Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/09/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.

Arfau a Gynhyrchwyd yng Nghymru

1. Pa drafodaethau fydd y Prif Weinidog yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a gweithgynhyrchwyr arfau o Gymru i sicrhau na chaiff arfau a gynhyrchwyd yng Nghymru eu defnyddio mewn troseddau rhyfel honedig? OQ61568

Dyw amddiffyn ac allforion amddiffyn ddim yn faterion sydd wedi’u datganoli. Felly, nid ydym ni wedi cael trafodaethau ar y mater yma. 

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rôn i’n meddwl efallai mai dyna fyddai eich ateb chi. Ond mae dros 160 o gwmnïau yng Nghymru yn cyflenwi'r sector amddiffyn ac arfau ym Mhrydain a thu hwnt. Ac os cyflawnir troseddau rhyfel gydag arfau sydd wedi cael eu cynhyrchu yma, yna mae e'n creu atebolrwydd troseddol o dan gyfraith ryngwladol. Dyna pam y dywedodd Keir Starmer yn ddiweddar mai penderfyniad cyfreithiol ac nid penderfyniad polisi oedd gwahardd 30 o drwyddedau allforio arfau i Israel. Efallai na fyddai atebolrwydd troseddol i ni yma yn y Senedd, ond, yn sicr, mi fyddai yna atebolrwydd moesol pe byddai arfau sy’n cael eu cynhyrchu yma yn cael eu defnyddio ar gyfer troseddau rhyfel.

Hefyd, mae yna gonsýrn am gynlluniau pensiwn awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus sy’n mynd yn groes i’r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol, ac sydd efallai’n cael eu defnyddio i gyllido cwmnïau sy’n ymwneud â throseddau rhyfel. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, ymrwymiad y bydd hi a’i Llywodraeth yn cydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn cydweithio â chyrff cyhoeddus, i sicrhau nad yw Cymru, y genedl noddfa, yn rhan o unrhyw droseddau rhyfel? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Rwy'n nodi gyda phryder—rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni—yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn teimlo'n ofidus iawn am y sefyllfa, ac rydym ni'n llawn cymdymdeimlad tuag at y sifiliaid sydd wedi cael eu heffeithio.

Jest o ran nod y gyfundrefn drwyddedu, UK Exports sy’n gyfrifol am sicrhau nad yw allforion yn syrthio i ddwylo’r rhai sydd ddim yn gynghreiriaid i ni. Y Llys Troseddol Rhyngwladol sydd yn gyfrifol am ymchwilio troseddau rhyfel honedig. Ond dwi’n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig i nodi bod allforion yn bwysig. Mae hwnna’n fater gwahanol, ond mae’n bwysig, dwi’n meddwl, ein bod ni’n gadael i’r Deyrnas Unedig gymryd yr awenau ar bwnc sydd, wrth gwrs, o dan eu cyfrifoldeb nhw.

Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud. Yn fy rhanbarth i, mae General Dynamics wedi buddsoddi mwy na £12 miliwn mewn canolfan ragoriaeth cerbydau ymladd arfog newydd i'r DU ar safle hen bwll glo de Cymru, ac mae BAE Systems, yn agos at le rwy'n byw, wedi rhoi cymorth i bobl Wcráin, sydd wedi galluogi Wcráin, wrth gwrs, i wrthsefyll yr ymosodiad hwnnw gan Rwsia. Yn ne-ddwyrain Cymru, rydym ni wedi croesawu 550 o swyddi yn BAE, 900 o swyddi yn General Dynamics, a miloedd o swyddi eraill gyda chwmnïau amddiffyn eraill yn y gadwyn gyflenwi ehangach yn ne Cymru, sydd, wrth gwrs, yn arbenigwyr yn y cynhyrchion amddiffyn hyn, a dyna'r hyn y maen nhw wedi dod ag ef i'r rhanbarth. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod cwmnïau amddiffyn fel BAE a General Dynamics yn gwneud cyfraniad enfawr at amddiffyn ein cenedl, ac at ein heconomi? A byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r gwahanol brentisiaethau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a gynigir gan BAE a chwmnïau fel y rhai yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw.

Diolch yn fawr iawn. Fel y gwyddoch chi, pan fyddwn ni'n siarad am amddiffyn, rydym ni'n siarad amdano yng Nghymru yn yr un anadl ag yr ydym ni'n sôn am awyrofod. Ac mae hynny'n gonglfaen, wrth gwrs, o'n gallu ni. Mae mwy na 20,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwnnw, ac wrth gwrs, mae hwnnw'n gyfraniad mawr at ein gallu allforio. Mae'n debyg ei bod yn werth nodi mai £18 biliwn oedd gwerth allforion Cymru, ac mae hynny'n uwch o'i gymharu â Mehefin 2019. Felly, mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni wneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i baratoi eu hunain ar gyfer gwaith yn y sector, ac fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae STEM yn gwbl hanfodol. Mae'n braf iawn gweld y pwyslais sy'n cael ei roi ar hynny yn ein hysgolion, ac rwy'n arbennig o awyddus i weld menywod—mwy o fenywod—yn cael eu cyflogi yn y sector hwnnw.

Ers i'r rhyfela waethygu yn Gaza, rydym ni wedi gweld lladd a thristwch ar raddfa annirnadwy. Mae nifer y marwolaethau swyddogol yn Gaza yn fwy na 41,000 bellach. Mae'r trais hwnnw yn gorlifo i Libanus bellach, â'r posibilrwydd gwirioneddol o wrthdaro yn llyncu'r rhanbarth cyfan. Nid yw Israel wedi gwrando ar y nifer fawr o wledydd sydd wedi galw am gadoediad. Cyn ei bod hi'n rhy hwyr, oni allwch chi weld bod angen defnyddio'r holl ysgogiadau posibl i berswadio'r cwmnïau sy'n gysylltiedig â chyflenwi deunyddiau a ddefnyddir i orthrymu Palestiniaid ac i yrru peiriant rhyfel Netanyahu? Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hen bryd cael ymgyrch o warediad, i wneud i gwmnïau feddwl ddwywaith cyn iddyn nhw gyflenwi arfau i Israel?

13:35

Diolch yn fawr. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gofidio am y tensiynau yn y dwyrain canol. Mae wir yn sefyllfa anodd iawn sy'n gwaethygu. Wrth gwrs, mae gennym ni rwymedigaeth foesol i wneud yn siŵr nad yw arfau yn mynd i ddwylo pobl nad oes ganddyn nhw'r un gwerthoedd â ni. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd; nid yw'n faes y gallaf i chwarae rhan ynddo.

Y Sector Gofal Cymdeithasol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol y gaeaf hwn? OQ61553

Mae gofal cymdeithasol yn wynebu newidiadau yn y boblogaeth a galw cynyddol. Fel Llywodraeth, rydym ni'n gweithio gydag arweinwyr ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu capasiti ar gyfer gofal a chymorth yn ein cymunedau, i reoli'r heriau o alw cynyddol am ofal mwy cymhleth ar gyfer ein poblogaeth sy'n heneiddio ac yn eiddil.

Bydd buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn helpu i ddatgloi rhai o'r heriau yn ein gwasanaeth iechyd. Mae'r data yn dangos bod llawer gormod o gleifion yn ein hysbytai yn aros am ofal gartref neu yn y gymuned. Mae'r angen am gyfleusterau gwelyau gofal llai dwys sy'n diwallu anghenion ein poblogaeth sy'n heneiddio yn y presennol a'r dyfodol yn hanfodol. Rwy'n croesawu'r cynlluniau ar gyfer cyfleuster newydd gwerth £15 miliwn yng Nglynrhedynog, ond mae trigolion a staff yn Nhŷ Glynrhedynog yn bryderus am eu dyfodol, o ystyried y bwriad i gau. Rwyf i wedi ysgrifennu at gyngor Rhondda Cynon Taf i gael rhagor o wybodaeth, ac rwy'n bwriadu ymweld â'r cartref yn ddiweddarach yr wythnos hon. A allwch chi amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector y gaeaf hwn, gan gynnwys cyllid ar gyfer cyfleusterau gofal llai dwys a mynd i'r afael ag oedi o ran addasu cartrefi? Ac a ydych chi'n cytuno bod y cyfleusterau newydd yn hanfodol i'r strategaeth hirdymor, ond bod yn rhaid i symudiadau o gyfleusterau hŷn achosi cyn lleied o darfu â phosibl?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir—mae'n rhaid i ni fod yn sensitif i'r bobl sydd yn y cartrefi hynny, ac, os oes unrhyw darfu, mae hynny'n anhygoel o anodd, yn rhannol i'r bobl hynny sydd â dementia, sy'n llawer mwy cyfforddus gyda'r un drefn a'r un amgylchedd. Mae gennym ni bwyllgor gweithredu ar ofal dan arweiniad gweinidogion, sy'n sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gweithio'n agos iawn gyda'r GIG a llywodraeth leol i fynd i'r afael â'r materion hynny o ofal a'r angen i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y cyfle hwnnw i ddatblygu mwy o gymorth yn ein cymunedau. Byddwch yn ymwybodol bod £70 miliwn ar gael i ail-gydbwyso gofal a chymorth, o ran cronfa gyfalaf. Dyfarnwyd £7.6 miliwn o hwnnw i Rondda Cynon Taf eisoes, tuag at ailddatblygu Bronllwyn yn y Gelli. Ond, dim ond o ran Glynrhedynog, cyfeirir ato yng nghynllun cyfalaf Cwm Taf, ond nid ydym ni wedi gweld cais eto yn Llywodraeth Cymru.

Mae adroddiad Age Cymru a gyhoeddwyd ym mis Awst yn dangos, er bod oediadau gofal cymdeithasol o 12 mis wedi bod yn gostwng yn araf, bod gennym ni un o bob chwech yn aros mwy na 30 diwrnod i becyn gofal cymdeithasol gael ei roi ar waith o hyd, yn anffodus. Mae oediadau ym maes gofal cymdeithasol yn dal i fod yn annerbyniol o uchel, ac mae arweinwyr gofal cymdeithasol yn rhoi'r bai yn sylweddol ar ddiffyg cyllid cynaliadwy. Yn Sir Ddinbych, yn fy etholaeth i, mae'r sefyllfa yn llawer mwy difrifol oherwydd bod Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig ffioedd arbennig o isel ar ôl cymeradwyo cynnydd o 8.8% yn unig mewn ffioedd, o'i gymharu ag 20 y cant yng Nghonwy gyfagos. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei ddileu gan chwyddiant a'r argyfwng costau byw, ac rydym ni bellach yn wynebu prinder gwelyau o 1,600 mewn cartrefi gofal yn y gogledd yn unig dros y degawd nesaf. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn talu dros £9,000 y flwyddyn yn llai y pen nag yng Nghonwy am yr un gofal. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi dweud bod y diffyg brawychus hwn wedi dangos yr angen i ofal cymdeithasol gael ei ariannu'n iawn er mwyn i gartrefi presennol oroesi ac i annog datblygiad rhai newydd. Mae nifer o gartrefi gofal yn Sir Ddinbych bellach yn gwegian ar ymyl y dibyn, ac mae eraill eisoes wedi cau. Felly, a all y Prif Weinidog amlinellu cynllun ei Llywodraeth o ran ariannu gwasanaethau cymdeithasol, a pha oruchwyliaeth fydd yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod nhw'n ariannu'r sector yn iawn ac yn osgoi diffyg ataliol capasiti cartrefi gofal yn fy etholaeth i? Diolch.

13:40

Diolch yn fawr iawn, Gareth. Byddwch yn ymwybodol mai rhan o'r her o ran gofal yw'r ffaith ei bod hi'n anodd, mewn gwirionedd, recriwtio pobl i'r sector. Ac rydym ni, yng Nghymru, wedi rhoi'r cyflog byw gwirioneddol i'r bobl sy'n gweithio yn ein sector gofal, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth. Y gwir amdani yw bod gennym ni, ym mis Awst 2023, 58,000 o bobl wedi'u cofrestru, a heddiw mae gennym ni 63,000. Felly, mae'n braf gweld bod hynny'n gwneud gwahaniaeth. Rydym ni'n cydnabod bod heriau difrifol o hyd, ond clustnodwyd yr arian hwnnw ac fe'i rhoddwyd i awdurdodau lleol, a dyna'r her fwyaf, rwy'n credu, yn y sector. Ond byddwch yn ymwybodol hefyd ein bod ni wedi gwneud gwaith sylweddol yn y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth i wella'r telerau ac amodau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Rhywbeth yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw cael mwy o gysondeb o ran sut mae awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â mater gofal, ac mae llawer iawn o waith eisoes yn cael ei wneud yn y maes hwnnw. Mae mwy i'w wneud, ond rwy'n credu ein bod ni ymhell ar y blaen i unrhyw beth sy'n digwydd yn Lloegr yn y maes hwn.

Gall y pwysau ar ofal cymdeithasol gael effaith ofnadwy ar ofalwyr di-dâl a'u hanwyliaid. Tybed a allwn i bwyso arnoch chi, Prif Weinidog, ar sut y gall siarter eich Llywodraeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, a gyhoeddwyd bron i ddwy flynedd yn ôl, arwain at welliannau gwirioneddol. Mae fy swyddfa wedi bod yn helpu a chefnogi teulu yr oedd eu mab sy'n oedolion yn arfer mynychu canolfan ddydd Springfield ym Mhontllanfraith. Nawr, ers COVID, nid yw'r ganolfan erioed wedi ailagor yn llawn ac mae nifer eu horiau seibiant wedi gostwng yn sylweddol. Mae hyn wedi eu gadael nhw a llawer o bobl eraill yn yr un sefyllfa heb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r pwysau ar ofal cymdeithasol ac ar lywodraeth leol yn gwthio gofalwyr di-dâl i'r eithaf. Mae'n eu gwthio y tu hwnt i'r terfynau ac maen nhw'n dioddef gyda'r darnau o system sydd wedi torri ac nad yw wedi'i hariannu'n ddigonol. Felly, pa sicrwydd allech chi ei roi i'm hetholwyr ac eraill tebyg iddyn nhw y bydd rhywun yn gwrando, o'r diwedd, ar lais gofalwyr di-dâl, os gwelwch yn dda? 

Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n gwybod mai Julie Morgan yw hyrwyddwr mawr gofalwyr di-dâl yn y Siambr hon. Mae'n sicr wedi bod yn hyrwyddwr dros ofalwyr di-dâl ers blynyddoedd lawer, a hoffwn ddiolch iddi am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud.

Rydym ni'n cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd iawn, ac mae rhai ohonyn nhw wedi gwneud y penderfyniad i gau rhai o'r canolfannau dydd hynny, a oedd, wrth gwrs, yn lleoedd lle gallai pobl fynd iddyn nhw i gael ychydig o amser a seibiant tra bod pobl yn cael eu hanfon i'r canolfannau gofal dydd hynny. Maen nhw'n dal i fodoli mewn sawl man, ac yn sicr un o'r pethau yr ymwelais ag ef yn ddiweddar oedd prosiect ym Merthyr, lle'r oedden nhw, mewn gwirionedd, yn gweithio gyda'r GIG i ddarparu pecyn gofal dydd ehangach. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n debyg bod yn rhaid i ni fod ychydig yn fwy creadigol o ran cael y GIG ac awdurdodau lleol i weld beth arall allan nhw ei wneud yn y maes hwnnw. Ond rwy'n cydnabod ei bod yn dasg anodd iawn, iawn. Rwy'n gwybod, gan fod fy mam yn dioddef o glefyd Alzheimer, ac mae'n llawer o bwysau ar bobl sy'n ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny. Mae'n anodd iawn, mae'n flinedig iawn, ac mae pobl yn benderfynol o helpu eu hanwyliaid a pheidio â'u siomi, ond mae angen y cymorth arnyn nhw hefyd. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod hynny, ac, wrth gwrs, mae gennym ni lawer iawn a phrosiect mawr o gymorth i ofalwyr di-dâl.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r dasg wirioneddol ddiddiolch y mae llawer o'n gofalwyr, yn ddi-dâl ac yn gyflogedig, yn ei mabwysiadu, ac rwy'n gwybod bod llawer yn y Siambr hon hefyd wedi cyflawni'r swyddogaeth honno o ran eu perthnasau neu ffrindiau. Rwyf i fy hun wedi ei wneud, ond dim ond am gyfnod byr iawn, ac mae gen i edmygedd llwyr o'r holl bobl hynny sy'n ofalwyr di-dâl ac yn ofalwyr cyflogedig. Rydych chi'n sôn am y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru i ofalwyr, ac mae honno'n fenter wych, ond, ym Mhowys, lle'r ydym ni wedi ceisio recriwtio gofalwyr, roedd dwy sesiwn lle nad wnaeth neb o gwbl droi i fyny. Felly, mewn ardal wledig mae gennym ni bwysau gwirioneddol o ran ceisio recriwtio gofalwyr. Felly, un o'r pethau y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwyso amdano, fel y byddwch yn gwybod, rwy'n gobeithio, nid drwy unrhyw gampau y gallech chi fod wedi eu gweld gan arweinydd plaid arbennig, yw ein bod ni eisiau gweld cyflog uwch i'n gofalwyr. Rydym ni eisiau gweld £2 ychwanegol, o leiaf, yn cael ei dalu iddyn nhw, yn ogystal â chynnydd gyrfaol gwirioneddol a chydnabyddiaeth wirioneddol, a lefel o barch yn cael ei rhoi i'r gofalwyr hynny. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn codi parch a lefel gofalwyr ledled Cymru, ond yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig? Diolch yn fawr iawn.

13:45

Diolch yn fawr iawn. Mae'n sefyllfa anodd iawn, yn enwedig pan fo swyddi eraill ar gael nad ydyn nhw efallai mor anodd a heriol. Ond y gwir amdani yw ein bod ni yng Nghymru yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Cafwyd ymateb enfawr yn Lerpwl i'r ffaith ein bod ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru. Mae'n rhywbeth na ddylai pobl ei gymryd yn ganiataol. Nid yw'n digwydd ym mhobman arall yn y wlad. Y ffaith yw bod tua 2,000 o bobl wedi gadael ar ôl Brexit. Roedd llawer o ddinasyddion dwyrain Ewrop a oedd yn rhoi help llaw i ni, ac mae wedi bod yn anodd iawn ôl-lenwi'r swyddi hynny. Ond yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw datblygu rhaglen gydlynol iawn i geisio cynorthwyo gofalwyr gyda chynnydd gyrfaol, gan wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael yr hyfforddiant y maen nhw'n ei haeddu a'i angen, ac i broffesiynoli'r system. Rwy'n cydnabod, mewn byd delfrydol, rwy'n credu yr hoffem ni i gyd weld gofalwyr yn cael eu talu mwy, ond mae'r sefyllfa ariannol heriol yn gwneud hynny'n anhygoel o anodd, ac rwy'n cydnabod ei bod hi'n arbennig o heriol mewn ardaloedd gwledig.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cawsom ni'r ffigurau amseroedd aros yma yng Nghymru, a ddangosodd yn anffodus gynnydd arall o ran pobl sy'n aros ar restrau aros y GIG. Mae ychydig yn llai nag 800,000 o driniaethau ar y rhestrau aros hynny erbyn hyn ac mae dros 600,000 o bobl yn aros i gael un neu ddwy o'r triniaethau hynny mewn unrhyw ysbyty neu feddygfa ddydd sydd gennym ni yma yng Nghymru. Rwyf wir yn canmol y Prif Weinidog am gyflwyno'r cynnig hwn a gyhoeddodd Jo Stevens yng nghynhadledd y Blaid Lafur ddoe. Yr hyn rwy'n ei resynu yw na wnaeth y Prif Weinidog a'i phlaid fanteisio ar y cynnig hwnnw ym mis Awst 2023. Rwy'n cydymdeimlo â'r 50,000 o bobl ychwanegol sydd wedi ymuno â'r rhestrau aros hynny yng Nghymru yn y cyfamser. Mae pum deg mil o bobl ychwanegol ar restr aros yma yng Nghymru oherwydd eich bod chi wedi gwrthod manteisio ar y cyfle hwnnw o'r cynllun ail gynnig ym mis Awst 2023. Pam, heddiw, mae'r cynllun hwnnw yn addas i fynd i'r afael â'r rhestrau aros ac nad oedd ym mis Awst 2023?

Fe ddywedaf i wrthych chi pam: mae oherwydd nad oedd yn gynnig difrifol. Nid oedd Steve Barclay wedi cysylltu â ni am flwyddyn gyfan, cafodd gyfarfod pum munud, a'r diwrnod wedyn aeth ar y cyfryngau i sgorio pwynt gwleidyddol. Nid yw hynny'n datblygu ymddiriedaeth rhwng dwy Lywodraeth. Nid dyna'r ffordd o gydweithredu. Nid oedd unrhyw fwriad ffug o'n hochr ni. Pe bawn i'n meddwl am funud eu bod nhw o ddifrif, byddwn i wedi ei dderbyn heb feddwl ddwywaith, ond roedden nhw'n chwarae gemau gwleidyddol, ac nid dyna'r ffordd rydym ni'n gweithio.

Roedd yn gynnig difrifol, Prif Weinidog, ond yn anffodus, mae 50,000 o bobl wedi ymuno â'r rhestrau aros hynny yma yng Nghymru. Rwy'n gallu cofio codi gyda'r Prif Weinidog mewn sesiynau blaenorol a oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i fanteisio ar y cynllun ail gynnig a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol ddechrau'r 2000au oherwydd bod amseroedd aros mor wael bryd hynny yma yng Nghymru. Ond rydych chi'n dweud ei fod yn gynnig difrifol a gyhoeddwyd yng nghynhadledd y Blaid Lafur ddoe; os yw'n gynnig difrifol, faint o gleifion fydd yn elwa o'r cynnig a pha arian fydd yn gadael Cymru i brynu'r capasiti hwn y bydd yn rhaid i fyrddau iechyd ddod o hyd iddo? Ac a fydd yn cael ei gyfyngu i arosiadau penodol fel orthopedig, neu a fydd yn berthnasol i'r holl amseroedd aros ar draws y gwasanaeth iechyd cyfan yma yng Nghymru?

Yn gyntaf oll, pe bai'n gynnig difrifol, nid oedd unrhyw gamau dilynol iddo. Dim byd. Dim byd o gwbl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod hefyd mai dim ond os oes gennych chi gapasiti y gallwch chi wneud ail gynnig, ac yn Lloegr ar y pryd, nid oedd y capasiti ar gael. Rwyf i wedi cael sgwrs dros y penwythnos gyda Wes Streeting. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhannu arferion gorau. Maen nhw ar fin dechrau cyflwyno'r 40,000 o apwyntiadau ychwanegol hynny yr wythnos trwy gau'r bwlch hwnnw i bobl sy'n byw y tu allan i'r wlad. Byddwn ni'n cael canran o hynny. Ond y peth allweddol yma yw, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod pobl Cymru—rydych chi wedi gweld eu hymateb—yn awyddus iawn i ni weithio gyda'n gilydd. Dyna beth maen nhw eisiau ei weld. A'r ffaith yw, eisoes, mae lefel o gydweithrediad. Er enghraifft, eisoes, os oes gan bobl yn Lloegr daflodau hollt neu os oes angen cymorth penodol arnyn nhw o ran llosgiadau neu lawdriniaeth blastig, maen nhw'n dod i Gymru mewn gwirionedd. Felly, mae'n system ddwy ffordd, hon. Ac ar ben hynny, y peth a oedd o ddiddordeb arbennig iddyn nhw oedd gweld sut rydym ni eisoes wedi dechrau gwneud y newidiadau o ran y newid i ofal sylfaenol, i gymorth yn y gymuned. Mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn gweld sut rydym ni eisoes wedi newid y contract optometreg, sut rydym ni eisoes yn rhoi cymorth ychwanegol o ran fferylliaeth. Felly, gallan nhw ddysgu gennym ni a gallwn ni ddysgu ganddyn nhw, ac nid yw hynny'n beth gwael o gwbl.

