Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/10/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Mike Hedges. 

Tai yn Abertawe

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar argaeledd tai yn Abertawe? OQ63191

Fel pob Aelod o'r Senedd, dwi'n siŵr, diffyg tai a rhestrau aros hir ar gyfer tai yw un o'r materion mwyaf cyffredin y mae fy etholwyr yn ei godi gyda fi. Ac fe wnaeth fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Adam Price eich holi chi'n ddiweddar, Brif Weindiog, am eich ymateb i'r lleihad dramatig mewn codi tai sydd wedi bod ar draws Cymru, a hynny tra bod 94,000 o aelwydydd ar restr aros ar gyfer tai. Mae ffigurau'r Llywodraeth yn dangos cwymp o 26 y cant o ran y gwaith i godi tai newydd, ac mae hynny draean yn is na degawd yn ôl. Felly, ydych chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol nad yw gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod argaeledd tai yn cwrdd â'r galw yn ddigonol, tra bod cenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol wedi sicrhau cynnydd bach, sydd eto'n araf ond o leia'n mynd i'r cyfeiriad iawn? Sut ydych chi'n bwriadu rhoi mwy o ffocws ar y gwaith yma, er lles y trigolion dwi'n eu cynrychioli?

13:35
Cynlluniau Rhwydwaith Gogledd Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau rhwydwaith gogledd Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach eleni? OQ63232

Nid slogan yw rhwydwaith gogledd Cymru, ond rhywbeth sy’n digwydd yn barod. Fis diwethaf, fe wnaethon ni lansio'r bws T51 newydd. Ym mis Rhagfyr, byddwn ni’n dyblu’r gwasanaethau ar linell Wrecsam i Gaer. Erbyn mis Mai y flwyddyn nesa, bydd trenau ar brif linell y gogledd yn cynyddu 50 y cant. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd teithwyr yn gallu tapio i mewn a mas gyda system docynnau syml talu wrth fynd. Dyna beth yw delifro, a dyna beth yw uchelgais Llafur Cymru ar gyfer gogledd Cymru sy'n gysylltiedig ac yn ffyniannus.

Diolch i chi am eich ateb. Rwy'n falch eich bod chi wedi cyfeirio at y gwasanaeth bws fanna. Wrth gwrs, roedd e'n wasanaeth a oedd yn bodoli'n barod; rydych chi jest wedi newid y teitl. Ond dwi ddim yn cymryd dim byd oddi ar weddill eich ateb chi.

13:40
13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

13:50

Diolch, Llywydd. Dwi am ddechrau trwy ddatgan cydymdeimlad dwysaf Plaid Cymru efo pawb a gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad erchyll ar synagog Heaton Park yr wythnos diwethaf. Mi ysgrifennais i at y Prif Weinidog yn gofyn am y camau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i sicrhau diogelwch y gymuned Iddewig yng Nghymru, a dwi'n croesawu'r datganiad ysgrifenedig y cawsom ni ddoe. Mae'n neilltuol o greulon, onid ydy, fod yr ymosodiad yma wedi digwydd ar ddiwrnod sanctaidd Yom Kippur, a dim ond ychydig ddyddiau cyn i ni heddiw gofio'r rhai a laddwyd yn ymosodiadau ciaidd Hamas ar 7 Hydref 2023. Mae miloedd o deuluoedd, wrth gwrs, yn Israel yn dal i ddioddef hyd heddiw a galaru. Ac, ar yr un pryd, mae'r hil-laddiad yn Gaza dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn destun cywilydd i'r gymuned ryngwladol.

