Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/10/2024

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Anne Jones.

Gwasanaethau Bws i Ysbyty Athrofaol y Faenor

1. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i wella gwasanaethau bws i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân? OQ61694

Cysylltiadau Rheilffordd Newydd

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cysylltiad rheilffordd newydd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd? OQ61692

13:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.

13:40
13:45
13:50
Amserlenni Bysiau TrawsCymru

3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei wneud o lwyddiant newidiadau i amserlenni bysiau TrawsCymru? OQ61711

Diolch yn fawr iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Byddwch chi yn ymwybodol fod y newidiadau i’r T3, er enghraifft, wedi bod mewn grym rŵan ers tua blwyddyn. Ac yn y flwyddyn ers i’r T3 newid ei amserlen, does dim amheuaeth fod ansawdd bywyd nifer fawr o bobl, o Lanuwchllyn i Gorwen, wedi dirywio yn sylweddol. Mewn gwirionedd, dwi’n gorfod rhoi lifft yn aml iawn i bobl pan dwi’n eu gweld nhw yn y Bala, nôl adre o apwyntiad efo’r meddyg neu o’u gwaith neu o siopa, oherwydd eu bod nhw’n methu â dal y bws neu’n gorfod aros oriau tan y bws nesaf—heb sôn am ddyddiau Sul, pan nad oes yna fws o gwbl. Yn Llanuwchllyn, mae yna bobl oedrannus yn cael eu gadael i ffwrdd ar y briffordd ac yn gorfod cerdded milltir bron i’w cartref nhw, sydd yn afresymol i rywun efo problemau symudedd a phobl mewn oedran, fel dwi’n siŵr y byddech chi'n cytuno. Mae yna bobl ifanc bellach yn methu â mynd i glybiau chwaraeon ar ôl ysgol oherwydd nad ydy'r bws yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny, neu eu bod nhw'n ddibynnol ar lifftiau preifat, sydd yn golygu bod defnydd car preifat a defnydd o losgi tanwydd yn cynyddu ac yn gwneud drwg i'r amgylchedd. Felly, mae'n amlwg—

13:55

Mi ddof i at y cwestiwn—diolch, Llywydd. Mae'n amlwg, felly, fod hyn wedi methu ac mae angen asesiad. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddod draw i Landderfel a Llanuwchllyn efo fi i weld hyn, a sicrhau bod y bws yn cael ei adfer ar gyfer yr hen lwybr?

Llwybrau Diogel i'r Ysgol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna lwybrau diogel i ddisgyblion cynradd ac uwchradd gyrraedd yr ysgol? OQ61707

14:00
14:05
Deintyddiaeth yng Ngogledd Cymru

5. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch deintyddiaeth yng ngogledd Cymru? OQ61715

14:10
Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed

6. Beth yw blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ61682

Y Rhwydwaith Cefnffyrdd

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu problemau teithio sy’n cael eu hachosi gan waith ffordd ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OQ61697

14:15
Rheilffordd Treherbert yn y Rhondda

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am drawsnewid rheilffordd Treherbert yn y Rhondda? OQ61705

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Hygyrchedd Trafnidiaeth Gyhoeddus ar Ynys Môn

1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yr un mor hygyrch i bawb ar Ynys Môn? OQ61720

Member (w)
Jane Hutt 14:20:30
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn achubiaeth i lawer o bobl ledled Cymru, ac mae’n hanfodol bod y gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Rwy’n falch o allu gweithio ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau bod hyn yn realiti ledled Cymru, gan gynnwys ar Ynys Môn.

Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei hymateb? Mae'n drueni bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ddim wedi sylweddoli bod cwestiwn rhif 1 yn y sesiwn nesaf yn ymwneud ag o, ond dwi'n siŵr bod—

Os caf i dorri ar draws yr Aelod, cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, un felly y gwnaethoch chi ei osod ar yr agenda, felly—

Mae hynny'n hollol iawn, ynglŷn â’i pherthynas hi efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Ac wrth annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yng ngorsaf drenau Llanfairpwll, yn fy etholaeth i, yr unig ffordd o gyrraedd y platfform i ddal trên tuag at Gaergybi ydy mynd dros bont. Mae yna lwybr hir iawn, tywyll ac anaddas ar gyfer cadeiriau olwynion a phramiau ac ati, ond oes gennych chi goets neu gadair olwyn, does yna ddim modd i gyrraedd, yn ymarferol, y platfform yr ochr arall. Yr ateb syml ydy gosod lifft, a dwi yn gwybod bod yna raglen helaeth ar draws Cymru o osod lifts. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i weithio efo’r Gweinidog dros drafnidiaeth i ddod â’r buddsoddiad yna i Lanfairpwll, fel bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau, a hynny yn enw cyfiawnder a thegwch cymdeithasol, yn ogystal â rhesymau ymarferol trafnidiaeth a newid hinsawdd?

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Mae yn fater pwysig iawn, dwi'n meddwl. 

14:25
Hawlio Credyd Pensiwn

2. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â nifer y rhai sy’n hawlio credyd pensiwn? OQ61684

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
14:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:40
14:45
14:50
Tlodi Plant

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lefelau tlodi plant yng Nghymru? OQ61714

Diolch yn fawr. Yng Nghymru, roedd 29 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ar ôl costau tai, yn y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben rhwng 2021 a 2023. Mae'n rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth gyffredin. Byddwn ni’n cymryd rôl arweiniol wrth gydlynu’r camau sydd eu hangen i weithio tuag at ddileu tlodi plant a'i effeithiau yma yng Nghymru.

14:55
'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'

4. Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd a wnaed ar y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'? OQ61719

15:00
Grwpiau sydd wedi'u Tangynrychioli mewn Gwleidyddiaeth

5. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl o grwpiau sydd yn draddodiadol wedi eu tangynrychioli, fel y gymuned LHDT+, i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth? OQ61689

Diolch yn fawr, Adam Price. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd llawer o gamau i gefnogi amrywiaeth a sicrhau amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth. Cyfrifoldeb pawb yw cynyddu amrywiaeth, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau democratiaeth fwy amrywiol.

