fod yn £1.1 biliwn a mwy. Rwy’n gwneud apêl derfynol: onid oes modd inni ystyried y byddai’r arian hwnnw’n cael ei wario’n well ar fersiwn ratach, ond yn fy marn i, gyflymach y llwybr glas sy’n haws ei chyflawni, ac edrych ar roi'r swm mawr iawn hwnnw o gyfalaf i brosiectau eraill a allai gael enillion cyflymach a mwy priodol ar draws Cymru?

Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn croesawu’n fawr ffordd osgoi Llandeilo?  Caniateir ffyrdd newydd i ni yn y de-orllewin hefyd. Mae angen rhoi’r gyllideb yng nghyd-destun y polisïau a ddilynir yn San Steffan. Er bod bron y cyfan o gyllideb Llywodraeth Cymru yn dod drwy'r grant bloc, mae toriadau mewn gwariant yn Lloegr yn cynhyrchu, drwy fformiwla Barnett, doriadau i grant bloc Cymru. Yr hyn yr ydym wedi ei weld ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym yw toriadau sylweddol yng nghyllideb Cymru mewn termau real. Mae hyn yn cyfateb yn economaidd i arfer meddygon hyd at y ddeunawfed ganrif o ddefnyddio un driniaeth i drin pob anhwylder—gollwng gwaed. Newidiodd y ddamcaniaeth y tu ôl i'r arfer dros amser, ond roedd yr arfer ei hun yn parhau i fod yr un fath, gyda meddygon yn aml yn gwaedu cleifion nes eu bod yn wan, mewn poen, ac weithiau yn anymwybodol. Dyna beth y mae polisïau cyni’r Torïaid yn ei wneud i Brydain—gwaedu’r economi nes ei bod yn wan.

O Hoover yn America yn y 1920au, a drodd gwymp y farchnad stoc yn Ddirwasgiad Mawr, i'r Ariannin a Gwlad Groeg yn fwy diweddar, mae cyni wedi methu bob tro. Mae'r Torïaid wedi ymrwymo i gyni, nid fel polisi economaidd, ond fel ideoleg. Maent yn awyddus i leihau'r sector cyhoeddus, a'r hyn na allant ei dorri maent yn ceisio i breifateiddio.

Rwyf am siarad am y ddwy linell fwyaf yn Llywodraeth Cymru—iechyd a llywodraeth leol. Yn gyntaf, iechyd: os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd iechyd yn fwy na 50 y cant o gyllideb Cymru yn y ddwy flynedd nesaf, ac rwy’n dyfalu y bydd hyn fwy na thebyg y flwyddyn nesaf. Rwyf nawr yn mynd i ddyfynnu o dudalen 16 adroddiad Nuffield yn 2014, ‘The four health systems of the United Kingdom: How do they compare?’ Ar draws y pedair gwlad, bu gostyngiad yng nghyfanswm derbyniadau cleifion mewnol fesul meddyg a deintydd ysbyty rhwng 1999-2000 a 2011-12. Mae hwn yn ganlyniad anochel y cyfraddau cynnydd yn nifer y meddygon ysbyty sy’n fwy na'r cyfraddau cynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty. Syrthiodd Cymru o ychydig dan 140 i oddeutu 90—tua thraean o ostyngiad. Beth yw’r ffigurau cyfredol, ni wn, ond byddwn yn synnu pe baent yn agos at ffigur 1999-2000.

Mae iechyd, wrth gwrs, yn golygu mwy nag ysbytai. Ceir gofal sylfaenol a dewisiadau ffordd o fyw. Ers creu’r byrddau iechyd, mae cyfran y gyllideb iechyd sy’n cael ei gwario ar ofal sylfaenol wedi gostwng. Yn rhy aml, rydym yn meddwl, 'Ar gyfer iechyd, gweler ysbytai'. Un hwb mawr i iechyd fu’r gostyngiad yn y nifer o bobl nad ydynt yn ysmygu. Bydd cael pobl i roi'r gorau i ysmygu, sicrhau bod dull o fyw pobl yn fwy actif, lleihau gordewdra a chynyddu ymarfer corff i gyd yn gwella iechyd, ac nid fi yw'r unig un sy'n credu y bydd lleihau nifer y cyfleusterau chwaraeon megis canolfannau hamdden yn effeithio ar iechyd Cymru.

Gan droi at lywodraeth leol, er bod setliad llywodraeth leol eleni yn well na'r disgwyl—yn sylweddol well na'r disgwyl—mae'n dal i fod yn doriad mewn termau real. Credaf fod gofal cymdeithasol yn y gwasanaethau cymdeithasol dan fwy o bwysau nag iechyd. Mae gofal cymdeithasol yn rhywbeth sydd ei angen ar bobl am gyfnod hir yn ystod eu hoes. Er bod rhai pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty neu'n cael problemau iechyd mawr yn ystod 12 mis i ddwy flynedd olaf eu hoes, gallai fod angen cefnogaeth gofal cymdeithasol arnynt am hyd at 40 mlynedd o’u hoes. Mae hynny yn mynd i ddwyn costau a fydd yn dod drwyddo drwy lywodraeth leol. Gan fod mwy a mwy o bobl yn byw i fod yn 100—dwi'n siarad, fwy na thebyg, ag ystafell yn llawn o bobl sydd i gyd yn gobeithio gwneud yr un peth—rwy'n credu ei bod yn bwysig inni sylweddoli bod pobl yn mynd i fod angen mwy a mwy o ofal wrth iddynt fynd yn hŷn. Dyma, mewn gwirionedd, y bom amser sydd yn eistedd yno, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled gweddill gorllewin Ewrop.

Mae gennym argyfwng iechyd yn Lloegr a grëwyd gan y Torïaid. Maen nhw wedi torri ar wariant llywodraeth leol, maen nhw wedi torri ar ofal cymdeithasol, a nawr mae ganddynt ysbytai sy’n methu rhyddhau cleifion. Maen nhw wedi deall beth wnaethant o’i le, maen nhw wedi newid yr hyn a arferai fod yn bolisi ganddynt ar lywodraeth leol, ac nid ydym wedi cael dadl llywodraeth leol heb i Janet Finch-Saunders godi a dweud, ‘Dylem rewi’r dreth gyngor.' Ond rydych wedi ei newid yn Lloegr yn awr; rydych yn dweud y gallwch godi arian i dalu am ofal cymdeithasol, nad yw'n mynd i fod yn arbennig o fanteisiol yn y rhanbarthau tlotaf. Mae bron fel mynd yn ôl at hen Ddeddf y Tlodion, lle mai’r ardaloedd tlotaf, sydd â'r rhan fwyaf o bobl mewn angen, á’r gallu lleiaf i godi arian, tra bod yr ardaloedd cyfoethocaf á’r gallu mwyaf i godi arian. I’r cyfeiriad hwnnw y mae gofal cymdeithasol yn mynd, ac rwyf i yn un sy’n anhapus gyda hynny. Rwy'n falch iawn fod gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru, nad yw'n dilyn ymlaen o'r hyn a wnaeth y Ceidwadwyr i ddinistrio iechyd a llywodraeth leol yn Lloegr.

Mae llywodraeth leol wedi wynebu toriadau anghymesur gan y Torïaid yn Lloegr. Rwyf i wedi dilyn polisïau'r Torïaid dros y chwe blynedd diwethaf o'r hyn y maent yn dymuno ei wneud: dylid torri cyfanswm y setliad llywodraeth leol a dylid rhoi arian ychwanegol i iechyd, dylid rhewi’r dreth gyngor, dylai llywodraeth leol ganolbwyntio yn unig ar wasanaethau statudol, a dylai gwariant canolog gan awdurdodau addysg lleol ddod i ben. Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Oherwydd mae pobl yn aml yn sôn am dorri pethau, ond beth maent yn ei olygu wrth hynny? Byddai'n golygu cau’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd, cau pob parc, cau pob canolfan hamdden, dim cludiant ysgol am ddim, a diwedd ar y rhaglen adeiladu ysgolion. Yn bwysicach, fel y dywedais yn gynharach, byddem yn y pen draw fel Lloegr, gydag ysbytai yn methu rhyddhau cleifion gan nad oes unrhyw un i ofalu amdanyn nhw a does unman ganddynt i fynd.

Cymerodd ganrifoedd i ddarganfod nad oedd gollwng gwaed yn gweithio. Gadewch inni obeithio bod methiant cyni yn mynd i gael ei nodi yn llawer cynt, yn ddelfrydol pan fyddwn yn cael math gwahanol o Lywodraeth.

Rwy’n croesawu'r symudiadau yn y gyllideb i weithredu rhai o'r addewidion allweddol ym maniffesto Llafur Cymru o’r llynedd, yn benodol, y £53 miliwn tuag at ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, y £15 miliwn ar gyfer ehangu mynediad i brentisiaethau fel rhan o'r symudiad i weithredu 100,000 o brentisiaethau bob oedran, yn ogystal â rhai o'r mesurau economaidd craffach—y £40 miliwn ar gyfer effeithlonrwydd ynni, a fydd, fel y dywedodd y Gweinidog, yn torri biliau 25,000 o gartrefi, yn ogystal â chynhyrchu swyddi lleol— a hefyd rai o'r ymyriadau llai, megis yr £1.5 miliwn ar gyfer genomeg, yn ogystal â'r gronfa grantiau bach gwerth £20 miliwn ar gyfer cymunedau gwledig, sy'n galluogi cymunedau i ariannu pethau fel TGCh a data a datblygu tuag at y model amaethyddiaeth manwl yr ydym wedi’i drafod yn y Cynulliad hwn. Felly, mae’r gyllideb hon, yn fy marn i, yn gamp aruthrol ac yn gam pendant ymlaen tuag at weithredu maniffesto Llafur Cymru.

