Y Cyfarfod Llawn
Plenary
22/05/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella'r gwasanaeth bysiau yng Nghaerdydd? OQ61174
9. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi teithio ar fysiau yng Nghaerdydd? OQ61161
Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 9 gael eu grwpio. Rwy'n ddiolchgar iawn.
Gallaf ddweud bod Cyngor Caerdydd a gweithredwyr bysiau lleol wedi bod yn gweithio’n rhagweithiol gyda’i gilydd i ddarparu rhwydwaith bysiau cynaliadwy yn y rhanbarth, gyda chefnogaeth cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy ein grant rhwydwaith bysiau, a gyflwynwyd ym mis Ebrill hefyd.
Mae cyllid y Llywodraeth ar gyfer yr orsaf fysiau i'w groesawu’n fawr, ond nid felly'r oedi cyn adeiladu gorsaf fysiau newydd. Cafodd yr orsaf fysiau ganolog ei dymchwel yn 2008 ac mae’r un newydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar fin cael ei hailagor. Ac mae wedi'i gwneud yn anodd iawn i bobl leol ac ymwelwyr â'n prifddinas wybod sut i ddefnyddio'r system fysiau. Yn y cyfamser, mae datblygiadau enfawr wedi bod, pob un ohonynt i'w croesawu, ond mae anghenion teithwyr bysiau yn sicr wedi eu dadflaenoriaethu. Ac ymddengys i mi fod angen inni edrych ar y broses gaffael o ran sut y gallai hyn fod wedi digwydd, gan y dywedwyd wrthyf na fyddai'n bosibl i'r datblygwyr orffen yn gynt heb achosi llawer o gostau ychwanegol i ddiwygio'r contract. Hoffwn ddeall sut y gallwn ddysgu o'r broses hon fel ein bod yn sicrhau, pan fydd rhywun yn ymrwymo i gontract, eu bod wedyn yn ei gwblhau o fewn amser penodol.
Wel, a gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd gorsaf fysiau newydd i Gaerdydd ac i'r rhanbarth ehangach hefyd? Mae'n hanfodol bwysig, er mwyn newid dulliau teithio, ein bod yn darparu cyfleuster addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i bobl aros ynddo am eu bysiau.
Nawr, rwy’n falch o allu rhoi gwybod i'r Senedd heddiw y bydd yr orsaf fysiau yn bendant ar agor erbyn toriad yr haf. Bu oedi—mae’r Aelod yn hollol gywir. Mae'r oedi diweddaraf yn ymwneud â chymeradwyo'r adeilad. Roedd yn anodd dod o hyd i swyddogion awdurdod lleol â’r sgiliau a’r arbenigedd priodol, ond rydym wedi gallu dod o hyd iddynt o Gaerffili, felly rydym yn ddiolchgar iawn i’r awdurdod lleol hwnnw. Ac fe gafodd allweddi'r orsaf, i bob pwrpas, eu rhoi i Trafnidiaeth Cymru ddydd Llun. Byddant yn cyfarfod â gwahanol grwpiau rhanddeiliaid nawr i sicrhau bod pryderon pawb ynghylch hygyrchedd yn cael eu hystyried, ac os oes unrhyw newidiadau munud olaf y bydd angen eu gwneud, fe gânt eu gwneud. Ond gallaf rannu’r wybodaeth honno heddiw y bydd yr orsaf fysiau’n cael ei hagor yn yr wythnosau nesaf. Diolch.
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi teithio ar fysiau yng Nghaerdydd?
Nid oes angen ichi ofyn y cwestiwn a gyflwynwyd yn y cyd-destun hwnnw, gallwch symud yn syth at eich cwestiwn atodol.
Diolch. Fel y mae Jenny Rathbone eisoes wedi’i ddweud, bu oedi enfawr mewn perthynas â'r orsaf fysiau. Mae fy etholwyr wedi gorfod aros am naw mlynedd bellach, rwy'n credu. Fe'ch clywaf yn dweud, ac rwy’n falch iawn o’ch clywed yn dweud, y bydd ar agor cyn yr haf, ond rydym wedi clywed hyn sawl tro o’r blaen, felly rwy'n credu y dylem gadw hynny mewn cof.
Ond roeddwn am godi’r cwestiwn ynghylch hygyrchedd yr orsaf fysiau newydd, oherwydd yn amlwg, rydym am i’r gyfnewidfa fod yn gwbl hygyrch. Dywedir wrthyf nad ymgynghorwyd â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain yng Nghymru ynghylch cynllun y gyfnewidfa, a deallaf fod gan Cŵn Tywys Cymru bryderon ynghylch diffyg man cymorth canolog ac y bydd yn rhaid i bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall ddod o hyd i lysgenhadon crwydr i gael cymorth, sy’n achosi cryn dipyn o bryder. Felly, nid wyf yn gwybod a oes unrhyw wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â faint o waith a wnaed gyda grwpiau anabledd er mwyn cynhyrchu'r fersiwn derfynol hon. Ac rwy'n gobeithio y bydd argymhellion y grwpiau'n cael eu hystyried pan fydd hyn wedi'i gwblhau.
Yn sicr. A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn hefyd? Gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau, o gofio bod yr orsaf wedi'i rhoi yn ôl i Trafnidiaeth Cymru yr wythnos hon, ein bod bellach yn gwbl sicr y bydd yn agor cyn toriad yr haf. Mae wedi dod yn ôl gan y contractwyr yn barod i Trafnidiaeth Cymru wneud gwaith ymgysylltu terfynol gyda nifer o wahanol grwpiau, a byddant yn cynnwys—gallaf roi sicrwydd i Julie Morgan—Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a Cŵn Tywys Cymru. Byddant yn cael cyfle i ymweld â'r orsaf fysiau cyn iddi agor, i gael cyfle i roi adborth pellach. A gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau hefyd y bydd cyfnewidfa fysiau Caerdydd yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. I gynorthwyo cwsmeriaid dall a rhannol ddall, bydd lloriau botymog yn yr ymgynullfannau oll, a bydd map hygyrchedd hefyd, a fydd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â lleoliad cilfannau bysiau a chyfleusterau. Nid yw’r llysgenhadon yno i gymryd lle gwasanaethau cymorth hollbwysig, maent yno i’w hategu, ac rwy’n siŵr y bydd grwpiau defnyddwyr yn eu croesawu pan fydd y gyfnewidfa ar agor.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf eisoes wedi dweud yn y Siambr hon fod bysiau yn Lloegr, ers peth amser bellach, wedi’u hôl-osod â ffaniau er mwyn helpu i wella ansawdd aer. Yn wir, canfuwyd, dros gyfnod o 100 diwrnod, y gall un bws dynnu oddeutu 65g o ronynnau o'r aer, sef oddeutu pwysau pêl dennis. Mae cael gwared ar y gronynnau hyn yn fuddugoliaeth hawdd i gynghorau, i wella ansawdd aer a mynd i’r afael â llygredd gwenwynig, gan nad oes angen ynni—mae’r hidlyddion yn gweithio wrth i’r bws symud o gwmpas. Gyda hyn mewn golwg, pam nad oes gennym y bysiau hyn yng Nghaerdydd? Diolch.
A gaf i ddiolch i Joel James am ei gwestiwn? Os caf dawelu ei feddwl, mae datgarboneiddio'r fflyd fysiau yn ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru. Yn y gwanwyn, rydym wedi bod yn rhannu ein cynlluniau i gyflawni'r ymrwymiad hwn a'r targed a nodir yn 'Cymru Sero Net'. Rydym wedi bod yn buddsoddi mewn bysiau trydan ledled Cymru—yn y gogledd a'r de. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill hefyd ar gyfer gwasanaethau hydrogen hefyd. Mae datgarboneiddio’r fflyd fysiau yng Nghymru erbyn 2035 yn rhaglen uchelgeisiol, ond rydym yn hyderus y gallwn ei chyflawni ac rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid i gyflawni yn erbyn yr agenda hon.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o gerbydau eco-gyfeillgar ar y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru? OQ61139
Mae cefnogi’r newid i gerbydau di-allyriadau yn ganolog i’n dull o fynd i’r afael ag allyriadau trafnidiaeth. Rydym yn buddsoddi mewn teithio llesol, trenau trydan newydd, bysiau di-allyriadau, clybiau ceir trydan a’r rhwydwaith gwefru i gefnogi cerbydau trydan ledled Cymru.
Diolch. Ar ôl adroddiadau ym mis Chwefror fod FleetEV o Gaerdydd wedi sicrhau contract gwerth miliynau o bunnoedd gyda Llywodraeth Cymru i gyflenwi cerbydau trydan, cysylltodd uwch swyddog proffesiynol trafnidiaeth yng ngogledd Cymru â mi i fynegi pryder mai dim ond ers mis Hydref 2022 yr oedd y cwmni yn gorfforedig, heb unrhyw ffigurau masnachu a gwerth net o ddim ond £6,316. Fe wnaethant ychwanegu nad yw hwn yn gwmni digon sefydledig ac ariannol sefydlog i wario cymaint arno, a bod yr unig gyfarwyddwr a chyfranddaliwr wedi bod yn gyfarwyddwr pedwar cwmni yn y gorffennol, pob un ohonynt wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. A ydych chi'n rhannu’r pryder hwn, a wnewch chi ymchwilio, a sut rydych chi'n ymateb i bryder fy etholwr, er bod Llywodraeth Cymru yn datgan bod cyflawniad masnachol Llywodraeth Cymru wedi dilyn datganiad polisi caffael Cymru, na chafodd cyfrifon ail flwyddyn FleetEV eu postio tan 28 Rhagfyr 2023, ac arhosodd Llywodraeth Cymru tan ddechrau mis Ionawr, wrth i’r cwmnïau tendro eraill aros, cyn bwrw ymlaen â’r broses gaffael, a arweiniodd at y cyhoeddiad mai FleetEV oedd y cynigydd llwyddiannus?
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau ar y mater hwn? Byddaf yn archwilio’r materion a godwyd heddiw ac yn rhoi adborth i’r Aelodau. Mae rhai pryderon difrifol wedi’u codi. Credaf fod angen ymchwilio iddynt, ac felly byddaf yn rhannu’r adborth cyn gynted ag y gallaf gydag Aelodau ar draws y Siambr.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes amheuaeth nad yw newid i ddefnyddio cerbydau trydan yn rhan hanfodol o’n taith at sero net, ac mae’n gam y mae llawer o fy etholwyr yn awyddus i’w gymryd. Fodd bynnag, gall fod rhwystrau, ac fel cynrychiolydd etholaeth yn y Cymoedd, y pryder mwyaf cyffredin y mae trigolion yn ei godi gyda mi yw sut y gallant wneud y newid i gerbyd trydan os ydynt yn byw mewn tŷ teras neu fathau eraill o dai heb fynediad at barcio oddi ar y ffordd. Maent yn gofyn i mi pa seilwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei awgrymu i bobl fel nhw i'w helpu i wefru eu cerbydau gartref. Nawr, fe wyddom fod nifer cynyddol o fannau gwefru ar gael mewn mannau cyhoeddus, fel arfer oherwydd ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru, ond byddwn yn dweud nad oes mynediad digonol at y rhain ar hyn o bryd er mwyn rhoi'r hyder sydd ei angen ar bobl heb fynediad at fannau parcio oddi ar y ffordd yn eu cartrefi eu hunain i wneud y newid i geir trydan. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr ar y mater dyrys hwn?
A gaf i ddiolch i Vikki Howells am y cwestiwn a godwyd heddiw, sy’n hynod bwysig i lawer o gymunedau, yn enwedig yn y Cymoedd, lle mae llawer iawn o dai teras ar y stryd yn uniongyrchol, ac na fyddent yn addas, ar hyn o bryd, ar gyfer mathau traddodiadol o wefru cerbydau trydan? Ar gyfer yr eiddo hynny, ac yn yr awdurdodau lleol hynny, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar atebion, ac rwy’n siŵr y bydd pecyn o syniadau yn cael ei gyflwyno i’w hystyried cyn bo hir. Ond mae Vikki Howells yn llygad ei lle—rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn mannau gwefru cerbydau trydan, mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus. Credaf ein bod wedi buddsoddi dros £6 miliwn i helpu awdurdodau lleol i gynyddu nifer y mannau gwefru sydd ar gael i’r cyhoedd, ac mae gennym bellach dros 2,500 ohonynt yng Nghymru. Nawr, mae hynny'n gynnydd o 55 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, felly cynnydd sylweddol iawn. Rydym ar ei hôl hi o gymharu â Llundain, lle mae 221 o ddyfeisiau gwefru ar gael i'r cyhoedd fesul 100,000 o’r boblogaeth. Fodd bynnag, mae Cymru yn gwneud yn well ar hyn o bryd na llawer o ranbarthau Lloegr.
Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar dechnoleg ddatblygol hefyd. Mae Toyota wedi addo cerbyd cell cyflwr solet sych erbyn 2028. Nawr, mae angen inni ddeall pa oblygiadau a allai fod ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan pe caiff y cerbyd hwn ei ddatblygu'n llwyddiannus a'i werthu ar y farchnad agored. Rwy'n siŵr y byddai pob gweithgynhyrchydd yn dymuno dilyn y dechnoleg honno, o ystyried bod ganddi'r potensial i gynnig pellteroedd teithio llawer hirach a gwefru llawer cyflymach. Felly, mae angen inni sicrhau hefyd fod pob un o’r mannau gwefru cerbydau trydan yr ydym yn buddsoddi ynddynt yn cael eu diogelu at y dyfodol, gan y gallem gyrraedd sefyllfa, yn debyg i Betamax a VHS, lle mae’n rhaid inni ddewis rhwng y naill a'r llall, ac rydym am allu dewis yr enillydd yn y pen draw.
Dewisodd fy nheulu Betamax, nad oedd yn ddewis doeth yn y pen draw. [Chwerthin.]
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhinwedd eich swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru, a allwch ddweud wrthym pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gogledd Cymru'n cael ei gyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru?
Wel, gallwn siarad am oriau lawer ar y pwnc hwn—ac rwyf wedi gwneud hynny yn y gorffennol—ynglŷn â rôl hanfodol mentrau fel cyllidebau dangosol rhanbarthol, sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Gweinidog dros ogledd Cymru ar faterion sy’n berthnasol i'r gogledd. Mae gennym is-bwyllgor Cabinet sy’n ystyried y prif faterion sy’n berthnasol i ogledd Cymru, ac rwy’n benderfynol o sicrhau, wrth inni chwilio am gyfleoedd i Gymru gyfan, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfartal, ac yn buddsoddi’n deg ac yn gyfartal mewn cyfleoedd i ysgogi ffyniant ledled y wlad.
Wel, rydych yn gwneud y synau iawn, ond rydym eto i weld y camau gweithredu iawn gan Lywodraeth Cymru—dyna'r realiti. Mae setliadau llywodraeth leol fel arfer yn waeth yng ngogledd Cymru. Rydym yn gweld diffyg buddsoddiad yn ein seilwaith ffyrdd yn y gogledd. Rydych yn adeiladu ysbytai newydd yn y de, ond nid yn y gogledd. Dyna hanes y Llywodraeth hon, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwch chi fel Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy’n cynrychioli etholaeth yn y gogledd, newid hynny.
Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ei hagenda ffyniant bro, ac mae'n awyddus i godi’r gwastad ledled y DU gyfan. Mae angen i Lywodraeth Cymru gael agenda ffyniant bro yng Nghymru, ond nid dyna’r realiti, oherwydd gadewch inni ystyried y gwahaniaeth, er enghraifft, rhwng gwariant yng ngogledd Cymru a de Cymru, dim ond ar y prosiectau metro. Mae metro de Cymru wedi cael dros £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae cyfres o brosiectau seilwaith mawr eisoes yn mynd rhagddynt mewn mannau eraill yn y de. Yn y gogledd, dim ond £50 miliwn a ddyrannwyd i’r prosiect metro yno. Nawr, hyd yn oed wrth roi cyfrif am y gwahaniaethau mewn poblogaeth, mae'r de yn dal i gael mwy na phum gwaith y buddsoddiad y pen—pum gwaith—na'r gogledd. Nid yw hynny'n ddigon da, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth rydych chi'n mynd i’w wneud i fynd i’r afael â’r annhegwch difrifol hwnnw?
Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am ei ail gwestiwn heddiw? Gadewch imi nodi'r ffeithiau. Mae metro de Cymru yn fuddsoddiad sylweddol iawn—buddsoddiad fel rhan o’r fargen ddinesig. Nid yw metro gogledd Cymru, a'r gwelliannau i seilwaith rheilffyrdd y gogledd, yn rhan o fargen dwf gogledd Cymru—y cytundeb cyfatebol. Er mwyn sicrhau bod y gwelliannau i'r seilwaith yn cael eu cwblhau i alluogi metro gogledd Cymru, mae'n rhaid i'r rheini sy'n gyfrifol am eu hariannu ysgrifennu'r sieciau. Nid yw hynny'n digwydd. Rydym wedi cael addewidion amhendant o arian ar gyfer trydaneiddio prif linell reilffordd y gogledd, a fyddai, gyda dim ond £1 biliwn, ond yn ei thrydaneiddio o Gaer i Brestatyn ar y gorau, yn ôl pob tebyg. Mae arnom angen ymrwymiadau cadarn gan Lywodraeth y DU, nid yn unig ar y brif linell reilffordd, ond mae arnom angen iddynt wneud ymrwymiad cadarn i uwchraddio rheilffordd Wrecsam-Bidston, y maent yn gyfrifol amdani, rheilffordd y Gororau, y maent yn gyfrifol amdani. Mae angen iddynt addo nad rhwng Caer a Phrestatyn yn unig y byddant yn trydaneiddio, ond yr holl ffordd i Gaergybi. Ac yn hollbwysig, er mwyn galluogi mwy o wasanaethau i deithwyr, mae’n rhaid inni sicrhau bod y problemau sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau capasiti yng ngorsaf Caer yn cael eu datrys hefyd. Mae’r rhain oll wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru, Growth Track 360, bwrdd rheilffyrdd Cymru, sy’n cyfuno swyddogion Llywodraeth Cymru â swyddogion Llywodraeth y DU. Yn anffodus, dro ar ôl tro, mae Trysorlys y DU wedi dweud 'na’. Dyna'r rheswm pam ein bod wedi gweld mwy o fuddsoddiad yn ne Cymru nag yng ngogledd Cymru. Pan gawn Lywodraeth Lafur newydd mewn grym yn San Steffan, rwy'n hyderus y bydd y gwahaniaeth mewn gwariant a buddsoddiad yn cael ei ddatrys.
Wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae Llywodraeth bresennol y DU, y Llywodraeth Geidwadol, wedi cyflawni rhywfaint o drydaneiddio yng Nghymru, yn wahanol i’r addewidion a wnaed ac na chafodd eu cadw gan y Llywodraeth Lafur flaenorol, ac mae wedi ymrwymo i werth dros £1 biliwn o fuddsoddiad yn rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru er mwyn ei thrydaneiddio. Ond gadewch inni fynd yn ôl at eich cyfrifoldebau yma. Y gwir amdani yw bod cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi’u dyrannu gan Lywodraeth Cymru i brosiectau yn y de, a'r nesaf peth i ddim, fel briwsion oddi ar y bwrdd, wedi'i roi i bobl y gogledd, sy'n ddig iawn wrth Lywodraeth Cymru am y sefyllfa honno a dweud y gwir.
Gadewch inni sôn am fater arall lle mae gwahaniaeth ac annhegwch enfawr i bobl y gogledd. Gadewch inni ystyried Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft. Prisiau tocynnau ar Trafnidiaeth Cymru: rhwng Abertawe a Chaerdydd, gallwch dalu £5.50 am docyn unffordd; mae taith debyg yn y gogledd rhwng Cyffordd Llandudno a Chaer yn costio £13.10. Mae'n wahaniaeth enfawr, sylweddol, sy'n annheg iawn. Pam y dylai pobl yn y gogledd dalu dwywaith cymaint am eu tocynnau trên, a pheidio â chael y buddsoddiad yn y metro a addawyd gennych ddau faniffesto yn ôl, a pham y dylent oddef y setliadau annheg a gânt o ran buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru?
Nid yw eich atebion heddiw yn ddigon da. Hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn a pha gamau penodol y byddwch yn eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn gan Trafnidiaeth Cymru.
A gaf i godi un pwynt ynglŷn â'r rheilffyrdd a'r gogledd a buddsoddiad? Fe wnaethom ofyn yn gyson i Lywodraeth y DU wario arian ar ddyblu rheilffordd Wrecsam i Gaer, oni wnaethom? Roeddent yn dweud 'na' o hyd. O ganlyniad i gytundeb rhyngom ni a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bu modd inni fuddsoddi ynddi. Byddwn yn parhau i fuddsoddi ynddi. Ni ddylem orfod gwneud hynny. Trysorlys y DU sy’n gyfrifol am y darn hwnnw o seilwaith rheilffyrdd, ond dywedodd Trysorlys y DU, o dan y Torïaid, unwaith eto, 'Na, ni fyddwn yn darparu ar gyfer gogledd Cymru’, yn union fel y dywedasant, 'Ni fyddwn yn darparu ar gyfer gogledd Cymru ar y lein o Wrecsam i Bidston’, yn union fel y gwnaethant ddweud na fyddant yn darparu ar gyfer gogledd Cymru o ran cyfyngiadau capasiti yng ngorsaf Caer, a fydd yn hwyluso mwy o wasanaethau i mewn i ogledd Cymru.
Maent wedi dweud 'na' wrthym pan wnaethom ofyn am rywfaint o reolaeth dros Avanti West Coast. Rydych yn sôn am wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, felly gadewch imi ddweud wrthych: mae prydlondeb Trafnidiaeth Cymru yn llawer gwell—llawer gwell—na phrydlondeb Avanti West Coast, cwmni y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano, ac maent yn gwrthod caniatáu unrhyw lais i ni o ran pwy ddylai reoli'r fasnachfraint honno. Yn wir, fe wnaethant ailbenodi Avanti West Coast heb hyd yn oed ofyn a oeddem yn cydsynio. Aethant ymlaen i roi sawl blwyddyn arall i Avanti West Coast, perfformiwr gwael iawn o gymharu â Trafnidiaeth Cymru, sawl blwyddyn arall o weithredu’r gwasanaeth rheilffordd aflwyddiannus hwnnw.
Nawr, o ran buddsoddiad yn y gogledd, gadewch inni ystyried rhai o'r buddsoddiadau diweddar a wnaethom. Gadewch inni ystyried y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn Airbus, darn hynod werthfawr o seilwaith a fydd yn ysgogi ffyniant nid yn unig yn Airbus ond ar draws y rhanbarth. Hefyd, mae lleoli pencadlys y banc datblygu yn y gogledd—
Rwy'n falch iawn o hynny.
Hynod bwysig—rwy'n falch eich bod yn ei groesawu. Ac nid yn unig hynny, fel y dywedais, rydym yn buddsoddi—
Briwsion.
Mae'n fwy na briwsion. Rydym yn buddsoddi mewn cyfleoedd ar draws y gogledd, ond rydym am wneud mwy ac fe fyddwn yn gwneud mwy. Byddwn yn gwneud hynny'n rhannol am ein bod wedi buddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau rheilffyrdd newydd. Pan ddaeth Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am y fasnachfraint yn 2018, roedd gan Trafnidiaeth Cymru un o’r fflydoedd hynaf yn y DU. Erbyn diwedd eleni, bydd ganddynt un o'r fflydoedd mwyaf newydd. Dim ond 270 o gerbydau trên a oedd ar waith pan ddaethom yn gyfrifol amdanynt yn 2018. Erbyn i'r archebion gael eu cwblhau, bydd gennym fwy na 470 o gerbydau trên ar y rheilffyrdd, trenau newydd sbon yn gweithredu yn y gogledd. Ni all y masnachfreintiau y mae Llywodraeth y DU yn eu gweithredu yng Nghymru frolio'r un peth.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â thrafnidiaeth i bobl ifanc, os gwelwch yn dda. Mae strategaeth dlodi plant ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cost trafnidiaeth yn gwaethygu allgáu a thlodi plant. Nawr, mae nifer o gynlluniau gan y Llywodraeth sydd â'r nod o leihau costau trafnidiaeth yn rhannol i bobl ifanc. Rwy'n croesawu hynny. Ond mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi canfod nad yw 72 y cant o bobl ifanc yn ymwybodol o'r gostyngiadau sydd ar gael. A allwch ddweud wrthyf sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc i deithio’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy, ond hefyd sut rydych chi'n codi ymwybyddiaeth ymhlith y bobl ifanc hyn am y cynlluniau gostyngiadau a allai eu helpu i wneud y teithiau hynny?
Wel, a gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chwestiwn? Gwn fod hwn yn bwnc y mae'n angerddol yn ei gylch, ac mae wedi'i godi gyda mi nid yn unig yn y Siambr, ond hefyd yn ein trafodaethau preifat. Credaf y bydd cyfleoedd enfawr ar ôl inni basio’r Bil bysiau i greu nid yn unig system drafnidiaeth integredig, ond hefyd i sicrhau bod gennym brisiau tocynnau tecach, ac mae hynny’n cynnwys ar gyfer pobl ifanc. Nawr, fel y mae'r Aelod wedi'i nodi, mae cynlluniau teithio rhatach a theithio am ddim eisoes ar gael i blant a phobl ifanc ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cadw golwg ar hynny. Mae’n seiliedig ar argaeledd cyllid o ran pa mor bell y gallwn fynd gyda hynny. Rydym yn agored i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y rhai a allai ddod i fodolaeth pan fyddwn wedi dechrau rheoleiddio'r gwasanaethau bysiau eto.
Diolch. Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio’n anuniongyrchol, o bosibl, at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a rhywfaint o’r trafodaethau a gawsom ynglŷn â hwnnw. Dywedwyd wrthym, ar y Mesur teithio gan ddysgwyr, na fydd yr adolygiad presennol yn arwain at unrhyw gynnydd yn y pellter cymhwystra ar gyfer cludiant am ddim i'r ysgol. Nawr, mae cost cludiant i'r ysgol wedi arwain at blant yn colli ysgol, am na all eu rhieni fforddio eu hanfon yno ar y bws ysgol. Nawr, rwy’n poeni am effeithiau hyn ar addysg, ar dlodi sy’n gwaethygu, fel rydym eisoes wedi’i drafod, allgáu cymdeithasol, ac ar y Gymraeg hefyd, oherwydd—unwaith eto, rydym wedi trafod hyn o’r blaen—mae achosion ledled Cymru lle mae rhieni yn dymuno anfon eu plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i'w hysgol Gymraeg agosaf. Felly, a allech ddweud wrthyf, yn gyntaf, os gwelwch yn dda, sut mae hyn yn cysylltu â 'Cymraeg 2050'? A hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch chi am gyllid. Mae'n peri pryder i mi nad yw Llywodraeth Cymru yn pwyso digon ar Lywodraeth y DU na Keir Starmer am ariannu teg i Gymru i helpu i unioni'r mater hwn, sy'n gwneud cam â'n plant a'n pobl ifanc. Felly, pa gamau y gwnewch chi eu cymryd ar fyrder i fynd i’r afael â hynny?
Unwaith eto, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn ar y pwnc hwn? Credaf fod 20 y cant o bobl ifanc mewn rhannau o Gymru yn methu mynychu eu cyfweliadau swyddi am nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus neu am fod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhy ddrud. Felly, mae anghyfiawnder cymdeithasol enfawr yn y system sy'n gweithredu heddiw, a dyna pam ein bod mor benderfynol o fynd ar drywydd y Bil bysiau erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Nod yr adolygiad a gynhaliwyd yw darparu rhyw fath o bont i ni at yr adeg pan fydd masnachfreinio yn digwydd. A’r pwynt allweddol gyda masnachfreinio, mewn perthynas â phobl ifanc ym myd addysg, yw y bydd yn ein galluogi i ddefnyddio’r holl wasanaethau at ddibenion cludo pobl ifanc i’r ysgol; bydd yn ein galluogi i gyfuno gwasanaethau rheolaidd i deithwyr yn well gyda chludiant i'r ysgol. Dylwn ddweud nad yw'r broblem yn ymwneud â fforddiadwyedd yn unig, o ran y cynlluniau pontio. Mae'n ymwneud hefyd ag argaeledd gyrwyr bysiau a bysiau, sy'n her fawr. Ac mewn rhai rhannau o Gymru, cafwyd heriau o ran recriwtio i'r sector. Mae'n un o'r rhesymau, mewn gwirionedd, pam y gwnaethom sefydlu'r bwrdd amrywiaeth mewn trafnidiaeth gyhoeddus, am ein bod yn cydnabod yr angen i gynyddu nifer y bobl a oedd yn hyfforddi nid yn unig fel gyrwyr bysiau, ond hefyd yn y diwydiant rheilffyrdd, ac roedd angen inni sicrhau bod gennym weithlu mwy amrywiol. Felly, mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo, ond mae'n ymwneud â mwy na'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth; mae a wnelo ag argaeledd bysiau a gyrwyr hefyd.
Diolch eto am hynny. Nawr, o ran y Bil bysiau, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi’i ddweud, yn sicr ynglŷn â'r angen i bontio’r bwlch hwnnw. Nawr, cyn i'r bont honno gael ei chwblhau, pan fydd y blociau adeiladu'n dal i fod ar yr ochr, beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw'r garfan sy'n colli cludiant am ddim i'r ysgol ar hyn o bryd yn cael cam rhwng nawr a hynny? A phan fydd y bysiau'n cael eu masnachfreinio, a ydych chi'n cytuno â mi y dylem fynd gam ymhellach mewn gwirionedd a chyflwyno tocyn bws am ddim i bobl ifanc? Oherwydd gwn fod yr Alban wedi cyflwyno hyn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf—teithio am ddim ar fysiau i bobl ifanc rhwng pump a 21 oed. Fe wnaeth y defnydd ychwanegol a ddeilliodd o hynny alluogi rhai cwmnïau bysiau i gynyddu'r gwasanaethau a ddarperir. Felly, mewn gwirionedd, er y gallai fod buddsoddiad ymlaen llaw, gallai hynny dalu ar ei ganfed a helpu i ryddhau rhagor o arian ar gyfer gwasanaethau ychwanegol yn gyffredinol. Felly, a yw tocyn bws am ddim i bobl ifanc yn rhywbeth yr ydych chi eisoes yn ei ystyried? Ac os nad yw, a wnewch chi ymrwymo i ddechrau edrych nawr ar y potensial i gyflwyno hynny yng Nghymru pan gaiff y Bil bysiau ei weithredu, os gwelwch yn dda?
Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y math hwn o fenter a'r potensial i fynd hyd yn oed ymhellach hefyd. Mewn rhai rhannau o Ewrop, mae gennych gludiant bws am ddim, y telir amdano drwy’r hyn sy’n cyfateb i’n treth gyngor ni. Felly, mae ffyrdd amgen ac ychwanegol o godi refeniw nid yn unig i gynyddu nifer y gwasanaethau sy’n weithredol, ond hefyd i wella hygyrchedd drwy ddileu’r gost i’r rheini nad ydynt yn gallu fforddio talu.
Felly, gyda masnachfreinio, bydd yn cynnig cyfle i greu nid yn unig un rhwydwaith, gydag un amserlen, gydag un tocyn, ond i gyflwyno trefn brisiau tocynnau lawer tecach ar drenau ac ar fysiau. Felly, rwy’n awyddus i ddysgu o fannau eraill, gan fod enghreifftiau rhagorol ledled Ewrop a thu hwnt, ac o fewn y Deyrnas Unedig, ac rwy’n awyddus iawn i ddysgu o unrhyw brofiadau a allai fod gan Aelodau yn y Siambr hon.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau rheilffyrdd dibynadwy i gymunedau gwledig? OQ61170
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd, sy’n dechrau gweithredu ledled Cymru. Wrth i'r trenau newydd ddod yn weithredol, mae dibynadwyedd a pherfformiad wedi gwella. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwn, ac yn alinio ein hamserlenni’n well â phatrymau teithio ôl-COVID newidiol ein teithwyr.
Diolch am yr ymateb.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cydnabod o'r blaen yr angen i gynyddu'r defnydd o reilffordd Calon Cymru, ac eto rydym yn gweld cylch dieflig o ostyngiad yn nifer y defnyddwyr os bydd gwasanaethau'n dod yn fwyfwy anymarferol ac anneniadol. Mae rhanddeiliaid lleol, fel Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru, wedi beirniadu’r amserlen newydd arfaethedig gan Trafnidiaeth Cymru, gan nodi y bydd yn ei gwneud bron yn amhosibl i unigolion gymudo neu gael amseroedd teithio rhesymol. Gyda dim ond tri thrên cyfeillgar i dwristiaid yn ystod yr wythnos, nid yw'r amserlen yn manteisio ychwaith ar botensial sylweddol y rheilffordd i ddenu ymwelwyr a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy. Yn ei hymgynghoriad, mae'r gymdeithas yn tynnu sylw at ddau adroddiad ymgynghorol sydd wedi canfod bod angen o leiaf un trên bob dwy awr er mwyn i'r rheilffordd weithredu yn y ffordd orau bosibl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda Trafnidiaeth Cymru i gaffael trenau newydd, modern a mynd i’r afael â materion dibynadwyedd i adfywio rheilffordd Calon Cymru? Diolch yn fawr iawn.
Wel, a gaf i ddiolch i Jane Dodds am ei chwestiwn atodol? Mae'r rheilffordd yn un o'r rhai mwyaf syfrdanol yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Aelod yn llygad ei lle nid yn unig ei bod yn bwysig i bobl sy’n gorfod cymudo i’w cymunedau yn y canolbarth. Mae hefyd yn hanfodol bwysig i'r economi dwristiaeth yn y canolbarth. Yn dilyn trafodaethau gyda Network Rail, rwy'n gobeithio gallu rhannu newyddion cyffrous am botensial twristiaeth y rheilffordd honno yn y dyfodol agos.
Roeddwn ar y rheilffordd hefyd—roeddwn ar wasanaeth rheilffordd—yr wythnos hon, a chyfarfûm â’r grŵp teithwyr y cyfeiriodd yr Aelod ato, pobl wych a rannodd eu siom â mi ynghylch lleihau'r gwasanaeth. Yn anffodus, gwnaed yr arbedion o £1 filiwn i £1.5 miliwn drwy ddileu un o'r gwasanaethau dyddiol hynny, ond dim ond chwe theithiwr, ar gyfartaledd, a oedd ar y gwasanaeth dyddiol hwnnw. Ond rwy'n cydnabod bod ei golli'n rhywbeth sydd wedi digalonni pobl yr ardal yn fawr. Felly, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gyda grwpiau defnyddwyr teithwyr a chyda’r awdurdod lleol i drafod sut y gellid unioni’r sefyllfa drwy ddefnyddio gwasanaeth bysiau o ansawdd uchel fel opsiwn tymor byr, o leiaf. Byddwn yn falch iawn o gyfarfod â Trafnidiaeth Cymru, gyda’r Aelod, i sicrhau nad yw ei hetholwyr o dan anfantais.
Diolch am eich ateb i Jane Dodds, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl ar 24 Ebrill, mynegais bryderon ynglŷn â'r toriadau i reilffordd Calon Cymru. Fe ddywedoch chi bryd hynny eich bod o ddifrif ynghylch anghenion y bobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Fe aethoch yn eich blaen hefyd i ddweud y byddech yn cyfarfod â thrigolion ac Aelodau etholedig ynglŷn â hyn. Ers ein trafodaeth ar 24 Ebrill, nid wyf wedi cael cyfle i gyfarfod â chi i drafod yr heriau hyn. Yn ogystal, nid wyf wedi clywed am unrhyw gyfarfodydd a gawsoch gydag etholwyr yn uniongyrchol ynghylch y toriadau hyn. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa gamau a gymerwyd gennych i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan bobl ynghylch y lleihau nifer y gwasanaethau ar reilffordd Calon Cymru. Ac a allwch gadarnhau heddiw eich bod o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn, neu ai dim ond geiriau cynnes a sbin cysylltiadau cyhoeddus gan y Llywodraeth yw hyn mewn gwirionedd? Oherwydd mae’r bobl sy’n byw yn fy etholaeth yn awyddus i weld y gwasanaethau hyn yn cael eu hailgyflwyno, ac nid geiriau cynnes yn unig gan Lywodraeth Cymru yw'r hyn sydd ei angen arnynt; maent angen gweld gweithredu'n digwydd.
A gaf i ddiolch i James Evans am ei gwestiwn a dweud fy mod yn gresynu’n fawr nad ydym wedi cael cyfle i gyfarfod i drafod hyn wyneb yn wyneb? Ond rwyf wedi cyfarfod â thrigolion, ac fel y soniais wrth Jane Dodds, rwyf wedi cyfarfod â'r grŵp defnyddwyr yr wythnos diwethaf. Cynhaliwyd digwyddiad ar reilffordd Calon Cymru. Cyfarfûm â llawer o sefydliadau, yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, yn cynnwys rheolwyr rheilffyrdd a Network Rail. Codwyd y mater hwn gan nifer o bobl, ac felly rwyf wedi siarad â Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r angen i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd a’r angen i ddarparu gwasanaethau bysiau o ansawdd uchel, fel y dywedais wrth Jane Dodds, yn y tymor byr, o leiaf. Ond byddwn yn dal i groesawu cyfle i drafod y mater wyneb yn wyneb gyda James Evans.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn—. Mi wnaf i aros am eiliad. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod yna ymgynghoriad wedi bod ar newid amserlen trenau rheilffordd y Cambrian o Fachynlleth i Bwllheli. Mae'r newidiadau arfaethedig yma wedi achosi lot fawr o bryderon i bobl ar arfordir Meirionnydd—pobl a fydd, o gael y newidiadau yma mewn grym, yn methu mynd i'w gwaith, yn methu mynd i'w lle addysg. Yn wir, yr hyn sydd yn sarhad pellach ydy bod yr argymhellion yn argymell cynyddu nifer y trenau yn ystod tymor yr haf, er mwyn cael mwy o dwristiaid, ond llai yn ystod y tymor sydd y tu allan i dymor yr ymwelwyr, fydd yn niweidio cyfleoedd pobl leol er mwyn mynd i'r gwaith, addysg, siopa, ac yn y blaen. Felly, dwi eisiau sicrwydd gennych chi—tra dwi'n ymwybodol ac yn gwerthfawrogi mai ymgynghoriad oedd o—na fydd yr argymhellion yn yr ymgynghoriad yma yn cael eu gweithredu, ac y byddwch chi yn gwrando ar lais pobl sydd yn byw yn yr ardal ac yn ddibynnol ar y trên yna er mwyn mynd i'r gwaith ac addysg, ac yn datblygu amserlen a fydd yn siwtio anghenion pobl arfordir Meirionnydd.
A gaf i ddiolch i Mabon am ei gwestiwn a'i sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad dros y newidiadau arfaethedig i'r amserlen, ac unrhyw newidiadau a allai ddigwydd yn y dyfodol hefyd? Byddwn yn cytuno bod cael gwared ar ddau wasanaeth rhwng Machynlleth a Phwllheli, un i bob cyfeiriad, yn anffodus wrth gwrs, ond eto, fel gyda gwasanaeth Calon Cymru, mae'r galw amdanynt yn isel iawn. Mae ganddynt gyfartaledd o bedwar i bump o deithwyr, ac felly cyfradd cymhorthdal sylweddol iawn. Ac rwy'n gwybod bod Aelodau yn y Siambr hon wedi galw droeon am gymhwyso cymorthdaliadau tebyg i wasanaethau rheilffyrdd ar gyfer gwasanaethau bysiau, ond y broblem gyda hynny yw y bydd cymorthdaliadau i wasanaethau rheilffyrdd bob amser yn sylweddol uwch.
Nawr, y cwestiwn yw: ar ba bwynt ydych chi'n ystyried bod gwasanaeth yn anghynaladwy? A chyda dim ond pedwar i bump o deithwyr, barnwyd bod y gwasanaeth hwn yn anghynaladwy gan Trafnidiaeth Cymru yn yr amgylchedd ariannol presennol. Nawr, rydym yn gobeithio y bydd cyllid yn gwella. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd pobl yn newid ymddygiad teithio mewn cyd-destun ôl-COVID, wrth inni weld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth i gyrraedd a gadael y swyddfa, yn hytrach na gweithio gartref, ac i ac o hybiau rhanbarthol. Ond gallaf sicrhau'r Aelod fod elfen hanfodol i'r penderfyniad a wnaed gan Trafnidiaeth Cymru, sef nad yw'r gwasanaethau a gollwyd yn cael eu defnyddio gan ddisgyblion i gyrraedd yr ysgolion yn Harlech a Thywyn. Dyna un budd sy'n deillio o'r ffaith eu bod wedi gwrando eisoes, ond gallaf sicrhau'r Aelod y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law o'r ymgynghoriad.
4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sefydliadau trafnidiaeth gymunedol? OQ61151
Rydym yn parhau i ddarparu cyllid grant craidd gwerthfawr i'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol i'w galluogi i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i'r sector trafnidiaeth gymunedol ledled y wlad. Rydym hefyd yn annog awdurdodau lleol i ddyrannu rhywfaint o'r arian bysiau a ddyfarnwn iddynt i gefnogi cynlluniau trafnidiaeth gymunedol lleol.
Mae sefydliadau trafnidiaeth gymunedol yn fy etholaeth i wedi bod yn darparu gwasanaeth rhagorol i'r cymunedau hynny a allai gael eu tanwasanaethu gan ddarparwyr gwasanaethau bysiau mawr a thraddodiadol. Mae Dolen Teifi, er enghraifft, sy'n gwasanaethu llawer yng Ngheredigion a sir Gaerfyrddin, yn enghraifft wych o sefydliad sy'n llenwi rhai o'r bylchau yn ein system drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd. Roedd lansiad Bws Bach y Wlad hefyd yn newyddion i'w groesawu yn ddiweddar. Mae llawer iawn o'r sefydliadau hyn ar raddfa fach iawn ac yn gweithredu allan o ganolfannau a hybiau cymunedol, fel yr un yn Ystradowen, er enghraifft, sy'n darparu gwasanaeth hanfodol ac, mewn llawer o achosion, yn achubiaeth i drigolion lleol. Gyda'r newyddion diweddar fod First Cymru yn lleihau ei amserlen ar rai o'r prif lwybrau yn fy etholaeth, pa gymorth ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i'r sefydliadau trafnidiaeth gymunedol hyn fel y gallant dyfu a llenwi'r bylchau a adawyd gan y cwmnïau traddodiadol?
Mae Adam Price yn gwneud nifer o bwyntiau hanfodol bwysig yn ei gwestiwn ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol—y byddai llawer gormod o bobl yn cael eu gadael heb fynediad at waith, at wasanaethau, oni bai am wasanaethau trafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig. Bob blwyddyn, mae tua 0.75 miliwn o bobl yn dibynnu ar wasanaethau trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru. Mae'n ffigur syfrdanol, ac erbyn hyn mae gennym rwydwaith o 110 o sefydliadau trafnidiaeth gymunedol sy'n weithredol yn eu cymunedau ledled Cymru.
Ers sawl blwyddyn, rydym wedi darparu cyllid grant craidd o ychydig o dan £0.25 miliwn i'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol i gefnogi eu gweithgareddau yng Nghymru, ac yn ei dro mae hynny wedi helpu i ddenu £2 filiwn neu fwy o fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru. Fodd bynnag, rwyf i fod i gyfarfod â thîm Cymru y Gymdeithas yn ystod yr wythnosau nesaf, i weld beth arall y gallwn ei wneud i gryfhau ein cefnogaeth i'r sector allweddol hwn. Ac unwaith eto, mae llawer i'w ddweud dros ei gryfhau fel rhan o'r bont tuag at fasnachfreinio, oherwydd pan allwn fasnachfreinio gwasanaethau bysiau, byddwn yn gallu integreiddio amserlenni'r gwasanaethau bysiau masnachol a chonfensiynol yn well gyda chludiant yn y gymuned.
Rwy'n falch o weld cwestiwn yn cael ei gyflwyno ar drafnidiaeth gymunedol oherwydd mae'n rhoi cyfle imi siarad am y cynllun llwyddiannus iawn sy'n gweithredu yn Llandeilo Ferwallt yn Abertawe, ac rwy'n awyddus iawn i dalu teyrnged i'r cynghorydd lleol yno, Lyndon Jones, sydd wedi bod yn rhan annatod iawn o sefydlu'r cynllun trafnidiaeth gymunedol hwnnw. Nawr, mae'r cynllun hwnnw wedi bod mor boblogaidd, mae mor llwyddiannus, mae'n gymaint o achubiaeth i bobl yn Llandeilo Ferwallt, fel eu bod am weld y rhwydwaith hwnnw'n ehangu, ac mae pentrefi ac aneddiadau cyfagos hefyd eisiau gweld parhad y cynllun hwnnw. Ond mae'r sefydliadau'n dweud wrthyf eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn recriwtio gyrwyr bysiau, ac mae honno'n her fawr iawn iddynt. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn rhagweithiol i sicrhau bod mwy o yrwyr bysiau'n cael eu recriwtio, fel y gallwn wella'r cynllun hwn?
Diolch i Tom Giffard ac rwy'n cytuno ag ef fod pwysau gwirioneddol yn y sector mewn rhannau o Gymru, ac mewn ymateb i gwestiynau yn gynharach gan Delyth Jewell, nodais beth o'r gwaith y buom yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Rydym am wneud mwy na mynd i'r afael â materion recriwtio yn unig; rydym am sicrhau ein bod hefyd yn defnyddio'r atebion i'r trafferthion recriwtio ar hyn o bryd i hybu amrywiaeth o fewn y sector, oherwydd mae'n dal i fod yn sector sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion, ac rydym am sicrhau ei fod yn fwy amrywiol. Felly, rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr i benderfynu beth sydd angen ei wneud i recriwtio mwy o bobl, hyfforddi mwy o bobl, ac i sicrhau bod y sector yn fwy amrywiol.
5. A all yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru ? OQ61128
Mae ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yn nodi'r prosiectau a'r rhaglenni a fydd yn gwella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru. Rydym yn darparu cefnogaeth sylweddol a pharhaus drwy ein grantiau trafnidiaeth, a hefyd mae Trafnidiaeth Cymru yn gallu darparu cymorth ble bynnag a phryd bynnag y bo angen.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch o weld cynigion ar gyfer cynnydd bach yn y ddarpariaeth o wasanaethau ar hyd rhai gorsafoedd rheilffordd ar draws Gorllewin De Cymru. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon wrthyf nad yw lefel y gwasanaeth sy'n cael ei argymell gymaint â'r hyn a addawyd yn flaenorol i rai gorsafoedd. Bydd gorsafoedd sy'n rhan o wasanaeth Swanline, fel Llansamlet, Sgiwen, Llansawel, Baglan, y Pîl a Phencoed, yn cael gwasanaeth bob dwy awr am ran helaeth o'r dydd. Yr ymrwymiad blaenorol oedd darparu gwasanaeth bob awr. Nid wyf yn credu bod gwasanaeth unwaith bob dwy awr ar lwybr mor boblogaidd yn ddigon da i fy etholwyr. Ni fydd yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle ceir, a bydd yn cyfrannu, wrth gwrs, at fethu cyrraedd ein targedau allyriadau carbon. Felly, a ydych chi'n credu bod gwasanaeth unwaith bob dwy awr yn ddigon da, o ystyried bod rhai o gymunedau'r Cymoedd tua'r dwyrain bellach yn ystyried cael pedwar trên yr awr? A ydych chi'n cytuno bod hyn yn teimlo'n annheg i drigolion y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli?
A gaf i ddiolch i Sioned Williams am ei chwestiwn a dweud ein bod yn dymuno trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus i gynyddu nifer y gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio, i integreiddio'r rhwydwaith bysiau a threnau, i wneud yn siŵr fod gennym un amserlen, un drefn docynnau? A byddwn yn gwneud hynny'n rhannol trwy fasnachfreinio bysiau, ond hefyd trwy gyflwyno mwy o drenau ar y rheilffyrdd, a dyna pam mae tua £800 miliwn ar gyfer cerbydau trenau yr un mor bwysig.
Nawr, ar y rhaglenni nad oes modd eu darparu, mae yna amryw o resymau, ac nid mater o gost yn unig ydyw yn y cyfnod anodd hwn. Ceir rhesymau hefyd sy'n ymwneud â gwaith seilwaith y mae angen i Network Rail ei wneud, gwaith nad ydym yn gyfrifol amdano, sydd wedi cyfyngu ar ein cynlluniau, ond rwy'n cydnabod bod yna amryw o resymau ledled Cymru. Ac felly, byddaf yn darparu rhestr gynhwysfawr i'r Aelodau o resymau pam nad yw rhai gwasanaethau wedi'u cyflwyno yn ôl y bwriad.
Ysgrifennydd y Cabinet, os ydym am annog newid i ddulliau teithio, mae arnom angen rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gyflym, ddibynadwy a gwirioneddol integredig. Mae metro bae Abertawe, sy'n gysylltiedig â metro de Cymru ac sy'n darparu gwasanaeth rheolaidd a dibynadwy, yn hanfodol. Fel y mae, ni all pobl ddibynnu ar y rhwydwaith trenau neu fysiau i deithio i ddigwyddiadau mawr ar draws y rhanbarth. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gall pobl fy rhanbarth yng Ngorllewin De Cymru ddisgwyl trenau a bysiau cyflym, dibynadwy a rhad?
A gaf i ddiolch i Altaf Hussain am ei gwestiwn, a dweud bod rhai gwasanaethau nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt o gwbl ac na allwn ddylanwadu arnynt, yn anffodus? Maent yn cynnwys y gwasanaethau a weithredir gan Great Western Railway. Mae hwnnw'n gyfrifoldeb a gedwir yn ôl i'r Adran Drafnidiaeth. O ran yr hyn rydym ni'n gyfrifol amdano, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod prydlondeb wedi gwella'n eithaf sylweddol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yn ei ranbarth ef.
Hefyd, gyda Trafnidiaeth Cymru, mae awdurdodau lleol yn gweithio ar gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled Cymru, gan gynnwys yn yr ardal metro honno, yn cydgynllunio gwasanaethau a gwaith seilwaith y bydd eu hangen i gyflawni canlyniadau trafnidiaeth llawer gwell. Rwy'n gobeithio y bydd y cynlluniau trafnidiaeth yn cael eu cwblhau a'u cyhoeddi yr adeg hon y flwyddyn nesaf, ac o hynny ymlaen byddwn yn gallu cyflwyno un system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, gan ddefnyddio'r Bil bysiau.
