Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/01/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.

Diolch, Lywydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau meddygon teulu ym Mlaenau Gwent? Rwy'n ymddiheuro. Ymddiheuriadau—mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Ymddiheuriadau.

Gwella'r Economi yn Nwyrain De Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r economi yn Nwyrain De Cymru? OQ62122

Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd i gynyddu ffyniant economaidd. Mae ein fframwaith economaidd rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru wedi nodi datblygu clystyrau twf allweddol fel blaenoriaeth, ochr yn ochr â’n buddsoddiad mewn seilwaith i gefnogi’r genhadaeth economaidd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o ddychwelyd i Le Pub, lleoliad cerddoriaeth fyw, a oedd yn dathlu 33 o flynyddoedd ers ei sefydlu yng nghanol Casnewydd, a rhywle y cofiaf ymweld ag ef yn fy arddegau hwyr wrth dyfu i fyny yn y ddinas. Mae Le Pub wedi cael ei ystyried yn sefydliad cerddorol pwysig ers tro, gydag artistiaid a bandiau o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn arddangos eu doniau yno. Fe wnaeth y lleoliad elwa o ddod yn rhan o bortffolio cynyddol Music Venue Properties, ond yn bwysicach fyth, derbyniodd grant o £0.25 miliwn drwy gronfa perchnogaeth gymunedol Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r hwb y mae’r gronfa perchnogaeth gymunedol wedi’i roi i Gasnewydd, yn enwedig yr economi nos, wrth ddiogelu’r lleoliad poblogaidd hwn?

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn y prynhawn yma, ac yn ymwybodol ei fod yn lleoliad poblogaidd yn lleol. Gwn fod fy nghyd-Aelod Jack Sargeant yn wirioneddol angerddol ynglŷn â chronfa Cymru Greadigol, sydd hefyd wedi darparu dros £10 miliwn o gyllid i gefnogi mannau cerddoriaeth, sy’n cynnwys lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru. Gwn fod y cymorth rydym hefyd wedi bod yn ceisio'i ddarparu drwy Busnes Cymru, i ganiatáu i’r busnesau hynny ddod yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol, hefyd wedi cael ei groesawu. Ond rwy'n ymuno â Natasha Asghar i gydnabod sut y mae’r lleoliadau hyn yn hollbwysig i'n cymunedau ac yn cefnogi ein heconomi gelfyddydol fywiog yng Nghymru.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod grŵp Halton wedi buddsoddi yn Rhyd y Blew yng Nglynebwy yn ddiweddar, gan agor cyfleuster newydd yno, a buddsoddi ym Mlaenau Gwent, oherwydd y buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn seilwaith, mewn unedau busnes, ac ym mhrosiect deuoli’r A465. Mae llawer iawn o ddiddordeb diwydiannol ym Mlaenau Gwent bellach o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru. Yr hyn sy’n bwysig i ni yn y fwrdeistref nawr yw ein bod yn gweld mwy o fuddsoddiad mewn unedau busnes, a datblygu'r seilwaith a all adeiladu wedyn ar y buddsoddiadau a wnaed eisoes. Hoffwn wahodd y Gweinidog i Flaenau Gwent i drafod sut y gallwn barhau â’r buddsoddiad llwyddiannus hwn sy'n trawsnewid yr amgylchedd diwydiannol a busnes yn y fwrdeistref.

Diolch am eich cwestiwn, ac yn enwedig y gydnabyddiaeth i’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i fuddsoddi mewn safleoedd busnes. Mae’n rhan o’r cynnig sylweddol yr ydym yn ei ddarparu i fusnesau, y rhai sy’n cael eu tyfu yma yng Nghymru a hefyd ein cynnig i fuddsoddwyr rhyngwladol hefyd, ochr yn ochr â’r gwaith a wnawn i sicrhau bod y sgiliau ar gael iddynt pan fyddant yn cyrraedd, ynghyd ag ecosystem gefnogol i fusnes. Rwy’n falch iawn mai Halton Flamgard yw ein tenant cyntaf ar safle newydd Rhyd y Blew, safle yr ydym wedi buddsoddi ynddo. Roedd hwnnw’n fuddsoddiad o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae’n gyfleuster o’r radd flaenaf, yn gyfleuster carbon isel, sy’n cynnig 52,000 troedfedd sgwâr o le i fusnesau, ac edrychwn ymlaen at groesawu busnesau eraill i’r lleoliad hwnnw hefyd. Mae Alun Davies eisoes wedi fy ngwahodd i Flaenau Gwent, ac rwyf wedi bod yn falch o dderbyn y gwahoddiad hwnnw, a gwn fod dyddiad yn y dyddiadur yn yr wythnosau nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr.

Adroddiad 'Beyond 2030'

2. Pa gysylltiad oedd gan Lywodraeth Cymru gyda'r National Electricity System Operator ynghylch sicrhau bod ei adroddiad 'Beyond 2030' yn adlewyrchu anghenion Cymru? OQ62088

Cynhyrchodd y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol ei adroddiad 'Beyond 2030' i nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i gysylltu 50 GW o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030. Gweithiodd y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru i ddeall ein polisïau a'n cynlluniau gofodol fel bod unrhyw seilwaith angenrheidiol yn cael ei ddatblygu, gan roi ystyriaeth i effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adran drawsyrru trydan y Grid Cenedlaethol wedi argymell adeiladu cysylltiad foltedd uchel newydd ar y tir rhwng gogledd a de Cymru. Tybed a allwch chi roi unrhyw fanylion ynghylch pryd y gallwn ddisgwyl rhagor o fanylion am y cynnig hwn a phryd y gallwn ddisgwyl manylion ynglŷn â pha lwybr y gallai ei gymryd, a hefyd, sut yr ymgynghorir â chymunedau ledled Cymru ar y cynigion hynny, yn enwedig yn fy etholaeth i. Ac yn ogystal â hynny, fe fyddwch yn ymwybodol o gynigion Green GEN Cymru ar gyfer prosiect cysylltu yn y canolbarth, felly rwyf hefyd yn edrych am eich asesiad o sut y mae'r ddau brosiect hynny'n cysylltu â'i gilydd, os o gwbl. Ac yn olaf, cafodd Aelodau’r Senedd e-bost y bore yma gan y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol ynghylch newidiadau mewn perthynas â chysylltiadau â'r grid. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi cael amser, neu a oedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod ymlaen llaw am yr ohebiaeth benodol honno y bore yma, ond byddem yn ddiolchgar am unrhyw asesiad a wnaethoch o hynny hefyd, os ydych chi wedi cael amser i adolygu’r cynnig hwnnw.

13:35

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiynau. Roeddwn yn falch iawn o allu siarad yn lansiad y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol yng Nghymru tuag at ddiwedd y llynedd, a chyfarfod â hwy’n uniongyrchol i glywed am eu cynlluniau mewn perthynas â 'Beyond 2030'. Fel y gŵyr fy nghyd-Aelodau, mae’n nodi’r angen am aráe o geblau uwchben a thanfor newydd, yn bennaf yn yr Alban a Lloegr. Credaf mai Cymru sy’n cael ei heffeithio leiaf gan y cynigion, ond lle mae posibilrwydd y byddwn yn cael ein heffeithio, rydym o ddifrif ynglŷn â hynny. Yn fy nghyfarfodydd â'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol ac adran drawsyrru trydan y Grid Cenedlaethol, nodais yn glir iawn yr angen i sicrhau bod unrhyw gynlluniau'n ystyried anghenion Cymru, ac wrth gwrs, mae gennym y gwaith polisi yn mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â'r grŵp annibynnol sy’n ein cynghori ar bethau, gan gynnwys gosod ceblau tanddaearol. Felly, i roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau, fe nodais yn glir iawn yn y sgyrsiau hynny yr angen i sicrhau bod yr hyn a ddarperir yn diwallu anghenion, ond hefyd yn diwallu anghenion cymuned yn yr ystyr ehangach, gan fy mod yn ymwybodol o’r pryderon a’r sensitifedd yn y cyswllt hwn.

Hefyd, cyfeiriwyd at Green GEN Cymru. Felly, ein hymagwedd, mewn gwirionedd, o safbwynt Llywodraeth Cymru, fyddai y dylai'r Grid Cenedlaethol a phartneriaid eraill sy'n gweithio yn y maes hwnnw fabwysiadu dull strategol o weithredu ar hyn, gan gydnabod y potensial ar gyfer rhagor o ffermydd ynni gwynt ar y môr yn y dyfodol—clywsoch y datganiad a wneuthum ar hynny yn ddiweddar hefyd—yn hytrach nag ymateb i anghenion datblygwyr unigol. Credaf fod y math hwnnw o ddull strategol ehangach yn bwysig. Mae'r broses gynllunio wedi'i chynllunio i ystyried a yw unrhyw ddatblygiadau penodol yn briodol a hefyd yn bodloni ein gofynion polisi yma yng Nghymru. Gweinidogion Cymru sy'n mynd i wneud penderfyniadau cynllunio terfynol, felly ni allaf wneud sylwadau ar y datblygiadau unigol y cyfeiriwyd atynt mewn perthynas â chynlluniau Green GEN Cymru. Ond byddem yn disgwyl i ddatblygwyr gynnwys pobl yn y prosiectau y maent yn eu datblygu, gan wrando ar y pryderon a godir ganddynt a gweithredu arnynt.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhai ffigurau economaidd wedi peri pryder gwirioneddol dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yn dilyn argyfwng a grëwyd yn Stryd Downing. Mae’r Canghellor Llafur yn sôn am dwf economaidd, ond mae gan Lafur yma yng Nghymru hanes o lywyddu dros economi sy'n tanberfformio'n druenus. Ar gynhyrchiant, un o gonglfeini llwyddiant economaidd, mae Cymru 17 y cant yn is na chyfartaledd y DU, gyda thri o’r 10 rhanbarth lleiaf cynhyrchiol yn y DU, a dim un o gwbl yn y 10 uchaf. Mae hon yn broblem ers tro, ac o dan arweiniad aflwyddiannus Llafur yng Nghymru, ychydig o gynnydd sydd wedi’i wneud. Felly, ar ôl 25 mlynedd o reolaeth Lafur, pam fod Cymru yn dal i fod mor bell y tu ôl i weddill y DU o ran cynhyrchiant, a pha gamau penodol rydych chi'n eu cymryd i fynd i’r afael â’r methiant hwn?

Nodaf y sylwadau mewn perthynas â Llywodraeth y DU a’r darlun economaidd cyffredinol heriol. Ond mae pob un ohonom—pob un ohonom ar y fainc hon—yn dymuno na fyddai’r 14 mlynedd diwethaf wedi digwydd, gyda’r Llywodraeth Geidwadol, ond nid yw dymuno hynny'n mynd i newid yr effaith a gafodd dewisiadau'r Llywodraeth honno. Mae'r syniad y gallwn unioni'r sefyllfa mewn chwe mis yn chwerthinllyd. Mae heriau enfawr yn wynebu Llywodraeth y DU, ond mae Llywodraeth y DU wrthi'n gweithio ar strategaeth ddiwydiannol. Rydym wedi cael 14 mlynedd heb unrhyw fath o strategaeth gan Lywodraeth y DU o ran diwydiant. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio’r sectorau â blaenoriaeth hynny, ac roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi nodi sectorau lle mae gan Gymru lawer i’w gynnig a lle rydym eisoes ar flaen y gad—lled-ddargludyddion cyfansawdd, er enghraifft, ein diwydiannau creadigol, a gweithgynhyrchu uwch yma yng Nghymru. Mae’r holl bethau hynny’n feysydd lle rydym eisoes yn perfformio’n dda, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU, drwy eu strategaeth ddiwydiannol a’r Gronfa Gyfoeth Wladol, i sicrhau ein bod yn cael mwy fyth o fuddsoddiad yn y diwydiannau pwysig hynny.

13:40

Onid yw’n eironig, felly, yn y 14 mlynedd yr ydych yn eu beirniadu o dan Lywodraeth Geidwadol, fod 800 o swyddi newydd wedi cael eu creu bob dydd—swyddi sy’n talu trethi, trethi sy’n ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus sydd mor annwyl i bawb ohonom? Ac rydych chi'n llygad eich lle: ni fydd cynhyrchiant yn cael ei ddatrys heb arloesi ac uchelgais. Mae deallusrwydd artiffisial yn dechnoleg drawsnewidiol a allai ychwanegu £47 biliwn at economi’r DU. Ac eto, mae’n ddrwg gennyf, ond nid oes fawr o dystiolaeth o strategaeth gydlynol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer deallusrwydd artiffisial. Nid y dyfodol yw deallusrwydd artiffisial; mae yma nawr. Ymddengys bod Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi, yn gadael busnesau heb y cymorth sydd ei angen arnynt i fanteisio ar y cyfle hwn. Felly, pam fod Llywodraeth Cymru wedi methu blaenoriaethu deallusrwydd artiffisial yn benodol yn ei chyllideb ddrafft flynyddol ar gyfer eleni? A pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd i godi deallusrwydd artiffisial yn uwch ar restr o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru?

Wel, yn amlwg, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r asesiad hwnnw o'r cymorth y buom yn ei roi i ddeallusrwydd artiffisial. Roedd bwriad Vantage i fuddsoddi’n sylweddol yma yn y DU wrth wraidd cyhoeddiad Llywodraeth y DU, a bydd y rhan fwyaf o’r buddsoddiad hwnnw’n dod i Gymru, gan fod gan Vantage droedle cadarn iawn yn barod yma yng Nghymru. Rwyf wedi cyfarfod â hwy ychydig o weithiau yn barod ers imi fod yn y swydd, i glywed am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn Imperial Park yng Nghasnewydd. Felly, mae hyn eisoes yn digwydd yma yng Nghymru. Mae gennym ganolfannau data yno eisoes i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnom i dyfu'r diwydiant deallusrwydd artiffisial. Ac wrth gwrs, mae gennym y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol—mae honno'n edrych ar ddeallusrwydd artiffisial a’r ffyrdd y gallwn drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, gan ddefnyddio’r dechnoleg honno. Mae eisoes yn digwydd yma yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn fod Llywodraeth y DU hefyd yn tynnu sylw at hynny.

Bydd fy nghyd-Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi nifer o adolygiadau tymor byr, sy’n edrych ar bethau sy’n hollbwysig i’r economi yma yng Nghymru. Mae un, wrth gwrs, yn ymwneud â ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, un arall yn ymwneud â swyddi gwyrdd, ac un arall yn ymwneud â chynhyrchiant mentrau bach a chanolig. Ond mae’r pedwerydd yn ymwneud yn benodol â deallusrwydd artiffisial, ac mae hwnnw’n faes yr ydym hefyd wedi bod yn ei archwilio drwy’r cyngor partneriaeth gymdeithasol i sicrhau, pan ydym yn mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd foesegol.

Nid yw’n ymwneud â phryd rydym yn ei fabwysiadu; mae eisoes yn cael ei fabwysiadu, ac mae’r Llywodraeth hon ar ei hôl hi ar hynny. Ac fe sonioch chi am gyhoeddiad Prif Weinidog y DU ar ddeallusrwydd artiffisial yn gynharach y mis hwn—eironig, felly, ei fod, yn ôl ym mis Awst, wedi torri £1.3 biliwn o gyllid deallusrwydd artiffisial. Mae'n ei chael hi'n anodd dal i fyny. Ac yn yr un modd, etifeddodd Llafur economi gyda chwyddiant o 2 y cant a'r twf cyflymaf yn y G7, ac eto, yr hyn y maent wedi llwyddo i'w wneud—[Torri ar draws.] Yr hyn y mae Llafur wedi llwyddo i'w wneud yw atal twf, chwalu hyder busnesau, cynyddu chwyddiant, a Changhellor sydd ond yn dal gafael ar ei swydd o drwch blewyn. Yn eironig, byddai'r economi mewn lle gwell pe na bai Llafur wedi gwneud unrhyw beth o gwbl yn y gyllideb. O leiaf byddai twf wedi parhau yn hytrach na chael ei wrthdroi, sef yr hyn a welsom. Felly, sut y mae’r Llywodraeth hon yn bwriadu gwarchod economi Cymru rhag y difrod a achoswyd gan ei phlaid yn Llundain, o ystyried hanes blaenorol Llafur ar yr economi yng Nghymru, sy’n golygu ein bod—a gwn ei bod yn anodd i gyn-Brif Weinidogion a chyn-Aelodau o'r Cabinet glywed hyn—[Torri ar draws.] Gwn ei bod yn anodd iddynt glywed, ond y gwir amdani yw mai Cymru sydd â’r lefel uchaf o ddiweithdra a’r cyflogau blynyddol isaf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Sut rydych chi'n diogelu economi Cymru rhag methiannau Llafur y DU?

Wel, nid oes unrhyw un yn derbyn yr hyn y mae llefarydd yr wrthblaid yn ei honni yn ei sylwadau y prynhawn yma. Y ffaith amdani yw bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi chwalu’r economi a gadael twll enfawr ym mhwrs y wlad. [Torri ar draws.] Mae’n rhaid i Lywodraeth bresennol y DU lanhau’r llanast hwnnw nawr—

Mae angen imi glywed Ysgrifennydd y Cabinet, hyd yn oed os nad oes gan yr unigolyn a ofynnodd y cwestiwn ddiddordeb yn yr ateb. Ac nid oes angen cefnogaeth meinciau cefn y Blaid Lafur arnaf ychwaith. Felly, a gawn ni glywed Ysgrifennydd y Cabinet mewn tawelwch a gwrando ar ei hateb, os gwelwch yn dda?

Dim ond i gloi, gadawyd set anodd iawn o amgylchiadau i Lywodraeth bresennol y DU, ac mae'n ceisio gweithio drwyddynt. Ac mae pob un ohonom yn ymwybodol o gyflwr y cyllid cyhoeddus a wynebai Lywodraeth bresennol y DU. Rwy'n credu eu bod wedi gorfod gwneud cyfres o benderfyniadau anodd iawn na fyddai unrhyw un wedi dymuno bod mewn sefyllfa i’w gwneud. Ond mawredd, rwy'n falch iawn fod gennym Lywodraeth Lafur yn gwneud y dewisiadau anodd hynny ar ein rhan ni oll.

13:45

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr hon, a dwi’n dyfynnu, fod y sector diwylliant a’r celfyddydau yng Nghymru yn ‘fyw ac yn iach’. Yn yr un wythnos, cafwyd cyhoeddiad gan Michael Sheen ei fod o’n mynd i ariannu yn bersonol cwmni theatr cenedlaethol newydd fydd yn cynhyrchu gwaith theatr drwy gyfrwng y Saesneg. Fel y dywedodd Aelod o’ch meinciau cefn yn sgil y cyhoeddiad, a dwi’n dyfynnu,

'Mae hefyd yn adlewyrchiad da ar Lywodraeth Cymru a sut y mae'n cefnogi ac yn cynnal ein celfyddydau a'n diwylliant.'

Felly, fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am y sector hwn, beth yw eich asesiad chi o gyflwr y sector? Ac a ydych chi’n cytuno efo Eluned Morgan neu Michael Sheen?

Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn, Heledd. Credaf fod y Prif Weinidog yn llygad ei lle, ac rydym yn falch o gefnogi sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Dylem fod yn falch o ddiwylliant y genedl. O ran Michael Sheen, rwy'n credu bod hynny'n hollol wych; mae'n llysgennad gwych i Gymru. Buaswn wrth fy modd yn cael sgwrs am ei gynlluniau ar gyfer theatr genedlaethol Cymru a’r cyhoeddiad ar hynny. Ar National Theatre Wales a’r trafodaethau ynghylch beth oedd y dyfodol iddynt, cawsant y rheini’n uniongyrchol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Darparwyd arian iddynt gan Gyngor Celfyddydau Cymru. A hoffwn annog Michael Sheen a’r rheini yn theatr genedlaethol Cymru i barhau â'u sgyrsiau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i weld sut olwg sydd ar y dyfodol o ran yr arian sydd ar gael.

A phan ddaw'n fater o arian ar gael yn sector y celfyddydau, i sicrhau ei fod yn fyw ac yn iach, gadewch inni edrych ar gyllid yn ystod y flwyddyn, Lywydd: cyhoeddwyd £5 miliwn o refeniw ychwanegol ym mis Medi; £3.7 miliwn o gyfalaf ym mis Gorffennaf; a derbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru £1 filiwn ychwanegol ym mis Rhagfyr, a aeth yn syth yn ôl i'r sector. Ac mae cyfle arall, onid oes, Lywydd, gyda'r gyllideb gyntaf a osodwyd gennym gerbron y Senedd yn dilyn ethol Llywodraeth Lafur y DU? Mae cyfle i bob un ohonom gynyddu’r cyllid ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.

Ond nid yw’n fyw ac yn iach fel sector, Weinidog. Dylech wybod hyn fel y Gweinidog â chyfrifoldeb, oherwydd yn amlwg, nid Michael Sheen yw’r unig un sy’n lleisio ei bryderon. Rwy'n siŵr eich bod wedi darllen yr adroddiad gan y pwyllgor diwylliant a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn tynnu sylw at doriadau i'r cyllidebau diwylliant a chwaraeon, a'r effaith ar y sectorau hyn, ac mae wedi gadael ein

‘Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri’

ar ei hôl hi o gymharu â’r rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd o ran cyllid celfyddydau a chwaraeon. A gadewch inni fod yn glir, nid yw hon yn sefyllfa unigryw sydd wedi codi mewn un flwyddyn yn unig; mae wedi bod yn broblem ers dros ddegawd. Y llynedd, dywedodd Michael Sheen,

'Nid ydym yn mynd i adael i'n gwlad farw. Nid ydym yn mynd i adael iddi farw'n ddiwylliannol a gwywo ar y gangen'.

Dri diwrnod yn ôl, dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru,

'Mae angen i'r ras hon i'r gwaelod a'r diffyg gweledigaeth, awydd a gallu orffen heddiw. Byddwch yn uchelgeisiol, byddwch yn arloesol, byddwch yn ddewr, gwnewch iddo ddigwydd a bydd llwyddiant yn dilyn. Os gwelwch yn dda. Dros Gymru.'

Felly, Weinidog, sut y gwnewch chi unioni camweddau’r gorffennol? Ac a ydych chi'n gresynu at y sefyllfa y mae'r sectorau hollbwysig hyn ynddi bellach?

Wel, Lywydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio ar y cyd-destun y gwnaed yr holl benderfyniadau hyn ynddo a lle rydym arni heddiw. Rydym yn sôn am ddegawd yn ôl, wel, rydym oll wedi dioddef 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol a'u polisïau a'u cyni. [Torri ar draws.] Maent yn cwyno, ond dyna'r gwir; maent yn cwyno, ond dyna'r gwir. Pandemig COVID, Lywydd, costau byw, pwysau chwyddiant, gellid disgrifio'r cyfuniad o’r holl bethau hyn fel y storm berffaith, ac er gwaethaf hyn oll, roeddem yn dal i gynnig cymorth i’r sector. Soniais yn fy ateb blaenorol am y cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn, soniais am y cyfle ger ein bron.

Ar adroddiad y pwyllgor, rwy’n ddiolchgar iawn i’r pwyllgor a Chadeirydd y pwyllgor am lunio'r adroddiad hwnnw, ac rwy’n awyddus iawn i edrych o ddifrif ar yr argymhellion yn yr adroddiad hwnnw, a byddaf yn eu hystyried yn y ffordd honno. Y pwyntiau ynghylch y tablau, wel, yr anhawster yw nad oes cymhariaeth debyg am debyg o ran gwledydd Ewrop yn hyn beth. Mae’r adroddiad ei hun—ac roedd yr Aelod ar y pwyllgor, rwy'n credu—mae’r adroddiad ei hun yn cynnwys yr union gafeat hwnnw, sef bod gwahanol ffyrdd o gyfrifo ffigurau. Nawr, os yw'r Aelodau am ladd ar y sector, nid wyf am gymryd unrhyw ran yn hynny. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r sector wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gyda'r angerdd hwnnw fe welwn ddyfodol gwell i'r sector. Mae’r gyllideb hon sydd ar y ffordd yn gam i’r cyfeiriad cywir, gyda chynnydd i’r sectorau celfyddydau a diwylliant a chwaraeon yng Nghymru. Dylai pob un ohonom ystyried hynny pan fyddwn yn bwrw ein pleidlais ar y gyllideb yn yr wythnosau nesaf.

13:50

Mae'r hyn y mae diwylliant wedi'i gyflawni wedi digwydd er gwaethaf Llywodraeth Cymru. Gallent gyflawni cymaint mwy gyda Llywodraeth sy'n cefnogi’r sector. Gadewch inni fod yn glir ynglŷn â hynny. Ac nid yw'n—. Os edrychwch ar y sefyllfa, roedd yr Alban mewn sefyllfa debyg o ran gorfod dioddef yn sgil y Torïaid a chyni, ond fe wnaethant flaenoriaethu diwylliant a’r celfyddydau. Felly, nid yw hynny'n—. Nid yw’n ddadl gynaliadwy. Mae'n ymwneud â ble rydych chi'n ei flaenoriaethu.

A hoffwn eich holi ynglŷn ag un elfen arall, ynglŷn â datganoli darlledu—

—oherwydd, wythnos diwethaf, daeth y newyddion bod Capital Cymru yn dod â'u holl raglenni Cymraeg i ben. Mae'r newidiadau yn bosib yn dilyn cyflwyno'r Ddeddf cyfryngau newydd fis Hydref y llynedd, sy'n dileu unrhyw ofynion am fformatau pob gorsaf. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith a wnaed drwy'r cytundeb cydweithio, ein bod ni eisiau gweld datganoli darlledu. Mewn ymateb i gwestiwn ddiwedd Tachwedd mewn pwyllgor gan Rhun ap Iorwerth, mi oeddech chi'n aneglur o ran sut bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gan ddweud:

'Nid wyf yn credu fy mod yn dweud fy mod yn erbyn datganoli darlledu. Rwy'n credu fy mod yn dweud yr hoffwn wneud y gwaith ar hynny i ffurfio fy marn ac i weld lle rydym yn mynd â'r sgwrs hon nesaf.'

Wedyn, ydych chi wedi penderfynu eto os ydych chi'n cefnogi datganoli darlledu, ac os felly, pryd allwn ni weld symudiad o ran y gwaith hwn yn mynd rhagddo, oherwydd fedrwn ni ddim fforddio aros eiliad yn hirach?

Diolch am hynny, Heledd. Fe atebaf y pwynt cyntaf yn gyntaf, ar gyfranogiad y Llywodraeth. Wel, rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn falch iawn o’r cyhoeddiad a’r stori a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn, Lywydd, fod £210,000, yn dilyn arian ychwanegol a gyhoeddwyd eleni ym mis Rhagfyr—£1 filiwn i Gyngor Celfyddydau Cymru—wedi mynd i Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, lleoliad eiconig, sydd bellach wedi cael ei achub. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant, ac mae’n gweithio law yn llaw â’r diwydiant.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am godi’r sefyllfa ynghylch darlledu yng Nghymru. Roeddwn innau'n siomedig iawn gyda phenderfyniad Global i ddod â rhaglenni Cymraeg Capital Cymru i ben. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd rhaglenni Cymraeg ar y radio a’r holl bethau y mae hynny’n eu cynnig i’r Gymraeg ac i ddysgwyr newydd, a’r pwysigrwydd y mae’n ei roi i gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Er fy mod yn glir iawn ynghylch darlledu a'r sefyllfa honno, fel y mae’r Aelod yn ei nodi, mae darlledu'n fater a gedwir yn ôl. Rwy'n agored iawn i archwilio'r opsiynau o ran darlledu a datganoli yn y maes hwn. Byddaf yn ffurfio fy marn. Rwy'n dal i ystyried yr holl opsiynau hynny. Fe fyddwch yn deall—[Torri ar draws.] Mae’r Aelod yn dweud, 'Dewch ymlaen’; mae llawer o bethau yr ydym wedi gorfod gweithredu arnynt ac a gyflawnwyd gennym, Lywydd. Byddaf yn ffurfio'r farn honno. Yr hyn rwy’n glir iawn yn ei gylch yw y byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, gan nad yw’r sefyllfa bresennol yn addas i’r diben, a byddaf yn parhau â’r sgyrsiau hyn, ac edrychaf ymlaen at y sgwrs a gaf gyda’r Aelod ar y mater hwn hefyd.

Y Cyngor Dur

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru at y Cyngor Dur a'r effaith y bydd yn ei chael ar economi Gorllewin De Cymru? OQ62109

Gwnaf. Roeddwn yn falch o fynd i gyfarfod y Cyngor Dur ar 7 Ionawr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r cyngor ar ddatblygu strategaeth ddur y DU.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er fy mod yn ei groesawu, mae'n rhaid i’r Cyngor Dur beidio â dod yn siop siarad arall eto fyth, yn grŵp gorchwyl a methu â gorffen. Rwy'n croesawu'r bwriad i greu cynllun ar gyfer y sector dur ac yn gobeithio y gall y Cyngor Dur gyflawni hynny. Mae wedi cael dechrau simsan, fodd bynnag, gan fod Dur Prydain yn debygol o roi'r gorau i gynlluniau i ddychwelyd i Teesside. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau'r achos dros Orllewin De Cymru? A ydych chi'n brolio’r Sefydliad Dur a Metelau, o ystyried bod y Cyngor Dur yn cael ei gyd-gadeirio gan bennaeth y Sefydliad Prosesu Deunyddiau? Yn bwysicach fyth, Ysgrifennydd y Cabinet, faint o’r £2.5 biliwn a fydd yn dod i ni yng Nghymru?

Diolch am eich cwestiwn. A hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw'r Cyngor Dur a'i fod o ddifrif ynglŷn â'i waith. Mae’n cynnwys arweinwyr o’r sector dur, arbenigwyr o'r diwydiant, undebau llafur, cymdeithasau masnach a Llywodraethau datganoledig, a’i ddiben yw dod ynghyd a gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu’r strategaeth ddur. Felly, mae'n grŵp â nod clir i ddatblygu'r strategaeth, ond cyflawni'r strategaeth yw'r hyn sy'n mynd i fod yn wirioneddol bwysig.

Mae un neu ddau o bwyntiau allweddol yr oeddwn am allu eu gwneud yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor Dur, ac roedd un o’r rheini’n ymwneud â phwysigrwydd y cynnig sydd gennym yma ym Mhrifysgol Abertawe mewn perthynas â'r arbenigedd sydd ganddi ym maes dur ac mewn metelau'n fwy cyffredinol. Felly, fe wneuthum y pwynt pwysig ynglŷn ag argaeledd yr arbenigedd hwnnw i’r Cyngor Dur a phwysigrwydd ymgysylltu â’r arbenigedd hwnnw. A’r pwynt allweddol arall yr oeddwn yn awyddus iawn i'w bwysleisio oedd pwysigrwydd nid yn unig ystyried yr heriau uniongyrchol sy’n wynebu’r diwydiant dur yma yn y DU ac yng Nghymru, ond cadw llygad ar y tymor hwy a’r cyfleoedd i sicrhau, er enghraifft, pan fyddwn yn ystyried y gwaith yr ydym yn ei wneud ar ynni gwynt ar y môr—a gwneuthum ddatganiad ar hynny yr wythnos diwethaf—ein bod yn ystyried ein buddsoddiadau mewn dur yng nghyd-destun sicrhau bod y dur hwnnw, felly, o'r ansawdd sydd ei angen i gefnogi’r cyfleoedd economaidd sydd gennym o’n blaenau. Felly, roeddwn yn credu bod y rheini’n ddau bwynt gwirioneddol allweddol i'w codi yn y cyfarfod hwnnw.

Serch hynny, roedd naws y cyfarfod yn hynod o adeiladol, a gwelwyd ymrwymiad enfawr gan bawb a oedd yn y cyfarfod i weithio gyda’n gilydd tuag at strategaeth a all gyflawni ar ein rhan yma yng Nghymru. Ac nid oes gennym y manylion eto ynglŷn â sut y bydd yr holl gyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cefnogi'r gwaith o gyflawni’r strategaeth honno, ond rwy’n siŵr y bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.

13:55

Rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr angen i ystyried lle rydym yn gwneud y buddsoddiad mewn dur yma yn ne Cymru, ond rydym eisoes yn gwybod beth sydd ar y ffordd, onid ydym? Mae gennym gyfleoedd enfawr ac fe gyfeirioch chi at y rheini gydag ynni gwynt ar y môr. Gwyddom beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn manteisio ar hynny. Yn gyntaf, mae arnom angen melin dur plât ym Mhort Talbot; mae angen inni fuddsoddi yng nghapasiti'r porthladdoedd i weithgynhyrchu a chydosod; ac mae angen inni fuddsoddi yn y sgiliau. Felly, mae angen inni fynd y tu hwnt i ystyried nawr, a dechrau cyflawni. Rydym eisoes ar ei hôl hi, gyda phorthladdoedd yn Ffrainc, yr Iseldiroedd a Sbaen eisoes yn gwneud y buddsoddiadau hynny. Felly, rwy'n dychwelyd at y pwynt a wnaeth Altaf ynghylch y pot o arian y dywedodd Llywodraeth y DU y byddai ar gael ar gyfer dur. Sut y mae mynd ati i gael mynediad at y cyllid hwnnw nawr, gan mai nawr yw'r adeg i wneud y buddsoddiadau hynny? Os na wnawn y buddsoddiadau hynny, byddwn yn colli’r holl gyfleoedd sy’n codi gydag ynni gwynt ar y môr, gan fod gwledydd eraill yn manteisio ar hynny nawr.

Mwynheais yn fawr y trafodaethau a gawsom mewn perthynas â’r datganiad a wneuthum yr wythnos diwethaf ar ynni gwynt ar y môr. Ac yn y datganiad hwnnw, fe nodais ddiben y grŵp gorchwyl a gorffen. Nid yw'n ymwneud â chael y trafodaethau ynghylch pa mor bwysig yw hyn oll a beth yw'r cyfleoedd, mae'n ymwneud â sut rydym yn cyflawni ac yn datblygu'r ymateb i'r cyfleoedd hynny.

Felly, mae’r grŵp, y cadeiriais ei gyfarfod cyntaf yr wythnos diwethaf, eisoes yn bwrw ymlaen â’r cynllun i nodi’r amserlen o ran pwy sydd angen gwneud beth a phryd i sicrhau ein bod yn gallu sicrhau’r ymateb mwyaf posibl i’r cyfleoedd yn y môr Celtaidd ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Felly, mae'r grŵp hwnnw eisoes ar waith. Mae'n mynd i fod yn gyfarfod yn rheolaidd iawn gyda'r bwriad o gyflwyno ei argymhellion a'i gynllun gweithredu wrth inni symud tuag at y rownd nesaf o gontractau ar gyfer gwahaniaeth yn y gwanwyn. Felly, mae'n waith sy'n datblygu'n gyflym iawn, ond gobeithio wedyn y bydd yn rhoi hyder i bob partner symud ymlaen â'r datblygiadau a'r buddsoddiadau y mae angen iddynt eu gwneud.

Mae rhywfaint o hyn yn mynd i olygu gweithio gyda Llywodraeth y DU o ran y cyllid y gall ei ddarparu, ond mewn gwirionedd, mae angen gwneud lawer mwy o ran buddsoddiad preifat hefyd. Gwn y bydd gan y porthladdoedd ddiddordeb yn y buddsoddiad y gallant ei wneud; bydd gan y diwydiant ddiddordeb yn y buddsoddiad y gall ei wneud. Bydd gennym ni ddiddordeb yn ein buddsoddiadau drwy’r elfen sgiliau hefyd. Felly, mae'n ymwneud â sicrhau bod pob partner yn cyfrannu cymaint â phosibl at y gwaith, ac nid yn gyfan gwbl ag edrych ar y gronfa benodol honno o arian.

Polisïau Economaidd Llywodraeth y DU

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae polisïau economaidd Llywodraeth y DU o fudd i economi Cymru? OQ62106

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU, gan gymryd camau dewr i adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru. Bydd y dull cydweithredol hwn yn sicrhau ein bod yn cael y twf sydd ei angen arnom i roi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ymgais honno i gyfiawnhau'r llwybr economaidd yr ydym yn ei ddilyn o dan Lywodraeth Lafur y DU. Nid yn unig fod trethi ar gynnydd i bobl ledled Cymru, gan gynnwys miloedd o berchnogion busnesau, mae biliau ynni'n cynyddu hefyd. Addawyd cyn yr etholiad y byddent yn lleihau, a nawr, rydym yn eu gweld yn mynd i'r cyfeiriad arall. Rydym bellach yn gweld yr economi'n marweiddio, a hynny er i chi etifeddu'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7 gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae’r bunt wedi cwympo i’r lefel isaf ers dros flwyddyn, ac mae costau benthyca’r DU ar eu lefelau uchaf ers 16 mlynedd. Mae'r elw gilt 30 mlynedd ar ei lefel uchaf ers 27 mlynedd. Yn gofiadwy, dywedodd y cyn-Weinidog Llafur Lee Waters,

'nad ydym yn gwybod yn iawn beth rydym yn ei wneud ar yr economi.'

A oedd yn cyfeirio at Blaid Lafur y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru?

14:00

Fel y soniais mewn ymateb i'ch cyd-Aelod yn gynharach, ni allwn anwybyddu'r 14 mlynedd diwethaf. Mae'n anochel y bydd yn cael effaith, ac mae Llywodraeth bresennol y DU yn ymdopi â'r llanast a adawyd iddi. Mae gennyf fwy o ddiddordeb yn y gofod hwn mewn gweld sut y gallwn ddefnyddio ein dulliau i gefnogi twf yma yng Nghymru, a dyna pam y buom yn gweithio i nodi sectorau blaenoriaeth sydd â'r potensial cryfaf ar gyfer twf yma yng Nghymru, ac ystyried hefyd sut i ostwng biliau ynni yn y dyfodol a sut i sicrhau diogeledd ynni.

Bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r gwaith a wnaethom yn ddiweddar, a chyhoeddi £10 miliwn o gyllid grant drwy Ynni Cymru ar gyfer 32 o brosiectau yma yng Nghymru. Mae'r prosiectau hynny'n mynd i fusnesau, i sefydliadau a'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru, ac mae rhan o hynny'n ymwneud â lleihau biliau ynni a chostau ynni i'r busnesau a'r sefydliadau hynny. Felly, byddwn yn defnyddio'r dulliau sydd gennym, a byddwn yn cydweithio â Llywodraeth y DU yn y gwaith anodd iawn y mae'n ei wynebu.

O dan Lywodraeth flaenorol y DU, gwelsom ostyngiad o 40 y cant mewn swyddi sector cyhoeddus. Mae pob cyngor yn cyflogi tua 6,000 o bobl; mae hynny'n llawer o swyddi. Y cyflogwr mwyaf yng Nghymru yw'r sector cyhoeddus. Rwy'n falch o weld nawr fod gennym Lywodraeth y DU sy'n deall budd buddsoddi yn y sector cyhoeddus ac sy'n trosglwyddo arian i Lywodraeth Cymru i dalu am godiadau cyflog yn y sector cyhoeddus hefyd. Mae cyfalaf ar gael o'r diwedd i'w fuddsoddi mewn adeiladu tai, ysbytai a'n priffyrdd hefyd—diolch byth am hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod buddsoddi yn ein sector cyhoeddus yn union fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud eleni yn bolisi i'w groesawu i bobl Cymru ac i Lywodraeth Cymru?

Ydw'n bendant. Mae buddsoddi yn ein sector cyhoeddus mor bwysig i fynd i'r afael â'r heriau y mae cyd-Aelodau'n eu codi yn y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos. Pan edrychwn ar y buddsoddiad a wnawn ym maes iechyd, y buddsoddiad mwyaf erioed yn y gwasanaeth iechyd, a diogelu llywodraeth leol cyn belled ag y gallasom ei wneud, rydym bob amser wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a bydd ein cydweithwyr llywodraeth leol yn cydnabod y ffordd yr ydym wedi ceisio eu diogelu drwy'r adegau anoddaf hefyd.

Ni fyddai dim o'r gwaith y gallasom ei wneud ar gyflogau'r sector cyhoeddus wedi bod yn bosibl heb y Llywodraeth hon yn y DU. Rwy'n gyffrous iawn ynglŷn â'r cynnydd cyfalaf i'n cyllideb yn ogystal. Mae'r cyfalaf y buom yn ei gael wedi bod mor annigonol i ddiwallu ein hanghenion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny'n gadarnhaol iawn. Ac wrth gwrs, dylai fod yn hwb i'w groesawu i'r sector cyhoeddus hefyd, oherwydd mae'r arian cyfalaf hwnnw'n mynd i gael ei fuddsoddi mewn prosiectau, a bydd pobl yn gweld y rheini'n datblygu yn eu cymunedau.

Felly, er gwaethaf y darogan gwae gan ein cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, mae llawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch mewn gwirionedd, yn enwedig o ystyried ein setliad mwyaf ers datganoli. Ac wrth gwrs, os yw cyd-Aelodau eisiau cefnogi'r gwaith a wnawn ar gyflogau'r sector cyhoeddus, a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus, bydd cyfle iddynt wneud hynny wrth inni symud drwy'r broses gyllidebol.

Buddsoddiad yn y Gwyddorau Bywyd

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y potensial ar gyfer mwy o fuddsoddiad yn y gwyddorau bywyd yng Nghymru? OQ62104

Mae'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru yn tyfu'n gyflym, gan ei wneud yn un o'n sectorau twf mwyaf deinamig. Ar hyn o bryd mae'n creu dros £2.85 biliwn o drosiant y flwyddyn. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid ychwanegol i'r sector, ochr yn ochr â'n hymwneud ar ei strategaeth ddiwydiannol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y nodwch, mae Cymru eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl mewn gwyddorau bywyd, gyda sector sy'n cynhyrchu dros £2.8 biliwn o werth i economi Cymru, ac sy'n cyflogi ymhell dros 12,500 o bobl. Rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol yma yng Nghymru, ond anaml y siaradwn am ba mor dda rydym ni'n ei wneud yn y lle hwn. Y newyddion da yw bod potensial ar gyfer mwy eto. Un enghraifft yn unig o fusnes sydd â'r potensial i dyfu ymhellach gyda chydnabyddiaeth ryngwladol yw TrakCel yn fy etholaeth i. Gallai parc gwyddorau bywyd Cardiff Edge gynhyrchu mwy o werth a mwy o swyddi eto, yn enwedig os caiff trafnidiaeth metro ei darparu gyda'r Felindre newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau eich disgwyliadau eich hun ar gyfer twf yn y sector gwyddorau bywyd yma yng Nghymru, ac a ydych chi wedi trafod y rôl y gallai'r sector hwn ei chwarae yn uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol Cymru y cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'n digwydd yn ddiweddarach eleni?

14:05

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a'r cyfle, unwaith eto, i dynnu sylw at un o'r sêr disglair ein heconomi yng Nghymru. Yn ogystal â chyflogi miloedd o bobl, fel y clywsom nawr, gwelodd y sector gwyddorau bywyd dwf sylweddol ymhlith ei 319 o fusnesau yng Nghymru. Wrth gwrs, maent yn amrywio o BBaChau bach yn gwneud pethau anhygoel, arloesol, i gwmnïau mawr o'r radd flaenaf. Mae'r trosiant bras o £2.85 biliwn, y cyfeiriais ato yn fy ateb gwreiddiol, yn gynnydd o 8.6 y cant ar y flwyddyn flaenorol, ac rwy'n siŵr y gallwn barhau i weld twf calonogol yn y sector hwnnw.

Yn amlwg, mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn rhoi cyfle i ni daflu goleuni ar y sector gwyddorau bywyd fel un o'r rhai sydd â'r potensial mwyaf ar gyfer twf. Yn bendant, rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r Prif Weinidog ynglŷn â sut y gall yr uwchgynhadledd fuddsoddi sydd ar y ffordd gynnig cyfleoedd pellach i arddangos yr hyn sydd ar gael yma yng Nghymru, ein harbenigedd anhygoel, i'r gynulleidfa ryngwladol i gynhyrchu twf pellach a buddsoddiad pellach yn y sector.

Ynni Adnewyddadwy ar y Môr

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn elwa o ynni adnewyddadwy ar y môr? OQ62118

Yr wythnos hon, fe gadeiriais gyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr gydag arweinwyr o bob rhan o ddiwydiant a'r byd academaidd i ddatblygu cynllun gweithredu clir a llinell amser i sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn elwa o'r buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy ar y môr.