Rwy’n credu, yn ysbryd y drafodaeth a gafwyd yn y Siambr y prynhawn yma, ei bod yn ddyletswydd arnom i gydnabod nad oes gennym fwyafrif yn y Siambr hon, ac ni fu’r gyllideb hon yn bosibl oni bai am gydweithrediad ar draws ffiniau plaid. Rydym wedi gweld hynny pan gynigiwyd lle i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth, a hefyd o ran y compact gyda Phlaid Cymru, sydd wedi dwyn ffrwyth yn y gyllideb hon, ac rwy’n meddwl y dylem gydnabod eu dylanwad adeiladol yn hynny. Rwy’n credu y dylwn, yn unol â rhai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud, gynnig rhywfaint o oedi ar gyfer myfyrio ar sut yr ydym yn mynd i gynnal y trafodaethau hyn yn y dyfodol. Nid fy newis i yw y dylem fod yn gwneud bargeinion blynyddol fel hyn, ond, os mai dyma fydd y ffordd, yna, yn anochel, byddwn yn cael ein denu tuag at y lefel gyffredin isaf. Rwy'n credu bod her wirioneddol yn y Cynulliad—y Cynulliad cyntaf a etholwyd yn dilyn Deddf cenedlaethau'r dyfodol—i gymryd golwg tymor hwy. Mae’n amlwg y bydd tensiwn yn codi yn y trefniadau gwleidyddol angenrheidiol y mae’n rhaid i ni eu bodloni i gael cyllideb wedi’i phasio yn y tymor byr. Byddai’n gas gennyf ein gweld yn mynd i’r un cyfeiriad â democratiaethau eraill, yn fwyaf nodedig y system wleidyddol yn America, lle'r ydym yn disgyn i wleidyddiaeth pwrs y wlad. Un o nodweddion y system gyllidebol yn America yw na chaiff cyllideb ei phasio heb i amgueddfa neu bont neu ffordd osgoi gael eu dyfarnu yn enw cadeirydd gwahanol bwyllgorau. Er y gwn fod llawer o bobl yn ei blaid ei hun o’r farn mai Adam Price yw proffwyd y dyfodol, byddai'n gas gennyf weld cerfluniau o’r 'Mab Darogan' yn gwneud cefn gwlad Dwyrain Caerfyrddin yn flêr.

Ond rwy'n credu bod—yr un darn o’r gyllideb yr wyf yn cael anhawster ag ef, ac fe wnaeth Nick Ramsay y pwynt, fel y gwnaeth y Gweinidog, am yr angen i adlewyrchu Deddf cenedlaethau'r dyfodol mewn cyllidebau yn y dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Nick yn mynd ar ôl y rhesymeg y tu ôl i hynny ac yn adolygu ei safbwynt ar yr M4. Ond rwy'n credu, pan ddaw at y blaenoriaethau gwario rydym yn eu gwneud, mae'r ffigurau a grybwyllais ar gyfer y blaenoriaethau maniffesto, yn cymharu hefyd â £50 miliwn ar gyfer ffordd osgoi ar ben y £24 miliwn ar gyfer mannau cyfyng ar ffyrdd, a £15 miliwn ar gyfer cronfeydd rhwydwaith trafnidiaeth lleol, dwy ran o dair ohono wedi ei ragweld ar gyfer prosiectau priffyrdd. Ac mae gennym yr anghyseinedd gwybyddol hwn yr ydym wedi’i drafod yn y Siambr o'r blaen rhwng derbyn bod ein hymrwymiadau i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac ystyried allyriadau carbon, mae gan y rheini oblygiadau polisi a gwariant y mae angen i ni eu cynnwys yn ein ffordd ni o feddwl ac nid dim ond dychwelyd i arferion y gorffennol, ac nid dim ond dychwelyd at brosiectau i ennill cefnogaeth i bleidiau gwleidyddol i ddangos eu bod wedi cael dylanwad. Nid yw hynny'n beth hawdd i'w wneud. Mae angen i ni fod yn aeddfed ynglŷn â hyn. Mae tensiwn gwirioneddol yno. Roedd yn ymrwymiad trawsbleidiol i wneud pethau'n wahanol. Os ydym yn golygu'r hyn yr ydym yn ei ddweud, mae’n rhaid i hynny gael ei adlewyrchu yn ein trafodaethau ar y gyllideb. Diolch.

Rwy'n croesawu'r gyllideb hon a'r cyfle i gyfrannu at fy nhrafodaeth gyntaf ar y gyllideb derfynol fel Aelod Cynulliad dros Delyn. Croesawaf yn arbennig nifer o'r dyraniadau refeniw a chyfalaf diweddar, gan gynnwys £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol. Rwy'n credu ei bod yn iawn i ni fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar ofal cymdeithasol—y pwysau cynyddol wrth i bobl dyfu'n hŷn a byw yn hwy—a chydnabod swyddogaeth y gweithlu sy’n aml yn cael ei danbrisio sydd yn gofalu am ein hanwyliaid. Hefyd, y £32 miliwn ychwanegol dros bedair blynedd ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd. Mae cymunedau yn fy etholaeth i, fel llawer o ardaloedd eraill ar draws y wlad, wedi dioddef yn enbyd oherwydd llifogydd yn y gorffennol gweddol agos, ac rwy’n gobeithio, gyda’r buddsoddiad ychwanegol hwn, y gwelwn gamau yn cael eu cymryd yn yr ardaloedd sydd eu hangen. Ac yn olaf, yr £84 miliwn ychwanegol dros bedair blynedd i gefnogi cynlluniau ffyrdd a chludiant. Mae rhwydweithiau trafnidiaeth yn hanfodol i adfywio—yr adfywio sy'n sbarduno buddsoddiad ac yn cynnal gwell swyddi yn nes at adref. Felly, mae'n bwysig i mi ac i eraill fod hon yn gyllideb sy'n rhoi sylw i, ac yn diwallu, anghenion Cymru gyfan.

Bydd £15 miliwn ychwanegol i liniaru mannau cyfyng trafnidiaeth ar draws y wlad yn rhywbeth fydd yn cael ei groesawu gan lawer o gymudwyr. Fel rhywun sy'n teithio'n rheolaidd o'r gogledd i'r de, rwy’n gwerthfawrogi'r cyfle y mae’r arian hwn yn ei ddarparu i fynd i'r afael â chyffyrdd sy'n achosi tagfeydd ac i edrych ar wella goddiweddyd ar ffyrdd allweddol o'r gogledd i'r de. Mae angen i’r un peth ddigwydd hefyd rhwng y dwyrain a'r gorllewin yn y gogledd. Mae angen yr arian ychwanegol a bydd yn dderbyniol iawn i helpu i leihau tagfeydd a'r anawsterau cyfarwydd ar yr A55 a chefnffyrdd eraill yn y gogledd, megis yr A5, yr A483 a'r A494. Bydd y £50 miliwn a gyflwynwyd i ddatblygu'r metro yn y gogledd yn arloesol ac yn ategu'r buddsoddiad yn ein ffyrdd. Bydd hefyd yn arwyddocaol i ddatblygiad economaidd y rhanbarth ac yn datgloi ein cysylltiadau â ffyniant ar draws y gogledd gyda'n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr. Felly, wrth symud ymlaen, rwy’n credu o ddifrif bod angen i ni wneud yn siŵr bod y buddsoddiad hwn yn gweld camau ymarferol yn cael eu cymryd i gael metro’r gogledd-ddwyrain yn barod, gyda system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig, a hefyd bwrw ymlaen yn awr yn ddi-oed gyda gwelliannau mawr eu hangen i borth yr A55 i ogledd Cymru.

Mae cyllidebau yn ymwneud â dewisiadau. Er na fyddai neb ohonom yn teimlo, yn y Siambr hon, fod gennym yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru y byddai eu hangen arnom i ni wneud yr hyn yr ydym am ei wneud, mae’r gyllideb hon, rwy’n credu, yn dangos—fel y nododd Mike Hedges—ddiffygion cyni a'r posibilrwydd, hyd yn oed o fewn llai o adnoddau, o wneud y dewisiadau cywir. Y dewis y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y gyllideb hon yw sefyll ar ochr y bobl sy'n gwneud eu rhan, ond sy’n ei chael yn anodd gwneud hynny. Felly, os oeddech chi, fel rhiant ifanc yn fy etholaeth i, yn gallu anfon eich plant i Fwyd a Hwyl yn Ysgol Iau Melin yr haf hwn, gan roi ychydig mwy o amser i chi fynd i'r gwaith, a chymryd rhywfaint o bwysau oddi ar eich cyllideb gofal, gan roi iddynt ddau bryd y dydd a chwarae a darllen gyda'u cyd-ddisgyblion, y newyddion da yw bod y Llywodraeth yn mynd i ehangu’r prosiect hwnnw, yn ein hardal ni ac mewn mannau eraill. Os ydych chi'n brentis, bydd yn gysur ichi wybod bod Llywodraeth Cymru yn gwario pob ceiniog o'r ardoll brentisiaethau ar ehangu ei rhaglen brentisiaethau. Os ydych yn ceisio prynu cartref ac yn cael hynny’n anodd, yna mae’r £53 miliwn i ddwyn ymlaen yr ymrwymiad i dai fforddiadwy yn mynd i fod yn newyddion da. Os ydych yn mynd i mewn i ofal, mae dyblu’r terfyn cyfalaf a gwneud cychwyn ar hynny yn y gyllideb hon yn arwyddocaol iawn. Mae gwybod bod y gweithiwr gofal sy’n edrych ar eich ôl chi ar y ffordd i ennill y cyflog byw, o ganlyniad i ymrwymiad Llywodraeth Cymru, yn mynd i fod yn beth da. Felly, mae'r rhain yn ddewisiadau; ac mae’r Llywodraeth, yn fy marn i, o fewn cyfyngiadau cyfyngedig y gyllideb, yn gwneud y dewisiadau cywir.

Hoffwn hefyd ddweud, mewn cysylltiad â'r fframwaith cyllidol—hoffwn longyfarch yr Ysgrifennydd Cyllid ar ei gamp wrth drafod y setliad. Hon yw’r gyllideb olaf a fydd yn cael ei chynnal o dan yr hen drefn—neu'r drefn bresennol. Mae'n hynod arwyddocaol ei fod wedi llwyddo i gynnwys yn y fformiwla sylfaen anghenion ar gyfer Barnett, ac mae’n hynod arwyddocaol y byddwn yn cael adolygiad annibynnol ar gyfer y fformiwla a mecanwaith ar gyfer datrys anghydfodau annibynnol. Nid yw, yn fy marn i, yn mynd yn ddigon pell, a chredaf mai dyna ei farn ef a barn pobl eraill yn y Siambr hon hefyd. Serch hynny, mae hwn yn gam mawr ymlaen. Fy newis personol i fyddai gweld mecanwaith statudol sy'n ymgorffori’r egwyddorion hyn yn y gyfraith. Rydym yn cymryd ein pwerau ar sail statud, ac rydym yn cael ein hariannu ar sail ysgydwad llaw, ac mae’r mecanwaith hwn yn golygu cychwyn ar y daith sy’n symud i ffwrdd oddi wrth hynny. Yn hynny o beth, mae'n arwyddocaol iawn, ac mae’n rhaid ei longyfarch ar y gamp honno.

Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl bwysig iawn hon, a hoffwn longyfarch yr Ysgrifennydd Cyllid am y ffordd y mae wedi trin y materion hyn yn yr amgylchiadau heriol y cyfeiriodd atynt ar ddechrau ei gyflwyniad. Rwy’n croesawu'r gyllideb derfynol a'r refeniw ychwanegol a’r cyllid cyfalaf sydd wedi cael eu dyrannu, ac roeddwn i eisiau siarad yn fyr am rai o'r meysydd ychwanegol hynny heddiw.

Rwy'n arbennig o falch bod £6 miliwn o arian refeniw ychwanegol ar gael i helpu i atal digartrefedd. Rwy’n credu mai un o'r negeseuon, yn sicr gan y Pwyllgor Cyllid ac o lawer o'r trafodaethau yr ydym wedi'u cael am y ffordd yr ydym yn cynllunio ein cyllid, yw ein bod eisiau gweithio ar atal digartrefedd. Rwy'n credu bod hwn yn amlwg yn faes lle’r ydym wedi cymryd camau breision, ac rwy'n credu ei fod yn cael ei gydnabod yn eang bod Cymru yn arwain y ffordd yn y DU o ran atal digartrefedd. Rwy’n meddwl bod y £6 miliwn hwn—er, yn amlwg, nid yw’n swm enfawr—yn sicr yn mynd i wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae'n bwysig i ni gofio bod hwn yn faes lle’r ydym yn gwneud cynnydd. Bu galwadau gan elusennau digartrefedd i Lywodraeth y DU ddilyn esiampl Cymru yn ei deddfwriaeth, wrth osod dyletswydd gyfreithiol i helpu pobl mewn argyfwng tai, er mwyn atal a lleddfu digartrefedd. Gwn fod yr ystadegau wedi dangos bod hynny yn gweithio. Felly, rwy’n meddwl bod yr arian sy'n cael ei roi tuag at atal digartrefedd yn arian sy’n cael ei roi ble ddylai fynd o ddifrif. Felly, rwyf eisiau rhoi croeso mawr iawn i’r arian hwn sy’n mynd at ddigartrefedd.

Mae llawer o siaradwyr wedi crybwyll y £10 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, a pha mor hanfodol bwysig yw gofal cymdeithasol. Roedd Mike Hedges, wrth gwrs, yn cyfeirio at natur hirdymor gofal cymdeithasol, ac mae’r arian ychwanegol hwn, rwy’n gwybod, yn helpu i ddiwallu’r gost ychwanegol o ariannu'r cyflog byw cenedlaethol, ac mae'n ychwanegol at y £25 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, bod hyn yn dangos y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn ei rhoi i ofal cymdeithasol.

Rwyf hefyd am achub ar y cyfle i wneud sylwadau ar y cyllid £1.7 miliwn i roi cymorth ariannol i bobl hynny a'u teuluoedd sydd â gwaed halogedig. Yn amlwg, ceir ymgynghoriad ar daliadau i bobl sydd wedi'u heintio â gwaed halogedig a'u teuluoedd, ac mae hyn yn dal i fynd rhagddo tan 20 Ionawr. Felly, rwy’n gwybod nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud eto am sut y bydd y £1.7 miliwn hwn yn cael ei ddosbarthu. Rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi dod draw i gyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol, yr wyf yn gadeirydd arno, i glywed am bryderon a gofidiau’r bobl sy'n gobeithio cael budd o'r arian hwn. Roedd yn gallu gwrando ar brofiadau llawer o'r teuluoedd a phobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y sgandal hwn, sydd wrth gwrs yn dyddio'n ôl i'r 1970au a'r 1980au. Roeddwn i eisiau sôn am y grŵp hwnnw yn y ddadl ar y gyllideb hon oherwydd, yn amlwg, mae’r penderfyniadau a wnawn ynghylch arian o bwysigrwydd unigol aruthrol i bob un o'r bobl hynny sydd wedi dioddef o’r trychineb mawr hwn. Rwy’n obeithiol y byddwn yn gallu dod o hyd i ateb a fydd yn helpu i fodloni rhai o'u pryderon mwyaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio bod teuluoedd y rhai sydd wedi cael hepatitis C a chlefyd yr iau yn dioddef mwy o galedi ariannol o ganlyniad i’r ffaith fod aelodau o'r teulu wedi derbyn gwaed halogedig, oherwydd eu bod yn cael eu cosbi pan ddaw at gael benthyciadau a chael yswiriant. Mae hynny'n cael effaith niweidiol enfawr ar eu sefydlogrwydd ariannol. Dyna pam y maent yn dadlau dros gael cefnogaeth barhaus, yn hytrach na thaliadau untro. Felly, roeddwn yn awyddus i wneud y pwynt hwnnw yn y ddadl ar y gyllideb, er fy mod yn gwybod nad oes penderfyniadau wedi cael eu gwneud eto.

Yn olaf, hoffwn i adleisio’r newyddion da am y cynnydd sydd wedi'i wneud am y sefydlogrwydd ariannol yr ydym yn gobeithio a ddaw. Rwy’n croesawu'r syniad o gael y rheoleiddiwr annibynnol, yn enwedig, a chredaf fod hon yn gyllideb derfynol sydd i’w chanmol yn fawr iawn.

Lywydd, diolch yn fawr.

Can I thank all those Members who have taken part in the discussion? Many Members have pointed to those things that we have been able to achieve in the budget, in the new investments that we’ve been able to make between the draft and the final budget. I thought I would just reiterate here the decision-making path that I set out to the Finance Committee in relation to any additional capital that might have come our way in the autumn statement. My first priority was to restore money into budgets where the constraints at the draft budget stage meant that we hadn't been able to do everything that we would have liked to have done, and that's why you do see in this budget new investments in flood-risk management and in urban regeneration.

My second priority was to look at those key commitments in the programme for government and, where possible, to accelerate our ability to achieve those. I am particularly committed to the 20,000 affordable homes—a challenging target, but housing need in Wales is a very, very real issue for many families, and anything we can do to respond to that agenda is something I was keen to support in this budget.

And then, when we had done that, I looked to see whether there were any ideas that hadn't been possible to support at all up until this point, and there, the £40 million investment in the primary care estate—another example of the Government's determination, and we’ve heard a number of examples of it this afternoon, to do important things in the field of social care, as well as primary and community medicine, to recognise that system as a system in the round.

Llywydd, I think there have been three themes that have run through the discussion. I'll say something very briefly about each one of them. First of all, there has been some interesting discussion about the way the budget is made. Let me concur with what one of my colleagues said: we are a Government without a majority, nor do we have a monopoly on ideas. So, working with other parties to consider our proposals, to be able to add to the list of possibilities, I think is something that we should welcome as a way of conducting business here. Is the budget different as a result of our discussions with Plaid Cymru? Of course it is. Is there anything in this budget that Labour Members would not be pleased to support? Of course there is not. That’s the nature of negotiations. Alongside those immediate discussions, then, you will also see, because we published it as part of the budget agreement, we have an agenda of longer term issues that we will be discussing in the finance liaison group and, this year, without an election and without the constraints that that places on our timetable, we will be able to attend to those matters too.

There’s been a debate this afternoon about uncertainty and sustainability. Of course, I wished that I was able to provide longer term budgets on the revenue side to go alongside the four-year capital budgets we've been able to propose, but, as Simon Thomas said, uncertainty stares us in the face, not just this year, but in years ahead. We will have the impact of leaving the European Union to contend with. We have the enduring difficulty of that flawed and self-defeating policy of austerity that Mike Hedges drew attention to and the way that that bears down on our budgets. We have the particular difficulty that the Chancellor confirmed he intends to go ahead with £3.5 billion-worth of revenue cuts in 2019-20. That by itself would wipe out any of the revenue gains that we have received from the UK Government over recent years. So, while I am absolutely prepared to recognise the desirability of sustainability in long-term planning, you still have to manage with the very real uncertainties that face you right here, right now, and will go on making a difficult context for budget making in this Assembly for the next period.

Finally, there’s been discussion about the budget process, and I fully agree that, as we begin to exercise our new fiscal responsibilities, we will need to recalibrate our processes to make sure that we are able to focus on those big-picture decisions that will underlie the way that the budget is prepared and developed in future years. I think there are different ideas about how that might best be done, but it’s a discussion that the Finance Committee’s report provides a very helpful basis for agreeing on the detail of that over the coming year.

Llywydd, careful planning and preparation lie ahead, then, to meet the challenge of those harder choices and that different range of possibilities that we face over the next 12 months. We’re already preparing for the next budget round, and beyond will use the Finance Committee scrutiny report as an important contribution to that. I’ve already begun discussions with my colleagues about how we will go about that in the rest of this year. Nevertheless, in all those circumstances, Llywydd, this is a budget that takes Wales forward. It invests in those important areas that will make the biggest difference in people’s lives, and I commend it to the Assembly this afternoon.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6193 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, diolch i chi am alw arnaf i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Rydw i’n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith craffu gofalus ar y Bil. Rydw i’n croesawu’r ffaith bod y Pwyllgor Cyllid yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i’r bobl sydd wedi cydweithio â ni ac wedi cyfrannu at ein syniadau wrth inni ddatblygu’r ddeddfwriaeth ar dreth drafodiadau tir.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

I’m grateful to both those committees for their important reports at the end of the Stage 1 consideration of this Bill. Clearly, there are points of detail in both committees’ reports that will need to be carefully considered. Much of what I will say this afternoon, Dirprwy Lywydd, focuses on those issues highlighted during that Stage 1 scrutiny process. I’ve written to the Chairs of both the Finance Committee and CLAC to provide additional information and clarity in relation to some of their recommendations. I intend to write further to the Finance Committee to respond to each one of the recommendations in its report, and I’m pleased to confirm today that I can accept two of the three recommendations in the Constitutional and Legislative Affairs Committee’s consideration.

I’m going to try to deal in turn with a series of particular issues that are highlighted in those reports. I’m going to begin with the issue of guidance because, understandably, throughout the history of the Bill, both in its preparation and in its Stage 1 scrutiny, there has been a great deal of discussion about the importance of robust guidance. In particular, there’s been a focus on the general anti-avoidance rule, the targeted anti-avoidance rule for the reliefs that can be claimed, the differences between land transaction tax and stamp duty land tax legislation, and cross-border transactions. The theme of making sure that there is up-to-date, accurate and accessible guidance has rightly been reflected in the committee’s report on the general principles of the Bill.

