Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/10/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Anne Jones.
1. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i wella gwasanaethau bws i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân? OQ61694
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cysylltu cymunedau â chyfleusterau gofal iechyd ac ysbytai allweddol. Mae nifer o wasanaethau bysiau i Ysbyty’r Faenor, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn ceisio cysylltu ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill fel rhan o broses gynllunio'r rhwydwaith bysiau ar gyfer diwygio'r bysiau.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, pan benderfynodd Llywodraeth Lafur Cymru gau’r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, cawsom addewid y byddai’n dal i fod yn hawdd i drigolion y Fenni ei gyrraedd. Yn anffodus, nid dyna a ddigwyddodd, gan nad oes llwybr bws uniongyrchol bellach o’r Fenni—rhan go helaeth o sir Fynwy a dalgylch Ysbyty’r Faenor—i’r Faenor. Ac mae'n cymryd amser go hir, gan gynnwys rhywfaint o gerdded, i gleifion neu ymwelwyr fynd i weld eu hanwyliaid, neu i gael triniaeth, gan orfodi rhai pobl nad ydynt mewn cyflwr i yrru i wneud hynny gan mai dyna'r unig ffordd sydd ganddynt o fynd i'r ysbyty. A allech chi edrych ar hynny i mi, Weinidog, a rhoi sicrwydd i fy nhrigolion y byddant, os oes angen, yn gallu cyrraedd yr ysbyty ar fws o rannau helaeth o sir Fynwy?
Wel, rwy’n ddiolchgar iawn i Laura Jones am ei chwestiwn, ac rwy’n ymwybodol o ddeiseb gyfredol sy’n galw am wasanaeth bws uniongyrchol rhwng y Fenni ac Ysbyty’r Faenor. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych felly ar ddichonoldeb llwybr o’r fath, yng nghyd-destun argaeledd cyllidebau wrth gwrs, ond hefyd i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar yr ymarfer mapio sy’n mynd rhagddo fel rhan o’r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol.
Weinidog, yr addewidion a wnaed gan Weinidogion Cymru pan sefydlwyd Ysbyty’r Faenor oedd y byddai’r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hyn ar waith i alluogi pobl ar draws y rhanbarth i gael mynediad at wasanaethau ac ymweld â pherthnasau sy’n gleifion mewnol yn Ysbyty’r Faenor. Nid yw hynny wedi’i gyflawni—nid yw wedi’i gyflawni ar ran fy etholwyr ym Mlaenau Gwent. Ac os bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau sy’n arwain at ganoli gwasanaethau a symud gwasanaethau ymhellach oddi wrth bobl, rwy'n credu bod gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb absoliwt i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi y byddai gwasanaeth fflecsi ym Mlaenau’r Cymoedd yn wasanaeth y gellid ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i alluogi pobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent i gael mynediad at wasanaethau yn Ysbyty’r Faenor ac i ymweld â pherthnasau tra'u bod yn gleifion mewnol yn Ysbyty’r Faenor?
Gallai hynny’n wir fod yn ateb, a dyna pam ein bod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru am gyfleoedd adolygu i wella cysylltiadau bws uniongyrchol â safleoedd ysbytai allweddol, fel y Faenor, yn rhan o'r gwaith cynllunio bysiau rhanbarthol. Credaf ei bod yn bwysig ei fesur hefyd o ran y cymorth a ddarparwyd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i ac o’r Faenor. Cafwyd cynllun peilot lle câi cleifion a’u hymwelwyr eu cludo o Bont-y-pŵl a Threcelyn a Choed-duon, mewn partneriaeth â Stagecoach. Nawr, ni pharhaodd y cynllun peilot hwnnw, yn anffodus, am nad oedd Stagecoach yn ystyried ei fod yn fasnachol hyfyw, ac oherwydd bod y defnydd gan deithwyr yn gymharol isel. Nawr, o ran yr atebion posibl ar gyfer Blaenau Gwent, nid gwasanaeth fflecsi yn unig a allai fod yn ateb posibl; mae meysydd gweithgarwch eraill yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno ledled Cymru, a allai fod yn berthnasol i Flaenau Gwent, gan gynnwys trafnidiaeth fflecsi a chymunedol, yn ogystal â gwasanaethau drws i ddrws y gallai cleifion fod yn gymwys ar eu cyfer.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cysylltiad rheilffordd newydd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd? OQ61692
 phleser. Mae'r buddsoddiad o £70 miliwn i uwchraddio rheilffordd Glynebwy wedi dyblu amlder y gwasanaethau ac wedi cyflwyno gwasanaethau uniongyrchol i Gasnewydd. Gwnaed 40,000 o deithiau ychwanegol yn ystod hanner cyntaf eleni, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o bobl yn defnyddio’r gwasanaeth hwn yn ddyddiol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, rwy’n berchennog balch ar gerdyn teithio rhatach Trafnidiaeth Cymru, ac rwyf wedi bod yn gwneud defnydd gwych o’r cerdyn hwn. Nawr, pe bawn i'n rhedeg i Lynebwy a dal y trên sy'n gadael mewn oddeutu 10 eiliad, ni allwn ei ddefnyddio ar y trên i Gasnewydd, ond pe bawn i'n aros hanner awr ac yn dal trên 14:05, yna gallwn ddefnyddio'r cerdyn teithio rhatach. Pe bawn yn aros hanner awr arall, ni allwn ddefnyddio'r cerdyn teithio rhatach, ond gallwn ddefnyddio'r cerdyn teithio rhatach hanner awr yn ddiweddarach. Nawr, carwn awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet, nad dyna'r ffordd orau o redeg rheilffordd, a charwn awgrymu nad dyna'r ffordd orau o redeg cynllun cerdyn teithio rhatach ychwaith. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bryd sicrhau bod y cerdyn rhatach ar gael ar yr holl wasanaethau ar reilffordd cwm Ebwy, i sicrhau bod fy etholwyr i, ac eraill, yn gallu defnyddio eu cerdyn teithio rhatach ar yr holl wasanaethau ar y rheilffordd newydd hon, y mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at ei defnyddio.
Wel, buaswn yn mwynhau gweld yr Aelod yn rhedeg i Lynebwy i ddal y trên—rwy'n siŵr y gallai wneud hynny. Edrychwch, hoffwn ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, ac rwyf wedi siarad ag ef yn breifat yn ei gylch. Rwyf eisoes wedi ei godi gyda Trafnidiaeth Cymru, sy’n mynd i’r afael nid yn unig ag anghysondebau gyda’r cynllun teithio rhatach, ond anghysondebau hefyd gyda phrisiau siwrneiau ar draws y rhwydwaith, sydd wedi’u hetifeddu gan Trafnidiaeth Cymru. Fel y gŵyr yr Aelod, nid Trafnidiaeth Cymru sydd wedi creu'r problemau hyn. Mae Trafnidiaeth Cymru yno i ddatrys y broblem, ac rwy'n gobeithio y gallant wneud hynny.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i eilio'r dymuniad gan yr Aelod o'r Senedd dros Flaenau Gwent, a dweud bod angen cynnal adolygiad o bris a chost tocynnau, yn enwedig mewn perthynas â'r mater a godwyd gan yr Aelod o'r Senedd dros Flaenau Gwent, ond hefyd yr hyn rwyf ar fin ei ddweud? Er bod pob un ohonom, wrth gwrs, yn croesawu agor y rheilffordd newydd rhwng Glynebwy a Chasnewydd—. Mae'n amlwg fod y prosiect wedi dwyn ffrwyth oherwydd cyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Mae'n bwynt nad yw'n cael ei wneud yn ddigon aml. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r ffaith bod tocyn dwyffordd undydd o Lynebwy i Gasnewydd yn costio £8.70? Fodd bynnag, mae tocyn dwyffordd undydd o'r Fenni i Gasnewydd yn costio £13.20. Mae'r ddwy daith bron yn union yr un hyd, yn cael eu rhedeg gan yr un gweithredwr trenau, ac eto mae trigolion un dref yn talu £5.50 yn fwy y dydd i deithio na thrigolion y llall. A allwch chi egluro pam, os gwelwch yn dda? Diolch.
Lywydd, credaf fod angen briff technegol i’r Aelodau ar y mater cymhleth hwn, gan fod Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu mater anghysondebau prisiau siwrneiau gan Trenau Arriva Cymru—yn ogystal â’r materion sy'n ymwneud â’r cynllun tocynnau teithio rhatach. Felly, yn gryno, i egluro i'r Aelodau am linellau craidd y Cymoedd, cyflwynodd Trenau Arriva Cymru y disgownt o draean fel penderfyniad masnachol. Penderfyniad masnachol oedd hwnnw—nid oedd yn berthnasol i’r cymhorthdal a ddarparwyd. Yna, cafodd ei gynnwys yng nghontract Trafnidiaeth Cymru, gan y byddai'n anodd iawn diddymu’r math hwnnw o fesur, fel y gall yr Aelodau ddychmygu, rwy’n siŵr. Rwy’n wynebu galwadau o bob rhan o Gymru i gyflwyno cynlluniau tebyg ym mhobman. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, yn gyntaf oll, ein bod yn edrych ar yr anghysondeb mewn prisiau siwrneiau, sy'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ei wneud ers dod yn gyfrifol am y rhwydwaith, a’n bod hefyd yn cael golwg fwy hirdymor ar sut y gellir defnyddio tocynnau bws rhatach mewn perthynas ag amcan Llywodraeth Cymru o gael un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Nid wyf am ruthro i mewn i hyn; credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod gennym ateb cynaliadwy—ac mae hyn yn rhywbeth y gweithiodd fy rhagflaenydd yn galed arno—i sicrhau bod gennym un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn sy'n berthnasol i Gymru gyfan.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, anaml y bydd y Senedd yn pleidleisio'n unfrydol ar unrhyw bwnc penodol. Fodd bynnag, pan ddaw'n fater o gyllid teg yn sgil HS2, mae'n rhywbeth y mae pob un ohonom wedi cytuno arno, fod oddeutu £4 biliwn yn ddyledus i Gymru o gyllid canlyniadol yn sgil HS2. Fodd bynnag, cadarnhawyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, ac fe'i cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, mai £350 miliwn yw’r ffigur y mae Llafur yn credu sy’n ddyledus ar hyn o bryd, ffigur a eglurwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yr wythnos diwethaf fel un a gyfrifwyd drwy 'arian sydd eisoes wedi'i wario' ar y prosiect gan Lywodraeth y DU. Ond mae'n rhaid peidio â chyfyngu'r arian a gaiff Cymru i £350 miliwn; mae'n rhaid inni barhau i gael y cyllid wrth iddo gael ei wario, i ddiwallu anghenion hirdymor ein gwlad. Hyd y gwelwn o straeon newyddion diweddar, methodd y Prif Weinidog gael ymrwymiad gan Syr Keir y penwythnos diwethaf y byddai Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn union yw budd cael dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda’i gilydd ar hyn o bryd, fel yr addawyd i ni, a sut y byddwch chi'n defnyddio eich rôl i bwyso am yr arian hwn y mae ei angen yn fawr ar Gymru? Diolch.
Wel, mae nifer o enghreifftiau y gallwn dynnu sylw atynt o Lywodraethau Llafur yn cydweithio er budd y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru, hoffwn dynnu sylw yn gyntaf oll, mae'n debyg, at y cyhoeddiad y bydd 50 y cant yn rhagor o wasanaethau trên ar draws gogledd Cymru yn 2026 o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed ar y cyd gan Weinidogion yma ac yn San Steffan. Mae hwnnw’n gynnydd enfawr—y mwyaf y gallaf ei gofio yn y gogledd.
Ar HS2, nid wyf yn credu bod ein safbwynt wedi newid—nid yw wedi newid. Mae’r Gweinidog cyllid presennol a’r Gweinidog cyllid blaenorol ill dau wedi amlinellu pam y mae £350 miliwn yn ffigur a briodolir i gyllid canlyniadol yn sgil HS2. Ond mae canolbwyntio’n gyfan gwbl ar £350 miliwn yn mentro colli’r wobr fwy, sef llif o welliannau a allai fod yn werth llawer mwy. Ac rwy’n canolbwyntio'n fawr ar ddatblygu llif o welliannau y cytunwyd arnynt ar y cyd drwy fwrdd Cymru i sicrhau ein bod yn cael gwelliannau ledled Cymru i'r seilwaith rheilffyrdd. Rwy'n falch o ddweud y byddwn yn cyfarfod y mis nesaf fel bwrdd rheilffyrdd Cymru. Bydd gweinidogion o Lywodraeth y DU a minnau'n cytuno ar y llif o welliannau, ac yna, pan gaiff y ddeddfwriaeth ei phasio yn San Steffan, bydd Great British Railways yn cael ei sefydlu. A thrwy Great British Railways ac uned Cymru, a fydd yn rhan ganolog o'r sefydliad hwnnw, bydd gennym reolaeth dros ariannu gwelliannau i rwydwaith Cymru. A chredaf y bydd hynny’n newid sylfaenol o'n sefyllfa ar hyn o bryd.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac edrychaf ymlaen at y diweddariadau hynny wrth i amser fynd heibio.
Yr wythnos diwethaf, clywsom y newyddion cyffrous fod cwmni o Gymru wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda datrysiad arloesol newydd i fynd i’r afael â gwefru cerbydau trydan y tu allan i dai teras. I unrhyw un na welodd y pennawd, mae Charge Gully o Abertawe wedi datblygu technoleg sy’n galluogi perchnogion cerbydau trydan i redeg ceblau gwefru yn ddiogel o’u cartrefi i’w cerbydau heb rwystro cerddwyr, gyda’r ceblau bellach yn gallu cael eu gosod o dan y ddaear o fewn y palmant ei hun. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr, yn enwedig i bobl na allant wefru eu cerbydau trydan y tu allan i'w cartrefi oherwydd gofod cyfyngedig, gan fod oddeutu 27 y cant o dai yng Nghymru yn dai teras ac mae trigolion yn aml yn wynebu’r broblem hon. Mae Charge Gully yn cynnig ffordd ddiogel, saff a rhatach o wefru cerbydau trydan, gyda phobl nad ydynt yn gallu gwefru eu cerbydau trydan gartref yn gwario £1,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfartaledd. Gyda’r dechnoleg newydd gyffrous hon i’w chyflwyno mewn treialon ledled Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fanteisio ar y mathau hyn o ddatblygiadau arloesol ledled Cymru? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiwn? Mae gennyf ddiddordeb aruthrol mewn technolegau newydd a datblygol, yn enwedig mewn perthynas â cherbydau trydan. Yn ddiweddar, cefais fy synnu wrth ddarllen nid yn unig am yr enghraifft o Abertawe ond hefyd am ymdrechion Toyota, sydd â ffatri weithgynhyrchu fawr yng Nghymru, a’u dyheadau i gynhyrchu cerbydau â batris cyflwr solet sych o 2028 ymlaen. Gallai hynny fod o fudd enfawr nid yn unig yn amgylcheddol, ond hefyd o ran cwmpas teithiau ac amseroedd gwefru. Credaf y gallai arwain at gwmpas teithio o hyd at 800 neu 900 milltir cyn gorfod ailwefru, a fyddai'n anhygoel ac yn cael gwared ar unrhyw bryder sydd gan fodurwyr ynghylch pellter teithio cyn ailwefru. Ond mae gennyf gryn ddiddordeb hefyd ym mhotensial yr arloesedd y mae’r Aelod wedi tynnu sylw ato i fynd i’r afael â rhai o’r diffygion sy'n bodoli ar hyn o bryd o ran gwefru cerbydau trydan. Ac rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw arloeswyr, gyda sefydliadau ymchwil, yn enwedig gyda'r farchnad, gan y credaf mai'r farchnad sydd â'r arloesedd a'r creadigrwydd i ddatrys y math o broblemau y mae'r Aelod wedi'u nodi.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf ei bod yn deg dweud bod gorllewin Cymru yn aml yn cael ei ddad-flaenoriaethu mewn perthynas â phrosiectau trafnidiaeth, yn enwedig, ac efallai oherwydd natur wledig yr ardal a’i chyfansoddiad daearyddol llai poblog. Fodd bynnag, nid yw hyn yn esgus dros rwydweithiau trafnidiaeth gwael. Ac os ydych chi eisiau i drafnidiaeth, neu drafnidiaeth gyhoeddus, fod yn ddewis amgen gwirioneddol hyfyw yn lle ceir, mae'n rhaid adlewyrchu hyn mewn buddsoddiadau rhwydwaith ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngorllewin Cymru, mae prinder difrifol o gerbydau trên ar hyn o bryd, ac mae traciau sengl yn dal i gael eu defnyddio ar rai o'r prif reilffyrdd. Er enghraifft, mae trên dau gerbyd yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog ac Aberdaugleddau, sy’n cymryd oddeutu tair awr, ac mae’n rhaid i unrhyw un sy’n teithio ar adegau prysur yn rheolaidd sefyll am ran sylweddol o’r daith o leiaf. Fodd bynnag, ni chyfeiriodd eich datganiad diweddar ar y rheilffyrdd at orllewin Cymru unwaith, er iddo grybwyll cysylltiadau gwael rhwng gogledd Cymru a Llundain, er bod gorllewin Cymru, ymhlith llawer o ddiffygion trafnidiaeth eraill, yn cael trafferth gyda’r un broblem yn union. Mae hyd yn oed yr AS Llafur newydd wedi bod yn beirniadu’r cysylltiadau rhwng sir Benfro a Llundain, gan iddo gael ei orfodi wrth deithio ar yr union lwybr hwn i ddod oddi ar y trên ym Mhort Talbot a defnyddio ei gar, y dywedodd 'na ddylai fod yn rhaid iddo ddibynnu arno'. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU a gweithredwyr rheilffyrdd ynglŷn â chynyddu nifer y cerbydau a chysylltedd rhwng gorllewin Cymru, Caerdydd a thu hwnt i sicrhau nad yw trigolion yn cael eu hynysu a thwristiaid yn cael eu perswadio rhag dod i Gymru? Diolch.
Wel, a gaf i roi sicrwydd i'r Aelod, yn gyntaf oll, fod gorllewin Cymru yn rhan fawr iawn o'n hystyriaethau wrth flaenoriaethu arloesedd mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys, yn hollbwysig, masnachfreinio bysiau? De-orllewin Cymru yw'r ardal gyntaf lle bydd gwasanaethau bysiau'n cael eu masnachfreinio, a chredaf fod hynny’n dangos ein hymrwymiad i’r rhanbarth.
O ran cerbydau trenau, pan ddaeth y contract o ddwylo Trenau Arriva Cymru ac i'n dwylo ninnau yn 2018, mae'n ffaith ddiddorol i ni etifeddu 270 o gerbydau trên, ac erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, drwy fuddsoddiad o £800 miliwn, bydd gennym 484 o gerbydau. Byddwn yn mynd o fod ag un o'r fflydoedd hynaf i fod ag un o'r fflydoedd mwyaf newydd yn unrhyw le ym Mhrydain, a bydd hynny o fudd i bob rhan o Gymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi clywed yn ddiweddar gan eich swyddog cyfatebol yn San Steffan, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Louise Haigh. Dywedodd fod y rheilffordd HS2 yn debygol iawn o ymestyn i Euston Llundain ac na fyddai'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl pe bai'r llwybr cyflym yn dod i ben ymhellach na hynny o ganol Llundain. Ym mis Mawrth 2023, amcangyfrifwyd y byddai’r darn hwn o’r rheilffordd yn costio oddeutu £5 biliwn. Yr hyn nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, Ysgrifennydd y Cabinet, yw y bydd y gwariant hwn yn Llundain yn arwain at gyllid ychwanegol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid i Gymru. Gwn eich bod yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod hwn yn gyllid annheg i Gymru mewn perthynas â HS2. Rydym wedi clywed hynny, rydym wedi siarad am hynny, ac mae Natasha newydd fod yn siarad am y consensws yn y lle hwn ynghylch hynny. A fyddwch chi'n cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i alw ar y Trysorlys i sicrhau y defnyddir rhywfaint o synnwyr cyffredin ac y byddwn yn cael y cyllid canlyniadol yn sgil y darn hwnnw?
Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig am hyfywedd HS2 a'r synnwyr cyffredin neu ddiffyg synnwyr cyffredin yn ei gylch. Mae hanes HS2 yn mynd yn ôl i'r adeg pan oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynyddu nifer yr hediadau o feysydd awyr. Roedd nifer yr hediadau rhwng Manceinion a Heathrow, yn arbennig, yn peri pryder, yn bennaf oherwydd yr effaith amgylcheddol. Felly, pan oeddent yn ystyried cyflwyno rhedfeydd ychwanegol, cynigiwyd HS2 fel ateb i hynny. Felly, yn wreiddiol, roedd yn mynd i ymestyn i Faes Awyr Manceinion er mwyn osgoi’r angen am deithiau o Fanceinion i Lundain mewn awyren. Yna, fe chwyddodd. Daeth yn brosiect mwy o faint a mwy mawreddog, ac yn y pen draw, o dan y Llywodraeth flaenorol, fe chwalodd o dan ei bwysau ei hun.
Yr hyn y credaf y mae’r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros drafnidiaeth yn ei wneud yw defnyddio synnwyr cyffredin. Yn yr un modd, serch hynny, mae angen i ni ddefnyddio synnwyr cyffredin o ran y cyllid canlyniadol a'i ailddosbarthiad fel prosiect i Loegr yn unig. Dyna pam ein bod wedi dweud yn glir iawn yn ein trafodaethau â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ein bod yn credu bod cyllid canlyniadol yn ddyledus. Ond rwy'n dweud eto fod yn rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol na chael £350 miliwn yn unig. Mae angen inni sicrhau, dros y tymor hir, ein bod yn cael buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd sy’n codi ei safon i'r hyn yr ydym yn ei haeddu ac y dylem ei ddisgwyl yng Nghymru, y math o safon a welwn mewn rhannau eraill o’r DU a rhannau eraill o Ewrop.
Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n cytuno y dylem gael y cyllid hwnnw hefyd. Cytunaf â chi ar hynny, ond mae £350 miliwn yn wahanol iawn i £5 biliwn neu £4 biliwn, a dychmygu beth y gallai hynny ei wneud i helpu i unioni'r hanes o danfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd ein hunain. Gyda’ch partneriaeth newydd gyda Great British Railways a’r hyn a gyhoeddwyd gennych yn ddiweddar, a’r hanes o danariannu ein system reilffyrdd, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid datganoli’r rheilffyrdd yn llawn i Gymru, fel bod gennym reolaeth? Ond pa fecanweithiau y gellid eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw’r hanes o danfuddsoddi yn rhwymedigaeth y byddai’n rhaid i ni ei hysgwyddo? Sut rydych chi'n gweithio gyda’ch ffrindiau sydd mewn grym yn Llundain i sicrhau, os ydych chi'n cytuno y dylem ddatganoli'r rheilffyrdd, y dylent fod yn addas i'r diben heddiw, yn hytrach na rhywbeth nad yw’n gweithio?
Credaf fod Peredur yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau, pan fyddwch yn cymryd perchnogaeth ar rywbeth, ei fod mewn cyflwr da. Rwyf wedi cymharu’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru â hen gar. At ei gilydd, mae bron bob amser yn rhatach prynu hen gar sydd wedi'i atgyweirio'n llawn nag un sydd angen ei atgyweirio, yn enwedig car gwerthfawr. Yn yr un modd, mae'n llawer gwell mabwysiadu rhwydwaith rheilffordd pan fydd wedi'i atgyweirio'n llawn. Yr hyn rydym yn ei gynnig gyda Great British Railways ac uned fusnes Cymru a fydd yn rhan ganolog ohono yw’r gallu i gael rheolaeth dros welliannau heb fod â’r berchnogaeth ar y dechrau, o reidrwydd. Oherwydd ni fyddai’r berchnogaeth ar y dechrau yn ased, yn fy marn i, byddai’n rhwymedigaeth. Mae angen inni ystyried datganoli’r seilwaith rheilffyrdd yn rhan o broses, ac mae’r broses yn dechrau drwy gael y llif o welliannau, y buddsoddiad sydd ei angen, a thros amser, adeiladu’r rhwydwaith i safon yr unfed ganrif ar hugain, a throsglwyddo perchnogaeth ar y pwynt hwnnw.
Rydych chi'n sôn am safon yr unfed ganrif ar hugain; a ydym yn mynd i orfod aros tan yr ail ganrif ar hugain i hynny ddigwydd? Byddai'n werth gwybod pa fath o amserlenni rydych chi'n eu hystyried a pha fath o sgyrsiau rydych chi'n eu cael ynghylch hynny.
Hanfodion system drafnidiaeth gyhoeddus, yn fy marn i, yw bod angen iddi fod yn ddibynadwy, mae angen iddi fod yn rheolaidd, mae angen iddi fod yn amserol, ac mae angen iddi gael prisiau rhesymol. Mae llai na 4 y cant o’n rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio, ni allwch fynd o Aberystwyth i Gaerdydd ar y trên heb fynd i mewn i Loegr, ac rydym wedi amcangyfrif ein bod wedi colli 10 y cant i 15 y cant o wasanaethau bysiau. Mae sawl enghraifft arall o sut y mae rhwydweithiau trafnidiaeth yn methu ledled Cymru. Yn y cyfamser, mae cost gwasanaethau bysiau a threnau yn parhau i godi.
Gan fynd yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol ac a ddylem gael cyllid canlyniadol Barnett o’r £5 biliwn o wariant amcangyfrifedig ar y darn hwnnw yn Llundain, a fyddech chi'n dadlau dros wario unrhyw gyllid canlyniadol a ddaw yn sgil HS2 neu unrhyw rwydwaith rheilffyrdd ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru?
Mae hwn yn gwestiwn gwirioneddol ddiddorol arall, gan ei fod yn mynd at wraidd datganoli a’r penderfyniadau a wneir yng Nghymru ar gyfer Cymru. Rydych chi'n tynnu sylw at yr union ffaith, pan gawn gyllid canlyniadol ar gyfer pa bynnag bortffolio, nad yw'r arian hwnnw o reidrwydd yn cael ei wario wedyn at y diben hwnnw. Mater i Lywodraeth Cymru yn gyfunol fyddai penderfynu sut y byddai cyllid canlyniadol yn sgil HS2 yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru. Ni allwn sefyll yma heddiw a gwarantu y byddai pob ceiniog o'r £350 miliwn o gyllid canlyniadol yn mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar y rheilffyrdd yn benodol.
Yr hyn sy’n hanfodol bwysig felly yn fy marn i yw ein bod yn cadw ein llygaid ar y wobr fwy, sef y llif o fuddsoddiad ychwanegol mewn rheilffyrdd y byddwn yn cytuno arni gyda chymheiriaid yn San Steffan. Rwy’n obeithiol, o ganlyniad i gael llif uchelgeisiol o fuddsoddiad, y byddwn yn sicrhau mwy o welliannau nag a welsom yn yr 20 mlynedd diwethaf ar y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Ond ar y pwynt ynghylch pam fod pobl yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, rydych chi'n llygad eich lle, dibynadwyedd yw'r prif ffactor. Dyna pam ein bod wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, oherwydd y gwelliannau anhygoel o ran dibynadwyedd a phrydlondeb. Yn y pen draw, mae hynny wedi arwain at gynnydd sylweddol iawn i lefelau boddhad cwsmeriaid. Credaf y dylid croesawu hynny ar bob ochr i’r Siambr.
3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei wneud o lwyddiant newidiadau i amserlenni bysiau TrawsCymru? OQ61711
Rydym yn parhau i fuddsoddi’n drwm yn rhwydwaith bysiau TrawsCymru i gydnabod y rôl allweddol y mae’r gwasanaethau hyn yn ei chwarae yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus strategol ledled Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal adolygiad strategol a fydd yn archwilio effeithiolrwydd gwasanaethau presennol a chyfleoedd ar gyfer gwelliannau pellach.
Diolch yn fawr iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Byddwch chi yn ymwybodol fod y newidiadau i’r T3, er enghraifft, wedi bod mewn grym rŵan ers tua blwyddyn. Ac yn y flwyddyn ers i’r T3 newid ei amserlen, does dim amheuaeth fod ansawdd bywyd nifer fawr o bobl, o Lanuwchllyn i Gorwen, wedi dirywio yn sylweddol. Mewn gwirionedd, dwi’n gorfod rhoi lifft yn aml iawn i bobl pan dwi’n eu gweld nhw yn y Bala, nôl adre o apwyntiad efo’r meddyg neu o’u gwaith neu o siopa, oherwydd eu bod nhw’n methu â dal y bws neu’n gorfod aros oriau tan y bws nesaf—heb sôn am ddyddiau Sul, pan nad oes yna fws o gwbl. Yn Llanuwchllyn, mae yna bobl oedrannus yn cael eu gadael i ffwrdd ar y briffordd ac yn gorfod cerdded milltir bron i’w cartref nhw, sydd yn afresymol i rywun efo problemau symudedd a phobl mewn oedran, fel dwi’n siŵr y byddech chi'n cytuno. Mae yna bobl ifanc bellach yn methu â mynd i glybiau chwaraeon ar ôl ysgol oherwydd nad ydy'r bws yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny, neu eu bod nhw'n ddibynnol ar lifftiau preifat, sydd yn golygu bod defnydd car preifat a defnydd o losgi tanwydd yn cynyddu ac yn gwneud drwg i'r amgylchedd. Felly, mae'n amlwg—
Cwestiwn, os gwelwch yn dda, Mabon ap Gwynfor.
Mi ddof i at y cwestiwn—diolch, Llywydd. Mae'n amlwg, felly, fod hyn wedi methu ac mae angen asesiad. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddod draw i Landderfel a Llanuwchllyn efo fi i weld hyn, a sicrhau bod y bws yn cael ei adfer ar gyfer yr hen lwybr?
A gaf i ddiolch i Mabon ap Gwynfor am godi’r cwestiwn hanfodol bwysig hwn i gynifer o gymunedau, nid yn unig yn ei etholaeth ef, ond y tu hwnt? Hoffwn ddatgan buddiant yn y cwestiwn am fod y gwasanaeth T3 hefyd yn rhedeg drwy fy etholaeth yn Ne Clwyd, felly rwy’n ymwybodol iawn o’r anfodlonrwydd â’r newidiadau a wnaed i’r amserlen a’r materion dibynadwyedd y bu’n rhaid i ormod o deithwyr eu hwynebu. Hoffwn ymweld ag etholaeth yr Aelod gydag ef i edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd ers i lwybr y T3 gael ei addasu, a gallaf roi sicrwydd iddo fy mod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru edrych eto ar y llwybr, fel rhan o'r adolygiad strategol ehangach y maent yn ei gynnal o'r rhwydwaith cyfan. Bydd yn golygu ymgynghori pellach yn y misoedd nesaf, a bydd hynny cyn cytuno ar unrhyw newidiadau i’r amserlen neu newidiadau i lwybrau. A byddaf yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â'r holl Aelodau sydd â diddordeb yng ngwasanaeth T3 fel y gallant leisio'u barn.
Ysgrifennydd y Cabinet, bws trydan sy’n rhedeg o Gaerfyrddin i Aberystwyth yw'r bws T1. Mae'n cychwyn ei daith o faes y sioe, lle mae'n gwefru ei fatris, yna'n mynd i mewn i Gaerfyrddin i gasglu ei deithwyr cyntaf. Ond nid yw'r gwasanaeth parcio a theithio ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin, a oedd yn caniatáu i gwsmeriaid barcio ar faes y sioe a chael mynediad ar fws i ganol y dref, yn bodoli mwyach. Mae'r bws yn parhau i deithio ar hyd y llwybr hwnnw, ac eto nid yw'n caniatáu i deithwyr deithio rhwng maes y sioe a Heol Awst. Mae hyn yn dipyn o anomaledd, yn enwedig pan ydym yn hyrwyddo mwy a mwy o ddefnydd o'r gwasanaethau bws. A gaf i ofyn ichi siarad â TrawsCymru i weld pam y mae hyn yn digwydd? Oni allwn gludo cwsmeriaid ar y bws o faes y sioe, fel y gallant deithio i dref Caerfyrddin, i Heol Awst, neu ymlaen i Aberystwyth, os ydynt yn dymuno?
Rwy’n ddiolchgar iawn i Sam Kurtz am godi’r mater hwn. Gallaf roi sicrwydd iddo y byddaf yn gofyn i swyddogion a Trafnidiaeth Cymru archwilio’r broblem benodol hon.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna lwybrau diogel i ddisgyblion cynradd ac uwchradd gyrraedd yr ysgol? OQ61707
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i asesu addasrwydd cludiant i ddysgwyr. Ar gyfer 2024-25, rydym wedi dyrannu dros £6 miliwn i awdurdodau lleol o’n grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer cynlluniau sydd wedi’u hanelu’n benodol at wella amodau cerdded, olwyno a beicio i’r ysgol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol, gyda’r Mesur teithio gan ddysgwyr, fod yna obaith wedi bod o weld y cynnig yn cael ei adolygu a'i wella. Mae wedi arwain at y ffaith bod llawer o awdurdodau lleol bellach yn newid y cymhwystra i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol. Os edrychwch ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, mae'r cyngor wedi penderfynu alinio'r pellter cymhwystra â chanllawiau Llywodraeth Cymru—o 2 filltir i 3 milltir. Bydd protest ym Mhontypridd, wedi'i threfnu gan rieni o bob rhan o Rondda Cynon Taf, ddydd Sadwrn nesaf, am eu bod yn pryderu bod disgyblion ysgolion uwchradd sy'n byw ychydig o dan y trothwy 3 milltir bellach yn wynebu gorfod cerdded am dros awr, neu orfod talu am ddau fws cyhoeddus, i gyrraedd yr ysgol. Mae llawer o'r llwybrau hyn heb eu goleuo ac yn anniogel, yn enwedig wrth iddi ddod yn aeaf pan fydd y dyddiau'n dywyllach ac yn oerach. Nid yw pethau wedi newid, er i’r mater hwn gael ei godi droeon. Mae mwy o bobl ifanc yn fy rhanbarth i yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cyrraedd yr ysgol, neu'n colli ysgol am nad oes bysiau neu am na allant fforddio pris tocyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gymryd y camau angenrheidiol o'r diwedd i fynd i’r afael â’r mater hwn a sicrhau bod gan bob disgybl lwybr diogel, hygyrch a fforddiadwy i gyrraedd yr ysgol?
A gaf i ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Rwy’n ystyried cynnig dadl yn ystod amser y Llywodraeth ar y pwnc pwysig hwn. Mae’n cael ei godi ar sawl achlysur yn y Siambr, a chredaf ei fod yn haeddu dadl bellach, os byddai’r Aelodau’n cytuno. Diolch. Credaf ei bod yn bwysig tynnu sylw at y ffaith mai cynghorau sy’n talu am ddarpariaeth trafnidiaeth drwy’r grant cynnal refeniw. Credaf fod penderfyniadau awdurdodau lleol yn ddiweddar yn dangos o ddifrif cymaint o bwysau sydd ar eu cyllid, yn enwedig pan fo meysydd gwasanaeth fel gofal cymdeithasol yn gwasgu i'r fath raddau. Felly, rwy'n cydymdeimlo gydag awdurdodau lleol a'r penderfyniadau anodd y maent yn gorfod eu gwneud.
Nawr, ni fyddai lleihau’r trothwy milltiredd o reidrwydd yn datrys llawer o’r problemau y mae Aelodau wedi’u codi mewn perthynas â’r mater hwn, gan fod heriau strwythurol y mae cludiant i ddysgwyr yn eu hwynebu, gan gynnwys diffyg gweithredwyr, a'r diffyg seilwaith mewn ysgolion ac o’u cwmpas hefyd i ymdopi â'r bysiau ychwanegol y byddai eu hangen. Ac wrth gwrs, byddai angen swm sylweddol o arian i fynd i'r afael â'r broblem.
Rydym yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad. Bydd hynny'n gwella cysondeb ledled Cymru, ac rwyf hefyd yn edrych ar gynnull awdurdodau lleol, ysgolion, penaethiaid ysgolion a gweithredwyr i ddysgu am yr arferion da sy'n digwydd yng Nghymru. Ceir enghreifftiau o ysgolion ac awdurdodau lleol a gweithredwyr yn goresgyn yr her o ddarparu darpariaeth. Amlygodd Estyn enghraifft wych, yn fy marn i, yn Abertawe yn ddiweddar. Ac mae’r enghraifft honno’n dangos beth a all ddigwydd pan fydd ysgol uwchradd yn gweithio gydag awdurdod lleol a’r gweithredwr bysiau lleol i negodi prisiau siwrneiau fforddiadwy i’w dysgwyr. Felly, mae angen rhannu’r math hwnnw o arfer da, a'i efelychu ledled Cymru. Felly, fel y dywedaf, rwy'n edrych ar gynnull uwchgynhadledd o awdurdodau lleol, penaethiaid ysgolion a gweithredwyr i wneud yn union hynny. Ac os yw'r Aelodau'n cytuno, fel y credaf eu bod, yn seiliedig ar yr ymateb a glywais heddiw, rwy'n fwy na pharod i gyflwyno dadl yn ystod amser y Llywodraeth.
Rwy'n aml yn clywed gan rieni y mae eu plant yn cael eu gadael mewn sefyllfa fregus gan y ffordd lem y mae awdurdodau lleol yn dehongli Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008 Llywodraeth Cymru, sy'n cyfyngu ar gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o'u hysgol addas agosaf. Mae'r dull o fesur a ddefnyddiant yn aml yn fympwyol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus amgen yn aml yn annibynadwy, sy'n golygu bod plant yn cael eu gadael mewn safleoedd bysiau, ac fel arfer nid oes llwybrau cerdded diogel ymarferol ar gael.
Mae'r enghraifft ddiweddaraf o hyn, yr ysgrifennais atoch yn ei chylch, yn ymwneud â disgyblion o Sychdyn yn sir y Fflint sy'n mynychu Ysgol Alun yn yr Wyddgrug. Mae hyn er bod Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn datgan, lle nad oes gan ddysgwyr hawl i gludiant am ddim, fod gan awdurdodau lleol bŵer i ddarparu cludiant yn ôl disgresiwn, a diffinio bod llwybr ond yn llwybr sydd ar gael os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded ar y llwybr ar ei ben ei hun, neu gyda hebryngwr os byddai oedran y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr. Yn ogystal â'r camau a gynigiwyd gennych felly, ac rwy'n eu croesawu, sut y byddwch chi'n monitro ac yn gwerthuso gweithrediad i sicrhau, yn y bôn, fod awdurdodau lleol yn deall, ac yn gwneud yr hyn a allant i gynorthwyo cymunedau fel hyn?
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ddarparu'r enghraifft honno o weithredu anghyson yng Nghymru? A dyna pam ein bod ni'n bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad—i fynd i'r afael â'r anghysonderau hynny. O ran monitro, mae hyn yn rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn awyddus i sicrhau eu bod yn ei wneud ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cydnabod yr her y mae llawer o ddysgwyr yn ei hwynebu ledled Cymru ar hyn o bryd. Fel y dywedais, mae yna broblemau strwythurol sydd angen eu goresgyn er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hynny ym mhobman. Ond rwyf am gyfeirio at y Bil bysiau sydd ar y ffordd fel rhan o'r ateb. Bydd gallu rheoli rhwydweithiau, gallu rheoli llwybrau ac amserlenni, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr. Ni fydd yn datrys pob problem, ond fe fydd yn rhan o'r pecyn o atebion yr ydym am ei hyrwyddo.
Ysgrifennydd y Cabinet , mewn ardaloedd yn Nwyrain Casnewydd fel Ringland, Llan-wern, Llyswyry a Glan-llyn, mae disgyblion yn cerdded i'r ddwy ysgol uwchradd leol, Llan-wern ac Ysgol Uwchradd Llyswyry, ar hyd ochr, ac weithiau'n croesi, y ffordd ddosbarthu ddeheuol brysur iawn sy'n cario llawer iawn o draffig yn teithio ar gyflymder uchel. Un opsiwn ar gyfer ymdrin â'r broblem yw darparu llwybrau teithio llesol diogel, a thybed pa drafodaethau rydych chi a'ch swyddogion yn eu cael gydag awdurdodau, gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, i sicrhau bod llwybrau teithio llesol diogel yn cael eu darparu lle bydd y materion hyn yn codi.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt allweddol, fod diogelwch o'r pwys mwyaf wrth ystyried darpariaeth teithio llesol. Yn bersonol, nid wyf yn ymwybodol o gwynion ynglŷn ag ysgolion uwchradd Llyswyry neu Lan-wern a'r mynediad atynt. Fodd bynnag, fe ofynnaf i fy swyddogion ymgysylltu â'r awdurdod lleol a'r ysgolion i ddeall maint y broblem a'r atebion posibl. Os caf, hoffwn dynnu sylw at un enghraifft yn unig o ymyrraeth sy'n profi'n llwyddiannus iawn. Rwy'n falch iawn o'r cynllun penodol hwn. Fe'i cyflwynir gan Living Streets. Rhaglen gerdded i'r ysgol yw hi ac fe fydd yn weithredol am y ddwy flynedd nesaf, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn cynnwys 170 o ysgolion cynradd a 42 o ysgolion uwchradd. Fe edrychaf i weld a yw'r ddwy ysgol uwchradd y mae'r Aelod wedi'u nodi heddiw yn rhan o'r rhaglen honno.
Wrth gwrs, mae rhywbeth fel chwarter yr holl gyllid ysgol yn mynd ar gost trafnidiaeth ysgol, ac un o argymhellion yr adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr oedd edrych ar sut y gellid gwneud mwy o deithiau trwy deithio llesol, ac mae hynny'n galw am ddarparu llwybrau diogel. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o rwydwaith ac mae angen iddo fod yn ymrwymiad hirdymor. Mae wedi cymryd amser i ddatblygu arbenigedd yn Trafnidiaeth Cymru i greu canolfan ragoriaeth i helpu awdurdodau lleol i adeiladu llwybrau sydd eu hangen ar y gymuned leol. Ond os yw cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol yn cael ei dorri, mae perygl y bydd yr holl gynnydd hwnnw'n cael ei ddad-wneud. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau bod targedau newid dulliau teithio o fewn y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a bod cyllid ar gyfer y cynlluniau yn cyd-fynd â'r targedau newid dulliau teithio sydd gennym yn strategaeth drafnidiaeth Cymru?
Rwy'n credu bod Lee Waters yn gwneud pwynt pwysig ynghylch cynnal y momentwm a adeiladwyd gennym dros amser o ran newid dulliau teithio, a cheir gofyniad statudol i gyd-bwyllgorau corfforedig ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n nodi polisïau i weithredu strategaeth drafnidiaeth Cymru. Ac fel y mae ein canllawiau yn dweud yn glir iawn, mae hyn yn cynnwys mynd ar drywydd newid dulliau teithio a datgarboneiddio a cheir targedau i gyd-fynd â hynny. Hefyd, mae fy swyddogion a Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi cyd-bwyllgorau corfforedig gyda'r gwaith hwn. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig fod cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn darparu sail i roi mwy o lais i arweinwyr lleol ynghylch sut y caiff cyllid trafnidiaeth ei wario yn eu rhanbarth, ond hefyd rwy'n cytuno ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i ddefnyddio Trafnidiaeth Cymru a'r arbenigedd sydd wedi'i gynnwys yn Trafnidiaeth Cymru i gefnogi cyd-bwyllgorau corfforedig ac awdurdodau lleol i gyflawni eu cynlluniau yn erbyn strategaeth drafnidiaeth Cymru.
5. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch deintyddiaeth yng ngogledd Cymru? OQ61715
Yn ddiweddar, cyfarfûm ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae wedi fy sicrhau bod gwella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yn parhau i fod yn flaenoriaeth, yn enwedig i gleifion newydd, ac mae mwy na 73,000 ohonynt wedi'u gweld ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers mis Ebrill 2022.
Diolch am hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r cau a welsom o ran mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG ledled gogledd Cymru yn ddiweddar, a Dant-y-coed yng Nghoed-poeth yw'r diweddaraf o restr hir, yn anffodus. Mae gennym sefyllfa nawr lle bydd teulu o bedwar o bosibl yn gorfod talu £400, £500 y flwyddyn am archwiliadau'n unig a hyd yn oed mwy os oes angen unrhyw driniaeth arnynt yn sgil hynny. Rydym yn gwybod bod contractau'n broblem. Mae'r deintyddion yn dweud wrthym fod problemau gyda'r contract rhwng y Llywodraeth a'r sector, a phroblemau prinder deintyddion hefyd. Fe fyddwch wedi clywed galwadau Plaid Cymru am ysgol ddeintyddiaeth. Tybed a ydych chi'n cefnogi sefydlu'r cynnig hwnnw mewn egwyddor, os nad heb gydnabod rhai o'r heriau ymarferol. Ac os ydych chi, pa achos rydych chi'n ei wneud o fewn y Llywodraeth i geisio gwireddu'r uchelgais hwnnw?
A gaf i ddiolch i Llyr am ei gwestiwn? Yn gyntaf oll, ynghylch practis Dant-y-coed, dylwn ddatgan diddordeb oherwydd ei fod yn fy etholaeth i. Rwy'n deall eu bod yn gweithredu o dan yr hen fodel nid y model diwygiedig, sy'n osgoi ailgylchu cleifion iach, a gallaf sicrhau pobl ym mwrdeistref sirol Wrecsam fod yna 11 practis sy'n darparu deintyddiaeth y GIG. Mae cyfleoedd weithiau pan fydd contractau'n cael eu dychwelyd, ac rydym wedi gweld hynny gyda Betsi Cadwaladr yn cael £1.5 miliwn o gyllid i gefnogi pum practis, ac mae un ohonynt yn bractis newydd sbon yn sir y Fflint. Ac mae'r bwrdd iechyd hefyd yn cynnig tendr ar hyn o bryd ar gyfer dyfarnu £4.5 miliwn arall ar draws y bwrdd iechyd. Mae dychwelyd contractau'n creu cyfle weithiau. Er enghraifft, yng ngogledd Cymru, mae'r academi newydd wedi gallu cael ei datblygu'n rhannol am fod contractau wedi'u dychwelyd.
Ac ar yr ail bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, credaf fod y posibilrwydd o gael ysgol ddeintyddol yn sicr yn werth ei ystyried. O ran egwyddor, buaswn yn cefnogi creu ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru, ond mae angen i'r prifysgolion a'r byrddau iechyd weithio gyda'i gilydd i ddatblygu cynigion. Rwy'n credu mai dyna y mae'r Gweinidog iechyd yn pwyso arnynt i'w wneud. Ac os oes arian ar gael, byddem yn gallu symud yn gyflym.
A gaf i ategu Llyr Gruffydd a nodi'r angen am ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru? Oherwydd fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r anawsterau recriwtio yn arbennig o ddifrifol yng ngogledd Cymru. Yn ogystal â'r cyfleoedd mewn perthynas â'r ysgol ddeintyddol, mae wedi bod yn braf clywed y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn galw am fwy o gydweithio gyda gwasanaethau iechyd rhwng Cymru a Lloegr, ac yn fwyaf arbennig bydd hynny'n effeithio ar etholwyr a gynrychiolir gennyf i ar draws sir y Fflint a Wrecsam, a rhai ohonynt yn cael eu cynrychioli gennych chi hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, hoffwn ddeall eich barn ar sut y gallai'r cydweithio hwnnw weithio i'r trigolion yng ngogledd Cymru, ac yn enwedig gwasanaethau deintyddol, ac os ydych chi'n meddwl, yn eich rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet sy'n cynrychioli gogledd Cymru, fod cyfleoedd arbennig i drigolion yng ngogledd Cymru, gan ystyried y cysylltiadau trafnidiaeth sy'n digwydd ledled y rhanbarth.
