Y Cyfarfod Llawn
Plenary
06/08/2024Cynnwys
Contents
1. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 | 1. Nomination of the First Minister under Standing Order 8 |
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 11:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 11:00 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Bore da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyfarfod wedi'i adalw o'r Senedd yw hwn, o dan Reol Sefydlog 12.3. Ein hunig eitem o fusnes y bore yma fydd i enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. Felly, i symud yn syth at hynny, a oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog? Vaughan Gething.
Good morning and welcome, all, to this Plenary meeting. This is a recall of the Senedd under Standing Order 12.3. Our sole item of business this morning will be the nomination of a First Minister under Standing Order 8. Therefore, we will move immediately to that: are there any nominations for appointment as First Minister? Vaughan Gething.
I'm proud to nominate Eluned Morgan to be the First Minister of Wales.
Rwy'n falch o enwebu Eluned Morgan i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Diolch yn fawr. Mae Eluned Morgan wedi ei henwebu. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Delyth Jewell.
Thank you. Eluned Morgan has been nominated. Are there any further nominations? Delyth Jewell.
Llywydd, enwebaf—
Llywydd, I nominate—
I nominate Rhun ap Iorwerth.
Rwy'n enwebu Rhun ap Iorwerth.
Diolch. Mae Rhun ap Iorwerth wedi ei enwebu. A oes unrhyw enwebiad arall?
Thank you. Rhun ap Iorwerth is nominated. Are there any further nominations?
As chair of the Welsh Conservative group, I'd like to nominate Andrew R.T. Davies.
Fel cadeirydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn enwebu Andrew R.T. Davies.
Mae Andrew R.T. Davies wedi ei enwebu. A oes unrhyw enwebiad arall? Nac oes. Felly, rŷn ni wedi derbyn tri enwebiad, ac oherwydd hynny mi fyddaf yn cynnal pleidlais nawr drwy alw'r gofrestr, ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod yn nhrefn yr wyddor, a dywedwch enw'r ymgeisydd rydych chi yn ei gefnogi yn glir pan gewch chi eich galw, neu dywedwch yn glir os byddwch yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni fydd y Dirprwy Lywydd na finnau yn medru pleidleisio. Felly, fe wnawn ni gychwyn ar y galw yn ôl yr wyddor. Dwi'n mynd i ddechrau gyda Rhys ab Owen.
Andrew R.T. Davies has been nominated. Are there any further nominations? There are none. Therefore, we have received three nominations, and as a result I will conduct a vote by roll call and invite each Member present to vote for a candidate. I will call each Member present alphabetically, and please clearly state the name of the candidate you support when you are called, or indicate clearly if you wish to abstain. In accordance with Standing Order 8.2, neither the Deputy Presiding Officer nor myself are permitted to vote. So, we will begin on the alphabetical roll call. I will start with Rhys ab Owen.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Mick Antoniw.
Mick Antoniw.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Mabon ap Gwynfor.
Mabon ap Gwynfor.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Natasha Asghar.
Natasha Asghar.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Hannah Blythyn.
Hannah Blythyn.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Dawn Bowden.
Dawn Bowden.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Jayne Bryant.
Jayne Bryant.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Cefin Campbell.
Cefin Campbell.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Hefin David.
Hefin David.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Alun Davies.
Alun Davies.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Gareth Davies.
Gareth Davies.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Paul Davies.
Paul Davies.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Jane Dodds.
Jane Dodds.
Abstain.
Ymatal.
Mark Drakeford.
Mark Drakeford.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
James Evans.
James Evans.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Rebecca Evans.
Rebecca Evans.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Janet Finch-Saunders.
Janet Finch-Saunders.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Luke Fletcher.
Luke Fletcher.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Peter Fox.
Peter Fox.
Andrew Davies.
Andrew Davies.
Heledd Fychan.
Heledd Fychan.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Russell George.
Russell George.
Andrew Davies.
Andrew Davies.
Vaughan Gething.
Vaughan Gething.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Tom Giffard.
Tom Giffard.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
John Griffiths.
John Griffiths.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Lesley Griffiths.
Lesley Griffiths.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Llyr Gruffydd.
Llyr Gruffydd.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Siân Gwenllian.
Siân Gwenllian.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Mike Hedges.
Mike Hedges.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Vikki Howells.
Vikki Howells.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Altaf Hussain. Ddim yn pleidleisio. Jane Hutt.
Altaf Hussain. Not voting. Jane Hutt.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Huw Irranca-Davies.
Huw Irranca-Davies.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Mark Isherwood.
Mark Isherwood.
Andrew Davies.
Andrew Davies.
Joel James.
Joel James.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Julie James.
Julie James.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Delyth Jewell.
Delyth Jewell.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Laura Anne Jones.
Laura Anne Jones.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Samuel Kurtz.
Samuel Kurtz.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Jeremy Miles.
Jeremy Miles.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Darren Millar.
Darren Millar.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Julie Morgan.
Julie Morgan.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Sarah Murphy.
Sarah Murphy.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Lynne Neagle.
Lynne Neagle.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Peredur Owen Griffiths.
Peredur Owen Griffiths.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Rhianon Passmore.
Rhianon Passmore.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Adam Price.
Adam Price.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Jenny Rathbone.
Jenny Rathbone.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Sam Rowlands.
Sam Rowlands.
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Jack Sargeant.
Jack Sargeant.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Ken Skates.
Ken Skates.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Carolyn Thomas. Ddim yn pleidleisio. Lee Waters.
Carolyn Thomas. Not voting. Lee Waters.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Joyce Watson.
Joyce Watson.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Buffy Williams.
Buffy Williams.
Eluned Morgan.
Eluned Morgan.
Sioned Williams.
Sioned Williams.
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Mae pob Aelod wedi pleidleisio a oedd yn dymuno pleidleisio, ac felly fe fyddaf i'n aros yn awr i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais.
Felly, dyma ganlyniad pendant y bleidlais yma: Eluned Morgan 28, Andrew R.T. Davies 15, Rhun ap Iorwerth 12, yn ymatal 1. Felly, mae 56 o bleidleisiau wedi'u pleidleisio, ac rwy'n gallu datgan bod Eluned Morgan wedi cael ei henwebu i'w phenodi yn Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran 47(4) Deddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Fawrhydi y dylid penodi Eluned Morgan yn Brif Weinidog. Llongyfarchiadau. [Cymeradwyaeth.] Llongyfarchiadau mawr i Eluned Morgan, a'i job gyntaf fydd i annerch y Senedd. Eluned Morgan.
All Members who wished to vote have done so, and therefore I will now pause for the Clerk to confirm the result of the vote.
