Y Cyfarfod Llawn
Plenary
08/07/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni gychwyn, dwi eisiau hysbysu’r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 7 Gorffennaf.
Eitem 1 sydd nesaf, a'r cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r rheini. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn yr hawl ddemocrataidd i brotestio yng Nghymru? OQ63002

Mae Cymru’n genedl sy'n falch o'i gwerthoedd democrataidd, ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn amddiffyn yr hawl i brotestio'n heddychlon. O gyfiawnder hinsawdd i gydraddoldeb a hawliau dynol, rŷn ni’n sefyll gyda phobl sy’n sefyll dros yr hyn maen nhw’n credu ynddo. Mae protest heddychlon yn rhan o'n traddodiad gwleidyddol, a bydd y traddodiad hwnnw wastad yn cael ei ddiogelu. Ond gadewch i mi fod yn glir: does dim lle yn ein democratiaeth ni i gasineb, braw nac annog trais, ac fe fyddwn ni bob amser yn tynnu'r llinell lle mae'r niwed yn dechrau.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dwi’n cytuno gyda’r ateb hynny.
Ond fe wnes i gyflwyno'r cwestiwn hwn yr wythnos diwethaf cyn i 29 o bobl gael eu harestio yn Llundain dros y penwythnos yn ystod protest heddychlon. Dyma'r oes yr ydym ni'n byw ynddi ar hyn o bryd, yn anffodus. Yr ysgogiad ar gyfer y cwestiwn hwn oedd Caerdydd Students for Palestine. Maen nhw wedi bod yn protestio ar gampws Prifysgol Caerdydd dros heddwch ym Mhalesteina ers y llynedd. Pan alwodd Prifysgol Caerdydd yr heddlu, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y sefyllfa yn brotest heddychlon nad oedd angen unrhyw ymyrraeth bellach. Fodd bynnag, fe wnaeth Prifysgol Caerdydd gyflogi cwmni cyfreithiol wedyn, a sicrhaodd waharddiad sifil sydd ar hyn o bryd wedi'i blastro ar draws campws y brifysgol, yn rhybuddio, ymhlith pethau eraill, na chaiff neb fynd ar y campws, ei feddiannu nac aros arno at ddibenion protestio. Mae corff gwarchod y Cenhedloedd Unedig wedi disgrifio hyn fel achos clir o fynd yn groes i hawliau dynol rhyngwladol. Mae'r gwaharddiad yn bygwth carchar, atafaelu asedau a dirwyon am dorri'r gwaharddiad. Rydym ni wedi cyrraedd y pwynt lle gall y rhai sy'n protestio'n heddychlon, yn galw am heddwch, ofni cael eu harestio ac amddiffyn eu hunain yn y llys. Pe bai protest heddychlon, fel myfyrwyr, yn arwain at garchar, yna byddai gan fwyafrif y bobl yma yn y Siambr euogfarnau carchar maith eu hunain. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi nad yw carcharu yn ymateb priodol i brotest heddychlon, a sut wnaiff hi ddiogelu'r hawl ddemocrataidd i brotestio yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys. Ac a gaf i gyfeirio Aelodau at fy natganiad o fuddiant fel aelod o Amnest Rhyngwladol? Rwyf i wedi treulio, fel llawer o bobl yn y Siambr hon, llawer o amser yn protestio am bethau sy'n agos at ein calonnau. Dyna pam y daeth y mwyafrif ohonom ni i fyd gwleidyddiaeth, ac felly yn sicr fyddwch chi ddim yn cael unrhyw fath o wrthwynebiad gen i o ran yr hawl i brotestio. Ac, yn benodol, ar faterion yr wyf i'n credu y mae llawer ohonom ni'n eu gweld ar ein sgriniau bob dydd, o ran yr hyn sy'n digwydd yn Gaza, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gallu mynegi eu safbwyntiau ar bethau fel hynny.
Yn amlwg, mae'n rhaid cael llinell o ran torri'r gyfraith ac o ran ysgogi casineb hiliol. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn ynghylch hynny, ond, yn fy marn i, mae'r hawl i brotestio yn hawl sanctaidd o ran sut rydym ni'n ei wneud yng Nghymru, ac mae'r rhain mewn gwirionedd yn erthyglau 10 ac 11 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n sicrhau pobl o'r hawl i allu mynegi eu hunain yng Nghymru.
Ym mis Ionawr y llynedd, Prif Weinidog, dywedais fod Llywodraeth Cymru yn cerdded ar raff o ran ei pherthynas â'r gymuned amaethyddol yma yng Nghymru, yn dilyn protestiadau yn Ewrop. Dim ond mis yn ddiweddarach, arferodd dros 4,500 o ffermwyr eu hawl i brotestio ar risiau'r Senedd yn erbyn cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Nawr, yr wythnos nesaf, rydym ni'n disgwyl datganiad wedi'i ddiweddaru ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Ac rydym ni'n gwybod hynny, o'r asesiad effaith blaenorol, a amlinellodd y byddai swyddi'n cael eu colli, llai o dda byw a niwed economaidd, a arweiniodd at y brotest ar 28 Chwefror. Felly, pa mor hyderus ydych chi fel Prif Weinidog na fydd y fersiwn newydd hon o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn arwain at brotest dorfol ar risiau'r Senedd, oherwydd mae hyder cymuned amaethyddol Cymru yn y Llywodraeth hon ar ei isaf erioed?

Diolch yn fawr. Mae gan ffermwyr hawl i brotestio, fel y mae gan unrhyw un arall. Mae hynny'n hollol o fewn eu hawliau. Gadewch i mi ddweud rhywbeth am y cynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi treulio oriau ac oriau ac oriau ac oriau yn gwrando ar ffermwyr, a grwpiau amgylcheddol, am eu pryderon a sut yr hoffen nhw weld y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio. Mae gennym ni gyfrifoldeb i gydbwyso'r holl wahanol anghenion yn ein cymunedau. Oes, mae angen cefnogi'r gymuned amaethyddol, ac maen nhw wir yn cael eu cefnogi—gwerth dros £250 miliwn o gefnogaeth bob blwyddyn. Mae hynny'n gryn dipyn o gefnogaeth i sector sy'n cyfrannu llai nag 1 y cant at gynnyrch domestig gros y wlad. Ond, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig hefyd i ni fanteisio ar y cyfle i ddweud, 'A dweud y gwir, gallwch chi chwarae rhan bwysig iawn o ran cefnogi'r cyhoedd, o ran y pethau yr ydym ninnau hefyd eisiau eu gweld yn cael eu cyflawni.' Mae heriau newid hinsawdd yn heriau i'r gymuned amaethyddol eu hunain. Rwy'n credu bod rôl bwysig i ni gael y cydbwysedd yn y fan yma. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei ymdrechion enfawr ar hyn. Yn amlwg, mae wedi bod yn gweithio gyda'r undebau amaethyddol, ac rydym ni'n gobeithio y byddwn ni'n cael ymateb adeiladol gan y sector amaethyddol yr wythnos nesaf.
Mae protestio yn nodwedd o wleidyddiaeth yma yng Nghymru. Yn wir, mae'n un o gonglfeini democratiaeth. Mae eich plaid chi eich hun, wrth gwrs, wedi cael ei gwreiddio yn y mudiad protest, os edrychwch chi nôl i gyfnod y Siartwyr â'r faner goch ddaru iddi gael ei chyhwfan ym Merthyr. Ac wrth gwrs, yn y cyfnod mwyaf diweddar, rydym ni wedi gweld protestio di-drais yn arwain at nifer o newidiadau yn ein gwleidyddiaeth ni yma yng Nghymru, os ystyriwch chi waith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, CND Cymru a mudiadau tebyg, ac yn enwedig, yn fwy diweddar, Extinction Rebellion. Hynny ydy, mae'r mudiadau yma wedi chwarae rhan yn ein gwleidyddiaeth ni, ac efo rôl i'w chwarae yn ein gwleidyddiaeth ni. Mewn gwledydd totalitaraidd, ar y llaw arall, maen nhw'n atal mudiadau protest, maen nhw'n eu carcharu nhw. Os edrychwch chi ar yr hyn sy'n digwydd yn Rwsia ar hyn o bryd efo hawliau pobl hoyw a deurywiol, mae pobl yn cael eu carcharu blith draphlith yna. Felly, dwi'n falch clywed eich ymrwymiad chi i hawl unigolion i ymgyrchu yn ddi-drais, ond ydych chi hefyd yn credu fod galw am heddwch a bod galw am atal gwerthu arfau i wledydd ac atal hil-laddiad yn rhesymau teilwng dros brotestio, o fewn ffiniau di-drais?

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cynnal yr hawl i brotestio'n ddi-drais. Dwi'n meddwl bod hwnna'n gonglfaen pwysig i'n democratiaeth ni. Fel rydych chi'n dweud, y protestio hynny sydd wedi arwain at newidiadau mawr yn ein cymdeithas ni. Felly, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod gan bobl yr hawl i alw am heddwch ac i brotestio. Ond, dwi eisiau bod yn glir bod yna linell lle, os ydych chi'n mynnu bod pobl eraill yn mynd i ddioddef a'i fod yn torri'r gyfraith, yn amlwg, fyddwn ni ddim yn cyd-fynd â hynny.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithrediad y perthnasau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ62998

Ers y newid i'r Llywodraeth yn San Steffan, cafwyd chwa o awyr iach o ran cysylltiadau rhynglywodraethol. Rydym ni wedi mynd o Weinidogion Torïaidd ddim hyd yn oed yn ymgysylltu â ni i fwy na 30 o gyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ers mis Medi, gan gynnwys dwy uwchgynhadledd haen uchaf. Rydym ni wedi sicrhau £6 biliwn yn rhagor i Gymru nag y byddem ni wedi ei gael o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol. Mae'r arian hwnnw wedi mynd tuag at ddiogelwch tomenni glo, ynni gwyrdd a buddsoddi yn y rheilffyrdd. Rydym ni wedi gweld £500 miliwn ar gyfer Tata Steel, £445 miliwn ar gyfer rheilffyrdd, £80 miliwn i gefnogi ynni gwynt ar y môr ym Mhort Talbot. Mae'r rhain yn fuddugoliaethau go iawn i Gymru, ar ben cronfa bensiwn y glowyr. Rwy'n credu mai dyna sut mae Llywodraeth aeddfed yn edrych, cydweithredu yn hytrach na gwrthdaro, a chyflawni yn hytrach na gwahanu.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb yna. Ddydd Gwener, fel y gwyddom, roedd hi'n flwyddyn i'r diwrnod y daeth Llafur i rym yn San Steffan. Nid wyf i'n synnu nad oedd gan Syr Keir unrhyw gynlluniau i ddathlu, oherwydd gallaf ddweud wrthych chi nad oedd gan weddill y wlad yn sicr. Ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan—[Torri ar draws.] Ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan, rydym ni wedi gweld dim ond polisïau trychinebus yn cael eu lansio, a, hyd yn oed pan fydd Gweinidogion Llafur y DU yn gwrando ar reswm ac yn gwneud tro pedol, mae'n ymddangos eu bod nhw'n gwneud pethau'n waeth. Prif Weinidog, mae wedi dod yn amlwg eich bod chi wedi bod yn ceisio ymbellhau oddi wrth Blaid Lafur y DU dros yr wythnosau diwethaf. Felly, a wnewch chi greu mwy o bellter fyth trwy alw ar eich cydweithwyr yn San Steffan i wrando ar y gymuned ffermio a chael gwared ar y dreth ffermydd teuluol ofnadwy? Prif Weinidog, mewn cyfweliadau diweddar, gofynnwyd i chi am ryddhad treth etifeddiant ffermydd, ond nid ydych chi wedi gallu ateb y cwestiynau uniongyrchol amdano. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi fanteisio ar y cyfle nawr i wneud safiad ar y mater. Mae hwn yn un tro penodol y mae ein cymunedau gwledig yn crefu amdano. Mae'n hen bryd i chi wrando ar ffermwyr Cymru a sefyll i fyny a galw ar Lafur y DU i gael gwared ar y dreth ffermydd teuluol unwaith ac am byth.

Rydych chi'n dweud nad yw pobl wedi sylwi ar y gwahaniaeth. Gallaf ddweud wrthych chi pwy sydd wedi sylwi ar wahaniaeth: y 150,000 o bobl sydd wedi elwa ar gynnydd i'r isafswm cyflog; y codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr sector cyhoeddus—dros 300,000 ohonyn nhw; y cyn-lowyr sydd nawr, am y tro cyntaf, wedi cael y pensiynau maen nhw'n eu haeddu. Mae'r rhain i gyd yn bethau sydd wedi cael eu cyflawni, a gallaf ddweud wrthych chi fod y bobl sy'n derbyn y buddion hynny a'r newidiadau hynny wir yn dathlu'r ffaith, mewn gwirionedd, eu bod nhw wedi gwneud yn well o dan Lywodraeth Lafur nag unrhyw beth o dan eich plaid chi.
Prif Weinidog, roedd yr wythnos diwethaf yn garreg filltir i'ch plaid. Mae ychydig dros flwyddyn ers i Starmer ddod i rym yn San Steffan, ac mae wedi bod yn flwyddyn a fu'n llawn troeon anghywir, camau anghywir a delfrydau wedi'u chwalu. Dro ar ôl tro, rydym ni wedi gweld Cymru a'n buddiannau yn cael eu gwthio i gyrion eu hagenda. Mae Starmer a'i Lywodraeth wedi methu â rhoi'r biliynau sy'n ddyledus i Gymru o HS2, maen nhw wedi gwrthod galwadau i ddatganoli Ystad y Goron, i wneud setliad cyllid tecach, ac maen nhw wedi anwybyddu Llywodraeth Cymru pan ofynnwyd iddyn nhw am asesiad o'r effaith y byddai eu toriadau lles calongaled yn ei chael ar Gymru. Nawr, pryd bynnag y bydd fy mhlaid i, Plaid Cymru, yn tynnu sylw at y methiannau chwerw hyn, dywedir wrthym ni fod pethau'n well nawr nag yr oedden nhw o dan y Torïaid, fel pe bai'r bar isel hwnnw yn ateb. Felly, byddwn yn gofyn i chi, Prif Weinidog, ar ôl y flwyddyn sydd wedi mynd heibio, a chan edrych ar fuddiannau gorau Cymru, a yw pethau'n ddigon gwell?

Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi eu bod nhw'n llawer gwell i'r bobl hynny ar yr isafswm cyflog. Mae'r rheini'n 150,000 o bobl yng Nghymru sy'n dathlu. Rydych chi'n dweud eu bod nhw wedi anwybyddu anghenion y cyhoedd yng Nghymru. Fe ddywedaf i wrthych chi pwy anwybyddodd anghenion y cyhoedd yng Nghymru, eich plaid chi, yn pleidleisio gyda'r Torïaid pan ddaeth i roi arian i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dyna'r gwirionedd. Mae pobl wedi nodi hynny. Mae pobl wedi gweld na allai'r pethau y maen nhw'n poeni amdanyn nhw, fel lleihau rhestrau aros, fod wedi cael eu cynhyrchu na'u cyflawni oni bai bod yr arian ychwanegol hwnnw gennym ni. Fe wnaethoch chi geisio atal yr arian hwnnw, ac mae hynny wedi cael ei nodi gan y cyhoedd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r haf yma, ac mae meysydd awyr ledled y DU yn mynd yn brysurach ac yn brysurach. Dros y penwythnos, gadawodd dros 300 o hediadau faes awyr Bryste. Eto, yma yng Nghymru, dim ond 57 o hediadau adawodd Caerdydd, maes awyr y dewisodd Llywodraeth Lafur Cymru, wrth gwrs, ei wladoli yn ôl yn 2013. Ers hynny, rydych chi wedi gwario bron i £200 miliwn o arian trethdalwyr ar y maes awyr hwnnw sy'n gwneud colled. Ond mae wedi bod yn fethiant digalon, â nifer y teithwyr i lawr 150,000 i ddim ond 880,000 y llynedd, tra bod y niferoedd yn uchel dros ben ym Mryste, ei gystadleuydd agosaf. Fe wnaethon nhw gynyddu dros 80 y cant yn ystod yr un cyfnod ac maen nhw bellach bron i 11 miliwn. Mae Bryste bellach yn hedfan mwy o deithwyr bob un mis nag y mae Maes Awyr Caerdydd yn ei wneud mewn blwyddyn gyfan.
Nawr, byddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol, ac rwy'n sylweddoli nad oes llawer o bobl synhwyrol yn Llywodraeth Cymru, ond byddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol wedi torri eu colledion erbyn hyn. Ond rydych chi wedi cyhoeddi £200 miliwn arall yn ddiweddar i achub y maes awyr eto. Mae hynny'n gannoedd o filiynau o bunnoedd y gellid eu buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yn hytrach na'r albatros hwn o amgylch gwddf y trethdalwyr. Felly, a ydych chi'n derbyn nad yw eich Llywodraeth Cymru yn ddim gwell am redeg maes awyr nag ydych chi am redeg y wlad hon, ei bod hi'n bryd rhoi'r gorau i wastraffu arian trethdalwyr ar yr hoff brosiect hwn, ac y dylid gwerthu Maes Awyr Caerdydd i rywun sy'n gwybod sut i redeg meysydd awyr, yn hytrach na'i adael yn eich dwylo chi?

Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n mynd i eirioli i Gymru fod yn un o'r unig wledydd yn Ewrop heb faes awyr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni faes awyr. A gadewch i mi fod yn glir bod y cymhorthdal—[Torri ar draws.] Rwy'n mynd i siarad yn dawel iawn heddiw. Diolch. Nid yw'r cymhorthdal, fel y dywedwch chi, yn ddibwys, ond os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni'n ei gael fel cenedl o ganlyniad i allu cynnal pethau fel cwpanau pêl-droed Ewropeaidd, mae'r rheini ynddynt eu hunain yn denu tua £200 miliwn. Heb faes awyr, ni fyddem ni'n gallu cynnal y mathau hynny o bethau. Rwy'n credu ei bod hi'n werth sôn am hynny, oherwydd mae'n bwysig. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld mwy o hediadau a mwy o gwmnïau hedfan yn defnyddio'r maes awyr. Rwy'n gobeithio y bydd pobl Cymru yn manteisio ar y ffaith y gallan nhw hedfan o Faes Awyr Caerdydd dros yr haf.
Wrth gwrs, mae hwn yn faes awyr a oedd yn hedfan pobl i mewn ar gyfer digwyddiadau mawr cyn iddo gael ei wladoli, ac roedd yn gwneud elw a dweud y gwir, yn wahanol i'r sefyllfa ers 2013. A, Prif Weinidog, nid yw'n fater o feysydd awyr yn unig, onid yw, yr ydych chi'n eu rhedeg yn wael, oherwydd dydych chi ddim yn rhedeg trenau'n dda iawn chwaith. Mae gan Trafnidiaeth Cymru sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru un o'r sgoriau boddhad teithwyr gwaethaf yn y DU. Mae ganddo lefel uwch o drenau wedi'u canslo a chwynion na gweithredwyr eraill, a'r hanes prydlondeb gwaethaf ym Mhrydain. Ac nid yw'n edrych fel pe bai pethau'n mynd i wella rhyw lawer chwaith, onid yw, oherwydd yn ddiweddar fe wnaethoch chi ddathlu cyhoeddiad gan Lywodraeth Lafur y DU o—[Torri ar draws.]
Mae angen i mi allu clywed arweinydd y Ceidwadwyr. A allwn ni gael rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda?
Roeddwn i'n gallu clywed yr heclo, gyda llaw, nad yw'r pethau hyn yn wir. Cymerwch olwg ar wefan Transport Focus, a bydd yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Ac fe wnaf i ailadrodd, dim ond i'r rhai nad oedden nhw'n gallu clywed, beth mae'r ystadegau hynny yn ei ddweud. Mae gan Trafnidiaeth Cymru—
Does dim angen i chi ailadrodd. Parhewch â'ch cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Mae ganddo lefel uwch o drenau wedi'u canslo a chwynion na gweithredwyr trenau eraill, a'r hanes prydlondeb gwaethaf ym Mhrydain. Mae'r rhain yn ffeithiau, ac nid yw'n edrych fel pe bai pethau'n mynd i wella rhyw lawer chwaith. Yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ddathlu cyhoeddiad gan Lywodraeth Lafur y DU o £445 miliwn ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf, er bod y swm hwnnw yn llai na hanner y swm a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU dros y 10 mlynedd flaenorol. Fe wnaeth y Llywodraeth honno, wrth gwrs, fuddsoddi £1.1 biliwn dros gyfnod o 10 mlynedd, gydag addewid o £1 biliwn yn fwy o leiaf ar gyfer gwaith trydaneiddio yn y gogledd. A ydych chi'n derbyn eich bod chi wedi methu'n ddigalon â chyflawni'r buddsoddiad a addawyd gennych chi cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, a bod y £455 miliwn yn sarhad i bobl Cymru?

Gadewch i mi ddweud wrthych chi am y darnau yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw, oherwydd rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth canolbwyntio ar—[Torri ar draws.] Beth? Arhoswch am funud. Rydych chi'n dweud 'a' fel pe bai'n broblem i mi ganolbwyntio ar y pethau yr wyf i'n gyfrifol amdanyn nhw. Rwy'n gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru, a gadewch i mi ddweud wrthych chi beth rydym ni wedi ei wneud o ran rheilffyrdd: rydym ni wedi buddsoddi £800 miliwn yn ein gwasanaethau rheilffyrdd, ac mae wedi trawsnewid y gwasanaeth. Edrychwch chi ar nifer y trenau newydd sydd ar ein gwasanaethau, gall pawb eu gweld nhw ledled y wlad. Mae wedi arwain at gynnydd o un rhan o bump yn nifer y teithwyr, dim ond yn y flwyddyn ddiwethaf. O ran dibynadwyedd, Trafnidiaeth Cymru sydd â'r gwasanaeth mwyaf dibynadwy o'i gymharu ag unrhyw un o'r gwasanaethau eraill yng Nghymru. Mae gen i ofn bod yr holl bwyntiau a wnaethoch chi yn nonsens llwyr. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch chi i nodi'n union pa mor llwyddiannus a pha mor drawsnewidiol y mae'r buddsoddiad hwnnw o £800 miliwn wedi bod.
Gadewch i mi eich atgoffa chi, Prif Weinidog, o'r hyn yr ydych chi'n gyfrifol amdano. Rydych chi'n gyfrifol am sefyll dros bobl Cymru. Rydych chi'n gyfrifol am gyflawni eu blaenoriaethau nhw, nid eich rhai eich hun, ac rydych chi hefyd yn gyfrifol am ofyn am fwy o arian i'w fuddsoddi yn ein rheilffyrdd, nid y swm pitw yr ydych chi wedi setlo amdano a'i ddathlu. Oherwydd, gadewch i ni fod yn onest, nid trafnidiaeth yw eich cryfder, nage, Prif Weinidog? Mae gennych chi faes awyr wedi'i wladoli sy'n gwneud colled yng Nghaerdydd, gweithredwr rheilffyrdd wedi'i wladoli sy'n perfformio'n wael, ac, ar ben hynny, mae prosiectau ffyrdd wedi cael eu canslo, canslwyd ffordd liniaru ar gyfer yr M4—[Torri ar draws.]
Rydych chi newydd gerdded i mewn, Gweinidog trafnidiaeth. Setlwch i lawr yn gyntaf, ac yna gallwch chi ddechrau heclo.
Rhoddais y ffeithiau yn gynharach, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwirio'r cofnod. Felly, nid trafnidiaeth yw eich cryfder, nage, Prif Weinidog? Mae gennych chi faes awyr wedi'i wladoli sy'n gwneud colled yng Nghaerdydd, gweithredwr rheilffyrdd wedi'i wladoli sy'n perfformio'n wael, ac, ar ben hynny, mae prosiectau ffyrdd wedi cael eu canslo, canslwyd ffordd liniaru ar gyfer yr M4 ar ôl gwastraffu £150 miliwn o arian trethdalwyr. Roedd yr ychydig ffyrdd newydd yr ydych chi wedi eu darparu flynyddoedd yn hwyr ac ymhell iawn dros y gyllideb, ac fe wnaeth eich agenda gwrth-fodurwyr yma yng Nghymru sbarduno'r ddeiseb fwyaf yn hanes Cymru o ganlyniad i'r terfynau cyflymder diofyn o 20 mya amhoblogaidd a diangen hynny. A ydych chi'n derbyn, pa un a yw'n awyrennau, yn drenau neu'n geir, bod eich Llywodraeth yn methu?

Fe ddywedaf i wrthych chi Llywodraeth pwy wnaeth fethu, eich Llywodraeth chi wnaeth fethu. Fe wnaethoch chi fethu yn drychinebus yn yr etholiad diwethaf, ac mae pobl yn cefnu arnoch chi nawr i droi at bleidiau eraill, ac rydym ni i gyd wedi sylwi ar hynny hefyd. Ond gadewch i mi fod yn glir—[Torri ar draws.]
Mae angen i mi glywed y Prif Weinidog nawr. A allwn ni wrando gyda rhywfaint o dawelwch?

Addawodd eich plaid drydaneiddio rheilffyrdd i Abertawe. A wnaeth hynny ddigwydd? Ni ddigwyddodd. Rydym ni wedi bod mewn grym yma yng Nghymru ac rydym ni wedi trawsnewid y system. Edrychwch ar reilffyrdd y Cymoedd; maen nhw wedi cael eu trawsnewid yn llwyr. Mae'n amlwg nad ydych chi wedi bod yno ers tro. Es i ar rai ohonyn nhw yn ddiweddar a gallaf ddweud wrthych chi fod pobl y Cymoedd yn defnyddio'r trenau hynny. Maen nhw'n gwybod ei fod yn trawsnewid eu bywydau. Rydym ni newydd weld un o'r cynlluniau adeiladu ffyrdd mwyaf cymhleth yr ydym ni wedi ei weld yn Ewrop yn cael ei agor, ac mae hwnnw wedi trawsnewid Blaenau'r Cymoedd. Rwy'n dweud wrthych chi, o ran trafnidiaeth yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym ni hanes balch dros ben. Ac yn sicr, pan edrychwch chi ar y 484 o gerbydau sydd ar gael i ni bellach, llawer ohonyn nhw wedi'u hadeiladu yma yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym ni hanes balch iawn o ran trafnidiaeth.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Mae'n dipyn o beth, onid yw, gweld y Blaid Geidwadol a Llafur yn brwydro rhyngddyn nhw eu hunain dros ba mor wael y gall y ddwy ohonyn nhw drin Cymru. Mae'n dipyn o gystadleuaeth.
Llywydd, mae economi sy'n ffynnu yng Nghymru yn dibynnu ar roi'r arfau i'r genhedlaeth nesaf sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu ac ar roi'r gronfa dalent i gyflogwyr sydd ei hangen i ysgogi llwyddiant. Felly, mae'n siomedig darganfod o faromedr busnes 2025 y Brifysgol Agored bod ymhell dros hanner y sefydliadau a holwyd yng Nghymru yn dioddef prinder sgiliau. Dyna'r lefel uchaf yn y DU. Pan y'i penodwyd yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, gosododd y Prif Weinidog y targed canlynol ar sgiliau, ac rwy'n dyfynnu:
'Byddwn yn cael gwared ar y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU ar bob lefel cymhwyster ymhen deng mlynedd, ac yn sicrhau ein bod yn y dyfodol o leiaf yn cynnal ein perfformiad o gymharu â gweddill y DU.'
Felly, gyda'r targed hwnnw ar y trywydd i gael ei fethu, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â Phlaid Cymru trwy ymrwymo i gynnal archwiliad sgiliau cenedlaethol fel y gallwn ni fynd ati i arfogi pobl ifanc â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau swyddi hynod fedrus sy'n talu'n dda yn yr economi werdd?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n uwchsgilio ein gweithwyr. Mae dysgu gydol oes yn rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei wneud a'i gymryd o ddifrif. Un o'r mentrau yr oeddwn i'n falch o'u cyflwyno oedd y cyfrif dysgu unigol, lle'r hyn a wnaethom oedd nodi'r union bethau yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw: ble mae'r bylchau sgiliau, ble mae'r cyfleoedd i bobl ddysgu tra eu bod nhw mewn swyddi presennol sy'n edrych fel pe baen nhw'n dod i ben yn fuan? Mae'n rhaid i ni gydnabod bod y byd gwaith yn newid a bod angen i ni addasu iddo. Ni all pobl fforddio mynd a chymryd tair blynedd i ffwrdd i wneud gradd i ailhyfforddi. Mae'n rhaid i chi roi'r hyblygrwydd i bobl ddysgu tra maen nhw mewn swydd arall. Felly, rwy'n credu mai dilyn patrwm y cyfrifon dysgu unigol hynny, cydnabod ble mae'r bylchau, gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb i hynny a'n bod ni'n buddsoddi arian yn y pethau hynny sy'n cael eu rhoi ar waith yn gyflym iawn ac yn rhoi cyfle i bobl ddysgu'n gyflym ac ennill mwy, yw lle dylem ni fod yn mynd mewn gwirionedd.
Diolch am yr ymateb. Rwy'n credu bod wir angen i ni ddeall bob amser beth yw ein hanghenion o ran sgiliau, i'r cyflogwr ac i'r darpar weithiwr, a dyna pam, fel y dywedais, mae Plaid Cymru yn galw am archwiliad sgiliau cenedlaethol, ac y byddai'n ei weithredu mewn llywodraeth.
Mae'n Wythnos Cyflogaeth Ieuenctid yr wythnos hon, ond i bobl ifanc yng Nghymru, mae'r ffigurau'n symud i'r cyfeiriad anghywir o dan oruchwyliaeth Llafur. Mae ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn dangos mai 52.5 y cant oedd y gyfradd cyflogaeth ieuenctid yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025. Mae hynny'n bum pwynt canran a hanner yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Ac mae hefyd yn peri pryder clywed mai dim ond 31 y cant o'r cwmnïau a holwyd yn rhan o'r baromedr busnes hwnnw y soniais amdano ddywedodd bod ganddyn nhw gynlluniau ar waith i recriwtio, cadw neu hyfforddi gweithwyr dan 25 oed.
Mae'r un gwiriad tymheredd busnes hwnnw yn dangos, er bod pobl ifanc yn meddwl yn ofalus iawn ac yn cymryd heriau sgiliau i ystyriaeth wrth iddyn nhw ystyried eu llwybrau gyrfaol, nad yw mwy na hanner yn derbyn y cyfarwyddyd na'r cymorth angenrheidiol. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn meddwl y bydd y toriad termau real i'r gyllideb sgiliau eleni yn gwneud pethau'n well neu'n waeth?

Rwy'n credu mai'r hyn y dylech chi edrych arno yw'r polisi yn ei gyfanrwydd. Yr hyn sydd gennym ni yw gwarant ieuenctid, ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth. Mae wedi bod yn ddiddorol mynd i edrych ar bobl sydd wedi ymgymryd â chymorth yn hynny o beth, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth. Os cymharwch chi ein ffigurau diweithdra ieuenctid ni gyda rhai Lloegr, maen nhw mewn sefyllfa well, ac rwy'n credu bod hynny oherwydd y rhaglen gwarant ieuenctid honno. Mae'n rhaid i chi gydnabod, mewn gwirionedd, bod pawb yn dechrau o wahanol leoedd a bod pobl, yn enwedig pobl ifanc sydd wedi bod trwy COVID, bod rhai ohonyn nhw wedi cael amser anodd a bod rhai ohonyn nhw angen llawer o gymorth i gael yn agos at y farchnad swyddi. Felly, cyn i chi fynd i mewn i'r sgiliau technegol dwys iawn, weithiau mae'n rhaid i chi ailadeiladu hyder pobl a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael cymorth iechyd meddwl a gwneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll gyda nhw drwy'r cyfnod anodd hwnnw er mwyn eu paratoi ar gyfer y gweithle. A dyna beth rydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud gyda'n gwarant ieuenctid, sydd wedi dangos yn fy marn i ei fod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Fe wnaf i ateb y cwestiwn, efallai, i'r Prif Weinidog. Mae toriad cyllideb termau real, fodd bynnag, yn debygol o wneud y sefyllfa yn waeth. Cyfrifoldeb Llywodraeth yw gosod y sylfeini i sicrhau nid yn unig bod gan weithwyr y sgiliau cywir ar gyfer swyddi y mae galw amdanyn nhw, ond bod swyddi o ansawdd uchel ar gael i weithwyr hynod fedrus hefyd. Nid yn unman, efallai, y mae hyn yn fwy dybryd o wir nag ym Mhort Talbot a'r cyffiniau yn dilyn y colledion swyddi ofnadwy yn Tata Steel.
Mae datblygiadau ynni gwynt arnofiol ar y môr sydd wedi'u cynllunio ar gyfer yr ardal yn amlwg i'w croesawu. Ceir sôn am 5,000 o swyddi posibl. Ond mae'n hanfodol mai'r cymunedau lleol o amgylch Port Talbot sy'n teimlo'r budd. Felly, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd heddiw, fel y byddai Plaid Cymru yn ceisio ei wneud o arwain llywodraeth, y bydd pob cyn-weithiwr Tata Steel nad yw ei sgiliau yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac sy'n dymuno gwneud cais am un o'r swyddi hynny yn cael y cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol i wneud hynny?

Gadewch i mi fod yn glir ar yr hyn y gwnaethoch chi ei ofyn gynt: byddai'r toriadau wedi bod yn llawer mwy pe baech chi wedi cael eich ffordd a phe na bai'r gyllideb wedi mynd drwodd. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth tynnu sylw at hynny.
Gadewch i mi ddod at fater ynni gwynt arnofiol ar y môr, oherwydd rwyf i yn credu bod hwn yn gyfle gwirioneddol i Gymru, y ffaith mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld nawr yw dau ddatblygwr wedi'u dewis i wneud y newidiadau hynny a'r datblygiadau hynny oddi ar arfordir Cymru. Roeddem ni eisoes yn paratoi ar gyfer hyn gyda'r grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr. Mae gennym ni fframwaith cynhwysfawr a chlir iawn ar gyfer cyflawni, gan gynnwys o ran sgiliau.
Rydym ni eisoes yn ymgysylltu â'r strategaeth ddiwydiannol, sy'n amlwg yn cynnwys ynni adnewyddadwy yn rhan o'i chylch gwaith, i wneud yn siŵr—ac mae hon yn sgwrs yr ydym ni eisoes wedi ei chael gyda Llywodraeth y DU—ein bod ni'n cysoni'r strategaeth ddiwydiannol, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a lle mae'r croestoriad yn dod gyda'n cyfrifoldebau. Mae sgiliau, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol o ran hynny. A dyna pam, eisoes, mae'r sgyrsiau hynny yn drylwyr iawn, nid yn unig gyda cholegau yn yr ardaloedd hynny, ond hefyd i wneud yn siŵr, oherwydd bydd llawer o gyfleoedd i bobl ledled Cymru uwchsgilio a chael y datblygiadau hynny.
Gadewch i mi fod yn glir bod swm enfawr o arian sydd wedi mynd i gynorthwyo pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan Tata. Mae digon o gymorth yno o ran rhoi'r cyfle i bobl ailsgilio. Felly, byddaf yn mynd ac yn gwneud yn siŵr, cyn i mi wneud ymrwymiad yn y fan yma, bod cyfle i bawb ailsgilio. Rwy'n eithaf hyderus, gyda'r swm o arian sy'n mynd i mewn yno, bod hwnnw'n sicrwydd y gallwn ni ei roi.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru? OQ63010

Mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn canolbwyntio ar gyflawni, ac rwy'n golygu newid gwirioneddol, gweladwy ym mywydau pobl. Rydym ni wedi lleihau'r arosiadau hiraf yn y GIG 86 y cant ers brig y pandemig. Rydym ni wedi adeiladu'r nifer uchaf erioed o gartrefi cymdeithasol. Rydym ni wedi buddsoddi £600 miliwn yn cefnogi 40,000 o swyddi ac rydym ni wedi lansio fflyd newydd sbon o drenau modern i fwrw ymlaen â'n gweledigaeth ar gyfer metro. Dywedodd pobl yng Nghymru wrthym ni eu bod nhw eisiau gwell iechyd, mwy o swyddi, mwy o gartrefi a gwell trafnidiaeth. Felly, dyna beth rydym ni'n ei ddarparu—nid sloganau, nid styntiau, ond sylwedd.
Nid yw pobl yng Nghymru, Prif Weinidog, eisiau'r rhestrau aros hiraf yn y GIG o unrhyw le yn y DU. Dydyn nhw ddim eisiau'r canlyniadau addysgol gwaethaf o unrhyw le yn y DU. A dydyn nhw ddim eisiau'r economi wannaf yn y DU. Ond dyna hanes eich Llywodraeth Lafur a'ch cyfnod chi fel Prif Weinidog.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais i ddilynwyr ar draws fy nghyfryngau cymdeithasol beth oedden nhw eisiau ei ofyn i chi pe gallen nhw ofyn unrhyw beth o gwbl i chi. Yr un pwnc a godwyd uwchlaw popeth arall oedd eich cynllun chi a'ch plaid i wario £120 miliwn ar fwy o wleidyddion yn y Senedd hon. Rwy'n clywed y griddfannau gan yr Aelodau Llafur, ond dyma'r hyn y mae pobl go iawn yn ei ddweud. Byddai o gymorth pe baen nhw mewn cysylltiad â nhw weithiau.
Nawr, rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, bod eich hanes—. Gallech chi fod wedi gwario'r arian hwnnw yn trwsio'r pethau hynny. Gallech chi fod wedi gwario'r arian hwnnw ar y GIG, ar ein haddysg, ar ein heconomi, ond fe wnaethoch chi ddewis peidio â gwneud hynny. Sôn am flaenoriaethau gwyrdroëdig. Ond wrth gwrs, nid ydych chi wedi gwneud hynny ar eich pennau eich hunain. Rydych chi wedi cael eich cynorthwyo a'ch annog gan eich cyfeillion ym Mhlaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol ac, ie, Reform hefyd, y mae'n ymddangos eu bod nhw i gyd yn cefnogi'r cynlluniau peryglus hyn.
Sut allwch chi edrych yn onest i lygaid pobl ledled Cymru a dweud eich bod mewn cysylltiad â'u blaenoriaethau, pan ydych chi eisiau gwario £120 miliwn ar fwy o wleidyddion? Neu a wnewch chi gopïo polisi'r Ceidwadwyr Cymreig, fel yr unig blaid sy'n mynd i'r etholiad nesaf yn addo dileu'r cynlluniau hyn?

Wel, rwy'n gobeithio y gwnaethoch chi fanteisio ar y cyfle i ddweud wrth eich etholwyr mai'r wlad hon, ar hyn o bryd, sy'n cael ei chynrychioli leiaf ar y lefel hon o lywodraeth. Mae gennym ni 60 o Aelodau yma, o'i gymharu â 90 yng Ngogledd Iwerddon, sydd â phoblogaeth sy'n llawer llai na'n un ni, ac oddeutu 120 yn yr Alban. Ers sefydlu'r lle hwn, yn amlwg, bu cymhwysedd deddfwriaethol a threth ychwanegol, y mae angen bod yn atebol amdano. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth dweud bod ymrwymiad i ddiwygio'r Senedd yn rhan glir o faniffestos Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llafur yn etholiadau'r Senedd. Felly, ceir mandad democrataidd yma hefyd.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi hyn mewn cyd-destun. Rydym ni'n sôn am lai na 0.1 y cant o gyllideb Cymru. Mae'n ymddangos eich bod chi'n pecynnu'r cyfan at ei gilydd ac yn ei wneud dros nifer faith iawn o flynyddoedd. Rwy'n credu bod y swm—a bydd y Llywydd yn fy nghywiro os wyf i'n anghywir—. Rwy'n credu ein bod ni'n sôn am tua £6 miliwn, wedi'i wario ar y lle hwn yng nghyd-destun cyllideb o £26 biliwn. Felly, rwy'n credu bod angen ychydig o bersbectif ar hyn, ac mewn gwirionedd, mae'n debyg ei bod hi'n werth tanlinellu bod pobl fel fi yn mynd i fod yn destun mwy o graffu. Rwy'n credu bod hynny'n beth da. Rwy'n credu y dylem ni gael ein cadw ar flaenau ein traed, ac mae digon o dystiolaeth i awgrymu pan fyddwn ni'n destun craffu da, mewn gwirionedd, y gallwch chi arbed arian.
Gwnaethoch chi ddweud yn fanna taw eich blaenoriaeth chi oedd cyflawni newid go iawn, gweladwy ym mywydau pobl, ac rwyf wastad yn cofio nad oedd dileu tlodi plant ymhlith y blaenoriaethau y gwnaethoch chi eu rhestru ar ôl i chi ddod yn Brif Weinidog. Roedd hynny’n syfrdanol i mi ac yn siomedig.
Mae angen i arweinwyr gwlad nid yn unig ymateb i’r lleisiau croch wrth osod eu blaenoriaethau, ond hefyd i glustfeinio ar y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, i ddeall eu sefyllfa a’r hyn y mae’n ei olygu i’n cymdeithas ac i’n cenedl. Dylai dileu tlodi plant yng Nghymru fod ar frig blaenoriaethau’r Llywodraeth, ond ers dros ddau ddegawd o reolaeth Llafur yng Nghymru a Llywodraethau coch, glas ac oren yn San Steffan, does dim digon o gynnydd wedi bod.
Nawr eich bod chi’n rhan o’r hyn rŷch chi’n ei alw’n bartneriaeth mewn grym gyda Llywodraeth Keir Starmer, hoffwn ichi roi gwybod i’r Senedd pam ydych chi’n osgoi gosod targedau mesuradwy yn eich strategaeth tlodi plant i yrru’r gweithredu a’r cynnydd y mae angen inni ei weld. A pham rydych chi wedi penderfynu peidio â chefnogi galwadau Plaid Cymru i gyflwyno taliad plant uniongyrchol, sef yr hyn rŷn ni’n gweld sy’n cael effaith go iawn yn yr Alban ar leihau lefelau tlodi plant.

