Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/03/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen hysbysu Aelodau y bydd y bleidlais nesaf ar gyfer Biliau Aelodau yn cael ei chynnal ar 24 Ebrill, a bydd gwybodaeth am y broses yma'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau cyn hir, felly—

—rhowch eich meddyliau ar waith.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.

Pwysau ar Fusnesau

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu? OQ60829

Diolch am eich cwestiwn. Ar adeg o gryn ansicrwydd, gydag economi’r DU yn wynebu cyfnod hir o ddiffyg twf, a dirwasgiad bellach, rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â sefydliadau busnes i fwrw ymlaen â’n cenhadaeth economaidd i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i fusnesau Cymru, i hybu twf, i leihau anghydraddoldeb ac i ddarparu cymorth i gadw mwy o werth o fewn economi Cymru.

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae ymchwil o’r Baromedr Busnes gan Lloyds Bank Commercial Banking yn dangos bod hyder ym musnesau Cymru wedi gostwng 7 y cant ym mis Chwefror—dros deirgwaith yn fwy na chyfartaledd y DU. Mae hyn yn peri cryn bryder, fel y byddech yn cytuno, rwy’n siŵr, Weinidog. Ni ddylai busnesau Cymru fod o dan anfantais am eu bod yn gweithredu yng Nghymru, ond fe wyddom, yng Nghymru, eu bod o dan anfantais am eu bod yn talu’r cyfraddau uchaf o ardrethi busnes, er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y dylai ein heconomi fod yn flaenoriaeth ac y dylai’r Prif Weinidog nesaf a’i Lywodraeth gyflwyno mwy o gymorth i fusnesau yng Nghymru er mwyn sicrhau nad ydynt o dan anfantais o gymharu â busnesau dros y ffin?

Mae'r amgylchedd busnes yn cynnwys ystod eang o wahanol ffactorau. Pan ddeuthum yn Weinidog yr Economi, roedd pob sefydliad busnes yn glir eu bod am weithio gyda’r Llywodraeth yma yng Nghymru a'u bod yn teimlo bod ganddynt berthynas dda, yn enwedig wedi inni fod drwy’r pandemig gyda’n gilydd—roeddent yn cydnabod y lefelau ychwanegol o gymorth a gawsant.

Ond maent hefyd yn glir iawn ynghylch yr ysgogiadau y deallent sydd gennym ni a'r rheini sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. A’r hyn yr oeddent am ei weld oedd Llywodraeth â sefydlogrwydd yma yng Nghymru ac a allai fod yn bartner rhagweladwy. Ond maent yn deall, os mynnwch, y rheolau ynglŷn â beth a all ddigwydd yma a'r cymorth sydd ar gael, ac maent yn cydnabod yn rheolaidd y cymorth ychwanegol sydd ar gael i fusnesau yma, fel y banc datblygu, er enghraifft—nid oes unrhyw beth cyfatebol yn rhanbarthau Lloegr, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn galw amdano’n rheolaidd—ac fel y ffaith bod gennym uchelgeisiau clir ynghylch dyfodol ein heconomi o ran y gred fod y newid i sero net yn gyfle ar gyfer pontio teg ac i economi'r dyfodol.

Felly, mewn gwirionedd, mae'r amgylchedd busnes yma yng Nghymru yn un lle mae gennym Lywodraeth sy'n awyddus i weithio gyda busnesau, sy'n awyddus i dyfu swyddi—swyddi da yn yr economi. Ac maent yn deall ein huchelgeisiau ynghylch gwaith teg hefyd, ac mae'r ffaith eu bod yn cael eu trin fel partneriaid cywir gyda'r Llywodraeth, ynghyd â phartneriaid cymdeithasol eraill, fel undebau llafur, yn ased, nid yn anfantais. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol sy'n gallu darparu rhywfaint o'r sefydlogrwydd mawr ei angen ar lefel y DU i helpu i dyfu’r economi er mwyn darparu’r swyddi da y mae pob un ohonom am eu gweld ar gyfer ein hetholwyr.

Weinidog, realiti anhrefn y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw costau cynyddol gwneud busnes. Mae wedi gwthio’r DU i ddirwasgiad ac mae wedi achosi poen i lawer o fusnesau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn canolbwyntio ar wneud popeth yn ei gallu i ddiogelu busnesau Cymru a swyddi Cymru. [Torri ar draws.] Lywydd, rydym yn clywed anhrefn ar feinciau’r Ceidwadwyr yn y Siambr hon, yn ogystal â’r anhrefn yn Llundain.

Mae busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy wedi elwa’n uniongyrchol o’n cynnig unigryw yn Busnes Cymru, Weinidog, ac rwy’n falch fod gogledd Cymru yn gartref i fanc rhanbarthol cyntaf y DU ym Manc Datblygu Cymru. [Torri ar draws.] Lywydd, gallaf glywed gweiddi, ond gadewch imi ddweud hyn wrthynt: mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi mwy na 32,000 o swyddi, dros 3,000 o fusnesau, wedi darparu £1.2 biliwn mewn effaith economaidd i economi Cymru, ac wedi cyflwyno'r gronfa benthyciadau busnes gwyrdd newydd i helpu cwmnïau i leihau eu costau ynni. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod y gwasanaethau hyn yn gwbl hanfodol i helpu busnesau Cymru i ymdopi â helbul economaidd y DU?

Rwy’n falch iawn fod Jack Sargeant wedi crybwyll Busnes Cymru, sydd, unwaith eto, yn unigryw i Gymru fel gwasanaeth sy’n helpu i gefnogi’r economi, sy’n helpu i gefnogi busnesau a’r twf mewn swyddi. Mae nifer y busnesau sy'n goroesi a busnesau sy'n tyfu gyda chymorth gan Busnes Cymru yn llawer mwy na'r nifer nad ydynt yn gwneud hynny. Ac yn wir, mae Banc Datblygu Cymru—y banc datblygu cyntaf yn y DU—wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ac rwy’n gweld eich cyd-Aelod yng ngogledd Cymru ar y sgrin, Ken Skates. Fe helpodd i greu a gwireddu’r banc datblygu hwnnw, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, nid yn unig o ran y ffigurau y mae’r Aelod wedi tynnu sylw atynt, ond mae’n gyllid ychwanegol nad yw’n bodoli yn unman arall. Credaf ei fod yn fodel y gall rhannau eraill o'r DU ddysgu ohono a'i gydnabod. Hebddo, byddem yn fwy agored i’r hyn sydd wedi digwydd gyda’r Torïaid ac yn y 14 mlynedd diwethaf ar draws yr economi, ac ni fyddai’r swyddi y mae wedi helpu i’w cefnogi yn bodoli. Ac wrth gwrs, mae llawer o’r swyddi hynny yn etholaeth yr Aelod yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Edrychaf ymlaen at ddyfodol llwyddiannus i Fanc Datblygu Cymru, i fwy o arloesi yma yng Nghymru, a ffordd wahanol o gefnogi busnesau ar gyfer dyfodol economaidd iach. Credaf fod hynny'n gyflawniad y gall y Llywodraeth Lafur Cymru hon fod yn falch iawn ohono.

13:35
Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer Meysydd Carafannau

Nid oes angen inni wybod a ydych wedi gofyn y cwestiwn o'r blaen; bydd y cofnod yn dangos hynny. A wnewch chi ddarllen y cwestiwn ar y papur trefn, os gwelwch yn dda?

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch newid hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer meysydd carafannau? OQ60835

Mae fy swyddogion yn Croeso Cymru yn gweithio’n agos gyda swyddogion yn is-adran gynllunio’r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y mater hwn ac yn fy hysbysu am gynnydd. Mae ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig yn debygol o gael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

O, mae hynny'n cyferbynnu'n llwyr, Weinidog, gan ichi ddweud wrthyf ym mis Tachwedd fod y broses ymgynghori honno bellach wedi cau. Rydych yn ymwybodol o alwadau gennyf fi, a llawer o fewn y sector twristiaeth, fod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu nifer y diwrnodau dros dro y gall safleoedd eu gweithredu o 28 i 60. Byddai hyn yn dod â ni ochr yn ochr â Lloegr, ac yn helpu ein busnesau twristiaeth sy'n ei chael hi'n anodd. Felly, fe ddywedoch chi wrthyf ym mis Tachwedd ei fod wedi cau, ac fe ddywedoch chi bryd hynny y byddech yn ystyried y dadleuon yn ofalus yng ngoleuni ein polisïau cynllunio a thwristiaeth. Ac fe wnaethoch gydnabod yr ymatebion a oedd yn galw am hyn hefyd. Nawr, fe holais y Prif Weinidog eto ynglŷn â hyn ym mis Ionawr, a dywedodd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer safleoedd dros dro dros y 12 mis nesaf. Ond yn amlwg, mae'n rhaid cael cydbwysedd. Nid oes eisiau'r safleoedd dros dro hyn ar bawb, ond yn amlwg, mae mwy yn gofyn amdanynt. Dros chwarter blwyddyn wedi i’r ymgynghoriad ddod i ben, nid yw’n iawn nad ydych wedi gwneud penderfyniad o hyd. Rydym yn ddechrau ar dymor y gwanwyn, ar ôl gaeaf caled i'r busnesau hyn, sy'n dal i adfer ar ôl COVID.  Ddirprwy Weinidog, pryd fyddwch chi o ddifrif ynghylch y mater hwn? Mae'n golygu llawer i gynifer o fusnesau. A dewch â ni nôl—. Nid yw 28 diwrnod yn ddigon; mae 60 yn ei wneud yn fwy ymarferol. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn atodol, Janet. Roedd yr hyn yr oeddwn yn ymateb iddo pan ofynnoch chi'r cwestiwn hwn ym mis Tachwedd, ac yna, wrth gwrs, yr ymateb gwahanol a gawsoch gan y Prif Weinidog, a chan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a ymatebodd i ddadl y Pwyllgor Deisebau, yn ddau beth gwahanol. Felly, yr hyn yr atebais eich cwestiwn arno fis Tachwedd diwethaf oedd yr ymgynghoriad yn dilyn cyfnod COVID, a’r penderfyniad i beidio ag ymestyn yr hawliau yn dilyn COVID, rhywbeth a wnaethant yn Lloegr. Yr hyn a ddywedais wrthych bryd hynny oedd bod yr ymgynghoriad penodol hwnnw wedi dod i ben. Yr hyn y mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei wneud, fodd bynnag, yw edrych ar nifer o flaenoriaethau strategol sydd ganddi yn y flwyddyn i ddod, ac mae ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ymestyn y terfyn 28 diwrnod yn debygol o gael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ynghyd â blaenoriaethau eraill, sef gwefru cerbydau trydan, pympiau gwres ffynhonnell aer a pheiriannau gwerthu. Felly, mae’r sefyllfa bellach yn wahanol i'r adeg y gofynnoch chi'r cwestiwn i mi yn ôl ym mis Tachwedd. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw hwn, nid i mi. Nid deddfwriaeth twristiaeth yw hon; mae'n ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chynllunio rheoliadau, sy’n gyfrifoldeb, yn gywir ddigon, i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac nid i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’n debyg mai dyma’r tro olaf y byddwch yn annerch y Siambr yn eich rôl fel Gweinidog yr economi, ac felly, wrth gwrs, nid yw ond yn briodol inni fyfyrio ar eich cyfnod yn y swydd. Nawr, mae eich adran yn gyfrifol am greu amodau ar gyfer twf busnes yma yng Nghymru a helpu i greu cyfleoedd cyflogaeth. Felly, a allwch chi ddweud wrthym faint o swyddi sydd wedi'u creu ers ichi ddechrau yn y swydd?

Na allaf. Nid wyf yn cadw'r ffigurau hynny yn fy mhen. Yr hyn rwy'n ei wybod, fodd bynnag, yw bod gennym amgylchedd heriol iawn i fusnesau yma yng Nghymru. Fel y nodais mewn ymateb i’ch cyd-Aelod, Peter Fox, rydym mewn cyfnod o ddiffyg cynnydd parhaus o ran economi’r DU, yna cyfnod o ddirwasgiad, ac nid ydym yn imiwn rhag effeithiau'r dirwasgiad hwnnw. Daw ar ddiwedd 14 blynedd hir o bolisïau cyni gan Lywodraeth y DU. Mae'n dilyn yr heriau i'n hamgylchedd masnachu yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r fargen a gytunwyd wedyn. Ac mae'r DU yn sefyll allan o gymharu ag economïau ein cystadleuwyr am nad ydym wedi adfer cystal wedi'r ergydion byd-eang sydd wedi digwydd. Fodd bynnag, rwy'n dal i fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol, ar sail y cyfleoedd sydd gennym yng Nghymru, ond hefyd ar sail y ffaith bod etholiad cyffredinol yn anochel yn y dyfodol agos, ac rwy'n obeithiol ynghylch cael Llywodraeth y DU sefydlog sy'n gallu cadw ei haddewidion a helpu i dyfu economi’r DU mewn ffordd sydd ei hangen yn daer.

13:40

Wel, yn amlwg, Weinidog, nid ydych yn gwybod faint o swyddi sydd wedi’u creu, nad yw'n syndod, gan nad ydych wedi trafferthu gosod unrhyw dargedau ar gyfer creu swyddi yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog. Gwleidyddiaeth ddiog yw hyn, Weinidog, ac yn anffodus, mae’n ffaith bod gan Gymru un o’r cyfraddau cyflogaeth isaf o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU, nad yw’n rhywbeth i fod yn falch ohono. Nawr, ymddengys bod ansicrwydd swyddi yn broblem wirioneddol mewn sawl sector ar hyn o bryd, ac rydym wedi eich gweld yn siarad yn uchel iawn o blaid diogelu swyddi yn sector dur Cymru, er enghraifft. Mewn cyferbyniad, nid ydym wedi gweld unrhyw beth o gwbl gennych mewn perthynas â swyddi yn y sector ffermio, sector a fydd yn dioddef yn enbyd os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i chynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae asesiad effaith economaidd Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos y gallai fod toriad o 11 y cant mewn llafur ar ffermydd Cymru, sy’n cyfateb i golli 5,500 o swyddi yn seiliedig ar lefelau cyflogaeth presennol. Mae’r un gwaith modelu hwnnw’n dangos ergyd o £125 miliwn i allbwn o’r sector a cholled o £199 miliwn i incwm busnesau fferm. Felly, Weinidog, rydym wedi eich clywed yn ymladd, yn gwbl briodol, i gefnogi gweithwyr yn y sector dur, ond rydym eto i'ch gweld yn ymladd i ddiogelu swyddi yn y sector amaethyddol. Pam felly?

Wel, credaf fod dau bwynt cyffredinol i’w gwneud wrth ymateb. Y cyntaf, wrth gwrs, fel y gŵyr yr Aelod, yw mai Lesley Griffiths yw'r Gweinidog arweiniol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, a hi sydd â chyfrifoldeb arweiniol am yr economi mewn perthynas ag amaethyddiaeth, bwyd a diod. Ac mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae bwyd a diod wedi bod yn enghraifft o lwyddiant yn economi Cymru yn y degawd diwethaf, ac mae'n bwynt sy'n cael ei godi'n rheolaidd yn y Siambr hon, ond nad yw byth, efallai, yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu gan bob ochr. O ran yr ymgynghoriad ar ddyfodol y cynllun ffermio cynaliadwy, nid yr asesiad economaidd yw’r un sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a bydd yr ymgynghoriad sydd newydd ddod i ben yn edrych ar yr holl ymatebion a ddaeth i law, ac mae'n bwysig fod pobl yn deall nad oes penderfyniad wedi'i wneud. Dyna pam ei bod yn bwysig clywed yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud ynglŷn â sut y gellir gwella’r cynllun, oherwydd, fel rydych wedi'i glywed nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond gan Lesley Griffiths ei hun hefyd, y prif amcan yw sut rydym yn helpu ffermwyr i ddal ati i gynhyrchu bwyd a diod mewn modd cynaliadwy i sicrhau y gallant wneud bywoliaeth a’n bod yn cael y bwyd a diod yr ydym ei eisiau, ac yn wir, y bwyd a diod sy’n cael eu hallforio, sydd, fel y dywedaf, wedi bod yn enghraifft o lwyddiant, a bod hynny'n digwydd—a dyma'r ail ran—mewn ffordd lle mae'r sector amaethyddol yn gwneud ei gyfraniad i'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu, fel sy'n rhaid i bob sector o'r economi ei wneud, a phob gwasanaeth cyhoeddus hefyd. Mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn gwneud newidiadau yn y ffordd y mae cynaliadwyedd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd, gan mai ein GIG yw un o’r sectorau sydd â'r allyriadau mwyaf, os meddyliwch am oedran rhywfaint o’n stoc a'n hadeiladau. Mae hon yn her i’r gymdeithas gyfan, ac mae'n fater o gael proses gynaliadwy gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni i sicrhau y gall ffermwyr barhau i ennill bywoliaeth, a chynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel, a chydbwyso anghenion natur a hinsawdd gyda hynny.

Lywydd, rydym yn cael cipolwg go iawn yma ar sut y bydd y Llywodraeth nesaf yn gweithredu os caiff ei ethol yn Brif Weinidog yr wythnos nesaf. Y gwir amdani yw nad yw’r Llywodraeth hon yn deall nac yn malio am gymunedau gwledig, ac mae eich diffyg diddordeb neu gymorth i sector ffermio Cymru yn siarad cyfrolau. Ac nid mewn cymunedau gwledig yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn methu o ran yr economi, nage? Gadewch inni fyfyrio ar rai o'ch cyflawniadau: mae lefelau anweithgarwch economaidd yn uwch na chyfartaledd y DU; mae'r gyfradd gyflogaeth yn is na chyfartaledd y DU; mae nifer y busnesau sy'n mynd i'r wal yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na nifer y busnesau newydd; mae hyder busnes wedi gostwng i 25 y cant; un o bob naw gweithiwr yng Nghymru sydd mewn swydd ddiogel; a gweithwyr Cymru sy'n cael y pecynnau cyflog lleiaf yn y DU. Dyma eich gwaddol, Weinidog: hanes o fethiant. Go brin ei bod yn economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach, yw hi, Weinidog?

Ac onid yw'n wir fod y Llywodraeth hon wedi chwythu ei phlwc ac wedi rhedeg allan o syniadau, a dyna pam ei bod wedi treulio mwy o amser yn creu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn hytrach na chreu amodau ar gyfer twf economaidd? Ac felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei gynnig i unrhyw un sy'n byw y tu allan i swigen Bae Caerdydd eich bod chi o ddifrif yn deall yr heriau economaidd y mae Cymru'n eu hwynebu, o ystyried eich cyflawniad a'ch diffyg gweithredu fel Gweinidog yr Economi?

Wel, rwy’n deall y wleidyddiaeth yn y Siambr ac rwy’n deall pam fod yr Aelod yn gwneud y pwyntiau y mae’n eu gwneud. O ran y Gymru wledig, os gofynnwch i ffermwyr neu gymunedau gwledig a ydynt yn ystyried y cynllun yn Lloegr yn rhywbeth yr hoffent ei weld, maent yn glir ac yn gadarn yn gwrthod ystyried cael yr un cynllun â'r hyn sydd gan ei gymheiriaid yn Lloegr. Rydym yn gweithio gyda chymunedau amaethyddol yma ac yn gwrando arnynt, a gallaf ddweud hyn fel rhywun a dreuliodd oriau lawer ar ffermydd pan oeddwn yn blentyn, yn fab i filfeddyg ac yn fab i ffermwr hefyd.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chymunedau ledled Cymru ym mha bynnag rôl y byddaf ynddi yn y dyfodol. Ac o ran yr heriau sy'n ein hwynebu yn yr economi yma yng Nghymru, nid ydym yn imiwn rhag yr hyn sy'n digwydd dros y ffin, y dewisiadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Nid ydym yn imiwn rhag yr ymgais ymosodol i danseilio ein pwerau a’n cyfrifoldebau yma yng Nghymru, ymgais a gefnogir yn aml gan Lywodraeth y DU. Mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn cael eu canmol gan y Torïaid yn y Siambr hon. Tanseilio a tharfu ar weithgarwch ar rifedd a llythrennedd oedolion, ar gaffael sgiliau, mynd ag arian oddi ar Gymru heb fawr ddim gwrthwynebiad gan y Torïaid Cymreig wrth i Gymru golli dros £1 biliwn o arian blaenorol yr UE. Fe allai ac fe ddylai’r arian hwnnw fod wedi'i ddefnyddio i gefnogi’r economi yma yng Nghymru mewn ffordd a fyddai’n llwyddiannus ar gyfer y dyfodol. Os nad yw’r Aelod yn fy nghredu, dylai gael gair â Chadeirydd pwyllgor yr economi, sydd wedi cynnal adolygiad nawr ac yn y gorffennol ar y ffordd y gwnaethom ddefnyddio'r cyllid Ewropeaidd blaenorol i helpu i gefnogi’r economi yma yng Nghymru.

Rwy'n cytuno bod gennym Lywodraeth sydd wedi chwythu ei phlwc ac sydd wedi rhedeg allan o syniadau, ac o weddusrwydd yn wir. Po gyntaf y cawn etholiad cyffredinol i gael gwared arnynt, y gorau oll i Gymru, y gorau oll i’n rhagolygon economaidd. Edrychaf ymlaen at guro ar ddrysau yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn darparu nifer iach o gynrychiolwyr Llafur i wneud yn siŵr fod hynny’n digwydd.

13:45

Diolch, Lywydd. Bydd yn syndod i'r Gweinidog, heb os, y byddaf yn parhau â'r thema mai hon, o bosibl, fydd ei sesiwn gwestiynau olaf ar yr economi. Tybed a allech chi roi polisi economi sy'n nodweddiadol o Vaughan Gething i mi. Beth yw 'brand Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi'?

