Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/10/2024

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r cyfarfod y prynhawn yma. Y cwestiynau i’r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf ar yr agenda. Mae’r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Cefin Campbell.  

Blaenoriaethau Gofal Iechyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar flaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer sir Gaerfyrddin? OQ61592

Diolch yn fawr. Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd diogel, o ansawdd ar gyfer y bobl leol.

Wel, diolch yn fawr. Dwi’n ymwybodol bod llawer iawn o bryder lleol ynghylch newidiadau posibl i wasanaethau. Wrth gwrs, gwaith Llywodraeth Cymru yw darparu cyfeiriad strategol. Mae lan i’r bwrdd iechyd i ddylunio a delifro gwasanaethau diogel. Dyna sut mae’r system yn gweithio. Nawr, wrth gwrs, mae angen i unrhyw newid i wasanaethau ddilyn canllawiau’r gwasanaeth cenedlaethol, a bydd angen iddyn nhw drafod gyda Llais a’r gymuned leol. Diogelwch yw’r prif flaenoriaeth, a dwi’n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi bod yn stryglo i gael y staff priodol, a bod y staff sy’n weddill—lot ohonyn nhw—wedi bod off gyda stres. Felly, mae yna reswm am y newid hwn.

A gaf i jest gywiro cwpwl o bethau ffeithiol? Rŷn ni wedi gweld cynnydd o 4 y cant yn faint roedden ni wedi'i rhoi i’r gwasanaeth iechyd eleni, o gymharu gyda 1 y cant o gynnydd yn Lloegr. A dyw’r cyllid ar gyfer yr NHS ddim yn gostwng; mae e wedi mynd i fyny lot dros y blynyddoedd diwethaf.

Gofal Iechyd yn Llanelli

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch mynediad at ofal iechyd yn Llanelli? OQ61613

13:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

13:40
13:45
Y Gwaharddiad ar Ysmygu ar Dir Ysbytai

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y gwaharddiad ar ysmygu ar dir ysbytai? OQ61625

13:50
13:55
Amseroedd Aros ar gyfer Rhyddhau Cleifion

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer rhyddhau cleifion y mae eu cyflyrau wedi’u hoptimeiddio’n feddygol o ysbytai yn rhanbarth Canol De Cymru? OQ61616

Mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni yn cydweithio i flaenoriaethu ac ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy fwy o gyllid gan y Llywodraeth, mae gwasanaethau ychwanegol i wella llwybrau gofal wedi cael eu datblygu. Mae’r gwaith yma’n parhau i fod yn flaenoriaeth.

Diolch. Fel rydych chi’n ei ddweud, mae’r galw’n cynyddu, gyda’r ffigurau diweddaraf o Awst 2024 yn dangos bod nifer yr oedolion yn aros mwy na 48 awr yn 363 yn Nghwm Taf Morgannwg a 174 ym mwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro. Yn amlwg, beth dydy’r data ddim yn ei ddangos ydy pa mor hir mae'r cleifion hynny wedi bod yn aros yn yr ysbyty na chwaith faint ohonynt sydd yn gwaethygu drwy ddal salwch neu haint oherwydd eu bod yn yr ysbyty yn hirach na bod angen. Mae’n anodd deall felly pam mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymgynghori ar y funud ynglŷn â chau dau gartref gofal. Yn ôl ffigurau y cyngor, dim ond 156 o’r 237 gwely sydd yn cael eu defnyddio ar y funud ar draws cartrefi gofal y cyngor. Ond dywed staff, fodd bynnag, mai’r rheswm eu bod yn wag ydy oherwydd nad oes yna ddigon o staff er mwyn cymryd mwy o bobl, nid oherwydd does yna ddim galw am lefydd. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau yn fy rhanbarth i i sicrhau bod digon o staff ar gael i ddiwallu’r anghenion gofal fel nad oes gwelyau mewn cartrefi gofal yn aros yn wag, na chwaith pobl yn aros yn ddiangen ac yn hirach yn yr ysbyty?

14:00
Y Rhwydwaith Priffyrdd

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r rhwydwaith priffyrdd presennol? OQ61626

14:05

Ar hyd yr un trywydd, rydw i wedi codi'r mater sawl gwaith yma o ddiogelwch yr A494 o Ddolgellau i Gorwen a'r A470 yn Llanelltyd hefyd. Rydyn ni wedi cael addewidion sawl gwaith yn flaenorol y bydd yna asesu yn digwydd ar y ffyrdd yma er mwyn gweld beth fedrith gael ei wneud er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, ond hyd yma rydyn ni'n dal i aros a does yna ddim gwaith asesu wedi digwydd. O ganlyniad, mae pobl yn parhau i ddioddef anafiadau ac mae pobl yn ofni teithio ar y ffyrdd yna yn achlysurol. Felly, beth mae'ch Llywodraeth chi am ei wneud er mwyn diogelu'r A494 a'r A470 ger Dolgellau?