I'r rhan fwyaf o fy etholwyr, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bysiau. Mae'n bwysig fod bysiau'n cael eu trefnu fel bod teithio yn bosibl heb orfod aros yn hir. Rwyf am nodi'r angen am wasanaethau bysiau gyda'r nos. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen system drafnidiaeth integredig lle mae bysiau wedi'u trefnu i gysylltu â threnau? Ac unwaith eto rwy'n gofyn am ailagor gorsaf Glandŵr i leihau traffig ar ddiwrnodau gemau, a lleihau traffig yng nghanol y ddinas.
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le: mae gennym rwydwaith tameidiog ar hyn o bryd, un sydd wedi'i integreiddio'n wael. Fel y crybwyllais sawl gwaith y prynhawn yma, ein huchelgais yw cael un rhwydwaith gydag un amserlen ac un system docynnau ar draws y gwasanaethau trenau a bysiau yng Nghymru. Os gallwn gyflawni hynny erbyn 2027, ni fydd y lle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod wedi gwneud hynny ar raddfa o'r fath. Bydd hefyd yn ein galluogi i gyflwyno trefniadau tocynnau tecach o lawer, fel y nodais sawl gwaith hefyd. Yn y cyfamser, rydym yn benderfynol o edrych ar sut y gallwn wella gwasanaethau bysiau yn y tymor byr; unwaith eto, ar sawl achlysur, crybwyllais yr angen am bont tuag at fasnachfreinio. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda gweithredwyr ar sut y gallwn ddarparu'r bont honno.
Byddwn hefyd yn cytuno y gallai'r orsaf newydd yng Nglandŵr fod yn ychwanegiad gwych. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynlluniau ar gyfer hyd at saith gorsaf newydd yn ardal bae Abertawe, gan gynnwys Glandŵr, a bydd y gwaith hwnnw'n arwain at ateb a ffafrir yr haf hwn. Ond yn y pen draw, byddwn yn dibynnu eto ar Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am seilwaith rheilffyrdd, i ddarparu'r cyllid er mwyn i'r gwaith angenrheidiol allu digwydd.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu prosiectau ffyrdd yn Sir Benfro? OQ61124
Wrth gwrs. Ar hyn o bryd rydym yn uwchraddio'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross, ac mae ein rhestr gyfredol o welliannau rhwydwaith strategol wedi'i chynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Byddwn yn parhau i fonitro rhannau o'r rhwydwaith sy'n profi tagfeydd ac yn nodi atebion sy'n cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth Cymru, lle bo angen.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o gynllun addasu arfordirol Niwgwl yn fy etholaeth i, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gynnal astudiaethau dichonoldeb. Rwy'n sylweddoli mai'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y prosiect posibl hwn, ac mae'n eithaf amlwg y byddai cynigion Cyngor Sir Penfro ar gyfer y ffordd yn costio miliynau o bunnoedd i'r trethdalwr, ond nawr mae'r gymuned leol wedi llunio cynllun amgen a allai arbed llawer o arian. Felly, o ystyried yr arbedion sylweddol y gellid eu gwneud, yn ogystal â'r buddion amgylcheddol cadarnhaol, credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn clywed cynigion y gymuned. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i gyfarfod â mi i drafod y cynlluniau hyn ymhellach, o gofio bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cyllid ar gyfer cynnal astudiaethau dichonoldeb?
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Paul Davies am y cwestiwn a'r gwahoddiad—mae hyn yn swnio'n ddiddorol. Os gallwn gyflawni'r canlyniadau am lai o gost, byddai hynny'n wych. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn y gallai ei rannu gyda ni. Felly, yn sicr, rwy'n barod i gyfarfod â'r Aelod a chyda'r gymuned.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OQ61172] yn ôl.
Cwestiwn 8, yn olaf, Delyth Jewell.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Nwyrain De Cymru? OQ61130
Mae darparu gwasanaethau bysiau lleol o ansawdd da yn parhau i fod yn ganolog i'n gweledigaeth i greu system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl gynaliadwy ac integredig ar gyfer Dwyrain De Cymru. Yn ogystal â darparu gwell gwasanaethau, rydym yn gweithio'n galed i foderneiddio'r fflyd fysiau a'r seilwaith teithwyr ledled y rhanbarth.
Diolch. Roedd y bws 26 a oedd yn cael ei redeg gan Stagecoach yn arfer cysylltu Caerffili a Chaerdydd trwy Nantgarw, ond mae'r llwybr wedi ei newid i fynd dros fynydd Caerffili, yn lle'r llwybr ysbyty 86 Heath annigonol. Fis diwethaf, ceisiodd etholwr ddal y bws, ond roedd 20 munud yn hwyr ac nid oedd gwybodaeth ar gael yn y safle bws. Hefyd, nid oedd amserlenni papur ar gael ar y bws pan gyrhaeddodd, fel yr arferai fod. Rwyf wedi gofyn i Stagecoach am hyn, a deallaf fod newidiadau wedi'u gwneud i'r llwybr hwn am nad oedd yn wasanaeth arbennig o broffidiol. Ond sut y gallai teithwyr wybod am y newid pan nad oedd yr amserlenni heb eu diweddaru? Rwy'n gofyn ynghylch mwy na'r un llwybr penodol hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond y pwynt yw bod llawer o bobl yn dibynnu ar fysiau i gyrraedd apwyntiadau, mae angen iddynt wybod pryd y bydd eu bws yn cyrraedd a ble y bydd yn mynd â nhw. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi godi hyn gyda chwmnïau bysiau, fel bod gwybodaeth yn hygyrch i deithwyr pan wneir newidiadau, nid ar wefan neu ap yn unig, ond yn y safleoedd bysiau eu hunain hefyd?
A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am y cwestiwn hwn? Ar y pwyntiau y mae'n eu codi, rydym wedi canfod, drwy ein hymchwil, mai'r prif reswm pam mae pobl yn dewis peidio â defnyddio gwasanaethau bws yw oherwydd eu bod yn ofni na fyddant yn brydlon neu eu bod yn mynd i gael eu canslo. Mae'n ymddangos bod hynny'n bwysicach na phris y tocyn. Ac felly, mae gwasanaethau dibynadwy a phrydlon yn hanfodol bwysig, a darparu gwybodaeth hefyd. Efallai y bydd llawer ohonom yn defnyddio ap, ond mae llawer ohonom nad ydym yn gwneud hynny, ac mae cael gwybodaeth—gwybodaeth fyw, yn ddelfrydol—mewn safleoedd bysiau yn hynod bwysig. Rydym yn meddwl am hyn wrth inni symud ymlaen gyda'r Bil bysiau—pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gwybodaeth mewn safleoedd bysiau, pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am y safleoedd bysiau hefyd. Mae llawer o feddwl yn cael ei roi i sut y gallwn wella hyn yn y tymor hir. Yn y tymor byr, byddaf yn sicr yn cyfarfod â gweithredwyr bysiau, byddaf yn ei godi gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru hefyd, oherwydd os nad yw pobl yn gwybod pryd y bydd bysiau'n cyrraedd, ni fydd pobl yn mynd i'r safleoedd bysiau yn y lle cyntaf.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Buffy Williams.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid ar gyfer y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol? OQ61132
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw cyllid cyfalaf ar gyfer Chwaraeon Cymru ar £8 miliwn yn 2024-25. Mae'r grŵp cydweithio ar gaeau pob tywydd a'r grŵp cydweithio ar gyrtiau yn penderfynu ar brosiectau llwyddiannus yn dilyn proses ymgeisio.
Diolch i Cameron Winnett a Keiron Assiratti, mae gan y Rhondda nifer cynyddol o chwaraewyr rygbi sy'n cyrraedd lefel ranbarthol a rhyngwladol. Y penwythnos diwethaf, enillodd Glynrhedynog a Wattstown eu rowndiau terfynol rhanbarthol. Mae ein timau menywod a merched hefyd yn mynd o nerth i nerth, gyda channoedd o ferched yn hyfforddi gyda Rhondda Miners, Penygraig a Threorci. Gyda chymaint o rygbi'n cael ei chwarae ac ar safon mor uchel, rydym yn ysu yn y Rhondda am gae 3G wedi'i achredu gan World Rugby gyda phad sioc. Cynhaliwyd cyfarfodydd yn ddiweddar, gyda safle unigryw wedi'i nodi yng Ngholeg y Cymoedd sydd eisoes yn gartref i gyfleusterau hyfforddi a chwarae rhagorol. Mae ganddo hefyd lyfrgell y gall chwaraewyr, rhieni a gwylwyr ei defnyddio i fynd ar drywydd cymwysterau, sesiynau codi ymwybyddiaeth a chlybiau gwaith cartref. Mae partneriaid yn gweithio'n ddiflino i wireddu hyn, ond mae diffyg cyllid ar hyn o bryd. Rwy'n deall bod yn rhaid diogelu gwasanaethau rheng flaen yn ystod yr argyfwng costau byw, ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o unrhyw gyfleoedd cyllido posibl ar gyfer y safle hwn? A wnaiff hi sicrhau bod cyllideb yr uned gydweithio'n cael ei diogelu yn y dyfodol? Ac a yw hi'n cytuno â mi y gall chwaraeon cymunedol chwarae rhan allweddol wrth gyflawni cyfiawnder cymdeithasol?
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar y pwynt olaf hwnnw, a dyna pam fy mod mor falch fod diwylliant, sy'n amlwg yn cynnwys chwaraeon, a chyfiawnder cymdeithasol wedi cael eu cynnwys gyda'i gilydd mewn un portffolio, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei fod yn chwarae rhan allweddol. Rwy'n falch iawn o longyfarch Clwb Rygbi Glynrhedynog a Chlwb Rygbi Wattstown ar eu llwyddiannau diweddar. Mae'n gamp arall, ond ddoe cyfarfûm â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac roeddem yn siarad am Wattstown o safbwynt pêl-droed, felly mae'n amlwg fod llawer yn digwydd yn eich etholaeth.
Rwy'n credu ei bod yn dda iawn clywed am y camau cadarnhaol iawn sydd wedi'u cymryd gyda menywod a merched yn chwarae rygbi. Hoffwn yn fawr weld hynny'n parhau ar bob lefel, ond yn sicr ar lefel gymunedol. Mae buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yn ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu. Er bod gennym bwysau cyllidebol wrth gwrs, fe wnaethom gadw'r gyllideb, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, ar £8 miliwn o gyfalaf i Chwaraeon Cymru. Maent yn gyfrifol am bennu eu cyllidebau mewnol eu hunain, ac rwy'n gwybod eu bod wedi dyrannu £1 filiwn i'r grŵp cydweithio ar gaeau pob tywydd a £0.5 miliwn i'r grŵp cydweithio ar gyrtiau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Fe wnaethoch chi sôn am Goleg y Cymoedd. Mae darparu cyfleuster 3G yn y Rhondda, sy'n flaenoriaeth i URC, wedi'i nodi fel ateb posibl ar gyfer hyn. Rwy'n deall nad oedd y cais yn barod i'w gyflwyno o fewn y cyfnod ymgeisio y flwyddyn hon—mae bellach wedi dod i ben—ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob parti'n dod at ei gilydd nawr i weithio tuag at gyflwyno'r cais ar gyfer y prosiect yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ymwelais â Chanolfan Battle Back gyda'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog. Mae'r ganolfan honno'n gwneud gwaith gwych yn cefnogi cyn-filwyr ar eu taith i adferiad. Ers i'r ganolfan agor, mae wedi helpu 5,500 o bersonél gwasanaeth clwyfedig, anafedig a sâl ar eu taith i adferiad drwy chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Dyna sut maent yn sicrhau adferiad i ffitrwydd llawn. Maent hefyd yn gwneud llawer o waith yn cydlynu Gemau Invictus, ac rwy'n falch o ddweud bod llawer o ddiddordeb gan bersonél Cymreig sy'n gwasanaethu mewn cystadlu yn y Gemau Invictus—rhywbeth sy'n gadarnhaol iawn. Yn ystod ein hymweliad, fe wnaethom drafod y posibilrwydd o lansio cynllun achredu i glybiau chwaraeon ddod yn gyfeillgar tuag at y lluoedd arfog a chyn-filwyr. Byddai'r cynllun hwn yn annog clybiau i greu amgylchedd cydweithredol croesawgar a chefnogol i'n cyn-filwyr yn ein cymuned. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried eich ymrwymiad i'n lluoedd arfog ac i chwaraeon, a fyddech chi'n barod i gyfarfod â mi, Darren Millar a Chanolfan Battle Back i weld sut y gallwn ni gael y cynllun achredu hwn yn weithredol i sicrhau amgylchedd croesawgar o'r fath i bersonél ein gwasanaethau yn ein clybiau chwaraeon ledled Cymru?
Diolch. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â chi i drafod. Mae gennym gynlluniau chwaraeon sy'n benodol i'r lluoedd arfog. Fel y gwyddoch, mae gennym ein cynllun nofio am ddim, er enghraifft; mae hwnnw'n parhau i roi arian i awdurdodau lleol i alluogi ein cyn-filwyr i gael mynediad am ddim, ac aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu hefyd. Rwy'n credu bod y cynllun hwnnw wedi tyfu o ran ei boblogrwydd dros y blynyddoedd, a gwn fod chwaraeon eraill hefyd yn cynyddu eu cynigion penodol i gymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr. Fe wneuthum gyfarfod â Tenis Cymru yn ddiweddar, ac roeddent yn sôn am eu cynigion nhw hefyd. Dyna i chi Glwb Beicio Golau Glas hefyd. Ond fe sonioch chi am rywbeth penodol iawn, ac rwy'n hapus iawn i edrych ar ffyrdd arloesol o helpu cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr.
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i amgueddfeydd lleol yn Aberconwy? OQ61126
Mae cymorth datblygu amgueddfeydd yng Nghymru yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys rhaglen datblygu'r gweithlu, cronfa grantiau cyfalaf a grantiau refeniw a ddarperir drwy Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru. Gall pob amgueddfa leol ac annibynnol achrededig yn Aberconwy elwa o'r gefnogaeth hon.
Diolch. Rwy'n codi heddiw i ofyn am gefnogaeth a chyfle ariannu i Amgueddfa ac Oriel Llandudno, amgueddfa a ffurfiwyd ym 1925 gan Francis Edouard Chardon. Maent yn cynnal gweithdai i ysgolion ac yn ceisio gwneud hwn yn atyniad pob tywydd allweddol yng ngogledd Cymru. Mae ganddynt dros 9,000 o arteffactau ac maent hefyd yn gwneud llawer o raglenni addysgol ar hanes byd natur, daeareg, celfyddyd gain, hanes cymdeithasol a hanes milwrol. Fel y dywedodd un o gyd-Aelodau eich plaid eich hun, Alun Davies, mae gwleidyddiaeth datganoli wedi gweld y Llywodraeth hon yn fwriadol yn penderfynu dadflaenoriaethu cyllid i ddiwylliant yn ei chyllideb gyffredinol—nid yn unig oherwydd yr argyfwng heddiw neu ddoe, ond dros gyfnod hunanlywodraeth ddatganoledig. Rydym wedi gweld toriadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn gwthio cyllid i'r celfyddydau i lawr yn is unwaith eto. Mae torri'r sefydliadau yma sy'n dal hanes Cymru yn niweidio canolfannau ar draws y wlad fel Amgueddfa Llandudno. Mae angen arian ychwanegol arnynt nawr. Maent yn gweld biliau uwch, maent angen staff, ac maent angen hyn i gyd i ddim ond cadw'r drysau ar agor. Pa gynlluniau sydd gennych ar waith? A ydych chi'n gwybod am unrhyw gyllid grant nad ydynt yn ei gael ar hyn o bryd efallai? Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yno, ac rwy'n gwybod y bydd hynny'n dod yn eich ymateb. Mae'n wych a byddai'r syniad ohono'n cau ei ddrysau yn arswydo pobl Aberconwy, ond hefyd ein hymwelwyr sy'n dibynnu arno fel cyrchfan twristiaid.
Nid oeddwn yn mynd i ddweud, 'Fe ymwelais', ond fel y dywedwch, fe wneuthum. Rwy'n ceisio cofio ai yn 2021 neu—. Rwy'n credu mai yn 2021 yr ymwelais â'r lle. Rwy'n cofio bod yn rhaid imi wisgo gorchudd wyneb, felly roedd hi tua'r adeg honno. Ac mae arnaf gywilydd dweud mai dyma'r tro cyntaf i mi ymweld â'r lle. Pan fyddwch chi'n meddwl fy mod i'n dod o ychydig ymhellach draw ar hyd yr arfordir, dyma'r tro cyntaf imi ymweld â'r lle.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i Amgueddfa Llandudno drwy ei rhaglen grantiau, a weinyddir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, fel y nodais yn fy ateb gwreiddiol. Rwy'n credu eu bod hefyd wedi derbyn cyllid ar gyfer digwyddiadau arbennig, felly nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gyllid nad ydynt wedi'i gael. Ond rwy'n llwyr ddeall difrifoldeb y sefyllfa y mae ein sector celfyddydau a diwylliant yn ei hwynebu ar hyn o bryd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. I'r rhai a welodd y sioe hyfryd ar risiau'r Senedd ddoe gan Opera Cenedlaethol Cymru, y gerddorfa a'r corws, yn perfformio Emyn y Pasg, dan arweiniad y Maestro Carlo Rizzi, rwy'n credu ei bod yn amlwg pam mae angen i chi wneud popeth a allwch, Ysgrifennydd y Cabinet, i ddiogelu'r sefydliad hwn sydd o safon fyd-eang.
Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr wythnosau diwethaf, mae amryw o Aelodau, gan fy nghynnwys i, Rhianon Passmore o'ch meinciau eich hun, a llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon, wedi bod yn cyfleu eu pryder a'u dicter am y toriadau i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'r argyfwng, wrth gwrs, yn bygwth dyfodol ein sefydliad celfyddydol blaenllaw a'r unig gwmni opera llawn amser yma yng Nghymru. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn un o drysorau Cymru. Dyma'r cyflogwr mwyaf ym myd y celfyddydau, ac fe'i crëwyd yn y 1940au gan grŵp o feddygon, glowyr ac athrawon a oedd yn dymuno adeiladu ensemble perfformio a fyddai'n gwneud cyfiawnder â'r enw a roddir i ni fel gwlad y gân.
Ar hyn o bryd, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn sefyll ar ymyl y dibyn, ar ôl wynebu toriadau gan gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr sy'n cyfateb i 25 y cant o'i chyllideb flynyddol. Mae hyn yn amlwg yn anghynaliadwy. Oni bai bod modd dod o hyd i gymorth ariannol pellach, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd i gael ei orfodi i wneud y gerddorfa a'r corws—calon eu cwmni—yn rhan-amser. Fel y gwyddoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae eisoes yn torri'n ôl ar ei leoliadau teithio, ac mae eisoes wedi cynnig diswyddo gwirfoddol i weddill y cwmni. Bydd hyn yn arwain at golli sgiliau hanfodol ar draws y sefydliad. Fe fyddwch yn ymwybodol wrth gwrs—
Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol erbyn hyn. A wnewch chi ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda? Rwyf wedi bod yn hael iawn.
Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddeiseb o bron i 10,000 o bobl yn galw am ddiogelu Opera Cenedlaethol Cymru, ac felly roeddwn eisiau gofyn i chi pa drafodaethau a gawsoch yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch Opera Cenedlaethol Cymru. A allwch chi leddfu'r ofnau presennol a'n sicrhau y byddwch chi'n gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau dyfodol Opera Cenedlaethol Cymru?
Yn anarferol iawn, rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn mae Laura Anne Jones wedi'i ddweud. A ydym ni erioed wedi clywed protest fel honno ar risiau'r Senedd? Nid wyf yn credu hynny. Roedd yn wirioneddol anhygoel. Rwy'n deall yn llwyr y pryderon ynghylch Opera Cenedlaethol Cymru. Cyfarfûm â nhw ddoe i drafod beth maent yn ei wneud i liniaru effaith y toriadau ariannol. Pan gefais y portffolio hwn, roedd hi'n anarferol iawn cael sefydliad wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y ffordd y daeth y trefniant hwnnw i fodolaeth.
Yn bersonol, credaf mai Opera Cenedlaethol Cymru yw un o'n llwyddiannau allforio byd-eang mwyaf. Roeddwn i'n ffodus iawn o'u gweld yn Dubai pan oeddwn yno ar gyfer Gulfood yn y portffolio blaenorol, a'r gwaith a wnaethant gyda phobl Cymru a phlant ysgol Cymru allan yn Dubai. Mae cymaint o agweddau ar Opera Cenedlaethol Cymru. Rwyf wedi mynychu grŵp rhyng-weinidogol ar ddiwylliant a chwaraeon gyda Lucy Frazer, Angus Robertson a Gweinidog Gogledd Iwerddon i drafod yr hyn y gallwn ei wneud ar hyn. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud yn y flwyddyn ariannol hon.
Nid wyf am ailadrodd yr anawsterau y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu gyda'n cyllideb, ond yn amlwg, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y toriad a ddaeth gan Gyngor Celfyddydau Lloegr wedi dod dros nos. Roedd yn arwyddocaol iawn, ac rwy'n credu ei fod yn sioc lwyr. Felly, mae'n debyg y bydd angen imi gael trafodaeth bellach. Er fy mod yn deall bod Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gyrff hyd braich oddi ar y Llywodraeth, ac na fyddem yn ymyrryd â'u penderfyniadau ariannu, rwy'n credu bod angen cael y drafodaeth honno'n uniongyrchol gyda Chyngor Celfyddydau Lloegr nawr, er mwyn imi allu deall y ffordd unigryw hon o ariannu sefydliad.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n wych clywed y byddwch yn edrych ar hynny ac y byddwch yn gwneud gwaith pellach i ddeall hynny ac yn dod i gasgliad cadarnhaol gyda phobl dros y ffin, gobeithio.
Hoffwn ddweud, yn ogystal â'r ffaith, wrth gwrs, fel rydych wedi sôn, fod Opera Cenedlaethol Cymru yn fyd-enwog ar hyd a lled y byd, eu bod hefyd yn gwneud llawer iawn o waith yn ein cymuned ac ar lawr gwlad. Ac mae pryderon y bydd y rhaglen Lles gyda WNO mewn perygl yn dilyn y toriadau hyn hefyd—rhaglen a gafodd ei hymestyn yn 2003 oherwydd ei chanlyniadau cydnabyddedig, fel gwelliannau iechyd meddwl, gwelliannau i hyder, emosiynau cadarnhaol a theimladau ac atal gorbryder, iselder a phanig i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglen. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom eisiau gweld hyn yn dod i ben, ac rydym eisiau iddo gael ei ddiogelu. Felly, o ran hynny, er bod Cyngor Celfyddydau Cymru, fel y dywedoch chi'n gynharach, yn gorff hyd braich oddi ar Lywodraeth Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru, a wnewch chi ein sicrhau ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi'n gwneud popeth yn eich gallu i ddiogelu'r gwasanaeth enwog hwn sydd bellach yn flaenllaw, sef Lles gyda WNO, a diogelu ei ddyfodol? Diolch.
Felly, nid wyf yn credu bod angen i chi gymryd fy ngair i ar hyn. O ran Opera Cenedlaethol Cymru—roedd un o'r bobl y gwneuthum gyfarfod â nhw ddoe, eu cyfarwyddwr cyllid, Stephanie, yn awyddus iawn i ddweud wrthyf am yr holl waith y maent yn ei wneud i gefnogi'r gwasanaeth hwnnw, oherwydd maent yn cydnabod ei bwysigrwydd yn llwyr. Rwyf wedi ymrwymo i ymweld â rhywle lle gallaf weld y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal, yn ystod toriad yr haf yn ôl pob tebyg, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedwch, nad ydym yn canolbwyntio ar eu cynyrchiadau anhygoel yn unig. Mae'n ymwneud â'r holl waith arall: soniais am y gwaith addysg y maent yn ei wneud; rydych newydd sôn am y gwaith a wnânt ym maes iechyd. Felly, rwy'n credu eu bod nhw eu hunain eisiau ei ddiogelu. Ond fy ymrwymiad iddynt ddoe—cyfarfûm â'r cadeirydd a'u prif weithredwr dros dro—oedd y byddwn yn gwneud popeth yn fy ngallu i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Wel, mae'n dda clywed hynny, ond wrth gwrs, mae angen mwy na geiriau arnom—rydym angen camau gweithredu brys nawr mewn perthynas â phopeth sydd mewn perygl, fel y mae'r ddau ohonom wedi eu hamlinellu heddiw. Heb ein celfyddydau a'n diwylliant, nid ydym yn ddim fel cenedl; heb ein celfyddydau a'n diwylliant, rydym yn colli cymaint o'n hanes unigryw yma yng Nghymru a phopeth sy'n ein gwneud yn falch o fod yn Gymry. Heb ein celfyddydau a'n diwylliant, mae Cymru'n colli ei doniau gorau a ni sydd ar ein colled o ganlyniad i hynny.
Mae gennym hanes hirsefydlog o'n celfyddydau'n cyfoethogi ein diwylliant, yn rhoi hwb i'n heconomi ac yn gwneud Cymru'n lle gwell i fyw, perfformio ac ymweld ag ef. Nid nawr yw'r amser, yn amlwg, i roi'r ffidl yn y to mewn perthynas â'r sector—dyma'r amser i ddyblu ein hymdrechion, fel rydych chi newydd ddweud, a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau'r cyfoeth sydd gan ein holl gelfyddydau i'w gynnig a gwneud yn siŵr ei fod ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sy'n gallu ei fforddio—y rhai sydd ag arian.
Yr hyn y mae'r sector yn crefu amdano yw strwythur a chynllun ar waith i sicrhau na fydd toriadau a bygythiadau fel hyn yn digwydd yn y dyfodol, oherwydd pan fydd wedi mynd, fe fydd wedi mynd am byth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i chi eto: a allwch chi leddfu pryderon cyfredol a sicrhau y bydd yna gynlluniau cyllido hirdymor ar waith nawr gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, drwy gyllid cyfalaf, i ddiogelu popeth a garwn yma yng Nghymru?
Wel, fe fydd yr Aelod yn deall na allaf gynnig unrhyw sicrwydd hirdymor, oherwydd nid ydym yn gwybod beth fydd ein cyllideb. Rydym yn tybio y byddwn yn cael setliad amlflwyddyn arall, ond nid ydym yn gwybod. Felly, yn anffodus, ni allaf gynnig y sicrwydd hwnnw. Yr hyn y gallaf ei gynnig yw sicrwydd y byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector.
Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod ar fin lansio ein dogfen ymgynghori ar flaenoriaethau ar gyfer diwylliant. Holwyd i mi pam y dylem fwrw ymlaen â hwnnw, a phan ddeuthum i'r swydd, roeddwn wedi bod yn gweithio gyda Siân Gwenllian ar hwnnw, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, ond fe ofynnais am rywfaint o—nid seibiant, ond amser i wneud yn siŵr mai dyma'r adeg iawn. Ac ar ôl edrych ar y ddogfen ymgynghori gyffrous iawn y byddwn yn ei lansio, rwy'n credu mai dyma'r amser iawn, oherwydd roedd un o'n—. Wel, mae gennym dair blaenoriaeth ac mae'r cyntaf yn cyd-fynd yn llwyr â'ch pwynt chi nad rhywbeth ar gyfer pobl sy'n gallu ei fforddio yn unig ydyw—mae'n ymwneud â hygyrchedd i bawb. Bydd yr ail flaenoriaeth yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â ni fel cenedl ddiwylliant, a bydd y drydedd yn ymwneud â sicrhau bod y sector yn gynaliadwy ac yn wydn. Ac mae'r pwynt a wnewch ynglŷn â cholli talent yn berthnasol iawn, oherwydd nid ydym eisiau i'n cantorion a'n cerddorion, er enghraifft, fynd i rywle arall—rydym eisiau eu cadw yma yng Nghymru.
Felly, yr hyn rwy'n ceisio edrych arno yw—. Ni fydd y cyllidebau'n cynyddu'n sylweddol yn y dyfodol agos iawn, ond mae angen inni edrych ar ffyrdd o weithio, mae angen inni edrych ar sut rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, a bod ychydig yn fwy creadigol yn ein meddylfryd efallai. Felly, rwy'n gwbl ymrwymedig i hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Gaf i groesawu'n fawr y sylwadau dŷch chi newydd eu gwneud fel ymateb i Laura Anne Jones? Mi gawsom ni i gyd ein swyno, ein cyfareddu, ddoe y tu allan i'r Senedd, a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd angen cael ein hatgoffa weithiau o bwysigrwydd y pethau yna, o ran ein hiechyd a'n hiechyd meddwl ni hefyd. Maen nhw'n ysgogi pobl mewn ffyrdd hollol wahanol, fel oedd yn amlwg o'r dorf. Ond yn amlwg, yr wythnos diwethaf, mi wnaethom ni hefyd glywed bod Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn edrych i dorri eu gwersi cerddoriaeth ac actio i blant a phobl ifanc, gan olygu mai dyma fydd yr unig goleg cerdd a drama yn y Deyrnas Unedig heb adran iau. Ar y penwythnos, mi gyhoeddodd y BBC erthygl yn dyfynnu Michael Sheen, sydd ar hyn o bryd wedi bod yn portreadu Aneurin Bevan yn y cynhyrchiad Nye. Disgrifiodd y toriadau i'n cyrff diwylliannol fel
'ymosodiad ar ddiwylliant yng Nghymru'.
Beth ydy eich asesiad chi o effaith y toriadau ar ein sectorau diwylliannol a chelfyddydol yng Nghymru, ac a ydych chi'n deall ac yn rhannu pryderon pobl fel Michael Sheen?
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y pryderon. Byddwch wedi clywed fy atebion i Laura Anne Jones ynglŷn ag edrych i weld beth y gallaf ei wneud i gefnogi'r sector. Ac rwy'n credu mai dyma'r amser iawn i lansio'r ymgynghoriad, a byddwn yn gwneud hynny yr wythnos hon. Oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael yr ymatebion i'r ymgynghoriad, i weld sut y gallwn ei gefnogi; ar wahân i gyllid, beth arall y gallwn ei wneud? Ac fel y dywedais, nid wyf yn tanamcangyfrif difrifoldeb y mater. Mae'n ymwneud â chelfyddydau a diwylliant—rydych wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fy mod i bob amser wedi meddwl mai diwylliant yw achubwr mawr bywyd, ac mae'n cael effaith ar ein hiechyd, ac mae'n cael effaith ar ein llesiant. Felly, byddaf yn parhau i weithio'n agos—. Byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn enwedig, i weld beth—. Maent wedi cael yr adolygiad buddsoddi, er enghraifft. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dod â'r holl ddarnau ynghyd.
Diolch am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn deall bod nifer o sylwadau wedi'u gwneud sydd wedi bod yn feirniadol yn benodol o ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â diwylliant a'r celfyddydau hyd yma. Mae awdur Cymreig y ddrama Nye, Tim Price, wedi lleisio ei bryder, gan ddatgan
'Mae'r theatr yng Nghymru mewn argyfwng yn sgil y toriadau, ac yn dal i aros am strategaeth theatr gan Gyngor Celfyddydau Cymru.'
Aeth rhagddo i ddweud:
'Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gweld gwerth y celfyddydau yn yr un ffordd ag y mae gwledydd a rhanbarthau eraill yn ei wneud ac rwy'n credu y bydd hynny'n cael effaith enfawr ar lesiant ac ar yr economi.'
Rhaid i mi ddweud, ers i chi ddod i'r swydd, rwyf wedi gwerthfawrogi'r newid cywair ac rwy'n sicr eich bod yn deall, fel Ysgrifennydd y Cabinet. Ond a gaf i ofyn, ai chi yw'r unig lais yn y Llywodraeth, neu a ydych chi'n gweld newid mawr ei angen gan eich cyd-Aelodau, nid yn unig i sicrhau dyfodol y sefydliadau annwyl hyn ond i'w cefnogi i wneud y gorau o'u heffaith? Rydych chi wedi sôn yn y gorffennol eich bod wedi cael gwybod am waith Amgueddfa Cymru mewn addysg ac yn y blaen. Rydym yn gwybod eu bod yn cyfrannu, o ran y cyfraniad a wnânt i iechyd a chyfiawnder cymdeithasol. Felly, sut mae sicrhau nad yw'r buddsoddiad ond yn dod o'r portffolio diwylliant yn unig, ond o bob rhan o'r Llywodraeth?
Na, nid fi yw'r unig lais o gwbl. Cefais drafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ynghylch gwerth allforio Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n deall hynny'n iawn. Rwyf wedi cael trafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn perthynas ag Amgueddfa Cymru, fel y gwnaethoch chi nodi. Soniais am y gwasanaeth llesiant y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei ddarparu. Felly, nid fi yw'r unig lais o gwbl, ac rwyf eisiau eich sicrhau o hynny. Nid oes neb eisiau gwneud toriadau i'r gyllideb, neb; nid oes yr un ohonom yn dod i'r byd gwleidyddol i wneud toriadau i'r gyllideb, ond rydym wedi wynebu toriadau gwirioneddol sylweddol. Felly, rwyf eisiau sicrhau pawb fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw'r sector diwylliant, ein sector chwaraeon, a'n sectorau celfyddydol i bob un ohonom.
Fe wnaethoch chi sôn mewn ateb cynharach am Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rwy'n gwybod, unwaith eto, fod hynny wedi creu haen arall o bryder i bobl, ac rwy'n sylweddoli'n iawn y gallai hynny gael effaith ar ddarpariaeth cerddoriaeth, yn enwedig i'n pobl ifanc. Felly, er bod hwnnw'n gorff annibynnol, mae'n haen arall, a maes arall, sy'n peri pryder.
Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae yna gysylltiad, onid oes, rhwng yr holl doriadau yma o ran y sector yn gyfan gwbl. Ac, yn amlwg, mae'r strategaeth ddiwylliant yma yn hirddisgwyliedig, ond mi fyddwch chi'n ymwybodol hefyd ein bod ni wedi cytuno bod yr adnoddau oedd ar gael wedi mynd at liniaru'r toriadau mwyaf diweddar.
Felly, un o'r pethau y byddwn i yn hoffi gofyn i chi yw, gyda'r sefyllfa ariannol a'r lefel o doriadau ledled Cymru—a ddim dim ond gan Lywodraeth Cymru—mor ddyrys, oes yna asesiad effaith wedi'i gomisiynu o ran beth ydy'r sefyllfa o ran diwylliant a'r celfyddydau yng Nghymru ar hyn o bryd? Ac os felly, a wnewch chi ymrwymo i'w rannu gyda ni fel Aelodau o'r Senedd? Ond os does yna ddim, a wnewch chi ymrwymo i gomisiynu asesiad effaith fel bod y strategaeth ddiwylliant derfynol yn un a fydd yn sicrhau dyfodol y sectorau hyn a'r gweithlu? Oherwydd mae yna wastad risg, onid oes, y byddwn ni'n gofyn i bobl fod yn cyflawni ar y strategaeth yma, ond efallai na fyddan nhw'n bodoli, a rhai o'r gwasanaethau dŷn ni'n cymryd yn ganiataol rŵan ddim yn bodoli. Felly, mae'n rhaid inni ddeall beth ydy'r sefyllfa, beth fydd y sefyllfa, er mwyn i'r strategaeth honno fod yn un llwyddiannus.
Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn lansio'r ymgynghoriad. Fel y dywedais, rydym yn gwneud hynny yr wythnos hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae Siân Gwenllian wedi'i wneud gyda ni, a Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Ac fel y dywedwch, yn dilyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad rwy'n credu bod yr arian a oedd wedi'i neilltuo ar gyfer cynllun gweithredu wedi ei roi tuag at liniaru colli swyddi. Ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Roedd angen inni ddiogelu bywoliaeth pobl.
Felly, rwy'n credu mai'r peth gorau i'w wneud nawr yw cael yr ymgynghoriad allan yno. Rwyf wedi gofyn am ymgynghoriad estynedig, oherwydd, am ei fod dros yr haf, rwyf bob amser yn gweld nad ydych yn cael yr ymatebion yn ôl mor gyflym. Felly, mae'n bwysig iawn—felly rwyf wedi'i ymestyn rywfaint, wythnos neu ddwy—i gael yr ymatebion hynny yn ôl, ac yna mae angen inni gyflwyno cynllun gweithredu. Ac ar yr adeg honno, rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod yna gyllid ar gael ar gyfer y cynllun gweithredu.
Hyd y gwn i, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi'i ystyried hyd yma, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n hapus i'w ystyried.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y paratoadau ar gyfer datganoli'r gwasanaeth prawf yng Nghymru? OQ61141
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o academyddion ac ymarferwyr sydd â phrofiad o'r gwasanaeth prawf i gynghori ar ddyfodol y gwasanaeth prawf yng Nghymru. Comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i fwrw ymlaen â gwaith ymchwil penodol i amlinellu opsiynau ar gyfer datganoli i Gymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Yn ddiweddar, mynychais gynhadledd droseddeg flynyddol Cymru yng Ngregynog ac roedd yn galonogol iawn gweld yr ymdeimlad o gyffro ynghylch y datganoli pellach a allai ddod i'r Senedd hon, a'r ymdeimlad ymarferol o fynd i'r afael â'r heriau technegol a gweinyddol a fydd yn dod yn sgil datganoli.
Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod yr amser wedi dod i symud ymlaen o gyflwyno'r achos dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf a chanolbwyntio yn hytrach ar y gwaith paratoi ymarferol cyn bod y Senedd hon yn ysgwyddo'r cyfrifoldebau hynny ymhen yr hyn a allai fod yn ychydig wythnosau, os ydym am roi unrhyw goel ar y dyfalu heddiw?
Diolch. Yn sicr, rwy'n cytuno bod yr achos wedi ei wneud dros ddatganoli. Rydym wedi cael amrywiaeth o gomisiynau. Rydym wedi cael comisiwn Thomas. Rydym wedi cael comisiwn Brown, ac yn fwyaf diweddar, rydym wedi cael y comisiwn a gadeiriwyd gan Laura McAllister a Rowan Williams. Ac rwy'n credu ei bod yn bryd i ni symud ymlaen nawr o ddadlau dros yr achos i wneud y gwaith paratoi.
Mae gennym raglen waith uchelgeisiol ar waith i ddatblygu ein dealltwriaeth o sut y gallai datganoli weithio yn y meysydd sy'n fwyaf tebygol o gael eu datblygu, ac mae hynny'n cynnwys y gwasanaeth prawf. Ac rydym hefyd wedi comisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sy'n bwrw ymlaen â gwaith i nodi opsiynau posibl ar gyfer datganoli'r gwasanaeth prawf, gan ddysgu gan y nifer o arbenigwyr sydd gennym ledled y DU, a hefyd ledled Ewrop. Mae'r gwaith hwnnw bellach yn dod i ben. Deallaf y dylem fod yn cael rhywfaint o adborth ar y canfyddiadau hynny ar ddiwedd y mis, ac wrth gwrs, hoffwn ddiolch i chi am eich gwaith fel cyn Brif Weinidog yn sicrhau bod y rhaglen waith sylweddol honno'n cael ei sefydlu.
Duw a'n gwaredo rhag unrhyw ddatganoli pellach pan fo rhywun yn ystyried, ar ôl 26 mlynedd, eich bod wedi methu ym maes iechyd, trafnidiaeth, addysg, diwylliant, y celfyddydau, gofal cymdeithasol, yr economi, a gallwn barhau. Credaf fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi dweud yn glir iawn nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i ddatganoli'r gwasanaeth prawf i Gymru yn y dyfodol agos. Rwy'n credu bod hwnnw'n benderfyniad doeth. Pam y byddem eisiau datganoli mwy o bŵer pan fo Llywodraeth Cymru wedi dangos cymaint o ddiffyg crebwyll dros 26 mlynedd o ran cyfraith a threfn a llawer o faterion eraill? Sut y gallem ymddiried yn y Llywodraeth hon i weithredu, rheoli a chynnal gwasanaeth prawf pan fo'n cael ei harwain gan rywun sy'n amlwg yn credu bod derbyn arian ar gyfer eu hymgyrch gan rywun sy'n llygru yn y ffordd y maent yn ei wneud—? Mae hynny'n annerbyniol. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, ar adeg pan fo'r Senedd yn mynd drwy ei thrawsnewidiad mwyaf mewn hanes, a phan fo'i harweinydd ei hun yn dangos diffyg crebwyll o'r fath, y dylid sicrhau bod pwerau plismona, cyfiawnder a'r gwasanaeth prawf yn aros yn nwylo doeth Llywodraeth Geidwadol yn y Deyrnas Unedig?
Rwy'n siŵr na fydd yr Aelod yn synnu nad wyf yn cytuno â hi, a dyna pam mae angen Llywodraeth Lafur arnom yn y DU cyn gynted â phosibl.
4. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl anabl? OQ61173
Mae ein hasesiad o effeithiau costau cynyddol yng Nghymru, gan gynnwys i bobl anabl, wedi cael ei lywio gan leisiau pobl yr effeithiwyd arnynt a'i ystyried gan ein his-bwyllgor Cabinet. Gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym, yn ystod 2022-25, rydym wedi darparu cymorth ariannol wedi'i dargedu sy'n werth bron i £5 biliwn.
Gwrando ar leisiau pobl yr effeithiwyd arnynt, iawn. Wel, dosbarthodd rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru bron i 190,000 o barseli bwyd brys yn y 12 mis o fis Ebrill y llynedd. Dyna'r nifer uchaf o becynnau y maent erioed wedi gorfod eu cyflenwi. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 73 y cant o'r bobl a gyfeiriwyd at fanciau bwyd yn bobl anabl, sy'n fwy na dwbl y gyfran o'r boblogaeth sy'n bobl anabl mewn gwirionedd. Nawr, mae hynny'n amlwg yn peri pryder. Yn wir, mae ymchwil gan Scope wedi amlygu bod costau byw yn uwch i bobl ag anableddau, gydag aelwydydd anabl yn gwario £625 yn fwy bob blwyddyn ar gyfartaledd o'i gymharu ag aelwydydd nad ydynt yn anabl. O ystyried hyn, a ydych chi'n cytuno bod y cynigion i gynyddu'r cap ar ofal cymdeithasol amhreswyl i oedolion yng Nghymru yn annoeth ac a ydych yn cydnabod y bydd hyn yn gwthio pobl anabl i drafferthion ariannol dyfnach byth?
Y bore yma, cyd-gadeiriais fy nghyfarfod cyntaf o'r tasglu hawliau pobl anabl, ac roedd yn gyfarfod diddorol iawn, lle clywsom gan ffrydiau'r gweithgor a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt. Hwn oedd degfed cyfarfod y tasglu hawliau pobl anabl. Yr hyn a wnaeth argraff arnaf oedd effaith andwyol cymaint o bethau ar bobl anabl oherwydd y costau ychwanegol a'r rhwystrau sylweddol y maent yn eu hwynebu. Fel Llywodraeth, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl i sicrhau eu bod yn cael popeth y dylent ei gael, ac mae gennym siarter budd-daliadau Cymru hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â honno.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae Llyr wedi nodi, mae'r argyfwng costau byw wedi cael effaith ddramatig ar lawer o bobl anabl. Diolch byth, mae chwyddiant bellach dan reolaeth, ac mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc Lloegr wedi uwchraddio rhagolygon twf y DU unwaith eto. Yn anffodus, mae penderfyniadau fel cynyddu'r tâl am ofal amhreswyl yn sicr yn creu ofn ymhlith llawer o bobl anabl ac yn gwneud iddynt orfod dewis rhwng bwyd neu ofal. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi annog cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y cynnydd arfaethedig mewn taliadau, a fydd, yn ôl Anabledd Cymru, yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â diffygion yng nghyllidebau awdurdodau lleol ac a allai arwain at bobl yn optio allan o ofal cymdeithasol?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn optio allan o wasanaethau y maent eu hangen, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn sicr yn hapus i'w drafod gyda fy nghyd-Aelod.
5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y pwysau cyllidebol y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eu hwynebu? OQ61168
Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru fis diwethaf i drafod sefyllfa bresennol sectorau'r celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys y sector cerddoriaeth. O dan yr egwyddor hyd braich, nid yw Llywodraeth Cymru yn ymyrryd â phenderfyniadau cyllido Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyfarfûm ag Opera Cenedlaethol Cymru ddoe hefyd.
Gwych. Rwy'n credu bod Laura Anne Jones a Heledd Fychan wedi achub y blaen arnaf braidd yn eu cwestiynau blaenorol. Rwy'n llwyr gefnogi'r egwyddorion yr oeddent yn gofyn i chi yn eu cylch yn gynharach mewn perthynas ag Opera Cenedlaethol Cymru. Roedd yn wych ddoe, ac mae un o aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru, Angharad Morgan, yn byw yn fy etholaeth i, ac roedd hi'n canu yno ddoe hefyd. Ac un o'r pethau a bwysleisiodd i mi yw nid yn unig y gwaith rheolaidd a'r teithiau rheolaidd y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eu gwneud, ond hefyd y gwaith allgymorth cymunedol a wnânt gyda phobl ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft, sy'n agos iawn at fy nghalon. Ac maent yn gwneud pethau rhyfeddol.
Ond i ychwanegu cyfeiriad newydd i'r cwestiwn, roeddwn eisiau eich atgoffa o'r datganiad barn a gefnogir yn eang y mae Rhianon Passmore wedi'i gyhoeddi. Nid yw'n gallu bod yma heddiw, ond dyma yw ei hegwyddor. Mae hi'n dweud ein bod ni'n cydnabod
'yr heriau sy'n gysylltiedig â chyni cyllidol a'r toriadau a wnaed fel rhan o'r cytundeb cyllido rhwng y ddwy genedl.'
Ac mae hi eisiau pwysleisio'r agwedd ddwy genedl. Ac mae hi'n
'galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar frys gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, i geisio sicrhau trefniadau cyllido rhwng y ddwy genedl a fydd yn helpu Opera Cenedlaethol Cymru i barhau i fod yn sefydliad amser llawn yn y tymor byr a'r tymor canolig, hyd nes y gellir rhoi cynlluniau cynaliadwy ar waith ar gyfer y tymor hwy.'
Yn y bôn, yr hyn y mae'n ei ddweud yw bod angen inni gadw Opera Cenedlaethol Cymru'n fyw hyd nes y gellir dod o hyd i gyllid pellach. A fyddech chi'n cytuno ac yn cefnogi hynny, ac a wnewch chi ymateb i hynny, yn ogystal â'r ymatebion rydych chi wedi'u rhoi eisoes?
Diolch. Wel, rwy'n credu bod Rhianon Passmore ar y trydydd diwrnod yn y swydd, yn curo ar fy nrws i drafod Opera Cenedlaethol Cymru, ac maent yn gwybod, yn y Senedd hon—ac yn sicr roedd hyn yn rhywbeth y buom yn ei drafod ddoe—fod ganddynt gefnogaeth drawsbleidiol, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Felly, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i weithio gyda nhw. Mae'r gwaith cymunedol yn bwysig iawn—fe glywsoch chi Laura Anne Jones yn sôn am y gwaith ym maes iechyd, fe glywsoch chi Heledd Fychan yn sôn am y gwaith addysgol. Rydych chi'n iawn, mae'r gwaith cymunedol yr un mor bwysig. Ac rwy'n credu mai'r tro cyntaf imi ddod ar draws Opera Cenedlaethol Cymru oedd pan wnaethant weithdy yn fy etholaeth pan gefais fy ethol gyntaf, tua 17 mlynedd yn ôl, ac rwy'n cofio'r gwaith allgymorth roeddent yn ei wneud yno. Felly, nid wyf yn tanbrisio difrifoldeb y sefyllfa, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth a allaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi clywed gan gyd-Aelodau o amgylch y Siambr heddiw ynglŷn â pha mor bwysig yw Opera Cenedlaethol Cymru i'n bywyd yma yng Nghymru. Ac rwy'n credu hefyd ei bod yn amlwg iawn nad hwn yw'r sefydliad diwylliannol cyntaf sydd wedi rhybuddio am broblemau ariannol dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi clywed, er enghraifft, gan Amgueddfa Cymru hefyd, sydd wedi nodi pryderon ariannol am eu sefydliad. Nawr, rydym yn gwybod, yng nghyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru, fod diwylliant neu'r llinell ddiwylliant yn y gyllideb wedi wynebu toriadau mwy yn ôl pob tebyg nag unrhyw ran arall o gyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, yn ystod eich cyfnod chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi dawelu meddyliau'r Senedd na fydd y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud eto ac y bydd diwylliant yn cael ei flaenoriaethu mewn gwariant yn y dyfodol?
Wel, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb i Laura Anne Jones na allaf roi unrhyw ymrwymiad ynghylch cyllideb y flwyddyn nesaf oherwydd nid oes gennym unrhyw sicrwydd ynghylch y cyllid yn y dyfodol ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl setliad cyllido amlflwyddyn arall. Ond wrth gwrs, mae ansicrwydd mawr mewn perthynas ag amseriad hwnnw, o ystyried yr ansicrwydd ynglŷn ag amseriad etholiad cyffredinol nesaf y DU.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fynediad at wasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw? OQ61123
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar fynediad at wasanaethau fel rhan o'r tasglu hawliau pobl anabl. Mae'r gwaith hwn yn rhan annatod o wella mynediad at bob gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer y rhai hynny sydd â cholled clyw.
Mae'n bwysig iawn fod pobl sydd â cholled clyw yn cael mynediad, os ydynt ei angen, at gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain wrth fynychu apwyntiadau meddygol, wrth ymdrin â chynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rwy'n aml yn ei gymharu â fi'n siarad Cymraeg: rwy'n ddigon hapus i siarad Cymraeg yn gymdeithasol, ond pan fo'n mynd yn gymhleth, rwy'n defnyddio un o'r rhain sy'n ei chyfieithu i mi. Ac rwy'n credu bod llawer o bobl eraill yn gwneud yr un peth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i bobl fyddar gael cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain er mwyn sicrhau eu bod yn deall yn iawn. Dyma'r unig ffordd o sicrhau bod y gymuned fyddar yn deall yr hyn sy'n cael ei ddweud yn iawn. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mynediad at ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain pan fo galw amdanynt?