Therefore, this is the definitive result of this vote: Eluned Morgan has 28 votes, Andrew R.T. Davies 15, Rhun ap Iorwerth 12, abstentions 1. Therefore, 56 votes have been cast, and I therefore declare that Eluned Morgan is nominated for appointment as First Minister of Wales. In accordance with section 47(4) of the Government of Wales Act 2006, I will recommend to His Majesty the appointment of Eluned Morgan as First Minister. Many congratulations. [Applause.] Many congratulations to Eluned Morgan, and her first job will be to address the Senedd. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd a Senedd, ac ymddiheuriadau mawr i chi i gyd am darfu ar eich gwyliau haf. Mae'n anrhydedd mwyaf fy mywyd i sefyll o'ch blaenau chi heddiw fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru.
Thank you very much, Llywydd and Senedd, and apologies to all of you for cutting across your summer recess. It's the greatest pleasure and privilege of my life to stand before you today as the first woman to become the First Minister of Wales.
It's the greatest honour of my life to stand before you today as the first woman to become the First Minister of Wales. [Applause.] Twenty-five years ago, we witnessed the dawn of a new era with the birth of devolution. This pivotal moment was the realisation of Welsh ambition, a rekindling of our national spirit and the beginning of a journey towards greater self-determination within the United Kingdom.
Mae'n anrhydedd mwyaf fy mywyd cael sefyll o'ch blaen heddiw fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru. Bum mlynedd ar hugain yn ôl, gwelsom wawr oes newydd gyda genedigaeth datganoli. Yr eiliad allweddol hon oedd gwireddu uchelgais Cymru, ailgynnau ein hysbryd cenedlaethol a dechrau taith tuag at fwy o hunanbenderfyniaeth o fewn y Deyrnas Unedig.
Hoffwn ddiolch yn fawr i fy rhagflaenydd uniongyrchol i'r rôl hon, Vaughan Gething, am ei wasanaeth—gwir arloeswr arall ar y daith i ddatganoli.
I'd like to thank my direct predecessor in this role, Vaughan Gething, for his service—another innovator on the journey of devolution.
I want to thank my immediate predecessor to this role, Vaughan Gething, for his service—another true trailblazer on that devolution journey. [Applause.] But I'm acutely aware that he and I are just links in a chain of leadership that stretches back to the very start of devolution: Alun, who helped lay the foundations of the Assembly; Rhodri, the visionary advocate; Carwyn, who steered us through austerity; Mark, who guided us during the pandemic; and Vaughan, who broke diversity barriers with his historic victory.
As I take up the mantle of leadership, I promise to honour their achievements and add my own distinctive contribution to this legacy, perhaps with a vibrant splash of colour—the grey suits are out. [Laughter.] This is an historic day as a woman becomes the First Minister of Wales for the first time in our history.
Hoffwn ddiolch i'm rhagflaenydd uniongyrchol yn y rôl hon, Vaughan Gething, am ei wasanaeth—gwir arloeswr arall ar y daith ddatganoli honno. [Cymeradwyaeth.] Ond rwy'n ymwybodol iawn mai dim ond dolenni mewn cadwyn o arweinwyr ydym ni sy'n ymestyn yn ôl i ddechrau datganoli: Alun, a helpodd i osod sylfeini'r Cynulliad; Rhodri, yr eiriolwr gweledigaethol; Carwyn, a'n llywiodd drwy gyni; Mark, a'n harweiniodd yn ystod y pandemig; a Vaughan, a dorrodd rwystrau amrywiaeth gyda'i fuddugoliaeth hanesyddol.
Wrth i mi ymgymryd â mantell arweinyddiaeth, rwy'n addo anrhydeddu eu cyflawniadau ac ychwanegu fy nghyfraniad unigryw fy hun i'r waddol hon, efallai gyda sblash bywiog o liw—dim mwy o'r siwtiau llwyd. [Chwerthin.] Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol wrth i fenyw ddod yn Brif Weinidog Cymru am y tro cyntaf yn ein hanes.
Dyw hyn ddim yn ymwneud â thorri nenfydau gwydr yn unig, mae'n ymwneud â'u chwalu, gan ddefnyddio'r darnau i greu moseic o bosibiliadau newydd. Dwi'n cario gyda fi ddoethineb cyfunol menywod di-ri sydd wedi brwydro, ymdrechu a dyfalbarhau—llawer heb y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu.
This isn't just about shattering glass ceilings, it's about shattering them forever, using the pieces to create a mosaic of new possibilities. I carry with me the wisdom of the women who have battled, struggled and persevered—many without the recognition that they've deserved.
To the young women watching today, you need to know your potential is limitless, the path to leadership is not now just a possibility, it's a reality, and I look forward to the day when a woman becoming First Minister is no longer extraordinary, but a normal part of our Welsh political life. As First Minister, I promise to champion voices and experiences that have too often been sidelined and silenced, to champion parts of Wales that too often feel like they're on the periphery, like my home in St Davids in west Wales. No-one will be left out. I extend my hand in gratitude and in genuine partnership to everyone in Wales. In a world where things that divide us are amplified and emphasised, sometimes for profit, I want to make it clear that I will be a listening First Minister—listening to all, not just those who shout the loudest or who have the most power.
I'r menywod ifanc sy'n gwylio heddiw, mae angen i chi wybod bod eich potensial yn ddiderfyn, nad yw'r llwybr at arweinyddiaeth bellach yn bosibilrwydd yn unig, mae'n realiti, ac edrychaf ymlaen at y diwrnod pan nad rhywbeth anghyffredin mwyach yw menyw yn dod yn Brif Weinidog, ond rhywbeth sy'n rhan arferol o'n bywyd gwleidyddol yng Nghymru. Fel Prif Weinidog, rwy'n addo hyrwyddo lleisiau a phrofiadau sydd wedi cael eu gwthio i'r neilltu a'u tawelu'n rhy aml, i hyrwyddo rhannau o Gymru sy'n teimlo yn rhy aml eu bod ar yr ymylon, fel fy nghartref yn Nhyddewi yn y gorllewin. Ni fydd neb yn cael ei adael allan. Rwy'n estyn fy llaw mewn diolchgarwch ac mewn partneriaeth wirioneddol i bawb yng Nghymru. Mewn byd lle mae pethau sy'n ein rhannu yn cael eu chwyddo a'u pwysleisio, weithiau er elw, rwyf eisiau ei gwneud yn glir mai Prif Weinidog sy'n gwrando y byddaf i—gwrando ar bawb, nid dim ond y rhai sy'n gweiddi uchaf neu sydd â'r pŵer mwyaf.
Dwi'n gobeithio cael fy niffinio gan fy ymrwymiad diflino i bobl Cymru, gan fy mlynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus, a fy ymroddiad i greu cenedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus i ni i gyd, arweinydd sy'n canolbwyntio ar gyflawni ac sy'n uchelgeisiol ar gyfer ein cenedl, arweinydd sy'n cael ei gyrru gan ymdeimlad o wasanaeth a pharch tuag at y bobl dwi'n eu gwasanaethu.