I acknowledge the Finance Committee’s desire to understand the process for developing the guidance until it will go live in April 2018, and on this basis I’m happy to accept the committee’s recommendations in relation to these matters. I’ve had previous correspondence with the Chair of the Finance Committee as the scrutiny process unfolded and I explained in that correspondence that the development of guidance will be a matter for the Welsh Revenue Authority. I am keen to ensure that the WRA works with stakeholders as soon as possible to develop high-quality, user-friendly and effective guidance. A working group will be established in the first part of this year, involving people who work in the field, technical experts from beyond the Assembly, and my own officials, to discuss technical and operational issues and to help with the drafting of the guidance.

This will be an iterative process, but final guidance will be ready for sharing and discussion with taxpayers and their agents in good time to help their understanding of the new tax regime. I’m keen to continue to keep the National Assembly informed of progress in establishing the WRA. The Finance Committee’s second recommendation is that such updates should be provided termly and I’m happy to work to that timetable.

As to costs, the latest annual report on the Wales Act 2014 laid before the Assembly in December confirms that our current estimates have not changed since they were published last year. I will be in a position to provide an update on costs shortly, when a further set of decisions have been determined about the organisational design of the WRA and a confirmed cost secured for digital services. I will write to the Finance Committee before Stage 2 proceedings to provide an update on the work to develop cost estimates and to set out when a final, revised estimate will be available.

Dirprwy Lywydd, I turn now to the question of the additional dwelling surcharge. On 14 October I announced my intentions to propose amendments to the Bill during Stage 2 to introduce such a surcharge. I did so because, for this Government, the delivery of Welsh public services is of paramount importance, and for these purposes, the additional revenues generated by the surcharge is vital. It’s my intention that the additional dwelling surcharge will broadly follow the SDLT higher-rates rules. However, I will take the opportunity, in bringing forward Stage 2 amendments, to make the rules clearer and, where possible, fairer, in order to improve their application. I remain committed to ensuring the surcharge provisions are suitable to the needs of Wales. A range of suggestions were put forward by stakeholders on how to do so during the recent technical consultation. These will need to be properly assessed alongside evidence of the impact of the SDLT higher rates as this becomes available. Dirprwy Lywydd, this is one of the reasons for taking a subordinate legislation-making power to amend the additional dwelling surcharge, should emerging evidence indicate that this is necessary. These regulations would be subject to the affirmative procedure. This is an important component of the legislation as it will enable us to futureproof and manage the surcharge effectively. I’m grateful to the Constitutional and Legislative Affairs Committee, in this connection, for their consultation that the Bill strikes the right balance between what is included on the face of the Bill and what is left to subordinate legislation, and that other than in one instance, the procedure chosen in relation to the making of subordinate legislation is one that the committee regarded as reasonable and proportionate.

I turn now to cross-border questions. I agree with the Finance Committee’s emphasis on the need for a collaborative approach to be taken between HMRC, the WRA, the Land Registry and the Valuation Office Agency. I have written to the committee outlining the work already in progress. Options will now be explored as to how best to assist taxpayers in identifying where the border lies on respective titles. I will also look to those bodies to work together to deliver an integrated approach to other operational and policy issues, including, importantly, enforcement and compliance.

I turn now to reliefs. Stakeholders have been clear in their desire for consistency with SDLT in relation to reliefs and exemptions. I intend to monitor the uptake and value of residential and non-residential reliefs, because my approach to amending reliefs, or to introducing new ones in the future, will be the one I set out to the Finance Committee. This requires that potential new reliefs should be aligned with Welsh Ministers’ priorities, that they’re cost-effective, that they reach their intended policy target, and that they are rooted in best evidence.

In response to recommendation 11 of the Finance Committee’s report, I intend to propose a rule, through a Stage 2 amendment, that sets out how co-ownership authorised contractual schemes are to be treated for tax purposes. The rule ensures that we can consider introducing a seeding relief for CoACS and property authorised investment funds in the future when there is sufficient evidence to do so.

As to rates and bands, I can confirm my intention this afternoon to announce the tax rates for all devolved taxes in good time before April 2018. The specific timing of any announcement will take into account the possible behavioural impacts of announcements on taxpayers, and the requirements of the budgetary process. In the meantime, I will continue to engage with stakeholders and organisations about rates and bands, as with any other important budgetary matter. In this way, I believe we will fulfil the spirit of the committee’s tenth recommendation of a full and extensive consultation on rates and bands. It’s important for me to say that there is no precedent set by the UK or the Scottish Governments for a formal consultation before setting their rates. This does not, however, preclude an ongoing engagement and dialogue, and I remain committed to that.

Finally, Dirprwy Lywydd, to place all this in the wider policy context, I welcome the Wales Audit Office's report, which highlights the progress made over the past year on the fiscal reform agenda. The auditor general recognises that this is a complex area, and this Bill is one of its significant milestones.

I am also pleased to have reached the agreement with the Chief Secretary to the Treasury on what I believe to be a fair fiscal framework within which this and other devolved taxes will operate. I look forward to discussing the details of the framework with the Finance Committee tomorrow and to making an oral statement on it in this Chamber next week.

Throughout this programme of work, we’ve benefited from the advice and support of many individuals and organisations. I am grateful for their assistance and look forward to continuing to work with them in the coming years.

The successful passage of this Bill, should it progress through the National Assembly, will send a message that Wales remains ambitious and confident in taking on this next key step in the devolution of taxes. I ask Members to agree to the general principles of the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Bill this afternoon.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’n fawr gywair yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud wrth ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid ar y Bil hwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi yn y lle cyntaf bod hyn yn cael ei drafod yn eang fel y darn cyntaf o ddeddfwriaeth treth yng Nghymru ers 800 mlynedd. Mae'n anodd iawn deall pa ddeddfwriaeth dreth a fodolai yng Nghymru 800 mlynedd yn ôl—roedd un peth yn sicr, roedd tywysogion Cymru yn hoff iawn o symud eu llysoedd o gwmpas, gan gyrraedd ardal a dweud, ‘Iawn, rwyt ti nawr yn talu amdanom ni, boi.’ Mae’n debyg mai dyna pam y mae gennym ni gymaint o enwau lleoedd Cymraeg o'r enw ‘llys’ yng Nghymru. Ac roedd hynny hefyd yn ffordd ganoloesol iawn o wneud pethau.

Gwyddom hefyd fod Edward I, yn fuan ar ôl concro Cymru, wedi ceisio codi cymhorthdal ar y Cymry er mwyn talu am ei ryfel yn Gasgwyn. Roedd yn amhoblogaidd iawn gyda phobl Cymru oherwydd, ar yr adeg honno, nid oeddem yn anfon unrhyw un i'r Senedd, wrth gwrs, i benderfynu ar ddeddfwriaeth dreth. Roedd hefyd yn amhoblogaidd gydag Arglwyddi'r Mers am resymau eraill. A gwyddom hefyd, ar ôl y goncwest, fod brenhinoedd Lloegr yn aml yn ceisio codi trethi ar y Cymry, a bod ‘seneddwyr’ lleol yn cael eu hymgynull i benderfynu pa un a fyddai'r ardoll yn cael ei thalu ai peidio. Roedd honno'n ffordd anffurfiol iawn o geisio adlewyrchu'r broses seneddol, efallai, a defnyddio'r gair seneddwr o bryd i'w gilydd. Yr hyn y gallwn ei ddweud gyda sicrwydd yw mai hon yw'r dreth gyntaf yng Nghymru i gael ei chyflwyno gerbron Senedd i Gymru, sydd wedi cael ei derbyn, yn rhannol o leiaf, mewn egwyddor gan y Cymry, drwy’r refferendwm yn 2011, ac felly, hwn yw’r dull democrataidd cyntaf go iawn o drethu yr ydym wedi cael y cyfle i’w ystyried yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy’n meddwl y byddaf yn symud ymlaen i drafod rhywfaint o fanylion yr hyn sydd gan y Pwyllgor Cyllid i'w ddweud erbyn hyn.

So, turning to the committee’s recommendations, in the first instance, of course, the Finance Committee does approve the fact that the Assembly should approve this Bill. We accept that on two bases. First of all, because of the democratic decision to disapply the SDLT in Wales, there will be a consequent loss to the Welsh budget unless we create our own taxation system, and that turns around the agreement on the fiscal framework that was mentioned by the Cabinet Secretary that was announced prior to Christmas. We’ll be discussing that tomorrow morning with the Cabinet Secretary and, of course, the Assembly will have an opportunity to look at the wider framework next week. But, in the committee’s view, it’s entirely appropriate that the Government should legislate in this area and should introduce a Bill on taxation in this area, and it’s appropriate that they do that in the way that they have done.

The tax will be administered not by the Government, but by the Wales Revenue Authority, which is a body that hasn’t yet been fully established. It will be vital, in the committee’s view, that arrangements are put in place to ensure a seamless transition between the current and new tax systems so that the change in regimes does not cause problems for taxpayers, advisers or practitioners in this field. The WRA will need to be ready to collect taxes from day one and will need to ensure that suitable resources and an IT infrastructure are in place to operate effectively. I’m very grateful to the Cabinet Secretary for responding positively to one of the committee’s recommendations this afternoon by saying that more detail about the cost of establishing the office of the WRA will be published before we consider Part 2 of the Bill fully.

Now, as a new organisation, in the committee’s opinion it will be important for the WRA to have access to the same knowledge and expertise as is currently available to HMRC staff. We believe that the most effective way of ensuring this is through establishing a formal memoranda of understanding between the WRA and HMRC and the Land Registry, which is an important element in this jigsaw.

Guidance on the implementation of the provisions in the Bill is an important issue that was raised throughout the committee’s report, and we’ve recommended that the WRA should engage with relevant professionals in this area on the preparation of guidance so that their knowledge can be harnessed to shape future arrangements and to provide effective leadership. As the Cabinet Secretary has said, there’s been a great deal of correspondence between us as committee and him about the way that this guidance and advice will be prepared.

