Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/08/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 11:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Bore da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyfarfod wedi'i adalw o'r Senedd yw hwn, o dan Reol Sefydlog 12.3. Ein hunig eitem o fusnes y bore yma fydd i enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. Felly, i symud yn syth at hynny, a oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog? Vaughan Gething.

Diolch yn fawr. Mae Eluned Morgan wedi ei henwebu. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Delyth Jewell.

Fel cadeirydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn enwebu Andrew R.T. Davies.

Mae Andrew R.T. Davies wedi ei enwebu. A oes unrhyw enwebiad arall? Nac oes. Felly, rŷn ni wedi derbyn tri enwebiad, ac oherwydd hynny mi fyddaf yn cynnal pleidlais nawr drwy alw'r gofrestr, ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod yn nhrefn yr wyddor, a dywedwch enw'r ymgeisydd rydych chi yn ei gefnogi yn glir pan gewch chi eich galw, neu dywedwch yn glir os byddwch yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni fydd y Dirprwy Lywydd na finnau yn medru pleidleisio. Felly, fe wnawn ni gychwyn ar y galw yn ôl yr wyddor. Dwi'n mynd i ddechrau gyda Rhys ab Owen.

11:05

Mae pob Aelod wedi pleidleisio a oedd yn dymuno pleidleisio, ac felly fe fyddaf i'n aros yn awr i'r Clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais.

Felly, dyma ganlyniad pendant y bleidlais yma: Eluned Morgan 28, Andrew R.T. Davies 15, Rhun ap Iorwerth 12, yn ymatal 1. Felly, mae 56 o bleidleisiau wedi'u pleidleisio, ac rwy'n gallu datgan bod Eluned Morgan wedi cael ei henwebu i'w phenodi yn Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran 47(4) Deddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Fawrhydi y dylid penodi Eluned Morgan yn Brif Weinidog. Llongyfarchiadau. [Cymeradwyaeth.] Llongyfarchiadau mawr i Eluned Morgan, a'i job gyntaf fydd i annerch y Senedd. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd a Senedd, ac ymddiheuriadau mawr i chi i gyd am darfu ar eich gwyliau haf. Mae'n anrhydedd mwyaf fy mywyd i sefyll o'ch blaenau chi heddiw fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru. 

Mae'n anrhydedd mwyaf fy mywyd cael sefyll o'ch blaen heddiw fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru. Bum mlynedd ar hugain yn ôl, gwelsom wawr oes newydd gyda genedigaeth datganoli. Yr eiliad allweddol hon oedd gwireddu uchelgais Cymru, ailgynnau ein hysbryd cenedlaethol a dechrau taith tuag at fwy o hunanbenderfyniaeth o fewn y Deyrnas Unedig.

Hoffwn ddiolch yn fawr i fy rhagflaenydd uniongyrchol i'r rôl hon, Vaughan Gething, am ei wasanaeth—gwir arloeswr arall ar y daith i ddatganoli.

Hoffwn ddiolch i'm rhagflaenydd uniongyrchol yn y rôl hon, Vaughan Gething, am ei wasanaeth—gwir arloeswr arall ar y daith ddatganoli honno. [Cymeradwyaeth.] Ond rwy'n ymwybodol iawn mai dim ond dolenni mewn cadwyn o arweinwyr ydym ni sy'n ymestyn yn ôl i ddechrau datganoli: Alun, a helpodd i osod sylfeini'r Cynulliad; Rhodri, yr eiriolwr gweledigaethol; Carwyn, a'n llywiodd drwy gyni; Mark, a'n harweiniodd yn ystod y pandemig; a Vaughan, a dorrodd rwystrau amrywiaeth gyda'i fuddugoliaeth hanesyddol.

Wrth i mi ymgymryd â mantell arweinyddiaeth, rwy'n addo anrhydeddu eu cyflawniadau ac ychwanegu fy nghyfraniad unigryw fy hun i'r waddol hon, efallai gyda sblash bywiog o liw—dim mwy o'r siwtiau llwyd. [Chwerthin.] Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol wrth i fenyw ddod yn Brif Weinidog Cymru am y tro cyntaf yn ein hanes.