13:55

Dwi'n troi yn olaf at fater o bryder gwirioneddol i bobl yn y gogledd-orllewin, sef cau pont y Borth dros y penwythnos. Dwi'n falch o glywed bod y bont yn ailagor yn rhannol yn y dyddiau nesaf, ond yn nodi siom doedd Cyngor Sir Ynys Môn ddim wedi cael gwybod am hynny ymlaen llaw. Mae hi'n rhyfeddol, dair blynedd ar ôl cau'r bont ar frys, ar ôl tair blynedd o waith, tair blynedd, dwi'n cymryd, o'r arolygon mwyaf trylwyr posib ar y bont, fod yna broblem arall yn dod i'r amlwg. Mae o'n codi cwestiynau difrifol, mae gen i ofn, am y gwaith cynnal a chadw sydd wedi bod ar y bont dros y blynyddoedd, ac mae'r cau eto rŵan wedi creu anghyfleustra ac oedi difrifol, risg i wasanaethau brys, a bydd hyd yn oed agor rhannol yn mynd i gael effaith ar fusnes, ac mae eisiau cymorth iddyn nhw ar frys.

Arian o Dramor yng Ngwleidyddiaeth Cymru

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag atal arian o dramor rhag ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Cymru? OQ63230

14:00
Gweithgarwch Economaidd

4. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i gynyddu gweithgarwch economaidd yng Nghymru? OQ63201

14:05
Twristiaeth ym Mhreseli Sir Benfro

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63197

14:10
Seiberymosodiad ar Jaguar Land Rover

6. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch effaith y seiberymosodiad ar Jaguar Land Rover ar economi Cymru? OQ63205

14:15
Cynllun Cenedl Noddfa

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol cynllun cenedl noddfa y Llywodraeth? OQ63231

14:20
14:25
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Y Cap Budd-dal Dau Blentyn

1. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i liniaru effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chodi'r cap budd-dal dau blentyn? OQ63199

14:30
Deddfwriaeth y DU

2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau'r cynnydd yn neddfwriaeth y DU sy'n cael ei phasio mewn meysydd polisi datganoledig heb gydsyniad y Senedd? OQ63193

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
14:40
14:45
Data Cyfiawnder Cymru

3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r set gyntaf o ddata cyfiawnder Cymru i lywio ei pholisi a'i deddfwriaeth? OQ63196

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:49:01
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:50

Trefnydd, mi hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y ddau gan y Gweinidog dros ddiwylliant. Yn gyntaf, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd wedi ein brawychu gan y newyddion a ddaeth ddoe am y lladrad yn Sain Ffagan. Mae Amgueddfa Werin Cymru yn amlwg yn pryderu bod staff wedi bod ar y safle, ac yn falch iawn na chafodd neb eu hanafu. Ond, yn amlwg, casgliadau pobl Cymru ydy ein casgliadau cenedlaethol ni. Rydyn ni wedi cael amryw drafodaeth yma yn y Siambr ynglŷn â diogelwch y casgliadau cenedlaethol, rhybuddion, oherwydd toriadau i'r sector, bod diogelwch casgliadau yn fregus. Felly, mi hoffwn wybod gan y Gweinidog pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gweddill y casgliadau cenedlaethol yn ddiogel ac i gefnogi'r amgueddfa.

Yn ail, mi hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â sefyllfa fregus y sector diwylliannol. Mae NoFit State Circus wedi rhoi datganiad allan yr wythnos diwethaf yn dweud eu bod nhw mewn sefyllfa fregus dros ben. Mi ategwyd hynny yn ystod sesiwn craffu gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yr wythnos diwethaf. Felly, mi hoffwn ddatganiad gan Lywodraeth Cymru o ran beth ydy statws y sector celfyddydau yng Nghymru a pha gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad ydyn ni'n colli cyrff pwysig fel NoFit State.

14:55
15:00
15:05

Gaf i—? Gwnaf i aros am eiliad, ar gyfer yr offer cyfieithu. Diolch.

Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y ddau ohonyn nhw gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a gofal? Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod y cynllun gweithredu clefydau prin yn dirwyn i ben flwyddyn nesaf—cynllun gweithredu a oedd yn mynd o 2021 i 2026. Wrth gwrs, er ein bod ni'n sôn am glefydau prin yn y fanna, mae yna filoedd o bobl yng Nghymru mewn gwirionedd yn dioddef o wahanol glefydau sy'n brin. Tybed a gawn ni ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ar le mae'r Ysgrifennydd Cabinet arni efo datblygu'r cynllun newydd a fydd yn mynd o 2026, gobeithio, ymlaen am o leiaf pum mlynedd wedi hynny.

Ac yn ail, mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod yr wythnos yma, yn dechrau ar 9 Hydref tan 15 Hydref, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Rŵan, fedraf i ddim amgyffred y boen mae pobl sydd yn colli plant yn mynd drwyddo fy hun—diolch byth am hynny—ond mae gormod o bobl yn gorfod byw drwy'r boen honno. A gawn ni felly ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros iechyd a gofal sydd yn rhoi diweddariad inni ynghylch y llwybr cenedlaethol ar gyfer galar plant—the national bereavement care pathway—os gwelwch yn dda?

15:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cynllunio ar gyfer y Gaeaf yn y GIG a Gofal Cymdeithasol

Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cynllunio ar gyfer y gaeaf yn yr NHS a gofal cymdeithasol, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

15:15

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith paratoi ar gyfer y gaeaf gyda'r NHS a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd Aelodau yn ymwybodol iawn o'r pwysau ychwanegol sydd ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod misoedd y gaeaf. Y llynedd, er enghraifft, fe wnaethon ni brofi ton fawr o salwch anadlol yn sgil cyfuniad o'r ffliw, COVID a feirws syncytiol anadlol. Fe roddodd hyn straen ar wasanaethau ambiwlans a gwasanaethau yn y gymuned a'r ysbyty dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Rwyf i wedi bod yn benderfynol o ddysgu'r gwersi o’r llynedd, gan gynyddu parodrwydd a gwydnwch ar gyfer eleni. Fe wnaethon ni ddechrau'r broses o gynllunio ar gyfer y gaeaf ar ddiwrnod olaf mis Mawrth, drwy gynnal uwch-gynhadledd genedlaethol y gaeaf. Yn bresennol roedd arweinwyr o'r NHS ac uwch-gynrychiolwyr o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r uwch-gynhadledd hon, ynghyd ag ystod eang o fforymau cydweithredol eraill, fel y pwyllgor gweithredu gofal, wedi cynnig cyfleoedd pwysig i nodi a dysgu gwersi o'r gaeaf a chytuno ar gamau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

Dros y chwe mis diwethaf, mae gwaith ar y camau hyn wedi symud ymlaen yn gyflym, a'r mis diwethaf fe wnaeth byrddau partneriaeth rhanbarthol hwyluso'r broses o gyflwyno cynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cryfhau drwy adborth cenedlaethol. Mae disgwyl hefyd i gynlluniau gwydnwch gweithredol pellach sy'n cyfeirio at gapasiti ysbytai i ddelio ag ymchwydd gael eu cyflwyno erbyn diwrnod olaf mis Hydref.

Dirprwy Lywydd, mae ein gwaith modelu ar gyfer y gaeaf wedi nodi nifer o heriau. Rŷn ni'n rhagweld cynnydd mewn firysau anadlol fel y ffliw ac RSV, sy'n arferol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Rŷn ni'n cynllunio ar gyfer mwy o alw am wasanaethau meddygon teulu ar gyfer afiechydon anadlol acíwt, cynnydd mewn derbyniadau i adrannau brys oherwydd problemau anadlol, a brig dilynol o dderbyniadau brys i'r ysbyty. Mae firysau anadlol a'u lledaeniad hefyd yn gallu cael effaith ar y gweithlu ar draws yr NHS, meysydd gofal a gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny yn ei dro yn gallu effeithio ar gostau byw teuluoedd.