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, Mike Hedges. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ddarparu addasiadau rhesymol, ac mae hynny'n cynnwys dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, sy'n hanfodol i sicrhau mynediad at wasanaethau. Ond rydym yn cydnabod fodd bynnag fod prinder dehonglwyr a chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, a bod angen adeiladu capasiti. Soniais mewn ateb cynharach fy mod wedi cyd-gadeirio cyfarfod y tasglu hawliau pobl anabl y bore yma, ac mae gennym ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yno i helpu rhai o'n pobl sy'n mynychu'r grŵp hwnnw. Rwyf wedi gorfod dysgu siarad yn llawer arafach, wrth symud ymlaen, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y drafodaeth honno. Roedd yn dda clywed rhywun yn dweud y bore yma fod Iaith Arwyddion Prydain yn rhan o TGAU nawr, ac yn amlwg, mae'n rhan o'r cwricwlwm, a Llywodraeth Cymru oedd un o'r rhai cyntaf i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith. Felly, nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud o gwbl. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar y capasiti i sicrhau bod gennym ddigon o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yma yng Nghymru, ond yn y cyfamser, rydym yn sicr yn annog darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n ymateb i anghenion pob dinesydd yng Nghymru.
Wel, mae mynediad at wasanaethau cyhoeddus i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain byddar yn cael ei rwystro gan ddiffyg darpariaeth o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain. Fe wnaeth rheolwr Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru, WITS, fynychu cyfarfod olaf y grŵp trawsbleidiol ar faterion byddar a gadeirir gennyf, a thynnu sylw at brinder dehonglwyr, yn enwedig ar gyfer gofal brys a gofal heb ei gynllunio, gyda'r rhan fwyaf o geisiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw, a chyda heriau o ran dod o hyd i ddehonglwyr sydd â sgiliau priodol ar fyr rybudd. Sut ydych chi'n cynnig mynd i'r afael â hyn a'r pryderon ynghylch y ffaith nad yw staff yn y gwasanaeth iechyd yn gwybod sut i drefnu dehonglwyr, ynghylch datgysylltiad rhwng staff yn y gwasanaeth iechyd a WITS sy'n arwain at ansicrwydd ynglŷn ag argaeledd dehonglwyr, ynghylch unigolion byddar yn cael llythyrau apwyntiad heb wybodaeth glir yn dweud a oes dehonglydd wedi'i drefnu, gan achosi dryswch ac ansicrwydd, ac ynghylch y diffyg ymwybyddiaeth yn y proffesiwn meddygol am anghenion unigolion sy'n ddall a byddar?
Wel, soniais am yr angen i adeiladu capasiti yma yng Nghymru. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd eraill yn ei chwricwlwm ac mae angen i ni sicrhau nawr ein bod yn cefnogi'r cynnydd yn y gwasanaethau. Mae'n amlwg iawn mai Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf neu iaith ddewisol y gymuned fyddar nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater o stelcio? OQ61171
Mae ein strategaeth 'Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026' yn blaenoriaethu mynd i'r afael â phob math o gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â stelcio ac aflonyddu yn cael ei gyflawni drwy ein glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cynnwys ffrydiau gwaith sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â chyflawni ac aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus.
Diolch am yr ymateb.
Ysgrifennydd y Cabinet, er bod gorchmynion diogelu rhag stelcio wedi'u cyflwyno fel arf hanfodol i ddiogelu dioddefwyr y drosedd erchyll hon, y gwir amdani yw bod y gorchmynion hyn yn parhau i gael eu tanddefnyddio'n frawychus ledled Cymru. Datgelodd ceisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar ystadegau brawychus gan dri heddlu yng Nghymru: dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cofnododd y lluoedd hyn dros 13,000 o achosion o stelcio, ond yn ystod yr un cyfnod, dim ond 12 gorchymyn amddiffyn rhag stelcio a gyhoeddwyd rhyngddynt. Ni wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ymateb ac nid oeddent yn gallu darparu unrhyw ddata. Mae'r rhesymau dros y methiant hwn yn amlochrog wrth gwrs, ond ni ellir anwybyddu'r diffyg hyfforddiant a dealltwriaeth ymhlith swyddogion gorfodi'r gyfraith. Yn ôl adroddiad yn 2021 gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, dywedodd 50 y cant o adfocadau stelcio nad yw'r heddlu 'prin byth' neu 'byth' yn ystyried gorchymyn amddiffyn rhag stelcio heb gael eu hannog. Ni all y sefyllfa hon barhau. Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n ystyried bwrw ymlaen â'r mater hwn a hyrwyddo rhaglenni ymyriadau stelcio amlasiantaethol, sy'n rhywbeth sy'n cael ei argymell gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a phartneriaid eraill, er mwyn mynd i'r afael â phroblem gynyddol stelcio. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, a'r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw i fynd i'r afael â stelcio. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu. Nid wyf yn credu at ei gilydd fod y materion a godwyd yn yr adroddiad wedi'u datganoli, a mater i Lywodraeth y DU yw ymateb i'r argymhellion hyn, ond roeddwn yn falch iawn o glywed bod heddluoedd gogledd Cymru a Dyfed-Powys wedi recriwtio cydgysylltydd ar gam-drin domestig a stelcio yn ddiweddar i ganolbwyntio ar y peryglon a achosir gan gyflawnwyr, gan fabwysiadu dull rhagweithiol iawn yn y maes hwn. Felly, bydd yn ymchwilio i'r defnydd effeithiol o orchmynion amddiffyn rhag stelcio ac yn edrych ar ymateb amlddisgyblaethol i stelcio. Felly, mae'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei godi gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu pan fyddaf yn eu cyfarfod—yr wythnos ar ôl y nesaf, rwy'n credu. Hefyd yng ngogledd Cymru, mae'r heddlu wedi dechrau panel stelcio amlasiantaethol newydd. Mae hwnnw'n cynnwys yr heddlu, gwasanaethau dioddefwyr, y gwasanaeth prawf a seicolegydd fforensig. Felly, yn sicr bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut effaith y bydd hwnnw'n ei chael.
Yn ddiweddar, Ysgrifennydd y Cabinet, dywedwyd wrthyf am yr acronym SODA—sefydlog, obsesiynol, digroeso ac ailadroddus. Nid oeddwn yn ymwybodol ohono cyn hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried yr hyn a ddywedoch chi mewn ymateb i Jane Dodds, beth arall y gallwch ei ddweud ynglŷn ag unrhyw ymgyrch gyfathrebu bosibl y gall Llywodraeth Cymru ei chynnal er mwyn annog pobl, os oes arwyddion o stelcio, i’w cefnogi fel eu bod yn teimlo y gallant gysylltu â'r heddlu a bod yn ymwybodol o'r arwyddion hynny?
Nid oeddwn innau'n ymwybodol o’r grŵp hwnnw ychwaith. Credaf fy mod wedi ysgrifennu’r holl wybodaeth yn gywir, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Yn dilyn fy nghyfarfod gyda'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu newydd—wel, dwy newydd, dau sydd wedi'u hailethol—byddaf yn sicr—. Mae hwn yn faes rwy'n awyddus iawn i edrych arno mewn perthynas â stelcio. Yn amlwg, gellid defnyddio llinell gymorth Byw Heb Ofn ar hyn o bryd, gan nad wyf yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gael llinell benodol ar gyfer stelcio, ond fe fyddwch yn gwybod yn iawn am Byw Heb Ofn. Mae hwnnw’n wasanaeth 24/7 rhad ac am ddim i bawb yn y sefyllfa hon, ac ar hyn o bryd, hoffwn annog pobl i'w ddefnyddio, neu'n wir, i ffonio’r heddlu.
Yn olaf cwestiwn 8, Rhys ab Owen.
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? OQ61167
Diolch. Mae ein cronfa cymorth dewisol a chymorth i'r Sefydliad Banc Tanwydd yn darparu achubiaeth i aelwydydd mewn angen dybryd. Mae ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth a’n rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn trawsnewid cartrefi aelwydydd incwm isel ar gyfer y tymor hir, gan ostwng biliau a lleihau allyriadau carbon.
Diolch, Weinidog. Yn ôl Gofal a Thrwsio Cymru, mae pobl hŷn yn gwario 19 y cant o’u hincwm ar gyfartaledd ar ynni. Yn ôl Cyngor ar Bopeth, mae 11 y cant o bobl yng Nghymru mewn dyled oherwydd eu biliau ynni, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt boeni am feilïaid yn dod i'w cartrefi, ar ben y ffaith eu bod yn ei chael hi'n anodd talu am eu hanfodion misol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ar gyfer 2035 na ddylai unrhyw aelwydydd fod yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol, ond ychydig iawn y mae’r dyheadau hyn yn ei olygu i’r rheini sy'n byw mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd. Gwn fod y Llywodraeth wedi datgan yn 2021 y byddent yn ystyried cyflwyno targedau interim ar dlodi tanwydd, ond nid yw hyn wedi digwydd eto. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo nawr i roi targedau interim y cynllun trechu tlodi tanwydd yng Nghymru ar waith? Diolch.
Diolch. Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod yn y swydd ers deufis, ac mae hyn yn sicr yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno yn ei gyfanrwydd mewn perthynas â'r holl faterion sy'n ymwneud â thlodi.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Y cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Janet Finch-Saunders ac i'w ofyn gan Carolyn Thomas.
1. Sut y mae Comisiwn y Senedd yn hyrwyddo pwysigrwydd cynaliadwyedd a diogelu'r amgylchedd naturiol ar ystâd y Senedd? OQ61138
Hoffwn ddiolch i'r Aelod, gan ei bod yn bwysig ein bod yn cadw'r amgylchedd naturiol ym mhopeth a wnawn yma yng Nghomisiwn y Senedd. Bûm yn gweld y gwenyn yr wythnos diwethaf. Rwy'n deall eich bod chi wedi bod hefyd.
Ddoe.
Rhyfeddol. Hoffwn ddweud yn fy ymateb i chi y dylai unrhyw Aelod sydd heb fod yn gweld y gwenyn fynd i'w gweld, a gallwch brynu'r mêl.
Mae'r Comisiwn o ddifrif ynglŷn â'r portffolio cynaliadwyedd. Mae gennym system amgylcheddol a ddilyswyd yn allanol ar waith, a ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyhoeddi strategaeth carbon niwtral. Rydym yn cyhoeddi diweddariadau cynnydd yn ein hadroddiad blynyddol ar gynaliadwyedd. Rydym wedi gwneud gostyngiadau sylweddol i’r defnydd o ynni dros y ddau aeaf diwethaf, ar adeg pan gododd prisiau’n sylweddol, ac rydym wedi rhoi cyngor ynni i staff pan oeddent yn wynebu biliau uwch gartref. Rydym yn cynnal wythnos feicio ac amgylchedd i staff ym mis Mehefin. Eleni, byddwn yn helpu pobl gyda theithio carbon isel a thrwsio dillad. Rydym wedi gwneud gwelliannau helaeth i ystad y Senedd i gefnogi bioamrywiaeth, gan gynnwys y llain o flodau gwyllt ger y Senedd, gerddi estynedig, cychod gwenyn, gwestai trychfilod a phyllau dŵr. Rydym hefyd wedi gwneud gwaith ar adfer draenogod, adfer natur. Rydym wedi cynnal teithiau cerdded bioamrywiaeth a llesiant i staff ddechrau mis Mai fel y gallent archwilio’r ardaloedd hynny, ac mae ysgol gynradd leol hefyd wedi ymweld â’r cwch gwenyn yn gynharach y mis hwn.
Diolch. Mae'n braf iawn clywed am bopeth sy'n digwydd; byddai’n wych ei hyrwyddo ar wefan y Senedd hefyd. Edrychais ar wefan y Senedd a dyna ble y clywais am y gwenyn, felly bûm yn eu gweld ddoe a mwynheais yr ymweliad yn fawr—diolch.
Yn ddiweddar, noddais ddiwrnod bioamrywiaeth y Senedd, gan ddod â 25 o sefydliadau o bob rhan o Gymru ynghyd i arddangos eu gwaith caled a’u hymroddiad i hyrwyddo pwysigrwydd bioamrywiaeth a diogelu ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd naturiol. Fe’i hysbysebais i’r cyhoedd hefyd—roedd yn ddigwyddiad cyhoeddus—ac rwyf wedi darganfod nad oedd rhai ymwelwyr â’r bae wedi sylweddoli cyn hynny y gallent ymweld â’r Senedd heb archebu ymlaen llaw, ac nad yw’r fynedfa’n glir iawn. Felly, fel y dywedais, daeth llawer iawn o bobl i’r digwyddiad a chafodd dderbyniad da, gan aelodau’r cyhoedd yn ogystal ag Aelodau o’r Senedd, ac roedd yn hyfryd eu gweld yn ei fwynhau, a daeth pob sefydliad ag amrywiaeth liwgar o wrthrychau ac arddangosfeydd.
Felly, a fyddech yn ystyried gwneud diwrnod bioamrywiaeth y Senedd yn ddigwyddiad blynyddol? Oherwydd hoffent weld hynny'n digwydd eto. Efallai y byddai wythnos gyntaf mis Mai yn dda iawn. Ac a fyddech yn ystyried dod o hyd i ffyrdd newydd o hyrwyddo'r ffaith bod y Senedd yn agored i'r cyhoedd? Pan ddeuthum drwy'r brif fynedfa ddoe, roedd yn wych gweld arwydd y tu allan yn dweud 'mynedfa y ffordd yma'. Ac roeddwn yn credu bod hynny'n syniad da iawn.
Diolch. Gwnaf, wrth gwrs, fe ystyriaf y pwyntiau hynny, a phan fyddwn yn cyfarfod nesaf fel Comisiwn, byddaf yn eu codi, ond hoffwn ddiolch i chi am gynnal y digwyddiad. Mewn gwirionedd, bu rhai o fy etholwyr yn y digwyddiad, felly mae hynny’n dangos sut rydych yn estyn allan pan fyddwch yn cynnal digwyddiad o’r fath. O ran cynnal diwrnod bioamrywiaeth y Senedd eto, ni allaf weld unrhyw broblem gyda hynny, ond unwaith eto, byddaf yn ei godi. Mae i'w weld yn gwneud synnwyr perffaith inni gynnal un.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn gleient angori ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd, a fydd yn darparu gwres carbon isel i'n hystad. Mae ein cysylltiad â'r rhwydwaith yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Rydym wedi gweithio gydag RSPB Cymru a Buglife i wneud ystad y Senedd yn ardal Urban Buzz, er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth. Yn ein strategaeth carbon, rydym wedi ymrwymo i ddyblu'r mannau gwyrdd ar yr ystad. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd ar hyn, gyda llain ardd fwy o faint ym maes parcio Tŷ Hywel, sy'n cynnwys llawer o blanhigion sy’n denu peillwyr. Nid ydym yn defnyddio cemegau niweidiol i leihau chwyn ar yr ystad, gan ddefnyddio finegr neu ddulliau mecanyddol yn lle hynny. Mae newid y ffordd rydym yn torri’r llystyfiant ger y Senedd wedi troi’r tir—ac mae hyn yn bwysig iawn—yn llain flodau gwyllt bwysig, sy'n cynnwys dwy rywogaeth o degeirian, ac mae llawer mwy o bryfed yno bellach. Rydym yn cyhoeddi data cynaliadwyedd helaeth bob blwyddyn, yn yr adroddiad annibynnol ac yn yr adroddiad blynyddol a chyfrifon. Mae ein ffreutur yn defnyddio bwyd o bob rhan o Gymru lle bo modd, ac yn ddiweddar, mae wedi ennill gwobr Bwyd Am Oes Cymdeithas y Pridd. Mae ein cyfraddau gwastraff bwyd yn isel ac mae unrhyw fwyd dros ben a gwastraff bwyd gan staff yn cael ei ddanfon i'w gompostio yn lleol. Rydym wedi trawsnewid yr ystad gyfan bron i redeg ar oleuadau LED mwy effeithlon, ac mae hynny eto'n waith pwysig iawn. Rydym yn hyrwyddo teithio cynaliadwy a llesol, gyda chyfleusterau helaeth ar gyfer beicwyr a gyrwyr cerbydau trydan, ac yn ddiweddar, fe wnaethom gwblhau’r siarter teithio'n iach i staff fel rhan o grŵp bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerdydd.
Wrth ddweud hyn oll, hoffwn ddiolch i’r tîm sy’n cael ei arwain gan Matthew Jones, oherwydd y tu ôl i bob un ohonom ni wleidyddion, mae pobl yn gweithio yn y cefndir. Matthew a aeth â mi i weld y gwenyn ac mae ef a’i dîm i’w canmol, a Chomisiwn y Senedd, a bod yn deg, am yr holl waith a wnawn ar hyn. Mae'n bwysig i bob un ohonom, fel Comisiynwyr. Diolch.
Cwestiwn 2 i'w ateb gan Hefin David, cwestiwn gan Gareth Davies.
2. Pa drafodaethau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cael â'r Bwrdd Taliadau ynghylch effaith y cynnydd yn y dreth gyngor ar gyllideb Comisiwn y Senedd? OQ61177
Mae’r Comisiwn yn ymwybodol o effaith bosibl y cynnydd yn y dreth gyngor i Aelodau ar gyllideb y penderfyniad. Nid yw Comisiwn y Senedd wedi cael trafodaethau ar y mater hwn gyda’r bwrdd taliadau annibynnol. Fodd bynnag, mae swyddogion wedi darparu gwybodaeth i’r bwrdd ar y mater hwn. Mae darpariaeth y penderfyniad sy’n caniatáu i’r Aelodau gael ad-daliad am y dreth gyngor ar eu llety yng Nghaerdydd yn ddigon i dalu am y cynnydd yng nghostau Aelodau ar sail eu llety presennol.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Gomisiynydd. Tri y cant oedd codiad treth arfaethedig Cyngor Caerdydd ym mis Ionawr, ond dyblwyd hyn wedyn i godiad o 6 y cant yn eu cyllideb derfynol. Bydd hyn, wrth gwrs, yn taro pocedi trigolion Caerdydd, ond bydd hefyd yn taro cyllideb Comisiwn y Senedd. Mae gan lawer o Aelodau’r Senedd lety yng Nghaerdydd er mwyn cyflawni eu dyletswyddau yn y Senedd, a gallant hawlio gwariant ar lety preswyl. Ar gyfer Aelodau a ddiffinnir fel rhai sydd â'u prif gartref yn yr ardal allanol, gallant hawlio'r dreth gyngor sy’n daladwy yn ôl hyd at swm eiddo ym mand treth gyngor F. Roedd cynnydd o 7 y cant yng nghyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25 o gymharu â chyllideb y flwyddyn flaenorol mewn cyllid ar gyfer treuliau Aelodau, ond cyhoeddwyd y gyllideb ddiweddaraf hon ym mis Tachwedd y llynedd, cyn i gynnydd treth anghyfrifol Cyngor Caerdydd gael ei gyhoeddi. Bydd y cynnydd o 7 y cant yn y gyllideb ar gyfer treuliau Aelodau hefyd, heb os, yn cyfrif y cynnydd mewn costau byw a chostau teithio uwch. Felly, hoffwn pe gallai’r Comisiynydd amlinellu a yw’r Comisiwn wedi gwneud asesiad o’r codiadau yn y dreth gyngor a’u heffaith ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer treuliau, a oedd y codiad o 7 y cant ar gyfer treuliau Aelodau yn ddigon i dalu am hyn a pha gynlluniau wrth gefn sydd gan y Comisiwn ar waith fel ei fod yn barod ar gyfer gwariant nas rhagwelir yn y dyfodol?
Iawn. Diolch. Yn gyntaf oll, nid wyf am feirniadu Cyngor Caerdydd. Credaf fod eu haelodau'n craffu arnynt a'u bod yn gwneud y penderfyniadau hynny. Mae pethau fel anheddau sy'n gysylltiedig â swydd ar gyfer gweithwyr yn y sefyllfa hon, ond nid yw’n berthnasol i'r Aelodau, felly efallai y byddai’n werth i’r Aelod siarad â’r Llywodraeth am hyn a gweld a oes cyfle, efallai, i ddiwygio’r gyfraith. Mae hynny, yn amlwg, y tu hwnt i awdurdodaeth Comisiwn y Senedd, ond yn sicr, mae wedi codi pwynt pwysig. Dywedodd hefyd, wrth gwrs, fod y bwrdd taliadau, hyd at fand F, yn talu'r dreth gyngor yn llawn ar gyfer yr Aelodau sy’n byw yng Nghaerdydd ac sy’n gorfod teithio o’r cylch allanol, rwy’n credu yw'r term. Rwy'n gymudwr, felly rwy'n dechrau dod i ddeall y pethau hyn a darganfod sut beth yw hi i deithio mor bell.
Un peth—. Fe wnaethoch chi fynegi pryder am y gyllideb. Mae cyllideb ddrafft y Senedd yn cynnwys swm a bennwyd ar gyfer materion yn ymwneud â threuliau Aelodau y mae’r bwrdd taliadau wedi gofyn i ni eu neilltuo. Y newyddion da i chi yw nad yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn hawlio'r uchafswm treuliau y mae ganddynt hawl iddo. Credaf ei bod yn werth inni ddatgan hynny'n uchel: nid yw'r Aelodau'n hawlio'r uchafswm treuliau y mae ganddynt hawl iddo. Ac mae hynny'n rhoi cryn dipyn o le i ni fynd i'r afael â threuliau annisgwyl fel hyn gan Gyngor Caerdydd. Felly, nid yw'n bryder ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol. Gan eich bod wedi tynnu ein sylw at hyn, bydd yn cael ei ystyried fel mater yn y gyllideb ddrafft yn y dyfodol, ond nid ydym yn pryderu ei fod yn mynd i arwain at unrhyw angen am ganllawiau atodol yn y dyfodol.
Cwestiwn 3 nesaf: Joyce Watson sy'n ateb, a Julie Morgan i holi'r cwestiwn.
3. Sut mae Comisiwn y Senedd yn sicrhau bod pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw yn gallu cymryd rhan weithredol yng ngwaith y Senedd? OQ61149
Diolch am eich cwestiwn, Julie. Mae Comisiwn y Senedd yn parhau i fod yn ymrwymedig i optimeiddio cyfranogiad pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yng ngwaith y Senedd. Ar ein hystad, gellir defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys dehonglwyr BSL, palanteipyddion, siaradwyr gwefusau a systemau dolen glyw, i hwyluso cyfranogiad ar gyfer pobl sy’n fyddar neu sy’n byw â cholled clyw ym musnes y Senedd, a theithiau ac ymweliadau â’r Senedd. Rhoddir is-deitlau ar yr holl gynnwys fideo a ddarperir ar gyfer sianeli'r Senedd ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwneir hyn yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae staff y Comisiwn wrthi'n archwilio sut y gellid gwella'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau dehongli Iaith Arwyddion Prydain yn fyw ac wedi'u recordio ar gyfer eitemau'r Cyfarfod Llawn ar ddyddiau Mawrth a Mercher.
Diolch am yr ateb.
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Bythefnos yn ôl, cefais ddatganiad 90 eiliad yma yn y Siambr i sôn am fywyd Dorothy Miles, a oedd yn fardd iaith arwyddion byddar o ogledd Cymru. Roeddwn yn falch iawn fod y datganiad wedi’i ddehongli’n fyw yma i Iaith Arwyddion Prydain. Roedd aelodau o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn yr oriel, ac nid oedd busnes y Senedd wedi'i ddehongli tan y datganiad, ac ar ôl y datganiad, fe newidiodd yn ôl i ddim dehongliad, a chredaf fod hyn wedi bod yn anodd iawn, gan fod gennym bobl fyddar yma yn y Senedd nad oeddent yn gallu dilyn y trafodion.
Felly, credaf fod angen gwneud llawer mwy o waith, ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych yn ei gynllunio, gan ein bod am wneud y lle hwn yn hygyrch i bawb. Ar hyn o bryd, mae'r trefniadau presennol yn golygu y gall pobl gael eu hallgáu. Tybed a allai fod yn werth ichi edrych ar Senedd yr Alban, lle mae ganddynt dudalen benodol ar y wefan, sy’n helpu pobl i ddod o hyd i'r holl fannau gwahanol ble mae gwasanaethau dehongli ar gael. I ddechrau, gan fy mod yn ymwybodol fod prinder dehonglwyr, mater a godwyd yn y set flaenorol o gwestiynau, tybed a fyddai'r Comisiwn yn ystyried dehongli pob sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog yn fyw i Iaith Arwyddion Prydain fel man cychwyn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Unwaith eto, mae’r holl bwyntiau a wnewch yn gwbl ddilys, ac roeddwn yn falch iawn o weld, pan oeddech yn gofyn eich cwestiwn, fod y dehongliad ar gael. Ond rydych yn llygad eich lle, yn amlwg, wrth ddweud nad oedd hynny'n wir am y sesiwn gyfan y prynhawn hwnnw, ac na ddarparwyd dehongliad i'r bobl a fyddai wedi gobeithio cael un. Fodd bynnag, ar Senedd.tv, mae gennym is-deitlau ar gyfer y busnes a gyflawnir yma, ac mae gennym y Cofnod, y gall pobl ei ddarllen. Ond credaf ei bod yn deg dweud ein bod wedi cyrraedd pwynt lle rydym ar fin newid y Siambr hon, ac mewn cyfarfod a gawsom yr wythnos diwethaf, codwyd y newidiadau a fydd yn digwydd pan fydd wedi’i had-drefnu. Un o'r materion a godwyd oedd man ar gyfer dehonglwr BSL, felly mae'r bwriad yno, dyna rwy'n ceisio'i ddweud.
Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag Iwerddon a'r Alban eisoes ar yr hyn y maent yn ei wneud, ac mae hynny eisoes wedi digwydd; mae staff y Comisiwn wedi gwneud hynny. Ac rydych yn llygad eich lle fod prinder dehonglwyr BSL ar hyn o bryd. Ond o ran symud ymlaen a gwneud hon yn Senedd gynhwysol—a dyna rydym yn sôn amdano—rydym yn gwneud pethau eraill y tu hwnt i BSL ar gyfer pobl eraill sy'n drwm eu clyw, neu sydd angen cymorth a chefnogaeth gyda chlyw cyfyngedig. Felly, mae’n fater sydd ar y gweill. Rydym yn ceisio gwneud cynnydd arno, ac rydym yn gobeithio gwneud hynny cyn gynted â phosibl, o ystyried y cyfyngiadau rwyf newydd eu crybwyll.
Fel y dywedais yn gynharach, i lawer o bobl fyddar, BSL yw'r dull cyfathrebu a ffafrir ganddynt, ac mae hynny’n golygu y gallant ddeall yr hyn sy’n cael ei ddweud yn llawn. I gael dealltwriaeth lawn, yn bendant, mae angen BSL arnynt. Ni wnaiff darllen gwefusau mo'r tro, byddant yn cael dealltwriaeth weddol—ac rwyf wedi cymharu'r peth â mi a'r Gymraeg—ond nid ydych yn cael y ddealltwriaeth lawn na'r elfennau mwyaf cynnil. Os nad oes BSL ar gael, is-deitlau yw'r opsiwn ail orau, er bod pobl sy'n gwylio is-deitlau ar y teledu yn sylweddoli y gallant gael pethau'n rhyfeddol o anghywir ar y rheini. A yw’r Comisiynydd yn cytuno â mi ei bod yn bwysig inni sicrhau bod pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yn cael yr un mynediad at wybodaeth â phobl sy’n clywed?
Rwy’n cytuno’n llwyr â chi, Mike. Mae’r ddarpariaeth dolen glyw o amgylch yr ystad wedi’i harchwilio a’i gwella, ac mae systemau dolen un-i-un gwell wedi’u gosod yn y dderbynfa ym mhob un o’r tri adeilad. Rydym bellach wedi prynu systemau dolen symudol mwy newydd, mwy datblygedig, y gellir eu defnyddio mewn ystafelloedd cyfarfod a mannau digwyddiadau mwy, oherwydd yn amlwg, nid oedd y rhai a oedd yn bodoli eisoes yn ddigonol.
Mae systemau sain isgoch wedi'u gosod yn y Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora a'r orielau cyhoeddus. Yn ogystal â'r system sefydlog yn yr ystafelloedd, mae gennym hefyd fersiwn symudol ar gyfer pwyllgorau a digwyddiadau allanol oddi ar y safle. Mae’r system honno’n darparu cyfieithiad a mwyhad sain gair am air drwy glustffonau neu ddolenni sain personol, sydd ar gael ar gais i Aelodau, tystion a’r cyhoedd sy’n mynychu trafodion.
Gofynnir i bobl sy'n dod i ddigwyddiadau, teithiau, digwyddiadau allgymorth a chyfarfodydd y Senedd a ydynt angen unrhyw addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gynllunio. Yn yr un modd, mae’n rhaid i sefydliadau sy’n cynllunio digwyddiadau ar ystad y Senedd gadw at restr wirio hygyrchedd.
Mae gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar gyfer y cwestiynau i'r Prif Weinidog bob dydd Mawrth ac ym mhob un o gyfarfodydd Senedd Ieuenctid Cymru. Mae staff y Comisiwn yn archwilio sut y gallwn wella hynny, ac rwyf wedi ateb y cwestiynau hynny wrth ymateb i'r cwestiwn blaenorol.
Mae gwasanaeth dehongli ar gael, ar gais, i unrhyw un sy’n dymuno gwylio dadl neu gyfarfod pwyllgor penodol, ar gyfer digwyddiadau ac ar gyfer teithiau’r Senedd. Mae gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain wedi'i ddarparu'n rhagweithiol lle mae'r pwnc hwnnw'n cael ei drafod—ac fe wnaethom ni hynny hefyd.
Mae staff y Comisiwn wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd, gyda dosbarthiadau ymwybyddiaeth o fyddardod a BSL ychwanegol yn cael eu darparu. Mae ein cydweithwyr blaen y tŷ a diogelwch wedi cwblhau hyfforddiant hyder o ran anabledd. Bydd modiwl hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid cynhwysol newydd y Comisiwn yn darparu arferion gorau wrth gysylltu ag aelodau o'r gymuned fyddar. Y gobaith yw y bydd hynny'n codi ymwybyddiaeth a hyder ein staff wrth ymdrin ag ystod amrywiol o gwsmeriaid.
Rwyf eisoes wedi crybwyll y ffaith bod y ddarpariaeth dysgu yn y gweithle ryngseneddol yn cynnwys sesiynau yn yr Oireachtas a Senedd yr Alban ar BSL.
4. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau buddsoddi moesegol ei gronfa bensiwn? OQ61163
Mae tri chynllun pensiwn yn gysylltiedig â’r Senedd. Mewn perthynas â chynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd, nid oes gan y Comisiwn unrhyw bŵer i ddylanwadu ar ddyraniad asedau’r cynllun. Y bwrdd pensiynau sydd â’r pŵer i fuddsoddi asedau’r cynllun, sy’n annibynnol oddi ar y Comisiwn.
Caiff cynllun pensiwn y staff cymorth ei redeg gan Aviva. Nid yw'r Comisiwn yn ymwneud â phenderfynu sut i fuddsoddi'r asedau. Mae cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, sydd ar gael i staff y Comisiwn, yn gynllun heb ei ariannu, ac felly nid oes ganddo asedau i’w buddsoddi. Telir y buddion o refeniw treth yn hytrach nag o asedau a neilltuwyd i'w talu.
Rwy'n gobeithio bod hynny’n ddigon clir.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Wel, wrth gwrs, mi fydd Hefin yn ymwybodol bod amryw o alwadau wedi cael eu gwneud dros y blynyddoedd ynghylch ymddihatru, neu divest, buddsoddiadau o gwmnïau sydd yn anfoesol. Mae yna bryder mawr ar hyn o bryd y gall pot pensiwn y Comisiwn a phethau sy’n ymwneud â phensiwn y Comisiwn fod yn cael eu defnyddio i ariannu cwmnïau arfau, a’r arfau hynny, yn eu tro, yn cael eu gwerthu i Lywodraeth Israel, sydd wedyn yn defnyddio’r arfau hynny i ymosod ar ysbytai, cwmnïau elusennol, ysgolion ac ati yn Gaza. A fedrwch chi roi sicrwydd i ni y gwnewch chi, fel Comisiwn, edrych i mewn i hyn a rhoi pwysau, lle mae’n addas ac yn bosibl i wneud hynny, ar fuddsoddwyr y pensiwn i ymddihatru o gwmnïau sy’n cynhyrchu arfau?
Mae gennym y tri phensiwn y soniais amdanynt y mae'r Comisiwn yn perthyn iddynt—neu y mae staff y Comisiwn yn perthyn iddynt. Cyfrifoldeb y bwrdd pensiynau yw pensiwn yr Aelodau. Felly, ni all y Comisiwn ddylanwadu ar hynny’n uniongyrchol. Mae'n rhaid iddo fod drwy'r bwrdd pensiynau. Mae gennyf newyddion da a newyddion drwg. Y newyddion da yw fy mod newydd ymuno â’r bwrdd pensiynau. Mae hynny'n newyddion da. Y newyddion drwg yw nad wyf wedi bod i'r cyfarfod cyntaf eto. Ond yn sicr, credaf fod yr hyn a ddywedodd yn werth y sgwrs honno, ac ymateb gan y bwrdd pensiynau i chi o bosibl. Efallai yr hoffech ysgrifennu at y bwrdd pensiynau yn uniongyrchol gyda’r materion hyn. Yn sicr, mae gan y bwrdd pensiynau ddiddordeb mewn buddsoddiad hirdymor mewn cwmnïau sy’n debygol o fod yn gynaliadwy a chadw strategaeth sy’n ymwneud â buddsoddiadau priodol.
Fel y dywedais yn fy ateb i chi’n gynharach, y broblem gyda phensiwn y staff cymorth yw ei fod yn cael ei redeg gan Aviva, felly nid oes gennym lais mewn perthynas â hwnnw, ond unwaith eto, efallai yr hoffech ysgrifennu’n uniongyrchol at Aviva gyda’ch pryderon, a chodi’r pryderon hynny gyda nhw. Ac yna, rhagor o newyddion da i chi: mae cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, sydd ar gael i staff y Comisiwn, yn gynllun heb ei ariannu, ac felly nid oes ganddo asedau i'w buddsoddi.
Felly, lle gallaf eich helpu yw gyda chynllun yr Aelodau, a gwneud y sylwadau hynny drwy'r bwrdd pensiynau. Felly, efallai y gallem gael trafodaeth—. Mae Mike Hedges hefyd yn aelod o’r bwrdd pensiynau. Rwy’n siŵr y byddem yn fodlon cael trafodaeth gyda chi—Mike—
—cyn ein cyfarfod nesaf, a sicrhau bod eich pryderon yn cael eu clywed yn glir.
Hoffwn ddilyn trywydd cwestiwn Mabon a gofyn yn benodol am yr hyn y gellir ei wneud i ymryddhau o gwmnïau Israelaidd yn gyffredinol, o ystyried bod mwyafrif cynyddol o bobl nid yn unig yn erbyn, ond yn ffieiddio at ymosodiadau parhaus Israel yn Gaza a'u canlyniadau gwaedlyd. Mae'n hen bryd inni weithredu ar hyn. Bydd llawer o bobl yn arswydo wrth glywed y gallai eu buddsoddiadau pensiwn fod yn cynnal economi rhyfel sy'n achosi cymaint o farwolaeth a dinistr i bobl Gaza. Hoffwn wybod beth y gall y Senedd ei wneud i chwarae ei rhan i ddod â’r gwrthdaro erchyll hwn i ben ac i sicrhau heddwch, dynoliaeth a dyfodol i Balesteina, drwy ei chynlluniau pensiwn, ond hefyd drwy ei phrosesau caffael.
Rwy'n credu y byddwn yn eich cyfeirio at yr ateb a roddais i Mabon, ond hefyd, mae’r bwrdd pensiynau'n adolygu cymwysterau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant ei reolwyr yn flynyddol, ac yn cwestiynu ei gynghorwyr ar ymagwedd y rheolwyr at y materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant ym mhob un o gyfarfodydd y bwrdd pensiynau. Felly, unwaith eto, yng nghyfarfod nesaf y bwrdd pensiynau, rwy'n fwy na pharod i'w godi, ac rwy'n siŵr y byddai Mike Hedges yn dweud yr un peth. Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Mabon, ac mae'r hyn rydych chi wedi'i ddweud wedi'i glywed yn glir.
Ac yn olaf, cwestiwn 5, Luke Fletcher.
5. Pa waith y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i wneud ystâd y Senedd yn ddementia-gyfeillgar? OQ61159
Diolch am eich cwestiwn, Luke. Mae’r Senedd wedi ymrwymo i wneud ystad y Senedd yn groesawgar ac yn hygyrch i bobl â dementia, ac i’r bobl sy’n dod gyda nhw hefyd. Ers i’r Comisiwn ymrwymo i ddod yn sefydliad dementia-gyfeillgar yn 2015, rydym yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn yn y chweched Senedd, gan gynnwys darparu hyfforddiant i staff, yn ogystal â sesiynau ac erthyglau codi ymwybyddiaeth. Rydym yn datblygu canllawiau gwasanaeth cwsmeriaid ar anableddau anweladwy, sy'n cynnwys canllawiau'n ymwneud â darparu gwasanaeth cynhwysol i bobl â dementia, a fydd yn cyd-fynd â darpariaeth hyfforddiant newydd i staff rheng flaen i roi croeso cynhwysol i gwsmeriaid, gan adeiladu ar yr hyfforddiant blaenorol y maent wedi'i gael.
Diolch am eich ateb. Mae'n newyddion da clywed am yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu. Mae bob amser yn syndod i lawer o bobl pan fyddwch yn rhoi'r wybodaeth iddynt ynglŷn â sut y gall dementia effeithio ar ganfyddiad. Efallai y bydd rhywbeth syml i ni, fel marc du, yn edrych fel twll du i rywun â dementia, ac felly byddant yn ofni croesi'r twll hwnnw.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia, roeddwn yn falch iawn o weld digwyddiad Cymdeithas Alzheimer's yn yr eglwys Norwyaidd yr wythnos diwethaf, fel rhan o Wythnos Gweithredu ar Ddementia, lle clywsom yn uniongyrchol gan bobl sy’n byw gyda dementia, a rhai o’u pryderon, yn ogystal â rhai o’r heriau y maent yn eu hwynebu. Felly, tybed a allai’r Comisiwn ymrwymo i ymgysylltu â phobl sy’n byw gyda dementia yn rheolaidd i weld beth yw’r heriau o ran newid ystad y Senedd, ond hefyd i ymgynghori’n weithredol â nhw i sicrhau, pan fyddant yn dod i’r Senedd, fod y safbwyntiau hynny wedi’u hystyried a bod eu hymweliad yn brofiad dymunol.
Diolch. Rydym bob amser yn awyddus i ymgysylltu â phobl, a gwneud profiad unrhyw un sy'n dod yma yn brofiad da, felly, wrth gwrs, byddem yn ymrwymo i ymgysylltu. A bydd modiwl hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid cynhwysol newydd y Comisiwn yn darparu arferion gorau wrth gysylltu â phobl â dementia a'r rheini sy'n eu cefnogi. Bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth a hyder ein haelodau staff wrth iddynt ymwneud ag ystod amrywiol o gwsmeriaid â gofynion gwahanol. Mae tîm ymgysylltu ag ymwelwyr y Comisiwn yn gweithio gyda grwpiau ac unigolion cyn eu hymweliadau i sicrhau bod eu hanghenion a'u gofynion penodol yn cael eu diwallu. Mae’r Comisiwn wedi datblygu taith rithwir 360 gradd, sydd ar gael ar wefan y Senedd, i helpu ymwelwyr i ymgyfarwyddo â’r adeilad a’i nodweddion, yn enwedig i’r rheini a allai fod yn nerfus cyn gwneud ymweliad o’r fath. Rydym yn darparu ystafelloedd tawel ar yr ystad a thoiledau Changing Places i oedolion.
Cynhaliwyd sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth fel rhan o'r mis cynhwysiant yn 2022, ac rydym yn parhau i nodi dyddiadau perthnasol yn y calendr amrywiaeth i godi ymwybyddiaeth. Rywsut, fe wnaeth COVID amharu a tharfu ar lawer o waith da. Wrth gwrs, mae angen inni sicrhau bod yr holl arferion da a oedd yno'n flaenorol yn parhau nawr. Ond rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Alzheimer's Cymru. Mae eu tîm deall dementia wedi darparu eu hyfforddiant Cyfeillion Dementia a sesiwn ymwybyddiaeth i'r Aelodau. Rwyf wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant, ac rwy'n siŵr fod llawer o rai eraill yn yr ystafell hon wedi gwneud hynny. Rydym am wneud ein gorau glas. Adeilad y bobl yw hwn, nid ein hadeilad ni—rydym yn cydnabod hynny, ac fe wnawn unrhyw beth y gallwn ei wneud. Felly, yr ateb byr yw, 'Fe fyddwn yn ymgysylltu', ond rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau, blogiau ac erthyglau sy'n hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddementia, ac rydym o ddifrif ynglŷn â'n cyfrifoldeb.
Diolch i'r Comisiynwyr.
Eitem 4 heddiw yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad ar yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig? TQ1093
Diolch yn fawr. Ar ddydd Llun, fe wnes i ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru i bawb yng Nghymru a ddioddefodd ac a effeithiwyd gan y sgandal gwaed wedi'i heintio. Hoffwn i ailadrodd yr ymddiheuriad yma heddiw a chadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cynnal dadl yn y Senedd ar y mater yma ar 4 Mehefin. Byddaf i'n rhoi gwybod i Aelodau bryd hynny sut y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig i weithredu'r cyfiawnder y mae'r dioddefwyr yn ei haeddu.
Diolch ichi am yr ateb yna. Dwi am ddechrau drwy ychwanegu fy llais at y rhai sydd wedi llongyfarch a diolch i ddioddefwyr a goroeswyr y sgandal yma, eu teuluoedd a’u cefnogwyr, sydd wedi gorfod ymgyrchu am yn llawer rhy hir dros gyfiawnder. Roedd hyn yn sgandal y gellid yn hawdd fod wedi’i osgoi. Fel y dywed yr adroddiad o'r ymchwiliad, nid damwain oedd hyn; nid anffawd oedd o. Roedd pobl yn derbyn gwaed wedi ei heintio gan bobl a oedd yn gwybod bod y gwaed wedi cael ei heintio. Mae'n ganlyniad uniongyrchol i fethiannau systemig yn sgil cynllwynio i gelu'r gwir a chuddio gwybodaeth er mwyn gwarchod enwau da, ac yn ganlyniad i ddiffyg tryloywder a methiant gwleidyddion ac uwch-swyddogion i gydnabod bai. Mae o'n gwbl ddamniol ac mae yna wersi yno i bob un ohonom ni.
Mae adroddiad Langstaff yn rhoi llais iddynt ac yn dangos y methiannau systematig ar bob lefel a greodd yr amgylchedd lle llwyddodd y sgandal hon i bara cyhyd. Mae'r ffaith y bu'n rhaid i ymgyrchwyr ymladd mor galed yn erbyn system a geisiodd ddiogelu ei buddiannau ei hun a blaenoriaethu ei hamddiffyniad ei hun dros gywiro ei chamgymeriadau yn gywilyddus. Mae yna argymhellion yn adroddiad Langstaff sydd o fewn meysydd o gymhwysedd datganoledig, yn cynnwys ar ddiogelwch cleifion a gofal hemoffilig. A all Ysgrifennydd y Cabinet ein sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu? Yn fwy cyffredinol, a yw hi'n cytuno â mi fod gwers bwysig yn hyn am hollbwysigrwydd dyletswydd gonestrwydd a pharodrwydd i fynd i'r afael â materion systemig yn ein gwasanaeth iechyd yn agored, yn onest ac ar y cyd â dioddefwyr a goroeswyr? Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rhain a'u bod yn cael eu gweithredu yma? A yw hi hefyd yn cytuno na ellir oedi cyn talu iawndal i'r rhai y mae'r sgandal hon yn effeithio arnynt, a bod rôl i Weinidogion Cymru yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif, gan sicrhau bod y gost yn cael ei thalu'n llawn gan Whitehall, a bod y cynllun yn cael ei gyflawni'n gyflym ac mewn ffordd sy'n sicrhau nad oes unrhyw un y mae'r cynllun yn effeithio arno yn colli iawndal y maent wedi aros yn rhy hir amdano?
Diolch yn fawr, Mabon. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir o ran y cywair a ddefnyddiwyd gennych yno. Dyma'r sgandal waethaf yn hanes y GIG. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl hynny, yn enwedig y rhai a ddioddefodd dros gymaint o flynyddoedd ac na chafodd eu lleisiau mo'u clywed. Ond hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r ymgyrchwyr a safodd gyda nhw, ac yn enwedig, yn y Siambr hon, i Julie Morgan, a wnaeth sefyll gyda'r dioddefwyr dros flynyddoedd maith, nid yn unig yn y Siambr hon ond yn San Steffan hefyd. Diolch am eich holl waith, Julie.
Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn yn eich dicter, a hoffwn adleisio'r dicter hwnnw ar ran y dioddefwyr. Cawsant eu trin yn wael iawn, ac o'r diwedd mae'n dda bod eu lleisiau wedi cael eu clywed. Mae llawer iawn o argymhellion yn yr adroddiad; mae'n adroddiad hir iawn. Mae yna 12 o argymhellion, ar draws pob maes gofal iechyd, a byddwn yn rhoi amser i fynd i'r afael â nhw. Ar y camau nesaf, fe sefydlir grŵp y camau nesaf i Gymru ar adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig. Bydd yn ystyried yr argymhellion ac yn llunio ein hymateb iddynt. Bydd y grŵp hwnnw'n cael ei gadeirio gan ein dirprwy brif swyddog meddygol newydd, Push Mangat.
Mae swyddogion eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y camau nesaf mewn perthynas ag iawndal, drwy'r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig sydd newydd ei ffurfio. Rwyf eisoes wedi cael llythyr gan Weinidog Llywodraeth y DU, sy'n awyddus iawn i weld nad oes unrhyw oedi. Mae wedi awgrymu y bydd yr ail daliad dros dro, a gyhoeddwyd yr wythnos hon—£210,000 i fuddiolwyr byw sydd wedi'u cofrestru ar gynllun cymorth—yn cael ei dalu o fewn 90 diwrnod. Byddwn yn sianelu hynny drwy gynllun Cymru am y tro, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu talu. Rydym wedi cael cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn talu'r gost yn llawn ac y bydd yn talu am hyn.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb ac am ei hymddiheuriad ar ran Llywodraeth Cymru, a diolch i Mabon am ofyn y cwestiwn amserol.
Fel y dywedais yn ystod y datganiad busnes ddoe, roeddwn i fyny yn Neuadd Ganolog San Steffan pan gafodd y datganiad pwysig hwn ei wneud, ac roeddwn gyda phobl o dde Cymru sydd wedi dioddef ac wedi cael eu heffeithio. Roeddwn eisiau defnyddio'r cyfle hwn i dalu teyrnged i Lynne Kelly, sy'n etholwr i mi yng Ngogledd Caerdydd, ac sydd wedi bod yn sbardun i'n hymateb yng Nghymru. Yn wir, cysylltodd â mi gyntaf pan oeddwn yn Aelod Seneddol iddi nôl ym 1997, i roi gwybod i mi am y sgandal ac am yr angen am ymchwiliad. Roedd hi yno ar y bws i Lundain ddoe, yn gofalu am, ac yn rhoi sylw i'r holl bobl a fu'n brwydro cyhyd. Felly, roeddwn eisiau cofnodi fy niolch a fy edmygedd o bopeth y mae hi wedi'i wneud.
Roedd neges Syr Brian Langstaff yn glir: nid camgymeriad ydoedd, ond ymgais i gelu, ac fe ddigwyddodd ar raddfa anferthol. Yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU ydyw nawr, ond mae dyletswydd arnom ninnau hefyd i sicrhau bod pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu cyflawni. Rwy'n credu bod ddoe yn bwysig iawn i'r bobl a oedd yno i'w glywed, a'r rhai a'i gwyliodd ar y teledu gartref, a gafodd eu heintio neu eu heffeithio. Ond roedd yna ofn hefyd, 'A ydynt yn mynd i'w wneud?', oherwydd maent wedi cael 40 mlynedd o aros i rywbeth ddigwydd ac nid oes unrhyw beth wedi digwydd.
Hefyd, roedd y cyhoeddiad ddoe ynghylch iawndal i'w groesawu'n fawr, ond dylai fod wedi cael ei wneud o leiaf flwyddyn yn ôl, pan ryddhaodd Syr Brian ei argymhelliad brys cyntaf ar iawndal. Ers hynny, mae dros 80 o bobl wedi marw, felly mae pobl wedi colli cyfle i gael rhywfaint o gymorth ariannol o leiaf, a hefyd i deimlo rhyddhad y bydd eu teuluoedd yn cael eu cefnogi.
Rwy'n credu bod y tactegau oedi sydd eisoes wedi'u gweld gan Lywodraeth y DU yn gwneud i ymgyrchwyr boeni na chânt yr iawndal, ac y bydd llusgo traed ar yr holl argymhellion. Rwy'n credu bod dyletswydd arnom, yma yng Nghymru, i wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd. Pa bwysau y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl argymhellion hyn yn cael eu cyflawni?
Diolch yn fawr, Julie. A gaf i ddweud pa mor ostyngedig y teimlaf wrth feddwl am y gwaith a wnaethoch chi ar hyn dros gymaint o flynyddoedd? Rwy'n gwybod faint o effaith a gafodd straeon y dioddefwyr hynny arnoch. Diolch i chi am sefyll gyda nhw. Fe wnaethoch chi glywed eu lleisiau. Fe wnaethoch chi wrando arnynt. Mae'n wers i bawb ohonom—fod angen i fwy ohonom wrando a chlywed yr hyn y mae ein hetholwyr yn ei ddweud wrthym. Rwy'n gobeithio eich bod chi a hwythau'n teimlo eich bod wedi cael cyfiawnder wedi'r blynyddoedd maith o ymgyrchu pan na chaent eu clywed.
Rwyf am i fy swyddogion roi amser i ystyried yr adroddiad hwn. Mae wedi cymryd amser hir. Nid wyf am roi ateb sydyn, oherwydd rwyf am roi'r parch y mae'n ei haeddu iddo. Ond yn sicr, byddwn yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo. Yn amlwg, bydd llawer o'r argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU, ond rwy'n ymrwymo i chi y byddwn o ddifrif ynglŷn ag unrhyw beth mewn perthynas â Chymru.
Rwy'n eich clywed yn llwyr o ran y brys am y taliadau hynny. Cafwyd ymrwymiad i dalu'r taliad interim ychwanegol o £210,000 o fewn 90 diwrnod. Byddwn yn chwarae ein rhan fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn talu o fewn yr amserlen honno. Gwelwyd tactegau oedi dros y blynyddoedd. Rwyf am wneud ymrwymiad i chi y byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y gallwn wneud y taliadau o fewn 90 diwrnod i'r bobl a fu'n aros cyhyd.