Dyw hyn ddim yn ymwneud â thorri nenfydau gwydr yn unig, mae'n ymwneud â'u chwalu, gan ddefnyddio'r darnau i greu moseic o bosibiliadau newydd. Dwi'n cario gyda fi ddoethineb cyfunol menywod di-ri sydd wedi brwydro, ymdrechu a dyfalbarhau—llawer heb y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu.

I'r menywod ifanc sy'n gwylio heddiw, mae angen i chi wybod bod eich potensial yn ddiderfyn, nad yw'r llwybr at arweinyddiaeth bellach yn bosibilrwydd yn unig, mae'n realiti, ac edrychaf ymlaen at y diwrnod pan nad rhywbeth anghyffredin mwyach yw menyw yn dod yn Brif Weinidog, ond rhywbeth sy'n rhan arferol o'n bywyd gwleidyddol yng Nghymru. Fel Prif Weinidog, rwy'n addo hyrwyddo lleisiau a phrofiadau sydd wedi cael eu gwthio i'r neilltu a'u tawelu'n rhy aml, i hyrwyddo rhannau o Gymru sy'n teimlo yn rhy aml eu bod ar yr ymylon, fel fy nghartref yn Nhyddewi yn y gorllewin. Ni fydd neb yn cael ei adael allan. Rwy'n estyn fy llaw mewn diolchgarwch ac mewn partneriaeth wirioneddol i bawb yng Nghymru. Mewn byd lle mae pethau sy'n ein rhannu yn cael eu chwyddo a'u pwysleisio, weithiau er elw, rwyf eisiau ei gwneud yn glir mai Prif Weinidog sy'n gwrando y byddaf i—gwrando ar bawb, nid dim ond y rhai sy'n gweiddi uchaf neu sydd â'r pŵer mwyaf.

Dwi'n gobeithio cael fy niffinio gan fy ymrwymiad diflino i bobl Cymru, gan fy mlynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus, a fy ymroddiad i greu cenedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus i ni i gyd, arweinydd sy'n canolbwyntio ar gyflawni ac sy'n uchelgeisiol ar gyfer ein cenedl, arweinydd sy'n cael ei gyrru gan ymdeimlad o wasanaeth a pharch tuag at y bobl dwi'n eu gwasanaethu.

Rwy'n gobeithio y caf fy niffinio gan fy ymrwymiad diwyro i bobl Cymru, gan fy mlynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus a'm penderfyniad i greu cenedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus i ni i gyd, arweinydd sy'n canolbwyntio ar gyflawni ac ar uchelgais i'n cenedl, arweinydd a ysgogir gan ymdeimlad o wasanaeth a pharch at y bobl rwy'n eu gwasanaethu. Ers 30 mlynedd rwyf wedi ymroi i wasanaeth cyhoeddus, dan arweiniad gwerthoedd tegwch a chyfiawnder. Mae'r daith hon wedi mynd â mi o Senedd Ewrop, i siambrau San Steffan, i'r Senedd, gan gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, a nawr i galon Llywodraeth Cymru.

Cefais fy magu yn Nhrelái, un o'r ystadau tai cyngor mwyaf yn Ewrop. Fel y gŵyr llawer ohonoch, roedd gan ein cartref, y ficerdy, bolisi drws agored. Byddai pobl yn dod gyda'u hanghenion a'u trafferthion bob awr, ddydd a nos. Fe wnaeth fy nharo bryd hynny, fel y gwnaiff nawr, nad oedd llawer o bobl ddeallus a gweddus yn cael y cyfleoedd yr oeddent yn eu haeddu. Fe wnaeth fy nharo hefyd sut y gwnaeth y bobl anhygoel, llawer ohonyn nhw'n ferched, rhai yn yr oriel heddiw, a oedd yn dal y gymuned honno gyda'i gilydd, greu ymdeimlad dwfn o berthyn a chryfder. Dyma'r gymuned a'm lluniodd i, y gymuned a daniodd fy angerdd dros wleidyddiaeth ddemocrataidd ac a wnaeth fi'n sosialydd a'r undebwr llafur yr ydw i heddiw.