Dirprwy Lywydd, rŷn ni wedi cynnwys yr holl faterion hyn yn ein cynlluniau. Er mwyn atal lledaeniad, cael ein brechu rhag y ffliw, COVID-19 neu RSV yw'r pethau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu gwneud y gaeaf hwn. Mae'r brechiad rhag y ffliw yn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws a'i ddifrifoldeb, yn lleihau'r galw ar wasanaethau’r NHS ac yn lleihau'r risg y bydd y feirws yn lledaenu drwy weithleoedd, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, wedi gweld llai o bobl yn manteisio ar y brechiad hwn.

15:20
15:30

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y cyhoeddiad. Dwi'n croesawu'r datganiad yma, yn enwedig y ffaith eich bod chi wedi dechrau cynllunio ynghynt y flwyddyn yma. Mi rydyn ni'n ymwybodol bod oerni'r gaeaf yn dod â heriau mawr i'n gwasanaethau iechyd a gofal, ac mae cynllunio strategol ymlaen llaw yn gwbl allweddol. 

Mae cynllunio effeithiol ar gyfer y gaeaf yn dibynnu ar bob elfen o'r system, o ofal cynradd i adrannau brys, ac i ofal cymdeithasol, a'u bod nhw'n cydweithio'n effeithiol. Ond, wrth ystyried y ciwiau hir o ambiwlansys y tu allan i'n hysbytai, sydd yn adlewyrchiad o'r argyfwng acíwt mewn adrannau brys y rhybuddiodd cadeirydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr amdano'n ddiweddar—mae'n amlwg hefyd fod corridor care yn beryglus o uchel, ac wedi cael ei normaleiddio, gyda gormod o gleifion yn methu cael eu ryddhau'n brydlon i ofal y gymuned—y casgliad anochel yw nad ydy'r system yn gweithio fel y dylai ar hyn o bryd. 

Rhan sylweddol o'r broblem ydy'r diffyg cynllunio ar gyfer y gweithlu—rhywbeth sy'n codi dro ar ôl tro yn fy sgyrisau i efo'r sector, a pham y bydd datblygu cynllun gweithlu newydd i'r gwasanaeth iechyd, felly, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Plaid Cymru. Yn benodol, mae angen datrysiad i'r sefyllfa lle mae digon o staff yn cael eu hyfforddi ond nid oes digon o swyddi iddyn nhw ar ôl graddio, er gwaethaf prinder parhaus o gapasiti staffio. O ganlyniad, mae nifer fawr o fyfyrwyr meddygol sy'n graddio yng Nghymru yn gorfod edrych y tu hwnt i Gymru er mwyn datblygu eu gyrfaoedd. Yr un hen stori. 

Yn y cyd-destun yma, mae penderfyniad y byrddau iechyd i rewi recriwtio canolog, hyd yn oed ar gyfer gwaith locwm, o fis Awst tan fis Rhagfyr yn syfrdanol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi derbyn gohebiaeth gan raddedigion sy'n methu dod o hyd i unrhyw waith dros fisoedd y gaeaf. Yn gwbl ddealladwy, maen nhw bellach yn ystyried eu hopsiynau y tu allan i Gymru. Tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, egluro beth ydy'r rhesymeg tu ôl i'r penderfyniad yma? Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod y llwybrau gyrfaol i raddedigion meddygol Cymreig yn methu o ran sicrhau llif cynaliadwy o staff i wasanaeth iechyd Cymru?

Elfen arall sy'n dangos nad ydy'r system yn gweithio fel y dylai ydy'r problemau gyda rhyddhau cleifion o ysbytai yn brydlon. I roi un enghraifft, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer y cleifion sy'n profi gohiriadau o'r fath ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o 286 i 318, er gwaethaf yr her 50 diwrnod a lansiwyd ym mis Tachwedd y flwyddyn diwethaf, gyda chefnogaeth o dros £19 miliwn. Siom felly oedd clywed ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r cwestiwn ar y pwnc yma yr wythnos diwethaf, heb unrhyw esboniad o beth aeth o'i le na pham nad ydy ymyrraeth y Llywodraeth wedi dwyn ffrwyth ar lefel systematig a chenedlaethol. Felly, hoffwn eglurhad mwy cynhwysfawr o'r gwersi a ddysgwyd o fethiant yr her 50 diwrnod. Ar beth y gwariwyd yr arian? Pam na arweiniodd hynny at ostyngiad parhaol yn nifer y bobl sy'n cael eu dal yn yr ysbytai, yn enwedig yn y gogledd?