Nid wyf yma i gael brand personol, rwyf yma i weithio ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Mae bob amser wedi bod yn glir iawn mai fy niddordeb i yw sut i sicrhau mwy o swyddi a swyddi gwell a'r amodau i hynny ddigwydd. Rydym wedi bod yn ymladd yn erbyn Llywodraeth y DU a ddylai fod wedi bod eisiau helpu i wneud i'r economi weithio. Y sefydlogrwydd nad ydym wedi'i gael, y dewisiadau buddsoddi nad ydym wedi'u cael. Ystyriwch, er enghraifft, un o agweddau ychydig yn fwy cadarnhaol y gyllideb: prynu safle Horizon. A dweud y gwir, gan y bu cymaint o anhrefn yn Llywodraeth y DU, nid ydym wedi cael sefydlogrwydd i wneud dewisiadau. Y nifer o wahanol Weinidogion ynni a diogelwch, y nifer o wahanol Weinidogion gwyddoniaeth rwyf wedi cyfarfod â nhw. Gallai’r dewis hwnnw fod wedi’i wneud yn gynharach. Gallem fod wedi dechrau cenhedlaeth o adweithyddion modiwlar bach yn barod gyda dewis clir yn Nhrawsfynydd, a gallem fod wedi cael sicrwydd ynglŷn â beth fydd y dyfodol i Wylfa. Mae’n gyfle enfawr i economi gogledd Cymru. Mae hynny'n ymwneud â sefydlogrwydd, â chael cynllun. Rydym wedi gorfod gweithio gyda Llywodraeth y DU na all ddarparu ac sy'n gwrthod darparu. Ac fel y dywedais wrth Paul Davies, bu ganddi lawer mwy o ddiddordeb mewn ceisio ymosod ar ein pwerau a’u tanseilio. Felly, rydym wedi cael ein dal yn ôl gan Lywodraeth y DU sy'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Fy marn i yw bod gennym weledigaeth ar gyfer y dyfodol lle gellir creu mwy o swyddi a swyddi gwell, a lle gallwn gyflawni ein rhwymedigaethau i'r argyfwng hinsawdd sydd o'n cwmpas.

Wel, gwrandewais yn ofalus iawn yno ac ni chlywais unrhyw bolisïau newydd penodol a roddwyd mewn grym gennych ers ichi ddod yn Weinidog yr Economi. Os rhywbeth, roeddech yn swnio bron fel rheolwr. Felly, a ddylwn gymryd o hynny mai bod yn rheolwr yw brand Vaughan Gething? Mae'n rhaid imi gyfaddef, roedd yr ateb hwnnw'n nodweddiadol o Vaughan Gething—llawer o eiriau, dim byd newydd. Y gwir amdani yw mai ychydig iawn sydd wedi newid er pan oedd eich rhagflaenydd yn eich rôl.

Nawr, wrth gwrs, fe fyddwch yn cyfeirio at eich cenadaethau economaidd ar ryw bwynt, ond gadewch inni fod yn onest, ychydig iawn o fanylion sydd ynddynt, llawer o egwyddorion, dim llawer o dargedau a llwybrau, dim byd i fesur llwyddiant a dim byd newydd, ni waeth sut rydych yn ei gyflwyno, gan fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r cenadaethau hyn eisoes i fod. Felly, rwy’n ei chael hi'n anodd gweld pa welliannau a welsom i’r economi yn ystod eich cyfnod fel y Gweinidog. Nawr, bydd y Gweinidog yn gadael ei swydd tra bo economi Cymru yn parhau i fod ymhlith yr isaf o wledydd datganoledig y DU a rhanbarthau Lloegr. Cawsom restr gan Paul Davies, gadewch inni ychwanegu cynhyrchiant at y rhestr honno: yr isaf neu’r isaf ond un yn gyson o blith gwledydd a rhanbarthau’r DU. Felly, mae'n codi'r cwestiwn, ai blas yw hyn o beth sydd i'w ddisgwyl os ydych chi'n llwyddiannus ddydd Sadwrn—mwy o'r un peth?

A dweud y gwir, mae nifer o bethau cadarnhaol wedi digwydd. Rwy'n bod yn onest ynglŷn â'r darlun sy'n ein hwynebu gyda Llywodraeth y DU yn symud i'r cyfeiriad anghywir. Os edrychwch, er enghraifft, ar gynhyrchiant, yn ystod datganoli, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran cynhyrchiant. Yr her yw, er ein bod wedi dal i fyny â gweddill y DU, mae bwlch o hyd. Yr hyn a welwch nawr, ledled y DU, yw bod y gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd ar ôl y pandemig yn her wirioneddol ym mhob rhan o’r DU, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae’n cryfhau'r achos fod cael safbwynt pendant ar sut y caiff ein pwerau eu parchu a bod gennym yr adnoddau i’w defnyddio yn gwneud gwahaniaeth, gan fod defnyddio’r pwerau hynny i fuddsoddi yn sgiliau pobl yn rhan o’r hyn sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran gwella cynhyrchiant, gan weithio ochr yn ochr â busnesau i wneud hynny.

Ac os meddyliwch am ddwy agwedd wahanol ar hynny, rhan o'r rheswm ein bod yn gweld llwyddiant yn nhwf y clwstwr lled-ddargludyddion yw gweledigaeth glir y mae Llywodraeth Cymru wedi'i harwain i ddod â'r byd academaidd, busnes a llywodraeth leol a phartneriaid eraill ynghyd. Rydym yn edrych ar y sgiliau sydd eisoes yn y gweithlu, a cheir dealltwriaeth fod y Llywodraeth hon yn awyddus i fuddsoddi ymhellach yn sgiliau’r gweithlu sydd gennym eisoes heddiw, yn ogystal â’r rhai sydd eto i ddod i'r byd gwaith. Ac mae'r hyder hwnnw'n cael ei gydnabod gan bobl sy'n barod i fuddsoddi symiau sylweddol o arian yn barod, ac rwy'n hyderus y gwelwn fwy o hynny, nid yn unig gyda'r newyddion da fod Vishay yn prynu Newport Wafer Fab, nid yn unig KLA, ond credaf fod mwy i ddod o fewn y clwstwr. Mae hynny'n digwydd am fod Llywodraeth Cymru yn rhan o sut y caiff yr hyder hwnnw ei feithrin.

A phan ddaw'n fater o sicrhau bod gan bobl ddyfodol, rwy'n falch iawn fy mod wedi arwain y gwaith ar y warant i bobl ifanc. Pe na bai'n bodoli, mae arnaf ofn y gallech warantu y byddai miloedd o bobl ifanc na fyddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, mae’r rhain yn ymyriadau gwirioneddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Rwyf am inni allu gwneud mwy. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen inni gael set wahanol o adnoddau ar gael i ni, mae angen i'n pwerau gael eu parchu, gydag eglurder ynghylch yr hyn a wnawn heb Lywodraeth y DU, yr hyn a wnawn gyda phartneriaid y tu allan i’r lle hwn, gan gynnwys llywodraeth leol, busnesau ac undebau llafur, a lle mae angen inni fod yn bartneriaid er mwyn llwyddo.

13:50
Gwella'r Economi ym Mangor

3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau i wella'r economi yn ninas Bangor? OQ60807

Diolch am y cwestiwn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws portffolios ac mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol ac yn cefnogi ystod eang o weithgarwch cyfannol a thrawsnewidiol a buddsoddiadau i helpu i wella economi Bangor a’r ardal gyfagos.

Mae yna ddatblygiad cyffrous ar y gweill ar gyfer canol y ddinas fyddai'n dod â channoedd o bobl yna bob dydd, gan wella economi'r stryd fawr a'r ddinas yn gyffredinol. Mae'r cynllun yma, sef canolfan iechyd a llesiant, ar y gweill ers tro, efo Llywodraeth Cymru yn un o'r partneriaid. Ond mae o'n symud yn araf, yn araf, araf—mor araf â malwoden. Ac yn ôl yr hyn dwi'n ei weld, mae prosesau a'r model busnes mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd eu dilyn yn llawer rhy drwsgl a biwrocrataidd, a dyna sydd yn dal pethau nôl, nid yn unig ym Mangor, ond gyda phrosiectau iechyd eraill ar draws Cymru. Fel Gweinidog yr Economi, a wnewch chi edrych ar beth sydd angen digwydd o ran gweithredu mewn ffordd llawer mwy effeithiol pan fo'r bwrdd iechyd yn ymwneud efo prosiectau o'r math yma, er mwyn cyflymu'r broses o wella'r economi?

Credaf ei fod yn bwynt teg o ran bod yn awyddus i ddod â phartneriaid ynghyd i geisio gwneud yn siŵr eich bod yn sicrhau rhywfaint o'r budd economaidd a ddaw yn sgil hynny, ac mae gwasanaethau cyhoeddus yn bendant yn rhan o hynny hefyd. Gwn fod yna bartneriaeth strategol Bangor sy’n dod â’r cyngor, swyddogion adfywio Llywodraeth Cymru, y brifysgol, a'r bwrdd iechyd yn wir, at ei gilydd, ac mae’r cynlluniau a allai ddigwydd yng nghanolfan Menai gyda’r hyb llesiant yn rhan fawr o hynny, i gynhyrchu nifer yr ymwelwyr y byddech yn eu cael wedyn. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd, roeddwn bob amser yn deall bod cael cyfleusterau neu wasanaethau iechyd yn helpu i gynnal strydoedd mawr a chanol trefi a dinasoedd. Felly, roedd mantais i wneud mwy mewn fferylliaeth gymunedol, o ran mynediad at feddyginiaeth, yr hyn a olygai a'r ansawdd y byddech yn ei gael, ond hefyd, y byddai hynny'n beth da i'r stryd fawr o'i gwmpas. Byddai cael hyb iechyd a lles priodol yng nghanol Bangor ei hun yn fantais sylweddol ychwanegol.

Rwy’n derbyn o ddifrif y pwynt a wnaethoch ynglŷn â pha mor gyflym y mae’r broses yn mynd rhagddi, a hoffwn ddeall nid yn unig ble rydym arni ar hyn o bryd, ond beth y gallwn ei wneud yn well yn y dyfodol—y dyfodol agos ym Mangor, ond hefyd y dysgu i geisio sicrhau nad oes gennym yr un oedi posibl ar gyfer rhagolygon adfywio yn y dyfodol lle mae’r gwasanaeth iechyd yn un o’r partneriaid allweddol, fel y dylai fod. Felly, rwy’n fwy na pharod i dderbyn y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud, i gael trafodaeth gyda’r Gweinidog iechyd, ac yn wir, swyddogion adfywio, i ddeall pam nad yw’r penderfyniadau hynny wedi’u gwneud mor gyflym ag y byddai pob un ohonom o wahanol bleidiau yn y Siambr hon am iddynt gael eu gwneud, ac yna gweld beth y gallwn ei ddysgu ac yna rhoi hynny ar waith, ar gyfer Bangor, ond hefyd ar gyfer prosiectau eraill y bydd angen i’r gwasanaeth iechyd fod yn bartner allweddol ynddynt, rwy'n siŵr .

13:55

Rwy’n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi’r pwynt pwysig hwn, ac am eich ymateb, Weinidog, i sicrhau y gwneir cynnydd ar hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Fe ddywedoch mewn ymateb i un o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr yn gynharach fod economïau'n gweithio orau pan fo’r Llywodraeth a busnesau'n cydweithio. Rydym wedi gweld enghraifft wych, nid nepell o Fangor, gyda buddsoddiad Llywodraeth y DU yn Wylfa, gyda £168 miliwn i sicrhau diogelwch y safle hwnnw ar gyfer y dyfodol, a ddylai gael effaith ganlyniadol, yn sicr ar gyfer cymunedau fel Bangor, a gweddill gogledd Cymru o ganlyniad, wrth i’r cyfle hwnnw gael ei wireddu.

Felly, Weinidog, hoffwn wybod, gyda’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn Wylfa ar Ynys Môn, sut y credwch y gall lleoedd fel Bangor wireddu’r cyfle y bydd yn ei gynrychioli, a sut y bydd gogledd Cymru hefyd yn gwireddu’r cyfle, a’r hyn a wnewch yn benodol i gefnogi hynny.

Wel, mae gogledd-orllewin Cymru yn rhan o Gymru sydd â hanes a thraddodiad mewn perthynas â'r sector niwclear. Hoffwn weld cenhedlaeth newydd o weithgarwch, gyda chyfleoedd yn ymwneud ag adweithyddion modiwlar bach a’r potensial ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol yn Nhrawsfynydd hefyd, yn ogystal â gweld nid yn unig cynnig bras ar gyfer Wylfa, ond cynllun y gellir ei gyflawni hefyd.

Fel y dywedais yn gynharach, credaf fod yr eglurder ynghylch y safle a’r pryniant a gyhoeddwyd yn y gyllideb yn newyddion da, ac rwy'n croesawu hynny. Yr hyn yr hoffwn ei weld nawr yw rhywfaint o eglurder ynghylch y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Oherwydd os caiff ei adael i fod yn gyfleuster cynhyrchu gigawat mawr, mae'r cyllid o gwmpas hynny yn fwy heriol. Ac unwaith eto, mae'n ymwneud â'r pwynt ynglŷn â methu cael y sicrwydd o fod Gweinidogion yn eu swyddi am gyfnod estynedig, yn ogystal â bod angen i'r Trysorlys ddeall yr hyn y mae'n barod i'w wneud mewn perthynas â'r model ariannu ar gyfer hynny. Un dyfodol posibl yw y gallai fod yn gyfuniad o wahanol adweithyddion modiwlar bach. I mi, mae hynny’n dod yn ôl i Drawsfynydd eto, a chael lle i brofi datblygiad adweithydd modiwlar bach. Credaf y byddai hynny'n beth synhwyrol i'w wneud, cael un adweithydd modiwlar bach ar sawl safle adweithyddion modiwlar bach, yna gallwch ddeall pa mor gyflym y gallech gyflwyno hynny o bosibl. Golyga hynny ei fod yn opsiwn go iawn wedyn, yn hytrach nag un damcaniaethol.

Serch hynny, rwy'n credu y bydd angen cenhedlaeth arall o ynni niwclear sifil i gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd, a hoffwn weld y cyfle economaidd mwyaf posibl yn cael ei wireddu ar gyfer trigolion, nid yn unig ar yr ynys, ond ar draws gogledd Cymru, gyda chadwyn gyflenwi sylweddol. Ac wrth gwrs, soniais wrth ymateb i Siân Gwenllian fod gan y brifysgol—un o’r partneriaid allweddol ym mhartneriaeth strategol Bangor—ddigonedd i’w gynnig o ran ymchwil, fel sydd gan Barc Menai yn wir. Felly, credaf fod gan ogledd-orllewin Cymru lawer i’w gynnig, a llawer o gyflogaeth o ansawdd da i bobl, rwy'n gobeithio, pwy bynnag y byddant yn dewis pleidleisio drostynt mewn etholiad.

Busnesau Canol Tref yn y Gogledd

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf busnesau canol tref yng Ngogledd Cymru? OQ60838

Rydym yn darparu £125 miliwn o gyllid dros dair blynedd i awdurdodau lleol Cymru drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Y llynedd, cyhoeddwyd ein datganiad sefyllfa ar ganol trefi, sy’n nodi’r heriau sy’n wynebu trefi Cymru, a chyfres o gamau gweithredu cydgysylltiedig, traws-bolisi i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hynny.

Roeddwn wrth fy modd gyda chyhoeddiad y Canghellor fod y Rhyl ar fin cael £20 miliwn dros 10 mlynedd fel rhan o’r agenda ffyniant bro. Mae hyn yn dilyn £20 miliwn a roddwyd i Gyngor Sir Ddinbych o gronfa ffyniant bro'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu ar gyfer adfywio canol tref y Rhyl, yn dilyn y toriadau i ardrethi busnes yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, sydd wedi gadael llawer o fusnesau’n bryderus oherwydd costau cynyddol a nifer is o ymwelwyr, yn anffodus. Mae arferion siopa hefyd wedi newid yn ddramatig gyda chynnydd enfawr mewn prynu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, ac mae pobl yn dal yn araf i ddychwelyd i'r stryd fawr, ac mae nifer heb ddychwelyd o gwbl. Nid yw'n ymddangos bod polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod y newid aruthrol hwn mewn arferion siopa ers y pandemig, ac nid yw'n ymddangos bod llawer o weithredu ar y gweill i ddenu pobl yn ôl i’r stryd fawr.

Mae cynllun gweithredu manwerthu Llywodraeth Cymru yn edrych yn debycach i draethawd ar hawliau gweithwyr i bobl sy’n gweithio i gwmnïau stryd fawr cenedlaethol yn hytrach na chynllun gweithredu sy'n cefnogi busnesau bach a’u staff. Efallai fod nifer y busnesau newydd yng Nghymru yn addawol, ond nid yw'r cymorth yno yn nes ymlaen. Mae un o bob chwe siop stryd fawr yn wag, ac mae angen inni gefnogi’r busnesau hyn i'r graddau mwyaf posibl, fel y gallant oroesi, ond fel y gallant hefyd dyfu a chreu swyddi. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog: yng ngoleuni’r ymrwymiadau ariannu a wnaed yng nghyllideb y gwanwyn ddydd Mercher diwethaf, pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi goroesiad a thwf busnesau yng nghanol trefi fel y Rhyl, ac ar draws gogledd Cymru, ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU? Diolch.

Wel, yn wahanol i’r Aelod, credaf ei fod yn beth da fod gan y Llywodraeth safbwynt cadarnhaol ar hawliau gweithwyr yn ogystal â thyfu’r economi. Rwy'n falch iawn mai dyna yw ein safbwynt. Ni ddylai gwaith teg fod yn rhywbeth sy’n peryglu dyfodol ein heconomi. Edrychaf y tu ôl i mi eto at yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, lle mae gennym un o’r busnesau mwyaf cynhyrchiol yn y DU, a gem yn ein coron weithgynhyrchu, Airbus ym Mrychdyn. Mae ganddi gydnabyddiaeth undebau llafur—canran uchel iawn o bobl—yn un o'r safleoedd mwyaf cynhyrchiol ar draws ein heconomi. Nid oes unrhyw reswm na all hynny ddigwydd mewn sectorau eraill hefyd.

Ar y Rhyl, rwy'n croesawu'r ffaith bod arian ar gael i fuddsoddi yn y Rhyl. Gresynaf at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi colli mwy o arian o ran y ffordd y mae ein cyllideb wedi’i thorri, ac yn wir, y methiant i ddarparu arian yn lle'r arian Ewropeaidd blaenorol, er gwaethaf addewidion maniffesto dro ar ôl tro i wneud hynny. Hoffwn gydnabod hefyd nid yn unig y ffaith bod rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU ar gael, ond y ffaith bod gennym bartneriaid yn yr arweinyddiaeth yng nghyngor sir Ddinbych sydd o ddifrif ynglŷn â sicrhau dyfodol canol trefi, a'r Rhyl hefyd yn arbennig. Mae’r weinyddiaeth y mae Jason McLellan yn ei harwain yn cyflawni nifer o brosiectau i helpu i adfywio’r Rhyl ei hun, ynghyd â chymorth gan Trawsnewid Trefi, gan gynnwys byw cyfoes a manwerthu annibynnol, gydag adnewyddu tri eiddo ar y Stryd Fawr yn lleoliadau busnesau bach. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y prosiect porth ar y Stryd Fawr, yr hen swyddfa bost ar Ffordd Wellington ac o amgylch Stryd Edward Henry.

Mae’r rhain yn bethau sydd ond yn bosibl am fod y Llywodraeth hon yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor mewn ffordd hirdymor, yn hytrach na chael cyhoeddiadau wedi'u gwneud mewn cyllidebau unigol. Hoffwn weld partneriaeth strategol i’n helpu i ailddatblygu ac adfywio canol trefi ledled y wlad. Gallem wneud llawer mwy o hynny pe bai gan Lywodraeth y DU fwy o ddiddordeb yn ein gweld fel partneriaid i gyflenwi, yn hytrach na dod o hyd i ffordd o wneud cyhoeddiadau gwleidyddol cyfleus. Edrychaf ymlaen at weld barn y bobl ar y cyhoeddiadau gwleidyddol pryd bynnag y daw’r etholiad cyffredinol.

14:00

Weinidog, mae'n rhaid bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd y stryd fawr ac iechyd ariannol aelwydydd ar draws y Deyrnas Unedig. Felly, a fyddech chi'n cytuno bod strydoedd mawr ar draws y DU yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad uniongyrchol i 14 mlynedd o gamreoli'r economi gan Lywodraeth Dorïaidd y DU?

Ni ellir gwadu bod dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn ystod y 14 mlynedd diwethaf wedi cael effaith wirioneddol ar incwm gweithwyr a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r stryd fawr. Rydym yn dal i ymdopi â realiti toriadau treth Liz Truss, oddeutu £40 biliwn o doriadau treth heb eu hariannu, a realiti'r hyn y mae hynny wedi'i wneud, nid yn unig mewn perthynas â statws y DU yn y byd, ond mewn perthynas ag incwm gwirioneddol i bobl, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu ar gyfer cyfraddau llog ac i fusnesau—a chyfraddau llog ar gyfer buddsoddi hefyd. Mae'r holl bethau hyn yn bwysig.

Heb os, mae'n ffaith bod trethi ar bobl sy'n gweithio ar eu lefel uchaf ers yr ail ryfel byd. Mae'n ffaith bod cynnyrch domestig gros y pen yn gostwng ar draws y DU. Dywed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol na fydd cynnyrch domestig gros ond yn cynyddu ledled y DU oherwydd twf yn y boblogaeth, ond mae pob unigolyn yn debygol o fod â llai ar gyfartaledd yn gyffredinol, ac mae hynny'n cael effaith uniongyrchol ar y stryd fawr a'r mannau lle mae gwariant dewisol ar gael. Mae'n dangos pam mae gwir angen mwy o sefydlogrwydd yng nghyd-destun y DU, yn ogystal ag yma yng Nghymru. Hyd nes y gwelwn newid pendant ar lefel y DU, mae arnaf ofn nad yw'r dyfodol yn edrych yn wych i strydoedd mawr ledled Cymru, ac yn wir, ledled y DU. Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â strydoedd mawr, awdurdodau lleol a Llywodraeth wahanol yn y DU a fydd yn buddsoddi yn ein dyfodol economaidd.

Cyllideb Llywodraeth y DU ac Economi Cymru

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU yn ei chael ar economi Cymru? OQ60843

Mae'n amlwg fod economi'r DU yn parhau'n ddisymud yn ystod y cyfnod hwn o ddirwasgiad presennol. Nid yw'r rhagolygon twf a nodir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn optimistaidd. Mae datganiad y Canghellor wedi methu cyflwyno cynllun argyhoeddiadol ar gyfer twf sy'n cefnogi potensial economaidd Cymru mewn economi decach yn y DU.