Wrth i mi fyw yn y gymdeithas yna, dysgais wers amhrisiadwy am yr angen i wrando—gwrando go iawn ar bryderon a gobeithion pawb.

Fe wnaeth byw yn y gymuned honno ddysgu gwers amhrisiadwy imi, sef gwrando—gwrando'n wirioneddol ar bryderon a gobeithion pawb.

Mae profiadau diweddar ar garreg y drws ledled Cymru wedi datgelu gwirionedd gofidus, rwy'n credu, i bob un ohonom, sef bod llawer o bobl wedi'u datgysylltu'n ddwfn o'r broses wleidyddol. Mae eraill yn llyncu atebion deniadol arwynebol i'r materion mwyaf cymhleth—atebion sy'n gwneud y rhai mwyaf agored i niwed yn fychod dihangol ac yn meithrin drwgdybiaeth ac yn creu rhaniadau. Ond, peidied neb â chamgymryd, nid plaid neu ideoleg benodol yw'r bygythiad mwyaf i'n democratiaeth, ond y gred na all gwleidyddiaeth newid cymdeithas er gwell. Ac rwy'n gwrthod y gred honno'n llwyr. Wrth i'r bygythiad o anghytgord dyfu, ni allwn fod yn arsylwyr goddefol. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn eiriolwyr gweithredol dros y ffaith y gall gwleidyddiaeth newid pethau er gwell, a rhaid i ni i gyd fod yn eiriolwyr sy'n hyrwyddo'r cynigiad fod gan bawb hawl i fyw gydag urddas a pharch. Mae'n rhaid i ni weithio i adfer ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd.

Mae Cymru yn genedl gynnes a chroesawgar, a rhaid i'n trafodaeth wleidyddol adlewyrchu hynny. Dylai ein gwahaniaethau fod yn ffynhonnell o gryfder, nid o raniadau.

Rhaid i'n gwahaniaethau fod yn ffynhonnell cryfder, nid rhywbeth sy'n achosi rhaniadau.

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac rydyn ni wedi bod mewn cyfnod llawn helbul ond rydyn ni'n gwybod ein bod ni ar ein gorau pan rydyn ni'n gweithio mewn undod, fel plaid ac fel cenedl. O dan fy arweinyddiaeth, bydd ein pwyslais yn gadarn ar Gymru a'i phobl, gan wrando ar ddymuniadau pobl a chyflawni ymhob cornel o'r genedl wych hon.

Nawr yw'r amser i ganolbwyntio ar y materion sydd wirioneddol yn effeithio ar ac yn bwysig i'n cymunedau.

Dros yr haf, byddaf ymhob rhan o Gymru, yn gwrando arnoch chi, y cyhoedd, i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r pryderon sydd o bwys gwirioneddol i chi.

Fy ngweledigaeth i yw gweld Cymru yn wlad lle gall pawb gyfrannu at ein llwyddiant, beth bynnag eu cefndir.

Fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru yw un lle gall pawb gyfrannu at ein llwyddiant ar y cyd, ni waeth beth fo'r cefndir. Ein gwaith ni yn y Llywodraeth yw rhoi cyfle i bawb gyflawni eu potensial. Ac mae hyn yn seiliedig ar gred ddofn sydd gennyf i fod llwyddiant un yn arwain at lwyddiant i lawer. 

Ond mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â'r her sydd o'n blaenau. Mae'r 14 mlynedd diwethaf wedi gadael y cyllid cyhoeddus mewn cyflwr enbyd, a bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Ond y gwahaniaeth nawr fydd y byddwn yn gwneud i'r gwaith hwnnw weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur newydd y DU a'i hymrwymiad gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus, parch o'r newydd at ddatganoli ac awydd i gydweithio. 