Diolch yn fawr. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb yn ymwybodol o'r sefyllfa. Mae'n rhaid inni wneud blaenoriaethau; mae rhai o'r blaenoriaethau, dwi'n gwybod, yn bwysig i chi yn eich etholaeth hefyd. Felly, mae'n rhaid inni benderfynu beth rŷn ni'n mynd i'w flaenoriaethu. Dwi'n gwybod, er enghraifft, fod y gwaith yn Llanbedr yn rhywbeth sydd o bwys i chi ac i bobl sy'n byw yn ardal. Nawr, mae'n rhaid inni wneud penderfyniad: ydy'r arian yn mynd i hwnnw neu i rywbeth arall? Dyna sy'n bwysig.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr ein bod ni'n gweithio gyda'r comisiwn—y North Wales Transport Commission. Maen nhw wedi gwneud rhaglen mewn i beth sy'n digwydd yn yr ardal, y blaenoriaethau maen nhw wedi'u rhagweld, a bydd hwnna wedyn yn helpu i benderfynu ble ddylai'r flaenoriaeth fod. Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr bod llywodraeth leol yn y gogledd yn cydweithredu i wneud yn siŵr bod y pwyslais a'r ffocws yn mynd ar yr hewlydd sydd fwyaf o bwys i'r bobl yn y gogledd.

14:10
Diwylliant a Threftadaeth Casnewydd

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i hyrwyddo diwylliant a threftadaeth y ddinas? OQ61629

14:15
Addewid 'Cyfle i Bob Teulu'

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi rhagor o fanylion am addewid 'cyfle i bob teulu' Llywodraeth Cymru? OQ61627

Lleoliadau Diwylliannol yn Nwyrain De Cymru

8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i leoliadau diwylliannol yn Nwyrain De Cymru? OQ61624

Mae'r cyngor celfyddydau a Cymru Greadigol yn darparu cyllid i leoliadau yn y de-ddwyrain. Llywodraeth Cymru yw asiantaeth datblygu’r sector i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai lleol. Mae hynny’n cynnwys gweinyddu proses achredu gwasanaethau amgueddfeydd ac archifau a safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, a rhoi hyfforddiant, cyngor ac arian i brosiectau.

14:20
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf felly fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

'From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030'

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith y DU ynglŷn ag adroddiad Cymdeithas y Cyfreithwyr, 'From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030'? OQ61602

Diolch am y cwestiwn, Delyth. 

Diolch am hwnna, Cwnsler Cyffredinol, a chroeso i'r swydd. Llongyfarchiadau ichi ar y swydd. Hoffwn i wybod pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r anialwch cyfreithiol sy'n bodoli i nifer yng Nghymru, lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol hanfodol. Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas y Gyfraith, mae cymorth cyfreithiol dinesig am ddim yng Nghymru wedi gostwng 50 y cant ers 2009. Mae awdur yr adroddiad wedi dweud wrth Golwg360, a dwi'n dyfynnu:

'Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud digon i ymgysylltu ag argymhellion Comisiwn Thomas.'

Mae'n mynd ymlaen i ddweud:

'Mae cyfiawnder yng Nghymru yn galw allan am ryw fath o gyfeiriad a gweledigaeth.'

Faint o adroddiadau eraill fydd yn rhaid i ni eu gweld cyn i'r Llywodraeth ddechrau gweithredu ar yr hyn sydd ei angen? A fyddwch chi, plis, yn blaenoriaethu hyn yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan?

14:25
Blaenoriaethau'r Llywodraeth

2. Sut y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod yr Ysgrifenyddion Cabinet yn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth? OQ61596

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
14:30

Diolch, Llywydd. Hoffwn eich croesawu chi i’r rôl newydd. Yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, fe glywson ni, heb unrhyw rybudd blaenorol i’r Senedd, na’r byrddau iechyd a fydd yn cael eu heffeithio, mae’n debyg, y bydd San Steffan yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf i fynd i’r afael â rhestrau aros yng Nghymru. A gaf i ofyn, felly, am eich asesiad o’r goblygiadau cyfansoddiadol o gael Senedd arall yn cydweithio mewn maes sydd wedi’i ddatganoli yn llawn i Gymru ers chwarter canrif, a pryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi'r termau ffurfiol, ynghyd â’r cyngor cyfreithiol sy’n cyd-fynd efo’r cytundeb yma?