An area of concern to several witnesses and committee members was how tax payable on the purchase of a property straddling the border between Wales and England would be calculated. We started to scrutinise the Bill thinking that there were about 400 possible properties in this context, but, towards the end of the scrutiny process, that number grew to around 1,000 or over 1,000. One of the surprising things for me personally, I have to say, in understanding this process, was that the Land Registry doesn’t have a digital boundary highlighting the difference between Wales and England. It didn’t need it, to be fair, but, certainly, such a boundary will be needed now, because it’s important that we know where the border is. We know where it is politically and where it is democratically, but in terms of buying property, the Land Registry must be able to say, without a shadow of a doubt, to professionals in the area, to lawyers, to buyers and to prospective buyers and so on where the border is.

It’s also a matter of concern to the committee that, even though it’s clear in the legal context how tax is raised on both sides, it’s perhaps not as clear to taxpayers how the tax will be applied in a fair way between Wales and England. The fact of the matter is that if a property straddles the border, then the part of the property in Wales will pay—if it’s on the English side, I apologise, it will pay SDLT in England and the part of the property in Wales will pay the LTT, as we have in Wales. So, there are two taxes payable on one property, and that’s a fact stemming from the constitutional and legal system at present, but it doesn’t make taxation the easiest process in the world, it has to be said. In the light of confusion around cross-border arrangements, the committee was particularly concerned to learn that there we need a digital map, and we should commission the Land Registry to provide such a digital map to facilitate the process.

During the course of the committee’s work, as we scrutinised the Bill, the Cabinet Secretary, as we’ve just heard, stated his intention of introducing higher rate of LTT on the purchase of additional properties—for example, buy-to-let properties, additional homes, summer houses, and so on. The committee was persuaded by the Cabinet Secretary’s rationale for amending the Bill—this is the taxation system in England and it will be lost to Wales unless we see these amendments. However, we look forward now to seeing amendments from the Government in order to learn how this tax will be implemented in Wales.

We were disappointed as a committee—and we’ve just heard this again from the Cabinet Secretary—that the Government does not intend to undertake a full consultation on this matter. The Government is of the opinion that one of its key functions is to set tax rates and bands, and, as the Minister has just said, this doesn’t happen in other parts of the UK. However, as we’ve just discussed in relation to the budget, we are looking at a more parliamentary process, which will be able to move the committee and the entire Parliament together towards further scrutiny of the rate-setting process. This is a subject that we’ll be returning to on a wider basis, I’m sure, and not just in the context of this tax.

To conclude, therefore, on the two rules related to tax avoidance in the Bill, there is a targeted anti-avoidance rule and a general anti-avoidance rule in the Bill. The committee was convinced that we needed both, but we sought guidance to ensure that these rules are clear in the way that they relate to non-devolved taxes. So, we recommend very strongly to the Assembly that the Bill should proceed to the next stages.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 16 Rhagfyr ac, yn ogystal â gwneud rhai sylwadau cyffredinol, gwnaethom dri argymhelliad. Rydym yn croesawu'r ffaith bod llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw wedi ymateb i'r argymhellion hynny ac, yn wir, fel y mae wedi ail-bwysleisio, mae wedi derbyn dau ohonynt. Felly, yng ngeiriau yr arbenigwr doeth hwnnw ar faterion deddfwriaethol a chyfansoddiadol, Meatloaf, ‘Two out of three ain’t bad’.

Mae'r Bil hwn yn ymdrin â materion anodd a chymhleth iawn. Felly, rydym yn croesawu'r dull y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i fabwysiadu wrth ddrafftio'r Bil, wrth gynnwys cyfranogiad cynnar ymarferwyr a thrwy geisio darparu eglurder wrth ddrafftio'r Bil. Yn benodol, rydym yn croesawu'r elfen o gydgrynhoi. Bydd hyn yn helpu i wella hygyrchedd y darn hwn o gyfraith, ac mae'n ddull y gwnaeth y pwyllgor blaenorol ei hyrwyddo yn ei ymchwiliad o’r enw ‘gwneud deddfau’. Rwy'n gobeithio y caiff y dull cadarnhaol hwn o atgyfnerthu ei ailadrodd a'i ddatblygu ymhellach ym Miliau’r Llywodraeth yn y dyfodol. Rydym, yn wir, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud, yn fodlon ar y cydbwysedd sydd wedi ei daro rhwng yr hyn sy’n cael ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ar ôl i’w gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth.

Rydym yn nodi bod y Bil yn benthyg oddi wrth ddeddfwriaeth sylfaenol sydd eisoes yn bodoli o San Steffan a Senedd yr Alban. Fodd bynnag, roeddem o’r farn y gallai'r memorandwm esboniadol fod wedi cael ei ddefnyddio i roi rhywfaint mwy o dryloywder i randdeiliaid ar sut y mae'r Bil wedi’i ddatblygu o’r darnau hyn o ddeddfwriaeth. Roedd y Bil yn cyflwyno gweithdrefn newydd ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth, a gynlluniwyd i’n cyffroi ni ar y pwyllgor—y weithdrefn gadarnhaol adros dro. Canfuom fod y weithdrefn newydd hon yn synhwyrol mewn egwyddor, yn enwedig gan fod y Cynulliad Cenedlaethol bellach wedi cymryd y cyfrifoldebau am drethiant yn y maes hwn ac mewn rhai meysydd eraill. Ond gwnaethom hefyd gytuno â'r ffordd gyson a ystyriwyd yn ofalus o gymhwyso’r weithdrefn hon wrth wneud rheoliadau penodol o dan y Bil.

Gwnaethom, fel y soniais, ddau argymhelliad, i gael eglurhad o ddull Ysgrifennydd y Cabinet o ran rhai agweddau ar reoleiddio a wnaed o dan adran 34 ac adran 76. Rwy’n croesawu’n fawr ymateb cadarnhaol Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lythyr yn ymateb i adroddiad y pwyllgor ac yn ei sylwadau dilynol y prynhawn yma.

Roedd ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol. Yn ein hadroddiad, roeddem yn cytuno, ac rydym yn parhau i gytuno â'r pwyllgor blaenorol, y dylai unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol a wneir gan is-ddeddfwriaeth gael eu cyflawni drwy’r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn, yn ein barn ni, yn sicrhau bod hawliau'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran ei rôl graffu, yn cael eu diogelu. Ac rydym yn gwneud argymhelliad i'r perwyl hwn mewn perthynas â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 76(2). Wrth wneud hynny, gwnaethom fynegi siom fod y Bil hwn, Bil cyntaf Llywodraeth Cymru yn y pumed Cynulliad, yn ceisio cymhwyso'r weithdrefn negyddol i reoliadau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Cododd y defnydd o’r pwerau Harri'r VIII hyn, fel y’u gelwir, a'r math o weithdrefn sydd ynghlwm wrthynt, eto yn ein gwaith craffu ar y Bil treth gwarediadau tirlenwi ddoe, ac, fel yr wyf i'n siŵr y byddai'n cytuno, cawsom sgwrs agored ond cyfeillgar i gyfnewid barn gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, nid oeddwn yn synnu—nid oedd yr un o aelodau'r pwyllgor yn synnu—i weld a chlywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r argymhelliad penodol hwn.

Rydym ni, fel llawer o ymarferwyr a sylwebyddion cyfreithiol uchel eu parch, yn ystyried y mater hwn yn fater o egwyddor gyfansoddiadol, ac, am y rheswm hwnnw, rydym yn parhau i fonitro defnydd Llywodraeth Cymru o is-ddeddfwriaeth i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol a'r weithdrefn sy'n berthnasol trwy gydol y pumed Cynulliad hwn. Ond, i gloi, gadewch i mi ddweud: er y gallai fod problemau o egwyddor gyfansoddiadol fel hyn pan fo anghytuno, rwy’n credu ei bod yn briodol i adlewyrchu cydnabyddiaeth y pwyllgor o’r ffordd adeiladol y mae ef a'i swyddogion wedi ceisio’n gyson i ymgysylltu â’r pwyllgor ac ystyried gyda pharch a chyda diwydrwydd dyladwy argymhellion y pwyllgor a’n swyddogaeth wrth sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol a deddfwriaethol materion o'r fath mewn gwirionedd. Mae trylwyredd yr ymgysylltiad rhwng y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn cynorthwyo proses graffu effeithiol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld hyn yn parhau.

Prynhawn ysgafn i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, ynte? Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Rwy'n credu ein bod ni ar sawl achlysur, mewn dadleuon a datganiadau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, wedi amlygu mai treth dir y dreth stamp yw’r dreth gyntaf i gael ei datganoli i Gymru mewn sawl can mlynedd, pwynt a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Yn wir, fel y dywedodd y Cadeirydd, dyma'r tro cyntaf y bu angen i ni wneud pethau eraill fel cael y Gofrestrfa Tir i fapio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn llawn ac yn llwyr—materion nad ydym erioed wedi gorfod mynd i'r afael â nhw o'r blaen. Felly, rwy’n meddwl ei bod wedi bod yn broses fwy cymhleth nag yr oedd unrhyw un ohonom yn sylweddoli y byddai ar y dechrau. Rwy'n gweld Mike Hedges yn amneidio’n egnïol i gytuno. Rwy’n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet a'i ragflaenydd yn cytuno â hynny.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Byddwn i’n dweud nad oes gennym, wrth gwrs, unrhyw ddewis. Mae hynny'n swnio braidd yn llym, ond, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod mai’r gwir amdani, ar y diwrnod neu’r noson dyngedfennol honno—nid wyf yn siŵr pryd y bydd yn digwydd—ym mis Ebrill 2018, y caiff treth dir y dreth stamp y DU ei diffodd yng Nghymru, ac ar yr adeg honno, wrth gwrs, bydd angen treth yn ei lle, oherwydd dyna beth y byddem ni i gyd yn ceisio ei wneud, ac mae angen, mae'n wir, bod gennym un newydd sy'n barod ac sy’n addas at ei diben.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei atebion i rai o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, unwaith eto, y’u cefais y bore yma? Mae'r Cadeirydd wedi cyfeirio at rai ohonynt. Rwy’n sôn yn arbennig am eich ymateb i argymhelliad 8, o ran penderfynu ar ystyriaethau o drafodiadau trawsffiniol, sydd wedi’i drafod yn fanwl yn y Siambr y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd Mike Hedges yn codi hyn—bydd—yn fwy manwl, felly ni fyddaf yn sôn rhyw lawer am hyn heblaw i ddweud efallai nad yw’n effeithio ar ddim ond lleiafrif o drafodiadau, ac mewn gwirionedd, nid oeddem yn hollol siŵr am y nifer sy'n cael eu heffeithio, ond bydd y rhai hynny mewn etholaethau ar y ffin fel fy etholaeth i, ac mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy'n gwybod bod llawer o waith wedi ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rydym yn gwybod bod gan Gymru ffin hir, hawdd ei chroesi ac mae’n fwy agored i faterion ffiniol na'r Alban, er enghraifft. Rwy'n credu bod tua 50 y cant o'r boblogaeth yn byw o fewn 30 milltir ohoni—nid wyf yn cofio’r union ystadegau, ond mae'n agos iawn at y ffin. Felly, mae angen datrys hyn.