Diolch am yr ateb.

Gwyddom i gyd fod cyllideb y Canghellor wedi adlewyrchu'r gagendor rhwng blaenoriaethau San Steffan a phryderon gweithwyr cyffredin yng Nghymru. Mae'n hynod bryderus fod y Canghellor wedi parhau i fwrw ymlaen â thoriadau treth ar draul buddsoddiad cyhoeddus mewn seilwaith, sydd ei angen yn ddybryd i gefnogi gwasanaethau allweddol ac ysgogi ffyniant economaidd. Fodd bynnag, fel rydym yn aml yn ei glywed yn y Siambr hon, ac fel y clywsom eisoes heddiw, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn byw mewn gobaith y bydd dyfodiad Keir Starmer yn arwain at gyd-destun ffafriol yn y DU, ymadrodd yr ydym wedi dod yn gyfarwydd â'i glywed nawr.

Ond nid yw'r ffaith bod Starmer yn gwrthod ymrwymo i wrthdroi mesurau cyni, pe bai'n dod yn Brif Weinidog, neu 'ddisgyblaeth ariannol' fel y mae'n ei alw'n llednais, yn argoeli'n dda i Gymru a Llywodraeth Cymru. O ystyried bod cymaint o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi iachach i Gymru yn dibynnu ar y gobaith o gael Llywodraeth Lafur ffafriol yn San Steffan, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hirdymor sy'n wynebu economi Cymru os na fydd y cyd-destun mor ffafriol wedi'r cyfan?

14:05

Unwaith eto, mae Plaid Cymru eisiau cael eu siomi gan Lywodraeth Lafur y DU sydd eto i'w hethol. Rwy'n edrych ymlaen at fynd o ddrws i ddrws a mynd i stiwdios y cyfryngau i berswadio pobl i bleidleisio dros Lafur yn etholiad cyffredinol nesaf y DU. Rwy'n credu bod hynny'n hanfodol ar gyfer dyfodol y DU a dyfodol y bobl a gynrychiolwn. Rwyf hefyd yn meddwl am yr adeg pan oeddwn i'n wirioneddol ifanc ac yn curo ar ddrysau yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 1997; roeddem yn cael yr un math o gyd-destun yn union gan rai o'n beirniaid: beth fyddai'n digwydd gyda'r ddisgyblaeth ariannol yr oedd Gordon Brown yn ei disgrifio? Ac yn y pen draw, yr hyn a ddigwyddodd oedd buddsoddiad parhaus yn nyfodol gwasanaethau cyhoeddus a'r economi o fewn blwyddyn neu ddwy. Fe wnaeth wahaniaeth enfawr. Pan fyddaf yn disgrifio'r gwelliant mewn cyfraddau cynhyrchiant a gweithgarwch economaidd drwy'r cyfnod datganoli cyn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, digwyddodd hynny oherwydd bod gennym adnoddau, oherwydd bod gennym amgylchedd sefydlog i wneud dewisiadau yma. Ac edrychaf ymlaen at allu gwella gwasanaethau cyhoeddus a'r economi yng Nghymru yn sylweddol gyda'r sefydlogrwydd hwnnw.

Wrth edrych ar ddatganiad diweddar y Canghellor, serch hynny, rwy'n credu ei fod yn dangos y bydd y dyfodol yn un llwm iawn os byddwn yn cael mwy o'r un peth, oherwydd mae'r rhan fwyaf o sylwebyddion annibynnol yn cydnabod nad oes modd cyflawni'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn weddus yn dda i'r economi. Roeddwn yn synnu gweld y genhadaeth ffyniant bro yn darparu £242 miliwn i'w fuddsoddi yn Canary Wharf, oherwydd nid yw'n ymddangos fel y math cywir o flaenoriaeth i mi. Rwy'n credu y byddwn yn gweld blaenoriaethau hollol wahanol gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU. Rwy'n edrych ymlaen at ymgyrchu dros y Llywodraeth honno, at weithio gyda nhw a sefyll dros Gymru i wneud y dewisiadau sydd eu hangen arnom i sicrhau dyfodol economaidd gwell i'n holl etholwyr.

Datblygu Sgiliau ym Maes Gweithgynhyrchu

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru? OQ60810

Diolch am y cwestiwn. Drwy raglenni sgiliau allweddol fel prentisiaethau, y rhaglen sgiliau hyblyg a chyfrifon dysgu personol, rydym yn parhau i weithio ar y cyd â'r diwydiant, busnesau, darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys undebau llafur, i gynyddu ein datblygiad sgiliau ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion economi'r dyfodol. 

Diolch am yr ateb hwnnw. Weinidog, fel y mae cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn ei ddangos, prif rôl unrhyw ddatblygiad economaidd neu strategaeth sgiliau yw creu'r amodau cywir er mwyn i fusnesau, gweithwyr a dysgwyr ffynnu. A phan ddywedaf hyn, rwy'n edrych yn arbennig ar y rôl y gall y Llywodraeth ei chwarae wrth ddatblygu technoleg. A gaf i ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda'r sector sgiliau, gyda'r diwydiant a chydag undebau llafur am gefnogi datblygiad a mabwysiadu technolegau strategol o bwys, yn enwedig deallusrwydd artiffisial, awtomatiaeth a thechnolegau carbon niwtral mewn meysydd fel awyrofod, gweithgynhyrchu uwch, tai ac ynni adnewyddadwy? Diolch.

Rydym yn cael yr union sgyrsiau hynny. Cyhoeddwyd y cynllun gweithgynhyrchu diwygiedig yn dilyn arolwg gyda gweithgynhyrchwyr am ddyfodol gweithgynhyrchu uwch, am faint o amser a sylw roeddent wedi'i roi i ddeall y cyfleoedd yn ogystal â pheryglon newidiadau technolegol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial. Ac mae'n un o'r pethau rydym yn awyddus i'w helpu gyda nhw, oherwydd mae yna nifer o bethau sy'n ddatblygedig bellach, ac felly, rhan o sut y gallwch wella cynhyrchiant a phroffidioldeb yw rhoi ystyriaeth gyson i dechnolegau sydd eisoes yn ddatblygedig, yn ogystal â thechnoleg arloesol.

Os meddyliwch am Airbus a'i gadwyn gyflenwi ehangach, mae Airbus yn buddsoddi llawer mewn ymyriadau technolegol arloesol ar gyfer ei fusnes. Mae angen i lawer o'u cyflenwyr gymhwyso'r hyn sydd yma eisoes, yn ogystal â deall yr ymyriadau a'r cynnydd hwnnw. Ac mae'n thema sy'n ymwneud â'r hyn rydym eisiau ei wneud gyda buddsoddiad mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol—mewn ysgolion, lle mae gan fusnesau gysylltiadau, ond hefyd i'r rhai sydd eisoes yn y byd gwaith. Dyna pam y cyfeiriais at gyfrifon dysgu personol a hefyd pam y cyfeiriais at undebau llafur, oherwydd mewn rhai o'r busnesau hynny, dysg undebau llafur sy'n helpu pobl i gamu drwy'r drws mewn gwirionedd, o ran yr hyn y gallant ei wneud y tu hwnt i fyd gwaith, ond hefyd yr hyn y mae hynny'n ei olygu iddynt fel gweithiwr cynhyrchiol. Rwy'n credu bod gennym lawer i'w gynnig ar gyfer y dyfodol, ac unwaith eto, gan droi'n ôl at y sefydlogrwydd rydym eisiau ei weld, gallwn fuddsoddi yn hwnnw mewn ffordd barhaus, fel y mae busnesau eisiau i ni ei wneud, fel y mae undebau llafur eisiau i ni ei wneud, ac mae hynny i gyd yn golygu y bydd gennym lawer gwell gobaith o sicrhau dyfodol gwirioneddol arwyddocaol i'r sectorau allweddol hyn o'r economi.

Weinidog, mae ein colegau addysg bellach yn gwneud gwaith gwych wrth ddatblygu sgiliau i ddiwallu anghenion ein sector gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Nid oes ond angen edrych ar y dull a fabwysiadwyd gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i, y mae ei bartneriaethau â diwydiant yn helpu i drawsnewid y sector. Mae technegau gweithgynhyrchu yn dod i'r amlwg bron bob dydd, ac mae llawer ohonynt yn wirioneddol drawsnewidiol, yn enwedig y datblygiadau diweddaraf mewn gweithgynhyrchu haen-ar-haen; mae argraffu 3D yn ysgubo drwy weithgynhyrchu.

Weinidog, gall Llywodraeth Cymru chwarae rhan nid yn unig wrth helpu i ddatblygu sgiliau'r dyfodol, ond hefyd wrth greu'r galw am sgiliau o'r fath. Ychydig wythnosau'n ôl, cyfarfûm â datblygwr sy'n awyddus i ddod â chartrefi ac adeiladau argraffu 3D i Gymru. Gellir argraffu adeiladau mewn mater o ddyddiau, lle mae'n cymryd misoedd lawer gan ddefnyddio technegau adeiladu traddodiadol. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â sut y gall y dulliau gweithgynhyrchu newydd hyn fynd i'r afael â'r prinder tai yng Nghymru?

14:10

Rwyf innau hefyd yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan golegau addysg bellach i weithwyr y dyfodol, pobl ifanc sy'n dod at ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol, yn ogystal â phobl sy'n ailsgilio fel oedolion. Rwy'n optimistaidd iawn am ystod eang o feysydd y mae'r Aelod wedi'u crybwyll, gan gynnwys dulliau gweithgynhyrchu modern o adeiladu. Mae'n rhywbeth y mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy wedi ei hyrwyddo a'i drafod yn rheolaidd, yn ogystal â sut y gall hynny ein helpu i wella cyflymder y cynnydd yn nifer y tai yr hoffem eu gweld yn cael eu hadeiladu a beth mae hynny'n ei olygu o ran swyddi a chyfleoedd lleol hefyd. Mae'n rhywbeth y credaf y gallwn fod yn uchelgeisiol yn ei gylch yma yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn derbyn y pwynt ynglŷn â sut rydych chi'n cymhwyso peth o hyn drwy ddysgu mewn amrywiaeth o fusnesau. Mae rhai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u crybwyll am weithgynhyrchu haen-ar-haen ac argraffu 3D yn eithaf datblygedig ac yn cael eu cydnabod yn dda, ac mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â sut rydym yn mynd ati'n ymarferol i helpu busnesau i ystyried y cyfleoedd hynny. Mae rhaglen clwstwr darbodus Toyota yn un o'r pethau rydym wedi'u cefnogi'n gyson. Daw'r dysgu hwnnw o rywbeth sydd, unwaith eto, wedi'i leoli yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ond mae'n rhaglen genedlaethol mewn gwirionedd, ac mae'n ystyried gwahanol weithgynhyrchwyr ar draws ystod eang o sectorau. Maent yn gweld budd gwirioneddol i hynny. Felly, rydym wedi cefnogi ac yn parhau i gefnogi ystod eang o ymyriadau gwahanol ar draws yr economi, yn ogystal â'r pwynt penodol a wnaeth yr Aelod ynghylch tai, lle rwy'n optimistaidd iawn, fel y dywedaf, ynghylch rôl hyd yn oed yn fwy i ddulliau modern o adeiladu.

Diogelu Busnesau yn y Dyfodol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau yn y dyfodol? OQ60823

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ddiogelu at y dyfodol drwy eu helpu i adeiladu busnesau mwy gwydn a datblygu eu harferion busnes. Mae hyn yn cynnwys cymorth penodol sydd ar gael drwy wasanaeth Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, a Banc Datblygu Cymru yn wir.

Diolch. Lywydd, rwy'n datgan buddiant fel aelod cyswllt academaidd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, y byddaf yn cyfeirio ato yn y cwestiwn atodol. Roedd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 yn cynnwys £20 miliwn i fusnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol. Croesawyd y newyddion gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, sydd wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd o'r enw 'A Skills-led Economy for Wales', a oedd yn ymdrin mewn cryn dipyn o fanylder â chynhyrchiant a phobl, sgiliau ac anghenion cynllunio'r gweithlu. Felly, gyda hynny mewn golwg, a all y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion ar sut y bydd y cyllid yn cael ei wario a sut y gall sefydliadau fel y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, y Ffederasiwn Busnesau Bach a gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol gymryd rhan er budd busnesau bach a chanolig?

Mewn gwirionedd, rydym wrthi'n ystyried manylion terfynol y cyhoeddiad, ond rydym yn edrych ar sut y gallwn helpu nifer o fusnesau cymwys. Rydym yn credu y gallwn helpu dros 2,500 o fusnesau'r sector ledled Cymru. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio o fewn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Un o'r pethau rydym eisiau ei weld yw grantiau cyfalaf cyfatebol i helpu pobl i wella eu hadeiladau, i wella eu cynhyrchiant, ac ystod o bethau eraill hefyd, er enghraifft defnydd o ynni. Byddaf yn cyhoeddi manylion hynny, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn eu derbyn.

Y pwynt am hyn yw sut rydym yn helpu'r busnesau hyn i fod yn fwy cynhyrchiol ac addas ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau bod ganddynt obaith gwirioneddol o oroesi. Yn aml, nid yw busnesau'n gallu gweld y buddsoddiad cyfalaf hwnnw. Bydd cael sail arian cyfatebol ar gyfer gwneud hynny yn helpu mwy o'r busnesau hynny, ac rwy'n credu y bydd hynny'n arwain at ddyfodol gwirioneddol a pharhaus i fusnesau bach a chanolig, sy'n rhan allweddol o'n system economaidd yma yng Nghymru, ynghyd â'r busnesau mwy y maent yn aml yn gweithio ochr yn ochr â nhw.

Toriadau i'r Portffolio Diwylliant

8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y toriadau i'r portffolio diwylliant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn effeithio ar y sector? OQ60817

Mae pob Gweinidog wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd a phoenus, ac rydym wedi ail-lunio cynlluniau gwariant yn radical i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd. Rwyf wedi gweithredu i liniaru maint llawn y pwysau cyllidebol ar y sector diwylliant. Fodd bynnag, nid oes hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol y tu allan i'r Senedd bythefnos yn ôl, yn ymgyrchu yn erbyn toriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru yn y gyllideb i'r sector diwylliant a threftadaeth. Yn wir, mae'r sector hwn wedi cael ei effeithio'n anghymesur o'i gymharu â sectorau eraill yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, mae'r toriadau hynny'n annoeth am sawl rheswm, ond yn fwyaf arbennig, roedd y llythyr a anfonwyd atom gan gadeirydd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn dweud, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae'n rhwystredig fod yr arian a gynigir gan Lywodraeth Cymru i leihau lefelau staffio yr un fath â'r ffigur y byddai wedi bod ei angen i gadw'r union staff sy'n cael eu gorfodi i adael.'

Felly, yn fy marn i mae'r toriadau arfaethedig yn gwbl wrthgynhyrchiol. Nawr, rwy'n rhagweld yr ateb arferol ynghylch 'cyni' gan y Dirprwy Weinidog, ac mae hynny'n fy atgoffa o ddyfyniad doeth iawn a glywais unwaith:

'nid yw... yn ymwneud o reidrwydd â faint o arian sydd gennych; mae'n ymwneud â'r hyn a wnewch yn effeithiol gyda'r arian sydd gennych chi.'

Ac mae'r person hwnnw'n iawn, ac mae'r toriad hwn yn enghraifft wych o ffordd aneffeithiol o ddefnyddio arian trethdalwyr, i wneud pobl yn ddi-waith y gallech fod wedi'u harbed fel arall drwy ddefnyddio'r un swm o arian. Nawr, cafodd y dyfyniad hwnnw ei ddweud yma yn Siambr y Senedd ddeufis yn ôl gennych chi, Dawn Bowden. A ydych chi'n dal i lynu wrth y geiriau hynny?

14:15

Diolch am y cwestiwn, Tom Giffard, a chredaf, yn gyffredinol, fod hynny'n hollol wir. Nawr, un o'r pethau y bu'n rhaid inni ei wneud fel Llywodraeth yw ailflaenoriaethu ein gwariant, oherwydd beth bynnag a ddywedwn a sut bynnag rydych chi'n ceisio ei gyflwyno, rydym yn wynebu toriadau sylweddol yn ein cyllideb ac roedd yn rhaid inni wneud blaenoriaethau ar draws gwasanaethau rheng flaen a'r GIG. Dyna oedd ein blaenoriaeth wleidyddol. Felly, bu'n rhaid torri gwasanaethau eraill i ddarparu ar gyfer hynny. Nawr, drwy gydol y broses graffu ar y gyllideb—ar lawr y Senedd hon, ac ymddangos ger bron y pwyllgor ac yn y blaen—rwyf wedi ateb yr holl gwestiynau hyn o'r blaen, ond rwyf hefyd wedi gwrando ar rai o'r cwestiynau hynny, a phan ddaeth cyllid ychwanegol ar gael, cytunodd y Cabinet y dylem gael buddsoddiad pellach o £1.4 miliwn i Cadw a'r comisiwn brenhinol, er enghraifft, oherwydd mai dyna un o'r meysydd yr oedd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol ac eraill yn poeni'n arbennig yn ei gylch o ran lefel y toriadau o gymharu â gweddill y sector diwylliant.

Ond un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw drwy gydol y broses hon—ac mae'n drueni, mewn gwirionedd, mai argyfwng ariannol sy'n ein cymell i fynd i siarad gyda'n cyrff hyd braich sy'n darparu ein cynnig diwylliannol i weld a ydynt yn gweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd—drwy gydol cylch y gyllideb, rwyf wedi bod yn cael y sgyrsiau hynny gyda nhw ynglŷn â sut rydym yn gwneud pethau'n wahanol, a dyna pam fy mod i hefyd yn croesawu'r alwad gan brif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru pan ddywedodd ein bod angen dadl genedlaethol am ddiwylliant a pha mor bwysig ydyw. Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae gennym nifer o gyrff diwylliannol sy'n darparu ein cynnig diwylliannol yng Nghymru. Gyda nifer ohonynt, mae yna ddyblygu, mae yna orgyffwrdd ac nid yw pethau'n gweithredu mor effeithlon ag y gallent fel arall. Argyfwng ariannol sydd wedi gwneud i ni ddod at ein gilydd o'r diwedd ac edrych ar hynny, ac mae'r sgyrsiau hynny'n digwydd rhwng cyrff hyd braich ar hyn o bryd, i edrych ar sut y gallant weithio'n fwy cydweithredol, sut y gallant osgoi dyblygu a sut y gallant ddarparu cynnig diwylliannol mwy cydlynol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf. Y cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael â’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith y Mesur Teithio gan Ddysgwyr? OQ60811

Mi wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau gwrdd yn ddiweddar i drafod canfyddiadau'r adolygiad mewnol ar y Mesur teithio gan ddysgwyr a bydd datganiad yn cael ei wneud maes o law am y canlyniadau.

Diolch am hynny, Gweinidog. Mae'n ddwy flynedd ers cyhoeddi adroddiad adolygiad 2021 o'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Ar y pryd, nodwyd bod y Llywodraeth eisiau datblygu'r rhaglen yn ehangach a gwella darpariaeth. Ers hynny, bu mwy o sialensiau. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cwtogi eu darpariaeth cludiant ysgol o ganlyniad i heriau cyllido cyffredinol. Yn yr ardal dwi'n cynrychioli, mae dalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg—maen nhw'n lot mwy na rhai yr ysgolion Saesneg eu hiaith, ac os yw'r ysgol yn bell i ffwrdd, does dim cludiant ysgol ar gael gan y cyngor. Mae hynny yn gallu ychwanegu haen newydd o rwystr i'r rhieni hynny sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg eu hunain, ond sydd yn penderfynu a ddylen nhw wneud y naid o anfon eu plant nhw i ysgol Gymraeg. Gall hynny, dwi wir yn meddwl, olygu y bydd llai o rieni yn gwneud y naid.

Felly, pa gamau ydych chi’n cymryd, gyda’r Gweinidog trafnidiaeth, i fonitro effeithiau’r newidiadau hyn ar nifer o deuluoedd di-Gymraeg sy’n debygol o anfon eu plant i’r ysgolion Cymraeg, a pha effaith ydych chi’n meddwl y gall hyn ei gael ar hyder y rhieni hynny sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg eu hunain, ond sydd ar fin gwneud y penderfyniad hollbwysig yna o roi'r cyfle yna i'w plant nhw?

14:20

Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'r cwestiwn yn un teilwng. Un o'r heriau yw'r data ynglŷn â'r rhesymau dros benderfyniadau rhieni yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant, ond mae'r her ychwanegol, yr her ehangach mae'r Aelod yn cyfeirio ati, yn un deg.

Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyhoeddi'r canfyddiadau, rwy'n credu, cyn diwedd yr wythnos hon, felly mae hynny'n amserol yng nghyd-destun y cwestiwn. Beth fyddwn i'n ddweud, o ran y newidiadau sydd yn digwydd gan rhai cynghorau o ran eu cyllideb, yw bod hyn, wrth gwrs, yn rhan o'r pwysau rŷn ni wedi bod yn trafod mewn amryw gyd-destunau yn ddiweddar. Does dim un ohonyn nhw yn mynd yn is, wrth gwrs, na'r lleiafswm sydd yn ofynnol o ran y Mesur. Dŷn ni wedi cyrraedd y casgliad ei bod hi ddim yn bosib ailedrych ar y Mesur ar hyn o bryd, ond mae yn bosib inni edrych ar y canllawiau statudol ynghlwm â hynny, a bydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog yn dweud mwy am hynny.

Mae hefyd, rwy'n credu, yn bwysig gweld hyn yng nghyd-destun y diwygiadau ehangach sydd ar waith o ran y Bil bysiau, ac mae cyfle, rwy'n credu, yn sgil hynny, inni allu sefydlu rhwydwaith o wasanaethau bws sydd yn gwasanaethu ysgolion yn y ffordd mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Rwy'n cydnabod bod angen gwneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio, rhwng y ddau, y byddwn ni'n gallu gwneud cynnydd yn y dyfodol agos.