I hope to be defined by my tireless commitment to the people of Wales, by my years of public service, and my commitment to creating a fairer, greener and more prosperous nation for all of us, a leader who focuses on achievement and delivery, and who's ambitious for our nation, a leader who is driven by a sense of service and respect to the people I serve.
I hope to be defined by my unwavering commitment to the people of Wales, by my years of public service and my determination to create a fairer, greener and more prosperous nation for us all, a leader focused on delivery and on ambition for our nation, a leader driven by a sense of service and respect for the people I serve. For 30 years I've dedicated my life to public service, guided by the values of fairness and justice. This journey has taken me from the European Parliament, to the chambers of Westminster, to the Senedd, representing Mid and West Wales, and now to the heart of the Welsh Government.
I grew up in Ely, one of the largest council housing estates in Europe. As many of you know, our home, the vicarage, had an open-door policy. People would come along with their needs and troubles at all hours, day and night. It struck me then, as it does now, that so many intelligent and decent people weren't getting the breaks that they deserved. It also struck me how the incredible people, many of them women, some who are in the gallery today, who held that community together, created a deep sense of belonging and strength. This is the community that shaped me, the community that ignited my passion for democratic politics and that made me a socialist and the trade unionist that I am today.
Rwy'n gobeithio y caf fy niffinio gan fy ymrwymiad diwyro i bobl Cymru, gan fy mlynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus a'm penderfyniad i greu cenedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus i ni i gyd, arweinydd sy'n canolbwyntio ar gyflawni ac ar uchelgais i'n cenedl, arweinydd a ysgogir gan ymdeimlad o wasanaeth a pharch at y bobl rwy'n eu gwasanaethu. Ers 30 mlynedd rwyf wedi ymroi i wasanaeth cyhoeddus, dan arweiniad gwerthoedd tegwch a chyfiawnder. Mae'r daith hon wedi mynd â mi o Senedd Ewrop, i siambrau San Steffan, i'r Senedd, gan gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, a nawr i galon Llywodraeth Cymru.
Cefais fy magu yn Nhrelái, un o'r ystadau tai cyngor mwyaf yn Ewrop. Fel y gŵyr llawer ohonoch, roedd gan ein cartref, y ficerdy, bolisi drws agored. Byddai pobl yn dod gyda'u hanghenion a'u trafferthion bob awr, ddydd a nos. Fe wnaeth fy nharo bryd hynny, fel y gwnaiff nawr, nad oedd llawer o bobl ddeallus a gweddus yn cael y cyfleoedd yr oeddent yn eu haeddu. Fe wnaeth fy nharo hefyd sut y gwnaeth y bobl anhygoel, llawer ohonyn nhw'n ferched, rhai yn yr oriel heddiw, a oedd yn dal y gymuned honno gyda'i gilydd, greu ymdeimlad dwfn o berthyn a chryfder. Dyma'r gymuned a'm lluniodd i, y gymuned a daniodd fy angerdd dros wleidyddiaeth ddemocrataidd ac a wnaeth fi'n sosialydd a'r undebwr llafur yr ydw i heddiw.
Wrth i mi fyw yn y gymdeithas yna, dysgais wers amhrisiadwy am yr angen i wrando—gwrando go iawn ar bryderon a gobeithion pawb.
As I lived in that community, I learnt an invaluable lesson about the need to listen—to truly listen to the concerns and hopes of everyone.
Living in that community taught me the invaluable lesson of listening—really listening to the concerns and hopes of everyone.
Recent experiences on the doorsteps across Wales have revealed a troubling truth, I think, to us all, that many people have become deeply disconnected from the political process. Others are falling for superficially attractive answers to the most complex of issues—answers that scapegoat the most vulnerable and breed mistrust and division. But, make no mistake, the greatest threat to our democracy isn't a particular party or ideology, it's the belief that politics cannot change society for the better. And I reject that belief entirely. As the threat of discord grows, we cannot be passive observers. We must all be active advocates for the fact that politics can change things for the better, and we must all be advocates that promote the proposition that all people are entitled to live with dignity and need to be afforded respect. We must work to restore trust with the public.
Fe wnaeth byw yn y gymuned honno ddysgu gwers amhrisiadwy imi, sef gwrando—gwrando'n wirioneddol ar bryderon a gobeithion pawb.
Mae profiadau diweddar ar garreg y drws ledled Cymru wedi datgelu gwirionedd gofidus, rwy'n credu, i bob un ohonom, sef bod llawer o bobl wedi'u datgysylltu'n ddwfn o'r broses wleidyddol. Mae eraill yn llyncu atebion deniadol arwynebol i'r materion mwyaf cymhleth—atebion sy'n gwneud y rhai mwyaf agored i niwed yn fychod dihangol ac yn meithrin drwgdybiaeth ac yn creu rhaniadau. Ond, peidied neb â chamgymryd, nid plaid neu ideoleg benodol yw'r bygythiad mwyaf i'n democratiaeth, ond y gred na all gwleidyddiaeth newid cymdeithas er gwell. Ac rwy'n gwrthod y gred honno'n llwyr. Wrth i'r bygythiad o anghytgord dyfu, ni allwn fod yn arsylwyr goddefol. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn eiriolwyr gweithredol dros y ffaith y gall gwleidyddiaeth newid pethau er gwell, a rhaid i ni i gyd fod yn eiriolwyr sy'n hyrwyddo'r cynigiad fod gan bawb hawl i fyw gydag urddas a pharch. Mae'n rhaid i ni weithio i adfer ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd.
Mae Cymru yn genedl gynnes a chroesawgar, a rhaid i'n trafodaeth wleidyddol adlewyrchu hynny. Dylai ein gwahaniaethau fod yn ffynhonnell o gryfder, nid o raniadau.
Wales is a warm and welcoming nation, and our political discourse needs to reflect that. Our differences should be a source of strength, not division.
Our differences must be a source of strength, not a cause of division.
The last few weeks have been difficult and we've been through some turmoil, but we know that we are at our best when we work in unity, as a party and as a nation. Under my leadership, our focus will be firmly on Wales and its people, listening to what people want and delivering in every corner of this great nation.
Rhaid i'n gwahaniaethau fod yn ffynhonnell cryfder, nid rhywbeth sy'n achosi rhaniadau.
Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac rydyn ni wedi bod mewn cyfnod llawn helbul ond rydyn ni'n gwybod ein bod ni ar ein gorau pan rydyn ni'n gweithio mewn undod, fel plaid ac fel cenedl. O dan fy arweinyddiaeth, bydd ein pwyslais yn gadarn ar Gymru a'i phobl, gan wrando ar ddymuniadau pobl a chyflawni ymhob cornel o'r genedl wych hon.
