Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/05/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn, a chyn inni gychwyn, fe wnaf i groesawu plant ysgol Aberaeron i'r oriel gyhoeddus heddiw. Felly, croeso i chi, blant ysgol Aberaeron. A'r eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn gyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Diogelwch Tomenni Glo

1. Beth yw cynllun y Llywodraeth ar gyfer gwneud tomenni glo categori C a D yn ddiogel yn Nwyrain De Cymru? OQ61055

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol yn niogelwch tomenni glo, gan gyflwyno trefn arolygu a monitro reolaidd a thrwy ddarparu £44.4 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw ers 2022. Byddwn yn moderneiddio ein deddfwriaeth drwy’r Bil tomenni nas defnyddir newydd, sydd i’w gyflwyno i'r Senedd yn yr hydref.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Mae diogelwch tomenni glo yn broblem enfawr yn fy rhanbarth i oherwydd treftadaeth y diwydiannau trwm. Mae’n destun gofid na wnaeth Llywodraeth San Steffan, o dan reolaeth y Torïaid a Llafur, erioed mo'r ardaloedd hyn yn ddiogel i’n cymunedau pan gawsant gyfle i wneud hynny. Mae cynnig wedi'i wneud i gloddio am lo mewn rhai o'r tomenni yn hen lofa Bedwas a'u hadfer yn y broses. Fodd bynnag, nid yw'r domen categori D sydd agosaf at gartrefi pobl—yn llythrennol y tu allan i erddi cefn rhes hir o gartrefi—yn cael ei chyffwrdd. Mae'n debyg fod y domen hon mewn perchnogaeth breifat. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi nad perchnogaeth ar dir a ddylai fod y prif bryder o ran gwarantu diogelwch y bobl rydym yn eu cynrychioli? Sut mae’r Llywodraeth yn gweithio i oresgyn rhwystrau cyfreithiol er lles ein hen gymunedau glofaol, a sut mae’r Llywodraeth yn sicrhau mai diogelwch ac nid elw sy’n llywio unrhyw waith adfer a wneir yn ein cymunedau?

Ie, diolch yn fawr iawn. Felly, mae set gymhleth o bethau i’w trafod yma. Felly, caiff y gwaith o gategoreiddio tomenni ei wneud drwy'r drefn arolygu. Gallaf roi sicrwydd llwyr i chi nad yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth pwy sy’n berchen ar y domen honno. Un o’r pethau y bydd y Bil a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yr hydref hwn ac yn cael ei basio, gobeithio—byddwn yn mynd drwy'r broses a byddwn yn cael trafodaethau trylwyr, rwy'n siŵr—un o'r pethau y mae'r Bil hwnnw'n cynnig eu gwneud yw sefydlu awdurdod goruchwylio ar gyfer tomenni nas defnyddir, nid tomenni glo yn unig, ond pob tomen fwynau—mae cryn dipyn o domenni gwahanol yng Nghymru—ac fe fydd yn ddall i berchnogaeth ar y tomenni hynny. Bydd yn drefn ar gyfer tomenni nas defnyddir.

Mae trefn wahanol ar gyfer mwyngloddio parhaus. Un o'r pethau mawr y bydd yn rhaid i ni eu gwneud pan fyddwn yn cyflwyno'r Bil yw sicrhau bod y cyfundrefnau'n gyson fel nad oes unrhyw un—maddeuwch y mwyseirio gwan—yn llithro drwy'r bylchau rhyngddynt, a bod y Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli 1954, sy'n rheoli'r gweithrediadau mwyngloddio presennol, yn cydblethu'n dda â'r gwaith ar domenni nas defnyddir. A bydd y cwestiwn ynghylch ar ba bwynt y bydd pobl yn cyfnewid rhwng y naill neu'r llall yn un o'r pethau y bydd y Bil yn ymdrin â nhw. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau y bydd yn ddall i berchnogaeth ac ati.

O ran adfer, mae gennym ffordd bell iawn i fynd o ran rhaglen adfer. Mae rhai tomenni, wrth gwrs, wedi cael eu hadfer yng Nghymru, ond dim llawer. Rydym wedi cael trafodaethau cadarn gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'u cyfraniad. Rydym wedi gofyn iddynt gyfrannu £20 miliwn at y drefn arolygu a chynnal a chadw ar hyn o bryd ac i gyfrannu at astudiaeth o’r hyn y byddai angen i ni ei wneud yn y dyfodol, ac yn anffodus, maent wedi gwrthod gwneud hynny. Credaf ei bod yn amlwg yn rhwymedigaeth foesol ar Lywodraeth y DU i gynorthwyo’r Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru i helpu ein pobl i ddod i delerau â’u treftadaeth ddiwydiannol. Mae gennym dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog wrth gwrs, ond mae nifer fawr o faterion eraill ynghlwm wrth hyn. Ac mae oddeutu 40 y cant o’r diwydiant mwyngloddio blaenorol yn y DU, ond rydym yn 5 y cant o’r boblogaeth, ac rydym yn cael 5 y cant o’r gyllideb. Ymddengys i mi fod rheidrwydd moesol clir y dylai Llywodraeth y DU ein cynorthwyo i ddod i delerau â’r dreftadaeth honno.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cynrychioli llawer o bobl sy'n byw ger tomenni glo, ac a dweud y gwir, mae llawer o'r cymunedau'n byw mewn ofn a phryder parhaus. Yn y pen draw, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddiogelwch tomenni glo, ac mae wedi cael miliynau o bunnoedd, fel y dywedoch chi, gan Lywodraeth Geidwadol y DU i fynd i’r afael â’r mater hwn. Ac rwy’n teimlo bod angen inni weld y Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth ar fyrder i sefydlu corff newydd a fyddai wedyn yn cyflawni gwaith adfer ar domenni nas defnyddir, mwyngloddiau brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i weithio gyda Llywodraeth newydd ar y gwaith pwysig hwn, a daeth yn amlwg fod ychydig dros £44 miliwn wedi’i ddarparu ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo gan Lywodraeth Cymru rhwng 2022 a 2025, ond eto, hyd y gwn i, nid oes unrhyw gynlluniau wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyllid ar ôl 2025. Rwy’n derbyn eich bod newydd ymateb i’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru, Peredur Owen Griffiths, ond hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, beth sy’n digwydd pan fydd 2025 yn cyrraedd a’r cyllid yn dod i ben. A fydd pecyn newydd o fesurau'n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru? Diolch.

Wel, credaf eich bod yn dangos camddealltwriaeth sylfaenol o sut mae’r Llywodraeth yn pennu ei chyllidebau, a dweud y gwir. Byddwn yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth yn yr hydref, fel rwyf newydd ei ddweud. Nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cyfrannu at hynny mewn unrhyw ffordd, sy’n warthus, yn fy marn i. Ni chredaf y dylai’r cymunedau rydych yn eu cynrychioli, Natasha Asghar, fod yn pryderu am y sefyllfa. Ni yw’r wlad gyntaf yn y DU, y Llywodraeth gyntaf yn y DU, i gyhoeddi lleoliadau tomenni categori A, B a R—gwnaethom hynny yn ôl ym mis Mawrth. Roeddem eisoes wedi cyhoeddi'r tomenni C a D. Mae hynny'n fwy o wybodaeth nag a fyddai gan unrhyw un arall yn unrhyw le arall yn y DU. Mae'r tomenni hynny o dan drefn archwilio a chynnal a chadw. Nid ydynt yn cael eu hadfer, gan y byddai hynny'n costio cannoedd o filiynau o bunnoedd, ac fel yr esboniais wrth ateb Peredur, mae gwir angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei rhwymedigaeth foesol. Nid oes unrhyw ffordd ddichonadwy y dylai Llywodraeth ar gyfer 5 y cant o boblogaeth y DU fod yn ymdrin â 40 y cant o’r dreftadaeth ddiwydiannol.

13:35

Credaf y dylem wneud ymdrech i roi sicrwydd i bobl ym Medwas nad yw categori D o reidrwydd yn golygu risg uniongyrchol, a bod y domen yn destun, gan ei bod yn gategori D, trefn arolygu fisol drylwyr iawn. Dyna'r cyfan rwyf am ei ddweud ynglŷn â Bedwas, gan y gwn y gallai fod gan y Gweinidog, yn y dyfodol, rôl gyfryngu yn y broses gynllunio. Ond gofynnaf yn fwy cyffredinol: mae’n rhaid inni ddweud mai anaml y bydd cyfleoedd i adfer yn codi, a phan fyddant yn codi, mae angen i ni eu hystyried gyda meddwl agored, hyd yn oed os ydynt yn dod o’r sector preifat, ar yr amod, a tybed a fyddai'n cytuno, eu bod yn destun yr un broses gynllunio drwyadl ag y byddai cais gan y sector cyhoeddus?

Byddwn, yn sicr. Mae'r system gynllunio yn ddall i p'un a yw'r cais gan unigolyn o'r sector cyhoeddus neu breifat. Nid wyf am wneud sylw ar unrhyw gais cynllunio unigol, ond yn gyffredinol, mae'r system gynllunio yn ddall i hynny, a byddem wrth gwrs yn disgwyl i unrhyw gais cynllunio a gyflwynir gydymffurfio â’r holl gyfundrefnau iechyd a diogelwch a hirhoedledd yr ydym yn eu disgwyl, a hefyd i gydymffurfio â holl bolisïau’r Llywodraeth, fel yr amlinellir yn 'Cymru’r Dyfodol' a 'Polisi Cynllunio Cymru'. Dyna'r un rhwystr i bawb sy’n cyflwyno ateb o’r fath. Rydym hefyd yn barod i weithio gydag unrhyw un sydd ag ateb posibl, ond wrth gwrs, byddai'n rhaid iddynt fodloni holl ofynion y gyfundrefn.

A gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar y gwaith gofalus a manwl iawn a wnaeth er mwyn gallu rhoi gwybod i drigolion Dwyrain De Cymru am leoliad y tomenni glo categori C a D hynny? A all gadarnhau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi torri ei ymrwymiad i fod yn un o gyd-lofnodwyr y llythyr i roi gwybod i'r trigolion lleol am leoliad y tomenni hynny? Pryd mae'n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi lleoliad y tomenni yng nghategorïau A a B? A beth yw ei hasesiad o'r posibilrwydd y gellir sicrhau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyflawni ei gyfrifoldebau ar yr adeg honno?

Diolch yn fawr, Mark Drakeford. Buom yn gweithio'n galed iawn gyda'n gilydd ar gyfres gymhleth iawn o gynigion. Roedd yn bwysig iawn inni fod yn gwbl fanwl gywir wrth ryddhau'r wybodaeth honno, fel y cofiwch rwy’n siŵr. Fe aethom drwy broses hir o wirio cywirdeb y wybodaeth honno, gan ein bod yn awyddus iawn i sicrhau bod cymunedau’n cael y wybodaeth gywir a bod ganddynt y ddealltwriaeth gywir o ystyr y wybodaeth honno, a’r hyn y dylent ei wneud yn ei chylch, a chredaf fod y broses honno wedi mynd yn dda iawn yn y pen draw. Yn anffodus, nid oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon llofnodi’r llythyr hwnnw. Rwyf wedi cael cyfarfod ag ef ers hynny. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfarfod yn ymwneud â'i ddealltwriaeth ef o sut y digwyddodd hynny a fy nealltwriaeth innau, a oedd yn hollol wahanol. Roedd gennyf gyfres o e-byst y bu modd i mi eu defnyddio fel tystiolaeth o fy nealltwriaeth i o sut y digwyddodd hynny. Mewn gwirionedd, rydym newydd gyhoeddi lleoliadau'r tomenni categori A, B a R ym mis Mawrth. Gwnaed hynny gan Lywodraeth Cymru; ni chafodd ei wneud ar y cyd.

Adeiladu Tai

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am adeiladu tai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61051

Diolch, Cefin. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r cyflenwad tai, gan sicrhau bod gan bobl gartrefi sy’n diwallu eu hanghenion nawr ac yn y dyfodol. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol. Mae cymorth ar gyfer tai'r farchnad agored hefyd yn rhan bwysig o'n pecyn cymorth tai.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddiddorol eich bod chi'n sôn am adeiladu tai, achos dwi'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol iawn fod nifer o ddatblygiadau tai yn nalgylchoedd afonydd megis Cleddau, Wysg, Teifi a Thywi wedi eu rhoi ar stop o ganlyniad i'r rheoliadau ffosffadau. Rŷn ni, wrth gwrs, i gyd yn cefnogi'r angen am afonydd glân, dilygredd, ond mae'n amlwg bod y rheoliadau hyn, a'r amwyster o'u hamgylch nhw, yn cael effaith fawr ar allu awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd, i wireddu nifer o gynlluniau pwysig, fel adeiladu tai fforddiadwy—roeddech chi'n sôn amdanyn nhw—a chynlluniau datblygu economaidd. Rwy'n ymwybodol bod nifer o gyfarfodydd wedi bod rhwng y Llywodraeth a rhanddeiliaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf i drafod y ffordd ymlaen, ond mae'r moratoriwm presennol yn parhau i fod yn rhwystredigaeth i gymaint o wahanol bobl. A gaf i ofyn, felly, am ddiweddariad ar y cynnydd sydd yn cael ei wneud ynglŷn â'r mater yma, er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng ein cyfrifoldebau amgylcheddol ni a'n huchelgais i ddatblygu yn yr ardaloedd hyn? A phryd gallwn ni ddisgwyl i'r moratoriwm ddod i ben?

13:40

Diolch yn fawr iawn am hynny. Mae honno’n sefyllfa gymhleth iawn yn wir. Mewn gwirionedd, rydym wedi gallu gweithio hyd at lefel safleoedd unigol ledled Cymru i ddeall effaith lefelau ffosffad ar bob safle yn yr ardal gyfagos, ac i ble y gallai'r carthion o'r tai newydd sy'n cael eu hadeiladu fynd, sut y byddent yn cael eu trin ac yn y blaen, a pha effaith y byddai hynny’n ei chael ar lefelau ffosffad yn y gwahanol afonydd sydd gennym yng Nghymru. Mewn rhai safleoedd yng Nghymru, rydym wedi gallu rhyddhau'r safleoedd gan ein bod wedi dod o hyd i atebion sydd wedi ein galluogi i wneud hynny, ond nid yw hynny'n wir ym mhobman. Rhoddodd y cyn-Brif Weinidog broses uwchgynhadledd ar waith, fel y’i gelwir, lle down ynghyd â’r holl randdeiliaid sy’n bobl sy’n cyfrannu at ffosffadau yn ein cymdeithas. Mae'n rhyfedd iawn yng Nghymru, gan fod ffosffadau mewn gwirionedd yn eithaf prin yn y rhan fwyaf o leoedd yn y byd, ond yma, mae gennym lefelau uchel iawn. Felly, un o'r pethau yr hoffem yn fawr iawn eu gwneud yw darganfod ffordd i'w droi'n gynnyrch yn hytrach na gwastraff. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn a wnawn.

Ond dywedodd y cyn-Brif Weinidog yn glir iawn wrth bob sector mai’r hyn roedd yn rhaid iddynt ei wneud oedd edrych ar sut y gallent roi trefn ar eu tai eu hunain—maddeuwch y mwyseirio—a pheidio â phwyntio ar draws yr ystafell a dweud, 'Wel, mae hyn yn ymwneud â' pha randdeiliad bynnag arall a oedd yn yr ystafell. Mae honno wedi bod yn broses lwyddiannus iawn. Mae gennym gynllun gweithredu yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef. Mae wedi caniatáu inni ryddhau rhai o’r safleoedd tai eisoes, nid pob un ohonynt. Rydym yn parhau i weithio gyda’r byrddau rheoli gwella ansawdd afonydd, a’r byrddau rheoli maethynnau afonydd, mewn proses sy’n caniatáu inni ddeall beth yw’r lefelau maethynnau ym mhob un o’r afonydd, beth yw’r union broblem yn yr afon honno. Ac mae'n ystod enfawr. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r afonydd, dŵr ffo amaethyddol yw un o'r problemau gwaethaf. Nid yw hynny'n wir ym mhobman, serch hynny. Rydym wedi cyhoeddi yn ddiweddar—. Pan oeddwn yn fy rôl flaenorol, cyhoeddais ddiwedd ar yr adolygiad o'r tarddiad i'r môr o afon Teifi, er enghraifft. Y lefel llygredd uchaf yno yw gorlifoedd carthffosiaeth gyfun ac ansawdd dŵr, ond nid yw hynny’n wir ym mhobman, ac mae wedi golygu bod angen dull gweithredu manwl ar gyfer pob safle.

Felly, rwyf wedi gofyn i fy nghyd-Aelod Jack Sargeant wneud gwaith i mi yn y Llywodraeth ar gyflenwad tir, i ddod ynghyd â grŵp o randdeiliaid ledled Cymru, i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo. Rydym yn y broses o gyfnewid gwybodaeth ynglŷn â sut y gallai hynny weithio, gan ein bod, fel rhan o'r cytundeb cydweithio hefyd—. Ac rwyf wedi gweithio gyda fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian ar hyn sawl gwaith, ar sut i gynyddu’r cyflenwad tai, ac mae’r cyflenwad o dir y gallwch adeiladu tai arno wedi bod yn rhan o hynny. Rydym hefyd yn gweithio gyda phob un o'r awdurdodau cynllunio ledled Cymru ar eu cynlluniau datblygu lleol, gan ofyn iddynt adnewyddu eu hasesiadau o'r farchnad dai leol, ac mae gennym CDLlau ar gyfer pob rhan o Gymru, sy'n ddefnyddiol iawn, a gallwn gwestiynu felly ble mae'r safleoedd tai wedi'u dyrannu a beth yw'r broblem ar bob safle, fel y gallwn ddarparu'r tai mewn da bryd, a sicrhau ein bod yn adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen arnom.

Rydym yn dibynnu ar y sector preifat i ddarparu rhai cartrefi cymdeithasol, ond rydym hefyd yn adeiladu cryn dipyn ohonynt drwy ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau sy’n dal stoc dai. Ac mae'n bwysig iawn deall sut mae'r system gynllunio yn gweithio ochr yn ochr â'r system ansawdd amgylcheddol a ffosffadau, oherwydd, fel y dywedoch chi'n gwbl briodol, yr hyn rydym yn dymuno'i weld yw cydbwysedd. Nid ydym am adeiladu'r tai ar draul ein hamgylchedd; rydym am sicrhau ein bod yn byw mewn cytgord â’n hamgylchedd ac yn adeiladu’r tai y mae eu hangen arnom yn daer.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn siarad â’r diwydiant ac adeiladwyr tai yn ddiweddar, ac un o’r problemau y maent yn eu nodi o ran pam na allwn adeiladu tai yw’r diffyg sgiliau sydd ar gael ledled Cymru i ddatblygu’r cartrefi hynny. Gwn nad yw hyn yn rhan uniongyrchol o'ch portffolio, ond mae'n fater trawslywodraethol sy'n ymwneud â chael mwy o osodwyr brics, plymwyr, seiri yn y crefftau hynny fel y gallwn adeiladu cartrefi. Felly, hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith rydych chi'n ei wneud ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod y gweithlu hwnnw ar gael i ni yn y dyfodol, fel y gallwn adeiladu'r cartrefi y mae pobl Cymru eu heisiau a'u hangen.

13:45

Ie, cwestiwn da iawn, ac mae’n rhywbeth rydym wedi bod yn gweithio arno ers peth amser. Mae fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, wedi bod yn gweithio ers amser maith yn y sector adeiladu, yn ceisio sicrhau ein bod yn manteisio ar boblogaeth amrywiol iawn, yn enwedig annog mwy o fenywod i faes adeiladu. Felly, rhywbeth y mae wedi bod yn ei hyrwyddo ers peth amser.

Rwyf wedi bod yn gyfrifol am y portffolio hwn ers peth amser, er bod gennyf gymysgedd ychydig yn wahanol o bortffolios, ac rydym wedi gweithio ar draws Llywodraeth Cymru ar fater sgiliau. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r datblygwyr i sicrhau bod y model cyflogaeth sydd ganddynt yn denu pobl. Ac rwy'n falch o ddweud bod rhai o'r prif adeiladwyr tai wedi newid eu model cyflogaeth yn ddiweddar. Felly, un o'r pethau a welsom, pan ddechreuais yn y portffolio gyntaf—oddeutu chwe blynedd a hanner yn ôl—oedd cryn dipyn o bobl hunangyflogedig. Felly, byddai gennych brentisiaid heb unrhyw swyddi i fynd iddynt, dim llwybrau gyrfa ar eu cyfer ac ati. Felly, rwyf wedi gweithio'n galed gyda'r prif adeiladwyr tai i ddeall y broblem, ac i wneud iddynt weld eu bod yn creu eu problem eu hunain i ryw raddau. Ni allaf ddweud bod pob un ohonynt wedi gwneud hyn, ond mae llawer ohonynt wedi newid i fodel cyflogaeth uniongyrchol, ac mae hynny wedi helpu'n fawr.

Y peth olaf sydd wedi helpu'n fawr yw twf dulliau adeiladu modern, sy’n ffordd o gynhyrchu tai mewn ffatrïoedd. A golyga hynny y gall gweithlu llawer mwy amrywiol wneud hynny, gan ei fod ar lefel y ddaear, mae o dan do ac ati, a dim ond gyda'r darn olaf, pan fydd yr adeilad yn cael ei godi ar y safle, y byddwch chi allan ym mhob tywydd ac yn y blaen. Rydym wedi gallu sicrhau amrywiaeth yn y gweithlu. Mae’r grŵp trawsbleidiol wedi gwneud llawer o waith ar hyn hefyd, ac mae hynny wedi gweithio ledled Cymru. Ond yr hyn y mae gwir angen i ni ei wneud yw sicrhau bod gan ein pobl ifanc ddiwydiant y maent am fynd iddo, sydd â chyflogau a llwybr gyrfa addas ar eu cyfer. Nid oes diben ceisio darbwyllo pobl mai'r hyn y dylent ei wneud yw mynd i hunangyflogaeth wael iawn gyda chyfleoedd gyrfa annigonol. Felly, mae'n ymwneud â’r ffordd y gweithiwn gyda’r diwydiant, yn ogystal â’r sector sgiliau yng Nghymru.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n dda clywed am y grŵp sy’n mynd i gael ei arwain gan Jack Sargeant. Bydd yn cynnwys pobl o bob rhan o Gymru ac yn drawsbleidiol, gobeithio, gan y credaf fod llawer o bryder ynghylch y defnydd o dir a sut y gallwn ddatblygu hynny. Felly, edrychaf ymlaen at ragor o fanylion am hynny. Diolch i Cefin am godi’r mater.

Un mater roeddwn am ganolbwyntio arno oedd digartrefedd—maent oll yn gysylltiedig—ac yn enwedig digartrefedd gwledig, a all fod yn fater anweledig weithiau, un nad yw fel arfer yn cael ei gynnwys, ac sy'n dod yn fwy amlwg, o ystyried yr heriau yn ein hardaloedd gwledig. Ym Mhowys, er enghraifft, roedd 59 o bob 10,000 o aelwydydd yn ddigartref yn anfwriadol y llynedd, sy’n gynnydd o 49 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ac mae pob un ohonynt yn gysylltiedig â diffyg tai fforddiadwy. Gan gyfeirio at y Papur Gwyn ar ddigartrefedd hefyd, nid yw’n sôn o gwbl am ddigartrefedd gwledig, dim ond archwilio'r materion sy'n ymwneud â digartrefedd. Ond mae'n fater unigryw iawn. Felly, tybed pa ystyriaeth a roddwyd gennych i fynd i'r afael â heriau penodol digartrefedd gwledig, fel rhan o'ch strategaeth ddigartrefedd gyffredinol. Diolch yn fawr iawn.