Wel, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud cryn dipyn o ran mynd i'r afael â thlodi plant. Rydym ni wedi gwario tua £7 biliwn yn ystod oddeutu'r 10 mlynedd diwethaf i geisio cynorthwyo pobl o'r aelwydydd tlotaf. Byddwch yn ymwybodol bod £40 miliwn bellach yn cael ei wario ar brydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd. Mae hynny'n arbed tua £800 y flwyddyn i bobl. Nid yw hwnnw'n swm dibwys o arian sydd gan bobl yn eu pocedi bellach i gefnogi eu plant. Rydym ni'n ceisio gwneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy. Byddwch chi'n gwybod bod y grant hanfodion ysgol wedi agor yr wythnos diwethaf, a byddwn yn eich annog chi i gyd i roi gwybod i'ch etholwyr bod hwnnw'n gyfle i bobl gael y cymorth hwnnw sydd ei angen arnyn nhw. Mae'n £125, ac yn £200 os ydych chi'n mynd i flwyddyn 7. Ac ar ben hynny, dros yr haf, byddwn yn rhoi swm sylweddol, £6.8 miliwn, i barhau i dyfu ein rhaglen gwella gwyliau'r haf, bwyd a hwyl. Mae hynny'n cymryd y pwysau oddi ar deuluoedd, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud o ran gwneud yn siŵr nad yw plant, yn amlwg, yn dioddef. Byddwn yn camu i mewn lle gallwn ni, yn amlwg. Rydym ni wedi bod yn glir, o ran y cap budd-dal dau blentyn, yr hoffem ni weld newid yn y fan honno, ond mae hwn yn faes y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano.
Prif Weinidog, treuliais i fore Sadwrn mewn dathliad cymunedol i nodi ailddatblygiad Theatr Clwyd—trawsnewidiad a wnaed yn bosibl diolch i raddau helaeth i fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Lafur Cymru. Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, roeddwn i'n sgwrsio â thrigolion yn yr Wyddgrug. Fe wnaethon nhw gydnabod y buddsoddiad hwnnw a'i groesawu yn fawr. Ond hefyd, yn ystod ein sgwrs, yr hyn a ddaeth i'r amlwg oedd mai'r pethau sy'n wirioneddol bwysig yw'r pethau hynny sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd—pethau fel strydoedd mwy diogel, llwybrau i ysgolion a thyllau yn y ffordd. Roeddwn i'n falch iawn fy mod i'n gallu sôn wrthyn nhw am y rhaglen Cymru gyfan, £25 miliwn ychwanegol, i wella ein ffyrdd, gan gynnwys, yn ddiweddar iawn, yr A494 yn yr Wyddgrug, ffordd osgoi'r Wyddgrug. Trwsiwyd mil pedwar cant o dyllau yn y ffordd mewn tri diwrnod. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai Llafur Cymru yn gweithio mewn partneriaeth yw hyn, yn buddsoddi yn fy etholaeth i, yn cysylltu ein cymunedau, yn rhoi blaenoriaethau pobl ar waith ac yn gwneud gwahaniaeth?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n wych bod pobl yn eich etholaeth wedi sylwi ar y gwahaniaeth yr ydym ni'n ei wneud. Rwy'n arbennig o falch ein bod ni, mewn gwirionedd, wedi gallu cynorthwyo sector y celfyddydau yng Nghymru. Rydym ni wedi gwario £23 miliwn ar Theatr Clwyd, ac rwy'n hapus iawn mai'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w weld yw sefyllfa wedi'i thrawsnewid ar gyfer yr hyn sy'n ganolfan gelfyddydau hanfodol yn y gogledd.
Ond pan fyddech chi'n sôn am dyllau yn y ffordd, rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu bod 1,400 o dyllau yn y ffordd wedi cael eu trwsio neu eu hatal yn yr Wyddgrug. Roeddwn i'n falch iawn o fod gyda chi i fynd i weithio'r peiriant Pothole Pro, i ddangos, mewn gwirionedd, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud a sut mae llywodraeth leol yn cymryd y bartneriaeth hon o ddifrif, gan wneud yn siŵr bod pobl wir yn cael y cyfle i deithio ar strydoedd mwy diogel.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn ddychwelyd i un o'r agweddau mwyaf cywilyddus ar y sefyllfa yma yng Nghymru, yn fy marn i, sef plant yn byw mewn tlodi. Rwyf am gysylltu hynny ag anghydraddoldebau iechyd o ran ein plant. Maen nhw'n rhyng-gysylltiedig. O'r ystadegau o fis Ebrill 2025, rydym ni'n gwybod bod 56,000 o blant yn aros am driniaeth yn y GIG. O'r rhain, roedd 679 wedi bod yn aros dwy flynedd neu fwy. Os meddyliwch chi am y cysylltiad rhwng tlodi plant a sut mae hyn yn effeithio ar iechyd ein plant, rydym ni mewn sefyllfa gywilyddus iawn yma yng Nghymru.
Un o'r pethau yr ydym ni wedi eirioli drosto ac y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi siarad amdano yw cael Gweinidog penodol i edrych ar yr holl faterion sy'n effeithio ar ein plant. Felly, a wnewch chi ymrwymo, naill ai nawr neu os ydych chi mewn sefyllfa i wneud hynny yn y dyfodol, i gael Gweinidog yn benodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n cymryd mater tlodi plant o ddifrif, ac rydym ni'n deall y cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd. Dyna pam rwy'n credu bod y gwaith yr ydym ni wedi ei weld eisoes, yn enwedig ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, lle maen nhw wedi gwneud rhywfaint o waith arloesol yn hyn o beth, yn bwysig iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu bod gennym ni Weinidog dros blant. Dawn Bowden yw ei henw ac mae'n gwneud gwaith ardderchog.
4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod manteision cysylltedd Metro De Cymru ar gyfer etholaeth Caerffili yn cael eu gwireddu'n llawn? OQ63009

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn darparu'r buddsoddiad mwyaf mewn trafnidiaeth yn y de mewn cenhedlaeth: dros £1 biliwn i drawsnewid rheilffyrdd, dros £800 miliwn mewn trenau modern, hygyrch, newydd, ac mae Caerffili wrth wraidd hynny.
Mae amlder trenau wedi cynyddu 50 y cant rhwng Caerffili a Chaerdydd. Mae tocynnau talu wrth fynd yn weithredol, mae'r gwaith o drydaneiddio rheilffordd Rhymni uchaf ar y gweill ac mae trenau trydan newydd yn cael eu cyflwyno. Darren, rwy'n gobeithio eich bod chi'n gwrando. Mae hyn yn fwy na mater o uwchraddio trafnidiaeth. Mae'n fater o adnewyddu economaidd. Mae'n fater o swyddi gwell, cymudo gwyrddach a chysylltiadau lleol cryfach.
Wel, mae newydd ateb fy nghwestiwn, ond er budd Darren Millar, gadewch i ni gofio'r trenau Pacer drewllyd, gwichlyd a oedd yn rhedeg ar linellau craidd y Cymoedd rhwng y 1970au a'r degawd diwethaf. Mae'r trawsnewidiad yn anhygoel, ac mae hynny diolch i Lywodraeth Cymru a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. A byddwn hefyd yn ychwanegu ffaith yma: mae'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, corff annibynnol, yn dweud mai Trafnidiaeth Cymru sydd â'r cynnydd uchaf mewn gwasanaethau rheilffyrdd yn y DU—rydym ni wedi gweld hynny ar y cledrau—a'r trydydd gwelliant mwyaf o ran prydlondeb. Dyna'r ffeithiau, ac rydym ni'n gweld cynnydd anhygoel.
Un peth yr wyf i'n ei wybod nad yw Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac rwy'n gwybod nad yw'r Prif Weinidog yn ei wneud, yw gorffwys ar eu bri. Maen nhw'n symud ymlaen, a'r symud ymlaen fydd gwasanaeth trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gyda gwasanaethau bysiau a thocynnau integredig, a dyna'r cam nesaf. Rwy'n mynd i fod yn gwneud darn o waith i'r Ysgrifennydd Cabinet ar sicrhau bod manteision y metro mor fawr â phosibl. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno bod angen i'r broses honno, y cynnydd hwnnw, ddigwydd ac y bydd yn digwydd o dan ei goruchwyliaeth hi?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o'r hyn sydd wedi cael ei newid yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a dweud y gwir, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl Weinidogion trafnidiaeth sydd wedi arwain dros y cyfnod hwnnw o amser, oherwydd mae'n eithaf anodd pan fyddwch chi o dan y math o bwysau sydd arnom ni mewn Llywodraeth i gynnal eich plwc ar y prosiectau trafnidiaeth mawr hyn, ac rydym ni'n gweld nawr y gwaith hwnnw yn dwyn ffrwyth. Roedd yn ddewr iawn, rwy'n meddwl, i Lywodraeth Cymru barhau ar y trywydd hwnnw, ac mae pobl ledled Cymru yn nodi'r gwahaniaeth.
Ond rydych chi'n gwbl gywir, bydd y bennod nesaf yn ymwneud â seilwaith bysiau a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu defnyddio'r pwerau newydd o ran y gyfraith fysiau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gweld integreiddio llawer gwell fel y gallwn ni fesur ymwybyddiaeth cymunedau, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth o'r cyfleoedd sy'n deillio o wasanaethau integredig newydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n archwilio'r cwmpas ar gyfer camau cydweithredol i wella'r cysylltiadau hynny, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhan o'r gwaith hwnnw.
Prif Weinidog, yn rhan o brosiect metro de Cymru, rydym ni'n gwybod bod trenau tram trydan yn cael eu cyflwyno ar y rhwydwaith. Yn wir, codwyd cryn dipyn o bryderon sylweddol gyda mi am y diffyg toiledau i deithwyr ar y trenau hyn—mater sydd wedi cael ei godi sawl gwaith, fel yr wyf i newydd ei ddweud yn gynharach. Mae'r diffyg toiledau wedi achosi pryder arbennig ymhlith trigolion oedrannus a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol. Yn amlwg, rydym ni eisiau i fetro de Cymru ddod â manteision mawr i'r ardal gyfan, er, fel bob amser, wrth ei flas y bydd profi'r pwdin. Ond dydyn ni ddim eisiau gweld grwpiau penodol o bobl yn cael eu hatal rhag defnyddio'r system drafnidiaeth gyhoeddus hon oherwydd diffyg toiledau. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori a'r elusennau a'r grwpiau anabl a phobl hŷn ynghylch y trenau newydd hyn? Os felly, a allwch chi roi trosolwg cryno i ni? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod toiledau ar rai o'n trenau ac nid ar rai eraill, felly mae hynny'n rhywbeth. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw cydnabod bod gorsafoedd newydd a bod cyfleoedd newydd i bobl ddefnyddio cyfleusterau cyn iddyn nhw fynd ar y trenau. Rwy'n deall nad yw hynny'n ddelfrydol i rai teithwyr, ond mae cyfleusterau ar lawer o'r trenau newydd.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trefniadau cofrestru awtomatig ar gyfer pleidleiswyr ar waith erbyn etholiad nesaf y Senedd? OQ62981

Rŷn ni’n falch i fod y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Mae peilota mewn pedwar awdurdod lleol ar hyn o bryd, a bydd y gwersi a ddysgir yn llywio'r broses o'i gyflwyno ledled Cymru cyn gynted â'i fod yn ymarferol.
Roedd y cyn-Gwnsler Cyffredinol a arweiniodd ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn glir ac yn ddiamwys drwy gydol y broses honno y byddai'r cofrestru awtomatig yn weithredol erbyn etholiad y Senedd. Er enghraifft, dywedodd wrth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai:
'bydd etholiadau 2026 yn dra gwahanol, oherwydd bydd gennych chi gofrestr awtomatig'.
A yw'r ymrwymiad hwnnw'n dal i sefyll, ac a yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai'r ffordd orau o ymateb i lefelau cynyddol o anfodlonrwydd a dieithrio gwleidyddol, sy'n tanio cynnydd y poblyddwyr ar y dde, yw nid llai o gyfranogiad ond mwy, yn enwedig ymhlith y grwpiau hynny fel pobl ifanc a fydd yn elwa fwyaf ar gofrestru awtomatig ar gyfer pleidleiswyr?

Diolch am hynna. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyfrifo bod cymaint â 400,000 naill ai heb fod ar y gofrestr etholiadol neu wedi eu cofrestru yn anghywir, a dyna pam roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o wthio'r rhaglen dreialu hon yn ei blaen. Mae'r rheoliadau a gafodd eu pasio gan y Senedd yn golygu y bydd y rhaglenni treialu yn rhedeg tan ddiwedd mis Medi, ac ar ôl hynny fe fydd y Comisiwn Etholiadol yn eu gwerthuso erbyn mis Rhagfyr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig ac ymarferol ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, oherwydd fe fydd cryn dipyn o waith i'w wneud cyn y gellir eu cyflwyno nhw ledled y wlad. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig rheoli disgwyliadau ynghylch y gallu i gyflwyno'r cofrestriadau awtomatig hynny mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf. Rwy'n credu y ceir llawer o rwystrau i'w goresgyn. Bydd angen i'r awdurdodau lleol a ninnau ystyried gwerthusiad y Comisiwn Etholiadol yn iawn. Bydd angen cyflwyno'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol. Bydd angen i ni feddwl yn ofalus am gymhwyso egwyddor Gould. A bydd angen gwneud newidiadau i systemau meddalwedd. Mae'r pethau hynny i gyd yn gymhleth iawn, ac rwy'n credu y bydd hi'n gryn dipyn o dasg i'w cwblhau nhw o fewn tua thri mis. Mae'r awdurdodau lleol wedi ei gwneud hi'n eglur eu bod nhw o'r farn y gallai hynny fod yn anodd iawn, ac, yn amlwg, fe fydd y Comisiwn Etholiadol yn dymuno cymryd digon o amser i sicrhau ei fod yn gwneud hyn yn iawn.
O'r cychwyn cyntaf, fe godwyd pryderon ynglŷn â chofrestriad pleidleiswyr awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol o ran y gallai arwain at bleidleiswyr dybio ar gam eu bod nhw wedi cael eu cofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad ac y byddai'n achosi iddyn nhw gael eu hamddifadu o bleidleisio, ac fe allai gynyddu'r perygl y byddai pobl yn cael eu cofrestru mewn dau le, gan gynnwys pobl sy'n newid eu cyfeiriad a myfyrwyr oddi cartref yn y brifysgol yn pleidleisio ddwywaith. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr asesiad yn ardaloedd y rhaglen dreialu. Pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi yn yr asesiad hwnnw i'r peryglon hynny, ac a ydyn nhw'n profi i fod yn beryglon gwirioneddol neu beidio?

Diolch yn fawr. Fe hoffwn i ddweud wrth y Senedd pa mor ddiolchgar yr wyf i awdurdodau lleol sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys am gynnal y rhaglenni treialu. Rwy'n gwybod bod llawer iawn wedi cael ei ddysgu gan y cynghorau sydd wedi ymwneud â hynny.
Rwy'n credu bod llawer o bobl yn gwylio hyn gyda diddordeb mawr. Rwy'n credu bod llawer o wersi i'w dysgu. Un ohonyn nhw, er enghraifft, yw'r ffaith nad yw rhai pobl yn dymuno i'w gwybodaeth gael ei gwneud yn gyhoeddus efallai. Felly, pe byddai cofrestriad awtomatig, sut ydych chi'n rhyngweithio â phobl ar gyfer dweud, 'Iawn, rydym ni wedi eich cofrestru chi'n awtomatig, ond a ydych chi'n dymuno bod ar y gofrestr gyhoeddus neu'r gofrestr nad yw hi'n gyhoeddus?' Felly, mae yna lawer o faterion technegol fel hyn. Felly, dyna'r mathau o faterion o ran preifatrwydd sy'n gwneud yr holl ymarfer ychydig yn fwy cymhleth; nid yw'n beth mor syml â hynny i'w roi ar waith.
Rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn awyddus iawn i weld—. Os bydd hi'n edrych yn debyg na fyddwn ni'n gallu cyflwyno hyn mewn pryd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, yna fe fydd yna garfannau o bobl y gallem ni ganolbwyntio arnyn nhw efallai—felly, gwneud ymgais fawr yn enwedig o ran pobl ifanc 16 ac 17 oed a fydd yn cael cyfle i bleidleisio am y tro cyntaf. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod ni'n cynyddu'r cyfranogiad ymhlith y grwpiau hynny ac ymhlith cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol hefyd.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn lleihau tlodi plant yn Rhondda? OQ62994

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cymryd camau, nid yn gwneud esgusodion, i ymdrin â thlodi plant. Ers 2022, rydym ni wedi buddsoddi dros £7 biliwn i gefnogi teuluoedd, gan gynnwys yng Nghwm Rhondda. Y ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyffredinol mewn ysgolion cynradd. Rydym ni wedi ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i gwmpasu mwy o blant dwyflwydd oed. Rydym ni'n buddsoddi £100 miliwn y flwyddyn mewn gofal plant o ansawdd uchel, gan helpu rhieni i mewn i waith a rhoi ysgogiad i gyfleoedd bywyd plant. Yn Rhondda Cynon Taf ar ei phen ei hun, cafodd rhagor na £330,000 ei roi eleni drwy gyfrwng ein cronfa arloesi tlodi plant, ac rydym ni wedi darparu dros £33 miliwn o incwm ychwanegol i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano, diolch i'n gwasanaethau cynghori.
Diolch i chi am yr ateb yna. Mae gormod o blant yn y Rhondda yn byw mewn tlodi. Mae ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant dwyflwydd oed, prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, cynyddu taliadau lwfans cynhaliaeth addysg a'r grant datblygu disgyblion i gyd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, ond fe geir teuluoedd sy'n dal i fod mewn angen mawr am gefnogaeth, felly nid ydym ni'n gallu gorffwys nawr. Oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i fynd ymhellach, fel sicrhau bod Dechrau'n Deg ar gael mewn rhagor o ardaloedd? A wnewch chi weithio gyda'r cynghorau lleol i edrych eto ar gludiant o'r cartref i ysgol am ddim, fel nad oes unrhyw blentyn yn methu cael mynd i'r ysgol dim ond am ei fod yn byw yn rhywle neilltuol?

Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n credu bod y rhaglen drawsnewid integreiddio'r blynyddoedd cynnar a gafodd ei dreialu yn RhCT yn enghraifft ragorol o'r hyn y mae angen ei wneud. Dyma fodel cyflenwi ar sail anghenion ar draws yr awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd. Yr hyn a wna yw llunio drws blaen unigol i ddarparu'r cymorth priodol yn yr amser priodol, i sicrhau bod ymyriadau ymweld iechyd gwell, er enghraifft, a fydd yn mynd i'r afael ag un o'r pwyntiau a wnaeth Jane Dodds yn gynharach, o ran y cysylltiad hwnnw rhwng iechyd ac incwm isel sydd ymhlith teuluoedd â phlant.
Mae'r rhaglen wedi dod i ben erbyn hyn, ac maen nhw bellach yn ymgorffori'r hyn a ddysgwyd a'r arfer da yn rhan graidd o'r gweithgaredd busnes, ac fe wn i eu bod nhw'n buddsoddi £2 filiwn ychwanegol hefyd o ran Dechrau'n Deg gyda gofal plant yng Nghwm Rhondda. Felly, mae hynny'n golygu y bydd tua 350 yn fwy o blant yn gallu defnyddio'r cyfleusterau. Y newyddion da yw y gellir cyflwyno hynny, trwy elfen allgymorth y rhaglen, i blant a theuluoedd sydd ag anghenion mawr sy'n byw'r tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar fargen twf y gogledd? OQ62978

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o ddatgloi posibiliadau'r gogledd yn llawn, trwy ysgogi buddsoddiad, arloesedd a thwf cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Diolch i'r fargen twf, mae canolfan beirianneg newydd Prifysgol Wrecsam ar fin cael ei chwblhau, ac rydym ni'n cefnogi prosiectau ynni glân fel llanw a hydrogen a fydd yn rhoi pŵer i'r rhanbarth am ddegawdau i ddod.
Oes, yn gwbl sicr mae angen cyflymu'r gwaith cyflawni, ac rydym ni wrthi hi. Rydym ni wedi dod ag arbenigwyr masnachol i mewn, wedi lansio llif prosiectau newydd, ac rydym ni'n gwthio am ganlyniadau economaidd gwirioneddol. Rydym ni'n dwyn pob partner—cyhoeddus a phreifat—i gyfrif, ar gyfer darparu'r swyddi, y buddsoddiad a'r cyfleoedd y mae'r rhanbarth yn eu haeddu.
Diolch i chi am eich ymateb, Prif Weinidog. Roeddwn yn falch o fod â rhan ar gamau cynnar y fargen twf, ac roeddwn i'n falch o weld Llywodraethau yn San Steffan ac yma ym Mae Caerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau buddsoddiad yn y rhanbarth.
Rydych chi'n siŵr o fod yn gwybod, ar y pryd, fod yna addewid o fuddsoddiad gyda chyfanswm o tua £1 biliwn, oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, ac addewid o greu hyd at 4,000 o swyddi yn y rhanbarth. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol hefyd, Prif Weinidog, fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 35 o swyddi a grëwyd yn y cyfnod o dros bum mlynedd y bu'r fargen twf ar waith. Nawr, mae hwnnw'n hanes digalon iawn, a dweud y lleiaf, o ran sut y mae'r fargen twf yn gweithio yma yng Nghymru. Nid wyf i'n diystyru'r sylwadau cadarnhaol a wnaethoch chi, ond yr hyn nad ydym ni'n ei weld yw gwirionedd hynny ar lawr gwlad. Mae'n siomi pobl yn y gogledd, ardal sy'n gweiddi am welliant yn yr economi ac yn ysu am gael y swyddi hollbwysig hynny hefyd. Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru ran wrth sicrhau bod y fargen twf hon yn cael ei chyflawni a'r addewidion hynny'n cael eu cadw. Felly, sut ydych chi am sicrhau bod y gogledd yn cael ei flaenoriaethu a'n bod ni'n gweld y swyddi hyn yn cael eu creu yn ogystal â'r twf sydd ei angen arnom ni yn y rhanbarth?

Diolch yn fawr iawn. Oherwydd i chi fod â rhan yn hyn ar y dechrau, Sam, rydych chi'n ymwybodol o sut olwg oedd ar y strwythur ar y dechrau a beth oedd rhai o'r cynigion ynglŷn â hynny, gan gynnwys, er enghraifft, prosiect niwclear Trawsfynydd, a fyddai wedi golygu tua 40 y cant o werth y portffolio gwreiddiol. Felly, pan aeth hynny i'r wal, roedd yna fwlch mawr yn bodoli. Gwrandewch, rwy'n credu bod rhaid i ni dderbyn y ffaith bod hyn wedi bod yn siomedig iawn, o ran y cyflymder sydd wedi bod yn gysylltiedig â bargen twf y gogledd. Dyna pam rydym ni, yn y Llywodraeth, yn ceisio ysgogi'r cyd-bwyllgor corfforedig sy'n gyfrifol am gyflawni hyn.
Roeddwn i'n falch iawn o fynd i ymweld yn ddiweddar â'r Ganolfan Menter, Peirianneg ac Opteg yn Wrecsam, sydd ar fin cael ei chwblhau. Nawr, mae honno'n enghraifft o un peth sydd wedi cael ei gyflawni, ond mae angen i ni weld llawer mwy o hynny yn y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr awdurdodau lleol yn ysgogi'r cyflawni hynny, ond mae angen i ni weld y sector preifat yn dod i'r adwy hefyd, os ydyn nhw'n ddifrifol o ran ymgysylltu'n wirioneddol â chyfle gwirioneddol fel hwn, yn fy marn i, ar gyfer twf yn y gogledd.
Yn olaf, cwestiwn 8, Joel James.
8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynghylch eu bwriad i werthu'r Plasty? OQ63003

Etholwyd Cyngor Caerdydd yn ddemocrataidd ac mae'n atebol i'w drigolion, nid i Weinidogion nac i Aelodau'r Senedd sy'n chwarae gemau gwleidyddol. Mae'r Plasty yn adeilad rhestredig gradd II. Mae hynny'n golygu amddiffyniad dan y gyfraith, pwy bynnag fo'r perchennog. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymgynghori â'r cyhoedd ac wedi dilyn y drefn briodol. 'Does dim eisiau anghofio chwaith fod awdurdodau lleol ledled y DU dan bwysau oherwydd degawd o doriadau'r Torïaid. Mae Caerdydd yn gwneud penderfyniadau cyfrifol i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac rwy'n parchu hynny. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn parchu democratiaeth leol. Nid ydym ni'n ceisio microreoli cynghorau sy'n gwneud eu gwaith.
Diolch i chi, Prif Weinidog. Er i'r adeilad gael ei adnewyddu yn sylweddol yn y 1990au, mae Cyngor Caerdydd yn nodi tanddefnyddio a gwaith cynnal a chadw sydd wedi pentyrru i gyfiawnhau cael ymwared ar y Plasty. Mae trigolion yn pryderu am golli'r adeilad hanesyddol hwn ar gyfer y ddinas o bosibl, a fu'n gartref swyddogol i arglwydd feiri Caerdydd, ac sydd wedi croesawu ffigyrau nodedig fel Brenin Siôr V, Winston Churchill, Nelson Mandela, ac mae llawer o bobl yn ystyried y symudiad hwn fel enghraifft arall o'r cyngor yn diystyru treftadaeth ddiwylliannol a dinesig y ddinas. Nid rhywbeth digynsail mo hyn. Cafodd Neuadd Dewi Sant sydd o radd II ei hesgeuluso yn yr un modd, ac yna fe ystyriwyd y byddai hi'n rhy gostus i'w hatgyweirio ac fe'i rhoddwyd ar werth. Mae camau o'r fath yn codi pryderon difrifol am ymrwymiad hirdymor y cyngor nid yn unig i warchod diwylliant unigryw a hunaniaeth ddinesig Caerdydd, ond sut mae'n rheoli'r asedau cyhoeddus sydd yn ei ofal. A ydych chi'n cytuno bod y Plasty yn ased dinesig hanfodol, ac y dylai'r cyngor, sy'n cadw cronfeydd ariannol sylweddol, gyflwyno cynllun eglur i'w addasu at ddibenion gwahanol a'i gadw er mwyn cenedlaethau'r dyfodol? Diolch i chi.

Wel, mater i Gyngor Caerdydd yw hwn. Ni chefais i unrhyw drafodaethau uniongyrchol, ac rwy'n ymddiried yng Nghyngor Caerdydd i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a synhwyrol o ran rheoli ei asedau diwylliannol a'i adeiladau.
Diolch i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn gan Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn. Jest i gyfeirio, ar ddechrau'r sesiwn fe wnes i sôn am CND Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fy nghyfraniad. Dwi'n aelod o'r ddau yna, ac yn gadeirydd i CND Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am hynny.
Eitem 2 yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yna. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r amser wedi cael ei leihau ar gyfer dadl Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â gwasanaethau epilepsi? Fel gwyddoch chi, lansiodd Epilepsy Action Cymru ei adroddiad 'Seizing Change' yma yn y Senedd yn ddiweddar. Nawr, mae'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir iawn fod pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi methu â bodloni'r canllawiau ar gyfer amseroedd aros ar gyfer triniaeth ar ôl ffit cyntaf, ac, yn achos fy mwrdd iechyd lleol fy hun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae rhai cleifion yn aros hyd at 36 wythnos i gael eu gweld, yr amser aros hwyaf ar gofnod erioed.
Nawr, Trefnydd, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r amseroedd aros hyn, ac rwy'n bryderus iawn hefyd am fod niferoedd y bobl ag epilepsi yng Nghymru yn cynyddu, ac eto mae yna brinder dybryd o niwrolegwyr, yn enwedig rhai sydd â gwybodaeth arbenigol mewn epilepsi, a nyrsys arbenigol epilepsi yma yng Nghymru. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad ar wasanaethau epilepsi, er mwyn cael deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion difrifol a amlygwyd yn yr adroddiad 'Seizing Change'.
Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies, ac mae Epilepsy Action yn sefydliad hirsefydlog, ac yn sefydliad uchel ei barch. Wrth gwrs, rydych chi wedi tynnu sylw at wasanaethau epilepsi, ac wrth gwrs mae yna lwybrau, ac mae ymrwymiad hirdymor wedi bod i'r llwybrau hynny sy'n amlbroffesiynol yn fynych, wrth gwrs. Felly, rydych chi wedi codi'r mater hwn, ac rwy'n siŵr y gallai hefyd ffurfio cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet pan fydd ef yn ymateb i'w gwestiynau llafar yn y Senedd.
Trefnydd, dwi eisiau codi mater efo chi mae nifer o aelodau o fy ngrŵp i wedi gofyn i mi ei wneud, sef oedi o ran derbyn ymatebion gan nifer o Weinidogion i lythyrau, a hefyd oedi o ran derbyn atebion i gwestiynau ysgrifenedig. Dwi ddim yn siŵr a ydych chi'n ymwybodol a oes yna unrhyw backlog o fewn unrhyw adrannau penodol, ond byddwn i yn ddiolchgar pe byddech chi'n gallu codi hyn efo aelodau eraill o’r Llywodraeth a sicrhau bod ymatebion yn digwydd mewn ffordd brydlon.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, ac yn amlwg, rydym ni'n cymryd yr angen i fod yn effeithlon yn ein hymatebion ni'n ddifrifol iawn, a'r amserlenni eglur hynny hefyd o ran ymatebion i'r ddau lythyr a chwestiynau ysgrifenedig. Ond hefyd, wrth gwrs—ac fe fyddaf i'n edrych ar y cofnod yn hyn o beth—rydym ni wedi cael llawer iawn o gwestiynau, llythyrau, a chwestiynau ysgrifenedig hefyd, y mae'n rhaid i Weinidogion a'n swyddogion ni ymdrin â nhw. Ond, yn amlwg, rydym ni'n dymuno darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n Haelodau ni ar draws y Senedd.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Mae'r ddau ohonyn nhw ynghylch lles anifeiliaid. Yn gyntaf, ar ddodi microsglodion ar gathod. Yn Lloegr, mae'n rhaid i bob perchennog cath ddodi microsglodyn ar ei anifail anwes. Mae'n rhaid i berchnogion sicrhau bod eu cathod nhw'n cael microsglodyn cyn eu bod yn 20 wythnos oed, gyda'u manylion cyswllt yn cael eu storio a'u diweddaru mewn cronfa ddata microsglodion anifeiliaid anwes gymeradwy. Yn Lloegr, mae cyflwyno microsglodion gorfodol yn ei gwneud hi'n haws i gathod crwydrol neu a aeth ar goll gael eu haduno â'u perchnogion a chael mynd adref yn ddiogel. Mae microsglodion yn orfodol i gŵn yng Nghymru eisoes, ac mae hwnnw wedi profi i fod y dull mwyaf effeithiol o adnabod anifeiliaid anwes colledig. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth i egluro pryd maen nhw am weithredu ar roi microsglodion i gathod yng Nghymru?
Yn ail, ynghylch draenogod. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r camau ymarferol y gallwn ni eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad o ran niferoedd draenogod gwyllt, a gwella eu lles nhw, a diogelu eu dyfodol nhw? Fe wyddom ni, ar gyfer hyrwyddo bywyd da a bywyd hir mewn draenogod, fod angen i ni hyrwyddo cynnig bwyd i ddraenogod sydd o ansawdd da, yn cynnwys cig, bwyd cath neu fwyd cŵn, neu fisgedi cath sych, a rhoi dŵr i'w yfed. Ond mae draenogod yn greaduriaid dan fygythiad. A all y Llywodraeth wneud datganiad am yr hyn maen nhw am ei wneud i geisio gwarchod y rhywogaeth eiconig hon yng Nghymru?
Diolch yn fawr, Mike Hedges, a diolch am dynnu ein sylw at hyn.
Diolch i chi am ofyn, yn gyntaf i gyd, ynglŷn â microsglodion a chathod. Fe annogir hynny. Mae'n arfer da i bob perchennog cyfrifol ddodi microsglodyn ar ei gath. Ac yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Cats Protection y llynedd, mae 74 y cant o gathod yng Nghymru wedi cael microsglodyn. Ond mae hyn yn bwysig o ran cyfrifoldebau, ac mae ein cynllun lles anifeiliaid i Gymru yn cynnwys camau gweithredu i ystyried ymestyn microsglodion gorfodol i gynnwys cathod. Yn amlwg, fe fyddai hyn yn destun ymgynghoriad, ond rwy'n falch eich bod chi wedi codi hyn yma heddiw. Mae'n rhaid i ni wneud hyn yn iawn cyn i unrhyw orfodaeth o ran microsglodion ddigwydd, a sicrhau ein bod ni wedi ymgynghori yn llawn.
Wrth gwrs, mae draenogod yn bwysig iawn. Mae gan Lywodraeth Cymru ystod o fentrau i helpu i gynyddu niferoedd draenogod yng Nghymru. Pryd welsom ni ddraenog ddiwethaf? Yn anffodus, amser maith yn ôl, o'm safbwynt i o leiaf. Coetiroedd yw'r cynefin dewisol ar gyfer bridio draenogod, ac mae gan Lywodraeth Cymru sawl menter i blannu coed, fel gwyddoch chi, a fydd yn cynyddu'r cynefin ar gael i ddraenogod wrth i'r coed newydd aeddfedu. Ac fe fydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn darparu ar gyfer adfer gwrychoedd hyd at gyflwr a fydd yn cefnogi bywyd gwyllt o bob math, gan gynnwys draenogod. Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn darparu ar gyfer ffermwyr sy'n plannu coed, a fyddai, mewn grwpiau o goed a choedwigoedd bychain, yn cynnig cynefin delfrydol i ddraenogod allu bridio ac aeddfedu hyd at eu llawn dwf.
Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth am y Bil bysiau sydd ar fin digwydd? Rwyf wedi siarad â llawer o weithredwyr bysiau ac arbenigwyr yn y diwydiant ar draws fy rhanbarth i ynglŷn â'r Bil sydd yn yr arfaeth ar gyfer cael gwybod eu barn nhw amdano. Y consensws cyffredinol yw, er bod llawer o gefnogaeth i nodau'r Bil, fe geir pryder na ddaw i'w gyflawniad, mewn gwirionedd. Rhoddwyd sicrwydd y bydd gweithredwyr bysiau o blith BBaChau a gweithredwyr trefol yn cael eu cynnwys a'u diogelu, ond mae yna brinder manylion yn y Bil o ran mecanweithiau cyfreithiol a masnachol i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn gwirionedd.
Mae yna bryderon fod yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil wedi rhoi amcangyfrif rhy fychan o gostau a risgiau allweddol, gan ei fod yn hepgor pethau pwysig fel y cynnydd diweddar o ran costau cyflog ac yswiriant gwladol. Mae fforddiadwyedd yn bryder mawr hefyd i mi a llawer o bobl eraill. Ym Manceinion, er enghraifft, lle cafwyd diwygiadau tebyg i fysiau, mae diffyg ariannol sylweddol o tua £250 miliwn yn digwydd yn flynyddol, rhwng costau gweithredu a refeniw tocynnau teithio. O ystyried mai Llywodraeth Cymru sy'n ysgwyddo'r risg ariannol i gyd yn y darn hwn o waith, y trethdalwr fydd yn gorfod talu am y Bil hwn yn y pen draw. Felly, a yw'r arian hwnnw gennym ni ar gyfer llenwi'r bwlch bob blwyddyn? Hwnnw yw fy nghwestiwn i. Dyma rai yn unig o'r ychydig broblemau sy'n bosibl, ond rwyf i am gadw'r gweddill ar gyfer diwrnod arall. Felly, fe fyddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn yn werthfawr iawn. Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi, Natasha Asghar. Mae llawer o bobl yng Nghymru, fe wn i, yn croesawu cyflwyniad y Bil bysiau. Rwy'n credu eich bod chi a'ch cyd-Aelodau wedi croesawu'r posibiliadau hefyd, oherwydd y Bil Bysiau, i fod â gwasanaeth bysiau sy'n integredig ledled Cymru. Wrth gwrs, rwy'n cofio'r erchyllterau yn sgil dadreoleiddio ein bysiau ni'n ôl yn y 1980au, a symbylwyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol. Fyth ers hynny, mae bysiau wedi bod mewn annibendod llwyr o ran cysondeb, gyda dadreoleiddio yn achosi llawer o anawsterau i'r awdurdodau lleol o ran rheolaeth strategol, ond i deithwyr hefyd, sef y peth pwysicaf un. Fe fydd yna gyfleoedd i godi'r cwestiynau hyn, fel y gwn i y gwnewch chi, a'ch cyd-Aelodau, yn ystod y craffu ar y Bil bysiau.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn falch iawn am fod cynrychiolydd o'r Jo Cox Civility Commission wedi dod i siarad â chawcws y menywod yn ddiweddar am y lefelau o ddifrïo y mae gwleidyddion benywaidd yn eu dioddef, yn enwedig ar-lein. Wrth gwrs, mae cawcws y menywod yn cynnwys Aelodau o bob plaid yn y fan hon, dan gadeiryddiaeth Joyce Watson. Felly, wrth symud ymlaen at etholiad y flwyddyn nesaf, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r argymhelliad y bydd costau sy'n gysylltiedig â diogelwch yn cael eu heithrio rhag costau etholiadol ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf?
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan. Roedd croeso gwirioneddol fawr i'r ymgysylltiad gan Sefydliad Jo Cox. Fe wnaeth Hannah Phillips dynnu sylw at yr argymhellion gan y Jo Cox Civility Commission. Wrth gwrs, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad y dylid eithrio treuliau sy'n gysylltiedig â diogelwch. Rwy'n falch iawn fod y rheoliad hwn wedi mynd drwodd ddydd Mawrth diwethaf. Nid wyf i'n siŵr faint o gyd-Aelodau ar draws y Siambr a oedd yn ymwybodol o hynny, ond fe aeth drwodd ddydd Mawrth diwethaf, trwy gyfrwng rheoliadau Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n credu ei fod yn gynwysedig yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, y Gorchymyn cynnal etholiadau a fydd yn cael ei drafod yn ddiweddarach y prynhawn yma. Felly, mae hwnnw'n gam ymlaen gwirioneddol.
A gaf i ddiolch hefyd i Joyce Watson a'r holl gyd-Aelodau ar draws y Siambr a oedd yn bresennol yng nghawcws y menywod? Yn wir, wythnos diwethaf, fe lwyddais i gwrdd â phanel y pleidiau gwleidyddol, a drefnir gan y Comisiwn Etholiadol. Roedd pob plaid yn y fan hon yn cael ei chynrychioli gan eich ysgrifenyddion cyffredinol neu aelodau eraill o unedau eich pleidiau, ac fe gawsom ni drafodaeth frwd ynghylch sut y gallwn amddiffyn nid yn unig, wrth gwrs, ein cyd-Aelodau a'n gwleidyddion cyfredol rhag anfri a bygylu, ond hefyd o ran y cyfnod sy'n arwain at yr etholiadau ym mis Mai 2026. Rwy'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl i gawcws y menywod am y trafodaethau hynny.
Prynhawn da, Trefnydd. Rwy'n galw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar ardrethi busnes yng Nghymru, yn ogystal â'r meini prawf ar gyfer gwahanol gategorïau o ran y mathau o fusnesau a rhyddhad ardrethi. Fe ddaw hyn ar ôl i Hwb Underhill, sy'n ased cymunedol blaenllaw yn y Mwmbwls yn fy rhanbarth i, gael ei orfodi i gau o ddydd Sadwrn nesaf ymlaen oherwydd yr hyn maen nhw'n eu galw yn 'feichiau ariannol anghynaladwy'. Mae'r ganolfan gymunedol yn rhoi cartref i sawl sefydliad yn y Mwmbwls, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Rangers Mwmbwls, Clwb Rygbi'r Mwmbwls, a Chlwb Criced Abertawe. Mae'n eiddo i elusen, Cymdeithas Gymunedol y Mwmbwls, ond mae'n cael ei rhedeg gan Gwmni Rheoli Underhill. Cwmni cyfyngedig preifat yw hwnnw, er bod hwnnw'n rhedeg yr hwb ar ran Cymdeithas Gymunedol y Mwmbwls.
Nawr, roedden nhw wedi gobeithio y byddai rhyddhad ardrethi elusennol yn gymwysedig, ond fe benderfynodd yr Asiantaeth Swyddfa Brisio ym mis Awst 2024 na fyddai hynny'n berthnasol, ac maen nhw wedi cael eu gadael gydag ardrethi busnes erbyn hyn o £93,000 dros ddwy flynedd, sy'n swm mawr, yn enwedig i ganolfan gymunedol sy'n ceisio darparu ar gyfer trigolion lleol a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Mae hi'n werth nodi hefyd, yn amlwg, Trefnydd, wrth fynd heibio, fod y Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu dileu ardrethi busnes yn gyfan gwbl ar gyfer busnesau bach ar ôl yr etholiad nesaf. Ond fe fyddai croeso mawr i ddatganiad gan Ysgrifennydd cyllid y Cabinet ar ba gymorth sydd ar waith i ganolfannau cymunedol lleol, yn ogystal â pha ystyriaeth y byddai ef yn ei rhoi i sicrhau y bydd canolfannau fel Hwb Underhill yn y Mwmbwls yn gymwys i gael rhyddhad elusennol, ni waeth pwy sy'n eu rhedeg nhw.
Diolch i chi am y cwestiwn yna, Tom Giffard. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfundrefn ardrethi busnes ffafriol iawn. Yn amlwg, mae hon yn enghraifft o sefydliad cymunedol, yn siŵr, a sefydlwyd yn dda iawn nad yw'n cyd-fynd â'r cymhwysedd o ran statws elusennol. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod cyngor ac arweiniad ar gael bob amser i gymunedau/busnesau bach o bwys fel y rhain.
Trefnydd, mae tystiolaeth gynyddol o gynnydd yn yr achosion o donnau gwres a'u heffaith. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r DU, gan gynnwys Cymru i raddau helaeth iawn, wedi profi tymereddau digynsail. Gwanwyn 2025 oedd y poethaf erioed yn swyddogol, ac fe ysgubodd tanau gwyllt dinistriol drwy rannau o Loegr. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar y gwasanaethau brys erbyn hyn. Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, nid ydym ni'n gyfarwydd â thywydd eithafol o'r fath. Erbyn 10 Ebrill eleni, roedd cyfanswm yr arwynebedd o dir yn y DU a losgwyd gan danau gwyllt eisoes wedi rhagori ar y cyfanswm blynyddol ar gyfer unrhyw un o'r 10 mlynedd flaenorol.
Yn Llundain, yn 2022, roedd tanau gwyllt yn arbennig o gyffredin, ac yna fe ymgymerodd Brigâd Dân Llundain â diwygiadau sylweddol i wella ei pharodrwydd. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwyno cynghorwyr tactegol tanau gwyllt, hyfforddiant gwell ac ehangach, a rhagor o fuddsoddiad mewn offer arbenigol. O ystyried y tywydd sy'n gynyddol sych, poeth a gwyntog sy'n berffaith ar gyfer dechrau tanau gwyllt, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gefnogi'r gwasanaethau brys yng Nghymru, o ran adnoddau a pharodrwydd, wrth i ni wynebu dyfodol o argyfyngau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn dwysáu?
Diolch i chi, John Griffiths, am y cwestiwn pwysig a chyfoes iawn hwn, wrth i ni edrych ar effaith tymheredd cynyddol oherwydd newid hinsawdd, sy'n arwain yn arbennig at danau gwyllt. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle rydym ni ac mae'n rhaid i ni gydnabod y trefniadau cydweithredol hirsefydlog hynny rhwng y gwasanaeth tân ac achub a phartneriaid eraill. Mae hi'n hanfodol fod ganddyn nhw'r cyfrifoldeb gyda'r bwrdd tanau gwyllt strategol Cymru gyfan ac Ymgyrch Dawns Glaw am lywio gwybodaeth dactegol a gweithredol. Wrth gwrs, mae'r perygl o danau gwyllt yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar y tywydd a'r ymateb i ddigwyddiadau, ond rydym ni wedi cael sicrwydd bod y gwasanaeth a'r partneriaid yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau i leihau'r risg o danau gwyllt yn cynnau, gan gynnwys rhaglenni atal a dargyfeirio, ymgysylltu â thirfeddianwyr, a gallu ymateb i nifer uchel iawn o danau gwyllt hefyd, fel y profwyd hynny unwaith eto yn ystod gwanwyn sych iawn eleni, ac yn wir mae hynny'n parhau i fisoedd yr haf.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth hon am gefnogaeth i'n ffrindiau Wcreinaidd sydd wedi dod i Gymru mewn amgylchiadau dirdynol, yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia. Fe wn i ein bod ni i gyd o'r unfarn mai derbyn pobl o Wcráin oedd y peth cyfiawn i'w wneud. Yn dilyn fy ymweliad diweddar ag Wcráin, gydag Aelodau eraill o'r Senedd, fe wnes i gyfarfod â rhai o'r Wcreiniaid hynny sy'n aros yn sir Fynwy. Fe glywais i straeon torcalonnus, a straeon am lawer o Wcreiniaid sy'n dymuno dychwelyd adref pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny, ond nid oes neb yn gwybod pryd y daw hynny. Mae'r ansicrwydd yn hynny beth yn erchyll iddyn nhw, oherwydd er eu bod nhw'n ddiolchgar iawn am eu bod nhw wedi gallu teimlo yn ddiogel yma, mae tair blynedd wedi mynd heibio erbyn hyn, ac mae angen rhywbeth llawer mwy na hynny arnyn nhw ac maen nhw'n haeddu gwell. Roedd yna wraig a oedd yn offthalmolegydd sy'n awyddus i drosglwyddo ei sgiliau hi i'n GIG ni, ond nid oes unrhyw gefnogaeth iddi hi o ran gwneud felly. Mae yna wraig arall sy'n dymuno agor siop trin gwallt yn y Fenni, ond nid yw hi'n siŵr pa mor hir y bydd hi'n aros yma gan fod y fisâu yn dod i ben yn fuan. Mae llawer o'r rhain yn teimlo eu bod nhw wedi mynd yn angof, yn ansicr pa mor hir y byddan nhw'n gallu aros yma cyn iddyn nhw fynd yn eu holau, ac yn ansicr o ran sut i drosglwyddo eu sgiliau i'n heconomi. Yn wir, mae llawer ohonyn nhw'n ansicr a fydd eu plant nhw'n cael eu dadwreiddio cyn iddyn nhw orffen eu haddysg. Ac roedd pryderon ymhlith y plant ifanc yr oeddwn i'n siarad â nhw am golli'r iaith, y diwylliant, a phethau o'r fath. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi amlinelliad gan eich Llywodraeth chi o'r camau nesaf ar gyfer helpu'r Wcreiniaid hyn yng Nghymru nawr, a sut rydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, yr awdurdodau lleol a'r gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig o ran estyn fisâu. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch, Laura Anne Jones. Diolch i chi am eich ymgysylltiad, wrth ymuno â'r grŵp trawsbleidiol hwnnw a aeth i Wcráin, a diolch i chi am eich cefnogaeth wrth godi'r mater hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth atgoffa'r Senedd fod Cymru wedi croesawu dros 8,000 o Wcreiniaid i'r DU ers yr ymosodiad yn ôl ym mis Chwefror 2022, ac roedd hynny'n cynnwys 3,300 drwy ein llwybr uwch-noddwr a thros 4,600 at noddwyr Cartrefi i Wcráin. Ac mae'n rhaid i ni ddiolch i bobl Cymru am agor eu calonnau a'u cartrefi nhw, eu caredigrwydd anhygoel nhw, eu hymrwymiadau i roi cartref, ac mae ein gwesteion ni o Wcráin wedi dangos gwir fanteision ymfudo i ni. Felly, mae yna lai, wrth gwrs, yn cyrraedd—llai o Wcreiniaid yn dod i Gymru erbyn hyn—ond fe fyddwn ni'n sicrhau bob amser y bydd pobl sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru yn cael eu croesawu a'u cefnogi o'r diwrnod cyntaf y byddan nhw'n cyrraedd.
Felly, rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU nawr, fel roeddech chi'n gofyn am hynny, wrth ystyried y materion o ran fisâu. Mae fisâu'r cynllun estyn caniatâd Wcráin wedi dod i rym ac mae'r ceisiadau yn cael eu gwneud amdanynt. Ac rydym ni'n ystyried, wrth gwrs, sut y gallwn ni sicrhau bod pobl—ein Wcreiniaid ni—yn ymwybodol o'u hawliau a'r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, eu hawliau nhw o ran gweithio a byw yn y DU, tra bod eu ceisiadau nhw yn mynd drwodd. Rwy'n credu bod hyn yn fater yr ydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU yn ei gylch i sicrhau y byddwn ni'n gallu parhau â'n cefnogaeth groesawgar i'n ffrindiau a'n ffoaduriaid a ddaeth o Wcráin.
Rwy'n ymwybodol y bydd ymweliad arall ag Wcráin, dan arweiniad Mick Antoniw ac Alun Davies yn digwydd wythnos nesaf. Rwy'n siŵr y byddan nhw'n mynd ag offer meddygol hollbwysig i Wcráin, ac rwy'n credu y byddem ni'n dymuno yn dda iddyn nhw ar eu hymweliad nhw a'r siwrnai wythnos nesaf.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddarpariaeth ysgolion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Efallai eich bod chi'n ymwybodol o gyhoeddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â'r oedi gyda safle'r ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn Ffordd Cadfan. Dyma'r bennod ddiweddaraf mewn cyfres faith o oediadau tebyg. Buddsoddiadau cyfalaf eraill y cyngor yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, yn ogystal ag Ysgol Heronsbridge, yw'r rhai diweddaraf i ddioddef oherwydd toriadau yn y gyllideb. Ar hyn o bryd, rwy'n pryderu na fydd 525 o leoedd ar gyfer disgyblion a'r 90 o leoedd mewn slotiau llawn amser ar gael ym Mracla tan 2027-28 yn y fan gyntaf. Trefnydd, a hithau'n ysgol Gymraeg, mae angen Ysgol Gymraeg Bro Ogwr nawr. Mae Ysgol Heronsbridge, sy'n arloesi ym maes addysg arbennig, yn sefydliad anhygoel sy'n rhan o'n darpariaeth ni o addysg yn lleol. Mae hyn i gyd, ar ben cau ysgolion preifat y rhanbarth, yn rhoi llawer o straen ar y ddarpariaeth leol. Felly, rwy'n gofyn heddiw am ddatganiad i fynd i'r afael ag ôl-groniad o adeiladu ysgolion sy'n fwrn ar safleoedd ysgolion arfaethedig yn awdurdod addysg Pen-y-bont ar Ogwr. Diolch i chi.
Diolch i chi, Altaf Hussain. Wrth gwrs, materion yw'r rhain i gyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ond rwy'n credu y gallwn ni fod yn falch iawn yng Nghymru o'r miliynau, miliynau lawer, yr ydym ni wedi eu gwario ar drawsnewid ein hysgolion ac adeiladau ein hysgolion drwy gyfnod cyfan cyni. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi rhoi setliad ffafriol iawn i'r awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gan ganolbwyntio yn arbennig ar addysg ac ysgolion. Ond, wrth gwrs, fe fydd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn ateb cwestiynau'r wythnos nesaf, ac efallai y byddech chi'n hoffi codi hyn gyda hi bryd hynny.
Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad. Mae'r gyfradd hunanladdiad ymhlith dynion bron i dair gwaith yn uwch nag i fenywod, ac roeddwn i'n falch o siarad yn lansiad rhaglen atal hunanladdiad Cymru ddydd Gwener diwethaf, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Cymru a GIG Cymru, ac a gynlluniwyd ar gyfer dynion yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru, a gynhaliwyd yn Oakenholt, sir y Fflint. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gwŷr sy'n gweithio ym maes adeiladu bron i bedair gwaith yn fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fel dywedais i, nid digwyddiadau ynysig yw'r rhain; maen nhw'n digwydd o ganlyniad i bwysau cyfundrefnol, oriau maith, ansicrwydd swyddi, blinder corfforol a diwylliant yn y gweithle sy'n rhy aml yn annog peidio â dangos teimladau. A gadewch i ni beidio ag anghofio effaith y marwolaethau hyn. Mae pob hunanladdiad yn effeithio ar deuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a chymunedau. Mae'r effeithiau ymledol yn ddwys ac yn hirhoedlog. Nid cost emosiynol yn unig mohoni, mae'n gymdeithasol, economaidd a moesol. Rwy'n galw felly am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i fanylu ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd â chenadwri'r rhaglen hon i'r diwydiant, ac yn enwedig i gwmnïau bach a chanolig.
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, am dynnu sylw at y digwyddiad hollbwysig hwnnw yn y gogledd ar gyfer atal hunanladdiad yng Nghymru. Rwy'n croesawu cyfranogiad y diwydiant adeiladu yn arbennig yn hyn o beth ac yn tynnu sylw at hyn o ran yr effaith a pha mor fregus y gall dynion yn y diwydiant fod. Fe wn i y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn gefnogol iawn i'r fenter honno ac, yn wir, mae'n ganolog iawn i'r ymgynghoriad a'r hyn a gaiff ei fwrw ymlaen ag ef o ran y strategaeth iechyd meddwl, gan gynnwys yr elfennau yn y strategaeth honno o ran atal hunanladdiad.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar fewnforio cynnyrch bwyd sy'n cael ei drin â phlaladdwyr cemegol sy'n cael eu rheoli neu wedi eu gwahardd yn y DU. Mae pryderon wedi dod i'm sylw gan ffermwyr yn y gogledd a ledled y wlad ynglŷn â mewnforio bwyd sy'n cael ei drin â sylweddau gwaharddedig yma yn y DU ac yn Ewrop ar sail amgylcheddol ac iechyd, clorothalonil yn enwedig. Mae'r sylwedd hwn, a gafodd ei wahardd yn 2020 oherwydd effeithiau difrifol ar fioamrywiaeth ac atgenhedlu pryfed, yn dal i ymddangos mewn cynnyrch a fewnforir, er bod ein ffermwyr ni wedi eu gwahardd rhag ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu safon ddeuol annerbyniol, sy'n rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol, gyda'n ffermwyr ni'n cael eu dal at safonau uwch o ran yr amgylchedd a diogelwch, ond sy'n cael eu tanseilio gan fewnforion o wledydd sydd â rheoliadau llai cadarn. Felly, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar unrhyw waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn a sicrhau nad yw ffermwyr Cymru yn cael eu cosbi yn annheg am gydymffurfio â'r rheolau.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies. Wel, rydych chi'n siŵr o fod yn gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn cwrdd â ffermwyr a'r undebau ffermio yn rheolaidd, ac felly fe fyddwn i'n falch pe byddech chi'n rhannu'r dystiolaeth a gawsoch chi gan y ffermwyr a ddaeth â hyn i'ch sylw chi o ran y mewnforion annerbyniol o fwyd a gafodd ei drin â sylwedd cemegol o'r fath.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

