Y Cyfarfod Llawn

Plenary

09/07/2025

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio 1. Questions to the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2. Questions to the Cabinet Secretary for Health and Social Care
3. Cwestiynau Amserol 3. Topical Questions
4. Datganiadau 90 eiliad 4. 90-second Statements
5. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25 5. Motion to note the annual report on the Senedd Commission's Official Languages Scheme for 2024-25
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr unfed adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 6. Debate on the Standards of Conduct Committee Report: Twenty-first report to the Sixth Senedd under Standing Order 22.9
7. Dadl ar ddeiseb P-06-1525, 'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru' 7. Debate on petition P-06-1525, 'Preserve the unique character of the Monmouthshire and Brecon Canal for the future generations of Wales'
8. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Yr Economi Sylfaenol' 8. Debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee Report, 'The Foundational Economy'
9. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth y DU 9. Plaid Cymru Debate: The UK Government
10. Cyfnod Pleidleisio 10. Voting Time
11. Dadl Fer: A ddylai Llywodraeth Cymru wahardd treillrwydo ar waelod y môr yng Nghymru? 11. Short Debate: Should the Welsh Government prohibit bottom trawling in Wales?

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Deputy Presiding Officer (David Rees) in the Chair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
1. Questions to the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Good afternoon and welcome to today's Plenary meeting. The first item on our agenda will be questions to the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, and the first question is from Jenny Rathbone.

Bargeinion Dinesig a Thwf
City and Growth Deals

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y mwyaf o fanteision bargeinion dinesig a thwf? OQ62987

1. What steps is the Welsh Government taking to maximise the benefits of city and growth deals? OQ62987

There are four city and growth deals in Wales, delivered by regional partners, part-funded by the Welsh and UK Governments. Each deal is unique, reflecting the opportunities within each region. The Welsh Government meets regularly with each city and growth deal to support delivery and maximise investment across Wales.

Ceir pedair o fargeinion dinesig a thwf yng Nghymru, a chânt eu cyflawni gan bartneriaid rhanbarthol, a'u hariannu'n rhannol gan Lywodraethau Cymru a'r DU. Mae pob bargen yn unigryw, ac yn adlewyrchu'r cyfleoedd ym mhob rhanbarth. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â phob un o'r bargeinion dinesig a thwf i gefnogi'r gwaith o'u cyflawni a gwneud y mwyaf o fuddsoddiad ledled Cymru.

Thank you. It's a very complicated landscape, because not only do we have corporate joint committees and public services boards, we also now have the UK Labour's industrial strategy with its eight priority areas. So, I'm wanting to explore how we ensure that the city deals are investing in projects that are going to maximise the benefit to the whole of the area in question. For example, I was puzzled to see that Cardiff capital region was investing in improving the back of Cardiff Central station, which is a 'nice to have', but I was struggling to understand how it really was going to benefit the whole of the Cardiff capital region, and particularly its northern arc. I just couldn't see it, given that we already have a lot of excellent retail provision in Cardiff, and it feels that any add-on is something the public sector could do. So, how do you ensure that these city and growth deals are compliant with the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 and seeing these things holistically?

Diolch. Mae'n dirlun cymhleth iawn, oherwydd nid yn unig fod gennym gyd-bwyllgorau corfforedig a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, mae gennym hefyd strategaeth ddiwydiannol Llafur y DU bellach, gyda'i hwyth maes blaenoriaeth. Felly, hoffwn archwilio sut rydym yn gwneud yn siŵr fod y bargeinion dinesig yn buddsoddi mewn prosiectau a fydd yn sicrhau'r budd mwyaf i'r ardal gyfan dan sylw. Er enghraifft, roeddwn yn ddryslyd wrth weld bod prifddinas-ranbarth Caerdydd yn buddsoddi yn y gwaith o wella cefn gorsaf Caerdydd Canolog, sy'n rhywbeth 'braf ei gael', ond roeddwn yn ei chael hi'n anodd deall sut y byddai o fudd i brifddinas-ranbarth Caerdydd yn ei gyfanrwydd, ac yn enwedig ei bwa gogleddol. Nid oeddwn yn gallu ei ddeall, o ystyried bod gennym eisoes ddarpariaeth fanwerthu ardderchog yng Nghaerdydd, a theimlaf y byddai unrhyw ychwanegiad yn rhywbeth y gallai'r sector cyhoeddus ei wneud. Felly, sut rydych chi'n sicrhau bod y bargeinion dinesig a thwf hyn yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn ystyried y pethau hyn yn gyfannol?

I'm really grateful for the question. I think the city and growth deals are really important vehicles, really, for delivering the aspirations of the future generations Act, in terms of ensuring that the investments and the developments that they are progressing are very much delivered within the context of the future generations Act, both in terms of the ways of working, so involving the communities and thinking for the long term, but then also in relation to the things that we want to achieve through the future generations Act as well.

We're really clear that the industrial strategy, which you referred to, can be a really important mechanism, again, for driving growth and prosperity, and that prosperity has to be felt by everyone and available to everyone. And that's why our officials are meeting next week, I believe, with the leads from the corporate joint committees to ensure that those priority areas are well understood by the CJCs and that the opportunities that are now coming forward, through the industrial strategy, will be coherent with the existing plans of the CJCs. Because what we don't want is to have a landscape that is complicated for investors and complicated for those individuals who are charged with delivering those projects as well. So, it's important that we do have those discussions that link up the industrial strategy, as you say, with the CJCs.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Rwy'n credu bod y bargeinion dinesig a thwf yn gyfryngau pwysig iawn ar gyfer cyflawni dyheadau Deddf cenedlaethau'r dyfodol, o ran sicrhau bod y buddsoddiadau a'r datblygiadau y maent yn eu datblygu'n cael eu cyflawni yng nghyd-destun Deddf cenedlaethau'r dyfodol, a ffyrdd o weithio, gan gynnwys y cymunedau a meddwl ar gyfer y tymor hir, ond hefyd mewn perthynas â'r pethau rydym am eu cyflawni drwy Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol hefyd.

Credwn yn gryf y gall y strategaeth ddiwydiannol y cyfeirioch chi ati fod yn fecanwaith pwysig iawn, unwaith eto, ar gyfer hybu twf a ffyniant, a bod yn rhaid i'r ffyniant hwnnw gael ei deimlo gan bawb a bod ar gael i bawb. A dyna pam y mae ein swyddogion yn cyfarfod yr wythnos nesaf, rwy'n credu, gydag arweinwyr y cyd-bwyllgorau corfforedig i sicrhau bod y cyd-bwyllgorau corfforedig yn deall y meysydd blaenoriaeth hynny a bod y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg nawr, drwy'r strategaeth ddiwydiannol, yn cyd-fynd â chynlluniau presennol y cyd-bwyllgorau corfforedig. Oherwydd yr hyn nad ydym ei gael yw tirlun sy'n gymhleth i fuddsoddwyr ac yn gymhleth i'r unigolion sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiectau hynny hefyd. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cael trafodaethau sy'n cysylltu'r strategaeth ddiwydiannol, fel y dywedwch, gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig.

Minister, you kindly facilitated a visit to the St Athan enterprise zone and the developments that are going on in the old RAF camp. A little further down the road is the Aberthaw power station, which the city deal, obviously, is in the process of remediating as a business park for numerous functions. I couldn't help but get the impression that the two operations, very close together, are chasing the same thing. So, how do you make sure that the Welsh pound isn't being replicated and not necessarily delivering the biggest bang for its buck, by making sure that those two projects—one promoted by the city deal, the other promoted by Welsh Government—work in unison to maximise the job opportunities and investment potential for the Vale of Glamorgan, rather than replicate their efforts and ultimately end up not achieving the objectives we all want to see?

Weinidog, fe fuoch chi'n ddigon caredig i hwyluso ymweliad ag ardal fenter Sain Tathan a'r datblygiadau yn hen wersyll y Llu Awyr Brenhinol. Ychydig ymhellach i lawr y ffordd, mae gorsaf ynni Aberddawan, y mae'r fargen ddinesig, yn amlwg, yn y broses o'i throi yn barc busnes ar gyfer nifer o swyddogaethau. Ni allwn lai na chael yr argraff fod y ddwy fenter, yn agos iawn at ei gilydd, yn mynd ar drywydd yr un peth. Felly, sut rydych chi'n sicrhau nad yw'r bunt Gymreig yn cael ei dyblygu ac nid o reidrwydd yn darparu'r gwerth gorau, drwy sicrhau bod y ddau brosiect hynny—un wedi'i hyrwyddo gan y fargen ddinesig, y llall wedi'i hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru—yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd swyddi a'r potensial buddsoddi ar gyfer Bro Morgannwg, yn hytrach na dyblygu eu hymdrechion, heb gyflawni'r amcanion yn y pen draw y mae pob un ohonom am eu gweld?

No, we absolutely don't want to be in the space of duplicating work or replicating efforts. So, we do work really closely with all of the city deals, with the CJCs. We meet very regularly—both myself and other Ministers meet with the leads of the CJCs, and the engagement at official level is really strong and ongoing. So, we do work really hard to make sure that our investments are complementary. And let's remember, of course, that with the city and growth deals, the investment there is partly UK Government, it's partly Welsh Government, but also it's there, then, to ensure that we're able to attract that investment from private enterprise as well. So, we are always looking for ways to co-invest with the CJCs, and I think that's another way in which we can avoid that kind of duplication. But I think having those clear plans in place for what we wish to achieve is really important. And I do think that we have that, through our plan-led approach, through the national plan, but also the regional work that is taking place. And, of course, every local authority now has a plan in place also—bar one at the moment.   

Na, yn sicr, nid ydym am ddyblygu gwaith nac yn ailadrodd ymdrechion. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda phob un o'r bargeinion dinesig, gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd iawn—rwyf fi a Gweinidogion eraill yn cyfarfod ag arweinwyr y cyd-bwyllgorau corfforedig, ac mae'r ymgysylltiad ar lefel swyddogol yn gryf iawn ac yn barhaus. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein buddsoddiadau'n ategu ei gilydd. A gadewch inni gofio, wrth gwrs, gyda'r bargeinion dinesig a thwf, fod y buddsoddiad yno'n rhannol gan Lywodraeth y DU, mae'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd, mae yno wedyn i sicrhau ein bod yn gallu denu buddsoddiad gan fentrau preifat hefyd. Felly, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o gyd-fuddsoddi â'r cyd-bwyllgorau corfforedig, a chredaf fod honno'n ffordd arall y gallwn osgoi'r math hwnnw o ddyblygu. Ond rwy'n credu bod cael y cynlluniau clir hynny ar waith ar gyfer yr hyn y dymunwn ei gyflawni yn wirioneddol bwysig. A chredaf fod gennym hynny, drwy ein dull sy'n cael ei arwain gan gynllun, drwy'r cynllun cenedlaethol, ond hefyd drwy'r gwaith rhanbarthol sy'n mynd rhagddo. Ac wrth gwrs, mae gan bob awdurdod lleol gynllun ar waith hefyd—ac eithrio un ar hyn o bryd.

13:35

I have to say, Cabinet Secretary, that I don’t share quite some of the lack of optimism in the first two questions. I actually think the developments around the station are a really good thing, particularly to the south, which is in my constituency, in Butetown—for which I know I’ll continue to fight for investment—but also the investment taking place in the metro that will transform opportunities around Butetown, and indeed around Cardiff, and in particular the Cardiff Crossrail project—good for transport, good for the economy too. It's always been my view that we need more employment land in Wales, not less. So, seeing St Athan and Aberthaw being taken forward I think is a real positive.

I want to return to some of the points you’ve made around stability. Seeing the industrial strategy, seeing the spending review, seeing the city and growth deals that were created at a different time, before we had a strategy, I wanted to see coherence. So, I just want to be clear, in terms of the review and the work you say your officials are doing with each of the CJCs, whether you expect that not just to deliver capacity and a willingness for greater joint work between regions and the Welsh Government, but a greater sense of ambition, and when do you expect to report back to the Senedd on what I hope will be agreements with all of the regions in Wales around what that greater sense of achievement and ambition could look like moving forwards?

Mae'n rhaid imi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, nad wyf yn rhannu peth o'r diffyg optimistiaeth a fynegwyd yn y ddau gwestiwn cyntaf. Rwy'n credu mewn gwirionedd fod y datblygiadau o amgylch yr orsaf yn beth da iawn, yn enwedig i'r de, sydd yn fy etholaeth i, yn Butetown—ardal y gwn y byddaf yn parhau i ymladd dros fuddsoddiad ar ei chyfer—ond hefyd y buddsoddiad yn y metro a fydd yn trawsnewid cyfleoedd o amgylch Butetown, ac yn wir o amgylch Caerdydd, ac yn benodol, prosiect Cledrau Croesi Caerdydd—da ar gyfer trafnidiaeth, a da i'r economi hefyd. Rwyf bob amser wedi bod o'r farn fod angen mwy o dir cyflogaeth arnom yng Nghymru, nid llai. Felly, credaf fod gweld prosiectau Sain Tathan ac Aberddawan yn cael eu datblygu yn beth cadarnhaol iawn.

Hoffwn ddychwelyd at rai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud ynghylch sefydlogrwydd. Wrth weld y strategaeth ddiwydiannol, wrth weld yr adolygiad o wariant, wrth weld bargeinion dinesig a thwf a grëwyd ar adeg wahanol, cyn bod gennym strategaeth, roeddwn eisiau gweld cydlyniad. Felly, er eglurder, o ran yr adolygiad a'r gwaith y dywedwch fod eich swyddogion yn ei wneud gyda phob un o'r cyd-bwyllgorau corfforedig, a ydych chi'n disgwyl i hynny nid yn unig ddarparu capasiti a pharodrwydd ar gyfer mwy o waith ar y cyd rhwng y rhanbarthau a Llywodraeth Cymru, ond mwy o ymdeimlad o uchelgais, a phryd ydych chi'n disgwyl adrodd yn ôl i'r Senedd ar yr hyn y gobeithiaf y byddant yn gytundebau gyda phob rhanbarth yng Nghymru ynghylch sut y gallai ymdeimlad gwell o gyflawniad ac uchelgais edrych wrth symud ymlaen?

I think all of the CJCs and all of the city and growth deals have real ambition at their heart. I think it is fair to say that progress is happening at different rates across Wales. I think that there’s no denying that. I’m really pleased with the work, though, that’s happening in the Cardiff capital region. At the end of March, the region reported committed funds of £420 million for projects, and they support interventions across those four strategic priorities, one, of course, being connecting the region, which is why that intervention that you’ve referred to is so important. But also, skills and employment, innovation, and regeneration and infrastructure are top of the agenda for that CJC. So, I think, all of those things together will absolutely be the right recipe, really, for ensuring that we can increase employment and increase opportunities, working, as I say, in tandem with the work through the industrial strategy, and the investment that will come through the UK Government, through the British Business Bank, through the national growth fund and so forth.

So, there are an awful lot of things happening in the economic development space, in terms of what’s happening on a regional basis between Welsh Government and UK Government. But I do think that we are able to co-ordinate that in a way that maximises the different tools and the different interventions that each party can bring to that table.

Rwy'n credu bod gan bob un o'r cyd-bwyllgorau corfforedig a phob un o'r bargeinion dinesig a thwf uchelgais gwirioneddol wrth eu gwraidd. Credaf ei bod yn deg dweud bod cynnydd yn cael ei wneud ar wahanol gyfraddau ledled Cymru. Ni chredaf y gellir gwadu hynny. Ond rwy'n falch iawn o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd. Ddiwedd mis Mawrth, adroddodd y rhanbarth fod gwerth £420 miliwn o gyllid wedi'i ymrwymo ar gyfer prosiectau, ac maent yn cefnogi ymyriadau ar draws y pedair blaenoriaeth strategol, sy'n cynnwys cysylltu'r rhanbarth, a dyna pam fod yr ymyrraeth y cyfeirioch chi ati mor bwysig. Ond hefyd, mae sgiliau a chyflogaeth, arloesi, ac adfywio a seilwaith ar frig yr agenda ar gyfer y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw. Felly, credaf y bydd yr holl bethau hynny gyda'i gilydd yn creu'r rysáit cywir ar gyfer sicrhau y gallwn gynyddu cyflogaeth a chynyddu cyfleoedd, gan weithio ar y cyd â'r gwaith drwy'r strategaeth ddiwydiannol fel y dywedaf, a'r buddsoddiad a gawn drwy Lywodraeth y DU, drwy Fanc Busnes Prydain, drwy'r gronfa dwf genedlaethol ac yn y blaen.

Felly, mae llawer iawn o bethau'n mynd rhagddynt yn y maes datblygu economaidd, o ran yr hyn sy'n digwydd yn rhanbarthol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu y gallwn gydgysylltu hynny mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o'r gwahanol offer a'r gwahanol ymyriadau y gall pawb sydd ynghlwm wrth hyn eu cynnig.

Band Eang Ffeibr Cyflym
Fast Fibre Broadband

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu band eang ffeibr cyflym yn Sir Fynwy? OQ62995

2. What steps is the Welsh Government taking to deliver fast fibre broadband in Monmouthshire? OQ62995

Responsibility for broadband rests with the UK Government. But despite this, we have provided access to gigabit-capable broadband to 1,817 premises in Monmouthshire, through our full-fibre roll-out, and fast broadband to 122 premises in Monmouthshire, through our local broadband fund. And we've also developed a business case for further intervention.

Mae cyfrifoldeb am fand eang yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond er gwaethaf hyn, rydym wedi darparu mynediad at fand eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i 1,817 o safleoedd yn sir Fynwy, drwy ein gwaith ar gyflwyno ffeibr llawn, a band eang cyflym i 122 o safleoedd yn sir Fynwy, drwy ein cronfa band eang lleol. Ac rydym hefyd wedi datblygu achos busnes ar gyfer ymyrraeth bellach.

Thank you for that, Cabinet Secretary. It's reassuring that there is some progress, because we all know that we take it for granted now that we need fast broadband—it's a necessity of life. But in Monmouthshire, according to the latest statistics, 1,400 people have still got speeds of less than quarter of a megabit, with speed normally a lot lower in the rural areas. And that isn't good enough in this day and age. And when you dig deeper into the data, you see that 2,400 people in the constituency have speeds of around 1.25 megabits, so still nowhere near where it needs to be. 

We have several rural clusters who have internet speeds that are simply just not fast enough for modern life. There are 6,000 people in Monmouthshire who do not have access to speeds that are considered fast, and we need 'fast'. And in reality, they are not even close to the minimum of what should be acceptable. So, these communities often feel forgotten and cut off from the rest of the community. So, this is one thing that we must be acting on to bring them back into the fold. 

So, can I therefore ask you, Cabinet Secretary, what further action is the Welsh Government taking to ensure that that roll-out of broadband technologies will reach those rural hard-to-reach spots, such as those we find in isolated areas of Monmouthshire?

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, gan y gŵyr pob un ohonom ein bod yn cymryd yn ganiataol bellach fod angen band eang cyflym arnom—mae'n un o angenrheidiau bywyd. Ond yn sir Fynwy, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae gan 1,400 o bobl gyflymderau o lai na chwarter megadid o hyd, gyda chyflymder fel arfer yn llawer is yn yr ardaloedd gwledig. Ac nid yw hynny'n ddigon da yn yr oes sydd ohoni. A phan fyddwch yn tyrchu'n ddyfnach drwy'r data, fe welwch fod gan 2,400 o bobl yn yr etholaeth gyflymderau o oddeutu 1.25 megadid, felly nid yw'n agos at yr hyn sydd ei angen.

Mae gennym sawl clwstwr gwledig a chanddynt ryngrwyd nad yw'n ddigon cyflym ar gyfer bywyd modern. Mae 6,000 o bobl yn sir Fynwy nad oes ganddynt fynediad at gyflymderau a ystyrir yn gyflym, ac mae angen 'cyflym' arnom. Ac mewn gwirionedd, nid ydynt hyd yn oed yn agos at lefel dderbyniol. Felly, mae'r cymunedau hyn yn aml yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio a'u hynysu oddi wrth weddill y gymuned. Felly, dyma un peth y mae'n rhaid inni weithredu arno er mwyn darparu ar eu cyfer.

Felly, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd technolegau band eang yn cyrraedd y mannau gwledig anodd eu cyrraedd hynny, fel yr ardaloedd ynysig hyn yn sir Fynwy?

13:40

I'm grateful for that question. I'm pleased to say that 94 per cent of homes and businesses across Monmouthshire do have access to fast and reliable broadband, with 77 per cent in Monmouthshire able to access gigabit-capable full-fibre broadband. But as you say, there does remain a small minority without access to a fast and reliable connection. That's why we've developed the business case that I referred to for the extending high-speed broadband project. So, that will be reinvesting returned funds from the superfast broadband roll-out, to improve digital connectivity at premises that currently don't have access to at least superfast broadband speeds. A supplier framework is being developed for that at the moment. We do anticipate that the first call-off will be offered from this in the autumn of this year, and work on the ground starting as soon as possible thereafter. But I've also been really pleased to reopen the Access Broadband Cymru scheme, which was paused, if colleagues will remember, to enable some work to be undertaken, to ensure that it continues to deliver that targeted, flexible and responsive approach. It did reopen to applications on 7 May. Since the scheme reopened, we have received a further 65 applications from Monmouthshire, and 53 of those have already had funding offers. That amounts to around £12,063 invested in that in Monmouthshire since it reopened. As I say, it's still available for those individuals and businesses that need it.

Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn. Rwy'n falch o ddweud bod gan 94 y cant o gartrefi a busnesau ledled sir Fynwy fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy, gyda 77 y cant yn sir Fynwy yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr llawn all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid. Ond fel y dywedwch, mae lleiafrif bach yn dal heb fynediad at gysylltiad cyflym a dibynadwy. Dyna pam ein bod wedi datblygu'r achos busnes y cyfeiriais ato ar gyfer ymestyn y prosiect band eang cyflym. Felly, bydd hwnnw'n ailfuddsoddi arian a ddychwelwyd o'r gwaith o gyflwyno band eang cyflym iawn, i wella cysylltedd digidol mewn safleoedd nad oes ganddynt fynediad at gyflymderau band eang cyflym iawn fan lleiaf ar hyn o bryd. Mae fframwaith cyflenwyr yn cael ei ddatblygu ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Rydym yn rhagweld y bydd y contract cyntaf drwy'r fframwaith yn cael ei gynnig yn yr hydref, a bydd gwaith ar lawr gwlad yn dechrau cyn gynted â phosibl wedi hynny. Ond rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o ailagor cynllun Allwedd Band Eang Cymru, a gafodd ei oedi, os bydd fy nghyd-Aelodau yn cofio, i alluogi rhywfaint o waith, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni'r dull wedi'i dargedu hyblyg ac ymatebol hwnnw. Ailagorodd i geisiadau ar 7 Mai. Ers i'r cynllun ailagor, rydym wedi derbyn 65 o geisiadau pellach o sir Fynwy, ac mae 53 o'r rheini eisoes wedi cael cynigion ariannu. Mae hynny'n golygu bod oddeutu £12,063 wedi'i fuddsoddi yn hynny yn sir Fynwy ers iddo ailagor. Fel y dywedais, mae'n dal ar gael i'r unigolion a'r busnesau sydd ei angen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Gareth Davies.

I now call on the party spokespeople. Firstly, Welsh Conservatives spokesperson, Gareth Davies.

Diolch, Deputy Llywydd. Football is part of our national identity, and in north Wales in particular, it's central to many communities. With many clubs at the core of our local life, and Wrexham Association Football Club capturing global attention, football represents not only a cultural asset, but a real opportunity for regeneration and growth in some of our most deprived communities, as well as an important part of a preventative health strategy. Yet, the level of investment in grass-roots football facilities remains wholly inadequate. We are seeing towns without a single all-weather pitch and clubs having to rely on outdated and unsuitable facilities. The funding currently offered to the Football Association of Wales is barely enough to fund a handful of 3G or 4G pitches, while demand is far, far greater. They are also relying mostly on UK Government funding, through the Department for Culture, Media and Sport, to provide this funding, with Boris Johnson seeing a gap in sports funding in Wales that wasn't being plugged by the Welsh Government. This is part of a much wider crisis, with Wales ranking third from bottom in Europe for sports funding per capita, behind the UK average and comparable nations.

So, can I ask the Minister for Culture, Skills and Social Partnership what representations he is making to the Cabinet Secretary for finance, and Sport Wales, to radically increase the funding available for grass-roots football and sports facilities, particularly those in north Wales, where many communities feel like they've been left behind?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae pêl-droed yn rhan o'n hunaniaeth genedlaethol, ac yng ngogledd Cymru yn benodol, mae'n ganolog i lawer o gymunedau. Gyda llawer o glybiau yn galon i'n bywyd lleol, a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn denu sylw byd-eang, mae pêl-droed nid yn unig yn ased diwylliannol, ond yn gyfle gwirioneddol ar gyfer adfywio a thwf yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, yn ogystal â rhan bwysig o strategaeth iechyd ataliol. Serch hynny, mae lefel y buddsoddiad mewn cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad yn parhau i fod yn gwbl annigonol. Rydym yn gweld trefi heb unrhyw gaeau pob tywydd a chlybiau'n gorfod dibynnu ar gyfleusterau hen ffasiwn ac anaddas. Prin fod y cyllid a ddarperir ar hyn o bryd i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddigon i ariannu llond llaw o gaeau 3G neu 4G, tra bo'r galw yn llawer iawn mwy. Maent hefyd yn dibynnu'n bennaf ar gyllid Llywodraeth y DU, drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i ddarparu'r cyllid hwn, gyda Boris Johnson yn gweld bwlch mewn cyllid chwaraeon yng Nghymru nad oedd Llywodraeth Cymru yn ei lenwi. Mae hyn yn rhan o argyfwng llawer ehangach, gyda Chymru yn drydydd o'r gwaelod yn Ewrop o ran cyllid chwaraeon y pen, y tu ôl i gyfartaledd y DU a gwledydd cymharol.

Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol pa sylwadau y mae'n eu gwneud i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a Chwaraeon Cymru, i gynyddu'n sylweddol y cyllid sydd ar gael ar gyfer pêl-droed a chyfleusterau chwaraeon llawr gwlad, yn enwedig y rhai yn y gogledd, lle mae llawer o gymunedau'n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl?

Can I thank Gareth Davies for those questions? He's absolutely right to call football a sport of national identity for Wales. It's fantastic, isn't it, that we've just seen, for the first time ever, the Cymru women's team debut in their first major tournament? I look forward to being with the team on Sunday against their biggest rivals, England. But he's right to point to grass-roots football, because we don't see the stars like Jess Fishlock or Elise Hughes just appear. They start at grass-roots clubs, Presiding Officer, and that's why we're proud to invest in our grass-roots facilities.

The Member mentioned Sport Wales. He will also be aware that Sport Wales have had an increase in their capital budget this year, a budget that he tried to vote against. He mentions the UK Government's investments in this area. Well, he will see the work of the Cymru Football Foundation, and we've worked in partnership with the Cymru Football Foundation, with the new UK Government, and you will have seen further investment through that programme. You will see grass-roots facilities right across Wales have investment, not just in all-weather pitches, but in other areas as well. I think it's Bangor who are leading the way on the first 4G pitch of its kind, and that's investment that we are proudly making with our colleagues in UK Government.

But he mentions other areas of sport as well, because it is not just about sporting facilities. He mentions the history of sport, and he mentioned Wrexham AFC. I know Lesley Griffiths, I think the Senedd's biggest Wrexham fan, is in the Chamber today. Well, Lesley will be pleased, along with the Member for the Conservatives, about the investment in the history of football. We will be opening the doors to the football museum of Wales in the next year, and I very much look forward to that, taking part. 

Just one extra piece, Deputy Presiding Officer, because I can see you looking at me. The Member mentioned grass-roots facilities in other areas. I was pleased to be with councillors in Splott just recently where we, as part of the £1 million investment from the women's team making the Euros, have invested in their sporting facility to do just exactly what he asks.

A gaf i ddiolch i Gareth Davies am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le wrth gyfeirio at bêl-droed fel rhan o hunaniaeth genedlaethol Gymru. Mae'n wych, onid yw, ein bod newydd weld tîm menywod Cymru yn cystadlu yn eu pencampwriaeth fawr gyntaf erioed? Edrychaf ymlaen at fod gyda'r tîm ddydd Sul yn erbyn yr hen elyn, Lloegr. Ond mae'n iawn i gyfeirio at bêl-droed llawr gwlad, gan nad ydym yn gweld sêr fel Jess Fishlock neu Elise Hughes yn ymddangos o unman. Maent yn dechrau mewn clybiau llawr gwlad, Lywydd, a dyna pam ein bod yn falch o fuddsoddi yn ein cyfleusterau llawr gwlad.

Soniodd yr Aelod am Chwaraeon Cymru. Bydd hefyd yn ymwybodol fod Chwaraeon Cymru wedi cael cynnydd yn eu cyllideb gyfalaf eleni, cyllideb y ceisiodd bleidleisio yn ei herbyn. Mae'n sôn am fuddsoddiadau Llywodraeth y DU yn y maes hwn. Wel, bydd yn gweld gwaith Sefydliad Pêl-droed Cymru, ac rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Pêl-droed Cymru, gyda Llywodraeth newydd y DU, a byddwch wedi gweld buddsoddiad pellach drwy'r rhaglen honno. Fe welwch gyfleusterau llawr gwlad ledled Cymru yn cael buddsoddiad, nid yn unig mewn caeau pob tywydd, ond mewn pethau eraill hefyd. Rwy'n credu mai Bangor sy'n arwain y ffordd gyda'r cae 4G cyntaf o'i fath, a dyna fuddsoddiad yr ydym yn falch o'i wneud gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU.

Ond mae'n sôn am agweddau eraill ar chwaraeon hefyd, gan fod hyn yn ymwneud â mwy na chyfleusterau chwaraeon yn unig. Mae'n sôn am hanes chwaraeon, a soniodd am Glwb Pêl-droed Wrecsam. Gwn fod Lesley Griffiths, cefnogwr Wrecsam mwyaf y Senedd, yn y Siambr heddiw. Wel, bydd Lesley yn falch, ynghyd â'r Aelod Ceidwadol, o'r buddsoddiad yn hanes pêl-droed. Byddwn yn agor drysau amgueddfa bêl-droed Cymru yn y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld hynny, ac at gymryd rhan.

Dim ond un peth arall, Ddirprwy Lywydd, gan y gallaf eich gweld yn edrych arnaf. Soniodd yr Aelod am gyfleusterau llawr gwlad mewn ardaloedd eraill. Roeddwn yn falch o fod gyda chynghorwyr yn y Sblot yn ddiweddar, lle rydym wedi buddsoddi, fel rhan o'r buddsoddiad o £1 filiwn i ddathlu'r ffaith bod tîm y menywod wedi cyrraedd yr Ewros, yn eu cyfleuster chwaraeon i wneud yn union yr hyn y mae'n ei ofyn.

13:45

Thank you for that response, Minister. We heard from the FAW that north Wales is consistently punching above its weight, with ambitions to host a fixture in the FIFA Women's World Cup in 2035. But those ambitions are being stifled by a lack of pitch infrastructure and investment. So, I'm keen to understand how the Welsh Government and Sport Wales strategically map where investment is most needed, to ensure that towns like Colwyn Bay, Denbigh and Bangor are being prioritised for facilities funding. Because, whilst the UK Government have invested significantly into grass-roots football, including through the community ownership fund, which has been transformational in places like Clwb Pêl Droed y Rhyl, where I assisted the club in obtaining this funding, the Welsh Government doesn't share this level of ambition.

We've seen the FAW do an incredible job promoting Wales through football, through music, language, even fashion—just look at the bucket hat becoming an icon, for example. Yet the money isn't there for the infrastructure. Sports funding through Sport Wales has fallen by £18.7 million in real terms since 2010, despite some increase in the capital budget. Despite that, Sport Wales continues to rely on local authorities' already strained infrastructure. So, can the Minister confirm what specific funding streams the Welsh Government is making available to support female participation in the game? And will he commit to mapping need for grass-roots football infrastructure to identify that need?

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Clywsom gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod y gogledd yn uchelgeisiol iawn, ac eisiau cynnal gêm yng Nghwpan y Byd Menywod FIFA yn 2035. Ond mae'r uchelgeisiau hynny'n cael eu rhwystro gan ddiffyg seilwaith a buddsoddiad mewn caeau chwarae. Felly, rwy'n awyddus i ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn mapio'n strategol ble mae'r angen mwyaf am fuddsoddiad, er mwyn sicrhau bod trefi fel Bae Colwyn, Dinbych a Bangor yn cael blaenoriaeth ar gyfer cyllid i gyfleusterau. Oherwydd er bod Llywodraeth y DU wedi buddsoddi'n sylweddol mewn pêl-droed llawr gwlad, gan gynnwys drwy'r gronfa perchnogaeth gymunedol, sydd wedi bod yn drawsnewidiol mewn lleoedd fel Clwb Pêl Droed y Rhyl, lle cynorthwyais y clwb i gael y cyllid hwn, nid yw Llywodraeth Cymru'n rhannu'r lefel hon o uchelgais.

Rydym wedi gweld Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud gwaith anhygoel wrth hyrwyddo Cymru drwy bêl-droed, drwy gerddoriaeth, drwy'r iaith, hyd yn oed drwy ffasiwn—edrychwch ar yr het fwced sydd wedi dod yn eicon, er enghraifft. Ac eto, nid yw'r arian yno ar gyfer y seilwaith. Mae cyllid chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru wedi gostwng £18.7 miliwn mewn termau real ers 2010, er gwaethaf rhywfaint o gynnydd yn y gyllideb gyfalaf. Er gwaethaf hynny, mae Chwaraeon Cymru yn parhau i ddibynnu ar seilwaith awdurdodau lleol sydd eisoes dan straen. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau pa ffrydiau cyllido penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i gefnogi cyfranogiad menywod yn y gêm? Ac a wnaiff ymrwymo i fapio'r angen am seilwaith pêl-droed llawr gwlad i nodi'r angen hwnnw?

Thank you, again, to Gareth Davies for that. Gareth talked about the opportunity to host major events in north Wales in particular, and I think the need for Wrexham's fourth stand will be very much at the front of that. But it's fair to say that the Conservative Government, when they were in Westminster, completely let down Wrexham, and they completely let down the football club around that. [Interruption.] They did. If you watch the documentary, as I've enjoyed, you'll have seen it on the documentary, where it's plain and simple there. But we will look to work with all partners in north Wales to be able to host those types of events going forward, and to work with Wrexham and celebrate all of the things that Wrexham is achieving, not just now but in the future as well.

Look, I think the FAW are doing fantastic work when it comes to participation, particularly for women and girls in football, and sports more generally. We will look to work with them, with our partners in Sport Wales and other areas. And they do look to do this through various interventions. You will see the FAW's 'For HER' campaign at the moment. We will look to support them as much as we can in that through Sport Wales.

The Member did say in his question that they have had an increase in capital funding, so it's great to see that he can recognise an increase in capital funding, even during difficult times. It's through that capital funding we can invest in infrastructure, like the facilities that he says. One of the proudest things I've been able to do as Minister for sport in the Welsh Government is support the FAW and all things Welsh football with this tournament through that partner support fund. That will go on to inspire the next generation of women and girls, and we will see the next Jess Fishlocks because of that type of investment. So, it's an investment that's gone into activities in the run-up to the tournament, during the tournament, both here and in Switzerland, and they will have a lasting legacy to promote the game of football. We will go on, in collaboration, working with not just the FAW but anyone who's interested in supporting sport and the role sport can play as a whole.

Diolch, unwaith eto, i Gareth Davies am hynny. Soniodd Gareth am y cyfle i gynnal digwyddiadau mawr yn y gogledd yn arbennig, a chredaf y bydd yr angen am bedwerydd eisteddle Wrecsam yn bwysig iawn yn hynny o beth. Ond mae'n deg dweud bod y Llywodraeth Geidwadol, pan oeddent yn San Steffan, wedi gwneud cam â Wrecsam, ac fe wnaethant gam â'r clwb pêl-droed o'r herwydd. [Torri ar draws.] Fe wnaethant. Os gwyliwch y rhaglen ddogfen, fel y mwynheais innau wneud, byddwch wedi gweld hynny ar y rhaglen ddogfen, lle mae'n gwbl glir. Ond byddwn yn ceisio gweithio gyda phob partner yn y gogledd i allu cynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau yn y dyfodol, ac i weithio gyda Wrecsam a dathlu'r holl bethau y mae Wrecsam yn eu cyflawni, nid yn unig nawr ond yn y dyfodol hefyd.

Edrychwch, rwy'n credu bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud gwaith gwych o ran cyfranogiad, yn enwedig cyfranogiad menywod a merched mewn pêl-droed, a chwaraeon yn fwy cyffredinol. Byddwn yn ceisio gweithio gyda hwy, gyda'n partneriaid yn Chwaraeon Cymru a meysydd eraill. Ac maent yn gobeithio gwneud hyn drwy ymyriadau amrywiol. Fe welwch ymgyrch 'Chwarae For HER' Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar hyn o bryd. Byddwn yn ceisio eu cefnogi cymaint ag y gallwn yn hynny o beth drwy Chwaraeon Cymru.

Dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn eu bod wedi cael cynnydd mewn cyllid cyfalaf, felly mae'n wych gweld ei fod yn gallu cydnabod cynnydd mewn cyllid cyfalaf, hyd yn oed mewn amseroedd anodd. Drwy'r cyllid cyfalaf hwnnw, gallwn fuddsoddi mewn seilwaith, fel y cyfleusterau y mae'n eu crybwyll. Un o'r pethau rwy'n fwyaf balch o allu eu gwneud fel Gweinidog chwaraeon Llywodraeth Cymru yw cefnogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru a phopeth sy'n gysylltiedig â phêl-droed Cymru gyda'r bencampwriaeth hon drwy'r gronfa cymorth partneriaid honno. Bydd hynny'n parhau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod a merched, a byddwn yn gweld y Jess Fishlock nesaf oherwydd y math hwnnw o fuddsoddiad. Felly, mae'n fuddsoddiad a wnaed mewn gweithgareddau cyn y bencampwriaeth ac yn ystod y bencampwriaeth, yma ac yn y Swistir, a bydd iddynt waddol parhaol i hyrwyddo pêl-droed. Byddwn yn parhau, mewn cydweithrediad, i weithio nid yn unig gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ond gydag unrhyw sydd â diddordeb mewn cefnogi chwaraeon a'r rôl y gall chwaraeon ei chwarae yn gyffredinol.

I appreciate, again, that response, Minister. But to put it into context in terms of what I was asking, those clubs like Clwb Pêl Droed y Rhyl, for example, were on the verge of bankruptcy pre COVID-19, and it was those investments made by the UK Conservative Government at the time that saved those clubs. You know, those clubs like Rhyl FC would have been long gone if it wasn't for those funding schemes. I find it astonishing that the Minister doesn't even acknowledge those as something that is the fabric of our communities. When you look at those communities, like Rhyl and others across Wales, even Connah's Quay within your own constituency, they're good hubs for those talents to be nurtured, and those need to be recognised and work collaboratively with our partners.

But, sticking on the theme of collaborative working, I'm keen to understand what collaborative work you do with the Cabinet Secretary for Health and Social Care in seeing sport as a preventative measure to some of our health problems in Wales, and what work you are doing with the Cabinet Secretary to embed sport into a national preventative health strategy, and will he commit to ensuring that grass-roots sport is recognised and funded as a core part of our public health infrastructure here in Wales?

Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb unwaith eto, Weinidog. Ond i'w roi mewn cyd-destun o ran yr hyn roeddwn yn ei ofyn, roedd clybiau fel Clwb Pêl Droed y Rhyl, er enghraifft, yn wynebu methdaliad cyn COVID-19, a'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd a achubodd y clybiau hynny. Wyddoch chi, byddai clybiau fel Clwb Pêl Droed y Rhyl wedi hen fynd oni bai am y cynlluniau ariannu hynny. Mae'n syndod i mi nad yw'r Gweinidog hyd yn oed yn eu cydnabod fel rhywbeth sy'n rhan annatod o'n cymunedau. Pan edrychwch ar y cymunedau hynny, fel y Rhyl a chymunedau eraill ledled Cymru, hyd yn oed Cei Connah yn eich etholaeth chi, maent yn ganolfannau da i feithrin chwaraewyr dawnus, ac mae angen eu cydnabod a gweithio ar y cyd â'n partneriaid.

Ond gan gadw at thema gweithio ar y cyd, rwy'n awyddus i ddeall pa waith cydweithredol a wnewch chi gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth ystyried chwaraeon yn fesur ataliol i fynd i'r afael â rhai o'n problemau iechyd yng Nghymru, a pha waith a wnewch gydag Ysgrifennydd y Cabinet i ymgorffori chwaraeon mewn strategaeth iechyd ataliol genedlaethol, ac a wnaiff ymrwymo i sicrhau bod chwaraeon llawr gwlad yn cael eu cydnabod a'u hariannu fel rhan hollbwysig o'n seilwaith iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru?

13:50

I thank Gareth Davies for that. And in fairness to the Member, I do agree with him on the role that sports clubs do play, in particular sports clubs like Rhyl. I know he's a big fan. I know the previous Member for his seat was also a big fan—a bigger fan—I can hear the cheers there, no doubt. I remember playing at Rhyl myself for the Nomads and all of those experiences that we've had, and he's right to point to the role that they can play more broadly.

When it comes to the work of myself and the Cabinet Secretary for Health and Social Care, look, we have a real ambition. We recognise the role that sport can play in terms of prevention and in terms of the immediate solutions that it can offer health services and social services as well. The Cabinet Secretary and I will go on having those conversations to invest where we can in not just sports, but also the arts. And you'll see programmes from across the Government investing in health outcomes in those types of sectors.

I'll just point to one recent announcement, Presiding Officer, which was the 1,000 mental health training places for grass-roots clubs across Wales. That was funded by the Welsh Government in partnership with Sport Wales and in partnership with the FAW. That will go a long, long way, in many, many communities, in responding to some of the challenges that we need to, because we know the role that sports clubs can play in that. And the Cabinet Secretary and I will continue having further conversations on this very important matter, and I do thank the Member for bringing that forward.

Diolch i Gareth Davies am hynny. Ac er tegwch i'r Aelod, rwy'n cytuno ag ef ynghylch y rôl y mae clybiau chwaraeon yn ei chwarae, yn enwedig clybiau chwaraeon fel y Rhyl. Gwn ei fod yn gefnogwr mawr. Gwn fod yr Aelod blaenorol yn ei sedd hefyd yn gefnogwr mawr—yn gefnogwr mwy—gallaf glywed y gymeradwyaeth yno, heb os. Cofiaf chwarae yn y Rhyl fy hun i'r Nomadiaid a'r holl brofiadau a gawsom, ac mae'n iawn i dynnu sylw at y rôl y gallant ei chwarae'n fwy eang.

O ran fy ngwaith i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, edrychwch, mae gennym uchelgais gwirioneddol. Rydym yn cydnabod y rôl y gall chwaraeon ei chwarae ym maes atal ac yn yr atebion uniongyrchol y gall eu cynnig i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol hefyd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau'n parhau i gael y sgyrsiau hynny i fuddsoddi lle gallwn, nid yn unig mewn chwaraeon, ond yn y celfyddydau hefyd. A byddwch yn gweld rhaglenni o bob rhan o'r Llywodraeth yn buddsoddi mewn canlyniadau iechyd yn y mathau hynny o sectorau.

Hoffwn sôn am un cyhoeddiad diweddar, Lywydd, sef y 1,000 o leoedd hyfforddi iechyd meddwl ar gyfer clybiau llawr gwlad ledled Cymru. Ariannwyd hynny gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Bydd hynny'n mynd yn bell iawn mewn llawer iawn o gymunedau, wrth ymateb i rai o'r heriau y mae angen inni ymateb iddynt, gan ein bod yn ymwybodol o'r rôl y gall clybiau chwaraeon ei chwarae yn hynny o beth. A bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau'n parhau i gael sgyrsiau pellach ar y mater pwysig hwn, a diolch i'r Aelod am gyflwyno hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I'd like to just focus on artificial intelligence and energy, because, just a few weeks ago, in Llandudno, the First Minister announced that Wales will host a new AI growth zone, an initiative that, according to the UK Government, aims to unlock investment in AI-enabled data centres. According to the International Energy Agency, AI is set to drive a surge in electricity demand from data centres, and the National Grid's 'Future Energy Scenarios' 2024 report states that data centres could become one of the UK's fastest-growing sources of demand by the 2030s. This is a sector that's accelerating rapidly, but our energy system, particularly the grid, moves at a much slower pace. So, what direct role is the Welsh Government playing in shaping these discussions, particularly in terms of grid planning and spatial strategy, and what evidence can you offer that these developments will deliver real, long-term benefits for Wales?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ganolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial ac ynni, oherwydd ychydig wythnosau yn ôl, yn Llandudno, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Cymru yn gartref i barth twf deallusrwydd artiffisial newydd, menter sydd, yn ôl Llywodraeth y DU, yn anelu at ddatgloi buddsoddiad mewn canolfannau data a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial. Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol, bydd deallusrwydd artiffisial yn achosi cynnydd sylweddol yn y galw am drydan o ganolfannau data, ac mae adroddiad 'Future Energy Scenarios' 2024 y Grid Cenedlaethol yn nodi y gallai canolfannau data ddod yn un o'r ffynonellau galw sy'n tyfu gyflymaf yn y DU erbyn y 2030au. Mae hwn yn sector sy'n tyfu'n gyflym, ond mae ein system ynni, yn enwedig y grid, yn symud yn llawer arafach. Felly, pa rôl uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru'n ei chwarae wrth siapio'r trafodaethau hyn, yn enwedig o ran cynllunio'r grid a strategaeth ofodol, a pha dystiolaeth y gallwch ei chynnig y bydd y datblygiadau hyn yn darparu manteision hirdymor gwirioneddol i Gymru?

I'm really grateful for the question, which touches on two really important growth areas for Wales. And I'm really pleased to hear that reference to the work that the First Minister's put in train in terms of establishing a strategic AI advisory group and also looking towards an office for AI within the Welsh Government, to make sure that we drive forward this really important opportunity, but do so in a way that is grounded in our ethical values and so on as well, because I know that colleagues are also concerned about that.

I was really pleased to join Microsoft recently at the turf-cutting event for its new data centre in Newport. And it is important that we do support data centres, because they will be critical in terms of supporting the innovation and the AI that grows up around those data centres. But it's absolutely the case, of course, that they are very energy hungry, which is why it's so important that we continue to focus on our renewable energy strategy as well.

I think that the AI growth zone opportunity is important for us. I was really pleased to hear the UK Government announce that Wales would be host to one of those AI growth zones. Discussions are still ongoing as to where specifically that will be, but I think that across Wales there are opportunities for data centres. But also we need to be mindful that we have the energy to power those, and grid is absolutely critical to that. So, we’re working with the UK Government, with National Grid, with the National Energy System Operator, to map out what the energy needs will be in future. That work is being done on that strategic basis by NESO and we’re involved with that, and we’re able to factor in, of course, the growth of AI and data centres to that particular piece of work. That’s why it’s so important that we do have grid that is suitable for the future, and I realise that there are particular sensitivities there; we’re just going to have to work through all of those difficult issues as we move forward, also recognising the important work that the UK Government is doing with the cleansing of the waiting list, if you like, for grid connections. I talk to developers all the time who tell me that they’ve got grid connections, but it’s not until the 2030s. Luckily, now we’re seeing things move forward as a result of that work that the UK Government is doing to understand the readiness of applications that are within that queue for the grid. I was pleased to meet with NESO just last week to hear the progress that they’re making on that. Huge opportunities here, but, absolutely, we need to make sure that we do invest in the renewable energy to power data centres, but then also that the grid is able to handle the calls on it as well.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, sy'n cyffwrdd â dau faes twf pwysig iawn i Gymru. Ac rwy'n falch iawn o glywed y cyfeiriad at y gwaith y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyhoeddi ar sefydlu grŵp cynghori strategol ar ddeallusrwydd artiffisial ac i archwilio swydd ar gyfer deallusrwydd artiffisial yn Llywodraeth Cymru, i sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r cyfle pwysig hwn, ond yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd moesegol ac ati hefyd, gan y gwn fod fy nghyd-Aelodau'n pryderu am hynny hefyd.

Roeddwn yn falch iawn o ymuno â Microsoft yn ddiweddar yn y digwyddiad i dorri’r dywarchen ar gyfer eu canolfan ddata newydd yng Nghasnewydd. Ac mae'n bwysig ein bod yn cefnogi canolfannau data, gan y byddant yn hollbwysig i gefnogi'r arloesedd a'r deallusrwydd artiffisial sy'n tyfu o amgylch y canolfannau data hynny. Ond yn sicr, maent yn defnyddio llawer iawn o ynni, a dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ein strategaeth ynni adnewyddadwy hefyd.

Rwy'n credu bod cyfle'r parth twf deallusrwydd artiffisial yn bwysig i ni. Roeddwn yn falch iawn o glywed Llywodraeth y DU yn cyhoeddi y byddai Cymru yn gartref i un o’r parthau twf deallusrwydd artiffisial hynny. Mae trafodaethau’n dal i fynd rhagddynt ynghylch ble yn benodol y bydd y parth hwnnw, ond credaf fod cyfleoedd ar gael ledled Cymru ar gyfer canolfannau data. Ond mae angen inni sicrhau hefyd fod gennym yr ynni i'w pweru, ac mae'r grid yn gwbl hanfodol yn hynny o beth. Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gyda’r Grid Cenedlaethol, gyda’r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol, i fapio beth fydd yr anghenion ynni yn y dyfodol. Mae'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol yn gwneud y gwaith ar y sail strategol honno ac rydym ynghlwm wrth hynny, ac yn gallu ystyried twf deallusrwydd artiffisial a chanolfannau data wrth wneud y gwaith penodol hwnnw. Dyna pam ei bod mor bwysig fod gennym grid sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n sylweddoli bod rhai materion sensitif yno; bydd yn rhaid inni weithio drwy'r holl faterion anodd hynny wrth inni symud ymlaen, gan gydnabod hefyd y gwaith pwysig y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i lanhau'r rhestr aros, os mynnwch, ar gyfer cysylltu â'r grid. Rwyf bob amser yn siarad â datblygwyr sy'n dweud wrthyf fod ganddynt gysylltiadau grid, ond nid tan y 2030au. Yn ffodus, rydym yn gweld pethau'n symud ymlaen nawr o ganlyniad i'r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar ddeall parodrwydd ceisiadau sydd yn y ciw ar gyfer y grid. Roeddwn yn falch o gyfarfod â'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol yr wythnos diwethaf i glywed am y cynnydd y maent yn ei wneud ar hynny. Mae cyfleoedd enfawr yma, ond yn bendant, mae angen inni sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy i bweru canolfannau data, ond bod y grid wedyn yn gallu ymdopi â'r galw arno hefyd.

13:55

Sticking with energy demand for a moment, and I think the Cabinet Secretary is right to point out the role of renewables, it’s important that we actually address the supply side of this issue. Last month, of course, the Crown Estate awarded several 1.5 GW areas of floating wind capacity, meaning that we now have two gigascale projects in the pipeline in the Celtic sea, one of those being Gwynt Glas, a French-Irish joint venture, again spotlighting the recurring issue of a lack of Welsh ownership in the sector. Meanwhile, Octopus Energy has launched a live tracker revealing just how much wind power the grid is wasting due to curtailment. The UK has already spent nearly £700 million this year alone. There’s a reality check here I think we need to grapple with, and that is that intermittent renewables are becoming a square peg that’s being forced into a round hole of a grid not built for their variability. So, we really do need to think differently about how we tackle this issue. One way we could think differently is by investing in smart local energy systems, by investing in microgrids, and building up that energy resilience based on pragmatic solutions and energy storage that is scalable. So, could I ask the Cabinet Secretary for an update on how this work is progressing, particularly through Ynni Cymru?

Gan aros ar y galw am ynni am eiliad, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i dynnu sylw at rôl ynni adnewyddadwy, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael ag ochr gyflenwi'r mater hwn. Y mis diwethaf, wrth gwrs, dyfarnodd Ystad y Goron sawl ardal 1.5 GW o gapasiti ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, sy'n golygu bod gennym ddau brosiect graddfa giga yn yr arfaeth yn y Môr Celtaidd, gan gynnwys Gwynt Glas, menter ar y cyd rhwng Ffrainc ac Iwerddon, sy'n tynnu sylw unwaith eto at y broblem barhaus o ddiffyg perchnogaeth Gymreig yn y sector. Yn y cyfamser, mae Octopus Energy wedi lansio cyfleuster tracio sy'n datgelu faint o ynni gwynt y mae'r grid yn ei wastraffu drwy gwtogi eu hallbwn. Mae'r DU eisoes wedi gwario bron i £700 miliwn eleni yn unig. Credaf fod angen dos o realiti arnom yma, sef bod ynni adnewyddadwy ysbeidiol yn dod yn beg sgwâr sy'n cael ei orfodi i dwll crwn mewn grid nad yw wedi'i adeiladu ar gyfer ei amrywioldeb. Felly, mae angen inni feddwl yn wahanol ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r mater hwn. Un ffordd y gallem feddwl yn wahanol yw drwy fuddsoddi mewn systemau ynni lleol clyfar, drwy fuddsoddi mewn microgridiau, ac adeiladu'r gwydnwch ynni hwnnw'n seiliedig ar atebion pragmatig a storio ynni ar sawl graddfa. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo, yn enwedig drwy Ynni Cymru?

Absolutely. And those smart local energy systems and private wire connections are also part of the solution to the challenges that were outlined in the first question.

So, the work on Ynni Cymru is progressing. Last year, we funded 32 projects right across Wales from the £10 million capital funding that we were able to make available for those. And those projects included the deployment of a whole range of technologies, including solar, heat pumps, battery storage and electric vehicle charging points. We have launched another round of the funding; it’s another £10 million for 2025-26, and that investment is important, then, to ensure that the benefits, really, of the transition to renewables are felt within our communities. So, we launched that latest round on 2 May; we were really keen to do it early on in the financial year this year, bearing in mind that we understood that doing it quite late on did put a lot of pressure on those organisations and businesses that benefited. So, we opened it in May and we’ve already had a significant number of applications, which are currently being evaluated. And I also hope to be able to consider whether there is any further funding that we can put in this year as well when I look across the entire budget within the portfolio.

Yn sicr. Ac mae'r systemau ynni lleol clyfar hynny a'r cysylltiadau gwifrenni preifat hefyd yn rhan o'r ateb i'r heriau a amlinellwyd yn y cwestiwn cyntaf.

Felly, mae'r gwaith ar Ynni Cymru yn gwneud cynnydd. Y llynedd, fe wnaethom ariannu 32 o brosiectau ledled Cymru o'r cyllid cyfalaf o £10 miliwn y gwnaethom ei ddarparu ar eu cyfer. Ac roedd y prosiectau hynny'n cynnwys defnyddio ystod eang o dechnolegau, gan gynnwys ynni solar, pympiau gwres, cyfleusterau storio batri a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Rydym wedi lansio rownd arall o'r cyllid; mae'n £10 miliwn arall ar gyfer 2025-26, ac mae'r buddsoddiad hwnnw'n bwysig, felly, i sicrhau bod manteision y newid i ynni adnewyddadwy yn cael eu teimlo yn ein cymunedau. Felly, fe wnaethom lansio'r rownd ddiweddaraf honno ar 2 Mai; roeddem yn awyddus iawn i wneud hynny'n gynnar yn y flwyddyn ariannol eleni, gan gofio ein bod yn deall bod gwneud hyn yn eithaf hwyr wedi rhoi llawer o bwysau ar y sefydliadau a'r busnesau a elwodd o hyn. Felly, fe wnaethom ei agor ym mis Mai ac rydym eisoes wedi cael nifer sylweddol o geisiadau, sy'n cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Ac rwy'n gobeithio gallu ystyried hefyd a oes unrhyw gyllid pellach y gallwn ei ddarparu eleni pan fyddaf yn edrych ar y gyllideb gyfan o fewn y portffolio.

Finally, returning back to AI, I'm genuinely glad to see some of the announcements coming out of Welsh Government looking at how we might be able to harness AI. We know there's great potential there. But there are also significant risks. I was glad to see acknowledgement from the Cabinet Secretary of the potential of setting up a department within Welsh Government to look at AI. There was also talk of investing £2.5 million in, as the First Minister put it, showing visible leadership on AI across Wales's public services. It was also good to see the Cabinet Secretary's written statement on this, which offered some useful detail, and it's encouraging to see, as I said, that the Welsh Government is seeking to convene voices from academia and industry. But a concern remains that, while these efforts are well-intentioned, the Welsh Government may not currently hold the full set of levers required to shape and manage AI's rapid development or to mitigate its risks effectively.

While I appreciate that there are already groups exploring ethical guardrails in Wales, I think that we still lack a clear, joined-up picture of how these threads might actually come together in practice—something that I hope the new department will be able to pick up. So, could I finally ask the Cabinet Secretary to clarify what exactly that £2.5 million investment will deliver? Will the new AI department have real authority to co-ordinate AI policy across Government? And will we see a robust plan to manage economic disruption and protect workers, in particular, who are at risk of displacement? 

Yn olaf, gan ddychwelyd at ddeallusrwydd artiffisial, rwy'n wirioneddol falch o weld rhai o'r cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru ar sut y gallem harneisio deallusrwydd artiffisial. Gwyddom fod potensial enfawr yno. Ond mae risgiau sylweddol hefyd. Roeddwn yn falch o weld cydnabyddiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet i botensial sefydlu adran yn Llywodraeth Cymru i edrych ar ddeallusrwydd artiffisial. Roedd sôn hefyd am fuddsoddi £2.5 miliwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, mewn dangos arweinyddiaeth weladwy ar ddeallusrwydd artiffisial ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Roedd hefyd yn dda gweld datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn, a gynigiai rai manylion defnyddiol, ac mae'n galonogol gweld, fel y dywedais, fod Llywodraeth Cymru yn ceisio dod ynghyd â lleisiau o'r byd academaidd a diwydiant. Ond mae pryder o hyd, er bod yr ymdrechion hyn yn dda eu bwriad, efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru'r set lawn o ysgogiadau sydd eu hangen ar hyn o bryd i siapio a rheoli datblygiad cyflym deallusrwydd artiffisial, neu i liniaru ei risgiau'n effeithiol.

Er fy mod yn derbyn bod grwpiau eisoes yn archwilio canllawiau moesegol yng Nghymru, credaf ein bod yn dal yn brin o ddarlun clir, cydgysylltiedig o sut y gallai'r pethau hyn ddod at ei gilydd yn ymarferol—rhywbeth y gobeithiaf y bydd yr adran newydd yn gallu ei archwilio. Felly, i gloi, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yn union y bydd y buddsoddiad o £2.5 miliwn yn ei gyflawni? A fydd gan yr adran deallusrwydd artiffisial newydd awdurdod gwirioneddol i gydgysylltu polisi deallusrwydd artiffisial ar draws y Llywodraeth? Ac a fyddwn yn gweld cynllun cadarn i reoli tarfu economaidd ac i ddiogelu gweithwyr, yn arbennig, sydd mewn perygl o golli eu swyddi?

14:00

I agree that it's really important that we understand that the Welsh Government only has some of the levers, which is why the First Minister has been having discussions with the UK Government in relation to the office for AI, to help us take advantage of UK Government initiatives in this space as well.

The workers' rights issue is an absolutely critical one, and that's why the workforce partnership council for Wales has now already published some guidance on the ethical and responsible use of artificial intelligence across the public sector. That reinforces, really, our Welsh way of doing things in social partnership. So, I'm really pleased to see that and welcome the principles advocated by the guidance. They are are about preserving human oversight and interaction, ensuring fair work for all, building the capability to manage AI systems, and protecting jobs as well. So, all of those things are feeding into that particular piece of work.

I'm also really pleased to represent the Welsh Government on an international group that looks at disruptive and emerging technologies. They had a meeting very recently that specifically looked at the ethical implications of AI, and we're able to explore how we can learn from other countries as they also grapple with these challenges as well.

But, looking forward, I think that the additional funding announced by the First Minister, and the creation now of the office of AI, is going to give us that more strategic cross-Government approach. This isn't going to be an issue that is just for that office. Every single Minister, every single department, will be grappling with this. For example, I know that my colleague the health Secretary is doing lots of work to explore how the health service and the NHS can benefit from AI, and there are all kinds of applications in terms of benefits to patients. So, this is something that is for all of Government, and we're very keen to grapple with the challenges, but also make the most of what are undoubtedly huge opportunities.

Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall mai dim ond rhai o'r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth Cymru, a dyna pam y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r swydd deallusrwydd artiffisial, i'n helpu i fanteisio ar gynlluniau Llywodraeth y DU yn y gofod hwn hefyd.

Mae mater hawliau'r gweithwyr yn un hollol allweddol, a dyna pam y mae cyngor partneriaeth y gweithlu ar gyfer Cymru eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnydd moesegol a chyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial ar draws y sector cyhoeddus. Mae hynny'n atgyfnerthu ein ffordd Gymreig o wneud pethau mewn partneriaeth gymdeithasol. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny ac yn croesawu'r egwyddorion a argymhellir gan y canllawiau. Maent yn ymwneud â chadw goruchwyliaeth a rhyngweithiad dynol, sicrhau gwaith teg i bawb, adeiladu'r gallu i reoli systemau deallusrwydd artiffisial, a diogelu swyddi hefyd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cyfrannu at y gwaith hwnnw.

Rwyf hefyd yn falch iawn o gynrychioli Llywodraeth Cymru mewn grŵp rhyngwladol sy'n edrych ar dechnolegau aflonyddgar a thechnolegau newydd. Cawsant gyfarfod yn ddiweddar iawn i edrych yn benodol ar oblygiadau moesegol deallusrwydd artiffisial, a gallwn archwilio sut y gallwn ddysgu gan wledydd eraill wrth iddynt hwythau hefyd ymdopi â'r heriau hyn.

Ond wrth edrych tua'r dyfodol, rwy'n credu bod y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, a chreu swydd deallusrwydd artiffisial nawr, yn cynnig dull trawslywodraethol mwy strategol o weithredu. Nid mater ar gyfer y swydd honno'n unig yw hyn. Bydd pob Gweinidog, pob adran, yn ymdopi â hyn. Er enghraifft, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd iechyd yn gwneud llawer o waith i archwilio sut y gall y gwasanaeth iechyd a'r GIG elwa o ddeallusrwydd artiffisial, ac fe geir pob math o gymwysiadau o ran y budd i gleifion. Felly, mae hyn yn rhywbeth i'r Llywodraeth gyfan, ac rydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â'r heriau, ond hefyd i wneud y gorau o'r hyn sydd, yn ddi-os, yn gyfleoedd enfawr.

Y Sector Twristiaeth a Lletygarwch
The Tourism and Hospitality Sector

3. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am rôl y sector twristiaeth a lletygarwch yn strategaeth ddiwydiannol y DU? OQ62984

3. What discussions has the Cabinet Secretary had with the UK Government about the role of the tourism and hospitality sector in the UK's industrial strategy? OQ62984

I worked closely with the UK Government in the development of the industrial strategy, and that included discussion of priority sectors. I am expecting to discuss the tourism industry, in particular, with UK and devolved Government counterparts at an Interministerial Group for Tourism meeting on 22 July.

Gweithiais yn agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r strategaeth ddiwydiannol, ac roedd hynny'n cynnwys trafod sectorau â blaenoriaeth. Rwy'n disgwyl trafod y diwydiant twristiaeth, yn fwyaf arbennig, gyda chymheiriaid y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill mewn cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Dwristiaeth ar 22 Gorffennaf.

I hope, you know, like me—. I'm looking forward to those discussions, and let's see what you can bring forward for us here in Wales. Now, last month the UK Government published the so-called modern industrial strategy. Your party, Labour, say that they're taking targeted action to transform what you consider to be the highest potential sectors, yet tourism and hospitality is excluded. The only reference is the expectation that growth in the creative industries will create opportunities for the hospitality sector. That's an absolute disgrace and an insult to Wales.

The sector provides 11 per cent of employment, accounts for 5.1 per cent of gross value added in Wales, and is the backbone of economies in constituencies like Aberconwy. That is the tourism sector that I am talking about. This industry needs a positive sector plan in the face of punitive policies from you, the Welsh Labour Government, supported by Plaid Cymru, such as the business recycling rules, the tourism tax and holiday let changes. I could go on.

Why is it that neither the Welsh nor UK Governments are choosing to introduce positive plans to boost and support our really valuable tourism and hospitality sector in Wales? And it's sad to see a Minister here, laughing—laughing at the plight of our tourism and hospitality sector. 

Rwy'n gobeithio, wyddoch chi, fel finnau—. Rwy'n edrych ymlaen at y trafodaethau hynny, a gadewch inni weld beth y gallwch chi ei gynnig i ni yma yng Nghymru. Nawr, y mis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU y strategaeth ddiwydiannol fodern fel y'i gelwir. Mae eich plaid chi, Llafur, yn dweud eu bod yn cymryd camau wedi'u targedu i drawsnewid yr hyn a ystyriwch chi yn sectorau â'r potensial uchaf, ond mae twristiaeth a lletygarwch wedi'u heithrio. Yr unig gyfeiriad yw'r disgwyliad y bydd twf yn y diwydiannau creadigol yn creu cyfleoedd i'r sector lletygarwch. Mae hynny'n gywilydd ac yn sarhaus i Gymru.

Mae'r sector yn darparu 11 y cant o gyflogaeth, gyda 5.1 y cant o'r gwerth ychwanegol gros yng Nghymru, ac mae'n asgwrn cefn i economïau mewn etholaethau fel Aberconwy. Dyna'r sector twristiaeth rwy'n siarad amdano. Mae angen cynllun sector cadarnhaol ar y diwydiant yn wyneb eich polisïau cosbol chi, Lywodraeth Lafur Cymru, wedi eich cefnogi gan Blaid Cymru, fel y rheolau ailgylchu i fusnesau, y dreth dwristiaeth a newidiadau i osod llety gwyliau. Gallwn barhau.

Pam nad yw Llywodraeth Cymru na'r DU yn dewis cyflwyno cynlluniau cadarnhaol i hybu a chefnogi ein sector twristiaeth a lletygarwch gwirioneddol werthfawr yng Nghymru? Ac mae'n drist gweld Gweinidog yma yn chwerthin—yn chwerthin am sefyllfa ein sector twristiaeth a lletygarwch. 

So, just to be clear, no Ministers are laughing at the challenges facing the tourism and hospitality sector—[Interruption.

I fod yn glir, nid oes unrhyw Weinidogion yn chwerthin am yr heriau sy'n wynebu'r sector twristiaeth a lletygarwch—[Torri ar draws.

I'd like to hear the answer from the Cabinet Secretary, please.

Hoffwn glywed yr ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda.

So, the UK Government's industrial strategy, I think, has been warmly welcomed across sectors and across industry. It is place based and it is sectoral. We're very aware of that, which is why we're really keen to reassure sectors that don't find themselves explicitly mentioned within the industrial strategy that we absolutely still see them as a priority.

One of those is tourism. We do a huge amount of work to support the food sector in Wales. Now, that's not a sector within the industrial strategy, but it doesn't mean that we don't have a really strong focus on it. Similarly, in terms of that place-based approach, we're really keen and the First Minister's been very clear that she wants to take a more strategic approach to the rural economy, and we had a specific Cabinet meeting on the rural economy recently as well. So, there's a range of different sectors that I know will want reassurance that they remain a priority.

And when you look at the statistics—we've just heard some of them—the tourism industry is accounting for 11.8 per cent of employment in Wales, and generating 5.1 per cent of Wales's GVA at £3.8 billion. So, why wouldn't that be a priority? These are the reasons why we have supported the sector with a range of support. For example, I was recently able to launch the new weatherproofing fund. We launched that directly in response to requests from the sector. We asked what the biggest challenges they were facing were. One of them was the weather, so we were able to put in place that particular support. And, of course, we've just announced the recent projects benefiting from the latest round of the Brilliant Basics scheme as well.

And in terms of hospitality, we have, of course, supported a range of businesses through the futureproofing fund, allocating grants to hospitality businesses across Wales in 2024. And we are a member of the industry-led Wales tourism and hospitality skills partnership, recognising the importance of skills in the future as well.

So, I think that the industrial strategy is a strategy for industry. It's sectoral. It's really important in terms of playing to some of Wales's strength, including advanced manufacturing, the creative industries, technology and so on, but it's not the only game in town. There is support for other sectors, and a really focus on other sectors too.

Felly, mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cael ei chroesawu'n gynnes ar draws y sectorau ac ar draws diwydiant. Mae'n seiliedig ar le ac mae'n sectorol. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, a dyna pam ein bod yn awyddus iawn i dawelu meddyliau'r sectorau na chânt eu crybwyll yn benodol yn y strategaeth ddiwydiannol ein bod ni'n dal i'w gweld fel blaenoriaeth.

Un o'r rhain yw twristiaeth. Rydym yn gwneud llawer iawn o waith i gefnogi'r sector bwyd yng Nghymru. Nawr, nid yw hwnnw'n sector yn y strategaeth ddiwydiannol, ond nid yw'n golygu nad oes gennym ffocws cryf iawn arno. Yn yr un modd, o ran y dull sy'n seiliedig ar le, rydym yn awyddus iawn ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ei bod hi eisiau dull o weithredu'n fwy strategol ar yr economi wledig, ac fe gawsom gyfarfod penodol yn y Cabinet ar yr economi wledig yn ddiweddar hefyd. Felly, mae yna ystod o wahanol sectorau y gwn y byddant eisiau sicrwydd eu bod yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

A phan edrychwch ar yr ystadegau—rydym newydd glywed rhai ohonynt—mae 11.8 y cant o gyflogaeth yng Nghymru yn y diwydiant twristiaeth, ac mae'n cynhyrchu 5.1 y cant o werth ychwanegol gros Cymru, sef £3.8 biliwn. Felly, pam na fyddai hynny'n flaenoriaeth? Dyma'r rhesymau pam ein bod wedi cefnogi'r sector gydag ystod o gefnogaeth. Er enghraifft, fe lansiais gronfa gwrthsefyll tywydd newydd yn ddiweddar. Fe wnaethom lansio honno mewn ymateb uniongyrchol i geisiadau gan y sector. Fe wnaethom ofyn beth oedd yr heriau mwyaf a wynebent. Un ohonynt oedd y tywydd, felly fe fu modd i ni roi'r gefnogaeth benodol honno ar waith. Ac wrth gwrs, rydym newydd gyhoeddi'r prosiectau diweddar sy'n elwa o rownd ddiweddaraf cynllun y Pethau Pwysig hefyd.

Ac ar letygarwch, rydym wedi cefnogi amrywiaeth o fusnesau drwy'r gronfa sy'n diogelu at y dyfodol, gan ddyrannu grantiau i fusnesau lletygarwch ledled Cymru yn 2024. Ac rydym yn aelod o bartneriaeth sgiliau twristiaeth a lletygarwch Cymru dan arweiniad y diwydiant, i gydnabod pwysigrwydd sgiliau yn y dyfodol hefyd.

Felly, rwy'n credu bod y strategaeth ddiwydiannol yn strategaeth ar gyfer diwydiant. Mae'n sectorol. Mae'n bwysig iawn i hybu cryfderau Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, y diwydiannau creadigol, technoleg ac yn y blaen, ond nid dyna'r unig agwedd. Mae cefnogaeth i sectorau eraill, a ffocws gwirioneddol ar sectorau eraill hefyd.

14:05
Ynni Domestig Glân
Clean Domestic Energy

4. Pa fesurau y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i gyflymu'r symudiad tuag at ynni domestig glân? OQ62989

4. What measures is the Cabinet Secretary putting in place to accelerate the move towards clean domestic energy? OQ62989

We have set ambitious targets to fully meet our electricity needs from renewable energy by 2035 and ensure that we retain value in Wales. Through Ynni Cymru, we're investing in local projects like solar panels and heat pumps to deliver clean and affordable domestic energy.

Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i ddiwallu ein hanghenion trydan o ynni adnewyddadwy yn llawn erbyn 2035 a sicrhau ein bod yn cadw gwerth yng Nghymru. Drwy Ynni Cymru, rydym yn buddsoddi mewn prosiectau lleol fel paneli solar a phympiau gwres i ddarparu ynni domestig glân a fforddiadwy.

Os ydyn ni am gwrdd ag ymrwymiad Cymru i sero net, rhaid inni gynyddu graddfa a chyflymder gosod gwres glân yn ein cartrefi ni. Dwi wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i gael gwared ar gyfyngiadau cynllunio sy'n arafu gallu pobl i osod ffynonellau ynni a gwres gwyrdd yn eu cartrefi, gan gynnwys y rheol 3m ar gyfer pympiau gwres aer. Felly, dwi'n falch eich bod chi'n symud ar yr agwedd benodol yna. Ond mae yna lawer iawn mwy y gellid ei wneud gan y Llywodraeth yma, ac mae angen bod yn fwy uchelgeisiol o gofio bod anheddau byw yn gyfrifol am tua 10 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ydych chi'n cytuno, felly, ei bod hi'n bryd cyflwyno rhaglen gwella tai sydd ar sail ardal ac sydd yn cynnwys symud i ffynonellau gwres glân? Onid ydy'n bryd cyflwyno rhaglen llawer mwy uchelgeisiol na'r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd?

If we are to adhere to Wales's commitment to net zero, we must accelerate the extent and pace of installing clean heating systems in our homes. I've been calling on the Government to eradicate the planning restrictions that slow down people's ability to install green heating and energy systems in their homes, including the 3m rule for air-source heat pumps. So, I'm pleased that you are making progress on that specific aspect. But there is far more that could be done by this Government, and we have to be more ambitious, bearing in mind that homes are responsible for about 10 per cent of greenhouse gas emissions. Do you agree, therefore, that it's time to introduce a home improvements programme that's region based and includes moving towards clean heat sources? Isn't it time that we introduced a far more ambitious programme than is currently in place?

I'm grateful for the question, and also for the recognition of the work that we're doing at the moment to consult on the rules surrounding the installation of air-source heat pumps. For the benefit of other colleagues, we're currently consulting on either removing or lowering the 3m rule. That consultation is open at the moment, and I know that there'll be interest in making submissions to that.

We do have the heat strategy for Wales. That was published in July of last year. That followed some extensive consultation, and that really does set out the pathway to decarbonising heat in domestic settings, as well as industrial settings, to achieve net zero. It demonstrates how we can reach that ambition for net zero in the public sector also. Essentially, it's a vision for clean, affordable heat in Wales. It does set out a range of activity that we need to deliver against a range of timescales as well. 

Alongside that, we published an enabling plan, and that looked at what we needed to deliver in terms of skills, public engagement, supply chains and the grid in order to deliver on our ambitions within that plan. Part of our ambitions within that plan also is around ensuring that more people are able to benefit from heat pumps. We do have an ambition to install 580,000 heat pumps by 2035. Now, that will depend on UK Government support and falling technology costs, but we recognise that this is a big opportunity for households to have lower cost, reliable heat in future. So, the strategy is there, and we certainly have some ambitious goals in that space as well.

Diolch am y cwestiwn, a hefyd am gydnabod y gwaith a wnawn ar hyn o bryd i ymgynghori ar y rheolau sy'n gysylltiedig â gosod pympiau gwres o'r aer. Er budd cyd-Aelodau eraill, rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori naill ai ar ddileu neu ostwng y rheol 3 metr. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n agored ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod y bydd yna ddiddordeb mewn gwneud sylwadau yn rhan o hwnnw.