Dros y penwythnos yng nghynhadledd Plaid Cymru, mi oedd yn bleser i mi i fedru anrhydeddu Stuart Neale, sef y person LHDT agored cyntaf i sefyll etholiad yn enw Plaid Cymru nôl yn 1972. Cymerodd hi 29 o flynyddoedd wedi hynny i ni ethol y person LHDT cyntaf ar lefel genedlaethol—sef fi—ac wedi hynny, 23 o flynyddoedd wedi hynny, dal i fod fi ydy'r unig un erioed i gael ei ethol fel dyn hoyw agored ym Mhlaid Cymru, sy’n dangos pa mor bwysig ydy'r gwaith yma.

Nawr, gan fod y Llywodraeth yn edrych ar ganllawiau ar ethol mwy o amrywiaeth o bobl i’r lle yma, a hefyd, o dan y pwerau newydd o dan y Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, i annog a chefnogi grwpiau tangynrychioliedig, a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon cwrdd ag adran Plaid Pride, sy’n cynrychioli’r gymuned LHDT yn fy mhlaid i, ond hefyd yr adrannau eraill, anableddau, BME, adran y merched, ac adrannau cyfatebol o fewn pleidiau eraill, er mwyn sicrhau y gallwn ni gael yr amrywiaeth mwyaf eang i gael ei gynrychioli yn ein democratiaeth ni?

15:05
Taliadau Tanwydd y Gaeaf

6. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i liniaru’r effaith ar drigolion yng Nghonwy a sir Ddinbych yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu taliadau tanwydd y gaeaf? OQ61690

Rhwydwaith Trafnidiaeth Gyhoeddus

7. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau cyfle cyfartal a chydraddoldeb mynediad ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus? OQ61704

15:10
Tlodi Plant

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant dros weddill tymor y Senedd hon? OQ61708

15:15

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf wedi cael cais gan Janet Finch-Saunders i godi pwynt o drefn. Janet.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Symudwn ymlaen nawr at eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Llywydd, ac yn cael ei ofyn gan Alun Davies.

Cefnogaeth i Bobl Wcráin

1. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i ddangos cefnogaeth y Senedd i bobl Wcráin? OQ61703

Yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae’r Aelodau wedi defnyddio eu platfform yn aml yn y Siambr hon i dynnu sylw at effaith yr ymosodiad ar bobl Wcráin. Mae gwasanaethau'r Comisiwn wedi cefnogi’r Aelodau i ddangos eu cefnogaeth i Wcráin. Mae baner Wcráin wedi hedfan ar ystâd y Senedd ers 24 Chwefror 2022 fel arwydd o undod parhaus Cymru gydag Wcráin a’i phobl. Rydym hefyd wedi cefnogi llawer o ddigwyddiadau a noddir gan Aelodau i dynnu sylw at effaith barhaus yr argyfwng yn Wcráin.

15:20
Trefniadau Gwaith

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau gwaith staff y Comisiwn? OQ61687

Mae amrywiaeth o drefniadau a phatrymau gwaith ar waith ar draws y Comisiwn. Mae trefniadau gwaith yn cynnwys gweithio ar safleoedd y Senedd, gweithio o bell, bod yn bresennol mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru, a gweithio gyda'r nos a gweithio ar benwythnosau. Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac arferion sy'n cefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith, datblygir ein polisïau pobl mewn ymgynghoriad ag undebau llafur a'n rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle. Mae gennym bolisi gweithio hyblyg ac rydym yn darparu amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, ac mae'r enghreifftiau'n cynnwys oriau rhan amser, oriau cywasgedig, gweithio yn ystod y tymor a rhannu swydd. Mae hyn yn galluogi staff i gydbwyso'u cyfrifoldebau tu allan i'r gwaith tra'n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'r Comisiwn.

15:25
Cost Ehangu Siambr y Senedd

3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amcangyfrif o gostau ehangu Siambr y Senedd i greu lle ar gyfer Aelodau ychwanegol? OQ61693

15:30
Ymwelwyr ag Ystâd y Senedd

4. Sut y mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru i ymwelwyr ag ystâd y Senedd? OQ61710

Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru i'r rhai sy'n ymweld ag ystâd y Senedd. Rydym wedi datblygu taith ymwelwyr yn y Senedd a'r Pierhead sy'n rhoi gwybodaeth am rôl a chyfrifoldebau'r Senedd, hanes datganoli yng Nghymru a hanes Bae Caerdydd. Rydym yn cynnig teithiau dyddiol yn Gymraeg ac yn Saesneg i grwpiau ac unigolion ac maent yn canolbwyntio ar hanes datganoli a rôl a chyfrifoldeb y Senedd a'r Aelodau. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i ddarparu rhaglen newidiol o arddangosfeydd yn y Senedd a'r Pierhead sy'n arddangos cyfrifoldebau'r Senedd a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.

15:35
Llety Preswyl i Aelodau o'r Senedd yng Nghaerdydd

5. Pa drafodaethau y mae’r Comisiwn wedi’u cael â’r Bwrdd Taliadau am opsiynau gwahanol ar gyfer llety preswyl i Aelodau o'r Senedd yng Nghaerdydd? OQ61712

Swyddogaeth Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yw darparu lwfansau i'r Aelodau. Y bwrdd taliadau sy'n penderfynu pa gostau llety y gall yr Aelodau eu hawlio o'r lwfans ar gyfer gwariant ar lety preswyl. Mae hwn yn darparu ar gyfer costau llety yng Nghaerdydd ar gyfer Aelodau nad yw eu prif gartref o fewn pellter cymudo rhesymol i'r Senedd. Mae'r bwrdd yn cynnal adolygiadau i lunio’r penderfyniad newydd ar gyfer y seithfed Senedd, yng nghyd-destun diwygio’r Senedd arfaethedig, a bydd yr ymgynghoriad ar wariant llety preswyl yn cychwyn yn ystod y tymor yma. Dwi'n annog yr Aelod, felly, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yna.