13:50

Rwy'n credu ein bod wedi gweld y gweithio ddwy ffordd hynny o dynnu taliad tanwydd y gaeaf yn ôl, lle mae Aelodau Llafur wedi bod yn hollol dawel ac eto bydd 400,000 o gartrefi yn colli'r taliad hwnnw eleni, gan gostio £110 miliwn i bensiynwyr Cymru. Ond gofynnais gwestiwn syml i chi, Prif Weinidog, ac mewn ymateb i'm cwestiwn cyntaf, fe wnaethoch chi ddweud nad oedd yn gynnig difrifol gan Steve Barclay ym mis Awst 2023. Wel, os yw eich un chi yn gynnig difrifol, pam na wnaethoch chi roi i mi nifer y cleifion sydd o bosibl—? Nid wyf i'n gofyn am y claf sengl agosaf, rwy'n gofyn am y capasiti posibl yr ydych chi a Llywodraeth San Steffan wedi asesu a allai fod ar gael; y gost bosibl y gallai hynny ei chreu; ac a fydd y cynnig hwn wedi'i gyfyngu i arosiadau penodol fel orthopedig neu lygaid neu unrhyw gyflwr arall y gallech chi gredu bod yn rhaid i'r GIG ymdrin ag ef. Mae'r rheini'n dri chwestiwn syml y mae pobl ar restrau aros yn eu pendroni, o ran a fydd y cynnig hwn o fudd iddyn nhw. Fel y dywedais i, rwy'n credu ei bod hi'n ffordd synhwyrol a blaengar o fynd i'r afael ag amseroedd aros yma yng Nghymru, ond hoffwn weld ei sylwedd, fel arall bydd pobl yn edrych arno dim ond fel gimig cysylltiadau cyhoeddus a lansiwyd yng nghynhadledd y Blaid Lafur ac, ar yr adeg hon mewn chwe mis, bydd gennym ni'r amseroedd aros cronig hynny yma yng Nghymru o hyd.

Rydym ni wedi dechrau'r sgwrs, byddwn ni'n cyflwyno'r manylion yn yr wythnosau i ddod. Rydym ni'n awyddus i aros i glywed sut fydd y gyllideb nesaf yn edrych, a fydd yn rhoi syniad i ni o faint fydd yn dod o ganlyniad i gau'r bwlch hwnnw i'r bobl hynny sydd ddim yn byw yn y wlad, y gwnaethoch chi adael iddyn nhw osgoi talu trethi. Eich Llywodraeth chi oedd yn gyfrifol am hynny. Rydym ni mewn sgwrs. Mae Wes Streeting yn awyddus iawn i ddod i weld pethau yma, ac rydym ni'n ddifrifol iawn. Eisoes, y ffaith yw ein bod ni'n cydweithredu ac yn edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud, yn enwedig yn ardal y gogledd.

Yr wythnos diwethaf, gwelsom y Prif Weinidog yn golchi ei dwylo o'i chyfrifoldeb i sefyll dros Gymru mewn ffordd gwbl ryfeddol, mae'n rhaid i mi ddweud. Cofiwch, ers misoedd, y dywedwyd wrth bobl y byddai cael dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, un ym Mae Caerdydd ac un yn San Steffan, yn gweddnewid pethau i Gymru—partneriaeth mewn grym, mae'n ei galw bellach. Ond pan ofynnodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams iddi ofyn am gymorth gan Lywodraeth Lafur y DU i fynd i'r afael â thlodi plant, dywedodd:

'Dyma'r ffordd y mae'n gweithio: gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch ASau lleol ofyn i Keir Starmer.'

Pan nad yw Prif Weinidogion yn credu mai eu cyfrifoldeb nhw yw sefyll dros Gymru, mae rhywbeth difrifol o'i le. O gofio na fyddai'n gwneud yr hyn sydd ei angen, ysgrifennais at bob AS, ac edrychaf ymlaen at eu hymatebion. A hoffai esbonio nawr sut mae'r sylw hwnnw ganddi yn cyd-fynd â'i hegwyddor partneriaeth mewn grym, neu a yw'r bartneriaeth yn golygu dim ond cytuno â beth bynnag y mae Keir Starmer ei eisiau, hyd yn oed os yw hynny'n cynnwys torri taliad tanwydd y gaeaf?

Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi rhoi gwers i chi ar sut mae datganoli yn gweithio yr wythnos diwethaf; a oes rhaid i mi wneud hyn bob wythnos? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod meysydd yr wyf i'n gyfrifol amdanyn nhw, ac mae wedi bod yn braf iawn gweithio gyda Phlaid Cymru ar ddarparu pethau fel y prydau ysgol am ddim. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddull cadarnhaol iawn o fynd i'r afael â materion fel tlodi plant. Mae'n ganlyniad uniongyrchol, ond mae'n rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth. Ceir meysydd eraill nad ydyn nhw o fewn ein rheolaeth. Wrth gwrs, gallwn ni gael sgyrsiau gydag arweinwyr ein pleidiau, a'r peth gwych yw y gallaf i gael sgyrsiau gydag arweinydd fy mhlaid, sy'n Brif Weinidog Prydain erbyn hyn. Nid yw hynny yn rhywbeth y bydd arweinydd Plaid Cymru byth yn gallu ei wneud.

13:55

Diolch yn fawr iawn am y wers. Mae'n ddefnyddiol iawn i'n hatgoffa, wrth gwrs, o sut y gall datganoli weithio pan fydd Plaid Cymru yn dod at y bwrdd i berswadio Llafur i wneud rhywbeth y gwnaethon nhw bleidleisio yn ei erbyn dro ar ôl tro, sef cyflwyno prydau ysgol am ddim. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu eich perswadio a gweithio gyda'n gilydd. Dyna sut y gall datganoli weithio.

Fe wnaeth hi wir godi stêm yr wythnos diwethaf ar ôl y sylw 'cysylltwch â'ch AS' rhyfedd yna. Aeth ymlaen wedyn, mewn cyfweliad ar ITV, i ddweud nad oedd ganddi ddim mwy o ddylanwad dros Keir Starmer na'r hyn sydd ganddi dros Donald Trump. Mae'n symud rheoli disgwyliadau i lefel hollol newydd. Fe wnaeth rhai pobl benderfynu, a dweud y gwir, bod yn garedig trwy ddweud, 'O leiaf mae hi'n bod yn onest.' Ar y naill law, fodd bynnag, mae hi eisiau ymhellbau oddi wrth Starmer; ar y llaw arall mae hi'n hapus i'w amddiffyn ar doriad taliad tanwydd y gaeaf. Nawr mae hi eisiau allanoli'r GIG yng Nghymru iddo. Yn union fel yr oedd y toriad i daliadau tanwydd y gaeaf yn syniad a gyflwynwyd gyntaf gan y Torïaid, ac a gyflawnwyd wedyn gan Lafur, roedd cynllun trawsffiniol diweddaraf y GIG hefyd yn gynnig gan Ysgrifennydd iechyd Torïaidd, ond yn fwy fel sarhad ar y modd y gwnaeth Llafur ymdrin â'r GIG na dim. Ond nawr mae Llafur yn bwrw ymlaen ag ef eu hunain.

Byddan nhw'n rhannu arferion da, rydym ni'n clywed, ac mae hynny'n sicr yn beth da. Fodd bynnag, nid oes unrhyw fanylion. Ac onid oes eironi enfawr mai deintyddiaeth yw'r peth a nodwyd fel llwyddiant mawr yng Nghymru? Mae'n eironi na fydd yn cael ei fethu gan bawb nad ydyn nhw'n gallu cofrestru gyda deintydd GIG. Ond o gofio bod y Prif Weinidog yn awyddus i feio pawb ond hi ei hun am gyflwr GIG Cymru, gan gynnwys dechrau ffrae gydag arweinwyr y GIG dim ond yr wythnos diwethaf, os yw ei chynllun i ddysgu gan GIG yn Lloegr sydd mewn argyfwng yn methu, pwy wnaiff y Prif Weinidog ei feio bryd hynny?

Mae'n ymddangos bod gen i fwy o ddylanwad nag yr oeddwn i'n ei sylweddoli. Rwyf i wedi bod mewn grym ers 48 diwrnod, ac mae Prif Weinidog Prydain eisoes wedi ymweld â Chymru yn benodol, a thros y penwythnos, cefais gyfle i siarad gyda Keir Starmer, gyda Rachel Reeves, gyda Wes Streeting, gydag Ed Miliband, gydag Andy Burnham, gyda Sadiq Khan—roedd pob un o'r bobl hyn yn awyddus iawn i drafod gyda ni ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd. Dyna yw dylanwad, ac mae'n wych sylweddoli mai dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi.

Mae hefyd yn bwysig, rwy'n credu, cydnabod nad oes gennym ni fonopoli o ran syniadau da. Ond o ran deintyddiaeth, rydych chi'n gwbl gywir, mae gennym ni ffordd bell i fynd, ond rydym ni wedi dod yn bell iawn, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi llwyddo i gyflwyno bron i 400,000 o apwyntiadau cleifion newydd i'r GIG yn rhywbeth y dylid ei ddathlu, rwy'n credu. Os ewch chi i Loegr, mae gennych chi ddiffeithdiroedd llwyr o ran deintyddiaeth. Rydym ni'n annog pobl i fynd i hyfforddi mewn ardaloedd gwledig. Allwn ni ddim gorfodi deintyddion i weithio i'r GIG, ond mae'r ffaith bod y contract newydd hwnnw wedi darparu cynifer â hynny mewn dwy flynedd, rwy'n credu, yn gam sylweddol ymlaen, ac mae'n llawer gwell nag unrhyw beth y llwyddodd y Torïaid i'w wneud yn Lloegr o dan Brif Weinidog blaenorol y DU.

Mae 'rydym ni'n well na'r Torïaid' wir yn far eithriadol o isel, os caf i ddweud. Ac nid yw brolio enwau'r rhai rydych chi wedi bod yn sgwrsio â nhw yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn cael unrhyw argraff arnaf i. Mae'n hawdd i chi siarad. 'Da yw dweud ond gwell yw gwneud' sy'n berthnasol o ran yr hyn yr ydym ni ei eisiau gan y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Mae dewis deintyddiaeth, os caf i ddweud, fel enghraifft o lwyddiant Llafur yng Nghymru yn rhyfeddol. Efallai ei bod hi’n gallu dewis rhyw ystadegyn neu ddau sy'n swnio’n dda, ond mae hi’n gwybod, siawns, mai canfyddiad pobl yn gyffredinol ydy bod deintyddiaeth NHS yng Nghymru ar ei liniau. Mi wnaeth yna ddeintyddfa arall yn fy etholaeth i gau ei drysau i driniaethau NHS yr wythnos diwethaf. Datganiad dechrau cynhadledd oedd hwnnw am gydweithio ar yr NHS, wrth gwrs, rhywbeth i dawelu’r dyfroedd yn fewnol.

Ymgais arall, wrth gwrs, i dawelu’r dyfroedd oedd i ohirio pleidlais yn y gynhadledd ar daliadau tanwydd y gaeaf—cynnig gan undebau i wrthdroi penderfyniad creulon Keir Starmer a Rachel Reeves. Roeddwn i'n darllen yn gynharach eiriau gan Weinidog busnes Llafur, Jonathan Reynolds, am y taliad gaeaf. ‘Doedd yna ddim dewis ond gwneud hyn’ meddai fo. Ond wrth gwrs bod yna ddewis, a dyna ydy'r pwynt. Mae Llafur yn defnyddio’r gair ‘newid’ yn aml iawn y dyddiau yma, ond er mawr siom i gymaint o gefnogwyr Llafur yng Nghymru, ai y gwir amdani ydy mai dewis efelychu polisi llymder y Ceidwadwyr ydy'r ffordd amlycaf mae Llafur wedi newid?

Rwy'n canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Cyflwynais yr wythnos diwethaf beth yw'r blaenoriaethau hynny ar ôl yr ymarfer gwrando hwnnw. Rydych chi'n iawn; mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau, a'r dewisiadau yr ydym ni wedi eu gwneud yw'r dewisiadau yr wyf i'n credu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r bobl. Mae'n ddiddorol iawn edrych ar rai o'r dewisiadau y mae arweinydd Plaid Cymru wedi eu gwneud. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae wedi sôn am Keir Starmer 21 o weithiau a—

14:00

Efallai mai fe yw Prif Weinidog y DU, ond Senedd ddatganoledig yw hon, a'r pethau sy'n bwysig i'r bobl yng Nghymru—[Torri ar draws.] O, mae'n—

Mae angen i mi glywed ateb y Prif Weinidog i'ch cwestiynau. [Torri ar draws.] Mae angen tawelwch arnaf i glywed y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda.

Mae gen i ddiddordeb mewn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobl. Mae gen i ddiddordeb mewn siarad am iechyd. Mae gen i ddiddordeb mewn siarad am addysg. Mae gen i ddiddordeb mewn siarad am yr economi. Rydych chi wedi sôn am Keir Starmer 21 o weithiau. Rydych chi wedi sôn am restrau aros wyth gwaith. Dyna lle mae eich blaenoriaeth chi. Rydych chi wedi sôn am ysgolion unwaith. Ai dyna yw eich blaenoriaeth? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl Cymru yn gwybod, mewn gwirionedd, eich bod chi'n canolbwyntio llawer mwy ar yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan nag yr ydych chi ar sut y gallwn ni sicrhau newid yma. Tata—unwaith. Unwaith rydych chi wedi sôn am Tata. Rwy'n credu bod pobl Cymru yn gwrando, a does ganddyn nhw ddim diddordeb yn eich ymosodiadau ar Keir Starmer. Maen nhw eisiau i ni ddatrys yr hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau.

Llyr Gruffydd, gofynnwch eich cwestiwn yn hytrach na gwneud rhyw sylw rhagarweiniol.

Y Diwydiant Dofednod

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y systemau cynllunio a thrwyddedau sy'n rheoleiddio'r diwydiant dofednod? OQ61580

Mae'r systemau cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol yn gweithredu o dan fframweithiau statudol ar wahân. Yn unol â’r rheoliadau trwyddedu amgylcheddol, rhaid i unedau gyda mwy na 40,000 o lefydd i ddofednod gael trwydded i weithio. Bydd angen caniatâd cynllunio i ddatblygu’r rhan fwyaf o unedau dofednod ar raddfa fawr.

Diolch ichi am hynny. Mi fyddwch chi efallai yn ymwybodol fod gofynion lles newydd yn cael eu cyflwyno gan archfarchnadoedd sy'n golygu bod angen mwy o le ar ddofednod mewn unedau o'r fath. Nawr, mae hynny yn berffaith deg, ond mae e yn golygu bod angen mwy o siediau, wrth gwrs, i gynnal yr un nifer o ieir a'r un lefel o gynhyrchiant—dim mwy o ieir, dim mwy o dail, dim mwy o draffig, ond mae angen siediau ychwanegol. Ond mae'r impasse, wrth gwrs, rŷn ni'n gweld o fewn y gyfundrefn gynllunio ar hyn o bryd yn ei gwneud hi'n annhebygol y bydd y siediau newydd yna yn gallu cael eu codi mewn pryd i gwrdd â'r gofyn, ac mae hynny yn mynd i danseilio y ffermydd yna sy'n ddibynnol ar y gallu i ddarparu dofednod, ac yn wir mae e'n broblemus i'r proseswyr bwyd hefyd, sy'n dibynnu. Mae un cwmni wedi dweud wrthyf i eu bod nhw angen 24 sied ychwanegol dim ond i gynnal cynhyrchiant presennol, nid i gynyddu yr hyn sy'n cael ei gynhyrchu. Nawr, yr eironi fan hyn yw, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn buddsoddi yn rhai o'r cynhyrchwyr bwyd yma ac yn buddsoddi yn rhai o'r proseswyr bwyd yma, a fydd, os nad ydyn nhw'n gallu cael y throughput, yn gorfod symud o Gymru. Felly, y cwestiwn yw: beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y broblem yma yn cael ei datrys a bod y bobl yma sydd angen y siediau ychwanegol yma yn gallu cael penderfyniadau buan mewn pryd i gwrdd â'r gofynion flwyddyn nesaf?

Diolch yn fawr. Wel, rydym ni'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n adolygu'r rheoliadau o ran gorfodi gwasgaru deunyddiau organig ar dir yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n mabwysiadu dull rhagofalus o ymdrin â'r sefyllfa. Roeddem ni'n trafod llygredd yn ein hafonydd yr wythnos diwethaf, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, i ni gael hyn yn iawn. A'r hyn yr wyf i'n ei gydnabod yw bod nifer o drwyddedau sydd yn y broses gynllunio a'u bod yn cael eu hatal ar hyn o bryd, ond rwy'n credu'n sicr mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw bod rheolaeth dros adolygiad rheoliadau llygredd amaethyddol, ac rwy'n falch o ddweud bod Dr Susannah Bolton wedi cael ei phenodi i swydd y cadeirydd. Rwy'n credu bod honno'n garreg filltir bwysig i sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn ffordd gydweithredol. Y gwir amdani yw bod 44 y cant o'n hafonydd mewn statws ecolegol da. Nid yw'n ddigon, ond mae'n dair gwaith yn fwy na Lloegr. Mae llawer iawn i'w wneud, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni aros tan ein bod ni'n gwybod yn union beth yw'r peth iawn i'w wneud er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym ni'n gweld mwy o lygredd yn ein hafonydd nag sy'n angenrheidiol.

14:05

Prif Weinidog, yn debyg iawn ond ar bwnc gwahanol i Llyr Gruffydd, rwy'n falch iawn bod gennym ni rai o'r safonau lles anifeiliaid gorau oll o ran dofednod yng Nghymru ac ar draws y DU. Nawr, o dan y ddeddfwriaeth bresennol, os gorfodir adar i gael eu cadw i mewn am gyfnod sy'n fwy nag 16 wythnos—gan ddigwyddiadau fel ffliw adar, er enghraifft—mae ffermydd maes yn colli eu statws maes. Dyna'r sefyllfa bresennol. Cynhaliodd Llywodraeth y DU dros Loegr a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd gyda'i gilydd i newid y ddeddfwriaeth honno fel na fyddai ffermydd yn colli'r statws hwnnw pe bai adar yn cael eu cartrefu oherwydd ymyrraeth Llywodraeth. Ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru fabwysiadu dull gwahanol iawn ar hynny a phenderfynu peidio â bod yn rhan o'r broses honno. Ac nid yw fy nghwestiwn i yn ymwneud cymaint â'r hyn sy'n gywir ac yn anghywir am hynny, ond y broblem yw, os yw Cymru yn mabwysiadu gwahanol ddull i weddill y DU, yna mae ffermwyr dofednod Cymru yn mynd i fod o dan anfantais. Bydd dryswch sylweddol hefyd i'r defnyddiwr.

Felly, Prif Weinidog, tybed a ydych chi'n ymwybodol o hyn, ac os ydych chi, a allwch chi nodi pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru fabwysiadu gwahanol ddull? A ydych yn cytuno â mi ac yn cydnabod y byddai'n llawer gwell cael safbwynt y DU gyfan ar y mater hwn? Ac, yn drydydd, a wnewch chi gytuno i drafod y mater hwn gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, yr wyf i wedi gohebu ag ef ar y mater hwn hefyd?

Byddwn yn hapus iawn i siarad â fy nirprwy am y mater hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod gennym ni ddealltwriaeth drylwyr o'r sefyllfa honno o ran statws maes, felly byddwn yn ymchwilio i hynny.

Mae tail ieir yn cynnwys lefelau uchel o nitrogen a ffosfforws. Mae'n wrtaith gwych ar gyfer cnydau. Pan fydd y maetholion yn cyrraedd dyfrffyrdd, gallan nhw arwain at dwf gormodol algâu, gan amddifadu'r afon o ocsigen. Gan fod siediau ieir yn cynhyrchu llawer iawn o dail, dywedir wrthyf i fod rhai ffermwyr wedi bod yn ei wasgaru ar gaeau fel gwrtaith. Pa gamau sy'n cael eu cymryd yn y system gynllunio a thrwyddedau i sicrhau nad yw tail ieir yn cyrraedd afonydd ac yn achosi ewtroffigedd?

Diolch yn fawr iawn, a dyma'n union pam mae'r moratoriwm hwnnw gennym ni. Mae'n union i wneud yn siŵr bod ffordd briodol o wneud yn siŵr nad yw'r tail yn cyrraedd ein hafonydd. Mae'n broblem wirioneddol; nid yw'n broblem i afonydd yn unig, mae ganddo oblygiadau enfawr hefyd ar gyfer tai a chynllunio a'r holl bethau eraill hyn. Mae'n rhaid i ni gael hyn yn iawn, ond tra ein bod ni'n ei gael yn iawn, yr hyn fyddai'r peth anghywir i'w wneud yw parhau i ganiatáu i fwy a mwy o'r cyfleusterau hyn ddatblygu, tan ein bod yn eglur ynghylch sut rydym ni'n atal y llygredd rhag parhau. Felly, diolch i chi am y cwestiwn yna.

Lleihau Rhestrau Aros y GIG

4. Pa dargedau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG? OQ61566

Ein blaenoriaeth ar gyfer iechyd da, Cymru iachach, yw cwtogi amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau'r GIG. Rydyn ni wedi ei gwneud yn eglur i fyrddau iechyd beth yw ein disgwyliadau ar gyfer gostyngiadau i amseroedd aros, ac maen nhw wedi'u nodi yn y cynllun adfer gofal a gynlluniwyd. Ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i gyflawni'r rhain.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Fel yr ydym ni eisoes wedi clywed yn y Siambr yma y prynhawn yma, mae llawer ohonom ni'n synnu at yr hyn yr ydym ni'n ei glywed yn dod o gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl yn ystod y dyddiau diwethaf, a gadewch i ni atgoffa ein hunain bod y Prif Weinidog yng Nghymru a Llafur Cymru yn cymryd syniadau Ceidwadol, yn datgan eu bwriad i weithio gyda Llywodraeth y DU ar dorri rhestrau aros a defnyddio sectorau eraill i leddfu'r baich ar y GIG. Ac er ein bod ni'n croesawu'r newid dull hwn, yn hudolus, yn ddiweddar, mae'n rhaid bod pryder ar eich meinciau eich hun, Prif Weinidog, eich bod chi efallai troi'n Brif Weinidog Ceidwadol cyntaf Cymru, ac mae'n hanfodol bod gan unrhyw gynllun yr ydych chi'n ei roi ar waith yn gweithio gyda Llywodraeth y DU dargedau cadarn a chanlyniadau os na fydd y targedau hynny'n cael eu cyrraedd. Felly, Prif Weinidog, fel y gwnaethoch chi ddisgrifio ychydig funudau yn ôl, cynnig difrifol sydd gennych chi ar y bwrdd nawr, a allwch chi amlinellu i ni beth fydd yn digwydd os na fydd y targedau pwysig hynny yn cael eu cyrraedd, ac a ydych chi'n chwilio yma am sefydliad arall i'w feio fel y gwnaethoch chi gyda'r byrddau iechyd yr wythnos diwethaf?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir, mae'r GIG yng Nghymru mewn sefyllfa anodd. Rydym ni i gyd yn gwybod hynny. Mae'r galw yn anhygoel. Hynny yw, y ffaith y bu mwy nag 1.5 miliwn o atgyfeiriadau i ysbytai mewn blwyddyn, mwy na hanner poblogaeth Cymru. Mae'n gwbl, gwbl ryfeddol, ac mae llawer o'r bobl yr wyf i'n eu hadnabod ddim yn mynd i'r ysbyty, felly mae'n rhaid mai'r un bobl yn mynd drosodd a throsodd yw'r rhain. Mae galw enfawr am y gwasanaeth, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod, pan eich bod chi wedi cael cyni cyllidol am gyhyd ag yr ydym ni wedi ei gael, yna mae hynny'n mynd i fod yn her. Ond gadewch i ni beidio ag esgus bod gan y Torïaid record wych yn Lloegr. Mae gennych chi dros 7 miliwn o bobl ar restrau aros yn Lloegr, ac rwy'n credu ei bod hi, felly, yn briodol i ni edrych ar le mae'r cyfleoedd i ni weithio gyda'n gilydd. Mae'r amseroedd aros hiraf yng Nghymru wedi gostwng 66 y cant o'u lefel uchaf ym mis Mawrth 2022, a 21 wythnos yw'r cyfnod aros cyfartalog i'r 1.5 miliwn o bobl hynny.

14:10

Prif Weinidog, anadl einioes y gwasanaeth iechyd gwladol a grëwyd gan Lywodraeth Lafur Attlee yw ei weithlu ymroddedig. Un o'r gweithredoedd cyntaf un yn eich gweinyddiaeth, Prif Weinidog, oedd derbyn argymhellion cyrff cyflogau annibynnol yn llawn, sy'n golygu y bydd nyrsys a staff gwasnaeth iechyd gwladol yn cael y 5.5 y cant hwnnw, ac mae meddygon iau wedi pleidleisio i dderbyn 7.4 y cant yn ychwanegol, cynnydd sy'n dod i gyfanswm o 12.4 y cant ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24. Mae'r rhain yn weithredoedd cadarn, ac maen nhw'n dangos yn eglur bod Llywodraeth Lafur Cymru yn deall pwysigrwydd y gweithwyr sy'n ganolog i'n gwasanaeth iechyd. Prif Weinidog, pa gyfleoedd sydd o'n blaenau ar gyfer lleihau amseroedd aros y GIG yng Nghymru gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio'n agos gyda staff y GIG, ochr yn ochr â Llywodraeth Lafur y DU sy'n deall pwysigrwydd sylfaenol y GIG i'n pobl a'n cenedl?

Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Rydych chi'n gwbl gywir, roedd y ffaith ein bod ni wedi gallu gwneud y cynnig hwnnw oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan erbyn hyn. Roedd hynny'n flaenoriaeth, ac oherwydd iddyn nhw ei ddyfarnu yn Lloegr yn llawn, gan gydymffurfio ag argymhellion y corff adolygu cyflogau annibynnol, roedd hynny'n golygu ein bod ni'n gallu gwneud yr un peth. Mae hynny'n dangos bod y GIG yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur, ac mae'n gwbl gywir bod staff y GIG yn cael eu gwobrwyo, yn enwedig pan fyddwch chi'n gweld y math o bwysau sydd arnyn nhw.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn werth pwysleisio bod llawer o'r bobl sy'n defnyddio'r GIG, mewn gwirionedd, yn oedrannus. Rydych chi'n gwbl gywir, mae problem ynglŷn â gwneud penderfyniadau, ond mae hwn yn benderfyniad sydd mewn gwirionedd yn helpu'r henoed i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'n rhaid i ni i gyd wneud y penderfyniadau anodd hynny. Rydym ni'n gwybod bod toriad tanwydd y gaeaf yn mynd i fod yn anodd i bobl, ond maen nhw hefyd eisiau cymorth yn y GIG, a dyna'r hyn y mae'r dyfarniad cyflog hwn yn ei ddarparu.

Cynllun Arbed

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer ar eiddo yr effeithir yn andwyol arnynt gan gynllun Arbed yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? OQ61578

Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £2.65 miliwn o gyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer gwaith adfer ar gartrefi a effeithiwyd. Disgwylir i'm swyddogion gyfarfod â nhw ddechrau mis nesaf i adolygu'r cynnydd a wnaed ar y gwaith paratoi ar yr eiddo a effeithiwyd.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. 

Mae hwn, wrth gwrs, yn fater sydd wedi bodoli'n gyson ers dros ddegawd ac wedi bod ar draws desgiau pedwar Prif Weinidog erbyn hyn. Mae'n sefyllfa annerbyniol i fod ynddi. Nid oes diwrnod wedi mynd heibio yr haf hwn heb i etholwr gysylltu â mi ynghylch diffyg cynnydd, diffyg eglurder a diffyg tryloywder y prosiect hwn, ac mae'r frwydr yn parhau i lawer o drigolion am fargen deg. Pan godais i hyn gyda'ch rhagflaenydd, dywedodd y byddai angen i Lywodraeth Cymru weld a oes ateb yn y dyfodol i'r perchnogion cartrefi unigol. Nawr, rwy'n falch bod eich swyddogion yn cyfarfod â swyddogion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond rwyf i hefyd eisiau gofyn am ymrwymiad gennych chi heddiw i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn a gweld bod preswylwyr yn cael yr iawndal a'r cymorth y maen nhw'n eu haeddu. Yn bwysicach fyth, yn y presennol uniongyrchol, mae trigolion yn haeddu gweld y problemau a achoswyd gan y cynllun yn cael eu datrys cyn gynted â phosibl a therfyn ar addewidion ffug. I grynhoi: mae fy etholwyr wedi blino, maen nhw wedi cael llond bol, ac maen nhw'n haeddu gwell.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n deall rhwystredigaeth eich etholwyr yn llwyr. Nid oedd hwn yn fodel o'r ffordd yr oeddem ni eisiau i'r prosiect penodol hwn weithio. Mae'n fecanwaith o inswleiddio waliau allanol; effeithiwyd ar 104 o gartrefi. Roedd hynny oherwydd crefftwaith gwael, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu, fel Llywodraeth, nad oes cyfrifoldeb ffurfiol na chyfreithiol arnom i ni gywiro'r sefyllfa, ond y gwir amdani yw ein bod ni wedi cyfrannu £2.6 miliwn i helpu cyngor Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cywiro'r gwaith hwnnw. Felly, rwy'n gwybod bod y gwaith eisoes wedi dechrau a bod cyfleoedd i bobl weithio gyda'r cyngor i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cywiriadau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cartrefi.

14:15

Prif Weinidog, rwy'n eich clywed chi'n dweud eich bod yn deall rhwystredigaeth pobl Caerau ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei alw'n grefftwaith gwael a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, ond a ydych chi'n deall rhwystredigaeth pobl Caerau ynglŷn â sut y daethom i'r sefyllfa hon? Felly, dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwaith hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru, i gwmni o'r enw Green Renewable Wales, cwmni oedd â chynghorydd Llafur lleol Caerau ac aelod o gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyfarwyddwr. Nid yw'n glir faint o ddiwydrwydd dyladwy a wnaed ynghylch priodoldeb penodiad y cwmni hwn, ond mae'r ffaith iddo gael ei ddiddymu yn ôl yn 2017 wedi gwneud adennill yr arian y sonioch chi amdano a gollwyd o Green Renewable Wales bron yn amhosibl. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i adolygiad ffurfiol o'r hyn a ddigwyddodd gyda chynllun Arbed yng Nghaerau a sut y caniatawyd iddo ddigwydd, fel na all rhywbeth fel hyn byth ddigwydd eto?

Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth nad oedd hwn yn fodel yr oeddem yn disgwyl ei weld, ac rwy'n credu bod rhwystredigaeth go iawn wedi bod. Ond rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa nawr lle, yn dilyn trafodaethau, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i gyfrannu £0.8 miliwn i atgyweirio 25 o gartrefi, ac mae Llywodraeth Cymru, fel y dywedais i, wedi awgrymu y byddwn ni'n gwneud cyfraniad o £2.6 miliwn ar gyfer y 79 o gartrefi sy'n weddill. Doedd dim rhaid i ni wneud hynny, ond rydym yn cydnabod rhwystredigaeth llawer o bobl. Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n bwysig—rydych chi'n gwbl iawn—yw bod angen i ni ddysgu gwersi o'r cynnig yma, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Brif Weinidog, wedi bod yn gwneud yn siŵr bod y gwersi'n cael eu dysgu.

Cefnogi'r Sector Gofal Cymdeithasol

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn seiliedig ar ymarfer gwrando'r Prif Weinidog? OQ61582

Rydym wedi gwrando ar bobl Cymru, ac maen nhw wedi bod yn glir bod gwell mynediad at ofal cymdeithasol yn flaenoriaeth iddyn nhw, ac mae hyn wedi atgyfnerthu gwell mynediad at ofal cymdeithasol fel blaenoriaeth barhaus i ni fel Llywodraeth. Mae cynnydd wedi'i wneud, fel y soniais i yn gynharach, ond rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy o ffordd i fynd eto.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'r sector gofal cymdeithasol dan bwysau aruthrol, sydd, fel rydych chi eich hun wedi dweud ar sawl achlysur, yn cael effaith uniongyrchol ar y GIG. Dydy pwysau ychwanegol y newidiadau a ddaw yn sgil Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ddim yn cael ei groesawu gan lawer sy'n ymwneud â'r sector. Er bod bwriad da i'r darn hwn o ddeddfwriaeth, ac rydyn ni i gyd yn cytuno bod angen i ni fynd i'r afael â gorelwa ym maes gofal cymdeithasol, mae'n rym anghymesur i fynd i'r afael â phroblem fach. Yn ôl llawer, bydd yn dargyfeirio adnoddau gwerthfawr i ffwrdd o'r gwasanaethau rheng flaen ar adeg pan ddylent fod yn cynyddu. Bydd hefyd yn effeithio ar gyllidebau adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol sy'n ei chael yn anodd. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi oedi cyn cyflwyno'r Bil hwn a gweithio gyda'r sector i ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â'r rhai hynny sy'n ceisio gorelwa o ofal plant? Diolch.

Na, dydyn ni ddim yn mynd i oedi'r Bil. Rwy'n credu ei fod yn Fil pwysig iawn. A phan glywch chi am y gorelwa mewn cartref yn Lerpwl yr wythnos diwethaf, lle, yn llythrennol, roedd cynghorau yn cael eu gofyn i dalu £20,000 yr wythnos i gefnogi pobl mewn gofal—dydy honno ddim yn sefyllfa sy'n gynaliadwy. Ac mae'n gwbl anghywir i ni weld y math hwnnw o orelwa ac mae'n gwneud synnwyr i ni fuddsoddi yn y maes hwn ar gyfer y cynaliadwyedd hirdymor. Yn fwy na dim, dydy plant ddim eisiau cael eu hystyried yn fecanweithiau ar gyfer gwneud arian. Mae'n sefyllfa ofnadwy, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n myfyrio ar eich gwrthwynebiad i hyn, oherwydd mae'n rhaid i chi feddwl, 'Beth yw'r dewis arall?' Oherwydd, gan barhau i fynd yn y ffordd yr ydym ni, byddwn ni yn y pen draw, fel yr oeddent yn Lerpwl, yn talu swm enfawr, sydd, a dweud y gwir, yn anghynaladwy. A phob tro rydyn ni'n talu am hynny, mae'r arian hwnnw'n cael ei gymryd i ffwrdd o rywle arall yn y cyngor. Mae'n rhaid i ni fod o ddifrif am hyn, ac rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr llwyr i ni newid y model. Mae'n anodd, mae'n mynd i fod yn drawsnewidiad, ond dyma'n sicr yw'r peth iawn i'w wneud.

14:20
Y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi

7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi mewn perthynas â Wrecsam? OQ61570

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar eu hadolygiad gwariant i sicrhau bod cyfleoedd buddsoddi ar gyfer twf a swyddi yng Nghymru, gan gynnwys yn Wrecsam, yn cael blaenoriaeth. 

Diolch. Fe wnaeth y buddsoddiad hwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU a oedd yn ymadael, gipio penawdau, ond prin y bu'n rhaid i chi grafu'r wyneb cyn i glychau larwm ddechrau canu. Roedd y cyllid yn osgoi datganoli, ac efallai y bydd rhai â meddwl mwy sinigaidd yn dod i'r casgliad ei fod yn ymgais gan Lywodraeth a oedd yn methu i geisio gwella cefnogaeth yn rhai o'i hardaloedd allweddol.

Yn amlwg, mae'r Llywodraeth Lafur newydd yn gorfod asesu'r sefyllfa ariannol enbyd y mae wedi'i hetifeddu. Ond, er gwaethaf natur ddadleuol y cyllid hwn, rwy'n gwybod bod aelodau o fwrdd dinas Wrecsam wedi gweithio'n eithriadol o galed, yn aml gan gyflawni terfynau amser ar fyr rybudd, gyda meini prawf a gwybodaeth gyfyngedig ar gael. Yn hytrach na llenwi'r bylchau a helpu'r awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau sylfaenol, rwyf wir yn credu bod cyfle enfawr o hyd i gyflawni rhywbeth arbennig iawn gyda'r cyllid hwn.

Rwy'n ymwybodol bod fy nghydweithwr seneddol Andrew Ranger wedi cyfarfod â Gweinidogion i drafod, ond, gan fod gan Lywodraeth Cymru hanes profedig o fuddsoddi yn Wrecsam ar gyfer yr hirdymor—a ddangosir gan brosiect Porth, gan Trawsnewid Trefi ac, wrth gwrs, y gwaith sy'n mynd rhagddo i adeiladu amgueddfa bêl-droed genedlaethol, bwrpasol—a wnewch chi a'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet bwysleisio i Lywodraeth y DU bwysigrwydd y cyllid hwn yn aros yn Wrecsam?

Diolch yn fawr iawn, Lesley, ac roedd yn wych ymweld â chanol tref Wrecsam gyda chi yn ddiweddar i weld beth sydd eisoes wedi newid o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw yng nghanol y dref, oherwydd mae gennym hanes hir yng Nghymru o'r cyllid Trawsnewid Trefi hwnnw. Rydym wedi buddsoddi £125 miliwn dros dair blynedd i drawsnewid trefi, sy'n bwysig iawn i bobl Wrecsam ac i drefi eraill sydd wedi elwa. Ond dydy e ddim yn gwneud synnwyr i ni i gyd fynd ati mewn ffyrdd gwahanol—felly, os yw Llywodraeth y DU yn gwneud rhywbeth gwahanol mewn ffordd gystadleuol ac mae rhai ar eu colled o ganlyniad i hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid bod ffordd well o wneud hyn mewn partneriaeth. Y gronfa ffyniant bro, dydw i ddim yn credu bod honno wedi gweithio i ni yn y ffordd y dylai fod wedi. Gwnaeth llawer o awdurdodau lleol elwa, ond, Sir y Fflint a Merthyr, chawson nhw mo'r dyfarniad hwnnw. Felly, mae yna bobl, rwy'n credu, a oedd ar eu colled o ganlyniad i hynny.

Yna y gronfa ffyniant gyffredin—. Edrychwch, roedd yn hurt eu bod wedi osgoi Llywodraeth Cymru. Doedd e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. A nawr rydyn ni'n mynd i fod â sefyllfa lle mae dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, gan geisio gwneud eu gorau i ddiwygio ac adolygu ein trefi. A gadewch i ni beidio ag anghofio bod gennym y polisi 'canol tref yn gyntaf' hwnnw sydd wedi'i wreiddio yn ein fframwaith cenedlaethol. Mae'n trawsnewid ein trefi, ond, pe byddem yn gallu gweithio gyda Llywodraeth y DU, byddem yn gallu gwneud cymaint yn fwy.

Credyd Pensiwn

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith pensiynwyr cymwys nad ydynt yn gwneud cais am gredyd pensiwn ar dlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru? OQ61579

Derbyn credyd pensiwn yw'r allwedd i lawer o bobl hŷn yng Nghymru i ddatgloi rhagor o hawlogaethau. Yn ddiweddar, amcangyfrifodd Age UK fod 56,100 o bobl yng Nghymru yn gymwys ond dydyn nhw ddim yn hawlio credyd pensiwn. Trwy gydweithio â Llywodraeth y DU a'n partneriaid, rydym yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn yng Nghymru.

Prif Weinidog, er gwaethaf yr hyn y gallai eich cyd-Aelodau yn eich plaid yn y fan yma ei ddweud i amddiffyn polisi creulon Llafur i ddod â lwfans tanwydd gaeaf cyffredinol i ben, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod y polisi hwn yn un gwael sydd wedi achosi llawer o ofn ymhlith grŵp agored iawn i niwed. Gallwn ni hefyd ragweld mai ei effaith fwyaf tebygol fydd gwthio nifer fawr o bobl oedrannus i dlodi. Fel rydych chi newydd ei grybwyll, rydym wedi gwybod ers peth amser bod llawer o hawlogaethau lles nad ydynt yn cael eu hawlio yng Nghymru, a gellid lleddfu llawer iawn o dlodi pe byddent yn cael eu defnyddio. Felly, Prif Weinidog, pa gynigion sydd gennych i nodi pob pensiynwr yng Nghymru sydd â hawl i gredyd pensiwn a sicrhau bod ganddyn nhw bob cymorth sydd ar gael i wneud cais? Diolch.  

Diolch yn fawr. Yr hyn a wyddom yw y bydd y pensiynwyr tlotaf un yn parhau i gael eu cefnogi, ond rydym yn gwybod hefyd mai'r credyd pensiwn yw'r porth ar gyfer datgloi'r cymorth ariannol hwnnw. Dyna pam, yn Llywodraeth Cymru, mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau bod pobl yn hawlio'r hyn sydd ganddyn nhw hawl iddo, ac rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, am yr holl ymdrechion caled y mae hi wedi'u gwneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o hynny. A'r ffaith ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda Llywodraeth y DU, i gynyddu nifer y bobl sy'n hawlio—. Rydym wedi gweld cynnydd o 115 y cant mewn hawliadau credyd pensiwn yn ystod y pum wythnos diwethaf, o'i gymharu â'r pum wythnos cyn 29 Gorffennaf. Felly, mae'n helpu, y ffaith bod pobl yn ymwybodol ohono. Mae llawer o wybodaeth ar gael, mewn meddygfeydd, mewn llawer o leoedd eraill, ac mae'n bwysig bod y bobl hynny sydd â hawl iddo yn manteisio ar y cyfle hwnnw mewn gwirionedd.

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac mae'r datganiad yna i'w wneud gan y Trefnydd, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:25:54
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar ddyfodol y GIG yma yng Nghymru? Rydym yn gwybod bod y GIG yn wynebu heriau sylweddol yn y gogledd, ond hefyd maen nhw'n mynd y tu hwnt i hynny, i'r wlad gyfan. Comisiynodd Llywodraeth y DU ymchwiliad annibynnol i'r GIG yn Lloegr gan yr Arglwydd Darzi, ac, ar ôl darllen yr adroddiad hwnnw, mae'n gwbl amlwg, ar bron pob un eitem a restrir ynddo, fod y GIG yng Nghymru yn perfformio'n waeth na'r sefyllfa a nodwyd yn Lloegr. Nawr, hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gomisiynu adolygiad annibynnol o'n gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, er mwyn i ni allu datgelu'r problemau a'r anawsterau a'r heriau sydd yno, ac yn olaf, unwaith ac am byth, fynd i'r afael â nhw. Mae gennym saith bwrdd iechyd mewn gwahanol raddau o ymyrraeth Llywodraeth Cymru neu fesurau arbennig. Dydy hynny ddim yn ddigon da. Fyddai hynny ddim yn wir pe byddem yn gallu cael adroddiad annibynnol a fyddai'n rhoi arweiniad i ni o ran sut i ddod allan o'r llanast hwn rydych chi wedi'i greu ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru, ac rydyn ni eisiau gwybod, gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros iechyd, a fydd yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r fath.

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Rydym yn cytuno'n llwyr â'r adolygiad annibynnol diweddar, a gynhaliwyd gan Arglwydd a oedd â sail dystiolaeth sicr, ac, yn wir, Arglwydd Llafur, a welodd drosto'i hun, nid yn unig fel meddyg ei hun, ond hefyd fel Gweinidog iechyd—. Nododd mewn gwirionedd yr holl ragofynion ar gyfer dyfodol cenedl iachach a'r GIG i Gymru ac, yn wir, gweddill y DU. Felly, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi'r adroddiad hwnnw'n fawr. Oherwydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae hyn yn ymwneud ag atal, gofal sylfaenol ac iechyd y cyhoedd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd, nid gwasanaeth salwch, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi ein hysgogi o ran ein buddsoddiad a'n blaenoriaethau yn y gwasanaeth iechyd. Ond rwy'n credu hefyd y byddwch yn falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud datganiad ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf y prynhawn yma yn y GIG, a fydd, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â llawer o'r pwysau ar y GIG yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Mae disgwyl i Gyngor Caerffili benderfynu yfory a fydd yn cwtogi ei wasanaeth pryd ar glud, sy'n cael ei ddefnyddio gan ei drigolion mwyaf bregus. Byddwn yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn nodi'r hyn y gellid ei wneud i helpu i sicrhau y gall llywodraeth leol gynnal y gwasanaethau hyn fel rhai hanfodol. Mae nifer o etholwyr wedi ysgrifennu ataf nid yn unig â phryderon am hyn, ond gydag ofn. Dywedodd un etholwr wrthyf fod ei mam yn dibynnu ar y gwasanaeth hwn i barhau i fyw gartref. Mae hi'n gaeth i'r tŷ, dydy hi ddim yn gallu symud ryw lawer, dydy hi ddim yn gallu mynd at fwyd yn y rhewgell na defnyddio'r microdon. Dywedodd nad dod â bwyd ei mam yn unig y gwna'r staff pryd ar glud—neu Meals Direct—maen nhw'n ei helpu i gadw ei hurddas, maen nhw'n gofalu ei bod yn iawn; pan nad ydyn nhw'n cael ateb, maen nhw'n ffonio'r teulu i wneud yn siŵr ei bod hi'n iawn. Dywedodd, yn ei geiriau hi, 'Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan dimau gofalgar, ymroddedig o bobl sy'n cynnig achubiaeth i fy mam, a'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Nid gwasanaeth dosbarthu yn unig ydyn nhw. Mae'n gywilyddus bod hyn hyd yn oed yn cael ei ystyried.' A allai'r Llywodraeth ymyrryd mewn unrhyw ffordd i sicrhau nad yw'r achubiaeth hon yn cael ei cholli?

Mae cymaint o ffyrdd y mae awdurdodau lleol, ac, yn wir, mewn partneriaeth â'r trydydd sector a grwpiau cymunedol, yn cefnogi llawer o bobl agored i niwed, gan gynnwys dinasyddion hŷn yn y gymuned, gan eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain a defnyddio ystod o wasanaethau, gan gynnwys, o hyd, rai trefniadau o ran yr hyn yr oeddem ni'n arfer ei alw'n 'bryd ar glud'. Ond mae yna lawer o wahanol ffyrdd y maen nhw'n cael eu cyflwyno.

Felly, mae hyn yn bwysig iawn o ran atal—eto, y pwyntiau rydyn ni newydd fod yn eu gwneud—a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi, gan leddfu'r pwysau ar ofalwyr di-dâl hefyd. Felly, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei nodi a'i gydnabod o ran pwysigrwydd y gwasanaethau hyn. Ond mae awdurdodau lleol dan gymaint o bwysau nawr oherwydd cyllid cyhoeddus, oherwydd y twll £22 biliwn y cawsom ein gadael ag ef ar ôl 14 mlynedd o gyni. Ac rwy'n gwybod imi ddweud wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Rwy'n sylwi nad yw'r Prif Weinidog wedi crybwyll y £22 biliwn. Wel, rwy'n sicr yn mynd i fod yn ei grybwyll heddiw, oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn cael effaith ar y mathau hynny o wasanaethau rheng flaen.

14:30

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar, felly hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi pobl fyddar a thrwm eu clyw ledled Cymru. Rwy'n falch iawn mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn y cwricwlwm, gan ei bod mor bwysig bod gan bob plentyn yng Nghymru, sy'n clywed neu beidio, fynediad at addysg ac ymwybyddiaeth ohoni mewn fformatau eraill.

Ond mae rhwystrau yn parhau i fod ar waith i bobl fyddar a thrwm eu clyw ym mhob rhan o gymdeithas, ac rwyf wedi codi o'r blaen y mynediad cyfyngedig iawn, er enghraifft, i gymryd rhan yng ngwaith cyhoeddus y Senedd, a hefyd y broblem o beidio â bod â digon o ddehonglwyr BSL, sy'n achosi problem wirioneddol. Felly, tybed a allem gael datganiad yr wythnos hon ar y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi pobl fyddar a thrwm eu clyw, ac i dynnu sylw at y materion sy'n codi.

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, ac, wrth gwrs, mae hyn yn bwysig iawn o ran y gydnabyddiaeth, rwy'n credu, yn fyd-eang yr wythnos hon, o ran cefnogi pobl fyddar a thrwm eu clyw ledled Cymru. Rwy'n credu mai dyma lle mae Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL, a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, gan ddileu rhwystrau iaith presennol, yn bwysig, gan ein bod wedi cydnabod BSL fel iaith yng Nghymru yn 2004. Ac mae'n bwysig bod y bwriad hwn i ddatblygu uned BSL o fewn y gyfres o gymwysterau sgiliau, ac mae hynny'n rhan o'r cymwysterau cenedlaethol 14 i 16 sydd ar gael i ysgolion a dysgwyr i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, wrth gwrs. Rydym wedi datblygu uned e-ddysgu, ond rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw ymgysylltu, trwy'r tasglu hawliau anabledd, gyda phobl â phrofiad bywyd, i ddysgu, gyda sefydliadau cynrychioliadol, sut y gallwn ni wella'r gwaith o gyflawni gwelliannau i bobl anabl. Ac mae'r tasglu hwnnw, o ran argymhellion, eisoes wedi argymell cynnwys mwy o ddarpariaeth BSL mewn meysydd allweddol fel iechyd, plant a phobl ifanc, mynediad at gyfiawnder, a bydd yn ffurfio camau gweithredu o ran cydraddoldeb i bobl anabl.