Mae gennym strategaeth wres i Gymru. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Fe ddaeth yn sgil ymgynghori helaeth, ac mae'n nodi'r llwybr i ddatgarboneiddio gwres mewn lleoliadau domestig, yn ogystal â lleoliadau diwydiannol, er mwyn cyflawni sero net. Mae'n dangos sut y gallwn gyrraedd yr uchelgais o sero net yn y sector cyhoeddus hefyd. Yn y bôn, mae'n weledigaeth ar gyfer gwres glân a fforddiadwy yng Nghymru. Mae'n nodi ystod o weithgareddau y mae angen inni eu cyflawni yn erbyn ystod o amserlenni. 

Ochr yn ochr â hynny, fe wnaethom gyhoeddi cynllun galluogi a edrychai ar yr hyn roedd angen inni ei gyflawni o ran sgiliau, ymgysylltu â'r cyhoedd, cadwyni cyflenwi a'r grid er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o fewn y cynllun hwnnw. Rhan o'n huchelgeisiau o fewn y cynllun hefyd yw sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa o bympiau gwres. Mae gennym uchelgais i osod 580,000 o bympiau gwres erbyn 2035. Nawr, bydd hynny'n dibynnu ar gefnogaeth Llywodraeth y DU a chostau technoleg is, ond rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfle mawr i aelwydydd gael gwres dibynadwy ar gost is yn y dyfodol. Felly, mae'r strategaeth yno, ac yn sicr mae gennym nodau uchelgeisiol yn y gofod hwnnw hefyd.

14:10

The UK Government's Warm Homes programme includes a Barnett consequential estimated by National Energy Action to be up to £660 million for Wales, plus an annual consequential of £50 million from the UK crisis and resilience fund. While this will be part of a broader UK devolved settlement, and the Welsh Government has indicated it won't make major spending decisions before the May 2026 Senedd elections, it remains essential that Welsh Government invest this to cut bills, tackle fuel poverty and accelerate progress to benefit the environment, a view echoed by the Senedd's Equality and Social Justice Committee. This funding presents a major opportunity to help address fuel poverty and improve the warmth, efficiency and health of homes, with benefits including lower energy bills, better health and well-being, increased property value, job creation, improved air quality and reduced emissions. What assurance can you therefore provide that the funding on your watch will be used to boost Wales's Warm Homes programme, including the Nest scheme and a new scheme targeting the most energy inefficient homes? 

Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU yn cynnwys swm canlyniadol Barnett yr amcangyfrifir gan National Energy Action ei fod yn darparu hyd at £660 miliwn i Gymru, ynghyd â swm canlyniadol blynyddol o £50 miliwn o gronfa argyfwng a gwydnwch y DU. Er y bydd hyn yn rhan o setliad datganoledig ehangach yn y DU, a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd yn gwneud penderfyniadau gwariant mawr cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026, mae'n parhau'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi hwn i dorri biliau, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a chyflymu cynnydd er budd yr amgylchedd, barn a adleisiwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd. Mae'r cyllid hwn yn gyfle mawr i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella cynhesrwydd, effeithlonrwydd ac iechyd cartrefi, ac ymhlith y manteision, mae biliau ynni is, iechyd a lles gwell, mwy o werth i eiddo, creu swyddi, ansawdd aer gwell a llai o allyriadau. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi felly y bydd y cyllid o dan eich goruchwyliaeth chi'n cael ei ddefnyddio i roi hwb i raglen Cartrefi Clyd Cymru, yn cynnwys cynllun Nyth a chynllun newydd sy'n targedu'r cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni? 

I'm grateful for those points, and I would again point colleagues to the heat strategy for Wales, which does set out a range of activity. The work that the Welsh Government does in relation to fuel poverty and Warm Homes sits in my colleague the Cabinet Secretary for Housing and Local Government's portfolio, but she will be acutely aware of the funding announced by the UK Government. Of course, we're very early on at the moment in terms of the budget cycle for this year, so I'm not able to make any commitments at this point.

Diolch am y pwyntiau hynny, a hoffwn gyfeirio unwaith eto at strategaeth wres Cymru, sy'n nodi ystod o weithgareddau. Mae'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas â thlodi tanwydd a Cartrefi Clyd ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, ond fe fydd hi'n ymwybodol iawn o'r cyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, mae'n gynnar iawn yng nghylch y gyllideb ar gyfer eleni, felly ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau ar hyn o bryd.

Good afternoon, Cabinet Secretary. Yes, I welcome the ambitions around accelerating the roll-out of clean, home-grown energy, but one issue that continues to come up is how we can ensure that that happens in a way that doesn't damage our environment. Obviously, the issue around pylons and undergrounding keeps coming up when we're talking to people about renewable energy. One of the issues is that it feels like we're not able to move forward without the report of the special independent advisory group that was commissioned some time ago. It was due to report at the end of March and still hasn't reported, so actually we're in a place where communities and developers can't plan effectively or respond without this report. Farmers and communities I've spoken to are really keen to have clean renewable energy, but they want to see those cables underground. So, may I press you again, please? Would you be able to guarantee that that report will be released by the end of this term, so that we're able to look at that and digest that over the summer? It will be at least three months late if that's the case. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r uchelgeisiau ynghylch cyflymu'r broses o gyflwyno ynni glân, domestig, ond un mater sy'n parhau i godi yw sut y gallwn sicrhau bod hynny'n digwydd mewn ffordd nad yw'n niweidio ein hamgylchedd. Yn amlwg, mae mater peilonau a'u gosod o dan y ddaear yn parhau i godi pan fyddwn yn siarad â phobl am ynni adnewyddadwy. Un o'r materion sy'n codi yw ei bod yn teimlo'n amhosibl symud ymlaen heb adroddiad y grŵp cynghori annibynnol arbennig a gomisiynwyd beth amser yn ôl. Roedd i fod i gyflwyno'i adroddiad ddiwedd mis Mawrth ac nid yw wedi gwneud hynny eto, felly rydym mewn sefyllfa lle na all cymunedau a datblygwyr gynllunio'n effeithiol nac ymateb heb yr adroddiad hwn. Mae ffermwyr a chymunedau y siaradais â hwy'n awyddus iawn i gael ynni adnewyddadwy glân, ond maent eisiau gweld y ceblau'n mynd o dan y ddaear. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi eto, os gwelwch yn dda? A allwch chi warantu y bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei ryddhau erbyn diwedd y tymor hwn, fel y gallwn edrych arno ac ystyried ei gynnwys dros yr haf? Fe fydd o leiaf dri mis yn hwyr os digwydd hynny. Diolch yn fawr iawn.

I would love to see that report as soon as possible. It is an independent group and an independent report, so the timing of the publication of that report is in the hands of the group rather than the Welsh Government, but I'm as anxious as anybody to see the work that they've been doing. I think perhaps the length of time it has taken to produce the report probably speaks to some of the complexity that there is in terms of achieving consensus on something that is such a complex issue, where there is such a wide range of evidence to consider. We've asked them specifically to provide some advice on costs, for example, and we know that there is a whole range of evidence that they need to explore when they look at that. So, I absolutely understand the keenness of both communities and developers to get clarity, and I wait with anticipation for that report, and I absolutely do hope that we're in a position to see it this side of summer recess. But, as I say, that unfortunately is in the hands of the group rather than the Welsh Government. 

Byddwn wrth fy modd yn gweld yr adroddiad hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae'n grŵp annibynnol ac yn adroddiad annibynnol, felly mae amseriad cyhoeddi'r adroddiad yn nwylo'r grŵp yn hytrach na Llywodraeth Cymru, ond rwyf mor awyddus ag unrhyw un i weld y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud. Rwy'n credu efallai fod yr amser y mae wedi'i gymryd i gynhyrchu'r adroddiad yn debygol o ddweud rhywbeth am gymhlethdod sicrhau consensws ar rywbeth sy'n fater mor gymhleth, lle mae ystod mor eang o dystiolaeth i'w hystyried. Rydym wedi gofyn iddynt yn benodol i ddarparu cyngor ar gostau, er enghraifft, ac rydym yn gwybod bod yna ystod eang o dystiolaeth y mae angen iddynt ei harchwilio pan fyddant yn edrych ar hynny. Felly, rwy'n llwyr ddeall awydd cymunedau a datblygwyr i gael eglurder, ac rwy'n aros yn eiddgar am yr adroddiad hwnnw, ac yn gobeithio'n fawr y byddwn mewn sefyllfa i'w weld yr ochr hon i doriad yr haf. Ond fel y dywedais, yn anffodus, mae hynny yn nwylo'r grŵp yn hytrach na Llywodraeth Cymru. 

Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam
Wrexham's Local Development Plan

5. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghylch ei gynllun datblygu lleol? OQ62983

5. What recent discussions has the Welsh Government had with Wrexham County Borough Council regarding their local development plan? OQ62983

Following the legal ruling to quash the council’s decision to adopt their local development plan, reverting it back to an emerging plan, I recently met with the leader of the council to discuss various options on a way forward. I am now awaiting a formal response from the council.

Yn dilyn y dyfarniad cyfreithiol i ddiddymu penderfyniad y cyngor i fabwysiadu eu cynllun datblygu lleol, gan ei droi'n ôl yn gynllun sy'n datblygu, cyfarfûm yn ddiweddar ag arweinydd y cyngor i drafod gwahanol opsiynau ar gyfer ffordd ymlaen. Rwy'n aros nawr am ymateb ffurfiol gan y cyngor.

The Cabinet Secretary is obviously very well aware of the issues surrounding Wrexham's LDP. Originally, it should have covered the period 2013 to 2028, but it has remained unadopted. Following the court ruling you referred to, it does appear there's no quick fix or, sadly, an end in sight. Not having an LDP in place does leave Wrexham open to speculative developments. Last month, in speaking to Wrexham.com, the First Minister highlighted the importance of working together,

'so we all can get on the same page and move forward. For the sake of the people of Wrexham.'

I absolutely echo the First Minister's comments. Many would agree the ongoing uncertainty and lack of clarity is extremely unhelpful, so it's very good that you've met recently with the leader of the local authority. Could you please outline the next steps and state how you believe this long-running saga can finally be satisfactorily resolved?  

Mae'n amlwg fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n gysylltiedig â chynllun datblygu lleol Wrecsam. Yn wreiddiol, dylai fod wedi cwmpasu'r cyfnod 2013 i 2028, ond mae'n dal i fod heb ei fabwysiadu. Yn dilyn y dyfarniad llys y cyfeirioch chi ato, mae'n ymddangos nad oes ateb cyflym na diwedd yn y golwg, yn anffodus. Mae peidio â chael cynllun datblygu lleol yn ei le yn gadael Wrecsam yn agored i hapddatblygiadau. Fis diwethaf, wrth siarad â Wrecsam.com, tynnodd y Prif Weinidog sylw at bwysigrwydd gweithio gyda'n gilydd,

'i ni i gyd allu symud ymlaen yn unedig. Er mwyn pobl Wrecsam.'

Rwy'n adleisio'n llwyr sylwadau'r Prif Weinidog. Byddai llawer yn cytuno bod yr ansicrwydd parhaus a'r diffyg eglurder yn hynod o ddi-fudd, felly mae'n dda iawn eich bod chi wedi cyfarfod ag arweinydd yr awdurdod lleol yn ddiweddar. A wnewch chi amlinellu'r camau nesaf a nodi sut y credwch chi y gellir datrys y saga faith o'r diwedd?  

14:15

I'm very grateful for the question. As I say, I did meet recently with the leader, alongside the Cabinet Secretary for Housing and Local Government, to explore ways forward. I agree that without a clear vision for the future backed up by a statutory plan, local authorities are vulnerable to those speculative developments in a way that might not meet the needs of communities. So, it's really important for communities to have a plan in place.

Following the meeting where we did explore potential options as a way forward, the onus is now on the council to advise Welsh Ministers on a way through, and they will need to agree that, I think, through a full council meeting. We are, of course, keen to work with the council to enable anything that the council believes needs to happen in order to achieve a plan. But as I say, we now await a formal response from the council following the meeting. It is really now for the council to identify that way forward. There are options available to the council, and we're keen to support where we can.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Fel y dywedais, fe wneuthum gyfarfod â'r arweinydd yn ddiweddar, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, i archwilio ffyrdd ymlaen. Heb weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol wedi'i chefnogi gan gynllun statudol, rwy'n cytuno bod awdurdodau lleol yn agored i hapddatblygiadau mewn ffordd nad yw'n diwallu anghenion cymunedau. Felly, mae'n bwysig iawn i gymunedau gael cynllun ar waith.

Yn dilyn y cyfarfod lle gwnaethom archwilio opsiynau posibl fel ffordd ymlaen, mae'r cyfrifoldeb bellach ar y cyngor i gynghori Gweinidogion Cymru ar ffordd drwodd, a bydd angen iddynt gytuno ar hynny mewn cyfarfod o'r cyngor llawn. Rydym yn awyddus i weithio gyda'r cyngor i alluogi unrhyw beth y mae'r cyngor yn credu bod angen iddo ddigwydd er mwyn cyflawni cynllun. Ond fel y dywedaf, rydym yn aros am ymateb ffurfiol gan y cyngor nawr yn dilyn y cyfarfod. Mater i'r cyngor nawr yw nodi'r ffordd ymlaen. Mae opsiynau ar gael i'r cyngor, ac rydym yn awyddus i gefnogi lle gallwn.

Maes Awyr Caerdydd
Cardiff Airport

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd? OQ62979

6. Will the Cabinet Secretary provide an update on Welsh Government funding for Cardiff Airport? OQ62979

Today I issued a written statement regarding an update on the long-term subsidy for Cardiff Airport, and I kindly refer the Member to my statement.

Heddiw, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â diweddariad ar y cymhorthdal hirdymor i Faes Awyr Caerdydd, ac rwy'n cyfeirio'r Aelod at fy natganiad.

Thank you for your response, Cabinet Secretary, and for the written statement that was shared with Members this morning. Of course, Cardiff Airport, nationalised by the Labour Welsh Government in 2013, has already cost taxpayers close to £200 million, and Labour Ministers have decided to put a further £205 million into it over the next decade. That's £286 for every household here in Wales. That's a really significant amount of money, particularly given passenger numbers still remain below those pre-pandemic levels, and a significant amount of money for my constituents in north Wales, where Cardiff Airport is a four-hour drive away.

We heard from Darren Millar yesterday in First Minister's questions that Bristol Airport, by contrast, has impressive passenger numbers with a record year in 2024. You referenced your written statement in your initial response to me, Cabinet Secretary, and that written statement also outlines the fact that you are now on the receiving end of a legal challenge against that £205 million subsidy to Cardiff Airport, with that legal action coming from Bristol Airport via the Competition Appeal Tribunal. So, people will be asking, Cabinet Secretary, at what point will the Welsh Government admit that the current approach is not working, and at what point will you sell the airport and have somebody run it who actually knows what they're doing.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y datganiad ysgrifenedig a rannwyd gyda'r Aelodau y bore yma. Wrth gwrs, mae Maes Awyr Caerdydd, a wladolwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru yn 2013, eisoes wedi costio bron i £200 miliwn i drethdalwyr, ac mae Gweinidogion Llafur wedi penderfynu rhoi £205 miliwn arall iddo dros y degawd nesaf. Dyna £286 am bob cartref yma yng Nghymru. Mae hwnnw'n swm sylweddol iawn o arian, yn enwedig o ystyried bod nifer y teithwyr yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig, ac mae'n swm sylweddol o arian i fy etholwyr yng ngogledd Cymru, lle mae Maes Awyr Caerdydd bedair awr i ffwrdd yn y car.

Clywsom gan Darren Millar ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod Maes Awyr Bryste, ar y llaw arall, yn denu niferoedd trawiadol o deithwyr, a mwy nag erioed yn 2024. Fe gyfeirioch chi at eich datganiad ysgrifenedig yn eich ymateb cychwynnol i mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'r datganiad ysgrifenedig hwnnw hefyd yn amlinellu'r ffaith eich bod chi bellach yn wynebu her gyfreithiol gan Faes Awyr Bryste yn erbyn y cymhorthdal o £205 miliwn i Faes Awyr Caerdydd drwy'r Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth. Felly, bydd pobl yn gofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ba bwynt y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfaddef nad yw'r dull presennol o weithredu'n gweithio, ac ar ba bwynt y byddwch chi'n gwerthu'r maes awyr a chael rhywun i'w redeg sy'n gwybod beth y maent yn ei wneud.

Just to provide some clarity on the figures that were referred to at the start of the contribution there, over the 22-year period that Bristol looked at when they provided those figures, which I believe the Member quoted this afternoon, in cash terms our total investment in the airport will come to just £13 per year for each household, or less than £6 for each citizen in Wales. I think it's important to provide that level of perspective.

As colleagues have said, there has been an appeal submitted against the Welsh Government's decision to provide that subsidy support to enable the economic growth potential of the airport. As a consequence now of that court action, I can't comment much further at this stage, other than to say that we absolutely recognise the importance of Cardiff Airport to the economy of the south Wales region, with thousands of jobs stemming from the airport and the economic ecosystem that is supported by it. We believe very strongly that with the right investment, the airport has the potential to make an even greater contribution to the economy, creating additional jobs and further boosting regional gross value added.

The Welsh Government investment that we propose will allow Welsh Ministers to oversee the strategic direction of the airport on the delivery of long-term economic growth, with a view to realising these benefits for the whole of the south Wales economy. We've chosen to invest in the airport to ensure economic stability and growth around that whole region. I think that our willingness to commit significant funding for the long term does reflect the confidence that we do have in the airport's economic growth potential. And, of course, just a reminder for colleagues that the Welsh Government doesn't run the airport, although Wales does own the airport.

I roi rhywfaint o eglurder ar y ffigurau y cyfeiriwyd atynt ar ddechrau'r cyfraniad yno, dros y cyfnod o 22 mlynedd yr edrychodd Bryste arno pan wnaethant ddarparu'r ffigurau a ddyfynnodd yr Aelod y prynhawn yma, yn nhermau arian parod bydd cyfanswm ein buddsoddiad yn y maes awyr yn £13 y flwyddyn yn unig am bob aelwyd, neu lai na £6 am bob dinesydd yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig darparu'r lefel honno o bersbectif.

Fel y dywedodd cyd-Aelodau, cyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cymhorthdal i alluogi potensial twf economaidd y maes awyr. O ganlyniad i'r achos llys hwnnw, ni allaf ddweud llawer iawn mwy ar hyn o bryd, heblaw nodi ein bod yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd Maes Awyr Caerdydd i economi rhanbarth de Cymru, gyda miloedd o swyddi'n deillio o'r maes awyr a'r ecosystem economaidd a gefnogir ganddo. Gyda'r buddsoddiad cywir, rydym yn credu'n gryf iawn fod gan y maes awyr botensial i wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy i'r economi, gan greu swyddi ychwanegol a rhoi hwb pellach i werth ychwanegol gros y rhanbarth.

Bydd y buddsoddiad a argymhellwn gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i Weinidogion Cymru oruchwylio cyfeiriad strategol y maes awyr ar gyfer cyflawni twf economaidd hirdymor, gyda'r nod o wireddu'r manteision hyn i economi gyfan de Cymru. Rydym wedi dewis buddsoddi yn y maes awyr i sicrhau sefydlogrwydd economaidd a thwf o amgylch y rhanbarth cyfan. Rwy'n credu bod ein parodrwydd i ymrwymo cyllid sylweddol ar gyfer y tymor hir yn adlewyrchu'r hyder sydd gennym ym mhotensial twf economaidd y maes awyr. Ac wrth gwrs, dylwn atgoffa cyd-Aelodau nad Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg y maes awyr, er mai Cymru sy'n berchen arno.

14:20
Parcffordd Caerdydd
Cardiff Parkway

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni datblygiad Parcffordd Caerdydd yn dilyn yr adolygiad gyda chyd-bartneriaid y fenter y disgwylir iddo ddod i gasgliad ddechrau mis Gorffennaf? OQ63005

7. Will the Cabinet Secretary provide an update on Welsh Government support for the delivery of the Cardiff Parkway development following the review with joint venture partners that's due to conclude in early July? OQ63005

The initial review of the Cardiff parkway, which was commissioned following the grant of planning consent, has been completed this week. Officials will now meet with the joint venture partners to consider the content, and I will provide an update once a way forward has been agreed.

Mae'r adolygiad cychwynnol o barcffordd Caerdydd, a gomisiynwyd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio, wedi'i gwblhau yr wythnos hon. Bydd swyddogion yn cyfarfod â chyd-bartneriaid y fenter nawr i ystyried y cynnwys, a byddaf yn darparu'r newyddion diweddaraf pan gytunir ar ffordd ymlaen.

Thank you. In case people haven't noticed, the Cardiff parkway is a significant economic development opportunity built on a new sustainable transport development. The funding certainty that is required comes, of course, after a significant planning delay, and I recognise you weren't responsible for that planning delay, although planning is now within your job title. The First Minister committed to undertaking a lessons-learning exercise around that planning process, and I'd be interested, if not now, then in the future, if you could say something about that.

The range of delivery partners are not just the private sector partners and the Welsh Government in the joint venture board, of course. The UK Government have a role to play, because the track itself will remain a UK asset, and work is needed to be undertaken on the track to help deliver the whole parkway scheme. I am looking for an injection of pace, certainty and ambition. What I'd like to know is when do you believe there will be a delivery plan with funding certainty, following the review. It's good to hear that you're going to update the Chamber in due course, but, crucially, I want to understand when we can expect to see work commencing on the delivery of the parkway development.

Diolch. Rhag ofn nad yw pobl wedi sylwi, mae parcffordd Caerdydd yn gyfle datblygu economaidd sylweddol wedi'i adeiladu ar ddatblygiad trafnidiaeth gynaliadwy newydd. Daw'r sicrwydd ariannol sy'n ofynnol ar ôl oedi sylweddol yn y broses gynllunio, ac rwy'n cydnabod nad chi oedd yn gyfrifol am yr oedi hwnnw, er bod cynllunio bellach yn rhan o deitl eich swydd. Ymrwymodd y Prif Weinidog i gynnal ymarfer dysgu gwersi mewn perthynas â'r broses gynllunio honno, a hoffwn i chi ddweud rhywbeth am hynny yn y dyfodol, os nad nawr.

Nid partneriaid sector preifat a Llywodraeth Cymru yw'r unig bartneriaid cyflawni ar fwrdd y gyd-fenter wrth gwrs. Mae gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae, oherwydd bydd y trac ei hun yn parhau i fod yn ased y DU, ac mae angen gwneud gwaith ar y trac i helpu i gyflawni'r cynllun parcffordd cyfan. Rwy'n chwilio am chwistrelliad o gyflymder, sicrwydd ac uchelgais. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pryd y credwch chi y bydd cynllun cyflawni gyda sicrwydd cyllido ar gael, yn dilyn yr adolygiad. Mae'n dda clywed eich bod chi'n mynd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr maes o law, ond yn hollbwysig, rwyf am ddeall pryd y gallwn ddisgwyl gweld gwaith yn dechrau ar gyflawni datblygiad y parcffordd.

I would absolutely agree that the project's benefits in terms of the economy and employment prospects for people in the area, and the improved connectivity for communities as well, provide a huge opportunity for the east of Cardiff. The initial review now that has been undertaken will help us understand what the best way forward would be. I think it was inevitable, really, that the project would need to go through that further point of review, to consider the scope and the viability of the overall masterplan, because inflation in the building sector alone has demanded that we re-evaluate our previous assumptions, to ensure that the project can be delivered and whether any alterations might be necessary as a result of those changes.

The financial structure of the project does remain to be determined, and there are a number of sequential actions that will need to be completed before we get to that point. But as I say, the review that has just been completed will provide a more in-depth scoping programme now, with the intention of ensuring that the parkway is fit for purpose.

Consequently, Cardiff Parkway Developments Ltd and South Wales Infrastructure Ltd must then decide what will go forward for the detailed design and planning. We will be fully engaged in those processes, but, of course, engaging the UK Government, as appropriate, as important partners in this as well. That wider work on planning we can have a further conversation about in due course, but colleagues will be familiar with the range of interventions that I've put in place in terms of planning to speed up the decision-making process, and I've done those things very recently.

I was able to provide Natural Resources Wales and Planning and Environment Decisions Wales with additional funding. We've been able to, through a new model through Net Zero Industry Wales, provide some additional expertise, and we're also looking at regional models now to support the use of some of those rarer skills.

Just a week or so ago, I did announce our response to the consultation on planning as well, which included moving towards full cost recovery for planning applications, so that local authorities are able to reinvest those moneys into the planning services. The intention is very much that that is reinvested in order to improve the experience that developers have, and the way in which communities are able to engage with those applications.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod manteision y prosiect i'r economi a rhagolygon cyflogaeth i bobl yn yr ardal, a'r cysylltedd gwell i gymunedau yn darparu cyfle enfawr i ddwyrain Caerdydd. Bydd yr adolygiad cychwynnol sydd wedi'i gynnal yn ein helpu i ddeall beth fyddai'r ffordd orau ymlaen. Rwy'n credu ei bod yn anochel mewn gwirionedd y byddai angen i'r prosiect fynd trwy bwynt adolygu pellach, i ystyried cwmpas a hyfywedd yr uwchgynllun cyffredinol, oherwydd mae chwyddiant yn y sector adeiladu yn unig wedi mynnu ein bod yn ailwerthuso ein rhagdybiaethau blaenorol, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r prosiect ac i weld a allai fod angen unrhyw addasu o ganlyniad i'r newidiadau hynny.

Mae strwythur ariannol y prosiect i'w benderfynu o hyd, ac mae nifer o gamau gweithredu dilynol y bydd angen eu cwblhau cyn inni gyrraedd y pwynt hwnnw. Ond fel y dywedaf, bydd yr adolygiad sydd newydd gael ei gwblhau yn darparu rhaglen gwmpasu fwy manwl nawr, gyda'r bwriad o sicrhau bod y barcffordd yn addas i'r diben.

O ganlyniad, rhaid i Cardiff Parkway Developments Ltd a South Wales Infrastructure Ltd benderfynu beth fydd yn mynd ymlaen i'r cam dylunio a chynllunio manwl. Byddwn yn ymwneud yn llawn â'r prosesau hynny, ond yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU, fel y bo'n briodol, fel partneriaid pwysig yn hyn hefyd. Gallwn gael sgwrs bellach am y gwaith ehangach ar gynllunio maes o law, ond bydd fy nghyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r ystod o ymyriadau a roddais ar waith o ran cynllunio i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau, ac fe wneuthum y pethau hynny yn ddiweddar iawn.

Roeddwn i'n gallu darparu cyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Drwy fodel newydd yn sgil Diwydiant Sero Net Cymru, rydym wedi gallu darparu arbenigedd ychwanegol, ac rydym hefyd yn edrych ar fodelau rhanbarthol nawr i gefnogi'r defnydd o rai o'r sgiliau prinnach hynny.

Wythnos yn ôl, cyhoeddais ein hymateb i'r ymgynghoriad ar gynllunio hefyd, a oedd yn cynnwys symud tuag at adennill costau llawn ar gyfer ceisiadau cynllunio, fel bod awdurdodau lleol yn gallu ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn y gwasanaethau cynllunio. Y bwriad yw bod hynny'n cael ei ailfuddsoddi er mwyn gwella'r profiad i ddatblygwyr, a'r ffordd y mae cymunedau'n gallu ymgysylltu â'r cymwysiadau hynny.

Ynni ar gyfer Seilwaith Hanfodol
Energy for Critical Infrastructure

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warantu darpariaeth cyflenwadau ynni i seilwaith cenedlaethol hanfodol? OQ62990

8. What action is the Welsh Government taking to guarantee the provision of energy supplies to critical national infrastructure? OQ62990

14:25

The provision of energy supplies to critical national infrastructure is a reserved matter. However, the Welsh Government works closely with stakeholders in Wales, including local resilience fora, to put in place the necessary capabilities to plan for risks associated with the interruption to energy supplies.

Mae darparu cyflenwadau ynni ar gyfer seilwaith cenedlaethol hanfodol yn fater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys fforymau gwydnwch lleol, i roi'r galluoedd angenrheidiol ar waith i gynllunio ar gyfer risgiau sy'n gysylltiedig â thoriadau i gyflenwadau ynni.

Thank you for that response, Cabinet Secretary. Last week saw the release of details about the fire that ground Heathrow Airport to a halt for days on end. As if to underline the vulnerability of our energy grid, the power failure saw the closure of the M4 in both directions, having a serious impact on transport to and from Wales.

An investigation found that National Grid had been aware of a problem at the substation that supplies Heathrow for seven years, but failed to fix it. Just as worrying, the report also found that energy network operators are not generally aware whether customers connected to their network are critical national infrastructure.

Cabinet Secretary, I know the Welsh Government are not responsible for the grid. However, you are responsible for our critical infrastructure. What discussions have you had with the National Energy System Operator and the energy companies to ensure that lessons are learnt to protect infrastructure here in Wales?

Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf gwelwyd rhyddhau manylion am y tân a ddaeth â Maes Awyr Heathrow i stop am ddyddiau lawer. Fel pe bai i danlinellu bregusrwydd ein grid ynni, caeodd y toriad yn y pŵer yr M4 i'r ddau gyfeiriad, gan effeithio'n ddifrifol ar drafnidiaeth i Gymru ac oddi yma.

Canfu ymchwiliad fod y Grid Cenedlaethol wedi bod yn ymwybodol o broblem yn yr is-orsaf sy'n cyflenwi Heathrow ers saith mlynedd, ond wedi methu ei drwsio. Yr un mor bryderus, canfu'r adroddiad hefyd nad yw gweithredwyr rhwydwaith ynni yn ymwybodol yn gyffredinol a yw cwsmeriaid sydd wedi'u cysylltu â'u rhwydwaith yn seilwaith cenedlaethol hanfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod nad yw'r grid yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Ond chi sy'n gyfrifol am ein seilwaith hanfodol. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol a'r cwmnïau ynni i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu i ddiogelu seilwaith yma yng Nghymru?

I'm grateful for the question. I meet regularly with both NESO and with individual energy companies. I was really pleased, actually, on a visit to RWE in Pembroke just last week, to explore some issues, including the situation that happened in Portugal. I was really interested that RWE is constructing something called a synchronous condenser—I was hoping I'd get the chance to say that in the Chamber today. That's a really interesting piece of kit that will prevent situations such as that which we saw in Portugal, which really did affect national infrastructure, happening in Wales. I think that is a really important investment.

But then, more widely, the First Minister has set out our priorities for enhancing our own national resilience and the associated priorities around that in the Wales resilience framework, which was announced by the First Minister in May of this year. That was developed in partnership with the emergency responder community and does help us in terms of how we would respond to any issue that related to disruptions to our energy supplies.

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol a chwmnïau ynni unigol. Ar ymweliad â RWE ym Mhenfro yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o archwilio rhai materion, gan gynnwys y sefyllfa a ddigwyddodd ym Mhortiwgal. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y ffaith bod RWE yn adeiladu rhywbeth o'r enw cyddwysydd cydamserol—roeddwn i'n gobeithio y byddwn i'n cael cyfle i ddweud hynny yn y Siambr heddiw. Mae'n offeryn diddorol iawn a fydd yn atal sefyllfaoedd fel yr hyn a welsom ym Mhortiwgal, a effeithiodd yn fawr ar seilwaith cenedlaethol, rhag digwydd yng Nghymru. Rwy'n credu bod hwnnw'n fuddsoddiad pwysig iawn.

Ond yn fwy eang, mae'r Prif Weinidog wedi nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gwella ein gwydnwch cenedlaethol ein hunain a'r blaenoriaethau cysylltiedig o amgylch hynny yn fframwaith gwydnwch Cymru, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mai eleni. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â'r gymuned ymatebwyr brys ac mae'n ein helpu o ran sut y byddem yn ymateb i unrhyw broblem yn gysylltiedig â tharfu ar ein cyflenwadau ynni.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
2. Questions to the Cabinet Secretary for Health and Social Care

Eitem 2 heddiw yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y cwestiwn gyntaf gan Peter Fox.

Item 2 today is questions to the Cabinet Secretary for Health and Social Care. The first question will be asked by Peter Fox.

Newidiadau i Ddeintyddiaeth y GIG
Changes to NHS Dentistry

1. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o’r effaith ar gleifion yn sgil newidiadau arfaethedig diweddaraf Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG? OQ62996

1. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact on patients of the Welsh Government's latest proposed changes to NHS dentistry? OQ62996

We believe these proposals will ensure every patient receives individualised advice on prevention, increase capacity to provide treatment to those with disease, establish pathways that enable people with elevated levels of oral disease to receive treatment, improve quality and ensure there is always capacity for new patients.

Credwn y bydd y cynigion hyn yn sicrhau y bydd pob claf yn cael cyngor unigol ar atal, yn cynyddu capasiti i ddarparu triniaeth i'r rhai sydd â chlefyd, yn sefydlu llwybrau sy'n galluogi pobl â lefelau uwch o glefyd y geg i gael triniaeth, yn gwella ansawdd ac yn sicrhau bod capasiti bob amser ar gyfer cleifion newydd.

Thank you, Cabinet Secretary. I think the latest proposed changes to NHS dentistry in Wales have the potential to be damaging to patient well-being. Under these proposed changes, patients can be moved between dental surgeries to receive their treatment, rather than having one constant place of dentistry. This means that, say, a patient in Chepstow may be asked to go for an appointment first thing in the morning as far away as Brynmawr, which could be incredibly difficult for many elderly and vulnerable people, especially those in rural constituencies such as mine, where public transport is unreliable or infrequent.

I was especially concerned to see that the consultation has not been widely publicised, with many of my constituents only finding out about it when they visited their dentist. As a result, I've had several people, especially elderly people, contact me. The consultation has now closed, but what assessment has the Welsh Government made of that particular proposal on those most vulnerable people, especially in rural communities?

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod perygl y gallai'r newidiadau arfaethedig diweddaraf i ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru niweidio lles cleifion. O dan y newidiadau arfaethedig hyn, gellir symud cleifion rhwng practisau deintyddol i gael eu triniaeth, yn hytrach na chael un lle cyson ar gyfer deintyddiaeth. Mae hyn yn golygu, dyweder, y gellid gofyn i glaf yng Nghas-gwent fynd am apwyntiad y peth cyntaf yn y bore mor bell i ffwrdd â Bryn-mawr, a allai fod yn anhygoel o anodd i lawer o bobl oedrannus a bregus, yn enwedig y rheini mewn etholaethau gwledig fel fy un i, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn annibynadwy neu'n anfynych iawn.

Roeddwn yn arbennig o bryderus i weld nad yw'r ymgynghoriad wedi cael cyhoeddusrwydd eang, gyda llawer o fy etholwyr ond yn clywed amdano pan fyddent yn ymweld â'u deintydd. O ganlyniad, mae sawl person, yn enwedig pobl oedrannus, wedi cysylltu â mi. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben, ond pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnig hwnnw ar y bobl fwyaf bregus, yn enwedig mewn cymunedau gwledig?

14:30

I don't accept the premise of the Member's question. I don't believe that that will be the consequence of the reforms in the contract that is being consulted upon. He is right to say that the relationship between you and your dental practice is important for people, in particular with chronic conditions, like tooth decay and with gum disease. Under the current system, as the Member may know, once a course of treatment has been provided, there is no requirement, in fact, for that practice to continue to see you again for a check-up or further treatment. But I will give the Member the comfort that the only people who I think might see a different dentist are those who are entirely healthy, and this is no different to any other part of the NHS.

On his point about distance to travel, he will know that, when registering to access the dental access portal, patients are able to say how far they're willing or able to travel, and that will obviously be taken fully into account.

I'm surprised to hear him say that he thought the consultation was not widely promoted. I think it's one of the largest consultation responses to any Welsh Government consultation, with over 6,000 responses. And I'm sure many of his constituents would have participated in that; I very much hope so. It suggests to me that people right across Wales have engaged with the consultation. It's probably premature to engage in the detail of our response to that, but I will be making a further statement after the recess in relation to the consultation responses and next steps, so I hope you'll find that helpful.

Nid wyf yn derbyn cynsail cwestiwn yr Aelod. Ni chredaf mai dyna fydd canlyniad y diwygiadau yn y contract sy'n destun ymgynghoriad. Mae'n iawn i ddweud bod y berthynas rhyngoch chi a'ch practis deintyddol yn bwysig i bobl, yn enwedig gyda chyflyrau cronig, fel pydredd dannedd a chlefyd y deintgig. O dan y system bresennol, fel y gŵyr yr Aelod o bosibl, ar ôl darparu cwrs o driniaeth, nid oes gofyniad, mewn gwirionedd, i'r practis hwnnw barhau i'ch gweld eto am archwiliad neu driniaeth bellach. Ond rwyf am dawelu meddwl yr Aelod trwy ddweud mai'r unig bobl y credaf y gallent weld deintydd gwahanol yw'r rhai sy'n holliach, ac nid yw hyn yn wahanol i unrhyw ran arall o'r GIG.

Ar ei bwynt ynglŷn â phellteroedd teithio, fe fydd yn gwybod, wrth gofrestru i gael mynediad at y porth mynediad deintyddol, y gall cleifion ddweud pa mor bell y maent yn fodlon neu'n gallu teithio, a bydd hynny'n amlwg yn cael ei ystyried yn llawn.

Rwy'n synnu ei glywed yn dweud ei fod yn credu na chafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo'n eang. Rwy'n credu mai dyma un o'r ymatebion mwyaf a gafwyd i unrhyw un o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, gyda dros 6,000 o ymatebion. Ac rwy'n siŵr y byddai llawer o'i etholwyr wedi cyfrannu ato; rwy'n mawr obeithio hynny. Mae'n awgrymu i mi fod pobl ledled Cymru wedi ymgysylltu â'r ymgynghoriad. Mae'n debyg ei bod yn rhy gynnar i ymgysylltu â manylion ein hymateb i hynny, ond byddaf yn gwneud datganiad pellach ar ôl y toriad mewn perthynas â'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r camau nesaf, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol i chi.

Gwasanaethau Meddyg Teulu yng Ngogledd-ddwyrain Cymru
General Practitioner Services in North-east Wales

2. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o fynediad at wasanaethau meddyg teulu yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ62977

2. What assessment has the Cabinet Secretary made of access to GP services in north-east Wales? OQ62977

The Welsh Government is committed to improving access to GP services across Wales through additional capacity funding and our review of the access standards. The ‘Train. Work. Live.’ scheme continues to support and incentivise GP recruitment for areas, including north Wales.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu ledled Cymru drwy ddarparu cyllid ar gyfer capasiti ychwanegol a'n hadolygiad o'r safonau mynediad. Mae cynllun 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' yn parhau i gefnogi a darparu cymhellion mewn perthynas â recriwtio meddygon teulu ar gyfer ardaloedd, gan gynnwys gogledd Cymru.

Thank you for your response, Cabinet Secretary. The fact that more than 100 GP surgeries have shut across Wales since 2012 is one that should deeply concern every Member here. It has a terrible impact on the health and well-being of our constituents. And this is no different in north-east Wales. Residents in Gwersyllt recently told me that they have a lack of adequate GP services, making them less healthy, and they recognise that they're putting pressure on emergency services and hospitals, especially at the Maelor in Wrexham.

You will be aware, Cabinet Secretary, that a recent comprehensive review by University of Southampton found that patients have a strong preference for direct consultations with a GP, with an emphasis on in-person appointments. So, given this patient preference and the outsized impact that a good GP service has on reducing pressures at the hospital front door, how are you ensuring that north-east Wales is prioritised when it comes to that training and recruiting of GPs in the years and decades ahead? 

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dylai'r ffaith bod mwy na 100 o feddygfeydd teulu wedi cau ledled Cymru ers 2012 beri cryn bryder i bob un o'r Aelodau yma. Mae hyn yn cael effaith ofnadwy ar iechyd a lles ein hetholwyr. Ac nid yw hyn yn ddim gwahanol yn y gogledd-ddwyrain. Dywedodd trigolion Gwersyllt wrthyf yn ddiweddar nad oes ganddynt ddigon o wasanaethau meddyg teulu digonol, gan eu gwneud yn llai iach, ac maent yn cydnabod eu bod yn rhoi pwysau ar wasanaethau brys ac ysbytai, yn enwedig Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Fe fyddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod adolygiad cynhwysfawr diweddar gan Brifysgol Southampton wedi canfod ei bod yn llawer gwell gan gleifion ymgynghoriadau uniongyrchol â meddyg teulu, gyda phwyslais ar apwyntiadau wyneb yn wyneb. Felly, o ystyried mai dyma sydd orau gan gleifion a'r effaith anferth y mae gwasanaeth meddyg teulu da yn ei chael o ran lleihau pwysau ar ysbytai, sut rydych chi'n sicrhau bod gogledd-ddwyrain Cymru'n cael blaenoriaeth o ran hyfforddi a recriwtio meddygon teulu yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod?

Well, the number of GPs in Wales is broadly stable, actually, over both the short term and the long term, and we've seen, actually, an increase in clinical staff, who are a key part of the wider practice team, which GPs tell us, and patients tell us, are an important part of making sure that patients have the access that they need to GP services. 

The primary care model for Wales, as he will know, is key to ensuring the care that patients need and it emphasises that the GP is not the only first point of contact, and, obviously, patients are increasingly becoming aware of that. He's right to say that providing access to GP services is crucial in being able to make sure that patients have the care they need, and also, in the way that he was saying in his question, that other parts of the NHS don't pick up, if you like, that additional pressure. And I accept the point that he makes in relation to that in his question. 

As part of the 2024-25 contract agreement—so, just for the year gone—we committed to review the access standards that have been in place for a number of years to strengthen compliance with what we would probably all describe as 'the 8 a.m. bottleneck'. We have seen progress in relation to that, but I've tasked health boards to verify the evidence that practices provide to them of compliance with those standards and to make sure that those standards are being maintained.

I think one of the challenges has been that, as pressures have increased on GPs, as demand has increased, in particular over recent years, that ability to provide continuity of care, in particular to those patients who may be managing more than one chronic condition, or may be particularly frail—it has not been possible to continue with that, and that creates additional pressures for those practices, and, importantly, for those patients as well.

So, as of April this year, we’re working with GP practices on what we call a quality improvement approach, where practices can identify that cohort of patients who can most benefit from continuity of care, and provide that increasingly to them, which should help stabilise part of that pressure. I would like to think that, over time, that can once again become a routine expectation for more and more of us, though he will appreciate that that will take some time.

Wel, mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn gymharol sefydlog, mewn gwirionedd, dros y tymor byr a'r tymor hir, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y staff clinigol, sy'n rhan allweddol o'r tîm ymarfer ehangach, ac mae meddygon teulu yn dweud wrthym, ac mae cleifion yn dweud wrthym, eu bod yn rhan bwysig o sicrhau bod gan gleifion y mynediad sydd ei angen arnynt at wasanaethau meddygon teulu.

Mae model gofal sylfaenol Cymru, fel y gŵyr, yn allweddol i sicrhau'r gofal sydd ei angen ar gleifion, ac mae'n pwysleisio nad y meddyg teulu yw'r unig bwynt cyswllt cyntaf, ac yn amlwg, mae cleifion yn dod yn fwyfwy ymwybodol o hynny. Mae'n iawn i ddweud bod darparu mynediad at wasanaethau meddyg teulu yn hanfodol er mwyn gallu sicrhau bod y cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, a hefyd, fel y dywedodd yn ei gwestiwn, nad yw rhannau eraill o'r GIG yn ysgwyddo'r pwysau ychwanegol hwnnw. Ac rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud mewn perthynas â hynny yn ei gwestiwn.

Fel rhan o gytundeb contract 2024-25—felly, ar gyfer y flwyddyn sydd newydd fynd heibio—fe wnaethom ymrwymo i adolygu'r safonau mynediad sydd wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd i gryfhau cydymffurfiaeth â'r hyn y byddai pob un ohonom, yn ôl pob tebyg, yn ei disgrifio fel 'tagfa 8 y bore'. Rydym wedi gweld cynnydd mewn perthynas â hynny, ond rwyf wedi rhoi'r dasg i fyrddau iechyd wirio'r dystiolaeth y mae practisau'n ei darparu iddynt o gydymffurfiaeth â'r safonau hynny ac i sicrhau bod y safonau hynny'n cael eu cynnal.

Credaf mai un o'r heriau, wrth i'r pwysau gynyddu ar feddygon teulu, wrth i'r galw gynyddu, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf, yw nad yw'r gallu i ddarparu gofal parhaus, yn enwedig i gleifion a allai fod yn ymdopi â mwy nag un cyflwr cronig, neu a allai fod yn arbennig o fregus—nid yw wedi bod yn bosibl parhau â hynny, ac mae hynny'n creu pwysau ychwanegol ar y practisau hynny, ac yn hollbwysig, ar y cleifion hynny hefyd.

Felly, o fis Ebrill eleni ymlaen, rydym yn gweithio gyda meddygfeydd teulu ar yr hyn rydym yn ei alw'n ddull gwella ansawdd, lle gall practisau nodi'r garfan o gleifion a all elwa fwyaf o ofal parhaus, a darparu mwy o hynny iddynt, a ddylai helpu i sefydlogi rhywfaint o'r pwysau. Hoffwn feddwl, dros amser, y gall hynny ddod yn ddisgwyliad arferol unwaith eto i fwy a mwy ohonom, er y bydd yn deall y bydd hynny'n cymryd peth amser.

14:35

Several GP surgeries in my constituency of Wrexham now use a triage system that requires a form to be completed online. Of course, many constituents are still digitally excluded, with no access to the required technology. What action is the Welsh Government taking to ensure GPs, but also the health board, support these patients?

Mae sawl meddygfa yn fy etholaeth i, Wrecsam, bellach yn defnyddio system frysbennu sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cleifion gwblhau ffurflen ar-lein. Wrth gwrs, mae llawer o etholwyr yn dal i fod wedi'u hallgáu'n ddigidol, heb fynediad at y dechnoleg ofynnol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod meddygon teulu, ond hefyd y bwrdd iechyd, yn cefnogi'r cleifion hyn?

Well, the Member will know that I mentioned the access standards in my earlier answer, and they require GP practices to provide a number of different ways of engaging with the practice. So, those are already part of the standards, and that’s what I want health boards to monitor compliance with in a more proactive way than we have required them to do in the past.

The Member is absolutely right to say that not everyone feels comfortable or is able to engage only with digital channels. What I would say, though, is the more people we can get to engage through digital channels, that naturally frees up capacity elsewhere to support those patients who won’t want to do that, or won’t be able to do that. So, as we see the uptake of the NHS app, for example, one of the things patients say to me is, 'Well, I’m not sure I’ll be that familiar with how to use it.' It’s actually pretty straightforward. However, for every one person we can get to use the app, that’s another element of capacity in the system to support those patients that the Member rightly says we need to make sure are served in the same way.

Wel, bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn sôn am y safonau mynediad yn fy ateb blaenorol, ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i bractisau meddygon teulu ddarparu nifer o wahanol ffyrdd o ymgysylltu â'r practis. Felly, mae'r rheini eisoes yn rhan o'r safonau, a dyna rwyf am i fyrddau iechyd fonitro cydymffurfiaeth â hwy mewn ffordd fwy rhagweithiol nag y bu'n ofynnol iddynt ei wneud yn y gorffennol.

Mae'r Aelod yn gwbl iawn i ddweud nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus neu'n gallu ymgysylltu â sianeli digidol yn unig. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, fodd bynnag, yw po fwyaf o bobl y gallwn eu cael i ymgysylltu drwy sianeli digidol, mae hynny'n naturiol yn rhyddhau capasiti mewn mannau eraill i gefnogi'r cleifion na fyddant eisiau gwneud hynny, neu na fyddant yn gallu gwneud hynny. Felly, wrth inni weld mwy o ddefnydd o ap y GIG, er enghraifft, un o'r pethau y mae cleifion yn ei ddweud wrthyf yw, 'Wel, nid wyf yn siŵr y byddaf yn gwybod sut i'w ddefnyddio.' Mae'n eithaf syml mewn gwirionedd. Fodd bynnag, am bob unigolyn y gallwn eu cael i ddefnyddio'r ap, mae hynny'n elfen arall o gapasiti yn y system i gefnogi'r cleifion y mae'r Aelod yn gywir i ddweud bod angen inni sicrhau eu bod yn cael eu gwasanaethu yn yr un ffordd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau fydd nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf—James Evans. 

Questions now from the party spokespeople. The Welsh Conservative spokesperson first of all—James Evans. 

Diolch, Deputy Presiding Officer. Cabinet Secretary, your own waiting list reduction ambitions depend on ensuring there is sufficient anaesthetist capacity, given that most operations simply cannot proceed without them present. The Royal College of Anaesthetists's latest workforce report shows that Wales is 120 anaesthetists short of what is needed. That’s a 17 per cent shortfall. It is estimated that this shortfall alone could be preventing around 90,000 operations and procedures each year in Wales from taking place. So, can you set out what assessments you have made of the impact of this workforce shortage on the Welsh NHS’s ability to reduce waiting lists, and what concrete steps are you taking to address this gap, so that more Welsh patients can get their operations done?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich uchelgeisiau eich hun i leihau rhestrau aros yn dibynnu ar sicrhau bod digon o gapasiti o ran anesthetyddion, o ystyried na ellir cynnal y rhan fwyaf o lawdriniaethau heb eu presenoldeb. Mae adroddiad diweddaraf Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion ar y gweithlu yn dangos bod Cymru 120 o anesthetyddion yn brin o'r nifer sydd ei angen. Dyna ddiffyg o 17 y cant. Amcangyfrifir y gallai'r diffyg hwn ynddo'i hun fod yn atal oddeutu 90,000 o lawdriniaethau a thriniaethau rhag digwydd yng Nghymru bob blwyddyn. Felly, a allwch chi nodi pa asesiadau a wnaethoch o effaith y prinder hwn yn y gweithlu ar allu GIG Cymru i leihau rhestrau aros, a pha gamau pendant rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg, fel y gall mwy o gleifion Cymru gael eu llawdriniaethau?

This is a matter that I have discussed with the royal college, in relation to pressures on the workforce. I agree with the Member that making sure that we have the workforce in place, in the right roles, with the right skill set, is obviously important in our ability to deliver on the ambitious plans that we have to continue the progressive reduction that we’ve seen in waiting times for patients right across Wales.

I am confident that the plans that we have for the year ahead, which will get us to a place where there are no patients waiting for two years, or we’re back on the eight-week diagnostic target, and that we take 200 patients off our waiting lists—that those plans are deliverable, with the configuration of workforce that we have in place at the moment. He is, however, right to say that that is something that we need to make sure remains under review. We have an arrangement, as he knows, to commission education and training places right across the NHS workforce through Health Education and Improvement Wales, and we will work with them to make sure that the needs of the NHS are met.

Mae hwn yn fater yr wyf wedi'i drafod gyda'r coleg brenhinol, mewn perthynas â phwysau ar y gweithlu. Rwy'n cytuno â'r Aelod fod sicrhau bod gennym y gweithlu ar waith, yn y rolau cywir, gyda'r set sgiliau gywir, yn amlwg yn bwysig ar gyfer ein gallu i gyflawni'r cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym i barhau â'r gostyngiad graddol a welsom mewn amseroedd aros i gleifion ledled Cymru.

Rwy'n hyderus y bydd y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn sicrhau maes o law nad oes cleifion yn aros dwy flynedd, neu lle rydym yn ôl gyda'r targed diagnostig o wyth wythnos, a'n bod yn tynnu 200 o gleifion oddi ar ein rhestrau aros—fod y cynlluniau hynny'n gyflawnadwy, gyda chyfluniad y gweithlu sydd gennym ar waith ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n llygad ei le fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni sicrhau ei fod yn parhau i gael ei adolygu. Mae gennym drefniant, fel y gŵyr, i gomisiynu lleoedd addysg a hyfforddiant ar draws gweithlu'r GIG drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a byddwn yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod anghenion y GIG yn cael eu diwallu.

Cabinet Secretary, one of things as well that is stopping operations, because nearly 90,000 surgical procedures were postponed last year, with many patients arriving for surgery, who were in a poor state of health to begin with, due to issues like smoking, undiagnosed diabetes, frailty, people being overweight, which does lead to cancellations, complications and longer stays in hospital—. We know that early screening and prehabilitation turn waiting lists and drive them down, because people aren’t waiting as long to get seen.

I know the Welsh Government has made some progress in implementation. But I’m just wondering what further work you’re doing on this area, around prehabilitation, to make sure that people are fit for operations, because, as I said, we are seeing far too many people presenting who are not fit to be operated on, and when they are operated on, they’re sat in hospitals for far, far too long, which is bedblocking, and actually stopping the day cases, which we need to see, to make sure we can get through that waiting list quicker. So, I'd just like to know what further work you're doing in this area.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r pethau eraill sy'n atal llawdriniaethau, gan y gohiriwyd bron i 90,000 o lawdriniaethau y llynedd, gyda llawer o gleifion yn cyrraedd i gael llawdriniaeth, a oedd mewn cyflwr iechyd gwael i ddechrau, oherwydd problemau fel ysmygu, diabetes heb ei ddiagnosio, eiddilwch, pobl dros bwysau, sy'n arwain at ganslo, cymhlethdodau ac arosiadau hirach yn yr ysbyty—. Gwyddom fod sgrinio cynnar a rhagsefydlu yn lleihau rhestrau aros, gan nad yw pobl yn aros cyhyd i gael eu gweld.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran gweithredu. Ond tybed pa waith pellach rydych chi'n ei wneud ar hyn, ar ragsefydlu, i sicrhau bod pobl yn ffit i gael llawdriniaethau, oherwydd, fel y dywedais, rydym yn gweld llawer gormod o bobl yn cyrraedd heb fod yn ffit i gael llawdriniaeth, a phan fyddant yn cael llawdriniaeth, maent yn aros mewn ysbytai'n llawer rhy hir, ac yn blocio gwelyau, ac yn atal y cleifion allanol y mae angen i ni eu gweld er mwyn sicrhau y gallwn fynd drwy'r rhestr aros yn gyflymach. Felly, hoffwn wybod pa waith pellach rydych chi'n ei wneud yn hyn o beth.

14:40

The Member will remember, a few weeks ago, when I made the announcement in relation to our ambitions over the course of the next year, that part of that was a new approach towards, firstly, the keeping of appointments—700,000 appointments missed for out-patients last year—and also making sure that the system is more proactive about identifying those patients who are not yet ready for surgery, and intervenes more quickly to put them on a pathway to get them fit for surgery. It is in nobody's interests for patients to be in the situation that the Member described in his question. It doesn't work for the patient, it doesn't work for the NHS, it doesn't work for other patients who might be readier for that surgery. What we also know, from the patient's point of view, is that patients who go forward to surgery in that context take longer to recover, spend more time in hospital, and the outcomes are less good. So, it's a really important priority for us to get right.

What he will know from the announcement I made a number of weeks ago is that the system will identify patients who are not yet ready for surgery and then put them on that pathway to improve their health, whatever that may be, and it can be a range of things. He will also know that we now have in place a single point of contact arrangement for patients waiting for surgery. So, they have somebody they can speak to about how they can get ready, how they can be fit, how the additional needs that they may have can be met, before they are ready for that intervention, that treatment.

Bydd yr Aelod yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, pan wneuthum y cyhoeddiad ar ein huchelgeisiau dros y flwyddyn nesaf, fod rhan o hynny'n cynnwys ymagwedd newydd tuag at, yn gyntaf, cadw apwyntiadau—cafodd 700,000 o apwyntiadau eu colli gan gleifion allanol y llynedd—a hefyd sicrhau bod y system yn fwy rhagweithiol ynghylch nodi'r cleifion nad ydynt yn barod eto ar gyfer llawdriniaeth, ac ymyrryd yn gyflymach i'w rhoi ar lwybr i'w cael yn ffit i gael llawdriniaeth. Nid yw o fudd i unrhyw un i gleifion fod yn y sefyllfa a ddisgrifiodd yr Aelod yn ei gwestiwn. Nid yw'n gweithio i'r claf, nid yw'n gweithio i'r GIG, nid yw'n gweithio i gleifion eraill a allai fod yn fwy parod ar gyfer y llawdriniaeth honno. Yr hyn a wyddom hefyd, o safbwynt y claf, yw bod cleifion sy'n cael llawdriniaeth yn y cyd-destun hwnnw'n cymryd mwy o amser i wella, yn treulio mwy o amser yn yr ysbyty, ac nid yw'r canlyniadau cystal. Felly, mae'n flaenoriaeth bwysig i ni gael hynny'n iawn.

Yr hyn y bydd yn ei wybod o'r cyhoeddiad a wneuthum ychydig wythnosau yn ôl yw y bydd y system yn nodi cleifion nad ydynt yn barod eto i gael llawdriniaeth ac yna'n eu rhoi ar y llwybr i wella eu hiechyd, beth bynnag y bo hynny, a gall fod yn amrywiaeth o bethau. Fe fydd yn gwybod hefyd fod gennym drefniant un pwynt cyswllt ar waith bellach ar gyfer cleifion sy'n aros am lawdriniaeth. Felly, mae ganddynt rywun y gallant siarad â hwy ynglŷn â sut y gallant baratoi, sut y gallant fod yn ffit, sut y gellir diwallu'r anghenion ychwanegol a allai fod ganddynt, cyn eu bod yn barod ar gyfer yr ymyrraeth honno, y driniaeth honno.

Thank you. I do agree it doesn't work for patients, Cabinet Secretary, as you said, because too many people are waiting too long. But I hope you agree with me, Cabinet Secretary—. My Welsh Conservative colleagues and I all agree with an NHS that is free at point of delivery, which supports patients right the way across the country, no matter what their circumstances and how they access the system. I have been alarmed by Reform UK's version of moving our NHS to a French-based insurance system, actually asking people, the most vulnerable people in our society, to pay for their healthcare, or if they've got pre-existing conditions, not getting health insurance at all, allowing those people to suffer and die on waiting lists just because it doesn't fit a certain political narrative of Reform. So, I hope you'll agree with me, Cabinet Secretary, that there are no plans—. I know my party have no plans to move to this model, and I'd hope that the Welsh Government also has no plans to move to this model, because I do not want to see our NHS being sold on the stock market just to further Nigel Farage's own political career.

Diolch. Rwy'n cytuno nad yw'n gweithio i gleifion, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedoch chi, gan fod gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Ond rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet—. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau oll yn cytuno â GIG sydd am ddim yn y man lle caiff ei ddarparu, sy'n cefnogi cleifion ar draws y wlad, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau a sut y cânt fynediad at y system. Rwyf wedi cael fy nychryn gan fersiwn Reform UK o newid ein GIG i system yswiriant fel yn Ffrainc, gan ofyn i bobl, y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, dalu am eu gofal iechyd, neu os oes ganddynt gyflyrau sy'n bodoli eisoes, i fethu cael yswiriant iechyd o gwbl, gan ganiatáu i'r bobl hynny ddioddef a marw ar restrau aros am nad ydynt yn cyd-fynd â naratif gwleidyddol penodol Reform. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes unrhyw gynlluniau—. Gwn nad oes gan fy mhlaid i unrhyw gynlluniau i newid i'r model hwn, a byddwn yn gobeithio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i newid i'r model hwn ychwaith, gan nad wyf am weld ein GIG yn cael ei werthu ar y farchnad stoc i hybu gyrfa wleidyddol Nigel Farage ei hun.

Well, the Welsh Labour Government believes in a public NHS, free at the point of need, available to provide care when it's needed, not whether people can afford to pay for it. That has been our continuing position; it will remain our position. Actually, I think what we see Reform proposing is in fact the end of the NHS. I don't believe for a second that Nigel Farage supports anything that is French based. In fact, what we'll have is a situation where premiums are unaffordable, conditions are uninsured, the end of free prescriptions, the end of the NHS, where health is based on wealth—a return to the 1930s. What this Government wants to see is to look forward to the 2030s, with an NHS fit for the future, providing the care that we all need.

Wel, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn credu mewn GIG cyhoeddus sydd am ddim lle bynnag y bo'i angen, ar gael i ddarparu gofal pan fo'i angen, nid yn ôl gallu pobl i dalu amdano. Dyna fu ein safbwynt erioed; dyna fydd ein safbwynt. Mewn gwirionedd, credaf mai'r hyn y gwelwn Reform yn ei gynnig yw diwedd y GIG. Nid wyf yn credu am eiliad fod Nigel Farage yn cefnogi unrhyw beth sy'n seiliedig ar Ffrainc. Mewn gwirionedd, yr hyn a fydd gennym yw sefyllfa lle mae premiymau'n anfforddiadwy, lle mae cyflyrau heb eu hyswirio, diwedd ar bresgripsiynau am ddim, diwedd y GIG, lle mae iechyd yn seiliedig ar gyfoeth—dychweliad i'r 1930au. Yr hyn y mae'r Llywodraeth hon eisiau ei weld yw edrych ymlaen at y 2030au, gyda GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol, yn darparu'r gofal sydd ei angen ar bob un ohonom.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rai wythnosau yn ôl, fe ddywedoch chi mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyfaill Peredur Owen Griffiths fod yna, a dwi'n dyfynnu,

'adegau pan fydd y GIG yn wynebu pwysau eithriadol,'

ac yn ystod y cyfnod hyn,

'mae mesurau...lleol yn cael eu datgan.'

Ond yn chwarter cyntaf 2025, fe gofnododd pob adran frys yng Nghymru gleifion yn derbyn gofal mewn mannau anniogel ac anaddas, gyda bron i hanner yn aros am wely mewnol, yn ôl y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng. Mae'r dystiolaeth anecdotaidd, fel sy'n glir yn yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru', gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn dweud yr un peth.

Er hyn i gyd, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn casglu nac yn cyhoeddi ffigurau swyddogol ar ofal mewn mannau anaddas. Felly, pa sicrwydd sydd gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet fod gofal coridor yn eithriad ac nid yn arfer dyddiol? Sut ydych chi'n gwybod ei fod yn eithriad pan nad oes unrhyw ddata yn cael ei gasglu? Ac a wnewch chi wrando ar yr RCN a Chymdeithas Feddygol Prydain, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau cofnodi ac adrodd yn agored ar ofal coridor yng Nghymru?

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Some weeks ago, you said in response to a question from my colleague Peredur Owen Griffiths that there are, and I quote,

'times when the NHS faces exceptional pressure,'

and during these times,

'local escalation measures are enacted.'

But in the first quarter of 2025, every emergency department in Wales reported patients receiving care in unsafe and inappropriate places, with almost half waiting for an internal bed, according to the Royal College of Emergency Medicine. The anecdotal evidence, as is clear in the report 'Ending corridor care in Wales', from the Royal College of Nursing Wales, states the same thing.

Despite all this, the Welsh Government doesn't gather or publish official figures on care in inappropriate places. So, what assurance do you have as Cabinet Secretary that corridor care is the exception rather than a daily practice? How do you know that it's an exception when no data is gathered? And will you listen to the RCN and the British Medical Association, who are calling on the Welsh Government to start recording and reporting openly on corridor care in Wales?

Wel, mae elfennau o hyn yn cael eu casglu beth bynnag. Un o'r heriau rŷn ni wedi eu trafod â'r RCN a'r BMA—ac rwy'n cwrdd â nhw eto yn fuan iawn—yw diffiniad o'r hyn sydd yn cael ei drafod. Ond mae'n gwbl glir i mi fod gormod o hyn yn digwydd. Dyw e ddim yn digwydd—. Dyw e ddim—. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai fel eithriad y dylai hyn fod yn digwydd. Ond mae'n amlwg yn digwydd yn amlach na hynny, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Beth rŷn ni wedi gweld dros y misoedd diwethaf yw cynnydd yn y gallu i drosglwyddo o ambiwlansys i ystafelloedd brys yn gyflymach nag yn y gorffennol, sy'n awgrymu i fi fod cynnydd yn digwydd yn y system yn araf bach. Ond dyw e ddim yn ddigon cyflym. Dwi ddim eisiau gweld hyn yn digwydd o gwbl, ond mae'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd ni ar hyn o bryd yn golygu ei fod yn digwydd yn amlach nag y dylai fe. Byddaf yn cwrdd â'r RCM ac â'r BMA yn yr wythnosau nesaf i drafod camau pwrpasol a beth yn fwy y gallwn ni ei wneud yn hynny o beth.

Well, elements of this information is already being gathered. One of the challenges we've discussed with the RCN and the BMA—and I'm meeting with them very soon again—is the definition of what is being discussed. But it's clear to me that there's too much of this happening. It doesn't happen—. It doesn't—. The Member is right to say that this should be happening as an exception. But it is clearly happening more often than that, and that is not acceptable. What we have seen over the past few months is progress being made in terms of the ability to transfer patients from ambulances to emergency treatment rooms more swiftly than has happened in the past, which suggests to me that there is progress being made in the system, slowly. But it isn't swift enough. I don't want to see this happening at all, but the pressure on our health service at the moment does mean that it is happening more often than it should be. I will be meeting with the RCN and the BMA in the coming weeks to discuss the deliberate steps that we can take in that regard.

14:45

Diolch am yr ymateb. Mi fyddwch chi'n gwybod, Ysgrifennydd Cabinet, fod yr RCN a'r BMA wedi sefydlu deiseb, ac ynddi maen nhw'n mynnu fod Llywodraeth Cymru yn, a dwi'n dyfynnu eto, gwneud derbyn gofal mewn cadair am fwy na 24 awr yn ddigwyddiad 'never event'. Mae Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud, a dwi'n dyfynnu, fod gan bob never event 

'y potensial i achosi niwed difrifol...neu farwolaeth'

ond nid oes rhaid i hynny fod wedi digwydd er mwyn ei gategoreiddio felly, rydych chi'n dweud.

Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet felly yn credu nad yw cadw claf mewn cadair am 24 awr yn ddigwyddiad difrifol sy'n gallu achosi niwed gwirioneddol? Os yw digwyddiadau never events, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn gofyn am ymchwiliad llawn, mesurau diogelwch ar unwaith, a chamau pendant a rhannu gwersi, pam na wneir yr un peth gyda gofal mewn cadair? Onid yw'n gwneud synnwyr bod gosod hyn fel digwyddiad never event yn sicrhau diogelwch cleifion ac yn gorfodi'r gwasanaeth i ddysgu o gamgymeriadau er mwyn atal yr un camgymeriadau yma rhag digwydd eto?

Thank you for that response. You will know, Cabinet Secretary, that the RCN and the BMA have set up a petition, and in it they insist that the Welsh Government, and I quote again, make receiving care in a chair for more than 24 hours a 'never event'. The Welsh Government itself says that every never event

'has the potential to cause serious patient harm or death'

but that does not have to have happened for it to be categorised as such, you say.

Does the Cabinet Secretary therefore believe that keeping a patient in a chair for 24 hours is not a serious incident that can cause real harm? If never events, according to the Welsh Government, require a full inquiry and measures to be taken immediately and lessons to be shared, why isn't the same done in terms of care in a chair? Doesn't it make sense that having this as a never event ensures the safety of patients and forces the service to learn from mistakes in order to prevent the same mistakes from happening again in future?

Mae yr un ateb, mewn ffordd, i'r cwestiwn hwn. Mae diffiniad 'never event' yn fwy cymhleth na'r enghraifft y mae'r Aelod yn ei rhoi. Ond dyw hynny ddim yn gyfystyr â dweud ei bod yn dderbyniol bod pobl yn cael triniaeth yn y math yna o sefyllfa. Dyw e ddim yn dderbyniol. Felly, mae'r ddau ddiffiniad yn gweithio tuag at bwrpasau gwahanol. Ond dwi eisiau bod yn gwbl glir gyda'r Aelod: dwi ddim am eiliad yn dweud nad oes angen mynd i'r afael â hyn; wrth gwrs bod angen gwneud hynny. Mae gofyniad ar bob bwrdd iechyd i wneud hynny. Rydyn ni yn gweld llwyddiannau yn y system, rydyn ni'n gweld cynnydd, fel rwy'n dweud, ond dyw e ddim yn ddigon cyflym.

This question has a similar response. The definition of a 'never event' is more complex than the example that the Member gives. But that is not tantamount to saying that it is acceptable that people receive treatment in that kind of circumstance. It's not acceptable. So, the two definitions are working towards different purposes. But I want to be clear with the Member: I'm not for a second saying that we don't need to tackle this; of course we do need to do this. There is a requirement for every health board to do this. We are seeing successes and progress in the system, as I say, but it's not swift enough.

Diolch am yr ymateb yna. Mae chwe nod gofal brys a chyfamserol Llywodraeth Cymru yn disgrifio'r blaenoriaethau brys a hirdymor ar gyfer gofal brys, fel, dwi'n dyfynnu, sicrhau bod cleifion yn cael:

'Y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf'.

Mae'n amlwg i mi eich bod chi bellach wedi colli hyder yr RCN a'r BMA ynglŷn â gofal coridor. I adennill eu hyder, a ydych chi'n cytuno i gadeirio cyfarfodydd chwe nod gofal brys a chyfamserol yn bersonol, nes bod digon o gynnydd wedi cael ei wneud i roi diwedd ar ofal coridor yng Nghymru?

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n bosib diwygio'r rhestr o ddigwyddiadau never events, ac mae hynny wedi digwydd o'r blaen. Fel rydych chi wedi sôn, mae'n dibynnu ar y diffiniad, ac mae'n bosib gwneud y diffiniad yna. Er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu pan fydd pethau'n mynd o chwith, ac er mwyn lleihau'r risg pan fydd yn digwydd eto, ydy Llywodraeth Cymru'n cytuno i ychwanegu 'claf mewn cadair am 24 awr' at y rhestr o ddigwyddiadau never events?

Thank you for that response. The six goals for timely and emergency care of the Welsh Government describe the urgent and long-term priorities for emergency care as, and I quote, ensuring that patients receive the:

'Right care, right place, first time'.

It's clear to me that you've lost the confidence of the RCN and the BMA in terms of corridor care. To regain that confidence, would you agree to chair meetings on the six goals for emergency care personally, until sufficient progress has been made to put an end to corridor care in Wales?

Finally, Dirprwy Lywydd, it's possible to amend the list of never events, and that has happened before. As you've mentioned, it depends on the definition, and you can make that definition. To ensure that lessons are learned when things do go wrong, and in order to reduce the risk when it happens again, would the Welsh Government agree to add 'patient in a chair for 24 hours' to the list of never events?

Dwi wedi ateb y cwestiwn hwn yn barod. Dwi ddim yn credu bod unrhyw ran o'r gwasanaeth iechyd yn teimlo dwi ddim yn cymryd digon o ddiddordeb personol yn yr hyn sy'n digwydd. Felly, fe ges i gyfarfod ddoe oedd yn delio â pharatoadau ar gyfer y gaeaf yn benodol, a'r pwysau mewn ystafelloedd aros brys ac ar y gwasanaeth ambiwlans. Mae gyda fi gyfarfod arall yr wythnos nesaf yn gwneud yr un peth. Felly, rwy'n gwbl sicr bod y system yn deall cymaint o flaenoriaeth yw hyn i'r Llywodraeth, ac i bob bwrdd iechyd hefyd. Mae angen gweld cynnydd, fel gwnes i ddweud, yn gyflymach na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.

I've responded to that question already. I don't feel that any level of the health service feels that I don't take enough of a personal interest in these matters. I had a meeting yesterday that dealt with preparations for winter pressures, but also the pressures in emergency rooms and on the ambulance service. I have another meeting next week on the same topic. So, I'm certain that the system understands how much of a priority this is for the Government, and for every health board too. We are seeing progress, as I said, but we need to see that more swiftly than at present.

Gofalwyr Ifanc
Young Carers

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ofalwyr ifanc? OQ63007

3. Will the Cabinet Secretary make a statement on Welsh Government support for young carers? OQ63007

Young carers are a priority. While we must do all that we can to ensure their care of family members is recognised and valued, we must also ensure that this is not to the detriment of their education or any other aspect of their lives.

Mae gofalwyr ifanc yn flaenoriaeth. Er bod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod eu gofal am aelodau'r teulu yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi, mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw hyn yn niweidiol i'w haddysg nac unrhyw agwedd arall ar eu bywydau.

I've seen a young carer in my family who does a fantastic job. Last week, I attended a panel event in the Pierhead organised by the Royal College of Paediatrics and Child Health, and young carers were present in the audience. Some of the audience members spoke of the challenges they face as young carers and how the support and respite they receive is crucial to their own health and well-being. There's the Sparrows ALN Group in Caerphilly, which I've mentioned many times, Valleys Daffodils in Caerphilly as well—absolutely instrumental to young carers, as well as the parents of disabled children. There's a patchwork of formal and informal support networks across Wales that exist to support young carers like that, and there are many others, and local authorities have both an important role in fostering and encouraging them, but also identifying where they are. So, what more can we do to ensure local authorities contact individual young carers directly to make them aware of these support networks, whether they're private, public or voluntary, and make sure that they know that they're available to them in their locality?

Rwyf wedi gweld gofalwr ifanc yn fy nheulu sy'n gwneud gwaith gwych. Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad panel yn y Pierhead a drefnwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac roedd gofalwyr ifanc yn bresennol yn y gynulleidfa. Soniodd rhai o aelodau'r gynulleidfa am yr heriau y maent yn eu hwynebu fel gofalwyr ifanc a sut y mae'r cymorth a'r seibiant y maent yn ei gael yn hanfodol i'w hiechyd a'u lles eu hunain. Mae grŵp anghenion dysgu ychwanegol Sparrows yng Nghaerffili, y soniais amdanynt sawl gwaith, Valleys Daffodils yng Nghaerffili hefyd—maent yn gwbl allweddol i ofalwyr ifanc, yn ogystal â rhieni plant anabl. Mae tapestri o rwydweithiau cymorth ffurfiol ac anffurfiol ledled Cymru sy'n bodoli i gefnogi gofalwyr ifanc o'r fath, a cheir llawer o rai eraill, ac mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig yn eu meithrin a'u hannog, ond hefyd yn nodi ble maent. Felly, beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cysylltu â gofalwyr ifanc unigol yn uniongyrchol i'w gwneud yn ymwybodol o'r rhwydweithiau cymorth hyn, boed yn breifat, yn gyhoeddus neu'n wirfoddol, a sicrhau eu bod yn gwybod eu bod ar gael iddynt yn eu hardal?

14:50

Can I thank Hefin for that supplementary question, which is really important? Because any of us that have had any contact with unpaid carers, whether they are young carers or adult unpaid carers, will know that there are too many that are struggling to receive the support that they need. We know that there is a statutory obligation for local authorities to undertake carers' assessments, and that is not happening in the most consistent way right the way across the country. And we've identified that through a piece of research that we commissioned towards the end of last year, actually, through the Association of Directors of Social Services Cymru, which was a kind of rapid review of what support was available for unpaid carers. And as a direct result of some of the recommendations that came out of that review, I've now established a work stream under my ministerial advisory group for unpaid carers, which is looking very specifically at that and how we can improve both the consistency and the provision for unpaid carers, because there is a lot of support out there already. You've already identified some of the things that we've got out there, I should say, both formal and informal.

I've talked in this Chamber many times about the direct support that Welsh Government is putting in over and above what are the statutory requirements of local authorities—so, the short breaks scheme, the carers support scheme. We put on a young carers festival every year, we've got the young carers ID scheme for young people, helping them at school, and we did run a very specific social media campaign that was aimed at young carers in particular, and that finished towards the end of June this year. But it was a social media campaign directed at young carers themselves, because sometimes, and this is not just true of young carers, but this is true of a lot of unpaid carers, they don't identify themselves as being unpaid carers. They don't realise that that's what they are. So, that social media campaign was about helping them to understand that that is what they are, and that there is support out there for them, if they were to look for it. And I'm hoping that the work that we're going to be doing now, this workstream we're going to be doing now, in my ministerial advisory group, will report back to me in the autumn with some very specific recommendations about how we can improve that access and support.  

