Y Cyfarfod Llawn
Plenary
09/07/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y mwyaf o fanteision bargeinion dinesig a thwf? OQ62987

Ceir pedair o fargeinion dinesig a thwf yng Nghymru, a chânt eu cyflawni gan bartneriaid rhanbarthol, a'u hariannu'n rhannol gan Lywodraethau Cymru a'r DU. Mae pob bargen yn unigryw, ac yn adlewyrchu'r cyfleoedd ym mhob rhanbarth. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â phob un o'r bargeinion dinesig a thwf i gefnogi'r gwaith o'u cyflawni a gwneud y mwyaf o fuddsoddiad ledled Cymru.
Diolch. Mae'n dirlun cymhleth iawn, oherwydd nid yn unig fod gennym gyd-bwyllgorau corfforedig a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, mae gennym hefyd strategaeth ddiwydiannol Llafur y DU bellach, gyda'i hwyth maes blaenoriaeth. Felly, hoffwn archwilio sut rydym yn gwneud yn siŵr fod y bargeinion dinesig yn buddsoddi mewn prosiectau a fydd yn sicrhau'r budd mwyaf i'r ardal gyfan dan sylw. Er enghraifft, roeddwn yn ddryslyd wrth weld bod prifddinas-ranbarth Caerdydd yn buddsoddi yn y gwaith o wella cefn gorsaf Caerdydd Canolog, sy'n rhywbeth 'braf ei gael', ond roeddwn yn ei chael hi'n anodd deall sut y byddai o fudd i brifddinas-ranbarth Caerdydd yn ei gyfanrwydd, ac yn enwedig ei bwa gogleddol. Nid oeddwn yn gallu ei ddeall, o ystyried bod gennym eisoes ddarpariaeth fanwerthu ardderchog yng Nghaerdydd, a theimlaf y byddai unrhyw ychwanegiad yn rhywbeth y gallai'r sector cyhoeddus ei wneud. Felly, sut rydych chi'n sicrhau bod y bargeinion dinesig a thwf hyn yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn ystyried y pethau hyn yn gyfannol?
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Rwy'n credu bod y bargeinion dinesig a thwf yn gyfryngau pwysig iawn ar gyfer cyflawni dyheadau Deddf cenedlaethau'r dyfodol, o ran sicrhau bod y buddsoddiadau a'r datblygiadau y maent yn eu datblygu'n cael eu cyflawni yng nghyd-destun Deddf cenedlaethau'r dyfodol, a ffyrdd o weithio, gan gynnwys y cymunedau a meddwl ar gyfer y tymor hir, ond hefyd mewn perthynas â'r pethau rydym am eu cyflawni drwy Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Credwn yn gryf y gall y strategaeth ddiwydiannol y cyfeirioch chi ati fod yn fecanwaith pwysig iawn, unwaith eto, ar gyfer hybu twf a ffyniant, a bod yn rhaid i'r ffyniant hwnnw gael ei deimlo gan bawb a bod ar gael i bawb. A dyna pam y mae ein swyddogion yn cyfarfod yr wythnos nesaf, rwy'n credu, gydag arweinwyr y cyd-bwyllgorau corfforedig i sicrhau bod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn deall y meysydd blaenoriaeth hynny a bod y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg nawr, drwy'r strategaeth ddiwydiannol, yn cyd-fynd â chynlluniau presennol y cyd-bwyllgorau corfforedig. Oherwydd yr hyn nad ydym ei gael yw tirlun sy'n gymhleth i fuddsoddwyr ac yn gymhleth i'r unigolion sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiectau hynny hefyd. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cael trafodaethau sy'n cysylltu'r strategaeth ddiwydiannol, fel y dywedwch, gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig.
Weinidog, fe fuoch chi'n ddigon caredig i hwyluso ymweliad ag ardal fenter Sain Tathan a'r datblygiadau yn hen wersyll y Llu Awyr Brenhinol. Ychydig ymhellach i lawr y ffordd, mae gorsaf ynni Aberddawan, y mae'r fargen ddinesig, yn amlwg, yn y broses o'i throi yn barc busnes ar gyfer nifer o swyddogaethau. Ni allwn lai na chael yr argraff fod y ddwy fenter, yn agos iawn at ei gilydd, yn mynd ar drywydd yr un peth. Felly, sut rydych chi'n sicrhau nad yw'r bunt Gymreig yn cael ei dyblygu ac nid o reidrwydd yn darparu'r gwerth gorau, drwy sicrhau bod y ddau brosiect hynny—un wedi'i hyrwyddo gan y fargen ddinesig, y llall wedi'i hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru—yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd swyddi a'r potensial buddsoddi ar gyfer Bro Morgannwg, yn hytrach na dyblygu eu hymdrechion, heb gyflawni'r amcanion yn y pen draw y mae pob un ohonom am eu gweld?
Na, yn sicr, nid ydym am ddyblygu gwaith nac yn ailadrodd ymdrechion. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda phob un o'r bargeinion dinesig, gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd iawn—rwyf fi a Gweinidogion eraill yn cyfarfod ag arweinwyr y cyd-bwyllgorau corfforedig, ac mae'r ymgysylltiad ar lefel swyddogol yn gryf iawn ac yn barhaus. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein buddsoddiadau'n ategu ei gilydd. A gadewch inni gofio, wrth gwrs, gyda'r bargeinion dinesig a thwf, fod y buddsoddiad yno'n rhannol gan Lywodraeth y DU, mae'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd, mae yno wedyn i sicrhau ein bod yn gallu denu buddsoddiad gan fentrau preifat hefyd. Felly, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o gyd-fuddsoddi â'r cyd-bwyllgorau corfforedig, a chredaf fod honno'n ffordd arall y gallwn osgoi'r math hwnnw o ddyblygu. Ond rwy'n credu bod cael y cynlluniau clir hynny ar waith ar gyfer yr hyn y dymunwn ei gyflawni yn wirioneddol bwysig. A chredaf fod gennym hynny, drwy ein dull sy'n cael ei arwain gan gynllun, drwy'r cynllun cenedlaethol, ond hefyd drwy'r gwaith rhanbarthol sy'n mynd rhagddo. Ac wrth gwrs, mae gan bob awdurdod lleol gynllun ar waith hefyd—ac eithrio un ar hyn o bryd.
Mae'n rhaid imi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, nad wyf yn rhannu peth o'r diffyg optimistiaeth a fynegwyd yn y ddau gwestiwn cyntaf. Rwy'n credu mewn gwirionedd fod y datblygiadau o amgylch yr orsaf yn beth da iawn, yn enwedig i'r de, sydd yn fy etholaeth i, yn Butetown—ardal y gwn y byddaf yn parhau i ymladd dros fuddsoddiad ar ei chyfer—ond hefyd y buddsoddiad yn y metro a fydd yn trawsnewid cyfleoedd o amgylch Butetown, ac yn wir o amgylch Caerdydd, ac yn benodol, prosiect Cledrau Croesi Caerdydd—da ar gyfer trafnidiaeth, a da i'r economi hefyd. Rwyf bob amser wedi bod o'r farn fod angen mwy o dir cyflogaeth arnom yng Nghymru, nid llai. Felly, credaf fod gweld prosiectau Sain Tathan ac Aberddawan yn cael eu datblygu yn beth cadarnhaol iawn.
Hoffwn ddychwelyd at rai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud ynghylch sefydlogrwydd. Wrth weld y strategaeth ddiwydiannol, wrth weld yr adolygiad o wariant, wrth weld bargeinion dinesig a thwf a grëwyd ar adeg wahanol, cyn bod gennym strategaeth, roeddwn eisiau gweld cydlyniad. Felly, er eglurder, o ran yr adolygiad a'r gwaith y dywedwch fod eich swyddogion yn ei wneud gyda phob un o'r cyd-bwyllgorau corfforedig, a ydych chi'n disgwyl i hynny nid yn unig ddarparu capasiti a pharodrwydd ar gyfer mwy o waith ar y cyd rhwng y rhanbarthau a Llywodraeth Cymru, ond mwy o ymdeimlad o uchelgais, a phryd ydych chi'n disgwyl adrodd yn ôl i'r Senedd ar yr hyn y gobeithiaf y byddant yn gytundebau gyda phob rhanbarth yng Nghymru ynghylch sut y gallai ymdeimlad gwell o gyflawniad ac uchelgais edrych wrth symud ymlaen?
Rwy'n credu bod gan bob un o'r cyd-bwyllgorau corfforedig a phob un o'r bargeinion dinesig a thwf uchelgais gwirioneddol wrth eu gwraidd. Credaf ei bod yn deg dweud bod cynnydd yn cael ei wneud ar wahanol gyfraddau ledled Cymru. Ni chredaf y gellir gwadu hynny. Ond rwy'n falch iawn o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd. Ddiwedd mis Mawrth, adroddodd y rhanbarth fod gwerth £420 miliwn o gyllid wedi'i ymrwymo ar gyfer prosiectau, ac maent yn cefnogi ymyriadau ar draws y pedair blaenoriaeth strategol, sy'n cynnwys cysylltu'r rhanbarth, a dyna pam fod yr ymyrraeth y cyfeirioch chi ati mor bwysig. Ond hefyd, mae sgiliau a chyflogaeth, arloesi, ac adfywio a seilwaith ar frig yr agenda ar gyfer y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw. Felly, credaf y bydd yr holl bethau hynny gyda'i gilydd yn creu'r rysáit cywir ar gyfer sicrhau y gallwn gynyddu cyflogaeth a chynyddu cyfleoedd, gan weithio ar y cyd â'r gwaith drwy'r strategaeth ddiwydiannol fel y dywedaf, a'r buddsoddiad a gawn drwy Lywodraeth y DU, drwy Fanc Busnes Prydain, drwy'r gronfa dwf genedlaethol ac yn y blaen.
Felly, mae llawer iawn o bethau'n mynd rhagddynt yn y maes datblygu economaidd, o ran yr hyn sy'n digwydd yn rhanbarthol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu y gallwn gydgysylltu hynny mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o'r gwahanol offer a'r gwahanol ymyriadau y gall pawb sydd ynghlwm wrth hyn eu cynnig.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu band eang ffeibr cyflym yn Sir Fynwy? OQ62995
Mae cyfrifoldeb am fand eang yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond er gwaethaf hyn, rydym wedi darparu mynediad at fand eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i 1,817 o safleoedd yn sir Fynwy, drwy ein gwaith ar gyflwyno ffeibr llawn, a band eang cyflym i 122 o safleoedd yn sir Fynwy, drwy ein cronfa band eang lleol. Ac rydym hefyd wedi datblygu achos busnes ar gyfer ymyrraeth bellach.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, gan y gŵyr pob un ohonom ein bod yn cymryd yn ganiataol bellach fod angen band eang cyflym arnom—mae'n un o angenrheidiau bywyd. Ond yn sir Fynwy, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae gan 1,400 o bobl gyflymderau o lai na chwarter megadid o hyd, gyda chyflymder fel arfer yn llawer is yn yr ardaloedd gwledig. Ac nid yw hynny'n ddigon da yn yr oes sydd ohoni. A phan fyddwch yn tyrchu'n ddyfnach drwy'r data, fe welwch fod gan 2,400 o bobl yn yr etholaeth gyflymderau o oddeutu 1.25 megadid, felly nid yw'n agos at yr hyn sydd ei angen.
Mae gennym sawl clwstwr gwledig a chanddynt ryngrwyd nad yw'n ddigon cyflym ar gyfer bywyd modern. Mae 6,000 o bobl yn sir Fynwy nad oes ganddynt fynediad at gyflymderau a ystyrir yn gyflym, ac mae angen 'cyflym' arnom. Ac mewn gwirionedd, nid ydynt hyd yn oed yn agos at lefel dderbyniol. Felly, mae'r cymunedau hyn yn aml yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio a'u hynysu oddi wrth weddill y gymuned. Felly, dyma un peth y mae'n rhaid inni weithredu arno er mwyn darparu ar eu cyfer.
Felly, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd technolegau band eang yn cyrraedd y mannau gwledig anodd eu cyrraedd hynny, fel yr ardaloedd ynysig hyn yn sir Fynwy?
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn. Rwy'n falch o ddweud bod gan 94 y cant o gartrefi a busnesau ledled sir Fynwy fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy, gyda 77 y cant yn sir Fynwy yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr llawn all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid. Ond fel y dywedwch, mae lleiafrif bach yn dal heb fynediad at gysylltiad cyflym a dibynadwy. Dyna pam ein bod wedi datblygu'r achos busnes y cyfeiriais ato ar gyfer ymestyn y prosiect band eang cyflym. Felly, bydd hwnnw'n ailfuddsoddi arian a ddychwelwyd o'r gwaith o gyflwyno band eang cyflym iawn, i wella cysylltedd digidol mewn safleoedd nad oes ganddynt fynediad at gyflymderau band eang cyflym iawn fan lleiaf ar hyn o bryd. Mae fframwaith cyflenwyr yn cael ei ddatblygu ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Rydym yn rhagweld y bydd y contract cyntaf drwy'r fframwaith yn cael ei gynnig yn yr hydref, a bydd gwaith ar lawr gwlad yn dechrau cyn gynted â phosibl wedi hynny. Ond rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o ailagor cynllun Allwedd Band Eang Cymru, a gafodd ei oedi, os bydd fy nghyd-Aelodau yn cofio, i alluogi rhywfaint o waith, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni'r dull wedi'i dargedu hyblyg ac ymatebol hwnnw. Ailagorodd i geisiadau ar 7 Mai. Ers i'r cynllun ailagor, rydym wedi derbyn 65 o geisiadau pellach o sir Fynwy, ac mae 53 o'r rheini eisoes wedi cael cynigion ariannu. Mae hynny'n golygu bod oddeutu £12,063 wedi'i fuddsoddi yn hynny yn sir Fynwy ers iddo ailagor. Fel y dywedais, mae'n dal ar gael i'r unigolion a'r busnesau sydd ei angen.
Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Gareth Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae pêl-droed yn rhan o'n hunaniaeth genedlaethol, ac yng ngogledd Cymru yn benodol, mae'n ganolog i lawer o gymunedau. Gyda llawer o glybiau yn galon i'n bywyd lleol, a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn denu sylw byd-eang, mae pêl-droed nid yn unig yn ased diwylliannol, ond yn gyfle gwirioneddol ar gyfer adfywio a thwf yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, yn ogystal â rhan bwysig o strategaeth iechyd ataliol. Serch hynny, mae lefel y buddsoddiad mewn cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad yn parhau i fod yn gwbl annigonol. Rydym yn gweld trefi heb unrhyw gaeau pob tywydd a chlybiau'n gorfod dibynnu ar gyfleusterau hen ffasiwn ac anaddas. Prin fod y cyllid a ddarperir ar hyn o bryd i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddigon i ariannu llond llaw o gaeau 3G neu 4G, tra bo'r galw yn llawer iawn mwy. Maent hefyd yn dibynnu'n bennaf ar gyllid Llywodraeth y DU, drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i ddarparu'r cyllid hwn, gyda Boris Johnson yn gweld bwlch mewn cyllid chwaraeon yng Nghymru nad oedd Llywodraeth Cymru yn ei lenwi. Mae hyn yn rhan o argyfwng llawer ehangach, gyda Chymru yn drydydd o'r gwaelod yn Ewrop o ran cyllid chwaraeon y pen, y tu ôl i gyfartaledd y DU a gwledydd cymharol.
Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol pa sylwadau y mae'n eu gwneud i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a Chwaraeon Cymru, i gynyddu'n sylweddol y cyllid sydd ar gael ar gyfer pêl-droed a chyfleusterau chwaraeon llawr gwlad, yn enwedig y rhai yn y gogledd, lle mae llawer o gymunedau'n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl?

A gaf i ddiolch i Gareth Davies am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le wrth gyfeirio at bêl-droed fel rhan o hunaniaeth genedlaethol Gymru. Mae'n wych, onid yw, ein bod newydd weld tîm menywod Cymru yn cystadlu yn eu pencampwriaeth fawr gyntaf erioed? Edrychaf ymlaen at fod gyda'r tîm ddydd Sul yn erbyn yr hen elyn, Lloegr. Ond mae'n iawn i gyfeirio at bêl-droed llawr gwlad, gan nad ydym yn gweld sêr fel Jess Fishlock neu Elise Hughes yn ymddangos o unman. Maent yn dechrau mewn clybiau llawr gwlad, Lywydd, a dyna pam ein bod yn falch o fuddsoddi yn ein cyfleusterau llawr gwlad.
Soniodd yr Aelod am Chwaraeon Cymru. Bydd hefyd yn ymwybodol fod Chwaraeon Cymru wedi cael cynnydd yn eu cyllideb gyfalaf eleni, cyllideb y ceisiodd bleidleisio yn ei herbyn. Mae'n sôn am fuddsoddiadau Llywodraeth y DU yn y maes hwn. Wel, bydd yn gweld gwaith Sefydliad Pêl-droed Cymru, ac rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Pêl-droed Cymru, gyda Llywodraeth newydd y DU, a byddwch wedi gweld buddsoddiad pellach drwy'r rhaglen honno. Fe welwch gyfleusterau llawr gwlad ledled Cymru yn cael buddsoddiad, nid yn unig mewn caeau pob tywydd, ond mewn pethau eraill hefyd. Rwy'n credu mai Bangor sy'n arwain y ffordd gyda'r cae 4G cyntaf o'i fath, a dyna fuddsoddiad yr ydym yn falch o'i wneud gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU.
Ond mae'n sôn am agweddau eraill ar chwaraeon hefyd, gan fod hyn yn ymwneud â mwy na chyfleusterau chwaraeon yn unig. Mae'n sôn am hanes chwaraeon, a soniodd am Glwb Pêl-droed Wrecsam. Gwn fod Lesley Griffiths, cefnogwr Wrecsam mwyaf y Senedd, yn y Siambr heddiw. Wel, bydd Lesley yn falch, ynghyd â'r Aelod Ceidwadol, o'r buddsoddiad yn hanes pêl-droed. Byddwn yn agor drysau amgueddfa bêl-droed Cymru yn y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld hynny, ac at gymryd rhan.
Dim ond un peth arall, Ddirprwy Lywydd, gan y gallaf eich gweld yn edrych arnaf. Soniodd yr Aelod am gyfleusterau llawr gwlad mewn ardaloedd eraill. Roeddwn yn falch o fod gyda chynghorwyr yn y Sblot yn ddiweddar, lle rydym wedi buddsoddi, fel rhan o'r buddsoddiad o £1 filiwn i ddathlu'r ffaith bod tîm y menywod wedi cyrraedd yr Ewros, yn eu cyfleuster chwaraeon i wneud yn union yr hyn y mae'n ei ofyn.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Clywsom gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod y gogledd yn uchelgeisiol iawn, ac eisiau cynnal gêm yng Nghwpan y Byd Menywod FIFA yn 2035. Ond mae'r uchelgeisiau hynny'n cael eu rhwystro gan ddiffyg seilwaith a buddsoddiad mewn caeau chwarae. Felly, rwy'n awyddus i ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn mapio'n strategol ble mae'r angen mwyaf am fuddsoddiad, er mwyn sicrhau bod trefi fel Bae Colwyn, Dinbych a Bangor yn cael blaenoriaeth ar gyfer cyllid i gyfleusterau. Oherwydd er bod Llywodraeth y DU wedi buddsoddi'n sylweddol mewn pêl-droed llawr gwlad, gan gynnwys drwy'r gronfa perchnogaeth gymunedol, sydd wedi bod yn drawsnewidiol mewn lleoedd fel Clwb Pêl Droed y Rhyl, lle cynorthwyais y clwb i gael y cyllid hwn, nid yw Llywodraeth Cymru'n rhannu'r lefel hon o uchelgais.
Rydym wedi gweld Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud gwaith anhygoel wrth hyrwyddo Cymru drwy bêl-droed, drwy gerddoriaeth, drwy'r iaith, hyd yn oed drwy ffasiwn—edrychwch ar yr het fwced sydd wedi dod yn eicon, er enghraifft. Ac eto, nid yw'r arian yno ar gyfer y seilwaith. Mae cyllid chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru wedi gostwng £18.7 miliwn mewn termau real ers 2010, er gwaethaf rhywfaint o gynnydd yn y gyllideb gyfalaf. Er gwaethaf hynny, mae Chwaraeon Cymru yn parhau i ddibynnu ar seilwaith awdurdodau lleol sydd eisoes dan straen. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau pa ffrydiau cyllido penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i gefnogi cyfranogiad menywod yn y gêm? Ac a wnaiff ymrwymo i fapio'r angen am seilwaith pêl-droed llawr gwlad i nodi'r angen hwnnw?
Diolch, unwaith eto, i Gareth Davies am hynny. Soniodd Gareth am y cyfle i gynnal digwyddiadau mawr yn y gogledd yn arbennig, a chredaf y bydd yr angen am bedwerydd eisteddle Wrecsam yn bwysig iawn yn hynny o beth. Ond mae'n deg dweud bod y Llywodraeth Geidwadol, pan oeddent yn San Steffan, wedi gwneud cam â Wrecsam, ac fe wnaethant gam â'r clwb pêl-droed o'r herwydd. [Torri ar draws.] Fe wnaethant. Os gwyliwch y rhaglen ddogfen, fel y mwynheais innau wneud, byddwch wedi gweld hynny ar y rhaglen ddogfen, lle mae'n gwbl glir. Ond byddwn yn ceisio gweithio gyda phob partner yn y gogledd i allu cynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau yn y dyfodol, ac i weithio gyda Wrecsam a dathlu'r holl bethau y mae Wrecsam yn eu cyflawni, nid yn unig nawr ond yn y dyfodol hefyd.
Edrychwch, rwy'n credu bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud gwaith gwych o ran cyfranogiad, yn enwedig cyfranogiad menywod a merched mewn pêl-droed, a chwaraeon yn fwy cyffredinol. Byddwn yn ceisio gweithio gyda hwy, gyda'n partneriaid yn Chwaraeon Cymru a meysydd eraill. Ac maent yn gobeithio gwneud hyn drwy ymyriadau amrywiol. Fe welwch ymgyrch 'Chwarae For HER' Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar hyn o bryd. Byddwn yn ceisio eu cefnogi cymaint ag y gallwn yn hynny o beth drwy Chwaraeon Cymru.
Dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn eu bod wedi cael cynnydd mewn cyllid cyfalaf, felly mae'n wych gweld ei fod yn gallu cydnabod cynnydd mewn cyllid cyfalaf, hyd yn oed mewn amseroedd anodd. Drwy'r cyllid cyfalaf hwnnw, gallwn fuddsoddi mewn seilwaith, fel y cyfleusterau y mae'n eu crybwyll. Un o'r pethau rwy'n fwyaf balch o allu eu gwneud fel Gweinidog chwaraeon Llywodraeth Cymru yw cefnogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru a phopeth sy'n gysylltiedig â phêl-droed Cymru gyda'r bencampwriaeth hon drwy'r gronfa cymorth partneriaid honno. Bydd hynny'n parhau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod a merched, a byddwn yn gweld y Jess Fishlock nesaf oherwydd y math hwnnw o fuddsoddiad. Felly, mae'n fuddsoddiad a wnaed mewn gweithgareddau cyn y bencampwriaeth ac yn ystod y bencampwriaeth, yma ac yn y Swistir, a bydd iddynt waddol parhaol i hyrwyddo pêl-droed. Byddwn yn parhau, mewn cydweithrediad, i weithio nid yn unig gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ond gydag unrhyw sydd â diddordeb mewn cefnogi chwaraeon a'r rôl y gall chwaraeon ei chwarae yn gyffredinol.
Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb unwaith eto, Weinidog. Ond i'w roi mewn cyd-destun o ran yr hyn roeddwn yn ei ofyn, roedd clybiau fel Clwb Pêl Droed y Rhyl, er enghraifft, yn wynebu methdaliad cyn COVID-19, a'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd a achubodd y clybiau hynny. Wyddoch chi, byddai clybiau fel Clwb Pêl Droed y Rhyl wedi hen fynd oni bai am y cynlluniau ariannu hynny. Mae'n syndod i mi nad yw'r Gweinidog hyd yn oed yn eu cydnabod fel rhywbeth sy'n rhan annatod o'n cymunedau. Pan edrychwch ar y cymunedau hynny, fel y Rhyl a chymunedau eraill ledled Cymru, hyd yn oed Cei Connah yn eich etholaeth chi, maent yn ganolfannau da i feithrin chwaraewyr dawnus, ac mae angen eu cydnabod a gweithio ar y cyd â'n partneriaid.
Ond gan gadw at thema gweithio ar y cyd, rwy'n awyddus i ddeall pa waith cydweithredol a wnewch chi gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth ystyried chwaraeon yn fesur ataliol i fynd i'r afael â rhai o'n problemau iechyd yng Nghymru, a pha waith a wnewch gydag Ysgrifennydd y Cabinet i ymgorffori chwaraeon mewn strategaeth iechyd ataliol genedlaethol, ac a wnaiff ymrwymo i sicrhau bod chwaraeon llawr gwlad yn cael eu cydnabod a'u hariannu fel rhan hollbwysig o'n seilwaith iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru?
Diolch i Gareth Davies am hynny. Ac er tegwch i'r Aelod, rwy'n cytuno ag ef ynghylch y rôl y mae clybiau chwaraeon yn ei chwarae, yn enwedig clybiau chwaraeon fel y Rhyl. Gwn ei fod yn gefnogwr mawr. Gwn fod yr Aelod blaenorol yn ei sedd hefyd yn gefnogwr mawr—yn gefnogwr mwy—gallaf glywed y gymeradwyaeth yno, heb os. Cofiaf chwarae yn y Rhyl fy hun i'r Nomadiaid a'r holl brofiadau a gawsom, ac mae'n iawn i dynnu sylw at y rôl y gallant ei chwarae'n fwy eang.
O ran fy ngwaith i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, edrychwch, mae gennym uchelgais gwirioneddol. Rydym yn cydnabod y rôl y gall chwaraeon ei chwarae ym maes atal ac yn yr atebion uniongyrchol y gall eu cynnig i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol hefyd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau'n parhau i gael y sgyrsiau hynny i fuddsoddi lle gallwn, nid yn unig mewn chwaraeon, ond yn y celfyddydau hefyd. A byddwch yn gweld rhaglenni o bob rhan o'r Llywodraeth yn buddsoddi mewn canlyniadau iechyd yn y mathau hynny o sectorau.
Hoffwn sôn am un cyhoeddiad diweddar, Lywydd, sef y 1,000 o leoedd hyfforddi iechyd meddwl ar gyfer clybiau llawr gwlad ledled Cymru. Ariannwyd hynny gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Bydd hynny'n mynd yn bell iawn mewn llawer iawn o gymunedau, wrth ymateb i rai o'r heriau y mae angen inni ymateb iddynt, gan ein bod yn ymwybodol o'r rôl y gall clybiau chwaraeon ei chwarae yn hynny o beth. A bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau'n parhau i gael sgyrsiau pellach ar y mater pwysig hwn, a diolch i'r Aelod am gyflwyno hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ganolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial ac ynni, oherwydd ychydig wythnosau yn ôl, yn Llandudno, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Cymru yn gartref i barth twf deallusrwydd artiffisial newydd, menter sydd, yn ôl Llywodraeth y DU, yn anelu at ddatgloi buddsoddiad mewn canolfannau data a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial. Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol, bydd deallusrwydd artiffisial yn achosi cynnydd sylweddol yn y galw am drydan o ganolfannau data, ac mae adroddiad 'Future Energy Scenarios' 2024 y Grid Cenedlaethol yn nodi y gallai canolfannau data ddod yn un o'r ffynonellau galw sy'n tyfu gyflymaf yn y DU erbyn y 2030au. Mae hwn yn sector sy'n tyfu'n gyflym, ond mae ein system ynni, yn enwedig y grid, yn symud yn llawer arafach. Felly, pa rôl uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru'n ei chwarae wrth siapio'r trafodaethau hyn, yn enwedig o ran cynllunio'r grid a strategaeth ofodol, a pha dystiolaeth y gallwch ei chynnig y bydd y datblygiadau hyn yn darparu manteision hirdymor gwirioneddol i Gymru?
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, sy'n cyffwrdd â dau faes twf pwysig iawn i Gymru. Ac rwy'n falch iawn o glywed y cyfeiriad at y gwaith y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyhoeddi ar sefydlu grŵp cynghori strategol ar ddeallusrwydd artiffisial ac i archwilio swydd ar gyfer deallusrwydd artiffisial yn Llywodraeth Cymru, i sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r cyfle pwysig hwn, ond yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd moesegol ac ati hefyd, gan y gwn fod fy nghyd-Aelodau'n pryderu am hynny hefyd.
Roeddwn yn falch iawn o ymuno â Microsoft yn ddiweddar yn y digwyddiad i dorri’r dywarchen ar gyfer eu canolfan ddata newydd yng Nghasnewydd. Ac mae'n bwysig ein bod yn cefnogi canolfannau data, gan y byddant yn hollbwysig i gefnogi'r arloesedd a'r deallusrwydd artiffisial sy'n tyfu o amgylch y canolfannau data hynny. Ond yn sicr, maent yn defnyddio llawer iawn o ynni, a dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ein strategaeth ynni adnewyddadwy hefyd.
Rwy'n credu bod cyfle'r parth twf deallusrwydd artiffisial yn bwysig i ni. Roeddwn yn falch iawn o glywed Llywodraeth y DU yn cyhoeddi y byddai Cymru yn gartref i un o’r parthau twf deallusrwydd artiffisial hynny. Mae trafodaethau’n dal i fynd rhagddynt ynghylch ble yn benodol y bydd y parth hwnnw, ond credaf fod cyfleoedd ar gael ledled Cymru ar gyfer canolfannau data. Ond mae angen inni sicrhau hefyd fod gennym yr ynni i'w pweru, ac mae'r grid yn gwbl hanfodol yn hynny o beth. Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gyda’r Grid Cenedlaethol, gyda’r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol, i fapio beth fydd yr anghenion ynni yn y dyfodol. Mae'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol yn gwneud y gwaith ar y sail strategol honno ac rydym ynghlwm wrth hynny, ac yn gallu ystyried twf deallusrwydd artiffisial a chanolfannau data wrth wneud y gwaith penodol hwnnw. Dyna pam ei bod mor bwysig fod gennym grid sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n sylweddoli bod rhai materion sensitif yno; bydd yn rhaid inni weithio drwy'r holl faterion anodd hynny wrth inni symud ymlaen, gan gydnabod hefyd y gwaith pwysig y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i lanhau'r rhestr aros, os mynnwch, ar gyfer cysylltu â'r grid. Rwyf bob amser yn siarad â datblygwyr sy'n dweud wrthyf fod ganddynt gysylltiadau grid, ond nid tan y 2030au. Yn ffodus, rydym yn gweld pethau'n symud ymlaen nawr o ganlyniad i'r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar ddeall parodrwydd ceisiadau sydd yn y ciw ar gyfer y grid. Roeddwn yn falch o gyfarfod â'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol yr wythnos diwethaf i glywed am y cynnydd y maent yn ei wneud ar hynny. Mae cyfleoedd enfawr yma, ond yn bendant, mae angen inni sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy i bweru canolfannau data, ond bod y grid wedyn yn gallu ymdopi â'r galw arno hefyd.
Gan aros ar y galw am ynni am eiliad, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i dynnu sylw at rôl ynni adnewyddadwy, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael ag ochr gyflenwi'r mater hwn. Y mis diwethaf, wrth gwrs, dyfarnodd Ystad y Goron sawl ardal 1.5 GW o gapasiti ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, sy'n golygu bod gennym ddau brosiect graddfa giga yn yr arfaeth yn y Môr Celtaidd, gan gynnwys Gwynt Glas, menter ar y cyd rhwng Ffrainc ac Iwerddon, sy'n tynnu sylw unwaith eto at y broblem barhaus o ddiffyg perchnogaeth Gymreig yn y sector. Yn y cyfamser, mae Octopus Energy wedi lansio cyfleuster tracio sy'n datgelu faint o ynni gwynt y mae'r grid yn ei wastraffu drwy gwtogi eu hallbwn. Mae'r DU eisoes wedi gwario bron i £700 miliwn eleni yn unig. Credaf fod angen dos o realiti arnom yma, sef bod ynni adnewyddadwy ysbeidiol yn dod yn beg sgwâr sy'n cael ei orfodi i dwll crwn mewn grid nad yw wedi'i adeiladu ar gyfer ei amrywioldeb. Felly, mae angen inni feddwl yn wahanol ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r mater hwn. Un ffordd y gallem feddwl yn wahanol yw drwy fuddsoddi mewn systemau ynni lleol clyfar, drwy fuddsoddi mewn microgridiau, ac adeiladu'r gwydnwch ynni hwnnw'n seiliedig ar atebion pragmatig a storio ynni ar sawl graddfa. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo, yn enwedig drwy Ynni Cymru?
Yn sicr. Ac mae'r systemau ynni lleol clyfar hynny a'r cysylltiadau gwifrenni preifat hefyd yn rhan o'r ateb i'r heriau a amlinellwyd yn y cwestiwn cyntaf.
Felly, mae'r gwaith ar Ynni Cymru yn gwneud cynnydd. Y llynedd, fe wnaethom ariannu 32 o brosiectau ledled Cymru o'r cyllid cyfalaf o £10 miliwn y gwnaethom ei ddarparu ar eu cyfer. Ac roedd y prosiectau hynny'n cynnwys defnyddio ystod eang o dechnolegau, gan gynnwys ynni solar, pympiau gwres, cyfleusterau storio batri a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Rydym wedi lansio rownd arall o'r cyllid; mae'n £10 miliwn arall ar gyfer 2025-26, ac mae'r buddsoddiad hwnnw'n bwysig, felly, i sicrhau bod manteision y newid i ynni adnewyddadwy yn cael eu teimlo yn ein cymunedau. Felly, fe wnaethom lansio'r rownd ddiweddaraf honno ar 2 Mai; roeddem yn awyddus iawn i wneud hynny'n gynnar yn y flwyddyn ariannol eleni, gan gofio ein bod yn deall bod gwneud hyn yn eithaf hwyr wedi rhoi llawer o bwysau ar y sefydliadau a'r busnesau a elwodd o hyn. Felly, fe wnaethom ei agor ym mis Mai ac rydym eisoes wedi cael nifer sylweddol o geisiadau, sy'n cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Ac rwy'n gobeithio gallu ystyried hefyd a oes unrhyw gyllid pellach y gallwn ei ddarparu eleni pan fyddaf yn edrych ar y gyllideb gyfan o fewn y portffolio.
Yn olaf, gan ddychwelyd at ddeallusrwydd artiffisial, rwy'n wirioneddol falch o weld rhai o'r cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru ar sut y gallem harneisio deallusrwydd artiffisial. Gwyddom fod potensial enfawr yno. Ond mae risgiau sylweddol hefyd. Roeddwn yn falch o weld cydnabyddiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet i botensial sefydlu adran yn Llywodraeth Cymru i edrych ar ddeallusrwydd artiffisial. Roedd sôn hefyd am fuddsoddi £2.5 miliwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, mewn dangos arweinyddiaeth weladwy ar ddeallusrwydd artiffisial ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Roedd hefyd yn dda gweld datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn, a gynigiai rai manylion defnyddiol, ac mae'n galonogol gweld, fel y dywedais, fod Llywodraeth Cymru yn ceisio dod ynghyd â lleisiau o'r byd academaidd a diwydiant. Ond mae pryder o hyd, er bod yr ymdrechion hyn yn dda eu bwriad, efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru'r set lawn o ysgogiadau sydd eu hangen ar hyn o bryd i siapio a rheoli datblygiad cyflym deallusrwydd artiffisial, neu i liniaru ei risgiau'n effeithiol.
Er fy mod yn derbyn bod grwpiau eisoes yn archwilio canllawiau moesegol yng Nghymru, credaf ein bod yn dal yn brin o ddarlun clir, cydgysylltiedig o sut y gallai'r pethau hyn ddod at ei gilydd yn ymarferol—rhywbeth y gobeithiaf y bydd yr adran newydd yn gallu ei archwilio. Felly, i gloi, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yn union y bydd y buddsoddiad o £2.5 miliwn yn ei gyflawni? A fydd gan yr adran deallusrwydd artiffisial newydd awdurdod gwirioneddol i gydgysylltu polisi deallusrwydd artiffisial ar draws y Llywodraeth? Ac a fyddwn yn gweld cynllun cadarn i reoli tarfu economaidd ac i ddiogelu gweithwyr, yn arbennig, sydd mewn perygl o golli eu swyddi?
Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall mai dim ond rhai o'r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth Cymru, a dyna pam y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r swydd deallusrwydd artiffisial, i'n helpu i fanteisio ar gynlluniau Llywodraeth y DU yn y gofod hwn hefyd.
Mae mater hawliau'r gweithwyr yn un hollol allweddol, a dyna pam y mae cyngor partneriaeth y gweithlu ar gyfer Cymru eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnydd moesegol a chyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial ar draws y sector cyhoeddus. Mae hynny'n atgyfnerthu ein ffordd Gymreig o wneud pethau mewn partneriaeth gymdeithasol. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny ac yn croesawu'r egwyddorion a argymhellir gan y canllawiau. Maent yn ymwneud â chadw goruchwyliaeth a rhyngweithiad dynol, sicrhau gwaith teg i bawb, adeiladu'r gallu i reoli systemau deallusrwydd artiffisial, a diogelu swyddi hefyd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cyfrannu at y gwaith hwnnw.
Rwyf hefyd yn falch iawn o gynrychioli Llywodraeth Cymru mewn grŵp rhyngwladol sy'n edrych ar dechnolegau aflonyddgar a thechnolegau newydd. Cawsant gyfarfod yn ddiweddar iawn i edrych yn benodol ar oblygiadau moesegol deallusrwydd artiffisial, a gallwn archwilio sut y gallwn ddysgu gan wledydd eraill wrth iddynt hwythau hefyd ymdopi â'r heriau hyn.
Ond wrth edrych tua'r dyfodol, rwy'n credu bod y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, a chreu swydd deallusrwydd artiffisial nawr, yn cynnig dull trawslywodraethol mwy strategol o weithredu. Nid mater ar gyfer y swydd honno'n unig yw hyn. Bydd pob Gweinidog, pob adran, yn ymdopi â hyn. Er enghraifft, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd iechyd yn gwneud llawer o waith i archwilio sut y gall y gwasanaeth iechyd a'r GIG elwa o ddeallusrwydd artiffisial, ac fe geir pob math o gymwysiadau o ran y budd i gleifion. Felly, mae hyn yn rhywbeth i'r Llywodraeth gyfan, ac rydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â'r heriau, ond hefyd i wneud y gorau o'r hyn sydd, yn ddi-os, yn gyfleoedd enfawr.
3. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am rôl y sector twristiaeth a lletygarwch yn strategaeth ddiwydiannol y DU? OQ62984
Gweithiais yn agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r strategaeth ddiwydiannol, ac roedd hynny'n cynnwys trafod sectorau â blaenoriaeth. Rwy'n disgwyl trafod y diwydiant twristiaeth, yn fwyaf arbennig, gyda chymheiriaid y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill mewn cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Dwristiaeth ar 22 Gorffennaf.
Rwy'n gobeithio, wyddoch chi, fel finnau—. Rwy'n edrych ymlaen at y trafodaethau hynny, a gadewch inni weld beth y gallwch chi ei gynnig i ni yma yng Nghymru. Nawr, y mis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU y strategaeth ddiwydiannol fodern fel y'i gelwir. Mae eich plaid chi, Llafur, yn dweud eu bod yn cymryd camau wedi'u targedu i drawsnewid yr hyn a ystyriwch chi yn sectorau â'r potensial uchaf, ond mae twristiaeth a lletygarwch wedi'u heithrio. Yr unig gyfeiriad yw'r disgwyliad y bydd twf yn y diwydiannau creadigol yn creu cyfleoedd i'r sector lletygarwch. Mae hynny'n gywilydd ac yn sarhaus i Gymru.
Mae'r sector yn darparu 11 y cant o gyflogaeth, gyda 5.1 y cant o'r gwerth ychwanegol gros yng Nghymru, ac mae'n asgwrn cefn i economïau mewn etholaethau fel Aberconwy. Dyna'r sector twristiaeth rwy'n siarad amdano. Mae angen cynllun sector cadarnhaol ar y diwydiant yn wyneb eich polisïau cosbol chi, Lywodraeth Lafur Cymru, wedi eich cefnogi gan Blaid Cymru, fel y rheolau ailgylchu i fusnesau, y dreth dwristiaeth a newidiadau i osod llety gwyliau. Gallwn barhau.
Pam nad yw Llywodraeth Cymru na'r DU yn dewis cyflwyno cynlluniau cadarnhaol i hybu a chefnogi ein sector twristiaeth a lletygarwch gwirioneddol werthfawr yng Nghymru? Ac mae'n drist gweld Gweinidog yma yn chwerthin—yn chwerthin am sefyllfa ein sector twristiaeth a lletygarwch.
I fod yn glir, nid oes unrhyw Weinidogion yn chwerthin am yr heriau sy'n wynebu'r sector twristiaeth a lletygarwch—[Torri ar draws.]
Hoffwn glywed yr ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda.
Felly, mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cael ei chroesawu'n gynnes ar draws y sectorau ac ar draws diwydiant. Mae'n seiliedig ar le ac mae'n sectorol. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, a dyna pam ein bod yn awyddus iawn i dawelu meddyliau'r sectorau na chânt eu crybwyll yn benodol yn y strategaeth ddiwydiannol ein bod ni'n dal i'w gweld fel blaenoriaeth.
Un o'r rhain yw twristiaeth. Rydym yn gwneud llawer iawn o waith i gefnogi'r sector bwyd yng Nghymru. Nawr, nid yw hwnnw'n sector yn y strategaeth ddiwydiannol, ond nid yw'n golygu nad oes gennym ffocws cryf iawn arno. Yn yr un modd, o ran y dull sy'n seiliedig ar le, rydym yn awyddus iawn ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ei bod hi eisiau dull o weithredu'n fwy strategol ar yr economi wledig, ac fe gawsom gyfarfod penodol yn y Cabinet ar yr economi wledig yn ddiweddar hefyd. Felly, mae yna ystod o wahanol sectorau y gwn y byddant eisiau sicrwydd eu bod yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
A phan edrychwch ar yr ystadegau—rydym newydd glywed rhai ohonynt—mae 11.8 y cant o gyflogaeth yng Nghymru yn y diwydiant twristiaeth, ac mae'n cynhyrchu 5.1 y cant o werth ychwanegol gros Cymru, sef £3.8 biliwn. Felly, pam na fyddai hynny'n flaenoriaeth? Dyma'r rhesymau pam ein bod wedi cefnogi'r sector gydag ystod o gefnogaeth. Er enghraifft, fe lansiais gronfa gwrthsefyll tywydd newydd yn ddiweddar. Fe wnaethom lansio honno mewn ymateb uniongyrchol i geisiadau gan y sector. Fe wnaethom ofyn beth oedd yr heriau mwyaf a wynebent. Un ohonynt oedd y tywydd, felly fe fu modd i ni roi'r gefnogaeth benodol honno ar waith. Ac wrth gwrs, rydym newydd gyhoeddi'r prosiectau diweddar sy'n elwa o rownd ddiweddaraf cynllun y Pethau Pwysig hefyd.
Ac ar letygarwch, rydym wedi cefnogi amrywiaeth o fusnesau drwy'r gronfa sy'n diogelu at y dyfodol, gan ddyrannu grantiau i fusnesau lletygarwch ledled Cymru yn 2024. Ac rydym yn aelod o bartneriaeth sgiliau twristiaeth a lletygarwch Cymru dan arweiniad y diwydiant, i gydnabod pwysigrwydd sgiliau yn y dyfodol hefyd.
Felly, rwy'n credu bod y strategaeth ddiwydiannol yn strategaeth ar gyfer diwydiant. Mae'n sectorol. Mae'n bwysig iawn i hybu cryfderau Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, y diwydiannau creadigol, technoleg ac yn y blaen, ond nid dyna'r unig agwedd. Mae cefnogaeth i sectorau eraill, a ffocws gwirioneddol ar sectorau eraill hefyd.
4. Pa fesurau y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i gyflymu'r symudiad tuag at ynni domestig glân? OQ62989
Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i ddiwallu ein hanghenion trydan o ynni adnewyddadwy yn llawn erbyn 2035 a sicrhau ein bod yn cadw gwerth yng Nghymru. Drwy Ynni Cymru, rydym yn buddsoddi mewn prosiectau lleol fel paneli solar a phympiau gwres i ddarparu ynni domestig glân a fforddiadwy.
Os ydyn ni am gwrdd ag ymrwymiad Cymru i sero net, rhaid inni gynyddu graddfa a chyflymder gosod gwres glân yn ein cartrefi ni. Dwi wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i gael gwared ar gyfyngiadau cynllunio sy'n arafu gallu pobl i osod ffynonellau ynni a gwres gwyrdd yn eu cartrefi, gan gynnwys y rheol 3m ar gyfer pympiau gwres aer. Felly, dwi'n falch eich bod chi'n symud ar yr agwedd benodol yna. Ond mae yna lawer iawn mwy y gellid ei wneud gan y Llywodraeth yma, ac mae angen bod yn fwy uchelgeisiol o gofio bod anheddau byw yn gyfrifol am tua 10 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ydych chi'n cytuno, felly, ei bod hi'n bryd cyflwyno rhaglen gwella tai sydd ar sail ardal ac sydd yn cynnwys symud i ffynonellau gwres glân? Onid ydy'n bryd cyflwyno rhaglen llawer mwy uchelgeisiol na'r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd?
Diolch am y cwestiwn, a hefyd am gydnabod y gwaith a wnawn ar hyn o bryd i ymgynghori ar y rheolau sy'n gysylltiedig â gosod pympiau gwres o'r aer. Er budd cyd-Aelodau eraill, rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori naill ai ar ddileu neu ostwng y rheol 3 metr. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n agored ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod y bydd yna ddiddordeb mewn gwneud sylwadau yn rhan o hwnnw.
Mae gennym strategaeth wres i Gymru. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Fe ddaeth yn sgil ymgynghori helaeth, ac mae'n nodi'r llwybr i ddatgarboneiddio gwres mewn lleoliadau domestig, yn ogystal â lleoliadau diwydiannol, er mwyn cyflawni sero net. Mae'n dangos sut y gallwn gyrraedd yr uchelgais o sero net yn y sector cyhoeddus hefyd. Yn y bôn, mae'n weledigaeth ar gyfer gwres glân a fforddiadwy yng Nghymru. Mae'n nodi ystod o weithgareddau y mae angen inni eu cyflawni yn erbyn ystod o amserlenni.
Ochr yn ochr â hynny, fe wnaethom gyhoeddi cynllun galluogi a edrychai ar yr hyn roedd angen inni ei gyflawni o ran sgiliau, ymgysylltu â'r cyhoedd, cadwyni cyflenwi a'r grid er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o fewn y cynllun hwnnw. Rhan o'n huchelgeisiau o fewn y cynllun hefyd yw sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa o bympiau gwres. Mae gennym uchelgais i osod 580,000 o bympiau gwres erbyn 2035. Nawr, bydd hynny'n dibynnu ar gefnogaeth Llywodraeth y DU a chostau technoleg is, ond rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfle mawr i aelwydydd gael gwres dibynadwy ar gost is yn y dyfodol. Felly, mae'r strategaeth yno, ac yn sicr mae gennym nodau uchelgeisiol yn y gofod hwnnw hefyd.
Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU yn cynnwys swm canlyniadol Barnett yr amcangyfrifir gan National Energy Action ei fod yn darparu hyd at £660 miliwn i Gymru, ynghyd â swm canlyniadol blynyddol o £50 miliwn o gronfa argyfwng a gwydnwch y DU. Er y bydd hyn yn rhan o setliad datganoledig ehangach yn y DU, a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd yn gwneud penderfyniadau gwariant mawr cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026, mae'n parhau'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi hwn i dorri biliau, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a chyflymu cynnydd er budd yr amgylchedd, barn a adleisiwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd. Mae'r cyllid hwn yn gyfle mawr i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella cynhesrwydd, effeithlonrwydd ac iechyd cartrefi, ac ymhlith y manteision, mae biliau ynni is, iechyd a lles gwell, mwy o werth i eiddo, creu swyddi, ansawdd aer gwell a llai o allyriadau. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi felly y bydd y cyllid o dan eich goruchwyliaeth chi'n cael ei ddefnyddio i roi hwb i raglen Cartrefi Clyd Cymru, yn cynnwys cynllun Nyth a chynllun newydd sy'n targedu'r cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni?
Diolch am y pwyntiau hynny, a hoffwn gyfeirio unwaith eto at strategaeth wres Cymru, sy'n nodi ystod o weithgareddau. Mae'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas â thlodi tanwydd a Cartrefi Clyd ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, ond fe fydd hi'n ymwybodol iawn o'r cyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, mae'n gynnar iawn yng nghylch y gyllideb ar gyfer eleni, felly ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau ar hyn o bryd.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r uchelgeisiau ynghylch cyflymu'r broses o gyflwyno ynni glân, domestig, ond un mater sy'n parhau i godi yw sut y gallwn sicrhau bod hynny'n digwydd mewn ffordd nad yw'n niweidio ein hamgylchedd. Yn amlwg, mae mater peilonau a'u gosod o dan y ddaear yn parhau i godi pan fyddwn yn siarad â phobl am ynni adnewyddadwy. Un o'r materion sy'n codi yw ei bod yn teimlo'n amhosibl symud ymlaen heb adroddiad y grŵp cynghori annibynnol arbennig a gomisiynwyd beth amser yn ôl. Roedd i fod i gyflwyno'i adroddiad ddiwedd mis Mawrth ac nid yw wedi gwneud hynny eto, felly rydym mewn sefyllfa lle na all cymunedau a datblygwyr gynllunio'n effeithiol nac ymateb heb yr adroddiad hwn. Mae ffermwyr a chymunedau y siaradais â hwy'n awyddus iawn i gael ynni adnewyddadwy glân, ond maent eisiau gweld y ceblau'n mynd o dan y ddaear. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi eto, os gwelwch yn dda? A allwch chi warantu y bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei ryddhau erbyn diwedd y tymor hwn, fel y gallwn edrych arno ac ystyried ei gynnwys dros yr haf? Fe fydd o leiaf dri mis yn hwyr os digwydd hynny. Diolch yn fawr iawn.
Byddwn wrth fy modd yn gweld yr adroddiad hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae'n grŵp annibynnol ac yn adroddiad annibynnol, felly mae amseriad cyhoeddi'r adroddiad yn nwylo'r grŵp yn hytrach na Llywodraeth Cymru, ond rwyf mor awyddus ag unrhyw un i weld y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud. Rwy'n credu efallai fod yr amser y mae wedi'i gymryd i gynhyrchu'r adroddiad yn debygol o ddweud rhywbeth am gymhlethdod sicrhau consensws ar rywbeth sy'n fater mor gymhleth, lle mae ystod mor eang o dystiolaeth i'w hystyried. Rydym wedi gofyn iddynt yn benodol i ddarparu cyngor ar gostau, er enghraifft, ac rydym yn gwybod bod yna ystod eang o dystiolaeth y mae angen iddynt ei harchwilio pan fyddant yn edrych ar hynny. Felly, rwy'n llwyr ddeall awydd cymunedau a datblygwyr i gael eglurder, ac rwy'n aros yn eiddgar am yr adroddiad hwnnw, ac yn gobeithio'n fawr y byddwn mewn sefyllfa i'w weld yr ochr hon i doriad yr haf. Ond fel y dywedais, yn anffodus, mae hynny yn nwylo'r grŵp yn hytrach na Llywodraeth Cymru.
5. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghylch ei gynllun datblygu lleol? OQ62983
Yn dilyn y dyfarniad cyfreithiol i ddiddymu penderfyniad y cyngor i fabwysiadu eu cynllun datblygu lleol, gan ei droi'n ôl yn gynllun sy'n datblygu, cyfarfûm yn ddiweddar ag arweinydd y cyngor i drafod gwahanol opsiynau ar gyfer ffordd ymlaen. Rwy'n aros nawr am ymateb ffurfiol gan y cyngor.
Mae'n amlwg fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n gysylltiedig â chynllun datblygu lleol Wrecsam. Yn wreiddiol, dylai fod wedi cwmpasu'r cyfnod 2013 i 2028, ond mae'n dal i fod heb ei fabwysiadu. Yn dilyn y dyfarniad llys y cyfeirioch chi ato, mae'n ymddangos nad oes ateb cyflym na diwedd yn y golwg, yn anffodus. Mae peidio â chael cynllun datblygu lleol yn ei le yn gadael Wrecsam yn agored i hapddatblygiadau. Fis diwethaf, wrth siarad â Wrecsam.com, tynnodd y Prif Weinidog sylw at bwysigrwydd gweithio gyda'n gilydd,
'i ni i gyd allu symud ymlaen yn unedig. Er mwyn pobl Wrecsam.'
Rwy'n adleisio'n llwyr sylwadau'r Prif Weinidog. Byddai llawer yn cytuno bod yr ansicrwydd parhaus a'r diffyg eglurder yn hynod o ddi-fudd, felly mae'n dda iawn eich bod chi wedi cyfarfod ag arweinydd yr awdurdod lleol yn ddiweddar. A wnewch chi amlinellu'r camau nesaf a nodi sut y credwch chi y gellir datrys y saga faith o'r diwedd?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Fel y dywedais, fe wneuthum gyfarfod â'r arweinydd yn ddiweddar, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, i archwilio ffyrdd ymlaen. Heb weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol wedi'i chefnogi gan gynllun statudol, rwy'n cytuno bod awdurdodau lleol yn agored i hapddatblygiadau mewn ffordd nad yw'n diwallu anghenion cymunedau. Felly, mae'n bwysig iawn i gymunedau gael cynllun ar waith.
Yn dilyn y cyfarfod lle gwnaethom archwilio opsiynau posibl fel ffordd ymlaen, mae'r cyfrifoldeb bellach ar y cyngor i gynghori Gweinidogion Cymru ar ffordd drwodd, a bydd angen iddynt gytuno ar hynny mewn cyfarfod o'r cyngor llawn. Rydym yn awyddus i weithio gyda'r cyngor i alluogi unrhyw beth y mae'r cyngor yn credu bod angen iddo ddigwydd er mwyn cyflawni cynllun. Ond fel y dywedaf, rydym yn aros am ymateb ffurfiol gan y cyngor nawr yn dilyn y cyfarfod. Mater i'r cyngor nawr yw nodi'r ffordd ymlaen. Mae opsiynau ar gael i'r cyngor, ac rydym yn awyddus i gefnogi lle gallwn.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd? OQ62979
Heddiw, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â diweddariad ar y cymhorthdal hirdymor i Faes Awyr Caerdydd, ac rwy'n cyfeirio'r Aelod at fy natganiad.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y datganiad ysgrifenedig a rannwyd gyda'r Aelodau y bore yma. Wrth gwrs, mae Maes Awyr Caerdydd, a wladolwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru yn 2013, eisoes wedi costio bron i £200 miliwn i drethdalwyr, ac mae Gweinidogion Llafur wedi penderfynu rhoi £205 miliwn arall iddo dros y degawd nesaf. Dyna £286 am bob cartref yma yng Nghymru. Mae hwnnw'n swm sylweddol iawn o arian, yn enwedig o ystyried bod nifer y teithwyr yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig, ac mae'n swm sylweddol o arian i fy etholwyr yng ngogledd Cymru, lle mae Maes Awyr Caerdydd bedair awr i ffwrdd yn y car.
Clywsom gan Darren Millar ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod Maes Awyr Bryste, ar y llaw arall, yn denu niferoedd trawiadol o deithwyr, a mwy nag erioed yn 2024. Fe gyfeirioch chi at eich datganiad ysgrifenedig yn eich ymateb cychwynnol i mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'r datganiad ysgrifenedig hwnnw hefyd yn amlinellu'r ffaith eich bod chi bellach yn wynebu her gyfreithiol gan Faes Awyr Bryste yn erbyn y cymhorthdal o £205 miliwn i Faes Awyr Caerdydd drwy'r Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth. Felly, bydd pobl yn gofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ba bwynt y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfaddef nad yw'r dull presennol o weithredu'n gweithio, ac ar ba bwynt y byddwch chi'n gwerthu'r maes awyr a chael rhywun i'w redeg sy'n gwybod beth y maent yn ei wneud.
I roi rhywfaint o eglurder ar y ffigurau y cyfeiriwyd atynt ar ddechrau'r cyfraniad yno, dros y cyfnod o 22 mlynedd yr edrychodd Bryste arno pan wnaethant ddarparu'r ffigurau a ddyfynnodd yr Aelod y prynhawn yma, yn nhermau arian parod bydd cyfanswm ein buddsoddiad yn y maes awyr yn £13 y flwyddyn yn unig am bob aelwyd, neu lai na £6 am bob dinesydd yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig darparu'r lefel honno o bersbectif.
Fel y dywedodd cyd-Aelodau, cyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cymhorthdal i alluogi potensial twf economaidd y maes awyr. O ganlyniad i'r achos llys hwnnw, ni allaf ddweud llawer iawn mwy ar hyn o bryd, heblaw nodi ein bod yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd Maes Awyr Caerdydd i economi rhanbarth de Cymru, gyda miloedd o swyddi'n deillio o'r maes awyr a'r ecosystem economaidd a gefnogir ganddo. Gyda'r buddsoddiad cywir, rydym yn credu'n gryf iawn fod gan y maes awyr botensial i wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy i'r economi, gan greu swyddi ychwanegol a rhoi hwb pellach i werth ychwanegol gros y rhanbarth.
Bydd y buddsoddiad a argymhellwn gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i Weinidogion Cymru oruchwylio cyfeiriad strategol y maes awyr ar gyfer cyflawni twf economaidd hirdymor, gyda'r nod o wireddu'r manteision hyn i economi gyfan de Cymru. Rydym wedi dewis buddsoddi yn y maes awyr i sicrhau sefydlogrwydd economaidd a thwf o amgylch y rhanbarth cyfan. Rwy'n credu bod ein parodrwydd i ymrwymo cyllid sylweddol ar gyfer y tymor hir yn adlewyrchu'r hyder sydd gennym ym mhotensial twf economaidd y maes awyr. Ac wrth gwrs, dylwn atgoffa cyd-Aelodau nad Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg y maes awyr, er mai Cymru sy'n berchen arno.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni datblygiad Parcffordd Caerdydd yn dilyn yr adolygiad gyda chyd-bartneriaid y fenter y disgwylir iddo ddod i gasgliad ddechrau mis Gorffennaf? OQ63005
Mae'r adolygiad cychwynnol o barcffordd Caerdydd, a gomisiynwyd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio, wedi'i gwblhau yr wythnos hon. Bydd swyddogion yn cyfarfod â chyd-bartneriaid y fenter nawr i ystyried y cynnwys, a byddaf yn darparu'r newyddion diweddaraf pan gytunir ar ffordd ymlaen.
Diolch. Rhag ofn nad yw pobl wedi sylwi, mae parcffordd Caerdydd yn gyfle datblygu economaidd sylweddol wedi'i adeiladu ar ddatblygiad trafnidiaeth gynaliadwy newydd. Daw'r sicrwydd ariannol sy'n ofynnol ar ôl oedi sylweddol yn y broses gynllunio, ac rwy'n cydnabod nad chi oedd yn gyfrifol am yr oedi hwnnw, er bod cynllunio bellach yn rhan o deitl eich swydd. Ymrwymodd y Prif Weinidog i gynnal ymarfer dysgu gwersi mewn perthynas â'r broses gynllunio honno, a hoffwn i chi ddweud rhywbeth am hynny yn y dyfodol, os nad nawr.
Nid partneriaid sector preifat a Llywodraeth Cymru yw'r unig bartneriaid cyflawni ar fwrdd y gyd-fenter wrth gwrs. Mae gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae, oherwydd bydd y trac ei hun yn parhau i fod yn ased y DU, ac mae angen gwneud gwaith ar y trac i helpu i gyflawni'r cynllun parcffordd cyfan. Rwy'n chwilio am chwistrelliad o gyflymder, sicrwydd ac uchelgais. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pryd y credwch chi y bydd cynllun cyflawni gyda sicrwydd cyllido ar gael, yn dilyn yr adolygiad. Mae'n dda clywed eich bod chi'n mynd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr maes o law, ond yn hollbwysig, rwyf am ddeall pryd y gallwn ddisgwyl gweld gwaith yn dechrau ar gyflawni datblygiad y parcffordd.
Rwy'n cytuno'n llwyr fod manteision y prosiect i'r economi a rhagolygon cyflogaeth i bobl yn yr ardal, a'r cysylltedd gwell i gymunedau yn darparu cyfle enfawr i ddwyrain Caerdydd. Bydd yr adolygiad cychwynnol sydd wedi'i gynnal yn ein helpu i ddeall beth fyddai'r ffordd orau ymlaen. Rwy'n credu ei bod yn anochel mewn gwirionedd y byddai angen i'r prosiect fynd trwy bwynt adolygu pellach, i ystyried cwmpas a hyfywedd yr uwchgynllun cyffredinol, oherwydd mae chwyddiant yn y sector adeiladu yn unig wedi mynnu ein bod yn ailwerthuso ein rhagdybiaethau blaenorol, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r prosiect ac i weld a allai fod angen unrhyw addasu o ganlyniad i'r newidiadau hynny.
Mae strwythur ariannol y prosiect i'w benderfynu o hyd, ac mae nifer o gamau gweithredu dilynol y bydd angen eu cwblhau cyn inni gyrraedd y pwynt hwnnw. Ond fel y dywedaf, bydd yr adolygiad sydd newydd gael ei gwblhau yn darparu rhaglen gwmpasu fwy manwl nawr, gyda'r bwriad o sicrhau bod y barcffordd yn addas i'r diben.
O ganlyniad, rhaid i Cardiff Parkway Developments Ltd a South Wales Infrastructure Ltd benderfynu beth fydd yn mynd ymlaen i'r cam dylunio a chynllunio manwl. Byddwn yn ymwneud yn llawn â'r prosesau hynny, ond yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU, fel y bo'n briodol, fel partneriaid pwysig yn hyn hefyd. Gallwn gael sgwrs bellach am y gwaith ehangach ar gynllunio maes o law, ond bydd fy nghyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r ystod o ymyriadau a roddais ar waith o ran cynllunio i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau, ac fe wneuthum y pethau hynny yn ddiweddar iawn.
Roeddwn i'n gallu darparu cyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Drwy fodel newydd yn sgil Diwydiant Sero Net Cymru, rydym wedi gallu darparu arbenigedd ychwanegol, ac rydym hefyd yn edrych ar fodelau rhanbarthol nawr i gefnogi'r defnydd o rai o'r sgiliau prinnach hynny.
Wythnos yn ôl, cyhoeddais ein hymateb i'r ymgynghoriad ar gynllunio hefyd, a oedd yn cynnwys symud tuag at adennill costau llawn ar gyfer ceisiadau cynllunio, fel bod awdurdodau lleol yn gallu ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn y gwasanaethau cynllunio. Y bwriad yw bod hynny'n cael ei ailfuddsoddi er mwyn gwella'r profiad i ddatblygwyr, a'r ffordd y mae cymunedau'n gallu ymgysylltu â'r cymwysiadau hynny.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Altaf Hussain.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warantu darpariaeth cyflenwadau ynni i seilwaith cenedlaethol hanfodol? OQ62990
Mae darparu cyflenwadau ynni ar gyfer seilwaith cenedlaethol hanfodol yn fater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys fforymau gwydnwch lleol, i roi'r galluoedd angenrheidiol ar waith i gynllunio ar gyfer risgiau sy'n gysylltiedig â thoriadau i gyflenwadau ynni.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf gwelwyd rhyddhau manylion am y tân a ddaeth â Maes Awyr Heathrow i stop am ddyddiau lawer. Fel pe bai i danlinellu bregusrwydd ein grid ynni, caeodd y toriad yn y pŵer yr M4 i'r ddau gyfeiriad, gan effeithio'n ddifrifol ar drafnidiaeth i Gymru ac oddi yma.
Canfu ymchwiliad fod y Grid Cenedlaethol wedi bod yn ymwybodol o broblem yn yr is-orsaf sy'n cyflenwi Heathrow ers saith mlynedd, ond wedi methu ei drwsio. Yr un mor bryderus, canfu'r adroddiad hefyd nad yw gweithredwyr rhwydwaith ynni yn ymwybodol yn gyffredinol a yw cwsmeriaid sydd wedi'u cysylltu â'u rhwydwaith yn seilwaith cenedlaethol hanfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod nad yw'r grid yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Ond chi sy'n gyfrifol am ein seilwaith hanfodol. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol a'r cwmnïau ynni i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu i ddiogelu seilwaith yma yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol a chwmnïau ynni unigol. Ar ymweliad â RWE ym Mhenfro yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o archwilio rhai materion, gan gynnwys y sefyllfa a ddigwyddodd ym Mhortiwgal. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y ffaith bod RWE yn adeiladu rhywbeth o'r enw cyddwysydd cydamserol—roeddwn i'n gobeithio y byddwn i'n cael cyfle i ddweud hynny yn y Siambr heddiw. Mae'n offeryn diddorol iawn a fydd yn atal sefyllfaoedd fel yr hyn a welsom ym Mhortiwgal, a effeithiodd yn fawr ar seilwaith cenedlaethol, rhag digwydd yng Nghymru. Rwy'n credu bod hwnnw'n fuddsoddiad pwysig iawn.
Ond yn fwy eang, mae'r Prif Weinidog wedi nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gwella ein gwydnwch cenedlaethol ein hunain a'r blaenoriaethau cysylltiedig o amgylch hynny yn fframwaith gwydnwch Cymru, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mai eleni. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â'r gymuned ymatebwyr brys ac mae'n ein helpu o ran sut y byddem yn ymateb i unrhyw broblem yn gysylltiedig â tharfu ar ein cyflenwadau ynni.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 2 heddiw yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y cwestiwn gyntaf gan Peter Fox.
1. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o’r effaith ar gleifion yn sgil newidiadau arfaethedig diweddaraf Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG? OQ62996

Credwn y bydd y cynigion hyn yn sicrhau y bydd pob claf yn cael cyngor unigol ar atal, yn cynyddu capasiti i ddarparu triniaeth i'r rhai sydd â chlefyd, yn sefydlu llwybrau sy'n galluogi pobl â lefelau uwch o glefyd y geg i gael triniaeth, yn gwella ansawdd ac yn sicrhau bod capasiti bob amser ar gyfer cleifion newydd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod perygl y gallai'r newidiadau arfaethedig diweddaraf i ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru niweidio lles cleifion. O dan y newidiadau arfaethedig hyn, gellir symud cleifion rhwng practisau deintyddol i gael eu triniaeth, yn hytrach na chael un lle cyson ar gyfer deintyddiaeth. Mae hyn yn golygu, dyweder, y gellid gofyn i glaf yng Nghas-gwent fynd am apwyntiad y peth cyntaf yn y bore mor bell i ffwrdd â Bryn-mawr, a allai fod yn anhygoel o anodd i lawer o bobl oedrannus a bregus, yn enwedig y rheini mewn etholaethau gwledig fel fy un i, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn annibynadwy neu'n anfynych iawn.
Roeddwn yn arbennig o bryderus i weld nad yw'r ymgynghoriad wedi cael cyhoeddusrwydd eang, gyda llawer o fy etholwyr ond yn clywed amdano pan fyddent yn ymweld â'u deintydd. O ganlyniad, mae sawl person, yn enwedig pobl oedrannus, wedi cysylltu â mi. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben, ond pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnig hwnnw ar y bobl fwyaf bregus, yn enwedig mewn cymunedau gwledig?
Nid wyf yn derbyn cynsail cwestiwn yr Aelod. Ni chredaf mai dyna fydd canlyniad y diwygiadau yn y contract sy'n destun ymgynghoriad. Mae'n iawn i ddweud bod y berthynas rhyngoch chi a'ch practis deintyddol yn bwysig i bobl, yn enwedig gyda chyflyrau cronig, fel pydredd dannedd a chlefyd y deintgig. O dan y system bresennol, fel y gŵyr yr Aelod o bosibl, ar ôl darparu cwrs o driniaeth, nid oes gofyniad, mewn gwirionedd, i'r practis hwnnw barhau i'ch gweld eto am archwiliad neu driniaeth bellach. Ond rwyf am dawelu meddwl yr Aelod trwy ddweud mai'r unig bobl y credaf y gallent weld deintydd gwahanol yw'r rhai sy'n holliach, ac nid yw hyn yn wahanol i unrhyw ran arall o'r GIG.
Ar ei bwynt ynglŷn â phellteroedd teithio, fe fydd yn gwybod, wrth gofrestru i gael mynediad at y porth mynediad deintyddol, y gall cleifion ddweud pa mor bell y maent yn fodlon neu'n gallu teithio, a bydd hynny'n amlwg yn cael ei ystyried yn llawn.
Rwy'n synnu ei glywed yn dweud ei fod yn credu na chafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo'n eang. Rwy'n credu mai dyma un o'r ymatebion mwyaf a gafwyd i unrhyw un o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, gyda dros 6,000 o ymatebion. Ac rwy'n siŵr y byddai llawer o'i etholwyr wedi cyfrannu ato; rwy'n mawr obeithio hynny. Mae'n awgrymu i mi fod pobl ledled Cymru wedi ymgysylltu â'r ymgynghoriad. Mae'n debyg ei bod yn rhy gynnar i ymgysylltu â manylion ein hymateb i hynny, ond byddaf yn gwneud datganiad pellach ar ôl y toriad mewn perthynas â'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r camau nesaf, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol i chi.
2. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o fynediad at wasanaethau meddyg teulu yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ62977
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu ledled Cymru drwy ddarparu cyllid ar gyfer capasiti ychwanegol a'n hadolygiad o'r safonau mynediad. Mae cynllun 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' yn parhau i gefnogi a darparu cymhellion mewn perthynas â recriwtio meddygon teulu ar gyfer ardaloedd, gan gynnwys gogledd Cymru.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dylai'r ffaith bod mwy na 100 o feddygfeydd teulu wedi cau ledled Cymru ers 2012 beri cryn bryder i bob un o'r Aelodau yma. Mae hyn yn cael effaith ofnadwy ar iechyd a lles ein hetholwyr. Ac nid yw hyn yn ddim gwahanol yn y gogledd-ddwyrain. Dywedodd trigolion Gwersyllt wrthyf yn ddiweddar nad oes ganddynt ddigon o wasanaethau meddyg teulu digonol, gan eu gwneud yn llai iach, ac maent yn cydnabod eu bod yn rhoi pwysau ar wasanaethau brys ac ysbytai, yn enwedig Ysbyty Maelor yn Wrecsam.
Fe fyddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod adolygiad cynhwysfawr diweddar gan Brifysgol Southampton wedi canfod ei bod yn llawer gwell gan gleifion ymgynghoriadau uniongyrchol â meddyg teulu, gyda phwyslais ar apwyntiadau wyneb yn wyneb. Felly, o ystyried mai dyma sydd orau gan gleifion a'r effaith anferth y mae gwasanaeth meddyg teulu da yn ei chael o ran lleihau pwysau ar ysbytai, sut rydych chi'n sicrhau bod gogledd-ddwyrain Cymru'n cael blaenoriaeth o ran hyfforddi a recriwtio meddygon teulu yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod?
Wel, mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn gymharol sefydlog, mewn gwirionedd, dros y tymor byr a'r tymor hir, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y staff clinigol, sy'n rhan allweddol o'r tîm ymarfer ehangach, ac mae meddygon teulu yn dweud wrthym, ac mae cleifion yn dweud wrthym, eu bod yn rhan bwysig o sicrhau bod gan gleifion y mynediad sydd ei angen arnynt at wasanaethau meddygon teulu.
Mae model gofal sylfaenol Cymru, fel y gŵyr, yn allweddol i sicrhau'r gofal sydd ei angen ar gleifion, ac mae'n pwysleisio nad y meddyg teulu yw'r unig bwynt cyswllt cyntaf, ac yn amlwg, mae cleifion yn dod yn fwyfwy ymwybodol o hynny. Mae'n iawn i ddweud bod darparu mynediad at wasanaethau meddyg teulu yn hanfodol er mwyn gallu sicrhau bod y cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, a hefyd, fel y dywedodd yn ei gwestiwn, nad yw rhannau eraill o'r GIG yn ysgwyddo'r pwysau ychwanegol hwnnw. Ac rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud mewn perthynas â hynny yn ei gwestiwn.
Fel rhan o gytundeb contract 2024-25—felly, ar gyfer y flwyddyn sydd newydd fynd heibio—fe wnaethom ymrwymo i adolygu'r safonau mynediad sydd wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd i gryfhau cydymffurfiaeth â'r hyn y byddai pob un ohonom, yn ôl pob tebyg, yn ei disgrifio fel 'tagfa 8 y bore'. Rydym wedi gweld cynnydd mewn perthynas â hynny, ond rwyf wedi rhoi'r dasg i fyrddau iechyd wirio'r dystiolaeth y mae practisau'n ei darparu iddynt o gydymffurfiaeth â'r safonau hynny ac i sicrhau bod y safonau hynny'n cael eu cynnal.
Credaf mai un o'r heriau, wrth i'r pwysau gynyddu ar feddygon teulu, wrth i'r galw gynyddu, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf, yw nad yw'r gallu i ddarparu gofal parhaus, yn enwedig i gleifion a allai fod yn ymdopi â mwy nag un cyflwr cronig, neu a allai fod yn arbennig o fregus—nid yw wedi bod yn bosibl parhau â hynny, ac mae hynny'n creu pwysau ychwanegol ar y practisau hynny, ac yn hollbwysig, ar y cleifion hynny hefyd.
Felly, o fis Ebrill eleni ymlaen, rydym yn gweithio gyda meddygfeydd teulu ar yr hyn rydym yn ei alw'n ddull gwella ansawdd, lle gall practisau nodi'r garfan o gleifion a all elwa fwyaf o ofal parhaus, a darparu mwy o hynny iddynt, a ddylai helpu i sefydlogi rhywfaint o'r pwysau. Hoffwn feddwl, dros amser, y gall hynny ddod yn ddisgwyliad arferol unwaith eto i fwy a mwy ohonom, er y bydd yn deall y bydd hynny'n cymryd peth amser.
Mae sawl meddygfa yn fy etholaeth i, Wrecsam, bellach yn defnyddio system frysbennu sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cleifion gwblhau ffurflen ar-lein. Wrth gwrs, mae llawer o etholwyr yn dal i fod wedi'u hallgáu'n ddigidol, heb fynediad at y dechnoleg ofynnol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod meddygon teulu, ond hefyd y bwrdd iechyd, yn cefnogi'r cleifion hyn?
Wel, bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn sôn am y safonau mynediad yn fy ateb blaenorol, ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i bractisau meddygon teulu ddarparu nifer o wahanol ffyrdd o ymgysylltu â'r practis. Felly, mae'r rheini eisoes yn rhan o'r safonau, a dyna rwyf am i fyrddau iechyd fonitro cydymffurfiaeth â hwy mewn ffordd fwy rhagweithiol nag y bu'n ofynnol iddynt ei wneud yn y gorffennol.
Mae'r Aelod yn gwbl iawn i ddweud nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus neu'n gallu ymgysylltu â sianeli digidol yn unig. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, fodd bynnag, yw po fwyaf o bobl y gallwn eu cael i ymgysylltu drwy sianeli digidol, mae hynny'n naturiol yn rhyddhau capasiti mewn mannau eraill i gefnogi'r cleifion na fyddant eisiau gwneud hynny, neu na fyddant yn gallu gwneud hynny. Felly, wrth inni weld mwy o ddefnydd o ap y GIG, er enghraifft, un o'r pethau y mae cleifion yn ei ddweud wrthyf yw, 'Wel, nid wyf yn siŵr y byddaf yn gwybod sut i'w ddefnyddio.' Mae'n eithaf syml mewn gwirionedd. Fodd bynnag, am bob unigolyn y gallwn eu cael i ddefnyddio'r ap, mae hynny'n elfen arall o gapasiti yn y system i gefnogi'r cleifion y mae'r Aelod yn gywir i ddweud bod angen inni sicrhau eu bod yn cael eu gwasanaethu yn yr un ffordd.
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau fydd nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf—James Evans.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich uchelgeisiau eich hun i leihau rhestrau aros yn dibynnu ar sicrhau bod digon o gapasiti o ran anesthetyddion, o ystyried na ellir cynnal y rhan fwyaf o lawdriniaethau heb eu presenoldeb. Mae adroddiad diweddaraf Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion ar y gweithlu yn dangos bod Cymru 120 o anesthetyddion yn brin o'r nifer sydd ei angen. Dyna ddiffyg o 17 y cant. Amcangyfrifir y gallai'r diffyg hwn ynddo'i hun fod yn atal oddeutu 90,000 o lawdriniaethau a thriniaethau rhag digwydd yng Nghymru bob blwyddyn. Felly, a allwch chi nodi pa asesiadau a wnaethoch o effaith y prinder hwn yn y gweithlu ar allu GIG Cymru i leihau rhestrau aros, a pha gamau pendant rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg, fel y gall mwy o gleifion Cymru gael eu llawdriniaethau?
Mae hwn yn fater yr wyf wedi'i drafod gyda'r coleg brenhinol, mewn perthynas â phwysau ar y gweithlu. Rwy'n cytuno â'r Aelod fod sicrhau bod gennym y gweithlu ar waith, yn y rolau cywir, gyda'r set sgiliau gywir, yn amlwg yn bwysig ar gyfer ein gallu i gyflawni'r cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym i barhau â'r gostyngiad graddol a welsom mewn amseroedd aros i gleifion ledled Cymru.
Rwy'n hyderus y bydd y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn sicrhau maes o law nad oes cleifion yn aros dwy flynedd, neu lle rydym yn ôl gyda'r targed diagnostig o wyth wythnos, a'n bod yn tynnu 200 o gleifion oddi ar ein rhestrau aros—fod y cynlluniau hynny'n gyflawnadwy, gyda chyfluniad y gweithlu sydd gennym ar waith ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n llygad ei le fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni sicrhau ei fod yn parhau i gael ei adolygu. Mae gennym drefniant, fel y gŵyr, i gomisiynu lleoedd addysg a hyfforddiant ar draws gweithlu'r GIG drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a byddwn yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod anghenion y GIG yn cael eu diwallu.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r pethau eraill sy'n atal llawdriniaethau, gan y gohiriwyd bron i 90,000 o lawdriniaethau y llynedd, gyda llawer o gleifion yn cyrraedd i gael llawdriniaeth, a oedd mewn cyflwr iechyd gwael i ddechrau, oherwydd problemau fel ysmygu, diabetes heb ei ddiagnosio, eiddilwch, pobl dros bwysau, sy'n arwain at ganslo, cymhlethdodau ac arosiadau hirach yn yr ysbyty—. Gwyddom fod sgrinio cynnar a rhagsefydlu yn lleihau rhestrau aros, gan nad yw pobl yn aros cyhyd i gael eu gweld.
Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran gweithredu. Ond tybed pa waith pellach rydych chi'n ei wneud ar hyn, ar ragsefydlu, i sicrhau bod pobl yn ffit i gael llawdriniaethau, oherwydd, fel y dywedais, rydym yn gweld llawer gormod o bobl yn cyrraedd heb fod yn ffit i gael llawdriniaeth, a phan fyddant yn cael llawdriniaeth, maent yn aros mewn ysbytai'n llawer rhy hir, ac yn blocio gwelyau, ac yn atal y cleifion allanol y mae angen i ni eu gweld er mwyn sicrhau y gallwn fynd drwy'r rhestr aros yn gyflymach. Felly, hoffwn wybod pa waith pellach rydych chi'n ei wneud yn hyn o beth.
Bydd yr Aelod yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, pan wneuthum y cyhoeddiad ar ein huchelgeisiau dros y flwyddyn nesaf, fod rhan o hynny'n cynnwys ymagwedd newydd tuag at, yn gyntaf, cadw apwyntiadau—cafodd 700,000 o apwyntiadau eu colli gan gleifion allanol y llynedd—a hefyd sicrhau bod y system yn fwy rhagweithiol ynghylch nodi'r cleifion nad ydynt yn barod eto ar gyfer llawdriniaeth, ac ymyrryd yn gyflymach i'w rhoi ar lwybr i'w cael yn ffit i gael llawdriniaeth. Nid yw o fudd i unrhyw un i gleifion fod yn y sefyllfa a ddisgrifiodd yr Aelod yn ei gwestiwn. Nid yw'n gweithio i'r claf, nid yw'n gweithio i'r GIG, nid yw'n gweithio i gleifion eraill a allai fod yn fwy parod ar gyfer y llawdriniaeth honno. Yr hyn a wyddom hefyd, o safbwynt y claf, yw bod cleifion sy'n cael llawdriniaeth yn y cyd-destun hwnnw'n cymryd mwy o amser i wella, yn treulio mwy o amser yn yr ysbyty, ac nid yw'r canlyniadau cystal. Felly, mae'n flaenoriaeth bwysig i ni gael hynny'n iawn.
Yr hyn y bydd yn ei wybod o'r cyhoeddiad a wneuthum ychydig wythnosau yn ôl yw y bydd y system yn nodi cleifion nad ydynt yn barod eto i gael llawdriniaeth ac yna'n eu rhoi ar y llwybr i wella eu hiechyd, beth bynnag y bo hynny, a gall fod yn amrywiaeth o bethau. Fe fydd yn gwybod hefyd fod gennym drefniant un pwynt cyswllt ar waith bellach ar gyfer cleifion sy'n aros am lawdriniaeth. Felly, mae ganddynt rywun y gallant siarad â hwy ynglŷn â sut y gallant baratoi, sut y gallant fod yn ffit, sut y gellir diwallu'r anghenion ychwanegol a allai fod ganddynt, cyn eu bod yn barod ar gyfer yr ymyrraeth honno, y driniaeth honno.
Diolch. Rwy'n cytuno nad yw'n gweithio i gleifion, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedoch chi, gan fod gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Ond rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet—. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau oll yn cytuno â GIG sydd am ddim yn y man lle caiff ei ddarparu, sy'n cefnogi cleifion ar draws y wlad, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau a sut y cânt fynediad at y system. Rwyf wedi cael fy nychryn gan fersiwn Reform UK o newid ein GIG i system yswiriant fel yn Ffrainc, gan ofyn i bobl, y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, dalu am eu gofal iechyd, neu os oes ganddynt gyflyrau sy'n bodoli eisoes, i fethu cael yswiriant iechyd o gwbl, gan ganiatáu i'r bobl hynny ddioddef a marw ar restrau aros am nad ydynt yn cyd-fynd â naratif gwleidyddol penodol Reform. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes unrhyw gynlluniau—. Gwn nad oes gan fy mhlaid i unrhyw gynlluniau i newid i'r model hwn, a byddwn yn gobeithio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i newid i'r model hwn ychwaith, gan nad wyf am weld ein GIG yn cael ei werthu ar y farchnad stoc i hybu gyrfa wleidyddol Nigel Farage ei hun.
Wel, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn credu mewn GIG cyhoeddus sydd am ddim lle bynnag y bo'i angen, ar gael i ddarparu gofal pan fo'i angen, nid yn ôl gallu pobl i dalu amdano. Dyna fu ein safbwynt erioed; dyna fydd ein safbwynt. Mewn gwirionedd, credaf mai'r hyn y gwelwn Reform yn ei gynnig yw diwedd y GIG. Nid wyf yn credu am eiliad fod Nigel Farage yn cefnogi unrhyw beth sy'n seiliedig ar Ffrainc. Mewn gwirionedd, yr hyn a fydd gennym yw sefyllfa lle mae premiymau'n anfforddiadwy, lle mae cyflyrau heb eu hyswirio, diwedd ar bresgripsiynau am ddim, diwedd y GIG, lle mae iechyd yn seiliedig ar gyfoeth—dychweliad i'r 1930au. Yr hyn y mae'r Llywodraeth hon eisiau ei weld yw edrych ymlaen at y 2030au, gyda GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol, yn darparu'r gofal sydd ei angen ar bob un ohonom.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rai wythnosau yn ôl, fe ddywedoch chi mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyfaill Peredur Owen Griffiths fod yna, a dwi'n dyfynnu,
'adegau pan fydd y GIG yn wynebu pwysau eithriadol,'
ac yn ystod y cyfnod hyn,
'mae mesurau...lleol yn cael eu datgan.'
Ond yn chwarter cyntaf 2025, fe gofnododd pob adran frys yng Nghymru gleifion yn derbyn gofal mewn mannau anniogel ac anaddas, gyda bron i hanner yn aros am wely mewnol, yn ôl y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng. Mae'r dystiolaeth anecdotaidd, fel sy'n glir yn yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru', gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn dweud yr un peth.
Er hyn i gyd, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn casglu nac yn cyhoeddi ffigurau swyddogol ar ofal mewn mannau anaddas. Felly, pa sicrwydd sydd gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet fod gofal coridor yn eithriad ac nid yn arfer dyddiol? Sut ydych chi'n gwybod ei fod yn eithriad pan nad oes unrhyw ddata yn cael ei gasglu? Ac a wnewch chi wrando ar yr RCN a Chymdeithas Feddygol Prydain, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau cofnodi ac adrodd yn agored ar ofal coridor yng Nghymru?
Wel, mae elfennau o hyn yn cael eu casglu beth bynnag. Un o'r heriau rŷn ni wedi eu trafod â'r RCN a'r BMA—ac rwy'n cwrdd â nhw eto yn fuan iawn—yw diffiniad o'r hyn sydd yn cael ei drafod. Ond mae'n gwbl glir i mi fod gormod o hyn yn digwydd. Dyw e ddim yn digwydd—. Dyw e ddim—. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai fel eithriad y dylai hyn fod yn digwydd. Ond mae'n amlwg yn digwydd yn amlach na hynny, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Beth rŷn ni wedi gweld dros y misoedd diwethaf yw cynnydd yn y gallu i drosglwyddo o ambiwlansys i ystafelloedd brys yn gyflymach nag yn y gorffennol, sy'n awgrymu i fi fod cynnydd yn digwydd yn y system yn araf bach. Ond dyw e ddim yn ddigon cyflym. Dwi ddim eisiau gweld hyn yn digwydd o gwbl, ond mae'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd ni ar hyn o bryd yn golygu ei fod yn digwydd yn amlach nag y dylai fe. Byddaf yn cwrdd â'r RCM ac â'r BMA yn yr wythnosau nesaf i drafod camau pwrpasol a beth yn fwy y gallwn ni ei wneud yn hynny o beth.
Diolch am yr ymateb. Mi fyddwch chi'n gwybod, Ysgrifennydd Cabinet, fod yr RCN a'r BMA wedi sefydlu deiseb, ac ynddi maen nhw'n mynnu fod Llywodraeth Cymru yn, a dwi'n dyfynnu eto, gwneud derbyn gofal mewn cadair am fwy na 24 awr yn ddigwyddiad 'never event'. Mae Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud, a dwi'n dyfynnu, fod gan bob never event
'y potensial i achosi niwed difrifol...neu farwolaeth'
ond nid oes rhaid i hynny fod wedi digwydd er mwyn ei gategoreiddio felly, rydych chi'n dweud.
Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet felly yn credu nad yw cadw claf mewn cadair am 24 awr yn ddigwyddiad difrifol sy'n gallu achosi niwed gwirioneddol? Os yw digwyddiadau never events, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn gofyn am ymchwiliad llawn, mesurau diogelwch ar unwaith, a chamau pendant a rhannu gwersi, pam na wneir yr un peth gyda gofal mewn cadair? Onid yw'n gwneud synnwyr bod gosod hyn fel digwyddiad never event yn sicrhau diogelwch cleifion ac yn gorfodi'r gwasanaeth i ddysgu o gamgymeriadau er mwyn atal yr un camgymeriadau yma rhag digwydd eto?
Mae yr un ateb, mewn ffordd, i'r cwestiwn hwn. Mae diffiniad 'never event' yn fwy cymhleth na'r enghraifft y mae'r Aelod yn ei rhoi. Ond dyw hynny ddim yn gyfystyr â dweud ei bod yn dderbyniol bod pobl yn cael triniaeth yn y math yna o sefyllfa. Dyw e ddim yn dderbyniol. Felly, mae'r ddau ddiffiniad yn gweithio tuag at bwrpasau gwahanol. Ond dwi eisiau bod yn gwbl glir gyda'r Aelod: dwi ddim am eiliad yn dweud nad oes angen mynd i'r afael â hyn; wrth gwrs bod angen gwneud hynny. Mae gofyniad ar bob bwrdd iechyd i wneud hynny. Rydyn ni yn gweld llwyddiannau yn y system, rydyn ni'n gweld cynnydd, fel rwy'n dweud, ond dyw e ddim yn ddigon cyflym.
Diolch am yr ymateb yna. Mae chwe nod gofal brys a chyfamserol Llywodraeth Cymru yn disgrifio'r blaenoriaethau brys a hirdymor ar gyfer gofal brys, fel, dwi'n dyfynnu, sicrhau bod cleifion yn cael:
'Y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf'.
Mae'n amlwg i mi eich bod chi bellach wedi colli hyder yr RCN a'r BMA ynglŷn â gofal coridor. I adennill eu hyder, a ydych chi'n cytuno i gadeirio cyfarfodydd chwe nod gofal brys a chyfamserol yn bersonol, nes bod digon o gynnydd wedi cael ei wneud i roi diwedd ar ofal coridor yng Nghymru?
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n bosib diwygio'r rhestr o ddigwyddiadau never events, ac mae hynny wedi digwydd o'r blaen. Fel rydych chi wedi sôn, mae'n dibynnu ar y diffiniad, ac mae'n bosib gwneud y diffiniad yna. Er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu pan fydd pethau'n mynd o chwith, ac er mwyn lleihau'r risg pan fydd yn digwydd eto, ydy Llywodraeth Cymru'n cytuno i ychwanegu 'claf mewn cadair am 24 awr' at y rhestr o ddigwyddiadau never events?
Dwi wedi ateb y cwestiwn hwn yn barod. Dwi ddim yn credu bod unrhyw ran o'r gwasanaeth iechyd yn teimlo dwi ddim yn cymryd digon o ddiddordeb personol yn yr hyn sy'n digwydd. Felly, fe ges i gyfarfod ddoe oedd yn delio â pharatoadau ar gyfer y gaeaf yn benodol, a'r pwysau mewn ystafelloedd aros brys ac ar y gwasanaeth ambiwlans. Mae gyda fi gyfarfod arall yr wythnos nesaf yn gwneud yr un peth. Felly, rwy'n gwbl sicr bod y system yn deall cymaint o flaenoriaeth yw hyn i'r Llywodraeth, ac i bob bwrdd iechyd hefyd. Mae angen gweld cynnydd, fel gwnes i ddweud, yn gyflymach na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ofalwyr ifanc? OQ63007

Mae gofalwyr ifanc yn flaenoriaeth. Er bod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod eu gofal am aelodau'r teulu yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi, mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw hyn yn niweidiol i'w haddysg nac unrhyw agwedd arall ar eu bywydau.
Rwyf wedi gweld gofalwr ifanc yn fy nheulu sy'n gwneud gwaith gwych. Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad panel yn y Pierhead a drefnwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac roedd gofalwyr ifanc yn bresennol yn y gynulleidfa. Soniodd rhai o aelodau'r gynulleidfa am yr heriau y maent yn eu hwynebu fel gofalwyr ifanc a sut y mae'r cymorth a'r seibiant y maent yn ei gael yn hanfodol i'w hiechyd a'u lles eu hunain. Mae grŵp anghenion dysgu ychwanegol Sparrows yng Nghaerffili, y soniais amdanynt sawl gwaith, Valleys Daffodils yng Nghaerffili hefyd—maent yn gwbl allweddol i ofalwyr ifanc, yn ogystal â rhieni plant anabl. Mae tapestri o rwydweithiau cymorth ffurfiol ac anffurfiol ledled Cymru sy'n bodoli i gefnogi gofalwyr ifanc o'r fath, a cheir llawer o rai eraill, ac mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig yn eu meithrin a'u hannog, ond hefyd yn nodi ble maent. Felly, beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cysylltu â gofalwyr ifanc unigol yn uniongyrchol i'w gwneud yn ymwybodol o'r rhwydweithiau cymorth hyn, boed yn breifat, yn gyhoeddus neu'n wirfoddol, a sicrhau eu bod yn gwybod eu bod ar gael iddynt yn eu hardal?
A gaf i ddiolch i Hefin am ei gwestiwn atodol, sy'n wirioneddol bwysig? Oherwydd bydd unrhyw un ohonom sydd wedi cael unrhyw gysylltiad â gofalwyr di-dâl, boed yn ofalwyr ifanc neu'n ofalwyr di-dâl sy'n oedolion, yn gwybod bod gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gwyddom fod rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau gofalwyr, ac nid yw hynny'n digwydd yn y ddigon cyson ledled y wlad. Ac rydym wedi nodi hynny drwy ymchwil a gomisiynwyd gennym tuag at ddiwedd y llynedd drwy Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a oedd yn fath o adolygiad cyflym o ba gymorth a oedd ar gael i ofalwyr di-dâl. Ac o ganlyniad uniongyrchol i rai o'r argymhellion a ddaeth o'r adolygiad hwnnw, rwyf bellach wedi sefydlu ffrwd waith o dan fy ngrŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr di-dâl, sy'n edrych yn benodol iawn ar hynny a sut y gallwn wella'r cysondeb a'r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan fod llawer o gymorth eisoes ar gael. Rydych chi eisoes wedi nodi rhai o'r pethau sydd gennym ar gael, dylwn ddweud, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.
Rwyf wedi siarad sawl gwaith yn y Siambr am y cymorth uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu y tu hwnt i ofynion statudol awdurdodau lleol—felly, y cynllun seibiant byr, y cynllun cymorth i ofalwyr. Rydym yn cynnal gŵyl gofalwyr ifanc bob blwyddyn, mae gennym gynllun cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc ar gyfer pobl ifanc, i'w helpu yn yr ysgol, ac fe wnaethom gynnal ymgyrch benodol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd wedi'i hanelu at ofalwyr ifanc yn enwedig, a daeth honno i ben tuag at ddiwedd mis Mehefin eleni. Ond roedd yn ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd wedi'i hanelu at y gofalwyr ifanc eu hunain, oherwydd weithiau, ac mae hyn yn wir am lawer o ofalwyr di-dâl, nid gofalwyr ifanc yn unig, nid ydynt yn uniaethu fel gofalwyr di-dâl. Nid ydynt yn sylweddoli mai dyna ydynt. Felly, roedd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â'u helpu i ddeall mai dyna ydynt, a bod cymorth ar gael iddynt, pe byddent yn chwilio amdano. Ac rwy'n gobeithio y bydd y gwaith y byddwn yn ei wneud nawr, y ffrwd waith y byddwn yn ei gwneud nawr, yn fy ngrŵp cynghori gweinidogol, yn adrodd yn ôl i mi yn yr hydref gydag argymhellion penodol iawn ynglŷn â sut y gallwn wella mynediad a chymorth.
Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn yr un digwyddiad gyda Hefin, ac roeddwn i, James Evans a Sioned Williams ar y panel, yn gwrando ar brofiadau gofalwyr ifanc. Mae oddeutu 30,000 o ofalwyr ifanc yma yng Nghymru, ac mewn gwirionedd, yn yr oriel, mae unigolyn ifanc yma o'r enw Cathy, sydd â gofalwr ifanc ei hun, felly mae rhywun ifanc yn gofalu amdani hi. Un o'r materion yr oedd Cathy'n siarad â mi amdanynt yw'r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac nid oedd hi na'i gofalwr yn ymwybodol o'r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc. Felly, rydym yn gweld anghysondeb ar unwaith o ran ei gyflwyno, yr ymwybyddiaeth, a hyrwyddo'r cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad at wasanaethau a darpariaethau eraill ar eu cyfer. Un o'r rhwystrau yw ei fod yn cael ei gyflwyno fel cyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Felly, hoffwn ofyn i chi ystyried, ac efallai y gallai eich grŵp ystyried, gwrando ar bobl ifanc fel Cathy a'r unigolyn sy'n gofalu amdani, i edrych ar sut y gallai'r mynediad at y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc fod yn well. Ond mae un o'r materion yn ymwneud â'i wneud yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, fel nad oes anghysondeb a'i fod yn decach. Y mater arall a godwyd oedd nodweddion gwarchodedig ar gyfer ein gofalwyr ifanc. Mae hynny'n allweddol er mwyn caniatáu iddynt gael mynediad at y gwasanaethau ac fel nad ydynt yn wynebu gwahaniaethu, ac i gael y droed ychwanegol honno yn y drws. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Llywydd.
Wel, a gaf i ddiolch i chi, Jane, am eich cwestiwn atodol? A gwn pa mor angerddol ydych chi a llawer o bobl sydd wedi gofyn cwestiynau i mi ar y pwnc hwn ar draws y Siambr am ofalwyr di-dâl, boed yn ofalwyr ifanc neu'n ofalwyr di-dâl sy'n oedolion. Rydych chi'n llygad eich lle: gall y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, os caiff ei ddefnyddio'n gyson ac yn effeithiol ac yn gynhwysfawr, newid bywyd gofalwr ifanc, i beidio â gorfod egluro eu hunain ym mhobman yr ânt, a chael y gallu i ddangos cerdyn neu laniard—rwy'n credu eu bod yn ei wneud mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol awdurdodau; mae gan rai ap ar eu ffôn ac yn y blaen. Bydd yr ysgol yn deall ac mae hynny'n helpu'r ysgol i allu rheoli eu profiad dysgu, sut y maent yn ymdopi â'u gwaith cartref a phob math o bethau. Mae'n eu helpu gyda mynediad at feddyg teulu, at fferyllfeydd—rydych yn gwybod yr holl bethau hyn, Jane.
Felly, nid yw'r hyn a ofynnwch yn rhy wahanol i gwestiwn Hefin, sy'n ymwneud â chysondeb y dull o sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd y bobl sydd ei angen. Felly, rwy'n fwy na pharod i hynny fwydo i mewn i ffrwd waith y grŵp cynghori gweinidogol ar hyn, gan ein bod yn edrych ar bob agwedd ar gymorth i ofalwyr di-dâl. Mae'r grŵp gweinidogol yn cynnwys gofalwyr di-dâl a gofalwyr ifanc di-dâl, felly rwy'n rhagweld y byddent hwythau hefyd yn cyfrannu eu profiad personol, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar unrhyw un sydd eisiau gwneud unrhyw sylwadau uniongyrchol i mi. Mewn gwirionedd, roeddwn mewn ysgol yn eich etholaeth yn siarad â gofalwyr ifanc, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ychydig fisoedd yn ôl. Ac mae cael y sgwrs un i un honno gyda gofalwr ifanc ynglŷn â'u profiadau personol yn rhywbeth y credaf y dylai pawb ei wneud, gan mai dyna pryd y mae'n eich taro chi mewn gwirionedd.
Yn aml, mae gofalwyr ifanc yn wynebu anfanteision hirdymor sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles cymdeithasol, ac felly mae'n hanfodol fod eu hiechyd a'u lles yn cael eu hasesu a'u hailasesu'n rheolaidd gan weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal neu therapyddion galwedigaethol mewn modd amserol. Fel y gwyddoch o bosibl, mae data StatsCymru ar gyfer 2023-24 yn dangos, o'r 2,366 o gysylltiadau a wnaed gan neu ar ran gofalwyr ifanc â gwasanaethau cymdeithasol statudol ledled Cymru, mai dim ond 1,677 a gafodd gyngor neu gymorth yn yr un cyfnod. Yng Nghaerdydd, dim ond 28 y cant a gafodd gymorth yn yr un flwyddyn; ym Merthyr Tudful, 23 y cant ac yng Nghaerffili, 22 y cant. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y gall amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau a chymorth beri gofid. Felly, a ydych chi'n cytuno, er mwyn eu lleihau, y dylid cael adroddiad ar amseroedd aros i ofalwyr ifanc o'r adeg y cânt eu nodi gyntaf hyd at yr adeg y cynhelir eu hasesiad o anghenion gofalwyr? A pha dargedau amser priodol ar gyfer darparu asesiadau o anghenion y dylid eu nodi hefyd? Diolch.
A gaf i ddiolch i Joel James am y pwyntiau hynny? Ac maent yn bwyntiau pwysig a dilys iawn. Unwaith eto, mae'n thema gyson yr ydym wedi'i chlywed y prynhawn yma, gan Hefin David a chan Jane Dodds. Mae a wnelo â sicrhau bod pobl sydd angen y cymorth, y gofalwyr di-dâl sydd angen y cymorth, yn cael y cymorth hwnnw ac yn cael y cymorth hwnnw mewn modd amserol. Felly, nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedwch, Joel. Rwy'n ailadrodd yr hyn rwyf eisoes wedi'i ddweud. Mae gennyf ffrwd waith ar gyfer cynghori'r Gweinidog, mae'n edrych ar hyn oll, y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl a sut y gellir ei ddarparu mewn ffordd fwy amserol a chyson, ac rwy'n fwy na pharod i'ch sylwadau a'ch awgrymiadau gael eu bwydo i mewn i'r gwaith hwnnw hefyd. Diolch.
4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch sicrhau nad yw cyflenwadau dŵr yfed yn peri perygl i iechyd pobl? OQ62991
Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar ddŵr ledled Cymru. Rwy'n falch fod gan Gymru ansawdd dŵr yfed rhagorol, gyda 99.96 y cant o gydymffurfiaeth â safonau.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r sefyllfa yng ngogledd Ffrainc, lle mae swyddogion iechyd cyhoeddus wedi cymryd y cam eithafol o wahardd pobl rhag yfed dŵr tap oherwydd y peryglon i iechyd pobl. Nid yw hyn oherwydd rhyw halogiad bacteriol neu ollyngiad cemegau gwenwynig; mae oherwydd y ffaith bod y dŵr daear a'r dyfrhaenau'n llawn cemegau am byth. Mae'r lefelau a ganfuwyd yn y dŵr yfed 20 gwaith yn uwch na'r hyn a ystyrir yn ddiogel. Mae Ffrainc a llawer o wledydd Ewropeaidd eraill ar fin gosod terfyn llym o 0.1 µg y litr. Yma yn y DU, nid oes gennym unrhyw derfyn statudol o gwbl, dim ond canllawiau. Fel y mae ymchwiliadau gan Watershed wedi'i ganfod hefyd, roedd slyri a wasgarwyd ar diroedd fferm ledled Cymru, yn ogystal â Lloegr a'r Alban, yn cynnwys lefelau uwch o sylweddau perfluoroalkyl a polyfluoroalkyl, sydd wedyn yn mynd i mewn i'n cyrsiau dŵr. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y perygl y mae'r cemegau hyn yn ei achosi i iechyd pobl, a wnewch chi weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym derfynau llym ar lefelau yn ein cyflenwadau dŵr a gweithio tuag at waharddiad ar PFASau, fel rydym wedi'i wneud gyda microblastigion? Diolch.
Diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn hwnnw. Fe fydd yn gwybod mai'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yw'r rheoleiddiwr sy'n gyfrifol am sicrhau ansawdd dŵr yfed ledled Cymru ac os torrir safonau, mae gan yr arolygiaeth bwerau cyfreithiol i ymchwilio, i roi camau gorfodi ar waith, yn cynnwys yn erbyn cwmnïau dŵr, fel y bydd yn gwybod, rwy'n siŵr. Gallasom groesawu'r adroddiad blynyddol gan yr arolygiaeth y llynedd. Roedd yn cydnabod ansawdd cyson ragorol dŵr yfed yng Nghymru. Rydym yn aros am eu hadroddiad blynyddol diweddaraf yn yr wythnosau nesaf, a fydd yn edrych ar flwyddyn galendr 2024. Mae'n debyg y bydd yn ymwybodol o rai o'r argymhellion a'r gofynion yn yr adroddiad diwethaf hwnnw mewn perthynas â gwella seilwaith gan gwmnïau dŵr, ac rydym yn disgwyl gweld cydymffurfiaeth â'r mesurau hynny.
Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cyfarfod â chwmnïau dŵr mewn perthynas â hynny yn ddiweddar. Mae'n bosibl ei fod wedi nodi, yn yr adroddiad hwnnw, fod y prif arolygydd dŵr yfed wedi argymell diweddaru safonau rheoleiddio dŵr yfed Cymru, yn seiliedig, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a'r canllawiau a'r profiad rhyngwladol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion hynny'n ofalus ar hyn o bryd. Mae'n faes eithaf cymhleth, fel y dangosodd ei gwestiwn, a bydd hynny'n galw, yn y ffordd a awgrymai, am weithio cyd-drefnus gyda Llywodraeth y DU ar hynny.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru? OQ63006
Esgusodwch fi.
Mae ysbytai cymunedol yn elfen hanfodol o'r model gofal iechyd sydd ei angen i ddarparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Yn ddiweddar, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr adolygiad ffurfiol o wasanaethau yn ysbytai cymunedol Llannerch Banna a Thywyn i sicrhau bod yr ysbytai hyn yn diwallu anghenion lleol.
Yn wir, ac roeddwn i eisiau gofyn i chi am hynny, oherwydd er fy mod yn cyfaddef ein bod wedi gweld gwelliant mewn rhai mannau, yn fwy hirdymor, rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn nifer y gwelyau ysbytai cymunedol yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru. Yn ddiweddar, cafodd Dinbych ei haneru, ac rydym wedi colli ysbytai cymunedol yn gyfan gwbl yn y Fflint, Llangollen, Prestatyn a mannau eraill. Fe wnaethoch chi sôn am ysbyty Llannerch Banna yno—cafodd hwnnw ei gau yn sydyn ar Noswyl Nadolig y llynedd. Dywedwyd wrthym mai wedi'i gau dros dro y mae, ond bellach, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei ddyfodol ac yn ddealladwy, mae wedi arwain at nifer o bryderon yn lleol. Felly, roeddwn i'n mynd i ofyn i chi roi sicrwydd i ni yma heddiw na fydd ysbyty Llannerch Banna wedi cau'n barhaol, a gobeithio y gallwch ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i wrthdroi'r duedd hirdymor hon, a'r gostyngiad yn nifer y gwelyau ysbytai cymunedol ar draws fy rhanbarth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gydnabod y datblygiadau cadarnhaol yn y ddarpariaeth gymunedol ar ddechrau ei gwestiwn. Fe fydd yn gwybod bod technoleg newydd yn cael ei threialu yn ysbyty cymunedol Dolgellau ac Abermaw, i ganiatáu i bobl gael mynediad at feddyginiaeth frys y tu allan i oriau; mae'r uned mân anafiadau'n ailagor yn Nolgellau ac Abermaw eto, a'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Tywyn. Mae'n bleser gennyf ddweud, ym mis Mehefin, fod rhaglen Iach Gogledd Cymru y bwrdd iechyd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol yn y Journal of Public Health am ei gwaith arloesol yn cydgynhyrchu gwasanaethau iechyd a lles gyda chymunedau mewn ardaloedd sydd ag anghenion uchel, a bod cydgynhyrchu'n rhan bwysig iawn o'r ffordd yr awn i'r afael â pheth o'r pwysau y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ei gwestiwn.
Gallaf roi sicrwydd iddo fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd â chadeirydd y bwrdd iechyd. Rwyf wedi trafod gydag ef fod yn rhaid i'r bwrdd ymgysylltu â'r gymuned i ddatblygu cynllun hirdymor cydlynol ar gyfer dyfodol y ddarpariaeth yn Llannerch Banna a hefyd yn Nhywyn, ac mae yntau'n rhannu'r farn honno. Fel y dywedodd, mae'r bwrdd wedi cytuno i lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gefnogi'r gwaith hwn, ac rwy'n gwybod nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud mewn perthynas â'r naill na'r llall o'r safleoedd hyn, ac y bydd bwrdd mis Rhagfyr yn ystyried yr opsiynau hynny.
Rwyf wedi cefnogi ysbyty Llandudno ers amser maith. Roedd yn addewid ac yn addewid a wneuthum i'r diweddar Syr Wyn Roberts, a wnaeth lawer o'r seilwaith a welwn yno heddiw tra oedd yn y Senedd. Ond mae'n rhywbeth a addewais i fy etholwyr hefyd, oherwydd mae'n ysbyty anhygoel. Rwyf wedi plagio, rwyf wedi bod ar brotestiadau stryd, i gadw a diogelu'r ysbyty hwn. Nawr, edrychwch ar Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam. Pan edrychwch ar eu hamseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys, dyma'r ffigurau a nodwyd, ond gallaf ddweud wrthych ei fod yn llawer gwaeth na hyn ar brydiau: dim ond 56.8 y cant o gleifion a welwyd o fewn y targed pedair awr yn Ysbyty Gwynedd, 38 y cant yn Wrecsam, 38 y cant—bron—yng Nglan Clwyd. Mae cynnydd cleifion trwy'r adran achosion brys yn cael ei rwystro gan oedi mewn mannau eraill yn yr ysbytai. Rwy'n gwybod bod pobl yn aros am ddau ddiwrnod ar gadair weithiau, dan ofal coridor. Gellid lleihau'r pwysau trwy drosglwyddo rhai cleifion i wardiau mewn ysbytai cymunedol, ehangu gwasanaethau mewn unedau mân anafiadau, fel Caergybi, Porthmadog a Llandudno. Gwelodd yr olaf, er enghraifft, 95 y cant o fewn y targed pedair awr. A wnewch chi edrych eto ar y rhan wych a hollbwysig y mae'r ysbytai cymunedol hyn yn ei chwarae? A wnewch chi adolygu eu darpariaeth? A gadewch inni weld llai o oedi a mwy o weithredu, mwy o gleifion yn mynd trwy'r broses ysbyty trwy integreiddio'r ddarpariaeth o unedau mân anafiadau'n well. Diolch.
Bydd yr Aelod wedi croesawu'r ymateb a roddais i Llyr Gruffydd mewn perthynas ag ailagor unedau mân anafiadau a'r datblygiadau mewn darpariaeth gymunedol ar draws ardal y bwrdd iechyd, sy'n dangos cynnydd da yn fy marn i, ond rwy'n credu, ac mae'r bwrdd iechyd hefyd yn credu, fod angen gwneud mwy. Fe wnaeth ei chefnogaeth i ysbyty Llandudno argraff fawr arnaf. Euthum yno ychydig wythnosau yn ôl i weld y ganolfan orthopedig newydd yn cael ei hadeiladu, ac rydym yn disgwyl y bydd yn agor yn ddiweddarach eleni ac yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i leddfu'r pwysau ar y bobl sy'n aros i'w gluniau, pengliniau ac ysgwyddau gael eu gwneud. Mae hynny'n mynd yn dda, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n croesawu'r cyfleuster hwnnw pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni.
Nid wyf yn anghytuno o gwbl â Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu bod ysbytai cymunedol yn darparu gwasanaethau rhagorol, os edrychwch ar y gwasanaethau mân anafiadau a ddarparant, a'r ffordd y maent yn diwallu anghenion poblogaeth sy'n heneiddio a llawer o bethau eraill hefyd.
Fe wnaethoch chi sôn yn eich ateb cynharach eich bod yn cael trafodaethau rheolaidd gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac fe wnaethoch chi amlinellu peth o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud ar draws ysbytai cymunedol gogledd Cymru yn eich ateb gwreiddiol i Llyr Huws Gruffydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y trafodaethau hynny'n cynnwys cynlluniau i'r bwrdd iechyd ymestyn y ddarpariaeth, yn enwedig o gwmpas gogledd-ddwyrain Cymru. Mae yna lawer o bobl na fyddant yn aros cyhyd ag y dywedodd Janet Finch-Saunders yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond rwy'n credu y byddai gwasanaethau ychwanegol yn y gymuned yn cael gwared ar lawer o'r pwysau.
Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r pwynt hwnnw, yn sicr. Yr hyn a wyddom yw mai'r ffordd y gallwn wneud yn siŵr fod pobl yn cael mynediad at ofal eilaidd pan fydd ei angen arnynt yw gwneud yn siŵr nad oes rhaid iddynt fynd i'r ysbyty oni bai bod angen, ac mae cael y cyfleusterau hynny wedi'u dosbarthu'n wahanol mewn lleoliadau cymunedol yn rhan hollol allweddol o hynny. Yn fy nhrafodaethau gyda chadeirydd y bwrdd iechyd, cefais fy nghalonogi gan y gydnabyddiaeth ar ran y bwrdd fod angen iddynt ymgysylltu â'r cyhoedd yn llawn ynghylch y modd y gellir cynnig gwasanaethau yn wahanol yn y ffordd honno. Mae yna ddewisiadau a sgyrsiau anodd yn rhan o hynny o reidrwydd, ond rwy'n credu bod yr ymrwymiad i weithio gyda'r cyhoedd, gyda chymunedau, ar sut y gellir addasu gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau mwy gwydn i'r cyhoedd yn wirioneddol galonogol. Ac fel y soniais yn fy ateb cyntaf, cafwyd cydnabyddiaeth allanol i'r gwaith cydgynhyrchu da y mae'r bwrdd eisoes yn ei wneud gyda pheth o'r gwaith hwnnw.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl? OQ62993
Mae ein cynlluniau hirdymor ar gyfer iechyd meddwl a llesiant meddyliol wedi'u nodi yn y strategaeth a'r cynllun cyflawni 10 mlynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae fframwaith cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2025-28 yn nodi'r uchelgais lefel uchel ar gyfer ein system iechyd a gofal, gan gynnwys ym maes iechyd meddwl, a'n disgwyliadau allweddol ar gyfer cyflawni.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn gwasanaeth eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i bob claf mewnol sy'n cael gofal iechyd meddwl, mae bwlch cyfreithiol yn golygu nad yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu categoreiddio'n wasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O ganlyniad, nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol adrodd am bryderon diogelu, hyd yn oed mewn achosion o gamdriniaeth, esgeulustod neu risg ddifrifol. O ystyried mai'r eiriolwyr hyn yn aml yw'r unig gyswllt y bydd cleifion bregus yn ymddiried ynddynt, mae diffyg dyletswydd o'r fath yn tanseilio cyfraith diogelu, hyder y cyhoedd mewn eiriolaeth a diogelwch y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Mae yna bryderon hefyd am wrthdaro buddiannau gan fod gwasanaethau'n cael eu comisiynu gan yr un cyrff ag y gallai fod angen iddynt eu herio.
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i gau'r bwlch hwn yn y gyfraith drwy reoleiddio gwasanaethau eiriolaeth iechyd meddwl, cyflwyno dyletswydd ddiogelu gyfreithiol ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol, a diwygio trefniadau comisiynu i sicrhau bod eiriolwyr yn gallu gweithredu'n annibynnol a heb ofn dial, a thrwy hynny gynnal ymrwymiad Cymru i ofal iechyd meddwl sy'n seiliedig ar hawliau ac yn ystyriol o drawma?
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig hwn. Rwy'n ymrwymo i drafod yr union bwynt hwnnw gyda fy swyddogion a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn rhoi gwybod iddo beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd a beth arall y teimlwn y gallwn ei wneud.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl y mae colli beichiogrwydd a cholli babi wedi effeithio arnynt? OQ63001
Mae safonau ar gyfer gofal mewn profedigaeth, sy'n sail i'r llwybr gofal mewn profedigaeth cenedlaethol ar gyfer colli beichiogrwydd a cholli babi, wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad â rhieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a byddant yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Wedyn bydd y rhwydwaith clinigol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn goruchwylio gweithrediad y llwybr yn GIG Cymru.
Diolch am yr ateb.
Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU fod y Bil Hawliau Cyflogaeth yn mynd i gael ei ddiwygio i roi hawl gyfreithiol i rieni gael amser o'r gwaith i alaru os ydynt yn colli beichiogrwydd ar unrhyw gam o'r beichiogrwydd, yn hytrach na dim ond ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd, fel y mae ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr. Rwyf hefyd yn croesawu'r llwybr gofal mewn profedigaeth cenedlaethol a grybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet a'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth a'i weledigaeth o Gymru dosturiol lle mae gan bawb fynediad cyfartal at ofal mewn profedigaeth o ansawdd uchel.
Fodd bynnag, mae'r elusen colli beichiogrwydd a cholli babi, y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) yn dweud bod angen rhaglen ddatblygu a gweithredu bwrpasol ar gyfer y llwybrau hyn ym mhob lleoliad gofal iechyd, ac mae hyn yn amlwg yn cynnwys darparu hyfforddiant, cefnogi staff gofal iechyd, datblygu pecynnau cymorth, gwerthuso ac yn anad dim, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, cynnwys llais rhieni sydd wedi cael profedigaeth yn natblygiad parhaus y llwybrau. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y llwybrau'n cael eu gweithredu'n briodol ar draws pob bwrdd iechyd, wrth i'r cyllid ar gyfer cymorth sy'n benodol i Sands rhwydwaith mamolaeth a newyddenedigol Cymru ddod i ben ym mis Medi?
Mae Sands yn bartner allweddol yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru, drwy Perfformiad a Gwella GIG Cymru a'r GIG yn ehangach, yn ei wneud ar hyn, a chyda'u cefnogaeth hwy y mae'r pum llwybr yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd yn y ffordd y disgrifiodd yr Aelod. Mae'r rheini'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod y rhwydweithiau o fewn perfformiad a gwella'r GIG yn gweithio gyda rhanddeiliaid, unwaith eto'n cynnwys Sands, ar sut y gellir cyflawni a chyflwyno'r rheini. Fel y dywedodd yr Aelod, mae Sands wedi cael cyllid yn rhan o'r comisiwn hwn i ymgysylltu â theuluoedd, sy'n hollol allweddol yn y gwaith hwn, ac i ddarparu hyfforddiant i staff i sicrhau gweithrediad cynaliadwy. Mae'r rhwydwaith yn gweithio gyda Sands i fonitro cynnydd ac i asesu anghenion cymorth pellach i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod y llwybrau hyn yn cael eu darparu'n llwyddiannus, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn bwriadu gwneud datganiad mewn perthynas â hynny cyn bo hir.
Ac yn olaf cwestiwn 8, Russell George.
8. Pa fesurau lliniaru y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i gefnogi trigolion yng nghanolbarth Cymru os bydd canolfan ambiwlans awyr y Trallwng yn cau fel y cynlluniwyd yn 2026? OQ62988
Yn ddiweddar, cadarnhaodd y llys benderfyniad y cyd-bwyllgor comisiynu mewn perthynas ag adleoli'r canolfannau ambiwlans awyr. Rydym yn ymwybodol fod cais i apelio yn erbyn penderfyniad y llys ar 19 Mehefin wedi'i gyflwyno bellach, felly gan ei fod yn parhau i fod yn destun ymgyfreitha, nid yw'n briodol i Weinidogion Cymru wneud sylwadau penodol ar hyn o bryd.
Diolch am eich ateb. Fel y gallwch ddychmygu, roedd pobl yng nghanolbarth Cymru'n siomedig iawn ynghylch y penderfyniad, yn dilyn canlyniad yr adolygiad barnwrol, i gau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon yn barhaol. Fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd iechyd, mae yna apêl i ofyn am ganiatâd i herio'r penderfyniad hwnnw. Ond yn rhan o'r cynnig gwreiddiol i gau'r canolfannau, cyhoeddwyd mesurau lliniaru fel y'u gelwir. Roedd y rhain yn cynnwys cerbydau ymateb cyflym i'w lleoli mewn ardaloedd o gwmpas canolbarth Cymru, gydag offer ychwanegol yn y cerbydau. Yn fy marn i, mae'r mesurau lliniarol hyn yn gwbl anfoddhaol, ac nid ydynt yn gwneud y tro o gwbl yn lle gwasanaeth ambiwlans awyr llawn, ond dyma'r cynnig a roddwyd ar y bwrdd. Hyd yma, nid oes unrhyw wybodaeth bellach am y cynnig. Roedd y cyd-bwyllgor comisiynu, y corff a oedd i fod i wneud y penderfyniad, i fod wedi darparu cynlluniau erbyn diwedd mis Medi y llynedd. Nid ydynt wedi digwydd. Nid oes unrhyw waith costio wedi'i wneud a dim gweithredu pellach. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad ydych chi'n barod i gamu i mewn a sicrhau nad yw'r ddwy ganolfan bwysig yn y Trallwng a Chaernarfon yn cau, a allwch chi o leiaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cerbydau ymateb cyflym arfaethedig?
Bydd yr Aelod yn deall, wrth gwrs, fod hwn yn benderfyniad gweithredol i'r cyd-bwyllgor comisiynu, nid penderfyniad i Weinidogion ei wneud eu hunain, a hynny am reswm da iawn. Gwn fod y cyd-bwyllgor comisiynu'n bwriadu rhoi ymateb manwl ar ôl iddo gael cyfle i edrych ar y dyfarniad yn llawn ac adolygu goblygiadau hynny. Yn amlwg, yng ngoleuni'r apêl sy'n cael ei chyflwyno, rwy'n tybio y gallai hynny effeithio ar amseriad sylwadau gan y cyd-bwyllgor comisiynu mewn perthynas â hynny, ac rwy'n siŵr mai'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yn y cwestiwn fydd y math o bethau y bydd y cyd-bwyllgor comisiynu'n gwneud sylwadau arnynt.
Er ei fod wedi sôn am gau dau leoliad, mae yna gynnig i gael canolfan yng ngogledd Cymru. Fel rwy'n ei ddeall, un o'r heriau presennol yn y system yw nad oes modd darparu gwasanaeth yn y nos, er enghraifft. Felly mae yna ystod o welliannau posibl y byddai'r cynllun yn gallu eu gwneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld y cynnig yn ei gyfanrwydd pan fyddwn yn trafod y cwestiynau hyn. Ond o ran cael fy nhynnu i mewn i fanylion hynny, am y rhesymau a roddais, rwy'n credu y byddai hynny'n gynamserol ac yn amhriodol i ni ar y pwynt hwn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Dim ond un cwestiwn amserol sydd wedi ei dderbyn heddiw, a bydd hwnnw gan Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y cyhoeddiad y bydd 220 o swyddi yn cael eu dileu yng ngwaith cemegau Dow yn y Barri? TQ1362

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni a bydd yn cefnogi'r gweithwyr yr effeithir arnynt. Mae gennym ddull partneriaeth profedig o weithredu a rhwydwaith cymorth sy'n cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a thîm cyflogadwyedd yr awdurdod lleol sy'n darparu cyngor ac arweiniad a phecynnau ailhyfforddi trwy ReAct.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hyn yn newyddion siomedig iawn. Mae'n amlwg yn rhan o gyhoeddiad ehangach y mae Dow wedi'i wneud ar draws eu gweithfeydd ledled y byd, ac mae 800 o swyddi i'w colli yn yr Almaen hefyd, ond nid yw hynny'n lleddfu ergyd y 220 o ddiswyddiadau sydd wedi'u cyhoeddi ar safle sydd—os ewch i mewn i'r dref o'r ochr ddwyreiniol—yn dominyddu'r dirwedd ac wedi bod yn rhan annatod o wead y Barri ers y 1930au.
A allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd heddiw, ers yr adeg y gwnaed y cyhoeddiadau hyn gyntaf, ac yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ddoe, fod ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â pherchnogion Dow wedi rhoi hyder i chi fod hyfywedd y safle cyfan yn ddiogel, a'u bod wedi ymrwymo i'r swyddi sy'n weddill ar y safle, ac yn y pen draw, y bydd y 220 o swyddi sy'n mynd i gael eu colli yn cael cymorth llawn i ailhyfforddi ac unrhyw gefnogaeth arall y mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn ei gynnig ar yr achlysuron hyn pan gaiff swyddi eu colli? Oherwydd yn amlwg, nid yw'r swyddi hyn yn cael eu colli ar unwaith, diolch byth; mae'n mynd i fod yn gyfnod o ddwy i dair blynedd, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru wneud ymrwymiad hirdymor i wneud yn siŵr fod pob un o'r 220 yr effeithir arnynt yn gwybod bod cymorth a chefnogaeth yno.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad am hyn yn y Siambr y prynhawn yma. Yn amlwg, mae'r newyddion yn mynd i fod yn bryderus iawn i'r gweithlu yn y Barri a hefyd i'w teuluoedd a'r gymuned ehangach. Mae'r Aelod yn hollol gywir fod y cwmni wedi bod yn glir iawn mai ymateb yw hyn i ffactorau economaidd byd-eang, ond nid yw hynny'n gysur o gwbl os ydych chi'n un o aelodau'r gweithlu yr effeithir arnynt.
Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru, drwy swyddogion, wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni ers peth amser, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda hwy. Rwy'n falch fod y canlyniad, yn dilyn ymgynghori â'r grŵp, wedi golygu bod nifer y staff yr effeithir arnynt wedi gostwng. Mae hynny'n rhannol oherwydd creu canolfan beirianneg newydd ar safle'r Barri i gefnogi gweithgarwch yn y dyfodol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhoi rhywfaint o hyder i'r bwriadau ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn rhywbeth y gallwn ei groesawu, mewn sefyllfa anodd iawn.
Rwyf hefyd yn falch iawn fod Dow wedi dweud ei fod wedi ymrwymo i gefnogi ei weithwyr ac y byddant yn gweithio gyda'r tîm ymgynghori ar sut y gallant barhau i ddarparu cymorth i'r rhai sydd am chwilio am swyddi newydd. Mae mesurau fel lwfans hyfforddi o £5,000 i'r holl weithwyr yr effeithir arnynt neu gymorth ar ffurf cymorth i newid gyrfa yn cael eu croesawu'n fawr. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru, fel bob amser, yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd sy'n bosibl.
Dwi’n falch, Ysgrifennydd Cabinet, o glywed bod y Llywodraeth wedi bod yn cydweithio’n agos efo Dow. Yn amlwg, mae hon yn ergyd sylweddol a dwi yn meddwl am y gweithwyr a’u teuluoedd ar yr adeg hon. Yn anffodus, mae hwn yn rhywbeth rydyn ni'n ei glywed yn llawer rhy aml, onid ydy, ar y funud—cannoedd o swyddi’n mynd, a swyddi mae dirfawr eu hangen o fewn economi leol. O ran y trafodaethau, ydych chi wedi dechrau trafod ynglŷn â defnydd y lleoliad ar ôl 2029, i weld os oes yna obaith o ran edrych ar opsiynau amgen yn y fan honno? Hefyd, o ran edrych ar strategaeth ddiwydiannol newydd i Gymru, ydych chi’n meddwl bod angen un erbyn hyn? Oherwydd yn anffodus, rydyn ni yn gweld bod hon yn stori gyson, ac mewn ardaloedd fel y Barri, mi fyddan nhw eisiau gwybod bod yna obaith o ran bod yna bosibilrwydd, os ydyn nhw yn ailhyfforddi, bod yna swyddi yna ar gael iddyn nhw aros yma yng Nghymru.
Diolch am godi hynny. Unwaith eto, mae hwn yn gyfnod anodd iawn i'r holl weithwyr yr effeithir arnynt. Rwy'n credu bod y ffaith bod yna amser i benderfyniadau gael eu gwneud yn bwysig iawn, a bydd y trafodaethau unigol y bydd y busnes yn eu cael gyda gweithwyr nawr yn bwysig iawn hefyd. Rwy'n credu bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cadw'r sgiliau a ddatblygwyd ar y safle. Yn sicr, wrth edrych tuag at y strategaeth ddiwydiannol a'r meysydd twf, mae angen inni sicrhau bod pobl sydd â sgiliau'n gallu defnyddio'r sgiliau hynny mewn gwahanol feysydd, ond hefyd yn gallu ailsgilio i feysydd eraill os oes angen. Mae gennym hanes cryf iawn o weithio gydag unigolion yr effeithiwyd arnynt gan sefyllfaoedd o'r fath gyda'r dull partneriaeth profedig sy'n cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a thîm cyflogadwyedd yr awdurdod lleol. Byddwn yn gwneud yn siŵr fod yr holl gefnogaeth honno ar gael fel arfer. Fel y dywedaf, rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni ers peth amser, gan gynnwys sgwrs rhwng Prif Weinidog Cymru a llywydd y DU.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Hannah Blythyn.
Ar 4 Gorffennaf 1952, cafodd pwll glo y Parlwr Du ei daro gan drasiedi, wrth i chwech o ddynion gael eu lladd gyda suddo siafft Rhif 3. Ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, roedd y ddaear yn feddal felly cafodd aer cywasgedig ei bwmpio i lawr y siafft i gynnal y waliau ochr. Fodd bynnag, fe dreiddiodd drwy waliau'r siafft a gellid ei weld yn codi'n swigod yn ardal y doc ar lanw uchel. Er mwyn gwrthsefyll hyn, cynyddwyd y pwysedd yn raddol ond yn y pen draw ni allai'r trap awyr ar ben y siafft ymdopi â'r pwysedd mwyach ac fe ffrwydrodd. Achosodd hyn i'r siafft orlifo a chwympodd y waliau ar y dynion a oedd yn gweithio islaw. Bu farw pump o ddynion o dan y ddaear. Adroddodd y cwest ddyfarniad o farwolaeth trwy foddi heb ffordd o ddianc. Bu farw dyn arall ar yr wyneb pan ffrwydrodd y trap awyr.
Trasiedi 1952 oedd y ddamwain ddifrifol olaf yn y pwll glo a chafodd effaith sylweddol ar y gymuned gyfagos, gyda llawer ohonynt yn gweithio yn y Parlwr Du. Ddydd Gwener diwethaf, 73 mlynedd i'r diwrnod yn ddiweddarach, daeth y gymuned at ei gilydd unwaith eto wrth gofeb lofaol Ffynnongroyw, wrth i banel newydd gael ei ddadorchuddio i goffáu'r chwe dyn a gollodd eu bywydau: James Nicholas Thompson, 43, Prestatyn; Samuel Dempster, 37, Prestatyn; Percy Maisey, 33, Ffynnongroyw; Edward James Hill, 31, Deptford; Goronwy Jones, 30, Treffynnon; Patrick Joseph McPartland, 28, Dyserth. Ymunodd cyn-weithwyr o'r Parlwr Du â chydweithwyr o lofeydd eraill â chynrychiolwyr cymunedol a pherthnasau, yn cynnwys merched un o'r dynion a fu farw. Bellach, yn briodol iawn, cafwyd cydnabyddiaeth gyhoeddus a man myfyrio ar ôl dros saith degawd.
Byddwn yn eu cofio.
Ar 29 Mehefin, daeth y newyddion trist bod y canwr opera a'r tenor byd-enwog Stuart Burrows wedi ein gadael ac yntau'n 92 mlwydd oed. Braint, heddiw, ydy talu teyrnged fer a dathlu ei yrfa rhyfeddol.
Fe aned Stuart yng Nghilfynydd, ger Pontypridd. Yn blentyn, cafodd flas ar berfformio wrth iddo ganu unawdau soprano, bryd hynny, yn y capel Methodistaidd lleol, a hyd yn oed allan drwy ffenest ei ystafell wely, fel y gallai ei gymdogion ei glywed. Er iddo serennu ar y cae rygbi yn ifanc, a chael cynnig gan Leeds Rugby League Club, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a dilyn gyrfa fel athro cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1963.
Yn 1965, daeth ei gyfle mawr, pan fe'i dewisiwyd gan Stravinsky ei hun i berfformio'r prif ran yn Oedipus Rex yn Athens. Yn dilyn hyn, aeth ymlaen i berfformio ar lwyfannau mwyaf enwog y byd, gan gynnwys La Scala, y Met a’r Royal Opera House. Erbyn y 1970au a'r 1980au, roedd yn serennu yn ei gyfres ei hun, sef Stuart Burrows Sings, ar y BBC. Yn yr 1980au hefyd, recordiodd albwm, Hen Gerddi fy Ngwlad, gan lwyddo i roi llwyfan i Gymru a'r Gymraeg yn rhyngwladol.
Er yr holl deithio, Cymru oedd ei gartref gydol ei oes, a bu'n lywydd ar amryw o sefyliadau elusennol ar draws de Cymru, gan hefyd godi arian ar eu cyfer. Felly, diolch i Stuart am ei gyfraniad i'r celfyddydau yma yng Nghymru a thu hwnt, ac am rannu ei lais cyfareddol gyda'r byd. Mae ein meddyliau ni oll gyda'i deulu yn y cyfnod anodd hwn.
Mae menywod Cymru'n chwarae yn eu pencampwriaeth ryngwladol fawr gyntaf erioed yn y byd pêl-droed yn yr Ewros yn y Swistir. Mae'n nodi stori lwyddiant yn nhwf a llwyddiant pêl-droed menywod yng Nghymru—y rhan o'r gamp sy'n tyfu gyflymaf o hyd. Mae yna lawer iawn mwy i'w wneud o hyd, ond mae chwaraeon menywod wedi tyfu dros y ddau ddegawd diwethaf yn enwedig, a bydd yn parhau i dyfu—yn wahanol iawn i'r adeg pan oeddwn i yr un oed â fy mab 40 mlynedd yn ôl.
Ganwyd ein chwaraewr pêl-droed gorau ym 1987. Ar y pryd, nid oedd chwaraeon menywod, y tu hwnt i denis, gymnasteg, athletau a beth bynnag a gâi ei gynnwys yn y gemau Olympaidd, yn cael sylw blaenllaw yn ein hamserlenni teledu. Nid oedd gennym yr un modelau rôl ag y mae ein tîm yn eu darparu heddiw.
Mae hynny'n gwneud taith a llwyddiant Jess Fishlock hyd yn oed yn fwy rhyfeddol. Mae hi wedi helpu i ennill pum teitl mewn pum gwlad wahanol—mwy na phum teitl, mewn gwirionedd—ac mae wedi cael ei chydnabod fel chwaraewr mwyaf gwerthfawr (MVP) yn yr Unol Daleithiau, y gynghrair bêl-droed menywod proffesiynol fwyaf yn y byd. Byddai dyn sydd â chyflawniadau tebyg yn werth miliynau, a byddai wedi bod yn enw cyfarwydd ers blynyddoedd lawer.
Mae hi'n llawer mwy na phêl-droediwr, wrth gwrs. Mae hi'n eiriolwr cyson dros gydraddoldeb a goddefgarwch. Nid yw'n syndod ei bod hi'n falch iawn o fod yn Gymraes. Mae hi'n llysgennad rhagorol dros Gymru, ymhell y tu hwnt i'r byd chwaraeon.
Mae'n ymddangos mai Jess Fishlock yw'r pêl-droediwr benywaidd cyntaf yn Ewrop i ymddangos mewn murlun ar gae chwarae llawn, fel y cydnabu'r Gweinidog heddiw. Mae'r murlun hwnnw ym mharc y Sblot, yn fy etholaeth i. Daw Jess o Gaerdydd, ond nid o Gaerdydd yn unig: yn bwysicach fyth, mae hi'n dod o Lanrhymni, cymuned falch y caf y fraint o'i gwasanaethu.
Diolch i Jess a'i chyd-chwaraewyr am eu llwyddiant yn cyrraedd yr Ewros a phopeth a wnaethant, ac y byddant yn ei wneud, i ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol o fenywod a merched. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd hon yn dewis cydnabod eu cyflawniad ac yn eu croesawu yma yn y dyfodol ar ôl i'r Ewros orffen.
Dymunwn yn dda iddynt i gyd yn y gêm heno.

Mae yna gyffro ar Ynys Môn yr wythnos yma, wrth i 84 o athletwyr a 21 o hyfforddwyr ddechrau ar y daith 16 awr i Ynys Orkney i gystadlu yn ugeinfed Gemau'r Ynysoedd. Mae'r gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn, yn croesawu cystadleuwyr o ynysoedd ar draws Ewrop a thu hwnt, ac mae wastad yn gyffrous gweld ein hathletwyr ni yn mynd ati i gystadlu mewn amrywiaeth eang o chwaraeon, a hynny ar ran Ynys Môn. Nôl yn Guernsey yn 2023, mi gafod tîm Ynys Môn eu gemau mwyaf llwyddiannus erioed, yn ennill 18 o fedalau, ond dwi'n gwybod yn iawn y bydd y tîm eleni yn benderfynol o dorri'r record honno unwaith eto a dod yn ôl adref efo mwy o fedalau nag erioed.
Gwnaf gymryd y cyfle i longyfarch Martin Jones a Henley Moffat yn benodol am gael eu dewis i gario'r faner yn y seremoni agoriadol ddydd Sadwrn yma, yn ogystal â chario'r dŵr seremonïol—dŵr o Fôn a fydd yn cael ei gymysgu yn symbolaidd efo dŵr o'r ynysoedd eraill; ein fersiwn ni o'r fflam Olympaidd.
I bob un sy'n cystadlu, llongyfarchiadau mawr ar gael eich dewis i gynrychioli y fam ynys yn Orkney, a diolch i'r holl hyfforddwyr a threfnwyr a gwirfoddolwyr am eu gwaith y tu ôl i'r llenni. A rŵan, efo'r gwaith ymarfer caled wedi'i wneud a'r offer i gyd wedi cael ei bacio'n saff, yr unig beth sydd ar ôl i'w ddweud ydy: pob lwc, tîm Ynys Môn. Gwnewch eich gorau a mwynhewch. Mae Ynys Môn yn falch o bob un ohonoch chi.
Diolch, bawb.
Eitem 5 yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25. A galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8952 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2024-25, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2024-25 gerbron y Senedd. Bydd Aelodau yn ymwybodol ei fod yn ofynnol i'r Comisiwn, yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, gyflwyno adroddiad blynyddol ar ei waith yn darparu gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys unrhyw gwynion neu achosion o dorri'r cynllun. Dyma'r tro olaf inni ystyried gwaith Comisiwn y Senedd o ran y Ddeddf ieithoedd swyddogol yn y Senedd hon.
Yn ogystal â'r gwaith arferol, y mae eleni wedi bod yn flwyddyn o baratoi yn strategol ar gyfer y seithfed Senedd. Y llynedd, yn y ddadl ar ein hadroddiad blynyddol, cyfeiriais at y ffaith y byddwn ni'n trafod materion yn ymwneud â'r Gymraeg, gyda golwg ar ein gwaith yn y tymor byr, y tymor canol a'r hirdymor wrth edrych tua'r Senedd nesaf, gyda'm cyd-Gomisiynwyr yn fuan wedi'r ddadl. Yn wir, roedd y drafodaeth honno yn gymorth i'r tîm ieithoedd swyddogol gynllunio eu gwaith o ran paratoi ar gyfer y seithfed Senedd ac i edrych ar unrhyw gamau y gellir eu cymryd wedi hynny.
Un o'r pethau pwysicaf yr ymrwymais i i'w wneud fel rhan o'r gwaith paratoi oedd ystyried fframwaith cyfreithiol ar gyfer ieithoedd swyddogol yn y Senedd nesaf. Mae'r ymrwymiad hwnnw yn parhau a byddwn yn cychwyn ar y broses drwy ymgynghori ag Aelodau yn fuan ar ôl y toriad, i ofyn am eu barn, mewn dull ffurfiol a mwy strwythuredig nag y byddem ni fel arfer yn ei wneud wrth bontio o un Senedd i'r llall, ar y cynllun ieithoedd swyddogol, y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau a'u staff a hefyd ar y fframwaith cyfreithiol, fel cyfeiriais i, sy'n sylfaen i'r gyfundrefn bresennol.
Mae yma gyfle inni edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni ers pasio'r Ddeddf ieithoedd swyddogol ac i edrych tua'r dyfodol, gan ein herio ein hunain i adeiladu ar ein henw da fel sefydliad cwbl ddwyieithog, a chwarae ein rhan allweddol ac unigryw fel prif gorff democrataidd pobl Cymru yn yr ymdrech drawsbleidiol i gynllunio dyfodol i'r Gymraeg.
Soniais i y llynedd hefyd am y gwaith o asesu capasiti a lefelau sgiliau ar draws staff Comisiwn y Senedd, ac rydw i wedi sôn hefyd am y pwysigrwydd o gynnal arolwg o'r fath ar gyfer Aelodau a'u staff cymorth a grwpiau. Penderfynwyd ymgorffori’r gwaith hwn fel rhan o'r broses gynefino ar gyfer y seithfed Senedd, ac rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn casglu gwybodaeth ystyrlon am sgiliau iaith, dewis iaith, a ffyrdd o weithio hefyd o ran defnydd iaith, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd hyn yn golygu ein bod ni'n gallu targedu gwasanaethau ac adnoddau yn well, gan sicrhau bod Aelodau yn gallu gweithio mewn ffordd sydd wedi'i deilwra ac sydd yn addas iddyn nhw fel unigolion, ac, ar lefel fwy holistaidd, ein bod ni'n medru cynllunio'n fwriadus ac yn rhagweithiol tuag at wireddu'r nod o wneud y Gymraeg yn iaith weithredol naturiol yn y seithfed Senedd a mesur traweffaith ein hymyriadau.
Ar y pwynt hwnnw, hoffwn gyfeirio yn fras at y gwaith fydd yn digwydd fel rhan o adolygiad fforwm y cadeiryddion o effeithiolrwydd y gyfundrefn bwyllgorau yn y chweched Senedd. Bydd defnydd o’r Gymraeg, boed ar ffurf y gefnogaeth sydd ar gael, neu mewn trafodion, yn rhan annatod o’r adolygiad. Bydd yr argymhellion yn helpu i ffurfio sail ar gyfer sefydlu pwyllgorau’r seithfed Senedd. Bydd y gwaith hwnnw hefyd yn adeiladu ar y datblygiadau a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf o ran annog aelodau pwyllgorau, a’r rhai sy’n cyfrannu i'w gwaith, i deimlo yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys cynhyrchu sgript newydd i Gadeiryddion pwyllgor i annog cyfraniadau yn y Gymraeg.
Ar y pwynt yna, hoffwn i groesawu unrhyw sylwadau gan gyd-Aelodau.
A allaf i ddiolch i Adam Price am agor y ddadl heddiw? Rôn i jest yn sylweddoli pan oeddech chi’n siarad, Adam, ein bod ni’n gwisgo’r un peth heddiw, fel rhyw fath o iwnifform i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. So, rŷn ni on brand. [Chwerthin.]
Mae’n bwysig i ddechrau gan ddweud pa mor braf yw hi i glywed pobl yn defnyddio’r Gymraeg ar draws y Senedd yma ym Mae Caerdydd, a pha mor bwysig yw hi fod pobl yn defnyddio’u Cymraeg, a does dim ots pa safon o Gymraeg maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae hwnna’n rhywbeth i’w groesawu, ac mae hwnna’n rhywbeth sydd wastad yn datblygu ac yn tyfu, ac mae hwnna’n rhywbeth i’w groesawu yn fawr.