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae o’n wahanol i’r hyn a gyhoeddwyd. Mi glywson ni bod yna gytundeb. Nid cydweithio—mae yna gydweithio fel dŷch chi wedi dweud—ond cytundeb. Felly, a gaf i ofyn i chi geisio sicrwydd nad oes yna gytundeb, oherwydd, o’r hyn dŷch chi’n ei ddweud, does yna ddim cyngor cyfreithiol—nid oes angen, dŷch chi’n dweud—o ran y cydweithio yma. Mae’n bwysig nad oes yna amwysedd, oherwydd, i ni, mae’n awgrymu cytundeb, a bod angen cael cyngor cyfreithiol, a'i fod o’n hollol glir.

Felly, a gaf i’r sicrwydd yna? Os dŷch chi’n dweud mai jest cyhoeddiad oedd o, dydy hynny ddim yn cyd-fynd efo'r pethau dŷn ni wedi eu clywed gan eich cydweithwyr chi yn San Steffan chwaith. Mae hi'n bwysig bod y Senedd hon yn cael yr eglurder pendant hwnnw.

14:35

Mae'n ddrwg gen i, mae hyn yn hollol wahanol i fynd am baned o de. Mae hyn ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac fe fyddwn i yn meddwl bod pobl Cymru sydd ar restrau aros, bod y rheini sy'n gweithio yn ein hysbytai ni, angen gwybod beth ydy statws hyn. Gwahanol iawn i baned o de.

Mi wnaeth fy nghydweithwraig i Delyth Jewell godi gyda chi'n gynharach ein bod ni'n ystyried datganoli cyfiawnder i Gymru. Yn sicr, mi oeddech chi'n glir o ran eich barn chi eich bod chi'n parhau'n gadarn bod yn rhaid i Gymru gael y grym hwnnw. Ond mi glywson ni bethau gwahanol iawn ym maniffesto'r Blaid Lafur a chan rai sydd wedi eu hethol yn enw Llafur Cymru yn San Steffan. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth San Steffan rŵan, fel ein bod ni'n rhoi'r gorau i'r cwestiwn amwys yma? Dŷn ni'n gwybod bod yn rhaid datganoli cyfiawnder i Gymru. Pa lwybr sydd yn mynd i fod er mwyn galluogi hynny? Gyda Llywodraeth Lafur rŵan yn San Steffan, ac yn y fan hyn, mi ddylech chi allu gweithredu ar hyn.

Y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dilyn cynllun peilot y llys teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd? OQ61589

14:40
14:45
Marwolaethau Cynenedigol

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynnal cwestau i farwolaethau cynenedigol? OQ61598

Deddfwriaeth Diogelwch Tomenni Glo

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar yr amserlen ar gyfer cyflenwi deddfwriaeth diogelwch tomenni glo o fewn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth? OQ61601

14:50
Canolfannau Cyswllt Plant

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ynglŷn â gwneud canolfannau cyswllt plant yng Nghymru yn ddi-dâl ar adeg eu defnyddio i rieni ac aelodau eraill o'r teulu? OQ61590

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:55
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Member (w)
Jane Hutt 14:56:31
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Nes ymlaen heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn gwneud datganiad am Tata Steel. O ganlyniad, mae datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr wedi'i symud i wythnos nesaf. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

15:00

Trefnydd, byddwch chi’n ymwybodol, fis Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog adroddiad terfynol Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mi ydym ni i gyd yn y Senedd hon yn ymrwymo bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond, yn amlwg, mae'r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion sy'n gwneud hynny yn gyfan gwbl sicr, gan sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg ni yn mynd o nerth i nerth, yn hytrach na chrebachu. Felly, gawn ni gyfle, drwy ddatganiad llafar, i gael trafodaeth ar lawr y Senedd hon ynglŷn â’r argymhellion sy'n bellgyrhaeddol ac eithriadol o bwysig o ran cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd?

Diolch yn fawr. Mae'n gwestiwn pwysig iawn a hefyd rwyf eisiau siarad gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iaith—

—bydd datganiad yn symud ymlaen.

15:05
15:10

Yr wythnos yma, rydym ni'n dathlu, gydag agoriad swyddogol ysgol feddygol gogledd Cymru ym Mangor, penllanw blynyddoedd o ymgyrchu’n lleol, a hynny o dan arweiniad Plaid Cymru. Mae Bangor yn prysur ddatblygu fel canolfan o ragoriaeth mewn hyfforddiant iechyd, ac, yn gysylltiedig efo hyn, mae yna gynlluniau ar y gweill ar gyfer tair canolfan iechyd a llesiant yn y gymuned, yn Waunfawr, yn Nyffryn Nantlle a Bangor, ac mi fyddwn i'n hoffi gofyn am ddatganiad am y datblygiadau iechyd cymunedol newydd yma yn Arfon, ac, yn benodol, dwi'n deall bod y Llywodraeth ar hyn o bryd yn trafod buddsoddi yn y ganolfan iechyd a lles yn yr hen Debenhams ym Mangor, sydd efo potensial enfawr i adfywio'r stryd fawr yn y ddinas, yn ogystal â chyfrannu at wella iechyd y boblogaeth a chynnig lleoliadau hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr iechyd, fel y rhai fydd yn yr ysgol feddygol. Fedrwch chi drefnu diweddariad am ganolfan Bangor yn benodol, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian, a diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.