A gaf i ddiolch i Hefin am ei gwestiwn atodol, sy'n wirioneddol bwysig? Oherwydd bydd unrhyw un ohonom sydd wedi cael unrhyw gysylltiad â gofalwyr di-dâl, boed yn ofalwyr ifanc neu'n ofalwyr di-dâl sy'n oedolion, yn gwybod bod gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gwyddom fod rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau gofalwyr, ac nid yw hynny'n digwydd yn y ddigon cyson ledled y wlad. Ac rydym wedi nodi hynny drwy ymchwil a gomisiynwyd gennym tuag at ddiwedd y llynedd drwy Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a oedd yn fath o adolygiad cyflym o ba gymorth a oedd ar gael i ofalwyr di-dâl. Ac o ganlyniad uniongyrchol i rai o'r argymhellion a ddaeth o'r adolygiad hwnnw, rwyf bellach wedi sefydlu ffrwd waith o dan fy ngrŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr di-dâl, sy'n edrych yn benodol iawn ar hynny a sut y gallwn wella'r cysondeb a'r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan fod llawer o gymorth eisoes ar gael. Rydych chi eisoes wedi nodi rhai o'r pethau sydd gennym ar gael, dylwn ddweud, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

Rwyf wedi siarad sawl gwaith yn y Siambr am y cymorth uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu y tu hwnt i ofynion statudol awdurdodau lleol—felly, y cynllun seibiant byr, y cynllun cymorth i ofalwyr. Rydym yn cynnal gŵyl gofalwyr ifanc bob blwyddyn, mae gennym gynllun cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc ar gyfer pobl ifanc, i'w helpu yn yr ysgol, ac fe wnaethom gynnal ymgyrch benodol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd wedi'i hanelu at ofalwyr ifanc yn enwedig, a daeth honno i ben tuag at ddiwedd mis Mehefin eleni. Ond roedd yn ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd wedi'i hanelu at y gofalwyr ifanc eu hunain, oherwydd weithiau, ac mae hyn yn wir am lawer o ofalwyr di-dâl, nid gofalwyr ifanc yn unig, nid ydynt yn uniaethu fel gofalwyr di-dâl. Nid ydynt yn sylweddoli mai dyna ydynt. Felly, roedd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â'u helpu i ddeall mai dyna ydynt, a bod cymorth ar gael iddynt, pe byddent yn chwilio amdano. Ac rwy'n gobeithio y bydd y gwaith y byddwn yn ei wneud nawr, y ffrwd waith y byddwn yn ei gwneud nawr, yn fy ngrŵp cynghori gweinidogol, yn adrodd yn ôl i mi yn yr hydref gydag argymhellion penodol iawn ynglŷn â sut y gallwn wella mynediad a chymorth.

Good afternoon, Minister. I was at the same event with Hefin, and I, James Evans and Sioned Williams were on the panel, hearing about the experiences of young carers. There are around 30,000 young carers here in Wales, and, actually, in the gallery there is a young person here called Cathy, who has a young carer herself, so is looked after by somebody who is young. One of the issues that Cathy was talking to me about is the young carers ID card, and neither she nor her carer were aware of the young persons ID card. So, we see straight away an inconsistency in terms of the roll-out, the awareness, the promotion of the young carers ID cards, which are essential in order to ensure that they access services and other provisions for them. One of the barriers is that we have it rolled out as the responsibility of local authorities. So, I'd like to ask you whether you would consider, and perhaps your group might consider, hearing from young people like Cathy and the person who looks after her, to look at how the access to a young carers ID card could be better. But one of the issues is about bringing it into the Welsh Government, so that, actually, there is no inconsistency and that it's actually fairer. The other issue that was raised was about protected characteristics for our young carers. That is key in order to allow them to get access to the services and not be discriminated against, and to have that extra foot in the door. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. 

Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn yr un digwyddiad gyda Hefin, ac roeddwn i, James Evans a Sioned Williams ar y panel, yn gwrando ar brofiadau gofalwyr ifanc. Mae oddeutu 30,000 o ofalwyr ifanc yma yng Nghymru, ac mewn gwirionedd, yn yr oriel, mae unigolyn ifanc yma o'r enw Cathy, sydd â gofalwr ifanc ei hun, felly mae rhywun ifanc yn gofalu amdani hi. Un o'r materion yr oedd Cathy'n siarad â mi amdanynt yw'r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac nid oedd hi na'i gofalwr yn ymwybodol o'r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc. Felly, rydym yn gweld anghysondeb ar unwaith o ran ei gyflwyno, yr ymwybyddiaeth, a hyrwyddo'r cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad at wasanaethau a darpariaethau eraill ar eu cyfer. Un o'r rhwystrau yw ei fod yn cael ei gyflwyno fel cyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Felly, hoffwn ofyn i chi ystyried, ac efallai y gallai eich grŵp ystyried, gwrando ar bobl ifanc fel Cathy a'r unigolyn sy'n gofalu amdani, i edrych ar sut y gallai'r mynediad at y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc fod yn well. Ond mae un o'r materion yn ymwneud â'i wneud yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, fel nad oes anghysondeb a'i fod yn decach. Y mater arall a godwyd oedd nodweddion gwarchodedig ar gyfer ein gofalwyr ifanc. Mae hynny'n allweddol er mwyn caniatáu iddynt gael mynediad at y gwasanaethau ac fel nad ydynt yn wynebu gwahaniaethu, ac i gael y droed ychwanegol honno yn y drws. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Llywydd.

Well, can I thank you, Jane, for that supplementary? And I know how passionate you are about unpaid carers, whether they're young carers or adult unpaid carers, as are many people who have asked me questions on this subject across the Chamber. You're absolutely right: the young carers ID card, if used consistently and effectively and comprehensively, can be life-changing for a young carer, to not have to explain themselves everywhere they go, and just have the ability to show a card or a lanyard—I think they do it in different ways in different authorities; some have an app on their phone and so on. The school will understand and that helps in terms of the school being able to manage their learning experience, how they manage their homework and all sorts of things. It helps them with access to a GP, to pharmacies—you know all these things, Jane.

So, what you're asking is not dissimilar to Hefin's question, which is really about the consistency of approach in ensuring that the support that is out there gets to the people who need it. So, I'm very happy for that to be fed in to the ministerial advisory group workstream on this, because we're looking at all the aspects of support for unpaid carers. There are unpaid carers and unpaid young carers themselves on the ministerial group, so I would anticipate that they would also feed that personal experience in, but I'm happy to hear from anybody who wants to make some direct representation to me. In fact, I was in a school in your constituency talking to young carers, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, just a few months back. And having that 1:1 conversation with a young carer about their personal experiences is really something that I think everybody should do, because that's when it really hits home. 

Wel, a gaf i ddiolch i chi, Jane, am eich cwestiwn atodol? A gwn pa mor angerddol ydych chi a llawer o bobl sydd wedi gofyn cwestiynau i mi ar y pwnc hwn ar draws y Siambr am ofalwyr di-dâl, boed yn ofalwyr ifanc neu'n ofalwyr di-dâl sy'n oedolion. Rydych chi'n llygad eich lle: gall y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, os caiff ei ddefnyddio'n gyson ac yn effeithiol ac yn gynhwysfawr, newid bywyd gofalwr ifanc, i beidio â gorfod egluro eu hunain ym mhobman yr ânt, a chael y gallu i ddangos cerdyn neu laniard—rwy'n credu eu bod yn ei wneud mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol awdurdodau; mae gan rai ap ar eu ffôn ac yn y blaen. Bydd yr ysgol yn deall ac mae hynny'n helpu'r ysgol i allu rheoli eu profiad dysgu, sut y maent yn ymdopi â'u gwaith cartref a phob math o bethau. Mae'n eu helpu gyda mynediad at feddyg teulu, at fferyllfeydd—rydych yn gwybod yr holl bethau hyn, Jane.

Felly, nid yw'r hyn a ofynnwch yn rhy wahanol i gwestiwn Hefin, sy'n ymwneud â chysondeb y dull o sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd y bobl sydd ei angen. Felly, rwy'n fwy na pharod i hynny fwydo i mewn i ffrwd waith y grŵp cynghori gweinidogol ar hyn, gan ein bod yn edrych ar bob agwedd ar gymorth i ofalwyr di-dâl. Mae'r grŵp gweinidogol yn cynnwys gofalwyr di-dâl a gofalwyr ifanc di-dâl, felly rwy'n rhagweld y byddent hwythau hefyd yn cyfrannu eu profiad personol, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar unrhyw un sydd eisiau gwneud unrhyw sylwadau uniongyrchol i mi. Mewn gwirionedd, roeddwn mewn ysgol yn eich etholaeth yn siarad â gofalwyr ifanc, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ychydig fisoedd yn ôl. Ac mae cael y sgwrs un i un honno gyda gofalwr ifanc ynglŷn â'u profiadau personol yn rhywbeth y credaf y dylai pawb ei wneud, gan mai dyna pryd y mae'n eich taro chi mewn gwirionedd.

14:55

Young carers often face long-term disadvantages affecting their health and social well-being, and it is therefore vital that their health and well-being are assessed and routinely reassessed by either social workers, care workers or occupational therapists in a timely fashion. As you may be aware, Stats Wales data for 2023-24 shows that, of the 2,366 contacts made by or on behalf of young carers to statutory social services across Wales, only 1,677 received advice or assistance in the same time period. In Cardiff, just 28 per cent received support in the same year; in Merthyr, 23 per cent and in Caerphilly, 22 per cent. Minister, I'm sure you'll agree that long waiting times for assessment and support can be distressing. Therefore, do you agree with me that, in order to reduce these, there should be a report on waiting times for young carers from when they're first identified to when their carers' needs assessment has been carried out? And what appropriate time targets for providing needs assessments should also be set out? Thank you.

Yn aml, mae gofalwyr ifanc yn wynebu anfanteision hirdymor sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles cymdeithasol, ac felly mae'n hanfodol fod eu hiechyd a'u lles yn cael eu hasesu a'u hailasesu'n rheolaidd gan weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal neu therapyddion galwedigaethol mewn modd amserol. Fel y gwyddoch o bosibl, mae data StatsCymru ar gyfer 2023-24 yn dangos, o'r 2,366 o gysylltiadau a wnaed gan neu ar ran gofalwyr ifanc â gwasanaethau cymdeithasol statudol ledled Cymru, mai dim ond 1,677 a gafodd gyngor neu gymorth yn yr un cyfnod. Yng Nghaerdydd, dim ond 28 y cant a gafodd gymorth yn yr un flwyddyn; ym Merthyr Tudful, 23 y cant ac yng Nghaerffili, 22 y cant. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y gall amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau a chymorth beri gofid. Felly, a ydych chi'n cytuno, er mwyn eu lleihau, y dylid cael adroddiad ar amseroedd aros i ofalwyr ifanc o'r adeg y cânt eu nodi gyntaf hyd at yr adeg y cynhelir eu hasesiad o anghenion gofalwyr? A pha dargedau amser priodol ar gyfer darparu asesiadau o anghenion y dylid eu nodi hefyd? Diolch.

Can I thank Joel James for those points? And they're very, very important and valid points. Again, it is a consistent theme that we've heard this afternoon, both from Hefin David and from Jane Dodds. It's about making sure that people who need the support, that unpaid carers who need the support, get that support and get that support in a timely fashion. So, I don't disagree with anything that you're saying, Joel. I would reiterate what I've already said. I do have a ministerial advisory workstream, it's looking at all of this, the support available to unpaid carers and how that can be delivered in a more timely and consistent way, and I'm more than happy for your comments and suggestions to be fed into that work as well. Thank you.

A gaf i ddiolch i Joel James am y pwyntiau hynny? Ac maent yn bwyntiau pwysig a dilys iawn. Unwaith eto, mae'n thema gyson yr ydym wedi'i chlywed y prynhawn yma, gan Hefin David a chan Jane Dodds. Mae a wnelo â sicrhau bod pobl sydd angen y cymorth, y gofalwyr di-dâl sydd angen y cymorth, yn cael y cymorth hwnnw ac yn cael y cymorth hwnnw mewn modd amserol. Felly, nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedwch, Joel. Rwy'n ailadrodd yr hyn rwyf eisoes wedi'i ddweud. Mae gennyf ffrwd waith ar gyfer cynghori'r Gweinidog, mae'n edrych ar hyn oll, y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl a sut y gellir ei ddarparu mewn ffordd fwy amserol a chyson, ac rwy'n fwy na pharod i'ch sylwadau a'ch awgrymiadau gael eu bwydo i mewn i'r gwaith hwnnw hefyd. Diolch.

Cyflenwadau Dŵr Yfed
Drinking Water Supplies

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch sicrhau nad yw cyflenwadau dŵr yfed yn peri perygl i iechyd pobl? OQ62991

4. What discussions has the Cabinet Secretary had with the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs about ensuring that drinking water supplies do not pose a danger to human health? OQ62991

I meet regularly with the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs to discuss a range of issues, including those affecting water across Wales. I’m pleased that Wales maintains excellent drinking water quality, with 99.96 per cent compliance with standards.

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar ddŵr ledled Cymru. Rwy'n falch fod gan Gymru ansawdd dŵr yfed rhagorol, gyda 99.96 y cant o gydymffurfiaeth â safonau.

Thank you for that reply, Cabinet Secretary. I'm sure that you're aware of the situation in the north of France, where public health officials have taken the extreme step of banning people from drinking tap water because of the dangers to human health. This is not due to some bacterial contamination or a leak of toxic chemicals; it is down to the fact that the groundwater and aquifers are full of forever chemicals. The levels detected in the drinking water are 20 times higher than what is considered safe. France and many other European countries are about to impose a strict 0.1 µg per litre limit. Here in the UK we have no statutory limit at all, just guidance. As investigations by Watershed have also found, sewage slurry spread on farmlands across Wales, as well as England and Scotland, contained higher levels of per-and poly fluoroalkyl substances, which then enters our watercourses. Cabinet Secretary, given the danger these chemicals pose to human health, will you work with the UK Government to ensure that we have strict limits on levels in our water supplies and work towards a ban on PFAS, as we have done with microplastics? Thank you.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r sefyllfa yng ngogledd Ffrainc, lle mae swyddogion iechyd cyhoeddus wedi cymryd y cam eithafol o wahardd pobl rhag yfed dŵr tap oherwydd y peryglon i iechyd pobl. Nid yw hyn oherwydd rhyw halogiad bacteriol neu ollyngiad cemegau gwenwynig; mae oherwydd y ffaith bod y dŵr daear a'r dyfrhaenau'n llawn cemegau am byth. Mae'r lefelau a ganfuwyd yn y dŵr yfed 20 gwaith yn uwch na'r hyn a ystyrir yn ddiogel. Mae Ffrainc a llawer o wledydd Ewropeaidd eraill ar fin gosod terfyn llym o 0.1 µg y litr. Yma yn y DU, nid oes gennym unrhyw derfyn statudol o gwbl, dim ond canllawiau. Fel y mae ymchwiliadau gan Watershed wedi'i ganfod hefyd, roedd slyri a wasgarwyd ar diroedd fferm ledled Cymru, yn ogystal â Lloegr a'r Alban, yn cynnwys lefelau uwch o sylweddau perfluoroalkyl a polyfluoroalkyl, sydd wedyn yn mynd i mewn i'n cyrsiau dŵr. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y perygl y mae'r cemegau hyn yn ei achosi i iechyd pobl, a wnewch chi weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym derfynau llym ar lefelau yn ein cyflenwadau dŵr a gweithio tuag at waharddiad ar PFASau, fel rydym wedi'i wneud gyda microblastigion? Diolch.

15:00

I thank Altaf Hussain for that question. He will know that the Drinking Water Inspectorate is the regulator that is responsible for ensuring drinking water quality across Wales and, if standards are breached, then the DWI has legal powers to investigate, take enforcement action, including against water companies, as I'm sure he'll know. We were able to welcome the annual report from the DWI last year. It recognised the consistently excellent quality of drinking water in Wales. We're awaiting their latest annual report in the coming weeks, which will cover the 2024 calendar year. He will probably be aware of some of the recommendations and requirements in that last report in relation to the improvement of infrastructure by water companies, and we expect those measures to be complied with.

I know the Deputy First Minister has met recently with water companies in relation to that. He may have noted that, in that report, the chief inspector for drinking water recommended updating Wales's drinking water regulatory standards, based, as you would expect, on the most recent scientific evidence and international guidance and experience. Welsh Government officials are considering those recommendations carefully at the moment. It's quite a complex area, as I think his question was an illustration, and that will require, in the way that he was suggesting, working with the UK Government on that in a closely co-ordinated way.

Diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn hwnnw. Fe fydd yn gwybod mai'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yw'r rheoleiddiwr sy'n gyfrifol am sicrhau ansawdd dŵr yfed ledled Cymru ac os torrir safonau, mae gan yr arolygiaeth bwerau cyfreithiol i ymchwilio, i roi camau gorfodi ar waith, yn cynnwys yn erbyn cwmnïau dŵr, fel y bydd yn gwybod, rwy'n siŵr. Gallasom groesawu'r adroddiad blynyddol gan yr arolygiaeth y llynedd. Roedd yn cydnabod ansawdd cyson ragorol dŵr yfed yng Nghymru. Rydym yn aros am eu hadroddiad blynyddol diweddaraf yn yr wythnosau nesaf, a fydd yn edrych ar flwyddyn galendr 2024. Mae'n debyg y bydd yn ymwybodol o rai o'r argymhellion a'r gofynion yn yr adroddiad diwethaf hwnnw mewn perthynas â gwella seilwaith gan gwmnïau dŵr, ac rydym yn disgwyl gweld cydymffurfiaeth â'r mesurau hynny.

Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cyfarfod â chwmnïau dŵr mewn perthynas â hynny yn ddiweddar. Mae'n bosibl ei fod wedi nodi, yn yr adroddiad hwnnw, fod y prif arolygydd dŵr yfed wedi argymell diweddaru safonau rheoleiddio dŵr yfed Cymru, yn seiliedig, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a'r canllawiau a'r profiad rhyngwladol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion hynny'n ofalus ar hyn o bryd. Mae'n faes eithaf cymhleth, fel y dangosodd ei gwestiwn, a bydd hynny'n galw, yn y ffordd a awgrymai, am weithio cyd-drefnus gyda Llywodraeth y DU ar hynny.

Ysbytai Cymunedol yn y Gogledd
Community Hospitals in North Wales

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru? OQ63006

5. Will the Cabinet Secretary make a statement on community hospital provision in North Wales? OQ63006

Esgusodwch fi. 

Excuse me.

Community hospitals are an essential element of the health care model needed to deliver high-quality, sustainable care across north Wales. Betsi Cadwaladr University Health Board recently launched a formal review of services at Penley and Tywyn community hospitals to ensure that these hospitals meet local need.

Mae ysbytai cymunedol yn elfen hanfodol o'r model gofal iechyd sydd ei angen i ddarparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Yn ddiweddar, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr adolygiad ffurfiol o wasanaethau yn ysbytai cymunedol Llannerch Banna a Thywyn i sicrhau bod yr ysbytai hyn yn diwallu anghenion lleol.

Well, they have indeed, and I wanted to ask you about that, because whilst we have seen improvement in some places, I'll grant you that, we have, of course, over a longer term, seen a steady decline in the number of community hospital beds in my region of North Wales. Denbigh, recently, was halved, and we've lost community hospitals altogether in Flint, Llangollen, Prestatyn and elsewhere. You mentioned Penley hospital there—that was, of course, closed suddenly on Christmas Eve last year. We've been told it's a temporary closure, but a public consultation has now been launched on its future and it has, understandably, raised a number of concerns locally. So, I was going to ask you to give us an assurance here today that Penley hospital will not be closed permanently, and, hopefully, that you could tell us what action the Welsh Government is therefore taking to reverse this long-term trend, in terms of decline in community hospital bed provision across my region.

Yn wir, ac roeddwn i eisiau gofyn i chi am hynny, oherwydd er fy mod yn cyfaddef ein bod wedi gweld gwelliant mewn rhai mannau, yn fwy hirdymor, rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn nifer y gwelyau ysbytai cymunedol yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru. Yn ddiweddar, cafodd Dinbych ei haneru, ac rydym wedi colli ysbytai cymunedol yn gyfan gwbl yn y Fflint, Llangollen, Prestatyn a mannau eraill. Fe wnaethoch chi sôn am ysbyty Llannerch Banna yno—cafodd hwnnw ei gau yn sydyn ar Noswyl Nadolig y llynedd. Dywedwyd wrthym mai wedi'i gau dros dro y mae, ond bellach, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei ddyfodol ac yn ddealladwy, mae wedi arwain at nifer o bryderon yn lleol. Felly, roeddwn i'n mynd i ofyn i chi roi sicrwydd i ni yma heddiw na fydd ysbyty Llannerch Banna wedi cau'n barhaol, a gobeithio y gallwch ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i wrthdroi'r duedd hirdymor hon, a'r gostyngiad yn nifer y gwelyau ysbytai cymunedol ar draws fy rhanbarth.

I'm grateful to the Member for acknowledging the positive developments in community provision at the start of his question. He will know that, in his region, new technology is being trialled in Dolgellau and Barmouth community hospital, allowing people to access urgent medication out of hours; there's the reopening of the minor injuries unit at Dolgellau and Barmouth again, and the minor injuries unit at Tywyn Hospital. I'm pleased to say that, in June, the health board's Well North Wales programme received national recognition in the Journal of Public Health for its innovative work in co-producing health and well-being services with communities in high-needs areas, and that co-production, I think, is a really important part of how we address some of the pressures that the Member referred to in his question.

I can give him the assurance that I meet regularly with the chair of the health board. I have discussed with him that the board must engage with the community to develop a coherent long-term plan for the future of service provision in Penley and also in Tywyn, and he also shares that view. As he said, the board has agreed to launch a public consultation to support this work, and I know that no decisions have been made in relation to either of these sites, and that the December board will be considering those options.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gydnabod y datblygiadau cadarnhaol yn y ddarpariaeth gymunedol ar ddechrau ei gwestiwn. Fe fydd yn gwybod bod technoleg newydd yn cael ei threialu yn ysbyty cymunedol Dolgellau ac Abermaw, i ganiatáu i bobl gael mynediad at feddyginiaeth frys y tu allan i oriau; mae'r uned mân anafiadau'n ailagor yn Nolgellau ac Abermaw eto, a'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Tywyn. Mae'n bleser gennyf ddweud, ym mis Mehefin, fod rhaglen Iach Gogledd Cymru y bwrdd iechyd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol yn y Journal of Public Health am ei gwaith arloesol yn cydgynhyrchu gwasanaethau iechyd a lles gyda chymunedau mewn ardaloedd sydd ag anghenion uchel, a bod cydgynhyrchu'n rhan bwysig iawn o'r ffordd yr awn i'r afael â pheth o'r pwysau y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ei gwestiwn.

Gallaf roi sicrwydd iddo fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd â chadeirydd y bwrdd iechyd. Rwyf wedi trafod gydag ef fod yn rhaid i'r bwrdd ymgysylltu â'r gymuned i ddatblygu cynllun hirdymor cydlynol ar gyfer dyfodol y ddarpariaeth yn Llannerch Banna a hefyd yn Nhywyn, ac mae yntau'n rhannu'r farn honno. Fel y dywedodd, mae'r bwrdd wedi cytuno i lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gefnogi'r gwaith hwn, ac rwy'n gwybod nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud mewn perthynas â'r naill na'r llall o'r safleoedd hyn, ac y bydd bwrdd mis Rhagfyr yn ystyried yr opsiynau hynny.

15:05

I have long been a champion of Llandudno hospital. It was a pledge and a promise I made to the late Sir Wyn Roberts, who actually, whilst he was in Parliament, made a lot of the infrastructure that we see there today. But it's something I've also pledged to my constituents, because it just is an amazing hospital. I've pestered, I've gone on street protests, to keep and safeguard this hospital. Now, look at Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd and Wrexham Maelor. When you look at their waiting times for A&E, these are the figures stated, but I can tell you that sometimes it's a lot worse than this: only 56.8 per cent were seen during the four-hour target in Gwynedd, 38 per cent in Wrexham, 38 per cent—nearly—in Glan Clwyd. The progress of patients through the emergency department is being hampered by other delays in the hospitals. I know people waiting two days on a chair sometimes, on corridor care. The pressure could be reduced through transferring some patients to wards in community hospitals, expanding services at minor injuries units, such as Holyhead, Porthmadog and Llandudno. The latter, for example, saw 95 per cent within the four-hour target. Will you look again at the marvellous and integral part these community hospitals play? Will you review their provision? And let's see fewer delays and more action, more patients going through the hospital process by integrating the MIU provision better. Thank you.

Rwyf wedi cefnogi ysbyty Llandudno ers amser maith. Roedd yn addewid ac yn addewid a wneuthum i'r diweddar Syr Wyn Roberts, a wnaeth lawer o'r seilwaith a welwn yno heddiw tra oedd yn y Senedd. Ond mae'n rhywbeth a addewais i fy etholwyr hefyd, oherwydd mae'n ysbyty anhygoel. Rwyf wedi plagio, rwyf wedi bod ar brotestiadau stryd, i gadw a diogelu'r ysbyty hwn. Nawr, edrychwch ar Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam. Pan edrychwch ar eu hamseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys, dyma'r ffigurau a nodwyd, ond gallaf ddweud wrthych ei fod yn llawer gwaeth na hyn ar brydiau: dim ond 56.8 y cant o gleifion a welwyd o fewn y targed pedair awr yn Ysbyty Gwynedd, 38 y cant yn Wrecsam, 38 y cant—bron—yng Nglan Clwyd. Mae cynnydd cleifion trwy'r adran achosion brys yn cael ei rwystro gan oedi mewn mannau eraill yn yr ysbytai. Rwy'n gwybod bod pobl yn aros am ddau ddiwrnod ar gadair weithiau, dan ofal coridor. Gellid lleihau'r pwysau trwy drosglwyddo rhai cleifion i wardiau mewn ysbytai cymunedol, ehangu gwasanaethau mewn unedau mân anafiadau, fel Caergybi, Porthmadog a Llandudno. Gwelodd yr olaf, er enghraifft, 95 y cant o fewn y targed pedair awr. A wnewch chi edrych eto ar y rhan wych a hollbwysig y mae'r ysbytai cymunedol hyn yn ei chwarae? A wnewch chi adolygu eu darpariaeth? A gadewch inni weld llai o oedi a mwy o weithredu, mwy o gleifion yn mynd trwy'r broses ysbyty trwy integreiddio'r ddarpariaeth o unedau mân anafiadau'n well. Diolch.

The Member will have welcomed the response I gave to Llyr Gruffydd in relation to the reopening of minor injuries units and the developments in community provision across the health board area, which I think shows good progress, but I think, and the health board also thinks, that more needs to be done. I'm particularly struck by her support for Llandudno hospital. I was able to be there only a few weeks ago to see the exciting construction of a new orthopaedic centre there, which we anticipate will open later this year and will make a significant difference in relation to relieving pressure on those people waiting for their hips, their knees and their shoulders to be done. That's going well, and I'm sure she'll welcome that facility when it opens later this year.

Bydd yr Aelod wedi croesawu'r ymateb a roddais i Llyr Gruffydd mewn perthynas ag ailagor unedau mân anafiadau a'r datblygiadau mewn darpariaeth gymunedol ar draws ardal y bwrdd iechyd, sy'n dangos cynnydd da yn fy marn i, ond rwy'n credu, ac mae'r bwrdd iechyd hefyd yn credu, fod angen gwneud mwy. Fe wnaeth ei chefnogaeth i ysbyty Llandudno argraff fawr arnaf. Euthum yno ychydig wythnosau yn ôl i weld y ganolfan orthopedig newydd yn cael ei hadeiladu, ac rydym yn disgwyl y bydd yn agor yn ddiweddarach eleni ac yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i leddfu'r pwysau ar y bobl sy'n aros i'w gluniau, pengliniau ac ysgwyddau gael eu gwneud. Mae hynny'n mynd yn dda, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n croesawu'r cyfleuster hwnnw pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni.

I don't disagree at all with Janet Finch-Saunders. I think community hospitals do provide excellent services, if you look at the minor injuries services they provide, and also meeting the needs of an ageing population and many other things as well.

You did mention in your earlier answer that you have regular discussions with Betsi Cadwaladr health board, and you outlined some of the excellent work being done across north Wales community hospitals in your original answer to Llyr Huws Gruffydd. I think it's really important that those discussions do include plans for the health board to extend provision, particularly around north-east Wales. Many people don't wait as long as Janet Finch-Saunders said at the Wrexham Maelor Hospital, but I do think some additional services in the community would take a lot of the pressure off.

Nid wyf yn anghytuno o gwbl â Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu bod ysbytai cymunedol yn darparu gwasanaethau rhagorol, os edrychwch ar y gwasanaethau mân anafiadau a ddarparant, a'r ffordd y maent yn diwallu anghenion poblogaeth sy'n heneiddio a llawer o bethau eraill hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn yn eich ateb cynharach eich bod yn cael trafodaethau rheolaidd gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac fe wnaethoch chi amlinellu peth o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud ar draws ysbytai cymunedol gogledd Cymru yn eich ateb gwreiddiol i Llyr Huws Gruffydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y trafodaethau hynny'n cynnwys cynlluniau i'r bwrdd iechyd ymestyn y ddarpariaeth, yn enwedig o gwmpas gogledd-ddwyrain Cymru. Mae yna lawer o bobl na fyddant yn aros cyhyd ag y dywedodd Janet Finch-Saunders yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond rwy'n credu y byddai gwasanaethau ychwanegol yn y gymuned yn cael gwared ar lawer o'r pwysau.

I agree with the Member in relation to that point, certainly. What we know is that the way we can make sure people have access to secondary care when they need it is to make sure that they don't have to go to hospital unless they absolutely need to, and having those facilities distributed differently in community settings is an absolutely critical part of that. What I've been encouraged by, in my discussions with the chair of the health board, is the recognition on the part of the board that they need to engage the public fully in how services can be offered differently in that way. There are difficult choices and conversations that are necessarily part of that, but I think that commitment to working with the public, with communities, on how services can be adapted to better provide more resilient services for the public is really encouraging. And as I mentioned in my first answer, there has been some external recognition for the good co-production work that the board is already doing in some of that work.

Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r pwynt hwnnw, yn sicr. Yr hyn a wyddom yw mai'r ffordd y gallwn wneud yn siŵr fod pobl yn cael mynediad at ofal eilaidd pan fydd ei angen arnynt yw gwneud yn siŵr nad oes rhaid iddynt fynd i'r ysbyty oni bai bod angen, ac mae cael y cyfleusterau hynny wedi'u dosbarthu'n wahanol mewn lleoliadau cymunedol yn rhan hollol allweddol o hynny. Yn fy nhrafodaethau gyda chadeirydd y bwrdd iechyd, cefais fy nghalonogi gan y gydnabyddiaeth ar ran y bwrdd fod angen iddynt ymgysylltu â'r cyhoedd yn llawn ynghylch y modd y gellir cynnig gwasanaethau yn wahanol yn y ffordd honno. Mae yna ddewisiadau a sgyrsiau anodd yn rhan o hynny o reidrwydd, ond rwy'n credu bod yr ymrwymiad i weithio gyda'r cyhoedd, gyda chymunedau, ar sut y gellir addasu gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau mwy gwydn i'r cyhoedd yn wirioneddol galonogol. Ac fel y soniais yn fy ateb cyntaf, cafwyd cydnabyddiaeth allanol i'r gwaith cydgynhyrchu da y mae'r bwrdd eisoes yn ei wneud gyda pheth o'r gwaith hwnnw.

15:10
Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Mental Health Services

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl? OQ62993

6. How does the Welsh Government plan the provision of mental health services? OQ62993

Our long-term plans for mental health and well-being have been set out in the recently published 10-year strategy and delivery plan. The NHS Wales planning framework for 2025-28 outlines the high-level ambition for our health and care system, including in mental health, and our key expectations in delivery.

Mae ein cynlluniau hirdymor ar gyfer iechyd meddwl a llesiant meddyliol wedi'u nodi yn y strategaeth a'r cynllun cyflawni 10 mlynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae fframwaith cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2025-28 yn nodi'r uchelgais lefel uchel ar gyfer ein system iechyd a gofal, gan gynnwys ym maes iechyd meddwl, a'n disgwyliadau allweddol ar gyfer cyflawni.

While the Welsh Government has extended independent mental health advocates to all in-patients receiving mental health care, a legal loophole means that these services are not classed as regulated services under the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014. As a result, independent mental health advocates are not legally required to report safeguarding concerns, even in cases of abuse, neglect or serious risk. Given that these advocates are often the only trusted contact for vulnerable patients, this lack of a duty undermines safeguarding law, public confidence in advocacy and the safety of those most at risk. There are also concerns about conflicts of interest as services are commissioned by the same bodies they may need to challenge.

What action, if any, will the Welsh Government therefore take to close this loophole by regulating mental health advocacy services, introducing a legal safeguarding duty for independent mental health advocates, and reforming commissioning arrangements to ensure that advocates can act independently and without fear of reprisal, thereby upholding Wales's commitment to rights-based, trauma-informed mental health care?

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn gwasanaeth eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i bob claf mewnol sy'n cael gofal iechyd meddwl, mae bwlch cyfreithiol yn golygu nad yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu categoreiddio'n wasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O ganlyniad, nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol adrodd am bryderon diogelu, hyd yn oed mewn achosion o gamdriniaeth, esgeulustod neu risg ddifrifol. O ystyried mai'r eiriolwyr hyn yn aml yw'r unig gyswllt y bydd cleifion bregus yn ymddiried ynddynt, mae diffyg dyletswydd o'r fath yn tanseilio cyfraith diogelu, hyder y cyhoedd mewn eiriolaeth a diogelwch y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Mae yna bryderon hefyd am wrthdaro buddiannau gan fod gwasanaethau'n cael eu comisiynu gan yr un cyrff ag y gallai fod angen iddynt eu herio.

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i gau'r bwlch hwn yn y gyfraith drwy reoleiddio gwasanaethau eiriolaeth iechyd meddwl, cyflwyno dyletswydd ddiogelu gyfreithiol ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol, a diwygio trefniadau comisiynu i sicrhau bod eiriolwyr yn gallu gweithredu'n annibynnol a heb ofn dial, a thrwy hynny gynnal ymrwymiad Cymru i ofal iechyd meddwl sy'n seiliedig ar hawliau ac yn ystyriol o drawma?

I'm grateful to the Member for raising that important question. I will commit to discussing that very point with my officials and I will write to the Member and let him know what is currently under way and what more we feel we can do. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig hwn. Rwy'n ymrwymo i drafod yr union bwynt hwnnw gyda fy swyddogion a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn rhoi gwybod iddo beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd a beth arall y teimlwn y gallwn ei wneud. 

Colli Beichiogrwydd a Cholli Babi
Pregnancy and Baby Loss

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl y mae colli beichiogrwydd a cholli babi wedi effeithio arnynt? OQ63001

7. How is the Welsh Government supporting people affected by pregnancy and baby loss? OQ63001

Standards for bereavement care, which underpin the national bereavement care pathway for pregnancy and baby loss, have been developed in consultation with parents and healthcare professionals, and they will be published shortly. The national clinical network for maternity and neonatal services will then oversee the implementation of the pathway in NHS Wales.

Mae safonau ar gyfer gofal mewn profedigaeth, sy'n sail i'r llwybr gofal mewn profedigaeth cenedlaethol ar gyfer colli beichiogrwydd a cholli babi, wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad â rhieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a byddant yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Wedyn bydd y rhwydwaith clinigol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn goruchwylio gweithrediad y llwybr yn GIG Cymru.

Diolch am yr ateb.

Thank you for that response.

First of all, I'd like to welcome the announcement by the UK Government that the Employment Rights Bill is going to be amended to give parents the legal right to take time off from work to grieve if they experience pregnancy loss at any stage of the pregnancy, instead of just after 24 weeks of pregnancy, as it is at the moment. So, I think that this is very welcome news. I also welcome the national bereavement care pathway that the Cabinet Secretary mentioned and the national framework for the delivery of bereavement care and its vision for a compassionate Wales where everyone has equitable access to high-quality bereavement care.

However, the pregnancy and baby loss charity Sands says that these pathways do require a dedicated programme of development and implementation to be embedded in all healthcare settings, and this obviously includes providing training, supporting healthcare staff, developing toolkits, evaluation and above all, as the Cabinet Secretary has already said, including the voice of bereaved parents in the ongoing development of the pathways. So, could the Cabinet Secretary explain how the Welsh Government will ensure that the pathways are properly implemented across all health boards, following the funding for the Sands-specific support for the Wales maternity and neonatal network expiring in September?

Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU fod y Bil Hawliau Cyflogaeth yn mynd i gael ei ddiwygio i roi hawl gyfreithiol i rieni gael amser o'r gwaith i alaru os ydynt yn colli beichiogrwydd ar unrhyw gam o'r beichiogrwydd, yn hytrach na dim ond ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd, fel y mae ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr. Rwyf hefyd yn croesawu'r llwybr gofal mewn profedigaeth cenedlaethol a grybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet a'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth a'i weledigaeth o Gymru dosturiol lle mae gan bawb fynediad cyfartal at ofal mewn profedigaeth o ansawdd uchel.

Fodd bynnag, mae'r elusen colli beichiogrwydd a cholli babi, y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) yn dweud bod angen rhaglen ddatblygu a gweithredu bwrpasol ar gyfer y llwybrau hyn ym mhob lleoliad gofal iechyd, ac mae hyn yn amlwg yn cynnwys darparu hyfforddiant, cefnogi staff gofal iechyd, datblygu pecynnau cymorth, gwerthuso ac yn anad dim, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, cynnwys llais rhieni sydd wedi cael profedigaeth yn natblygiad parhaus y llwybrau. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y llwybrau'n cael eu gweithredu'n briodol ar draws pob bwrdd iechyd, wrth i'r cyllid ar gyfer cymorth sy'n benodol i Sands rhwydwaith mamolaeth a newyddenedigol Cymru ddod i ben ym mis Medi?

Sands is a crucial partner to the work that the Welsh Government, through NHS Wales Performance and Improvement and the broader NHS, is doing in this space, and it's with their support that the five pathways are currently being produced in the way that the Member described. Those are being developed at the moment. I know that the networks within NHS performance and improvement are working with stakeholders, again including Sands, on how those can be delivered and rolled out. Sands has, as the Member said, been provided with funding as part of this commission to engage with families, which is absolutely critical in this work, and to provide training for staff to ensure sustainable implementation. The network is working with Sands to monitor progress and assess further support needs to make sure that we ensure that these pathways are successfully delivered, and I know that my colleague Sarah Murphy intends to make a statement shortly in relation to that. 

Mae Sands yn bartner allweddol yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru, drwy Perfformiad a Gwella GIG Cymru a'r GIG yn ehangach, yn ei wneud ar hyn, a chyda'u cefnogaeth hwy y mae'r pum llwybr yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd yn y ffordd y disgrifiodd yr Aelod. Mae'r rheini'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod y rhwydweithiau o fewn perfformiad a gwella'r GIG yn gweithio gyda rhanddeiliaid, unwaith eto'n cynnwys Sands, ar sut y gellir cyflawni a chyflwyno'r rheini. Fel y dywedodd yr Aelod, mae Sands wedi cael cyllid yn rhan o'r comisiwn hwn i ymgysylltu â theuluoedd, sy'n hollol allweddol yn y gwaith hwn, ac i ddarparu hyfforddiant i staff i sicrhau gweithrediad cynaliadwy. Mae'r rhwydwaith yn gweithio gyda Sands i fonitro cynnydd ac i asesu anghenion cymorth pellach i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod y llwybrau hyn yn cael eu darparu'n llwyddiannus, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn bwriadu gwneud datganiad mewn perthynas â hynny cyn bo hir. 

15:15
Canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng
Welshpool Air Ambulance Base

8. Pa fesurau lliniaru y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i gefnogi trigolion yng nghanolbarth Cymru os bydd canolfan ambiwlans awyr y Trallwng yn cau fel y cynlluniwyd yn 2026? OQ62988

8. What mitigation measures will the Welsh Government put in place to support residents in mid Wales if the Welshpool air ambulance base closes as planned in 2026? OQ62988

The court recently upheld the joint commissioning committee's decision in respect of the relocation of the air ambulance bases. We are aware that an application to appeal the court’s decision on 19 June has now been filed, so as this remains active litigation, it's not appropriate for Welsh Ministers to comment specifically at this stage.

Yn ddiweddar, cadarnhaodd y llys benderfyniad y cyd-bwyllgor comisiynu mewn perthynas ag adleoli'r canolfannau ambiwlans awyr. Rydym yn ymwybodol fod cais i apelio yn erbyn penderfyniad y llys ar 19 Mehefin wedi'i gyflwyno bellach, felly gan ei fod yn parhau i fod yn destun ymgyfreitha, nid yw'n briodol i Weinidogion Cymru wneud sylwadau penodol ar hyn o bryd.

Thank you for your answer. Of course, people in mid Wales, as you can imagine, were deeply disappointed by the decision, following that judicial review outcome, to close Welshpool and Caernarfon bases on a permanent basis. As you've said, health Secretary, there is an appeal to ask for permission to challenge that decision. But as part of the original proposal to close these bases, so-called mitigation measures were announced. These included rapid response vehicles to be located in areas around mid Wales, these vehicles having additional equipment on them. In my view, that is completely unsatisfactory mitigation, no substitution for a full air ambulance service, but this is the proposal that was put on the table. So far, there's been no further information about this proposal. The JCC, the body that was supposed to make the decision, were supposed to have delivered plans by the end of September last year. They haven't happened. There have been no costings and no further operation. Cabinet Secretary, if you're not prepared to step in and ensure that these two important bases in Welshpool and Caernarfon are not closed, can you at least provide an update on the proposed rapid response vehicles?

Diolch am eich ateb. Fel y gallwch ddychmygu, roedd pobl yng nghanolbarth Cymru'n siomedig iawn ynghylch y penderfyniad, yn dilyn canlyniad yr adolygiad barnwrol, i gau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon yn barhaol. Fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd iechyd, mae yna apêl i ofyn am ganiatâd i herio'r penderfyniad hwnnw. Ond yn rhan o'r cynnig gwreiddiol i gau'r canolfannau, cyhoeddwyd mesurau lliniaru fel y'u gelwir. Roedd y rhain yn cynnwys cerbydau ymateb cyflym i'w lleoli mewn ardaloedd o gwmpas canolbarth Cymru, gydag offer ychwanegol yn y cerbydau. Yn fy marn i, mae'r mesurau lliniarol hyn yn gwbl anfoddhaol, ac nid ydynt yn gwneud y tro o gwbl yn lle gwasanaeth ambiwlans awyr llawn, ond dyma'r cynnig a roddwyd ar y bwrdd. Hyd yma, nid oes unrhyw wybodaeth bellach am y cynnig. Roedd y cyd-bwyllgor comisiynu, y corff a oedd i fod i wneud y penderfyniad, i fod wedi darparu cynlluniau erbyn diwedd mis Medi y llynedd. Nid ydynt wedi digwydd. Nid oes unrhyw waith costio wedi'i wneud a dim gweithredu pellach. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad ydych chi'n barod i gamu i mewn a sicrhau nad yw'r ddwy ganolfan bwysig yn y Trallwng a Chaernarfon yn cau, a allwch chi o leiaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cerbydau ymateb cyflym arfaethedig?

The Member will appreciate, of course, that this is an operational decision for the JCC, not a decision for Ministers to make themselves, and that's for very good reason. I know that the JCC intended to provide a detailed response once it had had the opportunity to look at the judgment fully and review the implications of that. Obviously, in light of the appeal being lodged, I assume that may impact the timing of comments from the JCC in relation to that, and I'm sure that the points that the Member has made in the question will be the sorts of things that the JCC will comment on.

I would just say that although he mentioned the closure of two locations, of course there is a proposal for there to be a base in north Wales. As I understand it, one of the current challenges in the system is that a service isn't capable of being provided at night, for example. So there are a range of potential improvements that the plan would be able to make. I think it is important to see that rounded proposal when we discuss and debate these questions. But I think in terms of being drawn into the detail of that, for the reasons I've given, I think that would be premature and inappropriate for us at this point.

Bydd yr Aelod yn deall, wrth gwrs, fod hwn yn benderfyniad gweithredol i'r cyd-bwyllgor comisiynu, nid penderfyniad i Weinidogion ei wneud eu hunain, a hynny am reswm da iawn. Gwn fod y cyd-bwyllgor comisiynu'n bwriadu rhoi ymateb manwl ar ôl iddo gael cyfle i edrych ar y dyfarniad yn llawn ac adolygu goblygiadau hynny. Yn amlwg, yng ngoleuni'r apêl sy'n cael ei chyflwyno, rwy'n tybio y gallai hynny effeithio ar amseriad sylwadau gan y cyd-bwyllgor comisiynu mewn perthynas â hynny, ac rwy'n siŵr mai'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yn y cwestiwn fydd y math o bethau y bydd y cyd-bwyllgor comisiynu'n gwneud sylwadau arnynt.

Er ei fod wedi sôn am gau dau leoliad, mae yna gynnig i gael canolfan yng ngogledd Cymru. Fel rwy'n ei ddeall, un o'r heriau presennol yn y system yw nad oes modd darparu gwasanaeth yn y nos, er enghraifft. Felly mae yna ystod o welliannau posibl y byddai'r cynllun yn gallu eu gwneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld y cynnig yn ei gyfanrwydd pan fyddwn yn trafod y cwestiynau hyn. Ond o ran cael fy nhynnu i mewn i fanylion hynny, am y rhesymau a roddais, rwy'n credu y byddai hynny'n gynamserol ac yn amhriodol i ni ar y pwynt hwn.

3. Cwestiynau Amserol
3. Topical Questions

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Dim ond un cwestiwn amserol sydd wedi ei dderbyn heddiw, a bydd hwnnw gan Andrew R.T. Davies. 

Item 3 is the topical questions. Only one topical question has been selected today, and that will be asked by Andrew R.T. Davies. 

Diswyddiadau yn Dow yn y Barri
Redundancies at Dow in Barry

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y cyhoeddiad y bydd 220 o swyddi yn cael eu dileu yng ngwaith cemegau Dow yn y Barri? TQ1362

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the announcement of 220 redundancies at the Dow chemicals plant in Barry? TQ1362

The Welsh Government continues to work closely with the company and will support the affected employees. We have a proven partnership approach and support network including the Department for Work and Pensions, Careers Wales and the local authority employability team that provides advice and guidance and retraining packages through ReAct+.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni a bydd yn cefnogi'r gweithwyr yr effeithir arnynt. Mae gennym ddull partneriaeth profedig o weithredu a rhwydwaith cymorth sy'n cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a thîm cyflogadwyedd yr awdurdod lleol sy'n darparu cyngor ac arweiniad a phecynnau ailhyfforddi trwy ReAct.

Thank you, Cabinet Secretary, for that response. This is deeply disappointing news. This is obviously part of a wider announcement that Dow have made across their operations across the globe, and 800 jobs are to be lost in Germany as well, but that doesn't soften the blow of the 220 redundancies that have been announced on a plant that—if you enter the town from the eastern side—dominates the landscape and has been part and parcel of the fabric of Barry since the 1930s.

Can you give some assurance today that in the time that these announcements were first made, and to the announcement that was made yesterday, the Welsh Government engagement with the owners of Dow has given you confidence that the viability of the entire plant is secure, and that they are committed to the remaining jobs on the site, and ultimately, the 220 jobs that are going to be lost will receive the full support of retraining and any other support that the Welsh Government normally deploys in these occasions when jobs are lost? Because obviously, these jobs aren't being lost straight away, thankfully; it is going to be a period of two to three years, and so it is a long-term commitment that the Welsh Government needs to make to make sure that each and every one of the 220 affected knows that there is that help and support there.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hyn yn newyddion siomedig iawn. Mae'n amlwg yn rhan o gyhoeddiad ehangach y mae Dow wedi'i wneud ar draws eu gweithfeydd ledled y byd, ac mae 800 o swyddi i'w colli yn yr Almaen hefyd, ond nid yw hynny'n lleddfu ergyd y 220 o ddiswyddiadau sydd wedi'u cyhoeddi ar safle sydd—os ewch i mewn i'r dref o'r ochr ddwyreiniol—yn dominyddu'r dirwedd ac wedi bod yn rhan annatod o wead y Barri ers y 1930au.

A allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd heddiw, ers yr adeg y gwnaed y cyhoeddiadau hyn gyntaf, ac yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ddoe, fod ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â pherchnogion Dow wedi rhoi hyder i chi fod hyfywedd y safle cyfan yn ddiogel, a'u bod wedi ymrwymo i'r swyddi sy'n weddill ar y safle, ac yn y pen draw, y bydd y 220 o swyddi sy'n mynd i gael eu colli yn cael cymorth llawn i ailhyfforddi ac unrhyw gefnogaeth arall y mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn ei gynnig ar yr achlysuron hyn pan gaiff swyddi eu colli? Oherwydd yn amlwg, nid yw'r swyddi hyn yn cael eu colli ar unwaith, diolch byth; mae'n mynd i fod yn gyfnod o ddwy i dair blynedd, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru wneud ymrwymiad hirdymor i wneud yn siŵr fod pob un o'r 220 yr effeithir arnynt yn gwybod bod cymorth a chefnogaeth yno.

15:20

I’m very grateful for the chance to talk about this in the Chamber this afternoon. Clearly, this news is going to be really worrying for the workforce in Barry and also for their families and the wider community. The Member is absolutely right that the company has been very clear that this has been in response to global economic factors, but that is no comfort at all, of course, if you’re one of the members of the workforce affected.

I can confirm that the Welsh Government, through officials, has been in contact with the company for some time, and we have been working closely with them. I am pleased that the result, following the group consultation, has been that the number of affected staff has decreased. That’s partly down to the creation of a new engineering hub at the Barry site to support future operations, and I think that does give some confidence to the intentions for the future. So, I think that that is something that we can welcome, clearly, in a really difficult situation.

I’m also really pleased that Dow has said that it’s committed to supporting its employees and they’ll work with the consultation team on how they can continue to provide support to those who are seeking onward employment. Measures such as a £5,000 training allowance for all impacted employees or outplacement support to assist with career transitions are very much welcomed. And, of course, the Welsh Government, as always, stands ready to assist in any way we can.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad am hyn yn y Siambr y prynhawn yma. Yn amlwg, mae'r newyddion yn mynd i fod yn bryderus iawn i'r gweithlu yn y Barri a hefyd i'w teuluoedd a'r gymuned ehangach. Mae'r Aelod yn hollol gywir fod y cwmni wedi bod yn glir iawn mai ymateb yw hyn i ffactorau economaidd byd-eang, ond nid yw hynny'n gysur o gwbl os ydych chi'n un o aelodau'r gweithlu yr effeithir arnynt.

Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru, drwy swyddogion, wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni ers peth amser, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda hwy. Rwy'n falch fod y canlyniad, yn dilyn ymgynghori â'r grŵp, wedi golygu bod nifer y staff yr effeithir arnynt wedi gostwng. Mae hynny'n rhannol oherwydd creu canolfan beirianneg newydd ar safle'r Barri i gefnogi gweithgarwch yn y dyfodol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhoi rhywfaint o hyder i'r bwriadau ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn rhywbeth y gallwn ei groesawu, mewn sefyllfa anodd iawn.

Rwyf hefyd yn falch iawn fod Dow wedi dweud ei fod wedi ymrwymo i gefnogi ei weithwyr ac y byddant yn gweithio gyda'r tîm ymgynghori ar sut y gallant barhau i ddarparu cymorth i'r rhai sydd am chwilio am swyddi newydd. Mae mesurau fel lwfans hyfforddi o £5,000 i'r holl weithwyr yr effeithir arnynt neu gymorth ar ffurf cymorth i newid gyrfa yn cael eu croesawu'n fawr. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru, fel bob amser, yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd sy'n bosibl.

Dwi’n falch, Ysgrifennydd Cabinet, o glywed bod y Llywodraeth wedi bod yn cydweithio’n agos efo Dow. Yn amlwg, mae hon yn ergyd sylweddol a dwi yn meddwl am y gweithwyr a’u teuluoedd ar yr adeg hon. Yn anffodus, mae hwn yn rhywbeth rydyn ni'n ei glywed yn llawer rhy aml, onid ydy, ar y funud—cannoedd o swyddi’n mynd, a swyddi mae dirfawr eu hangen o fewn economi leol. O ran y trafodaethau, ydych chi wedi dechrau trafod ynglŷn â defnydd y lleoliad ar ôl 2029, i weld os oes yna obaith o ran edrych ar opsiynau amgen yn y fan honno? Hefyd, o ran edrych ar strategaeth ddiwydiannol newydd i Gymru, ydych chi’n meddwl bod angen un erbyn hyn? Oherwydd yn anffodus, rydyn ni yn gweld bod hon yn stori gyson, ac mewn ardaloedd fel y Barri, mi fyddan nhw eisiau gwybod bod yna obaith o ran bod yna bosibilrwydd, os ydyn nhw yn ailhyfforddi, bod yna swyddi yna ar gael iddyn nhw aros yma yng Nghymru. 

I'm pleased, Cabinet Secretary, to hear that the Government has been working closely with Dow. Clearly, this is a significant blow and I am thinking of those employees and their families at this time. This is something that we are hearing far too often at the moment—hundreds of jobs being lost, and jobs that are very much needed within the local economy. In terms of the discussions you've had, have you started to discuss the use of the site after 2029, to see whether there is hope of looking at alternative options there on the site? Also, looking at the new industrial strategy for Wales, do you think that we need this now? Because we are seeing this as a regular story, and in areas such as Barry, they will want to know that there is hope that there is the possibility that if they do retrain, there will be posts available for them to remain in Wales. 

Thank you very much for raising that. Again, this is a really difficult time for all of those workers who are affected. I think the fact that there is time for decisions to be made is really important, and those individual discussions that the business will now be having with employees will be really important as well. I think that we need to make sure that we maintain the skills that have been developed at the site. Certainly, looking towards the industrial strategy and the areas of growth, we need to be ensuring that people who do have skills are able to use those skills in different fields, but then are also able to reskill into other fields if necessary. We do have a really strong track record in terms of working with individuals who are affected by situations such as this with that proven partnership approach including the DWP, Careers Wales and the local authority employability team. We'll be making sure that all of that support is available as normal. As I say, we have been in touch with the company for some time, including a conversation between the First Minister and the UK president.

Diolch am godi hynny. Unwaith eto, mae hwn yn gyfnod anodd iawn i'r holl weithwyr yr effeithir arnynt. Rwy'n credu bod y ffaith bod yna amser i benderfyniadau gael eu gwneud yn bwysig iawn, a bydd y trafodaethau unigol y bydd y busnes yn eu cael gyda gweithwyr nawr yn bwysig iawn hefyd. Rwy'n credu bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cadw'r sgiliau a ddatblygwyd ar y safle. Yn sicr, wrth edrych tuag at y strategaeth ddiwydiannol a'r meysydd twf, mae angen inni sicrhau bod pobl sydd â sgiliau'n gallu defnyddio'r sgiliau hynny mewn gwahanol feysydd, ond hefyd yn gallu ailsgilio i feysydd eraill os oes angen. Mae gennym hanes cryf iawn o weithio gydag unigolion yr effeithiwyd arnynt gan sefyllfaoedd o'r fath gyda'r dull partneriaeth profedig sy'n cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a thîm cyflogadwyedd yr awdurdod lleol. Byddwn yn gwneud yn siŵr fod yr holl gefnogaeth honno ar gael fel arfer. Fel y dywedaf, rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni ers peth amser, gan gynnwys sgwrs rhwng Prif Weinidog Cymru a llywydd y DU.

4. Datganiadau 90 eiliad
4. 90-second Statements

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Hannah Blythyn.

Item 4 is the 90-second statements. The first statement this afternoon is from Hannah Blythyn.

On 4 July 1952, tragedy struck at the Point of Ayr colliery, as six men were killed during the sinking of the No. 3 shaft. On that fateful day, the ground was soft so compressed air was pumped down the shaft to support the side walls. However, it seeped through the shaft walls and could be seen bubbling up in the dock area at high tide. To counter this, pressure was increased steadily but eventually the airlock on the top of the shaft could no longer cope with the pressure and it blew off. This caused the shaft to flood and the walls collapsed onto the men working below. Five men died underground. The inquest reported death by drowning with no means of escape. Another man died on the surface when the airlock blew off.

The 1952 tragedy was the last serious accident at the colliery and had a significant impact on the surrounding community, many of whom worked at the Point of Ayr. Seventy-three years to the day, last Friday, the community once again came together at the Ffynnongroyw mining memorial, as a new panel was unveiled to commemorate the six men who lost their lives: James Nicholas Thompson, 43, Prestatyn; Samuel Dempster, 37, Prestatyn; Percy Maisey, 33, Ffynnongroyw; Edward James Hill, 31, Deptford; Goronwy Jones, 30, Holywell; Patrick Joseph McPartland, 28, Dyserth. Retired members from the Point of Ayr were joined by comrades from other collieries, alongside community representatives and relatives, including the daughters of one of the men who died. There is now, rightly, public recognition and a platform for reflection after over seven decades.

Ar 4 Gorffennaf 1952, cafodd pwll glo y Parlwr Du ei daro gan drasiedi, wrth i chwech o ddynion gael eu lladd gyda suddo siafft Rhif 3. Ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, roedd y ddaear yn feddal felly cafodd aer cywasgedig ei bwmpio i lawr y siafft i gynnal y waliau ochr. Fodd bynnag, fe dreiddiodd drwy waliau'r siafft a gellid ei weld yn codi'n swigod yn ardal y doc ar lanw uchel. Er mwyn gwrthsefyll hyn, cynyddwyd y pwysedd yn raddol ond yn y pen draw ni allai'r trap awyr ar ben y siafft ymdopi â'r pwysedd mwyach ac fe ffrwydrodd. Achosodd hyn i'r siafft orlifo a chwympodd y waliau ar y dynion a oedd yn gweithio islaw. Bu farw pump o ddynion o dan y ddaear. Adroddodd y cwest ddyfarniad o farwolaeth trwy foddi heb ffordd o ddianc. Bu farw dyn arall ar yr wyneb pan ffrwydrodd y trap awyr.

Trasiedi 1952 oedd y ddamwain ddifrifol olaf yn y pwll glo a chafodd effaith sylweddol ar y gymuned gyfagos, gyda llawer ohonynt yn gweithio yn y Parlwr Du. Ddydd Gwener diwethaf, 73 mlynedd i'r diwrnod yn ddiweddarach, daeth y gymuned at ei gilydd unwaith eto wrth gofeb lofaol Ffynnongroyw, wrth i banel newydd gael ei ddadorchuddio i goffáu'r chwe dyn a gollodd eu bywydau: James Nicholas Thompson, 43, Prestatyn; Samuel Dempster, 37, Prestatyn; Percy Maisey, 33, Ffynnongroyw; Edward James Hill, 31, Deptford; Goronwy Jones, 30, Treffynnon; Patrick Joseph McPartland, 28, Dyserth. Ymunodd cyn-weithwyr o'r Parlwr Du â chydweithwyr o lofeydd eraill â chynrychiolwyr cymunedol a pherthnasau, yn cynnwys merched un o'r dynion a fu farw. Bellach, yn briodol iawn, cafwyd cydnabyddiaeth gyhoeddus a man myfyrio ar ôl dros saith degawd.

Byddwn yn eu cofio.

We will remember them.

15:25

Ar 29 Mehefin, daeth y newyddion trist bod y canwr opera a'r tenor byd-enwog Stuart Burrows wedi ein gadael ac yntau'n 92 mlwydd oed. Braint, heddiw, ydy talu teyrnged fer a dathlu ei yrfa rhyfeddol. 

Fe aned Stuart yng Nghilfynydd, ger Pontypridd. Yn blentyn, cafodd flas ar berfformio wrth iddo ganu unawdau soprano, bryd hynny, yn y capel Methodistaidd lleol, a hyd yn oed allan drwy ffenest ei ystafell wely, fel y gallai ei gymdogion ei glywed. Er iddo serennu ar y cae rygbi yn ifanc, a chael cynnig gan Leeds Rugby League Club, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a dilyn gyrfa fel athro cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1963. 

Yn 1965, daeth ei gyfle mawr, pan fe'i dewisiwyd gan Stravinsky ei hun i berfformio'r prif ran yn Oedipus Rex yn Athens. Yn dilyn hyn, aeth ymlaen i berfformio ar lwyfannau mwyaf enwog y byd, gan gynnwys La Scala, y Met a’r Royal Opera House. Erbyn y 1970au a'r 1980au, roedd yn serennu yn ei gyfres ei hun, sef Stuart Burrows Sings, ar y BBC. Yn yr 1980au hefyd, recordiodd albwm, Hen Gerddi fy Ngwlad, gan lwyddo i roi llwyfan i Gymru a'r Gymraeg yn rhyngwladol. 

Er yr holl deithio, Cymru oedd ei gartref gydol ei oes, a bu'n lywydd ar amryw o sefyliadau elusennol ar draws de Cymru, gan hefyd godi arian ar eu cyfer. Felly, diolch i Stuart am ei gyfraniad i'r celfyddydau yma yng Nghymru a thu hwnt, ac am rannu ei lais cyfareddol gyda'r byd. Mae ein meddyliau ni oll gyda'i deulu yn y cyfnod anodd hwn.  

On 29 June, we had the sad news that the world-famous opera singer and tenor Stuart Burrows has left us at the age of 92. It is a privilege today to pay tribute to him and to celebrate his extraordinary career.

Stuart was born in Cilfynydd, near Pontypridd. As a child, he was given a taste of performing when he sang soprano solos, at that time, at the local Methodist chapel. He could even be heard singing out of this bedroom window, as his neighbours would attest. Although he shone on the rugby field as a youngster, attracting an offer from Leeds Rugby League Club, he went on to study at Trinity College Carmarthen, pursuing a career as a teacher before joining Welsh National Opera in 1963.  

In 1965, his big break came, when he was chosen by Stravinsky himself to perform the main role in Oedipus Rex in Athens. He then went on to perform on the most prestigious stages worldwide, including La Scala, the Met and the Royal Opera House. By the 1970s and 1980s, he was starring in his own series, Stuart Burrows Sings, for the BBC. Also in the 1980s, he recorded an album, Favourite Songs of Wales, giving Wales and the Welsh language an international platform. 

Despite all of the touring, Wales was his lifelong home, and he was president of a number of charitable organisations across south Wales, also raising funds on their behalf. So, thank you to Stuart for his contribution to the arts here in Wales and beyond, and for sharing his glorious voice with the world. Our thoughts are with his family at this difficult time.

Wales's women play in their first ever major international tournament in football at the Euros in Switzerland. It marks a success story in the growth and success of women's football in Wales—still the fastest growing part of the sport. There is still much, much more to do, but women's sport has grown over the last two decades in particular, and will continue to grow—a marked contrast to my time when I was my son's age 40 years ago.

Our greatest football player was born in 1987. At that time, women's sport, beyond tennis, gymnastics, athletics and whatever was covered in the Olympics, was not a main feature on our tv schedules. There simply were not the same role models that our team of today provides.

That makes the journey and the success of Jess Fishlock even more remarkable. She's helped to win five titles in five different countries—more than five titles, actually—and has been recognised as the MVP in the United States, the biggest professional women's football league in the world. A man with similar achievements would be worth millions, and he would have been a household name for many years.

She is much more than a footballer, of course. She's a consistent advocate for equality and tolerance. She is, unsurprisingly, very proud to be Welsh. She is an outstanding ambassador for Wales, well beyond the world of sport.

Jess Fishlock is, apparently, the first woman footballer in Europe to feature in a full-pitch mural, as the Minister acknowledged today. That mural is in Splott park, in my constituency. Jess isn't just from Cardiff. Even more importantly, she's from Llanrumney, a proud community that I am privileged to serve.

I thank Jess and her teammates for their success in reaching the Euros and all that they have done, and will do, to inspire a future generation of women and girls. I hope that this Senedd will choose to recognise their achievement and welcome them here in the future after the Euros have finished.

Mae menywod Cymru'n chwarae yn eu pencampwriaeth ryngwladol fawr gyntaf erioed yn y byd pêl-droed yn yr Ewros yn y Swistir. Mae'n nodi stori lwyddiant yn nhwf a llwyddiant pêl-droed menywod yng Nghymru—y rhan o'r gamp sy'n tyfu gyflymaf o hyd. Mae yna lawer iawn mwy i'w wneud o hyd, ond mae chwaraeon menywod wedi tyfu dros y ddau ddegawd diwethaf yn enwedig, a bydd yn parhau i dyfu—yn wahanol iawn i'r adeg pan oeddwn i yr un oed â fy mab 40 mlynedd yn ôl.

Ganwyd ein chwaraewr pêl-droed gorau ym 1987. Ar y pryd, nid oedd chwaraeon menywod, y tu hwnt i denis, gymnasteg, athletau a beth bynnag a gâi ei gynnwys yn y gemau Olympaidd, yn cael sylw blaenllaw yn ein hamserlenni teledu. Nid oedd gennym yr un modelau rôl ag y mae ein tîm yn eu darparu heddiw.

Mae hynny'n gwneud taith a llwyddiant Jess Fishlock hyd yn oed yn fwy rhyfeddol. Mae hi wedi helpu i ennill pum teitl mewn pum gwlad wahanol—mwy na phum teitl, mewn gwirionedd—ac mae wedi cael ei chydnabod fel chwaraewr mwyaf gwerthfawr (MVP) yn yr Unol Daleithiau, y gynghrair bêl-droed menywod proffesiynol fwyaf yn y byd. Byddai dyn sydd â chyflawniadau tebyg yn werth miliynau, a byddai wedi bod yn enw cyfarwydd ers blynyddoedd lawer.

Mae hi'n llawer mwy na phêl-droediwr, wrth gwrs. Mae hi'n eiriolwr cyson dros gydraddoldeb a goddefgarwch. Nid yw'n syndod ei bod hi'n falch iawn o fod yn Gymraes. Mae hi'n llysgennad rhagorol dros Gymru, ymhell y tu hwnt i'r byd chwaraeon.

Mae'n ymddangos mai Jess Fishlock yw'r pêl-droediwr benywaidd cyntaf yn Ewrop i ymddangos mewn murlun ar gae chwarae llawn, fel y cydnabu'r Gweinidog heddiw. Mae'r murlun hwnnw ym mharc y Sblot, yn fy etholaeth i. Daw Jess o Gaerdydd, ond nid o Gaerdydd yn unig: yn bwysicach fyth, mae hi'n dod o Lanrhymni, cymuned falch y caf y fraint o'i gwasanaethu.

Diolch i Jess a'i chyd-chwaraewyr am eu llwyddiant yn cyrraedd yr Ewros a phopeth a wnaethant, ac y byddant yn ei wneud, i ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol o fenywod a merched. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd hon yn dewis cydnabod eu cyflawniad ac yn eu croesawu yma yn y dyfodol ar ôl i'r Ewros orffen.

Mae yna gyffro ar Ynys Môn yr wythnos yma, wrth i 84 o athletwyr a 21 o hyfforddwyr ddechrau ar y daith 16 awr i Ynys Orkney i gystadlu yn ugeinfed Gemau'r Ynysoedd. Mae'r gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn, yn croesawu cystadleuwyr o ynysoedd ar draws Ewrop a thu hwnt, ac mae wastad yn gyffrous gweld ein hathletwyr ni yn mynd ati i gystadlu mewn amrywiaeth eang o chwaraeon, a hynny ar ran Ynys Môn. Nôl yn Guernsey yn 2023, mi gafod tîm Ynys Môn eu gemau mwyaf llwyddiannus erioed, yn ennill 18 o fedalau, ond dwi'n gwybod yn iawn y bydd y tîm eleni yn benderfynol o dorri'r record honno unwaith eto a dod yn ôl adref efo mwy o fedalau nag erioed.

Gwnaf gymryd y cyfle i longyfarch Martin Jones a Henley Moffat yn benodol am gael eu dewis i gario'r faner yn y seremoni agoriadol ddydd Sadwrn yma, yn ogystal â chario'r dŵr seremonïol—dŵr o Fôn a fydd yn cael ei gymysgu yn symbolaidd efo dŵr o'r ynysoedd eraill; ein fersiwn ni o'r fflam Olympaidd.

I bob un sy'n cystadlu, llongyfarchiadau mawr ar gael eich dewis i gynrychioli y fam ynys yn Orkney, a diolch i'r holl hyfforddwyr a threfnwyr a gwirfoddolwyr am eu gwaith y tu ôl i'r llenni. A rŵan, efo'r gwaith ymarfer caled wedi'i wneud a'r offer i gyd wedi cael ei bacio'n saff, yr unig beth sydd ar ôl i'w ddweud ydy: pob lwc, tîm Ynys Môn. Gwnewch eich gorau a mwynhewch. Mae Ynys Môn yn falch o bob un ohonoch chi.

There is excitement on Anglesey this weekend, as 84 athletes and 21 coaches start the 16-hour journey to Orkney to compete in the twentieth Island Games. The games, held every two years, welcome competitors from islands across Europe and beyond, and it's always exciting to see our athletes competing in a wide range of sports, representing Anglesey. Back in Guernsey in 2023, the Anglesey team had their most successful games ever, winning 18 medals, but I know full well that this year's team will be determined to break that record once again and come home with an even bigger haul of medals.

I will take this opportunity to congratulate Martin Jones and Henley Moffatt specifically for being chosen to carry the flag in the opening ceremony on Saturday, as well as carrying the ceremonial water—water from Anglesey that will be symbolically mixed with water from the other islands; it's our version of the Olympic flame.

To each and every one of the competitors, many congratulations on your selection to represent the mother isle in Orkney, and I thank all of the coaches, organisers and volunteers for their work behind the scenes. And now, with the hard yards done on the training ground and all of the equipment having been packed safely, all that's left to say is: best of luck to the Anglesey team. Do your best and enjoy yourselves. Anglesey is proud of each and every one of you. 

15:30
5. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25
5. Motion to note the annual report on the Senedd Commission's Official Languages Scheme for 2024-25

Eitem 5 yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25. A galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Item 5 is a motion to note the annual report on the Senedd Commission's official languages scheme for 2024-25. And I call on Adam Price to move the motion.

Cynnig NDM8952 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2024-25, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025.

Motion NDM8952 Elin Jones

To propose that the Senedd:

Notes the Annual Report on the Senedd Commission's Official Languages Scheme for the period 2024-25, in accordance with paragraph 8(8) of Schedule 2 of the Government of Wales Act 2006, laid before the Senedd on 2 July 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2024-25 gerbron y Senedd. Bydd Aelodau yn ymwybodol ei fod yn ofynnol i'r Comisiwn, yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, gyflwyno adroddiad blynyddol ar ei waith yn darparu gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys unrhyw gwynion neu achosion o dorri'r cynllun. Dyma'r tro olaf inni ystyried gwaith Comisiwn y Senedd o ran y Ddeddf ieithoedd swyddogol yn y Senedd hon.

Yn ogystal â'r gwaith arferol, y mae eleni wedi bod yn flwyddyn o baratoi yn strategol ar gyfer y seithfed Senedd. Y llynedd, yn y ddadl ar ein hadroddiad blynyddol, cyfeiriais at y ffaith y byddwn ni'n trafod materion yn ymwneud â'r Gymraeg, gyda golwg ar ein gwaith yn y tymor byr, y tymor canol a'r hirdymor wrth edrych tua'r Senedd nesaf, gyda'm cyd-Gomisiynwyr yn fuan wedi'r ddadl. Yn wir, roedd y drafodaeth honno yn gymorth i'r tîm ieithoedd swyddogol gynllunio eu gwaith o ran paratoi ar gyfer y seithfed Senedd ac i edrych ar unrhyw gamau y gellir eu cymryd wedi hynny.

Un o'r pethau pwysicaf yr ymrwymais i i'w wneud fel rhan o'r gwaith paratoi oedd ystyried fframwaith cyfreithiol ar gyfer ieithoedd swyddogol yn y Senedd nesaf. Mae'r ymrwymiad hwnnw yn parhau a byddwn yn cychwyn ar y broses drwy ymgynghori ag Aelodau yn fuan ar ôl y toriad, i ofyn am eu barn, mewn dull ffurfiol a mwy strwythuredig nag y byddem ni fel arfer yn ei wneud wrth bontio o un Senedd i'r llall, ar y cynllun ieithoedd swyddogol, y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau a'u staff a hefyd ar y fframwaith cyfreithiol, fel cyfeiriais i, sy'n sylfaen i'r gyfundrefn bresennol.

Mae yma gyfle inni edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni ers pasio'r Ddeddf ieithoedd swyddogol ac i edrych tua'r dyfodol, gan ein herio ein hunain i adeiladu ar ein henw da fel sefydliad cwbl ddwyieithog, a chwarae ein rhan allweddol ac unigryw fel prif gorff democrataidd pobl Cymru yn yr ymdrech drawsbleidiol i gynllunio dyfodol i'r Gymraeg.

Soniais i y llynedd hefyd am y gwaith o asesu capasiti a lefelau sgiliau ar draws staff Comisiwn y Senedd, ac rydw i wedi sôn hefyd am y pwysigrwydd o gynnal arolwg o'r fath ar gyfer Aelodau a'u staff cymorth a grwpiau. Penderfynwyd ymgorffori’r gwaith hwn fel rhan o'r broses gynefino ar gyfer y seithfed Senedd, ac rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn casglu gwybodaeth ystyrlon am sgiliau iaith, dewis iaith, a ffyrdd o weithio hefyd o ran defnydd iaith, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd hyn yn golygu ein bod ni'n gallu targedu gwasanaethau ac adnoddau yn well, gan sicrhau bod Aelodau yn gallu gweithio mewn ffordd sydd wedi'i deilwra ac sydd yn addas iddyn nhw fel unigolion, ac, ar lefel fwy holistaidd, ein bod ni'n medru cynllunio'n fwriadus ac yn rhagweithiol tuag at wireddu'r nod o wneud y Gymraeg yn iaith weithredol naturiol yn y seithfed Senedd a mesur traweffaith ein hymyriadau.

Ar y pwynt hwnnw, hoffwn gyfeirio yn fras at y gwaith fydd yn digwydd fel rhan o adolygiad fforwm y cadeiryddion o effeithiolrwydd y gyfundrefn bwyllgorau yn y chweched Senedd. Bydd defnydd o’r Gymraeg, boed ar ffurf y gefnogaeth sydd ar gael, neu mewn trafodion, yn rhan annatod o’r adolygiad. Bydd yr argymhellion yn helpu i ffurfio sail ar gyfer sefydlu pwyllgorau’r seithfed Senedd. Bydd y gwaith hwnnw hefyd yn adeiladu ar y datblygiadau a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf o ran annog aelodau pwyllgorau, a’r rhai sy’n cyfrannu i'w gwaith, i deimlo yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys cynhyrchu sgript newydd i Gadeiryddion pwyllgor i annog cyfraniadau yn y Gymraeg.

Ar y pwynt yna, hoffwn i groesawu unrhyw sylwadau gan gyd-Aelodau. 

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. It gives me great pleasure to present the Senedd Commission's annual report on its official languages scheme for the year 2024-25 to the Senedd today. Members of the Senedd will be aware that the Senedd Commission is required, in accordance with the National Assembly for Wales (Official Languages) Act 2012, to table an annual report on its work to provide bilingual services, including any complaints or cases where the scheme has been contravened. This will be the final time that we consider the Senedd Commission's work in relation to the official languages Act in this Senedd term.

In addition to the usual work, this has been a year of strategic preparations for the seventh Senedd. In last year's debate on our annual report, I referred to the fact that I would be discussing matters involving the Welsh language, with a view to our work in the short term, the medium term and the long term in looking towards the next Senedd, with my fellow Commissioners soon after the debate was held. Indeed, that discussion was of assistance to the official languages team in planning its work, in preparation for the seventh Senedd, and in looking at any steps that could be taken as a result.

One of the most important commitments I gave as part of that preparatory work was to consider the legal framework for official languages in the next Senedd. That commitment continues, and we will be initiating the process by consulting with Members of the Senedd soon after recess, to seek their views, in a more formal and structured manner than usual as we transition from one Senedd to the next, on the official languages scheme itself, on the support available to Members and their staff and also on the legal framework, as I mentioned, that underpins the current arrangements.