Gadewch imi ymuno â chyd-Aelodau a diolch i Mabon ap Gwynfor am godi hyn yma heddiw, ac ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i roi clod i bawb sydd wedi ymgyrchu ar y mater hwn dros y blynyddoedd. Rwyf hefyd yn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ei geiriau o eglurhad, drwy nodi bod y sgandal hon yn un o fethiannau mwyaf y wladwriaeth Brydeinig, a myfyrio hefyd ar eiriau Syr Brian Langstaff, a ysgrifennodd yr adroddiad. Dewisodd ddefnyddio'r gair 'calamity'—trychineb—ond, mewn gwirionedd, nid oes unrhyw eiriau a all grynhoi'n llwyr y drasiedi sydd wedi digwydd dros ddegawdau, gan gynnwys y celu gwarthus gan uwchreolwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol, gweinidogaethau Llywodraeth a'r gwasanaeth sifil. Mae'r ymagwedd ofnadwy tuag at ddioddefwyr, creulondeb y ffordd y cawsant eu trin, yn sicr y tu hwnt i drychineb yn fy marn i.
Fel y gwyddom, cawsant eu heintio â gwaed halogedig, ac yna eu dibwyllo i bob pwrpas gan yr awdurdodau a wnaeth gelu'r cyfan bob cam o'r ffordd. Mae cymaint o bobl ddiniwed wedi dioddef yn ddiangen. Yn sicr, mae ein meddyliau gyda nhw a'u hanwyliaid. Gwyddom fod tua 400 o bobl wedi'u heintio yng Nghymru, ond gwyddom hefyd ei bod yn debygol nad dyma'r nifer llawn. Roedd yr adroddiad a drafodir gennym heddiw yn glir yn ei feirniadaeth o Lywodraethau'r DU a Chymru, felly rwy'n sicr yn croesawu'r ymddiheuriadau ffurfiol gan y ddwy Lywodraeth i'r dioddefwyr. Rhaid inni sicrhau na chaniateir i sefyllfaoedd fel hyn ddigwydd eto, a bod y meddwl grŵp a'r cyfrinachedd sy'n annog celu—y pwyntiau a grybwyllodd Mabon ap Gwynfor—yn cael eu dileu unwaith ac am byth.
Mae nifer ohonom yma heddiw wedi sôn am ymrwymiad y Prif Weinidog i becyn iawndal cynhwysfawr. Felly, cwestiwn ar y pwynt hwnnw yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf ategu cyd-Aelodau ynghylch yr amseriad. Tybed a oes gennych unrhyw bryderon, i ddechrau, am y cyflymder. Fe wnaethoch chi ddweud 90 diwrnod, ond a oes gennych unrhyw bryderon na fydd hynny'n cael ei gyflawni? A oes unrhyw broblemau neu rwystrau a allai atal hynny rhag digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach? Ac unwaith eto, os caf wneud y pwynt ar y cyfrinachedd a'r diwylliant o gelu a oedd fel pe bai'n dod drwodd yn yr adroddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw fesurau rhagweithiol y byddwch yn eu hystyried i sicrhau na cheir diwylliant o gyfrinachedd a chelu o'r fath yng nghyrff cyhoeddus Cymru, fel nad yw'r trasiedïau hyn yn digwydd eto?
Diolch yn fawr, Sam. Yn sicr, mae hon yn bennod gywilyddus yn hanes gwleidyddol y DU, ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn myfyrio ar hynny. Mae tua 264 o bobl yn fuddiolwyr o gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru. Nid yw'r gair 'buddiolwr' yn teimlo'n iawn i mi. Mae'r rhain yn bobl sy'n ddioddefwyr, sydd wedi talu pris enfawr, ac nid oes unrhyw arian yn mynd i wneud iawn am y dioddefaint y maent wedi'i wynebu, yn enwedig y rhai sydd wedi colli anwyliaid ac sydd wedi dioddef mewn poen aruthrol yn aml.
Ar y 90 diwrnod, beth yw'r rhwystrau? Wel, mae'n debyg fod angen i'r arian ddod i mewn i'n cyfrif fel y gallwn ei wario. Mae llawer o sibrydion yn chwyrlio o gwmpas y prynhawn yma am etholiad cyffredinol—mae angen inni wneud yn siŵr nad yw hynny'n mynd yn y ffordd. Ond hefyd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pwysleisio'r ffaith, yng Nghymru nawr, mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd gwladol, fod yna ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol—dyletswydd gyfreithiol. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso a'i gymryd o ddifrif. Rwy'n gwybod bod llawer o hyfforddiant yn digwydd yn ein gwasanaeth iechyd i sicrhau bod pobl yn deall beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd y cwestiwn amserol nesaf gan Andrew R.T. Davies.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dod i ben? TQ1095
Diolch am eich cwestiwn, Andrew R.T. Davies. Roedd y cytundeb cydweithio'n ymwneud â gwleidyddiaeth aeddfed. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi cyflawni llawer iawn. Fel y nododd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn ddoe, er ein bod yn gresynu at ymadawiad cynnar Plaid Cymru, rydym wedi ymrwymo i weithio ar y cyd yn y Senedd ar feysydd blaenoriaeth allweddol.
Rwy'n siomedig nad yw'r Prif Weinidog yma y dydd Mercher hwn eto. Bythefnos yn ôl, nid oedd yma ar gyfer dadl ar ei gyfrifoldebau portffolio. Unwaith eto, rwyf wedi gofyn cwestiwn. Mae'n gwneud imi gwestiynu beth yw'r pwynt cyflwyno cwestiynau os nad yw Gweinidogion yn dod yma i'w hateb? Siomedig iawn.
Fe ddywedoch chi yn eich sylwadau agoriadol fod hyn yn ymwneud â Llywodraeth aeddfed. Cyflawnodd y Llywodraeth aeddfed honno 20 mya genedlaethol, 36 yn fwy o wleidyddion a chynllun ffermio cynaliadwy aflwyddiannus, yn ogystal â methiant i fynd i'r afael â'r rhestrau aros cronig yn ein GIG, y safonau addysg sy'n gostwng fel y nododd y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar sgoriau rhyngwladol, ac yn amlwg torri rhyddhad ardrethi busnes i lawer o fusnesau bach a chanolig eu maint. Go brin fod hynny'n Llywodraeth aeddfed a phrin ei bod yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Ond ar bwynt mwy trefniadol, os caf, gan mai chi yw arweinydd y tŷ, Weinidog, rwy'n edrych ar flaenraglen fusnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf, a'r wythnos gyntaf yn ôl ar ôl inni ddychwelyd o'r toriad fe geir dwy eitem fusnes, edrychaf ar y dydd Mawrth canlynol, ceir dwy eitem fusnes arall, a'r drydedd wythnos, ceir dwy arall—
Rhaid i mi atgoffa arweinydd yr wrthblaid fod y cwestiwn ar y cytundeb cydweithio, nid ar fusnes sydd ar y ffordd.
Wel, rwy'n ceisio arwain at y pwynt ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth yn gweithredu, gan gyflwyno busnes y mae'n amlwg nad yw'n ymddangos—[Torri ar draws.]
A wnaiff yr Aelodau ganiatáu i arweinydd yr wrthblaid ofyn ei gwestiwn?
Yn amlwg, nid yw'n ymddangos bod ganddi syniad i ble mae hi eisiau mynd. Yn y pen draw, dylai'r Prif Weinidog fod wedi ymdrin â hyn er mwyn nodi a rhoi hyder i ni ei fod yn gwybod i ble mae am i'r Llywodraeth hon fynd. Felly, a allwch chi fel arweinydd y tŷ roi ymrwymiad y bydd y Llywodraeth yn cael ei brwdfrydedd yn ôl ac yn dechrau cyflawni ar gyfer pobl Cymru, yn hytrach na pharhau ar y llwybr i'r gwaelod y mae i'w gweld wedi rhoi ei brid ar ei ddilyn?
Yn fy ymateb i'w bwyntiau atodol, ac nid wyf yn siŵr lle'r oedd y cwestiwn—
Nid wyf innau'n siŵr lle mae'r Prif Weinidog.
Fe ddof at y pwyntiau a wnaethoch. Bydd arweinydd yr wrthblaid yn deall y byddaf yn canolbwyntio ar ei gwestiwn. Mae'n gwestiwn ynglŷn â dod â'r cytundeb cydweithio i ben ar 17 Mai. Roedd bob amser yn gytundeb ag iddo derfyn amser, ond mae'n rhaid imi ddweud bod mwyafrif yr ymrwymiadau—
Fel microdon yn dweud 'ping'.
A ydych chi'n mynd i wrando ar fy ateb i'ch cwestiwn, arweinydd yr wrthblaid?
Hoffwn i'r Prif Weinidog—
Mae'r rhan fwyaf o'r ymrwymiadau yr ydym wedi gweithio arnynt mor gydweithredol gyda'n gilydd wedi'u cwblhau neu yn y broses o gael eu cwblhau, a byddwn yn edrych yn fanwl nawr ar—
Drefnydd, un eiliad, os gwelwch yn dda.
—sut y gallwn symud ymlaen ar y rhai sy'n weddill—
Mae gormod o Aelodau ar bob ochr yn cynnal sgyrsiau y tu allan i'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio ymateb iddo. Nawr, rwyf wedi gofyn i bawb fod mor gwrtais â chaniatáu i'r Trefnydd ymateb.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'r rhan fwyaf o'r ymrwymiadau wedi'u cwblhau neu yn y broses o gael eu gweithredu, ac rydym yn hynod falch o'r rhain—rydym yn hynod falch, onid ydym, gyda'n gilydd, o'r ymrwymiadau hynny, yr hyn sydd wedi'i gwblhau. Ac rydym bellach yn edrych yn fanwl ar sut y gallwn symud ymlaen â'r ymrwymiadau sy'n weddill o'r cytundeb cydweithio, ac fe enwaf rai ohonynt—ac wrth gwrs, mae ein Gweinidogion yma heddiw, ein Hysgrifenyddion Cabinet, yn bwrw ymlaen â'r rheini; maent yn hynod o bwysig i bobl Cymru, sef beth oedd ein cytundeb cydweithio yn gweithio i'w wneud—y Bil addysg Gymraeg, y Papur Gwyn ar yr hawl i dai digonol a rhenti teg. Dyma'r materion rydym yn edrych yn fanwl arnynt. Dyna'r cytundebau cydweithio a wnawn gyda'n gilydd. Ac a gaf i ddweud, oherwydd fe wnaf ymateb, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, gyda'i dîm Cabinet mae'n canolbwyntio ar ei rôl fel Prif Weinidog, gan mai ef yw'r Prif Weinidog a aeth i gyfarfod â phenaethiaid Tata ym Mumbai, a gyfarfu â'r ffermwyr, y gweithwyr dur a'r gweithwyr iechyd yn ei ddyddiau cyntaf yn y swydd. Ydy, mae yng ngogledd Cymru—ar ei ffordd i ogledd Cymru—i annerch TUC Cymru. Nid wyf yn credu y cewch wahoddiad i TUC Cymru, Andrew R.T. Davies. [Torri ar draws.] Mae'n canolbwyntio—
Mae'n ddrwg gennyf, Drefnydd. Rwy'n disgwyl i bobl ganiatáu i'r Trefnydd ymateb heb geisio siarad drosti.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud yr hyn a oedd gennyf i'w ddweud.
Roeddwn i'n hanner disgwyl i Andrew R.T. Davies gynnig ymrwymo i gytundeb cydweithio gyda chi, o gofio ei fod eisoes wedi gwneud yr apêl honno ar y cyfryngau cymdeithasol, pan ddaeth Vaughan Gething yn Brif Weinidog. Ond wrth gwrs, mae'r ymgyrch etholiadol wedi dechrau.
Hoffwn ofyn hefyd i Andrew R.T. Davies gywiro'r Cofnod. Nid yw 20 mya yn y cytundeb cydweithio. Roedd yna 46 maes, ond nid oedd hynny'n rhan ohono, ac fe wnaethom sicrhau gwelliant. Felly, os gwelwch yn dda, cywirwch y Cofnod, oherwydd nid oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio, sef ffocws y cwestiwn hwn.
Ar bob cam o'r daith ddatganoli, mae cydweithio wedi chwarae rhan annatod yng ngwaith y Senedd. Yn wir, mae cydweithio wedi bod yn angenrheidiol, gan fod yr un blaid wedi cael Llywodraeth fwyafrif mewn chwarter canrif. Fel roeddech chi'n ei ddweud yn eich ymateb, mae hyn yn wleidyddiaeth aeddfed. Ac mi rydyn ni hefyd yn falch o'r cydweithio sydd wedi bod drwy gydol bodolaeth y Senedd hon, oherwydd mae o yn eithriadol o bwysig nad oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da, a lle'r ydyn ni'n gallu cydweithio, bod hynny'n digwydd.
Yn amlwg, mi oedd yna gytundeb wedi ei ffurfioli fan hyn, ac mi fyddwn i'n hoffi ailadrodd yr hyn ddywedodd Rhun ap Iorwerth yn y Siambr ddoe. Mae'r cyfeiriad gwleidyddol newydd y mae'r Prif Weinidog wedi ei osod a'r sgandal o gwmpas y rhodd o £200,000 ar gyfer ras arweinyddol Llafur wedi tynnu sylw oddi ar waith pwysig y cytundeb hwn. Ond mi rydyn ni'n ymrwymo i gydweithio a pharhau efo'r ymrwymiadau hynny. Dydy hynny ddim wedi newid.
Felly, ydy'r Trefnydd yn cytuno â mi ei bod hi'n bwysig bod y Senedd hon efo'r nodwedd o wleidyddiaeth aeddfed a bod cydweithio yn rhan o hynny, ac y bydd y Llywodraeth hon yn parhau yn barod i gydweithio ar gyflawni polisïau blaengar i'n cymunedau ni?
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Ac nid wyf yn hoffi dweud yn aml, 'Cofiwch y rhai sydd wedi bod yma ers 25 mlynedd', ond mae tri ohonom yma yn y Siambr ar hyn o bryd. Ond rydym wedi cydweithio: roeddem mewn clymblaid â Phlaid Cymru am bedair blynedd, roeddem mewn cytundeb partneriaeth â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, rydym wedi bod yn Llywodraeth leiafrifol, mewn gwirionedd, hefyd yn cydweithio'n agos ar gyllidebau gyda Phlaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru—byth gyda'r Ceidwadwyr Cymreig. Byth gyda'r Ceidwadwyr Cymreig. [Torri ar draws.] Felly, a gaf i fanteisio ar y cyfle i ddweud pa mor falch yr oeddem pan ddywedodd Rhun ap Iorwerth, eich arweinydd, ddoe:
'Dŷn ni ar y meinciau yma'—
Plaid Cymru—
'yn falch iawn o beth gafodd ei gyflawni drwy'r cytundeb hwnnw'.
Ac rydym yn rhannu'r balchder hwnnw. Ac fe bwysleisiodd hefyd wrth y Prif Weinidog—eich arweinydd—
'ein hymrwymiad ni i barhau i gydweithio, wrth gwrs, ar faterion lle dŷn ni yn gytûn'.
Ailadroddodd y neges honno'n ddiffuant. Rydym eisiau ymestyn hynny. Rydym yn rhannu hynny. Ac a gaf i fanteisio ar y cyfle, Ddirprwy Lywydd, i ddiolch i Siân Gwenllian a Cefin Campbell am eu gwaith drwy'r cytundeb? Drwy weithio gyda'n gilydd rydym wedi cyflawni llawer iawn, a gadewch inni restru rhai o'r pethau a wnaethom gyda'n gilydd, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd; darparu mwy o ofal plant am ddim; a Julie Morgan, rwy'n talu teyrnged i'r gwaith a wnaeth Julie gyda Siân Gwenllian ar Dechrau'n Deg. Gweithiodd yr Aelodau dynodedig gyda'i gilydd ar becyn radical o fesurau i greu cymunedau lleol ffyniannus, gan helpu pobl i fyw'n lleol, a mynd i'r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi mewn sawl ardal yng Nghymru. Mae gwleidyddiaeth aeddfed yn golygu gweithio gyda'r bobl ar y materion rydych chi'n cytuno â nhw yn eu cylch, ac mae dyletswydd arnom i bobl Cymru i wneud hynny. Felly, gadewch inni barhau i weithio gyda'n gilydd yn y ffordd y gwnaethoch chi ei hawgrymu a phenderfynu arni. Diolch yn fawr.
Rwyf innau hefyd yn falch iawn o gyflawniad ein pleidiau mewn perthynas â'r gwaith a wnaethom o dan y cytundeb cydweithio. Serch hynny, rwy'n siomedig nad yw'r Prif Weinidog yma, ac er cymaint y cefnogaf waith TUC Cymru, a yw ei absenoldeb heddiw yn awgrymu ei fod yn teimlo'n fwy atebol i TUC Cymru nag y mae i Senedd Cymru?
Fel y dywedais, fel Prif Weinidog mae ganddo ei ddyletswyddau a'i rolau i'w chwarae. Rwy'n falch iawn o ateb y cwestiwn hwn heddiw, mae'n rhaid imi ddweud, Llyr Gruffydd. Wrth gwrs, ddoe roedd yma fel Prif Weinidog yn ateb cwestiynau. Ond diwrnod busnes anllywodraethol yw heddiw.
Ond rwyf am ddweud fy mod i'n falch iawn o gael y cyfle i ateb cwestiwn arweinydd yr wrthblaid, oherwydd rwyf bob amser wedi credu yn fy mywyd gwleidyddol y dylem estyn allan a gweithio gyda'n gilydd, ac rwy'n credu mai dyna ran o'r rheswm pam y buom yn llwyddiannus dros 25 mlynedd—chwarter canrif—o ddatganoli. Yr hyn y mae'n rhaid inni fod yn fwyaf balch ohono, a chyda Jane pe bai hi yma heddiw, yw ein bod wedi mynd drwy becyn diwygio'r Senedd er mwyn mynd â'r Senedd hon a datganoli Cymru yn eu blaenau.
Symud ymlaen—ffordd ymlaen.
Diolch i'r Trefnydd. Bydd y cwestiwn amserol olaf gan Rhun ap Iorwerth.
3. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am ddynodi safle Wylfa fel dewis cyntaf ar gyfer datblygu gorsaf bŵer niwclear? TQ1096
[Anghlywadwy.]—Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn croesawu datganiad heddiw mai Wylfa yw'r lleoliad sydd ar y blaen o ran datblygiadau niwclear yng ngogledd Cymru. Mae hyn yn cydnabod yr hyn mae nifer ohonon ni yn y Senedd hon wedi gwybod ers amser. Rŷn ni'n edrych ymlaen at y manylion a'r cynllun a'r ymrwymiad ariannu sydd angen ar bobl i gael y sicrwydd ar gyfer y dyfodol.
Diolch am yr ymateb yna. Dwi eisiau bod yn bositif oherwydd dwi wastad wedi gweithio yn bositif dros drio sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn Wylfa yn dod â'r budd economaidd mwyaf yn lleol, a bod buddiannau ein cymuned ni yn Ynys Môn yn cael eu hystyried a'u gwarchod. Mi wnaf i'r pwynt yma i ddechrau: mae angen sicrhau llais lleol yn y penderfyniad yma—nid rhywbeth sy'n digwydd i ni ddylai'r datblygiadau yma fod.
Ond mae'n rhaid dweud, onid oes, mae amheuaeth go iawn am faint o gyhoeddiad ydy hwn mewn difri, ac mae angen peidio â chodi gobeithion pobl yn ormodol. Dwi'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gytuno efo fi ar hynny. Dwi'n ymwneud â'r mater yma ers 10 mlynedd a mwy fel Aelod etholedig. I'r rhai, efallai, sydd ddim wedi ymwneud â'r mater mor hir â hynny, mae'n werth atgoffa ein bod ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen, ac atgoffa am yr holl waith caled a arweiniodd at fod project Wylfa yn barod i fynd. Wrth gwrs, llanast llwyr gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig oedd i gyfrif bod y cynllun hwnnw wedi dymchwel, a rŵan dŷn ni nôl i'r man cychwyn, ac nid mater o ddechrau eto lle'r oeddem ni ydy hyn.
Nid fi yw'r unig un i fod wedi rhagweld ein bod yn debygol o gael rhywbeth yn ystod y flwyddyn etholiad hon am resymau'n ymwneud â buddioldeb gwleidyddol a oedd yn swnio fel cyhoeddiad fod Wylfa'n cael y golau gwyrdd. Mae'n rhaid imi ddweud, nid oeddwn yn disgwyl iddynt fod mor feiddgar â'i gyhoeddi ddiwrnod cyn galw etholiad, os yw'r sibrydion yn wir. Ond wrth gwrs, beth bynnag yw elfennau cadarnhaol y cyhoeddiad hwn, y gwir amdani yw ein bod yn dal i fod ddegawdau i ffwrdd o gael cynllun newydd. Nid yw'n golygu nad ydym yn edrych ar y pethau cadarnhaol, ond mae'n rhaid inni fod yn onest—byddai Wylfa Newydd yn y broses o gael ei adeiladu pe na bai'r Llywodraeth Geidwadol wedi arwain at ei fethiant. Roedd prentisiaethau wedi dechrau. Rydym yn siarad nawr am orsaf bŵer a gaiff ei hadeiladu erbyn 2050 o bosbl. Nid yw'r prentisiaid wedi cael eu geni eto. Yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyhoeddi yw eu bod yn lansio trafodaethau gyda chwmnïau ynni rhyngwladol i archwilio adeiladu gorsaf bŵer. Rydym wedi bod yma o'r blaen, ac nid wyf yn credu bod pobl Ynys Môn yn yr hwyl i gael eu camarwain mewn unrhyw ffordd. Felly, o ystyried nad oes gan Lywodraeth y DU dechnoleg wedi'i dewis eto hyd yn oed—rwyf wedi bod yn onest; byddai'n well gennyf gynllun llai a fyddai'n fwy addas i'n cymuned, ond—a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ynghylch yr angen am ddos cadarn o realiti i fynd gyda'r positifrwydd cynyddol?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn pellach hwnnw. Ar wahân i alwad ffôn fer brynhawn ddoe, ni chawsom rybudd ymlaen llaw o gyhoeddiad Llywodraeth y DU. Mae'n bwysig croesawu cynnydd, ni waeth pa mor gymedrol y gall y cynnydd hwnnw fod. Ond nid yw'r datganiad yn cadarnhau y bydd y prosiect yn bendant yn mynd rhagddo, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig, yn anad dim o ystyried yr hanes y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i grybwyll yn ei gwestiwn atodol, i fod yn ymwybodol mai'r hyn rydym ei angen mewn gwirionedd—. Yn ogystal â'r arwydd a gawsom heddiw, yr hyn rydym angen ei weld yw amserlen, ymrwymiad a manylion gwirioneddol, os yw pobl am gael y sicrwydd y maent ei angen. Rydym wedi cael trafodaethau yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor yn ddiweddar iawn ynghylch yr angen am gynllunio sgiliau mewn perthynas â niwclear, ac mae hynny'n galw am lefel o sicrwydd fel y gallwn i gyd wneud y trefniadau y mae angen inni eu gwneud. Hoffwn ddweud ein bod ni, fel Llywodraeth, yn barod i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU o ba liw bynnag i'w helpu i ddarparu'r cyfle hwn.
Rwyf wedi clywed bod trafodaethau wedi bod gyda De Corea—eironi Great British Nuclear ac yna gadael i Lywodraethau tramor elwa ohono tra bo'r risg yn cael ei ysgwyddo gan arian cyhoeddus. Cost amcangyfrifedig Hinkley B oedd £18.2 biliwn. Mae'r costau wedi'u diweddaru bellach yn £31 biliwn, ac mae EDF wedi amcangyfrif £46 biliwn. O ran yr angen amdano ar gyfer cyflenwad sylfaenol, mae cyn brif swyddog gweithredol y Grid Cenedlaethol wedi dweud nad oes angen cyflenwad sylfaenol; dywedodd hyn sawl blwyddyn yn ôl. Mae'r swyddogion cynllunio arbenigol wedi canfod bod Wylfa Newydd wedi methu cyrraedd rhai o safonau amrywiaeth fiolegol y Cenhedloedd Unedig, ac maent hefyd wedi rhestru pryderon ynghylch effaith y prosiect ar yr economi leol, y stoc dai, iechyd, diwylliant a'r iaith Gymraeg.
Sut y gallwn gyflawni targed sero net 2050 pan fydd yn cymryd blynyddoedd i'w ddatblygu a llawer o garbon i'w adeiladu? O gynnwys amcangyfrifon cynllunio a chymeradwyo, gallai fod yn 20 mlynedd neu fwy. Nid yw'r hyd oes ond yn 60 mlynedd ac mae adweithydd nodweddiadol yn cynhyrchu 30 tunnell o wastraff niwclear lefel uchel bob blwyddyn sy'n parhau i fod yn ymbelydrol ac yn beryglus i bobl am filoedd o flynyddoedd. Galwch fi'n sgeptig, ond ai cyhoeddiad etholiad yn unig yw hwn?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn a chredaf ei bod yn gorffen ar y pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gwestiwn atodol. Ac rwy'n credu mai'r hyn rydym eisiau ei weld yw'r lefel o fanylder sy'n ei gwneud hi'n bosibl asesu a gwerthuso'r cynnig yn briodol. Rwy'n clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud mewn perthynas â'i hamheuon, ac rwy'n deall eu bod yn amheuon hirsefydlog. Mae yna gyfraniad y gall niwclear ei wneud i system ynni wedi'i datgarboneiddio, a gwn y bydd hi hefyd yn deall safbwynt y Llywodraeth. Ond er bod y cyhoeddiad heddiw yn nodi ffafriaeth, rwy'n credu mai'r peth allweddol yw nad yw'n darparu'r lefel honno o fanylder am gynlluniau yn y dyfodol y byddai pob un ohonom yn ei chroesawu, rwy'n siŵr.
A ydych chi'n gwybod nad oes cymaint â hynny ers i arweinydd Plaid Cymru ddweud cymaint yr oeddent yn gwrthwynebu pŵer niwclear? Mae'r tristwch a'r anobaith sy'n dod oddi ar y meinciau hynny'n hollol—. Ar nodyn mwy hwyliog, cafwyd cyhoeddiad gwych heddiw fod gorsaf Wylfa ar Ynys Môn wedi cael ei dewis fel gorsaf ynni niwclear nesaf y DU, cyhoeddiad yr oeddem ni ar y meinciau hyn yn sicr yn ei groesawu. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU, a'r Aelod Seneddol Virginia Crosbie yn wir, yn cyflawni ar ran Ynys Môn, maent yn cyflawni ar gyfer gogledd-orllewin Cymru o ran y budd economaidd enfawr sy'n dod i Ynys Môn.
Gallai'r prosiect hwn arwain at 8,000 o swyddi adeiladu, 800 o yrfaoedd sefydlog o ansawdd, cannoedd o gyfleoedd cyflogaeth eilaidd ac yn y gadwyn gyflenwi, ond—ac rwy'n cytuno â Rhun ar hyn—mae prinder sgiliau aruthrol. Rwyf wedi bod yma ers 13 mlynedd ac roedd Llywodraeth Cymru i fod i sicrhau bod y sgiliau hynny gennym. Ac fel y crybwyllwyd, nid yw'r bobl sydd eu hangen wedi cael eu geni eto hyd yn oed.
Nawr, mae Prifysgol Bangor wedi dechrau gradd mewn peirianneg gyffredinol, darparwyd cyfleusterau hyfforddi newydd—newydd, diweddar iawn—yng Ngholeg Menai, i gynnig cyrsiau mewn peirianneg, saernïo, weldio, peirianneg fecanyddol a pheirianneg pŵer. Fodd bynnag, mae'r nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau wedi bod yn dirywio'n sylweddol, ac nid yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi unrhyw ffocws ar y mater hwn o gwbl. Felly, yng ngoleuni'r cyhoeddiad cyffrous a thrawsnewidiol hwn, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod pobl ifanc leol yma—wel, yno—yng ngogledd-orllewin Cymru yn cael y cyfleoedd gorau posibl i gael y gyrfaoedd STEM a'r cyfleoedd enfawr hollbwysig hynny? Diolch.
Wel, os caf fi ddweud, roedd honno'n lefel ryfeddol o hyrwyddo, hyd yn oed i'r Aelod dros Aberconwy. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael lefel o bersbectif am yr hyn a drafodwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig—. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn am yr angen i gynllunio ar gyfer sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol, ac mae'r rhaglenni sgiliau ehangach sydd gennym yn chwarae rhan sylweddol yn hynny. Y pwynt roeddwn i'n ei wneud yn gynharach, mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, yw mai'r amgylchedd gorau i gynllunio'n rhaglennol ac yn rhagweithiol ar gyfer hynny yw un lle nodir amserlen, ac eglurder, sicrwydd a manylder, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ymuno â mi i edrych ymlaen at yr adeg pan gaiff hynny ei ddarparu.
Weinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn wrth gwrs. Rwyf wedi cofnodi fy safbwynt ar y diwydiant niwclear yng Nghymru sawl gwaith a'r hyn y gallai hynny ei wneud i Gymru. Rwy'n cytuno â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes digon o sicrwydd ac eglurder yng nghyhoeddiad Llywodraeth y DU, er ei fod yn gyhoeddiad i'w groesawu. Rhestrodd llefarydd y Ceidwadwyr nifer o gyfleoedd posibl a allai gael eu gwireddu gan hyn, ond methodd ystyried y ffaith y gallem fod wedi bod yn y sefyllfa honno eisoes, neu'n sicr ar y daith i fod yn y sefyllfa honno, pe bai'r Llywodraeth Geidwadol wedi cadw addewid a wnaethant nifer o flynyddoedd yn ôl.
A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn ceisio sicrwydd ac eglurder yn y sgyrsiau y mae'n eu cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU, fel y gallwn gefnogi cadwyni cyflenwi lleol, fel Boccard ym Mrychdyn, yn fy etholaeth i, a'r ysgolion a'r colegau lleol y bydd angen iddynt uwchsgilio ac ailhyfforddi gweithwyr presennol a phrentisiaid a gweithwyr newydd y dyfodol? Ond er mwyn gallu cael y sgyrsiau hynny, mae angen y sicrwydd hwnnw arnoch. A fyddwch chi'n gofyn i Lywodraeth y DU am y sicrwydd hwnnw?
Byddaf. Hoffwn gydnabod y pwynt y mae Jack Sargeant wedi'i wneud yn ei gwestiwn am yr ystod o fusnesau yn ei etholaeth ac ar draws gogledd Cymru a thu hwnt, a gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru hefyd, yn ei sedd, yn cydnabod y pwynt hwnnw, a pha mor bwysig yw hi i'r busnesau hynny, yn y gadwyn gyflenwi, darparwyr addysg bellach a'n prifysgolion ac eraill, i gael y lefel honno o sicrwydd. Byddaf yn pwyso am y sicrwydd hwnnw. Mae rhywbeth yn dweud wrthyf y gallai'r Gweinidogion y byddaf yn ceisio'r sicrwydd hwnnw ganddynt fod ychydig yn wahanol ymhen rhai wythnosau.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Item 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac, yn gyntaf, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Capel y Berthen, Licswm, oedd y capel Methodistiaid Calfinaidd cyntaf yn sir y Fflint. Sefydlwyd yr achos yn 1776 gan John Owen ac agorwyd y capel hwnnw gan Daniel Rowlands. Enwyd y capel ar ôl y Berthen Gron, capel y sylfaenydd John Owen. Roedd y capel hwnnw rhyw hanner milltir i ffwrdd o’r capel presennol. Cafodd y capel presennol ei adeiladu 200 mlynedd yn ôl yn 1824, ac agoriad y capel hwnnw a gafodd ei ddathlu dydd Sul diwethaf.
Ond beth ydy'r cysylltiad rhwng y capel ac Aelod Seneddol Rhanbarth De Ddwyrain Cymru? Wel, dad, y Parchedig Robert Owen Griffiths, oedd y deuddegfed gweinidog ar y capel rhwng 1993 a’r flwyddyn 2000, ac yn y capel ces i fy nerbyn yn aelod, a bum yn byw ar draws y ffordd i’r capel am saith mlynedd.
Dros y penwythnos, cefais y fraint o fynd yn ôl i’r Berthen lle bu'r gwasanaeth a darlith arbennig gan un o flaenoriaid y capel a’r botanegwr enwog, y Dr Goronwy Wynne, ac yna cymanfa ganu. Roedd y croeso adref mor gynnes ag erioed, a braf oedd gweld wynebau cyfarwydd a ffrindiau, a hefyd cofio'r rhai a fu mor ddylanwadol arnaf i ac eraill yn fy arddegau. Diolch yn fawr i Gapel y Berthen, a hiroes am y ddau ganmlwyddiant nesaf.
Rwy'n ddiolchgar i fy nhad fy mod i'n gallu eich annerch yn Gymraeg heddiw yn Senedd Cymru. Roedd y Gymraeg wedi hen farw o'r teulu pryd aeth fy nhad ati i ddysgu'r iaith. Iddo ef, rhodd oedd yr iaith Gymraeg, ac mae'n anodd credu heddiw mai polisi Cyngor Caerdydd hyd ddiwedd y 1960au oedd bod yn rhaid i o leiaf un rhiant siarad yr iaith cyn i blentyn allu derbyn addysg Gymraeg.
Ac yntau dal yn ddi-Gymraeg, brwydrodd dad i sicrhau bod fy mrawd John yn gallu derbyn addysg Gymraeg. Arweiniodd hynny at newid polisi, a maes o law at dwf aruthrol yn addysg Gymraeg Caerdydd. Heddiw, daw dros 70 y cant o ddisgyblion addysg Gymraeg Caerdydd o gartrefi di-Gymraeg.
Roedd dad yn allweddol yn sefydlu nifer o ysgolion, a'i arbenigedd yn hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn ei alluogi i gynnig enwau addas. Roedd ei deulu'n methu deall pam roedd dad wedi ymuno â Phlaid Cymru ar ddiwedd y 1950au. Rwy'n cofio ei chwaer yn dweud iddynt geisio rhesymu ag ef droeon i ymuno â'r Blaid Lafur; gwastraff amser, yn eu tyb hwy, oedd ymuno â'r blaid. Ond roedd gan dad weledigaeth glir am Gymru rydd a Chymru well i'w phobl, a daliodd ati etholiad ar ôl etholiad hyd gwireddu'r freuddwyd. Buodd sawl siom ar y ffordd, ond roedd dad o hyd yn bositif.
Refferendwm ac etholiad 1979 a'i sbardunodd i sefydlu Clwb Ifor. Pan ddaeth refferendwm 1997, ef oedd yn trefnu'r canfasio ffôn. Gyda mwyafrif o lai na 7,000, rwy'n siŵr i'r ffaith iddynt siarad â 45,000 o bobl, o etholwyr, fod yn allweddol iawn i'r llwyddiant.
Diwrnod ei farw, fe wnaeth ei gyfaill Geraint Davies, sef cyn-Aelod Cynulliad y Rhondda, fy ffonio. Fe ddywedodd ef cymaint o gymorth ymarferol rhoddodd dad iddo yn ystod etholiad 1999, er y byddai ethol Geraint yn debygol o feddwl na fyddai dad yn y Cynulliad. Roedd hyn yn nodweddiadol iawn o fy nhad. Y blaid ac, yn bwysicach fyth, ei genedl, yn dod ymhell cyn unrhyw fudd personol.
Mae dad yn gadael 11 o wyrion, ac mae'r deuddegfed yn cyrraedd o fewn deuddydd, ar ddydd Gwener. Er ei gyfraniadau lu, dyma yw ei brif gyfraniad. Diolch, dad. [Cymeradwyaeth.]
Wel, mae pentrefi a threfi mwynder Maldwyn yn blaster o goch, gwyn a gwyrdd wrth i gaeau hynafol Mathrafal ger Meifod baratoi i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r gororau'r wythnos nesaf. Bydd yr wythnos yn benllanw blynyddoedd o waith codi arian a chodi ymwybyddiaeth o'r ŵyl gan bwyllgorau apêl leol ledled sir Drefaldwyn, o'r Afon Ddyfi i Glawdd Offa.
Dyma'r tro cyntaf i Faldwyn groesawu'r ŵyl ers 1988, ac mae eisoes yn argoeli i fod yn Eisteddfod i'w chofio, â brwdfrydedd ar led ym mhobman. Yr wythnos hon yn unig, cafwyd cyhoeddiad gan yr Urdd yn cadarnhau bod dros 100,000 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl, mwy nag erioed o'r blaen. Felly, wrth i'r torfeydd, yn gystadleuwyr, yn rhieni, athrawon, mam-gus a thad-cus ac yn y blaen, baratoi i ymgasglu yng ngwlad Owain Glyndŵr, Ann Griffiths a Nansi Richards, a gaf i gymryd y cyfle hwn i ddymuno'r gorau i bawb, a diolch unwaith eto i'r rheini yn eu cymunedau a fu'n gweithio mor, mor galed i gefnogi un o uchafbwyntiau celfyddydol mwyaf Cymru? Rwy'n siŵr bydd croeso gwresog i bob un ohonom ni i ymuno â miri mwynder Maldwyn yr wythnos nesaf. Diolch yn fawr.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yfory, bydd cystadleuaeth gyntaf ci'r flwyddyn y Senedd. Mae'r cymhelliant hwn yn llwyfan pwerus i dynnu sylw at y cysylltiad dwfn rhwng pobl a'u cŵn a'r rôl hanfodol y mae cŵn yn ei chwarae yn y gymdeithas yng Nghymru. Mae ystadegau'n datgelu cynnydd yn y lefelau perchnogaeth ar gŵn yng Nghymru, gydag adroddiad diweddar gan y Kennel Club yn awgrymu cynnydd o 17 y cant ers dechrau'r pandemig. Er bod y duedd hon yn dynodi gwerthfawrogiad cynyddol o gŵn, mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Mae ymgyrch ci'r flwyddyn y Senedd yn cyflawni pwrpas hanfodol drwy arddangos cŵn iach sydd wedi'u hyfforddi'n dda gyda pherchnogion ymroddedig sydd bob amser yn ymddwyn yn dda eu hunain yn Siambr y Senedd. Mae'n hyrwyddo arferion perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes yn ogystal â phwysigrwydd gofalu am ein hanifeiliaid anwes.
Mae data diweddar yn dangos bod 1,200 o gŵn wedi cael eu gadael y llynedd, ac roedd adroddiad y Dogs Trust yn dangos bod cynnydd o 47 y cant wedi bod yn nifer y cŵn sy'n mynd i'w gofal oherwydd yr argyfwng costau byw, gan dynnu sylw at y pwysigrwydd y mae'n ei chwarae wrth ddeall costau cadw ci a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Drwy ddathlu'r cŵn rhyfeddol hyn sydd gennym yma yn y Senedd, rydym yn gobeithio ysbrydoli diwylliant o berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes a gwerthfawrogiad dyfnach o lesiant pob anifail, mawr a bach. Gyda'r beirniadu a'r canlyniadau'n digwydd yfory, bydded i'r ci mwyaf haeddiannol yn y Senedd gael ei goroni'n gi'r flwyddyn.
Eitem 6 yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8580 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil addysg wleidyddol.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn cael addysg benodol yn ymwneud â gwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru;
b) ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a choleg sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu dinesig ym mhroses ddemocrataidd Cymru; ac
c) sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo'n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a phwrpas a phroses bwrw eu pleidlais.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, mae'n gyfnod o ddiwygio etholiadol. Rŷn ni newydd basio darn hanesyddol o ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod y Senedd, o'r diwedd, yn ffit i bwrpas ac yn gwasanaethu pobl Cymru yn well. Mae Cymru wedi dangos ei bod yn medru arwain y gad o ran democratiaeth. Ni fydd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i symud yn gyfan gwbl at ddefnyddio dull cyfrannol i ethol Aelodau i’n Senedd, ac rŷn ni eisoes, wrth gwrs, wedi sicrhau pleidleisiau i bobl ifanc 16 a 17 oed mewn etholiadau Cymreig.
Ond mae creu'r systemau a'r strwythurau i sicrhau democratiaeth effeithiol dim ond yn un rhan o'r broses o ddiwygio, achos, yn ystod yr holl ddadleuon rŷn ni wedi'u cynnal ar unrhyw agwedd o ddiwygio etholiadol, mae un mater allweddol, a'r hyn mae'n ei gynrychioli, yn cadw i godi ei ben: turnout. Os ŷn ni'n credu mewn sicrhau y ddemocratiaeth orau i Gymru, allwn ni ddim eistedd nôl a derbyn bod y nifer o bobl sy'n pleidleisio i ddewis eu cynrychiolwyr yn y Senedd hon yn gyson llai na hanner cyfanswm etholwyr Cymru. Rhaid i ni gymryd camau i newid hynny, a dyna sydd wedi fy nghymell i gyflwyno'r cynnig hwn ger eich bron chi heddiw, yn un modd o geisio gwneud hynny.
Dyw'r alwad am well addysg wleidyddol ddim yn un newydd. Bu deiseb yn galw am hyn yn y bumed Senedd. Mae'r Senedd Ieuenctid flaenorol wedi trafod a mynegi pryder ar y mater, ac mae adroddiadau ac ymchwil lu wedi canfod bod diffyg ymwybyddiaeth o a diffyg cyfleon gan bobl ifanc i ddysgu am wleidyddiaeth. Ac mae hyn yn eu hatal nhw rhag cael llais yn hynt eu cenedl. Fe wnes i fy hunan gyflwyno dadl fer ar y pwnc ddwy flynedd yn ôl. Ond er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth ac eraill, dyw'r broblem heb ei datrys. Felly, dwi'n teimlo ei bod hi'n hen bryd, yn amserol ac yn hanfodol yn wir nawr i'r Llywodraeth weithredu ar hyn, ac addysg yw'r ffordd fwyaf effeithiol i wneud hynny.
Mae'r hyn mae fy nghynnig eisiau ei gyflawni, wrth gwrs, ymhlyg yn fframwaith y cwricwlwm newydd i Gymru, a dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn tanlinellu hynny wrth ymateb i'r ddadl. Mae hyn yn sicr yn gam ymlaen o'r drefn flaenorol a oedd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio gwleidyddiaeth drwy'r fagloriaeth Gymreig ac addysg bersonol a chymdeithasol—cynnig cyfleoedd, nid yn sicrhau hynny, na chysondeb ychwaith o ran yr hyn oedd yn cael ei gynnig ymhob ysgol. Rwy'n croesawu felly fod dysgu am ddinasyddiaeth a systemau llywodraethu yn elfen ym maes dysgu a phrofiad mandadol y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd. Ond mae angen mynd ymhellach, achos mae'r broblem, fel gyda chymaint o bolisïau’r Llywodraeth, yn gorwedd yn y bwlch gweithredu.
Allwn ni ddim anwybyddu'r galwadau sy'n cael eu gwneud gan bobl ifanc eu hunain, yn ogystal ag argymhellion adroddiadau, fel un y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sydd yn canfod bod angen i ddarpariaeth addysg wleidyddol fod yn fwy cyson a chyflawn i alluogi ein dinasyddion i ddeall y ffordd y mae syniadau polisi, ideoleg a systemau llywodraethu yn creu'r gymdeithas a'r byd maen nhw’n rhan ohonyn nhw.
Felly, un peth hoffwn ei weld yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn cael ei gwella i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu’n benodol ar gyfer addysg wleidyddol. Mae modd cynnig eglurder ar feysydd profiad a dysgu presennol y Ddeddf, wrth gwrs, drwy newid y cod datganiadau o'r hyn sy’n bwysig neu'r canllawiau statudol, drwy reoliadau, fel a ddigwyddodd ym Mehefin y llynedd, wrth gwrs, yn achos hanes Cymru a'i lle yn y byd. Nod Bil addysg wleidyddol, felly, fyddai sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cymryd camau o'r fath.
Gallai'r camau hyn gynnwys gwneud addysg wleidyddol benodol yn gysyniad allweddol o fewn maes dysgu a phrofiad y dyniaethau—yn ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig. Gallai hefyd gael ei wneud yn eglur yn y canllawiau statudol pa bethau yn union y dylai dysgwyr gael y cyfle i'w dysgu a sut. Neu, wrth gwrs, gallai addysg wleidyddol gael ei gwneud yn elfen fandadol o'r cwricwlwm ar wyneb y Ddeddf, fel y mae addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg.
Byddai Bil hefyd yn creu cyfle i fynd i'r afael â'r diffyg hyder ymhlith addysgwyr o ran cyflwyno addysg wleidyddol, gan nad yw mwyafrif helaeth ein haddysgwyr, wrth gwrs, wedi derbyn unrhyw addysg wleidyddol eu hunain. Gallai'r Bil hefyd sicrhau bod dysgwyr yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth drwy'r cwricwlwm ôl 16, ac yn wir i bobl o bob oed, drwy addysg gymunedol ac yn y gweithle.
Felly, nid y cwricwlwm yn unig yw'r unig fodd o gyflwyno addysg wleidyddol. Mewn ymateb i'm dadl fer, fe soniodd y Cwnsler Cyffredinol am y buddsoddiad drwy'r grant ymgysylltu â democratiaeth mewn prosiectau fel y Politics Project, er enghraifft, sydd ar waith mewn nifer o'n lleoliadau addysg. Ond mae prosiectau fel hyn, er yn effeithiol wrth ymgrymuso rhai grwpiau o bobl ifanc, yn dipyn o loteri cod post yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Ac mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig, fe nododd y Gweinidog addysg blaenorol fod y Politics Project yn gobeithio ymgysylltu â 4,000 o bobl ifanc. Rhaid cofio bod bron i 470,000 o ddysgwyr yn ein hysgolion.
Doeddwn i ddim ychwaith yn gallu canfod unrhyw werthusiad o'r grant ymgysylltu â democratiaeth. Er dywed gwefan y grant y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â phartneriaeth ymgysylltu democrataidd Cymru, dwi ddim wedi medru canfod unrhyw wybodaeth am aelodaeth y bartneriaeth, am eu cyfarfodydd na'u gwaith, a does dim rhestr gyflawn ar gael o'r prosiectau sydd wedi elwa. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad gan y Gweinidog ar hynny yn ei hymateb.
Meddai Aristotle:
'Os yw rhyddid a chydraddoldeb, fel y credir gan rai, i'w cael yn bennaf mewn democratiaeth, fe'u cyflawnir orau pan fydd pawb fel ei gilydd yn rhannu i'r eithaf mewn llywodraeth.'
Os bydd modd i bobl ddeall yn well sut y gallant gael dylanwad—nid yn unig sut mae cyfreithiau yn cael eu gwneud, ond hefyd sut i'w newid—gallai fod yn drawsnewidiol i'n cymdeithas ac i'n cenedl. Rhaid sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn medru cyfranogi'n llawn yng Nghymru'r dyfodol. Mae llawer modd i sicrhau yr addysg sydd ei hangen i sicrhau hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau gan eraill ar sut y gallai hynny ddigwydd. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Sioned Williams am ddod â'r cynnig deddfwriaethol hwn i'r Senedd? Credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod gan y Senedd hon swyddogaeth lle gall Aelodau o bob rhan o'r Siambr gyflwyno cynigion deddfwriaethol unigol. Efallai y bydd cynnig deddfwriaethol ar addysg wleidyddol a diddordeb mewn etholiadau yn fwy amserol nag y sylweddolech chi, rwy'n siŵr, pan wnaethoch chi gyflwyno'r ddadl, o ystyried rhai o'r pethau a welwn yn y newyddion heddiw. Ond yn ei dro hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cynigion deddfwriaethol gan Aelodau ac yn ystyried sut y gellir gweithredu eu gofynion. Dyna rydym ni wedi'i wneud fel Ceidwadwyr Cymreig, gan edrych ar y ddadl hon heddiw a chynnig yr Aelod, a chredaf fod nifer o nodau y gallwn eu cefnogi.
Felly, er enghraifft, rydym yn cytuno nad oes digon o bobl yng Nghymru yn deall pa faterion sydd wedi'u datganoli i'r Senedd hon a pha faterion sydd wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Ond nid mater i'n pobl ifanc yn unig yw hynny; mae'n broblem ar draws ein cymdeithas yng Nghymru. Ond weithiau rwy'n gweld mai ein pobl ifanc yw rhai o'r dinasyddion mwyaf gwybodus yn wleidyddol yn ein democratiaeth. Pan fyddaf yn ymweld ag ysgol yng Nghymru, yn aml mae ganddynt safbwyntiau, awgrymiadau a gwybodaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gallech ei glywed ar y stryd mewn perthynas â materion gwleidyddol. Felly, nid wyf yn argyhoeddedig mai ein hysgolion sydd yn y sefyllfa orau i gyfleu'r neges honno.
Rwy'n anghyfforddus gyda'r sefyllfa y gallem roi ein hathrawon ynddi, lle efallai y bydd yn rhaid iddynt gerdded rhaff wleidyddol, gan sicrhau cydbwysedd cyfartal i safbwyntiau—i'w safbwyntiau eu hunain a rhai na fyddent yn eu rhannu'n bersonol o bosibl. A beth fydd yn digwydd pan fydd ein hathrawon yn dweud rhywbeth a allai fod yn gwbl ddiniwed er mwyn ysgogi trafodaeth wleidyddol yn yr ystafell ddosbarth a rhiant yn gwneud cwyn? A beth fydd yn digwydd, yn ystod dadl wleidyddol arferol, pan fydd disgybl yn y dosbarth yn rhannu safbwynt sy'n cael ei ystyried yn annerbyniol gan rai o'u cyfoedion? Gallem wynebu sefyllfa anffodus o weld ein staff addysgu yn cael eu cyhuddo o ragfarn wleidyddol, er enghraifft, ac mewn awyrgylch gwleidyddol dwys, lle mae hyd yn oed rhai ffeithiau'n cael eu herio y dyddiau hyn, rwy'n ansicr pa mor gyfforddus wyf i gyda'r syniad o roi ein hathrawon yn y sefyllfa honno. Ac a fyddai gan rieni hawl i gadw eu plant rhag addysg o'r fath pe baent yn anghyfforddus ynglŷn â'r ffordd y câi ei addysgu? Mae'r rhain i gyd yn faterion perthnasol, ac rwy'n gobeithio clywed yr Aelod yn ystyried y rhain wrth ymateb i'r ddadl.