Diolch yn fawr iawn. Pan wnaethoch chi gyhoeddi yr wythnos diwethaf eich bwriad i sefydlu’r grŵp gorchwyl a gorffen yma ar ynni gwynt ar y môr, gwnaethoch chi amlinellu ystod o nodau economaidd allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd cynlluniau fel hyn, ym Môr Iwerddon yn arbennig, yn eu cyflawni i Gymru. Rwy’n edrych ymlaen at glywed am a chraffu ar waith y grŵp arbennig yna. Ond mae’n rhaid i mi ofyn un cwestiwn sylfaenol: sut allwn ni fel cenedl sicrhau y budd economaidd mwyaf posibl o wynt ar y môr os nad oes gyda ni’r pwerau i wireddu hyn? Rwy’n sôn, wrth gwrs, am bwerau dros Ystâd y Goron. Byddai datganoli’r pwerau hyn, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, nid yn unig yn gwarantu ein bod ni’n elwa o’n hadnoddau naturiol, ond byddai hefyd yn rhoi pwerau i ni osod telerau penodol ar bethau fel caffael a chadwyni cyflenwi, a fyddai’n rhoi gwerth ychwanegol i’r datblygiadau hyn. Gaf i ofyn, felly, a fydd opsiynau ar gyfer datganoli Ystâd y Goron yn rhan o gylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen rŷch chi wedi ei sefydlu, ac os na, pam?

Nid wyf yn siŵr a oes angen i ni ofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen archwilio'r mater penodol hwn, gan fod safbwynt Llywodraeth Cymru yn gwbl glir ar hyn mewn perthynas â cheisio datganoli Ystad y Goron. Mae llawer ohonom yn rhannu'r farn fod yna gyfleoedd a gollwyd yn deillio o amcan Ystad y Goron i wneud cymaint â phosibl o refeniw i Drysorlys y DU. Efallai y bydd gennym safbwynt gwahanol ynglŷn â sut y gwnawn y mwyaf o refeniw, ond mae'n fwy na refeniw ynddo'i hun; a dweud y gwir, byddem am gael sgyrsiau am y manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y gellir eu cyflwyno hefyd. Mae'n siŵr nad yw ein safbwyntiau'n wahanol iawn ynghylch pwysigrwydd Ystad y Goron a'r cyfleoedd pe bai wedi ei datganoli, ac rydym yn gadarn ein barn ar hynny fel Llywodraeth Cymru.

Rydym yn croesawu penodi'r comisiynydd i Gymru. Bydd yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gweld Ystad y Goron yn cyflawni dros Gymru fel rhan o'u gweithrediadau, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu â hwy maes o law. Wrth gwrs, mae rôl Ystad y Goron yn gwbl ganolog i sicrhau bod gennym lif o brosiectau yn y dyfodol o amgylch arfordir y DU, a chan feddwl am y môr Celtaidd hefyd. Mae hyn i gyd yn hanfodol bwysig. Rwy'n credu ein bod ni'n gytûn ar sail eich cwestiwn. Rwy'n bwriadu cyfarfod ag Ystad y Goron yn fuan. Dylwn ddweud hefyd eu bod wedi eu cynrychioli yn ein grŵp gorchwyl a gorffen.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn gwybod bod nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr cyffrous iawn ar y gweill o amgylch arfordir sir Benfro dros y blynyddoedd nesaf. Mae cyfle enfawr i gael swyddi medrus sy'n talu'n dda yn y sector hwn, yn ogystal â gweithlu wedi'i hyfforddi'n dda. Roeddech chi gyda mi yng Ngholeg Sir Benfro ychydig wythnosau yn ôl, lle gwelsom fod y buddsoddiad a wnaethom yn y cyfleusterau yno yn cynnig dyfodol i'n pobl ifanc sy'n byw yno. Mae rhan fawr gan ddiwydiant i'w chwarae yn gwireddu'r cyfleoedd o'r buddsoddiad hwnnw. Ond rwy'n awyddus i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda diwydiant a chyda darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod yr holl fanteision yn cael eu gwireddu i'r graddau mwyaf sy'n bosibl.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Fe wneuthum fwynhau'r ymweliad a gawsom â Choleg Sir Benfro, gyda Vikki Howells. Roedd brwdfrydedd pawb a oedd yn rhan ohono, y bobl ifanc a'r tiwtoriaid ac eraill yn y coleg, yn amlwg iawn. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector i ddeall beth yw eu hanghenion ar gyfer y dyfodol. Mae gennym y gwaith sy'n cael ei wneud drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ond mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn gwneud gwaith penodol iawn sy'n edrych ar sefydlu cynllun sgiliau sector ynni glân. Wrth gwrs, mae hynny'n ymwneud â'r diwydiannau eu hunain, a gweithio gyda'r colegau i sicrhau y gallwn gyflawni'r cynllun hwnnw—felly, wrth edrych ymlaen, beth yw'r sgiliau y bydd diwydiant eu hangen ymhen pum mlynedd, neu 10 mlynedd, a chynllunio ar gyfer hynny fel bod gennym y bobl iawn â'r sgiliau cywir i ddiwallu'r anghenion pan ddaw'r cyfleoedd hyn, fel rwy'n siŵr y gwnânt.

Swyddi Gwyrdd

7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion y Rhondda i gael y sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd y dyfodol? OQ62121

Rydym yn cyflawni ein 'Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net' ledled Cymru. Mae'r cynnydd yn cynnwys cyflwyno cyfrifon dysgu personol gwyrdd, ffrydiau ariannu newydd sy'n gysylltiedig â sgiliau sero net o dan ein rhaglen sgiliau hyblyg, a llwybr prentisiaeth newydd mewn rheoli ynni.

Newid hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu yn fyd-eang ac yn lleol. Mae trigolion Rhondda ac ar draws Rhondda Cynon Taf yn gwybod yn rhy dda nad ydym yn ddiogel rhag effeithiau newid hinsawdd, yn dilyn sawl digwyddiad llifogydd diweddar. Mae RHA Cymru, Beacon Cymru erbyn hyn, wedi creu prosiect RhCT Gwyrddach gyda thri nod: codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd; lleihau ôl troed carbon stryd fawr Tonypandy; a chreu llwybr sgiliau gwyrdd. Roeddwn yn ffodus i fynychu un o'u cynadleddau llwybr sgiliau gwyrdd yng Ngholeg y Cymoedd, lle mae partneriaeth wedi ffurfio i greu cyfleoedd dysgu gwerthfawr i bawb trwy lythrennedd carbon, ac i helpu i greu swyddi gwyrdd y dyfodol i'n pobl ifanc. Byddai'n wych pe bai'r Gweinidog yn ymweld â Choleg y Cymoedd i weld y bartneriaeth hon ar waith. Roedd y cwmnïau adeiladu yn y gynhadledd yn canmol y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu i uwchsgilio'r gweithlu â sgiliau gwyrdd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd y cyllid hwn yn parhau a sut y gallwn gefnogi cwmnïau adeiladu i gyrraedd gweithwyr nad ydynt efallai'n teimlo bod angen yr hyfforddiant hwn?

Diolch, Buffy Williams. Lywydd, mae'n amlwg fod Buffy Williams ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a'r holl heriau y mae hynny'n eu creu iddi hi a'i hetholwyr, ond hefyd drwy hyrwyddo'r swyddi a'r cyfleoedd twf gwyrdd y mae'r pwnc yn eu cynnig, gan ei godi'n gyson gyda nifer o Weinidogion yn y lle hwn. Rwy'n croesawu'r gwaith ac yn diolch i'r Aelod am godi gwaith Beacon Cymru a'r coleg lleol yn codi ymwybyddiaeth o'r angen a'r cyfleoedd mewn perthynas â sgiliau gwyrdd a chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â'r heriau newid hinsawdd. Buaswn yn falch iawn o ymuno â'r Aelod ar ymweliad i weld y cynlluniau sydd ganddynt, gan gynnwys datblygu'r ganolfan hyfforddi sero net, sy'n cael ei chefnogi gan werth dros £3.7 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Bydd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a minnau yn cynnal arolwg sgiliau gwyrdd a bydd cymheiriaid o'r colegau a phartneriaid yn y diwydiant yn bresennol yn yr arolwg hwnnw. Bydd cyllid yn parhau yn y maes hwn yn y rownd gyllidebol nesaf, gan gynnwys cyfrifon dysgu personol, cyfrifon dysgu personol gwyrdd, yn cynnwys £144 miliwn mewn prentisiaethau, gan gynnwys cynnydd o £6.5 miliwn yn ein rhaglen sgiliau hyblyg. Rydym yn canolbwyntio'n agos ar sgiliau gwyrdd. Lywydd, mae swyddi a thwf gwyrdd yn flaenoriaethau allweddol i'r Prif Weinidog, ac mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi ymrwymo i sicrhau bod sgiliau gan drigolion y Rhondda, y mae Buffy yn eu cynrychioli, i gael mynediad at swyddi gwyrdd y dyfodol.

14:15
Arian ar gyfer Diwylliant a'r Celfyddydau

8. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn darparu digon o arian ar gyfer diwylliant a'r celfyddydau? OQ62120

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r sectorau diwylliant a chelfyddydau yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael digon o gyllid.

Diolch am eich ateb, Gweinidog.

Mae cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant mewn cyflwr peryglus. Ni fydd cynnydd cymedrol yn gwneud fawr ddim i leddfu'r ymdeimlad o straen ar theatrau, gweisg, cwmnïau cerddoriaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd—straen sydd eisoes wedi arwain at golli swyddi a thorri'n ôl ar greadigrwydd. Rydym mewn perygl o wynebu dyfodol lle mae diwylliant a'r celfyddydau yn foethusrwydd, yn hytrach na bod yn rhan o'r hyn ydym oll.

Nid rhywbeth ar gyfer yr elît yng Nghymru yw diwylliant. Yng ngeiriau bendigedig Raymond Williams, mae'n gyffredin—yn wych ac yn radical o gyffredin—ac mae'n perthyn i bob un ohonom. Ond oni bai ein bod yn gweld newid gwych a radical yn y ffordd y caiff ei ariannu, fe gaiff ei golli, a byddwn oll yn dlotach. A yw'r Llywodraeth yn cydnabod maint yr hyn sy'n angenrheidiol i atal hynny rhag digwydd? A yw'n sylweddoli, heb gynnydd radical mewn cyllid, y bydd yr argyfwng sy'n wynebu ein diwylliant yn parhau?

Diolch am y cwestiwn atodol, Delyth, ac am y gwaith a wnewch yn cadeirio'r pwyllgor diwylliant yma yn y Senedd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddod ger eich bron yfory ac edrychaf ymlaen at y sesiwn graffu a gawn. Rwy'n edrych ymlaen maes o law at ymateb yn llawn i'r adroddiad a gyhoeddwyd gennych ynghylch effaith rhai o'r penderfyniadau sydd wedi eu gwneud.

Rydym eisoes wedi bod dros hyn y prynhawn yma. Mae cyd-destun i ble y gwnaed rhai o'r penderfyniadau hyn, ac rydym wedi gwneud ymyriadau—£5 miliwn o gyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r sector; cyllid cyfalaf ychwanegol o £3.7 miliwn o fis Gorffennaf ymlaen. Mae cyfle i bob Aelod o'r Senedd hon gefnogi'r sector yn y gyllideb sydd i ddod drwy bleidleisio dros gefnogi mwy o arian i'r sector. Mae'n eithaf amlwg fod cyfle ar gael i bawb.

Byddwn yn parhau i gefnogi'r sector hwn yn y ffordd a wnawn. Mae'r gyllideb gyntaf ers cael cael Llywodraeth Lafur yn y DU yn gweld cynnydd yn y cyfle i'r celfyddydau. Ni allwn unioni'r holl gamweddau mewn un gyllideb, ond mae'n arwydd o'r cyfeiriad y dymunwn fynd iddo. Ac rwy'n meddwl, Lywydd, ym mhob un o'r heriau hynny, a siarad am greadigrwydd—. Gadewch inni dreulio ychydig bach o amser wrth gau'r sesiwn hon yn edrych ar waith Cymru Greadigol. Fe ddewisaf cynhyrchu, ffilm a theledu—£26.5 miliwn wedi'i fuddsoddi gan Cymru Greadigol. Mae hynny oherwydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Dros £300 miliwn yn ôl i economi Cymru. Mae'r cynyrchiadau hynny'n canolbwyntio'n fawr ar greadigrwydd a diwylliant Cymru. Dylem fod yn falch o'r gwaith hwnnw, a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y sector creadigol yn y ffordd honno.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Y cwestiwn cyntaf gan Alun Davies.

Gwasanaethau Meddyg Teulu ym Mlaenau Gwent

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau meddyg teulu ym Mlaenau Gwent? OQ62094

Mae sicrhau mynediad da at wasanaethau meddygon teulu ledled Cymru, gan gynnwys pob ardal ym Mlaenau Gwent, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn o glywed ei fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, oherwydd mae argyfwng ym Mlaenau Gwent a rhannau eraill o ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae yna argyfwng mynediad at wasanaethau meddygon teulu sylfaenol, argyfwng wedi'i greu gan eHarleyStreet, cwmni preifat a gafodd ei ddwyn i mewn ac sydd wedi gwneud cam â fy etholwyr, ac sydd wedi methu darparu gwasanaethau i'r bobl yr wyf i ac eraill yma'n eu cynrychioli. Ond nid yn unig eu bod yn gwneud cam â'u cleifion, maent yn gwneud cam â'u staff hefyd. Nid ydynt yn talu'r cyfraniadau pensiwn y dylent fod yn eu talu. Rwyf wedi siarad â chyflenwyr yn ystod y dyddiau diwethaf hefyd sydd â biliau heb eu talu. Dyma sefydliad na all dalu ei filiau ac na all ddarparu gwasanaethau. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod gan bobl hawl i ddisgwyl rhagoriaeth yn y gwasanaethau y maent yn eu cael, fod gan gyflenwyr hawl i gael eu biliau wedi'u talu, fod gan staff hawl i weithio mewn amgylchedd lle nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu bwlio, a lle mae gan staff hawl i sicrhau bod eu cyfraniadau pensiwn yn cael eu gwneud a bod cyllid y wlad yn cael ei dalu? Dyma gwmni na all ddarparu gwasanaethau na thalu ei filiau. Mae'n bryd rhoi diwedd ar yr arbrawf aflwyddiannus hwn. 

14:20

A gaf i ategu sylwadau'r Prif Weinidog yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf mewn perthynas â'r cwestiwn pwysig y mae Alun Davies yn ei godi? Rwyf wedi gwneud fy marn yn glir i'r bwrdd iechyd, yn fwyaf diweddar mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf. Dylai contractwyr ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu gydymffurfio â'r rhwymedigaethau y maent yn eu hysgwyddo. Mae'n annerbyniol i staff beidio â chael eu talu. Mae'n annerbyniol i gyflenwyr beidio â chael eu talu, yn enwedig o ystyried y risgiau amlwg sy'n dod yn sgil hynny. A dylid darparu staff clinigol ym mhob meddygfa. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd roi trefniadau ar waith i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion hyn, ac mae'r bwrdd wedi cydnabod hynny yn y trafodaethau a gefais ag ef. Byddaf yn gofyn am wybodaeth gan y bwrdd am ganlyniadau'r trefniadau sydd ganddo ar waith, a sicrwydd fod cynllun i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu yn y lleoliadau y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt yn ei etholaeth, ac mewn mannau eraill, mewn ffordd sy'n sefydlog, yn gynaliadwy, ac yn diwallu anghenion cleifion, fel y mae'n dweud.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllideb ddiweddar Llafur wedi achosi niwed mawr i sawl agwedd ar gymdeithas, gan gynnwys ein meddygfeydd. Bydd penderfyniad y Canghellor i gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr a lleihau'r trothwy y mae cyflogwyr yn talu tuag ato yn cael effaith ddinistriol ar y sector, gan gynnwys meddygfeydd ym Mlaenau Gwent a gweddill rhanbarth de-ddwyrain Cymru. Mae amcangyfrifon cyfredol yn rhagweld bod y gost i bractisau meddygon teulu yng Nghymru i dalu am y newidiadau hyn oddeutu £7 miliwn. Mae'n enfawr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig pan ystyriwch ein bod eisoes wedi colli mwy na 100 o bractisau meddygon teulu yng Nghymru ers 2012, ac fe gaiff sgil-effaith ddifrifol o ran cynnig gofal a chymorth i gleifion. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch eithrio practisau meddygon teulu yng Nghymru o'r codiadau treth hyn, a pha gamau uniongyrchol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyfyngu ar y niwed a achoswyd i feddygfeydd meddygon teulu yma yng Nghymru? Diolch.

O ystyried y niwed y mae ei phlaid hi mewn Llywodraeth wedi'i wneud i wasanaethau meddygon teulu dros y ffin dros y 14 mlynedd diwethaf, rwy'n credu bod gan yr Aelod wyneb braidd yn ei ddisgrifio yn y ffordd honno. Fel y mae'n gwybod, y penderfyniad—[Torri ar draws.] Fel y mae'n gwybod—[Torri ar draws.] Fel y mae'n gwybod, penderfyniad Llywodraeth y DU yw'r penderfyniad i godi yswiriant gwladol. Rydym wedi nodi ein barn ynghylch effaith hynny ar bractisau meddygon teulu, ac mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol a'r economi hefyd. Safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yw y bydd y ddarpariaeth y byddant yn ei gwneud yn ymwneud â gweithwyr y sector cyhoeddus yn benodol, ond rydym yn parhau i ddadlau y bydd y goblygiadau y tu hwnt i'r grŵp hwnnw o bobl yn sylweddol, ac rydym mewn trafodaethau gydag ymarferwyr cyffredinol mewn perthynas â'r pwysau y byddant o reidrwydd yn eu hwynebu o ganlyniad.

Buaswn yn mynd ymhellach nag Alun Davies, buaswn i'n dweud bod hyn yn sgandal, yr hyn sy'n digwydd gyda eHarleyStreet ym Mlaenau Gwent ac ar draws bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Wrth gynrychioli'r ardal, bûm mewn cysylltiad â rhai o'r meddygon teulu—y 40 a mwy o feddygon teulu—sydd bellach yn cael eu heffeithio gan hyn. Mae angen mynd i'r afael ag ef ar lefel y Llywodraeth a pheidio â gadael i'r bwrdd iechyd benderfynu sut i unioni hyn, felly mae angen ymyrraeth gennych chi nawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Siaradais ag un meddyg teulu y mae £20,000 yn ddyledus iddo mewn cyflog locwm. Mae dros £300,000 yn ddyledus iddo ef a'i gyn-bartner o gontractau na chawsant eu cyflawni gan eHarleyStreet. Mae'n dangos patrwm o ymddygiad sy'n peri pryder. Siaradais â meddyg teulu arall sydd bellach yn teithio o sir Fynwy i sir Benfro i weithio fel locwm yn hytrach na gweithio yn ein cymunedau. Felly, ar adeg pan fo gwir angen meddygon arnom, ni all y sefyllfa hon barhau. Gofynnaf i chi felly, beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i sicrhau nad yw ymddiriedaeth mewn meddygon teulu yn cael ei erydu? Arian cyhoeddus sy'n cael ei wario. Mae wedi cael ei wario'n ddidwyll gan y bwrdd iechyd, ac mae'n mynd i eHarleyStreet ond nid ydynt hwy'n talu pobl wedyn. Mae'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef, ac mae angen mynd i'r afael ag ef yn gyflym iawn. Felly, beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod y meddygon teulu hyn yn cael eu talu? Diolch.

14:25

Rwy'n cyfeirio'r Aelod at yr ateb a roddais eiliad yn ôl i Alun Davies. Ac o ran yr hyn rwy'n ei wneud, amlinellais y camau rwy'n eu cymryd yn yr ymateb hwnnw, a byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gennyf y wybodaeth bellach rwy'n gofyn amdani gan y bwrdd.

Ers i'r ymholiadau hyn gael eu codi gyntaf yn y Senedd am eHarleyStreet, am y ffordd y mae'r cwmni preifat hwn yn rheoli meddygfeydd ym Mlaenau Gwent a ledled cwm Rhymni, mae etholwyr sy'n methu cael apwyntiadau wedi cysylltu â nifer ohonom. Disgrifiodd un unigolyn sut y ffoniodd linell ffôn un o'r meddygfeydd hyn a chlywed neges wedi'i recordio yn dweud eu bod yn rhif 85 yn y ciw. Nawr rydym wedi clywed am y trallod a achoswyd i feddygon nad ydynt wedi cael eu talu, gyda miloedd o bunnoedd yn ddyledus iddynt. Ond rwy'n pryderu hefyd am y diffyg llywodraethu clinigol yn rhai o'r practisau hyn. Mae'n ymddangos bod cwmni eHarleyStreet yn gweithio yn ôl model sy'n dibynnu ar nyrsys ac ymarferwyr nyrsio i arwain gofal yn hytrach na meddygon teulu. Nawr, anfonwyd gwybodaeth ataf mai dim ond un meddyg teulu oedd yn bresennol ar un diwrnod penodol yn un o'r meddygfeydd hyn, ar gyfer practis o dros 11,000 o gleifion. Fel arfer byddai gan bractis o'r fath bump neu chwech o feddygon teulu, a gallai hynny waethygu yn sicr, am fod cymaint o feddygon teulu yn gwrthod gweithio yn y practisau hyn, yn ddigon dealladwy nawr efallai, am na chawsant eu talu.

Mae cleifion yn haeddu gwell. Felly, gyda hynny mewn golwg, ar fater llywodraethu clinigol, beth y gallai'r Llywodraeth ei wneud, os gwelwch yn dda? Beth y disgwyliwch chi i'r bwrdd iechyd ei wneud i sicrhau nad yw'r meddygfeydd hyn, na'r bobl sy'n dibynnu ar y meddygfeydd hyn, yn cael eu gadael mewn limbo mwyach?

Wel, edrychwch, yn amlwg, mae yna ofynion yn y contractau y mae meddygon teulu yn eu cael gan y bwrdd iechyd i fynnu canlyniadau o'r math y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. A dywedais yn fy ymateb i Alun Davies fod cael staff clinigol ym mhob lleoliad y mae ef a minnau yn credu eich bod yn cyfeirio atynt yn gwbl hanfodol, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau o fy nhrafodaethau pellach gyda'r bwrdd mewn perthynas â hynny.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion? OQ62087

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu ychydig dros £7 miliwn mewn cyllid ychwanegol i gydnabod pwysau ariannol yn y flwyddyn bresennol, a fydd yn cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu mynediad diogel ac amserol i'w drigolion.

Iawn, wel, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gwasanaethau strôc acíwt yn digwydd ar hyn o bryd yn ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, sy'n gwasanaethu rhannau helaeth o fy etholaeth i, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried cynigion sy'n cynnwys israddio gwasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais, a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid trosglwyddo cleifion o ganolbarth Cymru sy'n dioddef strôc i Lwynhelyg neu Lanelli. Nawr, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae pob awr yn hollbwysig yn dilyn strôc, a byddai'r holl opsiynau a gynigir yn golygu na fyddai gan fy etholwyr fynediad at ofal sy'n galw am ymateb cyflym, ac mae gofal o'r fath yn rhywbeth y sonioch chi amdano yn eich ateb cynharach i mi, Ysgrifennydd y Cabinet.

Ar wahân i beidio â chael mynediad at driniaeth yn gyflym, mae adferiad yn bwysig hefyd, ac rwy'n awgrymu ei bod hi'n gwbl afresymol ac yn aml yn anymarferol i rywun sy'n byw yn Llanidloes neu Fachynlleth, a pherthnasau, orfod teithio i Lwynhelyg er mwyn ymweld â pherthynas. Felly, sut rydych chi'n cefnogi cleifion Powys a bwrdd iechyd Powys i sicrhau bod gwasanaethau strôc acíwt digonol ac amserol ar gael i gleifion Powys?

Wel, fy nealltwriaeth i yw nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto gan Hywel Dda mewn perthynas ag ad-drefnu gwasanaethau strôc, a bydd ymgynghoriad ar hynny ym mis Mai. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynghylch y goblygiadau i drigolion sy'n byw y tu allan i ardal y bwrdd iechyd mewn perthynas â'r math hwnnw o ad-drefnu, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd gynnal arfarniad opsiynau trylwyr gyda hynny mewn golwg, a dull cydweithredol nid yn unig gyda phartneriaid cyflawni, yn amlwg, sy'n hanfodol, a'r Gymdeithas Strôc ac eraill, ond gyda byrddau iechyd cyfagos lle mae goblygiadau i drigolion yn ardaloedd y byrddau iechyd hynny hefyd. Yr hyn a ddeallaf gan y bwrdd iechyd yw eu bod wedi dweud na fydd y gofal a'r driniaeth gychwynnol i gleifion strôc yn newid ac y bydd y pedwar prif ysbyty, gan gynnwys Bronglais, yn dal i allu darparu thrombolysis sy'n achub bywydau. Ni fydd y ddarpariaeth adsefydlu'n cael ei heffeithio ychwaith. Ond rwy'n disgwyl i'r ddau fwrdd iechyd drafod y goblygiadau i drigolion y tu allan i ardal Hywel Dda ei hun.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad diweddar Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at ddiffygion brawychus yng ngwasanaethau canser Cymru, yn enwedig y diffyg eglurder ac atebolrwydd mewn rolau arwain. Mae'r methiant hwn wedi peri dryswch eang ac aneffeithlonrwydd mewn gofal cleifion. Er gwaethaf cynnydd syfrdanol o 54 y cant mewn termau real mewn gwariant ar wasanaethau canser dros y 13 mlynedd diwethaf, mae’r GIG yng Nghymru yn parhau i fethu’r targed ar gyfer dechrau triniaeth canser. Mae methiannau arweinyddiaeth wedi arwain at oedi syfrdanol i gleifion, gyda rhai yn aros dros 100 niwrnod i ddechrau eu triniaeth. Mae’r oedi hwn yn gwaethygu pryder ac yn arwain at gyfraddau goroesi gwaeth, sydd eisoes yn waeth yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. O ystyried y diffyg eglurder, atebolrwydd a dyblygu rolau arwain, ac fel y dywedodd rhywun, 'Nid ydym yn gwybod pwy sydd wrth y llyw', sut rydych chi a Llywodraeth Cymru yn cyfiawnhau'r camreoli cronig hwn? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i lenwi'r gwactod arweinyddiaeth, datgymalu seilos biwrocrataidd, a sicrhau nad oes yn rhaid i gleifion wynebu oedi echrydus sy’n costio bywydau?

Rwy'n croesawu'r adroddiad a gyhoeddwyd gan yr archwilydd cyffredinol ddoe. Mae’n adroddiad pwysig. Rwy'n derbyn byrdwn yr heriau a’r pryderon y mae’r archwilydd cyffredinol yn eu hamlinellu yn yr adroddiad. Felly, y darlun cyffredinol yw bod gormod o bobl yn aros yn rhy hir am driniaethau y dylent eu cael yn gyflymach. Yn amlwg, rwyf am weld diagnosis cyflymach, triniaeth gyflymach. Ar gyfer nifer o ganserau mewn nifer o rannau o Gymru, mae'n wir fod y targedau hynny’n cael eu cyrraedd, a rhagorir arnynt yn helaeth weithiau, ond rwy’n derbyn mai'r darlun cyffredinol yw nad yw’r targedau’n cael eu cyrraedd.

Mae’r archwilydd cyffredinol yn gwneud nifer o argymhellion. Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn cydnabod y flaenoriaeth y mae’r Llywodraeth yn ei rhoi i wasanaethau canser yng Nghymru a’r buddsoddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud mewn gwasanaethau canser. Yn sicr, mae achos i'w gael dros gydgysylltu gwell, dros wella aliniad yr ystod o ymyriadau sydd gennym yn y system i gefnogi cleifion â chanser yng Nghymru, boed hynny ym maes atal, ym mherfformiad y gwasanaethau eu hunain, neu yn yr amrywiaeth eang o ymchwil a wnawn ar ganser. Credaf fod achos i'w gael dros alinio hynny'n well, gan roi ymdeimlad cliriach o gyfeiriad ar lefel genedlaethol, a dyna y bwriadwn ei wneud. Mewn gwirionedd, mae hynny'n cyd-fynd â gwaith sydd eisoes ar y gweill. Mae llawer o’r hyn sydd yn yr adroddiad yn adleisio ein dadansoddiad ein hunain dros y misoedd diwethaf o ddarpariaeth canser, a byddaf hefyd yn edrych ar y datganiad ansawdd ar gyfer canser i sicrhau ei fod yn gyfredol a bod y rolau a’r cyfrifoldebau a’n disgwyliadau fel Llywodraeth yn glir i bawb sydd yn y system.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n dda eich bod yn derbyn yr adroddiad. Byddai'n dda eich gweld yn nodi'r hyn y bwriadwch ei wneud ar yr argymhellion hynny, gan fod yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau difrifol sydd gennym gyda'r gweithlu yma yng Nghymru. Ar ôl 26 mlynedd o stiwardiaeth Llywodraeth Lafur Cymru dros GIG Cymru, yn enwedig mewn gwasanaethau canser, mae niferoedd y gweithlu wedi cynyddu 27 y cant, ond mae problemau cronig gyda recriwtio a chadw staff yn parhau ar draws y system. Mae'r ddibyniaeth gynyddol ar staff asiantaeth drud—sydd bellach yn 5.5 y cant o weithlu'r GIG, ac o ran cost, roedd hynny'n £325 miliwn yn 2022-23—yn arwydd clir o fethiannau wrth gynllunio'r gweithlu. Mae'r prinder staff yn golygu oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth canser, gan waethygu canlyniadau i gleifion. Er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro gan sefydliadau fel Cynghrair Canser Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi methu darparu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu. Fe sonioch chi am y datganiad canser, ond yr hyn sydd ei angen arnom yma yw strategaeth gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu mewn perthynas â'r mater hwn. Hoffwn wybod pam fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi caniatáu i’r argyfwng hwn waethygu flwyddyn ar ôl blwyddyn, a pha gamau y bwriadwch eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau trychinebus gyda recriwtio a chadw staff a rhoi diwedd ar yr orddibyniaeth wastraffus ar staff asiantaeth yn y GIG yng Nghymru, gan ei bod yn hen bryd inni gael trefn ar hynny i sicrhau bod ein cleifion yn cael y gofal canser amserol o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.

14:35

Wel, mae’r Aelod yn dechrau drwy ddweud wrthym faint yn fwy o recriwtio sydd wedi bod i wasanaethau canser—

—felly credaf ei bod yn bwysig cydnabod faint o recriwtio a wnaed i wasanaethau canser. Mae hynny’n bwysig. Nid yw’r Aelod yn gywir i ddweud nad yw’n gwneud unrhyw beth. Mae cynnydd sydyn wedi bod yn nifer yr atgyfeiriadau i lwybrau canser. Ac mae’n wir dweud nad Cymru yw’r unig wlad sy’n ei chael hi’n anodd recriwtio i rai agweddau ar wasanaethau canser. Mae radioleg yn heriol, ond mae llawer o ddisgyblaethau eraill yn heriol hefyd. Mae’n gwneud pwynt pwysig am y ddibyniaeth ar staff asiantaeth, ac rwy'n cytuno'n llwyr—mae honno’n sefyllfa anghynaliadwy i’r GIG fod ynddi. Rwy’n siŵr y bydd wedi gweld y canllawiau a roddais i'r GIG cyn y Nadolig yn y fframwaith cynllunio diweddaraf, a oedd yn nodi'n benodol y camau gweithredu rwy'n disgwyl i’r gwasanaeth eu cymryd ar sail 'mabwysiadu neu gyfiawnhau'. Ac mae nifer o'r rheini'n mynd at wraidd y pwynt y mae newydd ei wneud am leihau gwariant ar asiantaethau a rhoi sylfaen fwy sefydlog i gadw a recriwtio staff.

Mae dibyniaeth ar staff asiantaeth yn broblem. Mae llawer o’r staff asiantaeth hyn ar y rheng flaen, ac yn gwbl briodol, mae gan y cyhoedd a minnau, a phob Aelod yn y Siambr hon, rwy’n siŵr, y parch mwyaf tuag at staff rheng flaen y GIG. Ond mae dicter cynyddol ymhlith y cyhoedd ynghylch y nifer enfawr o reolwyr ar draws y GIG o gymharu â darparwyr gofal iechyd rheng flaen. Er bod niferoedd cyffredinol staff y GIG wedi codi o 72,000 i 91,000 rhwng 2014 a 2023, nid yw hynny'n mynd i'r afael â'r prinder clinigol o bobl ar y rheng flaen. Yn syfrdanol, mae nifer y staff gweinyddol ac ystadau wedi cynyddu 51.1 y cant yn ystod y cyfnod hwnnw, o 15,000 i dros 22,000 o staff amser llawn erbyn hyn. A hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl 26 mlynedd, sut y gall Llywodraeth Lafur Cymru gyfiawnhau'r cynnydd diangen mewn rolau gweinyddol tra bo cleifion yn wynebu oedi annerbyniol am driniaeth oherwydd diffyg staff rheng flaen? Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i flaenoriaethu ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rheng flaen a rhoi diwedd ar y cynnydd diatal yn rolau cyfarwyddwyr a rheolwyr a darparu'r GIG y mae cleifion Cymru yn ei haeddu ac yn talu amdano?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt hawdd, a phwynt poblyddol, ond y gwir amdani yw bod system gofal iechyd gymhleth angen pobl sy’n gymwys i redeg y system gofal iechyd, ac mae hynny’n sgìl—[Torri ar draws.]—ac mae hynny’n sgìl ynddo’i hun. Mae'r lefelau recriwtio i’r GIG dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod—[Torri ar draws.] A yw’r Aelod yn fodlon imi ateb ei gwestiwn?

Mae'r cwestiynau wedi'u gofyn; gadewch i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb, a gwrandewch ar yr ymateb, os gwelwch yn dda.

Mae cynnydd wedi bod o ran recriwtio i’r GIG ar draws pob disgyblaeth a phob rôl bwysig sy’n galluogi’r GIG i gael ei redeg yn effeithiol. Mae wedi cydnabod sawl gwaith yn ei gwestiwn hyd yma y cynnydd mawr a fu o ran recriwtio staff rheng flaen. Mae GIG Cymru, fel y GIG mewn rhannau eraill o’r DU, ac yn rhyngwladol yn wir, yn ei chael hi'n anodd llenwi rhai disgyblaethau mewn rhai rhannau o’r gwasanaeth, ac mae’n rhaid inni wneud yn well, ar y cyd, mewn perthynas â hynny. Ond credaf fod meddylfryd sy'n awgrymu y dylai rheolwyr a'r rheini sy'n rhedeg y GIG gael eu tynnu allan o'r system yn bersbectif naïf iawn.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ehangu ar gwestiynau James Evans ynglŷn ag adroddiad Archwilio Cymru ar wasanaethau canser yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o ganfyddiadau, fel y clywsom: diffyg eglurder ynghylch statws strategaethau cenedlaethol; yr angen i ddiffinio ac amlinellu rolau Llywodraeth Cymru a gweithrediaeth y GIG yn well o ran darparu arweinyddiaeth strategol; a bod ansawdd a dibynadwyedd data yn is na'r safon. Roedd gan bob un ohonynt dinc cyfarwydd, gan eu bod bron air am air yr un peth â’r materion a archwiliwyd yn adroddiad Plaid Cymru ar lywodraethiant y GIG, a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Tachwedd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ddigon caredig i sôn ychydig wythnosau’n ôl ei fod wedi darllen ein hadroddiad, felly, mae’n siŵr ei fod yn ymwybodol o’n hargymhellion i ddiwygio saernïaeth llywodraethiant y GIG. Felly, mewn ysbryd o ddangos drwy weithredoedd yn ogystal â geiriau nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da, a wnaiff ymrwymo i weithredu argymhellion ein hadroddiad?

Rwy'n cofio bod yr adroddiad wedi dilyn datganiad a wneuthum yn y Siambr ac araith a roddais i Gonffederasiwn y GIG, a gafodd ei adleisio'n helaeth yn yr adroddiad a gyhoeddodd Plaid Cymru bythefnos yn ddiweddarach. Ac roeddwn yn falch iawn o weld bod Plaid Cymru yn cytuno ynghylch y math o feddwl ffres y ceisiwn ei annog i'r heriau sy'n ein hwynebu—[Torri ar draws.] Gwelaf yr un peth yn y cynllun y mae Plaid Cymru wedi’i gyhoeddi ddoe mewn perthynas â mynd i’r afael â rhestrau aros: sefydlu canolfannau gofal a gynlluniwyd rhanbarthol, tic; gwasanaethau brysbennu, tic; gwreiddio cydweithio rhwng byrddau iechyd, tic; cynllunio rhestrau aros, tic; technoleg, tic. Hynny yw, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am adleisio'r ymyriadau yr ydym eisoes yn eu gwneud gyda'r GIG.

Y prif bwynt y mae'n ei wneud, serch hynny, yw bod angen ailgydbwyso'r berthynas honno ar draws y GIG. Mae'r canllawiau cynllunio, a roddais cyn y Nadolig, yn ein rhoi ar y llwybr tuag at wneud hynny. Mae’n nodi’n glir nifer llai o brif flaenoriaethau y disgwyliaf i’r GIG eu cyflawni ac ymyriadau a fydd yn eu cynorthwyo i wneud hynny. Rwy'n cydnabod, y tu hwnt i hynny, fod yna lefel o hyblygrwydd a lefel o ddisgresiwn a chrebwyll y mae byrddau iechyd yn y sefyllfa orau i allu ymgymryd â hwy i adlewyrchu anghenion eu poblogaeth leol. Ond rwy'n credu mai'r dull hwn o weithredu, sef cyfres o ddisgwyliadau clir, hyblygrwydd i'w cyflawni, a chanol sy'n gallu cefnogi ac ymyrryd pan na chaiff y rheini eu cyflawni, yw'r ffordd gywir ymlaen.

14:40

Gyda phob parch, mae hwnnw’n ymateb siomedig, gan ei bod yn ymddangos eich bod yn gwadu'r problemau o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae’r awgrymiadau a gyflwynwyd gennym mewn cyfres o adroddiadau yn rhai sydd wedi'u codi gan glinigwyr, yn dweud bod y rhain yn broblemau ar lawr gwlad a bod angen rhoi’r awgrymiadau hyn ar waith, felly yn amlwg, nid ydych yn eu rhoi ar waith os ydych chi'n dweud eich bod wedi eu gwneud yn barod.

Nawr, wrth gwrs, mae arosiadau hir wedi dod yn nodwedd o chwarter canrif Llafur yn rheoli'r gwasanaeth iechyd. Nid yw’r ffaith bod cyfraddau goroesi Cymru ar gyfer canser ymhlith y gwaethaf yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn peri fawr o syndod o ystyried nad yw bron hanner y cleifion canser yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt mewn pryd, gydag amseroedd aros hyd yn oed yn hwy ar gyfer cyflyrau fel canserau gynaecolegol.

Roedd targedau cynllun adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal a gynlluniwyd, a osodwyd gan y Prif Weinidog yn ei rôl flaenorol wrth gwrs, yn cynnwys uchelgais i sicrhau bod 80 y cant o’r holl gleifion canser yn cael triniaeth o fewn y cyfnod o 62 diwrnod a argymhellir yn glinigol erbyn 2026. A all Ysgrifennydd y Cabinet warantu, yn wahanol i’r targedau eraill yn y cynllun, y bydd hwn o leiaf yn cael ei gyrraedd?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cwestiwn ynglŷn â phwysigrwydd gosod targedau ar gyfer y system i alluogi’r system i sicrhau’r canlyniadau yr ydym yn eu disgwyl ac y mae pobl Cymru yn eu disgwyl. Felly, rwy’n siŵr y bydd wedi gweld, yn y fframwaith cynllunio a gyhoeddais cyn y Nadolig, y targed o 80 y cant erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf a osodwyd gennyf mewn perthynas â pherfformiad canser. Fel rydym eisoes wedi'i drafod, mae lefel resymol o amrywioldeb ledled Cymru mewn perthynas â chyrraedd targedau canser. Felly, er enghraifft, canser y fron ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, canser yr ysgyfaint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro—mae'r rhain yn wasanaethau sy'n perfformio'n dda ac sy'n cyrraedd eu targedau. Ac mae rhai mathau o ganser—felly, canser y croen, canser y gwaed—lle mae'r perfformiad ar draws y system yn dda iawn. Ond nid yw'r perfformiad cyffredinol yn ddigonol.

Y wers a gymerais o adroddiad yr archwilydd cyffredinol, a oedd yn adeiladol yn fy marn i, oedd yr angen i edrych eto ar yr ystod o ymyriadau sydd gennym—y datganiad ansawdd, y cynllun gwella canser, y rhaglen gymorth—i sicrhau eu bod oll wedi'u halinio, wedi'u rheoli â phwrpas, a bod hynny'n gallu rhoi'r cyfeiriad sydd ei angen ar y system. Ond mae angen arloesi hefyd wrth ddarparu gwasanaethau ar lawr gwlad. Felly, fe fydd yn gwybod ein bod wedi cynyddu'r gallu i anfon cleifion yn syth i gael prawf heb orfod ceisio apwyntiad fel claf allanol yn gyntaf. Gwyddom y bydd y mathau hynny o fentrau'n gallu ein helpu i gyflymu taith cleifion ar eu llwybr i gael y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol. Mae’r rhan fwyaf o gleifion canser yng Nghymru yn cael eu gweld o fewn y targed 62 diwrnod, ond nid ydym yn cyrraedd y targed, ac mae’n rhaid inni wneud hynny.

Ymhell islaw—ymhell islaw'r targed. Nawr, fel y soniais yn fy nghwestiwn cyntaf, mae'n gwbl amlwg fod casglu a chyhoeddi data mewn modd amserol yn hanfodol i wasanaeth iechyd sy'n gweithredu'n dda, yn enwedig at ddibenion effeithlonrwydd wrth gynllunio'r gweithlu a dyrannu adnoddau. Ond dro ar ôl tro, rydym yn clywed yr un mater yn cael ei godi gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol: nid yw ansawdd a hygyrchedd data iechyd yng Nghymru yn ddigon da. Bûm yn siarad â phobl sy’n gweithio ym maes canserau llai goroesadwy dros ginio, a chododd y mater hwn unwaith eto.

Mae cofrestrfa canser Cymru i fod i ddarparu data amserol ar nifer yr achosion o ganser er mwyn caniatáu i Gymru gyfrannu at astudiaethau canser cenedlaethol a rhyngwladol, ond nid yw wedi cyhoeddi data canser wedi'i ddilysu ers 2021. Yn gywilyddus, mae hyn yn golygu na all Cymru gymryd rhan lawn mewn archwiliadau canser cenedlaethol hanfodol, fel yr archwiliad cenedlaethol o ganser yr ysgyfaint, neu mewn astudiaethau byd-eang, fel y bartneriaeth ryngwladol ar gyfer meincnodi canser. Mae hefyd yn golygu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i rwystro’n sylfaenol yn ei allu i ragamcanu’r galw am wasanaethau canser yn y dyfodol. Pryd y gwnewch chi unioni'r bwlch mawr hwn yn y data drwy gyhoeddi data am niferoedd achosion o ganser hyd at ddiwedd 2024?

14:45

Wel, credaf ei fod yn gwneud pwynt pwysig am bwysigrwydd data a data dibynadwy ym mhob rhan o’r gwasanaeth iechyd. Buaswn yn mynd gam ymhellach: buaswn yn dweud bod argaeledd data'n hollbwysig. Fy marn i am ddata ar draws y system yw nad argaeledd data ei hun yw ein prif her. Y brif her yw gallu defnyddio’r data hwnnw mewn ffordd sydd mor bwrpasol ag y gall fod. Credaf fod honno’n her i wasanaethau iechyd ym mhobman, gyda llaw, ond mae’n sicr yn un y buaswn yn ei chydnabod yma.

Felly, o ran data canser yn benodol, sef testun ei gwestiwn, rydym wedi gwella'r data sydd ar gael i'r cyhoedd, ac rydym yn cyhoeddi'n fisol oddeutu 18 tudalen o ystadegau triniaethau canser fel y gellir craffu arnynt. Hoffem wella tryloywder ymhellach drwy edrych ar ychwanegu data ar lefel is-deip, felly data mwy manwl nag y gallwn ei ddarparu ar hyn o bryd, ac mae gwaith ar y gweill i'n cynorthwyo i gyrraedd y pwynt hwnnw, ac mae hynny'n rhan o set ehangach o lawer o gamau gweithredu ar wella data canser yn gyffredinol.

Cefnogaeth i Bobl Awtistig

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl awtistig? OQ62113

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaethau hygyrch a chymorth effeithiol i bobl awtistig a’u teuluoedd. Drwy’r rhaglen gwella niwrowahaniaeth a’r tîm niwrowahaniaeth cenedlaethol, rydym yn parhau i ddarparu cymorth ac ysgogi gwelliannau i wella canlyniadau, gan rymuso unigolion awtistig i ffynnu ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Rwyf newydd gael datganiad barn Llyr Gruffydd ar hyn, ac rwy'n annog yr Aelodau i’w lofnodi, ac yn ddiweddar, cynorthwyais etholwr a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth cyn y Nadolig. Mae’n teimlo bod ei system atgyfeirio cyflyrau sbectrwm awtistiaeth yn yr ysgol wedi gohirio ei hasesiad gyda’r bwrdd iechyd lleol, a arweiniodd ati'n mynd yn sâl iawn, ac mae’n pryderu y gallai hyn fod yn digwydd mewn mannau eraill, ac rwyf wedi gweld tystiolaeth yn fy ngwaith achos. Mae angen i’r adolygiad o anghenion dysgu ychwanegol ystyried y ffaith bod yn rhaid i ysgolion fynd drwy awdurdodau lleol er mwyn cysylltu â byrddau iechyd, ac mae honno’n system gylchol sy’n creu oedi mawr yng ngallu ysgolion i gysylltu â’r bwrdd iechyd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen i fyrddau iechyd lleol fod yn rhan o unrhyw adolygiad o sut y mae atgyfeiriadau cyflyrau sbectrwm awtistig yn digwydd o fewn ysgolion? Ac a wnaiff weithio gyda'i gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i sicrhau bod hyn yn digwydd yng nghyd-destun yr adolygiad ehangach o ADY?

