Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/03/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen hysbysu Aelodau y bydd y bleidlais nesaf ar gyfer Biliau Aelodau yn cael ei chynnal ar 24 Ebrill, a bydd gwybodaeth am y broses yma'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau cyn hir, felly—

—rhowch eich meddyliau ar waith.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.

Pwysau ar Fusnesau

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu? OQ60829

Diolch am eich cwestiwn. Ar adeg o gryn ansicrwydd, gydag economi’r DU yn wynebu cyfnod hir o ddiffyg twf, a dirwasgiad bellach, rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â sefydliadau busnes i fwrw ymlaen â’n cenhadaeth economaidd i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i fusnesau Cymru, i hybu twf, i leihau anghydraddoldeb ac i ddarparu cymorth i gadw mwy o werth o fewn economi Cymru.

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae ymchwil o’r Baromedr Busnes gan Lloyds Bank Commercial Banking yn dangos bod hyder ym musnesau Cymru wedi gostwng 7 y cant ym mis Chwefror—dros deirgwaith yn fwy na chyfartaledd y DU. Mae hyn yn peri cryn bryder, fel y byddech yn cytuno, rwy’n siŵr, Weinidog. Ni ddylai busnesau Cymru fod o dan anfantais am eu bod yn gweithredu yng Nghymru, ond fe wyddom, yng Nghymru, eu bod o dan anfantais am eu bod yn talu’r cyfraddau uchaf o ardrethi busnes, er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y dylai ein heconomi fod yn flaenoriaeth ac y dylai’r Prif Weinidog nesaf a’i Lywodraeth gyflwyno mwy o gymorth i fusnesau yng Nghymru er mwyn sicrhau nad ydynt o dan anfantais o gymharu â busnesau dros y ffin?

Mae'r amgylchedd busnes yn cynnwys ystod eang o wahanol ffactorau. Pan ddeuthum yn Weinidog yr Economi, roedd pob sefydliad busnes yn glir eu bod am weithio gyda’r Llywodraeth yma yng Nghymru a'u bod yn teimlo bod ganddynt berthynas dda, yn enwedig wedi inni fod drwy’r pandemig gyda’n gilydd—roeddent yn cydnabod y lefelau ychwanegol o gymorth a gawsant.

Ond maent hefyd yn glir iawn ynghylch yr ysgogiadau y deallent sydd gennym ni a'r rheini sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. A’r hyn yr oeddent am ei weld oedd Llywodraeth â sefydlogrwydd yma yng Nghymru ac a allai fod yn bartner rhagweladwy. Ond maent yn deall, os mynnwch, y rheolau ynglŷn â beth a all ddigwydd yma a'r cymorth sydd ar gael, ac maent yn cydnabod yn rheolaidd y cymorth ychwanegol sydd ar gael i fusnesau yma, fel y banc datblygu, er enghraifft—nid oes unrhyw beth cyfatebol yn rhanbarthau Lloegr, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn galw amdano’n rheolaidd—ac fel y ffaith bod gennym uchelgeisiau clir ynghylch dyfodol ein heconomi o ran y gred fod y newid i sero net yn gyfle ar gyfer pontio teg ac i economi'r dyfodol.

Felly, mewn gwirionedd, mae'r amgylchedd busnes yma yng Nghymru yn un lle mae gennym Lywodraeth sy'n awyddus i weithio gyda busnesau, sy'n awyddus i dyfu swyddi—swyddi da yn yr economi. Ac maent yn deall ein huchelgeisiau ynghylch gwaith teg hefyd, ac mae'r ffaith eu bod yn cael eu trin fel partneriaid cywir gyda'r Llywodraeth, ynghyd â phartneriaid cymdeithasol eraill, fel undebau llafur, yn ased, nid yn anfantais. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol sy'n gallu darparu rhywfaint o'r sefydlogrwydd mawr ei angen ar lefel y DU i helpu i dyfu’r economi er mwyn darparu’r swyddi da y mae pob un ohonom am eu gweld ar gyfer ein hetholwyr.

Weinidog, realiti anhrefn y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw costau cynyddol gwneud busnes. Mae wedi gwthio’r DU i ddirwasgiad ac mae wedi achosi poen i lawer o fusnesau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn canolbwyntio ar wneud popeth yn ei gallu i ddiogelu busnesau Cymru a swyddi Cymru. [Torri ar draws.] Lywydd, rydym yn clywed anhrefn ar feinciau’r Ceidwadwyr yn y Siambr hon, yn ogystal â’r anhrefn yn Llundain.

Mae busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy wedi elwa’n uniongyrchol o’n cynnig unigryw yn Busnes Cymru, Weinidog, ac rwy’n falch fod gogledd Cymru yn gartref i fanc rhanbarthol cyntaf y DU ym Manc Datblygu Cymru. [Torri ar draws.] Lywydd, gallaf glywed gweiddi, ond gadewch imi ddweud hyn wrthynt: mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi mwy na 32,000 o swyddi, dros 3,000 o fusnesau, wedi darparu £1.2 biliwn mewn effaith economaidd i economi Cymru, ac wedi cyflwyno'r gronfa benthyciadau busnes gwyrdd newydd i helpu cwmnïau i leihau eu costau ynni. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod y gwasanaethau hyn yn gwbl hanfodol i helpu busnesau Cymru i ymdopi â helbul economaidd y DU?

Rwy’n falch iawn fod Jack Sargeant wedi crybwyll Busnes Cymru, sydd, unwaith eto, yn unigryw i Gymru fel gwasanaeth sy’n helpu i gefnogi’r economi, sy’n helpu i gefnogi busnesau a’r twf mewn swyddi. Mae nifer y busnesau sy'n goroesi a busnesau sy'n tyfu gyda chymorth gan Busnes Cymru yn llawer mwy na'r nifer nad ydynt yn gwneud hynny. Ac yn wir, mae Banc Datblygu Cymru—y banc datblygu cyntaf yn y DU—wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ac rwy’n gweld eich cyd-Aelod yng ngogledd Cymru ar y sgrin, Ken Skates. Fe helpodd i greu a gwireddu’r banc datblygu hwnnw, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, nid yn unig o ran y ffigurau y mae’r Aelod wedi tynnu sylw atynt, ond mae’n gyllid ychwanegol nad yw’n bodoli yn unman arall. Credaf ei fod yn fodel y gall rhannau eraill o'r DU ddysgu ohono a'i gydnabod. Hebddo, byddem yn fwy agored i’r hyn sydd wedi digwydd gyda’r Torïaid ac yn y 14 mlynedd diwethaf ar draws yr economi, ac ni fyddai’r swyddi y mae wedi helpu i’w cefnogi yn bodoli. Ac wrth gwrs, mae llawer o’r swyddi hynny yn etholaeth yr Aelod yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Edrychaf ymlaen at ddyfodol llwyddiannus i Fanc Datblygu Cymru, i fwy o arloesi yma yng Nghymru, a ffordd wahanol o gefnogi busnesau ar gyfer dyfodol economaidd iach. Credaf fod hynny'n gyflawniad y gall y Llywodraeth Lafur Cymru hon fod yn falch iawn ohono.

13:35
Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer Meysydd Carafannau

Nid oes angen inni wybod a ydych wedi gofyn y cwestiwn o'r blaen; bydd y cofnod yn dangos hynny. A wnewch chi ddarllen y cwestiwn ar y papur trefn, os gwelwch yn dda?

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch newid hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer meysydd carafannau? OQ60835

Mae fy swyddogion yn Croeso Cymru yn gweithio’n agos gyda swyddogion yn is-adran gynllunio’r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y mater hwn ac yn fy hysbysu am gynnydd. Mae ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig yn debygol o gael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

O, mae hynny'n cyferbynnu'n llwyr, Weinidog, gan ichi ddweud wrthyf ym mis Tachwedd fod y broses ymgynghori honno bellach wedi cau. Rydych yn ymwybodol o alwadau gennyf fi, a llawer o fewn y sector twristiaeth, fod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu nifer y diwrnodau dros dro y gall safleoedd eu gweithredu o 28 i 60. Byddai hyn yn dod â ni ochr yn ochr â Lloegr, ac yn helpu ein busnesau twristiaeth sy'n ei chael hi'n anodd. Felly, fe ddywedoch chi wrthyf ym mis Tachwedd ei fod wedi cau, ac fe ddywedoch chi bryd hynny y byddech yn ystyried y dadleuon yn ofalus yng ngoleuni ein polisïau cynllunio a thwristiaeth. Ac fe wnaethoch gydnabod yr ymatebion a oedd yn galw am hyn hefyd. Nawr, fe holais y Prif Weinidog eto ynglŷn â hyn ym mis Ionawr, a dywedodd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer safleoedd dros dro dros y 12 mis nesaf. Ond yn amlwg, mae'n rhaid cael cydbwysedd. Nid oes eisiau'r safleoedd dros dro hyn ar bawb, ond yn amlwg, mae mwy yn gofyn amdanynt. Dros chwarter blwyddyn wedi i’r ymgynghoriad ddod i ben, nid yw’n iawn nad ydych wedi gwneud penderfyniad o hyd. Rydym yn ddechrau ar dymor y gwanwyn, ar ôl gaeaf caled i'r busnesau hyn, sy'n dal i adfer ar ôl COVID. Ddirprwy Weinidog, pryd fyddwch chi o ddifrif ynghylch y mater hwn? Mae'n golygu llawer i gynifer o fusnesau. A dewch â ni nôl—. Nid yw 28 diwrnod yn ddigon; mae 60 yn ei wneud yn fwy ymarferol. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn atodol, Janet. Roedd yr hyn yr oeddwn yn ymateb iddo pan ofynnoch chi'r cwestiwn hwn ym mis Tachwedd, ac yna, wrth gwrs, yr ymateb gwahanol a gawsoch gan y Prif Weinidog, a chan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a ymatebodd i ddadl y Pwyllgor Deisebau, yn ddau beth gwahanol. Felly, yr hyn yr atebais eich cwestiwn arno fis Tachwedd diwethaf oedd yr ymgynghoriad yn dilyn cyfnod COVID, a’r penderfyniad i beidio ag ymestyn yr hawliau yn dilyn COVID, rhywbeth a wnaethant yn Lloegr. Yr hyn a ddywedais wrthych bryd hynny oedd bod yr ymgynghoriad penodol hwnnw wedi dod i ben. Yr hyn y mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei wneud, fodd bynnag, yw edrych ar nifer o flaenoriaethau strategol sydd ganddi yn y flwyddyn i ddod, ac mae ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ymestyn y terfyn 28 diwrnod yn debygol o gael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ynghyd â blaenoriaethau eraill, sef gwefru cerbydau trydan, pympiau gwres ffynhonnell aer a pheiriannau gwerthu. Felly, mae’r sefyllfa bellach yn wahanol i'r adeg y gofynnoch chi'r cwestiwn i mi yn ôl ym mis Tachwedd. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw hwn, nid i mi. Nid deddfwriaeth twristiaeth yw hon; mae'n ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chynllunio rheoliadau, sy’n gyfrifoldeb, yn gywir ddigon, i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac nid i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’n debyg mai dyma’r tro olaf y byddwch yn annerch y Siambr yn eich rôl fel Gweinidog yr economi, ac felly, wrth gwrs, nid yw ond yn briodol inni fyfyrio ar eich cyfnod yn y swydd. Nawr, mae eich adran yn gyfrifol am greu amodau ar gyfer twf busnes yma yng Nghymru a helpu i greu cyfleoedd cyflogaeth. Felly, a allwch chi ddweud wrthym faint o swyddi sydd wedi'u creu ers ichi ddechrau yn y swydd?

Na allaf. Nid wyf yn cadw'r ffigurau hynny yn fy mhen. Yr hyn rwy'n ei wybod, fodd bynnag, yw bod gennym amgylchedd heriol iawn i fusnesau yma yng Nghymru. Fel y nodais mewn ymateb i’ch cyd-Aelod, Peter Fox, rydym mewn cyfnod o ddiffyg cynnydd parhaus o ran economi’r DU, yna cyfnod o ddirwasgiad, ac nid ydym yn imiwn rhag effeithiau'r dirwasgiad hwnnw. Daw ar ddiwedd 14 blynedd hir o bolisïau cyni gan Lywodraeth y DU. Mae'n dilyn yr heriau i'n hamgylchedd masnachu yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r fargen a gytunwyd wedyn. Ac mae'r DU yn sefyll allan o gymharu ag economïau ein cystadleuwyr am nad ydym wedi adfer cystal wedi'r ergydion byd-eang sydd wedi digwydd. Fodd bynnag, rwy'n dal i fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol, ar sail y cyfleoedd sydd gennym yng Nghymru, ond hefyd ar sail y ffaith bod etholiad cyffredinol yn anochel yn y dyfodol agos, ac rwy'n obeithiol ynghylch cael Llywodraeth y DU sefydlog sy'n gallu cadw ei haddewidion a helpu i dyfu economi’r DU mewn ffordd sydd ei hangen yn daer.

13:40

Wel, yn amlwg, Weinidog, nid ydych yn gwybod faint o swyddi sydd wedi’u creu, nad yw'n syndod, gan nad ydych wedi trafferthu gosod unrhyw dargedau ar gyfer creu swyddi yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog. Gwleidyddiaeth ddiog yw hyn, Weinidog, ac yn anffodus, mae’n ffaith bod gan Gymru un o’r cyfraddau cyflogaeth isaf o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU, nad yw’n rhywbeth i fod yn falch ohono. Nawr, ymddengys bod ansicrwydd swyddi yn broblem wirioneddol mewn sawl sector ar hyn o bryd, ac rydym wedi eich gweld yn siarad yn uchel iawn o blaid diogelu swyddi yn sector dur Cymru, er enghraifft. Mewn cyferbyniad, nid ydym wedi gweld unrhyw beth o gwbl gennych mewn perthynas â swyddi yn y sector ffermio, sector a fydd yn dioddef yn enbyd os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i chynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae asesiad effaith economaidd Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos y gallai fod toriad o 11 y cant mewn llafur ar ffermydd Cymru, sy’n cyfateb i golli 5,500 o swyddi yn seiliedig ar lefelau cyflogaeth presennol. Mae’r un gwaith modelu hwnnw’n dangos ergyd o £125 miliwn i allbwn o’r sector a cholled o £199 miliwn i incwm busnesau fferm. Felly, Weinidog, rydym wedi eich clywed yn ymladd, yn gwbl briodol, i gefnogi gweithwyr yn y sector dur, ond rydym eto i'ch gweld yn ymladd i ddiogelu swyddi yn y sector amaethyddol. Pam felly?

Wel, credaf fod dau bwynt cyffredinol i’w gwneud wrth ymateb. Y cyntaf, wrth gwrs, fel y gŵyr yr Aelod, yw mai Lesley Griffiths yw'r Gweinidog arweiniol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, a hi sydd â chyfrifoldeb arweiniol am yr economi mewn perthynas ag amaethyddiaeth, bwyd a diod. Ac mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae bwyd a diod wedi bod yn enghraifft o lwyddiant yn economi Cymru yn y degawd diwethaf, ac mae'n bwynt sy'n cael ei godi'n rheolaidd yn y Siambr hon, ond nad yw byth, efallai, yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu gan bob ochr. O ran yr ymgynghoriad ar ddyfodol y cynllun ffermio cynaliadwy, nid yr asesiad economaidd yw’r un sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a bydd yr ymgynghoriad sydd newydd ddod i ben yn edrych ar yr holl ymatebion a ddaeth i law, ac mae'n bwysig fod pobl yn deall nad oes penderfyniad wedi'i wneud. Dyna pam ei bod yn bwysig clywed yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud ynglŷn â sut y gellir gwella’r cynllun, oherwydd, fel rydych wedi'i glywed nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond gan Lesley Griffiths ei hun hefyd, y prif amcan yw sut rydym yn helpu ffermwyr i ddal ati i gynhyrchu bwyd a diod mewn modd cynaliadwy i sicrhau y gallant wneud bywoliaeth a’n bod yn cael y bwyd a diod yr ydym ei eisiau, ac yn wir, y bwyd a diod sy’n cael eu hallforio, sydd, fel y dywedaf, wedi bod yn enghraifft o lwyddiant, a bod hynny'n digwydd—a dyma'r ail ran—mewn ffordd lle mae'r sector amaethyddol yn gwneud ei gyfraniad i'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu, fel sy'n rhaid i bob sector o'r economi ei wneud, a phob gwasanaeth cyhoeddus hefyd. Mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn gwneud newidiadau yn y ffordd y mae cynaliadwyedd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd, gan mai ein GIG yw un o’r sectorau sydd â'r allyriadau mwyaf, os meddyliwch am oedran rhywfaint o’n stoc a'n hadeiladau. Mae hon yn her i’r gymdeithas gyfan, ac mae'n fater o gael proses gynaliadwy gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni i sicrhau y gall ffermwyr barhau i ennill bywoliaeth, a chynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel, a chydbwyso anghenion natur a hinsawdd gyda hynny.

Lywydd, rydym yn cael cipolwg go iawn yma ar sut y bydd y Llywodraeth nesaf yn gweithredu os caiff ei ethol yn Brif Weinidog yr wythnos nesaf. Y gwir amdani yw nad yw’r Llywodraeth hon yn deall nac yn malio am gymunedau gwledig, ac mae eich diffyg diddordeb neu gymorth i sector ffermio Cymru yn siarad cyfrolau. Ac nid mewn cymunedau gwledig yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn methu o ran yr economi, nage? Gadewch inni fyfyrio ar rai o'ch cyflawniadau: mae lefelau anweithgarwch economaidd yn uwch na chyfartaledd y DU; mae'r gyfradd gyflogaeth yn is na chyfartaledd y DU; mae nifer y busnesau sy'n mynd i'r wal yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na nifer y busnesau newydd; mae hyder busnes wedi gostwng i 25 y cant; un o bob naw gweithiwr yng Nghymru sydd mewn swydd ddiogel; a gweithwyr Cymru sy'n cael y pecynnau cyflog lleiaf yn y DU. Dyma eich gwaddol, Weinidog: hanes o fethiant. Go brin ei bod yn economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach, yw hi, Weinidog?

Ac onid yw'n wir fod y Llywodraeth hon wedi chwythu ei phlwc ac wedi rhedeg allan o syniadau, a dyna pam ei bod wedi treulio mwy o amser yn creu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn hytrach na chreu amodau ar gyfer twf economaidd? Ac felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei gynnig i unrhyw un sy'n byw y tu allan i swigen Bae Caerdydd eich bod chi o ddifrif yn deall yr heriau economaidd y mae Cymru'n eu hwynebu, o ystyried eich cyflawniad a'ch diffyg gweithredu fel Gweinidog yr Economi?

Wel, rwy’n deall y wleidyddiaeth yn y Siambr ac rwy’n deall pam fod yr Aelod yn gwneud y pwyntiau y mae’n eu gwneud. O ran y Gymru wledig, os gofynnwch i ffermwyr neu gymunedau gwledig a ydynt yn ystyried y cynllun yn Lloegr yn rhywbeth yr hoffent ei weld, maent yn glir ac yn gadarn yn gwrthod ystyried cael yr un cynllun â'r hyn sydd gan ei gymheiriaid yn Lloegr. Rydym yn gweithio gyda chymunedau amaethyddol yma ac yn gwrando arnynt, a gallaf ddweud hyn fel rhywun a dreuliodd oriau lawer ar ffermydd pan oeddwn yn blentyn, yn fab i filfeddyg ac yn fab i ffermwr hefyd.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chymunedau ledled Cymru ym mha bynnag rôl y byddaf ynddi yn y dyfodol. Ac o ran yr heriau sy'n ein hwynebu yn yr economi yma yng Nghymru, nid ydym yn imiwn rhag yr hyn sy'n digwydd dros y ffin, y dewisiadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Nid ydym yn imiwn rhag yr ymgais ymosodol i danseilio ein pwerau a’n cyfrifoldebau yma yng Nghymru, ymgais a gefnogir yn aml gan Lywodraeth y DU. Mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn cael eu canmol gan y Torïaid yn y Siambr hon. Tanseilio a tharfu ar weithgarwch ar rifedd a llythrennedd oedolion, ar gaffael sgiliau, mynd ag arian oddi ar Gymru heb fawr ddim gwrthwynebiad gan y Torïaid Cymreig wrth i Gymru golli dros £1 biliwn o arian blaenorol yr UE. Fe allai ac fe ddylai’r arian hwnnw fod wedi'i ddefnyddio i gefnogi’r economi yma yng Nghymru mewn ffordd a fyddai’n llwyddiannus ar gyfer y dyfodol. Os nad yw’r Aelod yn fy nghredu, dylai gael gair â Chadeirydd pwyllgor yr economi, sydd wedi cynnal adolygiad nawr ac yn y gorffennol ar y ffordd y gwnaethom ddefnyddio'r cyllid Ewropeaidd blaenorol i helpu i gefnogi’r economi yma yng Nghymru.

Rwy'n cytuno bod gennym Lywodraeth sydd wedi chwythu ei phlwc ac sydd wedi rhedeg allan o syniadau, ac o weddusrwydd yn wir. Po gyntaf y cawn etholiad cyffredinol i gael gwared arnynt, y gorau oll i Gymru, y gorau oll i’n rhagolygon economaidd. Edrychaf ymlaen at guro ar ddrysau yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn darparu nifer iach o gynrychiolwyr Llafur i wneud yn siŵr fod hynny’n digwydd.

13:45

Diolch, Lywydd. Bydd yn syndod i'r Gweinidog, heb os, y byddaf yn parhau â'r thema mai hon, o bosibl, fydd ei sesiwn gwestiynau olaf ar yr economi. Tybed a allech chi roi polisi economi sy'n nodweddiadol o Vaughan Gething i mi. Beth yw 'brand Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi'?

Nid wyf yma i gael brand personol, rwyf yma i weithio ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Mae bob amser wedi bod yn glir iawn mai fy niddordeb i yw sut i sicrhau mwy o swyddi a swyddi gwell a'r amodau i hynny ddigwydd. Rydym wedi bod yn ymladd yn erbyn Llywodraeth y DU a ddylai fod wedi bod eisiau helpu i wneud i'r economi weithio. Y sefydlogrwydd nad ydym wedi'i gael, y dewisiadau buddsoddi nad ydym wedi'u cael. Ystyriwch, er enghraifft, un o agweddau ychydig yn fwy cadarnhaol y gyllideb: prynu safle Horizon. A dweud y gwir, gan y bu cymaint o anhrefn yn Llywodraeth y DU, nid ydym wedi cael sefydlogrwydd i wneud dewisiadau. Y nifer o wahanol Weinidogion ynni a diogelwch, y nifer o wahanol Weinidogion gwyddoniaeth rwyf wedi cyfarfod â nhw. Gallai’r dewis hwnnw fod wedi’i wneud yn gynharach. Gallem fod wedi dechrau cenhedlaeth o adweithyddion modiwlar bach yn barod gyda dewis clir yn Nhrawsfynydd, a gallem fod wedi cael sicrwydd ynglŷn â beth fydd y dyfodol i Wylfa. Mae’n gyfle enfawr i economi gogledd Cymru. Mae hynny'n ymwneud â sefydlogrwydd, â chael cynllun. Rydym wedi gorfod gweithio gyda Llywodraeth y DU na all ddarparu ac sy'n gwrthod darparu. Ac fel y dywedais wrth Paul Davies, bu ganddi lawer mwy o ddiddordeb mewn ceisio ymosod ar ein pwerau a’u tanseilio. Felly, rydym wedi cael ein dal yn ôl gan Lywodraeth y DU sy'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Fy marn i yw bod gennym weledigaeth ar gyfer y dyfodol lle gellir creu mwy o swyddi a swyddi gwell, a lle gallwn gyflawni ein rhwymedigaethau i'r argyfwng hinsawdd sydd o'n cwmpas.