Diolch. Mi wnaf i hynny, yn sicr. Yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall, mae yna tua £250,000 o bres y Comisiwn yn cael ei wario ar rent, yn bennaf i landlordiaid preifat. Dros gyfnod y Senedd, mi fydd hwnna'n golygu bod y rhan helaethaf o £1 miliwn o bres cyhoeddus y Comisiwn yn cael ei wario ar landlordiaid preifat mewn rent. Ac wrth gwrs, mi rydyn ni wedi gweld rhenti yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn arbennig felly ym Mae Caerdydd, efo rhenti'n cynyddu'n fwy ym Mae Caerdydd nag yn unrhyw ran arall. Mae hyn yn golygu, felly, bod yna fygythiad cyson i'r Aelodau hynny sydd yn gorfod cael llety o'r fath o gael eu troi allan yn ddi-fai. Felly, oes yna ystyriaeth wedi cael ei rhoi er mwyn datblygu trefn fwy sefydlog o ddarparu llety ar gyfer Aelodau Seneddol? Dwi'n cymryd yr hyn y mae'r Llywydd newydd ei ddweud, bod yna ymgynghoriad, ac mi fyddaf i'n cymryd rhan yn hynny, ond pa ystyriaeth bellach sydd wedi cael ei rhoi dros y blynyddoedd i'r perwyl hwnnw? Diolch.

Ar wahanol adegau, mae yna grybwyll wedi bod i'r ystyriaeth o ddarparu rhyw fath o neuadd breswyl gyhoeddus i Aelodau o'r Senedd yma, yn hytrach na'r patrwm sydd wedi datblygu, sef bod Aelodau'n gyfrifol am ffeindio eu fflatiau eu hunain—yn bennaf gan landlordiaid preifat, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac wedyn yn hawlio yn erbyn y costau hynny. Dwi'n credu y byddai'r bwrdd taliadau'n agored i glywed unrhyw syniadau newydd sydd gan Aelodau ar sut y gellid darparu llety ar gyfer Aelodau sydd yn byw ymhell o adref pan maen nhw wrth eu gwaith yma yng Nghaerdydd. Felly, y cyfan a ddywedaf i wrth Aelodau yw, pob un ohonoch chi, wrth i chi ystyried y patrwm ar gyfer gwaith ar gyfer mwy o Aelodau o 2026 ymlaen, gwnewch yn siŵr bod y syniadau sydd gyda chi ar gyfer llety i'r pwrpas hwnnw yn cael eu cynnig i'r bwrdd taliadau. Fe fydd y bwrdd taliadau, fel ni i gyd, yn ymwybodol iawn o fod yn ofalus o gydbwyso'r angen i ddiogelu gwariant cyhoeddus a materion o'r math yma. Ac fe fyddwn ni angen cymryd y penderfyniadau yn sgil hynny, yn ogystal â beth sy'n hwylus i'r Aelodau unigol. 

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 heddiw yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol heddiw, a bydd y cyntaf gan Altaf Hussain.

Ysbyty Tywysoges Cymru

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am faterion llifogydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru? TQ1210

15:40
15:45
Cyllidebau Llywodraeth Leol

2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau ynghylch diffyg o £540 miliwn yn y gyllideb sy'n wynebu cynghorau a'u gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol, gan arwain at lawer o gynghorau yn wynebu methdaliad? TQ1215

15:50
15:55
5. Datganiadau 90 Eiliad
16:00

Dros y penwythnos a fu, bu bwrlwm ym Mhontypridd a Threfforest wrth i ŵyl gymunedol newydd sbon ddathlu bywyd a gwaddol y gantores a’r gyfansoddwraig Morfydd Owen. I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â hanes Morfydd, fe’i ganed yn Nhrefforest ar 1 Hydref 1891, a bu farw ychydig wythnosau cyn ei phen-blwydd yn 27 oed, ar 7 Medi 1918. O oed ifanc, roedd yn amlwg bod ganddi dalent cerddorol aruthrol. Astudiodd gerddoriaeth yng Nghaerdydd ac yna yn Academi Gerdd Frenhinol Llundain, lle enillodd wobrau llu am ei gwaith. Fe gyfansoddodd rhyw 180 o ddarnau gwahanol o gerddoriaeth yn ystod ei hoes, a byddwn yn eich annog i ddarllen bywgraffiad Rhian Davies ohoni i ganfod mwy, gan na allaf i wneud cyfiawnder â hi heddiw.

Mae’n amlwg o’r ymateb fu i’w marwolaeth fod galaru mawr amdani gan y rhai oedd wedi eu cyfareddu gan ei thalent, gyda golygydd Y Cerddor ar y pryd, Dr David Evans, yn ysgrifennu:

'Ni chafodd cerddoriaeth Gymreig ergyd trymach yn ei hanes na cholli’r eneth ddisglair ac annwyl hon mor ieuanc.'

Dyna pam bod yr ŵyl wedi bod mor bwysig o ran codi ymwybyddiaeth o Morfydd a defnyddio ei stori i ysgogi y gymuned leol heddiw. Cafwyd rhaglen lawn a phrysur dros amryw o leoliadau, gan ddod â phobl o bob oed ynghyd a llu o sefydliadau gwahanol. Mi fues i'n ddigon lwcus i fynychu’r digwyddiad wnaeth gloi'r ŵyl, yn Parc Arts yn Nhrefforest, hen gapel Morfydd, a chlywed perfformiadau gwefreiddiol Bethan Nia a Jess Morgan, o waith newydd ganddynt wedi ei ysbrydoli gan Morfydd.

Dyma ŵyl wedi ei chreu gan y gymuned i’r gymuned, a mawr obeithiaf y bydd yn parhau i’r dyfodol, gan sicrhau gwaddol barhaus i fywyd a gwaith Morfydd. Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o'r trefnu.