Fe wnes i gyfweliad ddoe gyda rhywun oedd yn gwneud darn o waith ar y Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) y gwnaethon ni ei basio yn y mis diwethaf, neu’r mis cyn hynny. Ac un o’r pethau y gwnaeth hi ofyn i fi oedd, 'Beth yw’r peth gorau am bolisi y Llywodraeth a’r Senedd o ran yr iaith Gymraeg?' Ac fe wnes i ddweud rhywbeth clir—mae e’r un peth, dwi’n credu, sy’n ddi-wleidyddol. Mae pob plaid yn y Senedd yn cefnogi’r iaith Gymraeg, ac yn moyn ei gweld yn tyfu, ac mae hwnna yn mynd ar draws llinellau gwleidyddol. Ac mae hwnna’n bwysig ac yn rhywbeth mae'n rhaid inni ei sicrhau wrth inni gyrraedd y Senedd nesaf hefyd.
Mae cwpwl o bwyntiau yn yr adroddiad, a dwi'n moyn rhoi gair o ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan i ddatblygu’r adroddiad hwn heddiw. Dwi’n ymddiheuro mai dim ond y fersiwn Saesneg sydd gyda fi, ond mae yna ddarn am y strategaeth sgiliau, sy'n dweud:
'Rydym eisoes wrthi’n gosod y sylfaen ar gyfer arolwg sgiliau iaith cynhwysfawr ar draws y sefydliad, i’w gynnal yn y Seithfed Senedd'.
So, a allaf i ofyn sut mae hwnna’n mynd, a beth mae hwnna’n edrych fel erbyn hyn, a beth mae hwnna’n mynd i edrych fel, o ran nid dim ond y gwaith yma yn yr adeilad hwn, ond ar draws—? Wrth gwrs, mae yna staff sy’n gweithio i’r Senedd, ac i ni fel Aelodau, sydd ddim wastad yn gweithio yma ym Mae Caerdydd, felly pa gymorth fydd ar gael i’r bobl sydd yn gweithio mewn llefydd eraill?
Ac mae'r ail bwynt dwi'n moyn ei godi o ran y strategic preparation sydd yn yr adroddiad i sicrhau hyn:
[bod ein] 'darpariaeth ieithyddol yn parhau yn gadarn, yn effeithiol ac yn addas i’r dyfodol.'
Felly, o ran ein bod ni’n gwybod y bydd yna fwy o Aelodau yn y Senedd nesaf, pa fath o lefel ydych chi'n meddwl fydd yn dod?
Beth rydych chi'n ei ragweld?
Beth ydych chi’n meddwl fydd yn dod yn y dyfodol, a sut byddwn ni fel Aelodau yn gallu rhoi mwy o gymorth i mewn i hynny, i sicrhau, er bod y Senedd yn mynd i dyfu, fod y lefel o gymorth sydd ar gael, nid dim ond i Aelodau, ond i’n staff ni, a staff y Comisiwn hefyd, yn gallu cael ei chynnal o ran yr iaith Gymraeg, ac fel ein bod ni’n gallu tyfu’r iaith ar ein hystad ni yn y Senedd a, gobeithio, ar draws Cymru? Diolch.
Diolch i’r Comisiwn ac Adam Price am y gwaith ar hyn. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig ofnadwy ein bod ni’n derbyn yr adroddiad blynyddol yma. Yn sicr, un cam gweithredol y gwnaethon ni ei gymryd fel grŵp, yn dilyn yr adroddiad y llynedd, oedd ein bod ni'n cyflwyno mwy o welliannau a chynigion yn y Gymraeg, a buaswn i’n gobeithio bod hynna’n cael ei adlewyrchu o ran y cynnydd dŷn ni wedi ei weld. Dwi'n meddwl bod cadw llygad ar hynny yn beth pwysig o ran pob grŵp. Yn amlwg, gwybod ein bod ni wedi gwneud hynny dŷn ni fel grŵp ar y funud—dŷn ni ddim yn cael y math yna o fanylder yn yr adroddiad.
Un o'r pethau y buaswn i'n ei ofyn ydy: ydy'r Comisiwn wedi ystyried ein bod ni'n cael mwy o wybodaeth o ran pa bleidiau sy'n cyflwyno ac ati? Oherwydd efallai wedyn fod yna gyfle inni weithio efo grwpiau er mwyn codi hyder, ac er mwyn dangos hefyd rai o'r pethau sydd wedi bod yn cael eu treialu yn y Senedd hon, er enghraifft efo Copilot, a pha mor hawdd ydy cynhyrchu pethau'n ddwyieithog erbyn hyn, a sut dŷn ni'n defnyddio technoleg newydd. Dwi'n gwybod bod rhai pobl efallai yn nerfus am gyflwyno pethau yn y Gymraeg, neu'n ddwyieithog, oherwydd nad ydyn nhw'n hyderus yn eu Cymraeg ysgrifenedig, er eu bod nhw'n cyfrannu yn y Gymraeg. Oes yna fodd wedyn i atgoffa pobl o'r pethau sydd gennym ni fynediad atyn nhw, gan gynnwys staff, er enghraifft Cysill ac ati?
Mae hi wedi bod yn ddifyr i ni fel y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg o ran yr ystod o bethau sydd ar gael erbyn hyn i gefnogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, ond efallai nad ydyn ni i gyd mor ymwybodol o hynny. Efallai mai un o'r pethau i'w hystyried wrth ichi baratoi awgrymiadau ar gyfer y seithfed Senedd ydy bod hwnnw'n rhan o'r hyfforddiant hefyd: beth ydy'r ystod o bethau sydd ar gael sydd yn galluogi mwy o bobl i fod yn gallu cyflwyno yn y Gymraeg. Oherwydd mae pethau fel datganiadau o farn a chwestiynau amserol yn isel iawn, a dŷn ni'n gweld cwymp yn hynny. Felly, dyna un awgrym efallai—rhywbeth y byddem ni'n gallu ei wneud er mwyn hwyluso hynny.
Mae hi'n bryderus, dwi'n credu, o weld y cyfraniadau o ran trafodion pwyllgorau, fod y cwymp yna wedi bod. Dwi'n gweld ei fod o'n sefydlogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mi oeddem ni'n cael y drafodaeth yma y llynedd, onid oeddem, o ran sut dŷn ni'n mynd i atgoffa Cadeiryddion pwyllgorau, sut dŷn ni'n mynd i fod yn annog tystion ac ati i fod yn defnyddio'r Gymraeg. Dwi'n croesawu'r hyn roeddech chi'n ei ddweud o ran y gwaith a fydd yn digwydd efo fforwm y Cadeiryddion, ond efallai ei fod o'n rhywbeth y medrwn ni i gyd adlewyrchu arno fo am weddill tymor y Senedd hon hefyd.
Yn amlwg, un o'r pethau mawr sydd wedi digwydd eleni, sydd ddim yn yr adroddiad hwn, ond sydd yn rhywbeth, dwi'n meddwl, o bwys i'r Senedd hon ei nodi, yw, wrth gwrs, Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a'r ffaith fod hwnnw wedi cael ei ddrafftio yn y Gymraeg yn gyntaf, a'r tro cyntaf, dŷn ni'n credu, i'r trafodion Cyfnod 3 gael eu trafod i gyd drwy'r Gymraeg. Mae yna bethau i'w dathlu hefyd yn y fan honno o ran sut dŷn ni'n gallu normaleiddio'r defnydd o Gymraeg y tu hwnt i'n gwaith, gan gynnwys o ran deddfwriaethu. Pa wersi fydd y Comisiwn, felly, yn eu cymryd o'r Bil yma, a sut fyddwch chi felly fel Comisiwn yn cydweithio â'r Llywodraeth i sicrhau bod modd i fwy o Filiau gael eu gweithio arnyn nhw yn y Gymraeg, fel iaith wreiddiol neu'r iaith ddrafftio, yn y dyfodol? Fe fyddai hi'n dda gwybod nad dim ond pan fo Bil am y Gymraeg y bydd hyn yn digwydd, ond ein bod ni'n normaleiddio hynny ar draws ystod ein deddfwriaeth a'r holl bynciau—bod hynny'n bosib yn y dyfodol.
Felly, mae rhai pethau i'w dathlu, ond mae gwaith i'w wneud. Yn sicr, mae o wastad yn pigo cydwybod rhai ohonon ni y gallwn ni wastad wneud mwy er mwyn normaleiddio defnydd o'r Gymraeg. Mae'n un peth pregethu i sefydliadau y tu hwnt i'r Senedd hon ynglŷn â phwysigrwydd y Gymraeg, ond mae yna bethau dŷn ni hefyd yn gallu eu gwneud, heb os.
Diolch yn fawr iawn am yr adroddiad. Dwi'n falch iawn o glywed am yr adolygiad dŷch chi wedi sôn amdano fo—cyfle o'r diwedd i ailasesu ac alinio ein hunain yn fwy priodol efo'r newidiadau mewn polisi a chyfeiriad o ran y Gymraeg. Mae llawer o'r rheini wedi digwydd, wrth gwrs, ers sefydlu'r Senedd. Ond y perygl wrth barhau efo'n Deddf ieithoedd swyddogol ein hunain ydy ynysu ein hunain yn llwyr o'r newid mawr y mae'r safonau wedi eu creu ymhob corff arall cymharol. Mae o fel petai ein bod ni rywsut yn rhy swil yn y Senedd i ymroi'n llwyr i fynd ati'n rhagweithiol ac yn hyderus i hyrwyddo'r Gymraeg. Ac, wrth gwrs, mae yna rai o'r awdurdodau seneddol, fel y comisiynydd safonau a'r bwrdd taliadau, yn gweithredu heb unrhyw reolau cyfreithiol arnyn nhw o ran y Gymraeg.
Dwi'n eistedd ar fwrdd dan gadeiryddiaeth eich cyd-Gomisiynydd, Joyce Watson, ar greu Senedd teulu gyfeillgar a chynhwysol wrth edrych ymlaen at y seithfed Senedd. Y bwriad ydy cyhoeddi adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn. Dwi'n meddwl bod y cylch gorchwyl a'r ffordd y mae'r gwaith yna yn mynd i gael ei gynnal yn cynnig model eithaf da ar gyfer eich adolygiad chi, os caf i fod mor hy ag awgrymu. Felly, mi fuaswn i yn pwyso ar y Comisiwn i fynd ati ar fyrder i roi'r trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer yr adolygiad yma, efo amserlen glir, cylch gorchwyl ac yn y blaen, fel ein bod ni'n gwybod yn union beth i'w ddisgwyl ar ddiwedd y gwaith yna.
Roeddwn yn falch hefyd o glywed am adolygiad pwyllgorau y fforwm Cadeiryddion, fydd yn cynnwys edrych ar y defnydd o'r Gymraeg. Rhaid i mi ddweud, fel un sydd yn defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr yma 100 y cant o'r amser, dydw i ddim bob tro yn hollol gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r amser mewn cyd-destun pwyllgorau. Mae hyn yn rhannol oherwydd y dechnoleg. Mae rhywun yn gweld pobl yn rhoi'r clustffonau ymlaen y funud dwi'n dechrau siarad, ac maen nhw'n eu tynnu nhw i ffwrdd, ac mae yna ryw rigmarôl, ac rydych chi'n colli llif y drafodaeth ar adegau.
Dwi'n siŵr bod yna dechnolegau gwell ar gael erbyn hyn mewn cyd-destun pwyllgor, lle dydy'r person sydd yn siarad Cymraeg ddim yn teimlo eu bod nhw rywsut yn tarfu ar bethau. Mae'n gwneud i ni, y siaradwyr Cymraeg, deimlo ein bod ni o dan anfantais mawr yn y pwyllgorau. Dwi'n meddwl bod fan hyn yn well, ac mae gweithio'n rhithiol wedi newid pethau hefyd. Dyw rhywun ddim yn meddwl ddwywaith yn rhithiol am ddefnyddio'r Gymraeg, ond mae eisiau edrych ar y gwaith yn y pwyllgorau. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw ar Adam Price i ymateb i'r ddadl.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau am eu sylwadau nhw. Bydd ambell i gwestiwn bydd yn rhaid i fi ei ateb yn ysgrifenedig. Dyna fe; dwi'n siarad fel Gweinidog nawr, yntefe—paratoi, efallai, gobeithio. [Chwerthin.]
Ond, jest i ddweud ar y dechrau, ie, Tom, rwy'n falch ein bod ni'n gwisgo'r un iwnifform, achos mae'n gwneud y pwynt drosom ni. Rydyn ni'n dod o'r un dref ac yn siarad yr un iaith. Mor belled ag y mae'r Gymraeg yn y cwestiwn, rwy'n credu ein bod ni'n un tîm, onid ydym ni? Rydym ni eisiau gweld yr un nod. Mae'n beth braf, a dweud y gwir, fod hwnna'n rhywbeth ŷn ni'n ei drysori yn gyfan oll fel sefydliad.
O ran yr arolwg cyfannol, fydd unwaith eto yn ysbryd yr un tîm yma, mae'n bwysig bod pawb sy'n rhan o'r sefydliad—nid jest staff y Comisiwn, ond staff cymorth, staff grwpiau, Aelodau, ac yn y blaen—yn teimlo eu bod nhw i gyd yn rhan o'r ethos dwyieithog yma a'r genhadaeth yma i sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu priod le. Dyna pam ŷn ni'n mynd i gael arolwg gwirioneddol gynhwysfawr am y tro cyntaf, ac ŷn ni'n gweithio ar fanylion sut mae hynny'n mynd i weithio'n ymarferol nawr.
Mae Tom yn codi pwynt pwysig iawn. Hynny yw, bydd angen adnoddau, wrth gwrs, ar gyfer Senedd fwy o ran dwyieithrwydd a'r cynllun ieithoedd swyddogol. Wrth gwrs, wrth i'r cynllunio ehangach fynd ymlaen ynglŷn â chapasiti, bydd hynny yn elfen, mae'n siŵr gen i, y byddwn ni'n ffocysu arni hi.
Ie, mae'n bwysig nodi ein llwyddiannau. Roedd cael Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), am y tro cyntaf Bil a aeth drwy bob cam yn hollol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhywbeth hanesyddol, ac, wrth gwrs, rŷn ni eisiau gweld mwy o hwnna. Mater i'r Llywodraeth, wrth gwrs, yw penderfynu drafftio yn y Gymraeg. Gobeithio bydd mwy o hynny'n digwydd. Ond mae'r Comisiwn wedyn yn sicrhau bod yr adnoddau gyda ni fel Senedd i sicrhau ein bod ni'n gallu cyfrannu tuag at broses fydd yn cael ei chynnal drwyddi draw yn y Gymraeg.
O ran cyfundrefn adolygiad o'r strwythur cyfreithiol, ie, gwnawn ni'n cymryd yr awgrym yna ynglŷn â'r templed y mae'r arolwg arall yn ei gynnig. Dwi'n credu bod hynny'n awgrym positif iawn. Mae yn bwysig, rwy'n credu, bron 15 mlynedd ar ôl y Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, ein bod ni yn adolygu a ydyw'n iawn ar gyfer ein hanghenion heddiw ac ar gyfer y dyfodol.
Mae yna lawer o lwyddiannau, ond, fel roedd Heledd yn dweud, mae yna lot eto i'w wneud ac i'w gyflawni. Fe wnawn ni edrych i ddarparu'r wybodaeth ar sail grwpiau yr oeddech chi'n cyfeirio ati hi, jest fel ein bod ni i gyd yn gallu edrych ar le rŷn ni o ran lefel y cyfraniadau ac yn y blaen, lle mae hynny'n ddefnyddiol i grwpiau.
O ran defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, mi oedd staff y tîm ieithoedd swyddogol yng nghynhadledd Comisiynydd y Gymraeg ddoe. A byddwn ni, fel sefydliad, yn edrych nawr tuag at ddefnyddio'r syniadau yna ynglŷn â sut rŷn ni'n gallu prif ffrydio'r Gymraeg fel iaith weinyddol fewnol.
Ac wrth i fi gloi, ac wrth i ni edrych ymlaen, rwy'n credu ei fod e'n briodol, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad dihafal y diweddar Dafydd Elis-Thomas i ddatblygiad defnydd y Gymraeg yn rhan greiddiol o fywyd y Senedd yma, yn ei rôl yn y dyddiau cynnar fel Llywydd cyntaf y Senedd, ond ei waith cyn hynny, dwi'n meddwl, yn adeiladu'r consensws y gwnes i gyfeirio ato fe gynnau ar draws y pleidiau gwnaeth gyfrannu nid yn unig i ddwyieithrwydd y Senedd yma, ond hwyrach i'w bodolaeth hi hefyd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM8949 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i'r Chweched Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn cychwyn, hoffwn ddatgan fy mod yn aelod o Undeb Unite, ac wedi derbyn nawdd ariannol ganddynt.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, dwi'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Eluned Morgan AS am fethu datgan buddiant perthnasol cyn cymryd rhan yn y trafodion yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Medi 2024. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau'r pwyllgor, er ei fod yn credu bod yr Aelod wedi torri'r cod ymddygiad, nad yw'n credu bod angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Er bod y comisiynydd wedi canfod nad oes unrhyw beth i awgrymu bod buddiant cofrestredig yr Aelod wedi dylanwadu ar ei chyfraniad i'r trafodion, gofyniad y Rheol Sefydlog yw y 'gellid ystyried yn rhesymol' fod y buddiant perthnasol wedi dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod, nid a oedd wedi gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, hoffai'r pwyllgor fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa'r holl Aelodau o'r angen i ddatgan buddiant perthnasol yn ystod y trafodion er mwyn sicrhau tryloywder a didwylledd. Dylai'r buddiant fod yn berthnasol i'r trafodion, a dylai eraill allu ystyried yn rhesymol ei fod wedi dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod.
Mae'r gŵyn yn amserol, gan fod ymchwiliad parhaus y pwyllgor i gofrestru a datgan buddiannau yn caniatáu inni ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i sicrhau mwy o eglurder ynghylch y rheolau. Nododd y pwyllgor ehangder y ddarpariaeth bresennol, ac mae'n bwriadu ystyried a ellid diwygio'r canllawiau ar gyfer datganiadau i egluro ym mha sefyllfaoedd nad oes angen datganiadau, neu sut y cânt eu cofnodi.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae'n destun gofid fod manylion penderfyniad y pwyllgor wedi'u rhannu gyda'r cyfryngau cyn cyhoeddi'r adroddiad. A hoffwn egluro i unrhyw un sy'n ymwneud â'r broses safonau yr angen am gyfrinachedd a'i bwysigrwydd wrth gynnal uniondeb y broses, ac yn y pen draw, y lle hwn. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 heddiw yw dadl ar ddeiseb P-06-1525, 'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.
Cynnig NDM8950 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1525, 'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru', a gasglodd 14,016 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl heddiw. Ychydig wythnosau yn ôl, ar brynhawn Llun, teithiodd y Pwyllgor Deisebau i Lanfa Goetre rhwng Pont-y-pŵl a'r Fenni i gyfarfod â rhai o'r bobl y tu ôl i ddeiseb heddiw. Clywsom yr angerdd sydd gan bobl dros y gamlas, y problemau y maent yn eu hwynebu eleni, a chlywsom am yr hanes sydd wedi llifo ar hyd y llwybr 55 milltir o hyd ers dros 200 mlynedd. Gwelsom y llwybrau a'r cyfleusterau cymunedol sydd wedi tyfu ar hyd y llwybr. Cyfarfuom â rhai o'r 20 o bobl sy'n byw ar y gamlas, pobl sydd eisiau sicrwydd y bydd digon o ddŵr, fel y gallant barhau i fyw yno. Cyfarfuom â phobl sy'n ei defnyddio fel lle i ymlacio a dianc rhag straen bywyd bob dydd, elusennau a sefydliadau sy'n ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau. Cyfarfuom â'r cynghorwyr lleol sy'n awyddus i ddod o hyd i ffordd o ddiogelu cyfleuster cymunedol hollbwysig. Cyfarfuom â'r bobl fusnes sy'n darparu cychod i'w hurio a lluniaeth, sydd eisiau sicrwydd fel y gallant wneud y buddsoddiadau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu busnesau mewn marchnad dwristiaeth gystadleuol. Gwelsom fioamrywiaeth gyfoethog ecosystem sefydledig sy'n bodoli mewn symbiosis â'r afon. Clywsom sut y mae'n rhan o ddynodiad safle treftadaeth y byd Blaenafon, a chyfarfuom â Glandŵr Cymru, sydd wedi bod yn prynu miliynau o litrau o ddŵr i sicrhau y gall y gamlas lifo ac nad yw mewn perygl o sychu, a fyddai'n drychinebus i'r strwythur, gan ei gwneud yn anniogel.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Cyflwynwyd y ddeiseb a drafodir heddiw gan y Cynghorydd Jan Butler. Nid oedd modd derbyn ail ddeiseb, a gyflwynwyd gan Mark Flood ar ran grŵp Preserve and Protect the Mon and Brec Canal, gan ei bod yn ymdrin â'r un peth. Mae testun y ddeiseb yn nodi:
'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Mae camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn un o ddyfrffyrdd mwyaf prydferth a thawel y DU. Mae’n ymdroelli drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thrwy lawer o gymunedau gwledig a threfol, gan ymlwybro o Aberhonddu, drwy Dal-y-bont ar Wysg ac ymlaen drwy Lanfa Goetre tuag at Gasnewydd. Mae’n hanfodol i’r trigolion a’r cymunedau cyfagos, gan ddenu tua 3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol ac yn galluogi’r cymunedau hyn i ffynnu.
'Ers ei sefydlu drwy Ddeddf seneddol yn 1792, mae'r gamlas wedi dibynnu ar ddŵr sy’n cael ei dynnu o afon Wysg a'i llednentydd. Daw 80% o'r dŵr sydd ei angen arni o'r afon Wysg yn Aberhonddu. Nid yw'r dŵr yn cael ei 'lyncu' gan y gamlas, gan ei fod yn dychwelyd i'r afon unwaith y bydd wedi cwblhau’r daith. Tan yn ddiweddar, nid oedd angen trwydded i dynnu dŵr. Ers 200 mlynedd, gellid gwneud hyn yn rhad ac am ddim. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r gamlas, a reolir gan Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru (elusen), gael trwydded a chyfyngu ar y dŵr y mae’n ei dynnu. Heb gyflenwad dyddiol o ddŵr drwy ei lociau, bydd y gamlas yn mynd yn anweithredol yn gyflym, a byddai cau yn anochel. Mae'n anodd dychmygu beth fyddai’r canlyniadau o ran cynnal bywoliaeth yn ein cymunedau, yr amgylchedd naturiol a'r economi leol. Gall peidio â rheoli camlas arwain at fethiant trychinebus a dinistrio eiddo cyfagos. Mae Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi y byddant yn cyflenwi lefel gynhaliol o ddŵr, ond am gost afresymol na all yr elusen ei fforddio'
Mae 13,847 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb, sy'n nifer enfawr. Er bod y gamlas dros 200 mlwydd oed, mae'r problemau sy'n wynebu'r gamlas yn newydd. Dyma'r flwyddyn gyntaf i reoliadau newydd ym gysylltiedig â mynediad at ddŵr gael eu rhoi ar waith, gan gyfyngu ar faint o ddŵr y gellir ei dynnu o afon Wysg i fwydo'r gamlas. Mae'r drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu lefel is o echdynnu dŵr nag a ganiatawyd yn hanesyddol. Ddeng niwrnod wedi i'r rheoliadau hyn ddod i rym yn gynharach eleni, cafwyd problem. Yn flaenorol, câi'r gamlas ei rheoli gan Glandŵr Cymru. Maent wedi cyfrifo, pe bai cyfyngiadau dŵr y drwydded wedi bod mewn grym yn yr 20 mlynedd diwethaf, na fyddai'r gamlas ond wedi bod ar agor am bedwar haf. Am y cyfnod o ddau fis rhwng 4 Ebrill a 9 Mehefin, roedd angen i Glandŵr Cymru brynu 376 miliwn litr o ddŵr am gost amcangyfrifedig o £0.25 miliwn, ac nid yw hyn yn gynaliadwy. Mae hefyd yn golygu nad oes arian ar gael ar gyfer y gwaith cynnal a chadw hanfodol sydd ei angen i sicrhau bod modd parhau i fordwyo'r gamlas ac i atgyweirio rhannau o'r gamlas sy'n gollwng dŵr.
Mae'r cytundeb presennol gyda Dŵr Cymru am flwyddyn yn unig. Nid oes unrhyw sicrwydd y gellid gwneud unrhyw beth tebyg y flwyddyn nesaf, gan greu angen brys am ateb priodol. Mae 200 mlynedd o hanes i'r gamlas ac mae'n ddarn strategol o'n seilwaith cenedlaethol. Mae'n atyniad i dwristiaid, yn fecanwaith amddiffyn rhag llifogydd, yn hafan i fioamrywiaeth, yn gangen o'r rhwydwaith teithio llesol, yn gartref i bobl a busnesau. Ni ellir caniatáu iddi fethu. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i bob un ohonom yn y Siambr ystyried difrifoldeb y mater a'r angen i bob rhanddeiliad, gan gynnwys Llywodraeth y DU, sy'n cyfrannu at gyllid Glandŵr Cymru drwy Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gydweithio i ddod o hyd i ateb ymarferol a chynaliadwy, dan arweiniad y Dirprwy Brif Weinidog, gobeithio. Diolch.
Rwyf innau hefyd am ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon heddiw. Rwyf am fod yn glir gyda'r Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet: mae camlas sir Fynwy a Brycheiniog ar fin cau, ac nid oherwydd sychder, nid oherwydd nad oes galw, ond oherwydd bod y penderfyniad trwyddedu'n gwbl anymarferol.
Ers 225 mlynedd, mae'r gamlas hon wedi mynd â dŵr o afon Wysg i allu gweithredu. Mae'n dod â bron i £30 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, a dyma'r atyniad mwyaf poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n ganolog i fywydau'r cymunedau ar hyd ei lwybr, o fy etholaeth i yr holl ffordd i lawr i etholaeth fy nghyd-Aelod Lynne Neagle. Ond nawr, oherwydd y drwydded echdynnu dŵr a orfodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae dyfodol y gamlas yn y fantol.
A gadewch inni ddadansoddi hyn. Mae angen tua 18 ML o ddŵr y dydd ar y gamlas i weithredu'n iawn. Mae trwydded newydd CNC yn cyfyngu ar faint o ddŵr y gellir ei dynnu, yn enwedig yn yr haf pan fo'r gamlas ar ei phrysuraf, i lefelau is na'r hyn sydd ei angen i weithredu. Nid yw'n ystyried realiti anweddiad, gollyngiadau na phatrymau hanesyddol o ddefnydd.
Beth sydd wedi digwydd? O fewn pythefnos wedi i'r drwydded ddod i rym ym mis Mawrth, gostyngodd lefelau dŵr ar y gamlas bron iawn i lefelau lle na ellid ei defnyddio. Mae Glandŵr Cymru, elusen sydd eisoes dan bwysau, wedi cael ei gorfodi i dalu hyd at £40,000 yr wythnos i brynu dŵr gan Dŵr Cymru er mwyn cadw'r gamlas ar agor. Nid yw hon yn sefyllfa gynaliadwy. Mae Glandŵr Cymru wedi dweud yn glir na all fforddio parhau i dalu £1 filiwn y flwyddyn i brynu dŵr ar gyfer y gamlas a arferai fod â'r dŵr yn rhan o'i hecosystem naturiol. A gadewch inni gofio, nid yw'r ymddiriedolaeth gamlesi ac afonydd yn talu am ddŵr yn unrhyw le arall yng Nghymru na Lloegr.
Os nad oes unrhyw beth yn newid, byddwn yn gweld busnesau hurio cychod yn methu. Byddwn yn gweld busnesau twristiaeth yn dod i ben. A byddwn yn gweld pobl yn colli swyddi, tafarndai a siopau yn colli masnach, a'r cymunedau ar hyd y gamlas yn colli rhan ganolog o fywyd cymdeithasol ac economaidd fy etholaeth. Byddwn yn gweld colli bywyd gwyllt ar hyd y coridor gwyrdd 35 milltir hwn. Mae'r gamlas ei hun yn gartref i 112 o rywogaethau gwarchodedig, ond methodd y penderfyniad trwyddedu ystyried bod ecoleg y gamlas yn rhan o'r un ecosystem ag afon Wysg. Rydym hefyd yn peryglu dyfodol strategaeth adfer camlas Torfaen, sydd wedi'i chysylltu'n uniongyrchol ag adfywio rhannau o Gwmbrân, yn chwalu os na ellir gwarantu bod dŵr yn llifo.
A gadewch inni siarad am y bobl sy'n gweithio ar y gamlas, fel Dai Tugg, sydd wedi rhedeg ei fusnes ar y gamlas yn fy etholaeth i. Mae wedi dangos fy etholaeth i filoedd a miloedd o bobl dros y blynyddoedd, ac rwy'n credu y byddai'n drueni mawr pe bai busnes fel ei un ef yn gorfod mynd i'r wal oherwydd penderfyniad a wnaed gan CNC. Ond gadewch imi fod yn glir: nid mater ymylol yw hwn, na mater haniaethol yn ymwneud â dadleuon technegol ynghylch rheoli dŵr, mae'n ymwneud â bywoliaeth pobl, treftadaeth, twristiaeth bywyd gwyllt ac iechyd a llesiant cymunedol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf. Jenny.
Mae CNC mewn sefyllfa amhosibl, am mai'r rheswm pam eu bod yn gorfod cadw'r dŵr sy'n cael ei dynnu allan o'r afon Wysg yw'r effaith ar natur a bywyd gwyllt yn afon Wysg. A'r rheswm sylfaenol am hyn yw nad ydym ni, bawb ohonom, wedi gofalu am ein hadnoddau dŵr dros y blynyddoedd.
Nid wyf yn anghytuno. Rwy'n credu bod angen gwneud llawer mwy o waith i wella'r holl ddyfrffyrdd, ond yr hyn nad wyf am ei weld yn digwydd yw bod un ddyfrffordd yn cael ei dinistrio er mwyn cadw un arall i fynd. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd fwyaf priodol o reoli ein dyfrffyrdd ledled Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch imi fod yn onest: mae hon yn broblem a achoswyd gan benderfyniad trwyddedu CNC a chan ddiffyg meddwl cydgysylltiedig, a chafodd ei gwneud yn waeth gan fethiant y Llywodraeth hon i ddod â phobl o gwmpas y bwrdd i gamu i mewn a'i ddatrys. Mae bron i 14,000 o bobl, rai ohonynt yn yr oriel yma y tu ôl i ni, wedi llofnodi deiseb yn galw arnom i ddiogelu dyfodol y gamlas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r holl bobl hynny'n disgwyl gweld gweithredu'n digwydd. Nid ydynt yn disgwyl esgusodion. Yr hyn a glywsom yw taflu'r baich rhwng gwahanol sefydliadau, gan ddweud, 'Nid yw'n ddim i'w wneud â ni.'
Nonsens.
Nid yw'n nonsens, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gennych os ydych chi eisiau. Fe fyddwch chi'n siarad yn nes ymlaen—wel, o'r gorau. Gadewch inni gadw'n ddistaw am nawr felly. [Torri ar draws.]
Mae angen i CNC, Glandŵr Cymru, Dŵr Cymru ac awdurdodau lleol ddod o amgylch y bwrdd—[Torri ar draws.]
Trefn.
—gan fod angen inni ddod o hyd i ateb ymarferol, fforddiadwy a theg i'r broblem. Yr hyn y credaf fod angen inni ei wneud yw cael Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo CNC i oedi cyn gorfodi'r cyfyngiadau trwyddedu presennol tra bod ateb ymarferol, hirdymor yn cael ei roi ar waith. Rwy'n credu bod hynny'n hollol rhesymol. Mae'r gamlas a'r afon wedi bodoli ers dros ddwy ganrif, ac rydym yn gweld lefelau maethynnau yn afon Wysg yn gwella, ac rwy'n credu na ddylem ddefnyddio hynny fel rheswm dros beidio â rhoi dŵr yn y gamlas.
Mae angen y strategaeth gydgysylltiedig honno arnom, ac rydym yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o'r achos cyntaf o gau gweithredol yng Nghymru a Lloegr oherwydd diffyg gweithredu ar ran y Llywodraeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu mai nawr yw'r amser i chi weithredu. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i chi gamu i mewn, oherwydd os na wnewch chi, bydd busnesau'n cau—
Rhaid i'r Aelod ddod i ben nawr.
Fe wnaf orffen nawr, Lywydd dros dro. Bydd busnesau'n cau, bydd ein hecoleg yn cael ei niweidio, a bydd rhaff achub ein cymunedau'n diflannu, a'r cyfan a welwn yw ffos sych yn rhedeg trwy etholaethau ledled Cymru, ac rwy'n credu y bydd hynny'n drasiedi fawr i'n cymunedau.
Diolch i’r pwyllgor ac i’r deisebwyr. Mae camlas sir Fynwy ac Aberhonddu, neu’r ‘Mon and Brec’, fel y'i gelwir yn lleol, yn allweddol i'n treftadaeth genedlaethol, oherwydd mae’r ddyfrffordd hon yn dyst i dros ganrif o hanes cyfoethog, o weledigaeth beirianyddol Dadford, Outram a Crosley i lafur y nafis a dorrodd ei gwrs o'r ddaear galed; o'r haearn, glo a chalchfaen a gludwyd i danio ffwrneisi crasboeth Blaenafon i'r cymunedau a godwyd ar lannau’r wythïen egnïol hon; o'i dirywiad a'i dadleoliad gan dechnoleg newydd y rheilffyrdd, i'w hadferiad a'i hadnewyddiad tuag at ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Heddiw, mae'n ganolfan fasnachol, ddiwylliannol ac amgylcheddol lewyrchus, edyn sydd mewn cyferbyniad llwyr â'i tharddiad, bellach yn plethu cymdeithas ddynol a natur mewn cydfodolaeth cydseiniol.
Mae’r ffaith bod y gamlas yn wynebu dinistr yn adlewyrchiad o ba mor ddifrifol yr ydym yn esgeuluso ein hetifeddiaeth a'n tirweddau. Ac mae’n atgoffâd pwerus a gweladwy o'r pris sy’n cael ei dalu o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd. Mae'n anochel y bydd problemau tebyg sy'n ymwneud â phrinder dŵr yn codi eto gyda rheoleidd-dra cynyddol dros y blynyddoedd nesaf. Rwy’n ofni bod ymateb y Llywodraeth wedi bod yn siomedig hyd yma. Nid yn unig mae wedi bod yn ymateb sy’n dangos diffyg dealltwriaeth, efallai, o werth ehangach y gamlas, ond un sydd hefyd yn anwybyddu'r realiti ei bod o fewn gallu'r Llywodraeth i o leiaf adolygu gofynion trwyddedu perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gellir ystyried cyflwyno hyblygrwydd pellach o ran mecanweithiau taliadol Dŵr Cymru ar gyfer ymddiriedolaethau camlesi. Ar ben hynny, mae sylfaen y rheolau tynnu dŵr newydd yn un sy'n seiliedig ar resymeg ddiffygiol. Mae'n gosod yr angen i amddiffyn ecosystem Afon Wysg, sydd wrth gwrs mor bwysig, ond mae’n gosod hwnna yn erbyn anghenion y gamlas i aros ar lefel iach, sy’n anwybyddu’r ffaith bod y gamlas yn ecosystem arwyddocaol ynddi hi ei hun. Rwy'n gwrthod y rhagdybiaeth honno. Mae cydbwysedd cynaliadwy i'w gael, a bydd pris peidio â gwneud hynny yn llawer mwy na cholli dyfrffordd yn unig; bydd yn golled ffordd o fyw cyfan i'r busnesau, i’r cymunedau a'r bywyd gwyllt sy'n galw’r gamlas yn gartref.
Mae'r datrysiad dros dro yn rhywbeth i’w groesawu. Mae wedi'i gytuno rhwng yr ymddiriedolaeth a Dŵr Cymru i gadw'r gamlas ar waith am y dyfodol agos. Mae hwnna, eto, i’w groesawu, ond mae datrysiad sy'n costio dros £100,000 y mis i ymddiriedolaeth elusennol yn amlwg yn anghynaliadwy. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ddangos yr arweinyddiaeth bendant a rhagweithiol sydd ei hangen ar y mater hwn, i ddatblygu ateb sy'n sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau'r gamlas cyn i'r dyfroedd rhedeg yn sych ar un arall o'n hasedau diwylliannol a hanesyddol gwerthfawr.
Dechreuais ymddiddori'n fawr yng nghamlas sir Fynwy a Brycheiniog ar ôl cyfarfod gyda fy etholwyr, Fiona a Steve Burt, sy'n treulio llawer o'u hamser yn byw ar gwch cul 58 troedfedd, ac fe wnaethant fynegi eu brwdfrydedd a'u cariad at y gamlas, am y ffordd o fyw a'r fraint a deimlant o allu byw yn ein hamgylchedd gwych Cymreig ar y gamlas. Ac wrth gwrs, fel y dywedodd Carolyn Thomas yn ei rhagymadrodd, mae yna bobl sy'n byw yno'n barhaol. Mae'n lle hollol unigryw yr ymwelais ag ef dros y blynyddoedd.
Mae camlas sir Fynwy a Brycheiniog wedi bod yn rhan o'n tirwedd ers 225 mlynedd, ac mae'n darparu incwm twristiaeth hanfodol bwysig, fel sydd wedi'i grybwyll, i'r trefi a'r pentrefi a'r busnesau eraill ar hyd y gamlas. Ac mae'n hollol hanfodol i'r ecoleg a'r bywyd gwyllt sydd mor ddibynnol arni. Mae'r newidiadau a wnaed i'r drwydded echdynnu'n golygu, yn ôl strategaeth rheoli echdynnu dalgylch afon Wysg, y bydd echdynnu o afon Wysg ond yn debygol o fod yn bosibl am 51 diwrnod o'r flwyddyn, ac mae'n debyg y bydd hyn yn ystod misoedd y gaeaf. Ac wrth gwrs, dyma'r adeg pan fydd y gamlas ei hun wedi'i llenwi gan law yn barod. Nid yw hyn yn ddigon i gynnal y gamlas, a dyna pam y mae'r trefniant gyda Dŵr Cymru mor bwysig.
Fodd bynnag, fel y dywedwyd eisoes heddiw, mae costau'r cytundeb echdynnu'n waharddol ac adroddwyd ei bod yn costio tua £100,000 y mis. Fel y mae, nid yw'r gamlas yn fasnachol hyfyw, gan mai dim ond 400 o gychod y mae'n eu cynnal gyda ffi drwydded gyfartalog o £1,000 y flwyddyn. Caiff ei chynnal yn bennaf gan yr elusen yn unol â'i hamcanion elusennol. Felly, mae'n bosibl mai'r penderfyniad masnachol cywir i Glandŵr Cymru fyddai cau'r gamlas. Ac rwy'n credu bod y bygythiad o hynny'n canu larymau gyda phawb ohonom yn y Senedd a chyda'r Llywodraeth.
Rwy'n deall bod y trefniadau rhwng Dŵr Cymru a Glandŵr Cymru wedi eu categoreiddio'n rhai masnachol sensitif, ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cefnogi galwad yr ymddiriedolaeth am drefniant anfasnachol a fyddai'n deg i bawb, fel nad ydym yn wynebu'r perygl o golli'r ddyfrffordd hollol wych ac unigryw hon yng Nghymru? Nid wyf yn teimlo y gallwn sefyll yma a gadael i hynny ddigwydd.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr i'r deisebydd, y Cynghorydd Jan Butler, am y ddeiseb gyntaf, a ddenodd dros 14,000 o lofnodion. A diolch yn fawr i'r bobl niferus a ddaeth yma heddiw at risiau'r Senedd i fynegi barn a rhannu eu pryderon—pryderon yr ydym i gyd yn eu rhannu. Roedd cefnogaeth drawsbleidiol ar y grisiau heddiw, i gydnabod pwysigrwydd yr ased gwerthfawr hwn. Mae'n em yng nghoron yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Ac mae'n ddiwrnod trist pan fo'n rhaid inni ddod yma i ddadlau dros ddyfodol ein camlas, un o'r darnau mwyaf gwych o ased amgylcheddol sydd gennym.
Fel y clywsom, a byddwn yn ailadrodd yr un materion, rydym wedi clywed am y drwydded sy'n gosod cyfyngiadau ar faint o ddŵr y gallwn ei dynnu o afon Wysg. Ond mae'n rhyfedd, onid yw, ein bod ni'n mynd ar drywydd un dyhead amgylcheddol heb fawr o ystyriaeth o'r hyn a wnawn i ased amgylcheddol arall. Mae'n ymddangos na cheir barn gyfannol lle gallwn edrych ar bopeth yn ei gyfanrwydd, a dyna pam ein bod yn wynebu problemau go iawn fel y rhain. Ni ddylem fod yn ystyried gorfod cyflenwi dŵr nawr neu dalu am ddŵr sydd wedi bod yn rhad ac am ddim ers 225 mlynedd. Rydym wedi symud ymlaen yn bellach na hynny. Dylai fod gennym systemau ar waith i gynnal yr asedau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hyd yma, mae'r ymddiriedolaeth, fel y gwyddom, wedi ymrwymo i brynu dŵr tan fis Mawrth 2026, ac mae'n amlwg na all unrhyw elusen barhau i wneud hynny am byth.
Felly, beth yw'r dyfodol? Os caiff ei gadael, mae'r gamlas yn mynd i sychu, a dod yn anweithredol. Ond nid mater o sychu a dod yn anweithredol yn unig mohono. Edrychwch ar yr effeithiau ecolegol enbyd, yn ogystal â'r canlyniadau economaidd enfawr. Mae'n rhyfeddol nad oes gan y gamlas yr un lefel o ddynodiad cadwraeth ag afon Wysg, er ei bod yn chwarae rhan allweddol yn harddwch naturiol sir Fynwy—yn fy achos i—a bioamrywiaeth. Felly rwy'n annog Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i ystyried trin y dyfrffyrdd mewn ffyrdd tebyg. Rwy'n gwybod efallai na fyddant yn gallu eu trin yn yr un ffordd yn union, ond i roi parch cydradd yn y ffocws sydd ei angen arnynt.
Fel y clywsom, mae Glandŵr Cymru yn amcangyfrif bod y gamlas yn cynnal 77 hectar o gynefinoedd ardal, gyda 46 hectar o goetir a 7 hectar o laswelltir, 58 km o gynefin cwrs dŵr a dros 33 km o wrychoedd brodorol cyfoethog eu rhywogaethau. Ac fel y clywsom hefyd, dengys y data fod 1,339 o rywogaethau wedi'u cofnodi yn agos at goridor y gamlas, sy'n cynnwys 112 o wahanol rywogaethau â blaenoriaeth, sy'n golygu mai gan y gamlas y mae'r nifer uchaf o rywogaethau â blaenoriaeth o holl gamlesi Cymru. Mae'r gamlas hefyd yn chwarae rhan hynod bwysig yn yr economi wledig ehangach, gan gefnogi, fel y gwyddom, 276 o swyddi a thua £30 miliwn amcangyfrifedig y flwyddyn. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a darparu ateb hirdymor i'r argyfwng y mae'r gamlas yn ei wynebu. Ni fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn peryglu dyfodol ased amgylcheddol mor allweddol.
Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi ceisio ymwrthod â'i chyfrifoldeb mewn perthynas â hyn yn wreiddiol. Ond rwy'n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yr un mor awyddus ag unrhyw un ohonom ni i ddod o hyd i ateb sy'n creu dyfodol cynaliadwy i'r gamlas. Rwy'n dymuno'n dda iddo wrth iddo geisio gwneud hynny, oherwydd mae'n hollol hanfodol fod hyn yn digwydd er mwyn inni allu rhoi sicrwydd i fusnesau'r gamlas, er mwyn iddynt gael eu diogelu ar gyfer y dyfodol ac er mwyn inni allu gwireddu ein cynnig twristiaeth yng Nghymru, ond hefyd i'r bobl sy'n byw ar y gamlas; mae'n gartref iddynt. Ac i'r rhai ohonom a'r miloedd lawer o bobl yng Nghymru y mae eu llesiant yn dibynnu ar y gamlas, oherwydd mae'n gwneud cymaint i fywydau pobl mewn cymaint o ffyrdd.
Gyda'r holl bleidiau'n gweithio gyda'i gilydd, rwy'n gobeithio y gallwn ddod o hyd i ateb sy'n wirioneddol gynaliadwy ac sy'n cadw asedau o'r fath ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny mor bwysig. Diolch.
A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi ymuno â ni heddiw o'r ardal ac am eich ymgyrch? Oherwydd heb eich ymgyrch a heb i chi ddod â hyn i sylw cymaint o bobl—gan fy nghynnwys i—ni fyddem yma. Diolch am drefnu'r ddeiseb a diolch am y cyfarfodydd a gawsom hefyd; mae wedi cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n falch o siarad i gefnogi'r ddeiseb ac ar ran y 14,000 o bobl sydd wedi ei llofnodi. Mae eu neges yn glir: mae camlas sir Fynwy a Brycheiniog yn bwysig.
Y gamlas yw'r atyniad unigol yr ymwelir ag ef fwyaf ym Mannau Brycheiniog. Fel y clywsom, mae wedi denu dros 3 miliwn o ymwelwyr, felly mae'n hollol hanfodol i'r ardal. Mae'n llawer mwy na dyfrffordd. Mae'n rhan fyw a gweithredol o'n treftadaeth genedlaethol. Coridor gwyrdd 35 milltir o hyd sy'n troelli trwy galon Bannau Brycheiniog ac ymlaen i gymunedau Cwmbrân a Chasnewydd. Am 225 mlynedd, mae wedi gwasanaethu ein pobl, gan gysylltu pentrefi, cefnogi diwydiannau, cynnig noddfa i fywyd gwyllt a chynhyrchu llesiant, fel y soniodd Peter Fox, yn ogystal â ffyniant economaidd. A nawr—a dyma pam ein bod ni yma y prynhawn yma—mae yna berygl o'i cholli.
Mae'r gamlas yn wynebu argyfwng dirfodol. Fel y clywsom, ers i'r drwydded echdynnu dŵr newydd ddod i rym ym mis Mawrth 2025, mae lefelau dŵr eisoes wedi gostwng i lefelau lle mae bron yn amhosibl ei mordwyo. Mae'r cyfyngiadau newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei dynnu o afon Wysg—ffynhonnell sydd wedi cyflenwi dros 80 y cant o lif y gamlas ers dros ddwy ganrif. Mae'r afon Wysg yn ardal cadwraeth arbennig ddynodedig, ac mae'n rhaid inni ddiogelu ei bioamrywiaeth wrth gwrs. Ond mae'r gamlas hefyd yn cynnal 112 o rywogaethau gwarchodedig ac yn gweithredu fel coridor ecolegol allweddol, gyda nifer mwy o rywogaethau â blaenoriaeth nag unrhyw gamlas arall yng Nghymru. Mae'r penderfyniad i flaenoriaethu un cynefin dros un arall wedi creu deuoliaeth ffug a hynod niweidiol. Ni ddylai fod yn fater o'r naill yn ennill ar draul y llall. Nid yw'r afon Wysg a chamlas sir Fynwy a Brycheiniog yn cystadlu. Maent yn ecosystemau annibynnol, dwy o rydwelïau'r un dirwedd fyw, wedi'u siapio gyda'i gilydd ers dros 200 mlynedd, a rhaid inni ddiogelu'r ddwy.