Wel, gwrandewais yn ofalus iawn yno ac ni chlywais unrhyw bolisïau newydd penodol a roddwyd mewn grym gennych ers ichi ddod yn Weinidog yr Economi. Os rhywbeth, roeddech yn swnio bron fel rheolwr. Felly, a ddylwn gymryd o hynny mai bod yn rheolwr yw brand Vaughan Gething? Mae'n rhaid imi gyfaddef, roedd yr ateb hwnnw'n nodweddiadol o Vaughan Gething—llawer o eiriau, dim byd newydd. Y gwir amdani yw mai ychydig iawn sydd wedi newid er pan oedd eich rhagflaenydd yn eich rôl.

Nawr, wrth gwrs, fe fyddwch yn cyfeirio at eich cenadaethau economaidd ar ryw bwynt, ond gadewch inni fod yn onest, ychydig iawn o fanylion sydd ynddynt, llawer o egwyddorion, dim llawer o dargedau a llwybrau, dim byd i fesur llwyddiant a dim byd newydd, ni waeth sut rydych yn ei gyflwyno, gan fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r cenadaethau hyn eisoes i fod. Felly, rwy’n ei chael hi'n anodd gweld pa welliannau a welsom i’r economi yn ystod eich cyfnod fel y Gweinidog. Nawr, bydd y Gweinidog yn gadael ei swydd tra bo economi Cymru yn parhau i fod ymhlith yr isaf o wledydd datganoledig y DU a rhanbarthau Lloegr. Cawsom restr gan Paul Davies, gadewch inni ychwanegu cynhyrchiant at y rhestr honno: yr isaf neu’r isaf ond un yn gyson o blith gwledydd a rhanbarthau’r DU. Felly, mae'n codi'r cwestiwn, ai blas yw hyn o beth sydd i'w ddisgwyl os ydych chi'n llwyddiannus ddydd Sadwrn—mwy o'r un peth?

A dweud y gwir, mae nifer o bethau cadarnhaol wedi digwydd. Rwy'n bod yn onest ynglŷn â'r darlun sy'n ein hwynebu gyda Llywodraeth y DU yn symud i'r cyfeiriad anghywir. Os edrychwch, er enghraifft, ar gynhyrchiant, yn ystod datganoli, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran cynhyrchiant. Yr her yw, er ein bod wedi dal i fyny â gweddill y DU, mae bwlch o hyd. Yr hyn a welwch nawr, ledled y DU, yw bod y gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd ar ôl y pandemig yn her wirioneddol ym mhob rhan o’r DU, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae’n cryfhau'r achos fod cael safbwynt pendant ar sut y caiff ein pwerau eu parchu a bod gennym yr adnoddau i’w defnyddio yn gwneud gwahaniaeth, gan fod defnyddio’r pwerau hynny i fuddsoddi yn sgiliau pobl yn rhan o’r hyn sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran gwella cynhyrchiant, gan weithio ochr yn ochr â busnesau i wneud hynny.

Ac os meddyliwch am ddwy agwedd wahanol ar hynny, rhan o'r rheswm ein bod yn gweld llwyddiant yn nhwf y clwstwr lled-ddargludyddion yw gweledigaeth glir y mae Llywodraeth Cymru wedi'i harwain i ddod â'r byd academaidd, busnes a llywodraeth leol a phartneriaid eraill ynghyd. Rydym yn edrych ar y sgiliau sydd eisoes yn y gweithlu, a cheir dealltwriaeth fod y Llywodraeth hon yn awyddus i fuddsoddi ymhellach yn sgiliau’r gweithlu sydd gennym eisoes heddiw, yn ogystal â’r rhai sydd eto i ddod i'r byd gwaith. Ac mae'r hyder hwnnw'n cael ei gydnabod gan bobl sy'n barod i fuddsoddi symiau sylweddol o arian yn barod, ac rwy'n hyderus y gwelwn fwy o hynny, nid yn unig gyda'r newyddion da fod Vishay yn prynu Newport Wafer Fab, nid yn unig KLA, ond credaf fod mwy i ddod o fewn y clwstwr. Mae hynny'n digwydd am fod Llywodraeth Cymru yn rhan o sut y caiff yr hyder hwnnw ei feithrin.

A phan ddaw'n fater o sicrhau bod gan bobl ddyfodol, rwy'n falch iawn fy mod wedi arwain y gwaith ar y warant i bobl ifanc. Pe na bai'n bodoli, mae arnaf ofn y gallech warantu y byddai miloedd o bobl ifanc na fyddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, mae’r rhain yn ymyriadau gwirioneddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Rwyf am inni allu gwneud mwy. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen inni gael set wahanol o adnoddau ar gael i ni, mae angen i'n pwerau gael eu parchu, gydag eglurder ynghylch yr hyn a wnawn heb Lywodraeth y DU, yr hyn a wnawn gyda phartneriaid y tu allan i’r lle hwn, gan gynnwys llywodraeth leol, busnesau ac undebau llafur, a lle mae angen inni fod yn bartneriaid er mwyn llwyddo.

13:50
Gwella'r Economi ym Mangor

3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau i wella'r economi yn ninas Bangor? OQ60807

Diolch am y cwestiwn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws portffolios ac mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol ac yn cefnogi ystod eang o weithgarwch cyfannol a thrawsnewidiol a buddsoddiadau i helpu i wella economi Bangor a’r ardal gyfagos.

Mae yna ddatblygiad cyffrous ar y gweill ar gyfer canol y ddinas fyddai'n dod â channoedd o bobl yna bob dydd, gan wella economi'r stryd fawr a'r ddinas yn gyffredinol. Mae'r cynllun yma, sef canolfan iechyd a llesiant, ar y gweill ers tro, efo Llywodraeth Cymru yn un o'r partneriaid. Ond mae o'n symud yn araf, yn araf, araf—mor araf â malwoden. Ac yn ôl yr hyn dwi'n ei weld, mae prosesau a'r model busnes mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd eu dilyn yn llawer rhy drwsgl a biwrocrataidd, a dyna sydd yn dal pethau nôl, nid yn unig ym Mangor, ond gyda phrosiectau iechyd eraill ar draws Cymru. Fel Gweinidog yr Economi, a wnewch chi edrych ar beth sydd angen digwydd o ran gweithredu mewn ffordd llawer mwy effeithiol pan fo'r bwrdd iechyd yn ymwneud efo prosiectau o'r math yma, er mwyn cyflymu'r broses o wella'r economi?

Credaf ei fod yn bwynt teg o ran bod yn awyddus i ddod â phartneriaid ynghyd i geisio gwneud yn siŵr eich bod yn sicrhau rhywfaint o'r budd economaidd a ddaw yn sgil hynny, ac mae gwasanaethau cyhoeddus yn bendant yn rhan o hynny hefyd. Gwn fod yna bartneriaeth strategol Bangor sy’n dod â’r cyngor, swyddogion adfywio Llywodraeth Cymru, y brifysgol, a'r bwrdd iechyd yn wir, at ei gilydd, ac mae’r cynlluniau a allai ddigwydd yng nghanolfan Menai gyda’r hyb llesiant yn rhan fawr o hynny, i gynhyrchu nifer yr ymwelwyr y byddech yn eu cael wedyn. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd, roeddwn bob amser yn deall bod cael cyfleusterau neu wasanaethau iechyd yn helpu i gynnal strydoedd mawr a chanol trefi a dinasoedd. Felly, roedd mantais i wneud mwy mewn fferylliaeth gymunedol, o ran mynediad at feddyginiaeth, yr hyn a olygai a'r ansawdd y byddech yn ei gael, ond hefyd, y byddai hynny'n beth da i'r stryd fawr o'i gwmpas. Byddai cael hyb iechyd a lles priodol yng nghanol Bangor ei hun yn fantais sylweddol ychwanegol.

Rwy’n derbyn o ddifrif y pwynt a wnaethoch ynglŷn â pha mor gyflym y mae’r broses yn mynd rhagddi, a hoffwn ddeall nid yn unig ble rydym arni ar hyn o bryd, ond beth y gallwn ei wneud yn well yn y dyfodol—y dyfodol agos ym Mangor, ond hefyd y dysgu i geisio sicrhau nad oes gennym yr un oedi posibl ar gyfer rhagolygon adfywio yn y dyfodol lle mae’r gwasanaeth iechyd yn un o’r partneriaid allweddol, fel y dylai fod. Felly, rwy’n fwy na pharod i dderbyn y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud, i gael trafodaeth gyda’r Gweinidog iechyd, ac yn wir, swyddogion adfywio, i ddeall pam nad yw’r penderfyniadau hynny wedi’u gwneud mor gyflym ag y byddai pob un ohonom o wahanol bleidiau yn y Siambr hon am iddynt gael eu gwneud, ac yna gweld beth y gallwn ei ddysgu ac yna rhoi hynny ar waith, ar gyfer Bangor, ond hefyd ar gyfer prosiectau eraill y bydd angen i’r gwasanaeth iechyd fod yn bartner allweddol ynddynt, rwy'n siŵr.

13:55

Rwy’n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi’r pwynt pwysig hwn, ac am eich ymateb, Weinidog, i sicrhau y gwneir cynnydd ar hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Fe ddywedoch mewn ymateb i un o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr yn gynharach fod economïau'n gweithio orau pan fo’r Llywodraeth a busnesau'n cydweithio. Rydym wedi gweld enghraifft wych, nid nepell o Fangor, gyda buddsoddiad Llywodraeth y DU yn Wylfa, gyda £168 miliwn i sicrhau diogelwch y safle hwnnw ar gyfer y dyfodol, a ddylai gael effaith ganlyniadol, yn sicr ar gyfer cymunedau fel Bangor, a gweddill gogledd Cymru o ganlyniad, wrth i’r cyfle hwnnw gael ei wireddu.

Felly, Weinidog, hoffwn wybod, gyda’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn Wylfa ar Ynys Môn, sut y credwch y gall lleoedd fel Bangor wireddu’r cyfle y bydd yn ei gynrychioli, a sut y bydd gogledd Cymru hefyd yn gwireddu’r cyfle, a’r hyn a wnewch yn benodol i gefnogi hynny.

Wel, mae gogledd-orllewin Cymru yn rhan o Gymru sydd â hanes a thraddodiad mewn perthynas â'r sector niwclear. Hoffwn weld cenhedlaeth newydd o weithgarwch, gyda chyfleoedd yn ymwneud ag adweithyddion modiwlar bach a’r potensial ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol yn Nhrawsfynydd hefyd, yn ogystal â gweld nid yn unig cynnig bras ar gyfer Wylfa, ond cynllun y gellir ei gyflawni hefyd.

Fel y dywedais yn gynharach, credaf fod yr eglurder ynghylch y safle a’r pryniant a gyhoeddwyd yn y gyllideb yn newyddion da, ac rwy'n croesawu hynny. Yr hyn yr hoffwn ei weld nawr yw rhywfaint o eglurder ynghylch y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Oherwydd os caiff ei adael i fod yn gyfleuster cynhyrchu gigawat mawr, mae'r cyllid o gwmpas hynny yn fwy heriol. Ac unwaith eto, mae'n ymwneud â'r pwynt ynglŷn â methu cael y sicrwydd o fod Gweinidogion yn eu swyddi am gyfnod estynedig, yn ogystal â bod angen i'r Trysorlys ddeall yr hyn y mae'n barod i'w wneud mewn perthynas â'r model ariannu ar gyfer hynny. Un dyfodol posibl yw y gallai fod yn gyfuniad o wahanol adweithyddion modiwlar bach. I mi, mae hynny’n dod yn ôl i Drawsfynydd eto, a chael lle i brofi datblygiad adweithydd modiwlar bach. Credaf y byddai hynny'n beth synhwyrol i'w wneud, cael un adweithydd modiwlar bach ar sawl safle adweithyddion modiwlar bach, yna gallwch ddeall pa mor gyflym y gallech gyflwyno hynny o bosibl. Golyga hynny ei fod yn opsiwn go iawn wedyn, yn hytrach nag un damcaniaethol.

Serch hynny, rwy'n credu y bydd angen cenhedlaeth arall o ynni niwclear sifil i gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd, a hoffwn weld y cyfle economaidd mwyaf posibl yn cael ei wireddu ar gyfer trigolion, nid yn unig ar yr ynys, ond ar draws gogledd Cymru, gyda chadwyn gyflenwi sylweddol. Ac wrth gwrs, soniais wrth ymateb i Siân Gwenllian fod gan y brifysgol—un o’r partneriaid allweddol ym mhartneriaeth strategol Bangor—ddigonedd i’w gynnig o ran ymchwil, fel sydd gan Barc Menai yn wir. Felly, credaf fod gan ogledd-orllewin Cymru lawer i’w gynnig, a llawer o gyflogaeth o ansawdd da i bobl, rwy'n gobeithio, pwy bynnag y byddant yn dewis pleidleisio drostynt mewn etholiad.

Busnesau Canol Tref yn y Gogledd

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf busnesau canol tref yng Ngogledd Cymru? OQ60838

Rydym yn darparu £125 miliwn o gyllid dros dair blynedd i awdurdodau lleol Cymru drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Y llynedd, cyhoeddwyd ein datganiad sefyllfa ar ganol trefi, sy’n nodi’r heriau sy’n wynebu trefi Cymru, a chyfres o gamau gweithredu cydgysylltiedig, traws-bolisi i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hynny.

Roeddwn wrth fy modd gyda chyhoeddiad y Canghellor fod y Rhyl ar fin cael £20 miliwn dros 10 mlynedd fel rhan o’r agenda ffyniant bro. Mae hyn yn dilyn £20 miliwn a roddwyd i Gyngor Sir Ddinbych o gronfa ffyniant bro'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu ar gyfer adfywio canol tref y Rhyl, yn dilyn y toriadau i ardrethi busnes yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, sydd wedi gadael llawer o fusnesau’n bryderus oherwydd costau cynyddol a nifer is o ymwelwyr, yn anffodus. Mae arferion siopa hefyd wedi newid yn ddramatig gyda chynnydd enfawr mewn prynu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, ac mae pobl yn dal yn araf i ddychwelyd i'r stryd fawr, ac mae nifer heb ddychwelyd o gwbl. Nid yw'n ymddangos bod polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod y newid aruthrol hwn mewn arferion siopa ers y pandemig, ac nid yw'n ymddangos bod llawer o weithredu ar y gweill i ddenu pobl yn ôl i’r stryd fawr.

Mae cynllun gweithredu manwerthu Llywodraeth Cymru yn edrych yn debycach i draethawd ar hawliau gweithwyr i bobl sy’n gweithio i gwmnïau stryd fawr cenedlaethol yn hytrach na chynllun gweithredu sy'n cefnogi busnesau bach a’u staff. Efallai fod nifer y busnesau newydd yng Nghymru yn addawol, ond nid yw'r cymorth yno yn nes ymlaen. Mae un o bob chwe siop stryd fawr yn wag, ac mae angen inni gefnogi’r busnesau hyn i'r graddau mwyaf posibl, fel y gallant oroesi, ond fel y gallant hefyd dyfu a chreu swyddi. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog: yng ngoleuni’r ymrwymiadau ariannu a wnaed yng nghyllideb y gwanwyn ddydd Mercher diwethaf, pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi goroesiad a thwf busnesau yng nghanol trefi fel y Rhyl, ac ar draws gogledd Cymru, ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU? Diolch.

Wel, yn wahanol i’r Aelod, credaf ei fod yn beth da fod gan y Llywodraeth safbwynt cadarnhaol ar hawliau gweithwyr yn ogystal â thyfu’r economi. Rwy'n falch iawn mai dyna yw ein safbwynt. Ni ddylai gwaith teg fod yn rhywbeth sy’n peryglu dyfodol ein heconomi. Edrychaf y tu ôl i mi eto at yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, lle mae gennym un o’r busnesau mwyaf cynhyrchiol yn y DU, a gem yn ein coron weithgynhyrchu, Airbus ym Mrychdyn. Mae ganddi gydnabyddiaeth undebau llafur—canran uchel iawn o bobl—yn un o'r safleoedd mwyaf cynhyrchiol ar draws ein heconomi. Nid oes unrhyw reswm na all hynny ddigwydd mewn sectorau eraill hefyd.

Ar y Rhyl, rwy'n croesawu'r ffaith bod arian ar gael i fuddsoddi yn y Rhyl. Gresynaf at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi colli mwy o arian o ran y ffordd y mae ein cyllideb wedi’i thorri, ac yn wir, y methiant i ddarparu arian yn lle'r arian Ewropeaidd blaenorol, er gwaethaf addewidion maniffesto dro ar ôl tro i wneud hynny. Hoffwn gydnabod hefyd nid yn unig y ffaith bod rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU ar gael, ond y ffaith bod gennym bartneriaid yn yr arweinyddiaeth yng nghyngor sir Ddinbych sydd o ddifrif ynglŷn â sicrhau dyfodol canol trefi, a'r Rhyl hefyd yn arbennig. Mae’r weinyddiaeth y mae Jason McLellan yn ei harwain yn cyflawni nifer o brosiectau i helpu i adfywio’r Rhyl ei hun, ynghyd â chymorth gan Trawsnewid Trefi, gan gynnwys byw cyfoes a manwerthu annibynnol, gydag adnewyddu tri eiddo ar y Stryd Fawr yn lleoliadau busnesau bach. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y prosiect porth ar y Stryd Fawr, yr hen swyddfa bost ar Ffordd Wellington ac o amgylch Stryd Edward Henry.

Mae’r rhain yn bethau sydd ond yn bosibl am fod y Llywodraeth hon yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor mewn ffordd hirdymor, yn hytrach na chael cyhoeddiadau wedi'u gwneud mewn cyllidebau unigol. Hoffwn weld partneriaeth strategol i’n helpu i ailddatblygu ac adfywio canol trefi ledled y wlad. Gallem wneud llawer mwy o hynny pe bai gan Lywodraeth y DU fwy o ddiddordeb yn ein gweld fel partneriaid i gyflenwi, yn hytrach na dod o hyd i ffordd o wneud cyhoeddiadau gwleidyddol cyfleus. Edrychaf ymlaen at weld barn y bobl ar y cyhoeddiadau gwleidyddol pryd bynnag y daw’r etholiad cyffredinol.

14:00

Weinidog, mae'n rhaid bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd y stryd fawr ac iechyd ariannol aelwydydd ar draws y Deyrnas Unedig. Felly, a fyddech chi'n cytuno bod strydoedd mawr ar draws y DU yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad uniongyrchol i 14 mlynedd o gamreoli'r economi gan Lywodraeth Dorïaidd y DU?

Ni ellir gwadu bod dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn ystod y 14 mlynedd diwethaf wedi cael effaith wirioneddol ar incwm gweithwyr a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r stryd fawr. Rydym yn dal i ymdopi â realiti toriadau treth Liz Truss, oddeutu £40 biliwn o doriadau treth heb eu hariannu, a realiti'r hyn y mae hynny wedi'i wneud, nid yn unig mewn perthynas â statws y DU yn y byd, ond mewn perthynas ag incwm gwirioneddol i bobl, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu ar gyfer cyfraddau llog ac i fusnesau—a chyfraddau llog ar gyfer buddsoddi hefyd. Mae'r holl bethau hyn yn bwysig.

Heb os, mae'n ffaith bod trethi ar bobl sy'n gweithio ar eu lefel uchaf ers yr ail ryfel byd. Mae'n ffaith bod cynnyrch domestig gros y pen yn gostwng ar draws y DU. Dywed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol na fydd cynnyrch domestig gros ond yn cynyddu ledled y DU oherwydd twf yn y boblogaeth, ond mae pob unigolyn yn debygol o fod â llai ar gyfartaledd yn gyffredinol, ac mae hynny'n cael effaith uniongyrchol ar y stryd fawr a'r mannau lle mae gwariant dewisol ar gael. Mae'n dangos pam mae gwir angen mwy o sefydlogrwydd yng nghyd-destun y DU, yn ogystal ag yma yng Nghymru. Hyd nes y gwelwn newid pendant ar lefel y DU, mae arnaf ofn nad yw'r dyfodol yn edrych yn wych i strydoedd mawr ledled Cymru, ac yn wir, ledled y DU. Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â strydoedd mawr, awdurdodau lleol a Llywodraeth wahanol yn y DU a fydd yn buddsoddi yn ein dyfodol economaidd.

Cyllideb Llywodraeth y DU ac Economi Cymru

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU yn ei chael ar economi Cymru? OQ60843

Mae'n amlwg fod economi'r DU yn parhau'n ddisymud yn ystod y cyfnod hwn o ddirwasgiad presennol. Nid yw'r rhagolygon twf a nodir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn optimistaidd. Mae datganiad y Canghellor wedi methu cyflwyno cynllun argyhoeddiadol ar gyfer twf sy'n cefnogi potensial economaidd Cymru mewn economi decach yn y DU.

Diolch am yr ateb.

Gwyddom i gyd fod cyllideb y Canghellor wedi adlewyrchu'r gagendor rhwng blaenoriaethau San Steffan a phryderon gweithwyr cyffredin yng Nghymru. Mae'n hynod bryderus fod y Canghellor wedi parhau i fwrw ymlaen â thoriadau treth ar draul buddsoddiad cyhoeddus mewn seilwaith, sydd ei angen yn ddybryd i gefnogi gwasanaethau allweddol ac ysgogi ffyniant economaidd. Fodd bynnag, fel rydym yn aml yn ei glywed yn y Siambr hon, ac fel y clywsom eisoes heddiw, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn byw mewn gobaith y bydd dyfodiad Keir Starmer yn arwain at gyd-destun ffafriol yn y DU, ymadrodd yr ydym wedi dod yn gyfarwydd â'i glywed nawr.

Ond nid yw'r ffaith bod Starmer yn gwrthod ymrwymo i wrthdroi mesurau cyni, pe bai'n dod yn Brif Weinidog, neu 'ddisgyblaeth ariannol' fel y mae'n ei alw'n llednais, yn argoeli'n dda i Gymru a Llywodraeth Cymru. O ystyried bod cymaint o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi iachach i Gymru yn dibynnu ar y gobaith o gael Llywodraeth Lafur ffafriol yn San Steffan, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hirdymor sy'n wynebu economi Cymru os na fydd y cyd-destun mor ffafriol wedi'r cyfan?