Nawr yw'r amser i ganolbwyntio ar y materion sydd wirioneddol yn effeithio ar ac yn bwysig i'n cymunedau.
Now is the time to focus on the issues that genuinely impact our communities and are important to them.
Over the summer, I'll be in all parts of Wales, listening to you, the public, to ensure that we tackle the concerns that really matter to you.
Dros yr haf, byddaf ymhob rhan o Gymru, yn gwrando arnoch chi, y cyhoedd, i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r pryderon sydd o bwys gwirioneddol i chi.
Fy ngweledigaeth i yw gweld Cymru yn wlad lle gall pawb gyfrannu at ein llwyddiant, beth bynnag eu cefndir.
My vision is to see Wales as a nation where everyone can contribute to our success, regardless of their background.
My vision for Wales is one where everyone can contribute to our shared success, regardless of background. It's our job in Government to provide everyone with the opportunity to fulfil their potential. And this is based on a deep belief I have that the success of one leads to the success of many.
But we have to be realistic about the challenge ahead. The last 14 years have left the public finances in a dire state, and there will be some tough decisions to make. But the difference now will be that we will be making that work in partnership with the new UK Labour Government and its genuine commitment to public services, renewed respect for devolution and a desire to work together.
Now, they used to say that behind every successful man there is a woman. On this occasion, there will be an impressive man behind a woman. Now, on this occasion, I'm not talking about my lovely husband, Rhys. [Laughter.] I'm thrilled to be embarking on this journey with Huw Irranca-Davies, and this marks the first step of many changes to come. [Applause.] I couldn't ask for a more capable political partner.
Fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru yw un lle gall pawb gyfrannu at ein llwyddiant ar y cyd, ni waeth beth fo'r cefndir. Ein gwaith ni yn y Llywodraeth yw rhoi cyfle i bawb gyflawni eu potensial. Ac mae hyn yn seiliedig ar gred ddofn sydd gennyf i fod llwyddiant un yn arwain at lwyddiant i lawer.
Ond mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â'r her sydd o'n blaenau. Mae'r 14 mlynedd diwethaf wedi gadael y cyllid cyhoeddus mewn cyflwr enbyd, a bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Ond y gwahaniaeth nawr fydd y byddwn yn gwneud i'r gwaith hwnnw weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur newydd y DU a'i hymrwymiad gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus, parch o'r newydd at ddatganoli ac awydd i gydweithio.
Nawr, roedden nhw'n arfer dweud bod menyw y tu ôl i bob dyn llwyddiannus. Nawr bydd dyn trawiadol y tu ôl i fenyw. Nawr, dydw i ddim yn sôn am fy ngŵr hyfryd, Rhys. [Chwerthin.] Rwy'n falch iawn o fod yn cychwyn ar y daith hon gyda Huw Irranca-Davies, ac mae hyn yn nodi'r cam cyntaf o lawer o newidiadau sydd i ddod. [Cymeradwyaeth.] Ni allwn ofyn am bartner gwleidyddol mwy galluog.
Rŷn ni'n dod â llu o brofiad a dealltwriaeth i'n harweinyddiaeth, ynghyd â'r gred ddofn fod pobl yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd dros Gymru.
Llywydd, wrth inni edrych i'r dyfodol, dwi am i bawb wybod bod eu llais yn bwysig.
We bring a whole host of experience and understanding to our leadership, as well as a deep belief in the fact that people succeed when they work together for Wales.
Llywydd, as we look to the future, I want everyone to know that their voice is important.
I'll not be some distant figure in Cardiff Bay. I'm a Welsh citizen, just like you. I want to understand the challenges that you face. I want your priorities to become my priorities. Together, we can build a Wales that is open for business and committed to wealth creation, because if you want to share wealth, first of all you have to create it. We will fight poverty through economic growth and by redistributing our riches fairly. We will build a Wales that understands that well-being is at the heart of people's happiness and their ability to contribute; a Wales where our children can grow up with opportunities, where they can feel hopeful for the future; a Wales that leaves no stone unturned in our efforts to improve our NHS and education system, where we harness the latest technology to make public services better, and where we understand that, for the sake of future generations, we'll need to make changes to respond to the climate and nature emergencies.
Ni fyddaf yn rhyw ffigwr pell ym Mae Caerdydd. Rwy'n ddinesydd Cymru, yn union fel chi. Rwyf eisiau deall yr heriau rydych chi'n eu hwynebu. Rwyf eisiau i'ch blaenoriaethau chi ddod yn flaenoriaethau i mi. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu Cymru sy'n agored i fusnes ac sydd wedi ymrwymo i greu cyfoeth, oherwydd os ydych chi eisiau rhannu cyfoeth, yn gyntaf oll mae'n rhaid i chi ei greu. Byddwn yn brwydro yn erbyn tlodi drwy dwf economaidd a thrwy ailddosbarthu ein cyfoeth yn deg. Byddwn yn adeiladu Cymru sy'n deall bod llesiant wrth wraidd hapusrwydd pobl a'u gallu i gyfrannu; Cymru lle gall ein plant dyfu i fyny gyda chyfleoedd, lle gallant deimlo'n obeithiol am y dyfodol; Cymru sy'n troi pob carreg yn ein hymdrechion i wella ein GIG a'n system addysg, lle rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i wella gwasanaethau cyhoeddus, a lle rydym yn deall, er lles cenedlaethau'r dyfodol, y bydd angen i ni wneud newidiadau er mwyn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Wrth siarad dros Gymru ar bob cyfle, dwi'n bwriadau arwain Llywodraeth sy'n gwrando, sy'n dysgu ac sy'n cyflawni. Heddiw, dwi'n eich gwahodd chi i ymuno gyda fi i lunio cenedl amrywiol a deinamig lle gall pawb ffynnu a gweld eu hunain fel pobl o bosibiliadau diderfyn.
In speaking up for Wales at every opportunity, I intend to lead a Government that listens, that learns and that delivers. Today, I invite you to join me in creating and forging a dynamic, diverse nation where everyone can prosper and see themselves as people of endless possibilities and potential.
While speaking up for Wales at every opportunity, I intend to lead a Government that listens, that learns and that delivers. Diolch yn fawr. [Applause.]
Wrth siarad dros Gymru ar bob cyfle, rwy'n bwriadu arwain Llywodraeth sy'n gwrando, sy'n dysgu ac sy'n cyflawni. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]
Andrew R.T. Davies.
Andrew R.T. Davies.