'Bore da, Maggie Mathias.' These were the legendary words that resounded in living rooms across Wales and beyond at 7.10 p.m. on 16 October 1974. Yes, this was the opening scene of the iconic series, Pobol y Cwm, which is celebrating the fiftieth anniversary of this first broadcast today; the longest running soap opera produced by the BBC in its history. Over the years, the comings and goings of the residents of Cwmderi, that imaginary village between Llanelli and Carmarthen, have inspired conversations on the doorstep, over the garden fence or over a pint in communities the length and breadth of Wales, discussing the trials and tribulations of generations of colourful characters: Reg Harries, Maggie Post, Dai Sgaffalde, Garry Monk, the Jones family, Megan Harries, Hywel Llywelyn, to name but a few.

In addition to these characters and being the launchpad for many a successful acting career, the series was also an opportunity to highlight powerful and emotive stories and themes, some of which may have been unfamiliar in some households in Wales. From alcohol dependency to grief, mental health and LGBTQ+ issues, there can be no denying the revolutionary contribution that Pobol y Cwm has made, in not just entertaining but educating communities in Wales.

So, to conclude, in celebrating this anniversary, with possibly several surprises in store, I'd like to thank the BBC and S4C for supporting this series over the years. It's an iconic programme that has been crucial to our language, to broadcasting and to our identity as a nation. Long live the residents of Cwmderi.

6. Cynnig i sefydlu pwyllgor

Eitem 6 heddiw yw'r cynnig i sefydlu pwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

16:05

Cynnig NDM8694 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu Pwyllgor Senedd y Dyfodol.

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw trafod tri mater a chyflwyno adroddiad arnynt erbyn 9 Mai 2025: 

a) trefn busnes yn y Seithfed Senedd, gyda’r nod o ganfod opsiynau sy’n cynyddu effeithiolrwydd ei gwaith craffu, effeithiolrwydd y modd y mae’n darparu busnes o ddydd i ddydd, a hygyrchedd busnes seneddol i’r Aelodau;

b) nodi atebion i rwystrau (gwirioneddol a chanfyddedig) a all amharu ar allu’r Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiad bywyd, dewis a chred, neu sydd â’r potensial i wneud hynny, gan gynnwys ystyried fersiynau drafft a therfynol y canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol; ac

c) trothwyon a osodir ar hyn o bryd yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer nifer yr Aelodau sy’n ofynnol at wahanol ddibenion, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ffurfio grwpiau gwleidyddol, diswyddo deiliaid swyddi, a chworwm.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol.

4. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Julie James AS (Llafur Cymru), Alun Davies AS (Llafur Cymru), Darren Millar AS (Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan AS (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor Senedd y Dyfodol; a

b) David Rees (y Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol.

5. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol, ac yn cytuno mai dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a darpar Gadeirydd y pwyllgor newydd. Dwi'n codi mewn capasiti personol, ond i groesawu'n fawr iawn creu'r pwyllgor yma. Pa deitl gwell a thrawiadol ac ysbrydoledig na Phwyllgor Senedd y Dyfodol? Fel un sydd wedi bod yn milwrio, dwi'n meddwl, o blaid creu cerbyd i ni fel Senedd gydio yn y cyfle euraidd sydd gennym ni nawr, gan fod diwygio seneddol yn digwydd, a'n bod ni'n edrych am bob cyfle i ddiwygio ehangach er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y budd mwyaf o'r Senedd fwy a fwy cynrychioliadol y byddwn ni'n ei chreu. Felly, gair o groeso a dymuniadau da i chi, Gadeirydd, a holl aelodau'r pwyllgor. Dwi'n gobeithio y byddaf i a phawb arall yn cael y cyfle i gynnig syniadau er mwyn i chi eu hasesu.

Ond jest ple hefyd gen i—roeddech chi'n disgwyl hynny, Dirprwy Lywydd a darpar Gadeirydd—i chi fod yn radical, i chi fod yn greadigol, ac i ddehongli'r cylch gorchwyl yn y ffordd fwyaf eang posib. Mae'r cylch gorchwyl cychwynnol, o'i rhoi hi fel yna, ychydig bach, i fi, yn fy nharo i ychydig bach yn rhy gul o gymharu â'r drafodaeth hynod ddefnyddiol a diddorol cawsom ni yn ein cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Busnes a'r Comisiwn. Mae yna le i ehangu; mae yna le i'r pwyllgor yma anadlu, dwi'n credu, wrth i ni edrych ar yr holl gyfleoedd.

Gaf i roi un enghraifft i chi? Does yna ddim sôn ar hyn o bryd yn y cylch gorchwyl am y cyhoedd, ac mae hynny'n bwysig iawn, dwi'n credu, yn arbennig mewn cyd-destun lle mae democratiaeth yn wynebu creisis yn fyd-eang; mae'n rhaid ni edrych y tu allan, onid oes e? Wrth drafod diwygio seneddol, dŷn ni'n methu dim ond cael trafodaeth sydd yn fewnblyg. Mae rhai o'r pethau dŷch chi'n gorfod trafod, o'u hanian, yn rhai technegol, ond mae'r ymwneud â'r cyhoedd yn elfen bwysig, ac wrth gwrs, yn arbennig yng nghyd-destun y Senedd yma, lle mae'r ymwybyddiaeth o'r lle yma, oherwydd y diffyg democrataidd yng nghyd-destun y cyfryngau, mor isel. Felly, mae'r cwestiwn yma o sut ŷn ni, wrth i ni newid y muriau a'r seddi, ein bod ni hefyd yn edrych ar dynnu'r muriau i lawr yn yr ystyr hynny.

Wrth gwrs, roedd hynny'n un o'r awgrymiadau gan y comisiwn cyfansoddiadol, ein bod ni'n edrych ar draws y byd, a dweud y gwir, i edrych ar arfer da ynglŷn â chyfranogiad y cyhoedd mewn prosesau seneddol tu hwnt i'r traddodiadol, sef yr ymgynghoriadau mae'r llywodraeth yn eu trefnu, ond hefyd y deisebau; edrych ar sut mae seneddau yn Taiwan, er enghraifft, seneddau ar draws y byd, yn rhoi'r cyfle i'r cyhoedd awgrymu syniadau a dod yn rhan o'r broses ddeddfu, er enghraifft, mewn ffordd fwy rhyngweithiol, creadigol. Felly, dyma un enghraifft, dwi'n credu, o gyfle i ehangu, i adeiladu rhywfaint o fewn yr amserlen sydd gennych chi, ond sicrhau ein bod ni'n gwneud y gorau o'r cyfle yma.