14:05

Unwaith eto, mae Plaid Cymru eisiau cael eu siomi gan Lywodraeth Lafur y DU sydd eto i'w hethol. Rwy'n edrych ymlaen at fynd o ddrws i ddrws a mynd i stiwdios y cyfryngau i berswadio pobl i bleidleisio dros Lafur yn etholiad cyffredinol nesaf y DU. Rwy'n credu bod hynny'n hanfodol ar gyfer dyfodol y DU a dyfodol y bobl a gynrychiolwn. Rwyf hefyd yn meddwl am yr adeg pan oeddwn i'n wirioneddol ifanc ac yn curo ar ddrysau yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 1997; roeddem yn cael yr un math o gyd-destun yn union gan rai o'n beirniaid: beth fyddai'n digwydd gyda'r ddisgyblaeth ariannol yr oedd Gordon Brown yn ei disgrifio? Ac yn y pen draw, yr hyn a ddigwyddodd oedd buddsoddiad parhaus yn nyfodol gwasanaethau cyhoeddus a'r economi o fewn blwyddyn neu ddwy. Fe wnaeth wahaniaeth enfawr. Pan fyddaf yn disgrifio'r gwelliant mewn cyfraddau cynhyrchiant a gweithgarwch economaidd drwy'r cyfnod datganoli cyn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, digwyddodd hynny oherwydd bod gennym adnoddau, oherwydd bod gennym amgylchedd sefydlog i wneud dewisiadau yma. Ac edrychaf ymlaen at allu gwella gwasanaethau cyhoeddus a'r economi yng Nghymru yn sylweddol gyda'r sefydlogrwydd hwnnw.

Wrth edrych ar ddatganiad diweddar y Canghellor, serch hynny, rwy'n credu ei fod yn dangos y bydd y dyfodol yn un llwm iawn os byddwn yn cael mwy o'r un peth, oherwydd mae'r rhan fwyaf o sylwebyddion annibynnol yn cydnabod nad oes modd cyflawni'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn weddus yn dda i'r economi. Roeddwn yn synnu gweld y genhadaeth ffyniant bro yn darparu £242 miliwn i'w fuddsoddi yn Canary Wharf, oherwydd nid yw'n ymddangos fel y math cywir o flaenoriaeth i mi. Rwy'n credu y byddwn yn gweld blaenoriaethau hollol wahanol gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU. Rwy'n edrych ymlaen at ymgyrchu dros y Llywodraeth honno, at weithio gyda nhw a sefyll dros Gymru i wneud y dewisiadau sydd eu hangen arnom i sicrhau dyfodol economaidd gwell i'n holl etholwyr.

Datblygu Sgiliau ym Maes Gweithgynhyrchu

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru? OQ60810

Diolch am y cwestiwn. Drwy raglenni sgiliau allweddol fel prentisiaethau, y rhaglen sgiliau hyblyg a chyfrifon dysgu personol, rydym yn parhau i weithio ar y cyd â'r diwydiant, busnesau, darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys undebau llafur, i gynyddu ein datblygiad sgiliau ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion economi'r dyfodol. 

Diolch am yr ateb hwnnw. Weinidog, fel y mae cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn ei ddangos, prif rôl unrhyw ddatblygiad economaidd neu strategaeth sgiliau yw creu'r amodau cywir er mwyn i fusnesau, gweithwyr a dysgwyr ffynnu. A phan ddywedaf hyn, rwy'n edrych yn arbennig ar y rôl y gall y Llywodraeth ei chwarae wrth ddatblygu technoleg. A gaf i ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda'r sector sgiliau, gyda'r diwydiant a chydag undebau llafur am gefnogi datblygiad a mabwysiadu technolegau strategol o bwys, yn enwedig deallusrwydd artiffisial, awtomatiaeth a thechnolegau carbon niwtral mewn meysydd fel awyrofod, gweithgynhyrchu uwch, tai ac ynni adnewyddadwy? Diolch.

Rydym yn cael yr union sgyrsiau hynny. Cyhoeddwyd y cynllun gweithgynhyrchu diwygiedig yn dilyn arolwg gyda gweithgynhyrchwyr am ddyfodol gweithgynhyrchu uwch, am faint o amser a sylw roeddent wedi'i roi i ddeall y cyfleoedd yn ogystal â pheryglon newidiadau technolegol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial. Ac mae'n un o'r pethau rydym yn awyddus i'w helpu gyda nhw, oherwydd mae yna nifer o bethau sy'n ddatblygedig bellach, ac felly, rhan o sut y gallwch wella cynhyrchiant a phroffidioldeb yw rhoi ystyriaeth gyson i dechnolegau sydd eisoes yn ddatblygedig, yn ogystal â thechnoleg arloesol.

Os meddyliwch am Airbus a'i gadwyn gyflenwi ehangach, mae Airbus yn buddsoddi llawer mewn ymyriadau technolegol arloesol ar gyfer ei fusnes. Mae angen i lawer o'u cyflenwyr gymhwyso'r hyn sydd yma eisoes, yn ogystal â deall yr ymyriadau a'r cynnydd hwnnw. Ac mae'n thema sy'n ymwneud â'r hyn rydym eisiau ei wneud gyda buddsoddiad mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol—mewn ysgolion, lle mae gan fusnesau gysylltiadau, ond hefyd i'r rhai sydd eisoes yn y byd gwaith. Dyna pam y cyfeiriais at gyfrifon dysgu personol a hefyd pam y cyfeiriais at undebau llafur, oherwydd mewn rhai o'r busnesau hynny, dysg undebau llafur sy'n helpu pobl i gamu drwy'r drws mewn gwirionedd, o ran yr hyn y gallant ei wneud y tu hwnt i fyd gwaith, ond hefyd yr hyn y mae hynny'n ei olygu iddynt fel gweithiwr cynhyrchiol. Rwy'n credu bod gennym lawer i'w gynnig ar gyfer y dyfodol, ac unwaith eto, gan droi'n ôl at y sefydlogrwydd rydym eisiau ei weld, gallwn fuddsoddi yn hwnnw mewn ffordd barhaus, fel y mae busnesau eisiau i ni ei wneud, fel y mae undebau llafur eisiau i ni ei wneud, ac mae hynny i gyd yn golygu y bydd gennym lawer gwell gobaith o sicrhau dyfodol gwirioneddol arwyddocaol i'r sectorau allweddol hyn o'r economi.

Weinidog, mae ein colegau addysg bellach yn gwneud gwaith gwych wrth ddatblygu sgiliau i ddiwallu anghenion ein sector gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Nid oes ond angen edrych ar y dull a fabwysiadwyd gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i, y mae ei bartneriaethau â diwydiant yn helpu i drawsnewid y sector. Mae technegau gweithgynhyrchu yn dod i'r amlwg bron bob dydd, ac mae llawer ohonynt yn wirioneddol drawsnewidiol, yn enwedig y datblygiadau diweddaraf mewn gweithgynhyrchu haen-ar-haen; mae argraffu 3D yn ysgubo drwy weithgynhyrchu.

Weinidog, gall Llywodraeth Cymru chwarae rhan nid yn unig wrth helpu i ddatblygu sgiliau'r dyfodol, ond hefyd wrth greu'r galw am sgiliau o'r fath. Ychydig wythnosau'n ôl, cyfarfûm â datblygwr sy'n awyddus i ddod â chartrefi ac adeiladau argraffu 3D i Gymru. Gellir argraffu adeiladau mewn mater o ddyddiau, lle mae'n cymryd misoedd lawer gan ddefnyddio technegau adeiladu traddodiadol. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â sut y gall y dulliau gweithgynhyrchu newydd hyn fynd i'r afael â'r prinder tai yng Nghymru?

14:10

Rwyf innau hefyd yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan golegau addysg bellach i weithwyr y dyfodol, pobl ifanc sy'n dod at ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol, yn ogystal â phobl sy'n ailsgilio fel oedolion. Rwy'n optimistaidd iawn am ystod eang o feysydd y mae'r Aelod wedi'u crybwyll, gan gynnwys dulliau gweithgynhyrchu modern o adeiladu. Mae'n rhywbeth y mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy wedi ei hyrwyddo a'i drafod yn rheolaidd, yn ogystal â sut y gall hynny ein helpu i wella cyflymder y cynnydd yn nifer y tai yr hoffem eu gweld yn cael eu hadeiladu a beth mae hynny'n ei olygu o ran swyddi a chyfleoedd lleol hefyd. Mae'n rhywbeth y credaf y gallwn fod yn uchelgeisiol yn ei gylch yma yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn derbyn y pwynt ynglŷn â sut rydych chi'n cymhwyso peth o hyn drwy ddysgu mewn amrywiaeth o fusnesau. Mae rhai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u crybwyll am weithgynhyrchu haen-ar-haen ac argraffu 3D yn eithaf datblygedig ac yn cael eu cydnabod yn dda, ac mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â sut rydym yn mynd ati'n ymarferol i helpu busnesau i ystyried y cyfleoedd hynny. Mae rhaglen clwstwr darbodus Toyota yn un o'r pethau rydym wedi'u cefnogi'n gyson. Daw'r dysgu hwnnw o rywbeth sydd, unwaith eto, wedi'i leoli yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ond mae'n rhaglen genedlaethol mewn gwirionedd, ac mae'n ystyried gwahanol weithgynhyrchwyr ar draws ystod eang o sectorau. Maent yn gweld budd gwirioneddol i hynny. Felly, rydym wedi cefnogi ac yn parhau i gefnogi ystod eang o ymyriadau gwahanol ar draws yr economi, yn ogystal â'r pwynt penodol a wnaeth yr Aelod ynghylch tai, lle rwy'n optimistaidd iawn, fel y dywedaf, ynghylch rôl hyd yn oed yn fwy i ddulliau modern o adeiladu.

Diogelu Busnesau yn y Dyfodol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau yn y dyfodol? OQ60823

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ddiogelu at y dyfodol drwy eu helpu i adeiladu busnesau mwy gwydn a datblygu eu harferion busnes. Mae hyn yn cynnwys cymorth penodol sydd ar gael drwy wasanaeth Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, a Banc Datblygu Cymru yn wir.

Diolch. Lywydd, rwy'n datgan buddiant fel aelod cyswllt academaidd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, y byddaf yn cyfeirio ato yn y cwestiwn atodol. Roedd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 yn cynnwys £20 miliwn i fusnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol. Croesawyd y newyddion gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, sydd wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd o'r enw 'A Skills-led Economy for Wales', a oedd yn ymdrin mewn cryn dipyn o fanylder â chynhyrchiant a phobl, sgiliau ac anghenion cynllunio'r gweithlu. Felly, gyda hynny mewn golwg, a all y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion ar sut y bydd y cyllid yn cael ei wario a sut y gall sefydliadau fel y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, y Ffederasiwn Busnesau Bach a gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol gymryd rhan er budd busnesau bach a chanolig?

Mewn gwirionedd, rydym wrthi'n ystyried manylion terfynol y cyhoeddiad, ond rydym yn edrych ar sut y gallwn helpu nifer o fusnesau cymwys. Rydym yn credu y gallwn helpu dros 2,500 o fusnesau'r sector ledled Cymru. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio o fewn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Un o'r pethau rydym eisiau ei weld yw grantiau cyfalaf cyfatebol i helpu pobl i wella eu hadeiladau, i wella eu cynhyrchiant, ac ystod o bethau eraill hefyd, er enghraifft defnydd o ynni. Byddaf yn cyhoeddi manylion hynny, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn eu derbyn.

Y pwynt am hyn yw sut rydym yn helpu'r busnesau hyn i fod yn fwy cynhyrchiol ac addas ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau bod ganddynt obaith gwirioneddol o oroesi. Yn aml, nid yw busnesau'n gallu gweld y buddsoddiad cyfalaf hwnnw. Bydd cael sail arian cyfatebol ar gyfer gwneud hynny yn helpu mwy o'r busnesau hynny, ac rwy'n credu y bydd hynny'n arwain at ddyfodol gwirioneddol a pharhaus i fusnesau bach a chanolig, sy'n rhan allweddol o'n system economaidd yma yng Nghymru, ynghyd â'r busnesau mwy y maent yn aml yn gweithio ochr yn ochr â nhw.

Toriadau i'r Portffolio Diwylliant

8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y toriadau i'r portffolio diwylliant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn effeithio ar y sector? OQ60817

Mae pob Gweinidog wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd a phoenus, ac rydym wedi ail-lunio cynlluniau gwariant yn radical i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd. Rwyf wedi gweithredu i liniaru maint llawn y pwysau cyllidebol ar y sector diwylliant. Fodd bynnag, nid oes hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol y tu allan i'r Senedd bythefnos yn ôl, yn ymgyrchu yn erbyn toriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru yn y gyllideb i'r sector diwylliant a threftadaeth. Yn wir, mae'r sector hwn wedi cael ei effeithio'n anghymesur o'i gymharu â sectorau eraill yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, mae'r toriadau hynny'n annoeth am sawl rheswm, ond yn fwyaf arbennig, roedd y llythyr a anfonwyd atom gan gadeirydd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn dweud, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae'n rhwystredig fod yr arian a gynigir gan Lywodraeth Cymru i leihau lefelau staffio yr un fath â'r ffigur y byddai wedi bod ei angen i gadw'r union staff sy'n cael eu gorfodi i adael.'

Felly, yn fy marn i mae'r toriadau arfaethedig yn gwbl wrthgynhyrchiol. Nawr, rwy'n rhagweld yr ateb arferol ynghylch 'cyni' gan y Dirprwy Weinidog, ac mae hynny'n fy atgoffa o ddyfyniad doeth iawn a glywais unwaith:

'nid yw... yn ymwneud o reidrwydd â faint o arian sydd gennych; mae'n ymwneud â'r hyn a wnewch yn effeithiol gyda'r arian sydd gennych chi.'

Ac mae'r person hwnnw'n iawn, ac mae'r toriad hwn yn enghraifft wych o ffordd aneffeithiol o ddefnyddio arian trethdalwyr, i wneud pobl yn ddi-waith y gallech fod wedi'u harbed fel arall drwy ddefnyddio'r un swm o arian. Nawr, cafodd y dyfyniad hwnnw ei ddweud yma yn Siambr y Senedd ddeufis yn ôl gennych chi, Dawn Bowden. A ydych chi'n dal i lynu wrth y geiriau hynny?

14:15

Diolch am y cwestiwn, Tom Giffard, a chredaf, yn gyffredinol, fod hynny'n hollol wir. Nawr, un o'r pethau y bu'n rhaid inni ei wneud fel Llywodraeth yw ailflaenoriaethu ein gwariant, oherwydd beth bynnag a ddywedwn a sut bynnag rydych chi'n ceisio ei gyflwyno, rydym yn wynebu toriadau sylweddol yn ein cyllideb ac roedd yn rhaid inni wneud blaenoriaethau ar draws gwasanaethau rheng flaen a'r GIG. Dyna oedd ein blaenoriaeth wleidyddol. Felly, bu'n rhaid torri gwasanaethau eraill i ddarparu ar gyfer hynny. Nawr, drwy gydol y broses graffu ar y gyllideb—ar lawr y Senedd hon, ac ymddangos ger bron y pwyllgor ac yn y blaen—rwyf wedi ateb yr holl gwestiynau hyn o'r blaen, ond rwyf hefyd wedi gwrando ar rai o'r cwestiynau hynny, a phan ddaeth cyllid ychwanegol ar gael, cytunodd y Cabinet y dylem gael buddsoddiad pellach o £1.4 miliwn i Cadw a'r comisiwn brenhinol, er enghraifft, oherwydd mai dyna un o'r meysydd yr oedd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol ac eraill yn poeni'n arbennig yn ei gylch o ran lefel y toriadau o gymharu â gweddill y sector diwylliant.

Ond un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw drwy gydol y broses hon—ac mae'n drueni, mewn gwirionedd, mai argyfwng ariannol sy'n ein cymell i fynd i siarad gyda'n cyrff hyd braich sy'n darparu ein cynnig diwylliannol i weld a ydynt yn gweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd—drwy gydol cylch y gyllideb, rwyf wedi bod yn cael y sgyrsiau hynny gyda nhw ynglŷn â sut rydym yn gwneud pethau'n wahanol, a dyna pam fy mod i hefyd yn croesawu'r alwad gan brif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru pan ddywedodd ein bod angen dadl genedlaethol am ddiwylliant a pha mor bwysig ydyw. Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae gennym nifer o gyrff diwylliannol sy'n darparu ein cynnig diwylliannol yng Nghymru. Gyda nifer ohonynt, mae yna ddyblygu, mae yna orgyffwrdd ac nid yw pethau'n gweithredu mor effeithlon ag y gallent fel arall. Argyfwng ariannol sydd wedi gwneud i ni ddod at ein gilydd o'r diwedd ac edrych ar hynny, ac mae'r sgyrsiau hynny'n digwydd rhwng cyrff hyd braich ar hyn o bryd, i edrych ar sut y gallant weithio'n fwy cydweithredol, sut y gallant osgoi dyblygu a sut y gallant ddarparu cynnig diwylliannol mwy cydlynol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf. Y cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael â’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith y Mesur Teithio gan Ddysgwyr? OQ60811

Mi wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau gwrdd yn ddiweddar i drafod canfyddiadau'r adolygiad mewnol ar y Mesur teithio gan ddysgwyr a bydd datganiad yn cael ei wneud maes o law am y canlyniadau.

Diolch am hynny, Gweinidog. Mae'n ddwy flynedd ers cyhoeddi adroddiad adolygiad 2021 o'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Ar y pryd, nodwyd bod y Llywodraeth eisiau datblygu'r rhaglen yn ehangach a gwella darpariaeth. Ers hynny, bu mwy o sialensiau. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cwtogi eu darpariaeth cludiant ysgol o ganlyniad i heriau cyllido cyffredinol. Yn yr ardal dwi'n cynrychioli, mae dalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg—maen nhw'n lot mwy na rhai yr ysgolion Saesneg eu hiaith, ac os yw'r ysgol yn bell i ffwrdd, does dim cludiant ysgol ar gael gan y cyngor. Mae hynny yn gallu ychwanegu haen newydd o rwystr i'r rhieni hynny sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg eu hunain, ond sydd yn penderfynu a ddylen nhw wneud y naid o anfon eu plant nhw i ysgol Gymraeg. Gall hynny, dwi wir yn meddwl, olygu y bydd llai o rieni yn gwneud y naid.

Felly, pa gamau ydych chi’n cymryd, gyda’r Gweinidog trafnidiaeth, i fonitro effeithiau’r newidiadau hyn ar nifer o deuluoedd di-Gymraeg sy’n debygol o anfon eu plant i’r ysgolion Cymraeg, a pha effaith ydych chi’n meddwl y gall hyn ei gael ar hyder y rhieni hynny sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg eu hunain, ond sydd ar fin gwneud y penderfyniad hollbwysig yna o roi'r cyfle yna i'w plant nhw?

14:20

Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'r cwestiwn yn un teilwng. Un o'r heriau yw'r data ynglŷn â'r rhesymau dros benderfyniadau rhieni yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant, ond mae'r her ychwanegol, yr her ehangach mae'r Aelod yn cyfeirio ati, yn un deg.

Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyhoeddi'r canfyddiadau, rwy'n credu, cyn diwedd yr wythnos hon, felly mae hynny'n amserol yng nghyd-destun y cwestiwn. Beth fyddwn i'n ddweud, o ran y newidiadau sydd yn digwydd gan rhai cynghorau o ran eu cyllideb, yw bod hyn, wrth gwrs, yn rhan o'r pwysau rŷn ni wedi bod yn trafod mewn amryw gyd-destunau yn ddiweddar. Does dim un ohonyn nhw yn mynd yn is, wrth gwrs, na'r lleiafswm sydd yn ofynnol o ran y Mesur. Dŷn ni wedi cyrraedd y casgliad ei bod hi ddim yn bosib ailedrych ar y Mesur ar hyn o bryd, ond mae yn bosib inni edrych ar y canllawiau statudol ynghlwm â hynny, a bydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog yn dweud mwy am hynny.

Mae hefyd, rwy'n credu, yn bwysig gweld hyn yng nghyd-destun y diwygiadau ehangach sydd ar waith o ran y Bil bysiau, ac mae cyfle, rwy'n credu, yn sgil hynny, inni allu sefydlu rhwydwaith o wasanaethau bws sydd yn gwasanaethu ysgolion yn y ffordd mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Rwy'n cydnabod bod angen gwneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio, rhwng y ddau, y byddwn ni'n gallu gwneud cynnydd yn y dyfodol agos.

Weinidog, mae fy nghwestiwn i'n debyg i gwestiwn Delyth Jewell. Felly, fy mhryder i gyda'r Mesur teithio gan ddysgwyr fel y mae ar hyn o bryd yw'r ffaith bod yna lawer o blant nad ydynt yn cael cludiant am ddim i'w hysgol cyfrwng Saesneg agosaf oherwydd bod yna ysgol cyfrwng Cymraeg yn nes. Ac mae yna rai achosion anarferol iawn lle mae gennych chi ysgol cyfrwng Saesneg ac ysgol cyfrwng Cymraeg bron â bod drws nesaf at ei gilydd, ond lle mae'r ysgol Gymraeg ychydig yn agosach at deulu a allai fod yn byw 10 milltir i ffwrdd, ac nid ydynt yn cael—y teulu hwnnw—nid ydynt yn gallu cael cludiant am ddim i'w hysgol cyfrwng Saesneg agosaf. Yna, yn aml, maent yn gorfod mynd i'r car yn y bore a theithio y tu ôl i'r bws ysgol, sy'n mynd i'r union leoliad hwnnw. Felly, a gaf i ofyn, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei gydnabod ac a yw'n rhywbeth y byddwn yn ei weld yn cael ei gywiro? Oherwydd ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn dweud—rwy'n siŵr y bydd awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn dweud yr un peth—'Ni allwn wneud addasiadau i hyn oherwydd rydym yn aros i'r Mesur teithio gan ddysgwyr gael ei ddiweddaru.'

Diolch i Russell George am hynny. Rwy'n credu ei bod yn senario lawer llai tebygol na'r senario a amlinellwyd gan Delyth Jewell, ond yr hyn rydym eisiau ei wneud—a byddwch yn gweld hyn pan gyhoeddir yr adolygiad yn y dyddiau nesaf—yw sicrhau bod cydnabyddiaeth na fydd yn bosibl inni ddiwygio'r ddeddfwriaeth sy'n sail i deithio gan ddysgwyr yn y tymor byr, ond rydym yn gobeithio y bydd y cyfle i ddiweddaru'r canllawiau statudol dros y flwyddyn nesaf yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r math o bwyntiau y mae wedi'u gwneud, yn ogystal ag adborth arall gan randdeiliaid. Ac yn bwysig, rydym eisiau creu cyfle i randdeiliaid yn gyffredinol, wrth gwrs, ond yn enwedig plant a phobl ifanc eu hunain a chymunedau ysgol, gyfrannu at y gwaith hwnnw a helpu i'w siapio mewn ffordd a fydd, gobeithio, yn gallu mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud.