Thank you, Presiding Officer. Can I congratulate the First Minister designate on her appointment at the vote of the Senedd today? I congratulate her on that very carefully crafted speech as well, which encapsulated a lot of the thoughts and sentiments that many people in this Chamber would espouse, and also pointing to the Deputy First Minister role that you have created in Huw Irranca and the experience that he brings to the Government bench as well. I also congratulate the First Minister designate on, obviously, being the first woman to hold that office. That is a significant moment in our political history, and is something that should be duly respected and acknowledged, because when I was speaking to my own daughters this morning, they made the very point that it will be a different dynamic in the Senedd having a woman First Minister in the centre of that Chamber, and that is something that we should obviously reflect on and appreciate as well. And I do congratulate you on achieving that and, ultimately, in the next 18 months to the Senedd election, what you might achieve. Obviously, the electorate will have the chance to talk and speak at that election, and given the in-tray that you will have—the very large in-tray of NHS waiting lists, on the Programme for International Student Assessment results in education, and the economic situation we find ourselves in, with Tata and a sluggish Welsh economy—then, obviously, those are big issues for you to address along with your Cabinet.
We are in recess, obviously, so it will be difficult for us in the coming weeks to challenge and make points, but I do hope that the First Minister will engage with Parliament through the recess period, because it is important that we understand the urgency that she will bring to the role of First Minister, because you are the third First Minister in this year, and that obviously has had a very corrosive effect on the delivery of Government and in the delivery of initiatives that the Government have brought forward here in Wales. It is also important to try and understand, with the direction that the First Minister will take with her new Government, what policies might still come forward from that Government, what might be resurrected from the previous Government under the previous First Minister, because three significant things were pushed to one side in that time: council tax revaluation, the sustainable farming scheme, and obviously, then, there were the issues around health and education and the economy that constantly came to the floor of this Chamber that needed addressing. I'd be very keen to understand the energy that the First Minister believes that she will be able to bring from her chair as First Minister that she thought she couldn't bring from the health chair in tackling those deep-seated issues within our health service, because many people in Wales are blighted by those delays, and I'm sure she feels that personally, because she's had those conversations with medics and patients and families the length and breadth of Wales. But I sincerely hope that that very crafted and choreographed speech that you gave—a very clever speech, I might add—is translated into the delivery of the Government. And I look forward, where we can, to working with you and ultimately delivering for Wales, because Wales is a country that ultimately has a great future ahead of it, with a huge amount of potential, and it's just the ability to untap that potential and offer that opportunity to young people and middle-aged people and old people that enhances the whole nation of Wales and makes sure that we achieve our full potential.
So, I wish you well, First Minister, and ultimately, I'm sure, across this Chamber, you and I will debate, and I will ask many questions at First Minister's questions. I think you will be the fourth First Minister that I've had the opportunity to do that with. That most probably speaks, maybe, more to my electoral failure at elections than, ultimately, your ability to answer those questions. [Laughter.] But I did note that the Deputy First Minister designate got a little restless in his chair when you talked about the men in grey suits moving to one side, and I did look very hard at whether that was a grey suit, but I think there's a bit of blue in there. [Laughter.] But, again, another significant appointment in the Deputy First Minister, and as someone who was here between the period of 2007 to 2011, it again would be very interesting to try and understand how that will work within the construct of the Government you will look to create here in Cardiff Bay. Is it a title or is it going to be a significant addition to the capacity of the Government and the role of the Government here in Wales? But congratulations; I wish you well. [Applause.]
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i longyfarch y Prif Weinidog ar ei phenodiad ym mhleidlais y Senedd heddiw? Rwy'n ei llongyfarch ar yr araith honno hefyd a oedd wedi'i saernio'n ofalus, a oedd yn crynhoi llawer o'r meddyliau a'r teimladau y byddai llawer o bobl yn y Siambr hon yn eu harddel a hefyd am dynnu sylw at rôl y Dirprwy Brif Weinidog rydych chi wedi'i chreu ar gyfer Huw Irranca a'r profiad y mae'n ei ddwyn i fainc y Llywodraeth hefyd. Rwyf hefyd yn llongyfarch y darpar Brif Weinidog am fod, yn amlwg, y fenyw gyntaf i ddal y swydd honno. Mae honno'n foment arwyddocaol yn ein hanes gwleidyddol, ac mae'n rhywbeth y dylid ei barchu a'i gydnabod yn briodol, oherwydd pan oeddwn yn siarad â fy merched i y bore yma, gwnaethant yr union bwynt sef bydd bod â menyw yn Brif Weinidog yng nghanol y Siambr honno yn creu deinameg wahanol yn y Senedd, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem yn amlwg fyfyrio arno a'i werthfawrogi hefyd. Ac rwy'n eich llongyfarch ar gyflawni hynny ac, yn y pen draw, dros y 18 mis nesaf tan etholiad y Senedd, yr hyn y gallech ei gyflawni. Yn amlwg, bydd yr etholwyr yn cael cyfle i siarad yn yr etholiad hwnnw, ac o ystyried y fasged 'i mewn' y bydd gennych chi—y fasged 'i mewn' sylweddol iawn o restrau aros y GIG, canlyniadau addysg Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a'r sefyllfa economaidd yr ydym yn cael ein hunain ynddi, gyda Tata ac economi farwaidd Cymru—yna, yn amlwg, mae'r rheini'n faterion mawr i chi fynd i'r afael â nhw gyda'ch Cabinet.
Rydym yng nghanol toriad, yn amlwg, felly bydd hi'n anodd i ni yn ystod yr wythnosau nesaf herio a gwneud pwyntiau, ond rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn ymgysylltu â'r Senedd drwy'r toriad, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall y brys y bydd hi'n ei ddwyn i swyddogaeth y Prif Weinidog, oherwydd chi yw'r trydydd Prif Weinidog eleni, ac mae hynny'n amlwg wedi cael effaith ddeifiol iawn ar gyflawniadau'r Llywodraeth ac wrth gyflawni mentrau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno yma yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig ceisio deall, o ran y cyfeiriad y bydd y Prif Weinidog yn ei ddilyn gyda'i Llywodraeth newydd, pa bolisïau sy'n debygol o gael eu cyflwyno eto gan y Llywodraeth honno, beth fydd yn cael eu hatgyfodi o'r Llywodraeth flaenorol o dan y Prif Weinidog blaenorol tybed, oherwydd cafodd tri pheth arwyddocaol eu gwthio o'r neilltu yn y cyfnod hwnnw: ailbrisio'r dreth gyngor, y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn amlwg, roedd materion yn ymwneud ag iechyd ac addysg a'r economi a oedd yn dod yn gyson i lawr y Siambr hon yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Byddwn i'n awyddus iawn i ddeall yr egni y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd hi'n gallu ei gyflwyno o gadair y Prif Weinidog, yr egni yr oedd hi'n credu nad oedd yn bosibl o'r gadair iechyd wrth fynd i'r afael â'r materion dwfn hynny o fewn ein gwasanaeth iechyd, oherwydd mae llawer o bobl yng Nghymru wedi'u siomi'n greulon gan yr oedi hwnnw, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n teimlo hynny'n bersonol, oherwydd ei bod wedi cael y sgyrsiau hynny gyda meddygon a chleifion a theuluoedd ar hyd a lled Cymru. Ond rwy'n gobeithio'n fawr bydd yr araith grefftus a chelfydd ei saernïaeth honno a roesoch chi—araith glyfar iawn—yn cael ei throsi i gyflawniad y Llywodraeth. Ac rwy'n edrych ymlaen, lle y gallwn ni, at weithio gyda chi ac yn y pen draw i gyflawni dros Gymru, oherwydd mae Cymru'n wlad sydd â dyfodol gwych o'i blaen yn y pen draw, gyda llawer iawn o botensial, a'r gallu hwnnw i fanteisio ar y potensial hwnnw a chynnig y cyfle hwnnw i bobl ifanc a phobl ganol oed a phobl hŷn sy'n gwella Cymru gyfan ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein potensial yn llawn.
Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi, Brif Weinidog, ac yn y pen draw, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, y byddwch chi a minnau'n dadlau, a byddaf yn gofyn llawer o gwestiynau yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Rwy'n credu mai chi fydd y pedwerydd Prif Weinidog a fydd yn gorfod gwrando ar y rheini. Mae'n debyg bod hynny'n adlewyrchu, efallai, fy methiant etholiadol mewn etholiadau yn hytrach na'ch gallu chi i ateb y cwestiynau hynny. [Chwerthin.] Ond nodais fod y darpar Ddirprwy Brif Weinidog ychydig yn aflonydd yn ei gadair pan oeddech yn sôn am y dynion mewn siwtiau llwyd yn symud i un ochr, ac fe wnes i edrych yn fanwl iawn i weld a oedd hi'n siwt lwyd, ond rwy'n credu bod ychydig o las yna. [Chwerthin.] Ond, unwaith eto, penodiad arwyddocaol arall i swydd y Dirprwy Brif Weinidog, ac fel rhywun a oedd yma yn y cyfnod rhwng 2007 a 2011, byddai'n ddiddorol iawn ceisio deall sut y bydd hynny'n gweithio o fewn lluniad y Llywodraeth y byddwch yn bwriadu ei chreu yma ym Mae Caerdydd. A yw'n deitl neu a yw'n mynd i fod yn ychwanegiad sylweddol at gapasiti'r Llywodraeth a swyddogaeth y Llywodraeth yma yng Nghymru? Ond llongyfarchiadau; rwy'n dymuno'n dda i chi. [Cymeradwyaeth.]
Rhun ap Iorwerth.
Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ar ran Plaid Cymru, dwi'n llongyfarch y Prif Weinidog ar ei henwebiad, ac yn dymuno yn dda iawn iddi hi wrth iddi gydio yn yr awenau a mynd i'r afael â'r heriau sylweddol sydd o'i blaen. Er bod pleidiau eraill yma, yn cynnwys fy mhlaid i, wedi cael arweinwyr benywaidd o'r blaen, mae o'n rhywbeth gwirioneddol nodedig bod gan Gymru ferch yn Brif Weinidog am y tro cyntaf. Fel tad i ddwy ferch fy hun, dwi'n ystyried bod pob un cam sydd yn dangos bod dim ffiniau na nenfwd gwydr i fod iddyn nhw, mewn gwleidyddiaeth na dim arall, i'w groesawu yn fawr.
Mewn blwyddyn arferol, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol fyddwn i rŵan. Mae'n siŵr yn fanno y byddai llawer o Weinidogion hefyd, a'r Prif Weinidog ei hun, yn bosib iawn. Ond nid blwyddyn arferol fu hon yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac mae hi'n bwysig heddiw i gydnabod pam ein bod ni yma. Wrth gydnabod hynny, dŷn ni'n gweld pam fy mod i'n dweud ar y dechrau bod yr heriau sy'n wynebu'r Prif Weinidog newydd yn rhai mor sylweddol. Nid trosglwyddiad trefnus o un Prif Weinidog i'r llall ydy hwn, ac ers misoedd mae'r weinyddiaeth Lafur a fu'n llywodraethu ers cymaint o amser wedi canfod ei hun yn ddiymadferth wrth orfod delio efo sgandal a ffraeo mewnol yn hytrach na gallu canolbwyntio ar wasanaethu pobl Cymru. Ac mae Cymru yn haeddu gwell na hynny.
Thank you very much, Llywydd. On behalf of Plaid Cymru, I congratulate the First Minister on her nomination, and I wish her well as she takes the reins and grapples with the significant challenges that she faces. Although other parties here, including my own, have had female leaders in the past, it is something truly remarkable that Wales has a female First Minister for the very first time. As a father of two daughters myself, I believe that every step that shows that no boundaries or glass ceilings are to exist for them, in politics or anywhere else, is to be warmly welcomed.
In a normal year I would be on the National Eisteddfod field, as would a number of Ministers and the First Minister herself, possibly. But this hasn't been a normal year in Welsh politics, and it's important today to acknowledge why we are here, and in acknowledging that, we do see why I said at the outset that the challenges facing the new First Minister are so great. This isn't a tidy transfer of power from one First Minister to another, and for months, the Labour administration that's been in Government for so long has found itself powerless in dealing with scandal and internal division rather than focusing on serving the people of Wales. And Wales deserves better than that.
So, yes, we congratulate the new First Minister. We wish her well today. But we also remind her and her Government that, in similar circumstances elsewhere, the Labour hierarchy argued that multiple changes in leadership in Westminster and in Scotland undermined the democratic legitimacy of government and demanded fresh elections. It's for Labour to explain why different rules should apply in Wales. We won't have an election, of course, here, because neither Labour nor the Conservatives want to face the Welsh electorate in a Senedd election right now. So, we will hold the Labour Government to account for their actions until we do, as scheduled, in 2026.
We'll do so constructively. In days of troubling and worrying divisions, it is important that all of us as individuals and all political parties challenge each other hard and work together where we can. We'll hold the Government to account firmly and with only one thing guiding us: the interests of the people of Wales—something that Government has had to put to one side recently whilst prioritising internal party problems.
The new First Minister made it clear that she was putting herself forward as a unity candidate. That was unity for Labour in those circumstances. And in fact we had a joint unity ticket, which spoke volumes, I think. Whilst during times of coalition a Deputy First Minister has served an obvious purpose, there is no Senedd or Welsh Government significance to the role of Deputy First Minister, as experienced as the Deputy First Minister designate is. It is about addressing Labour's own internal divisions, and it is in that context, and the wider context of having little, so far, idea of the new First Minister's priorities due to the political storm that we have lived through—we have little idea of what the new First Minister wants to do in Government—it's in that context that we will set about with our scrutiny.