Mae Sam Rowlands yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r ffin agored: mae llawer o gleifion yng Nghymru yn cael gwasanaeth yn Lloegr, ychydig dros y ffin. Felly, dylid croesawu unrhyw gydweithredu a fyddai'n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion, ble bynnag y cânt eu darparu. Nawr, nid wyf yn arbenigwr ar y contract newydd, ond fy nealltwriaeth sylfaenol i ynghylch y contract diwygiedig yw ei fod yn rhyddhau capasiti trwy osgoi ailgylchu cleifion iach ar gyfer archwiliadau rheolaidd, ac yn lle hynny mae'n blaenoriaethu angen dros y broses ailgylchu a arferai ddigwydd o dan yr hen gontract. Pe gellid cymhwyso hynny yn Lloegr, credaf y byddem yn gweld mwy o gapasiti'n cael ei ryddhau, a fyddai, yn achos pobl sy'n chwilio am wasanaeth yn Lloegr, yn cael ei groesawu'n fawr.
Ac ar y pwynt a wnaed am drafnidiaeth, rydym yn gweithio trwy bobl fel Growth Track 360 i nodi sut y gallwn wella rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws ardal Mersi a'r Ddyfrdwy.
6. Beth yw blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ61682
Wel, mae 'Llwybr Newydd', ein strategaeth drafnidiaeth, yn nodi ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys Brycheiniog a Sir Faesyfed, a bydd ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan gyd-bwyllgorau corfforedig yn nodi sut y cânt eu cyflawni.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o bobl sy'n byw yn fy rhan i o'r byd yn teimlo bod digon o fuddsoddiad yn mynd i Gymoedd de Cymru, ond dim buddsoddiad yn fy etholaeth i. Mae gennym gyswllt trafnidiaeth mawr sy'n cysylltu fy etholaeth i ag etholaeth Adam Price rhwng Trecastell a Llanymddyfri—nid oes gan y ffordd honno unrhyw wasanaeth bws arni o gwbl. Mae hwnnw'n gyswllt twristaidd pwysig iawn yn ôl ac ymlaen rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Cymru, ac rwy'n credu y byddai'n fuddiol rhoi'r cyswllt trafnidiaeth hwnnw ar waith i agor gwahanol rannau o'r wlad, fel nad oes rhaid i bobl fynd i'w ceir a gallant fynd ar fws i deithio o amgylch y wlad. Rwyf wedi gofyn i Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion blaenorol am hyn ac ymddengys nad oes dim yn digwydd. Felly, gan eich bod chi yn y swydd erbyn hyn, a'ch bod i'ch gweld yn ddyn pragmatig, a wnewch chi gamu i'r adwy a darparu'r cysylltiadau trafnidiaeth hyn rhwng fy etholaeth i ac etholaeth Adam Price, oherwydd mae llawer o bobl yn gofyn amdanynt, ac mae gennyf bob ffydd ynoch chi y gallwch chi ei gyflawni, Ken?
Mae'n rhaid imi helpu'r Aelod ar ôl ei sylwadau caredig a hael. Mae'r system fysiau wedi torri ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod ni'n cyflwyno'r Bil bysiau. Mae gweithredwyr yn dewis y llwybrau sy'n ddeniadol yn fasnachol ac yn gadael bylchau enfawr mewn mannau eraill, gan gynnwys y bwlch y mae'r Aelod wedi'i nodi heddiw. Felly, byddaf yn gwahodd Trafnidiaeth Cymru i weithio gyda fy swyddogion i ystyried a ellid cyflwyno gwasanaeth, gwasanaeth TrawsCymru efallai, a gweld a fyddai hynny'n gymwys. Wrth gwrs, rydym yn gweithredu mewn cyfnod anodd tu hwnt yn ariannol, ond fe ofynnaf i waith gael ei wneud ac adrodd yn ôl i'r Aelod.
Wel, rwy'n edrych ymlaen at hynny.
7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu problemau teithio sy’n cael eu hachosi gan waith ffordd ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OQ61697
Wel, rydym yn cynnal ymgynghoriadau rhagweithiol â rhanddeiliaid allweddol cyn i waith ffordd mawr gael ei wneud, a chaiff hyn ei gefnogi gan wahanol fathau o gyfathrebiadau i hysbysu'r cyhoedd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt, yn enwedig am y prosiectau hirdymor mwy aflonyddgar. Mae hyn yn caniatáu i'r cyhoedd sy'n teithio gynllunio eu teithiau ar y rhwydwaith ffyrdd strategol ymhell ymlaen llaw.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gohebu ac rwy'n gwybod ein bod wedi siarad am faterion cau'r A470 sydd ar y gweill yn Nhalerddig ar gyfer gwaith atgyweirio ar y wal gynnal ar y gefnffordd. Nawr, mae angen y gwaith ei hun yn fawr iawn ac mae'n hen bryd iddo gael ei wneud, ond y pryder i mi, y gymuned a'r busnesau yr effeithir arnynt yw'r ffaith bod y ffordd gyfan ar gau am hyd at saith wythnos. Rwy'n derbyn bod eich swyddogion wedi cysylltu ag arweinwyr cymunedol lleol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond newydd gael ei wneud yn gyhoeddus y mae'r cynllun cyn cau'r ffordd ddiwedd y mis. Mae'r gwyriad swyddogol yn llwybr 70 milltir, a fydd yn achosi tarfu sylweddol, ac wrth gwrs, tarfu pellach ac anhrefn ar ffyrdd llai hefyd.
Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pa opsiynau sydd wedi cael eu hystyried i gadw un lôn ar agor yn ystod oriau gwaith? A ellir rhoi ystyriaeth bellach i dorri i mewn i'r coetir gyferbyn â'r wal sydd wedi cwympo er mwyn sefydlu ffordd dros dro? Rwy'n deall bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru broblemau gyda hyn, ond rwyf wedi gohebu â hwy fy hun. A ellir gwneud gwaith 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i gwblhau'r gwaith yn gynt? A pha ddiweddariad y gallwch chi ei roi ar sut y gellid cefnogi'r gwasanaethau brys a thrafnidiaeth ysgol yn ystod y cyfnod hwn hefyd? Edrychaf ymlaen at ateb pragmatig gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at yr her benodol hon a dweud wrth ei etholwyr fy mod yn llwyr ddeall y rhwystredigaeth y mae'r gwaith yn ei achosi neu y bydd yn ei achosi? Mae'n ymwneud â wal gynnal. Rwy'n ofni bod yn rhaid gwneud y gwaith fel mater o frys, a gwn y byddai'r Aelod yn cytuno ac rwy'n gwybod y byddai pob arweinydd cymunedol yn cytuno. Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod wedi archwilio'r opsiynau'n drylwyr, a hyd y dargyfeiriad. Byddaf yn darparu briff llawn yn ysgrifenedig, os caf, a byddaf yn rhannu hynny gyda'r holl Aelodau sydd â diddordeb yn y llwybr penodol hwn. Yn anffodus, ni allem fwrw ymlaen â'r opsiwn un lôn am resymau diogelwch, ac rwy'n deall bod yr opsiwn o dorri i mewn i'r goedwig a chreu ffordd dros dro wedi'i archwilio hefyd, ond wedi'i ddiystyru am amryw resymau. Gwn fod swyddogion yn cysylltu â Chyngor Sir Powys a rhanddeiliaid eraill i leihau tarfu a darparu gwasanaethau amgen ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac ysgol, ond byddaf yn darparu ymateb manwl i'r Aelod yn ysgrifenedig.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am drawsnewid rheilffordd Treherbert yn y Rhondda? OQ61705
Wrth gwrs. Gyda dros £1 biliwn o fuddsoddiad i uwchraddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi trawsnewid rheilffordd Treherbert, gan osod signalau newydd yn lle'r signalau oes Fictoria, gosod llinell drydan uwchben ac uwchraddio gorsafoedd. Bydd trenau trydan newydd sbon yn rhedeg ar reilffyrdd craidd y Cymoedd yn ddiweddarach eleni, gan wneud gwasanaethau ar ffurf metro yn realiti.
Diolch. Rwy'n gwybod bod y trawsnewidiad hyd yma wedi bod yn chwerw-felys i breswylwyr. Ers misoedd, mae dal bysiau yn lle gwasanaethau rheilffyrdd, cau ffyrdd, a chlywed gwaith ar hyd y rheilffordd drwy'r nos wedi bod yn heriol, ond mae cerdyn rheilffordd Rhondda, addasiadau i orsafoedd, a'r seilwaith ar gyfer trydaneiddio, sy'n barod ar gyfer stoc newydd, wedi mwy na gwneud iawn am hyn. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl weithwyr adeiladu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru ac i'r trigolion am eu hamynedd. Ni allaf aros i weld gwasanaeth gwyrddach, cyflymach a mwy dibynadwy ar reilffordd Treherbert; dyma'r gwasanaeth y mae trigolion yn ei haeddu. Rwy'n gwybod bod trigolion yn awyddus i wybod, fel finnau, pryd y gallwn ddisgwyl gweld y stoc newydd ar y rheilffordd ac a oes gennych unrhyw wybodaeth ddiweddar ynghylch yr hyb trafnidiaeth yn Porth, os gwelwch yn dda.
Wel, a gaf i ddiolch i Buffy am ei chwestiwn atodol ac am y ffordd mae hi, dros nifer o flynyddoedd, wedi hyrwyddo'r angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hetholaeth? A gaf i ddiolch i drigolion hefyd, sydd wedi dangos amynedd anhygoel dros gyfnod eithaf sylweddol o amser pan oedd y tarfu'n digwydd? Ond bydd y wobr yn werth chweil, ac rwy'n falch o allu hysbysu Buffy heddiw y daw'r wobr mewn pryd ar gyfer y Nadolig, gan y bydd trenau trydan newydd sbon yn dod yn weithredol ym mis Rhagfyr ar reilffordd Treherbert; byddant ar bob gwasanaeth ar y lein yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae'r trenau trydan newydd hyn yn uwchraddiad enfawr i deithwyr o'i gymharu â'r fflyd etifeddol y mae'n cymryd ei lle. Ceir mwy o gapasiti, maent yn fwy cyfforddus, mae'r cyfleusterau'n llawer gwell hefyd—hollol wahanol i'r hyn y mae'r cyhoedd sy'n teithio wedi'i brofi ar y rheilffordd honno. Mae disgwyl i'r trenau newydd ddechrau gwasanaethu ar reilffyrdd Aberdâr a Merthyr Tudful o fis Tachwedd eleni. Nawr, gallaf sicrhau'r Aelod hefyd fod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Rhondda Cynon Taf i agor cyfnewidfa Porth cyn gynted â phosibl, a byddaf yn gofyn iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr amserlen a'r sefyllfa ddiweddaraf.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.
1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yr un mor hygyrch i bawb ar Ynys Môn? OQ61720
Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn achubiaeth i lawer o bobl ledled Cymru, ac mae’n hanfodol bod y gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Rwy’n falch o allu gweithio ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau bod hyn yn realiti ledled Cymru, gan gynnwys ar Ynys Môn.
Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei hymateb? Mae'n drueni bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ddim wedi sylweddoli bod cwestiwn rhif 1 yn y sesiwn nesaf yn ymwneud ag o, ond dwi'n siŵr bod—
Os caf i dorri ar draws yr Aelod, cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, un felly y gwnaethoch chi ei osod ar yr agenda, felly—
Mae hynny'n hollol iawn, ynglŷn â’i pherthynas hi efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Ac wrth annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yng ngorsaf drenau Llanfairpwll, yn fy etholaeth i, yr unig ffordd o gyrraedd y platfform i ddal trên tuag at Gaergybi ydy mynd dros bont. Mae yna lwybr hir iawn, tywyll ac anaddas ar gyfer cadeiriau olwynion a phramiau ac ati, ond oes gennych chi goets neu gadair olwyn, does yna ddim modd i gyrraedd, yn ymarferol, y platfform yr ochr arall. Yr ateb syml ydy gosod lifft, a dwi yn gwybod bod yna raglen helaeth ar draws Cymru o osod lifts. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i weithio efo’r Gweinidog dros drafnidiaeth i ddod â’r buddsoddiad yna i Lanfairpwll, fel bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau, a hynny yn enw cyfiawnder a thegwch cymdeithasol, yn ogystal â rhesymau ymarferol trafnidiaeth a newid hinsawdd?
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Mae yn fater pwysig iawn, dwi'n meddwl.
Mae'n amlwg fod yn rhaid i ni sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau hygyrch ac ymatebol o ansawdd uchel, nid yn unig i ddiwallu anghenion pobl anabl, ond pawb, o ran mynediad a diogelwch hefyd, yn enwedig gyda'r disgrifiad rydych chi wedi'i roi o sut i gael mynediad i'r orsaf leol.
Mae hyn yn rhywbeth lle mae cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, o ran y rhaglen ledled Cymru, yn enwedig ar gyfer lifftiau hygyrch mewn gorsafoedd a mynediad i orsafoedd. Mae £2 filiwn wedi'i ddyrannu i Gyngor Sir Ynys Môn i fuddsoddi yn eu blaenoriaethau trafnidiaeth lleol, ond yn sicr, mae hyn yn rhywbeth y mae'r fforwm cydraddoldeb anabledd wedi'i godi gyda ni. Drwy ein tasglu hawliau anabledd, maent hefyd wedi cael gweithgor ar deithio, a byddaf yn mynd â hyn yn ôl i weld beth y gellir ei wneud i helpu i ddatblygu'r pwynt mynediad pwysig hwn i bobl leol.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am godi'r mater hwn, sy'n effeithio'n arbennig ar ei etholwyr ar Ynys Môn, ond wrth gwrs, mae problemau ehangach yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus i bobl ag anableddau, oherwydd fe wyddom mai pobl anabl yn aml yw'r rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus fwy nag eraill. Yn wir, nododd adroddiad diweddar gan yr elusen Sense fod 72 y cant o bobl ag anableddau cymhleth yn defnyddio rhyw fath o drafnidiaeth gyhoeddus ar sail ddyddiol. Roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth y DU, yn gynharach eleni, wedi cyhoeddi cefnogaeth helaeth i ddefnyddwyr bysiau anabl, gyda bron i £5 miliwn ar gael i osod a gwella cyhoeddiadau clywadwy a gweledol ar fysiau ledled Prydain. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod sut rydych chi'n sicrhau bod cwmnïau bysiau yng Nghymru yn gwneud y gorau o'r £5 miliwn sydd ar gael, er mwyn sicrhau bod pobl ag anableddau yn gallu defnyddio'r bysiau hynny yn y ffordd orau a mwyaf diogel sy'n bosibl.
Diolch, Sam Rowlands. Mae hynny hefyd yn hanfodol bwysig o ran mynediad i bawb, ond yn enwedig mynediad i bobl anabl. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys mynediad at fysiau a seilwaith bysiau cefnogol. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys rampiau, safleoedd bysiau cyrbiau uwch, palmentydd botymog. Maent yn cymell mynediad go iawn i bobl anabl. Ond hefyd, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod y rheoliadau gwybodaeth hygyrch wedi'u cyflwyno y mis hwn, ac mae'r rheolau newydd hyn yn gwneud darparu gwybodaeth glywadwy a gweladwy yn ofyniad i wasanaethau lleol ledled Prydain, a byddant yn helpu pobl i deithio'n hyderus. Felly, mae'n orfodol i'r rhan fwyaf o wasanaethau bysiau lleol a choetsys ymgorffori'r ddarpariaeth wybodaeth honno, gan wella profiad teithio i bob teithiwr, ond gan gynnwys teithwyr anabl yn arbennig, fel y gofynnwyd yn ei gylch heddiw. Ac wrth gwrs, mae gennym grantiau a chymorth ariannol drwy'r gwaith uwchraddio seilwaith i lwybrau ar rwydwaith TrawsCymru a'r amrywiol grantiau gan Lywodraeth Cymru hefyd. Mae'r cyfan yn rhan o sicrhau bod ein rhaglenni teithio llesol yn ystyried anghenion pobl anabl.
2. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â nifer y rhai sy’n hawlio credyd pensiwn? OQ61684
Diolch am eich cwestiwn, Jenny Rathbone. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi ysgrifennu ataf, yn nodi'r ystod o gamau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn. Rydym yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a rhanddeiliaid allweddol eraill mewn ymdrech gydlynol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arno yng Nghymru.
Wel, mae'n ddefnyddiol gwybod bod yna amrywiaeth o opsiynau. Mae Age Cymru yn dweud, eleni, na fydd bron i naw o bob 10 pensiynwr yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi yn cael taliad tanwydd y gaeaf, ac nad yw rhai ohonynt yn ymwybodol eu bod yn gymwys i gael credyd pensiwn, felly byddant hwy'n colli'r ddau beth wrth gwrs, ac mae'r gwaith ymchwil hwnnw wedi ei ategu gan y sgyrsiau a gefais gydag etholwyr. Mae llawer ohonynt yn gwbl anymwybodol o beth a gânt ac a yw'n cynnwys credyd pensiwn.
Felly, roeddwn yn falch iawn o weld bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi ysgrifennu llythyr at sampl o bron i 2,500 o aelwydydd pensiynwyr y credent y gallent fod yn gymwys i gael credyd pensiwn. Ysgogodd bron i dri o bob 10 i wneud cais am y credyd pensiwn hwnnw. Felly, roeddwn yn gobeithio bod hyn yn yr ystod o opsiynau y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried. Ac a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, i gysylltu'n rhagweithiol â'r bobl sy'n gymwys i gael credyd pensiwn, a lwfans tanwydd y gaeaf felly, er mwyn iddynt wneud cais cyn y dyddiad cau ar 21 Rhagfyr?
Diolch, Jenny Rathbone. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael y wybodaeth hon allan nawr, fel y dywedwch, cyn y dyddiad cau ar 21 Rhagfyr. Pan ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn wreiddiol i ddweud ein bod eisiau ymgysylltu â hwy a'r hyn yr oeddent yn ei wneud, atebodd i ddweud eu bod yn ysgrifennu'n uniongyrchol at 120,000 o aelwydydd ledled y DU. Fe holais ymhellach ynglŷn â hynny: 'Wel, beth y mae hynny'n ei olygu i Gymru?' Mae'n cynnwys 6,600 yng Nghymru sy'n cael y llythyr uniongyrchol hwnnw. Mae'n defnyddio data sy'n bodoli eisoes, ac wrth gwrs mae rhannu data yn ganolog i fynd i'r afael â hyn, i'r rhai sydd â hawl i gredyd pensiwn. Daw'r llythyrau hynny allan yn fuan, a byddwn yn cael gwybod am gynnydd.
Rwyf wedi gofyn am grŵp rhyngweinidogol ar waith a phensiynau, y byddaf i'n ei gadeirio, oherwydd mae'n ymwneud â chytundeb rhynglywodraethol rhyngom ni a'r grŵp rhyngweinidogol. Hefyd, rydym yn gwneud llawer iawn ar ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', Cyngor ar Bopeth, y gronfa gynghori sengl, i chwyddo'r nifer sy'n manteisio ar y budd-daliadau. Mae gennym gredyd pensiwn, mae gennym wybodaeth am fynediad, y posteri credyd pensiwn mewn meddygfeydd, canolfannau brechu, fferyllfeydd, a lleoedd lle mae pobl yn mynd yn rheolaidd, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i bob aelod o'r teulu ofyn y cwestiwn hefyd. Mewn cymhorthfa yn ddiweddar, daeth rhywun i fy ngweld am rywbeth arall, a dywedais, 'A ydych chi wedi gwneud cais am gredyd pensiwn?' Dywedodd, 'O, do, a fy nghymydog, ac rwy'n dweud wrth bawb arall,' felly mae'r gair ar led, sy'n dda, oherwydd mae'n dangos cydnabyddiaeth y dylai fod yn hawl.
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd penderfyniad gwrthnysig Llywodraeth y DU i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf er mwyn mynd i’r afael â thwll du ariannol ffug yn gorfodi llawer o bensiynwyr hŷn ymhellach i mewn i dlodi. Yr unig ymyl arian i bolisi creulon Llafur fydd perswadio degau o filoedd o bensiynwyr i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Yn y pen draw, bydd effaith net hyn yn costio biliynau i Drysorlys y DU yn hytrach nag arbed arian. Yn anffodus, ni fydd hyn yn gwneud llawer i'r rheini ychydig uwchlaw'r trothwy budd-daliadau a fydd yn dal i wynebu dewis rhwng gwresogi a bwyta. Pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i liniaru effaith waethaf ymosodiad Llafur y DU ar bensiynwyr?
Diolch, Altaf Hussain. Rwyf eisoes wedi amlinellu nifer o ffyrdd rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod pobl sy’n gymwys yn manteisio ar y credyd pensiwn er mwyn eu galluogi nid yn unig i fod yn gymwys ar gyfer taliad tanwydd y gaeaf, ond i agor y drws i fudd-daliadau eraill hefyd mewn gwirionedd. Roeddwn yn falch o gyfarfod â Chomisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru ddydd Llun gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Buom yn trafod hyn am beth amser, gan y byddwch yn cofio bod y comisiynydd pobl hŷn blaenorol wedi mynd â'r ymgyrch credyd pensiwn hon—. Heb sôn am fynediad at daliad tanwydd y gaeaf a'r taliad atodol, mae hyn yn rhywbeth lle mae gennym ormod o bobl—pensiynwyr—nad ydynt yn manteisio ar y budd-dal.
A chredaf ei bod yn ddiddorol fod pobl yn ymateb i'r newidiadau yn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer taliadau tanwydd y gaeaf, fel rwyf wedi sôn—fel y soniais yn anecdotaidd. Mae gennym grŵp rhanddeiliaid yn cyfarfod bob pythefnos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae gan y comisiynydd pobl hŷn gysylltiad cryf â phobl hŷn, ac mae'n cyfleu’r neges honno. Mae Age Cymru yn y grŵp hwnnw, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. A gwelwyd cynnydd o 152 y cant mewn hawliadau credyd pensiwn yn yr wyth wythnos o fis Gorffennaf i fis Medi, o gymharu â'r wyth wythnos flaenorol. Felly, credaf ei bod yn wybodaeth wirioneddol bwysig fod yr hawliadau credyd pensiwn hynny'n cynyddu mewn gwirionedd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn ffordd i mewn. Oherwydd hefyd, mae'n ffordd o gael mynediad at gymorth gyda biliau'r dreth gyngor, talu rhent, triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG a thrwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed, felly mae angen inni sicrhau—. A thrwy ein siarter budd-daliadau Cymru, sy'n ceisio helpu i sicrhau un pwynt mynediad at fudd-daliadau, rydym yn gweithio i fwrw ymlaen â hyn, a hefyd wrth gwrs, yn dysgu'r canlyniadau da o astudiaeth achos Policy in Practice yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae data’n dangos, yng Nghymru a Lloegr, fod bron i 3,000 o droseddau cam-drin domestig a thrais rhywiol yn erbyn menywod a merched yn cael eu cofnodi’n ddyddiol, sy'n cyfateb i bron i 20 y cant o’r holl droseddau a gofnodir. Mae trais yn erbyn menywod a merched wedi codi 37 y cant dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n destun pryder, a nawr, bydd o leiaf un o bob 12 menyw yn oroeswr trais domestig neu gam-drin rhywiol, sy’n ystadegyn gwirioneddol erchyll. Ac yn anffodus, mae'r nifer go iawn yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch. Fodd bynnag, er y cynnydd hwn mewn trais yn erbyn menywod a merched, credir bod llai na 24 y cant o'r achosion o gam-drin domestig yn cael eu hadrodd i’r heddlu. Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr amlinellwyd gan ddatganiad plismona cenedlaethol 2024, mae'n amlwg fod angen dybryd a hanfodol i fynd i'r afael â hyn, yn ogystal â'r angen am gamau gweithredu cydgysylltiedig ar unwaith ar draws pob sector i helpu i ddiogelu menywod a merched. Gyda hyn mewn golwg, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac i herio normau ac agweddau sy'n peri i drais yn erbyn menywod a merched barhau? A beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i orfodi dull system gyfan cydlynol a chadarn sy'n cynnwys cydweithredu rhwng asiantaethau statudol, elusennau a'r sector preifat? Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn i Joel James am ei gwestiwn. Neithiwr ddiwethaf, roeddwn yn meddwl pa mor ofnadwy yw graddau a chyffredinrwydd trais domestig—mae'n erchyll. Ac wrth gwrs, mae'n broblem gymdeithasol, sy'n galw am ymateb cymdeithasol. Ac fel y dywedwch, mae'n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, herio agweddau, newid ymddygiad y rheini sy'n ymddwyn yn gamdriniol. I roi sicrwydd i chi, mae gennym ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru, a'r hyn sy'n bwysig am honno yw bod ganddi fwrdd partneriaeth cenedlaethol dan arweiniad gweinidogol—rwy'n ei gyd-gadeirio gyda chomisiynydd yr heddlu a throseddu Emma Wools ar ran plismona yng Nghymru. Oherwydd dyma ble mae'n bwysig fod gan y partneriaid cyfiawnder troseddol rym a dylanwad a chyfrifoldebau, a'u bod yn cysylltu'n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru ar ein hymrwymiadau i gyllid a pholisi cyfiawnder cymdeithasol. Felly, mae gennym y cynllun gweithredu lefel uchel hwnnw, gydag amrywiaeth o ffyrdd o geisio gwella diogelwch menywod, ac mae gennym ffrydiau gwaith yn gweithio ar bob agwedd ar drais a cham-drin domestig. Ac a gaf i gydnabod gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol hefyd ar eu hymchwiliad i ddull iechyd y cyhoedd o atal trais ar sail rhywedd, sydd, wrth gwrs, unwaith eto, yn wirioneddol bwysig o ran yr argymhellion hynny—ein bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn fynd i’r afael â’r materion hyn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Lafur y DU ynghylch rhyddhau carcharorion wedi iddynt fwrw 40 y cant yn unig o’u dedfryd yn bolisi sy’n creu risgiau difrifol, yn enwedig i oroeswyr camdriniaeth, sydd eisoes yn wynebu diffyg cyfathrebu o fewn y system cyfiawnder troseddol. Yn ychwanegol at hynny, credaf fod y polisi hwn yn gosod cynsail peryglus sy’n gogwyddo barn y cyhoedd tuag at y gred fod y DU yn rhy faddeugar tuag at droseddwyr, a fydd, yn ddiamau, yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn rhoi gwybod i'r awdurdodau am droseddau, ac yn y pen draw, yn arwain at fwy o droseddu. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi mynegi cryn bryder am y polisi hwn ar y sail fod rhyddhau carcharorion yn gynnar, ar adeg pan fo Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi eisoes o dan bwysau, yn arwain at y risg y bydd llawer o oroeswyr na fyddant yn cael gwybod pan fydd eu cyn-gamdriniwr o dan ystyriaeth i gael eu rhyddhau. Yn frawychus, cafodd y rhan fwyaf o'r unedau cyflawni ar gyfer y gwasanaeth prawf eu dynodi'n 'annigonol' yn 2023-24, y sgôr isaf posibl, a dim ond tri gwasanaeth oedd yn 'ddigonol' wrth asesu'r risg o niwed difrifol. Mae Cymorth i Fenywod Cymru yn annog y Llywodraeth ymhellach i ailystyried y polisi hwn yn ofalus ac i flaenoriaethu diogelwch a lles goroeswyr. Gallai rhyddhau carcharorion yn gynnar arwain at ganlyniadau dinistriol i oroeswyr trais yn erbyn menywod a merched. Credaf ei bod yn amlwg i bawb fod y polisi hwn yn peryglu diogelwch a llesiant goroeswyr ac yn cynyddu’r ofn yn eu plith y bydd eu cyn-gamdrinwyr yn ôl ar y strydoedd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa bwysau a roddwyd gennych ar Lywodraeth Lafur newydd y DU i wrthdroi ei pholisi? Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am eich cwestiwn. Wrth gwrs, mae cyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, ac mae llawer o’r gwasanaethau sy’n ganolog i'r gwaith o weithredu cyfiawnder oedolion ac ieuenctid, o ran yr ystad ddiogel, gwasanaethau prawf, o ran effaith penderfyniadau a wneir ar lefel cyfiawnder troseddol, wedi'u datganoli i ni mewn gwirionedd. Felly, rydym yn ceisio cymryd cyfrifoldeb, ac yn gweithio'n agos iawn gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Felly, mae cyfarfodydd a gynhaliais gyda’r Gweinidog, yr Arglwydd Timpson, a hefyd, yn fwyaf diweddar, yr wythnos diwethaf, gyda’r Gweinidog Alex Davies-Jones, sy’n gyfrifol nid yn unig am ddioddefwyr, ond trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, wedi tawelu fy meddwl. Felly, cefais fy nghalonogi’n fawr, o ran y cynllun rhyddhau cynnar, fod Alex Davies-Jones wedi cyfarfod â darparwyr y trydydd sector yng Nghymru. Cyn rhyddhau'r garfan gyntaf i gael eu rhyddhau'n gynnar ym mis Medi, cyfarfu â Cymorth i Fenywod Cymru a sefydliadau eraill, ac fe gyfarfûm innau hefyd â’r partneriaid cyfiawnder troseddol, i gael sicrwydd y bydd pob cyfrifoldeb yn cael ei gymryd o ran rhyddhau, a bod cynllun cysylltu ar gael ar gyfer dioddefwyr hefyd. Felly, mae’n rhywbeth lle mae angen inni gydweithio, ac rwyf wedi cael sicrwydd fod pobl, yng Nghymru, wedi’u diogelu, yn enwedig o ran y sefyllfa risg yn sgil rhyddhau cynnar a chamdrinwyr domestig.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cyhoeddi y bydd eiriolwyr cyfreithiol ar gyfer goroeswyr benywaidd trais a cham-drin rhywiol ym mhob un o heddluoedd Cymru a Lloegr er mwyn cynghori goroeswyr o’r eiliad y maent yn rhoi gwybod am ddigwyddiad i'r achos llys. Fodd bynnag, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl eu maniffesto, mae Llafur yn bwriadu ariannu’r eiriolwyr cyfreithiol hyn drwy ailgyfeirio grantiau comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer gwasanaethau dioddefwyr, sy'n golygu y byddant yn mynd â chyllid o un maes sy’n cefnogi goroeswyr trais yn erbyn menywod a merched ac yn ei roi mewn maes arall, heb gynnig unrhyw welliant cyffredinol i’r cymorth y mae goroeswyr yn ei gael. Mae goroeswyr cam-drin domestig a rhywiol yn wynebu heriau di-rif ar bob lefel o’r system gyfiawnder sifil a throseddol, yn fwyaf nodedig lle ceir diffyg ymddiriedaeth wrth roi gwybod i awdurdodau am ddigwyddiadau, a’r oedi y mae goroeswyr yn aml yn ei wynebu wrth aros am yr hyn a all fod yn achos llys trawmatig iawn, gan erydu unrhyw ymddiriedaeth a allai fod ganddynt yn y system ymhellach. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar weithredu argymhellion adroddiad y panel niwed i fynd i’r afael â’r pryderon systemig dwfn ynghylch y modd y mae’r llysoedd yn canfod ac yn ymateb i gam-drin domestig? Diolch.
Wel, diolch am eich cwestiwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod ag Alex Davies-Jones, AS, y Gweinidog dros ddioddefwyr a mynd i’r afael â thrais domestig a thrais yn erbyn menywod. Mae hi yn y Swyddfa Gartref, ac wrth gwrs, mae gennym Jess Phillips yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd. Ac fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, rwy'n gweithio'n agos gyda'r ddau Weinidog hynny yn Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae anghydraddoldeb yn parhau i fod yn her sylweddol sy’n amharu nid yn unig ar botensial unigolion, ond ar lesiant cyffredinol ein gwlad. Amlygodd yr adroddiad diweddaraf ar lesiant Cymru, a gyhoeddwyd ddiwedd y mis diwethaf, anghydraddoldebau sy'n peri cryn bryder ac sy’n parhau i fodoli ac i ddyfnhau o fewn ein cymdeithas. Ynddo, mae’r prif ystadegydd yn adrodd ar y dystiolaeth sy’n dangos bod pobl â phrofiad o amddifadedd yn debygol o wynebu canlyniadau gwaeth. Ar les meddyliol, mae’r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi lledu, ac yn fwyaf syfrdanol o bosibl, mae’r adroddiad yn nodi bod y bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig mewn marwolaethau y gellir eu hosgoi bellach ar ei lefel uchaf ers 2003 ar gyfer dynion, ac ers i'r gyfres o adroddiadau llesiant ddechrau ar gyfer menywod. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi 10 mlynedd ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. A ydych chi'n cytuno â chanfyddiadau’r adroddiad hwn sydd, yn fy marn i, yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn methu bodloni eu saith nod llesiant, ac nad yw’r Ddeddf wedi sicrhau camau gweithredu digonol ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb? A sut y bydd y gwaith pwysig hwn yn cael ei flaenoriaethu yn y gyllideb sydd ar y ffordd?
Diolch am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig, Sioned Williams, gan ei fod yn rhywbeth y credaf y gall pob un ohonom fod yn falch ohono yn y Senedd hon, yn Senedd Cymru, ein bod wedi cyflwyno Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ac wrth gwrs, mae chwe blynedd wedi bod bellach ers cyflwyno'r Ddeddf honno, yr ydym yn ei rhoi ar waith, ac yn gyfrifol am ei rhoi ar waith. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid ichi edrych ar yr adroddiad llesiant a gweld faint sydd angen ei wneud o ran sicrhau bod agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol o ddifrif yn ysgogi gwelliant parhaus ar draws y Llywodraeth, a sut y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio, a sut y maent yn cyflawni'r nodau a'r camau gweithredu hynny. Felly, credaf mai’r hyn sy’n bwysig yw ein bod, gyda’n comisiynydd llesiant cenedlaethau’r dyfodol, yn edrych nawr nid yn unig ar dueddiadau’r dyfodol o ran y gwaith sy’n mynd rhagddo, ond ar sut rydym yn cyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, er enghraifft. Ac mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi hyrwyddo llwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac yn ceisio cydnabyddiaeth fyd-eang i'r hyn rydym yn ceisio ei wneud. Ond yma yng Nghymru, mae angen inni ddangos y gwahaniaeth hwnnw.
Diolch. Mae adroddiad llesiant Cymru yn dangos yn glir i mi fod trechu tlodi yn allweddol er mwyn gwella anghydraddoldebau. Mae adroddiad diweddaraf Trussell, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod nifer y bobl sy’n wynebu llwgu a chaledi—hynny yw, nifer y bobl sy’n debygol o fod angen troi at fanc bwyd nawr ac sydd mewn perygl mawr o fod angen banciau bwyd yn y dyfodol—ar y lefelau uchaf erioed yng Nghymru: 420,000 o bobl a phlant yn y perygl mwyaf, a rhagwelir y bydd 23,000 yn rhagor o bobl ledled Cymru yn wynebu llwgu a chaledi erbyn 2026-27 os na fydd unrhyw beth yn newid. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos nad yw swyddi'n darparu llwybr dibynadwy allan o galedi, gyda’r profiad o fynd heb yr hanfodion yr un mor gyffredin i aelwydydd sydd mewn gwaith ac yn derbyn credyd cynhwysol ag y mae i aelwydydd di-waith sy'n derbyn credyd cynhwysol. Mae’r adroddiad yn dadansoddi amrywiaeth o opsiynau polisi sydd ar gael i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac yn dod i'r casgliad mai un o’r rhai mwyaf effeithiol fyddai dileu’r terfyn dau blentyn a’r cap ar fudd-daliadau. Byddai hyn yn arwain at 25,000 yn llai o bobl mewn perygl o lwgu a chaledi yng Nghymru. Mae hefyd yn argymell efelychu taliad plant yr Alban. Dywed Trussell nad yw'r gronfa cymorth dewisol, er ei bod yn werthfawr mewn argyfwng, yn ddigon i atal teuluoedd rhag mynd heb fwyd. A ydych chi'n cytuno â Trussell fod yn rhaid i Lywodraeth y DU weithredu ar y dystiolaeth o ran ei hopsiynau ar gyfer newid? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i roi diwedd ar yr angen cynyddol am fanciau bwyd yn ein cymunedau?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Wrth gwrs, mae trechu tlodi'n flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, a hynny ar draws y Llywodraeth—mae pob Gweinidog yn integreiddio gweithgarwch er mwyn trechu tlodi a'r ffordd rydym yn cefnogi aelwydydd agored i niwed i liniaru effaith tlodi. Ddydd Llun, siaradais mewn cynhadledd tlodi plant. Un o’r siaradwyr pwysig a glywais oedd y siaradwr a soniodd am y partneriaethau bwyd lleol. Mae Katie Palmer yn rhedeg Synnwyr Bwyd Cymru, yr ydym yn eu hariannu ledled Cymru i geisio ariannu banciau bwyd, ac i fynd i’r afael â—. Ym mhob etholaeth a phob sir, mae cydgysylltydd bwyd yn edrych ar sut yr awn i’r afael â thlodi bwyd, ac yn cysylltu hynny â’r holl gynlluniau sydd wedi’u datblygu drwy’r cwricwlwm gydag ysgolion, gyda thyfu bwyd yn y gymuned, a gweithio gyda ffermwyr hefyd i drechu tlodi bwyd.
Ond wrth gwrs, yr hyn sydd ei angen ar bobl—ac mae'r holl adroddiadau hyn yn glir—yw arian yn eu pocedi. Rwy’n falch iawn fy mod wedi bod yn gwneud gwaith, yn dilyn ein cytundeb cydweithio, a'r gyllideb eleni yn wir, i edrych ar y taliadau plant a wnaed yn yr Alban. Nid oes gennym y pwerau, ond rydym yn edrych ar y profiadau hynny. Ond hefyd, rwy'n sicr fod ein siarter budd-daliadau Cymru yn llwybr i ddarparu'r cyllid a'r cymorth sydd ei angen ar ein plant a'n teuluoedd. Hefyd, y siaradwr arall ddydd Llun a oedd yn bwysig oedd y Cynghorydd Anthony Hunt, a fu'n sôn am y ffyrdd y maent bellach yn sianelu, drwy siarter budd-daliadau Cymru, un llwybr i gael prydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a'r lwfans cynhaliaeth addysg. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod un llwybr i mewn i gael mynediad at yr arian sydd ei angen ar bobl a theuluoedd i drechu tlodi parhaus, sy'n rhywbeth yr hoffem fynd i'r afael ag ef wrth gwrs. Nid yw'r holl bwerau gennym, ond rydym am fynd i’r afael ag ef.
Nid yw'r holl bwerau gennych, ac rwy’n cymryd na fyddwch yn annog y Canghellor i gael gwared ar y cap dau blentyn hwnnw yn y gyllideb sydd i ddod, sy’n siomedig, o ystyried yr holl dystiolaeth yn yr holl adroddiadau hyn.
Yn ôl adroddiad newydd gan Cyngor ar Bopeth Cymru, mae’r galw am gymorth brys wedi cyrraedd lefelau digynsail. O gymharu wyth mis cyntaf 2022 ac wyth mis cyntaf 2024, maent wedi gweld cynnydd o 17 y cant yn nifer y bobl sy'n dod atynt mewn sefyllfaoedd o argyfwng. Dywedodd cynghorydd a ddyfynnwyd yn yr adroddiad eu bod yn arfer gweld 20 o achosion banc bwyd yr wythnos efallai, a bellach maent yn gweld o leiaf 20 y dydd.
Mae’r adroddiadau diweddar hyn gan Trussell a Cyngor ar Bopeth yn amlygu realiti llwm a gofidus anghydraddoldeb a thlodi. Yr hyn sy'n peri pryder gwirioneddol yw bod cyfran sylweddol o'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd mewn cyflogaeth, gan ddangos nad yw cael swydd yn eich amddiffyn rhag caledi heb gymorth nawdd cymdeithasol digonol. Mae hyn yn herio’r rhagdybiaethau a wnaed gan y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf yn uniongyrchol. Nid cyflogaeth yw'r allwedd i leihau tlodi bob amser.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn absenoldeb unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi polisïau lles y Torïaid, sy’n dyfnhau ac yn dwysáu tlodi, a fydd Llywodraeth Cymru, yn unol â’r galwadau a wnaed gan Cyngor ar Bopeth Cymru, yn diogelu cyllid ar gyfer y gronfa cymorth dewisol yn y gyllideb sydd i ddod? Ac a fydd yn chwyddo'r dyraniad ar gyfer y flwyddyn ariannol er mwyn diwallu'r angen cynyddol am gymorth brys?
Diolch am eich cwestiwn. Roeddwn yn falch iawn ein bod yn trafod y cwestiynau hyn ddoe mewn ymateb i adroddiad y comisiynydd plant, ac yn ateb y cwestiynau a ofynnwyd i mi ynglŷn â sut roeddem yn trechu tlodi plant. Credaf mai un o'r pethau pwysig o ran y dystiolaeth yw ei bod yn ymwneud â pholisïau nawdd cymdeithasol sy'n gallu ac sydd yn codi plant a'u teuluoedd allan o dlodi. Yn amlwg, nid yw hynny o fewn ein gallu fel Llywodraeth Cymru, er ein bod yn gwneud yr hyn a allwn o ran ein mynediad at fudd-daliadau. Rwy’n cofio cyfarfod â Sefydliad Bevan yn fy nyddiau cynnar yn y portffolio hwn, ac roeddent yn dweud, 'Pe gallem gael teuluoedd i fanteisio ar y talebau Cychwyn Iach’. Mewn gwirionedd, llwyddodd Lynne Neagle, pan oedd hi yn y rôl, i gael hyfforddiant i ymwelwyr iechyd, ac fe wnaethom gynyddu mynediad at dalebau Cychwyn Iach yn aruthrol—nid cyllid Llywodraeth Cymru, ond cyllid Llywodraeth y DU. Rwy’n falch y byddaf yn cyfarfod â Liz Kendall a Bridget Phillipson yn y ddwy neu dair awr nesaf. Maent yn cyd-gadeirio'r tasglu tlodi plant ar gyfer Llywodraeth y DU, a byddaf yn gallu trafod y materion hyn wedyn. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn gwneud popeth a allaf i ddiogelu’r gronfa cymorth dewisol, i edrych ar ei heffaith eleni o ran y gwariant, a'i diogelu ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lefelau tlodi plant yng Nghymru? OQ61714
Diolch yn fawr. Yng Nghymru, roedd 29 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ar ôl costau tai, yn y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben rhwng 2021 a 2023. Mae'n rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth gyffredin. Byddwn ni’n cymryd rôl arweiniol wrth gydlynu’r camau sydd eu hangen i weithio tuag at ddileu tlodi plant a'i effeithiau yma yng Nghymru.
Diolch am hynny.
Gwn eich bod yn ymwybodol o'r ystadegyn echrydus a ddatgelwyd yn ddiweddar gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fod 10,000 o blant, fel y clywsom, wedi disgyn i dlodi ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan ychydig fisoedd yn ôl yn unig. Mae hynny, wrth gwrs, oherwydd y cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Mae Human Rights Watch wedi ei alw’n greulon. Nid wyf yn ceisio gwneud ichi wingo, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rydych chi newydd ddweud wrthym fod trechu tlodi yn flaenoriaeth allweddol i'ch Llywodraeth. A wnewch chi alw, felly, ar Ganghellor y Trysorlys i gael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn y gyllideb? Oherwydd mae'n gyfrifol am roi dros 100 o blant y dydd mewn tlodi.
Mae hwn yn gwestiwn sy'n amlwg yn gyfredol ac yn amserol iawn ar hyn o bryd. Yn wir, gwn fod y Prif Weinidog wedi ateb y cwestiwn hwn hefyd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gan Lywodraeth y DU dasglu tlodi plant, ac rwyf newydd sôn fy mod yn cyfarfod â dau Ysgrifennydd y Cabinet sydd eu hunain yn cyd-gadeirio’r tasglu hwnnw. Yn amlwg, mae’r rhain yn faterion yr ydym yn eu trafod gyda Llywodraeth y DU, ond credaf mai’r pwynt i ni yma, ac mae'n mynd yn ôl at y cwestiynau gan Sioned Williams, yw’r hyn a wnawn gyda’n partneriaid i gyflawni’r strategaeth tlodi plant yma yng Nghymru.
Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan y ffaith ein bod, yn ein cynhadledd tlodi plant ddydd Llun, wedi trafod effaith y gronfa gynghori sengl, sy’n cyrraedd—. Er enghraifft, yng ngogledd Cymru, mae gan dros 19,000 o bobl fynediad at wasanaethau'r gronfa gynghori sengl, a £5 miliwn o incwm ychwanegol ar ffurf budd-daliadau lles. Fel y gwyddoch, cael arian i bocedi pobl yw'r hyn y mae angen i ni ei wneud. Ond hefyd, rydym wedi sicrhau bod rhywfaint o arian ar gael i sefydliadau i'w helpu i fynd i'r afael â thlodi plant. Bydd o ddiddordeb i chi, yn y gogledd, fod gennym gynllun peilot dull seiliedig ar le Gogledd Cymru Actif. Mae'n ddull datblygu cymunedol. Mae'n ymwneud â chymunedau yng Nghymru, awdurdodau lleol, y trydydd sector—mae pob un ohonynt yn dod atom gyda phrosiectau ac yn dweud, 'A allwch eu hariannu? Rydym yn credu bod hyn yn mynd i helpu i drechu tlodi plant.' Felly, mae gennym y cyfrifoldeb hwnnw yma yng Nghymru i’w helpu i fwrw ymlaen â’r prosiectau hynny.
Fel y crybwyllwyd yn ystod dadl y comisiynydd plant ddoe, mae'n drueni fod Llywodraeth Cymru, yn 2016, wedi diddymu’r targed ar gyfer dileu tlodi plant erbyn 2020. Mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi cynnwys targedau mesuradwy yn y strategaeth tlodi plant yn fwriadol. Nid yw diddymu targedau’n golygu na fydd yr Aelodau’n craffu ar y Llywodraeth a'i methiant i drechu tlodi plant, sydd ar lefel o bron i 30 y cant yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae yma esgeuluso dyletswydd i gyflawni safonau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn bell y tu ôl i lawer o wledydd eraill Ewrop o ran tlodi plant, ac nid yw hyn yn dderbyniol a ninnau'n gwybod y gallwn wneud yn well. Fel cymaint o strategaethau a chynlluniau gweithredu eraill o dan Lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, gwelwyd methiant cyson a siomedig i gyflawni. Ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, nid yw lefelau tlodi plant wedi gostwng mor gyflym ag y dylent, ac felly mae angen syniadau newydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i gyhoeddi datganiad ar lefelau tlodi plant yng Nghymru sy’n ymrwymo i ailgyflwyno targedau mesuradwy ac yn nodi cynllun clir ar gyfer cyflawni? Diolch.
Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn peidio â chynhyrfu a ninnau wedi wynebu 14 mlynedd o gyni ac yn wynebu twll du o £22 biliwn, y mae Llywodraeth newydd y DU yn gorfod ymdrin ag ef nawr. Rwy’n ei chael hi’n anodd—[Torri ar draws.]
Ysgrifennydd y Cabinet, dwy eiliad. Hoffwn glywed yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae lleisiau o bob ochr i’r Siambr nad ydynt yn gadael imi wneud hynny. Gadewch imi glywed yr ymateb.