15:15
15:20
15:25
15:30

O’r amryfal gyhoeddiadau a datganiadau rydyn ni wedi’u cael dros y misoedd diwethaf ynghylch cynhyrchu bwyd, ariannu amaeth, ac yn y blaen, yr un datganiad dydyn ni ddim wedi ei gael ydy unrhyw beth ynghylch pysgodfeydd a dyframaeth. Dwi wedi codi, sawl gwaith hyd yma, pwysigrwydd y sectorau yma, a sut mae’r sectorau yma bellach ar eu gliniau. Cymerwch yr enghraifft cregyn gleision, lle roeddwn nhw’n casglu 12,000 tunnell y flwyddyn ambell i flwyddyn yn ôl. Bellach, mae nhw lawr i bron i ddim un tunnell yn cael ei gasglu; y flwyddyn diwethaf, ddaru nhw gasglu 1,000 tunnell yn unig, ond roedd hwnna’n eithriad. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch strategaeth glir gan y Dirprwy Brif Weinidog ar ddyframaeth a physgodfeydd, a pha rôl mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn gweld mae’r sectorau yna yn gallu ei chwarae yn nyfodol economi Cymru? Diolch.  

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddatganiad gan Ysgrifenydd y Cabinet ar faterion gwledig, fel ei fod e’n gallu esbonio i ffermwyr Cymru sut mae e’n disgwyl iddyn nhw nawr i ddelio gyda’r cyfnod clo—y closed period—yma sydd o’n blaenau ni yn sgil rheoliadau’r NVZs, pan fod y storfeydd slyri yn dal yn hanner, tri chwarter llawn, nifer ohonyn nhw, oherwydd ei bod hi wedi bod mor wlyb, a’r tir mor feddal, dyw ffermwyr ddim wedi gallu cael hwnna mas i’r caeau?

Ydyn nhw i fod i'w roi e ar y caeau yn y dyddiau nesaf yma, gyda’r effaith fydd hynny yn ei gael, a’r goblygiadau difrifol a fydd yn dod yn sgil hynny? Neu a ydyn nhw i fod i'w adael e yn y slurry pit, a fydd, o bosib, yn gorlifo dros y cyfnod nesaf yma, oherwydd eu bod nhw wedi methu â chlirio'r storfeydd ar gyfer y cyfnod clo? Dwi’n amau y bydd goblygiadau tipyn mwy pellgyrhaeddol petai hynny’n digwydd.

Beth yw cyngor y Llywodraeth i ffermwyr Cymru ynglŷn â sut i gwrdd â’r deadline yma rŷch chi wedi'i osod ar y diwydiant yn sgil eich penderfyniad chi i lynu wrth ffermio yn ôl y calendr, pan nad yw byd natur, wrth gwrs, ddim yn cadw llygad ar y calendr ac yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn?

4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Llifogydd—Paratoi ar gyfer y gaeaf

Eitem 4 heddiw yw’r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar lifogydd a pharatoi ar gyfer y gaeaf. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad. Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:33:41
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau heddiw trwy ddweud fy mod i'n ymwybodol iawn o effeithiau difrifol llifogydd ar gartrefi, bywoliaeth pobl, ac, yn wir, eu bywydau. Ac mae’n ddrwg calon gennyf glywed am y llifogydd ofnadwy sydd wedi digwydd yn Lloegr dros yr wythnos diwethaf hefyd. Rwyf yn cydymdeimlo gyda’r holl gymunedau a phobl yn sgil llifogydd sydd wedi effeithio eu heiddo. Rwy’n deall pa mor ofidus yw pobl am ddiogelwch eu cartrefi a’u busnesau wrth i’r gaeaf agosáu. Dyna pam fod gwarchod ein cymunedau rhag canlyniadau trychinebus llifogydd ac erydu arfordirol yn bwysig iawn i mi yn y rôl hwn, ac i’r Llywodraeth hwn hefyd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth effeithiol ar lawr gwlad a fydd yn diogelu ein cymunedau rhag bygythiadau newid hinsawdd.

Dirprwy Lywydd, rhaid i ni i gyd fod yn effro i beryglon llifogydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cyhoedd yn chwarae rôl hollbwysig o ran gwella cadernid cymunedol. Drwy rannu gwybodaeth a phrofiadau gyda’n cymdogion, gallwn gryfhau’n rhwydweithiau cymorth a helpu’n gilydd i fod yn barod. Gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau mwy cadarn ledled Cymru, a all wrthsefyll yr heriau sydd ynghlwm wrth lifogydd, tywydd garw a newid hinsawdd. Diolch yn fawr.