Will she reset the relationship between the Welsh and UK Governments in a manner that amounts to more than soundbites? On fair funding, the Crown Estate, HS2 and the devolution of crime and justice, how does she intend to stand up for Wales? As former health Minister she must outline how she will reverse her own record, which has resulted in the highest ever waiting times in Wales. On education, we want to know when the Labour Welsh Government will put conditions in place to allow all our pupils to reach their potential after years of Wales lagging ever further behind UK nations. What is the First Minister’s plan for safeguarding the future of Welsh steel and creating the high-skilled, well-paid jobs that are so desperately needed to boost the economy? These are the matters that are important to the people of Wales. And on these, and on other issues, we will hold the Labour Government to account and explain Plaid Cymru's positive vision for real change. More of the same really can't be an option anymore, but I wish the First Minister well as she embarks on her work.
Felly, ydym, rydym yn llongyfarch y Prif Weinidog newydd. Rydym yn dymuno'n dda iddi heddiw. Ond rydym hefyd yn ei hatgoffa hi a'i Llywodraeth bod hierarchaeth y Blaid Lafur mewn amgylchiadau tebyg yn rhywle arall yn dadlau bod newidiadau lluosog mewn arweinyddiaeth yn San Steffan ac yn yr Alban yn tanseilio cyfreithlondeb democrataidd y llywodraeth gan fynnu etholiadau newydd. Mater i Lafur yw esbonio pam y dylai rheolau gwahanol fod yn berthnasol yng Nghymru. Ni chawn etholiad, wrth gwrs, yma, oherwydd nid yw Llafur na'r Ceidwadwyr eisiau wynebu etholwyr Cymru mewn etholiad Senedd ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn dwyn y Llywodraeth Lafur i gyfrif am eu gweithredoedd hyd nes y cawn ni un, fel y trefnwyd, yn 2026.
Byddwn yn gwneud hyn yn adeiladol. Mewn dyddiau o raniadau cythryblus a phryderus, mae'n bwysig ein bod ni i gyd fel unigolion a phob plaid wleidyddol yn herio'n gilydd yn galed ac yn gweithio gyda'n gilydd lle gallwn. Byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn gadarn a gydag un peth yn unig yn ein harwain: buddiannau pobl Cymru—rhywbeth y bu'n rhaid i'r Llywodraeth ei roi i'r naill ochr yn ddiweddar tra oedd hi'n blaenoriaethu problemau mewnol y blaid.
Gwnaeth y Prif Weinidog newydd yn glir ei bod yn cyflwyno ei hun fel ymgeisydd undod. Roedd hynny'n undod i Lafur o dan yr amgylchiadau hynny. Ac mewn gwirionedd roedd gennym docyn undod ar y cyd, a oedd yn siarad cyfrolau, rwy'n credu. Er bod Dirprwy Brif Weinidog wedi cyflawni pwrpas amlwg yn ystod cyfnodau o glymbleidiau, nid oes unrhyw arwyddocâd Seneddol na Llywodraeth Cymru i rôl Dirprwy Brif Weinidog, er mor brofiadol yw darpar Ddirprwy Brif Weinidog Cymru. Mae'n ymwneud â mynd i'r afael â rhaniadau mewnol Llafur ei hun, ac mae yn y cyd-destun hwnnw, a'r cyd-destun ehangach o fod â bron dim syniad, hyd yn hyn, o flaenoriaethau'r Prif Weinidog newydd oherwydd y storm wleidyddol yr ydym wedi byw drwyddi—nid oes gennym lawer o syniad o'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd am ei wneud yn y Llywodraeth—yn y cyd-destun hwnnw y byddwn yn mynd ati gyda'n gwaith craffu.
A wnaiff hi ailosod y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU mewn modd sy'n fwy na dim ond sylwadau bachog yn unig? O ran cyllido teg, Ystad y Goron, HS2 a datganoli trosedd a chyfiawnder, sut mae hi'n bwriadu sefyll dros Gymru? Fel cyn-Weinidog iechyd mae'n rhaid iddi amlinellu sut y bydd yn gwrthdroi ei hanes ei hun, sydd wedi arwain at yr amseroedd aros uchaf erioed yng Nghymru. O ran addysg, rydym eisiau gwybod pryd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi amodau ar waith i ganiatáu i'n holl ddisgyblion gyrraedd eu potensial ar ôl gweld blynyddoedd o Gymru ar ei hôl hi, hyd yn oed yn fwy y tu ôl i wledydd y DU. Beth yw cynllun y Prif Weinidog ar gyfer diogelu dyfodol dur Cymru a chreu'r swyddi medrus sy'n talu'n dda sydd eu hangen mor daer i hybu'r economi? Dyma'r materion sy'n bwysig i bobl Cymru. Ac ar y rhain, ac ar faterion eraill, byddwn yn dwyn y Llywodraeth Lafur i gyfrif ac yn egluro gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer newid go iawn. Ni all mwy o'r un peth fod yn opsiwn mwyach, ond rwy'n dymuno'n dda i'r Prif Weinidog wrth iddi ddechrau ar ei gwaith.
Dwi'n dymuno'n dda i'r Prif Weinidog newydd. [Cymeradwyaeth.]
I wish the new First Minister well. [Applause.]
Jane Dodds.
Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Well, at last, a female leader of a party. It's really wonderful to see you in that role. And as the now second female leader of a political party here in Wales, I'm really delighted to see a woman leading a party.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, o'r diwedd, arweinydd benywaidd ar blaid. Mae'n hyfryd eich gweld yn y rôl honno. Ac fel yr ail fenyw sydd bellach yn arweinydd plaid wleidyddol yma yng Nghymru, rwy'n falch iawn o weld menyw yn arwain plaid.
Llongyfarchiadau i chi.
Congratulations to you.
And on behalf of the Welsh Liberal Democrats, I extend those best wishes.
It is very nice to have a female voice joining me, this one, when we have the leaders debates and discussions, so it's really lovely to see you in that role. And this is about signalling a really new politics for me. It's about a more equal politics, a more compassionate politics. This is a historical moment, coming at a critical juncture here for Wales, a real opportunity for change. The mantle now falls to you and your Government to really rebuild that trust, not just within the Senedd, but, more crucially, for the people here in Wales. And as a Christian, I will be praying for you in that role, as I have done, and many have done in the Siambr, for all of our leaders and our Government as well.