Weinidog, mae fy nghwestiwn i'n debyg i gwestiwn Delyth Jewell. Felly, fy mhryder i gyda'r Mesur teithio gan ddysgwyr fel y mae ar hyn o bryd yw'r ffaith bod yna lawer o blant nad ydynt yn cael cludiant am ddim i'w hysgol cyfrwng Saesneg agosaf oherwydd bod yna ysgol cyfrwng Cymraeg yn nes. Ac mae yna rai achosion anarferol iawn lle mae gennych chi ysgol cyfrwng Saesneg ac ysgol cyfrwng Cymraeg bron â bod drws nesaf at ei gilydd, ond lle mae'r ysgol Gymraeg ychydig yn agosach at deulu a allai fod yn byw 10 milltir i ffwrdd, ac nid ydynt yn cael—y teulu hwnnw—nid ydynt yn gallu cael cludiant am ddim i'w hysgol cyfrwng Saesneg agosaf. Yna, yn aml, maent yn gorfod mynd i'r car yn y bore a theithio y tu ôl i'r bws ysgol, sy'n mynd i'r union leoliad hwnnw. Felly, a gaf i ofyn, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei gydnabod ac a yw'n rhywbeth y byddwn yn ei weld yn cael ei gywiro? Oherwydd ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn dweud—rwy'n siŵr y bydd awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn dweud yr un peth—'Ni allwn wneud addasiadau i hyn oherwydd rydym yn aros i'r Mesur teithio gan ddysgwyr gael ei ddiweddaru.'

Diolch i Russell George am hynny. Rwy'n credu ei bod yn senario lawer llai tebygol na'r senario a amlinellwyd gan Delyth Jewell, ond yr hyn rydym eisiau ei wneud—a byddwch yn gweld hyn pan gyhoeddir yr adolygiad yn y dyddiau nesaf—yw sicrhau bod cydnabyddiaeth na fydd yn bosibl inni ddiwygio'r ddeddfwriaeth sy'n sail i deithio gan ddysgwyr yn y tymor byr, ond rydym yn gobeithio y bydd y cyfle i ddiweddaru'r canllawiau statudol dros y flwyddyn nesaf yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r math o bwyntiau y mae wedi'u gwneud, yn ogystal ag adborth arall gan randdeiliaid. Ac yn bwysig, rydym eisiau creu cyfle i randdeiliaid yn gyffredinol, wrth gwrs, ond yn enwedig plant a phobl ifanc eu hunain a chymunedau ysgol, gyfrannu at y gwaith hwnnw a helpu i'w siapio mewn ffordd a fydd, gobeithio, yn gallu mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud.

Darpariaeth Nyrsys mewn Ysgolion

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarpariaeth nyrsys mewn ysgolion? OQ60815

Yn sicr. Mae'r ddarpariaeth nyrsys mewn ysgolion yn cael ei phennu gan y bwrdd iechyd lleol yn unol ag anghenion iechyd y boblogaeth leol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae sawl preswylydd yn fy rhanbarth wedi cysylltu â mi yn pryderu'n fawr am newidiadau yn y ffordd y caiff meddyginiaeth ei rhoi mewn ysgolion anghenion addysgol arbennig lleol yn Rhondda Cynon Taf. Lle'r oedd timau nyrsys ysgol arbennig ar y safle yn gyfrifol am roi meddyginiaeth yn y gorffennol, mae meddyginiaeth bellach yn cael ei rhoi gan gynorthwywyr addysgu. Yn ddealladwy, mae hyn yn peri pryder i lawer o rieni a gofalwyr y mae gan eu plant anghenion gofal cymhleth iawn, nid yn unig o ran hyfforddiant a chymhwysedd cynorthwywyr addysgu i allu rhoi meddyginiaeth, ond hefyd o ran pa amddiffyniadau sydd ar waith i'r cynorthwywyr addysgu eu hunain. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gydnabod y gwaith pwysig ac amhrisiadwy y mae cynorthwywyr addysgu yn ei wneud mewn ystafell ddosbarth, a bydd ymgymryd â'r rôl ychwanegol hon yn ychwanegu at y baich sydd arnynt, a hynny er anfantais i ymgysylltiad a dysg disgyblion. Ac fel y gŵyr y Gweinidog, mae gan nyrsys ysgol amddiffyniadau galwedigaethol lle nad oes gan gynorthwywyr addysgu amddiffyniadau o'r fath. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, a ydych chi'n cydnabod y pryderon sydd gan rieni, gofalwyr a chynorthwywyr addysgu a'r effaith negyddol gyffredinol y byddant yn ei chael ar ddysgu yn y dosbarth, a pha gamau y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â nhw? Diolch.

14:25

Dylwn ddweud i ddechrau, ar gyfer y cofnod, mai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gyfrifol am nyrsio ysgolion, ond rwy'n hapus i ymateb i'r cwestiwn a gyflwynwyd heddiw, er fy mod yn credu y byddai'n well cyfeirio unrhyw gwestiynau tebyg neu gwestiynau dilynol at y Gweinidog iechyd yn y dyfodol.

Hoffwn ddweud bod y trefniadau ar gyfer nyrsio ysgolion a'r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i ddarparu'r cysylltiad hwn rhwng yr ysgol a'r cartref a'r gymuned yn amlwg yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun darparu meddyginiaeth yn y math o sefyllfaoedd y mae'r Aelod newydd eu hamlinellu yn ei gwestiwn. Ym mis Ebrill eleni, bydd GIG Cymru yn dechrau gweithredu model gweithredu newydd i ategu'r fframweithiau nyrsio ysgolion presennol yng Nghymru. Mae'n fodel dan arweiniad nyrsys, sydd wedi'i gydgynhyrchu gan y GIG a Llywodraeth Cymru, a bydd yn nodi cysylltiadau wedi'u cynllunio y gall plant a'u teuluoedd eu disgwyl gan wasanaethau nyrsio ysgolion. Bydd yn nodi canllawiau clir iawn ar rôl y gwasanaeth nyrsio ysgolion, a'r ymwneud mewn perthynas â diogelu, ac yn sicrhau bod cysylltiadau llesiant yn cael eu darparu hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn croesawu'r cynnydd hwnnw yn ystod y flwyddyn hon.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, daeth yr ymgynghoriad ar newid amseroedd tymhorau ysgolion i ben fis yn ôl, gyda'r awgrymiadau ynddo yn cael eu beirniadu'n eang gan undebau athrawon, teuluoedd a phobl ifanc hefyd. Mae'r syniad hwn, o'r cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, yn peryglu un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr diwylliannol Cymru, a allai gostio dros £1 filiwn i'r Sioe Frenhinol, gyda sgil-effeithiau posibl eraill i eisteddfodau a digwyddiadau eraill yn yr haf, gan effeithio'n uniongyrchol ar yr iaith Gymraeg a'n diwylliant. Nawr, er ei bod yn debygol mai Gweinidog addysg gwahanol fydd yn cael y dasg o fwrw ymlaen â chanfyddiadau'r ymgynghoriad, a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw y bydd Sioe Frenhinol Cymru yn parhau i gael ei chynnal yn ystod gwyliau'r ysgol ac na fydd yn rhaid iddi newid ei dyddiadau i adeg arall yn y flwyddyn?

Wel, mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben. Mae'r ymatebion yn cael eu hystyried. Mae'n ymateb llawer mwy cymysg nag y mae'r Aelod yn ei awgrymu yn ei gwestiwn. Rwyf wedi cyfarfod â'r Sioe Frenhinol. Rwyf wedi clywed eu pryderon yn uniongyrchol, ond rwyf hefyd wedi trafod opsiynau gyda nhw ynghylch dyddiadau'r sioe. I fod yn glir, pwrpas y diwygio yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr addysg orau sy'n bosibl a'n bod yn gwneud rhywbeth rhagweithiol ynglŷn â'r dysgu y mae llawer o'n plant ifanc yn ei golli dros wyliau'r haf. Nid yw'n wyliau o gwbl i'n holl deuluoedd yng Nghymru—i fod yn glir. Mae rhai yn ofnus ac yn bryderus yn ei gylch. Mae hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r pryder y mae staff a disgyblion a llawer o rieni yn sôn amdano, sef hyd tymor yr hydref. Felly, mae'n set gymhleth o ddiwygiadau. Mae llawer o agweddau arno. Dyna pam mae wedi bod yn bwysig clywed ystod o leisiau, ac un ohonynt yw'r Sioe Frenhinol, ond bydd yna sawl persbectif, a byddant i gyd yn cael eu hystyried cyn y byddwn yn gwneud unrhyw gyhoeddiad.

[Anghlywadwy.]—cadarnhad yno y bydd y Sioe Frenhinol yn gallu parhau yn ystod gwyliau'r ysgol ac na fydd yn rhaid ei symud i adeg arall yn ystod gwyliau'r haf, gan effeithio ar yr Eisteddfod Genedlaethol o bosibl, Eisteddfod yr Urdd, a digwyddiadau diwylliannol eraill yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl braidd yn siomedig gyda'r ymateb hwnnw, Weinidog addysg.

Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae adroddiad wedi ymddangos yn y wasg sy'n cyfeirio at ddisgyblion yn ymddwyn yn dreisgar tuag at athrawon mewn ysgol yn fy etholaeth. Cynigiais fy nghefnogaeth i'r ysgol, ac mae'r ymateb gan y pennaeth wedi creu argraff arnaf. Yn anffodus, fodd bynnag, mae digwyddiadau fel hyn ar gynnydd, ac mae fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones wedi tynnu sylw at y mater ar sawl achlysur yn flaenorol. Ym mis Ionawr eleni, aeth athrawon mewn ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg ar streic i fynnu camau gweithredu, yn dilyn mwy na 50 o ddigwyddiadau difrifol o gam-drin geiriol a chorfforol tuag at staff rhwng mis Medi a dechrau mis Ionawr. Mae athrawon wedi disgrifio sut mae'n rhaid iddynt gloi eu hunain a disgyblion mewn ystafelloedd dosbarth er mwyn, ac rwy'n dyfynnu, 'eu gwarchod rhag cael eu dyrnu.' Mae'n hanfodol ein bod yn denu athrawon newydd i'r proffesiwn, ond gyda'r cynnydd mewn aflonyddwch treisgar, nid yw'r proffesiwn mor ddeniadol ag y gallai fod. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn a darparu adnoddau i ysgolion i sicrhau bod athrawon a disgyblion yn teimlo'n ddiogel tra byddant yn yr ysgol? Ac a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r cynllun pum pwynt a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones i helpu yn hyn o beth?

Ar sylw atodol yr Aelod ar fy ateb cyntaf, nid wyf yn credu y bydd y sefydliadau hynny'n siomedig ynghylch fy ymateb. Rwy'n credu y byddant yn falch o glywed Llywodraeth yn ystyried ystod o bethau cyn cyhoeddi newid polisi mawr yn unol â'n disgwyliadau gan Lywodraethau ym mhobman.

O ran eich ail bwynt, rwy'n ymwybodol o'r amgylchiadau yn yr ysgol benodol y cyfeiriwch ati ac roedd yn ddrwg gennyf glywed am amgylchiadau'r digwyddiad yno, fel y bydd pawb yma. Mae newid wedi bod mewn cymdeithas ac mae canlyniadau wedi bod i'r ffordd y bu'n rhaid i ni ymateb i COVID a phwysau eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw hon yn her sy'n unigryw i Gymru, ond nid yw hynny'n ei gwneud yn llai pwysig i ni yma. Ac mae wedi creu pwysau a chymhlethdodau ychwanegol yn ein system ysgolion. Ledled Cymru, mae ysgolion yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau newydd hyn bob dydd. Ein rôl fel Llywodraeth yw eu cefnogi i wneud hynny, mewn amgylchiadau heriol iawn yn aml.

Yr hyn a wnawn yn benodol mewn perthynas â hyn yw sicrhau ein bod yn cefnogi ysgolion gydag adnoddau ychwanegol i asesu'r heriau y gallant eu hwynebu, i nodi strategaethau y teimlwn y gallant helpu i atal rhai o'r problemau ymddygiad hynny rhag digwydd, ymdrin â nhw pan fyddant yn digwydd, ac atal problemau, yn hollbwysig, rhag magu gwreiddiau neu waethygu i'r pwynt lle mae gwaharddiad yn cael ei ystyried, oherwydd nid dyna'r ateb ychwaith mewn gwirionedd. Rwyf wedi ystyried y pum pwynt yn y cynllun a gyflwynodd Laura Jones. Yn ymarferol, mae pob un ohonynt yn bethau rydym eisoes yn eu gwneud, ond serch hynny, mae'n ddefnyddiol cael cadarnhad ei bod hithau'n cefnogi hynny hefyd.

14:30

Felly, yn olaf, Weinidog, gan ei bod yn debygol mai dyma fydd ein set olaf o gwestiynau ar addysg a’r Gymraeg, roeddwn am ddiolch ichi am eich atebion—yn naturiol, nid wyf bob amser wedi cytuno â chi—a'r ffordd y mae gennym y gallu i weithio ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg.

Fodd bynnag, rwyf am dynnu sylw yn ôl at gwestiwn yr wyf wedi’i ofyn nifer o weithiau o'r blaen, ond sydd bob amser wedi cael ymateb gwan yn fy marn i. Rwyf i, a'm nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig, yn gefnogol o darged 'Cymraeg 2050', ac rydym yn sylweddoli pwysigrwydd sicrhau bod dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn rhoi sylfaen gadarn yn yr iaith i'r genhedlaeth nesaf. Ond mae ansicrwydd a fydd digon o athrawon â sgiliau Cymraeg digon da i ddiwallu anghenion dysgu Cymraeg i ddisgyblion ym mhob ysgol ledled Cymru.

A allwch chi ddweud ble rydym ni ar hyn o bryd o ran darparu hyfforddiant iaith Gymraeg digonol a pha dargedau sydd ar waith i sicrhau y gall hyfforddiant o’r fath barhau a chynyddu? Diolch.

Diolch i Sam Kurtz. Gaf fi ddweud, rwy'n i'n cytuno â rhan gyntaf y cwestiwn a'i sylwadau hael iawn ynghylch hynny? Mae wedi bod yn braf cael y cyfle i gydweithio gyda fe, a hefyd mae cael llefarydd o'i blaid ef sydd mor bleidiol i’r Gymraeg yn beth i'w ddathlu, felly diolch iddo fe am hynny. Mae'r her a'r pwynt y mae’n ei wneud yn bwysig iawn o ran sicrhau bod staff digonol gyda ni i ddiwallu ac i ddarparu’r gwasanaeth rŷn ni ei eisiau i bawb sydd am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ran hyfforddiant, mae’r darlun yn un amrywiol o fewn y partneriaethau sy’n darparu'r addysg gychwynnol, ac, yn sicr, mae mwy i’w wneud i sicrhau bod recriwtio ar gyfer athrawon, trwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol, yn fwy cyson ymhlith y partneriaethau a bod hynny’n cryfhau’n gyffredinol. Mae, wrth gwrs, targedau gan bob un ohonyn nhw. Mae hyn yn rhan o’r cynllun 10 mlynedd sydd gyda ni fel Llywodraeth i gynyddu’r niferoedd sydd yn dod i mewn i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn ni'n gwneud adroddiad ar y cynnydd, yn ôl y cynllun hwnnw, maes o law.

Mae hefyd yn bwysig, rwy'n credu—. Er ein bod ni'n sôn yn aml iawn, am resymau sydd yn ddilys ac yn ddealladwy, am yr heriau sydd yn wynebu'r bobl sydd yn dewis mynd i ddysgu, mae hefyd wir yn bwysig inni gofio maint y cyfle i newid bywydau pobl ifanc a'r anrhydedd o allu gwneud hynny. Mae'n un o'r cyfleoedd prin sydd ar gael i rywun allu effeithio ar gynifer o bobl, felly mae hefyd yn broffesiwn i'w ddathlu. Ac rwy’n adnabod athrawon sydd yn mynd i mewn i'r gwaith bob dydd, sydd yn cael eu hysbrydoli ac sydd yn awyddus ac yn falch iawn o wneud y gwaith, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am yr hyn maen nhw'n ei wneud.

Diolch, Llywydd. Weinidog, mi oeddwn i, yn debyg iawn i Sam Kurtz, yn adlewyrchu efallai mai dyma ein sesiwn graffu olaf ni efo chi yn y rôl hon. Roeddwn i eisiau diolch am y berthynas adeiladol. Un peth a oedd yn sefyll allan i mi roedd yr adeg efo RAAC—roedd yna lawer o gamwybodaeth allan yn fanna ac ansicrwydd, a'ch bod chi wedi cymryd yr amser i fy mriffio i'n bersonol yr adeg honno. A dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n gallu cydweithio yn adeiladol yn eithriadol o bwysig, a chael y negeseuon allan pan fo yna lot o anwiredd yna. Felly, diolch i chi am hynny. Hefyd, dwi eisiau croesawu'r buddsoddiad i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol a gyhoeddwyd eleni, a gobeithio'n fawr y bydd hyn yn rhywbeth fydd yn bosib i'r Llywodraeth ei gefnogi yn y dyfodol, fel bod pob ardal yn elwa o hynny.

Yn amlwg, pan fo'n dod i ddiwedd cyfnod Gweinidog, o bosib, mewn rôl, mae rhywun yn adlewyrchu ar record a gwaddol. Un o'r pethau yn sicr rydyn ni wedi'i weld ydy ein bod ni ymhellach o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr 'Cymraeg 2050' nag oeddem ni pan ddaethoch chi'n Weinidog, am amryw resymau. Ond pam ydych chi'n meddwl bod hynny, a beth sydd angen digwydd i newid hynny os ydym ni am gyrraedd y targed hwnnw?

14:35

Diolch i Heledd Fychan am y ffordd gwnaeth hi agor ei chwestiwn. Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio â hi. Rwy'n gobeithio gallu parhau i gydweithio â chi yn y dyfodol, beth bynnag ddaw dros yr wythnosau nesaf. Ac mae hi wir yn bwysig ein bod ni'n ffeindio ffyrdd o gydweithio ar bethau rydyn ni'n eu gweld yn gyffredin. Felly, diolch am fod yn gallu gwneud hynny.

O ran y cynnydd yn erbyn y targed, gaf i jest dweud dwi ddim yn sicr ein bod ni'n gallu dweud mor glir â hynny ein bod ni'n gwybod beth yw'r cynnydd yn erbyn y targed? Mae'n glir, rwy'n credu, yn gynyddol glir, fod cyfyngiadau ar yr hyn y mae'r cyfrifiad yn gallu ei ddweud wrthym ni, ac mae ffynonellau eraill o ddata yn dangos darlun eithaf gwahanol. Felly, mae llawer iawn o waith yn digwydd ar hyn o bryd i fynd i'r afael â sut rydyn ni'n cysoni hynny. A hefyd, yn edrych tua'r dyfodol, mae posibilrwydd sicr na fydd cyfrifiad yn digwydd yn y dyfodol. Felly, mae angen edrych ar ffyrdd efallai yn fwy creadigol o asesu cynnydd yn erbyn y targed, a gallu ymateb i newidiadau mewn ffordd sydd efallai yn fwy hyblyg ac yn fwy nuanced na chyfrifiad bob 10 mlynedd. Gyda nod tuag at 2050, efallai nad yw hynny'n ddigon aml i ni allu gwneud y newidiadau i'n strategaeth fydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu cyrraedd y nod. Felly, y peth pwysig, rwy'n credu, yw sicrhau ein bod ni'n deall beth mae'r data'n ei ddweud wrthym ni.

Ond, o ran yr ymateb a beth y gallwn ni ei wneud yn fwy, rwy'n ffyddiog iawn ac rwy'n optimistaidd iawn bod y Bil rydyn ni'n cydweithio â Phlaid Cymru arno fe o ran sicrhau addysg Gymraeg i bawb yng Nghymru—yn yr ystyr bod pawb yn gadael yr ysgol, o ba bynnag gyfrwng, yn gallu bod yn hyderus yn y Gymraeg—yn mynd i fod yn fwy uchelgeisiol ar un ogwydd na'r nod o filiwn o siaradwyr. Mae'n mynd i fod yn gatalydd i'r system mewn ffordd ehangach, ac yn mynd i'r afael rywfaint â'r cwestiwn gwnaeth Sam Kurtz ei ofyn ynglŷn â beth rŷn ni'n gallu ei wneud i sicrhau mwy o athrawon yn dod i mewn i'r system. Felly, rwy'n optimistaidd iawn bod yr hyn sydd gyda ni ar y gweill yn y Bil hwnnw yn mynd i fod yn gyfraniad pwysig tuag at y nod.

Diolch, Weinidog. I fod yn glir, nid sôn yn union roeddwn i am y cyfrifiad, ond o edrych ar yr holl dargedau sydd yn erbyn 'Cymraeg 2050'. Er enghraifft, efo targedau hyfforddi athrawon, 30 y cant, mae o wedi aros yn dipyn is ac aros yn debyg iawn ers 2019. Rydyn ni hefyd wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy'n cymryd lefel A cyfrwng Cymraeg, sydd wrth gwrs yn llwybr ar gyfer, wedyn, recriwtio athrawon, ond hefyd yr ystod o swyddi sydd eu hangen y tu hwnt i addysg o ran cyrraedd y targed. Felly, dwi eisiau gofyn yn benodol—mae gennym ni nifer o gynlluniau ar waith, mae yna dargedau: ydych chi'n meddwl bod angen ail-edrych ar y targedau hynny? Dwi'n derbyn o ran monitro, ond sut rydym ni wedyn yn mynd i sicrhau dydyn ni ddim efo'r targedau yma—? Er enghraifft, roedd yna 1,000 o bobl i fod yn cymryd lefel-A yn y Gymraeg erbyn 2021—rydyn ni'n bellach oddi wrth hynny. Felly, mae yna nifer o dargedau dydyn ni ddim yn eu cyrraedd. Sut ydym ni wedyn yn sicrhau nad dim ond geiriau neu strategaeth yw'r rhain, ein bod ni'n cyrraedd y targedau, a beth ydych chi'n meddwl sydd angen digwydd, os oes yna olynydd i'ch rôl chi, er mwyn sicrhau bod hynny'n newid gwirioneddol ar lawr gwlad?