O ran argymhelliad 10, rwyf ychydig yn siomedig bod Llywodraeth Cymru, mae’n ymddangos, wedi gwrthod yr argymhelliad i ymgynghori cyn pennu cyfraddau a bandiau. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn semanteg, i raddau helaeth. Rwy’n cytuno’n llwyr, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pennu cyfraddau a bandiau, yn y pen draw, yn fater i'r Llywodraeth, ac mae hynny’n wir yn achos Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU a gweithrediaethau eraill. Ond does dim drwg, yn fy marn i, mewn ceisio amrywiaeth mor eang â phosibl o safbwyntiau cyn pennu’r bandiau hynny. Ein nod yw bod mor dryloyw â phosibl yma, ac er nad yw Lloegr na'r Alban yn gwneud rhywbeth, nid yw hynny’n golygu na ddylem ni ystyried ei wneud, ac efallai ystyried ei wneud yn wahanol. Wedi dweud hynny, rydych chi wedi ymrwymo i ymgysylltu â rhanddeiliaid mor helaeth ag y bo modd, felly rwy’n gobeithio, fel y dywedais, mai semanteg yw hyn ac y bydd y broses hon mor gadarn â phosibl ac y bydd rhanddeiliaid yn hapus â’r canlyniad terfynol.

Rwy'n credu ein bod yn gorfod derbyn bod pryder ymhlith rhai rhanddeiliaid, ac yn naturiol felly. Mae hon yn dreth newydd; mae'n torri tir newydd i bob un ohonom. Dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad wneud hyn ac mae angen datrys llawer o’r problemau cyn i'r dreth fynd yn fyw. Rwy'n siŵr y bydd y profiad a gawn o’r broses hon yn helpu i ddatblygu’r dreth tirlenwi a threthi yn y dyfodol. Felly, mae'n naturiol bod y broses hon yn un anodd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dechrau ar y llwybr hwn gan wybod y byddai hynny'n wir.

Felly, rwy’n croesawu eich dull, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir ymagwedd y Gweinidog blaenorol, na ddylai'r system hon wyro gormod o honno sy’n bodloni ar draws y ffin oni bai bod achos cryf dros wneud hynny. Gwn mai dyna yw barn y Llywodraeth ers amser hir. Mae'n ymddangos yn wireb synhwyrol amlwg i mi; mae'n lleihau'r posibilrwydd o gael dryswch yn ystod y cyfnod pontio ac mae’n lleihau'r potensial i ystumio'r farchnad dai yng Nghymru o’i chymharu â Lloegr. Dyna fu un o'r pryderon: y byddai unrhyw bennu cyfraddau sy'n wahanol i’r rhai yn Lloegr yn peri dryswch ac aflonyddwch. Clywsom hynny yn y digwyddiad i randdeiliaid a gynhaliwyd gennym draw yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd y llynedd. Mae'n broblem benodol i ymarferwyr sy'n gweithredu o Loegr. Pe byddai’r holl ymarferwyr yn gweithredu’n lleol yma, mewn gwirionedd, yna gallai fod mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd, ond yn amlwg mae angen codi ymwybyddiaeth dros y ffin yn ogystal ag yma, ac efallai y gallech chi ddweud ychydig am sut yr ydych yn bwriadu gwneud hynny.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yr ail agwedd ar y Bil hwn, wrth gwrs, yw osgoi treth a gorfodi. Mae'r pwyllgor wedi edrych yn fanwl ar y rheol gyffredinol ar atal osgoi, y rheol wedi’i thargedu ar atal osgoi—soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am hyn—ac afraid dweud, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn. Mae hyn yn ddechrau proses. Beth oedd yr hen ymadrodd? ‘Mae datganoli yn broses nid yn ddigwyddiad.’ Wel, rwy’n meddwl mai proses yw hon hefyd, nid digwyddiad ac rydym ni i gyd yn awyddus i weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu'r gyfundrefn dreth orau bosibl yng Nghymru dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod, ac yn wir, gyfundrefn nad yw’n agored i osgoi trethi, nad yw ddim ond gystal â’r system dros y ffin yn Lloegr, ond sy’n rhagori arni. Mae’n rhaid mai dyna yw ein nod a’n hamcan yn y pen draw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gan ein bod ni wedi cael dwy araith gan ddau gadeirydd pwyllgor a hefyd un araith gan lefarydd yn barod ar ran un o’r gwrthbleidiau, rwy’n credu fe wnaf i fyrhau rhywfaint ar y sylwadau sydd gennyf i, achos nid wyf i eisiau mynd dros yr un hen dir. Yn gyffredinol, wrth gwrs, rŷm ni’n croesawu ac yn derbyn, fel y dywedodd Nick Ramsay, pa mor angenrheidiol yw cyflwyno’r dreth yma o ystyried, fel yr oedd Simon Thomas yn sôn hefyd, y gostyngiad sylweddol yng nghyllid Cymru a fyddai’n dilyn oni bai ein bod ni’n cyflwyno treth yn sgil y newidiadau ymhen dwy flynedd. Felly, mae’n gam rhesymol, rwy’n credu, i gyflwyno treth trafodiadau tir newydd er mwyn osgoi hynny. Wrth gwrs, o ran y ddadl nawr, rŷm ni yn ystod Cyfnod 1 ac mi fydd yna gyfle gennym i graffu mwy ar y math o fanylion rydym ni newydd gael rhagflas ohonyn nhw. Wrth gwrs, mae yna lawer mwy o hynny ar gael yn yr adroddiadau hynod ddefnyddiol hyn, a rŷm ni’n ddiolchgar iawn am waith yr Aelodau ar y ddau bwyllgor.

Mae’n un o’r Mesurau mwyaf technegol, cymhleth mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno hyd yma. Mae’n rhaid eu canmol nhw, rwy’n credu, ar yr ymgynghoriad eang iawn sydd wedi bod ar y Bil yma hyd yma, a’r parodrwydd i gynnwys ymarferwyr a rhanddeiliaid yn y broses gyfan, a’r math o ymagwedd, rwy’n credu, sydd wedi cael ei hadlewyrchu yn y ffordd mae’r Ysgrifennydd Cyllid wedi ymwneud â’r broses yma. Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn derbyn yr egwyddor sylfaenol o sicrhau bod y trosglwyddiad o’r hen system i’r un newydd mor hwylus ag sy’n bosib. Mae’n ddealladwy, wrth gwrs, gan fod SDLT wedi’i hen sefydlu yng Nghymru, fod ymarferwyr yn gyfarwydd iawn â’r ffordd honno o weithio, felly rwy’n credu bod ymdrechion yr Ysgrifennydd Cabinet i lunio Bil sy’n cyflwyno treth newydd, ond un sydd yn meddu ar ddigon o elfennau yr SDLT fel ei bod hi’n hawdd i’w hadnabod, yn synhwyrol o ystyried hynny.

Wrth gwrs, rwy’n credu ein bod ni yn awyddus, fel sydd wedi dechrau digwydd yn yr Alban wrth gwrs, i gymryd y cyfle a fydd yn deillio o gael y pwerau yma i arloesi maes o law. Rwy’n credu mai cael y balans yn iawn ydy’r her. Dyma beth fyddwn ni, rwy’n credu, yn mynd ati i’w drafod mewn mwy o fanylder yn ystod y camau nesaf yn y drafodaeth: er enghraifft, y gallu i greu bandiau rhanbarthol i adlewyrchu natur wahanol y farchnad dai a ffactorau eraill sy’n berthnasol mewn rhannau eraill o Gymru, a’r natur wahanol wrth sôn am y sefyllfa bresennol mor belled ag y mae ail dai a ‘buy to let’ yn y cwestiwn. Wrth gwrs, mae’r cyd-destun hwnnw hefyd yn wahanol yn Lloegr, ac yn arbennig yn Llundain o gymharu â Chymru. Mae o bosib yn wahanol unwaith eto ar lefel ranbarthol a lleol yng Nghymru. Felly, byddwn ni eisiau sicrhau bod y balans yn iawn o ran y Mesur, o ran creu’r fframwaith lle mae yna gysondeb digonol gyda’r hen drefniant, ac wedyn cymryd y cyfle i arloesi. Ac yn sicr, o feddwl hefyd am y drafodaeth ddiwethaf gawson ni, mae eisiau lle priodol i’r Senedd yma—ac roedd y ddau Gadeirydd wedi cyffwrdd ar hyn—ac mae eisiau gwneud yn siŵr, gan ein bod ni’n deddfu am y tro cyntaf fan hyn i greu’r dreth yma am y tro cyntaf ers 800 mlynedd, ein bod ni’n gosod y seiliau a’r egwyddorion yn iawn o ran y balans pŵer rhwng y Llywodraeth a rhwng y Senedd mor belled ag y mae gweithredu yng nghyd-destun y Bil yma, a’r dreth yma, ond hefyd o ran y ffordd rydym yn deddfu a threthu yn gyffredinol.

A gaf i ddod â nodyn o rybudd i’r trafodaethau yma? Cofiwch fod hon yn dreth sy'n gyfnewidiol os ydych yn gylchol, a’i bod yn cael ei heffeithio’n fawr gan newidiadau yn yr economi. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd iddi yn 2008 a 2009 pan fu cwymp yn economi Prydain, ac aeth swm y dreth stamp i lawr. Felly, rwy'n falch iawn o’i gweld yn cael ei datganoli, ond nid yw’n golygu bod pawb ar eu hennill drwy’r amser, ac mae lefel o berygl, lefel o risg, sy'n rhan annatod ohoni, a bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymdrin â hynny. Rwy'n siŵr, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud—. Ac rwyf hefyd yn croesawu penderfyniad unfrydol y Pwyllgor Cyllid y dylai egwyddor gyffredinol y Bil gael ei chytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol. Gobeithio y bydd y cynigion i symud i Gyfnod 2 hefyd yn cael eu cytuno gan y Cyfarfod Llawn hwn. Rwyf hefyd yn gobeithio y byddwn ni yn y Siambr heddiw yn gallu dyblygu’r unfrydedd a gafwyd ar yr argymhelliad hwn gan y Pwyllgor Cyllid.