Hoffwn ddweud yn gryno ac yn dawel: a oedd gennym fanciau bwyd cyn i’r Llywodraeth glymblaid gymryd yr awenau? [Torri ar draws.] Nid oedd gennym unrhyw beth—dim o gymharu â'r tlodi bwyd y mae ein plant a'n pobl ifanc yn ei wynebu heddiw. Felly, oes, mae gennym ffordd bell i fynd o ran gweithio gyda Llywodraeth y DU. Ac onid yw'n dda, onid ydych yn cytuno ei fod yn arwydd da, fy mod i'n cyfarfod â'r Ysgrifenyddion Gwladol dros waith a phensiynau ac addysg y prynhawn yma? Ni fuaswn byth wedi dod yn agos at un o’ch cyn Weinidogion i gael trafodaeth o’r fath am drechu tlodi plant.
4. Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd a wnaed ar y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'? OQ61719
Diolch, John Griffiths. Ers lansio 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ddwy flynedd yn ôl, rydym wedi gosod sylfeini strwythurol sylweddol ar gyfer gwella canlyniadau i bobl ethnig leiafrifol yng Nghymru, gan gynnwys grŵp atebolrwydd allanol, sy'n ein dwyn i gyfrif.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yng Nghasnewydd, rydym yn ffodus fod gennym Age Alive, elusen sy'n gwasanaethu fel rhwydwaith ar gyfer pobl ddu ac ethnig leiafrifol hŷn yn ardal Casnewydd. Eleni, maent yn dathlu eu degfed pen-blwydd. Maent yn trefnu gweithgareddau ar gyfer eu haelodau, gan ganiatáu iddynt wneud ffrindiau a chysylltiadau, a thynnu sylw hefyd at faterion a wynebir gan eu haelodau o ran y rhagfarn a'r gwahaniaethu parhaus sydd, yn anffodus, yn dal i fod gyda ni heddiw. Mae eu cadeirydd, Roy Grant, wedi ysgrifennu llyfr am hanes mewnfudo a chydlyniant cymunedol yng Nghasnewydd, yn enwedig mewn perthynas â chenhedlaeth Windrush a’u heriau a’u profiadau. Mae’r grŵp hwn, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn gwneud llawer iawn o waith da iawn, a thybed a fydd Llywodraeth Cymru—rwy’n siŵr y bydd—yn cydnabod hynny ac yn edrych ar sut y mae’n cefnogi grwpiau fel Age Alive gyda’r gwaith da iawn a wnânt yn y gymuned a'u cynlluniau i wneud mwy eto.
Diolch am dynnu ein sylw at hyn heddiw. Dyma un enghraifft yn unig o lawer ledled Cymru o ffyrdd y mae sefydliadau a grwpiau cymunedol fel Age Alive yng Nghasnewydd yn gweithio mor effeithiol i hyrwyddo amrywiaeth, mynd i’r afael â rhagfarn a gwahaniaethu a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol dros 50 oed yn yr ardal. Hoffwn glywed mwy am eu gwaith. Hoffwn gael golwg ar y llyfr hwnnw hefyd. Ond a gaf i dynnu sylw hefyd at y ffaith fy mod, yn gynharach heddiw, wedi ymweld â ffair iechyd cymunedau ethnig leiafrifol yma yng Nghaerdydd, a bod prosiectau tebyg iawn wedi'u datblygu yng Nghaerdydd hefyd. A ledled Cymru, mae'n ddefnyddiol gweld sut y mae’r trydydd sector, yn enwedig, mae’n rhaid imi ddweud, mentrau fel Age Alive yng Nghasnewydd, yn gwneud gwaith mor aruthrol sydd ar y blaen yn y modd yr awn ati i gyflawni ein ‘Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.
Diolch am eich cwestiwn, John. Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn gadarn yn erbyn hiliaeth a phob math o gasineb a rhagfarn. Nid oes lle i hyn mewn cymdeithas, a dylai fod dim goddefgarwch ar gyfer gwrth-semitiaeth, Islamoffobia a phob math o droseddau casineb.
Mae'r argyfwng cynyddol yn y dwyrain canol wedi arwain at farwolaethau erchyll miloedd o bobl ddiniwed. Mae’r sefyllfa’n drychinebus, ac yn anffodus, mae hefyd yn effeithio ar lawer o bobl yng Nghymru sydd â ffrindiau a pherthnasau yn yr ardal yr effeithir arni. Yn ogystal, mae hyn wedi dwysáu casineb eithafol a hiliaeth echrydus wedi'i gyfeirio at Iddewon a Mwslimiaid yn eu cymunedau yng Nghymru oherwydd eu ffydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio rhoi diwedd ar wahaniaethu droeon dros y 25 mlynedd diwethaf, ond mae Iddewon a Mwslimiaid cyffredin yn parhau i deimlo'n bryderus, yn poeni am eu diogelwch, ac yn anffodus, yn credu mai rhan o fywyd normal yw hyn.
Fy nghwestiwn yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â rhagfarn a meithrin cysylltiadau da rhwng cymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arweinwyr ffydd Iddewig a Mwslimaidd ac elusennau llawr gwlad?
Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig iawn.
Mae mor bwysig, ac rydym ni hefyd yn cydnabod bod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, gan ei bod yn wythnos troseddau casineb Cymru yr wythnos hon. Mewn gwirionedd, siaradais yn rhwydwaith cymorth troseddau casineb Cymru ddoe am y ffaith y gellid dadlau bod 2024 wedi bod flwyddyn wahanol i bob un arall yn y cyfnod diweddar. Gwelsom y terfysgoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael effaith ar bobl yng Nghymru, pobl o wahanol leiafrifoedd ethnig, cefndiroedd—mae Mwslimiaid yn enwedig yn teimlo'n ofnus y byddant yn dod yn dargedau, yn sgil digwyddiadau'r haf, ond hefyd, fel y dywedwch, mae'r gwrthdaro torcalonnus ar draws y dwyrain canol wedi gadael aelodau yng nghymunedau Cymru o wahanol grwpiau'n teimlo'n ofnus iawn, ac yn anffodus, gwelwyd cynnydd yn nifer y troseddau casineb ar sail ffydd a chrefydd.
Felly, fel y dywedais ddoe, mae'n bwysig iawn nad oes lle yng Nghymru i gasineb, a chredaf mai dyma lle gallwn ddod at ein gilydd i fynegi hynny. Gwyddom fod adroddiadau o droseddau casineb wedi'u targedu at gymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru. Y pwynt allweddol yr oeddem yn ei wneud ddoe yng Nghanolfan Cymorth Casineb Cymru yw y dylai pobl annog pobl i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau casineb a gallant gysylltu â'r heddlu neu Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr, ond rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn hwnnw.
5. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl o grwpiau sydd yn draddodiadol wedi eu tangynrychioli, fel y gymuned LHDT+, i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth? OQ61689
Diolch yn fawr, Adam Price. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd llawer o gamau i gefnogi amrywiaeth a sicrhau amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth. Cyfrifoldeb pawb yw cynyddu amrywiaeth, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau democratiaeth fwy amrywiol.
Dros y penwythnos yng nghynhadledd Plaid Cymru, mi oedd yn bleser i mi i fedru anrhydeddu Stuart Neale, sef y person LHDT agored cyntaf i sefyll etholiad yn enw Plaid Cymru nôl yn 1972. Cymerodd hi 29 o flynyddoedd wedi hynny i ni ethol y person LHDT cyntaf ar lefel genedlaethol—sef fi—ac wedi hynny, 23 o flynyddoedd wedi hynny, dal i fod fi ydy'r unig un erioed i gael ei ethol fel dyn hoyw agored ym Mhlaid Cymru, sy’n dangos pa mor bwysig ydy'r gwaith yma.
Nawr, gan fod y Llywodraeth yn edrych ar ganllawiau ar ethol mwy o amrywiaeth o bobl i’r lle yma, a hefyd, o dan y pwerau newydd o dan y Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, i annog a chefnogi grwpiau tangynrychioliedig, a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon cwrdd ag adran Plaid Pride, sy’n cynrychioli’r gymuned LHDT yn fy mhlaid i, ond hefyd yr adrannau eraill, anableddau, BME, adran y merched, ac adrannau cyfatebol o fewn pleidiau eraill, er mwyn sicrhau y gallwn ni gael yr amrywiaeth mwyaf eang i gael ei gynrychioli yn ein democratiaeth ni?
Diolch yn fawr, Adam Price, a diolch yn fawr am gofio Stuart Neale.
Mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu hynny a'ch bod chi wedi rhannu hynny gyda ni heddiw. Er mwyn eich sicrhau chi a'r Aelodau, gyda Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi canllawiau i gefnogi pob plaid wleidyddol i ystyried y camau y gallant eu cymryd i wella amrywiaeth ymgeiswyr yn yr etholiad nesaf, rydym eisoes yn cyfarfod â LHDT+, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i weithio gyda nhw i ddrafftio'r canllawiau. Mae hynny'n cynnwys Pride, mae'n cynnwys Stonewall Cymru, Anabledd Cymru a phawb sy'n cynrychioli grwpiau du a lleiafrifol ethnig hefyd. Mae yna gyfle, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ar draws y Siambr hon yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw. Mewn gwirionedd, rwy'n edrych ymlaen, gyda'r Prif Weinidog, at fynychu'r cawcws i fenywod dan gadeiryddiaeth Joyce Watson, ac a fynychir gan fenywod ar draws y Siambr yr wythnos nesaf i drafod hyn.
6. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i liniaru’r effaith ar drigolion yng Nghonwy a sir Ddinbych yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu taliadau tanwydd y gaeaf? OQ61690
Diolch, Darren Millar. Rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yng Nghonwy a sir Ddinbych, a ledled Cymru, yn hawlio pob £1 y mae ganddynt hawl iddi. Mae ein llinell gymorth 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' Advicelink Cymru yn helpu pensiynwyr i ddarganfod a chael gafael ar gymorth ariannol, gan gynnwys credyd pensiwn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae arnaf ofn nad yw'r ateb hwnnw'n bodloni'r bobl yng Nghonwy a sir Ddinbych rwy'n eu cynrychioli. Mae disgwyl y bydd tua 30,000 o bobl ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol yn cael eu hamddifadu o daliadau tanwydd y gaeaf eleni, ac a dweud y gwir, maent yn siomedig iawn ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hwn, ac mae'n argyfwng i lawer ohonynt a fydd yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Maent yn siomedig. Maent yn teimlo eich bod chi wedi gwneud cam â nhw, Ysgrifennydd y Cabinet, chi'n bersonol, a Llywodraeth y DU. Nid ydych wedi bod yn galw'n ddigon da ar Lywodraeth y DU i wyrdroi effaith y toriadau hyn, nid yw'n ymddangos eich bod yn gallu dod o hyd i arian yn eich cyllidebau eich hun i greu taliad tanwydd Llywodraeth Cymru yn lle'r taliadau sy'n cael eu colli, ond eto mae'n ymddangos bod gennych ddigon o arian ar gyfer pob math o bethau eraill nad oes angen i ni wario arian arnynt. Yn ôl ym mis Awst, fe ddywedoch chi eich hun fod pensiynwyr mewn perygl o gael eu gwthio i dlodi tanwydd gan y toriad, ac fe wyddom fod hynny'n wir. Pam nad ydych chi'n gwneud unrhyw gynnydd ar fynd i'r afael â'r mater hwn a phryd y gallwn ni ddisgwyl i chi fynd i guro ar ddrysau'r Trysorlys i wneud yn siŵr nad yw pensiynwyr yng Nghymru yn wynebu'r toriadau ofnadwy a chreulon hyn y gaeaf hwn?
Wel, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn bwriadu mynd dros yr holl gamau yr ydym eisoes wedi'u cymryd. Rwyf wedi ateb y cwestiwn hwn fwy nag unwaith, ond rwy'n mynd i ychwanegu ychydig mwy o bwyntiau a ffyrdd rydym yn ceisio helpu pobl. Yr un peth allweddol, rwy'n credu, yw'r bartneriaeth unigryw sydd gennym gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd ers mis Mehefin 2022. Ni wnaeth eich Llywodraeth chi, Llywodraeth y DU, gynnal partneriaeth gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd erioed, mae'n rhaid i mi ddweud. Fe wnaethant hynny yn yr Alban, fe wnaethant hynny yng Nghymru, nid yn Lloegr. Mae'r gronfa wres honno yn helpu aelwydydd oddi ar y grid sy'n wynebu argyfwng gyda swmpbrynu tanwydd, ac mae'n bwysig i bobl wybod am y Sefydliad Banc Tanwydd. Mae wedi tyfu rhwydwaith o fwy na 126 o bartneriaid atgyfeirio yng Nghymru, 13 partner sy'n darparu gwasanaethau DU, fel Macmillan a Scope. Mae'n rhoi talebau tanwydd, carthenni trydan ac yn helpu cartrefi i gael help i brynu tanwydd oddi ar y grid. Mae'n fenter Gymreig gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd, ac mewn gwirionedd, daethant i'r gynhadledd tlodi plant ddydd Llun i sôn am y gwaith hwnnw.
Ond hefyd, rwyf wedi cyfarfod â'r holl gyflenwyr ynni yng Nghymru y mis hwn. Rwyf wedi eu hannog i helpu eu cwsmeriaid gyda'u biliau ynni, ac maent oll wedi cofrestru i helpu eu cwsmeriaid ynni. A gadewch inni gofio ei fod yn ymwneud â sut rydym yn buddsoddi £30 miliwn yng nghynllun Nyth Cartrefi Clyd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd rydym ni—yn ogystal â'r holl ymatebion eraill a roddais y prynhawn yma o ran y nifer sy'n manteisio ar y credyd pensiwn i'w galluogi i gael taliad tanwydd y gaeaf—yn helpu pensiynwyr yn eich etholaeth chi ac yng Nghymru, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'ch awdurdod lleol chi'n gweithio'n agos iawn gyda ni, Darren Millar, ac mae awdurdodau lleol yn gefnogol.
7. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau cyfle cyfartal a chydraddoldeb mynediad ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus? OQ61704
Diolch, Peredur Owen Griffiths. Rydym wedi ymrwymo i gysylltu cymunedau ledled Cymru trwy drawsnewid ein rheilffyrdd, darparu rhwydwaith bysiau gwell, trwsio ein ffyrdd a grymuso cymunedau lleol. Bydd hyn yn ein galluogi i adeiladu gwasanaeth trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon i bawb, ym mhob rhan o Gymru.
Diolch am yr ateb yna.
Un peth y credaf y gallwn i gyd gytuno arno yw nad yw'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lle hoffem iddo fod yng Nghymru. I unrhyw un sydd â char, mae hyn yn anghyfleustra os byddai'n well ganddynt deithio ar fws neu reilffordd. Os ydych chi heb gar, am na allwch ei fforddio neu os na allwch chi yrru am resymau iechyd, mae ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus dameidiog yn dod yn fater cydraddoldeb. Er enghraifft, fe wnaeth Age Cymru arolygu pensiynwyr yng Nghymru a chanfod bod 17 y cant o'r ymatebwyr yn ei chael hi'n anodd neu'n anodd iawn teithio o gwmpas. Dywedodd un person fod y gwasanaeth bws yn anfynych ac y byddai'n anodd iawn cyrraedd apwyntiadau meddygol, gwasanaethau a siopau heb gar. Ychwanegodd un arall, 'Hoffem ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae mynediad yn gyfyngedig, oherwydd y toriadau.' Weinidog, a yw'r materion hyn ar eich radar, gyda'ch cyfrifoldeb dros gydraddoldeb a hawliau dynol? Ac a ydych chi'n cytuno bod ein trafnidiaeth gyhoeddus dameidiog yn rhwystr rhag cyflawni cydraddoldeb, yn rhwystr rhag agor cyfleoedd yn y farchnad swyddi neu hamdden, ac yn rhwystr i wrthsefyll ynysu ymhlith grwpiau bregus?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Wrth gwrs, y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth sy'n nodi'r ystod o gamau rydym yn eu cymryd i wella hygyrchedd, dibynadwyedd, diogelwch ac amlder trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n hanfodol fod gennym wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru. Ac mae'n bwysig cydnabod hefyd, yn ne-ddwyrain Cymru, ein bod wedi dyfarnu £54 miliwn mewn cyllid i awdurdodau lleol i'w fuddsoddi yn eu blaenoriaethau trafnidiaeth lleol.
Hoffwn wneud un pwynt—rwy'n profi amynedd y Dirprwy Lywydd. Peidiwch ag anghofio ein bod ni'n cynnal yng Nghymru—. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ein cynllun teithio rhatach, sy'n allweddol i bobl hŷn ac anabl, ac yn galluogi pobl i deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru a theithio am bris gostyngol neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd.
Ac yn olaf, cwestiwn 8. Buffy Williams.
8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant dros weddill tymor y Senedd hon? OQ61708
Diolch, Buffy Williams. Mae strategaeth tlodi plant Cymru yn nodi ein huchelgeisiau hirdymor i fynd i'r afael â thlodi plant ac i liniaru effeithiau gwaethaf tlodi yma yng Nghymru. Mae ein strategaeth yn cynnwys y camau rydym yn eu cymryd ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid, gan wneud y gorau o effaith y dulliau sydd ar gael i ni.
Diolch. Mae tlodi plant yng Nghymru yn frawychus o uchel. Bydd biliau ynni a chyfraddau morgais uwch yn gwaethygu hyn. Mae ymchwil gan Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos bod dros 187,000 o barseli bwyd argyfwng wedi'u dosbarthu yn 2023-24, gydag un o bob 10 parsel yn mynd i fabanod a phlant o dan bedair oed. Mae cysylltiad clir rhwng tlodi ac achosion o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae'r NSPCC yn nodi cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal am nad yw teuluoedd yn gallu darparu bwyd a dillad. Er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant yn effeithiol, rhaid inni gefnogi teuluoedd ac atal argyfwng pellach ar yr un pryd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella ymwybyddiaeth o dlodi mewn ymarfer diogelu plant? Sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r angen brys am gymorth bwyd argyfwng yng Nghymru y gaeaf hwn? A sut y gallwn ni fynd ati'n rhagweithiol i nodi a chefnogi rhieni sy'n wynebu argyfyngau a thlodi, nid yn unig ar adeg o argyfwng ond yn y dyfodol, drwy hyfforddiant, addysg a chyflogaeth?
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Rwyf am ganolbwyntio ar gymorth bwyd argyfwng—mae hyn wedi codi y prynhawn yma yn barod—a chadarnhau, ers 2019, ein bod wedi dyrannu mwy na £22 miliwn i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol. Gwn eich bod yn eu cefnogi'n weithredol yn eich etholaeth, fel y mae llawer ar draws y Siambr hon, ac mae hynny'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi bwyd. Mae hefyd yn ymwneud â darparu mynediad ac chyfeiriadau at wasanaethau eraill a dyrannu refeniw o £1 filiwn a chyfalaf gwerth £1 filiwn i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd. Ond fel y dywedais eisoes, mae'r partneriaethau bwyd traws-sector ym mhob awdurdod lleol yn hanfodol i gael arbenigedd a chefnogaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd lleol, cyrff sector cyhoeddus, y trydydd sector, busnesau, academyddion, ffermwyr lleol, gyda'i gilydd, yn amlasiantaethol. A soniais am Katie Palmer a Synnwyr Bwyd Cymru, yn sôn am effeithiau cadarnhaol hynny. Felly, unwaith eto, yr holl waith ar Dechrau'n Deg, mewnbwn i Teuluoedd yn Gyntaf, y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, mae'r rhain yn bethau lle mae gennym gyfrifoldebau ac rydym yn gwneud ein gorau i'w cyflawni er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf wedi cael cais gan Janet Finch-Saunders i godi pwynt o drefn. Janet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i chi ddyfarnu ar bwynt o drefn. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad cadarn iawn yma, nad oedd banciau bwyd cyn y glymblaid, sy'n golygu'r glymblaid Geidwadol-Lafur—
Y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ie, y Democratiaid Rhyddfrydol. Y pwynt yw bod banciau bwyd wedi eu cyflwyno yn 2000 o dan Lywodraeth Lafur. Mae yno mewn du a gwyn. Gallwch ei gwglo. Yn ystod y cwymp ariannol, fe wnaethant gyflymu mwy. Felly, sut y mae cyflwyno banciau bwyd—
Pwynt o drefn, os gwelwch yn dda, peidiwch â phwyntio at Ysgrifennydd y Cabinet.
—dan Lywodraeth Lafur wedi cael ei wyrdroi yma heddiw?
Iawn. Nid fy lle i yw dyfarnu ar yr atebion a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond rydych chi wedi codi'r pwynt, ac mae wedi'i gofnodi. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn adolygu'r cyfraniad a wnaeth i sicrhau y byddai unrhyw gamau cywiro, os oes eu hangen, yn cael eu gweithredu.
Hoffwn iddi dynnu'r sylw yn ôl.
Rwyf newydd ddyfarnu. Diolch.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Llywydd, ac yn cael ei ofyn gan Alun Davies.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i ddangos cefnogaeth y Senedd i bobl Wcráin? OQ61703
Yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae’r Aelodau wedi defnyddio eu platfform yn aml yn y Siambr hon i dynnu sylw at effaith yr ymosodiad ar bobl Wcráin. Mae gwasanaethau'r Comisiwn wedi cefnogi’r Aelodau i ddangos eu cefnogaeth i Wcráin. Mae baner Wcráin wedi hedfan ar ystâd y Senedd ers 24 Chwefror 2022 fel arwydd o undod parhaus Cymru gydag Wcráin a’i phobl. Rydym hefyd wedi cefnogi llawer o ddigwyddiadau a noddir gan Aelodau i dynnu sylw at effaith barhaus yr argyfwng yn Wcráin.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am yr ymateb hwnnw. Rydym yn byw mewn cyfnod anynad, ond un peth sydd wedi uno Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon yw cefnogaeth i bobl Wcráin. Rydym bellach yn edrych ar dair blynedd o bosibl ers goresgyniad Wcráin. Mae gennym grŵp hollbleidiol yma sydd wedi arloesi wrth weithio i gefnogi pobl Wcráin. Byddaf i a'r Aelod dros Bontypridd, Mick Antoniw, yn Wcráin eto dros hanner tymor, yn darparu cymorth meddygol a chefnogaeth i bobl yno.
Wrth i ni agosáu at dair blynedd, mae'n bwysig ein bod unwaith eto yn edrych ar sut y gallwn ddarparu cefnogaeth i bobl sydd yn llythrennol ar y rheng flaen yn wyneb ymosodiad Putin. Wrth i ni gofio am hil-laddiad Holodomor yn y mis nesaf, bydd yn bwysig dod â'r materion hyn i'r Siambr hon eto, fel y gall y Siambr siarad ar ran pobl Cymru.
Ond hefyd, rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn helpu ac yn cefnogi pobl Cymru i fynegi eu barn eu bod am barhau i gefnogi pobl Wcráin. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn defnyddio ei holl ymdrechion i sicrhau bod llais pobl Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir: ein bod am weld diwedd ar y goresgyniad hwn ac rydym am i bobl Wcráin allu byw mewn heddwch a rhyddid.
Fel Llywydd y Senedd hon, rwy'n cymeradwyo'n llwyr yr holl sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud, ac yn eich canmol chi a Mick Antoniw ac unrhyw un a phawb sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i gefnogi pobl Wcráin wrth iddynt wynebu'r erchyllterau y maent yn eu hwynebu. Weithiau nid yw'n beth mawr i hedfan baner i gefnogi pobl neu achos, ond rwy'n ystyried y ffaith ein bod yn parhau i chwifio baner Wcráin yn falch ar ystad ein Senedd—. Nid oes neb erioed wedi gofyn i mi dynnu'r faner honno. Rwy'n ystyried bod hynny'n dangos yr undod, yn fwy na dim, y gallwn ei ddangos fel Senedd i Senedd Wcráin ac i bobl Wcráin.
Diolch am y sylwadau hynny. Yn dilyn y pwyntiau a wnaed, wrth gwrs, bydd y pedwar cerbyd nesaf, sy'n mynd yr hanner tymor hwn, yn golygu bod cyfanswm o 30 wedi eu darparu ar ran y grŵp trawsbleidiol. Mae yna lun enwog sy'n cylchredeg o filwr Wcreineg—un o'r rhai a laddwyd yn gynnar iawn. Roedd wedi ysgrifennu 'Yma o hyd' ar y bordiau y tu ôl iddo, a chredaf fod hynny'n cynrychioli agwedd llawer o'r bobl yn Wcráin mewn gwirionedd—eu bod yn dal yno ac yn dal i frwydro dros eu hannibyniaeth.
Hoffwn ofyn dau beth mewn perthynas â'r Comisiwn mewn gwirionedd. Mae gennym 8,000 o Wcreiniaid yng Nghymru ers y goresgyniad, a 4,000 ohonynt yn blant, ac mae'r gefnogaeth y maent wedi'i chael wedi bod yn aruthrol o Gymru. Ond mae dau beth sy'n bwysig iawn: un yw coffáu'r Holodomor, y newyn a arweiniodd at 4 miliwn a mwy o bobl yn newynu yn sgil newyn artiffisial Stalin yn y 1930au, y ceir adlais ohono heddiw gyda digwyddiadau yn Wcráin, ac a all y Comisiwn roi cefnogaeth i hynny mewn gwirionedd. A'r ail beth, wrth gwrs, yw fy mod yn meddwl bod yr amser yn briodol nawr, oherwydd y cysylltiadau arbennig rhwng Cymru ac Wcráin, sy'n eithaf unigryw—sefydlu Donetsk, Yuzovka, ar ôl John Hughes; y cysylltiadau gyda Gareth Jones; a hefyd y cysylltiadau diwydiannol—fel y byddai'n briodol nawr, rwy'n credu, i edrych ymlaen, y Pasg nesaf efallai, at ddirprwyaeth seneddol ffurfiol o'r Senedd hon i Wcráin. Rwy'n gwybod y byddai Aelodau Senedd Wcráin y cyfarfûm â hwy yn croesawu hynny'n fawr, a sefydlu cysylltiadau mwy ffurfiol rhwng ein dwy Senedd.
Diolch, Mick, am y cwestiynau a'r materion rydych chi wedi'u codi, a hefyd am eich gwaith yn cefnogi eich mamwlad annwyl, os caf ei galw'n hynny, neu wlad eich cyndadau. Rydych chi wedi dadlau'n gadarn iawn dros achos Wcráin yma yn y Senedd hon ac yng Nghymru. Ac wrth i chi siarad am yr 8,000 o ffoaduriaid o Wcráin sy'n parhau i fyw yng Nghymru, rwy'n dal i gofio un o'r ffoaduriaid hynny'n dod i ganu yn ein digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi yma. Soprano oedd hi. Roedd hi wedi ei lleoli yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog pan ddaeth hi'n ffoadur yma gyntaf, ac fe ganodd yn Gymraeg yn ein Senedd ni ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023, rwy'n credu. Mae hi bellach yn byw yng ngogledd Cymru, wedi symud i ogledd Cymru, ac yn dal i ganu, o'r hyn a welaf ar Facebook, mewn cymunedau yng ngogledd Cymru. Felly, mae'n bwysig i ni gofio bod yr 8,000 a mwy o bobl yn parhau i fyw ymhell o'u cartref, a byddant eisiau dychwelyd—lawer ohonynt, rwy'n siŵr—mor fuan â phosibl yn y dyfodol.
Fe ofynnoch chi ynglŷn â dau fater yn benodol: un ar y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth i gynnal digwyddiad coffáu'r Holodomor yma yn y Senedd. Rwy'n fwy na pharod i'r Comisiwn weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hwyluso hynny. Ar y ddirprwyaeth seneddol i Senedd Wcráin o'n Senedd, clywais gryn dipyn o gefnogaeth ar draws y Siambr i hynny. Hoffwn ofyn i'r grŵp trawsbleidiol, neu sut bynnag yr hoffech chi hwyluso hynny, i feddwl sut y gallai'r ddirprwyaeth seneddol honno weithio. Rydym yn dal i fod yng nghyd-destun cyngor y Swyddfa Dramor i bob un ohonom fel dinasyddion y DU i beidio â theithio i Wcráin, felly mae yna bethau i ni feddwl amdanynt fel Senedd, fel Comisiwn, o ran hwyluso hynny. Ond gadewch inni weld beth sy'n bosibl, a gadewch inni siarad ar draws y pleidiau ynglŷn â sut y gallai hynny ddigwydd, ac a allai ddigwydd y Pasg nesaf.
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau gwaith staff y Comisiwn? OQ61687
Mae amrywiaeth o drefniadau a phatrymau gwaith ar waith ar draws y Comisiwn. Mae trefniadau gwaith yn cynnwys gweithio ar safleoedd y Senedd, gweithio o bell, bod yn bresennol mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru, a gweithio gyda'r nos a gweithio ar benwythnosau. Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac arferion sy'n cefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith, datblygir ein polisïau pobl mewn ymgynghoriad ag undebau llafur a'n rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle. Mae gennym bolisi gweithio hyblyg ac rydym yn darparu amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, ac mae'r enghreifftiau'n cynnwys oriau rhan amser, oriau cywasgedig, gweithio yn ystod y tymor a rhannu swydd. Mae hyn yn galluogi staff i gydbwyso'u cyfrifoldebau tu allan i'r gwaith tra'n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'r Comisiwn.
Diolch, Lywydd. Yn ôl ym mis Mai eleni, roeddwn i'n eistedd yn fy swyddfa yn y Senedd yng Nghaerdydd, yn ddiwyd wrth fy ngwaith yn craffu ar Lywodraeth Cymru, fel y mae pawb ohonom yn ei wneud, pan welais na allwn cael gafael ar unrhyw staff cymorth Comisiwn y Senedd o gwbl. Darganfûm wedyn trwy gais rhyddid gwybodaeth fod 95 y cant o weithlu'r Comisiwn wedi cymryd diwrnod braint, a oedd yn digwydd bod yn syth ar ôl penwythnos gŵyl y banc. Rwy'n derbyn ei bod hi'n doriad ar y Senedd, a bod gan staff hawl i gymryd diwrnodau braint o'u dewis, ond credaf ei fod yn atal gallu'r Aelodau'n fawr rhag gallu cyflawni eu gwaith pan fydd bron bob un o staff y Comisiwn, heb rybudd i ni, i ffwrdd ar yr un diwrnod. Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol fod cymaint o aelodau staff wedi cymryd eu diwrnod braint i gyd ar unwaith? Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod cael cymaint o staff yn absennol ar y tro yn rhwystro gwaith Aelodau'r Senedd yn ddifrifol? Diolch.
Nid wyf yn credu ei fod wedi rhwystro gwaith Aelodau'r Senedd yn ddifrifol. Mae'n ddrwg gennyf os yw'r ffaith na alloch chi ddod o hyd i aelod o staff y Comisiwn ar yr adeg honno ar yr ystad wedi llesteirio eich gwaith yn ddifrifol. Rwy'n tybio bod aelodau o'n staff ar yr ystad hon bob amser, 24 awr y dydd. Ni allaf ateb eich cwestiwn yn fanwl iawn, wrth gwrs, oherwydd nid wyf yn gwybod pa fath o gymorth yr oeddech chi'n chwilio amdano ar y diwrnod dan sylw.
Dyma'r tro cyntaf ers 25 mlynedd i mi glywed y mater hwn yn cael ei godi. Rwy'n amau mai dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd, fod y rhan fwyaf o aelodau staff wedi cymryd gŵyl y banc neu ddiwrnod braint ar yr un pryd. Rwy'n tybio ei fod yn batrwm sydd wedi datblygu yn y sector cyhoeddus dros amser hir iawn. Nid wyf yn ymwybodol ei fod wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Ysgrifennwch ataf os credwch fod hwn yn fater y dylwn ei drafod gyda'n partneriaid undebau llafur a'r rhai sy'n cynrychioli ein staff o ran y ffordd y datblygwn ein gwasanaethau yn y dyfodol. A rhowch wybod i mi hefyd ar y dyddiad penodol hwnnw pa fath o wasanaeth roeddech chi'n chwilio amdano gan staff Comisiwn y Senedd nad oedd ar gael i chi.
Mae cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan Hefin David. Laura Anne Jones.
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amcangyfrif o gostau ehangu Siambr y Senedd i greu lle ar gyfer Aelodau ychwanegol? OQ61693
Mae costau amcangyfrifedig ehangu Siambr y Senedd i ddarparu ar gyfer Aelodau ychwanegol wedi'u cynnwys yng nghyllideb ddrafft y Senedd ar gyfer 2025-26 fel rhan o'r costau cyfalaf sy'n gysylltiedig â diwygio'r Senedd. Rhoddais dystiolaeth bythefnos yn ôl i'r Pwyllgor Cyllid, sesiwn dystiolaeth awr o hyd, ac mae llawer o fanylion yno am y cwestiwn yr ydych chi newydd ei ofyn.
Mae'r costau cyfalaf yn cynnwys addasiadau ffisegol i Siambr y Senedd a Thŷ Hywel, ac rydym yn amcangyfrif eu bod yn £3.874 miliwn ar hyn o bryd. Mae'r costau cyfalaf yn ymwneud â'r addasiadau angenrheidiol i'r Siambr i ddarparu ar gyfer y Senedd ehangach o 96 Aelod a chwblhau addasiadau Tŷ Hywel ar gyfer swyddfeydd Aelodau newydd. Bydd y ddau brosiect yn destun proses dendro gystadleuol i sicrhau gwerth am arian, ond wrth gwrs, bydd datgelu costau amcangyfrifedig manylach cyn caffael yn atal gallu'r Senedd i gael y cynigion sy'n cynnig y gwerth gorau.
Diolch, Gomisiynydd. Mae'n ymddangos bod y costau mwy cyffredinol o ehangu'r Senedd yn cynyddu wrth i heriau newydd godi i Gomisiynwyr y Senedd. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod y costau cyffredinol yn cael eu cadw mor isel â phosibl?
Rwy'n credu efallai eich bod yn cyfeirio at yr asesiad o'r effaith ar adnoddau a oedd yn cyd-fynd â Bil y Senedd dan arweiniad fy nghyfaill Mick Antoniw, sef Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Roedd yr asesiad o'r effaith ar adnoddau yn is na'r amcangyfrif presennol o gostau, ond dim ond o £400,000. Nawr, mewn prosiect sy'n digwydd dros ddwy flynedd, nid yw hwnnw'n wahaniaeth mawr rhwng amcangyfrif a realiti. Y gwahaniaeth oedd bod y costau cyfalaf wedi cynyddu, yn bennaf oherwydd bod ymgynghori wedi digwydd ag Aelodau yn y Siambr hon ac roeddent eisiau math penodol o Siambr. Gallech fod wedi ehangu'r Siambr hon gyda meinciau yn y cefn a gwasgu pawb i mewn, ond nid dyna roedd yr Aelodau ei eisiau. Roedd yr aelodau eisiau Siambr wedi ei chynllunio'n benodol. Felly, mae'r costau cyfalaf wedi codi, ond mae'r costau staffio wedi gostwng o 59 o staff cyfwerth ag amser llawn i 47 o staff cyfwerth ag amser llawn, sef yr arbediad ar y costau cyfalaf a'r rheswm pam y mae'r ffigur o £400,000 yno.
Mae gennym hefyd fecanwaith a elwir yn fframwaith adnoddau tymor canolig, a ddaeth i mewn yn 2022 a chostau dadansoddiadau ar sail dreigl tair blynedd, gyda 71 y cant ohonynt yn gostau staffio, ac sy'n sicrhau ein bod yn gwneud yn union fel yr awgrymwch a gwneud yn siŵr fod yr arbedion hynny'n cael eu canfod yn flynyddol.
Fe'ch clywais yn dweud yno fod yna deimlad na ddylid gwasgu'r Aelodau i feinciau yn y cefn, y dywedoch chi yn eich tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ei fod yn bwysau cyfalaf sy'n codi'r gyllideb. O ystyried yr anesmwythyd ynghylch y cynnydd sylweddol yng nghyllideb y Senedd, a wnaiff y Comisiwn edrych eto ar ddarparu opsiwn ymarferol lleiaf i Siambr y Senedd nad yw'n rhoi desg i bawb? Ni fyddai'n ddelfrydol, rwy'n sylweddoli hynny, ond o ystyried y pwysau ariannol, rwy'n credu y byddai'n briodol ailystyried hynny.
Credaf y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Aelod yn cysylltu â’r grŵp cyfeirio Aelodau sy’n bodoli ar hyn, grŵp y mae Carolyn Thomas yn aelod ohono hefyd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol gwneud y pwynt, ond credaf y byddai angen cefnogaeth fwyafrifol ar draws y Siambr hefyd, ac nid wyf yn credu bod y gefnogaeth fwyafrifol honno yno iddo.
Wedi dweud hynny, os oes ewyllys yn y Siambr i edrych ar y mater, rwy’n siŵr y gellir edrych arno. Ond un peth yr hoffwn eich atgoffa ohono eto yw fy mod, yn fy ymateb i Laura Anne Jones, wedi dweud bod y costau cyfalaf wedi codi, ond mae'r costau staffio wedi lleihau. Felly, mae cydbwysedd yno sy’n dangos nad yw’r cynnydd o £400,000 ers yr asesiad effaith rheoleiddiol o fewn cwmpas yr hyn a allai fod yn annhebygol o dan amgylchiadau o’r fath—mae’n ffigur tebygol.
Felly, rwy'n awyddus i barhau i gael deialog â chi. Gwn fy mod wedi anfon copi o'r sesiwn dystiolaeth atoch, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ddeialog adeiladol rydym wedi'i chael yn fawr—rwy'n gwerthfawrogi hynny o ddifrif. Byddaf yn cyflwyno cyllideb y Senedd yn y Siambr hon ar 20 Tachwedd, rwy'n credu. Rwy’n siŵr y gallwn gael trafodaethau pellach rhwng nawr a hynny, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.
Bydd cwestiynau 4 a 5 yn cael eu hateb gan y Llywydd.
4. Sut y mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru i ymwelwyr ag ystâd y Senedd? OQ61710
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru i'r rhai sy'n ymweld ag ystâd y Senedd. Rydym wedi datblygu taith ymwelwyr yn y Senedd a'r Pierhead sy'n rhoi gwybodaeth am rôl a chyfrifoldebau'r Senedd, hanes datganoli yng Nghymru a hanes Bae Caerdydd. Rydym yn cynnig teithiau dyddiol yn Gymraeg ac yn Saesneg i grwpiau ac unigolion ac maent yn canolbwyntio ar hanes datganoli a rôl a chyfrifoldeb y Senedd a'r Aelodau. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i ddarparu rhaglen newidiol o arddangosfeydd yn y Senedd a'r Pierhead sy'n arddangos cyfrifoldebau'r Senedd a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Diolch am eich ateb. Mae hyn wedi deillio o’r ffaith inni fynd fel pwyllgor i Iwerddon a gweld hanes eu hadeiladau gwych yno a sut y maent yn cysylltu â’r gorffennol.
Deuthum â fy mam ar ymweliad â'r Bae a gofynnais iddi ble yr hoffai ymweld ag ef, a dywedodd, 'Tiger Bay'—rydym ni yma. Credaf fod gan Tiger Bay, yma yng Nghaerdydd, hanes a threftadaeth ddiwylliannol mor gyfoethog. Mae’n gartref i gymuned amlddiwylliannol hynaf Cymru, gyda morwyr a gweithwyr o 50 o wahanol wledydd yn ymgartrefu yma o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Ar un adeg, Caerdydd oedd y doc prysuraf yn y byd ar gyfer allforion, gan anfon 11 miliwn tunnell o lo o'r Cymoedd. Ac mae'n teimlo mor newydd yma.
Felly, gan fod hanes mor drawiadol i'w adrodd gan gartref y Senedd, tybed a allem wella'r arwyddion i ddangos hanes y gorffennol yma, sy'n enfawr, onid yw, yr hanes amlddiwylliannol. Gwrandewais ar bodlediad am glwb Casablanca, a oedd yn swnio'n wych. Rwy'n teimlo mai dyna'r un darn sydd ar goll weithiau yn y Bae. Diolch.
Rwy'n credu bod Tiger Bay wedi newid llawer. Rwy'n cofio trydar un tro yr hoffwn newid cyfeiriad y lle hwn o 'Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd' i 'Senedd Cymru, Tiger Bay, Caerdydd'. Nid wyf wedi llwyddo i wneud hynny, ond Tiger Bay yw sut y mae llawer o bobl yn cofio’r ardal hon a’r cymunedau sy’n byw yma. Mae trafodaeth hir i'w chael ynghylch sut y daeth Tiger Bay yn Fae Caerdydd a pha mor wahanol yw’r gymuned rydym yn rhan ohoni fel Senedd i’r cymunedau lle mae pobl o’n cwmpas yn byw.
Mae'n hanes cymhleth, diddorol ac amrywiol iawn. Rydym yn adrodd rhan o'r stori honno yma. Mae'n debyg nad ydym, fel y gwelodd eich mam, yn adrodd digon o'r stori honno yma. Os hoffai eich mam ein cynghori ar sut y gallwn wella’r ffordd y caiff y stori honno ei hadrodd a beth efallai y dylem ei ddatblygu ymhellach i adlewyrchu’n llawn o ble y mae’r Senedd hon, fel adeilad, wedi dod, nid yn unig ei hanes gwleidyddol ledled Cymru, ond hefyd yng nghanol y gymuned hon rydym yn rhan ohoni bellach, gallwn ystyried mabwysiadu syniadau newydd, a gweithio gyda chymunedau lleol yma hefyd, ar sut yr hoffent adlewyrchu eu hanes a'u sefyllfa bresennol yn adeilad ein Senedd. Felly, diolch am yr her, a byddwn yn rhoi mwy o ystyriaeth i hynny. A diolch i'ch mam hefyd.
5. Pa drafodaethau y mae’r Comisiwn wedi’u cael â’r Bwrdd Taliadau am opsiynau gwahanol ar gyfer llety preswyl i Aelodau o'r Senedd yng Nghaerdydd? OQ61712
Swyddogaeth Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yw darparu lwfansau i'r Aelodau. Y bwrdd taliadau sy'n penderfynu pa gostau llety y gall yr Aelodau eu hawlio o'r lwfans ar gyfer gwariant ar lety preswyl. Mae hwn yn darparu ar gyfer costau llety yng Nghaerdydd ar gyfer Aelodau nad yw eu prif gartref o fewn pellter cymudo rhesymol i'r Senedd. Mae'r bwrdd yn cynnal adolygiadau i lunio’r penderfyniad newydd ar gyfer y seithfed Senedd, yng nghyd-destun diwygio’r Senedd arfaethedig, a bydd yr ymgynghoriad ar wariant llety preswyl yn cychwyn yn ystod y tymor yma. Dwi'n annog yr Aelod, felly, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yna.
Diolch. Mi wnaf i hynny, yn sicr. Yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall, mae yna tua £250,000 o bres y Comisiwn yn cael ei wario ar rent, yn bennaf i landlordiaid preifat. Dros gyfnod y Senedd, mi fydd hwnna'n golygu bod y rhan helaethaf o £1 miliwn o bres cyhoeddus y Comisiwn yn cael ei wario ar landlordiaid preifat mewn rent. Ac wrth gwrs, mi rydyn ni wedi gweld rhenti yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn arbennig felly ym Mae Caerdydd, efo rhenti'n cynyddu'n fwy ym Mae Caerdydd nag yn unrhyw ran arall. Mae hyn yn golygu, felly, bod yna fygythiad cyson i'r Aelodau hynny sydd yn gorfod cael llety o'r fath o gael eu troi allan yn ddi-fai. Felly, oes yna ystyriaeth wedi cael ei rhoi er mwyn datblygu trefn fwy sefydlog o ddarparu llety ar gyfer Aelodau Seneddol? Dwi'n cymryd yr hyn y mae'r Llywydd newydd ei ddweud, bod yna ymgynghoriad, ac mi fyddaf i'n cymryd rhan yn hynny, ond pa ystyriaeth bellach sydd wedi cael ei rhoi dros y blynyddoedd i'r perwyl hwnnw? Diolch.
Ar wahanol adegau, mae yna grybwyll wedi bod i'r ystyriaeth o ddarparu rhyw fath o neuadd breswyl gyhoeddus i Aelodau o'r Senedd yma, yn hytrach na'r patrwm sydd wedi datblygu, sef bod Aelodau'n gyfrifol am ffeindio eu fflatiau eu hunain—yn bennaf gan landlordiaid preifat, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac wedyn yn hawlio yn erbyn y costau hynny. Dwi'n credu y byddai'r bwrdd taliadau'n agored i glywed unrhyw syniadau newydd sydd gan Aelodau ar sut y gellid darparu llety ar gyfer Aelodau sydd yn byw ymhell o adref pan fyddan nhw wrth eu gwaith yma yng Nghaerdydd. Felly, y cyfan a ddywedaf i wrth Aelodau yw, pob un ohonoch chi, wrth i chi ystyried y patrwm ar gyfer gwaith ar gyfer mwy o Aelodau o 2026 ymlaen, gwnewch yn siŵr bod y syniadau sydd gyda chi ar gyfer llety i'r pwrpas hwnnw yn cael eu cynnig i'r bwrdd taliadau. Fe fydd y bwrdd taliadau, fel ni i gyd, yn ymwybodol iawn o fod yn ofalus o gydbwyso'r angen i ddiogelu gwariant cyhoeddus a materion o'r math yma. Ac fe fyddwn ni angen cymryd y penderfyniadau yn sgil hynny, yn ogystal â beth sy'n hwylus i'r Aelodau unigol.
Diolch i'r Llywydd a Hefin David.
Eitem 4 heddiw yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol heddiw, a bydd y cyntaf gan Altaf Hussain.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am faterion llifogydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru? TQ1210
Datganwyd digwyddiad difrifol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar 10 Hydref. Yn dilyn arolwg strwythurol manwl, mae'r bwrdd iechyd yn datblygu'r strategaeth i ailosod y rhan hynaf o'r to ar fyrder. Mae camau wedi'u cymryd ar unwaith i sicrhau diogelwch staff a chleifion.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r newyddion brawychus fod to Ysbyty Tywysoges Cymru mewn cyflwr mor wael fel y gallai’r to ddymchwel yn peri cryn bryder i fy etholwyr. Dyma’r prif ysbyty ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau, ac er nad oes gennym ddealltwriaeth lawn o’r effaith ar gleifion eto, bydd hyn yn tarfu'n sylweddol ar ofal cleifion. Diolch byth, darganfuwyd yr uniadau pydredig cyn i unrhyw beth trychinebus ddigwydd, ond pe na bai’r to wedi gollwng yn ystod y stormydd diweddar, gallai'r stori fod yn wahanol. Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gefnogi’r bwrdd iechyd lleol i liniaru’r effaith a gaiff yr atgyweiriadau ar gleifion yn fy rhanbarth i? A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu ymchwiliad i edrych ar y rhesymau pam na chodwyd y mater hwn yn gynt drwy arolygon rheolaidd o'r adeilad ac i atal y sefyllfa beryglus hon rhag codi mewn ysbytai eraill?
Fel y gŵyr yr Aelod, byrddau iechyd sy’n gyfrifol am weithredu a rheoli eu hystad yn ddiogel, ac mae hyn yn cynnwys nodi risgiau allweddol i ddiogelwch cleifion a staff a chyflwr adeiladau. Mae'r bwrdd iechyd yn edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt i sicrhau y gallant barhau i ddarparu gofal mewn amgylchedd diogel i'r cleifion a'r staff sydd ar y wardiau ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, y rhai y bydd angen gofal arnynt yn y dyfodol. Bydd angen i’r opsiynau y maent yn eu hystyried gynnwys defnyddio ystad gyfan y bwrdd iechyd, i sicrhau bod ganddynt gapasiti i ddiwallu holl anghenion eu cleifion.