Darpariaeth Nyrsys mewn Ysgolion

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarpariaeth nyrsys mewn ysgolion? OQ60815

Yn sicr. Mae'r ddarpariaeth nyrsys mewn ysgolion yn cael ei phennu gan y bwrdd iechyd lleol yn unol ag anghenion iechyd y boblogaeth leol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae sawl preswylydd yn fy rhanbarth wedi cysylltu â mi yn pryderu'n fawr am newidiadau yn y ffordd y caiff meddyginiaeth ei rhoi mewn ysgolion anghenion addysgol arbennig lleol yn Rhondda Cynon Taf. Lle'r oedd timau nyrsys ysgol arbennig ar y safle yn gyfrifol am roi meddyginiaeth yn y gorffennol, mae meddyginiaeth bellach yn cael ei rhoi gan gynorthwywyr addysgu. Yn ddealladwy, mae hyn yn peri pryder i lawer o rieni a gofalwyr y mae gan eu plant anghenion gofal cymhleth iawn, nid yn unig o ran hyfforddiant a chymhwysedd cynorthwywyr addysgu i allu rhoi meddyginiaeth, ond hefyd o ran pa amddiffyniadau sydd ar waith i'r cynorthwywyr addysgu eu hunain. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gydnabod y gwaith pwysig ac amhrisiadwy y mae cynorthwywyr addysgu yn ei wneud mewn ystafell ddosbarth, a bydd ymgymryd â'r rôl ychwanegol hon yn ychwanegu at y baich sydd arnynt, a hynny er anfantais i ymgysylltiad a dysg disgyblion. Ac fel y gŵyr y Gweinidog, mae gan nyrsys ysgol amddiffyniadau galwedigaethol lle nad oes gan gynorthwywyr addysgu amddiffyniadau o'r fath. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, a ydych chi'n cydnabod y pryderon sydd gan rieni, gofalwyr a chynorthwywyr addysgu a'r effaith negyddol gyffredinol y byddant yn ei chael ar ddysgu yn y dosbarth, a pha gamau y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â nhw? Diolch.

14:25

Dylwn ddweud i ddechrau, ar gyfer y cofnod, mai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gyfrifol am nyrsio ysgolion, ond rwy'n hapus i ymateb i'r cwestiwn a gyflwynwyd heddiw, er fy mod yn credu y byddai'n well cyfeirio unrhyw gwestiynau tebyg neu gwestiynau dilynol at y Gweinidog iechyd yn y dyfodol.

Hoffwn ddweud bod y trefniadau ar gyfer nyrsio ysgolion a'r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i ddarparu'r cysylltiad hwn rhwng yr ysgol a'r cartref a'r gymuned yn amlwg yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun darparu meddyginiaeth yn y math o sefyllfaoedd y mae'r Aelod newydd eu hamlinellu yn ei gwestiwn. Ym mis Ebrill eleni, bydd GIG Cymru yn dechrau gweithredu model gweithredu newydd i ategu'r fframweithiau nyrsio ysgolion presennol yng Nghymru. Mae'n fodel dan arweiniad nyrsys, sydd wedi'i gydgynhyrchu gan y GIG a Llywodraeth Cymru, a bydd yn nodi cysylltiadau wedi'u cynllunio y gall plant a'u teuluoedd eu disgwyl gan wasanaethau nyrsio ysgolion. Bydd yn nodi canllawiau clir iawn ar rôl y gwasanaeth nyrsio ysgolion, a'r ymwneud mewn perthynas â diogelu, ac yn sicrhau bod cysylltiadau llesiant yn cael eu darparu hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn croesawu'r cynnydd hwnnw yn ystod y flwyddyn hon.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, daeth yr ymgynghoriad ar newid amseroedd tymhorau ysgolion i ben fis yn ôl, gyda'r awgrymiadau ynddo yn cael eu beirniadu'n eang gan undebau athrawon, teuluoedd a phobl ifanc hefyd. Mae'r syniad hwn, o'r cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, yn peryglu un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr diwylliannol Cymru, a allai gostio dros £1 filiwn i'r Sioe Frenhinol, gyda sgil-effeithiau posibl eraill i eisteddfodau a digwyddiadau eraill yn yr haf, gan effeithio'n uniongyrchol ar yr iaith Gymraeg a'n diwylliant. Nawr, er ei bod yn debygol mai Gweinidog addysg gwahanol fydd yn cael y dasg o fwrw ymlaen â chanfyddiadau'r ymgynghoriad, a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw y bydd Sioe Frenhinol Cymru yn parhau i gael ei chynnal yn ystod gwyliau'r ysgol ac na fydd yn rhaid iddi newid ei dyddiadau i adeg arall yn y flwyddyn?

Wel, mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben. Mae'r ymatebion yn cael eu hystyried. Mae'n ymateb llawer mwy cymysg nag y mae'r Aelod yn ei awgrymu yn ei gwestiwn. Rwyf wedi cyfarfod â'r Sioe Frenhinol. Rwyf wedi clywed eu pryderon yn uniongyrchol, ond rwyf hefyd wedi trafod opsiynau gyda nhw ynghylch dyddiadau'r sioe. I fod yn glir, pwrpas y diwygio yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr addysg orau sy'n bosibl a'n bod yn gwneud rhywbeth rhagweithiol ynglŷn â'r dysgu y mae llawer o'n plant ifanc yn ei golli dros wyliau'r haf. Nid yw'n wyliau o gwbl i'n holl deuluoedd yng Nghymru—i fod yn glir. Mae rhai yn ofnus ac yn bryderus yn ei gylch. Mae hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r pryder y mae staff a disgyblion a llawer o rieni yn sôn amdano, sef hyd tymor yr hydref. Felly, mae'n set gymhleth o ddiwygiadau. Mae llawer o agweddau arno. Dyna pam mae wedi bod yn bwysig clywed ystod o leisiau, ac un ohonynt yw'r Sioe Frenhinol, ond bydd yna sawl persbectif, a byddant i gyd yn cael eu hystyried cyn y byddwn yn gwneud unrhyw gyhoeddiad.

[Anghlywadwy.]—cadarnhad yno y bydd y Sioe Frenhinol yn gallu parhau yn ystod gwyliau'r ysgol ac na fydd yn rhaid ei symud i adeg arall yn ystod gwyliau'r haf, gan effeithio ar yr Eisteddfod Genedlaethol o bosibl, Eisteddfod yr Urdd, a digwyddiadau diwylliannol eraill yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl braidd yn siomedig gyda'r ymateb hwnnw, Weinidog addysg.

Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae adroddiad wedi ymddangos yn y wasg sy'n cyfeirio at ddisgyblion yn ymddwyn yn dreisgar tuag at athrawon mewn ysgol yn fy etholaeth. Cynigiais fy nghefnogaeth i'r ysgol, ac mae'r ymateb gan y pennaeth wedi creu argraff arnaf. Yn anffodus, fodd bynnag, mae digwyddiadau fel hyn ar gynnydd, ac mae fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones wedi tynnu sylw at y mater ar sawl achlysur yn flaenorol. Ym mis Ionawr eleni, aeth athrawon mewn ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg ar streic i fynnu camau gweithredu, yn dilyn mwy na 50 o ddigwyddiadau difrifol o gam-drin geiriol a chorfforol tuag at staff rhwng mis Medi a dechrau mis Ionawr. Mae athrawon wedi disgrifio sut mae'n rhaid iddynt gloi eu hunain a disgyblion mewn ystafelloedd dosbarth er mwyn, ac rwy'n dyfynnu, 'eu gwarchod rhag cael eu dyrnu.' Mae'n hanfodol ein bod yn denu athrawon newydd i'r proffesiwn, ond gyda'r cynnydd mewn aflonyddwch treisgar, nid yw'r proffesiwn mor ddeniadol ag y gallai fod. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn a darparu adnoddau i ysgolion i sicrhau bod athrawon a disgyblion yn teimlo'n ddiogel tra byddant yn yr ysgol? Ac a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r cynllun pum pwynt a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones i helpu yn hyn o beth?

Ar sylw atodol yr Aelod ar fy ateb cyntaf, nid wyf yn credu y bydd y sefydliadau hynny'n siomedig ynghylch fy ymateb. Rwy'n credu y byddant yn falch o glywed Llywodraeth yn ystyried ystod o bethau cyn cyhoeddi newid polisi mawr yn unol â'n disgwyliadau gan Lywodraethau ym mhobman.

O ran eich ail bwynt, rwy'n ymwybodol o'r amgylchiadau yn yr ysgol benodol y cyfeiriwch ati ac roedd yn ddrwg gennyf glywed am amgylchiadau'r digwyddiad yno, fel y bydd pawb yma. Mae newid wedi bod mewn cymdeithas ac mae canlyniadau wedi bod i'r ffordd y bu'n rhaid i ni ymateb i COVID a phwysau eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw hon yn her sy'n unigryw i Gymru, ond nid yw hynny'n ei gwneud yn llai pwysig i ni yma. Ac mae wedi creu pwysau a chymhlethdodau ychwanegol yn ein system ysgolion. Ledled Cymru, mae ysgolion yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau newydd hyn bob dydd. Ein rôl fel Llywodraeth yw eu cefnogi i wneud hynny, mewn amgylchiadau heriol iawn yn aml.

Yr hyn a wnawn yn benodol mewn perthynas â hyn yw sicrhau ein bod yn cefnogi ysgolion gydag adnoddau ychwanegol i asesu'r heriau y gallant eu hwynebu, i nodi strategaethau y teimlwn y gallant helpu i atal rhai o'r problemau ymddygiad hynny rhag digwydd, ymdrin â nhw pan fyddant yn digwydd, ac atal problemau, yn hollbwysig, rhag magu gwreiddiau neu waethygu i'r pwynt lle mae gwaharddiad yn cael ei ystyried, oherwydd nid dyna'r ateb ychwaith mewn gwirionedd. Rwyf wedi ystyried y pum pwynt yn y cynllun a gyflwynodd Laura Jones. Yn ymarferol, mae pob un ohonynt yn bethau rydym eisoes yn eu gwneud, ond serch hynny, mae'n ddefnyddiol cael cadarnhad ei bod hithau'n cefnogi hynny hefyd.

14:30

Felly, yn olaf, Weinidog, gan ei bod yn debygol mai dyma fydd ein set olaf o gwestiynau ar addysg a’r Gymraeg, roeddwn am ddiolch ichi am eich atebion—yn naturiol, nid wyf bob amser wedi cytuno â chi—a'r ffordd y mae gennym y gallu i weithio ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg.

Fodd bynnag, rwyf am dynnu sylw yn ôl at gwestiwn yr wyf wedi’i ofyn nifer o weithiau o'r blaen, ond sydd bob amser wedi cael ymateb gwan yn fy marn i. Rwyf i, a'm nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig, yn gefnogol o darged 'Cymraeg 2050', ac rydym yn sylweddoli pwysigrwydd sicrhau bod dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn rhoi sylfaen gadarn yn yr iaith i'r genhedlaeth nesaf. Ond mae ansicrwydd a fydd digon o athrawon â sgiliau Cymraeg digon da i ddiwallu anghenion dysgu Cymraeg i ddisgyblion ym mhob ysgol ledled Cymru.

A allwch chi ddweud ble rydym ni ar hyn o bryd o ran darparu hyfforddiant iaith Gymraeg digonol a pha dargedau sydd ar waith i sicrhau y gall hyfforddiant o’r fath barhau a chynyddu? Diolch.

Diolch i Sam Kurtz. Gaf fi ddweud, rwy'n i'n cytuno â rhan gyntaf y cwestiwn a'i sylwadau hael iawn ynghylch hynny? Mae wedi bod yn braf cael y cyfle i gydweithio gyda fe, a hefyd mae cael llefarydd o'i blaid ef sydd mor bleidiol i’r Gymraeg yn beth i'w ddathlu, felly diolch iddo fe am hynny. Mae'r her a'r pwynt y mae’n ei wneud yn bwysig iawn o ran sicrhau bod staff digonol gyda ni i ddiwallu ac i ddarparu’r gwasanaeth rŷn ni ei eisiau i bawb sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ran hyfforddiant, mae’r darlun yn un amrywiol o fewn y partneriaethau sy’n darparu'r addysg gychwynnol, ac, yn sicr, mae mwy i’w wneud i sicrhau bod recriwtio ar gyfer athrawon, trwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol, yn fwy cyson ymhlith y partneriaethau a bod hynny’n cryfhau’n gyffredinol. Mae, wrth gwrs, targedau gan bob un ohonyn nhw. Mae hyn yn rhan o’r cynllun 10 mlynedd sydd gyda ni fel Llywodraeth i gynyddu’r niferoedd sydd yn dod i mewn i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn ni'n gwneud adroddiad ar y cynnydd, yn ôl y cynllun hwnnw, maes o law.

Mae hefyd yn bwysig, rwy'n credu—. Er ein bod ni'n sôn yn aml iawn, am resymau sydd yn ddilys ac yn ddealladwy, am yr heriau sydd yn wynebu'r bobl sydd yn dewis mynd i ddysgu, mae hefyd wir yn bwysig inni gofio maint y cyfle i newid bywydau pobl ifanc a'r anrhydedd o allu gwneud hynny. Mae'n un o'r cyfleoedd prin sydd ar gael i rywun allu effeithio ar gynifer o bobl, felly mae hefyd yn broffesiwn i'w ddathlu. Ac rwy’n adnabod athrawon sydd yn mynd i mewn i'r gwaith bob dydd, sydd yn cael eu hysbrydoli ac sydd yn awyddus ac yn falch iawn o wneud y gwaith, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am yr hyn maen nhw'n ei wneud.

Diolch, Llywydd. Weinidog, mi oeddwn i, yn debyg iawn i Sam Kurtz, yn adlewyrchu efallai mai dyma ein sesiwn graffu olaf ni efo chi yn y rôl hon. Roeddwn i eisiau diolch am y berthynas adeiladol. Un peth a oedd yn sefyll allan i mi roedd yr adeg efo RAAC—roedd yna lawer o gamwybodaeth allan yn fanna ac ansicrwydd, a'ch bod chi wedi cymryd yr amser i fy mriffio i'n bersonol yr adeg honno. A dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n gallu cydweithio yn adeiladol yn eithriadol o bwysig, a chael y negeseuon allan pan fo yna lot o anwiredd yna. Felly, diolch i chi am hynny. Hefyd, dwi eisiau croesawu'r buddsoddiad i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol a gyhoeddwyd eleni, a gobeithio'n fawr y bydd hyn yn rhywbeth fydd yn bosib i'r Llywodraeth ei gefnogi yn y dyfodol, fel bod pob ardal yn elwa o hynny.

Yn amlwg, pan fo'n dod i ddiwedd cyfnod Gweinidog, o bosib, mewn rôl, mae rhywun yn adlewyrchu ar record a gwaddol. Un o'r pethau yn sicr rydyn ni wedi'i weld ydy ein bod ni ymhellach o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr 'Cymraeg 2050' nag oeddem ni pan ddaethoch chi'n Weinidog, am amryw resymau. Ond pam ydych chi'n meddwl bod hynny, a beth sydd angen digwydd i newid hynny os ydym ni am gyrraedd y targed hwnnw?

14:35

Diolch i Heledd Fychan am y ffordd gwnaeth hi agor ei chwestiwn. Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio â hi. Rwy'n gobeithio gallu parhau i gydweithio â chi yn y dyfodol, beth bynnag ddaw dros yr wythnosau nesaf. Ac mae hi wir yn bwysig ein bod ni'n ffeindio ffyrdd o gydweithio ar bethau rydyn ni'n eu gweld yn gyffredin. Felly, diolch am fod yn gallu gwneud hynny.

O ran y cynnydd yn erbyn y targed, gaf i jest dweud dwi ddim yn sicr ein bod ni'n gallu dweud mor glir â hynny ein bod ni'n gwybod beth yw'r cynnydd yn erbyn y targed? Mae'n glir, rwy'n credu, yn gynyddol glir, fod cyfyngiadau ar yr hyn y mae'r cyfrifiad yn gallu ei ddweud wrthym ni, ac mae ffynonellau eraill o ddata yn dangos darlun eithaf gwahanol. Felly, mae llawer iawn o waith yn digwydd ar hyn o bryd i fynd i'r afael â sut rydyn ni'n cysoni hynny. A hefyd, yn edrych tua'r dyfodol, mae posibilrwydd sicr na fydd cyfrifiad yn digwydd yn y dyfodol. Felly, mae angen edrych ar ffyrdd efallai yn fwy creadigol o asesu cynnydd yn erbyn y targed, a gallu ymateb i newidiadau mewn ffordd sydd efallai yn fwy hyblyg ac yn fwy nuanced na chyfrifiad bob 10 mlynedd. Gyda nod tuag at 2050, efallai nad yw hynny'n ddigon aml i ni allu gwneud y newidiadau i'n strategaeth fydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu cyrraedd y nod. Felly, y peth pwysig, rwy'n credu, yw sicrhau ein bod ni'n deall beth mae'r data'n ei ddweud wrthym ni.

Ond, o ran yr ymateb a beth y gallwn ni ei wneud yn fwy, rwy'n ffyddiog iawn ac rwy'n optimistaidd iawn bod y Bil rydyn ni'n cydweithio â Phlaid Cymru arno fe o ran sicrhau addysg Gymraeg i bawb yng Nghymru—yn yr ystyr bod pawb yn gadael yr ysgol, o ba bynnag gyfrwng, yn gallu bod yn hyderus yn y Gymraeg—yn mynd i fod yn fwy uchelgeisiol ar un ogwydd na'r nod o filiwn o siaradwyr. Mae'n mynd i fod yn gatalydd i'r system mewn ffordd ehangach, ac yn mynd i'r afael rywfaint â'r cwestiwn gwnaeth Sam Kurtz ei ofyn ynglŷn â beth rŷn ni'n gallu ei wneud i sicrhau mwy o athrawon yn dod i mewn i'r system. Felly, rwy'n optimistaidd iawn bod yr hyn sydd gyda ni ar y gweill yn y Bil hwnnw yn mynd i fod yn gyfraniad pwysig tuag at y nod.

Diolch, Weinidog. I fod yn glir, nid sôn yn union roeddwn i am y cyfrifiad, ond o edrych ar yr holl dargedau sydd yn erbyn 'Cymraeg 2050'. Er enghraifft, efo targedau hyfforddi athrawon, 30 y cant, mae o wedi aros yn dipyn is ac aros yn debyg iawn ers 2019. Rydyn ni hefyd wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy'n cymryd lefel A cyfrwng Cymraeg, sydd wrth gwrs yn llwybr ar gyfer, wedyn, recriwtio athrawon, ond hefyd yr ystod o swyddi sydd eu hangen y tu hwnt i addysg o ran cyrraedd y targed. Felly, dwi eisiau gofyn yn benodol—mae gennym ni nifer o gynlluniau ar waith, mae yna dargedau: ydych chi'n meddwl bod angen ail-edrych ar y targedau hynny? Dwi'n derbyn o ran monitro, ond sut rydym ni wedyn yn mynd i sicrhau dydyn ni ddim efo'r targedau yma—? Er enghraifft, roedd yna 1,000 o bobl i fod yn cymryd lefel-A yn y Gymraeg erbyn 2021—rydyn ni'n bellach oddi wrth hynny. Felly, mae yna nifer o dargedau dydyn ni ddim yn eu cyrraedd. Sut ydym ni wedyn yn sicrhau nad dim ond geiriau neu strategaeth yw'r rhain, ein bod ni'n cyrraedd y targedau, a beth ydych chi'n meddwl sydd angen digwydd, os oes yna olynydd i'ch rôl chi, er mwyn sicrhau bod hynny'n newid gwirioneddol ar lawr gwlad?

Wel, rwy'n derbyn nad yw'r targedau yn eu hunain yn ddigonol, wrth gwrs. Mae angen sicrhau ein bod ni'n greadigol ac yn parhau i fod yn greadigol ynglŷn â sut rŷn ni'n mynd i ateb rheini. Mae hynny'n rhan, wrth gwrs, o'r cynllun sydd gyda ni o ran y cynllun—. Wel, mae dau gynllun ar waith yn y maes yma: y cynllun recriwtio athrawon—ac mae'r targedau rydych chi'n sôn amdanyn nhw yn rhan o hwnnw hefyd—ond hefyd mae'n rhaid i ni edrych ar y taflwybr eto, mae'n rhaid edrych i sicrhau bod yr hyn rŷn ni'n ei wneud yn ddigonol er mwyn cyrraedd y targed. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau. Mae e'n waith sylweddol wrth gwrs, ond rwy'n hapus iawn i fod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rŷn ni'n ei gymryd mewn i ystyriaeth. Ar ddiwedd y dydd, rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n fwyaf calonogol yw bod cefnogaeth i'r polisi yn trawstorri'n wleidyddol ar draws y Senedd. Felly, o'm safbwynt i, rwy'n credu mai ffordd agored, gydweithredol yw'r ffordd orau i fynd i'r afael â'r pethau yma, ac felly, wrth ein bod ni yn mynd â'r gwaith yn ei flaen o ran y taflwybr, rwy'n hapus i drafod hwnnw ymhellach mewn ffordd agored iawn.

14:40
Prydau Ysgol

3. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gael gwared ar fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth o brydau ysgol? OQ60820

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion i ystyried yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf a'r argymhellion sy'n ymwneud â safonau maethol, gan gynnwys ystyried bwyd wedi'i brosesu'n helaeth. Mae gwaith paratoi i gefnogi'r adolygiad hwn bellach ar y gweill.

Diolch. A diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr holl drafodaethau a gawsom ar y mater pwysig hwn. Ond mae'r dadansoddiad diweddar o faint y dystiolaeth yn y BMJ fis diwethaf yn ychwanegu at y corff o dystiolaeth ar y pryder iechyd cyhoeddus pwysig hwn. Mae hyn yn fethiant o ran rheoleiddio a labelu bwyd i'w fwyta gan bobl, sydd, yng ngoleuni Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a materion eraill, yn fater yn bennaf i Senedd y DU ei ddatrys ar frys. Y broblem i ni yng Nghymru yw pa mor gyflym ac am ba gost y gallwn gael gwared ar fwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth o systemau caffael cyhoeddus. Gan gofio am y rhwymedigaeth i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac o gofio'r gwaith sydd ar y gweill mewn lleoedd fel sir Gaerfyrddin a sir Fynwy, pa gamau y dylai'r Llywodraeth sy'n dod i mewn eu cymryd i ymgysylltu â chyrff caffael a darparwyr i gael gwared ar y cemegau hyn sydd wedi'u prosesu'n helaeth o brydau ysgol? 

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn ac am ddadlau'n gyson ac yn angerddol dros yr achos hwn, ac mae gennyf gydymdeimlad mawr â'r dadleuon y mae'n eu gwneud, fel y bydd hi'n gwybod o'n trafodaethau mewn cyd-destunau eraill. Cefais gyfle i edrych ar erthygl y BMJ mewn perthynas â hyn, ac er ei fod yn eithaf cymhleth o safbwynt technegol, cefais fy nharo gan rywbeth nad oeddwn i fy hun wedi'i weld mor ganolog â rhai o'r elfennau eraill yn hyn, mae arnaf ofn, sef y berthynas rhwng mwy o amlygiad, fel petai, fel y maent yn ei ddisgrifio yn yr erthygl, i fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth a'r risg uchel o ganlyniadau niweidiol sy'n gysylltiedig â chwsg, yn ogystal â chanlyniadau gorbryder a phryderon iechyd meddwl eraill. Rwy'n credu bod y ddadl yn aml yn canolbwyntio ar oblygiadau bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth i iechyd corfforol, felly rwy'n credu ei bod yn drafodaeth ehangach na hynny mewn rhai ffyrdd.