Wel, rwy'n derbyn nad yw'r targedau yn eu hunain yn ddigonol, wrth gwrs. Mae angen sicrhau ein bod ni'n greadigol ac yn parhau i fod yn greadigol ynglŷn â sut rŷn ni'n mynd i ateb rheini. Mae hynny'n rhan, wrth gwrs, o'r cynllun sydd gyda ni o ran y cynllun—. Wel, mae dau gynllun ar waith yn y maes yma: y cynllun recriwtio athrawon—ac mae'r targedau rydych chi'n sôn amdanyn nhw yn rhan o hwnnw hefyd—ond hefyd mae'n rhaid i ni edrych ar y taflwybr eto, mae'n rhaid edrych i sicrhau bod yr hyn rŷn ni'n ei wneud yn ddigonol er mwyn cyrraedd y targed. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau. Mae e'n waith sylweddol wrth gwrs, ond rwy'n hapus iawn i fod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rŷn ni'n ei gymryd mewn i ystyriaeth. Ar ddiwedd y dydd, rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n fwyaf calonogol yw bod cefnogaeth i'r polisi yn trawstorri'n wleidyddol ar draws y Senedd. Felly, o'm safbwynt i, rwy'n credu mai ffordd agored, gydweithredol yw'r ffordd orau i fynd i'r afael â'r pethau yma, ac felly, wrth ein bod ni yn mynd â'r gwaith yn ei flaen o ran y taflwybr, rwy'n hapus i drafod hwnnw ymhellach mewn ffordd agored iawn.

14:40
Prydau Ysgol

3. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gael gwared ar fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth o brydau ysgol? OQ60820

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion i ystyried yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf a'r argymhellion sy'n ymwneud â safonau maethol, gan gynnwys ystyried bwyd wedi'i brosesu'n helaeth. Mae gwaith paratoi i gefnogi'r adolygiad hwn bellach ar y gweill.

Diolch. A diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr holl drafodaethau a gawsom ar y mater pwysig hwn. Ond mae'r dadansoddiad diweddar o faint y dystiolaeth yn y BMJ fis diwethaf yn ychwanegu at y corff o dystiolaeth ar y pryder iechyd cyhoeddus pwysig hwn. Mae hyn yn fethiant o ran rheoleiddio a labelu bwyd i'w fwyta gan bobl, sydd, yng ngoleuni Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a materion eraill, yn fater yn bennaf i Senedd y DU ei ddatrys ar frys. Y broblem i ni yng Nghymru yw pa mor gyflym ac am ba gost y gallwn gael gwared ar fwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth o systemau caffael cyhoeddus. Gan gofio am y rhwymedigaeth i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac o gofio'r gwaith sydd ar y gweill mewn lleoedd fel sir Gaerfyrddin a sir Fynwy, pa gamau y dylai'r Llywodraeth sy'n dod i mewn eu cymryd i ymgysylltu â chyrff caffael a darparwyr i gael gwared ar y cemegau hyn sydd wedi'u prosesu'n helaeth o brydau ysgol? 

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn ac am ddadlau'n gyson ac yn angerddol dros yr achos hwn, ac mae gennyf gydymdeimlad mawr â'r dadleuon y mae'n eu gwneud, fel y bydd hi'n gwybod o'n trafodaethau mewn cyd-destunau eraill. Cefais gyfle i edrych ar erthygl y BMJ mewn perthynas â hyn, ac er ei fod yn eithaf cymhleth o safbwynt technegol, cefais fy nharo gan rywbeth nad oeddwn i fy hun wedi'i weld mor ganolog â rhai o'r elfennau eraill yn hyn, mae arnaf ofn, sef y berthynas rhwng mwy o amlygiad, fel petai, fel y maent yn ei ddisgrifio yn yr erthygl, i fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth a'r risg uchel o ganlyniadau niweidiol sy'n gysylltiedig â chwsg, yn ogystal â chanlyniadau gorbryder a phryderon iechyd meddwl eraill. Rwy'n credu bod y ddadl yn aml yn canolbwyntio ar oblygiadau bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth i iechyd corfforol, felly rwy'n credu ei bod yn drafodaeth ehangach na hynny mewn rhai ffyrdd.

Felly, rwy'n credu bod gan gaffael rôl i'w chwarae. Rydym eisoes yn gwneud gwaith o fewn y Llywodraeth ar dreialu dulliau mwy lleol o gyflawni'r system fwyd ysgolion, a all wedyn fod yn fwy perthnasol i fwyd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, ac mae cymysgedd o awdurdodau lleol, cyfanwerthwyr bwyd a thyfwyr yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd i ganolbwyntio ar sut y gallwn gyflenwi bwyd ysgol yn lleol, y credaf ei fod yn rhan o'r ateb i'r her. Bydd hynny, yn anochel, yn golygu bod llai o amlygiad, fel petai, i fwyd wedi'i brosesu'n helaeth. Un o'r darnau o waith y cyfeiria erthygl y BMJ ato yw'r hyn y mae'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg—SACN—wedi bod yn ei wneud, a bydd y gwaith arbenigol y maent yn ei wneud yn llywio ein hadolygiad o'r rheoliadau. Felly, bydd y gwaith y maent eisoes yn ei wneud ar fwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn cael ei ystyried yn llawn yn y ffordd yr ydym yn adolygu'r rheoliadau. Ac wrth gwrs, mae cysylltiad clir rhwng yr hyn y mae'r rheoliadau'n ei gwneud ofynnol iddo gael ei ddarparu mewn ysgolion a'r broses gaffael, felly mae alinio'r rheini'n hanfodol wrth gwrs.  

Mae'n gwestiwn diddorol iawn ac mae'n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo, oherwydd, pan oeddwn yn gweithio yn y GIG, roeddwn i'n arfer cael yr un dadleuon yn y cyd-destun hwnnw, o gefndir adsefydlu, a ddywedai, 'Wel, sut y gallwn ni ddisgwyl i gleifion wella'n llawn heb fwyd maethlon wedi'i dyfu'n lleol?', ac mae'r un mor wir am blant a datblygiad plant hefyd. Yn fwyaf arbennig, mae Llywodraeth y DU wedi cynnig cynllun sgorio ysgolion iach yn Lloegr, rhywbeth y mae'r mwyafrif helaeth o rieni o'i blaid, lle rhoddir sgôr i werth maethol cinio ysgol a ryddheir i'r cyhoedd mewn system raddio sydd ar gael i rieni. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymchwilio i rywbeth tebyg, lle rhoddir sgôr yn seiliedig ar werth maethol y bwyd ysgol a ddarperir i ddisgyblion. Diolch.

Ein dull ni, fel y soniais yn yr ateb i Jenny Rathbone, yw cynnal adolygiad o'r rheoliadau yn eu cyfanrwydd i sicrhau bod safonau'n cael eu gyrru drwy'r newid rheoleiddiol y bwriadwn ei gyflwyno. Felly, rydym yn gobeithio y bydd hynny'n gwneud y gwahaniaeth sy'n flaenoriaeth i bawb ohonom. 

14:45
Pynciau STEM

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM? OQ60806

Rydym wedi ymrwymo dros £1.6 miliwn ar gyfer mentrau dysgu STEM ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cydnabod bod STEM yn hanfodol wrth baratoi ein plant a'n pobl ifanc ar gyfer byd technolegol sy'n newid yn gyflym.

Diolch am yr ateb hwnnw. Yr wythnos diwethaf, mynychais lansiad y gynghrair pŵer cynaliadwy, ynni adnewyddadwy ac adeiladu, neu SPARC fel y caiff ei adnabod orau, yng Ngholeg Sir Benfro. Cefnogir y fenter gan Blue Gem Wind, Floventis Energy, Ledwood Mechanical Engineering, Porthladd Aberdaugleddau, ynni adnewyddadwy RWE, ysgolion uwchradd lleol a Choleg Sir Benfro, a'i nod yw hyrwyddo amrywiaeth rhywedd yn y diwydiannau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r fenter hon, ac a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynlluniau fel hyn a beth rydych chi'n ei wneud i efelychu'r mathau hyn o gynlluniau ledled Cymru?

Mae hynny'n wych i'w glywed. Roeddwn yng Ngholeg Sir Benfro yn eithaf diweddar yn siarad gyda nhw am—. Maent yn bendant yn arwain y ffordd ar addysg ynni adnewyddadwy yn ehangach. Gallais siarad â phrentisiaid, ac roedd rhai ohonynt yn yn brentisiaid benywaidd, ac roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n wych gweld cymysgedd rhwng y rhywiau yn y gwaith a wnaent. Rydym o ddifrif ynglŷn â hyn yng Nghymru, fel y bydd yr Aelod yn gwybod. Mae'n cael ei gynnwys yn ein rhaglenni addysg ar gyfer STEM. Un o'r mentrau sydd gennym yw rhaglen Denu Merched i Faes STEM Cynllun Addysg Peirianneg Cymru, a rhaglen cynhwysiant a thegwch ysgol gyfan y Sefydliad Ffiseg. Felly, mae llawer o fentrau yr ydym yn eu blaenoriaethu oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyflwyno STEM fel cyfle sydd yr un mor hygyrch i fechgyn a merched. Rwy'n credu bod pethau'n newid. Rwy'n credu y gallwn ni weld hynny'n barod, oni allwn? Ond fel y dywedodd yr Aelod, mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar yr arfer gorau y mae colegau penodol, ac ysgolion eu hunain yn aml, yn ei wneud, a chyffredinoli hynny drwy'r system drwyddi draw. Rwy'n meddwl amdano'n arbennig yng nghyd-destun ynni adnewyddadwy, y bydd gwerthfawrogiad o raddfa'r cyfle y mae hynny bellach yn ei gynrychioli i economïau ledled Cymru, gan gynnwys etholaeth yr Aelod, yn cefnogi'r gwaith hwnnw, oherwydd rwy'n credu y gall pawb weld ei fod yn gyfle i bawb.

Fel un o'r ychydig Aelodau o'r Senedd sy'n wyddonydd cymhwysol ac a astudiodd fathemateg bur, ffiseg a chemeg Safon Uwch, edrychaf ar Lywodraeth gyda phedwar Aelod sy'n meddu ar gymwysterau cyfreithiol, wrth i ddau ohonynt, gan eich cynnwys chi, Weinidog, gystadlu i ddod yn Brif Weinidog. Os ydym am i fwy o ddisgyblion ysgol astudio pynciau STEM, onid yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i gymdeithas weld bod gwyddonwyr a pheirianwyr yr un mor werthfawr â chyfreithwyr a bargyfreithwyr?

Wel, nid wyf yn siŵr ynglŷn â chywair ymrannol y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn. Gallwn gael cymaint o fentrau ag y dymunwn, fel rwyf newydd eu trafod gyda Paul Davies ac fel y trafodwyd yn y Siambr sawl gwaith o'r blaen, ond credaf ei fod yn ymwneud rhannol â sut rydym yn disgrifio'r dyheadau i bobl ifanc o ran y math o yrfaoedd y dylent fod yn anelu amdanynt. Er fy mod yn credu ein bod yn gwneud llawer o hynny mewn perthynas â gwyddonwyr a pheirianwyr, byddwn yn dweud y dylem ystyried eu bod yn fwy gwerthfawr na chyfreithwyr a bargyfreithwyr o gofio'r cyfraniad y gallant ei wneud i'n ffyniant yn y dyfodol, ac rwy'n dweud hynny, fel y mae Mike yn cydnabod, fel cyfreithiwr fy hun. Ond rwy'n credu bod yna bwynt pwysig, sef na ddylem gyfyngu ar yr ystod o uchelgeisiau ar gyfer ein pobl ifanc a'n bod yr un mor gefnogol mewn perthynas â meysydd a phroffesiynau nad ydym wedi cael cymaint o gysylltiad â nhw ein hunain. Mae'n ddyletswydd arnom ym mhob rhan o'r system ysgolion ac addysg i helpu i agor meddyliau ac ehangu gorwelion pobl ifanc, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae wedi'i ddweud.

Bwlio mewn Ysgolion

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau dull dim goddefgarwch o ran bwlio? OQ60809

Mae gan Lywodraeth Cymru ddull dim goddefgarwch at unrhyw fath o fwlio yn system addysg Cymru ac rydym yn disgwyl yr un peth gan ysgolion. Rydym yn darparu ystod o adnoddau a chymorth i ysgolion fel y gallant atal a mynd i'r afael â bwlio, gan gynnwys ein canllawiau gwrth-fwlio statudol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ateb y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad oes lle i fwlio yn ein cymdeithas, ac yn sicr nid yn ein hysgolion a'n system addysg. Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar â rhiant y mae ei fab yn cael ei fwlio mewn ysgol yn fy etholaeth. A ydych yn cytuno â mi a fy etholwr y dylai arweinyddiaeth ysgolion ddefnyddio'r holl adnoddau a phwerau sydd ar gael iddynt i atal bwlio mewn ysgolion a'r tu allan iddynt, ac os felly, a wnewch chi ddefnyddio eich swydd yn Llywodraeth Cymru i annog arweinwyr ysgolion i wneud hynny? Diolch.

14:50

Wel, diolch i Jack Sargeant am ddod â'r mater hwn i'r Siambr. Mae'n fater pwysig iawn. Rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau statudol ar wrth-fwlio i ysgolion ac fel y gŵyr, mae'n ofynnol i ysgolion roi sylw i ganllawiau statudol. Rwy'n cytuno nad oes lle i fwlio mewn ysgolion nac yn ein cymdeithas ehangach, ac rwy'n credu y byddem i gyd yn cydnabod ei bod yn heriol weithiau i ysgolion allu mynd i'r afael â materion sy'n digwydd y tu allan i ysgolion. Hoffwn annog ysgolion nid yn unig i ymyrryd pan fydd problemau'n dechrau dod i'r amlwg, ond i geisio hyrwyddo perthnasoedd llawn parch yn y ffordd ehangach honno o fewn cymuned yr ysgol. Ac rwy'n credu bod sicrhau ein bod yn darparu cymorth, yn darparu arweiniad ar hynny yn rhan sylweddol o'r gwaith y gallwn ei wneud. Felly, mae deunyddiau am ddim a dwyieithog i gefnogi mentrau gwrth-fwlio, ac yn ehangach, i gefnogi perthnasoedd llawn parch, ar gael ar hyn o bryd i ysgolion a lleoliadau addysg drwy Hwb. Ac fel y soniais nawr, rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio'n drylwyr, a gobeithio y byddant yn cefnogi arweinwyr ysgolion hyd yn oed ymhellach.

Diolch i Jack am godi'r mater hwn. Weinidog, dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi cael fy llethu gan hanesion am fwlio plant mewn ysgol yn fy rhanbarth. Mae llawer o bobl ifanc wedi dioddef effaith ddramatig ar eu bywydau gan fwlio parhaus yn Ysgol Brynteg. Mae rhieni wedi dweud wrthyf am y trawma meddyliol difrifol y mae eu plant yn ei ddioddef neu'r cam-drin corfforol sy'n digwydd bron bob dydd, a sut, drwy'r cyfan, nad ydynt yn credu bod eu pryderon yn cael sylw go iawn. Weinidog, sut y gallwn ni ddweud bod dull dim goddefgarwch tuag at fwlio'n bodoli pan fydd pobl ifanc yn cael eu cam-drin yn rheolaidd a'u bwlis yn cael eu trin yn sensitif a'r dioddefwyr yn cael eu gorfodi i chwilio am ysgolion eraill? A yw'n iawn nad oes gan rieni ddewis arall ond symud eu plant o ysgol am fod eu plentyn ofn cerdded drwy'r coridorau neu ddefnyddio'r ystafelloedd ymolchi? Weinidog, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i gael gwared ar fwlio mewn ysgolion yng Nghymru?

Wel, nid wyf am wneud sylwadau ar yr enghraifft benodol y mae'r Aelod wedi'i rhoi am nad oes gennyf unrhyw wybodaeth bersonol mewn perthynas â'r digwyddiadau y mae'n cyfeirio atynt, dim ond dweud, yn y ffordd yr atebais y cwestiwn gan Jack Sargeant, ein bod ni fel Llywodraeth o ddifrif yn ei gylch. Yn fy mhrofiad i, yn gyffredinol mae ysgolion o ddifrif yn ei gylch. Efallai y bydd heriau penodol mewn rhai ysgolion, yn amlwg, ond mae angen inni sicrhau bod diwylliant gwrth-fwlio ym mhob ysgol ac fel roeddwn yn dweud yn gynharach, mae hynny'n dechrau gydag ysgolion yn hyrwyddo perthnasoedd llawn parch yn fwy eang. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr adnoddau a ddarparwn, y flaenoriaeth a roddwn i hyn a'r gwaith pellach sydd wedi'i gynllunio gennym i ddiweddaru ein canllawiau statudol yn gwneud gwahaniaeth wrth gefnogi arweinwyr ysgolion i sicrhau bod gan ysgolion ddiwylliannau gwrth-fwlio a hyrwyddo perthnasoedd llawn parch yn ehangach.

Gwella Presenoldeb Disgyblion

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella presenoldeb disgyblion? OQ60839

Mae canllawiau statudol—. Na, maddeuwch i mi; rwyf wedi troi gormod o dudalennau.

Ie. Diolch yn fawr. 

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ffocws di-ildio ar barhau i wella presenoldeb. Dyna pam y sefydlais y tasglu presenoldeb cenedlaethol ym mis Ionawr i ysgogi gwelliannau i lefelau presenoldeb ac i ailgynnau diddordeb ein dysgwyr.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Y flwyddyn cyn y pandemig, roedd tua un o bob 20 disgybl ysgol uwchradd yng Nghymru yn cael ei ystyried yn absennol yn barhaus, ond ym mis Tachwedd 2023, roedd hynny wedi cynyddu i un o bob chwech. Nawr, yn amlwg nid problem yng Nghymru'n yn unig yw hi; mae'r pandemig wedi rhyddhau epidemig o absenoldeb parhaus ar draws y byd gorllewinol, ac mae gwahanol lywodraethau'n ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith, gan gynnwys agor 18 canolfan presenoldeb, dan arweiniad ysgolion sydd â chyfraddau presenoldeb gwych, i rannu syniadau ac arferion gorau er mwyn cynyddu ffigurau presenoldeb yn gyffredinol. Yn y cyfamser, fel y dywedoch chi, Weinidog, rydych wedi lansio'r tasglu presenoldeb cenedlaethol i fynd i'r afael ag absenoldeb parhaus. Pan siaradais ag un swyddog addysg awdurdod lleol yng Nghymru, clywais lawer am y gwaith da y mae ysgolion yn ei wneud yn unigol i gynyddu presenoldeb yn eu hysgolion ac yn eu hardal, ond pan ofynnais am y cyngor a'r gefnogaeth a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru a'r tasglu hwn, roeddent yn dweud nad oeddent wedi cael unrhyw gefnogaeth gan y naill na'r llall eto, a bod ysgolion ar y cyfan wedi cael eu gadael i ymdrin â'r broblem ar eu pen eu hunain. Nawr, cefais olwg ar gylch gorchwyl y tasglu presenoldeb cenedlaethol, ac mae'n dweud y bydd cyfarfodydd bwrdd yn digwydd bob deufis, yn amodol ar ymrwymiadau dyddiadur y Gweinidogion. Nid yw hynny'n ymddangos i mi fel Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif ynglŷn â'r broblem hon. Felly, a ydych chi'n hyderus fod ysgolion ledled Cymru yn cael digon o gefnogaeth yn ganolog gan Lywodraeth Cymru a chan y tasglu presenoldeb hwn, i roi'r arferion gorau iddynt allu mynd i'r afael ag absenoldeb parhaus yng Nghymru?

14:55

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi adolygu'r diffiniad o absenoldeb parhaus yng Nghymru, o'r ystadegau y mae'n eu dyfynnu, fel nad yw bellach yn cael ei ddiffinio fel colli 20 y cant o ysgol. Mae bellach wedi ei ostwng i 10 y cant, fel y gall y gefnogaeth fynd i mewn yn ddyfnach ac yn gynt. Felly, rydym yn disgwyl y bydd hynny'n ein galluogi i wneud gwahaniaeth, yn anad dim o ystyried yr arian a ddarparwn i swyddogion cyswllt teulu a gwasanaethau lles addysg i gefnogi'r flaenoriaeth bwysig hon.

Yr hybiau y mae'n sôn amdanynt yn Lloegr—. Ni allaf dyngu eu bod yn seiliedig ar y gwaith a wnawn yma yng Nghymru, ond mae gennym fforymau presenoldeb ar lefel awdurdod lleol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Nid wyf yn siŵr pa awdurdod penodol y mae'r Aelod yn siarad amdano, ond os yw am roi gwybod i mi wedi hyn, byddwn yn hapus i'w gyfeirio at y gwaith a fydd yn digwydd.

Mae gwaith y tasglu'n dasglu strategol cenedlaethol. Nid yw yno i ddatrys heriau mewn ysgolion unigol, fel y bydd yr Aelod yn deall, rwy'n siŵr, ac fe'i sefydlwyd ddiwedd y llynedd ac mae wedi cyfarfod ddwy waith eisoes, felly mae ei waith—mae wedi cyfarfod dair gwaith mewn gwirionedd—yn mynd rhagddo'n dda. Mae'n ein helpu i ddeall pa strategaethau y gallwn eu rhoi ar waith ar lefel genedlaethol i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol yn well, ac mae'n dwyn ffrwyth. Mae'r gwaith y mae'n ei wneud yn dweud pethau penodol iawn wrthym am ddata ychwanegol a fyddai'n ddefnyddiol yn y system, ond hefyd sut y gall arweinwyr ysgolion ddefnyddio'r data hwnnw'n fwy cyson i ddatblygu strategaethau effeithiol. Ac un o'r pethau hanfodol y mae'n gallu ei wneud ar lefel genedlaethol yw nodi'r arferion gorau sy'n bodoli mewn ysgolion a'n helpu i ledaenu'r rheini drwy'r system gyfan. Ond mae wedi cael ei sefydlu ers rhai wythnosau, mae wedi cyfarfod dair gwaith yn barod, ac rwy'n hyderus y bydd yn ein helpu i ddatrys yr heriau.