Dirprwy Lywydd, mae trychineb Tŵr Grenfell yn atgofiad ingol a dirdynnol o bwysigrwydd a'r angen i sicrhau uniondeb diogelwch adeiladau. Fe wn i fod un ohonom ni yn y Siambr hon yn cofio am y rhai a gollodd eu bywydau yn ogystal â'u teuluoedd a'u hanwyliaid nhw. Mae hi'n hanfodol ein bod yn dysgu o'r digwyddiadau hyn ac yn gweithredu i sicrhau nad yw bywydau fyth yn cael eu colli eto yn y fath fodd.
Mae canfyddiadau cynhwysfawr ymchwiliad Tŵr Grenfell wedi datgelu'r methiannau cyfundrefnol ar draws diwydiant, llywodraethu a rheoleiddio a gyfrannodd at y trychineb hwn. Ddoe, fe gyhoeddwyd ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i adroddiad cam 2 yr ymchwiliad, a oedd yn derbyn, mewn egwyddor o leiaf, yr holl argymhellion sydd yng nghwmpas ein cyfrifoldebau ni. Mae ein hymateb ni'n nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd ar gyfer rhoi'r argymhellion hynny ar waith hefyd. Fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd i'r Aelodau cyn diwedd tymor y Senedd hon.
Wrth hanfod ein hymateb ni mae ymrwymiad i roi'r preswylwyr yn gyntaf. Elfen allweddol o hynny yw meddiannaeth adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Pan fyddwn ni'n sôn am adeiladau preswyl amlfeddiannaeth, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yw cartrefi pobl. Lleoedd yw'r rhain y dylai pobl deimlo yn ddiogel ac yn amddiffynedig ynddyn nhw. Mae'r risgiau yn sylweddol ym mhob adeilad amlfeddiannaeth, nid dim ond rhai uchel yn unig. Mae tanau yn digwydd hefyd mewn adeiladau is sydd ym meddiant sawl aelwyd. Ar ambell gyfrif, y rhain yw'r mwyaf peryglus o'r cwbl. Mae'r sefyllfa yn gwaethygu llawer iawn os nad yw'r adeiladau yn cael eu cynnal yn briodol, os nad yw'r risgiau yn cael eu nodi a'u rheoli, os yw pryderon trigolion yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru, ac os nad oes neb yn cael ei ddwyn i gyfrif. Dirprwy Lywydd, dyma rai o wersi pwysig Grenfell.
Mae dysgu'r gwersi hyn ac unioni'r camgymeriadau hyn, yn gwbl angenrheidiol i amddiffyn unigolion a theuluoedd yng Nghymru. Mae canfyddiadau adolygiad y Fonesig Judith Hackitt, ein grŵp diogelwch adeiladau arbenigol ni, a'n Papur Gwyn ni, ynghyd ag ymgysylltiad eang â rhanddeiliaid, wedi gosod y sylfeini ar gyfer y Bil pwysig yr oeddwn i'n falch ei ddodi gerbron y Senedd ddoe. Ei egwyddor gyntaf yw diogelwch a diogelu pobl. Dirprwy Lywydd, er na allwn ni fyth ddileu'r risgiau i gyd, fe allwn i wella diogelwch yn sylweddol trwy nodi'r risgiau sy'n gallu achosi tanau ac sy'n caniatáu i danau ymledu. Trwy sicrhau bod y peryglon yn cael eu rheoli yn briodol, fe fyddwn ni'n gwneud pobl yn fwy diogel ac yn rhoi ymdeimlad o fod yn fwy diogel yn eu cartref. Dechrau hyn yw asesiad risg tân proffesiynol, trylwyr o bob adeilad. Fel roedd ymchwiliad Tŵr Grenfell yn cydnabod, mae hi'n annerbyniol fod unrhyw un yn gallu gwneud hyn heb ystyriaeth o'i ddealltwriaeth neu brofiad. Fe all asesiadau tila neu amaturaidd roi pawb yn yr adeilad mewn perygl enbyd, ac mae ein Bil ni'n mynd i'r afael â hyn trwy ei gwneud hi'n ofynnol i unigolion cymwys fod yn cynnal yr asesiadau hyn, gyda chosbau troseddol i'r rhai nad ydyn nhw'n cydymffurfio â hynny.
Mae atebolrwydd yn ail egwyddor. Rydym ni'n awyddus i roi terfyn ar unrhyw ddryswch ynghylch pwy sy'n atebol am reoli risgiau diogelwch adeiladau. Fe fyddwn ni'n sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am yr adeiladau yn cael eu dwyn i gyfrif, yn unol â'r gyfraith, am eu diogelwch nhw. Felly, mae'r Bil yn rhoi diffiniad o'r sawl sy'n atebol am asesu a rheoli risgiau mewn adeiladau rheoledig. Mae clywed llais y preswylwyr yn drydedd egwyddor. Mae trigolion yn sylfaenol i'r cynigion yr wyf i'n eu cyflwyno ac mae'n rhaid clywed am eu profiadau a'u pryderon ac ymdrin â'r rhain. Fe fyddwn ni'n grymuso preswylwyr gyda llwybrau eglur iawn ar gyfer gwneud iawn ac yn rhoi mwy o wrandawiad iddyn nhw o ran materion sy'n effeithio ar eu cartrefi nhw. Rydym ni wedi gwrando yn astud ar drigolion wrth ddatblygu ein cynigion. Maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw o'r farn bod rhaid i bob preswylydd fod â chyfranogiad wrth sicrhau bod yr adeiladau yn ddiogel. Dyna pam mae ein Bil ni'n sefydlu cyfrifoldebau priodol i breswylwyr, gyda chefnogaeth canllawiau, i'w helpu nhw i gyfrannu at amgylchedd byw sy'n fwy diogel. Mae'r tair egwyddor hynny'n sylfaenol i'r Bil hwn: diogelwch, atebolrwydd, a llais y preswylwyr.
Dirprwy Lywydd, mae ein dull ni o weithredu yn gynhwysfawr a chymesur. Mae ein Bil ni'n ymestyn dyletswyddau newydd i bob adeilad preswyl amlfeddiannaeth, gyda rhai eithriadau bychain. Ond rydym ni'n cydnabod bod ein hadeiladau uchaf, mwyaf cymhleth yn cyflwyno heriau penodol, gyda phosibilrwydd o ganlyniadau dinistriol i nifer fawr o bobl. Rydym ni'n cynnig gosod y dyletswyddau mwyaf pendant ar y rhai sy'n gyfrifol am adeiladau sydd ag 18m o uchder o leiaf. Fe fydd y rhain yn cynnwys dyletswyddau o ran diogelwch tân ac adeiledd, gofyniad i wneud cais i gofrestru'r adeilad, a gofynion adrodd penodol.
Mae angen rhoi sylw arbennig i adeiladau rhwng 11m a 18m hefyd. Mae risgiau o ran tanau neu adeileddau yn yr adeiladau hynny yn dal i fod yn rhoi llawer iawn o bobl mewn perygl. Rydym ni o'r farn ei bod hi'n bwysig sicrhau bod yr adeiladau hyn wedi eu cofrestru, ac fe fydd dyletswyddau o ran diogelwch tân ac adeiledd yn berthnasol, ond fe fydd yna lai o ddyletswyddau o ran adrodd, gan sicrhau cymesuredd wrth ddal at ein hegwyddorion craidd.
Ar gyfer adeiladau rheoledig sy'n is nag uchder o 11m a thai perthnasol amlfeddiannaeth, fe fydd y Bil hwn yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â risgiau diogelwch tân a'u rheoli. Fe fydd unigolyn yn parhau i fod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am asesu a rheoli risgiau diogelwch tân, ond ni fydd dyletswyddau eraill yn berthnasol, fel cofrestru diogelwch adeiladau.
Mae awdurdodau tân ac achub yn rheoleiddio diogelwch tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth eisoes. Bydd ein Bil ni'n darparu fframwaith a gafodd ei deilwra i sicrhau bod risgiau diogelwch tân yn cael eu hasesu a'u rheoli yn briodol yn y lleoliadau hynny. Bydd gan awdurdodau lleol swyddogaethau newydd o ran rheoleiddio, gan gynnwys cofrestru adeiladau a rheoleiddio risgiau diogelwch adeileddol. Fe wnaethom ni ymgysylltu yn helaeth gyda'r ddeubeth wrth ddatblygu ein cynigion ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud felly wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cyflwyniad y swyddogaethau newydd. Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw hefyd fy mod i'n sicrhau y bydd cyllid ar gael i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r paratoadau hyn.
Dirprwy Lywydd, nod y Bil hwn yw gwella diogelwch a llesiant pawb sy'n byw mewn adeiladau amlfeddiannaeth ledled Cymru. Mae'n dodi cyfrifoldebau cyfreithiol eglur ar berchnogion, yn rhoi hawliau a llwybrau newydd i breswylwyr godi eu pryderon, yn sefydlu safonau ar gyfer asesiadau proffesiynol, ac yn darparu pwerau cadarn i orfodi pan nad yw gofynion diogelwch yn cael eu bodloni, oherwydd mae'n rhaid i ddiogelwch a llesiant pobl yn eu cartrefi fod yn flaenoriaeth i ni bob amser.
Mae'r Bil hwn yn rhan o raglen fwy eang i sicrhau y bydd adeiladau yng Nghymru yn fwy diogel ac y bydd pobl yn ddiogel yn eu cartrefi. Mae'n rhaid i'r cof am Dŵr Grenfell ysgogi newid ystyrlon. Mae'n rhaid i ni sicrhau, er mwyn y rhai a gollodd eu bywydau, eu teuluoedd nhw a'r goroeswyr, na fydd trychineb o'r fath fyth yn digwydd yng Nghymru. Mae'r Bil yn rhan allweddol o raglen gynhwysfawr o ddiwygiadau, sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth glòs rhwng yr awdurdodau lleol, y gwasanaeth tân, y diwydiant a'r preswylwyr. Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith craffu ar y Bil gan yr Aelodau ac at barhau i wrando ar farn y rhanddeiliaid, y partneriaid cyflawni, a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Diolch hefyd am gymryd yr amser i gwrdd â mi cyn hyn heddiw. Rwy'n gwybod, i lawer o bobl yng Nghymru, fod hwn yn ddatganiad maen nhw wedi aros amdano ers tro. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, wyth mlynedd yn ôl fe fu farw 72 o bobl yn y tân yn Nhŵr Grenfell—trasiedi y gellid bod wedi'i hosgoi yn y pen draw ac a ddatgelodd fethiannau rheoleiddiol difrifol. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno ar yr angen am ddiwygio brys i atal unrhyw beth fel hyn rhag digwydd byth eto.
Rydyn ni'n cefnogi nodau'r Bil, yn enwedig o ran ymdrin â'r pryderon a godwyd gan y Fonesig Judith Hackitt ynghylch cydymffurfio a phwysigrwydd clywed lleisiau preswylwyr. Rhaid i'r egwyddorion hynny gael eu trosglwyddo i'r cyfnod meddiannu. Felly, mae hwn yn amlwg yn ddarn angenrheidiol a phwysig o ddeddfwriaeth ac rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i'w gael yn iawn yn ystod y broses graffu hon.
Un o nodweddion allweddol y Bil hwn yw y bydd awdurdodau lleol yn ymgymryd â rôl rheoleiddwyr diogelwch adeiladau yn ystod y cyfnod meddiannu. Mae hyn yn wyriad sylweddol o'r dull sy'n cael ei fabwysiadu yn Lloegr, lle mae rheoleiddio yn cael ei ganoli trwy reoleiddiwr diogelwch adeiladau cenedlaethol. O safbwynt llywodraeth leol, bydd pryder wrth gwrs am y baich ychwanegol y mae hyn wedyn yn ei roi ar ein cynghorau.
Mae cynghorau yng Nghymru, fel y gwyddoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, eisoes o dan bwysau ariannol aruthrol. Rydyn ni i gyd wedi gweld y penderfyniadau anodd sy'n cael eu gwneud yn lleol, o gynnydd yn y dreth gyngor i gau cyfleusterau cymunedol gwerthfawr. Bydd y dyletswyddau newydd hyn, yn ddi-au, yn ymestyn capasiti ymhellach. Felly, hoffwn i ofyn pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddewis model lleol yn hytrach na dull canolog. Oni fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i gynnal y gofrestr adeiladau'n ganolog, a chael un rheoleiddiwr cenedlaethol, yn hytrach na rhannu goruchwyliaeth ar draws 22 o awdurdodau lleol gwahanol?
Byddai system ganolog, wrth gwrs, hefyd yn helpu i osgoi'r gwrthdaro buddiannau lle mae cynghorau'n landlordiaid a rheoleiddwyr yr un adeiladau, a gallai leihau'r risg o loteri cod post, fel y gwnaethon ni ei drafod, mewn safonau diogelwch, gan na fydd pob cyngor yn gallu denu neu fforddio'r staff arbenigol sydd eu hangen i orfodi'r rheolau newydd hyn yn effeithiol. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa adnoddau neu gyllid ychwanegol fydd yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol? Gwnaethoch chi ddweud y bydd rhywfaint; byddai'n dda clywed faint yn union, os gwelwch yn dda, i sicrhau y gallan nhw gyflawni'r cyfrifoldebau newydd hyn.
O ran personau atebol, rydyn ni'n cydnabod bod cyfrifoldeb statudol sylweddol ynghlwm wrth y rôl hon, ond hoffwn i ofyn: a fydd yn ofynnol i'r unigolion hyn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant neu ardystiad ffurfiol neu, yn syml, a all unrhyw un gael ei enwebu? Mae'n bwysig nad yw hyn yn dod yn ymarfer papur, yn enw ar ffurflen. Mae angen atebolrwydd gwirioneddol arnon ni, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod personau atebol yn gymwys, nid dim ond wedi'u henwebu. Byddwn i hefyd yn gwerthfawrogi eglurder ynghylch pwy mae'r bobl hyn yn debygol o fod; ai'r preswylwyr, yr asiantau rheoli, y cymdeithasau tai, y datblygwyr neu'r awdurdodau lleol eu hunain fyddan nhw? Os ydyn ni eisiau sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, bydd angen i drigolion wybod yn union pwy sy'n gyfrifol a sut i uwchgyfeirio pryderon os bydd angen.
Yn olaf, o ran cwestiynau am lais y preswylydd, rydyn ni'n cefnogi'r egwyddor yn llawn, ond unwaith eto, mae angen i'r gweithredu fod yn gyson. Felly, sut y byddwch chi'n sicrhau bod gan drigolion ledled Cymru, Ysgrifennydd Cabinet, lwybrau clir, wedi'u safoni i godi pryderon a chael eu clywed, ni waeth pa adeilad neu awdurdod lleol maen nhw'n byw ynddo? Mae'r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn amser hir yn dod; mae'n rhaid iddi gael ei hariannu'n llawn gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Rhaid bod ganddi rym gwirioneddol, atebolrwydd gwirioneddol, a rhaid iddi ddarparu eglurder a symlrwydd i breswylwyr sydd wedi aros yn rhy hir am ddiogelwch ystyrlon. Diolch.
Diolch, Laura, a diolch am eich croeso i'r Bil pwysig hwn. Fel y dywedwch, mae hwn yn rhywbeth yr ydyn ni wedi bod yn aros amdano, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael hyn yn iawn mewn trafodaeth â'n holl bartneriaid dan sylw, gan gynnwys awdurdodau lleol ac, yn bwysig, preswylwyr hefyd. Rydyn ni'n gwybod y bydd y Bil pwysig hwn yn trawsnewid diogelwch mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru yn sylfaenol.
Dim ond i gyffwrdd â rhai o'r pwyntiau pwysig y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, yn sicr, rwy'n cydnabod y pwysau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Rwy'n siarad yn aml ag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru, ac rwyf eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i leihau'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu, a dyna pam yr ydyn ni'n dechrau'r drefn diogelwch adeiladau newydd yn raddol, a bydd gwneud hyn yn raddol yn sicrhau ein bod ni'n cael cyfnod pontio didrafferth lle mae gan awdurdodau lleol yr amser a'r lle hwnnw i gynllunio'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y drefn newydd.
Fel y dywedais i, rwy'n sicrhau bod cyllid ar gael oherwydd y pwysau ychwanegol y bydd y Bil yn ei roi ar awdurdodau lleol, ac yn enwedig oherwydd y swyddogaethau rheoleiddio newydd sy'n cael eu creu. Felly, rwy'n darparu £1.3 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol gyda hyfforddiant a phontio i'r drefn newydd, a byddwn ni hefyd yn gweithio gyda nhw wrth i ni graffu ar y Bil hwn a thu hwnt i ddeall y costau ar ôl pontio a'r gefnogaeth y gallwn ni ei rhoi i sicrhau bod y drefn newydd yn gweithredu'n effeithiol. Ond yn amlwg, mae awdurdodau lleol yn hollol allweddol i ni o ran hyn.
O ran atebolrwydd, fel yr ydych chi'n ei nodi'n briodol, mae hwnnw'n un o bwyntiau ac egwyddorion allweddol y Bil hwn, ac rwy'n credu ei fod yn sicr yn rhywbeth y gwelsom na wnaeth ddigwydd trwy Grenfell, pan wnaethon ni ddarganfod nad oedd preswylwyr yn cael eu clywed, nad oedd pobl yn gwrando arnyn nhw, a doedden nhw ddim yn gwybod at bwy i fynd, a phwy oedd yn atebol. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gwybod bod llawer gormod o amwysedd o ran pwy sy'n gyfrifoldeb am ddiogelwch adeiladau, felly mae'r Bil yn mynd i ymdrin â hyn trwy gyflwyno rolau deiliaid dyletswydd clir.
Bydd gan y deiliaid dyletswydd hyn gyfrifoldeb cyfreithiol am asesu a rheoli risgiau diogelwch adeiladau. Bydd yr union berson neu endid y nodir ei fod yn berson atebol yn amrywio yn dibynnu ar y berchnogaeth a'r model rheoli ar gyfer pob adeilad, ond fel arfer, bydden ni'n disgwyl i berchnogion adeiladau a landlordiaid, cymdeithasol a phreifat, gael eu nodi fel y personau atebol. Ond fel y gwyddom ni, gall perchnogaeth adeiladau fod yn gymhleth, ac mewn rhai adeiladau, gallai fod yn bosibl i rydd-ddeiliaid, deilliaid priflesoedd neu eraill fod yn bersonau atebol.
Rwy'n croesawu eich sylwadau heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ac eraill yn ystod taith y Bil hwn i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y Bil gorau posibl y gallwn ni ar ôl y craffu hwn.
Dwi’n croesawu cyhoeddi’r Bil hirddisgwyliedig yma heddiw, a hynny wyth mlynedd ers trychineb Grenfell, lle collodd 72 o bobl eu bywydau, 18 ohonyn nhw’n blant. Dwi’n gwybod byddwn ni am gofio’r gefnlen ofnadwy honno drwy gydol taith y Bil hwn drwy’r Senedd. Mae’n berffaith briodol bod gennym ni Fil wedi’i wneud yng Nghymru ar gyfer natur penodol y stoc tai yng Nghymru, ond, wrth gwrs, ddylen ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. Fe ddaru Grenfell ddangos canlyniadau ofnadwy, canlyniadau sy’n gallu deillio i bobl ddiniwed yn sgil diwylliant o dorri corneli o ran diogelwch ac o ddyrchafu elw ar draul gwerth bywydau pobl, o breifateiddio a dadreoleiddio, ac o agwedd ddi-hid at drigolion tai cymdeithasol ar ran yr union awdurdodau sydd i fod yn gwarchod eu buddiannau nhw.
Dwi’n ymwybodol bod yna waith wedi bod yn digwydd ers peth amser ar y Bil fel rhan o’r rhaglen diogelwch adeiladau oedd yn rhan o’r cytundeb cydweithio. Fy mlaenoriaeth i yn y cyfnod cychwynnol yna oedd gwthio i sicrhau bod yr agwedd atgyweirio o’r rhaglen yn digwydd mor gyflym â phosib. Ac, a dweud y gwir, yr un ydy fy nghri i heddiw. Yn mis Mawrth 2023, fe gyhoeddwyd ar lawr y Senedd fod yr ymrwymiad datblygwyr wedi cael ei lofnodi gan rai o’r datblygwyr mwyaf ac y byddai Llywodraeth Cymru yn gorfodi’r fargen a darodd y Llywodraeth efo’r datblygwyr ar ran y bobl a’u gwarchod rhag gorfod mynd i gyfraith. Ond, mae’n rhaid gofyn a ydy’r safbwynt yma’n parhau i fod yn un cynaliadwy, o ystyried, er enghraifft, fod trigolion Doc Fictoria yng Nghaernarfon yn fy etholaeth i yn dal i aros am eglurder y bydd cwmni Watkin Jones yn gwneud y gwaith angenrheidiol. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth ydy’r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, er bod y contract wedi cael ei lofnodi bron i flwyddyn yn ôl.
Felly, pryd fydd y Llywodraeth yn gorfodi’r cytundebau yma, ac a allwch chi gynnig sicrwydd na fydd y Bil yn tynnu sylw eich adran chi oddi wrth y momentwm efo’r gwaith atgyweirio? Ni fydd y Bil yma, fel y mae o, ddim yn cynnig llawer o gysur i’r rheini fel trigolion Doc Fictoria a sawl un arall, ac os na fydd y Llywodraeth yn gorfodi yn effeithiol, ydy’r amser wedi dod am ddarpariaeth yn y Bil, darpariaeth mewn deddfwriaeth i alluogi preswylwyr i herio’r datblygwyr yn uniongyrchol os ydy’r Llywodraeth yn methu yn ei gwaith efo hynny i gyd?
Roedd sôn am y costau, ac ar yr olwg gyntaf, mae’r rhaniad costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn ymddangos ychydig bach yn chwithig, o ystyried bod prif faich y gwaith gweithredol o weinyddu’r gyfundrefn newydd yn debygol o syrthio ar yr awdurdodau lleol a’r gwasanaeth tân ac achub. Mae’r RIA yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn ysgwyddo £25 miliwn o gost dros 10 mlynedd, y diwydiant—beth bynnag ydy diffiniad hynny—dros £130 miliwn a'r cynghorau sir a'r gwasanaethau tân ac achub oddeutu £8 miliwn. Sut ydym ni'n mynd i sicrhau i'r dyfodol nad ydy'r costau yma ar ran y diwydiant yn cael eu pasio ymlaen i breswylwyr? Byddai hynny'n annerbyniol, yn enwedig efo prisiau rhent fel y maen nhw ac ystyried mai bwrdwn y Bil ydy dal y datblygwyr yn gyfrifol.
Jest i orffen, un cwestiwn pellach ynglyn â’r mater yma o'r corff cenedlaethol. Dwi’n gweld eich bod chi wedi diystyru'r posibilrwydd o greu un corff cenedlaethol i fod yn gyfrifol am arwain ar y drefn newydd. Ond mae'n rhaid cwestiynu a oes digon o eglurder ar wyneb y Bil ynglŷn â phwy fydd yn gwneud y gwaith, ac efallai fod gormod yn cael ei adael i’r rheoliadau.
Mae sôn yn y memorandwm esboniadol am y posibilrwydd o greu un neu ddau gyngor yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol ar ran y lleill. Ond onid ydy hynny, i bob pwrpas, gyfystyr â chael trefn genedlaethol mewn enw arall? Ac os felly, pam ddim creu corff pwrpasol? Ychydig o gwestiynau cychwynnol yn fanna. Bydd cyfle i graffu ar y Bil, a dwi'n edrych ymlaen at y cyfnod nesaf. Diolch.
Diolch, Siân. Diolch am y cwestiynau hynny ac am eich croeso i'r Bil a'r gwaith y gwnaethoch chi gyda'r cytundeb cydweithio i baratoi ar gyfer hyn i gyd. Felly, fel y gwyddoch chi, mae wedi bod ar y gweill am gyfnod hir ac mae llawer o bethau wedi bod yn digwydd o fewn hyn. Felly, rwy'n siŵr eich bod chi mor falch â fi i weld hwn yma heddiw.
Rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn ac yn braf iawn gweld eich bod chi wedi sôn am y ffaith bod hwn wedi cael ei wneud yng Nghymru, a bod y rhan hon o'r ddeddfwriaeth—. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried y sefyllfa yma yng Nghymru. Mae natur adeiladau o'i chymharu â Lloegr yn wahanol iawn. Rydyn ni'n gwybod bod yna adeiladau llawer talach, 18m ac uwch, yn Lloegr o gymharu â Chymru. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar ein sefyllfa ein hunain yma. Rydych chi'n gwbl gywir, ddylen ni ddim llaesu dwylo. Mae llawer i'w wneud. Ond rydyn ni wedi bod yn gwneud y gwaith hwnnw drwyddi draw, mewn gwirionedd, yn dilyn trasiedi Grenfell. Fel y dywedais i, mae'n rhaid iddo fod yn newid ystyrlon, a dyna pam mae'r rhan hon o'r Bil, yn enwedig, yn edrych ar gam meddiannu'r adeiladau hefyd, felly edrych ar yr hyn sy'n digwydd yno a gwneud yn siŵr ein bod ni'n diogelu pobl yn y ffordd honno.
Felly, unwaith eto, yn dilyn ymlaen o ymchwiliad Grenfell, fel y dywedais i, rydyn ni'n derbyn canfyddiadau'r ymchwiliad yn llawn ac rydyn ni wedi derbyn, o leiaf mewn egwyddor, yr holl argymhellion hynny. Mae adroddiad cam 2 yr ymchwiliad yn berthnasol i Gymru, ac mae ein hymateb yn disgrifio'r camau yr ydyn ni'n mynd i fod yn eu cymryd i roi'r argymhellion ar waith. Fel y dywedaf, mae llawer o hynny ar y gweill.
Felly, o ran rhai o'r pwyntiau eraill a godwyd gennych, a chan nodi'r mater yn ymwneud ag awdurdodau lleol efallai—. Hefyd, rwy'n nodi bod Laura wedi codi'r mater hwnnw hefyd. Rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn bwysig cydnabod, unwaith eto, y cryfder o fewn awdurdodau lleol, o ran y ffaith mai nhw yw'r corff. Unwaith eto, rydw i wedi dweud y byddwn i'n bwriadu i hynny fod yn un neu ddau—gweithio rhwng un a dau. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei ddatblygu o hyd drwy'r broses hon hefyd, ond byddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ar hynny hefyd, wrth i ni fynd trwy'r broses hon. Rwy'n credu ei fod yn cyd-fynd orau gyda nhw heb greu corff penodol.
O ran y pwyntiau eraill a godwyd gennych, yr wyf yn ceisio edrych arnyn nhw nawr—. O ran y costau hefyd, rydyn ni'n gwybod bod costau ynghlwm wrth wneud hyn. Fel y dywedais i, rydw i wedi cyhoeddi'r £1.3 miliwn nawr i weithio gydag awdurdodau lleol, o ran yr hyfforddiant y bydd ei angen arnyn nhw a rhywfaint o'r gwaith paratoi arall ar ei gyfer. Rydyn ni'n gwybod yn amlwg bod yna gost ynghlwm wrth hynny ac, unwaith eto, byddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi bod cost ynghlwm wrth beidio â gwneud hyn. Rydyn ni'n gwybod beth oedd cost Grenfell—rydyn ni'n siarad yn ariannol, ond nid lleiaf, y gost ddynol—o beidio â gwneud dim. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hollol glir ein bod ni'n cydnabod hynny yn y pwyntiau hefyd, oherwydd mae'n hollol hanfodol ein bod ni'n diogelu pobl. Rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn sicr yn mynd y ffordd honno, fel bod pobl yn ddiogel ac yn sicr yn teimlo'n ddiogel, sy'n hanfodol.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad yn cyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog sydd, wrth wraidd ei hymateb, yn ymrwymiad i roi preswylwyr yn gyntaf. Dylai preswylwyr gael eu rhoi yn gyntaf bob amser. Wel, fel y dywedodd y Gweinidog, mae trasiedi Tŵr Grenfell yn atgof ingol a dinistriol o bwysigrwydd a rheidrwydd cael diogelwch adeiladau'n gywir i ni yn y Senedd. Mae'n achos ofn bob dydd i'r rhai sy'n byw mewn adeiladau uchel. Dychmygwch ofni, bob nos, pan fyddwch chi'n mynd i'r gwely, Tŵr Grenfell arall lle rydych chi'n byw.
Rydyn ni'n gwybod bod canfyddiadau cynhwysfawr ymchwiliad Tŵr Grenfell wedi nodi'r methiannau systematig ar draws diwydiant, llywodraethu a rheoleiddio a gyfrannodd at y drasiedi hon, lle y cafodd elw ei ystyried yn bwysicach na diogelwch. Mae fy etholwyr sy'n byw yn Altamar wedi bod yn trafod gyda Bellway ers sawl blwyddyn. Pryd y gallan nhw ddisgwyl i'r gwaith adfer sydd angen ei wneud ar eu hadeilad gael ei gwblhau?
Diolch, Mike. Diolch am y pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi, eich croeso i'r Bil a'r gydnabyddiaeth bod pobl yn teimlo'r ofn hwnnw. Rwy'n credu, unwaith eto, mai elfen allweddol y Bil hwn yw gwneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel yn eu hadeiladau. Rwyf hefyd yn cydnabod pwynt yr ydych chi wedi'i wneud, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi'i godi sawl gwaith. Rwyf hefyd yn cofio un o bwyntiau Siân yn ei sylwadau hi hefyd; fe ychwanega' i at hynny yn yr ymateb hwn, os yw hynny'n iawn. Rwy'n cyfarfod â datblygwyr yn rheolaidd, oherwydd mae'n bwysig iawn bod y Bil hwn yn ymwneud, unwaith eto, â'r cyfnod meddiannu, yn hytrach na'r rhan gyweirio'r Bil. Rydyn ni wedi bod yn gwneud y gwaith hwnnw. Mae hwnnw wedi bod yn mynd rhagddo, fel y gwyddoch chi. Ac fe wnes i gwrdd â'r datblygwyr ddiwethaf ar 9 Mehefin. Yn y cyfarfod hwnnw, roeddwn i'n glir iawn fy mod i'n disgwyl i'r datblygwyr gyflawni eu cyfrifoldebau a chyflymu cyweirio. Mae rhai arwyddion cadarnhaol bod cynnydd yn gwella, gyda chryn dipyn o waith cyweirio eisoes ar y gweill. Ond mewn ymateb i set o ddisgwyliadau, rwyf hefyd wedi cael ymrwymiad gan yr holl ddatblygwr sydd wedi llofnodi contract Llywodraeth Cymru y bydd gwaith ar eu holl ddatblygiadau yng Nghymru wedi dechrau o leiaf erbyn diwedd 2026.
Rwy'n pryderu am nifer y lesddeiliaid sy'n cysylltu â fy swyddogion yn mynegi rhwystredigaeth oherwydd eu bod yn cael eu cadw yn y tywyllwch, ac rwyf eisiau rhoi ar gofnod, eto, bod hyn yn annerbyniol. Mae pob un o'r datblygwyr wedi cael cyfarwyddyd i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu manwl i sicrhau bod preswylwyr a lesddeiliaid yn cael yr wybodaeth lawn ar bob cam. Mae fy swyddogion yn ymwneud yn agos â'r cynnydd mewn llawer o ddatblygiadau ledled Cymru, a byddwn i'n annog Aelodau i gysylltu â mi neu fy swyddogion os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddatblygiadau penodol.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Mae'n rhwystredig iawn ein bod ni yma, wyth mlynedd yn ddiweddarach. Mae llawer o grwpiau ac unigolion yma yng Nghymru yn teimlo mor siomedig—grwpiau fel y Welsh Cladiators, sydd wedi ffurfio'u hunain ac wedi cymryd llawer o amser a llawer o'u hadnoddau eu hunain i godi'r materion yr ydyn ni, erbyn hyn, yn dechrau gweld yn cael eu datrys. Maen nhw wedi dweud wrthyn ni am batrolau i warchod preswylwyr sydd wedi costio miloedd bob mis, cynnydd syfrdanol mewn premiymau yswiriant, rhai yn gwerthu eu cartrefi am golled enfawr. Er bod y Bil hwn yn gwneud rhywbeth i'r grŵp presennol, nid yw'n adlewyrchu'r hyn sydd wedi digwydd i'r bobl sydd wedi dioddef yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Mae'n anodd deall sut y gall Llywodraeth Cymru ddod o hyd i werth £20 miliwn mewn benthyciadau di-log i'r union ddatblygwyr a achosodd yr argyfwng hwn, ond methu â rhoi cefnogaeth gyfatebol i'w dioddefwyr. Mae'n hanfodol bod ein system reoleiddio'n cael ei diwygio, wrth gwrs, ond nid yw hynny'n ddigon. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, sut y byddwch chi'n ymrwymo i sicrhau bod y Bil hwn yn rhoi cefnogaeth wirioneddol i ddioddefwyr presennol, nid dim ond amddiffyniadau yn y dyfodol, a bod hynny o fewn fframwaith cyfreithiol a statudol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch Jane, a diolch am godi'r materion pwysig hynny. Fel y dywedais i, mae'r Bil hwn ar wahân i'r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud ar gyweirio. Felly, mae hyn yn ymwneud â'r cyfnod meddiannu. Byddwch chi'n gwybod ein bod ni wedi bwrw ymlaen â'r rheoliadau a ymddangosodd yn Neddf 2022, Deddf Llywodraeth y DU, o ran adeiladwaith yr adeiladau. Dyma ein hymateb i feddiannaeth yr adeilad. Fel y dywedais i, mae ein gwaith cyweirio yn mynd rhagddo. Rwyf wedi nodi fy mod i'n cyfarfod â'r datblygwyr hynny yn rheolaidd ac rwy'n eu hannog i weithredu'n gyflymach yn gyson. Hoffwn weld mwy o gyflymder yn y system, ac rwy'n gwybod y byddech chi hefyd, ac rwy'n gwybod bod eraill, fel y Cladiators ac eraill, eisiau gweld hynny hefyd.
Ond o ran y gwaith yr ydyn ni'n ei wneud, sydd eto, rwy'n credu, ar wahân i'r Bil hwn, rydyn ni'n monitro'n agos gynnydd y gwaith cyweirio hwnnw gan ddatblygwyr sydd wedi llofnodi contract Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod bod maint a chwmpas ein rhaglen yn wahanol iawn i'r hyn sydd ar waith yn Lloegr. Nid yw'n bosibl cymharu sut yr ydyn ni yng Nghymru â Lloegr. Yng Nghymru, mae ein rhaglen gyweirio'n mabwysiadu dull adeilad cyfan o ymdrin â diogelwch tân ac nid yw'n canolbwyntio ar gladin yn unig. Am y rheswm hwnnw, mae ein ffigurau'n cynnwys cyweirio ar gyfer materion diogelwch tân mewnol ac allanol. Nodir bod adeiladau'n gyflawn pan fydd y gwaith cyweirio diogelwch tân mewnol ac allanol wedi'i gwblhau, ac am y rheswm hwn, mae'n amlwg nad oes modd cymharu'r data sy'n cael ei gyhoeddi gan wledydd eraill yn uniongyrchol.
Ond rydyn ni'n gweithio'n agos. Mae gennym ni grŵp lesddeiliaid sefydledig hefyd, ac mae grŵp rhanddeiliaid yr ydyn ni wedi'i sefydlu mewn ymateb i rai o'r pryderon y mae'r Cladiators wedi'u codi. Mae gennym ni'r grŵp hwn y gall pob lesddeiliaid ei fynychu, ac rwy'n gwybod bod hynny wedi cael croeso mawr hefyd, ond gallaf eich sicrhau bod y rhan gyweirio yn mynd ochr yn ochr â hyn. Rydyn ni'n gwybod bod mwy i'w wneud o hyd.
Ac yn olaf, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwyf hefyd, fel pawb arall, yn croesawu'r Bil hwn, ond fel cyfranwyr eraill rydw i hefyd yn mynd i sôn am gyweirio adeiladau presennol yn boenus o araf. Siaradais â chwpl yr wythnos diwethaf sy'n byw rownd y gornel yn Victoria Wharf. Maen nhw yn eu 80au hwyr. Ar eu datblygiad nhw, fydd y gwaith ddim yn dechrau tan 2027 a bydd yn ddwy i dair blynedd o aflonyddwch o hynny ymlaen. Byddan nhw yn eu 90au cyn i'r gwaith gael ei gwblhau.
Dim ond tri datblygiad sector preifat sydd wedi'u cwblhau. Byddwch chi'n gwybod o'r fforymau lesddeiliaid bod pobl yn teimlo'n rhwystredig iawn. Maen nhw'n credu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddal traed y datblygwyr i'r tân. Dydyn nhw ddim yn gweld diwedd ar eu sefyllfa ac maen nhw'n meddwl y gallai Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy. Felly, sut fyddwch chi'n cyflymu cyflymder datblygiad? Sut fyddwch chi'n defnyddio eich dylanwad i amddiffyn lesddeiliaid rhag cwmnïau rhyngwladol, mawr gyda phocedi dwfn? Rwy'n derbyn gohebiaeth reolaidd, ac rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, am ffioedd gwasanaeth uchel. Allwch chi sicrhau na fydd darpariaethau'r Bil hwn yn arwain at gynnydd mewn costau i lesddeiliaid? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys, a diolch am godi'r pryderon rydych chi'n eu codi ar ran eich etholwyr hefyd. O ran y rhaglen sydd gennym, mae ein rhaglen diogelwch adeiladau, fel y dywedais i, yn gwneud cynnydd ac rwy'n deall bod mwy i'w wneud. Gallaf eich sicrhau fy mod wedi bod yn glir iawn gyda'r datblygwyr hynny hefyd, fel yr wyf yn rheolaidd, fy mod yn disgwyl i'r gwaith fynd yn ei flaen cyn gynted â phosibl.
Ar hyn o bryd mae 461 o adeiladau yn y rhaglen. O'r rhain, mae 43 y cant naill ai wedi'u cwblhau neu mae'r gwaith ar y gweill, mae 47 y cant o'r adeiladau yn y camau cynllunio ac, o ran y 10 y cant sy'n weddill, does dim angen gwaith neu mae'r anghenion cyweirio eto i'w nodi. Felly, rydym wedi gosod targed ymestynnol i'r holl ddatblygwyr i sicrhau bod gwaith cyweirio yn cael ei ddechrau, fel y dywedaf, ar eu holl ddatblygiadau erbyn diwedd 2026 fan bellaf. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn parhau i'w gwthio ar hynny yn fy nghyfarfodydd rheolaidd, gan wneud popeth y gallaf i wneud i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl.
Hoffwn hefyd eich sicrhau bod fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â datblygwyr a lesddeiliaid. Mae gennym ddau grŵp gwahanol nawr ac ymgysylltir â nhw yn rheolaidd, yn sicr yn wythnosol os nad weithiau'n ddyddiol ar rai o'r materion hyn, oherwydd rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hynny. Pan fydd rhwystrau wedi'u nodi, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn ar y manylion ac maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu i gael gwared ar y rhwystrau fel bod y gwaith yn gallu dechrau cyn gynted â phosibl.
Ein hegwyddor yw lle gellir nodi datblygwr a'i fod yn gallu fforddio cyweirio'r adeiladau, dylai wneud hynny. Lle nad oes datblygwr wedi'i nodi, bydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i ariannu'r gwaith hwnnw. Byddwch chi hefyd yn gwybod am yr ymgynghoriad yr ydym wedi'i lansio ar y cyd â Llywodraeth y DU ar ddiwygio lesddaliadau. Lansiwyd hwnnw ddydd Gwener ac mae'n agored, rwy'n credu, tan fis Medi, felly rwy'n siŵr y byddwch chi ac eraill yma eisiau annog eich etholwyr i wneud yn siŵr bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar yr hyn a fydd yn gyfle pwysig i ddiwygio lesddaliadau yr wyf i'n credu y byddai llawer o Aelodau yn y fan yma yn dweud bod angen mawr amdano.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 sydd nesaf, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM8947 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf ddod â Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ger eich bron chi heddiw. Mae'r Gorchymyn cynnal etholiadau yn ddarn anarferol o fawr o is-ddeddfwriaeth, sy'n adlewyrchu ei arwyddocâd fel offeryn sylfaenol ar gyfer etholiadau i'r Senedd hon. Mae'n manylu ar y gweithdrefnau ar gyfer etholiadau'r Senedd, sut mae'r etholiadau i'w rheoli, a sut mae ymgeiswyr annibynnol yn rheoli ac yn adrodd am eu gweithgareddau ymgyrch etholiadol. Mae hefyd yn amlinellu'r broses ar gyfer heriau cyfreithiol i etholiad.
Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli'r Gorchymyn presennol, a wnaed yn wreiddiol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 2007. Mae'r Gorchymyn hwnnw bellach yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi dod yn fwyfwy cymhleth ac sy'n anodd ei ddilyn ac nad yw bellach yn addas i'r diben. Dyma'r tro cyntaf ers i'r pwerau deddfwriaethol gael eu datganoli i'r Gorchymyn gael ei ailddrafftio fel un offeryn. Mae'r Gorchymyn a ystyrir heddiw yn fwy cryno ac yn defnyddio terminoleg addas a modern. Yn bwysig iawn, mae'r Gorchymyn yn cael ei gyflwyno'n ddwyieithog am y tro cyntaf, sy'n golygu bod y rheolau ar gyfer yr etholiadau i'n Senedd yn cael eu hysgrifennu yn nwy iaith ein cenedl am y tro cyntaf.
Mae ein hegwyddorion diwygio etholiadol o hygyrchedd, tegwch, gwella profiad dinasyddion, cyfranogiad, symlrwydd ac uniondeb wedi bod ar flaen y gad yn y gwaith o atgyfnerthu a moderneiddio'r Gorchymyn. Bydd ei gynnwys a'i strwythur yn gyfarwydd i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r ddeddfwriaeth ddiwygio hanesyddol ar ffurf Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen, ond rydym wedi bod yn ymwybodol o gyflymder y newid a gallu gweinyddwyr etholiadol ac felly nid ydym wedi ceisio mynd i'r afael â phob mater ar yr un pryd gyda'r Gorchymyn hwn. Mae hyn yn arbennig o amlwg lle rydym wedi ailystyried gweithredu gweithdrefnau cywiro datganiad pleidlais drwy'r post, a oedd yn y Gorchymyn drafft a gyhoeddwyd gennym y llynedd. Yn ein hymgynghoriad, clywsom bryderon am yr effaith bosibl y byddai hyn yn ei chael ar dimau etholiadol, ac felly rydym wedi tynnu'r gweithdrefnau o'r Gorchymyn hwn. Mae'r Gorchymyn yn cefnogi cysondeb mewn deddfwriaeth etholiadol, ac mae'r rheolau etholiadol eu hunain yn cyd-fynd cyn belled â phosibl â'r rheolau ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru. Rydym wedi gwrando ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a diwygio'r Gorchymyn ymhellach lle bo hynny'n bosibl, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod gennym Orchymyn ymarferol a hygyrch nawr.
Mae'r Gorchymyn yn cael ei ystyried nawr er mwyn caniatáu digon o amser i'r etholiad i'r Senedd ddiwygiedig gael ei baratoi'n iawn, gan gynnwys cynhyrchu canllawiau, hyfforddiant gweinyddol a meithrin ymwybyddiaeth y cyhoedd. Byddai oedi i'r ddeddfwriaeth hon yn bygwth cyflwyno etholiadau'r Senedd. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadol a'r bwrdd rheoli etholiadol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a rhanddeiliaid allweddol eraill i weithredu'r ddeddfwriaeth hanesyddol hon ac i sicrhau bod etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf yn cael eu cynnal mor effeithlon â phosibl. Ar y nodyn hwnnw, hoffwn fynegi fy niolch i'r rhanddeiliaid a'r timau etholiadol am eu gwaith caled a'u gostyngeiddrwydd parhaus, ac am eu hymrwymiad trwy gydol y prosiect o ail-wneud y Gorchymyn hwn. Maen nhw'n hanfodol ar gyfer gweithrediad democratiaeth.
Mae'r Gorchymyn hwn wedi bod yn destun cryn graffu, a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Biliau Diwygio am ystyried Gorchymyn drafft yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cafodd barn y pwyllgor ei hystyried yn y Gorchymyn a gaiff ei ystyried heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r ddeddfwriaeth hon. Rwyf wedi ymateb i'w hadroddiad defnyddiol, ac wedi nodi'r diwygiadau a fydd yn cael eu gwneud yn y Gorchymyn mewn ymateb i'r pwyntiau adrodd hynny cyn iddo gael ei wneud yn ffurfiol. Gallaf roi sicrwydd i'r Senedd fod yr holl ddiwygiadau a fydd yn cael eu gwneud yn fân eu natur ac nad ydynt yn newid ystyr nac effaith gyfreithiol y darpariaethau sy'n cael eu diwygio. Edrychaf ymlaen at farn yr Aelodau.
Nawr, fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol, nid yw fy mhlaid yn cefnogi ehangu'r Senedd. Er nad yw'r Gorchymyn hwn yn ymwneud yn benodol â pholisi ehangu'r Senedd, ond yn hytrach yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau i'r Senedd yn dilyn Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, o ystyried ein hamheuon ynglŷn â'r Gorchymyn, byddwn yn ymatal ar y Gorchymyn y prynhawn yma. Nawr, mae gennym bryderon am y Gorchymyn ei hun a sut mae wedi'i ddrafftio, ac rydym hefyd yn rhannu'r pryderon a godwyd gan sefydliadau fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith craffu ar y Gorchymyn hwn. Mae ei aelodau wedi bod yn barod iawn i fynegi nad yw hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi'i ddrafftio yn arbennig o dda, ac rwy'n credu eu bod wedi gwneud y pwynt hwnnw'n glir i Lywodraeth Cymru. Mae'n dweud llawer pan fydd yr Aelod dros Flaenau Gwent yn dweud nad yw hwn yn ddarn da o waith gan Lywodraeth Cymru a bod gennym hawl i ddisgwyl gwell. Wel, ar yr ochr hon i'r Siambr, rydym yn cytuno.
Mae'r pwyllgor wedi mynegi pryder am y nifer uchel o ddiffygion drafftio a'r anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Er fy mod yn cydnabod bod hwn yn Orchymyn sylweddol, nid yw hynny'n esgusodi nifer y problemau drafftio, a byddech yn gobeithio y byddai proses wirio Llywodraeth Cymru ei hun wedi bod yn ddigon trwyadl i nodi'r problemau hyn.
Rwyf hefyd yn rhannu pryder y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynglŷn â chynnig Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r broses gywiro. Rwy'n deall bod y Llywodraeth yn credu bod y cywiriadau yn fach, ac nid wyf yn dadlau hynny, ond mae'r ffaith yn parhau bod cywiro mwy nag 20 o wallau mewn offeryn ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd, fel y mae'r pwyllgor yn dweud yn gywir, yn ddefnydd afresymol ac amhriodol o'r broses gywiro.
Hoffwn hefyd dynnu sylw at rai o'r materion a godwyd yn ystod gwaith craffu gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a thrwy'r broses ymgynghori. Yn gyntaf, gwnaeth y Pwyllgor Biliau Diwygio bedwar argymhelliad mewn perthynas â'r Gorchymyn, a derbyniwyd pob un ohonynt neu, yn wir, eu derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Roedd dau argymhelliad yn ymwneud â'r mater o seddi gwag. Roedd gan y pwyllgor bryderon ynghylch a yw cyfnod o 21 diwrnod yn rhoi digon o amser i ddarpar Aelod ddychwelyd i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol rhag ofn nad oedd wedi'i gofrestru ar yr adeg pan ddaeth y sedd yn wag. Gallai cyfnod gras 21 diwrnod fod yn broblem i rai unigolion. Er bod hwn yn fater arbenigol iawn, mae'n un difrifol, a allai, os na chaiff ei ddatrys yn iawn, achosi tarfu sylweddol ar y broses ar gyfer llenwi seddi gwag y Senedd. Nawr, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hi'n glir bod gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwn, felly gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi diweddariad mewn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau codi'r galwadau a wnaed gan RNIB Cymru. Maen nhw'n annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Gorchymyn i roi dyletswydd gyfreithiol ar swyddogion canlyniadau i ddarparu dyfeisiau pleidleisio sain a chyffyrddol ym mhob gorsaf bleidleisio. Rwy'n deall, yn gynharach eleni, bod Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag RNIB Cymru a gwasanaethau etholiadol awdurdodau lleol, wedi cynnal cyfres o dreialon pleidleisio gydag unigolion dall a'r rhai sy'n gweld yn rhannol i brofi ystod o atebion pleidleisio sain a chyffyrddol. Mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain: pleidleisiodd 94 y cant o'r cyfranogwyr yn llwyddiannus dros eu dewis arfaethedig, roedd 83 y cant yn gallu pleidleisio'n annibynnol, a 91 y cant yn gallu pleidleisio yn gyfrinachol. Mewn cyferbyniad, yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, lle nad oedd dyfeisiau o'r fath ar gael yn gyffredinol, dim ond 26 y cant o bleidleiswyr dall adroddodd eu bod yn gallu pleidleisio'n annibynnol ac, yn wir, yn gyfrinachol. Nid wyf yn credu bod RNIB Cymru yn gofyn am ormod, ac rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i sicrhau bod atebion pleidleisio sain a chyffyrddol effeithiol ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio yn etholiadau Cymru yn y dyfodol, fel y gall pobl ddall a'r rhai sy'n gweld yn rhannol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, yn y dyfodol.
Felly, Dirprwy Lywydd, yng ngoleuni'r materion hyn, fel y dywedais i ar y dechrau, byddwn yn ymatal ar y Gorchymyn hwn y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Rwy'n ymddiheuro i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike.
Mae'n ddrwg gennyf, Mike, fe wnes i eich gadael ar ôl. Rwy'n galw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Gorchymyn cynnal etholiadau drafft am y tro cyntaf ar 2 Mehefin, gan arwain at gyfnewid gohebiaeth gyda'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae hyn oherwydd bod adroddiad y pwyllgor ar y Gorchymyn drafft yn cynnwys 42 o wallau adrodd. Mae tri deg chwech o'r rhain yn bwyntiau technegol. O'r 36 hynny, mae 14 pwynt adrodd yn nodi anghysondebau rhwng testunau Cymraeg a Saesneg yn y Gorchymyn. Rwy'n cael trafferth beio'r Gweinidog am hyn—nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog wirio bod y testunau Cymraeg a Saesneg yr un peth. Yr hyn rwy'n ei ddisgwyl yw rhywfaint o gymhwysedd ymhlith gweision sifil yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd. Tynnodd chwe phwynt adrodd sylw at ddrafftio diffygiol posibl. Roedd yna hefyd un broblem gydag iaith rywedd-benodol yn cael ei defnyddio yn y Gorchymyn.
Ysgrifennodd y pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet ar 4 Mehefin. Gan gydnabod bod y Gorchymyn cynnal etholiadau yn fawr, dywedodd y pwyllgor wrth yr Ysgrifennydd Cabinet fod nifer y materion drafftio a allai fod yn ddiffygiol ac achosion lle nad yw'r Gymraeg a'r Saesneg yn cyfateb yn peri pryder. Gofynnodd y pwyllgor am eglurder ar y broses sydd wedi arwain at osod y Gorchymyn cynnal etholiadau gerbron y Senedd yn cynnwys y gwallau a'r anghysondebau a nodwyd gennym. Gofynnom i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a oedd yn parhau i fod yn fwriad ganddi i geisio cymeradwyaeth i'r Gorchymyn cynnal etholiadau yn ei ffurf bresennol. Ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar 12 Mehefin, gan roi ymateb i'r pwyntiau yn ein hadroddiad. Roedd hi hefyd yn cynnwys tabl sy'n bedair tudalen o hyd, yn nodi cywiriadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud i'r Gorchymyn pe bai'r Senedd yn ei gymeradwyo y prynhawn yma ac felly'n cael ei lofnodi'n gyfraith.
Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd y byddai'r Senedd yn cael cais i ystyried y Gorchymyn fel y'i gosodwyd heddiw. Nid oedd y pwyllgor yn fodlon â'r ymateb hwn. Ar 18 Mehefin, ysgrifennodd y pwyllgor eto, gan fynegi pryder nid yn unig bod problemau sylweddol gyda'r Gorchymyn, ond bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu mynd i'r afael â mwy nag 20 pwynt a godwyd yn ein hadroddiad trwy'r broses gywiro cyn gwneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymrwymiad i'r Senedd o'r blaen y byddai cywiriadau yn cael eu gwneud i offeryn ar ôl ei gymeradwyo gan y Senedd a chyn iddo gael ei lofnodi'n gyfraith gan Weinidog Cymru dim ond pan fo'r gwall dan sylw yn fach iawn. Er y gall pob gwall a nodwyd gan y pwyllgor y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu ei gywiro cyn gwneud fod yn fân, mae'r pwyllgor o'r farn bod cywiro mwy nag 20 o wallau mewn offeryn ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd yn ddefnydd afresymol ac amhriodol o'r broses gywiro cyn gwneud.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi herio datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet nad yw'n credu bod unrhyw un o'r materion a adroddwyd arnynt gan y pwyllgor yn arwain at unrhyw faterion sy'n peryglu uniondeb cyffredinol y Gorchymyn. Mae hwn yn asesiad gwahanol ynghylch a ystyrir bod yr offeryn a oedd yn destun craffu a chymeradwyo gan y Senedd wedi'i newid yn sylweddol cyn cael ei lofnodi'n gyfraith. Fe wnaethom hefyd roi gwybod i'r Ysgrifennydd Cabinet am ein pryder na fydd rhai o gywiriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r gwallau a'r materion a nodwyd yn adroddiad y pwyllgor.
Fe wnaethom ystyried ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n hail lythyr brynhawn ddoe. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Gorchymyn wedi mynd trwy broses wirio drylwyr—a gaf i ddweud bod gan y gair 'trylwyr' a ddefnyddir gan yr Ysgrifennydd Cabinet a'r gair 'trylwyr' fel y'i defnyddiwyd gennyf i ystyron ychydig yn wahanol—ond mae natur helaeth a chymhleth y Gorchymyn yn golygu bod yna bob amser y potensial ar gyfer camgymeriad dynol. O ran pryder y pwyllgor ynglŷn â'r defnydd o'r broses gywiro cyn gwneud, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn fodlon nad yw defnyddio'r broses gywiro yn yr achos hwn yn afresymol nac yn amhriodol. Roedd y pwyllgor eto yn rhwystredig ac yn bryderus am yr ymateb a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Cabinet brynhawn ddoe ar ran y pwyllgor. Mae'r holl ohebiaeth rhwng y pwyllgor a'r Ysgrifennydd Cabinet ar gael drwy'r agenda heddiw, gan fod y pwyllgor o'r farn y dylai pob Aelod o'r Senedd fod yn ymwybodol o'r materion hyn. Diolch.
Mae'r Gorchymyn yma, wrth gwrs, yn adlewyrchu pennod newydd yn hanes y Senedd, wrth i seilwaith ein democratiaeth ddod i oed, o'r diwedd, dros chwarter canrif ers i Gymru gychwyn ar ei thaith ddatganoli. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith y bydd y Gorchymyn, am y tro cyntaf, yn cael ei ddarparu yn ddwyieithog, cam pwysig ymlaen i gryfhau statws yr iaith Gymraeg yng nghyd-destun yr etholiad.
Fodd bynnag, mae gennym nifer o bryderon bod gan y Gorchmynion hyn rai diffygion ymarferol difrifol, yn ogystal â hepgoriadau amlwg, a byddwn yn ymatal y prynhawn yma. Bydd fy nghyd-Aelod Adam Price yn siarad am y mater penodol o ddichell fwriadol, ond rydym yn siomedig nad yw'r Gorchymyn yn gwarantu bod cofrestru awtomatig yn cael ei gyflwyno'n gyffredinol ar gyfer etholiad 2026, yn unol ag ymrwymiadau blaenorol a wnaed gan y Llywodraeth. Mae gennyf bryderon hefyd, sydd wedi'u codi gan Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynglŷn â diffygion y broses wirio ar gyfer y Gorchmynion hyn.
Mae'n eithaf damniol, ar drothwy'r ddadl hon, ar fater o'r fath arwyddocâd â'r trefniadau ar gyfer ein cyfres nesaf o etholiadau cenedlaethol, bod gennym bwyllgor Senedd yn cyflwyno gohebiaeth ysgrifenedig yn mynegi ei farn bod drafftio'r Gorchymyn wedi cael ei gamdrafod mor wael, er gwaethaf rhybuddion blaenorol dro ar ôl tro. Mae'n amlygu methiant brawychus peiriannau mwyaf sylfaenol y Llywodraeth. Felly, pam y mae hwn wedi mynd o'i le yn sylweddol, ac a fyddwch chi'n ymrwymo i adolygiad brys o unrhyw system wirio gyfredol?
Yn olaf, gan ddychwelyd at y thema gyfathrebu y soniais amdani ar ddechrau'r cyfraniad, byddwch yn ymwybodol bod pobl fel y Comisiwn Etholiadol wedi pwysleisio'r angen am ymgyrch gyfathrebu gadarn a chynhwysfawr, ymhell cyn yr etholiad nesaf, i sicrhau bod pleidleiswyr yn gwbl ymwybodol o'r newidiadau sydd ar ddod i'r system etholiadol. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf felly am fwriad Llywodraeth Cymru yn y maes hwn? Ac a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno strategaeth allgymorth cyhoeddus erbyn chwe mis cyn yr etholiad nesaf, ar yr hwyraf, er mwyn caniatáu amser i'r Senedd gael elfen o graffu? Diolch yn fawr.
Mae'r Gorchymyn cynnal etholiadau hwn yn rhan o'r jig-so i wneud ein hetholiadau'r Senedd yn 2026 yn llawer mwy agored a llawer tecach. Byddwn yn cytuno â chais Paul Davies ynglŷn â'r RNIB, gan fynnu bod angen i ni weld bod cryn dipyn o hyn yn anwahaniaethol mewn gwirionedd. Ac rydym wedi cael tystiolaeth, yn enwedig y pwyllgorau rydw i wedi eistedd arnynt, bod hyn yn wahaniaethol i bobl ddall. Felly, hoffwn glywed yr ymateb penodol hwnnw, os gallaf, Ysgrifennydd Cabinet.
Ond rwyf am grybwyll mater y mae llawer ohonom yma yn y Senedd yn teimlo ei fod yn bwysig, yn enwedig wrth i ni fynd at etholiad 2026, sef mater dichell fwriadol. Rydym ni'n mynd i wynebu etholiad yn 2026 a fydd yn cynnwys ystod eang o bleidiau, a rhai o'r rhai rydym ni'n eu hadnabod, nid yn unig o reidrwydd aelodau, ond o bosibl ymgeiswyr, lle bydd pryderon ynglŷn â'r hyn y maen nhw wedi'i ddweud. Nid yw hyn yn ymwneud â'n hymrwymiad etholiadol i ddemocratiaeth yn unig, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod y cyhoedd yn gweld, yma yng Nghymru, ein bod wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â dichell fwriadol. Y sefyllfa o ran y cyhoedd yw ein bod mewn cyfnod lle mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddion ar ei lefel isaf erioed. Felly, er nad yw'r Gorchymyn hwn yn cynnwys yr elfen o ddichell fwriadol, ac rwy'n gwybod bod hynny'n dod yn y Bil Atebolrwydd Aelodau, byddwn yn gofyn i chi, yn benodol, a allech roi ar gofnod bod ymrwymiad i edrych i weld a ydym yn gallu cyflwyno dichell fwriadol yn 2026, bod Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried unrhyw fodd fel y gallwn gael y mecanwaith ar waith i sicrhau y bydd dichell fwriadol yn dod i rym, yn barod ar gyfer etholiadau 2026. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf i ddechrau trwy ymddiheuro i'r Cadeirydd ac i'r Ysgrifennydd Cabinet, ac i'r Siambr, am fod yn hwyr ar gyfer dechrau'r ddadl hon? Ond hoffwn roi sylw i'r sylwadau olaf yna gan Jane Dodds, mewn gwirionedd, a'n hatgoffa o'r cysylltiad rhwng yr hyn yr ydym yn ei drafod heddiw, sef y Gorchymyn cynnal etholiadau sy'n cyflwyno, trwy is-reoliadau, y troseddau etholiadol presennol, ac ati, a'r ffaith y byddwn ni, yn fuan iawn, yn trafod darn newydd o ddeddfwriaeth sylfaenol a fydd yn creu trosedd etholiadol newydd o ddichell fwriadol. Pwrpas gwneud hynny nawr yw ei chael yn ei lle erbyn etholiad 2026. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud hynny a throsi hynny'n Orchmynion cynnal etholiadau ar gyfer etholiadau yn y dyfodol. Ond os yw'r egwyddor wedi cael ei derbyn, mae'n bwysig ei bod yn cael ei gweithredu nawr, oherwydd dyma'r etholiad nesaf pan fyddwn ni'n wynebu, fel yr oedd Jane Dodds yn ei awgrymu mewn gwirionedd, tswnami o dwyllwybodaeth ac ystryw. Felly, mae angen i ni ddefnyddio'r mesur hwn yr ydym yn mynd i ddeddfu i'w greu ac mae angen i ni wedyn droi hynny'n weithredol yn yr etholiad Senedd sydd i ddod.
Cawsom sgwrs ddefnyddiol iawn gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar yr union fater hwn, am sut, yn ymarferol, o ystyried ein bod yn agosáu at etholiad y Senedd, y gallwn drosi'r ddeddfwriaeth sylfaenol i Orchymyn cynnal etholiadau diwygiedig. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi hynny ar y cofnod nawr, fel bod yr Aelodau, ac yn wir y cyhoedd, yn ymwybodol o hyn. A lle gadawsom y sgwrs adeiladol iawn a gawsom gyda'r Cwnsler Cyffredinol oedd nad yw'r Llywodraeth ar hyn o bryd yn argyhoeddedig bod llwybr trwodd, ond os ydym yn gallu dangos llwybr sy'n ymarferol, yna mae'r Llywodraeth yn gefnogol. Roedd y Cwnsler Cyffredinol yn gefnogol i hynny, felly roedd hynny, rwy'n credu, yn ymrwymiad cadarnhaol ac adeiladol iawn.
Ac o'n safbwynt ni, ni allwch ohirio amddiffyn democratiaeth. Mae angen amddiffyn democratiaeth y funud yma. Felly, rydym yn gobeithio y byddwn yn trafod Gorchymyn cynnal etholiadau diwygiedig ar yr adeg briodol, ar ôl pasio'r ddeddfwriaeth sylfaenol, fel ein bod wedyn yn gallu sicrhau o ran yr hyn yr ydym ni a'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'w wneud ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, y byddwn hefyd yn gallu ymgorffori'r safon honno wrth wraidd yr etholiad sydd i ddod trwy ddiwygiad i'r Gorchymyn cynnal etholiadau yn y dyfodol.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac, unwaith eto, i'r Pwyllgor Biliau Diwygio a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth drylwyr o'r ddeddfwriaeth hon.
Rwy'n gwybod ei fod wedi'i godi gan nifer o Aelodau, priodoldeb gwneud diwygiadau i'r Gorchymyn cyn iddo gael ei wneud. Dydw i ddim yn derbyn bod nifer y gwelliannau yn sylweddol, dim ond o ystyried maint y Gorchymyn. Dim ond i atgoffa pawb, mae dros 400 o dudalennau o hyd yn y ddwy iaith, a bron i 270,000 o eiriau yn y ddwy iaith. A gallaf sicrhau Aelodau bod y Gorchymyn wedi mynd trwy broses o ymgynghori a gwirio. Oherwydd natur helaeth a chymhleth y Gorchymyn, yn anffodus mae yna bob amser y potensial ar gyfer camgymeriad dynol. Ond gallaf sicrhau Aelodau bod ystyriaeth ofalus a manwl wedi'i rhoi i'r holl bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac rwy'n fodlon bod defnyddio'r broses gywiro yn yr achos hwn yn briodol.
Fel yr wyf wedi nodi, mae'r holl ddiwygiadau i'r Gorchymyn cyn iddo gael ei wneud yn fân iawn eu natur. Nid ydynt yn newid ystyr nac effaith gyfreithiol unrhyw un o'r darpariaethau sy'n cael eu diwygio, a hyd yn oed yn ei gyfanrwydd, ni fyddai effaith y diwygiadau yn newid y Gorchymyn yn sylweddol. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio, pe na bai'r diwygiadau hyn yn cael eu gwneud, ni fyddai'r Gorchymyn fel y mae yn ddiffygiol a byddai'n gwbl weithredol. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â'r gwelliannau a nodwyd cyn i'r Gorchymyn gael ei wneud i sicrhau uniondeb yr iaith Gymraeg, i sicrhau bod niwtraliaeth rhywedd yn cael ei gynnal ac i sicrhau bod y Gorchymyn mor hygyrch â phosibl i ddarllenwyr. Unwaith eto, mae'n bwysig iawn nodi mai dyma'r tro cyntaf i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud yn gwbl ddwyieithog, ac roedd hwn ynddo'i hun yn ymgymeriad sylweddol, ond yn amlwg yn angenrheidiol, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny.
O ran y pwyntiau pwysig iawn eraill a wnaed gan yr Aelodau, yn enwedig ynglŷn â hygyrchedd, yn amlwg rwy'n cefnogi cynlluniau treialu'r papur pleidleisio yn fawr, ac roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn un o'r treialon hynny, yng Nghaerdydd. Ac mewn partneriaeth â'r RNIB ac awdurdodau lleol, fe wnaethom dreialu, gyda phobl ddall a'r rhai sy'n gweld yn rhannol, gwahanol atebion pleidleisio sain a chyffyrddol. Fe wnaethom ddefnyddio papur pleidleisio ffug, yn seiliedig ar y papur pleidleisio rhanbarthol cyfredol, ac er na wnaethom brofi'r papur pleidleisio fel y mae'n ymddangos yn y Gorchymyn, gan fod hwn yn dal i fod allan ar gyfer ymgynghoriad, rhoddodd gipolwg i ni ar sut y gallai pleidleiswyr dall a'r rhai sy'n gweld yn rhannol barhau i lywio drwy bapur pleidleisio hir, gan gynnwys pob un o restrau ymgeiswyr y pedair plaid. Cyhoeddais adroddiad yn amlinellu canfyddiadau'r treialon hyn ar 12 Mai. A dim ond i fod yn glir i Aelodau, er bod y papur pleidleisio sampl a gynhwysir yn y Gorchymyn yn cynnwys ymgeisydd pob plaid mewn un golofn, mae'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i'r swyddog canlyniadau benderfynu faint o golofnau y dylent eu defnyddio wrth ei gyflwyno, a bydd hyn yn caniatáu ar gyfer papurau pleidleisio sy'n debyg i'r rhai rhanbarthol presennol. Ond rwyf wedi ymrwymo'n llawn i sicrhau hygyrchedd o fewn yr etholiad.
O ran y pwyntiau pwysig a wnaed mewn perthynas â'r cyfarfod a ddigwyddodd gyda'r Cwnsler Cyffredinol, gwn fod y Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau yn y datganiad deddfwriaethol ym mis Ebrill y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno Bil sy'n ymwneud ag atebolrwydd Aelodau'r Senedd, yn dilyn cyhoeddi'r ddau adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar adalw a dichell, a byddwn yn cyflwyno Bil. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei datganiad, bydd gan y Bil ddwy brif nodwedd: darpariaethau adalw a darpariaethau atebolrwydd Aelodau. Ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni hyn mewn amserlen dynn iawn ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo.
[Anghlywadwy.] A fyddech chi'n caniatáu i ni roi ar y cofnod y byddai'r ddeddfwriaeth honno, rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi'i gadarnhau, hefyd yn berthnasol i ymgeiswyr, nid i Aelodau yn unig?
Gallwn yn sicr ysgrifennu atoch yn dilyn hynny oherwydd, yn amlwg, nid oeddwn i—. Mae'n dda rhoi hynny, efallai, ar gofnod yn y ffordd honno. Ond fel y dywedais i, rydym wedi ymrwymo'n gryf i gyflawni hyn mewn amserlen dynn iawn, ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n ar hynny. Gwn fod hyn yn peri pryder arbennig i lawer o Aelodau yn y Senedd.
Soniodd rhywun pa mor agos ydym ni at etholiadau'r Senedd. Mae'r amser yn hedfan, mewn gwirionedd. Mae'n prysur agosáu, yr etholiad, rwy'n meddwl llai na 10 mis nawr. Rydym yn gwybod bod llawer o waith i'w wneud, ond i fod yn glir, fe fyddai risg sylweddol i etholiadau 2026 heb y Gorchymyn hwn, felly byddwn yn annog pob Aelod i gefnogi hwn heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 5 sydd nesaf. Y ddadl ar gyllideb atodol gyntaf 2025-26 yw hon, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg sy'n gwneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM8934 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 17 Mehefin 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Llywydd, pleser yw agor y ddadl yma ar gyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Fel sy'n arferol ar gyfer cyllidebau atodol, mae'n cysoni addasiadau i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i ddatganiad y gwanwyn a phrif amcangyfrifon 2025-26 Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys cynlluniau gwariant a chyllido ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r cyrff sy'n cael eu cyllid yn uniongyrchol gan gronfa gyfunol Cymru. Dyma'r cyfle cyntaf i gyflwyno'r cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol ers i'r gyllideb derfynol gael ei phasio ym mis Mawrth.
Llywydd, mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn cynnwys cyfanswm cynnydd o £587 miliwn i derfyn gwariant adrannol Cymru, y mae £342 miliwn ohono yn refeniw. Daw cant wyth deg wyth miliwn o bunnau ar gyfer cyllidebau nad ydynt yn rhai arian parod, £16 miliwn ar gyfer cyfalaf cyffredinol a gostyngiad bach o dan £200,000 i'r gyllideb trafodiadau ariannol. Ochr yn ochr â'r ochr incwm, mae'r gyllideb atodol hefyd yn rheoleiddio cynlluniau gwariant.
Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn cynnwys dwy eitem o bwys arbennig. Yn gyntaf, mae'n cadarnhau dyrannu cyfanswm pecyn o £220 miliwn o refeniw i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg bellach, yn sgil y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol. Rwyf wedi trosglwyddo'r £185 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU yn llawn. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod hyn yn llai na'r £257 miliwn sydd ei angen ar gyflogwyr datganoledig y sector cyhoeddus yng Nghymru i gwrdd ag effaith costau cynyddol. Mae'r gyllideb atodol hon felly hefyd yn dangos y £36 miliwn ychwanegol o gronfeydd wrth gefn i gyfrannu 50 y cant tuag at y bwlch sy'n wynebu'r cyflogwyr hynny. Bydd cyfanswm y pecyn cymorth hwn yn ariannu 85 y cant o'r costau ychwanegol a adroddir gan gyflogwyr y sector cyhoeddus. Rwy'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu'n llawn cost y cyfraniadau yswiriant gwladol ychwanegol yng Nghymru.
Llywydd, yr ail eitem gwariant o arwyddocâd yw trosglwyddo £100 miliwn i'r prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y cyllid newydd yn cefnogi'r GIG i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma i leihau'r arosiadau hiraf am driniaeth wedi'i chynllunio. Mae'r cynllun adfer gofal arfaethedig newydd, y cytunwyd arno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn nodi ein huchelgeisiau i sicrhau bod 200,000 o bobl yn llai ar y rhestr aros er mwyn dileu'r holl arosiadau dwy flynedd, ac i adfer yr amseroedd aros diagnostig i lai nag wyth wythnos erbyn mis Mawrth 2026. Rwy'n cydnabod yr ymdrechion enfawr sy'n cael eu gwneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r rhai yn y GIG ehangach, i gyflawni'r cynlluniau hyn, ac, wrth gwrs, fel Ysgrifennydd dros gyllid, rwy'n rhannu ei ddisgwyliad bod yn rhaid i'r cyllid hwn gyflawni gwelliannau diriaethol.
Mae trosglwyddiadau eraill llai a wneir drwy'r gyllideb atodol gyntaf hon mewn perthynas â chyllid penodol a dderbyniwyd oddi wrth Lywodraeth y DU yn cynnwys newidiadau sydd i'w gweld yn y prif grwpiau gwariant sydd ar gael i fy nghyd-Ysgrifenyddion yn y Cabinet sy'n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, yr economi, ynni a chynllunio, addysg a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'r gyllideb hefyd yn rheoleiddio trosglwyddiadau cymeradwy o fewn a rhwng portffolios gweinidogol Llywodraeth Cymru i alinio adnoddau â chyflawni ein blaenoriaethau, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol.
Wrth ddod â'r gyllideb atodol ger bron y Senedd, rwyf wedi tynnu £40 miliwn o gronfa wrth gefn Cymru i gefnogi ein cynlluniau gwariant. Mae'r arian sy'n weddill yng nghronfa Cymru yn ddigonol, rwy'n credu, i reoli pwysau sy'n dod i'r amlwg yn ystod gweddill y flwyddyn hon. Fel sy'n arferol, byddaf yn cyflwyno ail gyllideb atodol yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd unrhyw ddyraniadau pellach o gronfeydd wrth gefn yn cael eu rheoleiddio yn yr ail gyllideb atodol honno, a fydd hefyd yn cynnwys manylion am unrhyw ganlyniadau pellach i Gymru, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, sy'n codi o ganlyniad i newidiadau i wariant adrannol Llywodraeth y DU.
Llywydd, mae'r gyllideb atodol gyntaf yn rhan reolaidd ond pwysig o'n proses flynyddol ar gyfer y gyllideb. Mae'n rhoi sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn sicrhau bod Aelodau a phwyllgorau'r Senedd, wrth graffu, yn cael gweld yn glir y newidiadau i benderfyniadau'r Llywodraeth o ran incwm a gwariant. Diolch, wrth gwrs, i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb yn llawn, a diolch am yr adroddiad. Byddaf i yn ymateb yn fanwl i'r argymhellion maes o law, ond gallaf i ddweud heddiw dwi'n siŵr y gallwn ni dderbyn nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad. A allaf i ofyn i'r Aelodau gefnogi y gyllideb o flaen y Senedd y prynhawn yma?
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Cabinet Secretary am ymateb i'r adroddiad gennym ni fanna. Mae'n bleser gen i siarad y prynhawn yma ar ran y Pwyllgor Cyllid. Bu’r pwyllgor yn craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 26 Mehefin, a hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet a’i swyddogion am fod yn bresennol. Mae ein hadroddiad yn gwneud wyth o argymhellion ac yn dod i un casgliad. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet eisoes wedi nodi bod y newidiadau yn y gyllideb atodol hon i raddau helaeth yn cysoni penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru cyn canlyniadau adolygiad o wariant y Deyrnas Unedig, a gyhoeddwyd ar 11 Mehefin.
Fodd bynnag, fe wnaethom ddod o hyd i feysydd lle gellid gwneud gwelliannau a lle mae angen camau pellach. Yn gyntaf, rydym yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddarparu dadansoddiad o'r cyllid canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn mewn gohebiaeth ar ôl gosod y gyllideb atodol. Rydym wedi galw am y lefel hon o dryloywder ers amser maith ac yn ei chael yn arbennig o ddefnyddiol yn ein gwaith craffu ar y gyllideb. Cymaint felly fel yr hoffem i'r wybodaeth hon gael ei darparu cyn gynted â phosibl ar ôl pob digwyddiad cyllidol yn y DU o hyn ymlaen, yn ogystal â'i hymgorffori yn nodiadau esboniadol cyllidebau atodol yn y dyfodol.
Wrth droi at faterion penodol, rydym yn rhannu siom yr Ysgrifennydd Cabinet bod y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU i ddigolledu sefydliadau'r sector cyhoeddus yn sgil y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol tua £72 miliwn yn llai na'r amcangyfrifon a ddarparwyd gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi derbyn gohebiaeth sylweddol ar y mater hwn ers datganiad yr hydref y llynedd, ac rydym yn bryderus iawn am yr effaith ariannol y mae hyn yn ei chael ar sefydliadau ledled Cymru. Mae hyn yn siomedig iawn, o ystyried nad yw Llywodraeth y DU yn darparu'r un lefel o gymorth i wasanaethau sector cyhoeddus Cymru ag a ddarperir yn Lloegr.
Mae'r pwyllgor yn arbennig o bryderus na fydd unrhyw iawndal yn cael ei ddarparu i ddarparwyr trydydd sector na gwasanaethau a gomisiynwyd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effaith y diffyg cyllid hwn ar y cyrff hynny, gan eu bod yn aml yn darparu gwasanaethau ar ran neu yn lle asiantaethau'r sector cyhoeddus fel y GIG ac awdurdodau lleol. Er gwaethaf hyn, rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i lenwi'r diffyg cyllid yn y gyllideb hon. Rydym hefyd yn cefnogi'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymdrechion i sicrhau cyllid llawn ar gyfer y diffyg hwn yn y flwyddyn ariannol hon ac i ddatblygu cynllun cynaliadwy i reoli costau cylchol heb ddibynnu ar gronfeydd wrth gefn yn y blynyddoedd ariannol yn y dyfodol.
Mae'r sefyllfa hon hefyd yn dangos bod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys EF yn aml yn cael ei thanseilio gan ddiffyg mecanweithiau datrys anghydfodau cadarn. Mae'n aml yn rhoi Llywodraeth Cymru dan anfantais, yn enwedig gan fod y sefyllfa bresennol yn cynnwys y Trysorlys yn gwneud y penderfyniadau ar ddehongli rheolau ac ymchwilio i heriau i'r penderfyniadau hyn. Rydym wedi argymell gweithredu yn y maes hwn o'r blaen fel rhan o'n hymchwiliad i gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol, ac mae'r pwyllgor unwaith eto yn cefnogi system fwy cytbwys o ddatrys anghydfodau i fynd i'r afael â hyn.
O ran dyraniadau penodol yn y gyllideb atodol, rydym yn nodi'r cyllid o £100 miliwn a ddarparwyd i leihau amseroedd aros. Rydym yn nodi'r sicrwydd a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Cabinet bod y trefniadau goruchwylio o fewn y Llywodraeth ynghylch y cyllid ychwanegol hwn yn gadarn ac yn arwain at y canlyniadau a ddymunir. Serch hynny, o ystyried pryderon parhaus y pwyllgor mewn perthynas â chynhyrchiant yn y gwasanaeth iechyd, mae'r pwyllgor eisiau gweld mwy o dystiolaeth o sut mae dyraniadau Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â chanlyniadau, ac wedi cynnwys argymhelliad i'r perwyl hwn.
I gloi, Llywydd, hoffwn drafod hyblygrwydd cyllidebol. Er gwaethaf rhai datblygiadau diweddar sydd i'w croesawu, yn enwedig mewn perthynas â chaniatáu i Lywodraeth Cymru gael mynediad llwyr i gronfa wrth gefn Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, roedd yn siomedig clywed nad oedd unrhyw newidiadau pellach yn y maes hwn yn dilyn yr adolygiad o wariant.
O ystyried ein cefnogaeth flaenorol ar gyfer cynyddu'r terfynau ar fenthyca a'r arian a gaiff ei dynnu i lawr yn unol â chwyddiant drwy gydol y Senedd hon, byddai'n hynod siomedig pe na bai unrhyw gynnydd yn cael ei wneud ar y materion hyn cyn diwedd y Senedd hon. Rydym felly'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i barhau i fynd ar drywydd y materion hyn.
Fel bob amser, rydym yn croesawu ymdrechion parhaus yr Ysgrifennydd Cabinet i ymgysylltu â ni fel rhan o'r gwaith craffu ar y gyllideb, ac rydym yn gofyn bod gwaith ar y meysydd yr ydym wedi'u nodi yn ein hadroddiad yn cael ei ddatblygu ymhellach. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am agor y ddadl hon heddiw. Rwyf hefyd yn cydnabod bod yr hyn sy'n cael ei gyflwyno i ni yn elfen broses o swyddogaeth y gyllideb atodol. Y rheswm pam ei bod yn cael ei chyflwyno i ni yn y fformat hwn heddiw, fel y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yw cydnabod ei bod yn broses gymodi er mwyn y gyllideb fel y mae heddiw. Dyna pam y byddwn ni fel grŵp yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron yma heddiw.
Hoffwn gymryd fy amser i ganolbwyntio ar yr elfen fwyaf arwyddocaol o'r gyllideb atodol, sef effaith cyfraniad yswiriant gwladol ar gyllideb y Llywodraeth ac effaith ehangach hynny, o ran ein heconomi a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach.
Wrth gwrs, ar gyfer cyd-destun, yn ôl Llywodraethwr Banc Lloegr, mae'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, fel maen nhw'n ei ddisgrifio, yn cyfrannu at arafu yn y farchnad swyddi gyda galw llafur is a dirywiad sylweddol mewn twf cyflog, sy'n gyd-destun pwysig i'r Llywodraeth hon ei ystyried. Wrth gwrs, mae hynny'n berthnasol ledled y Deyrnas Unedig, ond gwyddom yma yng Nghymru y bydd yn cael effaith arbennig o negyddol oherwydd y pecynnau cyflog is sydd yma. Felly, mae'r effaith gymharol ar gyflogwyr yn mynd i fod ac yn profi i fod yn sylweddol. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r posibilrwydd o godiadau treth yn y dyfodol, o bosibl hyd yn oed yn yr hydref, sy'n sicr yn risg i rai busnesau yma yng Nghymru.
Yr hyn y mae hyn yn ei olygu i gyllideb Llywodraeth Cymru, fel yr ydym wedi'i weld yn cael ei gyflwyno i ni heddiw, yw bod £185 miliwn yn cael ei dalu gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r cynnydd yn y codiadau yswiriant gwladol hynny i'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Fel yr ydym wedi clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud o'r blaen, mae hyn yn sylweddol llai na'r hyn sydd ei angen i alluogi'r Ysgrifennydd Cabinet i ariannu'n llawn y cynnydd hwnnw yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn benodol ar gyfer cyflogwyr y sector cyhoeddus. Gwyddom mai £257 miliwn yw'r gost.
Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng y cyflogwyr sector cyhoeddus hynny yng Nghymru a'r darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd gwyddom na fydd unrhyw gynnydd mewn cyllid penodol neu wedi'i neilltuo i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, boed yn elusennau, sy'n darparu llawer iawn o waith gwasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru, a gomisiynir yn aml, wrth gwrs, gan gyrff cyhoeddus, ond hefyd i'r busnesau hynny, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, sy'n darparu llawer iawn o waith gwasanaeth cyhoeddus. Nid ydynt yn mynd i deimlo'r budd yn uniongyrchol o ganlyniad i'r cyllid hwnnw ar gyfer y cynnydd mewn yswiriant gwladol.
Gwyddom y rheswm am hynny, a phob clod i'r Ysgrifennydd Cabinet am godi hyn ar sawl achlysur ac am ei waith parhaus yn y maes hwn. Gwyddom fod cost lawn y cyfraniadau yswiriant gwladol uwch hynny wedi cael ei thalu gan Lywodraeth San Steffan. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru, oherwydd y ffordd y mae fformiwla Barnett wedi'i threfnu. Felly, rwy'n rhoi clod i Ysgrifennydd y Cabinet am ymrwymo i ymgyrchu a gwthio am y lefelau pellach o yswiriant gwladol i ddod trwodd. Ond, yn y cyfamser, yr hyn sydd wedi'i greu yw rhywfaint o ansicrwydd i gyrff cyhoeddus ac i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, ac mae risg go iawn yma yn y ffordd y cafodd y bwlch ei lenwi.
Gallaf werthfawrogi rhywfaint o'r tensiwn y bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet weithio drwyddo ar hyn. Mae'r ffaith bod cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio i lenwi rhywfaint o'r bwlch cyllido hwn yn risg wirioneddol ar gyfer y dyfodol, oherwydd, wrth gwrs, dim ond unwaith y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn, ac mae'r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn bwysau cost cylchol. Glaniodd enghraifft fyw o'r hyn y mae'r ansicrwydd hwnnw'n ei olygu a'r pwysau ychwanegol y mae'n ei roi ar sefydliadau ar fy nesg yn ddiweddar. Er enghraifft, mae'r colegau addysg bellach wedi amlinellu i mi y pwysau ychwanegol gyda dyletswyddau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i godi y tu hwnt i £2.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol yr ydym ynddi, ac ni fydd y pwysau hynny'n cael eu bodloni o ganlyniad i'r cyllid hwn yn dod trwodd.
Ymddiheuriadau os oedd y cyfan yn swnio'n braidd yn hirwyntog, Llywydd, ond mae pryder gwirioneddol, yn fwy eang, nad aethpwyd ati'n ddigonol i wneud iawn am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Rwy'n cydnabod gwaith yr Ysgrifennydd Cabinet ar hyn, ond ar hyn o bryd nid yw'n ddigon, ac mae risg wirioneddol wrth ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i lenwi'r bwlch hwnnw. Felly, efallai yn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r ddadl, os yw'n gallu rhoi sicrwydd a phendantrwydd ynghylch sut y bydd y mater penodol hwn yn cael ei reoli yn y dyfodol a sut mae'n rhagweld rhai o'r cyfleoedd yno, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch yn fawr iawn.
Gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am agor y ddadl heddiw? Dwi'n meddwl bod yna gonsensws ar draws y Siambr hon o ran yswiriant gwladol. Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei godi mor gyson. Gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eich gwaith ac am yr adroddiad? Dwi'n meddwl bod yr argymhellion yn rhai sydd yn gwneud synnwyr, yn rhai pwysig dros ben, ac yn sicr byddwn i yn hoffi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddech chi'n sôn eich bod chi yn derbyn yr argymhellion, ond yn benodol argymhelliad 6, o ran mesur effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ar y trydydd sector a gwasanaethau a gomisiynir, er mwyn ddeall effaith hirdymor y diffyg hwn. Byddwn i yn hoffi gwybod ydy hynny'n fwriad, ydy hynny'n rhywbeth rydych chi'n ymrwymo iddo fo, oherwydd dwi'n meddwl ei fod o yn argymhelliad allweddol gan y Pwyllgor Cyllid.
Mae o'n rhywbeth, wrth gwrs, rydych wedi sôn yn glir iawn amdano, eich rhwystredigaeth chi ein bod ni heb gael y cyfanswm angenrheidiol, o ran y £257 miliwn, yn llawn, a hefyd, wrth gwrs, yr effaith fydd hyn yn ei chael ar bob cyllideb yn y dyfodol oherwydd y diffyg a'r bwlch hwnnw. Dwi yn meddwl mai dyna oedd y penderfyniad iawn—i fod yn defnyddio'r gronfa wrth gefn er mwyn mynd i'r afael efo’r her honno, oherwydd rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n sefyllfa heriol dros ben. Ond byddwn i yn hoffi deall hefyd a oes yna unrhyw gefnogaeth wedi'i roi i rai o'r cyrff sydd wedi eu noddi gan Lywodraeth Cymru. Maen nhw'n amlwg—. O ran y diffiniad o 'sector cyhoeddus', mi oedd hwnna yn rhywbeth roedden ni'n pwyso yn daer arnoch chi pan ddaeth y cyhoeddiad allan yn sgil cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond er mwyn deall beth ydy'r effaith ar draws yr holl ystod o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ati, fyddwn i yn gwerthfawrogi eglurder o ran hynny.
Yn amlwg, un o'r argymhellion eraill gan y pwyllgor ydy o ran y fframwaith cyllidol a'r rhwystredigaeth bod hynny chwaith ddim wedi symud ymlaen. Oes yna unrhyw ddiweddariadau dŷch chi'n gallu eu rhoi i'r Senedd hon heddiw?
Ond yn fwy na dim, dwi'n meddwl mai'r hyn dŷn ni i gyd eisiau gweld yn digwydd ydy, o ran yswiriant gwladol, fod yn rhaid cael datrysiad o ran hyn. Mae yna gymaint o sefydliadau trydydd sector ac elusennau yn parhau i gysylltu i sôn am ddifrifoldeb y sefyllfa yn y flwyddyn ariannol hon, ond wedyn yn ofni, pan ddaw hi i 1 Ebrill flwyddyn nesaf, na fyddan nhw'n gallu parhau. A dŷn ni'n gwybod pa mor allweddol ydy cymaint o'r sefydliadau trydydd sector ac elusennau hyn, o ran bod yn gwneud rhai o'r pethau pwysig mae Llywodraeth Cymru eisiau iddyn nhw fod yn eu gwneud, er mwyn cefnogi'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ni—rheini sydd hefyd yn mynd i'w cael eu heffeithio, wrth gwrs, o'r newidiadau system lles gan y Deyrnas Unedig.
Felly, dwi'n gwybod ein bod ni i gyd yn swnio ac yn gofyn yr un cwestiwn o ran hyn, ond dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n bosib gorbwysleisio faint o bryder ydy hyn ledled Cymru. Felly, gyda'r cwestiynau hynny, mi wnaf i adael fy nghyfraniad efo hynny. Ond mi fyddwn i yn hoffi eglurder ar y materion dwi wedi eu codi. Diolch.
Nid yw'r gyllideb atodol gyntaf yn ddigwyddiad ariannol mawr, ond mae'n un bwysig. Mae'r newidiadau yn y gyllideb atodol yn fach iawn. Mae'n codeiddio i bob pwrpas benderfyniadau Llywodraeth Cymru a wnaed cyn canlyniad adolygiad gwariant y DU a gyhoeddwyd ym mis Mehefin. Mae'r gyllideb atodol yn adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers cyllideb derfynol 2025-26, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror ac a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth. Mae'n rheoleiddio dyraniadau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios, ac mae'n cynnwys addasiadau i gyllideb Cymru i adlewyrchu effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU. Yn gyffredinol, mae'r gyllideb yn dangos cynnydd yn yr arian a ddyrannwyd i adrannau Llywodraeth Cymru.
Ar ôl gwrando ar y ddadl, rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn cael anhawster mawr i ddeall bod mwy o arian yn mynd i adrannau Llywodraeth Cymru, ac mae mwy o arian yn dod i Gymru—llawer mwy na'r 2.5 y cant o gyfraniadau yswiriant gwladol. Cynyddodd y sylfaen adnoddau anghyllidol £188.2 miliwn—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Yn sicr.
A allwch chi esbonio, felly, pam y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd o fynd i mewn i gronfeydd wrth gefn Cymru er mwyn gwneud iawn am y diffyg hwnnw?
Gallaf, ond gall ef hefyd wneud hynny. Mae oherwydd nad oedd eisiau tynnu arian oddi ar yr adrannau gwario. Nid oedd eisiau cymryd arian allan o iechyd. Roedd yn blaenoriaethu iechyd; roedd yr arian eisoes wedi'i wario ar iechyd. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn esbonio hyn yn fwy manwl.
Balans yr adnoddau anghyllidol heb eu dyrannu a gedwir yn dilyn y gyllideb atodol yw £339.7 miliwn. Nid arian y gellir ei ddyrannu a'i wario yw hwn, ond confensiwn cyfrifeg. Yn dilyn cwestiwn gennyf yn y Pwyllgor Cyllid, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet mewn tystiolaeth nad yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar faint o refeniw neu gyfalaf sydd ar gael i ni at ddibenion gwario. Pe bai'r gronfa benthyciadau myfyrwyr yn cael ei rhedeg gan unrhyw un heblaw am y Llywodraeth, byddai'n cael ei hystyried yn gynllun Ponzi. Ar ryw adeg, mae'n mynd i fod yn fethdalwr yn dechnegol—os nad yw'n fethdalwr yn dechnegol eisoes—ond mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ei danysgrifio yn golygu ei fod yn parhau.
Nid oes unrhyw newidiadau i'r incwm treth datganoledig, gyda rhagolygon yn adlewyrchu'r rhai a gyhoeddwyd ar adeg y gyllideb derfynol. Fodd bynnag, mae'r swm sydd ei angen i ad-dalu prif fenthyca wedi gostwng, gan gynyddu swm y cyllid sydd ar gael £2.5 miliwn. Mae lefel y benthyca yn parhau fel yr oedd yn y gyllideb derfynol, ar £150 miliwn, ond eto, efallai na fydd y cyfan yn cael ei ddefnyddio. Nid oes enghraifft well i ddangos sut mae'r Trysorlys yn trin Llywodraethau datganoledig fel adrannau San Steffan na'r ffaith, yn wahanol i gynghorau lleol, nad ydynt yn cael symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn fel y dymunant, a bod terfynau benthyca yn cael eu gosod yn ganolog yn hytrach na rhoi sefydlogrwydd i fenthyca yn ddarbodus. Bydd y bobl hynny yma sydd wedi dal swyddi uwch mewn llywodraeth leol yn cofio'r gallu i symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn fel a phryd oedd ei angen, a pheidio â gorfod cael rhywun i gytuno mai dyna'r swm cywir. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Nid yw'n golygu unrhyw beth i'r Trysorlys, oherwydd maen nhw eisoes wedi dyrannu'r arian. Dim ond microreoli gan y Trysorlys ydyw.
Pan ofynnwyd iddo yn y Pwyllgor Cyllid sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y £100 miliwn a ddyrannwyd i iechyd yn cyflawni'r canlyniadau arfaethedig, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet mai'r person â'r prif gyfrifoldeb am gyflawni canlyniadau gyda'r cyllid a ddarperir yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rhaid i arian ychwanegol ddarparu ar gyfer mwy o bobl yn cael eu trin. Argymhellodd y pwyllgor fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnal craffu a monitro cyllid y gwasanaeth iechyd yn drylwyr er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd, gan gynnwys sut mae'r cyllid yn cael ei adolygu a'i addasu yn seiliedig ar ganlyniadau perfformiad. Yr hyn y methodd Llywodraeth Cymru ei wneud yw creu disgwyliad o'r hyn y bydd arian ychwanegol yn ei gyflawni. Faint o gleifion ychwanegol fydd yn cael eu trin? Beth yw'r gost safonol ar gyfer pob ymyrraeth? Pam mae'r gost yn uwch mewn rhai ysbytai nag eraill, gan gynnwys o fewn yr un bwrdd iechyd, ar gyfer cynnal yr un lefel o ymyrraeth? Byddai defnyddio'r arian ychwanegol i gefnogi datblygiadau deallusrwydd artiffisial a all helpu i wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn fwy cywir a rhagweld trawiadau ar y galon a strôc yn ddefnydd da o adnoddau. Gellir ei ddefnyddio hefyd mewn meysydd fel offthalmoleg, lle dylai gynyddu cywirdeb wrth sgrinio a gwneud diagnosis glawcoma a chataractau. Gellir defnyddio AI i ddadansoddi canlyniadau biopsi, cyflymu canlyniadau i gleifion. Rwy'n credu,yn rhy aml, nad ydym yn meddwl sut gallwn ddefnyddio technoleg, rydym yn meddwl sut y gallwn gyflogi mwy o bobl. Mae defnyddio technoleg mewn gwirionedd yn golygu y gallwch wneud mwy o waith gyda'r un nifer o bobl, a byddwn yn gobeithio y bydd y Gweinidog iechyd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn edrych ar hynny fel ffordd o fynd â ni ymlaen.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl.
Llywydd, rwyf bob amser yn ddiolchgar am awgrymiadau ar gyfer gwella ac, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, byddaf yn edrych yn ofalus ar yr wyth argymhelliad a gynhwysir yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Nid wyf eisiau achub y blaen ar y broses honno, ond dywedaf fy mod yn edrych ymlaen at dderbyn yr argymhelliad ein bod yn darparu gwybodaeth am ganlyniadau yn rheolaidd fel rhan o'r broses gyllideb atodol. Ac roeddwn i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am yr angen i gael gwell ffurf o ddatrys anghydfodau pan fydd anghydfodau yn codi gyda'r Trysorlys, a'r math o ddatrysiad sydd ag elfen o annibyniaeth ynddo. Rwy'n rhoi sicrwydd i'r Cadeirydd, lle mae materion yn parhau i fod yn cael eu trafod rhyngom, y byddwn yn ymdrechu i barhau wrth y bwrdd i symud y trafodaethau hynny ymlaen.
Roeddwn yn ddiolchgar i lefarydd cyllid y Ceidwadwyr am nodi y bydd ei grŵp, fel y gwnaethant yn y gorffennol, ymatal mewn perthynas â'r gyllideb atodol gyntaf. Mae'n ddigwyddiad proses yn y bôn yn hytrach na digwyddiad gwneud penderfyniadau. Gwrandawais yn ofalus ar ei ddadansoddiad gofalus o'r mater yswiriant gwladol hefyd, ac nid oedd fawr ddim y byddwn wedi anghytuno â'r hyn oedd ganddo i'w ddweud.
Gwnaf dau bwynt yn unig: o ran colegau addysg bellach, oherwydd fframwaith cyfreithiol colegau addysg bellach yng Nghymru, roeddent y tu allan i ddiffiniad y Canghellor, diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o weithwyr gwasanaeth cyhoeddus, ond fe wnes i'r penderfyniad, ynghyd â'r Gweinidog dan sylw, i'w cynnwys, i'r graddau yr wyf wedi gallu cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus eraill, Mae colegau addysg bellach yn cael eu trin ar yr un sail. Wrth gwrs, gwnaeth Mr Rowlands y pwynt pwysig, Llywydd, ynglŷn â chronfeydd wrth gefn. Mae rheolaeth gwariant ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn cael ei rheoli'n rheolaidd drwy gronfeydd wrth gefn. Y pwynt rwy'n credu yr oedd yr Aelod yn ei wneud yw'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i eleni, a bydd hynny'n wir yn fater i ni ei drafod yn y broses o lunio cyllideb yn ystod yr hydref.
Canolbwyntiodd Heledd Fychan hefyd ar fater yswiriant gwladol, Llywydd. Rwyf wedi dweud yr hyn rydw i wedi'i ddweud ar y mater hwnnw sawl gwaith bellach. Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu trin mewn ffordd mor agos â phosibl â'r ffordd yr ymdrinnir â gwasanaethau cyhoeddus ar draws ein ffin. Yr hyn nad oeddwn yn gallu ei wneud oedd defnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd yn bennaf ar gyfer y prif wasanaethau cyhoeddus—iechyd, tai, addysg, llywodraeth leol, ac ati—i ddargyfeirio'r adnoddau hynny i gyflawni cyfrifoldeb nad yw'n gyfrifoldeb i'r Senedd hon. Ac rwy'n cydnabod y bydd hynny'n achosi heriau i lawer o sefydliadau yma yng Nghymru, ond mae'n farn, a fy marn i oedd na allwn ddarparu ar gyfer y cylch ehangach hwnnw o gyflogwyr a oedd y tu allan i ddiffiniad y Canghellor, lle na fyddai unrhyw gymorth yn Lloegr i mi gyfateb neu geisio cyfateb gyda'r adnoddau yma yng Nghymru.
Roedd Mike Hedges yn iawn, wrth gwrs, pan ddywedodd fod llawer mwy o arian yn dod i Gymru yn y gyllideb atodol gyntaf na chost yswiriant gwladol. Ond mae'r arian hwnnw yno i gwmpasu ystod eang iawn o ddibenion. Pe bawn i'n defnyddio'r cyfan at ddibenion yswiriant gwladol, byddai llawer o Aelodau yma yn gofyn i mi y prynhawn yma pam nad oeddwn wedi darparu at y dibenion eraill yr oedd yr arian hwnnw'n cael ei roi ar eu cyfer. Wrth dynnu arian o'r cronfeydd wrth gefn, fe wnes i gyfrifo'n ofalus yr hyn rwy'n credu y gellir ei fforddio ar hyn o bryd yn y flwyddyn ariannol hon, heb beryglu gallu Llywodraeth Cymru i reoli'r gyllideb yn ei chyfanrwydd dros weddill tri chwarter y flwyddyn ariannol gyfredol hon.
Yn fwy cyffredinol, gwnaeth Mike gyfres o bwyntiau yr ydym wedi'u codi gyda'r Trysorlys. Codais y mater o fenthyca darbodus yn uniongyrchol gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys yn fy nghyfarfod diwethaf ag ef, ac yn sicr, mae microreoli ein cyllideb gan Drysorlys y DU yn rhywbeth a fyddai'n cael ei gywiro'n broffidiol iawn, nid yn unig i Lywodraeth Cymru, ond hefyd byddai'n rhyddhau adnoddau o fewn y Trysorlys i wneud pethau mwy defnyddiol na phenderfynu faint o arian y gallaf ei gymryd allan a'i roi yn ôl i'r cronfeydd wrth gefn, gydag arian sydd eisoes wedi'i ddatganoli yma i Gymru.
Llywydd, rwyf wedi mwynhau gwrando ar y ddadl. Rwy'n credu y byddai'n deg i mi ddweud bod nifer o'r pwyntiau a wnaed yng nghyd-destun y gyllideb atodol gyntaf, yn hytrach nag yn uniongyrchol ynglŷn â'r cynlluniau gwariant ac incwm y mae'n eu nodi. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau hynny sydd wedi nodi y byddant yn helpu i ganiatáu i'r gyllideb fynd drwodd y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Gwnawn ni gymryd y bleidlais yn ystod y cyfnod pleidleisio, felly.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 sydd nesaf, yr hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi ar y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yw hwn. Yr Ysgrifennydd Cabinet cyllid sy'n gwneud y cynnig yma.