Holodd yr Aelod yn benodol ynglŷn â thrafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, a gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo wybod bod fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â’r byrddau iechyd yn gyffredinol ynglŷn ag ôl-groniad gwaith cynnal a chadw, sydd, oherwydd oedran yr ystad, yn parhau i fod yn her.
Mae trigolion yn fy etholaeth ranbarthol, Canol De Cymru, os ydynt yn byw yng ngorllewin y Fro, yn defnyddio Ysbyty Tywysoges Cymru ar gyfer y rhan fwyaf o’u hatgyfeiriadau. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: pryd y daeth y Llywodraeth yn ymwybodol o hyn? Oherwydd gyda’r arolygon concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth a gynhaliwyd o bob adeilad cyhoeddus tua dwy flynedd yn ôl, yr hyn rwy'n ei ddeall yw y byddai rhywun wedi meddwl y gellid bod wedi rhagweld y math hwn o wendid trychinebus yn nhrawstiau’r ysbyty, neu ryw arwydd o rybudd wedi'i roi, oherwydd, heb os, mae hyn yn mynd i gael effaith aruthrol ar wasanaethau yn ardal Ysbyty Tywysoges Cymru.
A allech chi ateb pryd y cafodd Llywodraeth Cymru wybod am hyn, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau ar gyfer defnyddio rhannau eraill o ystad bwrdd Cwm Taf i fod ar gael i gleifion a chlinigwyr? Oherwydd rwy'n eithaf sicr fod ariannu trefniadau amgen o'r fath mewn modd amserol y tu hwnt i fodd arferol y bwrdd iechyd.
Rhoddwyd gwybod i’r bwrdd iechyd am ganlyniadau’r arolwg ychydig cyn i’r digwyddiad gael ei ddatgan ar 10 Hydref, ac mae fy swyddogion wrthi’n trafod, drwy dîm cyfalaf Llywodraeth Cymru. Maent mewn cysylltiad llawn â chydweithwyr yn y bwrdd iechyd i sicrhau bod unrhyw geisiadau cyfalaf pellach yn cael eu trafod ar sail barhaus.
Diolch am eich cwestiwn, Altaf, ac mae’n gwestiwn rhagorol. Wrth gwrs, mae'r digwyddiad hwn hefyd yn enghraifft o gyflwr dirywiol ystad y GIG yn fwy cyffredinol. O dan wyliadwriaeth Llywodraeth Cymru, mae'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw risg uchel yn unig wedi cyrraedd £0.25 biliwn, i fyny o £32 miliwn yn 2016. Mae'n feirniadaeth hallt o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn esgeuluso sylfeini ein system iechyd. Yn frawychus, mae cynlluniau gwariant Llywodraeth Lafur y DU yn awgrymu gwasgfa bellach ar adnoddau, ar adeg pan fo’r GIG yn llythrennol yn dadfeilio o flaen ein llygaid—
Mabon, a gaf i ofyn ichi ganolbwyntio ar y cwestiwn amserol ar Ysbyty Tywysoges Cymru, os gwelwch yn dda?
Wel, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â mater ehangach diogelwch ystad yr ysbyty ac ystad y GIG, sy'n berthnasol i'r cwestiwn a godwyd gan Altaf. Felly, gan feddwl am Ysbyty Tywysoges Cymru yn ogystal, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at Rachel Reeves i fynnu bod datganiad yr hydref yn cynnwys cynnydd mewn termau real yng nghyllideb cyfalaf Cymru dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod, fel y gall ef a’r Llywodraeth fynd i'r afael â phroblemau yn yr ysbyty hwn, a'r ystad yn fwy cyffredinol?
Fe wnaf ateb y cwestiwn mewn perthynas ag Ysbyty Tywysoges Cymru yn benodol, gan mai dyna natur y cwestiwn y mae Aelodau wedi’i osod ar lawr y Siambr. Yr hyn a welsom yw effaith degawd a mwy o gyni yn San Steffan, ac o ystyried y ffordd y cawn ein hariannu, mae hynny wedi cael effaith ar adeiladwaith ystad y GIG ym mhob rhan o’r DU, mewn perthynas â chynnal a chadw'r ystad—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, ni allaf glywed yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ofyn i mi o'r fainc flaen.
Ni ddylai arweinydd yr wrthblaid fod yn gwneud unrhyw sylwadau o'i sedd; rwy'n siŵr ei fod yn caniatáu ichi barhau â'ch ateb.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y difrod i do Ysbyty Tywysoges Cymru, yn anffodus, yw’r enghraifft ddiweddaraf o hynny. Mae ein cyllideb gyfalaf eleni hyd at oddeutu 8 y cant yn llai mewn termau real na’r disgwyl ar adeg yr adolygiad o wariant yn 2021. Hoffwn ddweud, serch hynny, fod byrddau iechyd yn cael dyraniad cyfalaf disgresiynol bob blwyddyn i gefnogi risgiau allweddol, a neilltuwyd cyllid cyfalaf penodedig o £24 miliwn ar gyfer gwaith seilwaith hefyd, sydd wedi bod ar gael dros y ddwy flynedd diwethaf, i gefnogi risgiau penodol ar draws ystad y GIG. Ond bydd yr Aelodau yma'n deall bod y GIG, ym mhob rhan o’r DU, wedi bod o dan bwysau anhygoel o ran buddsoddiad cyfalaf.
Mae dau gyd-Aelod bellach wedi gofyn i chi pryd y daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol gyntaf, ac yn yr ail ateb, clywais mai dim ond chwe diwrnod yn ôl, ar 10 Hydref, y daeth yn ymwybodol fod problem yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Rwyf wedi siarad y bore yma â staff sy’n gweithio ac wedi gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a dyma rai o’r straeon y maent wedi'u hadrodd wrthyf: y llynedd, roedd dŵr yn gollwng yn un o’r baeau, roedd yn rhaid symud cleifion, fel eu bod yn agosach at ei gilydd; nid oedd modd troi cyfrifiaduron ymlaen un diwrnod am fod y to'n gollwng; roedd cleifion yn cael eu symud yn aml; a chodwyd pryderon hyd yn oed am y ward anadlol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, lle byddai dŵr yn gollwng, fel y gallwch ddychmygu, yn cael effaith ddifrifol ar les y cleifion yn y ward honno. Os yw hynny’n wir, mai dim ond chwe diwrnod yn ôl y daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o hyn, credaf fod hynny'n awgrymu cryn dipyn o esgeulustod ar ran Llywodraeth Lafur Cymru o ran gofalu am ystad Ysbyty Tywysoges Cymru. Felly, a allwch chi egluro ar gyfer y cofnod nad oedd gennych unrhyw bryderon am ystad Ysbyty Tywysoges Cymru cyn 10 Hydref?
Fel yr eglurais yn fy ateb i’r cwestiwn blaenorol, cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw cyflwr yr ystad y maent yn ei rheoli. Rydym yn darparu cyllid cyfalaf i’r byrddau iechyd allu mynd i’r afael â phryderon allweddol wrth iddynt godi. Cadarnheais hefyd fod y datganiad wedi’i wneud gan y bwrdd iechyd ar 10 Hydref mewn perthynas â’r digwyddiad penodol sy’n effeithio ar do Ysbyty Tywysoges Cymru, a chafodd swyddogion Llywodraeth Cymru wybod am y sefyllfa benodol yn y dyddiau cyn hynny.
Wrth gwrs, mae'r newyddion hwn yn beri cryn bryder, a chredaf ei bod yn bwysig inni gydnabod y straen y mae hyn wedi’i achosi i staff a diolch iddynt am eu proffesiynoldeb wrth ymdrin â’r sefyllfa. Rydym bellach mewn sefyllfa lle na ellir ymdrin â thrawma mawr yn yr adran achosion brys, ac mae llawer o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r cymunedau cyfagos wedi codi hyn gyda mi, naill ai ar garreg y drws neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â fy swyddfa. Y prif gwestiwn a ofynnir i mi yw, 'Am ba hyd y bydd yn rhaid inni aros i hyn gael ei unioni?' Felly, roeddwn am ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch amserlenni tebygol y gwaith adfer heddiw. Rwy’n sylweddoli efallai nad oes gan Ysgrifennydd y Cabinet y manylion hynny wrth law ar hyn o bryd, ond y prif reswm dros ofyn am yr amserlen honno yw fel y gallwn ni, fel Aelodau, ddweud wrth ein hetholwyr felly pa mor hir y mae hyn yn mynd i gymryd a pha mor hir y bydd angen iddynt aros i'r adran achosion brys gael ei hadfer i'r cyflwr y dylai fod ynddo.
Diolch i Luke Fletcher, ac yn sicr, rwy'n cymeradwyo'r pwyntiau a wnaeth ynglŷn â diolch i’r staff am weithio dan yr amgylchiadau anodd hyn nad oeddent yn gyfrifol amdanynt. Mae hynny’n amlwg yn mynd i fod yn anhygoel o heriol. A diolch hefyd i staff y bwrdd iechyd, yn fwy cyffredinol, am wneud y trefniadau sydd mor hanfodol i ymateb i'r her newydd hon. Nid oes amserlen gennyf eto, mae arnaf ofn, gan fod y gwaith hwnnw'n dal i fod ar y gweill, ond rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd ar gael.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y cwestiwn amserol nesaf gan Peter Fox.
2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau ynghylch diffyg o £540 miliwn yn y gyllideb sy'n wynebu cynghorau a'u gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol, gan arwain at lawer o gynghorau yn wynebu methdaliad? TQ1215
Diolch, Peter. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau y maent yn ei wynebu. Mae gweinidogion yn cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr yn unigol a thrwy grwpiau perthnasol. Byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr yn unigol dros y misoedd nesaf, gyda’r is-grŵp cyllid ar 22 Hydref, a chyda’r cyngor partneriaeth ar 25 Tachwedd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rydym eisoes wedi trafod y pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu eleni. Fodd bynnag, credaf fod y datganiad a gyhoeddwyd ddoe gan CLlLC yn dangos difrifoldeb y sefyllfa hyd yn oed yn gliriach, lle mae'r teulu llywodraeth leol yn wynebu pwysau rhyfeddol o £540 miliwn. Mae hwnnw’n swm digynsail. Rydym eisoes wedi clywed gan ddau awdurdod lleol sy’n pryderu eu bod yn wynebu methdaliad, a gallai fod mwy i ddilyn. Gwn fod llawer ohonynt ar ymyl y dibyn, yn wynebu sefyllfaoedd tebyg, ac ni allwn barhau i anwybyddu’r sefyllfa. Mae'n real iawn, ac mae'n tyfu.
Sylwaf, mewn dyfyniad gan Lywodraeth y DU ddoe, iddynt ddweud eu bod wedi ymrwymo i weithio gyda chi i sicrhau’r cyllid gorau posibl ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, os bydd yr hyn rydym wedi’i glywed hefyd—y cynnydd mewn yswiriant gwladol i gyflogwyr—yn digwydd, gadewch inni gydnabod bod oddeutu 140,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn llywodraeth leol yn unig. Gallwch weld sut y bydd y pwysau ychwanegol yn rhoi beichiau ychwanegol ar ben y £540 miliwn fel y mae.
Gwyddom fod gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd rhwng 329,000, ac os ydych chi'n cynnwys contractwyr preifat a fyddai’n gweithio gydag awdurdodau lleol, mae’n debycach i 480,000. Ar y ffigur is, fe wyddom y byddai hyd yn oed cynnydd o 1 y cant i yswiriant gwladol i gyflogwyr yn cynyddu’r bil i awdurdodau lleol i oddeutu £100 miliwn. Pe bai'n mynd i 2 y cant, rydych chi'n sôn am £200 miliwn. Mae hwnnw’n faich ychwanegol. Yn y pen draw, mae cynghorau, fel y gwyddom, yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i bobl Cymru, a bydd pwysau ariannol yn gorfodi cynghorau i drosglwyddo'r costau i lawr i deuluoedd sy’n gweithio na allant fforddio eu talu mwyach.
Felly, i helpu i liniaru'r pwysau hwn a phwysau yn y dyfodol, a ydych chi'n ystyried unrhyw fecanweithiau ariannu i atal mwy o gynghorau rhag wynebu methdaliad, neu'r posibilrwydd o fethdaliad, pethau fel cyllid gwaelodol mewn setliadau ariannu? Rwy'n ymwybodol fod yn rhaid bod yna bethau rydych chi'n meddwl amdanynt nawr, cyn y gyllideb, gan gydnabod y twll enfawr sy'n agor a'r perygl o fwy o bwysau i ddod yn sgil y gyllideb ar y degfed ar hugain.
Diolch, Peter. Diolch am eich cwestiwn. Yn gyntaf oll, hoffwn gofnodi fy niolch unwaith eto i'r gweithlu, sy'n gwneud llawer iawn o waith o fewn yr awdurdodau lleol, ac sy'n gweithio'n galed bob dydd i ddarparu gwasanaethau y mae pob un ohonom yn eu gwerthfawrogi. Rwy’n cydnabod yr her y mae cynghorau yn ei hwynebu. Gallaf roi sicrwydd i chi nad wyf yn anwybyddu’r sefyllfa.
Rwy'n croesawu'r cyfle cynnar i ymgysylltu â CLlLC a chynghorau ar gynllunio’r gyllideb. Bydd CLlLC yn darparu papur ar gyfer yr is-grŵp cyllid yn y cyfarfod hwnnw y soniais amdano ar 22 Hydref, yn amlinellu’r heriau ariannol a'r heriau gwasanaeth sy’n wynebu cynghorau Cymru. Mae hyn yn rhan allweddol o'r gwaith o ddatblygu cyllideb Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg hefyd yn rhan o'r drafodaeth honno.
Heddiw, rwyf wedi bod allan, fel y bûm yn ei wneud yn ddiweddar, yn siarad ag arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol— fe gyfarfûm â Phowys heddiw—ac wedi clywed yn uniongyrchol ganddynt. Mae hynny'n rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig yn fy marn i, gwrando a chlywed yn uniongyrchol am yr heriau y maent yn eu hwynebu.
Mae cynghorau'n cydbwyso gwasanaethau allweddol megis gofal cymdeithasol ac addysg â meysydd eraill fel yr economi a diwylliant, ac maent yn wynebu galw cynyddol gan yr ystod honno o wasanaethau. Gwyddom y byddant yn cynllunio ar sail ystod o senarios cyllidebol, a bydd y rhain yn cael eu diweddaru wrth iddynt hwy a ninnau gael mwy o eglurder gan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, rydym yn cael y trafodaethau hynny gydag awdurdodau lleol, a CLlLC hefyd, a chredaf fod gweithio gyda'n gilydd yn wirioneddol bwysig, ynghyd â chael y sgyrsiau hynny a sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru.
Yn 2018, cyhoeddodd Cyngor Sir Swydd Northampton hysbysiad adran 114. Ers hynny, mae Slough, Croydon, Thurrock, Woking, dinas Birmingham a dinas Nottingham wedi cyhoeddi hysbysiadau. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llawer o awdurdodau lleol eraill wedi adrodd y gallent gael eu gorfodi i wneud yr un peth cyn bo hir. Yn amlwg, nid yw maint yn unrhyw amddiffyniad, gyda Birmingham, y cyngor mwyaf yn Ewrop, ar y rhestr hon. Mae cynghorau Llafur a Cheidwadol ar y rhestr. Nid ydym wedi cael cyngor yn wynebu methdaliad yng Nghymru oherwydd setliadau gwell yn ogystal â rheolaeth wleidyddol dda a rheolaeth adrannol dda, ond ni all hynny barhau am byth. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod arnom angen setliad i gynghorau ar gyfer y flwyddyn nesaf sy'n sicrhau na fydd unrhyw gyngor yng Nghymru yn wynebu methdaliad?
Diolch, Mike. Fel y dywedais, rwy’n llwyr gydnabod yr her y mae cynghorau wedi bod yn ei hwynebu dros nifer o flynyddoedd. Er gwaethaf y lefel o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei roi dros y blynyddoedd hynny, rydym wedi bod drwy gyfnod hir iawn o gyni yn y sector cyhoeddus, gyda galwadau cynyddol ar wasanaethau mawr, ynghyd â’r pandemig a chyfnod o chwyddiant anarferol. Felly, cafwyd heriau enfawr yma ond hefyd, fel y sonioch chi, heriau enfawr yn Lloegr hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth a glywais yn fy nhrafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol Cymru dros y misoedd diwethaf.
Rydych chi'n llygad eich lle, Mike—ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau adran 114 na hysbysiadau methdaliad yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n galed ac nid ydym yn cymryd hynny'n ganiataol, ac fe glywsom am, ac rydych chi wedi rhestru, rhai o'r awdurdodau lleol yn Lloegr sydd wedi gorfod cymryd y camau difrifol hynny. Mae cyhoeddi hysbysiad 114 yn gam difrifol y gwn na fyddai unrhyw gyngor yng Nghymru yn dymuno ei gymryd. Ei effaith fyddai rhewi gwariant newydd hyd nes bod y cyngor yn cytuno ar gynllun ariannol newydd i fantoli ei gyfrifon. Os oes angen, mae gennyf bwerau i ymyrryd, ond wrth gwrs, ni fyddai hwnnw'n gam y buaswn yn ei gymryd ar chwarae bach.
Yng Nghymru, ar y cyd ag awdurdodau lleol—sy’n wirioneddol bwysig—rydym yn datblygu protocol i’w ddefnyddio lle ceir her ariannol sylweddol. Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yr is-grŵp cyllid yn cytuno ar y protocol hwn. Bydd y protocol yn nodi ystod o opsiynau posibl ar gyfer cymorth. Ni fydd yn cynnwys mynediad ychwanegol at gyllid ychwanegol, ond yn hytrach, camau anariannol a thechnegol, gan gynnwys, lle bo’n briodol, cyfarwyddiadau cyfalafu. Felly, er enghraifft, gallai cyfarwyddyd ganiatáu'r defnydd o dderbyniadau cyfalaf neu fenthyca at ddibenion refeniw, ac mae hyn yn gyson â’r cymorth sydd ar gael yn Lloegr.
Diolch i Peter Fox am y cwestiwn yma.
Rydym wedi clywed gan nifer o gynghorau eu bod yn mynd i orfod gwneud toriadau pellach i nifer o'u gwasanaethau nad oes dyletswydd gyfreithiol arnynt i'w darparu. Er enghraifft, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn bwriadu tynnu cyllid yn ôl o rywfaint o gludiant i'r ysgol, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori ar yr un peth, heb sôn am doriadau enfawr i lyfrgelloedd. Bydd toriadau fel hyn yn cael effaith anghymesur ar y bobl fwyaf bregus eisoes yng Nghymru, sydd wedi bod yn wynebu argyfwng costau byw digynsail yn barod.
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a fydd yn colli gwasanaethau o ganlyniad i doriadau i gyllidebau llywodraeth leol, a pha drafodaethau y mae’r Llywodraeth hon wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gyllideb sydd ar y ffordd yn cynnwys cyllid canlyniadol sy’n darparu cyllid teg ar gyfer ein cynghorau sy’n ei chael hi’n anodd? Pa mor obeithiol ydych chi y gellir osgoi trychineb?
Diolch, Peredur. Fe ddywedaf fod ein sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn hynod heriol, a gwyddom ein bod yn wynebu penderfyniadau anodd wrth inni baratoi ar gyfer cyllideb 2025-26 yn y Senedd. Bydd gennym setliad cadarn hyd at 2025-26 a gwell syniad am lwybr tebygol cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod ar ôl datganiad Llywodraeth y DU ar 30 Hydref.
Fel rydym wedi'i wneud mewn cyllidebau drafft blaenorol, byddwn yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen i'r graddau mwyaf posibl, ac yn parhau i dargedu cymorth at y bobl sydd â’r angen mwyaf. Ni fyddwn yn gallu gwneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud, felly mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn y meysydd a all gael yr effaith fwyaf, yn enwedig os nad oes cyllid ychwanegol ar gael. A chredaf ei bod yn bwysig nodi mai dull partneriaeth yw ein perthynas â llywodraeth leol, ac y byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol drwy’r cyfnod anodd hwn, fel y gwnaethom dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiadau 90 eiliad, ac mae'r un cyntaf gan Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn dynnu sylw at fenter sy’n cael ei hyrwyddo gan Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James, sy'n darparu pecynnau rheoli gwaedu critigol. Y prif nod yw rhoi pecynnau rheoli gwaedu hygyrch, sy'n hynod effeithiol ac yn hawdd eu defnyddio, mewn lleoliadau cyhoeddus. Heb os, bydd hyn yn achub bywydau, gan ddarparu cymorth achub bywyd ar unwaith cyn y gall y gwasanaethau brys gyrraedd.
Er bod pobl yn aml yn cysylltu pecynnau rheoli gwaedu â throseddau cyllyll, mae nifer o achosion eraill lle mae'r pecynnau hyn wedi'u defnyddio i reoli gwaedu trychinebus oherwydd damweiniau, gan gynnwys gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, a brathiadau gan gŵn. Mae’r cynllun wedi mabwysiadu pecyn Sefydliad Daniel Baird, a ddarparwyd ar draws Lloegr a thiriogaethau Prydain. Mae cyfraith Martyn yn gwneud cynnydd, wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi ei deddfwriaeth ddrafft yn amlinellu gofynion ar gyfer lleoliadau a sefydliadau eraill i sicrhau diogelwch y cyhoedd, gan gynnwys darparu pecynnau rheoli gwaedu.
Mae cyfraith Cody, sydd ar y cam deisebu ar hyn o bryd, hefyd yn galw ar bob lleoliad cyhoeddus i gael pecynnau rheoli gwaedu. Mae'r pecyn yn cynnwys offer gradd milwrol, fel lliain rhwyllog Foxseal Celox, rhwymynnau tynhau Code Red, dresinau trawma mawr, siswrn brys, menyg, ffoil, blancedi, amddiffynwyr wyneb a phen marcio. Mae gan y pecyn ddyddiad dod i ben o bum mlynedd, a gellir cael eitemau newydd yn lle'r rhai sydd ynddo ar unrhyw adeg os oes angen. Mae fideo hyfforddi ar gael ac yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. Y nod yw gosod y pecynnau hyn yn y blychau diffibrilwyr sy'n bodoli'n barod mewn mannau cyhoeddus, megis ysgolion, siopau a lleoliadau chwaraeon. Cefnogir y fenter gan wasanaeth ambiwlans Cymru, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac eraill. Mae cefnogaeth Heartbeat Trust UK yn darparu arbenigedd ac adnoddau hynod werthfawr, gan atgyfnerthu gallu'r prosiect i gael effaith sylweddol. Bydd darparu’r pecynnau rheoli gwaedu critigol, a’r hyfforddiant cysylltiedig, yn grymuso dinasyddion, yn cynyddu cadernid cymunedol ac yn eu helpu i gyfrannu at amgylchedd mwy diogel i bawb yng ngorllewin Morgannwg.
Dros y penwythnos a fu, bu bwrlwm ym Mhontypridd a Threfforest wrth i ŵyl gymunedol newydd sbon ddathlu bywyd a gwaddol y gantores a’r gyfansoddwraig Morfydd Owen. I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â hanes Morfydd, fe’i ganed yn Nhrefforest ar 1 Hydref 1891, a bu farw ychydig wythnosau cyn ei phen-blwydd yn 27 oed, ar 7 Medi 1918. O oed ifanc, roedd yn amlwg bod ganddi dalent cerddorol aruthrol. Astudiodd gerddoriaeth yng Nghaerdydd ac yna yn Academi Gerdd Frenhinol Llundain, lle enillodd wobrau llu am ei gwaith. Fe gyfansoddodd rhyw 180 o ddarnau gwahanol o gerddoriaeth yn ystod ei hoes, a byddwn yn eich annog i ddarllen bywgraffiad Rhian Davies ohoni i ganfod mwy, gan na allaf i wneud cyfiawnder â hi heddiw.
Mae’n amlwg o’r ymateb fu i’w marwolaeth fod galaru mawr amdani gan y rhai oedd wedi eu cyfareddu gan ei thalent, gyda golygydd Y Cerddor ar y pryd, Dr David Evans, yn ysgrifennu:
'Ni chafodd cerddoriaeth Gymreig ergyd trymach yn ei hanes na cholli’r eneth ddisglair ac annwyl hon mor ieuanc.'
Dyna pam bod yr ŵyl wedi bod mor bwysig o ran codi ymwybyddiaeth o Morfydd a defnyddio ei stori i ysgogi y gymuned leol heddiw. Cafwyd rhaglen lawn a phrysur dros amryw o leoliadau, gan ddod â phobl o bob oed ynghyd a llu o sefydliadau gwahanol. Mi fues i'n ddigon lwcus i fynychu’r digwyddiad wnaeth gloi'r ŵyl, yn Parc Arts yn Nhrefforest, hen gapel Morfydd, a chlywed perfformiadau gwefreiddiol Bethan Nia a Jess Morgan, o waith newydd ganddynt wedi ei ysbrydoli gan Morfydd.
Dyma ŵyl wedi ei chreu gan y gymuned i’r gymuned, a mawr obeithiaf y bydd yn parhau i’r dyfodol, gan sicrhau gwaddol barhaus i fywyd a gwaith Morfydd. Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o'r trefnu.
'Bore da, Maggie Mathias', geiriau anfarwol a glywyd mewn ystafelloedd byw ledled Cymru a thu hwnt am 7.10 p.m. ar 16 Hydref 1974. Ie, dyma ddechrau'r gyfres eiconig honno Pobol y Cwm, sy’n dathlu 50 mlynedd o’i darlledu heddiw; y gyfres opera hiraf a gynhyrchwyd gan y BBC yn ei hanes. Dros y blynyddoedd, mae hynt a helynt trigolion pentref Cwmderi, lle dychmygol rhywle rhwng Llanelli a Chaerfyrddin, wedi sbarduno sgyrsiau ar y stepen drws, dros wal yr ardd, neu dros beint mewn cymunedau ledled Cymru, gan drafod y troeon trwstan cenedlaethau o gymeriadau lliwgar: Reg Harries, Maggie Post, Dai Sgaffalde, Garry Monk, teulu’r Joneses, Megan Harries, Hywel Llywelyn, i enwi dim ond rhai.
Yn ogystal â’r cymeriadau hyn a’r sbardun i sawl gyrfa actio lwyddiannus, daeth y gyfres hefyd yn gyfle i gyflwyno storïau a themâu teimladwy, dirdynnol a rhai oedd yn ddieithr, efallai, i gartrefi Cymru. O ddibyniaeth ar alcohol i drin galar, iechyd meddwl a materion LGBTQ+, does dim gwadu’r cyfraniad chwyldroadol mae Pobol y Cwm wedi’i wneud, nid yn unig adlonni ond hefyd addysgu cymunedau Cymru.
Felly, i gloi, wrth ddathlu’r hanner cant, a sawl syrpreis, efallai, ar y ffordd, hoffwn ddiolch i’r BBC ac S4C am gynnal y gyfres hon ar hyd y blynyddoedd—eicon o raglen sydd wedi bod yn greiddiol i’n hiaith, i ddarlledu a’n hunaniaeth fel cenedl. Hir oes i drigolion Cwmderi.
Eitem 6 heddiw yw'r cynnig i sefydlu pwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM8694 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Senedd y Dyfodol.
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw trafod tri mater a chyflwyno adroddiad arnynt erbyn 9 Mai 2025:
a) trefn busnes yn y Seithfed Senedd, gyda’r nod o ganfod opsiynau sy’n cynyddu effeithiolrwydd ei gwaith craffu, effeithiolrwydd y modd y mae’n darparu busnes o ddydd i ddydd, a hygyrchedd busnes seneddol i’r Aelodau;
b) nodi atebion i rwystrau (gwirioneddol a chanfyddedig) a all amharu ar allu’r Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiad bywyd, dewis a chred, neu sydd â’r potensial i wneud hynny, gan gynnwys ystyried fersiynau drafft a therfynol y canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol; ac
c) trothwyon a osodir ar hyn o bryd yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer nifer yr Aelodau sy’n ofynnol at wahanol ddibenion, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ffurfio grwpiau gwleidyddol, diswyddo deiliaid swyddi, a chworwm.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol.
4. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
a) Julie James AS (Llafur Cymru), Alun Davies AS (Llafur Cymru), Darren Millar AS (Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan AS (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor Senedd y Dyfodol; a
b) David Rees (y Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol.
5. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol, ac yn cytuno mai dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a darpar Gadeirydd y pwyllgor newydd. Dwi'n codi mewn capasiti personol, ond i groesawu'n fawr iawn creu'r pwyllgor yma. Pa deitl gwell a thrawiadol ac ysbrydoledig na Phwyllgor Senedd y Dyfodol? Fel un sydd wedi bod yn milwrio, dwi'n meddwl, o blaid creu cerbyd i ni fel Senedd gydio yn y cyfle euraidd sydd gennym ni nawr, gan fod diwygio seneddol yn digwydd, a'n bod ni'n edrych am bob cyfle i ddiwygio ehangach er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y budd mwyaf o'r Senedd fwy a fwy cynrychioliadol y byddwn ni'n ei chreu. Felly, gair o groeso a dymuniadau da i chi, Gadeirydd, a holl aelodau'r pwyllgor. Dwi'n gobeithio y byddaf i a phawb arall yn cael y cyfle i gynnig syniadau er mwyn i chi eu hasesu.
Ond jest ple hefyd gen i—roeddech chi'n disgwyl hynny, Dirprwy Lywydd a darpar Gadeirydd—i chi fod yn radical, i chi fod yn greadigol, ac i ddehongli'r cylch gorchwyl yn y ffordd fwyaf eang posib. Mae'r cylch gorchwyl cychwynnol, o'i rhoi hi fel yna, ychydig bach, i fi, yn fy nharo i ychydig bach yn rhy gul o gymharu â'r drafodaeth hynod ddefnyddiol a diddorol cawsom ni yn ein cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Busnes a'r Comisiwn. Mae yna le i ehangu; mae yna le i'r pwyllgor yma anadlu, dwi'n credu, wrth i ni edrych ar yr holl gyfleoedd.
Gaf i roi un enghraifft i chi? Does yna ddim sôn ar hyn o bryd yn y cylch gorchwyl am y cyhoedd, ac mae hynny'n bwysig iawn, dwi'n credu, yn arbennig mewn cyd-destun lle mae democratiaeth yn wynebu creisis yn fyd-eang; mae'n rhaid ni edrych y tu allan, onid oes e? Wrth drafod diwygio seneddol, dŷn ni'n methu dim ond cael trafodaeth sydd yn fewnblyg. Mae rhai o'r pethau dŷch chi'n gorfod trafod, o'u hanian, yn rhai technegol, ond mae'r ymwneud â'r cyhoedd yn elfen bwysig, ac wrth gwrs, yn arbennig yng nghyd-destun y Senedd yma, lle mae'r ymwybyddiaeth o'r lle yma, oherwydd y diffyg democrataidd yng nghyd-destun y cyfryngau, mor isel. Felly, mae'r cwestiwn yma o sut ŷn ni, wrth i ni newid y muriau a'r seddi, ein bod ni hefyd yn edrych ar dynnu'r muriau i lawr yn yr ystyr hynny.
Wrth gwrs, roedd hynny'n un o'r awgrymiadau gan y comisiwn cyfansoddiadol, ein bod ni'n edrych ar draws y byd, a dweud y gwir, i edrych ar arfer da ynglŷn â chyfranogiad y cyhoedd mewn prosesau seneddol tu hwnt i'r traddodiadol, sef yr ymgynghoriadau mae'r llywodraeth yn eu trefnu, ond hefyd y deisebau; edrych ar sut mae seneddau yn Taiwan, er enghraifft, seneddau ar draws y byd, yn rhoi'r cyfle i'r cyhoedd awgrymu syniadau a dod yn rhan o'r broses ddeddfu, er enghraifft, mewn ffordd fwy rhyngweithiol, creadigol. Felly, dyma un enghraifft, dwi'n credu, o gyfle i ehangu, i adeiladu rhywfaint o fewn yr amserlen sydd gennych chi, ond sicrhau ein bod ni'n gwneud y gorau o'r cyfle yma.
Felly, gaf i ofyn i chi fod yn radical, yn radical o gynhwysfawr, ond hefyd yn radical o gynhwysol, i sicrhau bod pob Aelod yn fan hyn yn cael cyfle, ond hefyd y cyhoedd, a fydd â syniadau hefyd ynglŷn â sut y gall y Senedd yma gwrdd â'i phriod nod, sef i'w cynrychioli nhw, y dinasyddion, yn fwyaf effeithiol yn y Gymru sydd ohoni?
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
O ystyried yr araith rydym newydd ei chlywed, rwy'n teimlo ei bod hi'n werth imi ymateb ar ran y Pwyllgor Busnes i ddweud mai bwriad y pwyllgor hwn, wrth gwrs, yw ystyried gweithrediad y Senedd yn y dyfodol yn y seithfed Senedd, ar ôl y set nesaf o etholiadau. Bydd yn Senedd eithaf gwahanol, gyda llawer mwy o Aelodau, ac mae hynny'n rhoi cyfle i ni edrych ar sut y mae busnes y Senedd hon yn gweithio, sut y gallwn ehangu ei hapêl, a sut y gallwn wella, yn bwysicaf oll, ei phrosesau craffu a helpu i leihau'r rhwystrau sydd wedi atal y Senedd hon rhag bod yn fwy amrywiol nag a fu yn y gorffennol. Dyna'i brif amcanion. Nid yw hynny'n atal y pwyllgor rhag edrych y tu hwnt i hynny, o fewn yr amserlen a osodwyd yn glir heddiw, neu y bwriedir ei gosod heddiw, erbyn mis Mai 2025, fel y gallwn gyflawni pethau mewn modd effeithiol ac amserol yn barod ar gyfer etholiadau'r Senedd a fydd yn dilyn yn 2026. Ond wrth gwrs, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, fel Aelodau unigol, i estyn y tu hwnt i waliau'r Senedd hon, fel y gwn fod y mwyafrif llethol ohonom yn ei wneud, i gyfathrebu â'r cyhoedd, ymgysylltu â hwy, i ofyn iddynt sut y maent am i'r Senedd hon weithredu yn y dyfodol.
Rydym i gyd yn gwybod ein bod wedi cael dadl ar faint a siâp y Senedd, ond gan fod y ddadl honno drosodd bellach, a'r llwch yn dechrau setlo, mae'n rhoi cyfle inni wneud y gorau o'r cyfle a gyflwynir i bawb ohonom, ac mae'n ddyletswydd arnom oll yn y Siambr hon i sicrhau fod hon y Senedd orau y gall fod, a chynrychiolydd gorau'r cyhoedd, holl bobl Cymru, y gall fod yn y dyfodol. Rwy'n gwybod fy mod i wedi ymrwymo i hynny, gwn fod holl Aelodau'r Siambr hon, gobeithio, wedi ymrwymo i hynny, ac rwy'n sicr yn gwybod bod y Pwyllgor Busnes, Comisiwn y Senedd—ac wrth gwrs, o waith ar y cyd rhwng y ddau bwyllgor hynny y datblygodd y pwyllgor Senedd newydd hwn, Pwyllgor Senedd y Dyfodol—wedi ymrwymo iddo, yn sicr. A gwn y bydd yr Aelodau a fydd yn rhan o'r pwyllgor pan fydd wedi'i sefydlu yn sicrhau bod barn holl Aelodau'r Siambr hon yn cael ei chlywed, yn ogystal â'r aelodau o'r cyhoedd a wasanaethwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli, a galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8687 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu fel rhan o'r broses gynllunio;
b) gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r rhai presennol; ac
c) darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid yn aml y byddaf yn cael fy ysbrydoli gan San Steffan, ond mae'r cynnig deddfwriaethol hwn yn adleisio cynigion tebyg a gyflwynwyd gan yr AS Llafur, Matt Western, yn 2021, a'r AS Ceidwadol, Paul Holmes, yn 2023. Cafodd y ddau brofiad tebyg i lawer ohonom yn y Senedd hon o gefnogi trigolion yn eu brwydr yn erbyn agor neu ymestyn chwarel yn agos at gartrefi preswyl, ysgolion a chyfleusterau cymunedol. Daeth y ddau hefyd i sylweddoli pa mor annigonol a hen ffasiwn oedd deddfwriaeth gynllunio wrth benderfynu ar ddatblygiadau o'r fath. Gadawyd cymunedau'n gorfod ymladd yn erbyn cwmnïau rhyngwladol mawr gydag adnoddau digonol at eu defnydd i ddileu unrhyw wrthwynebiad lleol. Mae'n gwbl amlwg nad yw'n frwydr deg.
Drwy ddefnyddio enghraifft un chwarel yn fy rhanbarth i, Craig-yr-Hesg yng Nglyn-coch ar gyrion Pontypridd, rwy'n gobeithio eich perswadio chi heddiw o'r angen i ddeddfu, fel bod rhagdybiaeth yn y dyfodol yn erbyn cymeradwyo datblygiad chwarel yn agos at aneddiadau. At hynny, rhaid cael parth clustogi gorfodol o 1,000m ar gyfer pob chwarel newydd a rhai presennol.
Mae chwarel Craig-yr-Hesg wedi bod yn weithredol ers 1885, ac mae'n darparu tywodfaen pennant glas, un o'r agregau atal sgidio o'r ansawdd uchaf yn y DU ar gyfer wyneb ffyrdd, ac fe'i defnyddir ar draffyrdd a rhedfeydd maes awyr. Roedd cloddio a gweithio mwynau neu waredu gwastraff mwynau ar y safle i fod i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2022, cyn cyflawni rhaglen adfer ac ôl-ofal. Dyma addewid a wnaed i'r gymuned leol pan gafodd y cais cynllunio ei wneud. Fodd bynnag, roedd yn addewid a dorrwyd. Wedi hynny cyflwynodd y cwmni a oedd yn gyfrifol am y chwarel ddau gais cynllunio i ymestyn ardal y cloddio yn ogystal â hyd oes y chwarel.
Cafwyd dros 400 o wrthwynebiadau gan drigolion lleol, Cyngor Tref Pontypridd a nifer o gynrychiolwyr etholedig, gan fy nghynnwys i. Yn wir, roedd y dadleuon a gyflwynwyd mor gymhellol fel bod yr awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi gwrthod y ddau gais ar sail effaith ffrwydradau ar iechyd a llesiant pobl. Anadlodd y gymuned ochenaid o ryddhad, ond ni pharodd hynny'n hir, wrth i apêl gynllunio gael ei chyflwyno i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, gan arwain at roi caniatâd gan Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru ar y pryd, Julie James. Nid yw'n ormod dweud bod y gymuned wedi ei llorio—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
 phleser.
Ar y pwynt hwnnw, credaf eich bod wedi gwneud y pwynt fod y Gweinidog wedi gwneud yr hyn a wnaeth, ond fe wnaeth hynny am fod yn rhaid iddi leihau'r risg o adolygiad barnwrol, a byddai adolygiad barnwrol ar y seiliau cynllunio presennol wedi arwain at wrthdroi'r penderfyniad hwnnw gan olygu y byddai'r Llywodraeth yn gorfod talu costau. Nid wyf yn awgrymu eich bod yn bwrw sen ar y Gweinidog, ond nid oedd ganddi fawr o ddewis yn y penderfyniad a wnaeth.
Ond dyna bwynt y ddadl, os mynnwch, fod y broses gynllunio yn annigonol i ymdrin â'r sefyllfa, a dyna mae'r ddeddfwriaeth yn cynnig ei unioni.
Gellir crynhoi'r prif wrthwynebiadau gan drigolion fel a ganlyn: pryderon iechyd yn ymwneud â llygredd llwch o'r chwarel a llygredd o'r cerbydau sy'n gysylltiedig â'r chwarel; mynegwyd pryderon ynghylch effaith ffrwydro ar gartrefi a seilwaith, gan gynnwys y briffordd a'r wal amddiffyn rhag llifogydd ar Heol Berw—cyflwynwyd lluniau o graciau'n ymddangos yn waliau cartrefi yn sgil gwaith ffrwydro fel tystiolaeth; colli bioamrywiaeth a mannau gwyrdd yn yr ardal y byddai'r chwarel yn ymestyn iddi; ac agosrwydd y chwarel at gartrefi, ysgol a chyfleusterau cymunedol, o fewn 150m ac o fewn 100m i'r peiriant mathru.
Er i'r arolygydd yn apêl Craig-yr-Hesg dderbyn bod y chwarel wedi achosi straen a phryder i drigolion lleol, nid oeddent yn derbyn bod gwaith ffrwydro yn y chwarel wedi achosi unrhyw ddifrod, gan na chafwyd arolwg strwythurol i gefnogi'r lluniau. Yn yr un modd, er i drigolion gyflwyno lluniau o gymylau llwch mawr uwchben y chwarel a nodi enghreifftiau o afiechyd y credent eu bod yn gysylltiedig â'r chwarel, nid oedd ganddynt adroddiadau arbenigol i gefnogi eu barn. Nid oedd colli bioamrywiaeth yn cael ei hystyried yn ddadl ddigon cryf ychwaith. Tybiwyd mai tystiolaeth achlust oedd popeth am nad oedd gan drigolion y cannoedd o filoedd o bunnoedd y byddai ei angen i gynnal gwaith monitro a dadansoddi manwl i naill ai brofi neu wrthbrofi eu hofnau, yn ogystal â thîm o gyfreithwyr a bargyfreithwyr o'r radd flaenaf i ymladd yr achos.
Nid oedd gobaith ganddynt o dan y system bresennol, sy'n rhoi budd economaidd uwchlaw popeth arall. Mae hyn yn arbennig o wir am gymunedau fel Glyn-coch, sy'n methu fforddio gwrthwynebu unrhyw ddatblygiad, ni waeth pa effaith y gallai ei chael arnynt. Mae mwy a mwy o dystiolaeth bellach yn ymddangos am effaith gronynnau anweledig a nwyon gwenwynig ar iechyd y cyhoedd, gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn y blynyddoedd diwethaf yn newid ei ganllawiau yn eithaf dramatig ar y mater hwn. Mae'r Environmental Working Group, grŵp o'r Unol Daleithiau sy'n arbenigo mewn ymchwil ac eiriolaeth, wedi datgan
'nid oes yr un o'r safonau ansawdd aer ar gyfer silica yn ddigonol i ddiogelu pobl sy'n byw neu'n gweithio ger safleoedd mwyngloddio tywod. Mae'r perygl o silica a drosglwyddir drwy'r aer yn arbennig o ddifrifol i blant.'
Mewn gwirionedd, mae gan y grŵp bryderon ynghylch unrhyw drigolion sy'n byw o fewn 1,500m i unrhyw safle cloddio, oherwydd y ffordd y bydd y gronynnau llwch yn gwasgaru, yn dilyn tystiolaeth a gasglwyd mewn mwyngloddiau tywod agored yn Wisconsin a Minnesota, a ganfu fod lefelau silica o leiaf 10 gwaith yn uwch na'r trothwy a argymhellir o 3 μg fesul metr ciwbig. A yw'n syndod fod y trigolion yn ofnus?
Byddai'r ddeddfwriaeth hon yn golygu na fyddai'r baich ar drigolion i brofi neu wrthbrofi effaith y chwarel, a bod pob ffactor, gan gynnwys effaith ar iechyd, yn cael eu harchwilio'n rhan o'r broses gynllunio. Edrychaf ymlaen at glywed gan gyfranwyr eraill yn y ddadl, a byddaf yn cadw'r hyn sydd gennyf yn weddill at fy sylwadau clo.
Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r ddadl hon. Treuliais y rhan fwyaf o brynhawn dydd Llun yn swyddfeydd cyngor Tŷ Penallta ar gyfer cyfarfod tair awr o hyd o grŵp cyswllt compost Bryn. Enw'r cwmni yw Bryn Group. Mae ganddynt chwarel yn agos iawn at dai preswylwyr, a rhan o'r drafodaeth yw ymgysylltu â hwy i geisio rheoli eu prosesau ffrwydro. Rydym hefyd wedi llwyddo drwy'r pwyllgor i gael y cyngor i fonitro llwch yn nhai preswylwyr ym Mhen-y-bryn a Gelligaer, ac rydym wedi gweld yn sgil hynny fod lefel silica a lefel gronynnol ar lefel ddiogel iawn, felly mae hynny wedi tawelu meddyliau yn ein cymuned. Ond er hynny, mae trigolion yn cwyno am ffrwydro. Maent yn cwyno ei fod yn achosi i'w ffenestri ysgwyd, ac mae eraill wedi cwyno am graciau yn y wal.
Felly, rwyf wedi edrych yn ofalus ar gynnig deddfwriaethol yr Aelod ac wedi siarad â thrigolion amdano. Rwy'n pryderu am y drydedd eitem, sef gwneud datblygiadau chwarel yn ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol i bob pwrpas. Yr hyn y byddai hynny'n ei wneud yw mynd â'r broses benderfynu oddi wrth y gymuned. Byddai'n golygu mai'r Gweinidog fyddai'n penderfynu ar y pethau hyn, yn hytrach na'r awdurdodau lleol eu hunain. Felly, mae gennyf amheuon ynglŷn â hynny. O ystyried byrdwn cyffredinol y ddadl a roddodd Heledd Fychan, efallai ei bod yn bwysig dweud fy mod wedi cael fy argyhoeddi gan ddadl a gyflwynwyd yn y Siambr hon ac felly byddaf yn cefnogi'r cynnig, ond mae gennyf amheuon ynghylch rhannau o'r cynnig deddfwriaethol, yn enwedig y drydedd ran honno.
Yn olaf, roeddwn i eisiau dweud bod ffordd o gwmpas hyn ar unwaith. Rwyf wedi edrych—. Mae gennyf gymaint o ddogfennau, ni allaf ddod o hyd iddi, ond edrychais ar reoliad 'Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (Cymru) 1: Agregau' 2004. Nid yw wedi cael ei ddiweddaru ers 2004, mae'n dal i sôn am Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n credu y byddai'n werth i'r Gweinidog edrych ar hwnnw ac ystyried pa faterion ynddo y gellid rhoi sylw iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a godais heddiw ac a godwyd gan Heledd hefyd, oherwydd yn sicr mae cyfle i wneud hynny. Rwy'n credu efallai y byddai deddfwriaeth yn mynd yn rhy bell os nad yw wedi'i chynllunio'n ofalus iawn, ac rwyf wedi sôn am yr amheuon hynny. Byddai ailedrych ac adolygu'n bwysig.
Ac yn olaf, fy mhwynt olaf—dyma fy mhwynt olaf—yw pe baech chi'n ei chymhwyso heddiw, ni fyddai'n ôl-weithredol, felly ni fyddai'n effeithio ar benderfyniadau cynllunio blaenorol, ni fyddai'n effeithio ar y chwarel yng Nghelligaer, ni fyddai'n effeithio ar y chwarel yr oeddech chi'n cyfeirio ati, felly mae honno'n broblem hefyd. Ac efallai y caf awgrymu i chi y gallem ofyn am gyfarfod gyda'r Gweinidog gyda'n gilydd i siarad am gymunedau y mae chwarela'n effeithio arnynt. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, ac efallai y gallwn wahodd Delyth Jewell hefyd, fel Aelod rhanbarthol, i drafod y materion hyn a gweld a allwn gael ymateb gan y Gweinidog ar hynny.