Diolch i Hefin David am ei gwestiwn atodol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r adolygiad deddfwriaethol o ADY, y mae fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn bwrw ymlaen ag ef, yn canolbwyntio’n bennaf ar eglurder a hygyrchedd y fframwaith deddfwriaethol ei hun a chasglu tystiolaeth ar rai o’r heriau ymarferol ar gyfer hynny. Mae’n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r berthynas rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Fel rhan o’r rhaglen gwella niwrowahaniaeth, fe wnaethom gynnal digwyddiad ym mis Tachwedd y llynedd, a oedd wedi’i anelu at wella gwasanaethau niwrowahaniaeth i blant, gan greu dull integredig, i gynnwys yr holl bartneriaid a phartneriaid addysg. Ac roedd yn amlwg o’r trafodaethau yno pa mor bwysig yw hi, wrth inni ailgynllunio’r system, i sicrhau bod pob rhan o’r system, pob rhan o wasanaethau cyhoeddus, yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda’i gilydd yn y ffordd y gallant gefnogi teuluoedd. Rhan bwysig o’r gwaith hwnnw a’r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud i wella gwasanaethau yw sicrhau bod staff mewn ysgolion yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol a’r set sgiliau sydd ei hangen arnynt i allu cefnogi plant a allai fod yn niwroamrywiol, a gwneud atgyfeiriadau amserol at asesiadau pan fo angen.

Diolch am godi’r cwestiwn pwysig ac amserol hwn yma yn y Siambr heddiw, Hefin David. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch chi'n ymwybodol fod adroddiadau diweddar wedi dangos, erbyn 2027, y gallai nifer y plant a fydd yn ceisio asesiadau awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd dreblu i oddeutu 61,000. Nawr, rydym eisoes yn gwybod, fel yr amlinellodd Hefin David, am y pwysau sydd ar y gwasanaethau asesu hynny, ac yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, rwy'n ymwybodol fod plant bellach yn gorfod aros hyd at bum mlynedd am yr asesiad hwnnw. Ym mywyd plentyn, mae pum mlynedd yn gyfnod hirfaith. Mae hynny'n amlwg yn cael effaith ar eu cyrhaeddiad addysgol a'r gwasanaethau priodol i'w cefnogi drwy eu plentyndod. Tybed a allech chi amlinellu’n fyr pam y credwch chi, mewn lle fel gogledd Cymru, fod plant yn gorfod aros cyhyd, a pham y credwch nad yw’r pwysau ar asesiadau'n cael ei ddiwallu ar hyn o bryd. Gwn fod cronfa ychwanegol o £3 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn, ac a ydych chi'n credu bod hynny'n ddigon i leddfu'r pwysau ychwanegol hwn y mae'r gwasanaeth yn ei wynebu?

14:50

Diolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn. Credaf mai ffynhonnell y wybodaeth y cyfeiria ati oedd y dystiolaeth a roddodd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Y pwynt a wnaeth yn dryloyw ac yn agored iawn yn y drafodaeth honno oedd mai dyna lle rydym yn debygol o fynd oni bai ein bod yn cymryd camau i ad-drefnu gwasanaethau. Felly, nid yw'n anochel ac nid ydym am ei weld yn digwydd.

Yr ateb uniongyrchol i'w gwestiwn yw nad wyf yn credu bod yr ymyriad o £3 miliwn i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hiraf yn ddigon ynddo'i hun, ond nid ydym erioed wedi dweud ei fod. Credwn mai’r angen i roi’r gwasanaeth ar sylfaen wahanol yn y tymor hwy yw’r ateb i allu gweld pobl yn gyflymach. Felly, yn ogystal â’r cyllid ychwanegol ar gyfer yr amseroedd aros hiraf rhwng nawr a diwedd mis Mawrth—ac mae pob rhan o Gymru wedi elwa ohono, gan gynnwys y gogledd—ad-drefnu’r gwasanaeth drwy’r rhaglen wella yw’r ateb tymor hwy. Felly, mae’r pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach i Hefin David am y digwyddiad ailgynllunio a gawsom ym mis Tachwedd yn rhan o hynny. Daeth â rhanddeiliaid i mewn—mwy na 100 o randdeiliaid, rwy'n credu—i edrych ar sut y gallwn ad-drefnu gwasanaethau fel nad ydym yn y sefyllfa yr oedd Sarah Murphy yn dweud y byddem ynddi fel arall.

Hoffwn dynnu sylw at waith gwych elusen yn Llai, Your Space, sy'n helpu nifer o deuluoedd niwrowahanol. Maent yn darparu cefnogaeth i 165 o bobl ifanc ac allgymorth i 140 o rieni. Mae rhywfaint o orgyffwrdd hefyd, ond mae rhestr aros o 70 o bobl ifanc a 45 o deuluoedd allgymorth. Mae eu rhent wedi'i dreblu gan yr awdurdod lleol eleni ac maent mewn perygl o orfod cau, er gwaethaf atgyfeiriadau gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd at yr elusen wych hon. Felly, hoffwn ofyn—. Mae'r rhain hefyd yn bobl nad ydynt hyd yn oed ar y rhestr aros, efallai, ond maent wedi gwneud diagnosis eu hunain fod angen cymorth arnynt. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi sefydliadau trydydd sector fel Your Space fel eu bod yn parhau â’r gwaith pwysig a wnânt?

Diolch i Carolyn Thomas am hynny, ac mae'n gwneud pwynt pwysig am yr amrywiaeth o ddarparwyr sy’n gwneud cyfraniad gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ac eraill o safbwynt gwasanaethau niwrowahaniaeth yn fwy cyffredinol. Ac rwy’n llwyr gydnabod bod nifer yn wynebu pwysau am ystod o wahanol resymau. Drwy’r cynllun grant ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, y mae fy nghyd-Aelod Dawn Bowden yn gyfrifol amdano, rydym yn darparu cymorth i amrywiaeth o sefydliadau. Nid wyf yn siŵr a allaf ddweud wrthi fod y sefydliad y mae wedi’i grybwyll yn un ohonynt—nid yw'r wybodaeth honno gennyf—ond mae amrywiaeth o sefydliadau'n elwa o'r grant hwnnw, ac mae wedi’i gynllunio’n benodol i alluogi iddynt fod yn gynaliadwy, o ystyried y math o wasanaeth y maent yn ei ddarparu a chymaint rydym ni a phobl ifanc yn dibynnu arnynt.

Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc? OQ62095

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni ymgynghori ar fersiwn ddrafft o’n strategaeth iechyd meddwl a lles i bob oed, sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar ac iechyd meddwl pobl ifanc drwy atal ac ymyrryd yn gynnar. Fe fyddwn ni’n cyhoeddi’r strategaeth yn y gwanwyn.

Diolch yn fawr. Mae pobl ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n ystyried hunanladdiad, ac i bobl ifanc yn y gymuned LHDTC+, mae'r ystadegau'n frawychus. Mae ffigurau gan y Trevor Project yn awgrymu bod bron i 60 y cant o bobl LHDTC+ yn neu wedi ystyried hunanladdiad o ddifrif. Yn ddiweddar, ymwelais â Cwnsela Cynnydd Cymru, sydd wedi’i leoli yn Abertawe, ac sydd wedi darparu cymorth i bobl ifanc yn y gymuned LHDTC+ a’u teuluoedd ers 20 mlynedd, a chafodd y sylfaenydd, Debbie Lane, ei chydnabod am ei gwasanaethau i iechyd meddwl pobl ifanc yn y gymuned ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd. Dyma sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid yn unig nad ydynt erioed wedi colli unrhyw un y maent wedi'u cefnogi, ond o'r atgyfeiriadau a wnaed iddynt, nid oes yr un ohonynt erioed wedi gorfod cael eu hailgyfeirio yn ôl i'r GIG, ac maent yn wasanaeth ataliol wrth gwrs. Mae cyfrifiadau gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn dangos bod eu henillion cymdeithasol ar fuddsoddiad dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf yn fwy na £1.5 miliwn y flwyddyn, ac o hyn, roedd y buddion osgoi costau uniongyrchol i’r Llywodraeth yn fwy na £1 filiwn y flwyddyn. Ond gallai’r holl waith da hwn ddod i ben cyn bo hir gan y bydd yn rhaid i’r sefydliad hwn gau ym mis Ebrill oherwydd diffyg cyllid. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ yn ymrwymo i sicrhau bod anghenion iechyd meddwl y gymuned hon yn cael eu cefnogi. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gyfarfod â Cwnsela Cynnydd Cymru i glywed am yr heriau y maent yn eu hwynebu, ac a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i sicrhau nad yw gwasanaeth gwirioneddol hanfodol fel hwn yn cael ei golli?

14:55

Rwy’n ddiolchgar iawn i Sioned Williams am godi hyn yn y Siambr. Rwy’n llwyr gydnabod y pwynt y mae’n ei wneud am heriau iechyd meddwl, ond mae hunanladdiad yn her benodol i unigolion ifanc LHDTC+. Ac fel y cydnabu yn ei chwestiwn, mae’n rhan hollbwysig o’n cynllun gweithredu i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn y gymuned honno yn arbennig. Mae atal hunanladdiad yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth, fel y credaf iddi ei gydnabod yn ei chwestiwn, ac mae’r cyllid a ddarparwyd gennym, ar sail ataliol, wedi cynyddu’n go sylweddol. Mae hynny wedi ein helpu i gryfhau’r seilwaith yng Nghymru, er gwaethaf y pwynt pwysig yr oedd yr Aelod yn ei wneud. Credaf fod hynny wedi ein galluogi i gryfhau’r seilwaith o amgylch atal hunanladdiad a hunan-niwed, naill ai drwy’r cydgysylltwyr rhanbarthol, ynghyd â’r gweithredu cenedlaethol drwy’r tîm atal hunanladdiad a hunan-niwed cenedlaethol. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r sefydliad y mae'n cyfeirio ato, i glywed ganddynt am yr heriau y maent yn eu hwynebu a'r cyfraniad y maent yn amlwg, o'i chwestiwn, yn ei wneud i bobl ifanc.

Nid yw cyflyrau niwroamrywiol, gan gynnwys awtistiaeth, yn gyflyrau iechyd meddwl; maent yn gyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes sy'n ffurfio sut y mae pobl yn gweld y byd a sut y maent yn cysylltu ag eraill. Mae llawer o bobl awtistig yn cael pyliau o chwalfa pan fyddant wedi'u gorlethu, ac mae eu cyflwr yn golygu ei bod yn anodd mynegi hynny mewn ffordd arall. Nid yw'r un peth â stranc wrth golli tymer, ac nid yw'n ymddygiad drwg neu wael. O dan yr amgylchiadau hyn, fodd bynnag, mae pobl ifanc awtistig yn parhau i gael eu gwahardd o ysgolion Cymru yn anghyfreithlon, ac mae eu rhieni'n parhau i gael eu beio ac yn destun gweithdrefnau amddiffyn plant. Mae'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Lloegr bellach wedi cyhoeddi adroddiad ar awtistiaeth a beio rhieni, sy’n nodi bod 90 y cant o rieni wedi dweud na chafodd eu plentyn y cymorth cywir o ganlyniad i feio'u rhieni, a dywedodd dros 70 y cant o'r rhieni hynny fod iechyd meddwl eu plentyn wedi gwaethygu, gydag un o bob pedwar rhiant yn nodi risg uchel o hunanladdiad ar gyfer eu plentyn. Felly, yn lle parhau i daflu arian a chyfrifoldeb at y cyflawnwyr yn y sector cyhoeddus sy’n parhau i fod yn gyfrifol am hyn yng Nghymru, pryd, os o gwbl, y gwnewch chi gymryd camau o’r diwedd i roi diwedd ar yr arfer hirsefydlog hwn o dorri hawliau dynol?

Wel, rwy'n ategu rhan gyntaf cwestiwn yr Aelod wrth nodi’r pryderon. Nid wyf wedi cael cyfle eto i ddarllen yr adroddiad y cyfeiria ato, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny ac i drafod ei gynnwys gyda fy nghyd-Aelod o'r Cabinet Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a fydd â diddordeb yn y maes hwn hefyd.

Nid wyf yn derbyn honiad yr Aelod yn ail hanner ei gwestiwn. Mae’n faes heriol, ac yn fy mhrofiad i, mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yn ceisio gwneud eu gorau dros bobl ifanc, beth bynnag y bo’u hanghenion. Mae’n amlwg fod mwy o le i hyfforddiant, mae'n amlwg fod mwy o le i godi ymwybyddiaeth a chymorth arall, ac ar ôl cael y fantais o ddarllen yr adroddiad hwnnw, efallai y gallwn fyfyrio ymhellach ar beth arall y gallwn ei wneud.

Cydweithio rhwng Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol? OQ62119

Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol a’r buddsoddiad o £0.25 biliwn ynddynt yn cefnogi cydweithredu ac integreiddio rhwng partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwaith y pwyllgor gweithredu gofal, a gefnogwyd gan £19 miliwn ychwanegol y gaeaf hwn, wedi rhoi cefnogaeth bellach i ddulliau cydweithredol o wella systemau, ac yn hollbwysig, yn sicrhau canlyniadau gwell i bobl.

Diolch am eich ateb. Mae'r gronfa gofal integredig wedi bod yn bwysig iawn wrth ddarparu gofal cam-i-fyny, cam-i-lawr, gan wella'r llif gyda chyfleusterau gofal gwell, sy'n dangos gwaith partneriaeth da. Rwy'n credu bod Cyngor Sir Ddinbych wedi dyrannu arian ar gyfer hynny i helpu, gobeithio, gyda'r gwaith o adeiladu Ysbyty Brenhinol Alexandra, y gwelliannau, gyda chyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Clywsom yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai nad yw’r cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff wedi cael cyllid ychwanegol ers tair blynedd gan y byrddau iechyd, a cheir cynlluniau eraill sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol. Ond gan fod brwydr bob amser dros y cyllidebau hyn gan y byrddau iechyd, rhwng byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol, sut y gallwn wella'r cydweithio rhyngddynt a gwella'r llif, a sicrhau bod yr arian yn dilyn yr unigolyn.

15:00

Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Un o'r rolau pwysig y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gyfrifol am ei chyflawni yw sicrhau cydweithio dyfnach a defnyddio'r cyllid mewn amrywiaeth o ffyrdd—rydym yn darparu ystod o ffrydiau ariannu gwahanol—a'u bod yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n chwalu'r rhwystrau rhwng darparu gofal a darparu gofal iechyd.

Hoffwn ddweud—ac rwy'n credu mai dyma'r profiad a gefais i a'r Gweinidog gofal cymdeithasol yn ystod yr wythnosau diwethaf—wrth inni gynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf, ac wrth inni ffocysu'r system ar y pethau mwyaf effeithiol y gall byrddau iechyd ac awdurdodau lleol eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau'n ddiogel ac yn gyflym o'r ysbyty i leoliadau gofal neu i gael eu cefnogi gartref, rwy'n credu mewn gwirionedd fod y ffyrdd o weithio a'r cydweithio wedi gwella, a buaswn i'n dweud bod hynny wedi bod yn wir ym mhob rhan o Gymru. Yn amlwg, mae gan wahanol ranbarthau bethau i'w dysgu oddi wrth ei gilydd, felly mae gan rai gryfderau mewn meysydd gwahanol i eraill, ond rwy'n credu bod pob rhan o Gymru wedi gweld dyfnhau'r cydweithio hwnnw.

Rwy'n bwriadu gwneud datganiad yn fuan mewn perthynas â chanlyniad yr her 50 diwrnod, fel y'i galwem, ac rwy'n credu y byddwch yn gallu gweld manteision cadarnhaol hynny wedyn. Rwyf am fod yn glir, nid tasg i'w gorffen yw hi: 50 diwrnod yw'r amserlen ar gyfer rhoi'r pethau hynny ar waith. Bydd manteision y ffordd gydweithredol honno o weithio yn cael eu gweld ymhell i'r dyfodol hefyd, gobeithio.

Wel, onid yw'n eironig braidd fod y Blaid Lafur, ar ôl 26 mlynedd fel Llywodraeth yng Nghymru, yn sydyn yn gosod eu hunain fel datryswyr i'w problemau eu hunain? Y gwir amdani yw eich bod wedi methu cyflawni uchelgeisiau o'r fath dros y blynyddoedd: fe fethoch chi ddarparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl dros ddegawd ar ôl ei addo ac fe dynnoch chi fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig cyn etholiadau diwethaf y Senedd yn 2021 i achub eich croen gwleidyddol. Byddai'n gwbl deg i'r cyhoedd a fy etholwyr ofyn beth yw'r tric nesaf sydd gennych yn yr arfaeth dros y 12 mis nesaf fel ymgais anobeithiol i achub eich croen.

Rwy'n gwybod bod yr Aelod dros Ogledd Cymru wedi bod yn dawel ar fater ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych ers dros dair blynedd oherwydd methiant eich plaid, ond yn gyfleus, ar ôl eich llwyddiant yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, mae wedi dechrau siarad am y mater i wneud i'ch plaid ddechrau edrych yn dda cyn etholiad nesaf y Senedd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fy nghwestiwn i yw: a ydych chi o ddifrif eisiau cyflawni prosiectau mor hanfodol i fy etholwyr, neu a ydych chi'n eu gweld fel gwystlon gwleidyddol mewn ymgais i'ch cadw chi mewn grym ar ôl 2026, er gwaethaf eich hanes cynyddol o fethiant y gwnewch chi unrhyw beth a phopeth i beidio â chael eich dal yn atebol amdano?

Fe wnaethoch fy nal ar y droed ôl yno, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n tybio eich bod wedi dal cryn dipyn o bobl ar y droed ôl. 

Cwestiwn 6, Cefin Campbell.

Gwasanaethau Strôc

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau strôc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62117

Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ledled Cymru i wella mynediad teg at wasanaethau strôc a chanlyniadau i bobl ar ôl strôc. Mae’r disgwyliadau yn ein datganiad ansawdd strôc yn llywio'r gwaith hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn deall pa mor bwysig yw hi i bobl gael triniaeth ar gyfer strôc mor agos â phosibl at ble maent yn byw. Mae hyn yn cynnwys triniaeth frys sy'n achub bywydau yn ogystal ag adsefydlu dwys ar ôl strôc. Fe fyddwch chi'n ymwybodol hefyd, rwy'n siŵr, fod llawer iawn o bryder ynghylch cynigion i israddio unedau strôc yn ysbytai Bronglais a Glangwili, ac i droi'r rhain yn unedau trin a throsglwyddo. Efallai eich bod yn gwybod bod cyfarfod cyhoeddus wedi cael ei alw ar gyfer y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn i drafod y cynlluniau ar gyfer Bronglais yn enwedig.

So, gan ystyried beth mae Russell George wedi'i ddweud wrthym ni'n barod y prynhawn yma, mae yna bryder reit ar draws ardal Powys a Gwynedd ynglŷn â’r cynlluniau neu’r argymhellion yma, yn sicr, yn arbennig yr amser, rhyw ddwy awr, efallai, y bydd hi’n cymryd i bobl gael y driniaeth gynhwysfawr yma sydd ei hangen ar gyfer strôcs. Mae hyn, wrth gwrs, ar gefn yr israddio sydd wedi digwydd eisoes yn Ysbyty Bronglais o safbwynt gwasanaethau pediatrig. Felly, mae ymgyrchwyr wedi blino ar glywed rhagor o ganoli ar wasanaethau a thynnu gwasanaethau wrth ysbytai gwledig. Felly, ydych chi’n gallu rhoi sicrwydd heddiw fod gwasanaethau strôc cyflawn yn mynd i gael eu cadw yn Ysbyty Bronglais a Glangwili?

15:05

Fel rwy'n deall y sefyllfa, dyw’r bwrdd iechyd ddim wedi cymryd unrhyw benderfyniad ynghylch hwn o gwbl, a bydd ymgynghoriad cyn y bydd unrhyw newid yn digwydd i wasanaethau strôc. Fel mae'r Aelod yn gwybod, mae'r consensws meddygol, am gyfnod hir iawn, wedi bod dweud bod angen sicrhau bod yr elfennau hyper-acíwt, o ran cefnogi pobl sy'n dioddef o strôc, yn digwydd ar lefel ranbarthol oherwydd dyna’r ffordd lle mae'r arbenigedd yn gallu bod ar gael i sicrhau’r gwasanaeth gorau posib i unigolion. Ond fel mae e’n dweud, mae'n bwysig hefyd bod gwasanaethau strôc ar gael mewn ysbytai’n gyffredinol. Fel rwy'n deall, yr hyn sydd gan y bwrdd iechyd mewn golwg yw y bydd gwasanaethau strôc yn digwydd ymhob ysbyty, ond yr elfen hyper-acíwt sydd o dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Ond bydd cyfle i gael ymgynghoriad pellach ar hyn pan fydd y penderfyniad yn dod yn agosach, os hoffwch chi.

Unwaith eto, rwyf innau hefyd am bwysleisio'r pryder a'r gofid, mae'n deg dweud, am y cynigion, yn enwedig ar gyfer Bronglais. Rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud, nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud, ond nid yw hynny ar hyn o bryd yn lleddfu'r pryder sy'n bodoli yn y gymuned honno.

Rydych chi'n iawn i ddweud bod y clinigwyr yn nodi'n eithaf clir fod angen diwallu'r anghenion acíwt mewn man lle mae'r profiad a'r arbenigedd hwnnw'n bodoli. Ond mae yna ddatganiad hefyd yn rhoi sicrwydd i bobl, a chynigion yn unig yw'r rhain ar hyn o bryd, y bydd y safleoedd hynny'n dal i allu darparu'r thrombolysis sy'n achub bywydau sydd ei angen ar bobl—yr 'awr aur' mewn geiriau eraill—ar gyfer chwalu clotiau, nad yw'n briodol ym mhob achos wrth gwrs.

Felly, i symud ymlaen a cheisio lleddfu'r pryder hwnnw, rwy'n awyddus i wybod pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda'r bwrdd iechyd, os o gwbl, am y gofal ôl-strôc a fydd yn gorfod digwydd. Oherwydd nid rhywbeth sy'n digwydd, pobl yn cael eu trin cyn cael eu hanfon adref yw strôc, mae yna lawer iawn o anghenion gofal cymdeithasol ac anghenion gofal cymunedol ar ôl strôc, a dyma sydd ei angen fwyaf yn y tymor hir yn ôl pob tebyg. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r pryder, o'r holl wybodaeth rwy'n ei chael drwy fy e-byst.

Wel, diolch i Joyce Watson am hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod pobl yn ddealladwy yn bryderus yng nghyd-destun newidiadau posibl i wasanaethau strôc. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod—. Rwyf bob amser wedi meddwl bod tri dimensiwn iddo. Nid wyf yn siarad fel clinigwr, ond un elfen yw'r ymgyflwyniad yn lleoliad yr ysbyty a'r angen i weithredu ar unwaith, wedyn cyfnod acíwt efallai, ac yna, fel y mae hi'n ei ddweud, y mynediad at gymorth adferiad ac adsefydlu parhaus.

Fel hithau, yr hyn rwy'n ei ddeall yw y bydd Bronglais yn dal i allu darparu thrombolysis yn y ffordd yr oedd hi'n ei ddweud yn ei chwestiwn. A fy nealltwriaeth i o'r hyn sydd dan ystyriaeth o leiaf yw y bydd adferiad ac adsefydlu parhaus yn dal i allu digwydd yn agosach at adref, sef yr hyn y mae pobl eisiau ei weld. Ond rwyf am ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach. Yn amlwg, rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd ymgynghori, fel rwy'n disgwyl ei weld yn digwydd yma, a hefyd i weithredu'n gydweithredol yn y ffordd honno, gan weithio gyda phobl fel y Gymdeithas Strôc, ac ymgysylltu â phrofiad bywyd y rhai sydd wedi cael strôc, fel bod penderfyniadau, a all fod yn sensitif, yn cael eu gwneud yn wybodus a chan roi ystyriaeth lawn i'r ystod o leisiau.

15:10
Contractau Newydd Meddygon Teulu

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith contractau newydd meddygon teulu ar ofal cleifion? OQ62112

Fe wnaethom gyflwyno deddfwriaeth yn 2023 i fod yn sail i gontract unedig newydd ar gyfer meddygon teulu, sef y newid mwyaf i gontractau meddygon teulu ers 2004. Mae'r contract newydd yn nodi'n glir pa wasanaethau y mae'n rhaid i bob meddyg teulu yng Nghymru eu darparu, i gefnogi gofal gwell. Mae gwreiddio'r contract newydd hwn yn cymryd amser, ond mae proses sicrwydd cenedlaethol gadarn ar waith i gynorthwyo byrddau iechyd i asesu'r ddarpariaeth.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno yn y fan hon pa mor hollbwysig yw ein meddygfeydd a'n meddygon teulu i'n holl etholwyr, ac rwy'n meddwl bod pawb o'r farn y dylid eu cefnogi a'u cydnabod yn briodol. Serch hynny, roedd yn destun pryder fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi gwrthod cynnig contract meddygon teulu Cymru 2024-25 gan Lywodraeth Cymru a hynny i'r fath raddau, gyda dim ond 1.3 y cant yn pleidleisio o blaid derbyn a 98.7 yn pleidleisio dros wrthod. Rhaid bod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn myfyrio yn ei gylch.

Fe wyddom fod ein meddygfeydd meddygon teulu dan bwysau aruthrol yng Nghymru, gyda chadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud bod arolwg diweddar o'u haelodau yn dangos bod 91 y cant o feddygon teulu yn rheolaidd yn methu ateb galw cleifion oherwydd llwyth gwaith anghynaliadwy o uchel. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn felly pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod ein meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n briodol, er mwyn sicrhau bod pob un o'n hetholwyr yn gallu cael y cymorth a'r gofal meddygol sydd eu hangen arnynt, oherwydd ar hyn o bryd, nid yw'n teimlo fel pe baent i gyd yn eu cael?

Yn amlwg, mae meddygon teulu'n darparu gwasanaeth cwbl sylfaenol i bobl yng Nghymru a hwy yw profiad y rhan fwyaf o bobl o'r GIG am y rhan fwyaf o'u bywydau. Ac ers imi ddod i'r swydd, rwyf wedi cyfarfod â nifer o feddygon teulu i siarad am brofiad ymarfer cyffredinol a'r pwysau sy'n gallu codi mewn cyd-destunau gwahanol. Cyfarfûm â chadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain cyn y Nadolig i drafod y mathau o bethau yr oedd yr Aelod yn cyfeirio atynt yn ei gwestiwn.

Edrychwch, rwy'n cydnabod cryfder y teimlad yn sgil refferendwm BMA Cymru yn llwyr. Yr hyn a ddywedais ar y pryd, ac rwy'n parhau'n ymrwymedig iddo, yw fy mod wedi ymrwymo i barhau i drafod gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, fel y gallwn sicrhau y gallwn wireddu'r uchelgais hirsefydlog o symud mwy a mwy tuag at ofal sylfaenol, i wneud y gwasanaeth hyd yn oed yn fwy cynaliadwy a sefydlog i'r dyfodol, gan ddarparu ystod o wasanaethau y tu allan i leoliad eilaidd, sef yr hyn y mae'r cyhoedd ei eisiau, yr hyn y gwyddom fod meddygon teulu ei eisiau, a'r hyn y gwyddom yw'r ffordd fwyaf effeithiol o'i wneud. Felly, roedd y cynnig a wnaethom i feddygon teulu yn bodloni argymhelliad y corff adolygu cyflogau annibynnol, sef cynnydd o 6 y cant. Felly, roedd yn bodloni'r argymhelliad a byddai hefyd wedi gweld codiad cyflog i holl aelodau tîm y practis, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'r trafodaethau a gawn gyda chynrychiolwyr meddygon teulu i sicrhau bod gennym sector sefydlog ar gyfer y dyfodol.

Gwasanaethau Fasgwlar yng Ngogledd Cymru

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i anfon yr holl waith ymlediad aortig allan o ogledd Cymru, a beth yw'r cynllun tymor hir ar gyfer adfer gwasanaethau fasgwlar llawn a diogel yn y gogledd? OQ62096

Rwyf wedi cael sicrwydd bod gwasanaethau fasgwlaidd yn ddiogel yn y gogledd. Mae cytundeb clinigol ar waith ar gyfer cynnal llawdriniaethau aortig agored dewisol a brys yn Stoke. Mae llawdriniaeth endofasgwlaidd i gyweirio anewrysm a llawdriniaethau eraill yn cael eu rhoi yn lleol. Bydd y bwrdd nawr yn ystyried y model tymor hirach erbyn diwedd mis Mawrth.

Canol mis Tachwedd oedd hi pan ddaeth y newyddion annisgwyl fod y bwrdd iechyd wedi gohirio triniaethau anewrysm aortig yn yr abdomen yn y gogledd, ac wrth gwrs dyma'r datblygiad diweddaraf pryderus am wasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd. Felly, pryd fydd y triniaethau penodol yma yn cael eu hadfer yn y gogledd, neu ai’r bwriad, yn y pen draw, yw i beidio â dod â nhw nôl ac i redeg y gwasanaeth i lawr yn barhaol? Rydych chi'n sôn am adolygiad yn digwydd erbyn mis Mawrth, ond ai'r bwriad ydy peidio â dod â nhw nôl? Mae angen bod yn gwbl dryloyw ynglŷn â hyn. Achos mi fuasai peidio ag adfer y triniaethau yma efo goblygiadau difrifol iawn i gleifion yn fy etholaeth i yn Arfon ac ar draws y gogledd, ac yn benodol ar gyfer hyfforddiant meddygol yn y gogledd hefyd. O ran y pwynt olaf yna, hyfforddiant, ydych chi'n cytuno y byddai peidio â chynnal yr ystod lawn o driniaethau fasgwlar yn broblemus iawn o ran denu hyfforddeion a llawfeddygon cymwys i'r gogledd? Wrth gwrs, dyna ydy'r ateb tymor hir ar gyfer gwella gwasanaethau fasgwlar.

15:15

Ar ddiwedd y dydd, penderfyniad clinigol fyddai'r math o benderfyniad mae'r Aelod yn gofyn i fi yn ei gylch. Dwi'n credu ei fod e’n bwysig o ran cyd-destun. Mae'n ddifrifol bwysig i bob un unigolyn sy'n cael ei effeithio gan y penderfyniad hwn, wrth gwrs ei fod e, ond fel cyd-destun, rhyw 0.2 y cant o weithgaredd gwasanaethau fasgwlar sy'n cael ei effeithio yn y gogledd gan y penderfyniad. Dydw i ddim yn diystyru am eiliad profiad rhywun sydd o fewn y ganran honno, ond dyna'r maint, ar y cyfan. 

Bydd y bwrdd yn sicr yn dryloyw yn edrych ar hwn. Bydd cyfarfod ganddyn nhw ym mis Mawrth pan fyddan nhw'n edrych ar yr heriau, y cyfleoedd a'r manteision y mae'r Aelod wedi sôn amdanyn nhw heddiw, a byddwn ni'n disgwyl ymlaen i weld beth yw eu hystyriaethau nhw cyn diwedd mis Mawrth.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Carolyn Thomas i gyflwyno'r datganiad 90-eiliad.

Roedd hi'n ddiddorol iawn clywed heddiw ei bod hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Tyllau yn y Ffordd. Nid oeddwn erioed wedi clywed am fodolaeth diwrnod o'r fath, ac rwy'n falch o ganiatáu i chi ein goleuo am Ddiwrnod Cenedlaethol Tyllau yn y Ffordd.

Diolch, Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Cenedlaethol Tyllau yn y Ffordd, ar gyfer codi ymwybyddiaeth o beryglon tyllau yn y ffordd, eu cost economaidd a'r angen am well diogelwch ar y ffyrdd. Mae ein priffyrdd, naill ai'r rhwydwaith ffyrdd strategol a reolir gan Lywodraeth Cymru, neu ein priffyrdd lleol a reolir gan gynghorau, wedi dioddef o dan 14 mlynedd o gyni a thoriadau i gyllid cyhoeddus, ac amcangyfrifir erbyn hyn fod chwe thwll yn y ffordd i bob milltir o ffordd ac ôl-groniad o £2.6 biliwn o waith cyweirio ar draws ein rhwydwaith ffyrdd cyfan yng Nghymru. Yn ogystal â defnydd parhaol a thraul amser, mae ein hasedau o dan bwysau cynyddol o effeithiau newid hinsawdd. Mae glaw monsŵnaidd yn golchi arwynebau ffyrdd ymaith, gyda thymheredd rhewllyd wedyn yn codi'r arwynebau ac yn achosi tyllau a phroblemau gyda gylïau. 

Ein priffyrdd yw ein hased mwyaf a mwyaf eang ar gyfer cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Gall tyllau yn y ffordd achosi difrod sylweddol i gerbydau ac anafiadau difrifol i feicwyr. Yn ôl Cycling UK, roedd 15 y cant o'r beicwyr y maent yn eu helpu ar ôl cael eu hanafu mewn damweiniau wedi cael damwain yn gysylltiedig â thyllau yn y ffordd. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, a gallwn ddefnyddio deallusrwydd artiffisial bellach i helpu i drwsio tyllau'n gyflymach ac yn fwy effeithlon. Er enghraifft, mae'r peiriant 'pothole pro' sy'n cael ei ddefnyddio yn sir y Fflint ar hyn o bryd dair i bedair gwaith yn fwy effeithlon na'r dulliau safonol. Mae'n fwy costeffeithiol, ar £30 y twll, mae'n rhoi canlyniad mwy cadarn, ac mae'r gweithlu'n meddwl ei fod yn wych. Ac mae'n rhyddhad i mi fod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid eleni i helpu ein ffyrdd a'n palmentydd ac i gael gwared ar rai o'r tyllau yn y ffyrdd.  

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Y sector rhentu preifat'

Yr eitem nesaf y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Y Sector Rhentu Preifat'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths. 

Cynnig NDM8784 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Y sector rhentu preifat’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y sector rhentu preifat. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y rhai a rannodd eu profiadau personol. Hoffwn ddiolch i Tai Pawb am eu cymorth i drefnu'r grwpiau ffocws ac aelodau eu rhwydwaith hyrwyddwyr, gan gynnwys y rhai y cyfarfûm â hwy yn y Senedd heddiw, am eu mewnbwn gwerthfawr i'r adroddiad hwn. Mae hi mor bwysig clywed am brofiadau personol pobl, ac mae'n ychwanegu gwerth mawr i'n gwaith, felly diolch.

Mae cael lle diogel i'w alw'n gartref, boed yn gartref rhent neu'n eiddo a berchnogir, yn rhan bwysig o sicrhau y gall pobl fyw bywydau hapus, iach a boddhaus. Nid yw perchnogaeth ar gartref yn opsiwn i lawer, a chyda galw mawr am dai cymdeithasol, mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rhan allweddol yn darparu cartrefi i bobl. Mae'n rhaid iddo weithio i bawb, yn denantiaid a landlordiaid. Mae angen i landlordiaid fod yn hyderus fod eu rôl yn cael ei gwerthfawrogi ac mae tenantiaid angen sicrwydd o wybod bod ganddynt gartref sefydlog sy'n fforddiadwy ac o ansawdd da.

Mae ein hadroddiad yn gwneud 13 o argymhellion ac yn cynnwys chwe chasgliad. Rwy'n falch fod 12 o'r argymhellion wedi'u derbyn naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Cafodd un argymhelliad ei wrthod, a byddaf yn dychwelyd ato'n fuan. Roedd llawer o'r dystiolaeth a gawsom yn canolbwyntio ar ansawdd y llety sydd ar gael. Mae'n amlwg fod hyn yn parhau i fod yn broblem. Lleithder a chyflwr gwael oedd y prif broblemau a nodwyd, a gwyddom y gall byw mewn amgylchiadau o'r fath gael effaith niweidiol ar iechyd a llesiant pobl.

Roedd yn bryderus clywed am sawl achos o dai o ansawdd gwael; rhaid i fynd i'r afael â hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae safon ansawdd tai Cymru yn berthnasol i dai rhent cymdeithasol, ac er ein bod yn deall yr heriau o ymestyn ei effaith i'r sector preifat, mae'n anodd cyfiawnhau pam y dylai pobl sy'n byw yn y cartrefi hynny fod â llai o hawl i ansawdd na'r rhai sy'n byw mewn tai cymdeithasol. I'r perwyl hwnnw, rydym yn cefnogi ymestyn safon ansawdd tai Cymru i'r sector preifat, ac rydym am weld eglurder ynghylch pryd a sut y gellid gweithredu hyn. Derbyniwyd ein hargymhellion ynghylch ansawdd tai mewn egwyddor, ond rydym yn siomedig nad yw ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi unrhyw gamau ar unwaith i unioni'r pryderon a glywsom. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu unrhyw gynlluniau mwy buan i wella ansawdd yn y sector rhentu preifat?

Argymhellwyd datblygu MOT eiddo ar gyfer addasrwydd i bobl fyw ynddo, ac wrth ymateb, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr ymgynghoriad sydd ar y gweill ar gyflwyno cofnod blynyddol o gyflwr eiddo. Gallai hyn fod yn gam ymlaen, ond ni cheir sicrwydd o hynny eto. Mae Propertymark, sy'n cynrychioli asiantiaid gosod eiddo, wedi lleisio cefnogaeth i'r cynnig hwn. Nodwn y byddai landlordiaid yn hunanardystio, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny'n mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'n pryderon. Felly, hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu mwy o wybodaeth am hyn, yn enwedig sut y gallem fod yn hyderus y byddai cydymffurfiaeth yn cael ei gorfodi. Fe wyddom fod adnoddau awdurdodau lleol i ymgymryd â gorfodaeth eisoes dan bwysau. Cafodd ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol gydweithio i gynyddu capasiti arolygu ei dderbyn mewn egwyddor. Er bod awdurdodau lleol yn gyrff sy'n atebol yn ddemocrataidd, ni ellir gadael y cyfrifoldeb am sicrhau bod digon o gapasiti i gyflawni iddynt hwy ar eu pen eu hunain.

Thema arall a welwyd yn gryf mewn tystiolaeth oedd parhad troi allan heb fai yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod hyn wedi'i wahardd yn yr Alban ers 2017, ac efallai y caiff ei wahardd yn Lloegr hefyd drwy'r Bil Hawliau Rhentwyr sy'n mynd drwy Senedd y DU. Rydym yn deall yr heriau sy'n gysylltiedig ag atal troi allan heb fai ac mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei barn o'r blaen. Ond gyda hyn yn dal i fod yn bryder i filoedd o rentwyr yng Nghymru, fel cyfaddawd, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio dichonoldeb galluogi tenantiaid sy'n cael eu troi allan heb unrhyw fai arnynt hwy i gadw rhent dau fis olaf eu tenantiaeth fel iawndal am effaith ariannol a llesiannol cael eu gorfodi i symud. Generation Rent a awgrymodd hyn i ni, a gwelwn werth ei archwilio ymhellach fel ffordd o atal digartrefedd. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ei ddichonoldeb erbyn mis Ebrill eleni.

Thema arall mewn tystiolaeth oedd hawl tenantiaid i gael anifail anwes. Roeddem yn bryderus iawn o glywed bod llawer iawn o eiddo'n cael ei hysbysebu fel eiddo nad yw'n caniatáu anifeiliaid anwes. Dywedodd Dogs Trust wrthym fod gan fwy na hanner cartrefi Cymru anifail anwes, ond bod llai nag 8 y cant o eiddo sector rhentu preifat yn cael ei hysbysebu fel eiddo cyfeillgar i anifeiliaid anwes. Rwy'n deall sut y gall gorfod cael gwared ar anifail anwes er mwyn dod o hyd i gartref fod yn drawmatig iawn ac mae'r pwyllgor yn teimlo'n gryf na ddylid rhoi tenantiaid mewn sefyllfa o'r fath. Dangosodd y dystiolaeth fod gwahaniaethu gan landlordiaid yn erbyn pobl ag anifeiliaid anwes yn real a bod angen mynd i'r afael â hyn.

Er y bydd peth eiddo'n anaddas ar gyfer anifeiliaid mwy o faint, cyn belled â bod eiddo'n addas, credwn na ddylid atal tenantiaid rhag cael anifail anwes. Er ein bod yn cydnabod ofnau landlordiaid am ddifrod i eiddo, clywsom dystiolaeth gref i ddangos bod difrod yn aml yn llai na'r hyn a ddisgwyliwyd ac y gall landlordiaid wneud mwy o arian trwy rentu i berchnogion anifeiliaid anwes am eu bod yn debygol o aros mewn eiddo am gyfnod hwy. Mae yna opsiynau amrywiol hefyd yn ymwneud ag yswiriant anifeiliaid anwes a blaendaliadau hyblyg i roi mwy o sicrwydd i landlordiaid. Felly, mae'r pwyllgor yn unedig yn ein barn na ddylai landlordiaid ac asiantiaid allu gwahaniaethu drwy beidio â chynnwys cymal sy'n caniatáu anifeiliaid anwes mewn contractau safonol heb reswm da.

Mae'r Bil Hawliau Rhentwyr yn cynnwys darpariaethau a fyddai'n atal landlordiaid rhag gwrthod cais gan denantiaid i gadw anifail anwes yn afresymol. Er y bydd rhai agweddau ar y Bil hwnnw'n gymwys i Gymru, ni fydd y darpariaethau sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes ond yn gymwys yn Lloegr. Tra bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd yn cynnwys cynigion i ganiatáu i landlordiaid godi premiwm yswiriant i dalu am ddifrod sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid anwes, nid ydym yn credu bod y cynigion hyn yn mynd yn ddigon pell. Yn ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio gwelliant i ymestyn y darpariaethau sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes i Gymru. 

Ddirprwy Lywydd, os caf droi at yr argymhelliad a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'n gwaith ymgysylltu, fe glywsom gan landlordiaid sy'n arbenigo mewn gweithio gyda thenantiaid ar incwm is, gan gynnwys tenantiaid y gallai fod arnynt angen gwasanaethau cymorth a ariennir gan y grant cymorth tai. Un landlord preifat o'r fath yw cynllun byw â chymorth White House yng Nghasnewydd, a gafodd ei gynnwys yn yr adroddiad fel astudiaeth achos. Ymwelais â White House a gweld drosof fy hun sut y mae'n rhoi cartref i denantiaid ag anghenion cymorth, gyda llawer ohonynt wedi bod yn ddigartref, ac yn darparu cartrefi hirdymor sefydlog iddynt mewn tai a rennir. Clywais yn uniongyrchol gan y tenantiaid am yr effaith gadarnhaol y mae hyn wedi'i chael ar eu bywydau, gan gynnwys rhai sydd wedi byw yno ers dros 10 mlynedd. Clywsom fod y cwmni'n derbyn grant cymorth tai gan y cyngor fel bod pob tenant yn cael cymorth wedi'i deilwra i helpu i gynnal eu tenantiaeth. Mae'n amlwg fod y model hwn wedi gweithio'n dda, ac mae'n dangos y gall y sector rhentu preifat weithio'n effeithiol i denantiaid ag anghenion cymorth cymhleth, cyhyd â bod y cymorth cywir ar waith.

Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu faint o landlordiaid sector preifat sy'n derbyn grant cymorth tai ar gyfer tenantiaid sydd ag anghenion cymorth, a chymryd camau i adolygu a hyrwyddo enghreifftiau o arferion da yn y sector. Cafodd hyn ei wrthod wrth i Lywodraeth Cymru ddweud bod cymorth yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol i'r tenant ac na fyddai landlord sector rhentu preifat yn cael yr arian. Serch hynny, mae'r model a ddefnyddir yn effeithiol ac mae'n gweithio'n dda yn White House, a chredwn y gallai weithio'n dda mewn mannau eraill. Dylid codi ymwybyddiaeth o'r dull o weithredu a'i rannu fel arfer da, y gellid ei weithredu mewn ardaloedd eraill.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau.

15:30

A gaf i ddiolch i’r pwyllgor am gyhoeddi’r adroddiad hwn? Dim ond yn ddiweddar yr ymunais â'r pwyllgor, ond mae'n adroddiad cadarn a thrylwyr iawn. Diolch am ei gyflwyno ar ran ein pwyllgor, Gadeirydd.