Yn fy marn i, mae'n well gadael gwleidyddiaeth i'r gwleidyddion, ac mae ymgysylltiad ehangach gan bob un ohonom yn ein hysgolion, i helpu i hwyluso dadleuon a thrafodaethau ar sail drawsbleidiol wirioneddol yn allweddol os ydym am wneud hyn yn iawn. Fodd bynnag, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r cynnig gan yr Aelod yn yr ystyr fy mod yn gynyddol bryderus ynghylch y lefel o gamwybodaeth y mae ein pobl ifanc yn dod i gysylltiad â hi drwy'r ffynonellau y maent yn eu cyrchu'n anghymesur yn y byd modern. Rwy'n rhywun—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Maddeuwch imi, mae'n ddrwg gennyf, hoffwn wirio'r etymoleg ar hynny; rwy'n ei gofio'n iawn. A ydych chi'n ymwybodol fod ystyr 'politic', y syniad o wleidyddiaeth, yn dod o'r syniad o 'ddinesydd'? Felly, mae'n ymwneud â phobl. Os caf herio'r sylw a wnaethoch nawr fod gwleidyddiaeth yn rhywbeth i wleidyddion.
Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n tybio mai'r sylw y cyfeiriwch ato yw pan ddywedais ei bod yn well gadael gwleidyddiaeth i'r gwleidyddion.
Ie, felly mewn ymateb i hynny, yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych chi, Delyth, yw nad oeddwn yn golygu, yn amlwg, mai gwleidyddion yw'r unig rai sy'n gallu cael barn ar wleidyddiaeth—wrth gwrs nad oeddwn yn golygu hynny—ond lle caiff y safbwyntiau hynny eu cyflwyno, mae'n well iddynt gael eu cyflwyno gan wleidyddion, yn hytrach na chan athrawon sy'n ceisio siarad ar ran eraill.
Felly, hoffwn droi'n ôl yn gyflym iawn, oherwydd rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, at fater camwybodaeth, sy'n bwysig yn fy marn i, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da o ran y cynnig deddfwriaethol y mae'n ei gyflwyno. Rwy'n defnyddio TikTok. Rwy'n ei ddefnyddio'n weddol rheolaidd, ac rwy'n credu bod angen i ni droi yn yr un cylchoedd â phobl ifanc. Os ydym yn siarad am ymgysylltu â phobl ifanc, nid yw siarad mewn gwactod yn gwneud ffafr â neb. Y broblem yw bod rhai o'r platfformau hyn, ac mae TikTok yn un ohonynt, yn defnyddio algorithmau i deilwra cynnwys sydd wedi'i anelu at eu defnyddwyr. Mae hynny, yn ei dro, yn sicr yn creu siambrau adlais a swigod hidlydd, nad ydynt ond yn atgyfnerthu credoau gwleidyddol presennol, ac mae safbwyntiau eraill yn cael eu lleihau, gyda defnyddwyr yn credu bod pawb yn rhannu eu safbwyntiau cyfyng nhw oherwydd mai rheini yw'r unig safbwyntiau y deuant ar eu traws yn aml. Ac rydym yn gwybod y gall camwybodaeth a thwyllwybodaeth fod yn rhemp ar y llwyfannau hyn, felly mae angen inni ystyried yn gryf—rwy'n dirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd—sut y defnyddiwn ein system addysg i annog ein pobl ifanc i ddefnyddio ffynonellau'n gywir a gallu gwahaniaethu rhwng ffaith a barn, a pheidio â drysu rhwng y naill a'r llall, ac mae hwnnw'n faes y credaf y gall pob un ohonom gytuno ei fod angen sylw priodol gan Lywodraeth Cymru. Diolch.
Dwi'n falch eithriadol fod Sioned wedi dod â'r cynnig hwn gerbron, a dwi'n meddwl ei fod o'n ofnadwy o bwysig. Mae o y peth pwysicaf y dylem ni fod yn ei wneud, dwi'n credu. Un o'r elfennau o'r swydd yma dwi'n ei mwynhau fwyaf ydy mynd i ysgolion a cholegau addysg bellach ac addysg uwch neu groesawu dysgwyr yma i'r Senedd a thrafod gwleidyddiaeth. Ac i unrhyw un sy'n meddwl bod gan bobl ifanc ddim diddordeb mewn gwleidyddiaeth, wel, dewch i un o'r sesiynau yma. Mae'r cwestiynau maen nhw'n eu gofyn i ni yn rhai heriol dros ben a niferus, ac mae chwilfrydedd naturiol plant a phobl ifanc a'u gonestrwydd yn rhywbeth dwi'n ei werthfawrogi yn y sesiynau hyn.
Mi oeddwn i'n gefnogwraig frwd o roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, ac mi oeddwn i'n siomedig bod yna ddim canran uwch wedi cymryd y cyfle i ddefnyddio'r bleidlais honno. Ond mae'n bwysig nad ydyn ni'n camgymryd diffyg cyfranogi gyda diffyg diddordeb. Dwi wedi siarad â nifer o bobl wnaeth ddim pleidleisio, ac mae'r rhesymau dros beidio â gwneud yn amrywiol dros ben. Roedd rhai wedi methu'r terfyn cofrestru, sydd yn rhwystr ymarferol. Nid bob ysgol oedd wedi bod yn proactive. Mae rhai o deuluoedd lle nad oedd neb yn pleidleisio; does yna neb yn eu teulu nhw erioed wedi, felly dydyn nhw ddim yn cael cefnogaeth i wneud. Ond y peth mwyaf cyffredin roeddwn i'n ei glywed oedd eu bod nhw ddim yn gwybod digon am y pleidiau i wneud penderfyniad ac felly eu bod nhw ofn gwneud y dewis anghywir. Ac roeddwn i'n trio dweud, 'Ydych chi'n gwybod faint o bobl hŷn sydd ddim yn meddwl dim cyn rhoi pleidlais? Rydych chi'n meddwl am y peth ac yn ei gymryd o o ddifrif.' Ond maen nhw eisiau'r wybodaeth yna.
A dyna un o'r pethau dwi'n meddwl sy'n eithriadol o bwysig yn y cynnig hwn ydy sicrhau'r cysondeb yna, oherwydd mewn rhai ysgolion mae hyn yn cael ei wneud yn wych, ac rydych chi'n gweld hynny wedyn yn y bobl sy'n rhoi eu hunain gerbron i fod yn Aelodau o'r Senedd Ieuenctid neu rhai sy'n ymgyrchu ar wahanol faterion. Mewn ysgolion eraill, dydy athrawon ddim yn teimlo'n hyderus ac felly maen nhw'n ofni mynd ar gyfyl y pwnc yn iawn. Maen nhw'n rhyw fath o gyfeirio, ond dydy'r cysondeb ddim yno.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n ofnadwy o bwysig ein bod ni'n rhoi'r arfau i’n hathrawon i allu gwneud hyn yn effeithiol. Maen nhw mor brysur; rydym ni'n gwybod am lwyth gwaith athrawon. Dydy hi ddim yn deg i ofyn iddyn nhw ymchwilio i bob plaid ac ati. Mae angen y math yma o gysondeb. Dwi'n meddwl mai nid dim ond nhw fel unigolion fydd yn elwa, ond bydd y Senedd hon yn y dyfodol. Rydym ni eisiau Senedd fwy cynrychioliadol. Rydym ni angen i bawb deimlo’n rhan o’n democratiaeth ni. Rydyn ni eisiau i bawb deimlo bod eu llais nhw'n cyfrif a bod gwerth i’w barn nhw. Dyna lle mae'r cysondeb yn bwysig.
Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i yna yn ystod refferendwm 1997, ac yn lle ein hannog ni i drafod, mi stopiodd un o’r athrawon ni rhag trafod gwleidyddiaeth yn y chweched dosbarth, gan ddweud ei fod o'n bwnc rhy ddadleuol. Mae hynny'n dal i ddigwydd weithiau efo rhai pynciau. Rydym ni eisiau Cymru fodern. Mae angen llais i’n pobl ifanc ni. Mae hyn yn ffordd o wneud hynny, a dwi'n llwyr gefnogi dy gynnig di.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno’r ddadl hon ar addysg wleidyddol? Mae paratoi ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan weithredol mewn cymdeithas yn hynod bwysig i iechyd ein democratiaeth. Hoffwn weld ein holl blant a phobl ifanc yn datblygu fel dinasyddion moesegol, gwybodus sy’n deall ac sy'n arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd.
Nawr ein bod wedi ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, mae’r gwaith hwn yn bwysicach nag erioed. Mae ganddynt lais yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, eu cymunedau a'u dyfodol. Ein cyfrifoldeb ni yw eu helpu i ddod o hyd i'r llais hwnnw a'i ddefnyddio. Dyma pam fod dysgu am ddinasyddiaeth a gwleidyddiaeth yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Un o bedwar diben ein cwricwlwm yw datblygu dysgwyr yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd, sy’n hyderus i drafod materion a heriau cyfoes.
Ym maes dysgu’r dyniaethau, mae’r datganiadau gorfodol o’r hyn sy’n bwysig yn eglur ynghylch dysgu bod yn ddinasyddion gweithredol, gwybodus a chyfrifol, am gyfranogiad, llywodraethu a phrosesau gwleidyddol, a dysgu cyfiawnhau penderfyniadau wrth weithredu’n wleidyddol. Mae disgwyl i ysgolion ddatblygu addysgu am ymwybyddiaeth wleidyddol fel rhan o’u cwricwlwm o’r blynyddoedd cynnar hyd at 16.
Ers cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu ystod o ddeunyddiau i gefnogi athrawon i gyflawni hyn. Mae’r adnoddau a ddatblygwyd gan y Prosiect Gwleidyddiaeth ar gyfer dysgwyr cynradd, uwchradd a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn galluogi dysgwyr i ddeall ystod o systemau llywodraethu a sut y caiff pobl eu cynrychioli ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o raglen ddeialog ddigidol y Prosiect Gwleidyddiaeth, fel y gwn y bu'r Aelod sy’n cyflwyno’r ddadl hon. Drwy’r sesiynau hyn, deuir â dysgwyr ynghyd â’u cynghorwyr lleol ac Aelodau’r Senedd i gael sgyrsiau agored, ystyrlon am y materion sydd o bwys iddynt hwy. Roeddwn yn falch iawn o gael trafod ystod eang o faterion gyda myfyrwyr o Ysgol Gorllewin Mynwy a chlywed eu barn a’u safbwyntiau unigryw. Roeddent yn hynod o frwd a gwybodus.
Fe wnaethom hefyd gomisiynu’r Gymdeithas Addysgu Dinasyddiaeth i feithrin hyder addysgwyr i gael trafodaethau diduedd gyda dysgwyr 14 i 16 oed ynglŷn â pham y dylent gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol. Mae'r deunyddiau hyn bellach ar gael i helpu pob athro i ddeall y broses ddeddfwriaethol a strwythurau llywodraethol ac i ymdrin â phynciau dadleuol yn ddiduedd ac yn sensitif. Mae CBAC hefyd wedi cynhyrchu pecyn adnoddau ar lythrennedd gwleidyddol fel rhan o'r her dinasyddiaeth fyd-eang. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o systemau gwleidyddol yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
I gefnogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad diwethaf y Senedd, rydym wedi cynhyrchu adnodd PleidLAIS i helpu ysgolion a lleoliadau ehangach fel clybiau ieuenctid i addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd pleidleisio. Mae PleidLAIS yn cyflwyno pynciau fel cofrestru a phleidleisio drwy gemau a deunyddiau sy'n ysbrydoli pobl ifanc i drafod y materion sy'n bwysig iddynt a pham y dylent gofrestru i bleidleisio. Mae cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i ddysgu am y prosesau gwleidyddol, dod yn ddinasyddion gweithredol a chanfod eu llais yn hollbwysig i mi ac i’r Llywodraeth hon.
Tynnodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru sylw at bwysigrwydd addysg ddinesig i iechyd ein democratiaeth. Mae’r Llywodraeth hon a’r Senedd wedi cymeradwyo argymhellion y comisiwn yn llawn, ac mae gwaith ar y gweill i gyflawni ar yr agenda bwysig hon. Mae gennym eisoes y ddeddfwriaeth ar waith drwy Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg wleidyddol, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol o Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn sicrhau bod platfform gwybodaeth am etholiadau Cymru yn cael ei greu i roi gwybodaeth i bobl ifanc a'u hathrawon am etholiadau a phrosesau etholiadol, gan ddileu rhagor o rwystrau rhag cyfranogiad. Am y rhesymau hyn, nid ydym yn credu bod angen Bil pellach. Diolch.
Galwaf ar Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Dechreuaf gyda Tom.
'Mae'n well gadael gwleidyddiaeth i'r gwleidyddion.'
O, Tom. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen gwell cymorth ar staff addysgu. Mae angen inni eu grymuso i deimlo’n hyderus, a nodais hynny yn fy nghyfraniad cychwynnol. Ond fel y nododd Delyth, yn gywir ddigon—. Fe roddaf innau rywfaint o etymoleg i chi hefyd: democratiaeth. Daw'r gair democratiaeth, wrth gwrs, o'r geiriau Groeg, demos, sy'n golygu 'pobl', a kratos, sy'n golygu 'pŵer'. Os ydym am gael y ddemocratiaeth orau bosibl i Gymru, mae'n rhaid iddi fod y ddemocratiaeth fwyaf cynhwysol, fwyaf adlewyrchol, fwyaf ymatebol i'r nifer mwyaf o bobl, ac mae hyn yn digwydd drwy gynnwys cymaint o bobl â phosibl yn ein system wleidyddol ac etholiadol.
Diolch, Heledd. Dwi'n cytuno'n llwyr ynglŷn â'r sesiynau ymgysylltu. Maen nhw'n ysbrydoledig. Ro'n i gydag Ysgol Gynradd Cwmfelin o Faesteg, blwyddyn 6, y bore yma. Roedd y cwestiynau ro'n i'n eu cael yn wych, ond rwy'n cytuno'n llwyr hefyd rŷn ni yn dueddol o weld yr un ysgolion. Mae'r un athrawon yn trefnu hustings adeg etholiad. Efallai cawn ni rai nawr cyn bo hir yn ein hysgolion lleol ar gyfer ymgeiswyr San Steffan. Mae e yn dibynnu'n llwyr ar ddiddordeb, ar hyder yr athrawon yn yr ysgolion hynny, ac ar ddiwylliant.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn iti. Fyddet ti'n derbyn hefyd mai un o'r heriau mawr ydy cost dod i'r Senedd? Rydyn ni'n gweld toriadau a heriau efo ysgolion rŵan, ac mae'n rhaid inni edrych ar sut rydyn ni'n galluogi bod cost, yn enwedig efo bysys ac ati, ddim yn rhwystr i unrhyw ysgol ddod i'r Senedd hon.
Dwi'n cytuno'n llwyr ar hynny. Ac i'r Gweinidog, byddwn i'n dweud hyn:
Mae'r cyfan yn dda, a soniais am lawer o'r pethau y dywedais fy mod yn eu canmol yn y cwricwlwm a'r Prosiect Gwleidyddiaeth, er efallai y gallaf ysgrifennu atoch chi neu'r Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â chael gwerthusiad o rywfaint o hynny, gan y gwn bu tanwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid yw'n glir i mi pa werth yn union rydym yn ei gael. Gydag etholiad cyntaf pobl 16 a 17 oed yn 2021—wrth gwrs, roedd hynny yn ystod COVID, ac fe wnaeth hynny darfu ar lawer o gynlluniau—cafwyd gwerthusiad o hynny, ac ymchwil i ddangos nad oedd hwnnw'n sgaffaldwaith digon cryf i gefnogi’r diwygio hwnnw. Felly, fy nadl i yw nad ydym am golli'r pethau da wrth gael gwared ar y pethau gwael, ond mae angen rhywbeth mwy diffiniedig, mwy pendant, os ydym am fynd i’r afael â’r pwnc hwn o ddifrif.
Rwyf am eich gadael gyda hyn. Gwnaeth dau gyn-Aelod o’r Senedd Ieuenctid sylwadau ar fy nghynnig heddiw, felly, yn gyflym iawn, os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddyfynnu’r hyn a ddywedodd y ddau wrthyf. Dywedodd Leaola Roberts-Biggs:
'Ni ddylai pobl ifanc gael eu gadael yn anwybodus am wleidyddiaeth a democratiaeth Gymreig. Ni fyddai disgwyl i unigolyn ifanc ddewis cymhwyster... swydd neu brentisiaeth heb wybodaeth gefndir ac ymchwil, felly pam y dylid disgwyl iddynt bleidleisio ar rywbeth a fyddai hefyd yn effeithio ar eu dyfodol heb ddarparu lefel sylfaenol o wybodaeth a dealltwriaeth yn gyntaf?'
Mae hyn yn rhywbeth y cyfeirioch chi ato, Heledd.
Ac yna, dywedodd Rhys Rowlandson:
'Credaf fod y bil hwn yn hollbwysig, gan ei fod yn ymwneud â phontio rhwng yr ysgol a'r byd go iawn.'
Ac rydym yn sôn llawer am hynny yma, onid ydym?
'Mae'n barhad rhesymegol o ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael y bleidlais yng Nghymru.'
Rwyf am gloi drwy ddweud mai addysg yw’r sylfaen ar gyfer y math o sgiliau a gwybodaeth rydym yn eu hystyried yn hanfodol i’r gymdeithas rydym am ei gweld a’r Gymru rydym am ei chreu. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi fy ngalwad am well fframwaith, darpariaeth fwy cyson a chyflawn i sicrhau addysg wleidyddol safonol, ystyrlon i bawb, gan ddechrau gyda’n rhai ieuengaf, ond ie, fel y dywedais, drwy gymdeithas, fel sail i sicrhau democratiaeth Gymreig y gallwn ddweud yn diffuant ei bod o'r bobl, gan y bobl ac ar gyfer y bobl. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pledleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 sydd nesaf, y ddadl ar y ddeiseb, 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'. I gyflwyno'r ddadl yma ac i wneud y cynnig, Cadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant.
Cynnig NDM8587 Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1407, 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’ a gasglodd 469,571 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ar ran Pwyllgor Deisebau’r Senedd, diolch am y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heddiw ar y ddeiseb unigol â'r nifer uchaf o lofnodion a gawsom erioed. Lywydd, ei theitl, ac rwy’n dyfynnu, yw 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’. Dechreuwyd y ddeiseb gan Mark Baker, ac mae ganddi gyfanswm o 469,571 o lofnodion. Lywydd, mae hynny’n cynnwys dros 17,000 o lofnodion yn fy etholaeth fy hun, Alun a Glannau Dyfrdwy. Cafwyd ymateb digynsail i’r ddeiseb hon, ac rwy’n llongyfarch y deisebydd am gasglu’r nifer uchaf o lofnodion a welodd y Senedd hon erioed.
Mae'n ddeiseb sydd wedi ennyn penawdau ac wedi ysbrydoli pobl eraill i greu eu deisebau eu hunain. Crëwyd dwywaith cymaint o ddeisebau yn ein system yn ystod yr wythnos gyntaf wedi i'r ddeiseb hon ddechrau torri recordiau nag a welwn fel arfer mewn mis. Mae deisebau’n rhoi cyfle i bobl dynnu sylw eu senedd at eu blaenoriaethau, a buan iawn y daeth y ddeiseb hon yn ganolbwynt i bobl a oedd am fynegi eu gwrthwynebiad i’r polisi. Mae ein dadl heddiw'n rhoi cyfle arall i’r Senedd ofyn i’r Llywodraeth sut maent yn ymateb i bryderon miloedd o bobl ledled Cymru. Er mai'r ddeiseb hon oedd yr un a gasglodd y llofnodion, mae'n un o ddwsinau ar thema ganolog y cyfyngiad 20 mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. Lywydd, rydym wedi cael deisebau yn gofyn am refferendwm, yn gofyn am eithriadau ar ddarn penodol o gefnffordd ac yn cwestiynu hyder y cyhoedd yn y Llywodraeth ac mewn datganoli ei hun.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r mater hwn gael ei drafod yn y Siambr hon. Nid hon yw’r ddadl gyntaf a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Deisebau hyd yn oed. Cawsom ddadl ar y ddeiseb 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi’ yn ôl ym mis Mehefin 2023. Cafwyd dadleuon ar ddiwrnod y gwrthbleidiau, a datganiadau gweinidogol hefyd. Nid yw’n fater sydd wedi’i anwybyddu ar lawr y Senedd hon, ond mae'n un y mae angen ei wyntyllu eto. Y tro diwethaf i ddeiseb terfyn cyflymder 20 mya gael ei thrafod yn y Siambr hon, soniais am yr angen am broses eithriadau a oedd yn rhoi pŵer i drigolion ddweud lle nad oedd y polisi’n gweithio yn eu cymunedau eu hunain. Rwy’n falch o ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a benodwyd yn ddiweddar, Ken Skates, yn gwrando a'i fod wedi cyhoeddi adolygiad yn ddiweddar sy’n amlwg yn canolbwyntio ar wneud y newidiadau hynny.
O fy mewnflwch fy hun, gallaf ddweud hyn wrthych: mae gan drigolion afael go iawn ar y ffyrdd sy'n fwy addas ar gyfer 30 mya nag 20 mya. O ddechrau’r treial ym Mwcle yn fy etholaeth, cefais bobl yn cysylltu â mi ynghylch nifer bach o'r prif ffyrdd lle roeddent yn teimlo nad oedd y polisi'n gwneud synnwyr. Fel y dywedais yn fy araith ym mis Mehefin 2023, roedd y ffyrdd hynny ym Mwcle, yn enwedig y B5125 a’r A549, yn ffyrdd lle roedd trigolion yn teimlo nad oedd y polisi hwn yn gweithio. Bydd enghreifftiau ym mhob cymuned ledled Cymru, a bydd gan drigolion enghreifftiau eu hunain.
Lywydd, rwyf bob amser yn cyfeirio at y broses ddeisebau fel proses y bobl, ac ni waeth beth fo'ch barn ar y mater hwn, dylai Aelodau ddangos parch gwirioneddol at y broses a deiseb a gefnogwyd mor gryf gan drigolion Cymru. Rwy’n falch o'r cyfle i agor y ddadl heddiw. Mae gennyf ddiddordeb yn yr holl gyfraniadau gan Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon, ac ymateb y Gweinidog yn enwedig, gan y gwn yn arbennig ei fod yn cydnabod pwysigrwydd y ddeiseb hon. Diolch.
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am ddod â’r ddadl bwysig hon i’r Siambr y prynhawn yma? Hoffwn ddechrau drwy gymryd eiliad i ddiolch i Mark Baker, a greodd y ddeiseb hon, yn ogystal â phob unigolyn sydd wedi llofnodi amrywiol ddeisebau, yn cynnwys hon, a fynychodd brotestiadau, a greodd grwpiau ymgyrchu, a ysgrifennodd lythyrau at eu cynrychiolwyr ac a gododd eu lleisiau ynglŷn â pholisi 20 mya Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae bron i 500,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon i gael gwared ar brosiect terfynau cyflymder 20 mya Llywodraeth Lafur Cymru, gan dorri recordiau fel y ddeiseb sydd wedi'i harwyddo fwyaf yn hanes 25 mlynedd y Senedd hon. Mae’r nifer enfawr o bobl a lofnododd y ddeiseb hon mewn cyfnod mor fyr yn amlygu cryfder y teimlad ymhlith y cyhoedd yng Nghymru tuag at y polisi hwn, ac fel yr Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy’n cymeradwyo pob un ohonoch, o bob cwr o Gymru, am eich ymroddiad llwyr.
Mae'r rhwystredigaeth gyda'r polisi hwn wedi deillio o'r ffaith ei fod yn llym ym mhob ystyr y gair. Mae’r broses ymgynghori wedi dod ar ôl i’r polisi gael ei roi ar waith, sef yn y drefn anghywir, a dweud y gwir. Rwyf wedi dweud droeon, ac efallai y bydd llawer yn bwio ac yn gwadu'r peth, ond mae’r polisi hwn ar fin rhoi ergyd o £9 biliwn i’r economi. Mae'n amharu ar ein gwasanaethau brys, mae'n llesteirio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ac mae'n gwneud Cymru'n lle llai deniadol i fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddo. Mewn byr eiriau, mae'n llythrennol yn dod â Chymru i stop.
Mae fy nhîm a minnau wedi siarad ag ymchwilwyr trafnidiaeth a diogelwch ffyrdd dirifedi, yn ogystal ag arbenigwyr, sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni a gasglwyd dros ddegawdau ar ddamweiniau, themâu cyffredin a ffyrdd y gall Cymru fod yn lle mwy diogel. Maent yn cytuno’n unfrydol nad cynllun 20 mya diofyn yw’r ffordd ymlaen. Yn seiliedig ar ohebiaeth gan etholwyr ledled y wlad, mae pob un ohonynt wedi sylwi ar gynnydd dramatig mewn achosion o'r cythraul gyrru, a cheir pryder fod modurwyr bellach yn treulio gormod o amser yn gwirio eu clociau cyflymder.
Ychydig ddyddiau'n ôl, cyhoeddwyd adroddiad sy'n bwrw amheuaeth ddifrifol ar y ddadl y bydd terfynau cyflymder 20 mya yn gwella ansawdd aer mewn gwirionedd. Nawr, canfu nad oedd llawer o wahaniaeth mewn deunydd gronynnol, ac roedd lefelau nitrogen deuocsid yn uwch mewn parthau 20 mya. Mewn 50 y cant o’r lleoliadau a gafodd eu monitro, barnwyd bod ansawdd yr aer wedi gwaethygu mewn gwirionedd. Ar ôl siarad â llawer o fecanyddion ac arbenigwyr injans am 20 mya, ymddengys bod cydnabyddiaeth gyffredinol fod cerbydau petrol a diesel yn cyrraedd yr hyn a alwn yn gydbwysedd perffaith, lle maent yn rhedeg yn fwyaf effeithlon, ac felly'n cynhyrchu llai o allyriadau na'r rheini sy'n teithio ar 20 mya. Felly, os ydych chi'n gyrru ar 20 mya, mae'n debyg y bydd eich car rhwng yr ail neu'r trydydd gêr. Nawr, yn yr ail gêr, bydd yr injan yn rhedeg ar gylchdroadau uwch, gan losgi mwy o danwydd, ac yn y trydydd gêr, wel, gallai fod yn ei chael hi'n anodd cynnal y cyflymder is hwn, felly fe fydd yn aneffeithlon ac yn cynhyrchu mwy o allyriadau, gan leihau hyd oes injan dros amser.
Rwyf wedi dweud ar fwy nag un achlysur fod dewisiadau amgen i'w cael yn lle polisi 20 mya Llywodraeth Cymru. Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr, yn ogystal â fy nghyd-Aelodau, y dylid cadw terfynau 20 mya y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd lle mae mwy o bobl, ond mae dull gweithredu presennol Llywodraeth Cymru yn rhy eithafol a diangen mewn cymaint o achosion. Ers ffurfio’r Llywodraeth newydd ym mis Mawrth eleni, cafwyd newid amlwg mewn rhethreg, gyda Gweinidogion yn pwysleisio bod newidiadau ar ddod, bron fel pe bai gwyliau ar y gorwel, fel y gwelwn adeg y Nadolig. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru nawr—mae’n rhaid iddynt wrando ar bryderon y cyhoedd a rhoi’r gorau i’r polisi hynod ymrannol hwn. Mae cyfle gwirioneddol yma heddiw i’r Llywodraeth ddangos ei bod yn gweithio ar ran y bobl, drwy beidio â diystyru’r ddeiseb hon, a gwneud newid gwirioneddol ystyrlon. Diolch yn fawr iawn.
Mae llofnodi deisebau yn rhan wirioneddol bwysig o’n democratiaeth fodern, ac mae'r lefel hon o ddiddordeb yn ein gwleidyddiaeth i'w chroesawu'n fawr. Lywydd, rwyf am ddarllen rhan o welliant a gyflwynais i'r Senedd hon ym mis Medi. Roedd y gwelliant yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i derfynau cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol, a nododd ymhellach y gellid nodi rhagor o eithriadau. Galwai ymhellach ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith terfynau newydd yn barhaus, i rymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol er mwyn hwyluso’r broses o gyflwyno terfynau newydd. Nawr, pasiwyd y gwelliant hwnnw. Nid yw'n gwbl glir i mi o hyd a yw'r Llywodraeth wedi gweithredu ar hyn, neu sut, gan yr ymddengys y gallai'r adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod wedi dechrau fisoedd yn ôl—yn wir, darparwyd ar ei gyfer.
Bu problemau o ran sut y rhoddwyd y polisi hwn ar waith—maent wedi eu crybwyll droeon. Mae llawer o ffyrdd na ddylent fod yn 20 mya wedi'u dynodi'n anghywir, gan gynnwys cefnffyrdd a mannau lle nad oes tai ar strydoedd. Mae hynny wedi erydu cefnogaeth y cyhoedd i’r mesur hwn. Mae wedi bod yn destun gofid. Ond er bod gweithrediad y cynllun yn ddiffygiol, nid felly'r syniad y tu ôl i'r polisi ei hun. Mae'r ddeiseb yn defnyddio'r gair 'trychinebus'. Nawr, mae hwnnw'n air emosiynol. Hoffwn rannu stori gyda’r Senedd am ferch fach a oedd yn byw mewn pentref cyfagos pan oeddwn yn iau. Un diwrnod, roedd hi mewn car wedi'i barcio ar un ochr i stryd breswyl, ac roedd aelod arall o'r teulu ar y palmant gyferbyn â hi. Ac fe agorodd hi ddrws y car a rhedeg allan i'r ffordd a chael ei tharo a'i lladd gan gar. Nawr, nid oedd gan y gyrrwr druan amser i stopio. Ni chredaf ei fod yn gyrru'n gyflymach na'r terfyn cyflymder ar y pryd. Ond newidiwyd ei fywyd ef, a bywydau’r teulu hwnnw, am byth gan y foment drychinebus honno. Oherwydd dyma'r peth: i'r bobl sy'n dadlau mai dim ond y tu allan i ysgolion ac ysbytai y dylai'r terfyn fod yn berthnasol—nid yw plant yn byw mewn ysgolion, mae plant yn byw ar strydoedd. Maent yn rhedeg i'r ffordd o'u tai i godi peli, i redeg at eu ffrindiau, i redeg i gyfarch eu mam neu eu tad sydd wedi parcio ar yr ochr arall i'r stryd. Rydym yn sôn am 'drychinebus'; rhaid bod hwnnw'n air mwy addas am y boen a achosir i deulu sy'n colli plentyn. Y boen a achosir i yrrwr sy'n ddigon anlwcus i fod yn gyrru ychydig yn gyflymach nag arfer, y bydd eu bywyd nhw wedi'i staenio am byth, wedi'i dorri'n ddwy ran—y rhan cyn iddynt daro'r plentyn, a'r rhan wedi hynny.
Nawr, bydd y polisi hwn, o'i roi ar waith yn briodol, heb gynnwys cefnffyrdd neu leoedd lle nad oes tai, ond wedi'i roi ar waith yn y mannau hynny lle mae plant a cheir yn fwyaf tebygol o fod gyda'i gilydd—bydd y polisi hwnnw'n achub bywydau. Bydd yn atal trychinebau y gellir eu hosgoi, fel yr hyn rwyf wedi’i ddisgrifio, rhag difetha bywydau pobl a rhoi diwedd ar fywydau plant, ac rwyf am ildio.
Pan oeddech yn siarad, cefais fy atgoffa o Adam Price yn siarad yn y fan hon pan soniodd am ei gefnder yn cael ei ladd. Daeth hynny â deigryn i fy llygad, ac rwy’n siŵr, i lygaid pobl eraill yma hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth—. Mae a wnelo â phobl go iawn yn cael eu lladd.
Diolch, Mike. Rwy'n credu mai Malcolm oedd hwnnw—i unrhyw un nad oedd yn y Senedd, neu unrhyw un sy’n gwrando na chlywodd y cyfraniad hwnnw, siaradodd Adam am ei gefnder pedair neu bum mlwydd oed, rwy’n credu, o’r enw Malcolm, a oedd wedi rhedeg allan—. Rwy'n credu bod ei rieni wedi bod ar fws, ac roedd Malcolm ar yr ochr arall i'r stryd gyda'i fodryb, neu aelod arall o'r teulu, a rhedodd ar draws y stryd i ddweud nos da unwaith eto wrth ei rieni, a dyna ni. Soniodd Adam—rwy'n siŵr na fyddai ots ganddo ein bod yn sôn am hyn eto—sut y bu'n rhaid i'w rieni ef, y bore wedyn, eistedd ar ei wely a dweud wrtho fod Malcolm bach wedi mynd i fod gyda Duw. A'r eiliadau hynny, unwaith eto, nad ydym yn sôn amdanynt—. Rydym yn sôn am yr arian a gaiff ei arbed i’r GIG wrth gwrs, yn y tymor hir yn sgil y polisi hwn, ac wrth gwrs, bydd buddsoddiad wedi mynd i mewn i hyn, ac mae’r arian yn hanfodol bwysig. Ond mae bywydau plant yn rhywbeth na allwch roi pris arnynt, felly diolch, Mike, am ein hatgoffa o hynny.
Mae yna wersi y mae’n rhaid i’r Llywodraeth eu dysgu o ba mor wael y cafodd hyn ei roi ar waith mewn mannau. Ond mae yna wersi hefyd y byddwn yn rhybuddio y dylai eraill eu dysgu yn y lle hwn, am effeithiau'r iaith a ddefnyddiwn, a weithiau gall yr hyn a bostiwn ar-lein, gan dargedu Gweinidogion unigol efallai, gall hynny gymell rhywbeth peryglus. Rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom ddysgu gwersi o’r polisi hwn, dysgu addasu'r ffordd y byddwn yn trin y materion hyn efallai, i gael ein hysgogi i beidio ag achosi nac ennyn dicter a chynddaredd, ond i geisio newid pethau er gwell. Mae'n ffordd dawelach o wneud pethau. Efallai y bydd yn ennyn llai o benawdau, llai o gliciau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond efallai y bydd yn cyflawni pethau, a bydd ein hetholwyr yn diolch i ni am hynny.
Mae’r mater hwn wedi ennyn y ddeiseb fwyaf erioed i'r Senedd yn ogystal â chryn drafod mewn cymunedau. Un o wendidau’r system ddeisebu yw na allwch newid eich meddwl ar ôl ichi lofnodi deiseb—neu ni allwch newid eich meddwl yn hawdd. A darganfu rhai o fy etholwyr sy'n byw ar ffyrdd a arferai fod yn 20 mya nad oeddent am iddynt fynd yn ôl i 30 mya, nad oeddent wedi bod ers degawdau. Cyn y terfyn diofyn o 20 mya, byddwn yn teithio’n rheolaidd o amgylch Abertawe a gweld nad oedd angen imi yrru'n gyflymach nag 20 mya ar ystadau, pan fo'r rhan fwyaf ohonynt yn ffyrdd un lôn i bob pwrpas gyda mannau pasio rhwng ceir wedi’u parcio, gan fod ceir wedi’u parcio ar ddwy ochr y ffordd. Mae ardaloedd gyda thai teras hŷn ac ystadau cyngor lle nad oes dreif gan dai yn golygu na all pobl yrru'n ddiogel ar 30 mya. Hyd yn oed mewn ystadau mwy newydd, lle mae dreifiau, mae ceir yn dal i barcio ar y ffordd, yn enwedig lle mae dreifiau'n serth iawn.
Ar y terfyn 20 mya diofyn, cysylltodd sawl unigolyn â mi yn ei wrthwynebu. Pan ofynnwn, 'A ydych chi am i'r terfyn cyflymder ar eich ffordd chi gael ei droi i 30 mya?’, bron yn ddieithriad, byddent yn dweud, 'Ni allwch ei godi i 30 mya ar y ffordd hon—ni fyddai’n ddiogel’, er ei fod yn 30 mya tan 17 Medi. A ydych chi'n cofio'r holl barthau 20 mya a oedd gennym sydd wedi'u hanghofio yn y drafodaeth hon yn ôl pob golwg? Hefyd, mae gennym dwmpathau ffordd yn Abertawe, neu glustogau arafu i fod yn fanwl gywir, mae gennym rwystrau igam-ogamu, ffyrdd ymyl yn cael blaenoriaeth dros y prif ffyrdd mewn mannau fel Heol Pen-y-lan a Stryd Delhi, pob un ohonynt yn fesurau i arafu'r traffig.
Yr achos mwyaf dros arafu traffig o hyd yw ceir wedi'u parcio ar ddwy ochr y ffordd, gyda bylchau rhwng y ceir wedi'u parcio yn caniatáu i draffig basio. Y llynedd, bu bron imi gael damwain ar Stryd Pleasant, lle mae fy swyddfa. Mae Stryd Pleasant, fel llawer o ffyrdd, yn cynnwys tai teras heb lefydd parcio oddi ar y stryd. Mae'n ffordd un lôn i bob pwrpas, gyda mannau pasio rhwng y ceir sydd wedi parcio. Gyrrodd car tuag ataf ar gyflymder o 30 mya, a oedd o fewn y terfyn cyflymder. Roeddwn yn teithio ar oddeutu 15 mya, ac fe wnaethom stopio oddeutu metr oddi wrth ein gilydd. Pe bai'r ddau ohonom wedi bod yn gwneud 30 mya, byddai gwrthdrawiad wedi bod yn anochel.
Awgrymodd un o wrthwynebwyr mwyaf croch y terfyn 20 mya diofyn yn fy etholaeth y dylai Heol Fach yn Nhreboeth fod yn 30 mya, gan ddileu’r holl fesurau gostegu traffig. Cysylltais â thrigolion y stryd honno, ac roedd dau breswylydd mor gynddeiriog fel eu bod wedi mynd ati i ganfasio’r stryd, ac nid oedd unrhyw un yn cytuno ag ef, gan gynnwys pobl a oedd yn byw yn ei dŷ ei hun. O siarad â phobl, mae 90 y cant o bobl yn cefnogi 90 y cant o ffyrdd 20 mya. Cefais rywun yn dweud wrthyf, 'Rwy'n yrrwr profiadol ac rwy'n gyrru'n unol ag amodau'r ffyrdd—nid oes angen unrhyw derfyn cyflymder arnaf.' Dywedodd un arall wrthyf fod marwolaeth ac anafiadau difrifol yn bris gwerth ei dalu i deithio ar 30 mya. Dywedodd trydydd person, os oedd plant yn cael eu lladd neu eu hanafu, mai eu bai nhw oedd hynny. Y mwyaf hurt oedd yr unigolyn a ddywedodd wrthyf fod 30 mya yn addas ar gyfer ffordd lai na 30m o hyd.
Ni ddylai terfyn diofyn o 20 mya fod yn broblem. Dim ond oherwydd y canllawiau hynod gyfyngol gan Lywodraeth Cymru y mae wedi dod yn broblem. Mae anghysondebau i'w cael. Rwy'n gwneud yr awgrymiadau canlynol: ar gyfer ffyrdd A a ffyrdd B, dylid gadael terfynau cyflymder yn gyfan gwbl i ddisgresiwn cynghorau lleol, heb unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth Cymru. Mae'r system ffyrdd yn cynnwys ffyrdd A, sef y prif ffyrdd, y bwriedir iddynt ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn neu rhwng ardaloedd. Mae ffyrdd B yn ffyrdd y bwriedir iddynt gysylltu gwahanol ardaloedd ac i fwydo traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai.
Nawr, nid oes angen i bob ffordd A fynd yn ôl i 30 mya; rwy’n siŵr y byddai’r Llywydd yn ddigalon pe bai’r ffordd i Aberaeron yn mynd yn ôl i 30 mya, gan eich bod yn mynd drwy ardal siopa i bob pwrpas. Mae'r rhan fwyaf o ffyrdd yn ddiddosbarth fel ffyrdd llai y bwriedir iddynt gysylltu ffyrdd diddosbarth a ffyrdd A a B. Awgrymaf hefyd y gall 75 y cant o bobl sy'n byw ar stryd ofyn i'r terfyn cyflymder ar y stryd y maent yn byw arni godi, sef gwrthdroi'r hyn a oedd gennym yn y gorffennol gyda newid ffyrdd i 20 mya. Nid wyf yn disgwyl i lawer o drigolion fod eisiau i hynny ddigwydd. Sicrhewch fod y ffyrdd A a B yn gywir, a bydd y rhan fwyaf o'r gwrthwynebiad yn diflannu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Cytunaf yn llwyr â’ch dadansoddiad o weithrediad y cynllun, a soniodd Delyth Jewell am hyn hefyd, ond mae gwaddol yr hyn a gyflwynodd y cyn-Ddirprwy Weinidog, Lee Waters, yn waddol a fydd yn barhaus—gwaddol o ddiogelwch ac achub bywydau. A thra byddwn yn feirniadol efallai o rywfaint o weithrediad y cynllun, rwy'n credu y dylem hefyd gydnabod dewrder gwleidyddol y cyn-Weinidog sydd wedi sefydlu polisi ag iddo waddol, ac sydd wedi gwneud hynny gyda dewrder a phenderfynoldeb.
Diolch, Hefin, ac rwy'n credu i mi ddweud bod 90 y cant o bobl yn cefnogi gostwng y terfyn cyflymder ar 90 y cant o'r ffyrdd.
Ond yn olaf, ar ddamweiniau ffyrdd, mae ganddynt ganlyniadau difrifol. Gwn fod Delyth a minnau wedi trafod rhywun a gollodd gefnder a rhieni a gollodd blentyn. Mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael i mi yn dyddio o 2020. Yn 2020, cofnododd heddluoedd yng Nghymru gyfanswm o 2,864 o ddamweiniau ffordd lle cafwyd anaf personol, gyda 3,692 o anafusion. Arweiniodd 22 y cant o'r damweiniau ffordd a gofnodwyd at anafu o leiaf un unigolyn. O'r rhain, cafodd 72 o bobl eu lladd, 747 eu hanafu'n ddifrifol a chafodd 2,873 fân-anafiadau. Pe bai unrhyw beth arall yn digwydd yng Nghymru lle roedd 70 a mwy o bobl yn cael eu lladd flwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai camau'n cael eu cymryd, a nawr bod gennym gamau'n cael eu cymryd, mae a wnelo nawr â gwneud hynny yn y ffordd iawn.
Un o’r pethau sydd wedi fy nharo fwyaf drwy gydol y ddadl hon yw syndod Llywodraeth Cymru ynghylch lefel y dicter a’r chwerwder cyhoeddus a fu ynglŷn â chyflwyno terfynau 20 mya. Am fisoedd a misoedd cyn gweithredu'r polisi hwn, cafwyd gwrthwynebiad cyhoeddus aruthrol iddo, a gafodd ei anwybyddu'n fwriadol gan y Llywodraeth Lafur hon, a dyna’r rheswm pam fod y ddeiseb hon wedi torri recordiau gyda bron i 500,000 o lofnodion. Mae'n deillio o'r ffaith bod y cyhoedd yng Nghymru nid yn unig yn teimlo eich bod yn rhoi polisi ar waith y maent yn anghytuno'n sylfaenol ag ef, ond eich bod yn gwneud hynny er eu gwaethaf hefyd. Fel y mae pob un ohonom yn cytuno, ceir cydnabyddiaeth gyffredinol bron fod angen gosod terfynau 20 mya o amgylch ysgolion, meysydd chwarae ac ardaloedd â nifer uchel o gerddwyr, fel canol ein trefi, ond mae rhoi terfyn cyflymder 20 mya ar waith ar ffyrdd nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn yn afresymol. Nid yn unig nad oes modd ei orfodi heb rwydwaith helaeth o gamerâu cyflymder—
A ydych chi'n ildio, Joel James?
Na. Gadewch imi barhau yn gyntaf ac yna fe wnaf—. Twmpathau cyflymder a rhwystrau igam-ogamu, ond byddwn hefyd yn dadlau ei fod mewn gwirionedd yn cynyddu'r tebygolrwydd o yrru'n beryglus, oherwydd bod pobl yn tyfu'n rhwystredig ac yn cymryd mwy o risgiau, gan oddiweddyd mewn amgylchiadau peryglus ac yn rhuthro i adfer amser a gollwyd. Fel y gwelsom hefyd, nid yw terfynau cyflymder 20 mya yn lleihau nifer y damweiniau, cyfraddau y rhai a anafwyd neu a laddwyd na'r cyflymderau traffig cyfartalog yn sylweddol. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau o'r meinciau gyferbyn yn dadlau bod gostyngiad yn y cyflymder o 30 mya i 20 mya wedi'i gynllunio i leihau cyfraddau rhai a anafir ac a laddir. Ac er ein bod i gyd yn croesawu'r nod hwnnw, nid yw'r data'n awgrymu y bydd llai o ddamweiniau a marwolaethau oherwydd y gostyngiad.
Yn gyntaf, dros yr 20 mlynedd diwethaf, bu gostyngiad enfawr yn nifer y damweiniau ar ffyrdd Cymru, o tua 10,000 y flwyddyn ym 1993 i oddeutu 2,700 yn 2022. Ac mae'n siŵr y bydd hyn wedi digwydd oherwydd y gwelliannau mewn diogelwch ceir, systemau brecio ceir a rheoli traffig mewn ardaloedd lle ceir llawer iawn o wrthdrawiadau. Yn ail, mae data'n dangos bod y rhan fwyaf o ddamweiniau'n cael eu hachosi yn sgil methu edrych yn iawn, colli rheolaeth ar y cerbyd, a bod yn ddi-hid neu ar frys, felly mae gennyf amheuon difrifol y bydd gostwng cyflymderau ar ffyrdd 30 mya i 20 mya yn cael llawer o effaith ar y rhesymau hynny.
Ar ben hynny, er y gallai tystiolaeth ddangos bod lleihau cyflymder o 30 mya i 20 mya yn lleihau rhai llygryddion, a gaf i atgoffa'r Aelodau yn y Siambr mai dim ond pan fydd y traffig yn llifo'n llyfn y mae hyn yn wir? Dangoswyd bod terfynau cyflymder 20 milltir yr awr yn achosi cynnydd yn y nifer o weithiau y mae traffig yn stopio ac yn ailddechrau, ac mae tystiolaeth wedi dangos bod hyn mewn gwirionedd yn achosi i lawer mwy o lygredd gael ei ryddhau i'r atmosffer, yn enwedig o gerbydau nwyddau trwm, sy'n gollwng mwy o ronynnau bob tro y byddant yn cyflymu injan i symud.
Un o fy mhryderon mwyaf—ac rwy'n siŵr ei fod yn bryder i lawer o bobl ar draws y Siambr hon, a'r cyhoedd yng Nghymru yn ehangach—yw cost y polisi hwn i'n heconomi. Mae arafu teithio yn cael effaith fawr ar allu pobl i gyrraedd y gwaith, i gyrraedd yr ysgol, ar fusnesau'n danfon ac yn dosbarthu eu nwyddau, ac ar bobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau. Ac mae'n bryder gwirioneddol a theg fod y Llywodraeth eisoes wedi cydnabod y gallai hyn gostio biliynau o bunnoedd i economi Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ac eto maent yn dal i fod yn benderfynol o wthio'r polisi hwn drwodd.
Lywydd, rwy'n teimlo ei bod hi bron fel pe bai Llafur Cymru eisiau i economi Cymru fethu yn fwriadol. Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru mor ddatgysylltiedig ac mor benderfynol o gyfiawnhau ei bodolaeth ei hun fel eu bod yn gwrthod cydnabod anferthedd yr effaith economaidd y mae'n ei chael. Maent yn lladd ar y rhai sy'n anghytuno drwy honni bod yn rhaid ein bod eisiau gweld pobl yn cael eu brifo a'u lladd, ac maent yn fwriadol yn anwybyddu drwgdeimlad cyhoeddus tuag at y polisi hwn. Mae'r polisi'n ddiffygiol, a chredaf fod y Llywodraeth Lafur hon yn rhy ofnus eu bod wedi ei gael yn anghywir—[Torri ar draws.] Gyda hyn mewn golwg, rwy'n cefnogi'r ddeiseb hon yn llwyr. Rwy'n llawn—
A ydych chi'n ildio, Joel James?
Rwy'n cefnogi'r ddeiseb hon yn llwyr, rwy'n cefnogi'r deisebwyr yn llwyr, ac rwy'n llwyr gefnogi'r mwyafrif helaeth yn y wlad hon sydd am weld hyn yn cael ei ddileu. Diolch.
Fel cynghorydd tref a chymuned, un o'r cwynion cyffredin a gefais oedd am oryrru. Mae gweithredu'r 20 mya diofyn yn bendant wedi gwneud gyrwyr yn fwy ymwybodol o'u cyflymder, ac mae cerdded ar hyd ein priffyrdd yn teimlo'n fwy diogel ac yn llai cythryblus.
Pan oeddwn yn aelod cabinet ar gyfer priffyrdd yng Nghyngor Sir y Fflint, cefais geisiadau i gyflwyno parthau 20 mya, fel y cawsant eu cyflwyno dros y ffin yn Lloegr. Roedd y ceisiadau hyn yn bennaf ar gyfer Saltney, lle'r oedd plentyn wedi cael ei daro gan gerbyd yn goryrru ym Mynydd Isaf. Roeddwn i'n gwybod, o'r hyn a gynigiwyd yn y Senedd flaenorol, fod deddfwriaeth yn dod, ac awgrymais ein bod yn aros amdani. Fe wnaethom gynnal adolygiad o derfynau cyflymder tua naw mlynedd yn ôl yn sir y Fflint; cymerodd bum mlynedd, a hyd yn oed y pryd hwnnw, roedd yna anghysonderau yr oedd yn rhaid gweithio drwyddynt. Roedd yn broses hir. A dyna pa mor hir y gall ei gymryd gydag ymgynghori priodol, hysbysebu gorchmynion rheoleiddio traffig a mapiau, ymateb i wrthwynebiadau, cefnogaeth ac awgrymiadau, ac mae data'r heddlu hefyd yn bwysig. Mae'r broses yn ddwys o ran y defnydd o adnoddau ac mae gennym brinder swyddogion technegol priffyrdd yn ogystal â gweithredwyr i osod arwyddion. Mae hi'r un fath wrth wneud unrhyw lwybrau mwy diogel yn y gymuned neu gynlluniau teithio llesol: mae'r cyfan yn llafurddwys. Yn aml, mae pobl yn gofyn am ddulliau tawelu traffig a llinellau melyn dwbl i fynd i'r afael â goryrru a pharcio, ond pan fyddant yn eu lle, maent yn sylweddoli'r goblygiadau ac nid ydynt yn eu hoffi, felly mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yr hyn y mae pobl ei eisiau mewn gwirionedd.