Rwy'n codi i siarad o blaid y cynnig hwn, yn enwedig ar y parthau clustogi ac am fwy o ystyriaeth o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yr aelodau yma'n gwybod, rwy'n siŵr, gan imi godi hyn o'r blaen, fod yna bryderon am ymestyn chwarel galchfaen ar gyrion tref Dinbych. Bydd yna effeithiau amgylcheddol. Gwyddom y bydd coed brodorol, coed llydanddail dros 100 oed, yn cael eu cwympo. Maent yn gartref i fywyd gwyllt prin—y gwybedog brith, adar tingoch, sawl rhywogaeth o ystlumod—ac ni allwch blannu coed yn lle'r coed hynny nac ail-greu'r amgylchedd hwnnw dros nos. Felly, mae yna golli bywyd gwyllt gwerthfawr.
O ran effeithiau economaidd, fe fydd yn caniatáu mwy o gynnyrch mwyngloddio ar gyfer Breedon Ltd, y cwmni sy'n gwneud cais am yr estyniad, ond mae pryderon yn yr ystad ddiwydiannol gyfagos am effaith llwch a dirgryniadau yn sgil ffrwydro yn y chwarel ar weithgaredd gweithgynhyrchu manwl arbenigol a wneir yn y safle diwydiannol. Mae materion cymdeithasol a llesiant yn rhywbeth arall, wrth gwrs. Fe wyddom y bydd yn cael effaith yn Ninbych yn enwedig—ailgyfeirio llwybrau cyhoeddus, effeithiau ehangach ar fynediad at fannau cerdded poblogaidd, effeithiau lefelau sŵn uwch, effaith ar ansawdd aer—a'r cyfan yn effeithio ar gartrefi cyfagos, o bosibl.
Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau hefyd at y ffaith bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith wedi bod yn cynnal ymchwiliad yn ddiweddar ar adfer safleoedd mwyngloddio brig, ac rydym wedi cael addewidion mawr ynghylch adfer rhai o'r safleoedd hyn, ond dro ar ôl tro, mae'r addewidion hynny'n cael eu torri gan rai partïon. Buaswn yn dadlau bod angen dysgu gwersi, ac mae angen ystyried lleisiau trigolion lleol. Soniais am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yr effeithiau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol—dyma'r effeithiau y mae pobl yn ymrafael â hwy wrth wynebu'r cynigion hyn ar gyfer chwarela ac ymestyn chwareli. Felly, gadewch inni gefnogi'r cynnig, gadewch inni ddysgu'r gwersi o Graig-yr-Hesg, o fwyngloddio brig a mannau eraill, a gadewch inni beidio â gorfodi cymunedau eraill fel Dinbych i wynebu risgiau ac effeithiau tebyg yn y dyfodol.
Mae llawer i'w gymeradwyo yn y cynnig hwn. Fel y nodwyd gan y cynigydd, mae'n cael ei gymryd, i raddau helaeth, o Fil Cynllunio (Chwareli) gan Aelod preifat yn San Steffan a gynigiwyd gan yr AS Ceidwadol Paul Holmes, ac a gafodd ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mawrth y llynedd. Bil ydyw,
'i gyflwyno rhagdybiaeth mewn penderfyniadau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygiad chwareli yn agos at aneddiadau; i'w gwneud yn ofynnol i risgiau safleoedd chwarela arfaethedig i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd gael eu hasesu yn rhan o'r broses gynllunio; i ddarparu mai dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol a all wneud y penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel; ac at ddibenion cysylltiedig.'
Felly, mae yna debygrwydd mawr. Ond yng nghyd-destun datganoli, wrth gwrs, mae Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn cymryd lle'r Ysgrifennydd Gwladol, ac ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, yn fy marn i, ni ddylem bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.
Fodd bynnag, ceir pryder fod y cynnig sydd ger ein bron heddiw hefyd yn argymell y dylai'r Senedd osod parth clustogi gorfodol o 1,000m ar gyfer pob chwarel newydd a rhai presennol. Mae cymhwyso hyn i'r holl chwareli presennol yn fympwyol—a heb asesiadau effaith—yn creu risg o effeithio'n negyddol ar swyddi, economïau lleol, a chyflenwad cynaliadwy o ddeunyddiau allweddol. Ymhellach, gallai gosod parth clustogi gorfodol o 1,000m yn fympwyol ar gyfer pob chwarel newydd beth bynnag y bo'r amgylchiadau lleol a'r galw am y deunyddiau a heb asesiadau effaith olygu, er enghraifft, na ellid cael mynediad at ddeunyddiau sy'n allweddol i drawsnewid i ynni adnewyddadwy a diogeledd ynni a fyddai wedi'u lleoli 990m i ffwrdd o anheddiad.
Felly, mae'n ddoeth canolbwyntio yn lle hynny ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygiad chwareli yn agos at aneddiadau, fel y cynigiwyd ym Mil Cynllunio (Chwareli) y DU a ystyriwyd yn 2023 ac yn rhan gyntaf y cynnig a drafodwn heddiw. Felly, byddai'n rhaid i mi ymatal mewn pleidlais ar y cynnig fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gwaetha'r modd, er fy mod yn cefnogi'r egwyddor gyffredinol.
Rwy'n siarad i gefnogi'r cynnig ac i dynnu sylw at yr effeithiau y mae fy etholwyr yn eu teimlo ger dau safle chwarel: Gelligaer, sydd wedi'i grybwyll, a Ffos-y-frân.
Yng Ngelligaer, mae Bryn Group wedi cyflwyno cais yn ddiweddar i ymestyn eu chwarel. Mae nifer o drigolion sy'n byw ger y chwarel wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn dioddef yn ddyddiol oherwydd llygredd sŵn, llwch, dirgryniadau yn eu tai, ac arogleuon annymunol. Rwy'n ymwybodol, dros nifer o flynyddoedd, fod pryderon wedi'u codi hefyd am sbwriel plastig yn y caeau gerllaw, ond ffocws y cynnig hwn, wrth gwrs, yw'r angen i gyflwyno parth clustogi gorfodol o 1,000m ar gyfer pob chwarel newydd a rhai presennol.
Buaswn i'n dadlau ei bod hi'n amlwg fod angen hynny er mwyn atal pethau fel hyn rhag digwydd eto. Yng Ngelligaer ac ym Mhen-y-bryn, ger y chwarel hon, mae pobl sy'n byw yno'n dioddef oherwydd sŵn; cefais luniau gan drigolion sydd wedi cwyno am ddifrod adeileddol i'w heiddo. Maent yn poeni y bydd hyn yn arwain at broblemau gyda'u hyswiriant ac y gallai unrhyw estyniad pellach i'r chwarel honno arwain at ostwng gwerth eu cartrefi.
Mae yna effaith iechyd meddwl o hyn i gyd hefyd. Mae preswylwyr wedi ysgrifennu i egluro sut y mae eu plant, eu hanwyliaid ac anifeiliaid anwes teuluol i gyd wedi cael eu dychryn gan y ffrwydradau yn y chwarel, ac nid yw trigolion heb fynediad at gyfryngau cymdeithasol yn gallu gweld pryd y bydd ffrwydradau'n digwydd ar ddiwrnodau gwahanol, sy'n golygu na allant baratoi. Nid dyma'r ffordd i fyw. Yn sicr, mae angen parth clustogi rhwng chwareli ac eiddo preswyl, heb sôn am ysgolion a mannau cymunedol. Wrth gwrs, mae materion yn codi gydag ansawdd aer a llygredd. Gallai'r cynnig hwn ddechrau mynd i'r afael â risgiau safleoedd chwarel i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac wrth gwrs, i iechyd y cyhoedd.
Yn Ffos-y-frân, dim ond 40m sydd rhwng cartrefi rhai pobl a safle mwyngloddio brig. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon am y safle hwnnw a'r ffordd y cafodd ei reoli sawl gwaith yn y Senedd, ac mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi cynnal ymchwiliad i safleoedd mwyngloddio brig yn ddiweddar. Mae'r ddwy ffenomen yn rhannu llawer o nodweddion gwahanol. Pe bai parth clustogi wedi bod yn ei le eisoes i atal rhywbeth fel Ffos-y-frân rhag digwydd, byddai wedi arbed gofid i drigolion sydd wedi gorfod dioddef llygredd sŵn a llwch ac aflonyddwch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Heledd am gyflwyno'r syniad hwn. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn pasio ac y gellir rhoi mwy o amser i edrych ar sut y gellir bwrw ymlaen â rhai o'r cynigion hyn. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i fy rhagflaenydd Jocelyn Davies, a gyflwynodd syniad am barth clustogi 19 mlynedd yn ôl yn 2005. Dro ar ôl tro, mae'r cynigion a gyflwynwyd gennym wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd hynny'n newid heddiw.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, roeddwn am dynnu eich sylw at ddeiseb a fydd yn cael ei hystyried gan y pwyllgor ymhen ychydig wythnosau. Mae gan y ddeiseb 1,585 o lofnodion, gyda 79 y cant ohonynt yn dod o Ganol De Cymru, sy'n dangos y teimladau cryfion yn yr ardal honno. Mae'r ddeiseb yn dweud:
'Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol.
'Sicrhau clustogfa orfodol ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol yng Nghymru. Rydym yn cynnig clustogfa o 1,000.00 metr o leiaf oddi wrth yr holl ardaloedd preswyl, ysgolion, ysbytai a chyfleusterau gofal. Ar hyn o bryd mae'r gyfraith yn caniatáu i chwareli gael eu lleoli mor agos â 200 metr i ffwrdd o ardaloedd preswyl ac ysgolion. Mae hyn yn effeithio ar iechyd pobl ac yn achosi difrod i eiddo. Gorau po fwyaf maint y glustogfa y gallwn ei chael.'
Yn amlwg, mae hwn yn fater sydd wedi taro tant gyda phobl ym Mhontypridd a Chwm Cynon, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod ag ymgyrchwyr pan fyddant yn cyflwyno eu deiseb i'r Senedd ym mis Tachwedd.
Yn bersonol, fel rhywun o ogledd Cymru, effeithir arnom gan lawer o chwareli, a hoffwn weld cronfa yr ardoll agregau ar gyfer Cymru yn cael ei hadfer. Mae effaith sŵn a dirgryniad o chwareli a lorïau mwy a mwy o faint ar gymunedau cyfagos yn enfawr. Weithiau, mae gennych ddwy neu dair yn rhuthro drwodd ar y tro, neu hyd yn oed fwy na hynny. Mae'n ddi-stop. Gwnaeth y gronfa wahaniaeth mawr i fuddsoddiad mewn asedau cymunedol fel ardaloedd chwarae a chyfleusterau cymunedol, a byddai croeso mawr iddi ar adeg pan fo cyllid arall yn brin. Yn ddiweddar, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ynghylch y mater hwn ac roeddwn yn falch o glywed ei fod yn edrych ymhellach ar hyn, gyda sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o ddatganoli'r ardoll. Gwn fy mod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol ar y mater hwn hefyd.
Yn sgil fy aelodaeth o'r pwyllgor newid hinsawdd a seilwaith, gwelais sut nad oes yr un corff unigol yn fodlon ysgwyddo cyfrifoldeb am gydymffurfiaeth â gwaith adfer ar hen chwareli a thomenni glo. Mae'n destun pryder fod ceisiadau cynllunio yn cael eu caniatáu i chwareli newydd am y credir mai dyna'r unig ffordd i waith adfer ddigwydd, gan ein rhoi yn ôl yn sgwâr un. Mae'r ddadl heddiw wedi rhoi cyfle i glywed mwy am y problemau megis yr effaith ar drigolion a'r holl ecoleg gerllaw, a diolch i chi am y cyfle i gael y ddadl hon heddiw. Diolch.
Mae hanes diwydiannol ein cymunedau ni wedi ei naddu yn ein tirwedd, ac mae rhai ohonyn nhw’n gwbl gysylltiedig, bron â bod eu henwau nhw yn gyfystyr ag olion y diwydiannau hynny, yr olion ar y tir sy'n dal i achosi poen i'r pentrefi sydd wedi gorfod byw yng nghysgod, yn llythrennol, cymynrodd y cwar. Achos soniwch am Godre'r Graig ac mae pawb yng Nghwm Tawe yn meddwl yn syth am y tor calon sydd wedi ei achosi gan y ffaith bod y domen a adawyd gan y cwar wedi achosi bygwth bywyd a lles y gymuned islaw ers blynyddoedd lawer. Mae'r domen rwbel sydd uwchben y pentref wedi ei hasesu fel un sy'n peri risg o berygl canolig i'r trigolion, ac mae daeareg y mynydd y mae'n gorwedd arno wedi creu sefyllfa sydd wedi achosi ei bod hi’n hollol amhosib weithiau, ond yn anodd iawn bob tro, i yswirio cartrefi, a rhai teuluoedd wedi gorfod symud o'u haelwydydd.
Ac fe gollodd y pentref ei galon pan, yn 2019, gafwyd bod angen cau yr ysgol gynradd yn dilyn asesiad o risg y domen i'r ysgol. Mae plant wedi gorfod cael eu haddysgu mewn cabanau mewn ysgol filltiroedd i ffwrdd o'r pentref, ac, er bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot nawr am agor ysgol newydd yng Ngodre'r Graig, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai hynod o anodd i gymuned yr ysgol.
Nododd yr adroddiad ar y domen a ddarparwyd gan Earth Science Partnership, yr arbenigwyr gafodd eu comisiynu gan y cyngor i archwilio'r safle, fod lefelau dŵr daear yn effeithio ar y risg sy'n gysylltiedig â'r domen rwbel cwar. Mae posibilrwydd y gallai lefelau a phwysedd dŵr yn y domen achosi llithriad. Mae'r gost o waredu ar y risg yna sydd wedi ei gadael gan y cwar uwchben Godre'r Graig dros £6 miliwn, sydd y tu hwnt, wrth gwrs, i adnoddau cyllidol y cyngor, a hyd yma dyw Llywodraethau Cymru na'r Deyrnas Gyfunol wedi cynnig cymorth ariannol.
Felly, rhaid i ni ystyried oblygiadau caniatáu i weithfeydd fel hyn gael eu datblygu, y goblygiadau ar genedlaethau a fydd yn gorfod goddef y canlyniadau. Petai hynny ond wedi digwydd yn achos Godre’r Graig. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig a fyddai'n rhagdybio yn erbyn datblygu chwareli a allai peri risg i fywyd cymuned—eu cartrefu, eu hysgolion— â'r holl risgiau yn cael eu hasesu yn llawn gyda llygad at y dyfodol, yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ac fe hoffwn weld bod y parth 1,000 m yna yn golygu parth tri dimensiwn, gan gofio am ddaeareg ein Cymoedd. Mae gormod o gymunedau wedi gorfod dioddef yn rhy hir oblygiadau rhoi elw uwchben eu lles. Rhaid dweud dim mwy. A dwi'n meddwl bod y cynnig hwn yn rhan o'r ateb.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol heddiw a'r holl gyd-Aelodau am y gyfres ddiffuant iawn o gyfraniadau a gawsom y prynhawn yma.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau ar yr un mater, ac rwyf wedi ymateb i lythyr gan y Pwyllgor Deisebau, yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd Heledd Fychan yn fwyaf arbennig at y trigolion sydd wedi codi pryderon yn ymwneud â'r gweithgareddau yn chwarel Craig-yr-Hesg, er inni glywed eraill yn cael eu crybwyll yn ystod y ddadl hefyd. Mae gan awdurdodau cynllunio lleol bwerau i ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio. Y cyngor sy'n gyfrifol am orfodi rheolaeth gynllunio, gan gynnwys amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd a roddwyd yn dilyn apêl lwyddiannus. Felly, mae'r posibilrwydd o gamau gorfodi hefyd yn golygu y gellid cyflwyno'r achos eto i Weinidogion Cymru, a bryd hynny, byddai'n benderfyniad ar apêl orfodaeth. Felly, mae'r posibilrwydd hwnnw'n golygu na allaf wneud sylw ar rinweddau cynllunio penodol y safle hwn, am nad wyf am ragfarnu'r trafodion hynny. Felly, rwy'n mynd i osgoi crybwyll safleoedd penodol yn ystod yr ymateb i'r ddadl.
Mae cyflenwad cynaliadwy o fwynau ac agregau yn hanfodol i gefnogi datblygiad economaidd Cymru. Rôl y system gynllunio yw cydbwyso angen cymdeithas am fwynau yn erbyn diogelu amwynder. Ond rwy'n derbyn bod y penderfyniadau hyn yn aml yn ddadleuol iawn, ond maent hefyd yn lleol iawn, a dyna pam mai ar sail leol drwy'r polisïau priodol mewn cynlluniau datblygu lleol yw'r ffordd orau o ymdrin â hwy. Felly, nid wyf yn cytuno y byddai deddfwriaeth newydd yn briodol nac yn effeithiol, gan fod amgylchiadau'n amrywio fesul achos.
'Polisi Cynllunio Cymru' a 'Nodyn Cyngor Technegol Mwynau Cymru 1: Agregau' yw prif ffynhonnell y polisi cenedlaethol ac maent yn darparu arweiniad cynhwysfawr a chadarn ynghylch rheoli effeithiau chwarela. Mae polisi cynllunio yn fwy manwl nag y gallai deddfwriaeth fod, a gall fod yn fwy seiliedig ar leoedd ac yn fwy sensitif i anghenion lleol, gan adlewyrchu amgylchiadau lleol. Ac wrth gwrs, caiff ei adolygu'n rheolaidd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Pan siaradais i, fe soniais am y nodyn cyngor technegol mwynau (MTAN) a'r ffaith nad yw wedi cael ei ddiweddaru ers 2004. A oes unrhyw werth i ni ofyn i chi ei adolygu a'i ddiweddaru yng ngoleuni rhai o'r materion a grybwyllwyd heddiw?
Fe archwiliaf y materion a godwyd yn y Siambr y prynhawn yma gyda swyddogion, ac os yw'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r polisi neu'r cyngor hwnnw'n gyfredol mwyach, byddwn yn sicr yn ystyried adolygu'r canllawiau hynny. Ac unwaith eto, ni fyddai'r math hwnnw o beth mor hawdd i'w gyflawni drwy'r llwybr deddfwriaethol. Felly, mae canllawiau'n rhoi mwy o hyblygrwydd i ni fod yn ymatebol.
Un o egwyddorion allweddol ein polisi yw darparu ar gyfer diogelu a gweithio adnoddau mwynol i ddiwallu anghenion cymdeithas, nawr ac yn y dyfodol, gan annog defnydd effeithlon a phriodol o ddeunyddiau o ansawdd uchel. Mae'r system eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i ystyried yr effeithiau ar yr amgylchedd, bioamrywiaeth ac iechyd y cyhoedd a dylid eu hasesu yn rhan o'r broses gynllunio bresennol ar gyfer chwareli newydd ac estyniadau i chwareli presennol.
Prif bwrpas y parthau clustogi yw cyfyngu ar effaith gwaith mwynol a diogelu defnydd tir sy'n fwyaf sensitif i effaith gweithgaredd mwynol trwy sefydlu'r pellter gwahanu rhwng gwahanol fathau o ddefnydd tir a allai fod yn gwrthdaro. Cyrhaeddwyd pellteroedd gofynnol y parthau clustogi a nodwyd ar hyn o bryd yn MTAN1 sef 200m ar gyfer craig galed, a 100m ar gyfer tywod a gro, ar ôl ystyriaeth drylwyr a gofalus ac ymgynghori â nifer o randdeiliaid gwybodus a oedd â diddordeb. Gallai cyflwyno parth clustogi gorfodol o 1,000m arwain at ganlyniadau anfwriadol, a fyddai'n atal defnyddio tir at ddefnydd arall, gan wahardd neu effeithio'n andwyol ar ddarparu seilwaith allweddol, fel adeiladu tai, er enghraifft. Ac rwy'n credu bod Mark Isherwood wedi nodi'r canlyniadau anfwriadol posibl hynny yn dda iawn yn ei gyfraniad—
Mae ddrwg gennyf. A wnewch chi dderbyn ymyriad? Gyda'r parthau clustogi hynny, a ydynt wedi ystyried canllawiau diwygiedig Sefydliad Iechyd y Byd ar yr hyn sy'n cael ei ystyried yn ddiogel ar hyn o bryd mewn perthynas â gronynnau ac yn y blaen? Mae'r canllawiau wedi newid yn sylweddol yno. Hefyd, y ffaith bod gennym Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), y Bil aer glân—. Yn sicr, mae angen inni edrych eto ar y wybodaeth ddiweddaraf. Sefydliad Iechyd y Byd—onid yw'r ffaith eu bod wedi newid eu canllawiau mor ddramatig yn golygu y dylem ailedrych ar y wybodaeth ddiweddaraf sy'n bosibl yma?
Fel y dywedais yn fy ymateb i Hefin David, os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen i ni adolygu'r pethau hyn, byddwn yn gwneud hynny. Felly, fel y dywedais, byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r holl gyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma ac yn archwilio pethau ymhellach gyda swyddogion.
Ond mae'n werth cydnabod hefyd y byddai'r hyn sy'n cael ei gynnig heddiw ond yn berthnasol i chwareli newydd, yn hytrach na chwareli presennol; gallai fod yn berthnasol i chwareli sy'n ceisio ymestyn hefyd. Ond rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r broblem. Mae'r hyn sy'n cael ei gynnig heddiw yn ddi-fin ac fel y nododd Mark Isherwood, ceir rhai canlyniadau anfwriadol posibl hefyd.
Mae MTAN 1, serch hynny, yn dweud yn glir fod yn rhaid ystyried yr effaith bosibl ar iechyd bob amser mewn perthynas â chynigion ar gyfer cloddio am agregau, a dylid cynnal asesiad o'r effaith ar iechyd ar gyfer unrhyw gynnig am chwarel newydd neu bwll tywod a gro sydd wedi'i leoli o fewn cilometr i gymuned bresennol, ac mae ein polisi'n cydnabod bod pwyllgorau cyswllt sefydledig yn help i roi gwell dealltwriaeth leol o'r effeithiau sydd i'w disgwyl o gloddio am agregau.
Gwn fod llawer o chwareli wedi sefydlu pwyllgorau cyswllt sy'n gweithredu fel fforwm ar gyfer trafod ac esbonio'n rheolaidd, a gall awdurdod cynllunio lleol neu'r gweithredwr eu sefydlu. Rwy'n credu ein bod wedi clywed unwaith eto gan Hefin David am enghraifft dda o ble mae'r pwyllgorau hynny wedi darparu gwaith da, a roddodd lefel o sicrwydd i breswylwyr ynghylch y profion a gynhaliwyd. Ond rwy'n credu bod lle i fwy hefyd, yn bendant. Roedd rhai o'r cyfraniadau'n sôn am y diffyg cyfathrebu—er enghraifft, pryd i ddisgwyl synau uchel ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu'n bendant fod lle i wella cyfathrebu hefyd, ac fe edrychaf ar hynny.
Fel y soniais yn gynharach, mae mwynau'n hanfodol ar gyfer ein datblygiad economaidd parhaus, ac mae chwareli'n darparu'r deunyddiau crai hanfodol i'n galluogi i adeiladu cartrefi, ysgolion, seilwaith a phrosiectau ynni gwyrdd. Maent hefyd yn chwarae rhan wirioneddol allweddol yn cefnogi sector adeiladu Cymru, sy'n ffurfio 6 y cant o economi Cymru.
Gallaf weld y Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf yn geryddgar, felly fe wnaf—
Rwyf wedi rhoi amser i chi ar gyfer yr ymyriadau; mae angen ichi ddirwyn i ben nawr.
Diolch. Rwy'n dod i ben. Felly, ein safbwynt polisi yw mynd ati i leihau cyfran yr agregau sylfaenol a ddefnyddir o gymharu â deunydd eilaidd, deunydd ailgylchu neu ddeunydd gwastraff, ac rydym yn parhau i wneud cynnydd yn hynny o beth. Yna, yn olaf, mae cymaint o gymunedau wedi tyfu—ac economïau lleol wedi tyfu—o gwmpas chwareli, gyda'r gwaith a gâi ei gynnig yno.
Wrth edrych ymlaen, mae'n bwysig iawn cydnabod y byddai unrhyw ddeddfwriaeth o'r math a ddisgrifir heddiw ond yn berthnasol i safleoedd newydd, gan fod y rhai presennol yn bodoli o dan y caniatadau a'r rheoliadau a gafodd eu darparu ar y pryd. Rwyf am orffen trwy ddweud y bydd elfen o densiwn a gwrthdaro bob amser mewn perthynas â chwarela, ond mae'r system yn ceisio bod yn ymatebol i hynny, ac fel y dywedaf, materion lleol yw'r rhain ac rwy'n credu mai'r ffordd orau o ymdrin â hwy yw yn lleol.
Galwaf ar Heledd Fychan i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n siomedig iawn gyda'r ymateb hwnnw. Rwy'n credu bod diffyg cydnabyddiaeth neu ddealltwriaeth fod y rhain yn faterion cenedlaethol mewn gwirionedd, er yn benderfyniadau lleol. Gallwch weld gwasgariad y cyfraniadau. Maent ym mhobman sy'n cael ei effeithio gan chwarel. Mae pobl yn y cymunedau hynny'n teimlo'n ddi-lais, yn ddi-rym, ac yn methu fforddio gwrthwynebu, sicrhau dealltwriaeth o'r effaith, a pherswadio awdurdodau cynllunio. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi wrando ar yr hyn a ddywedwyd heddiw, fod rhywbeth wedi torri'n sylfaenol yn y system gynllunio. Ni ellir ei drwsio gan un awdurdod lleol, ac rwy'n croesawu awgrym Hefin David y dylai pob un ohonom sydd â diddordeb yn hyn ddod at ein gilydd, oherwydd mae rhywbeth yno nad yw'n gweithio ar hyn o bryd.
Hoffwn gofnodi fy edmygedd a thalu teyrnged i'r holl unigolion a grwpiau sy'n gweithio'n galed ym mhob un o'r cymunedau hyn i dynnu sylw at eu pryderon ac ymgyrchu dros newid; mae rhai o ymgyrch chwarel Craig-yr-Hesg yma heddiw. Maent yn craffu ar benderfyniadau'n ddiwyd, gan gasglu tystiolaeth y gobeithiant y bydd yn arwain at weld chwarela'n dod i ben ar y safle, ond mae'r her yn fawr; nid oes ganddynt adnoddau. Mae llawer o'r cymunedau yn gymunedau hynod o dlawd; ni allant godi'r arian i ymladd yn erbyn y math hwn o achos neu gasglu'r holl ymchwil i brofi'r hyn y gwyddant ei fod yn digwydd o'u cwmpas. Hefyd, mae gennym Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, ond nid yw honno'n cael ei hadlewyrchu yn y prosesau cynllunio ar hyn o bryd. Ac os ystyriwch lais lleol, fe wnaeth cyngor Rhondda Cynon Taf wrthwynebu hyn, roeddent yn cytuno â'r trigolion, ond colli a wnaethant er hynny. Felly, ni weithiodd hynny. Felly, carwn ein hannog i ddod at ein gilydd, oherwydd mae cymunedau fel Glyn-coch, fel pob un o'r rhai y cyfeiriwyd atynt, yn dioddef. Maent wedi blino ar beidio â chael eu clywed.
Ac os caf i orffen gyda Hadley, 6 oed, o Lyn-coch—mae gennym sylwadau ar yr effaith ar drigolion. Mae hi'n dweud, 'Rwy'n colli gweld y mynydd yn wyrdd ac yn agored. Mae'r ffrwydradau'n uchel ac yn frawychus, ac mae cymaint o lwch bob amser.' Sut mae hi'n mynd i allu dylanwadu ar bolisïau ar hyn o bryd? Mae hi'n gwybod beth sy'n digwydd, ond ni allwn ei brofi am nad oes gennym adnoddau i wneud hynny. Mae angen inni newid y system gynllunio; mae angen i gymunedau gael llais. Felly, rwy'n annog y Llywodraeth i ailystyried eu safbwynt presennol, i adlewyrchu Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ac i wrando ar yr holl gyfraniadau heddiw. Rwy'n derbyn y gallai fod newidiadau, gwelliannau, i'r ddeddfwriaeth, ond mae angen rhywbeth i'w newid, gan fod ein cymunedau yn ddi-rym ac yn ddi-lais. Maent angen newid, ac yn syml iawn, nid yw'n gweithio fel y mae.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gweithredu diwygiadau addysg: Adroddiad interim'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Buffy Williams.
Cynnig NDM8690 Buffy Williams
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Gweithredu diwygiadau addysg: Adroddiad interim’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl yn 2021, roedd bron bob aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnwys y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm i Gymru ymhlith ein blaenoriaethau craffu. Yr her a wynebwyd gennym oedd bod y ddau ddiwygiad yn cael eu cyflwyno dros nifer o flynyddoedd. Ni fyddai ymchwiliad traddodiadol wedi adrodd y stori lawn. Ni waeth pryd y byddem yn ei amseru, byddai wedi bod yn rhy gynnar neu'n rhy hwyr, yn rhy fanwl neu heb fod yn ddigon manwl. Felly, fe wnaethom gychwyn ar ymchwiliad dros oes y Senedd, gyda galwad agored am dystiolaeth ac archwiliadau craffu rheolaidd. Mae'r archwiliadau wedi ein galluogi i ddilyn stori gweithredu'r diwygiadau allweddol hyn.
Heddiw, rydym yn trafod ein hadroddiad interim. Diben yr adroddiad yw rhannu ein canfyddiadau hyd yma, i siapio'r ffordd y caiff y diwygiadau eu gweithredu dros gam olaf y chweched Senedd. Sut bynnag yr edrychwch chi arno, mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cynhwysfawr, hyd yn oed ar y cam interim. Adeg cyhoeddi ein hadroddiad, roeddem wedi ymweld â naw ysgol, wedi derbyn 57 o ymatebion i'r ymgynghoriad, wedi siarad â theuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol, wedi ysgrifennu at nifer o gyrff addysg ac iechyd, wedi cymryd tystiolaeth gan lywydd Tribiwnlys Addysg Cymru, ac wedi cynnal tair sesiwn graffu weinidogol.
Beth yw nodau datganedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwygiadau hyn? Ar ADY, nod Llywodraeth Cymru oedd creu un system ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol trwy roi cynllun datblygu unigol statudol—CDU—i bob dysgwr ag ADY. Ei amcan oedd hyrwyddo cydweithio rhwng y GIG a llywodraeth leol, gan leihau anghytundeb a helpu i ddatrys anghydfodau. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, yn y cyfamser, yn symud ysgolion i ffwrdd o ddull rhagnodol iawn yr hen gwricwlwm cenedlaethol. Mae'n rhoi mwy o bwyslais ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd fel oedolyn, ac addysgu'r hyn sy'n bwysig drwy roi hyblygrwydd i ysgolion lunio cwricwlwm sy'n iawn i'w dysgwyr hwy.
Felly, beth a welsom? I fod yn ddi-flewyn-ar-dafod, nid yw'r diwygiadau ADY yn datblygu fel a gynlluniwyd. Mae'r diwygiadau wedi arwain at ostyngiad o 44 y cant yn nifer y dysgwyr y cofnodwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig neu ADY. Mae'n ymddangos bod y gostyngiad hwn wedi ei ysgogi gan ostyngiad yn nifer y disgyblion y nodwyd bod ganddynt lefel isel i gymedrol o AAA neu ADY. Ni ragwelodd Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg yn ystod taith y Bil ADY y byddai'r diwygiadau bron yn haneru nifer y plant y nodwyd bod ganddynt anghenion ychwanegol. Mewn gwirionedd, honnodd Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro na fyddai'n cael unrhyw effaith ar gyfanswm y plant y nodwyd bod ganddynt ADY neu AAA.
Pam y mae hyn yn digwydd? Un ddadl yw bod AAA wedi'i or-gofnodi o'r blaen. Rydym yn ei chael hi'n anodd credu hyn. Gyda'r holl waith a'r adnoddau sy'n dod gydag ychwanegu plant at y cofrestri AAA, pam y byddai ysgolion yn gwneud y penderfyniad hwnnw os na fyddai gan blant AAA? Clywsom hefyd fod yr hyn a elwir yn 'ddarpariaeth gyffredinol'—y ddarpariaeth sydd ar gael fel mater o drefn i unrhyw blentyn yn yr ysgol—gymaint yn fwy cynhwysol y dyddiau hyn fel nad oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar rai plant ag anawsterau neu anableddau dysgu. Mae'n anodd credu hyn hefyd. Mae ein hadroddiad cyfochrog ar fynediad at ofal plant ac addysg i blant anabl yn ddigon o esboniad pam, a byddwn yn ei drafod ar wahân yn yr wythnosau nesaf.
Y rheswm mwyaf argyhoeddiadol yn ein barn ni yw nad oes gan ysgolion ac awdurdodau lleol adnoddau i roi CDU i bob plentyn a oedd ag AAA o dan yr hen system. Mae'r prinder adnoddau yn ganlyniad i flynyddoedd o danariannu systematig i'r ddarpariaeth AAA ac ADY mewn ysgolion, wedi'i waethygu gan y gofynion ychwanegol a roddir ar ysgolion gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r cod.
Nod datganedig nesaf y diwygiadau ADY oedd gwella cydweithio rhwng ysgolion a'r GIG. Ac mae wedi gwella, i raddau. Mae ysgolion ar y cyfan yn gadarnhaol ynglŷn â rôl newydd y swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg—y SACDA—y mae'n ofynnol i bob bwrdd iechyd ei llenwi o dan y Ddeddf. Ond mae ysgolion hefyd yn dweud nad ydynt yn cael digon o gefnogaeth gan swyddogion SACDA a chyrff iechyd, sy'n ei chael hi'n anodd bodloni disgwyliadau ysgolion. Pan gyhoeddwyd ein hadroddiad, dim ond pedwar SACDA oedd yn weithredol ar draws y saith bwrdd iechyd, gydag adroddiadau am swyddogion SACDA yn cael eu rhannu ar draws byrddau iechyd. Roedd hyn yn syndod i ni o gofio nodau'r diwygiadau ac apêl ysgolion am gapasiti SACDA ychwanegol.
Y trydydd nod oedd lleihau anghytundeb a helpu i ddatrys anghydfodau. Er bod cyfanswm yr apeliadau sydd wedi'u cofrestru gyda'r tribiwnlys wedi gostwng ychydig, mae nifer yr honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd wedi codi mewn gwirionedd. Ac mae'n destun pryder fod llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru wedi dweud wrthym nad yw polisïau ADY rhai awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r gyfraith. Go brin mai dyma'r ffordd gywir o leihau anghytundeb.
Credwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod ein pryderon. Rydym yn croesawu ei hymrwymiad i gynnal adolygiad o'r Ddeddf ADY a'r cod. Argymhellodd ein hadroddiad y dylai Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r adolygiad, archwilio beth yw 'darpariaeth gyffredinol'. Fe wnaethom ofyn iddi weithio gyda phartneriaid i benderfynu i ba raddau y dylai addysgu arferol ar draws ysgolion prif ffrwd ddiwallu anghenion dysgu plant ag ADY. Fe wnaethom alw arni hefyd fel rhan o'r adolygiad i ystyried sut y mae ysgolion prif ffrwd yn cael eu hariannu, ac a yw cyfyngiadau cyllido, fel rydym ni'n amau, yn un o'r pethau sy'n achosi'r gostyngiad yn nifer y plant y nodwyd bod ganddynt ADY.
Rydym yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hyn, neu eu derbyn yn rhannol, ac edrychwn ymlaen at ganlyniadau'r gwaith gwerthfawr hwnnw. Rydym yn llai bodlon ynghylch yr ymateb a gawsom i'n hargymhelliad ynghylch cynyddu capasiti SACDA. Fe wnaethom alw ar bob bwrdd iechyd i benodi ei aelod staff dynodedig ei hun i gyflawni rôl SACDA. Derbyniodd Llywodraeth Cymru hynny, gan ddadlau bod hyn eisoes yn digwydd. Ond os mai pedwar SACDA sy'n weithredol ar draws saith bwrdd iechyd, nid yw hyn yn digwydd.
Mae'r ymchwiliad wedi ystyried y Cwricwlwm i Gymru hefyd. Mae ein gwaith craffu wedi canolbwyntio'n bennaf ar y system ADY, yn bennaf oherwydd y bydd manteision neu anfanteision y cwricwlwm newydd yn cymryd mwy o amser i ddod yn glir. Ond rydym bellach mewn cyfnod lle mae rhai themâu'n ymddangos.
At ei gilydd, mae ysgolion yn gadarnhaol ynghylch y Cwricwlwm i Gymru. Clywsom straeon gwych ynglŷn â sut y mae ysgolion yn addasu eu cwricwla i weddu orau i'w dysgwyr a'u cymunedau. Mae athrawon yn gwerthfawrogi'r rhyddid y mae'r cwricwlwm newydd yn ei roi iddynt.
Ond fe glywsom rai pryderon hefyd ynghylch effaith bosibl y cwricwlwm newydd ar safonau ysgolion. Roedd rhai yn teimlo y bydd yr hyblygrwydd sydd gan ysgolion nawr yn tanseilio cysondeb a chanlyniadau i blant. Dadleuodd eraill y bydd cwricwla amrywiol ysgolion yn methu paratoi myfyrwyr yn effeithiol ar gyfer y TGAU newydd ar gyfer Cymru. Ni wnaeth canlyniadau profion PISA 2022 dawelu meddyliau yn wyneb y pryderon hyn. Ni chafodd y plant a oedd yn sefyll y profion hynny eu haddysgu o dan y cwricwlwm newydd, ond dadleuodd rhai, fel yr academydd Luke Sibieta, fod dirywiad yn safonau ysgolion wedi dilyn i bob gwlad a fabwysiadodd gwricwla fel y Cwricwlwm i Gymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rhain yn faterion cymhleth, technegol, ond mae ganddynt ganlyniadau enfawr i fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru. Felly, buaswn yn gwerthfawrogi eich ymateb i'r cwestiynau hyn yn arbennig. A ydych chi'n poeni am y gostyngiad o 44 y cant yn nifer y plant y nodwyd bod ganddynt ADY neu AAA? A ydych chi wir yn credu bod gan lai o blant ADY nawr, neu fod addysgu dosbarth cyfan gymaint yn fwy cynhwysol na'r hyn ydoedd ychydig flynyddoedd yn ôl yn unig? A allwch chi ddweud pa un a oes saith SACDA llawn amser yn eu lle ar draws Cymru erbyn hyn—un ar gyfer pob bwrdd iechyd—neu a wrthodwyd yr argymhelliad hwn mewn gwirionedd? Os felly, pam? Ar y Cwricwlwm i Gymru, a allwch chi ein sicrhau ni heddiw y bydd ysgolion sy'n addysgu o dan y cwricwlwm newydd yn paratoi pobl ifanc yn ddigonol ar gyfer eu harholiadau cyfnod allweddol 4, ac na fyddwn yn gweld dirywiad yn safonau dysgwyr o ganlyniad i'r hyblygrwydd a roddir i ysgolion? Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau heddiw ac at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
A gaf i ddiolch i'r pwyllgor yr wyf newydd ymuno ag ef, a gwn fod y rhan fwyaf o'r adroddiad wedi'i wneud cyn i mi ymuno, gan gyd-Aelodau fel Laura Anne Jones ac eraill? A gaf i ddechrau drwy ddweud pa mor braf yw bod ar y pwyllgor ac i fod wedi dal pen y gynffon ar hyn? Rwy'n gwybod bod Buffy a minnau wedi ymweld ag ysgol ym Mhort Talbot i glywed mwy am rai o'r problemau yr oeddent yn eu hwynebu, ac roedd hynny'n ddefnyddiol iawn, felly rwy'n ddiolchgar i Ysgol Gynradd Sandfields am eu croeso y diwrnod hwnnw.
Fel y mae Buffy eisoes wedi nodi, mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ddwy elfen allweddol o'r diwygiadau addysgol: y cwricwlwm ac ADY. Os caf ddechrau gyda'r cwricwlwm, rwy'n credu bod Buffy yn iawn i ddweud ei bod yn amlwg ei bod yn ddyddiau cynnar iawn arnom yn y broses gyda'r cwricwlwm, ond roeddwn eisiau cydnabod un dyfyniad yn yr adroddiad, a ddywedai fod
'tensiwn sylfaenol rhwng hyblygrwydd a chreadigrwydd cynhenid y Cwricwlwm i Gymru, a’r angen am gysondeb addysgol...a datblygu cyfres safonol o gymwysterau'.
Ac rwy'n credu bod hynny'n wir mewn nifer o ffyrdd. Rwy'n gwybod bod gennym ddadl ar ddarllen gan y Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddarach heddiw, a buaswn yn dadlau bod y dyfyniad hwnnw'n berthnasol i'r ddadl honno hefyd, yn ogystal ag i nifer o faterion eraill. Ac edrychwch, rwy'n credu ein bod mewn cyd-destun ehangach yng Nghymru ym myd addysg yn fwy cyffredinol, lle rydym wedi gweld canlyniadau PISA gwael. Gadewch inni siarad heb flewyn ar dafod: dyma'r canlyniadau PISA gwaethaf erioed. Ni sydd wedi gwneud waethaf ym mhob pwnc bob tro y cawsom ein hasesu yma yng Nghymru. Yn 2009, dywedodd Leighton Andrews ei fod yn canu larymau ar system hunanfodlon, a 15 mlynedd yn ddiweddarach mae'r canlyniadau hynny hyd yn oed yn waeth. Felly, rwy'n poeni weithiau nad yw ein dysgwyr yn cael addysg o'r ansawdd y byddai llawer o ddisgyblion a llawer o rieni yn disgwyl iddynt ei chael pan fyddant yn mynd i ysgolion Cymru, ac rwy'n meddwl bod yr adroddiad yn nodi rhai o'r rhesymau am hynny.
Gan symud ymlaen at ADY, rwy'n croesawu rhai o'r diwygiadau a wnaed, ond yr hyn nad wyf yn ei groesawu, fel y soniodd y Cadeirydd ar ddiwedd ei sylwadau, yw'r gostyngiad yn nifer y rhai y cydnabyddir eu bod angen cymorth dysgu ychwanegol: gostyngiad o 23.5 y cant yn 2020-21 a 18.95 y cant yn 2021-22. Yn 2016-17, nodwyd bod gan 92,000 o blant AAA gydag anawsterau neu anableddau dysgu lefel isel i gymedrol. Yn 2022-23, mae'r nifer bron â bod wedi haneru. Nawr, ni allaf gredu'n realistig fod llai o bobl ifanc heddiw ag anghenion dysgu ychwanegol nag a oedd ddegawd yn ôl, felly mae'n amlwg fod elfennau enfawr o'r system nad ydynt yn gweithio ac sy'n achosi rhwystredigaeth i rieni, i ddisgyblion, i athrawon ac eraill sy'n poeni am y bobl ifanc hyn nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae cynlluniau datblygu unigol (CDU) yn hanfodol i ddatblygiad unrhyw blentyn ag ADY wrth gwrs, ac maent yn ddogfennau cyfreithiol, ac mae hynny'n newid i'w groesawu o'r hen gynlluniau addysg unigol, ond mae CDU yn cymryd llawer mwy o amser i'w ddatblygu ac o ganlyniad, gwelwn gynnydd enfawr yn llwyth gwaith staff—clywsom am hynny'n uniongyrchol—i'r pwynt lle mae rhai rhieni, rhai elusennau hyd yn oed, yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o'u cwblhau. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn datrys hynny, a sicrhau hefyd ein bod yn cefnogi anghenion y rhai ag ADY. Ni allwn gael system lle mae'r rhai sy'n cwblhau cynlluniau datblygu unigol eisoes yn cael trafferth gyda llwyth gwaith hynod o drwm. Mae rhai ysgolion wedi penodi cydlynwyr anghenion addysgol arbennig; ceir ysgolion eraill nad ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny, ac rydych chi'n gweld athrawon yn gorfod gwneud hynny ochr yn ochr â gwaith arall a chyfrifoldebau eraill.
Yr hyn sydd ei angen arnom yw system effeithlon—ac mae'r adroddiad yn galw am hyn—lle mae'r meini prawf yn llawer cliriach, lle mae'r cymorth cywir yn cael ei gynnig yn y meysydd cywir, a lle mae'r rhai sydd ag ADY, boed eu bod ganddynt ar hyn o bryd o dan y system newydd hon ai peidio, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ond sut bynnag yr edrychwn ar hyn, wrth symud ymlaen, mae'n amlwg fod gormod o'n dysgwyr yng Nghymru'n cael eu gadael ar ôl. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef ar frys. Nid yw'n bosibl mai dyma oedd bwriad y diwygiadau yr aethpwyd ar eu trywydd gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac rwy'n credu bod yr adroddiad yn dweud yn hollol glir beth yw'r rhesymau pam fod cwestiynau amlwg yn codi. Gobeithio y cawn glywed yn glir gan Ysgrifennydd y Cabinet am y camau y bydd yn eu cymryd i ddatrys rhai o'r problemau hirsefydlog hyn yn ein system addysg. Diolch yn fawr.
Wel, fel rŷn ni i gyd, dwi'n siŵr, yn cytuno, mae addysg wir yn allweddol i ddyfodol Cymru, ac mae Plaid Cymru eisiau sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd fel Senedd i greu system addysg sy'n sicrhau bod ein pobl ifanc ni a'r gweithlu yn llwyddo ac yn ffynnu.
Rŷm ni'n dal i gredu y gall y cwricwlwm newydd yma weithio a chwarae rhan hanfodol i gyflawni’r weledigaeth hon, ond mae angen inni sicrhau ein bod ni'n cael pethau yn iawn cyn symud ymlaen. Mae'n rhaid inni sicrhau, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, nad yw ein plant a'n pobl ifanc sydd angen cefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol yn dioddef mewn unrhyw ffordd oherwydd y diwygiadau sydd eisoes wedi eu gwneud i’r system. Mae'n fy mhoeni i'n fawr iawn fod 40 y cant o leihad yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn cefnogaeth o ran addysg anghenion arbennig. Felly, mae'n bwysig, wrth inni edrych ar y pwnc arbennig yma, ein bod ni fel pwyllgor—a dwi'n newydd i'r pwyllgor hefyd ac wedi dal jest diwedd y gwaith gafodd ei wneud ar ADY yn benodol—yn parhau i edrych ar yr arhymhellion ac adroddiad interim y pwyllgor.
Nawr, mae’r Cadeirydd eisoes wedi nodi’n fanwl nifer o’r pwyntiau sydd yn deillio o’r adroddiad yma, ac mae Heledd Fychan, a fuodd yn aelod o'r pwyllgor ar ran Plaid Cymru fel llefarydd addysg, wedi nodi nifer o bwyntiau pwysg dros y misoedd diwethaf mewn perthynas â hyn, a'r angen yn benodol am gyllid digonol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Allwn ni ddim â gadael y plant yma i lawr, felly mae'n rhaid inni sicrhau cyllid digonol, a chyllid digonol hefyd i sicrhau bod y gefnogaeth iddyn nhw ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, byddwn i'n falch o glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r pwyntiau penodol yna. Dwi'n gwybod bod yna ddatganiad wedi cael ei wneud ar hyn yn ddiweddar, ond mi fyddwn ni'n dymuno cadw llygaid barcud ar y Llywodraeth i sicrhau eu bod nhw'n gweithredu yn y maes hwn.