Nawr, roedden nhw'n arfer dweud bod menyw y tu ôl i bob dyn llwyddiannus. Nawr bydd dyn trawiadol y tu ôl i fenyw. Nawr, dydw i ddim yn sôn am fy ngŵr hyfryd, Rhys. [Chwerthin.] Rwy'n falch iawn o fod yn cychwyn ar y daith hon gyda Huw Irranca-Davies, ac mae hyn yn nodi'r cam cyntaf o lawer o newidiadau sydd i ddod. [Cymeradwyaeth.] Ni allwn ofyn am bartner gwleidyddol mwy galluog. 

Rŷn ni'n dod â llu o brofiad a dealltwriaeth i'n harweinyddiaeth, ynghyd â'r gred ddofn fod pobl yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd dros Gymru.

Llywydd, wrth inni edrych i'r dyfodol, dwi am i bawb wybod bod eu llais yn bwysig.

Ni fyddaf yn rhyw ffigwr pell ym Mae Caerdydd. Rwy'n ddinesydd Cymru, yn union fel chi. Rwyf eisiau deall yr heriau rydych chi'n eu hwynebu. Rwyf eisiau i'ch blaenoriaethau chi ddod yn flaenoriaethau i mi. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu Cymru sy'n agored i fusnes ac sydd wedi ymrwymo i greu cyfoeth, oherwydd os ydych chi eisiau rhannu cyfoeth, yn gyntaf oll mae'n rhaid i chi ei greu. Byddwn yn brwydro yn erbyn tlodi drwy dwf economaidd a thrwy ailddosbarthu ein cyfoeth yn deg. Byddwn yn adeiladu Cymru sy'n deall bod llesiant wrth wraidd hapusrwydd pobl a'u gallu i gyfrannu; Cymru lle gall ein plant dyfu i fyny gyda chyfleoedd, lle gallant deimlo'n obeithiol am y dyfodol; Cymru sy'n troi pob carreg yn ein hymdrechion i wella ein GIG a'n system addysg, lle rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i wella gwasanaethau cyhoeddus, a lle rydym yn deall, er lles cenedlaethau'r dyfodol, y bydd angen i ni wneud newidiadau er mwyn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Wrth siarad dros Gymru ar bob cyfle, dwi'n bwriadau arwain Llywodraeth sy'n gwrando, sy'n dysgu ac sy'n cyflawni. Heddiw, dwi'n eich gwahodd chi i ymuno gyda fi i lunio cenedl amrywiol a deinamig lle gall pawb ffynnu a gweld eu hunain fel pobl o bosibiliadau diderfyn.

Wrth siarad dros Gymru ar bob cyfle, rwy'n bwriadu arwain Llywodraeth sy'n gwrando, sy'n dysgu ac sy'n cyflawni. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

11:20

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i longyfarch y Prif Weinidog ar ei phenodiad ym mhleidlais y Senedd heddiw? Rwy'n ei llongyfarch ar yr araith honno hefyd a oedd wedi'i saernio'n ofalus, a oedd yn crynhoi llawer o'r meddyliau a'r teimladau y byddai llawer o bobl yn y Siambr hon yn eu harddel a hefyd am dynnu sylw at rôl y Dirprwy Brif Weinidog rydych chi wedi'i chreu ar gyfer Huw Irranca a'r profiad y mae'n ei ddwyn i fainc y Llywodraeth hefyd. Rwyf hefyd yn llongyfarch y darpar Brif Weinidog am fod, yn amlwg, y fenyw gyntaf i ddal y swydd honno. Mae honno'n foment arwyddocaol yn ein hanes gwleidyddol, ac mae'n rhywbeth y dylid ei barchu a'i gydnabod yn briodol, oherwydd pan oeddwn yn siarad â fy merched i y bore yma, gwnaethant yr union bwynt sef bydd bod â menyw yn Brif Weinidog yng nghanol y Siambr honno yn creu deinameg wahanol yn y Senedd, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem yn amlwg fyfyrio arno a'i werthfawrogi hefyd. Ac rwy'n eich llongyfarch ar gyflawni hynny ac, yn y pen draw, dros y 18 mis nesaf tan etholiad y Senedd, yr hyn y gallech ei gyflawni. Yn amlwg, bydd yr etholwyr yn cael cyfle i siarad yn yr etholiad hwnnw, ac o ystyried y fasged 'i mewn' y bydd gennych chi—y fasged 'i mewn' sylweddol iawn o restrau aros y GIG, canlyniadau addysg Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a'r sefyllfa economaidd yr ydym yn cael ein hunain ynddi, gyda Tata ac economi farwaidd Cymru—yna, yn amlwg, mae'r rheini'n faterion mawr i chi fynd i'r afael â nhw gyda'ch Cabinet.