Mae pob un ohonom yn haeddu cael cartref, boed yn un yr ydym yn berchen arno neu'n un yr ydym yn ei rentu. Nid yw diogelwch a sicrwydd gwybod bod gennym do uwch ein pen ar ddiwedd y dydd yn rhywbeth y dylem ei gymryd yn ganiataol. Ond yn ôl data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023, mae prisiau rhent preifat a delir gan denantiaid yng Nghymru wedi codi 6.9 y cant, sy’n uwch nag yn Lloegr a’r Alban. Y ffaith syml amdani yw bod Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi methu adeiladu digon o gartrefi, gan arwain at fwy o gystadleuaeth i denantiaid. Yn ychwanegol at hynny, mae hyn wedi cyfrannu at y cynnydd o 8 y cant yn nifer yr aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyna 13,000 o aelwydydd ychwanegol. Hyn oll tra bo nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed. Mae pob un ohonom yn cytuno bod tenantiaid yn haeddu sicrwydd cartref sefydlog. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gormod o lawer o bolisïau'n cael eu llunio yn erbyn landlordiaid yma, sydd wedi arwain at lu ohonynt yn gadael y sector, a mwy o gystadleuaeth oherwydd hynny.

Rwy'n croesawu nifer o’r argymhellion a’r casgliadau yn yr adroddiad a hoffwn dynnu sylw at rai pwyntiau allweddol. Rwy'n croesawu gwaith y pwyllgor yn ceisio gwella hawliau rhentwyr, ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd law yn llaw â sicrhau nad yw landlordiaid yn cael eu gorfodi i adael y sector. Hoffwn groesawu argymhelliad 1 yn benodol, gan ei bod yn amlwg fod gan y sector rhentu preifat ran i’w chwarae yn darparu stoc dai ar gyfer tenantiaid, ac mae'n rhaid i’r Llywodraeth weithio gyda’r sector ac nid yn ei erbyn. Rwyf hefyd yn croesawu argymhelliad 2, a fydd yn sicrhau hyfforddiant ac addysg i landlordiaid a thenantiaid ar y grantiau a’r cymorth sydd ar gael drwy’r rhaglen addasiadau brys. Hefyd, rwy'n croesawu argymhelliad 11, ymestyn hawliau tenantiaid i gael anifail anwes, fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor.

Fodd bynnag, mae gennyf bryderon ynghylch argymhelliad 6, a fydd yn cael gwared ar yr ychydig hyder sydd ar ôl yn y sector preifat ac yn cyfrannu ymhellach at y nifer o landlordiaid preifat sy'n rhoi'r gorau iddi. Mae llai o eiddo ar y farchnad rentu yn golygu rhenti uwch a dibyniaeth fwy ar dai cymdeithasol nad oes gan y Llywodraeth ddigon ohonynt.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda thenantiaid a landlordiaid i sicrhau bod gennym system deg nad yw’n cosbi landlordiaid er mwyn tynnu sylw pobl oddi wrth fethiant Llywodraethau i adeiladu stoc dai ddigonol yma yng Nghymru. Ond rwy'n cymeradwyo'r adroddiad. Diolch.

Rydw innau hefyd yn croesawu’r cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig yma ac i drafod rhai o’r argymhellion allweddol a wnaed gan y pwyllgor yn yr adroddiad yma. Doeddwn i chwaith ddim yn aelod o’r pwyllgor drwy gydol yr ymchwiliad, felly wnes i ddim clywed yr holl dystiolaeth.

Fe wnaf gychwyn efo argymhelliad 4. Mae’r ymrwymiad i ymestyn safon ansawdd tai Cymru yn gam cadarnhaol, ond wrth gwrs mae’n rhaid inni gael amserlennu clir a chamau pendant, neu mae peryg y bydd y cynnydd dŷn ni’n gobeithio ei weld ddim yn digwydd. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru egluro pryd y bydd yr adolygiadau yn digwydd, beth y byddan nhw’n eu hystyried, a sut y bydd y penderfyniadau’n cael eu gwneud am ymestyn y safon i’r sector rhentu preifat. Ond mae hi’n hen bryd i’r sector hwn gael safonau uwch, i amddiffyn tenantiaid rhag amodau gwael sy’n gallu niweidio eu hiechyd a’u lles.

Yn argymhelliad 5 mae sôn am ddatblygu MOT eiddo i sicrhau addasrwydd i fyw ynddo fel rhan o’r drefn drwyddedu efo Rent Smart Wales, a dwi yn meddwl bod hwn yn gynnig pwysig. Mi allai MOT eiddo ddarparu cysondeb hanfodol wrth sicrhau bod cartrefi’n bodloni safonau sylfaenol diogelwch a byw. Ond unwaith eto, mae’n rhaid pwysleisio’r angen am weithredu amserol, yn enwedig cyn cylch cofrestru'r landlordiaid nesaf yn 2026. Mi fydd diweddaridau blynyddol ar gynnydd yn sicrhau atebolrwydd ac yn galluogi'r Senedd i fonitro'r agwedd yma yn agos.

Mae argymhelliad 6 yn sôn am y posibilrwydd o ganiatáu i denantiaid sy'n wynebu cael eu troi allan heb fai gadw dau fis o rent fel iawndal. Rŵan, tra fy mod i'n cefnogi hynny, dwi'n credu'n gryf fod angen mynd lawer ymhellach i amddiffyn tenantiaid, ac efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio rhoi diwedd ar droi allan heb fai, trwy'r Bil Hawliau Rhentwyr, mae yna beryg gwirioneddol y bydd tenantiaid yng Nghymru yn wynebu hawliau gwanach na'r rhai yn Lloegr. Wrth gwrs, o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, cyfnod rhybudd o chwech mis sydd gan denantiaid, sydd yn annigonol i fynd i'r afael ag effaith ariannol ac emosiynol gorfod gadael cartref. Felly, hoffwn i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a ydy hi'n gwbl argyhoeddedig na fydd tenantiaid Cymru yn colli allan o gymharu â thenantiaid yn Lloegr—a'r Alban hefyd, wrth gwrs—yn sgil y ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei thrafod ar hyn o bryd yn San Steffan? Oes yna oblygiadau i'r hyn sy'n cael ei drafod yn San Steffan o ran cydraddoldeb tenantiaid ar draws y gwledydd yma?

Mae argymhelliad 10 i'w groesawu, sy'n sôn am y busnes o gael gwarantwr a'r galw am fisoedd o rent ymlaen llaw. Mae hynny'n effeithio'n anghymesur ar aelwydydd incwm isel a thenantiaid iau. Mae'r arferion yma'n creu marchnad rentu dwy haen, lle mae'r rhai efo llai o adnoddau ariannol yn wynebu rhwystrau sylweddol i sicrhau cartref. Felly, dwi'n croesawu'r argymhelliad yma, a dwi'n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru reoleiddio ar frys i sicrhau bod y rhwystrau yma'n cael eu dileu, gan hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb mewn mynediad i dai.

Fe wnaf i jest sôn am un peth arall, efallai, os oes amser. Mae defnyddio pwerau prynu gorfodol yn ehangach i fynd i'r afael â gweithdrefnau gwael cyson gan landlordiaid yn agwedd bragmataidd ac angenrheidiol, dwi'n credu. Ond, wrth gwrs, oes gan yr awdurdodau lleol ddigon o adnoddau i fynd ar ôl yr agwedd yma, ac oes yna ddigon o arbenigedd cyfreithiol i weithredu'r pwerau yma'n effeithiol? Un syniad sydd wedi cael ei grybwyll wrth y pwyllgor ydy sefydlu cronfa arbenigedd cyfreithiol genedlaethol, neu ranbarthol, yn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen yn fawr, ac i sicrhau bod landlordiaid yn gwbwl atebol.

Dirprwy Lywydd, mae'r sector rhentu preifat yn gartref i rai o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae'r argymhellion yn yr adroddiad yma'n cynnig rhai llwybrau tuag at welliannau gwirioneddol, ond dim ond os cânt eu gweithredu, a'u gweithredu ar frys ac mewn ffordd gadarn. Felly, dwi'n siŵr y bydd y pwyllgor yn parhau i ddal Llywodraeth Cymru'n atebol, i sicrhau bod gan denantiaid yng Nghymru fynediad at gartrefi diogel, sicr a fforddiadwy. Diolch.

15:35

Diolch i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Bûm yn aelod am gyfnod, cyn symud ymlaen. Nid oes digon o dai cymdeithasol, felly mae'n rhaid i'r bwlch gael ei lenwi gan y sector rhentu preifat, sydd i fod yn ddarpariaeth interim neu dros dro mewn gwirionedd. Mae landlordiaid preifat wedi gofyn am help i gefnogi tenantiaethau. Fel arfer, ceir swyddog tai neu dîm tai yn y sector tai cymdeithasol i helpu gyda materion sy'n codi mewn perthynas â thenantiaethau pobl ag anghenion penodol. Mae’r grant cymorth tai wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer ariannu’r math hwnnw o gymorth cofleidiol.

Hoffwn ganolbwyntio heddiw ar anifeiliaid anwes. Maent yn rhan o deuluoedd pobl, maent yn darparu cwmnïaeth a chysur, maent yn helpu i leddfu unigrwydd, maent yn darparu cymhelliant a phwrpas, ac maent yn fuddiol i iechyd meddwl a lles y perchennog. Ond eto, mae cael anifail anwes yn gallu ei gwneud hi'n anodd iawn dod o hyd i lety. Mae llawer o rwystrau i rentu eisoes: gwiriadau credyd; yr angen am eirdaon a gwarantwyr, y mae angen iddynt fod yn berchen ar eu cartref eu hunain; y cyfandaliad enfawr cwbl anfforddiadwy y mae'n rhaid ei dalu ymlaen llaw fel blaendal; a'r gofynion 'dim plant', 'dim anifeiliaid anwes', 'dim credyd cynhwysol', nad ydynt yn ystyried bod rhai pobl yn gweithio ac yn hawlio, a rhai pobl yn methu gweithio.

Dywedodd Dogs Trust Cymru fod ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod gan 52 y cant o gartrefi anifail anwes, gyda chi yn un o bob tri chartref. Er gwaethaf y ffigurau hyn, dangosodd arolwg mai dim ond 8 y cant o rentwyr yng Nghymru sy’n dweud bod eu cartref wedi’i hysbysebu fel un sy’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes. Mae prinder tai sy’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes wedi golygu bod llawer o berchnogion anifeiliaid anwes wedi gorfod cael gwared ar eu hanifeiliaid anwes, ac mae ein canolfannau achub yn llawn.

Roedd 118 o bobl wedi gwneud ymholiadau i'r Dogs Trust ynglŷn â rhoi eu ci i’w canolfan ailgartrefu yng Nghymru rhwng mis Rhagfyr 2022 a diwedd mis Mawrth 2023, gan nodi newid llety neu gytundeb rhentu fel rheswm. Clywodd y pwyllgor gan nifer o randdeiliaid fod rhai pobl sy’n wynebu’r penderfyniad hwn yn dewis aros gyda’u hanifeiliaid anwes a dod yn ddigartref o ganlyniad. A dywedodd Crisis, yr elusen ddigartrefedd, wrth y pwyllgor:

'Bu'n rhaid i un o'n haelodau wrthod lle gan fod ganddo bolisi dim anifeiliaid anwes. Mae ganddi gi sydd wedi bod yn gydymaith iddi drwy amser anoddaf ei bywyd, a dewisodd gysgu mewn car yn hytrach na derbyn lle.'

Ac rwy'n siŵr y gall llawer ohonom sy'n caru cŵn yn y Siambr hon gydymdeimlo â'r fenyw a deall pa mor anodd oedd penderfyniad o'r fath.

Hoffwn sôn am brosiect Freedom, sy’n wasanaeth pwysig y mae Dogs Trust yn ei ddarparu, i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag cam-drin domestig. Mae cysylltiad cryf rhwng cam-drin anifeiliaid anwes a cham-drin pobl, gyda chyflawnwyr yn aml yn defnyddio'r cwlwm rhwng anifeiliaid anwes a'r dioddefwr i ddychryn a rheoli eu partner. Fel arfer, nid yw teuluoedd ac unigolion sy’n ffoi rhag cam-drin domestig yn gallu mynd â’u hanifeiliaid anwes gyda hwy i lochesi, neu dai rhent preifat, felly, mewn llawer o achosion, maent yn gyndyn o adael y cartref hyd nes eu bod yn gwybod bod rhywle diogel ar gael i’w hanifeiliaid anwes, gan roi eu hunain mewn perygl.

Mae gwahaniaethu yn erbyn perchnogion anifeiliaid anwes hefyd yn anwybyddu'r realiti y gall landlordiaid, ar gyfartaledd, ddisgwyl ennill mwy yn ariannol o rentu i denantiaid ag anifeiliaid anwes nag y gallant ei wario ar gostau cysylltiedig. Felly, gall rhentu i berchnogion anifeiliaid anwes fod yn ariannol hyfyw a buddiol i landlordiaid. Mae'r rhan fwyaf o bobl ag anifail anwes yn aros yn eu llety'n hirach, felly mae'n llawer mwy buddiol i landlordiaid. Mae bron i hanner y landlordiaid preifat yn codi gordal rhent anifeiliaid anwes—£29.10 yn ychwanegol y mis ar gyfartaledd. Mae canfyddiadau arolwg hefyd yn dangos bod rhentwyr ag anifeiliaid anwes, fel y dywedais, wedi aros yn hirach, felly mae’n well i’r landlord. Ac er bod Llywodraeth Cymru wedi honni bod y Ddeddf rhentu cartrefi yn gwahardd landlordiaid rhag gwrthod ceisiadau am anifeiliaid anwes yn afresymol, ni cheir unrhyw ganllawiau ynghylch yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn rhesymol, gyda'r potensial i hyn amrywio rhwng gwahanol landlordiaid a darpar denantiaid.

Er y gellid dadlau y gallai tenantiaid herio penderfyniadau afresymol drwy fynd â’u landlordiaid i’r llys, nid yw hyn yn debygol o fod yn rhywbeth y byddant yn ei wneud am ei fod yn ddrud ac yn broses sy’n cymryd amser. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y syniad o berchnogion yn defnyddio yswiriant anifeiliaid anwes i dalu am unrhyw ddifrod fel ffordd bosibl ymlaen. Fodd bynnag, nid yw tincran â ffioedd y gellir eu codi gan landlordiaid yn mynd yn ddigon pell, ac i mi, nid wyf yn credu ei fod yn dderbyniol. Nid wyf yn credu bod dod o hyd i fwy o ffyrdd i rentwyr fod ar eu colled yn gam gweithredu teg na rhesymol. Mae’n rhaid inni ddiogelu perchnogion anifeiliaid anwes rhag gwahaniaethu diangen os ydym am gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael i'w rhentu gydag anifeiliaid anwes. Diolch.

15:40

Yn gyntaf, hoffwn gydnabod y gwaith a wnaed ar yr adroddiad hwn gan Gadeirydd y pwyllgor yn enwedig, ond hefyd gan y pwyllgor cyfan. Bûm yn aelod o’r pwyllgor am gyfnod byr, tra oedd y gwaith hwn dan ystyriaeth, ac rwy’n siŵr fod y pwyllgor hwnnw'n gweld colled fawr ar fy ôl, ond mae Peter Fox yn cymryd fy lle yn wych, yn gwneud ei waith ar y pwyllgor.

Roeddwn am—. Nodais, yng ngeiriau agoriadol Carolyn Thomas, yn fframio'r sector rhentu preifat fel mesur dros dro tra nad oes digon o dai cymdeithasol ar gael—. Mae’r sector rhentu preifat yn rhan sylweddol a hynod bwysig o'r sector tai yma yng Nghymru. Mae 215,000 eiddo rhent preifat yng Nghymru, gyda 103,000 o landlordiaid wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae'n bell o fod yn fesur dros dro yn unig. Er efallai fod awydd ar y meinciau gyferbyn i gael mwy o dai cymdeithasol, mae'n rhan hanfodol, hollbwysig o'n daliadaeth. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Carolyn.

15:45

Yr hyn roeddwn i'n ceisio ei ddweud yw, ar y pwyllgor, fe glywsom gan landlordiaid preifat eu bod yn teimlo eu bod yn llenwi’r bwlch mewn gofal cymdeithasol, mewn ffordd, gyda’r sector rhentu preifat, am fod prinder tai cymdeithasol, a dyna pryd roeddent yn gofyn am y cymorth cofleidiol hwnnw, efallai, ar gyfer eu tenantiaethau hwy hefyd, na allant ei ddarparu bob amser.

Iawn. Diolch am egluro, ac rwy'n ymddiheuro os oeddwn i braidd yn elyniaethus gyda fy sylwadau agoriadol. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn, serch hynny, ein bod yn sicrhau bod y sector rhentu preifat yn cael ei werthfawrogi nid mewn geiriau'n unig ond yn weithredol hefyd.

Hoffwn ganolbwyntio efallai ar un neu ddau o argymhellion yn yr adroddiad yr ydym yn ei drafod yma heddiw. Ond cyn imi ddod at yr argymhellion hynny, mae'n werth cydnabod y galw parhaus am gartrefi rhent preifat yma yng Nghymru. Mae gwefan Zoopla yn dangos bod 23 o ymholiadau am bob cartref sydd ar gael i’w rentu yng Nghymru, felly 23 gwaith yn fwy o ymholiadau na nifer yr eiddo sydd ar gael, sef teirgwaith yn fwy na'r gyfradd cyn y pandemig. Felly, ers pandemig COVID-19, gwelwn fod y galw yn y sector rhentu preifat yn cynyddu’n sylweddol, ond ar yr un pryd, gwelwn lai o gartrefi rhent preifat: gostyngiad o 1,746 ers 2021 yma yng Nghymru. Felly, ar y pwynt hwnnw, credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn ofalus iawn gyda rhai o'r mesurau y maent yn ceisio eu rhoi ar waith ac nad ydym yn gweld gostyngiad pellach yn nifer y cartrefi rhent preifat sydd ar gael i bobl ledled Cymru o ganlyniad i unrhyw un o’r mesurau hynny.

Ac un o'r mesurau penodol y credaf y buaswn yn annog rhywfaint o ofal yn ei gylch yw argymhelliad 6 yn yr adroddiad, sy'n galw am ymchwilio i ddichonoldeb galluogi tenantiaid sy’n cael eu troi allan heb fai i gadw’r ddau fis diwethaf o rent eu tenantiaeth. Yn fy marn i, mae perygl yn y fan hon o gosbi landlordiaid cyfrifol sy’n gweithio o fewn y gyfraith mewn ffordd annheg, ac ymddengys ei fod yn anwybyddu’r ffaith bod mesurau diogelu llym eisoes ar waith, megis y rheol na ellir cyflwyno hysbysiadau adfeddiannu heb esboniad yn ystod chwe mis cyntaf y denantiaeth, ac nid yn unig hynny, ond mae rheolau eisoes ar waith sy’n ychwanegu ei bod yn ofynnol i denantiaid gael chwe mis o rybudd o unrhyw hysbysiad adfeddiannu pan roddir yr hysbysiad hwnnw. Felly, hoffwn annog rhywfaint o ofal ynghylch argymhelliad 6 yn benodol. A chefais fy synnu braidd wrth weld yr argymhelliad hwnnw wedi'i ysgrifennu yn y ffordd honno yn yr adroddiad, gan y credaf fod canlyniadau anfwriadol posibl os na chaiff hynny ei ystyried yn ofalus.

Mae rhai o'r argymhellion y mae’r pwyllgor wedi’u cyflwyno yn sicr i’w croesawu, ac rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig i Lywodraeth Cymru roi argymhelliad 1 ar waith yn gyflym, i amlinellu gweledigaeth ar gyfer rôl y sector rhentu preifat, fel eu bod yn gwybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, fel y dywedais wrth ddechrau fy nghyfraniad yma heddiw. Rwy'n credu bod y neges gadarnhaol honno i’r sector bob amser yn cael croeso ganddynt, a bydd angen cadw at y dyddiad—mis Hydref 2025—a nodwyd yn argymhellion ein hadroddiad.

Hefyd, mae argymhelliad 12 yn bwysig. Credaf ei fod yn cyffwrdd â’r pwynt yr oedd Carolyn Thomas yn ei nodi am y gwaith gyda llywodraeth leol i gynyddu capasiti arolygu awdurdodau lleol i wella safonau tai yn y sector rhentu preifat, fel y gallwn weld cymorth gwell gan awdurdodau lleol i’r sector hefyd. Yn llawer rhy aml, rydym yn gweld llywodraeth leol yn cael cyfrifoldebau heb gymorth digonol, gan gynnwys ariannu penderfyniadau polisi, felly, os dilynir yr argymhelliad hwnnw’n iawn, byddai hynny'n cael ei groesawu gan y sector. Ond diolch am y cyfle i gyfrannu yn y Siambr y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch yn gyntaf i John Griffiths, fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a’i aelodau a'i gyn-aelodau am gyfrannu heddiw. Gwn ei fod yn dangos llawer pan fydd gennym gyn-aelodau o’r pwyllgor ac aelodau newydd yn cyfrannu at y ddadl, ond rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad i’r sector rhentu preifat.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad, ac mae'r ymateb a gyhoeddwyd gennym i’r pwyllgor yn nodi’r camau y bwriadwn eu cymryd. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor pob un ond un o argymhellion a chasgliadau'r pwyllgor. Mae'r unig argymhelliad nad ydym wedi’i dderbyn yn deillio o'r ffaith nad yw’r grant cymorth tai yn cael ei roi’n uniongyrchol i landlordiaid preifat a bod y cyllid yn amhenodol ei ddeiliadaeth er mwyn cefnogi pawb a allai fod mewn perygl o ddod yn ddigartref. Fel y nodir yn fy nhystiolaeth i’r pwyllgor, mae’r sector rhentu preifat yn chwarae rhan hanfodol yn darparu bron i un o bob pum cartref i bobl yng Nghymru. Ac rwy'n awyddus i weld sut y gallwn gefnogi landlordiaid sy'n darparu llety diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel i deimlo'n hyderus i aros a buddsoddi yn y sector hwn ar gyfer y dyfodol.

Mae’r argyfwng costau byw, twf chwyddiant yn 2023 a’r cynnydd mewn cyfraddau llog wedi effeithio ar landlordiaid a thenantiaid dros y blynyddoedd diwethaf. Ledled Cymru, rydym wedi gweld rhenti a galw am eiddo rhent yn cynyddu’n sylweddol, wrth i rai landlordiaid ystyried gadael y sector. Mae tenantiaid hefyd wedi bod yn fwy amharod i symud o fewn, neu'n wir, allan o'r sector rhentu preifat. Mae data a gedwir gan Rhentu Doeth Cymru yn dangos cynnydd cyson mewn cofrestriadau eiddo yn ystod yr ail gyfnod cofrestru o bum mlynedd, gyda maint portffolio cyfartalog landlordiaid hefyd yn cynyddu. Felly, mae rhai dangosyddion cadarnhaol yn dechrau ymddangos.

Drwy gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, rydym wedi sicrhau gwell cysondeb yn y ffordd y caiff eiddo rhent preifat eu gosod, gan sicrhau bod gan denantiaid delerau ac amodau ysgrifenedig, gwell diogelwch deiliadaeth, gyda chyfnod rhybudd o chwe mis a sicrwydd mai dim ond unwaith bob 12 mis y gellir codi rhenti. Yn y pen draw, yr hyn sy’n bwysig i denantiaid yw cael amser i gynllunio. Pa un a nodir rheswm, neu rybudd ai peidio, nid bai’r tenant yw’r angen i symud. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod yr her o sicrhau eiddo rhent fforddiadwy, yn enwedig ar gyfer aelwydydd incwm is sy’n cael cymorth drwy'r lwfans tai lleol. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn, lansiwyd Cynllun Lesio Cymru gennym yn 2022, ac yn ddiweddar, ysgrifennais at yr holl Aelodau i nodi manteision y cynllun. Hyd yma, rydym wedi sicrhau 343 eiddo, a disgwylir y bydd 165 arall yn cael eu hychwanegu cyn bo hir. O'r rhain, roedd 60 y cant yn eiddo a oedd yn arfer bod yn wag ac sydd bellach yn ôl mewn defnydd buddiol. Maent yn darparu cartrefi rhent fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm is, gyda'r rhent wedi'i gapio ar gyfradd y lwfans tai lleol.

Mae tystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn adlewyrchu ymatebion tebyg a gyflwynwyd yn ystod datblygiad ein Papur Gwyn ar dai digonol, rhent teg a fforddiadwyedd. Dylid nodi bod nifer o’r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor, er enghraifft, ynghylch MOTs eiddo, rhentu gydag anifeiliaid anwes a gwarantwyr, oll yn elfennau a nodir yn ein Papur Gwyn, a gyhoeddais ar gyfer ymgynghoriad ar 24 Hydref ac sy'n cau ar 31 Ionawr.

Mae llawer o'r Aelodau wedi codi mater anifeiliaid anwes heddiw, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Aelodau’r Senedd yn meddwl llawer amdano. Rydym wedi nodi ein cynigion yn y Papur Gwyn ar ddarparu yswiriant ar gyfer difrod gan anifeiliaid anwes; dyma'r un dull o weithredu ag a ddefnyddir yn Lloegr yn y Bil Hawliau Rhentwyr. Yn 2021, dywedodd 42 y cant o landlordiaid a holwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl ar ran Battersea nad oeddent yn rhentu i berchnogion anifeiliaid anwes ar hyn o bryd y byddent yn caniatáu anifail anwes yn yr eiddo pe bai yswiriant wedi'i drefnu. Gallai'r dull hwn o weithredu arwain at fwy o landlordiaid yn fodlon rhentu i berchnogion anifeiliaid anwes.

Yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor, rwyf wedi nodi y byddwn yn ystyried y dystiolaeth—

15:50

Rwy’n poeni am gost ychwanegol yswiriant, yn enwedig os yw’n cael ei drefnu gan y landlord ac yna’n cael ei chodi ar y rhentwyr, a hefyd os nad oes gan y rhentwyr eu hunain yr arian hwnnw. Felly, tybed a allech chi ystyried hynny ymhellach, wrth symud ymlaen.

Diolch, Carolyn. Gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydych wedi’i godi. Fel y dywedais, dyma’r un dull o weithredu a ddefnyddir yn Lloegr yn y Bil Hawliau Rhentwyr. O ran—. Rydym wedi clywed gan sefydliadau sy’n dweud bod y difrod y mae anifeiliaid anwes yn ei wneud—neu’r difrod honedig y mae anifeiliaid anwes yn ei wneud—yn fach iawn mewn gwirionedd. Fel arall y mae hi a dweud y gwir, onid e? Mae hynny'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod landlordiaid yn ei wybod, drwy bethau fel Rhentu Doeth Cymru. Felly, ar y pwynt hwnnw, rwyf wedi gofyn inni ysgrifennu, ac rydym wedi ysgrifennu, drwy Rhentu Doeth Cymru, i gysylltu â landlordiaid i dynnu sylw at yr ymchwil ddiweddaraf sy'n dangos bod cost unrhyw ddifrod mewn eiddo sy'n cael ei rentu i bobl ag anifeiliaid anwes yn llai na'r difrod a achosir gan bobl heb anifeiliaid anwes. Felly, rwy'n credu bod hyn weithiau’n ymwneud â sicrhau bod y negeseuon hynny’n cael eu cyfleu'n glir.

Rwy'n ymwybodol o'r galwadau gan Aelodau'r Siambr i ailystyried mesurau rheoli rhenti. Rydym wedi rhoi cryn dipyn o ystyriaeth i hyn, ac mae’r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu y gallai mesurau rheoli rhenti gael effaith andwyol ar ein huchelgeisiau craidd. Gallent arwain at ostyngiad yn y cyflenwad o eiddo rhent, risg uwch o ddigartrefedd a rhenti uwch ar gyfer eiddo a osodir o'r newydd. Mae'n bosibl iawn y byddai mesurau rheoli rhenti yn cael effaith andwyol ar yr union bobl y dylai mesurau o'r fath eu diogelu. Felly, yn hytrach, ac fel y nodir yn ein Papur Gwyn, rydym yn awyddus i gasglu data mwy cadarn ar renti'r farchnad breifat. Rydym hefyd am edrych ar ffyrdd priodol o gyhoeddi'r data hwn er mwyn caniatáu gwell dealltwriaeth o lefelau rhenti mewn ardaloedd penodol, a fydd yn llywio unrhyw fesurau polisi posibl yn y dyfodol yn well. Yn rhan o'r ymgynghoriad, rydym hefyd yn gofyn am farn pobl ar gynigion ar gyfer proses arfarnu rhent, os yw tenant yn ystyried bod cynnydd rhent yn annheg. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn nodi sut rydym yn archwilio’r potensial i gynyddu’r cyflenwad o dai rhent fforddiadwy ymhellach, drwy ganiatáu i berchennog eiddo gael ad-daliad ar gyfradd uwch y dreth trafodiadau tir pan fo eiddo wedi’i brynu a’i gofrestru yng Nghynllun Lesio Cymru.

Rydym yn aros am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, sy’n dod i ben, fel y dywedais, ddiwedd y mis hwn, ac ar ôl hynny byddwn yn nodi’r camau nesaf ar gyfer bwrw ymlaen â’r mesurau hyn. Rwy'n gobeithio bod hynny’n rhoi sicrwydd i’r Siambr ein bod, fel Llywodraeth, yn gwrando ac yn gweithredu ar dystiolaeth gan landlordiaid, tenantiaid a rhanddeiliaid tai yn fwy cyffredinol. Rydym wedi buddsoddi ac yn parhau i fuddsoddi er mwyn cynyddu’r cyflenwad tai a mynd i’r afael â digartrefedd. Mae'r gyllideb ddrafft wedi cynnwys cynnydd mewn cyllid er mwyn cefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno a chwyddo'r niferoedd sy'n manteisio ar Gynllun Lesio Cymru.

Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gosod sylfeini cryf, gyda mwy o hawliau i denantiaid a safonau tai gwell eisoes ar waith drwy Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Drwy’r Papur Gwyn, rydym yn parhau i weithio ar ddatblygu’r blociau adeiladu i sicrhau sector rhentu preifat bywiog sy’n addas at y dyfodol—dyfodol lle bydd gan denantiaid fwy o sicrwydd a mynediad at eiddo rhent diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel. Mae croeso mawr i waith amserol y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal yr ymchwiliad i’r sector rhentu preifat, a diolch iddynt unwaith eto am eu gwaith yn y maes hwn. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Diolch i’r holl Aelodau, ac yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet, am eu hymatebion a’u cyfraniadau yn y ddadl hon heddiw. A gaf i ddiolch i Peter Fox am ei gyfraniad, a'i ymgais i bwysleisio’r angen i daro cydbwysedd cywir o ran tenantiaid a landlordiaid a bod yn deg â’r ddwy ochr? Dyna’n sicr yw'r dull o weithredu y mae’r pwyllgor am ei fabwysiadu ac wedi’i fabwysiadu, gobeithio, gyda’r adroddiad yn gyffredinol, sy’n datgan mai dyna’n union y credwn y dylai ddigwydd yng Nghymru, ac mae’n rhaid inni weithio tuag at hynny—mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio tuag at hynny.

Yn amlwg, rydym am i landlordiaid preifat aros yn y farchnad, i ddarparu opsiynau i rentwyr yng Nghymru, ac rydym am i denantiaid gael profiad da iawn yn y sector rhentu preifat, o ran ansawdd, sicrwydd a diogelwch. Rwy’n falch iawn fod Peter wedi ymuno â'r pwyllgor, o ystyried y cyfoeth o brofiad sydd gan Peter fel cyn-arweinydd awdurdod lleol sir Fynwy, gan fod y profiad hwnnw a’r wybodaeth honno eisoes wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r pwyllgor. Felly, diolch yn fawr am hynny, Peter, a byddwn yn sicr yn parhau fel pwyllgor i geisio sicrhau'r cydbwysedd a bwysleisiwyd gennych.

Pwysleisiodd Siân Gwenllian ansawdd y ddarpariaeth. Mae'n rhaid cael hynny'n iawn, onid oes? Mae llety o’r safon uchaf yn y sector rhentu preifat yma yng Nghymru yn ganolog i'r hyn rydym am ei weld. Roedd Siân yn gefnogol i’r argymhellion a fyddai’n ceisio sicrhau hynny, gan ymestyn safon ansawdd tai Cymru, ond i hynny ddigwydd yn unol ag amserlen briodol, gan bwysleisio'r pwysigrwydd i iechyd a lles tenantiaid. Pryd bynnag y byddwn yn siarad am dai, rydym yn sôn am bwysigrwydd iechyd a lles, a fe geir cyfoeth o dystiolaeth sy'n gwneud y cysylltiad hwnnw. Soniodd Siân hefyd am MOTs eiddo, ac unwaith eto, yr angen i sicrhau bod hynny’n cael ei roi ar waith yn effeithiol, yn ogystal ag amddiffyniadau mewn perthynas â throi allan heb fai.

Cafwyd dadl fywiog am hyn, a'r sefyllfa yn yr Alban, y sefyllfa yn Lloegr, a safbwynt Llywodraeth Cymru efallai nad oes cymaint o wahaniaeth rhwng dull Llywodraeth Cymru o weithredu a’r hyn a welwn yn Lloegr a’r Alban yn ymarferol, mewn gwirionedd, yn yr ystyr ei bod hi’n bosibl troi pobl allan, er enghraifft, ar y sail fod angen yr eiddo at ddefnydd y landlord, neu i'w werthu ar y farchnad agored, pan nad yw hynny'n wir o bosibl. Felly, mewn ffordd, o ran y landlordiaid, mae’n dibynnu ar faint o ffydd sydd gennych yn y natur ddynol.

Ond rwy'n credu mai’r hyn rydym yn awyddus i'w sicrhau yw nad oes anfantais ymarferol i denantiaid yng Nghymru, ac fe glywsom yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddweud am y ddau gyfnod o chwe mis. Gofynnwn am archwilio'r ddau fis o rent i'r graddau y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i denantiaid allu dod o hyd i eiddo arall, os oes rhaid iddynt adael eu cartref. Byddai hynny’n mynd ychydig pellach tuag at fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan Siân Gwenllian.

A gaf i ddweud hefyd wrth Siân fy mod yn credu bod y materion sy'n ymwneud â phrynu gorfodol yn bwysig iawn yn gyffredinol o ran tai? Mae gwir angen inni fod yn hyderus y bydd y pwerau hynny'n cael eu defnyddio pan fo hynny'n briodol, y bydd y capasiti yno yn yr awdurdodau lleol, y bydd yr hyder yno yn yr awdurdodau lleol. Mae’n berthnasol iawn i’r sefyllfa o ran tai gwag. Ac os ydym am drosi mwy o'r eiddo yng nghanol y ddinas, yng nghanol y dref, yn dai, gan gofio ei bod yn anodd iawn parhau i'w defnyddio at ddibenion manwerthu, mae'r pwerau prynu gorfodol hynny'n gwbl angenrheidiol.

Fe wnaed llawer o bwyntiau am anifeiliaid anwes, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod Carolyn Thomas, i bob pwrpas, wedi ychwanegu at yr hyn a ddywedais am safbwyntiau'r pwyllgor, ac edrychwn ymlaen nawr at weld yr hyn y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i roi mwy o hyder, gan nad ydym yn argyhoeddedig y byddai’r hyn a gynigir ar hyn o bryd yr un mor fanteisiol i denantiaid a darpar denantiaid ag anifeiliaid anwes â’r sefyllfa yn Lloegr o dan y Bil Hawliau Rhentwyr, a dyna pam y dywedais yr hyn a ddywedais am ein hagwedd ni fel pwyllgor tuag at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a’n bod am i ddarpariaethau Lloegr gael eu cyflwyno yma yng Nghymru.

Gallaf eich gweld yn edrych yn llym iawn arnaf, Ddirprwy Llywydd.

16:00

Rydych chi wedi bod yn hael iawn. A gaf i ddweud, wrth orffen, ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen i daro'r cydbwysedd priodol o ran daliadaeth, ac fel pwyllgor, hoffem weld llawer mwy o eiddo ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol fforddiadwy? Credwn efallai y dylid adeiladu 60,000 o gartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer rhent cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf, sy'n her fawr fel y deallwn. Ond o ran y cydbwysedd cyffredinol, a rôl y sector preifat, teimlwn fod y cydbwysedd wedi ei golli, ac o ran y weledigaeth y mae Aelodau'n pwysleisio'r angen amdani gan Lywodraeth Cymru, credwn fod rhaid i hynny fod yn rhan bwysig wrth symud ymlaen.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Darren Millar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8783 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Llywodraeth Lafur y DU wedi bod mewn grym am chwe mis yn Ionawr 2025.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi:

a) taro ffermwyr Cymru gyda threth etifeddiaeth newydd;

b) tynnu'r lwfans tanwydd gaeaf i ffwrdd o hanner miliwn o bensiynwyr yng Nghymru;

c) cynyddu costau yswiriant gwladol cyflogwyr yng Nghymru.

3. Yn gresynu ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi methu ag amddiffyn Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU i'w hannog i wrthdroi eu polisïau i gyflwyno treth etifeddiaeth, cael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf, a chynyddu costau yswiriant gwladol cyflogwyr;

b) cyflwyno lwfans tanwydd gaeaf Cymreig os yw'r toriad i'r lwfans tanwydd gaeaf yn parhau i fod ar waith.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn.

Cyn yr etholiad cyffredinol y llynedd, dywedwyd wrthym yn gyson y byddai Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 yn wych i Gymru. Ond yr hyn a gawsom mewn gwirionedd yw ergyd ddwbl. Addewidion wedi eu torri a pholisïau aflwyddiannus yn dod i lawr yr M4, ochr yn ochr â Llywodraeth Lafur Cymru oddefol, dawel sy'n amharod i gynnig gwich o feirniadaeth na chodi bys i amddiffyn buddiannau pobl Cymru.

Gadewch inni ddechrau gyda'n pensiynwyr. Wrth inni symud tuag at yr hyn y gwyddom bellach ei fod yn ddechrau eithriadol o oer i'r gaeaf, penderfynodd Llywodraeth Lafur newydd y DU ddileu taliad tanwydd y gaeaf i 0.5 miliwn o bensiynwyr yma yng Nghymru—0.5 miliwn o bobl—gyda llawer ohonynt yn fregus, sydd bellach yn wynebu dewis rhwng gwresogi a bwyta y gaeaf hwn. Toriad a fyddai, yn ôl rhagfynegiadau ymchwilwyr y Blaid Lafur ei hun, yn arwain at oddeutu 4,000 o farwolaethau. Nid oes unrhyw ryfedd fod 'It will be freezing this Christmas' wedi llwyddo i gyrraedd Rhif 1 yn y siartiau ganol mis Rhagfyr.

Nawr, o leiaf fe safodd Plaid Lafur yr Alban dros eu pobl a beirniadu penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU, ac eto yma yng Nghymru ni ddywedodd Plaid Lafur Cymru unrhyw beth. Dim gair. Ac yn hytrach na chamu i mewn i ddarparu ei lwfans tanwydd y gaeaf ei hun yng Nghymru, ni wnaethant unrhyw beth. Hwy yw'r Llywodraeth 'dweud dim, gwneud dim'.

Roedd yna dawelwch hefyd wrth gwrs ar y mater sy'n wynebu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth. Hyd at ychydig wythnosau yn ôl, roedd gwleidyddion Llafur yng Nghymru yn baglu dros ei gilydd i fod mewn hunluniau. Fe wnaethant bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn addo cefnogi menywod WASPI, gan gynnwys mewn digwyddiadau yma ym Mae Caerdydd, y tu allan i'r Senedd ar y grisiau. Ac yna, ar ôl ennill yr etholiad, mae Syr Keir Starmer, nad yw angen eu cefnogaeth mwyach, wedi eu diystyru, gyda sylw rhwydd am ddarllen eu gohebiaeth a nodi eu sylwadau. Ac yn sydyn iawn nid oedd yr un Aelodau o'r Senedd a'r Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a fu'n gwenu mewn hunluniau yn gwneud dim nac yn dweud dim.

Wedyn, ein ffermwyr. Maent wedi cael triniaeth debyg. Cyn yr etholiad, addawodd Syr Keir gefnogi amaethyddiaeth. Ac roedd ein Hysgrifennydd Cabinet Llafur Cymru ein hunain yn hapus i ymweld â marchnadoedd ffermwyr, gyda'r camerâu'n dilyn wrth gwrs, i addo y byddai Llywodraeth Lafur yn sefyll dros ffermwyr Cymru. Ond roedd yr hyn a ddigwyddodd wedyn, yn dilyn yr etholiad, yn ergyd drom i gymunedau gwledig, gyda newidiadau i'r dreth etifeddiant sy'n gyfystyr â chipio tir ffermydd teuluol. A ble roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi'r ymosodiad yma ar gymunedau gwledig ar draws Cymru? Ble oeddent hwy? Unwaith eto, ni wnaethant ddweud gair na gwneud dim.

Mae ein system reilffyrdd yng Nghymru yn parhau i gael ei thanariannu, oherwydd diffyg symiau canlyniadol Barnett ar gyfer gwariant HS2 yn Lloegr. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd hon wedi bod yn codi'r mater ers blynyddoedd. Roeddem hyd yn oed yn hapus i feirniadu ein Llywodraeth Geidwadol ein hunain yn y DU ar hyn. Pam y gwnaethon ni hynny? Wel, yn wahanol i eraill yn y Siambr hon, rydym yn rhoi buddiannau pobl Cymru o flaen buddiannau ein plaid wleidyddol. Nawr, bryd hynny, wrth gwrs, roedd y Blaid Lafur Gymreig a'r Aelodau, pob un ohonynt yn y Siambr hon, yn cytuno â ni. Fe wnaethant ymuno â ni i alw am i'r arian hwnnw ddod i Gymru. Eto i gyd, cyn gynted ag yr enillwyd yr etholiad, gwrthododd Llywodraeth Lafur y DU y syniad, a thawelodd Llywodraeth Lafur Cymru, ac ildio i fargen rad mewn ymgais i sicrhau ychydig friwsion oddi ar fwrdd Rachel Reeves.

A'n heconomi, wedyn. Roedd busnesau'r stryd fawr, tafarndai a siopau teuluol yng Nghymru eisoes yn dioddef yn sgil ardrethi busnes uwch na mannau eraill yn y DU. Ac eto, ar ben yr heriau hyn, mae'n rhaid iddynt ymdopi â chynnydd Llafur i yswiriant gwladol. Treth ar swyddi. Beth oedd ymateb Llafur Cymru? Wel, yn anffodus, parhaodd y patrwm ymddygiad. Ni wnaethant ddweud na gwneud dim. Cawsom addewid o sefydlogrwydd ariannol, ond mae ein heconomi yn crafu'r gwaelod yn sgil cyllideb sydd wedi codi costau benthyca y tu hwnt i lefelau 2022, a'r tro hwn nid oes unrhyw bandemig na Liz Truss i'w beio ychwaith.

Ac fe wnaethom i gyd chwerthin ar ben addewidion Syr Keir Starmer am safonau mewn bywyd cyhoeddus. 'Rydym yn mynd i lanhau gwleidyddiaeth', meddai, ac eto rydym wedi gweld Gweinidog trafnidiaeth yn ymddiswyddo ar ôl methu datgelu euogfarn o dwyll, er ei bod yn gyfrifol am heddlu, a gwelsom Weinidog gwrth-lygredd—fe ailadroddaf hynny, Gweinidog gwrth-lygredd—yn ymddiswyddo ynghanol cwestiynau am eiddo drud sy'n gysylltiedig â chyfundrefn lofruddiol—cyfundrefn, gallwn ychwanegu, sy'n cael ei rhedeg gan berthynas, gydag aduniadau teuluol yn digwydd ym Moscow fel gwesteion i Putin yn ôl pob sôn. Ac rydym wedi bod yn dyst i Weinidogion, gan gynnwys y Prif Weinidog, yn bachu dillad, tocynnau cyngerdd a sbectol am ddim, fel cystadleuwyr ar raglen gwis.

Ar hyn oll, nid yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud gair ac nid ydych chi wedi gwneud dim ychwaith. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai nad ydych chi'n barod i wneud unrhyw beth am y pethau hyn, i godi llais a gweithredu, ond nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i sefyll ar y cyrion. Byddwn bob amser yn amddiffyn a sefyll dros fuddiannau Cymru, ac yn codi llais drostynt. Byddwn yn sefyll dros bensiynwyr Cymru. Byddwn yn pleidleisio dros gefnogi taliad tanwydd y gaeaf ar gyfer Cymru. Byddwn yn sefyll dros ein ffermwyr. Byddwn yn sefyll dros ein busnesau lleol, a byddwn yn sefyll dros ein gwasanaethau cyhoeddus yma hefyd, oherwydd o dan Lafur Cymru mae ein GIG wedi torri. Mae mwy na 24,000 o bobl yn aros dwy flynedd am driniaeth tra bod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fod yn gwbl analluog i gyflawni gwelliannau, er gwaethaf addewid ar ôl addewid.