Hefyd, mae'n rhaid bod arwyddwyr BSL byddar yn flaenoriaeth. Rwyf am ddweud, ar gyfer y cofnod, Llywydd, bod gennym y safonau Cymru gyfan hyn ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer pobl â nam ar eu synhwyrau. Cafodd hynny ei weithredu mewn gwirionedd yn 2013, ond rwy'n credu bod gennym ffordd bell i fynd i gyflawni hynny. Byddai'n dda pe bai ar gael yn fwy o ran ein hamgylchiadau seneddol yma yn y Senedd, ac yn wir yn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn bartneriaid â nhw, ac yr ydym yn eu hariannu ac yn eu cefnogi yng Nghymru.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi datblygiad llwybrau teithio llesol mewn lleoliadau priodol? Y rheswm am fy nghais heddiw yw'r angen am lwybr teithio llesol sy'n cysylltu Pont-y-pŵl, New Inn, Mamhilad, Little Mill a Brynbuga â'i gilydd. Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan gynghorydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Lanbadog a Brynbuga, Tony Kear, wedi bod ar y gweill ers dros ddegawd, ond eto mae'n ymddangos ei fod wedi arafu. Nid yn unig y bydd y prosiect hwn yn lleihau'r defnydd o geir yn yr ardal, ond byddai'n cysylltu trigolion yn well â safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd pwysig eraill, gan gynnwys ysgolion. 

Mewn ymgynghoriad gan Gyngor Sir Fynwy y llynedd, gofynnwyd i drigolion a fyddent yn fwy parod i deithio ar lwybrau llesol pe bai hwnnw sy'n gyfagos i'r A472 yn cael ei wella neu pe bai un newydd oddi ar y llwybr yn cael ei osod. Dywedodd saith deg un i 88 y cant o'r ymatebwyr yn y drefn honno y byddent yn fwy parod i wneud hynny. Mae'n amlwg bod y cyhoedd yn cefnogi'r prosiect penodol hwn, sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio a chefnogaeth gan wahanol grwpiau a sefydliadau. Fodd bynnag, mae problem o ran perchnogaeth tir ac amryw faterion eraill wedi golygu bod y prosiect wedi methu cychwyn. Felly, byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, sy'n amlinellu yn union pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i ddechrau'r prosiect pwysig hwn, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch.

14:35

Wel, rwy'n falch iawn o adrodd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn dechrau ar hyn. Mae'n ei gydnabod ac mae'n mynd i fwrw ymlaen â hyn. Fel y dywedwch chi, rwy'n credu mai'r peth pwysig yw ei fod yn ymwneud â'r cysylltiad hwn â llwybrau teithio llesol sydd mewn gwirionedd yn gwneud synnwyr i fywydau pobl ac i ddefnyddio ein gwasanaethau cyhoeddus.

A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru wneud y sylwadau cryfaf posibl i Lywodraeth y DU am y sefyllfa dyngedfennol yn Sudan? Mae'r gwrthdaro yno wedi cychwyn argyfwng newyn mwyaf y byd, ac mae mwy na hanner y boblogaeth—miliynau lawer o deuluoedd—bellach yn profi lefelau argyfwng o newyn. Mewn gwirionedd, mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud wrthym fod 0.75 miliwn o bobl bellach ar drothwy newyn. Rwy'n gwybod nad yw polisi tramor, fel y cyfryw, wedi'i ddatganoli i'r Senedd, ond rwy'n teimlo bod gennym ni fel Senedd rwymedigaeth foesol i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ymateb, ar lefel wleidyddol a dyngarol, i achub bywydau'r dynion, menywod a phlant diniwed hynny sydd bellach yn wynebu'r posibilrwydd o farw o newyn. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog, sydd wrth gwrs yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol wrth roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ymyrryd, er mwyn osgoi'r drychineb ddyngarol sydd ar fin digwydd yn Sudan?

Diolch, Llyr Gruffydd, am godi'r mater hwnnw heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig yn y Siambr hon fod y materion rhyngwladol a dyngarol hyn yn cael eu codi. Fel y gwyddoch chi, nid yw wedi'i ddatganoli, ond mae gennym raglen Cymru ac Affrica, yr ydym yn falch iawn o'i chefnogi hyd yn oed ar yr adegau anoddaf; mae'n ymwneud â blaenoriaethau. Ac mae gennym boblogaeth alltud fawr iawn, helaeth o Sudan yn byw yng Nghymru, y mae croeso mawr iddyn nhw, ac y mae eu teuluoedd yn cael eu heffeithio a'u dal yn y sefyllfa yn Sudan. Rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn gofyn i swyddogion ystyried hyn, o ran beth yw'r sefyllfa a beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran yr ymateb i'r argyfwng dyngarol hwnnw.

Hoffwn alw am ddatganiad ar ba drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar gost esgynnol capiau crwyn eirth ffwr go iawn Gwarchodlu'r Brenin, a pha waith sy'n cael ei wneud i ddod o hyd i ddewis amgen addas i ffwr go iawn. Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod cynnydd blynyddol o 30 y cant wedi bod yng nghost y capiau hyn, a phob cap croen arth ffwr go iawn bellach yn costio tua £2,000. A datgelwyd bod £1 filiwn wedi'i wario yn ystod y degawd diwethaf ar rai newydd. Wrth gwrs, y tu hwnt i'r gost ariannol, mae cost foesegol y capiau crwyn eirth hyn, ac mae hynny'n hynod arwyddocaol. Mae'n cymryd y ffwr o un arth ddu i wneud un cap yn unig. Hyd yn hyn, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud nad oes dewis amgen o ffwr ffug addas sy'n bodloni'r pum prawf y mae wedi'u gosod i'w hun ar gyfer dewis arall i groen arth. Fodd bynnag, maen nhw wedi dweud eu bod yn agored i ystyried dewisiadau amgen sy'n defnyddio ffwr llwynogod. Rwy'n awyddus i wybod o'r datganiad yr wyf wedi galw amdano a fu unrhyw gynnydd ar y mater hwn, ac a fydd y Prif Weinidog, neu ei dirprwy, yn codi hyn gyda San Steffan. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb.

Diolch yn fawr, Joyce Watson. Unwaith eto, mae'n bwysig bod materion o'r fath, na fyddai llawer yn ymwybodol ohonynt, oni bai eu bod wedi gweld eich datganiad a'ch cwestiynau, yn cael eu dwyn i'n sylw. Wrth gwrs, mae polisi amddiffyn wedi'i gadw yn ôl i Lywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Ac yn hynny o beth, mae caffael crwyn eirth a pholisi ar wisgoedd seremonïol yn faterion i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Wrth gwrs, mae'r cysylltiad hwn i'r Gwarchodlu Cymreig, ac mae llawer ohonom wedi ymgysylltu, wrth gwrs, fel Senedd gyda'n Gwarchodlu Cymreig. Ond rwy'n credu mai mater i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw hwn ac rydych chi wedi cofnodi hyn heddiw yn y Siambr. 

14:40

Rhywbeth sydd wedi ei ddatganoli i Gymru yw materion trafnidiaeth. Hoffwn gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch gorlenwi ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd, a methiannau diweddar wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau gyda chynnydd yn nifer y teithwyr. Dim ond un cerbyd oedd gan wasanaeth Caergybi i'r Amwythig am 10:30 ddydd Sadwrn, y bu'n rhaid iddo gludo cannoedd o gefnogwyr pêl-droed i Wrecsam a llawer o bobl i rasys Caer. Roedd y teithwyr wedi eu gwasgu i mewn i un cerbyd fel sardîns, a fyddai, fel y gallwch chi ddychmygu, yn ei gwneud hi'n anodd iawn, os nad yn amhosibl, i'r henoed, pobl ag anableddau neu rieni â phlant ifanc fynd ar y trên. Dylai fod yn arfer safonol i wneud trefniadau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau, fel gemau pêl-droed poblogaidd neu ddiwrnodau rasio, trwy roi cerbydau ychwanegol ar y trên, ond eto mae'n ymddangos bod problemau gorlenwi ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn dal i fod yn ddigwyddiad rheolaidd. 

Gan fod cerbydau newydd wedi eu prynu, byddai llawer yn tybio y byddai hen ddigon o gyflenwad i sicrhau y gellid defnyddio digon o gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd poblogaidd, ond nid yw'n ymddangos bod hyn yn digwydd, ac mae bodlonrwydd a lles teithwyr Trafnidiaeth Cymru yn dal i ddirywio. Mae perygl hefyd y gallai'r gorlenwi cyson a'r cynnydd diweddar ym mhris tocyn effeithio ar dwristiaeth i Gymru, y mae eich Llywodraeth chi hefyd yn ei gwrthwynebu. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wneud datganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i leihau gorlenwi? Ac a allwch chi egluro a oes cyflenwad digonol o gerbydau? Diolch yn fawr iawn. 

Wel, mae yna, mae'n rhaid i mi ddweud—. Diolch am y cwestiwn, ond rwy'n credu bod angen i mi gywiro'r cofnod ar rai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. Wel, yn gyntaf oll, gadewch i ni fod yn falch o Trafnidiaeth Cymru. Gadewch i ni fod yn falch o'r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi cofnodi'r gwelliant mwyaf o'r holl weithredwyr o ran prydlondeb a dibynadwyedd ar draws Prydain Fawr rhwng Ebrill a Mehefin, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Ac onid oeddem ni'n falch pan oeddem ni—mae'n rhaid i mi ddweud 'ymddiheuriadau' am hyn—pan oeddem ni yn Lerpwl, gan ddweud bod gennym ni ein Trafnidiaeth Cymru eisoes yn ein perchenogaeth yma yng Nghymru. Roedd yn amser gwych i wneud y pwynt hwnnw.

Ond hefyd, dim ond i ddweud, mae'r problemau o ran gorlenwi yn aml yn ymwneud â digwyddiadau, fel rydych chi wedi'i ddweud. Rwy'n cydnabod hynny. Ond hefyd, pan fo problemau mewn perthynas â digwyddiadau penodol, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n aml yn cysylltu â—. Ac yn y de, er enghraifft, yr orsaf brysuraf, wrth gwrs, yw Caerdydd Canolog. Ac mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, weithio gyda Llywodraeth y DU wedyn mewn perthynas â chyllid, gan ddarparu gwelliannau i orsafoedd—yn enwedig gorsafoedd o ran Llywodraeth y DU—i ymdopi â'r teithwyr yr ydym yn eu gwasanaethu.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod hyn yn ymwneud â gwasanaeth rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, sydd nid yn unig â'r gwelliant mwyaf, fel y dywedais i, ac sy'n fwy dibynadwy, ond sydd hefyd yn ymateb i anghenion ac amgylchiadau cwsmeriaid. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwynhau fy nheithiau i'r gogledd ar Trafnidiaeth Cymru neithiwr ac, yn wir, ddydd Sadwrn, ac roedd yn wasanaeth ardderchog. Yn sicr, doedd dim gorlenwi ar y teithiau rheilffordd hynny, fel yr ydych chi i gyd, sy'n teithio i lawr ac sy'n falch o fod yn teithio ar ein trenau Trafnidiaeth Cymru, fel y mae cymaint ohonoch chi yn ei wneud bob wythnos. 

A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? Nawr, ddydd Iau yma, bydd bwrdd iechyd Hywel Dda yn ystyried nifer o doriadau i ddarpariaeth iechyd yng ngorllewin Cymru, sy'n cynnwys, o bosibl, lleihau nifer y gwelyau yn Ysbyty Tregaron, cau'r uned blant yn ysbyty Bronglais dros dro a'u trosglwyddo i ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, sydd rhyw awr i ffwrdd, a chau dros dro yr uned fân anafiadau dros nos yn ysbyty Llanelli, gan adael tref fwyaf y gorllewin heb ddarpariaeth 24 awr ar gyfer damweiniau ac achosion brys na mân anafiadau. Mae'r toriadau arfaethedig hyn eisoes wedi achosi pryder enfawr ar draws y rhanbarth, yn enwedig mewn cymunedau sydd wedi dod yn gyfarwydd â thoriadau, o ran meddygfeydd yn cau, deintyddion ddim ar gael, ac yn y blaen, dros y ddegawd ddiwethaf. Yn anochel, mi fyddwch chi’n rhoi’r bai ar y bwrdd iechyd, ond y gwir amdani yw eich bod chi fel Llywodraeth wedi methu’r cymunedau gwledig hyn oherwydd nad ydych chi wedi rhoi cyllid digonol i recriwtio digon o nyrsys a doctoriaid i sicrhau bod y gwasanaethau yma yn gallu parhau. A gawn ni, felly, ddatganiad brys gan y Gweinidog mewn ymateb i’r toriadau posibl hyn yng ngorllewin Cymru?

14:45

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Rwy'n falch o ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyfarfod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr wythnos hon ac, yn amlwg, bydd y materion polisi a'r newidiadau hynny o ganlyniad i bwysau ar yr agenda. Yn ddiddorol ac yn bwysig, ac fe fyddwch chi'n gwybod, Cefin Campbell, mewn perthynas, er enghraifft, â'r uned mân anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Philip—wrth gwrs, mae hyn yn dal yn cael ei drafod o ran y bwrdd—mae'n bwysig bod y bwrdd mewn gwirionedd yn ymgysylltu â Llais, llais cleifion yng Nghymru, a'i gymunedau lleol ac yn dilyn canllawiau'r gwasanaeth gwladol. Rydym wedi cael sicrwydd bod y bwrdd iechyd yn ymgysylltu â chymunedau lleol wrth iddyn nhw ystyried cynllunio tymor hir. Rwy'n credu, mewn perthynas â'r holl newidiadau a phwysau hyn a chynigion ar gyfer newid sy'n deillio o bwysau ac anghenion polisi ac anghenion cleifion, rydym yn edrych at lais cleifion, Llais, i helpu gyda'r ymgysylltu cymunedol hwnnw. Ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, wrth gwrs, yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd yr wythnos hon.

A gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros dai a chynllunio ynghylch cyflymder annerbyniol y gwaith adfer diogelwch tân y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud dros y saith mlynedd diwethaf ers trychineb ofnadwy Grenfell? Dim ond ar ddechrau'r mis Medi hwn y tynnais sylw at y ffaith bod 53 o adeiladau uchel yn dal heb eu nodi ar gyfer unrhyw waith adfer angenrheidiol. Dim ond yr wythnos hon, cefais ymateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn nodi, allan o 238 o adeiladau daliadaeth preifat a glustnodwyd ar gyfer gwaith diogelwch tân hanfodol, mai dim ond ar dri ohonynt y mae'r gwaith wedi'i gwblhau. Mae hyn yn embaras i Lywodraeth Cymru ac mae'n frawychus bod y trigolion hynny yn cael eu gadael yn byw mewn ofn. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd llwyddiant o 1.26 y cant, ac mae'n codi cwestiynau sylweddol ynghylch pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet, os gwelwch yn dda, ddarparu'r datganiad hwn ac amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drin y mater hwn fel un difrifol a hwyluso'r agweddau diogelwch adeiladau gwirioneddol fel y gall y bobl hyn fyw heb ofn? Diolch.

Diolch, Janet Finch-Saunders, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, heddiw, fy mod yn myfyrio, wrth ateb y cwestiwn hwnnw, fel eich Trefnydd, fod ein meddyliau gyda phawb a oedd ac sy'n parhau i gael eu heffeithio gan dân tŵr Grenfell. Rydym yn croesawu cyhoeddi 'Ymchwiliad Tŵr Grenfell: Adroddiad Cam 2' yn fawr ac rydym yn ystyried yr argymhellion yn ofalus. Rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru i sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch adeiladau ar gyfer holl drigolion Cymru. Rydym wedi cymryd camau cadarn wrth fynd i'r afael ag argymhellion adroddiadau blaenorol. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ac nid yn unig y cafodd hynny ei ailgadarnhau gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf o ran blaenoriaethau, ond rydym hefyd wedi dechrau, yn bwysig ddigon, rhannau perthnasol o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i sicrhau diwygio dyluniad ac adeiladu adeiladau risg uwch, a newidiadau i'r ffordd y caiff y proffesiwn rheoli adeiladu ei reoleiddio. Ond, dim ond i roi'r diweddariad terfynol i chi, y bwriad yw cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yr wythnos hon yn ymateb i adroddiad cam 2 Grenfell, gan nodi gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael â materion diogelwch tân, ac mae hynny'n cynnwys yr ymrwymiad hwnnw i gyflawni Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).

Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, mae bron yn flwyddyn ers inni weld newidiadau yn amserlenni bysiau llwybrau TrawsCymru, a hyn yn dilyn toriadau gan eich Llywodraeth chi. Os ydy fy mewnflwch i yn unrhyw beth fel ffon fesur ar hyn, yna mae'n amlwg bod y newidiadau wedi bod yn fethiant trychinebus, efo pobl fregus yn methu cyrraedd gwasanaethau, a phlant a phobl ifanc yn methu cyrraedd clybiau chwaraeon, ac yn y blaen. Felly, gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth yn dangos asesiad o effaith y toriadau yma, os gwelwch yn dda, dros y flwyddyn ddiwethaf ers eu cyflwyno nhw?

Yn ail, gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog amaeth ar y system ariannu ar gyfer coetiroedd a thiroedd cynefin tan i'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd gael ei gyflwyno? Mae nifer o ffermwyr, er enghraifft, wedi neilltuo tiroedd ar gyfer coetiroedd neu gynefin efo amodau i beidio â phori'r tir yna, ac, yn sgil hynny, maen nhw'n derbyn arian, neu wedi bod yn derbyn arian, i'w cynnal nhw o dan Glastir uwch. Rŵan, mae'r rhaglen honno wedi dirwyn i ben ond does yna ddim arian wedi cael ei gyflwyno i gymryd ei lle, sy'n golygu bod nifer o'r ffermwyr yma rŵan efo tiroedd sydd ddim yn ffrwythlon, sy'n costio i'w cynnal a'u cadw, ac maen nhw'n ystyried torri'r coed yna i lawr. Felly, mi fyddai'n dda clywed pa drefn ariannol sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet mewn golwg ar gyfer y tiroedd yma tan fod yr SFS newydd yn cael ei gyflwyno. Diolch.

14:50

Diolch yn fawr, Mabon, am eich cwestiynau.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn asesu effaith newidiadau ar linellau TrawsCymru, ac, wrth gwrs, mae hynny'n ymwneud â'r holl ystod o ddefnyddiau o'r llinell honno, o ddefnydd bob dydd gan blant a phobl ifanc a phobl hŷn, i dwristiaeth. Byddwn yn edrych ar hynny. 

Ac yn ail, byddaf yn codi gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y mater ynghylch pa asesiad sy'n cael ei wneud o ran yr amgylchiadau ar gyfer y safleoedd coetir hynny wrth i ni symud ymlaen gyda chanlyniadau'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, gydag un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch banciau gwledig. Mae Banc Lloyds wedi cyhoeddi y bydd trydydd Banc Lloyds yn cau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Maen nhw wedi cau un yn Ystradgynlais, maen nhw'n bwriadu cau un yn Llanandras, ac un arall yn Aberhonddu. Gwnaeth Banc Lloyds elw o £7.5 biliwn y llynedd, cynnydd o £4.8 biliwn y flwyddyn flaenorol. Nid yw hwn yn fanc sydd mewn trafferthion. Mae hwn yn fanc y mae dyletswydd arno i ddarparu banciau i'w gymunedau sy'n diwallu eu hanghenion. Felly, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru beth yn union maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod modd cael gafael ar arian parod yn ein cymunedau gwledig.

Ac yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, am ddiweddariad ar y gwaharddiad graddol ar rasio milgwn? Ym mis Mawrth eleni, daeth yr ymgynghoriad i ben, a dydyn ni ddim wedi clywed unrhyw beth o ran yr amserlen. Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddodd Bwrdd Milgwn Prydain Fawr eu hadroddiad yn datgelu cynnydd brawychus o 47 y cant mewn marwolaethau cŵn ac achosion ewthanasia sy'n gysylltiedig â rasio. Ni ellir caniatáu i hyn barhau, felly hoffwn gael diweddariad ar yr amserlen os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch am dynnu sylw at elw helaeth Banc Lloyds, wrth i fanciau barhau i dynnu allan o'n cymunedau, dod allan o'n cymunedau, cau canghennau banc. Mae tri chant a saith deg chwech o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru ers mis Ionawr 2015, ac mae hynny'n gymaint o golled i'r gwasanaethau gwerthfawr hynny. Ac rydych wedi tynnu sylw yn arbennig at anghenion pobl mewn cymunedau gwledig. Felly, rydym wedi bod yn hyrwyddo anghenion penodol cymunedau Cymru, gan edrych ar gael mynediad at wasanaethau bancio arian parod ac wyneb yn wyneb. Wrth gwrs, nawr mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn ysgwyddo'r cyfrifoldebau hyn, ac, wrth gwrs, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol hefyd o ran mynediad at wasanaethau ariannol a chynhwysiant ariannol. Mae gennym hybiau bancio yn cael eu cyflwyno, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod am weld rhwydwaith o hybiau bancio yn ehangu, ond hefyd, wrth edrych ar ein perthynas â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Link a Cash Access UK, maen nhw'n hyrwyddo anghenion rhannau o'r boblogaeth sy'n dibynnu fwyaf ar gael mynediad at wasanaethau bancio arian parod ac wyneb yn wyneb. Ond hefyd, rydym yn gweithio gyda nifer o'n partneriaid bancio yng Nghymru, er enghraifft—y rhai sy'n fenthycwyr cyfrifol, nid ein hundebau credyd yn unig, sydd, wrth gwrs, ledled Cymru, ond hefyd y benthycwyr cyfrifol hynny fel Cymdeithas Adeiladu Principality, sy'n treialu OneBanx. Rydym hefyd wedi gwneud ein holl waith ar y banc cymunedol.

So, diolch yn fawr am eich cwestiwn. Obviously, symudwn ni ymlaen â hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi. 

Iawn, os symudwn ni i'r ail gwestiwn, o ran yr ymateb, rwy'n siŵr, gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar amserlenni nawr ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid. Fe gaeodd ym mis Mawrth, fel y gwyddoch chi. Cafwyd dros 1,100 o ymatebion manwl. Mae'n helpu i lywio datblygiad model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, sydd wedi codi fwy nag unwaith y prynhawn yma, ac mae hefyd yn adolygiad o'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'n edrych ar ble y gellir gwneud gwelliannau. Ac, fel y gwyddoch chi, wedi'i gynnwys yn y cwestiynau yn yr ymgynghoriad oedd dyfodol rasio milgwn yng Nghymru. Felly, rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd, rydym yn gwerthuso'r dystiolaeth a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion, a bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud datganiad ar ein camau nesaf maes o law.

14:55

Hoffwn droi at y cwestiwn o deithio llesol, Trefnydd, i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth. Roedd adroddiad gan Archwilio Cymru yr wythnos diwethaf a oedd yn dangos bod ein huchelgeisiau ymhell o gael eu cyflawni, gan adleisio adroddiad bythefnos cyn hynny gan fwrdd cyflenwi teithio llesol y Llywodraeth, sy'n dweud bod y cynnydd yn boenus o araf, y ddau ohonynt yn defnyddio yn helaeth waith y grŵp trawsbleidiol yma yn y Senedd, sydd, yn ei adolygiad o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, yn dangos bod nifer o feysydd lle mae angen gwneud gwelliannau.

Ac mae'r themâu yn gyffredin. Mae sylfaen dystiolaeth gref bellach i ddangos bod problemau gyda chasglu data, y diffyg capasiti mewn cynghorau, ac mae angen blaenoriaethu buddsoddiad lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Clywsom gan Natasha Asghar yn gynharach bod galw ledled Cymru am ddatblygu llif o gynlluniau, ac mae peth pryder na ddylai'r ailflaenoriaethu gan y Llywodraeth i roi pwyslais ar dyllau mewn ffyrdd, yr wyf i'n credu ein bod ni i gyd yn ei gefnogi, ddod ar draul y gronfa teithio llesol, sy'n ymrwymiad hirdymor ar gyfer gwaith ataliol, ac mae'r pethau hyn yn cymryd amser i'w pwytho at ei gilydd. Felly, mae nawr yn amser i fireinio ein dull gweithredu, nid cefnu ar ein dull gweithredu, a byddwn yn ddiolchgar am gyfle priodol yn amser y Llywodraeth i drafod hyn yn llawnach.