Recent months have cast a shadow on Welsh politics, and we must now move forward. It has personally pained me to see the erosion of trust and the growing disillusionment of the people of Wales. We face a stark truth—we have a crisis of confidence, and I do look forward to that being rebuilt. The people of Wales are tired of political games and empty promises. What they want now is real, tangible progress on the issues that impact their daily lives. I think of the families endlessly waiting for medical care, who see a workforce overwhelmed, a healthcare system at near breaking point. I think of the communities grappling with water pollution, demanding genuine accountability from water companies that have neglected their responsibilities. I think of the children trapped in the cycle of poverty, their potential stifled by a stagnant system beyond their control. I think of children, such as two-year-old Lola James, whose heartbreaking death underscores the critical challenges facing our overwhelmed child protection system. I fully intend to send you a letter, First Minister, to ask you again for a review of our child protection system, so that we can truly protect our children here in Wales, because if we are not here to speak for the lost and the last, we are not here doing our job. It is for these issues, and the people here in Wales, that I chose to abstain. Not an easy decision, not made lightly, and it doesn't stem from a lack of support to you as First Minister. On the contrary, my abstention serves as a clear signal that the real work of governance starts now.
We all share the common goal to see Wales thrive and improve. We cannot be divided, particularly now as we see the potential rise of fascism and racism in our societies. We must coalesce, we must work together and stand firm against this evil and pervasive fear that is within our communities. There needs to be this loud and clear message, and an effort to restore trust in politics. With the new Government in Westminster and a new First Minister, we have a real opportunity here in Wales to demonstrate a fresh, Welsh, ambitious approach, and a different kind of politics. I am here offering that support, asking that you demonstrate that ambitious vision, which truly needs to meet the needs of our people here in Wales. And I stand here, as do many, on behalf of our children and young people to say that we really do want a change. Diolch yn fawr iawn. [Applause.]
Ac ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, estynnaf y dymuniadau gorau hynny.
Mae'n braf iawn cael llais benywaidd yn ymuno â mi, yr un yma, pan gawn ni'r dadleuon a'r trafodaethau arweinwyr, felly mae'n hyfryd iawn eich gweld chi yn y rôl honno. Ac mae hyn yn ymwneud â nodi gwleidyddiaeth newydd iawn i mi. Mae'n ymwneud â gwleidyddiaeth fwy cyfartal, gwleidyddiaeth fwy tosturiol. Mae hon yn foment hanesyddol, gan ddod ar adeg dyngedfennol i Gymru, cyfle go iawn i newid. Mae'r fantell bellach yn disgyn arnoch chi a'ch Llywodraeth i ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno, nid yn unig o fewn y Senedd, ond, yn bwysicach, i'r bobl yma yng Nghymru. Ac fel Cristion, byddaf yn gweddïo drosoch yn y rôl honno, fel yr wyf wedi gwneud, ac mae llawer wedi gwneud yn y Siambr, dros ein holl arweinwyr a'n Llywodraeth hefyd.
Mae'r misoedd diwethaf wedi taflu cysgod ar wleidyddiaeth Cymru, ac mae'n rhaid i ni nawr symud ymlaen. Yn bersonol, mae gweld erydiad ymddiriedaeth a dadrithiad cynyddol pobl Cymru wedi fy mhoeni i. Rydyn ni'n wynebu gwirionedd noeth—mae gennym ni argyfwng hyder, ac rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n cael ei ailadeiladu. Mae pobl Cymru wedi blino ar gemau gwleidyddol ac addewidion gwag. Yr hyn maen nhw ei eisiau nawr yw cynnydd gwirioneddol a diriaethol o ran y materion sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Rwy'n meddwl am y teuluoedd sy'n aros yn ddiddiwedd am ofal meddygol, sy'n gweld gweithlu wedi'i lethu, system gofal iechyd bron â thorri. Rwy'n meddwl am y cymunedau sy'n mynd i'r afael â llygredd dŵr, gan fynnu atebolrwydd gwirioneddol gan gwmnïau dŵr sydd wedi esgeuluso eu cyfrifoldebau. Rwy'n meddwl am y plant sy'n gaeth yng nghylch tlodi, eu potensial wedi'i fygu gan system farwaidd y tu hwnt i'w rheolaeth nhw. Rwy'n meddwl am blant, fel Lola James, a oedd yn ddwy oed, y mae ei marwolaeth dorcalonnus yn tanlinellu'r heriau difrifol sy'n wynebu ein system amddiffyn plant sydd wedi'i gorlethu. Rwy'n bwriadu anfon llythyr atoch chi, Brif Weinidog, i ofyn i chi eto am adolygiad o'n system amddiffyn plant, fel y gallwn yn wir amddiffyn ein plant yma yng Nghymru, oherwydd os nad ydym yma i siarad dros y coll a'r olaf, nid ydym yn gwneud ein gwaith yma. Ar gyfer y materion hyn, a'r bobl yma yng Nghymru, y dewisais ymatal. Nid oedd yn benderfyniad hawdd, ac ni chafodd ei wneud ar chwarae bach, ac nid yw'n deillio o ddiffyg cefnogaeth i chi fel Prif Weinidog. I'r gwrthwyneb, mae fy ymataliad yn arwydd clir bod gwir waith llywodraethu yn dechrau nawr.
Rydyn ni i gyd yn rhannu'r nod cyffredin i weld Cymru'n ffynnu ac yn gwella. Ni ddylem gael ein rhannu, yn enwedig nawr wrth i ni weld cynnydd posibl mewn ffasgiaeth a hiliaeth yn ein cymdeithasau. Mae'n rhaid i ni uno, rhaid i ni weithio gyda'n gilydd a sefyll yn gadarn yn erbyn yr ofn treiddiol ac anfad hwn sydd o fewn ein cymunedau. Mae angen y neges glir a chadarn hon, ac ymdrech i adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth. Gyda'r Llywodraeth newydd yn San Steffan a Phrif Weinidog newydd yma, mae gennym gyfle gwirioneddol yma yng Nghymru i ddangos dull newydd, Cymreig, uchelgeisiol, a math gwahanol o wleidyddiaeth. Rwyf yma yn cynnig y gefnogaeth honno, gan ofyn i chi ddangos y weledigaeth uchelgeisiol honno, sydd wir ei hangen i ddiwallu anghenion ein pobl yma yng Nghymru. Ac rwy'n sefyll yma, fel y gwna llawer, ar ran ein plant a'n pobl ifanc i ddweud ein bod ni wir eisiau newid. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]
Diolch yn fawr iawn. Twenty-five years later, we've finally smashed through that glass funnel. [Laughter.]
Diolch yn fawr iawn. Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, rydym o'r diwedd wedi torri trwy'r twndis gwydr yna. [Chwerthin.]
Llongyfarchiadau mawr, felly, i'r Prif Weinidog newydd, i Eluned Morgan. A diolch i bawb am eich cyfraniadau y bore yma. Byddwn ni'n cwrdd nesaf ym mis Medi, os na fydd yna angen i adalw cyn hynny. Felly, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Many congratulations to the new First Minister, Eluned Morgan, and thank you all for your contributions this morning. We will next meet in September, unless there is a need for another recall before then. So, that brings today's proceedings to a close. Thank you.
Daeth y cyfarfod i ben am 11:36.
The meeting ended at 11:36.