O dan Lafur hefyd, mae ein system addysg yng Nghymru wedi torri: yn gywilyddus, mae un o bob pump o blant yn gadael ysgolion cynradd yn methu darllen ac ysgrifennu'n iawn. O dan Lafur Cymru, mae ein system drafnidiaeth yng Nghymru wedi torri. Mae gennym derfynau cyflymder o 20 mya, llawer o brosiectau adeiladu ffyrdd wedi'u rhewi, a methiant llwyr i ddatblygu prosiectau rheilffyrdd newydd, gan gynnwys prosiectau fel trydaneiddio rheilffordd y gogledd, y trowyd cefn arno'n gyfan gwbl. Mae ffermwyr, pensiynwyr, perchnogion busnesau bach, modurwyr, teithwyr rheilffordd, rhieni a chleifion yn crefu am newid yma yng Nghymru, ac rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn rhybuddio Llywodraeth Lafur Cymru: mae eich amser yn dod i ben. Ac ar ôl 26 mlynedd o fethiant Llafur, symudwch o'r ffordd i ni allu rhoi Cymru yn ôl at ei gilydd. 

16:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi y bu’n rhaid i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau anodd er mwyn dechrau adfer twf yn ein heconomi, sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn fwy sefydlog ac ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Yn croesawu’r cyllid ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.

Yn nodi’r ffaith bod y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn ei chwe mis cyntaf yn golygu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwerth £1.5 biliwn o gyllid refeniw ychwanegol a gwerth £3 biliwn o gyllid cyfalaf, gan alluogi Cymru i anelu at dwf.

Yn credu y dylai cyllideb Cymru ganolbwyntio i ddechrau ar gyfrifoldebau datganoledig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n credu ein bod wedi cael y cyfraniad hurt arferol, os caf ei roi yn gwrtais, gan y Ceidwadwyr Cymreig i lansio hyn. Rwy'n credu mai eu problem go iawn, Ddirprwy Lywydd, yw nad yw atgofion pobl mor fyr ag y maent hwy'n meddwl eu bod. Pan siaradant am yr holl bethau hyn—peidio â sefyll dros Gymru, honiadau o lygredd—mae pobl yn cofio'n dda am y blynyddoedd Torïaidd hir hynny, y 14 mlynedd o gyni, y gyfres o fethiannau a ddangoswyd ganddynt ar yr holl bethau y mae Darren Millar wedi tynnu sylw atynt fel methiannau y mae'n eu gweld ar hyn o bryd. Cawsom yr holl flynyddoedd gyda hynny i gyd yn amlwg iawn. Mae arnaf ofn, Darren, nad yw pobl yn mynd i anghofio mor sydyn ag yr hoffech iddynt ei wneud. Bydd yr atgofion hynny'n byw gyda phobl am amser hir iawn ac efallai fod gan hynny rywbeth i'w wneud â pham nad oes gennych chi un AS yng Nghymru. Efallai y dylech ystyried hynny cyn i chi wneud y cyfraniadau a wnaethoch yn gynharach.

Diolch am wneud hynny. A gaf i eich atgoffa y dylech fod yn ddigon gostyngedig i gydnabod bod cyfran y bleidlais dros y Blaid Lafur yng Nghymru hefyd wedi gostwng yn yr etholiad cyffredinol diwethaf? Felly, roedd yn berfformiad braidd yn ddilewyrch, os caf ddweud, o ran cyfran y bleidlais i'ch plaid. A ydych chi'n derbyn mai'r rheswm pennaf am hynny oedd yr anobaith a'r anfodlonrwydd llwyr y mae pobl Cymru'n ei deimlo am berfformiad y Llywodraeth ddilewyrch hon? 

Darren, nid oes gennych unrhyw Aelodau Seneddol yng Nghymru. Wynebwch realiti. Mae angen dull hollol wahanol arnoch o weithredu i'r un y buoch yn mynd ar ei drywydd yma yng Nghymru, heb sôn am yr hyn a wnaeth eich cymheiriaid yn y DU dros y blynyddoedd hir o gyni. Roeddem ni ar yr ochr hon yn meddwl y gallai eich arweinyddiaeth chi gynnig ychydig o newid, ond mae arnaf ofn fod popeth a glywsom hyd yma yn rhagor o'r un peth, mwy o'r hyn y daethom i arfer ag ef gan eich rhagflaenydd. Nid yw'n mynd i weithio, nid yw'n ddigon da, Darren, ac mae gwir angen i chi ailfeddwl. 

Yr hyn roeddwn i eisiau mynd i'r afael ag ef, Ddirprwy Lywydd, oedd adroddiad—[Torri ar draws.] Yr hyn roeddwn i eisiau siarad amdano mewn gwirionedd oedd adroddiad Gordon Brown, ac rwy'n awyddus iawn i'w weld yn cael ei weithredu yma yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu ei fod yn cynnig posibiliadau real i ni o ran mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb ofnadwy yr ydym yn dal i'w weld—anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol, anghydraddoldeb cymdeithasol—ledled y DU. Mae angen cefnogaeth a chymorth a phartneriaeth go iawn ar wledydd fel Cymru gan Lywodraeth y DU i adeiladu ein heconomi ac ymdrin â'r anghydraddoldebau hynny, ac mae adroddiad Gordon Brown yn cynnig glasbrint i ni ar gyfer rhai o'r ffyrdd pwysicaf ymlaen—pethau fel dod â mwy o swyddi sector cyhoeddus yma i Gymru, wedi'u hadleoli o fannau eraill yn y DU, de-ddwyrain Lloegr yn bennaf. 

Rydym am weld mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith, er enghraifft rheilffyrdd, ac mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r diffyg buddsoddiad hanesyddol yn ein diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru, diffyg buddsoddiad a welsom dros lawer iawn o flynyddoedd. Ac mae angen cefnogaeth i'n clystyrau: i ni yn lleol yng Nghasnewydd, er enghraifft, seiberddiogelwch, y diwydiant lled-ddargludyddion, a'r newid y mae angen inni ei weld i ddur gwyrdd. Mae yna lawer o agweddau pwysig i adroddiad Gordon Brown, Ddirprwy Lywydd, ac wrth gwrs, nid ydynt i gyd yn economaidd; mae rhai ohonynt yn ymwneud ag ymdrin ag anghydbwysedd pŵer mewn perthynas â'n cyfansoddiad, a lle mae'r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau a strategaeth a datblygu polisi. Felly, mae llawer o agweddau pwysig i'r adroddiad hwnnw. Roedd yn waith pwysig—[Torri ar draws.]—ac rwy'n gobeithio y gwelwn gynnydd cynnar wrth fwrw ymlaen ag ef. Fe ildiaf i Sam Kurtz.

16:15

Diolch. Rydym yn amlwg yn coffáu chwe mis o arweinyddiaeth Starmer. Rydych chi'n sôn am adroddiad Gordon Brown. A allwch chi bwyntio at un peth yn yr adroddiad hwnnw sydd wedi datblygu yn y chwe mis ers dechrau prif weinidogaeth Keir Starmer?

Mae'n ddyddiau cynnar iawn, Sam, onid yw—[Torri ar draws.] Rydym yn sôn am chwe mis—[Torri ar draws.]

Byddwch yn realistig ac yn synhwyrol, Sam. Rydym eisoes wedi clywed gan ein Ysgrifenyddion Cabinet yma: cafwyd newid llwyr yn y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ni ddylech geisio diystyru hynny'n ysgafn, oherwydd roedd gennym berthynas ofnadwy a diffyg gwir bartneriaeth am gymaint o flynyddoedd o dan eich cymheiriaid yn San Steffan. Rydym eisoes wedi gweld newid enfawr, ac mae hwnnw'n cyflawni ac fe fydd yn cyflawni.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud bod y gwaith a wnaeth Gordon Brown a'i gymheiriaid yn waith pwysig. Mae gwir angen ei weithredu, ac os caiff ei weithredu yma yng Nghymru, fe welwn gynnydd mawr ei angen wrth fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau rhanbarthol a welwn ledled y DU. Mae'n ymwneud â mwy na Chymru'n unig; mae hefyd yn ymwneud â'r Alban a gogledd Lloegr, er enghraifft. Rwy'n gobeithio y gwelwn ei weithredu'n fuan iawn.

Wel, mae'n cymryd deryn glân i ganu, ac mae yna eironi, wrth gwrs, onid oes, mai y Torïaid sy’n dod a’r ddadl hon gerbron heddiw, a ninnau yn gwybod pa mor ddinistriol fuodd eu hagenda llymder ar unigolion a chymunedau yng Nghymru, a’r ffaith bod ein cymunedau ni'n dal i deimlo sgileffeithiau hynny.

Wedi’r cyfan, y Torïaid oedd yn gyfrifol am smonach llwyr Brexit, sy’n parhau i amharu ar ein perfformiad economaidd, ac sydd wedi tanseilio cymaint o fasnach a diwydiant yma yng Nghymru. Nhw hefyd sydd yn gyfrifol am normaleiddio banciau bwyd a chyflwyno polisïau niweidiol a chreulon sydd wedi arwain at gynifer i fyw mewn tlodi a methu â fforddio hanfodion bywyd.

O ran HS2, fe ddylen nhw fod wedi cyflwyno setliad ariannol teg i Gymru a sicrhau’r arian sy’n ddyledus i Gymru. Dim syndod, felly, bod pleidleiswyr Cymru wedi penderfynu nad oedd yr un Aelod Seneddol Ceidwadol o Fôn i Fynwy yn haeddu cadw eu sedd.

Ond er ein bod yn cofio gwaddol y Llywodraeth Geidwadol, gwaddol sydd yn dal i gael ei deimlo heddiw, ffocws dadl heddiw ydy Llywodraeth bresennol San Steffan, ac er gwaethaf rhagrith y Ceidwadwyr wrth gyflwyno’r ddadl, mi fyddwn ni yn cefnogi’r cynnig heddiw, gan ein bod ninnau yn rhannu’r pryderon a fynegir ynddo.

Fe wnaeth Llafur addo newid i bobl Cymru, ac fe bleidleisiodd nifer o bobl ledled y wlad drostynt, gan eu bod nhw yn deisyfu newid er gwell. Does dim rhyfedd, felly, fod yna nifer yn teimlo wedi'u bradychu gan Lafur, o weld mai newid er gwaeth ydy’r newid hwnnw iddyn nhw yn bersonol, a chwestiynu pam nad oedd Llafur wedi bod yn glir cyn yr etholiad o ran rhai o'r polisïau sydd wedi eu gweithredu ers iddyn nhw ddod i rym.

Rydyn ni wedi clywed am rai o'r enghreifftiau, ond hefyd, wrth gwrs, gwrthod cael gwared ar y cap dau blentyn creulon, sydd wedi arwain at 30 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi, ac, wrth gwrs, y lwfans tanwydd gaeaf yn cael ei dynnu oddi ar hanner miliwn o bensiynwyr—rhywbeth na wnaeth hyd yn oed George Osborne, pensaer llymder, ei ystyried, ac sydd wedi gwthio cymaint o'n pensiynwyr ni i mewn i dlodi y flwyddyn yma yn unig.

Yn ail, wrth gwrs, y codiad mewn yswiriant gwladol cyflogwyr heb unrhyw sicrwydd o ad-daliad llawn gan y Trysorlys, sydd wedi gadael ein prifysgolion, meddygfeydd teulu, ein sefydliadau trydydd sector, elusennau, yn wynebu sefyllfa ariannol fregus dros ben. Mae newidiadau'r dreth etifeddiaeth yn adlewyrchu diffyg dealltwriaeth o'n cymunedau amaethyddol; y tro pedal o ran merched WASPI.

Mae'n dod yn fwyfwy amlwg nad partneriaeth o gwbl ydy'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan mewn gwirionedd, oherwydd sut ydych chi'n gallu sôn am bartneriaeth gytbwys pan fo un ochr yn anwybyddu'r ochr arall ar faterion o bwys i Gymru? Er enghraifft, dydyn ni ddim wedi derbyn hyd yn oed un geiniog o arian HS2 eto yn ein cyllideb, er gwaetha'r ffaith bod Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru'n arfer cytuno efo ni ei fod yn warth ac y dylem ni gael yr arian sy'n ddyledus i Gymru.

Dim symudiad o gwbl o ran yr addewidion ar ddatganoli cyfiawnder ac Ystâd y Goron, gyda dim awydd gan naill begwn y 'partneriaeth mewn grym' i weithredu ar fesurau sydd wedi'u hargymell gan amryw a llu o adroddiadau ac ymchwiliadau ers sbel. 

Yn y cyfamser, rydym ni wedi gweld Llywodraeth yr Alban yn defnyddio eu grymoedd nhw i ymateb yn flaengar ac yn gadarn i rai o'r pethau hyn, felly mae yna gyferbyniad clir gydag agwedd Llywodraeth Cymru, sy'n trio gwneud esgusodion dros fethiannau San Steffan yn hytrach na sefyll dros Gymru.

Felly, gobeithio, yn yr ymateb gan y Llywodraeth y prynhawn yma, y cawn ni glywed pa drafodaethau sydd wedi digwydd, sydd am ddigwydd, a beth ydy disgwyliadau ein Llywodraeth ni o ran sicrhau'r hyn sy'n ddyledus i Gymru ar y pethau roedd Llafur yn arfer cytuno efo ni arnyn nhw, yn arfer gweiddi amdanyn nhw, yn eu mynnu—pa symudiad sy'n mynd i fod? Oherwydd Cymru sydd ar ei cholled os nad ydym ni'n cael yr hyn yr ydym ni nid yn unig yn ei ddeisyfu, ond yn ei haeddu.

16:20

Aelodau, mae'n amlwg iawn fod Llywodraeth Lafur Keir Starmer wedi bod yn drychineb llwyr mewn cymaint o ffyrdd dros y chwe mis cyntaf, fel y disgrifiwyd mor huawdl gan fy arweinydd, boed o ran y ffordd y gwnaethant drin pensiynwyr bregus—cael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf, fel y gwyddom—neu'r ergyd enfawr i fusnesau a chyflogeion trwy gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr, Ac wrth gwrs, y newidiadau arfaethedig hynod niweidiol i'r dreth etifeddiant amaethyddol, maes rwy'n mynd i ganolbwyntio mwy arno.

Mae'r sector ffermio mor sylfaenol i economi a gwead y DU ac yn bendant yma yng Nghymru. Dylid cydnabod pa mor anodd yw pethau wedi bod i ffermwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn parhau i deimlo dan fygythiad. Mae ein ffermwyr yng Nghymru yn parhau i wynebu a byw gydag effeithiau dinistriol TB, y cynnydd yng nghost gwneud busnes, mwy o reoleiddio, biwrocratiaeth, disgwyliadau cynyddol y Llywodraeth, ac eto y cyfan y maent am ei wneud yw ein bwydo ni. Nid ydynt yn ei wneud er mwyn yr arian, ac mae hynny'n ffaith. 

Bellach, mae'n rhaid i'n cymuned ffermio ymdopi â dwy Lywodraeth Lafur ar y naill ben a'r llall i'r M4 sydd naill ai ddim yn poeni neu ddim yn deall anghenion eu cymunedau gwledig. Holl bwynt rhyddhad treth etifeddiant amaethyddol yw rhoi sicrwydd i ffermwyr y byddant yn gallu parhau i gadw eu fferm deuluol yn y teulu a throsglwyddo eu hetifeddiaeth i'w plant. Mae hyn yn caniatáu i natur hanesyddol ffermydd teuluol barhau am byth, gan alluogi cenedlaethau'r dyfodol i barhau i fasnachu a pharhau i'n bwydo.

Ar bapur, mae ffermwyr yn aml yn cael eu hystyried yn rhy syml fel rhai sy'n gyfoethog mewn asedau, ond mewn gwirionedd, fe wyddom eu bod yn dlawd mewn arian parod. O ystyried proffil incwm ymylol y mwyafrif o ffermydd, mae'n annhebygol y bydd unrhyw un sy'n etifeddu fferm yn gallu bodloni'r rhwymedigaeth treth etifeddiant heb werthu eu fferm, neu ran fawr ohoni, neu gael benthyciadau helaeth na fyddent yn gallu eu talu'n ôl o'r incwm cymedrol y maent yn ei gynhyrchu.

Mae canlyniadau eraill i'r newid yn y rhyddhad eiddo amaethyddol hefyd, gan fod llawer o fusnesau fferm yn gorfod dibynnu ar dir ychwanegol wedi ei rentu i barhau i fod yn hyfyw. Os bydd y newidiadau i'r rhyddhad eiddo amaethyddol yn digwydd yn 2026, disgwylir y byddai'r cyflenwad o dir sydd ar gael i'w rentu yng Nghymru yn cael ei leihau'n ddifrifol, sy'n golygu y byddai llawer o ffermwyr yn colli mynediad at dir sydd ei angen i gynnal eu hyfywedd busnes. Bydd yr holl bethau hyn yn bygwth ein diogeledd bwyd a gwead ein cymunedau gwledig, a phopeth sy'n mynd gyda hynny, gan gynnwys y niwed i'n diwylliant a'n hiaith.

Rwyf wedi bod yn pryderu ynghylch cymaint o'r bobl sy'n cefnogi'r newid treth hwn, nad oes ganddynt fawr ddim profiad o gefn gwlad, os o gwbl, sydd wedi galw'r rhyddhad eiddo amaethyddol yn fwlch. Nid yw'n fwlch—mae'n bolisi sydd wedi'i lunio'n ofalus i ddiogelu ffermydd teuluol Prydain rhag cael eu chwalu. A diolch i'r Llywodraeth Lafur newydd hon, mae ein ffermwyr yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o orfod gwneud hynny, chwalu'r ffermydd hynny. I wneud pethau'n waeth, mae llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud bod y Canghellor wedi gwrthod ymgysylltu â'r undeb ar y newidiadau hyn i'r dreth etifeddiant ers iddi gyhoeddi'r gyllideb.

Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi dweud ei bod hi'n hapus i fod yn amhoblogaidd gyda Keir Starmer. Os felly, mae angen iddi sefyll dros ein ffermwyr yng Nghymru a gwrthsefyll yr ymosodiad ar y diwydiant pwysig hwn. Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu sefyll dros bobl Cymru, boed drwy newid eu meddyliau ynghylch faint y dylai Cymru ei gael o HS2, drwy fethu condemnio Rachel Reeves am amddifadu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas o daliadau tanwydd y gaeaf, ac rwy'n disgwyl heddiw y bydd Llafur Cymru yn methu sefyll dros y gymuned ffermio.

Ddirprwy Lywydd, mae gennym gyfle heddiw i anfon neges go iawn at y Llywodraeth Lafur yn San Steffan na fydd y Senedd yn sefyll o'r neilltu ac yn derbyn effaith negyddol penderfyniadau Llafur y DU ar bobl Cymru, boed yn bensiynwyr, yn fusnesau neu'n ffermwyr. Dylai'r grwpiau hyn deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu a bod yn ffyddiog fod y rhai y maent yn eu hethol yn eu cefnogi. Fodd bynnag, nid yw'n teimlo felly yma o dan Lafur.

16:25

Onid yw'n ddiddorol pa mor fyr yw'r cof a sut y mae pethau'n cael eu cyflwyno? Mae £14 miliwn yn y gyllideb ar gyfer ffermwyr. Byddai unrhyw un yn meddwl nad ydym yn rhoi unrhyw beth o gwbl.

Symudaf ymlaen i edrych ar rai o'r penderfyniadau a wnaed. Rydym yn gwybod yn sicr, mae wedi'i gofnodi'n dda, mai'r hyn roedd y Torïaid eisiau ei wneud mewn gwirionedd pan oeddent mewn grym, ac fe aethant ati i'w wneud yn eithaf da, oedd peidio â diogelu'r gweithwyr, y gweithwyr a gâi leiaf o gyflog, gan wneud eu gorau glas i sicrhau na allai undebau llafur weithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol i'w haelodau, a sicrhau na châi lleisiau undebau llafur eu clywed drwy beidio â chaniatáu amser cyfleuster â thâl, drwy gynyddu'r trothwy ar gyfer pleidlais fel y gellid clywed y lleisiau hynny. Ni ddigwyddodd hynny yng Nghymru oherwydd ein bod wedi diogelu pobl rhag yr ymosodiad bwriadol hwnnw ar weithwyr.

Felly, symudwn ymlaen. Anogodd yr economi gìg gamddefnydd eang o gontractau dim oriau. Ffynnodd cwmnïau tra amddifadwyd gweithwyr o hawliau sylfaenol fel sicrwydd swydd, oriau gwarantedig, tâl salwch neu hawl gwyliau. Ymunodd gweithwyr â bywoliaeth ansicr â chiwiau defnyddwyr banciau bwyd, etifeddiaeth Dorïaidd gywilyddus arall. Pan ddaeth y blaid gyferbyn i rym, roedd 35 o fanciau bwyd ar draws Prydain, am nad oedd newyn torfol yn broblem fel y daeth i fod wedyn. Erbyn hyn mae gan Brydain 2,800 o fanciau bwyd, gyda dros 3 miliwn o barseli bwyd wedi eu dosbarthu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rywsut fe wnaethant lwyddo i wneud anghydraddoldeb, newyn a thlodi yn norm tra oeddent mewn grym. A bydd yn cymryd amser i newid hyn. Rwy'n falch fod y Bil Lles Plant ac Ysgolion yn nodi llwybr ar gyfer gwneud hynny.

Bydd y Bil Hawliau Cyflogaeth yn sicrhau newid mawr ei angen. Mae'n nodi sut i sicrhau bod gweithwyr yr economi gìg yn cael eu categoreiddio'n briodol ac yn cael yr hawliau y maent yn eu haeddu, gan gynnwys gwyliau â thâl a chyflogau teg. Mae'n cefnogi gweithio hyblyg, gan helpu gweithwyr ar drugaredd cyflogwyr a wrthododd ystyried y ceisiadau hynny, ac ymhlith y rheini, bydd llawer yn ofalwyr a byddant yn rhieni newydd. Bydd yn mynd i'r afael â chwmnïau sy'n ecsbloetio staff ifanc a newydd fel llafur rhad neu am ddim, ac mae'n mynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle, gydag amddiffyniadau cryfach i'r rhai sy'n codi llais yn erbyn triniaeth annheg. Ac mae'n mynd i'r afael â'r oedi a'r aneffeithlonrwydd sydd wedi arwain yn aml at wrthod unrhyw fath o gyfiawnder i weithwyr. O dan y Llywodraeth flaenorol, camfanteisiodd rhai busnesau ar y bylchau yn y gyfraith ar draul y gweithwyr mwyaf agored i niwed, ond mae'r bylchau hynny bellach yn mynd i gael eu cau. Bydd hyn yn sicrhau ymagwedd decach a mwy cytbwys tuag at gyflogaeth, lle gall pob gweithiwr ffynnu a lle caiff eu hawliau eu diogelu. Rwy'n credu bod hynny'n cyferbynnu'n helaeth â'r hyn a wnaed o dan yr arweinyddiaeth, neu'r gamdriniaeth, os mynnwch, o dan y Torïaid am 14 mlynedd.

Rydym ni'n parchu gweithwyr. Rydym yn parchu'r ffaith bod angen ein hamddiffyniad ar bobl ar y cyflogau isaf, a dyna pam y mae codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon yn y gyllideb eleni. Y gwahaniaeth yw ein bod ni wedi buddsoddi. Torrodd y Torïaid ein cyllideb ni bob blwyddyn. Ni chlywais erioed unrhyw beth yn cael ei ddweud oddi ar y meinciau gyferbyn am y toriadau hynny. Ac eto, er gwaethaf hynny, rydym wedi llwyddo i adeiladu ysgolion newydd. Rydym wedi gwella adeiladwaith adeiladau ein cymdeithasau tai. Fe wnaethom gynnwys y gofynion sylfaenol y byddem yn disgwyl i bobl mewn tai cymdeithasol—cyflwr y tai hynny—eu cyrraedd. Ac rydym wedi mynd ymhellach. Rydym wedi gwneud y safon ansawdd tai, ond rydym wedi ei gyflwyno eto. Ac mae hynny'n braf. Clywais rywun yn dweud, 'A yw'n braf?' Mae'n rhyfeddol. Pe byddech chi'n byw yn un o'r tai hynny, byddech chi'n meddwl ei fod yn wirioneddol wych, cael rhywun yma sy'n poeni am adeiladwaith yr adeilad rydych chi'n byw ynddo ac rydych chi'n magu'ch plant ynddo. Felly, ydy, mae'n braf, i ailadrodd yr hyn rydych chi newydd ei ddweud.

16:30

Mae pob un ohonom wedi cael clywed, sawl tro yn y flwyddyn, yn y cyfnod cyn yr etholiad, y byddai Llywodraeth Lafur yma a Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn beth hyfryd i bobl Cymru. Byddai partneriaeth rhwng dwy weinyddiaeth ar ddau ben yr M4 yn gweithio tuag at nod cyffredin ac yn darparu buddion mawr, dywedwyd wrthym, dro ar ôl tro. Wel, Ddirprwy Lywydd, gallaf ddweud yn onest fy mod yn credu inni gael ein camarwain ar hynny.

Mae trigolion ledled Cymru wedi cael eu curo a'u cosbi ers i Keir Starmer fynd i mewn i Rif 10 ac nid oes arwydd o gwbl fod unrhyw fuddion yn dod i ni. Rydym wedi gweld taliadau tanwydd y gaeaf yn cael eu dwyn oddi ar bensiynwyr, gan gynnwys bron i 100,000 yn fy rhanbarth i yn unig yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd y taliad hwn yn hanfodol i gynifer o bobl, a dyna pam fod ein cynnig ni heddiw'n galw am greu cronfa tanwydd y gaeaf i Gymru. Mae'n bosibl gwneud hynny, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd fy arweinydd, Darren Millar, ac mae’r Alban wedi gwneud hynny. Ac eto, mae’r Llywodraeth Lafur hon yma yng Nghymru wedi gwrthod hyd yn oed ystyried hynny hyd yn hyn. Rydym wedi gweld ffermydd teuluol Cymru yn cael eu rhoi mewn perygl, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Peter Fox, gyda threth etifeddiant newydd eithafol a hynod annheg, ac rydym wedi gweld busnesau, elusennau, awdurdodau lleol a llawer o sefydliadau eraill yn cael eu llyffetheirio gan gynnydd diweddar y Canghellor i yswiriant gwladol. Nid yn unig hynny, ond mae Llafur yn San Steffan fwy neu lai wedi ildio sofraniaeth tiriogaeth bwysig Ynysoedd Chagos, wedi rhwystro ymchwiliad cenedlaethol i gangiau meithrin perthnasoedd amhriodol ac wedi rhyddhau troseddwyr treisgar yn ôl ar y strydoedd mewn ymgais i ryddhau lleoedd mewn carchardai. Mae hynny'n gryn dipyn o niwed i'n gwlad mewn cwta chwe mis, ond dyna ni, peidiwch ag ofni—o leiaf fe sicrhaodd yr Arglwydd Alli fod Keir Starmer a'i dîm yn gwisgo'u dillad gorau ac yn byw bywyd moethus wrth iddynt gyflwyno'r polisïau creulon hyn.

Bydd llawer o bobl, rwy’n siŵr, yn pendroni beth oedd Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud tra bo Keir Starmer yn brysur yn creu hafoc yn Stryd Downing. Rhaid bod y Prif Weinidog a’i Chabinet yn crefu ar Brif Weinidog y DU i roi gorau i'w gynlluniau. Rhaid bod y Prif Weinidog yma'n sgrechian, 'Gwnewch yn well dros Gymru', ond yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny. Mewn gwirionedd, eisteddodd Llywodraeth Lafur Cymru ar eu dwylo a gwylio'n dawel o'r cyrion. Mae’n debyg na ddylem ddisgwyl yn wahanol, o ystyried bod gan y Prif Weinidog gymaint o ddylanwad ar Keir Starmer ag sydd ganddi ar Donald Trump.

Gyda fy het addysg newydd am fy mhen, roeddwn yn dilyn cynlluniau newydd Llywodraeth y DU ar gyfer addysg yn agos yr wythnos diwethaf i weld pa gynlluniau beiddgar oedd gan Lafur yn yr arfaeth. A beth oedd y cynllun mawr ar gyfer Lloegr? Cyflwyno'r Bil Lles Plant ac Ysgolion, a fydd yn gostwng safonau ysgolion yn Lloegr i'r lefelau a welir yma yng Nghymru dan arweiniad Llafur, lle mae disgybl 15 oed ar gyfartaledd yn sgorio'n is na disgyblion mewn unrhyw wlad arall yn y DU mewn pynciau allweddol. Mae hefyd yn cynnwys cael gwared ar ysgolion academi llwyddiannus, a mynd â rheolaeth oddi ar ysgolion a'i rhoi yn ôl i fiwrocratiaid.

Pan ddywedodd Syr Keir mai Llafur yng Nghymru oedd ei lasbrint ar gyfer Llywodraeth Lafur yn Llundain, credais ei fod yn cellwair, ond mae'n amlwg nad oedd. Am fwy na dau ddegawd a hanner, mae Llafur wedi bod yn gwneud cam â phobl Cymru drwy beidio â mynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig: iechyd, addysg, yr economi. A nawr, mae'n edrych yn debyg fod Prif Weinidog y DU eisiau achosi mwy fyth o niwed. Os mai dyma sut olwg sydd ar y chwe mis cyntaf o brif weinidogaeth Syr Keir, rwy'n arswydo meddwl beth sydd ar y gweill i bob un ohonom dros y chwe mis nesaf.

Mae'r cyhoedd eisoes wedi cael llond bol ar Lywodraeth Lafur y DU, gyda chwech o bob 10 o bobl yn dweud eu bod—yn mynd i fod yn pleidleisio, yn wir—yn anfodlon, yn ôl arolwg barn gan YouGov. Lleisiodd pleidleiswyr eu barn, gyda chymeradwyaeth net o -45 y cant i Lywodraeth Syr Keir. Mae hynny'n dal i fod braidd yn hael, os gofynnwch i mi. Ym mis Mai 2026, gadewch inni obeithio y bydd pobl Cymru yn cael gwared ar y Llywodraeth Lafur lipa hon, oherwydd rydych chi wedi torri’r wlad a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy'n mynd i allu ei thrwsio. A phan ddaw’r amser, gadewch inni obeithio y bydd y pleidleiswyr yn cael gwared ar y gwleidyddion Llafur yn San Steffan hefyd. Diolch.

16:35

Rwyf am siarad yn benodol am y cyfeiriad yn y cynnig i'r lwfans taliad gaeaf, achos tra bod Plaid Cymru yn cytuno gyda'r hyn sydd yng nghynnig y Ceidwadwyr heddiw, o ran gresynu bod Llywodraeth Lafur San Steffan wedi tynnu'r gefnogaeth hanfodol hon i ffwrdd o 0.5 miliwn o bensiynwyr yng Nghymru, ac yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru alw ar eu partneriaid pen arall yr M4 i adfer y lwfans, mae'n rhaid dweud, fel rŷn ni ar y meinciau yma yn pwysleisio dro ar ôl tro wrth drafod y pwnc yma, mae diffyg eironi y Ceidwadwyr wrth wneud yr alwad hon yn datgelu amnesia sydd wir yn tynnu'ch anadl chi, achos mae'r mesurau llymder a ddyluniwyd ac a weithredwyd gan eich plaid chi pan oedden nhw mewn grym yn San Steffan wedi dyfnhau anghydraddoldeb yn ein cymdeithas, wedi gwthio degau ar filoedd o blant a phobl hŷn i dlodi, wedi gwaethygu'r caledi sy'n cael ei deimlo gan bobl ar incwm isel—cymaint ohonyn nhw'n bensiynwyr—tra'n caniatáu i'r mwyaf cyfoethog ysgwyddo'r pwysau lleiaf. A gallwch chi ddim dewis anghofio eich cefnogaeth i fesurau oedd yn gofyn i'r tlawd dalu mwy na'u siâr i sicrhau bod buddiannau'r cyfoethog yn cael eu hamddiffyn, nawr bod hynny'n wleidyddol gyfleus. Dagrau pethau yw bod chwe mis o Lywodraeth Lafur yn San Steffan hyd yma yn cael effaith debyg. 

Felly, byddwn ni'n cefnogi'r cynnig am ein bod ni'n meddwl ei bod hi'n warth ar unrhyw blaid sy'n dilyn ideoleg llymder, ac yn warth bod San Steffan yn gallu achosi bod Llywodraeth Cymru yn gorfod camu i mewn i gefnogi'r rhai yng Nghymru sy'n dioddef yn sgil polisïau fel torri'r lwfans taliad gaeaf a'r cap dau blentyn, ac yn meddwl ei bod hi'n annerbyniol bod cymaint o aelwydydd yng Nghymru wedi colli cannoedd o bunnoedd o gefnogaeth, a'r holl ofid a dioddefaint, a salwch a marwolaeth y bydd hynny yn achosi.

Rwy'n cofio Aelod o'r meinciau Llafur sydd ddim yma heddiw yn wfftio'r honiadau a wnaethpwyd yn y ddadl ddiwethaf gawson ni ar y pwnc yma am nifer y bobl hŷn fyddai mewn peryg o farw yn sgil y penderfyniad creulon ac annoeth hwn. Roedd y ffigwr yn 4,000 yn ôl y comisiynydd pobl hŷn. 'Gallwch chi ddim dweud faint o bobl sy'n mynd i farw', meddai e, 'gan nad ŷch chi'n gwybod eto pa mor oer y bydd hi.' Wnaeth nifer ohonom ar y meinciau yma fynegi'n sioc a'n siom wrth glywed Aelod Llafur yn trio meddalu ergyd y polisi annoeth ac annheg yma drwy ddadlau am nifer y pensiynwyr fyddai'n debyg o farw. Wel, gallaf i ddweud wrtho fe heddiw—dyw e ddim yma—roedd hi'n hynod, hynod oer dros yr wythnosau diwethaf, onid oedd hi? Roedd ein gwasanaeth iechyd mewn stad o argyfwng, a salwch anadlol, sy'n cael ei waethygu gan yr oerfel wrth gwrs, oedd yn rhannol gyfrifol am hynny.

Ers 2010 mae cyfoeth yn y Deyrnas Gyfunol wedi tyfu o driliynau, gyda'r rhan fwyaf llethol o'r cyfoeth yn mynd i'r aelwydydd mwyaf cefnog a llai na degfed ran yn mynd i'r 50 y cant tlotaf. Wrth i dlodi plant dyfu i'w lefel uchaf erioed, fe mwy na ddyblodd cyfoeth biliwnyddion Prydain. Ble mae'r newid y cawsom yn addewid—y byddai pethau’n wahanol? Yn lle trethu’r rhai sydd â’r adnoddau a’r gallu i gyfrannu at wneud pethau’n decach, mae Llywodraeth Starmer wedi penderfynu mai pensiynwyr Cymru, plant mewn tlodi a menywod sydd wedi cael eu geni yn y 1950au fydd yn gorfod wynebu effaith y penderfyniadau caled.

Mae yna ffordd arall o wneud pethau: mae angen cynnig gobaith i bleidleiswyr sy’n colli ffydd yn y system wleidyddol, sy’n gweld wyneb gwahanol yn Rhif 10 ond dim newid yn y modd y maen nhw'n cael eu cefnogi. Oes yna unrhyw syndod bod yr asgell dde yn codi i'r fath raddau gwta chwe mis ers i Lafur ennill mwyafrif mawr? Mae dyletswydd ar wleidyddion sy’n poeni am effaith hynny ar Gymru i sefyll lan a galw am bolisïau fydd yn creu newid sylweddol i fywydau’r rhai sydd am yn rhy hir wedi talu pris am lwfrdra gwleidyddol a dogmatiaeth neoryddfrydol.

16:40

Rwy’n falch o fod yn siarad heddiw yn y ddadl hon sy’n edrych ar chwe mis cyntaf y Llywodraeth Lafur yn y DU. A chwe mis yn ôl, pleidleisiodd pobl ym Mhrydain dros slogan gwag o newid, ond mae’r unig newid sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn ymhell o’r newid a addawyd iddynt. Rydym wedi gweld ansefydlogrwydd economaidd, codiadau treth, pensiynwyr yn cael eu cosbi, ynghyd ag un addewid maniffesto ar ôl y llall yn cael eu torri. Gadewch inni edrych ar rai enghreifftiau. Ym mis Mai y llynedd, ddeufis yn unig cyn yr etholiad cyffredinol, soniodd Keir Starmer am yr adeg yr aeth i Dewsbury a siarad â dynes 84 oed a oedd wedi gweithio ar hyd ei hoes ac nad oedd yn codi o'r gwely tan hanner dydd am nad oedd hi am roi'r gwres ymlaen. Dywedodd Syr Keir, yn yr un clip, fod hon yn sefyllfa ofnadwy i bensiynwr fod ynddi, a beth oedd y peth cyntaf a wnaeth pan gafodd yr allweddi i 10 Stryd Downing? Aeth ati'n greulon i fynd â thaliadau tanwydd y gaeaf oddi ar yr union bensiynwyr hynny. A gadewch inni beidio ag anghofio bod taliad tanwydd y gaeaf ar un adeg yn ymrwymiad a gefnogid gan Lywodraeth Lafur Cymru. Ond beth sydd wedi digwydd ers hynny? Dim un gair o gondemniad ynghylch penderfyniad creulon Starmer gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mae ffigurau Llafur ei hun yn dangos y gallai 4,000 o bensiynwyr farw o ganlyniad i’r penderfyniad, a phrin ein bod wedi gweld Llafur yma'n codi eu hysgwyddau ers hynny. Hollol gywilyddus. Gadewch inni fod yn glir, nid oedd hwnnw'n benderfyniad anodd yr oedd yn rhaid ei wneud, fel y byddai sbinddoctoriaid Llafur am i chi ei gredu. Clywsom honiadau am dwll du o £22 biliwn pan ddaethant i rym, ond yn llythrennol, ni allai’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol annibynnol ddod o hyd iddo. Nid oedd yn ddim ond llen fwg i dalu'r bil a roddwyd iddynt gan dâl-feistri'r undebau ar ôl yr etholiad.

A beth arall a glywsom yn yr etholiad? Dim mwy o drethi i weithwyr, ac yna mewn ffordd wirioneddol sosialaidd, clywsom fod y trethi i weithwyr yn codi, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr, treth ar swyddi sydd wedi golygu llai o swyddi a chyflogau is. Taranfollt treth arall i ariannu gwariant anghyfrifol Llafur o arian pobl eraill.

Ac yng Nghymru, nid yn unig fod gennym ardrethi busnes uwch nag unrhyw un o wledydd eraill y DU diolch i Lywodraeth Lafur Cymru, ond bellach mae'n rhaid iddynt roi mwy o'u hincwm gwerthfawr yn ôl i Lywodraeth sy'n gwario symiau helaeth o arian trethdalwyr ar brosiectau porthi balchder sosialaidd. Ac mae'r cynnydd hwn yn amharu nid yn unig ar ein busnesau, ond ar ein helusennau hefyd. Galwodd Gofal Canser Tenovus y cynnydd yn ddinistriol, gan rybuddio y byddant yn talu £0.25 miliwn ychwanegol y flwyddyn tuag at y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Mae hwnnw'n swm enfawr, a fyddai fel arall wedi mynd tuag at ymchwil hanfodol sydd ei angen i achub bywydau.

Ddirprwy Lywydd, nid oes angen inni adolygu chwe mis o Lywodraeth Lafur yng Nghymru gan y gwyddom sut y daw i ben. Rydym wedi gorfod dioddef 25 mlynedd o hynny yma. Mae pob un o’n meysydd datganoledig allweddol—iechyd, addysg, yr economi, a llawer mwy—yn methu oherwydd Llafur yng Nghymru. Ac mae Starmer fel pe bai'n benderfynol o ddilyn y glasbrint a osodwyd yma ym Mae Caerdydd, gydag un o bob pump o blant yn gadael yr ysgol yn weithredol anllythrennog yng Nghymru, a sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr is nag yn unrhyw le arall yn y DU. Ac yn San Steffan, mae Llafur am ddadwneud 14 mlynedd o gynnydd Ceidwadol ym myd addysg yn Lloegr a dilyn model Llywodraeth Cymru sydd wedi methu. Mae 24,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth yn y GIG yng Nghymru, a dyna lasbrint Starmer ar gyfer y GIG yn Lloegr. Ac mae rhoi Canghellor yng ngofal yr economi na all wneud y symiau yn weithred sy'n syth o lyfr syniadau Llafur Cymru. Wedi'r cyfan, Lee Waters a ddywedodd am Lywodraeth Lafur Cymru, nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran yr economi. Mae hynny’n berthnasol i Lywodraeth y DU hefyd.

Pan fydd rhywun yn dweud wrthych pwy ydynt, rydych chi'n eu credu, ac nid yw Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni newid, nid yw Llywodraeth Lafur y DU yn cyflawni newid. Mae Llywodraeth Lafur y DU yn barhad o’r 25 mlynedd o bolisïau aflwyddiannus a fewnforiwyd i San Steffan o Fae Caerdydd. Ond mae angen newid go iawn ar Gymru, gan fod Cymru wedi torri, a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun i'w thrwsio. Gallwn gyflawni'r newid hwnnw, a bydd y newid hwnnw, ledled y Deyrnas Unedig, yn dechrau yma yng Nghymru. A dyna pam y byddaf yn cefnogi Darren Millar y flwyddyn nesaf i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru i gyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru.

16:45

Rwy’n siŵr fod hynny’n llawer o gysur i Darren Millar, gan na chafodd yr arweinydd Torïaidd diwethaf a gefnogai Tom lawer o lwyddiant, ac roedd ganddo ran go fawr o hynny, yn ôl yr hyn a gofiaf. Mae hyn fel bod yn gaeth mewn dadl wael yn y chweched dosbarth, Ddirprwy Lywydd. Yn amlwg, nid yw’r Ceidwadwyr wedi dysgu dim, ond yn amlwg, mae morâl yn isel iawn ac mae hyn wedi’i gynllunio y prynhawn yma i godi eu hysbryd.

Mae'n werth cofio y gallem fod wedi cael etholiad cyffredinol ym mis Ionawr 2025; dyna’r dyddiad olaf y gallai’r Llywodraeth Geidwadol fod wedi galw etholiad. Gallent fod wedi aros mewn grym tan y mis hwn. A'r rheswm na wnaethant hynny yw oherwydd eu bod wedi rhedeg allan o stêm, am fod Rishi Sunak yn wynebu her arall eto fyth o'i feinciau cefn, ac roedd y llythyrau'n cael eu hanfon eto fyth at bwyllgor 1922 i'w herio. Roedd newydd gyhoeddi cynlluniau gwariant nad oedd ganddo unrhyw ffordd o'u hariannu. Dywedodd y Resolution Foundation, pe bai Jeremy Hunt wedi gorfod rhoi cyllideb arall, y byddai'n rhaid iddynt fod wedi dod o hyd i £20 biliwn nad oedd ganddynt.

Mae'n werth atgoffa ein hunain, gan mai chwe mis yn ôl yn unig oedd hyn, am y cyfnod arswydus rydym wedi byw drwyddo am 15 mlynedd, o Blaid Geidwadol yn rhyfela yn erbyn ei gilydd, yn codi cywilydd ar ein gwlad ac yn ein gwneud yn destun sbort dramor—[Torri ar draws.]—ac yn gwadu'r peth i'r graddau fod Liz Truss wedi anfon llythyr cyfreithiol—

Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod, a gall meinciau’r wrthblaid, os gwelwch yn dda, gadw’n dawel imi allu gwneud hynny. Lee.

Nid yn y Siambr hon yn unig y mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwadu realiti; clywsom yr wythnos diwethaf am Liz Truss yn anfon llythyr cyfreithiol at Brif Weinidog y DU am ei fod wedi ailadrodd ei bod hi wedi chwalu’r economi, rhywbeth y mae hyd yn oed George Osborne yn ei gyfaddef, fod Liz Truss wedi chwalu’r economi. Maent fel siop siafins.