Rydym yng nghanol toriad, yn amlwg, felly bydd hi'n anodd i ni yn ystod yr wythnosau nesaf herio a gwneud pwyntiau, ond rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn ymgysylltu â'r Senedd drwy'r toriad, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall y brys y bydd hi'n ei ddwyn i swyddogaeth y Prif Weinidog, oherwydd chi yw'r trydydd Prif Weinidog eleni, ac mae hynny'n amlwg wedi cael effaith ddeifiol iawn ar gyflawniadau'r Llywodraeth ac wrth gyflawni mentrau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno yma yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig ceisio deall, o ran y cyfeiriad y bydd y Prif Weinidog yn ei ddilyn gyda'i Llywodraeth newydd, pa bolisïau sy'n debygol o gael eu cyflwyno eto gan y Llywodraeth honno, beth fydd yn cael eu hatgyfodi o'r Llywodraeth flaenorol o dan y Prif Weinidog blaenorol tybed, oherwydd cafodd tri pheth arwyddocaol eu gwthio o'r neilltu yn y cyfnod hwnnw: ailbrisio'r dreth gyngor, y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn amlwg, roedd materion yn ymwneud ag iechyd ac addysg a'r economi a oedd yn dod yn gyson i lawr y Siambr hon yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Byddwn i'n awyddus iawn i ddeall yr egni y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd hi'n gallu ei gyflwyno o gadair y Prif Weinidog, yr egni yr oedd hi'n credu nad oedd yn bosibl o'r gadair iechyd wrth fynd i'r afael â'r materion dwfn hynny o fewn ein gwasanaeth iechyd, oherwydd mae llawer o bobl yng Nghymru wedi'u siomi'n greulon gan yr oedi hwnnw, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n teimlo hynny'n bersonol, oherwydd ei bod wedi cael y sgyrsiau hynny gyda meddygon a chleifion a theuluoedd ar hyd a lled Cymru. Ond rwy'n gobeithio'n fawr bydd yr araith grefftus a chelfydd ei saernïaeth honno a roesoch chi—araith glyfar iawn—yn cael ei throsi i gyflawniad y Llywodraeth. Ac rwy'n edrych ymlaen, lle y gallwn ni, at weithio gyda chi ac yn y pen draw i gyflawni dros Gymru, oherwydd mae Cymru'n wlad sydd â dyfodol gwych o'i blaen yn y pen draw, gyda llawer iawn o botensial, a'r gallu hwnnw i fanteisio ar y potensial hwnnw a chynnig y cyfle hwnnw i bobl ifanc a phobl ganol oed a phobl hŷn sy'n gwella Cymru gyfan ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein potensial yn llawn.

Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi, Brif Weinidog, ac yn y pen draw, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, y byddwch chi a minnau'n dadlau, a byddaf yn gofyn llawer o gwestiynau yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Rwy'n credu mai chi fydd y pedwerydd Prif Weinidog a fydd yn gorfod gwrando ar y rheini. Mae'n debyg bod hynny'n adlewyrchu, efallai, fy methiant etholiadol mewn etholiadau yn hytrach na'ch gallu chi i ateb y cwestiynau hynny. [Chwerthin.] Ond nodais fod y darpar Ddirprwy Brif Weinidog ychydig yn aflonydd yn ei gadair pan oeddech yn sôn am y dynion mewn siwtiau llwyd yn symud i un ochr, ac fe wnes i edrych yn fanwl iawn i weld a oedd hi'n siwt lwyd, ond rwy'n credu bod ychydig o las yna. [Chwerthin.] Ond, unwaith eto, penodiad arwyddocaol arall i swydd y Dirprwy Brif Weinidog, ac fel rhywun a oedd yma yn y cyfnod rhwng 2007 a 2011, byddai'n ddiddorol iawn ceisio deall sut y bydd hynny'n gweithio o fewn lluniad y Llywodraeth y byddwch yn bwriadu ei chreu yma ym Mae Caerdydd. A yw'n deitl neu a yw'n mynd i fod yn ychwanegiad sylweddol at gapasiti'r Llywodraeth a swyddogaeth y Llywodraeth yma yng Nghymru? Ond llongyfarchiadau; rwy'n dymuno'n dda i chi. [Cymeradwyaeth.]