Felly, gaf i ofyn i chi fod yn radical, yn radical o gynhwysfawr, ond hefyd yn radical o gynhwysol, i sicrhau bod pob Aelod yn fan hyn yn cael cyfle, ond hefyd y cyhoedd, a fydd â syniadau hefyd ynglŷn â sut y gall y Senedd yma gwrdd â'i phriod nod, sef i'w cynrychioli nhw, y dinasyddion, yn fwyaf effeithiol yn y Gymru sydd ohoni?

16:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli, a galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8687 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu fel rhan o'r broses gynllunio;

b) gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r rhai presennol; ac

c) darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cynigiwyd y cynnig.

16:15
16:20
16:25
16:30

Mae hanes diwydiannol ein cymunedau ni wedi ei naddu yn ein tirwedd, ac mae rhai ohonyn nhw’n gwbl gysylltiedig, bron â bod eu henwau nhw yn gyfystyr ag olion y diwydiannau hynny, yr olion ar y tir sy'n dal i achosi poen i'r pentrefi sydd wedi gorfod byw yng nghysgod, yn llythrennol, cymynrodd y cwar. Achos soniwch am Godre'r Graig ac mae pawb yng Nghwm Tawe yn meddwl yn syth am y tor calon sydd wedi ei achosi gan y ffaith bod y domen a adawyd gan y cwar wedi achosi bygwth bywyd a lles y gymuned islaw ers blynyddoedd lawer. Mae'r domen rwbel sydd uwchben y pentref wedi ei hasesu fel un sy'n peri risg o berygl canolig i'r trigolion, ac mae daeareg y mynydd y mae'n gorwedd arno wedi creu sefyllfa sydd wedi achosi ei bod hi’n hollol amhosib weithiau, ond yn anodd iawn bob tro, i yswirio cartrefi, a rhai teuluoedd wedi gorfod symud o'u haelwydydd.

Ac fe gollodd y pentref ei galon pan, yn 2019, gafwyd bod angen cau yr ysgol gynradd yn dilyn asesiad o risg y domen i'r ysgol. Mae plant wedi gorfod cael eu haddysgu mewn cabanau mewn ysgol filltiroedd i ffwrdd o'r pentref, ac, er bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot nawr am agor ysgol newydd yng Ngodre'r Graig, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai hynod o anodd i gymuned yr ysgol.

Nododd yr adroddiad ar y domen a ddarparwyd gan Earth Science Partnership, yr arbenigwyr gafodd eu comisiynu gan y cyngor i archwilio'r safle, fod lefelau dŵr daear yn effeithio ar y risg sy'n gysylltiedig â'r domen rwbel cwar. Mae posibilrwydd y gallai lefelau a phwysedd dŵr yn y domen achosi llithriad. Mae'r gost o waredu ar y risg yna sydd wedi ei gadael gan y cwar uwchben Godre'r Graig dros £6 miliwn, sydd y tu hwnt, wrth gwrs, i adnoddau cyllidol y cyngor, a hyd yma dyw Llywodraethau Cymru na'r Deyrnas Gyfunol wedi cynnig cymorth ariannol.

Felly, rhaid i ni ystyried oblygiadau caniatáu i weithfeydd fel hyn gael eu datblygu, y goblygiadau ar genedlaethau a fydd yn gorfod goddef y canlyniadau. Petai hynny ond wedi digwydd yn achos Godre’r Graig. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig a fyddai'n rhagdybio yn erbyn datblygu chwareli a allai peri risg i fywyd cymuned—eu cartrefu, eu hysgolion— â'r holl risgiau yn cael eu hasesu yn llawn gyda llygad at y dyfodol, yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ac fe hoffwn weld bod y parth 1,000 m yna yn golygu parth tri dimensiwn, gan gofio am ddaeareg ein Cymoedd. Mae gormod o gymunedau wedi gorfod dioddef yn rhy hir oblygiadau rhoi elw uwchben eu lles. Rhaid dweud dim mwy. A dwi'n meddwl bod y cynnig hwn yn rhan o'r ateb.

16:35
16:40
16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gweithredu diwygiadau addysg: Adroddiad interim'

Eitem 8 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gweithredu diwygiadau addysg: Adroddiad interim'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Buffy Williams.

Cynnig NDM8690 Buffy Williams

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Gweithredu diwygiadau addysg: Adroddiad interim’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

16:55
17:00

Wel, fel ŷn ni i gyd, dwi'n siŵr, yn cytuno, mae addysg wir yn allweddol i ddyfodol Cymru, ac mae Plaid Cymru eisiau sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd fel Senedd i greu system addysg sy'n sicrhau bod ein pobl ifanc ni a'r gweithlu yn llwyddo ac yn ffynnu. 

Rŷm ni'n dal i gredu y gall y cwricwlwm newydd yma weithio a chwarae rhan hanfodol i gyflawni’r weledigaeth hon, ond mae angen inni sicrhau ein bod ni'n cael pethau yn iawn cyn symud ymlaen. Mae'n rhaid inni sicrhau, fel ŷn ni wedi clywed yn barod, fod ein plant a'n pobl ifanc sydd angen cefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol ddim yn dioddef mewn unrhyw ffordd oherwydd y diwygiadau sydd eisoes wedi eu gwneud i’r system. Mae'n fy mhoeni i'n fawr iawn fod 40 y cant o leihad yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn cefnogaeth o ran addysg anghenion arbennig. Felly, mae'n bwysig, wrth inni edrych ar y pwnc arbennig yma, ein bod ni fel pwyllgor—a dwi'n newydd i'r pwyllgor hefyd ac wedi dal jest diwedd y gwaith gafodd ei wneud ar ADY yn benodol—yn parhau i edrych ar yr arhymhellion ac adroddiad interim y pwyllgor.