There is an opportunity here for us to look back at what has been achieved since the official languages Act was passed and to look towards the future by challenging ourselves to build on our reputation as a truly bilingual organisation, and to play a vital and unique part as the primary democratic body for the people of Wales in the cross-party effort to plan a future for the Welsh language.

I mentioned last year, too, the work of assessing capacity and skills levels across Senedd Commission staff, and I also mentioned the importance of undertaking a survey to this end among Members, their support staff and their groups. We decided to incorporate this work in the induction process for the seventh Senedd, and I'm pleased to confirm that we will be gathering meaningful information about language skills, chosen language, and ways of working in terms of the language, in oral or written communication. This will enable us to target services and resources better, ensuring that Members can work in a way that is tailored to them and is appropriate for them as individuals. And on a more holistic level, it will mean that we can plan intentionally and proactively to achieve the aim of making Welsh a natural operational language in the seventh Senedd and to measure the impact of our interventions.

On that point, I would like to refer briefly to the work that will be done as part of the chairs’ forum review of the effectiveness of the committee system in the sixth Senedd. The use of the Welsh language, be it in terms of the support available, or in proceedings themselves, will be an intrinsic part of the review. The recommendations will help to form the basis for the establishment of the seventh Senedd’s committees. This work will also build on the developments over the past year to encourage committee members, and all of those who contribute to committee work, to feel more confident in using Welsh, including producing a new script for committee Chairs to encourage contributions in Welsh. 

On that point, I would like to welcome any comments by fellow Members. 

15:35

A allaf i ddiolch i Adam Price am agor y ddadl heddiw? Rôn i jest yn sylweddoli pan oeddech chi’n siarad, Adam, ein bod ni’n gwisgo’r un peth heddiw, fel rhyw fath o iwnifform i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. So, rŷn ni on brand. [Chwerthin.]

Mae’n bwysig i ddechrau gan ddweud pa mor braf yw hi i glywed pobl yn defnyddio’r Gymraeg ar draws y Senedd yma ym Mae Caerdydd, a pha mor bwysig yw hi fod pobl yn defnyddio’u Cymraeg, a does dim ots pa safon o Gymraeg maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae hwnna’n rhywbeth i’w groesawu, ac mae hwnna’n rhywbeth sydd wastad yn datblygu ac yn tyfu, ac mae hwnna’n rhywbeth i’w groesawu yn fawr.

Fe wnes i gyfweliad ddoe gyda rhywun oedd yn gwneud darn o waith ar y Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) y gwnaethon ni ei basio yn y mis diwethaf, neu’r mis cyn hynny. Ac un o’r pethau y gwnaeth hi ofyn i fi oedd, 'Beth yw’r peth gorau am bolisi y Llywodraeth a’r Senedd o ran yr iaith Gymraeg?' Ac fe wnes i ddweud rhywbeth clir—mae e’r un peth, dwi’n credu, sy’n ddi-wleidyddol. Mae pob plaid yn y Senedd yn cefnogi’r iaith Gymraeg, ac yn moyn ei gweld yn tyfu, ac mae hwnna yn mynd ar draws llinellau gwleidyddol. Ac mae hwnna’n bwysig ac yn rhywbeth mae'n rhaid inni ei sicrhau wrth inni gyrraedd y Senedd nesaf hefyd.

Mae cwpwl o bwyntiau yn yr adroddiad, a dwi'n moyn rhoi gair o ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan i ddatblygu’r adroddiad hwn heddiw. Dwi’n ymddiheuro mai dim ond y fersiwn Saesneg sydd gyda fi, ond mae yna ddarn am y strategaeth sgiliau, sy'n dweud:

May I thank Adam Price for opening the debate today? I just realised as you were speaking, Adam, that we’re wearing the same thing today, which seems to be a uniform for those participating in this debate tday. So, we’re certainly on brand. [Laughter.]

It's important to start by saying how wonderful it is to hear people using the Welsh language across this Senedd in Cardiff Bay, and how important it is that people do use their Welsh language skills, and it doesn’t matter what level of Welsh they have. That is something to be welcomed, and it is something that constantly develops and grows, and that’s something to be warmly welcomed.

I did an interview yesterday with someone who was doing a piece of work on the Welsh Language and Education (Wales) Bill that we passed either last month or the month before. And one of the questions asked of me was, 'What’s the best thing about the Government and the Senedd’s policy in relation to the Welsh language?' And I said, clearly, that it’s the one thing that is non-political. Every party in the Senedd supports the Welsh language and wants to see its growth, and that crosses party lines. And that is hugely important and is something that we need to secure for the next Senedd too.

There are a few points in the report that I want to highlight, and I do want to thank everyone who was involved in developing this report. I apologise, I only have the English version before me, but there is a section on the skills strategy, where it says that

'We are already laying the groundwork for a comprehensive language audit across the organisation, to be carried out in the Seventh Senedd'.

'Rydym eisoes wrthi’n gosod y sylfaen ar gyfer arolwg sgiliau iaith cynhwysfawr ar draws y sefydliad, i’w gynnal yn y Seithfed Senedd'.

So, a allaf i ofyn sut mae hwnna’n mynd, a beth mae hwnna’n edrych fel erbyn hyn, a beth mae hwnna’n mynd i edrych fel, o ran nid dim ond y gwaith yma yn yr adeilad hwn, ond ar draws—? Wrth gwrs, mae yna staff sy’n gweithio i’r Senedd, ac i ni fel Aelodau, sydd ddim wastad yn gweithio yma ym Mae Caerdydd, felly pa gymorth fydd ar gael i’r bobl sydd yn gweithio mewn llefydd eraill?

Ac mae'r ail bwynt dwi'n moyn ei godi o ran y strategic preparation sydd yn yr adroddiad i sicrhau hyn:

So, may I ask how that work is progressing, and what does it look like at the moment? And what will it look like in terms of not only the work that’s happening here in this building, but elsewhere too? Of course, we have staff working for the Senedd, and for us as Members, who aren’t always located here in Cardiff Bay, so what support will be available for those people working elsewhere?

And the second point that I wanted to raise was on the strategic preparation referred to in the report, in order to ensure that

'provision remains robust, effective, and appropriate for the future.'

[bod ein] 'darpariaeth ieithyddol yn parhau yn gadarn, yn effeithiol ac yn addas i’r dyfodol.'

Felly, o ran ein bod ni’n gwybod y bydd yna fwy o Aelodau yn y Senedd nesaf, pa fath o lefel ydych chi'n meddwl fydd yn dod? 

So, in terms of knowing that there will be more Members in the next Senedd, what kind of level do you anticipate in future?

What do you anticipate?

Beth rydych chi'n ei ragweld?

Beth ydych chi’n meddwl fydd yn dod yn y dyfodol, a sut byddwn ni fel Aelodau yn gallu rhoi mwy o gymorth i mewn i hynny, i sicrhau, er bod y Senedd yn mynd i dyfu, fod y lefel o gymorth sydd ar gael, nid dim ond i Aelodau, ond i’n staff ni, a staff y Comisiwn hefyd, yn gallu cael ei chynnal o ran yr iaith Gymraeg, ac fel ein bod ni’n gallu tyfu’r iaith ar ein hystad ni yn y Senedd a, gobeithio, ar draws Cymru? Diolch.

What do you anticipate will in future, and how can we as Members provide support in order to ensure that, although the Senedd will grow, the level of support available, not only to Members, but for our staff, and for Commission staff too, can be maintained in relation to the Welsh language, and that we can develop the language on our estate in the Senedd and, hopefully, across Wales? Thank you.

Diolch i’r Comisiwn ac Adam Price am y gwaith ar hyn. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig ofnadwy ein bod ni’n derbyn yr adroddiad blynyddol yma. Yn sicr, un cam gweithredol y gwnaethon ni ei gymryd fel grŵp, yn dilyn yr adroddiad y llynedd, oedd ein bod ni'n cyflwyno mwy o welliannau a chynigion yn y Gymraeg, a buaswn i’n gobeithio bod hynna’n cael ei adlewyrchu o ran y cynnydd dŷn ni wedi ei weld. Dwi'n meddwl bod cadw llygad ar hynny yn beth pwysig o ran pob grŵp. Yn amlwg, gwybod ein bod ni wedi gwneud hynny dŷn ni fel grŵp ar y funud—dŷn ni ddim yn cael y math yna o fanylder yn yr adroddiad.

Un o'r pethau y buaswn i'n ei ofyn ydy: ydy'r Comisiwn wedi ystyried ein bod ni'n cael mwy o wybodaeth o ran pa bleidiau sy'n cyflwyno ac ati? Oherwydd efallai wedyn fod yna gyfle inni weithio efo grwpiau er mwyn codi hyder, ac er mwyn dangos hefyd rai o'r pethau sydd wedi bod yn cael eu treialu yn y Senedd hon, er enghraifft efo Copilot, a pha mor hawdd ydy cynhyrchu pethau'n ddwyieithog erbyn hyn, a sut dŷn ni'n defnyddio technoleg newydd. Dwi'n gwybod bod rhai pobl efallai yn nerfus am gyflwyno pethau yn y Gymraeg, neu'n ddwyieithog, oherwydd nad ydyn nhw'n hyderus yn eu Cymraeg ysgrifenedig, er eu bod nhw'n cyfrannu yn y Gymraeg. Oes yna fodd wedyn i atgoffa pobl o'r pethau sydd gennym ni fynediad atyn nhw, gan gynnwys staff, er enghraifft Cysill ac ati?

Mae hi wedi bod yn ddifyr i ni fel y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg o ran yr ystod o bethau sydd ar gael erbyn hyn i gefnogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, ond efallai nad ydyn ni i gyd mor ymwybodol o hynny. Efallai mai un o'r pethau i'w hystyried wrth ichi baratoi awgrymiadau ar gyfer y seithfed Senedd ydy bod hwnnw'n rhan o'r hyfforddiant hefyd: beth ydy'r ystod o bethau sydd ar gael sydd yn galluogi mwy o bobl i fod yn gallu cyflwyno yn y Gymraeg. Oherwydd mae pethau fel datganiadau o farn a chwestiynau amserol yn isel iawn, a dŷn ni'n gweld cwymp yn hynny. Felly, dyna un awgrym efallai—rhywbeth y byddem ni'n gallu ei wneud er mwyn hwyluso hynny.

Mae hi'n bryderus, dwi'n credu, o weld y cyfraniadau o ran trafodion pwyllgorau, fod y cwymp yna wedi bod. Dwi'n gweld ei fod o'n sefydlogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mi oeddem ni'n cael y drafodaeth yma y llynedd, onid oeddem, o ran sut dŷn ni'n mynd i atgoffa Cadeiryddion pwyllgorau, sut dŷn ni'n mynd i fod yn annog tystion ac ati i fod yn defnyddio'r Gymraeg. Dwi'n croesawu'r hyn roeddech chi'n ei ddweud o ran y gwaith a fydd yn digwydd efo fforwm y Cadeiryddion, ond efallai ei fod o'n rhywbeth y medrwn ni i gyd adlewyrchu arno fo am weddill tymor y Senedd hon hefyd.

Yn amlwg, un o'r pethau mawr sydd wedi digwydd eleni, sydd ddim yn yr adroddiad hwn, ond sydd yn rhywbeth, dwi'n meddwl, o bwys i'r Senedd hon ei nodi, yw, wrth gwrs, Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a'r ffaith fod hwnnw wedi cael ei ddrafftio yn y Gymraeg yn gyntaf, a'r tro cyntaf, dŷn ni'n credu, i'r trafodion Cyfnod 3 gael eu trafod i gyd drwy'r Gymraeg. Mae yna bethau i'w dathlu hefyd yn y fan honno o ran sut dŷn ni'n gallu normaleiddio'r defnydd o Gymraeg y tu hwnt i'n gwaith, gan gynnwys o ran deddfwriaethu. Pa wersi fydd y Comisiwn, felly, yn eu cymryd o'r Bil yma, a sut fyddwch chi felly fel Comisiwn yn cydweithio â'r Llywodraeth i sicrhau bod modd i fwy o Filiau gael eu gweithio arnyn nhw yn y Gymraeg, fel iaith wreiddiol neu'r iaith ddrafftio, yn y dyfodol? Fe fyddai hi'n dda gwybod nad dim ond pan fo Bil am y Gymraeg y bydd hyn yn digwydd, ond ein bod ni'n normaleiddio hynny ar draws ystod ein deddfwriaeth a'r holl bynciau—bod hynny'n bosib yn y dyfodol.

Felly, mae rhai pethau i'w dathlu, ond mae gwaith i'w wneud. Yn sicr, mae o wastad yn pigo cydwybod rhai ohonon ni y gallwn ni wastad wneud mwy er mwyn normaleiddio defnydd o'r Gymraeg. Mae'n un peth pregethu i sefydliadau y tu hwnt i'r Senedd hon ynglŷn â phwysigrwydd y Gymraeg, ond mae yna bethau dŷn ni hefyd yn gallu eu gwneud, heb os.

I thank the Commission and Adam Price for their work on this. I think it’s very important that we do note this annual report. Certainly, there was one action point that we observed as a group following last year’s report, namely that we introduce more amendments and motions through the medium of Welsh, and I would hope that that is reflected in the progress that we've seen. I think that keeping a weather eye on that is important for every group. Clearly, we know that we've done that as a group at the moment—we don't receive that level of detail in the report.

One of the things that I would ask is whether the Commission has considered that we receive more information in terms of which parties are tabling through the medium of Welsh and so on. Because perhaps then we could perhaps work with groups to raise their confidence, and to demonstrate also some of the things that have been trialled in this Senedd, for example with Copilot, and how easy it is to produce material in both languages now, and how we use new technologies. I know that some people are perhaps nervous about tabling or presenting things in Welsh, or bilingually, because they're not confident in their written Welsh, although they contribute in Welsh. Is there a way we can then remind people of the resources that we have access to, including staff, for example Cysill and so on?

It's been interesting for us as a culture and Welsh language committee in terms of the range of resources available now to support people to use the Welsh language, but perhaps we're not all aware of all that's available. Perhaps one of the things to consider as you prepare your recommendations for the seventh Senedd is that that should be part of the training provided too: what are the range of resources available that enable more people to be able to table through the medium of Welsh. Because things like statements of opinion and topical questions are very low in number, and we see a decline in that. So, that's one suggestion maybe—something that we could put forward to facilitate that.

It's concerning, I believe, seeing the level of contributions in terms of committee proceedings, that there has been that decline. I see that it has stabilised over the past two years, but we had this discussion last year, didn't we, in terms of how we're going to remind committee Chairs, how we're going to be encouraging witnesses and so on to be using the Welsh language. I welcome what you said regarding the work that will happen with the Chairs' forum, but perhaps it is something that we could all reflect on for the remainder of this Senedd too.

Clearly, one of the major things that's happened this year, which isn't mentioned in this report, but is something that is, I think, of importance for this Senedd to note, is, of course, the Welsh Language and Education (Wales) Bill, and the fact that that was drafted in Welsh in the first instance, and the first time, we believe, that all of the Stage 3 proceedings took place through the medium of Welsh. There are things to celebrate there as well in terms of how we can normalise the use of the Welsh language beyond our work, including in terms of the legislative process. So, what lessons will the Commission be taking from this Bill, and how will you therefore as a Commission be working with the Government to ensure that it is possible for more Bills to be worked on in Welsh, as the original language or the language of drafting, in future? It would be good to hear that it's not just when it's a Bill about the Welsh language that this happens, but that we normalise that across a range of legislation and all of the topics that we cover—that that is then possible in future.

So, there are some things to celebrate, but there is still work to do on others. Certainly, it does always prick the conscience of all of us that we can do more to normalise the use of the Welsh language. It's one thing to preach to organisations outwith the Senedd in terms of the Welsh language, but there are also things that we can do here, doubtless.

15:40

Diolch yn fawr iawn am yr adroddiad. Dwi'n falch iawn o glywed am yr adolygiad dŷch chi wedi sôn amdano fo—cyfle o'r diwedd i ailasesu ac alinio ein hunain yn fwy priodol efo'r newidiadau mewn polisi a chyfeiriad o ran y Gymraeg. Mae llawer o'r rheini wedi digwydd, wrth gwrs, ers sefydlu'r Senedd. Ond y perygl wrth barhau efo'n Deddf ieithoedd swyddogol ein hunain ydy ynysu ein hunain yn llwyr o'r newid mawr y mae'r safonau wedi eu creu ymhob corff arall cymharol. Mae o fel petai ein bod ni rywsut yn rhy swil yn y Senedd i ymroi'n llwyr i fynd ati'n rhagweithiol ac yn hyderus i hyrwyddo'r Gymraeg. Ac, wrth gwrs, mae yna rai o'r awdurdodau seneddol, fel y comisiynydd safonau a'r bwrdd taliadau, yn gweithredu heb unrhyw reolau cyfreithiol arnyn nhw o ran y Gymraeg.

Dwi'n eistedd ar fwrdd dan gadeiryddiaeth eich cyd-Gomisiynydd, Joyce Watson, ar greu Senedd teulu gyfeillgar a chynhwysol wrth edrych ymlaen at y seithfed Senedd. Y bwriad ydy cyhoeddi adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn. Dwi'n meddwl bod y cylch gorchwyl a'r ffordd y mae'r gwaith yna yn mynd i gael ei gynnal yn cynnig model eithaf da ar gyfer eich adolygiad chi, os caf i fod mor hy ag awgrymu. Felly, mi fuaswn i yn pwyso ar y Comisiwn i fynd ati ar fyrder i roi'r trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer yr adolygiad yma, efo amserlen glir, cylch gorchwyl ac yn y blaen, fel ein bod ni'n gwybod yn union beth i'w ddisgwyl ar ddiwedd y gwaith yna.

Roeddwn yn falch hefyd o glywed am adolygiad pwyllgorau y fforwm Cadeiryddion, fydd yn cynnwys edrych ar y defnydd o'r Gymraeg. Rhaid i mi ddweud, fel un sydd yn defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr yma 100 y cant o'r amser, dydw i ddim bob tro yn hollol gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r amser mewn cyd-destun pwyllgorau. Mae hyn yn rhannol oherwydd y dechnoleg. Mae rhywun yn gweld pobl yn rhoi'r clustffonau ymlaen y funud dwi'n dechrau siarad, ac maen nhw'n eu tynnu nhw i ffwrdd, ac mae yna ryw rigmarôl, ac rydych chi'n colli llif y drafodaeth ar adegau.

Dwi'n siŵr bod yna dechnolegau gwell ar gael erbyn hyn mewn cyd-destun pwyllgor, lle dydy'r person sydd yn siarad Cymraeg ddim yn teimlo eu bod nhw rywsut yn tarfu ar bethau. Mae'n gwneud i ni, y siaradwyr Cymraeg, deimlo ein bod ni o dan anfantais mawr yn y pwyllgorau. Dwi'n meddwl bod fan hyn yn well, ac mae gweithio'n rhithiol wedi newid pethau hefyd. Dyw rhywun ddim yn meddwl ddwywaith yn rhithiol am ddefnyddio'r Gymraeg, ond mae eisiau edrych ar y gwaith yn y pwyllgorau. Diolch yn fawr.

Thank you very much for the report. I'm very pleased to hear about the audit that you mentioned—an opportunity at last to reassess and to align ourselves more appropriately in terms of changes in policy and direction in relation to the Welsh language. Much of that has happened, of course, since the establishment of the Senedd. But the risk in continuing with our own official languages Act is that we isolate ourselves entirely from the major change that standards have brought about in all other comparative bodies. It's almost as though we're too shy in the Senedd to commit entirely to work proactively and confidently in promoting the Welsh language. And, of course, there are some parliamentary authorities, such as the standards commissioner and the remuneration board, that operate without any legal duties placed upon them in relation to the Welsh language.

I sit on a board chaired by your fellow commissioner, Joyce Watson, on the creation of a family-friendly and inclusive Senedd as we look forward to the seventh Senedd. The intention is to publish a report by the end of this year. I think that the remit and the way that that work is to be undertaken does provide quite a good model for your own review, if I could be so bold as to make that suggestion. So, I would urge the Commission to act urgently to put the appropriate arrangements in place for this review, with a clear timetable and remit set out, so that we know exactly what to expect once that work is concluded.

I was also pleased to hear about the committee review being undertaken by the Chairs' forum, which will include looking at the use of the Welsh language. I have to say, as one who does use the Welsh language in this Chamber 100 per cent of the time, I'm not always entirely comfortable using the Welsh language on all occasions in a committee context. That is partially because of the technology. You see people putting on their headphones the moment I start talking, and then they remove them, and there are all sorts of rigmaroles, and you lose the flow of the conversation at times. 

I'm sure there must be better technologies available now in a committee context, where the Welsh speaker doesn't feel that they are interrupting the flow of the conversation by contributing in Welsh. It makes us as Welsh speakers feel that we are disadvantaged in committee settings. I think it's better in the Chamber, and working virtually has also changed things. One doesn't think twice about using the Welsh language virtually, but we do need to look at committee activities. Thank you.

15:45

Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau am eu sylwadau nhw. Bydd ambell i gwestiwn bydd yn rhaid i fi ei ateb yn ysgrifenedig. Dyna fe; dwi'n siarad fel Gweinidog nawr, yntefe—paratoi, efallai, gobeithio. [Chwerthin.]

Ond, jest i ddweud ar y dechrau, ie, Tom, rwy'n falch ein bod ni'n gwisgo'r un iwnifform, achos mae'n gwneud y pwynt drosom ni. Rydyn ni'n dod o'r un dref ac yn siarad yr un iaith. Mor belled ag y mae'r Gymraeg yn y cwestiwn, rwy'n credu ein bod ni'n un tîm, onid ydym ni? Rydym ni eisiau gweld yr un nod. Mae'n beth braf, a dweud y gwir, fod hwnna'n rhywbeth ŷn ni'n ei drysori yn gyfan oll fel sefydliad.

O ran yr arolwg cyfannol, fydd unwaith eto yn ysbryd yr un tîm yma, mae'n bwysig bod pawb sy'n rhan o'r sefydliad—nid jest staff y Comisiwn, ond staff cymorth, staff grwpiau, Aelodau, ac yn y blaen—yn teimlo eu bod nhw i gyd yn rhan o'r ethos dwyieithog yma a'r genhadaeth yma i sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu priod le. Dyna pam ŷn ni'n mynd i gael arolwg gwirioneddol gynhwysfawr am y tro cyntaf, ac ŷn ni'n gweithio ar fanylion sut mae hynny'n mynd i weithio'n ymarferol nawr.

Mae Tom yn codi pwynt pwysig iawn. Hynny yw, bydd angen adnoddau, wrth gwrs, ar gyfer Senedd fwy o ran dwyieithrwydd a'r cynllun ieithoedd swyddogol. Wrth gwrs, wrth i'r cynllunio ehangach fynd ymlaen ynglŷn â chapasiti, bydd hynny yn elfen, mae'n siŵr gen i, y byddwn ni'n ffocysu arni hi.

Ie, mae'n bwysig nodi ein llwyddiannau. Roedd cael Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), am y tro cyntaf Bil a aeth drwy bob cam yn hollol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhywbeth hanesyddol, ac, wrth gwrs, rŷn ni eisiau gweld mwy o hwnna. Mater i'r Llywodraeth, wrth gwrs, yw penderfynu drafftio yn y Gymraeg. Gobeithio bydd mwy o hynny'n digwydd. Ond mae'r Comisiwn wedyn yn sicrhau bod yr adnoddau gyda ni fel Senedd i sicrhau ein bod ni'n gallu cyfrannu tuag at broses fydd yn cael ei chynnal drwyddi draw yn y Gymraeg.

O ran cyfundrefn adolygiad o'r strwythur cyfreithiol, ie, gwnawn ni'n cymryd yr awgrym yna ynglŷn â'r templed y mae'r arolwg arall yn ei gynnig. Dwi'n credu bod hynny'n awgrym positif iawn. Mae yn bwysig, rwy'n credu, bron 15 mlynedd ar ôl y Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, ein bod ni yn adolygu a ydyw'n iawn ar gyfer ein hanghenion heddiw ac ar gyfer y dyfodol.

Mae yna lawer o lwyddiannau, ond, fel roedd Heledd yn dweud, mae yna lot eto i'w wneud ac i'w gyflawni. Fe wnawn ni edrych i ddarparu'r wybodaeth ar sail grwpiau yr oeddech chi'n cyfeirio ati hi, jest fel ein bod ni i gyd yn gallu edrych ar le rŷn ni o ran lefel y cyfraniadau ac yn y blaen, lle mae hynny'n ddefnyddiol i grwpiau. 

O ran defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, mi oedd staff y tîm ieithoedd swyddogol yng nghynhadledd Comisiynydd y Gymraeg ddoe. A byddwn ni, fel sefydliad, yn edrych nawr tuag at ddefnyddio'r syniadau yna ynglŷn â sut rŷn ni'n gallu prif ffrydio'r Gymraeg fel iaith weinyddol fewnol.

Ac wrth i fi gloi, ac wrth i ni edrych ymlaen, rwy'n credu ei fod e'n briodol, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad dihafal y diweddar Dafydd Elis-Thomas i ddatblygiad defnydd y Gymraeg yn rhan greiddiol o fywyd y Senedd yma, yn ei rôl yn y dyddiau cynnar fel Llywydd cyntaf y Senedd, ond ei waith cyn hynny, dwi'n meddwl, yn adeiladu'r consensws y gwnes i gyfeirio ato fe gynnau ar draws y pleidiau gwnaeth gyfrannu nid yn unig i ddwyieithrwydd y Senedd yma, ond hwyrach i'w bodolaeth hi hefyd. Diolch. 

I'm very grateful to my fellow Members for their comments and contributions. There will be some questions that I will have to respond to in writing. I'm speaking like a Minister now, aren't I—preparing, perhaps, hopefully. [Laughter.]

But, just to say at the outset, yes, Tom, I'm very pleased that we are wearing the same uniform, because it does make the point for us. We come from the same town, we speak the same language. As far as the Welsh language is concerned, I do think that we are one team, aren't we? We do want to see the same objectives. It's a good thing that that is something that is treasured by all of us as an organisation.

In terms of the holistic survey, which will again be in that spirit of one team, it's important that everyone who is part of the organisation—not just Commission staff, but support staff, group staff, Members, and so on—should all feel part of that bilingual ethos and this mission to ensure that both languages are given their due place. That's why we're going to have that truly comprehensive survey for the first time, and we're working on the detail of how that is going to work in practical terms now.

Tom raises a very important point. That is, we'll need resources for a larger Senedd in terms of bilingualism and the official languages scheme. Of course, as the wider planning work on capacity progresses, I'm sure that that will be an element that we will focus on.

Yes, it's important to note our successes. Having that Welsh Language and Education (Wales) Bill, which went through every legislative stage entirely through the medium of Welsh, was a historic thing, and, of course, we do want to see more of that. It's a matter, of course, for the Government to decide to draft through the medium of Welsh. I hope that more of that will happen. But the Commission then ensures that the resources are here so that we as a Senedd can contribute towards a process that will be undertaken entirely in Welsh.

With regard to the review of the legal framework, yes, we will take that suggestion on board about the template provided by that other review that you mentioned. I think that that is a very positive suggestion. It is important, 15 years or so after the National Assembly for Wales (Official Languages) Act 2012, that we review that to see whether it's fit for our needs now and in future.

There are many successes to celebrate, but, as Heledd said, there is a great deal still for us to do. We will look to provide the information on a group basis that you referred to, just so that we can all look to see where we are when it comes to the level of contributions in Welsh and so on, where that is useful for groups.

In terms of the use of Welsh language in the workplace, the official languages team staff were at the Welsh Language Commissioner's conference yesterday. And we, as an organisation, will be looking at using those ideas about how we can mainstream the Welsh language as an internal administrative language.

And as I conclude, and as we look to the future, I think it's appropriate that I do acknowledge the contribution and commitment of the late Dafydd Elis-Thomas to the development of the use of the Welsh language as a core part of the Senedd's life, in his role in the early days as the first Llywydd of the Senedd, but also his work before then, building that consensus that I referred to earlier across the parties that contributed not just to bilingualism in the Senedd, but also to its very existence. Thank you.

15:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

The proposal is to note the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr unfed adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9
6. Debate on the Standards of Conduct Committee Report: Twenty-first report to the Sixth Senedd under Standing Order 22.9

Eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Hannah Blythyn. 

Item 6, a debate on the Standards of Conduct Committee report, 'Twenty first report to the Sixth Senedd under Standing Order 22.9'. And I call on the Chair of the committee, Hannah Blythyn. 

Cynnig NDM8949 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i'r Chweched Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Motion NDM8949 Hannah Blythyn

To propose that the Senedd:

1. Considers the Report of the Standards of Conduct Committee—Twenty First Report to the Sixth Senedd, laid before the Senedd on 2 July 2025, in accordance with Standing Order 22.9.

2. Endorses the recommendation in the report.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. At the outset, I wish to declare that I am a member of Unite the Union, and have received financial sponsorship from them.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn cychwyn, hoffwn ddatgan fy mod yn aelod o Undeb Unite, ac wedi derbyn nawdd ariannol ganddynt.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, dwi'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. 

As Chair of the Standards of Conduct Committee, I formally move the motion. 

The committee considered the report from the commissioner for standards in relation to a complaint made against Eluned Morgan MS for failing to declare a relevant interest before taking part in proceedings in Plenary on 17 September 2024. The Standards of Conduct Committee gave the commissioner's report careful consideration, and the report sets out the committee's findings that, although the committee considers the Member to have breached the code of conduct, it does not consider that any further action is warranted.

The facts relating to the complaint and the committee's reasons for its recommendation are set out in full in the committee's report. Whilst the commissioner found that there is nothing to suggest that the Member's registered interest had any influence on her contribution to the proceedings, the Standing Order requirement is that the relevant interest 'might reasonably be thought' to have influenced the Member's contribution, and not whether it had actually done so. Therefore, the committee would like to take this opportunity to remind all Members of the need to declare a relevant interest during proceedings to ensure transparency and openness. The interest should be relevant to the proceedings and be reasonably thought by others to have influenced the Member's contribution.

The complaint is timely, as the committee's ongoing inquiry into the registration and declaration of interests allows us to consider if any changes are necessary to ensure greater clarity around the rules. The committee noted the broadness of the current provision, and intends to consider whether the guidance for declarations could be amended to clarify situations when declarations are not required, or how they are recorded.

Finally, Dirprwy Lywydd, it is regrettable that details of the committee's decision were shared with the media before the publication of the report. And I would like to make clear to anyone engaged in the standards process the need for confidentiality and the importance of it in maintaining the integrity of the process and, ultimately, this place. The motion tabled invites the Senedd to endorse the committee's recommendation. Diolch.

Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Eluned Morgan AS am fethu datgan buddiant perthnasol cyn cymryd rhan yn y trafodion yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Medi 2024. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau'r pwyllgor, er ei fod yn credu bod yr Aelod wedi torri'r cod ymddygiad, nad yw'n credu bod angen cymryd unrhyw gamau pellach.

Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Er bod y comisiynydd wedi canfod nad oes unrhyw beth i awgrymu bod buddiant cofrestredig yr Aelod wedi dylanwadu ar ei chyfraniad i'r trafodion, gofyniad y Rheol Sefydlog yw y 'gellid ystyried yn rhesymol' fod y buddiant perthnasol wedi dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod, nid a oedd wedi gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, hoffai'r pwyllgor fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa'r holl Aelodau o'r angen i ddatgan buddiant perthnasol yn ystod y trafodion er mwyn sicrhau tryloywder a didwylledd. Dylai'r buddiant fod yn berthnasol i'r trafodion, a dylai eraill allu ystyried yn rhesymol ei fod wedi dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod.

Mae'r gŵyn yn amserol, gan fod ymchwiliad parhaus y pwyllgor i gofrestru a datgan buddiannau yn caniatáu inni ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i sicrhau mwy o eglurder ynghylch y rheolau. Nododd y pwyllgor ehangder y ddarpariaeth bresennol, ac mae'n bwriadu ystyried a ellid diwygio'r canllawiau ar gyfer datganiadau i egluro ym mha sefyllfaoedd nad oes angen datganiadau, neu sut y cânt eu cofnodi.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae'n destun gofid fod manylion penderfyniad y pwyllgor wedi'u rhannu gyda'r cyfryngau cyn cyhoeddi'r adroddiad. A hoffwn egluro i unrhyw un sy'n ymwneud â'r broses safonau yr angen am gyfrinachedd a'i bwysigrwydd wrth gynnal uniondeb y broses, ac yn y pen draw, y lle hwn. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

I have no other speakers. So, the proposal is to note the committee's report. Does any Member object? [Objection.] There is objection. I will therefore defer voting under this item until voting time. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

7. Dadl ar ddeiseb P-06-1525, 'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru'
7. Debate on petition P-06-1525, 'Preserve the unique character of the Monmouthshire and Brecon Canal for the future generations of Wales'

Eitem 7 heddiw yw dadl ar ddeiseb P-06-1525, 'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.  

Item 7 today is the debate on petition P-06-1525, 'Preserve the unique character of the Monmouthshire and Brecon Canal for the future generations of Wales'. And I call on the committee Chair to move the motion—Carolyn Thomas. 

Cynnig NDM8950 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1525, 'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru', a gasglodd 14,016 o lofnodion.

Motion NDM8950 Carolyn Thomas

To propose that the Senedd:

Notes the petition P-06-1525, 'Preserve the unique character of the Monmouthshire and Brecon Canal for the future generations of Wales’, which received 14,016 signatures.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Deputy Presiding Officer. On behalf of the Petitions Committee, thank you for the opportunity to introduce the debate today. A few weeks ago, on a Monday afternoon, the Petitions Committee travelled to Goytre Wharf between Pontypool and Abergavenny to meet some of the people behind today's petition. We heard the passion that people have for the canal, the problems they are experiencing this year, and we heard about the history that has flowed along the 55-mile route for more than 200 years. We saw the pathways and community facilities that have grown up along the route. We met some of the 20 people who live on the canal, people who want certainty that there will be enough water, so they can continue to live there. We met people who use it as a place to relax and escape from the stresses of day-to-day life, charities and organisations that use it for events. We met the local councillors keen to find a way to protect a vital community facility. We met the businesspeople who provide boat hiring and refreshments, who want certainty so that they can make the investments they need to develop their businesses in a competitive tourism market. We saw the rich biodiversity of a well-established ecosystem that is symbiotic with the river. We heard how it forms part of the Blaenavon world heritage site designation, and we met the Canal and River Trust Wales, who have been buying in millions of litres of water to ensure that the canal can flow and doesn't risk drying out, which would be catastrophic to the structure, making it unsafe.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl heddiw. Ychydig wythnosau yn ôl, ar brynhawn Llun, teithiodd y Pwyllgor Deisebau i Lanfa Goetre rhwng Pont-y-pŵl a'r Fenni i gyfarfod â rhai o'r bobl y tu ôl i ddeiseb heddiw. Clywsom yr angerdd sydd gan bobl dros y gamlas, y problemau y maent yn eu hwynebu eleni, a chlywsom am yr hanes sydd wedi llifo ar hyd y llwybr 55 milltir o hyd ers dros 200 mlynedd. Gwelsom y llwybrau a'r cyfleusterau cymunedol sydd wedi tyfu ar hyd y llwybr. Cyfarfuom â rhai o'r 20 o bobl sy'n byw ar y gamlas, pobl sydd eisiau sicrwydd y bydd digon o ddŵr, fel y gallant barhau i fyw yno. Cyfarfuom â phobl sy'n ei defnyddio fel lle i ymlacio a dianc rhag straen bywyd bob dydd, elusennau a sefydliadau sy'n ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau. Cyfarfuom â'r cynghorwyr lleol sy'n awyddus i ddod o hyd i ffordd o ddiogelu cyfleuster cymunedol hollbwysig. Cyfarfuom â'r bobl fusnes sy'n darparu cychod i'w hurio a lluniaeth, sydd eisiau sicrwydd fel y gallant wneud y buddsoddiadau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu busnesau mewn marchnad dwristiaeth gystadleuol. Gwelsom fioamrywiaeth gyfoethog ecosystem sefydledig sy'n bodoli mewn symbiosis â'r afon. Clywsom sut y mae'n rhan o ddynodiad safle treftadaeth y byd Blaenafon, a chyfarfuom â Glandŵr Cymru, sydd wedi bod yn prynu miliynau o litrau o ddŵr i sicrhau y gall y gamlas lifo ac nad yw mewn perygl o sychu, a fyddai'n drychinebus i'r strwythur, gan ei gwneud yn anniogel.

15:55

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Paul Davies took the Chair.

The petition debated today was submitted by Councillor Jan Butler. A second petition, submitted by Mark Flood on behalf of the Preserve and Protect the Mon and Brec Canal group, couldn't be accepted, as it covered the same ground. The petition text reads:

'Preserve the unique character of the Monmouthshire and Brecon Canal for the future generations of Wales. The Mon and Brec is one of the most picturesque and tranquil waterways in the UK winding through Bannau Brycheiniog National Park and through many rural and later urban communities as it makes its way from Brecon, through Talybont on Usk onwards through Goytre Wharf towards Newport. It provides the lifeblood to residents and communities in its path and attracts approximately 3 million visitors a year who make significant contribution to the local economy enabling these communities to thrive.

'Since its inception by Act of Parliament in 1792, the canal has depended on water abstracted from the River Usk and its tributaries. The Usk at Brecon provides 80 per cent of the water required. The water is not consumed as it is returned to the water once it has travelled along the route, and until recently, water abstraction did not require licences. For 200 years, it has been free of charge. The canal, managed by the Canal and River Trust Wales, a charity, is now required by Natural Resources Wales to obtain a licence and limits water abstractions. Without a daily supply of water through its locks, the canal will quickly become inoperable and closure will be inevitable. The consequences to the livelihood of our community's natural environment and local economy are unthinkable. An unmanaged canal can lead to catastrophic failure and destruction of properties in its path. Dŵr Cymru and NRW have indicated they will supply support water but at prohibitive costs, which the charity cannot afford.'

The petition has received a massive 13,847 signatures. While the canal is over 200 years old, the problems facing the canal are new. This is the first year when new regulations relating to water access have been applied, limiting the amount of water that can be abstracted from the River Usk to feed the canal. The licence from Natural Resources Wales allows a lower level of extraction than has historically been allowed. Within 10 days of these regulations coming into force earlier this year, there was a problem. Previously, it was managed by the Canal and River Trust. They have calculated that, if the licence water restrictions had been in force in the last 20 years, the canal would have only been open for four summers. For the two-month period from 4 April to 9 June, CRT needed to purchase 376 million litres at an estimated cost of £0.25 million, and this is not sustainable. It also means that money is not available for the vital maintenance that is required to ensure that the canal remains navigable and that the leaks get fixed.

The current agreement with Dŵr Cymru Welsh Water is for one year only. There is no certainty that anything similar could be done next year, creating an urgent need for a proper solution. The canal has a 200-year legacy and is a strategic piece of our national infrastructure. It is a tourist attraction, a flood defence mechanism, a biodiversity haven, an arm of the active travel network, a home to people and businesses. It cannot be allowed to fail. I hope today's debate will give all of us in the Chamber a chance to reflect the urgency of the situation and the need for all stakeholders, including the UK Government, who contribute to CRT's funding through the Department for Environment, Food a Rural Affairs, to work together to find a workable and sustainable solution, hopefully led by the Deputy First Minister. Thank you.

Cyflwynwyd y ddeiseb a drafodir heddiw gan y Cynghorydd Jan Butler. Nid oedd modd derbyn ail ddeiseb, a gyflwynwyd gan Mark Flood ar ran grŵp Preserve and Protect the Mon and Brec Canal, gan ei bod yn ymdrin â'r un peth. Mae testun y ddeiseb yn nodi:

'Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Mae camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn un o ddyfrffyrdd mwyaf prydferth a thawel y DU. Mae’n ymdroelli drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thrwy lawer o gymunedau gwledig a threfol, gan ymlwybro o Aberhonddu, drwy Dal-y-bont ar Wysg ac ymlaen drwy Lanfa Goetre tuag at Gasnewydd. Mae’n hanfodol i’r trigolion a’r cymunedau cyfagos, gan ddenu tua 3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol ac yn galluogi’r cymunedau hyn i ffynnu.

'Ers ei sefydlu drwy Ddeddf seneddol yn 1792, mae'r gamlas wedi dibynnu ar ddŵr sy’n cael ei dynnu o afon Wysg a'i llednentydd. Daw 80% o'r dŵr sydd ei angen arni o'r afon Wysg yn Aberhonddu. Nid yw'r dŵr yn cael ei 'lyncu' gan y gamlas, gan ei fod yn dychwelyd i'r afon unwaith y bydd wedi cwblhau’r daith. Tan yn ddiweddar, nid oedd angen trwydded i dynnu dŵr. Ers 200 mlynedd, gellid gwneud hyn yn rhad ac am ddim. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r gamlas, a reolir gan Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru (elusen), gael trwydded a chyfyngu ar y dŵr y mae’n ei dynnu. Heb gyflenwad dyddiol o ddŵr drwy ei lociau, bydd y gamlas yn mynd yn anweithredol yn gyflym, a byddai cau yn anochel. Mae'n anodd dychmygu beth fyddai’r canlyniadau o ran cynnal bywoliaeth yn ein cymunedau, yr amgylchedd naturiol a'r economi leol. Gall peidio â rheoli camlas arwain at fethiant trychinebus a dinistrio eiddo cyfagos. Mae Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi y byddant yn cyflenwi lefel gynhaliol o ddŵr, ond am gost afresymol na all yr elusen ei fforddio'

Mae 13,847 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb, sy'n nifer enfawr. Er bod y gamlas dros 200 mlwydd oed, mae'r problemau sy'n wynebu'r gamlas yn newydd. Dyma'r flwyddyn gyntaf i reoliadau newydd ym gysylltiedig â mynediad at ddŵr gael eu rhoi ar waith, gan gyfyngu ar faint o ddŵr y gellir ei dynnu o afon Wysg i fwydo'r gamlas. Mae'r drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu lefel is o echdynnu dŵr nag a ganiatawyd yn hanesyddol. Ddeng niwrnod wedi i'r rheoliadau hyn ddod i rym yn gynharach eleni, cafwyd problem. Yn flaenorol, câi'r gamlas ei rheoli gan Glandŵr Cymru. Maent wedi cyfrifo, pe bai cyfyngiadau dŵr y drwydded wedi bod mewn grym yn yr 20 mlynedd diwethaf, na fyddai'r gamlas ond wedi bod ar agor am bedwar haf. Am y cyfnod o ddau fis rhwng 4 Ebrill a 9 Mehefin, roedd angen i Glandŵr Cymru brynu 376 miliwn litr o ddŵr am gost amcangyfrifedig o £0.25 miliwn, ac nid yw hyn yn gynaliadwy. Mae hefyd yn golygu nad oes arian ar gael ar gyfer y gwaith cynnal a chadw hanfodol sydd ei angen i sicrhau bod modd parhau i fordwyo'r gamlas ac i atgyweirio rhannau o'r gamlas sy'n gollwng dŵr.

Mae'r cytundeb presennol gyda Dŵr Cymru am flwyddyn yn unig. Nid oes unrhyw sicrwydd y gellid gwneud unrhyw beth tebyg y flwyddyn nesaf, gan greu angen brys am ateb priodol. Mae 200 mlynedd o hanes i'r gamlas ac mae'n ddarn strategol o'n seilwaith cenedlaethol. Mae'n atyniad i dwristiaid, yn fecanwaith amddiffyn rhag llifogydd, yn hafan i fioamrywiaeth, yn gangen o'r rhwydwaith teithio llesol, yn gartref i bobl a busnesau. Ni ellir caniatáu iddi fethu. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i bob un ohonom yn y Siambr ystyried difrifoldeb y mater a'r angen i bob rhanddeiliad, gan gynnwys Llywodraeth y DU, sy'n cyfrannu at gyllid Glandŵr Cymru drwy Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gydweithio i ddod o hyd i ateb ymarferol a chynaliadwy, dan arweiniad y Dirprwy Brif Weinidog, gobeithio. Diolch.

16:00

I too want to thank the petitioner for bringing forward this very important petition today. I want to be clear with Members and the Cabinet Secretary: the Monmouthshire and Brecon canal is on the brink of closure, and it's not because of drought, and it's not because there's no demand, but because the licensing decision is completely unworkable in practice.

For 225 years, this canal has taken water from the River Usk to operate. It supports nearly £30 million a year for the local economy, and it is the most visited attraction in the Brecon Beacons National Park. It is central to the lives of the communities all along its route, from my constituency all the way down to the constituency of my colleague Lynne Neagle. But now, because of the water extraction licence imposed by Natural Resources Wales, the canal's future is hanging by a thread. 

And let's just break this down. The canal needs around 18 ML of water per day to function properly. The new NRW licence restricts the amount of water that can be taken, particularly in the summer when the canal is busiest, to levels below what is needed to operate. It doesn't account for the reality of evaporation, leakage or the historic patterns of use.

What has happened? Within two weeks of the licence coming into force in March, water levels on the canal dropped to nearly unusable levels. The Canal and River Trust, a charity already under pressure, has been forced to pay up to £40,000 a week to buy water from Dŵr Cymru Welsh Water just to keep the canal open. This is not a sustainable position. The Canal and River Trust have made it clear that it cannot afford to keep paying £1 million a year to buy water for the canal that has historically had the water as part of its natural ecosystem. And let's remember, the Canal and River Trust does not pay for water anywhere else across England or Wales.

If nothing changes, we will see boat hire businesses go under. We'll see tourism businesses drying up. And we'll see people lose jobs, pubs and shops lose trade, and the communities along the canal lose a central part of the social and economic life of my constituency. We'll see wildlife along this 35-mile green corridor lost. The canal itself is home to 112 protected species, yet the licensing decision failed to consider the canal's ecology as part of the same ecosystem as the River Usk. We also risk the future of Torfaen's canal restoration strategy, linked directly to the regeneration of parts of Cwmbran, falling apart if water cannot be guaranteed to flow. 

And let's talk about the people who work on the canal, like Dai Tugg, who has made his business on the canal in my constituency. He has shown off my constituency to thousands and thousands of people across the years, and I think it would be an absolute travesty if a business like his had to go to the wall because of a decision made by NRW. But let me be clear: this isn't a marginal issue, or an issue about abstract technical water management debates, this is about livelihoods, heritage, wildlife tourism and community health and well-being.

Rwyf innau hefyd am ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon heddiw. Rwyf am fod yn glir gyda'r Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet: mae camlas sir Fynwy a Brycheiniog ar fin cau, ac nid oherwydd sychder, nid oherwydd nad oes galw, ond oherwydd bod y penderfyniad trwyddedu'n gwbl anymarferol.

Ers 225 mlynedd, mae'r gamlas hon wedi mynd â dŵr o afon Wysg i allu gweithredu. Mae'n dod â bron i £30 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, a dyma'r atyniad mwyaf poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n ganolog i fywydau'r cymunedau ar hyd ei lwybr, o fy etholaeth i yr holl ffordd i lawr i etholaeth fy nghyd-Aelod Lynne Neagle. Ond nawr, oherwydd y drwydded echdynnu dŵr a orfodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae dyfodol y gamlas yn y fantol. 

A gadewch inni ddadansoddi hyn. Mae angen tua 18 ML o ddŵr y dydd ar y gamlas i weithredu'n iawn. Mae trwydded newydd CNC yn cyfyngu ar faint o ddŵr y gellir ei dynnu, yn enwedig yn yr haf pan fo'r gamlas ar ei phrysuraf, i lefelau is na'r hyn sydd ei angen i weithredu. Nid yw'n ystyried realiti anweddiad, gollyngiadau na phatrymau hanesyddol o ddefnydd.

Beth sydd wedi digwydd? O fewn pythefnos wedi i'r drwydded ddod i rym ym mis Mawrth, gostyngodd lefelau dŵr ar y gamlas bron iawn i lefelau lle na ellid ei defnyddio. Mae Glandŵr Cymru, elusen sydd eisoes dan bwysau, wedi cael ei gorfodi i dalu hyd at £40,000 yr wythnos i brynu dŵr gan Dŵr Cymru er mwyn cadw'r gamlas ar agor. Nid yw hon yn sefyllfa gynaliadwy. Mae Glandŵr Cymru wedi dweud yn glir na all fforddio parhau i dalu £1 filiwn y flwyddyn i brynu dŵr ar gyfer y gamlas a arferai fod â'r dŵr yn rhan o'i hecosystem naturiol. A gadewch inni gofio, nid yw'r ymddiriedolaeth gamlesi ac afonydd yn talu am ddŵr yn unrhyw le arall yng Nghymru na Lloegr.

Os nad oes unrhyw beth yn newid, byddwn yn gweld busnesau hurio cychod yn methu. Byddwn yn gweld busnesau twristiaeth yn dod i ben. A byddwn yn gweld pobl yn colli swyddi, tafarndai a siopau yn colli masnach, a'r cymunedau ar hyd y gamlas yn colli rhan ganolog o fywyd cymdeithasol ac economaidd fy etholaeth. Byddwn yn gweld colli bywyd gwyllt ar hyd y coridor gwyrdd 35 milltir hwn. Mae'r gamlas ei hun yn gartref i 112 o rywogaethau gwarchodedig, ond methodd y penderfyniad trwyddedu ystyried bod ecoleg y gamlas yn rhan o'r un ecosystem ag afon Wysg. Rydym hefyd yn peryglu dyfodol strategaeth adfer camlas Torfaen, sydd wedi'i chysylltu'n uniongyrchol ag adfywio rhannau o Gwmbrân, yn chwalu os na ellir gwarantu bod dŵr yn llifo. 

A gadewch inni siarad am y bobl sy'n gweithio ar y gamlas, fel Dai Tugg, sydd wedi rhedeg ei fusnes ar y gamlas yn fy etholaeth i. Mae wedi dangos fy etholaeth i filoedd a miloedd o bobl dros y blynyddoedd, ac rwy'n credu y byddai'n drueni mawr pe bai busnes fel ei un ef yn gorfod mynd i'r wal oherwydd penderfyniad a wnaed gan CNC. Ond gadewch imi fod yn glir: nid mater ymylol yw hwn, na mater haniaethol yn ymwneud â dadleuon technegol ynghylch rheoli dŵr, mae'n ymwneud â bywoliaeth pobl, treftadaeth, twristiaeth bywyd gwyllt ac iechyd a llesiant cymunedol.

NRW is between a rock and a hard place, because the reason they're having to contain the amount of water that's being taken out of the Usk is because of the impact on the nature and the wildlife in the Usk. And surely this is fundamentally down to the fact that we collectively haven't husbanded our water resources over the years. 

Mae CNC mewn sefyllfa amhosibl, am mai'r rheswm pam eu bod yn gorfod cadw'r dŵr sy'n cael ei dynnu allan o'r afon Wysg yw'r effaith ar natur a bywyd gwyllt yn afon Wysg. A'r rheswm sylfaenol am hyn yw nad ydym  ni, bawb ohonom, wedi gofalu am ein hadnoddau dŵr dros y blynyddoedd. 

I don't disagree with you. I think a lot more work does need to be done improving all waterways, but what I do not want to see happen is one waterway being destroyed just to keep another one going. I don't think that's the most appropriate way to manage our waterways across Wales.

Cabinet Secretary, let me be honest: this is a problem caused by NRW's licensing decision and by a lack of joined-up thinking, and it's been made worse by the failure, I think, of this Government to bring people around the table to step in and sort it out. Almost 14,000 people, some of whom are in the gallery here behind us, signed a petition calling for us to protect the future of this canal for future generations, and all those people expect action. They do not expect excuses. What we've been hearing is buck passing between different organisations, saying, 'It's nothing to do with us.'

Nid wyf yn anghytuno. Rwy'n credu bod angen gwneud llawer mwy o waith i wella'r holl ddyfrffyrdd, ond yr hyn nad wyf am ei weld yn digwydd yw bod un ddyfrffordd yn cael ei dinistrio er mwyn cadw un arall i fynd. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd fwyaf priodol o reoli ein dyfrffyrdd ledled Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch imi fod yn onest: mae hon yn broblem a achoswyd gan benderfyniad trwyddedu CNC a chan ddiffyg meddwl cydgysylltiedig, a chafodd ei gwneud yn waeth gan fethiant y Llywodraeth hon i ddod â phobl o gwmpas y bwrdd i gamu i mewn a'i ddatrys. Mae bron i 14,000 o bobl, rai ohonynt yn yr oriel yma y tu ôl i ni, wedi llofnodi deiseb yn galw arnom i ddiogelu dyfodol y gamlas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r holl bobl hynny'n disgwyl gweld gweithredu'n digwydd. Nid ydynt yn disgwyl esgusodion. Yr hyn a glywsom yw taflu'r baich rhwng gwahanol sefydliadau, gan ddweud, 'Nid yw'n ddim i'w wneud â ni.'

16:05

It's not rubbish, Cabinet Secretary. I'll happily take an intervention from you if you want to. You'll speak later—well, that's fine. Let's keep quiet for now then. [Interruption.]

We need NRW, the Canal and River Trust, Dŵr Cymru and local authorities around the table—[Interruption.]

Nid yw'n nonsens, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gennych os ydych chi eisiau. Fe fyddwch chi'n siarad yn nes ymlaen—wel, o'r gorau. Gadewch inni gadw'n ddistaw am nawr felly. [Torri ar draws.]

Mae angen i CNC, Glandŵr Cymru, Dŵr Cymru ac awdurdodau lleol ddod o amgylch y bwrdd—[Torri ar draws.]

—because we need to find a practical, affordable and fair solution to the problem. What I think we need to do is get Welsh Government to direct NRW to pause enforcement of the current licensing restrictions while that workable, long-term solution is put in place. I think that's entirely reasonable. The canal and river have existed for over two centuries, and we are seeing improved nutrient levels in the River Usk, and I think that we shouldn't be using that as a reason not to put water in the canal.

We do need that joined-up strategy, and we are facing the real prospect of the first operational closure in England and Wales due to the Government's inaction. So, Cabinet Secretary, I think the time is now for you to act. I think it's time for you to step in, because if you don't, businesses will close—

—gan fod angen inni ddod o hyd i ateb ymarferol, fforddiadwy a theg i'r broblem. Yr hyn y credaf fod angen inni ei wneud yw cael Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo CNC i oedi cyn gorfodi'r cyfyngiadau trwyddedu presennol tra bod ateb ymarferol, hirdymor yn cael ei roi ar waith. Rwy'n credu bod hynny'n hollol rhesymol. Mae'r gamlas a'r afon wedi bodoli ers dros ddwy ganrif, ac rydym yn gweld lefelau maethynnau yn afon Wysg yn gwella, ac rwy'n credu na ddylem ddefnyddio hynny fel rheswm dros beidio â rhoi dŵr yn y gamlas.

Mae angen y strategaeth gydgysylltiedig honno arnom, ac rydym yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o'r achos cyntaf o gau gweithredol yng Nghymru a Lloegr oherwydd diffyg gweithredu ar ran y Llywodraeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu mai nawr yw'r amser i chi weithredu. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i chi gamu i mewn, oherwydd os na wnewch chi, bydd busnesau'n cau—

I will conclude now, acting Presiding Officer. Businesses will close, our ecology will be damaged, and a lifeline of our communities will be gone, and all we will see is a dry ditch running through constituencies across Wales, and I think that will be an absolute travesty for our communities.

Fe wnaf orffen nawr, Lywydd dros dro. Bydd busnesau'n cau, bydd ein hecoleg yn cael ei niweidio, a bydd rhaff achub ein cymunedau'n diflannu, a'r cyfan a welwn yw ffos sych yn rhedeg trwy etholaethau ledled Cymru, ac rwy'n credu y bydd hynny'n drasiedi fawr i'n cymunedau.

Diolch i’r pwyllgor ac i’r deisebwyr. Mae camlas sir Fynwy ac Aberhonddu, neu’r ‘Mon and Brec’, fel y'i gelwir yn lleol, yn allweddol i'n treftadaeth genedlaethol, oherwydd mae’r ddyfrffordd hon yn dyst i dros ganrif o hanes cyfoethog, o weledigaeth beirianyddol Dadford, Outram a Crosley i lafur y nafis a dorrodd ei gwrs o'r ddaear galed; o'r haearn, glo a chalchfaen a gludwyd i danio ffwrneisi crasboeth Blaenafon i'r cymunedau a godwyd ar lannau’r wythïen egnïol hon; o'i dirywiad a'i dadleoliad gan dechnoleg newydd y rheilffyrdd, i'w hadferiad a'i hadnewyddiad tuag at ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Heddiw, mae'n ganolfan fasnachol, ddiwylliannol ac amgylcheddol lewyrchus, edyn sydd mewn cyferbyniad llwyr â'i tharddiad, bellach yn plethu cymdeithas ddynol a natur mewn cydfodolaeth cydseiniol.

Mae’r ffaith bod y gamlas yn wynebu dinistr yn adlewyrchiad o ba mor ddifrifol yr ydym yn esgeuluso ein hetifeddiaeth a'n tirweddau. Ac mae’n atgoffâd pwerus a gweladwy o'r pris sy’n cael ei dalu o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd. Mae'n anochel y bydd problemau tebyg sy'n ymwneud â phrinder dŵr yn codi eto gyda rheoleidd-dra cynyddol dros y blynyddoedd nesaf. Rwy’n ofni bod ymateb y Llywodraeth wedi bod yn siomedig hyd yma. Nid yn unig mae wedi bod yn ymateb sy’n dangos diffyg dealltwriaeth, efallai, o werth ehangach y gamlas, ond un sydd hefyd yn anwybyddu'r realiti ei bod o fewn gallu'r Llywodraeth i o leiaf adolygu gofynion trwyddedu perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gellir ystyried cyflwyno hyblygrwydd pellach o ran mecanweithiau taliadol Dŵr Cymru ar gyfer ymddiriedolaethau camlesi. Ar ben hynny, mae sylfaen y rheolau tynnu dŵr newydd yn un sy'n seiliedig ar resymeg ddiffygiol. Mae'n gosod yr angen i amddiffyn ecosystem Afon Wysg, sydd wrth gwrs mor bwysig, ond mae’n gosod hwnna yn erbyn anghenion y gamlas i aros ar lefel iach, sy’n anwybyddu’r ffaith bod y gamlas yn ecosystem arwyddocaol ynddi hi ei hun. Rwy'n gwrthod y rhagdybiaeth honno. Mae cydbwysedd cynaliadwy i'w gael, a bydd pris peidio â gwneud hynny yn llawer mwy na cholli dyfrffordd yn unig; bydd yn golled ffordd o fyw cyfan i'r busnesau, i’r cymunedau a'r bywyd gwyllt sy'n galw’r gamlas yn gartref.

Mae'r datrysiad dros dro yn rhywbeth i’w groesawu. Mae wedi'i gytuno rhwng yr ymddiriedolaeth a Dŵr Cymru i gadw'r gamlas ar waith am y dyfodol agos. Mae hwnna, eto, i’w groesawu, ond mae datrysiad sy'n costio dros £100,000 y mis i ymddiriedolaeth elusennol yn amlwg yn anghynaliadwy. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ddangos yr arweinyddiaeth bendant a rhagweithiol sydd ei hangen ar y mater hwn, i ddatblygu ateb sy'n sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau'r gamlas cyn i'r dyfroedd rhedeg yn sych ar un arall o'n hasedau diwylliannol a hanesyddol gwerthfawr.

I thank the committee and the petitioners. The Monmouthshire and Brecon canal, or the ‘Mon and Brec’ as it's known among local residents, is a key part of our national heritage, because this waterway is a witness to over two centuries of rich history, from Dadford, Outram and Crosley’s engineering vision to the labour of the navvies who cut its course out of the hard ground; from the iron, the coal and limestone transported to fire Blaenavon’s blazing furnaces to the burgeoning communities on the banks of this vibrant artery; from its decline and displacement by the new technology of the railways, to its restoration, revival and renewal towards the end of the twentieth century. Today it's a flourishing commercial, cultural and environmental hub, a thread that, in total contrast with its origins, now stitches together human society and nature in harmonious co-existence.

The fact that the canal is on the brink of total destruction is a reflection of how seriously we neglect our heritage and our landscapes. And it is a powerful and visible reminder of the price that is paid as a result of the climate emergency. It's inevitable that similar problems related to water shortages will arise again with increasing frequency in coming years. I fear that the Government's response has been disappointing to date. Not only is it a response that has showed a lack of understanding, perhaps, of the canal's wider value, but it's one that ignores the reality that it is within the Government's gift to at least review Natural Resources Wales's relevant licensing requirements.

The introduction of further flexibilities could be considered in terms of Dŵr Cymru's payment mechanisms for canal trusts. On top of that, the new regulations regarding water extraction are based on deficient rationale. They set the need to safeguard the River Usk ecosystem, which is, of course, so important, but it sets that against the need to maintain a healthy water level on the canal, which ignores the fact that the canal is itself an important ecosystem. I reject that assumption entirely. There is a sustainable balance to be struck here, and the price of not achieving that will be far greater than simply losing a waterway; it will mean the loss of a whole way of life for the businesses, the communities and the wildlife that call the canal home.

The interim solution is something that I welcome. It has been agreed between the trust and Dŵr Cymru to keep the canal in operation for the near future. Again, that is to be welcomed, but a solution that costs over £100,000 a month to a charitable trust is clearly not sustainable. So, I encourage the Welsh Government to demonstrate that firm and proactive leadership that is needed on this matter, to develop a solution that ensures that future generations can enjoy the canal before the waters run dry for another one of our treasured cultural and historical assets.

16:10

I became very interested in the Mon and Brec canal after a meeting with my constituents, Fiona and Steve Burt, who spend much of their time living on a 58 ft narrowboat, and they imparted to me their enthusiasm and their love for the canal, for the way of life and the privilege they feel to be able to live in our wonderful Welsh environment on the canal. And of course, as Carolyn Thomas said in her introduction, there are people who are living there permanently. It is an absolutely unique place that I have visited over the years. 

The Mon and Brec has been part of our landscape for 225 years, and it does provide vitally important tourism income, which has been mentioned, for the towns and villages and the other businesses along the canal. And it is absolutely essential for the ecology and wildlife that are so dependent on it. The changes made to the abstraction licence mean that, according to the River Usk catchment abstraction management strategy, abstraction from the Usk is only likely to be possible for 51 days of the year, and this will probably be during the winter months. And, of course, this is the time when the canal itself will already be filled by rainfall. This is not enough to sustain the canal, and that is why the arrangement with Dŵr Cymru is so important.

However, as has already been said today, the costs of the abstraction agreement are prohibitive, and it has been reported that it is costing approximately £100,000 per month. As it stands, the canal is not commercially viable, as it supports only 400 boats with an average licence fee of £1,000 per annum. It is maintained primarily by the charity in accordance with its charitable objectives. So, really, the right commercial decision for the Canal and River Trust could be to close the canal. And I think the threat of this must absolutely ring alarm bells with us all in the Senedd and with the Government.

I understand that the arrangements between Dŵr Cymru and the Canal and River Trust are classed as commercially sensitive, but would the Cabinet Secretary consider supporting the trust's call for a mutually fair, non-commercial arrangement, so that we do not risk losing this absolutely fantastic, unique waterway in Wales? I do not feel that we can stand by here and let that happen. 

Dechreuais ymddiddori'n fawr yng nghamlas sir Fynwy a Brycheiniog ar ôl cyfarfod gyda fy etholwyr, Fiona a Steve Burt, sy'n treulio llawer o'u hamser yn byw ar gwch cul 58 troedfedd, ac fe wnaethant fynegi eu brwdfrydedd a'u cariad at y gamlas, am y ffordd o fyw a'r fraint a deimlant o allu byw yn ein hamgylchedd gwych Cymreig ar y gamlas. Ac wrth gwrs, fel y dywedodd Carolyn Thomas yn ei rhagymadrodd, mae yna bobl sy'n byw yno'n barhaol. Mae'n lle hollol unigryw yr ymwelais ag ef dros y blynyddoedd. 

Mae camlas sir Fynwy a Brycheiniog wedi bod yn rhan o'n tirwedd ers 225 mlynedd, ac mae'n darparu incwm twristiaeth hanfodol bwysig, fel sydd wedi'i grybwyll, i'r trefi a'r pentrefi a'r busnesau eraill ar hyd y gamlas. Ac mae'n hollol hanfodol i'r ecoleg a'r bywyd gwyllt sydd mor ddibynnol arni. Mae'r newidiadau a wnaed i'r drwydded echdynnu'n golygu, yn ôl strategaeth rheoli echdynnu dalgylch afon Wysg, y bydd echdynnu o afon Wysg ond yn debygol o fod yn bosibl am 51 diwrnod o'r flwyddyn, ac mae'n debyg y bydd hyn yn ystod misoedd y gaeaf. Ac wrth gwrs, dyma'r adeg pan fydd y gamlas ei hun wedi'i llenwi gan law yn barod. Nid yw hyn yn ddigon i gynnal y gamlas, a dyna pam y mae'r trefniant gyda Dŵr Cymru mor bwysig.

Fodd bynnag, fel y dywedwyd eisoes heddiw, mae costau'r cytundeb echdynnu'n waharddol ac adroddwyd ei bod yn costio tua £100,000 y mis. Fel y mae, nid yw'r gamlas yn fasnachol hyfyw, gan mai dim ond 400 o gychod y mae'n eu cynnal gyda ffi drwydded gyfartalog o £1,000 y flwyddyn. Caiff ei chynnal yn bennaf gan yr elusen yn unol â'i hamcanion elusennol. Felly, mae'n bosibl mai'r penderfyniad masnachol cywir i Glandŵr Cymru fyddai cau'r gamlas. Ac rwy'n credu bod y bygythiad o hynny'n canu larymau gyda phawb ohonom yn y Senedd a chyda'r Llywodraeth.

Rwy'n deall bod y trefniadau rhwng Dŵr Cymru a Glandŵr Cymru wedi eu categoreiddio'n rhai masnachol sensitif, ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cefnogi galwad yr ymddiriedolaeth am drefniant anfasnachol a fyddai'n deg i bawb, fel nad ydym yn wynebu'r perygl o golli'r ddyfrffordd hollol wych ac unigryw hon yng Nghymru? Nid wyf yn teimlo y gallwn sefyll yma a gadael i hynny ddigwydd. 

Firstly, I'd like to very much thank the petitioner, Councillor Jan Butler, for the initial petition, which gained over 14,000 signatures. And a big thanks to the many people who turned up today on the Senedd steps to air their voices and share their concerns—concerns that we all share. There was cross-party support on the steps today, recognising the importance of this valuable asset. It's a jewel in the crown of what Wales has to offer. And it's a sad day when we are having to come here to argue for the future of our canal, one of the most fantastic bits of environmental asset we have, which is under jeopardy.

As we've heard, and we will be repeating the same issues, we've heard of the licensing placing limits on the amount of water that we can extract from the River Usk. But it's strange, isn't it, that we follow one environmental aspiration with little consideration of what we're doing to another environmental asset. This holistic view, it doesn't seem to happen where we can look at everything in the round, and then we find ourselves with these real issues. We shouldn't be looking to have to supply water now or pay for water that has been free for 225 years. We are further advanced than that. We should have had systems in place to maintain these assets for future generations. So far, the trust, as we know, is committed to purchasing water until March 2026, and it's obvious no charity can continue to do that forever.

So, what is the future? If left, the canal is going to dry out, become inoperable. But it's not just drying out and making it inoperable. Look at the drastic ecological impacts, as well as the huge economic consequences. It's astonishing that the canal does not have the same level of conservation designation as the River Usk, despite playing a vital role in Monmouthshire's—in my case—natural beauty and biodiversity. So I would encourage Natural Resources Wales and the Welsh Government to consider the waterways being treated in similar ways. I know they might not be able to treat it exactly the same, but to be given parity in the focus that they need.

As we've heard, the Canal and River Trust in Wales estimates that the canal supports 77 hectares of area habitats, with 46 hectares of woodland and 7 hectares of grassland, 58 km of watercourse habitat and over 33 km of native and species-rich native hedgerow. And data shows, as we've also heard, that there are 1,339 species recorded in proximity of the canal corridor, comprising 112 different priority species, meaning that the canal has the highest number of priority species of any canal in Wales. The canal also plays an incredibly important role in the wider rural economy, supporting, as we know, 276 jobs and an estimated output of some £30 million a year. So, the Welsh Government needs to step in and provide a long-term solution to the crisis that the canal is facing. No responsible Government would risk the future of such an essential environmental asset.

I know the Government tried to divest itself of responsibility initially around this. I'm sure the Cabinet Secretary, though, is as keen as any of us to find a solution that creates a sustainable future for the canal. I wish him well in trying to do that, because it's absolutely fundamental that this happens so that we can assure canal businesses, so that they have security for the future and that we can honour our tourism offer in Wales, but also to those people who live on that canal; it's their home. And for those of us and the many thousands of people in Wales whose well-being depends on that canal, because it does so much for people's lives in so many ways.

I do hope that we can find a solution with all parties working together that is truly sustainable and preserves for future generations assets such as this. It's so important. Thank you. 

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr i'r deisebydd, y Cynghorydd Jan Butler, am y ddeiseb gyntaf, a ddenodd dros 14,000 o lofnodion. A diolch yn fawr i'r bobl niferus a ddaeth yma heddiw at risiau'r Senedd i fynegi barn a rhannu eu pryderon—pryderon yr ydym i gyd yn eu rhannu. Roedd cefnogaeth drawsbleidiol ar y grisiau heddiw, i gydnabod pwysigrwydd yr ased gwerthfawr hwn. Mae'n em yng nghoron yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Ac mae'n ddiwrnod trist pan fo'n rhaid inni ddod yma i ddadlau dros ddyfodol ein camlas, un o'r darnau mwyaf gwych o ased amgylcheddol sydd gennym.

Fel y clywsom, a byddwn yn ailadrodd yr un materion, rydym wedi clywed am y drwydded sy'n gosod cyfyngiadau ar faint o ddŵr y gallwn ei dynnu o afon Wysg. Ond mae'n rhyfedd, onid yw, ein bod ni'n mynd ar drywydd un dyhead amgylcheddol heb fawr o ystyriaeth o'r hyn a wnawn i ased amgylcheddol arall. Mae'n ymddangos na cheir barn gyfannol lle gallwn edrych ar bopeth yn ei gyfanrwydd, a dyna pam ein bod yn wynebu problemau go iawn fel y rhain. Ni ddylem fod yn ystyried gorfod cyflenwi dŵr nawr neu dalu am ddŵr sydd wedi bod yn rhad ac am ddim ers 225 mlynedd. Rydym wedi symud ymlaen yn bellach na hynny. Dylai fod gennym systemau ar waith i gynnal yr asedau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hyd yma, mae'r ymddiriedolaeth, fel y gwyddom, wedi ymrwymo i brynu dŵr tan fis Mawrth 2026, ac mae'n amlwg na all unrhyw elusen barhau i wneud hynny am byth.

Felly, beth yw'r dyfodol? Os caiff ei gadael, mae'r gamlas yn mynd i sychu, a dod yn anweithredol. Ond nid mater o sychu a dod yn anweithredol yn unig mohono. Edrychwch ar yr effeithiau ecolegol enbyd, yn ogystal â'r canlyniadau economaidd enfawr. Mae'n rhyfeddol nad oes gan y gamlas yr un lefel o ddynodiad cadwraeth ag afon Wysg, er ei bod yn chwarae rhan allweddol yn harddwch naturiol sir Fynwy—yn fy achos i—a bioamrywiaeth. Felly rwy'n annog Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i ystyried trin y dyfrffyrdd mewn ffyrdd tebyg. Rwy'n gwybod efallai na fyddant yn gallu eu trin yn yr un ffordd yn union, ond i roi parch cydradd yn y ffocws sydd ei angen arnynt.

Fel y clywsom, mae Glandŵr Cymru yn amcangyfrif bod y gamlas yn cynnal 77 hectar o gynefinoedd ardal, gyda 46 hectar o goetir a 7 hectar o laswelltir, 58 km o gynefin cwrs dŵr a dros 33 km o wrychoedd brodorol cyfoethog eu rhywogaethau. Ac fel y clywsom hefyd, dengys y data fod 1,339 o rywogaethau wedi'u cofnodi yn agos at goridor y gamlas, sy'n cynnwys 112 o wahanol rywogaethau â blaenoriaeth, sy'n golygu mai gan y gamlas y mae'r nifer uchaf o rywogaethau â blaenoriaeth o holl gamlesi Cymru. Mae'r gamlas hefyd yn chwarae rhan hynod bwysig yn yr economi wledig ehangach, gan gefnogi, fel y gwyddom, 276 o swyddi a thua £30 miliwn amcangyfrifedig y flwyddyn. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a darparu ateb hirdymor i'r argyfwng y mae'r gamlas yn ei wynebu. Ni fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn peryglu dyfodol ased amgylcheddol mor allweddol.

Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi ceisio ymwrthod â'i chyfrifoldeb mewn perthynas â hyn yn wreiddiol. Ond rwy'n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yr un mor awyddus ag unrhyw un ohonom ni i ddod o hyd i ateb sy'n creu dyfodol cynaliadwy i'r gamlas. Rwy'n dymuno'n dda iddo wrth iddo geisio gwneud hynny, oherwydd mae'n hollol hanfodol fod hyn yn digwydd er mwyn inni allu rhoi sicrwydd i fusnesau'r gamlas, er mwyn iddynt gael eu diogelu ar gyfer y dyfodol ac er mwyn inni allu gwireddu ein cynnig twristiaeth yng Nghymru, ond hefyd i'r bobl sy'n byw ar y gamlas; mae'n gartref iddynt. Ac i'r rhai ohonom a'r miloedd lawer o bobl yng Nghymru y mae eu llesiant yn dibynnu ar y gamlas, oherwydd mae'n gwneud cymaint i fywydau pobl mewn cymaint o ffyrdd.

Gyda'r holl bleidiau'n gweithio gyda'i gilydd, rwy'n gobeithio y gallwn ddod o hyd i ateb sy'n wirioneddol gynaliadwy ac sy'n cadw asedau o'r fath ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny mor bwysig. Diolch. 

16:15

Can I thank all of those who have joined us today from the area and for your campaign? Because without your campaign and without you bringing this to the attention of so many people—including myself—we would not be here. Thank you for arranging for the petition and thank you for the meetings that we've had as well; it's been really appreciated. I'm proud to speak in support of this petition and for the 14,000 people who've signed it. Their message is clear: the Brecon and Mon canal matters.

The canal is actually the single most visited attraction in Bannau Brycheiniog. It has attracted, as we've heard, over 3 million visitors, so it is absolutely critical to the area. It is far more than a waterway. It is a living, working part of our national heritage. A 35-mile green corridor winding through the heart of Bannau Brycheiniog and onwards to the communities of Cwmbran and Newport. For 225 years, it has served our people. Connecting villages, supporting industries, offering sanctuary for wildlife and generating both well-being, as Peter Fox has mentioned, and economic prosperity. And now—which is why we are here this afternoon—we risk losing it.

The canal is facing an existential crisis. Since the implementation, as we've heard, of the new water abstraction licence in March 2025, water levels have already dropped to near non-navigable levels. The new restrictions from Natural Resources Wales limit what can be drawn from the River Usk—a source that has supplied over 80 per cent of the canal's flow for more than two centuries. The Usk is a designated special area of conservation, and we must, of course, protect its biodiversity. But the canal, too, supports 112 protected species and acts as a vital ecological corridor, with the highest number of priority species on any Welsh canal. The decision to prioritise one habitat over another has created a false and deeply damaging dichotomy. It should not be a zero-sum game. The Usk and the Mon and Brec are not rivals. They're independent ecosystems, two arteries of the same living landscape, shaped together for over 200 years, and we must protect both. 

We do celebrate all of the businesses, all of the tourist industries along the canal, but also, as has been mentioned by Julie Morgan, those people who literally live on the canal. For those that bought houseboats, many of them permanent residents, falling water levels means not just inconvenience, but potential homelessness. Already the Canal and River Trust, a charity, is being forced to purchase emergency water, as we've heard.