Plant sy'n Colli Addysg

Mae canllawiau statudol ar waith sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru ar blant sy'n colli addysg. Maent i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch. Ar hyn o bryd, mae mater Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Cymru) 202X yn destun ymgynghoriad. Mae'n nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol sefydlu a gweithredu cronfa ddata plant sy'n colli addysg, a bod yn rhaid i'r gronfa ddata gynnwys plentyn nad yw'n ddisgybl cofrestredig a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol nad yw'r plentyn, neu efallai nad yw'r plentyn, yn cael addysg addas. Mae'r mwyafrif helaeth o blant sy'n colli addysg yn ddisgyblion ysgol cofrestredig, ac mae llawer o'r rheini'n blant yn y system ofal. Nid plant sy'n derbyn addysg yn y cartref yw'r rhain. Felly, pam mae'r rheoliadau hyn wedi'u targedu'n uniongyrchol at blant sy'n derbyn addysg yn y cartref yn hytrach na phlant sydd o ddifrif yn colli addysg? A pham mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn ddiweddar o dan y teitl 'plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon', lle mae'n disgrifio plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn addysg prif ffrwd fel rhai sydd mewn perygl yn sgil camfanteisio troseddol, pan fo tystiolaeth yn dangos nad yw plant sy'n derbyn addysg yn y cartref mewn perygl o'r fath?

Wel, fel y dywed yr Aelod, mae ymgynghoriad ar y gweill ar y materion hyn, ac mae croeso iddo ymateb iddo. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw syniadau sydd ganddo mewn perthynas ag ef, gan fy mod yn siŵr y bydd llawer o ymatebion. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 25 Ebrill.

Nid wyf yn derbyn disgrifiad yr Aelod o hyn, fod hon yn gronfa ddata ar addysg y dewisir ei rhoi yn y cartref. Rwy'n credu bod y cynigion yn gymesur ac yn rhesymol. Maent yno i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol. Os nad yw awdurdod lleol wedi gallu penderfynu bod plentyn sy'n derbyn addysg yn y cartref yn cael addysg addas, mae'n bosibl fod y plentyn hwnnw'n colli addysg ac yna bydd yn cael ei gynnwys yn y gronfa ddata. Mae hynny'n ymddangos i mi yn gam rhesymol i'w gymryd yng nghyd-destun yr her y mae rheoliadau'r gronfa ddata yno i'w datrys. Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu gyda phlant a phobl ifanc eu hunain i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed, a byddwn yn gwneud hynny mewn modd sy'n gyfeillgar i blant fel y gallwn ymgysylltu â'r gynulleidfa ehangaf sy'n bosibl. Mae'n bwysig ein bod yn clywed yr holl leisiau, a hoffwn annog pobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yng Nghymru, dim ond Prifysgol Caerdydd sy'n darparu doethuriaeth—

15:00
Hyfforddiant ar gyfer Seicolegwyr Addysg yn Arfon

8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am hyfforddiant ar gyfer seicolegwyr addysg yn Arfon? OQ60808

Wel, mae'n gysur i fi bod yr Aelod wedi gwneud hynny, gan fy mod i wedi rhoi'r ateb anghywir i'r cwestiwn blaenorol, neu gychwyn gwneud hynny o leiaf. [Chwerthin.]

Mae seicolegwyr addysg yn chwarae rhan bwysig yn y system addysg yn y gogledd. Rŷn ni wedi ymrwymo dros £2.6 miliwn rhwng 2022 a 2025 i hyfforddi a chadw seicolegwyr addysg newydd yng Nghymru.

Yng Nghymru, dim ond Prifysgol Caerdydd sy'n darparu'r ddoethuriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso fel seicolegydd addysg, ac mae hyn yn peri rhwystrau penodol i'r gogledd-orllewin. Mae'n rhaid i ddarpar seicolegwyr addysg deithio neu adleoli i Gaerdydd, a does yna ddim sicrwydd y byddan nhw'n dod yn ôl i'r gogledd. Mae yna heriau eraill hefyd yn y maes yma. Does gen i ddim amser i fynd ar ôl hynny heddiw, ond dwi yn mynd i ofyn pedwar cwestiwn penodol. Ydych chi'n cytuno bod angen llwybr hyfforddi wedi'i leoli yn y gogledd, sicrhau cyfle cyfartal i awdurdodau lleol y gogledd, hybu ymgeiswyr sy'n medru'r Gymraeg, ac, yn olaf, edrych ar lefel bwrsari seicolegwyr dan hyfforddiant?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Ynglŷn â'r bwrsari, wrth gwrs, rŷn ni'n talu'r costau addysgu ar gyfer pobl ar y cynllun ac yn gofyn iddyn nhw, fel ymateb i hynny, i ymrwymo yn y system yma yng Nghymru am ddwy flynedd. O ran denu pobl sydd yn siarad Cymraeg, o ran y bwrsari, mae gofyniad bod isafswm o bobl yn gallu hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn hynny o beth, ac yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r ffigurau gyda fi, roedd mwy na'r targed wedi'i gyrraedd. Felly, mae hynny, o leiaf, rwy'n credu, yn galonogol, ond rwy yn derbyn bod her mewn denu pobl i mewn i'r proffesiwn yn y gogledd-orllewin yn benodol, mae'n ymddangos, ac mae denu ymgeiswyr i astudio yng Nghaerdydd wedi profi i fod yn heriol. Felly, mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio'n agos gyda chynghorau ar draws Cymru i edrych ar beth allan nhw ei wneud er mwyn sicrhau lleoliadau hyfforddi i fyfyrwyr yn yr ardaloedd hynny, ac efallai fod mwy i wneud i adeiladu ar y cysylltiadau hynny i ddenu myfyrwyr i mewn i'r system yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu, yn y maes hwn, fod gennym ni gynllun da; mae gennym ni lefel o ymrwymiad a lefel o gefnogaeth sydd yn sylweddol, ac mae'n ymddangos bod cynnydd yn digwydd o ran y rhifau sydd yn dod drwy'r system, yn benodol i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ond rwy'n derbyn bod angen gwaith penodol i sicrhau bod cynnydd a bod budd hynny'n cael ei deimlo yn y gogledd-orllewin hefyd. 

3. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-2024

Yr eitem nesaf, felly, fydd eitem 3. Y ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2023-24 yw hon, a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cyflwyniad yma, sef Rebecca Evans.

Cynnig NDM8493 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n sicrhau cynnydd o £429 miliwn i'n cynlluniau gwariant refeniw a chyfalaf—cynnydd o 1.9 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023.

Mae'r gyllideb hon yn adlewyrchu'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn yr ymarfer arbedion yn ystod y flwyddyn ym mis Hydref. O ganlyniad i'r gwaith hwnnw, darparwyd cyllid ychwanegol o £425 miliwn i'r GIG, a £125 miliwn i Trafnidiaeth Cymru i helpu i leddfu pwysau costau cynyddol.

Mae newidiadau ychwanegol o £215 miliwn pellach o refeniw a £40 miliwn o gyfalaf wedi'u gwneud yn y gyllideb atodol hon. Rydym wedi gwneud dyraniadau pellach i'r prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol: dyrannwyd £59 miliwn ar sail untro i adlewyrchu diffyg a ragwelir yn y prif grŵp gwariant, ac mae dyraniad o £95 miliwn wedi'i reoleiddio yn y gyllideb hon mewn perthynas ag elfen taliad adfer ôl-ddyddiedig y cynnig cyflog a wnaed i staff 'Agenda ar gyfer Newid' ar 20 Ebrill 2023. Mae £10 miliwn o gyfalaf wedi'i ddarparu i gefnogi ystod o geisiadau offer a digidol ar draws y gwahanol fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.

Mae £34 miliwn o gyfalaf i gefnogi llinell graidd y Cymoedd wedi'i ddyrannu i'r prif grŵp gwariant newid hinsawdd, a £15 miliwn ar gyfer cynnal a chadw a gwaith cyfalaf arall o fewn rhwydwaith cefnffyrdd Cymru. Mae'r prif grŵp gwariant addysg a'r Gymraeg wedi cael £12.56 miliwn o gyfalaf i fynd i'r afael â gwaith lliniaru concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC), ac i gefnogi cyfalaf cynnal a chadw a phwysau iechyd a diogelwch cysylltiedig ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Mae'r gyllideb atodol hon hefyd yn rheoleiddio'r cyllid a ddaeth i law drwy symiau canlyniadol Barnett, sy'n deillio o newidiadau i wariant adrannau'r DU. Ar 13 Chwefror y cefais gadarnhad o gyllid ychwanegol o £231 miliwn o refeniw a £8 miliwn o gyfalaf, yn deillio o gyllid canlyniadol Barnett. Yn rhannol oherwydd bod yr hysbysiad yn ei gylch mor ddiweddar, mae ein cynlluniau gwariant ar gyfer 2024-25 a gytunwyd yr wythnos diwethaf, yn ein cyllideb derfynol, yn defnyddio £180 miliwn o gyllid a gariwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol hon.

Diolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad. Byddwn yn darparu ymateb manwl i'w argymhellion maes o law. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf i siarad heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Bu’r pwyllgor yn craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 29 Chwefror, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei phresenoldeb.

Yn gyntaf, mae'r pwyllgor yn falch o weld mwy o arian yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i amcangyfrifon atodol y Deyrnas Unedig. Croesewir trosglwyddiadau ychwanegol bob amser, fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai dim ond ar y funud olaf y gwyddai’r Gweinidog beth oedd eu gwir werth, ac rydym yn nodi bod hyn wedi achosi anawsterau. Yn ein barn ni, mae hyn yn arwain at ansicrwydd diangen ac yn ei wneud yn heriol i’r Gweinidog gynllunio ar gyfer yr hirdymor.

Mae'r pwyllgor hefyd yn siomedig fod cais y Gweinidog, yn yr hydref, i newid cyllid o gyllidebau refeniw i gyllidebau cyfalaf wedi ei wrthod gan y Trysorlys. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog ddarparu rhagor o wybodaeth i egluro'r rhesymeg dros y penderfyniad a'r effaith y bydd yn ei chael ar sefyllfa ariannu'r Llywodraeth. Wedi dweud hynny, rydym yn falch fod y Trysorlys wedi caniatáu hyblygrwydd i'r Llywodraeth ddefnyddio'r cyllid hwn yn y flwyddyn ariannol nesaf a hepgor y terfynau tynnu i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, i gydnabod pa mor ddiweddar y gwnaed y cyhoeddiadau. Fodd bynnag, fel y trafodwyd yn y Senedd ychydig wythnosau yn ôl, nid yw'n briodol i'r trefniadau hyn gael eu gwneud ar fympwy'r Trysorlys ac ar sail achosion unigol, ac rydym yn galw eto am ffurfioli pwerau o'r fath.

Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn nodi bod y gyllideb atodol hon yn gweithredu'r hyn a gyhoeddwyd gan ddiweddariad ariannol y Gweinidog, a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Er ein bod yn cydnabod gwerth yr ymarfer hwn, rydym yn parhau o'r farn y dylai'r Gweinidog fod wedi cyflwyno cyllideb atodol ychwanegol i sicrhau tryloywder, a dylai hyn ddigwydd yn y dyfodol pe bai'r Gweinidog yn gwneud newidiadau sylweddol yn ystod y flwyddyn. Er ein bod yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y Gweinidog wedi ymddangos ger bron y pwyllgor i drafod y materion hyn ym mis Tachwedd, rydym am ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i hyn ddigwydd fel mater o drefn pan fydd newidiadau sylweddol yn cael eu cyhoeddi.

Rwy'n troi nawr at ddyraniadau portffolio penodol a wnaed yn y gyllideb atodol hon. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol a roddir i'r gwasanaeth iechyd, ond mae gennym bryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y dull hwn o weithredu, o gofio ei fod yn digwydd mor fuan ar ôl dyraniadau a wnaed ym mis Hydref. Mae gennym ofnau tebyg ynghylch y dyraniadau a roddwyd i Trafnidiaeth Cymru. Mae nifer y byrddau iechyd sydd heb gyrraedd eu cyfansymiau rheoli targed eleni o ddiddordeb arbennig, yn enwedig am na fydd gwybodaeth am eu perfformiad mewn perthynas â'r targedau hyn ar gael tan yr haf. O ganlyniad, galwn ar y Gweinidog i ddarparu manylion am gynnydd ar hyn, fel y gallwn ddeall sefyllfa ariannol byrddau iechyd cyn gynted â phosibl.

Rydym hefyd yn croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog na fydd gostyngiadau yn y dyraniadau adnoddau ar gyfer polisïau a deddfwriaeth iechyd meddwl yn arwain at doriadau i wasanaethau rheng flaen. Serch hynny, roedd hi'n anodd deall beth mae'r newidiadau hyn yn ymwneud ag ef, ac rydym wedi gofyn i'r Gweinidog egluro eu heffaith ymarferol.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am ddau faes arall i orffen. O ran y dyraniadau ychwanegol a wnaed i Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn cynnal asesiad effaith i sicrhau bod dull Llywodraeth Cymru o weithredu yn darparu gwerth am arian. Yn ogystal, er gwaethaf sicrwydd gan y Gweinidog na fydd y gostyngiad yn y prif grŵp gwariant gwasanaethau canolog a gweinyddiaeth yn effeithio ar lefelau staff Llywodraeth Cymru, gofynnwn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gapasiti o fewn gwasanaeth sifil Cymru.

Yn olaf, rydym yn croesawu bod gan y Gweinidog brosesau cadarn ar waith i fonitro gwariant yn ystod y flwyddyn. Wedi dweud hynny, rydym am iddi fynd ymhellach, ac rydym wedi argymell bod gwybodaeth alldro yn cael ei chyhoeddi'n rheolaidd o fewn y flwyddyn, i alluogi'r pwyllgor i edrych ar wariant y Llywodraeth mewn amser real.

Fel arfer, rydym yn croesawu ymgysylltiad parhaus y Gweinidog â ni ar y materion hyn, a gofynnwn iddi fwrw ymlaen â’r meysydd a nodwyd yn ein hadroddiad. Diolch yn fawr.

15:10

Rwy'n gwybod ein bod wedi cael llawer o ddadleuon ar gyllid Llywodraeth Cymru yn ddiweddar. Mae pob un o'r rhain, er yn ymddangos yn eithaf technegol, yn bwysig ac mae gan bob un ohonynt stori i'w hadrodd. Gadewch inni beidio ag anghofio cyd-destun y gyllideb atodol hon. Gwyddom fod llawer o hyn yn rheoleiddio'r newidiadau i'r gyllideb a ddigwyddodd yn dilyn y cyhoeddiadau cyllidebol annisgwyl a welsom yn sgil rhybudd y Prif Weinidog am ddiffygion a ragwelir yn ystod toriad yr haf. Gwnaed y penderfyniadau disymwth hynny ym mis Hydref oherwydd blaengynllunio gwael gan y Llywodraeth Lafur hon, a oedd yn amlwg wedi methu cydnabod y dangosyddion chwyddiant a oedd yn hysbys cyn gosod y gyllideb derfynol ar gyfer eleni. Creodd y rheolaeth wael hon aflonyddwch a phryder enfawr mewn llawer o feysydd wrth i'w cyllid gael ei dynnu'n ôl.

Mae'r gyllideb atodol yn darparu arian ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau craidd y GIG, sydd i'w groesawu, ond ni all guddio canlyniadau blynyddoedd o danariannu ein gwasanaeth iechyd o ganlyniad uniongyrchol i agenda bolisi Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais ar sawl achlysur, pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio holl rym y cyllid a ddarparwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd Cymru, byddai ein GIG yng Nghymru wedi bod yn fwy gwydn, a byddai ein byrddau iechyd wedi bod yn fwy parod i reoli'r heriau sy'n eu hwynebu heddiw. 

Roedd y set hon o benderfyniadau ariannu hefyd yn golygu toriadau o £17.5 miliwn i brentisiaethau, toriadau a gafodd eu cario ymlaen yng nghyllideb ddrafft 2024-25. Nawr, er bod cyllideb derfynol 2024-25 yn adfer £5 miliwn, bydd y penderfyniad i dorri'r gyllideb honno yn arwain at ostyngiad yn nifer y prentisiaethau a fydd yn cael eu darparu yn nhymor y Senedd hon. Mae hyn yn drueni gan fod y cyrsiau hyn wedi caniatáu i'r genhedlaeth nesaf o grefftwyr, ffermwyr, peirianwyr a llawer o broffesiynau eraill gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu a allai helpu i dyfu economi Cymru. Ni fydd torri'r prentisiaethau hyn yn gwneud dim heblaw sicrhau bod Cymru'n parhau i lusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig o ran enillion cyfartalog a gweithgarwch economaidd. 

Mae economi Cymru yn rhywbeth nad yw'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio digon arno. Ein busnesau bach, sy'n ffurfio'r mwyafrif helaeth o gyfleoedd busnes a chyflogaeth i bobl ledled Cymru, yw anadl einioes yr economi a dylent fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae angen i Lywodraeth Cymru greu amgylchedd economaidd lle gall busnesau ffynnu, nid un lle mae busnesau'n cael trafferth goroesi. Gwelodd y gyllideb atodol hon ostyngiad o £31 miliwn i ardrethi annomestig, sy'n llym o ystyried mai busnesau yng Nghymru sy'n talu'r gyfradd uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain. I wneud pethau'n waeth, darparwyd cyllid gan Lywodraeth y DU i alluogi toriad mewn ardrethi busnes ar gyfer y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden, ond ni throsglwyddwyd y cymorth hwn ymlaen yng Nghymru. Mae'r penderfyniad hwn yn cosbi busnesau yma, gyda busnesau yn y sector yn talu bron ddwbl y swm o ardrethi y byddent yn ei dalu pe baent yr ochr draw i'r ffin.

Ddirprwy Lywydd, os ydym am weld Cymru sy'n ffynnu, mae angen inni weld gwell cynllunio strategol hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus niferus ac ar gyfer ein heconomi wrth gwrs, gan sicrhau nad yw teuluoedd a busnesau yn cael eu dal yn ôl rhag bod eisiau byw yma. Diolch.

Fel rydym ni wedi'i glywed yn barod gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae'r gyllideb atodol yma yn ymwneud yn bennaf â'r broses ailflaenoriaethu gafodd ei chynnal nôl ym mis Hydref. Mae wedi cymryd bron i saith mis—dros hanner y flwyddyn ariannol gyfredol—i ni gael darlun llawn o gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, rydym ni mewn sefyllfa lle mae materion cyllidebol Cymru yn cael eu cyflwyno i ni fel fait accompli heb fawr o amser, mewn difrif, i allu craffu arnyn nhw. A dwi'n ategu galwadau Cadeirydd y pwyllgor am adolygiad i weld a ydy'r protocol sydd gennym ni ar hyn o bryd yn rhoi i ni'r lefel o atebolrwydd y dylem ni allu ei ddisgwyl gan Lywodraeth genedlaethol. 

Ond i droi at gynnwys penodol y gyllideb atodol yma, mae o yn destun gofid bod y cynlluniau yn bennaf yn ymwneud â rhoi plastr dros dyllau cyllidebol mawr sydd wedi cael eu caniatáu i gronni dros flynyddoedd lawer. Fel y soniom ni nôl ym mis Hydref, mae'n rhaid i ni roi'r £425 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng nghyd-destun y ffaith bod yna ddiffyg cronnus o £648 miliwn ar draws y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn y flwyddyn gyfredol. Er fy mod i’n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ar gyfer lleihau’r diffyg hwnnw, maen nhw wedi gorfod darparu £59 miliwn arall i gyfri am y ffaith y bydd tri bwrdd iechyd yn methu â chyrraedd y targedau hynny.

Mae hi’n anodd dod i unrhyw gasgliad ond ein bod ni, o ran y gwasanaeth iechyd, ar drywydd cwbl anghynaliadwy dan y Llywodraeth yma. Drwy’r amser rydyn ni’n gweld rhestrau aros yn hirfaith, rydyn ni’n gweld targed ar ôl targed yn cael ei fethu, ac er gwaethaf ymroddiad staff anhygoel ar draws y gwasanaeth iechyd, rydyn ni’n gweld lefelau o ofal iechyd sydd yn dal yn disgyn yn fyr iawn o’r safon y dylem ni allu ei disgwyl. Heb newid y cwrs ar frys, rydyn ni’n mynd i fod yn sownd mewn rhyw gylch dieflig lle mae cyfran gynyddol o gyllideb Cymru yn cael ei thaflu at iechyd heb weld y gwelliant sylfaenol y dylem ni yn sgil hynny yn safon y gwasanaeth.

Yn anffodus, thema debyg rydyn ni’n ei gweld yn achos trafnidiaeth—£125 miliwn yn cael ei ddyrannu i Trafnidiaeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i lenwi bylchau mewn refeniw yn hytrach nag i hybu perfformiad gweithredwr rheilffyrdd sydd wedi cyrraedd y gwaelod yn ddiweddar ar gyfer boddhad cwsmeriaid mewn arolwg o ddefnyddwyr rheilffyrdd Transport Focus. Rydyn ni, wrth gwrs, yn cydnabod bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol iawn ac anochel ar nifer y teithwyr, ond dim ond hyn a hyn o gydymdeimlad a all rhywun ei gael o wybod bod sawl gweithredwr rheilffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig eisoes wedi llwyddo i gyrraedd a rhagori ar eu lefelau teithwyr cyn y pandemig. Mae defnyddwyr rheilffyrdd Cymru, wrth gwrs, yn gorfod derbyn cynnydd arall ym mhrisiau tocynnau o fis Ebrill ymlaen.

Mi wnaf i’r pwynt yma, hefyd, ac mae hwn yn un pwysig: mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn eglur, dwi’n meddwl, ynglŷn â pham y dewiswyd cais uchelgeisiol KeolisAmey nôl yn 2018 o ystyried y gwahaniaeth mawr sydd yna rhwng gwerthiant tocynnau disgwyliedig a gwerthiannau tocynnau gwirioneddol. Mae COVID, wrth gwrs, fel dwi’n dweud, yn rhan o’r ateb hwnnw, ond rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro i amcanion KeolisAmey gael eu gwneud yn gyhoeddus er mwyn cael tryloywder. Mae hynny’n allweddol, ac mae yn destun pryder braidd nad ydy yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru â’r wybodaeth honno i law, yn enwedig o ystyried y goblygiadau mae hyn wedi’u cael ar gyflwr cyllidebau Cymru ac ar ein gallu ni i wario arian cyhoeddus yn dda yn y flwyddyn yma a’r flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae gwasanaethau bysiau, sy’n cyfri am 80 y cant o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn cael eu hamddifadu o gyllid, yn codi’r posibilrwydd y bydd cymunedau yn dod yn fwy ynysig nag erioed o’r blaen. Mae yna agendor, dwi’n meddwl, hefyd, rhwng buddsoddiad mewn Cymru drefol a Chymru wledig yn hyn o beth, rhywbeth mae angen i’r Llywodraeth fod yn ymwybodol ohono fo drwyddi draw.