15:40
15:45
15:50

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad. Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, wrth gwrs, mae meddyliau pawb yn troi at y perygl o lifogydd, achos mae hynny'n parhau i dyfu fel perygl. Hyd yn oed o dan yr amcangyfrifon mwyaf optimistaidd, erbyn 2050 rydyn ni'n disgwyl i law y gaeaf gynyddu dros 6 y cant, ac erbyn 2080 mae'r ffigur hwnnw'n codi i 13 y cant. I wlad fel ein gwlad ni, mae hyn yn troi'n risgiau dinistriol i fywyd, cartrefi a bywoliaethau. Os ydyn ni'n meddwl jest am ffigurau ac am flynyddoedd sydd mor bell i ffwrdd yn y dyfodol, mae pobl weithiau yn gallu meddwl, 'O, wel, mae hwnna'n rhywbeth sy'n bell i ffwrdd.' Na, mae e'n cael effaith mor ofnadwy ar realiti bywyd pobl. Heddiw, mae dros 245,000 o eiddo yng Nghymru—tua un o bob wyth—eisoes mewn perygl o lifogydd. Allwn ni ddim fforddio aros nes bod y risgiau hyn yn cynyddu'n fwy cyn inni gymryd camau cadarn, dwi'n siŵr y byddech chi'n cytuno. Hoffwn i wybod, plis, pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r risgiau o lifogydd ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, a sut mae hyn yn llywio cyfeiriad y polisi?

Ni ellir anwybyddu, wrth gwrs, effaith anghymesur llifogydd ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae aelwydydd tlotach, yn arbennig, yn wynebu realiti llawer mwy llym o ran paratoi ar gyfer llifogydd ac adfer ohonynt. Gwyddom fod hyd at 61 y cant o rentwyr incwm isel yn byw heb yswiriant cartref. Mae hwnna'n eu gadael yn gwbl agored os ydyn nhw'n cael eu taro gan lifogydd. Felly, pa gymorth wedi'i deilwra y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i helpu'r aelwydydd hyn, nid yn unig i oroesi'r llifogydd ond i ddiogelu eu cartrefi o flaen llaw? Ydych chi'n gweithio gyda darparwyr yswiriant i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i aelwydydd sydd fwyaf mewn perygl?

Rhaid inni hefyd sicrhau bod busnesau, yn enwedig busnesau bach lleol, yn cael y gefnogaeth gywir i wneud eu heiddo nhw yn wytnach. A allwch chi amlinellu'r camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal a lliniaru risgiau llifogydd i gartrefi a busnesau y gaeaf hwn, os gwelwch yn dda?

15:55
16:00
16:05
16:10
16:15
16:20
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

16:25
16:30
16:35

Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai difrifol, efo'r defnydd o lety dros dro ar ei lefel uchaf erioed. Ar ddiwedd Mai eleni, roedd 11,384 o bobl mewn llety dros dro, efo traean o’r rheini yn blant dan 16 oed. Roedd y rhan fwyaf wedi'u lleoli mewn llety gwely a brecwast neu westai, ac yn byw mewn amodau cwbl anaddas. Felly, dwi’n cytuno efo chi fod sicrhau cyflenwad o dai addas yn hanfodol, ac mi ddof i yn ôl at hynny. Ond law yn llaw â hynny, mae gwasanaethau digartrefedd yn darparu cymorth hanfodol, ac mae’n rhaid eu diogelu nhw a’u cryfhau nhw, ond maen nhw dan bwysau aruthrol.

Mae data gan Cymorth Cymru a Community Housing Cymru yn dangos bod 67 y cant o weithwyr sy’n cael eu hariannu trwy’r grant cymorth tai, yr HSG, yn cael eu talu llai na’r cyflog byw gwirioneddol. Mae’r sector wedi wynebu heriau recriwtio ers blynyddoedd, ac mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu’r sefyllfa, efo gweithwyr sydd yn cefnogi pobl sydd yn ddigartref yn methu â fforddio aros yn y rolau hanfodol hynny. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy hwn: pa achos ydych chi fel yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud yn y Cabinet dros gynyddu’r grant cymorth tai yn y gyllideb nesaf i sicrhau bod gweithwyr digartrefedd yn cael eu talu’n deg ac felly bod y gwasanaethau pwysig yma yn cael eu diogelu ac felly bod pobl fregus yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt?