Gydag unrhyw newid mawr, mae angen inni fynd â phobl gyda ni, gyda gwaith partneriaeth priodol, gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorwyr a swyddogion sydd â'r arbenigedd. Os ydynt yn codi problemau, dylem wrando a gweithio gyda nhw, ac rwy'n falch fod hynny'n digwydd nawr, wrth symud ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw ar ffyrdd 20 mya eisiau ei gadw nawr. Ymgynghorwyd â chynghorwyr yn ystod y camau gweithredu cychwynnol. Fe wnaethant ofyn i drigolion a gynrychiolent a oedd yn byw ar hyd y ffyrdd, a phrin y cyflwynwyd unrhyw rai ar gyfer eithriadau, oherwydd materion yn ymwneud ag atebolrwydd a phroblemau blaenorol gyda goryrru.
Fodd bynnag, mae angen inni edrych ar godi rhai o'r ffyrdd prifwythiennol yn eu holau. Cyfarfûm ag Arriva a'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd. Mae cyflymderau is wedi effeithio ar brydlondeb bysiau a busnesau, felly mae angen inni edrych ar effaith gronnol polisïau fel cyflwyno 20 mya, llwybrau beicio dynodedig, lonydd bysiau, ar ddefnyddwyr ffyrdd, cludo ar y ffyrdd a thrafnidiaeth bysiau cyhoeddus. Y broblem fwyaf yw'r meini prawf dwysedd, lle mae mwy nag 20 o dai o fewn 1km. Mae hyn wedi cael ei dderbyn gan y grŵp gorchwyl 20 mya a swyddogion Llywodraeth Cymru fel amod rhy gyfyngol, gan olygu bod mwy o lwybrau na sydd angen o fewn y terfyn. Mae gorfod dangos tystiolaeth nad oes cerddwyr a beicwyr yn defnyddio ffordd yn rhy drwm ar adnoddau hefyd, ac mae pryder ynghylch atebolrwydd pe bai damwain yn digwydd os yw'r terfyn cyflymder yn codi. Mae gan ogledd Cymru lawer o ddatblygiadau hirgul ar hyd llwybrau prifwythiennol a chysylltedd rhyng-drefol, a chymhwysodd pob cyngor heblaw Gwynedd y meini prawf hyn yn llym, am y rhesymau uchod, a dyna pam mae llai o eithriadau yng ngogledd Cymru. Awgrymwyd mai dim ond ar ffyrdd ystadau y dylem gael 20 mya, ond mae llawer o bobl yn byw ar brif ffyrdd, mae yna fannau chwarae, croesfannau i gerddwyr ac ysgolion, ac mae'r rhan fwyaf o ddamweiniau yn digwydd yn yr ardaloedd hyn.
Wrth symud ymlaen, rwy'n gwybod bod gan rai o gynghorau gogledd Cymru restr o tua 25 o ffyrdd i'w codi. Maent ond yn aros i'r canllawiau newydd gael eu cyhoeddi, oherwydd nid ydynt eisiau gorfod gwneud dau orchymyn rheoleiddio traffig. Maent bellach wedi darparu cyfeiriad e-bost—traffic@ ac enw'r awdurdod lleol hwnnw—lle gall trigolion gyflwyno awgrymiadau, wrth symud ymlaen, ynglŷn â ble y dylid codi ffyrdd yn ôl i 30 mya, fel rhan o'r ymgynghoriad, ac rwy'n croesawu hynny.
Dylai preswylwyr awgrymu hefyd lle dylid cynnwys rhai ardaloedd ar gyfer gostwng cyflymder, gan fod rhai anghysonderau wedi bod yn y ffordd honno, am nad oes goleuadau stryd neu dai ar y ddwy ochr, ond maent yn brif lwybr marchogaeth neu gerdded neu feicio, megis y llwybr marchogaeth ar gyfer yr anabl yn Llanfynydd, lle mae copa anweladwy ac mae'n cael ei ddefnyddio gan gerddwyr a theithio llesol, gan Dyfroedd Alun ac yn Nhowyn gan y meysydd carafanau a'r ffair wrth Tir Prince. Mae Arriva hefyd yn cyflwyno ffyrdd y mae'n awgrymu y gellid eu codi.
Pan fydd hyn yn digwydd, gyda dull pragmatig a rhywfaint o gonsensws, gobeithio y gellir gwneud gwelliannau o dan un gorchymyn rheoleiddio traffig ac y bydd gwelliannau i bawb.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Carolyn?
Rwyf newydd orffen. [Chwerthin.]
Mae pwnc y ddadl hon yn sicr yn bwnc sydd wedi effeithio ar gymaint o bobl, ac o gymaint o gefndiroedd. Mae'r polisi 20 mya diofyn hwn wedi gwylltio a chynnull pobl mewn ffordd nas gwelwyd erioed o'r blaen, ac fel y clywsom, mae bron i 0.5 miliwn o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb hon—y fwyaf yn hanes y Senedd—a diolch iddynt am wneud hynny.
Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Cabinet newydd yn awyddus iawn i geisio dadwneud rhywfaint o'r niwed a wnaed, ond fel yr arferai fy nhad ddweud, 'Ni cheir afal pêr ar bren sur.' Y broblem sylfaenol a oedd gan 0.5 miliwn o bobl oedd bod y terfyn diofyn yn cael ei newid i 20 mya, a dyna fydd y terfyn cyflymder diofyn o hyd yma yng Nghymru, mae'n ymddangos.
Gadewch inni fod yn glir: nid wyf yn meddwl bod neb—. Ni allaf feddwl am unrhyw un sydd yn erbyn parthau 20 mya lle bo'u hangen. Mae'r rheini'n lleoedd amlwg y mae pawb ohonom wedi siarad amdanynt lawer gwaith. Yn wir, nid yw'r parthau hyn yn newydd; rydym yn teithio drwyddynt drwy'r amser. Goruchwyliais lawer o'r rhain yn fy sir fy hun o amgylch ysgolion dros nifer o flynyddoedd, felly nid yw'n newydd. Fy nghynnen bob amser yw'r dull llawdrwm gan Lywodraeth Cymru o weithredu'r polisi hwn; roeddwn i'n meddwl ei fod yn anghywir.
Pe bai angen mwy o barthau 20 mya, dylai'r rhain fod wedi esblygu drwy weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gan ganiatáu i gynghorwyr a etholir yn lleol wneud penderfyniadau lleol drwy ymgynghori â chymunedau lleol. [Torri ar draws.] Ie, yn sicr, fe wnaf.
A ydych chi'n derbyn, fodd bynnag, y byddai wedi bod yn swm afresymol o arian i'w wneud ar sail dameidiog, yn hytrach na chael fframwaith wedi'i benderfynu gan Lywodraeth Cymru, gydag awdurdodau lleol yn cael awdurdod i wneud penderfyniadau penodol?
Jenny, rydych chi wedi gwario ffortiwn ar hyn, ac rydych chi'n mynd i wario ffortiwn ar geisio ei wrthdroi. Pe bai'r £30 miliwn wedi cael ei weithio gydag awdurdodau lleol i'w hannog i wneud mwy, i'w gyflwyno ymhellach, gellid bod wedi rhoi mwy o'r rheini ar waith, ac ni fyddai wedi costio'r math hwn o arian. Felly, mae'r arian eisoes wedi'i ymrwymo, a gallai fod wedi cael ei wneud yn llawer rhatach.
Fel y dywedais, mae'r polisi hwn wedi creu hafoc ledled Cymru, ac yn fy etholaeth fy hun yn bendant. Mae'r cyfuniad o ddiffyg seilwaith ffyrdd a'r terfyn cyflymder o 20 mya yn sicr wedi effeithio ar draffig yng Nghas-gwent, mater y siaradais amdano yn y Siambr hon o'r blaen, lle gwelwn lawer iawn o draffig yn mynd at yr M4 ac oddi arni ar hyd yr M48, sydd bellach wedi'i gyfyngu. Mae'r gefnffordd wedi'i chyfyngu i 20 mya mewn man lle mae angen i draffig lifo'n rhydd. Mae'r tarfu'n ddrwg i fusnesau a chymudwyr, ac mae hefyd yn cynyddu llygredd aer yn ddifrifol, sy'n mynd yn groes i resymeg rheoliadau Llywodraeth Cymru ynghylch terfynau cyflymder mewn rhannau eraill o'r wlad. Y gwir amdani yw bod adroddiad Trafnidiaeth Cymru ei hun wedi canfod bod ansawdd aer mewn dau leoliad wedi gwella, tra bo dau leoliad wedi gweld ansawdd yr aer yn gwaethygu, gan ddangos nad yw'r data yno i gefnogi'r honiadau fod y terfyn cyflymder diofyn hwn yn bositif net.
Nid dyna'r unig niwed. Mae gweithwyr proffesiynol logisteg wedi cysylltu â mi yn pryderu bod contractwyr cerbydau nwyddau trwm annibynnol yn pryderu ynghylch ymgymryd â gwaith yng Nghymru nawr oherwydd ofnau am gael pwyntiau ar eu trwyddedau yn ddiarwybod, sy'n effeithio ar eu hyswiriant. Rydym wedi clywed straeon am lwybrau bysiau'n cael eu canslo ac rydym wedi clywed am bryderon ynghylch gwasanaethau brys. Rydym hefyd wedi clywed pryderon gwirioneddol fod y polisi hwn eisoes—ac mae'n ffeithiol yn barod—yn niweidio ein sector twristiaeth hanfodol a bregus yma yng Nghymru, lle mae ymwelwyr yn bryderus am ymweld â Chymru oherwydd ofnau, unwaith eto, y byddant yn cael pwyntiau ar eu trwyddedau'n ddiarwybod.
Nawr, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i geisio lliniaru'r polisi. Fodd bynnag, fel y dywedais, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi dweud y byddai cael gwared ar y terfyn 20 mya diofyn yn drafesti. Fel y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn cyfaddef, y gwir amdani yw y bydd y terfyn cyflymder 20 mya diofyn yn costio tua £9 biliwn i economi Llywodraeth Cymru, gydag awdurdodau lleol eisoes wedi cael £33 miliwn i weithredu'r newidiadau hyn, ac nid ydym eto wedi gweld tystiolaeth glir y bydd arbedion o £92 miliwn y flwyddyn i'r GIG drwy'r polisi hwn. Rwyf am ailadrodd: mae'r meinciau hyn yn credu mewn gweithredu terfynau cyflymder 20 mya lle mae'n synhwyrol gwneud hynny—y tu allan i ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, ardaloedd preswyl—[Torri ar draws.] Iawn. Mae'n ddrwg gennyf, Lee.
Rwyf am eich profi chi ar hynny, oherwydd nid wyf yn siŵr fod y gwahaniaeth rhyngom mor fawr â hynny. Felly, ddwy flynedd yn ôl, pan wnaethom bleidleisio ar hyn, dywedodd eich llefarydd eich bod yn ei gefnogi y tu allan i ysbytai; mae ein canllawiau'n dweud 'o fewn 100m i ysbytai'. Fe ddywedoch chi 'ysgolion a meysydd chwarae'; mae'r canllawiau'n dweud 'unrhyw leoliad addysg'. Fe ddywedoch chi 'strydoedd mawr'; mae'r canllawiau'n dweud, 'yn agos at siopau'. Rydych chi'n dweud 'addoldai a lleoedd lle gellir dod ar draws defnyddwyr ffyrdd bregus eraill'; mae'r canllawiau'n dweud 'yn agos at ganolfannau cymunedol a safleoedd preswyl'. Mewn gwirionedd, ychydig iawn sy'n wahanol rhyngom, ar wahân i'r rhethreg.
Ond y realiti, Lee, yw eich bod chi'n gwybod bod 97 y cant o'r ffyrdd a oedd yn 30 mya wedi'u newid i 20 mya. Nid ydych yn dweud wrthyf fod 97 y cant o'r ffyrdd 30 mya o amgylch yr holl safleoedd hynny. Fe wnaethoch chi osod—[Torri ar draws.] Arhoswch. Fe wnaethoch chi osod 20 mya mewn ardaloedd nad oedd yn gysylltiedig â'r ardaloedd hynny ac ers hynny, rydym wedi gweld y rheini'n cael eu newid yn ôl mewn rhai ardaloedd, fel sir Fynwy, ac fe fyddant yn cael eu newid yn ôl, gobeithio, mewn ardaloedd eraill. Mae'n ddrwg gennyf, iawn.
Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r cyn-Weinidog yn anghofio yw bod rhannau o Gymru yn wahanol iawn. Ceir sawl rhan o fy etholaeth fy hun, etholaeth wledig iawn, lle mae parthau 30 mya bellach yn 20 mya, ac nid ydynt yn yr un o'r categorïau y cyfeirioch chi atynt. Ac nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Mewn rhai rhannau o Gymru, efallai fod yr hyn a amlinellwyd gennych yn rhan fawr o'r ardaloedd sy'n ffurfio rhai o'r diffiniadau y cyfeirioch chi atynt, ond mewn sawl rhan o Gymru, nid yw hynny'n wir, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.
Lywydd, rwy'n ymwybodol fod angen imi orffen, ond rwyf am ailadrodd bod y meinciau hyn yn credu mewn gweithredu terfynau cyflymder 20 mya lle mae'n synhwyrol gwneud hynny—fel y dywedais, yr holl bethau a wyddom eisoes. Er lles Cymru, ei heconomi, ac mewn ymateb i bron i 0.5 miliwn o ddinasyddion Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar y galwadau. A gadewch inni gael Cymru i symud eto. Diolch.
Dylai protest o'r maint hwn wneud inni oedi a myfyrio—ac mae wedi gwneud hynny. Er bod y ddeiseb ei hun yn anffodus yn llawn o gamddealltwriaeth a chamwybodaeth, nid dyna'r pwynt mewn gwirionedd. Rhoddodd cannoedd o filoedd o bobl eu henwau arni, ac fe wnaeth inni gymryd sylw.
Nawr, roeddem yn disgwyl gwrthwynebiad wrth gwrs, ond roedd ei angerdd yn fwy na'r disgwyl. Diolch byth, mae pethau wedi tawelu erbyn hyn, ac rydym bellach yn gwybod bod 97 y cant o'r bobl a lofnododd y ddeiseb wedi gwneud hynny yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl i'r terfyn cyflymder newid, pan oedd yr arwyddion yn dal i gael eu codi, mewn rhai mannau. Ond fe wnaethom wrando ar y brotest ac fe wnaethom weithredu. Lansiwyd adolygiad, yn gynharach na'r disgwyl, i sut oedd y terfyn cyflymder yn cael ei weithredu. Ac ymhell o farcio ein gwaith cartref ein hunain, fel y cawsom ein cyhuddo o wneud, roedd yr adroddiad cychwynnol gan y panel adolygu yn eithaf di-flewyn-ar-dafod. Dywedodd fod yna bethau y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi eu gwneud yn wahanol, y dylwn i fod wedi eu gwneud yn wahanol, ac y dylai cynghorau lleol fod wedi eu gwneud yn wahanol—ac rwy'n derbyn hynny. Dywedodd yr adolygiad fod yr ymgyrch gyfathrebu wedi dod yn rhy hwyr, nad oedd digon o gefnogaeth o bob rhan o Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y newid, ac roedd yr ymgynghori a wnaed gan gynghorau â'u cymunedau yn wael. Ac rwy'n cytuno â hynny i gyd.
Ac nid wyf yn credu ei bod yn gyd-ddigwyddiad mai'r mannau lle llofnododd y mwyafrif o bobl y ddeiseb oedd y mannau lle gwnaeth eu cynghorau y lleiaf o eithriadau. Yn ei lythyr at arweinwyr cynghorau yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod wedi dod yn amlwg iddo, mewn llawer o ardaloedd, mai dim ond llond llaw o newidiadau a gaiff eu gwneud, ond mewn mannau eraill mae mwy o ffyrdd yn debygol o ddychwelyd i 30 mya, ac rwy'n credu bod hynny'n iawn. Rwy'n disgwyl y gwelwn y rhan fwyaf o newidiadau yng ngogledd Cymru, lle gwnaeth y cynghorau yno weithredu'r nifer lleiaf o newidiadau y tro cyntaf, a hynny er gwaethaf y cynllun yn sir y Fflint sydd wedi cael enw drwg bellach y gwnaeth Jack Sargeant ein hatgoffa amdano, ac a dynnodd sylw at bwysigrwydd ymgynghori go iawn a hyblygrwydd o ran y dull o weithredu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch. Beth oedd y rheswm am hynny felly? Oherwydd, pan oeddech chi yn y swydd fel Dirprwy Weinidog, gofynnais i chi lawer gwaith pam oeddech chi'n meddwl bod y cyfraddau eithrio yn fy awdurdod lleol, Cyngor Sir Ddinbych, yn 0.6 y cant, a siroedd cyfagos yn sylweddol uwch, ac roedd siroedd de Cymru hyd yn oed yn uwch na hynny. Felly, beth yw'r rheswm sylfaenol y tu ôl i hynny?
Wel, dylech ddarllen yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y panel—ac rwy'n credu bod yr adroddiad terfynol allan yn fuan—sy'n mynd i mewn iddo'n fanwl, ond yn y bôn gwnaed penderfyniad gan swyddogion awdurdodau lleol eu bod am gadw at lythyren y canllawiau ac nad oeddent am ei adolygu am flwyddyn i roi amser iddo ymsefydlu. Fel awdurdodau priffyrdd lleol, dewis iddynt hwy oedd hyn. Roedd y canllawiau'n ddigon hyblyg iddynt wneud y penderfyniad hwnnw. Ac nid yw'n syndod fod bron i chwarter y bobl a lofnododd y ddeiseb yn dod o ogledd Cymru.
Ond nid yw gwrando a dysgu yn golygu methiant. Weithiau mae'n cymryd mwy nag un ymgais i gael pethau'n iawn, ac fel y dywedais ar y dechrau, roedd newid ar y raddfa hon, a'r fath gymhlethdod, wedi'i weithredu ar draws 22 awdurdod lleol gwahanol, mewn cyfnod o gyni a phrinder staff, bob amser yn mynd i fod yn anodd. Ac efallai mai'r rhan anoddaf oedd y newid diwylliannol roedd hyn yn ei gynrychioli, rhywbeth na wnaethom ei ragweld y ddigonol yn bendant.
Mae gennym ddiwylliant dwfn o dra-arglwyddiaeth ceir yn ein gwlad—yr hyn y mae ymchwilwyr o adran seicoleg Prifysgol Abertawe wedi'i alw'n 'motonormadoledd'—lle mae pobl yn derbyn yn reddfol y niwed o gerbydau modur na fyddent yn ei dderbyn mewn rhannau eraill o fywyd. Mae hynny'n gwneud unrhyw her i dra-arglwyddiaeth ceir yn anodd iawn i'w wneud, a dyna pam ei fod fel arfer yn cael ei osgoi. Roedd gostwng y terfyn cyflymder yn herio'r ymdeimlad o hawl y mae rhai gyrwyr wedi'i ddatblygu dros ddegawdau y dylent allu mynd yn gyflym, ni waeth beth yw'r effaith ar y bobl sy'n byw ar y strydoedd hynny a'r plant sy'n chwarae arnynt—neu'n fwy cywir, y plant nad ydynt yn chwarae arnynt am na theimlai’n ddiogel iddynt wneud hynny.
Ac rydym wedi gweld rhyfelwyr diwylliant yma ac mewn mannau eraill yn bachu ar y mater i greu gwrthdaro mewn cymunedau, ac rydym wedi gweld camwybodaeth fwriadol a disgrifiadau ffug, fel 'blanket', sydd wedi'u cynllunio i ledaenu dryswch yn fwriadol. A boddwyd ein hymgyrch wybodaeth ar sail tystiolaeth a gyllidwyd yn gymedrol. Fe gollwyd y rhyfel gyfathrebiadau. Ac mae wedi bod yn anodd ar bawb ar reng flaen y polisi beiddgar hwn.
Felly, i bawb mewn rôl sy'n cysylltu â'r cyhoedd sydd wedi wynebu'r digofaint a'r gamdriniaeth a ddaeth gyda'r newid mawr hwn—o swyddogion llywodraeth leol, cynghorwyr lleol, ymgyrchwyr cymunedol, Aelodau'r Senedd ac ASau, i'r heddlu a'r gwasanaeth tân—a gaf i ddweud 'diolch'? Dylem i gyd fod yn falch o'r ffaith bod y polisi'n gweithio. Mae cyflymderau i lawr. Mae pobl yn gyrru'n arafach. Er gwaethaf y difrod troseddol, y gamwybodaeth, y gyrru ymosodol a'r gyrru'n rhy agos i'r car o'ch blaen a'r protestiadau a'r ddeiseb, mae cyflymderau cyfartalog i lawr: 4 mya yn arafach yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf, yn y data diwethaf sydd gennym, ac ar gyfer pob gostyngiad yn y terfyn cyflymder cyfartalog o 1 mya, amcangyfrifir bod nifer y rhai a anafir ac a laddir yn gostwng 6 y cant. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, mae arnaf ofn. Mae hynny'n golygu llai o deuluoedd â'u calonnau wedi'u torri, llai o fywydau wedi'u dinistrio, llai o bobl yn llenwi rhestrau aros damweiniau ac achosion brys a meddygon ymgynghorol, a llai o bobl sy'n teimlo'n anniogel yn eu cymunedau eu hunain. Nid wyf yn siŵr pa bris y gallwch ei roi ar hynny, i fod yn onest.
A yw'r modd y cafodd ei weithredu wedi bod yn berffaith? Wrth gwrs nad ydyw. Ni fyddai byth yn berffaith. Y gwir amdani yw nad oedd digon o gapasiti ac adnoddau gan Lywodraeth Cymru na llywodraeth leol i wneud popeth y dymunem ei wneud. A yw wedi cael croeso gan bawb? Wrth gwrs nad ydyw. Ni fyddai byth yn cael croeso gan bawb. Ond er ein bod yn clywed gan y gwrthwynebwyr, tueddwn i beidio â chlywed cymaint gan y cefnogwyr, ac rwy'n credu ei bod yn arwyddocaol fod cynghorau'n dweud wrthym ar hyd yr amser mai ychydig iawn o enghreifftiau a welsant o bobl a oedd yn meddwl bod y cyflymder ar eu strydoedd eu hunain yn rhy isel.
Lywydd, fe wnaed camgymeriadau, yn enwedig o ran peidio â chynnal ymgynghoriadau go iawn mewn cymunedau ac yn y ffordd anwastad ac anhyblyg y dehonglwyd y canllawiau mewn rhai rhannau o Gymru, ac rwy'n barod i dderbyn fy rhan yn hynny i gyd. Ond gadewch i'r ddwy ran o dair o Aelodau'r Senedd a gefnogodd derfyn cyflymder diofyn o 20 mya gofio hyn: mae pobl yn fyw heddiw oherwydd y gyfraith hon. Gyda'n gilydd, rydym wedi achub bywydau.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r bron i 0.5 miliwn o bobl ledled Cymru a lofnododd y ddeiseb? Ac a gaf i dynnu sylw'r Aelodau yn benodol at y protestwyr sydd yma heddiw yn Siambr y Senedd, sydd wedi ymuno â ni? Maent wedi bod yma fis ar ôl mis, yn y glaw ac yn yr heulwen, a gwn fod Natasha Asghar a minnau wedi bod allan yno bob tro i gyfarfod â nhw, a gwn fod Aelodau eraill wedi ymuno â nhw hefyd. A diolch am leisio eich barn drwy ddod i'r Senedd heddiw.
Rwy'n credu bod rhaid inni ystyried pam. Mae angen inni ystyried pam fod 0.5 miliwn o bobl ledled Cymru wedi gwneud ymdrech i fynd ar-lein i lofnodi deiseb yn erbyn newid i derfynau cyflymder ar ein ffyrdd. Ac mae yna lawer o resymau am hynny, ac ni fydd gennyf amser i edrych ar lawer ohonynt yn y ddadl heddiw, ond credaf y gellir crynhoi hyn trwy ddweud ei bod yn enghraifft glasurol o or-ymestyn gan Lywodraeth. Mae wedi bod yn nodweddiadol o'r ffordd, yn aml iawn, dros y 25 mlynedd ddiwethaf o'r Llywodraeth Lafur hon, nad yw'n ymddiried mewn pobl yn eu cymunedau i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Rydym wedi gweld dull canolog 'ni sy'n gwybod orau' gan Lywodraeth Lafur Cymru, a gwneud penderfyniadau dros Gymru gyfan—[Torri ar draws.] Fe wnaf yn fuan. Gwneud penderfyniadau dros Gymru gyfan, weithiau ar gyfer ffyrdd sydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o Fae Caerdydd, lle mae'n amlwg mai pobl leol sy'n gwybod orau. Hefin.
Rwyf am ystyried yr araith a wnaed gan Lee Waters. Mae wedi cydnabod rhai o'r pethau na chawsant eu gwneud yn iawn, mae wedi cydnabod cryfder y teimlad, ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud araith wych sy'n cydnabod yr hyn a aeth o'i le ac y gall y dyfodol fod yn wahanol oherwydd yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'w ddweud.
Diolch yn fawr iawn am yr ymyriad. Ni allaf ddweud fy mod yn cytuno â'ch asesiad o araith y cyn-Ddirprwy Weinidog, ond yr hyn a ddywedaf yw fy mod wedi ei glywed yn dweud yno y gall cynghorau wneud y penderfyniadau hyn yn dechnegol, ond roedd y cynghorau'n glir eu hunain fod cyflwyno'r cynllun yn wreiddiol yn golygu nad eu penderfyniad nhw ydoedd. Ni allai Cyngor Abertawe yn fy rhanbarth i er enghraifft fod wedi bod yn gliriach, pan wnaethant ddweud ar eu gwefan
'Roedd gan gynghorau ddisgresiwn cyfyngedig iawn i gynnal terfyn cyflymder 30mya ar nifer o ffyrdd trefol'.
Cyngor Llafur a ddywedodd hynny. Ac i waethygu pethau, hyd yn oed pan ddaeth yn amlwg nad oedd y polisi'n gweithio mewn cymunedau ledled Cymru, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r polisi, ond nid oedd yn ymddangos bod yr adolygiad hwnnw ei hun yn rhoi pobl Cymru a'u profiadau yn y canol. Er enghraifft, comisiynodd y cyn Ddirprwy Weinidog un o benseiri'r cynllun i gynnal yr adolygiad i'r cynllun. Ac yna pan ofynnais am allu'r cyhoedd i roi eu barn ar sut oedd yn gweithio, dywedwyd wrthyf y byddech chi ond yn gallu rhoi barn ar y stryd yr oeddech chi'n byw arni. Felly, byddai eich llais yn cael ei anwybyddu pe byddech chi'n byw, er enghraifft, ar cul-de-sac sy'n arwain at ffordd 20 mya, er ei bod hi'n llawn cymaint o ran o'r gymuned yr ydych chi am ei chadw'n ddiogel â'r stryd lle rydych chi'n byw.
Dro ar ôl tro, nid oedd Llywodraeth Lafur Cymru eisiau gwrando ar bobl Cymru pan oeddent yn dweud yn glir iawn am y problemau a oedd ganddynt ynghylch gweithredu'r polisi hwn. Ac ni wnaethant wrando oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru yn poeni nad oedd hi'n hoffi'r hyn a oedd gan bobl Cymru i'w ddweud wrthynt. Felly, nid wyf yn credu ei bod hi'n fawr o syndod fod 0.5 miliwn o bobl yn teimlo mai eu hunig ffordd o gael eu barn wedi'i chlywed o fewn y Llywodraeth oedd mynd ar-lein ac arwyddo'r ddeiseb hon. Ac er mwyn sicrhau Llywodraeth dryloyw, agored sy'n gweithio er budd pobl Cymru, dylem benderfynu na ddylem byth fod yn y sefyllfa hon eto.
Ond Lywydd, rydym wedi clywed newid cywair gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros drafnidiaeth. Clywsom ei fod eisiau gwrando, ac rwy'n croesawu hynny. Rwy'n gobeithio'n wirioneddol ac yn ddiffuant ei fod yn golygu'r hyn y mae'n ei ddweud ac y dilynir ei eiriau gan weithredu, ond y cyhoedd a fydd yn barnu hynny yn y pen draw, a bydd y cyhoedd yn barnu ei weithredoedd yn ôl eu canfyddiad fod yna ffyrdd yn eu hardal leol y gwyddant nad ydynt yn gweithio yn cael eu newid. Oherwydd mae unrhyw beth llai na hynny yn golygu, er gwaethaf holl eiriau cynnes Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd wedi gwneud unrhyw beth i wrando ar eiriau pobl Cymru, sy'n gwybod yn rhy dda o lawer nad yw'r polisi'n gweithio.
Nawr yw'r amser i gael gwared ar y canllawiau ac edrych arnynt eto gyda darn gwag o bapur a meddwl, 'Sut y gallaf feddwl am bolisi sy'n gweithio i bobl Cymru, sy'n gwrando ar bobl sydd eisiau dweud eu barn am eu ffyrdd, yn eu cymuned, ac nid dim ond gwrando ar y bobl sydd eisoes yn cytuno â mi? A sut y gallaf ddweud nid yn unig fy mod i'n gwrando ar bobl, ond dangos i bobl gyda fy ngweithredoedd fy mod i'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'w barn?' A heb hynny, Lywydd, rwy'n ofni y byddwn yn ôl yn yr un lle eto, yn cael yr un drafodaeth drosodd a throsodd. Diolch.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith cyffredinol? Ac yn sicr mae'r ddeiseb hon wedi helpu i greu ffocws ar y polisi hwn a'i weithrediad a'r profiad cynnar. Hoffwn gytuno'n fawr â'r hyn a ddywedodd Lee Waters fod newid bob amser yn anodd, ac yn enwedig newid sy'n effeithio ar y defnydd o geir, efallai, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod dros gyfnod eithaf hir o amser pa mor anodd yw hi pan gyflwynir newid sy'n effeithio ar y rhyddid y mae pobl yn teimlo ei fod yn annwyl iawn iddynt o ran y ffordd y maent yn defnyddio eu ceir.
Ond mae gennym lawer o brofiad, nid yn unig o bob rhan o'r DU, ond yn Ewrop a thu hwnt, sy'n dangos, pan fyddwch chi'n cyflwyno'r polisïau 20 mya hyn, nid yn unig eu bod yn effeithiol wrth leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol ar y ffyrdd, ond yn aml, maent hefyd yn wynebu gwrthwynebiad ar y cychwyn; maent yn ddadleuol iawn i ddechrau, ond yn eithaf cyflym, mae hynny'n troi'n lefel lawer uwch o gefnogaeth, pan fydd pobl wedi profi effaith a gwerth y polisïau hynny. Felly, mae hwnnw'n batrwm cyffredinol a welwn mewn mannau eraill, ac rwy'n credu ein bod yn gweld dechreuadau hynny yma yng Nghymru nawr.
Yn sicr, fel Aelod o'r Senedd, fy mhrofiad fy hun yn fy etholaeth i yw y bu newid yn agweddau pobl yn dilyn yr effaith gychwynnol, a'r hyn y mae pobl bellach yn ei feddwl o'r polisi, ar ôl cael y profiad cychwynnol hwnnw ohono. Maent yn gwerthfawrogi'r ffordd y gall cymunedau adennill eu strydoedd ar gyfer cerdded, i blant allu chwarae, ac ar gyfer teithio llesol yn wir, sy'n bolisi Senedd pwysig, ond yn bennaf oll, natur dawelach y ffyrdd trefol hynny a'r lefel fwy o ddiogelwch yn amlwg yn sgil cyflymderau is. Ac fel y dywedodd Lee Waters hefyd, rydym yn gweld cyflymderau'n gostwng ar y ffyrdd hynny.
Lywydd, pan ddeuthum yn Aelod o'r Senedd am y tro cyntaf, roedd un o'r cyfarfodydd cynharaf a gofiaf am ddiogelwch ar y ffyrdd gyda rhiant lleol ar ystad o dai cyngor, lle roedd ei fab wedi cael ei daro a'i ladd ar ffordd drwy'r ystad honno o dai cyngor, heb fod yn agos at ysgol, heb fod yn agos at ysbyty, heb fod yn agos at yr ardaloedd mwy amlwg y mae pobl yn aml yn eu nodi fel mannau lle credant fod angen terfynau 20 mya. Ac mae hynny'n cysylltu â'r pwynt a glywsom yn gynharach nad yw plant bob amser yn byw y tu allan i ysgolion a'r mannau amlwg eraill hynny lle mae angen 20 mya arnoch; rydym ei angen ar ein strydoedd a'n ffyrdd mewn ardaloedd preswyl hefyd.
Dyna fu fy mhrofiad drwy gydol fy amser yma yn y Senedd, fod pobl yn gynyddol eisiau gweld mwy o ddiogelwch ar y ffyrdd am resymau amlwg iawn. Ac un ohonynt, etholwr arall sy'n dod i'r meddwl yn bendant yn cyd-destun hwn yw Dr Julian Smith, sydd wedi bod yn ymgyrchydd gwych yn Nwyrain Casnewydd ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Cafodd ei ferch ei lladd mewn damwain ffordd, ac fe sefydlodd elusen i ymgyrchu dros well diogelwch ar y ffyrdd. Fe gynhaliodd ddigwyddiad, cynhadledd, yn Nwyrain Casnewydd, a fynychwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru a llu o sefydliadau sy'n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd, ac mae wedi bod yn gadarn iawn wrth geisio achub rhywbeth cadarnhaol o'r digwyddiad erchyll a laddodd ei ferch. Nid yw'n syndod fod Julian wedi bod â diddordeb mawr yn y broses o gyflwyno 20 mya, ac rwy'n gwybod, oherwydd fe anfonodd gopi ataf, ei fod wedi ysgrifennu at ein cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford ar y polisi, gan ddweud, 'Hoffwn ddiolch i chi am eich ymdrechion i gyflwyno'r polisi hwn ac am wynebu gwrthwynebiad parhaus i'w gyflwyno. Hoffwn ddiolch i chi hefyd ar ran y rhieni y mae eu plant wedi'u hachub gennych a'r rhai a gaiff eu hachub'—
A wnewch chi ildio?
'Ni fydd yn rhaid iddynt ddioddef yr erchyllterau a'r boen y mae teulu a ffrindiau fy merch wedi gorfod eu dioddef.'
Diolch, ac wrth gwrs—
Rwyf wedi gorffen fy nghyfraniad, diolch, Mark.
O, mae'n ddrwg gennyf.
Mae hynny'n iawn. Amseru gwael, Mark. Efallai y cewch gyfle eto.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ar fater sydd wedi ysgogi adwaith mwy nag unrhyw beth a welais o'r blaen yng ngwleidyddiaeth Cymru. Wyth mis ar ôl cyflwyno'r polisi, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r ystyriaeth briodol y mae’n ei haeddu i’r ddeiseb hon. Diolch i’r Pwyllgor Deisebau am y gwaith y maent wedi’i wneud ar hyn hyd yma.
Mae Llywodraeth Cymru wedi glynu at y polisi 20 mya diofyn hyd yn hyn, nid am fod y bobl wedi gofyn amdano neu am eu bod ei eisiau, nid am fod tystiolaeth gadarn y byddai’n cyflawni ei nodau honedig, ond am mai dyma’r polisi ffasiynol diweddaraf ymhlith y dosbarth gwleidyddol yma ac yn Ewrop, ac nid oeddent am fethu'r cyfle i ddilyn y duedd honno. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth ganddynt i'r ffaith nad yw'r mwyafrif helaeth o bobl yn hoffi'r polisi hwn, a dweud y lleiaf, ac nid yw'r teimlad hwnnw wedi diflannu, ac ni fydd yn diflannu. Dylai Llywodraeth Cymru gofio mai Cymru yw eu hetholaeth, ac nad ydynt yn cael eu hethol i gynrychioli rhanddeiliaid, grwpiau pwysau a thudalennau barn The Guardian. Cânt eu hethol i gynrychioli’r Cymry sydd, yn eu doethineb, wedi gwrthod y polisi aflwyddiannus hwn drwy’r weithred fwyaf o gyfranogiad gwleidyddol yn hanes y Senedd.
Ni ellir ac ni ddylid anwybyddu barn 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru, yn enwedig pan fo gan y dystiolaeth ar gyfer gostwng terfynau cyflymder i 20 mya sail dystiolaethol mor simsan. Rydym eisoes yn gyfarwydd â'r dystiolaeth gan gyrff heb fuddiant. Mae'r astudiaeth gan Brifysgol y Frenhines, Belfast yn 2022 a ddyfynnwyd yn y ddeiseb yn dangos mai ychydig iawn o effaith y mae terfynau cyflymder diofyn o 20 mya yn ei chael ar ddamweiniau, anafiadau neu gyflymder gyrwyr. A dywedaf eto fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi, a byddant bob amser yn cefnogi, terfynau cyflymder 20 mya y tu allan i ysgolion ac ysbytai—
A wnewch chi ildio?
Mewn eiliad. Rwyf am orffen y pwynt hwn. Nid yw polisi 20 mya diofyn yn ddull synnwyr cyffredin, a dyma yr hoffai llofnodwyr y ddeiseb i Lywodraeth Cymru ei ddeall.
Rydych yn dyfynnu astudiaeth Belfast eto, sydd, fel y dywedwch, yn cael ei chrybwyll yn y ddeiseb. Rydym wedi dweud sawl tro fod hyn yn rhywbeth gwahanol. Nid yw'n cymharu tebyg â'i debyg. Mae’r astudiaeth honno’n ymwneud â therfyn 20 mya sydd eisoes yn bodoli yng nghanol y ddinas, a chasgliad yr astudiaeth honno yw ei bod yn argymell bod y cyngor yn mabwysiadu dull gweithredu ardal gyfan fel dull diofyn, sef yr hyn y bu’n rhaid i ni ei wneud mewn gwirionedd. Felly, os ydych chi'n mynd i ddyfynnu astudiaethau fel tystiolaeth yn erbyn polisi, dylech wneud eich gorau i ddeall yr astudiaeth yn gyntaf.
Mae'n ddiddorol eich bod yn codi hynny, Lee, gan imi adael ychydig o gyrff eraill allan o fy sylwadau. Dim ond prifysgol y Frenhines a ddyfynnais. Sylwais fod tystiolaeth ar y pryd gan yr RAC a’r AA yn erbyn hynny, ond cawsant eu hanwybyddu. Cyrff a chanddynt enw da iawn, mae'n rhaid imi ddweud—cyrff cenedlaethol ag enw da sydd wedi bod o gwmpas ers i geir gael eu dyfeisio. Felly, os ydych chi'n dweud nad ydynt yn gwybod am beth maent yn sôn, mae hwnnw'n sylw beiddgar iawn i'w wneud.
Ar fater llygredd aer, nid yw’r data sydd gennym ers cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd yn dangos unrhyw dystiolaeth o welliant sylweddol yn ansawdd yr aer. Ond ar ganlyniadau byd go iawn y polisi hwn, mae’r niwed y mae wedi’i achosi i drafnidiaeth gyhoeddus yn fy etholaeth i yn unig yn frawychus. Mae Bysiau Arriva Cymru wedi dweud wrthyf yn bersonol pa mor niweidiol y mae hyn wedi bod i’w teithwyr. Mae wedi cyfyngu ar symudedd yr henoed a’r anabl sy’n dibynnu ar wasanaethau bysiau lleol. Mae gweithredwyr bysiau ledled Cymru wedi gorfod cael gwared ag arosiadau ar eu llwybrau er mwyn cynnal prydlondeb, megis cael gwared ag arhosiad Tweedmill yn fy etholaeth ar lwybr 51, lle mae siopwyr oedrannus bellach yn cael eu cludo i ochr ffordd A brysur, ymhell o gyffiniau'r siop ffatri.
Addawodd Llywodraeth Cymru i ni nad oedd hwn yn bolisi cyffredinol ac y byddai eithriadau priodol yn cael eu gwneud, ond ers iddo gael ei gyflwyno, rydym wedi dysgu mai addewid gwag oedd hwn i dawelu’r bobl. Rwyf wedi ceisio gwneud y gorau o sefyllfa wael yn fy etholaeth a gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i gael eithriadau i'r terfyn 20 mya wedi eu cymeradwyo, ond maent wedi'u gohirio hyd yn hyn. Anfonais lythyr at y cyngor ym mis Tachwedd y llynedd gyda rhestr o ffyrdd sy’n addas i’w heithrio, megis pant Alltmelyd a Ffordd Rhuddlan, a llawer mwy, lle mae 20 mya yn achosi anhrefn, ond chwe mis yn ddiweddarach, nid oes un eithriad wedi'i wneud o hyd i unrhyw un o'r priffyrdd hyn. Mae’n amlwg nad yw’r cyngor parhaus i awdurdodau lleol yn ddigon da, gyda dim ond 0.6 y cant o ffyrdd yn sir Ddinbych wedi’u heithrio o’r terfyn cyflymder 20 mya. Rwyf wedi codi’r mater hwn yn y Senedd a chyda Chyngor Sir Ddinbych—[Torri ar draws.] Fe wnaf orffen y pwynt—ers mis Ionawr, ac nid yw’r eithriadau wedi’u gwneud.
Yn gynharach, dywedais fod cynghorau yng ngogledd Cymru'n aros am ganllawiau pellach cyn gwneud eu heithriadau. Gwn fod gan sir Ddinbych restr o 25 o ffyrdd i'w codi'n ôl—yn hytrach na gwneud hynny ddwywaith. Felly, hoffwn wneud y pwynt hwnnw. Ac mae trafodaethau wedi'u cynnal gydag Arriva, ac maent hwy'n cynnig ffyrdd hefyd. A ydych chi'n credu bod hynny'n mynd i fod yn ddefnyddiol, wrth symud ymlaen?
Rwyf wedi clywed stori wahanol; rwyf wedi clywed eu bod yn mynd i gyfarfodydd grwpiau ardal aelodau yng Nghyngor Sir Ddinbych, nad ydynt yn gyfarfodydd cyhoeddus, maent yn breifat, ac maent yn mynd i gael eu trafod, bydd pleidlais yn cael ei chynnal a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud arnynt mewn cyfarfodydd preifat nad ydynt yn cael eu darlledu'n gyhoeddus. Dyna'r newyddion diweddaraf rwy'n ei gael yn uniongyrchol gan gynghorwyr. A phan fyddwch yn byw yn eich etholaeth, rydych chi'n dysgu'r pethau hyn yn eithaf cyflym. Ar ben hyn oll, amcangyfrifir y bydd yr ergyd i economi Cymru—
Roedd hwnnw'n sylw diangen.
Ni chredaf ei fod yn sylw diangen, rwyf ond yn dweud y gwir. Ar adeg pan fo twf y DU yn farwaidd, er gwaethaf y dystiolaeth nad yw’n gweithio, er gwaethaf y llu o ganlyniadau negyddol a’r diffyg cydsyniad gan y cyhoedd—[Torri ar draws.] Rwy’n fwy na pharod i dderbyn ymyriad arall, os dymunwch.
I'ch cywiro, rwy'n byw yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, sef Gogledd Cymru. A ydych chi'n cytuno bod hynny’n gywir?
Ydw, wrth gwrs. Y cyfan rwy'n ei ddweud yw fy mod yn Aelod etholaeth, ac rwy'n byw yn fy etholaeth. Dyna'r cyfan rwy'n ei ddweud—[Torri ar draws.] Ie, diolch.
Rwy'n credu y byddwn i'n cadw at y pwnc a'r ddeiseb dan sylw. Mater i'r Aelodau yw ble maent yn byw.
Ie, rwy'n credu ein bod yn gwyro oddi wrth y pwnc, ac yn canolbwyntio ar bethau sydd—
Rwy'n credu eich bod yn dirwyn i ben nawr, onid ydych, Gareth Davies. [Chwerthin.]
O, dathliadau—'hwre'. Rydym yn cefnogi 20 mya y tu allan i ysgolion ac ysbytai, ond mae’n rhaid gwrthdroi’r defnydd diofyn o’r cyflymder hwn. Mae’r ddeiseb ger bron y Senedd heddiw yn gyfle i Lywodraeth Cymru ystyried y bron i 500,000 o leisiau sy’n dweud wrthynt nad ydynt eisiau'r terfyn 20 mya. Felly, rwy’n annog pob Aelod i dderbyn barn y cyhoedd ar hyn a phleidleisio i roi'r gorau i'r polisi aflwyddiannus hwn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth i gyfrannu—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant ac aelodau’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fel y mae llawer o Aelodau wedi’i ddweud, dyma'r ddeiseb fwyaf a welodd y Senedd hon erioed, a hoffwn ddiolch i Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau heddiw.
Mae'n rhaid inni gydnabod yr amrywiaeth o leisiau sydd wedi siarad o blaid ac yn erbyn y polisi. Ac am ba resymau bynnag, ni allwn ddianc rhag y ffaith bod 20 mya wedi pegynnu cymunedau. Dyna pam, ers dechrau yn y swydd, fy mod wedi rhoi cymaint o bwyslais ar wrando. Rwyf wedi teimlo ei bod yn hanfodol gwrando â meddwl agored ar farn pobl sydd wedi teimlo yn y gorffennol nad oeddent yn cael eu clywed, ni waeth beth fo'u man cychwyn yn y ddadl hon. Mae’r rhaglen wrando genedlaethol honno bellach ar waith, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r deisebydd gwreiddiol, Mark Baker, am gytuno i gyfarfod â mi fel rhan o fy rownd gyntaf o drafodaethau.
Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol o bob rhan o Gymru, gyda chynrychiolwyr etholedig o bob ochr i’r rhaniad gwleidyddol, gyda’r gwasanaethau brys, elusennau sy’n hyrwyddo cerdded a beicio, cyrff sy’n cynrychioli cludwyr nwyddau a modurwyr, gan gynnwys yr RAC, yn ogystal â gweithredwyr bysiau, sy'n hanfodol bwysig yn fy marn i. Oes, mae gwahaniaeth barn, ond mae llawer mwy gennym yn gyffredin nag sy'n ein rhannu, ac rwy'n benderfynol o barhau â'r sgwrs honno yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod i fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd a thynnu'r mater hwn, gobeithio, allan o ryfeloedd diwylliant pegynol.
Ymwelais â Bwcle yn etholaeth Jack Sargeant yn ddiweddar. Roedd yn atgof mor bwerus o werth ymgysylltu â phobl leol sy’n defnyddio’r ffyrdd yn ddyddiol a’r rheini sy’n byw ger y ffyrdd, a gwrando ar eu hadborth a rhoi cyfle iddynt fynegi eu pryderon.
I gefnogi’r sgwrs genedlaethol hon, fe wnaethom gyhoeddi gwefan yn ddiweddar i helpu i gyfeirio pobl at eu hawdurdod priffyrdd lleol, i roi adborth neu awgrymiadau ar gyfer ffyrdd. Rwy'n credu bod rhan gan bob un ohonom i’w chwarae yn y broses hon, ac mae hynny’n cynnwys Aelodau o bob rhan o’r Siambr hon, yn ogystal â’r bobl a’r cymunedau a gynrychiolwn. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i’r heddlu a’r gwasanaethau tân ac achub am yr ymgyrch addysg a gorfodi sydd wedi bod ar waith ledled Cymru.
Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i gofnodi fy niolch diffuant i'n partneriaid mewn llywodraeth leol. Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol, ac rwy’n cydnabod bod swyddogion llywodraeth leol a thrafnidiaeth yn arbennig wedi bod ar y rheng flaen yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. I fod yn glir, rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y gwaith ailosod hwn. Nid yw’n adlewyrchiad ar waith caled awdurdodau lleol a’u timau sydd wedi gweithio’n ddiflino ar weithredu’r polisi hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf a mwy. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at arweinwyr cynghorau'n ailddatgan fy ymrwymiad i ddarparu’r adnoddau a’r cymorth sydd ei angen arnynt wrth inni weithio gyda’n gilydd i wneud terfynau 20 mya yn llwyddiant.
Drwy guriad drwm y cyfarfodydd rhanbarthol, a chyda chymorth Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru, rydym eisiau cyd-greu fframwaith sy’n cefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo’r penderfyniadau hynny’n rhai anodd. Bydd fy swyddogion wedyn yn canolbwyntio ar flaenoriaethu canllawiau ar gyfer terfynau cyflymder eraill lle mae pobl yn byw. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2025, yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid, a fydd yn cynnwys cyfathrebu ac adborth gan awdurdodau lleol, ac ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos. Rydym wedi dysgu gwersi o'r terfyn 20 mya, a byddwn yn sicrhau bod llais ein dinasyddion yn ganolog yn y gwaith o gyd-greu polisi gyda’n cymunedau ac ar eu cyfer.
Mae pob un ohonom wedi clywed y storïau trasig o boen, colled a dinistr llwyr gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, gan gynnwys rhai ohonom yn y Siambr hon. Lywydd, prif amcan ein polisi 20 mya yw achub bywydau a lleihau gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs.
Pan oedd yn rôl hon, cyfeiriodd eich rhagflaenydd at y sefyllfa yn Sbaen, lle cyflwynwyd y terfyn diofyn yn 2020, rwy'n credu. Pa ystyriaeth y byddwch yn ei rhoi i’r cynnydd mewn marwolaethau ymhlith defnyddwyr agored i niwed—cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur—dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn Sbaen ers i’r terfyn diofyn hwnnw gael ei gyflwyno?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio, Lywydd, fod tystiolaeth o bob rhan o’r byd, ac mae'r dystiolaeth at ei gilydd yn dangos bod gostwng y terfyn cyflymder, yn bennaf oherwydd ei fod yn lleihau pellter stopio cerbydau, yn arwain at ostyngiad mewn gwrthdrawiadau. Ond rydym yn mynd i ddilyn y dystiolaeth, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynglŷn â hynny, a bydd ein data ein hunain ar gyflymder a gwrthdrawiadau yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Bydd yn giplun o fisoedd cyntaf gweithrediad y polisi. Ond rwy’n benderfynol o sicrhau bod polisi'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, ar y gwirionedd gwrthrychol, nid dehongliadau, a’i fod yn seiliedig ar dystiolaeth o bob rhan o’r byd a all fod yn gwbl ddiamwys.
Rydym wedi clywed am y trasiedïau, ac mewn gwirionedd, prif amcan ein polisi, fel y dywedaf, oedd lleihau gwrthdrawiadau, a thrwy hynny, achub bywydau. Hoffwn adeiladu o’r consensws fod terfynau 20 mya yn addas ger ysgolion, ysbytai ac ardaloedd preswyl adeiledig, a thrwy weithio mewn partneriaeth a thrwy gefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud newidiadau lle mae’n iawn gwneud hynny, credaf y gallwn wneud terfynau 20 mya yn llwyddiant mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru. Ac yn olaf, i bawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, gallaf warantu ein bod yn gwrando. Nawr, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i gael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir er mwyn y bobl, y busnesau a'r cymunedau a wasanaethwn, er mwyn ein teuluoedd ein hunain ac er mwyn pawb arall ledled Cymru. Diolch.