Er ei bod yn bwysig bod pob deddfwriaeth yn rhydd rhag bylchau, yn ymdrin â gwrthdaro ac yn gyson drwyddi draw, mae'n arbennig o wir y nachos deddfwriaeth dreth. Er nad oedd gan y ddeddfwriaeth gyntaf a basiwyd yn y pedwerydd Cynulliad, Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, ymhlith pethau eraill, y mecanwaith i ddatrys anghydfodau rhwng sir neu fwrdeistrefi sirol a chynghorau cymuned neu dref ynglŷn â gweithredu is-ddeddfau, nid yw hyn wedi creu problemau eto. Bydd unrhyw fwlch neu anghysondeb mewn deddfwriaeth dreth yn cael ei hecsbloetio ddidrugaredd, a bydd yn arwain at ostyngiad yn yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau Cymru. Felly mae'n hanfodol nad oes bylchau yn y ddeddfwriaeth hon a bod y drafftio yn gywir. A chofiwch y bydd yna bobl sy'n ennill symiau mawr iawn o arian, a’u prif nod mewn bywyd fydd dod o hyd i fylchau ynddi, i ddod o hyd i ffyrdd o osgoi trethi arni, a byddant wedi treulio oriau yn ceisio dod o hyd i unrhyw ffordd o’u hosgoi, fel y maent yn ei wneud gyda phob math o drethi eraill.

Er bod drafftio'r ddeddfwriaeth mor bwysig, mae cael cytundeb dim-niwed gyda'r Trysorlys yn ôl pob tebyg yn fwy pwysig. Cofiwch fod Llundain yn ddinas ryngwladol. Caiff eiddo cost uchel yn Llundain ei brynu gan bobl o bob rhan o'r byd ac wrth i’r bunt ostwng mewn gwerth, fel y mae wedi gwneud ers mis Mehefin, yna bydd y gost o eiddo mewn doleri, ewros ac arian cyfred arall yn gostwng, gan arwain at gynnydd ym mhrisiau eiddo yn Llundain mewn punnoedd. Gan fod gostyngiadau pellach yng ngwerth sterling o’i gymharu ag arian arall yn debygol yn y ddwy flynedd nesaf, mae gwerth eiddo yn Llundain mewn punnoedd yn debygol o gynyddu. Os ydym ni’n pennu cyfran sefydlog o dreth trafodiadau tir o’r dechrau, yna wrth i brisiau Llundain gynyddu, ni waeth beth y mae Llywodraeth Cymru neu'r Cynulliad hwn yn ei wneud, rydym yn rhwym o golli. Felly, mae angen inni beidio â chael unrhyw niwed yno. Mae Llundain yn wahanol ac rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn datrys hynny, neu byddwn yn talu pris uchel iawn.

Gan ddychwelyd at y ddeddfwriaeth arfaethedig ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid, mae materion trawsffiniol yn peri pryder i mi, er nad oedd pob un o aelodau'r pwyllgor mor bryderus.

‘Argymhelliad 7: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar y darpariaethau yn y Bil hwn, dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu’r Gofrestrfa Tir i wneud y gwaith o ddarparu map o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn barod ar gyfer cychwyn Treth Trafodiadau Tir.’

Mae angen dybryd i’r ffin fod yn wybyddus i’r Gofrestrfa Tir cyn cychwyn y Ddeddf er mwyn i'r dreth gywir gael ei thalu i'r corff cywir. Pan ddechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad i hyn, ychydig iawn o eiddo a nodwyd yn rhai trawsffiniol. Cynyddodd y nifer yn gyflym drwy'r cannoedd, ac rwy'n credu bod y ffigur olaf a oedd gennym o bosibl yn fwy na 1,000. Arweiniodd hyn at argymhelliad 8:

‘Mae'r Pwyllgor yn argymell bod rhagor o wybodaeth yn cael ei chynhyrchu gan Lywodraeth Cymru i egluro sut y mae'n bwriadu i'r ddeddfwriaeth bennu dosraniad yr ystyriaeth sy’n daladwy ar drafodion eiddo trawsffiniol. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys materion fel “dosraniad cyfiawn a rhesymol”, ac eglurder ar y gofyniad ar gyfer dau drosglwyddiad ar gyfer trafodiadau trawsffiniol. Dylai'r wybodaeth hon fod ar gael cyn unrhyw ystyriaethau Cyfnod 2.’

Rwy’n meddwl bod yn rhaid i chi gofio, os nad ydym ni’n gwneud hyn yn iawn, y byddwn yn gwybod yn iawn ble mae ffin Cymru oherwydd bydd yna res hir o dai ac adeiladau ar ei hyd, gan y bydd hynny’n fodd o leihau treth pobl—y swm y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu. Felly, nid wyf yn meddwl ein bod yn awyddus i’w hadnabod fel stryd sy'n mynd o'r ffin ym Mynwy yr holl ffordd i fyny at y man lle mae'n cyffwrdd â Chilgwri. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yw cael ffin nad yw wedi ei gorchuddio gan dai ac adeiladau eraill, oherwydd nid ydym am roi’r cymhelliant hwnnw i adeiladu ar hyd y ffin, a fydd yn digwydd os yw'n fodd o arbed treth. Felly, mae'n bwysig nad yw'r cymhelliad hwnnw yn bodoli.

Mae'r ddeddfwriaeth yn angenrheidiol oherwydd, fel y dywedodd Nick Ramsay, maent yn diffodd y tap yn 2018 ac os nad ydym yn rhoi'r tap yn ôl ymlaen ar unwaith, bydd yna fwlch yn y swm o arian sy’n dod i mewn i Gymru. Ond y mae’n hynod o bwysig nad oes unrhyw fylchau neu gymhellion gwrthnysig yn bodoli.

Yn olaf, rwy’n gobeithio y gallwn gynnig cefnogaeth unfrydol i symud i Gyfnod 2, yn union fel y cafwyd gan y Pwyllgor Cyllid, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn er mwyn symud trethi ymlaen yng Nghymru.

Rwy'n credu ei bod yn wir dweud nad oes gan fy mhlaid i yr un frwdfrydedd a chyffro tuag at ddatganoli'r dreth gyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd ag Aelodau eraill efallai, yn enwedig ar ochr Plaid Cymru y Siambr, ond rydym yn parchu’r rhai sy'n gweld ac yn pwysleisio arwyddocâd hynny. Ar ein taith ein hunain tua’r cyfeiriad hwn, gwnaethom wrthwynebu y mesur o ddatganoli a aeth i refferendwm yn 2011, ond pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac rydym yn derbyn hynny. Yr hyn y gwnaethom ni geisio ei wneud yn ein maniffesto oedd cefnogi'r broses o ddatganoli fel yr oedd wedi datblygu ac, yn benodol, yr hyn a oedd wedi ei gytuno yng nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi. Roeddem efallai yn credu bod ei gynnwys yno—ac efallai bod y gred honno ychydig yn ddiniwed—ei fod yn mynd i fod yn setliad datganoli clir ar gyfer Cymru sy'n sefyll prawf amser. Ac fel yr ydym ni wedi’i weld gyda chynnydd a datblygiadau Bil Cymru a rhai o'r trafodaethau am hynny, rwy’n meddwl efallai bod ein brwdfrydedd dros hynny wedi lleihau.

Serch hynny, y dreth trafodiadau tir oedd un o'r ddwy dreth a oedd yn rhan o'r consensws eu bod am gael eu datganoli, ac yn hytrach na pharhau â'r broses o fogailsyllu cyfansoddiaol neu anghytuno er mwyn gwneud hynny, fe wnaethom ddweud y byddem yn parchu’r penderfyniad a chefnogi datganoliad y dreth benodol hon a gytunwyd ag eraill, ynghyd â'r ardoll y byddwn yn ei gweld ar waredu safleoedd tirlenwi. Nid dyna ein safbwynt ar dreth incwm heb y refferendwm a addawyd, fodd bynnag, rydym yn dymuno bod yn adeiladol o ran y dreth trafodiadau tir. A hefyd, i'r graddau yr ydych chi’n ystyried pa dreth gymharol fach sy’n synhwyrol i’w datganoli, mae yna ddadleuon da dros ddewis hon. Yn y tymor hwy, mae’n bosibl y bydd yna gyfleoedd i ystyried sut y mae’r dreth stamp, neu, yma, y dreth trafodiadau tir, yn cysylltu â’r dreth gyngor ac ardrethi busnes, ac fe allai datganoli’r tair elfen hynny a all godi refeniw, o leiaf mewn egwyddor, ganiatáu ystyriaeth dda o’r ffyrdd y gellir eu cyfuno’n well os oes yna ddadleuon am hynny.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â’r Pwyllgor Cyllid wrth i gyfnod cyntaf y broses hon fynd rhagddo. Yn gynnar yn ystod y broses, roeddwn yn poeni ei bod yn ymddangos bod rhai elfennau o'r Bil yn newid ychydig ar y rheolau sy’n ymwneud ag osgoi mewn ffordd er mwyn cyfleu neges ynglŷn â pha mor wrthwynebus yr ydym i osgoi trethi, ac roedd gennym ni rai pryderon ynghylch defnyddio deddfwriaeth at y diben hwnnw—cyfleu neges a mân newidiadau yn y diffiniad a allai arwain at gymhlethdod mawr a dadleuon mewn llysoedd ac ansicrwydd ynghylch diben y ddeddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi lleddfu’r pryderon hynny i raddau helaeth, ac wedi ymdrin â rhai o’r pwyntiau a godais i yn enwedig, wrth iddo fagu hyder wrth egluro’r ddeddfwriaeth a’n tywys ni drwy rai manylion eithaf technegol mewn gwirionedd wrth i'r broses barhau. Rwy'n credu fy mod i nawr yn deall pam y mae’n rhaid i’r rheol atal osgoi sydd wedi’i thargedu gynnwys trethi nad ydynt wedi'u datganoli, ond nad oes yn rhaid i’r rheol atal osgoi gyffredinol wneud hynny, ond yr wyf yn cadw fy hawl i ailystyried hynny wrth i ni fynd i mewn i Gyfnod 2.