Mae'r agenda ataliol hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae gan y Llywodraeth darged i sicrhau bod o leiaf 75 y cant o bobl dros 65 oed yn cael brechiad ffliw bob blwyddyn, fel rydym ni wedi clywed, yn unol â chanllawiau'r WHO. Ond dydy'r targed yma byth wedi cael ei daro, neu o leiaf ddim ers rhai blynyddoedd. Mae'r canran wedi bod yn gostwng yn gyson ers gaeaf 2021, gan gynnwys grwpiau risg uchel. Dwi'n sylwi bod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn yr adroddiad diwethaf, wedi sôn am y rhaglen frechu genedlaethol a phwysleisio'r angen i'r byrddau iechyd wneud pob ymdrech i gyrraedd y targed erbyn diwedd y gaeaf, a bod yna newidiadau megis canoli'r system comisiynu gwasanaethau cynradd am gael eu cyflwyno, fel rydyn ni newydd ei glywed.

Gaf i ofyn felly sut bydd y newidiadau hyn yn ystyried y ffaith bod capasiti gwasanaethau cynradd wedi crebachu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gostyngiad o dros 7 y cant yn nifer y meddygfeydd teulu yng Nghymru ers y pandemig yn unig? Beth hefyd ydy'r dealltwriaeth o'r ffactorau sydd wedi bod yn gyfrifol am y gostyngiad diweddar yma? Mae etholwyr hefyd wedi dod ataf yn dweud eu bod nhw'n methu cael brechiad COVID oherwydd nad ydyn nhw'n 75 oed, er eu bod nhw yn eu 70au. Tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio beth ydy'r rhesymeg yma, a sut allwn ni sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu brechu ar gyfer COVID.

Mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet sôn am gwympo, a'r ffaith mai hwnnw yw'r ail brif reswm dros bobl yn mynd mewn i adrannau brys. Mae yna enghreifftiau da efo ni lle mae Care & Repair, er enghraifft, yn gweithio'n agos iawn efo therapyddion ac arbenigwyr iechyd lawr yn ardal Llanelli, er enghraifft. Tybed a ydy'r arfer da yma'n mynd i allu cael ei rolio allan. Pa waith mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud efo'r llefarydd ar gyfer tai er mwyn sicrhau bod y cydweithio yna yn parhau?

Yn olaf, efo'ch amynedd chi, Dirprwy Lywydd, mae hyn yn fy arwain i at y pwynt olaf, sef y wybodaeth gwbl gamarweiniol rydym ni wedi ei gael o du yr Unol Daleithiau, ac felly o du un o'r pleidiau sydd bellach yn fan hyn, Reform, yn rhoi'r bai am nifer o bethau ar barasetamol. A wnewch chi ymuno efo fi i gollfarnu hynny a beirniadu'r hyn y mae'r Blaid Reform wedi bod yn ei ddweud ynghylch parasetamol, a sicrhau bod pobl Cymru'n deall beth ydy pwysigrwydd meddyginiaeth o'r fath pan mae'n dod at eu hiechyd? Diolch.