Peredur Owen Griffiths nawr i ymateb i'r ddadl ar ran y pwyllgor.
Diolch, Lywydd. Rwy'n siarad y prynhawn yma fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, am fod ein Cadeirydd wedi'i alw ymaith oherwydd mater personol brys. Rwy’n siŵr ei fod yn anfon ei ymddiheuriadau am hynny ac wedi rhoi gwybod i’r Llywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, a diolch i'r Pwyllgor Busnes am roi amser ychwanegol i ni ar gyfer y ddadl bwysig hon.
Bythefnos yn ôl, cyflwynodd y Pwyllgor Deisebau ddadl ar anghenion dysgu ychwanegol a’r problemau a wynebir gan rieni. Fe wnaethant ysgrifennu yn ôl atom ar ôl y ddadl honno gan ddweud, 'Mae clywed pobl mewn grym yn siarad am y brwydrau y mae teuluoedd fel ein teulu ni'n eu hwynebu yn gwneud ichi deimlo eich bod yn cael eich clywed, ac er nad yw'r materion wedi'u datrys eto a bod llawer i'w wneud, mae cael eich clywed yn rhywbeth y mae ei angen yn daer fel rhan o'r ateb.'
Rydym wedi clywed llawer o ddadleuon heddiw, ar bob ochr, ac nid wyf yn mynd i fynd drwy’r holl ddadleuon hynny eto. Ond rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn rhoi sicrwydd i’r miloedd o bobl a lofnododd y ddeiseb hon eu bod wedi cael eu clywed hefyd. Fel Aelodau o’r Senedd, rydym yn clywed bod y newid polisi hwn wedi peri rhwystredigaeth i lawer iawn o bobl, a gwyddom ei fod wedi’i gamddeall a’i gam-gyfathrebu mewn mannau, a bod y rhethreg wedi’i defnyddio’n niweidiol hefyd. Rwy'n credu y dylai pob un ohonom fyfyrio ar sut rydym yn ymddwyn. Gallwn anghytuno’n ffyrnig yn wleidyddol, ond nid oes lle i ymosodiadau personol yn y Senedd hon nac yng Nghymru, a chydag etholiad cyffredinol newydd gael ei alw, rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cadw hynny mewn cof ac yn cytuno.
Clywsom hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynnig Plaid Cymru i adolygu effaith y polisi yn ôl ym mis Medi, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet bellach wedi bwrw ymlaen â hynny, ond mae'n cymryd ychydig o amser i'w wneud. Rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw wedi rhoi mwy o eglurder i’r hyn y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud ac yn ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau i adolygu a gwneud newidiadau lle mae hynny’n angenrheidiol ac yn ddiogel, a hefyd i gydnabod a chefnogi’r cymunedau sy’n galw am derfynau cyflymder is a strydoedd mwy diogel lle maent yn byw.
Ddoe, yn y Siambr hon, clywsom ganmoliaeth gan Jack Sargeant i ddeiseb yn 2012 sydd o'r diwedd wedi cyflawni ei nod—teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai. Nid yw bob amser yn glir ar unwaith beth fu effaith deiseb a'i dylanwad. Bydd yn cymryd ychydig fisoedd, ac efallai blynyddoedd, i'r polisi hwn ymsefydlu ac i'r problemau gael eu datrys. Ond rwy’n siŵr o un peth: yn y dyfodol, pan fydd y llyfrau hanes yn cael eu hysgrifennu, wrth edrych yn ôl ar y chweched Senedd, bydd y polisi hwn a’r ddeiseb i’w herio yn fwy na throednodyn yn unig. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad i nodi'r ddeiseb, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth, a dwi'n galw ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig. Laura Anne Jones.
Cynnig NDM8589 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae’r sector twristiaeth yn ei wneud i Gymru, yn rhoi cyfrif am dros 150,000 o swyddi a 5 y cant o gynnyrch domestig gros.
2. Yn gresynu nad yw sector twristiaeth Cymru wedi adfer o hyd i’r lefelau cyn y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sector twristiaeth Cymru drwy:
a) rhyddhau twristiaeth Cymru drwy wneud Croeso Cymru yn annibynnol;
b) cael gwared ar y dreth twristiaeth;
c) lleihau’r trothwy deiliadaeth 182 o ddiwrnodau i 105 o ddiwrnodau;
d) cyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio’r sector ar gyfer y dyfodol; ac
e) mynd ati i elwa ar ddigwyddiadau mawr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl hon heddiw lle rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn rhoi ffocws craff ar ddiwydiant sydd mewn trafferth yma yng Nghymru, diwydiant nad yw’n cael ei helpu gan Lywodraeth Lafur Cymru ar hyn o bryd.
Twristiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi yng Nghymru, a dyna mae pwynt 1 ein cynnig yn ei gydnabod. Mae twristiaeth yn digwydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae gwasgariad daearyddol gweithgarwch economaidd a chyflogaeth a gynhyrchir gan dwristiaeth yn un o'i manteision allweddol. Amlygodd ffigurau dros dro ar gyfer 2022 fod 153,500 o bobl yn gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, neu 11 y cant o gyfanswm cyflogaeth cyfartalog Cymru yn 2022.
Cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod sector twristiaeth Cymru yn cyfrannu £2.4 biliwn yn uniongyrchol at gynnyrch domestig gros Cymru, neu oddeutu 5 y cant, ond mae’r sefyllfa'n wahanol iawn bellach. Nid yw’r sector twristiaeth wedi adfer i’r lefelau cyn y pandemig o hyd, fel y mae pwynt 2 ein cynnig yn ei gydnabod. Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, fe wnaeth trigolion o bob rhan o Brydain 8.58 miliwn o deithiau dros nos i Gymru. Yn ystod y teithiau hyn hefyd, fe wnaethant wario dros £2 biliwn.
Mae digwyddiadau mawr yn rhan hanfodol o'n twristiaeth. Nid yn unig fod y digwyddiadau eu hunain yn denu twristiaid i Gymru, maent hefyd yn denu mwy o ddigwyddiadau mawr eraill i Gymru. Mae chwaraeon a digwyddiadau mawr eraill yn rheswm arwyddocaol pam fod pobl yn dewis ymweld â Chymru. Ystyriwch Clash at the Castle, y digwyddiad mawr WWE a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, a gyfrannodd dros £2 filiwn i economi Cymru. Denodd y digwyddiad dros 62,000 o bobl i Gaerdydd, sef y gynulleidfa Ewropeaidd fwyaf ar gyfer WWE. Neu ystyriwch, er enghraifft, y 60,000 o bobl a fynychodd gyngerdd Ed Sheeran yn Stadiwm Principality ym mis Mai 2022. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau gwych, ac yn rhoi hwb gwirioneddol i’n heconomi, ond ni ddylem orffwys ar ein bri. Gellir gwneud mwy. Mae angen inni fod yn fwy rhagweithiol fel cenedl. Mae angen cynllun arnom.
Mae gwneud ymdrech i gynnal digwyddiadau mawr ledled Cymru yn hanfodol bwysig gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynnal yn y de ar hyn o bryd. Gellid gwneud hyn, o bosibl, drwy gynnal gemau tîm pêl-droed Cymru ar y Cae Ras yn Wrecsam. Mae angen gwell strategaeth twristiaeth a digwyddiadau mawr sy'n denu ymwelwyr i Gymru. Cyn y pandemig, roedd Cymru'n cael 1 filiwn o ymwelwyr y flwyddyn, tra bo'r Alban yn cael 3.5 miliwn, ac nid yw’r bwlch hwnnw wedi cau. Mae hyn yn dangos bod llawer o waith i’w wneud i sicrhau bod Cymru’n fwy deniadol i dwristiaid rhyngwladol, yn ogystal â sicrhau bod digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal ledled Cymru a fydd yn rhoi hwb i economïau lleol yn ein holl ardaloedd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ynghyd â’r manteision economaidd niferus y mae twristiaeth yn eu darparu i Gymru, fe fyddent hefyd wrth gwrs yn arwain at fanteision diwylliannol—ymweliadau â lleoliadau ffilm a theledu Cymru, megis ynys Llanddwyn ac eglwys Llanbadrig yn Ynys Môn, traeth Freshwater West yn sir Benfro, a’r Barri. Mae hyn yn darparu manteision economaidd i gymunedau lleol ac i Gymru, ac mae hefyd yn dangos i gwmnïau ffilmio o bob maint yr ystod eang o leoliadau ffilmio sydd ar gael yn ein gwlad wych. Bydd hyn, yn ei dro, yn annog mwy o gwmnïau i ffilmio yng Nghymru, ac mae'n galluogi Cymru i fanteisio’n llawn ar dwristiaeth ffilm a chyrchfannau ymwelwyr sy’n ymddangos mewn ffilmiau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â sefydliadau marchnata cyrchfannau ac ymgyrchoedd hybu twristiaeth. Mae astudiaethau i dwristiaeth ffilm wedi nodi bod ffilmiau nid yn unig yn dylanwadu ar dwristiaid i ymweld â'r ardal, maent hefyd yn darparu buddion economaidd hirdymor i'r lleoliadau ffilmio o amgylch yr ardaloedd lleol.
Yn anffodus, nid yw’r cyfan yn newydd da ac yn syniadau da i’r sector, gan fod pwynt 3 ein cynnig yn cydnabod mai’r her fwyaf y mae’r diwydiant twristiaeth yn ei hwynebu yw’r ardoll ymwelwyr sydd ar y ffordd, ardoll a elwir hefyd yn dreth dwristiaeth, y gallai ymwelwyr dros nos â Chymru ei hwynebu o 2027. Bydd y polisi hwn yn ei gwneud yn ddrytach i bobl aros dros nos yng Nghymru, ac o bosibl, gallai wneud i bobl feddwl ddwywaith am ddod ar wyliau i'n gwlad, a dewis rhywle arall lle na fydd yn rhaid iddynt dalu’r swm ychwanegol hwnnw. Yn anochel, byddai hyn wedyn yn golygu y byddai busnesau twristiaeth a lletygarwch yn cael eu heffeithio'n sylweddol gan weithrediad y polisi hwn.
Ym mis Chwefror 2024, canfu’r baromedr twristiaeth fod traean o fusnesau twristiaeth wedi cael llai o ymwelwyr yn 2023 o gymharu â 2022. Dywedodd 42 y cant o fusnesau eu bod wedi cael yr un lefel o fusnes, a dim ond 25 y cant a ddywedodd eu bod wedi cael mwy o fusnes. Mae hyn yn barhad o ganfyddiadau haf 2023, a ddangosodd fod nifer yr ymwelwyr yn dal i ostwng. Mae hyn yn dangos nad yw’r sector twristiaeth wedi gallu gwella o’r ergyd sylweddol a gafodd yn sgil y pandemig. O ganlyniad i ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, bu gostyngiad sylweddol hefyd yng ngwariant ymwelwyr rhyngwladol yng Nghymru yn 2022. Gwariodd ymwelwyr rhyngwladol £391 miliwn, i lawr o £515 miliwn yn 2019. Mae hyn yn ergyd sylweddol i economi Cymru, ac mae’n effeithio ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch unigol.
Nid yw cysylltiadau trafnidiaeth Cymru yn ddigon effeithlon ychwaith. Cafodd y Pwyllgor Materion Cymreig wybod gan yr Unol Daleithiau fod cysylltiadau trafnidiaeth gwael i lefydd fel Eryri a sir Benfro yn atal ymwelwyr rhag dod i Gymru. Mae’r rhain yn faterion difrifol nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt.
Dywedodd dros 30 y cant o’r busnesau a arolygwyd fel rhan o faromedr twristiaeth mai’r rheswm pam eu bod yn pryderu am fusnesau eleni oedd polisïau Llywodraeth Cymru. Un o bolisïau cyntaf Llywodraeth Cymru a gafodd effaith negyddol sylweddol ar y sector twristiaeth oedd cynyddu’r trothwy deiliadaeth o 70 diwrnod i 182 diwrnod. I lawer o fusnesau hunanddarpar, roedd y cynnydd i 182 diwrnod yn llawer rhy uchel iddynt ei gyrraedd. Dywedodd Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU fod y targed hwn bron yn amhosibl, gan adael perchnogion mewn perygl o wynebu premiymau'r dreth gyngor o 300 y cant.
Rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wedi galw’n barhaus am gynyddu’r trothwy deiliadaeth i 105 diwrnod, sydd hefyd yn unol â’r ffigurau yr oedd y mwyafrif helaeth o fusnesau yn eu cefnogi. Mae gennym gynllun ar gyfer sectorau twristiaeth Cymru, gan ein bod yn cydnabod bod cannoedd o filoedd o swyddi’n dibynnu ar y sector twristiaeth, ac eto mae Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o ymosod ar y sector yn lle ei helpu i ymadfer. Yn hytrach, mae’r Ceidwadwyr Cymreig am gefnogi’r diwydiant i annog ymwelwyr i Gymru, gan ddefnyddio digwyddiadau mawr a ffilm i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd.
Byddai strategaeth dwristiaeth amgen y Ceidwadwyr Cymreig yn rhyddhau twristiaeth Cymru drwy wneud Croeso Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Nid yw system bresennol Croeso Cymru yn gweithio i Gymru ac mae’n ei chael hi'n anodd denu pobl i Gymru. Byddem yn gwneud Croeso Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a fyddai'n ei roi ar sail debyg i'r sefydliadau ymwelwyr eraill ac yn galluogi dull mwy cydweithredol rhwng Croeso Cymru, VisitBritain a VisitScotland, a fydd wedyn o fudd i Gymru ac yn sicrhau bod Cymru'n cael ei hyrwyddo'n well i dwristiaid rhyngwladol.
Byddwn yn creu pasys ymwelwyr rhanbarthol i atyniadau lleol er mwyn hybu economïau lleol. Cyn COVID-19, roedd pás mynediad a oedd yn gadael i bobl ymweld â gwahanol gyrchfannau twristiaeth ledled Cymru, megis ogofâu Dan-yr-Ogof, ffefryn gan deuluoedd. Cafodd y pás hwn ei ddiddymu yn ystod y pandemig, ac nid yw wedi'i ailgyflwyno. Fel rhan o’n strategaeth dwristiaeth amgen, byddai’r pasys ymwelwyr hyn yn cael eu hailgyflwyno, a phás ymwelwyr i’r Cymoedd yn cael ei greu a fyddai'n galluogi mwy o bobl i brofi diwylliant y Cymoedd a rhannau eraill o Gymru. Bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o helpu’r busnesau twristiaeth i adfer ar ôl y pandemig a’r argyfwng costau byw.
Er ei bod yn amlwg fod gennym ni ar y meinciau hyn gynllun a syniadau i gefnogi’r sector twristiaeth, nid oes gan y Llywodraeth gyferbyn â ni unrhyw beth i’w gynnig heblaw geiriau gwag a pholisïau difeddwl. Rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw i gefnogi ein cynnig a rhoi eu cefnogaeth i’n diwydiant.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol y sector twristiaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw sector twristiaeth Cymru, hyd yma, wedi cyrraedd ei lefelau cyn y pandemig.
3. Yn nodi cymorth Llywodraeth Cymru i’r sector a’r ymrwymiad i gydweithio â’r sector ac awdurdodau lleol er mwyn:
a) cyflwyno ardoll ymwelwyr os byddant yn dewis gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad;
b) cynnal y pwerau disgresiynol a’r canllawiau ar y dreth gyngor ac ail gartrefi;
c) ystyried academi ar gyfer twristiaeth a lletygarwch er mwyn gwella sgiliau o fewn y sector ar gyfer y dyfodol; a
d) mynd ati mewn modd rhagweithiol i elwa i’r eithaf ar ddigwyddiadau mawr.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliannau 2, 3, a 4, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi effaith cynnydd mewn costau ar fusnesau, yn ogystal â'r effaith y mae’r argyfwng costau byw wedi'i chael ar wariant twristiaid yng Nghymru.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (b) ac (c).
Gwelliant 4—Heledd Fychan
Yn is-bwynt (e) ym mhwynt 3, ar ôl 'ddigwyddiadau mawr', mewnosoder 'drwy hyrwyddo digwyddiadau sydd o fudd diwylliannol ac economaidd i Gymru'.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. A wyddoch chi, nid ydym yn anghytuno o gwbl ynghylch pwysigrwydd y sector twristiaeth, ac mae elfennau o'r cynnig hwn y credaf y gallem eu cefnogi neu y credaf y gellid eu hesbonio neu eu harchwilio ymhellach, fel gwneud Croeso Cymru yn annibynnol—mae cryn ddiddordeb gennym mewn deall sut y gallai hynny weithio; yr academi twristiaeth a lletygarwch—unwaith eto, mae diddordeb mawr gennym yn y ffordd y gallai hynny weithio. Gwyddom fod yna brinder yn y gweithlu.
Ond lle credaf ei fod yn anghywir yw lle rydym wedi awgrymu gwelliannau, gan fod pob un ohonom yn awyddus i weld y sector twristiaeth yn ffynnu, ond yn amlwg, mae gwahaniaethau yn y ffordd o gyrraedd y fan honno. Nawr, y gair pwysig i mi mewn dadl am dwristiaeth yw 'cynaliadwyedd'. Heb amheuaeth, mae angen iddo fod yn air ag iddo'r un statws â 'ffyniannus', gan mai yno y mae'r budd economaidd. Wyddoch chi, y gwir amdani yw nad yw'r ffordd rydym yn gwneud twristiaeth ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Cymunedau sy’n drefi anghyfannedd mewn tymhorau tawel, lle nad oes unrhyw un yn byw mewn gwirionedd ac sydd wedi dod yn ddim byd mwy na chyrchfan haf, gyda gwasanaethau lleol wedi'u hymestyn ar adeg pan fo cyllid llywodraeth leol yn cael ei dorri—mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o ymdrin â hyn yn y pen draw.
Nawr, yn gyffredinol, rwy'n cefnogi'r dreth dwristiaeth, ond mae pethau y byddwn yn edrych amdanynt wrth iddi gael ei chyflwyno i'r Senedd. Yn gyntaf, y gost. Credaf fod angen sicrhau cydbwysedd yma, oherwydd os yw’r gost yn rhy uchel, byddwn yn tueddu i fod yn weddol gefnogol i'r hyn a ddywedwyd eisoes—nid y byddai hynny’n anochel, cofiwch. Cyn hyn, mae’r ffordd y mae’r ardoll wedi’i defnyddio yn Fenis wedi’i chrybwyll fel ffurf negyddol ar yr ardoll dwristiaeth. Ni chredaf fod hyn mor syml â chyfeirio at Fenis yn y ffordd honno. Nawr, nid wyf yn gwybod pwy yn y Siambr hon sydd wedi bod yn Fenis; nid wyf i wedi bod, ond rwy'n gobeithio mynd. Yr un peth a glywais gan bobl yw ei bod yn anghredadwy o brysur yno; mae'n swnio fel fy fersiwn i o hunllef. Ond mae'r ardoll yno rhwng €1 a €5 ar gyfer aros dros nos, yn dibynnu ar rai ffactorau. Ac wrth gwrs, mae gennych y ffi ar gyfer ymwelwyr dydd yn cael ei threialu, sef €5. Nawr, nid yw hynny'n fy rhwystro; nid yw wedi rhwystro'r holl bobl hynny rhag mynd i Fenis. Yr hyn y mae'n ei wneud, fodd bynnag, yw darparu refeniw ychwanegol i'r ardal leol i gynnal atyniadau—[Torri ar draws.]—i gynnal strydoedd ac i gynnal gwasanaethau. Gareth.
Diolch, Luke. Ni chredaf fod cymharu Fenis a Chymru yn gymhariaeth deg o reidrwydd. Yn amlwg, gyda'r hinsawdd wahanol—
Pam ddim?
Wel, fe egluraf pam: oherwydd, yn syml iawn—[Torri ar draws.]—hinsawdd a'r tywydd—[Torri ar draws.]—oherwydd llawer o—
Gadewch i’r Aelod wneud ei ymyriad.
Am fod llawer o'r cymariaethau a wneir yn wledydd egsotig, poeth, sy'n denu pobl o'r hinsawdd hon i deithio yno a gwario arian. Ond yr her sydd gennym ni yw'r tywydd, gan ei fod yn eithaf anrhagweladwy ac yn wahanol ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru. Felly, mae gennym hynny i gystadlu ag ef, yn ychwanegol at y problemau hynny.
Rwy'n credu bod hwnnw'n ymyriad go anffodus, yn difrïo Cymru; nid yw'n credu y gall Cymru gystadlu ar lefel ryngwladol. Mae nifer o resymau pam fod pobl yn dod i Gymru, onid oes? Rwy'n mynd i ogledd Cymru yn rheolaidd, gorllewin Cymru i fynd i gerdded, ni waeth beth fo'r tywydd—[Torri ar draws.]—wrth gwrs. Mae ardaloedd eraill yn Ewrop—unwaith eto, edrychwn ar Barcelona. Yn un o gyfarfodydd cyfeillion Catalwnia a gawsom yma yn y Senedd, gofynnodd Cefin Campbell am eu hardoll dwristiaeth a beth oedd pobl yn ei ddweud pan gafodd ei chynnig gyntaf. Wel, roedd rhai pleidiau yn dweud yr un pethau ag y mae'r Ceidwadwyr yn eu dweud heddiw, 'Ni fydd pobl yn dod; fe fydd yn dinistrio'r sector twristiaeth.' Wel, roedd hynny yn ôl yn 2012. Ble mae Barcelona heddiw? Mae'n wythfed yn y byd am y profiadau gorau i ymwelwyr â dinasoedd. Cafodd 9.2 miliwn o ymwelwyr yn 2023, i fyny o’r flwyddyn flaenorol, ac unwaith eto, carwn ofyn y cwestiwn: a oes unrhyw un yn cael eu rhwystro gan yr ardoll dwristiaeth yn Barcelona? Darren.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar ichi am wneud hynny. Rwy'n credu mai'r broblem fawr a'r her fawr sydd gennym yw ein bod yn gwybod mai'r math mwyaf proffidiol o dwristiaeth yw'r twristiaid sy'n aros dros nos ac maent yn gwario mwy yn ein heconomi. Yr hyn rydych chi'n ceisio ei wneud yw trethu'r twristiaid sydd am ddod i aros dros nos, ac a fydd yn gwario mwy; bydd hyn yn rhoi llai o arian iddynt ei wario yn ein heconomi.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw bod rhannau helaeth o Gymru yn cystadlu â rhannau eraill o'r DU sydd heb ardoll dwristiaeth na threth dwristiaeth, felly mae gan lawer o bobl sy'n dod ar wyliau i ogledd Cymru ddewis a ydynt am ddod i Eryri, a ydynt am ddod i rannau o ogledd Cymru neu fynd i fyny'r arfordir a draw i Ardal y Llynnoedd. Os oes problem gyda sensitifrwydd pris—ac mae yna i lawer o deuluoedd; fe wyddom hynny yn sgil yr heriau costau byw—bydd pobl yn mynd i rywle arall. Bydd hynny'n ddrwg i'r economi, yn ddrwg i swyddi ac yn ddrwg i deuluoedd yng Nghymru. Onid ydych chi'n derbyn hynny?
Wel, dyma pam, er enghraifft, fy mod wedi siarad am yr angen i'r tâl fod ar y lefel gywir, iawn? Rydych chi'n dweud nad oes ardoll dwristiaeth yng ngweddill y DU. Byddwn i'n dweud bod hynny'n wir tan y pwynt lle mae llefydd fel Cernyw, er enghraifft, sy'n sôn am hynny nawr—. Rwy'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod Manceinion yn ei ystyried. Unwaith eto—[Torri ar draws.] Yn union. Felly, mae'r enghraifft a ddefnyddioch chi'n annheg, oherwydd rydym yn mynd i weld ardoll dwristiaeth yn cael ei chyflwyno ar draws gweddill y DU, mae'n ymddangos, mewn llefydd fel Cernyw a Manceinion.
Nawr, ar y pwynt ynghylch trethu pethau, yr ail bwynt y credaf ei fod yn eithaf pwysig yma yw lle mae'r arian a godir yn mynd mewn gwirionedd. Nawr, rwyf wedi dweud yn gyson fy mod yn credu y dylid neilltuo'r arian a godir ar gyfer gwasanaethau sy'n gwella bywydau twristiaid, ie, ond hefyd yn gwella bywydau pobl leol—felly, gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Wyddoch chi, fe wnaethoch chi sôn fod y cysylltiadau trafnidiaeth i gyrraedd yr Wyddfa yn wael iawn; wel, dyma un ffordd o ariannu gwell cysylltiadau trafnidiaeth a chynnal a chadw'r strydoedd yn well ac yn y blaen.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod ardoll dwristiaeth, os caiff ei chymeradwyo, yn rhywbeth a fyddai flynyddoedd i ffwrdd o gael ei gweithredu, felly rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod yna faterion mwy dybryd i ni eu trafod os ydym o ddifrif ynglŷn â helpu'r sector twristiaeth yn ei gyfanrwydd. Felly, prisiau nwyddau i ddechrau. Ydy, mae chwyddiant i lawr, ond nid yw hynny'n golygu bod prisiau o reidrwydd yn gostwng. Mae TAW yn rhywbeth y mae'r sector wedi tynnu sylw ato sawl gwaith fel problem ac ardrethi busnes. Nawr, pe bai Llywodraeth Cymru am wneud pethau'n haws i'r sector twristiaeth, byddwn i'n dweud mai adfer rhyddhad ardrethi busnes i'w lefel flaenorol fyddai hynny, neu'n well byth, y llwybr i'w ddilyn fyddai gweithio i amrywio'r lluosydd a defnyddio hyn fel ffordd o dynnu pwysau oddi ar y sector lletygarwch, er enghraifft.
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae rhai pethau y gallwn gytuno arnynt gyda'r cynnig gwreiddiol, ond credaf fod yn rhaid inni ystyried o ddifrif sut rydym yn gwneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir. Hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld unrhyw awgrymiadau amgen y byddwn yn eu cefnogi i'r hyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, felly rwy'n gobeithio y gellir cefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Diolch yn fawr.
Wel, mae'r sector twristiaeth yn sylfaenol bwysig i economi Cymru, ac mae'r hyn y mae'n ei gynnig yn cyfrannu'n enfawr at bwyntiau gwerthu unigryw Cymru, ac o'r herwydd, fe ddylid gweld ei werth, dylid ei gefnogi a dylid buddsoddi ynddo, ond yn anffodus nid yw'r diwydiant yn teimlo hyn ar hyn o bryd. Cyn i'r pandemig daro, amcangyfrifid bod y sector twristiaeth yn cyfrannu hyd at £2.4 biliwn yn uniongyrchol—tua 5 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru—ac yn cynnal dros 150,000 o swyddi. Dylem ddathlu a hyrwyddo popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, ond heb ddiwydiant twristiaeth bywiog a'r cyfan y mae'n ei gynrychioli, rhaid inni gofio na allwn wneud hynny na medi buddion economaidd popeth sydd gennym i'w gynnig. Daw pobl i ymweld â'n cefn gwlad hardd, profi ein diwylliant, ein hiaith, ein bwydydd a'n diodydd gwych, ond hefyd, fel y dywed Laura, ein lleoliadau ffilm eiconig—unwaith eto, agwedd ragorol arall ar yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, un sy'n hyrwyddo Cymru i'r byd ehangach a chynulleidfa iau, efallai. Fodd bynnag, wedi dweud hyn, mae'r sector yma yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau diweddar Llafur. Rwy'n gwybod am rai busnesau lletygarwch a thwristiaeth yn fy etholaeth sydd ond ychydig filltiroedd oddi wrth fusnesau sy'n cystadlu â nhw yn Lloegr ond sy'n teimlo eu bod dan anfantais fawr o gymharu â busnesau tebyg dros y ffin, ac mae hynny'n ymestyn yr holl ffordd i fyny'r ffin yng Nghymru. Mae busnesau'n wynebu'r dreth dwristiaeth sydd ar y ffordd, costau gwastraff ychwanegol, yr ardrethi busnes uchaf yn y DU, a llai o gymorth ardrethi annomestig Mae'r rhain i gyd yn achosi pryder gwirioneddol i gynifer o fusnesau sydd eisoes yn gweld pethau'n anodd iawn ar hyn o bryd.
Ac os nad yw hyn yn ddigon, mae llawer o fusnesau hunanddarpar yn ystyried cau—rwyf wedi cael dau neu dri llythyr i'r perwyl hwn—oherwydd y trothwy deiliadaeth o 182 diwrnod, disgwyliad afrealistig i lawer o fusnesau. A dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ffigurau deiliadaeth i 105 diwrnod, sy'n fwy realistig.
Peter, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch. Cefais fy nghalonogi, mewn gwirionedd, wrth glywed AS Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, yn siarad am y lefel ddeiliadaeth o 182 noson gan ddweud ei fod yn mynd yn rhy bell gan effeithio ar fusnesau dilys sy'n llety gwyliau â dodrefn. A fyddech chi'n cytuno gydag asesiad yr AS Plaid Cymru?
Yn llwyr. Mae cymaint o fusnesau. Efallai y bydd rhai'n cyflawni'r 182, ond mae'r mwyafrif helaeth yn ei chael hi'n anodd iawn. Wrth gwrs, os na allant elwa mwyach o gydnabyddiaeth fusnes, maent yn wynebu cyfraddau'r dreth gyngor sydd deirgwaith yn uwch, sy'n eu gwthio allan o fusnes. Mae'n broffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun o wthio busnesau twristiaeth allan o fusnes. Felly, yn amlwg, mae'r sector twristiaeth angen ystod o ddarpariaethau llety da er mwyn ffynnu, oherwydd, hebddynt, yn amlwg, mae llai o dwristiaid yn cael cyfle i archwilio ein gwlad hardd a'r cyfan sydd ganddi i'w gynnig. Ond yn anffodus, bydd agenda bolisi bresennol Llywodraeth Cymru yn arwain at fethiant cynyddol lleoliadau twristiaeth.
A gadewch inni fod yn glir, ni fydd y polisïau hyn yn galluogi llawer o leoliadau hunanddarpar gwag i ddod yn ôl yn breswylfeydd lleol os nad ydynt bellach yn hyfyw ar gyfer twristiaeth. Yn ôl Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU, mae busnesau'n amcangyfrif mai dim ond 5 y cant o fusnesau sy'n ystyried mai preswylydd lleol a fyddai'n fwyaf tebygol o brynu eu heiddo. Mewn gwirionedd, mae 39 y cant o fusnesau o'r farn mai perchennog ail gartref a fyddai'n fwyaf tebygol o brynu eu heiddo, ac mae 37 y cant yn credu mai gweithredwr llety gwyliau arall a fyddai'n ei brynu.
Felly, beth y gellir ei wneud? I ddechrau, mae angen i Lywodraeth Cymru asesu'r rheol 182 diwrnod a rhoi'r gorau i'r dreth dwristiaeth arfaethedig. A Luke, fe ddywedaf wrthych lle bydd yr arian yn mynd. Fel arweinydd llywodraeth leol yn y gorffennol, rwy'n gwybod beth fydd yn digwydd. Bydd y cyllidebau datblygu economaidd presennol yn cael eu lleihau a byddant yn cael eu hôl-lenwi â'r ardoll hon, a bydd arian sy'n cael ei ddargyfeirio o'r swyddogaethau datblygu economaidd yn mynd i gefnogi gofal cymdeithasol ac iechyd. Dyna beth fydd yn digwydd, yn sicr. Ac mae angen inni gymryd camau hefyd i gyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio'r sector ar gyfer y dyfodol a gwneud y gorau o'r cynnydd mewn ymwybyddiaeth y mae Cymru'n ei weld.
Yn olaf, mae angen inni sicrhau bod unrhyw bolisïau a wneir yma yng Nghymru yn canolbwyntio ar wella'r sector twristiaeth, nid ei ecsbloetio. Mae gan ein gwlad brydferth gyfle i gynnig cymaint i ymwelwyr ar draws y byd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau ei thrin yn gydnaws â hynny. Diolch.
Dwi’n gobeithio fedrwn ni i gyd gytuno fan hyn. Roeddwn i yn siomedig efo cyfraniad Gareth Davies oedd yn awgrymu nad ydym ni i fod yn falch o hyrwyddo Cymru, nad yw pobl eisiau dod i Gymru. Roeddwn i'n disgwyl iddo fo wneud—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Heledd?
Gaf i orffen fy mhwynt yn gyntaf? Wedyn mi wnaf i gymryd. Na, dwi ddim yn ei gymryd o—dwi eisiau gorffen fy mhwynt.
Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n mynd i grybwyll y cysylltiad rhwng Fenis a Rhyl. Dwi'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r holl myths oedd o gwmpas y Little Venice exhibition oedd o dan Queen's Market yn Rhyl. Felly, dwi'n meddwl bod yna bethau y dylen ni fod yn ymfalchïo ynddyn nhw, rhai o’r hanesion hyn, a'u hyrwyddo’n well. Ac mi wnaf i gymryd yr intervention.
Rwy'n falch eich bod chi'n gwybod am Little Venice, oherwydd mae'n stori wych. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw peidio â difrïo Cymru, fel rydych chi'n ei wneud; dylem ddweud yn hytrach, 'Wel, mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn wahanol', oherwydd mae'r cymariaethau rydych chi'n eu gwneud yn gymariaethau uniongyrchol â gwledydd poeth. Mae Luke yn sôn am Barcelona hefyd. Beth yw tymheredd cyfartalog Barcelona? Gryn dipyn yn uwch mae'n debyg—nid 'mae'n debyg'—fe wyddom ei fod yn sylweddol uwch na thymheredd Cymru a Phrydain yn wir, felly nid yw'n gymhariaeth deg wrth sôn am bethau fel treth dwristiaeth, oherwydd nid yw'n un deg i'w gwneud.
Nid wyf yn cytuno â'ch ymresymiad. Rwy'n credu eich bod wedi methu'r pwynt yma. Rwy'n meddwl eich bod chi'n difrïo Cymru oherwydd rwy'n credu bod gennym bethau sy'n denu pobl. Mae pobl sy'n dod i Gymru wedi eu syfrdanu gan gyfoeth yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Felly, nid wyf yn derbyn eich dadl o gwbl.
Lle dwi yn gobeithio y medrwn ni gytuno ydy bod yna fwy y gallwn ni fod ei wneud i gefnogi'r sector twristiaeth a hefyd i hybu'r sector twristiaeth, a dwi yn meddwl bod Llywodraeth Cymru angen perchnogi hwn yn fwy fel pwnc a'n bod ni efallai'n colli cyfleoedd economaidd. Yr hyn dwi'n meddwl yn aml ydy—. Mi wnes i dreulio cyfnod hir yn byw yn Iwerddon, ac rydych chi'n gwybod pa mor wych ydy Iwerddon am hyrwyddo a chael pobl o ledled y byd i ymweld. Yn amlwg, mae hi'n stori wahanol. Ond, yn aml, dwi'n crwydro Cymru, llefydd fel Caernarfon, ac rydych chi'n meddwl, pe byddai fan hyn yn Iwerddon, mi fyddai pobl yn heidio yma, mi fyddai yna fusnesu lu. Mae yno'n barod fusnesau annibynnol gwych, ond mi fyddai fo'n lle oedd yn ffynnu yn economaidd. Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi cweit gallu sicrhau ein bod ni'n cael yr ymwelwyr fyddai'n gallu rhoi'r fantais economaidd i ni.
Dwi'n meddwl hefyd nad ydyn ni'n gwneud digon o ran iaith a diwylliant Cymru o ran y sector twristiaeth. Dwi'n meddwl byddai pobl yn hoffi dod yma a chlywed y Gymraeg fel iaith fyw. Dwi'n meddwl ein bod ni weithiau'n edrych ar bethau fel Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol fel pethau ar gyfer Cymry Cymraeg—efallai rhai o'r Cymry yn yr ardal—ond ddim yn meddwl am y manteision rhyngwladol, oherwydd os ydych chi wedi ymweld efo'r eisteddfodau hyn a gweld ymwelwyr rhyngwladol, maen nhw wedi eu rhyfeddu gan yr hyn sydd wedi'u cynnig yna, a dwi'n meddwl y dylen ni fod yn eu hyrwyddo nhw gymaint yn fwy. Mae yna dueddiad, yn anffodus, i roi'r pwyslais ar Ŵyl y Gelli yn hytrach na'r gwyliau Cymraeg, a dwi'n meddwl bod yna fanteision lu. Mi fyddai Tafwyl yn brofiad anhygoel i bobl, ac mi fyddai Gŵyl Fach y Fro, ac ati.
Mae'n rhaid inni hefyd edrych ar y toriadau ehangach. Mi oeddwn i'n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach heddiw yn sôn am Opera Cenedlaethol Cymru a pha mor bwysig ydy hwnnw fel sefydliad o ran hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol. Wel, mae gennym ni hefyd gasgliadau cenedlaethol gwych, os ydyn ni'n edrych ar effaith economaidd pethau fel ein hamgueddfeydd cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ati. Dwi'n meddwl bod rhaid inni edrych ar yr holl ystod o sefydliadau sydd gennym ni. Yn amlwg, mae yna lawer o drafodaethau wedi bod yn ddiweddar pan oedd yna sôn am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cau eu drysau, er enghraifft. Rydyn ni wedi clywed am y toriadau lu pe byddai'n rhaid lleihau'r oriau o ran rhai o'n hamgueddfeydd cenedlaethol ni. Pam nad ydyn ni'n edrych ar yr holl gyllidebau diwylliant hefyd yng nghyd-destun twristiaeth? Mae'r rhain yn swyddi allweddol.
Mae gennym ni gyfoeth o bethau i'w hyrwyddo. Dwi'n meddwl bod treftadaeth ddiwylliannol—. Os edrychwch chi ar safleoedd treftadaeth y byd—mae'r un mwyaf diweddar sydd gennym ni yn Llanberis, er enghraifft—mae yna straeon gwych gennym ni i'w dweud, straeon sydd yn berthnasol yn rhyngwladol. Felly, yr hyn dwi'n gobeithio'i weld drwy gael y ddadl yma a chyfrannu ati hi heddiw ydy ein bod ni'n gweld ymrwymiad gan y Llywodraeth i ailedrych ar y strategaeth twristiaeth, sicrhau bod y Gymraeg a'n gwyliau cenedlaethol a diwylliannol ni yn rhan fwy blaenllaw o hynny, a'n bod ni o'r diwedd yn uno ac yn hybu Cymru a'r cyfoeth sydd gennym ni yn ei gyfanrwydd.
Gadewch inni ddechrau drwy edrych ar gwmpas a graddfa twristiaeth yng Nghymru fel y gallwn ddeall pa mor bwysig yw hi i'n diwylliant, ein heconomi a'n diwydiant. Mae tua un o bob naw o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y sector hwn, gyda dros 75 y cant o'r rheini sy'n gweithio mewn busnes lletygarwch yn cefnogi eu cymunedau a'u heconomïau lleol. Mae'n amlwg fod cysylltiad annatod rhwng y ddau sector a helpu i gyfrannu £2.5 biliwn i gynnyrch domestig gros Cymru ei hun.
Fodd bynnag, mae polisïau Llywodraeth Cymru a gwaddol y cytundeb cydweithio diweddaraf yn wir, wedi bod yn niweidiol iawn ac mae'n dal i gael effaith niweidiol ar y diwydiant hwn. Ar adeg pan fo hwn yn sector sydd angen cefnogaeth a chymorth anhygoel, mae'n ymddangos bod Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn benderfynol o gyflwyno rheolau a rheoliadau sy'n mygu twristiaeth Cymru a'i gallu i ffynnu, yn hytrach na chefnogi'r sector i gynyddu'r nifer a gyflogir i fwy na 172,000 o bobl a chodi ei werth i'r economi i fwy na £6.5 biliwn bob blwyddyn. Gadewch inni edrych ar ble y gellir cyfiawnhau beio'r cytundeb cydweithio a Llafur a Phlaid Cymru yma: y rheol 182 diwrnod ar gyfer llety hunanddarpar; cynllun cofrestru; cynllun trwyddedu; treth dwristiaeth; nifer y diwrnodau y gall gwersylloedd dros dro fod yn weithredol—28 yma, 60 dros y ffin; ac yn bwysicaf oll, er bod busnesau'n wynebu pwysau gwirioneddol wrth adfer ar ôl COVID, torri'r rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Nid yw'n syndod fy mod yn cael dwsinau o e-byst yn dweud, 'Beth ar y ddaear y mae Plaid Cymru yn ei wneud, a Llafur Cymru, yn y cytundeb hwn?' Rwy'n cael negeseuon e-bost o'ch etholaeth, Heledd, yn dweud bod yr hyn a wnewch i'ch diwydiant twristiaeth eich hunain yn frawychus.
Nawr, mae hyn wedi cloffi diwydiant sydd wedi bod yn dioddef ers blynyddoedd. Er gwaethaf enghreifftiau diddiwedd a phwyslais ar y rôl hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae yn y sector hwn, mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn parhau yn eu penderfyniad i leihau rhyddhad ardrethi busnes bron i hanner. Gadewch inni beidio ag anghofio ychwaith fod yr arian i barhau'r cynllun wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru, fel bob amser, yn meddwl eu bod yn gwybod yn well.
Dangosodd ffigurau brawychus y llynedd fod Cymru wedi colli mwy nag un dafarn yr wythnos yn 2023, gyda 63 yn cau eu drysau. Mae hyn yn fwy na dwbl y gostyngiad o 0.9 y cant yn nifer y tafarndai yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod. Amcangyfrifir bod cau'r rhain wedi costio tua 770 o swyddi, sy'n peri pryder mawr pan ystyriwn fod y rhan fwyaf o'r swyddi hyn yn ein hardaloedd gwledig anghysbell, lle mae'n gallu bod yn amhosibl dod o hyd i waith. Yn ehangach, dros y chwe blynedd diwethaf, mae Cymru wedi colli 272 o dafarndai ac er gwaethaf y sefyllfa enbyd hon, mae'r rhagolygon yn mynd yn fwyfwy tywyll. Dywedodd Kate Nicholls, llais uchel ei barch yn UKHospitality, y prif swyddog gweithredol, ein bod ni
'Eisoes yn gweld cyfradd methiant 10 y cant yn uwch yng Nghymru'.
Nid yw hynny'n ddim byd i fod yn falch ohono fel Llywodraeth. Ond gyda chymorth ardrethi busnes yn cael ei dorri i lai na hanner yr hyn ydoedd, ni fydd hynny ond yn cyflymu'r cau.
Mae Plaid Cymru a Llafur yn anwybyddu'r effaith ar ôl COVID ar ein busnesau twristiaeth. Edrychwch ar y costau ynni uwch, costau bwyd—er bod yn rhaid imi ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed cyhoeddiad Llywodraeth Geidwadol y DU heddiw fod chwyddiant bellach wedi gostwng, yn union fel y dywedodd ein Prif Weinidog y byddai'n gweithio'n galed i'w wneud, ac mae wedi llwyddo. Ar adeg pan oedd busnesau'n chwilio am gymorth gan Lywodraeth Cymru, roeddent yn gweithio gyda Phlaid Cymru i gyfyngu ar letygarwch a thwristiaeth Cymru. Mae hyn yn esgeulustod difrifol. Mae'r diwydiant yn galw, yn erfyn, am gymorth, a beth wnewch chi? Rydych chi'n eu taro â—. O, rydych chi wedi ei newid nawr. Nid ydynt yn hoffi'r geiriau, 'treth dwristiaeth'; 'ardoll ymwelwyr' yw hi nawr. Beth bynnag y byddwch yn ei galw, mae'n dreth erchyll ar ein diwydiant twristiaeth, syniad dibwrpas arall yn y cytundeb cydweithio hurt. Syniad arall o'r ochr arall. Treth arall i bawb ohonom ei thalu. A oes unrhyw ben draw i'r trachwant sosialaidd a chenedlaetholgar hwn?
Yn ôl arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, dywedodd 70 y cant o ymwelwyr y byddent yn ystyried mynd ar wyliau i wlad arall nawr pe bai treth yn cael ei chyflwyno. Ai dyma sydd ei angen ar ein heconomi nawr? Mae Aberconwy yn dibynnu ar dwristiaeth mewn ffordd y mae llawer—
Janet, mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—yn methu ei ddeall. Mae'n anadl einioes iddi. Ac rwy'n falch o bob un o'r busnesau lletygarwch preifat a'r manwerthwyr gweithgar—maent yn gweithio'n llawer caletach na rhai o'r Gweinidogion hyn yma.
Janet, mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Ar adeg pan nad oedd y sector angen dim byd mwy na chymorth a sylw, mae'n ymddangos bod yr ideolegwyr yn meddwl bod angen ysgwyd y system gyfan. Gadewch inni ostwng y trothwy deiliadaeth o 182 diwrnod, cael gwared ar y dreth dwristiaeth a chaniatáu i'r sector anadlu ac ymadfer.
Diolch, Janet.
Rwy'n falch iawn fod y cytundeb cydweithio bellach yn hanes ac y cewch eich cofio am hyn.
Ers blynyddoedd, mae twristiaeth wedi bod yn gonglfaen i economi Cymru. Does dim dwywaith ei bod yn dod â biliynau o bunnoedd i’n heconomi ni, yn creu swyddi ac yn cyflwyno harddwch ein mynyddoedd trawiadol, ein harfordiroedd gogoneddus a’n trefi marchnad unigryw i’r byd. Ac yn ganolog i’r llwyddiant bob tro—bob tro—o Fôn i Fynwy, yw'r croeso cynnes Cymreig rŷn ni'n estyn fel pobl yng Nghymru i bawb. A does neb yn dadlau pwysigrwydd twristiaeth, ond mae'n rhaid iddi fod yn deg i'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan lefelau uchel o dwristiaeth ac mae'n rhaid iddi fod yn gynaliadwy.
Nawr, fel Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae'n anodd osgoi pwysigrwydd y diwydiant creiddiol hwn i’r ardal, ac, mewn cyfarfod diweddar gyda'r gynghrair twristiaeth, fe welais i beth oedd gwerth economaidd enfawr hyn: dros £200 miliwn y flwyddyn i economi Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, £110 miliwn i Breseli Penfro, a £186 miliwn i Ddwyfor Meirionnydd, i nodi dim ond rhai. Felly, mae’r gwerth hyn i’w weld yn glir yn ein busnesau lletygarwch, ein caffis, tafarndai ac atyniadau arbennig, gan sicrhau swyddi mewn ardaloedd lle gall gwaith fod yn brin. I’r perwyl hwnnw, rwy’n croesawu’n fawr y ddadl hon y prynhawn yma, sy’n cydnabod pwysigrwydd twristiaeth, ac, yn wir, fel mae Luke Fletcher wedi dweud yn barod, mae yna elfennau o’r cynnig hwn rwy'n eu cefnogi, yn enwedig yr angen dirfawr am gyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwch-sgilio’r sector ar gyfer y dyfodol, sydd wedi bod yn rhan o faniffesto Plaid Cymru ers blynyddoedd. Fodd bynnag, rhaid hefyd cydnabod yr heriau sy’n dod yn sgil y llif o dwristiaid yn ystod y tymhorau prysuraf.
Gyda thwristiaeth dda daw cyfrifoldeb mawr. Felly, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r golygfeydd cyfarwydd yn ystod y tymor brig: y ciwio diddiwedd am hunlun ar yr Wyddfa, y parcio anystyriol ar hyd Pen-y-Pass yn Eryri a Storey Arms ym Mannau Brycheiniog, a'r ymchwydd ym mhoblogaeth ein trefi arfordirol i lefel sydd dair, bedair ac yn aml bum gwaith eu maint arferol yn ystod misoedd yr haf. Y gwir amdani yw bod twristiaeth yn rhy aml yn rhoi straen enfawr ar ein seilwaith lleol: mwy o ddefnydd o doiledau cyhoeddus, cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed, mwy o sbwriel, galw trymach am wasanaethau iechyd ac achub a gwarchod ein harddwch naturiol. Nawr, mae hyn yn galw am ofal a sylw cyson, ond mae'n costio, a hyn i gyd ar adeg pan fo'r pwysau cyllidebol ar ein hawdurdodau lleol ar lefelau digynsail.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Onid ydych chi'n sylweddoli pa mor ynysig y mae hynny'n swnio? Yn y pen draw, dylech fod yn croesawu twristiaid ac ymwelwyr i Gymru. Mae gennym gymaint i ymfalchïo yn ei gylch, harddwch y wlad fendigedig hon. Dylech fod eisiau gwerthu hynny, nid ar draws y DU yn unig ond ledled y byd.
Janet, nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi fethu fy mhwyntiau wrth eu cyfieithu ar y dechrau neu nad oeddech chi'n gwrando, ond yr hyn a ddywedais oedd ein bod yn falch o fod yn gyrchfan i dwristiaid. Rydym yn credu bod twristiaeth yn hynod bwysig i Gymru, ac rydym yn croesawu pobl ac eisiau i bobl ddod i Gymru, ond rydym am gael cydbwysedd rhwng y dwristiaeth honno a'r effaith y mae'n ei chael ar gymunedau lleol a'r gost i awdurdodau lleol o gynnal twristiaeth.
Felly, mae Plaid Cymru wedi cefnogi ardoll dwristiaeth ers amser maith, a fydd yn helpu i greu ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd rhwng—
Cefin. Cefin.
Mae'n ddrwg gennyf.
Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod, felly gofynnaf i bobl gadw'n dawel i ganiatáu iddo gwblhau ei gyfraniad.
Felly, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn hynod o falch o gefnogi gweithrediad ardoll dwristiaeth, sydd—
Cefin, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n siŵr eich bod yn cyfarfod â llawer o fusnesau, fel y gwnaf innau, ar draws y rhanbarth, sy'n bryderus iawn am yr ardoll ymwelwyr a sicrhau, pan ddaw'r dreth honno i rym, os daw, y bydd yn cael ei hailddefnyddio a'i rhoi'n ôl i'r busnesau twristiaeth hynny fel y gallant ddatblygu—blydi pryfyn; cer o 'ma—er mwyn iddynt allu datblygu'r diwydiant. Felly, dyna rywbeth y dylai Plaid Cymru alw amdano, am ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn ein sector twristiaeth i sicrhau bod ganddynt fusnesau ffyniannus yn y dyfodol.