Llywydd, mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i hysbysu'r Senedd fod Ei Fawrhydi, ar ôl cael gwybod am berwyl Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), wedi rhoi ei gydsyniad i'r Bil hwn.
Diolch.
Eitem 7 fydd nesaf, felly: Cyfnod 4 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yw hynny. A'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n cyflwyno Cyfnod 4 a'r cynnig ar hynny—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8954 Mark Drakeford
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gennyf gynnig y cynnig gerbron y Senedd heddiw ar gyfer Cyfnod 4 Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).
Hoffwn ddechrau, fel sy'n gonfensiynol ar y pwynt hwn, drwy fynegi fy niolch i amrywiaeth o'r rhai a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad a hynt y Bil. Dechreuaf drwy fynegi fy niolch i'r pwyllgorau, staff y Comisiwn a'r Aelodau hynny sydd wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol ag ystyried a chraffu ar y Bil am eu sylw parhaus drwy gydol y broses. Rwy'n estyn fy niolchgarwch hefyd i Cefin Campbell a'i gyd-Aelodau. Roedd y Bil yn rhan o'r cytundeb cydweithio, ac rwy'n diolch i Cefin Campbell am ei gefnogaeth gyson i'r Bil. Ac roeddwn i eisiau diolch i'm cydweithiwr, Rebecca Evans, am y gwaith ffurfiannol a wnaeth hi yn y maes polisi hwn pan oedd yn Ysgrifennydd cyllid. Rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i'r rhanddeiliaid a'u partneriaid cyflawni am eu barn, eu hawgrymiadau a'u harbenigedd wrth i'r polisi gael ei ddatblygu. Maent wedi bod yn rhan annatod o'r broses ers y dechrau ac mae eu mewnbwn, heb os, wedi bod yn ddylanwadol wrth lunio'r Bil, ac mae'r Llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda nhw i sicrhau bod y polisi hwn, pan gaiff ei weithredu, yn gam cadarnhaol i bawb. Yn olaf, Llywydd, hoffwn fynegi fy niolch i'r holl swyddogion—swyddogion Llywodraeth Cymru—sydd wedi gweithio'n ddiflino ar y Bil, gan sicrhau ei fod wedi parhau i fod yn ymatebol i'r broses graffu, heb byth golli golwg ar ei egwyddorion sylfaenol.
Llywydd, drwy basio'r Bil hwn, byddwn yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno tâl ychwanegol cymedrol ar arosiadau dros nos, a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi diwydiant twristiaeth ffyniannus, cynaliadwy. Yr ardoll ymwelwyr yw'r dreth leol gyntaf ers dros 500 mlynedd i gael ei chynllunio a'i deddfu yng Nghymru. Yn ein sefydliad sy'n ifanc o hyd, mae'n nodi cam pwysig arall ar y daith ddatganoli—ardoll, fel y gŵyr yr Aelodau, trwy gyfraniad bach, a allai wneud gwahaniaeth sylweddol.
Gallai'r ardoll o bosibl godi £33 miliwn ledled Cymru, pe bai'r holl awdurdodau lleol yn cyflwyno ardoll ymwelwyr, a byddai hynny'n fuddsoddiad parhaus sylweddol yn y cymunedau hynny. Mae'r Llywodraeth eisiau sicrhau bod pwysau a chyfleoedd twristiaeth yn weddol gytbwys. Credwn ei bod yn rhesymol i ymwelwyr gyfrannu tuag at seilwaith a gwasanaethau sy'n rhan annatod o'u profiad, fel y maen nhw'n ei wneud mewn cymaint o rannau eraill o'r byd, o Wlad yr Iâ i Seland Newydd, a llawer iawn o wledydd rhyngddynt. Mae ein hymchwil yn dweud wrthym yn ddiamwys bod y cyllid a gynhyrchir wedi cyfrannu'n sylweddol at ddiogelu'r amgylchedd, gwella cyfleusterau a seilwaith, cadwraeth harddwch naturiol, gan gefnogi'r economi ymwelwyr—hyn i gyd heb atal twristiaeth. Rydym ni eisiau yr un peth i Gymru.
Mae'r Bil yn sefydlu cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru, a fydd yn darparu data i lywio datblygiad twristiaeth yn y dyfodol a'r camau dilynol ar gyfer rheoleiddio llety i ymwelwyr. Ar hyn o bryd, mae ein gwybodaeth am ddarparwyr yn anghyflawn. Bydd gwella'r wybodaeth hon yn fuddiol i'r diwydiant twristiaeth ei hun a bydd yn cefnogi gweithredu'r ardoll yn effeithiol.
Llywydd, yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil, gwnaed sawl gwelliant. Bydd fforwm partneriaeth yn cael ei sefydlu nawr fel y bydd pobl leol yn cael dweud eu dweud ar sut y bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael ei gymhwyso. Er bod y gyfradd wedi'i gosod ar lefel gymharol isel o'i gymharu â safonau rhyngwladol, ac mae eithriadau wedi'u cyfyngu i leihau cymhlethdod, mae'r Bil bellach yn darparu, ar gyfer pobl o dan 18 oed, na fydd yn rhaid iddynt dalu am hosteli a lleiniau gwersylla, er mwyn cyfyngu ar unrhyw effaith ar bobl ifanc.
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu ac yn rheoli'r ardoll, er mwyn lleihau'r baich ar awdurdodau lleol. Pe bai'r Bil yn pasio heddiw, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid a'n busnesau i sicrhau proses weithredu ddidrafferth cyn y bwriad i ddechrau cofrestru yn genedlaethol yn hydref 2026, a'r cynharaf y gellir cyflwyno ardoll fydd ym mis Ebrill 2027.
Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r darn unigryw hwn o ddeddfwriaeth. Bydd yn cryfhau cymunedau, yn creu atebolrwydd democrataidd ac yn rhoi twristiaeth yng Nghymru ar sail newydd a chynaliadwy. Diolch.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu'r Bil hwn o'r dechrau ac yn parhau i'w wrthwynebu hyd heddiw. Credwn ei fod yn ddrwg i Gymru ac yn ddrwg i sector twristiaeth Cymru, sy'n rhan mor bwysig o'n heconomi yng Nghymru. Ar ôl 26 mlynedd o Lywodraeth Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Lafur, mae'r economi yng Nghymru mewn trafferthion enbyd.
Bydd yr ardoll hon, yn ôl cyfaddefiad Llywodraeth Cymru ei hun, yn effeithio ar swyddi a'n heconomi yn ehangach. Nid yw gweithredu polisi sy'n tanseilio sector sydd o'r radd flaenaf ac sydd eisoes yn cyfrannu'n sylweddol at y pwrs cyhoeddus trwy drethi a thrwy ardollau amrywiol yn gwneud synnwyr i mi nac i'm cydweithwyr Ceidwadwyr Cymreig. Yn sicr, nid yw'n gwneud synnwyr i'r sector ei hun, sy'n gwrthwynebu'r Bil yn gryf.
Trwy'r broses hon, rydym wedi cynnig llawer o welliannau i'r Bil hwn, y rhan fwyaf ohonynt, diolch i harddwch democratiaeth, yn aflwyddiannus. Ond cawsant eu gwneud mewn ffordd yr wyf yn gobeithio a fu'n adeiladol ac yn ymgysylltu â'r broses, tra y gwnaethom barhau i fod yn glir ynglŷn â'n gwrthwynebiad i dreth twristiaeth. Mae'r gwrthwynebiad hwnnw wedi bod ochr yn ochr â'r bobl sy'n adnabod twristiaeth a busnes orau, sef y sector twristiaeth go iawn ei hun. Yn fy rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, rwy'n cwrdd yn rheolaidd â darparwyr a gweithredwyr twristiaeth, ac, yn fy rôl fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Bil hwn, rwyf wedi cael cyfle i gwrdd â hyd yn oed mwy, gan glywed eu pryderon a hefyd eu gobeithion a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol
Mae Cymru yn lle gwych iawn i ymweld ag ef. Mae gennym gymaint o bobl sy'n gweithio'n galed i'w gadw'n wych, yn amrywio o ddarparwyr llety unigryw i'r rhai sy'n creu profiadau diguro ym mhob cwr o Gymru. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn hanfodol i ddarparu swyddi, cefnogi ein cymunedau ac ysgogi twf economaidd. Mae angen mwy o hynny arnom mewn gwirionedd. Yn anffodus, rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn creu llai o hynny, ac mae angen Llywodraeth arnom sy'n deall yr angen am swyddi a thwf, fel y gallwn weld Cymru yn ffynnu yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf am ailbwysleisio cefnogaeth Plaid Cymru i'r Bil hwn. Mae cyfle gwirioneddol yma i ni greu sector twristiaeth cynaliadwy sy'n gweithio gyda'n cymunedau a'r busnesau sy'n gweithredu yn y cymunedau hynny. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet nawr yw bod yna, wrth gwrs, rai tensiynau wedi bod ynglŷn â chyflwyno ardoll mewn rhai rhannau o'r sector. Wrth gwrs, rydw i wedi cwrdd â llawer o fusnesau o fewn y sector sydd hefyd yn gefnogol o'r Bil a'r hyn a nodir yn y Bil ac elfen twristiaeth gynaliadwy y Bil, ond bu rhai tensiynau. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud nawr wrth symud ymlaen—. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y pryderon hynny'n bodoli, a bod yr ardoll yn cael ei gweithredu a'i hadolygu i sicrhau ei bod, mewn gwirionedd, yn cyflawni'r hyn y gwnaeth y Llywodraeth ei nodi yn y lle cyntaf iddi ei gyflawni.
Nawr, rwy'n credu y byddwn yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn yn y blynyddoedd i ddod ac yn penderfynu mai dyma'r ffordd gywir o weithredu, fel y maen nhw wedi'i wneud mewn gwledydd eraill dros y blynyddoedd. Roedd yr un dadleuon yn union yn digwydd pan oedden nhw'n ceisio cyflwyno ardoll twristiaeth yn Barcelona ac mewn mannau eraill, felly rwy'n credu y byddwn yn edrych yn ôl ar hyn fel cam cadarnhaol ymlaen i'n cymunedau ac i greu'r sector twristiaeth gynaliadwy hwnnw sydd, unwaith eto, yn gweithio gyda'n cymunedau ac yn gweithio gyda'n busnesau ar y cyd.
Yr hyn yr hoffwn i ei ddweud, wrth gwrs, yw 'diolch' i'r Ysgrifennydd Cabinet am weithio ochr yn ochr â mi a chyd-Aelodau eraill i lunio gwelliannau a fyddai'n gwella'r Bil, yn arbennig, o fy safbwynt i, y gwelliant i sicrhau ein bod yn rhoi mwy o amser i'r bobl hynny sy'n ceisio lloches rhag perthynas gamdriniol neu ddigartrefedd i allu hawlio'r ardoll honno yn ôl. Rwy'n credu bod hynny'n gam pwysig ac, unwaith eto, yn arwydd o fwriad y Llywodraeth bod hyn yn rhywbeth sydd, unwaith eto, yn gweithio gyda'n cymunedau.
Hoffwn hefyd, eto, ailbwysleisio—yr un fath â'r Ysgrifennydd Cabinet—'diolch' i Cefin Campbell, Siân Gwenllian ac Adam Price am y gwaith a wnaethon nhw yn ystod y cytundeb cydweithio hefyd. Unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn cael ei adlewyrchu yn y Bil hwn, llawer o'r bwriad a gyflwynwyd ganddynt yn ystod y cyfnod hwnnw. Diolch yn fawr.
Rwyf am ddweud fy mod yn credu bod y Torïaid wedi colli eu gafael ac wedi colli ei golwg yn gyfan gwbl ar y mater hwn. Mae miloedd o bobl wedi ymweld â Chaerdydd yn ystod y dyddiau a'r wythnosau diwethaf, ac mae rhai ohonynt wedi dod o mor bell i ffwrdd ag Awstralia ar gyfer cyngerdd Oasis. Rwy'n gwybod bod TrC yn llwyddo i dalu ei gostau bron iawn drwy'r cyllid uwch o fwy o bobl yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond sut ydych chi'n disgwyl i bobl dlawd Adamsdown orfod talu'r holl gostau eraill, fel y sbwriel sy'n anochel yn cael ei greu?
Es i i Lerpwl ar y penwythnos, ac roeddwn i'n fwy na pharod i dalu'r £2.30 neu £2.40 yr oedd yn ei gostio i aros am noson yn Lerpwl. Pam rydyn ni'n meddwl y dylai pobl dlawd, yn hytrach nag ymwelwyr, orfod talu am gostau anochel miloedd o bobl sy'n ymgynnull mewn unrhyw le, boed yn Ninbych-y-pysgod neu yng Nghaerdydd neu ym Mae Colwyn—? Mae hwn yn syniad da iawn, ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar dwristiaeth.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymwneud adeiladol yn ystod taith y Bil. Dwi'n ddiolchgar iddo fo am gadarnhau y bydd cwynion sy'n ymwneud â chofrestru llety yn rhan o ddyletswydd statudol cyffredinol Awdurdod Cyllid Cymru, ac fe gadarnhawyd y bydd Gorchymyn cychwyn yn cael ei wneud cyn diwedd y Senedd hon, efo'r cofrestru i ddechrau erbyn mis Hydref 2026. Gaf i jest ofyn am air o eglurder am hynny? Fydd hynny yn digwydd fesul awdurdod lleol, neu fesul casgliad o awdurdodau lleol? Hynny yw, fydd un yn gallu cychwyn arni yn syth, os dyna yw'r dymuniad? Byddwn i'n pwyso eto i gael dyddiad pwynt terfyn clir ar gyfer cwblhau'r gwaith cofrestru drwy Gymru.
Yn olaf, o ran diffiniadau, fe gafwyd sicrwydd y bydd canllawiau yn cael eu rhoi i ddarparwyr llety ymwelwyr am y mathau o lety wrth gofrestru. Bydd hynny yn allweddol er mwyn inni greu darlun cynhwysfawr a deall effaith twristiaeth ar ddefnydd tai yn ein cymunedau ni—tai a allai cael eu defnyddio fel cartrefi, gan arwain at y posibilrwydd o ail-gyflwyno cydbwysedd mewn ambell gymuned. Felly, dwi'n edrych ymlaen at barhau efo'r drafodaeth honno efo cyflwyno'r Bil trwyddedu llety tymor hir. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb.