Felly, rwy'n credu bod gan gaffael rôl i'w chwarae. Rydym eisoes yn gwneud gwaith o fewn y Llywodraeth ar dreialu dulliau mwy lleol o gyflawni'r system fwyd ysgolion, a all wedyn fod yn fwy perthnasol i fwyd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, ac mae cymysgedd o awdurdodau lleol, cyfanwerthwyr bwyd a thyfwyr yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd i ganolbwyntio ar sut y gallwn gyflenwi bwyd ysgol yn lleol, y credaf ei fod yn rhan o'r ateb i'r her. Bydd hynny, yn anochel, yn golygu bod llai o amlygiad, fel petai, i fwyd wedi'i brosesu'n helaeth. Un o'r darnau o waith y cyfeiria erthygl y BMJ ato yw'r hyn y mae'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg—SACN—wedi bod yn ei wneud, a bydd y gwaith arbenigol y maent yn ei wneud yn llywio ein hadolygiad o'r rheoliadau. Felly, bydd y gwaith y maent eisoes yn ei wneud ar fwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn cael ei ystyried yn llawn yn y ffordd yr ydym yn adolygu'r rheoliadau. Ac wrth gwrs, mae cysylltiad clir rhwng yr hyn y mae'r rheoliadau'n ei gwneud ofynnol iddo gael ei ddarparu mewn ysgolion a'r broses gaffael, felly mae alinio'r rheini'n hanfodol wrth gwrs.  

Mae'n gwestiwn diddorol iawn ac mae'n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo, oherwydd, pan oeddwn yn gweithio yn y GIG, roeddwn i'n arfer cael yr un dadleuon yn y cyd-destun hwnnw, o gefndir adsefydlu, a ddywedai, 'Wel, sut y gallwn ni ddisgwyl i gleifion wella'n llawn heb fwyd maethlon wedi'i dyfu'n lleol?', ac mae'r un mor wir am blant a datblygiad plant hefyd. Yn fwyaf arbennig, mae Llywodraeth y DU wedi cynnig cynllun sgorio ysgolion iach yn Lloegr, rhywbeth y mae'r mwyafrif helaeth o rieni o'i blaid, lle rhoddir sgôr i werth maethol cinio ysgol a ryddheir i'r cyhoedd mewn system raddio sydd ar gael i rieni. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymchwilio i rywbeth tebyg, lle rhoddir sgôr yn seiliedig ar werth maethol y bwyd ysgol a ddarperir i ddisgyblion. Diolch.

Ein dull ni, fel y soniais yn yr ateb i Jenny Rathbone, yw cynnal adolygiad o'r rheoliadau yn eu cyfanrwydd i sicrhau bod safonau'n cael eu gyrru drwy'r newid rheoleiddiol y bwriadwn ei gyflwyno. Felly, rydym yn gobeithio y bydd hynny'n gwneud y gwahaniaeth sy'n flaenoriaeth i bawb ohonom. 

14:45
Pynciau STEM

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM? OQ60806

Rydym wedi ymrwymo dros £1.6 miliwn ar gyfer mentrau dysgu STEM ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cydnabod bod STEM yn hanfodol wrth baratoi ein plant a'n pobl ifanc ar gyfer byd technolegol sy'n newid yn gyflym.

Diolch am yr ateb hwnnw. Yr wythnos diwethaf, mynychais lansiad y gynghrair pŵer cynaliadwy, ynni adnewyddadwy ac adeiladu, neu SPARC fel y caiff ei adnabod orau, yng Ngholeg Sir Benfro. Cefnogir y fenter gan Blue Gem Wind, Floventis Energy, Ledwood Mechanical Engineering, Porthladd Aberdaugleddau, ynni adnewyddadwy RWE, ysgolion uwchradd lleol a Choleg Sir Benfro, a'i nod yw hyrwyddo amrywiaeth rhywedd yn y diwydiannau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r fenter hon, ac a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynlluniau fel hyn a beth rydych chi'n ei wneud i efelychu'r mathau hyn o gynlluniau ledled Cymru?

Mae hynny'n wych i'w glywed. Roeddwn yng Ngholeg Sir Benfro yn eithaf diweddar yn siarad gyda nhw am—. Maent yn bendant yn arwain y ffordd ar addysg ynni adnewyddadwy yn ehangach. Gallais siarad â phrentisiaid, ac roedd rhai ohonynt yn brentisiaid benywaidd, ac roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n wych gweld cymysgedd rhwng y rhywiau yn y gwaith a wnaent. Rydym o ddifrif ynglŷn â hyn yng Nghymru, fel y bydd yr Aelod yn gwybod. Mae'n cael ei gynnwys yn ein rhaglenni addysg ar gyfer STEM. Un o'r mentrau sydd gennym yw rhaglen Denu Merched i Faes STEM Cynllun Addysg Peirianneg Cymru, a rhaglen cynhwysiant a thegwch ysgol gyfan y Sefydliad Ffiseg. Felly, mae llawer o fentrau yr ydym yn eu blaenoriaethu oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyflwyno STEM fel cyfle sydd yr un mor hygyrch i fechgyn a merched. Rwy'n credu bod pethau'n newid. Rwy'n credu y gallwn ni weld hynny'n barod, oni allwn? Ond fel y dywedodd yr Aelod, mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar yr arfer gorau y mae colegau penodol, ac ysgolion eu hunain yn aml, yn ei wneud, a chyffredinoli hynny drwy'r system drwyddi draw. Rwy'n meddwl amdano'n arbennig yng nghyd-destun ynni adnewyddadwy, y bydd gwerthfawrogiad o raddfa'r cyfle y mae hynny bellach yn ei gynrychioli i economïau ledled Cymru, gan gynnwys etholaeth yr Aelod, yn cefnogi'r gwaith hwnnw, oherwydd rwy'n credu y gall pawb weld ei fod yn gyfle i bawb.

Fel un o'r ychydig Aelodau o'r Senedd sy'n wyddonydd cymhwysol ac a astudiodd fathemateg bur, ffiseg a chemeg Safon Uwch, edrychaf ar Lywodraeth gyda phedwar Aelod sy'n meddu ar gymwysterau cyfreithiol, wrth i ddau ohonynt, gan eich cynnwys chi, Weinidog, gystadlu i ddod yn Brif Weinidog. Os ydym am i fwy o ddisgyblion ysgol astudio pynciau STEM, onid yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i gymdeithas weld bod gwyddonwyr a pheirianwyr yr un mor werthfawr â chyfreithwyr a bargyfreithwyr?

Wel, nid wyf yn siŵr ynglŷn â chywair ymrannol y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn. Gallwn gael cymaint o fentrau ag y dymunwn, fel rwyf newydd eu trafod gyda Paul Davies ac fel y trafodwyd yn y Siambr sawl gwaith o'r blaen, ond credaf ei fod yn ymwneud rhannol â sut rydym yn disgrifio'r dyheadau i bobl ifanc o ran y math o yrfaoedd y dylent fod yn anelu amdanynt. Er fy mod yn credu ein bod yn gwneud llawer o hynny mewn perthynas â gwyddonwyr a pheirianwyr, byddwn yn dweud y dylem ystyried eu bod yn fwy gwerthfawr na chyfreithwyr a bargyfreithwyr o gofio'r cyfraniad y gallant ei wneud i'n ffyniant yn y dyfodol, ac rwy'n dweud hynny, fel y mae Mike yn cydnabod, fel cyfreithiwr fy hun. Ond rwy'n credu bod yna bwynt pwysig, sef na ddylem gyfyngu ar yr ystod o uchelgeisiau ar gyfer ein pobl ifanc a'n bod yr un mor gefnogol mewn perthynas â meysydd a phroffesiynau nad ydym wedi cael cymaint o gysylltiad â nhw ein hunain. Mae'n ddyletswydd arnom ym mhob rhan o'r system ysgolion ac addysg i helpu i agor meddyliau ac ehangu gorwelion pobl ifanc, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae wedi'i ddweud.

Bwlio mewn Ysgolion

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau dull dim goddefgarwch o ran bwlio? OQ60809

Mae gan Lywodraeth Cymru ddull dim goddefgarwch at unrhyw fath o fwlio yn system addysg Cymru ac rydym yn disgwyl yr un peth gan ysgolion. Rydym yn darparu ystod o adnoddau a chymorth i ysgolion fel y gallant atal a mynd i'r afael â bwlio, gan gynnwys ein canllawiau gwrth-fwlio statudol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ateb y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad oes lle i fwlio yn ein cymdeithas, ac yn sicr nid yn ein hysgolion a'n system addysg. Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar â rhiant y mae ei fab yn cael ei fwlio mewn ysgol yn fy etholaeth. A ydych yn cytuno â mi a fy etholwr y dylai arweinyddiaeth ysgolion ddefnyddio'r holl adnoddau a phwerau sydd ar gael iddynt i atal bwlio mewn ysgolion a'r tu allan iddynt, ac os felly, a wnewch chi ddefnyddio eich swydd yn Llywodraeth Cymru i annog arweinwyr ysgolion i wneud hynny? Diolch.

14:50

Wel, diolch i Jack Sargeant am ddod â'r mater hwn i'r Siambr. Mae'n fater pwysig iawn. Rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau statudol ar wrth-fwlio i ysgolion ac fel y gŵyr, mae'n ofynnol i ysgolion roi sylw i ganllawiau statudol. Rwy'n cytuno nad oes lle i fwlio mewn ysgolion nac yn ein cymdeithas ehangach, ac rwy'n credu y byddem i gyd yn cydnabod ei bod yn heriol weithiau i ysgolion allu mynd i'r afael â materion sy'n digwydd y tu allan i ysgolion. Hoffwn annog ysgolion nid yn unig i ymyrryd pan fydd problemau'n dechrau dod i'r amlwg, ond i geisio hyrwyddo perthnasoedd llawn parch yn y ffordd ehangach honno o fewn cymuned yr ysgol. Ac rwy'n credu bod sicrhau ein bod yn darparu cymorth, yn darparu arweiniad ar hynny yn rhan sylweddol o'r gwaith y gallwn ei wneud. Felly, mae deunyddiau am ddim a dwyieithog i gefnogi mentrau gwrth-fwlio, ac yn ehangach, i gefnogi perthnasoedd llawn parch, ar gael ar hyn o bryd i ysgolion a lleoliadau addysg drwy Hwb. Ac fel y soniais nawr, rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio'n drylwyr, a gobeithio y byddant yn cefnogi arweinwyr ysgolion hyd yn oed ymhellach.

Diolch i Jack am godi'r mater hwn. Weinidog, dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi cael fy llethu gan hanesion am fwlio plant mewn ysgol yn fy rhanbarth. Mae llawer o bobl ifanc wedi dioddef effaith ddramatig ar eu bywydau gan fwlio parhaus yn Ysgol Brynteg. Mae rhieni wedi dweud wrthyf am y trawma meddyliol difrifol y mae eu plant yn ei ddioddef neu'r cam-drin corfforol sy'n digwydd bron bob dydd, a sut, drwy'r cyfan, nad ydynt yn credu bod eu pryderon yn cael sylw go iawn. Weinidog, sut y gallwn ni ddweud bod dull dim goddefgarwch tuag at fwlio'n bodoli pan fydd pobl ifanc yn cael eu cam-drin yn rheolaidd a'u bwlis yn cael eu trin yn sensitif a'r dioddefwyr yn cael eu gorfodi i chwilio am ysgolion eraill? A yw'n iawn nad oes gan rieni ddewis arall ond symud eu plant o ysgol am fod eu plentyn ofn cerdded drwy'r coridorau neu ddefnyddio'r ystafelloedd ymolchi? Weinidog, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i gael gwared ar fwlio mewn ysgolion yng Nghymru?

Wel, nid wyf am wneud sylwadau ar yr enghraifft benodol y mae'r Aelod wedi'i rhoi am nad oes gennyf unrhyw wybodaeth bersonol mewn perthynas â'r digwyddiadau y mae'n cyfeirio atynt, dim ond dweud, yn y ffordd yr atebais y cwestiwn gan Jack Sargeant, ein bod ni fel Llywodraeth o ddifrif yn ei gylch. Yn fy mhrofiad i, yn gyffredinol mae ysgolion o ddifrif yn ei gylch. Efallai y bydd heriau penodol mewn rhai ysgolion, yn amlwg, ond mae angen inni sicrhau bod diwylliant gwrth-fwlio ym mhob ysgol ac fel roeddwn yn dweud yn gynharach, mae hynny'n dechrau gydag ysgolion yn hyrwyddo perthnasoedd llawn parch yn fwy eang. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr adnoddau a ddarparwn, y flaenoriaeth a roddwn i hyn a'r gwaith pellach sydd wedi'i gynllunio gennym i ddiweddaru ein canllawiau statudol yn gwneud gwahaniaeth wrth gefnogi arweinwyr ysgolion i sicrhau bod gan ysgolion ddiwylliannau gwrth-fwlio a hyrwyddo perthnasoedd llawn parch yn ehangach.

Gwella Presenoldeb Disgyblion

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella presenoldeb disgyblion? OQ60839

Mae canllawiau statudol—. Na, maddeuwch i mi; rwyf wedi troi gormod o dudalennau.

Ie. Diolch yn fawr. 

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ffocws di-ildio ar barhau i wella presenoldeb. Dyna pam y sefydlais y tasglu presenoldeb cenedlaethol ym mis Ionawr i ysgogi gwelliannau i lefelau presenoldeb ac i ailgynnau diddordeb ein dysgwyr.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Y flwyddyn cyn y pandemig, roedd tua un o bob 20 disgybl ysgol uwchradd yng Nghymru yn cael ei ystyried yn absennol yn barhaus, ond ym mis Tachwedd 2023, roedd hynny wedi cynyddu i un o bob chwech. Nawr, yn amlwg nid problem yng Nghymru'n yn unig yw hi; mae'r pandemig wedi rhyddhau epidemig o absenoldeb parhaus ar draws y byd gorllewinol, ac mae gwahanol lywodraethau'n ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith, gan gynnwys agor 18 canolfan presenoldeb, dan arweiniad ysgolion sydd â chyfraddau presenoldeb gwych, i rannu syniadau ac arferion gorau er mwyn cynyddu ffigurau presenoldeb yn gyffredinol. Yn y cyfamser, fel y dywedoch chi, Weinidog, rydych wedi lansio'r tasglu presenoldeb cenedlaethol i fynd i'r afael ag absenoldeb parhaus. Pan siaradais ag un swyddog addysg awdurdod lleol yng Nghymru, clywais lawer am y gwaith da y mae ysgolion yn ei wneud yn unigol i gynyddu presenoldeb yn eu hysgolion ac yn eu hardal, ond pan ofynnais am y cyngor a'r gefnogaeth a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru a'r tasglu hwn, roeddent yn dweud nad oeddent wedi cael unrhyw gefnogaeth gan y naill na'r llall eto, a bod ysgolion ar y cyfan wedi cael eu gadael i ymdrin â'r broblem ar eu pen eu hunain. Nawr, cefais olwg ar gylch gorchwyl y tasglu presenoldeb cenedlaethol, ac mae'n dweud y bydd cyfarfodydd bwrdd yn digwydd bob deufis, yn amodol ar ymrwymiadau dyddiadur y Gweinidogion. Nid yw hynny'n ymddangos i mi fel Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif ynglŷn â'r broblem hon. Felly, a ydych chi'n hyderus fod ysgolion ledled Cymru yn cael digon o gefnogaeth yn ganolog gan Lywodraeth Cymru a chan y tasglu presenoldeb hwn, i roi'r arferion gorau iddynt allu mynd i'r afael ag absenoldeb parhaus yng Nghymru?

14:55

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi adolygu'r diffiniad o absenoldeb parhaus yng Nghymru, o'r ystadegau y mae'n eu dyfynnu, fel nad yw bellach yn cael ei ddiffinio fel colli 20 y cant o ysgol. Mae bellach wedi ei ostwng i 10 y cant, fel y gall y gefnogaeth fynd i mewn yn ddyfnach ac yn gynt. Felly, rydym yn disgwyl y bydd hynny'n ein galluogi i wneud gwahaniaeth, yn anad dim o ystyried yr arian a ddarparwn i swyddogion cyswllt teulu a gwasanaethau lles addysg i gefnogi'r flaenoriaeth bwysig hon.

Yr hybiau y mae'n sôn amdanynt yn Lloegr—. Ni allaf dyngu eu bod yn seiliedig ar y gwaith a wnawn yma yng Nghymru, ond mae gennym fforymau presenoldeb ar lefel awdurdod lleol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Nid wyf yn siŵr pa awdurdod penodol y mae'r Aelod yn siarad amdano, ond os yw am roi gwybod i mi wedi hyn, byddwn yn hapus i'w gyfeirio at y gwaith a fydd yn digwydd.

Mae gwaith y tasglu'n dasglu strategol cenedlaethol. Nid yw yno i ddatrys heriau mewn ysgolion unigol, fel y bydd yr Aelod yn deall, rwy'n siŵr, ac fe'i sefydlwyd ddiwedd y llynedd ac mae wedi cyfarfod ddwy waith eisoes, felly mae ei waith—mae wedi cyfarfod dair gwaith mewn gwirionedd—yn mynd rhagddo'n dda. Mae'n ein helpu i ddeall pa strategaethau y gallwn eu rhoi ar waith ar lefel genedlaethol i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol yn well, ac mae'n dwyn ffrwyth. Mae'r gwaith y mae'n ei wneud yn dweud pethau penodol iawn wrthym am ddata ychwanegol a fyddai'n ddefnyddiol yn y system, ond hefyd sut y gall arweinwyr ysgolion ddefnyddio'r data hwnnw'n fwy cyson i ddatblygu strategaethau effeithiol. Ac un o'r pethau hanfodol y mae'n gallu ei wneud ar lefel genedlaethol yw nodi'r arferion gorau sy'n bodoli mewn ysgolion a'n helpu i ledaenu'r rheini drwy'r system gyfan. Ond mae wedi cael ei sefydlu ers rhai wythnosau, mae wedi cyfarfod dair gwaith yn barod, ac rwy'n hyderus y bydd yn ein helpu i ddatrys yr heriau.

Plant sy'n Colli Addysg

Mae canllawiau statudol ar waith sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru ar blant sy'n colli addysg. Maent i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch. Ar hyn o bryd, mae mater Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Cymru) 202X yn destun ymgynghoriad. Mae'n nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol sefydlu a gweithredu cronfa ddata plant sy'n colli addysg, a bod yn rhaid i'r gronfa ddata gynnwys plentyn nad yw'n ddisgybl cofrestredig a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol nad yw'r plentyn, neu efallai nad yw'r plentyn, yn cael addysg addas. Mae'r mwyafrif helaeth o blant sy'n colli addysg yn ddisgyblion ysgol cofrestredig, ac mae llawer o'r rheini'n blant yn y system ofal. Nid plant sy'n derbyn addysg yn y cartref yw'r rhain. Felly, pam mae'r rheoliadau hyn wedi'u targedu'n uniongyrchol at blant sy'n derbyn addysg yn y cartref yn hytrach na phlant sydd o ddifrif yn colli addysg? A pham mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn ddiweddar o dan y teitl 'plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon', lle mae'n disgrifio plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn addysg prif ffrwd fel rhai sydd mewn perygl yn sgil camfanteisio troseddol, pan fo tystiolaeth yn dangos nad yw plant sy'n derbyn addysg yn y cartref mewn perygl o'r fath?

Wel, fel y dywed yr Aelod, mae ymgynghoriad ar y gweill ar y materion hyn, ac mae croeso iddo ymateb iddo. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw syniadau sydd ganddo mewn perthynas ag ef, gan fy mod yn siŵr y bydd llawer o ymatebion. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 25 Ebrill.

Nid wyf yn derbyn disgrifiad yr Aelod o hyn, fod hon yn gronfa ddata ar addysg y dewisir ei rhoi yn y cartref. Rwy'n credu bod y cynigion yn gymesur ac yn rhesymol. Maent yno i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol. Os nad yw awdurdod lleol wedi gallu penderfynu bod plentyn sy'n derbyn addysg yn y cartref yn cael addysg addas, mae'n bosibl fod y plentyn hwnnw'n colli addysg ac yna bydd yn cael ei gynnwys yn y gronfa ddata. Mae hynny'n ymddangos i mi yn gam rhesymol i'w gymryd yng nghyd-destun yr her y mae rheoliadau'r gronfa ddata yno i'w datrys. Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu gyda phlant a phobl ifanc eu hunain i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed, a byddwn yn gwneud hynny mewn modd sy'n gyfeillgar i blant fel y gallwn ymgysylltu â'r gynulleidfa ehangaf sy'n bosibl. Mae'n bwysig ein bod yn clywed yr holl leisiau, a hoffwn annog pobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yng Nghymru, dim ond Prifysgol Caerdydd sy'n darparu doethuriaeth—

15:00
Hyfforddiant ar gyfer Seicolegwyr Addysg yn Arfon

8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am hyfforddiant ar gyfer seicolegwyr addysg yn Arfon? OQ60808

Wel, mae'n gysur i fi bod yr Aelod wedi gwneud hynny, gan fy mod i wedi rhoi'r ateb anghywir i'r cwestiwn blaenorol, neu gychwyn gwneud hynny o leiaf. [Chwerthin.]

Mae seicolegwyr addysg yn chwarae rhan bwysig yn y system addysg yn y gogledd. Rŷn ni wedi ymrwymo dros £2.6 miliwn rhwng 2022 a 2025 i hyfforddi a chadw seicolegwyr addysg newydd yng Nghymru.

Yng Nghymru, dim ond Prifysgol Caerdydd sy'n darparu'r ddoethuriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso fel seicolegydd addysg, ac mae hyn yn peri rhwystrau penodol i'r gogledd-orllewin. Mae'n rhaid i ddarpar seicolegwyr addysg deithio neu adleoli i Gaerdydd, a does yna ddim sicrwydd y byddan nhw'n dod yn ôl i'r gogledd. Mae yna heriau eraill hefyd yn y maes yma. Does gen i ddim amser i fynd ar ôl hynny heddiw, ond dwi yn mynd i ofyn pedwar cwestiwn penodol. Ydych chi'n cytuno bod angen llwybr hyfforddi wedi'i leoli yn y gogledd, sicrhau cyfle cyfartal i awdurdodau lleol y gogledd, hybu ymgeiswyr sy'n medru'r Gymraeg, ac, yn olaf, edrych ar lefel bwrsari seicolegwyr dan hyfforddiant?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Ynglŷn â'r bwrsari, wrth gwrs, rŷn ni'n talu'r costau addysgu ar gyfer pobl ar y cynllun ac yn gofyn iddyn nhw, fel ymateb i hynny, i ymrwymo yn y system yma yng Nghymru am ddwy flynedd. O ran denu pobl sydd yn siarad Cymraeg, o ran y bwrsari, mae gofyniad bod isafswm o bobl yn gallu hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn hynny o beth, ac yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r ffigurau gyda fi, roedd mwy na'r targed wedi'i gyrraedd. Felly, mae hynny, o leiaf, rwy'n credu, yn galonogol, ond rwy yn derbyn bod her mewn denu pobl i mewn i'r proffesiwn yn y gogledd-orllewin yn benodol, mae'n ymddangos, ac mae denu ymgeiswyr i astudio yng Nghaerdydd wedi profi i fod yn heriol. Felly, mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio'n agos gyda chynghorau ar draws Cymru i edrych ar beth allan nhw ei wneud er mwyn sicrhau lleoliadau hyfforddi i fyfyrwyr yn yr ardaloedd hynny, ac efallai fod mwy i wneud i adeiladu ar y cysylltiadau hynny i ddenu myfyrwyr i mewn i'r system yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu, yn y maes hwn, fod gennym ni gynllun da; mae gennym ni lefel o ymrwymiad a lefel o gefnogaeth sydd yn sylweddol, ac mae'n ymddangos bod cynnydd yn digwydd o ran y rhifau sydd yn dod drwy'r system, yn benodol i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ond rwy'n derbyn bod angen gwaith penodol i sicrhau bod cynnydd a bod budd hynny'n cael ei deimlo yn y gogledd-orllewin hefyd. 

3. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-2024

Yr eitem nesaf, felly, fydd eitem 3. Y ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2023-24 yw hon, a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cyflwyniad yma, sef Rebecca Evans.

Cynnig NDM8493 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n sicrhau cynnydd o £429 miliwn i'n cynlluniau gwariant refeniw a chyfalaf—cynnydd o 1.9 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023.

Mae'r gyllideb hon yn adlewyrchu'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn yr ymarfer arbedion yn ystod y flwyddyn ym mis Hydref. O ganlyniad i'r gwaith hwnnw, darparwyd cyllid ychwanegol o £425 miliwn i'r GIG, a £125 miliwn i Trafnidiaeth Cymru i helpu i leddfu pwysau costau cynyddol.

Mae newidiadau ychwanegol o £215 miliwn pellach o refeniw a £40 miliwn o gyfalaf wedi'u gwneud yn y gyllideb atodol hon. Rydym wedi gwneud dyraniadau pellach i'r prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol: dyrannwyd £59 miliwn ar sail untro i adlewyrchu diffyg a ragwelir yn y prif grŵp gwariant, ac mae dyraniad o £95 miliwn wedi'i reoleiddio yn y gyllideb hon mewn perthynas ag elfen taliad adfer ôl-ddyddiedig y cynnig cyflog a wnaed i staff 'Agenda ar gyfer Newid' ar 20 Ebrill 2023. Mae £10 miliwn o gyfalaf wedi'i ddarparu i gefnogi ystod o geisiadau offer a digidol ar draws y gwahanol fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.

Mae £34 miliwn o gyfalaf i gefnogi llinell graidd y Cymoedd wedi'i ddyrannu i'r prif grŵp gwariant newid hinsawdd, a £15 miliwn ar gyfer cynnal a chadw a gwaith cyfalaf arall o fewn rhwydwaith cefnffyrdd Cymru. Mae'r prif grŵp gwariant addysg a'r Gymraeg wedi cael £12.56 miliwn o gyfalaf i fynd i'r afael â gwaith lliniaru concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC), ac i gefnogi cyfalaf cynnal a chadw a phwysau iechyd a diogelwch cysylltiedig ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Mae'r gyllideb atodol hon hefyd yn rheoleiddio'r cyllid a ddaeth i law drwy symiau canlyniadol Barnett, sy'n deillio o newidiadau i wariant adrannau'r DU. Ar 13 Chwefror y cefais gadarnhad o gyllid ychwanegol o £231 miliwn o refeniw a £8 miliwn o gyfalaf, yn deillio o gyllid canlyniadol Barnett. Yn rhannol oherwydd bod yr hysbysiad yn ei gylch mor ddiweddar, mae ein cynlluniau gwariant ar gyfer 2024-25 a gytunwyd yr wythnos diwethaf, yn ein cyllideb derfynol, yn defnyddio £180 miliwn o gyllid a gariwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol hon.

Diolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad. Byddwn yn darparu ymateb manwl i'w argymhellion maes o law. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf i siarad heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Bu’r pwyllgor yn craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 29 Chwefror, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei phresenoldeb.

Yn gyntaf, mae'r pwyllgor yn falch o weld mwy o arian yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i amcangyfrifon atodol y Deyrnas Unedig. Croesewir trosglwyddiadau ychwanegol bob amser, fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai dim ond ar y funud olaf y gwyddai’r Gweinidog beth oedd eu gwir werth, ac rydym yn nodi bod hyn wedi achosi anawsterau. Yn ein barn ni, mae hyn yn arwain at ansicrwydd diangen ac yn ei wneud yn heriol i’r Gweinidog gynllunio ar gyfer yr hirdymor.

Mae'r pwyllgor hefyd yn siomedig fod cais y Gweinidog, yn yr hydref, i newid cyllid o gyllidebau refeniw i gyllidebau cyfalaf wedi ei wrthod gan y Trysorlys. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog ddarparu rhagor o wybodaeth i egluro'r rhesymeg dros y penderfyniad a'r effaith y bydd yn ei chael ar sefyllfa ariannu'r Llywodraeth. Wedi dweud hynny, rydym yn falch fod y Trysorlys wedi caniatáu hyblygrwydd i'r Llywodraeth ddefnyddio'r cyllid hwn yn y flwyddyn ariannol nesaf a hepgor y terfynau tynnu i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, i gydnabod pa mor ddiweddar y gwnaed y cyhoeddiadau. Fodd bynnag, fel y trafodwyd yn y Senedd ychydig wythnosau yn ôl, nid yw'n briodol i'r trefniadau hyn gael eu gwneud ar fympwy'r Trysorlys ac ar sail achosion unigol, ac rydym yn galw eto am ffurfioli pwerau o'r fath.

Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn nodi bod y gyllideb atodol hon yn gweithredu'r hyn a gyhoeddwyd gan ddiweddariad ariannol y Gweinidog, a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Er ein bod yn cydnabod gwerth yr ymarfer hwn, rydym yn parhau o'r farn y dylai'r Gweinidog fod wedi cyflwyno cyllideb atodol ychwanegol i sicrhau tryloywder, a dylai hyn ddigwydd yn y dyfodol pe bai'r Gweinidog yn gwneud newidiadau sylweddol yn ystod y flwyddyn. Er ein bod yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y Gweinidog wedi ymddangos ger bron y pwyllgor i drafod y materion hyn ym mis Tachwedd, rydym am ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i hyn ddigwydd fel mater o drefn pan fydd newidiadau sylweddol yn cael eu cyhoeddi.

Rwy'n troi nawr at ddyraniadau portffolio penodol a wnaed yn y gyllideb atodol hon. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol a roddir i'r gwasanaeth iechyd, ond mae gennym bryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y dull hwn o weithredu, o gofio ei fod yn digwydd mor fuan ar ôl dyraniadau a wnaed ym mis Hydref. Mae gennym ofnau tebyg ynghylch y dyraniadau a roddwyd i Trafnidiaeth Cymru. Mae nifer y byrddau iechyd sydd heb gyrraedd eu cyfansymiau rheoli targed eleni o ddiddordeb arbennig, yn enwedig am na fydd gwybodaeth am eu perfformiad mewn perthynas â'r targedau hyn ar gael tan yr haf. O ganlyniad, galwn ar y Gweinidog i ddarparu manylion am gynnydd ar hyn, fel y gallwn ddeall sefyllfa ariannol byrddau iechyd cyn gynted â phosibl.

Rydym hefyd yn croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog na fydd gostyngiadau yn y dyraniadau adnoddau ar gyfer polisïau a deddfwriaeth iechyd meddwl yn arwain at doriadau i wasanaethau rheng flaen. Serch hynny, roedd hi'n anodd deall beth mae'r newidiadau hyn yn ymwneud ag ef, ac rydym wedi gofyn i'r Gweinidog egluro eu heffaith ymarferol.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am ddau faes arall i orffen. O ran y dyraniadau ychwanegol a wnaed i Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn cynnal asesiad effaith i sicrhau bod dull Llywodraeth Cymru o weithredu yn darparu gwerth am arian. Yn ogystal, er gwaethaf sicrwydd gan y Gweinidog na fydd y gostyngiad yn y prif grŵp gwariant gwasanaethau canolog a gweinyddiaeth yn effeithio ar lefelau staff Llywodraeth Cymru, gofynnwn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gapasiti o fewn gwasanaeth sifil Cymru.

Yn olaf, rydym yn croesawu bod gan y Gweinidog brosesau cadarn ar waith i fonitro gwariant yn ystod y flwyddyn. Wedi dweud hynny, rydym am iddi fynd ymhellach, ac rydym wedi argymell bod gwybodaeth alldro yn cael ei chyhoeddi'n rheolaidd o fewn y flwyddyn, i alluogi'r pwyllgor i edrych ar wariant y Llywodraeth mewn amser real.

Fel arfer, rydym yn croesawu ymgysylltiad parhaus y Gweinidog â ni ar y materion hyn, a gofynnwn iddi fwrw ymlaen â’r meysydd a nodwyd yn ein hadroddiad. Diolch yn fawr.

15:10

Rwy'n gwybod ein bod wedi cael llawer o ddadleuon ar gyllid Llywodraeth Cymru yn ddiweddar. Mae pob un o'r rhain, er yn ymddangos yn eithaf technegol, yn bwysig ac mae gan bob un ohonynt stori i'w hadrodd. Gadewch inni beidio ag anghofio cyd-destun y gyllideb atodol hon. Gwyddom fod llawer o hyn yn rheoleiddio'r newidiadau i'r gyllideb a ddigwyddodd yn dilyn y cyhoeddiadau cyllidebol annisgwyl a welsom yn sgil rhybudd y Prif Weinidog am ddiffygion a ragwelir yn ystod toriad yr haf. Gwnaed y penderfyniadau disymwth hynny ym mis Hydref oherwydd blaengynllunio gwael gan y Llywodraeth Lafur hon, a oedd yn amlwg wedi methu cydnabod y dangosyddion chwyddiant a oedd yn hysbys cyn gosod y gyllideb derfynol ar gyfer eleni. Creodd y rheolaeth wael hon aflonyddwch a phryder enfawr mewn llawer o feysydd wrth i'w cyllid gael ei dynnu'n ôl.

Mae'r gyllideb atodol yn darparu arian ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau craidd y GIG, sydd i'w groesawu, ond ni all guddio canlyniadau blynyddoedd o danariannu ein gwasanaeth iechyd o ganlyniad uniongyrchol i agenda bolisi Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais ar sawl achlysur, pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio holl rym y cyllid a ddarparwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd Cymru, byddai ein GIG yng Nghymru wedi bod yn fwy gwydn, a byddai ein byrddau iechyd wedi bod yn fwy parod i reoli'r heriau sy'n eu hwynebu heddiw. 

Roedd y set hon o benderfyniadau ariannu hefyd yn golygu toriadau o £17.5 miliwn i brentisiaethau, toriadau a gafodd eu cario ymlaen yng nghyllideb ddrafft 2024-25. Nawr, er bod cyllideb derfynol 2024-25 yn adfer £5 miliwn, bydd y penderfyniad i dorri'r gyllideb honno yn arwain at ostyngiad yn nifer y prentisiaethau a fydd yn cael eu darparu yn nhymor y Senedd hon. Mae hyn yn drueni gan fod y cyrsiau hyn wedi caniatáu i'r genhedlaeth nesaf o grefftwyr, ffermwyr, peirianwyr a llawer o broffesiynau eraill gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu a allai helpu i dyfu economi Cymru. Ni fydd torri'r prentisiaethau hyn yn gwneud dim heblaw sicrhau bod Cymru'n parhau i lusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig o ran enillion cyfartalog a gweithgarwch economaidd. 

Mae economi Cymru yn rhywbeth nad yw'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio digon arno. Ein busnesau bach, sy'n ffurfio'r mwyafrif helaeth o gyfleoedd busnes a chyflogaeth i bobl ledled Cymru, yw anadl einioes yr economi a dylent fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae angen i Lywodraeth Cymru greu amgylchedd economaidd lle gall busnesau ffynnu, nid un lle mae busnesau'n cael trafferth goroesi. Gwelodd y gyllideb atodol hon ostyngiad o £31 miliwn i ardrethi annomestig, sy'n llym o ystyried mai busnesau yng Nghymru sy'n talu'r gyfradd uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain. I wneud pethau'n waeth, darparwyd cyllid gan Lywodraeth y DU i alluogi toriad mewn ardrethi busnes ar gyfer y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden, ond ni throsglwyddwyd y cymorth hwn ymlaen yng Nghymru. Mae'r penderfyniad hwn yn cosbi busnesau yma, gyda busnesau yn y sector yn talu bron ddwbl y swm o ardrethi y byddent yn ei dalu pe baent yr ochr draw i'r ffin.

Ddirprwy Lywydd, os ydym am weld Cymru sy'n ffynnu, mae angen inni weld gwell cynllunio strategol hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus niferus ac ar gyfer ein heconomi wrth gwrs, gan sicrhau nad yw teuluoedd a busnesau yn cael eu dal yn ôl rhag bod eisiau byw yma. Diolch.

Fel rydym ni wedi'i glywed yn barod gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae'r gyllideb atodol yma yn ymwneud yn bennaf â'r broses ailflaenoriaethu gafodd ei chynnal nôl ym mis Hydref. Mae wedi cymryd bron i saith mis—dros hanner y flwyddyn ariannol gyfredol—i ni gael darlun llawn o gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, rydym ni mewn sefyllfa lle mae materion cyllidebol Cymru yn cael eu cyflwyno i ni fel fait accompli heb fawr o amser, mewn difrif, i allu craffu arnyn nhw. A dwi'n ategu galwadau Cadeirydd y pwyllgor am adolygiad i weld a ydy'r protocol sydd gennym ni ar hyn o bryd yn rhoi i ni'r lefel o atebolrwydd y dylem ni allu ei ddisgwyl gan Lywodraeth genedlaethol. 

Ond i droi at gynnwys penodol y gyllideb atodol yma, mae o yn destun gofid bod y cynlluniau yn bennaf yn ymwneud â rhoi plastr dros dyllau cyllidebol mawr sydd wedi cael eu caniatáu i gronni dros flynyddoedd lawer. Fel y soniom ni nôl ym mis Hydref, mae'n rhaid i ni roi'r £425 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng nghyd-destun y ffaith bod yna ddiffyg cronnus o £648 miliwn ar draws y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn y flwyddyn gyfredol. Er fy mod i’n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ar gyfer lleihau’r diffyg hwnnw, maen nhw wedi gorfod darparu £59 miliwn arall i gyfri am y ffaith y bydd tri bwrdd iechyd yn methu â chyrraedd y targedau hynny.

Mae hi’n anodd dod i unrhyw gasgliad ond ein bod ni, o ran y gwasanaeth iechyd, ar drywydd cwbl anghynaliadwy dan y Llywodraeth yma. Drwy’r amser rydyn ni’n gweld rhestrau aros yn hirfaith, rydyn ni’n gweld targed ar ôl targed yn cael ei fethu, ac er gwaethaf ymroddiad staff anhygoel ar draws y gwasanaeth iechyd, rydyn ni’n gweld lefelau o ofal iechyd sydd yn dal yn disgyn yn fyr iawn o’r safon y dylem ni allu ei disgwyl. Heb newid y cwrs ar frys, rydyn ni’n mynd i fod yn sownd mewn rhyw gylch dieflig lle mae cyfran gynyddol o gyllideb Cymru yn cael ei thaflu at iechyd heb weld y gwelliant sylfaenol y dylem ni yn sgil hynny yn safon y gwasanaeth.

Yn anffodus, thema debyg rydyn ni’n ei gweld yn achos trafnidiaeth—£125 miliwn yn cael ei ddyrannu i Trafnidiaeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i lenwi bylchau mewn refeniw yn hytrach nag i hybu perfformiad gweithredwr rheilffyrdd sydd wedi cyrraedd y gwaelod yn ddiweddar ar gyfer boddhad cwsmeriaid mewn arolwg o ddefnyddwyr rheilffyrdd Transport Focus. Rydyn ni, wrth gwrs, yn cydnabod bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol iawn ac anochel ar nifer y teithwyr, ond dim ond hyn a hyn o gydymdeimlad a all rhywun ei gael o wybod bod sawl gweithredwr rheilffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig eisoes wedi llwyddo i gyrraedd a rhagori ar eu lefelau teithwyr cyn y pandemig. Mae defnyddwyr rheilffyrdd Cymru, wrth gwrs, yn gorfod derbyn cynnydd arall ym mhrisiau tocynnau o fis Ebrill ymlaen.

Mi wnaf i’r pwynt yma, hefyd, ac mae hwn yn un pwysig: mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn eglur, dwi’n meddwl, ynglŷn â pham y dewiswyd cais uchelgeisiol KeolisAmey nôl yn 2018 o ystyried y gwahaniaeth mawr sydd yna rhwng gwerthiant tocynnau disgwyliedig a gwerthiannau tocynnau gwirioneddol. Mae COVID, wrth gwrs, fel dwi’n dweud, yn rhan o’r ateb hwnnw, ond rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro i amcanion KeolisAmey gael eu gwneud yn gyhoeddus er mwyn cael tryloywder. Mae hynny’n allweddol, ac mae yn destun pryder braidd nad ydy yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru â’r wybodaeth honno i law, yn enwedig o ystyried y goblygiadau mae hyn wedi’u cael ar gyflwr cyllidebau Cymru ac ar ein gallu ni i wario arian cyhoeddus yn dda yn y flwyddyn yma a’r flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae gwasanaethau bysiau, sy’n cyfri am 80 y cant o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn cael eu hamddifadu o gyllid, yn codi’r posibilrwydd y bydd cymunedau yn dod yn fwy ynysig nag erioed o’r blaen. Mae yna agendor, dwi’n meddwl, hefyd, rhwng buddsoddiad mewn Cymru drefol a Chymru wledig yn hyn o beth, rhywbeth mae angen i’r Llywodraeth fod yn ymwybodol ohono fo drwyddi draw.

Ond—ac mi wnaf i ei gadael hi yn fan hyn—mae’n rhaid hefyd, wrth gwrs, gydnabod y diffyg adnoddau sydd gan Lywodraeth Cymru oherwydd penderfyniadau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod yr angen i ddiwygio trefniadau ariannol presennol Cymru, sydd â chefnogaeth drawsbleidiol yn fan hyn yn y Senedd, yn cael ei gyfleu yn y termau cryfaf posibl i’r prif bleidiau yn San Steffan. Dwi’n gwybod nad yw'r Prif Weinidog ddim yn hoffi fy ngweld i'n dychwelyd wythnos ar ôl wythnos at y cwestiwn o gyllid teg i Gymru, ond dydy Plaid Cymru ddim ar fin stopio mynnu y tegwch mae Cymru yn ei haeddu.

15:15

Mae hon yn ddadl ryfedd. Mae'r gyllideb atodol hon yn rheoleiddio dyraniadau i ac o gronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios, ac mae'n cynnwys addasiadau i gyllideb Cymru i adlewyrchu effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU. Yn yr ail gyllideb atodol, mae'r arian, neu bron yr holl arian, wedi cael ei wario. Mae'r cyfan wedi'i ddyrannu. Mae bron y cyfan wedi cael ei wario. Nid wyf yn siŵr beth fyddai'n digwydd pe bai cyllideb atodol yn cael ei gwrthod. A ydych chi'n mynd i fynd ag arian o ddwylo pobl, o ddwylo'r gwasanaeth iechyd am na ddylech fod wedi ei wario?

Mae gennyf nifer o bwyntiau. Dylai symud refeniw i gyfalaf neu gyfalaf i refeniw fod yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru, nid penderfyniad i'r Trysorlys. Mae'r arian wedi cael ei ddyrannu i Gymru. Dylai'r ffordd rydym yn ei wario fod yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru wedi'i chefnogi gan y Senedd, ac nid wedi'i benderfynu gan y Trysorlys, nad yw'n ymddangos fel pe bai'n deall nad dim ond adran arall o'r Llywodraeth yw'r lle hwn; mae'n sefydliad datganoledig, ac mae'n Llywodraeth yn ei hawl ei hun. 

Rwyf am ofyn rhai cwestiynau i'r Gweinidog. A all y Gweinidog cyllid ein sicrhau na fydd unrhyw arian yn cael ei dalu'n ôl i'r Trysorlys? Os na ellir rhoi'r sicrwydd hwnnw, a gaf i awgrymu bod yr arian yn cael ei wario? Awgrymaf ei roi i lywodraeth leol, sydd bob amser angen arian ychwanegol. Pam na ellir rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant yn fwy rheolaidd, hyd yn oed os mai dim ond ar ffurf ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid y gwneir hynny?

Ac yn olaf, dyrannwyd £59 miliwn ychwanegol yn y gyllideb atodol i adlewyrchu diffyg a ragwelir ym mhrif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae rhagolygon presennol gan gyrff GIG yn dangos, er bod gwelliannau sylweddol, gyda phedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol yn rhagweld y byddant yn cyrraedd y targed o ran eu diffyg, bydd y tri arall yn methu cyrraedd y targed a osodwyd ym mis Tachwedd, pan gawsant arian ychwanegol. Pam fod byrddau iechyd yn gorwario? A all y Gweinidog Iechyd ddarparu datganiad ysgrifenedig ar orwariant, gan nodi'r meysydd lle mae gorwario'n digwydd a'r rhesymau dros y gorwariant? Mae'n ymddangos bod iechyd yn cael rhwydd hynt i orwario—mae'n arian iechyd; rhaid ei fod yn dda. Ac rwy'n credu bod angen dod â rhywfaint o ddisgyblaeth ariannol, a chynhyrchiant, mentraf ddweud, i mewn i'r gwasanaeth iechyd.

15:20

Rwy'n petruso i wrthddweud Mike Hedges, sy'n amlwg yn arbenigwr ar faterion ariannol, wrth glywed yr hyn y mae'n ei ddweud ac nad oes arian ychwanegol mewn gwirionedd gan ein bod eisoes wedi'i ddyrannu. Ond rwyf am ofyn i'r Gweinidog cyllid ynglŷn â dyraniad arian ychwanegol i gyllideb graidd y byrddau iechyd, ac rwy'n ei groesawu, oherwydd rwy'n cydnabod yr her ariannol y maent yn ei hwynebu yng ngoleuni costau cynyddol a chynnydd yn y galw. Roeddem eisoes wedi cydnabod pa mor heriol oedd hi iddynt ymdrechu i fantoli'r gyllideb yn yr amgylchiadau presennol. Rwyf am ddeall lle mae'n ein gadael ni o ran gallu datrys anghydfod cyflogau meddygon iau a meddygon ymgynghorol oherwydd fe wnaethom sôn yn gynharach faint o ddiffyg eglurder a gafwyd gan y Trysorlys ynghylch pa swm canlyniadol y gallwn ei gael o ddatrys anghydfodau cyflog yn y GIG yn Lloegr, sydd i'w weld yn fater cwbl allweddol.