Nawr, mae’r Cadeirydd eisoes wedi nodi’n fanwl nifer o’r pwyntiau sydd yn deillio o’r adroddiad yma, ac mae Heledd Fychan, a fuodd yn aelod o'r pwyllgor ar ran Plaid Cymru fel llefarydd addysg, wedi nodi nifer o bwyntiau pwysg dros y misoedd diwethaf mewn perthynas â hyn, a'r angen yn benodol am gyllid digonol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Allwn ni ddim â gadael y plant yma i lawr, felly mae'n rhaid inni sicrhau cyllid digonol, a chyllid digonol hefyd i sicrhau bod y gefnogaeth iddyn nhw ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, byddwn i'n falch o glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r pwyntiau penodol yna. Dwi'n gwybod bod yna ddatganiad wedi cael ei wneud ar hyn yn ddiweddar, ond mi fyddwn ni yn dymuno cadw llygaid barcud ar y Llywodraeth i sicrhau eu bod nhw yn gweithredu yn y maes hwn.

Nawr, o ran y cwricwlwm yn fwy cyffredinol, ac wrth iddo fe ymestyn i flynyddoedd TGAU yn benodol, dwi eisiau gwneud cwpl o bwyntiau. Dwi am ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet i roi ymateb ar beth sydd wedi digwydd yn y cwricwlwm yn fwy diweddar yn yr Alban a Seland Newydd, achos nhw oedd y modelau roeddem ni'n eu defnyddio fel sail i'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno yma yng Nghymru. Felly, byddwn i eisiau clywed a oes yna newidiadau wedi digwydd yn y gwledydd yna, a beth yw goblygiadau hynny i ni yma yng Nghymru.

Ond i gloi, Diprwy Lywydd, dwi eisiau jest rhoi sylw'n benodol i set o gymwysterau newydd yn benodol yn TGAU hanes Cymru. Dwi wedi clywed nifer o haneswyr ac arbenigwyr yn y maes yma yn nodi bod y fanyleb yn annigonol o safbwynt cyflwyno hanes Cymru i'n plant a'n pobl ifanc. Nawr, bydd rhai ohonoch chi yn gwybod bod cyflwyno hanes Cymru wedi bod yn rhan o'r cytundeb cydweithio a fuodd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, ac roedd hynny yn rhan ganolog o'r newidiadau rôn i'n ceisio 

newidiadau rôn i'n ceisio eu symbylu fel rhan o'r cytundeb hwnnw. Ond, mae'r athro a'r academydd Dr Huw Griffiths wedi gwneud llawer o waith ar hyn yn ddiweddar, ac wedi cymharu faint o hanes Cymru sydd yn y cwricwlwm TGAU o’i gymharu â'r hyn sy'n cael ei ddysgu am hanes yr Alban a Gogledd Iwerddon yn eu cwricwlwm nhw. Mae'r canlyniadau'n syfrdanol. Dyma beth mae wedi'i ddarganfod: o ran hanes Gogledd Iwerddon yn eu TGAU nhw, mae 40 y cant o'r marc terfynol yn dibynnu ar hanes Gogledd Iwerddon; hanes yr Alban, yn eu national nhw, gradd 5, 35 y cant o'r marc terfynol; hanes Cymru yn y TGAU newydd yma, 21 y cant o'r marc terfynol. Felly, dwi'n siŵr bod hyn yn fater o siom i bob un ohonom ni.

Felly, i gloi, hoffwn i ddiolch i gyd-aelodau'r pwyllgor am eu gwaith, a dwi'n edrych ymlaen i barhau i ymchwilio i ddatblygiadau'r cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol yn arbennig erbyn diwedd y tymor hwn, er lles ein plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr iawn.

17:05
17:10
17:15

Gaf i ddiolch ac ategu fy niolch innau i'r clercod, i bawb roddodd dystiolaeth i ni pan roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor? Mae'r ffaith bod Sioned Williams, Cefin Campbell a finnau fel aelodau o'r blaid wedi bod yn rhan o hyn—. Ond er ein bod ni ddim ar y pwyllgor, finnau a Sioned, erbyn rŵan, mae'n amhosib cerdded i ffwrdd o'r gwaith yma oherwydd faint o waith achos rydyn ni'n ei gael, ond hefyd y mewnweliad a'r agoriad llygad fuodd o brofiadau byw y plant a'r bobl ifanc efo anghenion dysgu ychwanegol ond hefyd eu teuluoedd. Mi wneith o aros efo fi am byth—bod ar risiau'r Senedd hon mewn protest oedd yn cael ei fynychu gan bobol o ledled Cymru, ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ni, gan rieni oedd dirfawr angen help, yn dweud dydy'r system ddim yn gweithio iddyn nhw.

Dydy hynna ddim i ddweud bod yna ddim plant yn derbyn y gefnogaeth. Mi gawsom ni enghreifftiau gwych fel rhan o'r ymchwiliad yma o le mae o'n gweithio'n dda a'r plant a'r bobl ifanc yna yn ffynnu a'u teuluoedd nhw yn ffynnu, felly mae yna arfer da, ond mae'n loteri cod post yma. Mi oedd yna riant ar risiau'r Senedd yn dweud eu bod hi wedi bod yn ystyried cyflawni hunanladdiad oherwydd y straen aruthrol oedd arni, ei bod hi methu cefnogi ei phlentyn. Dyma pa mor ddifrifol ydy'r sefyllfa yma, bod pobl yn teimlo fel eu bod nhw'n methu eu plant oherwydd bod y system ddim yn gallu rhoi'r gefnogaeth.