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, roedd Sam Rowlands yn iawn i ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu'r Bil yn gyson. Maen nhw wedi cael eu rhwystro trwy gydol, mae'n ymddangos i mi, gan ddiffyg cymesuredd llwyr am y Bil, yr ymdrechion cyson i drychinebu'r mesur rhesymol iawn hwn. Byddech chi wir yn meddwl na fyddai neb byth yn teithio i gyrchfan wyliau yng Nghymru eto oherwydd y byddai gofyn iddyn nhw dalu llai na phris paned o goffi o ganlyniad i'r Bil hwn, lle bydd awdurdodau lleol yn dewis ei gyflwyno. Mae'n bŵer caniataol. Nid oes rhaid i neb gyflwyno ardoll ymwelwyr. Lle mae awdurdodau lleol yn credu y bydd yn fuddiol i'w hardaloedd, bydd ganddyn nhw gyfle yn awr i wneud hynny ac i rannu'r costau yn fwy teg rhwng trigolion lleol—wrth gwrs, mae'n boblogaidd iawn ymhlith trigolion yr etholwyr hynny a gynrychiolir gan rai Aelodau Ceidwadol yma—i rannu'r costau hynny rhwng trigolion a phobl sy'n gwneud yr ymweliad hwnnw.
Roedd y safle carafanau ym Mhontcanna, Llywydd, yn llawn dop dros y penwythnos, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Mae hynny i gyd yn golygu fod yn rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau i glirio'r safle pan fydd pobl yn symud ymlaen. Yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud, pe bai Cyngor Caerdydd yn penderfynu cymryd y pŵer caniataol, yw sicrhau bod y bobl hynny'n gwneud cyfraniad bach iawn, ochr yn ochr â thrigolion y ddinas ei hun, i sicrhau bod Caerdydd yn parhau i fod yn lle deniadol i gynnal digwyddiadau o'r fath ac i bobl ymweld â nhw yn y dyfodol.
Diolch i Luke Fletcher am ei gyfraniadau yn ystod hynt y Bil. Rwy'n cytuno ag ef ein bod nawr yn symud i weithredu ac adolygu'r Bil yn ofalus ac i barhau i weithio ochr yn ochr â'r diwydiant i wneud yn siŵr, lle mae awdurdodau lleol yn penderfynu defnyddio'r pŵer, ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n cynnwys eu cyfranogiad.
Dwi'n cytuno hefyd gyda Siân Gwenllian, Llywydd. Wrth gwrs, rŷn ni yn mynd i greu canllawiau i bobl, i'r awdurdodau lleol a phobl eraill yn y maes. Pan fydd rhywbeth newydd yn dod, mae yn bwysig inni gydweithio gyda phobl i roi cyfle iddyn nhw, amser iddyn nhw, ddod yn gyfarwydd â'r dyletswyddau newydd y bydd arnyn nhw nawr pan fydd y Bil yn cael ei redeg.
Ac wrth gwrs rwy'n awyddus i barhau i weithio gydag eraill i ddod ag ail ddarn, darn ategol, o ddeddfwriaeth o flaen y Senedd, fel y cytunwyd gennym yn y cytundeb cydweithio gwreiddiol.
Llywydd, mae hwn yn fesur rhesymol. Mae'n darparu pŵer i'r awdurdodau lleol hynny sy'n dymuno ei ddefnyddio. Mae iddi sylfaen eang fel treth, sy'n codi swm rhesymol iawn i ymwelwyr o fewn Cymru ac i Gymru, i wneud yn siŵr bod buddsoddiad yn yr amodau sy'n gwneud y diwydiant twristiaeth y llwyddiant yr ydyw yng Nghymru, a bydd yn caniatáu i'r diwydiant hwnnw barhau i ffynnu yn y dyfodol. Gofynnaf i'r Aelodau yma ei gefnogi.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C bydd yn rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, wnawn ni symud i'r cyfnod pleidleisio. Felly, gymerwn ni'r bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw ar eitem 4, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 24 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 4. Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025: O blaid: 26, Yn erbyn: 0, Ymatal: 24
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 5. Y ddadl ar gyllideb atodol gyntaf 2025-26 yw'r bleidlais yma. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 24 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r gyllideb yna wedi ei derbyn.
Eitem 5. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-26: O blaid: 25, Yn erbyn: 1, Ymatal: 24
Derbyniwyd y cynnig
Y bleidlais olaf fydd ar Gyfnod 4 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn—[Torri ar draws.]
Rydych chi newydd gerdded i mewn. Efallai y bydd hynny'n ei esbonio. Dydw i ddim yn credu bod angen i chi boeni'n ormodol. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn.
Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Cyfnod 4 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. Fe gymerwn ni doriad byr nawr o ryw 10 munud i baratoi ar gyfer Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), ac fe fyddwn ni'n canu'r gloch pum munud cyn i ni ailymgynnull.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:48.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Dwi'n gobeithio ein bod ni'n barod i roi cychwyn ar Gyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â sefydlu a swyddogaethau'r awdurdod tomenni nas defnyddir o dan Ran 1. Gwelliant 49 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant ac am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 49 (Janet Finch-Saunders).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, fe hoffwn i ddiolch i bawb a fu'n rhan o ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ond o'm rhan i fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i Molly Skates, Katie Wyatt, Elizabeth Wilkinson a Mostyn Jones. O ran gwelliant 49, mae angen i gyd-Aelodau fod yn ymwybodol y bydd yr awdurdod yn ddarostyngedig i ddyletswydd adran 6 yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac mae 'yr awdurdod' fel y trafodir drwy gydol y ddeddfwriaeth hon.
Y gwahaniaeth y byddai fy ngwelliant yn ei wneud yw y byddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod nodi, yn y cynllun corfforaethol, sut mae'n bwriadu ystyried bioamrywiaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf. Yn ystod cyfnod pan fo argyfwng yn bodoli o ran natur a'r hinsawdd, ac o gofio'r dystiolaeth gawsom ni am arwyddocâd y fioamrywiaeth sylweddol sydd i'w chael ar domenni nas defnyddir, fe ddylem ni ei gwneud hi'n ofyniad cyfreithiol i fanylu ar sut mae natur i'w ystyried yn y cynllun corfforaethol. Byddai hyn o fantais i welliant 17 Llywodraeth Cymru ei hun, sy'n gofyn am ymgynghori ar y cynllun corfforaethol. Fe wyddom ni o'r pwyllgor bod gan sefydliadau amgylcheddol ddiddordeb sylweddol yn yr awgrymiadau hyn, a byddwn yn disgwyl y byddai'n ymgynghori â nhw ar y cynllun corfforaethol. Pam felly eithrio manylion ar reoli bioamrywiaeth ohono?
Yn ystod cyfarfod safle diweddar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, y mae'r ddau ohonyn nhw yn gwneud gwaith eithriadol ond arwyddocaol ym mwynglawdd plwm Y Parc yng nghoedwig Gwydir, nodwyd y gall sefyllfaoedd godi lle mae fflora a ffawna wedi tyfu ar domenni, a all arwain at ddynodiad safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac mae hynny'n achosi cymhlethdod difrifol a chostau cynyddol sy'n gysylltiedig ag adfer. Ni fyddai'r fflora a'r ffawna yno ond am y domen. Ni fyddai'r domen yno ac ni fyddai angen gwaith adfer pe bai'r ysbwriel wedi cael ei reoli i safonau uwch. Pam felly ddylai'r awdurdod, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ac eraill wynebu costau uwch oherwydd bod y fantol ar hyn o bryd o blaid diogelu agwedd ar yr amgylchedd sydd dim ond yno oherwydd diwydiannu? Y cyfan rwy'n anelu at ei gyflawni, fel rhan o welliant 50, yw gosod yn y gyfraith ateb synnwyr cyffredin, fod yn rhaid i'r awdurdod, mewn achosion o wrthdaro, flaenoriaethu lles pobl dros gynnal a gwella bioamrywiaeth.
Mae gwelliant 31 yn mynd i'r afael â'r argyfwng sgiliau. Fe wnaethoch chi gytuno â mi yng Nghyfnod 2, Ysgrifennydd Cabinet, bod hon yn broblem fawr gan nodi nad yw'r awdurdod yn ddarparwr hyfforddiant. Fodd bynnag, rwy'n credu ichi fy nghamddeall i a'r dystiolaeth. Roedd rhanddeiliaid yn glir gyda'r pwyllgor y gallai datblygu'r awdurdod arwain at brinder sgiliau hyd yn oed yn fwy. Yn hytrach na dod yn gorff hyfforddi, dylai'r awdurdod wneud ei ran wrth geisio hyrwyddo datblygu sgiliau, megis trwy gydweithredu â phrifysgolion ar brentisiaethau a chydweithredu â'n colegau.
Er y byddwn yn cefnogi'r holl welliannau eraill yn y grŵp, ni allaf gefnogi Rhif 20, mae'n ddrwg gennyf, Delyth. O gofio ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, pam ydych chi a Phlaid Cymru yn ceisio cyflwyno gofyniad cyfreithiol i roi sylw i gyfraith a pholisi yr Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â newid hinsawdd? Fe gawsom ni'r ddadl honno flynyddoedd lawer yn ôl, ac mae'r penderfyniad yn sefyll—rydym ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Diolch.
Hoffwn i ddechrau gan roi ar y record fy niolch i Lewis Owen, Niamh Salkeld a Tomos Rowley am eu cymorth gyda'r Mesur hwn, ynghyd â sawl grŵp amgylcheddol gwnaf i sôn amdanynt yn ystod y dadleuon.
Hoffwn i ddechrau trwy ategu fy nghefnogaeth am egwyddorion craidd y Bil hwn. Er ein bod ni yn parhau i gredu'n gryf bod yna amryw o feysydd ble mae angen mynd llawer pellach nag ydyn ni yn y Mesur hwn, bydd hwn yn gam pwysig ymlaen i ddarparu tegwch hirddisgwyliedig i'r cymunedau a oedd wedi cyfrannu gymaint i gyfoeth y byd ac a dderbyniodd mor ychydig yn ôl, ac sydd wedi gorfod byw o dan gysgod hir byth ers hynny, a'r holl oblygiadau niweidiol cymdeithasol ac economaidd sydd wedi dod yn sgil hyn. Symbol ydy hynna oll, sydd yn cael ei ymgorffori yn y tomenni.
Rydym ni'n cefnogi'n llawn nod y Bil hwn i sefydlu awdurdod dynodedig gyda chyfrifoldeb am oruchwylio'r gwaith adfer o glirio tomenni nas defnyddir, ac rwy'n cyfeirio yn arbennig yn y grŵp hwn at welliannau 30, 18, 19 a 20, a gyflwynwyd yn fy enw i. Byddai'n eironi gwyrdroëdig yn wir pe bai'r awdurdod hwn yn achosi creithiau amgylcheddol newydd yn y broses o wneud gwaith i ddadwneud degawdau o niwed a achoswyd gan gloddio am lo. Diben ein gwelliannau yn y grŵp hwn, felly, fyddai gosod ar wyneb y Bil amrywiol ddarnau o ddeddfwriaeth amgylcheddol, sy'n benodol i Gymru ac yn rhyngwladol, y dylai'r awdurdod eu hystyried wrth ymgymryd â'i gyfrifoldebau.
Roedd Janet wedi gofyn pam ein bod yn ceisio cynnwys deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yma. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod arnom ni eisiau i'r holl ddeddfwriaeth fwyaf uchelgeisiol sy'n ymwneud â'r amgylchedd fod yn rhai y mae'n rhaid i ni eu hystyried, ni waeth ble mae hynny, oherwydd yn rhyngwladol a gartref mae'n rhaid i ni gael y ddeddfwriaeth gywir yn ymddangos yma. Byddai hynny'n cynnwys yr egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a ddiffinnir yn adrannau 4 ac 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; yr adroddiadau diweddaraf ar dueddiadau'r dyfodol, o dan adrannau 11 a 23 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; a'r holl gyfraith ryngwladol ddiweddar sy'n ymwneud â pholisïau newid hinsawdd, fel cytundeb Paris. Rydym ni hefyd wedi cynnwys gofyniad penodol i'r awdurdod roi sylw i effaith ei waith ar fioamrywiaeth, ar natur a'r amgylchedd, yn unol â dyletswydd adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Byddai hyn yn sicrhau bod gwaith yr awdurdod yn rhwym wrth y safonau mwyaf cadarn, a byddai'n dileu unrhyw botensial am ganlyniadau anfwriadol sy'n deillio o'i ddyletswyddau.
Rydym ni wedi ceisio egluro'r math o ardaloedd lle mae'n rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i leihau'r aflonyddwch posibl i gymunedau sydd wedi gorfod dioddef mwy na'u cyfran deg o aflonyddwch o bresenoldeb y tomenni hyn—fel lefelau sŵn, llygredd aer a mynediad i fannau gwyrdd. Credwn y byddai egluro'r camau lliniaru hyn yn benodol ar wyneb y Bil yn mynd rhywfaint tuag at sicrhau hyder a brwdfrydedd y cymunedau hynny. Gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno bod ganddyn nhw fwy o reswm na'r mwyafrif i gael hawl i sicrwydd o'r fath.
Pan gyflwynon ni'r gwelliannau hyn yn eu ffurf wreiddiol yng Nghyfnod 2—. Dydw i ddim yn bwriadu defnyddio 'ni' yn y person cyntaf yma. Pan gyflwynais y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, gwrthwynebodd yr Ysgrifennydd Cabinet nhw'n bennaf ar y sail bod yr awdurdod eisoes wedi'i rwymo gan egwyddorion cyfraith gyhoeddus, fel cydymffurfio â dyletswydd adran 6 yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru), ac o ganlyniad i hynny rwyf wedi ymateb i hyn drwy ailadrodd geiriad adran 6 yng ngwelliant 18, felly ei roi ar wyneb y Bil, a hynny i gael gwared ar unrhyw amwysedd ynglŷn â chyfrifoldebau'r awdurdod yn y maes hwn.
Honnodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd nad yw egwyddorion rheoli cynaliadwy yn gwbl berthnasol i waith yr awdurdod. Byddwn i, gyda phob parch, yn anghytuno â hynny, oherwydd mae'r egwyddorion yn cael eu diffinio yn y gyfraith fel defnyddio adnoddau naturiol
'mewn modd, ac ar gyfradd, sy’n cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau'.
Byddwn yn dadlau y dylai'r cynnal a gwella hwn gynnwys gweithgarwch sy'n ymwneud ag echdynnu a gwaredu adnoddau o'r fath, yn enwedig o ystyried y byddai hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar wydnwch tirwedd y tomenni hynny a gliriwyd yn y dyfodol. Am y rheswm yma, felly, rwyf wedi ailgyflwyno'r gwelliannau hyn. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn eu cefnogi.
A dim ond yn fyr, Dirprwy Lywydd, dim ond i gloi gyda gwelliannau Janet, er fy mod yn deall yn llwyr y rhesymeg dros welliant 50—mae'n gwbl hanfodol bod diogelu lles pobl yn cael lle blaenllaw yng nghynllun cylch gwaith yr awdurdod—rwy'n pryderu nad yw'r diffiniad o 'wrthdaro' mewn perthynas â phrif swyddogaethau'r awdurdod efallai yn ddigon clir. Gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol—ac rwy'n derbyn yn llwyr y byddent yn anfwriadol—sef gwanhau cyfrifoldebau awdurdodau o ran cynnal bioamrywiaeth. Felly, rwy'n osio at ymatal ar y gwelliant hwnnw, ond byddwn yn croesawu barn yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r mater dilys iawn hwn yn foddhaol o fewn darpariaethau presennol y Bil. Diolch.
Fe hoffwn i ddweud gair byr y prynhawn yma. [Torri ar draws.] Diolch. Fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r Dirprwy Brif Weinidog am yr ymweliad a wnaeth â Chwmtyleri yn dilyn llithriad y domen yno. Mae'n anodd gorbwysleisio'r arswyd y gallwch chi ei deimlo pan fyddwch chi'n teimlo'r slyri yn dod i lawr ochr y mynydd, pan fyddwch chi'n clywed y gwynt, pan fyddwch chi'n gweld y bobl yn symud o'u cartrefi oherwydd bod yna domen ansefydlog ac maen nhw'n byw yng nghysgod honno.
Rwy'n siarad â'r gymuned honno yn rheolaidd; mae pobl yn dal i fod yn ofnus yn eu gwelyau bob tro mae'n bwrw glaw. Pryd bynnag y mae'r rhagolygon yn dweud y bydd glaw trwm y penwythnos hwn neu'r wythnos nesaf, mae pobl yn ofnus. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i greu'r strwythurau sy'n gallu ymateb i'r her o newid hinsawdd a thomenni nas defnyddir ar hyn o bryd. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y Bil hwn yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae angen i ni allu creu'r awdurdod hwn i ddelio â'r materion hyn, ac rwy'n canmol Llywodraeth Cymru am ba mor gyflym maen nhw wedi gweithredu yma.
Pan oeddwn i a Huw Irranca-Davies yn sefyll wrth droed y domen honno yn gynnar yn y bore, y bore Llun hwnnw fis Tachwedd diwethaf, ac y gallom ni glywed sŵn y gwynt yn rhuthro heibio i ni, fe wyddom ni fod hwn yn frys na ellir ei ohirio. Mae angen i ni sicrhau nad yn unig y byddwn ni'n pasio'r ddeddfwriaeth hon y prynhawn yma, ond ein bod yn sicrhau bod gennym ni'r cyllid ar gael wedyn i wneud y gwaith adfer sy'n angenrheidiol. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yn ei chyllideb yr arian sydd ar gael i wneud hynny. Rwyf ond yn dymuno y byddai pob Aelod yma wedi cefnogi hynny ar y pryd.
Yr hyn sydd angen i ni ei wneud wedyn yw bod yn gwbl glir hefyd bod hon yn waddol y mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i'w gefnogi. Nid mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn, lle gallwch chi anghofio amdano yn Llundain; mae hyn yn hanfodol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi Llywodraeth Cymru a sicrhau ei bod yn darparu'r arian i gyflawni'r gwaith adfer. Felly, byddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon y prynhawn yma, Dirprwy Brif Weinidog, ond byddaf hefyd eisiau i ni sicrhau bod gennym ni'r adnoddau i weithredu ar fyrder i sicrhau bod y bobl rwy'n eu cynrychioli a'r bobl y bydd llawer ohonom ni yn eu cynrychioli mewn gwahanol rannau o Gymru yn gallu cysgu'n ddiogel yn eu cartrefi. Diolch.
Dwi'n galw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cyn i ni ddechrau ar fanylion y gwelliannau yn y grŵp penodol hwn, a gaf i ddiolch ar goedd yn gyntaf i'r holl gyd-Aelodau sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau cynhyrchiol iawn yng Nghyfnod 2 y pwyllgor, sydd mewn gwirionedd wedi ffurfio sail i'r mwyafrif o welliannau'r Llywodraeth sydd wedi'u cyflwyno nawr yng Nghyfnod 3?
Fe hoffwn i hefyd fyfyrio, wrth i ni droi at fanylion y gwelliannau hyn, ar y neges bwysig y mae fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Alun Davies newydd ei hamlinellu. Ymhlith manylion y gwelliannau hyn mae pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod sefydlogrwydd y tomenni hyn yn cael ei sicrhau, a'i fod ar gyfer diogelwch a lles y cymunedau sy'n byw yng nghysgod y gwaddol diwydiannol hwn o'n gorffennol mwyngloddio; dyna beth yw hyn yn y bôn.
Mae arna i hefyd eisiau diolch i'm swyddogion a rhanddeiliaid ehangach hefyd, ond fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i holl aelodau'r pwyllgorau, ac yn enwedig Delyth Jewell a Janet Finch-Saunders, am y ffordd adeiladol iawn y maen nhw wedi ymgysylltu â'm cynghorwyr a'm swyddogion wrth ddrafftio rhai o'r gwelliannau hyn y byddwn yn eu trafod yma ac yn y grwpiau perthnasol.
Rwy'n falch ein bod ni fel Llywodraeth wedi gallu ymateb i nifer sylweddol o'r materion a godwyd gan yr Aelodau yng Nghyfnod 2. Fel y gwyddoch chi, fe wnaethom ni hefyd ymateb yn gadarnhaol i nifer sylweddol o argymhellion y pwyllgor yng Nghyfnod 1.
Os byddaf yn troi'n uniongyrchol yn awr at y gwelliannau yng ngrŵp 1, gadewch imi siarad yn gyntaf am welliant 17, sy'n welliant gan y Llywodraeth. Mae gwelliant 17 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ymgynghori â'r cyfryw bobl mae'n ystyried yn briodol cyn cyflwyno ei gynllun corfforaethol i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo. Mae'r cynllun corfforaethol yn nodi sut mae'r awdurdod yn bwriadu arfer ei swyddogaethau yn ystod pob cyfnod cynllunio tair blynedd. Mae'n welliant y bu imi ymrwymo i'w gyflwyno yn ystod dadl Cyfnod 2, ac rwy'n diolch i'r holl Aelodau a gododd hyn gyda mi yn ystod Cyfnod 2. Felly, gofynnaf i'r holl Aelodau bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.
Gan droi at y gwelliannau eraill gan Delyth Jewell a Janet Finch-Saunders—y mae llawer ohonyn nhw, yn wir, yn ailadrodd dadleuon a gawsom ni yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2—gadewch imi ddechrau gyda gwelliant 31. Rwy'n deall pam mae hwn wedi'i gyflwyno. Fel rydw i wedi dweud o'r blaen, rwy'n ymwybodol iawn bod bwlch sgiliau yn y maes hwn, ac rwyf wedi siarad am hynny o'r blaen, yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2. Fodd bynnag, yn fy marn i, mae'r gwelliant yn ddiangen. Yn gyntaf, nid yw'r awdurdod yn ddarparwr hyfforddiant. Mae yna gyrff sydd eisoes yn bodoli i ddarparu hyfforddiant arbenigol, sy'n cael eu hariannu at y diben hwn ac mae ganddyn nhw'r sgiliau angenrheidiol i ddarparu hyn. Mae fy swyddogion yn gweithio, wrth i ni siarad, gyda'r cyrff hynny i greu'r sgiliau i bontio'r bwlch presennol. Ond, wrth gwrs, bydd yr awdurdod hefyd yn gwneud ei ran yn hynny o beth, ond nid yw'n ddarparwr hyfforddiant. Felly, byddwn yn gofyn i'r Senedd beidio â chefnogi'r gwelliant hwn gan ei bod yn bwysig iawn—yn rhyfedd, am y rhesymau a nodwyd gan Alun eiliad yn ôl—nad yw adnoddau'r awdurdod yn cael eu dargyfeirio o'r swyddogaethau craidd y mae yno i'w harfer. Mae cyrff eraill mewn sefyllfa well i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau.
O ran gwelliant 19, a fyddai'n gosod dyletswydd ar yr awdurdod i ystyried yr angen i leihau effeithiau negyddol ar gymunedau, gan gynnwys sŵn, llygredd aer a mynediad i fannau gwyrdd ac ati, nid yw'r gwelliant hwn yn angenrheidiol, oherwydd fel awdurdod cyhoeddus, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, ac fe wnaeth Delyth ein hatgoffa'n gywir fy mod i wedi dweud hyn o'r blaen, rhaid i'r awdurdod weithredu yn unol ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a rhaid iddo fod yn ymwybodol o effaith ei weithredoedd ar y cymunedau lleol hynny. Yn wir, i fynd ymhellach, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bydd yn ofynnol i'r awdurdod feddwl am effaith hirdymor ei benderfyniadau, a bydd hyn yn golygu gweithio'n agos, yn unol â'r Ddeddf honno, gyda phobl a chymunedau, a chydweithio â chyrff eraill hefyd.
O ran gwelliant 20, mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod roi sylw i adroddiadau a baratowyd o dan adrannau 8 ac 11 o'r Ddeddf honno, fel bod yr elfen honno o'r diwygiad eisoes yn cael ei thrin mewn deddfwriaeth. Mae'r Bil hwn yn diwygio deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ychwanegu'r awdurdod at y cyrff cyhoeddus sy'n dod o dan y Ddeddf honno. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i'r awdurdod osod amcanion llesiant, ac wrth wneud hynny, bydd yn ofynnol iddo roi sylw i'r adroddiad diweddaraf o dan adran 23 o'r Ddeddf honno. Felly, mae'r elfen hon o welliant 20 eisoes wedi'i chynnwys mewn deddfwriaeth. Ac mewn perthynas â rhoi sylw i'r adroddiad tueddiadau'r dyfodol mwyaf diweddar o dan adran 11 o ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd natur yr adroddiad hwnnw, mae hyn yn rhywbeth sy'n fwy priodol ei gynnwys mewn canllawiau. Nawr, mae'r gwelliant hwn hefyd yn rhoi'r awdurdod o dan ddyletswydd i roi sylw i wybodaeth wyddonol, technoleg a chyfraith a pholisi yr Undeb Ewropeaidd a rhyngwladol sy'n ymwneud â newid hinsawdd wrth gyflawni ei swyddogaethau. Mae'r darpariaethau hyn, mae'n rhaid i mi ddweud, yn eang iawn ac maen nhw'n agored i wahanol ddehongliadau. Gallai hyn roi baich sylweddol ar yr awdurdod. Nid corff amgylcheddol yw'r awdurdod. Wrth gwrs, bydd yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus o osod dyletswyddau helaeth arno a fydd yn mynd ag ef y tu hwnt i amddiffyn lles pobl y cymunedau hyn, ac yn tynnu'r pwyslais oddi ar hynny. Rhaid i'n blaenoriaeth fod yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel. Nid Bil amgylcheddol yw hwn, yn bennaf.
Mae gwelliant 49 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod nodi yn ei gynllun corfforaethol sut mae'n bwriadu ystyried bioamrywiaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau. Mae hyn yn ddiangen gan fod yr awdurdod eisoes o dan ddyletswyddau tebyg o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
O ran gwelliant 18, mae hwn yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer ei swyddogaethau yng Nghymru, a thrwy wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau i'r graddau y maen nhw'n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny yn briodol. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau beidio â phleidleisio o blaid y gwelliant hwn. Mae'n ddiangen ac mae'n ddyblygiad union o adran 6(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a'r unig newid yw rhoi cyfeiriadau at 'yr Awdurdod' yn lle cyfeiriadau at 'awdurdod cyhoeddus'. Fel awdurdod cyhoeddus, bydd yr awdurdod eisoes yn rhwym gan adran 6(1) a (2). Felly, gallai derbyn y gwelliant hwn achosi dryswch ynghylch ei berthynas â'r ddyletswydd bresennol yn adran 6.
Gan droi yn olaf at welliant 50. Mae hwn yn diwygio adran 2 o'r Bil i ddarparu, wrth arfer ei swyddogaethau, pan fo'r awdurdod o'r farn bod gwrthdaro yn bodoli rhwng sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd ac unrhyw ofyniad i gynnal a gwella bioamrywiaeth, rhaid i'r elfen gyntaf gael blaenoriaeth. Unwaith eto, mae'r gwelliant hwn yn ddiangen gan ei fod yn syml yn nodi'r hyn sy'n digwydd eisoes ac felly mae'n dyblygu. Gwnaf esbonio pam.
Bydd adran 6(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod, sy'n awdurdod cyhoeddus at ddibenion yr adran honno, ac rwy'n dyfynnu,
'geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol’.
Felly, mae'r ddyletswydd i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth ac ati yn berthnasol dim ond i'r graddau y mae'n gyson ag arfer priodol yr awdurdod o'i swyddogaethau. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid gwelliant 17 ac i bleidleisio yn erbyn gwelliannau 49, 30, 50, 18, 19, 20 a 31.
Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rydym ni wedi gwneud dadleuon cryf iawn ym mhob cyfnod, felly rwy'n credu y dylem ni fynd at bleidlais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 49? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 49 wedi'i wrthod.
Gwelliant 49: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 17.
Cynigiwyd gwelliant 17 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Delyth Jewell, gwelliant 30.
Cynigiwyd gwelliant 30 (Delyth Jewell).
Gwthio, plis.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal.
Rwy'n pleidleisio yn erbyn.
O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 30 wedi'i wrthod.
Gwelliant 30: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Janet Finch-Saunders, gwelliant 50.
Cynigiwyd gwelliant 50 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, roedd 12 yn ymatal, a 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 50 wedi'i wrthod.
Gwelliant 50: O blaid: 14, Yn erbyn: 28, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth Jewell, gwelliant 18.
Cynigiwyd gwelliant 18 (Delyth Jewell).
Symud, plis.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal.
Rwy'n pleidleisio yn erbyn.
O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 18 wedi'i wrthod.
Gwelliant 18: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth Jewell, gwelliant 19.
Cynigiwyd gwelliant 19 (Delyth Jewell).
Symud, plis.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Unwaith eto, mae'r bleidlais yn gyfartal, felly fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 19 wedi'i wrthod.
Gwelliant 19: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth Jewell, gwelliant 20.
Cynigiwyd gwelliant 20 (Delyth Jewell).
Symud, plis.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 20 wedi'i wrthod.
Gwelliant 20: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Janet Finch-Saunders, gwelliant 31.
Cynigiwyd gwelliant 31 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 31 wedi'i wrthod.
Gwelliant 31: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 2 sydd nesaf. Mae'r ail grŵp o welliannau yn ymwneud â gwybodaeth gyhoeddus, cyfathrebu ac ymgysylltu. Gwelliant 6 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i symud y prif welliant ac i siarad am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Huw Irranca-Davies).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyflwynwyd nifer o welliannau yng Nghyfnod 2 gan Delyth Jewell a Janet Finch-Saunders. Nod y gwelliannau oedd ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod sefydlu gwefan ac i rai dogfennau allweddol gael eu cyhoeddi. Roeddwn i'n gefnogol i'r gwelliannau a gyflwynwyd, ond roeddwn eisiau gweithio gyda'r Aelodau i gyflwyno cyfres o welliannau yng Nghyfnod 3 sy'n sicrhau dull cynhwysfawr a chyson o gyhoeddi ar wyneb y Bil. Felly, rwy'n falch o ddweud mai dyna'n union rydym ni wedi'i wneud, ac fe hoffwn i ddiolch i Delyth a Janet am eu cyfraniad a'u cydweithrediad wrth baratoi'r gwelliannau hyn.
Os edrychwn ni yn gyntaf ar welliant 15, mae hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod sefydlu a chynnal gwefan neu gyfleuster electronig arall sydd am ddim i'r cyhoedd ei ddefnyddio. Mae'r cyfeiriad at gyfleusterau electronig eraill wedi'i gynnwys i ddiogelu'r ddeddfwriaeth yn y dyfodol yng ngoleuni datblygiadau technolegol cyflym.
Mae gwelliant 16 yn mewnosod adran newydd yn y Bil sy'n ymwneud â chyhoeddi. Mae'n darparu, pan fo'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod gyhoeddi unrhyw beth, er enghraifft hysbysiad neu adroddiad, bod yn rhaid ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod neu gyfleuster electronig arall a sefydlwyd ac a gynhelir o dan yr adran a fewnosodir gan welliant 15. Pan fo'n ofynnol i'r awdurdod gyhoeddi unrhyw beth, mae'r gwelliant hwn yn rhoi'r pŵer i'r awdurdod gyhoeddi mewn unrhyw ffordd arall y mae'r awdurdod yn ei weld yn addas. Mae hyn yn darparu ar gyfer pobl sydd wedi'u heithrio'n ddigidol ac nad ydyn nhw efallai yn gallu cael mynediad at wybodaeth ar-lein. Nawr, effaith y gwelliant hwn yw bod yn rhaid cyhoeddi'r dogfennau canlynol ar wefan yr awdurdod gan eu bod yn dod o dan ddyletswydd bresennol i gyhoeddi yn y Bil: felly, y rhaglen asesiadau rhagarweiniol, y datganiad o bolisi ar gategoreiddio, y cynllun corfforaethol, yr adroddiad blynyddol, adroddiadau asesiadau rhagarweiniol, asesiadau rhagarweiniol ychwanegol, asesiadau llawn ac asesiadau llawn ychwanegol.
Mae gwelliant 13 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod i gyhoeddi hysbysiadau o dan Ran 2. Mae'n darparu, pan fo darpariaeth ym mhenodau 3 neu 5 o Ran 2 yn ei gwneud hi'n ofynnol hysbysu rhywun, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r hysbysiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi rhoi'r hysbysiad hwnnw. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cyhoeddi'r hysbysiadau canlynol ar wefan yr awdurdod: adran 20, yr hysbysiad o'r bwriad i gofrestru tomen; adran 21, penderfyniad cofrestru; adran 22, yr hysbysiad o gynnig i ddadgofrestru tomen; adran 23, penderfyniad ar gynnig i ddadgofrestru; adran 29, cynnig i wneud newid hysbysadwy; ac adran 30, y penderfyniad ar hysbysiad o gynnig o newid hysbysadwy. Mae hyn yn darparu rhestr gynhwysfawr o'r holl hysbysiadau sy'n ymwneud â chofrestru, ac mae'n cwmpasu'r holl hysbysiadau a mwy a gynhwyswyd yn y gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2.
Byddwch wedi sylwi bod gwelliant 13 yn rhoi'r gallu i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiadau ar ffurf wedi'i golygu os yw'n ystyried ei bod hi'n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth sy'n groes i unrhyw waharddiad a gyflwynir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall. Er enghraifft, byddai hyn yn caniatáu i'r awdurdod ddileu gwybodaeth bersonol o hysbysiad.
Gan droi at welliannau 6 a 12, mae'r gwelliannau hyn yn gyson â'r dull newydd o gyhoeddi. O dan y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd o dan adran 31, rhaid i'r rhestr o'r holl domenni nas defnyddir fod ar gael yn electronig i aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol. Yn yr un modd, o dan adran 9, rhaid i'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y gofrestr o domenni nas defnyddir fod yn hygyrch i'r cyhoedd ar bob adeg resymol. Mae gwelliannau 6 a 12 bellach yn ei gwneud hi'n ofynnol cyhoeddi'r wybodaeth hon, sy'n golygu ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod, a fydd yn sicrhau bod yr wybodaeth ar gael bob amser.
Felly, rwy'n fodlon bod y pum gwelliant hyn, o'u hystyried gyda'i gilydd, yn cyflawni'r nod o gynnwys gofyniad cyhoeddi clir ar wyneb y Bil. Fe hoffwn i ddiolch eto i aelodau'r pwyllgor, ac yn enwedig Delyth a Janet, am eu cyfraniad a byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid y gwelliannau hyn.
Gan droi nawr at welliant 45 yn fyr, sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdod i gyhoeddi strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu, byddai hyn yn gofyn i'r strategaeth nodi sut y bydd yr awdurdod yn ymgysylltu â'r cyhoedd wrth arfer ei swyddogaethau. Mae hefyd yn nodi y gall yr awdurdod adolygu'r strategaeth a bod yn rhaid iddo gyhoeddi'r strategaeth ddiwygiedig, ac mae'n cynnwys gofyniad ymgynghori. Bydd yn rhaid i'r awdurdod, wrth gwrs, ymgysylltu â chymunedau lleol a bydd hyn yn rhan annatod o feithrin cysylltiadau cymunedol da. Fe wnes i ymrwymiad yng Nghyfnod 2 a gadarnhaodd y bydd gan yr awdurdod strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu. Fodd bynnag, nid oes angen dyletswydd statudol i gyflawni hyn. Felly, am y rhesymau hyn, byddwn yn gofyn i'r Aelodau beidio â chefnogi gwelliant 45.
Diolch, Dirprwy Brif Weinidog, ac i'ch swyddogion, am eich cydweithrediad caredig ar welliannau sy'n ymwneud â'r wefan. Roedd diffyg safle o'r fath yn wendid a dynnais sylw ato yng Nghyfnod 2. Rydych chi wedi gwrando, rydych chi wedi gweithio gyda ni, ac rwy'n croesawu'r newidiadau a roddwyd o'n blaenau yn y grŵp hwn heddiw. Roeddwn yn gobeithio y gallem ni fynd ymhellach ac y byddai cydweithrediad trawsbleidiol o'r fath yn ymestyn i welliant 45, a fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod gyhoeddi strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu. Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaethoch chi bwysleisio i mi fod arnoch chi eisiau a'ch bod yn credu y byddai hyn yn digwydd. Felly, beth am fynd y cam hwnnw ymhellach a sicrhau y bydd yn digwydd trwy roi'r gofyniad yn y gyfraith? Diolch.
Rwy'n croesawu gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, ac, fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet, y Dirprwy Brif Weinidog, wedi amlinellu, maen nhw'n ganlyniad trafodaethau cynhyrchiol a gawsom ni ers Cyfnod 2 yn ymwneud yn arbennig â hysbysiadau a gyhoeddwyd a'r gofrestr o domenni nas defnyddir a gwneud yr wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd ar-lein. Cawsom ein hysgogi'n wreiddiol gan yr angen i ymgorffori safonau tryloywder trwyadl ym mhob agwedd ar waith yr awdurdod. Siaradais yn gynharach am yr angen i gael cefnogaeth cymunedau; rwy'n credu bod hyn yn hanfodol ar gyfer hynny. Rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig yn hyn o beth, o ystyried y diffyg ymddiriedaeth hollol bosib a deimlir gan gymaint o'r cymunedau hyn sydd wedi cael eu siomi ar ôl degawdau o addewidion iddyn nhw a dorrwyd a gobeithion gwag ar ran y pwerau hynny. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi cytuno â'r dull hwn. Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i'r Dirprwy Brif Weinidog, ac i'w swyddogion, ac rwy'n fodlon bod y gwelliannau hyn yn cyd-fynd yn fras â'r hyn yr oeddem ni wedi bwriadu ei gyflawni, felly rwy'n eu canmol. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Dim ond yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd, i ddiolch i Janet a Delyth am eu cyfraniad i hyn. Rwy'n credu bod gennym ni rai gwelliannau da yma. Mae'n enghraifft dda o weithio trawsbleidiol i gyrraedd yr amcan cywir. Felly, rwy'n falch os gall pawb gefnogi hyn. Ond, fel y dywedaf, o ran y strategaeth gyfathrebu, fel y gwnes i'n glir yng Nghyfnod 2, bydd gan yr awdurdod strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu, nid oes angen dyletswydd statudol arnom ni i gyflawni hyn mewn gwirionedd. Felly, dyna pam na allaf gefnogi gwelliant 45, ond diolch am eich gwaith gyda'ch gilydd ar gyflwyno'r gwelliannau eraill.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 6.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 3 sydd nesaf. Mae'r trydydd grŵp o welliannau yn ymwneud ag asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir o dan Ran 2. Gwelliant 32 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 32 (Janet Finch-Saunders).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, bwriad Llywodraeth Cymru yw i asesiadau rhagarweiniol o'r tomenni hyn fod yn seiliedig ar waith desg. Nawr, nid fi yw'r unig un sy'n poeni am hyn, ac rwy'n teimlo'n wirioneddol bedantig amdano, ond mae sawl rhanddeiliad hefyd wedi codi pryderon am effeithiolrwydd y dull hwn. Er enghraifft, cwestiynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddilysrwydd asesiad sy'n seiliedig ar waith desg. Fel y gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau yma yn cytuno, does dim byd yn well na mynd i'r safle, mynd am dro yno, gwneud rhai ymchwiliadau rhagarweiniol ar eich ffordd o amgylch y safle hwnnw. Mae sut y gellir gwneud hynny o ddesg mewn swyddfa yn rhywle arall yn ddirgelwch i mi.
Nawr, yn ystod Cyfnod 2, gwrthwynebodd y Dirprwy Brif Weinidog oherwydd effaith y gofyniad hwn ar amser. Nawr, mae fy nghyd-Aelod Alun Davies newydd nodi i ni i gyd bwysigrwydd absoliwt gwneud yn siŵr bod y tomenni hyn yn ddiogel. Dyna, yn gyntaf oll, pam rydym ni'n cefnogi—mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi—llawer o'r Bil hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy'n bryderus iawn y gellid gweld yr agwedd hon iddo fel rhuthro trwy asesiadau rhagarweiniol, yn seiliedig ar waith desg, ac rwy'n bryderus iawn am ddilysrwydd y rhain yn cael eu cynnal yn iawn. Felly, gofynnaf i'r holl Aelodau sy'n bresennol ystyried y pwynt hwn yn ofalus iawn.
Byddai gwelliannau 33, 34 a 35 yn galluogi i unrhyw un wneud sylwadau y mae'n rhaid i'r awdurdod roi sylw iddyn nhw wrth wneud penderfyniad ar gynnig i gofrestru tomen, dadgofrestru tomen neu wneud newid hysbysadwy. Byddai hyn yn golygu y byddai angen i'r awdurdod ystyried barn y cyhoedd. Yn y pen draw, rydym ni'n datblygu'r ddeddfwriaeth hon i helpu amddiffyn ein cymunedau, yr union gymunedau y mae Alun wedi sôn amdanyn nhw. Os bydd unrhyw un yn y cymunedau hynny yn dymuno gwneud sylwadau ac i'r sylwadau hynny gael eu hystyried, dylai'r awdurdod fod yn barod i wrando a gweithredu. Mae fy ngwelliannau yn helpu i gyflawni hynny.
Yn olaf, mae gwelliant 36 yn gosod targed yn y gyfraith i'r awdurdod nodi a llunio rhestr o'r holl domenni nas defnyddir erbyn 1 Ionawr 2030. Yn ystod Cyfnod 2, ceisiodd y Dirprwy Brif Weinidog fy atal rhag mynd ar drywydd y gwelliant ar y sail y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau, y gwaith ymarferol wedi ei wneud, asesiadau wedi'u gwneud, y categoreiddio wedi'i wneud, erbyn 1 Ebrill 2027. Fodd bynnag, nid wyf yn ystyried bod hynny'n hollol gywir. Yr holl domenni glo fydd wedi'u nodi erbyn 1 Ebrill 2027, nid pob tomen. Diolch.
Rwy'n siarad yn bennaf am welliant 21 yn y grŵp hwn. Nawr, mae'r gwelliant hwn yn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i esbonio eu penderfyniad i gymeradwyo rhaglen waith, ni waeth a yw wedi'i haddasu ai peidio. Nawr, rwy'n credu bod hyn yn atgyfnerthu'r safonau cadarn o dryloywder yr oeddwn yn cyfeirio atyn nhw yn y grŵp blaenorol.
Nawr, pan gyflwynwyd y gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, roedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dadlau y byddai'r gofyniad hwn yn rhoi baich gweinyddol diangen ar Weinidogion Cymru. Nawr, rwyf yn cydnabod y ffaith bod Gweinidogion Cymru, wrth gwrs, eisoes wedi'u rhwymo gan egwyddorion cyfraith gyhoeddus sy'n ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw wneud penderfyniadau rhesymegol er budd y cyhoedd, ond rwy'n parhau i gredu bod y trothwy ar gyfer tryloywder yn yr achos penodol hwn, oherwydd yr holl agweddau tringar rydym ni eisoes wedi bod yn eu trafod, bod hynny gyfryw fel bod cyfiawnhad dros ofyn am haen ychwanegol o eglurhad ar wneud penderfyniadau llywodraethol. Unwaith eto, nid wyf yn meddwl am y Llywodraeth hon; rwy'n meddwl am Lywodraethau yn y blynyddoedd i ddod.
Rwyf hefyd yn croesawu gwelliannau 10 ac 11 yn y grŵp hwn, sydd hefyd yn cyflawni nodau ein gwelliannau yng Nghyfnod 2 i sefydlu isafswm absoliwt o 14 diwrnod ar gyfer y cyfnod cynrychiolaeth ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir. Nawr, roeddwn i'n dadlau dros y ddarpariaeth hon oherwydd yr angen i fod mor drylwyr â phosibl wrth benderfynu ar raddfa gweithredu'r ddeddfwriaeth, felly rwy'n ddiolchgar bod y Llywodraeth wedi derbyn y rhesymeg yn y fan yna. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i grybwyll, yn gyntaf oll, gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, os gallaf. Felly, mae gwelliannau 7, 8 a 9 yn gwneud rhai mân ddiwygiadau drafftio technegol i adrannau 14(2)(b), 16(1)(b) a 17(2)(b). Mae'r gwelliant yn cyfnewid y gair 'bob' gyda'r gair 'yr'. Nid oes unrhyw effaith ar y polisi sy'n sail i'r adrannau hyn.
Felly, i esbonio'r newid: mae adran 14(2) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gyflawni—
Ydych chi'n ymateb i'r ddadl yn y fan yna, yn hytrach na gwneud y grŵp nesaf? Rwy'n credu eich bod chi'n ymateb i'r grŵp diwethaf, nid dechrau'r un nesaf.
Mae'n ddrwg gen i.
Nid ydych chi'n ymateb i'r ddadl; rydych chi'n ymateb i grŵp 3.
Yn wir. Mae'n ddrwg gen i. Dau funud.
Mae eich cyd-Aelod yn y Cabinet yn gwirio hynny.
Ydw. Rwy'n ymateb i grŵp 3, ond hefyd i fy ngwelliannau fy hun o fewn hyn.
Ie. Mae'n ddrwg gen i. Rwy'n delio â'm gwelliannau fy hun yn gyntaf oll, cyn i mi droi at ymateb i'r rhai eraill. Mae'n ddrwg gen i. Trefn wahanol yma. Felly—
Rwy'n hyderus bod eich cyd-Aelod yn y Cabinet yn ceisio eich helpu.
Gwelliannau—. [Chwerthin.] Rwy'n gwybod. Felly, rwy'n delio â'n gwelliannau yn gyntaf oll, gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp, cyn i mi ymateb i'r lleill.
Felly, gwelliannau 7, 8 a 9, maen nhw'n gwneud y mân welliannau drafftio technegol hynny y cyfeiriais atyn nhw gynnau. Felly, i esbonio'r newidiadau ychydig ymhellach, mae adran 14(2) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol mewn perthynas â'r domen pan fydd o'r farn y dylid cynnal asesiad, a chynhyrchu a chyhoeddi adroddiad o bob asesiad. Gan fod yr adran yn cyfeirio at asesiadau sy'n cael eu cynnal mewn perthynas 'â'r domen', yn hytrach na 'pob tomen', dylai'r ddyletswydd fod i gynhyrchu a chyhoeddi adroddiad o'r 'asesiad'. Mae'r un pwynt yn codi mewn perthynas ag asesiadau llawn ac asesiadau llawn ychwanegol yn adrannau 16(1)(b) a 17(2)(b). Nawr, fel y dywedais, mae'r rhain yn fân newidiadau drafftio technegol ac nid ydyn nhw'n newid yn y polisi bod pob adroddiad asesu i'w gyhoeddi. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio o blaid gwelliannau 7, 8 a 9.
Gan droi at welliannau eraill y Llywodraeth, 10 ac 11, yng Nghyfnod 2, cefnogodd y Llywodraeth welliant a gyflwynwyd gan Delyth a oedd yn cyfyngu cwmpas y pŵer gwneud rheoliadau yn adran 20(4) i newid yr isafswm cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ar gynigion i gofrestru tomen, drwy nodi na all hyn fod yn llai na 14 diwrnod. Felly, ymrwymais i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 3 i wneud newid cyfatebol i adran 22, y cynnig i dynnu tomen o'r gofrestr, ac adran 29, y cynnig i wneud newid hysbysadwy. Mae gwelliannau 10 ac 11 yn gweithredu'r ymrwymiad hwnnw. Rwy'n ddiolchgar i Delyth a Janet am eu cyfraniad i baratoi'r ddau welliant hyn, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio o'u plaid.
Gan droi nawr at y gwelliannau yn y grŵp na chyflwynwyd gan y Llywodraeth, yn anffodus, ni fyddaf yn siarad o blaid y rheini, am resymau y byddaf yn eu hamlinellu nawr. Felly, yn fy marn i, byddai gwelliant 32, sy'n gofyn am ymweld â safle ar gyfer pob asesiad rhagarweiniol, yn arwain at dreth anghymesur o ymdrech ac amser ac adnoddau ar domenni lle nad oes bygythiad posibl i les pobl. Nawr, rwy'n credu y byddai'r gwelliant hwn yn gwneud y Bil yn rhy ddrud, ac rwy'n bryderus iawn am ddargyfeirio adnoddau oddi wrth domenni nas defnyddir yng nghategori 1 a chategori 2, a dyna lle rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau eisiau i ni ganolbwyntio ein sylw a'r awdurdod i ganolbwyntio ei sylw.
I fod yn onest, byddai'n cymryd sawl blwyddyn i'r awdurdod ymweld â'r holl domenni nas defnyddir. Er enghraifft, bydd wedi cymryd—a dyma lle gallai fod rhywfaint o gamddealltwriaeth, oherwydd mae'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, MRA, eisoes wedi bod yn gwneud rhywfaint o'r gwaith hwn, ers Tylorstown ac ati—byddai wedi cymryd tua chwe blynedd i'r MRA gynnal asesiadau tebyg, y mae wedi bod yn eu gwneud eisoes, ar domenni glo, a byddai hyn yn mynd ag adnoddau i ffwrdd oddi wrth ardaloedd risg uchaf, a byddai'n golygu y byddai'r broses asesu rhagarweiniol yn cymryd llawer mwy o amser nag sydd ei angen, heb unrhyw fudd cyfatebol. Peidiwch ag anghofio ein bod ni'n amcangyfrif bod hyd at 20,000 o domenni nas defnyddir nad ydynt yn rhai glo yn ogystal â thros 2,500 o domenni glo nas defnyddir.
Yn ymarferol, rwy'n disgwyl i'r awdurdod ddefnyddio'r wybodaeth a gafwyd trwy'r rhaglen weithrediadau a gyflwynwyd cyn ei sefydlu wrth benderfynu a yw'n briodol ymweld â safle penodol. A dim ond i ddweud, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a fydd yn cael ei darparu gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, y gwaith maen nhw eisoes wedi'i wneud, a fydd wedi archwilio'r tomenni. Ac, yn ogystal, bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael iddyn nhw i'w hychwanegu at yr adroddiadau MRA. Felly, mae'n bwysig cofio y bydd yr MRA wedi archwilio a chategoreiddio pob tomen lo nas defnyddir cyn 1 Ebrill 2027. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod newydd yn gallu ystyried canfyddiadau archwiliad yr MRA, er mwyn iddo allu blaenoriaethu ei adnoddau a'i ymdrech uniongyrchol ar yr ardaloedd mwyaf priodol, ar y rhai sydd angen cymorth fwyaf. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Aelodau beidio â chefnogi gwelliant 32.
Mae gwelliant 21 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i egluro eu penderfyniad i gymeradwyo rhaglen yr awdurdod sy'n nodi ei ddull arfaethedig o ymdrin ag asesiadau rhagarweiniol, ac i ddarparu'r rhesymau dros y penderfyniad. Does dim angen y gwelliant. Rhaid i Weinidogion Cymru weithredu yn unol ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus ac, wrth wneud hynny, gwneud penderfyniadau rhesymol, rhesymegol a chyfreithlon. Bydd cynnwys y ddyletswydd statudol benodol hon yn y Bil yn rhoi baich gweinyddol diangen ar Weinidogion Cymru, ac, am y rheswm hwn, rwy'n eich annog i beidio â chefnogi'r gwelliant hwn.
Mae gwelliannau 33, 34 a 35 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod roi sylw i sylwadau 'unrhyw berson' wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chofrestru tomen neu dynnu tomen oddi ar y gofrestr a gwneud newidiadau i'r gofrestr. Ar hyn o bryd, rhaid i'r awdurdod roi sylw i unrhyw sylwadau am gynigion o'r fath gan berson a gafodd yr hysbysiad perthnasol o gofrestriad arfaethedig, dadgofrestru arfaethedig neu newid hysbysadwy arfaethedig. Mae hyn yn briodol ac yn synhwyrol. Does dim angen cynnwys gofyniad cyfreithiol i'r awdurdod ystyried sylwadau a wneir gan 'unrhyw berson'. Mewn gwirionedd, bydd yr awdurdod yn ystyried unrhyw sylwadau perthnasol, ond mae yna wahaniaeth sylweddol rhwng bod o dan ddyletswydd cyfraith gyhoeddus gyffredinol i ystyried sylwadau perthnasol a rhoi dyletswydd ar wyneb y Bil i ystyried sylwadau gan bob person. Yn wir, gallai'r olaf fod yn anymarferol yn weinyddol a gallai arwain at sefyllfa lle mae'r awdurdod yn derbyn llwyth o sylwadau, er enghraifft, gan ymgyrch a drefnwyd neu fod yn rhan o achos cyfreithiol os caiff ei herio ynghylch sut mae wedi cyflawni ei ddyletswyddau. Dydy'r ddarpariaeth bresennol ddim yn atal unrhyw un rhag gwneud sylwadau i'r awdurdod, a bydd yn rhaid i'r awdurdod weithredu o fewn egwyddorion cyfraith gyhoeddus wrth wneud penderfyniadau, a fydd yn cynnwys gwneud yn siŵr ei fod yn ystyried sylwadau perthnasol. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Aelodau beidio â phleidleisio o blaid gwelliannau 33, 34 a 35.