Yn y chwe mis diwethaf, rydym wedi gweld Llywodraeth Lafur newydd yn etifeddu llanast llwyr. Yn union fel y bu’n rhaid i Lywodraeth Lafur ym 1945 ddod i mewn a chlirio llanast, fel y bu’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur ym 1964 ddod i mewn a chlirio llanast, fel y bu’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur ym 1997 unioni 18 mlynedd o wasanaethau cyhoeddus toredig, unwaith eto, mae galw ar y Llywodraeth Lafur i wneud y gorau o'r hyn a etifeddodd. Yn y chwe mis cyntaf, rydym wedi dod â streic y meddygon i ben, ac ymddengys eu bod yn dweud nawr mai ildio i dâl-feistri Llafur yw hynny. Dyna faint y maent yn gwerthfawrogi gweision cyhoeddus. Ar ôl 15 mlynedd o gyni, a llesteirio cyflogau ein gweithwyr allweddol, mae wedi cymryd Llywodraeth Lafur i sicrhau codiad cyflog i weithwyr allweddol a chynnydd yn yr isafswm cyflog. Rydym wedi dod â'r streiciau rheilffyrdd i ben, rydym wedi creu Great British Energy, rydym wedi cael gwared ar y gwaharddiad ar ffermydd gwynt ledled Lloegr. Rydym wedi cyflwyno Bil Hawliau Cyflogaeth i gefnogi cyflogwyr da drwy godi safonau tegwch yn y gweithle, ac rydym wedi adfer hygrededd i'n henw da ar draws y byd. Nid oedd dim o hynny’n digwydd o dan Lywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU. Fe wyddai pobl Cymru hynny'n iawn; dyna pam y cawsant wared ar bob un o ASau Ceidwadol Cymru.

Ond cefais fy atgoffa pan oeddwn yn meddwl am hyn ddoe o ddyfyniad gan Paul Johnson. Efallai y bydd gwylwyr hŷn yn cofio Paul Johnson yn ei flynyddoedd olaf, pan oedd yn un o selogion Thatcher, ond yn ei gyfnod mwy rhyddfrydol, pan oedd yn olygydd y New Statesman yn y 1960au, dywedodd Paul Johnson, ac rwyf wedi meddwl am hyn yn aml, fod y Ceidwadwyr,

'ar brydiau, yn annwyl—ond yn dueddol o droi'n gas iawn ar fyr rybudd.'

Dyna'n union a welsom yn yr ychydig fisoedd diwethaf, dan anogaeth biliwnyddion y cyfryngau, Paul Marshall, a brynodd GB News, ac Elon Musk bellach, y maent yn fflyrtian ag ef, yn ceisio cael y cyllid a allai fod allan o afael Nigel Farage. Stori gan GB News, yn codi bwganod am gangiau meithrin perthnasoedd amhriodol, y mae’r Ceidwadwyr wedi mynd ati'n ddigywilydd i'w phedlera dros yr ychydig wythnosau diwethaf, er bod Kemi—[Torri ar draws.]—na, gadewch imi orffen—fod Kemi Badenoch—[Torri ar draws.]—na, ni wnaf—er bod Kemi Badenoch, pan oedd yn Weinidog plant, heb sôn o gwbl am fater gangiau meithrin perthnasoedd amhriodol, ni soniodd unwaith beth y byddai'r Llywodraeth yn ei wneud am ymchwiliad yr Athro Alexis Jay, ni chymerodd unrhyw gamau i roi unrhyw un o’r argymhellion hynny ar waith, yn wahanol i Lywodraeth Cymru. Pan gawsom argymhellion yr ymchwiliad, fe wnaeth Lywodraeth Cymru—cawsom chwe argymhelliad—fe wnaethom nodi ar unwaith yr hyn roeddem yn mynd i’w wneud. Dyna’r gwahaniaeth yn agwedd y Llywodraeth hon a’u Llywodraeth hwy. Ac yn lle hynny, beth a wnânt? Maent yn ceisio creu holltau; maent yn ceisio chwilio am faterion lle gallant greu rhywfaint o gynnwrf, a chyda GB News, lledaenu llawer iawn o gamwybodaeth, sy'n iselhau holl gywair dadleuon cyhoeddus.

Ar y penwythnos, aildrydarodd Elon Musk neges a ddywedai fod Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn ceisio denu—dyma’r ieithwedd, ‘denu’—dynion mudol i ddod i Gymru drwy ddangos fideo o ferched 12 oed, honiad a ailadroddwyd gan Andrew R.T. Davies, er y dangoswyd ei fod eisoes yn dweud celwyddau pan ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1,600 i unrhyw un sy'n dymuno dod yma—mewnfudwyr anghyfreithlon, fel y dywedodd. Nid oes unrhyw wirionedd iddo. Mae ceiswyr lloches yn rhan o broses gyfreithiol, ac rydym ni fel Llywodraeth Cymru—

16:50

O'r gorau.

—wedi estyn llaw i blant a ddaeth yma heb unrhyw un, a ddaeth yma heb ddim, ac na chawsant y fraint o etifeddu cyfoeth a'r addysg breifat a gafodd Andrew R.T. Davies. Ond nid yw'n malio dim am y bobl; y cyfan y mae'n malio amdano yw tanio dadleuon gyda honiadau haerllug, gwarthus, ffiaidd, gan ddefnyddio plant ysgol, ac mae ei blaid yn ei gefnogi—[Torri ar draws.] Rhag eich cywilydd, pob un ohonoch.

Rwy'n—[Torri ar draws.] I'r Aelodau ar feinciau’r wrthblaid, ni allaf glywed y cyfraniadau gan yr Aelod am eich bod chi'n gwneud cymaint o sŵn. Os gadewch imi wrando, gallaf wneud rhai sylwadau, ond nid ydych yn gadael imi wrando, iawn. Llyr Gruffydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac ar gyfer y cofnod, hoffwn gytuno â sylwadau’r Aelod dros Lanelli. Ond rwyf am sôn ag elfennau penodol o'r cynnig, ac rwyf am sôn, yn amlwg, am y mater treth etifeddiant sydd wedi’i godi yn y cynnig, sy’n effeithio ar ffermydd Cymru. Mae'n rhywbeth rydym wedi'i godi o'r blaen, fel y mae llawer ohonom wedi'i wneud yma yn y Siambr.

Nawr, fe'i dywedaf eto: ni chredaf fod Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU yn deall pa mor bellgyrhaeddol fydd y canlyniadau mewn perthynas â'r polisi hwn. Mae rhyddhad treth etifeddiant, fel rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes, yn rhoi sicrwydd hanfodol y gall ffermydd aros yn nwylo teuluoedd am genedlaethau, ac os byddwch yn tarfu ar yr ecosystem ariannol fregus honno, fe wnewch hynny ar eich menter eich hun. Oherwydd fe glywn Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym yn aml pa mor bwysig fydd ffermwyr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Mae byrdwn y cynllun ffermio cynaliadwy yn ymwneud â chadw ffermwyr ar y tir, ond gan wneud hynny mewn ffordd sy’n lliniaru llawer o’r heriau y mae angen i bob un ohonom eu hwynebu. Gwyddom am y cyfraniad diwylliannol ac ieithyddol; pedwerydd piler datblygu cynaliadwy yng Nghymru, elfen allweddol o hynny, o ran ffermio yng Nghymru. Ac yn economaidd, wrth gwrs, gwyddom am yr elw o £9 am bob £1 a fuddsoddir mewn amaethyddiaeth, gan greu cyflogaeth a gweithgarwch economaidd yn rhai o'n cymunedau mwyaf ymylol. Felly, mae gwir angen inni droedio'n ofalus os ydym am chwarae gydag olyniaeth a ffermio a chaniatáu i genedlaethau pellach a chenedlaethau'r dyfodol barhau i gynhyrchu bwyd a'r holl fanteision eraill y maent yn eu sicrhau. Mae natur unigryw busnesau ffermio yn golygu y bydd colli'r rhyddhad yn fygythiad difrifol i hyfywedd, a hyd yn oed i oroesiad llawer o fusnesau, o bosibl. Nid yw fel gorfodi rhywun i werthu ychydig asedau; gallech fod yn gorfodi pobl i werthu eu bywoliaeth a bywoliaeth cenedlaethau'r dyfodol. Felly, nid wyf am weld strwythur y fferm deuluol Gymreig yn cael ei danseilio.

Nawr, mae'n wir fod buddsoddwyr hapfasnachol sy'n prynu tir er mwyn osgoi talu trethi yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef—wrth gwrs ei fod—ond ni ddylai hynny amharu ar ffermydd teuluol gonest. Nawr, mae'r Trysorlys yn honni, ac rydym wedi ei glywed o'r blaen, onid ydym, mai dim ond un o bob pedair fferm a fydd yn cael eu heffeithio, ond fe wyddom hefyd fod tyddynnod ac aelwydydd â thir phori cyfyngedig wedi chwyddo nifer y ffermydd sydd o dan y trothwy hwnnw, gan guddio'r effaith wirioneddol neu ystumio'r ffigurau. Mae Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol wedi amcangyfrif y bydd treth etifeddiant yn effeithio ar 20 y cant yn fwy o ffermwyr oherwydd chwyddiant. Pan gyflwynwyd rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes, roedd y band cyfradd sero'n cyfateb i oddeutu 56 erw o dir fferm. Heddiw, prin ei fod yn hanner hynny—29 erw—oherwydd chwyddiant. Felly, mae gwir angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU naill ai i wrthdroi’r polisi neu ei ddiwygio, neu fan lleiaf, i liniaru effaith rhai o’r newidiadau hyn ar ffermydd teuluol yn enwedig.

Nawr, pan oeddent yn wrthblaid, addawodd Llafur na fyddent yn newid rheolau treth etifeddiant ar gyfer amaethyddiaeth, ond fe wnaethant dorri'r addewid hwnnw yn eu cyllideb gyntaf un. Felly, fel y dywedaf, gadewch inni o leiaf gael cyfnod pontio priodol, os oes rhaid iddo ddigwydd o gwbl—nid 18 mis, ond digon o amser i ffermwyr hŷn drosglwyddo neu roi eu hasedau, neu i roi eithriadau i rai o oedran penodol. Mae hwn yn newid cenhedlaeth, ac mae'n amhriodol ei gyflwyno mewn cwta 18 mis.

16:55

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel y clywsom droeon o amgylch y Siambr y prynhawn yma, etholwyd Llywodraeth newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf y llynedd, a diolch byth am hynny, Ddirprwy Lywydd—Llywodraeth a etholwyd â mwyafrif llethol yn Nhŷ’r Cyffredin, a chyda chefnogaeth 27 o'r 32 o Aelodau Seneddol Cymru—27 o 32; canlyniad a ddisgrifiwyd gan arweinydd yr wrthblaid, gyda’r gallu dadansoddol a ddangosodd yn ystod ei holl gyfraniad, fel 'dilewyrch'. Mae'n rhaid ei fod yn breuddwydio am berfformiad dilewyrch gan ei blaid ei hun, er ei fod yn gweld perfformiad o'r fath bob dydd o'i gwmpas.

Nawr, uchelgais pennaf y Llywodraeth newydd honno oedd, ac yw adfer twf i economi’r Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, mae’n bosibl dadlau ynghylch elfennau unigol ym mholisi unrhyw Lywodraeth, ac rydym wedi clywed rhywfaint o hynny y prynhawn yma. Ond yr hyn nad yw'n destun trafodaeth, does bosibl, yw'r uchelgais ei hun—yr uchelgais y dylem adfer y lefelau twf i economi'r DU y gwnaethom eu mwynhau am gyfnod hir o fwy na 40 mlynedd o ffyniant, o ddiwedd y 1940au hyd at ddiwedd degawd cyntaf y ganrif hon.

Roeddwn yn cytuno'n gryf â chyfraniad John Griffiths, Ddirprwy Lywydd— fod yn rhaid cael uchelgais i leihau anghydraddoldeb yn economi’r Deyrnas Unedig gyda’r uchelgais ar gyfer twf. Dyna bresgripsiwn Gordon Brown: sicrhau bod gennym dwf, ond bod gennym dwf sydd wedi ei ledaenu i bob rhan o’r Deyrnas Unedig, nid wedi'i grynhoi mewn un gornel o’n daearyddiaeth, ond ei fod ar gael i bawb, ble bynnag y mae pobl yn byw.

Nawr, amlygwyd pa mor bwysig yw'r uchelgais hwnnw mewn nifer o gyfraniadau yn ystod y ddadl, gan ein bod wedi dioddef mwy na degawd o gyni, yn ogystal â thrychineb economaidd Brexit, fel y dywedodd Heledd Fychan. Mae hynny wedi gadael economi’r Deyrnas Unedig yn sownd mewn cylch o fuddsoddi llai, gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi’n anodd, gostyngiadau termau real i gyflogau, trethiant ar ei uchaf ers 70 mlynedd—hyn oll yn ogystal â’r gyfradd twf isaf ers y chwyldro diwydiannol. Nawr, mae amnesiaid gwleidyddol meinciau'r Ceidwadwyr yn ceisio esgus na ddigwyddodd dim o hyn. Maent wedi anghofio bod dim ohono'n rhan o'r hyn roeddent hwy eu hunain yn gyfrifol amdano. Ond pe baent wedi gwrando ar Joyce Watson y prynhawn yma, byddent wedi dysgu beth yn union y mae eu perfformiad wedi'i olygu i’r bobl sy’n byw yma yn y Deyrnas Unedig.

Er mai gwaddol y Llywodraeth Geidwadol flaenorol fydd rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd, yr wythnos hon, clywsom am lwyddiant y Llywodraeth Lafur drwy’r gronfa gyfoeth wladol. Am gyferbyniad yn y cwta chwe mis ers inni gael y Llywodraeth honno. Dyna pam fod cyllideb y Canghellor ym mis Hydref yn newid beiddgar ac angenrheidiol o fethiannau’r gorffennol—cyllideb a gynlluniwyd i roi'r wlad hon yn ôl ar y llwybr tuag at dwf.

Yn amlwg, un o’r pryderon sylweddol a godwyd am y gyllideb yw’r swm o arian parod y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru a chyflogwyr y sector cyhoeddus ei roi yn ôl i’r Trysorlys o ganlyniad i gostau yswiriant gwladol ychwanegol cyflogwyr. Wythnosau yn unig sydd tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. A ydych chi wedi amcangyfrif y costau hynny eto, ac os felly, beth ydynt?

17:00

Mae yna amcangyfrifon o'r costau hynny. Rwyf wedi eu rhannu mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n siŵr y gellir sicrhau bod y llythyr hwnnw ar gael i arweinydd yr wrthblaid, os nad yw wedi cael amser i'w ddarllen eto. Mae wedi bod ar gael ers sawl wythnos bellach, felly mae'n ddrwg gennyf nad yw wedi cael cyfle i fanteisio ar wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn gyhoeddus. 

Nawr, mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sydd ger bron y Senedd y prynhawn yma yn canolbwyntio'n llwyr ar faterion nad ydynt yn gyfrifoldeb i'r Senedd hon. A pha un a ydych yn cytuno neu'n anghytuno â hwy—ac mae'n gwbl agored i'r gwrthbleidiau eu gwrthwynebu—nid oes pleidlais na phenderfyniad yn y Senedd hon yn mynd i allu newid unrhyw un ohonynt. Yr hyn y gallwn ei wneud, a'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arno, yw defnyddio'r cyfleoedd sydd gennym gyda'n cyfrifoldebau, ac sy'n dod i ni nawr o ganlyniad i benderfyniad y Canghellor, i fuddsoddi eto yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yng ngwead bywyd Cymru, a gwneud ein cyfraniad, trwy dyfu economi Cymru, i ffyniant pawb ohonom yn y dyfodol. 

Dywedodd Natasha Asghar wrthym nad oedd unrhyw beth o gwbl—dim o gwbl—yn dod i Gymru gan Lywodraeth y DU. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau—. Fe wneuthum ei ysgrifennu pan ddywedodd hyn, Lywydd, 'Nid oes unrhyw beth yn dod i ni.' Felly, mae'n rhaid ei bod wedi methu'r £1.5 biliwn ychwanegol—mae'n rhaid ei bod wedi ei fethu—sydd bellach ar gael i'w fuddsoddi yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Efallai ei bod wedi ei fethu, wrth gwrs, am na ddaeth unrhyw beth tebyg iddo i ni dros y 10 mlynedd a mwy o gyni a gefnogwyd ganddi hi a'i chyd-Aelodau. A dyna y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno, nid materion y mae eraill yn atebol amdanynt, fel y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog egluro mor aml, ond y penderfyniadau a wnawn drosom ein hunain nawr: y £1.5 biliwn y mae pwyllgorau ledled y Senedd yn craffu arno ar hyn o bryd, ac a fydd yn darparu lefel o gyfle nad ydym wedi'i weld ers blynyddoedd maith.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch eich bod yn dyfynnu fy nghyfraniad, ond a wnewch chi dderbyn neu wadu ger bron y Siambr gyfan eich bod chi, y Llywodraeth Lafur, sydd wedi bod mewn grym yma yng Nghymru, wedi anfon £155 miliwn a oedd i fod i ddod i bobl Cymru yn ôl? Nid wnaethoch godi'r ffôn, ond rydych chi'n sefyll yma yn dweud wrthyf am yr hyn y mae eich Llywodraeth Lafur yn ei wneud.

Fe esboniaf i'r Aelod beth yn union a ddigwyddodd yno, sef bod ei Llywodraeth hi wedi oedi ac oedi cyn gwneud dyraniadau i Gymru. [Torri ar draws.] Na, na, mae hyn yn hollol wir. Dyma a ddigwyddodd—. Efallai na fydd hi—

Rwy'n deall nad yw'n gyfleus i'r Aelod ddeall beth a ddigwyddodd. Fe wnaeth ei Llywodraeth hi oedi ac oedi, fel y gwnaethant flwyddyn ar ôl blwyddyn, tan ddiwedd mis Chwefror, yr amcangyfrifon terfynol, ac maent yn penderfynu, ar y pwynt hwnnw yn y cylch, fod arian yn dod i Gymru, na roddwyd gwybod i ni amdano am 11 o 12 mis y flwyddyn ariannol, ac wele, nid yw'n bosibl, yn yr ychydig wythnosau byr, ac roeddent yn gwybod beth oeddent yn ei wneud. Dyna'r ffordd fwyaf sinigaidd o sicrhau bod arian y gallent honni ei fod yn dod i Gymru byth yn dod i ni o gwbl mewn gwirionedd.

Ddirprwy Lywydd, yn fyr iawn, yn ogystal â'r cyfleoedd sy'n dod i Gymru gyda £1.5 biliwn, mae gennym werth £3 biliwn o wariant cyfalaf a fydd gennym y flwyddyn nesaf, ac mae yna gyfleoedd eraill sy'n dod nawr, fel cyfleoedd i siarad â'n cymheiriaid yn San Steffan—mwy o gyfleoedd mewn pum mis nag a gawsom mewn pum mlynedd o dan y Llywodraeth flaenorol. Ac rydym yn manteisio ar y cyfleoedd hynny drwy'r amser—wrth gwrs ein bod—i godi llais dros y pethau y gwyddom eu bod yn bwysig yma yng Nghymru: diogelwch tomenni glo, HS2, Ystad y Goron, datganoli cyfiawnder. Bob tro y caiff y Prif Weinidog gyfle, bob tro y caiff fy nghyd-Aelodau gyfle, rydym yn sicrhau ein bod yn trosglwyddo'r pryderon hynny a'r uchelgeisiau hynny dros Gymru, ar y pethau sydd yn nwylo'r Senedd, ac a ddylai fod yn nwylo'r Senedd hon, i'n cymheiriaid yn y DU.

Dyna'r pethau sy'n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, nid y math o ddadl a glywsom y prynhawn yma, cyfraniadau enbyd, ceiniog-yn-y-twll y blaid Geidwadol Gymreig. [Torri ar draws.] Nid oes unrhyw un yn gwrando arnoch chi. Ceiniog-yn-y-twll. Rydych chi'n rhoi ceiniog yn y twll ac allan â'r araith. Nid oes munud o feddwl y tu ôl iddi. Areithiau pobl sydd ond yn darllen yr un hen ystrydebau treuliedig dros flynyddoedd lawer, a gadewch imi ddweud hyn wrthych chi, gadewch imi ddweud hyn wrth y Ceidwadwyr Cymreig—[Torri ar draws.]

17:05

A wnaiff arweinydd y Ceidwadwyr ganiatáu i Ysgrifennydd y Cabinet gwblhau ei gyfraniad heb darfu?

Gadewch i mi egluro wrth Blaid Geidwadol Cymru: nid oes neb yn gwrando arnoch chi. Oherwydd, er bod pleidiau gwleidyddol yn gallu newid llawer o bethau—gallant newid eu harweinydd, gallant newid eu polisïau—yr hyn na allant ei newid yw eu hanes. Ac mae eich hanes chi wedi ei losgi'n ddwfn ym meddyliau pobl yma yng Nghymru. Dyna a arweiniodd at eich trechu ym mis Gorffennaf y llynedd, a hyd nes eich bod chi'n barod i ddysgu'r gwersi o hynny, ac edrych o ddifrif ar yr hyn y mae'n ei olygu i chi fel plaid wleidyddol, fe wnawn ni wrando ar eich cyfraniadau y prynhawn yma, ond nid oes neb allan yno'n gwrando arnoch o gwbl.

Gwrthodwch y cynnig a'r meddylfryd treuliedig sy'n mynd gydag ef. Cefnogwch y gwelliant a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur hon, a gadewch inni fanteisio ar y cyfleoedd sy'n dod i ni bellach.

Cyn i mi alw ar yr Aelod i ymateb, a gaf i ofyn i arweinydd y Blaid Geidwadol atgoffa'i hun mai ef yw arweinydd y grŵp erbyn hyn, ac felly buaswn yn gobeithio y byddai'n caniatáu i eraill gyfrannu yn y dadleuon hyn heb darfu na gormod o heclo?

Galwaf ar James Evans i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl bwysig hon gan y Ceidwadwyr Cymreig, er nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod hon yn ddadl bwysig y prynhawn yma.

Agorwyd y ddadl gan Darren Millar, a nododd inni glywed y byddai dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio ar ddau ben yr M4 o fudd i Gymru, ond nid ydym yn gweld unrhyw fanteision. Gadewch inni siarad, fel y gwnaeth Darren Miller, am y toriad i daliadau tanwydd y gaeaf: byddai 4,000 o bensiynwyr yn marw. Dyna a ddywedodd eich plaid eich hun cyn yr etholiad diwethaf, y byddai 4,000 o bensiynwyr yn marw. Eich plaid chi a ddywedodd hynny. Fe addawoch chi i'r cyhoedd na fyddech chi'n ei wneud. Fe wnaethoch eu bradychu a mynd yn ôl ar eich gair.

Siaradodd Darren Miller am fenywod WASPI. Addawodd Aelodau Llafur Cymru ac Aelodau Llafur yn San Steffan y byddent yn cefnogi menywod WASPI. Fe wnaeth pawb ohonoch giwio am luniau, fel y dywedodd Darren Millar. Pan ddaethoch i rym, fe wnaethoch droi eich cefn ar y menywod WASPI. Wedyn, y ffordd y gwnaethoch chi fradychu ein cymunedau ffermio. Fe ddywedoch chi mewn cynadleddau, ac felly hefyd eich Ysgrifennydd Gwladol, y byddech chi'n cefnogi ffermwyr. Ni wnaethoch chi gefnogi ffermwyr o gwbl. Fe wnaethoch chi droi eich cefn arnynt fel rydych chi'n troi eich cefn ar bawb arall.

Cawsom ein bradychu ar gyllid HS2. Fe aethom yn erbyn ein plaid wleidyddol ein hunain yma yn San Steffan a sefyll dros Gymru. Beth a wnaethoch chi? Dweud y geiriau a gwneud dim. Ni wnaethoch chi unrhyw beth, a phan fo'n bwysig i chi wneud hynny, nid ydych chi'n dweud unrhyw beth o gwbl.

Siaradodd John Griffiths wedyn am lygredd y Torïaid. Rwyf i eisiau siarad am ddillad am ddim Keir; Gweinidog gwrth-lygredd a aeth cyn iddi gael ei diswyddo; yr holl docynnau cyngerdd am ddim; gwrthod aros eich tro. Mae digon o lygredd yn digwydd yn y Blaid Lafur, nid oes angen i chi edrych draw yma. Rwy'n credu bod angen i chi edrych ychydig yn agosach adref, John Griffiths.

Soniodd John Grffiths am adroddiad Gordon Brown. Gordon Brown, y dyn a fu bron â mynd â'r wlad i'r wal ac a werthodd aur ar waelod y farchnad. Nid wyf yn meddwl y gwnawn ni dderbyn cyngor gan Gordon Brown. Fe wnaethoch chi sôn hefyd am faterion cyfansoddiadol. Nid yw pobl Cymru eisiau siarad am faterion cyfansoddiadol. Maent eisiau siarad am drwsio'r GIG, trwsio ein system addysg a thrwsio'r economi.

Soniodd Heledd Fychan am gyllid HS2 a sut y mae Plaid Cymru wedi sefyll dros Gymru ar hyn, ac fe wnaethom ymuno â chi yn hynny, gan fynnu cyllid HS2. Mae'n drueni fod y Blaid Lafur bellach wedi troi eu cefnau ar bobl Cymru. Fe sonioch chi hefyd am bwysau yswiriant gwladol, a'r pwysau y mae hynny'n mynd i'w roi ar ein gwasanaethau meddygon teulu a'n sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'r Blaid Lafur hon yn eu cefnogi ar godiadau yswiriant gwladol, ond ni wnaethant edrych ar ganlyniadau anfwriadol yr hyn a wnaent.

Siaradodd Peter Fox yn huawdl iawn am y gefnogaeth i'n sector ffermio a sut y mae Llywodraeth y DU yn ymosod arnynt. Mae ffermydd teuluol yno i warchod ein diogeledd bwyd. Ni all unrhyw un anghofio hynny. Mae ffermwyr yn gyfoethog mewn asedau ac yn dlawd mewn arian parod, ond unwaith eto mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn eu hystyried yn ffordd o wneud arian, onid ydynt? Unwaith eto ymosod ar ein cymunedau gwledig am nad ydynt yn deall y Brydain wledig—nid ydynt erioed wedi ei deall ac ni fyddant byth yn ei deall.

Yn anffodus, dechreuodd Joyce Watson gyda'r rhethreg Lafur arferol nad ydym yn cefnogi gweithwyr. A gallaf eich sicrhau ein bod yn cefnogi ein gweithwyr. Y gwahaniaeth gyda'n plaid ni yw nad ydym yn fodlon gwneud popeth y mae'r undebau llafur yn dweud wrthym am ei wneud. Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad; fe wnaf eich arbed rhag gofyn. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:10

Rydych chi'n siarad am undebau llafur ac rwy'n cefnogi undebau llafur yn gadarn, pob undeb llafur, boed yr undeb llafur ffermio yr ydych chi'n ei ddyfynnu dro ar ôl tro, neu'n undeb Unite—

Joyce, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth eich Aelodau am dawelu; ni allaf eich clywed. 

—neu undeb GMB. Clywn lawer o sôn am undebau llafur yma ac rwy'n croesawu'r holl gyfraniadau gan yr holl undebau llafur, ond pan fyddwch chi'n siarad am undebau llafur, rydych chi'n siarad am yr undebau llafur y mae eu haelodaeth ar gyfer y niferoedd o weithwyr yng Nghymru. Dyna rydych chi'n ei wneud; rydych chi'n gwahaniaethu o ran yr hyn a olygwch wrth undeb llafur. Nid wyf i'n gwneud hynny. 

Na, rwy'n cefnogi'r gweithwyr; nid wyf yn cefnogi undebau llafur sy'n ceisio dal y Llywodraeth yn wystlon. [Torri ar draws.] 

Yna aethom at Natasha Asghar a ddywedodd wrthym am yr anwireddau sy'n cael eu bwydo i ni gan Lywodraeth y DU. [Torri ar draws.] Ni allaf glywed fy hun yn siarad, Lywydd. 

Rwy'n cytuno, James Evans, mae angen inni allu eich clywed. A gawn ni glywed James Evans i orffen y ddadl? 

Diolch. A soniodd Natasha Asghar hefyd am y modd y cafodd ein pensiynwyr eu bradychu—100,000 o bensiynwyr yn eich rhanbarth chi yn unig—a'r angen i ni yng Nghymru gael ein taliad tanwydd y gaeaf ein hunain, fel y gallwn gefnogi'r pensiynwyr a dalodd i mewn i'r system ar hyd eu bywydau. Nid ydynt yn gofyn am lawer, ond yr hyn mae Llafur yn ei wneud yw amddifadu gweithwyr unwaith eto. Nid ydynt yn cefnogi gweithwyr er eu bod yn dweud eu bod. 

Ac fe sonioch chi hefyd am ryddhau'n gynnar o garchardai. Am lanast oedd hynny. Cafodd y bobl na ddylai fod wedi cael eu rhyddhau eu rhyddhau, ac roedd yr heddlu'n rhedeg o gwmpas y wlad yn ceisio dal pobl a fyddai wedyn yn cael eu harestio am gam-drin pobl a throseddau treisgar. Nid yw'n ddechrau da iawn i'r Blaid Lafur.

Soniodd Sioned Williams hefyd am daliad tanwydd y gaeaf ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedoch chi ar hynny, a chyfeiriodd hefyd at y 4,000 o bensiynwyr a fyddai'n marw oherwydd y penderfyniadau hynny. Ac na fyddem yn gwybod beth fydd gwir raddau hynny oherwydd yr hinsawdd yr ydym yn byw ynddi, y tywydd a pha mor oer y mae'n mynd i fod.

Soniodd Tom Giffard am Keir Starmer eto a'r holl gelwyddau a gafodd eu bwydo i ni gan y Blaid Lafur am ein ffermwyr, a hefyd am y twll du gwerth £22 miliwn a grëwyd am iddynt ildio i undebau llafur, a sut y cafodd hynny ei bedlera wedyn a'i gefnogi gan y cyfryngau prif ffrwd a pheiriant cyfryngau'r Blaid Lafur.

Wedyn, cawsom Lee Waters. Beth allaf ei ddweud? [Torri ar draws.] Y ffordd rydych chi'n ariannu pethau yw drwy drethu pobl weithgar ar draws y wlad—trethu ein busnesau, trethu ein ffermwyr, a sicrhau na all pobl sy'n gweithio gamu ymlaen mewn bywyd. Ac fe sonioch chi hefyd am eich obsesiwn gyda chyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies, amdano'n creu rhaniadau a lledaenu celwyddau am gangiau meithrin perthnasoedd amhriodol yng Nghymru. Hoffwn ddangos y dystiolaeth i chi yma fod yna gangiau sy'n meithrin perthnasoedd amhriodol yn gweithredu yng Nghymru. Rwy'n credu bod arnoch chi ymddiheuriad i gyn-arweinydd yr wrthblaid. 

Soniodd Llyr wedyn am yr angen i gefnogi ein teuluoedd ffermio ledled Cymru a'r angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn. 

Yna, fe gawsom y cyn-Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Fe agorodd a thrwy ei gyfraniad, yn ei ffordd nawddoglyd arferol i'r Aelodau, yr hyn a wnaeth yn bennaf oedd pigo ar Aelodau unigol fel Darren Millar a Natasha Asghar, gan siarad â hwy fel pe baent yn ffyliaid llwyr nad oeddent yn gwybod am beth y maent yn sôn. Roeddwn i'n meddwl bod agwedd nawddoglyd Ysgrifennydd y Cabinet tuag at bobl yn annoeth iawn.

Ac fe soniodd hefyd am y twf chwim y mae'r Blaid Lafur yn mynd i'w gynnig. Yr unig beth y mae'r Blaid Lafur yn ei wneud ar ôl twf chwim yw creu chwalfa. Fe ewch chi â'r wlad i'r wal a chwalu'r economi. Dyna a wnewch. Mae angen i chi edrych ar sefyllfa ein heconomi nawr i weld beth a wnaethoch iddi. Pan wnaethom ni adael, ni oedd un o'r economïau a oedd yn tyfu gyflymaf yn y byd a nawr rydym yn marweiddio.

Felly, rwyf am ddweud wrth yr holl Aelodau ar draws y Siambr heddiw mai un blaid yn unig yma sy'n sefyll dros Gymru. [Torri ar draws.] Nid ydym yn cymryd—[Torri ar draws.] Nid ydym yn cymryd Cymru yn ganiataol. Nid ydym yn esgeuluso Cymru. Mae gennym gynllun clir yma i drwsio ein GIG, trwsio ein heconomi a thrwsio ein system addysg. Fel y dywedodd Darren Millar, dyma eich rhybuddio, safwch o'r neilltu, mae'n bryd trwsio Cymru, a'r unig ffordd o wneud hynny yw gyda'r Ceidwadwyr Cymreig.  

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

17:15
7. Dadl Plaid Cymru: Amserau aros y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 7, dadl Plaid Cymru ar amserau aros y gwasanaeth iechyd, sydd nesaf. Dwi'n galw nawr ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig yma. 

Cynnig NDM8785 Heledd Fychan

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi uchelgais y Prif Weinidog i leihau’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth GIG.

2. Yn gresynu:

a) bod rhestrau aros y GIG wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ym mhob mis o gyfnod y Prif Weinidog hyd yma; a

b) methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni’r targedau a osodwyd gan y Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio ym mis Ebrill 2022 i ddileu amseroedd aros hir yn gyfan gwbl a chyflymu profion diagnostig ac ymyriadau therapi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu Gwasanaeth Brysbennu Gofal Dewisol i symleiddio'r broses atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd;

b) cyflwyno hybiau rhanbarthol arbenigol ar gyfer gofal dewisol ledled Cymru; ac

c) cyflwyno deddfwriaeth i roi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar sylfaen statudol gyda chylch gwaith clir i hwyluso cydweithio ar draws byrddau iechyd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ers i'r Prif Weinidog gael ei benodi yn ôl ym mis Awst, mae rhestrau aros yng Nghymru wedi cynyddu bron 2,000. Dyna 12 llwybr ychwanegol ar gyfer pob diwrnod y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn y swydd. Ar ben hynny, mae ôl-groniad y rhestrau aros wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed am bob mis y bu'r Prif Weinidog yn ei swydd hyd yma, ac mae wedi gwneud hynny am bob mis ers mis Mawrth y llynedd, i gwmpasu un o bob pump o boblogaeth gyfan Cymru. Er bod y nifer sy'n aros dwy flynedd yn Lloegr yn ychydig dros 100 o bobl mewn poblogaeth o dros 55 miliwn, mae dros 24,000 yn aros dros ddwy flynedd yma yng Nghymru.

Rwyf wedi penderfynu agor y ddadl heddiw gyda'r ystadegau hyn i ddangos realiti anochel. Er cymaint y gall y Llywodraeth geisio cymylu a chyfrifo'n greadigol gyda'r ffigurau hyn, mae'r dystiolaeth yn glir: maent yn methu cyflawni'r hyn y maent wedi ein sicrhau'n gyson yw eu prif flaenoriaeth, sef lleihau rhestrau aros. Mae hyn yn digwydd o dan y Blaid Lafur, etifeddion honedig Aneurin Bevan, y byddech chi'n meddwl ac yn gobeithio y byddent yn gwneud popeth yn eu gallu i drwsio'r GIG. Ond yn hytrach, yr hyn a welwn yw dyfnhau system iechyd dwy haen, gyda chleifion yn gorfod edrych fwyfwy at ddarparwyr preifat i drin eu hafiechydon. Mae'r rhai sy'n gallu fforddio mynd yn breifat yn gwneud hynny, tra bod y mwyafrif, sydd ar incwm isel, ac sy'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw a chyfleoedd gwaith cyfyngedig, yn cael eu gadael i aros mewn poen ar restrau aros sy'n tyfu.

A beth oedd ymateb y Llywodraeth hon? Yn gyntaf, rhoi'r bai ar bawb arall: beio'r cleifion, beio rheolwyr iechyd, beio colegau brenhinol, beio pawb a gwadu cyfrifoldeb. Ar ôl 25 mlynedd o lywodraethu, fe wnaethant benderfynu mynd ar ymarfer gwrando a chlywed pobl yn dweud wrthynt beth y dylent fod yn ei wybod flynyddoedd yn ôl. Yna, bob mis yn arwain at y Nadolig, rhoddwyd strategaeth newydd ar waith, a phob mis, roedd y niferoedd ar restrau aros yn cynyddu. Felly, mae angen cynllun go iawn arnom, wedi'i lunio gan bobl sy'n rhan o'r system, cynllun y gellir ei weithredu'n gyflym a darparu canlyniadau cadarnhaol.

Nid wyf am esgus bod y cynigion a luniwyd gennym yn newydd; mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau o arferion gorau a ddefnyddir ar wahân mewn rhannau o Gymru ar hyn o bryd, diolch i grebwyll a phrofiad rhai o'n clinigwyr a'n rheolwyr iechyd rhagorol, ond mae angen eu cyflwyno'n genedlaethol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fel y soniais yn ystod y digwyddiad lansio ddoe, nid yw hwn yn gynllun sy'n cael ei yrru gan ddogma; mae'n cynnwys camau pragmataidd, ymarferol wedi'u llywio gan y sgyrsiau helaeth a gawsom gyda'r colegau brenhinol a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Oherwydd, yn wahanol i Aelodau'r Llywodraeth hon, nid ydym yn credu bod y colegau brenhinol yn rhan o'r broblem. Yn hytrach, rhaid iddynt fod yn chwaraewyr allweddol wrth ein symud ymlaen tuag at ateb y mae'n hen bryd ei gael.

Yn gyntaf, galwn ar y Llywodraeth i gyflwyno hybiau rhanbarthol sydd wedi'u targedu a'u dynodi'n benodol ar gyfer gofal a gynlluniwyd, gan alluogi dull ar raddfa ddiwydiannol o ddarparu triniaeth lai cymhleth a sicrhau nad yw gofal brys yn defnyddio'r amser ac adnoddau i gyd yn ein hysbytai. Hefyd, mae angen inni fynd i'r afael â natur ddigyswllt ac aneffeithlon y broses atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, lle mae cleifion yn aml yn cael eu gosod yn ddiofyn ar lwybrau nad ydynt o reidrwydd yn llwybr gorau iddynt hwy, sydd yn ei dro yn arwain at gyfeirio costus a llafurus o ysbytai yn ôl i feddygfeydd. Mae hon yn broblem sy'n deillio'n bennaf o esgeuluso'r sector gofal sylfaenol yn ddifrifol, sector sydd, er eu bod yn gyfrifol am dros 90 y cant o gyfanswm cysylltiadau cleifion â'r system iechyd, dros 500 o feddygon teulu yn brin o gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar hyn o bryd.

Yr ateb parhaol, wrth gwrs, yw buddsoddi'n iawn yn ein meddygon teulu. Ond yn y cyfamser, mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i leddfu peth o'r pwysau enfawr ar ein meddygon teulu, y mae eu llwyth gwaith wedi chwyddo i lefelau anghynaliadwy. Rydym yn galw ar y Llywodraeth felly i sefydlu gwasanaeth brysbennu gweithredol, gyda chyfrifoldeb penodol dros gyflymu a symleiddio'r broses atgyfeirio ar gyfer gofal a gynlluniwyd. Bydd hyn yn cynnwys ailasesu cleifion ar restrau aros, gan nad llwybr yw'r ateb gorau bob amser ar gyfer eu hanghenion. Byddai ganddynt rôl hefyd yn safoni llif gwybodaeth ar hyd y llwybrau hynny, a thrwy hynny'n mynd i'r afael â'r hyn a nodais yn gynharach ynghylch cyfeirio'n ôl o atgyfeiriadau. Dylid ymgorffori gwell defnydd o dechnoleg, gan gyflwyno telefeddygaeth ledled Cymru, a chaniatáu i gleifion ddarparu diweddariadau ynghylch eu symptomau er mwyn i'r brysbennu gweithredol allu asesu a ydynt yn cael y lefel gywir o driniaeth ai peidio.

Yn olaf, mae angen gwneud llawer mwy i ymgorffori cydweithredu rheolaidd a systematig yn y modd y darperir gwasanaethau, ymhlith byrddau iechyd yn ogystal â rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae gwaith seilo yn parhau i fod yn broblem gronig yn ein gwasanaeth iechyd, gyda chleifion yn wynebu loteri cod post, a rhai'n gallu cael triniaeth gyflym, ac eraill, ychydig filltiroedd i ffwrdd, yn cael eu hamddifadu o driniaeth oherwydd ble maent yn byw. Nid yw strwythur anstatudol presennol y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn addas i'r diben. Felly, galwn ar y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i osod y byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol ac ailgynllunio'r cylch gwaith fel eu bod yn gyfrifol am gyllidebau cyfun ar gyfer gofal a gynlluniwyd. 

Mae'r Prif Weinidog wedi honni nad oes gan un blaid fonopoli ar syniadau da. Nawr yw'r amser i'w Llywodraeth ddangos bod y geiriau hyn wedi'u llefaru'n ddidwyll, trwy gefnogi ein cynnig. Clywsom lawer o siarad am wleidyddiaeth go iawn a gwrando yn ystod y misoedd diwethaf. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ac yn barod i wrando go iawn, gadewch inni weithio ar draws y pleidiau a rhoi'r syniadau hyn ar waith.

17:20

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr i gynnig yn ffurfiol welliant 1. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod arosiadau o fwy na 104 wythnos wedi gostwng ddau draean ers iddynt fod ar eu hanterth yn ystod y pandemig.

Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol yng nghynlluniau'r byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ymhellach yn 2024-25.

Yn cydnabod camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros drwy ddatblygu:

a) y ganolfan llawfeddygaeth orthopedig ranbarthol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot;

b) Ysbyty Llandudno yn ganolfan lawfeddygol orthopedig ar gyfer y Gogledd; ac

c) y ganolfan ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ehangu nifer y canolfannau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig;

b) cynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael yn GIG Cymru;

c) cyflwyno cynllun recriwtio a chadw sylweddol ar gyfer y gweithlu;

d) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn sy'n deillio o wariant Llywodraeth y DU ar y GIG ar gael ar gyfer GIG Cymru; a

e) rhoi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn osgoi eu cynnydd arfaethedig mewn amseroedd aros am driniaethau trawsffiniol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am y ddadl heddiw, ac am gymryd llawer o'r syniadau o'n maniffesto diwethaf. Roeddwn yn falch iawn eich bod eisoes yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud.

Cyn plymio i'r heriau sy'n ein hwynebu, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i staff anhygoel y GIG ar draws ein gwlad. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymrwymiad diwyro, mae staff y GIG yn cael cam gan Lywodraeth sy'n methu darparu'r gefnogaeth a'r arweinyddiaeth sydd eu hangen arnynt. Mae'r Prif Weinidog a'i Llywodraeth, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet, yn llywyddu dros wasanaeth iechyd mewn argyfwng. Ym mis Ionawr 2024, roedd dros 700,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, gyda mwy na 23,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Nid rhifau'n unig yw'r rhain; mae miloedd o unigolion yn dioddef dros amser hir oherwydd methiannau systematig. 

Ym mis Hydref 2024, dim ond 50.4 y cant o alwadau brys lle mae bywyd yn y fantol a gafodd ymateb o fewn wyth munud—ymhell islaw safonau derbyniol. Mae arolwg barn diweddar yn dangos mai dim ond 24 y cant o bobl yng Nghymru sy'n fodlon â gwasanaethau'r GIG yng Nghymru, gan adlewyrchu dirywiad sylweddol yn hyder y cyhoedd. Mae gorlenwi mewn ysbytai wedi dod yn norm. Mae mwy na 1,600 o oedolion mewn gwelyau ysbyty er eu bod yn barod yn glinigol i'w rhyddhau, ac amcangyfrifir bod 15 y cant o welyau mewn defnydd gan gleifion nad oes angen iddynt fod yno mwyach.

Nid aneffeithlonrwydd yn unig yw hyn; mae'n symptom o broblem ddyfnach a thanariannu cronig ac esgeuluso ein system gofal cymdeithasol. Mae system gofal cymdeithasol gadarn wedi'i hariannu'n dda yn hanfodol er mwyn sicrhau y gellir rhyddhau cleifion yn ddiogel o'r ysbyty, gan ryddhau capasiti ar gyfer rhai mewn angen, ac eto, yn gyson, mae'r Llywodraeth hon wedi methu buddsoddi yn y system gofal integredig sydd ei hangen yn ddybryd ar Gymru. Mae'r Llywodraeth wedi dathlu ei bod yn talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr cymdeithasol, lle gallai'r gweithwyr cymdeithasol hynny, sy'n gwneud gwaith gwych, ennill mwy o arian yn llenwi silffoedd archfarchnad.

Mae'r amser am esgusodion ar ben. Mae'n amlwg fod y Prif Weinidog a'i Llywodraeth yn gwneud cam â Chymru. Mae agwedd Llafur tuag at ein GIG wedi'i nodweddu gan hunanfodlonrwydd a diffyg uchelgais, gan adael cleifion a staff ledled Cymru i dalu'r pris.

Addawodd y Prif Weinidog ddileu amseroedd aros hir, ac eto mae'r sefyllfa wedi dirywio. Mae Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros iechyd wedi addo y byddai'n achub ar y cyfle i roi camau beiddgar ar waith, ond ers dechrau ei swydd, prin y mae wedi tincran o amgylch yr ymylon, gan fethu mynd i'r afael ag achos sylfaenol yr argyfwng. Mae'r esgusodion wedi amrywio o COVID, i'r ffliw, i'r galw digynsail. Gwelwyd y rhain ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae'r GIG yng Nghymru yn ddigyfeiriad, mae'n tanberfformio, ac mae ei ganlyniadau'n llawer gwaeth na rhai Lloegr.

Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â gweledigaeth a phenderfyniad i drwsio'r GIG. Mae gennym gynllun clir i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein system gofal iechyd. Rydych i gyd yn gwybod beth sy'n ein hwynebu yn y Siambr hon, felly fe ddywedaf wrthych beth rydym ni'n ei gefnogi. Rydym o blaid sefydlu canolfannau rhagoriaeth, mwy o hybiau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig cyflym i leihau amseroedd aros, ac ehangu capasiti gwelyau ysbyty i leddfu gorlenwi. O dan y Llywodraeth Lafur hon rydym wedi colli 4,227 o welyau o'n hysbytai, ac ni all hynny barhau. Byddem yn gweithredu strategaeth recriwtio a chadw gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu i gefnogi a chadw staff gwych y GIG. Heb y staff, nid oes gennym gapasiti gwelyau a phobl i drin cleifion.

Byddem hefyd yn sicrhau'r cyllid canlyniadol Barnett llawn ar gyfer GIG Cymru. Mae gormod o arian wedi cael ei lyncu gan weithrediaeth y GIG, biwrocratiaeth a rheoli, a byddwn yn gwario'r swm canlyniadol Barnett llawn ar y rheng flaen. Hefyd, ni fyddem ni ar y meinciau hyn am weld cleifion ym Mhowys yn dioddef, felly byddem yn darparu'r cymorth ariannol angenrheidiol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i atal oedi pellach i driniaethau trawsffiniol yn Lloegr.

Gadewch imi fod yn glir: mae'r GIG wedi torri, ac mae angen ei drwsio, felly ar y meinciau hyn, rydym am weld adolygiad llawn a chynhwysfawr o'r GIG yng Nghymru, yn annibynnol ar y Llywodraeth, fel y gallwn gael y GIG gorau posibl i bobl Cymru. Mae staff ein GIG yn gwneud popeth yn eu gallu, ond ni ellir disgwyl iddynt drwsio system sydd wedi ei thorri gan flynyddoedd o gamreoli Llafur. Mae Llafur Cymru wedi methu gweithredu'r camau beiddgar sydd eu hangen i ddiwygio'r system a chefnogi ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gweithgar. Ni all hyn barhau.

Mae dyfodol GIG Cymru yn dibynnu ar arweinyddiaeth bendant ac ymrwymiad i ddiwygio go iawn, nid tincran o amgylch yr ymylon. Rhaid rhoi diwedd ar drosglwyddo'r bai. Weinidog, ni allwch feio San Steffan mwyach, a rhaid i'r Llywodraeth Lafur hon dderbyn cyfrifoldeb llawn am 26 mlynedd o gamreoli, arweinyddiaeth wael a throi cefn ar eich cyfrifoldebau i bobl Cymru. Dim ond ni ar yr ochr hon i'r Siambr sy'n gallu trwsio Cymru, dim ond ni sy'n gallu trwsio'r GIG a chyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i greu'r system gofal iechyd y mae pobl Cymru yn talu amdani ac yn ei haeddu.

17:25

Mae GIG Cymru'n gweithio'n galed i ddarparu gofal o ansawdd uchel dan bwysau sylweddol. Mae meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn 2.3 miliwn o alwadau ac yn darparu 1.6 miliwn o apwyntiadau bob mis ar gyfer poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o bobl. Mae hynny'n llawer o bobl. Mae cyllideb ddrafft 2025-26 yn cynnwys mwy na £600 miliwn o refeniw a chyfalaf ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn helpu'r GIG i barhau i leihau amseroedd aros hir. Mae'r gyllideb ychwanegol gan Lywodraeth y DU wedi cael croeso mawr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â rhestrau aros ac wedi buddsoddi £50 miliwn ychwanegol i fynd i'r afael â'r rhestrau aros hiraf. Mae hyn yn darparu mwy o glinigau gyda'r nos ac ar benwythnosau, mwy o brofion diagnostig, a mwy o lawdriniaethau rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, wrth symud ymlaen. Rydym yn gweld cynnydd ar y mater hwn. Mae amseroedd aros o ddwy flynedd wedi gostwng ddwy ran o dair ers eu lefel uchaf yn y pandemig COVID. Mae'r amser aros cyfartalog rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gostwng o 29 wythnos i 23 wythnos.

Mae tipyn o ffordd i fynd, fe wyddom hynny, a hoffem symud ymlaen ar yr amseroedd aros, ond rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gyllid o hyd at £29.4 miliwn ar gyfer hyb orthopedig newydd yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, yn Llandudno. Bydd yn helpu i leihau amseroedd aros orthopedig drwy gyflawni 1,900 o lawdriniaethau a gynlluniwyd bob blwyddyn. Mae canolfan orthopedig ranbarthol yn cael ei datblygu yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd, yn yr ysbyty yno, a chanolfan ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.

Mae byrddau iechyd, gobeithio, yn mynd i fod yn buddsoddi mewn TG nawr gan fod ganddynt gyllid cyfalaf bellach ar gyfer y dyfodol. Mae buddsoddiad mewn lleoedd hyfforddi ar gyfer recriwtio i'n gwasanaeth iechyd bellach yn cael ei ddarparu ar draws gogledd Cymru ym Mhrifysgol Wrecsam ac Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru ym Mangor. Mae Coleg Llandrillo'n hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae gennym academi ddeintyddol Bangor. Mae gennym hybiau llesiant mewn cymunedau a buddsoddiad drwy'r gronfa gofal integredig mewn gofal cam-i-fyny, cam-i-lawr, sy'n gwneud gwahaniaeth.

Mae'n bwysig cofio beth y mae Cymru'n ei wneud yn dda yn ein gwasanaeth iechyd. Mae Cymru'n buddsoddi 7 y cant yn fwy na Lloegr mewn iechyd a 37 y cant yn fwy mewn gofal cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod gennym boblogaeth hŷn a salach, a bod ei angen, ond byddwn bob amser yn cefnogi'r GIG a gofal cymdeithasol. Gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu tua £1 biliwn ychwanegol yn 2024-25 a 2025-26, ac nid oes treth ar salwch yng Nghymru ychwaith. Mae presgripsiynau am ddim yng Nghymru a pharcio am ddim yn ein hysbytai. Yn Lloegr, mae ffioedd presgripsiwn wedi codi i £9.90 yr eitem. Mae mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag ar unrhyw adeg ers datganoli, yn cynnwys cynnydd o 16 y cant yn nifer y nyrsys a chynnydd o 26 y cant yn nifer y meddygon ymgynghorol, diolch yn rhannol i'r ffaith na wnaeth Cymru dorri eu bwrsariaeth GIG yn 2017 fel y gwnaeth Lloegr. Fe wnaethom barhau i'w ddarparu, ac rydym hefyd yn darparu bwrsariaeth gwaith cymdeithasol.

Rydym yn parhau i wynebu heriau yn ein GIG, ond mae hefyd yn bwysig cydnabod y cynnydd pwysig sy'n cael ei wneud a dathlu'r gwaith anhygoel y mae staff y GIG yn ei wneud o un diwrnod i'r llall, yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Ac rwy'n ceisio ei gadw'n bositif, oherwydd rwyf am sicrhau bod pobl yn troi at y GIG ac yn cael apwyntiadau os oes ganddynt unrhyw bryderon am eu hiechyd, ac nad ydynt yn cael eu digalonni gan unrhyw sylwadau negyddol y maent yn eu clywed o hyd. Diolch.

17:30

Mae rhestrau aros hir yn fwy na dim ond symptom o wasanaeth iechyd ar ei liniau, maent hefyd yn adlewyrchu anghydraddoldebau dwfn wrth ddarparu gofal iechyd, anghydraddoldebau sy'n dod yn fwyfwy amlwg. Ni ddylai unrhyw un sy'n ceisio triniaeth feddygol orfod dewis rhwng gorfod aros am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd, yn aml mewn poen ac anghysur, i gael eu gweld yn y GIG, neu orfod talu symiau afresymol o arian i fynd yn breifat, ond dyna'r sefyllfa warthus sy'n wynebu miloedd o gleifion yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd brawychus yn y defnydd o ofal iechyd preifat yn y wlad lle ganed y GIG. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, roedd tua 8,000 o dderbyniadau i ysbytai preifat yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf 2024 yn unig, i fyny o 4,500 dros yr un cyfnod bum mlynedd cyn hynny. Yn y cyfamser, mae 58 y cant o bobl Cymru naill ai wedi cael gofal iechyd preifat neu'n adnabod ffrindiau neu deulu sydd wedi ei gael, sy'n uwch na chyfartaledd y DU. Ac ni ddylem gael ein twyllo i feddwl mai mater o ddewis yn unig yw'r ffordd rydych chi'n derbyn triniaeth. Mae'r ffaith mai'r prif ddull talu am ofal iechyd preifat yng Nghymru yw hunandalu—hynny yw, y defnydd o gynilion neu fenthyciadau neu gredyd, yn hytrach na chynlluniau yswiriant—yn tanlinellu bod y rhain yn benderfyniadau sy'n cael eu gwneud mewn sefyllfa o anobaith llwyr. Wrth gwrs, i lawer o unigolion sy'n byw gyda realiti tlodi ac amddifadedd, mae hyd yn oed yr opsiwn o ddioddef ergyd i'ch cyllid personol y tu hwnt i'w cyrraedd.

Dylai'r rhai ohonom sy'n credu mewn diogelu dyfodol y GIG a dyfodol yr egwyddorion blaengar y cafodd ei sefydlu arnynt fod yn bryderus iawn ynglŷn â hyn. Mae fy mam, merch i löwr, yn gallu cofio Cymru cyn y GIG. Mae'n cofio'r dyddiau pan fu'n rhaid i'w theulu benderfynu pa eitem ar y presgripsiwn oedd bwysicaf a beth y byddai'n rhaid gwneud hebddo. Ni ddylai'r gallu i dalu bennu pa driniaeth a gewch, a rhaid inni warchod rhag i hyn ddod yn dderbyniol yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, nid yn unig oherwydd ei fod yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer pen draw trychinebus y daith, sef system iechyd fel un yr Unol Daleithiau, lle mae buddiannau masnachol bob amser yn drech na budd gorau cleifion, a lle gwrthodir gofal i'r rhai sydd fwyaf ei angen ond sydd leiaf abl i'w fforddio, ond hefyd oherwydd bod gofal iechyd preifat—clinigau, ysbytai, practisau—yn creu'r hyn sydd wedi'i alw'n gylch dieflig o niwed, gan gyfrannu at yr argyfwng recriwtio a chadw yn y GIG. Felly, heb weithredu ar frys fel yr hyn a nodir yng nghynllun Plaid Cymru, mae ymddangosiad system iechyd dwy haen lle mae cyfoeth yn pennu ansawdd ac amseroldeb gofal yn anochel.

Wrth gwrs, fe geir dimensiynau rhanbarthol a seiliedig ar rywedd i'r berthynas rhwng amseroedd aros hir ac anghydraddoldebau iechyd, fel yr eglurodd fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor. Mae gwahaniaethau rhanbarthol mewn rhestrau aros wedi arwain at loteri cod post de facto wrth ddarparu gofal. Ac mae'r ffaith bod y rhestr aros am driniaeth gynaecolegol ar hyn o bryd dros 52,000—y pumed uchaf ar gyfer unrhyw arbenigedd—yn tanlinellu sut y mae menywod dan anfantais arbennig oherwydd anymatebolrwydd y system, a menywod, wrth gwrs, yw'r bobl dlotaf yn ein cymdeithasau, fel pobl o gefndiroedd du a lleiafrifol ethnig.

Yr hyn a welwn yma yw erydiad y gyffredinoliaeth sosialaidd a oedd yn sylfaen i weledigaeth Bevan ar gyfer y GIG—yr egwyddor fod gan bawb, beth bynnag y bo'u modd neu eu cefndir, hawl i gael mynediad cyfartal at ofal iechyd. Yn y bôn, mae gwelliant Llafur Cymru yn ceisio honni eu bod yn gwneud popeth yn barod, a chlywsom y Prif Weinidog ddoe, a'r Ysgrifennydd iechyd heddiw, yn ymateb yn hollol ddirmygus i awgrymiadau Plaid Cymru ar gyfer gwella amseroedd aros drwy ddweud eu bod eisoes yn eu gwneud i gyd. Pam felly fod arbenigwyr annibynnol a helpodd i ddatblygu'r cynllun yn dweud bod angen i bethau newid ac y byddai'r camau y mae Plaid Cymru wedi'u nodi yn helpu?

Mae Llafur yn hoffi ymfalchïo mai hi yw plaid y GIG, ond mae dylanwad cyrydol rhestrau aros hir sy'n cynyddu ac anghydraddoldebau cymdeithasol sy'n gwaethygu, a'r hwb i'r sector preifat a'r holl risgiau a ddaw yn sgil hynny, yn dangos ei bod yn peryglu ein gwasanaethau iechyd gwerthfawr ac yn bwysicaf oll, yr egwyddorion sosialaidd y mae'r GIG yn eu hymgorffori. 

17:35

Mae'n bleser cael siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno, er nad yw'n rhoi unrhyw bleser i mi fod Llywodraeth Cymru yn dal i ymrafael â'r amseroedd aros cynyddol yng Nghymru, heb unrhyw arwydd fod ganddynt reolaeth ar y sefyllfa. Rwy'n falch fod yr Aelod dros Lanelli yn ei ystyried yn destun chwerthin, ond nid oes llawer o bobl yng Nghymru yn ei ystyried felly, ac rwy'n siŵr nad yw eich etholwyr chi ychwaith. 

Yn gynharach, dywedwyd wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd fod yna ddiffyg syncroneiddio parhaus rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae aelodau o bob plaid wedi bod yn codi'r mater hwn ers cryn dipyn o amser, ac eto mae Cydffederasiwn y GIG yn amcangyfrif bod tua 15 y cant o welyau GIG Cymru mewn defnydd gan bobl na ddylent fod yno mwyach. Amlygodd arolwg Cydffederasiwn y GIG yn 2022 hefyd fod dros 80 y cant o arweinwyr gofal iechyd yn cytuno bod diffyg capasiti gofal cymdeithasol yn cael effaith sylweddol iawn ar gynyddu'r galw am ofal brys. Rydych chi wedi cael digon o amser i ymdrin â'r broblem hon, ond eto nid ydym wedi gweld unrhyw ganlyniadau.

Heb os, bydd cael claf allan o'r GIG ac i mewn i'r system gofal cymdeithasol yn rhoi pwysau ar lwybr y claf. Felly, mae amseroedd aros o ddwy flynedd wedi cynyddu i dros 24,000 o'i gymharu â llai na 150 yn Lloegr. Mae'r Prif Weinidog wedi addo flwyddyn ar ôl blwyddyn y caiff yr amseroedd aros hyn eu dileu, ond maent yn parhau i chwyddo. Ac rwyf wedi dweud o'r blaen na fyddai unrhyw wlad ddatblygedig arall ar y ddaear yn goddef y gwasanaeth hwn a lefel yr anghymhwysedd a'r hunanfodlonrwydd a ddangosir gan y rhai sy'n gyfrifol yn y Llywodraeth. Pan ddaw etholiad y Senedd yn 2026, y flwyddyn nesaf, bydd y bobl yn cael dweud eu barn ar gyflawniad y Blaid Lafur ar iechyd, ac nid wyf yn credu y bydd y farn honno'n garedig iawn i Lafur Cymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu technoleg a fydd yn datrys nifer o'r problemau ôl-groniad sy'n difetha'r gwasanaeth, ac yn sicrhau effeithlonrwydd. Nid ydym yn galw am unrhyw beth anghyffredin, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dilyn ôl troed ymddiriedolaethau GIG Lloegr a mabwysiadu technoleg. Os ydych chi am adfer hyder pobl Cymru, mae angen ymrwymiadau pendant arnom gan Lywodraeth Cymru, ond rwy'n amau na fyddant yn dod. 

Felly, i grynhoi, a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ddarparu rhywbeth diriaethol o'r diwedd? A fyddant yn cytuno o'r diwedd i ehangu nifer yr hybiau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig y bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw amdanynt ers blynyddoedd? Ac a ydych chi'n mynd i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael yn GIG Cymru drwy ddatrys yr ôl-groniad gofal cymdeithasol o'r diwedd, ôl-groniad sydd wedi bod yn dal y system yn ôl ers bron i dri degawd ac sydd wedi llyffetheirio ein gwasanaethau iechyd lleol ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau? Diolch.

Dwi eisiau mynd ar ôl dau faes penodol, un ohonyn nhw, efallai, yn sicr, sydd ddim yn cael y sylw mae'n ei haeddu, a hynny'n benodol yw rhestrau aros ym maes asesu am gyflyrau niwroddatblygol. Nawr, mae'r sefyllfa yn y gogledd, yn fy rhanbarth i, yn frawychus, a dweud y gwir. Ces i ddata gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr cyn y Nadolig o dan y Ddeddf rhyddid gwybodaeth, ac mi oedd hwnnw'n tanlinellu pa mor argyfyngus yw'r gwasanaeth. Mae yna genhedlaeth gyfan o blant a phobl ifanc gyda chyflyrau megis ADHD ac awtistiaeth yn cael eu gadael i lawr gan fethiannau'r gwasanaeth yma. 

Nawr, mae plant yn treulio cyfran fawr o'u haddysg—rhai o'r plant yma—yn aros ar restr hirfaith am asesiad. Mae dros 62 y cant o'r rhai sy'n aros wedi aros dros flwyddyn, ond roedd rhyw 50 y cant o blant y llynedd wedi bod yn aros dros bedair blynedd i gael eu hasesu, ac un plentyn yn benodol wedi bod yn aros dros bum mlynedd a hanner am asesiad. Nawr, mae hynny' yrfa ysgol uwchradd gyfan yn aros am asesiad. Sut all y Llywodraeth yma gyfiawnhau gadael cenhedlaeth gyfan o'r plant mwyaf bregus sydd gennym ni i lawr trwy eu gadael nhw ar restrau aros diddiwedd fel hyn?

Nawr, rŷn ni'n gwybod wedyn, wrth gwrs, am y ddarpariaeth iechyd deintyddol yng Nghymru, sydd yn ddiarhebol o wael pan mae'n dod i argaeledd gwasanaeth. Mae yna lai a llai o'n poblogaeth ni yn derbyn triniaeth ddeintyddol o dan y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Dim ond 40 y cant o’r boblogaeth oedd wedi medru cael mynediad at driniaeth yn y 24 mis hyd at Fehefin diwethaf, ac mae’n rhaid i fi ddweud, mae'r Llywodraeth yn twyllo'u hunain wrth beidio â chydnabod realiti’r sefyllfa. Mi oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros y gogledd yn y Siambr yma ychydig wythnosau nôl yn dweud wrthyf i fod yna 11 practis ym mwrdeistref Wrecsam sy'n derbyn cleifion ar y gwasanaeth iechyd â breichiau agored. Wel, mi wnaethoch chi hefyd, Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, ddweud mewn gohebiaeth i fi fod dros 77,000 o gleifion deintyddol newydd wedi derbyn triniaeth ar y gwasanaeth iechyd. Dwi wedi cysylltu gyda'r practisys yn y gogledd, ac o'r 55 deintyddfa dwi wedi siarad gyda nhw sydd yn cynnig triniaeth ar y gwasanaeth iechyd, dim ond tri sy'n derbyn cleifion newydd ar yr NHS. Mae un ohonyn nhw'n dweud bod rhaid i chi aros tair blynedd, mae un arall yn dweud bod rhaid i chi aros dwy flynedd, ac mae'r trydydd yn mynd o fis i fis, yn cynnig hyn a hyn o apwyntiadau, ac unwaith maen nhw wedi mynd, dyna ni: 'Sori, mae'n rhaid ichi ddod nôl mewn mis.' Rŷch chi'n ysgwyd eich pen; os ŷch chi ddim yn fy nghredu i, wel, gwrandewch ar y BDA, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, sydd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o 'cooking the books' pan mae'n dod i niferoedd cleifion.

Felly, dwi jest eisiau tynnu sylw at y ddwy elfen yna. Dwi ddim yn gwybod sut mae hynny'n gydnaws ag amcanion Llywodraeth Cymru o ran adeiladu cenedl iach. Dwi ddim yn gwybod sut mae gadael pobol ifanc a phlant, yn enwedig, yn aros cyhyd yn eistedd gyda’r agenda ataliol, oherwydd rŷn ni'n gwybod gyda'r agenda ataliol ei bod yn llawer pwysicach, ac yn llawer mwy effeithiol ar ddechrau bywyd. A thra bod sylw teilwng, wrth gwrs, yn cael ei roi i restrau aros cyffredinol o fewn y gwasanaeth iechyd a'r targedau rŷn ni'n clywed amdanyn nhw yn gyson ar y cyfryngau, cadwch mewn cof bod cyflyrau niwroddatblygol a sefyllfa deintyddiaeth hefyd yn echrydus. Mae pobl wedi blino aros am driniaeth, maen nhw wedi blino aros i weld doctoriaid, maen nhw wedi blino aros i weld deintydd, wedi blino aros am ddiagnosis. Wel, ydych chi'n gwybod beth? Maen nhw wedi blino aros hefyd, dwi'n meddwl, am newid Llywodraeth a newid cyfeiriad ar y gwasanaeth iechyd, a gobeithio y bydd yna gyfle inni wneud hynny mewn 18 mis.

17:40

Mae tanariannu cronig gan Lywodraethau Ceidwadol olynol San Steffan wedi bod yn drychinebus i'n GIG yng Nghymru. Mae ein gweithlu wedi teimlo dan bwysau, ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi na'u cefnogi'n ddigonol. Mae rhai cleifion wedi cael eu gadael i aros yn rhy hir o lawer am driniaeth, ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae hyn wedi ei waethygu gan alw cynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn gwlad o 3 miliwn o bobl, mae gwasanaethau'r GIG yng Nghymru yn trin 2.2 miliwn o gysylltiadau wyneb yn wyneb bob mis. Mae'n nifer enfawr, ac mae'n dangos pa mor hanfodol yw'r gwasanaethau hyn i bawb yn ein cymunedau. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi gweld buddsoddiad ac arloesedd gwirioneddol yn ein GIG i leihau amseroedd aros a gwella gofal. Yng Nghwm Taf, mae gennym brosiectau y gallwn fod yn falch iawn ohonynt. Mae'r Bwthyn yn ganolfan gofal lliniarol arbenigol a chanddi dîm sy'n cynnwys meddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, deietegwyr, therapyddion lleferydd a mwy. Maent yn darparu gofal heb ei ail yno; rwy'n gwybod hyn yn bersonol oherwydd fe wnaethant yn siŵr fod fy mam mor gyfforddus â phosibl yn ei dyddiau olaf.

Hefyd, mae Canolfan y Fron Snowdrop yn gyfleuster sy'n ymroddedig i ofal canser y fron, ac mae'n cynnig popeth o ddiagnosis i apwyntiadau dilynol o dan yr un to. Mae'r gofal cydgysylltiedig hwn yn golygu bod cleifion yn cael eu gweld yn llawer cynt, a gellir rheoli eu cynlluniau triniaeth yn fwy effeithiol. Rydym hefyd wedi cael cynllun peilot archwiliadau iechyd yr ysgyfaint yn Ysbyty Cwm Rhondda, lle gwahoddwyd dros 500 o drigolion am sganiau CT. Fe achubwyd bywydau gan y cynllun peilot drwy ddal canser yr ysgyfaint yn gynharach, yng ngham 1 a cham 2. Mae'r data ohono bellach yn helpu i lunio proses ar gyfer ei gyflwyno ledled y wlad.

Yn fwy diweddar, rydym wedi gweld canolfan ddiagnostig a thriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r cyfleuster MRI dros dro yno wedi torri amseroedd aros 50 y cant—cyflawniad enfawr, yn enwedig yn y cyfnod ariannol anodd hwn.

Ac yn olaf, mae gennym y tîm gofal cymunedol newydd sbon, ysbyty yn y cartref, lle mae 80 o ofalwyr yn cefnogi cleifion gartref ar draws ardal y bwrdd iechyd, gan dorri'r amser a dreulir yn yr ysbyty. Mae miloedd o bobl yn gweithio'n ddiflino bob dydd i leihau amseroedd aros a darparu gofal i drigolion ledled Cymru. Rhaid imi ddiolch yn arbennig i fferyllwyr fel Dai yn y Fferyllfa Ganolog a Gareth yn Fferyllfa Tynewydd am leihau'r pwysau ar feddygon teulu drwy'r gwasanaethau anhwylderau cyffredin.

Dros y misoedd diwethaf, bûm yn siarad yn uniongyrchol â gweithwyr y GIG yn y Rhondda. Rwy'n ddiolchgar am eu hadborth, ac mae'n amlwg fod gwaith i'w wneud o hyd. Ni ellir unioni 24 mlynedd o danariannu dros nos, ond gyda'r codiad cyflog diweddar, cannoedd o filiynau i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir a'r cynllun iechyd uchelgeisiol ar gyfer menywod, mae gwir reswm dros fod yn optimistaidd am ein GIG yng Nghymru, GIG lle caiff lleisiau gweithwyr eu clywed a'u parchu. Diolch, Lywydd.

17:45

Heb os—mae Buffy Williams a finnau’n cynrychioli’r un rhanbarth—mae yna waith arloesol yn digwydd, mae yna waith anhygoel, ond yn sicr mae yna effaith wirioneddol, a fedrwn ni ddim anwybyddu y gwaith achos dŷn ni’n ei dderbyn chwaith. Ac yng nghanol yr ystadegau brawychus am ein rhestrau aros ni, mae’n bwysig nad ydym ni’n anghofio gwir effaith yr hyn rydym ni’n ei drafod ar y rhai rydym ni’n eu cynrychioli. Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd am 25 mlynedd. Fedrwn ni ddim trio beio hyn i gyd ar y Torïaid. Mae yna bethau sylfaenol fan hyn; dydy o ddim jest am gyllid, mae o ynglŷn â sut mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg.

Dwi’n siŵr bod pob un ohonom ni’n derbyn bob dydd negeseuon gan bobl sy’n rhannu eu profiadau fel cleifion, ond hefyd fel perthnasau i gleifion, y rhai sy’n aros am driniaeth, neu efallai ei fod yn rhy hwyr i’r person yna, oherwydd eu bod nhw heb gael y driniaeth honno. Mae cost yr oedi ar y rhestrau aros hyn yn bellgyrhaeddol. Yn y pythefnos diwethaf dwi wedi clywed am ddynes 50 oed sydd yn athrawes ysgol uwchradd, yn aros am driniaeth am ddau gataract, yr optegydd yn dweud bod angen hyn ar frys neu bydd ei llygaid yn dirywio cymaint fydd hi ddim yn gallu gyrru i’r gwaith. Mae hi wedi bod ar restr aros am bum mis ar ôl y diagnosis yma, a dim newyddion ynglŷn â phryd bydd y driniaeth. Oherwydd hyn mi allai ei dosbarthiadau hi o ddisgyblion golli athro cyn eu harholiadau TGAU a lefel A, gan effeithio yn negyddol ar eu canlyniadau nhw, o bosib.

Fe gysylltodd dyn ifanc 30 gyda mi a dweud:

'Hoffwn godi mater gyda chi fel fy nghynrychiolydd. Cefais fy nghyfeirio am ddiagnosis ADHD oedolion dair blynedd yn ôl, a dim ond y llynedd y cefais gadarnhad fy mod ar y rhestr aros. Felly, nid wyf yn gwybod pa mor hir y byddaf yn aros. Mae hon yn sefyllfa annioddefol, lle rwy'n teimlo na allaf gael yr help sydd ei angen arnaf. Rwy'n sylweddoli bod pwysau aruthrol ar y GIG, ond ni allaf fforddio talu am ddiagnosis a thalu drwy fy nhrwyn bob mis am bresgripsiynau preifat.'

Dywedodd etholwr arall wrthyf am eu plentyn 12 oed sy'n dioddef o sgoliosis yr asgwrn cefn, ac oherwydd lefel y boen a'r twf, dywedwyd wrthynt gan ffisiotherapydd ym mis Tachwedd 2024 fod angen apwyntiad brys gyda meddyg ymgynghorol. Trefnwyd apwyntiad ar gyfer Ionawr 2025. Mae hwn bellach wedi'i ganslo a chynigiwyd dyddiad newydd ym mis Ebrill 2025. Pum mis o fod mewn poen i blentyn 12 oed, sefyllfa annioddefol i blentyn sy'n ceisio mynd i'r ysgol bob dydd.

Felly, mae hi bron yn amhosibl mesur y gost wirioneddol o gael cymaint o bobl ar restrau aros am driniaeth, pobl nad ydynt yn gallu byw eu bywydau normal am eu bod yn aros am driniaeth a llawdriniaethau. Lle mae tynnu'r llinell? Yr oriau gwaith coll i'r cyflogwr, y costau cynyddol i deuluoedd yn sgil anabledd dros dro fel bod angen offer, bwyd arbennig, gwresogi ychwanegol yn y cartref, gofal plant, cludiant pan na allant yrru mwyach, colli cyflog, colli swydd weithiau, a gwthio dibynyddion i dlodi yn ogystal â hwy eu hunain, colli cyfleoedd hamdden iddynt eu hunain a'u plant, colli clybiau ar ôl ysgol i'r plant oherwydd problemau cludiant neu dlodi, colli cyfle i'w plentyn fynychu tripiau preswyl gyda'r ysgol, colli hunan-barch oherwydd yr uchod, colli iechyd meddwl oherwydd yr anallu i gynllunio ar gyfer amseroedd gwell, colli hyder yn eu sgiliau wrth iddynt ddirywio'n araf, methu gwneud yr hyn y dylent allu ei wneud, heb wybod pryd y bydd cymorth, neu ddiagnosis neu driniaeth yn dod.

O ran y GIG, rwy'n poeni pan glywaf '2.2 miliwn o gysylltiadau.' Mae cymaint o gysylltiadau. A yw hynny'n beth da? Oherwydd, mewn gwirionedd, onid yw hynny'n golygu bod yna broblem go iawn, fod pobl ar y rhestrau aros yn gorfod cael cysylltiadau'n amlach wrth iddynt ddirywio, eu bod yn cysylltu—cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cysylltu—am eu bod eisiau gwybod pryd y mae'r apwyntiad yn digwydd? Ac yn anffodus, mae yna achosion—rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi eu gweld yn ein gwaith achos—lle mae pobl yn marw, hyd yn oed, cyn y llawdriniaeth neu ddiagnosis.

Felly, rhaid inni dalu teyrnged i'r staff sy'n gweithio'n ddiflino bob dydd. Mae pethau gwych yn digwydd a dylid dathlu hynny, ond nid yw'n tynnu oddi wrth yr hyn y maent yn dweud wrthym fod angen iddo ddigwydd er mwyn sicrhau bod pobl yn ffit ac yn iach ac nad yw rhestrau aros yn golygu na allant fwrw ymlaen â'n bywydau; mae'n effeithio ar ein heconomi, mae'n effeithio ar bob elfen. Felly, yn hytrach na phwyntio bysedd, rwy'n gobeithio clywed gan Lywodraeth Cymru am gynnydd ar y pethau hollbwysig hyn, a chydnabyddiaeth fod methiannau wedi digwydd a bod angen mynd i'r afael â hwy.

17:50

Mae'n siŵr na fydd yn syndod fy mod am siarad am bwynt 3(e) ein gwelliant heddiw, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i gefnogi eu sefyllfa, fel na fyddant yn symud ymlaen â'u cynnig i ofyn i ddarparwyr dros y ffin gynyddu amseroedd aros.

Roeddwn i'n meddwl y dylai fod rhywfaint o gyd-destun i hyn hefyd, i'r rhai nad ydynt yn gwybod. Ond i fy etholwyr i ym Mhowys ac i etholwyr James Evans, mae'r rhan fwyaf o'n hetholwyr yn mynd dros y ffin am eu gofal, i'w trin yn ysbytai'r GIG yn Lloegr. Wrth gwrs, mae gan fwrdd iechyd Powys gynnig i ofyn i ddarparwyr Lloegr ohirio triniaeth am na allant fforddio talu; i bob pwrpas, maent eisiau gwthio'r taliad i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd, mae'r bwrdd iechyd wedi gohirio'r penderfyniad hwnnw ar gyfer cyfarfod pellach o'r bwrdd, ar ddyddiad anhysbys, ond mae'n achos pryder enfawr i gleifion Powys. A dyma'r sefyllfa. Yn ysbyty Amwythig neu ysbyty Telford, gallai claf o Gymru fod yn eistedd yn siarad â meddyg ymgynghorol ac mae'r meddyg ymgynghorol yn dweud wrthynt, 'Mae gennym gapasiti i'ch gweld. Byddem yn eich gweld chi pe baech chi'n glaf o Loegr, ond ni allwn wneud hynny am na all Powys dalu am eich triniaeth.' Ac mae'r sefyllfa honno'n sefyllfa hurt i fod ynddi. Ac wrth gwrs, un o brif flaenoriaethau'r Prif Weinidog yw lleihau amseroedd aros y GIG. Felly, nid oedd yn syndod mawr i mi pan amlinellais y sefyllfa i'r Prif Weinidog ddoe—roeddwn yn falch o ymateb y Prif Weinidog—fod y Prif Weinidog wedi dweud nad oedd yr hyn a ddisgrifiais yn dderbyniol. Wrth gwrs na all fod yn dderbyniol, oherwydd nid yw'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Prif Weinidog.

Ond mae yna broblem ehangach yma hefyd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, a bydd Llywodraeth Cymru yn dweud, fod yn rhaid i fyrddau iechyd weithredu o fewn eu cyllidebau—rwy'n deall—ond wrth gwrs, mae bwrdd iechyd Powys wedi ei uwchgyfeirio i lefel 4 ar gyfer cyllid a chynllunio. Felly, buaswn yn disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet a swyddogion Llywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr â swyddogion ym mwrdd iechyd Powys i sicrhau nad ydym yn cyrraedd y sefyllfa hon yn y lle cyntaf.

Mae yna broblem arall ehangach yma hefyd, a hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hyn yn ei sylwadau yn y ddadl hon: i ba raddau y mae'r hyn sy'n digwydd ym Mhowys yn digwydd mewn byrddau iechyd eraill ledled Cymru hefyd, lle mae capasiti'n bodoli o fewn y byrddau iechyd hynny i drin pobl, ond bod triniaeth yn cael ei gohirio am resymau ariannol? Rwy'n falch fod yr Ysgrifennydd iechyd yn nodio, a dweud nad yw'n credu ei fod yn digwydd, ond wrth gwrs, ym Mhowys, fe wyddom ei fod yn digwydd, oherwydd mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw mewn cyfarfod cyhoeddus o'r bwrdd. Nid oes rhaid i fyrddau iechyd eraill wneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hynny, ac os yw'n digwydd, sut y mae'n mynd i'r afael â'r mater a sut y mae'n herio'r byrddau iechyd yn yr ardaloedd hynny.

Ond wrth gwrs, ceir goblygiadau eraill, ehangach hefyd: pan fydd pobl yn aros am driniaeth, maent yn aml yn aros mewn poen. A thra'u bod yn aros mewn poen, mae hynny'n effeithio ar aelodau'r teulu. Mae hynny hefyd yn effeithio ar iechyd claf; y tu hwnt i'r driniaeth y byddant yn aros amdani, mae anhwylderau eraill yn datblygu wedyn hefyd. Ac os yw rhywun yn aros tri mis yn hwy, efallai, am driniaeth, mae canlyniadau iddynt o fod allan o waith, ac mae goblygiadau ariannol yno hefyd i Lywodraeth y DU drwy'r system fudd-daliadau. Mae effaith enfawr ar y teulu ac aelodau o'r teulu sy'n cefnogi'r sawl sy'n aros am driniaeth. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein gwelliant heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr Cymreig i ddarparu'r cymorth ariannol sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i osgoi'r cynnydd arfaethedig yn yr amseroedd aros am driniaeth drawsffiniol. Ni allaf weld pam na fyddai'r Llywodraeth yn cefnogi hynny, o ystyried yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn ei hymateb i fy nghwestiwn.

17:55

Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedodd Heledd Fychan. Rhaid inni ddweud 'na' wrth bwyntio bysedd ac 'ie' wrth gynigion pendant i wella pethau. Nid oes dim yn fwy digalon i bersonél y gwasanaeth iechyd na chlywed bod pobl yn eu beirniadu am y gwaith a wnânt, ac maent yn gweithio'n anhygoel o galed i ymdopi â'r cynnydd enfawr yn y galw. Nid yw galw yr un fath ag angen. Mae ychydig yn wahanol. Ond mae deall sut i wahaniaethu rhwng y ddau yn eithaf cymhleth. Mae ffrindiau a theulu i mi sy'n ymweld â gogledd Cymru bob amser yn synnu pa mor hawdd yw cael apwyntiad mewn practis gwledig yng ngogledd Cymru—cymaint haws na lle maent yn byw yn Llundain. Felly, mae'r syniad fod popeth yn waeth yng Nghymru nag yng ngwasanaeth iechyd Lloegr yn fytholeg sydd angen ei chwalu. Un o'r rhesymau am hynny yw bod y practis gwledig penodol hwnnw yn un o'r practisau lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Y practisau sy'n wynebu'r heriau mwyaf yw'r rhai sy'n gwasanaethu'r cymunedau mwyaf difreintiedig, sef y bobl leiaf tebygol hefyd o geisio cymorth ar gyfer afiechyd nes ei fod wedi dod yn llawer anos i'w drin.

Felly, dyma rai o'r cymhlethdodau y mae'n rhaid i bob meddyg ymdopi â hwy bob dydd pan fydd pobl yn ffonio a dweud, 'A gaf i weld y meddyg?' Oherwydd mae'n rhaid inni brysbennu pwy y mae clinigwr yn ei weld yn seiliedig ar ei angen. Os yw'r gwasanaethau meddygon teulu ar eu gliniau—ac ni wyf yn dweud eu bod ar eu gliniau, ond maent yn dioddef heriau, yn enwedig ym Mlaenau Gwent, lle mae'r practis preifat gwarthus hwnnw, sy'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei gywiro—. Os na all pobl weld eu meddyg teulu, mae rhai ohonynt yn mynd i'r adran achosion brys, a dyna un o'r rhesymau pam y bu cynnydd sylweddol yn y flwyddyn lawn ddiwethaf y mae gennym gofnodion ar ei chyfer. Roedd bum gwaith yn uwch yn 2023-24 na'r lefel a welid ym 1959. Mae rhywfaint o hynny'n deillio o'r ffaith ein bod yn boblogaeth eithaf sâl. Er mai ysmygu yw prif achos marwolaethau cynnar o hyd, rhaid inni atgoffa ein hunain fod clefydau sy'n gysylltiedig â deiet bellach yn codi ar yr agenda ac yn gynyddol yn dod yn ail brif achos.

Ar y pwynt hwnnw, gydag ysmygu yn brif achos marwolaeth, a ydych chi felly yn cefnogi'r galwadau i ASH gael ei ariannu'n iawn, fel y gallant barhau â'u gwaith da?

Na, rwy'n cefnogi gwahardd ysmygu, fel nad yw cenedlaethau'r dyfodol yn dechrau'r arfer erchyll hwn. Ond mae'n rhaid inni ddeall mai un o'r pethau annisgwyl yw bod derbyniadau i adrannau brys yn uwch yn yr haf nag yn y gaeaf. Rwy'n credu y byddai'n anodd dadlau bod pobl yn fwy sâl yn yr haf nag yn y gaeaf, oherwydd fe wyddom, yn amlwg, fod yr oerfel yn gallu lladd pobl oedrannus, a dyna un o'r pethau y mae pawb ohonom yn poeni yn ei gylch ar hyn o bryd. Ond mae yna lawer mwy yn mynychu yn ystod oriau golau dydd nag yn ystod y nos, sef ar yr adegau y mae gwasanaethau fel fferyllfeydd a meddygfeydd ar agor wrth gwrs. Felly, dyna un o gymhlethdodau'r system.

Pan oedd Cymunedau yn Gyntaf yn dal i weithredu yng Nghaerdydd, rwy'n cofio eu bod yn arfer cyfarfod yn fisol i ddadansoddi pwy oedd yn mynychu'r adran achosion brys amlaf ac i roi gwasanaethau amgen ar waith ar gyfer pobl a oedd yn dod i'r adran achosion brys am resymau nad oedd angen—

A ydych chi'n meddwl bod rhai pobl sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys hefyd yn bobl unig? Pe bai ganddynt becynnau gofal gwell gartref, byddai pobl yn gallu aros gartref, yn hytrach na dod i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys, ein practisau meddygon teulu ledled Cymru. Felly, pe baem yn buddsoddi mwy yn ein system gofal cymdeithasol, byddai'n lleddfu llawer o'r pwysau mewn mannau eraill.

18:00

Diolch i chi am gyfeirio at hynny, oherwydd roeddwn ar fin dod at ofal cymdeithasol. Rwy'n cytuno â Gareth Davies fod llawer mwy o bobl yn yr ysbyty a fyddai'n cael gwell gofal yn y gymuned. Rwyf hefyd yn cytuno ein bod eisiau system gofal cymdeithasol wedi'i hariannu'n dda. Ond mae'n siomedig iawn ein bod wedi treulio'r 20 mlynedd diwethaf yn siarad am hyn heb fynd i'r afael â sut y bwriadwn ariannu system gofal cymdeithasol newydd am ddim pryd a lle bynnag y bo'i hangen, oherwydd fel arall rydym yn mynd i gael amryw o frwydrau y gallwn ailedrych arnynt ar ddiwrnod arall. Ac felly rwy'n siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU wedi gofyn i Louise Casey adrodd ar hyn tan 2028. Mae angen iddo ddigwydd nawr. Rydym i gyd yn deall y rhesymau, ond ni all neb ohonom wrthsefyll y dadlau gwleidyddol yn ôl ac ymlaen sy'n mynd gydag ef, yn ymwneud â phwy sy'n mynd i dalu ac ar ba bwynt yn eu bywydau.

O'r gorau. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn i dorri rhestrau aros, oherwydd fe welwch o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth mai'r hybiau llawfeddygol yr ydym yn eu darparu yw'r ffordd i bobl sydd angen gofal a gynlluniwyd, nid gofal brys, gael triniaeth yn llawer cyflymach nag y byddent yn ei chael mewn ysbyty brys, fel y Mynydd Bychan, lle bydd y claf brys bob amser yn cael blaenoriaeth ar yr unigolyn sydd ond angen clun newydd neu lawdriniaeth cataract.

Diolch, Llywydd, a diolch am gyfle arall i nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu'r gwasanaeth iechyd i leihau amseroedd aros hir. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn gwbl glir mai lleihau'r amseroedd aros hiraf yw ein prif flaenoriaeth. Ers mis Mawrth 2022, mae nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng dau draean; 3 y cant o'r bobl ar y rhestr aros sy'n aros mwy na dwy flynedd, o'i gymharu â bron i 10 y cant pan oedd y ffigurau ar eu huchaf. Mae amseroedd aros hir am brofion diagnostig wedi gostwng 35 y cant. Yn ogystal, mae'r amser aros ar gyfartaledd rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gostwng o 29 wythnos i ychydig o dan 23 wythnos. Mae'r gwasanaeth iechyd yn gwneud cynnydd er gwaetha'r galw cynyddol, ond mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn gynt yn unol â'u dymuniad.

I gefnogi'r gwasanaeth iechyd, rŷn ni'n darparu mwy nag £1 biliwn mewn cyllid adfer yn ystod tymor y Senedd hon. Ddiwedd mis Hydref, fe wnaethon ni hefyd ddarparu £50 miliwn ychwanegol i dargedu'r amseroedd aros hiraf. Mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu nifer y staff sy'n gweithio ar benwythnosau a gyda'r nos, sefydlu mwy o glinigau rhanbarthol a gwella'r capasiti i roi triniaethau. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal mwy o driniaethau a phrofion, a mwy o apwyntiadau i gleifion allanol. Lle bo angen, hefyd, mae'n cael ei ddefnyddio i fanteisio ar gapasiti mewn ysbytai preifat er mwyn gallu trin pobl. Dros yr wythnosau diwethaf, mae mwy na 5,000 o bobl o'r de ddwyrain wedi cael cynnig llawdriniaeth cataract gan ddefnyddio gwasanaethau wedi'u comisiynu. Mae hyn yn cynnwys canolfan rhanbarthol yn Ysbyty Nevill Hall. 

O'r 5,000 sydd wedi cael cynnig apwyntiadau cataract yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ychydig dros 3,200 eisoes wedi cael eu hapwyntiad. Mae nifer fach wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr. Lywydd, mae'r GIG yn gweithio'n galed iawn i drin pobl. Mae hyn yn cynnwys gweithio i leihau nifer y rhai nad oeddent ac na allant fynychu, sy'n rhy uchel. Felly, o'r 1,800 neu fwy sydd heb dderbyn eu hapwyntiad eto, mae'r GIG yn eu ffonio fel nad ydynt yn colli'r cyfle. Ni all ein system wneud nifer diderfyn o gynigion o driniaeth, ond drwy annog pobl i fynychu, bydd hynny'n helpu, a sicrhau wedyn fod lleoedd ar gael i'r rhai sy'n gallu.