Mae llety dros dro yn ôl ei ddiffiniad i fod dros dro. A'r ffordd fwyaf effeithiol o leddfu’r pwysau ar wasanaethau digartrefedd ac i ddarparu sefydlogrwydd i'r rhai sydd mewn angen ydy trwy symud unigolion a theuluoedd i gartrefi parhaol addas—synnwyr cyffredin. Ond mae ymchwil gan Sefydliad Bevan yn dangos mai dim ond 30 y cant o aelwydydd a symudwyd yn llwyddiannus o lety dros dro i lety parhaol yn 2023-24. Mae diffyg tai cymdeithasol a phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yn rhwystrau sylweddol, gan adael llawer yn gaeth mewn amodau dros dro, llawer iawn rhy hir ac mewn amodau anaddas. Yn ogystal â hynny, mi adawodd 29 y cant o aelwydydd lety dros dro heb sicrwydd o lety parhaol. Felly, ydy Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â gwrthdroi'r sefyllfa yma—sefyllfa sydd yn gwaethygu? Ydych chi o ddifrif yn mynd i sicrhau bod y mwyafrif o bobl sydd mewn llety dros dro yn cael eu symud i lety parhaol addas?

Dwi'n credu bod angen gweledigaeth fwy strategol ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ac i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gartref diogel, saff a chynnes. Rydyn ni wedi sôn yn barod y prynhawn yma am adroddiad Archwilio Cymru, sydd yn dangos, hyd yn oed efo'r cyllid presennol, sydd yn annigonol, does yna ddim digon o brosiectau yn y piblinell i gyrraedd targed 20,000 erbyn Mawrth 2026, ac mae yna rai o'r cynlluniau yma, hyd yn oed y rhai sydd yn y piblinell, yn risg uchel ac mewn perygl o beidio â chael eu cyflawni. Mae'r angen, wrth gwrs, yn debyg o fod yn llawer iawn uwch na'r 20,000 sy'n cael ei dargedu gennych chi. Felly, o ystyried hyn i gyd, o ystyried yr argyfwng, o ystyried yr heriau, onid ydy hi'n bryd, rŵan, i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu’r hawl i gartref addas yng Nghymru ac i yrru y newid ystyrlon yna yn y system? Dwi'n credu bod yn rhaid inni gael hwnna, neu dydy'r newid ddim yn mynd i ddigwydd. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy hwn: pryd ydych chi'n mynd i gyhoeddi'r Papur Gwyn hirddisgwyliedig fydd yn dechrau trafod yr angen yma am ddeddfwriaeth i wneud yr hawl i gartref yn hawl sylfaenol i bawb?

16:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45
16:50
16:55

Dros ddwy flynedd yn ôl, trodd bywydau pobl Wcráin wyneb i waered wrth i Rwsia ymosod ar eu mamwlad. Fodd bynnag, dyw'r croeso a'r gefnogaeth sydd yma iddyn nhw yng Nghymru ddim wastad wedi cynnig y sefydlogrwydd y maen nhw ei angen er mwyn ailadeiladu eu bywydau. Mae gormod o bobl sy'n ffoi yma rhag gormes a thrais wedi bod yn cysgu ar ein strydoedd neu'n byw mewn mannau lle maent wedi teimlo'n anniogel, gan gael effaith niweidiol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith fod ceiswyr lloches, unwaith eu bod nhw wedi cael caniatâd i aros, dim ond yn cael 28 diwrnod i adael y llety sy'n cael ei ddarparu. Mae'r amserlen afresymol yn condemnio llawer o ffoaduriaid i ddigartrefedd.

Ac fel yr amlinellwyd mewn ymateb i'm cwestiwn ysgrifenedig yr holais, does gan Gymru'r data ar hyn o bryd er mwyn deall faint o bobl sydd yn y sefyllfa yma, fel y nifer o ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd. Heb y data hanfodol hwn, ydych chi'n cytuno na allwn ni gefnogi rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, sydd mewn perygl neu sy'n wynebu digartrefedd, yn iawn?

Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gasglu data ar ddigartrefedd ymhlith ffoaduriaid o Wcráin a gwledydd eraill? Pa gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y data? Ac a fyddwch chi'n pwyso ar Lywodraeth San Steffan i ymestyn y cyfnod sydd gan ffoaduriaid i symud ymlaen, unwaith eu bod nhw wedi derbyn eu statws, er mwyn eu hamddiffyn rhag digartrefedd?

17:00
17:05

Dwi am gyfeirio yn gryno, felly, at fynediad at dai ymysg gofalwyr di-dâl. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yn ymwybodol o adroddiad diweddaraf Carers Wales oedd yn uwcholeuo'r lefelau difrifol o dlodi sydd ymhlith gofalwyr di-dâl a sut mae rhent uchel a diffyg tai fforddiadwy yn cynyddu'r pwysau arnyn nhw a'u hanwyliaid yn ddybryd. Mae mwy a mwy o'n gofalwyr di-dâl yn wynebu digartrefedd. Felly, pa ystyriaeth ydy'r Llywodraeth wedi'i rhoi i benodi gofalwyr di-dâl fel grŵp sy'n haeddu cael blaenoriaeth mewn ceisiadau tai yn eich Papur Gwyn? Ac, yn y cyfamser, a wnewch chi adolygu'r prosesau er mwyn sicrhau bod amgylchiadau tai yn cael eu hystyried a'u hadlewyrchu yn yr asesiadau o anghenion gofalwyr di-dâl?