Rwy'n credu ei bod yn iawn nad ydym wedi treulio amser yn edrych ar ddatgelu cynlluniau osgoi treth arbennig ar gyfer Cymru, a fyddai'n mynd dros ben llestri. Ac nid yw hyd yn oed y rhai y mae’n well ganddynt, mewn egwyddor, i Gymru fod â threfniadau deddfwriaethol ar wahân wedi pwyso ar y pwynt hwnnw, ac rwy’n credu ein bod ni wedi llwyddo i weithio mewn ffordd ymarferol ar lawer o’r materion hyn.

Rwy’n bryderus ynghylch y ffordd y caiff y mesurau yn y Bil hwn eu cyfathrebu i’r proffesiwn cyfreithiol yn Lloegr, a pha un a fyddai hyn yn arwain yn y dyfodol, er enghraifft, at fod pobl a allai fod yn symud o Loegr i Gymru, gan ddefnyddio cyfreithiwr yn Lloegr na fyddai’n delio â thrafodion yng Nghymru yn aml iawn—a fyddai’r cyfreithiwr hwnnw yn teimlo bod modd iddo ymgymryd â hynny, neu a fyddai’n rhaid iddo drosglwyddo’r broses honno i gwmni o gyfreithwyr yng Nghymru, a allai gefnogi'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru ond a allai hefyd beri anghyfleustra i bobl mewn amgylchiadau o'r fath?

Rwy'n meddwl mai’r peth pwysig yw bod cyfreithiwr, mewn sefyllfa pan nad yw o bosibl wedi astudio’r cyd-destun Cymreig penodol gymaint ag y dylai, sy’n ceisio talu'r dreth trafodiadau tir yn yr un ffordd ag arfer i CThEM—ei bod yn bwysig iddo gael neges glir a chyflym nad dyna sydd ei angen, a’i fod yn cael ei gyfeirio at ganllawiau priodol ynghylch sut i wneud y taliad priodol i Awdurdod Cyllid Cymru, sydd wrthi’n cael ei sefydlu.

Yn olaf, o ran rhai o'r pwyntiau yr aeth Mike Hedges i’r afael â hwy, nid wyf yn credu bod yna unrhyw obaith difrifol o adeiladu tai ar hyd y ffin oherwydd y fantais dreth fawr o wneud hynny. Rwy'n credu mai ymylol yw unrhyw fantais o ran treth ac yn sicr nid yw’n mynd i esgor ar gynnydd mawr mewn adeiladu. Rwy’n credu bod angen darpariaeth tai ychwanegol arnom ni. Ond rwy’n credu bod yna faterion, ac, ar y cyfan, os oes gan rywun eiddo sy'n sefyll ar draws y ffin, bydd yn wir weithiau bod swm y dreth a delir yn llai. Dyna yw natur ein system gynyddol, sy’n golygu, wrth i bris y tŷ godi, bydd y rhai ar yr ymylon yn talu cyfradd ychydig yn uwch uwchlaw trothwyon penodol. Os bydd y gost gyffredinol wedi ei rhannu, a’ch bod chi’n talu treth ar bob elfen, yna bydd y dreth gyfan naill ai yr un faint neu’n llai, ond ni fydd yn fwy. Yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw ein bod ni’n osgoi treulio llawer iawn o amser yn ceisio dadansoddi’n fanwl iawn sut yr ydych chi’n mesur pa ran sydd yn Lloegr a pha ran sydd yng Nghymru pan, mewn gwirionedd, ar y cyfan, mae'r canlyniadau o ran y refeniw yn debygol o ddod yn gyfartal. Felly, yn gynharach, clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet eich bod yn dosrannu trethi yn ôl faint o gyfran o’r eiddo sydd yn y naill le neu’r llall, sef yng Nghymru neu yn Lloegr, ond o’m rhan i, ar ôl mwy o fyfyrio ac astudio, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n derbyn mai’r hyn sy’n ofynnol yw dosraniad cyfiawn a rhesymol. Rwy’n edrych ymlaen at ddadlau dros y posibilrwydd mai rhaniad cyfartal fyddai’r dosraniad cyfiawn a rhesymol hwnnw, a hynny’n syml oherwydd y byddai’r costau o ymchwilio i bob achos o ba gyfran o’r ardal gyfan o dir, neu’r union gyfran o’r ardal yr adeiladwyd arni, sydd yng Nghymru a pha gyfran sydd yn Lloegr yn mynd i arwain at lawer o fiwrocratiaeth a chostau heb esgor ar unrhyw fantais gyffredinol pan fo llif yr arian, mewn gwirionedd, yn debygol o fod yn gyfartal yn y pen draw. Diolch.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn ddadl adeiladol a diddorol iawn? Fy man cychwyn i yw’r hyn a nododd Nick Ramsay. P'un a ydych o’r farn bod datganoli trethi yn fater o gyffro mawr neu anesmwythder dwfn, mae'n mynd i ddigwydd a’n gwaith ni yw paratoi ar ei gyfer a gwneud hynny yn y ffordd fwyaf gofalus a chymwys ag y gallwn.

Wrth lunio’r darn hwn o ddeddfwriaeth, y blaenoriaethau yr wyf wedi eu dilyn yw’r rhai y mae eraill wedi’u nodi yn ystod y ddadl. Yn gyntaf oll, parhad—dyna oedd y neges allweddol gan randdeiliaid. Ar y diwrnod y daw'r gyfraith hon i fodolaeth, maent am iddi fod yn gyfraith y gellir ei hadnabod fel y gyfraith y maent yn gyfarwydd â hi eisoes, ac rydym wedi creu’r gyfraith er mwyn cyflawni hynny.

Ein hail egwyddor, fodd bynnag, yw ein bod ni hefyd yn awyddus, wrth ddarparu ar gyfer parhad, i wella hygyrchedd y gyfraith yn y maes hwn. Rydym wedi tynnu at ei gilydd, o dan yr un Bil, gyfres o wahanol rannau o’r gyfraith bresennol i'w gwneud yn fwy dealladwy ac yn fwy hygyrch.

Yna, yn drydydd, yn y modd y mae Adam Price wedi’i nodi, rydym wedi cynllunio’r Bil mewn ffordd sy'n caniatáu ar gyfer y posibilrwydd o fwy o wahaniaethu yn y dyfodol. Dyna pam y mae gan y Bil hwn y cyfuniad hwn o bwerau ar wyneb y Bil a'r pwerau i wneud rheoliadau. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies am gymeradwyo’r cydbwysedd hwnnw, gan y byddai'n caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud pethau’n wahanol yng Nghymru yn y dyfodol, wrth i faterion ddatblygu.

Nid oes amheuaeth bod ysgwyddo cyfrifoldebau am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd yn heriol; mae'n arwain at rai materion o gymhlethdod yr ydych wedi clywed amdanynt y prynhawn yma. Rwy’n gweld nad oedd Adam Price wedi rhoi’r un pos i chi ag y rhoddodd i fi, am y person sy'n berchen ar eiddo ar y ffin sydd ag afon sy'n ymdroelli i mewn ac allan o Gymru, ac sy’n dymuno gwerthu'r hawliau pysgota ar un rhan o lan yr afon, a pha sefyllfa y bydd y person hwnnw ynddi pan ddaw'r ddeddfwriaeth hon i fodolaeth? Wel, dyna beth fydd hanfod Cyfnod 2: gweithio allan rhai o'r manylion hynny, ar yr amod, wrth gwrs, fod y Cynulliad yn barod i roi caniatâd i fwrw ymlaen y prynhawn yma.

Mae nifer o Aelodau wedi ein hatgoffa ni bod hwn yn Fil sy’n ymwneud â mesurau atal osgoi yn ogystal â’r dreth dir ei hun. Byddai'n rhaid i mi ddweud wrth Mark Reckless fy mod i, mewn gwirionedd, yn dymuno i’r Bil hwn gyfleu’r neges, pan gaiff trethiant ei ddatganoli i Gymru, nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn mynd i oddef osgoi trethi o unrhyw fath, er ein bod ni’n saernïo’r Bil ei hun mewn ffordd sy’n ofalus ac yn gymesur.

Rwy'n ddiolchgar. Hoffwn egluro ein bod ni i gyd yn erbyn osgoi talu trethi, ond eto yn amheus o fân newidiadau i ddeddfwriaeth a allai arwain at fwy o ansicrwydd biwrocrataidd a chyfreithiol, a dylem osgoi hynny. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod tawelu fy meddwl i i raddau helaeth o ran yr hyn y mae'n ei wneud, a bod yna gyfnerthu sylweddol a bod y gyfundrefn yn debygol o fod yn synhwyrol.

Rwy’n cytuno’n llwyr. Nid ydym am fynd ati mewn ffordd sy'n arwain at gymhlethdod diangen. Rydym yn delio ag atal osgoi, yn fy marn i, mewn ffordd ofalus a chymesur. Byddwn yn troi yn gyntaf at y rheolau penodol sy’n targedu atal osgoi sy'n mynd i’r afael ag achosion o gamddefnydd y gwyddom eu bod wedi digwydd yn y gorffennol. Os nad yw’r rheolau hynny yn mynd i’r afael â’r materion, mae gennym reol atal osgoi gyffredinol wedi’i thargedu ym maes rhyddhad, ac os nad yw hynny'n mynd i’r afael â’r materion, mae gennym reol atal osgoi gyffredinol y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu dibynnu arni yn y dyfodol—mae hyn oll a gwiriadau a balansau wedi’u hymgorffori yn y Bil.

Ni fydd dim o hyn yn digwydd, Ddirprwy Lywydd, fodd bynnag, oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno â chyngor y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol bod y Bil yn addas i basio proses graffu Cyfnod 1. Os bydd hynny’n digwydd, edrychaf ymlaen at y ddadl bellach y mae’n ddi-os y bydd angen i ni ei chael bryd hynny.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 8. Dadl ar y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Symudwn ymlaen at ddadl olaf y prynhawn, sef y ddadl ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig hwnnw.

Cynnig NDM6194 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol, Gadeirydd.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr, felly, a gan ei fod wedi ei gynnig yn ffurfiol, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. 9. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddwn yn symud ymlaen i bleidleisio ar y mater nad yw wedi ei benderfynu.

Felly, rydym yn awr yn pleidleisio ar y cynnig, sef datganiad terfynol cyllideb 2017-18, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig, 27, wyth yn ymatal, 17 yn erbyn, felly caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 27, Yn erbyn 17, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6192.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.