15:35
15:40
15:45
15:50
15:55
5. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cynllunio i Wrthsefyll Tywydd y Gaeaf

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gynllunio i wrthsefyll tywydd y gaeaf. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:56:15
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn ystod y mis diwethaf, symudodd Cymru o amodau sychder i lifogydd. Dyma realiti byw gyda newid hinsawdd. Mae ein tywydd yn mynd yn fwy eithafol ac yn anoddach ei ragweld. Dyna pam rydym eisoes wedi dechrau ein paratoadau ar gyfer cyfnod y gaeaf.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i baratoi ac ymateb i effeithiau tywydd y gaeaf, ac rwyf am gloi trwy ddiolch eto i'r holl bartneriaid ac ymatebwyr am eu holl waith caled. Diolch yn fawr iawn.

16:05
16:10

Diolch ichi, Dirprwy Brif Weinidog, am y datganiad. Mae’r gaeaf, erbyn hyn, wrth gwrs, yn dymor sydd yn peri pryder i nifer o bobl. Fe wnaf i jest aros ichi ar gyfer hwnna. Na, mae'n iawn. Popeth yn iawn. Grêt.

Mae tywydd garw yn cael effaith materol, wrth gwrs, ar ein hadeiladau, ein tirluniau ac ar ein cymunedau, ond mae e hefyd yn cael effaith seicolegol ar ein poblogaethau. Fe gofiwn ni y tirlithriad y llynedd yng Nghwmtillery, atgoffâd brawychus o’r etifeddiaeth a gawsom o’n hanes diwydiannol. Nawr, archwiliwyd y tip hwnnw yn yr haf y flwyddyn roedd hwnna wedi digwydd, ac, o beth dwi'n ei ddeall, doedd dim canlyniadau problemus mawr yn cael eu recordio. Ond, erbyn y mis Tachwedd, wedi cyfnod o law trwm, symudodd y tir. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar y ffaith bod tai wedi gorfod cael eu gwagio, bu i gymuned gyfan deimlo dychryn. Rhaid gofyn, felly, a ydy archwiliadau bob chwe mis yn ddigonol mewn cyfnodau o dywydd sydd mor anrhagweladwy, cyfnod lle mae risg yn gallu cynyddu. A ydych chi fel Llywodraeth yn edrych i gynyddu amlder yr archwiliadau, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf? A allwch chi roi diweddariad inni ar hynny, plis?

Wrth gwrs, byddai hynny’n golygu mwy o gost, a dwi'n derbyn hynny, ac mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan dalu lot mwy tuag at gostau cadw’r tomenni hyn yn saff. Rŷn ni'n siarad yma am efallai cannoedd o domenni glo y gallai fod yn risg uchel, a miloedd mwy sy'n dal i greithio'n mynyddoedd ni. Nid problem Gymreig yn unig ydy hyn. Mae'n waddol o'n hanes diwydiannol, lle cymerwyd y cyfoeth i ffwrdd oddi wrthym. Mater o gyfiawnder i'n cymunedau ydy cael yr arian yma yn ôl. Felly, buaswn i'n gofyn: pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gael mwy o arian tuag at hyn, pe bai'n rhaid cynyddu amlder yr archwiliadau?

Nawr, gyda thywydd garw, wrth gwrs, gall tirlithriadau a llifogydd droi'n broblem sylweddol. Dwi'n gwybod y bydd Heledd Fychan yn gofyn i chi am hyn hefyd. Hoffwn i wybod pa waith sy'n mynd rhagddo i baratoi a diogelu'r cymunedau, busnesau a thai hynny sydd wedi dioddef gyda llifogydd gwael yn ddiweddar. Ymhellach i'r hyn rydych chi wedi'i ddweud yn barod, rydych chi wedi siarad am sut waith sydd yna i gydlynu rhwng llywodraethau lleol, rhwng awdurdodau gwahanol. Buaswn i'n gofyn, yn ychwanegol i hynny: pa gymorth seicolegol ydych chi'n rhagweld y bydd ei angen i baratoi ar gyfer y gaeaf o ganlyniad i stormydd, tirlithriadau, llifogydd a mwy? Dwi'n gwybod, efallai, y bydd hyn yn rhywbeth yn y portffolio iechyd, ond mae e mor integredig gyda hyn i gyd. Oes yna gyllid penodol ar gyfer hyn? Sut mae'n cael ei gategoreiddio? A beth ydyn ni'n gwneud yn arbennig i helpu plant yn y cymunedau hyn sydd yn wynebu'r risg fwyaf? A diolch i chi am yr hyn rydych chi wedi'i ddweud.