Ugain mlynedd yn ôl, Gweinidog, roeddwn i mewn cyfarfod i ddirwyn i ben te i'r digartref yng Nghaerdydd, oedd wedi cael ei ddarparu ers y 1970au. Roedd y niferoedd wedi syrthio i lai na llond dwrn, ond yna ddaeth llymder a chynyddodd y nifer yn sylweddol—nid pwynt gwleidyddol ond ffaith; gwelais i impact yr ideoleg wleidyddol yna â'm llygaid fy hun. Daeth, wedi hynny, y ddarpariaeth i ben amser COVID—roedd yr ewyllys gwleidyddol i ffeindio llety i bawb yr amser hwnnw. Ond nawr, er gwaethaf ymdrechion y cyngor, mae yna fwy o ddigartrefedd yng Nghaerdydd nag erioed o'r blaen. Rŷch chi'n sôn am un yn ormod; mae yna ddegau yn ormod yng Nghaerdydd. Mae'r ddarpariaeth yn y Tabernacl wedi cynyddu yn sgil y galw i dair sesiwn yr wythnos, yn darparu pryd cynnes, dillad, sachau gwely ac yn y blaen, i hyd at 80 o bobl ym mhob sesiwn. Ac mae'r ddemograffeg wedi newid yn llwyr. Pan ddechreuais i dynion hŷn gyda phroblemau alcohol oedd yna, ond nawr mae yna bobl ifanc, nifer cynyddol yn fenywod, a nifer ohonyn nhw o Wcráin. Fel dywedodd Sioned Williams, sut allwn ni alw ein hunain yn genedl noddfa pan fo yna bobl o Wcráin ar ein strydoedd ni? Mae yna broblemau cymhleth gyda nhw, ond mae'n wir i ddweud bod y bobl yma wedi cael eu gadael i lawr gan genhedlaeth o wleidyddion. Sut ydych chi'n mynd i gydweithio ag eraill i adfer y gwasanaeth i o leiaf y lefel cyn llymder? A bydd croeso mawr i chi fynychu un o'r sesiynau yn y Tabernacl, Ysgrifennydd y Cabinet.

17:10
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Tata Steel

Eitem 7 sydd nesaf, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio ar Tata Steel. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly—Rebecca Evans. 

17:20
17:25
17:30
17:35
17:40
17:45
17:50
17:55
8. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf mewn bywyd plentyn—O genhedlu i 2 oed

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf mewn bywyd plentyn—o genhedlu i ddwy oed, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Dawn Bowden. 

Thank you, Llywydd, and thank you for the opportunity to make this statement. 

18:00
18:05
18:15

Diolch am y datganiad. Rydych chi wedi dweud bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod babanod yn cael y dechrau a'r cyfle gorau mewn bywyd, ond yw'r nod yna yn cael sylw llawn a buddsoddiad priodol gan Lywodraeth Cymru, achos ie, mae'n siwr bod y Llywodraeth yn gwneud lot o bethau, ond mae e'n signal pwysig ac arwyddocaol, onid yw e, pan nad oes sôn am y blynyddoedd cynnar na thaclo tlodi plant ar y rhestr blaenoriaethau yna gawsom ni gan y Prif Weinidog? Mae e'n signal. Soniodd hi am wrando nid jest ar y lleisiau mwyaf croch wrth benderfynu'r blaenoriaethau yna, ond rhaid dweud, o glywed hi'n adrodd y rhestr, doedd lleisiau plant—y rhai sydd lleiaf grymus, lleiaf croch yn ein cymdeithas—yn amlwg ddim wedi cael ei chlust dros yr haf.

Mae hi wedi penodi Gweinidog dros blant, er bod addysg a thaclo tlodi plant yn gyfrifoldeb i ddau Ysgrifennydd Cabinet arall, ac mae'r hyn sydd yn gyfrifoldeb i chi, felly, o fewn y maes gofal ac iechyd yn gofyn am gydweithio effeithiol. Sonioch chi wrth fynd heibio yn eich datganiad am y strategaeth tlodi plant. Pa elfennau o'r strategaeth tlodi plant yn benodol ydych chi'n mynd i'w blaenoriaethu? Sut byddwch chi'n cydweithio ar draws y Llywodraeth i gyrraedd y nod? Sut byddwch chi'n mesur allbwn y gwaith hwn? Roedd y neges yn glir o'r gynhadledd yn y Senedd y bore yma—fues i yna hefyd—wedi'i drefnu gan y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd, ac rwy'n gobeithio i chi glywed y pwyslais yna, y pwyslais oedd yn cael ei roi ar y ffaith bod angen mwy o gydlyniant a chydweithio rhyngadrannol o ran polisi iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a thai.