Ie, diolch. Ac rydych chi'n llygad eich lle, wrth gwrs, mae cymunedau gwahanol yn wynebu heriau gwahanol o ran dod o hyd i gartref saff a diogel i bawb, ac mae'n bwysig iawn dod o hyd i'r cartref iawn. Mae'n ymwneud â mwy na phedair wal a tho yn unig. Dyna pam fy mod yn falch iawn o allu cynyddu’r grant cymorth tai, gan fod llawer o’r gwaith y mae’r gweithwyr cymorth tai yn ei wneud yn ymwneud â chadw pobl yn eu cartrefi yn y lle cyntaf. Mae’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd newydd y byddwn yn ei chyflwyno yn edrych i raddau helaeth ar sut y gallwn sicrhau bod pobl yn aros mewn tai cynaliadwy ac nad ydynt yn eu colli am wahanol resymau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw diweddar, sydd wedi achosi—. Mae'n peri i deuluoedd chwalu a phethau eraill sy'n achosi digartrefedd.

Hefyd, mae gennym broblemau gwirioneddol mewn rhai rhannau o Gymru yn ymwneud â chymunedau anghynaliadwy a chymysgedd anghynaliadwy o ail gartrefi, tai haf, beth bynnag. A'r hyn y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld yw cymuned gynaliadwy gyda chymysgedd da o ddeiliadaethau. Rydym am i’r twristiaid ddod, ond maent yn dymuno dod i bentref bywiog lle mae’r siop a’r dafarn ar agor. Dim ond os oes gennych gymunedau lleol cynaliadwy y bydd hynny’n digwydd. Felly, rydym yn cyflawni nifer o gynlluniau peilot ar hynny.

Mae gennym bobl a elwir yn swyddogion galluogi tai gwledig yn gweithio ar y prosiect hwnnw ac eraill. Rydym yn eu noddi yn y gwahanol awdurdodau ledled Cymru lle mae ardaloedd gwledig, sef y rhan fwyaf ohonynt mewn gwirionedd, ac rydym yn edrych yn benodol ar faterion yn ymwneud â phethau sy’n achosi digartrefedd gwledig neu ansicrwydd tai mewn ardaloedd gwledig, sy'n ddwy ochr i'r un geiniog. Rydym hefyd yn edrych yn agos iawn ar sut y gallwn ddod â mwy o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd. Rwy'n pwyso'n galed iawn ar ein hawdurdodau lleol i ymuno â Chynllun Lesio Cymru. Mae gennym rai awdurdodau lleol, ac mae Powys yn un ohonynt, mae arnaf ofn, sydd wedi ymrwymo i'r cynllun a heb wneud dim, felly hoffem—. Byddaf yn ymweld â phob un ohonynt ac yn sicrhau fy mod yn deall beth yw'r problemau, gan ei bod yn bwysig iawn ein bod yn manteisio ar bob arf, fel y gallwn gael y tai sydd eu hangen arnom.

Ond yn y pen draw, rydych yn llygad eich lle, mae hyn yn ymwneud â chyflenwad, onid yw? Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r tir, felly sicrhau bod gan y cynlluniau datblygu lleol ddyraniadau tai cywir, fod y tir hwnnw ar gael, y gellir ei ddatblygu, y gallwn wneud hynny mewn ffordd nad yw'n dinistrio ein hamgylchedd ar yr un pryd, a'n bod yn codi'r tai hynny. Felly, rwy’n gweithio’n galed iawn gyda’r awdurdodau lleol ledled Cymru i ddeall beth yw’r rhwystrau. Mae'r gwaith y bydd Jack yn ei wneud yn ymwneud â chyflenwad tir a beth yw'r rhwystrau i ni, a byddwn yn gweithio hyd at lefel safle yn yr awdurdodau lleol i ddeall beth yw'r broblem ar y safle hwn: mae wedi'i glustnodi ar gyfer—nid wyf yn gwybod; rhowch rif—30 o dai, ble maent, beth sy'n digwydd? Mae'n rhaid ichi weithio ar y lefel honno o fanylder.

Ac yna'r peth olaf yr hoffwn ei grybwyll yw ein bod yn edrych yn agos iawn ar ddod ag adeiladau uwchben siopau, er enghraifft, yn ôl i ddefnydd. Gwelais enghraifft wych o hynny yng Nghasnewydd, lle mae'r gwaith o adfywio canol y dref a wnaed drwy’r rhan o fy mhortffolio sy'n cynnwys adfywio canol trefi wedi dod â’r holl eiddo uwchben siopau yn ôl i ddefnydd. Ac wrth gwrs, mae hynny ynddo'i hun yn dod ag ymwelwyr i'r siopau, ac felly, mae canol y dref neu'r ddinas yn llawer mwy bywiog yn sgil hynny. Mae llawer o leoedd yng nghefn gwlad Cymru lle byddai’r math hwnnw o ddatblygiad yn helpu tref fechan i gael mwy o ymwelwyr. Felly, rydym yn defnyddio nifer o ysgogiadau i wneud hynny.

13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 oedd y newid mwyaf i sector rhentu preifat Cymru ers degawdau. Roedd y memorandwm esboniadol ar gyfer Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) dilynol Llywodraeth Cymru yn nodi:

'Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rôl bwysig wrth ddiwallu anghenion pobl Cymru o ran tai.'

a bod

'Llywodraeth Cymru am sicrhau'r cydbwysedd iawn o gefnogaeth a rheoleiddio'

yn y sector rhentu preifat. Yn y cyd-destun hwn, cyhoeddwyd 'Gwerthusiad o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: adroddiad Cam 1' yr wythnos diwethaf. Cafwyd 676 o ymatebion i’r arolwg o landlordiaid ac asiantau rheoli, gyda 539 ohonynt wedi'u cwblhau'n llawn, a 479 ohonynt yn nodi effaith negyddol ar y newidiadau i landlordiaid. Un cwestiwn a ofynnwyd i ymatebwyr i’r gwerthusiad oedd:

'Pa effeithiau negyddol fydd y newidiadau o dan y Ddeddf yn eu cael arnoch fel landlord/asiant rheoli?'

Dywedodd 44 y cant o’r holl ymatebwyr a nododd effaith negyddol i’r arolwg fod y Ddeddf yn gorfodi landlordiaid i werthu a gadael y sector.

Fel y dywedais yn ystod proses ddeddfwriaethol Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), dyma y rhybuddiodd ARLA Propertymark, y corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer asiantaethau gosod tai, a Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl y byddai’n digwydd. Felly, o ystyried eich geiriau yn 2020 eich bod yn dymuno sicrhau’r cydbwysedd cywir o gymorth a rheoleiddio, pa gamau, os o gwbl, y byddwch yn eu cymryd nawr i ailagor y ddeddfwriaeth i sicrhau bod y Ddeddf yn rhoi’r gorau i yrru landlordiaid da o’r sector rhentu preifat?

Diolch am hynny, Mark. Mae'n ddiddorol iawn, yr adroddiad gwerthuso, a byddwn yn edrych arno'n ofalus iawn, wrth gwrs. Ond mae'n ddiddorol iawn nad yw'n cael ei gadarnhau gan yr ystadegau a gawn drwy Rhentu Doeth Cymru, ac mae angen inni ddadansoddi'r ystadegau hynny. Felly, yr hyn sy'n ymddangos—. Mae gennym nifer fawr o landlordiaid yn gadael y sector, ond mae gennym nifer fawr iawn o gofrestriadau hefyd. Nid yw'n ymddangos bod gennym golled net. Ymddengys—ac mae'n anecdotaidd, mae arnaf ofn, hyd nes y byddwn yn dadansoddi'r holl ystadegau—fod rhai landlordiaid yn gwerthu, ond mae'r eiddo'n cael eu prynu gan landlordiaid eraill. Felly, mae'n ddiddorol, ac rydym yn ceisio dadansoddi'r ystadegau. Rydym yn cadw cofrestr o nifer y landlordiaid a nifer yr eiddo sydd ar gael i'w rhentu, ac nid oes llawer o newid yn hynny. Felly, rwyf wedi bod yn siarad â'r swyddogion ynghylch sut y gallwn ddadansoddi'r ystadegau hynny. Nid ydym am yrru landlordiaid da o Gymru. Diben y Ddeddf yw gyrru landlordiaid drwg o Gymru a sicrhau bod y tai y mae pobl yn eu rhentu yn addas i bobl fyw ynddynt. Ni chredaf fod hynny'n ormod i'w ofyn. Credaf y dylai eich tŷ fod yn addas i bobl fyw ynddo. Yr hyn a olygwn wrth hynny yw bod ganddo dystysgrifau trydanol, mae ganddo fonitorau carbon monocsid, mae ganddo ddŵr addas, nid oes llwydni ynddo, mae ganddo'r holl bethau y byddech chi a minnau'n eu disgwyl mewn cartref sy'n addas i bobl fyw ynddo. Ni chredaf fod gan landlordiaid da broblem gyda chyrraedd y safon honno. Mae hefyd yn diogelu tenantiaid rhag cael eu troi allan mewn rhai amgylchiadau, ac rwy'n falch iawn o ddweud ei fod yn rhoi diogelwch deiliadaeth iddynt am gyfnod llawer hwy nag unrhyw wlad arall yn y DU. Felly, credaf ei fod wedi gwneud ei waith. Mae'n ddyddiau cynnar. Fe gymerodd amser maith i ni ei roi ar waith, a dim ond megis dechrau y mae'r gwaith o'i gyflwyno, ond mae arnaf ofn nad ydym yn deall yr ystadegau'n iawn o hyd, ond nid ydynt yn dangos colled net o landlordiaid nac eiddo i'w rentu yng Nghymru.

13:55

Wel, rwyf ond newydd ddychwelyd i'r rôl hon, ond byddaf yn ymgysylltu â'r sector i gael mwy o fanylder ynghylch yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, rydych yn llygad eich lle, mae'n rhaid i dai fod yn addas i fyw ynddynt, a dyna'r pwynt a wneuthum drwy gydol yr holl waith ar y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch lle dylai'r ffocws fod. Ond gan aros gyda’r sector rhentu preifat, daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar renti teg a’r hawl i dai digonol i ben ym mis Medi. Rhwng mis Ionawr 2015 a mis Mehefin 2022, cododd prisiau rhentu preifat yng Nghymru 8 y cant, o gymharu â 12.6 y cant ar draws gweddill y DU. Er gwaethaf hyn, deellir fod Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried cyflwyno mesurau rheoli rhenti. Dengys tystiolaeth ymchwil y gall polisïau rheoli rhenti arwain at lai o gyflenwad yn y farchnad ac ystod o broblemau eraill gyda thai a'r farchnad lafur. Ers cyflwyno mesurau rheoli rhenti yn yr Alban ddwy flynedd yn ôl, mae rhenti cyfartalog ar denantiaethau newydd wedi cynyddu bron i 14 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, wrth i renti ar denantiaethau presennol gael eu rhewi ac yna eu capio. Bu gostyngiad hefyd o bron i 20 y cant yn argaeledd eiddo rhent preifat yn yr Alban dros y flwyddyn ddiwethaf. Nododd arolwg barn diweddar gan YouGov—

Rwyf am eich atgoffa, Mark Isherwood, o’r amser rydych chi'n ei gymryd i ofyn eich cwestiynau. Rydych ar un funud 20 eiliad ar hyn o bryd, ac fe wneuthum ganiatáu dros un funud a hanner ar gyfer eich cwestiwn cyntaf. Felly, os gallwch fod mor gryno â phosibl gyda'ch cwestiynau, byddai hynny o gymorth. Ac mae hynny'n wir i chi a phob Aelod arall hefyd. Diolch.

Iawn. Wel, yn hytrach nag ymdrin â’r symptomau’n unig felly, pa bolisïau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyflenwad o dai rhent, gan mai prinder tai rhent yw’r rheswm, neu’r prif reswm, pam fod prisiau rhenti wedi cynyddu?

Iawn, felly, mewn gwirionedd, Papur Gwyrdd oedd y papur a gyflwynwyd gennym, felly nid oedd yn bapur ymgynghori, roedd yn alwad am dystiolaeth. Cawsom y dystiolaeth honno. Rydym bellach yn gweithio ar gynhyrchu Papur Gwyn, sydd i'w gyhoeddi ym mis Gorffennaf fel rhan o'n cytundeb cydweithio. Mae'r gwaith hwnnw wedi hen ddechrau. Rydym yn gobeithio cyhoeddi'r Papur Gwyn hwnnw cyn diwedd tymor yr haf eleni. Bydd hwnnw’n ymgynghori ar ystod eang o faterion, gan gynnwys yr hawl i dai digonol a chynigion ar gyfer rhent, neu renti teg. Bydd amrywiaeth o opsiynau yno, ac edrychaf ymlaen at weld beth yw'r ymatebion.

Yr hyn sy'n eithaf clir yw bod prisiau yn y sector rhentu wedi codi'n esbonyddol. Credaf ei bod yn deg i’r Ceidwadwyr ddeall bod hynny wedi ei achosi’n rhannol gan y cyfraddau morgeisi cynyddol y mae pobl yn eu hwynebu, sydd wedi’u hachosi, mae arnaf ofn, gan ddiffyg rheolaeth y Ceidwadwyr dros economi’r Deyrnas Unedig. Rydym wedi gweld cryn dipyn o landlordiaid yn cael eu gyrru allan gan gostau morgeisi uwch, nid gan unrhyw beth arall, ac mewn gwirionedd, fel y dywedais wrthych, rydym yn ceisio dadansoddi'r ystadegau ar gyfer yr hyn sy'n digwydd yn y cyswllt hwnnw. Rwy’n amau ​​​​bod rhywfaint o gydgrynhoi'n digwydd yn y farchnad, nad yw’n beth da, oherwydd fel arfer, mae gennym nifer fawr o landlordiaid yng Nghymru sydd ag un tŷ arall. Felly, bydd yn ddiddorol gweld a fydd hynny'n digwydd. Ond y gwir amdani yw bod gennym nifer fawr o bobl yn gwario cyfran enfawr o’u hincwm ar eu rhent, yn methu cynilo ar gyfer unrhyw beth mwy parhaol ac yn methu dechrau byw eu bywydau mewn gwirionedd. Ac mae angen inni wneud rhywbeth am hynny. Rydym yn mynd i ymgynghori'n eang ynghylch beth yw'r ffordd orau o wneud hynny. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried enghreifftiau o fannau eraill yn y byd, gan gynnwys yr Alban, ond llawer o leoedd eraill, a byddaf yn falch iawn o gyhoeddi'r Papur Gwyn hwnnw a gweld lle rydym yn cyrraedd o ran sicrhau ateb yng Nghymru i broblem gynyddol mewn perthynas ag eiddo rhent.

Diolch. Wel, wrth gwrs, mae cyrff byd-eang yn cydnabod yr argyfwng costau byw byd-eang, a dim ond unigolyn ynysig iawn a fyddai’n awgrymu ei bod rywsut yn broblem unigryw i’r DU. Ond maes arall lle disgwylir i bolisïau tai Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol yw eu darpariaeth i awdurdodau cynllunio lleol wneud diwygiadau lleol i’r system gynllunio drwy gyfarwyddyd erthygl 4, gan ganiatáu iddynt ystyried a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth i'r llall ac i reoli nifer yr ail gartrefi ychwanegol a llety gosod tymor byr mewn ardal. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly i’r asesiad a wnaed gan ymgynghoriaeth cynllunio a datblygu Lichfields, y tynnwyd fy sylw ato gan breswylydd parhaol yng Ngwynedd, a nododd,

'Er ein bod yn cydnabod y bwriadau y tu ôl i'r cynigion, rydym yn cwestiynu i ba raddau y byddai Cyfarwyddiadau Erthygl 4, fel yr un a gynigir yng Ngwynedd, yn effeithiol o ran gwella fforddiadwyedd tai i bobl leol neu gadw siaradwyr Cymraeg. Er bod pwysau lleol mewn rhai ardaloedd, mae ffocws ar dwristiaid ac ail gartrefi yn tynnu sylw oddi ar yr angen ehangach i ddarparu mwy o dai'r farchnad agored a thai fforddiadwy ledled Cymru'?

14:00

Ni chlywais ddiwedd hynny, mae arnaf ofn, gan fod yna sŵn cefndirol, ond rwy'n meddwl fy mod wedi cael yr ystyr. Felly, yr hyn rydym yn edrych arno yno, Mark, yw ffordd o sicrhau bod cyflenwad o dai lleol, fel bod pobl sydd angen byw a gweithio yn yr ardal leol yn gallu cael y tai hynny. Ac fel y dywedais yn gynharach, nid ydym yn ceisio gyrru pawb sydd ag ail gartref allan neu sydd am ddod ar wyliau, ond mae'r bobl hynny eisiau dod i gymunedau cynaliadwy lle gall pobl leol fyw a gweithio, a lle gall y siop leol a'r dafarn leol aros yn fywiog am nad ydynt yn wynebu cyfnodau hir pan nad oes neb yno. Mae ardaloedd yng Nghymru, ac mae un ohonynt yn fy etholaeth fy hun, lle nad oes gan strydoedd cyfan unrhyw un yn byw arnynt fel preswylydd parhaol; pentrefi cyfan mewn rhai rhannau o Gymru, ac nid yw hynny'n gynaliadwy. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ryw ddull o sicrhau bod gennym gymunedau cynaliadwy cymysg yng Nghymru, lle mae croeso i bawb a lle gall pobl leol fyw a gweithio. Ac ni allwch redeg busnes twristiaeth oni bai bod gennych bobl leol i fyw a gweithio ynddo. Felly, mae'n rhaid inni ddod o hyd i fesurau i wneud hynny. Yn anffodus, nid yw'r farchnad dai ym Mhrydain yn gweithio yn y ffordd honno, felly rydym yn gweithio gyda chynghorau cydweithredol ledled Cymru i geisio dod o hyd i fecanweithiau i ymyrryd yn y farchnad honno, oherwydd effaith y farchnad honno yw gyrru pobl leol allan o'r pentrefi y cawsant eu magu ynddynt.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae safon rhent a thâl gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol yn ei blwyddyn olaf ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad hyd yma am y safon nesaf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod incwm landlordiaid cymdeithasol yn dod o renti yn bennaf ac mae hyn yn ddarostyngedig i safon rhent a thâl gwasanaeth Llywodraeth Cymru, sy'n cyfyngu ar gynnydd mewn rhenti. Ar gyfer 2024-25, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm y cynnydd rhent ar 6.7 y cant, ar ôl ei osod ar 6.5 y cant yn flaenorol. Mae disgwyl i'r safon pum mlynedd ddod i ben yn 2025 ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am ei holynydd eto. Felly, yn syml: pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r safon nesaf gael ei chyhoeddi?

Diolch am y cwestiwn. Ar hyn o bryd rydym yn gwneud cryn dipyn o waith gyda'r sector cyfan ar sut y byddwn yn cael safon, neu'n wir a fyddwn yn cael safon; nid oes safon o'r fath gan bob man yn y DU. Mae'r safon wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni yn y gorffennol. Mae'n benderfyniad erchyll i orfod ei wneud, oherwydd eich bod yn ceisio cydbwyso, ar y naill law, incwm y landlord cymdeithasol i adeiladu'r cartrefi cymdeithasol newydd y mae cymaint o'u hangen arnom, ac maent yn defnyddio'r incwm hwnnw er mwyn benthyg yr arian i adeiladu'r cartrefi hynny—rwy'n gwybod eich bod chi'n gwybod sut mae'r farchnad yn gweithio—ac ar y llaw arall, mae gennym nifer sylweddol o bobl sy'n talu'r rhent hwnnw eu hunain, felly nid ydynt ar fudd-daliadau neu mae israniad o'u hincwm yn fudd-daliadau, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad ydynt yn cael eu gwneud yn ddigartref oherwydd codiad rhent anfforddiadwy. Felly, mae'n gydbwysedd anodd i'w daro.

Rwy'n cynnal cyfres eang o ymgynghoriadau gyda sefydliadau tenantiaid a chyda landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru bob blwyddyn, hyd yn oed pan fydd y safon rhent yn weithredol, er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'r diben. Roedd o fudd i ni pan oedd chwyddiant yn isel iawn wrth gwrs, ond cyn gynted ag y cewch chi anwadalrwydd yn y farchnad honno, mae'n rhaid ichi edrych eto ar y safonau. Felly, byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda landlordiaid ein sector i ddeall eu barn ar hynny, sut beth fyddai'r safon honno, a oes amlen y gallem ei gosod i roi sicrwydd iddynt, oherwydd dyna maent ei eisiau ac maent am allu cyllidebu dros y tymor hwy, ond ei fod yn ddigon hyblyg hefyd inni sicrhau bod tenantiaid presennol yn cael y gwasanaethau y maent eu heisiau ac nad ydynt yn cael eu haberthu er mwyn cael tenantiaid newydd i mewn i gartrefi cymdeithasol gweddus. Felly, mae'r cyfan yn fater o daro cydbwysedd, onid yw? Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn ar hynny. Nid oes gennyf amserlen ar gyfer hynny ar hyn o bryd; byddwn yn sicr yn ei chyhoeddi mewn da bryd i'r safon ddod i ben, ond mae'n waith sy'n bendant ar y gweill.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod tua 230,000 eiddo ledled Cymru wedi'u cofrestru fel tai cymdeithasol ac mae'r dystiolaeth ddiweddaraf gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru yn awgrymu bod 22 y cant o denantiaid yn teimlo nad oedd eu rhent yn fforddiadwy y llynedd. Roedd y ffigur hwn yn uwch ar gyfer tenantiaid rhwng 45 a 54 oed. Nid cynnydd rhent yw'r unig ffynhonnell o bryder i denantiaid sy'n ei chael hi'n anodd. Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd gan landlordiaid cymdeithasol fannau cymunedol neu'n cyflawni gwasanaethau ychwanegol, megis cynnal gerddi cymunedol, gallant godi tâl gwasanaeth ar wahân yn ogystal â rhent. Daeth i fy sylw fod taliadau gwasanaeth yn cynyddu i lawer o denantiaid ledled Cymru i raddau amrywiol, gyda llawer yn methu cael atebion clir ynglŷn â pam mae'r cynnydd hwn yn digwydd. Gyda 13 y cant o Gymry'n ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion a bron i draean yn mynd heb wresogi, bydd effaith cynnydd mewn taliadau gwasanaeth yn niweidiol ac i lawer, mae'n ymddangos nad oes cyfiawnhad drostynt. Felly, pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o gynnydd mewn taliadau gwasanaeth i denantiaid lleol ledled Cymru?

14:05

Mae taliadau gwasanaeth yn rhan fawr o'r drafodaeth a gawn am fforddiadwyedd. 'Beth sy'n cael ei gynnwys yn eich rhent, beth sy'n ychwanegol at eich rhent?' yw un o'r sgyrsiau a gawn. Fel rhan o'r cytundeb ar rent gyda'n landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, rydym hefyd yn negodi nifer o bethau, felly dim troi allan i ddigartrefedd yw un ohonynt, a gweithio gydag unrhyw denant sydd mewn caledi ariannol er mwyn deall natur y caledi ariannol hwnnw a sicrhau bod gennym yr holl gefnogaeth gywir ar waith yw un arall. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn deall beth yw'r amlen fforddiadwyedd i'n holl denantiaid, ac mae'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r cynghorau sy'n dal stoc dai o dan rwymedigaeth i wneud hynny. Maent wedi ymrwymo i hynny fel rhan o'r cytundeb rhentu a wnawn bob blwyddyn. Felly, mae'n gytundeb rhyngom, os mynnwch. Mae wedi gweithio hyd yn hyn. Dylai tenantiaid unigol, wrth gwrs, fynd ar drywydd hynny drwy'r broses gwynion gyda'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac rwy'n siarad â'r rheoleiddwyr hefyd, ynglŷn â sut i fesur hynny.

Gwaith arall sydd gennym ar y gweill ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn mynd rhagddo ers ychydig amser, yw'r hyn y dylai'r asesiad rheoleiddiol ei ddweud am fforddiadwyedd rhent a phrosesau cwynion fel rhan o'i asesiad cyffredinol. Unwaith eto, mae hwnnw'n waith cymhleth iawn, oherwydd mae'r asesiad rheoleiddiol hefyd yn cyfrannu at allu benthyca'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, felly mae'r holl bethau hyn yn gytbwys. Ond mae'n rhan o'r broses yr ydym ei heisiau, oherwydd nid ydym am gael asesiad rheoleiddiol sy'n dweud bod landlord cymdeithasol cofrestredig neu awdurdod sy'n dal stoc dai yn dda iawn pan fydd ei holl denantiaid yn cwyno'n groch am bwynt penodol. Felly, unwaith eto, mae'n gydbwysedd. Rydym yn gweithio ar hynny hefyd; mae'n rhan o'r amlen fforddiadwyedd.