11:25

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ar ran Plaid Cymru, dwi'n llongyfarch y Prif Weinidog ar ei henwebiad, ac yn dymuno yn dda iawn iddi hi wrth iddi gydio yn yr awenau a mynd i'r afael â'r heriau sylweddol sydd o'i blaen. Er bod pleidiau eraill yma, yn cynnwys fy mhlaid i, wedi cael arweinwyr benywaidd o'r blaen, mae o'n rhywbeth gwirioneddol nodedig bod gan Gymru ferch yn Brif Weinidog am y tro cyntaf. Fel tad i ddwy ferch fy hun, dwi'n ystyried bod pob un cam sydd yn dangos bod dim ffiniau na nenfwd gwydr i fod iddyn nhw, mewn gwleidyddiaeth na dim arall, i'w groesawu yn fawr.

Mewn blwyddyn arferol, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol fyddwn i rŵan. Mae'n siŵr yn fanno y byddai llawer o Weinidogion hefyd, a'r Prif Weinidog ei hun, yn bosib iawn. Ond nid blwyddyn arferol fu hon yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac mae hi'n bwysig heddiw i gydnabod pam ein bod ni yma. Wrth gydnabod hynny, dŷn ni'n gweld pam fy mod i'n dweud ar y dechrau bod yr heriau sy'n wynebu'r Prif Weinidog newydd yn rhai mor sylweddol. Nid trosglwyddiad trefnus o un Prif Weinidog i'r llall ydy hwn, ac ers misoedd mae'r weinyddiaeth Lafur a fu'n llywodraethu ers cymaint o amser wedi canfod ei hun yn ddiymadferth wrth orfod delio efo sgandal a ffraeo mewnol yn hytrach na gallu canolbwyntio ar wasanaethu pobl Cymru. Ac mae Cymru yn haeddu gwell na hynny.

Felly, ydym, rydym yn llongyfarch y Prif Weinidog newydd. Rydym yn dymuno'n dda iddi heddiw. Ond rydym hefyd yn ei hatgoffa hi a'i Llywodraeth bod hierarchaeth y Blaid Lafur mewn amgylchiadau tebyg yn rhywle arall yn dadlau bod newidiadau lluosog mewn arweinyddiaeth yn San Steffan ac yn yr Alban yn tanseilio cyfreithlondeb democrataidd y llywodraeth gan fynnu etholiadau newydd. Mater i Lafur yw esbonio pam y dylai rheolau gwahanol fod yn berthnasol yng Nghymru. Ni chawn etholiad, wrth gwrs, yma, oherwydd nid yw Llafur na'r Ceidwadwyr eisiau wynebu etholwyr Cymru mewn etholiad Senedd ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn dwyn y Llywodraeth Lafur i gyfrif am eu gweithredoedd hyd nes y cawn ni un, fel y trefnwyd, yn 2026. 

Byddwn yn gwneud hyn yn adeiladol. Mewn dyddiau o raniadau cythryblus a phryderus, mae'n bwysig ein bod ni i gyd fel unigolion a phob plaid wleidyddol yn herio'n gilydd yn galed ac yn gweithio gyda'n gilydd lle gallwn. Byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn gadarn a gydag un peth yn unig yn ein harwain: buddiannau pobl Cymru—rhywbeth y bu'n rhaid i'r Llywodraeth ei roi i'r naill ochr yn ddiweddar tra oedd hi'n blaenoriaethu problemau mewnol y blaid.