Nawr, o ran y cwricwlwm yn fwy cyffredinol, ac wrth iddo fe ymestyn i flynyddoedd TGAU yn benodol, dwi eisiau gwneud cwpl o bwyntiau. Dwi am ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet i roi ymateb ar beth sydd wedi digwydd yn y cwricwlwm yn fwy diweddar yn yr Alban a Seland Newydd, achos nhw oedd y modelau roeddem ni'n eu defnyddio fel sail i'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno yma yng Nghymru. Felly, byddwn i eisiau clywed a oes yna newidiadau wedi digwydd yn y gwledydd yna, a beth yw goblygiadau hynny i ni yma yng Nghymru.
Ond, i gloi, Dirprwy Lywydd, dwi eisiau jest rhoi sylw'n benodol i set o gymwysterau newydd, yn benodol yn TGAU hanes Cymru. Dwi wedi clywed nifer o haneswyr ac arbenigwyr yn y maes yma yn nodi bod y fanyleb yn annigonol o safbwynt cyflwyno hanes Cymru i'n plant a'n pobl ifanc. Nawr, bydd rhai ohonoch chi yn gwybod bod cyflwyno hanes Cymru wedi bod yn rhan o'r cytundeb cydweithio a fuodd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, ac roedd hynny'n rhan ganolog o'r newidiadau roeddem ni'n ceisio eu symbylu fel rhan o'r cytundeb hwnnw. Ond, mae'r athro a'r academydd Dr Huw Griffiths wedi gwneud llawer o waith ar hyn yn ddiweddar, ac wedi cymharu faint o hanes Cymru sydd yn y cwricwlwm TGAU o’i gymharu â'r hyn sy'n cael ei ddysgu am hanes yr Alban a Gogledd Iwerddon yn eu cwricwlwm nhw. Mae'r canlyniadau'n syfrdanol. Dyma beth mae wedi'i ddarganfod: o ran hanes Gogledd Iwerddon yn eu TGAU nhw, mae 40 y cant o'r marc terfynol yn dibynnu ar hanes Gogledd Iwerddon; hanes yr Alban, yn eu national nhw, gradd 5, 35 y cant o'r marc terfynol; hanes Cymru yn y TGAU newydd yma, 21 y cant o'r marc terfynol. Felly, dwi'n siŵr bod hyn yn fater o siom i bob un ohonom ni.
Felly, i gloi, hoffwn i ddiolch i gyd-aelodau'r pwyllgor am eu gwaith, a dwi'n edrych ymlaen i barhau i ymchwilio i ddatblygiadau'r cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol yn arbennig erbyn diwedd y tymor hwn, er lles ein plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr iawn.
Mewn gwirionedd, rwyf wedi rhoi gwybod i'r Prif Chwip fy mod yn dymuno gadael y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac o'm rhan i, rwy'n aros i fy enw gael ei dynnu oddi arno. Roeddwn am ddweud hynny ar y cychwyn, ond roeddwn yn rhan o’r pwyllgor drwy ran o’r drafodaeth hon a arweiniodd at yr adroddiad. Rwyf hefyd am ddatgan buddiant: rwy’n dad i ferch anabl iawn sy’n elwa o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae ganddi anghenion dwys ac mae ganddi gynllun datblygu unigol, ac nid oes gennyf unrhyw beth ond canmoliaeth am y ffordd y gofalwyd amdani yn y system hon. Mae'r system wedi gweithio iddi.
Hoffwn hefyd ganmol Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd, fel rhiant i'r plentyn hwnnw, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando arnaf mewn ffyrdd nad yw Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol wedi gwneud. Mae hi'n amlwg wedi ymgysylltu ag agwedd iechyd meddwl pob un o'r pethau hyn, ac mae bellach wedi ymrwymo i adolygiad, a chredaf fod hynny'n haeddu cydnabyddiaeth a diolch y Siambr hon, y ffaith ei bod wedi gwneud hynny, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cyfrannu wedyn at yr adolygiad hwnnw.
Rwyf am ganolbwyntio ar dri argymhelliad—argymhellion 3, 4 a 5—ac archwilio ymateb Llywodraeth Cymru i rai o’r rheini. Cyn imi wneud hynny, roedd brawddeg a oedd yn mynd i gael ei chynnwys yn yr adroddiad a ddywedai fod polisi Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â holl blant Cymru. Yn bendant ac yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Dylwn ddweud, am fy mhlentyn, gan ei bod mor amlwg y gellir gwneud diagnosis yn ei hachos hi—mae'n ddieiriau, mae ganddi'r holl anawsterau cyfathrebu sy'n nodweddiadol o awtistiaeth—mae hi'n cael y gefnogaeth honno. Yr anhawster sydd gennym yw gyda phlant sydd yn y tir llwyd o ran cael diagnosis, sydd ychydig y tu allan i'r cymorth statudol sydd ar gael, a rhoi cymorth iddynt hwy yw'r her am fod eu hanghenion yn wahanol ac yn amrywiol iawn, ac yn aml, mae cymorth i'r bobl ifanc hynny'n fwy cymhleth nag i blant fel fy merch.
Felly, ymlaen at yr argymhellion. Argymhelliad 3:
'Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn penodi ei Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA) pwrpasol ei hun',
a dywed ymateb Llywodraeth Cymru,
'Mae'r argymhelliad yn cael ei dderbyn gan fod gan bob Bwrdd Iechyd eisoes Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg'.
Wel, fel y dywedodd Buffy Williams yn ei haraith agoriadol, mae pedwar SACDA a chwe bwrdd iechyd. Nid yw'n cyfateb, ac mae angen inni wybod pam fod Llywodraeth yn credu bod hynny'n foddhaol a ninnau fel pwyllgor yn teimlo nad yw'n foddhaol.
Mae hynny’n fy arwain at argymhelliad 4. Bûm yn Ysgol Gyfun Cymunedol Llangatwg yng Nghastell-nedd i ymweld â’r tîm yno, a chawsom straeon a oedd yn agoriad llygad i ni. Un o'r problemau—. Roedd ganddynt dîm o gydlynwyr ADY arbennig o dda; roedd bron fel adran gydlynwyr ADY, gyda chydlynydd ADY yn arwain, dirprwy gydlynydd ADY, ac roedd y cynorthwywyr addysgu yn gweithredu yn y rolau hynny hefyd. Roedd bron fel adran gydlynwyr ADY, a oedd mor wahanol i fy ysgol i, fy hen ysgol, Ysgol Gyfun Heolddu, lle rwy'n llywodraethwr, lle mae un cydlynydd ADY yng ngofal 71 CDU, ac yn wynebu her enfawr yno. Roedd Llangatwg wedi llwyddo i symud rhywfaint o’u cyllid COVID i’r rôl honno, ond rydych chi'n cwestiynu pa mor gynaliadwy oedd hynny.
Un o'r pethau y dywedasant wrthym oedd bod y broses yn feichus i gysylltu â iechyd. Felly, oedd, roedd eu SACDA yn wych, ond nid oedd eu SACDA yn gallu datrys eu problemau am fod yn rhaid iddynt fynd drwy'r awdurdod lleol. Felly, os oeddent am gysylltu plentyn â’r bwrdd iechyd, i gael diagnosis efallai, roedd yn rhaid iddynt fynd yn gyntaf at yr awdurdod lleol, yna at y bwrdd iechyd, yna yn ôl o’r bwrdd iechyd at yr awdurdod lleol ac yn ôl at yr ysgol. Ac oherwydd y broses honno, weithiau, nid oeddent yn cael yr ymatebion y chwilient amdanynt, ac mewn gwirionedd, roeddent yn ymatebion i gwestiwn gwahanol. Felly, roedd yn rhaid iddynt fynd yn ôl drwy’r broses eto. Felly, mae rheswm pam nad yw'r system hon yn gweithio, ac mae'n ymwneud â mwy na chyllid yn unig—mae'n ymwneud hefyd â'r ffordd y mae'r system wedi'i strwythuro, a hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar hynny, ac ystyried sut y gellir mynd i’r afael â’r broblem honno. Ac fel y soniais, mae'r cydlynydd ADY—[Torri ar draws.] Ie.
Diolch. Mae’n bosibl mai fi yw’r unig un neu un o’r ychydig iawn o bobl sydd ar ôl a fu’n eistedd ar y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes o 2005 ymlaen a gynhyrchodd yr adroddiadau a arweiniodd, yn y pen draw, at y ddeddfwriaeth hon. Rwyf hefyd yn rhiant i rywun a oedd ar y pryd yn blentyn y bu'n rhaid iddynt frwydro yn erbyn yr hen system i gael y datganiad y mae hyn yn ei ddisodli. Felly, rwyf wedi bod yno, ac wedi clywed tystiolaeth ar hyn yn y gorffennol. Ond drwy gydol y broses hon, a ydych chi'n rhannu’r pryder a fynegwyd gennyf, sef heb fynd ati o’r dechrau, yn rhagweithiol, i hyfforddi, ymgysylltu a monitro a gwerthuso’r rhai sy’n gorfod gweithredu hyn, ein bod mewn perygl o roi’r grym i’r bobl a wnaeth bethau'n anghywir yn y gorffennol i wneud pethau hyd yn oed yn fwy anghywir yn y dyfodol?
Rydych newydd daro nodyn gyda mi yno. Cafodd fy merch ei gwrthod am ddatganiad pan oedd yn yr ysgol brif ffrwd, ar yr achlysur cyntaf, ac roeddwn yn credu bod hynny'n gwbl ryfeddol. Ni ddylai fod wedi digwydd. A chredaf fod y broblem honno'n rhan o hyn—y frwydr gyson y mae rhieni'n teimlo eu bod yn ei chael oherwydd y rhwystrau yn y system. Yn y diwedd, fe gafodd ddatganiad gan ei bod mor amlwg ei bod yn anabl. Ond ni ddylwn fod wedi gorfod mynd drwy hynny. Felly, rwy'n credu mai'r hyn rydych yn ei gydnabod yno yw'r hyn roedd y Ddeddf ADY yn ceisio ei unioni mewn gwirionedd. Y broblem yw bod y gymhariaeth â nifer y CDUau gyda gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy a datganiadau, fel y dywed Buffy, yn llai nag yr arferai fod, felly mae’n amlwg fod problem yno y mae angen mynd i’r afael â hi.
O ran—. A fyddai ots gennych pe bawn i'n gorffen?
Hefin, fe roddaf funud a hanner ychwanegol i chi am eich bod wedi derbyn yr ymyriad.
Diolch. Mewn perthynas ag argymhelliad 5, dylai Llywodraeth Cymru ofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen cydlynwyr ADY wneud gwaith pellach i archwilio cyflog a thelerau ac amodau staff addysgu sy’n gweithio’n gyfan gwbl neu’n rhannol fel dirprwy gydlynwyr ADY neu gydlynwyr ADY cynorthwyol. Nawr, dyna’r rhai roeddwn yn meddwl amdanynt yn Llangatwg pan geisiais gael yr argymhelliad hwn wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, ac mae’r Llywodraeth wedi ei wrthod. Ond rwy’n cymryd, o drafodaethau gyda’r Gweinidog a’r cynghorydd arbennig, mai gwrthodiad technegol ydyw, yn yr ystyr fod y grŵp gorchwyl a gorffen eisoes wedi adrodd, felly rydym ychydig ar ei hôl hi. Ond credaf fod yr argymhelliad yn dal i sefyll, ac mae angen inni sicrhau y ceir parch cydradd i ddirprwy gydlynwyr ADY a chydlynwyr ADY cynorthwyol a chreu'r adrannau cydlynwyr ADY hynny. Felly, mae'n adroddiad da, mae gennym Ysgrifennydd Cabinet da iawn, ac edrychaf ymlaen at glywed ei hymateb.
Rwy'n croesawu'r adroddiad a’i argymhellion ar gefnogi plant ag ADY yng Nghymru yn fawr. Mae’r nifer gynyddol hon o blant yn haeddu’r addysg orau y gallant ei chael, a’n dyletswydd foesol a deddfwriaethol ni yw sicrhau eu bod yn ei chael. Roeddwn yn falch o fod wedi dechrau’r gwaith ar yr adroddiad hwn gyda chyd-Aelodau o'r Senedd pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn, ac a gaf i ddechrau hefyd drwy ddiolch i glerc y pwyllgor, ein Cadeiryddion gwych yn Jayne Bryant a Buffy Williams bellach, a holl staff y pwyllgor a'r Aelodau o'r Senedd am eu holl waith caled ar hyn, a hefyd diolch i’r Cadeiryddion a'r cyn-Gadeiryddion am nodi fy mhryderon i gychwyn ac am fwrw ymlaen â hwy. Credaf y gall pob un ohonom gytuno, er ein bod i gyd wedi cydnabod y broblem yn wreiddiol pan awgrymais yr adolygiad o gydraddoldeb mynediad at ofal plant ac addysg, na sylweddolodd yr un ohonom faint o rwystrau sydd i blant a phobl ifanc wrth geisio cael yr addysg orau bosibl, addysg a gâi ei chymryd yn ganiataol gan y rhan fwyaf ohonom, rwy'n credu, a pha mor hir y mae plant yn aros i gael eu nodi a chael y cymorth cywir.
Mae cysylltiad cynhenid rhwng yr adroddiad hwnnw a hwn o ran y Bil diwygiadau ADY a’r cwricwlwm, a chanfuom fod y diwygiadau ADY newydd wedi achosi rhywfaint o broblemau nad wyf yn credu bod unrhyw un ohonom wedi'u disgwyl wrth bleidleisio o blaid y diwygiadau mawr eu hangen i ADY. Er eu bod wedi bod o fudd mawr iawn i lawer o bobl, fel chi, yr Aelod dros Gaerffili a’i deulu, y broblem fawr y mae’r pwyllgor wedi’i chydnabod yw efallai nad yw’r diwygiadau newydd yn ddigon clir, ac yn anffodus, maent wedi arwain at y ddeddfwriaeth yn cael ei dehongli mewn 22 o wahanol ffyrdd gan y 22 gwahanol awdurdod lleol. Canlyniad hyn yw darpariaeth a gwasanaethau anghyfartal ledled Cymru, ac rwy’n siŵr nad oes yr un ohonom am weld loteri cod post o ran nodi, gofalu a darparu ar gyfer plant a phobl ifanc.
Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod yn gyntaf fod hyn yn digwydd, ac yn ail, sicrhau bod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch a cheisio unioni’r sefyllfa hon ar fyrder. Pryder arall, fel y crybwyllwyd eisoes, yw bod plant sydd â ffurfiau isel i gymedrol o ADY yn cwympo o dan y radar. Nid ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, sy'n amlwg yn y gostyngiad aruthrol yn y niferoedd y nodwyd eu bod yn blant ag ADY. Credaf mai dyna mae’r ffigurau y buom yn sôn amdanynt yn gynharach yn ei gynrychioli. Mae gennyf barch mawr at ymroddiad a chryfder rhieni plant ag ADY, yn enwedig ffurfiau prin neu ddifrifol, nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n rhyfeddu at y rhieni hynny sy'n ceisio ymateb i’r heriau a wynebant bob dydd, i sicrhau bod eu plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Roedd yn gwbl glir o’r dystiolaeth a gasglwyd gennym fod angen i’r cymorth ar eu cyfer fod yn llawer gwell, yn llawer cliriach, ac yn fwy hygyrch, ac mae angen i ysgolion gael eu harfogi’n well. Roedd llawer yn teimlo'n ynysig iawn ac yn ddiymadferth nad oeddent yn gwybod sut i gael y cymorth yr oedd eu plant ei angen, ac mae'n eithaf torcalonnus. Rwy'n meddwl am ffrindiau sydd â phlant ag ADY sydd wedi bod yn aros ers blynyddoedd i geisio cael eu plentyn wedi'u nodi, ac mae’r plentyn hwnnw wedi gwaethygu’n raddol ac wedi llithro fwyfwy ar ôl yn eu dosbarth, sydd wedi arwain at fwlio a phob math o broblemau ychwanegol eraill nad oedd angen iddynt ddigwydd.
Roedd cyflwyno’r Bil diwygio ADY yn gam mawr ei angen i’r cyfeiriad cywir. Fe’i cynlluniwyd i sicrhau cysondeb a thegwch, gan sicrhau bod plant ag ADY yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ni waeth ble maent yn byw. Ond mae’r anghysondeb hwn yn peri dryswch a rhwystredigaeth i rieni, gofalwyr a hyd yn oed yr ysgolion eu hunain, gan nad oes unrhyw un yn siŵr mewn gwirionedd beth yw’r peth iawn i’w wneud. Mae plant ar restrau aros, fel y dywedais, am amser maith iawn, yn aros i gael eu nodi a'u hasesu, ac mae rhai'n cwympo o dan y radar, tra bo eraill sydd ar y ffin o fod ag anawsterau mwy amlwg yn dioddef wrth iddynt aros, ac yn lithro ar ôl o gymharu â'u cyfoedion. Mae’n rhaid imi gytuno â’r Aelodau dros Gaerffili a Gogledd Cymru ynglŷn â hynny.
Mae’r oedi hwn yn annerbyniol, ac mae angen inni gymryd camau i fynd i’r afael â’r ôl-groniad fel mater o frys. Os ydym am ddarparu’r addysg orau i bob plentyn, mae'n rhaid inni sicrhau bod cyllid yn cyrraedd yr ysgolion i’w gyfeirio wedyn at y mannau lle mae ei angen fwyaf gan y rhai sy’n gwybod, yn yr ysgol, beth yw'r ffordd orau o’i ddefnyddio. Rwy’n llwyr gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad, a chredaf y byddant yn helpu i ddechrau mynd i’r afael â’r problemau. Mae angen i’r Llywodraeth fod o ddifrif yn eu cylch a gweithredu ar frys, gan fod plant yn dioddef yn ddiangen ledled Cymru yr eiliad hon. Mae angen inni fabwysiadu dull mwy safonol ar draws awdurdodau lleol, cael prosesau asesu cyflymach, ac ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn cael eu hariannu’n ddigonol i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i blant ag ADY.
Gadewch inni beidio ag anghofio bod y plant hyn yn haeddu’r addysg orau oll, a’n cyfrifoldeb ni yw sicrhau eu bod yn ei chael. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu’n gyflym i roi’r newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad ar waith, a darparu’r cyllid a’r canllawiau angenrheidiol sydd eu hangen mor glir. Mae'n bryd i blant ag ADY gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ni ellir cyflawni’r nod na ddylai unrhyw blentyn gael ei adael ar ôl yng Nghymru oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymrwymiad ariannol go iawn i bob plentyn sydd â phob math o ADY. Diolch.
Gaf i ategu fy niolch innau i'r clercod, i bawb roddodd dystiolaeth i ni pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor? Mae Sioned Williams, Cefin Campbell a finnau fel aelodau o'r blaid wedi bod yn rhan o hyn, ond er ein bod ni ddim ar y pwyllgor, finnau a Sioned, erbyn rŵan, mae'n amhosib cerdded i ffwrdd o'r gwaith yma oherwydd faint o waith achos rydyn ni'n ei gael, ond hefyd y mewnwelediad a'r agoriad llygad fuodd o brofiadau byw y plant a'r bobl ifanc efo anghenion dysgu ychwanegol ond hefyd eu teuluoedd. Mi wnaiff o aros efo fi am byth—bod ar risiau'r Senedd hon mewn protest oedd yn cael ei fynychu gan bobl o ledled Cymru, ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ni, gan rieni oedd dirfawr angen help, yn dweud dydy'r system ddim yn gweithio iddyn nhw.
Dydy hynna ddim i ddweud bod yna ddim plant yn derbyn y gefnogaeth. Mi gawsom ni enghreifftiau gwych fel rhan o'r ymchwiliad yma o lle mae o'n gweithio'n dda a'r plant a'r bobl ifanc yna yn ffynnu a'u teuluoedd nhw yn ffynnu, felly mae yna arfer da, ond mae loteri cod post yma. Mi oedd yna riant ar risiau'r Senedd yn dweud ei bod hi wedi bod yn ystyried cyflawni hunanladdiad oherwydd y straen aruthrol oedd arni, ei bod hi'n methu â chefnogi ei phlentyn. Dyma pa mor ddifrifol ydy'r sefyllfa yma, bod pobl yn teimlo fel eu bod nhw'n methu eu plant oherwydd nad yw'r system ddim yn gallu rhoi'r gefnogaeth.
Dwi'n falch iawn o'r holl bethau rydyn ni wedi'u clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran hyn ers iddi ddod i'r rôl. Dwi'n falch o weld cymaint o'r argymhellion wedi'u derbyn. Y cwestiwn sydd gen i ydy: beth am y plant yna sydd wedi cael eu methu ers i'r system newydd ddod i rym ac sydd ddim bellach mewn addysg? Rydyn ni'n gwybod bod twf wedi bod yn y nifer sy'n cael eu haddysgu o gartref rŵan. Rydyn ni wedi clywed tystiolaeth gan rieni yn dweud bod ysgolion wedi dweud, 'Fedrwn ni ddim diwallu anghenion eich plentyn chi. Dydyn ni'n methu gwneud dim byd. Does yna ddim byd rydyn ni'n gallu ei wneud', gan olygu nad dewis ydy addysgu o gartref—maen nhw wedi cael eu gorfodi i addysgu o gartref.
Rydyn ni hefyd wedi clywed tystiolaeth drwy'r ymchwiliad hwn o'r trawma mae plant wedi bod yn ei ddioddef oherwydd y diffyg cefnogaeth, a'r ffaith bod absenoldebau yn uchel iawn ymhlith rhai dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, a bod mynd i'r ysgol wedi bod yn drawmatig iddyn nhw ac felly bod rhieni yn cael trafferth mawr i'w cael nhw i'r ysgol bellach, oherwydd hefyd dydy'r gefnogaeth ddim ar gael, ond mae'r ymddiriedaeth wedi mynd. Hyd yn oed os ydy'r pecyn yn gallu bod yna rŵan, mae'r ymddiriedaeth wedi mynd. Felly, buaswn i'n hoffi gwybod, yn ogystal â'r pethau rydych chi'n ymrwymo i'w gwneud, sut ydyn ni am sicrhau ein bod ni'n deall faint o blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd ddim yn y system addysg ar y funud, a sut ydyn ni'n eu cefnogi nhw a'u teuluoedd. Oherwydd er bod yna ddatrysiadau y medrwn ni eu rhoi i'r rhai sy'n dechrau mynd drwy'r system neu fydd yn mynd drwy'r system, mae yna genhedlaeth goll rŵan sydd ddim wedi bod yn cael eu cefnogi. Felly, tra'n edrych ar y darlun llawn, dwi'n meddwl fedrwn ni ddim gadael y teuluoedd yma a'r plant a phobl ifanc yma ar eu pennau eu hunain chwaith.
Rydyn ni'n dal i glywed, yn anffodus, gan rai rhieni sydd â phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd efallai ddim yn mynd i'r ysgol neu'n anghyson o ran presenoldeb, eu bod nhw dal yn cael eu bygwth efo dirwy neu fod yna ryw fath o erlyn arnyn nhw gan fod eu plentyn nhw ddim yn yr ysgol. Felly, mae hwn yn llawer mwy cymhleth. Mae yna bwyntiau negyddol yn cael eu rhoi i blant sydd ag ADHD, er enghraifft, mewn rhai o'n hysgolion ni, yn dangos diffyg dealltwriaeth o beth ydy ADHD. Os dydy rhywun ddim, efallai, yn canolbwyntio fel y dylen nhw, pam maen nhw'n cael pwynt negyddol am rywbeth fedran nhw ddim ei reoli? Mae yna bethau y gallwn ni newid. Felly, dwi'n falch bod yna gymaint ohonon ni efo diddordeb ac angerdd am hyn yn y Siambr hon, ond dwi'n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu edrych hefyd ar y rhai sydd wedi eu methu hyd yma a sut rydyn ni'n cefnogi nhw a'u teuluoedd.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd am gyflwyno'r ddadl hon ac i'r holl Aelodau ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu holl waith caled ar y pwnc pwysig hwn. Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn ystyried nifer o ddeisebau'n ymwneud â darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n fater pwysig i bobl ym mhob rhan o Gymru, fel y dynodai amrywiaeth a phoblogrwydd y deisebau a gawsom.
Ddydd Llun, buom yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am bum deiseb yn ymwneud ag ADY, gan gynnwys yr ymateb diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ddeiseb P-06-1392, 'Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’. Cafodd y ddeiseb honno ei thrafod yn y Siambr yn ôl ym mis Mai. Yn yr ohebiaeth ddiweddaraf rhyngom ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fe nododd ei bod wedi diolch i grŵp Diwygio ADY Cymru a’r Aelodau am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i gydweithredu â swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl yr uchelgeisiau ar gyfer diwygio ADY yn cael eu gwireddu. Nodwn fod rhai o’r deisebwyr yn gysylltiedig â grŵp Diwygio ADY Cymru ac rydym yn croesawu ymgysylltiad o'r fath yn y maes polisi pwysig hwn. Mae’r pwyllgor wedi trosglwyddo holl safbwyntiau a sylwadau’r deisebwyr ar ddarpariaeth ADY i’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eu hystyried yn ei waith cynhwysfawr ar ddiwygio ADY a’i ymchwiliad ehangach i fynediad at addysg a gofal plant i bobl anabl.
Ddydd Llun, cytunodd y Pwyllgor Deisebau i gau’r pum deiseb ADY, ond wrth wneud hynny, fe wnaethom nodi dyhead Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a’r flaenoriaeth uchel y mae’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi’i rhoi, ac yn parhau i'w rhoi, i graffu ar y materion hyn. Mae’r ddau beth yn hanfodol os ydym am sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli dim o'u hawl i addysg. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith diwyd yn monitro gweithrediad ein diwygiadau addysg drwy gydol y Senedd hon. Mae’r adroddiad hwn yn dangos ymgysylltiad helaeth y pwyllgor, ei waith craffu beirniadol a’i her i'n diwygiadau yng Nghymru, ac rwy'n croesawu pob un ohonynt. A gaf i ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Deisebau am y gwaith helaeth a wnaethant ar ddiwygio ADY?
Mae’r adroddiad hwn yn cyrraedd carreg filltir arwyddocaol wrth inni ddechrau blwyddyn olaf y cyfnod pontio i’r system ADY. Eleni fydd blwyddyn olaf y system anghenion addysgol arbennig, a ddisodlir gennym ar ôl blynyddoedd o gynllunio a chydweithio gofalus. Dros y tair blynedd diwethaf, mae ein partneriaid ymroddedig wedi gweithio’n ddiflino i sefydlu systemau cymorth cadarn ar gyfer dysgwyr ag ADY ac i ddatblygu cynlluniau datblygu unigol. Er ein bod wedi gweld enghreifftiau rhagorol o awdurdodau lleol ac ysgolion yn cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY, mae’n amlwg i mi nad yw’r cymorth hwnnw’n gyson ledled Cymru eto. Hoffwn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys wyth argymhelliad, ac mae saith o’r rheini'n ymwneud ag ADY. Felly, fe ganolbwyntiaf ar yr argymhellion ADY heddiw.
Fel rhan o'n gwaith yn ystyried argymhellion y pwyllgor, rydym hefyd wedi gwrando ar farn y sectorau addysg ac iechyd, sydd wedi helpu i lunio ein hymateb. Rwyf wedi bod yn agored iawn yn fy nhystiolaeth i’r pwyllgor ynghylch ble mae’r heriau, ac mae’r materion a godwyd gan y pwyllgor yn yr adroddiad hwn yn cyd-fynd ag ymdrechion Llywodraeth Cymru ei hun i fonitro gweithrediad y diwygiadau ADY. Rydym eisoes yn gwneud gwaith i fynd i’r afael â’r pryderon a’r heriau hynny.
Mewn perthynas ag adolygu’r Ddeddf a’r cod ADY, rwyf wedi gwrando ar yr adborth ac yn cydnabod bod rhai rhannau o’r ddeddfwriaeth yn gymhleth ac yn aneglur. Felly, rydym eisoes yn archwilio’r fframwaith deddfwriaethol yn fanwl gyda'n partneriaid cyflawni i wneud y fframwaith yn fwy eglur a hygyrch, a nodi heriau ymarferol a’r camau nesaf i sicrhau darpariaeth gyson.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau eraill i sicrhau bod rolau, cyfrifoldebau a phrosesau’n cael eu rhoi ar waith yn gyson ledled Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhieni i adolygu pa wybodaeth a chyfeirio sydd ar gael i rieni, plant a phobl ifanc er mwyn gwella cyfathrebu clir a chyson. Rydym eisoes wedi cryfhau prosesau monitro a chymorth gweithredu fel y gallwn ddeall heriau cyflawni a gwella cysondeb. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd tymhorol gydag awdurdodau lleol, yn ogystal â datblygu setiau data cenedlaethol newydd a mecanweithiau casglu data o fewn addysg, awdurdodau lleol ac iechyd. Rwyf wedi cytuno ar gynllun gwaith cynhwysfawr gyda swyddogion i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gyda mi.
Mae gwella cydweithredu amlasiantaethol rhwng iechyd ac addysg yn flaenoriaeth allweddol. Mae heriau hirsefydlog ynghylch mynediad at wasanaethau iechyd i bob dysgwr yn cael sylw gan SACDAau mewn byrddau iechyd. Rwy’n cydymdeimlo â’r hyn y mae’r pwyllgor wedi’i ddweud ynglŷn â nifer y SACDAau. Mae’r byrddau iechyd wedi bodloni’r gofyniad yn y Ddeddf ADY drwy gael SACDA dynodedig yr un, ond rwyf am drafod gyda byrddau iechyd sut y mae hynny’n gweithio’n ymarferol lle mae byrddau iechyd yn rhannu SACDA yng Nghymru. Hefyd, mae gennym grŵp cydweithredol amlasiantaethol ADY, sy’n gweithio i wella cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan roi eglurder ar ddarpariaeth dysgu ychwanegol y GIG a datblygu dangosyddion perfformiad allweddol i fonitro amserlenni statudol a nodi arferion effeithiol.
Rydym yn pontio i’r system ADY a bellach mae gan dros 20,000 o blant a phobl ifanc gynlluniau datblygu unigol statudol, wedi’u datblygu drwy waith cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ond rydym yn adolygu’r broses o weithredu ADY yn barhaus er mwyn dysgu a mynd i’r afael â heriau. Bydd ail adolygiad thematig Estyn o’r diwygiadau ADY yn adrodd y gaeaf hwn, ac mae rhaglen werthuso gynhwysfawr ar y gweill.
Mae ADY yn flaenoriaeth addysg genedlaethol. Ers 2020, rydym wedi buddsoddi dros £107 miliwn mewn cymorth refeniw i gefnogi'r gwaith o weithredu ADY, a mwy na £170 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf i wella cyfleusterau ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy yn buddsoddi dros £750 miliwn yn y naw mlynedd nesaf i barhau i wella ac ehangu'r cyfleusterau presennol a chreu darpariaethau arbenigol newydd.
Fel y mae’r pwyllgor wedi nodi yn yr adroddiad, mae llawer o’r cyllid ar gyfer ADY yn cael ei ddosbarthu drwy’r grant cynnal ardrethi i lywodraeth leol, ac mae fy swyddogion wrthi’n cynnal adolygiad ffurfiol o gyllid ysgolion prif ffrwd awdurdodau lleol ledled Cymru. Bydd yr adolygiad hwnnw’n nodi cyfanswm y cyllid y mae pob awdurdod lleol yn ei ddirprwyo i ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion ag ADY a’r gwahanol ddulliau dosbarthu a ddefnyddir.
Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu bwrw ymlaen ag argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol Cymru mewn perthynas â chyflogau cydlynwyr ADY, gan gynnwys darparu £5 miliwn ychwanegol i fuddsoddi yng ngweithlu ein cydlynwyr ADY. Rwy'n gwybod pa mor galed y mae cydlynwyr ADY yn gweithio o un dydd i'r llall.
Er mwyn adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn, ac i fynd i’r afael â heriau, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i wrando ar deuluoedd. Rydym yn mynd ati'n weithredol i weithio gyda grwpiau rhieni a’r trydydd sector i wella a darparu cyfathrebu clir a chyson, ac fel y dywedais, i adolygu pa wybodaeth a chyfeirio sydd ar gael i deuluoedd. Mae system addysg gynhwysol yn un lle gwrandewir ar anghenion dysgwyr, lle ymatebir iddynt, a lle caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg gan ddefnyddio dull ysgol gyfan i ddiwallu eu hanghenion.
At ei gilydd, mae’r diwygiadau i'r Cwricwlwm i Gymru a’r system anghenion dysgu ychwanegol yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid. Rwyf wedi gweld hyn ar waith yn fy ymweliadau niferus ag ysgolion a chefais fy ysbrydoli gan y ffordd y mae arweinwyr ysgolion ac athrawon yn croesawu ein diwygiadau. Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio i chwalu rhwystrau i bob dysgwr, gan roi mwy o hyblygrwydd i athrawon a chwricwlwm pwrpasol i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn yn y ffordd orau.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn rhoi newid systemig a diwylliannol ar waith i ddiwygio'r system addysg ac i wella ymarfer er mwyn nodi a chefnogi anghenion pob dysgwr yn gywir ac i sicrhau bod unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu. Rwy’n cydnabod bod hon yn rhaglen ddiwygio bwysig i'r sector, ac amlinellais yn fy natganiad yn yr haf sut y mae hyn yn cysylltu â’n rhaglen i ddiwygio’r cwricwlwm. Rwy’n cydnabod bod gennym fwy i’w wneud, ac rwy’n benderfynol o roi lle canolog i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY yn ein diwygiadau addysg. Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Y Cadeirydd nawr i ymateb i'r ddadl. Buffy Williams.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb heddiw a'r Aelodau sydd wedi cyfrannu. Cyfeiriodd Tom at lwyth gwaith staff, ac mae hynny'n rhywbeth a glywsom fel pwyllgor dro ar ôl tro gan ysgolion. Cefin, rwy'n siŵr y byddai'r pwyllgor yn cytuno na ddylai plant a phobl ifanc ddioddef mewn unrhyw ffordd drwy eu taith addysg. Mae Hefin bob amser yn siarad yn angerddol am ADY a'i daith bersonol ac fe'n hatgoffodd am y tir llwyd o fewn ADY. Mae plant a phobl ifanc yn y lle hwnnw yn haeddu llais, ac rwy'n siŵr y byddai'r pwyllgor yn cytuno. Laura, rydym yn cytuno, mae plant a phobl ifanc yn haeddu'r addysg orau y gallant ei chael, gyda chysondeb a thegwch. Siaradodd Heledd am brofiad bywyd, ac rwy'n cytuno, gyda'r straeon a glywsom, ei bod hi'n anodd peidio â gofidio a theimlo mor angerddol dros rieni a phlant sy'n ei chael hi'n anodd cael y cymorth hollbwysig sydd ei angen arnynt. Fel y dywedodd Carolyn, cafwyd nifer o ddeisebau i'w hystyried. Mae hynny'n arwydd bod yna heriau gyda gweithredu'r Ddeddf ADY newydd; mae'n arwydd clir.
Rwy'n gwybod bod y diwygiadau hyn, yn enwedig y diwygiadau ADY, yn rhan fawr o'r pryderon a gaiff eu codi gan etholwyr gydag Aelodau ar draws y Senedd. Pan fyddwn yn meddwl faint y mae'r dirwedd AAA ac ADY wedi newid, ni ddylai hynny ein synnu. Mae nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY wedi gostwng 44 y cant mewn pedair blynedd yn unig. Dylai addysg fod mor gynhwysol â phosibl, ac os yw hyn yn golygu bod angen darpariaeth ychwanegol ar lai o blant, am fod addysgu dosbarth cyfan yn diwallu anghenion rhai dysgwyr ag ADY, mae hynny o reidrwydd yn gadarnhaol. Ond os ydym yn onest, mae'n rhaid inni gydnabod nad ydym yno eto, er gwaethaf gwaith caled a phroffesiynoldeb staff addysgu ledled y wlad. Mae'n rhaid inni gydnabod bod y system newydd wedi arwain at newid aruthrol yn ein hymateb cenedlaethol i ADY. Mae'n rhaid inni wrando ar y rhieni sy'n poeni nad yw eu plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt o ganlyniad. Ac mae'n rhaid inni wrando ar yr athrawon a'r ysgolion sy'n dweud wrthym eu bod yn gorfod gwneud penderfyniadau amhosibl rhwng staffio ac adnoddau.
Hoffwn ddiolch i'r nifer fawr o staff ysgol ledled Cymru a'n cefnogodd ni gydag ymweliadau ysgolion, a sefydliadau a gyflwynodd dystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhieni a'r bobl ifanc a gyfrannodd at ein gwaith am rannu eu profiadau. A diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'i rhagflaenydd am eu hymwneud adeiladol â ni yn ystod yr ymchwiliad hwn. Rwy'n credu eu bod yn rhannu ein hymrwymiad i sicrhau bod diwygiadau ADY a'r Cwricwlwm i Gymru yn diwallu anghenion ein dysgwyr nawr ac yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau â'n gwaith craffu dros dymor y Senedd hon i sicrhau ein bod yn cyflawni'r cydymrwymiad hwnnw. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Dadl y Ceidwadwyr sydd nesaf: ffermydd sy'n eiddo i gynghorau. Dwi'n galw ar James Evans i wneud y cynnig yma.
Cynnig NDM8692 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan ffermydd sy’n eiddo i gynghorau o ran cefnogi cynhyrchiant bwyd a galluogi pobl ifanc i fentro i fyd ffermio.
2. Yn gresynu bod gwerthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau yn peryglu diogeledd bwyd Cymru a’i harferion ffermio traddodiadol, gan arwain at newid i arferion llai cynaliadwy.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi moratoriwm ar werthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn berchen arnynt.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Mae'r ddadl hon heddiw yn fater o bwys enfawr, sy'n cyffwrdd ag enaid cefn gwlad Cymru—gwerthu ein ffermydd sy'n eiddo i gynghorau. Nid darnau o dir yn unig yw'r ffermydd hyn, maent yn galonnau ein cymunedau gwledig. Ers cenedlaethau, maent wedi darparu cyfleoedd i'n ffermwyr ifanc, cyfleoedd i gynhyrchu bwyd, ac wedi cefnogi cymunedau mewn ardaloedd gwledig. Ond nawr, mae'r ffermydd hyn yn cael eu gwerthu ar raddfa frawychus. A gall y canlyniadau fod yn ddinistriol, nid yn unig i ffermio, ond i'r ffordd o fyw yn ein hardaloedd gwledig.
Mae ffermydd sy'n eiddo i gynghorau'n cynnig mwy na bywoliaeth yn unig. Maent yn rhoi cyfle i bobl ifanc, cyfle i gael troed ar yr ysgol ffermio. Maent yn cynnig tenantiaethau fforddiadwy i rai a allai fod wedi eu cloi allan o'r sector amaethyddol. Maent yn garreg gamu i bobl ifanc sydd ag uchelgais, brwdfrydedd, i sefydlu eu hunain yn y byd ffermio. Hebddynt, rydym mewn perygl o gau'r drws ar y genhedlaeth nesaf o ffermwyr Cymru.
Mae'r ffigurau'n dweud wrthym pa mor bwysig yw'r ffermydd hyn. O fis Mawrth 2023, ceir cyfanswm o 972 o ffermydd sy'n eiddo i gynghorau ledled Cymru, a chyfanswm o 21,000 hectar o dir. Mae honno'n gyfran enfawr o'n ffermydd ledled Cymru. Y ffermydd hyn a'r teuluoedd sy'n eu gweithio yw asgwrn cefn cymunedau gwledig. Maent yn gweithio'n galed am yr hyn sydd ganddynt. Mae'r ffermydd hyn yn cynnal swyddi, busnesau lleol a'n heconomi ehangach. Maent yn helpu i gynnal arferion ffermio traddodiadol. Maent yn cynhyrchu bwyd ac yn diogelu harddwch naturiol ein tirwedd a ffarmiwyd dros genedlaethau. Os ydym yn parhau i'w gwerthu, rydym yn chwarae â thân. Rydym yn peryglu ein diogeledd bwyd ar adeg pan fo'n bwysicach tyfu'r hyn rydym yn ei fwyta yn lleol. A gadewch inni fod yn glir iawn, Lywydd: pan fydd y ffermydd hyn wedi mynd, maent wedi mynd am byth. Ni allwn ac ni ddylem ganiatáu i hyn ddigwydd.
Dyma pam y mae'r cynnig a drafodwn heddiw mor dyngedfennol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod moratoriwm ar werthu ffermydd sy'n eiddo i gynghorau. Mae angen inni oedi. Mae angen inni gymryd seibiant ac asesu'n llawn beth fydd effeithiau hirdymor y gwerthiannau hyn. Mae'n ymwneud â rhoi amser i ni'n hunain ddatblygu strategaeth gywir, gynaliadwy ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru a'r ystad ffermydd cyngor ledled Cymru.
Ond Lywydd, rydym eisoes yn gweld datblygiadau pryderus. Ym Mhowys, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi dechrau gwerthu ffermydd sy'n eiddo i'r cyngor i'r sawl sy'n gwneud y cynnig uchaf yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Russell George. Maent yn dweud eu bod wedi sefydlu gweithgor i edrych ar ddyfodol y ffermydd hyn, ond gadewch inni fod yn onest, nid ydynt yn datgan eu bwriadau go iawn. Ni chafwyd unrhyw dryloywder nac atebion clir, dim ond ansicrwydd ac amheuaeth. Mae ein cymuned ffermio a thenantiaid ein ffermydd cyngor yn haeddu gwell na hyn. Maent yn haeddu gwybod beth sydd i ddod, ac maent yn haeddu bod yn rhan o'r sgwrs am eu dyfodol.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth Cymru hefyd yn berchen ar ffermydd. Maent yn berchen ar un o'r ffermydd enwocaf trwy Gymru gyfan, Fferm Gilestone. Carwn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod y fferm honno'n cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol, ei bod yn cynhyrchu bwyd, ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
Ond peidiwn ag anghofio bod nifer o'r ffermydd sirol yma wedi eu lleoli mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae eu gwerthu yn peryglu nid yn unig ein dyfodol amaethyddol, ond goroesiad y Gymraeg fel iaith fyw bob dydd yn yr ardaloedd hyn. Drwy ddiogelu'r ffermydd hyn, rydym hefyd yn diogelu ein hiaith, ein hanes a'n hunaniaeth ddiwylliannol.
Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar frys. Ni allwn eistedd yn ôl a gwylio wrth i'n ffermydd cyngor ddiflannu o un i un. Mae'n bryd gweithredu. Mae'n bryd sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru. Mae'n bryd sefyll dros ein cymunedau gwledig, ac mae'n bryd amddiffyn ein diogeledd bwyd, diogelu ein hamgylchedd a gwarchod ein ffordd Gymreig o fyw. Lywydd, galwaf ar bob Aelod o'r Senedd hon i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, i sicrhau dyfodol disglair a llewyrchus i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ledled ein gwlad, a diogelu ein hystad ffermydd sirol am flynyddoedd i ddod. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i ffermwyr ar ffermydd sy’n eiddo i gynghorau ac y bydd yn cefnogi’r ffermwyr hyn.
Yn nodi mai mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw yw rheoli ffermydd sy’n eiddo i gynghorau.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Mae'r gwelliant wedi'i gynnig yn ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Byddwn yn cefnogi'r cynnig heddiw am fod ffermydd sy'n eiddo i gynghorau yn rhan hanfodol o'r dirwedd amaethyddol, am lawer o'r rhesymau sydd eisoes wedi'u hamlinellu. Mae'n destun gofid iddi gymryd tua 180 eiliad i'r ddadl droi'n wleidyddiaeth bleidiol, oherwydd rwy'n credu bod angen i ni i gyd gyfaddef bai fel pleidiau gwleidyddol. Yr eironi mwyaf, efallai, yw bod llawer o hyn yn cael ei yrru o ganlyniad i gyni o dan y Ceidwadwyr, sydd wedi rhoi—[Torri ar draws.] Na, na, na. Dyna eironi'r sefyllfa, ond fe wnaf ymatal rhag gwneud y pwynt hwnnw. Felly, edrychwch, nid oes gan lawer o'r cynghorau hyn unrhyw opsiwn arall. [Torri ar draws.] Rwy'n cefnogi'r cynnig. Rwy'n cefnogi'r cynnig.
Mae'r moratoriwm, wrth gwrs, fel y dywedoch chi, yn saib, onid yw? Nid yw'n waharddiad llwyr. Mae'n saib. Ac o'm rhan i, mae'n saib er mwyn i ni allu gwneud rhywbeth y gelwais i amdano yn y Siambr hon yn 2016. Mae'r datganiad i'r wasg yn dal i fod gennyf. Nid wyf am ei ddarllen, ond mae'n galw am uwchgynhadledd genedlaethol i drafod dyfodol ein ffermydd cyngor. Mae angen dull cydweithredol arnom, ac wrth gwrs, y Llywodraeth sydd yn y sefyllfa orau i ddod â'r rhanddeiliaid hynny o gwmpas y bwrdd. Awdurdodau lleol, ie, ond partneriaid eraill hefyd: undebau ffermio, clybiau ffermwyr ifanc, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, colegau amaethyddol hefyd. Gadewch inni ddod â nhw ynghyd, er mwyn inni allu dechrau llunio strategaeth i ddiogelu ein ffermydd cyngor.
Gadewch inni ystyried defnydd mwy creadigol o'r cyfleoedd pan fyddant yn codi. Rwy'n cael fy ysbrydoli'n arbennig gan y gwaith a wnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda'r clybiau ffermwyr ifanc yng Nghymru, a chynnig bwrsariaethau i bobl a oedd am gael cyfle i ffermio. Fe wnaethant gynnig Llyndy Isaf yn Eryri fel lleoliad i hynny ddigwydd.
Felly, fe ailadroddaf fy ngalwad ar y Llywodraeth i fachu'r cyfle, yn lle—fel y mae'r gwelliant yn ei wneud braidd—codi eich ysgwyddau a dweud, 'Wel, mater i gynghorau ydyw.' Nid yw hynny'n ddigon da. Rhaid inni beidio â chamu'n ôl a gwylio darn gwerthfawr o'r ecosystem wledig yn cael ei gwerthu i'r sawl sy'n gwneud y cynnig uchaf. Yn y pen draw, ie, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol, ond ni all y Llywodraeth olchi ei dwylo o'r broblem. Mae'r ffermydd hyn yn ased cenedlaethol, ac mae gwir angen arweinyddiaeth a meddwl strategol gan y Llywodraeth i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ac yn fy marn i y man cychwyn yw: gadewch inni gael pawb o gwmpas y bwrdd, gadewch inni ganiatáu i'r meddylfryd creadigol hwnnw ddigwydd, a gadewch inni gael uwchgynhadledd genedlaethol i drafod dyfodol ein ffermydd cyngor.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n credu, gyda diogeledd bwyd mor uchel ar yr agenda yn y byd ansicr hwn, sy'n llawn o wrthdaro a thywydd cythryblus ac anrhagweladwy, mae angen inni ddilyn mantra 'rhag ofn' yr Athro Tim Lang, sy'n siarad am sicrhau systemau bwyd cynaliadwy a gwydn yng nghynhadledd yr NFU ym mis Tachwedd. Fel Llywodraeth Cymru, mae angen i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer unrhyw darfu ar linellau cyflenwi mewn union bryd, boed hynny o dir mawr Ewrop, neu unrhyw le arall. Mae hynny'n arbennig o berthnasol i darfu posibl ar gyflenwadau bwyd sylfaenol. Os nad yw pîn-afalau neu afocados yn cyrraedd o Affrica neu America Ladin, efallai y bydd yn siomi'r rhai sydd wedi cael blas ar bethau o'r fath, ond ni fydd yn tarfu ar y gwaith o fwydo ein plant ysgol, na dosbarthu prydau ar glud.