16:15
16:20
16:25
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf—Cadw Pobl yn Gynnes y Gaeaf hwn

Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf: cadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad. Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 16:28:51
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
16:35
16:45

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Fe sonioch chi yn eich datganiad am y ffaith fod chwarter o aelwydydd Cymru bellach yn byw mewn tlodi tanwydd. Ymhlith teuluoedd incwm isel, rŷn ni'n gwybod, onid ydym, fod y darlun yn llawer mwy difrifol, gyda thros bedwar o bob pump ohonyn nhw yn byw mewn tlodi tanwydd, a bron i chwarter ohonyn nhw yn wynebu tlodi tanwydd difrifol.

Rŷn ni'n sôn fan hyn am bobl sy'n byw ymhob un o'n hetholaethau ni—am bensiynwyr sy'n eistedd mewn cotiau a blancedi, am deuluoedd â phlant sy'n gorfod byw mewn cartrefi oer, llaith, sy'n peryglu eu hiechyd. A hyn mewn cenedl sy'n rhan o undeb y Deyrnas Gyfunol—un o economïau mwyaf y byd. Dyw hi ddim yn teimlo felly i bobl Cymru.

Mae pobl Cymru wedi'u taro'n hynod galed, fel rŷn ni wedi'i glywed, gan dlodi tanwydd. Ers 2021 mae bil cyfartalog tanwydd deuol wedi cynyddu bron £500, ac yma yng Nghymru, rŷn ni'n talu mwy na neb arall, yn aml iawn, yn sgil y gwahaniaeth rhanbarthol mewn prisiau ynni. Di'n meddwl bod hyn yn dangos methiant dwbl: methiant San Steffan i amddiffyn teuluoedd rhag costau ynni cynyddol, a methiant Llywodraeth Cymru yma i weithredu'n ddigon cyflym i wneud gwahaniaeth i'r lefel o dlodi tanwydd y maen nhw'n ei phrofi a'u gwarchod nhw.

Mae'n hen bryd cyflwyno tariff cymdeithasol, onid ydyw, i ddiogelu cartrefi bregus. Dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o warchod pobl Cymru rhag tlodi tanwydd. A ydych chi'n cytuno bod y ffaith nad oes un wedi'i gyflwyno hyd yn hyn yn adlewyrchu diffyg ewyllys gwleidyddol gan Lywodraeth San Steffan—tra bod cwmnïau ynni yn parhau i wneud elw anferth, anfoesol, a thra bod teuluoedd yng Nghymru yn wynebu caledi, oerni a dyled? Felly, hoffwn ofyn i chi: beth yn union sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wirioneddol bwyso ar San Steffan i weithredu ar dariff cymdeithasol? A beth yw'r rheswm y mae'n ei roi dros ei diffyg gweithredu?

Mae llawer o gartrefi yng Nghymru mewn dyled neu ar fesuryddion rhagdalu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyngor gan Ofgem i newid tariffau neu dalu drwy ddebyd uniongyrchol mewn gwirionedd yn helpu'r bobl sydd fwyaf mewn perygl?

Ac wedyn, o ran y rhaglen Cartrefi Clyd, sut ydych chi yn gwneud yn siŵr bod y rhaglen hon wedi'i thargedu'n well ac yn hygyrch i'r cartrefi sydd ei hangen fwyaf? Pam ydych chi, er enghraifft, wedi penderfynu peidio â defnyddio'r symiau sylweddol o arian canlyniadol sydd wedi dod i Gymru yn sgil y biliynau o fuddsoddiad gan Lywodraeth San Steffan yn ei chynllun Cartrefi Cynnes hi? Roedd targedau interim tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru i fod wedi'u cyhoeddi erbyn hyn. Mis Medi oedd yr addewid yn eich ymateb chi i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pam rŷch chi wedi methu â chyflawni'r ymrwymiad hwnnw?