Diolch yn fawr, Lee Waters. A gawn ni, fel rydyn ni bob amser, dalu teyrnged i'ch gwaith, fel y sbardunydd, mae'n rhaid i mi ddweud, o'r Ddeddf teithio llesol, ond hefyd am y materion rydych chi wedi'u datblygu'n gyson drwy gydol eich bywyd gwaith a gwleidyddol? Rwy'n credu bod adroddiad teithio llesol Archwilio Cymru yn bwysig, fel y dywedwch chi. Roedd llawer o'r materion eisoes wedi'u nodi. Maen nhw wedi cael eu codi gan y grŵp trawsbleidiol, rwy'n deall, ar y Ddeddf teithio llesol, yn ôl yn 2022. Felly, dim ond ystyried y pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud, byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, o gynllun cyflawni teithio llesol 2024-27. Datblygwyd hwnnw i raddau helaeth mewn ymateb i ganfyddiadau'r grŵp trawsbleidiol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac mae'n ymwneud â sut mae hyn yn cael ei weithredu ynghyd â chyflwyno'r arolwg teithio cenedlaethol. Ond rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa ragorol nawr gyda Trafnidiaeth Cymru—gan edrych at Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth—yn cefnogi awdurdodau lleol a hefyd y cyd-bwyllgorau corfforedig i gyflawni'r gwelliannau hynny. Mae angen ymgysylltu â'r gymuned ym maes cynllunio a dylunio a chynlluniau i gefnogi'r cyfleoedd cywir ar gyfer mwy o deithiau ar droed ac ar feic, ond hefyd yn ddefnyddiol iawn i wneud y cysylltiad hwnnw hefyd â mynediad at wasanaethau cyhoeddus hefyd.

Diolch i'r Trefnydd. Mae ein hamser ar ben ar y datganiad busnes hwn, er bod gen i o leiaf dri siaradwr arall eisiau cyfrannu. A gaf i awgrymu wrth grwpiau gwleidyddol, os oes gennych chi siaradwyr yn galw am ddatganiadau, a bod gennych chi lawer i lawr am y diwrnod, y gallai'r siaradwyr eraill hynny yn eich grwpiau ofyn am un datganiad yn hytrach nag un, dau neu dri datganiad o bosibl? Byddai hynny wedi fy ngalluogi heddiw yn bendant i fod wedi galw'r holl siaradwyr o bob grŵp. Dim ond pwynt bach ar gyfer y dyfodol.

15:00
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau nesaf yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40. Os nad oes yna unrhyw wrthwynebiad, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. Os nad oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny, fe wnawn ni wneud hynny. A gaf i alw am aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol? Yn ffurfiol gan y Trefnydd?

Cynnig NNDM8669 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1. Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn lle Mark Drakeford (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

2. John Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru).

Cynnig NNDM8670 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vaughan Gething (Llafur Cymru) yn lle Rhianon Passmore (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynnig NNDM8671 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lesley Griffiths (Llafur Cymru) yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Cynnig NNDM8672 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lesley Griffiths (Llafur Cymru) yn lle Mark Drakeford (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cynnig NNDM8673 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Hannah Blythyn (Llafur Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Cynnig NNDM8674 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn lle Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Cynnig NNDM8675 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vaughan Gething (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cynnig NNDM8676 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

Cynigiwyd y cynigion.

Member (w)
Jane Hutt 15:00:41
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Yn ffurfiol. 

Yn ffurfiol. Diolch yn fawr. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly mae'r cynigion yna wedi eu derbyn o dan Reol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol

Datganiad gan y Prif Weinidog nesaf ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Y Prif Weinidog felly i wneud ei datganiad—Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gyflawni ein blaenoriaethau. Fe fyddwn ni'n gwneud hyn drwy weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y rhai hynny sydd yng Nghymru a thu hwnt, y Llywodraeth Lafur newydd yn y DU yn arbennig. Fel Prif Weinidog, rwy'n ymrwymo i ddod ag egni a pharch i'r gwaith pwysig hwn, a pharhau i ddal ati i sefyll dros fuddiannau Cymru mewn undeb ffyniannus a bywiog. Mae bod â dwy Lywodraeth yn cydweithio er mwyn Cymru er lles pennaf pobl ledled y wlad.

Nid yw parch wedi bod yn amlwg bob amser yn ein tirweddau rhynglywodraethol dros y degawd a hanner diwethaf. O'r 25 mlynedd o ddatganoli, fe dreuliwyd hanner yr amser hwnnw yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth nad oedd yn parchu'r setliad datganoli, ac nid oedd â lles pennaf Cymru wrth ei chalon. Cyn bo hir, fe fyddwn ni'n gosod ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol cysylltiadau rhynglywodraethol 2023-2024. Dydw i ddim yn mynd i ymhelaethu rhagor ar hynny nawr, ond rwy'n gwahodd yr Aelodau i'w ddarllen eu hunain a myfyrio ar sut y dioddefodd y berthynas rynglywodraethol yn ystod y cyfnod y bu Llywodraeth flaenorol y DU mewn grym.

Mae ffurfio Llywodraeth newydd yn y DU wedi estyn cyfle mawr i ni ailosod y cysylltiadau a dechrau ar gyfnod newydd o bartneriaeth rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU. Rydym ni'n benderfynol o weithio gyda'n gilydd i gyflawni er budd dinasyddion Cymru. Nid yw hyn yn golygu y byddwn ni'n dewis yr un llwybr â chydweithwyr sy'n gweithio yn Llundain bob amser, ond pan fyddwn yn anghytuno, fe fyddwn yn gwneud hynny â pharch ac fe fyddwn ni'n sicrhau bob amser y bydd y penderfyniadau hynny'n gweithio er lles pennaf pobl Cymru.

Mae'r ymrwymiad hwnnw a rennir i ailosod cysylltiadau wedi bod yn amlwg iawn eisoes dros yr haf. Rwyf i wedi cael sgyrsiau gyda'r Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i hwyluso ymateb ar y cyd i faterion brys allweddol—o ran Tata, cyflogau'r sector cyhoeddus, y materion sydd bwysicaf i bobl Cymru. Mae'r sgyrsiau hynny wedi rhoi cyfle i weithio mewn partneriaeth i gefnogi a pharchu blaenoriaethau ein gilydd.

Rydym ni wedi gweld ymgysylltiad cadarnhaol ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar Filiau yn y rhaglen honno a all fod o fudd i Gymru. Mae hi'n amlwg y ceir meysydd lle gallwn ni yng Nghymru rannu ein profiad a'n harbenigedd ein hunain, ac rydym ni'n barod iawn i wneud felly. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth newydd y DU hefyd i rymuso confensiwn Sewel trwy gyfrwng memorandwm dealltwriaeth newydd i amlinellu sut bydd y cenhedloedd yn gweithio gyda'i gilydd er lles pawb.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae ein hymgysylltiad gyda'r Canghellor a'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys wedi adlewyrchu ailosodiad positif o berthnasoedd ac adfywiad ysbryd cydweithredol. Pan wnaeth cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau gyfarfod â'r Canghellor ym mis Awst, fe wnaethom ni gytuno ar yr angen i osod sylfaen am berthynas agos a chynhyrchiol i gyflawni canlyniadau clir ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin yng Nghymru. Fe wnes i dynnu sylw at y materion sy'n bwysig i Gymru, gan gynnwys ein hymgysylltiad yn adolygiad gwariant y Deyrnas Unedig, cyllid teg i Gymru a hyblygrwydd cyllidebol.

Rhaid i ni gofio bod record economaidd Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig dros y 14 mlynedd diwethaf wedi gadael heriau sylweddol. Bydd mynd i'r afael â'r effeithiau ar unigolion, cymunedau a chyllid cyhoeddus yn cymryd ymdrech ac amser sylweddol. Er hynny, dwi'n hyderus y bydd, yn Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig, gyda ni bartner ymroddedig a fydd yn gweitho gyda ni ar y weledigaeth rŷn ni'n ei rhannu ar gyfer dyfodol Cymru. Wrth gwrs, nid yw perthnasoedd rhynglywodraethol ar draws yr ynysoedd hyn yn ddwyochrog yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi elwa o berthnasoedd cryf gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill, a hefyd gyda Chyngor Prydain ac Iwerddon. Byddwn ni'n parhau i adeiladu ar y perthnasoedd cadarnhaol hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o'r farn y gall yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, y cytunwyd arno ym mis Ionawr 2022, ddarparu'r peirianwaith angenrheidiol i ddwyn llywodraethau'r DU ynghyd, i drafod y materion priodol ar yr adeg briodol. Ond mae angen gwneud a chryfhau mwy o gysylltiadau, a dyna pam rydym ni'n croesawu cynnig y Prif Weinidog am gyngor newydd o genhedloedd a rhanbarthau—ffordd o ddod â'r Llywodraethau a meiri'r awdurdodau cyfun ledled y DU at ei gilydd. Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y cyfarfod cyntaf, a gaiff ei gynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wrth gryfhau ein cysylltiadau rhynglywodraethol a'r setliad datganoli, fe fyddwn ni'n ceisio symud ymlaen ac  ategu casgliadau ac argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae grymuso cysylltiadau rhynglywodraethol ers etholiadau'r DU yn rhywbeth i'w groesawu yn fawr iawn. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio manteisio ar y cyfle i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU er budd pobl Cymru.

15:05

Ceisiodd y Prif Weinidog, yn ei sylwadau agoriadol, greu darlun o ddiffyg cydweithrediad yn ystod y 14 mlynedd y bu Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Rwy'n rhyfeddu at hynny, pan feddyliwch chi am y refferendwm a fu ar bwerau deddfu pellach ar gyfer y lle hwn yn 2011; cafwyd comisiwn Silk; cafwyd dwy Ddeddf Cymru a oedd yn trosglwyddo symiau enfawr o gyfrifoldebau, yn briodol, i'r Senedd hon; ac fe gafwyd y difidend, fel rwyf i'n ei weld, yn sgil Brexit, a ddaeth â phwerau o Frwsel i'r sefydliad hwn. Fe allwn ni drafod y pwyntiau eraill, ond dychwelwyd 80 o gyfrifoldebau o Frwsel i'r lle hwn.

Rwy'n gallu cofio hefyd y byddai'r arweinwyr ar y pryd yn treulio cryn amser ym Mharc Cathays, ac yn San Steffan, yn trin ac yn trafod yr hyn a ddylai fod yn y Biliau Cymru hynny a gyflwynwyd wrth drosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny, ac fe fu yna gydweithrediad gwirioneddol. Felly, ymhell o fod yn anialwch diffaith o ran cydweithredu, cafwyd trafodaethau cadarn gyda chanlyniadau diriaethol. Dyna pam rydym ni'n eistedd mewn Senedd ddeddfwriaethol gyda phwerau i godi trethi heddiw, yma ym Mae Caerdydd, yn hytrach na'r siop siarad a sefydlwyd gan y Blaid Lafur ar ôl refferendwm 1997.

Mae gennyf gyfres o gwestiynau i'w gofyn i'r Prif Weinidog, oherwydd mae hi'n tynnu sylw at gyfarfodydd a gynhaliwyd rhyngddi hi a'i chyd-Aelodau yn y Cabinet a Gweinidogion yn San Steffan. Roeddwn i'n pwyso arni hi, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, am ateb o ran y cynnig hwn i gymryd cleifion ar y rhestr aros i gapasiti a fernir ei fod ar gael yn Lloegr, ac eto rwy'n nodi nad yw'r datganiad yn sôn am unrhyw gyfarfod rhwng Wes Streeting, y Gweinidog iechyd, ac unrhyw un o'i Gweinidogion hi, er iddi restru cyfres o drafodaethau a chyfarfodydd a gafodd hi a Gweinidogion eraill gydag uwch swyddogion eraill yn Llywodraeth San Steffan. Felly, a all hi, mewn ymateb i mi, gadarnhau faint o gyfarfodydd sydd wedi digwydd rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac, yn wir, rhyngddi hi ei hun a'r Gweinidog iechyd yn Llundain, i drafod y capasiti, yr adnodd, a'r gallu i bobl fanteisio ar y cynnig hwn a gyhoeddwyd yng nghynhadledd y Blaid Lafur ddoe? Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn teg wrth i bobl geisio deall ai dim ond datganiad i'r wasg oedd hwn neu gynnig cadarn a gyflwynwyd gan Lywodraeth San Steffan yn yr oes newydd hon o gydweithio.

Rwy'n nodi hefyd ei bod hi'n tynnu sylw at gyfarfodydd rhwng y Canghellor, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a'r Gweinidog cyllid yma ym Mae Caerdydd. Fe wyddom ni mai un o'r cyhoeddiadau mwyaf a wnaethpwyd ers i Lafur ddod i rym yn Llundain yw tynnu lwfans tanwydd y gaeaf oddi ar bensiynwyr a fydd yn cymryd £110 miliwn oddi wrth bensiynwyr ac yn effeithio ar 400,000 o aelwydydd, gyda 580,000 o bensiynwyr yn colli'r hawl i gynhesu eu cartrefi fel hyn y gaeaf hwn, oherwydd ni fydd y budd hwnnnw ar gael iddyn nhw. Felly, a all hi dynnu sylw at unrhyw drafodaethau, yn y cyfarfodydd hynny, a gafodd hi a Gweinidogion eraill i dynnu sylw at yr effaith niweidiol ar bensiynwyr Cymru ac, yn wir, ar gymunedau ledled Cymru? Oherwydd un peth yw sôn am ddiwygio'r fformiwla ariannu a hyblygrwydd cyllideb diwedd blwyddyn, ond peth arall yw'r canlyniad gwirioneddol a diriaethol pan ddaeth Llafur i rym ar 4 Gorffennaf sef diddymu lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr yma yng Nghymru. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, Prif Weinidog, a pha drafodaethau a gafodd eich cydweithwyr chi yn y Cabinet? 

Fe hoffwn i geisio deall hefyd, o ystyried gwrthwynebiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gymryd rhan wirioneddol yn unrhyw un o argymhellion y comisiwn annibynnol, a oedd yn ddarn sylweddol o waith yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi yn ei daliadaeth gynharach, wedi 2021, sut ydych chi am gyflwyno'r cynigion hynny gydag ymgysylltiad Llywodraeth San Steffan, mewn gwirionedd, a chyflwyno'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ei chyflawni yn San Steffan o ran datganoli agweddau ar y system gyfiawnder a meysydd eraill yn eich barn chi a fyddai'n cael eu cyflawni orau yma yng Nghymru. Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig na minnau o'r farn fod hynny'n wir, ond gan fod y darn hwnnw o waith wedi bod yn ddarn mor fawr i Lywodraeth Cymru ym mlynyddoedd cynnar y Senedd hon, mae'n ddiddorol ceisio deall, o ystyried yr oes newydd ragorol hon sydd gennym ni o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, pan fyddwn ni'n gweld canlyniadau diriaethol gyda chynnydd o ran y comisiwn annibynnol ar newid cyfansoddiadol.

A'r cwestiwn olaf sydd gennyf iddi hi yw hwn: o ystyried pa mor fychan yw'r parch sydd ganddi at y berthynas rhyngddi â'r Prif Weinidog, a maint ei pharch at feithrin perthynas â Donald Trump—oherwydd mae hi'n rhoi'r ddwy berthynas ar yr un pedestal—sut mae hi, wrth symud ymlaen, am wneud yn siŵr y bydd hi'n gallu mynd i mewn drwy'r drws ffrynt i Rif 10 i gynnal y trafodaethau hynny gyda'r Prif Weinidog? Oherwydd mae'r bar yn isel iawn pan fyddwch chi'n dweud ar raglen deledu y byddai gennych chi well siawns o ddylanwadu ar Donald Trump nag ar arweinydd y blaid yn Llundain, sy'n Brif Weinidog y DU. Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.

15:10

Diolch yn fawr iawn. Rwyf i am sôn am fy mhrofiad i gyda Llywodraeth y DU. A bod yn onest, roedd yn gyfyngedig iawn. Yn ystod y pandemig, a bod yn deg, roedd yna berthynas gref iawn, trafodaethau cyson iawn gyda phobl fel Matt Hancock, pobl fel Sajid Javid, ac o'r eiliad y gwnaethon nhw adael y llwyfan doedd dim unrhyw berthynas o gwbl. Roedd hynny'n gyfamserol ag amser y cwthrwfl llwyr yn eich plaid chi. Y gwir broblem yw bod y cythrwfl hwnnw wedi heintio popeth a oedd yn digwydd yn y Llywodraeth. Fe wastraffwyd y blynyddoedd hynny pryd y gallai pobl fod wedi gweld gwahaniaeth yn eu bywydau. Y gwir amdani yw bod y berthynas rynglywodraethol honno wedi chwalu yn llwyr. Dydw i ddim yn siŵr sut roedd hynny'n gweithio i aelodau eraill ar dîm y Llywodraeth, ond rwy'n siarad drosof fy hunan, ac rwyf i'n gallu dweud wrthych chi nad oedd yna berthynas. Felly, rwy'n credu ei bod yn rhaid i chi yn y blaid Dorïaidd gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny.

Roeddech chi'n siarad am fudd yn sgil Brexit. Wel, nid wyf i'n gallu gweld llawer o fudd yn sgil Brexit. Yr wythnos diwethaf fe wnaethoch chi ofyn i mi, mewn llythyr, a fyddwn i'n cyfiawnhau, ar ôl i mi siarad yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, sut y gallwn ddweud bod ein hallforion ni wedi lleihau. Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi gweld tystiolaeth i ddangos eu bod nhw wedi lleihau. Ac fe wnaethoch chi addo hefyd yn y refferendwm hwnnw na fyddai Cymru yn waeth ein byd yn ariannol, ac mae hi felly arnom ni. Mae hynny'n ddiamheuol.

Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn ystod yr haf. Roedd yn haf rhyfedd iawn, onid oedd? Roedd yn sicr yn haf rhyfedd iawn i mi. Ond mae'n ymddangos yn haf ychydig yn rhyfedd i chithau, oherwydd fe aethoch chi i sioe amaethyddol ac roeddech yn gofyn yn wirioneddol i bobl, 'A ydych chi o blaid neu yn erbyn datganoli?' Dyna fyd gwallgof rydych yn byw ynddo, yn eistedd yn y Senedd hon, ac ymhen ychydig amser byddwch chi'n mynd allan i ofyn i bobl a ddylen nhw fod yn pleidleisio drosoch chi, a dydych chi ddim yn sicr iawn a ddylai'r lle hwn fodoli hyd yn oed. Rwyf i wedi bod yn y swydd hon am 48 diwrnod—[Torri ar draws.]

Rwyf i wedi bod yn y swydd hon am 48 diwrnod, ac fel mae'n digwydd, mae'n ymddangos fy mod i'n llwyddo i gynnal llawer o gyfarfodydd gyda llawer o bobl yn Llywodraeth y DU. Felly, mae gen i ddylanwad; mae'n debyg iawn na fyddai'r un dylanwad hwnnw gennyf i ar rai pobl sydd ar yr ochr arall i'r Iwerydd. Felly, mae'n wych. Y peth pwysig i mi yw ein bod ni, mewn gwirionedd, yn cyflawni rhywbeth o ganlyniad i'r sgyrsiau hynny. Mae'n gynnar iawn o hyd, wrth gwrs, ond rydym ni eisoes wedi cyflwyno codiadau cyflog sydd ymhell dros gyfradd chwyddiant, rydym ni wedi cyflawni cytundeb gwell nag yr oeddech chi yn gallu ei gynnig yn Tata, ac rydym ni wedi gallu cydweithio hefyd ar ehangu gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd. Dyna dri gwahaniaeth sylweddol iawn mewn 48 diwrnod. Rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni fod yn falch ohono. Fe wnaethom ni hynny mewn 48 diwrnod. Daliwch yn sownd, oherwydd mae llawer iawn i ddod eto.

15:15

Roedd y Prif Weinidog, yn garedig iawn, yn awyddus i roi gwers i mi yn gynharach y prynhawn yma ar sut mae datganoli yn gweithio. Yn ei hanfod, peidiwch â sôn am Lywodraeth y DU, peidiwch â sôn am Keir Starmer yn Senedd Cymru—rydym ni yma i siarad am bethau datganoledig. Ac rwy'n deall hynny, mae'n anodd iawn. Mae'n ymddangos bod rhai o'i gamau ef yn weddol amhoblogaidd. Efallai mai 'Peidiwch â bod yn feirniadol am Keir Starmer na Llywodraeth y DU' oedd ystyr hynny. Efallai fy mod i wedi deall. Ond ers hynny mae hi wedi bod yn fwy na pharod i siarad am berthynas Cymru gyda Llywodraeth y DU wrth ateb cwestiynau eraill—sut mae'r berthynas yn gweithio o ran iechyd ac yn y blaen. Ac mae'r datganiad hwn gennym ni nawr, ar ei harchiad hi, yn llythrennol ynglŷn â'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ein hatgoffa ni bod natur y berthynas sydd gan Gymru â rhannau eraill o'r ynysoedd hyn ac, ie, â Llywodraeth y DU a Phrif Weinidog y DU—fe wnaf ei enwi, Keir Starmer—yn eithaf pwysig. Dyna rif 22, rwy'n credu, onid e? Ni all hi ddewis a dethol mewn gwirionedd. Rwyf i am ei ddal ef i gyfrif o'r fan hon yn Senedd Cymru.

Dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth er budd bobl Cymru, dyna oedd yr addewid cyn yr etholiad cyffredinol. Dyna dŷn ni fod i'w gredu ydy'r egwyddor sy'n gyrru gwaith y Prif Weinidog newydd. Y broblem, wrth gwrs, ydy bod geiriau’r Prif Weinidog ei hun dros y dyddiau diwethaf wedi tanseilio’r addewid hwnnw. Mae'r cyfaddefiad gan y Prif Weinidog am ei diffyg dylanwad ar Keir Starmer—cymaint ag sydd ganddi hi dros Donald Trump oedd ei geiriau hi—yn achosi pryder. 

Rwyf i am dynnu sylw at dair enghraifft o ddiffygion yn y bartneriaeth honedig o ran grym rhwng Llafur yn Llywodraethau Cymru a'r DU: (1) yn hytrach na gorfod dibynnu ar ddatganiad i'r wasg yn y gynhadledd, gadewch i ni weld testun y cytundeb sy'n sail i'w chynllun iechyd trawsffiniol, er mwyn i ni allu archwilio'r trefniadau llywodraethu ac ariannu, fel arall efallai fe allem ni gredu mai dim ond stỳnt ydoedd; (2) roedd ymateb i gwestiwn ysgrifenedig diweddar gan Blaid Cymru yn datgelu nad oedd y Prif Weinidog hyd yn oed wedi ceisio ymladd cornel Cymru ar faterion hanfodol fel datganoli Ystad y Goron, rhywbeth y mae'n ei honni sydd ei angen ar frys. A ydy'r Prif Weinidog wedi cynnal trafodaeth gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli Ystad y Goron erbyn hyn? Rwy'n gobeithio ei bod hi. A yw hi wedi nodi y bydd Ystad y Goron, fel mae pethau, yn cael mwy o bwerau benthyca na'i Llywodraeth Cymru ei hun, neu y bydd GB Energy yn darparu mwy o fuddiannau i fusnesau a defnyddwyr yn ne-ddwyrain Lloegr nag y bydd i gymunedau yng Nghymru? A (3), yn ei datganiad hi, mae'r Prif Weinidog yn dweud ei bod wedi codi mater arian teg gyda'r Canghellor, ond mae ei chysyniad o'r hyn sy'n deg yn wahanol iawn i fy un i, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae hi wedi cadarnhau i mi yn ysgrifenedig eisoes na fydd Llafur yn anrhydeddu ei hymrwymiad blaenorol i gael gwared ar fformiwla Barnett. Efallai y gall hi esbonio sut mae hi'n bwriadu cyflwyno tegwch i fformiwla sy'n sylfaenol annheg nad oedd un o'i rhagflaenwyr hi'n gallu ei amddiffyn mewn gwirionedd.

Fe wyddom ni, onid ydym, o dan y Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf, fod cysylltiadau rhynglywodraethol wedi bod yn stryd unffordd ac yn hynny o beth rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog, gyda San Steffan a Whitehall yn awyddus i wneud dim ond pennu telerau i'r Senedd hon, ac yn aml iawn fe gafodd deddfwriaeth ei phasio yno a oedd yn diystyru Aelodau etholedig yn y fan hon, ac roedd hynny'n tanseilio uniondeb democratiaeth Cymru. Mae'r dystiolaeth yn gwbl amlwg nad yw seilwaith rhynglywodraethol y DU yn gweithio yn gyffredinol. Mae'r Sefydliad Llywodraethu, UK in Changing Europe, a'r Centre on Constitutional Change, ymhlith llawer o rai eraill, i gyd yn cytuno ar y pwynt hwn, ac roedd rhagflaenydd ond un y Prif Weinidog yn condemnio hynny fel rhywbeth 'nad oedd yn addas i'r diben'.