Ond—ac mi wnaf i ei gadael hi yn fan hyn—mae’n rhaid hefyd, wrth gwrs, gydnabod y diffyg adnoddau sydd gan Lywodraeth Cymru oherwydd penderfyniadau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod yr angen i ddiwygio trefniadau ariannol presennol Cymru, sydd â chefnogaeth drawsbleidiol yn fan hyn yn y Senedd, yn cael ei gyfleu yn y termau cryfaf posibl i’r prif bleidiau yn San Steffan. Dwi’n gwybod nad yw'r Prif Weinidog ddim yn hoffi fy ngweld i'n dychwelyd wythnos ar ôl wythnos at y cwestiwn o gyllid teg i Gymru, ond dydy Plaid Cymru ddim ar fin stopio mynnu y tegwch mae Cymru yn ei haeddu.

15:15

Mae hon yn ddadl ryfedd. Mae'r gyllideb atodol hon yn rheoleiddio dyraniadau i ac o gronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios, ac mae'n cynnwys addasiadau i gyllideb Cymru i adlewyrchu effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU. Yn yr ail gyllideb atodol, mae'r arian, neu bron yr holl arian, wedi cael ei wario. Mae'r cyfan wedi'i ddyrannu. Mae bron y cyfan wedi cael ei wario. Nid wyf yn siŵr beth fyddai'n digwydd pe bai cyllideb atodol yn cael ei gwrthod. A ydych chi'n mynd i fynd ag arian o ddwylo pobl, o ddwylo'r gwasanaeth iechyd am na ddylech fod wedi ei wario?

Mae gennyf nifer o bwyntiau. Dylai symud refeniw i gyfalaf neu gyfalaf i refeniw fod yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru, nid penderfyniad i'r Trysorlys. Mae'r arian wedi cael ei ddyrannu i Gymru. Dylai'r ffordd rydym yn ei wario fod yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru wedi'i chefnogi gan y Senedd, ac nid wedi'i benderfynu gan y Trysorlys, nad yw'n ymddangos fel pe bai'n deall nad dim ond adran arall o'r Llywodraeth yw'r lle hwn; mae'n sefydliad datganoledig, ac mae'n Llywodraeth yn ei hawl ei hun. 

Rwyf am ofyn rhai cwestiynau i'r Gweinidog. A all y Gweinidog cyllid ein sicrhau na fydd unrhyw arian yn cael ei dalu'n ôl i'r Trysorlys? Os na ellir rhoi'r sicrwydd hwnnw, a gaf i awgrymu bod yr arian yn cael ei wario? Awgrymaf ei roi i lywodraeth leol, sydd bob amser angen arian ychwanegol. Pam na ellir rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant yn fwy rheolaidd, hyd yn oed os mai dim ond ar ffurf ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid y gwneir hynny?

Ac yn olaf, dyrannwyd £59 miliwn ychwanegol yn y gyllideb atodol i adlewyrchu diffyg a ragwelir ym mhrif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae rhagolygon presennol gan gyrff GIG yn dangos, er bod gwelliannau sylweddol, gyda phedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol yn rhagweld y byddant yn cyrraedd y targed o ran eu diffyg, bydd y tri arall yn methu cyrraedd y targed a osodwyd ym mis Tachwedd, pan gawsant arian ychwanegol. Pam fod byrddau iechyd yn gorwario? A all y Gweinidog Iechyd ddarparu datganiad ysgrifenedig ar orwariant, gan nodi'r meysydd lle mae gorwario'n digwydd a'r rhesymau dros y gorwariant? Mae'n ymddangos bod iechyd yn cael rhwydd hynt i orwario—mae'n arian iechyd; rhaid ei fod yn dda. Ac rwy'n credu bod angen dod â rhywfaint o ddisgyblaeth ariannol, a chynhyrchiant, mentraf ddweud, i mewn i'r gwasanaeth iechyd.

15:20

Rwy'n petruso i wrthddweud Mike Hedges, sy'n amlwg yn arbenigwr ar faterion ariannol, wrth glywed yr hyn y mae'n ei ddweud ac nad oes arian ychwanegol mewn gwirionedd gan ein bod eisoes wedi'i ddyrannu. Ond rwyf am ofyn i'r Gweinidog cyllid ynglŷn â dyraniad arian ychwanegol i gyllideb graidd y byrddau iechyd, ac rwy'n ei groesawu, oherwydd rwy'n cydnabod yr her ariannol y maent yn ei hwynebu yng ngoleuni costau cynyddol a chynnydd yn y galw. Roeddem eisoes wedi cydnabod pa mor heriol oedd hi iddynt ymdrechu i fantoli'r gyllideb yn yr amgylchiadau presennol. Rwyf am ddeall lle mae'n ein gadael ni o ran gallu datrys anghydfod cyflogau meddygon iau a meddygon ymgynghorol oherwydd fe wnaethom sôn yn gynharach faint o ddiffyg eglurder a gafwyd gan y Trysorlys ynghylch pa swm canlyniadol y gallwn ei gael o ddatrys anghydfodau cyflog yn y GIG yn Lloegr, sydd i'w weld yn fater cwbl allweddol.

Ond pe bai unrhyw arian ychwanegol i ddod, os nad yw dadansoddiad Mike Hedges lawn mor dywyll ag y mae'n ymddangos, roeddwn eisiau gwneud apêl ar ran y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, sydd wedi dioddef rhai o'r toriadau mwyaf difrifol, ac na chafodd ddim o'r gyllideb atodol a drafodwyd gennym yn fwyaf diweddar. Rwyf am ein hannog i ganolbwyntio'n benodol ar bwysigrwydd parhau i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyngor priodol i bobl sy'n mynd i ddyled, oherwydd, yn amlwg, mae'n llawer mwy costus iddynt symud hyd yn oed ymhellach i ddyled os nad ydynt yn deall y camau y gallant eu cymryd i liniaru hynny, yn ogystal â'r gronfa cymorth dewisol i helpu'r achosion mwyaf enbyd. Rydym yn croesawu'n fawr y buddsoddiad o £30 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd a drafodwyd gennym ddoe, ond yn amlwg, pe bai unrhyw arian sbâr o gwbl, bydd mwy o arian i'r gronfa honno yn talu ar ei ganfed ar sail buddsoddi i arbed yn y tymor hir.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Yn amlwg, mae'r ail gyllideb atodol yn rhan bwysig o'n proses gyllidebu. Mae'n cymeradwyo ac yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru a'r cyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol drwy gronfa gyfunol Cymru, ac mae'n gosod y terfynau y bydd sefyllfa'r alldro terfynol yn cael ei mesur yn eu herbyn.

Fe ymatebaf i rai o'r pwyntiau penodol, ac fe ddechreuaf gydag adroddiad y Pwyllgor Cyllid, yr ydym yn ddiolchgar iawn amdano, ac yn ddiolchgar am y craffu. Yn fwyaf arbennig, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o'r cyfyngiadau a osodir arnom o fewn y fframwaith cyllidol presennol, a'r cytundeb gan y pwyllgor fod yr hyblygrwydd sydd ei angen arnom yn cael ei gefnogi gan y pwyllgor, a chan y Senedd gyfan yn wir, yn y ddadl a gawsom yn ddiweddar. Felly, rwy'n falch iawn o weld yr argymhelliad penodol hwnnw, ond wrth gwrs, byddaf yn darparu ymateb llawn i'r adroddiad yn fuan.

Gofynnodd Mike Hedges am y gronfa wrth gefn a'r posibilrwydd o ddefnyddio'r arian hwnnw eleni. Rwyf am sicrhau fy nghyd-Aelodau nad oes unrhyw olwg y bydd hynny'n digwydd eleni, a hynny'n rhannol oherwydd y camau anarferol y bu'n rhaid i ni eu cymryd yn y flwyddyn ariannol hon i reoli'r sefyllfa. Yn y bôn, cawsom ganiatâd gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i dynnu popeth yn ôl o gronfa wrth gefn Cymru, a oedd yn rhan o'n cynlluniau, ond wrth gwrs, fe gawsom sefyllfa well na'r disgwyl yn codi drwy'r amcangyfrifon atodol, felly mae gennym le o fewn y gronfa wrth gefn i ymdrin ag unrhyw danwariant pellach sy'n dod i'r amlwg yn y flwyddyn ariannol hon, felly mae hwnnw'n lle mwy cyfforddus i fod bellach. Roeddem hefyd yn gallu cario rhywfaint o arian ychwanegol y tu allan i'r gronfa wrth gefn i mewn i'r flwyddyn nesaf, a oedd, unwaith eto, yn bragmatig ar ran Llywodraeth y DU.

O ran y newid cyfalaf i refeniw, mae'n wir mai dim ond cyfran Barnett, os mynnwch, a gawsom o'r newidiadau cyfalaf i refeniw y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU. Yn amlwg, mae hynny'n wirioneddol broblemus, oherwydd mae arnom angen system lle gallwn wneud y cais, boed i'r Trysorlys neu drwy gael cytundeb drwy'r Senedd—mae angen proses sy'n gweithio i ni yma yn y Llywodraeth ddatganoledig fel ein bod yn fwy na buddiolwyr yn unig, neu fel arall, yn sgil newidiadau sy'n digwydd yn adrannau San Steffan. Rydym angen cyfle i gychwyn y math hwnnw o newid ein hunain.

O ran tryloywder, fe wnaethom geisio bod mor dryloyw ag y gallem ym mis Hydref, pan oeddem yn darparu mwy o fanylion am yr ymarfer ailflaenoriaethu yr oedd yn rhaid i ni ei wneud yn Llywodraeth Cymru. Ond o ran rhoi hynny drwy gyllideb atodol ar y pryd, rwy'n credu y byddai hynny'n broblemus, yn yr ystyr mai'r hyn yr oeddem yn ei wneud oedd symud arian o fewn Llywodraeth Cymru, ond er mwyn ffurfio cyllideb atodol briodol mae angen ichi ddeall beth yw ochr arall y geiniog, os mynnwch—felly, y cyllid sydd hefyd yn dod i mewn gan Lywodraeth y DU—a dyna pam mae gennym y prif amcangyfrifon, sy'n llywio ein cyllideb atodol gyntaf ac unrhyw ddatganiad y gwanwyn, ac yna mae'r ail gyllideb atodol yn cael ei llywio gan yr amcangyfrifon atodol gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod angen ichi weld dwy ran yr hafaliad hwnnw cyn y gallwch chi gyflwyno cyllideb atodol ystyrlon.

Cafwyd rhai cwestiynau am ddatganiad y gwanwyn ac yn enwedig y cwestiwn ynglŷn ag a oedd unrhyw arian ychwanegol a wnaeth ddod a beth mae hynny'n ei olygu i gyflogau. Felly, mae £141 miliwn o'r cyllid ychwanegol a ddaeth drwy ddatganiad y gwanwyn yn arian yr oeddem eisoes yn gwybod amdano, ac mae eisoes wedi'i gynnwys yn ein cynlluniau ar gyfer iechyd y flwyddyn nesaf. Felly, nid oedd unrhyw beth yn arbennig o newydd yn y gofod hwnnw, er ein bod yn aros am rywfaint o gyllid gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r ardoll yr ydym fel arfer yn darparu cyllid drwodd i'r gwasanaethau cynghori ar ei chyfer. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau yn cael trafodaethau am hynny; fel arfer, rydym yn pasbortio'r arian hwnnw draw i'r gwasanaethau cynghori, felly byddwn yn ceisio gwneud hynny cyn bo hir.

Rwy'n credu mai dyna'r pwyntiau allweddol a godwyd. Rwy'n ceisio cadw at y flwyddyn ariannol hon, os gallaf, ond nid wyf wedi cael llawer o lwyddiant yn gwneud hynny hyd yn hyn. Rwy'n gwybod bod sawl cwestiwn ar iechyd yn benodol y dylwn ymateb iddynt. Fel y clywsom, ar hyn o bryd rhagwelir y bydd pob un ond tri o sefydliadau'r GIG yn cyflawni'r targedau a osodwyd ar eu cyfer ym mis Tachwedd, gan gynnwys, yn achos pedwar bwrdd iechyd, y gostyngiadau o 10 y cant yn y diffygion y gofynnwyd amdanynt gan y Gweinidog iechyd. Ond i fod yn glir, nid yw'r arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r byrddau iechyd; arian wrth gefn untro ydyw, a ddelir gan y prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i wrthbwyso'r sefyllfa a ragwelir yn gyfredol yn y byrddau hyn, ac rydym yn disgwyl i'r byrddau hynny barhau i wneud gwelliannau wrth inni ddod at ddiwedd y flwyddyn ariannol hefyd.

Rwy'n credu mai'r hyn a welwn yn y gyllideb atodol hon yw darlun o'r dewisiadau anodd y bu'n rhaid i ni eu gwneud, ac efallai na fyddem wedi gorfod gwneud rhai ohonynt pe baem wedi cael mwy o eglurder wrth i ni fynd drwy'r flwyddyn ariannol. Ond yr hyn a welwch hefyd, rwy'n credu, yw ein hymrwymiad parhaus i gefnogi a blaenoriaethu ein gwasanaethau cyhoeddus. 

15:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cwestiynau Amserol
Gwasanaethau Tân ac Achub

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i wasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru gynnal adolygiadau annibynnol i'w diwylliant a'u gwerthoedd? TQ1017

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fe wneuthum ddatganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y mater hwn ar 11 Mawrth.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth i gynnal adolygiad i ddiwylliant pob gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, fel y buom yn galw amdano, byth ers cyhoeddi canfyddiadau'r adroddiad damniol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ond ni all hyn osgoi'r ffaith bod y Llywodraeth wedi methu mynd i'r afael â'r mater hwn yn gynharach a bod hynny wedi erydu hyder staff yn y broses.

Yn eich datganiad ddydd Llun, yn cyhoeddi'r adolygiadau, fe wnaethoch chi grybwyll eich bod yn gwneud hynny am eich bod wedi parhau i dderbyn gohebiaeth, gan gynnwys honiadau gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr y ddau sefydliad, a bod angen i staff gael sicrwydd fod ganddynt fodd diogel ac effeithiol o rannu eu profiadau. O ystyried y rhesymeg hon, Ddirprwy Weinidog, ynghyd â thystiolaeth y rhai a siaradodd â newyddion ITV Cymru, gan gynnwys mwy na 35 chwythwr chwiban a oedd yn feirniadol o'r diwylliant yng ngogledd Cymru—gydag un yn disgrifio aflonyddu rhywiol ac ymosodiad corfforol yn y gwasanaeth—a'r ffaith mai Stuart Millington oedd pennaeth diogelu yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a ydych chi'n dal yn fodlon fod y comisiynwyr wedi ei benodi'n brif swyddog tân dros dro presennol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? A beth yw eich barn ar sut mae'n edrych i'r staff a'r cyhoedd? Mae aelodau Undeb y Brigadau Tân yn ne Cymru wedi datgan eu bod yn teimlo'n hynod o siomedig ynglŷn â'r penodiad, ac o ystyried yr honiadau yn erbyn Mr Millington a'r ffaith bod aelodau o frigâd dân de Cymru wedi galw cyfarfod eithriadol ac wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo, a ydych chi'n derbyn nad aethpwyd i'r afael â'r pryderon hyn hyd yma? A oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd y gwnaed y penodiad hwn gan y comisiynwyr, o ran tryloywder ac o ran y diffyg ymgynghori â'r undebau, neu'n wir â chi eich hun?

Ac yn olaf, Ddirprwy Weinidog, rhaid i'r adolygiadau hyn fod yn drylwyr ac yn gwbl annibynnol yn eu dull o fynd i'r afael â'r ymddygiad annerbyniol a welwn yn rhy aml yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, sut y gwnewch chi sicrhau bod yr adolygiadau'n gwbl annibynnol, os yw'r gwasanaethau tân ac achub yn penodi eu harchwilwyr eu hunain? Er mwyn sicrhau adolygiad sy'n ddigon cadarn a thrylwyr, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r adnoddau angenrheidiol ac a wnewch chi sicrhau bod yr adolygiadau'n seiliedig ar yr un cylch gorchwyl â'r rhai yn ne Cymru er mwyn sicrhau cysondeb? Diolch.

15:30

Diolch. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am ei chwestiwn? Rwyf wedi dweud yn glir—. Rwy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y Senedd, a dyna rwyf wedi’i wneud, a chyhyd â fy mod yn y rôl hon, byddaf yn parhau i wneud hynny hefyd. Cyn gynted ag y cyhoeddwyd adroddiad Fenella Morris CB a’i ganfyddiadau ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, dywedais y byddem yn ystyried ar frys i ba raddau y dysgwyd gwersi yn y gwasanaethau eraill, ond hefyd i weld a oedd materion tebyg yn bresennol yn nau wasanaeth tân ac achub arall Cymru.

Yn fy natganiad llafar cyntaf i’r lle hwn ar 9 Ionawr, anogais wasanaethau tân ac achub eraill, a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn wir, i fyfyrio ar hynny fel enghraifft o ba mor wael y gall pethau fynd o chwith os caiff materion llywodraethu a rheoli da eu hesgeuluso. Ers hynny, rwyf wedi cyfarfod â phrif swyddogion tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ogystal â chadeiryddion y ddau awdurdod, i drafod adroddiad Morris a’i argymhellion, ac fel y dywedais yn y datganiad ysgrifenedig, i geisio sicrwydd am y diwylliant yn y sefydliadau hyn ac i nodi’r disgwyliadau ynghylch diwylliant y gweithle yn y gwasanaethau.

Rwy'n credu bod y ddau sefydliad eisoes wedi cychwyn ar raglenni cynhwysfawr i adolygu a gwella eu diwylliant sefydliadol. Fel y dywedais yn y datganiad ysgrifenedig hefyd, fe wnaed rhywfaint o gynnydd, a cheir enghreifftiau o arferion da. Mae’r ffaith fy mod i ac eraill yn parhau i gael gohebiaeth gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr o'r ddau sefydliad yn golygu ei bod yn bryd iddynt gynnal adolygiadau manylach sydd, fel y dywedwch, angen cael eu harwain yn annibynnol hefyd. A dylai fod—. A dyna pam ein bod yn glir yn y trafodaethau hynny ar gyrraedd y pwynt hwn gyda nhw o ran cytuno i gynnal yr adolygiadau annibynnol hyn: yn rhan o'r broses honno, mae angen iddynt gael proses neu system dryloyw er mwyn i'r bobl hynny allu codi eu llais. A dywedais wrthych chi ac rwyf wedi dweud yn y lle hwn o'r blaen na ddylent orfod mynd at y wasg ac na ddylent orfod mynd at wleidyddion. Ac fel rhan o'r adolygiad hwn, gobeithio y gallwn sicrhau bod y system honno yn ei lle hefyd.

Rwy’n parhau i weithio gyda chomisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Byddant yn mynd ati i benodi prif weithredwr neu brif swyddog tân mwy parhaol. Yn rhan o’r broses honno, byddwn yn gobeithio y byddant hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, yn enwedig yn rhanbarth De Cymru, ynglŷn â'r cynnydd hwnnw. Ac rwy’n deall y byddant hefyd yn sicrhau, fel rhan o’r broses honno, mewn rôl fwy parhaol, fod rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan o hynny, nid yn unig gydag Undeb y Brigadau Tân, ond gyda chyrff cynrychioli staff eraill ac undebau llafur eraill, megis Unsain, GMB ac Unite, fel rhan o hynny hefyd. O’m rhan i, rwyf bob amser wedi cyfarfod yn rheolaidd â’r undebau llafur hefyd, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rwyf wedi cyfarfod ag Undeb y Brigadau Tân, gan gynnwys gyda’u swyddog gweithredol dros Gymru, yn ogystal â’r ysgrifennydd cyffredinol, Matt Wrack.

Fore Llun, roeddem hefyd yn ein fforwm partneriaeth gymdeithasol reolaidd ar gyfer y gwasanaethau tân ac achub. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau fod prif ffocws y fforwm ar ganfyddiadau adroddiad Fenella Morris CB, a'r goblygiadau i'r gwasanaeth. Ac yn y cyfarfod hwnnw, rhoddwyd cydnabyddiaeth i'r heriau sy'n ein hwynebu a'r angen i gydweithio i gyflawni'r newid hwnnw. Nid wyf o dan unrhyw gamargraff fod hon yn mynd i fod yn dasg hawdd—mae'n newid diwylliannol, ac yn anffodus, rydym wedi dweud o'r blaen, mae'n newid sy'n adlewyrchu cymdeithas ac yn endemig ynddi. Ond rwyf wedi nodi fy safbwynt yn glir, a safbwynt Llywodraeth Cymru, y byddwn yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym, ac rydym wedi gwneud hynny hyd yma, i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar y cyd a chyda'n gilydd i sicrhau'r newid y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld. Mae’r bobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth tân yn falch o’r rôl y maent yn ei chwarae, ac mae angen i ni eu helpu i adfer y balchder hwnnw, mewn amgylchedd gwaith diogel a chynhwysol, ac mewn ffordd sydd nid yn unig yn rhoi sicrwydd iddynt hwy ond i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu hefyd.

15:35

Ddirprwy Weinidog, credaf ei bod yn amlwg i bawb fod angen adolygiad annibynnol o ddiwylliant a gwerthoedd holl wasanaethau tân ac achub Cymru ers peth amser. Yn wir, fi oedd y cyntaf i alw am hyn yn ôl ym mis Ionawr pan wnaethoch eich datganiad cychwynnol, a c rwy'n credu, fel y mae llawer o Aelodau eraill o’r Siambr hon yn ei gredu, rwy’n siŵr, fod yr adolygiad hwn yn anochel, a bod Llywodraeth Cymru, drwy ei ohirio, wedi dangos eu diffyg arweiniad ar y mater. Ddirprwy Weinidog, credaf ei fod yn fethiant llwyr ar eich rhan chi a’r Llywodraeth hon i beidio â bod wedi gweithredu’n gynt, ac rydych wedi rhoi staff yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn sefyllfa lle nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond mynd at y wasg i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac i amlygu’r diwylliant o fwlio, aflonyddu rhywiol a ffafriaeth sy’n bodoli yn y gwasanaeth. Mae hyn wedi peri niwed aruthrol pellach i enw da'r gwasanaeth tân yng Nghymru.