Dwi'n falch iawn o'r holl bethau rydyn ni wedi'u clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran hyn ers iddi ddod i'r rôl. Dwi'n falch

Dwi'n falch o weld gymaint o'r argymhellion wedi'u derbyn. Y cwestiwn sydd gen i ydy: beth am y plant yna sydd wedi cael eu methu ers i'r system newydd ddod i rym ac sydd ddim bellach mewn addysg? Rydyn ni'n gwybod bod twf wedi bod yn y nifer sy'n cael eu haddysgu o gartref rŵan. Rydyn ni wedi clywed tystiolaeth gan rieni yn dweud bod ysgolion wedi dweud, 'Fedrwn ni ddim diwallu anghenion eich plentyn chi. Dydyn ni'n methu gwneud dim byd. Does yna ddim byd rydyn ni'n gallu ei wneud', gan olygu nad dewis ydy addysgu o gartref, maen nhw wedi cael eu gorfodi i addysgu o gartref.

Rydyn ni hefyd wedi clywed tystiolaeth drwy'r ymchwiliad hwn o'r trawma mae plant wedi bod yn dioddef oherwydd y diffyg cefnogaeth a'r ffaith bod absenoldebau yn uchel iawn ymhlith rhai dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, a bod mynd i'r ysgol wedi bod yn drawmatig iddyn nhw ac felly bod rhieni yn cael trafferth fawr i'w cael nhw i'r ysgol bellach, oherwydd hefyd dydy'r gefnogaeth ddim ar gael, ond mae'r ymddiriedaeth wedi mynd. Hyd yn oed os ydy'r pecyn yn gallu bod yna rŵan, mae'r ymddiriedaeth wedi mynd. Felly, buaswn i'n hoffi gwybod, yn ogystal â'r pethau rydych chi'n ymrwymo i'w gwneud, sut ydyn ni am sicrhau ein bod ni'n deall faint o blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd ddim yn y system addysg ar y funud, a sut ydyn ni'n eu cefnogi nhw a'u teuluoedd, oherwydd er bod yna ddatrysiadau y medrwn ni eu rhoi i'r rhai sy'n dechrau mynd drwy'r system neu bydd yn mynd drwy'r system, mae yna genhedlaeth goll rŵan sydd ddim wedi bod yn cael eu cefnogi? Felly, tra'n edrych ar y darlun llawn, dwi'n meddwl fedrwn ni ddim gadael y teuluoedd yma a'r plant a phobl ifanc yma ar ben eu hunain chwaith. 

Rydyn ni'n dal i glywed, yn anffodus, gan rai rhieni sydd â phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd efallai ddim yn mynd i'r ysgol neu'n anghyson o ran presenoldeb eu bod nhw dal yn cael eu bygwth efo dirwy neu fod yna ryw fath o erlyn arnyn nhw gan fod eu plentyn nhw ddim yn yr ysgol. Felly, mae hwn yn llawer mwy cymhleth. Mae yna bwyntiau negyddol yn cael eu rhoi i blant sydd ag ADHD, er enghraifft, mewn rhai o'n hysgolion ni, yn dangos diffyg dealltwriaeth o beth ydy ADHD. Os ydy rhywun ddim, efallai, yn canolbwyntio fel y dylen nhw, pam maen nhw'n cael pwynt negyddol am rywbeth fedran nhw ddim ei reoli? Mae yna bethau y gallwn ni newid. Felly, dwi'n falch bod yna gymaint ohonon ni efo diddordeb ac angerdd am hyn yn y Siambr hon, ond dwi'n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu edrych hefyd am y rhai sydd wedi eu methu hyd yma a sut rydyn ni'n cefnogi nhw a'u teuluoedd.  

17:20
17:30
17:35

Y cwestiwn yw y dylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ffermydd sy'n eiddo i gynghorau

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Dadl y Ceidwadwyr sydd nesaf ar ffermydd sy'n eiddo i gynghorau. Dwi'n galw ar James Evans i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8692 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan ffermydd sy’n eiddo i gynghorau o ran cefnogi cynhyrchiant bwyd a galluogi pobl ifanc i fentro i fyd ffermio.

2. Yn gresynu bod gwerthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau yn peryglu diogeledd bwyd Cymru a’i harferion ffermio traddodiadol, gan arwain at newid i arferion llai cynaliadwy.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi moratoriwm ar werthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn berchen arnynt.

Cynigiwyd y cynnig.

17:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu’r ffaith y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i ffermwyr ar ffermydd sy’n eiddo i gynghorau ac y bydd yn cefnogi’r ffermwyr hyn.

Yn nodi mai mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw yw rheoli ffermydd sy’n eiddo i gynghorau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Mae'r gwelliant wedi'i gynnig yn ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Llyr Gruffydd.

17:45
17:50
17:55

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet nawr i ymateb i gyfrannu i'r ddadl—Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:56:37
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i ymateb i'r drafodaeth bwysig hon. Mae ffermydd awdurdodau lleol yn asedau pwysig i'r diwydiant amaethyddol, ac yn rhan allweddol o'r sector denantiaeth yng Nghymru. Er eu bod yn cynrychioli ardal fychan yn cyfrif am ddim ond 1 y cant o dir amaethyddol Cymru, maent yn parhau i fod yn bwynt mynediad amhrisiadwy i sawl person ifanc yng Nghymru. Mae'r ffermydd yma yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi'r economi ym mhob rhan o Gymru.  

18:00

Llywydd, fel y nodais ar y cychwyn, mae ffermydd awdurdodau lleol yn asedau pwysig iawn i'r diwydiant amaethyddol. Maen nhw'n parhau i fod yn bwynt mynediad amhrisiadwy i sawl person ifanc yng Nghymru. Mae yna opsiynau eraill hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ateb holistig i'r her—ie, mynediad parhaol i ffermydd awdurdodau lleol,

awdurdodau lleol, ond hefyd cefnogaeth i'r genhedlaeth nesaf, yn darparu cyngor a hyfforddiant, a chefnogaeth fel Dechrau Ffermio, er mwyn cymryd y cam nesaf tra'n sicrhau bod ffermwyr i gyd yn cael mynediad i grantiau a chynlluniau fel y cynllun ffermio cynaliadwy.

I gloi, felly, hoffwn ddiolch i Darren am y cyfle i drafod y mater pwysig yma. Mae cefnogi ffermwyr ifanc a newydd i mewn i'r diwydiant yn rhywbeth rwy'n angerddol iawn amdano. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni gynnal pleidlais ar yr eitem yna—[Torri ar draws.]