Ond o dan Lywodraeth Lafur newydd y DU, beth sydd wedi newid yn sylfaenol? Oes, mae yna eiriau mwy tyner. Mae gennym ni ffotograffau cyfeillgar y tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur. Ond beth sydd wedi newid yn sylfaenol? Ni wyddom eto, er enghraifft, sut y bydd y cyngor cenhedloedd a rhanbarthau bondigrybwyll yn gweithio neu a fydd yn cyd-fynd â phensaernïaeth cysylltiadau rhynglywodraethol bresennol y DU. Mae'r ychydig a wyddom ni am ddyluniad y cyngor newydd hwn yn drawiadol yn ffordd y mae'n canoli cymaint ar Loegr, onid ydyw? Fe wyddom ni rywbeth am y berthynas a gynlluniwyd rhwng y Llywodraeth ganolog a rhanbarthau Lloegr, ond dim o gwbl, mewn gwirionedd, am yr hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru, nac yn wir o ran sut bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymwneud â'i gilydd. Efallai y gallai'r Prif Weinidog esbonio ychydig am y perthnasoedd hynny.

Felly, dydy'r systemau presennol ddim yn effeithiol, ac mae'r hyn sy'n cael ei gynnig gan Lafur ar y gorau yn amwys ar hyn o bryd. Mae'r syniadau yn deillio yn rhywle o gomisiwn Gordon Brown. Digon gwan oedd argymhellion y comisiwn hwnnw yn y lle cyntaf, wrth gwrs, ond bellaf maen nhw wedi eu glastwreiddio i'r pwynt nad oes modd gobeithio am, heb sôn am wireddu, newid go iawn. Beth dŷn ni'n ei angen rŵan ydy Llywodraeth sydd wir am wthio'r ffiniau ar sut all berthynas rhwng gwahanol rannau o'r ynysoedd yma weithio yn effeithiol, a sefyll dros fuddiannau Cymru yn y trafodaethau allweddol efo'r Llywodraeth Lafur newydd, ac mae Plaid Cymru yn gofyn am y cyfle i gael gwneud hynny mewn modd adeiladol. A heb y math yna o agwedd, dydy'r addewid o newid yn golygu dim mewn gwirionedd. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo hynny?

15:20

Wel, diolch yn fawr iawn i chi, ac, ie, 24 o droeon nawr, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu rhifo sawl tro y byddwch chi'n crybwyll y gair arbennig hwnnw a sawl tro y byddwch chi'n canolbwyntio mewn gwirionedd ar yr hyn sy'n bwysig i bobl Cymru.

Meddwl ydw i tybed a ydych chi wir yn awyddus i ni weithio gyda'n gilydd ledled y Deyrnas Unedig, oherwydd fe ddyweda' i wrthych chi, fy nealltwriaeth i, o fod yn siarad â phobl ar y strydoedd dros yr haf, yw eu bod nhw'n awyddus iawn i ni gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo hynny er ein lles ni. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni edrych i'r dyfodol. Mae hi'n gynnar iawn ar hyn o bryd. Hynny yw, mewn 48 diwrnod, y rhan fwyaf o'r rheini yn nhoriad yr haf, rwyf i o'r farn ein bod wedi cyflawni cryn dipyn, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod y ffaith i'r Ysgrifennydd cyllid ysgrifennu at y Canghellor yn amlinellu'r ymrwymiadau a'r hyn yr ydym ni'n ei chwilio amdanyn nhw yng nghyllideb yr hydref—rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu rhai o'r pethau hynny, a phwysleisio, mewn gwirionedd, y rhyddhad cychwynnol hwnnw o £13.5 miliwn o'r £80 miliwn a ymrwymwyd i gefnogi trawsnewidiad Tata Steel—. Roedd hwnnw'n gorwedd yn y cyfrif banc am amser maith iawn o dan y Torïaid. Pan ddaethom ni i rym, fe'i rhyddhawyd ymhen wythnosau. Felly, ni fyddai hynny wedi cael ei gyflawni heb y Llywodraeth Lafur newydd. Cyfleoedd i gefnogi buddsoddiad ymchwil a datblygu yng Nghymru; mae angen i ni weithio mewn partneriaeth ar drefniadau ar gyfer cronfeydd ôl-UE. Mae'n bwysig, yn fy marn i, i ni ddatblygu rhaglen fuddsoddi i sicrhau y bydd tomenni glo segur yn ddiogel. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i ddadlau'r achos hwnnw dros ddull teg o ariannu wrth gymhwyso Barnett o ran cyllid rheilffyrdd, a thynnu sylw at y cyfleoedd i gefnogi economi Cymru a'r pontio i sero net, trwy ddarparu buddsoddiad ym mhorthladdoedd Cymru a buddsoddiad niwclear. Felly, mae yna doreth fawr o bethau, mewn gwirionedd, yr ydym ni wedi ceisio mynd ar eu trywydd gyda'r Llywodraeth. Mae yna restr hir o bethau y mae pawb arall wedi mynd at y Canghellor gyda nhw, ac wrth gwrs mae angen iddi ddod o hyd i ffordd o lenwi'r twll du ariannol hwnnw o £22 biliwn.

O ran pryd y bydd hynny'n digwydd, wel, rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o hynny'n dod i'r amlwg yn ystod datganiad yr hydref. Rwy'n credu ei bod hi'n wych cael clywed bod cyni yn dod i ben, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni gyd yn sicr yn ei groesawu. Ac rwy'n credu, mae'n debyg, ei bod hi'n werth sôn ein bod ni'n cytuno mewn egwyddor â'r adolygiad rhynglywodraethol a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr. Mae angen mecanwaith ffurfiol arnom ni. Y broblem yw, dydyn nhw ddim wedi gwneud unrhyw beth gyda hwnnw. Un cyfarfod gawson nhw yn yr holl amser yna. Felly, rwy'n credu y bydd cyngor y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ddull newydd o ymdrin â hyn, ac fe fydd yn cyfarfod yn yr wythnosau nesaf.

Prif Weinidog, mae economi Cymru yn dal i fod mewn trafferthion wrth ddod o hyd i'w ffordd o ran y newidiadau strwythurol yn sgil dirywiad diwydiannau trwm fel glo a dur, ac mae buddsoddiad sylweddol yn angenrheidiol. O ran sut y gall ein Llywodraeth Lafur newydd ni yn y DU fod o gymorth, rwy'n credu bod adroddiad Gordon Brown, 'A New Britain: Renewing our Democracy and Rebuilding our Economy', yn nodi mesurau ymarferol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol hynny: buddsoddiad sylweddol mewn clystyrau fel lled-ddargludyddion a seiberddiogelwch yn y de-ddwyrain; pontio i ddur gwyrdd; ailadeiladu ein seilwaith, gan gynnwys rheilffyrdd ac ynni adnewyddadwy; ac adleoli swyddi'r sector cyhoeddus i Gymru, lle mae enw mor dda gennym ni mewn ardaloedd fel Casnewydd, lle mae'r swyddfa ystadegau, y swyddfa batentau, y gwasanaeth carchardai, a'r swyddfa basbortau gennym ni, er enghraifft. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi weithio gyda Llywodraeth Lafur y DU i ddarparu'r cymorth hwn sydd ei angen yn ddirfawr ar ein heconomi ni yng Nghymru?

15:25

Diolch yn fawr, John, ac rydych chi bob amser wedi eirioli yn gadarn iawn dros ddatganoli a grym datganoli i allu newid bywydau pobl er gwell. Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu adroddiad Gordon Brown, fel roeddech chi'n sôn, ond gan sôn hefyd am y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol i ni edrych ar hynny a sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â rhai o'r argymhellion sydd yn hwnnw.

Fe wyddoch chi, John, mai blaenoriaeth gyntaf un Llywodraeth Lafur newydd y DU yw tyfu'r economi. Rydym ni ar yr un dudalen yn hynny o beth, oherwydd fe wyddom ni, heb i chi dyfu'r economi, ni fyddwch chi'n gallu talu am eich gwasanaethau cyhoeddus, felly rwy'n credu mai dyna'r ffordd briodol i ni fwrw iddi i wneud pethau. Fe fuom ni drwy gyfnod anodd iawn: fe gawson ni Brexit, fe gawson ni gyni, fe gawson ni COVID, fe gawson ni chwyddiant. Rwy'n credu mai nawr yw'r amser i obeithio, i bobl edrych i'r dyfodol, i ni afael yn y cyfleoedd ac ysgogi dyfodol sy'n wirioneddol ddisglair ac sy'n darparu cyfleoedd i'r bobl sydd yn ein cymunedau ni. Ac mae'r bobl hynny yn eich cymuned chi, John, yn cael cyfleoedd gwir anhygoel ar hyn o bryd, yn enwedig o ran pethau fel y clwstwr seiber sy'n bodoli yn eich ardal chi. Mae'r rhain yn swyddi blaengar sydd yn wirioneddol yn trawsnewid bywydau pobl ac yn sicrhau ein bod ni'n cadw'n ddiogel, ac mae'r arbenigedd hwnnw i'w gael yn eich cymuned chi, ac rwyf i'n llwyr o'r farn bod hwnnw'n rhywbeth i ni ei ddathlu.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i wneud ychydig o sylwadau ar y datganiad yna, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Mae cysylltiadau rhynglywodraethol cryf yn hanfodol er mwyn i Lywodraethau’r DU gydweithio mewn ffordd adeiladol. Mae hwn yn fater y mae’r Pwyllgor Cyllid yn teimlo’n gryf yn ei gylch, yn enwedig mewn perthynas â materion cyllidebol. Dyna pam, cyn yr haf, y gwnaethom ni ddechrau ymchwiliad i effeithiolrwydd strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol, a thrafod y mecanwaith presennol ar gyfer datrys anghydfod. Ein nod yw cyhoeddi'r adroddiad hwn ac edrychaf ymlaen at gael cyflwyno'r ddadl yn y Siambr yma ar ran y Pwyllgor Cyllid yn ystod y tymor yma.

Ers inni ddechrau ein hymchwiliad, bu newidiadau sylweddol yn San Steffan, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid, a hefyd newid personél o fewn Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn gyfle i ailsefydlu perthnasoedd, a gobeithiwn y bydd ein hadroddiad yn helpu i gryfhau cysylltiadau rhynglywodraethol a sicrhau parch cydradd. Gyda hynny mewn golwg, ac o ystyried y dystiolaeth yr ydym ni wedi'i chael sy'n dangos pwysigrwydd cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol i ddatganoli cyllidebol, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog ymhelaethu ar ba drafodaethau penodol y mae hi ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda'r Canghellor a chyd-Weinidogion yn y Trysorlys ar wella prosesau sy’n gysylltiedig â chyllid, a beth yw ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol o safbwynt materion cyllidebol.

Diolch yn fawr, Peredur, a diolch i chi am eich gwaith chi ar y pwyllgor. Dwi'n meddwl bod yna broses ffurfiol mewn lle, ond dyw hi ddim wedi cael ei defnyddio eto os oes yna anghydfod yn gyffredinol, ond does neb wedi defnyddio hynny eto. Ond dwi'n meddwl, o ran cyllid, mae’n bwysig ein bod ni'n sefydlu ffordd o wneud yn siŵr (1) fod ffordd gyda ni i sicrhau bod pobl yn gwybod beth sydd ei angen arnom ni; ond (2), os oes angen inni drafod ymhellach—fel dwi wedi bod yn trafod gyda’r Canghellor dros y penwythnos ar beth yw'n blaenoriaethau ni, beth rŷn ni eisiau ei weld yn y gyllideb—dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig wedyn ein bod ni’n cael cyfle i fynd ati. Ond y ffaith yw bod y pwerau, yr arian, gyda’r Trysorlys. Dyna ble mae hi. Mae yna broses o ran lle rŷn ni’n cael yr arian a phryd rŷn ni’n cael yr arian, ac, wrth gwrs, rŷn ni’n awyddus iawn bod yna newidiadau yn dod i’r ffordd rŷn ni’n cael ein hariannu, ac, yn amlwg, mae hwnna’n rhywbeth gwnes i drafod gyda hi, ac mae yna ffordd, dwi’n meddwl—. Dechrau’r drafodaeth yw hyn; mae lot mwy i fynd.

15:30

Prif Weinidog, diolch i chi, yn gyntaf i gyd, am eich datganiad. Ni ellir peidio â gweld pa mor werthfawr i bobl Cymru yw bod dwy lywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain sy'n cydweithio i wella eu bywydau, ac mae wedi hynny wedi bod yn eisiau am gyfnod maith o 14 blynedd. Mae Prif Weinidog Llafur y DU, Keir Starmer, wedi rhoi gwybod am y cynnig cadarn i greu cyngor newydd o genhedloedd a rhanbarthau, sef mecanwaith i ddod â'r Llywodraethau a meiri'r awdurdodau cyfun at ei gilydd. Mae hynny wedi bod yn eisiau hefyd. Mae'r cynnig newydd hwn a'r ymagwedd newydd hon oddi wrth Lywodraeth Lafur y DU yn eglur arddangos y posibiliadau wrth i Lywodraeth Lafur Cymru weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Lafur y DU, ac mae hi'n anodd credu weithiau mai Llywodraeth Lafur newydd sbon yw hon yn y DU—mae hi newydd ei geni. Ond mae hi'n ffaith ddiymwad, wedi'r ymosodiad echrydus ar gyllid y DU—

—yn ystod cyfnod maith o 14 blynedd dan reolaeth y Ceidwadwyr, mae yna dwll enfawr i'w lenwi. Fy nghwestiwn i, Prif Weinidog: pa feysydd polisi a chyfleoedd strategol a wnaethoch chi eu nodi a fydd yn cael eu datblygu ymhellach drwy gyfrwng deialog adeiladol â'n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU a fydd yn cefnogi ac o fudd ac o gymorth i bobl Cymru?

Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac rydych chi'n hollol gywir, rwy'n credu bod hwn yn gyfle nawr, gyda dwy Lywodraeth sydd â'r un genhadaeth. A rhan o'r genhadaeth honno fydd twf economaidd, ac fe fydd rhywfaint o hynny, rwy'n siŵr, yn cael ei drafod drwy'r strwythur newydd hwn o gyngor cenhedloedd a rhanbarthau. Ac rwy'n credu ei bod hi'n werth sôn am y ffyrdd y gallwn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd. Diben datganoli yw y gallwn ni wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol. Nid oes raid i ni fod yn unffurf i gyd. Fe allwn ni addasu a newid yn ôl anghenion yn ein cymunedau ni ein hunain. Ac roedd hi'n ddefnyddiol iawn cael siarad, er enghraifft, â Sadiq Khan ynglŷn â sut maen nhw wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd a'r hyn y gwnaethon nhw ei ddysgu eisoes ac y gallem ninnau eu dysgu efallai—yn union fel gwnaethom ni gyflwyno'r rhaglen honno, yr hyn a ddysgwyd. Mae'n debyg mai'r arwyddion cynnar iawn yw ei bod hi'n rhaglen hynod lwyddiannus. Ond mae Andy Burnham hefyd—cyfle i ni ddysgu oddi wrtho ef o ran trafnidiaeth a'r hyn sy'n digwydd ym maes gofal.

Felly, rwy'n credu bod cyfle i ni gyd ymgynnull, edrych ar arfer gorau, ac nid peth drwg yw ein bod ni i gyd yn gwneud pethau mewn ffyrdd amrywiol; rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond, o ran meysydd polisi, yr un amlwg i bawb ohonom ni fod yn canolbwyntio arno yw'r economi. Rwy'n credu, pan edrychwch chi ar bosibiliadau ynni adnewyddadwy gwyrdd, yn enwedig yn y môr Celtaidd, rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle aruthrol. Dydw i ddim yn credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ni ei reoli yng Nghymru ar ein pennau ein hunain—mae angen ffynonellau anhygoel o ddwfn o arian i allu ysgogi'r math yna o ymrwymiad a datblygiad yn ei flaen, a dyna pryd y bydd partneriaeth yn gwbl allweddol.

Ar ôl dweud wrthyf i am ysgrifennu at fy AS ynglŷn â phenderfyniadau a wnaeth Llywodraeth y DU sy'n niweidiol i bobl Cymru, a cheryddu Plaid Cymru am ofyn i chi sefyll dros bobl Cymru, rwy'n credu bod angen i mi eich atgoffa chi am y ffordd y mae'r setliad datganoli presennol yn gweithio, Prif Weinidog, am fod penderfyniadau Llywodraeth y DU yn effeithio yn uniongyrchol ar lawer o'r amcanion a'r uchelgeisiau a nodwyd a'r adnoddau datganedig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n sicrhau y byddai'r penderfyniadau hynny'n gweithio er mwyn pobl Cymru'r prynhawn yma. Dyna ddywedodd Carl Sargeant sef yr Ysgrifennydd cymunedau a oedd yn allweddol i'r penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru ar yr adeg honno i ostwng targedau tlodi plant yn 2016. Edrychwch chi ar y cofnod. Ac mae hyn wedi cael ei ailadrodd gan ei olynwyr, yn cynnwys y cyn Brif Weinidog Mark Drakeford, ac Ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol presennol y Cabinet. Felly, dyna pam yr oeddwn i'n gofyn i chi alw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau, gan fod hynny'n effeithio ar 65,000 o blant yng Nghymru. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud hynny heddiw, ac a wnewch chi ymrwymo i dargedau statudol o ran tlodi plant? Efallai y gallai'r targedau hynny eich annog i gymryd ymagwedd fwy pendant gyda'ch cydweithwyr yn y DU o ran y mater hwn. Geiriau gwag yw'r sôn am bartneriaeth i'r miloedd hynny o blant sydd mewn tlodi yng Nghymru.

15:35

Wel, yr hyn a ddywedaf i, Sioned, yw mai mater cymhleth iawn yw datganoli, ond mater ydyw lle ceir llinellau terfyn pendant. A diben y lle hwn yw fy nwyn i gyfrif am y pethau y mae gennyf i bŵer drostyn nhw. Nawr, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n ceisio bod â dylanwad, ac wrth gwrs fe fydd gennym ni farn ynglŷn â'r hyn sydd er gwell ar er gwaeth i Gymru. Ond ni allaf i honni rhedeg Llywodraeth y DU gyfan a dwyn Llywodraeth y DU gyfan i gyfrif bob wythnos yn y Siambr hon. Os mai dyna'r hyn yr ydych chi'n dymuno ei wneud, fe ddylech chi fod wedi mynd i San Steffan. Nawr, fe fyddwn ni'n ceisio gwireddu newid pryd y gallwn ni, ac, o ran tlodi plant, fe wyddoch chi'n siŵr o fod, am ein bod ni wedi gwneud hynny mewn partneriaeth â chi, mae'r ffaith ein bod wedi gallu darparu prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd yn ddull uniongyrchol i geisio datrys problem tlodi plant. Felly, fe fyddwn ni'n gwireddu newid pryd y gallwn ni—[Torri ar draws.]—pryd y gallwn ni a sut y gallwn ni, ond gadewch i ni fod yn eglur: mae yna linellau terfyn pendant iawn o ran yr hyn yr ydym ni'n gyfrifol amdano a'r hyn nad ydym ni.

Mae Sioned Williams wedi ei gwneud hi'n glir pam mae cydweithio'n bwysig rhwng y lle yma a San Steffan. Ac mae'n bwysig bod hwnna'n digwydd pa bynnag blaid sydd mewn grym. Fel y gwnaeth Andrew R. T. Davies ei ddweud, roedd y Ceidwadwyr yn dangos rhyw barch at y setliad datganoledig—hynny tan Brexit; yn eironig wedyn i ddadl nes ymlaen Andrew, Brexit newidiodd hynny. Ond hoffwn i wybod, felly, mwy am gyngor y cenhedloedd. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, dŷn ni ddim yn gwybod llawer am y cyngor, er fy mod i'n hapus bod ymrwymiad gan Keir Starmer—sori, name count arall iddo fe—bod Keir Starmer yn mynd i fynychu'r cyfarfod. Dyw hynny ddim wedi digwydd lawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma. Dwi'n gweld o'ch datganiad chi eich bod chi yn cefnogi'r newidiadau a wnaed nôl yn 2022 ar gyfer perthynas rhyng-lywodraethol. Sut felly bydd y cyngor newydd yn plethu i mewn i hynny, yn enwedig y cyngor sydd wedi cael ei sefydlu dim ond nôl yn 2022? Dŷn ni ddim moyn gormod o gynghorau, ydyn ni? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n credu bod hyn i gyd—. Am ychydig ddyddiau yn unig y mae'r Llywodraeth wedi bod mewn grym yn y Deyrnas Unedig, ac maen nhw'n gweithio eu ffordd drwy bethau. Rydym ni'n edrych ar ddyddiad ymhen ychydig wythnosau, pryd rwy'n siŵr y bydd rhai o'r materion hynny y gwnaethoch chi dynnu sylw atyn nhw—ffurf y berthynas rhwng cyngor y cenhedloedd a'r rhanbarthau a'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, sut y byddan nhw'n plethu gyda'i gilydd—. Oherwydd, yn amlwg, nid ydym ni'n awyddus i ddyblygu yn ddiangen, ond fe geir gwahanol weithredwyr yn y gwahanol grwpiau. Felly, yn amlwg, fe fydd angen trafodaeth ynglŷn â hynny.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, rwyf innau'n croesawu'r newid o ran ymagwedd a welsom ni dros y misoedd diwethaf. Mae hi'n chwa o awyr iach i fod â Gweinidogion yn Llundain sydd wir yn chwilio am ymgysylltiad ac yn awyddus i ymgysylltu â Gweinidogion yma yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill. Mae dau faes polisi yr hoffwn ein gweld yn canolbwyntio arnyn nhw ac i drafod ymhellach. Yn gyntaf oll y mae'r agenda ffyniant bro a ddilynwyd, mewn ffordd rywsut-rywsut braidd, gan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol. Nawr, fe wyddom ni fod hynny wedi cael ei anelu at etholaethau lle roedden nhw'n gobeithio ennill yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac fe wyddom ni ei fod wedi cael ei ddargyfeirio oddi wrth bobl a oedd yn byw mewn tlodi. Mae hynny'n bwysig ac mae sawl sefydliad wedi cysylltu â mi ym Mlaenau Gwent sy'n dymuno gweld polisi rhanbarthol yn cael ei ddilyn gan wledydd y Deyrnas Unedig. Fe gyflwynwyd y polisïau blaenorol i gyd yn y fan hon, wrth gwrs, ym Mae Caerdydd, ac fe'u pennwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, fe hoffwn i gael deall sut rydych chi'n bwriadu mynd ar ôl hyn.

A'r ail fater yw mater y fframwaith cyllido cyffredinol. Mae hi'n bwysig bod Cymru'n cael ei hariannu ar sail angen, ac nid ar sail poblogaeth yn unig. Fe welsom ni Lywodraeth y DU—

—newid sail y fformiwla ariannu ar gyfer Gogledd Iwerddon. Ac os yw hynny'n ddigon da i Ogledd Iwerddon, mae'n ddigon da i Gymru.

Diolch yn fawr iawn i chi, Alun. Rydych chi'n hollol iawn—rwy'n credu mai'r gwahaniaeth mawr pan fyddai'r arian yn dod drwy'r Undeb Ewropeaidd oedd bod yna rai meini prawf gwrthrychol ar gyfer hwnnw, roedd yna sail ar gyfer dosbarthu'r arian, ac roedd hynny'n digwydd i raddau helaeth iawn ar sail yr angen. Wrth gwrs, rydych chi'n hollol iawn, rwy'n credu mai ymdriniaeth wleidyddol gwbl amlwg oedd sut y cafodd yr arian ar gyfer y gronfa ffyniant bro ei ailddosbarthu, ac, wrth gwrs, roedd y gronfa ffyniant gyffredin newydd yn osgoi Gweinidogion Cymru, ac nid yw honno'n ffordd dda i sicrhau ein bod ni'n defnyddio arian cyhoeddus yn y ffordd orau bosibl.

Ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n rhaid i ni gydnabod ein bod ni'n dymuno gweld rhywfaint o ddiwygio. Rydym ni wedi dweud bob amser y byddai hi'n dda iawn gennym ni weld setliad ariannol sydd ar sail angen cymharol, ac fe nodwyd hynny yn ein hadroddiad, 'Diwygio'r Undeb'. Serch hynny, fe fydd angen i'r pedair gwlad gytuno ar y diwygio hwnnw a'i ddodi mewn cytundeb cyllidol newydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwneud synnwyr i hynny gael ei oruchwylio a'i weithredu gan gorff sy'n annibynnol oddi ar Lywodraeth y DU. Nawr, nid ydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa honno eto, ac rwy'n credu bod honno'n drafodaeth y mae angen i ni barhau â hi, ond ein blaenoriaeth yn y tymor agos yw sicrhau bod y fformiwla ariannu gyfredol yn darparu ar gyfer Cymru, ac fe fyddwn ni'n parhau i ddadlau dros hynny. Ac mae'n werth nodi bod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yn ei adroddiad terfynol, yn tynnu sylw hefyd at yr achos cynyddol dros gynnal adolygiad o ariannu'r Llywodraethau datganoledig a arweinir ar y cyd gan y DU a'r Llywodraethau datganoledig. Rwyf i o'r farn, o ran Barnett yn unig, ei bod hi'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn, beth bynnag sy'n digwydd, nad ydym ni'n gweld unrhyw leihad yn gyllid a fyddai'n dod i Gymru. 