Un pwynt arall y mae angen ei wneud yn glir heddiw: rhaid inni beidio â normaleiddio tlodi tanwydd. Er eu bod yn llefydd croesawgar a chymdeithasol braf, ni ddylai fod yn dderbyniol bod miloedd yn dibynnu ar hybiau twym bob gaeaf i'w cadw'n dwym, fel bod hynny'n rhan arferol o fywyd bob dydd. Ydych chi'n cytuno bod y cysyniad o ganolfannau fel hyn yn symbol o fethiant systemig a gwleidyddol—methiant i sicrhau bod pobl yn gallu byw mewn cartrefi sy'n dwym, effeithlon ac yn fforddiadwy, a rhybudd bod rhywbeth mawr, rhywbeth sylfaenol, o'i le o ran y system les?

Hoffwn i godi'n sydyn un pwynt penodol am y cyllid sydd wedi'i ddarparu i'r Fuel Bank Foundation. Fel ymddiriedolwr banc bwyd, rwyf wedi gweld bod y cynnydd mewn galw a'r cynnydd mewn gwariant ar hanfodion wedi arwain at lai o gyllid, er enghraifft, ar gyfer darparu talebau i bobl mewn caledi i helpu gyda biliau tanwydd. Rŷn ni wedi gorfod penderfynu torri'n ôl ar y math yna o gymorth.

Ond wedyn fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad, gan erfyn arnom ni fel Aelodau i sôn am y cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru yn y cymunedau, felly fe wnes i droi at y Fuel Bank Foundation i holi a fyddai modd i ni fel elusen weithio mewn partneriaeth â nhw. Bedwar diwrnod yn ôl fe ges i ateb. Fe ddywedwyd bod eu holl gyllid mwy neu lai wedi'i wario a'i glustnodi, felly doedd dim modd cefnogi partneriaid newydd ar hyn o bryd, ac roedd modd inni gyfeirio achosion brys. Ond fe hoffwn i wybod sut rŷch chi'n sicrhau bod y cyllid sydd wedi'i ddarparu iddyn nhw'n cael ei fonitro a'i werthuso, ac a fydd yna fwy o wariant wedyn, o'r hyn rŷch chi wedi sôn amdano heddiw, i fedru cynyddu'r partneriaethau yng Nghymru?

Gallwn ni ddim fforddio gaeaf arall o oerni, tlodi a phryder. Mae gan y bobl yma yng Nghymru hawl sylfaenol i fyw mewn cynhesrwydd a diogelwch. Diolch.

16:50
16:55
17:00
17:05
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar y model buddsoddi cydfuddiannol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

17:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:15
17:20
17:25

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Dwi wedi mwynhau darllen yr adroddiad ar yr annual mutual investment model, a gweld yr ystadegau, rhai ohonyn nhw roeddech chi'n sôn amdanyn nhw yn y fan yna.

17:30
17:35
17:40
17:45
8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithiau Bws £1

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd nesaf, ar deithiau bws am £1. Yr Ysgrifennydd i wneud y datganiad yma—Ken Skates.

17:55
18:00
18:05
18:10
18:15
18:20
18:25
9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd Meddwl

Eitem 9 sydd nesaf, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd Meddwl yw hyn, a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant sy'n gwneud y cynnig—Sarah Murphy. 

Cynnig NDM8991 Sarah Murphy

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd Meddwl i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Cynigiwyd y cynnig.

18:30

Mike Hedges nesaf, sef Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

18:35
18:40
18:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ni fydd angen cyfnod pleidleisio, felly dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.