Lywydd, fe wyddom na fydd y mesurau tymor byr hyn ar gyfer rhestrau aros ynddynt eu hunain yn ddigon i adfer cydbwysedd o fewn y system gofal a gynlluniwyd. Er bod buddsoddiad newydd yn bwysig, mae angen inni drawsnewid y ffordd y darparwn iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned ac mewn ysbytai. Rhaid gwneud gwaith ar drawsnewid, gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant ochr yn ochr â lleihau amseroedd aros hir. Bydd hyn yn helpu i'n rhoi ar y llwybr tuag at wasanaeth iechyd cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae'r cyllid ychwanegol wedi'i gynllunio i gefnogi hyn.

Rydym wedi gwneud cynnydd da yn y maes hwn. Er clod iddo, roedd llefarydd Plaid Cymru yn ddigon graslon i gydnabod nad yw ei gynllun yn cynnwys unrhyw beth sy'n newydd, ac rwy'n cydnabod y pwynt hwnnw. Mae datblygu Ysbyty Castell-nedd Port Talbot fel canolfan ranbarthol orthopedig wedi cyfrannu at ostyngiad o 73 y cant mewn amseroedd aros hir ar draws de-orllewin Cymru, ardal lle mae gwaith rhanbarthol rhwng byrddau iechyd Hywel Dda a Bae Abertawe yn aeddfedu, a hynny heb fod angen deddfwriaeth frys. Rwyf wedi bod yn glir y byddaf yn barod i ddefnyddio pwerau cyfarwyddyd gweinidogol i sicrhau atebion rhanbarthol lle mae angen i ni wneud hynny. Rydym eisoes wedi clywed ein bod yn buddsoddi ychydig o dan £30 miliwn i ddatblygu canolfan orthopedig Llandudno ar gyfer y rhanbarth, a bydd yn agor yn ddiweddarach eleni. Rydym yn cefnogi gweledigaeth ar gyfer dyfodol y GIG, gyda chynlluniau rhanbarthol ar gyfer canolfan ddiagnostig a hyb llawfeddygol yn Llantrisant, ond nid adeiladau newydd neu ddeddfwriaeth newydd yn unig sy'n mynd i drawsnewid gofal. Mae newid llwybrau, sut y darperir gofal, yn fwy sylfaenol. Ar hyn o bryd—ac rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth yr Aelod gyferbyn; bûm yn dweud hyn fy hun ers imi ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn—mae gormod o amrywio ar draws y system o ran llwybrau a chanlyniadau cleifion. Mae'r canllawiau cynllunio cenedlaethol newydd a gyhoeddais ychydig cyn y Nadolig yn ei gwneud yn glir fod yn rhaid i bob sefydliad GIG weithredu arferion gorau cydnabyddedig a nodir yn y canllawiau drwy egwyddor addasu, mabwysiadu neu gyfiawnhau. Byddwn yn cael ein cefnogi yn y gwaith gwella hwn gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar berfformiad a chynhyrchiant. Mae'n ymweld â byrddau iechyd i ddeall problemau ar lefel leol cyn cyflwyno ei gyngor a'i argymhellion i mi.

Lywydd, yn fy natganiad ar amseroedd aros ym mis Tachwedd, nodais y defnydd o lwybrau adolygu amgen Telederm mewn perthynas â chleifion allanol a gwaith cyngor ac arweiniad Consultant Connect fel enghreifftiau o drawsnewidiad ac arloesedd i helpu i wella gofal a gynlluniwyd a thorri amseroedd aros. Yn y flwyddyn i ddod, rwy'n disgwyl gweld y ffyrdd hyn o weithio yn dod yn arferol, a newidiadau eraill fel cynllunio gofal llygaid yn cefnogi ein hymgyrch i drin pobl yn y gymuned lle bo hynny'n briodol yn glinigol. Rydym wedi buddsoddi £30 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i symud mwy o ofal llygaid allan o ysbytai i ofal sylfaenol fel mai'r gofal mwyaf arbenigol yn unig sydd angen ei weld yn yr ysbyty. Maes arall i'w gyflwyno ymhellach yw'r defnydd o uwch-glinigau cleifion allanol, sy'n adolygu niferoedd mawr o lwybrau newydd mewn llawfeddygaeth gyffredinol, gan arwain at ryddhau hyd at 45 y cant o lwybrau heb i bobl orfod mynd i'r ysbyty.

Fel y clywsom yn y ddadl heddiw, mae angen inni ganolbwyntio ar atal i wella iechyd sylfaenol ein gwlad a helpu i leihau'r galw hirdymor ar y GIG. Mae gan ein byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol ffocws penodol ar hyrwyddo iechyd a llesiant, atal, a darparu cymorth gofal integredig i helpu pobl i aros yn iach gartref. Gall eu gwaith, sydd eisoes wedi'i gydnabod, gyfrannu at ein hymdrechion ehangach i dorri amseroedd aros, cefnogi pobl i aros yn iach gartref a lleihau'r galw am ofal eilaidd. Mae rheoli'r galw cynyddol hwnnw eisoes yn flaenoriaeth i ni. Rydym wedi buddsoddi mewn datblygu system atgyfeirio genedlaethol, a ddatblygwyd gan ymarferwyr gofal sylfaenol ac eilaidd. Ni yw'r rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud yn ofynnol i bob meddyg teulu reoli pob claf ar ôl ystyried canllawiau clinigol neu lwybrau.

Lywydd, ers cael fy mhenodi i'r rôl hon, cefais y fraint o gyfarfod â staff GIG a staff gofal ledled Cymru, ac rwyf am ddiolch iddynt am y gwaith y maent yn ei wneud a'u hymrwymiad a'u hymroddiad i ddarparu'r gofal gorau posibl mewn amgylchiadau heriol iawn. Gyda'n gilydd, rydym wedi ymrwymo i dorri amseroedd aros a sicrhau bod ein GIG yn parhau i ddarparu gwasanaethau diogel, effeithiol ac effeithlon i ddiwallu anghenion heddiw, gan helpu'r GIG ar yr un pryd i addasu ar gyfer y dyfodol. 

18:10

Mae wedi bod yn ddadl dda iawn gydag enghreifftiau diddorol iawn o arferion gorau. Nawr, agorwyd y ddadl gyda James yn ceisio cymryd y clod ar ran y Ceidwadwyr am y polisïau a gyflwynwyd gennym ni. Ond byddwch yn onest. Rydym ni o leiaf yn bod yn onest yma, drwy ddweud nad cynigion Plaid Cymru yw'r rhain; mae'r rhain yn bethau a gyflwynwyd gan glinigwyr. Arbenigwyr sydd wedi cyflwyno'r polisïau hyn, a byddwch yn onest am hynny.

Roedd Carolyn yn ymdrechu'n galed i amddiffyn y Llywodraeth, gan gyflwyno enghreifftiau o nifer y cysylltiadau â meddygon teulu a 111, ond nid yw honno'n gymaint o fuddugoliaeth ag y credwch ei bod. Fel y dywedodd Heledd, dyna'r broblem—cymaint o bobl yn cysylltu â'r GIG oherwydd eu bod ar restrau aros. Cymerwch un fenyw yn fy etholaeth sydd wedi bod yn aros am driniaeth coden y bustl, ac mae'r driniaeth wedi ei gohirio chwe gwaith. A phob tro, mae'n rhaid iddi fynd yn ôl at y meddyg, bob tro, mae'n rhaid iddynt gynyddu'r feddyginiaeth y mae hi arni. Mae wedi cysylltu â'r GIG o leiaf ddwsin os nad 18 gwaith. [Torri ar draws.] Ewch amdani. 

Diolch. Roeddwn eisiau gwneud y pwynt, pan fyddwn yn clywed agwedd negyddol o'r fath am y GIG, nad wyf eisiau atal pobl rhag cysylltu â'r GIG os oes ganddynt broblem, os ydynt eisiau trafod rhywbeth. Mae'n bwysig iawn, oherwydd mae'r GIG yn ymdrin â llawer o bobl bob dydd ac yn eu helpu. Felly, mae'n bwysig iawn cofio hynny.

Rwy'n cytuno â chi ond ni allwch roi eich pen yn y tywod a gwadu bod yna broblem. Mae 700,000 o bobl yn aros am driniaeth; mae angen gweld un o bob pump o boblogaeth Cymru er mwyn iddynt gael triniaeth. Ac fe wnaethoch chi gyfeirio at hyb orthopedig Llandudno, sydd heb agor eto, ac mae'n un. Mae angen llawer mwy nag un parhaol yn unig. Rydym wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer hybiau dros dro ledled Cymru. Nawr, fe ddywedoch chi ei bod hi'n bwysig cofio beth y mae Cymru'n ei wneud yn dda. Ie, iawn, ac os ydych chi'n derbyn cyfrifoldeb am yr hyn y mae Cymru'n ei wneud yn dda, derbyniwch gyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi mynd o'i le hefyd. Derbyniwch ei bod hi'n argyfwng a gwnewch rywbeth am y peth. 

Nododd Buffy y problemau yn y GIG o dan Lywodraeth Lafur. Yn hollol—nid wyf yn gwadu hynny ac mae'n dda ei glywed, ond fe wnaethoch chi nodi enghreifftiau da yng Nghwm Taf, chwarae teg, ac fe gyfeiriaf at un enghraifft dda, esiampl Snowdrop—enghraifft dda iawn, ond pam ei fod yn gyfyngedig i'r ardal honno? Mae hyn yn rhan o'r broblem gyda Llywodraeth Cymru. Mae gennym arferion gorau—dyna'r pwynt a wnawn yma. Mae gennym arferion gorau. Pam nad yw canolfan Snowdrop, er enghraifft, yn cael ei chyflwyno yn ardal Betsi lle rwy'n byw, ac yn Hywel Dda, a llefydd eraill? Mae angen arweinyddiaeth arnom i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru fel bod pawb yn elwa ohonynt.

A Jenny, roeddech chi'n iawn i ddweud y bydd oerfel yn lladd pobl dros y gaeaf. Yn sicr. Dyna pam ei bod mor frawychus deall bod gan Lywodraeth Lafur y DU daliad tanwydd gaeaf sy'n dibynnu ar brawf modd, felly nid wyf yn gwybod sut y gall y Llywodraeth Lafur yma gyfiawnhau hynny, a bydd hynny'n anochel yn arwain at fwy o gysylltiadau â'r GIG.

A sut rydych chi'n esbonio pam fod mwy o bobl yn mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr haf nag yn y gaeaf? [Torri ar draws.]

Ie, yn Betsi Cadwaladr, mae gennym lawer o bobl yn mynd i ogledd Cymru, yn ymweld â'r gogledd, ac os siaradwch chi â Llais, fe welwch ystadegau'r nifer sy'n mynd i'n hysbytai oherwydd y ffactorau hynny, ymhlith eraill. 

Ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymateb, ond ar adegau mae'n swnio fel pe bai'r Llywodraeth hon unwaith eto yn gwadu'n llwyr yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru, allan o gysylltiad â phobl yma a heb sylweddoli'r problemau y mae ein pobl yn eu hwynebu. Mae popeth i'w weld yn iawn.

Nawr, i roi clod i'r Llywodraeth Lafur, maent yn siarad yn dda. Wythnos ar ôl wythnos, clywn honiadau eu bod yn gwneud yr holl bethau gwych hyn yn wyneb tystiolaeth ysgubol nad yw beth bynnag a wnânt yn gweithio. Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog eich bod eisoes yn darparu gwasanaeth brysbennu ac mai'r unig wahaniaeth rhyngddo a'n cynllun ni yw ein bod ni wedi rhoi'r gair 'gweithredol' o'i flaen, rhywbeth a ysgogodd chwerthin mawr gan eich Aelodau meinciau cefn. Nid yw hwn yn destun chwerthin, a byddai'n werth i chi ddarllen, gwrando a deall beth yw ein cynllun ni. Mae'n amlwg nad ydych yn gwerthfawrogi nac yn deall lefel yr argyfwng. Mae'n ffaith nad oes angen i oddeutu 60 y cant o blant fod ar restr aros bediatrig, mewn rhai achosion, sy'n cael effaith niweidiol nid yn unig ar eu hiechyd, ond hefyd ar eu haddysg. Clywsom yr honiad fod y Llywodraeth eisoes yn cyflawni ar y cynigion hyn, gydag Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn dweud heddiw, 'Tic, tic, tic, tic, tic' yn erbyn pob un. Ymarferiad dibwyllo ydyw. Os ydych chi o ddifrif yn cyflawni ar y cynigion hyn, pam y mae clinigwyr a rheolwyr iechyd yn dweud wrthym nad yw'r pethau hyn yn digwydd a bod angen eu gweithredu? Rydych chi'n anghofio, neu'n anwybyddu'r ffaith bod y rhain yn gynlluniau a gyflwynwyd gan glinigwyr ac arbenigwyr iechyd.

Technoleg, fe ddywedoch chi 'tic'. O ddifrif? Felly, pam y mae llawer o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn mynd allan i'r gymuned heb liniadur neu iPad? Sut y gall meddygon teulu rannu gwybodaeth gyda meddygon ymgynghorol pan fydd ganddynt fathau gwahanol o feddalwedd nad ydynt yn siarad â'i gilydd? Felly, na, nid ydych yn cyflawni.

Gwasanaeth brysbennu gweithredol, 'tic' meddech chi. Yn bendant, na. Os ydych chi'n cyflawni hyn eisoes, sut y mae 60 y cant o gleifion pediatrig nad oes angen iddynt fod ar restr aros yn dal i fod ar y rhestrau hynny? Pam y mae clinigwyr yn dweud wrthym nad oes angen i filoedd o gleifion dermatoleg fod ar y rhestrau hynny o reidrwydd?

'Cydweithredu', meddech chi. Gallaf eich sicrhau bod clinigwyr a rheolwyr a chleifion yn gwrando ar y ddadl hon a fydd wedi cael eu cythruddo gan yr honiad hwn. Os ydych chi'n cyflawni ar hyn, eglurwch pam y gall claf ym Maesteg ddisgwyl canlyniadau gwahanol i glaf 8 milltir i ffwrdd ym Mhort Talbot?

Hybiau rhanbarthol. Rydych chi wedi sôn am yr hyb orthopedig parhaol yn Llandudno a nodwyd gennym ni, ac nad yw wedi agor eto, fel y dywedais. Ond mae angen hybiau dros dro arnom ar gyfer offthalmoleg, gynaecoleg, dermatoleg, ac arbenigwyr eraill. Felly, peidiwch â dibwyllo pobl drwy honni eich bod yn cyflawni rhaglen nad ydych chi wedi'i darllen neu nad ydych chi'n ei deall. Y gwir amdani o hyd yw bod y Llywodraeth hon wedi methu cydnabod arferion gorau yng Nghymru a sicrhau bod pawb yn elwa.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod wedi dechrau ymarfer gwrando yn yr haf. Felly, gwrandewch. Gwrandewch ar y rhai sy'n llosgi eu hunain yn dwll yn ceisio mynd i'r afael â phroblem rydych chi wedi ei chreu. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi mai dim ond dechrau roeddech chi. Os mai dim ond nawr rydych chi'n dechrau mynd i'r afael â rhestrau aros, rwy'n arswydo meddwl ble fydd ein GIG arni ymhen ychydig flynyddoedd. Bob tro y daw Prif Weinidog newydd i rym, maent yn dweud dau beth: (1) mai eu huchelgais yw mynd i'r afael â'r rhestrau aros; a (2) nad oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da. Rydych chi wedi methu ar y cyntaf, a rhethreg wag yw'r ail yn ôl pob golwg. Oherwydd dyma syniadau ardderchog, a gallaf ddweud hynny am nad fy rhai i ydynt; nid wyf i'n derbyn y clod amdanynt.

Syniadau yw'r rhain a ffurfiwyd yng ngwres yr argyfwng rhestrau aros gan y bobl sy'n gorfod rheoli a gweithio mewn system sy'n methu. Gallant weld beth sydd angen ei wneud. Maent wedi dweud wrthym, ac rydym wedi cyflwyno'r syniadau hynny fel ateb ymarferol. Edrychwch, nid dadl am y chwith neu'r dde yw hon, nid yw'n ymwneud ag ideoleg, nac athroniaeth wleidyddol hyd yn oed; mae'n ymwneud yn syml â dod o hyd i atebion i fynd i'r afael ag argyfwng uniongyrchol yn ein GIG. Felly, rhowch y gorau i deyrngarwch llwythol, cydnabyddwch fod hyn er budd pawb, a chefnogwch y cynnig.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio hwnnw ac oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, yna fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r gyfres o bleidleisiau yma, yn gyntaf, ar eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y chwe mis cyntaf o Lywodraeth newydd y Deyrnas Gyfunol. Y bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf. Gwelliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8783 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Llywodraeth Lafur y DU wedi bod mewn grym am chwe mis yn Ionawr 2025.

2. Yn nodi y bu’n rhaid i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau anodd er mwyn dechrau adfer twf yn ein heconomi, sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn fwy sefydlog ac ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

3. Yn croesawu’r cyllid ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.

4. Yn nodi’r ffaith bod y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn ei chwe mis cyntaf yn golygu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwerth £1.5 biliwn o gyllid refeniw ychwanegol a gwerth £3 biliwn o gyllid cyfalaf, gan alluogi Cymru i anelu at dwf.

5. Yn credu y dylai cyllideb Cymru ganolbwyntio i ddechrau ar gyfrifoldebau datganoledig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Y cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r gyfres o bleidleisiau nesaf ar eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar amserau aros o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.

18:20

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i ddad-ddethol. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM8785 fel y'i diwygiwyd:

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi uchelgais y Prif Weinidog i leihau’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth GIG.

2. Yn nodi bod arosiadau o fwy na 104 wythnos wedi gostwng ddau draean ers iddynt fod ar eu hanterth yn ystod y pandemig.

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol yng nghynlluniau'r byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ymhellach yn 2024-25.

4. Yn cydnabod camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros drwy ddatblygu:

a) y ganolfan llawfeddygaeth orthopedig ranbarthol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot;

b) Ysbyty Llandudno yn ganolfan lawfeddygol orthopedig ar gyfer y Gogledd; ac

c) y ganolfan ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.

Cau'r bleidlais. O blaid 26, 11 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Ffordd Blaenau'r Cymoedd: Buddsoddi yn ein heconomi yn y dyfodol.

Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Alun Davies. Os gwnaiff Aelodau adael yn dawel, fe gawn ni symud ymlaen i'r ddadl fer. Alun Davies.

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y cyfle i siarad ar y pwnc hwn heno. Mae'r rhannau presennol sydd wedi'u cwblhau ar ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd yn sicr yn rhedeg trwy Flaenau'r Cymoedd, ond mewn sawl ffordd maent hefyd yn rhedeg trwy hanes a daearyddiaeth Cymru, o hen olchfeydd pwll glo'r Tower, y pwll glo dwfn olaf yng Nghymru, uwchben Hirwaun yn y gorllewin, hyd at y graig yr arferai glowyr Bryn-mawr ei galw'n Farewell Rock yn y dwyrain. Gallwch sefyll yn y Rhigos ac edrych draw at y Bannau ac yna i lawr i'r Cymoedd, at Fôr Hafren. Ar y pwynt uchaf, ger Clydach, mae'n cyrraedd 1,350 troedfedd uwchlaw lefel y môr.

Yn rhy aml, caiff y ffordd ei disgrifio fel y ffin rhwng de Cymru ddiwydiannol a chefn gwlad canolbarth Cymru, ond hoffwn ganolbwyntio heno ar yr hyn y mae'n ei gysylltu heddiw a'r hyn y gall ei gysylltu yfory. Yn sicr, mae'n cysylltu cwm Clydach â chwm Nedd: dwy ran o'n gwlad sydd â hanes eithriadol. Mae cwm Clydach yn rhan o'r cylch o haearn a thân a greodd y chwyldro diwydiannol. Roedd rhai o'r gweithfeydd haearn cyntaf yn y byd yng nghwm Clydach, ac mae cwm Nedd, wrth gwrs, yn mynd â ni o fryniau a mynyddoedd Bannau Brycheiniog i lawr i'r arfordir yng Nghastell-nedd. Ond mae hefyd yn cysylltu cymunedau Blaenau'r Cymoedd â system draffyrdd y DU, ac yn darparu cysylltiad newydd rhwng Cymru a chanolbarth Lloegr.

Ond mae'n gwneud mwy na hyn; mae'n gwneud mwy na dim ond siarad â ni am ein hanes a'n daearyddiaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yn ein cysylltu â'n dyfodol hefyd. Oherwydd nid ffordd a adeiladwyd oherwydd tagfeydd neu seilwaith gorlawn oedd hon; fe'i hadeiladwyd fel buddsoddiad yn ein dyfodol. Gyda'i gilydd, pan gaiff ei chwblhau yn ddiweddarach eleni, bydd yn un o'r buddsoddiadau mwyaf a wnaed erioed gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n cyflawni addewid a wnaed gennyf i ac eraill i gymunedau Blaenau'r Cymoedd. Mae'n gamp beirianyddol wych, a chredaf y dylem ddweud 'diolch' wrth bawb sydd wedi gweithio ar y prosiect, a hefyd wrth y bobl yr effeithiwyd ar eu bywydau gan y cyfnod adeiladu.

Ond nawr yw'r amser i edrych ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arloesol iawn yn y ffordd y mae wedi edrych ar y prosiect hwn ac wedi cwblhau'r prosiect hwn, o'r dadleuon a gawsom gyda'r cyn Ddirprwy Brif Weinidog, y bydd y Llywydd yn eu cofio, am rai o'r contractau adeiladu a gafodd eu rhoi ar y pryd, yn mynnu bod prentisiaethau'n rhan o'r prosiect adeiladu hwnnw, yn ôl—. Rwy'n credu ei fod oddeutu 15 mlynedd yn ôl bellach. Nid wyf eisiau datgelu oed yr un ohonom ein dau, ond roedd hynny beth amser maith yn ôl. Ond yn sicr cawsom sgwrs ynglŷn â sut y byddai'r ffordd yn cael ei hadeiladu ac nid yn unig pam y byddai'n cael ei hadeiladu.

Ond nawr yw'r amser i edrych tua'r dyfodol, a diben y ddadl hon y prynhawn yma yw galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd a fydd yn gwneud y mwyaf o effaith y buddsoddiad hwn. Ym Mlaenau Gwent, dros y blynyddoedd diwethaf gwelsom raglen y Cymoedd Technoleg sydd wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn seilwaith busnes y fwrdeistref. Ond mae'n bryd symud ymlaen hefyd ac edrych y tu hwnt i'r rhaglen hon at yr hyn a ddaw nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn ein cymunedau a'n pobl. Rydym wedi gweld colegau newydd yn cael eu hadeiladu yn yr amser y bûm yn Aelod yma, yn Aberdâr, Merthyr a Glynebwy, colegau sy'n cyflwyno sgiliau newydd i bobl. Bydd datblygiad y ganolfan uwch beirianneg newydd yn cael ei gwblhau yng Nglynebwy yn ddiweddarach eleni, a chafodd hwnnw ei gyflawni â chyllid gan Lywodraeth flaenorol y DU. A neilltuodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru amser i ymweld â Glynebwy a gweld drosto'i hun beth oedd y buddsoddiad hwnnw'n ei gyflawni. Bydd yn darparu lefel newydd o ddatblygu sgiliau, gan weithio gyda chyflogwyr a buddsoddwyr i ddarparu cyfleoedd newydd i bobl ledled Blaenau Gwent.

Rydym hefyd wedi gweld buddsoddiad mewn seilwaith newydd, yn fy etholaeth i yn safle'r gweithfeydd yng Nglynebwy, ond hefyd ym Mryn Serth a Rhyd y Blew. Ond mae cwblhau'r prosiect deuoli eleni bellach yn golygu bod angen inni symud yn gyflymach a disgrifio ein gweledigaeth gymhellol ar gyfer y dyfodol mewn termau pendant, gweledigaeth a fydd yn darparu nid yn unig sgiliau, ond rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddiad seilwaith hefyd.

Ond rydym wedi gweld y buddsoddiad yn digwydd ym metro de Cymru, i gysylltu Blaenau'r Cymoedd â chalon y brifddinas, o'r gwasanaethau newydd i Gasnewydd ar reilffordd Cwm Ebwy, i'r trydaneiddio a gwasanaethau newydd ar draws y Cymoedd, o Rymni i Aberdâr, Merthyr a'r Rhondda. Drwy'r ganrif ddiwethaf ar ei hyd, ni welwyd cymaint o fuddsoddiad yn ein seilwaith trafnidiaeth yng Nghymoedd de Cymru, a Llywodraeth Cymru yn unig sydd wedi bod â'r weledigaeth a'r penderfyniad i sicrhau'r buddsoddiad hwnnw.

Felly, mae'r holl bethau hyn yn dod at ei gilydd, a dyna pam mai heddiw, nawr, yw'r amser y mae angen i strategaeth ddiwydiannol ddod â'r holl gynlluniau hyn ynghyd gydag uchelgais newydd a modd o'i gyflawni. Mae angen inni ddod â chymunedau Blaenau'r Cymoedd ynghyd i wireddu'r weledigaeth hon. Blaenoriaethau a rennir ar gyfer dyfodol a rennir. Mae angen i'n blaenoriaethau ymwneud â seilwaith caled, ond hefyd â'r cymunedau eu hunain, gan fuddsoddi yn ein diwylliant, ein hiechyd a'n llesiant, ein pobl. A Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n dal i fod eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar fy mlaenoriaethau ar gyfer parc rhanbarthol yn y Cymoedd.

Felly, beth sydd angen i ni ei wneud? Beth yw elfennau strategaeth ddiwydiannol? Gadewch imi nodi, os gwelwch yn dda, am ychydig eiliadau, yr hyn rwy'n ei weld fel rhai o elfennau allweddol strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Mae angen inni barhau i fuddsoddi yn y seilwaith busnes. Fe wyddom fod galw eisoes am unedau diwydiannol 100,000 troedfedd sgwâr. Rydym wedi trafod hynny eisoes heddiw. Ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, gwelsom sut y mae buddsoddiad o'r fath yn arwain at fuddsoddiad preifat pellach mewn busnesau newydd sy'n tyfu, ac ym Mlaenau Gwent mae gennym safleoedd eisoes ar gyfer o leiaf dair o'r unedau mawr newydd hyn, wrth ymyl y ffordd ddeuol. Mae gennym y mannau hynny ar gael nawr, heddiw. Nid oes unrhyw unedau diwydiannol gradd 1 gwag ar gael ar hyn o bryd. Mae gwir angen buddsoddiad newydd yn yr unedau diwydiannol a'r unedau busnes hyn a pharciau busnes ar draws rhanbarth Blaenau'r Cymoedd i gyd.

Ar gyfer twf yn y dyfodol, mae angen inni ddatblygu'r safleoedd cyflogaeth a nodwyd. Rwyf eisoes wedi sôn am Bryn Serth a Rhyd y Blew, ond mae gennym Barc Busnes Tredegar hefyd a'r hen waith dur yng Nglynebwy. Mae angen inni fuddsoddi yn yr ystadau diwydiannol a'r safleoedd busnes hyn eu hunain i sicrhau bod gennym seilwaith o fusnesau deniadol ar gyfer adeiladu economi newydd. Ond hefyd mae angen inni gael seilwaith ar gyfer band eang a ffonau symudol, a fydd yn darparu cysylltiadau nid yn unig ledled Cymru a'r DU, ond y byd. Ac mae'n dyst i fethiannau Ofcom a Llywodraethau olynol y DU fod angen imi wneud y pwynt hwn eto yn 2025.

Yna, mae angen inni gael y seilwaith ynni i gynnal datblygiad busnes a buddsoddiad newydd yn ein cymunedau. Rwyf am weld buddsoddi yng nghanol ein trefi, mewn cyfleusterau manwerthu a hamdden. Mae'n ymwneud â chymunedau a phobl, nid yr economi'n unig. Ond ni all pobl oroesi heb incwm, heb gyflogaeth, felly mae'r economi yn parhau i fod yn ganolog. Ac mae hynny'n golygu parhau i fuddsoddi mewn sgiliau, a sgiliau ar gyfer y dyfodol a fydd yn rhoi ffurf i weithlu'r dyfodol a'r marchnadoedd swyddi. Rydym eisoes wedi trafod deallusrwydd artiffisial a'r effaith y bydd deallusrwydd artiffisial yn ei chael ar swyddi a sgiliau yn y dyfodol ac economïau'r dyfodol. Rydym eisoes wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn ein hysgolion a'n colegau. Mae angen inni sicrhau nawr fod gennym lwybr sgiliau i'r dyfodol.

Mae'r rhwydwaith priffyrdd gwell eisoes wedi ein galluogi i ddenu busnesau newydd a thyfu ein busnesau cynhenid, felly mae angen inni ddod â'r blaenoriaethau hyn at ei gilydd nawr—ein systemau cyfathrebu, ein rhwydweithiau trafnidiaeth, ein seilwaith, ein sgiliau, ein strategaethau pobl, ein strategaethau cymunedol, ein strategaethau ynni, ein strategaethau symudol a band eang. Mae angen i hyn i gyd ddod at ei gilydd fel cynllun swyddi ar gyfer Blaenau'r Cymoedd.

Ond nid yw cynlluniau'n ddigon, wrth gwrs; mae angen y peirianwaith cyflawni a fydd yn ein galluogi i wireddu'r uchelgais hwn. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno nad yw'r peirianwaith hwnnw'n bodoli ar hyn o bryd. Nid wyf am ddefnyddio'r ddadl hon y prynhawn yma i nodi'r hyn y credaf fod angen inni ei greu, ond rwy'n glir yn fy meddwl, os ydym o ddifrif ynghylch cynyddu gwerth y buddsoddiad o £2 biliwn, mae'n rhaid inni hefyd gael y peirianwaith i'w gyflawni. Nid yw geiriau ac areithiau'n ddigon. Yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud wrth inni symud ymlaen—rydym yn symud tuag at etholiad a chyfleoedd maniffesto—yw edrych ar y math o weledigaeth a fydd gennym ar gyfer 2030.

Rwy'n mynd i ildio mewn eiliad i Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi gofyn am gael siarad yn y ddadl hon, ond hoffwn ddod i ben drwy ddweud hyn: ffordd yw'r A465 wrth gwrs, ond mae angen iddi fod yn fwy na darn o darmac, ac mae'n rhaid iddi fod yn fwy na ffordd osgoi. Rhaid iddi fod yn ffordd i'n dyfodol, rhaid iddi fod yn ffordd o gyfleoedd ac yn ffordd i ffyniant. Rhaid iddi fod yn ffordd tuag at ddyfodol gwahanol, dyfodol newydd i Flaenau'r Cymoedd. Diolch yn fawr.

18:30

Diolch i Alun Davies am y cyfle i gyfrannu at y ddadl fer y prynhawn yma.

Cefais fy nghyffwrdd yn fawr gan eich araith y prynhawn yma, Alun, am yr effaith ehangach y gall prosiectau seilwaith ei chael ar gymunedau. Rydym yn aml yn siarad, ac rwyf innau wedi gwneud hynny'n helaeth, am gludo nwyddau, ond gadewch inni beidio ag anghofio am symud pobl a budd seilwaith da ar gyfer symud pobl. Yn sir Benfro, dim ond 0.8 y cant o'n rhwydwaith ffyrdd sydd wedi ei ddeuoli. Mae llai nag 1 y cant wedi ei ddeuoli. Dyna lle mae gennym ddau borthladd yn ein cysylltu â Gweriniaeth Iwerddon. Mae gennym wasanaethau rheilffordd ysbeidiol drwodd i Ddoc Penfro. Yr hyn sy'n ddiddorol yno hefyd yw bod honno'n mynd o dan Linell Landsger, gan gysylltu'r Gymru wledig—Hendy-gwyn ar Daf, uwchben Llinell Landsger—drwodd i dde sir Benfro, gan fynd trwy Ddinbych-y-pysgod, sydd yn hanesyddol wedi bod yn un o'r gorsafoedd trên prysuraf yng Nghymru oherwydd cynnydd yn nifer y teithwyr, ond ar ôl COVID mae hynny wedi dirywio.

Cafwyd rhai datblygiadau da ar yr A477, ond unwaith eto ni wnaed unrhyw beth ynghylch deuoli, yn ogystal â'r A40. Mae wedi golygu na all sir Benfro a gorllewin Cymru fanteisio i'r eithaf ar ei gyfleoedd o ran teithiau pobl a nwyddau, o ystyried ei gysylltedd mewn mannau eraill. I mi mae hynny'n gywilyddus. Rydym yn edrych yn genfigennus ar ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r buddsoddiad a welwyd yno. Fe gafwyd buddsoddiad, a phe bai Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yma buaswn yn ei longyfarch am y buddsoddiad yn ffordd osgoi Llanddewi Felffre yn yr etholaeth. Fel chi, Alun, hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi gweithio arni, ond hefyd diolch i'r rhai sydd wedi bod yn byw yn yr ardaloedd hynny am eu hamynedd pan oedd y gwaith tarfol ar y gweill. Gobeithio y bydd y ffordd honno'n agor yn fuan.

Pan fyddwn yn siarad am seilwaith, ni ddylid ystyried seilwaith yn air budr. Mae seilwaith yn beth da iawn, mae'n un o'r ysgogiadau elfennol gorau sydd gennym i greu ffyniant economaidd, cyn belled â'n bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio ohono. Ar y pwynt ynghylch y ganolfan uwch beirianneg, rwy'n gyffrous iawn ynghylch y drafodaeth a gefais gyda'r Aelod ar hyn yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n rhywbeth y credaf y dylai pob un ohonom fod yn ymwybodol ohono, y dylai pob un ohonom ei ddathlu. Rwy'n cymeradwyo'r Aelod am gyflwyno hyn ac am hyrwyddo nid yn unig Blaenau Gwent ond Blaenau'r Cymoedd a'r seilwaith ffyrdd hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 18:34:39
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Alun Davies am gyflwyno'r ddadl fer hon a chydnabod bod yr Aelod yn ymgyrchu'n ddiflino dros welliannau i'w etholaeth ym Mlaenau Gwent. Hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae wedi'i wneud. Roedd yn araith wych, fel y dywedodd Sam. Rwy'n credu bod angen iddi fynd y tu hwnt i'r Siambr hon.

Rwy'n falch iawn o ymateb heddiw gan gadarnhau, wrth gwrs, y bydd cynllun ffordd yr A465 yn cael ei gwblhau yr haf hwn. Yr A465, y cyfeirir ati'n aml fel ffordd Blaenau'r Cymoedd, yw'r cyswllt hanfodol a nodwyd gennych sy'n cysylltu trefi a chymunedau—sir Fynwy, Blaenau Gwent, Rhymni, Merthyr a Rhondda Cynon Taf—ac mae ei gwella wedi bod yn hirddisgwyliedig ac yn drawsnewidiol. Nid yn unig y bydd yn gwella ein seilwaith trafnidiaeth, bydd hefyd yn hybu twf economaidd ar draws y rhanbarth, sydd, fel y dywedwch, yn ganolog i'r seilwaith y mae angen inni ei ddatblygu er budd ein pobl a'n cymunedau.

Ond hefyd mae'n rhaid inni gydnabod ei fod yn un o'r buddsoddiadau seilwaith mwyaf sylweddol, nid yn unig yn etholaeth a rhanbarth yr Aelod, ond yn y DU gyfan. Bydd yr Aelodau'n gwbl ymwybodol ei fod wedi bod yn brosiect cymhleth nad yw wedi bod heb ei heriau. Pan ystyriwch y topograffi, pandemig COVID, Brexit, cwymp yr economi a'r blynyddoedd o gyni, mae wedi bod yn frwydr go iawn. Fe allem fod wedi rhoi'r gorau iddi ar ôl cwblhau'r ychydig rannau cyntaf, ac ni wnaethom hynny, sy'n tystio i fanteision datganoli. Fe wnaethom ei chyflawni. 

Yr wythnos diwethaf, nododd Ken Skates—ac mae'n werth ei ailadrodd—ei fod yn hynod ddiolchgar i'r degau o filoedd o bobl sydd wedi dioddef tarfu o ganlyniad i'r gwaith. Ond ein barn ni yw bod y gwaith wedi bod yn werth chweil. Ar ôl ei chwblhau, bydd y rhan olaf rhwng Hirwaun a Dowlais yn unig wedi darparu 17.7 km o ffordd ddeuol newydd, 6.1 km o ffyrdd ochr, mwy na 14 km o lwybrau teithio llesol, 38 cwlfert newydd, 30 o bontydd newydd a 28 wal gynnal. Mae'n waith adeiladu anferthol.

Yn ogystal â chysylltu cymunedau drwy gysylltu Cymoedd de a gorllewin Cymru â chanolbarth Lloegr a thu hwnt, mae rhan olaf y prosiect wedi creu cyfleoedd sylweddol i'r economi leol. Rwy'n cofio ymweld, pan oeddwn yn Weinidog cyllid—ac efallai eich bod chi wedi dod gyda mi ar yr achlysur hwnnw—i weld manteision y 2,000 o swyddi newydd a grëwyd, gyda dros hanner y rhai a gyflogid yn byw yn yr ardal leol, cyflogwyd 158 o brentisiaid, gydag ychydig llai na'u hanner o ranbarth y Cymoedd, cefnogwyd mwy na 66 o fentrau cymunedol, cyflawnwyd mwy na 22,000 awr o waith ymgysylltu â disgyblion—roedd hynny i gyd yn rhan o'r cynnig a'r ddarpariaeth o fuddion cymunedol—a gwariwyd mwy na £200 miliwn yng nghadwyn gyflenwi'r Cymoedd. 

Bydd y prosiect yn lleihau amseroedd teithio ac yn gwella llif traffig trwy gael gwared ar dagfeydd, gan uwchraddio rhannau hanfodol o'r ffordd. Mae eisoes wedi creu llwybr trafnidiaeth mwy effeithlon ar gyfer cymudwyr, busnesau a thwristiaid fel ei gilydd. Ac mae hyn yn golygu mynediad cyflymach i ardaloedd diwydiannol mawr a chanolfannau trefol, gan ddarparu budd, nid yn unig i drafnidiaeth ond i'r economi hefyd, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gynhyrchiant ac yn lleihau costau gweithredu i fusnesau.

Mae rhanbarth Blaenau'r Cymoedd wedi bod yn ganolbwynt i nifer o gynlluniau datblygu economaidd ac adfywio dros y degawdau diwethaf, ac mae'r rhain wedi cynhyrchu canlyniadau cymysg. Rydym i gyd yn derbyn bod heriau hirsefydlog yn dal i wynebu'r rhanbarth. Ond y llynedd, lansiodd prifddinas-ranbarth Caerdydd fenter y Cymoedd gogleddol—cronfa o £50 miliwn dros bum mlynedd i gefnogi camau i hybu twf a sbarduno ffyniant yn y Cymoedd gogleddol. Mae'r gronfa hon yn annog mwy o fuddsoddiad sector cyhoeddus a sector preifat i wella a chreu gofod cyflogaeth diwydiannol newydd yn y Cymoedd gogleddol—ac rydych chi wedi nodi'r ardaloedd lle mae ei angen—gan ddarparu gwelliannau i'r seilwaith digidol, a chynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ardal.

Mae seilwaith wedi bod yn bwynt allweddol yn y ddadl hon. Gwell seilwaith yw'r ffactor allweddol wrth ddenu buddsoddiad a diwydiannau newydd i'r rhanbarth. Lle cafwyd buddsoddiad mewn seilwaith trafnidiaeth da, mae busnesau'n fwy tebygol o ymsefydlu yn yr ardaloedd hynny, gan arwain at greu swyddi ac amrywio economaidd. Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd eisoes wedi adrodd, ers mis Gorffennaf y llynedd, fod cynnydd amlwg wedi bod yn y diddordeb gan fusnesau yn ne Cymru sy'n dymuno symud tua'r gogledd, busnesau sy'n dymuno ehangu, a busnesau sydd am sefydlu gweithgarwch gerllaw'r A465, i fanteisio ar y cysylltiadau rhagorol â chanolbarth Lloegr, gorllewin Cymru a'r de-orllewin. Mae hwn yn ddatblygiad hynod gadarnhaol i'r boblogaeth leol, nid yn unig o ran agor y drysau i fusnesau newydd, ond o ran dod ag ymdeimlad newydd o gyfle i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y gwaith adeiladu.

Mae swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd ar sawl cyfle cydfuddsoddi ac edrychaf ymlaen at glywed am y prosiectau a gaiff eu cefnogi gan y gronfa yn y dyfodol. Bydd y cysylltedd gwell a grëwyd gan yr A465 hefyd o fudd i raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, sydd wedi buddsoddi dros £42 miliwn mewn ystod o brosiectau'n seiliedig ar leoedd sy'n canolbwyntio ar Flaenau Gwent, gyda buddion yn cyrraedd ar draws y Cymoedd gogleddol ehangach.

Ac nid yw buddsoddi yn y cysylltedd ffisegol yn unig yn ddigon. Fel y dywedodd yr Aelod, mae angen inni fuddsoddi yn sgiliau pobl er mwyn manteisio ar y cyfleoedd. Rydym yn gwneud hynny ochr yn ochr â chyngor Blaenau Gwent a Choleg Gwent gyda chyfleuster peirianneg uchel ei werth yng Nglynebwy, sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr addysg bellach a defnyddwyr masnachol eraill ledled Cymru feithrin sgiliau mewn gweithgynhyrchu uwch mewn amgylchedd 'ffatri'r dyfodol'.

Fel y cyhoeddodd ein cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yr wythnos diwethaf, bydd Halton Flamgard yn lesio'r uned RYB1 sydd newydd ei chwblhau yng Nglynebwy yn dilyn buddsoddiad o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn y cyfleuster carbon isel. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn Rhyd y Blew, sydd wedi'i leoli'n strategol yn ardal fenter Glynebwy, yn ategu ein gweledigaeth i weld ardaloedd y Cymoedd Technoleg yn ennyn cydnabyddiaeth fyd-eang i'w technolegau newydd a'r sector gweithgynhyrchu uwch. Mae agosrwydd Rhyd y Blew at yr A465 a uwchraddiwyd yn profi'n ddeniadol iawn i nifer o ddarpar feddianwyr.

Rhaid inni adeiladu ar y llwyddiant hwn, ac rwy'n deall y bydd swyddogion Ken Skates yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn ddiweddarach y mis hwn i drafod opsiynau'n amrywio o ran maint a chymhlethdod i wneud y mwyaf o'r manteision ar gyfer ffordd yr A465 a gwell cysylltedd. Gan weithio gyda phartneriaid, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio cyfleoedd i wireddu'r manteision ehangach i'r economi. 

18:40

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, ac rwy'n ddiolchgar i chi am eich sylwadau hael yn gynharach. Os yw Ysgrifenyddion y Cabinet yn cyfarfod i drafod y materion hyn, byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Aelodau dros yr etholaethau hyn yn rhan o'r sgyrsiau hynny hefyd.

Diolch, Alun Davies, ac fe af â hynny yn ôl i Ysgrifenyddion y Cabinet. Mae'r ymateb yn drawslywodraethol, sy'n galonogol iawn, ond hefyd yr ymgysylltiad â'r Aelodau lleol ac Aelodau'r etholaeth. Fe wnaf yn siŵr eu bod hwythau hefyd, eu swyddogion yn ogystal, yn cysylltu â chi fel y gallwch chi fod yn rhan o drafod yr opsiynau a gaiff eu datblygu. Oherwydd mae'n ymwneud â chyfleoedd i wireddu'r manteision ehangach i economi'r rhanbarth.

I gloi, Lywydd, nid prosiect uwchraddio trafnidiaeth yn unig yw prosiect ffordd yr A465. Fel y dywedodd yr Aelod, mae'n llawer mwy na darn o darmac, a rhaid iddi fod yn llawer mwy na ffordd osgoi. Mae'n fuddsoddiad yn nyfodol economaidd ein rhanbarth. Drwy wella effeithlonrwydd, cefnogi busnesau lleol, creu swyddi, gwella twristiaeth, meithrin twf hirdymor, a hyrwyddo ymgysylltiad cymunedol a chynaliadwyedd amgylcheddol, bydd y prosiect hwn yn cael effaith drawsnewidiol ar dde Cymru am flynyddoedd i ddod. Wrth inni barhau i gefnogi'r fenter hon, gadewch inni gadw mewn cof y potensial aruthrol sydd ganddi i bob un ohonom. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cael y fantais fwyaf o'i manteision economaidd, nid yn unig ar gyfer heddiw, ond a gyfer cenedlaethau i ddod. Diolch yn fawr.

Dyna ddiwedd ar y ddadl fer, a diwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.