James, rwy'n cytuno, ac fel rhan o'r cytundeb cydweithio, rwyf wedi dadlau'r pwynt y dylid rhoi'r arian a godir yn ôl yng nghynnig twristiaeth yr awdurdodau lleol a gwneud y profiad o dwristiaeth yn well i'r rhai sy'n ymweld â Chymru—cytuno'n llwyr 100 y cant â hynny.
Felly, mae angen cyfrifoldeb ar y cyd arnom rhwng croesawu ymwelwyr a thrigolion lleol sy'n byw yno flwyddyn ar ôl blwyddyn, i ddiogelu a buddsoddi yn ein cymunedau lleol ac fel y dywedais, James, i wella'r cynnig twristiaeth. Ond rydym wedi clywed y dadleuon difrïol a gyflwynwyd gymaint o weithiau o feinciau'r wrthblaid fod treth dwristiaeth rywsut, ac fe'i clywsom eisoes heddiw, yn wrth-Seisnig ac y byddai'n annog pobl rhag ymweld ac y byddai Cymru—[Torri ar draws.] Na, rwy'n golygu annog pobl rhag ymweld; rwyf wedi clywed cymaint o weithiau y byddai Cymru'n dioddef o ganlyniad ac y byddai'n tanseilio economi Cymru. Fe'i clywsom gymaint o weithiau dros y misoedd diwethaf, felly—[Torri ar draws.] Fe dynnaf yn ôl yr un sy'n dweud 'heddiw', ond rydym wedi ei glywed gymaint o weithiau dros y misoedd diwethaf nes ei fod yn dod yn rhan o'ch rhethreg. Ni allai unrhyw beth fod ymhellach o'r gwir. Edrychwch o gwmpas y byd: Croatia, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a'r Caribî, i enwi rhai yn unig. Y gwir amdani yw bod ardollau twristiaeth yn gyffredin yn Ewrop a thu hwnt. Nid ydynt wedi cloffi twristiaeth yn unrhyw un o'r gwledydd hyn. Yn hytrach, maent wedi grymuso cyrchfannau i gynnig profiad gwell i ymwelwyr. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i ddangos bod treth dwristiaeth yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant twristiaeth.
Hyd yn oed dros Glawdd Offa yn Lloegr, yn Dorset a Manceinion, er enghraifft, mae ardollau twristiaeth yn cael eu trafod a'u defnyddio fwyfwy, fel y clywsom eisoes, yng Nghernyw ac yn Ardal y Llynnoedd. Cododd treth dwristiaeth Manceinion £2.8 miliwn ar ôl y flwyddyn gyntaf yn unig, ac mae wedi cael ei ailfuddsoddi yn y ddinas, gan gynnwys ar gyfer glanhau strydoedd ac ymgyrchoedd marchnata. Nid yw hyn yn wrth-Seisnig, nac yn wir yn wrth-dwristiaeth; mae'r cyfan yn ymwneud â sicrhau ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd—
Cefin, rwyf wedi bod yn eithaf hyblyg. Mae angen ichi ddod i ben nawr.
Mae'n ddrwg gennyf, iawn, fe wnaf orffen, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Felly, nid yw'n faich ychwanegol ar dwristiaeth, mae'n rhywbeth y credwn ei fod yn deg ac y bydd yn arwain at hwb economaidd cynyddol i Gymru wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heno. Un o'r pethau rwyf wrth fy modd yn ei wneud pan fyddaf allan, i ffwrdd o Gymru, yw siarad am ba mor wych yw Cymru i ymweld â hi, gan annog mwy o dwristiaid i ddod i'r wlad wych hon i ymweld â'n hatyniadau a'n cyrchfannau a'n lleoliadau ledled y wlad, gyda'n treftadaeth unigryw a'n tirweddau anhygoel. Dyna pam mae twristiaeth yn rhan enfawr o'n heconomi yng Nghymru, dros 5 y cant o'n cynnyrch domestig gros, am ei fod yn lle mor anhygoel i ymweld ag ef. Nid yw'n rhywbeth y dylem droi ein cefnau arno neu fod yn nerfus yn ei gylch wrth annog pobl i ddod i ymweld a mwynhau eu hamser yma yng Nghymru. Os caf ddefnyddio geiriau Cefin Campbell, gyda thwristiaeth wych daw cyfle gwych, sef yr hyn y dylem fod yn gwneud y mwyaf ohono a bachu'r cyfle sydd o'n blaenau.
Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw'r syniad drwy'r amser o wthio pobl i ffwrdd o Gymru ac i ffwrdd o'r swyddi y mae'n eu creu drwy dwristiaeth. Dylem fod yn ei wneud ac yn ei annog mewn ffordd gyfrifol, rwy'n deall yr hyn y mae'r Aelodau'n ceisio ei ddweud am hynny, ond mae'r ffordd y caiff ei gyfleu weithiau i'w weld yn annog pobl rhag ymweld â Chymru, ac yn enwedig yn ystod yr wythnos hon, sef Wythnos Twristiaeth Cymru wrth gwrs, yr wythnos yn y flwyddyn y dylem fod yn dathlu'r busnesau hyn ac yn dathlu'r gwaith y maent yn ei wneud yn ein cymunedau.
Nawr, rwy'n credu bod sector twristiaeth ffyniannus, yn enwedig i wlad fel ein gwlad ni, gwlad gymharol fach ar y llwyfan byd-eang, yn arwydd gwych o hyder cenedlaethol ac atyniad ledled y byd. Cododd Janet Finch-Saunders y mater yn gywir ddigon ynglŷn â sut y gwnaeth y pandemig gymaint o effaith ar y sector yn ystod y cyfnod hwnnw: cafodd bywoliaeth pobl ei ddinistrio a chaewyd busnesau'n barhaol a dyna oedd y realiti llwm i'r busnesau hynny, ac maent yn dal i orfod dod i delerau â hynny. Yr hyn yr oedd ei angen ac sydd ei angen o hyd yn fy marn i, yw dull sensitif o weithredu ar ran Lywodraeth Cymru. Mae'n galw am Lywodraeth a fyddai'n gwneud popeth yn ei gallu i helpu i adeiladu'r sector twristiaeth yn ôl gyda mwy o swyddi a mwy o arian yn llifo i economi Cymru, ac o ganlyniad, yn lleihau tlodi yn ein cymunedau. Yn anffodus, nid dyna a welwn gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn gweld gwaith busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cael ei wneud hyd yn oed yn anos drwy'r cynnydd mympwyol yn y trothwy deiliadaeth ar gyfer eiddo i 182 diwrnod, a'r dreth dwristiaeth gosbol yr ydym eisoes wedi'i grybwyll yn y ddadl hon yma heno. Rwy'n ei hystyried hi'n ffordd ryfedd o drin diwydiant, sector, sy'n cynnal un o bob naw swydd, fel y clywsom, ac un o bob saith swydd yn fy rhanbarth i. Mae'n ffordd ryfedd o drin un o'r diwydiannau pwysicaf sydd gennym yn y wlad. Ni fyddai diwydiannau eraill o faint a phwysigrwydd o'r fath yn cael eu trin fel hyn ar draws yr economi. Mae'n gonglfaen i'n heconomi ac mae'n haeddu cael ei drin felly.
Ac fe glywsom eto heno, ac fe wnaf ailadrodd, mai'r busnesau llety gwyliau sydd bellach yn gorfod talu mwy byth o dreth, yw'r rhai sy'n cynhyrchu refeniw yn ein cymunedau, ac sy'n croesawu pobl i wario arian yn y tafarndai, bwytai ac atyniadau. Byddai eu gwthio allan o fusnes yn niweidio'r cymunedau sy'n dibynnu cymaint arnynt. Yn aml, yn llawer o'n hardaloedd gwledig, mae'r chwistrelliadau hyn o arian parod mor bwysig.
Rwyf am wneud sylw hefyd ar y dreth dwristiaeth, yr ymddengys mai ei nod yn fy marn i yw gwthio ymwelwyr i ffwrdd. Rydym yn dal i ddisgwyl am asesiad terfynol o'r hyn y bydd y dreth yn ei gynnwys, sy'n rhoi'r sector twristiaeth mewn limbo cwbl ddiangen a hwythau'n ceisio cynllunio ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Rwy'n credu mai'r pwyntiau y ceisiwn eu gwneud ar y meinciau hyn yw bod marchnad 'gwyliau gartref' gystadleuol ar draws y DU, ac mae rhoi costau pellach ar bris aros yng Nghymru yn ei gwneud yn llai cystadleuol ac yn llai o atyniad fel cyrchfan twristiaeth. Mae'n anfon neges ddigroeso i ymwelwyr sydd eisiau dod i Gymru.
Felly, fel rhan greiddiol o'n heconomi, mae twristiaeth angen yr holl gymorth y gall ei gael, ac nid yw'n cael hynny gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Rwy'n sicr yn cefnogi ein cynnig yma heddiw, sy'n dweud ein bod am wneud Croeso Cymru yn sefydliad annibynnol, yn unol â sefydliadau eraill o strwythur tebyg ar draws y Deyrnas Unedig. Yr wythnos hon roeddwn i'n siarad â chynrychiolwyr busnesau twristiaeth yng ngogledd Cymru a ddywedodd,
'Nid oes cyfeiriad strategol na chynllun cydlynol i'r fframwaith presennol yng Nghymru, ac mae'n ddiffygiol wrth feithrin cysylltiadau ystyrlon.'
Daeth hynny gan rywun sydd wedi ymrwymo i lwyddiant twristiaeth yng ngogledd Cymru a thu hwnt, a chaiff y farn hon ei hadlewyrchu'n llawer ehangach ar draws y sector. Felly, hoffwn annog pob Aelod ar draws y Siambr i bleidleisio dros gynnig y Ceidwadwyr sydd ger ein bron yma heno.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Aelodau am gyfrannu at y ddadl heddiw. Gadewch i mi ddechrau drwy ailddatgan ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth i dwristiaeth ac i'r economi ymwelwyr ehangach.
Ein huchelgais ni fel Llywodraeth yw tyfu twristiaeth er lles Cymru: twristiaeth sy'n diwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, ond hefyd yr amgylchedd, ac wrth gwrs ein cymunedau lleol—yr union fath o dwristiaeth sydd mor boblogaidd. Rwyf hefyd yn gweld twristiaeth trwy lygaid ein gweledigaeth economaidd ehangach. Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae'n rhaid i ni geisio tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy, sy'n creu mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n talu'n dda a lefelau uwch o ffyniant, ac mae cyfraniad twristiaeth i Gymru yn un sylweddol iawn.
Gwariodd ymwelwyr yng Nghymru £4.7 biliwn yn 2022. Roedd £2.4 biliwn ohono ar ymweliadau dydd, £1.9 biliwn ar deithiau domestig dros nos, a bron i £0.5 biliwn gan ymwelwyr i Gymru. Mae ffigurau arolwg teithwyr rhyngwladol 2023, a gafodd eu rhyddhau wythnos diwethaf, yn dangos, er bod ymweliadau a gwariant yng Nghymru yn is na lefelau 2019, fod gwelliant cryf yn erbyn 2022. Dydyn ni ddim yn cuddio rhag y ffaith bod heriau i'r diwydiant, ond rydyn ni yma i weithio gyda nhw.
Yn wyneb pryderon lleol a byd eang ynghylch gor-dwristiaeth a'r argyfwng hinsawdd, rydyn ni'n wynebu heriau parhaus ar ôl y pandemig i'r diwydiant, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, pwysau ynghylch ynni a chwyddiant, a phrinder recriwtio.
Ond mae ein diwydiant twristiaeth yn aeddfed ac yn brofiadol, ac mae ganddo'r gallu i dyfu o hyd. Mae ein diwydiant yn dweud wrthym fod yn rhaid i dwf gynnal a pheidio â bygwth y pethau sydd bwysicaf i ni ac yn wir, i dwristiaid, ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd mewn ffordd sy'n cefnogi'r cryfderau sy'n dod â phobl yma yn y lle cyntaf: ein tirweddau, ein treftadaeth, ein diwylliant a'n pobl. Rwy'n gresynu at y ffordd y clywsom rai siaradwyr ar feinciau'r Ceidwadwyr yn cymharu Cymru'n anffafriol â chyrchfannau twristaidd eraill mewn rhannau eraill o'r byd. Dylem fod yn falch o'n cynnig i ymwelwyr. Dylem fod yn falch o'n cymunedau sy'n denu pobl o bob cwr o'r byd i fwynhau hynny ochr yn ochr â ni.
Ac yn ein strategaeth 'Croeso i Gymru', gallwn weld pedair colofn twf economaidd, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a buddiannau llesiant ac iechyd, a byddwn yn canolbwyntio ar weledigaeth gynaliadwy ar gyfer twristiaeth. Yn sylfaenol, mae'n ymwneud ag archwilio sut y gallwn ddatblygu'r cynnig pob tywydd, gydol y flwyddyn, cynyddu amser aros gyda gwerth dros gyfaint, a lledaenu'r budd daearyddol i ffwrdd o ardaloedd problemus i gyrchfannau llai adnabyddus hefyd. Ac rydym yn bwrw ymlaen â pholisïau arloesol, gyda'r nod o gefnogi twristiaeth yng ngoleuni'r heriau sy'n ein hwynebu—y cyffyrddwyd â rhai ohonynt yn y ddadl hon. Rydym wedi ymrwymo i—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Fe'ch clywais yn sôn am ardaloedd problemus, ac rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n sôn am hynny. Fe wyddoch fod y Mwmbwls, yn fy rhanbarth i, yn un o'r mannau problemus hynny lle mae'n teimlo fel pe bai Abertawe gyfan yn disgyn ar y Mwmbwls a thu hwnt, ac mae hynny'n beth da—mae croeso mawr iddynt. Tybed beth mae'r dreth dwristiaeth yn mynd i'w wneud i gyfyngu ar yr ymddygiad hwnnw yn y dyfodol oherwydd, yn eithaf aml, mae'r bobl sy'n ymweld â'r Mwmbwls yn dod am ddiwrnod ac yn dychwelyd, felly oni fyddech yn derbyn na fyddai treth dwristiaeth o fudd i ardal fel y Mwmbwls?
Wel, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Fe af i'r afael â hynny'n benodol mewn munud.
Rydym wedi ymrwymo i weithredu i gefnogi ein cymunedau ac i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys yr ardoll dwristiaeth a'r rheol 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau. Rydym wedi gofyn am farn ac wedi ymgysylltu'n helaeth â'r diwydiant twristiaeth, gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ar yr union gynigion hynny ar gyfer ardoll ymwelwyr. Credwn ei bod yn deg ac yn rhesymol inni ofyn i ymwelwyr wneud cyfraniad cymedrol, fel y maent yn ei wneud mewn sawl rhan o'r byd, tuag at gostau ehangach twristiaeth, gan gynnwys helpu i ddiogelu ein cymunedau ar gyfer dyfodol twristiaeth. [Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch am dderbyn ymyriad, Weinidog. O ran yr ymgysylltiad â'r sector ynghylch yr ardoll ymwelwyr, roeddwn i'n meddwl tybed pa sgyrsiau a gawsoch ynglŷn ag eithriadau priodol ar gyfer pethau fel carafanau teithiol, a charafanau statig hefyd, oherwydd maent yn rhan mor sylweddol o'n cynnig twristiaeth yma yng Nghymru.
Y pwynt wrth ymgysylltu â'r sector yw clywed y pryderon y mae'r sector yn eu dwyn i'n sylw, ac rydym wedi cael trafodaethau adeiladol, gan gynnwys ar rai o'r materion y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, ond gwirionedd y mater yw mai'r ffordd orau o ddiogelu a chefnogi ein cymunedau, i gefnogi'r math o dwristiaeth rydym am ei weld yn y dyfodol, yw gofyn i ymwelwyr wneud yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn gyfraniad cymedrol iawn i gostau twristiaeth.
A phrif nod rhai o'r newidiadau eraill a gyflwynwyd gennym i'r meini prawf gosod ar gyfer eiddo hunanddarpar, y clywsom lawer amdanynt yn y ddadl heddiw, yw sicrhau unwaith eto fod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg, a hefyd i wneud y defnydd gorau o'r eiddo hwnnw, a fydd o fudd i gymunedau lleol, gan gynnwys yn sgil deiliadaeth gynyddol o osod llety tymor byr, neu ryddhau rhai eiddo i'w gwerthu neu eu gosod ar rent fel cartrefi parhaol i bobl leol, gan greu'r cymunedau cynaliadwy y gwyddom eu bod yn cyfrannu at sector twristiaeth ffyniannus. Ni ellir edrych ar dwristiaeth ar ei ben ei hun, ac nid ydym yn gwneud hynny; caiff ei weld ochr yn ochr â meysydd polisi eraill, megis yr amgylchedd, tai, polisi iaith Gymraeg, ac mae cael twristiaeth yn y canol yn y Llywodraeth, ochr yn ochr â meysydd polisi eraill, yn gryfder.
Mae Croeso Cymru yn cefnogi twristiaeth mewn ffordd bwysig iawn, gan gydweithio, ymgysylltu â'r diwydiant, gydag awdurdodau lleol, gyda'n cymunedau, ac mae hynny'n hanfodol. Rydym ni ein hunain yn cefnogi'r diwydiant trwy weithgareddau marchnata a hyrwyddo, trwy weithgareddau graddio, trwy ddatblygu sgiliau ar draws y diwydiant, a thrwy ein rhaglen buddsoddi cyfalaf. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd ar academi sgiliau lletygarwch, y soniodd Cefin Campbell amdani yn ei gyfraniad, a fydd yn cefnogi'r union weledigaeth honno o hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr yn y sector. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda o gydweithredu cryf rhwng addysg bellach ac addysg uwch a mentrau preifat yng Nghymru.
Rydym yn gweithio'n agos o fewn y Llywodraeth gyda Digwyddiadau Cymru i sicrhau dull cydgysylltiedig ledled Cymru. Clywsom am bwysigrwydd digwyddiadau mawr yn y drafodaeth heddiw. Mae gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny'n hollbwysig, ac mae'n rhaid imi ddweud, er gwaethaf popeth y mae'r Blaid Geidwadol wedi bod yn ei ddweud o blaid hynny heddiw, beth yn eu barn nhw fyddai'r effaith ar ddigwyddiadau mawr yn sgil eu polisi nhw o gau maes awyr cenedlaethol Cymru, er enghraifft?
Ddirprwy Lywydd, os caf droi at y cynnig, ni allwn gytuno â'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, ac mae'r Llywodraeth wedi cynnig gwelliant yr anogaf yr Aelodau i'w gefnogi. [Torri ar draws.]
I gloi, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod gan Gymru gynnig aruthrol i ymwelwyr. Rwy'n angerddol am y sector, nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd i'n heconomi—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yr Aelod ar y fainc flaen hefyd yn angerddol, yn ôl ei ebychiadau o'i sedd. Rwy'n angerddol am y sector, Ddirprwy Lywydd, nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd i'n heconomi, ond hefyd oherwydd y ffordd y mae'n codi ymwybyddiaeth o Gymru o fewn y DU ac yn rhyngwladol, fel y gall pobl eraill ddod i ymweld â'r wlad a garwn gymaint ein hunain.
Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rwy'n credu bod llawer o'r rhai sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma wedi siarad i ddyrchafu'r sector twristiaeth yng Nghymru ac amlinellu sut mae'r sector twristiaeth yn cyfrannu at wneud Cymru'n lle gwell. Nawr, cyfrannodd sawl un—Janet Finch-Saunders er enghraifft—i ddweud bod un o bob naw gweithiwr yng Nghymru yn rhan o'r sector twristiaeth neu'n gysylltiedig â'r sector, ac fel y dywedodd Laura, mae 11 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio hefyd yn gysylltiedig â'r sector. Roeddwn i'n arbennig o awyddus i wrando ar gyfraniad Laura Anne Jones a chyfraniad Peter Fox ar y manteision y gall twristiaeth ffilm eu gwneud i Gymru, oherwydd nid yw'n gost ychwanegol i ni, ond gallwn wneud yn llawer gwell, rwy'n credu, i fanteisio ar fuddion twristiaeth o'r sector ffilmiau.
Fe amlinellodd Laura Anne Jones ac eraill y prynhawn yma gynllun y Ceidwadwyr ar gyfer twristiaeth, ac fe af drwy rai o'r pwyntiau hynny nawr. Cael gwared ar y dreth dwristiaeth oedd ar frig ein rhestr wrth gwrs. Mae'r dreth dwristiaeth yn wirioneddol—. Mae arnaf ofn fod dim ond siarad am dreth dwristiaeth hyd yn oed eisoes yn cael canlyniadau negyddol i Gymru a'r diwydiant twristiaeth. Nawr, rwy'n clywed beth mae eraill wedi ei ddweud. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedodd Luke Fletcher. Ond fe wnaeth Gareth Davies a Darren Millar ymyriad ar Luke ar y pwynt hwnnw, a'r ffaith amdani yw—ac fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet sylwadau ar hyn hefyd—mae Fenis a Barcelona yn llefydd gwahanol iawn i Gymru. Nid yw dweud hynny'n difrïo Cymru; mae'n dweud bod ganddynt gynnig gwahanol iawn. Ond diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn hynny o beth, a gobeithio y bydd Luke Fletcher yn llwyddo i ymweld â Fenis, rywbryd yn ddiweddarach yr haf hwn efallai—ar ôl 4 Gorffennaf, mae'n siŵr.
Ond hefyd mae gwneud Croeso Cymru'n annibynnol yn bwynt a wnaeth Sam Rowlands y prynhawn yma. Roedd Sam yn tynnu sylw at y ffaith mai dyna'r sylwadau a gafodd gan y diwydiant, a sut y byddai'r diwydiant yn croesawu'r pwynt hwnnw. Roedd cyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio'r sector a manteisio'n rhagweithiol ar ddigwyddiadau mawr hefyd yn bwynt y gwn fod Aelodau eraill wedi'i wneud y prynhawn yma.
Ond un o brif rannau ein dadl heddiw yw sut mae'r Llywodraeth Lafur yma nid yn unig yn methu cefnogi'r sector twristiaeth drwy eu polisi, ond sut maent hefyd yn mynd ati i gyflwyno polisïau sy'n rhwystro'r diwydiant twristiaeth rhag ffynnu ledled Cymru. Ac fe soniaf am y trothwy deiliadaeth 182 diwrnod y mae nifer wedi sôn amdano, ac a grybwyllwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet hefyd. Nid ydym wedi dweud y dylid ei ddileu. Nid yw'r diwydiant wedi dweud y dylid ei ddileu. Yr hyn a ddywedwn ni, a'r hyn y mae'r diwydiant yn ei ddweud, yw y dylai'r trothwy fod yn 105 diwrnod, sy'n haws ei gyrraedd i lawer o fusnesau, sy'n fusnesau dilys.
Rwyf wedi sôn am hyn, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn y Siambr y prynhawn yma ar gyfer y ddadl, ond rwyf wedi pledio arnoch i edrych ar hyn eto, a'r eithriadau hefyd, oherwydd ar hyn o bryd, mae yna lawer o fusnesau na allant gyrraedd y trothwy 182 diwrnod. Ac nid yw'n briodol cael y trothwy ar gyfer Cymru gyfan, dull cyffredinol ar gyfer Cymru gyfan, lle mae'n rhaid i bob busnes ledled Cymru gyrraedd y trothwy hwnnw, gan fod y tymor gwyliau'n wahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru. Yng Nghaerdydd, lle mae digwyddiadau mawr, gallai fod yn haws cyrraedd neu ragori ar y trothwy hwnnw. Mewn rhai ardaloedd ar yr arfordir, efallai y gallwch gyrraedd neu ragori ar y trothwy, ond ni fyddwch yn gallu gwneud hynny mewn rhannau eraill o Gymru, fel fy etholaeth i.
Pan soniais am hyn wrth Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet dros y 12 mis diwethaf, mae'n rhwystredig mai eu hateb yw, 'Wel, os na allwch gyrraedd y trothwy 182 diwrnod, nid ydych yn fusnes dilys.' Mae hynny mor amharchus i fusnesau dilys sydd o ddifrif yn gweithredu ac yn gwneud popeth yn eu gallu i wneud bywoliaeth. Mae'r farchnad wyliau yn wahanol iawn ar draws gwahanol rannau o'r sector.
Mae angen archwilio'r eithriadau hefyd. Mae'r Llywodraeth wedi annog ffermwyr, yn gywir ddigon, i arallgyfeirio, ac mae llawer wedi gwneud hynny. Maent wedi adeiladu llety hunanddarpar ar eu heiddo, ac erbyn hyn maent yn ddarostyngedig i'r ffigur mympwyol o 182 diwrnod, na allant ei gyrraedd mewn rhai rhannau o Gymru. Ni all yr eiddo fynd i mewn i'r farchnad dai, am fod y cyfleustodau wedi'u cysylltu, maent yn rhan o'r fferm. Mae yna eithriadau a chyfyngiadau cynllunio. Dyna pam mae angen i'r Llywodraeth gyflwyno eithriadau, a sicrhau hefyd fod y gyfradd deiliadaeth 182 diwrnod yn cael ei gostwng i lefel synhwyrol.
Mae eraill wedi cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Cefin Campbell, roeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedoch chi heddiw—yn eich datganiad 90 eiliad yn gynharach. Gadewch inni groesawu pobl o bob cwr o Gymru i Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ym Maldwyn yr wythnos nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at fynychu fel Aelod Senedd yr etholaeth. Mae'r Eisteddfod yn mynd i fod yn hwb enfawr i'r canolbarth wrth gwrs. Ond nid wyf eisiau i bobl o rannau eraill o Gymru orfod talu i ddod i mewn i sir Drefaldwyn. Nid wyf eisiau hynny. Mae'n fudd enfawr i ni yr wythnos nesaf—. Mae pryfyn yn hedfan o fy nghwmpas, Ddirprwy Lywydd.
No flies on you, Russell. [Chwerthin.]
Ond nid wyf eisiau i bobl o bob rhan o Gymru orfod talu treth dwristiaeth i ddod i ymweld ag eisteddfodau yn sir Drefaldwyn yn y dyfodol. A dyna'r pwynt yr oeddwn yn ei ystyried fel—. Mae'n glanio arnaf nawr, y pryfyn. Nid wyf am iddi fod felly.
A gaf i ddweud wrth yr Aelodau y prynhawn yma fy mod yn diolch iddynt am eu cyfraniadau? Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynnig heddiw, ond yn anffodus, rwy'n amheus y bydd meinciau'r Llywodraeth yn gwneud hynny. Ond hoffwn ofyn ichi edrych ar yr eithriadau eto, gwrandewch ar y diwydiant mewn perthynas â gostwng y trothwy 182 diwrnod i 105 diwrnod. Mae hwnnw'n gynnig synhwyrol a gyflwynwyd nid yn unig gennym ni ond gan y diwydiant hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar hynny. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Roedd James Evans eisiau gwneud datganiad byr.
Wrth roi swaden i'r pryfyn gythgam hwnnw yn gynharach, fe ddywedais air anseneddol. Hoffwn gywiro'r cofnod ac ymddiheuro.
Nodwyd.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, pedwar yn erbyn, 30 yn ymatal. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil addysg gwleidyddol: O blaid: 12, Yn erbyn: 4, Ymatal: 30
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar yr cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8589 wedi'i ddiwygio:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol y sector twristiaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw sector twristiaeth Cymru, hyd yma, wedi cyrraedd ei lefelau cyn y pandemig.
3. Yn nodi cymorth Llywodraeth Cymru i’r sector a’r ymrwymiad i gydweithio â’r sector ac awdurdodau lleol er mwyn:
a) cyflwyno ardoll ymwelwyr os byddant yn dewis gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad;
b) cynnal y pwerau disgresiynol a’r canllawiau ar y dreth gyngor ac ail gartrefi;
c) ystyried academi ar gyfer twristiaeth a lletygarwch er mwyn gwella sgiliau o fewn y sector ar gyfer y dyfodol; a
d) mynd ati mewn modd rhagweithiol i elwa i’r eithaf ar ddigwyddiadau mawr.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, yn erbyn 22. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio heddiw, ond nid dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd.
A wnaiff y bobl sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda, wrth inni symud ymlaen at y ddadl fer?
Galwaf ar Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Thema'r ddadl heddiw yw adeiladu: system sgiliau adeiladu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Hoffwn roi munud o fy amser i Mike Hedges, ar ôl i mi siarad.
Rwyf bob amser wedi bod yn hyrwyddwr brwd i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru, a fi yw cadeirydd presennol a sylfaenydd y grŵp trawsbleidiol ar adeiladu, a sefydlwyd yn 2007. Fe'i galwyd gyntaf yn grŵp trawsbleidiol ar yr amgylchedd adeiledig. Dros y blynyddoedd o gadeirio'r grŵp trawsbleidiol, rwyf wedi gweld ymrwymiad a gweledigaeth Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a rhanddeiliaid eraill yn y diwydiant. Maent yn chwarae rhan enfawr yn cefnogi ffyniant economaidd yng Nghymru, gan adeiladu a chynnal ystod eang o seilwaith sy'n hanfodol i'n bywydau bob dydd, a darparu hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd dysgu pellach i weithlu mawr.
Yn y ddadl hon, rwyf am ganolbwyntio ar yr heriau macro sy'n wynebu'r diwydiant, a'r rôl ganolog y mae'r system sgiliau yn ei chwarae wrth gefnogi'r diwydiant nawr ac yn y dyfodol. Ac mae'r pwyslais hwnnw ar y dyfodol yn hanfodol. Mae hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr ac uwchsgilio'r gweithlu presennol i gyflawni ein huchelgeisiau sero net yn yr amgylchedd adeiledig wedi bod yn ffocws cyson yng nghyfarfodydd ein grŵp trawsbleidiol. Mae'r diwydiant yn cael effaith economaidd aruthrol ledled Cymru. Yn 2023, roedd 43,420 o fusnesau adeiladu yng Nghymru yn cyflogi 93,500 o bobl, ac roedd cyfanswm gwerth archebion adeiladu newydd yng Nghymru ychydig o dan £2.3 biliwn. Yn 2022, roedd gwerth ychwanegol gros y sector adeiladu yng Nghymru bron yn £4.8 biliwn.
Rhagwelodd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu y byddai'r allbwn adeiladu yng Nghymru yn tyfu 1.2 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2004 a 2008. Yn amlwg, mae gan y diwydiant bwysigrwydd ac effaith enfawr ar draws economi Cymru. Dyma rai enghreifftiau o'r prosiectau seilwaith sydd ar y gweill yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru: gwynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd; gwelliannau i'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross; prosiectau adfywio ym Mhenfro, yn cynnwys Cei'r De, a Hwlffordd, yn cynnwys y gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus ac ailddatblygu glannau'r cei gorllewinol; canolfan lesiant Pentre Awel yn sir Gaerfyrddin; prosiectau erydu arfordirol ac amddiffyn rhag llifogydd yn Aberaeron; adeiladu ysgolion newydd drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy; ac adeiladu tai rhent cymdeithasol newydd drwy'r grant tai cymdeithasol.
Fe amlinellaf yr heriau unigryw y mae'r diwydiant yn eu hwynebu a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar y system sgiliau. Rhaid inni wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol, er mwyn sicrhau bod Cymru'n manteisio ar bob cyfle ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol ac i drawsnewid bywydau pobl sy'n gweithio ac yn hyfforddi o fewn y sector. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyfres o ddigwyddiadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio'n sylweddol ar fywydau pobl yng Nghymru a'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys y pandemig COVID-19 a'i waddol parhaol, ôl-effeithiau parhaus Brexit ac yn fwyaf diweddar, yr argyfwng costau byw, wedi'i yrru gan gostau llawer uwch, gan roi straen ar gyllid cartrefi a hyfywedd rhai busnesau. Er bod economi Cymru a chyfraddau cyflogaeth yn parhau i wynebu heriau, mae cyfleoedd enfawr i ddenu gweithwyr newydd i yrfaoedd cyffrous a gwerth chweil yn y diwydiant hwn.
Mae recriwtio a datblygu'r gweithlu ar gyfer y dyfodol yn dal i fod yn her allweddol i gyflawni cyfleoedd twf, megis adeiladu'r nifer o gartrefi sydd eu hangen ar y wlad, y seilwaith ar gyfer ynni a thrafnidiaeth, ac ôl-osod yr amgylchedd adeiledig i gyrraedd targedau sero net. Dengys ffigurau diwydiant fod angen 11,000 o weithwyr ychwanegol ar Gymru erbyn 2028 i ateb y galw presennol ar y diwydiant adeiladu, sy'n golygu cyfradd recriwtio flynyddol o tua 2,200 o weithwyr. Mae'r gyfradd recriwtio flynyddol yn galw am gynnydd o 11 y cant i faint presennol y gweithlu yng Nghymru.
Mae'r diwydiant yn wynebu heriau recriwtio clir. Mae'r lefel recriwtio bresennol yn niwydiant adeiladu Cymru wedi bod oddeutu 8,900 o weithwyr y flwyddyn, ond mae mwy o bobl wedi gadael bob blwyddyn, sef tua 9,200. Y galwedigaethau sydd â'r gofynion recriwtio ychwanegol cryfaf yw crefftau gosod trydanol, bricwyr a seiri maen, cyfarwyddwyr, swyddogion gweithredol ac uwch reolwyr. Mae arolwg diwydiant Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu hefyd yn dangos bod mwy na thri chwarter yn credu y bydd prinder sgiliau yn eu galwedigaeth benodol ar gyfer gwaith datgarboneiddio a chyrraedd targedau sero net.
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos tuedd ar i lawr o dystysgrifau ledled Cymru ar lefel 2 ac uwch mewn ystod o hyfforddiant adeiladu. Yn 2017, cafodd bron i 6,000 o dystysgrifau eu dyfarnu, yn ymwneud yn bennaf â gwaith coed, gweithredu peiriannau a gwaith brics. Erbyn 2023, roedd nifer y tystysgrifau a roddwyd wedi gostwng i ychydig dros 3,000. Dyna ostyngiad o 44 y cant, gyda gwaith coed i lawr gymaint â hynny, a gwaith brics i lawr 54 y cant. Mae hyn yn dangos bod angen mynd ati ar frys i ddenu mwy o newydd-ddyfodiaid i weithio ym maes adeiladu a chadw arbenigedd presennol cyn iddo gael ei golli drwy ymddeoliadau, ac i gynyddu amrywiaeth y gweithlu presennol. Ar hyn o bryd, mae 19 y cant o weithwyr adeiladu rhwng 16 a 24 oed, 47 y cant rhwng 25 a 44, ac mae 33 y cant o'r gweithlu dros 45 oed.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio dros nifer o flynyddoedd gyda rhanddeiliaid y diwydiant i weithredu polisïau sy'n ceisio cryfhau'r system sgiliau. Yn 2018, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru 'Adeiladu'r Dyfodol', yr adolygiad o gymwysterau yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig yng Nghymru. Yn dilyn ymgynghoriad, gweithiodd Cymwysterau Cymru gyda chyrff dyfarnu i gyflwyno 22 o gymwysterau newydd ar gyfer Cymru, datblygodd CBAC gymhwyster TGAU newydd a Safon Uwch UG, a datblygwyd cymwysterau galwedigaethol newydd City & Guilds ac EAL i'w defnyddio mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Yn 2013, lansiwyd Sgiliau Adeiladu Cyfle, cynllun rhannu prentisiaeth, gan South West Wales Regional Shared Apprenticeships Ltd a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ar draws sir Gaerfyrddin, Ceredigion, sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Ar hyn o bryd, y prosiect arloesol hwn yw'r cynllun rhannu prentisiaeth mwyaf yn y DU, ac mae'r cynllun hwnnw'n cefnogi oedolion ifanc i gael gwaith cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi dros 95 o brentisiaid ac wedi cyflogi dros 780 o gynlluniau rhannu prentisiaeth hyd yma ar draws y crefftau allweddol. Ac mae rhannu prentisiaeth yn caniatáu i brentisiaid gwblhau eu rhaglen gyda nifer o gyflogwyr gwahanol, gan ganiatáu i gyflogwyr gyflogi prentis am gyfnod mor fyr â thri mis, i sicrhau mwy o hyblygrwydd a rhoi profiad ehangach. Mae tua 90 y cant o brentisiaid sy'n cwblhau'r tair blynedd wedi sicrhau cyflogaeth amser llawn yn eu crefft ddewisol, ac mae cynlluniau rhannu prentisiaeth yn cynnig buddion clir i gyflogwyr bach a chanolig eu maint, ac rwy'n awyddus i weld hynny'n cael ei ehangu oherwydd mae'n amlwg, yng Nghymru, mai dyna yw ein cyflogwyr targed.
O fewn y diwydiant, mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu hefyd yn cefnogi mentrau sydd â'r nod o helpu pobl i oresgyn rhwystrau rhag cael mynediad at gyflogaeth yn y diwydiannau adeiladu, sef y rhaglen tegwch, cynhwysiant a pharch, neu FIR; rhaglen llysgenhadon STEM GO Construct; a diwrnodau mewnwelediad i ddiwydiant. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi cyfrifon dysgu personol gwyrdd, ac mae'r rhain yn caniatáu i bobl astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o amgylch eu cyfrifoldebau presennol, sy'n eu galluogi naill ai i uwchsgilio neu ailhyfforddi. Byddant yn helpu i ddarparu'r sgiliau cywir i gefnogi taith Cymru tuag at sero net, gan gefnogi sgiliau sero net newydd a rhai sy'n datblygu mewn sectorau a dargedir yn enwedig, yn cynnwys ynni, adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu.
Nid yw sgiliau adeiladu wedi'u cyfyngu i dai. Yn ystod y gwaith o adeiladu fferm wynt Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd Cymru, creodd RWE 700 o swyddi, gyda 100 o swyddi medrus ychwanegol ar gyfer y tymor hwy. Mae rhaglen hyfforddi RWE yng Ngholeg Llandrillo wedi hyfforddi dros 40 o brentisiaid, gan gynnwys prentisiaid tyrbinau ar y môr ac ar y tir a hydro ac atgyweirio llafnau. Mae Coleg Llandrillo yn gweithio gydag RWE i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y sector gwynt ar y môr ac ynni, gan ddarparu addysg uwch i dechnegwyr trwy ddysgu o bell, a galluogi pobl ganol oed i fynd yn ôl i'r coleg, ac fe wneuthum hynny fy hun fel mam ifanc—euthum yn ôl i Goleg Sir Benfro. Gallwch ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau tystysgrif genedlaethol uwch a diploma cenedlaethol uwch, a byddant yn hanfodol ar gyfer Cymru wyrddach.
I gloi fy nghyfraniad heddiw, hoffwn godi rhai o'r materion a gyflwynwyd i gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol ac arolygon diwydiant, a byddwn yn ddiolchgar am ymateb gan y Gweinidog ar sut y gellir goresgyn yr heriau hyn, a'r atebion a all sicrhau bod y diwydiant yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol.
Felly, y pwynt cyntaf yw prinder tiwtoriaid coleg, ochr yn ochr â'r her o uwchsgilio gwybodaeth bresennol tiwtoriaid, a sut y bydd y system addysg bellach yn ateb gofynion sgiliau yn y diwydiant ac yn sicrhau bod digon o gyrsiau wedi'u hanelu at unioni prinder sgiliau; creu capasiti ar gyrsiau fel nad oes rhaid i ddysgwyr aros i ddechrau'r daith ddysgu honno; yr oedi a all fodoli rhwng diwydiant yn mabwysiadu dulliau newydd a'r dulliau hynny'n cael eu mabwysiadu a'u haddysgu drwy'r cwricwlwm; a gallu cynghorwyr gyrfaoedd ac athrawon ac ysgolion i hyrwyddo'r amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y diwydiant i blant a phobl ifanc, ac wrth gwrs, bydd y TGAU yn helpu gyda hynny. Ac rwy'n teimlo, yng Nghymru'n arbennig, y bydd ehangu'r model rhannu prentisiaeth ledled Cymru, a datblygu llwyddiant y Prentis a Cyfle yn creu buddion yma ac yn tynnu rhywfaint o'r straen oddi ar y busnesau bach, yn bennaf, sy'n cyflogi pobl.
Ac rwy'n dod at y pwynt olaf, sef cael y dyddiad ar fabwysiadu'r TGAU a'r Safon Uwch mewn adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, oherwydd mae angen inni wybod pwy sy'n ei wneud, fel y gallwn ddeall profiad y dysgwyr hynny wedyn a'u rôl wrth ddatblygu talent newydd.
Felly, nod fy nghyfraniad heddiw oedd amlinellu pwysigrwydd y diwydiant adeiladu i ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol, yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant hwnnw yng Nghymru, fel y nodwyd gan y grŵp trawsbleidiol a'r rhanddeiliaid, ond yn bwysicaf oll, caniatáu peth amser i fynegi bod yna gyfleoedd enfawr, cyfleoedd pellgyrhaeddol, yn y diwydiant adeiladu. Ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog, ond yn gyntaf fe wnaf wahodd Mike Hedges i gyfrannu.
Diolch i Joyce Watson, yn gyntaf am gael y ddadl hon ar fater mor bwysig, a hefyd am roi munud i mi yn y ddadl hon.
Mae arnom angen gweithwyr adeiladu medrus. Yn y 1970au, roedd gennym gyflogwyr mawr fel BSE a BP yn hyfforddi cannoedd o drydanwyr, plymwyr a bricwyr. Mae'r cyflogwyr mawr naill ai wedi cau neu wedi lleihau nifer y prentisiaid sy'n cael eu hyfforddi'n sylweddol. Er mwyn adeiladu'r tai sydd eu hangen arnom, mae angen gweithwyr adeiladu. Wrth inni symud tuag at ddefnyddio trydan yn hytrach na nwy ar gyfer gwresogi, a phetrol ar gyfer ceir, mae angen mwy o drydanwyr arnom. Mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o weithwyr adeiladu medrus, wedi'u hyfforddi'n dda. Rwy'n cytuno â Joyce Waston fod Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn hynod o bwysig. Rwy'n falch ei bod yn bosibl gwirio cerdyn cynllun tystysgrif sgiliau adeiladu gweithiwr, cerdyn cynllun cymhwysedd peiriannau adeiladu, cerdyn cynllun cofnodi sgaffaldwyr y diwydiant adeiladu, neu dystysgrif brawf i sicrhau eu bod yn gymwys i wneud y gwaith y maent wedi dod i mewn i'w wneud.
Gallwn yn gyfreithlon ddisgrifio fy hun fel adeiladwr yfory. Ac rwy'n credu bod honno'n broblem sydd gennym, onid yw, nad oes amddiffyniad i grefftwyr. Ac rwy'n credu mai'r un peth sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw y dylai pobl fod yn cael eu tystysgrif City & Guilds er mwyn profi eu bod yn fedrus.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Joyce Watson am y cyfle i ymateb iddi ar y system sgiliau adeiladu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac iddi hi a Mike Hedges am eu cyfraniadau.
Mae angen system sgiliau effeithiol ar Gymru, sy'n gwella ac yn cefnogi pob sector. Mae gallu unrhyw Lywodraeth flaengar i gyflawni yn gwbl ddibynnol ar iechyd ein heconomi. Os gallwn ni gael economi sy'n wirioneddol gynaliadwy, sy'n creu ffyniant a mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n talu'n well ymhob rhan o Gymru, yna bydd gyda ni'r cyfle gorau i sicrhau bod pobl yn gallu ffynnu. Ac mae cysylltiad annatod rhwng sgiliau adeiladu ar yr un llaw a thwf cynhyrchiant ar y llaw arall.
Mae adeiladu yn sector allweddol yn economi Cymru, ac mae sgiliau yn y sector adeiladu yn gatalydd ar gyfer hybu twf economaidd a chyflymu cystadleurwydd. Ond mae angen gweithlu yng Nghymru sydd â'r sgiliau cywir i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn, ac mae hynny'n ymwneud â sicrhau bod gennym ochr cyflenwi sgiliau sy'n hyblyg ac yn gallu ymateb i newid. Wrth hynny, yr hyn a olygaf yw ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i sicrhau bod ein system addysg bellach yn ymateb i alw cyflogwyr, gan gynnig y cyrsiau sy'n cefnogi anghenion prosiectau adeiladu allweddol.
Mae cael y wybodaeth gywir am y farchnad lafur yn hanfodol er mwyn llywio ein gwaith yn llunio polisi. Rhaid i'n prifysgolion, hefyd, gael eu halinio yn y sector hwn fel bod gennym y llwybrau cywir i fyfyrwyr bontio i addysg uwch mewn disgyblaethau adeiladu penodol a meysydd sgiliau cyffredinol, megis busnes, rheoli prosiectau a chyllid. Yn sail i'r dull hwn mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r pedwar partneriaeth sgiliau rhanbarthol i adeiladu ar hynny a datblygu dull cenedlaethol ar gyfer sgiliau. Bydd angen i'r system sgiliau yng Nghymru allu ymateb yn effeithlon i'r galw gan gyflogwyr, a byddwn yn gofyn i'n partneriaid dynnu sylw at fylchau a phrinder sgiliau adeiladu a gweithio gyda'r sectorau addysg bellach ac addysg uwch i helpu i lywio'r cyflenwad i ddiwallu anghenion cyflogwyr. Yn ogystal, bydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol a gwybodaeth ehangach y farchnad lafur yn helpu i lywio'r defnydd o gyllid prentisiaeth i gefnogi ein nodau sero net. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod cyflogwyr adeiladu yn wynebu heriau wrth adeiladu llif o dalent yn y dyfodol i ymateb i dwf rhagamcanol y diwydiant, ac rydym yn awyddus i weithredu.
Gellir gweld enghraifft dda o'r ddarpariaeth yng ngogledd Cymru. Mae'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, mewn cydweithrediad â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a chyflogwyr adeiladu, yn gweithio gyda phum ysgol uwchradd ym Môn i ddarparu profiad cynhwysfawr o'r diwydiant adeiladu i fyfyrwyr blwyddyn 12, gan ganolbwyntio ar rolau lefel uchel fel peirianneg sifil, gwasanaeth mesur meintiau, rheoli prosiectau a rheoli adeiladu, drwy weithdai, sgyrsiau ysbrydoli gan gyflogwyr a phrofiadau ar y safle. Ac mae hyn yn helpu i hysbysu myfyrwyr cyn iddynt wneud eu ceisiadau prifysgol neu radd-brentisiaethau. Credaf fod hyn yn dangos pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth ar ddiben cyffredin, ac rwy'n teimlo'n angerddol fod angen inni edrych yn gyson ar sut yr awn i'r afael ag anghenion sgiliau'r genedl. Mae'n gwbl hanfodol, os ydym am lwyddo i dyfu'r economi'n gynaliadwy, gan sicrhau bod gan Gymru weithlu adeiladu medrus, ond hefyd os ydym am annog ein pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol, ac angen inni annog busnesau adeiladu'r dyfodol i fuddsoddi, mae'n rhaid inni ddarparu cynllun i unigolion ddeall y sgiliau sydd eu hangen arnynt a sut i'w caffael. Dyna sut y cysylltwn y cyfleoedd economaidd enfawr sy'n bodoli â bywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru—y llwybrau, y rhaglenni, y prentisiaethau a ddarparwn a fydd yn eu cael i ben y daith, ni waeth beth fo cefndir unrhyw unigolyn, neu a ydynt yn digwydd bod â modelau rôl neu rwydwaith o gysylltiadau yn y sectorau hynny. Rydym yn ffodus fod gennym brosiectau adeiladu cyffrous yng Nghymru a fydd yn darparu cyfleoedd go iawn, fel fferm wynt Awel y Môr oddi ar arfordir Llandudno, a fydd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru 500,000 o gartrefi erbyn 2030, a'r safle arglawdd gwerth £360 miliwn yn ne Caerdydd, a fydd yn gweld 46 erw o dir llwyd yn cael ei adfywio i ddarparu 2,500 o gartrefi ochr yn ochr â 54,000 metr sgwâr o ofod busnes.
Mae gennyf gyfrifoldeb penodol am ynni, ac mae angen inni groesawu technolegau a dulliau adeiladu modern i dyfu gweithlu medrus ac adeiladu swyddi hirdymor o ansawdd wrth inni bontio i economi sero net. Mae uwchsgilio ein gweithlu â'r wybodaeth a'r hyfforddiant ymarferol a fydd yn ein helpu ar ein taith ddatgarboneiddio yn hanfodol. Yn y pen draw, bydd hyn yn sbarduno economi gryfach a mwy cystadleuol yng Nghymru drwy leihau'r bwlch sgiliau, drwy hybu swyddi da, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. I'r perwyl hwnnw, ym mis Hydref 2023, lansiwyd ymgynghoriad sgiliau sector sero net, a oedd yn gyfle i gryfhau ein dealltwriaeth o'r sefyllfa sgiliau a'r heriau sgiliau cyfredol ym mhob sector allyriadau yng Nghymru, gyda sgiliau adeiladu yn thema amlwg yn yr ymgynghoriad hwnnw. A bydd yr ymgynghoriad yn helpu i lywio cynlluniau sgiliau sector, a fydd yn caniatáu i gynlluniau a pholisi symud i'r blaen, i ysgogi a chreu gweithlu'r dyfodol. Ond mae honno'n dasg gymhleth, ac mae angen dull partneriaeth. Cyffyrddodd Joyce Watson â'r rhaglen cyfrif dysgu personol. Rydym wedi buddsoddi £30 miliwn yn honno, i helpu, fel y dywedodd, i gyflogi pobl i uwchsgilio ac ailsgilio. Mae rhan o hynny'n cynnwys buddsoddiad o £3.5 miliwn i gau'r union fylchau sgiliau sero net hynny mewn adeiladu, mewn ynni, mewn gweithgynhyrchu a pheirianneg. Ac mae'r amod cap cyflog bellach wedi'i ddileu ar gyfer yr elfen honno er mwyn caniatáu i fwy o bobl gael mynediad at y sgiliau a'r cymwysterau sero net gwerthfawr hynny. Rydym wedi creu elfen sgiliau sero net benodol yn ein rhaglenni sgiliau hyblyg, eto i helpu cyflogwyr i uwchsgilio eu staff er mwyn diwallu anghenion y dyfodol.
Yn ei sylwadau terfynol, nododd Joyce Watson rai materion penodol iawn y byddwn yn hapus iawn i fynd i'r afael â nhw. Yn yr amser sydd ar gael heddiw, ni fu'n bosibl gwneud hynny'n fanwl, ond rwy'n hapus iawn i ysgrifennu ati ynghylch y materion hynny yn dilyn y ddadl, ac rwy'n hapus iawn i osod copi o fy ymateb ar y cofnod ar gyfer Aelodau eraill y Senedd.
Diolch i Joyce Watson a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:16.