Rydym yn dathlu'r holl fusnesau, yr holl ddiwydiannau twristiaeth ar hyd y gamlas, ond hefyd, fel y soniodd Julie Morgan, y bobl sy'n llythrennol yn byw ar y gamlas. I'r rhai a brynodd gychod preswyl, gyda llawer ohonynt yn breswylwyr parhaol, mae lefelau dŵr is yn fwy nag anghyfleustra, fe allai eu gwneud yn ddigartref. Eisoes mae elusen Glandŵr Cymru yn cael ei gorfodi i brynu dŵr mewn argyfwng, fel y clywsom.
Mae'r gamlas yn dyst i'n gorffennol diwydiannol. Fe'i hadeiladwyd gan Ddeddf Seneddol yn 1792. Roedd yn rhaid imi wneud yn siŵr fy mod i'n cael y rhifau hynny'n iawn—1792. Mae wedi galluogi cludo glo, haearn a chalchfaen trwy gymoedd a bryniau Cymru fel y clywsom gan Delyth. Byddai'n eironig iawn pe baem, i nodi cwblhau'r gamlas 225 mlynedd yn ôl, yn gadael i'r llinyn hwn o hanes gael ei dorri gan bolisi cibddall ac anhyblygrwydd sefydliadol ar ein rhan.
Nid yw'r deisebwyr yn gofyn am yr amhosibl. Maent yn gofyn am frys, am arweinyddiaeth, ac am feddwl cydgysylltiedig. Pan glywn gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y cawn glywed bod yna arweinyddiaeth, a bod cyfle i feddwl yn gydgysylltiedig. Mae yna ffordd y gallwn wneud yn siŵr fod yr afon Wysg a chamlas sir Fynwy a Brycheiniog yn parhau i ffynnu.
Os nad ydym yn gweithredu, gallai camlas sir Fynwy a Brycheiniog gau, o fewn misoedd o bosibl. Mae cwmnïau hurio cychod a gweithredwyr teithiau eisoes yn wynebu ansicrwydd ariannol. Bydd cymunedau'n colli injan hollbwysig. Bydd bywyd gwyllt yn cael ei ddadleoli. Bydd pobl yn colli eu cartrefi. A byddwn ni i gyd yn colli rhan o bwy ydym ni. Diolch yn fawr iawn.
Roedd yn dda iawn siarad â deisebwyr ar risiau'r Senedd yn gynharach a chlywed ganddynt yn uniongyrchol cymaint y maent yn gwerthfawrogi camlas sir Fynwy a Brycheiniog, cymaint y mae'n ei olygu iddynt, gan gynnwys pobl sy'n byw ar gychod camlas, pobl sy'n gwirfoddoli ac yn gwneud cymaint o waith i wella a helpu i ddatblygu'r gamlas ar gyfer yr holl gymunedau sy'n byw ar hyd ei llwybr, a chlywed am ei phwysigrwydd i dreftadaeth, i'n hanes diwydiannol, i natur, fel rhydweli werdd trwy ein cymunedau.
Yn bersonol, rwy'n defnyddio'r rhan sydd yng Nghasnewydd. Er ei bod yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jane Bryant, Gorllewin Casnewydd yn hytrach na Dwyrain Casnewydd, rwy'n ei defnyddio'n rheolaidd. Rwy'n rhedeg ar hyd y gamlas, rwy'n cerdded ar hyd y gamlas, rwy'n beicio ar hyd y gamlas. Rwyf wedi gweld gleision y dorlan, crehyrod gleision, elyrch sy'n nythu ac amrywiaeth o adar gwyllt a llawer o rywogaethau eraill hefyd, sy'n tystio i'w phwysigrwydd ecolegol a'i bioamrywiaeth.
Clywsom gymaint o resymau cymhellol yn y ddadl hon, oni wnaethom, o ran pam y mae angen inni gefnogi'r ddeiseb hon a sicrhau dyfodol y gamlas. Un peth yr hoffwn ei ychwanegu at hynny yw'r defnydd o ochr y gamlas. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, mae ystadau tai cymdeithasol mawr ym Metws a Malpas yn defnyddio'r gamlas honno i gerdded, i feicio i ganol y ddinas yng Nghasnewydd. Mae rhannau mawr o'r boblogaeth yn gwella eu profiad bywyd bob dydd eu hunain trwy ddefnyddio'r gamlas yn y ffordd honno.
Mae llawer o'r gwaith ar ochr y gamlas wedi cael ei wneud gan wirfoddolwyr ymroddedig dros nifer fawr o flynyddoedd. Os nad ydym yn mynd i gael y gamlas ffyniannus honno gyda dŵr ar hyd ei llwybr a gwneud cymaint ohoni mor hawdd ei mordwyo â phosibl, mae cael y brwdfrydedd hwnnw, cael yr ymrwymiad hwnnw gan wirfoddolwyr yn mynd i fod yn llawer anos. Mae angen inni eu cefnogi yn y gwaith a wnânt sy'n caniatáu i'r rhydweli honno, ar gyfer iechyd a lles a theithio llesol, fod ar gael i rannau sylweddol o'n poblogaeth ar hyd ei llwybr. Mae ganddi gymaint o werth mewn cymaint o wahanol ffyrdd, onid oes? Ac rydym wedi clywed tystiolaeth bwerus o hynny yma heddiw yn y ddadl hon.
Rwy'n gobeithio'n fawr y gall Llywodraeth Cymru ddod o hyd i ffordd, trwy weithio gyda sefydliadau partner, o sicrhau nad yw'r holl waith da a wnaed ar wella a datblygu camlas sir Fynwy a Brycheiniog dros gymaint o flynyddoedd yn cael ei lesteirio a'i rwystro gan yr anawsterau y clywsom amdanynt yn y ddadl hon heddiw. Mae gwir angen inni ddod o hyd i ffordd o gefnogi'r deisebwyr, deall gwerth y gamlas, a gwneud yn siŵr ei bod nid yn unig yn cael ei chadw a'i diogelu, ond ei bod yn cael ei gwella ar gyfer y dyfodol.
A hithau'n 225 oed, llawenydd go iawn oedd ymweld â chamlas sir Fynwy a Brycheiniog, ac nid wyf yn defnyddio'r gair 'llawenydd' yn ysgafn. Dywedodd dynes hyfryd wrth y gamlas, a oedd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol gartref, ei bod hi'n teimlo ymdeimlad anhygoel o dawelwch wrth y gamlas, a dyna oedd fy mhrofiad innau hefyd. Roedd rhyw dawelwch yn perthyn i'r lle. Roeddech chi'n teimlo'n well yn sefyll wrth ymyl ei dyfroedd llonydd. Mae'r gamlas, fel y mae eraill eisoes wedi dweud yn huawdl iawn, yn llawer mwy na dyfrffordd a adeiladwyd gan ddyn. Mae'n gartref i rai, ac roedd yn bleser cyfarfod â rhai o'r perchnogion cychod sy'n byw ar y gamlas. Mae'n fusnes i eraill, a chawsom gyfle i gyfarfod â pherchnogion busnesau sy'n gweithio ar y gamlas ei hun ac ar hyd y gamlas.
Mae'n lle ar gyfer hamdden i lawer, ac yn lleoliad lle mae natur yn ffynnu. Mae'n gymaint o drueni, fel y mae eraill eisoes wedi dweud, bod y gofyniad trwyddedu newydd ar gyfer echdynnu dŵr yn bygwth hyn i gyd. Fel y mae Jane Dodds eisoes wedi dweud, mae pobl yn wynebu colli eu cartrefi, eu swyddi, eu hencil rhag straen bywyd. Ateb cyfyngedig yw'r darpariaethau dŵr argyfwng presennol, fel y mae eraill eisoes wedi dweud unwaith eto, ac fe ddaw ar gost fawr i'r elusen sy'n gyfrifol am y gamlas. Ni all barhau. Mae'n dargyfeirio adnoddau pwysig i ffwrdd oddi wrth y gwaith cynnal a chadw, a diogelu'r gamlas, defnyddwyr y gamlas, a phobl sy'n byw wrth ymyl y gamlas.
Mae'r gamlas yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn dod â llawer iawn i fusnesau lleol bob blwyddyn. Ond wrth gerdded o gwmpas, ni allwch help ond sylwi sut oedd natur yn ffynnu yno. Gallwch ddarllen y ffigurau, ond mae'n rhaid i chi fynd yno i'w brofi mewn gwirionedd a rhyfeddu at y ffordd y mae dyfrffordd wedi'i hadeiladu gan ddyn wedi dod yn rhan mor brydferth o'r amgylchedd naturiol yn y rhan honno o'r byd. Byddai methu gwarchod y gamlas yn golygu colli darn byw o hanes Cymru. Rydym wedi colli cymaint o arwyddion pwysig o'n gorffennol. Rydym wedi colli'r rhan fwyaf o gamlas Morgannwg. Ond nid oes unrhyw reswm pam na ellir achub y gamlas hon. Yn fwy na hynny, mae angen ei hachub. Dylid mwynhau ei harddwch a'i thawelwch am ganrifoedd i ddod.
Daeth y gamlas i fodolaeth yn dilyn Deddf Seneddol y DU. Heddiw, mae'r Pwyllgor Deisebau, y deisebwyr eu hunain, ac yn ôl yr hyn a glywir, cefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Senedd, yn gofyn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn, i weithio gydag eraill, ac i gadw'r adnodd anhygoel hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr.
Dwi nawr yn galw ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw, a hefyd y deisebwyr a ychwanegodd eu henw at y ddeiseb, a'r rhai a ddaeth yma heddiw? Siaradais â rhai ohonynt y tu allan ar risiau'r Senedd. Roedd yn bleser cael siarad â hwy.
Mae'n ddadl bwysig iawn, ac mae pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw wedi siarad gydag angerdd am y gamlas. Ac o safbwynt Llywodraeth Cymru, o safbwynt personol hefyd, rwy'n cydnabod bod camlas sir Fynwy a Brycheiniog yn hanfodol bwysig am yr holl resymau a nodwyd heddiw: y bobl sy'n byw arni, y rhai sy'n treulio'u hamser hamdden wrthi; y rheini sy'n elwa o'r buddion twristiaeth a ddaw ohoni; ond hefyd y ffordd y mae'n goridor bywyd gwyllt; a chymaint o fuddion eraill hefyd. Rydym yn cydnabod hynny'n llwyr. Ond hefyd mae'r dreftadaeth ddiwylliannol y mae'r gamlas yn ei chynrychioli. Ac rwy'n credu bod yr ysbryd y mae pobl wedi'i ddangos wrth siarad heddiw, ac y mae'r deisebwyr wedi'i ddangos, yn adleisio ysbryd gwreiddiol yr arloeswyr a ddiogelodd y rhwydwaith presennol o gamlesi ledled y DU, a oedd yn ôl yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel yn ymddangos fel pe baent wedi eu tynghedu i fod yn ffosydd sych—pobl fel Tom Rolt ac eraill, a oedd yn llythrennol yn mynd i mewn i gamlesi ac yn padlo ar hyd dyfrffyrdd budron, yn llawn o sbwriel a chwyn, gan eu hailagor flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, mae'r ysbryd hwnnw'n dal yn gryf ac rwy'n croesawu hynny.
Ac rwy'n cydnabod hyn yn dda iawn hefyd, oherwydd rwy'n gyn Weinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gyda chyfrifoldeb am gamlesi a dyfrffyrdd. Mae'n bwysig sôn am hynny, oherwydd un cymeriad sydd heb ei grybwyll yn hyn heddiw yw rôl nid yn unig Llywodraeth Cymru ond Llywodraeth y DU. Roeddwn i'n Weinidog camlesi a dyfrffyrdd yn Llywodraeth y DU. Nawr, mae gennym gyfrifoldebau yma yng Nghymru, ond mae yna gyfrifoldebau hefyd i Lywodraeth y DU, felly ar gyfer y ffordd ymlaen, rwy'n credu bod angen inni feddwl am ddod â'r holl weithredwyr at ei gilydd—pob un o'r gweithredwyr at ei gilydd—i edrych ar yr atebion, ac fe ddof at hynny mewn eiliad.
A gaf i ddweud hefyd fy mod i'n adnabod y gamlas hon yn dda? Rwy'n ei hadnabod yn dda iawn. Rwy'n llythrennol wedi padlo pob darn ohoni yn fy nghanŵ Canada. Rwyf wedi cerdded a beicio ar hyd-ddi. Rwyf wedi gwersylla ar hyd-ddi. Rwyf wedi aros mewn darpariaethau llety ar hyd-ddi. Rwy'n ei hadnabod yn dda iawn. Rwyf wedi defnyddio'r cychod camlas arni hefyd, dros nifer o flynyddoedd. Mae'n ased gwych ac mae angen i ni ei diogelu.
Ond yn sylfaenol, yr hyn mae'n ei olygu yw bod y gamlas yn dibynnu ar gyflenwad digonol o ddŵr i weithredu. Mae'n ddarn o'n treftadaeth ddiwydiannol, ond mae bellach yn gyfleuster twristiaeth a hamdden modern hefyd. Mae angen dŵr arni i weithredu. Nawr, ers blynyddoedd lawer, fel y nodwyd, mae gweithredwyr y gamlas, Glandŵr Cymru, wedi bod yn tynnu dŵr o afon Wysg i gynnal y cyflenwad hwn. Fodd bynnag, yn 2018, fe wnaeth CNC ddileu'r eithriadau i'r drwydded tynnu dŵr at ddibenion mordwyo er mwyn sicrhau bod y trwyddedau'n cydymffurfio â chyfarwyddebau amgylcheddol, fel y gyfarwyddeb cynefinoedd. Ac i atgoffa'r Aelodau, mae'r gyfarwyddeb cynefinoedd yn bwysig iawn. Fe'i cynlluniwyd i ddiogelu ardaloedd cadwraeth arbennig fel afon Wysg, fel roeddech chi'n dweud yn gynharach. Rwyf wedi bod ar afon Wysg, yn gweithio ar y gwelliannau. Yr arian a roddwn i'r gwelliannau ar hynny o ben uchaf y dalgylch i'r pen isaf—. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yma'n dweud na ddylem ofalu am afon Wysg. Rhaid inni wneud hynny hefyd, ac mae'r gyfarwyddeb cynefinoedd yn bwysig. Felly, mewn gwirionedd, James, y syniad o atal hyn a mynd tuag yn ôl a dweud, 'Wel, nid oes ots am 12 mis arall neu ddwy flynedd neu dair blynedd'—nid wyf yn credu y dowch o hyd i gefnogaeth i hynny ar draws y Siambr. Fodd bynnag, mae yna ffordd ymlaen.
Nawr, James a Peter, a phawb a gyfrannodd, pe bai ateb hawdd i'w gael, byddem wedi ei wneud eisoes. Nid yw'n ateb hawdd. Yr hyn y bydd ei angen yw dod â phobl gyda'i gilydd o gwmpas y bwrdd ac edrych ar atebion y gallwn eu dyfeisio gyda'n gilydd. A bydd hyn yn galw am roi pennau'r holl weithredwyr at ei gilydd, ac fe ddof at hynny mewn eiliad. Ond mae yna broblemau sylfaenol yn wynebu'r gamlas, ac sy'n galw am atebion hirdymor. Gyda'r 14,000 o ddeisebwyr, rwy'n deall yn iawn pa mor gryf yw'r teimlad sydd wedi codi yn sgil yr heriau hyn, ond rwy'n credu y bydd y bobl a fynychodd, y deisebwyr y siaradais â hwy ar y grisiau, eisiau inni—. Yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i ddod â phobl at ei gilydd a chwilio am yr atebion hynny, nid dim ond pwyntio bysedd at un person neu'r llall. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd a dod o hyd i'r atebion mewn ffordd Gymreig iawn.
Felly, rwyf am roi sicrwydd i'r Senedd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i alluogi ateb ymarferol, a diolch i'r rhai sydd eisoes wedi dod at ei gilydd ar hyn, gan gynnwys rhywun nad yw wedi gallu siarad yn y ddadl hon eto, sef fy nghyfaill, yr Aelod dros Torfaen, sydd gydag eraill—arweinwyr cyngor, a rhai o'r bobl y tybiaf eu bod yn gysylltiedig â'r ddeiseb, ac eraill, a hefyd yr asiantaethau, gyda'n cefnogaeth ni—wedi dod at ei gilydd i archwilio rhai o'r atebion hynny eisoes ac roeddem yn falch o gael y darlleniad o'r cyfarfod hwnnw. Ond rydym ni wedi bod yn gweithio ar hyn hefyd. Felly, rwy'n rhannu'r nod cyffredin o gefnogi'r gamlas gan fynd i'r afael ar yr un pryd â'r heriau amgylcheddol brys—ac mae brys amdanynt, James—sy'n bygwth statws ecolegol afon Wysg. Os cawn oedi gyda hynny am eiliad, oherwydd nid yw'n un neu'r llall; mae angen inni ddod o hyd i'r atebion ar gyfer y gamlas gan ddiogelu statws ecolegol afon Wysg ar yr un pryd ac nid yw'r amrywiadau dros dro mewn maethynnau'n golygu bod y duedd ar i fyny. Mae llawer o waith i'w wneud ar afon Wysg. James.
Rwyf am eich cywiro. Ni ddywedais y dylem osod un yn erbyn y llall, fe ddywedais y dylid gweithio ar y ddau beth gyda'i gilydd. Os caf gywiro'r hyn a ddywedoch chi.
Yn wir, ond fe wnaethoch chi awgrymu y dylid atal hyn am flwyddyn.
Am nad yw'n gweithio nawr.
Nid sgwrs yw hon, dadl yw hi.
Edrychwch, rwy'n rhannu'r nod cyffredin yr ydym yn ymdrechu tuag ato. Mae'n bwysig iawn nodi y gall llawer o'r atebion posibl fodoli'n bennaf o fewn cylch gwaith sawl gweithredwr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli'r gamlas a'i seilwaith hanesyddol.
Felly, i nodi hyn: mae rheolaeth gyffredinol y rhwydwaith camlesi yn nwylo Glandŵr Cymru, a diolch am sgwrs—
Na, nid wyf yn credu bod amser gan y Dirprwy Brif Weinidog. Mae ei amser ar ben eisoes. Felly, rwy'n gofyn iddo ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Brif Weinidog.
Mae'n ddrwg gennyf. Mawredd. O'r gorau. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n meddwl bod gennyf fwy o amser. Mae'n ddrwg gennyf. Iawn, rhai o'r gweithredwyr hynny fydd Glandŵr Cymru, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol ar hyd y gamlas, Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd angen dod ag asiantaethau eraill at ei gilydd. Rwyf wedi cynnal sawl cyfarfod dros y misoedd diwethaf i ddeall yn well yr heriau y mae'r gamlas yn eu hwynebu, i ddeall beth allai fod yn bosibl fel atebion posibl. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol o rai o'r camau cadarnhaol cyntaf tuag at y nod hwn, gyda'r ateb dros dro, ateb yn y tymor byr i gyflenwi'r gamlas â dŵr ychwanegol dros y flwyddyn i ddod. Mae hon yn rhaff achub ar hyn o bryd ac er nad ydym yn rhan o'r trafodaethau masnachol hyn, rydym yn falch o glywed am yr ateb tymor byr hwn. Ond mae trafodaethau ar y gweill hefyd ar atebion eraill, gyda Dŵr Cymru a'r gamlas. A fis diwethaf, cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i wrando ar syniadau pellach ac atebion posibl mwy hirdymor.
Ond y ffordd y gwnawn fwrw ymlaen â hyn—. Rwy'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r ddeiseb yn llawn. Felly, rwyf am roi sicrwydd i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn bwrw iddi'n weithredol i ddod o hyd i ateb a hwyluso deialog ehangach gyda phartneriaid allweddol, sy'n hanfodol. Felly, rwy'n cyfarfod ag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr ac asiantaethau gwleidyddol eraill yn fuan—ac rwy'n golygu'n fuan—i drafod a chwmpasu'r camau nesaf, ac rwy'n hapus i gyhoeddi diweddariad pellach i'r Aelodau pan fydd ffordd ymlaen wedi'i chytuno. Rydym i gyd eisiau i'r gamlas ffynnu, ond rydym eisiau i afon Wysg ffynnu hefyd. Felly, mae'n rhaid inni ddod o hyd i ateb sy'n ymarferol ac yn gynaliadwy i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol, a bydd angen cydbwyso cefnogaeth i'r gamlas â goresgyn yr heriau amgylcheddol brys sy'n bygwth statws ecolegol afon Wysg. Ond diolch i'r holl ddeisebwyr, yr holl Aelodau sydd wedi siarad heddiw. Gadewch inni weld a allwn weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb sy'n gynaliadwy ac yn hirdymor. Diolch yn fawr.
Dwi nawr yn galw ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Nid wyf am fynd trwyddynt i gyd, oherwydd rwy'n gwybod bod amser yn brin a'n bod wedi cymryd mwy o amser nag a ddyrannwyd ar gyfer hyn, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn hefyd, felly diolch. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, ac rwy'n falch iawn fod y Dirprwy Brif Weinidog eisoes wedi gwahodd rhanddeiliaid i ddod o gwmpas y bwrdd a gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ateb. Y rhanddeiliaid hynny: CNC, Dŵr Cymru, Glandŵr Cymru, awdurdodau lleol—mae angen inni gynnwys y defnyddwyr, y grŵp gweithredwyr masnachol, y grŵp hefyd. Mae angen iddynt fod yn rhan o'r grŵp rhanddeiliaid hwnnw hefyd, os gwelwch yn dda.
Roedd Glandŵr Cymru yn rheoli'r dŵr eu hunain cyn iddynt gael gwybod na chaent dynnu dŵr. Pan oedd y lefelau dŵr yn isel, fe wnaethant gau'r gatiau ac fe wnaethant ei reoli. Felly, rwy'n gobeithio y gallant ddod at ei gilydd a dod o hyd i ateb, ond diolch am yr arweinyddiaeth. Roeddech chi'n iawn hefyd; fe gefais lythyr gan Ruth Jones AS at y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn gofyn beth y maent hwy'n mynd i wneud am y peth, oherwydd mae'n drawslywodraethol. Daw tua 20 y cant o gyllid Glandŵr Cymru gan DEFRA. Pan ddaw'n bryd i'r pwyllgor ailystyried y ddeiseb ar ôl toriad yr haf, rwy'n gobeithio y gallwn ddweud wrth bawb sy'n byw, yn gweithio, yn ymlacio yn ymyl y gamlas, ac yn ei mwynhau, fod ffordd wedi'i darganfod i warchod a diogelu camlas sir Fynwy a Brycheiniog.
Mae'r gamlas wedi goroesi 200 mlynedd o hanes cythryblus, ac o ystyried angerdd y rhanddeiliaid—ac mae llawer ohonynt yma heddiw; diolch am eich ymdrechion i'w dynnu i'n sylw ac am yr holl waith a wnaethoch—ac awydd cryf pawb yma i gadw a diogelu man arbennig, ni ddylai fod y tu hwnt i'n gallu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau y gall barhau i ffynnu am 200 mlynedd arall. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Fe symudwn ni nawr ymlaen at eitem 8, sef dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Yr Economi Sylfaenol'. A dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM8951 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd dros dro, ac rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol yn fy enw ar y papur trefn y prynhawn yma. Hoffwn ddechrau y prynhawn yma trwy nodi bod y gwaith hwn yn rhagflaenu fy nghyfnod i fel Cadeirydd y pwyllgor, felly hoffwn gofnodi fy niolch i chi, Lywydd dros dro, am y gwaith a wnaethoch pan oeddech chi'n cadeirio'r pwyllgor a'r holl waith a wnaethoch ar yr ymchwiliad penodol hwn.
Fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, mae'r economi sylfaenol yn cynnwys trinwyr gwallt, meddygon teulu, gweithwyr gofal a'r bobl sy'n gweithio yn ein siopau lleol, ac ati—yn fyr, 60 y cant o'r busnesau sydd â'u pencadlys yma yng Nghymru. Dyma'r swyddi a welwch ym mhob cymuned ledled Cymru gyda gweithwyr yr economi sylfaenol yn darparu gwasanaethau hanfodol i'w ffrindiau a'u cymdogion. Dyma'r swyddi sy'n anodd eu hallanoli neu eu tramori a hwy sy'n creu asgwrn cefn ein heconomi ac yn cynrychioli 40 y cant o'r gweithlu. Ond mae'n debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn yr economi sylfaenol unrhyw syniad eu bod yn gwneud hynny. Pe baech chi'n siarad â rhywun yn siop y barbwr neu yn ystafell aros y feddygfa leol ac yn dweud wrthynt, 'Rwyf newydd ddarllen adroddiad gwych y mae pwyllgor economi'r Senedd newydd ei roi at ei gilydd ar yr economi sylfaenol'—diolch, Hefin, am nodio mewn cytundeb—eu cwestiwn cyntaf fyddai, 'Beth yw'r cynnwys? Am beth y mae'n sôn? Beth yw'r economi sylfaenol?' Ac nid yw hwnnw'n gwestiwn afresymol. Dyna pam y mae rhan o'n hargymhelliad cyntaf yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag ymarferwyr i greu diffiniad un frawddeg syml i gynyddu ymwybyddiaeth o'r economi sylfaenol, ac rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Mae'r economi sylfaenol yn faes sy'n aml yn cael ei anwybyddu gan lunwyr polisi. Nid yw'n denu cymaint o sylw gwleidyddion neu wneuthurwyr polisi â rhannau eraill o'r economi. Mae'r economi sylfaenol yn bwrw ymlaen â phethau—ac er gwaethaf y Llywodraeth, yn hytrach na chael ei chyflymu gan y Llywodraeth. Wedi dweud hynny, mae'r economi sylfaenol wedi bod yn rhan o ddull Llywodraeth Cymru o weithredu ar ddatblygu economaidd ers bron i 10 mlynedd.
Yn ei chenhadaeth economaidd ddiweddaraf mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i gryfhau'r economi sylfaenol. Er mwyn cyflawni ei nodau, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a throi uchelgais yn realiti. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys 10 argymhelliad a fydd yn cefnogi'r nod hwnnw. Clywodd y pwyllgor am enghreifftiau gwych o arfer gorau wrth gasglu ei dystiolaeth. Er enghraifft, clywodd yr Aelodau am y gwaith a wnaed gan Castell Howell ac eraill i gynorthwyo plant i fwyta mwy o lysiau a gynhyrchir yng Nghymru mewn ysgolion ac i greu bwydlenni cynaliadwy, lleol ar gyfer cynadleddau. Clywsant hefyd am ddull 'tyfu eich hun' bwrdd iechyd Aneurin Bevan o recriwtio, lle mae'r bwrdd iechyd yn dod o hyd i bobl yn eu cymuned leol gyda'r agwedd gywir ac sydd eisiau swydd sy'n cefnogi eu ffrindiau a'u cymdogion. Efallai nad yw'r cymwysterau gan y bobl hyn ac mae hynny'n creu rhwystr; problem i'r unigolyn nad yw'n gallu gweithio lle mae'n dymuno gweithio, a phroblem i'r bwrdd iechyd nad yw'n gallu recriwtio i lenwi'r swydd wag. Felly, yn hytrach na cheisio denu gweithwyr o fannau eraill i ateb yr angen, mae'r bwrdd iechyd yn eu hyfforddi.
Nod argymhellion 2 i 5 yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i nodi, hyrwyddo a chefnogi'r arferion da hyn ac arferion da eraill sy'n digwydd ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu dangosyddion perfformiad allweddol a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r nodau hyn, cefnogi datblygiad ymyriadau'r economi sylfaenol o'r gwaelod i fyny a sicrhau ei bod yn ailadrodd arferion gorau o feysydd polisi trawsbynciol eraill yn ei dull o weithredu ar yr economi sylfaenol, gan ddefnyddio hyn i asesu pa mor dda y mae sefydliadau yn cyflawni nodau'r economi sylfaenol. Rwy'n falch o ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn. Rydym yn gwneud yn llawer gwell nag adroddiad yr wythnos diwethaf, Weinidog; da iawn. [Chwerthin.]
Argymhelliad 6 yw'r alwad ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn gwella'r cymorth ariannol hirdymor sydd ar gael i fentrau economi sylfaenol llwyddiannus, ac rwy'n falch o ddweud bod hwn wedi'i dderbyn.
Mae argymhellion 7 ac 8 yn seiliedig ar y defnydd o bunt y sector cyhoeddus yng Nghymru i gynorthwyo'r economi sylfaenol i wella dulliau caffael. Unwaith eto, derbyniwyd y ddau argymhelliad. Edrychaf ymlaen yn arbennig at weld sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau o dan y ddeddfwriaeth gaffael yn ddiweddar i gefnogi busnesau bach.
Mae argymhelliad 9 wedi'i gynllunio i ailadrodd y mentrau 'tyfu eich hun' llwyddiannus ar gyfer y gweithlu y clywodd y pwyllgor amdanynt. Derbyniwyd hwn hefyd.
Yn olaf, nod argymhelliad 10 oedd sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'i hysgogiadau datganoledig i wella telerau ac amodau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Un o'r heriau i'r economi sylfaenol yw bod rhai o'r swyddi hyn yn aml o ansawdd gwael neu ar gyflogau isel. Bydd gwella ansawdd y swyddi yn yr economi sylfaenol yn gwella bywydau llawer o bobl yma yng Nghymru yn fawr. Dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad hwn, felly hoffwn weld beth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yn y maes hwn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb cadarnhaol i'r adroddiad hwn ac i'n hargymhellion. Rwy'n gobeithio nawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r argymhellion hyn ar waith i helpu ein heconomi sylfaenol i ffynnu, ac i wella bywydau pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet heddiw. Diolch, Lywydd dros dro.
Samuel Kurtz.
Diolch i ti, Llywydd dros dro.
A diolch i Andrew R.T. Davies, ac yn wir, i chi, Paul Davies, fel Cadeirydd y pwyllgor dros yr ymchwiliad hwn, i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth, ac i dîm clercio'r pwyllgor am ddod â hyn at ei gilydd. Nid yw'n adroddiad swmpus; mae gennyf yn fy llaw. Ac fel y nododd Andrew R.T. Davies, rydym mewn lle gwell yr wythnos hon nag oeddem gyda'n hadroddiad blaenorol yr wythnos diwethaf, gydag argymhellion wedi eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Llywodraeth, sydd i'w groesawu.
Efallai fod yr argymhelliad cyntaf yn swnio'n dechnegol—gan fabwysiadu diffiniad deuol yr Athro Karel Williams. Ac oni roddodd yr Athro Karel Williams dystiolaeth liwgar i ni ar rai pwyntiau? Gan edrych ar Luke Fletcher, dyma'r tro cyntaf erioed imi glywed geiriau rheg mewn sesiwn pwyllgor, gan yr Athro Karel Williams. Ond gwerthodd y rhesymau y tu ôl iddo mewn gwirionedd. Roedd yn dystiolaeth rymus iawn gan yr Athro Williams. Yn wir, mae ei ddiffiniad deuol, sy'n cynnwys gwasanaethau lleol hanfodol, fel gofal, cyfleustodau a thai, a hefyd ffactorau lles ehangach, megis hanfodion fforddiadwy, seilwaith cymdeithasol a mentrau sy'n gwrthsefyll newid hinsawdd, yr eglurder hwnnw ynghylch yr hyn sy'n cyfrif fel yr economi sylfaenol, yn golygu y gall cydweithfa ofal yn Saundersfoot, i adeiladwr yn Hendy-gwyn ar Daf, oll weld eu hunain ym mholisi'r Llywodraeth, yn hytrach na meddwl tybed ble maent yn ffitio yn y bocs. Rwy'n falch fod Gweinidogion wedi derbyn hyn yn llwyr a bod y diffiniad newydd wedi dod yn weithredol ym mis Ebrill.
Mae'r ail argymhelliad yn pwyso am fetrigau caled a chynllun cyflawni. Yn wir, rwy'n dwli ar ddangosydd perfformiad allweddol. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn hyn mewn egwyddor ac wedi addo prosbectws yn chwarter cyntaf 2026—nid bod unrhyw beth arall yn digwydd yn 2026. Rhaid i'r ddogfen symud y tu hwnt i eiriau cynnes i'r targedau mesuradwy y soniais amdanynt, megis y gwariant a gedwir yn lleol, achrediadau cyflog byw gwirioneddol a gyflawnir, y carbon a arbedir—i roi rhai enghreifftiau'n unig. Oherwydd ni all etholaethau gwledig fel fy un i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, fforddio strategaeth sgleiniog arall sy'n gwneud dim byd heblaw hel llwch ar silff.
Mae argymhelliad 3 yn hyrwyddo 'cynghreiriau'r rhai sy'n barod', term a glywsom yn eithaf aml gan yr Athro Williams yn ei dystiolaeth, o'r gwaelod i fyny—gan roi'r rhyddid i arloeswyr lleol roi cynnig ar syniadau yn gyntaf ac adrodd yn ddiweddarach. Mae derbyniad y Llywodraeth yma, a'i haddewid i ehangu'r model cymuned ymarfer a brofwyd yn y sector bwyd, yn newyddion da iawn.
Pwynt arall oedd bod natur ragnodol grantiau'n anhawster weithiau. Dyna dystiolaeth a roddwyd i ni. Mae pa mor gul y gall grantiau penodol fod yn golygu y gellid gwario'r arian hwnnw, os yw'n arian grant, yn well pe bai'n cael ei roi heb ryw fath o gyfyngiadau arno, oherwydd mai'r rhai ar lawr gwlad sy'n gwybod orau sut i wario'r arian hwnnw, gan mai hwy sydd yng nghanol pethau. Felly, weithiau, nid natur ragnodol grantiau sydd orau bob amser, o ran adennill gwerth i'r trethdalwr.
Rydym hefyd yn annog Gweinidogion, yn argymhelliad 5, i roi pob gwerthusiad mewn un man, fel y gellir copïo llwyddiannau'n gyflym yn hytrach na'u hailddarganfod yn araf. Cytunwyd ar hyn, ac mae tudalen we bwrpasol, gyda chefnogaeth adnoddau gan Cynnal Cymru, bellach yn weithredol, ac rydym yn ei chroesawu. I fusnes bach sy'n ceisio llywio ffrydiau cyllido, mae cael un hyb gwybodaeth yn hanfodol.
Yn olaf, Lywydd dros dro, mae argymhelliad 7 yn mynd i'r afael â chaffael, rhywbeth a drafodwyd gennym mewn nifer o'n hymchwiliadau pwyllgor. Dyma'r injan sy'n gallu cadw'r bunt Gymreig i gylchredeg yn nhrefi Cymru, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor. Mae teithiau cyflenwyr y gwanwyn hwn, ac ail expo yr economi sylfaenol yn yr hydref, yn gamau i'r cyfeiriad cywir. Ond mae'r wobr go iawn i'w chael o ddefnyddio'r Ddeddf caffael a phartneriaeth gymdeithasol i edrych y tu hwnt i'r pris isaf a thuag at werth cymdeithasol. Rhaid bod hynny'n trosi'n gontractau i fusnesau a phobl yng Nghymru.
Lywydd dros dro, nid damcaniaeth polisi yw'r economi sylfaenol. Dyma wead pob dydd ein cymunedau. Yn wir, nid oeddwn yn deall yn iawn beth oedd yr economi sylfaenol yn ei olygu, oherwydd edrychais ar y derminoleg a meddwl: a yw'n sôn am adeiladu gyda'r cyfeiriad at sylfeini? Ond mae'n ddiffiniad mor eang ac fe ddysgais lawer, yn fy rôl, o'r ymchwiliad, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr.
Mae ymateb adeiladol y Llywodraeth yn galonogol, ond fel bob amser, wrth ei flas y mae profi pwdin, a'i gyflwyniad fydd y prawf go iawn. Bydd y pwyllgor yn gwylio'r cynnydd hwn, a byddaf yn parhau i gefnogi busnesau bach sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau sy'n helpu i gynnal ein heconomi. Diolch, Lywydd dros dro.
I ddechrau, hoffwn innau hefyd ymuno â'r Cadeirydd a Sam Kurtz i ddiolch i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor am ei waith yn ystod yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd presennol hefyd, i gyd-aelodau'r pwyllgor a'r clercod, yn arbennig, am eu gwaith yn rhoi'r adroddiad hwn at ei gilydd. Wrth gwrs, hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Fe wnaeth Sam Kurtz ei awgrymu. Fe gafwyd tystiolaeth ddiddorol a lliwgar. Ond nid wyf yn hollol siŵr mai dyna'r tro cyntaf inni glywed rhegi yn y pwyllgor. Yn bendant, dyma'r tro cyntaf i ni ei glywed mewn sesiwn gyhoeddus, ac rwy'n siŵr y byddai nifer o aelodau'r pwyllgor felly'n pwyntio at y sesiynau preifat ac yn dweud mai fi sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r iaith yn y sesiynau preifat, ond boed hynny fel y bo.
Rwy'n credu bod yna gorff cryf a chynyddol o waith ar yr economi sylfaenol yng Nghymru bellach, am ei fod yn rhywbeth y buom yn ei drafod ers amser hir iawn. Mae'n chwarae rôl yn y ffordd y deallwn ein heconomi, ei gwendidau, ond ei photensial yn ogystal. Ond nid wyf yn credu bod cydnabyddiaeth gyffredin ymhlith llunwyr polisi i set o broblemau wedi arwain hyd yma at set glir o atebion. Mae cytundeb eang ar y diagnosis, ond llai o eglurder ar beth i'w wneud yn ei gylch. Felly, mae'n galonogol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y mwyafrif helaeth o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn.
Gan droi at yr adroddiad ei hun, un o'r pwyntiau pwysig a godwyd oedd yr un ynghylch y ffordd y mesurwn gynnydd mewn gwirionedd. Cyfeiriodd Sam Kurtz at hyn. Soniodd amryw o randdeiliaid y byddai'n dda gweld set o ddangosyddion a thargedau i fesur y cynnydd yn yr economi sylfaenol yn eu herbyn, ac rwy'n credu bod hyn yn werth chweil. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod y metrigau economaidd confensiynol, yr ydym wedi ein clymu wrthynt braidd fel cymdeithas, yn aml yn wahanol i'r hyn y mae ymyrraeth yn yr economi sylfaenol yn ceisio ei gyflawni. Yr ystyriaeth bwysicaf fel arfer wrth asesu ein hiechyd economaidd yw'r hyn a feincnodwyd ar y cynnyrch domestig gros, sy'n ffon fesur amrwd ar gyfer asesu iechyd a lles cenedl. Mae yna ddigon o ddulliau ledled y byd sy'n dadflaenoriaethu cynnyrch domestig gros—a'r dewisiadau amgen mwyaf adnabyddus, mae'n debyg, yw'r mynegai lles economaidd cynaliadwy a'r dangosydd cynnydd gwirioneddol. Rwy'n credu y dylem fod yn archwilio dewisiadau amgen hefyd. Felly, mae'n dda gweld, i raddau, fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 2 mewn egwyddor, a'i bod yn gweithio ar ddatblygu nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol i grisialu'r hyn rydym am ei gyflawni o fewn yr economi sylfaenol. Byddaf yn cadw llygad ar sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, fel y bydd yr Aelodau eraill.
Ond os ydym eisiau mesur llwyddiant yr economi sylfaenol, mae'n bwysig iawn ein bod yn dod o hyd i'r dangosyddion allweddol a fydd yn caniatáu inni ei fesur yn y pethau sy'n bwysig iddo ac nid troi'n ddiofyn at rai o'r ffyrdd traddodiadol o fesur. Er enghraifft, hoffwn weld perchnogaeth yn cael ei gynnwys ymhlith y dangosyddion perfformiad allweddol hynny. Gwyddom nad oes digon o adnoddau, sefydliadau a busnesau yng Nghymru mewn perchnogaeth Gymreig ystyrlon ar hyn o bryd i ddechrau troi'r llanw. Rwy'n credu y dylai mynd i'r afael â hynny lywio gwaith y Llywodraeth o fewn yr economi sylfaenol.
Mae cyllid, wrth gwrs, yn fater arall a gododd yn aml yn ystod yr ymchwiliad. Y broblem, rwy'n credu, gyda'r ffordd y mae cronfeydd fel cronfa her yr economi sylfaenol yn gweithio mewn gwirionedd yw bod arian yn cael ei fwydo fesul tamaid i ystod eang o sefydliadau ar draws sectorau. Ac er fy mod yn deall bod yr economi sylfaenol yn eang ac yn wasgaredig o ran ei natur, mae'r diffyg cyfaint neu gyllid strategol ar gyfer gweithgareddau a lleoedd penodol yn golygu bod yr effaith yn aml yn wanach. Fe wnaeth Cynghrair Economi Sylfaenol Cymru y pwynt hwn yn dda, ac rwy'n cytuno. Mae'r cyllid yn anghyson ac ad hoc, ac mae angen inni sicrhau adnoddau priodol, a golyga hynny gyllid sy'n gyson, yn gydlynol ac yn hirdymor.
Nawr, wrth gwrs, roedd Cymru ymhlith y Llywodraethau cyntaf i fabwysiadu iaith yr economi sylfaenol, ond nid ydym ar ein pen ein hunain yn archwilio'r syniadau hyn. Mae model Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar, yn enwedig am ei ddefnydd o gaffael gan sefydliadau angori i gadw ac ailgylchredeg cyfoeth yn lleol. Ond ni all y model hwnnw fynd ymhell iawn oni bai bod gennych sylfaen o gyflenwyr lleol galluog. Roedd hwnnw'n bwynt a godwyd gan yr Athro Karel Williams yn y Senedd ddiwethaf i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac mae'n un pwysig i Gymru. Rhaid inni adeiladu capasiti os ydym am i'r syniadau hyn wreiddio. Ac mae gennym enghreifftiau cadarnhaol eisoes, yn enwedig yn y gogledd-orllewin. Ym Mlaenau Ffestiniog, er enghraifft, gallwch weld fersiwn o'r gwaelod i fyny o adeiladu cyfoeth cymunedol yn ymffurfio. Yn wahanol i Preston, fodd bynnag, lle cafodd ei arwain gan y cyngor, ym Mlaenau Ffestiniog mae wedi cael ei yrru gan y gymuned trwy rwydwaith o fentrau cymdeithasol fel Galeri Caernarfon, yr Orsaf Penygroes, a Phartneriaeth Ogwen. Maent yn gweithio ar draws y meysydd gofal, ynni, lletygarwch a thrafnidiaeth, ac maent yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd gan bobl leol berchnogaeth a phŵer.
Nawr, os yw Preston yn fodel o'r brig i lawr sy'n canolbwyntio ar gaffael ac adfywio, Blaenau Ffestiniog yw'r hyn sy'n cyfateb ar lawr gwlad, wedi'i wreiddio mewn mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Felly, mae'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei archwilio, rôl cwmnïau cydweithredol yn yr economi sylfaenol. A chan edrych ar yr amser, Lywydd dros dro, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig i'w wneud yma: rydym wedi siarad am gysyniad yr economi sylfaenol ers cyhyd bellach, ac rwy'n credu bod yr amser wedi dod i benderfynu. Os ydym o ddifrif am hyn, mae angen inni ddechrau meddwl yn strategol ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r economi sylfaenol, oherwydd os nad ydym o ddifrif yn ei gylch, efallai ei bod hi'n bryd inni ddechrau meddwl am rywbeth arall. Nid wyf eisiau i'r Llywodraeth ddilyn y llwybr hwnnw. Rwyf am i'r Llywodraeth fwrw drwy hyn. Rwy'n credu bod llawer o werth ynddo. Ond mae angen inni ddechrau rhoi ein harian ar ein gair nawr a gwneud pethau mewn ffordd strategol sy'n helpu'r economi sylfaenol i dyfu, a dealltwriaeth pobl o'r economi sylfaenol honno i wella o ganlyniad i hynny hefyd. Diolch.
Wel, fe wnaethom ddechrau siarad am hyn 10 mlynedd yn ôl. Roedd yn un o'r pethau cyntaf a wnaethom pan gawsom ein hethol gyntaf yn 2016—rwy'n dweud 'ni'; roedd yna dipyn ohonom. Mae pob un o'r lleill yn y Llywodraeth nawr.
Ac fe ddylech chi fod, Hefin.
O, diolch, Mike. Un o'r pethau a ddywedwyd yn ein dadl yn ôl ar 12 Ionawr 2017 oedd cydnabod bod y sectorau yn yr economi sylfaenol yn fwy gwydn i siociau economaidd allanol a bod ganddynt botensial sylweddol i gynhyrchu mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol. Dyna'r pwynt allweddol yr oeddem yn ei wneud, ac rwy'n mynd i wneud rhywbeth nawr a elwir yn arfer 'Isherwoodaidd' a dyfynnu fy hun 10 mlynedd yn ôl, ar 16 Tachwedd 2016. Dywedais hyn:
'Pam y byddai unrhyw reolwr-berchennog synhwyrol yn dewis cyflogi pan fo dewisiadau eraill rhatach, mwy hygyrch a dibynadwy ar gael? Mae gan lawer iawn o reolwyr-berchnogion ffynonellau dibynadwy o gymorth ar gael iddynt, o leiaf yn y tymor canolig. Gallant fod ar ffurf cysylltiadau cryf â theulu a ffrindiau a fydd yn helpu i redeg y busnes, ond dros gyfnod o amser, bydd y rheolwr yn ffurfio perthynas gyda chysylltiadau busnes eraill sy’n darparu cymorth sy’n ddibynadwy i’r ddwy ochr ac sy’n mynd ymhell y tu hwnt i berthynas drafod busnes. Mae mynediad at y cyfalaf cymdeithasol hwn yn hanfodol ar gyfer datblygiad cynnar a thwf y cwmni. Felly yn lle ceisio achubiaeth economaidd gan ein sector cwmnïau bach, efallai y dylem edrych yn hytrach ar yr hyn y mae cwmnïau bach yn ei wneud mewn gwirionedd—pethau sy’n hanfodol i’n bywydau bob dydd.'
Dyna'n union beth a wnawn. Rydym yn cymryd y sector gwydn hwn ac yn sicrhau bod y gwydnwch hwnnw'n parhau ac yn cael ei ehangu. Nid wyf yn credu ei fod byth yn mynd i fod yn rhywbeth sy'n drawsnewidiol i'r economi, ond mae'n injan barhaus i'r economi. Rwy'n aml yn clywed Aelodau'n defnyddio'r ymadrodd am gwmnïau bach, eu bod yn 'anadl einioes' yr economi. Wel, maent yn bodoli. Nid wyf wedi ei adael i fynd, Hannah, hyd yn oed ar ôl 10 mlynedd.
Felly, rwy'n edrych ar argymhelliad 3, ac rwy'n credu mai dyna beth yw hyn. Mae argymhelliad 3 yn ymwneud â hynny'n union. Nid yw cwmnïau bach yn cystadlu â'i—. Wel, nid yw microgwmnïau'n cystadlu â'i gilydd. Maent yn gweithio gyda'i gilydd. Maent yn rhyngweithio â'i gilydd. Ar gyfer rhyw waith ymchwil flynyddoedd lawer yn ôl, fe wneuthum gyfweld â dyn a oedd yn trin offer ysbyty, ac roedd yn wych gydag agweddau technegol yr offer ysbyty, ond roedd peth o'r electroneg fewnol yn anghyfarwydd iddo. Felly, fe ofynnodd i ffrind a oedd â chwmni electroneg ddod i weithio gydag ef ar brosiect, ac fe wnaethant rannu'r arian hwnnw. Dyna sut y mae angen i gaffael weithio, gan sicrhau bod cwmnïau ar draws y sector sylfaenol yn gallu cydweithio a chynnig am brosiectau.