The canal is a testament to our industrial past, built by an Act of Parliament in 1792. I had to make sure I got those numbers right—1792. It has enabled the transport of coal, iron, and limestone, as we've heard from Delyth, through the valleys and hills of Wales. It would be an appalling irony if, on the two hundred and twenty-fifth anniversary of the canal's completion, we let this thread of history be severed by short-sighted policy and our institutional inflexibility.

The petitioners are not asking for the impossible. They are asking for urgency, for leadership, and for joined-up thinking. I'm hoping that when we come to hear from the Cabinet Secretary, we'll be able to hear that there is leadership, and there is an opportunity for that joined-up thinking. There is a way that we can make sure that both the Usk and the Brec and Mon continue to thrive.

If we fail to act, the Mon and Brec could close, possibly within months. Boat hire companies and trip operators already face financial uncertainty. Communities will lose a vital engine. Wildlife will be displaced. People will lose their homes. And we will all lose part of who we are. Diolch yn fawr iawn. 

A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi ymuno â ni heddiw o'r ardal ac am eich ymgyrch? Oherwydd heb eich ymgyrch a heb i chi ddod â hyn i sylw cymaint o bobl—gan fy nghynnwys i—ni fyddem yma. Diolch am drefnu'r ddeiseb a diolch am y cyfarfodydd a gawsom hefyd; mae wedi cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n falch o siarad i gefnogi'r ddeiseb ac ar ran y 14,000 o bobl sydd wedi ei llofnodi. Mae eu neges yn glir: mae camlas sir Fynwy a Brycheiniog yn bwysig.

Y gamlas yw'r atyniad unigol yr ymwelir ag ef fwyaf ym Mannau Brycheiniog. Fel y clywsom, mae wedi denu dros 3 miliwn o ymwelwyr, felly mae'n hollol hanfodol i'r ardal. Mae'n llawer mwy na dyfrffordd. Mae'n rhan fyw a gweithredol o'n treftadaeth genedlaethol. Coridor gwyrdd 35 milltir o hyd sy'n troelli trwy galon Bannau Brycheiniog ac ymlaen i gymunedau Cwmbrân a Chasnewydd. Am 225 mlynedd, mae wedi gwasanaethu ein pobl, gan gysylltu pentrefi, cefnogi diwydiannau, cynnig noddfa i fywyd gwyllt a chynhyrchu llesiant, fel y soniodd Peter Fox, yn ogystal â ffyniant economaidd. A nawr—a dyma pam ein bod ni yma y prynhawn yma—mae yna berygl o'i cholli.

Mae'r gamlas yn wynebu argyfwng dirfodol. Fel y clywsom, ers i'r drwydded echdynnu dŵr newydd ddod i rym ym mis Mawrth 2025, mae lefelau dŵr eisoes wedi gostwng i lefelau lle mae bron yn amhosibl ei mordwyo. Mae'r cyfyngiadau newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei dynnu o afon Wysg—ffynhonnell sydd wedi cyflenwi dros 80 y cant o lif y gamlas ers dros ddwy ganrif. Mae'r afon Wysg yn ardal cadwraeth arbennig ddynodedig, ac mae'n rhaid inni ddiogelu ei bioamrywiaeth wrth gwrs. Ond mae'r gamlas hefyd yn cynnal 112 o rywogaethau gwarchodedig ac yn gweithredu fel coridor ecolegol allweddol, gyda nifer mwy o rywogaethau â blaenoriaeth nag unrhyw gamlas arall yng Nghymru. Mae'r penderfyniad i flaenoriaethu un cynefin dros un arall wedi creu deuoliaeth ffug a hynod niweidiol. Ni ddylai fod yn fater o'r naill yn ennill ar draul y llall. Nid yw'r afon Wysg a chamlas sir Fynwy a Brycheiniog yn cystadlu. Maent yn ecosystemau annibynnol, dwy o rydwelïau'r un dirwedd fyw, wedi'u siapio gyda'i gilydd ers dros 200 mlynedd, a rhaid inni ddiogelu'r ddwy. 

Rydym yn dathlu'r holl fusnesau, yr holl ddiwydiannau twristiaeth ar hyd y gamlas, ond hefyd, fel y soniodd Julie Morgan, y bobl sy'n llythrennol yn byw ar y gamlas. I'r rhai a brynodd gychod preswyl, gyda llawer ohonynt yn breswylwyr parhaol, mae lefelau dŵr is yn fwy nag anghyfleustra, fe allai eu gwneud yn ddigartref. Eisoes mae elusen Glandŵr Cymru yn cael ei gorfodi i brynu dŵr mewn argyfwng, fel y clywsom.

Mae'r gamlas yn dyst i'n gorffennol diwydiannol. Fe'i hadeiladwyd gan Ddeddf Seneddol yn 1792. Roedd yn rhaid imi wneud yn siŵr fy mod i'n cael y rhifau hynny'n iawn—1792. Mae wedi galluogi cludo glo, haearn a chalchfaen trwy gymoedd a bryniau Cymru fel y clywsom gan Delyth. Byddai'n eironig iawn pe baem, i nodi cwblhau'r gamlas 225 mlynedd yn ôl, yn gadael i'r llinyn hwn o hanes gael ei dorri gan bolisi cibddall ac anhyblygrwydd sefydliadol ar ein rhan.

Nid yw'r deisebwyr yn gofyn am yr amhosibl. Maent yn gofyn am frys, am arweinyddiaeth, ac am feddwl cydgysylltiedig. Pan glywn gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y cawn glywed bod yna arweinyddiaeth, a bod cyfle i feddwl  yn gydgysylltiedig. Mae yna ffordd y gallwn wneud yn siŵr fod yr afon Wysg a chamlas sir Fynwy a Brycheiniog yn parhau i ffynnu.

Os nad ydym yn gweithredu, gallai camlas sir Fynwy a Brycheiniog gau, o fewn misoedd o bosibl. Mae cwmnïau hurio cychod a gweithredwyr teithiau eisoes yn wynebu ansicrwydd ariannol. Bydd cymunedau'n colli injan hollbwysig. Bydd bywyd gwyllt yn cael ei ddadleoli. Bydd pobl yn colli eu cartrefi. A byddwn ni i gyd yn colli rhan o bwy ydym ni. Diolch yn fawr iawn. 

16:20

It was very good to speak to petitioners on the steps of the Senedd earlier and hear from them first-hand how greatly they value the Mon to Brec canal, how much it means to them, including people who live on canal barges, people who volunteer and do so much work to enhance and help develop that canal for all the communities that live along its route, to hear about its importance for heritage, for our industrial history, for nature, being that green artery through our communities.

Personally, I use the stretch at Newport. Although it's in my colleague Jane Bryant's constituency of Newport West rather than Newport East, I use it regularly. I run along the canal, I walk along the canal, I cycle along the canal. I've seen kingfishers, herons, nesting swans and a variety of wildfowl and many other species as well, testifying to its ecological and biodiversity importance.

We've heard so many compelling reasons in this debate, I think, haven't we, in terms of why we need to support this petition and ensure the future of that canal. One thing I'd like to add to that is the usage of the canalside. In Newport, for example, big social housing estates in Bettws and Malpas use that canalside to walk, to cycle into the city centre in Newport. Big sections of the population enhance their own everyday life experience by using the canal in that way.

A lot of the work to the canalside has been done by committed volunteers over very many years. If we're not to have that thriving canal with water along its route and make as much of it navigable as possible, then to get that enthusiasm, to get that commitment from volunteers is going to be considerably more difficult, I think. We need to support them in the work that they do that allows that artery, for health and well-being and active travel, to be available for substantial sections of our population along its route. It just has so much value in so many different ways, doesn't it? And we've heard powerful testament to that here today in this debate.

I really do hope that the Welsh Government can find a way, in working with partner organisations, to ensure that all the good work that's gone into enhancing and developing the Mon to Brec canal, over so many years, is not hindered and hampered by the difficulties that we've heard about in this debate today. We really do need to find a way to support the petitioners, understand the value of the canal, and make sure that it's not just preserved and protected, but it's enhanced for the future.

Roedd yn dda iawn siarad â deisebwyr ar risiau'r Senedd yn gynharach a chlywed ganddynt yn uniongyrchol cymaint y maent yn gwerthfawrogi camlas sir Fynwy a Brycheiniog, cymaint y mae'n ei olygu iddynt, gan gynnwys pobl sy'n byw ar gychod camlas, pobl sy'n gwirfoddoli ac yn gwneud cymaint o waith i wella a helpu i ddatblygu'r gamlas ar gyfer yr holl gymunedau sy'n byw ar hyd ei llwybr, a chlywed am ei phwysigrwydd i dreftadaeth, i'n hanes diwydiannol, i natur, fel rhydweli werdd trwy ein cymunedau.

Yn bersonol, rwy'n defnyddio'r rhan sydd yng Nghasnewydd. Er ei bod yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jane Bryant, Gorllewin Casnewydd yn hytrach na Dwyrain Casnewydd, rwy'n ei defnyddio'n rheolaidd. Rwy'n rhedeg ar hyd y gamlas, rwy'n cerdded ar hyd y gamlas, rwy'n beicio ar hyd y gamlas. Rwyf wedi gweld gleision y dorlan, crehyrod gleision, elyrch sy'n nythu ac amrywiaeth o adar gwyllt a llawer o rywogaethau eraill hefyd, sy'n tystio i'w phwysigrwydd ecolegol a'i bioamrywiaeth.

Clywsom gymaint o resymau cymhellol yn y ddadl hon, oni wnaethom, o ran pam y mae angen inni gefnogi'r ddeiseb hon a sicrhau dyfodol y gamlas. Un peth yr hoffwn ei ychwanegu at hynny yw'r defnydd o ochr y gamlas. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, mae ystadau tai cymdeithasol mawr ym Metws a Malpas yn defnyddio'r gamlas honno i gerdded, i feicio i ganol y ddinas yng Nghasnewydd. Mae rhannau mawr o'r boblogaeth yn gwella eu profiad bywyd bob dydd eu hunain trwy ddefnyddio'r gamlas yn y ffordd honno.

Mae llawer o'r gwaith ar ochr y gamlas wedi cael ei wneud gan wirfoddolwyr ymroddedig dros nifer fawr o flynyddoedd. Os nad ydym yn mynd i gael y gamlas ffyniannus honno gyda dŵr ar hyd ei llwybr a gwneud cymaint ohoni mor hawdd ei mordwyo â phosibl, mae cael y brwdfrydedd hwnnw, cael yr ymrwymiad hwnnw gan wirfoddolwyr yn mynd i fod yn llawer anos. Mae angen inni eu cefnogi yn y gwaith a wnânt sy'n caniatáu i'r rhydweli honno, ar gyfer iechyd a lles a theithio llesol, fod ar gael i rannau sylweddol o'n poblogaeth ar hyd ei llwybr. Mae ganddi gymaint o werth mewn cymaint o wahanol ffyrdd, onid oes? Ac rydym wedi clywed tystiolaeth bwerus o hynny yma heddiw yn y ddadl hon.

Rwy'n gobeithio'n fawr y gall Llywodraeth Cymru ddod o hyd i ffordd, trwy weithio gyda sefydliadau partner, o sicrhau nad yw'r holl waith da a wnaed ar wella a datblygu camlas sir Fynwy a Brycheiniog dros gymaint o flynyddoedd yn cael ei lesteirio a'i rwystro gan yr anawsterau y clywsom amdanynt yn y ddadl hon heddiw. Mae gwir angen inni ddod o hyd i ffordd o gefnogi'r deisebwyr, deall gwerth y gamlas, a gwneud yn siŵr ei bod nid yn unig yn cael ei chadw a'i diogelu, ond ei bod yn cael ei gwella ar gyfer y dyfodol.

16:25

In its two hundred and twenty-fifth year, it was a real joy to visit the Monmouth and Brecon canal, and I don't use the word 'joy' lightly. A lovely lady at the canal, who had significant caring responsibilities at home, told me that she felt an incredible sense of calm at the canal, and that was also my experience. There was some sort of tranquillity to the place. You felt better standing beside its still waters. The canal, as others have already said very eloquently, is far more than a man-made waterway. It's a home for some, and it was a pleasure to meet some of the barge owners who live on the canal. It's a business for others, and we had the opportunity to meet business owners who work on the canal itself and along the canal.

It's a place of leisure for many, and a location where nature thrives. It's such a shame, as others have already said, that the new licensing requirement for water abstraction is threatening all of this. People, as Jane Dodds has already said, are facing losing their homes, their jobs, their retreat from the strain of life. The current emergency water provisions are only a limited fix, as others have already said again, and this is coming at great expense to the charity responsible for the canal. It simply cannot last. It's diverting important resource away from the maintenance and the safety of the canal, canal users, and the safety of people who live alongside the canal.

The canal attracts millions of visitors each year and brings in a huge amount annually to local businesses. But walking around, you couldn't help but notice how nature was thriving there. You can read the figures, but you've got to go there to really experience it and marvel at how a man-made waterway has become such a beautiful part of the natural environment in that part of the world. Failing to protect this canal would be to lose a living piece of Welsh history. We have lost so many important signs of our past. We've lost the majority of the Glamorgan canal. But there is no reason why this canal cannot be saved. In fact, more than that, it needs to be saved. Its beauty and its tranquillity should be enjoyed for centuries to come.

The canal came into existence following a UK Act of Parliament. Today, the Petitions Committee, the petitioners themselves, and, it sounds, cross-party support across the Senedd, is asking the Welsh Government to step in, to work with others, and to preserve this incredible resource for future generations. Diolch yn fawr.

A hithau'n 225 oed, llawenydd go iawn oedd ymweld â chamlas sir Fynwy a Brycheiniog, ac nid wyf yn defnyddio'r gair 'llawenydd' yn ysgafn. Dywedodd dynes hyfryd wrth y gamlas, a oedd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol gartref, ei bod hi'n teimlo ymdeimlad anhygoel o dawelwch wrth y gamlas, a dyna oedd fy mhrofiad innau hefyd. Roedd rhyw dawelwch yn perthyn i'r lle. Roeddech chi'n teimlo'n well yn sefyll wrth ymyl ei dyfroedd llonydd. Mae'r gamlas, fel y mae eraill eisoes wedi dweud yn huawdl iawn, yn llawer mwy na dyfrffordd a adeiladwyd gan ddyn. Mae'n gartref i rai, ac roedd yn bleser cyfarfod â rhai o'r perchnogion cychod sy'n byw ar y gamlas. Mae'n fusnes i eraill, a chawsom gyfle i gyfarfod â pherchnogion busnesau sy'n gweithio ar y gamlas ei hun ac ar hyd y gamlas.

Mae'n lle ar gyfer hamdden i lawer, ac yn lleoliad lle mae natur yn ffynnu. Mae'n gymaint o drueni, fel y mae eraill eisoes wedi dweud, bod y gofyniad trwyddedu newydd ar gyfer echdynnu dŵr yn bygwth hyn i gyd. Fel y mae Jane Dodds eisoes wedi dweud, mae pobl yn wynebu colli eu cartrefi, eu swyddi, eu hencil rhag straen bywyd. Ateb cyfyngedig yw'r darpariaethau dŵr argyfwng presennol, fel y mae eraill eisoes wedi dweud unwaith eto, ac fe ddaw ar gost fawr i'r elusen sy'n gyfrifol am y gamlas. Ni all barhau. Mae'n dargyfeirio adnoddau pwysig i ffwrdd oddi wrth y gwaith cynnal a chadw, a diogelu'r gamlas, defnyddwyr y gamlas, a phobl sy'n byw wrth ymyl y gamlas.

Mae'r gamlas yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn dod â llawer iawn i fusnesau lleol bob blwyddyn. Ond wrth gerdded o gwmpas, ni allwch help ond sylwi sut oedd natur yn ffynnu yno. Gallwch ddarllen y ffigurau, ond mae'n rhaid i chi fynd yno i'w brofi mewn gwirionedd a rhyfeddu at y ffordd y mae dyfrffordd wedi'i hadeiladu gan ddyn wedi dod yn rhan mor brydferth o'r amgylchedd naturiol yn y rhan honno o'r byd. Byddai methu gwarchod y gamlas yn golygu colli darn byw o hanes Cymru. Rydym wedi colli cymaint o arwyddion pwysig o'n gorffennol. Rydym wedi colli'r rhan fwyaf o gamlas Morgannwg. Ond nid oes unrhyw reswm pam na ellir achub y gamlas hon. Yn fwy na hynny, mae angen ei hachub. Dylid mwynhau ei harddwch a'i thawelwch am ganrifoedd i ddod.

Daeth y gamlas i fodolaeth yn dilyn Deddf Seneddol y DU. Heddiw, mae'r Pwyllgor Deisebau, y deisebwyr eu hunain, ac yn ôl yr hyn a glywir, cefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Senedd, yn gofyn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn, i weithio gydag eraill, ac i gadw'r adnodd anhygoel hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr.

Dwi nawr yn galw ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

I now call on the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs, Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:29:22
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn. Can I just begin by thanking all those Members who have contributed to this very important debate today, and also those petitioners who added their name to the petition, and those who turned up today? I spoke to a few of them outside on the steps of the Senedd. It was a real delight to speak with them.

It is a very important debate, and everybody who's contributed to the debate today spoke with passion about the canal. And just to say, from a Welsh Government perspective, from a personal perspective as well, I recognise the Mon and Brec canal is vitally important for all of the reasons that have been outlined today: the people who live on it, who take their recreation alongside it; those who benefit from the tourism multipliers that come from it; but also the wildlife corridor that it is; and so many other benefits as well. We recognise that entirely. But also there's the cultural heritage that the canal represents as well. And I think the spirit that people have spoken with today, and which the petitioners have brought forward, echoes, I have to say, the original spirit of those pioneers who protected and safeguarded the current network of canals across the UK, which back in the postwar years seemed doomed to being, indeed, dry ditches—people like Tom Rolt and others, who literally put themselves in canals and paddled up waterways that were bogged down and were dirty and full with rubbish and weeds, and they reopened them year after year after year. So, that spirit is still going strong and I welcome that spirit.

Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw, a hefyd y deisebwyr a ychwanegodd eu henw at y ddeiseb, a'r rhai a ddaeth yma heddiw? Siaradais â rhai ohonynt y tu allan ar risiau'r Senedd. Roedd yn bleser cael siarad â hwy.

Mae'n ddadl bwysig iawn, ac mae pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw wedi siarad gydag angerdd am y gamlas. Ac o safbwynt Llywodraeth Cymru, o safbwynt personol hefyd, rwy'n cydnabod bod camlas sir Fynwy a Brycheiniog yn hanfodol bwysig am yr holl resymau a nodwyd heddiw: y bobl sy'n byw arni, y rhai sy'n treulio'u hamser hamdden wrthi; y rheini sy'n elwa o'r buddion twristiaeth a ddaw ohoni; ond hefyd y ffordd y mae'n goridor bywyd gwyllt; a chymaint o fuddion eraill hefyd. Rydym yn cydnabod hynny'n llwyr. Ond hefyd mae'r dreftadaeth ddiwylliannol y mae'r gamlas yn ei chynrychioli. Ac rwy'n credu bod yr ysbryd y mae pobl wedi'i ddangos wrth siarad heddiw, ac y mae'r deisebwyr wedi'i ddangos, yn adleisio ysbryd gwreiddiol yr arloeswyr a ddiogelodd y rhwydwaith presennol o gamlesi ledled y DU, a oedd yn ôl yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel yn ymddangos fel pe baent wedi eu tynghedu i fod yn ffosydd sych—pobl fel Tom Rolt ac eraill, a oedd yn llythrennol yn mynd i mewn i gamlesi ac yn padlo ar hyd dyfrffyrdd budron, yn llawn o sbwriel a chwyn, gan eu hailagor flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, mae'r ysbryd hwnnw'n dal yn gryf ac rwy'n croesawu hynny.

And I recognise this very well as well, because, of course, I was the former Department for Environment, Food and Rural Affairs Minister with responsibility for canals and waterways. It's important to mention that, because one character that hasn't been mentioned within this today is actually the role not just of Welsh Government but of UK Government. I was the canals and waterways Minister in the UK Government. Now, we have responsibilities here in Wales, but there are also responsibilities for the UK Government, so I think in the way forward, we need to think about bringing all the players together—all of the players together—to actually look at the solutions, and I'll touch on that in a moment.

Can I say as well that I know this canal very well? I know it intimately. I've literally paddled every stretch of this in my Canadian canoe. I've walked and cycled it. I've camped along it. I've stayed in the hostelries along it. I know it very well. I've used the canal boats alongside it as well, over many years. It is a great asset and we do need to protect it.

But what this fundamentally comes down to is that the canal relies on a sufficient supply of water to function. This is industrial heritage, but it's now actually a modern tourism and recreational facility as well. It requires water to function. Now, for many years, as has been pointed out, the canal's operators, the Canal and River Trust, abstracted from the River Usk to maintain this supply. However, in 2018, NRW removed the abstraction licence exemptions for navigation purposes to ensure that the licences complied with environmental directives, such as the habitats directive. And just to remind Members, the habitats directive is very important. It is designed to protect special areas of conservation, as you were saying earlier on there, like the River Usk. I've been on that River Usk, actually working on the improvements. The money that we're putting into the improvements on that from the top of the catchment to the lower—. I don't think anybody in here is saying we shouldn't be looking after the River Usk. We have to do that as well, and the habitats directive is important. So, actually, James, the idea of suspending this and going backwards and saying, 'Well, that doesn't matter for another 12 months or two years or three years'—I don't think you'll find support across the Chamber for doing that. However, there is a way forward.

Now, James and Peter, and all those who contributed, can I just say, if there was an easy answer, we'd have done it already? It isn't an easy answer. What this will require is bringing people around the table together and looking at solutions that we can devise together. And this will require putting heads together of all the players within this space, which I'll come to in a moment. But there are fundamental issues facing the canal, which require long-term solutions. With those 14,000 petitioners, I understand fully the strength of feeling that's arisen because of these challenges, but I think those people who attended, the petitioners that I spoke to on the steps, will want us to actually—. The leadership that is needed is actually to bring people together and look for those solutions, not simply to point fingers at one person or another. Let's work together and find the solutions in a very Welsh way.

So, I just want to reassure the Senedd that the Welsh Government is fully committed to enabling a workable solution, and my thanks to those who've already come together on this issue, including somebody who hasn't been able to speak in this debate yet, which is my friend, the Member for Torfaen, who with others—council leaders, and some of the people I suspect who were involved in the petition, but actually others, and also the agencies, with our support—came together to explore some of those solutions already and we were pleased to have the read-out from that meeting. But we've also been working on this as well. So, I share this common goal of supporting the canal whilst addressing also the urgent environmental challenges—and these are urgent, James—that threaten the ecological status of the River Usk. Just pocket that for a moment, because it's not one or the other; we need to find the solutions for the canal whilst also protecting the ecological status of the Usk and the temporary fluctuations in nutrients do not mean that the trend is upwards. There is a lot of work to do on the Usk. James. 

Ac rwy'n cydnabod hyn yn dda iawn hefyd, oherwydd rwy'n gyn Weinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gyda chyfrifoldeb am gamlesi a dyfrffyrdd. Mae'n bwysig sôn am hynny, oherwydd un cymeriad sydd heb ei grybwyll yn hyn heddiw yw rôl nid yn unig Llywodraeth Cymru ond Llywodraeth y DU. Roeddwn i'n Weinidog camlesi a dyfrffyrdd yn Llywodraeth y DU. Nawr, mae gennym gyfrifoldebau yma yng Nghymru, ond mae yna gyfrifoldebau hefyd i Lywodraeth y DU, felly ar gyfer y ffordd ymlaen, rwy'n credu bod angen inni feddwl am ddod â'r holl weithredwyr at ei gilydd—pob un o'r gweithredwyr at ei gilydd—i edrych ar yr atebion, ac fe ddof at hynny mewn eiliad.

A gaf i ddweud hefyd fy mod i'n adnabod y gamlas hon yn dda? Rwy'n ei hadnabod yn dda iawn. Rwy'n llythrennol wedi padlo pob darn ohoni yn fy nghanŵ Canada. Rwyf wedi cerdded a beicio ar hyd-ddi. Rwyf wedi gwersylla ar hyd-ddi. Rwyf wedi aros mewn darpariaethau llety ar hyd-ddi. Rwy'n ei hadnabod yn dda iawn. Rwyf wedi defnyddio'r cychod camlas arni hefyd, dros nifer o flynyddoedd. Mae'n ased gwych ac mae angen i ni ei diogelu.

Ond yn sylfaenol, yr hyn mae'n ei olygu yw bod y gamlas yn dibynnu ar gyflenwad digonol o ddŵr i weithredu. Mae'n ddarn o'n treftadaeth ddiwydiannol, ond mae bellach yn gyfleuster twristiaeth a hamdden modern hefyd. Mae angen dŵr arni i weithredu. Nawr, ers blynyddoedd lawer, fel y nodwyd, mae gweithredwyr y gamlas, Glandŵr Cymru, wedi bod yn tynnu dŵr o afon Wysg i gynnal y cyflenwad hwn. Fodd bynnag, yn 2018, fe wnaeth CNC ddileu'r eithriadau i'r drwydded tynnu dŵr at ddibenion mordwyo er mwyn sicrhau bod y trwyddedau'n cydymffurfio â chyfarwyddebau amgylcheddol, fel y gyfarwyddeb cynefinoedd. Ac i atgoffa'r Aelodau, mae'r gyfarwyddeb cynefinoedd yn bwysig iawn. Fe'i cynlluniwyd i ddiogelu ardaloedd cadwraeth arbennig fel afon Wysg, fel roeddech chi'n dweud yn gynharach. Rwyf wedi bod ar afon Wysg, yn gweithio ar y gwelliannau. Yr arian a roddwn i'r gwelliannau ar hynny o ben uchaf y dalgylch i'r pen isaf—. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yma'n dweud na ddylem ofalu am afon Wysg. Rhaid inni wneud hynny hefyd, ac mae'r gyfarwyddeb cynefinoedd yn bwysig. Felly, mewn gwirionedd, James, y syniad o atal hyn a mynd tuag yn ôl a dweud, 'Wel, nid oes ots am 12 mis arall neu ddwy flynedd neu dair blynedd'—nid wyf yn credu y dowch o hyd i gefnogaeth i hynny ar draws y Siambr. Fodd bynnag, mae yna ffordd ymlaen.

Nawr, James a Peter, a phawb a gyfrannodd, pe bai ateb hawdd i'w gael, byddem wedi ei wneud eisoes. Nid yw'n ateb hawdd. Yr hyn y bydd ei angen yw dod â phobl gyda'i gilydd o gwmpas y bwrdd ac edrych ar atebion y gallwn eu dyfeisio gyda'n gilydd. A bydd hyn yn galw am roi pennau'r holl weithredwyr at ei gilydd, ac fe ddof at hynny mewn eiliad. Ond mae yna broblemau sylfaenol yn wynebu'r gamlas, ac sy'n galw am atebion hirdymor. Gyda'r 14,000 o ddeisebwyr, rwy'n deall yn iawn pa mor gryf yw'r teimlad sydd wedi codi yn sgil yr heriau hyn, ond rwy'n credu y bydd y bobl a fynychodd, y deisebwyr y siaradais â hwy ar y grisiau, eisiau inni—. Yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i ddod â phobl at ei gilydd a chwilio am yr atebion hynny, nid dim ond pwyntio bysedd at un person neu'r llall. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd a dod o hyd i'r atebion mewn ffordd Gymreig iawn.

Felly, rwyf am roi sicrwydd i'r Senedd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i alluogi ateb ymarferol, a diolch i'r rhai sydd eisoes wedi dod at ei gilydd ar hyn, gan gynnwys rhywun nad yw wedi gallu siarad yn y ddadl hon eto, sef fy nghyfaill, yr Aelod dros Torfaen, sydd gydag eraill—arweinwyr cyngor, a rhai o'r bobl y tybiaf eu bod yn gysylltiedig â'r ddeiseb, ac eraill, a hefyd yr asiantaethau, gyda'n cefnogaeth ni—wedi dod at ei gilydd i archwilio rhai o'r atebion hynny eisoes ac roeddem yn falch o gael y darlleniad o'r cyfarfod hwnnw. Ond rydym ni wedi bod yn gweithio ar hyn hefyd. Felly, rwy'n rhannu'r nod cyffredin o gefnogi'r gamlas gan fynd i'r afael ar yr un pryd â'r heriau amgylcheddol brys—ac mae brys amdanynt, James—sy'n bygwth statws ecolegol afon Wysg. Os cawn oedi gyda hynny am eiliad, oherwydd nid yw'n un neu'r llall; mae angen inni ddod o hyd i'r atebion ar gyfer y gamlas gan ddiogelu statws ecolegol afon Wysg ar yr un pryd ac nid yw'r amrywiadau dros dro mewn maethynnau'n golygu bod y duedd ar i fyny. Mae llawer o waith i'w wneud ar afon Wysg. James. 

16:35

I'd just like to correct you. I never once said that we should trade one off against the other, I said that they should be worked at together. Just to correct what you said. 

Rwyf am eich cywiro. Ni ddywedais y dylem osod un yn erbyn y llall, fe ddywedais y dylid gweithio ar y ddau beth gyda'i gilydd. Os caf gywiro'r hyn a ddywedoch chi. 

Indeed, but you did suggest suspending this for a year. 

Yn wir, ond fe wnaethoch chi awgrymu y dylid atal hyn am flwyddyn.

This is not a conversation, this is a debate. 

Nid sgwrs yw hon, dadl yw hi.

Look, I share the common goal that we're trying to strive towards. It's very important to note that many of the potential solutions may primarily fall within the remit of several actors directly involved in the management of the canal and its historic infrastructure. 

So, just to outline this: the general management of the canal network lies with the Canal and River Trust, and my thanks for a conversation—

Edrychwch, rwy'n rhannu'r nod cyffredin yr ydym yn ymdrechu tuag ato. Mae'n bwysig iawn nodi y gall llawer o'r atebion posibl fodoli'n bennaf o fewn cylch gwaith sawl gweithredwr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli'r gamlas a'i seilwaith hanesyddol. 

Felly, i nodi hyn: mae rheolaeth gyffredinol y rhwydwaith camlesi yn nwylo Glandŵr Cymru, a diolch am sgwrs—

No, I don't think that the Deputy First Minister has got time. He is over time already. So, I'm asking him to look to conclude, please, Deputy First Minister. 

Na, nid wyf yn credu bod amser gan y Dirprwy Brif Weinidog. Mae ei amser ar ben eisoes. Felly, rwy'n gofyn iddo ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Brif Weinidog. 

Sorry. Crikey. Okay. Sorry, my apologies, I thought I had more time. My apologies. Okay, some of those players will be the Canal and River Trust, the UK Government, local authorities along the canal, Natural Resources Wales. Other agencies will need to be brought together. I've held several meetings over recent months to better understand the challenges that the canal faces, to understand what might be in scope as possible solutions. The committee will be aware of some of the first positive steps towards this goal, with the temporary solution, a short-term solution to supply the canal with additional water over the coming year. This is a lifeline for now and, although we're not involved in these commercial negotiations, we're pleased to hear of this short-term solution. But also there are discussions ongoing on other solutions as well, with Dŵr Cymru and the canal. And I met last month with Natural Resources Wales and Dŵr Cymru to listen to further ideas and possible longer term solutions.

But the way that we take this ahead—. I fully support the intention behind the petition. So, I just want to reassure Members that Welsh Government is actively engaged with finding a solution and facilitating that broader dialogue with key partners, which is crucial. So, I am meeting with local authorities and other political representatives and agencies imminently—and I mean imminently—to discuss and to scope out next steps, and I'm happy to issue a further update to Members once a way forward has been agreed. We all want the canal to prosper, but we want the Usk to prosper too. So, we've got to find a solution that's workable and sustainable for the people of Wales now and for the future as well, and this will require balancing support for the canal with addressing the urgent environmental challenges that threaten the ecological status of the River Usk. But thank you to all of the petitioners, all of the Members who have spoken today. Let's see if we can work together to find a solution that is sustainable and for the long term. Diolch yn fawr.

Mae'n ddrwg gennyf. Mawredd. O'r gorau. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n meddwl bod gennyf fwy o amser. Mae'n ddrwg gennyf. Iawn, rhai o'r gweithredwyr hynny fydd Glandŵr Cymru, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol ar hyd y gamlas, Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd angen dod ag asiantaethau eraill at ei gilydd. Rwyf wedi cynnal sawl cyfarfod dros y misoedd diwethaf i ddeall yn well yr heriau y mae'r gamlas yn eu hwynebu, i ddeall beth allai fod yn bosibl fel atebion posibl. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol o rai o'r camau cadarnhaol cyntaf tuag at y nod hwn, gyda'r ateb dros dro, ateb yn y tymor byr i gyflenwi'r gamlas â dŵr ychwanegol dros y flwyddyn i ddod. Mae hon yn rhaff achub ar hyn o bryd ac er nad ydym yn rhan o'r trafodaethau masnachol hyn, rydym yn falch o glywed am yr ateb tymor byr hwn. Ond mae trafodaethau ar y gweill hefyd ar atebion eraill, gyda Dŵr Cymru a'r gamlas. A fis diwethaf, cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i wrando ar syniadau pellach ac atebion posibl mwy hirdymor.

Ond y ffordd y gwnawn fwrw ymlaen â hyn—. Rwy'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r ddeiseb yn llawn. Felly, rwyf am roi sicrwydd i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn bwrw iddi'n weithredol i ddod o hyd i ateb a hwyluso deialog ehangach gyda phartneriaid allweddol, sy'n hanfodol. Felly, rwy'n cyfarfod ag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr ac asiantaethau gwleidyddol eraill yn fuan—ac rwy'n golygu'n fuan—i drafod a chwmpasu'r camau nesaf, ac rwy'n hapus i gyhoeddi diweddariad pellach i'r Aelodau pan fydd ffordd ymlaen wedi'i chytuno. Rydym i gyd eisiau i'r gamlas ffynnu, ond rydym eisiau i afon Wysg ffynnu hefyd. Felly, mae'n rhaid inni ddod o hyd i ateb sy'n ymarferol ac yn gynaliadwy i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol, a bydd angen cydbwyso cefnogaeth i'r gamlas â goresgyn yr heriau amgylcheddol brys sy'n bygwth statws ecolegol afon Wysg. Ond diolch i'r holl ddeisebwyr, yr holl Aelodau sydd wedi siarad heddiw. Gadewch inni weld a allwn weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb sy'n gynaliadwy ac yn hirdymor. Diolch yn fawr.

Dwi nawr yn galw ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl. 

I now call on Carolyn Thomas to reply to the debate. 

I'd like to thank Members for their contributions. I'm not going to go through them all, because I know that time is limited and we've taken longer than was allocated for this, but I think that it was really important as well, so thank you. I'd like to thank the Cabinet Secretary for his response, and I'm delighted that the Deputy First Minister has already invited stakeholders to get around the table and work together to find a solution. Those stakeholders: NRW, Dŵr Cymru Welsh Water, CRT, local authorities—we need to include the users, the commercial operators group, the group as well. They need to be a part of that stakeholder group, please, as well.

I'd just like to say that CRT managed the water themselves before they were told that they couldn't extract. So, when the water levels were low, they closed the gates and they managed it. So, I really hope that they can come together and find a solution, but thank you for the leadership. You were right as well; I received a letter from the MP Ruth Jones to the Welsh Affairs Select Committee asking what they're going to do about it, because it's cross-government. Some 20 per cent of CRT funding comes from DEFRA. I hope that when the committee comes to reconsider the petition after the summer recess, we will be able to tell everyone who lives, works, relaxes and enjoys the canal that a way has been found to preserve and protect the Mon and Brec. 

The canal has survived 200 years of tumultuous history, and given the passion of the stakeholders—and many are here today; thank you for your efforts in bringing it to our attention and for all the work you've done—and the strong desire of everyone here to preserve and protect a special place, it should not be beyond us to find new ways to ensure that it can continue to thrive for 200 years more. Diolch. Thank you.

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Nid wyf am fynd trwyddynt i gyd, oherwydd rwy'n gwybod bod amser yn brin a'n bod wedi cymryd mwy o amser nag a ddyrannwyd ar gyfer hyn, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn hefyd, felly diolch. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, ac rwy'n falch iawn fod y Dirprwy Brif Weinidog eisoes wedi gwahodd rhanddeiliaid i ddod o gwmpas y bwrdd a gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ateb. Y rhanddeiliaid hynny: CNC, Dŵr Cymru, Glandŵr Cymru, awdurdodau lleol—mae angen inni gynnwys y defnyddwyr, y grŵp gweithredwyr masnachol, y grŵp hefyd. Mae angen iddynt fod yn rhan o'r grŵp rhanddeiliaid hwnnw hefyd, os gwelwch yn dda.

Roedd Glandŵr Cymru yn rheoli'r dŵr eu hunain cyn iddynt gael gwybod na chaent dynnu dŵr. Pan oedd y lefelau dŵr yn isel, fe wnaethant gau'r gatiau ac fe wnaethant ei reoli. Felly, rwy'n gobeithio y gallant ddod at ei gilydd a dod o hyd i ateb, ond diolch am yr arweinyddiaeth. Roeddech chi'n iawn hefyd; fe gefais lythyr gan Ruth Jones AS at y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn gofyn beth y maent hwy'n mynd i wneud am y peth, oherwydd mae'n drawslywodraethol. Daw tua 20 y cant o gyllid Glandŵr Cymru gan DEFRA. Pan ddaw'n bryd i'r pwyllgor ailystyried y ddeiseb ar ôl toriad yr haf, rwy'n gobeithio y gallwn ddweud wrth bawb sy'n byw, yn gweithio, yn ymlacio yn ymyl y gamlas, ac yn ei mwynhau, fod ffordd wedi'i darganfod i warchod a diogelu camlas sir Fynwy a Brycheiniog. 

Mae'r gamlas wedi goroesi 200 mlynedd o hanes cythryblus, ac o ystyried angerdd y rhanddeiliaid—ac mae llawer ohonynt yma heddiw; diolch am eich ymdrechion i'w dynnu i'n sylw ac am yr holl waith a wnaethoch—ac awydd cryf pawb yma i gadw a diogelu man arbennig, ni ddylai fod y tu hwnt i'n gallu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau y gall barhau i ffynnu am 200 mlynedd arall. Diolch. 

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to note the petition. Does any Member object? There is no objection. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

8. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Yr Economi Sylfaenol'
8. Debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee Report, 'The Foundational Economy'

Fe symudwn ni nawr ymlaen at eitem 8, sef dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Yr Economi Sylfaenol'. A dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.

We'll move on to item 8, which is the debate on the Economy, Trade and Rural Affairs Committee report, 'The Foundational Economy'. And I call on the Chair of the committee to move the motion—Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM8951 Andrew Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2025.

Motion NDM8951 Andrew Davies

To propose that the Senedd:

Notes the report of the Economy, Trade and Rural Affairs Committee on the Foundational Economy, which was laid in the Table Office on 17 April 2025, and on which the Welsh Government laid its response on 2 July 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Thank you, acting Presiding Officer, and I formally move the motion standing in my name on the order paper this afternoon. I'd like to start this afternoon by noting that this piece of work predates my time as Chair of the committee, so I'd like to put on record my thanks to your good self, acting Presiding Officer, for the work you did when you chaired the committee and all the work that you undertook on this particular inquiry.

The foundational economy, as Members here will know, includes hairdressers, GPs, care workers and the people who work in our local shops, et cetera—in short, 60 per cent of businesses that are headquartered here in Wales. These are jobs that you will find in every community across Wales with foundational economy workers providing vital services to their friends and neighbours. They are the jobs that are hard to outsource or offshore and create the backbone of our economy and represent 40 per cent of the workforce. But most people working in the foundational economy probably have no idea that they are. I think if you spoke to someone in the barbers or in the GP waiting room and you told them, 'I've just read a fantastic report that the Senedd economy committee have just put together on the foundational economy'— thank you, Hefin, for nodding in agreement—their first question would be, 'What is the content? What is it about? What is the foundational economy?' And that's not an unreasonable question. That is why part of our first recommendation is that the Welsh Government must work with practitioners to create a simple one-line definition to increase awareness of the foundational economy, and I am pleased to say the Welsh Government accepted this recommendation.

The foundational economy is an area that is often overlooked by policy makers. It does not attract as much attention from politicians or from policy makers as some other parts of the economy. The foundational economy gets on with it—and despite Government, as opposed to being accelerated by Government. That said, the foundational economy has been part of the Welsh Government's approach to economic development for nearly 10 years.

In its latest economic mission the Welsh Government commits to strengthening the foundational economy. To achieve its aims, the Welsh Government must take evidence-based practical steps and turn ambition into reality. This report contains 10 recommendations that will support that goal. The committee heard about some great examples of best practice when gathering its evidence. For example, Members heard about the work done by Castell Howell and others to support children to eat more Welsh-produced vegetables in schools and to create sustainable, locally sourced menus for conferences. They also heard about Aneurin Bevan health board's grow-your-own approach to recruitment, where the health board is finding people in their local community with the right attitude, the right outlook and who want a job supporting their friends and neighbours. These people may not have the qualifications and that creates a barrier; a problem for the individual who can't work where they would like, and a problem for the health board who can't recruit to fill the vacancy. So, instead of trying to attract workers from elsewhere to fill the need, the health board is training them up.

Recommendations 2 to 5 are aimed at ensuring the Welsh Government is in a position to identify, promote and support these and other good practices occurring across Wales. These include developing key performance indicators that will help Welsh Government achieve these aims, supporting the bottom-up development of the foundational economy interventions and ensuring it replicates best practice from other cross-cutting policy areas in its approach to the foundational economy, using this to assess how well organisations are meeting foundational economy goals. I am also pleased to say the Welsh Government accepted these recommendations. We're doing a lot better than last week's report, Minister; well done. [Laughter.]

Recommendation 6 is the call on Welsh Government to outline how it will improve the long-term financial support available to successful foundational economy initiatives, and I am pleased to say that this was accepted. 

Recommendations 7 and 8 are based around the use of the Welsh public sector pound to support the foundational economy in improving procurement methods. Again, both these were accepted. I particularly look forward to seeing how the Welsh Government uses its powers under recent procurement legislation to support small businesses.

Recommendation 9 is designed to replicate the successful grow-your-own workforce initiatives the committee heard about. This too was accepted.

Finally, recommendation 10 was aimed at the Welsh Government using its devolved levers to improve terms and conditions in the public and private sectors. One of the challenges for the foundational economy is that some of these jobs are often low quality or low pay. Improving the quality of the jobs in the foundational economy will greatly improve the life of many people here in Wales. This recommendation was only accepted in principle, so I'd be interested to see what the Government proposes to do in this area.

I thank the Cabinet Secretary for her positive response to this report and our recommendations. I now hope that the Cabinet Secretary will put these recommendations into practice to help our foundational economy thrive, and to improve the lives of the people of Wales. I look forward to the contributions from Members today and from the Cabinet Secretary. Thank you, acting Presiding Officer.

Diolch, Lywydd dros dro, ac rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol yn fy enw ar y papur trefn y prynhawn yma. Hoffwn ddechrau y prynhawn yma trwy nodi bod y gwaith hwn yn rhagflaenu fy nghyfnod i fel Cadeirydd y pwyllgor, felly hoffwn gofnodi fy niolch i chi, Lywydd dros dro, am y gwaith a wnaethoch pan oeddech chi'n cadeirio'r pwyllgor a'r holl waith a wnaethoch ar yr ymchwiliad penodol hwn.

Fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, mae'r economi sylfaenol yn cynnwys trinwyr gwallt, meddygon teulu, gweithwyr gofal a'r bobl sy'n gweithio yn ein siopau lleol, ac ati—yn fyr, 60 y cant o'r busnesau sydd â'u pencadlys yma yng Nghymru. Dyma'r swyddi a welwch ym mhob cymuned ledled Cymru gyda gweithwyr yr economi sylfaenol yn darparu gwasanaethau hanfodol i'w ffrindiau a'u cymdogion. Dyma'r swyddi sy'n anodd eu hallanoli neu eu tramori a hwy sy'n creu asgwrn cefn ein heconomi ac yn cynrychioli 40 y cant o'r gweithlu. Ond mae'n debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn yr economi sylfaenol unrhyw syniad eu bod yn gwneud hynny. Pe baech chi'n siarad â rhywun yn siop y barbwr neu yn ystafell aros y feddygfa leol ac yn dweud wrthynt, 'Rwyf newydd ddarllen adroddiad gwych y mae pwyllgor economi'r Senedd newydd ei roi at ei gilydd ar yr economi sylfaenol'—diolch, Hefin, am nodio mewn cytundeb—eu cwestiwn cyntaf fyddai, 'Beth yw'r cynnwys? Am beth y mae'n sôn? Beth yw'r economi sylfaenol?' Ac nid yw hwnnw'n gwestiwn afresymol. Dyna pam y mae rhan o'n hargymhelliad cyntaf yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag ymarferwyr i greu diffiniad un frawddeg syml i gynyddu ymwybyddiaeth o'r economi sylfaenol, ac rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Mae'r economi sylfaenol yn faes sy'n aml yn cael ei anwybyddu gan lunwyr polisi. Nid yw'n denu cymaint o sylw gwleidyddion neu wneuthurwyr polisi â rhannau eraill o'r economi. Mae'r economi sylfaenol yn bwrw ymlaen â phethau—ac er gwaethaf y Llywodraeth, yn hytrach na chael ei chyflymu gan y Llywodraeth. Wedi dweud hynny, mae'r economi sylfaenol wedi bod yn rhan o ddull Llywodraeth Cymru o weithredu ar ddatblygu economaidd ers bron i 10 mlynedd.

Yn ei chenhadaeth economaidd ddiweddaraf mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i gryfhau'r economi sylfaenol. Er mwyn cyflawni ei nodau, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a throi uchelgais yn realiti. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys 10 argymhelliad a fydd yn cefnogi'r nod hwnnw. Clywodd y pwyllgor am enghreifftiau gwych o arfer gorau wrth gasglu ei dystiolaeth. Er enghraifft, clywodd yr Aelodau am y gwaith a wnaed gan Castell Howell ac eraill i gynorthwyo plant i fwyta mwy o lysiau a gynhyrchir yng Nghymru mewn ysgolion ac i greu bwydlenni cynaliadwy, lleol ar gyfer cynadleddau. Clywsant hefyd am ddull 'tyfu eich hun' bwrdd iechyd Aneurin Bevan o recriwtio, lle mae'r bwrdd iechyd yn dod o hyd i bobl yn eu cymuned leol gyda'r agwedd gywir ac sydd eisiau swydd sy'n cefnogi eu ffrindiau a'u cymdogion. Efallai nad yw'r cymwysterau gan y bobl hyn ac mae hynny'n creu rhwystr; problem i'r unigolyn nad yw'n gallu gweithio lle mae'n dymuno gweithio, a phroblem i'r bwrdd iechyd nad yw'n gallu recriwtio i lenwi'r swydd wag. Felly, yn hytrach na cheisio denu gweithwyr o fannau eraill i ateb yr angen, mae'r bwrdd iechyd yn eu hyfforddi.

Nod argymhellion 2 i 5 yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i nodi, hyrwyddo a chefnogi'r arferion da hyn ac arferion da eraill sy'n digwydd ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu dangosyddion perfformiad allweddol a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r nodau hyn, cefnogi datblygiad ymyriadau'r economi sylfaenol o'r gwaelod i fyny a sicrhau ei bod yn ailadrodd arferion gorau o feysydd polisi trawsbynciol eraill yn ei dull o weithredu ar yr economi sylfaenol, gan ddefnyddio hyn i asesu pa mor dda y mae sefydliadau yn cyflawni nodau'r economi sylfaenol. Rwy'n falch o ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn. Rydym yn gwneud yn llawer gwell nag adroddiad yr wythnos diwethaf, Weinidog; da iawn. [Chwerthin.]

Argymhelliad 6 yw'r alwad ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn gwella'r cymorth ariannol hirdymor sydd ar gael i fentrau economi sylfaenol llwyddiannus, ac rwy'n falch o ddweud bod hwn wedi'i dderbyn. 

Mae argymhellion 7 ac 8 yn seiliedig ar y defnydd o bunt y sector cyhoeddus yng Nghymru i gynorthwyo'r economi sylfaenol i wella dulliau caffael. Unwaith eto, derbyniwyd y ddau argymhelliad. Edrychaf ymlaen yn arbennig at weld sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau o dan y ddeddfwriaeth gaffael yn ddiweddar i gefnogi busnesau bach.

Mae argymhelliad 9 wedi'i gynllunio i ailadrodd y mentrau 'tyfu eich hun' llwyddiannus ar gyfer y gweithlu y clywodd y pwyllgor amdanynt. Derbyniwyd hwn hefyd.

Yn olaf, nod argymhelliad 10 oedd sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'i hysgogiadau datganoledig i wella telerau ac amodau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Un o'r heriau i'r economi sylfaenol yw bod rhai o'r swyddi hyn yn aml o ansawdd gwael neu ar gyflogau isel. Bydd gwella ansawdd y swyddi yn yr economi sylfaenol yn gwella bywydau llawer o bobl yma yng Nghymru yn fawr. Dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad hwn, felly hoffwn weld beth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yn y maes hwn.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb cadarnhaol i'r adroddiad hwn ac i'n hargymhellion. Rwy'n gobeithio nawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r argymhellion hyn ar waith i helpu ein heconomi sylfaenol i ffynnu, ac i wella bywydau pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet heddiw. Diolch, Lywydd dros dro.

16:45

Diolch i ti, Llywydd dros dro.

Thank you, temporary Presiding Officer.

And my thanks to Andrew R.T. Davies and, indeed, to you, Paul Davies, as Chair of the committee during this inquiry, to all of the witnesses who gave evidence, and to the committee clerking team for bringing this together. It is a lean report; I have it in my hand. And as Andrew R.T. Davies referred to, we're in a better place this week than with our previous report last week, with recommendations being accepted or accepted in principle by the Government, which is to be welcomed.

The first recommendation may sound technical—adopting Professor Karel Williams's dual definition. And didn't Professor Karel Williams give some colourful evidence to us at some points? Looking at Luke Fletcher, it's the first time that I've ever heard swear words in a committee session, by Professor Karel Williams. But he really sold the reasons behind it. It was actually very forceful evidence from Professor Williams. Indeed, his dual definition, which includes both essential local services, like care, utilities and housing, and also broader well-being factors, such as affordable essentials, social infrastructure and climate resilient enterprise, that clarity over what counts as the foundational economy, means that a care co-operative in Saundersfoot, through to a builder in Whitland, can all see themselves in Government policy, rather than wondering where they fit in the box. I'm pleased that Ministers have accepted this outright and that the new definition went live in April.

The second recommendation presses for hard-edged metrics and a delivery plan. Indeed, I really love a key performance indicator. Government has accepted this in principle and promised a prospectus in the first quarter of 2026—not that there's anything else happening in 2026. The document must move beyond warm words to those measurable targets that I mentioned, such as local spend retained, real living wage accreditations achieved, carbon saved—just some examples. Because rural constituencies like mine, Carmarthen West and South Pembrokeshire, can't afford just another strategy that is glossy in itself, but just gathers dust on a shelf.

Recommendation 3 champions bottom-up, quote, 'alliances of the willing', a term that we heard quite often from Professor Williams in his evidence—giving local innovators the freedom to try ideas first and report later. Government's acceptance here, and its pledge to scale up the community of practice model tested in the food sector, is very good news.

Another point was that the prescriptive nature of grants sometimes is a difficulty. That was evidence given to us. How narrow certain grants can be means that, actually, that money, if it's grant money, could be better spent if it was given without some sort of constrictions on it, because those on the ground know how best to spend that money, because they're the ones in the thick of it. So, sometimes, the prescriptive nature of grants isn't always what's best, in terms of returning value for the taxpayer.

We also urge Ministers, in recommendation 5, to put every evaluation in one place, so that successes can be copied quickly rather than rediscovered slowly. This has been agreed, and a dedicated web page, backed by resources from Cynnal Cymru, is now live, which we welcome. For a small business trying to navigate funding streams, having a single knowledge hub is really vital.

Finally, Llywydd dros dro, recommendation 7 tackles procurement, something that we've discussed in a number of our committee inquiries. It is the engine that can keep the Welsh pound, as the Chair of the committee mentioned, circulating in Welsh towns. Supplier roadshows this spring, and a second foundational economy expo in the autumn, are steps in the right direction. But the real prize lies in using the procurement and social partnership Act to look beyond the lowest price and towards social value. That must translate into contracts for businesses and people in Wales.

Llywydd dros dro, the foundational economy is not a policy theory. It is the everyday fabric of our communities. Indeed, I didn't quite understand what the foundational economy meant, because I looked at that terminology and I thought: is that building, because of foundations? But it's such a broad definition that, actually, this inquiry has been a lot of learning for me, in my role, and it's something that I really welcome.

The Government's constructive response is encouraging, but, as always, the proof will be in the pudding and delivery will be the real test. The committee will watch this progress, and I will keep beating the drum for the small businesses rooted in our communities who help prop up our economy. Diolch, Llywydd dros dro.

A diolch i Andrew R.T. Davies, ac yn wir, i chi, Paul Davies, fel Cadeirydd y pwyllgor dros yr ymchwiliad hwn, i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth, ac i dîm clercio'r pwyllgor am ddod â hyn at ei gilydd. Nid yw'n adroddiad swmpus; mae gennyf yn fy llaw. Ac fel y nododd Andrew R.T. Davies, rydym mewn lle gwell yr wythnos hon nag oeddem gyda'n hadroddiad blaenorol yr wythnos diwethaf, gydag argymhellion wedi eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Llywodraeth, sydd i'w groesawu.

Efallai fod yr argymhelliad cyntaf yn swnio'n dechnegol—gan fabwysiadu diffiniad deuol yr Athro Karel Williams. Ac oni roddodd yr Athro Karel Williams dystiolaeth liwgar i ni ar rai pwyntiau? Gan edrych ar Luke Fletcher, dyma'r tro cyntaf erioed imi glywed geiriau rheg mewn sesiwn pwyllgor, gan yr Athro Karel Williams. Ond gwerthodd y rhesymau y tu ôl iddo mewn gwirionedd. Roedd yn dystiolaeth rymus iawn gan yr Athro Williams. Yn wir, mae ei ddiffiniad deuol, sy'n cynnwys gwasanaethau lleol hanfodol, fel gofal, cyfleustodau a thai, a hefyd ffactorau lles ehangach, megis hanfodion fforddiadwy, seilwaith cymdeithasol a mentrau sy'n gwrthsefyll newid hinsawdd, yr eglurder hwnnw ynghylch yr hyn sy'n cyfrif fel yr economi sylfaenol, yn golygu y gall cydweithfa ofal yn Saundersfoot, i adeiladwr yn Hendy-gwyn ar Daf, oll weld eu hunain ym mholisi'r Llywodraeth, yn hytrach na meddwl tybed ble maent yn ffitio yn y bocs. Rwy'n falch fod Gweinidogion wedi derbyn hyn yn llwyr a bod y diffiniad newydd wedi dod yn weithredol ym mis Ebrill.

Mae'r ail argymhelliad yn pwyso am fetrigau caled a chynllun cyflawni. Yn wir, rwy'n dwli ar ddangosydd perfformiad allweddol. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn hyn mewn egwyddor ac wedi addo prosbectws yn chwarter cyntaf 2026—nid bod unrhyw beth arall yn digwydd yn 2026. Rhaid i'r ddogfen symud y tu hwnt i eiriau cynnes i'r targedau mesuradwy y soniais amdanynt, megis y gwariant a gedwir yn lleol, achrediadau cyflog byw gwirioneddol a gyflawnir, y carbon a arbedir—i roi rhai enghreifftiau'n unig. Oherwydd ni all etholaethau gwledig fel fy un i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, fforddio strategaeth sgleiniog arall sy'n gwneud dim byd heblaw hel llwch ar silff.

Mae argymhelliad 3 yn hyrwyddo 'cynghreiriau'r rhai sy'n barod', term a glywsom yn eithaf aml gan yr Athro Williams yn ei dystiolaeth, o'r gwaelod i fyny—gan roi'r rhyddid i arloeswyr lleol roi cynnig ar syniadau yn gyntaf ac adrodd yn ddiweddarach. Mae derbyniad y Llywodraeth yma, a'i haddewid i ehangu'r model cymuned ymarfer a brofwyd yn y sector bwyd, yn newyddion da iawn.

Pwynt arall oedd bod natur ragnodol grantiau'n anhawster weithiau. Dyna dystiolaeth a roddwyd i ni. Mae pa mor gul y gall grantiau penodol fod yn golygu y gellid gwario'r arian hwnnw, os yw'n arian grant, yn well pe bai'n cael ei roi heb ryw fath o gyfyngiadau arno, oherwydd mai'r rhai ar lawr gwlad sy'n gwybod orau sut i wario'r arian hwnnw, gan mai hwy sydd yng nghanol pethau. Felly, weithiau, nid natur ragnodol grantiau sydd orau bob amser, o ran adennill gwerth i'r trethdalwr.

Rydym hefyd yn annog Gweinidogion, yn argymhelliad 5, i roi pob gwerthusiad mewn un man, fel y gellir copïo llwyddiannau'n gyflym yn hytrach na'u hailddarganfod yn araf. Cytunwyd ar hyn, ac mae tudalen we bwrpasol, gyda chefnogaeth adnoddau gan Cynnal Cymru, bellach yn weithredol, ac rydym yn ei chroesawu. I fusnes bach sy'n ceisio llywio ffrydiau cyllido, mae cael un hyb gwybodaeth yn hanfodol.

Yn olaf, Lywydd dros dro, mae argymhelliad 7 yn mynd i'r afael â chaffael, rhywbeth a drafodwyd gennym mewn nifer o'n hymchwiliadau pwyllgor. Dyma'r injan sy'n gallu cadw'r bunt Gymreig i gylchredeg yn nhrefi Cymru, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor. Mae teithiau cyflenwyr y gwanwyn hwn, ac ail expo yr economi sylfaenol yn yr hydref, yn gamau i'r cyfeiriad cywir. Ond mae'r wobr go iawn i'w chael o ddefnyddio'r Ddeddf caffael a phartneriaeth gymdeithasol i edrych y tu hwnt i'r pris isaf a thuag at werth cymdeithasol. Rhaid bod hynny'n trosi'n gontractau i fusnesau a phobl yng Nghymru.

Lywydd dros dro, nid damcaniaeth polisi yw'r economi sylfaenol. Dyma wead pob dydd ein cymunedau. Yn wir, nid oeddwn yn deall yn iawn beth oedd yr economi sylfaenol yn ei olygu, oherwydd edrychais ar y derminoleg a meddwl: a yw'n sôn am adeiladu gyda'r cyfeiriad at sylfeini? Ond mae'n ddiffiniad mor eang ac fe ddysgais lawer, yn fy rôl, o'r ymchwiliad, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr.

Mae ymateb adeiladol y Llywodraeth yn galonogol, ond fel bob amser, wrth ei flas y mae profi pwdin, a'i gyflwyniad fydd y prawf go iawn. Bydd y pwyllgor yn gwylio'r cynnydd hwn, a byddaf yn parhau i gefnogi busnesau bach sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau sy'n helpu i gynnal ein heconomi. Diolch, Lywydd dros dro.

16:50

From the outset, I'd also like to join the Chair and Sam Kurtz in thanking the previous Chair of the committee for his work during this inquiry. I'd also like to extend a 'thank you' to the current Chair as well, to fellow committee members and the clerks, in particular, for their work in putting this report together. Of course, I'd also like to thank those who gave evidence to the committee. Sam Kurtz hinted at it. There was some interesting, colourful evidence that came forward. I'm not quite sure that's the first time, though, we've heard swearing in the committee. It definitely is the first time we've heard it in a public session, and I'm sure there's a number of members of the committee who would then point to the private sessions saying I'm responsible for most of the language in the private sessions, but that's by the by.

I think, actually, now there's a strong and growing body of work on the foundational economy in Wales, because it's something we've been discussing for a very long time. It is playing a role in how we understand our economy, its weaknesses, but also as well its potential. But I think that common recognition amongst policy makers of a set of problems has, thus far, not led to a clear set of solutions. There's a broad agreement on the diagnosis, but less clarity on what to do about it. So, it's welcome that the Welsh Government has accepted the vast majority of the recommendations in this report. 

Turning to the report itself, one of the important points raised was around how we actually measure progress. Sam Kurtz referenced it. Various stakeholders mentioned that it would be good to see a set of indicators and targets against which to measure that progress within the foundational economy, and I think this is a worthwhile pursuit. What I would say is that the conventional economic metrics, which we're quite tethered to as a society, are often at odds with what intervention in the foundational economy seeks to achieve. The be-all and end-all when it comes to assessing our economic health is typically benchmarked on GDP, which is a crude yardstick for assessing a nation's health and well-being. There are plenty of approaches around the world that are deprioritising GDP—the best-known alternatives probably being the index of sustainable economic welfare and the genuine progress indicator. I think we should actually be exploring alternatives as well. So, it's good to see, to an extent, that the Government has accepted recommendation 2 in principle, and that it's working to develop a number of key performance indicators to crystallise actually what it is we want to achieve within the foundational economy. I'll be keeping an eye, as will other Members, on how that work progresses.

But it's really important that, if we actually want to measure the success of the foundational economy, we find those key indicators that will allow us to measure it in the things that are important to it and not just default to some of those traditional ways of measuring. For example, I would actually like to see ownership featured among those key performance indicators. We know that there are currently not enough meaningfully owned Welsh resources, institutions or businesses in Wales to begin to turn the tide. Addressing that should inform, I think, the Government's work within the foundational economy.

Funding, of course, is another issue that came up a lot during the inquiry. The problem, I think, with the way that funds like the foundational economy challenge fund actually work is that money is drip fed to a wide range of organisations across sectors. And while I understand that the foundational economy is broad and dispersed by its nature, the lack of volume or strategic funding for specific activities and places means that the impact is often quite diluted. Foundational Economy Alliance Wales made this point well, and I agree with them on it. The funding is ad hoc and incoherent, and we need to resource it properly, and that means, actually, funding that's consistent, coherent and long term.

Now, of course, Wales was among the first Governments to adopt the language of the foundational economy, but we're not alone in exploring these ideas. The Preston model of community wealth building has had a lot of attention recently, particularly for its use of procurement by anchor institutions to retain and recirculate wealth locally. But that model can only go so far unless you have a base of capable local suppliers. That was a point raised by Professor Karel Williams in the last Senedd to the Economy, Infrastructure and Skills Committee, and it's an important one for Wales. We have to build capacity if we want these ideas to take root. And, in fact, we do have positive examples already, especially in the north-west. In Blaenau Ffestiniog, for example, you can see a bottom-up version of community wealth building taking shape. Unlike Preston, though, where the council took the lead, in Blaenau it's been driven by the community through a network of social enterprises like Galeri Caernarfon, Yr Orsaf Penygroes, and Partneriaeth Ogwen. They're working across care, energy, hospitality and transport, and they show what's possible when local people have ownership and agency.

Now, if Preston is a top-down model focused on procurement and regeneration, Blaenau is the grass-roots equivalent, rooted in social enterprises and co-operatives. So, it's something that I think we really need to explore, that role of co-operatives within the foundational economy. And looking at the time, temporary Llywydd, I think it's an important point to make here: we've talked about this concept of the foundational economy now for so long, and I think it's coming now to the crunch time. If we're really serious about this, then we need to start thinking strategically about how we approach the foundational economy, because, if we're not serious about it, then perhaps it's time for us to start thinking about something else. I don't want the Government to go down that route. I want the Government to see this through. I think there's a lot of value in it. But we really need now to start putting our money where our mouth is and do stuff in a strategic way that helps, then, that foundational economy to grow, and people's understanding of that foundational economy to improve as a result of that as well. Diolch.

I ddechrau, hoffwn innau hefyd ymuno â'r Cadeirydd a Sam Kurtz i ddiolch i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor am ei waith yn ystod yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd presennol hefyd, i gyd-aelodau'r pwyllgor a'r clercod, yn arbennig, am eu gwaith yn rhoi'r adroddiad hwn at ei gilydd. Wrth gwrs, hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Fe wnaeth Sam Kurtz ei awgrymu. Fe gafwyd tystiolaeth ddiddorol a lliwgar. Ond nid wyf yn hollol siŵr mai dyna'r tro cyntaf inni glywed rhegi yn y pwyllgor. Yn bendant, dyma'r tro cyntaf i ni ei glywed mewn sesiwn gyhoeddus, ac rwy'n siŵr y byddai nifer o aelodau'r pwyllgor felly'n pwyntio at y sesiynau preifat ac yn dweud mai fi sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r iaith yn y sesiynau preifat, ond boed hynny fel y bo.

Rwy'n credu bod yna gorff cryf a chynyddol o waith ar yr economi sylfaenol yng Nghymru bellach, am ei fod yn rhywbeth y buom yn ei drafod ers amser hir iawn. Mae'n chwarae rôl yn y ffordd y deallwn ein heconomi, ei gwendidau, ond ei photensial yn ogystal. Ond nid wyf yn credu bod cydnabyddiaeth gyffredin ymhlith llunwyr polisi i set o broblemau wedi arwain hyd yma at set glir o atebion. Mae cytundeb eang ar y diagnosis, ond llai o eglurder ar beth i'w wneud yn ei gylch. Felly, mae'n galonogol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y mwyafrif helaeth o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn. 

Gan droi at yr adroddiad ei hun, un o'r pwyntiau pwysig a godwyd oedd yr un ynghylch y ffordd y mesurwn gynnydd mewn gwirionedd. Cyfeiriodd Sam Kurtz at hyn. Soniodd amryw o randdeiliaid y byddai'n dda gweld set o ddangosyddion a thargedau i fesur y cynnydd yn yr economi sylfaenol yn eu herbyn, ac rwy'n credu bod hyn yn werth chweil. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod y metrigau economaidd confensiynol, yr ydym wedi ein clymu wrthynt braidd fel cymdeithas, yn aml yn wahanol i'r hyn y mae ymyrraeth yn yr economi sylfaenol yn ceisio ei gyflawni. Yr ystyriaeth bwysicaf fel arfer wrth asesu ein hiechyd economaidd yw'r hyn a feincnodwyd ar y cynnyrch domestig gros, sy'n ffon fesur amrwd ar gyfer asesu iechyd a lles cenedl. Mae yna ddigon o ddulliau ledled y byd sy'n dadflaenoriaethu cynnyrch domestig gros—a'r dewisiadau amgen mwyaf adnabyddus, mae'n debyg, yw'r mynegai lles economaidd cynaliadwy a'r dangosydd cynnydd gwirioneddol. Rwy'n credu y dylem fod yn archwilio dewisiadau amgen hefyd. Felly, mae'n dda gweld, i raddau, fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 2 mewn egwyddor, a'i bod yn gweithio ar ddatblygu nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol i grisialu'r hyn rydym am ei gyflawni o fewn yr economi sylfaenol. Byddaf yn cadw llygad ar sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, fel y bydd yr Aelodau eraill.

Ond os ydym eisiau mesur llwyddiant yr economi sylfaenol, mae'n bwysig iawn ein bod yn dod o hyd i'r dangosyddion allweddol a fydd yn caniatáu inni ei fesur yn y pethau sy'n bwysig iddo ac nid troi'n ddiofyn at rai o'r ffyrdd traddodiadol o fesur. Er enghraifft, hoffwn weld perchnogaeth yn cael ei gynnwys ymhlith y dangosyddion perfformiad allweddol hynny. Gwyddom nad oes digon o adnoddau, sefydliadau a busnesau yng Nghymru mewn perchnogaeth Gymreig ystyrlon ar hyn o bryd i ddechrau troi'r llanw. Rwy'n credu y dylai mynd i'r afael â hynny lywio gwaith y Llywodraeth o fewn yr economi sylfaenol.

Mae cyllid, wrth gwrs, yn fater arall a gododd yn aml yn ystod yr ymchwiliad. Y broblem, rwy'n credu, gyda'r ffordd y mae cronfeydd fel cronfa her yr economi sylfaenol yn gweithio mewn gwirionedd yw bod arian yn cael ei fwydo fesul tamaid i ystod eang o sefydliadau ar draws sectorau. Ac er fy mod yn deall bod yr economi sylfaenol yn eang ac yn wasgaredig o ran ei natur, mae'r diffyg cyfaint neu gyllid strategol ar gyfer gweithgareddau a lleoedd penodol yn golygu bod yr effaith yn aml yn wanach. Fe wnaeth Cynghrair Economi Sylfaenol Cymru y pwynt hwn yn dda, ac rwy'n cytuno. Mae'r cyllid yn anghyson ac ad hoc, ac mae angen inni sicrhau adnoddau priodol, a golyga hynny gyllid sy'n gyson, yn gydlynol ac yn hirdymor.

Nawr, wrth gwrs, roedd Cymru ymhlith y Llywodraethau cyntaf i fabwysiadu iaith yr economi sylfaenol, ond nid ydym ar ein pen ein hunain yn archwilio'r syniadau hyn. Mae model Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar, yn enwedig am ei ddefnydd o gaffael gan sefydliadau angori i gadw ac ailgylchredeg cyfoeth yn lleol. Ond ni all y model hwnnw fynd ymhell iawn oni bai bod gennych sylfaen o gyflenwyr lleol galluog. Roedd hwnnw'n bwynt a godwyd gan yr Athro Karel Williams yn y Senedd ddiwethaf i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac mae'n un pwysig i Gymru. Rhaid inni adeiladu capasiti os ydym am i'r syniadau hyn wreiddio. Ac mae gennym enghreifftiau cadarnhaol eisoes, yn enwedig yn y gogledd-orllewin. Ym Mlaenau Ffestiniog, er enghraifft, gallwch weld fersiwn o'r gwaelod i fyny o adeiladu cyfoeth cymunedol yn ymffurfio. Yn wahanol i Preston, fodd bynnag, lle cafodd ei arwain gan y cyngor, ym Mlaenau Ffestiniog mae wedi cael ei yrru gan y gymuned trwy rwydwaith o fentrau cymdeithasol fel Galeri Caernarfon, yr Orsaf Penygroes, a Phartneriaeth Ogwen. Maent yn gweithio ar draws y meysydd gofal, ynni, lletygarwch a thrafnidiaeth, ac maent yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd gan bobl leol berchnogaeth a phŵer.

Nawr, os yw Preston yn fodel o'r brig i lawr sy'n canolbwyntio ar gaffael ac adfywio, Blaenau Ffestiniog yw'r hyn sy'n cyfateb ar lawr gwlad, wedi'i wreiddio mewn mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Felly, mae'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei archwilio, rôl cwmnïau cydweithredol yn yr economi sylfaenol. A chan edrych ar yr amser, Lywydd dros dro, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig i'w wneud yma: rydym wedi siarad am gysyniad yr economi sylfaenol ers cyhyd bellach, ac rwy'n credu bod yr amser wedi dod i benderfynu. Os ydym o ddifrif am hyn, mae angen inni ddechrau meddwl yn strategol ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r economi sylfaenol, oherwydd os nad ydym o ddifrif yn ei gylch, efallai ei bod hi'n bryd inni ddechrau meddwl am rywbeth arall. Nid wyf eisiau i'r Llywodraeth ddilyn y llwybr hwnnw. Rwyf am i'r Llywodraeth fwrw drwy hyn. Rwy'n credu bod llawer o werth ynddo. Ond mae angen inni ddechrau rhoi ein harian ar ein gair nawr a gwneud pethau mewn ffordd strategol sy'n helpu'r economi sylfaenol i dyfu, a dealltwriaeth pobl o'r economi sylfaenol honno i wella o ganlyniad i hynny hefyd. Diolch.

16:55

Well, we started talking about this 10 years ago. It was one of the first things we did when we were first elected in 2016—I say 'we'; there was a few of us. All the others are in Government now.

Wel, fe wnaethom ddechrau siarad am hyn 10 mlynedd yn ôl. Roedd yn un o'r pethau cyntaf a wnaethom pan gawsom ein hethol gyntaf yn 2016—rwy'n dweud 'ni'; roedd yna dipyn ohonom. Mae pob un o'r lleill yn y Llywodraeth nawr.

Oh, thanks, Mike. One of the things we said in our debate back in, it was, 12 January 2017 was recognising that the sectors in the foundational economy are more resilient to external economic shocks and have considerable potential to generate greater local value from the provision of localised goods and services. That's the key point that we were making, and I'm now going do something called 'an Isherwood' and quote myself from 10 years ago, from 16 November 2016. I said this:

‘Why would any sensible owner-manager choose to employ...when there are cheaper, more accessible, trusted alternatives? A great many owner-managers have reliable sources of support available to them at least in the medium term. They may be in the form of strong ties to family and friends who will help in the running of the business, but over time the manager will form relationships with other business associates who provide mutually dependable support that goes well beyond a transactional relationship. Access to this social capital is vital for the early development and growth of the firm. So perhaps instead of seeking economic salvation from our small firms sector we should look instead at what small firms actually do—things that are fundamental to our daily lives.’

That is exactly what we are about. We are about taking this resilient sector and ensuring that that resilience continues and is expanded upon. I don't think it's ever going to be something that is transformational to the economy, but it is an ongoing engine of the economy. I often hear Members use this word, this term, for small firms, the 'lifeblood' of the economy. Well, they exist. I still haven't let it go, Hannah, even after 10 years.

So, I'm looking at recommendation 3, and I think that's what this is about. Recommendation 3 is exactly about that. Small firms don't compete with each—. Well, microfirms don't compete with each other. They work together. They interact with each other. I interviewed, for some research many years ago, a man who serviced hospital equipment, and was great with the technical aspects of the hospital equipment, but some of the internal electronics were unfamiliar to him. So, he got a friend who had an electronics company to come and work with him on a project, and they shared that money out. That's how procurement needs to work, ensuring that firms across the foundational sector are able to collaborate and bid for projects.

I think it was in recommendation 7 that the Welsh Government needs to outline how it will upscale best practice with regard to public sector procurement opportunities, and I'm glad to say the Cabinet Secretary has accepted recommendation 7 in full and has examined some of those difficulties in her response. I would say that one of the people recommended to me as a sector leader in the area of procurement, and I saw this with the Welsh housing quality standard procurement process, was Liz Lucas of Caerphilly County Borough Council. I would say to the Cabinet Secretary, if you haven't already spoken to Liz, and I imagine you have—yes—she's a leading star in the area of procurement and ensuring the foundational sectors are able to collaborate in order to achieve critical mass and gain from public sector procurement in a way that is not typical of how we expect procurement to work in that competitive way. In the foundational sector, it often doesn't.

So, I'm really happy with the report and the response, and, in spite of everything, and in spite of the time that's passed, I do think the Government has taken this strategy forward. I think it came as a result of an initiative of a few of us in 2016, 2017, 2018. I think COVID had a big impact on things, but what we've seen from the Government's response and the fact that they've accepted so many of the recommendations is that they're actually ahead of the curve, and are doing many of the things we've recommended already. So, I just want to see the progress continue. I think it's a very good report and I congratulate the committee on producing it, and I also look forward to hearing the Government's response.