Mae gwelliant 36, yn fy marn i, yn ddiangen, ond hefyd yn anymarferol wrth geisio gosod dyletswydd ar yr awdurdod i nodi a llunio rhestr o'r holl domenni nas defnyddir erbyn 2030. Fe wnaf i ailadrodd hynny: pob tomen nas defnyddir erbyn 2030. Er fy mod i'n deall y teimlad y tu ôl i'r gwelliant, mae'n hanfodol nad ydym yn gosod dyletswyddau diangen ac anymarferol ar yr awdurdod. Gadewch i ni fod yn glir: byddai derbyn y gwelliant hwn yn golygu y bydd yn rhaid i'r awdurdod fod wedi asesu a chategoreiddio dros 20,000 o domenni nas defnyddir nad ydynt yn rhai glo yn ogystal â'r tomenni glo nas defnyddir cyn 2030. Nawr, byddai hyn yn golygu, yn ymarferol, y byddai swm sylweddol o adnoddau'r awdurdod yn cael ei ddargyfeirio i'r dasg hon yn hytrach na sicrhau bod y tomenni risg uchaf yn ddiogel ac yn cael eu monitro a'u cynnal.
Nawr, rwy'n hyderus, mae'n rhaid i mi ddweud, bod adran 31 o'r Bil eisoes yn cael yr effaith honno heb osod cyfyngiadau amser niweidiol ar yr awdurdod. Mae adran 31 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod i lunio a chynnal rhestr electronig o'r holl domenni nas defnyddir y mae asesiad rhagarweiniol wedi'i gynnal mewn perthynas â nhw. Fe gafodd adran 31 ei mewnosod yn y Bil trwy welliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2, mewn ymateb i argymhelliad pwyllgor. Rwyf eisiau bod yn glir nad yw'r union nifer o domenni nas defnyddir yng Nghymru yn hysbys, ac rydym yn disgwyl i'n hamcangyfrif presennol newid. Mae hyn yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth rydym yn ei datblygu o domenni nas defnyddir nad ydynt yn rhai glo ac, yn hollbwysig, bod gennym ni ddiwydiannau echdynnol yng Nghymru o hyd a allai arwain at domenni nas defnyddir yn y dyfodol. Felly, er enghraifft, lle mae gweithrediadau chwareli yn dod i ben ac mae safle yn symud allan o gwmpas y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu chwareli gweithredol, mae unrhyw domenni cysylltiedig yn debygol o gymhwyso fel tomenni nas defnyddir o dan y Bil. Felly, ar y sail honno, dydw i ddim yn gallu cefnogi gwelliant 36. Gobeithio bod hynny'n helpu, Dirprwy Lywydd.
Dwi'n galw nawr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Gadewch i ni symud i'r bleidlais, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 32 wedi'i wrthod.
Gwelliant 32: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth, gwelliant 21.
Cynigiwyd gwelliant 21 (Delyth Jewell).
Symud, plis.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn ymlaen i bleidlais. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly fel sydd yn ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.
Gwelliant 21: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Rwy'n cynnig bod gwelliannau 7, 8 a 9, sy'n ymddangos yn olynol ar y rhestr o welliannau wedi'u didoli, yn cael eu gwaredu gyda'i gilydd, o ystyried eu natur. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu grwpio'r pleidleisiau? Nac oes.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliannau 7, 8 a 9.
Ydych chi'n cynnig 7, 8 a 9?
Cynigiwyd gwelliannau 7, 8 a 9 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliannau 7, 8 a 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliannau 7, 8 a 9 wedi eu derbyn.
Derbyniwyd y gwelliannau yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Janet Finch-Saunders, gwelliant 33.
Ydych chi'n ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 33 (Janet Finch-Saunders).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn ymlaen i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 33 wedi ei wrthod.
Gwelliant 33: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 10.
Cynigiwyd gwelliant 10 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly mae gwelliant 10 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Janet Finch-Saunders, gwelliant 34.
Cynigiwyd gwelliant 34 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 34 wedi ei wrthod.
Gwelliant 34: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 11.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 11 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Janet, gwelliant 35.
Cynigiwyd gwelliant 35 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae gwelliant 35 wedi ei wrthod.
Gwelliant 35: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 12.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 12 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cabinet Secretary, gwelliant 13.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 13 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Janet, gwelliant 36.
Cynigiwyd gwelliant 36 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn at bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 36 wedi ei wrthod.
Gwelliant 36: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Byddwn ni'n symud ymlaen nawr at grŵp 4. Mae'r pedwerydd grŵp o welliannau yn ymwneud â symud ymaith a gwaredu eiddo at ddiben cynnal gweithrediadau o dan Ran 3. Gwelliant 37 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 37 (Janet Finch-Saunders).
Iawn. Felly, fel y gwelwch chi, mae llawer o gydweithredu wedi bod ar y Bil hwn hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae fy nghyd-Aelod Delyth Jewell a minnau—wel, rwy'n anghytuno ar y grŵp penodol hwn. Yn fyr, rwy'n credu y dylai unrhyw lo sy'n cael ei ddarganfod yn ystod y broses adfer ac sy'n mynd i gael ei waredu, neu fel rhan o'r broses o wneud tomenni'n ddiogel, gael ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Yn 2023, mewnforiodd y DU 3.4 miliwn o dunelli o lo. Mae'r glo sy'n cael ei fewnforio'n dod o wledydd gan gynnwys Canada, UDA, Kazakhstan, Tsieina, India, Indonesia, Awstralia, Mozambique, De Affrica, Guiana Ffrengig, Colombia a Venezuela. Mae'n anghyfrifol yn fyd-eang i fod mor ddibynnol ar lo sy'n cael ei fewnforio o wledydd o ochr arall y byd, y mae gan y rhan fwyaf ohonyn nhw safonau llawer gwaeth na ni sy'n achosi mwy o lygredd yma yng Nghymru. Yn wir, mae dibynnu ar fewnforion pan allwn ni leihau'r angen trwy ddefnyddio glo y deuir o hyd iddo yn ystod y broses adfer—. Dydw i ddim yn dweud y dylid ailagor y pyllau glo, rwy'n sôn am lo sy'n cael ei ddarganfod yn ystod y broses adfer. Rwy'n credu bod hynny'n groes i ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 y Senedd hon i fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae'n rhaid i'r patrwm hwn o symud allyriadau dramor gan Lywodraeth Cymru a chan Gymru ddod i ben. Lle mae angen glo arnon ni yng Nghymru a'r DU, dylai'r galw gael ei ddiwallu, ac fe allai gael ei ddiwallu, o'n hadnoddau ein hunain, nid wrth wneud ein hôl troed carbon yn fwy drwy fewnforio glo o dramor. Diolch.
Mae hwn, yn wir, yn faes y mae rhywfaint o anghytuno yn ei gylch. Rwy'n siarad am welliannau 1 a 2 yn y grŵp hwn yn bennaf, ac rwy'n ddyledus i sefydliadau gan gynnwys y Rhwydwaith Gweithredu Glo, Climate Cymru a Cyfeillion y Ddaear Cymru am eu cefnogaeth gyda nifer o welliannau yr wyf wedi'u cyflwyno, yn enwedig y gwelliannau yn y grŵp hwn.
Byddai'n eironi trasig pe bai Bil sydd wedi'i gynllunio i bob golwg i ddatrys y niwed amgylcheddol y mae dros ganrif o ddiwydiannu wedi'i wneud, yn galluogi diraddio ein hinsawdd a'n hamgylchedd ymhellach yn y pen draw. Diben fy ngwelliannau yn y grŵp hwn, felly, yw gosod gwaharddiad ar werthu unrhyw lo sy'n cael ei gloddio yn ystod y broses o adfer tomenni glo at ddibenion llosgi. Yr hyn sy'n fy ysgogi yma, yn rhannol, yw sicrhau na all tomenni glo ddod yn byllau glo newydd, na fyddwn ni'n gweld mwy o achosion lle mae cwmnïau preifat yn cynhyrchu cynlluniau i adfer tomenni glo ond yn dymuno ariannu eu gwaith trwy gloddio glo. Byddai hynny'n gwneud ein cymoedd unwaith eto yn wawd ar fwyngloddio a byddai'n sarhad ar ein gorffennol ac ar ddyfodol ein trefi.
Rwy'n gwerthfawrogi bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn debygol o ddadlau yn erbyn cynnwys y gwelliannau hyn ar y sail eu bod yn tresmasu ar feysydd sydd wedi'u cadw'n ôl. Cefais fy synnu o ddysgu wrth baratoi gwelliannau ar gyfer y Bil hwn fod glo yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl, yn unol â Deddf Cymru 2017. I mi, mae hynny'n tanlinellu hurtrwydd pur gwrthodiad parhaus San Steffan i dalu ei chyfran deg ar gyfer y gost o glirio'r llanast sydd wedi'i adael. Ond byddwn i'n dadlau y byddai canlyniadau peidio â darparu mesurau diogelu cadarn sy'n atal llosgi'r tanwydd ffosil mwyaf niweidiol hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â chyfrifoldebau datganoledig y Senedd, yn enwedig egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac, wrth gwrs, Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Byddwn i'n gwerthfawrogi pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu amlinellu yn ei ymateb unrhyw gyngor cyfreithiol y mae'r Llywodraeth wedi'i gael ar y mater hwn, gan esbonio pam nad yw cyfrifoldebau datganoledig y Senedd o ran polisi amgylcheddol yn caniatáu i ni fynd ymhellach wrth reoleiddio sut mae'r glo sy'n cael ei gloddio yn cael ei ddefnyddio. Tybed hefyd a oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet unrhyw ddealltwriaeth o oblygiadau cytuno ar y gwelliant hwn, yn benodol a fyddai'n ysgogi achos yn y Goruchaf Lys, ac os felly, beth fyddai safbwynt Llywodraeth Cymru pe bai hynny'n digwydd.
Yng Nghyfnod 2, roedd cefnogaeth eang yn y pwyllgor o blaid peidio â chaniatáu i lo a oedd yn cael ei gloddio o domenni glo gael ei werthu at ddibenion llosgi, gydag un eithriad, fel sydd eisoes wedi'i drafod. Rwy'n croesawu'r ffaith bod holl aelodau Llafur y pwyllgor wedi siarad yn erbyn yr egwyddor o werthu glo o domenni glo i'w losgi a'u bod wedi cefnogi'r egwyddor y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn gymodol ac roedd wedi dweud y byddai'n ystyried y pryderon hynny, ac roedd yn awyddus i roi sicrwydd ychwanegol er mwyn osgoi'r sefyllfa hon. O ganlyniad, cafodd yr Aelodau rywfaint o sicrwydd ac ni chafodd fy ngwelliannau eu pasio yng Nghyfnod 2.
Rydyn ni yng Nghyfnod 3 ac, yn amlwg, nid oes unrhyw welliannau wedi'u cyflwyno gan y Llywodraeth ar y mater hwn. Cyn heddiw, nid oedd unrhyw ymrwymiad wedi bod i ddiwygio polisi glo er mwyn osgoi'r mannau gwan presennol. Roeddwn i wedi bod yn bryderus am hynny, oherwydd yn lle hynny, bydden ni'n cael newid yn y broses i roi mwy o bŵer i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau ond dim newid i bolisi na'r sail ar gyfer newid y broses benderfynu honno. Er y byddai hynny ynddo'i hun i'w groesawu, ni fyddai'n datrys y broblem ac ni fyddai ychwaith yn diogelu'r sefyllfa yn y dyfodol oherwydd dim ond 10 mis sydd ar ôl o'r Llywodraeth hon ac, er y byddai ymrwymiad yn seiliedig ar ewyllys wleidyddol ac ymrwymiad unigolion i'w groesawu, dydw i ddim yn credu y byddai'n mynd yn ddigon pell.
Byddai'n bosibl defnyddio'r cymal 'amgylchiadau cwbl eithriadol' yn y polisi glo, ynghyd â'r cyfiawnhad o les pobl yn y Bil hwn, yn wrthynysig i ganiatáu gwerthu glo o domenni. Yn y senario gwaethaf, gallai ganiatáu cychwyn diwydiant glo newydd. Dyna'r hyn y mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi rhybuddio amdano. Nid oes yr un ohonon ni eisiau gweld hynny, wrth gwrs. Rwy'n gobeithio nad yw'r rhan fwyaf ohonon ni eisiau gweld hynny. Byddai'n gwbl anghydnaws â'r argyfyngau hinsawdd a natur y mae ein hymrwymiadau yno i ymdrin â nhw, yn ogystal ag effeithiau lleol negyddol llwch, sŵn, aflonyddwch a thraffig y gwnaethon ni, fel pwyllgor, glywed amdanyn nhw'n glir gan gymunedau y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw pan gawson ni ymchwiliad ar safleoedd glo brig yr haf diwethaf.
Rwy'n deall, o'r prynhawn yma, y bydd y Llywodraeth yn bwriadu gwneud rhywfaint o waith ar hyn. Dydw i ddim wedi clywed yr holl fanylion eto. Rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymhelaethu ar y pwynt hwnnw wrth gloi, ac rwy'n croesawu hynny. Oherwydd doeddwn i ddim wedi clywed am hynny cyn y prynhawn yma, dydw i ddim wedi cael amser eto i siarad â'r nifer o grwpiau a chymunedau y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Felly, byddaf i'n parhau i wthio'r gwelliannau hyn i bleidlais. Ond os bydd y bleidlais honno'n methu, rwyf wir yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn fodlon gweithio ar y cyd ar hyn. Mae'n fater y mae angen i ni ei gael yn iawn. Mae pob un ohonon ni, rwy'n gobeithio, eisiau cael hyn yn iawn. Rwyf yn croesawu'r arwydd hwnnw gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, ond rwyf eisiau clywed mwy o wybodaeth am hynny.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, am y rhesymau yr wyf eisoes wedi'u rhestru, ni allaf i, ac ni allwn ni gefnogi gwelliannau 37 a 39 yn y grŵp hwn. Rwy'n credu eu bod nhw'n mynd yn gwbl groes i ysbryd y Bil hwn. Yn wir, maen nhw'n mynd yn groes i rai o'r gwelliannau eraill sydd wedi'u cyflwyno o ran bioamrywiaeth. Byddwn i'n annog Aelodau i wrthod y gwelliannau hynny. Byddwn i hefyd yn annog Aelodau i fyfyrio ar y math o neges y byddai'r gwelliannau hynny'n ei hanfon i gymunedau sydd eisoes wedi dioddef cymaint o ganlyniad i'r camfanteisio di-hid gan yr hil ddynol ar ein tirweddau.
Yn fy nghyfraniad cyntaf, rwyf eisiau dweud fy mod i wedi bod yn ddiolchgar am y sgyrsiau yr ydw i wedi'u cael â'r Dirprwy Brif Weinidog, felly diolch am y rheini, a hefyd wrth gysylltu â Delyth. Rwyf eisiau dweud bod hwn yn Fil angenrheidiol, yr wyf, wrth gwrs, yn ei gefnogi, ond rwyf eisiau siarad am y gwelliannau yn y grŵp hwn.
Yn gyntaf, rydw i wedi fy syfrdanu braidd at gynnig Janet ein bod ni'n cefnogi gwelliant 37, sy'n ymwneud ag ailddefnyddio'r glo a allai gael ei gloddio yma yng Nghymru. Mae'n hollol anweddus ein bod ni'n credu ei bod hi'n iawn i ddefnyddio glo yma yng Nghymru os yw'n cael ei gloddio drwy'r broses hon. Bydd gwerthu glo yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol i bobl ledled de Cymru a thu hwnt. Bydd yn rhoi'r neges wirioneddol negyddol honno y byddan nhw, mewn gwirionedd, yn parhau i weld Cymru yn cael ei hecsbloetio.
Rwyf eisiau clywed mwy gan y Llywodraeth. Rwy'n falch iawn o glywed y gallai fod rhywbeth a allai ein helpu ni i ystyried y mater penodol hwn. Ond rwyf wedi clywed y Dirprwy Brif Weinidog yn dweud na all ragweld senario lle bydd cloddio a llosgi glo yn codi o ganlyniad i'r Bil hwn. Yn fy marn i, ond rydw i yma i wrando, byddai'n naïf dychmygu na fydd cloddio a llosgi glo yn parhau ac yn agored i gael ei gamddefnyddio a'i gam-drin. Yn anffodus, bydd hyn yn cael ei wneud, o bosibl, gan gwmnïau preifat a fydd yn ceisio gwerthu'r glo hwnnw.
Allwn ni ddim edrych yn ôl ar lo. Mae'n rhaid i ni edrych ymlaen at Gymru lanach a gwyrddach. Felly, rwy'n annog Aelodau ledled y Senedd i wrthod y gwelliannau gan Janet Finch-Saunders, ond i gefnogi gwelliannau 1 a 2, sef gwahardd y cwmnïau glo preifat rhag defnyddio unrhyw lo sy'n cael ei gloddio ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Yn sicr, rwy’n hapus i bleidleisio yn erbyn gwelliannau 37 a 39. Dyna lle rwy'n cytuno'n llwyr â Jane Dodds a Delyth Jewell. Mae'r mater yn ymwneud mwy â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders yn ei haraith, sy'n awgrymu y byddai'r Ceidwadwyr yn hapus i weld mwy o byllau glo brig ledled Cymru. Yn bendant, dyna'r cyfeiriad yr aeth y drafodaeth iddo yn yr araith honno. Rwy'n gwybod mai dyna bolisi Reform UK hefyd. Fe wnaethon ni wrthwynebu Nant Llesg yn Fochriw yn gryf, er gwaethaf y ffaith bod swyddogion y cyngor yn ein hannog ni i'w gymeradwyo. Gwnaeth gwleidyddion Llafur y penderfyniad i'w wrthwynebu yn erbyn cyngor swyddogion, ac ni chafodd Nant Llesg byth ei agor. Rwy'n poeni y bydd cyfeiriad teithio'r Ceidwadwyr a chyfeiriad teithio Reform UK yn rhoi Nant Llesg yn ôl ar yr agenda. Mae hynny'n bryder gwirioneddol. Does dim angen i ni weld mwy o byllau glo brig yng Nghymru—nac oes, yn bendant.
Rwyf eisiau dod i welliannau 1 a 2, fodd bynnag, ac rwy'n anghytuno ar yr un yma. Rwy'n gallu gweld y bwriad ac, rwy'n credu, un diwrnod, y bydd hynny'n bolisi cryf i'w gael, pan fydd y gwaith o adfer tomenni wedi'i gwblhau neu pan fydd y gwaith o adfer y tomenni hynny'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU hefyd, fel yr ydyn ni wedi dadlau eisoes. Fy mhryder i yw bod adfer tomenni—. Rydw i'n mynd i gymryd enghraifft Bedwas. Fydd hi ddim yn costio dim i bwrs y wlad i adfer Bedwas trwy gwmni preifat. Felly, mae cwmni preifat wrthi'n gwneud cais i adfer Bedwas. Maen nhw'n domenni categori D, felly fe fyddan nhw yng nghategori 1 a 2 ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd. Rydyn ni eisiau gweld y tomenni hynny'n cael eu hadfer. Does ganddon ni ddim yr arian yng Nghaerffili i wneud hynny. Bydd cwmni preifat yn ei wneud. Ond yr hyn y byddan nhw'n ei wneud yw cymryd y glo sy'n gorwedd ar yr wyneb, ei olchi, ei werthu ymlaen, a'i ddefnyddio i ariannu eu menter. Mae hynny'n adfer y tomenni i ni am ddim.
A'r mater arall—. Rydych chi'n dweud, 'Iawn, wel, mae hynny'n creu carbon.' Wel, mewn gwirionedd, yr hyn y mae'n ei wneud yw cymryd lle glo sy'n cael ei fewnforio. Byddai'r glo yn cael ei werthu yn y DU. Mae gan y glo hwnnw sy'n cael ei fewnforio ôl troed carbon mwy o faint. Felly, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw lleihau'r ôl troed carbon oherwydd eich bod chi'n cymryd lle glo sydd wedi'i fewnforio. A glo sydd eisoes yn bodoli ar yr wyneb yw hwnnw. [Torri ar draws.] Na, nid dyna a ddywedodd Janet. Na, mae Janet yn dadlau—. Fe wnaf i gymryd hynny fel ymyriad, Dirprwy Lywydd. Mae Janet yn dadlau dros ragor o lo heb ei reoleiddio yn y dyfodol. Fe wnaethoch chi wrando ar yr hyn a ddywedodd hi. Yr hyn yr ydyn ni'n sôn amdano heddiw yw caniatáu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Na, dydw i ddim yn mynd i dderbyn ymyriad [Torri ar draws.] Mae angen i mi fwrw ymlaen.
Ar bwynt o drefn, mae ef, mewn gwirionedd, yn dweud fy mod i wedi dweud rhywbeth nad oeddwn i wedi'i ddweud.
Mae angen i mi fwrw ymlaen â fy araith. Dim ond hyn a hyn o amser sydd gen i. Yr hyn yr ydyn ni eisiau ei weld yw'r tomenni glo hynny sydd â glo ar yr wyneb yn cael caniatâd i gael eu hadfer. Dyna'r polisi ar hyn o bryd. Does dim angen gwelliant i'r Bil i ganiatáu neu wahardd hynny.
Yr hyn rwy'n credu sy'n bwysig ei nodi yw y bydd amser yn dod pan fyddai'n welliant priodol i'w gael, ond rwy'n credu, nes bod y gwaith adfer hwnnw wedi'i wneud, yn wahanol i, 'Gadewch i ni gloddio glo yn y DU, heb roi frwyn arno', pan fydd yr amser hwnnw'n dod, dyna'r amser priodol. Delyth. [Torri ar draws.] Fe ddof yn ôl atoch chi mewn eiliad.
Diolch am gymryd yr ymyriad. Y pwynt yr oeddwn i eisiau ei herio efallai o ran yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, oedd eich dadl na fydd yn costio dim i'n cymunedau i hyn ddigwydd. Rwy'n credu, o ran y gost ariannol yn y tymor byr, yna efallai y bydd hynny'n wir. Ond a fyddech chi'n cytuno â mi, o ran cost hirdymor yr hyn y gallai hynny ei olygu i'r amgylchedd, a'r llwybr posibl y gallai ein harwain ni arno yn y dyfodol a'r hyn y gallai ei gyflwyno? I orffen yr ymyriad ar rywbeth y bydden ni'n cytuno arno, rwy'n credu, byddwn ni mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth San Steffan ddoe a heddiw wedi bod yn talu'r hyn y dylen nhw, ac yn talu'r hyn y dylen nhw, i glirio'r tomenni na ddylai fod yno yn y lle cyntaf. Ni ddylai fod cwestiwn hyd yn oed.
Byddwn i'n dweud 'na', oherwydd dydw i ddim yn credu ei fod yn dechrau cynsail; mae'n seiliedig ar bolisi presennol, ac mae rheolaethau cryf iawn trwy ddulliau cynllunio. Soniais i hefyd am y ffaith y byddai hyn yn gwrthbwyso ôl troed carbon glo wedi'i fewnforio. Ond hefyd, pe bai'r sector cyhoeddus yn cael ei ariannu i wneud y gwaith hwn, does ganddyn nhw ddim yr adnoddau eu hunain, byddai'n rhaid iddyn nhw is-gontractio, ac mae'n debygol iawn y bydden nhw'n is-gontractio i gwmnïau fel ERI a fyddai'n gwneud y gwaith hwnnw wedyn. Pe bai dadl yn cael ei chyflwyno iddyn nhw wedyn, 'Edrychwch, gallwn ni wrthbwyso'r ôl troed carbon a gwerthu'r glo hwn i sicrhau llai o gost i bwrs y wlad', yna mae honno'n ddadl sy'n eithaf cryf. Byddai'n costio llai i'r sector cyhoeddus. Mae honno'n ddadl eithaf cryf yn yr achos hwnnw. Unwaith y bydd y tomenni wedi cael eu hadfer, gallwn ni wedyn ddweud, 'Byddwn ni'n symud i beidio â gwerthu mwy o lo o gwbl.' Fe ddof fi at Janet Finch-Saunders. Fe wnaf i dderbyn ei hymyriad.
Diolch, Hefin. Mewn gwirionedd, rwyf eisiau dweud 'diolch' am ran olaf eich dadl, oherwydd rydych chi'n dweud yn union yr hyn yr ydw i'n ei ddweud. Dydw i ddim wedi dweud gadewch i ni ailagor tomenni neu byllau glo neu unrhyw beth. Yr hyn yr ydw i wedi'i ddweud yw, lle mae glo neu sborion yn cael eu darganfod wrth i domen gael ei hadfer, yn amlwg bydd llawer o hyn yn lo arwynebol, ac mae hynny'n mynd i leihau faint o lo yr ydyn ni'n ei fewnforio.
Mae hon wedi bod yn ddadl diddorol a phwysig iawn, ond mae hi'n glir i bawb nawr—[Torri ar draws.] O, iawn. Ie, iawn. Ond diolch, oherwydd rwy'n credu ein bod ni ar yr un donfedd, mewn gwirionedd. Felly, efallai y gwnewch chi bleidleisio dros fy syniad i.
Ond rwy'n credu bod dau bwynt y mae angen i ni eu gwneud. Rhif 1, nid dyma'r Bil i wneud hynny, ac mae polisi presennol y Llywodraeth yn caniatáu i gwmnïau fel ERI wneud y gwaith hwnnw. Gall y Llywodraeth alw'r rheini i mewn ar unrhyw adeg, felly nid oes angen gwelliant yn y Bil hwn. Ond hefyd gwrandawais ar yr hyn a ddywedoch chi, a'r hyn a ddywedoch chi oedd awgrymu y dylem ehangu cynhyrchu glo yn y DU er mwyn gwrthbwyso cynhyrchu yn y DU. [Torri ar draws.] Dyna a glywais yn eich araith. [Torri ar draws.] Dyna a glywais i yn eich araith. Felly, ni fyddaf yn pleidleisio dros 37 a 39. Does dim o'u hangen. Ac ni fyddaf yn pleidleisio dros 1 a 2 am y rhesymau rwyf wedi'u hamlinellu.
Rwy'n amlwg yn cefnogi'r Bil ac wedi bod â rôl gefnogol fach yn ei ddatblygiad, ond mae gen i gydymdeimlad â safbwynt yr Aelodau Llafur ar y pwyllgor a gefnogodd mewn egwyddor welliant Delyth Jewell. O safbwynt carbon, mae'r ddadl hon dros ddadleoli yn godi sgwarnogod yn llwyr. Os ydych chi'n llosgi mwy o lo, rydych chi'n rhoi mwy o garbon yn yr atmosffer, ni waeth o ble mae'r glo yn dod. Nid yw'n ymwneud â thynnu'r glo o'r ddaear yn unig. Mae'n ymwneud â beth rydych chi'n ei wneud gyda'r glo. [Torri ar draws.] Does dim ots. Mae'r difrod o gael y glo allan wedi'i wneud. Felly, nid yw'n ddadl am echdynnu glo o'r ddaear. Mae hon yn ddadl am beth rydych chi'n ei wneud gyda'r glo unwaith y mae e gennych. Mae unrhyw lo ychwanegol rydyn ni'n ei losgi, unrhyw garbon ychwanegol rydyn ni'n ei roi i mewn i'r atmosffer, yn ychwanegu at y broblem newid hinsawdd. Rydym wedi gweld, yr wythnos hon, lefelau afonydd yn Texas yn codi 8m mewn llai nag awr. Dyna'r carbon sydd eisoes wedi'i gloi yn yr atmosffer. Os ydym yn ychwanegu mwy o garbon, boed o Golombia neu o Gwmbach, does dim ots mewn gwirionedd. Mae'n mynd i ychwanegu at y llwyth amgylcheddol cyffredinol na allwn ei gynnal mwyach.
Does dim pwynt i ni fel Senedd basio deddfau yn dweud ein bod ni'n datgan argyfwng hinsawdd, ein bod am fod â sero net erbyn 2050, ac mae gennych Janet Finch-Saunders yn sefyll ar risiau'r Senedd yn anfon deisebau i Gynhadledd y Pleidiau, os, pan ddaw iddi, eich bod yn fodlon llosgi mwy o lo. Mae hynny'n ychwanegu at y broblem newid hinsawdd. Nid yw'n gyson â'r polisïau a'r addewidion sydd gennym fel Senedd, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn myfyrio'n ofalus ar ysbryd gwelliant Delyth Jewell ac yn cyflwyno rhywfaint o gryfhau pellach sy'n mynd y tu hwnt i bolisi glo yn unig, y gellir ei newid yn hawdd.
Yr ail bryder sydd gen i yw'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â'i deddfwriaeth. Rwy'n credu bod hon yn astudiaeth achos arall yn y ffordd amherffaith yr ydym ni fel Senedd a Llywodraeth yn trafod deddfwriaeth. Unwaith eto, oherwydd bod system y Llywodraeth wedi'i gorlwytho, mae gennym Fil o flaen y Senedd na ellir ei ddiwygio yn ymarferol, heblaw am welliannau technegol bach y mae'r Llywodraeth yn eu cymeradwyo, oherwydd bod y Llywodraeth yn ei wrthsefyll ar bob cam oherwydd y cyfyngiadau capasiti y mae'n eu hwynebu. Ac rydyn ni wedi gweld hyn sawl gwaith bellach. Felly, mewn gwirionedd, mae ein rôl fel deddfwrfa yn un ffug. Y ddadl y mae'r Gweinidog wedi'i wneud yw y byddai unrhyw newidiadau ar hyn o bryd i sylwedd y Bil yn ei oedi i'r fath raddau y byddai'n cael ei golli o'r Senedd hon, ac felly ni allwn newid y ddeddfwriaeth yn ymarferol.
Dywedodd y Gweinidog nad Bil amgylcheddol yw hwn. Wel, mae'r Bil hwn yn beth bynnag y mae'r Senedd yn penderfynu yw e. Dyna'r holl bwynt o ddeddfu. Gallwn ni ddiwygio'r Bil yn dibynnu ar ewyllys ddemocrataidd y Senedd hon. Nid yw i fyny i'r Llywodraeth ddweud wrthym beth all y Bil ei wneud ac na all ei wneud. Mae hynny i'r broses seneddol ddemocrataidd gael ei ffordd. Ac mae hon yn Llywodraeth heb fwyafrif. Ac mae angen i Lywodraethau yn y dyfodol sydd heb fwyafrif feddwl yn ofalus iawn am y rôl sydd gan y Senedd wrth wneud deddfau. Nid yw ond i Lywodraeth ollwng fait accompli ar ddesg Aelodau'r Senedd a dweud, 'Deliwch gydag e, oherwydd os byddwch chi'n pleidleisio yn ei erbyn byddwch yn colli'r Bil.' Dydy hynny ddim yn ffordd dda i ni lywodraethu'r wlad hon a dydy hynny ddim yn ffordd dda o gynnwys ein Senedd.
Felly, mae gen i bryderon am egwyddor y dull sy'n cael ei arddel. Fel y gallwch ddweud, mae gwahanol safbwyntiau yn y Senedd hon ar rôl glo. Mae glo yn parhau i fod yn fater sy'n ymrannu. Ond mae gen i bryderon hefyd am y ffordd y mae'r Llywodraeth yn mynd ati i wneud deddfau a'r ffordd y mae capasiti cyfyngedig y Llywodraeth yn gorfodi pob Gweinidog i wrthsefyll gwelliannau pan ddaw i'r Senedd hon, ac nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn barhau i'w wneud.
Mewn sawl ffordd, gwnaeth echdynnu glo ddiffinio fy mhlentyndod yn Nhredegar. Roedd gennym ni domenni lle roeddem ni'n chwarae. Fe wnes i gwrdd â rhai o fy ffrindiau ysgol yr wythnos diwethaf ac roedden ni'n cofio chwarae ar y tomenni glo, ac ati, yn y dref. Ond uwchben y dref, wrth gwrs, roedd gennych chi lo brig, 'the patches' fel yr oedd yn cael ei alw ar y pryd. Ac rwy'n cofio, ar ddiwrnodau fel rydyn ni'n eu mwynhau heddiw, yn Nhredegar, roedd llwch yn chwythu trwy'r dref. Doeddech chi ddim yn gallu anadlu weithiau oherwydd y llwch a oedd yn dod o'r glo brig. Ac ni fyddaf byth, byth yn sefyll o'r neilltu ac yn caniatáu i unrhyw elfen o lo brig gael ei hailgyflwyno i Gymru ar unrhyw adeg yn y dyfodol.
Ar yr un pryd, dechreuwyd adfer y tomenni, wrth gwrs, ond ni chwblhawyd hynny i raddau helaeth. Ac rwy'n cofio'n dda iawn, ar ben fy stryd i, lle roedd rhai o'r tomenni yn cael eu hadfer, roedd rhai siafftiau anhysbys yn cael eu darganfod hefyd. Roedd y cwm hwnnw i gyd, y dref honno a'r gymuned honno yn llawn gweddillion glo. Ac rwy'n credu ein bod ni ar y trywydd iawn i symud y tu hwnt i hynny. Rwy'n sicr yn gobeithio i mi, i fy mab a fy merch, bod hynny'n parhau i fod yn hanes a byth yn ddyfodol. Ond mae hefyd yn iawn—. Ac mae gen i gydymdeimlad mawr â rhai o'r pethau y mae Lee Waters newydd ei ddweud am sut rydyn ni'n deddfu, oherwydd rwy'n credu bod gennym gyfrifoldeb i ddeddfu mewn ffordd sy'n cydnabod y bensaernïaeth bolisi bresennol a pheidio ag esgus nad yw'r bensaernïaeth bolisi honno yn bodoli.
Nawr, rwy'n cofio Llywodraeth Cymru yn newid y polisi ar lo yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Rwy'n credu mai Lesley Griffiths, mewn gwirionedd, a gyflwynodd y newidiadau hyn—rwy'n siŵr y gwnaiff hi fy nghywiro os ydw i'n anghywir. Ac fe wnaf ei ddarllen, gyda'ch caniatâd, oherwydd mae angen ei ddweud. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn glir, ac rwy'n dyfynnu nawr:
'Ni ddylid caniatáu cynigion ar gyfer datblygiadau glo brig, pyllau glo dwfn na gwaredu gwastraff pyllau glo. Pe bai cynigion yn cael eu cyflwyno o dan amgylchiadau cwbl eithriadol, byddai’n rhaid iddynt ddangos yn glir pam mae eu hangen yng nghyd-destun targedau
lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd a diogelwch ynni.'
Ac yna mae'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'n benderfyniad gweinidogol, ac nid penderfyniad i gynllunwyr neu swyddogion yn unig. Felly, nid yw'n gywir dadlau dros y gwelliannau hyn ar sail codi bwganod am yr hyn sy'n bosibl o fewn cyfraith heddiw, oherwydd nid dyna'r ffordd y gallwn ni wneud cyfraith—byddaf yn ildio mewn eiliad—neu i gydnabod ble mae'r gyfraith yn sefyll ar hyn o bryd.
Diolch am gymryd yr ymyriad. Rwy'n tybio mai'r pryder yw natur yr amgylchiadau cwbl eithriadol hyn, oherwydd mewn sefyllfa lle y dangoswyd bod tomen yn ansefydlog, byddai cynnig i dynnu'r glo hwnnw oddi yno ac yna cael ei loddio'n fasnachol yn cael ei ystyried—mae'n siŵr gan Weinidog sy'n wynebu'r amgylchiadau hynny—yn beth y gellid ei ganiatáu. Felly, yn ymarferol, gall hynny chwalu yn llwyr yr hyn a elwir yn diogelu'r amgylchedd.
Ond dim ond os ydych chi'n caniatáu iddo wneud hynny, a dyna'r peth allweddol am ein democratiaeth. A byddai'n fater i'r Gweinidog—yn yr achos hwn, y Dirprwy Brif Weinidog, neu Weinidog yn y dyfodol, wrth gwrs—i wneud y penderfyniad hwnnw. [Torri ar draws.] Fe wnaf gymryd ymyriad arall.
Rwyf ond eisiau tynnu sylw at Six Bells yn ei etholaeth ef, y parc gwledig a gafodd ei adfer yn union yn y ffordd a ddisgrifiwyd. Mae hynny'n cael ei ganiatáu ar hyn o bryd o dan y gyfraith a grybwyllwyd gennych. Gall hynny barhau a byddai'n parhau a byddai o fudd i bobl ei etholaeth, fel y byddai Bedwas o fudd i mi.
Ac, wrth gwrs, mae'n werth cofio fy mod wedi gosod torch wrth y gofeb yn Six Bells yr wythnos diwethaf i gofio'r glowyr a fu farw yno yn y drychineb 65 mlynedd yn ôl. Mae pris glo wedi ei dalu gan y bobl yn y cymunedau y mae llawer ohonom ni yma yn eu cynrychioli, a llawer o'r bobl hynny yno.
Siaradais â chwpl o lowyr y prynhawn hwnnw a siaradodd â mi ac a ddisgrifiodd i mi sut y gwnaethon nhw achub cyrff eu ffrindiau a fu farw yn y ffrwydrad, sut y gwnaethon nhw gario'r stretsiers hynny trwy'r twneli tywyll hynny i waelod y pwll ac yna codi'r cyrff hynny i'r wyneb—dynion a oedd yn eu harddegau hwyr, yn eu hugeiniau cynnar 65 mlynedd yn ôl, yn dal yn fyw heddiw, yn dal i gofio beth yw pris glo mewn gwirionedd a phwy dalodd y pris hwnnw. Dydw i ddim eisiau mynd yn ôl i'r dyddiau hynny o gwbl. Dydw i ddim yn credu o gwbl y bydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw Senedd Cymru yn y dyfodol yn caniatáu dychwelyd i'r dyddiau hynny. Byddwn yn gobeithio y byddwn yn trafod ac yn dadlau'r polisïau hyn ar sail ble rydyn ni'n dod, ond os gwelwch yn dda seiliwch y dadleuon hyn ar ble rydyn ni heddiw, a pheidio ag esgus y gallwn greu yfory gwahanol dim ond trwy ddiwygio deddf heddiw, oherwydd mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi symud i wneud yn siŵr bod gennym y mesurau diogelu ar waith sy'n ein galluogi i sicrhau na fydd, yn y blynyddoedd i ddod, yr un diwydiant a ddioddefais i fel plentyn, a'r dynion hynny a ddioddefodd, dynion ifanc, yn gweithio yn Six Bells, yr holl flynyddoedd hynny yn ôl.
Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau hynny sydd wedi siarad ar y gwelliannau hyn. Rwy'n credu ei bod yn werth myfyrio, yn fy sylwadau agoriadol ar y grŵp hwn o welliannau, beth yw'r Bil hwn a beth mae'n ceisio ei wneud. Rydym wedi cael ein hatgoffa gan sawl un o'r Aelodau yma mai'r hyn y mae'r Bil hwn yn canolbwyntio arno yw iechyd a lles a diogelwch y cymunedau hynny sy'n byw yng nghysgod y ddeddfwriaeth. Dyna beth mae'n ymwneud ag ef, dyna beth rydyn ni'n bwriadu ei wneud. Bu cefnogaeth gref iawn i'r nod hwnnw o fewn y ddeddfwriaeth, a sefydlu corff newydd a fydd yn sicrhau bod tomenni nas defnyddir yn parhau i fod yn ddiogel a bod cymunedau'n cael sicrwydd.
Rwyf am bwysleisio hynny, oherwydd rwy'n byw ym mhen uchaf cwm Llynfi. Rwyf wedi treulio fy mywyd yn byw mewn cymunedau mwyngloddio. Mae awydd taer i weld y Bil hwn ar y llyfrau statud ac i wneud y dasg honno, i gyflawni'r nod hwnnw, yr ydym yn bwriadu ei wneud. Ond rwy'n ymwybodol, ac rydym wedi clywed gan rai heddiw, bod y ddeddfwriaeth yn achosi ofnau y gallai Cymru, unwaith eto, fod yng nghanol diwydiant glo wedi'i adnewyddu. Atgoffodd Alun ni o'r polisi glo presennol. Nawr, gallwn fynd i mewn i'r nfed fanylyn—fel y gwnes i, yn wir, ar y pwyllgor, yng Nghyfnod 2—ar y mesurau diogelu yno mewn gwirionedd. Ond nid wyf yn credu, nid wyf yn credu o gwbl, bod tystiolaeth i gefnogi'r pryder hwn bod y Bil hwn yn cynnwys unrhyw beth am agor diwydiant mwyngloddio unwaith eto. Nid dyna ei swyddogaeth, nid ei fwriad, nid dyna yw'r ysbryd, nid yw ym manylion y ddeddfwriaeth hon, a byddaf yn mynd i rywfaint o fanylion ar pam rwy'n credu bod y mesurau diogelu hynny ar waith hefyd sy'n mynd y tu hwnt i'r Bil hwn.
Yn gyntaf oll, rwy'n parhau i gredu bod y polisi glo presennol, y mae rhywfaint ohono wedi'i ddarllen ar y cofnod y prynhawn yma, yn darparu'r amddiffyniad cryf y mae'r gwelliannau yn ceisio eu cyflawni, yn enwedig pan ystyriwn y polisi hwnnw ochr yn ochr â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yr ydym i gyd yn ei adnabod a'i ddeall yn dda iawn yn y lle hwn, sy'n ofyniad statudol—llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn awr ac yn y dyfodol hefyd—amcanion ehangach Llywodraeth Cymru, a nodir yn benodol yn 'Polisi Cynllunio Cymru', a'n hymrwymiad, dro ar ôl tro ad nauseam, i roi'r gorau i'r defnydd o danwydd ffosil wrth gynhyrchu ynni. Mae'r polisïau hyn wedi'u sefydlu, maen nhw'n gadarn, ac ni ellir eu gwrthdroi'n hawdd. Rwyf hefyd wedi gwneud ymrwymiad yn ystod trafodaethau Cyfnod 2 ar hyn y byddwn yn diwygio Cyfarwyddeb Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Glo a Phetrolewm) (Cymru) 2018, i'w gwneud yn glir bod y diffiniad o ddatblygu glo yn cynnwys gweithrediadau sy'n gysylltiedig â thomenni glo nas defnyddir—dim ond i wneud hynny'n hollol glir. Nawr, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar hyn, a bydd y gyfarwyddeb yn cael ei diwygio cyn gynted â phosibl, a, dim ond i roi'r sicrwydd i chi, ymhell cyn 1 Ebrill 2027, pan fydd yr awdurdod newydd hwn yn ei le. Llyr.
A gaf i ddiolch i chi am wneud hynny'n hollol glir? Ond mae'n rhaid i chi gydnabod nad dyna a ddywedodd yr Aelod Llafur dros Gaerffili wrthym. Felly, ydych chi'n dweud na all yr hyn y mae'n ei gynnig, neu'r hyn y mae'n awgrymu a allai ddigwydd, ddigwydd o dan yr amgylchiadau presennol?
A gaf i ddweud yn glir iawn, nid wyf yn cyfeirio at unrhyw enghraifft benodol neu unrhyw gais a allai ddod ymlaen yn fuan? Rwy'n siarad am y Bil hwn a'r ddeddfwriaeth hon. Ond yr hyn rydw i'n ei gadarnhau yn glir iawn ac yn benodol iawn trwy'r broses hysbysu honno—a gadewch i mi ailadrodd yn glir—yw bod y diffiniad o ddatblygu glo yn cynnwys gweithrediadau sy'n gysylltiedig â thomenni glo nas defnyddir, a byddwn yn cyflwyno hynny, fel y dywedaf. Rydyn ni'n gweithio arno nawr; bydd yn dod drwodd yn yr hydref. Efallai y bydd angen ymgynghoriad, ond bydd ar waith ymhell cyn 1 Ebrill 2027.
Nawr, yr hyn sy'n ei wneud yn benodol, Llyr, yw'r ffaith nad ydym yn agor diwydiant glo newydd yma. Mae hyn yn ymwneud ag iechyd a diogelwch a diogelwch y cymunedau hyn yr effeithir arnynt gan yr etifeddiaeth hon. Dyna beth mae'r Bil hwn yn bwriadu ei wneud. Mae'r Bil yn benodol iawn. Gadewch i mi wneud yn hollol glir: mae'n galluogi'r awdurdod a'r tirfeddianwyr i symud a gwaredu eiddo—ac mae 'eiddo', yn y diffiniad cyfreithiol, yn cynnwys glo—lle mae hyn yn perthyn i berson arall, a dim ond pan fo—dim ond pan fo—hyn yn cael ei wneud at ddibenion gweithrediadau o dan adran 43 neu'r rhai sy'n ofynnol gan hysbysiad adran 34. Pam mae hynny'n bwysig? Oherwydd ei fod mewn cysylltiad ag iechyd a lles y cymunedau a sefydlogrwydd tomenni. Dyna beth mae'r Bil hwn yn ymwneud ag ef. Felly, rhywfaint o'r drafodaeth ehangach, er fy mod i'n ei ddeall, a'r angerdd, nid dyna beth yw'r Bil hwn.
Nawr, pe bai angen cael gwared ar lo yn ystod y gweithrediadau, byddai hyn yn ddarostyngedig yn awtomatig i bolisi glo Llywodraeth Cymru, y mae rhai ohonynt wedi'u darllen ar gofnod yma heddiw, ac i gyfraith gynllunio hefyd. Mae yna ddiogelwch arall. Mae angen caniatâd cynllunio ar weithrediadau mwyngloddio glo, adfer glo o domenni a gweithgareddau echdynnu glo cyn y gall echdynnu ddechrau. Felly, rwyf am fod yn glir bod polisi cynllunio ar ddatblygu glo yn benodol. Ni ddylid caniatáu unrhyw gynigion, fel y cyfeiriwyd atynt gan siaradwyr blaenorol, ar gyfer datblygiadau glo brig, pyllau glo dwfn na gwaredu gwastraff pyllau glo, heblaw mewn amgylchiadau cwbl eithriadol. Mae polisi'r Llywodraeth yn glir: rydym yn erbyn echdynnu glo. Nawr, lle mae cynllunio—[Torri ar draws.] Gadewch i mi gyrraedd diwedd hyn ac yna byddaf—. Mae'n ddrwg gennyf, pwy—? Ie.
Pan nad yw awdurdod cynllunio yn bwriadu gwrthod cais am ddatblygu glo, mae Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Glo a Phetrolewm) (Cymru) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cynllunio roi gwybod i Weinidogion Cymru—a dyma'r eglurder—a fydd yn ystyried galw'r cais cynllunio i mewn i benderfynu a yw'r cais yn gyson â pholisi glo Llywodraeth Cymru. Felly, pwy sy'n penderfynu yn yr amgylchiadau hynny, lle mae pwyslais mawr ar graffu a thryloywder? Mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu beth yw amgylchiadau eithriadol ym mhob achos, ac oherwydd hynny rwy'n hyderus bod y polisi a'r tryloywder ar waith i reoli echdynnu'n llym. Mae'n ddrwg gennyf, Hefin.
Dydw i ddim yn credu bod Llŷr Gruffydd yn gwrando ar yr hyn a ddywedais i, ond byddwn i'n dweud mai'r hyn rydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna yw'r union beth yr oeddwn i'n cyfeirio ato. Mae'r polisi hwnnw ar waith ac felly does dim angen y pedwar gwelliant hynny rydym yn siarad amdanyn nhw nawr.
Diolch, Hefin. Rwy'n ceisio rhoi eglurder, oherwydd weithiau mae'r Bil hwn a'r adran benodol hon wedi cael eu dal mewn llawer o ddadleuon eraill ynglŷn ag echdynnu ac yn y blaen, a dydy'r Bil hwn ddim yn ymwneud â hynny. Felly, gadewch i mi fod yn glir: mae hyn yn golygu y byddai'r gwaharddiad ar werthu glo i'w losgi, a gyflwynir gan y gwelliannau hyn, yn gul iawn o ran cwmpas ac ni fyddai'n berthnasol i gynlluniau adfer generig. Ond gadewch i mi fynd ychydig ymhellach yma hefyd. Oherwydd, yn fy ymateb ffurfiol i adroddiad y pwyllgor CCI ar safleoedd mwyngloddio brig, fe wnes i'r ymrwymiad hwnnw, Delyth, unwaith y byddai'r Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, y byddai ymagwedd strategol fanylach at fwyngloddio a'r etifeddiaeth ddiwydiannol yng Nghymru. Rwyf wedi dweud hyn dro ar ôl tro ar y llawr. Mae rhywbeth yn y fan yma y mae angen i ni ddelio ag ef o ran yr etifeddiaeth honno o fwyngloddio brig sydd wedi'i gadael, lle mae pobl wedi cerdded i ffwrdd ohono. Mae'r etifeddiaeth honno yn dal i fod yn gysgod dros lawer o gymunedau. Fe wnes i gadarnhau y byddai angen i hyn gynnwys adfer tomenni nas defnyddir a rheoli mwyngloddio brig.
Nawr, byddai'r darn ehangach hwn o waith—rwy'n ymrwymedig iddo—yn ystyried cyfrifoldeb cymdeithasol sefydliadau a chwaraeodd rhan ganolog yn etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru ac sydd wedi cerdded i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau i bobl Cymru. Mae'r rhain yn sefydliadau, gadewch i ni fod yn glir, nad ydynt wedi cyflawni eu hymrwymiad i'r cymunedau yr oedden nhw i fod i fod wedi'u gwasanaethu. Felly, bydd y darn hwn o waith yn edrych ar sut allwn ni ddatblygu a sut allwn ni gyflawni dull strategol o drawsnewid y safleoedd hyn. Rydym eisoes wedi dechrau edrych ar sut allwn ni fwrw ymlaen â'r darn sylweddol hwn o waith, ar y cyd, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda Llywodraeth y DU hefyd, oherwydd mae yna berchnogaeth a rennir—mae'n rhaid bod yna berchnogaeth a rennir—o hyn. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn pasio gwelliannau heddiw sydd naill ai'n dechnegol ddiffygiol neu'n debygol o ohirio'r Bil pwysig iawn hwn. Os gallaf—. Wps, mae'n ddrwg gen i, wrth i mi gymysgu darnau o bapur o gwmpas yn y fan yma.
Ar y pwynt hwnnw—
Diolch. Allech chi gadarnhau pan wnaethoch chi gyfeirio—diolch am gymryd ymyriad—pan wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith y byddai rhai o'r gwelliannau, pe baen nhw'n cael eu pasio, yn oedi'r broses, a yw hynny oherwydd, pe baen nhw'n cael eu pasio, byddai'n rhaid i ni fynd i'r Goruchaf Lys, oherwydd mae glo yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl, er bod tomenni glo yn fater datganoledig?
Na, nid o reidrwydd, ond mae'n werth nodi—fe wnaethoch chi ofyn y cwestiwn ynghylch materion sydd wedi'u cadw'n ôl—o dan baragraff 98 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae glo, gan gynnwys perchnogaeth ac ecsbloetio glo, yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl. Ond, wrth gwrs, rwy'n dod yn ôl i'r pwynt nad Bil sy'n ymwneud ag ecsbloetio glo yw hwn; mae'n ymwneud â lles y cymunedau hynny yr effeithir arnyn nhw.
Mae'n ddrwg gen i, rydw i eisiau ehangu ychydig ar y gwelliannau penodol. Yn gyntaf oll, byddai gwelliannau 1 a 2 yn ceisio atal tirfeddianwyr a'r awdurdod, yn ystod y gweithrediadau, rhag gwerthu glo person arall i berson sy'n bwriadu ei losgi. Mae yna rai anawsterau technegol ynghlwm wrth ddeddfu i gyflawni hyn, os mai dyma'r nod. Pe bai gwelliannau 1 a 2 yn cael eu pasio, dydw i ddim yn credu y byddan nhw'n cyflawni'r amcan a fwriadwyd, mewn gwirionedd, ac fe wnaf i esbonio pam.
Er y byddai'r gwelliannau yn atal tirfeddianwyr a'r awdurdod, yn ystod y gweithrediadau, rhag gwerthu glo person arall at ddibenion llosgi, ni fyddai'n atal y person sy'n prynu'r glo rhag ei losgi. Ar lefel ymarferol, sut mae disgwyl i'r tirfeddiannwr neu'r awdurdod arfer rheolaeth—mater cyfreithiol yw hwn—dros yr hyn sy'n cael ei wneud gyda'r glo ar ôl iddo gael ei werthu? Yn ogystal—dim ond i nodi—dydy'r gwelliannau ddim yn cynnwys unrhyw sancsiwn neu ganlyniad os na fydd cydymffurfiaeth â'r darpariaethau newydd. Felly, mae hyn yn codi cwestiynau go iawn—cwestiynau ymarferol—am orfodadwyedd y darpariaethau a gyflwynir gan y gwelliannau.
Gan droi at welliannau 37 a 39, sydd wedi bod yn destun rhywfaint o drafodaeth yma heddiw, does dim angen y gwelliannau hyn oherwydd mae glo, mewn gwirionedd, yn dod o fewn ystyr naturiol y gair cyfreithiol 'eiddo', y gellid ei ddehongli i gynnwys glo.
Felly, ar y sail honno—ac i wneud yn iawn am yr ymrwymiad a wnes yng Nghyfnod 2 i'r pwyllgor—byddwn i'n gofyn i Delyth ystyried tynnu'r gwelliannau hyn yn ôl a gweithio gyda ni ar y darn ehangach hwnnw o waith strategol ar yr etifeddiaeth mwyngloddio a diwydiannol yng Nghymru ar gyfer y cymunedau hynny yr effeithir arnyn nhw. A byddwn i'n annog, fel arall, yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn oherwydd diffygion technegol, ond hefyd am nad oes angen gwelliannau 1 a 2. Ac rwy'n gobeithio fy mod i wedi dangos i Aelodau fod polisi glo cryf iawn, polisi cynllunio a chanllawiau eraill ar waith sy'n atal hyn rhag bod yn ddrws agored ar gyfer ecsbloetio neu werthu glo. Nid Bil mwyngloddio glo yw hwn; Bil amddiffyn cymunedau ydyw.
Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Gadewch i ni symud i'r bleidlais, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 37? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 37. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 37 wedi'i wrthod.
Gwelliant 37: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth, gwelliant 1.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Delyth Jewell).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Gwelliant 1: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 5 sydd nesaf. Mae'r pumed grŵp o welliannau yn ymwneud â'r hawl i apelio yn erbyn hysbysiad sy'n gofyn am weithrediadau o dan Ran 3. Gwelliant 38 yw'r brif welliant—yr unig welliant yn y grŵp hwn—ac rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 38 (Janet Finch-Saunders).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae deddfwriaeth fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn galluogi apêl ar y sail nad yw perchennog y tir yn gallu talu costau'r gweithrediadau, fodd bynnag, mae diffyg eglurder ynghylch pa dystiolaeth o anfforddiadwyedd sydd ei hangen, os o gwbl.
Yn ystod Cyfnod 2, cynghorodd y Dirprwy Brif Weinidog, yn ymarferol, y bydd angen i dirfeddiannwr ddarparu tystiolaeth i ddangos nad yw'n gallu talu cost gweithrediadau er mwyn dibynnu ar y seiliau caledi a nodir yn is-adran (4). Dyna ddisgwyliadau'r ddau ohonom, ond nid yw'r gyfraith fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn gofyn am hynny. Efallai y bydd canllawiau yn mynd ymlaen i nodi y dylid gwneud hynny, ond ni all ei wneud yn ofynnol. Mae angen egluro hyn nawr yn y gyfraith. Mae'n ymddangos bod y Dirprwy Brif Weinidog a minnau yn cytuno bod yn rhaid i dystiolaeth gael ei darparu, felly ystyriwch gytuno i'r gwelliant hwn heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Felly, yn fy marn i, Janet, rwy'n deall beth yw hyn, ac rydym yn ailadrodd yr hyn wnaethon ni yng Nghyfnod 2 y pwyllgor yn y fan yma, ond does dim angen gwelliant 38. Felly, mae'r gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i dystiolaeth gael ei darparu gyda cheisiadau a wneir o dan adran 37(4) lle nad yw perchennog yn gallu talu costau gweithrediadau sy'n ofynnol gan hysbysiad adran 34. Mae'n bosibl apelio yn erbyn hysbysiad adran 34 am nifer o resymau. Bydd yn rhaid cyflwyno tystiolaeth gyda cheisiadau o'r fath er mwyn caniatáu i'r penderfyniadau gael eu gwneud. Bydd gosod rhwymedigaeth statudol i ddarparu tystiolaeth ar un o'r seiliau hynny yn unig yn arwain at ddryswch. Does dim angen e'. Gellid ei ddehongli, yn wir, i olygu nad oes angen tystiolaeth pan fo cais yn dibynnu ar sail arall ar gyfer apelio.