Rwy'n credu mai yn argymhelliad 7 y mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu sut y bydd yn datblygu arferion gorau ar raddfa fwy ar gyfer cyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus, ac rwy'n falch o ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad 7 yn llawn ac wedi archwilio rhai o'r anawsterau hynny yn ei hymateb. Byddwn yn dweud mai un o'r bobl a argymhellwyd i mi fel arweinydd sector ym maes caffael, a gwelais hyn gyda phroses gaffael safonau ansawdd tai Cymru, oedd Liz Lucas o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Byddwn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, os nad ydych chi eisoes wedi siarad â Liz, ac rwy'n dychmygu eich bod chi—do—mae hi'n seren flaenllaw ym maes caffael a sicrhau bod y sectorau sylfaenol yn gallu cydweithio er mwyn cyflawni màs critigol ac elwa o gaffael sector cyhoeddus mewn modd nad yw'n nodweddiadol o sut y disgwyliwn i gaffael weithio yn y ffordd gystadleuol honno. Yn y sector sylfaenol, yn aml iawn ni fydd yn gweithio yn y ffordd honno.
Felly, rwy'n hapus iawn gyda'r adroddiad a'r ymateb, ac er gwaethaf popeth, ac er gwaethaf yr amser sydd wedi mynd heibio, rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi bwrw ymlaen â'r strategaeth hon. Rwy'n credu ei fod wedi dod o ganlyniad i fenter ychydig ohonom yn 2016, 2017, 2018. Rwy'n credu bod COVID wedi cael effaith fawr ar bethau, ond yr hyn a welsom o ymateb y Llywodraeth a'r ffaith eu bod wedi derbyn cymaint o'r argymhellion yw eu bod ar y droed flaen mewn gwirionedd, ac yn gwneud llawer o'r pethau a argymhellwyd gennym eisoes. Felly, rwyf ond eisiau gweld y cynnydd yn parhau. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad da iawn ac rwy'n llongyfarch y pwyllgor ar ei gynhyrchu, ac yn edrych ymlaen hefyd at glywed ymateb y Llywodraeth.
Roeddwn yn un o'r bobl a aeth i Preston, gyda Lee Waters, i weld yr hyn sy'n digwydd yn Preston. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddweud am yr hyn y mae Preston wedi'i wneud, gan ei fod wedi trawsnewid cymuned a oedd yn eithaf dirwasgedig ledled swydd Gaerhirfryn, a Preston yw prifddinas swydd Gaerhirfryn i bob pwrpas. Nid yw hynny'n tynnu oddi wrth y gwaith rhagorol sydd wedi bod yn mynd rhagddo ym Mlaenau Ffestiniog, a gafodd ei ysgogi gan waith yr Undeb Ewropeaidd y gwnaethom elwa ohono pan oeddem yn aelod.
Hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar y gwaith y mae wedi'i wneud ar ddiwygio ei datganiad cenhadaeth, a gydgynhyrchwyd ar ôl trafodaeth a chydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid, gan fy mod yn credu ei fod yn ddiffiniad gwell, ar ôl edrych arno, na'r un y gwnaethom geisio'i roi yn ein hadroddiad. Rwy'n credu ei fod yn gliriach ac yn haws ei ddarllen. Felly, mae'r economi sylfaenol yn bendant yn cyfeirio at y sectorau yn yr economi sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n sail i fywyd bob dydd. Diwedd y frawddeg.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y drefniadaeth a'r bobl yn yr economi sylfaenol, yn ogystal ag ansawdd a hygyrchedd nwyddau a gwasanaethau, ac ymdeimlad y dinasyddion o reolaeth a pherthyn i'w cymuned. Mae hynny'n rhywbeth na wnaethom edrych arno'n benodol yn yr ymchwiliad hwn, ond yn sicr, mae'n rhywbeth rydym wedi edrych arno yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ein gwaith ar gydlyniant cymunedol, sy'n rhywbeth i'w drafod rhywbryd eto.
Ar ôl ymweld â Preston, credaf fod hyn yn ymwneud â mwy na'r holl bethau pwysig hyn yn unig. Mae a wnelo hefyd â chadw cymaint â phosibl o'r bunt Gymreig yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'r sectorau a restrir yn eich datganiad cenhadaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, yn gwneud yn union hynny. Felly, er enghraifft, gwasanaethau gofal ac iechyd, gan gynnwys gofal cymdeithasol a gofal plant, tai cymdeithasol, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig yn mynd i gael ei gwella gan y Bil ailreoleiddio bysiau. Ond mae'n dechrau mynd yn fwy cymhleth pan awn i fwy o fanylder a siarad am adeiladu adeiladau preswyl a masnachol, ynni a chyfleustodau. Rydym newydd gael trafodaeth am ddŵr, sy'n rhywbeth y gallwn ei adael ar gyfer rhywbryd eto.
Ond heddiw, mae adeiladwyr tai yn y DU wedi gorfod cynnig talu £100 miliwn ar ôl ymchwiliad cystadleuaeth, lle mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi datgelu tystiolaeth fod gwybodaeth am brisiau wedi'i rhannu rhwng cwmnïau. Felly, credaf mai un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu dysgu o hynny yw bod angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol i atal teuluoedd rhag gorfod byw mewn llety yn y sector rhent preifat, gan fod hynny'n achosi cymaint o darfu i blant. Ac mae'r mathau o brisiau y mae'r adeiladwyr tai hyn wedi bod yn eu codi ymhell y tu hwnt i gyrraedd ariannol y teulu cyffredin. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym atebion tai cydweithredol a thai cymdeithasol i'n problemau tai.
Rydym mewn gwell sefyllfa o ran dŵr nag y maent yn Lloegr, oherwydd er bod gennym bryderon ynghylch perfformiad Dŵr Cymru ar ollyngiadau carthion, yn sicr, nid ydym yn gweld yr un lefel o stripio asedau ag sy'n digwydd i'r diwydiant dŵr yn y rhan fwyaf o ardaloedd Lloegr o ganlyniad i breifateiddio.
Ar fwyd, mae'n dirlun llawer mwy heriol, gan y gallaf gofio digwyddiad yn y Senedd flwyddyn yn ôl, lle disgrifiodd dyn roeddwn yn digwydd bod yn eistedd wrth ei ymyl sut oedd penderfyniad cynllunio i ganiatáu i archfarchnad agor ar gyrion ei dref wedi lladd yr holl siopau lleol ar y stryd fawr, a'r unig ffordd i gyrraedd yr archfarchnad oedd naill ai mewn car—nid oedd ganddo un—neu fws anfynych iawn. Felly, roedd hwnnw'n benderfyniad trychinebus gan yr awdurdod lleol, a fethodd ffocysu ar yr economi sylfaenol.
Tybed a allech chi—. Yn eich ymateb, hoffwn glywed ychydig yn rhagor am y gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb i argymhelliad 7. Oherwydd un o'r pethau mwyaf heriol ynghylch bwyd yn yr ystyr ehangach yw sut ydym am fynd i'r afael â'r cwmnïau bwyd anferth, sy'n gwario biliynau o bunnoedd ar greu a chadw eu goruchafiaeth dros ein system fwyd a pherswadio pobl i fwyta pethau sy'n eu lladd. Felly, mae gwrthsefyll hynny'n anodd tu hwnt.
Felly, rwy'n wirioneddol awyddus i glywed am deithiau cyflenwyr Busnes Cymru, a oedd i fod i ddigwydd yn y misoedd diwethaf i geisio annog mwy o gyflenwyr sylfaenol i ddod o hyd i gontractau sector cyhoeddus, cynnig amdanynt a'u hennill. Oherwydd credaf ei bod yn dda iawn gweld, yn eich ymateb, eich bod o ddifrif ynglŷn â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a chlywsom y bore yma ym mhwyllgor yr economi am y gwaith y mae sir Fynwy, er enghraifft, wedi'i wneud ar rannu contractau caffael cyhoeddus yn becynnau llai, fel y gall busnesau bach gynnig amdanynt. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb.
Diolch, Llywydd dros dro. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon.
Mae gennyf lai o wybodaeth na'r Cadeirydd presennol gan imi ymuno â'r pwyllgor yng nghanol yr ymchwiliad hwn, ond roeddwn yn awyddus i fod yn rhan ohono oherwydd, i mi, fel rydym eisoes wedi'i glywed yma, nid yw'r economi sylfaenol yn gysyniad haniaethol, er y gall fod yn anodd ei ddiffinio weithiau, fel y clywsom. Ond mae a wnelo â'r pethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl yn ein cymunedau, y gwasanaethau a'r swyddi sy'n cynnal y cymunedau hynny, ac mae a wnelo â gwneud i'r economi weithio cystal ag y gall i gynifer o bobl â phosibl.
Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn yn fawr ac rwy'n credu ei fod yn rhoi gwaith teg, gwerth cymunedol a chadwyni cyflenwi lleol wrth wraidd yr hyn y dylai economi wirioneddol gynhwysol ei olygu, ond rwyf hefyd yn credu y gallwn adeiladu ar hyn a mynd ymhellach. Mae'r adroddiad yn taflu goleuni ar sectorau sydd wedi cael eu tanbrisio neu eu hanwybyddu'n rhy aml, pethau fel gofal, glanhau, arlwyo, adeiladu. Dyma'r rolau sy'n cynnal ein gwlad ar yr adegau anoddaf, ond yn rhy aml, mae cyflogau'n isel, yr amodau'n wael a chontractau'n ansicr.
Felly, dyna pam fy mod yn arbennig o falch o weld bod yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo gwaith teg ar draws yr economi sylfaenol yn argymhelliad 10, sy'n galw am ofynion penodol i gyrff cyhoeddus wella cyflog ac amodau gwaith, a gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu a chytuno ar safonau gofynnol cyffredin ar gyfer cyflogau ac amodau gwaith yn y sector cyhoeddus datganoledig. Ac wrth gwrs, gallai'r Bil Hawliau Cyflogaeth, sydd ar ei ffordd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, ategu a dyrchafu hyn oll. Credaf fod angen i ni wneud ymdrech gydlynol hefyd i sicrhau nid yn unig fod y safonau hyn yn cael eu hannog, ond eu bod yn ddisgwyliedig, gan mai gwaith da yw'r llinell sylfaen, nid y bonws.
Un o'r darnau mwyaf diddorol i mi yn y cyfnod pan oeddwn yn rhan o'r ymchwiliad oedd y dystiolaeth a glywsom am y cysyniad o dyfu eich gweithlu eich hun: recriwtio'n lleol, buddsoddi mewn prentisiaethau a rhoi cyfle i bobl adeiladu gyrfa yn agosach at adref. Felly, credaf fod hynny'n dangos sut olwg a all fod ar yr economi sylfaenol ar waith: creu swyddi lleol, balchder lleol a buddsoddiad hirdymor mewn pobl a lleoedd hefyd. A chredaf ei fod yn rhywbeth y mae angen inni feddwl amdano, ac mae angen i Lywodraeth Cymru feddwl amdano, sut y gellir a sut y dylid ei efelychu mewn mannau eraill, boed hynny mewn iechyd, gofal, adeiladu neu arlwyo. Ac rydym wedi clywed heddiw sut y mae gan sefydliadau angori rôl hanfodol i'w chwarae, ac mae'r argymhelliad yn yr adroddiad hwn yn helpu i roi ffocws ar hynny hefyd.
Rwy'n arbennig o gefnogol i argymhellion yr adroddiad ynghylch caffael. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn dweud fwy nag unwaith yn y Siambr hon a'r un flaenorol fy mod yn credu bod caffael yn gyffrous iawn, felly mae'n debyg fod angen imi fynd allan mwy. Ond mae'n un o'r pethau sydd â'r potensial gwirioneddol i hybu'r canlyniadau a drafodwyd gennym yn y Siambr heddiw, ac yn y gorffennol, am y gwerth cymdeithasol ac ymbellhau oddi wrth flaenoriaethu'r bunt o ran sut y meddyliwn am wariant cyhoeddus a chaffael. Rydym wedi gwneud cynnydd gyda Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yr wyf yn weddol gyfarwydd â hi, ond mae angen inni sicrhau ei bod yn gwneud gwahaniaeth ymarferol nawr. Felly, ar argymhellion 7 ac 8, galw am fecanwaith cryfach, mwy tryloyw i flaenoriaethu cyflenwyr lleol, moesegol sy'n cael eu harwain gan werth cymdeithasol.
Clywsom Jenny Rathbone, rwy'n credu, yn cyfeirio at y dystiolaeth a gawsom heddiw yn y pwyllgor ynghylch caffael. Unwaith eto, un o'r pethau i'w hystyried yw, nid yn unig y canllawiau hynny, ond y cymorth i bobl a'r gallu iddynt fanteisio i'r eithaf ar y ffordd y gallant ddefnyddio'r elfen honno o'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chaffael. Hefyd, fel y dywedodd Hefin David, sut y gallwn ddefnyddio cydweithio i gefnogi rhai o'r busnesau llai hynny i gael eu cyfran deg a bod yn rhan o hynny hefyd.
Hefyd, hoffwn adleisio pwysigrwydd argymhelliad 3, sy'n galw am arloesi o'r gwaelod i fyny dan arweiniad y gymuned. Fel y clywsom, mae llawer o'r newidiadau mwyaf effeithiol yn aml yn dod, nid drwy gyfarwyddyd y Llywodraeth, ond drwy syniadau lleol wedi'u cefnogi gan gyllid hyblyg y gellir ymddiried ynddynt i gyflawni a gwneud gwahaniaeth. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll o'r blaen yn y Senedd ac nid mor bell yn ôl â hynny mewn dadl fer, ar sut y gallwn wneud i ddatganoli weithio ar ran gweithwyr ac ar ran Cymru, a'r angen i siarad am feiddgarwch yn lleol.
Syniadau gwahanol, rydym wedi clywed enghreifftiau o fodel Preston ac adeiladu cyfoeth cymunedol, ond mae syniadau eraill i'w cael hefyd. Ond yn ganolog i hynny mae gwydnwch, balchder mewn lleoedd, a chadw cyfoeth i gylchredeg yn y cymunedau er budd y cymunedau hynny hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond mae a wnelo â'r foment nawr i droi'r egwyddorion hynny'n weithredu a pharhau i symud. Felly, rydym yn mynd o gynlluniau peilot i barhad; nid rhwyd ddiogelwch yw'r sector sylfaenol, ond sbardun ar gyfer yr economi yr ydym am ei gweld sy'n gweithio i bawb. Felly, mae'n golygu mwy na'i gefnogi mewn geiriau'n unig, ond mewn contractau ac mewn cyllidebau, ac nid buddsoddi mewn pobl oherwydd yr argyfwng yn unig, ond o ddechrau eu gyrfaoedd.
Lywydd dros dro, gadewch inni ymddiried yn ein cymunedau gyda'r offer a'r cyllid i allu llunio a llywio eu dyfodol eu hunain, oherwydd fel y clywsom heddiw, nid ymwneud â pholisi y mae'r economi sylfaenol, mae'n ymwneud â phobl a lleoedd, a buddsoddi ynddynt, ac os cawn hyn yn iawn, gallwn greu swyddi gwell ac economïau lleol cryfach, ond hefyd, gallwn greu gwlad fwy cyfartal a hyderus yn ogystal. Diolch.
Dwi nawr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Mae'r economi sylfaenol yn rhan annatod o'n cenhadaeth economaidd, felly rwy'n croesawu gwaith y pwyllgor a'r ddadl a gawn heddiw yn fawr iawn. Fel y mae'r pwyllgor a chyd-Aelodau eraill wedi'i nodi, mae meithrin yr economi sylfaenol yn hollbwysig er mwyn cynnal a chreu gwaith teg ac i dyfu a chadw cyfoeth o fewn ein cymunedau ledled Cymru.
Mae'r economi sylfaenol yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, gan ei bod yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol i bob un ohonom allu byw bywydau bodlon. Nid rhan fach o'r economi mohoni. Fel y clywsom, mae 60 y cant o holl fusnesau Cymru yn gweithredu yn yr economi sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys 51 y cant o weithlu Cymru ac mae'n cynhyrchu 47 y cant o gyfanswm trosiant Cymru. Felly, mae ein dulliau o ymdrin â'r economi sylfaenol wedi gwneud gwahaniaeth i fusnesau, pobl a chymunedau ledled Cymru. Rhwng 2019 a 2023, cynyddodd nifer y busnesau yn yr economi sylfaenol 4 y cant, ac mae nifer y gweithwyr wedi tyfu 1 y cant a throsiant wedi cynyddu 5 y cant.
Felly, i roi rhai enghreifftiau o'r gwaith y buom yn ei wneud, rydym wedi cefnogi contractwyr tai i sicrhau achrediadau i gyflawni gwaith ôl-osod effeithlon o ran ynni. Mae'r contractwyr hynny wedi nodi y bydd hyn yn arwain at greu dros 350 o swyddi newydd. Yna, bydd y capasiti ychwanegol hwn yn cyflymu prosiectau ôl-osod tai, bydd yn gwneud aelwydydd yn fwy addas i fyw ynddynt, yn lleihau costau ynni, gan arwain at fwy o incwm gweddilliol, a bydd yn gwella perfformiad amgylcheddol.
Drwy gynllun achredu bwyd, mae 73 o gwmnïau yng Nghymru wedi nodi bod hyn wedi eu cynorthwyo i gadw 1,100 o swyddi. Bydd y cwmnïau hyn yn cryfhau ein diogeledd bwyd drwy adeiladu cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu'r cyflenwad o fwyd o Gymru i'n hysgolion a'n hysbytai.
Mae'r sector adeiladu wedi dweud wrthyf fod denu talent newydd yn her wirioneddol. Felly, rydym wedi cefnogi'r ddarpariaeth o raglenni lleoliad gwaith ar y safle, carbon isel, sero net, ar gyfer 120 o hyfforddeion ifanc ym maes adeiladu, ac mae 80 y cant ohonynt wedi mynd ymlaen i sicrhau prentisiaeth neu ryw fath o gyflogaeth yn y sector. Felly, rydym yn hwyluso cydweithio yn y sector tai i gynhyrchu dyluniadau tai safonol ar gyfer y cartrefi a adeiledir amlaf. Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio pren, a mwy a mwy o bren o Gymru, o gadwyni cyflenwi byr, cryf a chynaliadwy.
Rydym yn hyrwyddo rhaglen gweithlu lleol 'tyfu eich hun' GIG Cymru i gefnogi pobl leol i gael swyddi da. Ers 2022, mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi recriwtio 128 o weithwyr cymorth gofal iechyd o'r boblogaeth leol, gan gynnwys 15 o brentisiaethau a gwblhawyd. Rydym yn gweithio gyda chymheiriaid yn y GIG i ledaenu'r arferion gorau hyn. Yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfu swyddogion â'r cyngor partneriaeth i ystyried sut y gall y sector llywodraeth leol gefnogi cyflogaeth leol, a defnyddiodd y cyfarfod hwnnw i godi ymwybyddiaeth o ddull 'tyfu eich hun' y GIG ymhlith cymheiriaid llywodraeth leol.
Rwy'n falch iawn o allu derbyn argymhellion defnyddiol y pwyllgor, ac rydym eisoes yn gweithio i ymateb iddynt. Ym mis Ebrill, cyhoeddais y datganiad cenhadaeth yn egluro ein diffiniad o'r economi sylfaenol ac yn amlinellu ein hamcanion ar gyfer meithrin y sectorau hyn. Mae'r datganiad cenhadaeth yn cyd-fynd ag arsylwadau'r pwyllgor, ac rydym yn gweithio ar hyn o bryd i gwblhau'r metrigau hynny i fonitro cynnydd yn erbyn yr amcanion hyn.
Mae ein cymuned ymarfer yn cael ei hymestyn i ddod â rhanddeiliaid ynghyd mewn meysydd pwysig fel ynni, ac rydym yn galluogi aelodau i ddiffinio a phenderfynu ar y blaenoriaethau economi sylfaenol y maent am ganolbwyntio arnynt ac i gefnogi'r gwaith o rannu arferion gorau. Rydym wedi datblygu ein gwefan ymhellach i gynnwys astudiaethau achos ychwanegol a deunyddiau dysgu hefyd bellach i hyrwyddo arferion gorau. Cynhelir gwerthusiad o'r rownd ddiweddaraf o brosiectau economi sylfaenol dros yr haf, a bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y wefan.
Mae prif ffrydio cymorth economi sylfaenol i mewn i Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo busnesau lleol i wella eu gwybodaeth am gaffael, ac mae hefyd yn eu cysylltu â chyfleoedd contract. Yn y mis diwethaf, mae gweithdai ar y ddeddfwriaeth gaffael newydd wedi'u cynnal gyda dros 500 o fynychwyr. Fel y clywsom, yr hydref diwethaf, cynhaliwyd dau ddigwyddiad expo, a daethant â dros 1,000 o gynrychiolwyr ac arddangoswyr ynghyd, gan gysylltu'r cyflenwyr lleol â chontractwyr mawr sy'n awyddus i dyfu cadwyni cyflenwi Cymreig. Cawsant groeso da iawn—gan y cyflenwyr, a oedd yn agored i gyfleoedd newydd, a chan y prynwyr hefyd a oedd yn cael cyfle i wneud cysylltiadau lleol pwysig.
Credaf fod hynny'n dangos pa mor bwysig yw cydweithio er mwyn cyflawni ein hamcanion ar draws yr economi sylfaenol. Rydym wedi sefydlu trefniadau cydweithredol da iawn ar draws sectorau allweddol, gan gynnwys adeiladu, bwyd, iechyd, tai a thrafnidiaeth, a bydd y rhwydweithiau hyn nawr yn helpu i gefnogi'r gwaith o ledaenu a gweithredu arferion da ar raddfa fwy, a byddant yn galluogi cydweithio traws-sector ar feysydd o ddiddordeb cyffredin.
I gloi, mae'r drafodaeth heddiw wedi tanlinellu'n glir iawn y diddordeb cyffredin sydd gennym ar draws y Senedd i barhau ar ein taith i dyfu a chefnogi a chryfhau ein heconomi sylfaenol. Rhaid inni gynnal momentwm a chanolbwyntio ar y rhan hanfodol hon o'r economi, sy'n sail i'n bywyd bob dydd yng Nghymru. Bydd canfyddiadau adroddiad y pwyllgor a'r holl bwyntiau defnyddiol a godwyd heddiw yn mynd ymlaen i siapio'r gwaith cyflawni, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i gynhyrchu prosbectws ar gyfer y weinyddiaeth nesaf i ystyried sut y gallwn barhau i gefnogi'r economi sylfaenol. Felly, diolch i'r Cadeirydd a'r cyn-Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad a'i argymhellion, ond diolch hefyd i'r cyd-Aelodau ar draws y Senedd am gyfrannu yn y ddadl heddiw.
Dwi nawr yn galw ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd Dros Dro, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Credaf fod pob aelod o'r pwyllgor wedi cyfrannu, felly mae'n dangos y diddordeb a ddangosodd y pwyllgor yn y gwaith pwysig hwn a fydd, gobeithio, yn cynorthwyo'r Llywodraeth gyda pheth o'r gwaith y maent yn ei wneud ar yr economi sylfaenol.
Yn ei sylwadau agoriadol, soniodd Sam Kurtz am faint o bobl sy'n sylweddoli eu bod yn rhan o'r economi sylfaenol, ac ai'r diffyg dealltwriaeth hwnnw o rôl yr economi sylfaenol sy'n rhwystro llawer o bobl rhag deall yr hyn sydd ei angen. Dywedodd y bydd yr adroddiad hwn, gobeithio, yn symud pethau y tu hwnt i eiriau cynnes tuag at realiti. Rwy'n credu'n gryf fod y Gweinidog a'r Llywodraeth, gydag ymrwymiad ei rhaglen lywodraethu, eisiau gweld hynny ac eisiau gwneud i hynny ddigwydd. Soniodd hefyd am natur ragnodol y grantiau, ac efallai fod angen i'r grantiau fod ychydig yn fwy hyblyg er mwyn i bobl allu defnyddio'r grantiau hynny i hwyluso twf yn yr economi sylfaenol.
Nododd Luke Fletcher y pwynt fod cytundeb cyffredinol ynghylch beth yw'r problemau. Nid oes cytundeb cyffredinol o reidrwydd ynghylch beth ddylai'r ateb fod. Credaf fod hwnnw'n sylw teg. Crybwyllodd sut nad oes angen y matricsau confensiynol arnom o reidrwydd i fesur cynnydd yn yr economi sylfaenol, ac roedd perchnogaeth yn un pwynt a nododd, y gellid ei ddefnyddio fel diffiniad o rywfaint o'r cynnydd yn yr economi sylfaenol sy'n cyrraedd economi Cymru yn gyffredinol.
Soniodd Hefin David ei fod wedi siarad am hyn yn y Siambr yn 2016. Roeddwn yn credu bod fy nghyd-Aelod Mark wedi ailymuno â ni. Ond nid oedd yn rhaid inni fynd yn ôl i 2003—dim ond 2016 i Hefin. Ond mae'n alwad i weithredu heddiw, heb os nac oni bai, gan nad oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn nhymor nesaf y Senedd, y bydd yr economi sylfaenol yn codi llwyth gwaith pobl i lefelau newydd ac yn mynd â sylw'r pwyllgor newydd neu'r pwyllgor olynol wrth iddynt edrych ar y cynnydd y bydd y Llywodraeth newydd yn ei wneud pan fydd yn cyflawni ei hymrwymiadau ar yr economi sylfaenol.
Cyfeiriodd Jenny at fodel Preston a sut oedd y pwyllgor wedi edrych ar fodel Preston, a phrofiad Blaenau Ffestiniog hefyd, a'r ymdeimlad o berthyn sydd ei angen ar gymunedau. Ond y pwynt arall a wnaeth oedd datblygiad archfarchnadoedd yn enwedig, a'r ffordd yr oeddent, drwy'r broses gynllunio, wedi lladd llawer o strydoedd mawr, a oedd yn sail i economïau sylfaenol llawer o gymunedau. Rwy'n credu y gall llawer ohonom gydnabod hynny yn ein cymunedau ein hunain.
Ar y pwynt a wnaeth Hefin ynglŷn â busnesau'n dibynnu ar ei gilydd, rwy'n meddwl am sgyrsiau rwy'n eu cael ar iard fy fferm fy hun pan fydd trydanwr yn dod i atgyweirio rhywbeth. Yn aml iawn, 'Rwy'n adnabod rhywun a all wneud hynny.' Felly, gall y trydanwr wneud un rhan, bydd yr unigolyn oddi ar ei restr o rifau ffôn yn gwneud y rhan ganol, ac yna efallai y bydd trydydd unigolyn hyd yn oed yn dod i mewn ac yn cwblhau'r gwaith. Felly, mae tri busnes yn elwa o hynny, a dyna natur integreiddiol yr economi sylfaenol.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, soniodd Hannah am waith teg a chyflogaeth, ac roedd yn gwbl briodol ei bod yn sôn am y materion hynny, oherwydd yn aml iawn, mae rhai o'r swyddi hyn yn swyddi â chyflogau isel ac o ansawdd isel, yn y pen draw, nad oes ganddynt yr amddiffyniad y mae rhai sectorau eraill o'r economi yn ei gael. Mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn defnyddio'r ysgogiadau. Ar y pwynt a wneuthum ynglŷn â hynny yn fy sylwadau olaf pan agorais y ddadl hon, ynglŷn â'r Llywodraeth ond yn derbyn yr argymhelliad penodol hwnnw mewn egwyddor yn unig, byddai'n dda clywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â'r pwyntiau hynny.
Ond clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â bod hyn yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Clywais yr hyn a ddywedodd am yr adroddiad etifeddiaeth y bydd y Llywodraeth yn ei drosglwyddo i'r weinyddiaeth newydd. Nid wyf yn amau'r ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth yn y maes hwn, ond gan dynnu ar brofiad Hefin, ni allwn barhau i siarad am hyn; mae angen gweithredu arno. Ac rwy'n mawr obeithio, yn yr amser sydd ar ôl gennych fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, y byddwch yn parhau i hybu'r economi sylfaenol, fel y gallwn drosglwyddo gwaddol cadarnhaol i'r Senedd nesaf.
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r adroddiad hwn y prynhawn yma ac yn diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad, ac yn arbennig i'r tystion a chlercod y pwyllgor a gynorthwyodd aelodau'r pwyllgor i ffurfio'r adroddiad hwn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 9, sef dadl Plaid Cymru ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8953 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gadael i lawr y rhai a'i rhoddodd mewn grym yn etholiad cyffredinol 2024, ac wedi methu cadw at yr addewidion a wnaed i bobl Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro.
Wrth i'r DU nodi blwyddyn o Lywodraeth Lafur ddydd Gwener diwethaf, y teimlad cyffredinol oedd siom wirioneddol. Iawn, efallai nad yw'n syndod mai dyna fy marn i, ond cofiwch fod pôl piniwn ar ôl pôl piniwn yn dweud wrthym yn glir mai dyma'r teimlad cyffredinol ymhlith nifer sylweddol o'r rhai a bleidleisiodd i roi Llafur mewn grym, yn ogystal â theimlad llawer o Aelodau Llafur ar y meinciau cefn hefyd, yn y Siambr hon ac yn San Steffan—plaid a ymladdodd ac a enillodd yr etholiad ar blatfform o newid, gyda'r newid hwnnw ond i'w weld wrth i Brif Weinidog y DU newid ei feddwl ar un cyhoeddiad polisi mawr ar ôl y llall.
Mae'n anodd cofio cyfnod pan oedd mwyafrif mor fawr yn teimlo mor anystywallt a bregus, gyda'r blaid mewn grym yn hercian o un pennawd gwael i'r llall. I Gymru, mae'r 'bartneriaeth mewn grym' y canwyd ei chlodydd cymaint yn swnio'n wag. Cymharwch hynny â'r hyn yr hoffwn ei weld: grym partneriaeth. Dim ond dathlu goruchafiaeth Llafur y mae'r cyntaf, tra bo'r ail yn cadarnhau'r contract rhwng Llywodraeth a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.
Mynegodd y cyn-Brif Weinidog ac Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros gyllid ei hyder y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn darparu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac y byddai Llywodraeth y DU dan arweiniad Starmer yn cael ei harwain gan ymdeimlad mai cenhadaeth y blaid yw nid gwneud mân addasiadau, nid cynnig rhywfaint o welliannau bach, ond trechu tlodi. Yn yr un modd, cyhoeddodd ei olynydd y byddai Llywodraeth Lafur newydd y DU yn sefyll dros ddyfodol Cymru, dros gyllid teg a thros gyllid canlyniadol teg. Ac wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog presennol wedi siarad yn frwd am ei pherthynas â Phrif Weinidog y DU a'i hyder ynddo, Prif Weinidog y DU sydd dan warchae.
Ddeuddeng mis ers yr etholiad cyffredinol, mae gwacter yr addewid hwnnw'n amlwg i bawb yma yng Nghymru. Roedd yr arwyddion yn eithaf bygythiol, onid oeddent, am beth amser cyn diwrnod yr etholiad. Mae tyfu'r economi a dod â'r anhrefn i ben, er eu bod yn ddatganiadau clodwiw o fwriad ar ôl 14 mlynedd o gyni'r Torïaid, wedi gadael gwactod sydd bellach wedi'i lenwi ar draul y tlodion ac ar draul y difreintiedig.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A rhywle yn yr hafaliad hwn, roedd Cymru—cenedl sy'n cael ei hatgoffa dro ar ôl tro ein bod yn well gyda'n gilydd, ac yn well fyth gyda dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd. Cafodd ymrwymiadau hirhoedlog i ddatganoli cyfiawnder a phlismona eu glastwreiddio y tu hwnt i adnabyddiaeth, tra bo'r rhethreg ar gyllid canlyniadol HS2—mor groch hyd yn oed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei hun pan oedd Llafur yn wrthblaid—wedi troi, yn sydyn iawn, yn dawelwch llwyr. Dywedwyd wrthym ar un achlysur gan yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun nad oedd HS2 yn bodoli mwyach. Wel, mae'n bodoli, ac mae'r anghyfiawnder yn bodoli hefyd, ac mae pobl Cymru yn gwybod hynny.
Yn fuan iawn, fe drodd y diferion o siom yn llifogydd o ddadrithiad. Cafodd lwfans tanwydd y gaeaf ei ddiddymu, a allai fod wedi gwthio miloedd o bensiynwyr a oedd eisoes yn byw ymhell islaw'r isafswm cyflog i mewn i dlodi, a gallai fod wedi arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru yn unig, yn ôl y comisiynydd pobl hŷn. Fe wnaethant ildio oherwydd pwysau, nid oherwydd greddf wleidyddol. Mae pob Aelod Seneddol Llafur Cymru yn San Steffan yn ciwio i bleidleisio yn erbyn datganoli Ystad y Goron, a gwadu'r cyfle inni elwa o gyfoeth ein hadnoddau naturiol ein hunain yma yng Nghymru. Dweud y pethau iawn pan fo'n gyfleus, a gwrthod gwneud y pethau iawn pan allai'r pleidleisiau hynny wneud gwahaniaeth yn San Steffan.
Dyna'r safonau dwbl amlwg yn agwedd Llywodraeth y DU tuag at y diwydiant dur, sydd wedi gadael Cymru, a Phort Talbot yn enwedig, ar eu colled yn y pontio gwyrdd. Toriadau mor ddwfn i'r system les nes codi cywilydd ar nifer sylweddol o Aelodau Seneddol Llafur. Treth ychwanegol ar Gymru o £72 miliwn o ganlyniad i'r anghyfiawnder sylfaenol—geiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, nid fy rhai i—wrth ddyrannu ad-daliadau ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus craidd. Adolygiad o wariant sy'n rhoi'r twf gwaethaf i Gymru mewn termau real yn ei gwariant o ddydd i ddydd y tu hwnt i'r blynyddoedd cyni gwaethaf. A chyllideb gyfalaf sy'n crebachu—gwariant cyfalaf yng Nghymru yn lleihau, lle mae'n cynyddu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ac eto, mae'n llwyddiant, meddai Llafur yng Nghymru. Y gwrthodiad llwyr i gael model ariannu teg sy'n adlewyrchu anghenion ein poblogaeth yn lle fformiwla Barnett nad yw'n gweithio mwyach. Mae'r rhestr yn parhau.
Ac nid oes angen ichi dderbyn fy ngair i ar hyn. Gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod Llafur o'r Senedd dros Lanelli yn ddiweddar, fod plaid Lafur y DU ar yr ochr anghywir i hanes o ran buddsoddiad rheilffyrdd a'r achos dros ddatganoli Ystad y Goron, neu'r hyn a ddywedodd yr Aelod Llafur o'r Senedd dros Bontypridd, nad oedd cynnydd ar ddatganoli pellach yng Nghymru yn bodoli o dan Lywodraeth bresennol y DU, a'i fod yn dirywio mewn sawl maes allweddol. A dyfynnaf eu geiriau nid gyda llawenydd, ond gydag ymdeimlad gwirioneddol o bryder, y dylai pob un ohonom ei rannu, fod Cymru wedi cael ei thwyllo. Mae Cymru wedi cael ei thwyllo gan brosiect gwleidyddol heb unrhyw dosturi'n perthyn iddo a heb ddealltwriaeth o frwydrau byd go iawn y rhai a bleidleisiodd drostynt, prosiect gwleidyddol sy'n ddi-hid ynghylch anghenion pobl Cymru, yn benodol.
Felly, pam fod Llafur wedi methu cadw at ei haddewidion, yn enwedig i wlad ac i etholwyr y maent mor ddyledus iddynt, o ran eu llwyddiant etholiadol dros y blynyddoedd, a gellid dadlau, o ran eu bodolaeth fel plaid wleidyddol? Mae’r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dewis canmol yn hytrach na chondemnio adolygiad o wariant a fydd yn arwain at dwf hyd yn oed yn llai mewn termau real i gyllideb Cymru na chyfnod yr adolygiad o wariant blaenorol, er enghraifft, hefyd yn awgrymu'n gryf fod eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU wedi cymryd mantais arnynt mor aml fel nad ydynt bellach yn gwybod beth yw bargen dda i Gymru mewn gwirionedd, heb sôn am wybod sut i ymladd am un. Nid yw hyd yn oed y sylweddoliad ein bod, heb os, ar drothwy newid llwyr yn ein tirlun gwleidyddol wrth i bleidleiswyr ledled Cymru ddyheu am newid gwirioneddol wedi bod yn ddigon iddynt nodi cyfeiriad newydd.
Gallaf ragweld beth fydd ymateb y Llywodraeth. Mae mor rhagweladwy â nos ar ôl dydd—fod Plaid Cymru rywsut yn byw mewn bydysawd cyfochrog, ein bod yn blaid o ffantasïwyr. Wel, gadewch imi ddweud hyn: gallwch fod yn gredadwy ac yn dosturiol ar yr un pryd. Mae llwybr arall yn bodoli tuag at ddyfodol gobeithiol. Cael gwared ar y cap dau blentyn, diwygiadau lles sy'n rhoi llais i'r rhai mwyaf agored i niwed, model ariannu teg sy'n mynd i'r afael go iawn ag anghenion Cymru, a setliad datganoli sy'n caniatáu atebion Cymreig i broblemau ein cenedl—dyna'r newid y dylem fod wedi'i weld. A dylem, fe ddylem fod yn gofyn i'r rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf gyfrannu ychydig yn fwy, yr ychydig amlfiliwnyddion a biliwnyddion sydd â'r rhan helaethaf o'r cyfoeth yn eu dwylo. Ydy, mae'r Prif Weinidog bellach wedi ymuno â Phlaid Cymru o'r diwedd i alw am dreth ar gyfoeth. Ond mae'n rhy hwyr, ac wedi'i yrru gan ganlyniadau'r bleidlais les, nid gan ei greddf i nodi ei safbwynt ymlaen llaw.
Dyma’r hyn sydd gennym bellach: ar y naill law, gwleidyddiaeth ymrannol o achwyn gan yr asgell dde eithafol, sy’n bwydo ar ddadrithiad dealladwy pleidleiswyr tuag at wleidyddion, ond nad ydynt yn cynnig unrhyw beth eu hunain heblaw defnyddio ein democratiaeth yn sinigaidd fel cyfle i wneud elw personol, gan werthu ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr i’w cymwynaswyr cyfoethog, a thanseilio ein diogelwch cenedlaethol drwy eu hagwedd gymodlon tuag at ormeswyr fel Putin; ac ar y llaw arall, mae gennym gynlluniau beiddgar Plaid Cymru i sicrhau y gall Cymru fod yn genedl decach, uchelgeisiol a llewyrchus fel y gwyddom y gall fod, gan ddatgloi gwir botensial datganoli i gynnig dewis arall blaengar yn lle hen status quo treuliedig San Steffan, gweledigaeth sy'n gyfiawn, yn haeddiannol ac yn angenrheidiol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Hoffwn wybod sut ydych chi'n mynd i gyfiawnhau, trwy'r annibyniaeth yr ydych chi'n sefyll drosti, nad ydych chi'n sôn amdani o gwbl yn yr araith hon, am y £7,000 y pen y bydd ei angen i dalu am eich annibyniaeth. Dyna beth hoffwn i ei wybod, a sut ydych chi'n meddwl na fydd hynny'n taflu pobl i ddyfnderoedd o anobaith a thlodi.
Ni fydd symiau ar gefn pecyn sigaréts yn helpu yn y ddadl ar sut yr adeiladwn ddyfodol gwell i Gymru heddiw. Byddaf bob amser yn gwneud yr achos, ac fe ddylai Aelodau Llafur yma wneud hynny hefyd, fod status quo presennol y Deyrnas Unedig yn gwneud cam â Chymru wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac os nad ydym wedi gweld hynny o weithredoedd Llywodraeth Lafur dros y 12 mis diwethaf, pryd fydd pobl yn dysgu?
Hoffwn glywed cyfraniad arweinydd Plaid Cymru, ac ni allaf, oherwydd bod cymaint o sŵn mewn mannau eraill.
Mae'r sŵn yn mynd yn uwch, onid yw, ar ein hanghenion fel cenedl nad ydynt yn cael eu diwallu gan Lywodraeth y DU, boed y Llywodraeth Lafur bresennol neu gyn-Lywodraethau Llafur a Cheidwadol sy'n methu deall anghenion ein cenedl a'r angen i godi a brwydro o un diwrnod i'r llall dros fynd i'r afael â'r anghenion hynny, a gwneud yr achos dros sut i gyrraedd ein potensial fel cenedl.
Nawr, mae pen y tap yn mynd yn boethach; efallai y caiff Llafur Cymru ei llosgi. Dyna oedd rhybudd Lee Waters, neu larwm—mae'n dibynnu ar eich persbectif. O na bai tap dŵr coch clir y gellid ei agor. O na bai Prif Weinidog Cymru'n gallu gwireddu'r honiad fod ganddi fwy o ddylanwad dros Brif Weinidog y DU nag y bydd gennyf i byth. Gwelwn yn gliriach bob dydd fod ei dylanwad yn bitw, ac mae Cymru'n talu'r pris am hynny. Felly, wrth i ragolygon etholiadol Llafur foddi mewn dilyw o'u gwneuthuriad eu hunain, mae Plaid Cymru yn cynnig y gobaith y mae pobl Cymru gymaint o'i eisiau, ac rwy'n annog yr Aelodau i fynegi eu barn ar Lywodraeth y DU a chefnogi ein cynnig heddiw.
Rwyf wedi dethol y gwelliant, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan 14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei phobl.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol heddiw, oherwydd mae'n wir, onid yw, fod Llywodraeth Lafur y DU, dan arweiniad Keir Starmer, wedi gwneud cam â'r rhai a'i rhoddodd mewn grym. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dechrau gyda'r etifeddiaeth a gawsant gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol: yr economi a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7, 700 o swyddi yn cael eu creu bob dydd, a chwyddiant i lawr i'r targed o 2 y cant. Ac eto mewn blwyddyn yn unig, mae hynny i gyd a mwy wedi diflannu'n llwyr. Eu haddewid mwyaf nodedig yn yr etholiad oedd na fyddent yn codi trethi ar bobl sy'n gweithio—ddim ond i wneud y gwrthwyneb yn llwyr a chodi treth yswiriant gwladol. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi arwain at ganlyniad trychinebus cynnydd mewn diweithdra ledled y wlad. Fe wnaethant addo y byddent yn cadw'r ffigur chwyddiant ar 2 y cant, ond oherwydd bod y Canghellor wedi colli rheolaeth ar yr economi, mae chwyddiant bron â bod wedi dyblu. Golyga hynny fod biliau bob dydd pobl yn ddrytach, a gwasanaethau cyhoeddus yn ddrytach i'w darparu hefyd.
Fe wnaethant addo y byddent yn chwalu'r gangiau sy'n trefnu cychod i groesi'r Sianel yn anghyfreithlon i'r wlad hon. Yna fe wnaethant oruchwylio dros y nifer fwyaf erioed o groesiadau anghyfreithlon i'r wlad hon, yn y flwyddyn gyntaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi cael ei chwalu gan y gangiau. Fe wnaethant addo i'n ffermwyr y byddent yn eu cefnogi, ond yn hytrach, maent wedi bygwth eu gwneud yn fethdalwyr gyda'u treth annheg ar y fferm deuluol. Roeddent yn dweud y byddent yn cael mwy o bobl yn ôl i'r gwaith ac oddi ar fudd-daliadau, ac yna, yn llythrennol, fe wnaethant droi'n llwfr rhag gwneud hynny, gan achosi i'r bil budd-daliadau sydd eisoes yn enfawr yn y wlad hon gynyddu ymhellach dros y blynyddoedd i ddod. Fe wnaethant addo i'n pobl hŷn y byddent yn sefyll drostynt, a'r peth cyntaf a wnaethant oedd cael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf, gan eu gadael i rewi y gaeaf diwethaf.
A nawr, beth sydd ar y gorwel? Wel, dyna'r un peth sy'n glir: mwy o godiadau treth. Collodd y Canghellor reolaeth ar yr economi, collodd yr Ysgrifennydd Cartref reolaeth ar ein ffiniau, ac mae'r Prif Weinidog wedi colli rheolaeth ar y wlad a'i blaid, a phobl gyffredin Prydain sy'n talu'r pris.
Ond pam y mae hynny wedi digwydd? Pam ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt isel hwn? Oherwydd bod gennym Brif Weinidog nad yw'n gwybod beth y mae eisiau ei wneud neu eisiau ei gyflawni mewn gwirionedd. Pan ofynnodd Kemi Badenoch i'r Prif Weinidog dros beth y mae'n sefyll, roedd yn rhaid iddo edrych yn ei ffeil i ddod o hyd i'r ateb. Onid yw hynny'n dweud popeth am breswylydd presennol 10 Stryd Downing?
Yn ystod yr etholiad, gwelsom y slogan un gair gwag, 'newid'. Ond nawr fe wyddom nad oedd hynny'n golygu unrhyw beth, am mai'r unig beth y mae'r Prif Weinidog yn enwog amdano yw ei droeon pedol. Cafodd ei arwain gan ddigwyddiadau yn hytrach na'i fod ef yn arwain y wlad, a nawr mae'n ymddangos ei fod yn trosglwyddo arweinyddiaeth ei blaid i'w feinciau cefn.
Y gwir amdani yw ei fod wedi gwastraffu ei amser pan oeddent yn wrthblaid. Ni roddodd amser i ystyried dros beth y safai, neu beth oedd ei blaid eisiau ei wneud pe baent yn dod i rym. A ydym yn gwybod beth yw Starmeriaeth mewn gwirionedd? A yw ef erioed wedi dweud? I fod yn wleidydd, rhaid i chi gredu mewn rhywbeth. Ond mae'r Llywodraeth hon wedi colli ei ffordd am fod ganddi arweinydd nad yw'n credu mewn dim.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Pan siaradwn am gredoau, pan oeddech chi'n cefnogi'r toriadau a ddioddefwyd gennym am 14 mlynedd, a oeddech chi'n credu mai dyna oedd y ffordd iawn—dinistrio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys y GIG; rhoi pobl allan o waith; gwneud pobl yn dlotach? Tybed a oeddech chi'n credu yn hynny i gyd, a gallaf glywed eich cyd-Aelod, ac fe ofynnaf yr un cwestiwn iddo yntau hefyd. A oeddech chi'n meddwl mai dyna'r ffordd iawn o wneud pethau?
Wel, gadewch imi ddweud wrthych beth nad oeddwn i'n credu ynddo, a phenderfyniad eich plaid chi yn y Senedd i dorri cyllideb y GIG ddwywaith oedd hwnnw. Yr unig ran o'r DU sydd erioed wedi gwneud hynny, ac mae'n benderfyniad a wnaed gennych chi. Ond wrth gwrs, mae gennym breswylydd yn Rhif 10 nad yw'n credu mewn unrhyw beth. Ac mae'r pethau hynny'n bwysig.
Edrychwch, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef na wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf gyflawni popeth y dylai fod wedi'i wneud, yn enwedig tuag at ddiwedd ei thymor olaf. Ond dyna pam rwy'n falch fod fy mhlaid ar hyn o bryd yn bwrw iddi gyda phroses o adnewyddu—gwneud y gwaith cartref nawr, fel nad ydym yn y sefyllfa y mae'r Llywodraeth bresennol ynddi yn y dyfodol, lle nad ydym yn gwybod beth ydym eisiau ei wneud na sut i'w wneud: gwneud diagnosis o'r problemau, dod o hyd i atebion y gallwn eu cyflawni ac adeiladu cynllun priodol; bod yn glir ynglŷn â'r hyn rydym ni, fel Ceidwadwyr, yn sefyll drosto, ac nid dim ond yr hyn nad ydym yn sefyll drosto; gwneud ein gwlad yn gryfach eto, nid yn unig i ni ein hunain ond i'n plant a'n hwyrion hefyd.