Gwnaeth y Prif Weinidog newydd yn glir ei bod yn cyflwyno ei hun fel ymgeisydd undod. Roedd hynny'n undod i Lafur o dan yr amgylchiadau hynny. Ac mewn gwirionedd roedd gennym docyn undod ar y cyd, a oedd yn siarad cyfrolau, rwy'n credu. Er bod Dirprwy Brif Weinidog wedi cyflawni pwrpas amlwg yn ystod cyfnodau o glymbleidiau, nid oes unrhyw arwyddocâd Seneddol na Llywodraeth Cymru i rôl Dirprwy Brif Weinidog, er mor brofiadol yw darpar Ddirprwy Brif Weinidog Cymru. Mae'n ymwneud â mynd i'r afael â rhaniadau mewnol Llafur ei hun, ac mae yn y cyd-destun hwnnw, a'r cyd-destun ehangach o fod â bron dim syniad, hyd yn hyn, o flaenoriaethau'r Prif Weinidog newydd oherwydd y storm wleidyddol yr ydym wedi byw drwyddi—nid oes gennym lawer o syniad o'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd am ei wneud yn y Llywodraeth—yn y cyd-destun hwnnw y byddwn yn mynd ati gyda'n gwaith craffu.

A wnaiff hi ailosod y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU mewn modd sy'n fwy na dim ond sylwadau bachog yn unig? O ran cyllido teg, Ystad y Goron, HS2 a datganoli trosedd a chyfiawnder, sut mae hi'n bwriadu sefyll dros Gymru? Fel cyn-Weinidog iechyd mae'n rhaid iddi amlinellu sut y bydd yn gwrthdroi ei hanes ei hun, sydd wedi arwain at yr amseroedd aros uchaf erioed yng Nghymru. O ran addysg, rydym eisiau gwybod pryd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi amodau ar waith i ganiatáu i'n holl ddisgyblion gyrraedd eu potensial ar ôl gweld blynyddoedd o Gymru ar ei hôl hi, hyd yn oed yn fwy y tu ôl i wledydd y DU. Beth yw cynllun y Prif Weinidog ar gyfer diogelu dyfodol dur Cymru a chreu'r swyddi medrus sy'n talu'n dda sydd eu hangen mor daer i hybu'r economi? Dyma'r materion sy'n bwysig i bobl Cymru. Ac ar y rhain, ac ar faterion eraill, byddwn yn dwyn y Llywodraeth Lafur i gyfrif ac yn egluro gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer newid go iawn. Ni all mwy o'r un peth fod yn opsiwn mwyach, ond rwy'n dymuno'n dda i'r Prif Weinidog wrth iddi ddechrau ar ei gwaith.

Dwi'n dymuno'n dda i'r Prif Weinidog newydd. [Cymeradwyaeth.]

11:30

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, o'r diwedd, arweinydd benywaidd ar blaid. Mae'n hyfryd eich gweld yn y rôl honno. Ac fel yr ail fenyw sydd bellach yn arweinydd plaid wleidyddol yma yng Nghymru, rwy'n falch iawn o weld menyw yn arwain plaid.

Llongyfarchiadau i chi.

Ac ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, estynnaf y dymuniadau gorau hynny.

Mae'n braf iawn cael llais benywaidd yn ymuno â mi, yr un yma, pan gawn ni'r dadleuon a'r trafodaethau arweinwyr, felly mae'n hyfryd iawn eich gweld chi yn y rôl honno. Ac mae hyn yn ymwneud â nodi gwleidyddiaeth newydd iawn i mi. Mae'n ymwneud â gwleidyddiaeth fwy cyfartal, gwleidyddiaeth fwy tosturiol. Mae hon yn foment hanesyddol, gan ddod ar adeg dyngedfennol i Gymru, cyfle go iawn i newid. Mae'r fantell bellach yn disgyn arnoch chi a'ch Llywodraeth i ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno, nid yn unig o fewn y Senedd, ond, yn bwysicach, i'r bobl yma yng Nghymru. Ac fel Cristion, byddaf yn gweddïo drosoch yn y rôl honno, fel yr wyf wedi gwneud, ac mae llawer wedi gwneud yn y Siambr, dros ein holl arweinwyr a'n Llywodraeth hefyd.