18:10
10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 10 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion, a dwi'n galw ar Tom Giffard i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8693 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniadau PISA 2022 a ganfu mai Cymru oedd â’r sgoriau darllen gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, a’u bod ymhell islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

2. Yn gresynu bod 20 y cant o blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

3. Yn cydnabod y cafodd y system o ddefnyddio ciwiau wrth addysgu darllen ei gwahardd yn Lloegr yn 2005, yn sgil pryderon y gallai danseilio ymdrechion i addysgu disgyblion i ddarllen, ond bod hynny dal heb ddigwydd yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn defnyddio'r dull ffoneg o addysgu darllen i wella perfformiad, ac i hyrwyddo hynny; a

b) i gyflwyno cyfundrefn o brofion darllen ar frys, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, er mwyn gwella safonau darllen.

Cynigiwyd y cynnig.

18:15

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os fydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi:

a) codi safonau darllen fel rhan o flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a cholegau;

b) ymgorffori llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru;

c) cymryd camau i wella’r broses o addysgu dysgwyr i ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad canllawiau yn gliriach lle bo angen; a

d) defnyddio asesiadau personol i gefnogi cynnydd dysgwyr o ran darllen, ac i gadw llygad ar welliannau yn genedlaethol.

2. Yn nodi bod y disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru.

3. Yn cydnabod bod yn rhaid i benderfyniadau am addysgu dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod y dull ffoneg yn flaenllaw wrth addysgu darllen er mwyn gwella perfformiad;

b) i gynnal adolygiad parhaus o'r dystiolaeth arbenigol ddiweddaraf a chymharu arfer da mewn gwledydd eraill er mwyn sicrhau'r dulliau mwyaf effeithiol o addysgu sgiliau darllen;

c) ailddatgan ei tharged o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, a chyhoeddi strategaeth o’r newydd, gyda cherrig milltir mesuradwy, er mwyn ei gyrraedd; a

d) asesu pam fod disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, is na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei tharged mwyaf diweddar o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA erbyn 2022, gan gynnwys sgiliau darllen, a hynny yn dilyn methu â chyrraedd y targed gwreiddiol i Gymru fod ymhlith yr 20 o wledydd uchaf ar restr PISA.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n hapus iawn i gyflwyno'r gwelliannau yma, Llywydd, yn enw Heledd Fychan. Ond dyma ni unwaith eto yn trafod sgiliau darllen a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc ym mhrofion PISA yng Nghymru, sydd yn arwydd clir bod y Llywodraeth yn methu'n lân a thawelu'r dyfroedd ynglŷn â'r mater penodol yma. Fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae rhoi cyngor anghyson yn rhoi arwydd clir i'r gweithlu addysg bod Llywodraeth Cymru ddim yn glir ynglŷn â beth maen nhw'n disgwyl i ysgolion i wneud o ran darllen. Ac fel rŷn ni wedi clywed hefyd, mae'r profion addysg unwaith eto yn dangos mai Cymru sydd ar waelod y domen o bob un o'r gwledydd yn y Deyrnas Gyfunol, gyda'n canlyniadau gwaethaf ni mewn hanes.

Felly, mae fy nghyfraniad i yn mynd i ffocysu ar dargedau, mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i fi gyfaddef, ers i mi fod yn y Senedd hon—. A dwi'n flin, Llywydd, am swnio ychydig bach fel tôn gron yn fan hyn, ond allwn ni ddim anwybyddu'r berthynas ryfedd sydd rhwng y Llywodraeth â thargedau, yn arbennig yn y maes addysg. Ac mae'n mynd rhywbeth fel hyn: mae'r Llywodraeth yn gosod targedau. Maen nhw wedyn yn methu targedau. Wedyn maen nhw'n addasu'r targedau. Maen nhw'n methu'r targedau unwaith eto. A beth maen nhw'n ei wneud wedyn yw dileu'r targedau, achos eu bod nhw'n gwybod eu bod nhw ffaelu cyrraedd y targedau. Mae'n sefyllfa gwbl hurt.

Er enghraifft, yn 2011, gosodwyd targed i Gymru i fod ymhlith yr 20 gwlad PISA orau erbyn 2015. Ond yn 2014, addaswyd y targed yna i sicrhau mai cyrraedd 500 pwynt ym mhob un o'r tri maes oedd y nod, sef darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, a hynny erbyn 2021. Wel, erbyn 2019, fe ddywedodd y Gweinidog ar y pryd ar y Gymraeg ac addysg ym mis Tachwedd 2022 nad oedd bwriad gan Lywodraeth Cymru i gadw at y targed hwnnw mwyach. Felly dyw hyn jest ddim yn ddigon da, a dyna pam rŷn ni'n galw ar y Llywodraeth i ailymrwymo i'r targedau hyn yn ein gwelliant, yn ogystal â galw am asesiad sydd yn edrych i mewn i'r rheswm pam mae disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, is o lawer na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr.

I gloi, os caf i yn sydyn iawn gyfeirio at briffiad cefais i fore ddoe gan Lywodraeth Cymru ac Estyn, oedd yn ceisio esbonio'r gwahaniaeth rhwng y phonics a'r ciwio yma. Beth roedden nhw'n ei gadarnhau oedd bod yna rywfaint bach o ddatblygu wedi digwydd yn y sector cynradd, ond bod hynny'n cael ei golli'n llwyr wrth i ddisgyblion drosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd. Nawr, mae Estyn a Llywodraeth Cymru yn gwybod am hyn ers 10 mlynedd, a does dim byd wedi cael ei wneud i wella'r sefyllfa. Felly, mae'n rhaid i hynny newid, Llywydd, a dwi'n gorffen gyda hyn. Mi fydd Plaid Cymru, os byddwn ni mewn Llywodraeth yn 2026, yn gwbl ddi-ildio yn ein hymdrechion i sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn cyrraedd y safonau uchaf posibl yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

18:20
18:25