Rwy'n synnu bod chwech o'r 22 awdurdod lleol eisoes wedi cael gwared ar eu ffermydd sirol, ond rwy'n falch o weld bod gan sir Caerdydd, sy'n sir drefol yn bennaf, 15.5 hectar, sef ychydig dros 38 erw. Efallai y bydd rhai ohonoch yn meddwl, 'Wel, 38 erw, beth allwch chi ei wneud â hynny? Mae mor fach, nid yw'n werth trafferthu ag ef.' Maent yn anghywir. Ym mhwyllgor yr economi heddiw, fe ddysgasom gan Edward Morgan o Gastell Howell fod 10 tunnell o foron a dyfir ar 1 erw o dir yng Ngheredigion yn gwella prydau ysgol disgyblion Pen-y-bont ar Ogwr. Mae angen tyfu llawer mwy o foron a llysiau eraill yng Nghymru, fel y gellir gwneud pob pryd ysgol gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres yn bennaf, yn hytrach na dibynnu ar eu gweld yn cyrraedd o dir mawr Ewrop neu ymhellach i ffwrdd. Mae gennym lawer mwy o waith i'w wneud i gryfhau ein heconomi sylfaenol a dod yn llai dibynnol ar fwydydd sylfaenol wedi'u mewnforio, a gweld yr elw'n mynd dramor, yn hytrach nag aros yng Nghymru.
Fe wyddom nad ydym yn brin o gig a physgod môr, ond nid ydym yn cynhyrchu digon ohono ar gyfer ein prydau ysgol. Rydym yn druenus o brin o ffrwythau a llysiau, lle rydym ond yn tyfu cyfran fach iawn o anghenion poblogaeth Cymru, ac yng nghyd-destun yr angen i wella deiet ein poblogaeth, mae hwnnw'n fater strategol. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall pam y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu argymell ein bod yn gadael hyn i awdurdodau lleol, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan Huw Irranca-Davies i'w ddweud ar hyn. Yn fy marn i, mae ffermydd sirol yn chwarae rhan strategol drwy alluogi newydd-ddyfodiaid i gamu i mewn i'r byd ffermio, ac i fod yn brosiectau arddangos i ffermwyr eraill y gellid eu cymell i arallgyfeirio oddi wrth gynhyrchion ungnwd, sy'n eu gwneud mor agored i brisiau'r farchnad, yn ogystal â methu cyflenwi'r hyn sydd ei angen ar eu cymunedau lleol.
Yn olaf, hoffwn sôn am achos Bremenda Isaf, fferm 100 erw ar lawr dyffryn Tywi yn sir Gaerfyrddin, sy'n tyfu ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer y plât cyhoeddus mewn ysgolion, cartrefi gofal a chaffis. Beth nad sydd i'w hoffi am hynny? A pham fod hyn yn rhywbeth nad yw'r Llywodraeth yn teimlo ei fod—? Mae angen inni geisio diogelu ein ffermydd sirol yn strategol, oherwydd bydd eu prynu'n ôl ar y farchnad agored yn llawer mwy costus.
Rwy'n cynrychioli etholaeth lle mae'r sector ffermio cymunedol yn sylweddol, ac rwy'n falch o wisgo fy nhei Clwb Ffermwyr Ifanc sir Drefaldwyn heddiw. Mae dros 600 o aelodau gan y ffermwyr ifanc yn sir Drefaldwyn, ac mae'n sefydliad mor wych i bobl ifanc, ac yn cael ei redeg gan bobl ifanc. Wrth gwrs, nid yw ein dadl heddiw yn ymwneud â mudiad y CFfI, mae'n ymwneud â chydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae ffermydd sy'n eiddo i gynghorau yn ei wneud i gefnogi cynhyrchiant bwyd a galluogi newydd-ddyfodiaid ifanc i ddod i mewn i'r byd ffermio.
Bydd rhai o aelodau'r CFfI yn perthyn i deuluoedd ffermio, yn ffermwyr eu hunain; bydd yna rai eraill nad ydynt ac efallai na fyddant yn ymddiddori mewn gyrfa ym myd ffermio. A bydd rhai yn rhan o fudiad CFfI a heb fod yn rhan o deulu ffermio, ond a fyddai'n hoffi gyrfa ym myd ffermio yn fawr. Mae ystadau ffermydd cyngor yn darparu ffordd werthfawr iawn o sicrhau troedle yn y diwydiant i lawer o ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid i'r sector, ac os na fyddai'r rhwydwaith ffermydd cyngor ar gael, byddai'r llwybr hwn i ddechrau gyrfa ym myd ffermio yn cau i gymaint o bobl, sy'n golygu y byddai llai o ffermwyr yn cynhyrchu bwyd ac yn gofalu am gefn gwlad, fel y mae eraill wedi sôn.
Mae stori ystadau fferm lleol wedi bod yn un o ddirywiad araf yn nifer y daliadau i'w gosod, wrth i awdurdodau lleol werthu eu hasedau allweddol i ateb heriau ariannol tymor byr. Fel y nododd Jenny Rathbone, nid oes gan chwech o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru eu hystad ffermydd eu hunain i'w gosod mwyach, yn ôl papur briffio'r NFU, y mae Jenny yn amlwg wedi'i ddarllen hefyd. Ac rwyf i, fel yr NFU, yn credu bod hon yn sefyllfa drist iawn. Yn fy awdurdod lleol fy hun, mae Cyngor Sir Powys yn ffodus i fod ag ystad ffermydd gref iawn. Fel cynghorydd sir am naw mlynedd, roedd yr aelodau etholedig bob amser yn gwbl bendant: peidiwch â gwerthu ein hasedau. Yn aml, pan oedd swyddogion y cyngor yn cyflwyno cynigion o'r fath byddai'r aelodau etholedig yn eu gwrthod. Nid yw hynny'n wir nawr gyda'r weinyddiaeth gyfredol, gan eu bod yn ystyried gwerthu'r asedau. Mae rhai eisoes wedi cael eu gwerthu.
Rwy'n gwybod bod gan fy awdurdod lleol fy hun, Cyngor Sir Powys, darged a osodwyd i sicrhau £10 miliwn mewn derbyniadau cyfalaf bob blwyddyn. Lle mae'r asedau hyn, wrth gwrs? Yr ystad ffermydd. Felly, mae'r ystad ffermydd yn ased gwerthfawr iawn, dylid ei hystyried felly, gan gynnig llif refeniw parhaus posibl i awdurdodau lleol a darparu cam cyntaf hanfodol iawn i'r diwydiant i gynifer o bobl. Dyna pam, am ein bod ni Geidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno ein cynnig heddiw, fy mod yn arbennig o siomedig fod pwynt 2 o'n cynnig wedi'i ddileu heddiw. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet nodi pam fod hynny wedi digwydd. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig a chefnogi dyfodol ffermio yng Nghymru.
Roeddwn ar banel amaethyddol pan oeddwn yn gynghorydd sir, ac roeddem yn arfer cyfweld tenantiaid newydd ar gyfer ffermydd cyngor ac yn edrych hefyd ar unrhyw ffermydd a allai ddod yn addas ar gyfer eu gwerthu. Roedd angen buddsoddiad ar rai o'r ffermydd y byddem yn ymweld â hwy, ac roeddwn i'n synnu eu bod y tu allan i'r cyfrif refeniw tai ac nad oedd yn rhaid cadw at safonau ansawdd tai Cymru. Câi rhent o dai cymdeithasol ei gadw ar wahân i'r pot corfforaethol a'i ailddefnyddio ar gyfer gwelliannau a buddsoddiad yn y stoc dai, ond ni ddigwyddai hynny gydag arian o'r ffermydd cyngor. Siaradodd rhai o'r tenantiaid y gwnaethom gyfarfod â hwy ynglŷn â sut oedd angen gwneud gwaith adnewyddu ar ffermydd a buddsoddi ynddynt.
Pan ddeuai'n bryd adnewyddu tenantiaethau fferm, byddem yn cael adroddiad strategol yn nodi pam y gellid gwerthu rhai a chadw rhai eraill. Roedd yn dibynnu ar ble roeddent, pa mor fawr oeddent ac yn y blaen. Roedd angen arian cyfalaf ar y cyngor i fuddsoddi mewn tai cyngor newydd, mewn cyfleusterau gofal—mae gan sir y Fflint ei gyfleusterau gofal ei hun o hyd—ar gynnal ffyrdd a seilwaith arall. Weithiau, roedd yn arian cyfatebol yn sgil grantiau gan Lywodraeth Cymru ac o ffynonellau eraill. Daeth yn bwysicach fyth wrth i gyni a thoriadau i gyllid ddechrau brathu. Felly, dywedwyd wrthym, fel y dywedais yn gynharach, fod y ffermydd weithiau'n rhy fach i'w ffermio'n broffidiol. Roeddent yn rhy fach. Fel y gwyddoch, mae angen i ffermydd fod wedi tyfu i fod yn fwy hyfyw yn economaidd. Dywedwyd wrthym eu bod yn rhy fach.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Hoffwn wybod, ar yr adeg pan oeddech chi'n gynghorydd, a gawsoch chi unrhyw drafodaeth am bwysigrwydd sicrhau y gallech ddiogelu'r llinellau cyflenwi yr oedd eu hangen arnoch i fwydo eich poblogaeth leol, a bod gan ffermydd sir rôl strategol yn hynny o beth felly.
Ar y pryd—mae rhai blynyddoedd ers hyn—nid oedd hynny'n cael ei drafod yn rhan ohono. Roedd yn ymwneud yn strategol â'n gallu i'w cadw ac a ellid eu ffermio'n broffidiol, a bod yn ddefnyddiol i'r gymuned ffermio, neu a fyddai'n well ac yn fwy proffidiol i'r cyngor gael yr arian hwnnw. A fyddent yn werthfawr ar gyfer ailddatblygu tai, oherwydd roeddem yn brin o dai cymdeithasol—y tir hwnnw.
Byddem yn aml yn dweud mai dim ond unwaith y gallai'r cyngor werthu ei drysor. Mae Cymdeithas y Ffermwyr Tenant yn ategu hyn, gan ddweud bod angen cywain yn hytrach na chloddio ystad yr awdurdod lleol. Yn ogystal ag elw ariannol o ystadau tyddynnod, ceir manteision ehangach mewn perthynas â chefn gwlad a materion amgylcheddol: bwyd, fel y crybwyllwyd; mynediad at gefn gwlad; dysgu y tu allan i'r dosbarth; polisïau cynllunio; rheoli lleiniau glas a chynorthwyo i reoli perygl llifogydd, sy'n ystyriaeth arall. Heb gynnal y banc tir, bydd y manteision hyn yn cael eu colli, ond ni allwn ddianc rhag y realiti fod awdurdodau lleol o dan bwysau ariannol enfawr ar ôl blynyddoedd o doriadau cyllidebol llym, ac yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd dros ben yn y chwe mis nesaf, felly mae hynny'n rhan o'r ystyriaeth. Diolch.
Wrth gwrs, mae ffermydd sy'n eiddo i gynghorau'n hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ac addysgu cenedlaethau'r dyfodol. Hoffwn gofnodi fy niolch i bob ffermwr yng Nghymru, ond mae ein ffermydd tenant a'n ffermydd sy'n eiddo i gynghorau, wedi wynebu llawer o anawsterau dros y misoedd diwethaf, yn enwedig gyda pharthau perygl nitradau a phethau felly. Maent yn helpu o ran diogeledd bwyd, fel y mae Jenny Rathbone ac eraill wedi nodi, a gallaf ddweud wrthych fy mod yn teimlo'n eithaf hyderus i ddweud, pe bai'r diweddar Brynle Williams yma heddiw, y byddai'n dyrnu'r ddesg ac yn dweud, 'Ni allwch wneud hyn.' Edrychwch, fe wyddom fod Gordon Brown wedi gwerthu trysorau arian y teulu. Byddai'n drychineb caniatáu i Lywodraeth Lafur Cymru gefnogi awdurdodau lleol i werthu aur Cymreig y teulu. Diolch.
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet nawr i gyfrannu i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i ymateb i'r drafodaeth bwysig hon. Mae ffermydd awdurdodau lleol yn asedau pwysig i'r diwydiant amaethyddol, ac yn rhan allweddol o'r sector denantiaeth yng Nghymru. Er eu bod yn cynrychioli ardal fychan, yn cyfrif am ddim ond 1 y cant o dir amaethyddol Cymru, maent yn parhau i fod yn bwynt mynediad amhrisiadwy i sawl person ifanc yng Nghymru. Mae'r ffermydd yma yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi'r economi ym mhob rhan o Gymru.
Bob blwyddyn, yn rhan o'n dyletswydd statudol o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, mae Gweinidogion Cymru yn adrodd ar weithgareddau Llywodraeth Cymru a gweithgareddau awdurdodau lleol mewn perthynas â thyddynnod yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth ystadegol am yr ardal a nifer y tyddynnod a gedwir gan bob awdurdod lleol, ac mae'r adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd, ar gyfer 2022-23, yn dangos bod awdurdodau lleol Cymru yn dal 21,338 hectar o dir tyddynnod, ac mae hwnnw wedi'i rannu'n 972 o dyddynnod. Ac o'r 972 daliad, roedd 959 o denantiaethau.
I fod yn glir, oherwydd mae rhai o'r pwyntiau a wneir yma'n angerddol ond maent yn camddeall y ddeddfwriaeth braidd, nid yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gael rheolaeth dros awdurdodau lleol i werthu tir—nid yw'r pŵer hwnnw'n bodoli. Mater i awdurdodau lleol yw gwerthu tir a phenderfyniadau ynglŷn â sut y gwnânt hynny, a chlywais y gwrthwynebiadau i werthu unrhyw dir. Clywais hefyd gan ein cyd-Aelod yma pam fod awdurdodau lleol, weithiau, yn enwedig dros y blynyddoedd anodd diwethaf, wedi wynebu sefyllfa lle bu'n rhaid iddynt wneud y penderfyniadau lleol hynny, ac mae ganddynt bŵer i'w gwneud, ac mae'n rhaid iddynt gyfiawnhau hynny i randdeiliaid lleol, i ffermwyr lleol, ond hefyd i'r trethdalwyr yn fwy cyffredinol yn eu hardaloedd pan fyddant yn cyfiawnhau gwariant ar wahanol wasanaethau. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. Mae'r niferoedd a roesoch nawr—tua 900 o ddaliadau, 21,000 hectar—yn dal i fod yn ystad sylweddol ar draws Cymru gyfan, a bod yn deg. Ond fel rhywun sy'n dod o Fro Morgannwg, yn ôl yn 1997 fe werthodd cyngor Bro Morgannwg ar y pryd ei ystad gyfan o dyddynnod—roedd yn 2,500 erw ar y pryd. Os ewch chi i neuadd y sir nawr a gofyn i ble'r aeth yr arian hwnnw, ni fydd neb yn gallu pwyntio at unrhyw fudd diriaethol o ganlyniad i wario'r arian hwnnw—fe aeth tuag at redeg y cyngor o ddydd i ddydd. Ac eto, gwerthwyd un o drysorau pwysicaf yr awdurdod lleol ar unwaith a phe bai'r Aelod dros Fro Morgannwg yma, byddai'n cofio arweinydd y cyngor ar y pryd, y Cynghorydd Stringer—byddai'n fwy tebygol o chwysu wrth glywed ei enw—ond mae colli—
Ymyriad yw hwn a dadl 30 munud yw hon.
Mae'n ddrwg gennyf. Fy mhwynt yw eich bod yn colli'r trysorau hyn sydd gan awdurdodau lleol, ac mae gan y Llywodraeth rôl i'w chwarae yn diogelu hynny, ochr yn ochr ag awdurdodau lleol.
Nid oes gennym sail statudol i ymyrryd ynghylch gwerthu tir, felly mae'r alwad am foratoriwm yn gyfeiliornus ac nid yw'n deall y ddeddfwriaeth. Ac a gaf i ddweud wrth y gŵr bonheddig ac wrth ei blaid hefyd, sy'n aml yn siarad yn gryf iawn o blaid gwneud penderfyniadau lleol, fod hwn yn sicr yn ddarlun o ble mae pobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn ac sy'n gorfod cydbwyso'r budd lleol yn ofalus iawn yn gorfod cyfiawnhau'r penderfyniadau hynny wedyn? Mater i awdurdodau lleol yw gwerthu tir a phenderfyniadau ynglŷn â sut y gwnânt hynny. Ar ben hynny, mater i'r awdurdodau lleol yng Nghymru yw rheoli'r ffermydd hyn yn y pen draw, ac fe drof at hynny mewn eiliad.
Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi ein holl ffermwyr yng Nghymru, a dyna pam mae yna bethau y gallwn eu gwneud, ac mae hynny'n cynnwys ffurf y cynllun ffermio cynaliadwy, fel y gallwn ei wneud yn gymwys i bob ffermwr, gan gynnwys ffermwyr sy'n ffermio ffermydd awdurdodau lleol. Ac mewn ymateb i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ym mis Medi eleni, rwy'n cofnodi unwaith eto fy ymrwymiad i gyflawni cynllun a fyddai'n yn hygyrch i bob ffermwr a phob math o ffermio, ac i helpu ffermwyr i sicrhau cyfleoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol hefyd. Felly, wrth inni gwblhau manylion y cynllun gyda rhanddeiliaid, rydym yn yn sicr yn ystyried ffermwyr tenant ac fel y dywedais yn fy rhagymadrodd, y graddau y mae ffermwyr tenant yn rhan o ffermydd sy'n eiddo i gynghorau—sut y caiff ffermwyr tenant eu cynrychioli yn erbyn pob elfen o'r cynllun, er mwyn sicrhau bod y tenantiaid yn gallu cael mynediad at y cynllun ffermio cynaliadwy. Ac i hybu—[Torri ar draws.] James, rwy'n hapus i ildio.
Mae yna lawer o'r tenantiaethau hyn nad ydynt yn cael eu hadnewyddu, ac rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau gwneud cynllun yn hygyrch i ffermwyr tenant, ond os nad yw ffermwyr tenant yn gwybod beth yw eu dyfodol, oherwydd bod awdurdodau lleol yn mynd i'w gwerthu, pam y byddai unrhyw un yn ymuno â chynllun ac yn ymrwymo eu tir neu'n gwneud buddsoddiad cyfalaf pan nad ydynt yn gwybod beth fydd yn digwydd iddynt yn y dyfodol?
Wel, gadewch imi fynd ychydig ymhellach, James, i'ch helpu gyda rhai o'r cynlluniau yr ydym yn eu gweithredu ac sy'n hynod lwyddiannus yn barod. Felly, er mwyn helpu newydd-ddyfodiaid ymhellach i mewn i'r byd ffermio fel rhan o'r cynnig Cyswllt Ffermio, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys gofyniad i ddatblygu platfform cyfleoedd ar y cyd o'r enw Dechrau Ffermio, a oedd yn y Sioe Frenhinol, ac rwy'n credu y bydd rhai Aelodau gyferbyn wedi ei fynychu a siarad â ffermwyr sydd wedi bod drwy hynny, sy'n dilyn ymlaen o raglen lwyddiannus Menter yn flaenorol. Yn y Sioe Frenhinol eleni, siaradais â rhai o'r bobl sydd wedi bod drwy hyn, a chlywed sut y gallent, gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio, sefydlu mentrau ar y cyd, a sut y gallai newydd-ddyfodiaid wireddu breuddwydion hirsefydlog o ddod yn ffermwyr, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a darparwyr, ffermwyr pumed genhedlaeth, sydd eisiau cymryd cam yn ôl o'r busnes ond sydd eisiau sicrhau ei ddyfodol drwy ddod â newydd-ddyfodiaid i mewn. Felly, rydym wedi ymrwymo'n fawr i ddarparu'r gefnogaeth i rymuso'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr â sgiliau i redeg busnesau proffidiol ac addasu i heriau'r dyfodol. Mae hyn yn cefnogi'r economi ehangach hefyd, o dwristiaeth, sy'n dibynnu ar yr amgylchedd naturiol, i'r Gymraeg, ac yn caniatáu i'n cymunedau gwledig ffynnu.
Nawr, mewn perthynas â nifer y ffermydd sy'n eiddo i awdurdodau lleol, mae'n bwysig ein bod yn parchu gallu awdurdodau lleol i ddatblygu eu blaenoriaethau eu hunain, fel y nodwyd gan Aelodau a siaradodd heddiw, a'r ffordd y maent yn rheoli'r asedau y maent yn gyfrifol amdanynt ar ran y cymunedau a gynrychiolant. Ac mae yna enghreifftiau gwych, Jenny, mae'n rhaid i mi ddweud, ar eich pwynt chi ynglŷn â sut y caiff hyn ei wneud yng Nghymru. Gyda ffermydd Sarn ym Mhowys, mae prosiect Ein Bwyd 1200, gyda Chyngor Sir Powys yn bartner allweddol, yn rhoi cyfleoedd i unigolion ddechrau eu menter ffrwythau a llysiau agro-ecolegol eu hunain ar dir sy'n eiddo i'r sir, gyda thenantiaeth bum mlynedd i ddechrau a'r posibilrwydd o les hirdymor. Neu fferm Bremenda Isaf yn sir Gaerfyrddin, sy'n darparu nwyddau lleol ffres i Ysgol Bro Dinefwr—[Torri ar draws.] O, diar. Ydw i'n iawn? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr, ac mae'n dda clywed cyfeiriad at fferm Aelod Seneddol newydd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, ond rwyf am ofyn—
Rwy'n ecwmenaidd yn fy sylwadau.
Roeddwn i eisiau gofyn ynglŷn â fy awgrym o uwchgynhadledd genedlaethol. Yn amlwg, os nad ydych chi'n hapus i osod cyfeiriad penodol i gynghorau, fel rydych chi'n ei bortreadu, mae'n sicr fod rôl i'r Llywodraeth ddod â'r holl randdeiliaid ynghyd i geisio meddwl am ffordd fwy creadigol ymlaen.
Wel, gadewch inni feddwl a oes ewyllys ymhlith awdurdodau lleol, gyda rhai ohonynt yn dirfeddianwyr sylweddol o hyd, i weld a oes ewyllys ganddynt i ddod at ei gilydd, oherwydd gallwn wneud hyn yn wirfoddol. Yn sicr, nid oes angen i mi gyda fy esgidiau maint 10 i ddweud wrth awdurdodau lleol am wneud hynny. Os ydych chi a'r awdurdodau lleol drwy Gymru am ddod at eich gilydd i siarad ynglŷn â sut y gallant ymdrin yn well â mater ffermydd sy'n eiddo i gynghorau, fe ellir gwneud hynny. Nid oes angen i Weinidog Llywodraeth Cymru gamu i mewn bob amser ac edrych fel pe bawn i'n dal chwip ar hyn. Fe ellir ei wneud.
Llywydd, fel y nodais ar y cychwyn, mae ffermydd awdurdodau lleol yn asedau pwysig iawn i'r diwydiant amaethyddol. Maen nhw'n parhau i fod yn bwynt mynediad amhrisiadwy i sawl person ifanc yng Nghymru. Mae yna opsiynau eraill hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ateb holistig i'r her—ie, mynediad parhaol i ffermydd awdurdodau lleol, ond hefyd gefnogaeth i'r genhedlaeth nesaf, yn darparu cyngor a hyfforddiant, a chefnogaeth fel Dechrau Ffermio, er mwyn cymryd y cam nesaf tra'n sicrhau bod ffermwyr i gyd yn cael mynediad i grantiau a chynlluniau fel y cynllun ffermio cynaliadwy.
I gloi, felly, hoffwn ddiolch i Darren am y cyfle i drafod y mater pwysig yma. Mae cefnogi ffermwyr ifanc a newydd i mewn i'r diwydiant yn rhywbeth rwy'n angerddol iawn amdano. Diolch yn fawr iawn.
Samuel Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser gennyf ymateb i'r ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gan wybod pa mor bwysig yw ffermwyr tenant a gwybod pa mor bwysig yw ffermwyr cyngor o fy amser fel cynghorydd ar Gyngor Sir Penfro.
Wrth agor y ddadl, paentiodd James Evans y darlun presennol i ddangos pam y mae ffermydd cyngor mor bwysig. Ar gael ffermwyr ifanc, ac nid ffermwyr ifanc yn unig, ond newydd-ddyfodiaid, a allai fod yn eu 30au, 40au, 50au, 60au, i mewn i'r byd amaeth, gadewch inni gael pobl fedrus i mewn i ddiwydiant sy'n rhoi boddhad mawr, ac mae ffermydd cyngor yn gyfle i wneud hynny—cyfle i gael tenantiaethau fforddiadwy i gael eu troed ar yr ysgol denantiaeth ac amaethyddiaeth. Y ffermwyr hyn yw asgwrn cefn ein heconomi leol i raddau helaeth, ac mae angen strategaeth gynaliadwy ar gyfer y rhain, fel y nododd James, ac amlinellodd mai moratoriwm yw hwn, nid gwaharddiad llwyr. Fel y soniodd Llyr wedyn yn ei bwynt ar hyn, nid gwaharddiad llwyr mohono, ond Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru hawl i'w wneud. Maent yn rhoi llawer o gyfarwyddiadau ar lawer o faterion eraill y gall Llywodraeth Cymru eu rheoli—[Torri ar draws.]
Samuel Kurtz, a ydych chi'n fodlon derbyn ymyriad gan Mabon ap Gwynfor?
Fe wnaf, gan ei fod yn chwifio llaw ar y sgrin.
Ydy, mae'n chwifio'i law.
Diolch yn fawr iawn. Diolch. Sam, fe glywsom y Dirprwy Brif Weinidog yn dweud yn gynharach mai mater i awdurdodau lleol yw sut y maent yn dyrannu eu hadnoddau, gan awgrymu mai eu dewis hwy yw gwerthu ffermydd, ond mewn sawl achos, fe wyddom nad yw awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n iawn, ac felly nid oes ganddynt ddewis ond gwerthu trysorau'r teulu. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid ariannu awdurdodau lleol yn iawn er mwyn iddynt allu cynnal y ffermydd cyngor hyn fel y gellir eu cadw mewn perchnogaeth gyhoeddus?
Diolch, Mabon. Mae dewis i'w wneud bob amser, ac yn aml, y cynghorau gwledig sy'n cael eu hariannu'n annheg ac etholaethau, cymunedau a chynghorau gwledig yw'r rhai sy'n tueddu i fod â'r nifer fwyaf o ffermydd cyngor hefyd, felly mae gwahaniaeth posibl yno y mae angen ei archwilio.
Rwy'n credu bod Llyr, yn ei gyfraniad, wedi codi pwynt pwysig ynglŷn ag uwchgynhadledd, rhywbeth y galwodd amdano o'r blaen. Rwy'n siomedig ynghylch ymateb y Dirprwy Brif Weinidog i hynny. Rwy'n credu bod rôl hwyluso gan y Llywodraeth yn hytrach nag ymwrthod â dyletswydd yma o ran gweld dyfodol cynaliadwy i ffermydd cyngor. Soniodd Llyr hefyd am Gymdeithas y Ffermwyr Tenant, Undeb Amaethwyr Cymru, y CFfI, yr NFU. Mae rhanddeiliaid pwysig yn weithredol yma, ac mae pob un ohonynt yn ceisio dadlau dros fudd ffermydd cyngor mewn dull cyfannol o ymdrin ag amaethyddiaeth Cymru sy'n aml yn cael ei anwybyddu.
Ac mae'n rhaid imi ganmol Jenny Rathbone am ei gwaith yn dadlau dros systemau bwyd cynaliadwy. Mae hi wedi bod yn bleser cael Jenny ar Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig hefyd, i hyrwyddo'r pwynt pwysig hwn, a'r model mewn union bryd y soniodd Jenny amdano hefyd, a sut y gall ffermydd cyngor fwydo i mewn yn llythrennol i'n systemau bwyd yn y Gymru wledig, a newid pethau yno. Rwy'n credu bod Jenny yn iawn i herio Llywodraeth Cymru ar eu gwelliant i'r ddadl hon.
Russell George, yn gwisgo ei dei CFfI sir Drefaldwyn—rwy'n ymwybodol o'r amser, ond roeddwn i eisiau rhoi sylw i'r CFfI unwaith eto, fel cyn-gadeirydd fy hun—roedd Russell yn cydnabod cyfraniad ffermydd cyngor o'i gyfnod ar Gyngor Sir Powys a mynegodd ei ddirmyg tuag at yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ardal y cyngor.
Fe wnaeth Carolyn Thomas, nad yw bellach yn y Siambr, bwynt gwerthfawr iawn fod y rhain yn gartrefi yn ogystal â ffermydd—mae'r rhain yn rhan o'r stoc dai yn ardaloedd cynghorau'r awdurdodau lleol, felly mae'n bwynt lawn mor bwysig ynghylch cynhyrchiant bwyd ag ynghylch sicrhau bod cartrefi o ansawdd da i bobl mewn ardaloedd gwledig lle mae'r tai a'r stoc dai'n llawer anos i'w chael, yn draddodiadol.
Cyfeiriodd Janet at Brynle Williams, ac ar ôl iddi eistedd, fe ddywedodd Andrew, 'O'i gyfarfod unwaith, ni fyddech chi byth yn ei anghofio'; rhywun na wneuthum i'n bersonol mo'i gyfarfod erioed, ond rwy'n siŵr fod Brynle a'i ysbryd yn fyw o hyd yn y Siambr hon.
Ond rwy'n gorffen, Lywydd, gan wybod fy mod i wedi profi eich amynedd, drwy annog pob Aelod i gefnogi'r Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni gynnal pleidlais ar yr eitem yma—[Torri ar draws.]
Y pwynt yw democratiaeth a'r gallu i bleidleisio a mynegi safbwyntiau gwahanol. Hir oes i ddemocratiaeth.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 10 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion, a dwi'n galw ar Tom Giffard i wneud y cynnig yma.
Cynnig NDM8693 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi canlyniadau PISA 2022 a ganfu mai Cymru oedd â’r sgoriau darllen gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, a’u bod ymhell islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
2. Yn gresynu bod 20 y cant o blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
3. Yn cydnabod y cafodd y system o ddefnyddio ciwiau wrth addysgu darllen ei gwahardd yn Lloegr yn 2005, yn sgil pryderon y gallai danseilio ymdrechion i addysgu disgyblion i ddarllen, ond bod hynny dal heb ddigwydd yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn defnyddio'r dull ffoneg o addysgu darllen i wella perfformiad, ac i hyrwyddo hynny; a
b) i gyflwyno cyfundrefn o brofion darllen ar frys, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, er mwyn gwella safonau darllen.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Nid wyf yn credu mai gor-ddweud yw dweud bod darllen yng Nghymru ar bwynt o argyfwng—mae'r ffaith bod 20 y cant o'r bobl ifanc sy'n gadael ein hysgolion yn ymarferol anllythrennog yn rhywbeth a ddylai ein cadw ni i gyd yn effro yn y nos a dweud y gwir, ac mae sgoriau PISA yn cynnig darlun enbyd o gyflwr ehangach addysg yng Nghymru. Dro ar ôl tro, ni yw'r genedl yn y safle isaf yn y Deyrnas Unedig ar bob un pwnc, ac mae wedi bod felly bob tro y cawsom ein hasesu.
Ond o ran darllen, mae angen i ni ofyn i ni'n hunain pam. Pam mai ni yw'r darllenwyr gwaethaf yn y Deyrnas Unedig? Nid wyf yn credu bod ein pobl ifanc yng Nghymru yn llai abl i ddysgu darllen na phobl ifanc yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, ond y ffordd y mae'n cael ei addysgu yn ysgolion Cymru yw'r broblem. Mae'r system ciwiau wedi'i beirniadu'n rhyngwladol fel dull o addysgu pobl ifanc i ddarllen, ac eto dyna'r system sy'n cael ei dilyn mewn gormod o ysgolion. Gadewch imi ddarllen yr hyn a ddywedodd un pennaeth yng Nghaerdydd am ddefnyddio ciwiau:
'gall defnyddio ciwiau ar ffurf lluniau a chyd-destun ddileu manteision addysgu ffoneg.'
Dywedodd yr Athro Rhona Stainthorp, un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r DU ar ddatblygiad darllen:
'Nid yw defnyddio ciwiau'n seiliedig ar unrhyw dystiolaeth empirig am y ffordd y mae plant yn dysgu darllen, nid yw'n ddim mwy na rhestr ddymuniadau'.
A dyna'n union yw'r system y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn mewn gormod o'n hysgolion ledled ein gwlad.
Nawr, pan dorrodd y stori hon ychydig wythnosau yn ôl gan ITV, beth oedd ymateb Llywodraeth Cymru? Yn ôl yr hyn a welais i, fe ymatebodd trwy feio athrawon, trwy ddweud eu bod yn addysgu darllen yn anghywir yn ein hysgolion, ac nad oeddent erioed wedi ei ddweud yn y lle cyntaf. Wel, fe geir cyfeiriadau lu yng nghwricwlwm Llywodraeth Cymru ac mae cyfeiriadau ato ar wefannau awdurdodau lleol a gwefannau ysgolion. Mae'n amlwg fod hyn yn gyffredin iawn. Mae hyd yn oed Estyn wedi bod yn canmol ysgolion ar eu defnydd o giwiau. Rhoddaf enghraifft i chi: mae tudalennau 136, 140, 151, 152, 153 o ganllawiau Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys cyfeiriadau at gasglu ystyr o destun a delweddau, h.y. ciwiau. Mae'n codi'n aml yn y canllawiau a roddir i'n hathrawon. Felly, nid bai'r athrawon yw hynny, fel y mae Llywodraeth Cymru yn hoff o ddweud, ond bai Llywodraeth Cymru ei hun. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn credu mai'r unig beth y gall athrawon ei ddarllen yw'r dail te.
Felly, lle rydym arni? Wel, byddai'r ffordd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddoniol pe na bai mor drasig, a'r hyn a welsom yw erthygl yn ymddangos heddiw, gan ITV, gyda'r dyfyniad canlynol, sy'n eithaf damniol yn fy marn i:
'fe newidiodd ymateb swyddogol y Llywodraeth... dair gwaith mewn tair wythnos.'
Ysgrifennais at y Gweinidog bythefnos yn ôl ar ôl ein trafodaeth yn Siambr y Senedd am y defnydd o giwiau yn ein hysgolion, oherwydd roeddwn i'n teimlo bod rhai pethau anghywir yn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth ateb, ac mewn ymateb, cefais wahoddiad i sesiwn friffio technegol gan Lywodraeth Cymru. Nawr, nid wyf yn bod yn lletchwith, ond nid fi sydd wedi newid fy safbwynt dair gwaith mewn tair wythnos. Rwy'n gwybod beth rwy'n ei feddwl. Rwy'n dilyn y dystiolaeth. Rwy'n credu mai Llywodraeth Cymru a ddylai fynd i sesiwn friffio technegol i ddarganfod beth yn union y mae hi'n ei feddwl o un diwrnod i'r llall, oherwydd os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod beth y mae'n ei feddwl—y canllawiau y mae'n eu rhoi i'n hathrawon, i'n pobl ifanc, i'n disgyblion—sut ar y ddaear y mae disgwyl i'r athrawon wybod hynny?
Mae'r erthygl yn mynd rhagddi i feirniadu dull Llywodraeth Cymru, ac unwaith eto, y newid yn y neges—y newid diweddaraf yn y neges, os mynnwch—gan y Gweinidog nawr, mae'n debyg, yw y dylid defnyddio ciwiau i ddysgu darllen gyda ffoneg fel y blociau adeiladu. Nid dyna oedd yn cael ei ddweud yr wythnos diwethaf, ac mae hynny'n wahanol eto i'r hyn oedd yn cael ei ddweud yr wythnos cynt. Dywedodd Kathy Rastle, yn yr erthygl honno, arbenigwr arall ar ddarllen yn y DU:
'Mae rhai plant yn ei chael hi'n anodd dysgu darllen, ond mae'r ymyrraeth briodol fel rheol yn galw am fwy yn hytrach na llai o ffoneg,
'Yn sicr nid oes tystiolaeth y dylai'r plant hyn ddilyn dulliau y bwriwyd amheuon arnynt o ddefnyddio "ciwiau" ar gyfer darllen.'
Felly, os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod beth yw ei barn o un diwrnod i'r llall, na sut i ddysgu ein pobl ifanc i ddarllen, gallaf ei sicrhau bod y Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod. Mae gennym gynllun clir. Mae wedi ei gefnogi gan y dystiolaeth, a chan yr arbenigwyr, ac mae'n rhoi disgyblion yn gyntaf. Mewn addysg yng Nghymru, rydym ni'n dilyn y dystiolaeth, tra byddant hwy'n ddilyn yr ideoleg, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a dyna pam rwy'n gobeithio y bydd pawb yn ei gefnogi.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi:
a) codi safonau darllen fel rhan o flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a cholegau;
b) ymgorffori llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru;
c) cymryd camau i wella’r broses o addysgu dysgwyr i ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad canllawiau yn gliriach lle bo angen; a
d) defnyddio asesiadau personol i gefnogi cynnydd dysgwyr o ran darllen, ac i gadw llygad ar welliannau yn genedlaethol.
2. Yn nodi bod y disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru.
3. Yn cydnabod bod yn rhaid i benderfyniadau am addysgu dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Cefin Campbell i gynnig gwelliannau 2 a 3.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod y dull ffoneg yn flaenllaw wrth addysgu darllen er mwyn gwella perfformiad;
b) i gynnal adolygiad parhaus o'r dystiolaeth arbenigol ddiweddaraf a chymharu arfer da mewn gwledydd eraill er mwyn sicrhau'r dulliau mwyaf effeithiol o addysgu sgiliau darllen;
c) ailddatgan ei tharged o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, a chyhoeddi strategaeth o’r newydd, gyda cherrig milltir mesuradwy, er mwyn ei gyrraedd; a
d) asesu pam fod disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, is na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei tharged mwyaf diweddar o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA erbyn 2022, gan gynnwys sgiliau darllen, a hynny yn dilyn methu â chyrraedd y targed gwreiddiol i Gymru fod ymhlith yr 20 o wledydd uchaf ar restr PISA.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n hapus iawn i gyflwyno'r gwelliannau yma, Llywydd, yn enw Heledd Fychan. Ond dyma ni unwaith eto yn trafod sgiliau darllen a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc ym mhrofion PISA yng Nghymru, sydd yn arwydd clir bod y Llywodraeth yn methu'n lân a thawelu'r dyfroedd ynglŷn â'r mater penodol yma. Fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae rhoi cyngor anghyson yn rhoi arwydd clir i'r gweithlu addysg nad yw Llywodraeth Cymru ddim yn glir ynglŷn â beth maen nhw'n disgwyl i ysgolion ei wneud o ran darllen. Ac fel rŷn ni wedi clywed hefyd, mae'r profion addysg unwaith eto yn dangos mai Cymru sydd ar waelod y domen o bob un o'r gwledydd yn y Deyrnas Gyfunol, gyda'n canlyniadau gwaethaf ni mewn hanes.
Mae fy nghyfraniad i yn mynd i ffocysu ar dargedau, mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i fi gyfaddef, ers i mi fod yn y Senedd hon—. A dwi'n flin, Llywydd, am swnio ychydig bach fel tôn gron yn fan hyn, ond allwn ni ddim anwybyddu'r berthynas ryfedd sydd rhwng y Llywodraeth â thargedau, yn arbennig yn y maes addysg. Mae'n mynd rhywbeth fel hyn: mae'r Llywodraeth yn gosod targedau, maen nhw wedyn yn methu targedau, wedyn maen nhw'n addasu'r targedau, ac maen nhw'n methu'r targedau unwaith eto. A beth maen nhw'n ei wneud wedyn yw dileu'r targedau, achos eu bod nhw'n gwybod eu bod nhw'n ffaelu cyrraedd y targedau. Mae'n sefyllfa gwbl hurt.
Er enghraifft, yn 2011, gosodwyd targed i Gymru fod ymhlith yr 20 gwlad PISA orau erbyn 2015. Ond yn 2014, addaswyd y targed yna i sicrhau mai cyrraedd 500 pwynt ym mhob un o'r tri maes oedd y nod, sef darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, a hynny erbyn 2021. Wel, erbyn 2019, fe ddywedodd y Gweinidog ar y pryd ar y Gymraeg ac addysg nad oedd bwriad gan Lywodraeth Cymru i gadw at y targed hwnnw mwyach. Dyw hyn jest ddim yn ddigon da, a dyna pam rŷn ni'n galw ar y Llywodraeth i ailymrwymo i'r targedau hyn yn ein gwelliant, yn ogystal â galw am asesiad sydd yn edrych i mewn i'r rheswm pam mae disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, is o lawer na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr.
I gloi, os caf i yn sydyn iawn gyfeirio at friffiad cefais i fore ddoe gan Lywodraeth Cymru ac Estyn, a oedd yn ceisio esbonio'r gwahaniaeth rhwng y phonics a'r ciwio yma. Beth roedden nhw'n ei gadarnhau oedd bod yna rywfaint bach o ddatblygu wedi digwydd yn y sector cynradd, ond bod hynny'n cael ei golli'n llwyr wrth i ddisgyblion drosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd. Mae Estyn a Llywodraeth Cymru yn gwybod am hyn ers 10 mlynedd, a does dim byd wedi cael ei wneud i wella'r sefyllfa. Felly, mae'n rhaid i hynny newid, Llywydd, a dwi'n gorffen gyda hyn. Mi fydd Plaid Cymru, os byddwn ni mewn Llywodraeth yn 2026, yn gwbl ddi-ildio yn ein hymdrechion i sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn cyrraedd y safonau uchaf posibl yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n galw—. Mae cymaint o ddadleuon y prynhawn yma. [Torri ar draws.] Diolch. Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Nid oes llawer o ddadleuon pwysicach na hon i'w cael, am ragolygon ein plant yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'n bwnc mor allweddol, ac mae cael hyn yn anghywir yn arwain at ganlyniadau enbyd a bydd yn costio'n ddrud i genedlaethau'r dyfodol. Fel y clywsom, mae methiant Llywodraeth Cymru i reoli ein system addysg yma yng Nghymru yn gadael un rhan o bump o'n plant sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd yn ymarferol anllythrennog. Mae hynny'n destun embaras i'r Llywodraeth hon a bydd yn cael effaith ddinistriol ar ragolygon ein plant. Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl sy'n methu darllen yn fwy tebygol o ddioddef o salwch meddwl, mynd i'r carchar a hyd yn oed o farw'n iau. Yn amlwg, felly, mae angen i bethau newid yng Nghymru yn hyn o beth.
O ran ein system addysg yma yng Nghymru, mae angen inni sicrhau bod yr hyn a addysgir i'n plant a'r ffordd y cânt eu haddysgu yn cael eu ysgogi gan dystiolaeth, fel y clywsom gan Tom Giffard—pwynt a wnaed gan yr Ysgrifennydd addysg yn gynharach y mis hwn, ond mae'n drueni nad yw hyn wedi digwydd bob amser. Mae'n hynod bryderus fod Llywodraeth Cymru yn dal i ganiatáu defnydd o ddull o addysgu a waharddwyd yn Lloegr bron i 20 mlynedd yn ôl. Mae'n amlwg fod angen gweithredu system lawer gwell yma yng Nghymru. Rhaid inni weld gweithredu ar frys gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y system ffoneg synthetig yn cael ei mabwysiadu. Mae'r dull hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn helpu plant i ddysgu'r berthynas rhwng llythrennau a'r synau a wnânt. Profwyd bod hyn yn helpu plant i ddarllen a sillafu, ac mae'r ddau beth yn hanfodol ar gyfer eu hastudiaethau mewn pynciau eraill. Nid yn unig hynny, ond mae angen inni weld y Llywodraeth yn cyflwyno profion darllen fel y rhai sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Er mwyn ein plant a chenedlaethau'r dyfodol, mae angen inni sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn o'r dechrau, ac mae'n amlwg fod hynny'n rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud yn glir fod angen gwella canlyniadau llythrennedd i ddysgwyr, ac am y rheswm hwn mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud yn glir fod hon yn brif flaenoriaeth. Ni allwn ddisgwyl gweld cynnydd dros nos. Mae angen inni roi amser i'r camau y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi eu gosod wreiddio yn ein hysgolion cyn y gallwn weld y cynnydd y gŵyr pawb ohonom eu bod yn angenrheidiol.
Fy nealltwriaeth i yw y bydd ffoneg yn ganolog i hyn fel y blociau adeiladu ar gyfer dysgu darllen trwy hollti geiriau'n synau. Mae addysgu ffoneg eisoes wedi'i gynnwys yn y disgwyliadau statudol y mae'n ofynnol i ysgolion gydymffurfio â hwy. Rwy'n falch o weld y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gael ysgolion lle mae angen iddynt fod, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i adolygu'r ddarpariaeth a dwyn ynghyd enghreifftiau o ymarfer gorau effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.
Unwaith eto, mae canlyniadau PISA wedi cael eu rhoi ar flaen y cynnig hwn. Nid yw'n cyfeirio yn unman at lesiant, hyder na hapusrwydd disgyblion yn yr ystafell ddosbarth; yn hytrach, mae'n galw am brofion, rhywbeth y gwyddom eu bod yn rhoi llawer iawn o straen ar y plant, sy'n gorfod sefyll y profion hyn, a'r athrawon sy'n eu hasesu. Rwy'n cytuno'n llwyr â gwelliant Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn. Rhaid i benderfyniadau am addysgu darllen gael eu harwain gan les pennaf y dysgwr bob amser.
Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, un mesur addysg yn unig yw PISA ac nid yw'n ystyried llesiant ein disgyblion. Rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn cytuno mai'r hyn a ddylai fod yn nod i'r system addysg yw datblygu plant yn ddinasyddion cyflawn, yn barod ar gyfer bywyd fel oedolion, nid ystadegau noeth ar bapur. Ac edrychaf ymlaen at glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, yn manylu ar gynnydd Llywodraeth Cymru ar addysgu llythrennedd. Diolch.
Dylai ysgolion fod yn lleoedd lle caiff ein plant eu meithrin a'u paratoi â sgiliau hanfodol i fod yn sylfaen iddynt am oes, oherwydd, wedi'r cyfan, nhw yw dyfodol ein gwlad. Ac eto, yn anffodus, fel y gwyddom i gyd, nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru yn aml, gyda chanlyniadau addysgol ar gyfer ein pobl ifanc yn wael iawn. Ac mae'r bai am y saga druenus a hollol ddiangen i'w briodoli'n bendant i'r Llywodraeth Lafur hon, gyda Gweinidogion olynol yn methu mynd i'r afael â'r mater.
Mae ein hathrawon ledled Cymru yn gwneud gwaith aruthrol o dan bwysau enfawr, ac nid yw hyn yn feirniadaeth arnynt hwy mewn unrhyw ffordd, gan mai dim ond gweithio gyda'r offer a roddir iddynt y gallant hwy ei wneud. Mae'n destun pryder ac yn frawychus, a rhaid imi ailadrodd yr hyn a grybwyllodd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, yn ei gyfraniad, fod 20 y cant o blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
Yn hanesyddol, mae ardaloedd yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru wedi bod â lefelau uchel o anllythrennedd ac anrhifogrwydd. Canfu ymchwiliad gan y BBC yn 2015 mai plant ysgol yn y Cymoedd oedd â'r lefelau darllen a rhifedd isaf yng Nghymru. A chanfu adroddiad damniol yn 2013 fod pedwar o bob 10 plentyn ym Merthyr Tudful yn ymarferol anllythrennog. Mae hyn yn rhywbeth a godwyd gan fy rhagflaenydd ar sawl achlysur yma yn y Siambr, ac yn wir, fe ymgyrchodd dros weithredu. Flynyddoedd lawer wedyn, mae'n ymddangos mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed, a ninnau'n sefyll yma heddiw unwaith eto yn siarad am yr un peth.