Mae ymchwil yn dangos bod ymyrriadau yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf yn gwbl allweddol i sicrhau bod y maes chwarae yn fwy gwastad, a mesurau ataliol yn chwarae rhan hanfodol yn hyn wrth gwrs. Ac mae'r genedl gyfan yn elwa o hyn, ac mae'n gallu creu arbedion hefyd i'r pwrs cyhoeddus yn y pen draw, heb sôn am osgoi niwed a thrawma. Felly, pa fesurau ydych chi'n credu byddai mwyaf effeithiol i gyflawni'r nod honno? Ydych chi, er enghraifft, yn ystyried gwrthdroi'r toriad i'r rhaglen bwndeli babanod, oedd yn ymrwymiad yn eich rhaglen llywodraethu, o gofio bod aelwydydd â phlant ifanc yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi cymharol? Mae'n galluogi teuluoedd i gwrdd ag anghenion sylfaenol eu plant yn y cyfnod cynnar hollbwysig yna, a hefyd roedd y bwndeli yn gweithredu fel drws at gyngor a chymorth—y pwynt cyswllt cyntaf hanfodol yna yn y 1,000 diwrnod cyntaf. Fe wnaethoch chi dorri hynny'n ddisymwth, wrth gwrs, ar ôl dweud eich bod chi'n mynd i'w rolio fe mas yn genedlaethol, ar ôl peilot a gwerthusiad llwyddiannus. Roedd hwn, wrth gwrs, ychydig fisoedd ar ôl ichi gyhoeddi eich strategaeth tlodi plant.

Dyw'r system gofal plant yng Nghymru ddim yn gweithio i blant na'u teuluoedd, felly rwy'n gobeithio eich bod chi wedi darllen gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar hyn. Rŷn ni wedi gwneud dau adroddiad erbyn hyn. Fyddwch chi'n ateb y galwadau gan arbenigwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yna yn ddi-dor ac yn fforddiadwy, gan sicrhau ei fod e'n hygyrch? Mae e'n greiddiol, wrth gwrs, i ddileu anghydraddoldeb. Mae e mor hanfodol. Mae rhieni a darparwyr, yn bwysig, yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n cael hi'n anodd iawn i lywio drwy'r dryswch presennol

dryswch presennol, y gwahanol gynlluniau, ac mae arolwg blynyddoedd cynnar Cymru wedi tanlinellu nad yw chwarter y darparwyr presennol yn meddwl y byddan nhw'n medru parhau i gynnig gofal plant am flwyddyn arall. Mae hyn yn codi i bedwar o bob pump ymhen dwy flynedd. Mae'n system gymhleth, aneffeithiol, ac mae ar fin chwalu, felly beth yw'ch ymateb penodol chi i hynny?

Yn olaf, hoffwn droi at yr angen i gefnogi'r sectorau sy'n gwneud gwaith amhrisiadwy wrth gefnogi teuluoedd ble mae yna risg y gallai'r babi gael ei gymryd i mewn i ofal. Mae prosiect arloesol Baby & Me, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Barnado's Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd yn darparu cefnogaeth ddwys a llwyddiannus cyn ac ôl-enedigol i deuluoedd, yn dod â chymorth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a rhianta ynghyd. Mae wedi sicrhau allbynnau rhagorol sy'n helpu i newid cwrs bywydau ifanc. Mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc yr oeddwn i'n aelod ohono fe ar y pryd yn dweud dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mynediad i wasanaethau ataliol, ymyrraeth gynnar llwyddiannus fel hyn i bob teulu sydd ei angen dros Gymru. Dyw hynny heb ddigwydd, ac mae sefydliadau fel Barnado's Cymru a NYAS Cymru, sydd hefyd yn gwneud gwaith hollbwysig yn darparu cefnogaeth ddwys i ferched ifanc sydd â phrofiad o ofal drwy Brosiect Undod, maen nhw wedi codi pryderon ynglŷn â gallu'r Llywodraeth i gwrdd â'u hymrwymiad i leihau'r gyfradd uchel o blant sydd o dan orchymyn amddiffyn plant awdurdodau lleol, sy'n blant i famau â phrofiad o ofal, gan nad oes cyllid hir dymor wedi'i glustnodi. Felly, a allwch chi sicrhau i mi y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau gyda'r cyllid yma er mwyn parhau â'r gwaith rhagorol a hanfodol mae Barnado's Cymru a NYAS Cymru yn ei wneud?

18:20
18:35
18:40

Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.