O, diolch, Mike. Un o'r pethau a ddywedwyd yn ein dadl yn ôl ar 12 Ionawr 2017 oedd cydnabod bod y sectorau yn yr economi sylfaenol yn fwy gwydn i siociau economaidd allanol a bod ganddynt botensial sylweddol i gynhyrchu mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol. Dyna'r pwynt allweddol yr oeddem yn ei wneud, ac rwy'n mynd i wneud rhywbeth nawr a elwir yn arfer 'Isherwoodaidd' a dyfynnu fy hun 10 mlynedd yn ôl, ar 16 Tachwedd 2016. Dywedais hyn:

'Pam y byddai unrhyw reolwr-berchennog synhwyrol yn dewis cyflogi pan fo dewisiadau eraill rhatach, mwy hygyrch a dibynadwy ar gael? Mae gan lawer iawn o reolwyr-berchnogion ffynonellau dibynadwy o gymorth ar gael iddynt, o leiaf yn y tymor canolig. Gallant fod ar ffurf cysylltiadau cryf â theulu a ffrindiau a fydd yn helpu i redeg y busnes, ond dros gyfnod o amser, bydd y rheolwr yn ffurfio perthynas gyda chysylltiadau busnes eraill sy’n darparu cymorth sy’n ddibynadwy i’r ddwy ochr ac sy’n mynd ymhell y tu hwnt i berthynas drafod busnes. Mae mynediad at y cyfalaf cymdeithasol hwn yn hanfodol ar gyfer datblygiad cynnar a thwf y cwmni. Felly yn lle ceisio achubiaeth economaidd gan ein sector cwmnïau bach, efallai y dylem edrych yn hytrach ar yr hyn y mae cwmnïau bach yn ei wneud mewn gwirionedd—pethau sy’n hanfodol i’n bywydau bob dydd.'

Dyna'n union beth a wnawn. Rydym yn cymryd y sector gwydn hwn ac yn sicrhau bod y gwydnwch hwnnw'n parhau ac yn cael ei ehangu. Nid wyf yn credu ei fod byth yn mynd i fod yn rhywbeth sy'n drawsnewidiol i'r economi, ond mae'n injan barhaus i'r economi. Rwy'n aml yn clywed Aelodau'n defnyddio'r ymadrodd am gwmnïau bach, eu bod yn 'anadl einioes' yr economi. Wel, maent yn bodoli. Nid wyf wedi ei adael i fynd, Hannah, hyd yn oed ar ôl 10 mlynedd.

Felly, rwy'n edrych ar argymhelliad 3, ac rwy'n credu mai dyna beth yw hyn. Mae argymhelliad 3 yn ymwneud â hynny'n union. Nid yw cwmnïau bach yn cystadlu â'i—. Wel, nid yw microgwmnïau'n cystadlu â'i gilydd. Maent yn gweithio gyda'i gilydd. Maent yn rhyngweithio â'i gilydd. Ar gyfer rhyw waith ymchwil flynyddoedd lawer yn ôl, fe wneuthum gyfweld â dyn a oedd yn trin offer ysbyty, ac roedd yn wych gydag agweddau technegol yr offer ysbyty, ond roedd peth o'r electroneg fewnol yn anghyfarwydd iddo. Felly, fe ofynnodd i ffrind a oedd â chwmni electroneg ddod i weithio gydag ef ar brosiect, ac fe wnaethant rannu'r arian hwnnw. Dyna sut y mae angen i gaffael weithio, gan sicrhau bod cwmnïau ar draws y sector sylfaenol yn gallu cydweithio a chynnig am brosiectau.

Rwy'n credu mai yn argymhelliad 7 y mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu sut y bydd yn datblygu arferion gorau ar raddfa fwy ar gyfer cyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus, ac rwy'n falch o ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad 7 yn llawn ac wedi archwilio rhai o'r anawsterau hynny yn ei hymateb. Byddwn yn dweud mai un o'r bobl a argymhellwyd i mi fel arweinydd sector ym maes caffael, a gwelais hyn gyda phroses gaffael safonau ansawdd tai Cymru, oedd Liz Lucas o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Byddwn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, os nad ydych chi eisoes wedi siarad â Liz, ac rwy'n dychmygu eich bod chi—do—mae hi'n seren flaenllaw ym maes caffael a sicrhau bod y sectorau sylfaenol yn gallu cydweithio er mwyn cyflawni màs critigol ac elwa o gaffael sector cyhoeddus mewn modd nad yw'n nodweddiadol o sut y disgwyliwn i gaffael weithio yn y ffordd gystadleuol honno. Yn y sector sylfaenol, yn aml iawn ni fydd yn gweithio yn y ffordd honno.

Felly, rwy'n hapus iawn gyda'r adroddiad a'r ymateb, ac er gwaethaf popeth, ac er gwaethaf yr amser sydd wedi mynd heibio, rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi bwrw ymlaen â'r strategaeth hon. Rwy'n credu ei fod wedi dod o ganlyniad i fenter ychydig ohonom yn 2016, 2017, 2018. Rwy'n credu bod COVID wedi cael effaith fawr ar bethau, ond yr hyn a welsom o ymateb y Llywodraeth a'r ffaith eu bod wedi derbyn cymaint o'r argymhellion yw eu bod ar y droed flaen mewn gwirionedd, ac yn gwneud llawer o'r pethau a argymhellwyd gennym eisoes. Felly, rwyf ond eisiau gweld y cynnydd yn parhau. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad da iawn ac rwy'n llongyfarch y pwyllgor ar ei gynhyrchu, ac yn edrych ymlaen hefyd at glywed ymateb y Llywodraeth.

17:00

I was one of the people who went to Preston, along with Lee Waters, to actually see Preston in practice. So, I think that, actually, there is a lot to be said about what Preston has done because it really has transformed what was quite a depressed community across Lancashire, and Preston is pretty much the capital of Lancashire. That doesn't detract at all from the excellent work that's been going on in Blaenau Ffestiniog, which was pump primed from the European Union work that we benefited from when we were a member.

I'd like to congratulate the Welsh Government on the work that it has done on revising its mission statement, co-produced after discussion and co-production with stakeholders, because I actually think it's a better definition, having looked at it, than the one we endeavoured to put into our report. I think it's clearer and easier to read. So, the foundational economy definitely refers to the sectors of the economy that provide the goods and services that underpin everyday life. End of sentence.

I absolutely welcome the fact that the Welsh Government is focused on the organisation and people in the foundational economy, as well as the quality and accessibility of goods and services, and also the citizens' sense of control and belonging in their community. That's something that we didn't particularly look at in this inquiry, but is certainly one we've looked at in the Equality and Social Justice Committee in our work on community cohesion, which is for another day.

Having visited Preston, I do think it is also not just about all these important things. It is also about retaining as much as possible of the Welsh pound in Wales. Most of the sectors listed in your mission statement, Cabinet Secretary, are doing just that. So, for example, care and health services, including social care and childcare, social housing, public transport particularly is going to be enhanced by the bus re-regulation Bill. But it starts to get more complicated once we get a bit further down, to talking about the construction of residential and commercial buildings, energy and utilities. We've just had a discussion about water, which we can leave for another day.

But, today, UK house builders have had to offer to pay £100 million at the end of a competition probe, where the Competition and Markets Authority have unearthed evidence that price information was shared between companies. So, I think one of the things we have to learn from that is we do need to build more social housing to prevent families having to live in private rented sector accommodation, because it really is so disruptive for children. And the sorts of prices that these house builders have been charging are completely out of range of the financial possibilities of the average family. So, we absolutely need to ensure that we have co-operative and social housing solutions to our housing problems.

We are better off when it comes to water than they are in England, because although we have concerns about Dŵr Cymru's performance on sewage discharges, we certainly don't have the wholesale asset stripping of the water industry suffered by most parts of England as a result of privatisation.

On food, it's a much more challenging landscape, because I can remember an event in the Senedd a year ago, where a man who I happened to be sitting next to described how the planning decision to allow a supermarket to locate on the outskirts of his town had eliminated all the local shops on the high street, and the only way to get to the supermarket was either to have a car—he didn't have one—or a very rare bus. So, that was a disastrous decision by the local authority, who failed to focus on the foundational economy.

I just wondered if you could—. In your response, I would particularly like to hear a little bit more about the work you've been doing that you mentioned in your response on recommendation 7. Because one of the most challenging things around food in the wider sense is how we're going to face down the big food behemoths, who spend billions of pounds creating and preserving their dominance of our food system and persuading people to eat things that are killing them. So, countering that is really, really challenging.

So, I really would be keen to hear about the Business Wales supplier road shows, which were due to take place in the last couple of months to try and encourage more foundational suppliers to find, bid and win public sector contracts. Because I think it's very good, in your response, to see that you are taking the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023 seriously, and we heard this morning in the economy committee about the work that, for example, Monmouthshire has done to break down public procurement contracts into bite-sized chunks, so that small businesses can actually bid for them. So, I look forward to hearing your response.

Roeddwn yn un o'r bobl a aeth i Preston, gyda Lee Waters, i weld yr hyn sy'n digwydd yn Preston. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddweud am yr hyn y mae Preston wedi'i wneud, gan ei fod wedi trawsnewid cymuned a oedd yn eithaf dirwasgedig ledled swydd Gaerhirfryn, a Preston yw prifddinas swydd Gaerhirfryn i bob pwrpas. Nid yw hynny'n tynnu oddi wrth y gwaith rhagorol sydd wedi bod yn mynd rhagddo ym Mlaenau Ffestiniog, a gafodd ei ysgogi gan waith yr Undeb Ewropeaidd y gwnaethom elwa ohono pan oeddem yn aelod.

Hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar y gwaith y mae wedi'i wneud ar ddiwygio ei datganiad cenhadaeth, a gydgynhyrchwyd ar ôl trafodaeth a chydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid, gan fy mod yn credu ei fod yn ddiffiniad gwell, ar ôl edrych arno, na'r un y gwnaethom geisio'i roi yn ein hadroddiad. Rwy'n credu ei fod yn gliriach ac yn haws ei ddarllen. Felly, mae'r economi sylfaenol yn bendant yn cyfeirio at y sectorau yn yr economi sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n sail i fywyd bob dydd. Diwedd y frawddeg.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y drefniadaeth a'r bobl yn yr economi sylfaenol, yn ogystal ag ansawdd a hygyrchedd nwyddau a gwasanaethau, ac ymdeimlad y dinasyddion o reolaeth a pherthyn i'w cymuned. Mae hynny'n rhywbeth na wnaethom edrych arno'n benodol yn yr ymchwiliad hwn, ond yn sicr, mae'n rhywbeth rydym wedi edrych arno yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ein gwaith ar gydlyniant cymunedol, sy'n rhywbeth i'w drafod rhywbryd eto.

Ar ôl ymweld â Preston, credaf fod hyn yn ymwneud â mwy na'r holl bethau pwysig hyn yn unig. Mae a wnelo hefyd â chadw cymaint â phosibl o'r bunt Gymreig yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'r sectorau a restrir yn eich datganiad cenhadaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, yn gwneud yn union hynny. Felly, er enghraifft, gwasanaethau gofal ac iechyd, gan gynnwys gofal cymdeithasol a gofal plant, tai cymdeithasol, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig yn mynd i gael ei gwella gan y Bil ailreoleiddio bysiau. Ond mae'n dechrau mynd yn fwy cymhleth pan awn i fwy o fanylder a siarad am adeiladu adeiladau preswyl a masnachol, ynni a chyfleustodau. Rydym newydd gael trafodaeth am ddŵr, sy'n rhywbeth y gallwn ei adael ar gyfer rhywbryd eto.

Ond heddiw, mae adeiladwyr tai yn y DU wedi gorfod cynnig talu £100 miliwn ar ôl ymchwiliad cystadleuaeth, lle mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi datgelu tystiolaeth fod gwybodaeth am brisiau wedi'i rhannu rhwng cwmnïau. Felly, credaf mai un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu dysgu o hynny yw bod angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol i atal teuluoedd rhag gorfod byw mewn llety yn y sector rhent preifat, gan fod hynny'n achosi cymaint o darfu i blant. Ac mae'r mathau o brisiau y mae'r adeiladwyr tai hyn wedi bod yn eu codi ymhell y tu hwnt i gyrraedd ariannol y teulu cyffredin. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym atebion tai cydweithredol a thai cymdeithasol i'n problemau tai.

Rydym mewn gwell sefyllfa o ran dŵr nag y maent yn Lloegr, oherwydd er bod gennym bryderon ynghylch perfformiad Dŵr Cymru ar ollyngiadau carthion, yn sicr, nid ydym yn gweld yr un lefel o stripio asedau ag sy'n digwydd i'r diwydiant dŵr yn y rhan fwyaf o ardaloedd Lloegr o ganlyniad i breifateiddio.

Ar fwyd, mae'n dirlun llawer mwy heriol, gan y gallaf gofio digwyddiad yn y Senedd flwyddyn yn ôl, lle disgrifiodd dyn roeddwn yn digwydd bod yn eistedd wrth ei ymyl sut oedd penderfyniad cynllunio i ganiatáu i archfarchnad agor ar gyrion ei dref wedi lladd yr holl siopau lleol ar y stryd fawr, a'r unig ffordd i gyrraedd yr archfarchnad oedd naill ai mewn car—nid oedd ganddo un—neu fws anfynych iawn. Felly, roedd hwnnw'n benderfyniad trychinebus gan yr awdurdod lleol, a fethodd ffocysu ar yr economi sylfaenol.

Tybed a allech chi—. Yn eich ymateb, hoffwn glywed ychydig yn rhagor am y gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb i argymhelliad 7. Oherwydd un o'r pethau mwyaf heriol ynghylch bwyd yn yr ystyr ehangach yw sut ydym am fynd i'r afael â'r cwmnïau bwyd anferth, sy'n gwario biliynau o bunnoedd ar greu a chadw eu goruchafiaeth dros ein system fwyd a pherswadio pobl i fwyta pethau sy'n eu lladd. Felly, mae gwrthsefyll hynny'n anodd tu hwnt.

Felly, rwy'n wirioneddol awyddus i glywed am deithiau cyflenwyr Busnes Cymru, a oedd i fod i ddigwydd yn y misoedd diwethaf i geisio annog mwy o gyflenwyr sylfaenol i ddod o hyd i gontractau sector cyhoeddus, cynnig amdanynt a'u hennill. Oherwydd credaf ei bod yn dda iawn gweld, yn eich ymateb, eich bod o ddifrif ynglŷn â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a chlywsom y bore yma ym mhwyllgor yr economi am y gwaith y mae sir Fynwy, er enghraifft, wedi'i wneud ar rannu contractau caffael cyhoeddus yn becynnau llai, fel y gall busnesau bach gynnig amdanynt. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb.

17:05

Diolch, Llywydd dros dro. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon.

Thank you, temporary Presiding Officer. I welcome this opportunity to take part in this debate.

I've got a little bit on the current Chair because I did join the committee part way through this inquiry, but I was keen to be part of it because, for me, as we've heard here already, the foundational economy is not an abstract concept, although, as we've heard, it can be difficult to define sometimes. But it is about the things that really matter to people in our communities, the services and jobs that keep those communities going, and it's about making the economy work as well as it can for as many people as possible. 

So, I very much welcome this report and I think it rightly places fair work, community value and local supply chains at the heart of what a truly inclusive economy should look like, but I also think we can build on this and go further. The report shines a light on sectors that have all too often been undervalued or overlooked, things like care, cleaning, catering, construction. They're roles that keep our country going during the most difficult times, yet too often are characterised by low pay, poor conditions and insecure contracts.

So, that's why I'm particularly pleased to see the report call on the Welsh Government to do more to drive fair work across the foundational economy in recommendation 10, which calls for set requirements for public bodies to improve pay and working conditions, and working with social partners to develop and agree common minimum standards for pay and working conditions in the devolved public sector. And, of course, the Employment Rights Bill, which is currently making its way through the UK Parliament, could be able to underpin and uplift all of that. I think we also need to make a concerted effort to ensure that these standards are not just encouraged, but expected, because good work is the baseline, not the bonus.

One of the most interesting pieces for me for the time I was part of the inquiry was the evidence we heard about the concept of grow your own workforce: recruiting locally, investing in apprenticeships and giving people the opportunity to build a career closer to home. So, I think that demonstrates what the foundational economy can be about in action: creating local jobs, local pride and long-term investment in both people and places as well. And I think it's something that we need to think about, and Welsh Government needs to think about, how it can be and should be replicated elsewhere, whether that's in health, care, construction or catering. And we've heard today how anchor institutions have a vital role to play, and I think the recommendation in this report helps to put that into focus as well.

I'm particularly supportive of the report's recommendations around procurement. The Cabinet Secretary has heard me say more than once in this Chamber and the previous one that I actually find procurement really exciting, so I probably need to get out more. But it is one of the things that has the real potential to drive the outcomes that we've talked about in this Chamber today, and previously discussed, in terms of the social value and moving away from the pound having primacy in terms of actually how we do public spending and procurement. We've made progress with the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act, which I'm a little bit familiar with, but we need to make sure it makes a difference in practice now. So, I think, around recommendations 7 and 8, to call for that stronger, more transparent mechanism to prioritise local, ethical and social-value-led suppliers.

We heard, I think, Jenny Rathbone refer to the evidence we took today in committee around procurement. Again, I think one of the things to consider is, actually, not just that guidance, but the support for people and the capacity for them to be able to maximise how they can use that procurement element of the legislation. Also, as Hefin David said, how we can use collaboration to support some of those smaller businesses to actually have their fair share and be part of that too.

I also want to echo the importance of recommendation 3, calling for community-led, bottom-up innovation. As we've heard, many of the most impactful changes often come not from Government direction, but from local ideas that are backed by flexible funding and trusted to deliver and to make a difference. It's something that I've touched on previously in the Senedd and not so long ago in a short debate, on how we can make devolution work for workers and Wales, and the need to talk about bold locally.

Different ideas, we've heard examples of the Preston model and community wealth building, but other ideas are available as well. But central to that, it's about resilience, pride in place, and keeping wealth circulating in the communities for the benefit of those communities as well. So, I think we're moving in the right direction, but it's about the moment now to turn those principles into practice and keep moving. So, we go from pilots to permanence; the foundational sector is not as a safety net, but a spring board for that economy that we want to see that works for everyone. So, it's not just about backing it in words, but in contracts and in budgets, and not just investing in people because of the crisis, but from the start of their careers.

Llywydd dros dro, let's trust our communities with the tools and the funding to be able to shape and drive their own futures, because as we've heard today, the foundational economy is not about policy, it's about people, it's about places, and it's about investing in them, and if we get this right, we can not only create better jobs and stronger local economies, but create a more equal and confident country as well. Diolch.

Mae gennyf lai o wybodaeth na'r Cadeirydd presennol gan imi ymuno â'r pwyllgor yng nghanol yr ymchwiliad hwn, ond roeddwn yn awyddus i fod yn rhan ohono oherwydd, i mi, fel rydym eisoes wedi'i glywed yma, nid yw'r economi sylfaenol yn gysyniad haniaethol, er y gall fod yn anodd ei ddiffinio weithiau, fel y clywsom. Ond mae a wnelo â'r pethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl yn ein cymunedau, y gwasanaethau a'r swyddi sy'n cynnal y cymunedau hynny, ac mae a wnelo â gwneud i'r economi weithio cystal ag y gall i gynifer o bobl â phosibl.

Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn yn fawr ac rwy'n credu ei fod yn rhoi gwaith teg, gwerth cymunedol a chadwyni cyflenwi lleol wrth wraidd yr hyn y dylai economi wirioneddol gynhwysol ei olygu, ond rwyf hefyd yn credu y gallwn adeiladu ar hyn a mynd ymhellach. Mae'r adroddiad yn taflu goleuni ar sectorau sydd wedi cael eu tanbrisio neu eu hanwybyddu'n rhy aml, pethau fel gofal, glanhau, arlwyo, adeiladu. Dyma'r rolau sy'n cynnal ein gwlad ar yr adegau anoddaf, ond yn rhy aml, mae cyflogau'n isel, yr amodau'n wael a chontractau'n ansicr.

Felly, dyna pam fy mod yn arbennig o falch o weld bod yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo gwaith teg ar draws yr economi sylfaenol yn argymhelliad 10, sy'n galw am ofynion penodol i gyrff cyhoeddus wella cyflog ac amodau gwaith, a gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu a chytuno ar safonau gofynnol cyffredin ar gyfer cyflogau ac amodau gwaith yn y sector cyhoeddus datganoledig. Ac wrth gwrs, gallai'r Bil Hawliau Cyflogaeth, sydd ar ei ffordd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, ategu a dyrchafu hyn oll. Credaf fod angen i ni wneud ymdrech gydlynol hefyd i sicrhau nid yn unig fod y safonau hyn yn cael eu hannog, ond eu bod yn ddisgwyliedig, gan mai gwaith da yw'r llinell sylfaen, nid y bonws.

Un o'r darnau mwyaf diddorol i mi yn y cyfnod pan oeddwn yn rhan o'r ymchwiliad oedd y dystiolaeth a glywsom am y cysyniad o dyfu eich gweithlu eich hun: recriwtio'n lleol, buddsoddi mewn prentisiaethau a rhoi cyfle i bobl adeiladu gyrfa yn agosach at adref. Felly, credaf fod hynny'n dangos sut olwg a all fod ar yr economi sylfaenol ar waith: creu swyddi lleol, balchder lleol a buddsoddiad hirdymor mewn pobl a lleoedd hefyd. A chredaf ei fod yn rhywbeth y mae angen inni feddwl amdano, ac mae angen i Lywodraeth Cymru feddwl amdano, sut y gellir a sut y dylid ei efelychu mewn mannau eraill, boed hynny mewn iechyd, gofal, adeiladu neu arlwyo. Ac rydym wedi clywed heddiw sut y mae gan sefydliadau angori rôl hanfodol i'w chwarae, ac mae'r argymhelliad yn yr adroddiad hwn yn helpu i roi ffocws ar hynny hefyd.

Rwy'n arbennig o gefnogol i argymhellion yr adroddiad ynghylch caffael. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn dweud fwy nag unwaith yn y Siambr hon a'r un flaenorol fy mod yn credu bod caffael yn gyffrous iawn, felly mae'n debyg fod angen imi fynd allan mwy. Ond mae'n un o'r pethau sydd â'r potensial gwirioneddol i hybu'r canlyniadau a drafodwyd gennym yn y Siambr heddiw, ac yn y gorffennol, am y gwerth cymdeithasol ac ymbellhau oddi wrth flaenoriaethu'r bunt o ran sut y meddyliwn am wariant cyhoeddus a chaffael. Rydym wedi gwneud cynnydd gyda Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yr wyf yn weddol gyfarwydd â hi, ond mae angen inni sicrhau ei bod yn gwneud gwahaniaeth ymarferol nawr. Felly, ar argymhellion 7 ac 8, galw am fecanwaith cryfach, mwy tryloyw i flaenoriaethu cyflenwyr lleol, moesegol sy'n cael eu harwain gan werth cymdeithasol.

Clywsom Jenny Rathbone, rwy'n credu, yn cyfeirio at y dystiolaeth a gawsom heddiw yn y pwyllgor ynghylch caffael. Unwaith eto, un o'r pethau i'w hystyried yw, nid yn unig y canllawiau hynny, ond y cymorth i bobl a'r gallu iddynt fanteisio i'r eithaf ar y ffordd y gallant ddefnyddio'r elfen honno o'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chaffael. Hefyd, fel y dywedodd Hefin David, sut y gallwn ddefnyddio cydweithio i gefnogi rhai o'r busnesau llai hynny i gael eu cyfran deg a bod yn rhan o hynny hefyd.

Hefyd, hoffwn adleisio pwysigrwydd argymhelliad 3, sy'n galw am arloesi o'r gwaelod i fyny dan arweiniad y gymuned. Fel y clywsom, mae llawer o'r newidiadau mwyaf effeithiol yn aml yn dod, nid drwy gyfarwyddyd y Llywodraeth, ond drwy syniadau lleol wedi'u cefnogi gan gyllid hyblyg y gellir ymddiried ynddynt i gyflawni a gwneud gwahaniaeth. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll o'r blaen yn y Senedd ac nid mor bell yn ôl â hynny mewn dadl fer, ar sut y gallwn wneud i ddatganoli weithio ar ran gweithwyr ac ar ran Cymru, a'r angen i siarad am feiddgarwch yn lleol.

Syniadau gwahanol, rydym wedi clywed enghreifftiau o fodel Preston ac adeiladu cyfoeth cymunedol, ond mae syniadau eraill i'w cael hefyd. Ond yn ganolog i hynny mae gwydnwch, balchder mewn lleoedd, a chadw cyfoeth i gylchredeg yn y cymunedau er budd y cymunedau hynny hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond mae a wnelo â'r foment nawr i droi'r egwyddorion hynny'n weithredu a pharhau i symud. Felly, rydym yn mynd o gynlluniau peilot i barhad; nid rhwyd ddiogelwch yw'r sector sylfaenol, ond sbardun ar gyfer yr economi yr ydym am ei gweld sy'n gweithio i bawb. Felly, mae'n golygu mwy na'i gefnogi mewn geiriau'n unig, ond mewn contractau ac mewn cyllidebau, ac nid buddsoddi mewn pobl oherwydd yr argyfwng yn unig, ond o ddechrau eu gyrfaoedd.

Lywydd dros dro, gadewch inni ymddiried yn ein cymunedau gyda'r offer a'r cyllid i allu llunio a llywio eu dyfodol eu hunain, oherwydd fel y clywsom heddiw, nid ymwneud â pholisi y mae'r economi sylfaenol, mae'n ymwneud â phobl a lleoedd, a buddsoddi ynddynt, ac os cawn hyn yn iawn, gallwn greu swyddi gwell ac economïau lleol cryfach, ond hefyd, gallwn greu gwlad fwy cyfartal a hyderus yn ogystal. Diolch.

17:10

Dwi nawr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

I now call on the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans.

The foundational economy is integral to our economic mission, so I really do welcome the committee's work and the debate that we're having today. As the committee and other colleagues have noted, nurturing the foundational economy is central to sustaining and creating fair work and to growing and retaining wealth within our communities right across Wales.

The foundational economy is a programme for government commitment, as it provides the goods and services that are essential for all of us to live fulfilled lives. It's no small part of the economy. As we have heard, 60 per cent of all businesses in Wales are operating in the foundational economy. This comprises 51 per cent of the Welsh workforce and it accounts for 47 per cent of overall turnover in Wales. So, our foundational economy approaches have made a difference to businesses, people and communities across Wales. Between 2019 and 2023, the number of foundational economy businesses increased by 4 per cent, and the number of employees has grown by 1 per cent and turnover has gone up by 5 per cent.

So, to give some examples of the work we have been doing, we have supported housing contractors to attain accreditations to deliver energy efficient retrofit work. Those contractors have reported that this will lead to the creation of over 350 new jobs. This additional capacity then will accelerate housing retrofit projects, it will improve household liveability, reduce energy costs, leading to greater residual income, and it will improve environmental performance.

Through a food accreditation scheme, 73 Welsh firms have reported that this has helped them to retain 1,100 jobs. These firms will strengthen our food security through building local supply chains and also increasing the supply of Welsh food to our schools and our hospitals.

The construction sector has told me that attracting new talent is a real challenge. So, we've supported the provision of net-zero, low-carbon, on-site work placement programmes for 120 young trainees in construction, 80 per cent of whom have gone on to secure an apprenticeship or some form of employment within the sector. So, we're facilitating collaboration in the housing sector to produce standardised house designs for the most commonly built homes. These homes will be built using timber and increasingly Welsh timber from short, strong and sustainable supply chains.

We are promoting that NHS Wales 'grow your own' local workforce programme to support local people into good jobs. Since 2022, Hywel Dda health board has recruited 128 healthcare support workers from the local population, including 15 completed apprenticeships. We are working with NHS colleagues to spread this best practice. Earlier this week, officials met with the partnership council to consider how the local government sector can support local employment, and it used that meeting to raise awareness of the NHS 'grow your own' approach amongst colleagues within local government.

I'm really pleased to be able to accept the committee's helpful recommendations, and we're already working to respond to them. In April I published the mission statement clarifying our definition of the foundational economy and outlining our objectives for nurturing these sectors. The mission statement aligns with the committee's observations, and we're working at the moment to finalise those metrics to monitor progress against these objectives.

Our community of practice is being extended to bring together stakeholders in important areas such as energy, and we're enabling members to define and decide the foundational economy priorities that they want to focus on and to support the sharing of best practice. We've further developed our website to include some additional case studies and also now learning materials to promote best practice. An evaluation of the latest round of foundational economy projects will be undertaken over the summer, and these will be added to the website too.

Mainstreaming foundational economy support into Business Wales is also assisting local businesses to improve their knowledge of procurement, and it's also connecting them with contract opportunities. In the last month, workshops on the new procurement legislation have been delivered to over 500 attendees. As we have heard, last autumn we held those two expo events, and they brought together over 1,000 delegates and exhibitors, connecting the local suppliers with major contractors looking to grow Welsh supply chains. Those were really well received—amongst the suppliers, who were opened up to new opportunities, but then also the buyers who were having the opportunity to make important local contacts as well.

I think that shows how important collaboration is to the delivery of our objectives right across the foundational economy. We've established really good collaborative arrangements across key sectors, including construction, food, health, housing and transport, and these networks will now help support the spreading and scaling of good practice, and they will enable cross-sectoral collaboration on areas of common interest.

To draw to a close, the discussion today has really clearly underlined the shared interest that we have, right across the Senedd, to continue on our journey to grow and support and strengthen our foundational economy. We have to maintain momentum and focus on this really essential part of the economy, which does underpin our everyday life in Wales. The findings of the committee's report and all of the helpful points raised today will go on to shape the delivery work, and we'll continue to engage with stakeholders to produce a prospectus for the next administration to consider how we can continue to support the foundational economy. So, thank you to the Chair and the previous Chair and the committee members for producing the report and its recommendations, but thank you also to colleagues right across the Senedd for their contribution within the debate today.

Mae'r economi sylfaenol yn rhan annatod o'n cenhadaeth economaidd, felly rwy'n croesawu gwaith y pwyllgor a'r ddadl a gawn heddiw yn fawr iawn. Fel y mae'r pwyllgor a chyd-Aelodau eraill wedi'i nodi, mae meithrin yr economi sylfaenol yn hollbwysig er mwyn cynnal a chreu gwaith teg ac i dyfu a chadw cyfoeth o fewn ein cymunedau ledled Cymru.

Mae'r economi sylfaenol yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, gan ei bod yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol i bob un ohonom allu byw bywydau bodlon. Nid rhan fach o'r economi mohoni. Fel y clywsom, mae 60 y cant o holl fusnesau Cymru yn gweithredu yn yr economi sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys 51 y cant o weithlu Cymru ac mae'n cynhyrchu 47 y cant o gyfanswm trosiant Cymru. Felly, mae ein dulliau o ymdrin â'r economi sylfaenol wedi gwneud gwahaniaeth i fusnesau, pobl a chymunedau ledled Cymru. Rhwng 2019 a 2023, cynyddodd nifer y busnesau yn yr economi sylfaenol 4 y cant, ac mae nifer y gweithwyr wedi tyfu 1 y cant a throsiant wedi cynyddu 5 y cant.

Felly, i roi rhai enghreifftiau o'r gwaith y buom yn ei wneud, rydym wedi cefnogi contractwyr tai i sicrhau achrediadau i gyflawni gwaith ôl-osod effeithlon o ran ynni. Mae'r contractwyr hynny wedi nodi y bydd hyn yn arwain at greu dros 350 o swyddi newydd. Yna, bydd y capasiti ychwanegol hwn yn cyflymu prosiectau ôl-osod tai, bydd yn gwneud aelwydydd yn fwy addas i fyw ynddynt, yn lleihau costau ynni, gan arwain at fwy o incwm gweddilliol, a bydd yn gwella perfformiad amgylcheddol.

Drwy gynllun achredu bwyd, mae 73 o gwmnïau yng Nghymru wedi nodi bod hyn wedi eu cynorthwyo i gadw 1,100 o swyddi. Bydd y cwmnïau hyn yn cryfhau ein diogeledd bwyd drwy adeiladu cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu'r cyflenwad o fwyd o Gymru i'n hysgolion a'n hysbytai.

Mae'r sector adeiladu wedi dweud wrthyf fod denu talent newydd yn her wirioneddol. Felly, rydym wedi cefnogi'r ddarpariaeth o raglenni lleoliad gwaith ar y safle, carbon isel, sero net, ar gyfer 120 o hyfforddeion ifanc ym maes adeiladu, ac mae 80 y cant ohonynt wedi mynd ymlaen i sicrhau prentisiaeth neu ryw fath o gyflogaeth yn y sector. Felly, rydym yn hwyluso cydweithio yn y sector tai i gynhyrchu dyluniadau tai safonol ar gyfer y cartrefi a adeiledir amlaf. Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio pren, a mwy a mwy o bren o Gymru, o gadwyni cyflenwi byr, cryf a chynaliadwy.

Rydym yn hyrwyddo rhaglen gweithlu lleol 'tyfu eich hun' GIG Cymru i gefnogi pobl leol i gael swyddi da. Ers 2022, mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi recriwtio 128 o weithwyr cymorth gofal iechyd o'r boblogaeth leol, gan gynnwys 15 o brentisiaethau a gwblhawyd. Rydym yn gweithio gyda chymheiriaid yn y GIG i ledaenu'r arferion gorau hyn. Yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfu swyddogion â'r cyngor partneriaeth i ystyried sut y gall y sector llywodraeth leol gefnogi cyflogaeth leol, a defnyddiodd y cyfarfod hwnnw i godi ymwybyddiaeth o ddull 'tyfu eich hun' y GIG ymhlith cymheiriaid llywodraeth leol.

Rwy'n falch iawn o allu derbyn argymhellion defnyddiol y pwyllgor, ac rydym eisoes yn gweithio i ymateb iddynt. Ym mis Ebrill, cyhoeddais y datganiad cenhadaeth yn egluro ein diffiniad o'r economi sylfaenol ac yn amlinellu ein hamcanion ar gyfer meithrin y sectorau hyn. Mae'r datganiad cenhadaeth yn cyd-fynd ag arsylwadau'r pwyllgor, ac rydym yn gweithio ar hyn o bryd i gwblhau'r metrigau hynny i fonitro cynnydd yn erbyn yr amcanion hyn.

Mae ein cymuned ymarfer yn cael ei hymestyn i ddod â rhanddeiliaid ynghyd mewn meysydd pwysig fel ynni, ac rydym yn galluogi aelodau i ddiffinio a phenderfynu ar y blaenoriaethau economi sylfaenol y maent am ganolbwyntio arnynt ac i gefnogi'r gwaith o rannu arferion gorau. Rydym wedi datblygu ein gwefan ymhellach i gynnwys astudiaethau achos ychwanegol a deunyddiau dysgu hefyd bellach i hyrwyddo arferion gorau. Cynhelir gwerthusiad o'r rownd ddiweddaraf o brosiectau economi sylfaenol dros yr haf, a bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y wefan.

Mae prif ffrydio cymorth economi sylfaenol i mewn i Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo busnesau lleol i wella eu gwybodaeth am gaffael, ac mae hefyd yn eu cysylltu â chyfleoedd contract. Yn y mis diwethaf, mae gweithdai ar y ddeddfwriaeth gaffael newydd wedi'u cynnal gyda dros 500 o fynychwyr. Fel y clywsom, yr hydref diwethaf, cynhaliwyd dau ddigwyddiad expo, a daethant â dros 1,000 o gynrychiolwyr ac arddangoswyr ynghyd, gan gysylltu'r cyflenwyr lleol â chontractwyr mawr sy'n awyddus i dyfu cadwyni cyflenwi Cymreig. Cawsant groeso da iawn—gan y cyflenwyr, a oedd yn agored i gyfleoedd newydd, a chan y prynwyr hefyd a oedd yn cael cyfle i wneud cysylltiadau lleol pwysig.

Credaf fod hynny'n dangos pa mor bwysig yw cydweithio er mwyn cyflawni ein hamcanion ar draws yr economi sylfaenol. Rydym wedi sefydlu trefniadau cydweithredol da iawn ar draws sectorau allweddol, gan gynnwys adeiladu, bwyd, iechyd, tai a thrafnidiaeth, a bydd y rhwydweithiau hyn nawr yn helpu i gefnogi'r gwaith o ledaenu a gweithredu arferion da ar raddfa fwy, a byddant yn galluogi cydweithio traws-sector ar feysydd o ddiddordeb cyffredin.

I gloi, mae'r drafodaeth heddiw wedi tanlinellu'n glir iawn y diddordeb cyffredin sydd gennym ar draws y Senedd i barhau ar ein taith i dyfu a chefnogi a chryfhau ein heconomi sylfaenol. Rhaid inni gynnal momentwm a chanolbwyntio ar y rhan hanfodol hon o'r economi, sy'n sail i'n bywyd bob dydd yng Nghymru. Bydd canfyddiadau adroddiad y pwyllgor a'r holl bwyntiau defnyddiol a godwyd heddiw yn mynd ymlaen i siapio'r gwaith cyflawni, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i gynhyrchu prosbectws ar gyfer y weinyddiaeth nesaf i ystyried sut y gallwn barhau i gefnogi'r economi sylfaenol. Felly, diolch i'r Cadeirydd a'r cyn-Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad a'i argymhellion, ond diolch hefyd i'r cyd-Aelodau ar draws y Senedd am gyfrannu yn y ddadl heddiw.

17:15

Dwi nawr yn galw ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.

I now call on Andrew R.T. Davies to reply to the debate.

Thank you, acting Presiding Officer, and thank you to everyone who contributed in the debate today. I think all committee members contributed, so it shows the interest that the committee did show in this genuine piece of work that, hopefully, assists the Government in some of the work that they are undertaking on the foundational economy.

Sam Kurtz, in his opening remarks, pointed to how many people actually do realise that they are in the foundational economy, and is it that lack of understanding of the role of the foundational economy that hinders many people's take on what is required. He said that this report, hopefully, will move things beyond warm words into a reality. I do genuinely believe that the Minister and the Government, with its programme for government commitment, do want to see that and make that happen. He also talked about the grants being very prescriptive, and maybe the grants needed to be a little bit more flexible so that there could be greater uptake of those grants to facilitate an expansion in the foundational economy.

Luke Fletcher touched on the point that there's broad agreement about what the problems are. There's not necessarily broad agreement on what the solution should be. I think that is a fair comment. He touched on how we do not necessarily need the conventional matrices to measure progress in the foundational economy, and ownership was one point that he highlighted, which could be used as a definition of some of the progress in the foundational economy reaching to the overall Welsh economy.

Hefin David touched on the point that he spoke in this Chamber in 2016. I did think my colleague Mark had rejoined us. But we didn't have to go back to 2003—it was only 2016 for Hefin. But it's an 'action this day' call, without a shadow of a doubt, because I have no doubt that, in the next Senedd term, the foundational economy will take people's workload to new levels and will occupy the minds of the new committee or successor committee in looking at the progress that the new Government will take when it delivers on its foundational economy commitments.

Jenny touched on the Preston model and how the committee had looked at the Preston model, and the Blaenau Ffestiniog experience as well, and the sense of belonging that communities need. But the other point she made was on the development of supermarkets in particular, and the way that they had wiped out, with the planning process, many high streets, which were the bedrock of foundational economies in many communities. I think many of us can recognise that in our own communities.

On the point that Hefin made about businesses depending on each other, I just think of conversations I have on my own farmyard when an electrician comes to fix something. It's very often, 'I know someone who can do it.' So, the electrician can do one part of it, the person who comes off his black phone index will do the middle part of it, and then maybe even a third person will come in and conclude the job. So, three businesses are benefiting from that, and that really is the integrational nature of the foundational economy.

Hannah, as you'd expect, touched on fair work and employment, and quite rightly talking on those issues, because it is very often that some of these jobs are low-paid and low-quality jobs, ultimately, that don't get the protection that some other sectors of the economy get. It is important that Government uses the levers. On the point that I made about that in my closing remarks when I opened this debate, about the Government only accepting in principle that particular recommendation, it would be good to hear more from the Cabinet Secretary as to how the Government will take forward those points.

But I heard what the Cabinet Secretary said about this being a programme for government commitment. I heard what she said about the legacy report that the Government will hand on to the new administration. I don't doubt the commitment that the Government have in this particular area, but drawing on Hefin's experience, we can't keep talking about this; we need action on it. And I hope very much in the time afforded to you left in your office of Cabinet Secretary for the economy, you will continue to drive the foundational economy, so that we can hand over a positive legacy to the next Senedd.

I urge Members to support this report this afternoon and put on record my sincere thanks to everyone who contributed to the report, and in particular to the witnesses and committee clerks who assisted the members of the committee in formulating this report. Thank you very much.

Diolch, Lywydd Dros Dro, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Credaf fod pob aelod o'r pwyllgor wedi cyfrannu, felly mae'n dangos y diddordeb a ddangosodd y pwyllgor yn y gwaith pwysig hwn a fydd, gobeithio, yn cynorthwyo'r Llywodraeth gyda pheth o'r gwaith y maent yn ei wneud ar yr economi sylfaenol.

Yn ei sylwadau agoriadol, soniodd Sam Kurtz am faint o bobl sy'n sylweddoli eu bod yn rhan o'r economi sylfaenol, ac ai'r diffyg dealltwriaeth hwnnw o rôl yr economi sylfaenol sy'n rhwystro llawer o bobl rhag deall yr hyn sydd ei angen. Dywedodd y bydd yr adroddiad hwn, gobeithio, yn symud pethau y tu hwnt i eiriau cynnes tuag at realiti. Rwy'n credu'n gryf fod y Gweinidog a'r Llywodraeth, gydag ymrwymiad ei rhaglen lywodraethu, eisiau gweld hynny ac eisiau gwneud i hynny ddigwydd. Soniodd hefyd am natur ragnodol y grantiau, ac efallai fod angen i'r grantiau fod ychydig yn fwy hyblyg er mwyn i bobl allu defnyddio'r grantiau hynny i hwyluso twf yn yr economi sylfaenol.

Nododd Luke Fletcher y pwynt fod cytundeb cyffredinol ynghylch beth yw'r problemau. Nid oes cytundeb cyffredinol o reidrwydd ynghylch beth ddylai'r ateb fod. Credaf fod hwnnw'n sylw teg. Crybwyllodd sut nad oes angen y matricsau confensiynol arnom o reidrwydd i fesur cynnydd yn yr economi sylfaenol, ac roedd perchnogaeth yn un pwynt a nododd, y gellid ei ddefnyddio fel diffiniad o rywfaint o'r cynnydd yn yr economi sylfaenol sy'n cyrraedd economi Cymru yn gyffredinol.

Soniodd Hefin David ei fod wedi siarad am hyn yn y Siambr yn 2016. Roeddwn yn credu bod fy nghyd-Aelod Mark wedi ailymuno â ni. Ond nid oedd yn rhaid inni fynd yn ôl i 2003—dim ond 2016 i Hefin. Ond mae'n alwad i weithredu heddiw, heb os nac oni bai, gan nad oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn nhymor nesaf y Senedd, y bydd yr economi sylfaenol yn codi llwyth gwaith pobl i lefelau newydd ac yn mynd â sylw'r pwyllgor newydd neu'r pwyllgor olynol wrth iddynt edrych ar y cynnydd y bydd y Llywodraeth newydd yn ei wneud pan fydd yn cyflawni ei hymrwymiadau ar yr economi sylfaenol.

Cyfeiriodd Jenny at fodel Preston a sut oedd y pwyllgor wedi edrych ar fodel Preston, a phrofiad Blaenau Ffestiniog hefyd, a'r ymdeimlad o berthyn sydd ei angen ar gymunedau. Ond y pwynt arall a wnaeth oedd datblygiad archfarchnadoedd yn enwedig, a'r ffordd yr oeddent, drwy'r broses gynllunio, wedi lladd llawer o strydoedd mawr, a oedd yn sail i economïau sylfaenol llawer o gymunedau. Rwy'n credu y gall llawer ohonom gydnabod hynny yn ein cymunedau ein hunain.

Ar y pwynt a wnaeth Hefin ynglŷn â busnesau'n dibynnu ar ei gilydd, rwy'n meddwl am sgyrsiau rwy'n eu cael ar iard fy fferm fy hun pan fydd trydanwr yn dod i atgyweirio rhywbeth. Yn aml iawn, 'Rwy'n adnabod rhywun a all wneud hynny.' Felly, gall y trydanwr wneud un rhan, bydd yr unigolyn oddi ar ei restr o rifau ffôn yn gwneud y rhan ganol, ac yna efallai y bydd trydydd unigolyn hyd yn oed yn dod i mewn ac yn cwblhau'r gwaith. Felly, mae tri busnes yn elwa o hynny, a dyna natur integreiddiol yr economi sylfaenol.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, soniodd Hannah am waith teg a chyflogaeth, ac roedd yn gwbl briodol ei bod yn sôn am y materion hynny, oherwydd yn aml iawn, mae rhai o'r swyddi hyn yn swyddi â chyflogau isel ac o ansawdd isel, yn y pen draw, nad oes ganddynt yr amddiffyniad y mae rhai sectorau eraill o'r economi yn ei gael. Mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn defnyddio'r ysgogiadau. Ar y pwynt a wneuthum ynglŷn â hynny yn fy sylwadau olaf pan agorais y ddadl hon, ynglŷn â'r Llywodraeth ond yn derbyn yr argymhelliad penodol hwnnw mewn egwyddor yn unig, byddai'n dda clywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â'r pwyntiau hynny.

Ond clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â bod hyn yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Clywais yr hyn a ddywedodd am yr adroddiad etifeddiaeth y bydd y Llywodraeth yn ei drosglwyddo i'r weinyddiaeth newydd. Nid wyf yn amau'r ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth yn y maes hwn, ond gan dynnu ar brofiad Hefin, ni allwn barhau i siarad am hyn; mae angen gweithredu arno. Ac rwy'n mawr obeithio, yn yr amser sydd ar ôl gennych fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, y byddwch yn parhau i hybu'r economi sylfaenol, fel y gallwn drosglwyddo gwaddol cadarnhaol i'r Senedd nesaf.

Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r adroddiad hwn y prynhawn yma ac yn diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad, ac yn arbennig i'r tystion a chlercod y pwyllgor a gynorthwyodd aelodau'r pwyllgor i ffurfio'r adroddiad hwn. Diolch yn fawr.

17:20

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? There is no objection. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

9. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth y DU
9. Plaid Cymru Debate: The UK Government

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

The following amendment has been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt.

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 9, sef dadl Plaid Cymru ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

We'll move on now to item 9, which is the Plaid Cymru debate on the UK Government. I call on Rhun ap Iorwerth to move the motion.

Cynnig NDM8953 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gadael i lawr y rhai a'i rhoddodd mewn grym yn etholiad cyffredinol 2024, ac wedi methu cadw at yr addewidion a wnaed i bobl Cymru.

Motion NDM8953 Heledd Fychan

Propose that the Senedd:

1. Believes that the UK Labour Government has let down those who put it into power in the 2024 General Election and failed to honour the promises made to the people of Wales.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. 

Thank you very much, acting Dirprwy Lywydd.

As the UK marked one year of a Labour Government last Friday, the overwhelming sense was one of real disappointment. Yes, unsurprisingly, that may well be my own judgment, but remember that poll after poll tells us clearly that this is the prevailing mood among a significant number of those who voted Labour into power, as well as the sentiment of many backbench Labour Members too, both in this Chamber and at Westminster—a party that fought and won the election on a platform of change, with that change ending up manifesting itself only in the Prime Minister changing his mind on one major policy announcement after another.

It's difficult to remember a period when such a large majority felt so fractious and fragile, with the governing party limping from one poor headline to the next. For Wales, the much-lauded 'partnership in power' rings hollow. Compare that with what I want to see: the power of partnership. The former serves only to celebrate Labour hegemony, while the latter cements the contract between a Government and the people it serves.

The previous First Minister and current Cabinet Secretary for finance expressed his confidence that a UK Labour Government would provide the investment that we need in our public services, and that a Starmer-led UK Government would be guided by a burning sense that the party's mission is not to tinker at the edges, not to offer some mild amelioration, but to eradicate poverty. Similarly, his successor proclaimed that a new UK Labour Government would be standing up for the future of Wales, for fair funding and for fair consequentials. And, of course, the current First Minister has spoken effusively about her relationship with and confidence in the Prime Minister, this beleaguered Prime Minister.

Twelve months on since the general election, the glaring hollowness of that promise is plain for all to see here in Wales. The signs were pretty ominous, weren't they, for some time prior to polling day. Growing the economy and ending the chaos, whilst admirable statements of intent after 14 years of Tory austerity, left a vacuum, which has now been filled on the backs of the poor and on the backs of the disadvantaged.

Wrth i'r DU nodi blwyddyn o Lywodraeth Lafur ddydd Gwener diwethaf, y teimlad cyffredinol oedd siom wirioneddol. Iawn, efallai nad yw'n syndod mai dyna fy marn i, ond cofiwch fod pôl piniwn ar ôl pôl piniwn yn dweud wrthym yn glir mai dyma'r teimlad cyffredinol ymhlith nifer sylweddol o'r rhai a bleidleisiodd i roi Llafur mewn grym, yn ogystal â theimlad llawer o Aelodau Llafur ar y meinciau cefn hefyd, yn y Siambr hon ac yn San Steffan—plaid a ymladdodd ac a enillodd yr etholiad ar blatfform o newid, gyda'r newid hwnnw ond i'w weld wrth i Brif Weinidog y DU newid ei feddwl ar un cyhoeddiad polisi mawr ar ôl y llall.

Mae'n anodd cofio cyfnod pan oedd mwyafrif mor fawr yn teimlo mor anystywallt a bregus, gyda'r blaid mewn grym yn hercian o un pennawd gwael i'r llall. I Gymru, mae'r 'bartneriaeth mewn grym' y canwyd ei chlodydd cymaint yn swnio'n wag. Cymharwch hynny â'r hyn yr hoffwn ei weld: grym partneriaeth. Dim ond dathlu goruchafiaeth Llafur y mae'r cyntaf, tra bo'r ail yn cadarnhau'r contract rhwng Llywodraeth a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Mynegodd y cyn-Brif Weinidog ac Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros gyllid ei hyder y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn darparu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac y byddai Llywodraeth y DU dan arweiniad Starmer yn cael ei harwain gan ymdeimlad mai cenhadaeth y blaid yw nid gwneud mân addasiadau, nid cynnig rhywfaint o welliannau bach, ond trechu tlodi. Yn yr un modd, cyhoeddodd ei olynydd y byddai Llywodraeth Lafur newydd y DU yn sefyll dros ddyfodol Cymru, dros gyllid teg a thros gyllid canlyniadol teg. Ac wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog presennol wedi siarad yn frwd am ei pherthynas â Phrif Weinidog y DU a'i hyder ynddo, Prif Weinidog y DU sydd dan warchae.

Ddeuddeng mis ers yr etholiad cyffredinol, mae gwacter yr addewid hwnnw'n amlwg i bawb yma yng Nghymru. Roedd yr arwyddion yn eithaf bygythiol, onid oeddent, am beth amser cyn diwrnod yr etholiad. Mae tyfu'r economi a dod â'r anhrefn i ben, er eu bod yn ddatganiadau clodwiw o fwriad ar ôl 14 mlynedd o gyni'r Torïaid, wedi gadael gwactod sydd bellach wedi'i lenwi ar draul y tlodion ac ar draul y difreintiedig.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer took the Chair.

17:25

And somewhere in this equation lay Wales—a nation reminded time and time again that we are better together, and better still with two Labour Governments working together. Long-held commitments on devolving justice and policing were diluted beyond recognition, while the rhetoric on HS2 consequentials—so vocal even from the Secretary of State for Wales herself when Labour were in opposition—was suddenly dialled down to a conspicuous silence. We were even told on one occasion by that Secretary of State herself that HS2 no longer existed anymore. Well, it does, and so does the injustice, and the people of Wales know that. 

In all, the trickle of disappointment soon became a flood of disillusionment. We had the withdrawal of the winter fuel allowance, which could have pushed thousands of pensioners already living well below the minimum wage into poverty and could have led to an additional 4,000 deaths in Wales alone, according to the older people's commissioner. They backed down because of pressure, not because of political instinct. Every single Welsh Labour MP at Westminster lining up to vote against devolving the Crown Estate, thereby denying us the opportunity to profit from the wealth of our own natural resources here in Wales. Talking the talk where it suits, not walking the walk when those votes could matter at Westminster.

There's the blatant double standards when it came to the UK Government's attitude towards the steel industry, which has left Wales, and Port Talbot in particular, the losers of the green transition. The pursuit of cuts to the welfare system so deep that it shamed a significant number of Labour Members of Parliament into action. An added tax on Wales of £72 million as a result of the fundamental injustice—the Cabinet Secretary for finance's words, not mine—in allocating reimbursements for employer national insurance contribution costs in the core public sector. A spending review that provides Wales with the worst real-terms growth in its day-to-day spending outside of the immediate austerity years. And a contracting capital budget—capital spending in Wales going down, where it's going up in Scotland and Northern Ireland. Yet it's a triumph, says Labour in Wales. The complete refusal to replace the outdated Barnett formula with a fair funding model that reflects the needs of our population. The list goes on.

And you don't need to take my word for it. Just listen to what the Labour Senedd Member for Llanelli said recently about the UK party being on the wrong side of history when it comes to rail investment and the case for devolving the Crown Estate, or what the Labour Senedd Member for Pontypridd has said about progress on further Welsh devolution not simply being non-existent under the current UK Government but actually deteriorating in several key areas. And I quote their words not with glee, but with a genuine sense of concern, which all of us should share, that Wales has been played. Wales has been played by a political project devoid of any compassion and lacking in an understanding of the real-world struggles of those who voted them into power and that is totally ambivalent to the needs, specifically, of the people of Wales. 

So, why has Labour singularly failed to live up to its promises, especially to a country and an electorate to whom they owe so much, both in terms of their electoral success over the years, and some might say to their very existence as a political party? The fact that the Labour Welsh Government chose to laud rather than lament a spending review that's going to result in even less real-terms growth for the Welsh budget than the previous spending review period, for example, also strongly indicates that they've been taken advantage of so often by their UK Government colleagues that they no longer know what a good deal for Wales actually looks like, let alone know how to fight for it. Not even the realisation that we're unquestionably on the threshold of a tectonic shift in our political landscape as voters across the length and breadth of Wales yearn for real change has been enough to signal a new direction. 

I'll pre-empt what the Government's response could be. It's as predictable as night following day—that somehow Plaid Cymru lives in a parallel universe, that we're a party of fantasists. Well, let me say this: you can be both credible and compassionate. There is another path to a hopeful future. Lifting the two-child cap, welfare reforms that give a voice to the most vulnerable, a fair funding model that truly addresses Wales's needs, and a devolution settlement that allows Welsh solutions to our nation's problems—that's the change we should have seen. And, yes, we should be asking those with the broadest shoulders to contribute a little more, the multimillionaires and billionaires in whose few hands the vast amount of the wealth is accrued. Yes, the First Minister has now belatedly joined Plaid Cymru in making the call for a wealth tax. But it is too late, driven by the fallout from the welfare vote, not by her instinct to set out her position ahead of time.

What we've ended up with is this: on the one hand, a divisive politics of grievance from the hard right, who feed from the understandable disillusionment of voters towards the political classes, but offer nothing themselves beyond cynically using our democracy as an opportunity for personal enrichment, flogging off our precious health service to their wealthy benefactors, and undermining our national security by appeasing tyrants like Putin; and on the other hand, we have Plaid Cymru's bold plans to make Wales the fairer, ambitious and prosperous nation we know that it can be, unlocking the true potential of devolution to offer a progressive alternative to Westminster's tired status quo, a vision that is both just and justifiable and necessary.

A rhywle yn yr hafaliad hwn, roedd Cymru—cenedl sy'n cael ei hatgoffa dro ar ôl tro ein bod yn well gyda'n gilydd, ac yn well fyth gyda dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd. Cafodd ymrwymiadau hirhoedlog i ddatganoli cyfiawnder a phlismona eu glastwreiddio y tu hwnt i adnabyddiaeth, tra bo'r rhethreg ar gyllid canlyniadol HS2—mor groch hyd yn oed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei hun pan oedd Llafur yn wrthblaid—wedi troi, yn sydyn iawn, yn dawelwch llwyr. Dywedwyd wrthym ar un achlysur gan yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun nad oedd HS2 yn bodoli mwyach. Wel, mae'n bodoli, ac mae'r anghyfiawnder yn bodoli hefyd, ac mae pobl Cymru yn gwybod hynny.

Yn fuan iawn, fe drodd y diferion o siom yn llifogydd o ddadrithiad. Cafodd lwfans tanwydd y gaeaf ei ddiddymu, a allai fod wedi gwthio miloedd o bensiynwyr a oedd eisoes yn byw ymhell islaw'r isafswm cyflog i mewn i dlodi, a gallai fod wedi arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru yn unig, yn ôl y comisiynydd pobl hŷn. Fe wnaethant ildio oherwydd pwysau, nid oherwydd greddf wleidyddol. Mae pob Aelod Seneddol Llafur Cymru yn San Steffan yn ciwio i bleidleisio yn erbyn datganoli Ystad y Goron, a gwadu'r cyfle inni elwa o gyfoeth ein hadnoddau naturiol ein hunain yma yng Nghymru. Dweud y pethau iawn pan fo'n gyfleus, a gwrthod gwneud y pethau iawn pan allai'r pleidleisiau hynny wneud gwahaniaeth yn San Steffan.

Dyna'r safonau dwbl amlwg yn agwedd Llywodraeth y DU tuag at y diwydiant dur, sydd wedi gadael Cymru, a Phort Talbot yn enwedig, ar eu colled yn y pontio gwyrdd. Toriadau mor ddwfn i'r system les nes codi cywilydd ar nifer sylweddol o Aelodau Seneddol Llafur. Treth ychwanegol ar Gymru o £72 miliwn o ganlyniad i'r anghyfiawnder sylfaenol—geiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, nid fy rhai i—wrth ddyrannu ad-daliadau ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus craidd. Adolygiad o wariant sy'n rhoi'r twf gwaethaf i Gymru mewn termau real yn ei gwariant o ddydd i ddydd y tu hwnt i'r blynyddoedd cyni gwaethaf. A chyllideb gyfalaf sy'n crebachu—gwariant cyfalaf yng Nghymru yn lleihau, lle mae'n cynyddu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ac eto, mae'n llwyddiant, meddai Llafur yng Nghymru. Y gwrthodiad llwyr i gael model ariannu teg sy'n adlewyrchu anghenion ein poblogaeth yn lle fformiwla Barnett nad yw'n gweithio mwyach. Mae'r rhestr yn parhau.

Ac nid oes angen ichi dderbyn fy ngair i ar hyn. Gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod Llafur o'r Senedd dros Lanelli yn ddiweddar, fod plaid Lafur y DU ar yr ochr anghywir i hanes o ran buddsoddiad rheilffyrdd a'r achos dros ddatganoli Ystad y Goron, neu'r hyn a ddywedodd yr Aelod Llafur o'r Senedd dros Bontypridd, nad oedd cynnydd ar ddatganoli pellach yng Nghymru yn bodoli o dan Lywodraeth bresennol y DU, a'i fod yn dirywio mewn sawl maes allweddol. A dyfynnaf eu geiriau nid gyda llawenydd, ond gydag ymdeimlad gwirioneddol o bryder, y dylai pob un ohonom ei rannu, fod Cymru wedi cael ei thwyllo. Mae Cymru wedi cael ei thwyllo gan brosiect gwleidyddol heb unrhyw dosturi'n perthyn iddo a heb ddealltwriaeth o frwydrau byd go iawn y rhai a bleidleisiodd drostynt, prosiect gwleidyddol sy'n ddi-hid ynghylch anghenion pobl Cymru, yn benodol.

Felly, pam fod Llafur wedi methu cadw at ei haddewidion, yn enwedig i wlad ac i etholwyr y maent mor ddyledus iddynt, o ran eu llwyddiant etholiadol dros y blynyddoedd, a gellid dadlau, o ran eu bodolaeth fel plaid wleidyddol? Mae’r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dewis canmol yn hytrach na chondemnio adolygiad o wariant a fydd yn arwain at dwf hyd yn oed yn llai mewn termau real i gyllideb Cymru na chyfnod yr adolygiad o wariant blaenorol, er enghraifft, hefyd yn awgrymu'n gryf fod eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU wedi cymryd mantais arnynt mor aml fel nad ydynt bellach yn gwybod beth yw bargen dda i Gymru mewn gwirionedd, heb sôn am wybod sut i ymladd am un. Nid yw hyd yn oed y sylweddoliad ein bod, heb os, ar drothwy newid llwyr yn ein tirlun gwleidyddol wrth i bleidleiswyr ledled Cymru ddyheu am newid gwirioneddol wedi bod yn ddigon iddynt nodi cyfeiriad newydd.

Gallaf ragweld beth fydd ymateb y Llywodraeth. Mae mor rhagweladwy â nos ar ôl dydd—fod Plaid Cymru rywsut yn byw mewn bydysawd cyfochrog, ein bod yn blaid o ffantasïwyr. Wel, gadewch imi ddweud hyn: gallwch fod yn gredadwy ac yn dosturiol ar yr un pryd. Mae llwybr arall yn bodoli tuag at ddyfodol gobeithiol. Cael gwared ar y cap dau blentyn, diwygiadau lles sy'n rhoi llais i'r rhai mwyaf agored i niwed, model ariannu teg sy'n mynd i'r afael go iawn ag anghenion Cymru, a setliad datganoli sy'n caniatáu atebion Cymreig i broblemau ein cenedl—dyna'r newid y dylem fod wedi'i weld. A dylem, fe ddylem fod yn gofyn i'r rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf gyfrannu ychydig yn fwy, yr ychydig amlfiliwnyddion a biliwnyddion sydd â'r rhan helaethaf o'r cyfoeth yn eu dwylo. Ydy, mae'r Prif Weinidog bellach wedi ymuno â Phlaid Cymru o'r diwedd i alw am dreth ar gyfoeth. Ond mae'n rhy hwyr, ac wedi'i yrru gan ganlyniadau'r bleidlais les, nid gan ei greddf i nodi ei safbwynt ymlaen llaw.

Dyma’r hyn sydd gennym bellach: ar y naill law, gwleidyddiaeth ymrannol o achwyn gan yr asgell dde eithafol, sy’n bwydo ar ddadrithiad dealladwy pleidleiswyr tuag at wleidyddion, ond nad ydynt yn cynnig unrhyw beth eu hunain heblaw defnyddio ein democratiaeth yn sinigaidd fel cyfle i wneud elw personol, gan werthu ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr i’w cymwynaswyr cyfoethog, a thanseilio ein diogelwch cenedlaethol drwy eu hagwedd gymodlon tuag at ormeswyr fel Putin; ac ar y llaw arall, mae gennym gynlluniau beiddgar Plaid Cymru i sicrhau y gall Cymru fod yn genedl decach, uchelgeisiol a llewyrchus fel y gwyddom y gall fod, gan ddatgloi gwir botensial datganoli i gynnig dewis arall blaengar yn lle hen status quo treuliedig San Steffan, gweledigaeth sy'n gyfiawn, yn haeddiannol ac yn angenrheidiol.

17:30

I'd like to know how you're going to justify, through the independence that you stand for, which somehow you don't mention at all in this speech, the £7,000 per person that's going to be needed to pay for your independence. That's what I'd like to know, and how you think that won't put people into depths of despair and poverty.

Hoffwn wybod sut ydych chi'n mynd i gyfiawnhau, trwy'r annibyniaeth yr ydych chi'n sefyll drosti, nad ydych chi'n sôn amdani o gwbl yn yr araith hon, am y £7,000 y pen y bydd ei angen i dalu am eich annibyniaeth. Dyna beth hoffwn i ei wybod, a sut ydych chi'n meddwl na fydd hynny'n taflu pobl i ddyfnderoedd o anobaith a thlodi.

Back-of-a-fag-packet sums will not help in the debate on how we build a better future for Wales today. I will always make the case, and so should Labour Members here, that the current status quo of the United Kingdom is letting Wales down week after week, month after month, year after year, and if we haven't seen that from the actions of a Labour Government over the past 12 months, when will people learn?

Ni fydd symiau ar gefn pecyn sigaréts yn helpu yn y ddadl ar sut yr adeiladwn ddyfodol gwell i Gymru heddiw. Byddaf bob amser yn gwneud yr achos, ac fe ddylai Aelodau Llafur yma wneud hynny hefyd, fod status quo presennol y Deyrnas Unedig yn gwneud cam â Chymru wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac os nad ydym wedi gweld hynny o weithredoedd Llywodraeth Lafur dros y 12 mis diwethaf, pryd fydd pobl yn dysgu?

I would like to hear the contribution from the leader of Plaid Cymru, and I can't, because there's so much noise going on elsewhere. 

Hoffwn glywed cyfraniad arweinydd Plaid Cymru, ac ni allaf, oherwydd bod cymaint o sŵn mewn mannau eraill. 

The noise is getting louder, isn't it, on our needs as a nation not being fulfilled by a UK Government, be it a current Labour Government or former Labour and Conservative Governments that completely fail to grasp the needs of our nation and the need to stand up and fight day in, day out for addressing those needs, and, yes, making the case for how we can reach our potential as a nation. 

Now, the tap end is getting hotter; Welsh Labour might get burned. That was Lee Waters's warning, or clarion call—it depends on your perspective. If only there was a clear red water tap that could be turned on. If only the First Minister could live up to the claim that she has more influence over the Prime Minister than I will ever have. We see more clearly every day that her influence is negligible, and Wales pays the price for that. So, as Labour's electoral prospects drown in a deluge of their own doing, it is left to Plaid Cymru to offer the hope that the people of Wales so desperately seek, and I urge Members to cast their verdict on the UK Government and support our motion today.

Mae'r sŵn yn mynd yn uwch, onid yw, ar ein hanghenion fel cenedl nad ydynt yn cael eu diwallu gan Lywodraeth y DU, boed y Llywodraeth Lafur bresennol neu gyn-Lywodraethau Llafur a Cheidwadol sy'n methu deall anghenion ein cenedl a'r angen i godi a brwydro o un diwrnod i'r llall dros fynd i'r afael â'r anghenion hynny, a gwneud yr achos dros sut i gyrraedd ein potensial fel cenedl. 

Nawr, mae pen y tap yn mynd yn boethach; efallai y caiff Llafur Cymru ei llosgi. Dyna oedd rhybudd Lee Waters, neu larwm—mae'n dibynnu ar eich persbectif. O na bai tap dŵr coch clir y gellid ei agor. O na bai Prif Weinidog Cymru'n gallu gwireddu'r honiad fod ganddi fwy o ddylanwad dros Brif Weinidog y DU nag y bydd gennyf i byth. Gwelwn yn gliriach bob dydd fod ei dylanwad yn bitw, ac mae Cymru'n talu'r pris am hynny. Felly, wrth i ragolygon etholiadol Llafur foddi mewn dilyw o'u gwneuthuriad eu hunain, mae Plaid Cymru yn cynnig y gobaith y mae pobl Cymru gymaint o'i eisiau, ac rwy'n annog yr Aelodau i fynegi eu barn ar Lywodraeth y DU a chefnogi ein cynnig heddiw.

Rwyf wedi dethol y gwelliant, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

I have selected the amendment, and I call on the Counsel General and Minister for Delivery to move amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan 14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei phobl.

Amendment 1—Jane Hutt

Delete all and replace with:

To propose that the Senedd:

Recognises that in the year since the General Election, the UK Government has started to undo the damage caused by 14 years of austerity by providing Wales with increased funding and longer-term fiscal certainty to plan and support the people of Wales. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Amendment 1 moved.

I'm pleased to be taking part in this debate today and confirming that the Welsh Conservatives will support the initial motion today, because it's true, isn't it, that this UK Labour Government, led by Keir Starmer, has let down those that it put into power. I think it's important to start with the inheritance that they had from the previous Conservative Government: the fastest growing economy in the G7, 700 jobs being created every single day, and inflation down to the target of 2 per cent. And yet in just a year, all that and more has completely vanished. Their most notable promise in the election was that they wouldn't raise taxes on working people—only to do the exact opposite and hike up national insurance tax. That decision has had the disastrous consequence of seeing unemployment rise across the country. They promised that they would keep that inflation figure at 2 per cent, but because the Chancellor has lost control of the economy, inflation has nearly doubled. That means that people's everyday bills get more expensive, and public services get more expensive to deliver too. 

They promised that they would smash the gangs when it came to illegal boat crossings into this country. Then they oversaw the largest number ever of illegal crossings into this country, in the very first year. This Government has been smashed by the gangs. They promised our farmers that they would have their backs, but instead, they have threatened to put them out of business with their unfair family farm tax. They said that they would get more people back into work and off benefits, and then literally chickened out, causing the already massive benefits bill in this country to further increase over the coming years. They promised our older people that they would stand up for them, and the first thing that they did was remove the winter fuel allowance, leaving them frozen last winter.

And now, what's on the horizon? Well, that's the one thing that is clear: more tax rises. The Chancellor lost control of the economy, the Home Secretary lost control of our borders, and the Prime Minister has lost control of the country and of his party, and it is ordinary British people who are paying the price. 

But why has that happened? Why have we reached this low point? It is because we have a Prime Minister who doesn't know what he actually wants to do or wants to achieve. When Kemi Badenoch asked the Prime Minister what he stands for, he literally had to look in his file to find the answer. Doesn't that say it all about the current occupant of 10 Downing Street?

During the election, we saw the empty one-word slogan of 'change'. But now we know that that did not mean anything, because the only thing that this Prime Minister is known for are his u-turns. He's been led by events rather than leading the country, and now he has seemed to hand over the leadership of his party to his backbenchers.

The truth is, he wasted his time in opposition. He didn't take the time to work out what he stood for, or what his party wanted to do if it got into Government. Do we really know what Starmerism is? Has he ever laid it out? To be a politician, you have to believe in something. But this Government is all lost at sea, because it has a leader that doesn't believe in anything.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol heddiw, oherwydd mae'n wir, onid yw, fod Llywodraeth Lafur y DU, dan arweiniad Keir Starmer, wedi gwneud cam â'r rhai a'i rhoddodd mewn grym. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dechrau gyda'r etifeddiaeth a gawsant gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol: yr economi a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7, 700 o swyddi yn cael eu creu bob dydd, a chwyddiant i lawr i'r targed o 2 y cant. Ac eto mewn blwyddyn yn unig, mae hynny i gyd a mwy wedi diflannu'n llwyr. Eu haddewid mwyaf nodedig yn yr etholiad oedd na fyddent yn codi trethi ar bobl sy'n gweithio—ddim ond i wneud y gwrthwyneb yn llwyr a chodi treth yswiriant gwladol. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi arwain at ganlyniad trychinebus cynnydd mewn diweithdra ledled y wlad. Fe wnaethant addo y byddent yn cadw'r ffigur chwyddiant ar 2 y cant, ond oherwydd bod y Canghellor wedi colli rheolaeth ar yr economi, mae chwyddiant bron â bod wedi dyblu. Golyga hynny fod biliau bob dydd pobl yn ddrytach, a gwasanaethau cyhoeddus yn ddrytach i'w darparu hefyd.

Fe wnaethant addo y byddent yn chwalu'r gangiau sy'n trefnu cychod i groesi'r Sianel yn anghyfreithlon i'r wlad hon. Yna fe wnaethant oruchwylio dros y nifer fwyaf erioed o groesiadau anghyfreithlon i'r wlad hon, yn y flwyddyn gyntaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi cael ei chwalu gan y gangiau. Fe wnaethant addo i'n ffermwyr y byddent yn eu cefnogi, ond yn hytrach, maent wedi bygwth eu gwneud yn fethdalwyr gyda'u treth annheg ar y fferm deuluol. Roeddent yn dweud y byddent yn cael mwy o bobl yn ôl i'r gwaith ac oddi ar fudd-daliadau, ac yna, yn llythrennol, fe wnaethant droi'n llwfr rhag gwneud hynny, gan achosi i'r bil budd-daliadau sydd eisoes yn enfawr yn y wlad hon gynyddu ymhellach dros y blynyddoedd i ddod. Fe wnaethant addo i'n pobl hŷn y byddent yn sefyll drostynt, a'r peth cyntaf a wnaethant oedd cael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf, gan eu gadael i rewi y gaeaf diwethaf.

A nawr, beth sydd ar y gorwel? Wel, dyna'r un peth sy'n glir: mwy o godiadau treth. Collodd y Canghellor reolaeth ar yr economi, collodd yr Ysgrifennydd Cartref reolaeth ar ein ffiniau, ac mae'r Prif Weinidog wedi colli rheolaeth ar y wlad a'i blaid, a phobl gyffredin Prydain sy'n talu'r pris. 

Ond pam y mae hynny wedi digwydd? Pam ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt isel hwn? Oherwydd bod gennym Brif Weinidog nad yw'n gwybod beth y mae eisiau ei wneud neu eisiau ei gyflawni mewn gwirionedd. Pan ofynnodd Kemi Badenoch i'r Prif Weinidog dros beth y mae'n sefyll, roedd yn rhaid iddo edrych yn ei ffeil i ddod o hyd i'r ateb. Onid yw hynny'n dweud popeth am breswylydd presennol 10 Stryd Downing?

Yn ystod yr etholiad, gwelsom y slogan un gair gwag, 'newid'. Ond nawr fe wyddom nad oedd hynny'n golygu unrhyw beth, am mai'r unig beth y mae'r Prif Weinidog yn enwog amdano yw ei droeon pedol. Cafodd ei arwain gan ddigwyddiadau yn hytrach na'i fod ef yn arwain y wlad, a nawr mae'n ymddangos ei fod yn trosglwyddo arweinyddiaeth ei blaid i'w feinciau cefn.

Y gwir amdani yw ei fod wedi gwastraffu ei amser pan oeddent yn wrthblaid. Ni roddodd amser i ystyried dros beth y safai, neu beth oedd ei blaid eisiau ei wneud pe baent yn dod i rym. A ydym yn gwybod beth yw Starmeriaeth mewn gwirionedd? A yw ef erioed wedi dweud? I fod yn wleidydd, rhaid i chi gredu mewn rhywbeth. Ond mae'r Llywodraeth hon wedi colli ei ffordd am fod ganddi arweinydd nad yw'n credu mewn dim.

17:35

I just want to ask, when we are talking about beliefs, whether you believed, when you supported the cuts that we suffered for 14 years, that that was the right way—to decimate our public services, including the NHS; to put people out of work; to make people poorer? I wonder if you believed in all of that, and I can hear your colleague, and I will ask him the same question too. Did you think that that was the way to go?

Pan siaradwn am gredoau, pan oeddech chi'n cefnogi'r toriadau a ddioddefwyd gennym am 14 mlynedd, a oeddech chi'n credu mai dyna oedd y ffordd iawn—dinistrio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys y GIG; rhoi pobl allan o waith; gwneud pobl yn dlotach? Tybed a oeddech chi'n credu yn hynny i gyd, a gallaf glywed eich cyd-Aelod, ac fe ofynnaf yr un cwestiwn iddo yntau hefyd. A oeddech chi'n meddwl mai dyna'r ffordd iawn o wneud pethau?

Well, let me tell you what I didn't believe in, and that was your party's decision, in this Senedd, to cut the NHS budget twice. The only part of the UK that has ever done it, and that is a decision that you lot made. But of course, we've got an occupant, haven't we, in No. 10, who doesn't believe in anything. And that stuff matters.

Look, I'd be the first person to admit that the last Conservative Government didn't achieve everything that it should have done, particularly towards the end of its last term. But that's why I'm pleased that my party is currently engaged in a process of renewal—doing the homework now, so that we don't end up in the position in the future that this current Government is in, where we don't know what we want to do or how to do it: diagnosing the problems, finding solutions that we can deliver and building a proper plan; being clear about what we, as Conservatives, stand for, and not just what we don't; making our country stronger again, not just for ourselves but for our children and our grandchildren too.

But that critique of the Labour Party applies to Reform too. They are excellent at identifying issues, but simply incapable of delivering any solutions. And there's no doubt that people have started paying attention to them. But they're increasingly finding, the more they look to Reform for answers, that the cupboard is bare. Take immigration as an example. Seventy-six days ago, Farage promised that he would set out a detailed deportation strategy, as to how he would plan to deport foreign criminals and illegal migrants within three to four weeks. Seventy-six days on, he still hasn't delivered it.