Ond mae'r feirniadaeth honno o'r Blaid Lafur yn berthnasol i Reform hefyd. Maent yn ardderchog am nodi problemau, ond yn gwbl analluog i ddarparu unrhyw atebion. Ac nid oes amheuaeth fod pobl wedi dechrau talu sylw iddynt. Ond maent yn darganfod yn gynyddol, po fwyaf yr edrychant tuag at Reform am atebion, fod y cwpwrdd yn wag. Cymerwch fewnfudo er enghraifft. Addawodd Farage 76 diwrnod yn ôl y byddai'n cyflwyno strategaeth alltudio fanwl ar ei gynlluniau i alltudio troseddwyr tramor a mudwyr anghyfreithlon o fewn tair i bedair wythnos. Mae'n dal i fod heb ei chyflwyno 76 diwrnod yn ddiweddarach.
Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr wedi llunio cynllun manwl, wedi'i gyflwyno i'r Senedd, gyda mesurau clir, gofynion a phethau y gellir eu cyflawni—ac fe'i gwrthodwyd gan y Llywodraeth Lafur, ond mae'n barod i fynd ar ddiwrnod cyntaf y Llywodraeth Geidwadol nesaf. Yn y cyfamser, nid yw Reform wedi gwneud eu gwaith cartref. Er mwyn sicrhau newid, mae angen i chi wybod beth fyddech chi'n ei wneud, a sut y byddech chi'n ei weithredu.
Fe welwn fod Llafur wedi methu am nad ydynt yn gwybod beth y maent yn sefyll drosto, a bydd Reform yn methu am nad ydynt yn gwneud y gwaith caled i gynllunio sut i newid Prydain. Dim ond Plaid Geidwadol ar ei newydd wedd a all sicrhau'r newid y mae Cymru—
Tom, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—a Phrydain ei angen, ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan. Dyna'r unig ffordd y gwnawn ni drwsio Cymru, ac yna fe wnawn ni drwsio Prydain.
Am dros 14 mlynedd o Lywodraeth ddiwethaf San Steffan, y rhai a oedd fwyaf o angen cefnogaeth yn ein cymunedau a ysgwyddodd faich polisi economaidd diffygiol a gosbai'r bregus am fethiannau'r cyfoethog. Gwerthodd y Torïaid gyni fel meddyginiaeth gyllidol angenrheidiol, pilsen chwerw yr oedd yn rhaid i ni i gyd ei llyncu, gyda Cameron yn mynnu ein bod ni i gyd ynddi gyda'n gilydd. Ond nid oedd pawb yn teimlo effeithiau cyni'n gyfartal. Yng Nghymru rydym wedi bod ymhlith y rhai sydd wedi talu'r pris uchaf am y ffordd fwriadus a bwriadol y gwnaeth San Steffan esgeuluso ein pobl. A dyma'r bobl yr addawyd newid iddynt y llynedd gan Lafur. Addawyd tegwch iddynt. Dywedwyd wrthynt fod diwrnod newydd yn gwawrio ar ôl y nos hir a thywyll. Ond flwyddyn i mewn i'r bartneriaeth honedig rhwng Llafur Cymru a'r DU, beth sydd gan bobl Cymru i'w ddangos am hynny? Addewidion wedi'u torri a mwy o bobl yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi a chaledi.
Nid oes unrhyw beth yn crisialu calongaledwch oer a bwriadol cyni fel y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau. Mae'n bolisi cywilyddus. Dewis gwleidyddol bwriadol i wrthod cefnogaeth i rai o'r tlotaf yn ein cymdeithas, y plant tlotaf yn ein cymdeithas, dim ond oherwydd faint o frodyr a chwiorydd sydd ganddynt. Mae'r canlyniadau'n ddinistriol ac yn drychinebus i Gymru. Nid yw'r polisi hwn yn arbed arian, mae'n dyfnhau lefelau tlodi sydd eisoes yn annerbyniol o uchel, ac nid oes iddo le mewn unrhyw gymdeithas sy'n honni ei bod yn poeni am degwch neu les plant. Ond nawr, gyda'u cymheiriaid mewn grym yn San Steffan yn cadw'r polisi creulon hwn, gan wybod ei bod yn caethiwo dros 65,000 o blant Cymru mewn tlodi, yr hyn a glywn gan Lywodraeth Cymru yw galwadau gofalus, yn hytrach na'r geiriau cryf yr arferem eu clywed yn cael eu cyfeirio at y Torïaid, y geiriau yr arferem eu clywed yn frith drwy areithiau Llafur yn y lle hwn—geiriau fel 'brawychus', 'annynol'—gwta flwyddyn yn ôl.
Y gaeaf diwethaf cafodd pensiynwyr Cymru eu gadael yn yr oerfel wrth i daliad tanwydd y gaeaf gael ei ddileu i'r rhan fwyaf ohonynt. O, do, cafwyd tro pedol wrth gwrs, ond nid cyn i ganlyniadau gwael yr etholiadau lleol yn Lloegr orfodi Starmer a Reeves i wneud hynny. Roedd yn llythrennol yn un o'r pethau cyntaf yr estynnodd Llywodraeth Lafur y DU amdano i lenwi eu tyllau cyllidol. Tra bo trethdalwyr annomestig wedi gweld y mesurau newydd, a gyhoeddwyd er mwyn iddynt dalu mwy o'u cyfran deg, yn cael eu haddasu a'u lleddfu, fe wyddom fod pensiynwyr Cymru ymhlith y rhai a gafodd eu taro galetaf y gaeaf diwethaf. Roeddent yn teimlo'n ddryslyd, roeddent yn teimlo eu bod wedi'u bradychu. Ac yna'r toriadau i les. Mae bron yn rhy boenus rhestru'r holl benderfyniadau cywilyddus a wnaed mewn cwta flwyddyn o Lafur mewn grym yn San Steffan.
Gwnaed penderfyniad i dargedu a diraddio pobl anabl a phobl â salwch hirdymor er mwyn cyrraedd llinell gyllidebol artiffisial. Pan welodd digon o ASau Llafur yr ysgrifen ar y mur, gyda llawer ohonynt mewn seddi ymylol, fe wnaethant weithredu. Ond roedd y ffordd warthus y cafodd bywydau'r cannoedd o filoedd o bobl anabl yng Nghymru eu trin gan wleidyddion Llafur yn yr anhrefn a ddilynodd yn hollol erchyll. A nawr, ar ei newydd wedd hyd yn oed, mae'r Cenhedloedd Unedig, neb llai, wedi rhybuddio am y niwed y bydd y Bil diwygio arfaethedig yn ei achosi i bobl anabl a'u hawliau. Mae'r pwysau a roddir ar y rhai y dylai Llywodraeth Lafur fod yn eu diogelu yn warthus, yn enwedig i'r rhai sydd â chyflyrau amrywiol neu anweladwy sydd bellach yn wynebu system fwy cosbol o dan Lywodraeth a oedd yn addo tosturi. Ni all Llafur Cymru, beth bynnag yw hynny, eistedd yn ôl ac esgus nad oes ganddynt unrhyw gyfrifoldeb. Mae'n ymddangos bod pawb bellach yn gyfforddus i gefnogi'r toriadau a basiwyd i hawlwyr newydd taliad iechyd y credyd cynhwysol. Er bod Anabledd Cymru wedi dweud nad yw'r cynlluniau hyn yn ddim llai nag ymosodiad ar bobl anabl yng Nghymru sydd eisoes yn profi rhai o'r cyfraddau tlodi uchaf yn y DU, yn wynebu amseroedd aros hir y GIG, gweithleoedd anhygyrch, gwahaniaethu dyddiol a chostau byw cynyddol.
Nid mater o gydbwyso'r llyfrau yw cyni, mae'n ymwneud â symud y baich oddi ar ysgwyddau'r pwerus i ysgwyddau'r di-rym. A dyna a welsom o San Steffan ac rydym yn parhau i'w weld o dan y Llywodraeth Lafur hon yn y DU, sy'n gwneud cam â phobl Cymru gan ein hamddifadu o'r modd, y pwerau a'r adnoddau i allu gwneud ein penderfyniadau ein hunain ar les.
Nid gwaddol economaidd yn unig sydd i gyni. Mae'n foesol. Mae'n tanseilio undod. Mae'n erydu'r syniad fod llywodraeth yn bodoli i ddiogelu a chefnogi ei phobl. Mae'n lladd ymddiriedaeth, a gobaith y bydd pethau'n gwella. Ni allwn adeiladu Cymru deg ar sylfeini a wanychwyd yn y modd hwn.
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Sioned.
Yn y 1920au, rhybuddiodd y bardd a'r ymgyrchydd cymdeithasol Americanaidd Langston Hughes:
Daliwch gafael ar freuddwydion / Canys os bydd breuddwydion yn marw / Mae bywyd yn aderyn â’i adenydd wedi torri / Na all hedfan.’
Caiff gobaith ei ddiffodd, ac mae i hynny ei ganlyniadau i'n cymdeithas. Mae gwaddol y cyni parhaus hwn yn un na all Cymru ei oddef. Rhaid ei herio'n ystyrlon—
Sioned, dowch i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—ac nid yw sloganau gwag, sy'n gwrth-ddweud ei gilydd yn gwneud y tro.
Wel, roedd hynny—[Torri ar draws.] Ac fe wnaf, oherwydd mae Plaid Cymru'n dda am siarad, ond rwyf eisiau gwybod ble mae eu cynlluniau. Ond rwy'n gwybod beth yw eu cynlluniau: dadleuon diddiwedd ar y naill law am annibyniaeth, a gofyn i Drysorlys y DU am fwy o arian ar y llaw arall. Fe wnaethant wrthod cefnogi cyllideb Cymru, gan beryglu £600 miliwn ychwanegol i'r GIG—[Torri ar draws.]—a gwleidyddiaeth yn hytrach na gofal—mewn munud—i gleifion. Yn amlwg, rydych chi wedi cyffroi, ond fe roddaf ymyriad i chi yn y munud.
Fe wnaethoch chi hefyd wrthod cefnogi cyllideb a oedd y gyllideb gyntaf mewn 14 mlynedd a roddodd fwy o arian i Gymru nag erioed o'r blaen. Nid wyf yn deall sut y gallech chi wneud hynny a chithau heb bleidleisio yn erbyn y cyllidebau llai flwyddyn ar ôl blwyddyn y credai'r Torïaid eu bod yn ddigon da. Felly, mae'n— [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod bod yna lawer o gyffro, ond rwy'n mynd i barhau, oherwydd fe wnes i adael i chi fwrw ymlaen, ac rwy'n mynd i wneud yr un peth.
Felly, y pwynt yw—. Mae'n eithaf amlwg nad ydych chi'n hoffi'r ffeithiau, ond dyma'r ffeithiau. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y gyllideb fwyaf a gawsom mewn 14 mlynedd, ond fe wnaethoch chi fethu gwrthwynebu'r lleill. Ni wnaethoch chi gynnig unrhyw beth ychwaith—dim cynlluniau, dim byd. Ond wythnos ar ôl wythnos, rydych chi'n gofyn am fwy o arian am rywbeth nad ydych chi wedi'i gostio. Llyr.
Diolch. Rydych chi'n ein beirniadu ni am bleidleisio yn erbyn cyllideb y Llywodraeth, ac wrth wneud hynny, rydych chi'n awgrymu ein bod wedi amddifadu Cymru o arian. Wrth gwrs, fe bleidleisiodd eich cymheiriaid Llafur yn San Steffan am 14 mlynedd yn erbyn cyllideb Dorïaidd yn San Steffan. A oeddent hwythau hefyd yn amddifadu Cymru o arian o ganlyniad i hynny?
Rwy'n meddwl eich bod chi wedi drysu braidd ynglŷn â'r patrwm pleidleisio, oherwydd gofynnwyd i chi bleidleisio ar gyllideb Cymru, a roddodd arian ychwanegol i chi mewn gwirionedd, ac fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei herbyn. Yn amlwg nid ydych chi'n cydnabod ychwaith, pan fyddwch chi'n siarad am yr hyn y gallai'r arian hwnnw ei gyflawni—. Felly, fe roddaf rai ffeithiau i chi. Mae 40 y cant o'r bobl yn fy ardal i yn gweithio mewn llywodraeth leol. Pe baem wedi bwrw ymlaen a bod y gyllideb honno wedi methu—
Ond ni wnaeth.
Oherwydd eich bod chi wedi dibynnu ar bobl eraill i wneud eich gwaith, a'ch gwaith chi yw gwneud yn siŵr fod pobl yn cael gwaith. Dyna pam, oherwydd eich bod yn meddwl y gallech chi gael eich ffordd, ac yna roeddech chi'n meddwl y gallech chi ddod yn ôl yma a dweud wrthym pa mor dda ydych chi. Wel, pe bai'r gyllideb honno wedi methu, byddai 40 y cant o bobl yn fy ardal i, yng nghefn gwlad Cymru, yr honnwch eich bod yn malio amdanynt, byddai nifer fawr o'r bobl hynny wedi gwneud dau beth: yn gyntaf oll byddent wedi colli eu gwaith, ac yn ail, byddem wedi colli eu gwasanaethau. Dyna'r hyn roeddech chi—
Nid yw'n gwneud synnwyr.
—yn hapus iawn i'w wneud. Na, nid ydych yn gwneud synnwyr. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at hynny. [Chwerthin.]
Felly, nid oeddech yn malio am ganiatáu i hynny ddigwydd, am eich bod chi eisiau gwneud rhyw bwynt gwleidyddol. Nid wyf yn gwybod beth oedd y pwynt gwleidyddol hwnnw, ond rwy'n mynd i wneud y pwynt, os cewch chi annibyniaeth, nid wyf yn gwybod o ble y credwch y daw pobl o hyd i £7,000 yr un y flwyddyn i dalu am eich annibyniaeth—£7,000 y pen y flwyddyn. Nid fy ffigurau i yw'r rheini; ffigurau a sefydlwyd yn dda gan lawer iawn o grwpiau ydynt—nid gan Lywodraeth y DU, gan gyrff annibynnol—am wir gost annibyniaeth, ac mae'n rhaid imi ddweud, rydych chi wedi anghofio sôn wrth bobl am hynny'n sydyn iawn, felly rwy'n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i'w hatgoffa ar eich rhan. Rydych chi'n byw mewn gwlad o wleidyddiaeth ffantasi. Rydych chi'n eithaf hapus i wneud y wlad hon yn fethdalwr.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Ddim nawr. Yn amlwg, rwyf wedi ysgogi dadl, oherwydd dyna bedwar ymyriad y gofynnwyd amdanynt, ac eto fe eisteddais drwy eich gwleidyddiaeth ffantasi chi yn dawel.
Ond y pwynt yma yw—[Torri ar draws.] Y pwynt yma yw—[Torri ar draws.] Unwaith, do. Y pwynt yma yw, os cewch chi eich dwylo ar rym yma a'ch bod chi rywsut yn llwyddo i dwyllo pobl i gredu eich bod chi wedi anghofio am annibyniaeth, maent yn mynd i ddarganfod yn gyflym iawn beth yw ei gwir gost, ac ni fyddant yn gallu ei fforddio.
Ie, mae'n ddiddorol onid yw? Mae Llafur yn San Steffan ers blynyddoedd yn pleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth y DU, a rywsut maent yn sefyll dros eu hetholwyr. Mae Llafur yn yr Alban yn pleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth yr Alban, ac eto maent yn sefyll dros eu hetholwyr. Mae Plaid Cymru yng Nghymru, wrth gwrs, yn pleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth Cymru, a rywsut rydym yn amddifadu Cymru o arian. Hynny yw, mae'n anghredadwy, Joyce Watson. Mae'n chwerthinllyd. Mae'n ddadl mor anghyson. Nawr, fe gawsom addewid o newid 12 mis yn ôl gan Lywodraeth y DU.
Addawyd newid i Gymru, ac mae newid wedi dod, onid yw e? Ond, fel rŷm ni wedi clywed, dyw e ddim yn newid er gwell. Dwi eisiau sôn yn benodol am yr effaith mae hynny'n ei chael ar rai o'n cymunedau gwledig ni, oherwydd mae'r rhai ohonom ni sy'n gwybod am hyn yn gwerthfawrogi pa mor fregus yw'r economi amaethyddol yma yng Nghymru. Y newidiadau amlycaf, byddwn i'n dweud, dros y 12 mis nesaf yw'r newidiadau sy'n cael eu cynnig i dreth etifeddiant. Mae gan y rheini oblygiadau pellgyrhaeddol eithriadol i deuluoedd fferm yng Nghymru.
Rydym yn gwybod, onid ydym, nad yw Cymru'n genedl o ffermwyr sy'n filiwnyddion moethus; mae ein ffermydd teuluol yn gweithredu ar elw tynn. Maent yn byw o'r traed i'r genau ac mae llawer ohonynt yn ysgwyddo dyledion sylweddol hefyd. Nid fi sy'n dweud hyn—dyma ystadegau incwm busnesau fferm Llywodraeth Cymru ei hun. Nid oes gan ffermwyr Cymru gyfalaf i ysgwyddo'r baich treth ychwanegol hwn. Nawr, o ganlyniad, fe wyddom y bydd yn gorfodi teuluoedd i werthu tir a bydd hynny'n torri i mewn ymhellach i fywoliaeth pobl, gan wneud eu ffermydd yn llai hyfyw i genedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n hollol wrthgynhyrchiol ar adeg pan ddylem fod yn canolbwyntio ar ddiogeledd bwyd a gwydnwch ein prif gynhyrchwyr bwyd, nid mynd ati'n weithredol i danseilio eu hyfywedd ar gyfer y dyfodol.
Nawr, oes, mae angen inni fynd i'r afael â'r amlfiliwnyddion sy'n prynu tir yn fwriadol at ddibenion osgoi treth, ac mae digon o ffyrdd y gellid gwneud hynny. Mae'r system adfachu wedi'i hamlinellu yma gennyf i ac eraill sawl gwaith, lle gellir trethu tir os caiff ei werthu wedyn. Mae'r ymchwil a welais yn awgrymu y byddai hynny'n cynhyrchu mwy o refeniw i'r Trysorlys yn y pen draw mewn gwirionedd.
Rydym wedi gweld adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan CBI Economics, ac mae'n dangos y bydd y gostyngiad mewn gweithgaredd busnes o ganlyniad i'r argymhelliad hwn yn arwain at golli £14.8 biliwn o werth ychwanegol gros dros y pum mlynedd nesaf. Dyna dros 200,000 o swyddi amser llawn, ac er bod y Trysorlys yn disgwyl codi £1.8 biliwn mewn refeniw treth erbyn 2030, gwelwn y bydd cost y polisi'n llawer uwch na'r hyn y bydd yn ei gynhyrchu.
Felly, ni ddylai ein ffermydd teuluol gweithredol gael eu dal yn y canol gyda hyn. Mae'r niwed economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol y bydd yn ei achosi i ni yma yng Nghymru yn bris rhy uchel i'w dalu, ond dyna beth yw'r polisi Llafur gan Lywodraeth y DU sy'n cael ei orfodi arnom ni yma yng Nghymru.
Mae'r cyd-destun economaidd, wrth gwrs, wedi taro'r diwydiant amaeth yn galed, fel pob diwydiant arall. Rŷm ni wedi gweld hynny—cost mewnbynnau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r argyfwng costau byw nid yn unig yn effeithio ar deuluoedd fferm yn uniongyrchol, ond ar ddewisiadau cwsmeriaid hefyd wrth iddyn nhw brynu ein cynnyrch Cymreig ni. Mae'r holl ddadsefydlogi sydd wedi dod yn sgil Brexit, wrth gwrs, yr effaith y mae hynny wedi'i chael ar y baich biwrocrataidd o gwmpas allforio, ynghyd, wedyn, â chytundebau masnach newydd, sydd yn rhedeg y risg, onid yw e, o danseilio'r farchnad ddomestig, wedi cael effaith negyddol. Rŷn ni wedi symud o saith mlynedd o sicrwydd ariannu o dan y polisi amaethyddol cyffredin i ddim ond mynd o flwyddyn i flwyddyn.
Nawr, mae llawer o hynny, wrth gwrs, yn deillio o benderfyniadau wnaeth y Llywodraeth ddiwethaf ar lefel y Deyrnas Unedig. Mi addawyd dim ceiniog yn llai—rwy wedi dweud hyn o'r blaen—ac, wrth gwrs, beth gafodd ffermwyr Cymru oedd £0.25 biliwn yn llai. Ond mae Llafur wedi mynd cam ymhellach yn y 12 mis nesaf drwy, wrth gwrs, symud i ddefnyddio fformiwla Barnett ar gyllid amaethyddol. Cyllid cymorth amaethyddol roedd yn arfer, wrth gwrs, adlewyrchu maint a natur gymharol ffermio yng Nghymru, a oedd yn ddyraniad llawer tecach o adnoddau, ond nawr, wrth gwrs, rŷn ni nôl i'r gyfundrefn lle mae e'n dibynnu ar faint y boblogaeth, ac mae hynny'n mynd i leihau'r cyllid sydd ar gael i ni. Nawr, os oedd yna bartneriaeth mewn pŵer go iawn, yna mi fyddai Llywodraeth Cymru wedi sicrhau dyw hynny ddim yn digwydd.
Mae Eluned Morgan, y Prif Weinidog, ei hun wedi dweud ei bod hi'n poeni am hynny. Wel, os ydyw hi'n poeni, dychmygwch sut mae'r sector yn poeni ac yn gofidio ynglŷn â phedair blynedd arall o'r hyn rŷn ni wedi ei weld dros y 12 mis diwethaf. Ond yr hyn y gallaf i'ch sicrhau chi yw y bydd Plaid Cymru yn sefyll dros ein cymunedau gwledig ni ac yn sefyll dros gymunedau ym mhob rhan o Gymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gadewch inni beidio â rhoi siwgr ar y bilsen: mae Llywodraeth Lafur y DU yn gwneud cam â Chymru. Ac yn ôl yr hyn a glywais gan Blaid Cymru, nid oes llawer i'w weld yno ychwaith. Addawodd Llafur sefydlogrwydd i ni, ond beth a gawsom? Anhrefn, dryswch ac esgusodion, lle mae teuluoedd, ffermwyr a busnesau ledled Cymru'n cael eu gadael i dalu'r bil.
Addawodd Llafur y byddent yn parchu datganoli. Yn lle hynny, maent wedi gorfodi baich codiadau i yswiriant gwladol ar Gymru, gan orfodi elusennau, meddygon, deintyddion a chartrefi gofal ledled ein gwlad i dalu'r costau. Fe wnaethant ddweud y byddent yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ond mae chwyddiant yn brathu, morgeisi i fyny, biliau ynni'n parhau i fod yn uchel a theuluoedd Cymru'n dlotach o dan Lafur. Fe wnaethant ddweud y byddent yn gofalu am bensiynwyr, cyn ceisio cael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf yng nghanol argyfwng costau byw, a mynd i banig wedyn a gwneud tro pedol. Hyd yn oed nawr, mae miloedd o bensiynwyr yn cael eu gadael yn yr oerfel tra bod Gweinidogion Llafur yn Llundain yn honni eu bod yn gwneud ffafr â hwy. Rwy'n dweud: cywilydd arnynt.
Fe wnaethant ddweud wrthym y byddent yn rheoli'r economi, ond maent wedi gwastraffu biliynau ar droeon pedol, a nawr fe glywn y byddant yn codi trethi yr hydref hwn i dalu am eu hanhrefn, gan daro gweithwyr, cynilion a busnesau ledled Cymru. Oherwydd dyma yw'r ffordd sosialaidd. Yr unig ffordd y gwyddant amdani i ddod o hyd i'w ffordd allan o anhrefn yw parhau i drethu pobl sy'n gweithio, oherwydd maent yn dda dros ben am wario arian pobl eraill.
A gadewch inni siarad am fewnfudo. Addawodd Llafur gael trefn ar y nifer sy'n croesi'r Sianel yn anghyfreithlon. Y gwirionedd: mae'n uwch nag erioed. Mae bron i 20,000 o bobl wedi croesi'n anghyfreithlon eleni'n unig—cynnydd o 48 y cant. Nid oes gan Lafur unrhyw gynlluniau credadwy i'w hatal ac ni fyddai gan Blaid Cymru unrhyw gynlluniau o gwbl. Tra bo Llafur yn cael gwared ar gynlluniau blaenorol, yn gwneud areithiau, mae'r gangiau'n parhau i elwa. Mae ein ffiniau'n parhau i fod yn agored ac mae gwasanaethau cyhoeddus, ein tai, ein gofal iechyd a'n hysgolion dan straen. Mae Llafur yn methu ac mae cymunedau ledled Cymru yn talu'r pris am eu methiant.
A nawr mae Llafur yn troi ei chefn ar fusnesau teuluol gweithgar ledled Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Maent yn cael gwared ar ryddhad eiddo busnes, gan daro busnesau teuluol a arferai gyflogi pobl ym maes gweithgynhyrchu, adeiladu, logisteg—busnesau a adeiladwyd dros genedlaethau, busnesau sy'n talu eu trethi, yn cefnogi ein cymunedau ac yn rhoi swyddi da i bobl a chyflogaeth solet. Mae Llafur yn gweld y busnesau hynny'n goeden arian i dalu am eu gwariant cynyddol tra'u bod yn gwthio agenda globaliaeth sy'n cynnal corfforaethau mawr a'r marchnadoedd stoc yn hytrach na'r busnesau teuluol lleol sy'n gyrru ein heconomi yma ledled Cymru. Dyna'r busnesau sy'n noddi ein timau rygbi lleol, yn darparu prentisiaethau, yn rhoi eu pecyn cyflog cyntaf i bobl ifanc. Ac eto mae Llafur yn eu cosbi—yn eu cosbi am fod yn llwyddiannus—tra'u bod yn troi llygad dall at gorfforaethau mawr ledled y wlad. Ni allwch honni eich bod yn sefyll dros y gweithwyr tra byddwch yn cosbi'r busnesau sy'n eu cyflogi.
Mae Llafur yn gwneud cam â Chymru, ond gadewch inni beidio ag esgus mai Reform yw'r ateb. Maent hwy'n pedlera gwleidyddiaeth ffantasi, yn addo toriadau treth a gwariant enfawr ar les, a'r gweddill i gyd heb unrhyw gynlluniau i dalu amdano. Un diwrnod, maent yn apelio at y chwith; y diwrnod wedyn, maent yn apelio at y dde, gan ddweud wrth bawb yn union beth y maent eisiau ei glywed a thrin y cyhoedd yng Nghymru fel pe baent yn ffyliaid. Rwy'n credu bod Nigel Farage yn debyg braidd i Jeremy Corbyn, ond y gwahaniaeth rhwng Jeremy Corbyn a Nigel Farage yw bod Jeremy Corbyn yn credu mewn rhywbeth mewn gwirionedd, ond byddai Nigel Farage yn dweud unrhyw beth am bleidlais.
Mae Llafur yn gwneud cam â ni. Mae Reform UK yn dweud celwydd wrthym. Nid oes cynlluniau gan Blaid Cymru, ac mae Cymru'n haeddu gwell. Rydym angen Llywodraeth a fydd yn rheoli mewnfudo anghyfreithlon ac yn chwalu'r gangiau i ddiogelu ein ffiniau, Llywodraeth sy'n cefnogi ein busnesau teuluol, mawr a bach, fel y gallant barhau i gyflogi pobl leol ac adeiladu ein heconomi, Llywodraeth sy'n diogelu ein pensiynwyr sydd wedi gweithio ar hyd eu hoes i gefnogi ein gwlad, a Llywodraeth sy'n cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd a thyfu'r economi wledig. Maent angen Llywodraeth gyfrifol i redeg yr economi gyda disgyblaeth, gonestrwydd a chynllun.
Ddirprwy Lywydd, nid ffyliaid yw pobl Cymru. Maent yn gweld methiant Llafur yma yng Nghymru; maent yn gweld ffantasïau Reform; ac maent yn gweld bod Plaid Cymru eisiau rhwygo Cymru'n rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig. Yr hyn y mae pobl ei eisiau yw gonestrwydd a gweithredu gan Lywodraeth a fydd yn sefyll dros Gymru, a'r unig blaid yn y Senedd hon ac ar draws y Deyrnas Unedig a all wneud hynny—
Dowch i ben nawr, James, os gwelwch yn dda.
—yw'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol.
Ddirprwy Lywydd, roedd dau o'r ychydig ymrwymiadau penodol a wnaed i Gymru flwyddyn yn ôl ym maes cyfiawnder, sef i adolygu'r gwasanaeth prawf, gan gynnwys archwilio datganoli gwasanaethau, ac i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid. Roedd yna siarad gobeithiol am bartneriaeth lle bu tadofalaeth. Mae'r hyn sydd wedi deillio o'r ymrwymiadau hynny'n dweud llawer wrthym am gyflwr ein democratiaeth. Cafodd cylch gorchwyl yr adolygiad o'r gwasanaeth prawf ei ffeilio yn Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin fis Hydref diwethaf, a'i selio i bob pwrpas rhag ei graffu gan y cyhoedd. Dim galwad am dystiolaeth, dim canfyddiadau interim, dim amserlen. Os mai partneriaeth yw hyn, mae'n bartneriaeth yn y dirgel.
Yr wythnos diwethaf, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol am sgyrsiau cadarnhaol a pharatoi i ddatganoli. Ond pan fyddwn yn pwyso am fanylion ac am sylwedd, cynigir litwrgi cyfarwydd o esgusodion San Steffan, dim dyddiad ar gyfer datganoli, dim Bil drafft, dim penawdau cytundeb. Ac eto gall Llywodraeth Lafur y DU honni nad ydynt yn torri eu haddewidion am y gwyddom mai 'ystyried', 'archwilio', 'adolygu', fel y bydd unrhyw un sydd wedi ysgrifennu maniffesto yn gwybod, yw'r eirfa wleidyddol am oedi di-ben-draw.
Mae £700 miliwn o bunnoedd wedi'i gyhoeddi ar gyfer y gwasanaeth prawf; mae 1,300 o recriwtiaid newydd i'w hyfforddi—datblygiadau i'w croesawu. Ond ceir distawrwydd ar un cwestiwn allweddol: pwy fydd yn penderfynu sut y caiff yr adnoddau hyn eu defnyddio yng Nghymru? Ac ni fydd adnoddau'n unig yn datrys yr argyfwng. Mae'r prif arolygydd prawf ei hun wedi rhybuddio y byddai ehangu dedfrydau cymunedol heb gyweirio'r gwasanaeth prawf yn drychinebus i ddiogelwch y cyhoedd. Ond mae Cymru, gyda'i dull integredig posibl o weithredu ar iechyd, addysg, tai a chyfiawnder, wedi'i gwahardd rhag cynnig atebion. Nid cwestiwn gweinyddol yw hwn. Ydy, mae'n gwestiwn cyfansoddiadol, ond mae hefyd yn fater o fywyd neu fywyd yn y carchar i droseddwyr. Mae'n fater o fywyd neu farwolaeth i'w dioddefwyr posibl.
Siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet am y cynnydd a wnaed yng Nghymru gyda'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid ar leihau niferoedd ieuenctid yn y ddalfa, er gwaethaf y dylanwad cyfyngedig sydd gennym. Mae'r cynnydd hwnnw'n deillio o gymhwyso dull Cymreig unigryw, integredig, ystyriol o drawma, sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ac wedi'i wreiddio yn y ddealltwriaeth mai dial wedi'i wisgo yn nillad cyfraith yn unig yw cyfiawnder heb dosturi.
Ond mae ein llwyddiant wedi'i gyfyngu gan y cawell cyfansoddiadol y gweithredwn o'i fewn. Pan fydd sefydliad troseddwyr ifanc Parc yn llawn, caiff plant Cymru eu hanfon dros y ffin, a'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, oddi wrth eu diwylliant, oddi wrth wreiddiau eu hadsefydliad eu hunain. Dychmygwch fachgen 16 oed o Gymru, yn gythryblus ac yn ofnus, yn cael ei gludo i garchar mewn gwlad arall, lle nad oes neb yn siarad ei iaith, efallai, lle nad oes neb yn deall y gymuned a'i siapiodd yn sicr. Nid anghyfleustra yw hyn. Dyma fynd ati'n systematig i chwalu gobaith. Nid cyfiawnder ydyw, ond alltudiaeth fel cosb. Mae pob comisiwn—Silk, Thomas—wedi dod i'r un casgliad. Rhaid i bwerau cyfiawnder gyd-fynd â gwasanaethau datganoledig. Mae'r Alban yn llywodraethu ei system gyfiawnder ei hun gyda rhagoriaeth. Mae Gogledd Iwerddon yn siapio ei llwybr ei hun gyda balchder. Dywedir wrth Gymru'n unig am aros.
Ar ôl blwyddyn lawn o bartneriaeth, ni chawsom unrhyw ddeddfwriaeth ddrafft, dim dyddiad targed ar gyfer trosglwyddo pŵer, dim cyllideb amlinellol i allu cynllunio. Mae geiriau cynnes ac addewidion gwag yn swnio'n fwy fel tadofalaeth na phartneriaeth i mi. Felly, a gaf i awgrymu tri cham i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ddatgan ein hawliau democrataidd? Yn gyntaf, cyhoeddwch eich cynllun gweithredu manwl eich hun ar gyfer datganoli ac yna, ailgynlluniwch gyfiawnder ieuenctid a phrawf. Gwnewch hynny dros yr haf, fel y gallwn weld y cynllun a'i drafod pan fyddwn yn dychwelyd. Ataliwch gydsyniad deddfwriaethol ar holl Filiau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y dyfodol hyd nes bod San Steffan yn parchu ei hymrwymiad. A chyflwynwch gais ffurfiol, gydag amser penodol ar gyfer datganoli'r pwerau hyn yng Nghyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau nesaf. Neu dyma'r dewis arall: peidiwch â gwneud unrhyw beth, a derbyniwch fod addewidion a wnaed i Gymru yn ymrwymiadau nad oes neb yn disgwyl iddynt gael eu cadw. Does bosibl nad oes gennym fwy o hunan-barch na hynny.
Roedd yn rhyddhad enfawr pan enillodd Llafur etholiad Llywodraeth y DU y llynedd. Pe bai'r Ceidwadwyr wedi parhau ar yr un trywydd, byddem wedi bod £6 biliwn yn waeth ein byd. Roedd cynghorau ledled y DU eisoes ar fin mynd yn fethdalwyr. Roedd athrawon, meddygon, gweithwyr rheilffyrdd a gyrwyr bysiau yn streicio, ac roedd y gwasanaethau cyhoeddus y dibynnwn arnynt i gael bywyd gweddus ar eu gliniau, ar fin chwalu. Etifeddodd y Ceidwadwyr economi lwyddiannus yn 2010 a'i chwalu. Ein gwasanaethau cyhoeddus yw un o'n cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, gan ddod â chyfoeth ac iechyd i'n cymunedau, a buddsoddi mewn pobl. Mae Llywodraeth Lafur y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, wedi datgloi setliad uwch nag erioed sy'n werth £21 biliwn yng Nghymru, ac mae'n cael ei fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn.
Carolyn, a wnewch chi dderbyn ymyriad bach? A ydych chi'n ymwybodol fod Liam Byrne wedi gadael nodyn yn dweud, 'Nid oes arian ar ôl'?
Jôc oedd hynny.
Nid oes unrhyw arian ar ôl. Dim.
Jôc oedd hi. Mae pobl eisiau gweld strydoedd glân, apwyntiadau iechyd pan fo angen, tai gweddus a ffyrdd heb dyllau. Dyfarnwyd codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus, a bu modd osgoi streiciau, gallodd y gwaith barhau. Mae cyllid wedi mynd i'r GIG, mae rhestrau aros yn dod i lawr, ac o'r diwedd mae gennym gyllid cyfalaf ar gyfer adeiladu unedau orthopedig, darparu gofal arbenigol, technolegau newydd ar gyfer ysgolion a thai, ac atgyweirio'r rhwydwaith ffyrdd. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cytundebau masnach gyda'r Unol Daleithiau ac India, a diolch byth, mae'n ailadeiladu cysylltiadau â'r UE, ein cymdogion agosaf.
Mae llawer o amser y Prif Weinidog wedi cael ei dreulio ar ddiplomyddiaeth mewn byd sydd mor fregus. Cafwyd pedwar toriad i gyfraddau llog, mae miloedd o swyddi wedi'u creu, ac mae cyflogau wedi codi mwy nag yn y 10 mlynedd olaf o Lywodraeth Dorïaidd. Mae'r isafswm cyflog wedi cynyddu. Mae yna fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a swyddi gwyrdd, a fydd yn y pen draw yn rhoi diogeledd ynni ac yn gostwng costau, gan helpu gyda'r argyfwng costau byw.
Wedyn, gan ddilyn esiampl Cymru, sy'n wych i'n cymdogion, maent wedi ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i 0.5 miliwn o blant ac wedi agor clybiau brecwast am ddim, gan ddilyn esiampl Cymru, fel y dywedais. Maent yn ailadeiladu tai cyngor, mae gennym docynnau bws am ddim i rai dros 60 oed, ac fe geir cais yn Lloegr bellach i'w ostwng o oedran pensiwn. Maent yn gwladoli'r gwasanaeth rheilffyrdd ac yn diwygio gwasanaethau bysiau hefyd, fel ninnau.
Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud bod 34 o gyfarfodydd rhynglywodraethol wedi bod ers mis Medi, ac rwy'n cofio bod Llywodraethau datganoledig wedi'u gadael allan or blaen, cawsant eu trin heb barch fel llywodraeth israddol. Os nad oedd cyllid yn dod mewn ffordd dryloyw gan Drysorlys Llywodraeth y DU, roedd yn aml i'w ganfod i lawr cefn y soffa ar gyfer eu blaenoriaethau pan ofynnem ble oedd ein cyfran ni. Roeddent yn lladd ar Gymru'n bwrpasol i geisio gwneud i Lywodraeth Lafur Cymru fethu. Aeth y tlodion yn dlotach a'r cyfoethog yn gyfoethocach oddi tanynt, ac nid ydym eisiau dychwelyd at hynny.
Nid ydym ychwaith eisiau Nigel Farage y banciwr-filiwynydd a'r addolwr Thatcher a addysgwyd yn breifat yn gyfrifol am bolisi a chyllidebau, pethau y mae'n tueddu i'w ffugio yn y fan a'r lle. Byddai'r niwed yn ddinistriol i Gymru. Beth y mae'n ei wybod am degwch, cymunedau a chyfiawnder cymdeithasol? Fe gynorthwyodd i achosi Brexit cyn diflannu, dod yn AS ac yna fe aeth i America. Nid yw'n poeni dim am yr argyfwng costau byw, pleidleisiodd yn erbyn y Bil hawliau gweithwyr, mae wedi siarad am system gofal iechyd sy'n seiliedig ar yswiriant ac fel y Torïaid, mae'n credu mewn torri gwasanaethau cyhoeddus ymhellach, cam a fydd yn effeithio ar iechyd a lles pawb.
Mae llawer wedi'i wneud ac mae llawer i'w wneud gyda'r ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd. Gallwn weld y manteision eisoes, gyda gwelliannau i gostau byw, ein heconomi, cyflogau a'n gwasanaethau cyhoeddus, ond bydd yn cymryd y blynyddoedd nesaf i weld effaith lawn a ffrwyth buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Lafur y DU, sydd ond wedi bod mewn grym ers blwyddyn. Diolch.
Beth yw pwrpas cael pŵer? Tybed a yw'r cwestiwn hwnnw byth yn trwblu meddyliau'r rhai yng Nghabinet y DU—unigolion sy'n ymddangos fel pe baent yn cael eu cymell gan yr awydd i allu gwneud pethau, yn hytrach na'r awydd i wneud daioni, o reidrwydd. Roedd Blair ei hun wedi dweud bod pŵer heb egwyddor yn ddiffrwyth, datganiad chwerw o eironig nawr pan allwn weld cyflwr Ozymandaidd diffaith ei agwedd. Ond mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi heneiddio'r Blaid Lafur.
Rwy'n meddwl am eiriau'r bardd a'r dyngarwr Americanaidd Samuel Ullman, nad oes neb yn heneiddio trwy fyw hyn a hyn o flynyddoedd: rydym yn heneiddio trwy droi cefn ar ein delfrydau. Gall blynyddoedd grebachu'r croen, ond mae rhoi'r gorau i frwdfrydedd yn crebachu'r enaid. Mae eleni wedi crebachu enaid y blaid hon a fu unwaith yn nerthol. Pan edrychwn ar y proffil a gyflwynant i'r byd, beth a welwn? Plaid sy'n blaenoriaethu ffigurau ar daenlenni, yn hytrach na ffigyrau mewn argyfwng; un sydd ag obsesiwn ynghylch cadw at reolau cyllidol mympwyol Llywodraethau Torïaidd a fu, yn hytrach na mapio ei llwybr ei hun dros gyfiawnder.
Yn rhy aml, mae Plaid Lafur heddiw yn San Steffan yn gwarchod ei phŵer ei hun yn genfigennus yn hytrach na'i ddefnyddio er daioni. Mae'n blaid sydd wedi cefnu ar ei chraidd moesol. Fel y clywsom, un o weithredoedd cyntaf y Llywodraeth Lafur hon oedd gwahardd ei Haelodau Seneddol a bleidleisiodd dros gael gwared ar y cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau, ac un o'r gweithredoedd diweddaraf fu glynu at doriadau i bobl sâl ac anabl, toriadau na wnaethant gyfaddawdu arnynt mewn unrhyw ffordd hyd nes y daeth yn amlwg eu bod yn mynd i golli pleidlais—colli pleidlais, nid oherwydd eu bod yn ofni eu bod wedi colli eu henaid. Felly, fe wnaethant benderfynu achosi'r boen fwyaf i'r bobl hynny a fydd yn dod yn anabl yn y dyfodol; allan o'u golwg uniongyrchol, allan o'u meddyliau, gan drin y bobl anabl hynny yn y dyfodol fel y niwed cyfochrog sydd ei angen i ennill pleidlais yn San Steffan.
Na, nid wyneb Dorian Gray a ddangosant, wyneb sy'n esgus bod yn foesol ac yn onest. Dyma'r wyneb yr oeddent i fod i'w gadw dan glo, wedi'i arddangos yn ei holl apathi erchyll; wyneb sy'n gwisgo creithiau pob delfryd a daflwyd ymaith, wyneb wedi'i gamystumio a'i grebachu gan bob methiant moesol; wyneb a gaiff ei ysgythru a'i rychu o'r newydd gan bob creulondeb a ddioddefir, pob cyfle a gollir i newid pethau.
Roedd Llafur i fod yn wahanol. Dyna pam y mae'r toriadau hyn yn brifo cymaint, oherwydd yn hytrach na'u bod wedi defnyddio eu mwyafrif fel esgus i arwain, maent wedi dewis dilyn uniongrededd crwca yr hyn a aeth o'r blaen, gan ailddiffinio eu hunain, nid fel plaid y gweithwyr, ond fel plaid gwaith, a gadael i'r rheolau cyllidol hunan-osodedig hynny weithredu fel caethwasgod ar unrhyw bolisi blaengar. Mae'n ymddangos bod y caethiwed hwnnw wedi dod yn athrawiaeth i Lafur.
Yn yr wythnosau cyn yr etholiad flwyddyn yn ôl, roedd sylwebwyr wedi cymharu sefyllfa Keir Starmer i ddyn yn cario fâs Ming dros lawr wedi'i sgleinio'n helaeth, i ddefnyddio cymhariaeth Roy Jenkins. Roeddent yn ei weld fel dyn y mae ei ffocws wedi'i dynghedu i beidio ag ehangu gobaith na gweledigaeth, ond yn hytrach ei gulhau, a bod mor ddof a chaeth â phosibl, gan addo fawr ddim er mwyn peidio â dychryn y pleidleiswyr na'r marchnadoedd. Gan fod y pŵer hwnnw ganddynt bellach, gan eu bod wedi symud y fâs ar draws y llawr sgleiniog, nid ydynt i'w gweld yn gallu tynnu'r ffrwyn, ac ymysgwyd o hualau caethiwed. Dro ar ôl tro, mae Llafur i'w gweld wedi'i pharlysu naill ai gan ddiffyg penderfyniad neu ddiffyg gweledigaeth ac wedi anghofio mai'r union adeg pan nad oes unrhyw rym canolog yn eich gwthio ymlaen y bydd pethau'n cwympo'n ddarnau mewn gwirionedd, y bydd y mwgwd yn llithro, gan ddatgelu'r gwactod garw a chreulon oddi tano.
Mae yna un wers olaf o ddarlun Wilde o Dorian Gray, gwers i Blaid Lafur sydd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn colli ei ffordd. Mae'r Arglwydd Henry'n dweud wrth Dorian:
'Y dyddiau hyn mae pobl yn gwybod pris popeth a gwerth dim byd.'
Trasiedi'r Blaid Lafur heddiw yw eu bod wedi methu'n llwyr â dysgu'r wers honno. A'r drasiedi i ni, y bobl, yw ei bod yn ymddangos nad oes ganddynt fawr o awydd newid. Ddirprwy Lywydd, mae'r pris a dalwn o dan y system hon yn San Steffan yn mynd yn ddrytach bob dydd. Rhaid i rywbeth roi.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, oherwydd, wrth gwrs, mae'n gyfle arall i'w groesawu i ddathlu'r enillion Llafur a wnaed yn yr etholiad cyffredinol ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn enwedig yng Nghymru, lle nad oes unrhyw Aelodau Seneddol Ceidwadol mwyach, rhywbeth rwy'n hoff o atgoffa'r Aelodau ohono pan fyddant yn cyflwyno eu gwleidyddiaeth ffantasi ar y meinciau gyferbyn. Mae'n gyfle arall i groesawu Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n gallu gweithio gyda'n Llywodraeth Lafur ni yma yng Nghaerdydd—Llywodraeth sydd â diddordeb mewn hyrwyddo buddiannau pobl Cymru a datganoli ei hun; mor wahanol i anhrefn llwyr y Llywodraethau Ceidwadol dros y 14 mlynedd blaenorol, a weithiodd mor galed i droi'r cloc yn ôl ar Gymru a datganoli—Llywodraeth, os caf eich atgoffa, a dorrodd gonfensiwn Sewel dro ar ôl tro, gan gynnwys ar ddau achlysur yn nyddiau olaf y Senedd ddiwethaf.
Mae hwn yn gyfle i ddathlu popeth y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi'i gyflawni dros y 12 mis diwethaf a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru ac ar draws y DU. Felly, i nodi pen-blwydd cyntaf Llywodraeth Lafur y DU, rwy'n cynnig yr enghreifftiau canlynol i chi o sut y mae o fudd i bobl Cymru: isafswm cyflog cenedlaethol uwch, cyflog byw cenedlaethol i oddeutu 160,000 o weithwyr yng Nghymru, na fyddai wedi digwydd o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol; diwygio hawliau gweithwyr er gwell trwy'r Bil Hawliau Cyflogaeth, rhywbeth yr ydym yn ei groesawu'n fawr ar ôl yr ymosodiad dinistriol ar hawliau gweithwyr gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol; uwchraddio signal symudol mewn rhannau gwledig o Gymru, rhywbeth a esgeuluswyd yn ofnadwy gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol; gwella tai milwrol Cymru yn yr adolygiad amddiffyn strategol, a esgeuluswyd yn gywilyddus gan y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol; recriwtio 150 o swyddogion plismona yn y gymdogaeth; sefydlu arbenigwyr cam-drin domestig mewn ystafelloedd rheoli 999; gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lanhau afon Gwy; ffefryn personol i mi, dad-droseddoli cysgu allan ar ôl 200 mlynedd, cam i'w groesawu y dylem i gyd ei ddathlu; buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws gogledd Cymru; cyflwyno deddf newydd i greu cenhedlaeth ddi-fwg a gwahardd gwerthu fêps i blant dan 18 oed; trosglwyddo'r gronfa fuddsoddi wrth gefn yng nghynllun pensiwn y glowyr i ymddiriedolwyr y cynllun o'r diwedd, rhywbeth a esgeuluswyd yn gywilyddus gan y Llywodraeth Geidwadol; ac wrth gwrs, yn olaf ond nid yn lleiaf yn y rhestr benodol hon—mae eraill i'w cael—buddsoddi yn niogelwch tomenni glo gyda Llywodraeth Cymru.