Mae'r misoedd diwethaf wedi taflu cysgod ar wleidyddiaeth Cymru, ac mae'n rhaid i ni nawr symud ymlaen. Yn bersonol, mae gweld erydiad ymddiriedaeth a dadrithiad cynyddol pobl Cymru wedi fy mhoeni i. Rydyn ni'n wynebu gwirionedd noeth—mae gennym ni argyfwng hyder, ac rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n cael ei ailadeiladu. Mae pobl Cymru wedi blino ar gemau gwleidyddol ac addewidion gwag. Yr hyn maen nhw ei eisiau nawr yw cynnydd gwirioneddol a diriaethol o ran y materion sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Rwy'n meddwl am y teuluoedd sy'n aros yn ddiddiwedd am ofal meddygol, sy'n gweld gweithlu wedi'i lethu, system gofal iechyd bron â thorri. Rwy'n meddwl am y cymunedau sy'n mynd i'r afael â llygredd dŵr, gan fynnu atebolrwydd gwirioneddol gan gwmnïau dŵr sydd wedi esgeuluso eu cyfrifoldebau. Rwy'n meddwl am y plant sy'n gaeth yng nghylch tlodi, eu potensial wedi'i fygu gan system farwaidd y tu hwnt i'w rheolaeth nhw. Rwy'n meddwl am blant, fel Lola James, a oedd yn ddwy oed, y mae ei marwolaeth dorcalonnus yn tanlinellu'r heriau difrifol sy'n wynebu ein system amddiffyn plant sydd wedi'i gorlethu. Rwy'n bwriadu anfon llythyr atoch chi, Brif Weinidog, i ofyn i chi eto am adolygiad o'n system amddiffyn plant, fel y gallwn yn wir amddiffyn ein plant yma yng Nghymru, oherwydd os nad ydym yma i siarad dros y coll a'r olaf, nid ydym yn gwneud ein gwaith yma. Ar gyfer y materion hyn, a'r bobl yma yng Nghymru, y dewisais ymatal. Nid oedd yn benderfyniad hawdd, ac ni chafodd ei wneud ar chwarae bach, ac nid yw'n deillio o ddiffyg cefnogaeth i chi fel Prif Weinidog. I'r gwrthwyneb, mae fy ymataliad yn arwydd clir bod gwir waith llywodraethu yn dechrau nawr.

Rydyn ni i gyd yn rhannu'r nod cyffredin i weld Cymru'n ffynnu ac yn gwella. Ni ddylem gael ein rhannu, yn enwedig nawr wrth i ni weld cynnydd posibl mewn ffasgiaeth a hiliaeth yn ein cymdeithasau. Mae'n rhaid i ni uno, rhaid i ni weithio gyda'n gilydd a sefyll yn gadarn yn erbyn yr ofn treiddiol ac anfad hwn sydd o fewn ein cymunedau. Mae angen y neges glir a chadarn hon, ac ymdrech i adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth. Gyda'r Llywodraeth newydd yn San Steffan a Phrif Weinidog newydd yma, mae gennym gyfle gwirioneddol yma yng Nghymru i ddangos dull newydd, Cymreig, uchelgeisiol, a math gwahanol o wleidyddiaeth. Rwyf yma yn cynnig y gefnogaeth honno, gan ofyn i chi ddangos y weledigaeth uchelgeisiol honno, sydd wir ei hangen i ddiwallu anghenion ein pobl yma yng Nghymru. Ac rwy'n sefyll yma, fel y gwna llawer, ar ran ein plant a'n pobl ifanc i ddweud ein bod ni wir eisiau newid. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]

11:35

Diolch yn fawr iawn. Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, rydym o'r diwedd wedi torri trwy'r twndis gwydr yna. [Chwerthin.]

Llongyfarchiadau mawr, felly, i'r Prif Weinidog newydd, i Eluned Morgan. A diolch i bawb am eich cyfraniadau y bore yma. Byddwn ni'n cwrdd nesaf ym mis Medi, os na fydd yna angen i adalw cyn hynny. Felly, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y cyfarfod i ben am 11:36.