Meanwhile, the Conservatives have set out a detailed plan, presented to Parliament, with clear measures, asks and deliverables—voted down by the Labour Government, but ready to go on day one of the next Conservative one. Reform, meanwhile, simply haven't done their homework. To deliver change, you need to know what you'd do, and how you'd enact it.

We see that Labour have failed because they don't know what they stand for, and Reform will fail because they won't do the hard work to work out how to change Britain. Only a changed Conservative Party can deliver the change that Wales—

Wel, gadewch imi ddweud wrthych beth nad oeddwn i'n credu ynddo, a phenderfyniad eich plaid chi yn y Senedd i dorri cyllideb y GIG ddwywaith oedd hwnnw. Yr unig ran o'r DU sydd erioed wedi gwneud hynny, ac mae'n benderfyniad a wnaed gennych chi. Ond wrth gwrs, mae gennym breswylydd yn Rhif 10 nad yw'n credu mewn unrhyw beth. Ac mae'r pethau hynny'n bwysig.

Edrychwch, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef na wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf gyflawni popeth y dylai fod wedi'i wneud, yn enwedig tuag at ddiwedd ei thymor olaf. Ond dyna pam rwy'n falch fod fy mhlaid ar hyn o bryd yn bwrw iddi gyda phroses o adnewyddu—gwneud y gwaith cartref nawr, fel nad ydym yn y sefyllfa y mae'r Llywodraeth bresennol ynddi yn y dyfodol, lle nad ydym yn gwybod beth ydym eisiau ei wneud na sut i'w wneud: gwneud diagnosis o'r problemau, dod o hyd i atebion y gallwn eu cyflawni ac adeiladu cynllun priodol; bod yn glir ynglŷn â'r hyn rydym ni, fel Ceidwadwyr, yn sefyll drosto, ac nid dim ond yr hyn nad ydym yn sefyll drosto; gwneud ein gwlad yn gryfach eto, nid yn unig i ni ein hunain ond i'n plant a'n hwyrion hefyd.

Ond mae'r feirniadaeth honno o'r Blaid Lafur yn berthnasol i Reform hefyd. Maent yn ardderchog am nodi problemau, ond yn gwbl analluog i ddarparu unrhyw atebion. Ac nid oes amheuaeth fod pobl wedi dechrau talu sylw iddynt. Ond maent yn darganfod yn gynyddol, po fwyaf yr edrychant tuag at Reform am atebion, fod y cwpwrdd yn wag. Cymerwch fewnfudo er enghraifft. Addawodd Farage 76 diwrnod yn ôl y byddai'n cyflwyno strategaeth alltudio fanwl ar ei gynlluniau i alltudio troseddwyr tramor a mudwyr anghyfreithlon o fewn tair i bedair wythnos. Mae'n dal i fod heb ei chyflwyno 76 diwrnod yn ddiweddarach.

Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr wedi llunio cynllun manwl, wedi'i gyflwyno i'r Senedd, gyda mesurau clir, gofynion a phethau y gellir eu cyflawni—ac fe'i gwrthodwyd gan y Llywodraeth Lafur, ond mae'n barod i fynd ar ddiwrnod cyntaf y Llywodraeth Geidwadol nesaf. Yn y cyfamser, nid yw Reform wedi gwneud eu gwaith cartref. Er mwyn sicrhau newid, mae angen i chi wybod beth fyddech chi'n ei wneud, a sut y byddech chi'n ei weithredu.

Fe welwn fod Llafur wedi methu am nad ydynt yn gwybod beth y maent yn sefyll drosto, a bydd Reform yn methu am nad ydynt yn gwneud y gwaith caled i gynllunio sut i newid Prydain. Dim ond Plaid Geidwadol ar ei newydd wedd a all sicrhau'r newid y mae Cymru—

17:40

—and Britain needs, both in Cardiff Bay and in Westminster. That's the only way we'll fix Wales, and then we'll fix Britain.

—a Phrydain ei angen, ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan. Dyna'r unig ffordd y gwnawn ni drwsio Cymru, ac yna fe wnawn ni drwsio Prydain.

For over 14 years of the last Westminster Government, those who needed the most support in our communities bore instead the brunt of a flawed economic policy that punished the vulnerable for the failures of the rich. The Tories sold austerity as necessary fiscal medicine, a bitter pill we all had to swallow, with Cameron insisting that we're all in it together. But not everyone felt the effects of austerity equally. In Wales we have been among those who have paid the highest price for Westminster's wilful and deliberate neglect of our people. And these were the people who were promised change last year by Labour. They were promised fairness. They were told that a new day was dawning after a long, dark night. But a year into this so-called partnership between Welsh and UK Labour, what do the people of Wales truly have to show for it? Broken promises and more people being pushed into poverty and hardship.

Nothing crystallises the cold and calculated callousness of austerity politics like the two-child limit and benefit cap. It's a shameful policy. A deliberate political choice to deny support to some of the poorest in our society, the poorest children in our society, simply because of how many siblings they have. The consequences are devastating and disastrous for Wales. This policy doesn't save money, it deepens already unacceptably high levels of poverty, and it has no place in any society that claims to care about fairness or the well-being of children. But now, with their colleagues in power in Westminster keeping this cruel policy, knowingly locking over 65,000 Welsh children into poverty, what we hear from the Welsh Government are tempered calls, instead of the strong words we used to hear directed to the Tories, those that used to pepper Labour's speeches in this place—words like 'appalling', 'inhumane'—only a year ago. 

Last winter Welsh pensioners were left in the cold as the winter fuel payment was scrapped for most. Oh, yes, there's been a u-turn, of course, but only after bad local election results in England forced Starmer and Reeves's hand. It was literally one of the first things the UK Labour Government reached for to fill their fiscal holes. While the non-doms saw the new measures announced, so they paid more of their fair share, adjusted and softened, we know that Welsh pensioners were amongst the hardest hit last winter. They felt bewildered, they felt betrayed. And then the cuts to welfare. It's almost too painful to list all these shameful decisions that have been taken in just one year of Labour in power in Westminster.

A decision was made to target and degrade disabled and long-term sick people to meet an artificial budget line. When enough Labour MPs, many in marginal seats, saw the writing on the wall, they acted. But the disgraceful way that the lives of those hundreds of thousands of disabled people in Wales were treated by Labour politicians in the ensuing chaos was absolutely horrifying. And now, even in its new form, the UN, no less, has warned of the damage that the proposed reform Bill will inflict on disabled people and their rights. The pressure placed on those who a Labour Government should be protecting is despicable, especially to those with fluctuating or invisible conditions who now face a more punitive system under a Government that promised compassion. Welsh Labour, whatever that is, cannot sit back and pretend they bear no responsibility. All now are seemingly comfortable to support the cuts passed for new claimants of the universal credit health payment. Although Disability Wales has said, for disabled people in Wales already experiencing some of the highest poverty rates in the UK, facing long NHS waits, inaccessible workplaces, daily discrimination and spiralling costs of living, these plans are nothing short of an assault. 

Austerity is not about balancing the books, it's about shifting the burden from the powerful onto the powerless. And that's what we've seen from Westminster and are continuing to see under this UK Labour Government, which is failing the people of Wales while denying us the means, the powers and the resources to be able to make our own decisions on welfare.

The legacy of austerity is not just economic. It is moral. It undermines solidarity. It erodes the idea that government exists to protect and support its people. It kills trust, and, with it, hope that things will improve. We cannot build a fair Wales on foundations weakened in this way.

Am dros 14 mlynedd o Lywodraeth ddiwethaf San Steffan, y rhai a oedd fwyaf o angen cefnogaeth yn ein cymunedau a ysgwyddodd faich polisi economaidd diffygiol a gosbai'r bregus am fethiannau'r cyfoethog. Gwerthodd y Torïaid gyni fel meddyginiaeth gyllidol angenrheidiol, pilsen chwerw yr oedd yn rhaid i ni i gyd ei llyncu, gyda Cameron yn mynnu ein bod ni i gyd ynddi gyda'n gilydd. Ond nid oedd pawb yn teimlo effeithiau cyni'n gyfartal. Yng Nghymru rydym wedi bod ymhlith y rhai sydd wedi talu'r pris uchaf am y ffordd fwriadus a bwriadol y gwnaeth San Steffan esgeuluso ein pobl. A dyma'r bobl yr addawyd newid iddynt y llynedd gan Lafur. Addawyd tegwch iddynt. Dywedwyd wrthynt fod diwrnod newydd yn gwawrio ar ôl y nos hir a thywyll. Ond flwyddyn i mewn i'r bartneriaeth honedig rhwng Llafur Cymru a'r DU, beth sydd gan bobl Cymru i'w ddangos am hynny? Addewidion wedi'u torri a mwy o bobl yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi a chaledi.

Nid oes unrhyw beth yn crisialu calongaledwch oer a bwriadol cyni fel y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau. Mae'n bolisi cywilyddus. Dewis gwleidyddol bwriadol i wrthod cefnogaeth i rai o'r tlotaf yn ein cymdeithas, y plant tlotaf yn ein cymdeithas, dim ond oherwydd faint o frodyr a chwiorydd sydd ganddynt. Mae'r canlyniadau'n ddinistriol ac yn drychinebus i Gymru. Nid yw'r polisi hwn yn arbed arian, mae'n dyfnhau lefelau tlodi sydd eisoes yn annerbyniol o uchel, ac nid oes iddo le mewn unrhyw gymdeithas sy'n honni ei bod yn poeni am degwch neu les plant. Ond nawr, gyda'u cymheiriaid mewn grym yn San Steffan yn cadw'r polisi creulon hwn, gan wybod ei bod yn caethiwo dros 65,000 o blant Cymru mewn tlodi, yr hyn a glywn gan Lywodraeth Cymru yw galwadau gofalus, yn hytrach na'r geiriau cryf yr arferem eu clywed yn cael eu cyfeirio at y Torïaid, y geiriau yr arferem eu clywed yn frith drwy areithiau Llafur yn y lle hwn—geiriau fel 'brawychus', 'annynol'—gwta flwyddyn yn ôl. 

Y gaeaf diwethaf cafodd pensiynwyr Cymru eu gadael yn yr oerfel wrth i daliad tanwydd y gaeaf gael ei ddileu i'r rhan fwyaf ohonynt. O, do, cafwyd tro pedol wrth gwrs, ond nid cyn i ganlyniadau gwael yr etholiadau lleol yn Lloegr orfodi Starmer a Reeves i wneud hynny. Roedd yn llythrennol yn un o'r pethau cyntaf yr estynnodd Llywodraeth Lafur y DU amdano i lenwi eu tyllau cyllidol. Tra bo trethdalwyr annomestig wedi gweld y mesurau newydd, a gyhoeddwyd er mwyn iddynt dalu mwy o'u cyfran deg, yn cael eu haddasu a'u lleddfu, fe wyddom fod pensiynwyr Cymru ymhlith y rhai a gafodd eu taro galetaf y gaeaf diwethaf. Roeddent yn teimlo'n ddryslyd, roeddent yn teimlo eu bod wedi'u bradychu. Ac yna'r toriadau i les. Mae bron yn rhy boenus rhestru'r holl benderfyniadau cywilyddus a wnaed mewn cwta flwyddyn o Lafur mewn grym yn San Steffan.

Gwnaed penderfyniad i dargedu a diraddio pobl anabl a phobl â salwch hirdymor er mwyn cyrraedd llinell gyllidebol artiffisial. Pan welodd digon o ASau Llafur yr ysgrifen ar y mur, gyda llawer ohonynt mewn seddi ymylol, fe wnaethant weithredu. Ond roedd y ffordd warthus y cafodd bywydau'r cannoedd o filoedd o bobl anabl yng Nghymru eu trin gan wleidyddion Llafur yn yr anhrefn a ddilynodd yn hollol erchyll. A nawr, ar ei newydd wedd hyd yn oed, mae'r Cenhedloedd Unedig, neb llai, wedi rhybuddio am y niwed y bydd y Bil diwygio arfaethedig yn ei achosi i bobl anabl a'u hawliau. Mae'r pwysau a roddir ar y rhai y dylai Llywodraeth Lafur fod yn eu diogelu yn warthus, yn enwedig i'r rhai sydd â chyflyrau amrywiol neu anweladwy sydd bellach yn wynebu system fwy cosbol o dan Lywodraeth a oedd yn addo tosturi. Ni all Llafur Cymru, beth bynnag yw hynny, eistedd yn ôl ac esgus nad oes ganddynt unrhyw gyfrifoldeb. Mae'n ymddangos bod pawb bellach yn gyfforddus i gefnogi'r toriadau a basiwyd i hawlwyr newydd taliad iechyd y credyd cynhwysol. Er bod Anabledd Cymru wedi dweud nad yw'r cynlluniau hyn yn ddim llai nag ymosodiad ar bobl anabl yng Nghymru sydd eisoes yn profi rhai o'r cyfraddau tlodi uchaf yn y DU, yn wynebu amseroedd aros hir y GIG, gweithleoedd anhygyrch, gwahaniaethu dyddiol a chostau byw cynyddol. 

Nid mater o gydbwyso'r llyfrau yw cyni, mae'n ymwneud â symud y baich oddi ar ysgwyddau'r pwerus i ysgwyddau'r di-rym. A dyna a welsom o San Steffan ac rydym yn parhau i'w weld o dan y Llywodraeth Lafur hon yn y DU, sy'n gwneud cam â phobl Cymru gan ein hamddifadu o'r modd, y pwerau a'r adnoddau i allu gwneud ein penderfyniadau ein hunain ar les.

Nid gwaddol economaidd yn unig sydd i gyni. Mae'n foesol. Mae'n tanseilio undod. Mae'n erydu'r syniad fod llywodraeth yn bodoli i ddiogelu a chefnogi ei phobl. Mae'n lladd ymddiriedaeth, a gobaith y bydd pethau'n gwella. Ni allwn adeiladu Cymru deg ar sylfeini a wanychwyd yn y modd hwn.

17:45

In the 1920s, the American poet and social activist Langston Hughes warned:

‘Hold fast to dreams / For if dreams die / Life is a broken-winged bird / That cannot fly.’

Hope is being extinguished, and that has consequences for our society. The legacy of this continued austerity is one which Wales cannot countenance. It must be meaningfully challenged—

Yn y 1920au, rhybuddiodd y bardd a'r ymgyrchydd cymdeithasol Americanaidd Langston Hughes:

Daliwch gafael ar freuddwydion / Canys os bydd breuddwydion yn marw / Mae bywyd yn aderyn â’i adenydd wedi torri / Na all hedfan.’

Caiff gobaith ei ddiffodd, ac mae i hynny ei ganlyniadau i'n cymdeithas. Mae gwaddol y cyni parhaus hwn yn un na all Cymru ei oddef. Rhaid ei herio'n ystyrlon—

—and empty, contradictory slogans just don't do the job.

—ac nid yw sloganau gwag, sy'n gwrth-ddweud ei gilydd yn gwneud y tro.

Well, that—[Interruption.] And I will, because Plaid does talk a good talk, but I want to know where their plans are. But I know what their plans are: endless debates on the one hand about independence, and asking the UK Treasury for more money on the other hand. They refused to support the Welsh budget, risking £600 million extra for the NHS—[Interruption.]—and politics instead of care—in a minute—for patients. Obviously, you're excited already, but I'll give you an intervention in a short time.

You also refused to support a budget that was the first budget in 14 years that gave more money to Wales than it has ever had before. I don't understand how you could do that when you hadn't actually voted against the reduced budgets year on year that the Tories thought were good enough. So, it's—[Interruption.] I know there is a lot of excitement going on, but I'm going to continue, because I let you carry on, and I'm going to do the same.

So, the point is—. It's pretty clear that you don't like the facts, but these are the facts. You did vote against the largest budget we've had in 14 years, but you failed to object to the others. You didn't bring anything to the table, either—no plans, nothing. But, week in and week out, you ask for more money for something that you haven't costed. Llyr.

Wel, roedd hynny—[Torri ar draws.] Ac fe wnaf, oherwydd mae Plaid Cymru'n dda am siarad, ond rwyf eisiau gwybod ble mae eu cynlluniau. Ond rwy'n gwybod beth yw eu cynlluniau: dadleuon diddiwedd ar y naill law am annibyniaeth, a gofyn i Drysorlys y DU am fwy o arian ar y llaw arall. Fe wnaethant wrthod cefnogi cyllideb Cymru, gan beryglu £600 miliwn ychwanegol i'r GIG—[Torri ar draws.]—a gwleidyddiaeth yn hytrach na gofal—mewn munud—i gleifion. Yn amlwg, rydych chi wedi cyffroi, ond fe roddaf ymyriad i chi yn y munud.

Fe wnaethoch chi hefyd wrthod cefnogi cyllideb a oedd y gyllideb gyntaf mewn 14 mlynedd a roddodd fwy o arian i Gymru nag erioed o'r blaen. Nid wyf yn deall sut y gallech chi wneud hynny a chithau heb bleidleisio yn erbyn y cyllidebau llai flwyddyn ar ôl blwyddyn y credai'r Torïaid eu bod yn ddigon da. Felly, mae'n— [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod bod yna lawer o gyffro, ond rwy'n mynd i barhau, oherwydd fe wnes i adael i chi fwrw ymlaen, ac rwy'n mynd i wneud yr un peth.

Felly, y pwynt yw—. Mae'n eithaf amlwg nad ydych chi'n hoffi'r ffeithiau, ond dyma'r ffeithiau. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y gyllideb fwyaf a gawsom mewn 14 mlynedd, ond fe wnaethoch chi fethu gwrthwynebu'r lleill. Ni wnaethoch chi gynnig unrhyw beth ychwaith—dim cynlluniau, dim byd. Ond wythnos ar ôl wythnos, rydych chi'n gofyn am fwy o arian am rywbeth nad ydych chi wedi'i gostio. Llyr.

Thank you. You berate us for voting against the Government's budget, and, in doing so, you suggest that we've denied Wales money. Of course, your Labour colleagues in Westminster for 14 years voted against a Tory budget at Westminster. Were they also denying money coming to Wales as a consequence? 

Diolch. Rydych chi'n ein beirniadu ni am bleidleisio yn erbyn cyllideb y Llywodraeth, ac wrth wneud hynny, rydych chi'n awgrymu ein bod wedi amddifadu Cymru o arian. Wrth gwrs, fe bleidleisiodd eich cymheiriaid Llafur yn San Steffan am 14 mlynedd yn erbyn cyllideb Dorïaidd yn San Steffan. A oeddent hwythau hefyd yn amddifadu Cymru o arian o ganlyniad i hynny? 

I think you've got a little bit confused about the voting pattern, because you were asked to vote on the Welsh budget, which actually gave you extra money, and you voted against it. You obviously don't recognise either, when you talk about what that money might deliver—. So, I'll give you some facts. Forty per cent of the people in my area work in local government. If we had gone along and that budget had failed—

Rwy'n meddwl eich bod chi wedi drysu braidd ynglŷn â'r patrwm pleidleisio, oherwydd gofynnwyd i chi bleidleisio ar gyllideb Cymru, a roddodd arian ychwanegol i chi mewn gwirionedd, ac fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei herbyn. Yn amlwg nid ydych chi'n cydnabod ychwaith, pan fyddwch chi'n siarad am yr hyn y gallai'r arian hwnnw ei gyflawni—. Felly, fe roddaf rai ffeithiau i chi. Mae 40 y cant o'r bobl yn fy ardal i yn gweithio mewn llywodraeth leol. Pe baem wedi bwrw ymlaen a bod y gyllideb honno wedi methu—

Because you relied on other people to do your job, and your job is to make sure people have some work. That's why, because you thought you could get away with it, and then you thought you could come back here and tell us about how good you are. Well, I'm going to tell you that, if that budget had failed, and 40 per cent of people in my area, in rural Wales, which you are claiming you care about, large numbers of those people, would have done two things: first of all lost their job, and, secondly, lost their services. That's what you were—

Oherwydd eich bod chi wedi dibynnu ar bobl eraill i wneud eich gwaith, a'ch gwaith chi yw gwneud yn siŵr fod pobl yn cael gwaith. Dyna pam, oherwydd eich bod yn meddwl y gallech chi gael eich ffordd, ac yna roeddech chi'n meddwl y gallech chi ddod yn ôl yma a dweud wrthym pa mor dda ydych chi. Wel, pe bai'r gyllideb honno wedi methu, byddai 40 y cant o bobl yn fy ardal i, yng nghefn gwlad Cymru, yr honnwch eich bod yn malio amdanynt, byddai nifer fawr o'r bobl hynny wedi gwneud dau beth: yn gyntaf oll byddent wedi colli eu gwaith, ac yn ail, byddem wedi colli eu gwasanaethau. Dyna'r hyn roeddech chi—

—quite happy to do. No, you don't make sense. I'm glad you pointed that out. [Laughter.]

So, you didn't care about allowing that to happen, because you wanted to make some political point. I don't know what that political point was, but I'm going to make the point that, if you get independence, I don't know where you think people are going to find £7,000 each per year to pay for your independence—£7,000 per year per person. Those aren't my figures; those are figures that have been well established by many, many groups—not by the UK Government, by independent bodies—about the true cost of independence, and, I have to say, you've suddenly forgotten to tell people about that, so I feel it's my duty to remind them on your behalf. You live in a land of fantasy politics. You are quite happy to bankrupt this country. 

—yn hapus iawn i'w wneud. Na, nid ydych yn gwneud synnwyr. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at hynny. [Chwerthin.]

Felly, nid oeddech yn malio am ganiatáu i hynny ddigwydd, am eich bod chi eisiau gwneud rhyw bwynt gwleidyddol. Nid wyf yn gwybod beth oedd y pwynt gwleidyddol hwnnw, ond rwy'n mynd i wneud y pwynt, os cewch chi annibyniaeth, nid wyf yn gwybod o ble y credwch y daw pobl o hyd i £7,000 yr un y flwyddyn i dalu am eich annibyniaeth—£7,000 y pen y flwyddyn. Nid fy ffigurau i yw'r rheini; ffigurau a sefydlwyd yn dda gan lawer iawn o grwpiau ydynt—nid gan Lywodraeth y DU, gan gyrff annibynnol—am wir gost annibyniaeth, ac mae'n rhaid imi ddweud, rydych chi wedi anghofio sôn wrth bobl am hynny'n sydyn iawn, felly rwy'n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i'w hatgoffa ar eich rhan. Rydych chi'n byw mewn gwlad o wleidyddiaeth ffantasi. Rydych chi'n eithaf hapus i wneud y wlad hon yn fethdalwr. 

17:50

Will the Member allow an intervention? 

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Not just now. Obviously, I've engendered some debate, because that's four interventions that I've been asked for, and yet I sat through listening to your fantasy politics quietly.

But the point here is—[Interruption.] The point here is—[Interruption.] Once, yes. The point here is, if you get your hands on power here and you somehow manage to dupe people into believing you've forgotten independence, they're going to find out very quickly the true cost of it, and they won't be able to afford it either.

Ddim nawr. Yn amlwg, rwyf wedi ysgogi dadl, oherwydd dyna bedwar ymyriad y gofynnwyd amdanynt, ac eto fe eisteddais drwy eich gwleidyddiaeth ffantasi chi yn dawel.

Ond y pwynt yma yw—[Torri ar draws.] Y pwynt yma yw—[Torri ar draws.] Unwaith, do. Y pwynt yma yw, os cewch chi eich dwylo ar rym yma a'ch bod chi rywsut yn llwyddo i dwyllo pobl i gredu eich bod chi wedi anghofio am annibyniaeth, maent yn mynd i ddarganfod yn gyflym iawn beth yw ei gwir gost, ac ni fyddant yn gallu ei fforddio.

Yes, it's interesting isn't it? Labour in Westminster for years vote against the UK Government budget, and somehow they're standing up for their electors. Labour in Scotland vote against the Scottish Government budget, and again they're standing up for their electors. Plaid Cymru in Wales, of course, votes against the Welsh Government budget, and somehow we're denying Wales money. I mean, you couldn't make it up, Joyce Watson. This is ridiculous. How inconsistent an argument could that be? Now, we were promised change 12 months ago by the UK Government. 

Ie, mae'n ddiddorol onid yw? Mae Llafur yn San Steffan ers blynyddoedd yn pleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth y DU, a rywsut maent yn sefyll dros eu hetholwyr. Mae Llafur yn yr Alban yn pleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth yr Alban, ac eto maent yn sefyll dros eu hetholwyr. Mae Plaid Cymru yng Nghymru, wrth gwrs, yn pleidleisio yn erbyn cyllideb Llywodraeth Cymru, a rywsut rydym yn amddifadu Cymru o arian. Hynny yw, mae'n anghredadwy, Joyce Watson. Mae'n chwerthinllyd. Mae'n ddadl mor anghyson. Nawr, fe gawsom addewid o newid 12 mis yn ôl gan Lywodraeth y DU. 

Addawyd newid i Gymru, ac mae newid wedi dod, onid yw e? Ond, fel rŷm ni wedi clywed, dyw e ddim yn newid er gwell. Dwi eisiau sôn yn benodol am yr effaith mae hynny'n ei chael ar rai o'n cymunedau gwledig ni, oherwydd mae'r rhai ohonom ni sy'n gwybod am hyn yn gwerthfawrogi pa mor fregus yw'r economi amaethyddol yma yng Nghymru. Y newidiadau amlycaf, byddwn i'n dweud, dros y 12 mis nesaf yw'r newidiadau sy'n cael eu cynnig i dreth etifeddiant. Mae gan y rheini oblygiadau pellgyrhaeddol eithriadol i deuluoedd fferm yng Nghymru.

Wales was promised change, and change has come. But, as we've heard, it's not change for the better. I want to focus particularly on the impact that has on some of our rural communities, because those of us who know about this appreciate how vulnerable the agricultural economy is here in Wales. The most prominent changes, I would say, over the next 12 months are the changes proposed to inheritance tax. Those have far-reaching implications for farming families in Wales.

We know, don't we, that Wales isn't a nation of lavish-living millionaire farmers; our family farms operate on tight margins. They live a hand-to-mouth existence and many of them, of course, carry significant debts as well. That's not me saying this—this is the Welsh Government's own farm business income statistics. Welsh farmers don't have the capital to shoulder this additional tax burden. Now, we know, as a consequence, it'll force families to sell off land and that will cut further into people's livelihoods, making their farms less viable for future generations. Of course, that's utterly counterproductive at a time when we should be really focusing on food security and the resilience of our primary food producers, not actively undermining their viability for the future.

Now, yes, we do need to get to grips with those multimillionaires who intentionally buy up land for tax avoidance purposes, and there are plenty of ways that that could be done. The clawback system has been outlined here by myself and others many times, where, if land is subsequently sold then, yes, of course that can be taxed. In fact, the research that I've seen suggests that would generate greater revenue for the Treasury at the end of the day.

We've seen an independent report recently published by CBI Economics, and it shows that the reduction in business activity as a consequence of this proposal will lead to a loss in gross value added of £14.8 billion over the next five years. That's over 200,000 full-time jobs, and while the Exchequer expects to raise £1.8 billion in tax revenue by 2030, we see that the cost of the policy will be much more than what it will generate.

So, our working family farms shouldn't get caught up in the crossfire on this one. The economic, the environmental, the social, the cultural collateral damage that that will cause to us here in Wales is too high a price to pay, but that's what Labour policy is from the UK Government that's being foisted upon us here in Wales.

Rydym yn gwybod, onid ydym, nad yw Cymru'n genedl o ffermwyr sy'n filiwnyddion moethus; mae ein ffermydd teuluol yn gweithredu ar elw tynn. Maent yn byw o'r traed i'r genau ac mae llawer ohonynt yn ysgwyddo dyledion sylweddol hefyd. Nid fi sy'n dweud hyn—dyma ystadegau incwm busnesau fferm Llywodraeth Cymru ei hun. Nid oes gan ffermwyr Cymru gyfalaf i ysgwyddo'r baich treth ychwanegol hwn. Nawr, o ganlyniad, fe wyddom y bydd yn gorfodi teuluoedd i werthu tir a bydd hynny'n torri i mewn ymhellach i fywoliaeth pobl, gan wneud eu ffermydd yn llai hyfyw i genedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n hollol wrthgynhyrchiol ar adeg pan ddylem fod yn canolbwyntio ar ddiogeledd bwyd a gwydnwch ein prif gynhyrchwyr bwyd, nid mynd ati'n weithredol i danseilio eu hyfywedd ar gyfer y dyfodol.

Nawr, oes, mae angen inni fynd i'r afael â'r amlfiliwnyddion sy'n prynu tir yn fwriadol at ddibenion osgoi treth, ac mae digon o ffyrdd y gellid gwneud hynny. Mae'r system adfachu wedi'i hamlinellu yma gennyf i ac eraill sawl gwaith, lle gellir trethu tir os caiff ei werthu wedyn. Mae'r ymchwil a welais yn awgrymu y byddai hynny'n cynhyrchu mwy o refeniw i'r Trysorlys yn y pen draw mewn gwirionedd.

Rydym wedi gweld adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan CBI Economics, ac mae'n dangos y bydd y gostyngiad mewn gweithgaredd busnes o ganlyniad i'r argymhelliad hwn yn arwain at golli £14.8 biliwn o werth ychwanegol gros dros y pum mlynedd nesaf. Dyna dros 200,000 o swyddi amser llawn, ac er bod y Trysorlys yn disgwyl codi £1.8 biliwn mewn refeniw treth erbyn 2030, gwelwn y bydd cost y polisi'n llawer uwch na'r hyn y bydd yn ei gynhyrchu.

Felly, ni ddylai ein ffermydd teuluol gweithredol gael eu dal yn y canol gyda hyn. Mae'r niwed economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol y bydd yn ei achosi i ni yma yng Nghymru yn bris rhy uchel i'w dalu, ond dyna beth yw'r polisi Llafur gan Lywodraeth y DU sy'n cael ei orfodi arnom ni yma yng Nghymru.

Mae'r cyd-destun economaidd, wrth gwrs, wedi taro'r diwydiant amaeth yn galed, fel pob diwydiant arall. Rŷm ni wedi gweld hynny—cost mewnbynnau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r argyfwng costau byw nid yn unig yn effeithio ar deuluoedd fferm yn uniongyrchol, ond ar ddewisiadau cwsmeriaid hefyd wrth iddyn nhw brynu ein cynnyrch Cymreig ni. Mae'r holl ddadsefydlogi sydd wedi dod yn sgil Brexit, wrth gwrs, yr effaith y mae hynny wedi'i chael ar y baich biwrocrataidd o gwmpas allforio, ynghyd, wedyn, â chytundebau masnach newydd, sydd yn rhedeg y risg, onid yw e, o danseilio'r farchnad ddomestig, wedi cael effaith negyddol. Rŷn ni wedi symud o saith mlynedd o sicrwydd ariannu o dan y polisi amaethyddol cyffredin i ddim ond mynd o flwyddyn i flwyddyn.

Nawr, mae llawer o hynny, wrth gwrs, yn deillio o benderfyniadau wnaeth y Llywodraeth ddiwethaf ar lefel y Deyrnas Unedig. Mi addawyd dim ceiniog yn llai—rwy wedi dweud hyn o'r blaen—ac, wrth gwrs, beth gafodd ffermwyr Cymru oedd £0.25 biliwn yn llai. Ond mae Llafur wedi mynd cam ymhellach yn y 12 mis nesaf drwy, wrth gwrs, symud i ddefnyddio fformiwla Barnett ar gyllid amaethyddol. Cyllid cymorth amaethyddol roedd yn arfer, wrth gwrs, adlewyrchu maint a natur gymharol ffermio yng Nghymru, a oedd yn ddyraniad llawer tecach o adnoddau, ond nawr, wrth gwrs, rŷn ni nôl i'r gyfundrefn lle mae e'n dibynnu ar faint y boblogaeth, ac mae hynny'n mynd i leihau'r cyllid sydd ar gael i ni. Nawr, os oedd yna bartneriaeth mewn pŵer go iawn, yna mi fyddai Llywodraeth Cymru wedi sicrhau dyw hynny ddim yn digwydd.

Mae Eluned Morgan, y Prif Weinidog, ei hun wedi dweud ei bod hi'n poeni am hynny. Wel, os ydyw hi'n poeni, dychmygwch sut mae'r sector yn poeni ac yn gofidio ynglŷn â phedair blynedd arall o'r hyn rŷn ni wedi ei weld dros y 12 mis diwethaf. Ond yr hyn y gallaf i'ch sicrhau chi yw y bydd Plaid Cymru yn sefyll dros ein cymunedau gwledig ni ac yn sefyll dros gymunedau ym mhob rhan o Gymru.

The economic context, of course, has hit the agricultural industry hard, like every other industry. We've seen that—input costs have gone up in recent years, and the cost-of-living crisis not only impacts farming families directly, but also the choices made by customers too as they purchase our Welsh produce. The destabilisation as a result of Brexit, of course, the impact that that has had on the bureaucratic burden around exports, along with new trade agreements, which run the risk of undermining the domestic market, have all had a negative impact. We've moved from seven years of financial certainty under the common agricultural policy to going from year to year.

Now, much of that, of course, emerges from decisions taken by the previous UK Government. We were promised not a penny less—I've made this point in the past—and what Welsh farmers got, of course, was £0.25 billion less. But Labour have gone a step further in the next 12 months by moving to using the Barnett formula on agricultural funding. Agricultural support used to, of course, reflect the size and comparative nature of farming in Wales, and the allocation of resources was much fairer, but now, of course, we are back to a system where it relies on population size, and that's going to reduce the funding available to us. Now, if there was a real partnership in power, then the Welsh Government would have ensured that that was not the case.

Eluned Morgan, the First Minister, herself has said that she's concerned about that. Well, if she's worried, then imagine how the sector itself feels and the concern felt there about another four years of what we have seen over the past 12 months. But what I can assure you is that Plaid Cymru will stand up for our rural communities and stand up for communities in all parts of Wales.

17:55

Thank you, Deputy Presiding Officer. And let's not sugar coat it: the UK Labour Government is failing Wales. And by what I've heard from Plaid Cymru, there's not much to see there either. Labour promised us stability, but what have we got? Chaos, confusion and excuses, where families, farmers and businesses across Wales are left picking up the bill.

Labour promised they'd respect devolution. Instead, they've dumped the costs of national insurance rises onto Wales, forcing charities, doctors, dentists and care homes across our country to pick up the costs. They said they'd tackle the cost-of-living crisis, but inflation is biting, mortgages are up, energy bills remain high and Welsh families are poorer under Labour. They said they'd look after pensioners, then they tried to scrap the winter fuel allowance in the middle of a cost-of-living crisis, before panicking and doing a u-turn. Even now, thousands of pensioners are left out in the cold while Labour Ministers in London claim they're doing them a favour. I say: shame on them.

They told us they'd manage the economy, but they've blown billions on u-turns, and now we're hearing that they'll hike taxes this autumn to pay for their chaos, hitting workers, savers and businesses across Wales. Because it is the socialist way. The only way they know to get their way out of chaos is to keep taxing working people, because they're very, very good at spending other people's money.

And let's talk about immigration. Labour promised to get a grip on illegal channel crossings. The reality: they've hit record highs. Nearly 20,000 people have crossed illegally this year alone—a 48 per cent increase. Labour have no credible plans to stop it and Plaid Cymru would have no plans at all. While Labour tears up previous plans, makes speeches, the gangs continue to profit. Our borders remain porous and public services, our housing and our healthcare and our schools are under strain. Labour is failing and it's communities across Wales who are paying the price for their failure.

And now Labour is turning its back on hard-working family businesses across Wales and across the United Kingdom. They're gutting business property relief, hitting family businesses that employ people in manufacturing, construction, logistics—those businesses that have been built up over generations, businesses that pay their taxes, support our communities and give people good jobs and solid employment. Labour sees those businesses as a cash cow to pay for their spiralling spending while they push that globalist agenda that props up big corporations and the stock markets instead of the local family businesses that drive our economy here across Wales. Those are the businesses that sponsor our local rugby teams, provide apprenticeships, give young people their first pay packet. Yet Labour is punishing them—punishing them for being successful—while turning a blind eye to big corporations across the country. You can't claim to stand up for working people while you punish the businesses that employ them.

Labour is failing Wales, but let's not pretend that Reform is the answer. They're peddling fantasy politics, promising tax cuts and massive welfare spending, and all the rest of that with no plans to pay for it. One day, they're appealing to the left; the next day, they're appealing to the right, telling everybody exactly what they want to hear while taking the Welsh public for fools. I do think that Nigel Farage is a little bit like Jeremy Corbyn, but the difference between Jeremy Corbyn and Nigel Farage is that Jeremy Corbyn actually believed in something, as Nigel Farage will say anything to get a vote.

Labour is failing us. Reform UK is lying to us. Plaid have no plans, and Wales deserves better than them. We need a Government that will control illegal immigration and smash the gangs to protect our borders, that backs our family businesses, large and small, so that they can keep employing local people and building our economy, that protects our pensioners who have worked all their lives to support our country, and supporting our farmers to produce food and grow the rural economy. They need a responsible Government to run the economy with discipline, honesty and a plan.

Deputy Presiding Officer, the people of Wales are no fools. They see Labour's failure here in Wales; they see Reform fantasies; and they see that Plaid Cymru want to rip Wales out of the United Kingdom. What people want is honesty and action from a Government that will stand up for Wales, and the only party in this Senedd and across the United Kingdom that can do that—

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gadewch inni beidio â rhoi siwgr ar y bilsen: mae Llywodraeth Lafur y DU yn gwneud cam â Chymru. Ac yn ôl yr hyn a glywais gan Blaid Cymru, nid oes llawer i'w weld yno ychwaith. Addawodd Llafur sefydlogrwydd i ni, ond beth a gawsom? Anhrefn, dryswch ac esgusodion, lle mae teuluoedd, ffermwyr a busnesau ledled Cymru'n cael eu gadael i dalu'r bil.

Addawodd Llafur y byddent yn parchu datganoli. Yn lle hynny, maent wedi gorfodi baich codiadau i yswiriant gwladol ar Gymru, gan orfodi elusennau, meddygon, deintyddion a chartrefi gofal ledled ein gwlad i dalu'r costau. Fe wnaethant ddweud y byddent yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ond mae chwyddiant yn brathu, morgeisi i fyny, biliau ynni'n parhau i fod yn uchel a theuluoedd Cymru'n dlotach o dan Lafur. Fe wnaethant ddweud y byddent yn gofalu am bensiynwyr, cyn ceisio cael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf yng nghanol argyfwng costau byw, a mynd i banig wedyn a gwneud tro pedol. Hyd yn oed nawr, mae miloedd o bensiynwyr yn cael eu gadael yn yr oerfel tra bod Gweinidogion Llafur yn Llundain yn honni eu bod yn gwneud ffafr â hwy. Rwy'n dweud: cywilydd arnynt.

Fe wnaethant ddweud wrthym y byddent yn rheoli'r economi, ond maent wedi gwastraffu biliynau ar droeon pedol, a nawr fe glywn y byddant yn codi trethi yr hydref hwn i dalu am eu hanhrefn, gan daro gweithwyr, cynilion a busnesau ledled Cymru. Oherwydd dyma yw'r ffordd sosialaidd. Yr unig ffordd y gwyddant amdani i ddod o hyd i'w ffordd allan o anhrefn yw parhau i drethu pobl sy'n gweithio, oherwydd maent yn dda dros ben am wario arian pobl eraill.

A gadewch inni siarad am fewnfudo. Addawodd Llafur gael trefn ar y nifer sy'n croesi'r Sianel yn anghyfreithlon. Y gwirionedd: mae'n uwch nag erioed. Mae bron i 20,000 o bobl wedi croesi'n anghyfreithlon eleni'n unig—cynnydd o 48 y cant. Nid oes gan Lafur unrhyw gynlluniau credadwy i'w hatal ac ni fyddai gan Blaid Cymru unrhyw gynlluniau o gwbl. Tra bo Llafur yn cael gwared ar gynlluniau blaenorol, yn gwneud areithiau, mae'r gangiau'n parhau i elwa. Mae ein ffiniau'n parhau i fod yn agored ac mae gwasanaethau cyhoeddus, ein tai, ein gofal iechyd a'n hysgolion dan straen. Mae Llafur yn methu ac mae cymunedau ledled Cymru yn talu'r pris am eu methiant.

A nawr mae Llafur yn troi ei chefn ar fusnesau teuluol gweithgar ledled Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Maent yn cael gwared ar ryddhad eiddo busnes, gan daro busnesau teuluol a arferai gyflogi pobl ym maes gweithgynhyrchu, adeiladu, logisteg—busnesau a adeiladwyd dros genedlaethau, busnesau sy'n talu eu trethi, yn cefnogi ein cymunedau ac yn rhoi swyddi da i bobl a chyflogaeth solet. Mae Llafur yn gweld y busnesau hynny'n goeden arian i dalu am eu gwariant cynyddol tra'u bod yn gwthio agenda globaliaeth sy'n cynnal corfforaethau mawr a'r marchnadoedd stoc yn hytrach na'r busnesau teuluol lleol sy'n gyrru ein heconomi yma ledled Cymru. Dyna'r busnesau sy'n noddi ein timau rygbi lleol, yn darparu prentisiaethau, yn rhoi eu pecyn cyflog cyntaf i bobl ifanc. Ac eto mae Llafur yn eu cosbi—yn eu cosbi am fod yn llwyddiannus—tra'u bod yn troi llygad dall at gorfforaethau mawr ledled y wlad. Ni allwch honni eich bod yn sefyll dros y gweithwyr tra byddwch yn cosbi'r busnesau sy'n eu cyflogi.

Mae Llafur yn gwneud cam â Chymru, ond gadewch inni beidio ag esgus mai Reform yw'r ateb. Maent hwy'n pedlera gwleidyddiaeth ffantasi, yn addo toriadau treth a gwariant enfawr ar les, a'r gweddill i gyd heb unrhyw gynlluniau i dalu amdano. Un diwrnod, maent yn apelio at y chwith; y diwrnod wedyn, maent yn apelio at y dde, gan ddweud wrth bawb yn union beth y maent eisiau ei glywed a thrin y cyhoedd yng Nghymru fel pe baent yn ffyliaid. Rwy'n credu bod Nigel Farage yn debyg braidd i Jeremy Corbyn, ond y gwahaniaeth rhwng Jeremy Corbyn a Nigel Farage yw bod Jeremy Corbyn yn credu mewn rhywbeth mewn gwirionedd, ond byddai Nigel Farage yn dweud unrhyw beth am bleidlais.

Mae Llafur yn gwneud cam â ni. Mae Reform UK yn dweud celwydd wrthym. Nid oes cynlluniau gan Blaid Cymru, ac mae Cymru'n haeddu gwell. Rydym angen Llywodraeth a fydd yn rheoli mewnfudo anghyfreithlon ac yn chwalu'r gangiau i ddiogelu ein ffiniau, Llywodraeth sy'n cefnogi ein busnesau teuluol, mawr a bach, fel y gallant barhau i gyflogi pobl leol ac adeiladu ein heconomi, Llywodraeth sy'n diogelu ein pensiynwyr sydd wedi gweithio ar hyd eu hoes i gefnogi ein gwlad, a Llywodraeth sy'n cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd a thyfu'r economi wledig. Maent angen Llywodraeth gyfrifol i redeg yr economi gyda disgyblaeth, gonestrwydd a chynllun.

Ddirprwy Lywydd, nid ffyliaid yw pobl Cymru. Maent yn gweld methiant Llafur yma yng Nghymru; maent yn gweld ffantasïau Reform; ac maent yn gweld bod Plaid Cymru eisiau rhwygo Cymru'n rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig. Yr hyn y mae pobl ei eisiau yw gonestrwydd a gweithredu gan Lywodraeth a fydd yn sefyll dros Gymru, a'r unig blaid yn y Senedd hon ac ar draws y Deyrnas Unedig a all wneud hynny—

18:00

—is the Conservative and Unionist Party.

—yw'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol.

Deputy Presiding Officer, two of the few specific commitments made to Wales a year ago were in the field of justice, to review probation, including exploring the devolution of services, and to consider the devolution of youth justice. There was hopeful talk of partnership where there had been paternalism. What has come of those commitments tells us a lot about the state of our democracy. The probation review's terms of reference were filed in the Commons Library last October, then effectively sealed from public scrutiny. No call for evidence, no interim findings, no timeline. If this is partnership, then it's partnership by stealth.

Last week, the Cabinet Secretary for Social Justice spoke of positive conversations and preparation for devolution. Yet when pressed for details and for substance, we are offered the familiar liturgy of Westminster evasion, no date for devolution, no draft Bill, no heads of agreement. And yet the UK Labour Government can claim they're not breaking their promises because 'consider', 'explore', 'review', as anyone who's ever written a manifesto will know, is the political vocabulary of infinite delay.

Seven hundred million pounds has been announced for the probation service; 1,300 new recruits are to be trained—welcome developments. But there's silence on one key question: who shall decide how these resources will be used in Wales? And resources alone will not solve the crisis. The chief inspector of probation himself has warned that expanding community sentences without fixing the probation service would be catastrophic for public safety. Yet Wales, with its potential integrated approach to health, education, housing and justice, is barred from offering solutions. This is not an administrative question. Yes, it is a constitutional question, but it's also a question of life or life in prison for offenders. It's a question of life or death for their possible victims.

The Cabinet Secretary talked about the progress made in Wales with the youth justice blueprint in reducing youth custody, albeit with the limited influence we have. That progress flowed from the application of a distinctively Welsh approach, child-focused, trauma-informed, integrated, rooted in the understanding that justice without compassion is merely vengeance dressed in legal robes.

But our success is constrained by the constitutional cage in which we operate. When Parc's young offender institution reaches capacity, Welsh children are still dispatched across the border, severed from family, from their culture, from the very roots of their own rehabilitation. Picture a 16-year-old from Wales, troubled and afraid, transported to a prison in another country, where maybe no-one speaks his language, where almost certainly no-one understands the community that shaped him. This is not an inconvenience. This is the systematic crushing of hope. This is not justice. This is exile as punishment. Every commission—Silk, Thomas—has reached the same conclusion. Justice powers must align with devolved services. Scotland governs its own justice system with distinction. Northern Ireland shapes its own path with pride. Wales alone is told to wait.

After one full year of partnership, we have no draft legislation, no target date for the transfer of power, no outline budget with which to plan. Warm words and empty promises sound more like paternalism than partnership to me. So, can I suggest to the Welsh Government three actions they can take to assert our democratic rights? First, publish your own detailed implementation plan for the devolution and subsequent redesign of youth justice and probation. Do it over the summer, so that we can see that plan and discuss it when we return. Withhold legislative consent on all future Ministry of Justice Bills until Westminster honours its bond. And table a formal, time-specific request for the devolution of these powers at the next Council of the Nations and Regions. Or here's the alternative: you do nothing, and you accept that promises made to Wales are commitments that no-one expects to be kept. Surely we have more self-respect than that.

Ddirprwy Lywydd, roedd dau o'r ychydig ymrwymiadau penodol a wnaed i Gymru flwyddyn yn ôl ym maes cyfiawnder, sef i adolygu'r gwasanaeth prawf, gan gynnwys archwilio datganoli gwasanaethau, ac i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid. Roedd yna siarad gobeithiol am bartneriaeth lle bu tadofalaeth. Mae'r hyn sydd wedi deillio o'r ymrwymiadau hynny'n dweud llawer wrthym am gyflwr ein democratiaeth. Cafodd cylch gorchwyl yr adolygiad o'r gwasanaeth prawf ei ffeilio yn Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin fis Hydref diwethaf, a'i selio i bob pwrpas rhag ei graffu gan y cyhoedd. Dim galwad am dystiolaeth, dim canfyddiadau interim, dim amserlen. Os mai partneriaeth yw hyn, mae'n bartneriaeth yn y dirgel.

Yr wythnos diwethaf, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol am sgyrsiau cadarnhaol a pharatoi i ddatganoli. Ond pan fyddwn yn pwyso am fanylion ac am sylwedd, cynigir litwrgi cyfarwydd o esgusodion San Steffan, dim dyddiad ar gyfer datganoli, dim Bil drafft, dim penawdau cytundeb. Ac eto gall Llywodraeth Lafur y DU honni nad ydynt yn torri eu haddewidion am y gwyddom mai 'ystyried', 'archwilio', 'adolygu', fel y bydd unrhyw un sydd wedi ysgrifennu maniffesto yn gwybod, yw'r eirfa wleidyddol am oedi di-ben-draw.

Mae £700 miliwn o bunnoedd wedi'i gyhoeddi ar gyfer y gwasanaeth prawf; mae 1,300 o recriwtiaid newydd i'w hyfforddi—datblygiadau i'w croesawu. Ond ceir distawrwydd ar un cwestiwn allweddol: pwy fydd yn penderfynu sut y caiff yr adnoddau hyn eu defnyddio yng Nghymru? Ac ni fydd adnoddau'n unig yn datrys yr argyfwng. Mae'r prif arolygydd prawf ei hun wedi rhybuddio y byddai ehangu dedfrydau cymunedol heb gyweirio'r gwasanaeth prawf yn drychinebus i ddiogelwch y cyhoedd. Ond mae Cymru, gyda'i dull integredig posibl o weithredu ar iechyd, addysg, tai a chyfiawnder, wedi'i gwahardd rhag cynnig atebion. Nid cwestiwn gweinyddol yw hwn. Ydy, mae'n gwestiwn cyfansoddiadol, ond mae hefyd yn fater o fywyd neu fywyd yn y carchar i droseddwyr. Mae'n fater o fywyd neu farwolaeth i'w dioddefwyr posibl.

Siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet am y cynnydd a wnaed yng Nghymru gyda'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid ar leihau niferoedd ieuenctid yn y ddalfa, er gwaethaf y dylanwad cyfyngedig sydd gennym. Mae'r cynnydd hwnnw'n deillio o gymhwyso dull Cymreig unigryw, integredig, ystyriol o drawma, sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ac wedi'i wreiddio yn y ddealltwriaeth mai dial wedi'i wisgo yn nillad cyfraith yn unig yw cyfiawnder heb dosturi.

Ond mae ein llwyddiant wedi'i gyfyngu gan y cawell cyfansoddiadol y gweithredwn o'i fewn. Pan fydd sefydliad troseddwyr ifanc Parc yn llawn, caiff plant Cymru eu hanfon dros y ffin, a'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, oddi wrth eu diwylliant, oddi wrth wreiddiau eu hadsefydliad eu hunain. Dychmygwch fachgen 16 oed o Gymru, yn gythryblus ac yn ofnus, yn cael ei gludo i garchar mewn gwlad arall, lle nad oes neb yn siarad ei iaith, efallai, lle nad oes neb yn deall y gymuned a'i siapiodd yn sicr. Nid anghyfleustra yw hyn. Dyma fynd ati'n systematig i chwalu gobaith. Nid cyfiawnder ydyw, ond alltudiaeth fel cosb. Mae pob comisiwn—Silk, Thomas—wedi dod i'r un casgliad. Rhaid i bwerau cyfiawnder gyd-fynd â gwasanaethau datganoledig. Mae'r Alban yn llywodraethu ei system gyfiawnder ei hun gyda rhagoriaeth. Mae Gogledd Iwerddon yn siapio ei llwybr ei hun gyda balchder. Dywedir wrth Gymru'n unig am aros.

Ar ôl blwyddyn lawn o bartneriaeth, ni chawsom unrhyw ddeddfwriaeth ddrafft, dim dyddiad targed ar gyfer trosglwyddo pŵer, dim cyllideb amlinellol i allu cynllunio. Mae geiriau cynnes ac addewidion gwag yn swnio'n fwy fel tadofalaeth na phartneriaeth i mi. Felly, a gaf i awgrymu tri cham i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ddatgan ein hawliau democrataidd? Yn gyntaf, cyhoeddwch eich cynllun gweithredu manwl eich hun ar gyfer datganoli ac yna, ailgynlluniwch gyfiawnder ieuenctid a phrawf. Gwnewch hynny dros yr haf, fel y gallwn weld y cynllun a'i drafod pan fyddwn yn dychwelyd. Ataliwch gydsyniad deddfwriaethol ar holl Filiau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y dyfodol hyd nes bod San Steffan yn parchu ei hymrwymiad. A chyflwynwch gais ffurfiol, gydag amser penodol ar gyfer datganoli'r pwerau hyn yng Nghyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau nesaf. Neu dyma'r dewis arall: peidiwch â gwneud unrhyw beth, a derbyniwch fod addewidion a wnaed i Gymru yn ymrwymiadau nad oes neb yn disgwyl iddynt gael eu cadw. Does bosibl nad oes gennym fwy o hunan-barch na hynny.

18:05

It was a huge relief when Labour won the UK Government election last year. If the Conservatives had continued on the same trajectory, we would have been £6 billion worse off. Councils across the UK were already on the brink of bankruptcy. Teachers, doctors, rail workers and bus drivers were striking, and the public services we rely on for a decent life were on their knees, at breaking point. The Conservatives took over a successful economy in 2010 and crashed it. Our public services are one of our biggest employers in Wales, bringing wealth and health to our communities, investing in people. The UK Labour Government, working with Welsh Labour Government, unlocked a £21 billion record settlement in Wales, which is being invested in these.

Roedd yn rhyddhad enfawr pan enillodd Llafur etholiad Llywodraeth y DU y llynedd. Pe bai'r Ceidwadwyr wedi parhau ar yr un trywydd, byddem wedi bod £6 biliwn yn waeth ein byd. Roedd cynghorau ledled y DU eisoes ar fin mynd yn fethdalwyr. Roedd athrawon, meddygon, gweithwyr rheilffyrdd a gyrwyr bysiau yn streicio, ac roedd y gwasanaethau cyhoeddus y dibynnwn arnynt i gael bywyd gweddus ar eu gliniau, ar fin chwalu. Etifeddodd y Ceidwadwyr economi lwyddiannus yn 2010 a'i chwalu. Ein gwasanaethau cyhoeddus yw un o'n cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, gan ddod â chyfoeth ac iechyd i'n cymunedau, a buddsoddi mewn pobl. Mae Llywodraeth Lafur y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, wedi datgloi setliad uwch nag erioed sy'n werth £21 biliwn yng Nghymru, ac mae'n cael ei fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn.

Carolyn, would you just take a little intervention? Are you aware that Liam Byrne left a note saying, 'There's no money left'?

Carolyn, a wnewch chi dderbyn ymyriad bach? A ydych chi'n ymwybodol fod Liam Byrne wedi gadael nodyn yn dweud, 'Nid oes arian ar ôl'?

It was a joke. People want to see clean streets, health appointments when needed, decent housing and pothole-free roads. Public sector pay rises were awarded, strikes averted, work was able to continue. Funding has gone into the NHS, waiting lists are coming down, and we finally have capital funding for building orthopaedic units, specialist care provision, new technologies for schools and housing, and repairing the road network. The UK Government have set up trade deals with the US and India, and, thankfully, are rebuilding relations with the EU, our nearest neighbours.

Much of the Prime Minister's time has been spent on diplomacy in a world that is so fragile. There have been four interest rate cuts, thousands of jobs have been created, and wages have grown more than in the last 10 years of Tory Government. The minimum wage has increased. There's investment in renewable energy and green jobs, which will eventually give energy security and drive down costs, helping with the cost-of-living crisis.

Then, following Wales's lead, which is great for our neighbours, they have expanded free school meals to 0.5 million children and opened up free breakfast clubs. As I said, following Wales's lead. They are rebuilding council houses, we have free bus passes from 60 years of age, and there is a petition now in England to reduce it from pensionable age. They are nationalising the rail service and reforming bus services too, like us.

The First Minister says there have been 34 inter-governmental meetings since September, and I remember before that devolved Governments were left out, they were treated without respect as a minor Government. If funding wasn't transparent from the UK Government Treasury, it was often found down the back of a sofa for their priorities when we asked where was our share. They were purposefully running Wales down to try to make the Welsh Labour Government fail. The poor got poorer and the rich got richer under them, and we don't want to go back to that.

Neither do we want privately educated, millionaire-banker and Thatcher-lover Nigel Farage in charge of policy and budgets, which he tends to make up as he goes along. The harm would be devastating for Wales. What does he know about fairness, communities and social justice? He helped cause Brexit then disappeared, became an MP and then went to America. He doesn't care about the cost-of-living crisis, voted against the workers' rights Bill, has talked about an insurance-based healthcare system and, like the Tories, believes in cutting public services further, which will impact on everybody's health and well-being.

A lot has been done and there's still a lot to do with the two Labour Governments working together. We can already see the benefits, with improvements to the cost of living, our economy, wages and our public services, but it will take the next few years to see the full impact and fruition of the significant investment of the UK Labour Government, which has only been in place for one year. Thank you.

Jôc oedd hi. Mae pobl eisiau gweld strydoedd glân, apwyntiadau iechyd pan fo angen, tai gweddus a ffyrdd heb dyllau. Dyfarnwyd codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus, a bu modd osgoi streiciau, gallodd y gwaith barhau. Mae cyllid wedi mynd i'r GIG, mae rhestrau aros yn dod i lawr, ac o'r diwedd mae gennym gyllid cyfalaf ar gyfer adeiladu unedau orthopedig, darparu gofal arbenigol, technolegau newydd ar gyfer ysgolion a thai, ac atgyweirio'r rhwydwaith ffyrdd. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cytundebau masnach gyda'r Unol Daleithiau ac India, a diolch byth, mae'n ailadeiladu cysylltiadau â'r UE, ein cymdogion agosaf.

Mae llawer o amser y Prif Weinidog wedi cael ei dreulio ar ddiplomyddiaeth mewn byd sydd mor fregus. Cafwyd pedwar toriad i gyfraddau llog, mae miloedd o swyddi wedi'u creu, ac mae cyflogau wedi codi mwy nag yn y 10 mlynedd olaf o Lywodraeth Dorïaidd. Mae'r isafswm cyflog wedi cynyddu. Mae yna fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a swyddi gwyrdd, a fydd yn y pen draw yn rhoi diogeledd ynni ac yn gostwng costau, gan helpu gyda'r argyfwng costau byw.

Wedyn, gan ddilyn esiampl Cymru, sy'n wych i'n cymdogion, maent wedi ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i 0.5 miliwn o blant ac wedi agor clybiau brecwast am ddim, gan ddilyn esiampl Cymru, fel y dywedais. Maent yn ailadeiladu tai cyngor, mae gennym docynnau bws am ddim i rai dros 60 oed, ac fe geir cais yn Lloegr bellach i'w ostwng o oedran pensiwn. Maent yn gwladoli'r gwasanaeth rheilffyrdd ac yn diwygio gwasanaethau bysiau hefyd, fel ninnau.

Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud bod 34 o gyfarfodydd rhynglywodraethol wedi bod ers mis Medi, ac rwy'n cofio bod Llywodraethau datganoledig wedi'u gadael allan or blaen, cawsant eu trin heb barch fel llywodraeth israddol. Os nad oedd cyllid yn dod mewn ffordd dryloyw gan Drysorlys Llywodraeth y DU, roedd yn aml i'w ganfod i lawr cefn y soffa ar gyfer eu blaenoriaethau pan ofynnem ble oedd ein cyfran ni. Roeddent yn lladd ar Gymru'n bwrpasol i geisio gwneud i Lywodraeth Lafur Cymru fethu. Aeth y tlodion yn dlotach a'r cyfoethog yn gyfoethocach oddi tanynt, ac nid ydym eisiau dychwelyd at hynny.

Nid ydym ychwaith eisiau Nigel Farage y banciwr-filiwynydd a'r addolwr Thatcher a addysgwyd yn breifat yn gyfrifol am bolisi a chyllidebau, pethau y mae'n tueddu i'w ffugio yn y fan a'r lle. Byddai'r niwed yn ddinistriol i Gymru. Beth y mae'n ei wybod am degwch, cymunedau a chyfiawnder cymdeithasol? Fe gynorthwyodd i achosi Brexit cyn diflannu, dod yn AS ac yna fe aeth i America. Nid yw'n poeni dim am yr argyfwng costau byw, pleidleisiodd yn erbyn y Bil hawliau gweithwyr, mae wedi siarad am system gofal iechyd sy'n seiliedig ar yswiriant ac fel y Torïaid, mae'n credu mewn torri gwasanaethau cyhoeddus ymhellach, cam a fydd yn effeithio ar iechyd a lles pawb.

Mae llawer wedi'i wneud ac mae llawer i'w wneud gyda'r ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd. Gallwn weld y manteision eisoes, gyda gwelliannau i gostau byw, ein heconomi, cyflogau a'n gwasanaethau cyhoeddus, ond bydd yn cymryd y blynyddoedd nesaf i weld effaith lawn a ffrwyth buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Lafur y DU, sydd ond wedi bod mewn grym ers blwyddyn. Diolch.

18:10

What is the purpose of having power? I wonder if that question ever troubles the minds of those in the UK Cabinet—individuals who seem motivated, for all the world, by the desire to be able to do things, rather than necessarily the desire to do good. Blair himself had said that power without principle is barren, a bitterly ironic statement now when we can see the arid Ozymandian state of his outlook. But the past year has aged the Labour Party.

I'm put in mind of the words of the American poet and humanitarian Samuel Ullman, that nobody grows old merely by living a number of years. We grow old by deserting our ideals. Years may wrinkle the skin, but to give up enthusiasm wrinkles the soul. How this year has twisted and shrivelled the soul of that once mighty party. When we look at the contours of the profile they present to the world, what do we see? A party that prioritises figures caught in a spreadsheet, rather than figures caught in crisis; one obsessed with sticking to the arbitrary fiscal rules of Tory Governments gone by, instead of charting its own course for justice.

Too often, today's Labour Party in Westminster guards its own power jealously instead of using it for good. It is a party that has abandoned its moral core. As we've heard, one of the first acts of this Labour Government was to suspend its MPs who voted to remove the cruel two-child benefits cap, and one of the latest acts has been to cling to cuts for the sick and disabled, cuts on which they only compromised in any way when it became clear they were going to lose a vote—losing a vote, that is, not because they feared they'd lost their soul. So, they decided to inflict the greatest pain on those people who will become disabled in the future; out of their immediate sight, out of their minds, thus treating those future disabled people as the collateral needed to win a vote in Westminster.

No, this is not the face of Dorian Gray they present, a visage pretending to be moralistic and true. This is the face they were meant to keep locked away, presented in all its macabre apathy; a face that wears the scars of each discarded ideal, that is warped and wrinkled by every moral failure; a face that's being etched and lined anew with every cruelty endured, every chance to change things that is missed.

Labour was meant to be different. That's why these cuts cut so deeply, because instead of them using their majority as an excuse to lead, they've chosen to follow the crooked orthodoxy of what's gone before, redefining themselves as not the party of workers, but of work, and letting those self-imposed fiscal rules act as a straitjacket on any progressive policy. It seems that constraint has become Labour doctrine.

In the weeks leading up to the election a year ago, commentators had likened Keir Starmer's predicament to that of a man carrying a Ming vase over a highly polished floor, using the Roy Jenkins analogy. They saw him as a man whose focus was fated to be on widening neither hope nor vision, but on narrowing it, on being as tame and constrained as possible, promising little so as not to spook the voters or the markets. Now they have that power, now they've moved that vase across the polished floor, they don't seem capable of repressing that suppression, of shaking off the shackles of constraint. Time and again, Labour appear paralysed either by indecision or a lack of vision and have forgotten it is precisely when no central agent propels you forward that things truly fall apart, that the mask slips, exposing the gnarled and brutish vacuum beneath.

There is a final lesson from Wilde's Dorian Gray, a lesson for a Labour Party that has spent the last year losing its way. Lord Henry tells Dorian:

'Nowadays people know the price of everything and the value of nothing.'

It is the tragedy of today's Labour Party that they have so singularly failed to learn that lesson. And it is the tragedy of us, the people, that they seem so unmoved to change. Dirprwy Lywydd, the price we pay under this Westminster system grows costlier by the day. Something has to give.

Beth yw pwrpas cael pŵer? Tybed a yw'r cwestiwn hwnnw byth yn trwblu meddyliau'r rhai yng Nghabinet y DU—unigolion sy'n ymddangos fel pe baent yn cael eu cymell gan yr awydd i allu gwneud pethau, yn hytrach na'r awydd i wneud daioni, o reidrwydd. Roedd Blair ei hun wedi dweud bod pŵer heb egwyddor yn ddiffrwyth, datganiad chwerw o eironig nawr pan allwn weld cyflwr Ozymandaidd diffaith ei agwedd. Ond mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi heneiddio'r Blaid Lafur.

Rwy'n meddwl am eiriau'r bardd a'r dyngarwr Americanaidd Samuel Ullman, nad oes neb yn heneiddio trwy fyw hyn a hyn o flynyddoedd: rydym yn heneiddio trwy droi cefn ar ein delfrydau. Gall blynyddoedd grebachu'r croen, ond mae rhoi'r gorau i frwdfrydedd yn crebachu'r enaid. Mae eleni wedi crebachu enaid y blaid hon a fu unwaith yn nerthol. Pan edrychwn ar y proffil a gyflwynant i'r byd, beth a welwn? Plaid sy'n blaenoriaethu ffigurau ar daenlenni, yn hytrach na ffigyrau mewn argyfwng; un sydd ag obsesiwn ynghylch cadw at reolau cyllidol mympwyol Llywodraethau Torïaidd a fu, yn hytrach na mapio ei llwybr ei hun dros gyfiawnder.

Yn rhy aml, mae Plaid Lafur heddiw yn San Steffan yn gwarchod ei phŵer ei hun yn genfigennus yn hytrach na'i ddefnyddio er daioni. Mae'n blaid sydd wedi cefnu ar ei chraidd moesol. Fel y clywsom, un o weithredoedd cyntaf y Llywodraeth Lafur hon oedd gwahardd ei Haelodau Seneddol a bleidleisiodd dros gael gwared ar y cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau, ac un o'r gweithredoedd diweddaraf fu glynu at doriadau i bobl sâl ac anabl, toriadau na wnaethant gyfaddawdu arnynt mewn unrhyw ffordd hyd nes y daeth yn amlwg eu bod yn mynd i golli pleidlais—colli pleidlais, nid oherwydd eu bod yn ofni eu bod wedi colli eu henaid. Felly, fe wnaethant benderfynu achosi'r boen fwyaf i'r bobl hynny a fydd yn dod yn anabl yn y dyfodol; allan o'u golwg uniongyrchol, allan o'u meddyliau, gan drin y bobl anabl hynny yn y dyfodol fel y niwed cyfochrog sydd ei angen i ennill pleidlais yn San Steffan.

Na, nid wyneb Dorian Gray a ddangosant, wyneb sy'n esgus bod yn foesol ac yn onest. Dyma'r wyneb yr oeddent i fod i'w gadw dan glo, wedi'i arddangos yn ei holl apathi erchyll; wyneb sy'n gwisgo creithiau pob delfryd a daflwyd ymaith, wyneb wedi'i gamystumio a'i grebachu gan bob methiant moesol; wyneb a gaiff ei ysgythru a'i rychu o'r newydd gan bob creulondeb a ddioddefir, pob cyfle a gollir i newid pethau.

Roedd Llafur i fod yn wahanol. Dyna pam y mae'r toriadau hyn yn brifo cymaint, oherwydd yn hytrach na'u bod wedi defnyddio eu mwyafrif fel esgus i arwain, maent wedi dewis dilyn uniongrededd crwca yr hyn a aeth o'r blaen, gan ailddiffinio eu hunain, nid fel plaid y gweithwyr, ond fel plaid gwaith, a gadael i'r rheolau cyllidol hunan-osodedig hynny weithredu fel caethwasgod ar unrhyw bolisi blaengar. Mae'n ymddangos bod y caethiwed hwnnw wedi dod yn athrawiaeth i Lafur.

Yn yr wythnosau cyn yr etholiad flwyddyn yn ôl, roedd sylwebwyr wedi cymharu sefyllfa Keir Starmer i ddyn yn cario fâs Ming dros lawr wedi'i sgleinio'n helaeth, i ddefnyddio cymhariaeth Roy Jenkins. Roeddent yn ei weld fel dyn y mae ei ffocws wedi'i dynghedu i beidio ag ehangu gobaith na gweledigaeth, ond yn hytrach ei gulhau, a bod mor ddof a chaeth â phosibl, gan addo fawr ddim er mwyn peidio â dychryn y pleidleiswyr na'r marchnadoedd. Gan fod y pŵer hwnnw ganddynt bellach, gan eu bod wedi symud y fâs ar draws y llawr sgleiniog, nid ydynt i'w gweld yn gallu tynnu'r ffrwyn, ac ymysgwyd o hualau caethiwed. Dro ar ôl tro, mae Llafur i'w gweld wedi'i pharlysu naill ai gan ddiffyg penderfyniad neu ddiffyg gweledigaeth ac wedi anghofio mai'r union adeg pan nad oes unrhyw rym canolog yn eich gwthio ymlaen y bydd pethau'n cwympo'n ddarnau mewn gwirionedd, y bydd y mwgwd yn llithro, gan ddatgelu'r gwactod garw a chreulon oddi tano.

Mae yna un wers olaf o ddarlun Wilde o Dorian Gray, gwers i Blaid Lafur sydd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn colli ei ffordd. Mae'r Arglwydd Henry'n dweud wrth Dorian:

'Y dyddiau hyn mae pobl yn gwybod pris popeth a gwerth dim byd.'

Trasiedi'r Blaid Lafur heddiw yw eu bod wedi methu'n llwyr â dysgu'r wers honno. A'r drasiedi i ni, y bobl, yw ei bod yn ymddangos nad oes ganddynt fawr o awydd newid. Ddirprwy Lywydd, mae'r pris a dalwn o dan y system hon yn San Steffan yn mynd yn ddrytach bob dydd. Rhaid i rywbeth roi.

18:15

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, Julie James. 

I call now on the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James. 

Diolch, Dirprwy Lywydd, and thank you very much for the chance to respond to this debate today, because, of course, it's another welcome opportunity to celebrate the Labour gains made at the general election just over a year ago, especially in Wales, where there are no longer any Conservative Members of Parliament, something I like to remind the Members when they are putting forward their fantasy politics on the benches opposite. It's another opportunity to welcome a Labour Government in Westminster that can work with our Labour Government here in Cardiff—a Government that is interested in advancing the interests of the people of Wales and of devolution itself; so very different to the omnichaos of the Conservative Governments over the previous 14 years, which worked so very hard to turn back the clock on Wales and devolution—a Government, might I remind you, that repeatedly breached the Sewel convention, including twice in the dying days of the last Parliament.

This is an opportunity to celebrate everything the UK Labour Government has achieved over the past 12 months and that will make a real difference to people in Wales and across the UK. So, in the spirit of marking the first anniversary of a UK Labour Government, I offer you the following examples of how it is benefiting people in Wales: an increased national minimum wage, a national living wage for around 160,000 workers in Wales, which would not have happened under the previous Conservative Government; reforming workers' rights for the better through the Employment Rights Bill, something we very much welcome after the devastating attack on workers' rights by the previous Conservative Government; upgrading mobile coverage in rural parts of Wales, something appallingly neglected by the previous Conservative Government; improving Welsh military housing in the strategic defence review, shamefully neglected by the previous Tory Government; recruiting 150 neighbourhood police officers; embedding domestic abuse specialists in 999 control rooms; working with the Welsh Government to clean up the River Wye; a personal favourite of mine, decriminalising rough sleeping after 200 years, a welcome move that we should all be celebrating; investing in flood defences across north Wales; introducing a new law to create a smoke-free generation and ban the sale of vapes to under-18s; transferring the investment reserve fund in the mineworkers' pension scheme to the scheme's trustees at long last, shamefully neglected by the Conservative Government; and of course, last but not least in this particular list—others are available—together with the Welsh Government, investing in coal tip safety.

And this, of course, is in addition to the UK autumn budget and the spending review, because despite the ongoing difficult global financial circumstances, Wales received welcome uplifts in revenue and capital at both of those fiscal events—funding that, because of the progressive budget we were able to pass despite Plaid, is making a real difference today in Wales. It's cutting waiting times, it's helping to raise standards in classrooms, it's creating more jobs, it's helping to build more homes and it's bringing lovely new trains to people across Wales.

The spending review also provided extra investment in rail infrastructure, which begins to put right the historic underfunding of Wales's railways and helps us to realise our ambitions to improve public transport for everyone. We will of course continue to make the case for more. I want to be really clear that the rail funding was part of the spending review package because we were able to work positively with the UK Labour Government, which does understand the importance of investing in infrastructure and investing in Wales. Might I remind Members across the Chamber what a stark contrast to the last Tory Government and its final budgets this is? The paltry offerings of capital to invest in infrastructure and nothing for rail.

But of course, we've heard none of this from the Plaid Cymru benches today, despite their obsession with the Labour Party, because this is a party that takes comfort from wrapping itself in a shroud of misery and disappointment. It can barely muster a teaspoon of enthusiasm or hope for Wales, so why should we expect it to be excited about the end of an appalling Tory Government? Before the general election had even been called, Plaid Cymru had decided it was going to be disappointed by Labour, and like a circus soothsayer, the party opposite has today fulfilled their prophecy by ticking off each of those predicted disappointments in tedious detail. Perhaps Plaid Cymru would prefer a Conservative Government; you certainly vote with the Tories regularly enough.

In stark contrast, we are both realistic and optimistic. We continue to work hard on making Wales's voice heard and ensuring budgets to make lives better—

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, oherwydd, wrth gwrs, mae'n gyfle arall i'w groesawu i ddathlu'r enillion Llafur a wnaed yn yr etholiad cyffredinol ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn enwedig yng Nghymru, lle nad oes unrhyw Aelodau Seneddol Ceidwadol mwyach, rhywbeth rwy'n hoff o atgoffa'r Aelodau ohono pan fyddant yn cyflwyno eu gwleidyddiaeth ffantasi ar y meinciau gyferbyn. Mae'n gyfle arall i groesawu Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n gallu gweithio gyda'n Llywodraeth Lafur ni yma yng Nghaerdydd—Llywodraeth sydd â diddordeb mewn hyrwyddo buddiannau pobl Cymru a datganoli ei hun; mor wahanol i anhrefn llwyr y Llywodraethau Ceidwadol dros y 14 mlynedd blaenorol, a weithiodd mor galed i droi'r cloc yn ôl ar Gymru a datganoli—Llywodraeth, os caf eich atgoffa, a dorrodd gonfensiwn Sewel dro ar ôl tro, gan gynnwys ar ddau achlysur yn nyddiau olaf y Senedd ddiwethaf.

Mae hwn yn gyfle i ddathlu popeth y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi'i gyflawni dros y 12 mis diwethaf a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru ac ar draws y DU. Felly, i nodi pen-blwydd cyntaf Llywodraeth Lafur y DU, rwy'n cynnig yr enghreifftiau canlynol i chi o sut y mae o fudd i bobl Cymru: isafswm cyflog cenedlaethol uwch, cyflog byw cenedlaethol i oddeutu 160,000 o weithwyr yng Nghymru, na fyddai wedi digwydd o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol; diwygio hawliau gweithwyr er gwell trwy'r Bil Hawliau Cyflogaeth, rhywbeth yr ydym yn ei groesawu'n fawr ar ôl yr ymosodiad dinistriol ar hawliau gweithwyr gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol; uwchraddio signal symudol mewn rhannau gwledig o Gymru, rhywbeth a esgeuluswyd yn ofnadwy gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol; gwella tai milwrol Cymru yn yr adolygiad amddiffyn strategol, a esgeuluswyd yn gywilyddus gan y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol; recriwtio 150 o swyddogion plismona yn y gymdogaeth; sefydlu arbenigwyr cam-drin domestig mewn ystafelloedd rheoli 999; gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lanhau afon Gwy; ffefryn personol i mi, dad-droseddoli cysgu allan ar ôl 200 mlynedd, cam i'w groesawu y dylem i gyd ei ddathlu; buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws gogledd Cymru; cyflwyno deddf newydd i greu cenhedlaeth ddi-fwg a gwahardd gwerthu fêps i blant dan 18 oed; trosglwyddo'r gronfa fuddsoddi wrth gefn yng nghynllun pensiwn y glowyr i ymddiriedolwyr y cynllun o'r diwedd, rhywbeth a esgeuluswyd yn gywilyddus gan y Llywodraeth Geidwadol; ac wrth gwrs, yn olaf ond nid yn lleiaf yn y rhestr benodol hon—mae eraill i'w cael—buddsoddi yn niogelwch tomenni glo gyda Llywodraeth Cymru.