Hefyd, os caf nodi, rydym yn gweithio ar bethau fel cynlluniau band eang. Mae fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn edrych ar gynllun band eang i denantiaid cymdeithasol i sicrhau ei fod yn fforddiadwy ac y gellir ei gaffael dros set ehangach o bobl nag unigolion, er enghraifft. Ceir cytundebau cyfleustodau ac yn y blaen y gallwn weithio arnynt, oherwydd mae fforddiadwyedd yn ymwneud â mwy na dim ond y rhent, fel rydych chi'n dweud yn gywir ddigon.

Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011

3. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011? OQ61050

Diolch am y cwestiwn. Mae Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 wedi cael ei weithredu drwy Reoliadau Adeiladu 2010. Nid yw data ar effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth yn cael ei gasglu at ddibenion rheoliadau adeiladu, ond mae'r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn cofnodi nifer y systemau chwistrellu a osodwyd mewn adeiladau lle mae tân wedi digwydd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gofyn fy nghwestiwn heddiw yn seiliedig ar brofiad etholwyr a oedd â system chwistrellu tân wedi'i gosod mewn tŷ newydd, system y cydnabuwyd ei bod yn ddiffygiol o fewn dwy flynedd wedi iddynt symud i mewn, a dim ond wrth roi gwasanaeth i'r system chwistrellu y gallwyd cadarnhau nad oedd yn gweithio. Cytunodd y datblygwr i dalu cost y gwaith cywiro gan fod fy etholwyr wedi rhoi gwybod iddynt am hyn o fewn cyfnod y warant o ddwy flynedd. Mae cyfnod y warant o ddwy flynedd yn broblem, serch hynny, oherwydd pe baent gwta fis allan ohoni, gallai fod wedi bod yn stori wahanol. Nid oedd y contractwyr gwreiddiol a osododd y system chwistrellu wedi'u cofrestru ag ardystiad FIRAS pan wnaethant ei gosod, yn ôl yr hyn a ddeallwn, ac roedd cymeradwyaeth drwy reolaeth adeiladu yn yr awdurdod lleol yn dibynnu'n llwyr ar hunanardystio, nad oedd, yn yr achos hwn, yn werth y papur y cafodd ei ysgrifennu arno, yn amlwg.

Felly, a gaf i ofyn a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried—ac nid wyf yn disgwyl iddi ddweud y gwnaiff hynny heddiw—system ardystio trydydd parti cryfach ar gyfer Cymru a fyddai'n helpu i leihau'r risg o sefyllfaoedd fel hyn? Hefyd, a yw hi'n ystyried mater gwarantau a'r warant ddwy flynedd a oedd mor anodd yn yr amgylchiadau hyn?

Diolch, Hefin. Mae hon yn set o bethau cymhleth i edrych arnynt. O ran ardystio trydydd parti, mae'r rheoliadau adeiladu yn ofynion gweithredol ac efallai y bydd nifer o ffyrdd o brofi cydymffurfiaeth. Ardystio trydydd parti yw un o'r ffyrdd o ddangos cydymffurfiaeth. Mae canllawiau statudol 'Dogfen Gymeradwy B Diogelwch Tân' yn annog defnyddio cynlluniau ardystio trydydd parti i sicrhau bod y system chwistrellu yn cael ei gosod mewn ffordd effeithiol. Gall y corff rheoli adeiladu gymryd camau gorfodi os nad ydynt wedi'u gosod yn iawn. Ond yn achos eich etholwr, maent wedi prynu tŷ lle na fyddent yn barti contractio. Mae Cymru'n gobeithio ymuno â'r cynllun ombwdsmon cartrefi newydd, a fyddai'n ymestyn y gwarantau ar gyfer tai a adeiladir o'r newydd. Rwy'n credu bod prynu tŷ a chael gwybod nad yw ond yn addas i'w ddefnyddio am ddwy flynedd yn gwbl rhyfeddol. Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn disgwyl i adeilad newydd bara ychydig hwy na dwy flynedd. Felly, mae'r ombwdsmon cartrefi newydd yn edrych ar gynllun gwarant pum mlynedd. Yn bersonol, rwy'n credu bod pum mlynedd hefyd yn amser eithaf byr i gartref newydd, ond mae'n well na dwy flynedd.

Yn y cyfamser, rwy'n credu y byddai'n rhaid i'ch etholwyr droi at gamau sifil yn ôl pob tebyg er mwyn gwneud rhywbeth am eu hamgylchiadau penodol a mynd ar ei drywydd gyda'r datblygwr. Rwy'n siŵr eich bod wedi rhoi cynnig ar y llwybrau hynny. Os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf a dweud wrthyf pwy yw'r datblygwr, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r datblygwyr, felly rwy'n fwy na pharod i weld a allaf fynd ar ei drywydd gyda nhw hefyd. Ond mae'n ymddangos yn rhyfeddol i mi, os ydych chi'n prynu tŷ newydd, na allwch ddibynnu arno i fod mewn cyflwr da ar ôl dwy flynedd.

14:10
Cartrefi Gwag

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i sicrhau bod cartrefi gwag yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu defnyddio eto? OQ61061

Diolch, Joyce. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o ymyriadau a ffrydiau ariannu i leihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys ein cynllun grant cartrefi gwag, sy'n anelu at ddod â hyd at 2,000 eiddo gwag yn hirdymor yn ôl i ddefnydd, ac sydd â chyllideb o £25 miliwn ar gyfer 2024-25.

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae 22,000 o gartrefi gwag yng Nghymru ac fel y dywedwch, mae gan Lywodraeth Cymru gynllun i ddod â'r cartrefi gwag hynny yn ôl i ddefnydd drwy grantiau. Deallaf fod y gronfa yn hygyrch i berchen-feddianwyr, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol a grwpiau tai cymunedol wneud cais amdani. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faint o grantiau sydd wedi'u dyrannu a faint o gartrefi sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd ers lansio'r cynllun ychydig dros 12 mis yn ôl?

Diolch, Joyce. Daeth 660 o geisiadau dilys i law ar gyfer y cynllun hyd yma, gyda 246 wedi eu cymeradwyo hyd yn hyn, a hynny ar ddechrau mis Mai. Felly, mae'n mynd yn dda dros ben. Mae 45 eiddo wedi'u cwblhau gyda phob perygl categori 1 wedi'u dileu er mwyn eu hailddefnyddio fel cartrefi, ac mae'r gwaith o ddod â nifer o gartrefi eraill yn ôl i ddefnydd ar y gweill. Mae'r grantiau hyd at £25,000 ar gyfer perchnogion tai unigol ac fel y dywedoch chi'n gywir, gall perchen-feddianwyr, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol a grwpiau tai cymunedol gael mynediad at y grant. Mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi ei gofrestru fel eiddo gwag gyda'r awdurdod lleol am o leiaf 12 mis cyn i'r gwaith ddechrau, felly rydym yn edrych ar gartrefi gwag hirdymor yma. A phan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fyw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa neu eu hunig breswylfa am o leiaf bum mlynedd, neu mae'r grant yn ad-daladwy, oherwydd yr holl bwynt yw dod â chartref yn ôl i ddefnydd buddiol. Dylwn ddweud ar y pwynt hwn ei fod hefyd yn gymwys ar gyfer Cynllun Lesio Cymru, felly os oeddech chi am roi'r eiddo, ar y pwynt hwnnw, i'r landlord cymdeithasol cofrestredig lleol, mae hwnnw'n llwybr arall tuag at sicrhau ei fod yn cael ei feddiannu dros gyfnod hir.

Mae'n rhaid inni wneud mwy i ddod â'r eiddo gwag hwn yn ôl i ddefnydd, ac felly y peth arall yr hoffwn ei ddweud yw ein bod wedi gweithio gydag 850 o gynghorwyr lleol, swyddogion cynllunio a swyddogion rheoli adeiladu ledled Cymru ar bryniant gorfodol, a sut i brynu eiddo gwag drwy drefniant gorfodol ledled Cymru. Nododd Vikki Howells un, mewn cyflwyniad a wnaeth yn y Senedd ychydig yn ôl, yn ei chymuned hi. Rydym yn annog awdurdodau lleol i brynu eiddo sy'n dirywio drwy drefniant gorfodol, oherwydd nid yn unig y gallent fod yn gartrefi, ond maent hefyd yn cael effaith wirioneddol andwyol ar yr ardal. Ymwelodd fy nghyd-Aelod Lee Waters a minnau ag un yn Rhondda Cynon Taf, lle roedd tŷ ar gornel dwy stryd wedi bod yn wag ers cryn dipyn o amser, roedd teulu ifanc yn symud i mewn, roeddent wrth eu boddau, ond mewn gwirionedd, roedd holl drigolion y ddwy stryd hefyd wrth eu boddau oherwydd nid oedd ganddynt eiddo a oedd yn falltod ar y gymuned mwyach. Felly, mae ganddynt nifer o fanteision, nid yn unig fel cartrefi, ond o ran adfywio ac adnewyddu'r ardal gyfan.

Stoc Dai a Effeithiwyd gan RAAC

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o stoc dai yng Nghymru y mae RAAC yn effeithio arnynt? OQ61041

Diolch am y cwestiwn. Mae'r gwaith arolygu a wnaed hyd yma yn dangos bod presenoldeb concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, neu RAAC, yn y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru yn gyfyngedig. Mae'n bwysig fod yr holl waith arolygu angenrheidiol yn cael ei gwblhau fel y gellir rhoi sicrwydd i denantiaid ynglŷn â diogelwch eu cartrefi.

14:15

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am eich gohebiaeth barhaus â mi ynglŷn â'r 77 o gartrefi ar ystad Gower yn Hirwaun lle daethpwyd o hyd i RAAC. Fel y gwyddoch, mae 60 o'r rhain yn eiddo i'r darparwr tai cymdeithasol Trivallis, ond mae 17 mewn perchnogaeth breifat, ar ôl cael eu prynu o dan y cynllun hawl i brynu. Mae'r perchnogion tai hyn, pobl oedrannus yn bennaf ac aelwydydd incwm isel bob un, yn wynebu straen sylweddol. Cynhaliais gymhorthfa gynghori ar eu cyfer yr wythnos diwethaf, ac rwy'n awyddus i wneud popeth yn fy ngallu i ddod â phartïon ynghyd i'w cefnogi.

Amcangyfrifir bod cost gwaith adfer rhwng £70,000 a £100,000 yr eiddo, sydd rhwng 100 y cant a 125 y cant o werth pob cartref. Mae hyd yn oed talu cost yr arolygon strwythurol yn her i lawer, heb sôn am y gwaith ei hun, heb unrhyw gymorth ariannol ar gael gan eu darparwyr yswiriant nac unrhyw barti arall. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i barhau i fonitro'r sefyllfa hon yn ofalus, yn enwedig pan fydd canlyniadau arolygon strwythurol Trivallis yn hysbys a'r costau'n dod yn gliriach, ac i weithio gyda mi i ddod â phob parti, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ynghyd i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r perchnogion tai hyn? 

Diolch am hynny, Vikki. Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod anodd a thrallodus iawn i'r holl drigolion yr effeithir arnynt ar ystad Gower, a gallwn ond dychmygu'r hyn y maent yn ei wynebu o ganlyniad i hynny. Rydych chi eisiau teimlo bod eich cartref yn lle diogel i chi aros, ac mae'n rhaid bod hon wedi bod yn sioc ofnadwy. Mae'r adborth o'ch cymhorthfa wedi tynnu sylw at y problemau, fel y dywedoch chi, sy'n effeithio ar berchnogion cartrefi preifat yn enwedig ar yr ystad.

Mae'n fater cymhleth. Mae'r gwaith o adeiladu'r cartrefi yn mynd yn ôl gryn dipyn cyn datganoli, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth y DU ystyried yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud i gefnogi perchnogion tai Cymru a pherchnogion tai yr effeithiwyd arnynt ledled y DU. Hyd y gwyddom, nid oes gennym gymaint â hynny yng Nghymru, ond ar draws y DU mae cryn dipyn ohonynt. Felly, pan fydd y gwaith arolygu wedi'i gwblhau, gallwn asesu'r sefyllfa gyffredinol, ond rydym yn galw am ddull pedair gwlad ledled y DU nawr o ymdrin â phroblem gynyddol amlwg sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cyn datganoli a bydd angen cyllid sylweddol i'w unioni.

Tenantiaid ag Anifeiliaid Anwes

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â rhagfarn yn erbyn tenantiaid ag anifeiliaid anwes yn y sector rhentu preifat? OQ61056

Diolch, Carolyn. O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, gall landlordiaid a deiliaid contractau gytuno ar delerau ychwanegol sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. Dylai unrhyw gymal anifeiliaid anwes ganiatáu i ddeiliad contract ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes, ac ni chaniateir i'r landlord wrthod y cais yn afresymol.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gan hanner yr holl aelwydydd anifeiliaid anwes, ond dim ond 7 y cant o eiddo rhent a hysbysebir fel rhai sy'n croesawu anifeiliaid anwes, ac mae i hynny ganlyniadau sylweddol. Mewn cyfnod o bedwar mis, fe wnaeth 118 o bobl yng Nghymru holi i'r Dogs Trust ynglŷn ag ildio perchnogaeth ar eu cŵn yn sgil newid llety neu newid i gytundeb rhentu. Mae'r gofid emosiynol y mae hyn yn ei achosi i gŵn a'u perchnogion yn enfawr, ond mae hefyd yn gwbl ddiangen. Canfu tystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod perchnogion anifeiliaid anwes yn gwneud tenantiaid rhagorol mewn gwirionedd, am eu bod yn fwy tebygol o aros mewn eiddo rhent am gyfnod estynedig o amser, ac nid yw'r mwyafrif helaeth o landlordiaid yn canfod unrhyw ddifrod i'w heiddo sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid anwes. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon gweithio gyda'r sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, megis RSPCA Cymru, Dogs Trust a Cats Protection, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth gywir ar waith i gefnogi perchnogion anifeiliaid anwes presennol a darpar berchnogion anifeiliaid anwes?

Rydym yn ymwybodol o'r cymalau yswiriant anifeiliaid anwes, er enghraifft, ym Mil Rhentwyr (Diwygio) Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, felly byddwn yn ystyried a oes rhywbeth y gallwn ei wneud yno. Fe wnaf ailadrodd i chi na all landlord wrthod cais yn afresymol i gadw anifail anwes. Ni wnaf ailadrodd y stori a roddais yn y pwyllgor, ond roedd i fod i ddangos er y gallwn i gyd ddeall y gall cael eich gwahanu oddi wrth eich annwyl gi neu gath fod yn anodd, nid yw pob perchennog anifail anwes yn cadw anifeiliaid anwes priodol mewn amgylchiadau priodol. Dywedodd Jack Sargeant wrthyf ei fod wedi'i daro'n fud gan hynny, felly efallai na wnaf ei ailadrodd yma, Lywydd, rhag i mi daro pawb yn fud. Ond digon yw dweud, yn ystod yr amser y bûm yn gweithio mewn awdurdod lleol, imi ddod o hyd i nifer fawr o leoedd lle roedd anifeiliaid anwes anaddas iawn yn cael eu cadw. Felly, mae'n ymwneud â pheidio â gwahanu pobl oddi wrth eu hannwyl anifeiliaid anwes, a sicrhau hefyd nad oes gennym lu o anifeiliaid anwes hynod anaddas, a sicrhau cydbwysedd.

Fel perchennog ci a chath fy hun, rwy'n deall nad yw pobl eisiau cael eu gwahanu oddi wrth eu hanifeiliaid anwes, fod hynny'n hynod drawmatig, a bod y mwyafrif helaeth o berchnogion anifeiliaid anwes yn gyfrifol a dim ond eisiau rhywle i fyw'n dawel gyda'u hanifail anwes. Rydym yn gwneud y pwynt dro ar ôl tro drwy Rhentu Doeth Cymru na all landlordiaid atal cydsyniad yn afresymol i gadw anifail anwes, ond rwy'n hapus iawn i archwilio ffyrdd eraill o sicrhau bod yr anifail anwes cywir yn y lle cywir yn gallu bod yn hawl i'r tenant.

14:20
Parc Cenedlaethol Newydd

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynigion i greu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ61067

Diolch, Llyr. Mae dynodiad parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Rydym wedi gofyn i CNC gyflawni rhaglen, gan gynnwys asesiad manwl, ymgysylltiad ac ymgynghoriad. Bydd hyn yn llywio penderfyniad terfynol a ddisgwylir yn 2025. Mae cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i CNC ar gyfer y rhaglen ddynodi.

A allwch chi ddweud wrthym a yw'r rhaglen ddynodi yn cynnwys ystyriaethau ehangach ynghylch effaith dynodiad, o bosibl, ac nid rhinweddau dynodiad yn unig? Oherwydd rwy'n ymwybodol fod yna effeithiau posibl ar fforddiadwyedd tai yn yr ardal honno i drigolion lleol a allai gael eu heffeithio'n anfwriadol gan y dynodiad. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r angen i fuddsoddi mewn seilwaith priodol, oherwydd, er cymaint y byddai'r croeso i ymwelwyr ychwanegol, mae angen inni osgoi sefyllfa lle rydym yn efelychu rhai o'r heriau a welsom yn Eryri, lle cafwyd problemau parcio, ffyrdd wedi'u rhwystro a diffyg cyfleusterau cyhoeddus digonol. Felly, fel rhan o'r gwaith o baratoi ar gyfer y posibilrwydd o barc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni fod yr holl ffactorau hyn yn cael eu hystyried, y tu hwnt i'r dynodiad ei hun yn unig?

Yn sicr. Rhan o'r broses ddynodi yw mynd drwy'r holl fanteision a'r holl anfanteision, deall beth yw'r manteision a'r anfanteision hynny ac ystyried y manteision a'r anfanteision yn llawn, i weld beth y gellir ei wneud i oresgyn unrhyw anfanteision, i weld beth y gellir ei wneud i wella'r manteision, a dod i gasgliad sy'n gweddu i drigolion yr ardal. Nid oes gennym barciau cenedlaethol lle nad oes neb yn byw; mae gennym barciau cenedlaethol lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn cyflawni eu gweithgareddau arferol.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r parciau cenedlaethol ers cryn dipyn o amser bellach i sicrhau eu bod yn gallu gwella a gwarchod y tirweddau y maent ynddynt. Nid ydynt yno i fod yn awdurdod cynllunio un pwrpas yn unig. Ac felly rydych chi'n hollol iawn fod angen inni fynd drwy broses sy'n ystyried yr holl faterion sy'n ymwneud â dynodiad yn ofalus, ac maent yn cynnwys y manteision, y mae pobl yn credu eu bod yn amlwg, ond efallai nad ydynt mor amlwg â hynny. Felly, mae'n ymwneud â gwella, diogelu a chydnabod tirweddau hardd iawn ledled Cymru—tirweddau pwysig i fywyd gwyllt ac yn y blaen—ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau nad yw'r tirweddau hynny wedyn yn destun gordwristiaeth, er enghraifft.

Rwy'n gyfarwydd iawn â Phen y Fan ym Mannau Brycheiniog a'r arwyddion sy'n dweud, 'Mae mynyddoedd eraill ar gael; ystyriwch fynd at fynydd arall'. Mae'n bwysig gwneud hynny, onid yw? Yn Eryri—roeddwn yno'n ddiweddar iawn—cefais wybod am y cerddwyr niferus sy'n ystyried eu hunain yn warcheidwaid yr amgylchedd ond sy'n meddwl ei bod hi'n iawn i ollwng eu croen banana ar y ffordd, oherwydd eu bod yn meddwl ei fod yn fioddiraddadwy. Mae'r ffaith ei fod yn llawn o bethau na ddylid eu canfod yn yr amgylchedd hwnnw yn un o'r pethau y maent wedi bod yn gweithio'n galed iawn arno, fel bod pobl sy'n poeni am yr amgylchedd yn deall beth sy'n digwydd yn yr amgylchedd hwnnw o ganlyniad i'w cysylltiad ag ef.

Roeddwn yn drist iawn o weld yr ystadegau sy'n dangos, ar y rhan fwyaf o'r prif lwybrau i fyny'r Wyddfa, fod pob 2 droedfedd wedi'i halogi â rhyw fath o sylwedd na ddylai fod yno. Felly, mae helpu'r parciau cenedlaethol i helpu eu hymwelwyr i ddeall effaith twristiaeth, a'r hyn y gallant ei wneud i wella'r amgylchedd hwnnw a pheidio â thynnu oddi arno, yn bwysig. Ond os nad ydym yn dynodi'r dirwedd honno, nid yw'n atal hynny rhag digwydd; mae'n golygu nad oes gennym y seilwaith ar waith i'w helpu i ddigwydd. Mae'n fantais ac yn anfantais. Rwyf eisiau defnyddio hynny fel eglureb, oherwydd yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw edrych ar y darlun cyflawn, mae'n rhaid inni ddeall cryfder y teimlad ar y ddwy ochr—ac mae yna deimladau cryfion ar y ddwy ochr—mae'n rhaid inni weithio gyda'n holl awdurdodau eraill yn y maes, ond yn y pen draw, yr hyn y mae pawb ohonom yn ceisio ei wneud yw gwella harddwch a bioamrywiaeth ein gwlad yn y ffordd orau sy'n bosibl.

Rhentu Doeth Cymru

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am berfformiad Rhentu Doeth Cymru? OQ61064

Diolch, Janet. Yn ddiweddar, comisiynais werthusiad allanol llawn o berfformiad Rhentu Doeth Cymru. Mae'r gwerthusiad hwnnw ar y gweill ac mae disgwyl iddo adrodd yn ddiweddarach eleni.

14:25

Diolch. Fel y gwyddoch, Weinidog, yn ôl cwestiwn ysgrifenedig a ofynnais i chi yn ddiweddar, gallwn ddweud nawr fod hyn yn costio swm anhygoel o £49,850 i'r trethdalwr. Mae hwn yn swm enfawr o arian i'w wario ar wasanaeth nad yw, yn fy marn i, ac eraill yn y sector tai, yn cyflawni ei ddyletswyddau cystal ag y gallai. Rwy'n bryderus, ac rwyf am ddatgan buddiant, yn unol â fy muddiannau cyhoeddedig cofrestredig ynghylch eiddo. Mae pobl eraill wedi nodi wrthyf nad oes digon wedi'i wneud i sicrhau bod landlordiaid sector preifat sy'n methu cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru yn cael eu nodi. Nid yw hyn yn adlewyrchu'n dda ar y miloedd o landlordiaid parchus sy'n cydymffurfio â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Yn ystod y dystiolaeth a gymerwyd yn y pwyllgor newid hinsawdd, er mwyn nodi landlordiaid preifat ar gyfer ôl-osod cartrefi, awgrymwyd y gallai Rhentu Doeth Cymru ehangu ei frîff i ddarparu'r data sydd ei angen i gynnwys y sector rhentu preifat ar gyfer ôl-osod. A allech chi roi rhywfaint o wybodaeth yma heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, am gwmpas yr adolygiad rydych chi'n ei gynnal a pha wersi a ddatblygwyd gennych o ran y dystiolaeth a ddaw gan ein pwyllgor newid hinsawdd? Gallai Rhentu Doeth Cymru fod yn gwneud pethau llawer mwy cadarnhaol mewn gwirionedd, yn hytrach na bod yn or-ddibynnol ar landlordiaid sector preifat, sydd wedyn yn gadael y sector, fel y dywedodd Mark Isherwood yn gywir ddigon. Diolch.