Nawr, yn ymarferol, Janet, bydd angen i dirfeddiannwr ddarparu tystiolaeth sy'n dangos nad yw'n gallu talu costau gweithrediadau er mwyn dibynnu ar y sail caledi. Does dim angen cynnwys hyn ar wyneb y Bil. A bydd canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru i'r person penodedig yn mynd i'r afael â'r mater o dystiolaeth ar gyfer yr holl seiliau ar gyfer apelio, ac mae hynny o dan adran 37(3)(a) i (f) a 37(4).
Janet, ydych chi eisiau ymateb?
Awn ni i'r bleidlais, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais.
Dydy'r Aelod ddim yma. Cyfrifoldeb yr Aelod yw bod yma.
O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 38 wedi'i wrthod.
Gwelliant 38: O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Janet, gwelliant 39.
Cynigiwyd gwelliant 39 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 39 wedi'i wrthod.
Gwelliant 39: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth, gwelliant 2.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Delyth Jewell).
Move.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Gwelliant 2: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 6. Mae'r chweched grŵp o welliannau yn ymwneud â gweithrediadau a gynhelir gan yr awdurdod o dan Ran 3. Gwelliant 14 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 14 (Huw Irranca-Davies).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliant 14 yn welliant gan y Llywodraeth sy'n dileu'r gair 'rhesymol' o adran 46(4) o'r Bil. Ar hyn o bryd, mae adran 46(4) yn gosod dyletswydd i roi copi o hysbysiad adran 45 i bersonau sydd â diddordeb yn yr hysbysiad ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i'r perchennog neu, i ddyfynnu, 'cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol' ar ôl y diwrnod hwnnw. Mae'r gwelliant yn hepgor y gair 'rhesymol' o adran 46(4). Mae hyn yn sicrhau cysondeb â darpariaethau tebyg ym mhrif gorff y Bil. Mae'n welliant technegol. Does dim gwahaniaeth gwirioneddol rhwng gofyniad i wneud rhywbeth 'cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol' a gofyniad i'w wneud 'cyn gynted ag y bo'n ymarferol', gan fod yn rhaid i resymolrwydd fod yn ystyriaeth gynhenid wrth nodi a yw'n ymarferol gwneud rhywbeth.
Gan droi at welliant 40, byddwn i'n gofyn i'r Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant hwn, am nifer o resymau. Mae gwelliant 40 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod i gynnal gweithrediadau pan fyddan nhw o'r farn bod angen i weithrediadau gael eu cynnal ar unwaith i atal neu ddelio â bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu i'w sefydlogi neu ei atal rhag dod yn fwy ansefydlog er mwyn osgoi neu leihau bygythiadau i les pobl. Does dim angen pŵer cyfarwyddo. Mae gan yr awdurdod y pŵer i gynnal gweithrediadau ar unwaith o dan adran 45 o'r Bil eisoes. Yr awdurdod, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, fydd y corff arbenigol a fydd yn y sefyllfa orau i benderfynu pryd mae angen gweithrediadau o'r fath.
Mae adran 56 newydd y Bil ar gynlluniau rheoli yn cryfhau darpariaethau'r Bil ar gynllunio at argyfyngau. Yn wir, cafodd y ddarpariaeth hon ei mewnosod yn y Bil yn dilyn pasio gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2. Ymhlith pethau eraill, mae adran 56 yn darparu bod yn rhaid i gynllun rheoli gynnwys gwybodaeth y mae'r awdurdod yn ystyried a allai fod yn berthnasol mewn argyfwng sy'n ymwneud â'r domen, gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau'r awdurdod a chyrff cyhoeddus eraill mewn argyfwng o'r fath, a sut mae'r awdurdod yn bwriadu cydweithredu ag awdurdodau cyhoeddus o'r fath mewn argyfwng. I'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â hyn, byddan nhw'n deall ystyr hyn a chydlynu'r cyrff cyhoeddus hynny.
Felly, fe sylwch chi ar y pwyslais cryf ar gynllunio at argyfyngau o ran cynlluniau rheoli. Mae'n hanfodol bod yr awdurdod yn gweithio gyda'r awdurdodau cyhoeddus eraill hynny, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol, yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio, y gwasanaethau tân ac achub, ac ati, ac ati, wrth gynllunio ar gyfer argyfyngau posibl mewn tomen benodol, a bod yr ymateb argyfwng cadarn priodol yn cael ei ddogfennu yn y cynllun argyfwng hwnnw.
Gyda llaw, mae system o'r fath eisoes yn bodoli ar gyfer cronfeydd dŵr. Felly, dyna pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau gweithio gyda'n partneriaid allweddol ar brotocol ar sut i ddatblygu a gweithredu cynlluniau argyfwng ar gyfer tomenni nas defnyddir. Bydd y cynlluniau rheoli hyn yn ffordd hanfodol o gynllunio ymateb effeithiol i argyfwng mewn tomen nas defnyddir. Bydd cynllunio ymateb brys effeithiol yn ffordd llawer mwy effeithiol o amddiffyn cymunedau sy'n byw yng nghyffiniau tomenni na dim ond pŵer cyfarwyddo.
Mae yna hefyd, gyda llaw, nifer o faterion gyda'r pŵer cyfarwyddo arfaethedig. Y polisi y tu ôl i'r Bil yw y bydd yr awdurdod yn gorff arbenigol annibynnol a fydd yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ei arbenigedd ynghylch a oes angen gweithrediadau. Mae'r gwelliant yn tanseilio hyn, ac mae'n anwybyddu'r ffaith, gan roi pob clod i'm holl gyd-Aelodau, nad oes gan Weinidogion Cymru yr arbenigedd angenrheidiol i benderfynu a fyddai angen i weithrediadau gael eu cynnal ar unwaith. Bydd gan yr awdurdod yr arbenigedd hwnnw.
O dan is-adran (4) o'r gwelliant, pan fo'r awdurdod yn cyflawni gweithrediadau sy'n ofynnol gan gyfarwyddyd o dan is-adran (1), ni fydd yr awdurdod yn atebol am dorri cyfraith cynllunio neu gyfraith amgylcheddol. Nid yw'r gwelliant yn diffinio'r hyn a olygir wrth y termau 'cyfraith amgylcheddol' neu 'gyfraith gynllunio', a'r canlyniad yw y gallai fod ansicrwydd ynghylch a yw'r awdurdod yn atebol am dorri rheoliadau wrth gyflawni'r weithrediadau sy'n ofynnol gan gyfarwyddyd. Ac, yn ogystal, gan nad yw'n glir beth yw ystyr 'cyfraith cynllunio neu amgylcheddol', gallai'r gwelliant hwn, o bosibl, gwmpasu elfennau o feysydd cyfreithiol sydd wedi'u cadw'n ôl.
Nid yw'r awgrym bod Gweinidogion Cymru yn cymryd pŵer i ddiffodd deddfau cynllunio amgylcheddol yn un newydd. Fel y dywedais yn ystod prosesau craffu Cyfnod 1 a Chyfnod 2, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth wedi'i ystyried. Ond, am y rhesymau a amlinellir uchod, ein barn ni yw bod pŵer o'r fath yn anymarferol ac yn ddiangen hefyd, heb sôn am fod yn anarferol iawn. Felly, rwy'n fodlon mai'r ateb gwell yw cryfhau cynllunio at argyfyngau, a dyna'n union rydyn ni wedi'i wneud wrth fewnosod yr adran ar gynlluniau rheoli yn ystod Cyfnod 2. Felly, gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio o blaid gwelliant 14, ac i bleidleisio yn erbyn gwelliant 40.
Mae gwelliant 40, wrth gwrs—dyna pam rydym wedi'i gyflwyno—yn cynnwys yn y Bil bŵer cyfarwyddo i Weinidogion Cymru fynd i'r afael, mewn argyfyngau, â thensiynau rhwng diogelwch tomenni nas defnyddir a chyfraith amgylcheddol a chynllunio. Mae'r Bil yn galluogi'r awdurdod i gynnal gweithrediadau ar unwaith heb roi rhybudd, ond nid oes y rhwyd ddiogelwch bellach hwnnw trwy roi hawl i Weinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod hwn. Byddai'r gwelliant hwn yn cryfhau gallu'r wladwriaeth i ymateb i argyfwng sy'n ymwneud â thomen wrth iddo ddigwydd. Diolch.
Hoffwn siarad am welliant 40 Janet. Mae'r pryderon sydd gennym am y gwelliant hwn yn debyg i'r rhai a oedd gennym am welliant 50, i'r graddau, er ein bod ni fel grŵp yn cydymdeimlo'n llwyr â'r egwyddor y tu ôl i hyn, rwy'n poeni y gallai eithrio'r awdurdod rhag rhwymedigaethau am dorri cyfraith amgylcheddol a chynllunio mewn rhai sefyllfaoedd greu cynsail lletchwith, a allai arwain at ganlyniadau anfwriadol. Felly, ar y sail honno, byddwn ni'n ymatal ar welliant 40.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn syml, i ailadrodd fy mhwynt, gan nodi sylwadau'r Aelodau. Dywedodd Janet fod y Bil, yn wir, yn galluogi'r awdurdod i ymateb i argyfyngau. Mae'r Bil hwn mewn gwirionedd yn mynd ymhellach ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo gynllunio ar gyfer yr ymatebion hynny i argyfyngau. Rwyf wedi gwrando ar y dadleuon am welliant 40, ond nid lleiaf oherwydd nad yw'n glir beth yw ystyr 'cyfraith cynllunio neu amgylcheddol' a'r ffaith y gallai hyn wedyn olygu ein bod ni'n cynnwys, yn anfwriadol, efallai, ond elfennau o feysydd sydd wedi'u cadw'n ôl. Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn ond i gefnogi gwelliant 14.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 14 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Janet Finch-Saunders, gwelliant 40.
Cynigiwyd gwelliant 40 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn at bleidlais ar welliant 40. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 12 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 40 wedi ei wrthod.
Gwelliant 40: O blaid: 14, Yn erbyn: 28, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Rydym wedi cyrraedd grŵp 7. Rydym yn cael rhywfaint o drafferth gyda'r aerdymheru, felly rwy'n awgrymu ein bod ni'n cymryd seibiant o 10 munud i'r Aelodau. [Torri ar draws.] Wel, mae yna Aelodau sydd wedi codi mater yr aerdymheru, felly rwy'n credu bod angen seibiant arnyn nhw eto. Os hoffech chi gael pum munud o egwyl, fe wnawn ni bum munud, ond rwy'n credu bod angen i'r Aelodau gael pum munud. Iawn. Felly, egwyl o bum munud i'r Aelodau.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:51.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:58, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Grŵp 7 sydd nesaf. Mae'r seithfed grŵp o welliannau yn ymwneud â thaliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o dan Ran 3. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Delyth Jewell i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp. Delyth.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Delyth Jewell).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad am welliannau 3, 4 a 5 yn y grŵp hwn. Nawr, pwrpas y gwelliannau hyn yw ymestyn y ffenestr atebolrwydd am gostau gweithrediadau glanhau i'r flwyddyn 1800, gyda'r nod o sicrhau bod yr holl bartïon hynny a gyfrannodd at gyflwr presennol y tomenni glo yn cael eu dwyn i gyfrif. Y Bwrdd Glo Cenedlaethol, ac felly Llywodraeth y DU fel ei gyn-berchennog, a greodd y tomenni glo hyn—rhaid iddyn nhw gymryd y cyfrifoldeb am eu clirio.
Nawr, fel y gwnes i gydnabod yng Nghyfnod 2, efallai y bydd rhai yn galw'r gwelliannau hyn yn bryfoclyd, ond mae yna neges ddifrifol iawn wrth eu craidd. Yn wir, byddwn i'n dadlau y byddai cyfle mawr yn cael ei golli pe bai Bil sy'n ymwneud â thomenni glo yn cael ei basio sydd rhywsut yn sychu'r llechen o ran cyfrifoldeb San Steffan am eu clirio. Dydy'r creadigrwydd y gallwn i fod wedi'i ddefnyddio wrth ddrafftio'r gwelliannau hyn yn ddim byd o'i gymharu â'r gymnasteg feddyliol a ddefnyddiwyd gan weinyddiaethau olynol yn San Steffan i osgoi eu dyletswyddau o ran y tomenni hyn. Mae'r tomenni glo sydd ym mhobman ar ein tirwedd yn dyddio o'r cyfnod cyn datganoli, a chan fod glo—rydym eisoes wedi clywed heno—yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl i raddau helaeth o dan Ddeddf Cymru 2017, rwy'n credu bod gan San Steffan, fel cyn-berchennog y Bwrdd Glo Cenedlaethol, gyfrifoldeb moesol a deddfwriaethol i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau.
Rwy'n gwerthfawrogi bod Llywodraeth bresennol y DU wedi darparu rhywfaint o gyllid i'r perwyl hwn dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n wir yn newid mawr i'w groesawu o'i gymharu ag apathi llwyr gweinyddiaethau blaenorol, ond mae'r ffigurau a ddarparwyd hyd yma hefyd yn fach o gymharu â'r costau amcangyfrifedig o dros £600 miliwn, efallai, y bydd eu hangen i glirio'r tomenni hynny'n llwyr a'u hadfer. Rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n ddi-ildio i wneud yr achos dros y swm llawn o gyllid.
O ran y Bwrdd Glo Cenedlaethol a'r atebolrwydd y mae'n ei ysgwyddo, hoffwn i ddyfynnu darn o bapur newydd The Times a gyhoeddwyd ar 25 Hydref 1966, dau ddiwrnod ar ôl trychineb Aberfan. Mae'n rhywbeth mae fy nhad yn cofio ei ddarllen ar y pryd; mae wedi dod o hyd i'r dyfyniad ers hynny ac wedi'i ddangos i mi. Mae'n adrodd, mewn cwest crwner i'r trychineb hwnnw, lle bu farw 144 o bobl, 116 ohonyn nhw'n blant, roedd pobl yn gweiddi, 'Mae plant wedi cael eu lladd' a 'Nodwch ar y tystysgrif marwolaeth: "claddwyd yn fyw gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol"'. Yn festri fach y capel, mynnodd Mr John Collins, y lladdwyd ei wraig a'i ddau fab, y dylid cofnodi eu bod wedi marw ar ôl cael eu claddu'n fyw gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Pan geisiodd y crwner anghytuno, dywedodd dynes o'r cefn, 'Na, roedd Mr Collins yn iawn. Fe wnaethon nhw ladd ein plant.'
Dyna oedd eu cred bryd hynny, ac Aberfan oedd y foment a ddylai fod wedi newid popeth: ni ddylid bod wedi caniatáu i unrhyw domen lo aros ar ein bryniau ar ôl y diwrnod tywyllaf hwnnw. Ond ni chollodd neb eu swydd. Cafodd neb eu dwyn i gyfrif. Onid yw'n bryd unioni'r cam hwnnw? Trwy basio'r gwelliannau hyn, gallai'r Senedd o'r diwedd sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wneud i'r teuluoedd hynny, i wneud iawn mewn rhyw ffordd am dristwch y gorffennol, a byddai'n anfon neges heddiw ei bod hi'n bryd i'r cysgod hwnnw gael ei godi.
Diolchaf yn ddiffuant i chi, Delyth, am eich gwaith ar y gwelliannau hyn. Roeddwn yn wyth mlwydd oed, yn byw mewn pentref bach o'r enw Huncoat, a oedd â thomen lo, a ni fyddaf byth yn anghofio, tra byddaf yn byw—ar y radio yr adeg honno, dim teledu—y newyddion am Aberfan ac ni all neb ohonom fyth anghofio beth ddigwyddodd.
Fodd bynnag, fel yr esboniodd y Dirprwy Brif Weinidog yng Nghyfnod 2, mae yna faterion ymarferol sylweddol iawn sy'n gysylltiedig â cheisio cyfraniadau gan bersonau cyfreithiol ar gyfer gweithrediadau a chynnal a chadw i'r rhai sydd â diddordeb hanesyddol yn nhir unrhyw un o'r tomenni hyn, sy'n dyddio'n ôl cyn belled â 1800. Gallai fod yn amhosibl i unrhyw lys wirio ystadau neu fuddiannau o'r cyfnod hwnnw. Ar y sail y gallai'r gwelliannau arwain at achosion cyfreithiol hynod gymhleth, ond er gwaethaf hynny—. Rwy'n rhannu eich rhwystredigaethau, ond ni allwn eich cefnogi heddiw.
Rwy'n siarad o blaid gwelliannau 3, 4, a 5, a gyflwynwyd gan Delyth Jewell. I mi, maen nhw'n ymwneud â'r cwestiwn sylfaenol o gyfrifoldeb o ran treftadaeth ddiwydiannol Cymru a'n hetifeddiaeth amgylcheddol. Mae'r gwelliannau hyn yn cynrychioli ailgydbwyso cyfrifoldeb hanfodol sydd wedi cymryd canrifoedd. Nid yw'r cyfnod cyfyngu presennol o 12 mlynedd, er ei fod yn gyfleus yn weinyddol, yn adlewyrchu realiti sut y daeth tomenni mwyngloddiau a chwareli nas defnyddir Cymru i fodolaeth, na phwy ddylai ysgwyddo'r cyfrifoldeb amdanynt.
Nid materion diweddar yw'r tomenni diwydiannol sy'n nodi ein cymoedd a'n bryniau, maen nhw'n gynnyrch canrifoedd o fwyngloddio, chwareli ac ecsbloetio—diwydiannau a greodd gyfoeth enfawr, ond a adawodd ddinistr ar eu hôl. Mae gwelliant 3 yn cymryd safiad clir ac egwyddorol: os ydych chi wedi elwa ar greu perygl amgylcheddol, dylech ei gywiro ni waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd. Yn yr un modd, mae gwelliannau 4 a 5 yn dileu'r cyfyngiad 12 mlynedd ar gyfer y rhai a ddyddododd wastraff a'r rhai a achosodd neu a gyfrannodd at yr angen am weithrediadau, gan sicrhau bod costau adfer yn disgyn ar ysgwyddau y rhai a greodd y problemau. Nid yw hyn yn ymwneud ag erlid cysgodion. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod y rhai a achosodd y niwed yn gyfrifol, nid y rhai sy'n ddigon anlwcus i'w etifeddu.
Rwy'n gwybod y gallai fod pryderon ynghylch sut rydym yn olrhain cyfrifoldeb dros amser, ond nid yw'r gwelliannau hyn yn gorfodi llysoedd i osod bai, maen nhw'n syml yn caniatáu i lysoedd edrych ar yr holl dystiolaeth a phenderfynu beth sy'n deg. Mae llawer o'r cwmnïau a'r ystadau dan sylw yn dal i fodoli heddiw, ac mae'r llwybr papur yn aml yn glir. Edrychwch, er enghraifft, ar adfer yn y fasnach gaethweision. Mae Cymru yn genedl sy'n ymfalchïo yn ei gorffennol a'i chyfrifoldeb am ei dyfodol. Ni allwn siarad am gynaliadwyedd os ydym yn barod i anwybyddu'r difrod a adawyd ar ôl. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi gwelliannau 3, 4 a 5. Mae'r gwelliannau hyn yn ei gwneud hi'n glir nad oes gan gyfrifoldeb amgylcheddol ddyddiad dod i ben. Diolch yn fawr iawn.
Dwi’n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, mae'n werth nodi fy mod yn deall yn iawn y teimlad a'r bwriad y tu ôl i'r gwelliannau hyn, ac fe wnaethom drafod hyn yng Nghyfnod 2 hefyd. Pryd bynnag y byddwch chi'n clywed sôn am Aberfan, mae'n anfon ias oer i lawr yr asgwrn cefn, ac nid yn unig mewn cyn-gymunedau glofaol, ond ar draws y byd. Mae dealltwriaeth nid yn unig o'r drasiedi, ond o ganlyniadau Aberfan a'r hyn yr oedd yn ei olygu i genedlaethau o bobl. Dyna beth mae'r ddeddfwriaeth hon yn ceisio ei wneud, mewn sawl ffordd. Mae'r tomenni glo hynny yn etifeddiaeth y gorffennol diwydiannol hwn a luniodd a chreithiodd ein cymunedau.
Ond nid y rhai sy'n berchen ar domenni heddiw bob amser yw'r rhai a elwodd ar elw a wnaed yn y gorffennol. Mae yna faterion ymarferol sylweddol sy'n gysylltiedig â cheisio cyfraniadau ar gyfer gweithrediadau a chynnal a chadw gan y rhai sydd â diddordeb hanesyddol hir mewn tir mor bell yn ôl â 1800. Byddai'n anodd iawn i lys—oherwydd gadewch i ni fod yn glir, dyna lle byddai diwedd y daith i lawer pan fydd yn cael ei herio—gwirio ystadau neu fuddiannau o dros 200 mlynedd yn ôl, neu, yn onest, hyd yn oed 50 mlynedd yn ôl. Mewn sefyllfa o'r fath, byddai'r ddarpariaeth yn eithaf amhosibl i'w gorfodi.
Ar lefel ymarferol, byddai'n anodd sefydlu bod rhywbeth a ddigwyddodd neu na ddigwyddodd 200 mlynedd yn ôl wedi achosi neu wedi cyfrannu'n uniongyrchol at yr angen am weithrediadau nawr. Mae profi'r cysylltiad achlysurol hwnnw yn debygol o gymryd gormod o amser a hwnnw'n anghymesur. Mae'r cyfnod o 12 mlynedd a gynhwysir yn y Bil yn cadw parhad â'r gyfundrefn bresennol o dan Ddeddf 1969. Mae'n cael ei ystyried yn rhesymol ac yn gymesur, ac yn bwysig, mae tystiolaeth yn debygol o fod ar gael i sefydlu a ddylid person orfod wneud taliad.
Ond a gaf i ddweud hefyd bod yna resymau pam y dylem ddisgwyl, yn briodol, gyfraniadau oddi wrth chwaraewyr sylweddol yn y maes hwn? Hynny yw oddi wrth y Llywodraethau—nid yn unig oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond hefyd oddi wrth Lywodraeth y DU hefyd. Mae Llywodraeth Cymru, ers sawl blwyddyn, wedi ariannu'r gwaith sydd wedi'i wneud ar ôl Tylorstown. Rydym ni wedi buddsoddi yn yr arolygiad, y monitro, y cynnal a chadw, yr offer, y contractau i wneud y domen honno a thomenni eraill yn ddiogel. Rydym ni wedi gwneud hynny ar ein pennau ein hunain.
Rhoddwyd y dadleuon yn rymus iawn, dro ar ôl tro ac yn gyson gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, gan y Prif Weinidog, i Lywodraeth newydd y DU bod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Mae'r etifeddiaeth ddiwydiannol yn etifeddiaeth ddiwydiannol a rennir. Aeth yr arian a aeth allan o'r cymoedd hyn, gogledd a de Cymru, pob rhan o Gymru, i gyfoethogi pobl ymhell y tu hwnt i'n ffiniau. Ac ar y sail honno, yr etifeddiaeth yw ein hetifeddiaeth a rennir. Felly, er ein bod wedi dechrau gyda chyfraniad o £25 miliwn, nawr, fel y gwyddoch yn dda iawn, mae gennym gyfraniad o £118 miliwn gan Lywodraeth y DU. Mae'n mynd â chyfanswm y buddsoddiad yn hyn i dros £200 miliwn. A bydd hynny'n gychwyn da i ni ar ein taith.
Bydd y gwaith rydw i'n ei weld pan fyddaf yn mynd allan ar y tomenni hyn sydd ar y gweill ar hyn o bryd, yn mynd â ni ymlaen, a bydd angen mwy arnom yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, fy hunan, y Prif Weinidog, pwy bynnag arall sydd yma yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y byddant yn gwneud yr un dadleuon mai dyna lle mae angen i ni ganolbwyntio—o ble y bydd y buddsoddiad yn dod. Ond oherwydd natur anymarferol ceisio mynd yn ôl cymaint â 200 mlynedd, gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn.
Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad ar hyn.
Mae'r rhain yn welliannau am hanfodion yn wir, ac mae perygl iddyn nhw orlenwi'r ddeddfwriaeth, ond nid yw hynny'n rheswm i beidio â'u cynnwys. Maen nhw'n faterion ymarferol, ond nid yw hynny'n rheswm i beidio â cheisio gweld beth y gellid ei wneud gyda nhw. Rwy'n diolch i Jane am ei phwynt. Yn wir, nid oes dyddiad terfyn ar gyfrifoldeb amgylcheddol. Yn wir, mae hynny'n hollol hanfodol yma. Mae'r gwelliannau hyn yn cwmpasu ehangder eang o amser, a dylent wneud hynny, oherwydd mae hwn yn Fil am amser. Mae'n hen bryd i ni ei gael, ydi, ond mae hefyd yn Fil sy'n canolbwyntio ar effeithiau amser yn y gorffennol, amser a gollwyd ac amser eto i ddod. Mae'r tomenni'n crynhoi ac yn symbol o dreigl amser coll, cost yr hyn sydd wedi digwydd, a'r hyn nad yw wedi digwydd. Maen nhw'n adrodd stori am ein clwyfau. Mae'n hen bryd i'r clwyfau hynny gael eu gwella. Rwy'n cyflwyno'r gwelliannau ar gyfer pleidlais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Gwelliant 3: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 4 (Delyth Jewell).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Gwelliant 4: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth, gwelliant 5.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Delyth Jewell).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.
Gwelliant 5: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rydym nawr yn symud ymlaen at grŵp 8. Mae'r wythfed grŵp o welliannau yn ymwneud â throseddau. Gwelliant 41 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 41 (Janet Finch-Saunders).
Mae gwelliannau 41, 42, 47 a 48 yn mynd i'r afael â gweithgareddau a allai ansefydlogi tomen nas defnyddir. Ers Cyfnod 2, mae newid technegol bach wedi'i wneud er mwyn darparu y bydd gweithgareddau penodol yn ddarostyngedig i'r drosedd a grëwyd mewn rheoliadau. Yn ystod Cyfnod 2, cododd y Dirprwy Brif Weinidog bryder y gallai'r drosedd ddal a throseddoli gweithgareddau fel ffermio, gweithgareddau awyr agored poblogaidd fel marchogaeth neu feicio mynydd ar lwybrau a'r erydiad a achosir ganddynt, ac ati. Nid yw fy ngwelliannau yn arwain at hynny, oherwydd maent yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â gweithgareddau penodol ar domen nas defnyddir. Felly, byddech chi'n gyfrifol am yr hyn sy'n cael ei gynnwys a'i eithrio. Diolch.
Rwy'n siarad am welliannau 24 a 25. Pwrpas y gwelliannau hyn yw cyflwyno cyfundrefn sancsiynau sifil ar gyfer troseddau mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon. Byddai hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru, yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer pwerau sancsiynu sifil amgen ar gyfer troseddau penodol, a allai gynnwys cosbau ariannol penodedig, gofynion yn ôl disgresiwn, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi. Yn hyn o beth, rydym wedi ceisio ailadrodd darpariaethau presennol a gynhwysir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023. Rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod cynsail cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau o'r math hwn. Nawr, fel y soniais yn ystod Cyfnod 2, dim ond un o lawer o opsiynau posibl yw hwn i sicrhau cadernid mecanweithiau gorfodi. Rwy'n cydnabod amheuon yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch rhinweddau'r dull penodol hwn. Os gall roi sicrwydd i ni, yn ei ymateb, fod y gyfundrefn sancsiynau troseddol sy'n cael ei chynnwys yn y Bil hwn yn darparu ataliadau digonol, fe fyddwn yn barod i dynnu'r gwelliannau hyn yn ôl.
Mae'r gwelliannau, fel yr ydym wedi clywed, yn darparu cyfres o bwerau gwneud rheoliadau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i greu troseddau a darpariaethau gorfodi ychwanegol. Rwy'n deall y cymhelliant—dywedais i hyn yng Nghyfnod 2—y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Fodd bynnag, yn fy marn i, nid oes angen y gwelliannau hyn.
Mae gwelliant 41, fel yr ydym wedi clywed, yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru greu trosedd annibynnol mewn perthynas â gweithgareddau penodol ar domen sy'n ansefydlogi'r domen ac yn bygwth lles pobl. Nid yw'n glir o'r gwelliant pa fath o weithgareddau penodol fyddai'n cael eu dal o fewn y pŵer hwn. Fel rydw i wedi dweud o'r blaen, gallai'r gwelliant, fel y mae wedi'i fframio ar hyn o bryd, ddal a throseddoli ystod o weithgareddau, gan gynnwys ffermio, gweithgareddau awyr agored poblogaidd fel marchogaeth, beicio mynydd ar lwybrau ac ati. Felly, os mai'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant yw ceisio atal gweithgareddau anghyfreithlon fel beicio cwad a beicio modur oddi ar y ffordd—ac rwy'n deall hyn—mae yna bwerau sydd eisoes ar gael i ymdrin ag achosion lle mae beicwyr yn tresmasu. Felly, yn fy marn i, nid yw'r gwelliant hwn yn angenrheidiol ac, fel yr wyf wedi nodi, gallai fod â chanlyniadau anfwriadol.
Mae gwelliant 42 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n rhoi pŵer i'r awdurdod gyflwyno hysbysiad stop mewn perthynas â throsedd a grëwyd gan yr adran newydd yng ngwelliant 41. Nawr, gallai hysbysiadau stop gynnwys swm sylweddol o weinyddiaeth ychwanegol, ac maent yn debygol o greu oedi a achosir gan gyflwyno mecanweithiau apelio. Nodais hyn yng Nghyfnod 2. Mae'r awdurdod yn gorff cynghori arbenigol. Nid yw'n fwriad y bydd yr awdurdod yn gweithredu fel heddlu sy'n patrolio gweithgareddau sy'n digwydd ar domenni ledled Cymru. Byddai cymhwyso cyfundrefn hysbysiad stop yn gofyn am adnoddau ychwanegol sylweddol a byddai'n cynyddu'n sylweddol nifer y staff byddai eu hangen o gymharu â'r rhai y mae cyllideb ar eu cyfer. Rwy'n dal i ganolbwyntio ar yr hyn y mae'r awdurdod i fod i'w wneud.
Mae gwelliant 24 yn mewnosod darpariaeth mewn perthynas â sancsiynau sifil yn y Bil, ac mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â throsedd o dan y Bil y gellid ei wneud o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Mae'r rheoliadau'r ddeddf hon yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chreu sancsiynau sifil newydd. Ond yn fy marn i, yn amlwg iawn, nid yw gwelliant 24 yn angenrheidiol. Mae hyn oherwydd fy mod yn credu bod y gyfundrefn sancsiynau troseddol, sydd eisoes wedi'i chynnwys yn y Bil, yn ddigon i orfodi darpariaethau'r Bil yn llawn ac, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu difrifoldeb troseddau'r Bil. Mae'r gyfundrefn sancsiynau troseddol yn y Bil yn cynnwys, er enghraifft, methu â chydymffurfio â hysbysiadau sy'n gofyn am weithrediadau y gellir eu cosbi drwy ddirwy ddiderfyn. Mae'r math o faterion y mae'r Bil yn cymhwyso sancsiynau troseddol iddynt, megis rhwystro gweithgareddau monitro neu asesiadau, methu â chydymffurfio â hysbysiadau sy'n gofyn am weithrediadau, o'r fath lefel o ddifrifoldeb fel bod sancsiynau sifil yn annigonol yn ein barn ni. Byddent yn rhoi'r neges anghywir. Byddai cynnwys sancsiynau sifil atodol i'r gyfundrefn, unwaith eto, yn ddiangen a gallai roi baich gweinyddol a biwrocrataidd gormodol ar yr awdurdod. O ganlyniad, mae gan y gwelliant hwn y potensial i ddargyfeirio adnoddau hanfodol, ariannol ac eraill, oddi wrth bwrpas craidd yr awdurdod, sef atal tomenni nas defnyddir rhag bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd.
Mae gwelliannau 47, 48 a 25 yn gwneud y rheoliadau o dan welliannau 41, 42 a 24 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Ond am y rhesymau rydw i wedi'u nodi, gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliannau hyn.
Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Ydych chi eisiau ymateb?
Awn ni i bleidlais, os gwelwch yn dda.
Os gwrthodir gwelliant 41, bydd gwelliannau 42, 47 a 48 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais ar welliant 41. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 41 wedi'i wrthod.
Gwelliant 41: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliannau 42, 47 a 48.
Byddwn ni'n symud yn awr ymlaen at grŵp 9. Mae'r nawfed grŵp o welliannau yn ymwneud â rhannu gwybodaeth. Gwelliant 22 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Delyth Jewell i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 22 (Delyth Jewell).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad am welliannau 22 a 23. Diben y gwelliannau hynny yw cynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chomisiynwyr Ystadau'r Goron yn y rhestr o awdurdodau cyhoeddus yn adran 55 y mae'n ofynnol iddynt rannu gwybodaeth berthnasol â'r awdurdod wrth iddo ymgymryd â'i swyddogaethau. Gan fod yr unigolion hyn naill ai wedi goruchwylio gweithgareddau mwyngloddio glo yng Nghymru yn flaenorol neu ar hyn o bryd yn rheoli tir y gallai'r gweithrediadau glanhau ddigwydd arno, credaf ei bod yn gwbl briodol eu bod yn cefnogi gwaith yr awdurdod lle bo hynny'n briodol, ac y dylid gwneud hynny'n benodol.
Ers cyflwyno'r gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, rydym wedi addasu'r geiriad ychydig i egluro y bydd yn ofynnol i gomisiynwyr Ystad y Goron rannu gwybodaeth, sy'n gobeithio yn mynd i'r afael â'r broblem a oedd gan yr Ysgrifennydd Cabinet gyda'r drafftio gwreiddiol.
O ran gwelliant 44 Janet, er ein bod yn cytuno â'r rhesymeg dros gyflwyno cosbau am ddarparu gwybodaeth ffug, ac rwy'n deall yn llwyr pam y mae'r gwelliant yn y modd hwn yn ôl pob tebyg yn anochel, rydym yn gwrthwynebu eithrio'r Goron ar dir egwyddor, ac felly byddwn yn ymatal.
Janet Finch-Saunders.
Fel y cynghorais yng Nghyfnod 2, mae gwelliannau 22 a 23 allan o gymhwysedd. Byddai gwelliant 43, yr wyf wedi'i gyflwyno, yn creu dyletswydd ar berchnogion tomenni nas defnyddir heb eu cofrestru i adrodd am unrhyw newid mewn amgylchiadau i'r awdurdod newydd hwn. Ni all yr awdurdod fod yn monitro pob agwedd ar bob tomen ar yr un pryd. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddoeth bod â mesurau ar waith i annog perchnogion tir sy'n cynnwys tomen nas defnyddir, neu dir cyfagos i domen o'r fath, i hysbysu'r awdurdod am newidiadau perthnasol.
Byddai gwelliant 44 yn cyflwyno dirwy pe na bai tirfeddiannwr yn rhannu'r wybodaeth berthnasol gyda'r awdurdod. Mae hyn eto i fod i annog y rhai sy'n fwyaf tebygol o fod yn gweld y tomenni bob dydd i adrodd am unrhyw broblemau. Er enghraifft, gallai tirfeddiannwr weld twll mawr yn ymddangos ar ei dir ond heb drafferthu tynnu sylw'r awdurdod at y newid hwn. Byddai fy newidiadau yn sicrhau y byddai angen gwneud yr adroddiadau hynny.
Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Delyth, rwy'n cydnabod bod y gwelliant bach i'r gwelliant a drafodwyd gennym yng Nghyfnod 2 wedi'i wneud, ond fe wnaf i egluro pam y mae egwyddor fy mhroblemau gyda'r gwelliannau hyn yn dal i fodoli. O ran gwelliannau 22 a 23 a gyflwynwyd gan Delyth, rwy'n deall pam y cawsant eu cyflwyno, gan fod y diffiniad o 'awdurdod cyhoeddus perthnasol', yn adran 57 o'r Bil, yn un pwysig. Mae'n rheoli'r cyrff y mae'r darpariaethau rhannu gwybodaeth yn adrannau 58 a 59 o'r Bil yn berthnasol iddynt. Fodd bynnag, rwy'n fodlon â'r diffiniad o 'awdurdod cyhoeddus perthnasol' yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, felly yn fy marn i nid yw'r gwelliannau yn angenrheidiol.
Mae'r cyrff sy'n ffurfio'r diffiniad o 'awdurdod cyhoeddus perthnasol' yn cael eu hystyried yn briodol ac maent yn cynnwys y cyrff hynny sydd â phrofiad perthnasol a gwybodaeth berthnasol wrth gefnogi swyddogaethau'r awdurdod. Mae hyn oherwydd mai nhw yw'r cyrff sydd fwyaf tebygol o ddod yn ymwybodol o fygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir wrth ymarfer eu swyddogaethau o ddydd i ddydd. Felly, at ddibenion adran 58, sy'n rhoi pŵer i'r awdurdod ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus perthnasol ddarparu gwybodaeth y mae'r awdurdod yn gofyn amdani at ddibenion arfer ei swyddogaethau, eto, mae'r cyrff mwyaf tebygol o gael gwybodaeth o'r fath eisoes yn ffurfio'r union ddiffiniad o 'awdurdod cyhoeddus perthnasol'. Yn ymarferol, yr Awdurdod Glo, a elwir bellach yn Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, yw prif geidwad gwybodaeth sy'n berthnasol i swyddogaethau'r awdurdod. Mae eisoes wedi'i gynnwys yn y diffiniad. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn gwelliannau 22 a 23.
Rhaid darllen gwelliannau 43 a 44 gyda'i gilydd. Mae gwelliant 44 yn darparu ei bod yn drosedd i berchennog tir beidio â darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan welliant 43 oni bai bod esgus rhesymol i berchennog beidio â gwneud hynny. Mae gwelliant 44 hefyd yn ei gwneud hi'n drosedd i roi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol. Byddaf yn ailadrodd y pryderon sydd gen i gyda'r ddau welliant hyn, fel y dywedais yng Nghyfnod 2. Er mwyn dwyn erlyniad llwyddiannus yn erbyn perchennog tir, bydd angen profi bod y person (a) wedi dod yn ymwybodol o fygythiad i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir neu dystiolaeth o ansefydlogrwydd tomen nas defnyddir a (b) o'r farn y dylid rhannu'r wybodaeth gyda'r awdurdod er budd osgoi neu leihau bygythiad i les pobl. Nawr, efallai y bydd yn bosibl mewn rhai achosion brofi pwynt (a), cymal (a), ond mae'n ymddangos bron yn amhosibl i'r erlyniad brofi beth oedd y person yn ystyried y dylid ei wneud. Os nad yw'n bosibl profi'r drosedd, ni ddylem fod yn ei chreu mewn cyfraith. Rhaid i droseddau troseddol fod yn rhesymol, yn synhwyrol a bod â lefel ddigonol o ragweladwyaeth; hynny yw, dylai person allu dweud a yw'n cyflawni trosedd ai peidio.
Felly, yn fy marn i, mae'r gwelliannau hyn yn afresymol ac yn aneglur. Mae'n ymddangos eu bod yn gosod dyletswydd ar berchennog sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo farnu pryd mae tomen nas defnyddir yn cael ei fygwth gan ansefydlogrwydd, ac yna o bosibl yn cael ei gosbi os nad yw'n adrodd hyn i'r awdurdod. Nawr, mae'n afresymol, byddwn yn dadlau, i ddisgwyl i leygwyr allu gwneud asesiad technegol o'r fath ac, ar ben hynny, o bosibl cael eu cosbi, mewn gwirionedd, am nad oes ganddynt y set sgiliau cywir.
Felly, rwy'n pryderu y gall y ddarpariaeth hon wrthdaro ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus, ac nid yw'n nodi'n glir baramedrau'r drosedd droseddol. Os yw person yn sylwi bod problem ynghylch tomen nas defnyddir, gall, wrth gwrs, hysbysu'r awdurdod. Bydd yr awdurdod ei hun hefyd yn cynnal rhaglen arolygu reolaidd. Felly, gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi gwelliannau 43 a 44.
Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi esbonio'r egwyddor y tu ôl i'r gwelliannau yn fy enw. Felly, er fy mod i'n cydnabod y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud gan y Dirprwy Brif Weinidog, rwy'n dymuno inni symud i bleidlais, plis.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 22. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 22 wedi'i wrthod.
Gwelliant 22: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 23. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 23 (Delyth Jewell).
Symud, plis.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 23. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 23 wedi'i wrthod.
Gwelliant 23: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Janet Finch-Saunders, gwelliant 43.
Cynigiwyd gwelliant 43 (Janet Finch-Saunders).
Rwy'n cynnig.
Cynigiwyd.
Os gwrthodir gwelliant 43, bydd gwelliant 44 yn methu. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 43 wedi ei wrthod.
Gwelliant 43: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 44.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 15.
Cynigiwyd gwelliant 15 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Os gwrthodir gwelliant 15, bydd gwelliant 16 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 16.
Cynigiwyd gwelliant 16 (Huw Irranca-Davies).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 16 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Janet, gwelliant—[Torri ar draws.]
45 yw e.
Cynigiwyd gwelliant 45 (Janet Finch-Saunders).
Pedwar deg pump, ydw, rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 45. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei wrthod.
Gwelliant 45: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r degfed a'r grŵp olaf o welliannau yn ymwneud ag ystyr 'bygythiad i les pobl'. Gwelliant 46 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 46 (Janet Finch-Saunders).
Diolch. Mae gwelliant 46 yn golygu bod yn rhaid cyhoeddi canllawiau ynghylch yr amgylchiadau a allai fod yn fygythiad i les pobl. Yn fyr, beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'salwch neu anaf difrifol i bobl' a 'salwch neu anaf i bobl', 'difrod difrifol i eiddo' a 'difrod i eiddo', 'tarfu difrifol ar gyflenwad o fwyd, dŵr, ynni neu danwydd' a 'tharfu ar gyflenwad bwyd, dŵr, ynni neu danwydd', 'tarfu difrifol ar system gyfathrebu' a 'tharfu ar system gyfathrebu', 'tarfu difrifol ar gyfleusterau ar gyfer trafnidiaeth' a 'tharfu ar gyfleusterau ar gyfer trafnidiaeth'? Er y byddwn eisiau i Delyth egluro'r gwahaniaeth rhwng, er enghraifft, 'halogi dŵr yn ddifrifol' a 'halogi dŵr', mae eich holl welliannau yn y grŵp hwn yn cael ein cefnogaeth heddiw. Diolch.
Rwyf am siarad am welliannau 26, 27, 28 a 29. Gan mai dyma'r tro olaf i mi siarad yn ystod Cyfnod 3, hoffwn ychwanegu at y diolch a roddais yn gynharach fy niolch hefyd i Daniel ac Anthony yn y Rhwydwaith Gweithredu Glo, Bethan a David yn Climate Cymru a Haf yn Cyfeillion y Ddaear Cymru.
Pwrpas ein gwelliannau yn y grŵp hwn yw ehangu'r diffiniad o 'les pobl' yn adran 84 i gynnwys bygythiad difrifol drwy dân, llifogydd a halogi dŵr yn benodol. Janet, rydym wedi cynnwys 'bygythiad difrifol' oherwydd trefn maint, a hefyd i ddilyn rhai cynseiliau eraill mewn deddfwriaeth. Ond os hoffech gael—. Pe bai'r rhain yn pasio, gallem gael sgwrs bellach efallai am oblygiadau hynny. Ond diolchaf i chi am eich cefnogaeth yr ydych chi wedi'i nodi.
Nawr, mae'r rhain i gyd yn unol ag argymhelliad 30 o'r adroddiad a wnaed gan ein pwyllgor, wrth gwrs, cyn Cyfnod 2, yn ogystal â darpariaeth bellach i sicrhau bod y bygythiad o niwed amgylcheddol hefyd yn cael ei ystyried yn y cyd-destun hwn. Nawr, credaf fod y gwelliannau hyn yn angenrheidiol i gryfhau ac egluro cylch gwaith yr awdurdod fel corff sydd â chyfrifoldebau penodol, eto, ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd gwelliant 28 yn arbennig yn gweithredu fel diogelwch ychwanegol rhag y posibilrwydd y gallai gwaith yr awdurdod arwain at ganlyniad anfwriadol o ddifrod amgylcheddol pellach.
Nawr, yn ystod trafodion Cyfnod 2, gwrthwynebodd yr Ysgrifennydd Cabinet y gwelliannau hyn ar y sail y byddent yn newid cwmpas y ddeddfwriaeth a'i throi'n Fil amgylcheddol. Byddwn yn dadlau y dylem fod yn gweld y Bil hwn nid yn unig fel cyfrwng cyweirio ond hefyd fel llwybr hirddisgwyliedig i adfer ac adfywio mewn ardaloedd sydd wedi cael eu hamddifadu ers amser maith o ysblander a harddwch y rhannau hynny o'u tir naturiol. Felly, credaf fod ehangu cwmpas y Bil hwn yn y modd hwn yn gwbl gyson â'r dehongliad uchelgeisiol hwn o bwrpas y Bil. Er fy mod yn nodi ofnau'r Llywodraeth ynghylch effeithiau andwyol posibl ar swyddogaethau'r awdurdod, byddwn hefyd yn dadlau y dylai dyluniad y swyddogaethau hyn lifo'n sylfaenol o'r cwmpas. Felly, trwy gael cylch gwaith mwy diffiniedig o'r cychwyn cyntaf, gallem yn ei dro fireinio'r swyddogaethau hynny ymhellach i'w gwneud yn fwy ymatebol i'r nod hanfodol o adfywio'r tirweddau hyn.
Er budd ein Cymoedd, er budd Cymru, ein cymunedau heddiw, ddoe ac yfory, rwy'n symud y gwelliannau hyn, ac yn addo iddynt nad heddiw fydd diwedd ein taith.
Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf ddechrau trwy roi fy niolch, ar y grŵp olaf hwn, i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, i aelodau'r pwyllgor yr ydym wedi gweithio, rwy'n credu, yn gadarnhaol gyda nhw, a hefyd i'm swyddogion? Maen nhw'n dîm bach ond maen nhw'n dîm anhygoel, sydd wedi helpu i weithio gyda'r holl Aelodau wrth i ni fynd â'r Bil hwn drwy'r pwyllgor a'i gael i'r hyn rwy'n meddwl sy'n lle da iawn. Ond mae fy niolch olaf yn mynd i'r holl gymunedau anhygoel, rhyfeddol, agos hynny a ddaeth i fodolaeth, yn onest, oherwydd eu bod wedi'u sefydlu mewn lleoedd i dynnu'r cyfoeth mwynol o bob rhan o Gymru, y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin, ac yn awr yn edrych arnom ni, yn y ddeddfwriaeth hon ac yn ein buddsoddiad, i wella'n llwyr yr etifeddiaeth honno y maent yn byw gyda hi.
Felly, rydw i wedi gwrando'n ofalus iawn yma, yn y grŵp hwn o welliannau, ar farn yr Aelodau am y cydbwysedd yn yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn canllawiau a'r hyn sydd wedi'i gynnwys ar wyneb y Bil. Yn wir, gwnes welliannau yng Nghyfnod 2 i roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi arweiniad i'r awdurdod ar agweddau megis codi tâl, monitro, asesiadau rhagarweiniol a llawn, iawndal am ddifrod neu aflonyddwch a achosir gan weithgarwch monitro neu asesu, taliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau, a chynlluniau rheoli.
Felly, gyda hyn mewn golwg, trof at welliant 46. Mae'r gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch yr hyn a allai fod yn fygythiad i les pobl o dan adran 84. Nawr, rwy'n deall y meddwl y tu ôl i'r gwelliant. Byddwn yn rhoi arweiniad ar hyn yn llwyr. Ond mae'n bwysig bod hyn wedi'i gynnwys yn y canllawiau sy'n ymwneud â swyddogaethau'r awdurdod ar, er enghraifft, y monitro, yr asesiad a'r cynlluniau rheoli. Yn fy marn i, bydd canllawiau sy'n esbonio beth yw ystyr 'bygythiad i les pobl' yng nghyd-destun un o swyddogaethau'r awdurdod yn llawer mwy defnyddiol na chanllawiau annibynnol. Gellid trin enghreifftiau mewn canllawiau annibynnol ynghylch bygythiadau i les pobl fel rhestr ddiffiniol, ychydig fel ymarfer ticio blwch, heb ystyried yr amgylchiadau neu sefyllfaoedd penodol neu roi'r term yn y cyd-destun. Nawr, yn amlwg, byddem eisiau osgoi hyn, ac felly nid wyf yn gallu cefnogi'r gwelliant hwn. Ond, ers i mi gyflwyno'r Bil hwn, rwyf wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau ein bod yn cadw pwyslais clir iawn ar gylch gorchwyl yr awdurdod. Mae hyn yn caniatáu i gymunedau deimlo'n ddiogel oherwydd pwyslais penodol yr awdurdod ac i ganiatáu datblygu arbenigedd a sgiliau sy'n arwain y byd.
Nawr, rwy'n pryderu bod gwelliannau 27 a 28, yn wir, fel y dywedodd Delyth, yn ceisio ehangu cwmpas y Bil a rhoi cylch gwaith llawer ehangach i'r awdurdod drwy ychwanegu pethau fel 'halogi dŵr yn ddifrifol' a 'niwed amgylcheddol difrifol' i'r diffiniad o 'fygythiad i les pobl'. Pwrpas y Bil—gan fynd yn ôl at yr hyn yr ydym yn ei wybod am effaith ansefydlogrwydd tomen—ac mae'n rhaid iddo fod, yw atal tomenni nas defnyddir rhag bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd. Mae bygythiadau i faterion heblaw lles pobl, ym marn y Llywodraeth, y tu allan i gwmpas y Bil. Effaith gwelliant 28 yw cynnwys 'niwed amgylcheddol difrifol' o fewn y diffiniad o 'fygythiad i les pobl'. Nawr, byddai hyn yn afresymegol, byddwn i'n dadlau, gan y byddai'n golygu bod rhywbeth a allai effeithio ar yr amgylchedd yn unig ac nid yn effeithio ar les pobl o gwbl yn cael ei ddal o fewn y diffiniad o 'fygythiad i les pobl'. Ac mae'r un peth yn wir am welliant 27, sy'n ceisio ychwanegu 'halogi dŵr yn ddifrifol' at y diffiniad o 'fygythiad i les pobl'. Nid oes unrhyw gysylltiad yn y gwelliant hwn â bygythiad i les pobl. Nawr, ymddengys bod gwelliannau 27 a 28 yn ceisio newid cwmpas y Bil er mwyn ei droi'n Fil amgylcheddol. Mae hyn yn ehangu'r cwmpas yn sylweddol, a byddai'n cael effaith andwyol ar gyflawni swyddogaethau craidd yr awdurdod, sef amddiffyn lles pobl a chadw cymunedau'n ddiogel. Rwy'n glir hefyd bod ehangu cwmpas o'r fath heb ei gostio o gwbl, ac mae'n debygol iawn o gael goblygiadau ariannol sylweddol, a fyddai yn ei dro yn effeithio ar allu'r awdurdod i gyfeirio cyllid i'r meysydd hynny sydd ei angen.
O ran gwelliannau 26 a 29, mae'r rhain yn ceisio ychwanegu 'bygythiad difrifol drwy lifogydd' a 'bygythiad difrifol drwy dân' i'r diffiniad o 'fygythiad i les pobl'. Os yw effaith llifogydd neu dân yn ddifrifol, mae'n debygol iawn o gael ei gwmpasu gan y Bil eisoes, oherwydd gallai'r bygythiadau hynny arwain at anafiadau difrifol, colli bywydau, neu ddifrod difrifol i eiddo.
Felly, wrth ddeall y gwelliannau hyn, am yr holl resymau rydw i wedi'u hamlinellu, nid wyf yn gallu cefnogi gwelliannau 46 na 26 i 29, a byddwn yn annog cyd-Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliannau hynny.
Janet, ydych chi eisiau ymateb?
I'r bleidlais, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 46? A oes unrhyw wrthwynebiad?
Oes?
[Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 46. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 46 wedi'i wrthod.
Gwelliant 46: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth, gwelliant 24.
Rwyf yn hapus i dynnu'r gwelliant hwnnw yn ôl, Dirprwy Lywydd.
Rydych chi'n hapus i dynnu'n ôl. Felly, mae'r gwelliant yn cael ei dynnu'n ôl.
Ni chynigiwyd gwelliant 24 (Delyth Jewell).
Ni chynigiwyd gwelliant 25 (Delyth Jewell).
Gwelliant 26, Delyth.
Cynigiwyd gwelliant 26 (Delyth Jewell).
Rwy'n cynnig y gwelliant.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 26. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20(ii), rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 26 wedi'i wrthod.
Gwelliant 26: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Delyth, gwelliant 27.
Cynigiwyd gwelliant 27 (Delyth Jewell).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i'r bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20(ii), rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac mae gwelliant 27 wedi'i wrthod.
Gwelliant 27: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 28.
Cynigiwyd gwelliant 28 (Delyth Jewell).
Symud.
Cynigiwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i'r bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20(ii), rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac mae gwelliant 28 wedi'i wrthod.
Gwelliant 28: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 29.
Cynigiwyd gwelliant 29 (Delyth Jewell).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20(ii), rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac mae gwelliant 29 wedi'i wrthod.
Gwelliant 29: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Rydym wedi dod at ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Datganaf y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:45.