Ac mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at gyllideb yr hydref y DU a'r adolygiad o wariant, oherwydd er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol byd-eang anodd parhaus, cafodd Cymru gynnydd defnyddiol i refeniw a chyfalaf yn y ddau ddigwyddiad cyllidol hwnnw—cyllid sydd, oherwydd y gyllideb flaengar y bu modd i ni ei phasio er gwaethaf Plaid Cymru, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol heddiw yng Nghymru. Mae'n torri amseroedd aros, mae'n helpu i godi safonau mewn ystafelloedd dosbarth, mae'n creu mwy o swyddi, mae'n helpu i adeiladu mwy o gartrefi ac mae'n dod â threnau newydd hyfryd i bobl ledled Cymru.

Mae'r adolygiad o wariant hefyd wedi darparu buddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith rheilffyrdd, sy'n mynd beth o'r ffordd i unioni tanariannu hanesyddol rheilffyrdd Cymru ac yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bawb. Byddwn yn parhau i wneud yr achos dros fwy wrth gwrs. Rwyf am fod yn glir iawn fod y cyllid rheilffyrdd yn rhan o becyn yr adolygiad o wariant oherwydd ein bod wedi gallu gweithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth Lafur y DU, sy'n deall pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith a buddsoddi yng Nghymru. A gaf i atgoffa'r Aelodau ar draws y Siambr pa mor wahanol yw hyn i'r Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf a'i chyllidebau olaf? Y cynigion pitw o gyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith a dim byd ar gyfer y rheilffyrdd.

Ond wrth gwrs, nid ydym wedi clywed dim o hyn oddi ar feinciau Plaid Cymru heddiw, er gwaethaf eu hobsesiwn gyda'r Blaid Lafur, oherwydd dyma blaid sy'n cael cysur o lapio'i hun mewn carthen o ddiflastod a siom. Prin y gall ddangos llond llwy de o frwdfrydedd neu obaith dros Gymru, felly pam y dylem ddisgwyl iddi fod yn gyffrous wrth weld diwedd ar Lywodraeth Dorïaidd ofnadwy? Cyn i'r etholiad cyffredinol gael ei alw hyd yn oed, roedd Plaid Cymru wedi penderfynu y byddai'n cael ei siomi gan Lafur, ac fel daroganwr syrcas, mae'r blaid gyferbyn wedi cyflawni eu proffwydoliaeth heddiw trwy dicio pob un o'r siomedigaethau a ragwelwyd mewn manylder diflas. Efallai y byddai'n well gan Blaid Cymru Lywodraeth Geidwadol; rydych chi'n sicr yn pleidleisio gyda'r Torïaid yn ddigon rheolaidd.

Mewn cyferbyniad llwyr, rydym ni'n realistig ac yn optimistaidd. Rydym yn parhau i weithio'n galed fel bod llais Cymru'n cael ei glywed ac i sicrhau cyllidebau i wella bywydau—

18:20

—very, very different to Plaid. Of course.

—yn wahanol iawn i Blaid Cymru. Wrth gwrs.

Thank you very much. We've discussed many times the shortfall in terms of the amount of money Wales received because of the Barnettisation of the national insurance contributions. When questioned on this by Llinos Medi today, the Secretary of State for Wales said she was unaware of a shortfall. If the Secretary of State for Wales is not aware of the shortfall with national insurance contributions, how are we supposed to believe that there is a partnership in power?

Diolch. Rydym wedi trafod y diffyg yn yr arian a gafodd Cymru oherwydd Barnetteiddio'r cyfraniadau yswiriant gwladol sawl gwaith. Pan holodd Llinos Medi ynglŷn â hyn heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru nad oedd hi'n ymwybodol o unrhyw ddiffyg. Os nad yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymwybodol o'r diffyg gyda chyfraniadau yswiriant gwladol, sut y gallwn ni gredu bod yna bartneriaeth mewn grym?

One of the things that you are unable to grasp, it seems to me, is that we've only had 12 months of a Labour Government, and in 12 months, no Government can fix everything. It is a stark contrast to a party who has been in power for a long time, who knows how to be both realistic and optimistic. You think that in a single bound, anyone, any Government of any colour, could have recovered from the deep wounds inflicted by 14 years of Tory chaos all at once. One budget and a single spending review will not reverse the deep Tory cuts and restore all the services that disappeared during the long and painful years of unnecessary austerity. One year of a Labour Government won't magically get rid of foodbanks or end our dependence on them. The damage caused by the Governments of Cameron, May, Johnson, Truss and Sunak—goodness me, they got through Prime Ministers—will now take time to heal. And as an aside, Dirprwy Lywydd, I see that—

Un o'r pethau nad ydych chi'n gallu ei ddirnad, mae'n ymddangos i mi, yw mai dim ond 12 mis o Lywodraeth Lafur a gawsom hyd yma, ac mewn 12 mis, ni all unrhyw Lywodraeth drwsio popeth. Mae'n wahanol iawn i blaid sydd wedi bod mewn grym ers amser maith, i wybod sut i fod yn realistig ac yn optimistaidd. Rydych chi'n meddwl y gallai unrhyw un, unrhyw Lywodraeth o unrhyw liw, fod wedi gwella o'r clwyfau dwfn a achoswyd gan 14 mlynedd o anhrefn Torïaidd i gyd ar unwaith. Ni fydd un gyllideb ac un adolygiad o wariant yn gwrthdroi'r toriadau dwfn Torïaidd ac yn adfer yr holl wasanaethau a ddiflannodd yn ystod y blynyddoedd hir a phoenus o gyni diangen. Ni fydd blwyddyn o Lywodraeth Lafur yn cael gwared ar fanciau bwyd neu'n dod â'n dibyniaeth arnynt i ben. Bydd y niwed a achoswyd gan Lywodraethau Cameron, May, Johnson, Truss a Sunak—mawredd, fe aethant trwy Brif Weinidogion—yn cymryd amser i wella. A chyda llaw, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gweld bod—

Before we go any further, please, I do like to listen to contributions from each Member, including the Government Ministers, and I can't hear the contribution because of the noise in the Chamber. I would be grateful if  Members can allow the contribution to be made in a bit of quiet.

Cyn inni fynd ymhellach, os gwelwch yn dda, rwy'n hoffi gwrando ar gyfraniadau pob Aelod, yn cynnwys Gweinidogion y Llywodraeth, ac ni allaf glywed y cyfraniad oherwydd y sŵn yn y Siambr. Hoffwn i'r Aelodau ganiatáu i'r cyfraniad gael ei wneud mewn tawelwch.

Would you take an intervention, please, Cabinet Secretary?

A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet?

You said that you can't fix everything in 12 months and you can't magic away foodbanks, but do you recognise what Trussell have said, that the actions of this UK Labour Government are actually going to make dependency on foodbanks more intense, make it worse?

Fe ddywedoch chi na allwch drwsio popeth mewn 12 mis ac na allwch wneud i fanciau bwyd ddiflannu'n wyrthiol, ond a ydych chi'n cydnabod yr hyn y mae Trussell wedi'i ddweud, fod gweithredoedd Llywodraeth Lafur y DU yn mynd i wneud dibyniaeth ar fanciau bwyd yn fwy dwys, yn waeth?

But the point is they've only been in power for a year, and already in that year they have made huge strides. They are already conducting a review of the system. You need to wait to see what that review will produce. No-one can fix the damage caused by the Governments of Cameron, May, Johnson, Truss and Sunak, I'll repeat.

But I also wanted to say, as an aside, Dirprwy Lywydd, that I see today that Mr Sunak has taken a second job in Goldman Sachs, one that he has been told is a conflict of interest. I'm sure the poor man is really hard up; he has held on to his job as an MP at the same time. I'm sure the people he represents are really delighted.

There will be ups and downs on the way of any Government, each magnified and amplified in the headlines of the day, but Dirprwy Lywydd, let me be clear, Wales is definitely better off for having a Labour Government in Westminster. That Government gives us a solid platform for positive and progressive change that has already benefited people in Wales, to improve the everyday services on which people rely—[Interruption.] I've finished now, sorry—to strengthen the economy, to create a brighter future for everyone, to be a beacon of hope in an otherwise bleak landscape.

Ond y pwynt yw mai dim ond ers blwyddyn y maent wedi bod mewn grym, ac eisoes yn y flwyddyn honno maent wedi gwneud cynnydd enfawr. Maent eisoes yn cynnal adolygiad o'r system. Mae angen i chi aros i weld beth fydd yr adolygiad hwnnw'n ei gynhyrchu. Rwy'n ailadrodd na all neb drwsio'r niwed a achoswyd gan Lywodraethau Cameron, May, Johnson, Truss a Sunak.

Ond roeddwn eisiau dweud hefyd, gyda llaw, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn gweld heddiw fod Mr Sunak wedi cael ail swydd yn Goldman Sachs, un y dywedwyd wrtho y byddai'n creu gwrthdaro buddiannau. Rwy'n siŵr ei bod hi'n galed iawn ar y truan; mae wedi cadw ei swydd fel AS ar yr un pryd. Rwy'n siŵr fod y bobl y mae'n eu cynrychioli wrth eu boddau.

Bydd yna lwyddiannau a methiannau ar y daith i unrhyw Lywodraeth, a phob un yn cael ei chwyddo ym mhenawdau'r dydd, ond Ddirprwy Lywydd, gadewch imi fod yn glir, mae Cymru'n bendant yn well ei byd o gael Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Mae'r Llywodraeth honno'n rhoi llwyfan cadarn i ni ar gyfer newid cadarnhaol a blaengar sydd eisoes wedi bod o fudd i bobl yng Nghymru, llwyfan i wella'r gwasanaethau bob dydd y mae pobl yn dibynnu arnynt—[Torri ar draws.] Rwyf wedi gorffen nawr, mae'n ddrwg gennyf—i gryfhau'r economi, i greu dyfodol mwy disglair i bawb, ac i fod yn goelcerth o obaith mewn tirwedd sy'n llwm iawn fel arall.

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.

I call on Rhun ap Iorwerth to reply to the debate.

Diolch yn fawr iawn. Gadewch i ni gychwyn efo datganiad o'r amlwg: siom—a siom ddofn—fu blwyddyn gyntaf Llafur mewn Llywodraeth. Dwi'n dweud hynny fel rhywun wnaeth ddim pleidleisio dros Lafur yn yr etholiad hwnnw, achos rôn i'n gallu gweld bod angen Plaid Cymru i fod yn llais i Gymru. Ond oeddwn, mi oeddwn i'n cytuno bod angen newid bryd hynny. Ond mae eisiau cofio, onid oes, pam ein bod ni eisiau newid: nid o ran chwilfrydedd, nid er mwyn cael wynebau ffres, ond er mwyn cael cyfeiriad newydd, er mwyn sicrhau bod yna obaith newydd yn cael ei gynnig i bobl, i dynnu'r pwysau oddi ar y mwyaf bregus, ac, i fi fel Cymro, er mwyn gweld oedd yna fodd cael atebion newydd i rai o'r problemau sy'n cael eu wynebu gan ein cymunedau ni.

Ond siom ar ôl siom ar ôl siom cawsom ni. Mae hynny wedi tanseilio Llafur, heb os. Rydyn ni'n gweld hynny. Mae hynny’n amlwg. Ond mae hefyd wedi tanseilio ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth. Ac fel mae siaradwr ar ôl siaradwr ar feinciau Plaid Cymru wedi'i ddweud, mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn barod i drio adfer peth o'r ymddiriedaeth yna yma yng Nghymru, er mwyn gallu bwrw ymlaen efo adeiladau gwell dyfodol i Gymru.

Thank you. Let me start with a statement of the obvious: the first year of Labour in Government has been a disappointment—a deep disappointment. I say that as someone who didn't vote for Labour in that election, because I could see that we needed Plaid Cymru to be a voice for Wales. But yes, I did agree that we needed change at that time. But we have to remember why we needed change: not in terms of curiosity or to see fresh faces, but to have a new direction, to ensure that there was new hope offered to people, to take the pressure away from the most vulnerable, and, for me as a Welsh person, to see whether there could be new answers to some of the problems being faced by our communities.

But it was disappointment after disappointment after disappointment that we had. That's undermined Labour, without a doubt. We see that. That's clear. But, it's also undermined trust in politics. As speaker after speaker on the Plaid Cymru benches has said, we in Plaid Cymru are ready to try to restore some of that trust here in Wales, in order to carry on with the work of rebuilding a better future for Wales.

I note that the only intervention from the Labour benches during my opening comments was to tell us what Wales cannot do, how poor we are. Well, I'm not interested in the politics of throwing the towel in. I and my Plaid Cymru colleagues believe in Wales, and we believe in the potential that we have as a nation. The same Member chose to emphasise the sheer entitlement of Labour, thinking that all they have to do is put forward any budget, no matter what is in it, no matter how they wish to share out that budget, and it is up to opposition parties to vote for it. I can't believe I'm having to tell this to Joyce Watson, but that is not how politics works. We were putting the partnership in power to the test. We had been told that these two Governments would work hand in glove, but all we have, day after day, is the pulling of punches. 

Nodaf mai'r unig ymyriad oddi ar y meinciau Llafur yn ystod fy sylwadau agoriadol oedd dweud wrthym beth na all Cymru ei wneud, pa mor dlawd ydym ni. Wel, nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth sy'n rhoi'r ffidl yn y to. Rwyf i a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn credu yng Nghymru, ac rydym yn credu yn y potensial sydd gennym fel cenedl. Dewisodd yr un Aelod bwysleisio ymdeimlad o hawl Llafur, sy'n meddwl mai'r cyfan sy'n rhaid iddynt ei wneud yw cyflwyno unrhyw gyllideb, ni waeth beth sydd ynddi, ni waeth sut y maent yn dymuno rhannu'r gyllideb honno, ac mai lle'r gwrthbleidiau yw pleidleisio drosti. Ni allaf gredu fy mod i'n gorfod dweud hyn wrth Joyce Watson, ond nid dyna sut y mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Roeddem yn profi'r bartneriaeth mewn grym. Dywedwyd wrthym y byddai'r ddwy Lywodraeth yn gweithio law yn llaw, ond y cyfan a gawn, o un diwrnod i'r llall, yw osgoi gweithredu. 

18:25

I don't know which universe you're living in, or which planet you're going to arrive at, but what I do know is this: you had an opportunity to come to the table with a budget and ask for something that you wanted. You didn't want to do it. You wanted to play politics with people's lives. That's what you wanted to do. That's what you did.

Nid wyf yn gwybod ym mha fydysawd rydych chi'n byw, neu ba blaned y byddwch chi'n ei chyrraedd, ond yr hyn rwy'n ei wybod yw eich bod wedi cael cyfle i ddod at y bwrdd gyda chyllideb a gofyn am rywbeth roeddech chi ei eisiau. Nid oeddech am wneud hynny. Roeddech chi eisiau chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl. Dyna beth oeddech chi eisiau ei wneud. Dyna a wnaethoch chi.

She's made that point before, as have many of her colleagues. I fail to understand when Joyce Watson will understand that the job of an opposition party is to hold a Government to account, and we were doing it over the budget that was put forward then. The Minister spoke also on the same issue—[Interruption.]

Mae hi wedi gwneud y pwynt hwnnw o'r blaen, fel y mae llawer o'i chyd-Aelodau. Nid wyf yn deall pryd y bydd Joyce Watson yn deall mai gwaith gwrthblaid yw dwyn Llywodraeth i gyfrif, ac roeddem yn gwneud hynny dros y gyllideb a gyflwynwyd ar y pryd. Siaradodd y Gweinidog hefyd ar yr un mater—[Torri ar draws.]

I said it for the Minister, and I'll say it for the leader of Plaid Cymru, who is responding to the debate: I like to hear the contributions, and I can't when you're all making such a noise. Please allow the contribution to be made.

Dywedais hyn pan oedd y Gweinidog yn siarad, ac rwy'n ei ddweud yn achos arweinydd Plaid Cymru, sy'n ymateb i'r ddadl: rwy'n hoffi clywed y cyfraniadau, ac ni allaf am eich bod chi i gyd yn gwneud cymaint o sŵn. Gadewch i'r cyfraniad gael ei wneud, os gwelwch yn dda.

The Minister made the same bizarre accusation, and the Minister also fell into that trap again of turning fire on Plaid Cymru rather than turning fire on the injustices that Wales continues to face by this Labour Government, as under previous Conservative Governments. She chose to stand here to celebrate Labour gains in that election, the gains made by Labour politicians, rather than choose to talk about the interests of the people of Wales. I think that, again, says a lot about the entitlement of this Labour Government.

Fe wnaeth y Gweinidog yr un cyhuddiad rhyfedd, a syrthiodd y Gweinidog i'r trap eto o feirniadu Plaid Cymru yn hytrach na beirniadu'r anghyfiawnderau y mae Cymru'n parhau i'w hwynebu gan y Llywodraeth Lafur hon, fel o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol. Dewisodd sefyll yma i ddathlu enillion Llafur yn yr etholiad, enillion gwleidyddion Llafur, yn hytrach na dewis siarad am fuddiannau pobl Cymru. Rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn dweud llawer am ymdeimlad y Llywodraeth Lafur hon o hawl.

I thank the leader of Plaid Cymru for giving way. I've listened to the debate, but I can't help feeling this overwhelming feeling of hypocrisy coming from Plaid Cymru. You have propped up Labour here in Wales for so long. If you fundamentally disagree, as you've laid out, with Labour's policies, will you rule your party out of doing any future deals with the Labour Party beyond 2026 and way into the future?

Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ildio. Rwyf wedi gwrando ar y ddadl, ond ni allaf beidio â theimlo'r rhagrith llethol o gyfeiriad Plaid Cymru. Rydych chi wedi cynnal Llafur yma yng Nghymru ers cyhyd. Os ydych chi'n anghytuno'n sylfaenol â pholisïau Llafur, fel y nodoch chi, a wnewch chi fel plaid wrthod gwneud unrhyw gytundebau gyda'r Blaid Lafur yn y dyfodol wedi 2026 ac ymhell wedyn?

I fail to comprehend the hypocrisy of the Tories, full stop—and I'll leave it there.

What we had from the Minister was a declaration that Labour had only been in power for 12 months and that things could not all be fixed in 12 months. Things have got worse in that 12 months—that is the point. People have witnessed problems that were dragging down our communities being multiplied by the actions of that UK Government. Labour don't get it.

As Heledd Fychan said, we had a Secretary of State for Wales say in Westminster today that she wasn't even aware of the assessment showing that Wales was £70 million down because of the way the UK Government had shared out money to make up for the impact of national insurance changes on the public sector. It is appalling that we have a Secretary of State for Wales that chooses to not understand the issues that we face day to day at that fundamental level. And it is appalling, frankly, that we have Labour Cabinet Members here looking down, and not looking in real concern at me, when the fact is that their Labour colleague in Westminster is failing to understand the issues that they are having to grapple with in Welsh Government.

I'll conclude my comments, Deputy Llywydd. Wales and the people of Wales have been disappointed. They have been let down by this Labour UK Government. Let us collectively—and that is an appeal to Labour Members here too, as well as Members of all political parties—here keep up the pressure on that UK Government, rather than celebrate a tedious list of things that we were saying the Labour UK Government had failed the people of Wales on. We have a Labour Government here celebrating that. Let's keep up the pressure on them, to demand what is right for the people of Wales. Plaid Cymru will always do that. And let's look ahead to what Wales can achieve under new Plaid Cymru leadership from May next year. Diolch yn fawr iawn.

Nid wyf yn deall rhagrith y Torïaid, atalnod llawn—ac fe'i gadawaf ar hynny.

Yr hyn a gawsom gan y Gweinidog oedd datganiad fod Llafur ond wedi bod mewn grym ers 12 mis yn unig ac na ellid trwsio popeth mewn 12 mis. Mae pethau wedi gwaethygu yn y 12 mis hwnnw—dyna'r pwynt. Mae pobl wedi gweld problemau a oedd yn llesteirio ein cymunedau yn amlhau trwy weithredoedd Llywodraeth y DU. Nid yw Llafur yn deall.

Fel y dywedodd Heledd Fychan, cawsom Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud yn San Steffan heddiw nad oedd hi hyd yn oed yn ymwybodol o'r asesiad sy'n dangos bod Cymru £70 miliwn ar ei cholled oherwydd y ffordd yr oedd Llywodraeth y DU wedi rhannu arian i wneud iawn am effaith newidiadau i yswiriant gwladol ar y sector cyhoeddus. Mae'n ofnadwy fod gennym Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy'n dewis peidio â deall y problemau a wynebwn o ddydd i ddydd ar y lefel sylfaenol honno. Ac mae'n ofnadwy, a bod yn onest, fod gennym Aelodau o'r Cabinet Llafur yma yn edrych i lawr, ac nid yn edrych arnaf mewn pryder gwirioneddol, o ystyried bod eu cymheiriaid Llafur yn San Steffan yn methu deall y problemau y maent yn gorfod ymrafael â hwy yn Llywodraeth Cymru.

Fe ddof â fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd. Mae Cymru a phobl Cymru wedi cael eu siomi. Maent wedi cael cam gan Lywodraeth Lafur y DU. Gadewch i ni gyda'n gilydd—ac mae'n apêl i Aelodau Llafur yma hefyd, yn ogystal ag Aelodau o'r holl bleidiau gwleidyddol—barhau i wasgu ar y Llywodraeth honno, yn hytrach na dathlu rhestr ddiflas o bethau y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi eu cyflawni sy'n gwneud cam â phobl Cymru. Mae gennym Lywodraeth Lafur yma sy'n dathlu hynny. Gadewch inni barhau i wasgu arnynt, i fynnu'r hyn sy'n iawn i bobl Cymru. Bydd Plaid Cymru bob amser yn gwneud hynny. A gadewch inni edrych ymlaen at yr hyn y gall Cymru ei gyflawni o dan arweinyddiaeth newydd Plaid Cymru o fis Mai y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Yes, there are objections. I will therefore defer voting under this item until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

10. Cyfnod Pleidleisio
10. Voting Time

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Hannah Blythyn. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

And that brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time. 

The first vote is on item 6, debate on the Standards of Conduct Committee report, 'Twenty first report to the Sixth Senedd under Standing Order 22.9'. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Hannah Blythyn. Open the vote. Close the vote. In favour 50, no abstentions, none against. Therefore, the motion is agreed.

Eitem 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr unfed adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Item 6. Debate on the Standards of Conduct Committee report: Twenty first report to the Sixth Senedd under Standing Order 22.9: For: 50, Against: 0, Abstain: 0

Motion has been agreed

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, dadl Plaid Cymru ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

The next vote will be on item 9, the Plaid Cymru debate on the UK Government. I call for a vote on the motion without amendment, tabled in the name of Heledd Fychan. If the proposal is not agreed, we will vote on the amendment tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 26 against. Therefore, the motion is not agreed.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Item 9. Plaid Cymru Debate - The UK Government. Motion without amendment: For: 24, Against: 26, Abstain: 0

Motion has been rejected

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

I therefore call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 26, no abstentions, 24 against. Therefore, amendment 1 is agreed.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Llywodraeth y DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Item 9. Plaid Cymru Debate - The UK Government. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt: For: 26, Against: 24, Abstain: 0

Amendment has been agreed

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

I now call for a vote on the motion as amended.

Cynnig NDM8953 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan 14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei phobl.

Motion NDM8953 as amended

To propose that the Senedd:

Recognises that in the year since the General Election, the UK Government has started to undo the damage caused by 14 years of austerity by providing Wales with increased funding and longer-term fiscal certainty to plan and support the people of Wales.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Open the vote. Close the vote. In favour 26, no abstentions, 24 against. Therefore, the motion as amended is agreed.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Llywodraeth y DU. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Item 9. Plaid Cymru Debate - The UK Government. Motion as amended: For: 26, Against: 24, Abstain: 0

Motion as amended has been agreed

11. Dadl Fer: A ddylai Llywodraeth Cymru wahardd treillrwydo ar waelod y môr yng Nghymru?
11. Short Debate: Should the Welsh Government prohibit bottom trawling in Wales?

Eitem 11 sydd nesaf, y ddadl fer. Symudaf yn awr at ddadl fer heddiw. Galwaf ar Janet Finch-Saunders.

Item 11 is next, the short debate. We'll move now to today's short debate, and I call on Janet Finch-Saunders.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I will be giving Joyce Watson, Carolyn Thomas, Sam Rowlands, Tom Giffard, Sam Kurtz and James Evans a minute. 

I wish to place on record my thanks to those who have corresponded with me about bottom trawling, including Wildlife Trusts Wales, WWF Cymru, RSPB Cymru, Rewilding Britain and the Marine Conservation Society. There's no better place to anchor this debate than with the comments of our national treasure, Sir David Attenborough:

'A modern industrial bottom trawler scours the ocean floor with a chain or metal beam, forcing anything it disturbs into the net behind. It smashes its way across the sea bed, destroying nearly everything in its path, often on the hunt for just a single species. Almost everything else is discarded. Over three quarters of a trawler's catch may be thrown away. It is hard to imagine a more wasteful way to catch fish.'

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn rhoi munud i Joyce Watson, Carolyn Thomas, Sam Rowlands, Tom Giffard, Sam Kurtz a James Evans. 

Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi gohebu gyda mi ynglŷn â threillrwydo môr-waelodol, yn cynnwys Ymddiriedolaethau Natur Cymru, WWF Cymru, RSPB Cymru, Rewilding Britain a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol. Nid oes lle gwell i angori'r ddadl hon na chyda sylwadau ein trysor cenedlaethol, Syr David Attenborough:

'Mae llong dreillio môr-waelodol ddiwydiannol fodern yn sgwrio gwely'r môr â chadwyn neu drawst metel, gan orfodi unrhyw beth y mae'n tarfu arnynt i mewn i'r rhwyd tu ôl. Mae'n chwalu ei ffordd ar draws gwely'r môr, gan ddinistrio bron bopeth yn ei lwybr, yn aml i ddal un rhywogaeth yn unig. Caiff bron bopeth arall ei daflu ymaith. Gallai dros dri chwarter dalfa llong dreillio gael ei daflu ymaith. Mae'n anodd dychmygu ffordd fwy gwastraffus o ddal pysgod.'

18:35

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Paul Davies took the Chair.

And I have to say, I agree with Sir David Attenborough. It is a national disgrace that this Welsh Government is allowing such destructive and wasteful practices to take place here in Wales. Up to 80 per cent of the fish indiscriminately caught in the nets of trawlers are merely discarded or destroyed. As many colleagues will be aware, bottom trawling is a collective term for a group of discarded or destroyed fish. As many colleagues will be aware too, they drag heavy nets across the sea floor and can be defined by the modifications, as some have metal teeth that penetrate the sea bed or metal beams to keep the nets open. The types of bottom trawling gear include, but are not limited to, beam trawls, otter trawls, pair trawls, fly seining and dredges.

Now, as described by Sir David Attenborough, these practices effectively bulldoze through and destroy sea bed habitats. They release high levels of stored carbon and they catch untargeted marine life. Marine protected areas are meant to be sanctuaries for marine life, but this trawling is only excluded from less than 1 per cent of the Welsh seas that are within an MPA.

Skomer marine conservation zone is just one of 139 Welsh MPAs. Clearly, this method of destructive fishing is not compatible with MPAs. Clarity as to why you've allowed such a fishing method in MPAs, Cabinet Secretary, would be extremely helpful, and a commitment to sink such a destructive policy warmly welcomed.

I fear that the answer in this is that Welsh Government has left marine policy rudderless. Look at the evidence our own climate committee here presented in our report on progress towards the 30x30 target. Wales Environment Link, WWF Cymru and the Marine Conservation Society highlighted that we have been waiting over a decade for new marine conservation zones. RSPB Cymru explained the Welsh Government had written to the marine conservation zone task and finish group in October 2024 to advise that formal consultation would not take place until after the next Senedd election. As all of us on the committee concluded in that report earlier this year, and I quote, the repeated delays on consulting on MCZs risk undermining confidence, and based on the evidence we have received again and again, send a concerning signal to stakeholders about the priority afforded to marine conservation.

Stopping this wicked trawling in MPAs would be one of the most impactful steps that this Welsh Government could take in meeting nature and climate commitments for protecting and effectively managing 30 per cent of our sea by 2030. I mentioned that I'm giving a minute to my colleague Joyce Watson, because I know for years she's had very strong feelings on this matter, and has also worked hard to bring this matter forward for change.

The UK Government announced in June 2025 at the United Nations ocean conference a consultation to consider bans on bottom trawling across 41 MPAs in the offshore area. Wales should now follow suit by working with the UK Government. Too often your party here have said, ‘Oh, if we have a UK Labour Government going forward, we'll work more closely, we'll be able to co-operate more easily.’ You've got one now, so you should be coming forward now and working with them to ensure that management measures are put in place for Welsh MPAs.

Stopping this bottom trawling is a policy in support of Welsh small-scale fishers and coastal communities. And I'm incredibly proud of my fishermen and women, actually, in Conwy. It's not the easiest job in the world, by any stretch of the imagination. The Welsh fishery is predominantly an inshore fishery. The highest intensities of bottom trawling in Wales are occurring in offshore sites by vessels even from other nations. Sadly, there is a narrative that because of this trawling, it's not just a problem in Wales. Fishing data shows there are Irish, Cornish and EU boats all trawling in both near and offshore areas of Wales, creating immense damage. In fact, there would be a significant improvement in marine population. And when you consider your own Government has declared a nature emergency, and we're all working hard to try and see species that are otherwise going extinct—. We're trying to actually see those come back.

Look at south Arran MPA in Scotland, where such a ban exists. There's been a revival of marine species such as king scallops, Atlantic cod and lobsters. In Lyme bay in south-west England, the ban on this trawling has led to commercially caught fish species inside the MPA increasing in abundance by 370 per cent, and the richness of the species mix increasing by 430 per cent.

So, both the environment and our fishermen could be better off should a ban come into force in Wales. Such a change could be an exciting opportunity to kick-start the delivery of a climate-smart fishery strategy in Wales. This would include supporting the electrification of the fleet, including the transition of equipment and practice, alongside further incentivising and investing in small-scale community-led fisheries, benefiting our Welsh coastal communities.

I've repeatedly stated in this Senedd that marine habitats such as sub-tidal mud can capture and store large amounts of carbon. Protecting these blue carbon habitats from damage can prevent the release of carbon into the atmosphere, helping to limit climate change. In fact, a lot of carbon is already stored away in Welsh marine sediments—at least 113 million tonnes in the top 10 cm. This represents almost 170 per cent of the carbon held in our Welsh forests.

For years, I have been explaining the need for a Welsh national marine development plan, one that clearly shows where every type of project can take place, including the blue carbon agenda. Alongside this, I have said time and again that Wales should have a national blue carbon recovery plan. Yet, this Welsh Government simply doesn't deliver. The UK Climate Change Committee doesn't deliver. On that one, I think it's disgraceful, their advisory report—the fourth carbon budget plan and their advisory notes to this Government about seeing the dramatic decrease in livestock and agriculture. It's just shameful.

But as the survey commissioned by WWF Cymru found, 79 per cent of respondents support restoring carbon-rich marine habitats such as seagrass, salt marsh, oyster reefs and improving the health of our sea. Thankfully, there are a few of us in this Siambr who, like Sir David Attenborough, want to make a big splash and we want to bring marine policy to the fore time and time again. We are like waves; we will not stop.

So, I therefore look forward to hearing from other Members this evening and to seeing action taken by you, Cabinet Secretary. As Toby Perkins, Environmental Audit Committee chairman stated:

'Ministers must ensure that marine protected areas live up to their name.'

But I give the final words of my contribution to Sir Attenborough who said, on World Ocean Day:

'We are in reach of a whole new relationship with the ocean, a wiser, more sustainable relationship. The choice lies with us.'

I hope we will decide today to see the Welsh state on course to stop this devastating bottom trawling, in the first instance by prohibiting this action and activity in our MPAs. Diolch.

A rhaid imi ddweud, rwy'n cytuno â Syr David Attenborough. Mae'n warth cenedlaethol fod Llywodraeth Cymru'n caniatáu i arferion dinistriol a gwastraffus o'r fath ddigwydd yma yng Nghymru. Mae hyd at 80 y cant o'r pysgod sy'n cael eu dal yn ddiwahân yn rhwydi llongau treillio'n cael eu taflu ymaith neu eu dinistrio. Fel y bydd llawer o gyd-Aelodau'n gwybod, mae treillrwydo môr-waelodol yn derm cyfunol ar gyfer grŵp o bysgod wedi'u taflu ymaith neu eu dinistrio. Fel y bydd llawer o gyd-Aelodau'n gwybod hefyd, maent yn llusgo rhwydi trwm ar draws gwely'r môr a gellir eu diffinio yn ôl yr addasiadau, gan fod gan rai ddannedd metel sy'n treiddio i wely'r môr neu drawstiau metel i gadw'r rhwydi ar agor. Mae'r mathau o offer treillrwydo môr-waelodol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i dreillrwydi trawst, treillrwydi estyllod, treillrwydi yn bâr, rhwydi sân a llusgrwydi.

Nawr, fel y disgrifiodd Syr David Attenborough, mae'r arferion hyn i bob pwrpas yn chwalu trwy gynefinoedd gwely'r môr gan eu dinistrio. Maent yn rhyddhau lefelau uchel o garbon wedi'i storio ac yn dal bywyd morol heb ei dargedu. Mae ardaloedd morol gwarchodedig i fod yn llochesau i fywyd morol, ond dim ond o lai nag 1 y cant o foroedd Cymru sydd o fewn ardal forol warchodedig y mae treillrwydo wedi'i wahardd.

Dim ond un o 139 o ardaloedd morol gwarchodedig Cymru yw ardal forol warchodedig Sgomer. Yn amlwg, nid yw'r dull dinistriol hwn o bysgota'n gydnaws ag ardaloedd morol gwarchodedig. Byddai'n dda cael eglurhad pam eich bod wedi caniatáu dull pysgota o'r fath mewn ardaloedd morol gwarchodedig, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddai croeso mawr i gael gwared ar bolisi mor ddinistriol.

Rwy'n ofni mai'r ateb yn hyn yw bod Llywodraeth Cymru wedi gadael polisi morol heb lyw. Edrychwch ar y dystiolaeth a gyflwynwyd gan ein pwyllgor hinsawdd yma yn ein hadroddiad ar gynnydd tuag at y targed 30x30. Tynnodd Cyswllt Amgylchedd Cymru, WWF Cymru a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol sylw at y ffaith ein bod wedi bod yn aros ers dros ddegawd am barthau cadwraeth morol newydd. Eglurodd RSPB Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at grŵp gorchwyl a gorffen y parth cadwraeth morol ym mis Hydref 2024 i roi gwybod na fyddai ymgynghoriad ffurfiol yn digwydd tan ar ôl etholiad nesaf y Senedd. Fel y casglodd pob un ohonom ar y pwyllgor yn yr adroddiad yn gynharach eleni, mae'r oedi di-ben-draw cyn ymgynghori ar barthau cadwraeth morol yn creu risg o danseilio hyder, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom dro ar ôl tro, mae'n anfon neges bryderus i randdeiliaid am y flaenoriaeth a roddir i gadwraeth forol.

Byddai atal y treillrwydo ysgeler hwn mewn ardaloedd morol gwarchodedig yn un o'r camau mwyaf effeithiol y gallai'r Llywodraeth hon eu cymryd i fodloni ymrwymiadau natur a hinsawdd ar gyfer gwarchod a rheoli 30 y cant o'n môr yn effeithiol erbyn 2030. Soniais fy mod yn rhoi munud i fy nghyd-Aelod Joyce Watson, oherwydd rwy'n gwybod ei bod hi'n teimlo'n gryf iawn ers blynyddoedd am y mater hwn, ac mae hefyd wedi gweithio'n galed i gyflwyno'r mater ar gyfer newid.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ym mis Mehefin 2025 yng nghynhadledd cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig i ystyried gwaharddiadau ar dreillrwydo môr-waelodol ar draws y 41 ardal forol warchodedig yn rhanbarth y môr mawr. Dylai Cymru ddilyn ei hesiampl nawr trwy weithio gyda Llywodraeth y DU. Yn rhy aml mae eich plaid yma wedi dweud, 'O, os cawn Lywodraeth Lafur yn y dyfodol, fe weithiwn yn agosach, byddwn yn gallu cydweithredu'n haws.' Mae gennych un nawr, felly dylech fod yn bwrw iddi nawr i weithio gyda hi i sicrhau bod mesurau rheoli'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig Cymru.

Mae rhoi'r gorau i dreillrwydo môr-waelodol yn bolisi sy'n cefnogi pysgotwyr bach Cymru a chymunedau arfordirol. Ac rwy'n hynod falch o fy mhysgotwyr yng Nghonwy. Nid dyma'r swydd hawsaf yn y byd o bell ffordd. Mae pysgodfa Cymru ar y glannau yn bennaf. Mae'r dwysedd uchaf o dreillrwydo môr-waelodol yng Nghymru yn digwydd yn rhanbarth y môr mawr gan longau o wledydd eraill hyd yn oed. Yn anffodus, mae yna naratif nad yw'n broblem yng Nghymru oherwydd treillrwydo o'r fath. Dengys data pysgota fod cychod o Iwerddon, Cernyw a'r UE yn treillrwydo ar y glannau ac yn rhanbarth môr mawr Cymru, gan greu niwed enfawr. Mewn gwirionedd, fe fyddai poblogaethau morol yn gwella'n sylweddol. A phan ystyriwch fod eich Llywodraeth eich hun wedi datgan argyfwng natur, a'n bod ni i gyd yn gweithio'n galed i geisio gweld rhywogaethau sydd fel arall yn diflannu—. Rydym yn ceisio gweld y rheini'n dychwelyd.

Edrychwch ar ardal forol warchodedig de Arran yn yr Alban, lle mae gwaharddiad o'r fath yn bodoli. Gwelwyd rhywogaethau morol fel cregyn y brenin, penfras yr Iwerydd a chimychiaid yn adfywio. Ym mae Lyme yn ne-orllewin Lloegr, mae'r gwaharddiad ar dreillrwydo o'r fath wedi arwain at gynnydd mawr o 370 y cant yn y rhywogaethau pysgod a ddelir yn fasnachol yn yr ardal forol warchodedig, a chyfoeth y cymysgedd rhywogaethau'n cynyddu 430 y cant.

Felly, gallai'r amgylchedd a'n pysgotwyr fod ar eu hennill pe bai gwaharddiad yn dod i rym yng Nghymru. Gallai newid o'r fath fod yn gyfle cyffrous i roi hwb i'r gwaith o gyflwyno strategaeth bysgodfeydd sy'n ystyried yr hinsawdd yng Nghymru. Byddai hyn yn cynnwys cefnogi trydaneiddio'r fflyd, gan gynnwys newid offer ac ymarfer, ochr yn ochr â chymhelliant pellach a buddsoddiad mewn pysgodfeydd bach dan arweiniad y gymuned, i fod o fudd i'n cymunedau arfordirol yng Nghymru.

Rwyf wedi datgan dro ar ôl tro yn y Senedd y gall cynefinoedd morol fel mwd islanwol ddal a storio cyfeintiau mawr o garbon. Gall diogelu'r cynefinoedd carbon glas hyn rhag niwed atal rhyddhau carbon i'r atmosffer, gan helpu i gyfyngu ar newid hinsawdd. Mewn gwirionedd, mae llawer o garbon eisoes wedi'i storio yng ngwaddodion morol Cymru—o leiaf 113 miliwn tunnell yn y 10 cm uchaf. Mae hyn bron yn 170 y cant o'r carbon a ddelir yn ein coedwigoedd yng Nghymru.

Ers blynyddoedd, rwyf wedi bod yn esbonio'r angen am gynllun datblygu morol cenedlaethol i Gymru, un sy'n dangos yn glir lle gall pob math o brosiect ddigwydd, gan gynnwys yr agenda carbon glas. Ochr yn ochr â hyn, rwyf wedi dweud droeon y dylai fod gan Gymru gynllun adfer carbon glas cenedlaethol. Eto i gyd, nid yw'r Llywodraeth hon yn cyflawni. Nid yw Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn cyflawni. Ar hynny, rwy'n credu ei bod yn warthus, yn eu hadroddiad cynghori—y pedwerydd cynllun cyllideb garbon a'u nodiadau cynghori i'r Llywodraeth hon ynglŷn â gweld gostyngiad dramatig mewn da byw ac amaethyddiaeth. Mae'n gywilyddus.

Ond fel y canfu'r arolwg a gomisiynwyd gan WWF Cymru, mae 79 y cant o'r ymatebwyr yn cefnogi adfer cynefinoedd morol sy'n gyfoethog mewn carbon fel morwellt, morfeydd heli, riffau wystrys, a gwella iechyd ein môr. Diolch byth, mae yna rai ohonom yn y Siambr sydd, fel Syr David Attenborough, eisiau gwneud sblash a rhoi amlygrwydd cyson i bolisi morol. Rydym fel tonnau; ni wnawn roi'r gorau iddi.

Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed gan yr Aelodau eraill heno ac at weld camau'n cael eu cymryd gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedodd Toby Perkins, cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol:

'Rhaid i weinidogion sicrhau bod ardaloedd morol gwarchodedig yn gwneud yr hyn y mae eu henw'n ei ddweud.'

Ond rwy'n rhoi geiriau olaf fy nghyfraniad i Syr Attenborough a ddywedodd, ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd:

'Mae perthynas hollol newydd â'r cefnfor o fewn cyrraedd i ni, perthynas ddoethach, fwy cynaliadwy. Ni pia dewis.'

Rwy'n gobeithio heddiw y byddwn yn penderfynu gweld y wladwriaeth Gymreig ar y trywydd iawn i roi diwedd ar y treillrwydo môr-waelodol dinistriol hwn, drwy wahardd y weithred a'r gweithgaredd yn gyntaf yn ein hardaloedd morol gwarchodedig. Diolch.

18:40

I want to thank Janet Finch-Saunders, my colleague, for bringing an incredibly important subject to the Chamber to be debated today, and you can see that by the number of people who've stayed behind. She said, and it's true, that I've spoken on this subject on a number of occasions over many years, and particularly with regard to the impact of scallop dredging in the special area of conservation in Cardigan bay. Scallop dredging, like other forms of dredging, is an incredibly destructive fishing practice. The entire structure of the sea bed is damaged, as rakes are dragged along to collect scallops in chainmail baskets. Many marine experts have said that the damage inflicted on the ecosystem from this activity is not anywhere near proportionate to the catch, and Janet's already alluded to that.

This form of fishing, of course, was halted in Cardigan bay in 2009, but reintroduced in certain areas at specific times of the year in 2016. I was personally concerned about that at the time, and I remain equally concerned now. When it was reintroduced, the Welsh Government said they were committed to monitoring the impact on the area annually by conducting a habitats regulatory assessment before each season. So, therefore, Cabinet Secretary, I would be grateful if we could have an update on those findings, because I'm really keen to know what impact scallop dredging has had on the marine life and habitats in Cardigan bay since it was reintroduced 11 years ago.

Diolch i Janet Finch-Saunders, fy nghyd-Aelod, am ddod â phwnc hynod bwysig i'r Siambr i'w drafod heddiw, a gallwch weld hynny yn ôl nifer y bobl sydd wedi aros ar ôl. Fe ddywedodd, ac mae'n wir, fy mod wedi siarad ar y pwnc hwn ar sawl achlysur dros nifer o flynyddoedd, ac yn enwedig effaith llusgrwydo am gregyn bylchog yn yr ardal gadwraeth arbennig ym mae Ceredigion. Mae llusgrwydo am gregyn bylchog, fel mathau eraill o lusgrwydo, yn arfer pysgota hynod ddinistriol. Caiff holl ffurf gwely'r môr ei ddifrodi, wrth i raciau gael eu llusgo i gasglu cregyn bylchog mewn basgedi cadwyn. Mae llawer o arbenigwyr morol wedi dweud nad yw'r difrod a achosir i'r ecosystem o'r gweithgaredd hwn yn agos at fod yn gymesur â'r ddalfa, ac mae Janet eisoes wedi cyfeirio at hynny.

Cafodd y math hwn o bysgota ei atal ym mae Ceredigion yn 2009, ond cafodd ei ailgyflwyno yn 2016 mewn rhai mannau ar adegau penodol o'r flwyddyn. Roeddwn i'n bersonol yn pryderu am hynny ar y pryd, ac rwy'n parhau i fod yr un mor bryderus nawr. Pan gafodd ei ailgyflwyno, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i fonitro'r effaith ar yr ardal bob blwyddyn trwy gynnal asesiad rheoleiddio cynefinoedd cyn bob tymor. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gael y wybodaeth ddiweddaraf am y canfyddiadau hynny, oherwydd rwy'n awyddus iawn i wybod pa effaith y mae llusgrwydo am gregyn bylchog wedi'i chael ar fywyd morol a chynefinoedd ym mae Ceredigion ers ei ailgyflwyno 11 mlynedd yn ôl.

18:45

I'd also like to thank Janet for tabling this short debate. I too watched Ocean with Sir David Attenborough, with my son, and I was shocked seeing the images of true devastation on the ocean bed with bottom trawling. Like you said, 80 per cent of the animals, the beautiful sea creatures, are just discarded and wasted as well, and the impact on the biodiversity—it was horrific watching it. But it did say that there was hope that, if bottom trawling ended, it could recover—the ecosystems, the biodiversity could soon recover. And if you create this marine protection zone, then the outer edge also will recover for fishing—not bottom trawling, but for local fishing, which is what we want, and that's the business here in Wales. And by doing this—and I plead with Welsh Government as well—it will help us reach our targets, 30x30 targets. Thank you.

Hoffwn innau hefyd ddiolch i Janet am gyflwyno'r ddadl fer hon. Fe wnes innau hefyd wylio Ocean gan Syr David Attenborough, gyda fy mab, ac roedd gweld y lluniau o'r dinistr i wely'r môr yn sgil treillrwydo môr-waelodol yn sioc. Fel y dywedoch chi, mae 80 y cant o'r anifeiliaid, y creaduriaid môr hardd, yn cael eu taflu ymaith a'u gwastraffu, a'r effaith ar fioamrywiaeth—roedd yn ofnadwy ei wylio. Ond dywedodd fod gobaith y gallai'r ecosystemau a bioamrywiaeth ymadfer yn fuan pe bai treillrwydo môr-waelodol yn dod i ben. Ac os ydych chi'n creu'r parth cadwraeth morol, bydd yr ymyl allanol hefyd yn ymadfer ar gyfer pysgota—nid ar gyfer treillrwydo môr-waelodol, ond ar gyfer pysgota lleol, sef yr hyn rydym ei eisiau, a dyna yw'r busnes yma yng Nghymru. A bydd gwneud hyn—ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru hefyd—yn ein helpu i gyrraedd ein targedau 30x30. Diolch.

I'm grateful to Janet Finch-Saunders for tabling this debate here today on bottom trawling. I think it first of all shows the breadth of the issues that we have to consider in this place as Members of the Senedd. But I think what Janet Finch-Saunders has shared with us also this evening is some of the tension that we also experience in recognising some of the environmental impacts of some activity that takes place. But also we have to ensure we have affordable food security for people in Wales and across the UK as well. So, I wonder—. In the Cabinet Secretary's response, I'd be interested to hear how that tension is managed appropriately. Because what I recognise is the importance of seafood in our diets as well, and that being affordable for people, because we know the health benefits of seafood—high in omega 3, high in protein, high in minerals—and we can't—. We're told, actually, that twice a week we should be eating some sort of seafood to maintain a healthy diet. So, we can't allow that healthy diet to just become the privilege of the middle classes. So, there has to be a real balance between how we get affordable seafood to people whilst addressing some of the environmental concerns that you've rightly highlighted. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw ar dreillrwydo môr-waelodol. Rwy'n credu ei bod yn gyntaf yn dangos ehangder y materion y mae'n rhaid inni eu hystyried yn y lle hwn fel Aelodau o'r Senedd. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae Janet Finch-Saunders wedi'i rannu gyda ni heno hefyd yw peth o'r tensiwn a brofir gennym hefyd wrth gydnabod rhai o effeithiau amgylcheddol peth o'r gweithgaredd sy'n digwydd. Ond hefyd mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ddiogeledd bwyd fforddiadwy i bobl yng Nghymru a ledled y DU. Felly, tybed—. Yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn glywed sut y mae'r tensiwn hwnnw'n cael ei reoli'n briodol. Oherwydd rwy'n cydnabod pwysigrwydd bwyd môr yn ein deietau hefyd, a'i fod yn fforddiadwy i bobl, oherwydd fe wyddom am fanteision iechyd bwyd môr—mae'n cynnwys llawer o omega 3, llawer o brotein, llawer o fwynau—ac ni allwn—. Dywedir wrthym y dylem fwyta rhyw fath o fwyd môr ddwywaith yr wythnos i gynnal deiet iach. Felly, ni allwn ganiatáu i ddeiet iach o'r fath ddod yn fraint i'r dosbarthiadau canol yn unig. Felly, rhaid bod cydbwysedd go iawn rhwng y ffordd y cawn fwyd môr fforddiadwy i bobl gan fynd i'r afael ar yr un pryd â rhai o'r pryderon amgylcheddol y tynnoch chi sylw atynt yn briodol iawn. Diolch yn fawr iawn.

Thank you to Janet Finch-Saunders for bringing forward this debate today, because this debate is about bottom trawling, but it's also about the protection of our sea beds across Wales. There's nowhere in Wales, I think, that cares more about its sea bed than north Gower, in Penclawdd, where people have been picking cockles in Penclawdd for, well, I was going to say for generations, but, actually, since Roman times people have been picking there, and they've become a Swansea delicacy that is known across the world. Now, that has happened for centuries, collected by local people who care about the sea bed and the future viability of the cockles. But recent legislative changes by the Welsh Government have meant that people have descended upon Penclawdd to pick cockles, and haven't restored the sea bed in the same way that people who have done it historically, locally, have done previously. So, I'd appreciate it if the Cabinet Secretary, in his response—or, if he doesn't have it in response, I'm happy for him to write to me—would explain some of the legislative changes and why they've taken place. Because I was in Penclawdd recently and someone had driven from Liverpool, as a consequence of the recent legislative changes, just to pick cockles there. Residents are very worried that the sea bed is not being protected and the future viability of cockles in Penclawdd is not being protected either.

Diolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae'n ddadl sy'n ymwneud â threillrwydo môr-waelodol, ond mae hefyd yn ymwneud â diogelu gwely'r môr ledled Cymru. Nid wyf yn credu bod unman yng Nghymru sy'n malio mwy am wely'r môr na gogledd Gŵyr, ym Mhenclawdd, lle mae pobl wedi bod yn casglu cocos ers, wel, roeddwn i'n mynd i ddweud ers cenedlaethau, ond mae pobl wedi bod yn casglu yno ers cyfnod y Rhufeiniaid mewn gwirionedd, ac maent wedi dod yn ddanteithfwyd Abertawe sy'n enwog ledled y byd. Nawr, mae hynny wedi digwydd ers canrifoedd, maent wedi'u casglu gan bobl leol sy'n poeni am wely'r môr a hyfywedd y cocos yn y dyfodol. Ond mae newidiadau deddfwriaethol diweddar gan Lywodraeth Cymru wedi golygu bod pobl wedi heidio i Benclawdd i gasglu cocos, ac nid ydynt wedi adfer gwely'r môr yn yr un modd ag y gwnâi pobl o'r blaen yn lleol. Felly, hoffwn i'r Ysgrifennydd Cabinet, yn ei ymateb—neu, os nad yw ganddo yn ei ymateb, rwy'n hapus iddo ysgrifennu ataf—esbonio rhai o'r newidiadau deddfwriaethol a pham eu bod wedi digwydd. Oherwydd roeddwn ym Mhenclawdd yn ddiweddar ac roedd rhywun wedi gyrru o Lerpwl, o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol diweddar, yn unswydd i gasglu cocos yno. Mae'r trigolion yn bryderus iawn nad yw gwely'r môr yn cael ei ddiogelu ac nad yw hyfywedd cocos ym Mhenclawdd yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol ychwaith.

18:50

A very short contribution from myself. I thank Janet Finch-Saunders for allowing me a minute on bottom trawling. Developing on the extractive nature of that, and on Tom Giffard's point, Deputy First Minister, you'll be aware that I wrote to you earlier this year, on 12 May—you replied to me—with regard to the concerns around the harvesting of razor clams in Saundersfoot. And while that area isn't eligible for commercial collection of razor clams, what was concerning was the photo of the amount of people who are going there for, quote unquote, 'personal use'. So, that extractive nature does have an impact. And I met with someone at a surgery in Saundersfoot very recently who asked that a pause is put on the eligibility of Saundersfoot as somewhere to collect, just so that proper evidence can be collected as to the impact of this, to ensure that no damage is being done. Diolch i chi.

Cyfraniad byr iawn gennyf i. Diolch i Janet Finch-Saunders am ganiatáu munud i mi ar dreillrwydo môr-waelodol. Os caf fynd ar ôl natur echdynnol hynny, ac ar bwynt Tom Giffard, Ddirprwy Brif Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gynharach eleni, ar 12 Mai—fe wnaethoch chi ymateb—ynglŷn â'r pryderon ynghylch cynaeafu cyllyll môr yn Saundersfoot. Ac er nad yw'r ardal honno'n gymwys ar gyfer casglu cyllyll môr yn fasnachol, yr hyn oedd yn bryderus oedd y llun o faint o bobl sy'n mynd yno at eu 'defnydd personol'. Felly, mae'r natur echdynnol honno'n cael effaith. Ac fe gyfarfûm â rhywun mewn cymhorthfa yn Saundersfoot yn ddiweddar iawn a ofynnodd am roi saib ar gymhwysedd Saundersfoot fel lleoliad i'w casglu, fel y gellir casglu tystiolaeth briodol ynghylch effaith hyn, i sicrhau nad oes unrhyw niwed yn cael ei wneud. Diolch i chi.

Even though I represent a landlocked constituency, I care deeply about our oceans and our seas. And I don't tend to disagree with my colleague Janet Finch-Saunders very often, but I think we do need to have a balanced approach here. I do worry sometimes about banning things or overregulation, the simple reason being that a lot of our fishermen make a living out of the sea. We need to make sure that we do balance the environmental contributions against those economic impacts of banning something as well. Because we do need to make sure—. The people who are making a living off the sea have also got to feed their families and look after their communities as well. So, I would be quite interested to hear from the Cabinet Secretary what balanced approach the Welsh Government is taking in this to make sure that we protect our environment, but also protect our fishermen as well.

Er fy mod yn cynrychioli etholaeth heb arfordir, rwy'n poeni'n fawr am ein cefnforoedd a'n moroedd. Ac nid wyf yn tueddu i anghytuno â fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders yn aml iawn, ond rwy'n credu bod angen inni gael cydbwysedd yma. Rwy'n poeni weithiau am wahardd pethau neu or-reoleiddio, a'r rheswm syml yw bod llawer o'n pysgotwyr yn gwneud eu bywoliaeth o'r môr. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cydbwyso'r cyfraniadau amgylcheddol yn erbyn yr effeithiau economaidd yn sgil gwahardd rhywbeth. Oherwydd mae angen inni wneud yn siŵr—. Mae'r bobl sy'n gwneud bywoliaeth o'r môr hefyd yn gorfod bwydo eu teuluoedd a gofalu am eu cymunedau. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa ddull cytbwys sydd gan Lywodraeth Cymru o weithredu ar hyn i wneud yn siŵr ein bod yn diogelu ein hamgylchedd, ond hefyd yn diogelu ein pysgotwyr yn ogystal.

Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.

I now call on the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs to reply to the debate. Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:52:08
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn. Thank you to everybody who has contributed to this debate; it's been a really good one. Let me just begin by describing our fisheries in Wales relevant to this debate. And I'll just begin by repeating what I often say: for Wales, do not read England, in the fisheries. Fishing in Wales is largely carried out by a small inshore fleet, targeting shellfish. The use of bottom-towed fishing gears, such as trawls and dredges, in our inshore waters out to 12 nautical miles, is limited. The most prevalent use of such gears is our 60-year-old scallop fishery, for which we recently published a fisheries management plan, which I'll come on to shortly. In the wider Welsh zone, there's activity from European Union vessels in the Celtic sea, who target nephrops and demersal fish.

So, how do we manage and govern this? The joint fisheries statement, the JFS—not the Janet Finch-Saunders—[Laughter.]—published in November 2022, sets out our shared ambition across the UK to work together to support a vibrant, profitable, sustainable fishing and aquaculture sector, supported by a healthy marine environment that is resilient to climate change. The JFS also describes what use the UK fisheries policy authorities, including Wales, will make of fisheries management plans—sorry, there's a lot of abbreviations in this—FMPs, and sets out timelines for their delivery by 2028. Those FMPs are designed to maintain stocks at, or restore them to, sustainable levels. To achieve this, each plan provides a road map to systematically improve the management of each stock or group of stocks for six years after the FMP publication.

As part of the production and the implementation of each FMP, the fisheries policy authorities will seek to identify and mitigate any negative impact these fisheries may have on the environment. This will include consideration of any potential adverse effect on marine protected areas and their features. Each FMP will be implemented in a way that meets the eight Fisheries Act 2020 objectives. One of these—the ecosystem objective—aims to ensure any negative impacts of fishing on marine ecosystems are minimised and, where possible, reversed.

Now, I mentioned the king scallop fishery in Wales, which is over 60 years old, and it's already very tightly controlled. The Welsh Government authorises around 20 to 30 vessels to fish for king scallops with dredgers each year. And before permits are issued, the Welsh Government conducts a habitats regulation assessment to ensure the fishery will have no adverse effects on the protected features of European marine sites. But we are not complacent in this, and further management improvements are planned as part of the implementation of the king scallop FMP—fisheries management plan—which was published in 2023. So, my officials have been working with a range of stakeholders in Wales to develop proposals for a new framework of measures to enable adaptive management of this fishery, which will be subject to public consultation in this Senedd term. Now, in parallel with the stakeholder consultation, we've commissioned Bangor University to investigate sea bed sensitivity and benthic ecosystem integrity in those areas of scallop fishing to inform our future management.

Diolch yn fawr iawn. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon; mae wedi bod yn un dda iawn. Gadewch imi ddechrau trwy ddisgrifio ein pysgodfeydd yng Nghymru sy'n berthnasol i'r ddadl hon. Ac fe wnaf ddechrau trwy ailadrodd yr hyn rwy'n ei ddweud yn aml: nid yw'r hyn sy'n berthnasol i bysgodfeydd yn Lloegr o reidrwydd yn berthnasol i bysgodfeydd Cymru. Mae pysgota yng Nghymru yn cael ei wneud i raddau helaeth gan fflyd fach ar y glannau, sy'n targedu pysgod cregyn. Mae'r defnydd o offer pysgota wedi'u llusgo dros wely'r môr, fel treillrwydi a llusgrwydi, yn nyfroedd ein glannau allan hyd at 12 môr-filltir, yn gyfyngedig. Gwneir y defnydd mwyaf cyffredin o offer o'r fath yn ein pysgodfa cregyn bylchog 60 mlwydd oed, y gwnaethom gyhoeddi cynllun rheoli pysgodfeydd ar ei chyfer yn ddiweddar, a dof at hynny yn y man. Yn y parth ehangach yng Nghymru, mae yna weithgarwch gan longau'r Undeb Ewropeaidd yn y Môr Celtaidd, sy'n targedu cimychiaid Norwy a physgod dyfnforol.

Felly, sut rydym yn rheoli a llywodraethu hyn? Mae'r cyd-ddatganiad pysgodfeydd, y JFS—nid y Janet Finch-Saunders—[Chwerthin.]—a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, yn nodi ein huchelgais cyffredin ledled y DU i weithio gyda'n gilydd i gefnogi sector pysgota a dyframaethu bywiog, proffidiol a chynaliadwy, wedi'i gynnal gan amgylchedd morol iach sy'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd. Mae'r cyd-ddatganiad hefyd yn disgrifio'r defnydd y bydd awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU, gan gynnwys Cymru, yn ei wneud o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, ac mae'n nodi amserlenni ar gyfer eu cyflawni erbyn 2028. Mae'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd hynny wedi'u llunio i gynnal stociau ar lefelau cynaliadwy, neu i'w hadfer i lefelau cynaliadwy. Er mwyn cyflawni hyn, mae pob cynllun yn darparu cynllun ar gyfer gwella rheolaeth pob stoc neu grŵp o stociau yn systematig am chwe blynedd ar ôl cyhoeddi'r cynllun rheoli pysgodfa.

Fel rhan o gynhyrchu a gweithredu pob cynllun rheoli pysgodfa, bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn ceisio nodi a lliniaru unrhyw effaith negyddol y gallai'r pysgodfeydd hyn ei chael ar yr amgylchedd. Bydd yn cynnwys ystyried unrhyw effaith niweidiol bosibl ar ardaloedd morol gwarchodedig a'u nodweddion. Bydd pob cynllun rheoli pysgodfa'n cael ei weithredu mewn ffordd sy'n bodloni wyth amcan Deddf Pysgodfeydd 2020. Nod un o'r rhain—amcan yr ecosystem—yw sicrhau bod unrhyw effeithiau negyddol o bysgota ar ecosystemau morol yn cael eu lleihau, a'u gwrthdroi lle bo hynny'n bosibl.

Nawr, soniais am y bysgodfa gregyn y brenin yng Nghymru, sydd dros 60 oed, ac mae eisoes wedi'i rheoli'n llym iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn awdurdodi tua 20 i 30 o longau llusgrwydo i bysgota cregyn y brenin bob blwyddyn. A chyn i drwyddedau gael eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad rheoleiddio cynefinoedd i sicrhau na fydd y bysgodfa'n cael unrhyw effeithiau niweidiol ar nodweddion gwarchodedig safleoedd morol Ewropeaidd. Ond nid ydym yn hunanfodlon yn hyn, ac mae gwelliannau rheoli pellach wedi'u cynllunio yn rhan o weithredu cynllun rheoli'r bysgodfa cregyn y brenin a gyhoeddwyd yn 2023. Felly, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid yng Nghymru i ddatblygu cynigion ar gyfer fframwaith newydd o fesurau i alluogi rheolaeth addasol ar y bysgodfa hon, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn nhymor y Senedd hon. Nawr, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad â rhanddeiliaid, rydym wedi comisiynu Prifysgol Bangor i ymchwilio i sensitifrwydd gwely'r môr a chadernid yr ecosystem benthig yn yr ardaloedd lle caiff cregyn bylchog eu pysgota i lywio ein dull o reoli yn y dyfodol.

Any management measures for other bottom-towed gears in Wales will be developed and implemented as part of other FMPs, namely the Irish sea demersal FMP and the Celtic sea and western channel demersal FMP, which are due to be published in 2026. Now the Welsh Government are joint authorities in the production of these FMPs, which are being prepared with a wide range of stakeholders and, again, will be subject to public consultation before publication. Delivery of the FMP programme remains a top priority for this Government. It's a key mechanism for systematically improving the management of specific fisheries and the use of specific fishing gears, such as bottom-towed gears, either within marine protected areas or, indeed, the wider marine environment as well.

Now I understand that there are some specific concerns about our marine protected areas, and I'd like to address that directly. We have a wide network of marine protected areas in Wales, which cover 69 per cent of the inshore area and 50 per cent of all Welsh waters. Our MPA network in Wales is highly complex, with 139 sites in total. Some of those sites are very large and include protection for both mobile species and benthic sea bed habitat features. However, individual benthic habitat features typically only occupy part of each site and, additionally, some sites are only designated for mobile sea bird or cetacean species features and contain no designated benthic features whatsoever.

Natural Resources Wales have recently published the first complete set of condition assessments, covering a staggering 84 features of European marine sites that are wholly within Wales. And firstly, and for the record, I want to extend my thanks and appreciation to all those involved in this vital piece of work, which gives us a baseline that we will work from, something we've not had before. But, most importantly, I want to highlight some of the initial findings of those assessments. They have found that no assessed habitat or species within the marine protected area network in Wales were found to be in an unfavourable condition due to impacts caused by fishing. That is very important. I think this is critically important when considering any further restrictions on bottom-towed gears in the Welsh MPA network. Any future decisions we make must be based on robust evidence.

So, with regard to marine conservation zones or MCZs, Skomer is currently Wales's only MCZ, and was established to conserve species and habitats of national and international importance, and this includes grey seal and pink sea fan. The seas within Skomer MCZ are subject to specific fishery by-laws, which prohibit the use of bottom-contact mobile fishing gear, specifically dredges and beam trawls. The area is also protected under the Scallop Fishing (Wales) (No. 2) Order 2010, whereby the use of a scallop dredge is prohibited. Therefore, no permittable beam trawling or dredging activity should occur within the MCZ. And more widely, you'll be aware of the Welsh Government's intention to designate further MCZs in Wales. This forms part of the MPA network completion programme, which aims to ensure that our network is coherent, it's well connected and resilient. And part of this work is seeking areas within Welsh waters for potential MCZs to cover shortfalls identified in a report published in 2018. I think it's important to mention this work here, because I want to assure Members that we will take a proportionate, balanced, consistent, evidence-led approach, as we have done before, when considering the need for any potential management measures, in particular, how such measures may impact as well the livelihoods of the fishing sector and the coastal communities that they support.

And beyond the condition assessments, we continue to build evidence to support our decision making. So, the assessing Welsh fishing activities, AWFA, project is a multi-year programme of work being conducted by NRW on behalf of Welsh Government. The project will inform the fisheries management plan development and the implementation to ensure that adequate protection is given to designated MPA features in line with the Conservation of Habitats and Species Regulations 2017. These assessments, along with conservation advice from NRW and JNCC—sorry for all the abbreviations—the Joint Nature Conservation Committee, provided as part of the development of FMPs, will identify potential impacts from different gear types on marine habitats. They will provide a robust evidence base on which to introduce appropriate fisheries management measures, where necessary, to safeguard MPA features from potentially damaging activities.

Multiple assessing Welsh fishing activities assessments have been completed already, with the remainder to be completed this year. Prior to the fisheries management plans, the AWFA assessments have already been used in the development and implementation of the Whelk Fishing Permit (Wales) Order 2021, which will also inform the future development of a Welsh whelk fisheries management plan.

The consultation currently under way by the Marine Management Organisation outlines proposals for fisheries management measures specifically covering bottom-trawled gears, amongst others, extending to 42 MPAs in English waters. Now, with regard to bottom-towed gears, restrictions are being proposed for some MPAs, but not all of them. There has been some confusion on that point. Decisions have been based on the findings of their MPA fisheries assessments, which look at the impacts there of fishing activity upon different features. For England, do not read Wales, and vice versa. For the record, I have no plans to follow an identical course of action in Wales, because the evidence here does not identify such a need, as I’ve just laid out.

But, in conclusion, consideration by the Welsh Government of any potential restrictions on the use of bottom-towed gears within Welsh marine protected areas will be based on the most robust evidence, the needs of the features, and the site conservation objectives. We have robust management processes in place to protect our marine environment, and we will react to any evidence that confirms the need for additional measures.

But thank you again, Janet, and all Members, for securing this debate today. We don’t have often enough debates here on fisheries and the measures we have in Wales. It’s been very helpful, and it’s helped me to explain the situation on bottom trawling, as it applies in Wales. Diolch yn fawr iawn.

Bydd unrhyw fesurau rheoli ar gyfer gêr llusg arall yng Nghymru'n cael eu datblygu a'u gweithredu'n rhan o gynlluniau rheoli pysgodfeydd eraill, sef cynllun rheoli pysgodfa gwely'r môr Môr Iwerddon a chynllun rheoli pysgodfa gwely'r môr y Môr Celtaidd a gorllewin sianel Lloegr, sydd i fod i'w cyhoeddi yn 2026. Nawr mae Llywodraeth Cymru yn gyd-awdurdodau cynhyrchu'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd hyn, sy'n cael eu paratoi gydag ystod eang o randdeiliaid ac unwaith eto, byddant yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn eu cyhoeddi. Mae cyflwyno rhaglen y cynlluniau rheoli pysgodfeydd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae'n fecanwaith allweddol ar gyfer gwella rheolaeth pysgodfeydd penodol yn systematig a'r defnydd o gêr pysgota penodol, fel gêr llusg môr-waelodol, naill ai o fewn yr ardaloedd morol gwarchodedig neu'n wir, yr amgylchedd morol ehangach hefyd.

Nawr rwy'n deall bod yna bryderon penodol ynghylch ein hardaloedd morol gwarchodedig, a hoffwn fynd i'r afael â hynny'n uniongyrchol. Mae gennym rwydwaith eang o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, sy'n cwmpasu 69 y cant o ardal y glannau a 50 y cant o holl ddyfroedd Cymru. Mae ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru yn gymhleth iawn, gyda chyfanswm o 139 o safleoedd. Mae rhai o'r safleoedd hynny'n fawr iawn ac yn cynnwys diogelwch i rywogaethau symudol a nodweddion cynefinoedd gwely'r môr benthig. Fodd bynnag, fel arfer ni fydd nodweddion cynefinoedd benthig unigol ond yn bodoli ar ran o bob safle ac yn ogystal, ni chaiff rhai safleoedd ond eu dynodi ar gyfer nodweddion rhywogaethau adar môr symudol neu deulu'r morfil yn unig ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw nodweddion benthig dynodedig o gwbl.

Yn ddiweddar, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi'r set gyflawn gyntaf o asesiadau cyflwr, sy'n cwmpasu'r nifer syfrdanol o 84 o nodweddion safleoedd morol Ewropeaidd sy'n gyfan gwbl yng Nghymru. Ac yn gyntaf, ac ar gyfer y cofnod, rwyf am ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith hanfodol hwn, sy'n rhoi llinell sylfaen i ni weithio ohoni, rhywbeth nad ydym wedi'i gael o'r blaen. Ond yn bwysicaf oll, rwyf am dynnu sylw at rai o ganfyddiadau cychwynnol yr asesiadau hynny. Maent wedi canfod nad oedd unrhyw gynefin neu rywogaeth a aseswyd o fewn y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru mewn cyflwr anffafriol oherwydd effeithiau a achosir gan bysgota. Mae hynny'n bwysig iawn. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol bwysig wrth ystyried unrhyw gyfyngiadau pellach ar gêr llusgrwydo môr-waelodol yn rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wnawn yn y dyfodol fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Felly, o ran parthau cadwraeth morol, Sgomer yw'r unig barth cadwraeth morol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac fe'i sefydlwyd i warchod rhywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae hyn yn cynnwys morloi llwyd a'r fôr-wyntyll binc. Mae'r moroedd o fewn parth cadwraeth morol Sgomer yn destun is-ddeddfau pysgodfeydd penodol, sy'n gwahardd defnyddio gêr pysgota symudol ar wely'r môr, a llusgrwydi a threillrwydi trawst yn benodol. Mae'r ardal hefyd wedi'i gwarchod o dan Orchymyn Pysgota Cregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010, lle gwaherddir defnyddio llusgrwyd cregyn bylchog. Felly, ni ddylai unrhyw weithgaredd treillrwydi trawst na llusgrwydi a ganiateir ddigwydd o fewn y parth cadwraeth morol. Ac yn fwy eang, fe fyddwch yn ymwybodol o fwriad Llywodraeth Cymru i ddynodi parthau cadwraeth morol pellach yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o raglen cwblhau rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig, gyda'r nod o sicrhau bod ein rhwydwaith yn gydlynol, wedi'i chysylltu'n dda ac yn wydn. A rhan o'r gwaith hwn yw chwilio am ardaloedd yn nyfroedd Cymru ar gyfer parthau cadwraeth morol posibl i unioni diffygion a nodwyd mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2018. Rwy'n credu ei bod yn bwysig sôn am y gwaith hwn yma, oherwydd rwyf am sicrhau'r Aelodau y byddwn yn mabwysiadu dull cymesur, cytbwys, cyson, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel y gwnaethom o'r blaen, wrth ystyried yr angen am unrhyw fesurau rheoli posibl, yn enwedig y ffordd y gall mesurau o'r fath effeithio hefyd ar fywoliaeth pobl yn y sector pysgota a'r cymunedau arfordirol y maent yn eu cefnogi.

A thu hwnt i'r asesiadau o gyflwr, rydym yn parhau i adeiladu tystiolaeth i gefnogi ein penderfyniadau. Felly, mae'r prosiect asesu gweithgareddau pysgota Cymru yn rhaglen waith aml-flwyddyn sy'n cael ei chyflawni gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn llywio datblygiad a gweithrediad y cynllun rheoli pysgodfeydd i sicrhau bod amddiffyniad digonol i nodweddion ardal forol warchodedig dynodedig yn unol â Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Bydd yr asesiadau hyn, ynghyd â chyngor cadwraeth gan CNC a'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, a ddarperir yn rhan o'r gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli pysgodfeydd, yn nodi effeithiau posibl gwahanol fathau o gêr ar gynefinoedd morol. Byddant yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli pysgodfeydd priodol, lle bo angen, i ddiogelu nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig rhag gweithgaredd a allai fod yn niweidiol.

Mae sawl asesiad o weithgareddau pysgota Cymru wedi'u cwblhau eisoes, gyda'r gweddill i'w cwblhau eleni. Cyn y cynlluniau rheoli pysgodfeydd, mae asesiadau o weithgareddau pysgota Cymru eisoes wedi'u defnyddio i ddatblygu a gweithredu Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021, a fydd hefyd yn llywio datblygiad cynllun rheoli pysgodfeydd Cymreig ar gyfer cregyn moch yn y dyfodol.

Mae'r ymgynghoriad sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan y Sefydliad Rheoli Morol yn amlinellu cynigion ar gyfer mesurau rheoli pysgodfeydd sy'n ymdrin yn benodol â gêr treillrwydo môr-waelodol, ymhlith mathau eraill, sy'n ymestyn i 42 ardal forol warchodedig yn nyfroedd Lloegr. Nawr, ar gyfer gêr llusg môr-waelodol, mae cyfyngiadau'n cael eu hargymell ar gyfer rhai ardaloedd morol gwarchodedig, ond nid pob un ohonynt. Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ar y pwynt hwnnw. Mae penderfyniadau wedi'u seilio ar ganfyddiadau eu hasesiadau o bysgodfeydd ardal forol warchodedig, sy'n edrych ar effeithiau gweithgarwch pysgota ar wahanol nodweddion. Nid yw'r hyn sy'n berthnasol yn Lloegr yn berthnasol i Gymru ac fel arall. Ac rwy'n nodi nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i ddilyn llwybr gweithredu sy'n union yr un fath yng Nghymru, oherwydd nid yw'r dystiolaeth yma yn dangos bod angen o'r fath, fel rwyf newydd ei nodi.

Ond i gloi, bydd ystyriaeth Llywodraeth Cymru o unrhyw gyfyngiadau posibl ar y defnydd o gêr llusg môr-waelodol o fewn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf cadarn, ar anghenion y nodweddion, ac ar amcanion cadwraeth y safle. Mae gennym brosesau rheoli cadarn ar waith i ddiogelu ein hamgylchedd morol, a byddwn yn ymateb i unrhyw dystiolaeth sy'n cadarnhau'r angen am fesurau ychwanegol.

Ond diolch eto, Janet, a'r holl Aelodau, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Nid ydym yn cael dadleuon yn ddigon aml yma am bysgodfeydd a'r mesurau sydd gennym yng Nghymru. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac mae wedi fy helpu i egluro'r sefyllfa ar dreillrwydo môr-waelodol, fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

19:00

Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog. A daw hynny â thrafodon heddiw i ben. 

I thank the Deputy First Minister. And that brings today's proceedings to a close. 

Daeth y cyfarfod i ben am 19:02.

The meeting ended at 19:02.