15:40
4. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru

Eitem 4 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yng Nghymru. A galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Dawn Bowden.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, fel y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, mae'n gyfrifoldeb mawr ac yn anrhydedd i gynrychioli a hyrwyddo'r sector o fewn y Llywodraeth. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog flaenoriaethau a luniwyd gan bobl Cymru, a nododd yn glir fod gwella mynediad at ofal cymdeithasol yn rhan fawr o flaenoriaethau'r Llywodraeth hon i ddarparu iechyd da. Mae llawer eisoes wedi'i wneud i wella mynediad at ofal cymdeithasol. Fe wnaethon ni lansio'r swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth a'r bartneriaeth gyntaf ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yn y DU. Rydym yn gwneud cynnydd gwych yn trawsnewid gwasanaethau plant ac fe wnaethon ni gyflwyno'r Bil gofal cymdeithasol arloesol.

Nawr, yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog â chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol, rwyf wedi cael y fraint a'r cyfle i ymweld â gwasanaethau sy'n cyflawni newid go iawn. Rwyf wedi gweld enghreifftiau o arferion blaengar sy'n hyrwyddo canlyniadau da i bobl Cymru. Rwyf hefyd wedi gweld drosof fi fy hun y gweithlu gofal cymdeithasol talentog a diflino sy'n ganolog i'r system yng Nghymru. Maen nhw, a'r dinasyddion sydd angen gofal a chymorth, yn rhoi'r cymhelliant i mi symud ymlaen i gyflawni'r polisi pwysig hwn a mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau o hyd. Wrth wraidd popeth a wnawn mae'r uchelgais syml ond hanfodol i alluogi pobl i fyw eu bywydau'n llawn. Adlewyrchir hyn yn y deddfau a'r polisïau sy'n ein llywodraethu ni a'n partneriaid statudol sy'n cyflawni i'n poblogaethau lleol. 

Ers i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddod i rym, rydym wedi parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni ei nodau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yng Nghymru. Roedd y rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth yn cydnabod bod gwella'r ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu comisiynu yn un o'r ffyrdd allweddol y gallwn ni hwyluso newidiadau cadarnhaol er mwyn galluogi'r Ddeddf i gael ei gweithredu'n gyson ac yn effeithiol. Trwy gymhwyso egwyddorion y Ddeddf at gomisiynu, mae'r fframwaith cenedlaethol yn paratoi'r ffordd ar gyfer system symlach, lle gellir cydbwyso'r ddarpariaeth gofal a chymorth i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru. A dyna pam rydym wedi datblygu cod ymarfer newydd a ddaeth i rym ar 1 Medi sy'n sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth. Mae'r fframwaith yn rhoi egwyddorion a safonau cenedlaethol ar waith i lywio ac alinio arferion comisiynu â nodau'r Ddeddf. Ei nod yw lleihau cymhlethdod a sbarduno dull cyson o weithredu, a gwella canlyniadau yn y pen draw.

Bydd y fframwaith yn symud arferion comisiynu i ffwrdd oddi wrth gontractau sy'n cael eu llywio gan brisiau tuag at system lle mae'r prif sbardun ar gyfer gwasanaethau yw ansawdd a gwerth cymdeithasol. Bydd gennym ffocws clir ar gyflawni'r canlyniadau personol ac unigol sy'n bwysig i bobl, yn hytrach na mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar dasgau. Bydd y fframwaith hwn yn sicrhau bod unigolion wrth wraidd y gwaith o gynllunio'r gwasanaethau gofal a chymorth y maent yn eu derbyn, a bod y gwasanaethau hynny ar gael. Rhaid i ni hefyd greu system lle mae'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn gynaliadwy ac yn cael ei rheoli'n effeithiol i ddiwallu anghenion ein pobl, nawr ac yn y dyfodol. 

Felly, beth mae gwella mynediad at ofal cymdeithasol yn ei olygu a sut fydd y fframwaith cenedlaethol yn cyfrannu at gyflawni'r nod blaenoriaeth hwn? Mae'n golygu y bydd pobl ledled Cymru yn gallu arfer eu hawl i geisio a chael y gwasanaethau gofal a chymorth sy'n diwallu eu hanghenion unigol ac sy'n eu helpu i gyflawni eu canlyniadau dymunol ac i fyw eu bywydau'n llawn. Mae'r egwyddor o'r hyn sy'n bwysig i unigolion wedi'i hymgorffori yn egwyddorion a safonau'r cod ac, ynghyd â'i ddarpariaethau sy'n ymwneud â hawliau pobl, bydd yn helpu i hwyluso mynediad effeithiol ac effeithlon at wasanaethau.

Mae darpariaethau penodol o fewn y safonau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth gael ei gyd-gynhyrchu gydag unigolion sydd angen gofal a chymorth, gyda'u llais a'u rheolaeth yn ganolog. Mae hon yn egwyddor sy'n ganolog i'r Ddeddf, ond dylai ei chymhwyso'n benodol i gomisiynu hwyluso newidiadau cadarnhaol i sicrhau mynediad amserol a hawdd i wasanaethau. Bydd awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cael eu galluogi i gynllunio'n effeithiol a sicrhau bod yr ystod lawn o wasanaethau gofal a chymorth sydd eu hangen ar unigolion yn eu hardaloedd, ac sy'n bwysig iddynt, ar gael yn ddigonol i bawb sydd eu hangen ar yr adeg y mae eu hangen.

Mae'n amlwg y bydd y fframwaith cenedlaethol yn chwarae rhan ganolog yn y ffordd y byddwn ni'n cyflawni ymrwymiad o'r newydd y Llywodraeth hon i wella mynediad at ofal cymdeithasol, sy'n cyfrannu'n sylweddol at ein hymdrechion cyffredinol i ddarparu iechyd da. Byddwn yn llywio'r trawsnewidiad hwn trwy arweinyddiaeth gref ar bob lefel, fel bod perthnasoedd, gwaith teg a gwerth yn ganolog i gomisiynu gofal a chymorth.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2024, yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi partneriaid i weithredu'r fframwaith cenedlaethol i wireddu ein nodau a'n huchelgeisiau ar y cyd. Rydym eisoes wedi dechrau cyflwyno pecyn cymorth er mwyn helpu partneriaid i ddeall y fframwaith cenedlaethol a'i weithredu. Cynhaliodd y swyddfa genedlaethol, mewn partneriaeth â'r bwrdd comisiynu cenedlaethol, naw sesiwn codi ymwybyddiaeth, a fynychwyd gan dros 450 o randdeiliaid o bob rhan o'r sector. Mae hyn wedi darparu gwybodaeth amhrisiadwy i lywio'r gefnogaeth y bydd y swyddfa genedlaethol yn ei rhoi i bartneriaid i weithredu'r fframwaith cenedlaethol. Gan adeiladu ar hyn, byddwn yn cynnal digwyddiadau pellach ledled Cymru yn ystod yr hydref.

Mae'r swyddfa genedlaethol hefyd wedi lansio pecyn cymorth o adnoddau i gefnogi comisiynwyr i weithio yn unol ag egwyddorion a safonau'r fframwaith cenedlaethol. Mae'r pecyn cymorth hwn ar gael i'r cyhoedd ac yn cael ei gynnal ar blatfform cymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn ogystal â chefnogi'r gwaith o weithredu'r fframwaith, mae'r swyddfa genedlaethol yn datblygu, trwy ddeialog barhaus â chomisiynwyr a'r sector ehangach, fecanwaith ar gyfer monitro hynt y gwaith gweithredu. Bydd y broses hon hefyd yn llywio'r gwaith o adolygu a diwygio'r fframwaith cenedlaethol, a fydd yn digwydd bob dwy flynedd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn cyd-fynd â dyheadau'r Ddeddf ar yr un pryd. Mae hyn yn amlwg yn cyd-fynd â'n ffocws o'r newydd ar ddarparu, atebolrwydd a gwell cynhyrchiant.

Yn unol â'r dull gweithredu hwn, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth roi'r fframwaith cenedlaethol ar waith. Edrychaf ymlaen at rannu'r newidiadau cadarnhaol y mae'n eu gwneud i ofal cymdeithasol yng Nghymru a sut mae'n helpu i gyflawni uchelgais y Llywodraeth o wella mynediad at ofal cymdeithasol. Diolch yn fawr.

15:45

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'r cod newydd hwn yn gam i'w groesawu'n fawr wrth sicrhau bod gennym ddull unffurf o gomisiynu gofal, ni waeth ble rydych chi'n byw neu bwy sy'n darparu'ch gofal. Gweinidog, er fy mod i'n croesawu cyflwyno'r fframwaith cenedlaethol, mae gen i ychydig o gwestiynau ar sut fydd y fframwaith yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen o ddydd i ddydd.

Sut fydd y Gweinidog yn sicrhau na fydd symud i ffwrdd oddi wrth gontractau sy'n cael eu llywio gan brisiau, sy'n cael ei groesawu, yn cael effaith niweidiol ar gyllidebau awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol? Rydych chi'n nodi y bydd comisiynwyr yn gallu cynllunio'n effeithiol a sicrhau bod yr ystod lawn o ofal a chymorth ar gael i bawb sydd eu hangen ar yr adeg y mae eu hangen. Fodd bynnag, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r hyn sy'n fwy o rwystr i ddarpariaeth gofal, sef gweithlu sydd ag adnoddau da ac sy'n cael ei werthfawr, fydd ddim modd cyflawni hyn. Gweinidog, sut fydd y fframwaith newydd yn mynd i'r afael â phrinder gweithlu ac yn sicrhau bod modd cynllunio'r gweithlu yn yr hirdymor?

Ar wahân i'r materion heriol sy'n ymwneud â'r gweithlu a'r gyllideb, mae'n rhaid i ni hefyd fynd i'r afael â heriau eraill sy'n wynebu comisiynwyr gofal a chymorth, sef gwell hyfforddiant a chasglu data. Gweinidog, pa hyfforddiant a chymorth sy'n cael eu darparu i'r rhai a fydd yn comisiynu gofal a chymorth er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau a ddisgwylir gan y fframwaith newydd?

Ac yn olaf, Gweinidog, o ran casglu data, heb ddata priodol, sut y gellir disgwyl i gomisiynwyr ddeall anghenion gofal eu hardal a'u gallu i ddarparu ar gyfer yr anghenion hynny? Bydd y fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr annog darparwyr i gwblhau proses Gofal Cymdeithasol Cymru o gasglu data ar y gweithlu. Gweinidog, siawns na ddylai hyn fod yn orfodol o leiaf. Mae angen i ni ddeall sgiliau'r gweithlu yn drylwyr os ydym am gael unrhyw obaith o fynd i'r afael â phrinder sgiliau. Sut fyddwn ni'n gwybod a oes angen mwy o ofalwyr Cymraeg eu hiaith arnom os nad ydym yn gwybod beth yw sgiliau'r gweithlu presennol? Gweinidog, oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gynyddu gofynion casglu data'r cod?

Diolch eto am eich datganiad ac edrychaf ymlaen at fonitro'r ffordd y caiff ei weithredu a'i gyflawni ledled Cymru. Diolch yn fawr.

15:50

Diolch yn fawr, Altaf, a diolch am y sylwadau a'r cwestiynau hynny, ac am y croeso rydych chi wedi'i roi i'r fframwaith yn gyffredinol. Fel y dywedais i, rydym yn sefydlu hyn er mwyn galluogi'r fframwaith i fod yr un mor berthnasol i awdurdodau lleol ag y mae i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau o ran comisiynu gofal. Felly, mae'n ddatblygiad newydd yn hynny o beth, oherwydd nawr, am y tro cyntaf, mae'n rhoi gofyniad ar fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau hefyd. Ac mae'r cyfarwyddyd hwnnw wedi cael ei roi i'r byrddau iechyd ac i'r ymddiriedolaethau. 

O ran y gwahanol elfennau neu'r gwahanol bwyntiau rydych chi wedi'u codi, o ran yr effaith ar gyllidebau, mae hyn yn ganolog i'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni yma. Mae cymaint o anghysondeb ledled Cymru o ran faint mae gofal yn ei gostio, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, a beth yw'r cyfraddau, ac yn y blaen, ac mae hynny'n rhannol oherwydd does dim diffiniad clir a chyson o'r hyn y dylai comisiynwyr fod yn chwilio amdano. Felly, bydd y fframwaith cenedlaethol hwn yn nodi hynny'n glir iawn, bydd yn nodi'r hyn sydd angen i gomisiynwyr ei wneud, yr hyn y dylen nhw fod yn chwilio amdano wrth ddarparu gofal, p'un a yw'n gost, p'un a yw'n ganlyniad, p'un a yw'n weithlu staff a ph'un ai'r sgiliau a'r digonolrwydd sydd eu hangen arnyn nhw. Felly, bydd rhan o'r fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl bartneriaid—awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ac yn y blaen—ddatblygu cynllun digonolrwydd a fydd yn nodi'r sgiliau sydd eu hangen i'w galluogi i gyflawni'r hyn yr ydym am iddyn nhw ei gyflawni.

Nid wyf yn tanamcangyfrif am un eiliad yr her enfawr sydd ynghlwm wrth hynny, oherwydd rwy'n credu, yn y cwestiwn a ofynnodd Jane Dodds yn gynharach i'r Prif Weinidog am y gweithlu gofal cymdeithasol, rydym yn gwybod bod heriau enfawr yn y maes hwnnw, ond rydym yn gwneud llawer iawn o waith i geisio mynd i'r afael â'r bylchau, y swyddi gwag, y recriwtio a'r cadw, y llwybrau gyrfa ac i ddatblygu proffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol, fel ei bod yn dod yn yrfa ddeniadol i rywun fod yn rhan ohoni.

O ran yr hyfforddiant rydych chi'n credu y bydd ei angen ar gomisiynwyr, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Os ydym am wneud hyn yn effeithiol ac yn gyson ledled Cymru, mae angen i bawb wybod beth maen nhw'n ei wneud ac mae'n rhaid i bawb fod yn canu o'r un ddalen emynau, ac rwy'n gobeithio mai dyna fydd y fframwaith yn ei ddarparu. Fel y dywedais i yn fy natganiad, rydym eisoes wedi cyflwyno nifer o sesiynau hyfforddi i gomisiynwyr, rhanddeiliaid. Mae dros 450 o bobl eisoes wedi mynychu'r sesiynau hynny. Ac rydym yn darparu pecyn cymorth i gomisiynwyr ei ddefnyddio, fel bod ganddyn nhw rywbeth a all eu tywys drwy hyn. Y swyddfa genedlaethol a sefydlwyd gennym ar gyfer gofal fydd yr adnodd a'r cymorth allweddol a fydd ar gael i gomisiynwyr i sicrhau bod ganddyn nhw rywle y gallan nhw fynd, i wneud yn siŵr mai'r hyn y maen nhw'n ei wneud yw'r hyn a ddisgwylir yn y fframwaith a'i fod yn cyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd.

15:55

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae’r datganiad a datblygu’r fframwaith yma yn gam mawr tuag at greu gwasanaeth gofal cenedlaethol, ac mae o felly i’w groesawu. Mae’n waith, wrth gwrs, ddechreuodd yn dilyn gweithredu ar bolisi Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithio—arwydd unwaith eto fod datganiadau cadarnhaol sydd yn dod allan o’r Llywodraeth yma yn dod yn sgil dilyn arweiniad cadarnhaol Plaid Cymru. Ar bapur, wrth gwrs, mae’r egwyddorion craidd a’r safonau sydd wedi cael eu gosod allan yn y fframwaith yma yn rhai yr ydym ni yn eu cefnogi, ac mae’n hen bryd gweld hyn yn digwydd.

Fodd bynnag, fel y mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos yn glir, mae cryn dipyn o bryder o hyd na fydd modd cyflawni'r egwyddorion a'r safonau a amlinellir yn y fframwaith hwn yn ymarferol, er mor deilwng ydyn nhw. Ac maen nhw'n iawn i bryderu. Heb i gyni gael ei wrthod yn bendant a heb gynnydd parhaus mewn gwariant cyhoeddus, mae awdurdodau lleol, a fydd yn bennaf cyfrifol am weithredu'r fframwaith hwn, yn rhuthro'n bendramwnwgl tuag at argyfwng dirfodol. Eleni, maen nhw'n gorfod ymdopi â chynnydd o 3.8 y cant mewn pwysau gwariant o'i gymharu â chynnydd o 0.3 y cant yn unig mewn cyllid. Erbyn 2027, rhagwelir y bydd yr anghysondeb hwn yn gadael diffyg o tua £0.75 biliwn ledled Cymru.

Felly, mae'r goblygiadau i Gymru yn sgil agenda cyni Llafur yn enbyd. Mae meysydd heb eu clustnodi yng nghyllideb Cymru, sy'n cynnwys gofal cymdeithasol, bellach yn wynebu gostyngiad mewn termau real o £683 miliwn dros y pum mlynedd nesaf. Pan godais y realiti amlwg hwn gyda'r Gweinidog iechyd ar y pryd ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe ges i ymateb gwamal am drethi a oedd yn gwbl groes i'r gwerthoedd democrataidd cymdeithasol y mae'r Blaid Lafur i fod wedi'i seilio arnyn nhw. Ers hynny, mae hi wedi gwrthod herio fformiwla anghyfiawn Barnett sydd wrth wraidd tanariannu systematig Cymru gan San Steffan, ac mae hi wedi cyfaddef bod ganddi gymaint o ddylanwad dros y penderfyniadau a wneir gan Brif Weinidog y DU ag sydd ganddi dros Donald Trump. Yn groes i'r addewidion a wnaed dros yr haf, felly, dyma Lywodraeth sy'n rhoi ei bysedd yn ei chlustiau yn hytrach na gwrando ar rybuddion darparwyr gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu gwthio i'r dibyn.

Mater i'r Ysgrifennydd Cabinet, felly, yw esbonio i'r awdurdodau lleol, y bydd disgwyl iddyn nhw weithredu'r fframwaith hwn, sut y gallan nhw o bosibl lwyddo i wneud mwy gyda llai. Felly, a all y Gweinidog warantu y bydd y camau hyn yn gweithio heb gynyddu cyllid i gefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol yn briodol? Pa ddylanwad, os o gwbl, sydd gan y Gweinidog hwn neu'r Llywodraeth ar Lywodraeth y DU i sicrhau cyllid priodol a gwell er mwyn cyflawni'r fframwaith hwn yn llawn ac yn llwyddiannus?

A gaf i ddiolch i chi, Mabon, am y pwyntiau hynny ac am eich croeso rydych chi wedi'i roi i'r fframwaith comisiynu yn gyffredinol? Rwy'n credu ein bod ni yn yr un lle o ran yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni ar hyn i gyd. Dydw i ddim yn mynd i ddelio â'r materion sydd, yn gwbl briodol, yn rhai i'r Prif Weinidog, ond eich sylwadau a'ch pwyntiau cyffredinol am gyllid a chyllidebau, rwy'n deall yn iawn, ac rydym yn cael y trafodaethau cadarn iawn hynny yn y Cabinet, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Byddwn ni'n cael rownd nesaf y gyllideb cyn bo hir, lle byddwn ni i gyd yn gwneud ein ceisiadau am ble rydym yn credu y dylai arian ar gyfer y rownd ariannol nesaf fod yn mynd.

Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud—fe atebais i hyn yn rhannol pan wnes i ymateb i Altaf—dydy llawer o hyn ddim yn ymwneud â gofyn i awdurdodau lleol wneud mwy, dydy e ddim yn ymwneud â gofyn i fyrddau iechyd wneud mwy, mae'n ymwneud â gofyn iddyn nhw wneud pethau'n wahanol. Mae'n ymwneud ag edrych—. Rydym yn glir iawn ynglŷn â beth oedd pwrpas y rhaglen ail-gydbwyso gofal. Fe wna' i ailadrodd hynny: mae'n ymwneud â symud i ffwrdd oddi wrth gymhlethdod tuag at symlrwydd; mae'n ymwneud â symud i ffwrdd oddi wrth bris tuag at werth cymdeithasol ac ansawdd; ac mae'n ymwneud â symud i ffwrdd oddi wrth gomisiynu adweithiol a thuag at reoli'r farchnad. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer comisiynu'r gwasanaethau hynny a all gynhyrchu mwy o werth am arian a mwy o gysondeb. Unwaith eto, yn fy ymateb i Altaf, fe wnes i'r pwynt, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yng Nghymru, fod cost gofal yn wahanol iawn.

Yr hyn y mae hyn yn anelu i'w wneud yw sicrhau cysondeb, fel bod pawb yn gwneud yr un peth. Nid yw hynny'n golygu, o reidrwydd, y bydd yr holl daliadau yr un fath ac y bydd ffioedd cartrefi gofal, er enghraifft, yr un fath ble bynnag y maen nhw. Ond bydd egwyddorion sylfaenol y ffordd y caiff gofal ei gomisiynu, sy'n dra gwahanol yn dibynnu ar ba ran o Gymru rydych chi ynddi ar hyn o bryd, yn ein symud ni tuag at ddull llawer mwy cyson, a fydd, gobeithio, yn arwain at ansawdd a chanlyniadau gwell i unigolion. Dyna'r peth allweddol. Dydy e ddim yn ymwneud â phris yn unig; mae'n ymwneud â chanlyniadau. Ac mae'n ymwneud â gwaith partneriaeth mwy effeithiol rhwng yr awdurdodau lleol a rhwng y byrddau iechyd.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud hefyd yw bod rolau sylweddol i bartneriaid eraill o ran cyflawni hyn. Rydym yn edrych ar rôl byrddau partneriaeth rhanbarthol, er enghraifft. Roeddem yn sôn am bwysau cyllido, ond o ran agweddau sylweddol ar ofal cymdeithasol a darparu gofal cymdeithasol, mae gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol y gallu i gyfuno cyllid—y £145 miliwn o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i wneud yr union waith hwn. Mae'n ymwneud ag integreiddio ein system gofal cymdeithasol, mae'n ymwneud â sicrhau cysondeb yn ein system gofal cymdeithasol, ac mae'n ymwneud â chael gwared ar gymhlethdod er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y canlyniadau rydym eu heisiau. A'r hyn sy'n allweddol i hynny i gyd yw cynnwys yr unigolion wrth gynllunio eu gofal fel bod eu llais yn ganolog i bopeth rydym yn edrych i'w wneud.

Does dim o hyn yn hawdd. Does dim byd byth yn hawdd. Oherwydd pe bai pethau'n hawdd, Mabon, bydden ni wedi gwneud y cyfan erbyn hyn. Felly, yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw ailgydbwyso, fel y dywedais i. Bydd gennym broses monitro ac adolygu, a byddwn yn edrych i adolygu'r hyn bob dwy flynedd gyda'r bwriad o'i adnewyddu a'i wella mewn meysydd lle credwn fod angen ei gwella. Ond bydd y broses yn cael ei monitro a'i hadolygu'n gyson wrth i ni symud ymlaen.

16:00

Rwy'n croesawu'r adroddiad y mae'r Gweinidog wedi'i roi heddiw. Rwy'n credu bod symud tuag at fframwaith cenedlaethol, ar ôl sefydlu'r swyddfa genedlaethol, yn gam cadarnhaol iawn ymlaen, ac rwy'n falch iawn bod y Gweinidog yn mynd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn y Siambr am y cynnydd.

Ond un o'r materion mawr sy'n wynebu'r gweithlu gofal cymdeithasol, sydd eisoes wedi'i godi yn y Siambr heddiw, yw mater cyflog. Mae mor bwysig bod cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol yn adlewyrchu gwerth y gwaith maen nhw'n ei wneud. Mae'n wych bod y Llywodraeth wedi gallu cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, ond fel y gwyddom, mae yna heriau, yn enwedig pan fyddwch chi'n paru swyddi tebyg yn y GIG a'r gwasanaeth gofal cymdeithasol. Mae hi yn ei gwneud hi'n anodd cadw gweithwyr gofal cymdeithasol yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol pan allan nhw gael eu talu llawer mwy os ydyn nhw'n gwneud yr un swydd yn y GIG. Felly, mae llawer o faterion fel yna i'w hystyried.

Roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthym sut mae hi'n bwriadu defnyddio'r fframwaith i sicrhau bod lleisiau gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu clywed a'u bod yn gallu cyfrannu at yr hyn sy'n gam enfawr ymlaen yn fy marn i. A fyddai'n cytuno mai'r swyddfa genedlaethol a'r fframwaith cenedlaethol yw'r blociau adeiladu tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol?

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am y pwyntiau hynny a'r cwestiynau hynny? A hoffwn ddiolch i chi hefyd, Julie, am y gwaith a wnaethoch yn arwain at ffurfio a drafftio'r fframwaith cenedlaethol. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn rhan fawr o hynny cyn i mi ddod yn Weinidog, felly diolch i chi am y gwaith a wnaethoch ar hynny.

Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud, o ran lle rydyn ni ar hyn o bryd, yw rwy'n credu bod pob un ohonom—. Mae wedi cael ei godi sawl gwaith ac rydym i gyd yn deall heriau'r gweithlu gofal cymdeithasol yn iawn, ac yn arbennig yr union bwynt yr oeddech chi'n ei godi am gael yr un parch â'r GIG. Rydym yn gwybod bod cynorthwywyr gofal iechyd yn y GIG, er enghraifft, yn gwneud gwaith tebyg iawn i weithwyr gofal cymdeithasol, ac eto mae eu cyfraddau tâl a'u hamodau yn wahanol iawn. A'r rheswm am hynny yw eu bod nhw'n gweithio mewn strwythurau gwahanol y Llywodraeth—un yn y GIG, un mewn awdurdodau lleol.

O dan safon 2 y fframwaith, bydd yna ofyniad i sicrhau sgiliau, adnoddau a chapasiti digonol gan yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd. Yr hyn fydd ei angen i wneud hynny yw bydd yn rhaid i'r holl bartneriaid statudol gydbwyso elfennau o'r cylch comisiynu er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o sgiliau a chapasiti i gydlunio, cynllunio, darparu, sicrhau'r gwasanaethau rydym yn gofyn iddyn nhw eu comisiynu. Er mwyn gwneud hynny, rhan o'r hyn maen nhw'n mynd i orfod edrych arno yw'r hyn maen nhw'n talu staff. Os oes rhaid iddyn nhw sicrhau bod digon o sgiliau, yna bydd elfen o hynny a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw dalu'r gyfradd a fydd yn gofyn am y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.

Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw bod cryn dipyn o'r gwaith hwnnw wedi cael ei wneud drwy'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid undebau llafur yn y fforwm hwnnw, fel y gwyddoch chi, ac mae llawer iawn o waith yn dal i fynd rhagddo. Y cyflog byw gwirioneddol rydych chi eisoes wedi'i nodi. Rydym bellach yn nhrydedd flwyddyn y cyflog byw gwirioneddol. Roedd hynny'n rhywbeth a flaenoriaethwyd i ddechrau, a dydy e ddim wedi gorffen yno. Dyna oedd y cam cyntaf. Rydym nawr yn edrych ar y meysydd eraill—telerau ac amodau gwasanaeth—a sut y gellir gwella rhai o'r pethau hynny: y llwybrau gyrfa i bobl, fel ei fod yn dod yn opsiwn gyrfa deniadol ac yn rhoi cyfle i bobl symud ymlaen i wahanol feysydd; llwybrau posibl i waith cymdeithasol, gyda'n bwrsariaeth gwaith cymdeithasol; ac yn y blaen.

Yn y bôn, rwy'n credu ein bod ni'n gwybod bod gennym ni broblem sylweddol gyda'r gweithlu gofal cymdeithasol na allwn roi'r gorau iddi, o ran symud i geisio ei datrys. Rwy'n credu ei bod yn hollol iawn bod gennym barch cydradd â'r GIG. Gweithlu proffesiynol yw hwn sy'n gofalu am rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a dylem werthfawrogi hynny'n llwyr. Felly, mae hynny'n waith sy'n mynd rhagddo. Dydy e ddim wedi gorffen, a fyddwn ni ddim wedi gorffen â hynny nes ein bod ni'n cyflawni'r hyn y mae angen i ni ei gyflawni ar gyfer y gweithlu gwerthfawr iawn hwnnw.

16:05

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf wir yn croesawu hyn. Mae'n gam gwych ymlaen, ond mae gen i ychydig o bwyntiau, mewn gwirionedd, ar gyflymder. Rydym yn parhau i aros am hyn. Mae'r cymhlethdod yn fy meddwl yn ymwneud â'r ad-drefnu a'r diwylliant newydd sydd ei angen. Mae pobl yn ein sector gofal a'n sector iechyd wedi'u gorlethu'n fawr ar hyn o bryd, ac mae pentyrru newid arall arnyn nhw, unwaith eto, yn her wirioneddol. Felly, meddwl ydw i tybed sut fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, yn enwedig ar frys.

Mae'r ail fater yn un a godais gyda'r Prif Weinidog y prynhawn yma, sy'n ymwneud â'r sector gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig. Mae'n heriol iawn i ni, unwaith eto, i recriwtio a chadw gofalwyr mewn ardaloedd gwledig. Roeddwn i'n siarad â menyw y mae ei gŵr angen gofal parhaus. Bu'n rhaid iddyn nhw ddod â gofalwr o Gaerwrangon i mewn yn barhaus er mwyn ei gefnogi. Dydy hynny ddim yn briodol a dydy e ddim yn werth da am arian. Felly, allech chi amlinellu'r cyflymder a'r raddfa, a hefyd sut rydym yn mynd i gael ein gofalwyr i mewn i ardaloedd gwledig a meithrin y capasiti hwnnw yn yr ardaloedd hynny lle mae'n anodd iawn recriwtio a chadw? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am hynny, Jane, ac rwy'n clywed eich her am newid cyflymder yn llwyr. Yr hyn rwy'n gobeithio yw na fydd hyn yn newid enfawr i bobl sy'n ymwneud â chomisiynu gwasanaethau. Yr hyn mae'n ei wneud yw cyflwyno cysondeb a'i roi ar sail statudol, fel bod llai o ryddid i wneud pethau ychydig yn wahanol, fel bod gennym ni ddull cyson iawn. Os yw pawb yn gweithio i'r un dull cyson hwnnw, un o amcanion hyn, yn amlwg iawn, yw y dylem weld arbedion costau drwy'r broses. Oherwydd fel y dywedais i yn yr ateb a roddais i Mabon yn gynharach, rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau, yn enwedig ar awdurdodau lleol, ac mae angen i ni gyflawni hyn er mwyn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny hefyd.

Rwy'n gwybod, mewn rhai ardaloedd byrddau partneriaeth rhanbarthol, bod rhai awdurdodau lleol a rhai byrddau iechyd wedi datblygu'n fwy o ran eu gallu i allu delio â hyn nag eraill, ond fe allan nhw i gyd symud yn gyflym iawn i'r fframwaith newydd a gofynion y fframwaith newydd. Fel y dywedais i, rydym wedi cynnal cyfres o weithdai a sesiynau hyfforddi gyda chomisiynwyr dros yr haf. Mae rownd arall o hyfforddiant ar gael iddyn nhw yn yr hydref. Bydd pecyn cymorth ar gael, a byddan nhw'n gallu cael mynediad i'r swyddfa gofal genedlaethol i gael cymorth.

Mae'r her o ran gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig yn un real, a byddai'n ffôl i mi sefyll yma a dweud bod gen i'r atebion i gyd i hynny, oherwydd, unwaith eto, fel y dywedais i mewn ymateb blaenorol, pe bai gennym yr atebion i bopeth, byddem wedi gwneud y cyfan erbyn hyn. Ond er bod pethau'n anodd, nid yw'n golygu na ddylem fod yn edrych arno ac yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Mae'r ateb—. Mae'r broblem, sori—cyn i ni gael yr ateb, gadewch i ni edrych ar y broblem—bron yn amlwg ohono'i hun, onid ydyw, mewn ardaloedd gwledig, oherwydd mae llai o bobl mewn ardaloedd gwledig i wneud pob math o waith. Mae cael pobl i mewn i ofal cymdeithasol mewn ardaloedd lle mae gennym boblogaethau dwys iawn yn anodd, felly mae ei gael mewn ardal denau ei phoblogaeth yn anoddach byth. 

Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs gyda chi y tu allan i'r drafodaeth hon y prynhawn yma, i weld sut y gallem efallai edrych ar rai o'r syniadau ar gyfer gwneud hyn, oherwydd yn sicr does gen i ddim yr atebion i gyd. Does gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, rwy'n siŵr, ddim yr atebion i gyd, a hoffen nhw gael rhywfaint o help a chefnogaeth gyda hynny. Ond rydym yn rhoi sylw iddo. Rydym yn deall yr heriau. Mae'r holl bethau a ddywedais mewn ymateb i Julie Morgan yr un mor berthnasol i geisio recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig, ond rwy'n deall yr anhawster ychwanegol o gael llai o bobl y gellir troi atyn nhw yn y boblogaeth. Ond rwy'n fwy na hapus i gael sgwrs bellach gyda chi am hynny.

16:10

Diolch yn fawr, Gweinidog. Ydych chi'n ystyried hyn yn gam tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol? Os felly, pryd? Oherwydd fe fyddwch chi'n gwybod yn iawn bod unigolion a theuluoedd yn cael eu llethu gan gostau gofal ac, yn aml, dydyn nhw ddim yn derbyn y gofal y dylen nhw fod yn ei gael, y mae angen iddyn nhw fod yn ei gael. Yn dilyn ymlaen o'r pwyntiau gan Altaf a Mabon, a'ch ymateb chi, a wnewch chi warantu y bydd y swyddfa genedlaethol yn cael yr adnoddau digonol sydd eu hangen arni i ddarparu hyfforddiant effeithiol? Ac yn drydydd, o ran data, mae data yn bwysig iawn, ond mae casglu data, yn enwedig casglu data sensitif, yn gostus ac yn heriol. Rydym wedi gweld, o'r tor rheol a gyflawnwyd gan y Comisiwn Etholiadol eleni, beth sy'n digwydd pan gaiff data ei reoli ar gyllideb dynn iawn. Allwch chi roi sicrwydd heddiw y bydd data gofal cymdeithasol unigolion bregus iawn, teuluoedd ac achosion yn cael ei gadw'n ddiogel? Diolch yn fawr.

Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Mae yna gwpl o bethau. Mae'n ddrwg gennym, Altaf, fe wnaethoch chi godi mater data yn gynharach, felly byddaf yn delio ag ef nawr mewn ymateb i Rhys ab Owen. Yn sicr, mae casglu data yn hanfodol bwysig, oherwydd mae'n darparu'r llinell sylfaen yr ydym yn gweithio ohoni. Rwy'n mynd i fod yn gwneud cyhoeddiad pellach yr wythnos nesaf, rwy'n credu, ynghylch cyflwyno'r adolygiad diogelu unedig sengl a'r holl waith yr ydym wedi gorfod ei wneud ar hynny gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i sicrhau bod data yn gallu cael ei rannu mewn ffordd ddiogel, lle mae cyfrinachedd pobl yn cael ei barchu, ac yn y blaen. Felly, rydym wedi gwneud llawer iawn o waith ar hynny, ac mae gennym ni ganllawiau clir iawn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch sut rydym yn gwneud hynny, a sut rydym yn sicrhau bod hynny'n ddiogel. Byddaf yn dweud ychydig mwy am hynny pan fyddaf yn gwneud y datganiad hwnnw.

Mae'r swyddfa genedlaethol yn gwbl hanfodol ar gyfer darparu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol. Roedd yn un o elfennau allweddol y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gyd-Aelodau Plaid Cymru am y pwynt y gwnaethom ei gyrraedd. Rwy'n credu mai chi, Siân, oedd yn rhan o hyn, neu ai Cefin oedd e? Chi oedd e. Roeddwn i mewn portffolio gweinidogol gwahanol bryd hynny. Wrth sefydlu hynny, fe wnaethon ni gydnabod yr heriau ariannol difrifol sy'n ein hwynebu wrth symud yn gyflym i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Felly, fe wnaethon ni symud tuag at ei gyflawni fesul cam, a'r cam cyntaf yw'r hyn rydym ynddo nawr, a rhan o'r cam 1 hwnnw yw ein bod ni'n mynd i fod yn comisiynu ymchwil ynghylch sut y gallwn gyrraedd lle mae angen i ni fod, beth allai'r costau dan sylw fod, sut fydden ni'n pennu ffioedd, neu sut rydym yn symud o wasanaeth lle caiff ffioedd eu pennu i wasanaeth lle na chaiff ffioedd eu pennu, oherwydd rydym wedi gwneud datganiad clir iawn ein bod ni'n chwilio am wasanaeth gofal cenedlaethol sydd am ddim ar y pwynt o angen.

Nawr, fe ges i gyfarfod â Stephen Kinnock, Gweinidog Llywodraeth y DU dros ofal cymdeithasol, dros yr haf, ac roedd ganddo ddiddordeb mawr oherwydd mae Llywodraeth y DU eisiau symud tuag at sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol hefyd, ac rwy'n credu mai dyma un o'r enghreifftiau lle gallwn ni wneud pethau ar draws y gwledydd oherwydd mae cryn dipyn wedi'i wneud ar y llwybr hwnnw. Ac felly maen nhw eisiau dysgu oddi wrthym ni am yr hyn rydym wedi'i sefydlu, yr hyn rydym wedi'i ddarganfod, y ffordd rydym eisiau ei symud ymlaen, fel y gallan nhw ddysgu o hynny.

Felly, o'm safbwynt i, mae'n gwbl hanfodol bod y swyddfa gofal genedlaethol yn cael adnoddau digonol, oherwydd mae'n rhaid iddi yrru'r holl newidiadau hyn rydym yn gwybod eu bod yn gwbl angenrheidiol i gyflawni'r flaenoriaeth honno o gael mynediad at ofal cymdeithasol. Felly, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Yr hyn galla i ddim ei ddweud wrthych yn llwyr yw pryd y bydd y gwasanaeth gofal cenedlaethol yn cael ei gyflwyno, ond yn y cytundeb gyda Phlaid Cymru roeddem yn gweithio ar raglen 10 mlynedd, felly ar hyn o bryd dyna'r math o amserlen rydym yn gweithio tuag ati o hyd, os yw hynny'n helpu.

16:15
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates. 

Dirprwy Lywydd, mae dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth, yng Nghymru ac yn San Steffan, eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Cymerwch y Bil gwasanaethau teithwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf, wythnosau yn unig ar ôl yr etholiad cyffredinol. Mae'r newid deddfwriaethol hwn yn cyflawni un o ofynion hirsefydlog Llywodraeth Cymru ar unwaith: dod â masnachfreintiau'r sector preifat i ben a dod â gwasanaethau rheilffyrdd yn ôl i'r parth cyhoeddus.

Rydym wedi dadlau ers tro bod y rheilffordd yn wasanaeth cyhoeddus sylfaenol, a bod ei gwir le yn y sector cyhoeddus yn hytrach nag yn nwylo cyfranddalwyr a buddsoddwyr preifat. A dydy hynny ddim yn bwynt ideolegol, mae'n ymwneud â'r hyn sy'n gweithio.

Trwy Trafnidiaeth Cymru, rydym eisoes yn dangos manteision gweithredwr rheilffyrdd mewn dwylo cyhoeddus sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu ar gyfer y bobl, y busnesau a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Ydy, mae hi wedi bod yn anodd ar adegau i deithwyr yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n rhaid i ni fod yn ddigon gwylaidd i gydnabod hynny. Dydy newid ddim yn hawdd, dydy e ddim yn digwydd dros nos. Ond, erbyn hyn, Trafnidiaeth Cymru, yw un o'r gweithredwyr mwyaf dibynadwy yng Nghymru, a hynny'n gyson. Maen nhw wedi cyflawni'r gwelliant mwyaf o ran prydlondeb o blith unrhyw weithredwyr rheilffyrdd ledled Prydain dros y chwarter diwethaf, ac mae cynnydd o 80 y cant wedi bod yn nifer y cerbydau rheilffordd sy'n gwasanaethu teithwyr ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru.

Nawr, mae lleisiau yn y Siambr hon wedi bod yn barod i feirniadu Trafnidiaeth Cymru, a'r Llywodraeth hon yng Nghymru, pan fo perfformiad y rheilffyrdd wedi bod yn wael, ac wrth gwrs dyna yw gwaith yr wrthblaid. Ond rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon yn cydnabod faint mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn hon, a'r hyn mae'n ei olygu o ran profiad teithwyr o ddydd i ddydd: gwasanaeth gwell, mwy dibynadwy; mwy o wasanaethau, yn hytrach na'r dirywiad wedi ei reoli a welsom o dan y Torïaid; a bod yn agos at y brig, nid ar y gwaelod, o ran proffil oedran fflyd y rheilffyrdd.

Bydd cyflwyno'r Bil bysiau y flwyddyn nesaf yn diwygio'r ffordd mae'r rhwydweithiau gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu er budd pobl ledled Cymru. Bydd hyn, ochr yn ochr â'r Bil gwasanaethau teithwyr, yn ei gwneud hi'n haws integreiddio gwasanaethau trên a bysiau a chyflawni ein gweledigaeth o un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Mae hefyd yn cynrychioli pwynt prawf cynnar yn y bartneriaeth newydd rydym wedi'i ffurfio â Llywodraeth Lafur y DU i drawsnewid ein rheilffyrdd, ac edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau'r Senedd hon pan fyddwn ni'n trafod cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y newid hwn, yr wyf yn ei gefnogi wrth gwrs.

Gan edrych y tu hwnt i hynny, bydd Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno'r Bil diwygio'r rheilffyrdd y flwyddyn nesaf. Rwy'n gweld hyn fel cyfle enfawr. Pan wnes i gyfarfod â Gweinidog rheilffyrdd newydd y DU, yr Arglwydd Hendy, dros yr haf, fe wnaethon ni ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwell rheilffyrdd i Gymru. Mae rhan o hynny yn ymwneud â sicrhau diwygiad sylfaenol i fodel gweithredu rheilffyrdd Cymru. Dyma'r mwyaf cymhleth o blith holl wledydd y DU.

Mae hyn yn cynnwys sefydlu uned fusnes Cymru a'r Gororau wedi'i grymuso o fewn Great British Railways—GBR Cymru sy'n cyflawni yn erbyn blaenoriaethau Cymru ac sy'n atebol yn briodol i Weinidogion Cymru ac i'r Senedd hon. Rydym hefyd eisiau gweld Cymru'n cael llais go iawn ynghylch gwasanaethau sy'n gweithredu i mewn ac allan o Gymru, sy'n arbennig o berthnasol ar adeg pan fo teithwyr yn y gogledd yn cael eu siomi'n fawr gan y gwasanaethau hanfodol hynny sy'n mynd yn ôl ac ymlaen i Lundain. Ac er bod llawer o waith manwl i'w wneud ar ddatblygu cynnig GBR Cymru, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i rôl statudol i Weinidogion Cymru o ran rheoli, cynllunio a datblygu'r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, mae hynny wir yn arwydd o newid sylweddol o'r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd. Mae'n gwrthbrofi'r honiadau rydym wedi'u clywed dro ar ôl tro gan feinciau'r gwrthbleidiau nad yw Llafur ar lefel y DU, rywffordd, yn cyflawni dros Gymru. Mae'r diwygiad strwythurol mwyaf i'r diwydiant yng Nghymru ers cenhedlaeth bellach o fewn cyrraedd, a chymharwch hynny â bywyd o dan y weinyddiaeth flaenorol yn San Steffan, a daflodd Cymru i mewn gyda'r rhanbarth gorllewinol a chyfarwyddo Network Rail i sicrhau dirywiad wedi ei reoli o'n hasedau rheilffyrdd yma yng Nghymru.

Ac er mawr glod iddo, dydy'r diwydiant ddim yn eistedd ar ei ddwylo ac yn aros i'r broses wleidyddol redeg ei chwrs. Mae Cyfuno, sy'n dod â Trafnidiaeth Cymru a Network Rail ynghyd, wedi gwneud cynnydd mawr yn barod o ran sicrhau effeithlonrwydd, nodi ffyrdd gwell o weithio a chyfleoedd i gydweithio, ac mae'n darparu cyfrwng amlwg ar gyfer y gwaith manwl sydd ei angen er mwyn llywio GBR Cymru ar lefel ddiwydiannol.

Mae cydweithredu â'r diwydiant wedi bod yn allweddol hefyd o ran y cyhoeddiad a wnes i fis diwethaf yn unig, sef bod gennym ni gynlluniau cadarn ar waith erbyn hyn i sicrhau cynnydd enfawr mewn gwasanaethau ar hyd arfordir y gogledd. Bydd cynnydd o 50 y cant yng ngwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, wedi'i alluogi gan gyfres o newidiadau i'w cyflawni gan Network Rail, hefyd yn gwella diogelwch o fewn cymunedau, ac fe'i cyhoeddwyd o fewn misoedd i'r etholiad cyffredinol—Llafur yng Nghymru a Llafur yn San Steffan yn cydweithio i sicrhau cynnydd trawsnewidiol mewn cysylltedd yn y gogledd. Cymharwch hynny â'r 'gwarantau cadarn', fel y'u gelwid, a welsom gan y weinyddiaeth flaenorol, nad oeddent, fel y gwelsom yn y llythyr a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr etholiad cyffredinol, yn ddim mwy nag addewidion gwag, heb unrhyw gyllid na chylch gwaith ffurfiol yn eu hategu.

Dydw i ddim o dan unrhyw gamargraff o ran maint yr heriau sydd o'n blaenau. O ran trawsnewid llinellau craidd y Cymoedd yn benodol, rydym ar gam hanfodol o'r broses gyflawni. Erbyn hyn, rydym wedi bod yn gweithredu amserlen fwy prysur ers tri mis, sydd wedi bod yn bosibl oherwydd y gwaith uwchraddio seilwaith mawr sydd wedi'i gwblhau rhwng Caerdydd Heol y Frenhines, Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Rwy'n gwybod ei fod yn hynod rwystredig i deithwyr a chymunedau pan fydd prosiectau seilwaith mawr yn amharu ar eu bywydau bob dydd, eu harferion a'u patrymau teithio—credwch fi, rwyf wir yn cydymdeimlo ac rwy'n hynod ddiolchgar i bobl am eu hamynedd—ond fe fydd y wobr, yn sicr, yn werth chweil. Bydd y trenau trydan newydd sbon yn dechrau rhedeg yn y Cymoedd yn ddiweddarach eleni, a bydd pobl yn dechrau gweld golau go iawn ar ddiwedd y twnnel o ran y prosiect chwyldroadol hwn ar gyfer Cymoedd y De.

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, a fynychwyd gan bobl o bob cwr o Gymru, cawsom ragolwg o'r gwahaniaeth y bydd y metro yn ei wneud i'n cymunedau. Roedd hyn yn atgof mor bwerus o'r gallu sydd gan brosiectau trafnidiaeth i drawsnewid bywydau pobl.

Llywydd, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi etifeddu gwaddol economaidd gwenwynig, a dydy'r arian ddim yno i gyflawni'r holl newidiadau yr hoffem eu gweld ar draws ein rhwydwaith trafnidiaeth. Ond ar yr un pryd, rwy'n cydnabod yn llwyr fod pobl a chymunedau ledled Cymru, a'u cynrychiolwyr yn y Senedd hon, yn awyddus i weld eu hardaloedd yn elwa ar y math o newid trawsnewidiol sy'n cael ei gyflawni gan Lywodraeth Cymru ar linellau craidd y Cymoedd. Yn bersonol, rwy'n arbennig o awyddus i weld cynnydd ar y blaenoriaethau rheilffordd a nodwyd gan yr Arglwydd Burns yn y de-ddwyrain ac yn y gogledd, gan gynnwys cynlluniau cychwynnol ar gyfer gwasanaeth ar ffurf metro ar linell y gororau.

Trwy fwrdd rheilffyrdd Cymru, mae fy swyddogion yn gweithio'n gyflym nawr gyda'u swyddogion cyfatebol yn yr Adran Drafnidiaeth i gyflawni'r ymrwymiad a wnaethom ym maniffesto'r etholiad cyffredinol i greu ffrwd o welliannau y cytunir arnynt ar y cyd i Gymru. Dull cydweithredol o fynd i'r afael â gwelliannau, wedi'i ategu gan ddiwygiadau ystyrlon i'r rheilffyrdd a fydd yn sicrhau manteision enfawr i deithwyr—mae hon yn bartneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd. Diolch. 

16:20