Diolch, Janet. Cyn bo hir, fe wahoddir landlordiaid, asiantau a thenantiaid, yn ogystal â'u cyrff cynrychioliadol, i gymryd rhan yn y gwerthusiad. Mae'n werthusiad o waith presennol Rhentu Doeth Cymru. Nid ymgynghoriad ar ehangu'r rôl ydyw, i fod yn glir. Hoffwn yn fawr i bawb gymryd rhan. Rydym eisiau gwybod beth sy'n gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru a'r hyn nad yw'n gweithio, a sut y gallwn unioni hynny.

Mae Rhentu Doeth Cymru o fewn eu fframiau amser statudol ar gyfer prosesu ceisiadau am drwydded. Yr amser aros ar gyfartaledd ar hyn o bryd yw wythnos a hanner am y drwydded. Ar hyn o bryd mae canolfan gyswllt Rhentu Doeth Cymru yn rhedeg ar gyfradd ateb o 96 y cant gyda galwyr yn aros o dan funud ar gyfartaledd i gael eu hateb. Ar hyn o bryd mae Rhentu Doeth Cymru yn cyhoeddi 36 o hysbysiadau cosb benodedig bob mis. Y rheswm mwyaf cyffredin am hynny yw lle canfyddir nad yw landlordiaid wedi eu cofrestru neu eu trwyddedu neu'r ddau. Hyd yn hyn, cafwyd 263 o erlyniadau troseddol llwyddiannus yn erbyn landlordiaid ac asiantau sydd wedi torri gofynion Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac ni chafwyd unrhyw erlyniadau aflwyddiannus.

Fel y dywedais wrth Mark Isherwood, mae'r ystadegau'n ddiddorol iawn. Rydym yn ceisio eu dadansoddi. Rwy'n clywed y dystiolaeth anecdotaidd hefyd, ond nid yw wedi ei ategu gan yr ystadegau. Yr hyn na allwn ei weld o'r ystadegau hynny eto, lle mae landlord yn gwerthu, yw a ydynt yn gwerthu ymlaen i landlord arall, oherwydd mae gennym lawn cymaint o gofrestriadau newydd ag o ddatgofrestriadau, ac nid yw nifer yr eiddo'n gostwng, ychwaith. Ond a bod yn onest, nid wyf yn gwybod yn iawn beth mae hynny'n ei ddangos i ni. Yn sicr, nid yw'n dangos dirywiad i ni, felly byddwn yn ceisio dadansoddi hynny. Ond nid wyf yn meddwl bod cyflawniad Rhentu Doeth Cymru yn fethiant. Rwy'n credu ei fod yn gwneud yn dda iawn mewn gwirionedd.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

1. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cynnal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynglŷn â Mesur Teithio gan Ddysgwr (Cymru) 2008? OQ61057

Diolch, Delyth. Ar hyn o bryd mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth a minnau mewn trafodaethau ynghylch ei gynlluniau ar gyfer teithio gan ddysgwyr yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn am hynna. Mae gennym ni sefyllfa eithriadol o niweidiol ar hyn o bryd. Oherwydd toriadau cyllidebau, mae ansicrwydd mewn sawl awdurdod lleol ynglŷn â dyfodol cludiant ysgol. Mae’n golygu y bydd rhai plant nawr yn methu â fforddio cyrraedd yr ysgol. Fel dwi wedi codi yn barod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, bydd effaith arbennig o wael ar ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mewn ardaloedd fel y Cymoedd, mae’n cymryd naid i rieni ddanfon eu plant at ysgol Gymraeg. Mae gwneud i ffwrdd â chludiant rhad ac am ddim yn ychwanegu her newydd yn y ffordd, a rhwystr, achos mae catchment areas ysgolion Cymraeg yn y llefydd hyn yn tueddu i fod lot yn fwy, a bydd yn amhosibl i nifer o rieni yrru eu plant i’r ysgol. Dwi'n gwybod eich bod chi’n deall pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n gadael i rieni gael y dewis i ddanfon eu plant i ysgol Gymraeg, felly rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi’n cynnal trafodaethau, yn sicr. Pa waith fyddwch chi’n ei wneud gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth i flaenoriaethu hyn a gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn medru cyrraedd yr ysgol, a bod y niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg ddim chwaith yn dioddef fel canlyniad i'r toriadau? Diolch.

14:30

Diolch yn fawr iawn, Delyth. Yn amlwg, rwy'n cydnabod yr heriau y mae llawer o deuluoedd yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ystod yr argyfwng costau byw. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yn rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu cludiant am ddim yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd fod hwn yn faes cymhleth a bod adolygiad o'r Mesur wedi'i gyhoeddi yn 2022 a bod ymarfer dadansoddi a gwerthuso pellach wedi'i gynnal y llynedd. Cyhoeddodd y cyn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddatganiad a chyhoeddodd adroddiad argymhellion ym mis Mawrth eleni ac roedd hwnnw'n amlinellu llwybr cymedrol, ymarferol i wella'r ddarpariaeth teithio gan ddysgwyr yng Nghymru.

Er nad yw'r adroddiad yn argymell unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol, mae'n argymell diweddariad cynhwysfawr i'r canllawiau statudol i ymhelaethu ar y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd dros y 10 mlynedd diwethaf, er mwyn sicrhau bod yr holl bartneriaid cyflenwi yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau ar draws ystod o feysydd polisi, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol, y Gymraeg, yn ogystal â theithio llesol.

Rwyf wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac un o'r pethau sydd wedi codi fy nghalon yw y bydd ffocws mwy cadarn ar farn plant a phobl ifanc. Cafwyd ymgynghoriad gyda phlant a phobl ifanc. Rydym yn cryfhau rôl plant a phobl ifanc yn y gwaith a wnawn gyda Trafnidiaeth Cymru. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn clywed eu lleisiau wrth inni fireinio'r polisi hwn a sicrhau ei fod yn cael ei weithredu'n gyson ledled Cymru er budd pob dysgwr.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cytuno'n fawr â'r pwyntiau a wnaeth Delyth yn ei chwestiwn, ond mae fy nghwestiwn innau'n debyg ond yn wahanol. Ar hyn o bryd, mae gan ddysgwyr hawl i gludiant ysgol am ddim i'w hysgol cyfrwng Cymraeg agosaf, ond nid oes ganddynt hawl i gael cludiant ysgol am ddim i'w hysgol cyfrwng Saesneg agosaf, os oes ysgol cyfrwng Cymraeg yn agosach atynt. Felly, mae mater  cydraddoldeb go iawn yn codi yma a gwahaniaethu yn erbyn rhieni sydd, am ba reswm bynnag, am weld eu plant yn dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.

Fe wneuthum godi hyn gyda'ch rhagflaenydd yn gynharach eleni. Cefais ateb da, i fod yn deg. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd na fydd modd diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n sail i deithio gan ddysgwyr yn y tymor byr, ond bydd cyfleoedd i ddiweddaru'r canllawiau statudol yn ystod y flwyddyn nesaf. Ac aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y newid hwn yn y canllawiau statudol yn gallu mynd i'r afael â rhai o'r mathau o faterion yr wyf yn eu codi. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi rhyw syniad pryd y byddwch yn edrych ar y canllawiau statudol hyn a phryd y byddwn yn gallu gweld y newid sydd ei angen er mwyn mynd i'r afael â'r materion yr wyf wedi'u codi gyda'ch rhagflaenydd a nawr eto heddiw gyda chi.

Diolch yn fawr iawn, Russell, nid oeddwn yn ymwybodol o'r sefyllfa honno yn eich etholaeth, felly mae'n ddefnyddiol iawn gwybod hynny. Rwy'n credu fy mod yn yr un lle â fy rhagflaenydd, mewn gwirionedd. Yn amlwg, rydym am sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd ble bynnag y maent yng Nghymru. Mae'r adolygiad o'r canllawiau statudol yn cael ei gynnal gan fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn gwybod pa mor bwysig yw hi fod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud ar frys.

Rwy'n credu y bydd y materion a godais gyda Delyth ynghylch yr angen i glywed lleisiau plant a phobl ifanc yn helpu gyda'r math o sgwrs a grybwyllwyd gennych heddiw. Rwyf wedi cael problemau penodol yn fy etholaeth fy hun gyda chludiant i ysgolion ffydd, felly rwy'n credu bod llawer o gyfle i wella drwy weithio'n rhagweithiol gydag awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn lledaenu arferion da ac yn darparu gwell cysondeb. Mae rhywfaint o ddisgresiwn eisoes o fewn y canllawiau sydd gan awdurdodau lleol. Felly, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â cheisio gweithio gyda nhw, er gwaethaf yr hinsawdd ariannol, i geisio eu codi i gyd i lefel y goreuon.

Dysgu yn yr Awyr Agored

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo manteision dysgu yn yr awyr agored? OQ61037

Mae manteision dysgu yn yr awyr agored yn cael eu hyrwyddo drwy'r Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn gwybod ei fod yn alluogwr allweddol i blant archwilio, ymarfer a gwella eu sgiliau gan gefnogi eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol ar yr un pryd.

14:35

Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y pleser o groesawu fy nghyd-Aelod Sam Rowlands i sir Benfro yn ddiweddar. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ymweld â dau fusnes sy'n darparu arosiadau preswyl i ysgolion a cholegau, i drafod ei Fil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), na wnaeth Llywodraeth Cymru ei gefnogi, yn anffodus. Nawr, fe wnaethom ymweld â chanolfan maes Caer Dale, yn ne fy etholaeth, a Ffermydd i Blant y Ddinas, sydd wedi'i leoli ychydig y tu allan i Dyddewi. Mae gan y ddau ddarparwr hyn gyfleusterau o'r radd flaenaf a gallant gynnig cymaint o brofiadau cadarnhaol i ysgolion a cholegau. Ac felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan na fydd y Bil addysg awyr agored breswyl yn mynd yn ei flaen mwyach, a allwch ddweud wrthym beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud nawr i feithrin cysylltiadau rhwng ysgolion a busnesau fel y rhain fel y gall cymaint o blant a phobl ifanc â phosibl elwa o'r profiadau y mae'r darparwyr hyn yn eu cynnig?

Diolch yn fawr iawn, Paul. A gaf i eich sicrhau ein bod yn cydnabod gwerth unigryw dysgu yn yr awyr agored a'r budd y mae'n ei gynnig i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cefnogi datblygiad ffyrdd iach ac egnïol o fyw, datblygu sgiliau datrys problemau, a deall a pharchu natur a'r amgylchedd y maent yn byw ynddo? Mae dysgu yn yr awyr agored eisoes yn cael ei gydnabod o fewn y Cwricwlwm i Gymru fel nodwedd allweddol o addysgeg lwyddiannus, boed hynny o fewn lleoliad addysg, y gymuned ehangach, coedwig, traeth neu fynydd—maent oll yn cynnig profiadau dilys.

Yn amlwg, rwy'n cydnabod na wnaeth y Llywodraeth gefnogi Bil Sam Rowlands, ond rwy'n ddiolchgar iawn i Sam am y gwaith a wnaeth ar y Bil a'r proffil y mae wedi'i roi i'r mater hwn. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r ddadl, fod gennym ein rhesymau dros beidio â chefnogi'r Bil; roeddent yn rhannol gyfreithiol, yn gwricwlaidd ac yn ariannol. Ond cefais drafodaethau adeiladol gyda Sam, a gyflwynodd amrywiaeth o opsiynau amgen ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr holl opsiynau hynny, a byddaf yn cael trafodaethau pellach gyda Sam, gobeithio. Rwy'n eich sicrhau bod dysgu yn yr awyr agored eisoes wedi'i ymgorffori'n llawn yn ein cwricwlwm, ond nid ydym yn gweld hyn fel rhywbeth untro am wythnos yn yr haf neu pryd bynnag. Mae'n rhywbeth yr ydym am i blant a phobl ifanc elwa ohono drwy'r amser.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dyma fater na fydd yn diflannu—iMessages y Prif Weinidog. Gadewch inni atgoffa ein hunain o'r hyn a ddywedodd:

'Rwy'n dileu'r negeseuon yn y grŵp hwn. Gellir eu dal mewn cais rhyddid gwybodaeth ac rwy'n credu ein bod i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy'n cael ei wneud.'

Nawr, adroddir yn eang mai'r dewis a oedd yn cael ei wneud ar y pryd oedd y penderfyniad ynghylch graddau arholiadau, graddau rhagfynegol ac algorithmau ar y pryd. Mae'n ymddangos bod hyn yn ymwneud â chyfarfod grŵp Llafur, neu gyfarfod Aelodau Llafur y Senedd, i'w diweddaru, os mynnwch, ar yr hyn yr oedd y Llywodraeth yn bwriadu ei wneud. Felly, a allwch gadarnhau mai dyna oedd natur y cyfarfod hwnnw, ac a oeddech chi ynddo?

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n bryderus iawn am y ffordd y mae neges, a oedd yn y bôn yn sgwrs ar ôl cyfarfod grŵp, wedi cael cymaint o sylw. Rwy'n cofio'r cyfarfod grŵp mewn gwirionedd. Roeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y pryd. A gallaf ddweud wrthych na wnaed unrhyw benderfyniadau yn y cyfarfod hwnnw. Roedd y cyfarfod yno i roi cyfle i Aelodau Llafur, gan fy nghynnwys i, drafod yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos flaenorol, a oedd wedi bod yn wythnos heriol iawn i blant a phobl ifanc, a'r Llywodraeth, i roi cyfle inni leisio'r hyn oedd yn digwydd yn ein hetholaethau. Ac yn ôl yr hyn a gofiaf, ni wnaed unrhyw benderfyniadau o gwbl yn y cyfarfod hwnnw. Dull ydoedd o ddiweddaru'r grŵp Llafur ar y camau a oedd yn cael eu cymryd i gefnogi pobl ifanc drwy'r cyfnod hwn. Ac yn wir, fe gofiwch mai Kirsty Williams, y mae gennyf barch mawr tuag ati, oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ar y pryd, ac nid oedd hi yn y grŵp Llafur hyd yn oed.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, mae'n codi nifer o gwestiynau. Rwy'n credu ichi ddweud ei fod wedi cael 'cymaint o sylw', ond yn amlwg, fe wadodd y Prif Weinidog ddoe fod y negeseuon yn ymwneud ag ymdrin â'r pandemig, ond ymddengys eu bod bellach yn adlewyrchiad o'r hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod hwnnw, a gallai hynny fod yr un mor berthnasol i waith yr ymchwiliad COVID â'r prosesau gwneud penderfyniadau eu hunain.

Nawr, mae'n codi cwestiwn ehangach, ac rwyf wedi cael sicrwydd gan eich ateb i'r cwestiwn blaenorol, eich bod wedi dweud na wnaed unrhyw benderfyniadau yn y cyfarfod hwnnw, ond nid oedd cyfarfod o'r fath ar gael i Aelodau o grwpiau eraill yn y Senedd ar y pwynt hwnnw. Rwyf wedi gwirio gyda'n grŵp—ni chafwyd gwahoddiad yn ystod y cyfnod hwnnw, ym mis Awst 2020, i Aelodau Ceidwadol gael y briff hwnnw, os mynnwch, gan Lywodraeth Cymru ar y dull o drin polisi addysg ar yr adeg honno; roedd ar gael i Aelodau Llafur yn unig. Ac mae'n codi cwestiwn ehangach ynglŷn â faint o ddylanwad a gwybodaeth oedd ar gael i Aelodau Llafur o'r Senedd cyn i benderfyniadau gael eu cyhoeddi. Fel Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc ar y pryd, a allwch chi sôn am natur y penderfyniadau addysg yr oeddech yn ymwybodol ohonynt cyn iddynt gael eu cyhoeddi? 

14:40

Wel, rwy'n credu eich bod yn crafu gwaelod y gasgen, mae'n rhaid imi ddweud hynny, Tom. Ac rwyf ychydig yn siomedig, mewn gwirionedd, nad ydych wedi defnyddio eich cwestiynau ar gyfer rhywbeth sy'n ymwneud yn fwy uniongyrchol ag addysg. Roedd hyn bedair blynedd yn ôl. Roeddwn yn aelod o'r meinciau cefn ac yn Gadeirydd y pwyllgor pan oedd y pandemig ar ei anterth, a gallaf ddweud wrthych fod y Llywodraeth wedi gweithio ar y cyd â phob plaid. Roedd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r pwyllgor iechyd, a oedd yn cynnwys pob plaid. Cafwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n deall bod grŵp craidd o arweinwyr pleidiau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn oedd yn digwydd, a gallai unrhyw grŵp fod wedi gofyn i Weinidog y Llywodraeth am friff neu drafodaeth am unrhyw beth oedd yn digwydd ar unrhyw adeg. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y Llywodraeth yn hynod agored a chynhwysol. Roedd cyferbyniad enfawr rhwng hynny a'r hyn oedd yn digwydd yn Llywodraeth y DU. 

O ran y cyfarfod y cyfeirioch chi ato—ni wnaed unrhyw benderfyniadau. Yn syml, roedd yn caniatáu i Aelodau Llafur siarad am yr hyn oedd yn digwydd yn eu hetholaethau, sy'n beth cwbl dderbyniol i'w wneud. Roedd y penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud cyn hynny. Fel Cadeirydd pwyllgor, cefais wahoddiad i sesiynau briffio gyda Cymwysterau Cymru, a oedd yn nodi'r mecanwaith a fyddai'n cael ei roi ar waith i ymdrin â chanlyniadau arholiadau. Felly, rhoddwyd llawer o'r cynllunio hwn ar waith ymhell cyn yr amser hwnnw. Y cyfan oedd y cyfarfod grŵp hwn oedd cyfle i Aelodau Llafur fynegi ein pryderon, sydd, fel rhywun sydd wedi bod yn aelod o'r meinciau cefn ers amser maith, yn rhywbeth rydym yn hoffi ei wneud o bryd i'w gilydd.  

Fe ddywedoch chi fod y Llywodraeth Lafur wedi bod yn hynod agored a chynhwysol; nid wyf yn credu y bydd llawer o bobl yn meddwl hynny am y Prif Weinidog gyda'r ychydig wythnosau y mae wedi bod yn y swydd. Nawr, mae'n codi cyfres o gwestiynau, ac fe wnaethoch chi ofyn un i mi—pam fy mod yn codi hyn heddiw? Ac rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod yn codi hyn heddiw, oherwydd, yn amlwg, rydym yn dal i ymdrin â'r effaith. Yn amlwg, mae ein hysgolion heddiw yn dal i ymdrin ag effaith y penderfyniadau a wnaed yn ystod y pandemig. A phwrpas yr ymchwiliad COVID, a'r adolygiad o'r penderfyniadau a wnaed, yw y bydd yn llywio gwaith yn y dyfodol, gan gynnwys y gwaith rydych chi'n ei wneud heddiw, pe baem yn y sefyllfa honno eto, am y penderfyniadau a wnaed, a sut y cawsant eu gwneud ar y pryd. Dyna pam y mae'r cwestiynau hyn yn berthnasol, Ysgrifennydd y Cabinet.

Nawr, nid yw'n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi bod yn ddigon agored gyda'r dystiolaeth y mae wedi'i darparu i ymchwiliad COVID y DU. Felly, mae modiwl llawn i ddod ar addysg a sut y cafodd hynny ei drin yn ystod y pandemig. A wnewch chi ymrwymo i adolygiad o fewn eich adran, fel Gweinidog newydd, o'r holl wybodaeth a gafodd ei storio am y ffordd yr ymdriniwyd â'r pandemig mewn perthynas ag addysg, ac a yw popeth y gellid bod wedi'i gyflwyno i'r ymchwiliad COVID wedi'i gyflwyno? A wnewch chi gomisiynu adolygiad newydd i'r gwaith hwnnw nawr? 

Diolch am y cwestiwn olaf hwnnw, ac a gaf i ddweud fy mod yn credu bod y Prif Weinidog wedi rhoi'r holl wybodaeth yr oedd gofyn iddo ei rhoi i'r ymchwiliad COVID? Mae wedi dweud yn hollol glir ei fod yn barod iawn i barhau i ateb cwestiynau gan yr ymchwiliad COVID. Rwy'n credu bod y modiwl addysg sydd ar y ffordd yn fodiwl pwysig iawn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar sut yr effeithiodd y pandemig ar blant a phobl ifanc. Nid oeddwn yn Weinidog ar y pryd, ond hyd y gwelaf, ni fyddai angen adolygiad helaeth oherwydd bydd yn rhaid darparu pob math o wybodaeth fanwl. Rwy'n adnabod cydweithwyr sydd wedi cyflwyno llond cesys o wybodaeth i'r ymchwiliad, felly rwy'n hyderus. Roedd y cyn Brif Weinidog hefyd yn glir iawn—roeddem am fod yn agored am bopeth. Rwy'n hyderus iawn y bydd gan yr ymchwiliad yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ac yn sicr, fel Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn wneud yn siŵr, os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i gynorthwyo hynny, y byddaf yn ei wneud. 

14:45

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ofyn ichi heddiw ynglŷn â hyfforddi, recriwtio a chadw athrawon. Mae’r niferoedd sydd yn dysgu yn dal yn llawer is na'r hyn sydd ei angen arnom i wireddu holl amcanion y Llywodraeth o ran addysg. Yn 2021-22, cafodd 2,292 o swyddi dysgu eu hysbysebu, tra gadawodd 1,175 o athrawon y proffesiwn—cymysgedd o adael am broffesiwn arall ac ymddeol. Ond mi oedd 325 ohonyn nhw gyda llai na phum mlynedd o brofiad. Mae hyn yn arbennig o heriol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac rydyn ni'n gyson yn methu â chyrraedd targedau 'Cymraeg 2050' y Llywodraeth o ran y niferoedd sydd angen eu recriwtio heddiw, heb sôn am y dyfodol. Mater arall, wrth gwrs, sydd yn peri pryder yw diogelwch staff yn ein hysgolion. Sut ydych chi am sicrhau ein bod ni'n mynd i’r afael â'r bwlch yn y gweithlu, a sicrhau bod dysgu yn swydd ddeniadol? 

Diolch, Heledd. Yn gyntaf oll, a gaf i achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch diffuant i bawb sy'n gweithio yn ein hysgolion? Rwy'n cydnabod ein bod yn gofyn llawer gan ysgolion ar hyn o bryd. Maent yn gweithredu diwygiadau mawr ar yr un pryd ag adfer ar ôl pandemig byd-eang, ac mae lles staff ein hysgolion yr un mor bwysig i mi â lles ein plant a'n pobl ifanc. Ac fe wnaethom drafod yn y pwyllgor y bore yma rai o'r mesurau yr ydym wedi'u rhoi ar waith i gefnogi lles staff ein hysgolion, megis, er enghraifft, y cyllid ar gyfer cymorth addysg. Rydym wedi ymestyn ein cwnsela mewn ysgolion i gynnwys rhai athrawon, i gydnabod y trawma dros eraill y mae rhai ohonynt yn ymdopi ag ef, a fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod addysgu yn broffesiwn mor ddeniadol ag y gall fod. Ac rwy'n credu ei bod yn gyfnod cyffrous i fod yn athro yng Nghymru, gyda'n cwricwlwm newydd. Mae'n mynd ag addysgu a dysgu i lefel newydd, ac mae hynny hefyd yn bwysig iawn i les. 

Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod hefyd wedi cymryd camau eraill, drwy addysg gychwynnol i athrawon, i wneud addysgu yn broffesiwn deniadol. Felly, mae gennym gymhellion arbennig ar waith, yn enwedig mewn pynciau penodol, gan gynnwys y Gymraeg. Mae gennym gymhelliad ar waith i athrawon ethnig leiafrifol a hefyd mewn pynciau STEM. Felly, rydym yn gweithio'n galed i wneud addysgu'n broffesiwn deniadol. Nid yw hynny'n tanbrisio, mewn unrhyw ffordd, yr heriau y mae'r proffesiwn yn eu hwynebu. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn—siaradais yng nghynhadledd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ddydd Sadwrn—i ddweud ei bod wedi bod yn flaenoriaeth i mi ac y bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i wrando ar staff ysgolion ynghylch yr hyn y  maent yn ei brofi ar lawr gwlad. Ac rwy'n ystyried mai fy rôl yw gwneud popeth a allwn, fel Llywodraeth, i'w cefnogi mewn swydd lawer mwy heriol nag oedd hi pan oeddwn i yn yr ysgol, er enghraifft, neu hyd yn oed pan oeddech chi yn yr ysgol.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, ond, yn amlwg, mi wnaeth arolwg y llynedd gan NASUWT Cymru ddangos bod 75 y cant o athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn. Dwi'n gwybod bod y cynlluniau yma gan y Llywodraeth, ond dydyn nhw'n golygu dim ar bapur os nad ydyn nhw'n trosglwyddo i gael athrawon yn ein dosbarthiadau ac athrawon yn aros yn y swyddi hyn. Ar 3 Mai, fe wnaeth penaethiaid ym Mlaenau Gwent ysgrifennu llythyr ar y cyd am y sefyllfa ariannol enbyd y mae ysgolion yn ei hwynebu, lle nad oes dim byd arall ar ôl i’w dorri. Amlygwyd ganddyn nhw mai canlyniad hyn fydd cynnydd ym maint dosbarthiadau, ac, felly, bydd cynnydd yn y llwyth gwaith i athrawon,  gostyngiadau staffio, effaith ar hyfforddiant athrawon ac anawsterau o ran cadw a recriwtio athrawon. A gaf i ofyn, felly, Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n cydnabod ei bod hi’n sefyllfa dyngedfennol a bregus o ran y sector pwysig hwn, a pha dri pheth fyddwch chi'n eu blaenoriaethu i wella pethau?

Diolch am y cwestiynau pellach hynny, Heledd. Rydych wedi cynnwys llawer yno i un cwestiwn, ond fe wnaf fy ngorau. O ran ymddygiad a'r pryderon sydd gan ysgolion am yr hinsawdd y maent yn gweithredu ynddo, mae'r rheini'n faterion pwysig iawn. Fel y dywedais o'r blaen, nid wyf yn credu y gallwch wahanu ymddygiad, presenoldeb, ac ati, o'r heriau iechyd meddwl y mae ysgolion yn eu hwynebu. Rwy'n gweld ein diwygiadau yn y byd addysg fel rhai sydd wedi'u hadeiladu ar sylfaen o iechyd meddwl a lles meddyliol da. Rydym yn gweithio ar becyn cymorth ymddygiad. Rwyf wedi gofyn yn benodol i swyddogion sicrhau bod y pecyn cymorth hwnnw'n cael ei lywio'n seicolegol a chan drawma, oherwydd credaf fod hynny'n bwysig iawn. Rydym hefyd wedi cyflawni ymchwil, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr haf, i roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad o ran ymddygiad, oherwydd nid oes gennym y data'n genedlaethol ar hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid ichi ddeall problem cyn y gallwch fynd i'r afael â hi.

O ran y cyllid y cyfeirioch chi ato, yn amlwg, mae hwn yn gyfnod heriol iawn ar gyllid cyhoeddus. Mae ein cyllideb yn werth £700 miliwn yn llai nag ar adeg y setliad cyllido diwethaf. Bu'n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd tu hwnt fel Llywodraeth. Ond er gwaetha'r pwysau, fe wnaethom lwyddo i ddiogelu'r codiad a roesom i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw i'w roi i ysgolion. Daw hynny ar ben y cynnydd wedi'i gydgrynhoi o 7.9 y cant y llynedd. Rydym hefyd wedi blaenoriaethu cyllid sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion. Mae'r grant addysg newydd i awdurdodau lleol yn darparu'r un swm o arian yn erbyn grantiau tebyg a ddarparwyd y llynedd, a chynnydd o 3.2 y cant yn erbyn cyllideb ddangosol 2024-25 ar gyfer yr un grantiau hynny.

Rwy'n cydnabod ei bod yn sefyllfa anodd iawn. Nid wyf am geisio esgus nad ydyw. Dyna pam fy mod am barhau i siarad ag ysgolion ac arweinwyr ysgolion am y sefyllfa. Rydym hefyd yn gwneud gwaith ar adolygiad o gyllid Luke Sibieta. Rydym yn disgwyl i rywfaint o'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau mewn perthynas â'r fformiwla gyllido y mae awdurdodau lleol yn ei defnyddio. Fel y gwyddoch, mae yna faterion hirsefydlog yn ymwneud â thryloywder, ond rwy'n wirioneddol ymrwymedig i wneud y gwaith hwnnw a'i wneud mewn partneriaeth gymdeithasol â'r proffesiwn. Rydym yn mynd i gael—. Wyddoch chi, mae cyni yn ein taro'n galed yng Nghymru oherwydd penderfyniadau Llywodraeth y DU, a'r ffordd y gallwn ddod drwy hynny yw drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth.

14:50
Absenoldebau Dysgwyr

3. Pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod absenoldebau dysgwyr mewn ysgolion yn lleihau? OQ61052

Diolch. Rydym yn parhau i weithio gyda'r tasglu presenoldeb cenedlaethol i nodi camau y gallwn eu cymryd i wella presenoldeb. Mae'r meysydd ffocws yn cynnwys rôl gweithwyr ieuenctid, dysgu rhwng cyfoedion a rhwydweithio, cyfathrebu ac ymgysylltu, a dadansoddi data.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar bresenoldeb mewn ysgolion. Rydym wedi clywed sawl gwaith yn y Siambr a chan ein hetholwyr, rwy'n siŵr, am blant nad ydynt yn gallu fforddio cyrraedd yr ysgol. Soniodd fy nghyd-Aelod Delyth Jewell am hyn mewn perthynas â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. A gaf i ofyn pa gamau brys rydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli diwrnod ysgol am nad yw'n gallu fforddio'r gost o fynd ar fws? Yn 2024, ac rydym wedi bod yn trafod hyn ers nifer o flynyddoedd, nid yw'r newidiadau i'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn cael eu gweithredu. Mae rhai cynghorau'n cyfyngu ar y mesurau sydd ar waith, fel yng nghyngor Rhondda Cynon Taf, i fynd gyda'r statudol yn hytrach na mynd y tu hwnt i hynny fel o'r blaen. Mae hyn yn ddifrifol iawn mewn llawer o'n cymunedau. Felly, sut y gallwn ni sicrhau bod plant yn gallu cael mynd i'r ysgol ac nad yw cost yn rhwystr?

Fel y nodwch, yn gywir ddigon, mae sawl rheswm pam nad yw plant yn mynychu'r ysgol, ac mae un ohonynt yn gysylltiedig â thlodi. Gwyddom fod cyfraddau presenoldeb yn waeth, yn llawer gwaeth, i blant sydd ar brydau ysgol am ddim. Rwy'n credu, fel Llywodraeth, ein bod wedi rhoi'r flaenoriaethu i wneud popeth yn ein gallu i liniaru'r argyfwng costau byw y mae pawb ohonom yn ei brofi ar hyn o bryd. Nid oes angen imi ddweud wrthych ein bod wedi bod yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar ymrwymiad y cytundeb cydweithio i brydau ysgol am ddim. Mae hwnnw'n fuddsoddiad enfawr. Rydym yn gwneud yn dda iawn ar hynny. Dim ond tri awdurdod sydd ar ôl i fynd, rwy'n credu, a byddwn yn cwblhau hynny erbyn mis Medi, felly bydd prydau ysgol am ddim wedi'i gyflwyno i holl blant ysgolion cynradd ym mhobman. Mae hynny'n rhoi arian ym mhocedi teuluoedd yn uniongyrchol. Mae gennym hefyd ein grant hanfodion ysgol, sy'n helpu teuluoedd gydag offer a phethau hanfodol fel y gall plant fynychu'r ysgol. Rydym hefyd yn edrych ar bopeth y gallwn ei wneud i liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad pan fydd plant a phobl ifanc yn yr ysgol. Rydych yn ymwybodol iawn nad oes gennym yr holl ysgogiadau, ond rydym yn gweithio'n galed ar draws y Llywodraeth i liniaru effaith tlodi ar deuluoedd a phlant a phobl ifanc.

14:55

Mae ateb Llywodraeth Cymru, 'Perthyn, Ymgysylltu a Chyfranogi', wedi achosi ychydig o ofid i rai athrawon. Mae pwyslais y ddogfen ar ymgysylltu, sydd wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud i athrawon deimlo mai nhw sydd ar fai, gan roi argraff annheg fod y broblem yn yr ysgol, a nodi'n anghywir y dylai ysgolion ddarparu dysgu mwy diddorol a difyr. Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi nad yr athrawon a'r ysgolion sydd ar fai o reidrwydd. Yn fy etholaeth i yn Aberconwy, mae nifer o rieni'n dod i fy ngweld, lle mae gan eu plant anawsterau dysgu, ond maent yn aros cryn dipyn o amser i ddatganiadau ddod trwodd. Hefyd, rwy'n gwybod ein bod wedi cael problemau yn ein hunedau cyfeirio disgyblion. Mae yna bobl yn aros nawr i allu mynychu unedau cyfeirio disgyblion. Nawr, mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar rieni i sicrhau presenoldeb rheolaidd eu plant yn yr ysgol, ac rwy'n sylwi, ers 2013, bod yr hysbysiad cosb addysg wedi bod yn £60, sy'n cynyddu i £120 os nad yw'n cael ei dalu ar ôl 28 diwrnod. Sut ydych chi'n ystyried ai dyna'r swm cywir? Sut ydych chi'n rhoi'r math hwnnw o werth ar blant nad ydynt yn mynychu'r ysgol pan fo'n hanfodol eu bod yn gwneud hynny? Sut ydych chi'n ymgysylltu mwy ag ysgolion a'u hathrawon, ac yn wir, yn cynnal arolwg o deuluoedd efallai  i sicrhau nad oes gennym y lefel o absenoldebau ysgol sydd gennym? Diolch.

Diolch yn fawr, Janet. Roedd eich cyfraniad hefyd yn tynnu sylw at ba mor gymhleth yw'r materion sy'n ymwneud â phresenoldeb. Felly, roeddech yn cyfeirio at bethau fel anghenion dysgu ychwanegol. Mae llawer o resymau pam nad yw plant yn mynychu'r ysgol, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r rheini. Rwy'n mynd i gadeirio fy nghyfarfod cyntaf o'r grŵp gweinidogol cenedlaethol ar bresenoldeb ddydd Llun, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny. 

O ran y canllawiau, yn sicr nid wyf yn credu bod unrhyw fwriad i feio athrawon. Rydym yn cydnabod ei bod yn gyfnod heriol iawn i weithio mewn ysgolion. Rwy'n credu bod y canllawiau wedi'u cynllunio i gefnogi athrawon i wneud ysgolion mor groesawgar a chysylltiedig ag y gallant fod. Rydym hefyd yn cydnabod yr heriau gydag anghenion dysgu ychwanegol a'r cysylltiadau ag iechyd, ac rydym yn mynd i fod yn trafod hynny yn ddiweddarach y prynhawn yma, felly nid wyf am oedi gyda hynny.

O ran hysbysiadau cosb, rydym wedi bod yn glir iawn mai dim ond fel dewis olaf y dylid eu defnyddio, ac rydym hefyd wedi buddsoddi £6.5 miliwn mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ychwanegol, sy'n creu partneriaethau, gan gynnig cymorth pwrpasol i blant gynnal lefelau presenoldeb da. Yn ogystal â hynny, rydym wedi buddsoddi £2.5 miliwn ychwanegol yn y gwasanaeth lles addysg eleni, ac mae hynny ar ben y cyllid arferol a ddarparwn ar gyfer y gwasanaeth lles addysg.

Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn ar hyn. Mae ein rhaglen ysgolion bro hefyd yn helpu oherwydd mae hynny'n cysylltu ysgolion yn well â'r gymuned, ac mae'n ymwneud â mynd i'r afael â'r holl feysydd cymhleth hynny. Rwy'n credu y bydd y tasglu cenedlaethol yn darparu cyfeiriad da i hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymddygiad ar draws ysgolion yn y Rhondda wedi dod yn un o fy mhryderon mwyaf. Mae preswylwyr ac athrawon yn cysylltu â fy swyddfa bron bob dydd ynglŷn â bwlio ac ymosodiadau disgyblion ar gyfoedion ac ar athrawon. Mae rhieni a gofalwyr yn penderfynu peidio ag anfon eu plant i'r ysgol. Mae athrawon yn dioddef cam-drin geiriol ac mewn rhai achosion, ymosodiadau corfforol, gydag un athro yn cwympo i'r llawr ar ôl cael ei wthio gan fyfyriwr. Mae rhieni wedi cysylltu â fy swyddfa yn dilyn cam-drin geiriol, cam-drin hiliol ac ymosodiadau corfforol. Yn dilyn y digwyddiad gwirioneddol erchyll yn Ysgol Dyffryn Aman fis diwethaf, rwy'n pryderu am les athrawon a disgyblion. Rwy'n pryderu hefyd am yr amser y mae'n ei gymryd i athrawon ymdrin â'r materion hyn, sy'n amser i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth, ac rwy'n pryderu bod ein pobl ifanc yn colli addysg werthfawr yn yr ysgol am eu bod yn dewis aros gartref. Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r newid yn ymddygiad disgyblion yn dilyn COVID, a sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi athrawon a disgyblion yn dilyn ymddygiad annerbyniol eu cyd-ddisgyblion?

15:00

Diolch yn fawr iawn, Buffy, a chredaf eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith ein bod wedi gweld newid mewn ymddygiad ers COVID. Rydym yn gweld llawer o broblemau cymdeithasol mewn ysgolion, rydym yn gweld plant a phobl ifanc ag anghenion llawer mwy cymhleth, plant a phobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd hunanreoli eu hemosiynau, ac mae'r rheini'n heriau mawr i ysgolion. Fel y dywedais mewn ymateb i Heledd Fychan, rydym yn gwneud gwaith manwl i edrych ar broblemau ymddygiad ar draws ysgolion yng Nghymru, fel bod gennym y data i wybod beth yn union sy'n digwydd. Rydym hefyd yn datblygu'r pecyn cymorth ymddygiadol i helpu ysgolion i ymdrin â'r sefyllfaoedd anodd hyn.

Ond i mi, mae cysylltiad annatod rhwng hyn a'r gwaith a wnawn ar iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Os yw ysgolion yn lleoedd croesawgar sy'n defnyddio dull ysgol gyfan, sydd â pherthnasoedd cryf, ymdeimlad cryf o berthyn, yna credaf fod hynny'n help mawr gyda llesiant plant a phobl ifanc ac yn helpu gyda'u hymddygiad. Ac fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn arall, rydym hefyd wedi blaenoriaethu cymorth ar gyfer llesiant athrawon drwy Education Support. Rwy’n cyfarfod â’r holl undebau llafur yn unigol, a bydd hyn yn uchel iawn ar eu hagenda, a chael y trafodaethau hynny ynglŷn â'r hyn y mae’r gweithlu’n ei wynebu.

Hyfforddi Seicolecwyr Addysg

4. Pa gynlluniau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi seicolegwyr addysg yn Arfon? OQ61065

Mae seicolegwyr addysg yn chwarae rhan bwysig mewn ysgolion yng ngogledd Cymru. Rydym yn buddsoddi £2.6 miliwn i hyfforddi a chadw seicolegwyr addysg newydd. Rydym yn cynnal trafodaethau heddiw ag awdurdod lleol Gwynedd i wrando ar eu cynnig i hyfforddi seicolegwyr addysg ym Mhrifysgol Bangor.

Diolch yn fawr. Ddiwedd y llynedd, dim ond dau seicolegydd addysg oedd yng Ngwynedd a Môn, yn gwasanaethu ar raddfa un i bob 13,000 o blant. Mae hynny'n faich gwaith anferthol ac yn golygu nad ydy rhai o blant mwyaf bregus yr ardal yn cael y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu. Un i bob 4,000 ydy'r raddfa i fod. Ac wrth drafod y mater efo'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mi wnaeth o roi yr argraff bendant ei fod o'n deall y pwynt fod angen hyfforddiant yn y gogledd, ac fe ddywedodd o fod yna drafodaethau'n digwydd efo partneriaid ym Mangor—a dwi'n falch o glywed gennych chi fod y trafodaethau yna wedi dechrau y prynhawn yma. Felly, lle mae'r trafodaethau yna'n mynd i fynd? Un peth ydy trafod. Fydd yna gwrs doethuriaeth ar gael ym Mhrifysgol Bangor o'r diwedd? Pryd y gwelwn ni y cwrs yna'n cychwyn? Faint o lefydd fydd ar gael? Byddai'n braf rŵan dechrau cael ychydig o'r manylion yn sgil datganiad positif y Prif Weinidog wythnos diwethaf.

Diolch yn fawr, Siân, ac a gaf i ddweud fy mod yn credu bod hwn yn fater pwysig iawn? O'm swydd flaenorol, credaf fod seicolegwyr yn chwarae rhan hynod bwysig. Rwy’n falch iawn ein bod wedi buddsoddi dros £2.6 miliwn rhwng 2022 a 2024-25, i hyfforddi seicolegwyr addysg newydd, ond rwy’n cydnabod bod y lleoedd hynny yng Nghaerdydd—10 yn rhagor o seicolegwyr addysg—ac rydym wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod o leiaf un ohonynt yn siaradwr Cymraeg ac yn gallu ymarfer yn Gymraeg ar ôl graddio. Rwy'n deall ein bod wedi gwneud yn dda iawn gyda hynny, gyda nifer o'r cyfranogwyr dros y trothwy hwnnw. Rwy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r gogledd am nad oes cwrs yno. Yn amlwg, mae pobl yn cael eu denu i weithio dros y ffin; mae bwrsariaethau ar gael i'w cadw dros y ffin, pan fyddant wedi mynd dros y ffin. Felly, credaf fod hwn yn waith pwysig iawn. Fel y dywedais, mae cyfarfod yn cael ei gynnal heddiw. Nid wyf wedi cael cyfle i gael y wybodaeth ddiweddaraf amdano, ond rwyf wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfod sy'n cael ei gynnal heddiw. Byddaf yn cyfarfod â Chymdeithas y Seicolegwyr Addysg cyn bo hir. Rwyf wedi cytuno i siarad yn eu cynhadledd, ac rwy'n awyddus iawn—gwn y bydd yna faterion anodd eu datrys—i sicrhau y gallwn gael cyflenwad gwell o'r gweithlu drwodd i ogledd Cymru. Mae’n faes heriol, ond rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i edrych ar hyn; fe fydd yn flaenoriaeth i mi.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall pob disgybl yng Nghymru gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg? OQ61068

15:05

Diolch, Llyr. Mae gan bob awdurdod lleol gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar waith i gynyddu’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg a mynediad ati yn eu hardal. Edrychaf ymlaen at gael eu hadroddiadau adolygu blynyddol ddiwedd mis Gorffennaf.

Wel, dwi'n edrych ymlaen hefyd i'w gweld nhw pan fyddan nhw ar gael, ond dwi'n dod nôl at y cwestiwn sylfaenol yma rŷn ni wedi'i glywed yn barod gan nifer o Aelodau ar draws y Siambr sef, wrth gwrs, y problemau o safbwynt trafnidiaeth i gael mynediad yn enwedig i ddarpariaeth chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg. Mae yna etholwyr yn cysylltu â fi sy'n dweud nawr fod disgwyl iddyn nhw dalu am drafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus sydd ddim yn bodoli, yn aml iawn, yn rhai o'r cymunedau gwledig sydd gennym ni—ond maen nhw'n gorfod talu i gael mynediad at chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg. Mae hynny, i bob pwrpas, yn dreth ar addysg Gymraeg. Nawr, a allwch chi ddweud a ydych chi'n teimlo bod hynny'n dderbyniol ai peidio? Gwnaethoch chi sôn bod yna waith yn digwydd ar greu arweiniad statudol rhyngddoch chi a'r Ysgrifennydd trafnidiaeth. A allwch chi gadarnhau erbyn pryd rŷch chi'n disgwyl y bydd hwnnw wedi'i gwblhau ac yn weithredol? A hefyd, a allwch chi ymrwymo heddiw, drwy hynny, nad tincro gyda'r sefyllfa y byddwch chi'n ei wneud, nad jest trio lleddfu ychydig ar y sefyllfa, ond y byddwch chi'n mynd ati nawr i ddatrys y broblem yma unwaith ac am byth?

Diolch yn fawr, Llyr. Wrth gwrs, rwyf am i bob unigolyn ifanc allu cael mynediad at yr addysg o’u dewis yn yr iaith o'u dewis, ac rwy’n cydnabod yr heriau gyda’r Mesur, fel y gwnaeth y Dirprwy Weinidog blaenorol a’r Gweinidog presennol, ac rydym yn cael y trafodaethau hynny. Fel y dywedais yn gynharach, roedd yr adroddiad argymhellion yn amlinellu llwybr cymedrol, ymarferol i wella’r ddarpariaeth teithio gan ddysgwyr yng Nghymru, sy’n cynnwys diweddariad o’r canllawiau. Rwy’n falch fod tîm adolygiad 2023 wedi gweithio’n agos gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Rhieni dros Addysg Gymraeg i ddeall y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â mynediad dysgwyr at ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac rydym wedi bod yn ddiolchgar iawn am eu parodrwydd i weithio mewn partneriaeth â ni ar hyn. Felly, bydd y diweddariad arfaethedig yn ymhelaethu ar y ddeddfwriaeth sydd wedi’i rhoi ar waith ers i’r ddogfen ganllawiau bresennol gael ei hysgrifennu—deddfwriaeth i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg, gan gynnwys rheoliadau safonau’r Gymraeg a rheoliadau’r cynllun strategol Cymraeg mewn addysg.

O ran amserlenni, yn amlwg, mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, ond byddaf yn gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny fel y gallwn nodi amserlenni a chydnabod pwysigrwydd y pryderon a godwyd gennych.

Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion yng ngogledd Cymru? OQ61042

Mae £430 miliwn wedi'i fuddsoddi yn seilwaith ysgolion a cholegau rhanbarth gogledd Cymru drwy raglen cymunedau dysgu cynaliadwy a grantiau cyllid cyfalaf cysylltiedig. Mae’r cynlluniau buddsoddiad cyfalaf addysg naw mlynedd newydd ar gyfer y rhaglen yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, a byddant yn sicrhau buddsoddiad pellach ar draws y rhanbarth.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sicr yn croesawu’r buddsoddiad dros flynyddoedd blaenorol, ond mae gennyf rai pryderon ynghylch tryloywder rhai o’r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd ar flaenoriaethu rhai o’r prosiectau a’r rhaglenni hynny. Hoffwn roi un enghraifft fer o ysgol lle rwy’n llywodraethwr, Ysgol Santes Ffraid—a dyna fy natganiad o fuddiant, fel y cyhoeddwyd eisoes—yn benodol, mae’r ysgol honno’n ysgol sy’n perfformio’n dda yng Nghymru, yn un o'r goreuon o ran canlyniadau, ac mae buddsoddiad wedi'i addo iddi ers blynyddoedd lawer, ac yn wir, roedd adroddiad arolwg diweddaraf Estyn, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod yr adeiladau, yn enwedig yr ystafelloedd dosbarth symudol, mewn cyflwr gwael, fod yr ysgol yn orlawn, gyda llawer o ddisgyblion ar restrau aros ar gyfer mynediad, ac ar hyn o bryd, fod yr ystafelloedd dosbarth yn rhy fach ac yn cyfyngu ar gapasiti'r ysgol i gynyddu niferoedd disgyblion. Felly, mae cyfyngiad ar ei gallu i ddatblygu yn y dyfodol fel ysgol. Ond ymddengys bod yr awdurdod lleol yn llusgo'u traed o ran buddsoddiadau ar safle'r ysgol. Felly, tybed a fyddech yn fodlon edrych ar yr achos penodol hwnnw o ran y buddsoddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ond yn sicr, edrych ar y tryloywder ynghylch y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy i sicrhau bod yr ysgolion iawn yn cael y buddsoddiad iawn pan fo'i angen.