Ond pe bai unrhyw arian ychwanegol i ddod, os nad yw dadansoddiad Mike Hedges lawn mor dywyll ag y mae'n ymddangos, roeddwn eisiau gwneud apêl ar ran y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, sydd wedi dioddef rhai o'r toriadau mwyaf difrifol, ac na chafodd ddim o'r gyllideb atodol a drafodwyd gennym yn fwyaf diweddar. Rwyf am ein hannog i ganolbwyntio'n benodol ar bwysigrwydd parhau i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyngor priodol i bobl sy'n mynd i ddyled, oherwydd, yn amlwg, mae'n llawer mwy costus iddynt symud hyd yn oed ymhellach i ddyled os nad ydynt yn deall y camau y gallant eu cymryd i liniaru hynny, yn ogystal â'r gronfa cymorth dewisol i helpu'r achosion mwyaf enbyd. Rydym yn croesawu'n fawr y buddsoddiad o £30 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd a drafodwyd gennym ddoe, ond yn amlwg, pe bai unrhyw arian sbâr o gwbl, bydd mwy o arian i'r gronfa honno yn talu ar ei ganfed ar sail buddsoddi i arbed yn y tymor hir.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Yn amlwg, mae'r ail gyllideb atodol yn rhan bwysig o'n proses gyllidebu. Mae'n cymeradwyo ac yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru a'r cyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol drwy gronfa gyfunol Cymru, ac mae'n gosod y terfynau y bydd sefyllfa'r alldro terfynol yn cael ei mesur yn eu herbyn.

Fe ymatebaf i rai o'r pwyntiau penodol, ac fe ddechreuaf gydag adroddiad y Pwyllgor Cyllid, yr ydym yn ddiolchgar iawn amdano, ac yn ddiolchgar am y craffu. Yn fwyaf arbennig, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o'r cyfyngiadau a osodir arnom o fewn y fframwaith cyllidol presennol, a'r cytundeb gan y pwyllgor fod yr hyblygrwydd sydd ei angen arnom yn cael ei gefnogi gan y pwyllgor, a chan y Senedd gyfan yn wir, yn y ddadl a gawsom yn ddiweddar. Felly, rwy'n falch iawn o weld yr argymhelliad penodol hwnnw, ond wrth gwrs, byddaf yn darparu ymateb llawn i'r adroddiad yn fuan.

Gofynnodd Mike Hedges am y gronfa wrth gefn a'r posibilrwydd o ddefnyddio'r arian hwnnw eleni. Rwyf am sicrhau fy nghyd-Aelodau nad oes unrhyw olwg y bydd hynny'n digwydd eleni, a hynny'n rhannol oherwydd y camau anarferol y bu'n rhaid i ni eu cymryd yn y flwyddyn ariannol hon i reoli'r sefyllfa. Yn y bôn, cawsom ganiatâd gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i dynnu popeth yn ôl o gronfa wrth gefn Cymru, a oedd yn rhan o'n cynlluniau, ond wrth gwrs, fe gawsom sefyllfa well na'r disgwyl yn codi drwy'r amcangyfrifon atodol, felly mae gennym le o fewn y gronfa wrth gefn i ymdrin ag unrhyw danwariant pellach sy'n dod i'r amlwg yn y flwyddyn ariannol hon, felly mae hwnnw'n lle mwy cyfforddus i fod bellach. Roeddem hefyd yn gallu cario rhywfaint o arian ychwanegol y tu allan i'r gronfa wrth gefn i mewn i'r flwyddyn nesaf, a oedd, unwaith eto, yn bragmatig ar ran Llywodraeth y DU.

O ran y newid cyfalaf i refeniw, mae'n wir mai dim ond cyfran Barnett, os mynnwch, a gawsom o'r newidiadau cyfalaf i refeniw y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU. Yn amlwg, mae hynny'n wirioneddol broblemus, oherwydd mae arnom angen system lle gallwn wneud y cais, boed i'r Trysorlys neu drwy gael cytundeb drwy'r Senedd—mae angen proses sy'n gweithio i ni yma yn y Llywodraeth ddatganoledig fel ein bod yn fwy na buddiolwyr yn unig, neu fel arall, yn sgil newidiadau sy'n digwydd yn adrannau San Steffan. Rydym angen cyfle i gychwyn y math hwnnw o newid ein hunain.

O ran tryloywder, fe wnaethom geisio bod mor dryloyw ag y gallem ym mis Hydref, pan oeddem yn darparu mwy o fanylion am yr ymarfer ailflaenoriaethu yr oedd yn rhaid i ni ei wneud yn Llywodraeth Cymru. Ond o ran rhoi hynny drwy gyllideb atodol ar y pryd, rwy'n credu y byddai hynny'n broblemus, yn yr ystyr mai'r hyn yr oeddem yn ei wneud oedd symud arian o fewn Llywodraeth Cymru, ond er mwyn ffurfio cyllideb atodol briodol mae angen ichi ddeall beth yw ochr arall y geiniog, os mynnwch—felly, y cyllid sydd hefyd yn dod i mewn gan Lywodraeth y DU—a dyna pam mae gennym y prif amcangyfrifon, sy'n llywio ein cyllideb atodol gyntaf ac unrhyw ddatganiad y gwanwyn, ac yna mae'r ail gyllideb atodol yn cael ei llywio gan yr amcangyfrifon atodol gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod angen ichi weld dwy ran yr hafaliad hwnnw cyn y gallwch chi gyflwyno cyllideb atodol ystyrlon.

Cafwyd rhai cwestiynau am ddatganiad y gwanwyn ac yn enwedig y cwestiwn ynglŷn ag a oedd unrhyw arian ychwanegol a wnaeth ddod a beth mae hynny'n ei olygu i gyflogau. Felly, mae £141 miliwn o'r cyllid ychwanegol a ddaeth drwy ddatganiad y gwanwyn yn arian yr oeddem eisoes yn gwybod amdano, ac mae eisoes wedi'i gynnwys yn ein cynlluniau ar gyfer iechyd y flwyddyn nesaf. Felly, nid oedd unrhyw beth yn arbennig o newydd yn y gofod hwnnw, er ein bod yn aros am rywfaint o gyllid gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r ardoll yr ydym fel arfer yn darparu cyllid drwodd i'r gwasanaethau cynghori ar ei chyfer. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau yn cael trafodaethau am hynny; fel arfer, rydym yn pasbortio'r arian hwnnw draw i'r gwasanaethau cynghori, felly byddwn yn ceisio gwneud hynny cyn bo hir.

Rwy'n credu mai dyna'r pwyntiau allweddol a godwyd. Rwy'n ceisio cadw at y flwyddyn ariannol hon, os gallaf, ond nid wyf wedi cael llawer o lwyddiant yn gwneud hynny hyd yn hyn. Rwy'n gwybod bod sawl cwestiwn ar iechyd yn benodol y dylwn ymateb iddynt. Fel y clywsom, ar hyn o bryd rhagwelir y bydd pob un ond tri o sefydliadau'r GIG yn cyflawni'r targedau a osodwyd ar eu cyfer ym mis Tachwedd, gan gynnwys, yn achos pedwar bwrdd iechyd, y gostyngiadau o 10 y cant yn y diffygion y gofynnwyd amdanynt gan y Gweinidog iechyd. Ond i fod yn glir, nid yw'r arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r byrddau iechyd; arian wrth gefn untro ydyw, a ddelir gan y prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i wrthbwyso'r sefyllfa a ragwelir yn gyfredol yn y byrddau hyn, ac rydym yn disgwyl i'r byrddau hynny barhau i wneud gwelliannau wrth inni ddod at ddiwedd y flwyddyn ariannol hefyd.

Rwy'n credu mai'r hyn a welwn yn y gyllideb atodol hon yw darlun o'r dewisiadau anodd y bu'n rhaid i ni eu gwneud, ac efallai na fyddem wedi gorfod gwneud rhai ohonynt pe baem wedi cael mwy o eglurder wrth i ni fynd drwy'r flwyddyn ariannol. Ond yr hyn a welwch hefyd, rwy'n credu, yw ein hymrwymiad parhaus i gefnogi a blaenoriaethu ein gwasanaethau cyhoeddus. 

15:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cwestiynau Amserol
Gwasanaethau Tân ac Achub

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i wasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru gynnal adolygiadau annibynnol i'w diwylliant a'u gwerthoedd? TQ1017

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fe wneuthum ddatganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y mater hwn ar 11 Mawrth.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth i gynnal adolygiad i ddiwylliant pob gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, fel y buom yn galw amdano, byth ers cyhoeddi canfyddiadau'r adroddiad damniol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ond ni all hyn osgoi'r ffaith bod y Llywodraeth wedi methu mynd i'r afael â'r mater hwn yn gynharach a bod hynny wedi erydu hyder staff yn y broses.

Yn eich datganiad ddydd Llun, yn cyhoeddi'r adolygiadau, fe wnaethoch chi grybwyll eich bod yn gwneud hynny am eich bod wedi parhau i dderbyn gohebiaeth, gan gynnwys honiadau gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr y ddau sefydliad, a bod angen i staff gael sicrwydd fod ganddynt fodd diogel ac effeithiol o rannu eu profiadau. O ystyried y rhesymeg hon, Ddirprwy Weinidog, ynghyd â thystiolaeth y rhai a siaradodd â newyddion ITV Cymru, gan gynnwys mwy na 35 chwythwr chwiban a oedd yn feirniadol o'r diwylliant yng ngogledd Cymru—gydag un yn disgrifio aflonyddu rhywiol ac ymosodiad corfforol yn y gwasanaeth—a'r ffaith mai Stuart Millington oedd pennaeth diogelu yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a ydych chi'n dal yn fodlon fod y comisiynwyr wedi ei benodi'n brif swyddog tân dros dro presennol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? A beth yw eich barn ar sut mae'n edrych i'r staff a'r cyhoedd? Mae aelodau Undeb y Brigadau Tân yn ne Cymru wedi datgan eu bod yn teimlo'n hynod o siomedig ynglŷn â'r penodiad, ac o ystyried yr honiadau yn erbyn Mr Millington a'r ffaith bod aelodau o frigâd dân de Cymru wedi galw cyfarfod eithriadol ac wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo, a ydych chi'n derbyn nad aethpwyd i'r afael â'r pryderon hyn hyd yma? A oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd y gwnaed y penodiad hwn gan y comisiynwyr, o ran tryloywder ac o ran y diffyg ymgynghori â'r undebau, neu'n wir â chi eich hun?

Ac yn olaf, Ddirprwy Weinidog, rhaid i'r adolygiadau hyn fod yn drylwyr ac yn gwbl annibynnol yn eu dull o fynd i'r afael â'r ymddygiad annerbyniol a welwn yn rhy aml yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, sut y gwnewch chi sicrhau bod yr adolygiadau'n gwbl annibynnol, os yw'r gwasanaethau tân ac achub yn penodi eu harchwilwyr eu hunain? Er mwyn sicrhau adolygiad sy'n ddigon cadarn a thrylwyr, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r adnoddau angenrheidiol ac a wnewch chi sicrhau bod yr adolygiadau'n seiliedig ar yr un cylch gorchwyl â'r rhai yn ne Cymru er mwyn sicrhau cysondeb? Diolch.

15:30

Diolch. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am ei chwestiwn? Rwyf wedi dweud yn glir—. Rwy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y Senedd, a dyna rwyf wedi’i wneud, a chyhyd â fy mod yn y rôl hon, byddaf yn parhau i wneud hynny hefyd. Cyn gynted ag y cyhoeddwyd adroddiad Fenella Morris CB a’i ganfyddiadau ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, dywedais y byddem yn ystyried ar frys i ba raddau y dysgwyd gwersi yn y gwasanaethau eraill, ond hefyd i weld a oedd materion tebyg yn bresennol yn nau wasanaeth tân ac achub arall Cymru.

Yn fy natganiad llafar cyntaf i’r lle hwn ar 9 Ionawr, anogais wasanaethau tân ac achub eraill, a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn wir, i fyfyrio ar hynny fel enghraifft o ba mor wael y gall pethau fynd o chwith os caiff materion llywodraethu a rheoli da eu hesgeuluso. Ers hynny, rwyf wedi cyfarfod â phrif swyddogion tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ogystal â chadeiryddion y ddau awdurdod, i drafod adroddiad Morris a’i argymhellion, ac fel y dywedais yn y datganiad ysgrifenedig, i geisio sicrwydd am y diwylliant yn y sefydliadau hyn ac i nodi’r disgwyliadau ynghylch diwylliant y gweithle yn y gwasanaethau.

Rwy'n credu bod y ddau sefydliad eisoes wedi cychwyn ar raglenni cynhwysfawr i adolygu a gwella eu diwylliant sefydliadol. Fel y dywedais yn y datganiad ysgrifenedig hefyd, fe wnaed rhywfaint o gynnydd, a cheir enghreifftiau o arferion da. Mae’r ffaith fy mod i ac eraill yn parhau i gael gohebiaeth gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr o'r ddau sefydliad yn golygu ei bod yn bryd iddynt gynnal adolygiadau manylach sydd, fel y dywedwch, angen cael eu harwain yn annibynnol hefyd. A dylai fod—. A dyna pam ein bod yn glir yn y trafodaethau hynny ar gyrraedd y pwynt hwn gyda nhw o ran cytuno i gynnal yr adolygiadau annibynnol hyn: yn rhan o'r broses honno, mae angen iddynt gael proses neu system dryloyw er mwyn i'r bobl hynny allu codi eu llais. A dywedais wrthych chi ac rwyf wedi dweud yn y lle hwn o'r blaen na ddylent orfod mynd at y wasg ac na ddylent orfod mynd at wleidyddion. Ac fel rhan o'r adolygiad hwn, gobeithio y gallwn sicrhau bod y system honno yn ei lle hefyd.

Rwy’n parhau i weithio gyda chomisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Byddant yn mynd ati i benodi prif weithredwr neu brif swyddog tân mwy parhaol. Yn rhan o’r broses honno, byddwn yn gobeithio y byddant hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, yn enwedig yn rhanbarth De Cymru, ynglŷn â'r cynnydd hwnnw. Ac rwy’n deall y byddant hefyd yn sicrhau, fel rhan o’r broses honno, mewn rôl fwy parhaol, fod rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan o hynny, nid yn unig gydag Undeb y Brigadau Tân, ond gyda chyrff cynrychioli staff eraill ac undebau llafur eraill, megis Unsain, GMB ac Unite, fel rhan o hynny hefyd. O’m rhan i, rwyf bob amser wedi cyfarfod yn rheolaidd â’r undebau llafur hefyd, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rwyf wedi cyfarfod ag Undeb y Brigadau Tân, gan gynnwys gyda’u swyddog gweithredol dros Gymru, yn ogystal â’r ysgrifennydd cyffredinol, Matt Wrack.

Fore Llun, roeddem hefyd yn ein fforwm partneriaeth gymdeithasol reolaidd ar gyfer y gwasanaethau tân ac achub. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau fod prif ffocws y fforwm ar ganfyddiadau adroddiad Fenella Morris CB, a'r goblygiadau i'r gwasanaeth. Ac yn y cyfarfod hwnnw, rhoddwyd cydnabyddiaeth i'r heriau sy'n ein hwynebu a'r angen i gydweithio i gyflawni'r newid hwnnw. Nid wyf o dan unrhyw gamargraff fod hon yn mynd i fod yn dasg hawdd—mae'n newid diwylliannol, ac yn anffodus, rydym wedi dweud o'r blaen, mae'n newid sy'n adlewyrchu cymdeithas ac yn endemig ynddi. Ond rwyf wedi nodi fy safbwynt yn glir, a safbwynt Llywodraeth Cymru, y byddwn yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym, ac rydym wedi gwneud hynny hyd yma, i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar y cyd a chyda'n gilydd i sicrhau'r newid y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld. Mae’r bobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth tân yn falch o’r rôl y maent yn ei chwarae, ac mae angen i ni eu helpu i adfer y balchder hwnnw, mewn amgylchedd gwaith diogel a chynhwysol, ac mewn ffordd sydd nid yn unig yn rhoi sicrwydd iddynt hwy ond i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu hefyd.

15:35

Ddirprwy Weinidog, credaf ei bod yn amlwg i bawb fod angen adolygiad annibynnol o ddiwylliant a gwerthoedd holl wasanaethau tân ac achub Cymru ers peth amser. Yn wir, fi oedd y cyntaf i alw am hyn yn ôl ym mis Ionawr pan wnaethoch eich datganiad cychwynnol, ac rwy'n credu, fel y mae llawer o Aelodau eraill o’r Siambr hon yn ei gredu, rwy’n siŵr, fod yr adolygiad hwn yn anochel, a bod Llywodraeth Cymru, drwy ei ohirio, wedi dangos eu diffyg arweiniad ar y mater. Ddirprwy Weinidog, credaf ei fod yn fethiant llwyr ar eich rhan chi a’r Llywodraeth hon i beidio â bod wedi gweithredu’n gynt, ac rydych wedi rhoi staff yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn sefyllfa lle nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond mynd at y wasg i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac i amlygu’r diwylliant o fwlio, aflonyddu rhywiol a ffafriaeth sy’n bodoli yn y gwasanaeth. Mae hyn wedi peri niwed aruthrol pellach i enw da'r gwasanaeth tân yng Nghymru.

Fel y gwyddoch, mae prinder mawr o ddiffoddwyr tân, yn enwedig diffoddwyr tân wrth gefn. A chyda gostyngiad o fwy na 20 y cant yng Nghymru ers 2010, mae potensial hyd yn oed yn fwy, bellach, i fywydau gael eu rhoi mewn perygl. Mae pob un ohonom yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy na chynnal adolygiad arall o ddiwylliant a gwerthoedd, a bod angen ailwampio gwasanaeth tân Cymru yn llwyr. Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, ac yng ngoleuni’r amodau gwaith gwael yn y gwasanaeth tân, pa gynigion sydd gennych i wella enw da’r gwasanaeth tân fel cyflogwr, i ddenu mwy o ddiffoddwyr tân wrth gefn, i ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gwasanaeth, ac i ddangos ei fod yn addas i'r diben? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn, Joel James. Cyfeiriaf yn ôl at ran o fy ateb blaenorol, fod y pwynt a gyrhaeddom gyda’r cyhoeddiad ddydd Llun yn y datganiad ysgrifenedig, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, yn rhan o’r broses a oedd wedi bod yn mynd rhagddi ers imi nodi'n glir am y tro cyntaf yn y lle hwn, pan wnaethom fyfyrio gyntaf ar ganfyddiadau adroddiad Fenella Morris CB, y byddem yn ystyried beth oedd hynny’n ei olygu i’r gwasanaethau tân ac achub eraill. A'r hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau canlynol, wrth i broses y ddeialog honno gyda'r sefydliadau hynny barhau, mewn gohebiaeth a sgyrsiau wyneb yn wyneb, yw sicrhau eu bod wedi rhoi mesurau ar waith eisoes, ond i gyrraedd y pwynt, pan gafwyd cydnabyddiaeth i gael yr adolygiad annibynnol hwnnw, i roi, fel y dywedais, unwaith eto, y sicrwydd hwnnw i staff ac i’r cyhoedd fel ei gilydd. A bydd yr adolygiad annibynnol hwnnw nid yn unig yn ystyried ac yn adlewyrchu canfyddiadau adroddiad Fenella Morris CB ond nifer o adroddiadau eraill hefyd, megis adroddiad sbotolau Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi yn Lloegr, a hefyd yn edrych ar y camau y mae gwasanaethau tân ac achub canolbarth a gorllewin, a gogledd Cymru wedi’u cymryd eisoes, boed hynny drwy arolygon ymgysylltu â staff, neu drwy roi prosesau ar waith. Ac fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, pan fyddaf yn cyfarfod â nhw, ceir cydnabyddiaeth eu bod wedi dechrau rhoi'r camau hynny ar waith, ond hefyd, fod angen mynd gam ymhellach, i ddarparu'r sicrwydd hwnnw, ac i ddysgu o hynny, ac i roi’r gwasanaeth mewn man lle mae pob un ohonom yn dymuno'i weld rwy’n siŵr.

O ran y materion ehangach y mae Joel James yn eu codi—gwn eich bod wedi bod yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, dan arweiniad y Cadeirydd, fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, i lywodraethiant ehangach gwasanaethau ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld canlyniad gwaith y pwyllgor. Credaf ei fod yn amserol, ac mae'n bwysig, ac yn cyd-fynd hefyd â'r gwaith y mae swyddfa archwilio Cymru yn ei wneud ar lywodraethu, ac rwy'n siŵr y bydd rhai argymhellion a phwyntiau ehangach a all adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi dechrau ei wneud fel Llywodraeth. A chyn hyn, rydym wedi ymrwymo i geisio ehangu rôl diffoddwyr tân yng Nghymru. Mae’n un ffordd o sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaeth, o ran recriwtio a chadw staff efallai, a chynnig lle, ond hefyd i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon ynghylch gwasanaeth tân wrth gefn, gan fod y ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio wedi newid, ac mae hynny wedi'i gwneud yn llawer mwy heriol mewn nifer o gymunedau yng Nghymru nid yn unig i recriwtio, ond mewn gwirionedd, i gadw’r diffoddwyr tân wrth gefn hynny. Ac mae ehangu'r rôl yn un o'r ffyrdd y gallem fynd i'r afael â'r heriau hynny.

15:40

Mae aelodau o Undeb y Brigadau Tân wedi dweud yn glir fod penodiad Mr Millington yn hynod siomedig, a chredaf mai’r hyn rwy’n ceisio’i ddeall, a'r hyn y credaf fod Aelodau ar y meinciau hyn yn ceisio'i ddeall yn y bôn yw sut y cyrhaeddom y pwynt hwn, o ystyried yr honiadau a wnaed yn ei erbyn, o ystyried y bleidlais o ddiffyg hyder ynddo gan aelodau'r frigâd? Sut y cyrhaeddom y pwynt hwn? Daeth y penodiad heb unrhyw ymgynghori â chi na'r undebau llafur, felly sut y mae ailadeiladu ymddiriedaeth?

A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am ei ddiddordeb? Ac a gaf i ymddiheuro am fethu dod i'ch digwyddiad amser cinio gydag Undeb y Brigadau Tân a'u hymgyrch DECON, ond rwy'n gobeithio bod rhywun o fy swyddfa yno hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae'n rhywbeth rydym wedi'i drafod, fel rhan o'n fforwm partneriaeth gymdeithasol, a sut y gallwn roi rhai o'r gwersi a ddysgwyd ar waith yng Nghymru.

Gan ddychwelyd at y pwynt a wnaethoch ynglŷn â’r prif swyddog tân dros dro, fel y dywedais o’r blaen, roedd hwnnw’n benodiad gweithredol i gynnal arweinyddiaeth strategol y gwasanaeth a darpariaeth ymateb gweithredol yn barhaus. Roedd yn benderfyniad—. Fe wnaethom benodi'r comisiynwyr a rhoi’r cylch gwaith llawn iddynt i ddiwygio, yn enwedig uwch reolwyr arweinyddiaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Fel y dywedais yn fy ateb i’ch cyd-Aelod, Sioned Williams, bydd rôl prif swyddog tân neu brif weithredwr parhaol yn cael ei hysbysebu, a phenodiad yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Ac fel rhan o'r broses honno, bydd y comisiynwyr yn ymgysylltu â phroses ymgysylltu lawn â rhanddeiliaid, a fydd yn cynnwys pob un o'r undebau llafur, gan gynnwys Undeb y Brigadau Tân hefyd. O ran fy ymgysylltiad fy hun, fel y dywedais, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â’r holl undebau llafur a’r gwasanaethau tân ac achub, a byddaf yn parhau i wneud hynny tra byddaf yn y swydd hon.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i'w ateb gan y Gweinidog iechyd ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor. 

Darpariaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys yng nghanolbarth a gogledd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod argymhelliad wedi'i wneud i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng? TQ1027

Dwi'n deall pa mor gryf mae pobl leol yn teimlo am y mater yma. Heddiw dwi wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans am sicrwydd ynghylch faint o drafod sydd wedi bod gyda chymunedau lleol yn sgil eu pryderon ac i ba raddau mae'r rhain wedi cael eu cymryd mewn i ystyriaeth. Does dim penderfyniad wedi ei wneud. Bydd y comisiynwyr yn trafod yr opsiynau, a fydd yn cynnwys barn rhanddeiliaid. 

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Does yna ddim penderfyniad wedi ei wneud, meddai hi, ond mae yna argymhelliad i gau Dinas Dinlle a'r Trallwng, ac mae'r argymhelliad yna yn mynd i ddod fel ergyd anferthol i bobl gogledd-orllewin a chanolbarth Cymru. Mewn ardaloedd gwledig fel yma, yn enwedig, mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr wedi bod yn allweddol, gan alluogi triniaeth frys i gael ei darparu, a hynny yn brydlon. Mae'r adroddiad yn honni y bydd adleoli'r gwasanaethau i rywle yn y gogledd-ddwyrain yn eu galluogi i gyrraedd poblogaeth fwy o faint ynghynt, ond bydd hyn yn golygu y bydd llai o gymunedau yn cael eu gwasanaethu, sy'n cynnwys rhai ble mae cysylltiad trafnidiaeth yn hynod o heriol. Ac mae hyn yn bryderus pan ydyn ni'n ystyried bod yr adroddiad yn argymell cerbyd ffordd fel prif ddarpariaeth gofal brys i ardaloedd y gogledd-orllewin, megis Dwyfor Meirionnydd, Ynys Môn neu, yn wir, yng ngogledd Ceredigion a Threfaldwyn hefyd. Mae'r diffyg manylion sydd yn yr adroddiad o ran faint o gerbydau ffordd a ble fyddan nhw yn cael eu lleoli hefyd yn ychwanegu at y pryder. Ystyriwch, er enghraifft, os ydy rhywun, ar hyn o bryd, yn gorfod mynd o Gaernarfon i ben draw Llŷn, mae posib gwneud hynny mewn munudau yn yr ambiwlans awyr, ond mewn cerbyd ffordd mi fuasai yn awr a hanner.

Mae gan drigolion Gwynedd, Ceredigion, Maldwyn, Môn, a chanolbarth a gogledd-orllewin Cymru yr hawl i dderbyn gwasanaethau achub bywyd yr un fath â phob ardal arall. Er gwaethaf mai 'ambiwlans awyr' ydy'r teitl, mae o'n ysbyty yn yr awyr, ac mewn ardaloedd lle nad oes gennym ni wasanaethau brys a dwys, yna mae'n darparu gwasanaeth hanfodol. Ar ben hynny, mi fydd colli'r ambiwlans awyr yn y Trallwng a Dinas Dinlle hefyd yn colli gwasanaethau o ran sgiliau pobl a fydd bellach ddim yn gweithio yn y maes hynny, ac yn golygu llai o wasanaeth yn yr ardaloedd i'r bobl sydd yn byw yno.

Felly, ydych chi'n cydnabod bod y trefniadau newydd yn gadael cymunedau gogledd-orllewin a chanolbarth Cymru mewn sefyllfa anfanteisiol o'i gymharu â'r drefniadaeth gynt, a pham fod Llywodraeth Cymru yn gweld hyn fel pris derbyniol i'w dalu?

15:45

Dwi'n deall pa mor gryf mae'r Aelod yn teimlo am hyn, a dwi'n gwybod bod y cymunedau yn teimlo yn gryf iawn hefyd. 

Mae'r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys yn cyfarfod ar 19 Mawrth i ystyried argymhellion adolygiad y gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys, a byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau neu achub y blaen ar unrhyw benderfyniad terfynol nad yw wedi'i wneud eto. Nawr, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys sy'n gyfrifol yn ôl y gyfraith am gynllunio a sicrhau gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys, ac ni ddylem danseilio'r llywodraethiant sefydledig sydd ar waith i wneud penderfyniadau fel y rhain. Gwn fod Llais wedi bod yn ymwneud â phrosesau adolygu'r gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys hefyd. Felly, credaf fod yn rhaid inni adael i'r broses hon redeg ei chwrs, a byddaf yn amlwg yn awyddus iawn i weld pryd, os a sut mae'n briodol i Lywodraeth Cymru ymyrryd.

Weinidog, rwyf wedi fy siomi'n enbyd gan adroddiad terfynol prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans a gyhoeddwyd heddiw. Ni all cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon fod yn opsiwn. Mae'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y broses hon cyn ei bod yn rhy hwyr—ac rwyf wedi clywed yr hyn rydych newydd ei ddweud.

'Ni fyddai unrhyw un yn waeth eu byd', yw'r hyn a ddywedwyd wrthym drwy gydol y 18 mis diwethaf yn y broses hon—ni fydd unrhyw un yn waeth eu byd. Ond fe fydd pobl yn waeth eu byd os daw'r argymhellion i rym. Fe fyddant. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Bydd amseroedd ymateb arafach nid yn unig i un neu ddau o bentrefi ond i nifer helaeth o bobl sy’n byw yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru. Felly, nid yw'n mynd i fod yn wir os daw’r argymhellion hyn i rym.

Nodaf hefyd nad yw’r argymhellion hyd yn oed yn nodi beth fyddai’r achos dros liniaru’r effeithiau negyddol sy’n cael eu gwireddu yn yr adroddiad. Felly, cwestiwn gennyf i yw: sut y gellir gwneud penderfyniad heb i hynny fod yn wir yn gyntaf? Y cwestiwn pwysicaf un sydd gennyf yw hwn: pa effaith a gafodd y broses ymgysylltu? Pa effaith a gafodd y broses ymgysylltu? Oherwydd yr ymateb llethol gan bobl ar draws canolbarth a gogledd Cymru—ac mae hyd yn oed yn brolio yn yr adroddiad yma: 23 wythnos o ymgysylltu, 45 digwyddiad—miloedd o ymatebion, pob un yn dweud yr un peth, fwy neu lai: ni ddylid cau canolfannau’r Trallwng a Chaernarfon. Nid oes unrhyw etholwr yn y 18 mis diwethaf wedi dweud wrthyf, 'Wyddoch chi beth, rwy'n credu y bydd cau canolfan y Trallwng neu ad-drefnu'r gwasanaethau yng nghanolbarth Cymru yn arwain at well gwasanaeth i ni.' Nid oes unrhyw un wedi dweud hynny wrthyf, ddim hyd yn oed yn breifat.

Ac rwy'n gofyn y cwestiwn hefyd am fod yr argymhelliad yn union yr un fath—yn union yr un fath—â'r cynnig yn y ddogfen wreiddiol a gafodd ei datgelu'n answyddogol 18 mis yn ôl, cynnig a oedd hefyd yn amlinellu y dylid cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon, a'u had-drefnu mewn un lleoliad. Felly, beth yw eich neges, Weinidog, i’r llu o bobl ledled Cymru a fyddai’n dweud bod hwn yn benderfyniad a wnaed eisoes o'r cychwyn? Beth yw eich ymateb i hynny? Rydych wedi dweud yn eich ymateb cynharach nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto ac y caiff ei wneud ar ôl yr argymhelliad. Rydym bellach wedi cael yr argymhelliad hwnnw, a fy mhryder yw y bydd yn rhy hwyr i ymyrryd ar ôl i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud gan y pwyllgor y cyfeirioch chi ato.

Felly, a wnewch chi nodi beth fydd yn digwydd nesaf a sut y byddwch chi, Weinidog, a’ch cyd-Aelodau yn ymyrryd? A fyddwch yn cwestiynu’r risg a achosir pe bai un ganolfan yn unig yn weithredol ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru i gyd? Oherwydd fe wyddoch eich hun o'n cwestiynau fis diwethaf, pe bai ond un ganolfan yn unig yn weithredol, a bod y tywydd yn arw, ni fyddai unrhyw ganolfannau eraill yn darparu ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru. A fyddwch chi hefyd yn asesu ac yn cwestiynu’r risg o amseroedd ymateb hirach ym Mhowys, lle nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth?

Ac yn olaf, Weinidog, mae'r bobl ar draws canolbarth a gogledd-orllewin Cymru'n teimlo’n hynod siomedig. Maent yn teimlo'n hynod siomedig ar ôl y broses hon, ar ôl mynychu cyfarfodydd, ac ymateb i'r prosesau ymgysylltu. Maent wedi cael eu siomi. Beth yw eich neges iddynt hwy? Oherwydd wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pobl yn cael eu trosglwyddo i ofal brys mewn modd amserol. Mae’n debyg mai hynny, yn ôl pob tebyg, yw prif gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, neu un ohonynt. Beth yw eich neges i’r bobl hynod siomedig hynny ynglŷn â'r ffordd rydych chi a’ch cyd-Aelodau yn mynd i ymyrryd yn y broses hon?

15:50

Wel, diolch yn fawr. Y cyngor gan y prif gomisiynydd i’r pwyllgor yw y bydd yr opsiwn a argymhellir yn galluogi gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys i helpu mwy o gleifion ledled Cymru ac i gyrraedd mwy o leoedd yng Nghymru yn haws, ond clywaf yr hyn a ddywedwch a chlywaf yr hyn y mae Mabon wedi’i ddweud o ran sut y bydd hynny’n effeithio ar rai rhannau o Gymru. Ei gyngor yw y bydd yr opsiwn a argymhellir hefyd yn galluogi mwy o ddarpariaeth dros nos ar gyfer pobl y canolbarth a'r gogledd. Felly, ar hyn o bryd, daw'r ddarpariaeth nos honno o Gaerdydd, a bydd hynny’n defnyddio mwy o amser clinigwyr medrus iawn. Credaf fod yn rhaid ystyried effeithlonrwydd a chosteffeithiolrwydd yma yn rhywle, a faint o ddefnydd a wneir o'r gwasanaeth.

Pa effaith—. Fe ofynnoch am yr effaith ar y datganiad a wnaed o ran yr ymgysylltu. Rwyf wedi gofyn heddiw am ragor o sicrwydd ysgrifenedig ar lefel yr ymgysylltu a sut mae’r ymgysylltiad hwnnw wedi llywio’r penderfyniad i argymell ad-drefnu canolfannau, ochr yn ochr â ffactorau eraill a ddefnyddiwyd i lunio’r argymhelliad. Felly, rwyf wedi gofyn am hynny yn ysgrifenedig er mwyn sicrhau fy mod yn gwbl glir fod yna effaith wedi bod o ran gwrando ar y bobl. Rwyf hefyd wedi gofyn beth yw fy mhwerau cyfreithiol i ymyrryd mewn perthynas â hyn. Mae'n amlwg na fydd yn benderfyniad i mi, yn yr ystyr fy mod yn rhywun sy'n cynrychioli'r ardal a allai gael ei heffeithio, ac yn amlwg, byddai'n rhaid imi drosglwyddo unrhyw ystyriaeth i rywun arall yn y Llywodraeth.

Dwi'n gandryll o ddarllen yr argymhelliad heddiw yma, mae'n rhaid dweud. Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cael ein harwain ar ryw daith hir lle roedd y pen draw yn gwbl, gwbl anochel. Mae'r Gweinidog yn dweud y bydd hi'n gofyn am sicrwydd bod yna ddigon o ymgynghori wedi bod. O, mae yna ddigonedd o ymgynghori wedi bod; mi fyddan nhw'n gallu dangos ichi yn glir bod yna ymgynghori dros amser hirfaith i gyrraedd at y pwynt lle cychwynnon ni a'r pwynt wnaeth godi gymaint o bryderon ar draws ardal eang o Gymru. 

Dwi eisiau diolch i bob un sydd wedi ymgyrchu, a dwi'n eu hannog nhw i gyd i gyd-ymgyrchu efo ni o hyd i sicrhau dydy hwn ddim yn cael ei weithredu. Mi wnaethon nhw brotestio, mi wnaethon nhw ddod i gyfarfodydd cyhoeddus, mi wnaethon nhw ymateb i'r ymgynghoriad, ac mi ddadleuon nhw'r achos bod y cynnig gwreiddiol am olygu salach gwasanaeth i bobl ar draws ardaloedd eang o Gymru. Ymarfer ystadegol sydd gennym ni yn fan hyn, yn dod o hyd i'r ffordd hawsaf i gyrraedd mwy, niferoedd mwy o gleifion yn y gogledd-ddwyrain. Ond mae'r argymhelliad yn gwneud hynny ar draul pobl yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, ar draws gogledd-orllewin Cymru, ar draws ardal eang o ganolbarth Cymru.

A dwi yn grediniol bod yna ffordd y gellid bod wedi buddsoddi, yn enwedig mewn cerbydau ar y llawr, i gynnig gwell gwasanaeth i'r gogledd-ddwyrain—rydyn ni i gyd eisiau hynny hefyd—tra'n peidio â dirywio'r gwasanaeth yng ngweddill Cymru. Dwi'n apelio ar y Gweinidog i beidio â'i gadael hi'n rhy hwyr i ymyrryd, i feddwl am y diffyg sy'n mynd i fod mewn gwasanaeth. Ac nid cleifion ydy'r unig rai sy'n dweud hyn, nid dim ond pobl sy'n codi arian, ond meddygon, parafeddygon, sydd wedi bod yn siarad â mi ac yn siarsio fi drwy'r amser i wneud yr achos dros gadw'r gwasanaethau.

A dwi'n gofyn i'r Gweinidog hefyd i ystyried hyn, o gofio'r heriau recriwtio a'r heriau staffio sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dwi am iddi gofio'r gwerth sydd yna o gael canolfannau sy'n denu'r meddygon gorau, y parafeddygon gorau i lefydd fel Dinas Dinlle a'r ergyd drom fydd yn ei gwneud hi'n haws i gael canolfan yng nghanol y gogledd i ddenu meddygon ac arbenigwyr o ogledd-orllewin Lloegr i wasanaethu ar yr hofrennydd, achos dyna mae'r meddygon eu hunain yn dweud wrthyf sydd yn beryg o ddigwydd. 

Diolch yn fawr. Fel dwi'n dweud, dwi wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha effaith mae'r ymgynghoriad wedi ei gael ar yr argymhelliad, felly, dwi'n edrych ymlaen at dderbyn hynny. Dwi'n meddwl ei bod hefyd yn werth dweud bod y charity ei hunain, yr air ambulance, nhw oedd wedi dechrau mynd lawr y trywydd yma, felly, yn y diwedd, bydd llais gyda nhw hefyd ynglŷn â sut mae hwn yn gorffen. Felly, dwi'n awyddus iawn i gael ymateb a chawn ni weld hefyd ble mae fy hawliau i, fel Gweinidog, i ymyrryd. Diolch.

15:55
5. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 5 sydd nesaf, y datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Mae heddiw yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu. Rydym yn aml yn cymryd yn ganiataol ein gallu i gael diod neu rannu pryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau. Mae'n rhywbeth rydych chi'n ei wneud heb feddwl. Ond i rai, nid yw hynny'n wir. Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu yn ein hatgoffa bod anawsterau bwyta, yfed a llyncu yn gyffredin ac maent yn aml yn digwydd gyda chyflyrau iechyd eraill, megis yn dilyn strôc, neu ddiagnosis o glefyd Parkinson neu ddementia.

Gall anawsterau llyncu, neu ddysffagia, i ddefnyddio’r term meddygol, effeithio ar bobl o bob oed a phob cyfnod mewn bywyd, o fabanod newydd-anedig i bobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes. Rhai o arwyddion a symptomau anawsterau bwyta, yfed a llyncu yw bwyd yn mynd yn sownd yn y gwddf, anhawster wrth gnoi neu reoli bwyd neu hylifau yn y geg, heintiau rheolaidd ar y frest neu niwmonia, neu fwyd neu ddiod yn dod allan o'r trwyn wrth lyncu a gorbryder wrth fwyta, yfed neu lyncu. Nawr, gall anawsterau bwyta, yfed a llyncu arwain at ansawdd bywyd gwaeth i unigolion a'u teuluoedd oherwydd embaras a diffyg mwynhad o fwyd. Gall dysffagia hefyd gael canlyniadau a allai fygwth bywyd. Gall arwain at dagu, niwmonia, heintiau ar y frest, dadhydradu a chamfaethiad, gan arwain at dderbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, ac mewn rhai achosion, at farwolaeth.

Ond mae gan ein therapyddion lleferydd ac iaith rôl unigryw i’w chwarae wrth asesu, diagnosio a rheoli anawsterau llyncu. Yn ddiweddar, ymwelais â therapyddion lleferydd ac iaith yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am eu gwaith yn y maes hwn, ac roeddwn yn edmygu eu harbenigedd a’u tosturi. Lywydd, rwy'n gobeithio bod nifer o'r Aelodau yma yn y Senedd wedi cael cyfle i fynychu’r caffi llyncu a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Mabon heddiw, ar y cyd â thîm arlwyo’r Senedd, i ddysgu’n uniongyrchol am effeithiau hyn. Felly, heddiw, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu, Lywydd, rydym yn talu teyrnged i'r gweithwyr proffesiynol anhygoel sy'n helpu pawb sy'n byw gydag anawsterau bwyta a llyncu a'r bobl sy'n eu cefnogi.

Diolch i chi i gyd.

Yfory, dydd Iau 14 Mawrth, yw Diwrnod Arennau'r Byd. Mae dros 3,000 o oedolion yng Nghymru yn cael triniaeth, naill ai drwy drawsblaniad aren neu ddialysis, ac amcangyfrifir y bydd y ffigur hwnnw'n cynyddu 3 y cant y flwyddyn, yn seiliedig ar y data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Gofrestrfa Arennol y DU. Mae 38 o blant hefyd yn derbyn triniaeth ar gyfer methiant yr arennau.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Popham Kidney Support, elusen sydd wedi’i lleoli yn fy etholaeth i ac sy’n cefnogi pobl ledled Cymru sydd â chlefyd yr arennau. Yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd, roedd yn syndod gweld cymaint o staff sy'n gweithio yn y Senedd a alwodd heibio sydd â pherthnasau neu ffrindiau sy'n dioddef o broblemau gyda'r arennau. Pan fydd eich arennau'n cael eu niweidio, gall hylifau a deunydd gwastraff gronni yn eich corff. Gall hyn achosi chwyddo yn eich pigyrnau, cyfog, gwendid, cwsg gwael a diffyg anadl. Heb driniaeth, gall y niwed waethygu a bydd eich arennau yn stopio gweithio yn y pen draw. Mae arwyddion cynnar o glefyd yr arennau yn cynnwys pendro a blinder ac un o'r arwyddion cyntaf posibl o arennau'n gwanhau yw'r profiad o wendid cyffredinol ynoch chi a'ch iechyd cyffredinol, chwyddo a newidiadau o ran troethi. Y broblem gyda hyn, fel llawer o'r symptomau hyn, yw bod llawer iawn o afiechydon eraill yn dangos yr un symptomau. Felly, byddwn yn annog pobl, os oes ganddynt y symptomau hynny, i ymweld â’u meddyg teulu.

Mae clefyd cronig yn yr arennau yn gyflwr hirdymor, lle nad yw arennau'n gweithio cystal ag y dylent. Mae'n gyflwr cyffredin sy'n aml yn gysylltiedig â heneiddio, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gofalu am ein harennau a'n bod yn achub ar bob cyfle i ymweld â'n meddyg teulu os oes angen.

Diolch, Lywydd. Ddydd Sul, am 12.19 pm, yn ddim ond 32 oed, bu farw Tassia Haines ar ôl taith anodd wyth mlynedd gyda chanser cychwynnol ac eilaidd y fron.

Mae pawb yma naill ai wedi cwrdd â Tassia, neu o leiaf wedi cael e-byst lobïo niferus ganddi. Cyfarfûm â Tassia gyntaf yn 2021, pan ddaeth i fy swyddfa i ofyn imi godi mater gyda Llywodraeth Cymru ynghylch diffyg darpariaeth ar gyfer cleifion canser eilaidd y fron yng Nghymru. Yr hyn a ddilynodd oedd ffrwydrad o frwdfrydedd, penderfynoldeb a chadernid i beidio â derbyn atebion a oedd yn ddim mwy na geiriau, ond yn hytrach, camau gweithredu a fyddai’n darparu gwell gwasanaethau i'r cleifion a fyddai, fel hithau, yn cael diagnosis o ganser eilaidd y fron. Roedd hyn yn cynnwys deiseb i Bwyllgor Deisebau'r Senedd, o'r enw 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl', a gasglodd dros 14,000 o lofnodion ac a drafodwyd yma yn y Siambr.

Am daith y bu ymgyrchu Tassia arni, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud o ganlyniad i’w phenderfynoldeb i gryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer cleifion canser eilaidd y fron yng Nghymru. Cymeradwywyd llwybr canser metastatig y fron newydd gan rwydwaith canser Cymru, llwybr a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws ymddiriedolaethau GIG Cymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y ceir nyrsys canser eilaidd y fron arbenigol ym mhob un o'r byrddau iechyd ledled Cymru. Y llynedd, roeddwn yn falch o groesawu Tassia a METUPUK yn y Pierhead wrth iddynt ryddhau canllawiau newydd ar symptomau 'baner goch' ar draws yr ymddiriedolaethau a darpariaeth gofal sylfaenol.

Ond nid ymgyrchydd yn unig oedd Tassia, roedd yn eiriolwr cryf dros gleifion canser metastatig y fron yng Nghymru, ac ysbrydolodd ddegau o filoedd o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol ledled y byd, wrth iddi ddogfennu ei thaith gyda chanser y fron. Ond rydym yn anghofio'r ochr arall iddi, gan ei bod hefyd yn artist dawnus iawn, ac roedd yn aml yn sianelu ei chelf drwy ei hymgyrchu. Nawr, mae'n gadael ei gŵr Nick a’i mam Gina, ac ar ran Aelodau ar draws y Siambr, rwy'n cydymdeimlo â nhw ar yr adeg drist ac anodd hon.

I gloi, Lywydd, byddai Tassia am i mi ddweud yma nad yw ei marwolaeth, er mor drasig, yn anomaledd, a bod oddeutu 12,000 o fenywod yn y DU yn marw o ganser eilaidd y fron bob blwyddyn. Mae'n parhau i fod yn un o'r prif achosion marwolaeth ymhlith menywod. Er efallai nad Tassia sy’n arwain yr ymgyrch honno mwyach, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom yma i sicrhau mai ei gwaddol fydd gwell gofal arbenigol i gleifion sy’n dal i fyw gyda’r clefyd ofnadwy hwn yng Nghymru.

Tassia, diolch i chi am bopeth.

16:00

Diolch am y deyrnged gref iawn honno i Tassia, ac rydym ni fel Senedd yn cydymdeimlo â'i theulu yn y cyfnod anodd hwn. Ond diolch, Tassia.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Adfywio Canol Trefi'

Eitem 6, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 'Adfywio Canol Trefi'. Y Cadeirydd i wneud y cynnig, Mark Isherwood.

Cynnig NDM8516 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad, 'Adfywio Canol Trefi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.