Ers 20 mlynedd bron, mae Cymru wedi bod ar waelod y tabl PISA mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn gyson, o gymharu â phedair gwlad y DU. Mae'n debygol y bydd y canfyddiadau hyn yn cael effaith wirioneddol ddinistriol ar genedlaethau'r dyfodol, ac i fod yn blwmp ac yn blaen, maent yn haeddu llawer gwell na hyn. Roedd yn arbennig o ofidus clywed am astudiaethau yn canfod bod pobl sy'n methu darllen yn fwy tebygol—fel y soniodd fy nghyd-Aelod—o farw'n iau, o fynd i'r carchar, o ddioddef problemau iechyd meddwl ac o brofi mwy o galedi yn ystod eu bywydau. Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae'r esboniad am berfformiad addysg is yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn adlewyrchiad o bolisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru.
Un maes lle mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam gwirioneddol â disgyblion Cymru yw drwy fynnu argymell y defnydd o giwiau, er y profwyd ei fod yn niweidio gallu plant i ddysgu darllen. Yn dilyn adolygiad o addysgu darllen cynnar, mae'r defnydd o giwiau wedi cael ei wahardd yn Lloegr ers 2005. Yn hytrach, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud addysgu ffoneg synthetig systematig yn ofynnol. Ers ei ddiddymu a chyflwyno gwiriad sgrinio ffoneg, mae sgoriau profion darllen yn Lloegr wedi codi. Mae'n amlwg nad yw cwricwlwm newydd Llafur yma yng Nghymru yn gweithio, a rhaid i Weinidogion gymell y defnydd o'r dull ffoneg i ysgolion ac athrawon er mwyn ceisio gwella canlyniadau i fyfyrwyr fel y mae'r cynnig heddiw yn ei ddatgan. Ac mae'n rhaid cyflwyno profion darllen hefyd, i ddod â Chymru gyfuwch â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Ni allaf ddychmygu am eiliad fod unrhyw un yma heddiw eisiau i'n plant fod ar y droed ôl o'r dechrau un. Mae angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddileu anllythrennedd, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod ar draws y Siambr yn cefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg nawr i gyfrannu. Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud bod y cynnig fel y'i cyflwynwyd yn anghywir? Nid yw 'ymarferol anllythrennog' yn derm sy'n cael ei gydnabod na'i gasglu fel eitem ddata gan Lywodraeth Cymru, ac nid yw wedi cael ei ddefnyddio gan Estyn ers dros ddegawd. Mae dros 12 mlynedd wedi mynd heibio ers yr adroddiad sy'n cael ei ddyfynnu allan o'i gyd-destun yma. Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, fe wnaed llawer iawn o gynnydd. Roedd canlyniadau PISA a chanlyniadau ein hasesiadau cenedlaethol yn gwella tan y pandemig. Yn wir, cyn y pandemig, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella safonau llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth mewn profion PISA. Ers y pandemig, mae'n amlwg nad ydym lle mae angen inni fod—[Torri ar draws.]
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n derbyn ymyriad gan Janet Finch-Saunders?
O, ewch amdani.
Fel yr Ysgrifennydd Cabinet presennol sy'n gyfrifol, sut rydych chi'n meddwl y mae'n edrych yn y cyfryngau ac ar y teledu lle mae gan blant 11 oed lefelau llythrennedd plant pedair oed? A ydych chi'n falch o hynny?
Diolch, Janet. Nid wyf yn siŵr a wnaethoch chi wrando ar yr hyn a ddywedais nawr am y wybodaeth anghywir y mae eich grŵp yn ei hyrwyddo am anllythrennedd ymarferol, felly efallai yr hoffech chi fynd yn ôl i adolygu'r cofnod ar hynny.
Fel roeddwn i'n dweud, mae ein canlyniadau PISA wedi bod yn siomedig, ac maent yn dweud wrthym fod yn rhaid inni weithredu nawr i wella safonau llythrennedd yng Nghymru. Er bod adroddiadau Estyn wedi nodi—a ydych chi'n gwrando ar hyn, Janet—fod y rhan fwyaf o ysgolion yn cynllunio'n effeithiol i ddatblygu llythrennedd disgyblion a bod llawer o bobl ifanc 10 i 14 oed yn defnyddio sgiliau darllen sylfaenol yn dda, mae'n amlwg i mi fod yn rhaid inni wneud mwy. Mae llythrennedd yn ganolog i'n blaenoriaeth o wella safonau mewn addysg. Rydym wedi dechrau gweithio gyda phartneriaid i egluro ein canllawiau a'n cefnogaeth i sicrhau bod ein disgwyliadau'n glir i ysgolion a bod pwysigrwydd ffoneg yn fwy amlwg.
Ar y pwynt hwnnw, gadewch imi fod yn hollol glir: rydym yn disgwyl i ddysgwyr ddysgu dadgodio geiriau gan ddefnyddio ffoneg. Mae hyn yn cyd-fynd â'r dystiolaeth ddiweddaraf. Fodd bynnag, nid yw gallu dadgodio geiriau ynddo'i hun yn ddigon. Efallai y bydd dysgwyr yn gallu darllen testun yn uchel, ond os na allant amgyffred yr ystyr, ni fyddant yn dod yn ddarllenwyr rhugl. Lywydd, pan oeddwn yn dysgu Ffrangeg, pe bai fy athrawon ond wedi canolbwyntio ar ddadgodio, byddwn yn gallu darllen yr hyn a ysgrifennwyd, ond heb ddeall yr ystyr; ni fyddai gennyf syniad beth oeddwn i'n ei ddarllen. Dyma a olygwn wrth fabwysiadu dull cytbwys. Mae ffoneg yn floc adeiladu hanfodol, ond ni allwn anghofio'r strategaethau ehangach y mae'n rhaid eu cael ochr yn ochr â hyn, a rhaid i hynny gael ei yrru gan anghenion dysgwyr.
Roedd datganiad Estyn ar hyn yr wythnos diwethaf yn glir: mae ein hysgolion mwyaf effeithiol yn defnyddio ffoneg fel bloc adeiladu allweddol, ochr yn ochr ag ystod o strategaethau i sicrhau bod eu dysgwyr yn darllen yn rhugl a chyda dealltwriaeth. Yn wir, mae'r erthygl y mae Tom Giffard wedi cyfeirio ati wedi bod yn glir y byddech chi'n cael trafferth dod o hyd i ysgol nad yw'n defnyddio ffoneg. Rwyf wedi derbyn bod angen i'n canllawiau fod yn gliriach o ran y disgwyliadau ar gyfer ysgolion a sut y dylid gweithredu'r rhain yn ymarferol, ac mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau. Ym mis Ionawr, byddwn yn cyhoeddi newidiadau i ganllawiau'r cwricwlwm sy'n egluro ein diffiniadau a'n disgwyliadau mewn perthynas â ffoneg a chiwiau. Rydym eisoes yn adolygu ein fframwaith llythrennedd a rhifedd i gefnogi athrawon i ddatblygu sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm, ac fel y cyhoeddais ym mis Gorffennaf, byddwn yn gosod y fframwaith ar sail statudol i sicrhau mwy o gysondeb ar draws ysgolion. Bydd y canllawiau hynny'n cael eu hategu gan ein gwaith ar sicrhau bod yr adnoddau ansawdd uchel presennol ar ffoneg a llythrennedd yn hygyrch i bob ysgol trwy Hwb. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rwyf hefyd am gydnabod y gwaith a'r ymarfer gwych sy'n digwydd yn y maes hwn mewn ysgolion ledled Cymru—ac a gaf i ddweud eto wrth Tom Giffard nad wyf erioed wedi beio athrawon am ddim o hyn; y cyfan a wneuthum yw canmol gwaith caled ein hathrawon yn y Siambr—gwaith a welais yn uniongyrchol ar fy ymweliadau ag ysgolion, mewn trafodaethau gyda phenaethiaid, ac mae amrywiaeth o astudiaethau achos eisoes ar gael i ysgolion ar Hwb i gefnogi eu dulliau. Byddaf yn sicrhau hefyd fod enghreifftiau pellach o'r defnydd effeithiol o ffoneg yn cael eu rhannu ar draws y system addysg cyn gynted â phosibl, a byddaf yn ysgrifennu at ysgolion y tymor hwn i dynnu sylw at yr adnoddau hyn.
Rydym hefyd yn datblygu egwyddorion cenedlaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer addysgu llythrennedd yn effeithiol. Bydd y fframwaith a'r egwyddorion cenedlaethol yn sicrhau bod ein disgwyliadau ar gyfer llythrennedd yn ymestynnol ac yn adlewyrchu'r dystiolaeth ar y ffordd rydym yn dysgu darllen. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan bob ysgol ac addysgwr fynediad at yr un hyfforddiant a chymorth o ansawdd uchel i addysgu llythrennedd. Mae prosiectau fel prosiect ymchwil Prifysgol Bangor ar addysgu llythrennedd ac iaith, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, eisoes yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar hybu sgiliau darllen. Mae'r prosiect hwn wedi darparu mynediad rhydd i raglenni llythrennedd strwythuredig, seiliedig ar dystiolaeth i ddarllenwyr ifanc, ac mae eisoes wedi cael effeithiau cadarnhaol ar eu sgiliau darllen, a dyna pam ein bod wedi buddsoddi £290,000 ychwanegol i ehangu'r gwaith hwn.
Mae'r cynnig yn galw am gyflwyno profion. Rydym eisoes yn casglu data sylweddol ar sgiliau darllen dysgwyr. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn cymryd rhan yn y profion PISA, sy'n rhoi gwybodaeth i ni am sgiliau a gwybodaeth plant 15 oed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, ond nid dyna'r unig ddata sydd gennym o bell ffordd. Mae ein hasesiadau personol gorfodol ar-lein yn cael eu cyflawni gan bob dysgwr rhwng blwyddyn 2 a blwyddyn 9. Mae'r rhain yn rhoi gwybodaeth gadarn i athrawon i'w helpu i gynllunio ar gyfer camau nesaf eu dysgwyr, yn ogystal â rhoi gwybodaeth lefel genedlaethol i ni ar sut y mae dysgwyr yn datblygu dros amser. Fe wnaethom gyhoeddi'r data a'r dadansoddiadau diweddaraf o'n harholiadau haf ychydig wythnosau yn ôl, ac rydym yn bwriadu datblygu asesiadau cenedlaethol yn seiliedig ar samplau er mwyn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o sut y mae'r Cwricwlwm i Gymru yn codi safonau, gan gynnwys asesiadau llythrennedd. Byddwn yn treialu pecyn cymorth asesu gydag addysgwyr i helpu ysgolion i sgrinio sgiliau darllen a llythrennedd ehangach dysgwyr ar gamau pontio allweddol o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd—
Bydd angen ichi ddirwyn eich cyfraniad i ben nawr, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch. A gaf i ddweud, felly, Lywydd, wrth orffen, ein bod yn gwybod bod gennym waith i'w wneud i gefnogi ysgolion i wella sgiliau llythrennedd ein dysgwyr? Rwy'n ymroddedig 100 y cant i wneud y gwaith hwnnw. Rwyf hefyd yn derbyn yr hyn a ddywedodd Cefin Campbell am waith trawslywodraethol ar y mater a'i fod wedi mynychu'r sesiwn friffio dechnegol, yn wahanol i lefarydd y Torïaid, y byddai'n well ganddo roi gwybodaeth anghywir am anllythrennedd ymarferol yn y Siambr hon. Diolch.
James Evans nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwy'n credu fy mod am geisio tawelu pethau yn y Siambr; rwy'n credu bod pethau wedi mynd yn afreolus braidd. Rydym i gyd yn bryderus iawn ynglŷn â darllen yn ein hysgolion, gan ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn darparu'r addysg o'r ansawdd gorau yn ein holl ysgolion ar draws Cymru. Ac mae'n bwysig fod pob plentyn sy'n gadael ysgol, ysgol gynradd, ledled Cymru yn gallu darllen a hefyd yn gallu ysgrifennu.
Agorodd Tom Giffard y ddadl drwy nodi bod 20 y cant yn ymarferol anllythrennog ledled Cymru a bod y dulliau presennol o addysgu darllen ledled Cymru wedi dyddio. Rhoddodd enghreifftiau hefyd o sut nad yw'r system bresennol yn addas i ddysgwyr, a dyfynnodd academyddion ar hynny, gan gryfhau dadl Tom yn fawr mewn gwirionedd. Nododd safbwyntiau newidiol Llywodraeth Cymru ar hyn, a sut y mae safbwynt y Llywodraeth wedi newid. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad, Mike, gan fy mod newydd ddod at ddiwedd y darn hwnnw.
Mae'n ymddangos bod yna gred fod athrawon sy'n addysgu darllen yn ei ddysgu drwy un fethodoleg. Os ewch i siarad ag unrhyw athro ysgol gynradd, fe fyddant yn dweud wrthych eu bod yn defnyddio llawer o wahanol fethodolegau i'w wneud. Hefyd, rwy'n credu mai un o'r problemau gwirioneddol sydd gennym, nad ydym yn siarad amdani, yw diffyg cefnogaeth rhieni mewn rhai achosion.
Rwy'n credu bod Mike newydd ddangos bod defnyddio ciwiau'n tanseilio ffoneg. Mae hyn yn dangos yr anghysondebau ar draws y sefyllfa ledled Cymru, onid yw?
Yna cododd Cefin Campbell i siarad, a dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru yn glir. Fe ddywedoch chi, roeddech chi'n siarad, am dargedau—ni fyddaf i byth yn diflasu arnoch chi'n siarad am dargedau, Cefin, rwy'n meddwl eu bod yn bwysig iawn—a hefyd am ganlyniadau PISA a sut roeddem ni ar waelod y canlyniadau eto. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn fod Llywodraeth Cymru yn cadw i symud y pyst gôl drwy'r amser. Os nad ydynt yn cyrraedd targed, maent yn newid y targed. Os na fyddant yn ei gyrraedd eto, byddant yn ei newid eto. Nid dyna y dylem fod yn ei wneud. Os ydym yn gosod targed, dylem fod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w gyrraedd, ac nid newid y targed i geisio gwneud i'r Llywodraeth edrych yn dda pryd bynnag y daw'r canlyniadau hynny allan. Roeddech chi hefyd yn sôn am ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cefnogi pob dysgwr ledled Cymru, nid dim ond ein dysgwyr sy'n fwy abl ond dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig hefyd nad ydynt yn cael y cyfleoedd y mae pobl eraill yn eu cael. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Yn olaf, fe wnaethoch chi sôn sut y mae Estyn a Llywodraeth Cymru wedi gwybod am y broblem hon ers blynyddoedd ond heb wneud dim i fynd i'r afael â hi. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd i bawb ohonom wneud rhywbeth yn y Siambr i fynd i'r afael â'n lefelau darllen ledled Cymru. [Torri ar draws.] Ie, Laura. Mae fy amser yn mynd i ddod i ben yn y funud, ond mae'n iawn.
Mae'n ddrwg gennyf, un bach cyflym. Rydym i gyd wedi clywed heddiw pa mor bwysig yw cael y ffordd gywir o addysgu darllen i'n plant, ond a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi hefyd yn bwysig iawn ein bod yn cefnogi'r rhieni, gan adeiladu ar yr hyn a ddywedodd Mike Hedges nawr, a'u cefnogi i addysgu eu plant yn y fethodoleg gywir hefyd? Oherwydd efallai na fydd rhieni yn gyfarwydd â sut i ddysgu ffoneg. Rwy'n gwybod bod hynny'n cael ei wneud mewn rhai ysgolion, felly mae rhannu'r arfer gorau hwnnw'n bwysig iawn, onid yw?
Er mwyn arbed amser, ydw, rwy'n cytuno â chi.
Tynnodd Peter Fox sylw at bwysigrwydd y ddadl hon a sut rydym yn gwneud cam â phobl ifanc ledled Cymru—dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd ein bod eisiau gwella bywydau pobl ifanc ledled Cymru—a hefyd sut y mae angen inni ddilyn y dystiolaeth. A dyna y dylem ei wneud yn ein holl waith yma: dilyn y dystiolaeth. Soniodd hefyd am systemau sydd wedi dyddio ac am y blaenoriaethau, ac mae angen inni ddiweddaru ein systemau os ydym am wella pethau ledled Cymru.
Tynnodd Carolyn Thomas sylw at y ffaith mai dyma yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth. Os yw'n brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth, gadewch inni weld rhywfaint o gyflymder, gadewch inni weld rhywfaint o gyflawniad, oherwydd nid ydym yn gweld hynny ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod llawer o bwysau ar draws y Llywodraeth, ond os yw hon yn brif flaenoriaeth mae angen inni sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni. Roeddech chi hefyd yn sôn am y gwaith rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ac am lesiant plant. O safbwynt personol, ar iechyd meddwl a llesiant meddyliol, rwy'n credu mai'r hyn a all wella iechyd meddwl a llesiant meddyliol ein pobl ifanc yw sicrhau, ie, eu bod yn gadael yr ysgol yn unigolion cyflawn sy'n cael eu cefnogi, ond hefyd eu bod yn gallu darllen ac ysgrifennu i fynd i'r amgylchedd gwaith wedyn ac i fynd ymhellach gyda'u haddysg. Dyna'r hyn y credaf i sy'n bwysig ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant meddyliol plant. Mae fy amser ar ben eisoes.
Natasha Asghar, roeddech chi'n sôn sut y dylai ysgolion fod yn lle i ddatblygu cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'n bwysig ein bod ni'n datblygu cenedlaethau'r dyfodol. Roeddech chi hefyd yn siarad am y Cymoedd a'r ffaith ei bod yn un o'r ardaloedd gwaethaf ledled Cymru am anllythrennedd, ac mae angen i'r Llywodraeth weithio ar hynny hefyd.
Yna aethom ymlaen at y Gweinidog, a dechreuodd y Gweinidog drwy alw ein cynnig yn anghywir. Rwyf i a fy ngrŵp yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd. Cawsom ymyriad gan Janet Finch-Saunders ar y Gweinidog, ac mae'n amlwg nad oedd y ddau'n cytuno. Yna amlinellodd y Gweinidog fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy, a siaradodd y Gweinidog am ddull cytbwys, ond derbyniai nad oedd pethau'n iawn mewn rhai meysydd a bydd canllawiau'n cael eu diweddaru a bod gwaith wedi dechrau ar hynny a bydd rhywbeth sy'n cael ei roi ar sail statudol yn mynd i'r afael â hyn. Nododd beth o'r gwaith sydd wedi digwydd gyda sefydliadau addysg uwch ar gasglu tystiolaeth a gwaith ar hyn hefyd.
Felly, i gloi, Lywydd, oherwydd rwy'n gwybod bod fy amser ar ben, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn y Siambr hon ein bod yn cydnabod bod angen inni gefnogi ein pobl ifanc ledled Cymru. Mae angen inni sicrhau eu bod yn gadael ysgol yn gallu darllen ac ysgrifennu, ac mae angen inni sefydlu system sy'n cefnogi ein hathrawon i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau i'r bobl ifanc yn ein hysgolion, a dyna pam rwy'n cynghori pawb heddiw i gefnogi ein cynnig. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe wnawn ni gynnal y pleidleisiau ar y cynnig yma yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud i'r bleidlais gyntaf.
Mae'r bleidlais gyntaf nawr ar ddadl ar eitem 7, ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod; hwn oedd y Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli. Galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 15 yn ymatal, 18 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud Ô phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli: O blaid: 14, Yn erbyn: 18, Ymatal: 15
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar eitem 9; dadl y Ceidwadwyr ar ffermydd sy'n eiddo i'r cynghorau yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermydd sy'n eiddo i gynghorau. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermydd sy'n eiddo i gynghorau. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Felly, mae'r bleidlais olaf yr eitem yma ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8692 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan ffermydd sy’n eiddo i gynghorau o ran cefnogi cynhyrchiant bwyd a galluogi pobl ifanc i fentro i fyd ffermio
2. Yn croesawu’r ffaith y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i ffermwyr ar ffermydd sy’n eiddo i gynghorau ac y bydd yn cefnogi’r ffermwyr hyn.
3. Yn nodi mai mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw yw rheoli ffermydd sy’n eiddo i gynghorau.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, naw yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermydd sy'n eiddo i gynghorau. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 13, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r pleidleisiau nesaf o dan 10, dadl y Ceidwadwyr ar addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Pleidlais ar welliant 1 yn gyntaf nesaf, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Mae gwelliant 2 wedi'i ddad-ddethol.
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 fydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly mae'r bleidlais wedi'i wrthod ar welliant 3.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y cynnig wedi'i ddiwygio sydd nesaf, felly.
Cynnig NDM8693 fel y'i ddiwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi:
a) codi safonau darllen fel rhan o flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a cholegau;
b) ymgorffori llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru;
c) cymryd camau i wella’r broses o addysgu dysgwyr i ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad canllawiau yn gliriach lle bo angen; a
d) defnyddio asesiadau personol i gefnogi cynnydd dysgwyr o ran darllen, ac i gadw llygad ar welliannau yn genedlaethol.
2. Yn nodi bod y disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru.
3. Yn cydnabod bod yn rhaid i benderfyniadau am addysgu dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, naw yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 13, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau am y dydd, ond nid dyna ddiwedd ar y gwaith.
Mae yna un eitem arall i'w chyflwyno. Yr eitem yma yw eitem 12, y ddadl fer. Buffy Williams fydd yn cyflwyno'r ddadl fer, ac felly os gwnaiff yr Aelodau adael yn dawel.
Buffy Williams, yn eich amser eich hun, i gyflwyno eich dadl fer.
Diolch, Lywydd.
Byddai hon yn ddefnyddiol, oni fyddai?
Addysg yw un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gennym ar gyfer siapio ein dyfodol. Mae'n rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl ifanc i dyfu'n oedolion hyderus, galluog. Addysg yw ein cyfle gorau i gael gwaith yn y dyfodol a mynd i'r afael â thlodi. Y tu hwnt i'r gwersi, yr arholiadau a'r graddau, mae'n ein helpu i reoli straen, yn dysgu cyfrifoldeb ac yn ein galluogi i wneud ffrindiau, gan greu cysylltiadau sy'n ein helpu i deimlo'n gartrefol yn ein cymunedau ac yn y gymdeithas ehangach.
Mae'n bwysig ein bod yn cofio bod pob plentyn yn unigryw, wedi'i siapio gan ei brofiadau a'i gefndir ei hun. O strydoedd prysur Caerdydd i'n Cymoedd bryniog, yr holl ffordd i fyny i Ynys Môn, mae ein plant a'n pobl ifanc i gyd yn unigryw yn eu ffordd eu hunain. Mae arnom angen system addysg sydd nid yn unig yn caniatáu, ond yn annog yr amrywiaeth hon. Ni allwn fabwysiadu dull un maint i bawb o addysgu, ac rwy'n falch nad ydym yn gwneud hynny yng Nghymru.
I lawer o fyfyrwyr, mae yna rwystrau sy'n gwneud mynediad at addysg yn anos. Mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft, yn aml yn wynebu heriau nad yw'r system brif ffrwd yn darparu ar eu cyfer yn llawn. Mae disgyblion o ardaloedd mwy difreintiedig, lle gall bywydau cartref anodd neu broblemau cymunedol ychwanegu haenau o straen, hefyd yn cael trafferth ffynnu mewn lleoliadau ysgol arferol. Mae yna fentrau allweddol sy'n ceisio rhoi cyfle teg a chyfartal i bob myfyriwr yng Nghymru allu llwyddo, gan sicrhau nad yw cefndir economaidd-gymdeithasol yn pennu canlyniadau addysgol. Mae'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gynt, yn parhau i drawsnewid ein hystafelloedd dosbarth a'n seilwaith addysg ehangach, gan greu amgylcheddau dysgu modern. Mae prydau ysgol am ddim i bawb yn golygu nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd, a'i fod yn gallu canolbwyntio ar ei ddysgu. Ac mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn darparu cymorth ariannol hanfodol i fyfyrwyr mewn addysg bellach, gan gael gwared ar beth o straen incwm isel i sicrhau eu bod yn gallu parhau i gymryd rhan a chwblhau eu hastudiaethau.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld diwygiadau addysg yn cael eu gweithredu ledled Cymru gyda'r uchelgais o feithrin mwy fyth o gynwysoldeb, gan annog ein plant a'n pobl ifanc i fod yn fwy na myfyrwyr yn unig. Mae'r Cwricwlwm i Gymru newydd wedi'i adeiladu o amgylch pedwar diben allweddol: dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau; cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Ochr yn ochr â'r dibenion hyn, nod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw cefnogi cynwysoldeb ymhellach trwy sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol yn cael y cymorth wedi'i deilwra y maent yn ei haeddu. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam hanfodol tuag at greu system addysg sy'n parchu ac yn meithrin doniau a heriau amrywiol pob myfyriwr.
Fodd bynnag, i rai plant a phobl ifanc, mae angen inni gydnabod hefyd nad yw'r pethau hyn yn diwallu eu hanghenion yn llawn o hyd. Gall deimlo fel ceisio ffitio peg sgwâr i mewn i dwll crwn. I'r plant hyn, mae'n bosibl nad llwybrau addysgol traddodiadol sy'n gweddu orau. Dyma lle mae opsiynau addysg amgen yn dod yn allweddol.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau y gall pob plentyn yng Nghymru ffynnu go iawn trwy lwybrau amgen. I blant a phobl ifanc nad ydynt yn ffitio'r mowld, gall addysg amgen fod yn achubiaeth. Mae'n cynnig ffordd iddynt ailgysylltu â dysgu mewn amgylchedd sy'n diwallu eu hanghenion yn well. Boed hynny drwy ddosbarthiadau llai o faint, hyfforddiant galwedigaethol ymarferol neu gymorth arbenigol, gall addysg amgen helpu pobl ifanc i ailddarganfod eu potensial. Nod y ddadl fer hon yw dathlu'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud mewn addysg amgen ledled Cymru, lle mae llawer o fyfyrwyr yn dod o hyd i lwybrau newydd i lwyddiant.
Gadewch imi ddechrau drwy rannu straeon dau fyfyriwr, disgybl A a disgybl B. Roedd disgybl A yn dod o gefndir anodd ac roedd wedi profi llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nid oedd disgybl A yn mynychu gwersi ac roedd angen llawer o gefnogaeth. Daeth y pryderon yn amlwg pan oedd disgybl A ym mlwyddyn 7 gyda phroblemau rhwng grwpiau cyfeillgarwch yn arwain at drais, ymddygiad bygythiol a diffyg mynediad at ddysgu. Roedd yn gwrthdaro â staff hefyd. Fe'i hatgyfeiriwyd at asiantaethau allanol. Cafodd disgybl A oedolyn allweddol a phàs amser allan.
Yn ystod amser allan o'r gwersi, cefnogwyd disgybl A i gwblhau cymhwyster amgen gyda staff ymddygiad a llesiant yn ystod amser ymyrraeth, ynghyd â sesiynau gyda chynorthwy-ydd cymorth llythrennedd emosiynol a monitro ymddygiad a llesiant. Gydag ymddygiad yn parhau i fod yn broblem, cafodd disgybl A eu trosglwyddo i gofrestriad parod i ddysgu a'u cefnogi'n gadarnhaol â gwersi ac ymyriadau llythrennedd. Gwnaed gwelliannau i berthynas disgybl A ag oedolion, adferwyd eu perthynas ag aelodau eraill o staff, a dysgodd A adnabod a gallu rheoli teimladau anghyfforddus yn lle taro allan.
Cyfeiriwyd disgybl A at ddarpariaeth anogaeth lle cwblhawyd mwy o gymwysterau, ochr yn ochr â rhaglen anogaeth, llythrennedd emosiynol a ffynnu, a arweiniodd at ostyngiad pellach mewn atgyfeiriadau gwahardd ac ynysu. Gadawodd disgybl A yr ysgol yn hapus ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, gyda chymwysterau'n cynnwys mathemateg, Saesneg, Cymraeg, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwyddoniaeth, ac mae wedi mynd i'r coleg i astudio gofal plant ac ar hyn o bryd mae ar leoliad mewn lleoliad gofal plant.
Ymunodd disgybl B â'r ysgol ym mlwyddyn 8 gyda hanes o drais at gyfoedion a diffyg parch llwyr at awdurdod. Dechreuodd y pryderon bron yn syth gan barhau drwy gydol cyfnod disgybl B yn yr ysgol: trais corfforol yn arwain at ymyrraeth yr heddlu, hunan-niweidio a chwalfa ym mywyd y cartref. Roedd presenoldeb disgybl B yn wael ar ôl y flwyddyn gyntaf, ar 70 y cant a 45 y cant. Rhoddwyd ymyriadau ymddygiad a llesiant ar waith, gan gynnig rhywfaint o gefnogaeth i ddisgybl B, ond parhaodd y trais ac ymddieithrio rhag addysg. Daeth triwantiaeth yn bryder sylweddol pan oedd disgybl B yn mynd i isafswm o wersi, gan dreulio amser y tu allan i'r ysgol. Rhoddwyd llawer o waharddiadau ar waith, rai ohonynt yn hir iawn, gyda risg wirioneddol o gael eu gwahardd yn barhaol o'r ysgol.
Gwnaed penderfyniad i gynnig lleoliad mewn uned anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, lle arhosodd disgybl B am weddill eu cyfnod mewn addysg. Cwblhaodd gymwysterau ychwanegol tra oedd mewn grŵp bach, gan fynychu gwersi craidd yn y lleoliad prif ffrwd a chael mynediad at gymorth emosiynol tra oedd yn yr uned. Cynyddodd presenoldeb i 78 y cant, lleihaodd nifer y gwaharddiadau, a chwblhaodd disgybl B arholiadau gan ennill tair gradd gyfwerth â gradd B, yn cynnwys mathemateg, sgiliau, gwyddoniaeth a Saesneg.
Gallwn barhau, ond byddai fy amser yn dod i ben yn anffodus. Mae'r straeon hyn yn tynnu sylw at bŵer addysg amgen, ond er bod y rhaglenni hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth, mae cwestiynau mawr o hyd ynglŷn â sut y gallwn wneud yn well. Felly, rwyf am ofyn y cwestiynau hyn i Lywodraeth Cymru.
Po gynharaf y byddwn yn nodi myfyrwyr a allai elwa o addysg amgen, y mwyaf tebygol yw hi y bydd y myfyrwyr hyn yn cymryd rhan ac yn parhau i gymryd rhan mewn addysg. Gall athrawon ar y rheng flaen weld pa fyfyrwyr sy'n dechrau ei chael hi'n anodd a nodi problemau ymddygiadol, ond gwyddom eu bod yn aml dan bwysau ac nad oes ganddynt adnoddau bob amser i nodi problemau'n ddigon cynnar. Mae rhai ysgolion yn ffodus i gael swyddog cyswllt â theuluoedd dynodedig, a fydd mewn sefyllfa well i nodi myfyrwyr posibl. Felly, fy nghwestiwn i yw: beth arall y gellir ei wneud i gefnogi ysgolion i nodi disgyblion a fyddai'n elwa o addysg amgen? A oes unrhyw gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu i gynorthwywyr addysgu, fel cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol, a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gyflogi neu greu rolau swyddogion cyswllt â theuluoedd?
Gan symud ymlaen at gostau, gwyddom y gall addysg amgen fod yn ddrud, yn enwedig i ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Ond yn ddealladwy, nid yw'r ddarpariaeth y mae elusennau'n ei darparu yn rhad i'w rhedeg, ac wrth gwrs mae angen iddynt hwy dalu eu costau. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi ysgolion gyda chostau'r ddarpariaeth hon, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael eu hamddifadu o'r cymorth sydd ei angen arnynt oherwydd cyfyngiadau ariannol? Ac a yw'r Gweinidog yn bwriadu cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i drafod ymhellach pa gyfleoedd cyllido posibl sydd ar gael i elusennau neu grwpiau cymunedol?
Nesaf, mae gennym adnodd anhygoel ar garreg ein drws: y cannoedd o grwpiau cymunedol, elusennau a busnesau ledled Cymru a allai gefnogi pobl ifanc trwy addysg amgen. Rwy'n gwybod y bydd llawer eisoes yn cefnogi eu hysgolion, drwy'r cynllun ysgolion cymunedol, ac eraill yn cymryd rhan drwy'r warant i bobl ifanc. Ond mae llawer o'r sefydliadau hyn yn dal i fod heb eu nodi ac nid ydynt yn cael eu defnyddio i'w potensial llawn. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i nodi'r grwpiau cymunedol a'r busnesau hyn yn well, a'u cynorthwyo i ddod yn ddarparwyr addysg amgen? Ac wrth inni ystyried gwarant Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, sut y gallwn ennyn diddordeb busnesau mawr i gynnig profiad gwaith neu brentisiaethau yn rhan o raglenni addysg amgen?
Mae angen i ni siarad am rôl y Gymraeg mewn addysg amgen hefyd. Nid yw'n gyfrinach fod rhai ysgolion cyfrwng Cymraeg yn bryderus ynghylch colli disgyblion mewn perthynas ag addysg bellach, am na allant ddarparu'r un dewis ag ysgolion neu golegau cyfagos. Yn anffodus, gellir dweud yr un peth am ddiffyg opsiynau addysg amgen cyfrwng Cymraeg. Rwy'n deall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg i gefnogi darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan weithio tuag at ddarparu ystod ehangach o addysg ôl-16 sydd ar gael yn Gymraeg. A oes modd gwneud yr un ymrwymiad a gwneud gwaith i sicrhau bod dysgwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad at addysg amgen drwy gyfrwng y Gymraeg?
Yn olaf, hoffwn ofyn am ddyfodol addysg amgen a'r rôl y gallai prentisiaethau iau a cholegau ei chwarae i fyfyrwyr nad ydynt yn ffynnu mewn amgylchedd academaidd traddodiadol. Mae prentisiaethau iau'n cynnig cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol tra byddant yn parhau â'u haddysg. Pa rôl y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld prentisiaethau iau a cholegau'n ei chwarae yn nyfodol addysg myfyrwyr a fyddai yn draddodiadol yn elwa o addysg amgen? Ac wrth inni geisio meithrin mwy o gydweithio rhwng ysgolion a darparwyr addysg bellach, sut y gallwn ni gefnogi partneriaethau cryfach rhwng ysgolion a cholegau, i nodi a chefnogi myfyrwyr a fyddai'n elwa o opsiynau addysg amgen yn gynharach?
Fe wyddom fod addysg amgen yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Cymru, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt. O helpu ysgolion i nodi myfyrwyr, i ennyn diddordeb mwy o grwpiau cymunedol a busnesau, sicrhau darpariaeth Gymraeg, ac ehangu opsiynau ôl-16, mae llawer ar y bwrdd.
Buaswn ar fai'n peidio â sôn am waith anhygoel Kate Owen a'i thîm yng nghyngor Rhondda Cynon Taf, yn enwedig ei gwaith gyda phobl ifanc yn rhan o'r prosiect Golau Gwyrdd a chynllun Gatsby, ac wrth gwrs, dau unigolyn gwych sy'n cefnogi disgyblion drwy addysg amgen yn y Rhondda, Mikey Jones o Cambrian Village Trust a Michelle Coburn-Hughes o Ysgol Gymunedol Ferndale a Phartneriaeth Fern.
Edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r cwestiynau pwysig hyn fel y gallwn barhau i adeiladu system addysg sy'n gweithio i bob unigolyn ifanc yng Nghymru. Diolch.
Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae angen inni feithrin eu cryfderau a chofleidio eu gwahaniaethau, fel y gallant fod yn hapus a ffynnu gyda'r gefnogaeth gywir a charedigrwydd. Efallai nad drwy addysg prif ffrwd, ond trwy ddawns, cerddoriaeth, chwaraeon neu gysylltu â natur. Gall fod yn llafurddwys o ran gofal a chymorth wedi'i dargedu, sydd weithiau'n ddrud, ac nid yw bob amser ar gael oherwydd toriadau i gyllid cyhoeddus. Gall fod oherwydd nad ydynt yn cael y gefnogaeth gywir gartref, yn yr ysgol neu mewn grwpiau cyfeillgarwch. Ond yn aml, dyna'r cyfan sydd ei angen i alluogi rhywun i fod yn hyderus i ddod o hyd i'w pŵer arbennig ac i ffynnu.
Galwaf ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i ymateb i'r ddadl—Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Buffy Williams am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, am y pwyntiau y mae hi wedi'u codi ar fynediad at addysg yng Nghymru, a Carolyn Thomas am y pwyntiau a gododd hithau hefyd. Hoffwn ymuno â Buffy i dalu teyrnged i'r ddau unigolyn ifanc y tynnodd sylw at eu cyflawniadau, ac i'r bobl sy'n gweithio mor galed i gefnogi plant a phobl ifanc i gael mynediad at addysg a chyflawni eu potensial.
Fel y gwyddoch, mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau bob amser wedi dadlau'n angerddol dros ein plant a'n pobl ifanc. Rydym am i'n holl blant ffynnu a chael eu cefnogi gan system addysg sy'n eu rhoi nhw yn gyntaf. Pan amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet ei blaenoriaethau ar gyfer y system addysg yng Nghymru yn y Siambr hon ym mis Mai, dywedodd ei bod am i'r system gyfan gydweithio i wella safonau a chodi cyrhaeddiad a bod yn uchelgeisiol ar ran pob dysgwr yn ddiwahân. Ac rwy'n falch o fod yma heddiw i gydnabod y camau sy'n cael eu cymryd tuag at yr uchelgais hwnnw gan ein darparwyr addysg, a chan y rhai sy'n cefnogi addysg rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed ac sydd wedi ymddieithrio fwyaf rhag addysg.
I'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc, mae mynediad at addysg yn golygu mynychu ysgol brif ffrwd. Yn eu hysgol, byddant yn elwa o'r addysgu a ddarperir gan ein gweithlu addysg ymroddedig ac fel y mae'r Aelod wedi nodi, y cyfleoedd ehangach ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Yn anffodus, nid yw hyn yn wir am bob plentyn. Mae yna rai plant a phobl ifanc bob amser nad yw profiad o addysg prif ffrwd wedi gweithio iddynt—plant sydd wedi cael trafferth gyda'r gwersi, plant sydd wedi teimlo nad ydynt yn gallu dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y llwybr y maent am ei ddilyn yn ddiweddarach mewn bywyd, neu blant nad yw'r profiad ysgol ehangach wedi bod yn hawdd iddynt, yn rhywbeth dymunol neu'n rhywbeth y maent am fod yn rhan ohono. Yn fy 16 mlynedd o brofiad fel athrawes ysgol uwchradd, mae hynny'n rhywbeth y cefais gipolwg agos a phersonol arno.
Mae'r system addysg yma yng Nghymru bob amser wedi gallu addasu i gefnogi'r plant a'r bobl ifanc hyn mewn rhai ffyrdd, ond bellach mae'n gorfod addasu fwy nag erioed a darparu ar gyfer mwy o blant nag erioed o'r blaen. Yn anffodus, mae nifer y plant sy'n cael anhawster i fynychu ysgol wedi cynyddu ers y pandemig, ac mae'r rhesymau dros hyn yn amrywio'n fawr. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sydd â heriau iechyd meddwl, problemau ymddygiadol, heriau iechyd, a'r rhai sy'n cael trafferth gydag osgoi ysgol am resymau emosiynol. Nid yw achosion fel y rhai a nodwyd gan yr Aelod mor brin ag yr oeddent ar un adeg, ac mae'r problemau sydd gan ein plant a'n pobl ifanc yn fwy cymhleth, yn aml yn galw am ddull amlasiantaethol. Mae'r Aelod wedi tynnu sylw at nifer o'r rhaglenni a roddwyd ar waith gennym i gefnogi plant a phobl ifanc i gael mynediad at addysg, gan gynnwys ein Cwricwlwm i Gymru a'n cefnogaeth i anghenion dysgu ychwanegol. Roeddwn yn falch o'i chlywed yn sôn hefyd am ein darpariaeth prydau ysgol am ddim, sydd bellach yn golygu bod pob plentyn ysgol gynradd â hawl i bryd bwyd am ddim, gan fynd i'r afael â phroblem plant llwglyd a chefnogi teuluoedd ar adeg pan wyddom fod llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y gwaith a gyflawnir drwy ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Mae llesiant yn hanfodol ar gyfer dysgu. Os yw plant yn teimlo'n bryderus neu'n ofnus, gartref neu yn yr ysgol, ni fyddant yn gallu cymryd rhan lawn yn eu gwersi na ffynnu mewn addysg. Mae ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn cydnabod hyn. Rydym wedi buddsoddi dros £13 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi darpariaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol drwy ein dull ysgol gyfan. Mae hwn yn ariannu cwnsela mewn ysgolion a chymunedau, hyfforddiant i staff ac amrywiaeth o ymyriadau cyffredinol ac wedi'u targedu, ac mae pob un ohonynt yn amhrisiadwy i lesiant ein plant a'n pobl ifanc. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod, hyd yn oed gyda'r cymorth hwn, nad yw addysg brif ffrwd, fel y dywedais, yn addas ar gyfer pob plentyn, ac mae gwasanaethau fel y rhai a nodwyd gan yr Aelod heddiw yn hanfodol bwysig. Dyna pam yr hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r staff sy'n gweithio yn ein hysgolion arbennig, ein hunedau cyfeirio disgyblion, ac sy'n darparu'r hyn a elwir yn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY).
Yn union fel ysgolion prif ffrwd, mae'r ysgolion a'r gwasanaethau hyn yn rhan allweddol o'n system addysg, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn addysg addas o ansawdd da. Gall darpariaeth AHY yn enwedig fod yn hyblyg iawn wrth iddi geisio diwallu anghenion y plentyn. Gall gynnwys hyfforddiant yn y cartref, lle mewn uned cyfeirio disgyblion, cyrsiau galwedigaethol a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach, neu fynediad at ddarparwyr annibynnol. Gellir darparu AHY hefyd trwy gyfuniad o'r gwasanaethau hyn, a gallai gynnwys treulio peth amser mewn ysgol brif ffrwd ac yn rhai o'r gwasanaethau ehangach hyn. Mae'n ymwneud â'r hyn sydd ei angen i gynorthwyo'r plentyn unigol i ddysgu, i ffynnu ac i lwyddo. Ni ddylid diystyru unrhyw blentyn na gwadu addysg iddo am nad yw'n ffitio'r mowld safonol. Mae gan bob plentyn a pherson ifanc botensial, a dylid annog pob un i wireddu'r potensial hwnnw.
Yn ei haraith, gofynnodd Buffy Williams nifer o gwestiynau. Roeddwn yn falch o'i chlywed yn tynnu sylw at bwysigrwydd swyddogion cyswllt â theuluoedd. Mae hon yn rôl allweddol i lawer o blant a theuluoedd ac i ysgolion. Rwy'n gwybod eu bod weithiau'n cael teitlau eraill, gan gynnwys swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a swyddogion cymorth lles, ac mae eu gwaith yn cefnogi plant yn helaeth. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £6.5 miliwn i gefnogi gwaith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Yn ddiweddar hefyd, rydym wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i dynnu sylw at y gwaith allweddol y maent yn ei wneud ac i ddarparu mwy o gefnogaeth iddynt. A thrwy ein rhaglen ysgolion bro, rydym yn darparu cymorth ac arweiniad i ysgolion i weithio gyda theuluoedd i gefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu. Mae ein hysgolion bro hefyd yn gweithio'n galed i ymgysylltu â'r gymuned ehangach, gan gynnwys cyflogwyr a cholegau lleol, yn y ffordd y disgrifiodd yr Aelod.
Soniodd yr Aelod am nodi angen yn gynnar. Rydym yn gwybod bod llawer o alwadau am ddarpariaeth AHY a bod dysgwyr weithiau'n gorfod aros yn rhy hir i gael y cymorth cywir. Byddwn yn edrych yn agosach ar y data sydd gennym ar ddarpariaeth AHY, gan gynnwys AHY a ddarperir drwy ein hunedau cyfeirio disgyblion. Rydym am sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn aros am ormod o amser cyn iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rydym hefyd eisiau gwell dealltwriaeth o'r pwysau y mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn eu hwynebu wrth drefnu AHY, a sut y gallwn wella'r gwasanaeth hwnnw. Efallai y bydd o ddiddordeb i'r Aelod hefyd y byddwn yn datblygu canllawiau ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol i gomisiynu darpariaeth AHY, a fydd yn cynnwys cyngor ar sut i gefnogi darparwyr i gael eu hachredu, a gallai hyn gynnwys y grwpiau cymunedol y soniwyd amdanynt.
Yn ei haraith, cyfeiriodd yr Aelod at y drafferth y mae rhai plant yn ei chael i fynychu'r ysgol yn rheolaidd. Mae pob diwrnod yn bwysig yn addysg a datblygiad plentyn neu berson ifanc. Mae presenoldeb yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ac mae'n hollbwysig ar gyfer cyflawni blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol. Rydym wedi ymrwymo i godi lefelau presenoldeb ym mhob darpariaeth addysg, boed yn brif ffrwd ai peidio. Rhan allweddol o hynny yw sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gweld budd mynychu'r ysgol ac yn deall sut y bydd darpariaeth ysgol neu ddarpariaeth addysg amgen yn eu helpu i gyrraedd lle maent am fod. Mae prentisiaethau iau yn rhan o hynny, gan y gwyddom nad yw pob plentyn yn ymddiddori mewn cyrsiau neu asesiadau traddodiadol, ac rwy'n derbyn sylwadau'r Aelod am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn rhywbeth y buom yn edrych arno a byddwn yn parhau i weithio arno gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill er mwyn gwella.
Fel y mae'r Aelod wedi nodi, mae buddsoddi mewn darpariaeth addysg yn hanfodol i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n dysgwyr, ac mae hynny'n golygu buddsoddi mewn darpariaeth prif ffrwd ac amgen. Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu ein hysgolion, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn y Siambr yr wythnos diwethaf, a heb fynd i ailadrodd yn fanwl yr hyn a ddywedodd, nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Mae llywodraeth leol yn gosod cyllidebau ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu, yn cynnwys eu hysgolion. Fodd bynnag, er y pwysau cyllidebol sylweddol, rydym wedi ceisio diogelu cyllid ysgolion gymaint â phosibl. Mae hyn yn cynnwys diogelu'r lefelau cyllid a ddarperir o fewn y grant addysg i awdurdod lleol, gan gyfeirio £379 miliwn i gefnogi ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac mae hyn yn ychwanegol at gyllid grant ar gyfer ein cynlluniau seiliedig ar alw.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r staff ymroddedig sy'n gweithio i gefnogi ein holl ddysgwyr, ac yn enwedig y plant a'r bobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd ymwneud ag addysg. Mae llawer ohonynt yn cerdded y filltir ychwanegol i sicrhau nad yw'r dysgwyr hyn yn cael eu gadael ar ôl, a dylid eu dathlu'n briodol am eu hymroddiad. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch, pawb. A daw hynny â'n gwaith ni heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:09.