Diolch, Sam. Credaf ichi sôn wrthyf am yr ysgol hon o'r blaen, ac awgrymais efallai y byddai'n syniad da pe baech yn ysgrifennu ataf yn ei chylch. Yn amlwg, mae gan benderfyniadau ar ysgolion unigol broses i fynd drwyddi, ac mae awdurdodau lleol yn eu blaenoriaethu, ac maent yn gweithio gyda’n tîm cyfalaf yn Llywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr eich bod hefyd yn cydnabod maint y buddsoddiad. Rydym wedi buddsoddi swm aruthrol o arian i gefnogi ein hadeiladau ysgol yn y blynyddoedd diwethaf. O ran tryloywder, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw faterion penodol yn ymwneud â thryloywder y trefniadau hyn, ond os hoffech ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny, byddaf yn sicr o godi'r mater gyda fy swyddogion.

15:10
Sgiliau Bywyd Hanfodol

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant yn dysgu sgiliau bywyd hanfodol? OQ61059

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio gan athrawon ac arbenigwyr i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hynny’n cynnwys sgiliau hanfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn ogystal â sgiliau mwy cyffredinol fel meddwl yn feirniadol a llythrennedd ariannol.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod dysgu sgiliau bywyd hanfodol i blant yn hollbwysig er mwyn paratoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn un o'r sgiliau hanfodol hynny yn fy marn i, a dylid ei feithrin mewn plant o oedran ifanc iawn. Nawr, rwy'n siŵr y byddaf yn dangos fy oed nawr, ond pan oeddwn yn iau, roeddem yn gwylio Super Safe with SuperTed ar fore Sadwrn, cartŵn addysgol i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd, a oedd yn cael ei ddarlunio ger castell Caerdydd. Nawr, yn amlwg, fe weithiodd hyn oherwydd, ddegawdau yn ddiweddarach, gallaf gofio popeth arall am y cartŵn hwnnw o hyd. Gwn fod gan rai awdurdodau lleol dimau diogelwch ar y ffyrdd penodol sy'n mynd i ysgolion ac yn rhoi cyflwyniadau ar ddiogelwch ar y ffyrdd, ond datgelodd ffigurau a gyhoeddwyd pan lansiodd Llywodraeth y DU ei hymgyrch PWYLLWCH! fod 67 y cant o blant yn cael llai na dwy awr o addysg diogelwch ar y ffyrdd yn ystod eu holl amser yn yr ysgol. O ystyried ffocws y Llywodraeth ar deithio llesol a’i bod am weld pobl yn gwneud mwy o gerdded, credaf yn gryf ei bod yn hollbwysig fod plant yn cael eu haddysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd o oedran iau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni hynny?

Diolch, Natasha. Gallaf roi sicrwydd i chi fod teithio llesol diogel yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym wedi rhoi ystod o bolisïau ar waith, fel y gwyddoch, i gefnogi hynny. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod gan wahanol awdurdodau lleol raglenni gwahanol ar waith. Gwn fod gan Rondda Cynon Taf raglen hyfforddiant teithio'n annibynnol ar gyfer pobl ifanc. Ond os caf, fe ysgrifennaf atoch gyda manylion yr hyn y mae gwahanol awdurdodau lleol yn ei wneud.FootnoteLink Ond yn amlwg, mae yno waith pwysig yr ydym yn ei wneud i gydgysylltu ein hymrwymiadau teithio llesol â'n hymrwymiadau addysg mewn ysgolion.

Diogelu mewn Ysgolion

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelu mewn ysgolion? OQ61058

Mae gan bawb hawl i gael mynediad at amgylchedd dysgu diogel, ac mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu. Mae canllawiau statudol 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau addysg i sicrhau bod ganddynt systemau diogelu effeithiol ar waith.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae achos llys Neil Foden wedi amlygu rhai bylchau brawychus ym maes diogelu. Er fy mod yn derbyn na all ac na ddylai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylw ar achos llys cyfredol, mae’r achos wedi tynnu sylw at faterion ehangach. Mae wedi dod yn amlwg fod pryderon ynglŷn ag—

Mae angen imi dynnu eich sylw, Altaf Hussain; mae hwn yn achos cyfredol, a hoffwn eich annog i fod yn ofalus iawn o ran yr hyn y byddwch yn ei ddweud.

Ie, nid wyf yn siarad amdano. Rwy'n siarad yn gyffredinol. Gallwch glywed fy nghwestiwn.

Mae wedi dod yn amlwg fod pryderon ynglŷn ag ymddygiad amhriodol y pennaeth hwn tuag at ddisgyblion benywaidd—

Rwy'n credu y bydd angen imi eich cynghori’n gryf iawn i ailystyried eich cwestiwn.

Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n fodlon fod mesurau diogelu digonol ar waith i atal ymddygiad o’r fath? A pha gamau y byddwch yn eu cymryd yn dilyn canlyniad yr achos hwn a charcharu athro o Gaerdydd am droseddau tebyg i sicrhau bod gennym brosesau cadarn ar waith i ddiogelu disgyblion yn ein hystafelloedd dosbarth?

Diolch, Altaf. Mae gan bob ysgol ddyletswyddau statudol i weithredu mewn ffordd sy’n ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo llesiant. Ac wrth gydymffurfio â'u dyletswyddau statudol, mae angen i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sicrhau bod mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith i leihau'r risg o niwed i lesiant plant. Mae angen iddynt hefyd sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon am lesiant plentyn neu blant, gan weithio'n unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol y cytunwyd arnynt mewn partneriaeth lawn ag asiantaethau lleol eraill.

15:15
3. Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar Gyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yma. Mick Antoniw.

Cynnig NDM8576 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig.

Braint yw gallu gwneud y cynnig ar y Bil pwysig yma. Heddiw, rŷn ni'n creu hanes. Dau ddeg pum mlynedd yn ôl, ar 6 Mai 1999, roedd pobl Cymru wedi ethol Cynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru. Bryd hynny, doedd dim pwerau deddfu go iawn. Doedd dim rhaniad rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Dros y chwarter canrif diwethaf, mae ein democratiaeth wedi tyfu, wedi datblygu ac wedi aeddfedu.

Mae datganoli'n ymwneud â datganoli pŵer. Mae'n ymwneud â dod â'r broses o wneud penderfyniadau yn nes at bobl Cymru. Mae'n ymwneud â grymuso: grymuso pobl a chymunedau yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pob unigolyn yng Nghymru. Ac eto, er bod cyfrifoldebau’r Senedd wedi cynyddu, nid yw ei chapasiti wedi cynyddu. Dyma'r lleiaf o holl ddeddfwrfeydd datganoledig y DU o hyd. Mae gan Senedd yr Alban 129 o Aelodau ac mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon 90 o Aelodau. Mae’r Bil ger ein bron yn newid hynny. Mae’n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i fuddsoddi yn ein democratiaeth, drwy greu Senedd fodern sy’n cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru’r unfed ganrif ar hugain; Senedd fwy effeithiol, gyda mwy o allu a chapasiti i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif; Senedd fwy cynrychioliadol i wasanaethu pobl Cymru'n well. Rwy'n annog yr holl Aelodau i achub ar y cyfle hwn i gryfhau sylfeini ein democratiaeth seneddol, i adnewyddu, gwella a moderneiddio’r ddeddfwrfa, i’w gwneud yn addas ar gyfer yr heriau niferus sy’n ein hwynebu fel cenedl.

Mae’r Bil hwn yn cynnwys pecyn beiddgar o ddiwygiadau, gwelliant sylweddol ar ein system etholiadol bresennol, gan ddileu’r anghyfranoldeb sy’n gynhenid yn system y cyntaf i'r felin. Bydd yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif. Bydd yn darparu'r fframwaith etholiadol ar gyfer mwy o amrywiaeth a chynrychiolaeth decach. Bydd yn symlach. Dim ond un bleidlais a fydd gan bleidleiswyr o gymharu â dwy o dan y system bresennol. Bydd yn creu mwy o dryloywder ac atebolrwydd ymhlith ymgeiswyr i'r maniffesto y cawsant eu hethol arno. Bydd yn galluogi craffu gwell a mwy arbenigol ar bolisi, Llywodraeth a chyflawniad. Bydd yn cryfhau democratiaeth.

Yn ogystal ag ymdrin â chapasiti’r Senedd a mynd i’r afael â’i system etholiadol, mae’r Bil hefyd yn darparu, am y tro cyntaf erioed, ar gyfer creu etholaethau Senedd newydd. Mae’n rhoi pwrpas newydd i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, o dan ei enw newydd, gan ddarparu’r swyddogaethau angenrheidiol iddo gynnal adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd yn barhaus. Mae'n darparu cyfleoedd mwy aml ar gyfer adnewyddiad democrataidd drwy ddychwelyd at etholiadau pedair blynedd. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ac Aelodau’r Senedd breswylio yng Nghymru, ac mae’n darparu mecanwaith i adolygu’r newidiadau ar ôl etholiad 2026, ac i ystyried goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi i Aelodau a swyddi sy'n gysylltiedig â’r Senedd.

Soniais yng Nghyfnod 1 am bwysigrwydd craffu a’r ffaith mai'r ffordd orau o greu deddfau yw drwy graffu seneddol, a chredaf ein bod wedi gweld hynny yn ystod taith ddeddfwriaethol y Bil hwn. Rydym wedi cael trafodaethau grymus, ond rydym hefyd wedi cael trafodaethau i wella'r pecyn blaengar hwn o fesurau a'i wneud yn fwy eglur. Rydym wedi gweld consensws yn datblygu ar faterion cysylltiedig, megis cynyddu atebolrwydd Aelodau. Rydym wedi gweld cefnogaeth drawsbleidiol i’r syniad o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cymryd tystiolaeth i nodi peirianwaith adalw effeithiol a chyfrannol sy’n gweithio i Gymru ac i’n system etholiadol. Ac rwy’n fwy na pharod i ailadrodd ymrwymiad y Llywodraeth hon nawr i gynnal y momentwm a gynhyrchwyd ac i ymgysylltu â’r pwyllgor a’i gefnogi yn ei waith.

Hoffwn ddiolch, felly, i’r holl Aelodau a’r pwyllgorau am eu hystyriaeth adeiladol a’u gwaith craffu ar y Bil hwn. Mae eich cyfraniadau wedi sicrhau bod y Bil hwn yn y sefyllfa orau y gall fod ynddi, ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid, arbenigwyr ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi cyfrannu eu barn a'u harbenigedd yn ystod craffu deddfwriaethol ar y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i'r swyddogion, gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Biliau Diwygio, am eu cefnogaeth i mi ac i'r Aelodau drwy gydol taith ddeddfwriaethol y Bil.

Ac yn olaf, hoffwn ddiolch i aelodau a chyfranwyr y gwahanol gomisiynau a phaneli dros y blynyddoedd, y mae eu gwaith wedi ein harwain at y foment hon. Mae hwn yn Fil sydd â'i wreiddiau yn nhrafodaethau’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Roedd y pwyllgor hwnnw, yn ei dro, yn ddyledus i waith ei ragflaenwyr, gan gynnwys y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol. Heb eu gwaith, ni fyddai’r cynigion ger ein bron heddiw wedi bod yn bosibl. Wrth i’n taith ddatganoli nodi ei charreg filltir 25 mlynedd, rwy'n credu y bydd y pecyn hwn o ddiwygiadau yn creu Senedd sy’n addas at y diben ar gyfer y 25 mlynedd nesaf a thu hwnt. Diolch, Lywydd.

15:20

Wel, dyma ni eto. Rydym wedi cyrraedd cyfnod olaf y broses o ystyried y Bil hwn i ddiwygio’r Senedd, ac mae gennym ddeddfwriaeth o’n blaenau ar ei ffurf derfynol. A hoffwn gofnodi fy niolch i dîm y Pwyllgor Biliau Diwygio ac i'r rheini a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor hwnnw yn ystod ei drafodaethau ar y Bil eang hwn.

Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, ac fe’i dywedaf eto, mae rhannau o’r Bil y mae fy mhlaid wedi’u croesawu. Rydym yn croesawu dychwelyd at dymhorau pedair blynedd ar gyfer y Senedd hon, fel bod yn rhaid i Aelodau fynd yn ôl i ofyn am fandad newydd gan y cyhoedd, ac rydym yn sicr yn croesawu’r gofynion preswylio a fydd yn cael eu gosod ar bobl, fel bod yn rhaid iddynt fyw yng Nghymru os ydynt am sefyll i gael eu hethol i'r Senedd hon. Fodd bynnag, mae’n drueni mawr fod y Bil wedi newid cyn lleied yn ystod ei daith drwy’r Senedd.

Roedd llawer o welliannau synhwyrol a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3 gan fy mhlaid i a chan bleidiau gwleidyddol eraill, gyda bwriadau diffuant o gryfhau a gwella’r Bil. Roedd llawer ohonynt yn unol ag argymhellion trawsbleidiol y Pwyllgor Biliau Diwygio. Ac eto, pleidleisiodd Aelodau Llafur a Phlaid Cymru, gan gynnwys y rheini a oedd ar y pwyllgor yn gwneud yr argymhellion yr oedd llawer o’r gwelliannau hynny’n ceisio eu hadlewyrchu, yn eu herbyn. Ac felly, ger ein bron y prynhawn yma, mae gennym ddeddfwriaeth ddiffygiol iawn, sy'n mynd i danseilio ein democratiaeth, mae arnaf ofn.

A bydd yn niweidio'r berthynas rhwng y cyhoedd a'u cynrychiolwyr etholedig yma yn Senedd Cymru. Mae’r Bil hwn yn dal i gynnwys creu system etholiadol rhestr gaeedig, system sy’n dileu hawl sylfaenol y mae pleidleiswyr Cymru wedi'i mwynhau ers cenedlaethau, drwy gael gwared ar y cyfle iddynt ddewis yr unigolyn y maent am iddynt gynrychioli eu hardal, ac ildio'r hawl honno i bwysigion pleidiau sy'n gyfrifol am restrau ymgeiswyr etholiadol. Dyma’r enghraifft waethaf o gipio grym oddi wrth bobl Cymru yn hanes democratiaeth Cymru.

Wedyn, mae maint yr ehangu a gynigir yn y Bil hwn—cynnydd syfrdanol o 60 y cant—a'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r ehangu hwnnw: bron i £20 miliwn bob blwyddyn, arian y mae ein gwasanaeth iechyd gwladol, ein hysgolion a'n gwasanaethau cyhoeddus eraill yn erfyn amdano. Arian a allai fod yn adeiladu ysbytai newydd, yn cadw ysgolion, llyfrgelloedd a chyfleusterau cyhoeddus ar agor, ond yn lle hynny, bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario ar swyddfeydd moethus ac yn talu am 36 yn rhagor o wleidyddion, eu gosgordd o staff a’r strwythur sydd ei angen yma yn y Senedd i’w cefnogi. Mae gwario £120 miliwn ar ragor o wleidyddion dros y cyfnod adolygu yn foethusrwydd na allwn ei fforddio.

Mae’r Bil hwn yn anfon neges glir at y cyhoedd yng Nghymru: byddem wrth ein bodd yn cadw eich llyfrgelloedd ar agor, byddem wrth ein bodd pe baech yn gallu cael eich llawdriniaeth neu eich sgan neu eich apwyntiad yn gynt, byddem wrth ein bodd yn cefnogi eich plentyn gyda’u hanghenion dysgu ychwanegol, ond maent yn foethusrwydd anfforddiadwy. Yn hytrach, rydym yn gwario'r arian y gallem fod yn ei wario arnynt ar greu 36 yn rhagor o wleidyddion ym Mae Caerdydd. Mae'n gywilyddus, Lywydd, ac mae hyn oll yn digwydd heb unrhyw fandad cyhoeddus clir o gwbl, ac yn wir, yn wyneb gwrthwynebiad cyhoeddus clir iawn, fel y gwelwyd yn ymatebion y cyhoedd i'r Pwyllgor Biliau Diwygio yn ystod ein trafodion.

Ceisiais fynd i’r afael â rhai o fethiannau’r Bil drwy welliannau synhwyrol, gwelliannau i gyflwyno system restr bleidleisio hyblyg i roi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac atebolrwydd uniongyrchol i Aelodau’r Senedd hon yn y dyfodol i’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu; system adalw i ganiatáu i’r cyhoedd gael gwared ar Aelodau o’r Senedd nad ydynt yn bodloni'r safonau ymddygiad uchel a ddisgwylir ganddynt; a’r gofyniad i gynnal refferendwm cyn cyflwyno newidiadau i’n system bleidleisio ac unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau’r Senedd. Ond Lywydd, cafodd y gwelliannau rhesymol hyn eu gwrthod gan Aelodau Llafur a Phlaid Cymru o'r Senedd, Aelodau a anwybyddodd eu cydwybod, a ddilynodd chwip eu plaid a bradychu’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Ac felly, byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn unedig yn ein gwrthwynebiad llwyr i'r Bil ger ein bron. A’r wythnos hon, Lywydd, wrth inni nodi pum mlynedd ar hugain ers sefydlu’r Senedd a datganoli yng Nghymru, rwy’n annog yr Aelodau i wrthod y ddeddfwriaeth hon: mae’n gam yn ôl i ddemocratiaeth ac atebolrwydd yng Nghymru; bydd yn niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd, yn erydu pwerau pleidleiswyr, ac yn tanseilio hyder yn y Senedd hon. Lywydd, mae'n syml: mae angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru; nid oes angen mwy o wleidyddion arni. Felly, os ydych chi'n credu mewn democratiaeth, gyd-Aelodau, os ydych chi'n credu mewn atebolrwydd ac os ydych chi'n credu mewn cyflawni yn unol â blaenoriaethau pobl Cymru, fe fyddwch yn ymuno â mi a phawb ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig ac yn pleidleisio yn erbyn y Bil hwn.

15:25

Ddoe oedd y diwrnod roeddem ni'n adlewyrchu ar y 25 mlynedd cyntaf o ddatganoli, a heddiw ydy’r diwrnod rydyn ni’n edrych ymlaen, a rhaid cyfaddef dwi’n ei hystyried hi’n anrhydedd bod yn Aelod yma a chael y cyfle i fwrw fy mhleidlais o blaid y diwygiadau hirddisgwyliedig sydd ger ein bron ni heddiw.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni fel seneddwyr i gyrraedd y cam hanesyddol hwn, yn arbennig pawb sydd wedi cyfrannu i lu o sesiynau tystiolaeth ac ymchwiliadau sydd i gyd wedi dod i’r un casgliad, sef ei bod hi’n hen bryd i ni gymryd y camau nesaf i gryfhau ein democratiaeth ar gyfer y bennod nesaf yn hanes ein cenedl. Ac am daith ydy hi wedi bod dros y canrifoedd.

Fel ein hatgoffwyd ni ddoe gan Luke Fletcher, ac fel ein hatgoffir ni gan ddisgyblion sy’n ymweld â’r Senedd hon o’n hetholaethau a’n rhanbarthau, mae datganoli a chael penderfyniadau am Gymru wedi eu gwneud yma yng Nghymru yn gyfan gwbl normal i genhedlaeth sydd ddim yn cofio Cymru fel arall. Maen nhw’n gweld bod yna ffordd wahanol o wneud gwleidyddiaeth yn bosib, ac maen nhw’n credu yng ngallu ein cenedl i lywodraethu ei hun a chymryd ei lle haeddiannol ar y llwyfan rhyngwladol. Yn wir, dangosodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru fod annibyniaeth i Gymru yn rhywbeth hollol hyfyw, a thrwy greu Senedd sy’n fwy cynrychioliadol o’n cenedl, ac un mwy o faint, mae hynny’n dod yn fwy posib.

Dros yr wythnosau diwethaf yn y Senedd hon, mae pwysigrwydd craffu ar Brif Weinidogion a Llywodraethau wedi dod i’r amlwg. Drwy gymryd y camau rydym, gobeithio, am eu cymryd heddiw, bydd ein gallu i ddwyn Gweinidogion i gyfrif yn cael ei gryfhau a byddwn yn creu system ethol gyfan gwbl gyfrannol.

Ac nid dyma ddiwedd y daith, wrth gwrs. Bydd adolygu yn digwydd yn dilyn yr etholiad nesaf. I fy mhlaid i, byddwn yn parhau i gefnogi ac ymgyrchu am system bleidleisio pleidlais sengl drosglwyddadwy. Byddwn eisiau creu Senedd wirioneddol gyfoes a chynrychioladol. Byddwn eisiau gweld mwy o bwerau yn cael eu datganoli a Chymru’n dod yn wlad annibynnol. Rydym hefyd yn falch ein bod wedi derbyn sicrwydd gan y Llywodraeth y byddan nhw’n cyflwyno Bil ar wahân, cyn diwedd y Senedd hon, i greu mecanwaith adalw priodol. Mi fyddwn ni’n eu dal nhw at hynny, a byddwn yn sicrhau y bydd y mecanweithiau adolygu yn y Bil hwn yn cael eu defnyddio’n gywir.

Felly, oes, mae gwaith yn parhau o’n blaenau i gryfhau ein democratiaeth. Ond mae’r cam rydym yn ei gymryd heddiw yn gam enfawr ymlaen, nid yn unig i’r Senedd hon, ond ein cenedl. Ein tasg ni fel gwleidyddion fydd sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r diwygiadau i wireddu’r hyn sy’n bosibl ar ran ein cymunedau, ac ar ran Cymru. Mae’n gyfrifoldeb aruthrol, ond mae’n rhaid i ni ei gymryd.

15:30

Rwy'n cefnogi'r cynnydd ym maint y Senedd. Yn yr Alban, mae gan Senedd yr Alban 30,000 o etholwyr i bob Aelod. Yng Ngogledd Iwerddon, ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon, mae ganddynt 15,000 o bleidleiswyr i bob Aelod. Yng Nghymru, mae gennym 40,000 o bleidleiswyr i bob Aelod ar hyn o bryd. Pe byddem yn cynyddu i 96 Aelod, byddai gennym 25,000 o etholwyr i bob Aelod a byddai hynny'n gosod Cymru tua hanner ffordd rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran nifer yr etholwyr. Ar hyn o bryd mae gan Ogledd Iwerddon fwy o Aelodau nag sydd gennym ni yng Nghymru.

Mae nifer yr Aelodau mewn pwyllgorau'n fach. Rwy'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Cyllid gyda thri Aelod arall. Os na all dau Aelod gyrraedd y cyfarfod, ni cheir cworwm. Gall hyn ddigwydd oherwydd traffig, gan fod yr M4 yn anhygoel o anodd ar adegau, wrth ddod i mewn o'r gorllewin—[Torri ar draws.] Mae Andrew R.T. Davies eisiau inni gael ffordd liniaru o amgylch Port Talbot. Rwy'n ei longyfarch. Byddaf yn ei gefnogi pan fydd yn galw am ffordd liniaru'r M4 o amgylch Port Talbot, oherwydd byddai hynny'n gwneud fy mywyd i'n llawer haws. Gall ddigwydd oherwydd salwch neu argyfwng teuluol. Byddai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi methu ffurfio cworwm heddiw pe bawn i wedi mynd i'r tŷ bach. [Chwerthin.] Ni allwch redeg sefydliad yn y ffordd honno, pan fydd yn rhaid i'r Aelodau eistedd yno hyd nes ein bod yn cael egwyl swyddogol er mwyn sicrhau cworwm i'r cyfarfod. Mae gan bwyllgorau eraill bump neu chwe Aelod. A oes unrhyw un yn meddwl bod y rhain yn rhifau digonol?

Diolch yn fawr, Mike; rydych chi'n ŵr bonheddig. Pam eich bod chi'n dilyn y chwip a pheidio â chaniatáu refferendwm i bobl Cymru ar y mater hwn? Ai oherwydd eich bod yn gwybod y bydd pobl yng Nghymru yn gwrthod hyn?