Ac mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at gyllideb yr hydref y DU a'r adolygiad o wariant, oherwydd er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol byd-eang anodd parhaus, cafodd Cymru gynnydd defnyddiol i refeniw a chyfalaf yn y ddau ddigwyddiad cyllidol hwnnw—cyllid sydd, oherwydd y gyllideb flaengar y bu modd i ni ei phasio er gwaethaf Plaid Cymru, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol heddiw yng Nghymru. Mae'n torri amseroedd aros, mae'n helpu i godi safonau mewn ystafelloedd dosbarth, mae'n creu mwy o swyddi, mae'n helpu i adeiladu mwy o gartrefi ac mae'n dod â threnau newydd hyfryd i bobl ledled Cymru.
Mae'r adolygiad o wariant hefyd wedi darparu buddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith rheilffyrdd, sy'n mynd beth o'r ffordd i unioni tanariannu hanesyddol rheilffyrdd Cymru ac yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bawb. Byddwn yn parhau i wneud yr achos dros fwy wrth gwrs. Rwyf am fod yn glir iawn fod y cyllid rheilffyrdd yn rhan o becyn yr adolygiad o wariant oherwydd ein bod wedi gallu gweithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth Lafur y DU, sy'n deall pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith a buddsoddi yng Nghymru. A gaf i atgoffa'r Aelodau ar draws y Siambr pa mor wahanol yw hyn i'r Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf a'i chyllidebau olaf? Y cynigion pitw o gyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith a dim byd ar gyfer y rheilffyrdd.
Ond wrth gwrs, nid ydym wedi clywed dim o hyn oddi ar feinciau Plaid Cymru heddiw, er gwaethaf eu hobsesiwn gyda'r Blaid Lafur, oherwydd dyma blaid sy'n cael cysur o lapio'i hun mewn carthen o ddiflastod a siom. Prin y gall ddangos llond llwy de o frwdfrydedd neu obaith dros Gymru, felly pam y dylem ddisgwyl iddi fod yn gyffrous wrth weld diwedd ar Lywodraeth Dorïaidd ofnadwy? Cyn i'r etholiad cyffredinol gael ei alw hyd yn oed, roedd Plaid Cymru wedi penderfynu y byddai'n cael ei siomi gan Lafur, ac fel daroganwr syrcas, mae'r blaid gyferbyn wedi cyflawni eu proffwydoliaeth heddiw trwy dicio pob un o'r siomedigaethau a ragwelwyd mewn manylder diflas. Efallai y byddai'n well gan Blaid Cymru Lywodraeth Geidwadol; rydych chi'n sicr yn pleidleisio gyda'r Torïaid yn ddigon rheolaidd.
Mewn cyferbyniad llwyr, rydym ni'n realistig ac yn optimistaidd. Rydym yn parhau i weithio'n galed fel bod llais Cymru'n cael ei glywed ac i sicrhau cyllidebau i wella bywydau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—yn wahanol iawn i Blaid Cymru. Wrth gwrs.
Diolch. Rydym wedi trafod y diffyg yn yr arian a gafodd Cymru oherwydd Barnetteiddio'r cyfraniadau yswiriant gwladol sawl gwaith. Pan holodd Llinos Medi ynglŷn â hyn heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru nad oedd hi'n ymwybodol o unrhyw ddiffyg. Os nad yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymwybodol o'r diffyg gyda chyfraniadau yswiriant gwladol, sut y gallwn ni gredu bod yna bartneriaeth mewn grym?
Un o'r pethau nad ydych chi'n gallu ei ddirnad, mae'n ymddangos i mi, yw mai dim ond 12 mis o Lywodraeth Lafur a gawsom hyd yma, ac mewn 12 mis, ni all unrhyw Lywodraeth drwsio popeth. Mae'n wahanol iawn i blaid sydd wedi bod mewn grym ers amser maith, i wybod sut i fod yn realistig ac yn optimistaidd. Rydych chi'n meddwl y gallai unrhyw un, unrhyw Lywodraeth o unrhyw liw, fod wedi gwella o'r clwyfau dwfn a achoswyd gan 14 mlynedd o anhrefn Torïaidd i gyd ar unwaith. Ni fydd un gyllideb ac un adolygiad o wariant yn gwrthdroi'r toriadau dwfn Torïaidd ac yn adfer yr holl wasanaethau a ddiflannodd yn ystod y blynyddoedd hir a phoenus o gyni diangen. Ni fydd blwyddyn o Lywodraeth Lafur yn cael gwared ar fanciau bwyd neu'n dod â'n dibyniaeth arnynt i ben. Bydd y niwed a achoswyd gan Lywodraethau Cameron, May, Johnson, Truss a Sunak—mawredd, fe aethant trwy Brif Weinidogion—yn cymryd amser i wella. A chyda llaw, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gweld bod—
Cyn inni fynd ymhellach, os gwelwch yn dda, rwy'n hoffi gwrando ar gyfraniadau pob Aelod, yn cynnwys Gweinidogion y Llywodraeth, ac ni allaf glywed y cyfraniad oherwydd y sŵn yn y Siambr. Hoffwn i'r Aelodau ganiatáu i'r cyfraniad gael ei wneud mewn tawelwch.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet?
Yn sicr.
Fe ddywedoch chi na allwch drwsio popeth mewn 12 mis ac na allwch wneud i fanciau bwyd ddiflannu'n wyrthiol, ond a ydych chi'n cydnabod yr hyn y mae Trussell wedi'i ddweud, fod gweithredoedd Llywodraeth Lafur y DU yn mynd i wneud dibyniaeth ar fanciau bwyd yn fwy dwys, yn waeth?
Ond y pwynt yw mai dim ond ers blwyddyn y maent wedi bod mewn grym, ac eisoes yn y flwyddyn honno maent wedi gwneud cynnydd enfawr. Maent eisoes yn cynnal adolygiad o'r system. Mae angen i chi aros i weld beth fydd yr adolygiad hwnnw'n ei gynhyrchu. Rwy'n ailadrodd na all neb drwsio'r niwed a achoswyd gan Lywodraethau Cameron, May, Johnson, Truss a Sunak.
Ond roeddwn eisiau dweud hefyd, gyda llaw, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn gweld heddiw fod Mr Sunak wedi cael ail swydd yn Goldman Sachs, un y dywedwyd wrtho y byddai'n creu gwrthdaro buddiannau. Rwy'n siŵr ei bod hi'n galed iawn ar y truan; mae wedi cadw ei swydd fel AS ar yr un pryd. Rwy'n siŵr fod y bobl y mae'n eu cynrychioli wrth eu boddau.
Bydd yna lwyddiannau a methiannau ar y daith i unrhyw Lywodraeth, a phob un yn cael ei chwyddo ym mhenawdau'r dydd, ond Ddirprwy Lywydd, gadewch imi fod yn glir, mae Cymru'n bendant yn well ei byd o gael Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Mae'r Llywodraeth honno'n rhoi llwyfan cadarn i ni ar gyfer newid cadarnhaol a blaengar sydd eisoes wedi bod o fudd i bobl yng Nghymru, llwyfan i wella'r gwasanaethau bob dydd y mae pobl yn dibynnu arnynt—[Torri ar draws.] Rwyf wedi gorffen nawr, mae'n ddrwg gennyf—i gryfhau'r economi, i greu dyfodol mwy disglair i bawb, ac i fod yn goelcerth o obaith mewn tirwedd sy'n llwm iawn fel arall.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Gadewch i ni gychwyn efo datganiad o'r amlwg: siom—a siom ddofn—fu blwyddyn gyntaf Llafur mewn Llywodraeth. Dwi'n dweud hynny fel rhywun wnaeth ddim pleidleisio dros Lafur yn yr etholiad hwnnw, achos rôn i'n gallu gweld bod angen Plaid Cymru i fod yn llais i Gymru. Ond oeddwn, mi oeddwn i'n cytuno bod angen newid bryd hynny. Ond mae eisiau cofio, onid oes, pam ein bod ni eisiau newid: nid o ran chwilfrydedd, nid er mwyn cael wynebau ffres, ond er mwyn cael cyfeiriad newydd, er mwyn sicrhau bod yna obaith newydd yn cael ei gynnig i bobl, i dynnu'r pwysau oddi ar y mwyaf bregus, ac, i fi fel Cymro, er mwyn gweld oedd yna fodd cael atebion newydd i rai o'r problemau sy'n cael eu wynebu gan ein cymunedau ni.
Ond siom ar ôl siom ar ôl siom cawsom ni. Mae hynny wedi tanseilio Llafur, heb os. Rydyn ni'n gweld hynny. Mae hynny’n amlwg. Ond mae hefyd wedi tanseilio ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth. Ac fel mae siaradwr ar ôl siaradwr ar feinciau Plaid Cymru wedi'i ddweud, mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn barod i drio adfer peth o'r ymddiriedaeth yna yma yng Nghymru, er mwyn gallu bwrw ymlaen efo adeiladau gwell dyfodol i Gymru.
Nodaf mai'r unig ymyriad oddi ar y meinciau Llafur yn ystod fy sylwadau agoriadol oedd dweud wrthym beth na all Cymru ei wneud, pa mor dlawd ydym ni. Wel, nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth sy'n rhoi'r ffidl yn y to. Rwyf i a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn credu yng Nghymru, ac rydym yn credu yn y potensial sydd gennym fel cenedl. Dewisodd yr un Aelod bwysleisio ymdeimlad o hawl Llafur, sy'n meddwl mai'r cyfan sy'n rhaid iddynt ei wneud yw cyflwyno unrhyw gyllideb, ni waeth beth sydd ynddi, ni waeth sut y maent yn dymuno rhannu'r gyllideb honno, ac mai lle'r gwrthbleidiau yw pleidleisio drosti. Ni allaf gredu fy mod i'n gorfod dweud hyn wrth Joyce Watson, ond nid dyna sut y mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Roeddem yn profi'r bartneriaeth mewn grym. Dywedwyd wrthym y byddai'r ddwy Lywodraeth yn gweithio law yn llaw, ond y cyfan a gawn, o un diwrnod i'r llall, yw osgoi gweithredu.
Nid wyf yn gwybod ym mha fydysawd rydych chi'n byw, neu ba blaned y byddwch chi'n ei chyrraedd, ond yr hyn rwy'n ei wybod yw eich bod wedi cael cyfle i ddod at y bwrdd gyda chyllideb a gofyn am rywbeth roeddech chi ei eisiau. Nid oeddech am wneud hynny. Roeddech chi eisiau chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl. Dyna beth oeddech chi eisiau ei wneud. Dyna a wnaethoch chi.
Mae hi wedi gwneud y pwynt hwnnw o'r blaen, fel y mae llawer o'i chyd-Aelodau. Nid wyf yn deall pryd y bydd Joyce Watson yn deall mai gwaith gwrthblaid yw dwyn Llywodraeth i gyfrif, ac roeddem yn gwneud hynny dros y gyllideb a gyflwynwyd ar y pryd. Siaradodd y Gweinidog hefyd ar yr un mater—[Torri ar draws.]
Dywedais hyn pan oedd y Gweinidog yn siarad, ac rwy'n ei ddweud yn achos arweinydd Plaid Cymru, sy'n ymateb i'r ddadl: rwy'n hoffi clywed y cyfraniadau, ac ni allaf am eich bod chi i gyd yn gwneud cymaint o sŵn. Gadewch i'r cyfraniad gael ei wneud, os gwelwch yn dda.
Fe wnaeth y Gweinidog yr un cyhuddiad rhyfedd, a syrthiodd y Gweinidog i'r trap eto o feirniadu Plaid Cymru yn hytrach na beirniadu'r anghyfiawnderau y mae Cymru'n parhau i'w hwynebu gan y Llywodraeth Lafur hon, fel o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol. Dewisodd sefyll yma i ddathlu enillion Llafur yn yr etholiad, enillion gwleidyddion Llafur, yn hytrach na dewis siarad am fuddiannau pobl Cymru. Rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn dweud llawer am ymdeimlad y Llywodraeth Lafur hon o hawl.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ildio. Rwyf wedi gwrando ar y ddadl, ond ni allaf beidio â theimlo'r rhagrith llethol o gyfeiriad Plaid Cymru. Rydych chi wedi cynnal Llafur yma yng Nghymru ers cyhyd. Os ydych chi'n anghytuno'n sylfaenol â pholisïau Llafur, fel y nodoch chi, a wnewch chi fel plaid wrthod gwneud unrhyw gytundebau gyda'r Blaid Lafur yn y dyfodol wedi 2026 ac ymhell wedyn?
Nid wyf yn deall rhagrith y Torïaid, atalnod llawn—ac fe'i gadawaf ar hynny.
Yr hyn a gawsom gan y Gweinidog oedd datganiad fod Llafur ond wedi bod mewn grym ers 12 mis yn unig ac na ellid trwsio popeth mewn 12 mis. Mae pethau wedi gwaethygu yn y 12 mis hwnnw—dyna'r pwynt. Mae pobl wedi gweld problemau a oedd yn llesteirio ein cymunedau yn amlhau trwy weithredoedd Llywodraeth y DU. Nid yw Llafur yn deall.
Fel y dywedodd Heledd Fychan, cawsom Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud yn San Steffan heddiw nad oedd hi hyd yn oed yn ymwybodol o'r asesiad sy'n dangos bod Cymru £70 miliwn ar ei cholled oherwydd y ffordd yr oedd Llywodraeth y DU wedi rhannu arian i wneud iawn am effaith newidiadau i yswiriant gwladol ar y sector cyhoeddus. Mae'n ofnadwy fod gennym Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy'n dewis peidio â deall y problemau a wynebwn o ddydd i ddydd ar y lefel sylfaenol honno. Ac mae'n ofnadwy, a bod yn onest, fod gennym Aelodau o'r Cabinet Llafur yma yn edrych i lawr, ac nid yn edrych arnaf mewn pryder gwirioneddol, o ystyried bod eu cymheiriaid Llafur yn San Steffan yn methu deall y problemau y maent yn gorfod ymrafael â hwy yn Llywodraeth Cymru.
Fe ddof â fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd. Mae Cymru a phobl Cymru wedi cael eu siomi. Maent wedi cael cam gan Lywodraeth Lafur y DU. Gadewch i ni gyda'n gilydd—ac mae'n apêl i Aelodau Llafur yma hefyd, yn ogystal ag Aelodau o'r holl bleidiau gwleidyddol—barhau i wasgu ar y Llywodraeth honno, yn hytrach na dathlu rhestr ddiflas o bethau y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi eu cyflawni sy'n gwneud cam â phobl Cymru. Mae gennym Lywodraeth Lafur yma sy'n dathlu hynny. Gadewch inni barhau i wasgu arnynt, i fynnu'r hyn sy'n iawn i bobl Cymru. Bydd Plaid Cymru bob amser yn gwneud hynny. A gadewch inni edrych ymlaen at yr hyn y gall Cymru ei gyflawni o dan arweinyddiaeth newydd Plaid Cymru o fis Mai y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Hannah Blythyn. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr unfed adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, dadl Plaid Cymru ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Llywodraeth y DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8953 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan 14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei phobl.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Llywodraeth y DU. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Eitem 11 sydd nesaf, y ddadl fer. Symudaf yn awr at ddadl fer heddiw. Galwaf ar Janet Finch-Saunders.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn rhoi munud i Joyce Watson, Carolyn Thomas, Sam Rowlands, Tom Giffard, Sam Kurtz a James Evans.
Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi gohebu gyda mi ynglŷn â threillrwydo môr-waelodol, yn cynnwys Ymddiriedolaethau Natur Cymru, WWF Cymru, RSPB Cymru, Rewilding Britain a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol. Nid oes lle gwell i angori'r ddadl hon na chyda sylwadau ein trysor cenedlaethol, Syr David Attenborough:
'Mae llong dreillio môr-waelodol ddiwydiannol fodern yn sgwrio gwely'r môr â chadwyn neu drawst metel, gan orfodi unrhyw beth y mae'n tarfu arnynt i mewn i'r rhwyd tu ôl. Mae'n chwalu ei ffordd ar draws gwely'r môr, gan ddinistrio bron bopeth yn ei lwybr, yn aml i ddal un rhywogaeth yn unig. Caiff bron bopeth arall ei daflu ymaith. Gallai dros dri chwarter dalfa llong dreillio gael ei daflu ymaith. Mae'n anodd dychmygu ffordd fwy gwastraffus o ddal pysgod.'
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
A rhaid imi ddweud, rwy'n cytuno â Syr David Attenborough. Mae'n warth cenedlaethol fod Llywodraeth Cymru'n caniatáu i arferion dinistriol a gwastraffus o'r fath ddigwydd yma yng Nghymru. Mae hyd at 80 y cant o'r pysgod sy'n cael eu dal yn ddiwahân yn rhwydi llongau treillio'n cael eu taflu ymaith neu eu dinistrio. Fel y bydd llawer o gyd-Aelodau'n gwybod, mae treillrwydo môr-waelodol yn derm cyfunol ar gyfer grŵp o bysgod wedi'u taflu ymaith neu eu dinistrio. Fel y bydd llawer o gyd-Aelodau'n gwybod hefyd, maent yn llusgo rhwydi trwm ar draws gwely'r môr a gellir eu diffinio yn ôl yr addasiadau, gan fod gan rai ddannedd metel sy'n treiddio i wely'r môr neu drawstiau metel i gadw'r rhwydi ar agor. Mae'r mathau o offer treillrwydo môr-waelodol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i dreillrwydi trawst, treillrwydi estyllod, treillrwydi yn bâr, rhwydi sân a llusgrwydi.
Nawr, fel y disgrifiodd Syr David Attenborough, mae'r arferion hyn i bob pwrpas yn chwalu trwy gynefinoedd gwely'r môr gan eu dinistrio. Maent yn rhyddhau lefelau uchel o garbon wedi'i storio ac yn dal bywyd morol heb ei dargedu. Mae ardaloedd morol gwarchodedig i fod yn llochesau i fywyd morol, ond dim ond o lai nag 1 y cant o foroedd Cymru sydd o fewn ardal forol warchodedig y mae treillrwydo wedi'i wahardd.
Dim ond un o 139 o ardaloedd morol gwarchodedig Cymru yw ardal forol warchodedig Sgomer. Yn amlwg, nid yw'r dull dinistriol hwn o bysgota'n gydnaws ag ardaloedd morol gwarchodedig. Byddai'n dda cael eglurhad pam eich bod wedi caniatáu dull pysgota o'r fath mewn ardaloedd morol gwarchodedig, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddai croeso mawr i gael gwared ar bolisi mor ddinistriol.
Rwy'n ofni mai'r ateb yn hyn yw bod Llywodraeth Cymru wedi gadael polisi morol heb lyw. Edrychwch ar y dystiolaeth a gyflwynwyd gan ein pwyllgor hinsawdd yma yn ein hadroddiad ar gynnydd tuag at y targed 30x30. Tynnodd Cyswllt Amgylchedd Cymru, WWF Cymru a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol sylw at y ffaith ein bod wedi bod yn aros ers dros ddegawd am barthau cadwraeth morol newydd. Eglurodd RSPB Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at grŵp gorchwyl a gorffen y parth cadwraeth morol ym mis Hydref 2024 i roi gwybod na fyddai ymgynghoriad ffurfiol yn digwydd tan ar ôl etholiad nesaf y Senedd. Fel y casglodd pob un ohonom ar y pwyllgor yn yr adroddiad yn gynharach eleni, mae'r oedi di-ben-draw cyn ymgynghori ar barthau cadwraeth morol yn creu risg o danseilio hyder, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom dro ar ôl tro, mae'n anfon neges bryderus i randdeiliaid am y flaenoriaeth a roddir i gadwraeth forol.
Byddai atal y treillrwydo ysgeler hwn mewn ardaloedd morol gwarchodedig yn un o'r camau mwyaf effeithiol y gallai'r Llywodraeth hon eu cymryd i fodloni ymrwymiadau natur a hinsawdd ar gyfer gwarchod a rheoli 30 y cant o'n môr yn effeithiol erbyn 2030. Soniais fy mod yn rhoi munud i fy nghyd-Aelod Joyce Watson, oherwydd rwy'n gwybod ei bod hi'n teimlo'n gryf iawn ers blynyddoedd am y mater hwn, ac mae hefyd wedi gweithio'n galed i gyflwyno'r mater ar gyfer newid.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ym mis Mehefin 2025 yng nghynhadledd cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig i ystyried gwaharddiadau ar dreillrwydo môr-waelodol ar draws y 41 ardal forol warchodedig yn rhanbarth y môr mawr. Dylai Cymru ddilyn ei hesiampl nawr trwy weithio gyda Llywodraeth y DU. Yn rhy aml mae eich plaid yma wedi dweud, 'O, os cawn Lywodraeth Lafur yn y dyfodol, fe weithiwn yn agosach, byddwn yn gallu cydweithredu'n haws.' Mae gennych un nawr, felly dylech fod yn bwrw iddi nawr i weithio gyda hi i sicrhau bod mesurau rheoli'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig Cymru.
Mae rhoi'r gorau i dreillrwydo môr-waelodol yn bolisi sy'n cefnogi pysgotwyr bach Cymru a chymunedau arfordirol. Ac rwy'n hynod falch o fy mhysgotwyr yng Nghonwy. Nid dyma'r swydd hawsaf yn y byd o bell ffordd. Mae pysgodfa Cymru ar y glannau yn bennaf. Mae'r dwysedd uchaf o dreillrwydo môr-waelodol yng Nghymru yn digwydd yn rhanbarth y môr mawr gan longau o wledydd eraill hyd yn oed. Yn anffodus, mae yna naratif nad yw'n broblem yng Nghymru oherwydd treillrwydo o'r fath. Dengys data pysgota fod cychod o Iwerddon, Cernyw a'r UE yn treillrwydo ar y glannau ac yn rhanbarth môr mawr Cymru, gan greu niwed enfawr. Mewn gwirionedd, fe fyddai poblogaethau morol yn gwella'n sylweddol. A phan ystyriwch fod eich Llywodraeth eich hun wedi datgan argyfwng natur, a'n bod ni i gyd yn gweithio'n galed i geisio gweld rhywogaethau sydd fel arall yn diflannu—. Rydym yn ceisio gweld y rheini'n dychwelyd.
Edrychwch ar ardal forol warchodedig de Arran yn yr Alban, lle mae gwaharddiad o'r fath yn bodoli. Gwelwyd rhywogaethau morol fel cregyn y brenin, penfras yr Iwerydd a chimychiaid yn adfywio. Ym mae Lyme yn ne-orllewin Lloegr, mae'r gwaharddiad ar dreillrwydo o'r fath wedi arwain at gynnydd mawr o 370 y cant yn y rhywogaethau pysgod a ddelir yn fasnachol yn yr ardal forol warchodedig, a chyfoeth y cymysgedd rhywogaethau'n cynyddu 430 y cant.
Felly, gallai'r amgylchedd a'n pysgotwyr fod ar eu hennill pe bai gwaharddiad yn dod i rym yng Nghymru. Gallai newid o'r fath fod yn gyfle cyffrous i roi hwb i'r gwaith o gyflwyno strategaeth bysgodfeydd sy'n ystyried yr hinsawdd yng Nghymru. Byddai hyn yn cynnwys cefnogi trydaneiddio'r fflyd, gan gynnwys newid offer ac ymarfer, ochr yn ochr â chymhelliant pellach a buddsoddiad mewn pysgodfeydd bach dan arweiniad y gymuned, i fod o fudd i'n cymunedau arfordirol yng Nghymru.
Rwyf wedi datgan dro ar ôl tro yn y Senedd y gall cynefinoedd morol fel mwd islanwol ddal a storio cyfeintiau mawr o garbon. Gall diogelu'r cynefinoedd carbon glas hyn rhag niwed atal rhyddhau carbon i'r atmosffer, gan helpu i gyfyngu ar newid hinsawdd. Mewn gwirionedd, mae llawer o garbon eisoes wedi'i storio yng ngwaddodion morol Cymru—o leiaf 113 miliwn tunnell yn y 10 cm uchaf. Mae hyn bron yn 170 y cant o'r carbon a ddelir yn ein coedwigoedd yng Nghymru.
Ers blynyddoedd, rwyf wedi bod yn esbonio'r angen am gynllun datblygu morol cenedlaethol i Gymru, un sy'n dangos yn glir lle gall pob math o brosiect ddigwydd, gan gynnwys yr agenda carbon glas. Ochr yn ochr â hyn, rwyf wedi dweud droeon y dylai fod gan Gymru gynllun adfer carbon glas cenedlaethol. Eto i gyd, nid yw'r Llywodraeth hon yn cyflawni. Nid yw Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn cyflawni. Ar hynny, rwy'n credu ei bod yn warthus, yn eu hadroddiad cynghori—y pedwerydd cynllun cyllideb garbon a'u nodiadau cynghori i'r Llywodraeth hon ynglŷn â gweld gostyngiad dramatig mewn da byw ac amaethyddiaeth. Mae'n gywilyddus.
Ond fel y canfu'r arolwg a gomisiynwyd gan WWF Cymru, mae 79 y cant o'r ymatebwyr yn cefnogi adfer cynefinoedd morol sy'n gyfoethog mewn carbon fel morwellt, morfeydd heli, riffau wystrys, a gwella iechyd ein môr. Diolch byth, mae yna rai ohonom yn y Siambr sydd, fel Syr David Attenborough, eisiau gwneud sblash a rhoi amlygrwydd cyson i bolisi morol. Rydym fel tonnau; ni wnawn roi'r gorau iddi.
Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed gan yr Aelodau eraill heno ac at weld camau'n cael eu cymryd gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedodd Toby Perkins, cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol:
'Rhaid i weinidogion sicrhau bod ardaloedd morol gwarchodedig yn gwneud yr hyn y mae eu henw'n ei ddweud.'
Ond rwy'n rhoi geiriau olaf fy nghyfraniad i Syr Attenborough a ddywedodd, ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd:
'Mae perthynas hollol newydd â'r cefnfor o fewn cyrraedd i ni, perthynas ddoethach, fwy cynaliadwy. Ni pia dewis.'
Rwy'n gobeithio heddiw y byddwn yn penderfynu gweld y wladwriaeth Gymreig ar y trywydd iawn i roi diwedd ar y treillrwydo môr-waelodol dinistriol hwn, drwy wahardd y weithred a'r gweithgaredd yn gyntaf yn ein hardaloedd morol gwarchodedig. Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders, fy nghyd-Aelod, am ddod â phwnc hynod bwysig i'r Siambr i'w drafod heddiw, a gallwch weld hynny yn ôl nifer y bobl sydd wedi aros ar ôl. Fe ddywedodd, ac mae'n wir, fy mod wedi siarad ar y pwnc hwn ar sawl achlysur dros nifer o flynyddoedd, ac yn enwedig effaith llusgrwydo am gregyn bylchog yn yr ardal gadwraeth arbennig ym mae Ceredigion. Mae llusgrwydo am gregyn bylchog, fel mathau eraill o lusgrwydo, yn arfer pysgota hynod ddinistriol. Caiff holl ffurf gwely'r môr ei ddifrodi, wrth i raciau gael eu llusgo i gasglu cregyn bylchog mewn basgedi cadwyn. Mae llawer o arbenigwyr morol wedi dweud nad yw'r difrod a achosir i'r ecosystem o'r gweithgaredd hwn yn agos at fod yn gymesur â'r ddalfa, ac mae Janet eisoes wedi cyfeirio at hynny.
Cafodd y math hwn o bysgota ei atal ym mae Ceredigion yn 2009, ond cafodd ei ailgyflwyno yn 2016 mewn rhai mannau ar adegau penodol o'r flwyddyn. Roeddwn i'n bersonol yn pryderu am hynny ar y pryd, ac rwy'n parhau i fod yr un mor bryderus nawr. Pan gafodd ei ailgyflwyno, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i fonitro'r effaith ar yr ardal bob blwyddyn trwy gynnal asesiad rheoleiddio cynefinoedd cyn bob tymor. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gael y wybodaeth ddiweddaraf am y canfyddiadau hynny, oherwydd rwy'n awyddus iawn i wybod pa effaith y mae llusgrwydo am gregyn bylchog wedi'i chael ar fywyd morol a chynefinoedd ym mae Ceredigion ers ei ailgyflwyno 11 mlynedd yn ôl.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i Janet am gyflwyno'r ddadl fer hon. Fe wnes innau hefyd wylio Ocean gan Syr David Attenborough, gyda fy mab, ac roedd gweld y lluniau o'r dinistr i wely'r môr yn sgil treillrwydo môr-waelodol yn sioc. Fel y dywedoch chi, mae 80 y cant o'r anifeiliaid, y creaduriaid môr hardd, yn cael eu taflu ymaith a'u gwastraffu, a'r effaith ar fioamrywiaeth—roedd yn ofnadwy ei wylio. Ond dywedodd fod gobaith y gallai'r ecosystemau a bioamrywiaeth ymadfer yn fuan pe bai treillrwydo môr-waelodol yn dod i ben. Ac os ydych chi'n creu'r parth cadwraeth morol, bydd yr ymyl allanol hefyd yn ymadfer ar gyfer pysgota—nid ar gyfer treillrwydo môr-waelodol, ond ar gyfer pysgota lleol, sef yr hyn rydym ei eisiau, a dyna yw'r busnes yma yng Nghymru. A bydd gwneud hyn—ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru hefyd—yn ein helpu i gyrraedd ein targedau 30x30. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw ar dreillrwydo môr-waelodol. Rwy'n credu ei bod yn gyntaf yn dangos ehangder y materion y mae'n rhaid inni eu hystyried yn y lle hwn fel Aelodau o'r Senedd. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae Janet Finch-Saunders wedi'i rannu gyda ni heno hefyd yw peth o'r tensiwn a brofir gennym hefyd wrth gydnabod rhai o effeithiau amgylcheddol peth o'r gweithgaredd sy'n digwydd. Ond hefyd mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ddiogeledd bwyd fforddiadwy i bobl yng Nghymru a ledled y DU. Felly, tybed—. Yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn glywed sut y mae'r tensiwn hwnnw'n cael ei reoli'n briodol. Oherwydd rwy'n cydnabod pwysigrwydd bwyd môr yn ein deietau hefyd, a'i fod yn fforddiadwy i bobl, oherwydd fe wyddom am fanteision iechyd bwyd môr—mae'n cynnwys llawer o omega 3, llawer o brotein, llawer o fwynau—ac ni allwn—. Dywedir wrthym y dylem fwyta rhyw fath o fwyd môr ddwywaith yr wythnos i gynnal deiet iach. Felly, ni allwn ganiatáu i ddeiet iach o'r fath ddod yn fraint i'r dosbarthiadau canol yn unig. Felly, rhaid bod cydbwysedd go iawn rhwng y ffordd y cawn fwyd môr fforddiadwy i bobl gan fynd i'r afael ar yr un pryd â rhai o'r pryderon amgylcheddol y tynnoch chi sylw atynt yn briodol iawn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae'n ddadl sy'n ymwneud â threillrwydo môr-waelodol, ond mae hefyd yn ymwneud â diogelu gwely'r môr ledled Cymru. Nid wyf yn credu bod unman yng Nghymru sy'n malio mwy am wely'r môr na gogledd Gŵyr, ym Mhenclawdd, lle mae pobl wedi bod yn casglu cocos ers, wel, roeddwn i'n mynd i ddweud ers cenedlaethau, ond mae pobl wedi bod yn casglu yno ers cyfnod y Rhufeiniaid mewn gwirionedd, ac maent wedi dod yn ddanteithfwyd Abertawe sy'n enwog ledled y byd. Nawr, mae hynny wedi digwydd ers canrifoedd, maent wedi'u casglu gan bobl leol sy'n poeni am wely'r môr a hyfywedd y cocos yn y dyfodol. Ond mae newidiadau deddfwriaethol diweddar gan Lywodraeth Cymru wedi golygu bod pobl wedi heidio i Benclawdd i gasglu cocos, ac nid ydynt wedi adfer gwely'r môr yn yr un modd ag y gwnâi pobl o'r blaen yn lleol. Felly, hoffwn i'r Ysgrifennydd Cabinet, yn ei ymateb—neu, os nad yw ganddo yn ei ymateb, rwy'n hapus iddo ysgrifennu ataf—esbonio rhai o'r newidiadau deddfwriaethol a pham eu bod wedi digwydd. Oherwydd roeddwn ym Mhenclawdd yn ddiweddar ac roedd rhywun wedi gyrru o Lerpwl, o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol diweddar, yn unswydd i gasglu cocos yno. Mae'r trigolion yn bryderus iawn nad yw gwely'r môr yn cael ei ddiogelu ac nad yw hyfywedd cocos ym Mhenclawdd yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol ychwaith.
Cyfraniad byr iawn gennyf i. Diolch i Janet Finch-Saunders am ganiatáu munud i mi ar dreillrwydo môr-waelodol. Os caf fynd ar ôl natur echdynnol hynny, ac ar bwynt Tom Giffard, Ddirprwy Brif Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gynharach eleni, ar 12 Mai—fe wnaethoch chi ymateb—ynglŷn â'r pryderon ynghylch cynaeafu cyllyll môr yn Saundersfoot. Ac er nad yw'r ardal honno'n gymwys ar gyfer casglu cyllyll môr yn fasnachol, yr hyn oedd yn bryderus oedd y llun o faint o bobl sy'n mynd yno at eu 'defnydd personol'. Felly, mae'r natur echdynnol honno'n cael effaith. Ac fe gyfarfûm â rhywun mewn cymhorthfa yn Saundersfoot yn ddiweddar iawn a ofynnodd am roi saib ar gymhwysedd Saundersfoot fel lleoliad i'w casglu, fel y gellir casglu tystiolaeth briodol ynghylch effaith hyn, i sicrhau nad oes unrhyw niwed yn cael ei wneud. Diolch i chi.
Er fy mod yn cynrychioli etholaeth heb arfordir, rwy'n poeni'n fawr am ein cefnforoedd a'n moroedd. Ac nid wyf yn tueddu i anghytuno â fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders yn aml iawn, ond rwy'n credu bod angen inni gael cydbwysedd yma. Rwy'n poeni weithiau am wahardd pethau neu or-reoleiddio, a'r rheswm syml yw bod llawer o'n pysgotwyr yn gwneud eu bywoliaeth o'r môr. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cydbwyso'r cyfraniadau amgylcheddol yn erbyn yr effeithiau economaidd yn sgil gwahardd rhywbeth. Oherwydd mae angen inni wneud yn siŵr—. Mae'r bobl sy'n gwneud bywoliaeth o'r môr hefyd yn gorfod bwydo eu teuluoedd a gofalu am eu cymunedau. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa ddull cytbwys sydd gan Lywodraeth Cymru o weithredu ar hyn i wneud yn siŵr ein bod yn diogelu ein hamgylchedd, ond hefyd yn diogelu ein pysgotwyr yn ogystal.
Ie. Da iawn.
Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon; mae wedi bod yn un dda iawn. Gadewch imi ddechrau trwy ddisgrifio ein pysgodfeydd yng Nghymru sy'n berthnasol i'r ddadl hon. Ac fe wnaf ddechrau trwy ailadrodd yr hyn rwy'n ei ddweud yn aml: nid yw'r hyn sy'n berthnasol i bysgodfeydd yn Lloegr o reidrwydd yn berthnasol i bysgodfeydd Cymru. Mae pysgota yng Nghymru yn cael ei wneud i raddau helaeth gan fflyd fach ar y glannau, sy'n targedu pysgod cregyn. Mae'r defnydd o offer pysgota wedi'u llusgo dros wely'r môr, fel treillrwydi a llusgrwydi, yn nyfroedd ein glannau allan hyd at 12 môr-filltir, yn gyfyngedig. Gwneir y defnydd mwyaf cyffredin o offer o'r fath yn ein pysgodfa cregyn bylchog 60 mlwydd oed, y gwnaethom gyhoeddi cynllun rheoli pysgodfeydd ar ei chyfer yn ddiweddar, a dof at hynny yn y man. Yn y parth ehangach yng Nghymru, mae yna weithgarwch gan longau'r Undeb Ewropeaidd yn y Môr Celtaidd, sy'n targedu cimychiaid Norwy a physgod dyfnforol.
Felly, sut rydym yn rheoli a llywodraethu hyn? Mae'r cyd-ddatganiad pysgodfeydd, y JFS—nid y Janet Finch-Saunders—[Chwerthin.]—a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, yn nodi ein huchelgais cyffredin ledled y DU i weithio gyda'n gilydd i gefnogi sector pysgota a dyframaethu bywiog, proffidiol a chynaliadwy, wedi'i gynnal gan amgylchedd morol iach sy'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd. Mae'r cyd-ddatganiad hefyd yn disgrifio'r defnydd y bydd awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU, gan gynnwys Cymru, yn ei wneud o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, ac mae'n nodi amserlenni ar gyfer eu cyflawni erbyn 2028. Mae'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd hynny wedi'u llunio i gynnal stociau ar lefelau cynaliadwy, neu i'w hadfer i lefelau cynaliadwy. Er mwyn cyflawni hyn, mae pob cynllun yn darparu cynllun ar gyfer gwella rheolaeth pob stoc neu grŵp o stociau yn systematig am chwe blynedd ar ôl cyhoeddi'r cynllun rheoli pysgodfa.
Fel rhan o gynhyrchu a gweithredu pob cynllun rheoli pysgodfa, bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn ceisio nodi a lliniaru unrhyw effaith negyddol y gallai'r pysgodfeydd hyn ei chael ar yr amgylchedd. Bydd yn cynnwys ystyried unrhyw effaith niweidiol bosibl ar ardaloedd morol gwarchodedig a'u nodweddion. Bydd pob cynllun rheoli pysgodfa'n cael ei weithredu mewn ffordd sy'n bodloni wyth amcan Deddf Pysgodfeydd 2020. Nod un o'r rhain—amcan yr ecosystem—yw sicrhau bod unrhyw effeithiau negyddol o bysgota ar ecosystemau morol yn cael eu lleihau, a'u gwrthdroi lle bo hynny'n bosibl.
Nawr, soniais am y bysgodfa gregyn y brenin yng Nghymru, sydd dros 60 oed, ac mae eisoes wedi'i rheoli'n llym iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn awdurdodi tua 20 i 30 o longau llusgrwydo i bysgota cregyn y brenin bob blwyddyn. A chyn i drwyddedau gael eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad rheoleiddio cynefinoedd i sicrhau na fydd y bysgodfa'n cael unrhyw effeithiau niweidiol ar nodweddion gwarchodedig safleoedd morol Ewropeaidd. Ond nid ydym yn hunanfodlon yn hyn, ac mae gwelliannau rheoli pellach wedi'u cynllunio yn rhan o weithredu cynllun rheoli'r bysgodfa cregyn y brenin a gyhoeddwyd yn 2023. Felly, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid yng Nghymru i ddatblygu cynigion ar gyfer fframwaith newydd o fesurau i alluogi rheolaeth addasol ar y bysgodfa hon, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn nhymor y Senedd hon. Nawr, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad â rhanddeiliaid, rydym wedi comisiynu Prifysgol Bangor i ymchwilio i sensitifrwydd gwely'r môr a chadernid yr ecosystem benthig yn yr ardaloedd lle caiff cregyn bylchog eu pysgota i lywio ein dull o reoli yn y dyfodol.
Bydd unrhyw fesurau rheoli ar gyfer gêr llusg arall yng Nghymru'n cael eu datblygu a'u gweithredu'n rhan o gynlluniau rheoli pysgodfeydd eraill, sef cynllun rheoli pysgodfa gwely'r môr Môr Iwerddon a chynllun rheoli pysgodfa gwely'r môr y Môr Celtaidd a gorllewin sianel Lloegr, sydd i fod i'w cyhoeddi yn 2026. Nawr mae Llywodraeth Cymru yn gyd-awdurdodau cynhyrchu'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd hyn, sy'n cael eu paratoi gydag ystod eang o randdeiliaid ac unwaith eto, byddant yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn eu cyhoeddi. Mae cyflwyno rhaglen y cynlluniau rheoli pysgodfeydd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae'n fecanwaith allweddol ar gyfer gwella rheolaeth pysgodfeydd penodol yn systematig a'r defnydd o gêr pysgota penodol, fel gêr llusg môr-waelodol, naill ai o fewn yr ardaloedd morol gwarchodedig neu'n wir, yr amgylchedd morol ehangach hefyd.
Nawr rwy'n deall bod yna bryderon penodol ynghylch ein hardaloedd morol gwarchodedig, a hoffwn fynd i'r afael â hynny'n uniongyrchol. Mae gennym rwydwaith eang o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, sy'n cwmpasu 69 y cant o ardal y glannau a 50 y cant o holl ddyfroedd Cymru. Mae ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru yn gymhleth iawn, gyda chyfanswm o 139 o safleoedd. Mae rhai o'r safleoedd hynny'n fawr iawn ac yn cynnwys diogelwch i rywogaethau symudol a nodweddion cynefinoedd gwely'r môr benthig. Fodd bynnag, fel arfer ni fydd nodweddion cynefinoedd benthig unigol ond yn bodoli ar ran o bob safle ac yn ogystal, ni chaiff rhai safleoedd ond eu dynodi ar gyfer nodweddion rhywogaethau adar môr symudol neu deulu'r morfil yn unig ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw nodweddion benthig dynodedig o gwbl.
Yn ddiweddar, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi'r set gyflawn gyntaf o asesiadau cyflwr, sy'n cwmpasu'r nifer syfrdanol o 84 o nodweddion safleoedd morol Ewropeaidd sy'n gyfan gwbl yng Nghymru. Ac yn gyntaf, ac ar gyfer y cofnod, rwyf am ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith hanfodol hwn, sy'n rhoi llinell sylfaen i ni weithio ohoni, rhywbeth nad ydym wedi'i gael o'r blaen. Ond yn bwysicaf oll, rwyf am dynnu sylw at rai o ganfyddiadau cychwynnol yr asesiadau hynny. Maent wedi canfod nad oedd unrhyw gynefin neu rywogaeth a aseswyd o fewn y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru mewn cyflwr anffafriol oherwydd effeithiau a achosir gan bysgota. Mae hynny'n bwysig iawn. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol bwysig wrth ystyried unrhyw gyfyngiadau pellach ar gêr llusgrwydo môr-waelodol yn rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wnawn yn y dyfodol fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
Felly, o ran parthau cadwraeth morol, Sgomer yw'r unig barth cadwraeth morol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac fe'i sefydlwyd i warchod rhywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae hyn yn cynnwys morloi llwyd a'r fôr-wyntyll binc. Mae'r moroedd o fewn parth cadwraeth morol Sgomer yn destun is-ddeddfau pysgodfeydd penodol, sy'n gwahardd defnyddio gêr pysgota symudol ar wely'r môr, a llusgrwydi a threillrwydi trawst yn benodol. Mae'r ardal hefyd wedi'i gwarchod o dan Orchymyn Pysgota Cregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010, lle gwaherddir defnyddio llusgrwyd cregyn bylchog. Felly, ni ddylai unrhyw weithgaredd treillrwydi trawst na llusgrwydi a ganiateir ddigwydd o fewn y parth cadwraeth morol. Ac yn fwy eang, fe fyddwch yn ymwybodol o fwriad Llywodraeth Cymru i ddynodi parthau cadwraeth morol pellach yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o raglen cwblhau rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig, gyda'r nod o sicrhau bod ein rhwydwaith yn gydlynol, wedi'i chysylltu'n dda ac yn wydn. A rhan o'r gwaith hwn yw chwilio am ardaloedd yn nyfroedd Cymru ar gyfer parthau cadwraeth morol posibl i unioni diffygion a nodwyd mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2018. Rwy'n credu ei bod yn bwysig sôn am y gwaith hwn yma, oherwydd rwyf am sicrhau'r Aelodau y byddwn yn mabwysiadu dull cymesur, cytbwys, cyson, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel y gwnaethom o'r blaen, wrth ystyried yr angen am unrhyw fesurau rheoli posibl, yn enwedig y ffordd y gall mesurau o'r fath effeithio hefyd ar fywoliaeth pobl yn y sector pysgota a'r cymunedau arfordirol y maent yn eu cefnogi.
A thu hwnt i'r asesiadau o gyflwr, rydym yn parhau i adeiladu tystiolaeth i gefnogi ein penderfyniadau. Felly, mae'r prosiect asesu gweithgareddau pysgota Cymru yn rhaglen waith aml-flwyddyn sy'n cael ei chyflawni gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn llywio datblygiad a gweithrediad y cynllun rheoli pysgodfeydd i sicrhau bod amddiffyniad digonol i nodweddion ardal forol warchodedig dynodedig yn unol â Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Bydd yr asesiadau hyn, ynghyd â chyngor cadwraeth gan CNC a'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, a ddarperir yn rhan o'r gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli pysgodfeydd, yn nodi effeithiau posibl gwahanol fathau o gêr ar gynefinoedd morol. Byddant yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli pysgodfeydd priodol, lle bo angen, i ddiogelu nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig rhag gweithgaredd a allai fod yn niweidiol.
Mae sawl asesiad o weithgareddau pysgota Cymru wedi'u cwblhau eisoes, gyda'r gweddill i'w cwblhau eleni. Cyn y cynlluniau rheoli pysgodfeydd, mae asesiadau o weithgareddau pysgota Cymru eisoes wedi'u defnyddio i ddatblygu a gweithredu Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021, a fydd hefyd yn llywio datblygiad cynllun rheoli pysgodfeydd Cymreig ar gyfer cregyn moch yn y dyfodol.
Mae'r ymgynghoriad sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan y Sefydliad Rheoli Morol yn amlinellu cynigion ar gyfer mesurau rheoli pysgodfeydd sy'n ymdrin yn benodol â gêr treillrwydo môr-waelodol, ymhlith mathau eraill, sy'n ymestyn i 42 ardal forol warchodedig yn nyfroedd Lloegr. Nawr, ar gyfer gêr llusg môr-waelodol, mae cyfyngiadau'n cael eu hargymell ar gyfer rhai ardaloedd morol gwarchodedig, ond nid pob un ohonynt. Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ar y pwynt hwnnw. Mae penderfyniadau wedi'u seilio ar ganfyddiadau eu hasesiadau o bysgodfeydd ardal forol warchodedig, sy'n edrych ar effeithiau gweithgarwch pysgota ar wahanol nodweddion. Nid yw'r hyn sy'n berthnasol yn Lloegr yn berthnasol i Gymru ac fel arall. Ac rwy'n nodi nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i ddilyn llwybr gweithredu sy'n union yr un fath yng Nghymru, oherwydd nid yw'r dystiolaeth yma yn dangos bod angen o'r fath, fel rwyf newydd ei nodi.
Ond i gloi, bydd ystyriaeth Llywodraeth Cymru o unrhyw gyfyngiadau posibl ar y defnydd o gêr llusg môr-waelodol o fewn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf cadarn, ar anghenion y nodweddion, ac ar amcanion cadwraeth y safle. Mae gennym brosesau rheoli cadarn ar waith i ddiogelu ein hamgylchedd morol, a byddwn yn ymateb i unrhyw dystiolaeth sy'n cadarnhau'r angen am fesurau ychwanegol.
Ond diolch eto, Janet, a'r holl Aelodau, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Nid ydym yn cael dadleuon yn ddigon aml yma am bysgodfeydd a'r mesurau sydd gennym yng Nghymru. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac mae wedi fy helpu i egluro'r sefyllfa ar dreillrwydo môr-waelodol, fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog. A daw hynny â thrafodon heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:02.