Nid wyf yn siŵr sut y byddai pobl yng Nghymru yn pleidleisio ar rywbeth fel hyn. Rwy'n credu pe bai'r ddadl yn cael ei gwneud am faint pwyllgorau, anhawster cadw cworwm pwyllgorau, mae'n ddigon posibl y byddai pobl Cymru wedi meddwl, 'Wel, efallai fod angen mwy o Aelodau arnom'. Os ydych chi'n dweud wrthynt sut rydym ni'n wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n debyg y byddent yn meddwl bod angen mwy o Aelodau arnom. Ni allwn gael Llywodraeth drwy refferendwm. Rwyf wedi bod yn rhan o lawer o refferenda. Rwyf wedi colli mwy nag a enillais ac rwyf wedi bod yn anhapus iawn gyda refferenda, oherwydd maent yn gorfodi ateb 'ie' neu 'na' i gwestiynau cymhleth iawn, ac mae honno'n broblem ddifrifol. Gallai Rishi Sunak roi refferendwm i ni nawr ar ei Lywodraeth—fe'i gelwir yn etholiad cyffredinol—a byddai pawb ar y meinciau Llafur wrth eu bodd gyda hynny.

Nid yw dewis system etholiadol newydd yn weithred wleidyddol niwtral. Mae'r system a ddewisir yn cael effaith enfawr ar nifer y seddi a enillir. Pe bai Cymru ym 1999 wedi defnyddio trefn y cyntaf i'r felin, byddai Llafur wedi ennill pob etholiad dilynol yn gyfforddus. Roedd cyflwyno Aelodau rhanbarthol a'r system ranbarthol yn golygu nad yw Llafur erioed wedi cael mwyafrif yn y Senedd. Roedd y pleidleisiau yr un fath, ond roedd y canlyniad yn wahanol. Mae dau beth wedi cael eu dweud am y system newydd. Yn gyntaf, ei bod yn gyfrannol; yr ail yw nad oes unrhyw bleidleisiau'n cael eu gwastraffu. Gellir profi bod y ddau'n anghywir. Nid mater o farn ydyw—gellir profi nad ydynt yn wir. Rwy'n cytuno â Rishi Sunak: mae angen inni wella rhifedd yn y wlad hon.

Yr hyn fydd yn digwydd yw y bydd yn fras gyfrannol rhwng y tair plaid fwyaf, ond bydd yn ei gwneud hi'n anos i bleidiau llai ennill, ac rwy'n siŵr fod Jane Dodds yn mynd i ddweud rhywbeth ynglŷn â sut mae'n mynd i'w gwneud hi'n anos i'r Democratiaid Rhyddfrydol pan fydd hi'n codi i siarad. Mae'n debyg y bydd hi'n gofyn am y bleidlais sengl drosglwyddadwy, sydd ychydig fel loteri am seddi. Oni bai bod gan bob plaid luosrifau o 60 a dwy ran o dair o gyfanswm y bleidlais ym mhob etholaeth, byddai pleidleisiau'n cael eu gwastraff—mae hynny'n anochel. Bydd gennych bobl a fydd yn cael mwy o bleidleisiau neu lai o bleidleisiau nag sydd ei angen arnynt i symud i'r lefel nesaf. [Torri ar draws.] Mae Lee Waters yn dweud 'fewer' nid 'less'. Pan welaf fformiwla fathemategol sy'n dweud bod x yn 'fewer' na y, byddaf yn cytuno ag ef, ond bob tro y gwelaf fformiwla fathemategol, mae'n dweud bod x yn 'less' na y. Unwaith eto, rwy'n meddwl bod rhifedd yn beth gwych; mae'n drueni nad yw wedi cyrraedd y fan hon. [Torri ar draws.]

Pan fydd haneswyr yn edrych ar y penderfyniad hwn yn y dyfodol, bydd ganddynt rywbeth i'w ddisgrifio fel y gwrthwyneb i ad-drefnu tueddol neu jerimandro, lle mae plaid wleidyddol yn mynd o feddu ar system lle gallant ennill i un lle mae'n mynd i fod yn anodd iawn os nad yn amhosibl iddynt wneud hynny. Nod y system yw cynhyrchu Senedd grog, Senedd Ewropeaidd ei naws. Nid yw'n un y teimlaf yn arbennig o gyfforddus yn ei chylch, ond dyna'r cyfeiriad rydym yn mynd iddo. 

15:35

Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddeddfwriaeth hanfodol hon a gyflwynwyd ger ein bron heddiw. Yn gyntaf, gadewch imi ddiolch i bawb sydd wedi bod ar bwyllgorau'r Bil diwygio gyda mi, a hefyd i'r staff a'r clercod. Maent wedi gwneud gwaith anhygoel yn crisialu'r holl wybodaeth a dod â ni i'r pwynt hwn heddiw. Rydym i gyd wedi dysgu oddi wrth ein gilydd, gobeithio, ac rwy'n sicr wedi dysgu gan y rhai y bûm yn aelod o bwyllgorau gyda nhw—diolch o galon. Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddeddfwriaeth hon, yr ystyriaf y bydd yn gwella craffu ac yn sicrhau cynrychiolaeth briodol i bob un o gymunedau amrywiol Cymru. Rydym yn symud i ffwrdd o system hen ffasiwn y cyntaf i'r felin, sy'n sicr yn gam cadarnhaol, gan ddod â model mwy cyfrannol i'n democratiaeth yma yng Nghymru. Dyma gynnydd y byddai'n briodol inni ei ddathlu.

Ond ni allaf golli cyfle i siarad am y system bleidleisio. Mae'r Bil diwygio fel y mae yn parhau i fod yn sylfaenol ddiffygiol. Mae cyflwyno rhestrau plaid caeedig yn creu perygl o amddifadu pleidleiswyr o ddewis go iawn, ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i ni y byddai hyn o fudd i'r etholwyr mewn unrhyw ffordd. Rydym yn parhau i fod, ym mhlaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn gadarn ein hargyhoeddiad mai pleidlais sengl drosglwyddadwy yw'r system fwyaf teg, fwyaf atebol y mae Cymru'n ei haeddu. Byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy yn creu model gwirioneddol ddemocrataidd, lle mae pob pleidlais yn gyfartal o ran ei phwysigrwydd a'i phŵer. Felly, byddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth heddiw, ond rwy'n annog y Senedd hon, a holl Lywodraethau'r dyfodol, i'w weld fel cam cyntaf yn unig ar ein taith ddemocrataidd—taith tuag at Senedd gryfach, gwbl ddemocrataidd i Gymru, un wedi'i hadeiladu ar yr egwyddor sylfaenol o roi llais a dewis cyfartal i'r bobl ynghylch y rhai sy'n eu cynrychioli. Diolch yn fawr iawn.

Mae hi'n addas iawn ein bod ni yma heddiw i bleidleisio dros roi'r gallu i'n Senedd ni weithredu fel Senedd genedlaethol go iawn, bron i 25 mlynedd i'r diwrnod ers yr etholiadau cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol. Dwi'n ddiolchgar iawn am y gwaith trawsbleidiol sydd wedi mynd tuag at gyflawni'r cam nesaf pwysig yma yn ein taith genedlaethol. Yn y Siambr yma, fel ar draws Cymru, mae yna wahaniaeth barn ar lle rydyn ni'n mynd, yn y pen draw, ar y daith honno, ond mae'r Bil yma yn rhoi i ni y math o Senedd sydd ei hangen beth bynnag ydy'r camau nesaf. I bob un ohonom ni yn y fan hon sydd eisiau sicrhau gwell sgrwtini, gwell dal Llywodraeth i gyfrif, gwell polisi, gwell pwyso a mesur ein penderfyniadau, gwell gwariant cyhoeddus, yna mi fydd gennym ni'r capasiti i wneud hynny'n effeithiol ar ran pobl Cymru. I'r rheini sydd am wthio ymhellach, rydyn ni'n creu'r llwyfan ar gyfer hynny, ac i'r rheini ohonom ni sy'n credu mewn cymryd cyfrifoldeb am ein ffawd ein hunain fel gwlad sydd eisiau gafael yn dynn a meithrin y weledigaeth o Gymru hyderus, ffyniannus, deg ac annibynnol, yna mi allwn ni fod yn falch ein bod ni yma heddiw yn creu Senedd y Gymru annibynnol honno.

Dywedais yma ddoe fod angen inni weld newid sylweddol mewn datganoli wrth inni fynd i mewn i'w ail chwarter canrif. Mae angen atebion newydd wedi'u targedu i'r heriau sy'n ein hwynebu yn ein heconomi, ar y GIG ac mewn addysg, i drechu tlodi plant o'r diwedd, ac adnewyddu ffydd pobl yn ein democratiaeth Gymreig a'u hymgysylltiad â hi. Ac fel yr amlinellodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru mor amlwg, fe wyddom nad yw'r setliad datganoli presennol yn gynaliadwy. Mae newid pellach yn anochel. Mae Senedd fwy a mwy cynrychioliadol, Senedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a thu hwnt, yn rhoi sylfaen newydd inni adeiladu Cymru decach arni ac i baratoi ar gyfer y mathau o newid gwleidyddol a chyfansoddiadol y gwyddom eu bod yn dod. A dyma'r Senedd a fydd yn barod i wasanaethu Cymru annibynnol hyderus, pan fyddwn ni'n barod i gymryd y cam hwnnw, gan gymryd ysgogiadau newid i'n dwylo ni. Rydym wedi teithio'n bell—

15:40

Diolch am dderbyn ymyriad. Rwy'n poeni braidd eich bod yn gosod dau beth ochr yn ochr. Mae'r ddeddfwriaeth rydym yn ei phasio heddiw yn ymwneud ag ymestyn, yn gwbl briodol, nifer y bobl a fydd yn cael eu hethol i'r lle hwn; nid yw'n ymwneud â symud tuag at Gymru annibynnol. 

Fel y dywedais, yn y Siambr hon, ac ar draws Cymru, mae gennym wahanol ddyheadau ar gyfer ein cenedl, gwahanol lefelau o uchelgais ar gyfer ein cenedl. Y peth allweddol yw ein bod yn rhoi'r arfau i ni ein hunain fel Senedd i wneud y newidiadau hynny drosom ein hunain. 

Rydym wedi dod yn bell, ac wrth hynny, nid wyf yn golygu ers refferendwm 1997, ond ers 1979. Cofiwch heddiw y wers nad oes dim sy'n werth ei gael yn dod yn hawdd, ac mai dim ond drwy adeiladu achos y gwnawn ni sicrhau newid ystyrlon. Ac mae rhai elfennau o'n hesblygiad angen sylw ar unwaith. Mae'r Bil hwn yn cynnwys mecanwaith adolygu yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn benderfynol y caiff ei ddefnyddio, a'i ddefnyddio'n effeithiol. Nid ydym wedi gwneud unrhyw gyfrinach o'r ffaith hefyd ein bod yn ffafrio'r bleidlais sengl drosglwyddadwy dros restrau caeedig, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos drosti. Byddwn i gyd yn sicrhau, gobeithio, fod mecanwaith adalw yn cael ei ddeddfu os yw unrhyw Aelod o'r Senedd yn torri safonau ymddygiad yn ddifrifol. 

Lywydd, mae hyn ar gyfer holl bobl Cymru, y mae pob un ohonom gyda'n gilydd yn eu cynrychioli. Cefais fy nghalonogi gan y Ceidwadwyr ddoe yn siarad o blaid datganoli, ac yn siarad yn gryf felly. Wel, mae'n rhaid inni feithrin a diogelu ein Senedd newydd gyda'n gilydd. Mae diogelu datganoli yn golygu buddsoddi ynddo, a mynnu enillion ar y buddsoddiad mewn gwasanaethau gwell, cyfreithiau gwell, gwariant cyhoeddus gwell a chanlyniadau gwell. Y cyd-destun, os caf roi un enghraifft, yw'r amcangyfrif o £20 biliwn y mae angen ei wario ar uwchraddio Palas San Steffan—Dau Dŷ'r Senedd yn San Steffan. Mae'r atgyweiriadau hynny i'r adeilad yn cyfateb i'r gost o gryfhau ein Senedd i ganiatáu iddi wasanaethu pobl Cymru yn well am fwy na 1,000 o flynyddoedd. Rydym yn gwneud penderfyniadau heddiw i sicrhau nad yw pobl Cymru yn cael cam yn ddemocrataidd mwyach o'i gymharu â Seneddau cenedlaethol eraill ar yr ynysoedd hyn. 

Rwyf am orffen drwy ddiolch unwaith eto i bawb a gyfrannodd at y ddeddfwriaeth hanesyddol hon drwy nodi a dathlu'r hyn a gyflawnwyd a thrwy edrych ymlaen at y cyfleoedd newydd a ddaw yn ei sgil.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod yn croesawu'n fawr yr holl sylwadau a wnaed gan yr Aelodau heddiw, a'r ysbryd y cawsant eu gwneud ynddo? Rwyf hefyd yn diolch i Darren am y gefnogaeth ar yr agweddau y gwnaethom ymgysylltu yn eu cylch—y pedair blynedd, sy'n newid cyfansoddiadol sylweddol, a mater preswyliad. Rwy'n ddiolchgar fod gennym gonsensws ynglŷn â hynny hefyd. Dyna oedd y meysydd adeiladol; rwy'n credu bod rhai o'r lleill ychydig yn fwy rhagweladwy efallai. A gaf i ddiolch i Darren, wrth gwrs, am y gwaith ar adalw? Ac wrth gwrs, mae'r momentwm hwnnw wedi'i roi ar waith a bydd yn gweithio gyda phwyllgor y Senedd. Rwy'n disgwyl mai pwyllgor y Senedd fydd yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, ac wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r pwyllgor hwnnw er mwyn cyflawni hynny, oherwydd rydym i gyd yn cydnabod ei fod yn newid pwysig. Nid oedd yn briodol ar y pryd o fewn y Bil hwn, ond mae angen ffocws penodol iawn arno, ac mae hynny ar y gweill ar hyn o bryd. A gaf i ofyn i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd—rwy'n deall y pwyntiau y maent yn eu gwneud am y rhestr gaeedig—i groesawu'r cyfle y mae'n ei gyflwyno mewn perthynas ag amrywiaeth? Oherwydd yn 2026, os gwnewch chi ei groesawu, mae gennych gyfle i gynyddu eich cynrychiolaeth rhywedd o 19 y cant i o leiaf 50 y cant. Dyna un o'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig. 

Yn sicr, rwy'n cydnabod yr angen i bob plaid yn y Siambr hon wella eu hamrywiaeth. Ar eich meinciau eich hun, ychydig iawn o amrywiaeth a geir o ran hil, neu ffydd, neu unrhyw beth o'r natur honno. Mae angen i bawb ohonom wella o ran hynny. Ond a ydych chi hefyd yn derbyn y gallech barhau i gyflawni llawer o'ch uchelgeisiau pe byddech wedi derbyn system rhestr hyblyg, a fyddai wedi caniatáu ichi barhau i gyflawni'r holl fanteision yr ydych yn eu honni mewn system rhestr gaeedig heb amddifadu pobl Cymru o'r gallu i bleidleisio dros ymgeiswyr unigol?

Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod system rhestr gaeedig yn creu cyfle. Mae'n gyfle y gellir ei fachu, ac rwy'n credu bod yr holl dystiolaeth yn dangos bod y system honno'n un sy'n cyfrannu mwy at wella amrywiaeth na'r system rhestr hyblyg. Ond yr hyn rwy'n ei annog yn fawr, wrth gwrs, yw y bydd adolygiad yn 2026, wedi'r etholiad hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y mecanwaith ar gyfer adolygiad ar wyneb y Bil. A gaf i ddweud hefyd, mewn perthynas â'r sylwadau a wnaethoch ynghylch y peth arferol: cymharu pob eitem o wariant â faint o ysbytai, nyrsys ac ati—os oes gwelliant o 0.01 y cant yn y craffu a'r ffordd y gwnawn benderfyniadau, mae'r ddeddfwriaeth hon yn talu amdani ei hun?

Rwyf wedi nodi heddiw pam y credaf y bydd y Bil yn gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru. Yn y bôn, mae'n fuddsoddiad mewn democratiaeth, mae'n fuddsoddiad yn nyfodol Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi a phasio'r ddeddfwriaeth hanesyddol hon. Diolch. 

15:45

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, ac felly byddaf yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 sydd nesaf, ond does dim cwestiynau wedi cael eu derbyn o dan eitem 4.  

5. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 5, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf gan Julie Morgan. 

'Dyma'r llais o ddwylo distaw. / Dyma'r llais na chaiff ei glywed, ond ei weld.'

Dyma eiriau Dorothy Miles yn ei cherdd 'The Gesture'. Roedd Dorothy Miles yn ddynes ryfeddol, a helpodd i hyrwyddo a phoblogeiddio Iaith Arwyddion Prydain gyda'i barddoniaeth a'i dawn theatrig. A bythefnos yn ôl, cafodd Dorothy ei chydnabod â phlac porffor, a gafodd ei ddadorchuddio yng nghartref ei phlentyndod yn y Rhyl. Ganed Dorothy yn 1931, a chollodd ei chlyw ar ôl datblygu llid yr ymennydd yn wyth oed. Mynychodd ysgol Manceinion i blant byddar a Phrifysgol Gallaudet, y brifysgol Americanaidd flaenllaw ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw. Aeth Dorothy ymlaen i gael gyrfa yn y celfyddydau, gan berfformio gyda Theatr Genedlaethol y Byddar UDA. Ar ôl 20 mlynedd yn America, dychwelodd Dorothy i'r DU, lle dechreuodd wneud enw iddi ei hun yma.

Hi oedd y fenyw gyntaf i ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth fyddar, a elwir yn 'farddoniaeth arwyddion' neu 'farddoniaeth symudiadau'. Cynhyrchodd Dorothy raglen See Hear y BBC, gan uno'r cymunedau byddar a'r rhai sy'n clywed drwy un rhaglen deledu. Lluniodd Dorothy y llawlyfr addysgu cyntaf ar gyfer tiwtoriaid BSL, a hi hefyd yw awdur llyfr poblogaidd y BBC BSL: A Beginner's Guide.

Bu farw Dorothy ym 1993, ac mae sefydliad wedi'i enwi ar ei hôl o'r enw Dot Sign Language, sy'n pontio'r bwlch rhwng byd pobl fyddar a phobl sy'n clywed. Roedd Dorothy yn fenyw wirioneddol ysbrydoledig, y bydd ei gwaddol yn parhau yn llyfrau hanes Cymru. Diolch. 

David Marquand, a fu farw bythefnos yn ôl, oedd un o feddylwyr gwleidyddol mwyaf blaenllaw Prydain. Roedd ei ysgrifau drwy'r 1980au a'r 1990au yn arloesol ac yn cael eu hedmygu'n fawr. Yn AS Llafur, un o sylfaenwyr y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol, Democrat Rhyddfrydol ac yn ddiweddarach, yn aelod o Blaid Cymru, fe wnaeth nodi un tro ei fod wedi bod mewn mwy o 'parties' na Thywysog Cymru. Roedd ei dad, Hilary, yn AS Llafur dros Gaerdydd, a olynodd Nye Bevan fel Gweinidog Iechyd, a threuliodd David ei flynyddoedd ffurfiannol yn y ddinas, a dewisodd dreulio ei flynyddoedd olaf ym Mhenarth. Roedd yn frwd ei gefnogaeth i'r Sefydliad Materion Cymreig, a daeth ef a'i wraig, Judith, a oedd lawn mor ddisglair, yn athrawon anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ymhell i mewn i'w 80au.

Roedd yn y byd gwleidyddol ar adeg gythryblus o newid cymdeithasol ac economaidd, a safodd yn gadarn ar y tir canol, gan wneud sawl safiad egwyddorol ar faterion. Roedd yn un o'r 69 AS Llafur a wrthryfelodd yn erbyn chwip y blaid yn y bleidlais i ymuno â'r farchnad gyffredin. Roedd yn gefnogwr allweddol i ymgyrch Siarter 88, a baratôdd y ffordd ar gyfer diwygio cyfansoddiadol, gan gynnwys datganoli i Gymru a chynrychiolaeth gyfrannol.

Newidiodd bleidiau, ond dywedodd fod ganddo gysondeb mewnol, ymrwymiad i wleidyddiaeth luosogaethol, flaengar, yr ystyriai ei bod er lles pawb. Ond yn bennaf, roedd yn ddyn caredig a graslon, a adawodd ei ôl ar syniadau am Ewrop, am Brydain ac am Gymru. Diolch, David.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:50

Mae’r Gymraeg yn ffynnu yn Nhreorci. Dyna oedd y neges glir yng Ngŵyl Mabon a oedd yn y Lion yn Nhreorci y penwythnos diwethaf. Gŵyl newydd sbon Gymraeg ydi Gŵyl Mabon, a cafwyd diwrnod llawn hwyl yn y Lion o 10 a.m. tan 11.30 p.m., gyda rhywbeth at ddant pawb.

Roedd Martyn Geraint mor boblogaidd ag erioed gyda phobl o bob oed, ond yn arbennig y rhai bach. Roedd sesiynau celf a chrefft, sgiliau syrcas, sesiynau animeiddio, ynghyd â llu o sgyrsiau a pherfformiadau gan gorau ysgol, Côr Cwm Rhondda, a llu o berfformwyr a bandiau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Mererid Hopwood, Dadleoli, Ble?, Bethany Powell, Hywel Pitts, Gwilym Bowen Rhys a Tara Bandito. Mi fues i ddigon lwcus i fod yno pan oedd Catrin Feelings, un o berfformwyr drag mwyaf poblogaidd Cymru, yn perfformio, a dyna oedd hwyl.

Roedd y lle yn orlawn o sgwrsio a chwerthin drwy’r dydd, a hynny yn y Gymraeg, ond gan greu awyrgylch groesawgar i’r di-Gymraeg hefyd. Hoffwn longyfarch pawb a fu’n rhan o’r trefnu, ac yn arbennig Adrian yn y Lion a’r staff am eu croeso cynnes a’u gwaith caled. Y gobaith ydy y bydd hon yn ŵyl flynyddol a fydd yn mynd o nerth i nerth. Dyma ddod â’r Gymraeg yn fyw yn ein cymunedau, rhywbeth sydd yn allweddol o ran cynyddu’r defnydd naturiol o’r Gymraeg. Dwi’n edrych ymlaen yn barod at yr un nesaf.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. 'Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8569 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd' a osodwyd ddydd Llun 15 Ionawr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ystadegau'n dweud wrthym fod trais yn erbyn menywod yn epidemig. Yng Nghymru a Lloegr mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan gyn-bartner neu bartner bresennol. Bydd un o bob tair menyw rhwng 16 a 60 oed yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes. Y tu ôl i'r ystadegau brawychus hyn mae mam, merch, cydweithiwr neu gymydog. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â sut mae'n rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan i ddod â'r epidemig hwn i ben. 

Er y bydd bron bob un ohonom wedi profi rhyw ffurf ar drais ar sail rhywedd gartref, yn y gweithle neu yn ein cysylltiadau cymdeithasol, yn amlach ym mhob un o'r rhain, roedd angen inni glywed gan yr arbenigwyr, y rhai sydd â phrofiad bywyd o ganlyniadau mwyaf difrifol trais ar sail rhywedd. Chwaraeodd ein grŵp cynghori ran allweddol yn cydgynhyrchu ein hadroddiad, ac rwy'n falch o ddweud bod rhai ohonynt yn yr oriel i wrando ar ein trafodaeth. Hoffwn ddiolch iddynt am rannu eu gwybodaeth a'u mewnwelediad wrth lunio camau allweddol yr ymchwiliad, ac am eu sylwadau ar ymateb Llywodraeth Cymru.

Hoffwn ddiolch hefyd i dîm clercio'r pwyllgor, yn enwedig Rhys Morgan, a'r Gwasanaeth Ymchwil, yn enwedig Sarah Hatherley, am y gwaith a wnaethant ar yr adroddiad hir a chymhleth hwn. Dechreuwyd yr ymchwiliad bron i flwyddyn yn ôl. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Ionawr, gydag ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru gan Jane Hutt ar 26 Chwefror, ac ymateb pellach i'n llythyr dilynol ddoe gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Dywedodd Dr Stephen Burrell o Brifysgol Durham wrthym fod trais ar sail rhywedd

'yn seiliedig ar, ac yn chwarae rhan sylweddol yn atgynhyrchu anghydraddoldebau rhywedd lle ystyrir bod llai o werth i fywydau menywod a lle mae dynion yn cael eu hannog i ddisgwyl bod â mwy o bŵer. Ni ellir gweld hyn fel un ymhlith llawer o ffactorau sy'n cyfrannu at drais ar sail rhywedd—dyma'r ffactor canolog.'

Mae mynd i'r afael â'r anghydbwysedd sylfaenol rhwng dynion a menywod a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd i bawb yn allweddol i atal, ac yn y pen draw i ddileu trais ar sail rhywedd. Dyna pam roedd y grŵp cynghori yn ystyried argymhelliad 1 fel ein hargymhelliad pwysicaf. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod gofyn cael dull Llywodraeth gyfan o weithredu a gweithio gyda phartneriaid ar draws gwasanaethau cyhoeddus a'r sector preifat a'r trydydd sector, ond mae'n anghytuno â'n hawgrym o brawf cydraddoldeb rhywiol i'w gymhwyso i'r holl gynigion polisi a deddfwriaethol. Yn hytrach, dechreuodd Jane Hutt adolygiad o'r pwysau a roddir i rywedd yn yr asesiad effaith integredig, gan ddechrau gyda'i drafod gyda phob adran o'r Llywodraeth. Ond rwy'n credu mai un o'r materion allweddol i'r grŵp cynghori yw sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn bwydo i mewn i'r broses honno. O'n rhan ninnau, rydym yn cydnabod bod mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â'r epidemig hwn drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywedd yn waith anodd ac arloesol. Dyna pam ein bod yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull mwy egnïol o godi ymwybyddiaeth a chreu dealltwriaeth gyffredin o'n cyfrifoldeb ar y cyd yn y gymdeithas drwyddi draw er mwyn mynd i'r afael â'r gwenwyn hwn sy'n effeithio ar bob un ohonom.

Rwy'n cymeradwyo mentrau fel Iawn sy'n annog dynion ifanc yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd a meddwl sut yr ânt i'r afael â senarios bob dydd yn eu perthnasoedd, sydd i'w croesawu fel ymyriadau. Clywodd y pwyllgor hefyd am y gwaith gwych sy'n digwydd gyda merched a menywod ifanc drwy sefydliadau fel Plan International. Ond mae'n siomedig gwybod na fydd union dermau'r glasbrint yn cael eu cyhoeddi, ond bydd cylch gorchwyl, aelodaeth y bwrdd partneriaeth cenedlaethol a'i ffrydiau gwaith yn cael eu rhoi ar wefan Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y mis hwn. Byddwn yn clywed gan y Gweinidog presennol, Lesley Griffiths, maes o law yn yr hydref ynglŷn â sut y gallwn gael diweddariad o sylwedd i brofi ymyriadau Llywodraeth Cymru a'u heffeithiolrwydd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond cydnabyddir hefyd fod angen inni gynnwys data ansoddol, yn ogystal â meintiol. Mae'r broses o gynhyrchu data yn heriol iawn i'r Llywodraeth. Byddwn yn parhau i graffu ar ba wahaniaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fywydau ein dinasyddion.

O'n 12 argymhelliad, mae llawer yn eithaf eang, ond mae argymhelliad 6 yn benodol iawn ynglŷn â sicrhau bod pob athro'n ymwybodol o'u dyletswydd adrodd gorfodol ar anffurfio organau cenhedlu menywod. Nid rhywbeth sy'n cael ei orfodi ar blant gan ddieithriaid yw hyn, mae'n rhywbeth y mae oedolion cyfeiliornus yn ei wneud i'w plant eu hunain. Yn realistig, ysgolion yw'r unig lefydd y gall plant sydd mewn perygl droi atynt i'w diogelu, felly mae'r sicrwydd hwnnw i'w groesawu'n fawr iawn.

Ond mae yna argymhellion eraill rydym yn poeni amdanynt. Argymhelliad 4: roedd y grŵp cynghori'n gwbl bendant ynghylch yr angen am wasanaethau therapiwtig penodol ac arbenigol llwybr cyflym ar gyfer plant sydd wedi gweld trais ar sail rhywedd. Er bod y Llywodraeth yn derbyn ein hargymhelliad, nid yw'n rhoi unrhyw fanylion penodol ynglŷn â sut mae'n cynnal hawliau plant sy'n profi neu sy'n dyst i drais i wasanaethau therapiwtig arbenigol llwybr cyflym yn ôl yr angen, ac nid yw'n ymrwymo ychwaith i adolygu argaeledd y gwasanaethau hyn a pha mor dda y mae'r rhain wedi'u hintegreiddio mewn gwasanaethau iechyd ehangach.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw dweud wrthym fod anghenion pob plentyn yn flaenoriaeth i chi, ac yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth gyfan, yn ddigon. Rydym yn edrych am fwy o sicrwydd na rhestru gwasanaethau arbenigol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu ar gyfer pob dioddefwr trais yn erbyn menywod. Mae'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel a chefnogaeth therapiwtig i blant â phrofiad o ofal i'w groesawu hefyd, ond nid yw'n berthnasol i fynd i'r afael â dull system gyfan o weithredu ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn sgil trais ar sail rhywedd.

Rydych chi'n manylu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo i drawsnewid y gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, ond nid yw'n mynd i'r afael â'r angen brys nawr. Efallai fod cysylltiad bregus rhwng plant sy'n dyst i drais yn y cartref a phlant sy'n dod i ofal yr awdurdod lleol yn y pen draw, ond nid yw hynny'n cynnwys y mwyafrif helaeth o blant sy'n dyst i drais ar sail rhywedd. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni ddod yn ôl at y Llywodraeth yn ei gylch, oherwydd rydym yn bryderus, ac roedd yn argymhelliad mor bwysig gan ein grŵp cynghori.

Yn olaf, argymhelliad 11: mae mynd i'r afael â gwrywdod gwenwynig yn her gymhleth iawn, a mynd i'r afael â'r modelau rôl negyddol sy'n ymddangos ar TikTok, ac mae'n waith pwysig sy'n digwydd mewn ysgolion gyda'r cwricwlwm newydd ac mewn prifysgolion. Ond pan fydd dynion a bechgyn yn trosi ymddygiad gwenwynig sy'n dod â nhw i sylw'r heddlu neu'r gwasanaethau iechyd, mae angen llwybrau clir i fynd i'r afael â'u hymddygiad troseddol. Heb ei herio, gwyddom fod ymddygiad yn debygol o waethygu yn ymddygiad mwy niweidiol a hyd yn oed yn ymddygiad sy'n bygwth bywyd.

Felly, roeddem yn bryderus iawn nad yw rhaglenni ar gyfer cyflawnwyr yn—. Nid yw'n glir pa rai o'r rhaglenni hynny sy'n gweithio mewn gwirionedd a pha rai nad ydynt yn gweithio. Roeddem yn ffodus iawn i gael arsylwi ar gefndir proffesiynol pobl sy'n darparu'r rhaglen Driving Change y gwnaethom ymweld â hi, ond cawsom ein synnu bod y rhan fwyaf o atgyfeiriadau yn dod drwy wasanaethau cymdeithasol plant. Mae hynny'n bwysig, ond lle mae'r heddlu yn hyn i gyd? Sut mae'r heddlu'n ymdrin ag anghydfod domestig sy'n arwain at alw'r heddlu ond nad yw'n galw am arestio rhywun? Pa gyfres o opsiynau sydd ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol sydd yn yr un modd yn dod ar draws datgeliadau'n ymwneud â thrais domestig? Anaml y bydd perthnasoedd yn mynd o fod yn gyfeillgar i dreisgar mewn un diwrnod, ac mae angen llwybrau nawr at wahanol fathau o wasanaeth, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sefyllfa, gyda chyfres glir iawn o opsiynau sy'n sicrhau bod pobl yn gwybod yn union at beth maent yn atgyfeirio a pha mor llwyddiannus y mae wedi bod.

Mae trawma yn y gorffennol sy'n gysylltiedig â dod naill ai'n gyflawnwr neu'n ddioddefwr yn rhywbeth y mae'n rhaid inni roi diwedd arno, yn hytrach nag adeiladu arno. Felly, mae hyn hefyd yn rhywbeth yr ydym am sicrhau ei fod yn digwydd mewn gwirionedd, ond rydym yn pryderu nad yw'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn mynd i adrodd i'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol tan fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf. Nid yw hynny'n teimlo fel dull iechyd y cyhoedd o weithredu. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau gan Aelodau eraill.

16:00

Cefais y pleser o wasanaethu ar y pwyllgor yn ystod ei drafodaethau a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Cadeirydd, i fy nghyd-Aelodau ac i glerc y pwyllgor am eu cefnogaeth, nid yn unig yn ystod yr ymchwiliad hwn, ond yn ystod fy nghyfnod fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad.

Er ein bod yn gwneud cynnydd ar greu cymdeithas fwy cyfartal, mae malltod casineb at fenywod a thrais ar sail rhywedd yn parhau i godi ei ben. Tynnodd nifer o dystion i'n hymchwiliad sylw at groestoriadedd mynychder trais ar sail rhywedd mewn rhai cymunedau. Dywedodd Dr Fox a Dr Miles o Brifysgol Manceinion nad oedd digon yn cael ei wneud i nodi dangosyddion cynnar cam-drin ar sail anrhydedd fel y'i gelwir. Yn ystod ei sesiwn dystiolaeth, nododd y Gweinidog y cyllid a ddarparwyd i Karma Nirvana i ddarparu sioe deithiol rithwir i weithwyr proffesiynol ledled Cymru, ond prin fod 20 sesiwn rithwir yn ddigon i fynd i'r afael â'r problemau. Fel y nododd Karma Nirvana eu hunain, gwelwyd cynnydd dramatig mewn arferion fel profion gwyryfdod yng Nghymru ers y pandemig. Mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod arferion o'r fath, yn ogystal ag anffurfio organau cenhedlu menywod, y mae'r Cadeirydd eisoes wedi'i grybwyll, yn cael eu dileu yng Nghymru. Roedd yn frawychus clywed nad yw athrawon yng Nghymru yn ymwybodol o'u dyletswydd i adrodd am anffurfio organau cenhedlu menywod.

Nododd grwpiau eraill faterion trais ar sail rhywedd o fewn y gymuned anabl. Er i'r Gweinidog nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r effaith anghymesur hon, dim ond galw am fwy o ddata a wnaeth. Er bod mwy o dystiolaeth i'w groesawu bob amser, yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw mwy o weithredu. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor, ond hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet i feithrin mwy o ymdeimlad o frys.

Un o'r meysydd eraill sy'n peri pryder i mi oedd rôl ymyrraeth gynnar ac atal, yn enwedig mewn lleoliadau addysg uwch. Mae cynnydd pryderus mewn platfformau casineb at fenywod ar-lein a gwneud arwyr o ffigurau casineb fel y brodyr Tate wedi gallu parhau heb ei atal mewn sawl campws prifysgol. Cymharodd un o'n tystion, Dr Rachel Fenton, y diffyg gweithredu ym mhrifysgolion y DU â'r hyn oedd yn digwydd yn UDA, lle mae deddfwriaeth ar waith i'w gwneud yn ofynnol i brifysgolion gael rhaglenni ar gyfer rhai sy'n dyst i drais. Dywedodd Dr Fenton fod rhai o brifysgolion y DU 'heb wneud dim byd o gwbl—dim byd', oherwydd diffyg cefnogaeth gan uwch-reolwyr.

Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ysgrifennu at y sefydliadau addysg uwch i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod ac aflonyddu. Hefyd, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet nodi amserlen ddisgwyliedig ar gyfer pryd mae hi'n disgwyl gweld gwelliannau. Ni allwn fforddio cadw'n dawel. Mae angen i'n sefydliadau wneud eu rhan. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn mynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd ac mae angen inni dynnu sylw at ymddygiad gwael pryd bynnag y byddwn yn ei weld. Gobeithio y bydd trafodaethau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn helpu i newid pethau ac yn dod â chasineb at fenywod a thrais ar sail rhywedd i ben yng Nghymru. Diolch. 

16:05

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn enwog am fod yn ddu a gwyn. Er y gall y dadleuon fod yn arwynebol, yn wamal, yn begynol neu hyd yn oed yn atgas, gall fod yn ddefnyddiol weithiau er hynny i ddod â mater i ffocws a lledaenu ymwybyddiaeth o'r mater hwnnw. Mae'r ddadl 'dyn yn erbyn arth' sy'n cael llawer o sylw ar hyn o bryd yn enghraifft dda o hyn. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r ddadl, dyma hi: mae cwestiwn damcaniaethol a gafodd sylw mawr ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn, 'A fyddai'n well gennych gael eich gadael yn y goedwig gyda dyn neu arth?' Mae llawer iawn o fenywod yn dewis yr arth. Wrth gwrs, dylai fod yn gwestiwn hurt. Pam y byddech chi'n dewis ysglyfaethwr aruthrol o gryf a ffyrnig a allai eich lladd dros gyd-ddyn?

Efallai fod atebion rhai menywod yn berthnasol i'r adroddiad rydym yn ei drafod heddiw: 'Pe bai arth yn ymosod arnoch chi, ni fyddai neb yn dweud mai eich bai chi ydyw,' 'Arth, oherwydd, os yw'n ymosod arnaf, bydd pawb yn fy nghredu', 'Ni fydd neb yn gofyn beth oeddwn i'n ei wisgo pan fydd yr arth yn ymosod arnaf', ac 'Nid yw eirth yn lladd dwy fenyw yr wythnos yng Nghymru a Lloegr, a phe baent, byddai camau'n cael eu cymryd i atal y peth ar unwaith'. Ein nod, fel pwyllgor, oedd dod o hyd i enghreifftiau o'r hyn sy'n gweithio, o ran ein hatal rhag gorfod meddwl ddwywaith cyn gwneud y math hwn o ddewis damcaniaethol, atal trais ar sail rhywedd cyn iddo ddigwydd, cyn i agweddau ar gasineb at fenywod arwain at yr epidemig sydd gennym o drais ar sail rhywedd a cham-drin domestig—yn y bôn, i negyddu'r cynsail dros y dewis hwnnw. Fel y mae'r syndod a ddangoswyd gan rai tuag at yr ymateb i'r ddadl hon wedi dangos, mae hon yn dasg hynod o bwysig ac yn un y mae ei hangen yn ddybryd.

Fel pwyllgor, cawsom gymorth gan grŵp o oroeswyr a helpodd i lunio a llywio ein hymchwiliad, ac rwyf am ddweud pa mor ddiolchgar wyf i i bob un ohonoch. Roedd eich profiadau, eich poen, eich cryfder a'ch penderfyniad yn golygu ein bod ni, fel pwyllgor, wedi gweld yr angen clir am ymyriadau mwy effeithiol, gwell cefnogaeth a'r cyfrifoldeb sydd gan Lywodraeth Cymru yn y gwaith o atal a lliniaru trais a cham-drin ar sail rhywedd. Ar lefel bersonol, hoffwn ddweud 'diolch' wrthych am rannu eich doethineb ac am eich amynedd wrth orfod ailadrodd eto sut mae'r cymorth yn annigonol. 

Roedd yn drawiadol, dywedwyd wrthym yn ystod ein hymchwiliad fod angen y ffocws ar atal sylfaenol yn fawr, a bod datblygu polisi a arweinir gan dystiolaeth, yn seiliedig ar ddadansoddi, gwerthuso a rhannu gwybodaeth a data yn hanfodol bwysig os ydym am ddeall go iawn a mynd i'r afael yn llwyddiannus â chroestoriadedd trais ar sail rhywedd. Cytunodd y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a soniodd am greu storfa wybodaeth ganolog wedi'i staffio i ddarparu ffocws ar gyfer datblygu tystiolaeth a gwerthuso, sef un o nodau datganedig strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ddiwygiedig y Llywodraeth.

Fe wnaethom ofyn yn benodol i'r Llywodraeth nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwilio ymyriadau sy'n ennyn diddordeb dynion a bechgyn yn benodol er mwyn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar y mater hwn. Felly, roedd ymateb y Llywodraeth i'n hargymhelliad a aeth i'r afael â'r angen hwn am wella'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael i lywio penderfyniadau polisi a chomisiynu gwasanaethau yn siomedig iawn. Mae'r Llywodraeth wedi dweud, oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau, na fydd hwn yn sefydliad â chanddo staff bellach, a dim ond fel rhwydwaith rhithwir y bydd yn bodoli. Mae cefnu ar holl sylfaen yr hyn a allai lywio dull iechyd y cyhoedd effeithiol i'w weld i mi yn ganolog i'r broblem. Dyma ffordd y gallai'r Llywodraeth chwarae ei rhan, yng ngeiriau'r adroddiad. Mae'n eironig ac yn peri gofid mawr fod angen un o alwadau canolog ein hadroddiad yma, y dylai prawf cydraddoldeb rhywiol fod yn berthnasol i holl benderfyniadau'r Llywodraeth. Felly, pa asesiad effaith ar sail rhywedd a wnaed o'r toriad hwn?

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthym fod trais ar sail rhywedd yn achos ac yn ganlyniad anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ond mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith na wnaeth Llywodraeth Cymru gyfeirio at ei chynllun cydraddoldeb strategol newydd mewn ymateb i gam 1 ein hadroddiad. Felly, pa rôl y mae'r Llywodraeth yn ei rhagweld ar gyfer cynllun cydraddoldeb strategol 2024-28 sydd ar y ffordd i sicrhau bod cam 1 yn cael ei gyflawni—hynny yw, fod gwahaniaethau rhwng y rhywiau yn cael sylw ym mhob cynllun cydraddoldeb, gydag ystyriaeth briodol o wahaniaethu sy'n croestorri a thrwy ddull Llywodraeth gyfan?

Yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol i fenywod, clywsom dystiolaeth bwerus fod ymgysylltu â dynion a bechgyn yn gwbl allweddol i atal trais ar sail rhywedd. Goruchafiaeth ragdybiedig dynion yn ein teuluoedd, ein gwaith a'n diwylliant yw'r pridd lle mae casineb at fenywod yn gwreiddio. Profiad bythgofiadwy i mi yn ystod yr ymchwiliad hwn oedd mynychu rhaglen ar gyfer cyflawnwyr yng Nghaerdydd. Roedd yn anodd ac yn anghyfforddus, ond yn ymarfer casglu tystiolaeth amhrisiadwy, a chlywais yn uniongyrchol gan ddynion a gafodd gymorth i gydnabod a mynd i'r afael ag effaith eu hagweddau niweidiol tuag at fenywod yn eu bywydau. Clywsom yn bwerus iawn gan arbenigwyr pam fod y math hwn o waith yn gwbl hanfodol, a sut y gall fod yn arf atal hynod lwyddiannus, ond clywsom hefyd farn goroeswyr sy'n bryderus iawn fod y rhaglenni'n anghyson o ran eu dull ac nad oedd eu heffeithiolrwydd bob amser yn ystyried eu diogelwch. Felly, mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 11 i'w chroesawu, argymhelliad a alwai am adolygiad cyflym o'r rhaglenni hyn. Rwy'n gobeithio bod hyn o leiaf yn dangos i'n grŵp cynghori o oroeswyr eu bod wedi cael eu clywed, a'n bod ni fel pwyllgor wedi sicrhau bod y Llywodraeth wedi gwrando.

16:10

Rwyf am dynnu sylw at deitl yr adroddiad hwn: 'Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd'. 'Dull iechyd y cyhoedd'—hynny oherwydd ei fod yn argyfwng iechyd, ac mae hynny'n ymwneud â phob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar draws asiantaethau, ar draws yr holl wasanaethau, er mwyn atal yr epidemig hwn. Mae'n epidemig. Mae pobl yn marw bob dydd o'r wythnos. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn camu i'r adwy yma yng Nghymru ac yn dangos ein bod yn gweithredu ar y mater hwn.

Hoffwn fynegi fy niolch i aelodau'r pwyllgor, ac yn ganolog yn fy nghyfraniad yma heddiw mae pwysigrwydd hanfodol rhoi dioddefwyr a goroeswyr wrth wraidd dull o weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd. Diolch i bawb a rannodd eu profiadau'n ddewr. Fe wnaethom wrando arnoch chi—diolch am rannu'r hyn a oedd gennych i'w rannu. Mae angen inni roi dioddefwyr a goroeswyr wrth wraidd popeth a wnawn, oherwydd mae gwneud hynny nid yn unig yn caniatáu inni ddeall a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr epidemig hwn yn well, ond mae hefyd yn caniatáu inni adeiladu ymddiriedaeth feirniadol gyda'n goroeswyr a grymuso'r goroeswyr hynny hefyd. Dyna pam, unwaith eto, fy mod yn hynod ddiolchgar am safbwynt y grŵp cynghori—goroeswyr dewr a rannodd eu profiadau o drais ar sail rhywedd. Diolch yn fawr iawn. Mae eu mewnwelediad a'u harbenigedd uniongyrchol amhrisiadwy wedi bod yn ganllawiau hanfodol wrth ffurfio'r adroddiad hwn.

Un o'r prif bryderon a godwyd oedd y diffyg dybryd o wasanaethau cymorth i helpu plant i brosesu'r trawma o dystio i gam-drin domestig neu drais rhywiol. Cafodd gwasanaethau prif ffrwd fel CAMHS eu disgrifio fel rhai heb adnoddau addas i ymdrin ag effaith canlyniadau emosiynol hirhoedlog difrifol. Hoffwn glywed ychydig mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag argymhelliad 5, gan fy mod yn siomedig o ddarllen yr ymateb hyd yma. 

Roedd y grŵp cynghori hefyd yn ein hatgoffa nad yw trais ar sail rhywedd yn bodoli mewn gwactod. Er mai rhywedd yw'r ffactor craidd heb os, ni ellir anwybyddu y realiti amrywiol, wedi'i siapio gan dlodi, hil, rhywioldeb a statws anabledd, a nodweddion eraill, na'u trin fel seilos ar wahân. Fe wnaethant dynnu sylw yn benodol at sut mae bregusrwydd goroeswyr anabl yn aml yn cael ei anwybyddu, yn enwedig os mai'r cyflawnwr yw'r sawl sy'n rhoi gofal, gan nad oes gan ddarparwyr hyfforddiant i adnabod camdriniaeth yn eu herbyn, gan orfodi goroeswyr i gynyddu'r risg honno. Felly, mae angen inni wrando ar y bobl hynny, a hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet eto ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â'r materion rhyngblethol hyn.

Clywsom eto gan y grŵp cynghori am y diffyg ymddiriedaeth dybryd sydd gan oroeswyr yn yr heddlu, ac nid yn unig yr heddlu, ond mewn erlynyddion hefyd, a gwasanaethau rheng flaen, o ran sut y gallant drin eu hachosion gyda'r sensitifrwydd gofynnol, a chredu eu hanesion ac ymateb gydag empathi. Mae'r ffaith bod cynifer a siaradodd wedi cael eu diystyru, eu difrïo a'u hail-drawmateiddio yn gondemniad ofnadwy o'r methiannau annerbyniol sy'n treiddio drwy ymatebion gwasanaethau cyhoeddus i drais ar sail rhywedd ledled Cymru.

Fel y nodwyd, mae goroeswyr yn arbenigwyr drwy brofiad. Mae cynnwys goroeswyr yn uniongyrchol wrth hysbysu a hyfforddi ein hymatebwyr rheng flaen yn hanfodol ar gyfer meithrin dealltwriaeth ddofn, meithrin empathi ac atal ail-drawmateiddio. Er bod yr adroddiad hwn yn gam sylweddol ymlaen, dim ond un cam ydyw ar y ffordd hir i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd yn effeithiol. Mae newid parhaol yn dibynnu ar gamau pendant, ac mae'n rhaid i hynny fod yn seiliedig ar y mewnwelediad y mae goroeswyr yn ei ddarparu. Dim ond drwy ddysgu o'u harbenigedd uniongyrchol y gallwn ailddychmygu ein dull gweithredu yn sylfaenol. Mae'n ymwneud â grymuso dioddefwyr a datgymalu'r anghyfiawnderau sy'n ei gwneud yn bosibl i gamdriniaeth barhau. Diolch yn fawr iawn.

16:15