Fel y gwyddoch, mae prinder mawr o ddiffoddwyr tân, yn enwedig diffoddwyr tân wrth gefn. A chyda gostyngiad o fwy na 20 y cant yng Nghymru ers 2010, mae potensial hyd yn oed yn fwy, bellach, i fywydau gael eu rhoi mewn perygl. Mae pob un ohonom yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy na chynnal adolygiad arall o ddiwylliant a gwerthoedd, a bod angen ailwampio gwasanaeth tân Cymru yn llwyr. Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, ac yng ngoleuni’r amodau gwaith gwael yn y gwasanaeth tân, pa gynigion sydd gennych i wella enw da’r gwasanaeth tân fel cyflogwr, i ddenu mwy o ddiffoddwyr tân wrth gefn, i ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gwasanaeth, ac i ddangos ei fod yn addas i'r diben? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn, Joel James. Cyfeiriaf yn ôl at ran o fy ateb blaenorol, fod y pwynt a gyrhaeddom gyda’r cyhoeddiad ddydd Llun yn y datganiad ysgrifenedig, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, yn rhan o’r broses a oedd wedi bod yn mynd rhagddi ers imi nodi'n glir am y tro cyntaf yn y lle hwn, pan wnaethom fyfyrio gyntaf ar ganfyddiadau adroddiad Fenella Morris CB, y byddem yn ystyried beth oedd hynny’n ei olygu i’r gwasanaethau tân ac achub eraill. A'r hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau canlynol, wrth i broses y ddeialog honno gyda'r sefydliadau hynny barhau, mewn gohebiaeth a sgyrsiau wyneb yn wyneb, yw sicrhau eu bod wedi rhoi mesurau ar waith eisoes, ond i gyrraedd y pwynt, pan gafwyd cydnabyddiaeth i gael yr adolygiad annibynnol hwnnw, i roi, fel y dywedais, unwaith eto, y sicrwydd hwnnw i staff ac i’r cyhoedd fel ei gilydd. A bydd yr adolygiad annibynnol hwnnw nid yn unig yn ystyried ac yn adlewyrchu canfyddiadau adroddiad Fenella Morris CB ond nifer o adroddiadau eraill hefyd, megis adroddiad sbotolau Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi yn Lloegr, a hefyd yn edrych ar y camau y mae gwasanaethau tân ac achub canolbarth a gorllewin, a gogledd Cymru wedi’u cymryd eisoes, boed hynny drwy arolygon ymgysylltu â staff, neu drwy roi prosesau ar waith. Ac fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, pan fyddaf yn cyfarfod â nhw, ceir cydnabyddiaeth eu bod wedi dechrau rhoi'r camau hynny ar waith, ond hefyd, fod angen mynd gam ymhellach, i ddarparu'r sicrwydd hwnnw, ac i ddysgu o hynny, ac i roi’r gwasanaeth mewn man lle mae pob un ohonom yn dymuno'i weld rwy’n siŵr.

O ran y materion ehangach y mae Joel James yn eu codi—gwn eich bod wedi bod yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, dan arweiniad y Cadeirydd, fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, i lywodraethiant ehangach gwasanaethau ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld canlyniad gwaith y pwyllgor. Credaf ei fod yn amserol, ac mae'n bwysig, ac yn cyd-fynd hefyd â'r gwaith y mae swyddfa archwilio Cymru yn ei wneud ar lywodraethu, ac rwy'n siŵr y bydd rhai argymhellion a phwyntiau ehangach a all adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi dechrau ei wneud fel Llywodraeth. A chyn hyn, rydym wedi ymrwymo i geisio ehangu rôl diffoddwyr tân yng Nghymru. Mae’n un ffordd o sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaeth, o ran recriwtio a chadw staff efallai, a chynnig lle, ond hefyd i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon ynghylch gwasanaeth tân wrth gefn, gan fod y ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio wedi newid, ac mae hynny wedi'i gwneud yn llawer mwy heriol mewn nifer o gymunedau yng Nghymru nid yn unig i recriwtio, ond mewn gwirionedd, i gadw’r diffoddwyr tân wrth gefn hynny. Ac mae ehangu'r rôl yn un o'r ffyrdd y gallem fynd i'r afael â'r heriau hynny.

15:40

Mae aelodau o Undeb y Brigadau Tân wedi dweud yn glir fod penodiad Mr Millington yn hynod siomedig, a chredaf mai’r hyn rwy’n ceisio’i ddeall, a'r hyn y credaf fod Aelodau ar y meinciau hyn yn ceisio'i ddeall yn y bôn yw sut y cyrhaeddom y pwynt hwn, o ystyried yr honiadau a wnaed yn ei erbyn, o ystyried y bleidlais o ddiffyg hyder ynddo gan aelodau'r frigâd? Sut y cyrhaeddom y pwynt hwn? Daeth y penodiad heb unrhyw ymgynghori â chi na'r undebau llafur, felly sut y mae ailadeiladu ymddiriedaeth?

A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am ei ddiddordeb? Ac a gaf i ymddiheuro am fethu dod i'ch digwyddiad amser cinio gydag Undeb y Brigadau Tân a'u hymgyrch DECON, ond rwy'n gobeithio bod rhywun o fy swyddfa yno hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae'n rhywbeth rydym wedi'i drafod, fel rhan o'n fforwm partneriaeth gymdeithasol, a sut y gallwn roi rhai o'r gwersi a ddysgwyd ar waith yng Nghymru.

Gan ddychwelyd at y pwynt a wnaethoch ynglŷn â’r prif swyddog tân dros dro, fel y dywedais o’r blaen, roedd hwnnw’n benodiad gweithredol i gynnal arweinyddiaeth strategol y gwasanaeth a darpariaeth ymateb gweithredol yn barhaus. Roedd yn benderfyniad—. Fe wnaethom benodi'r comisiynwyr a rhoi’r cylch gwaith llawn iddynt i ddiwygio, yn enwedig uwch reolwyr arweinyddiaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Fel y dywedais yn fy ateb i’ch cyd-Aelod, Sioned Williams, bydd rôl prif swyddog tân neu brif weithredwr parhaol yn cael ei hysbysebu, a phenodiad yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Ac fel rhan o'r broses honno, bydd y comisiynwyr yn ymgysylltu â phroses ymgysylltu lawn â rhanddeiliaid, a fydd yn cynnwys pob un o'r undebau llafur, gan gynnwys Undeb y Brigadau Tân hefyd. O ran fy ymgysylltiad fy hun, fel y dywedais, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â’r holl undebau llafur a’r gwasanaethau tân ac achub, a byddaf yn parhau i wneud hynny tra byddaf yn y swydd hon.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i'w ateb gan y Gweinidog iechyd ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor. 

Darpariaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys yng nghanolbarth a gogledd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod argymhelliad wedi'i wneud i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng? TQ1027

Dwi'n deall pa mor gryf mae pobl leol yn teimlo am y mater yma. Heddiw dwi wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans am sicrwydd ynghylch faint o drafod sydd wedi bod gyda chymunedau lleol yn sgil eu pryderon ac i ba raddau mae'r rhain wedi cael eu cymryd mewn i ystyriaeth. Does dim penderfyniad wedi ei wneud. Bydd y comisiynwyr yn trafod yr opsiynau, a fydd yn cynnwys barn rhanddeiliaid. 

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Does yna ddim penderfyniad wedi ei wneud, meddai hi, ond mae yna argymhelliad i gau Dinas Dinlle a'r Trallwng, ac mae'r argymhelliad yna yn mynd i ddod fel ergyd anferthol i bobl gogledd-orllewin a chanolbarth Cymru. Mewn ardaloedd gwledig fel yma, yn enwedig, mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr wedi bod yn allweddol, gan alluogi triniaeth frys i gael ei darparu, a hynny yn brydlon. Mae'r adroddiad yn honni y bydd adleoli'r gwasanaethau i rywle yn y gogledd-ddwyrain yn eu galluogi i gyrraedd poblogaeth fwy o faint ynghynt, ond bydd hyn yn golygu y bydd llai o gymunedau yn cael eu gwasanaethu, sy'n cynnwys rhai ble mae cysylltiad trafnidiaeth yn hynod o heriol. Ac mae hyn yn bryderus pan dŷn ni'n ystyried bod yr adroddiad yn argymell cerbyd ffordd fel prif ddarpariaeth gofal brys i ardaloedd y gogledd-orllewin, megis Dwyfor Meirionnydd, Ynys Môn neu, yn wir, yng ngogledd Ceredigion a Threfaldwyn hefyd. Mae'r diffyg manylion sydd yn yr adroddiad o ran faint o gerbydau ffordd a ble fyddan nhw yn cael eu lleoli hefyd yn ychwanegu at y pryder. Ystyriwch, er enghraifft, os ydy rhywun, ar hyn o bryd, yn gorfod mynd o Gaernarfon i ben draw Llŷn, mae posib gwneud hynny mewn munudau yn yr ambiwlans awyr, ond mewn cerbyd ffordd mi fuasai yn awr a hanner.

Mae gan drigolion Gwynedd, Ceredigion, Maldwyn, Môn, a chanolbarth a gogledd-orllewin Cymru yr hawl i dderbyn gwasanaethau achub bywyd yr un fath â phob ardal arall. Er gwaethaf mai 'ambiwlans awyr' ydy'r teitl, mae o'n ysbyty yn yr awyr, ac mewn ardaloedd lle nad oes gennym ni wasanaethau brys a dwys, yna mae'n darparu gwasanaeth hanfodol. Ar ben hynny, mi fydd colli'r ambiwlans awyr yn y Trallwng a Dinas Dinlle hefyd yn colli gwasanaethau o ran sgiliau pobl a fydd bellach ddim yn gweithio yn y maes hynny, ac yn golygu llai o wasanaeth yn yr ardaloedd i'r bobl sydd yn byw yno.

Felly, ydych chi'n cydnabod bod y trefniadau newydd yn gadael cymunedau gogledd-orllewin a chanolbarth Cymru mewn sefyllfa anfanteisiol o'i gymharu â'r drefniadaeth gynt, a pham fod Llywodraeth Cymru yn gweld hyn fel pris derbyniol i'w dalu?

15:45

Dwi'n deall pa mor gryf mae'r Aelod yn teimlo am hyn, a dwi'n gwybod bod y cymunedau yn teimlo yn gryf iawn hefyd. 

Mae'r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys yn cyfarfod ar 19 Mawrth i ystyried argymhellion adolygiad y gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys, a byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau neu achub y blaen ar unrhyw benderfyniad terfynol nad yw wedi'i wneud eto. Nawr, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys sy'n gyfrifol yn ôl y gyfraith am gynllunio a sicrhau gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys, ac ni ddylem danseilio'r llywodraethiant sefydledig sydd ar waith i wneud penderfyniadau fel y rhain. Gwn fod Llais wedi bod yn ymwneud â phrosesau adolygu'r gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys hefyd. Felly, credaf fod yn rhaid inni adael i'r broses hon redeg ei chwrs, a byddaf yn amlwg yn awyddus iawn i weld pryd, os a sut mae'n briodol i Lywodraeth Cymru ymyrryd.

Weinidog, rwyf wedi fy siomi'n enbyd gan adroddiad terfynol prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans a gyhoeddwyd heddiw. Ni all cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon fod yn opsiwn. Mae'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y broses hon cyn ei bod yn rhy hwyr—ac rwyf wedi clywed yr hyn rydych newydd ei ddweud.

'Ni fyddai unrhyw un yn waeth eu byd', yw'r hyn a ddywedwyd wrthym drwy gydol y 18 mis diwethaf yn y broses hon—ni fydd unrhyw un yn waeth eu byd. Ond fe fydd pobl yn waeth eu byd os daw'r argymhellion i rym. Fe fyddant. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Bydd amseroedd ymateb arafach nid yn unig i un neu ddau o bentrefi ond i nifer helaeth o bobl sy’n byw yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru. Felly, nid yw'n mynd i fod yn wir os daw’r argymhellion hyn i rym.

Nodaf hefyd nad yw’r argymhellion hyd yn oed yn nodi beth fyddai’r achos dros liniaru’r effeithiau negyddol sy’n cael eu gwireddu yn yr adroddiad. Felly, cwestiwn gennyf i yw: sut y gellir gwneud penderfyniad heb i hynny fod yn wir yn gyntaf? Y cwestiwn pwysicaf un sydd gennyf yw hwn: pa effaith a gafodd y broses ymgysylltu? Pa effaith a gafodd y broses ymgysylltu? Oherwydd yr ymateb llethol gan bobl ar draws canolbarth a gogledd Cymru—ac mae hyd yn oed yn brolio yn yr adroddiad yma: 23 wythnos o ymgysylltu, 45 digwyddiad—miloedd o ymatebion, pob un yn dweud yr un peth, fwy neu lai: ni ddylid cau canolfannau’r Trallwng a Chaernarfon. Nid oes unrhyw etholwr yn y 18 mis diwethaf wedi dweud wrthyf, 'Wyddoch chi beth, rwy'n credu y bydd cau canolfan y Trallwng neu ad-drefnu'r gwasanaethau yng nghanolbarth Cymru yn arwain at well gwasanaeth i ni.' Nid oes unrhyw un wedi dweud hynny wrthyf, ddim hyd yn oed yn breifat.

Ac rwy'n gofyn y cwestiwn hefyd am fod yr argymhelliad yn union yr un fath—yn union yr un fath—â'r cynnig yn y ddogfen wreiddiol a gafodd ei datgelu'n answyddogol 18 mis yn ôl, cynnig a oedd hefyd yn amlinellu y dylid cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon, a'u had-drefnu mewn un lleoliad. Felly, beth yw eich neges, Weinidog, i’r llu o bobl ledled Cymru a fyddai’n dweud bod hwn yn benderfyniad a wnaed eisoes o'r cychwyn? Beth yw eich ymateb i hynny? Rydych wedi dweud yn eich ymateb cynharach nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto ac y caiff ei wneud ar ôl yr argymhelliad. Rydym bellach wedi cael yr argymhelliad hwnnw, a fy mhryder yw y bydd yn rhy hwyr i ymyrryd ar ôl i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud gan y pwyllgor y cyfeirioch chi ato.

Felly, a wnewch chi nodi beth fydd yn digwydd nesaf a sut y byddwch chi, Weinidog, a’ch cyd-Aelodau yn ymyrryd? A fyddwch yn cwestiynu’r risg a achosir pe bai un ganolfan yn unig yn weithredol ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru i gyd? Oherwydd fe wyddoch eich hun o'n cwestiynau fis diwethaf, pe bai ond un ganolfan yn unig yn weithredol, a bod y tywydd yn arw, ni fyddai unrhyw ganolfannau eraill yn darparu ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru. A fyddwch chi hefyd yn asesu ac yn cwestiynu’r risg o amseroedd ymateb hirach ym Mhowys, lle nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth?

Ac yn olaf, Weinidog, mae'r bobl ar draws canolbarth a gogledd-orllewin Cymru'n teimlo’n hynod siomedig. Maent yn teimlo'n hynod siomedig ar ôl y broses hon, ar ôl mynychu cyfarfodydd, ac ymateb i'r prosesau ymgysylltu. Maent wedi cael eu siomi. Beth yw eich neges iddynt hwy? Oherwydd wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pobl yn cael eu trosglwyddo i ofal brys mewn modd amserol. Mae’n debyg mai hynny, yn ôl pob tebyg, yw prif gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, neu un ohonynt. Beth yw eich neges i’r bobl hynod siomedig hynny ynglŷn â'r ffordd rydych chi a’ch cyd-Aelodau yn mynd i ymyrryd yn y broses hon?

15:50

Wel, diolch yn fawr. Y cyngor gan y prif gomisiynydd i’r pwyllgor yw y bydd yr opsiwn a argymhellir yn galluogi gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys i helpu mwy o gleifion ledled Cymru ac i gyrraedd mwy o leoedd yng Nghymru yn haws, ond clywaf yr hyn a ddywedwch a chlywaf yr hyn y mae Mabon wedi’i ddweud o ran sut y bydd hynny’n effeithio ar rai rhannau o Gymru. Ei gyngor yw y bydd yr opsiwn a argymhellir hefyd yn galluogi mwy o ddarpariaeth dros nos ar gyfer pobl y canolbarth a'r gogledd. Felly, ar hyn o bryd, daw'r ddarpariaeth nos honno o Gaerdydd, a bydd hynny’n defnyddio mwy o amser clinigwyr medrus iawn. Credaf fod yn rhaid ystyried effeithlonrwydd a chosteffeithiolrwydd yma yn rhywle, a faint o ddefnydd a wneir o'r gwasanaeth.

Pa effaith—. Fe ofynnoch am yr effaith ar y datganiad a wnaed o ran yr ymgysylltu. Rwyf wedi gofyn heddiw am ragor o sicrwydd ysgrifenedig ar lefel yr ymgysylltu a sut mae’r ymgysylltiad hwnnw wedi llywio’r penderfyniad i argymell ad-drefnu canolfannau, ochr yn ochr â ffactorau eraill a ddefnyddiwyd i lunio’r argymhelliad. Felly, rwyf wedi gofyn am hynny yn ysgrifenedig er mwyn sicrhau fy mod yn gwbl glir fod yna effaith wedi bod o ran gwrando ar y bobl. Rwyf hefyd wedi gofyn beth yw fy mhwerau cyfreithiol i ymyrryd mewn perthynas â hyn. Mae'n amlwg na fydd yn benderfyniad i mi, yn yr ystyr fy mod yn rhywun sy'n cynrychioli'r ardal a allai gael ei heffeithio, ac yn amlwg, byddai'n rhaid imi drosglwyddo unrhyw ystyriaeth i rywun arall yn y Llywodraeth.

Dwi'n gandryll o ddarllen yr argymhelliad heddiw yma, mae'n rhaid dweud. Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cael ein harwain ar ryw daith hir lle roedd y pen draw yn gwbl, gwbl anochel. Mae'r Gweinidog yn dweud y bydd hi'n gofyn am sicrwydd bod yna ddigon o ymgynghori wedi bod. O, mae yna ddigonedd o ymgynghori wedi bod; mi fyddan nhw'n gallu dangos ichi yn glir bod yna ymgynghori dros amser hirfaith i gyrraedd at y pwynt lle cychwynnon ni a'r pwynt wnaeth godi gymaint o bryderon ar draws ardal eang o Gymru. 

Dwi eisiau diolch i bob un sydd wedi ymgyrchu, a dwi'n eu hannog nhw i gyd i gyd-ymgyrchu efo ni o hyd i sicrhau dydy hwn ddim yn cael ei weithredu. Mi wnaethon nhw brotestio, mi wnaethon nhw ddod i gyfarfodydd cyhoeddus, mi wnaethon nhw ymateb i'r ymgynghoriad, ac mi ddadleuon nhw'r achos bod y cynnig gwreiddiol am olygu salach gwasanaeth i bobl ar draws ardaloedd eang o Gymru. Ymarfer ystadegol sydd gennym ni yn fan hyn, yn dod o hyd i'r ffordd hawsaf i gyrraedd mwy, niferoedd mwy o gleifion yn y gogledd-ddwyrain. Ond mae'r argymhelliad yn gwneud hynny ar draul pobl yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, ar draws gogledd-orllewin Cymru, ar draws ardal eang o ganolbarth Cymru.

A dwi yn grediniol bod yna ffordd y gellid bod wedi buddsoddi, yn enwedig mewn cerbydau ar y llawr, i gynnig gwell gwasanaeth i'r gogledd-ddwyrain—rydyn ni i gyd eisiau hynny hefyd—tra'n peidio â dirywio'r gwasanaeth yng ngweddill Cymru. Dwi'n apelio ar y Gweinidog i beidio â'i gadael hi'n rhy hwyr i ymyrryd, i feddwl am y diffyg sy'n mynd i fod mewn gwasanaeth. Ac nid cleifion ydy'r unig rai sy'n dweud hyn, nid dim ond pobl sy'n codi arian, ond meddygon, parafeddygon, sydd wedi bod yn siarad â mi ac yn siarsio fi drwy'r amser i wneud yr achos dros gadw'r gwasanaethau.

A dwi'n gofyn i'r Gweinidog hefyd i ystyried hyn, o gofio'r heriau recriwtio a'r heriau staffio sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dwi am iddi gofio'r gwerth sydd yna o gael canolfannau sy'n denu'r meddygon gorau, y parafeddygon gorau i lefydd fel Dinas Dinlle a'r ergyd drom fydd yn ei gwneud hi'n haws i gael canolfan yng nghanol y gogledd i ddenu meddygon ac arbenigwyr o ogledd-orllewin Lloegr i wasanaethu ar yr hofrennydd, achos dyna mae'r meddygon eu hunain yn dweud wrthyf sydd yn beryg o ddigwydd. 

Diolch yn fawr. Fel dwi'n dweud, dwi wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha effaith mae'r ymgynghoriad wedi ei gael ar yr argymhelliad, felly, dwi'n edrych ymlaen at dderbyn hynny. Dwi'n meddwl ei bod hefyd yn werth dweud bod y charity ei hunain, yr air ambulance, nhw oedd wedi dechrau mynd lawr y trywydd yma, felly, yn y diwedd, bydd llais gyda nhw hefyd ynglŷn â sut mae hwn yn gorffen. Felly, dwi'n awyddus iawn i gael ymateb a chawn ni weld hefyd ble mae fy hawliau i, fel Gweinidog, i ymyrryd. Diolch.

15:55
5. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 5 sydd nesaf, y datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Mae heddiw yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu. Rydym yn aml yn cymryd yn ganiataol ein gallu i gael diod neu rannu pryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau. Mae'n rhywbeth rydych chi'n ei wneud heb feddwl. Ond i rai, nid yw hynny'n wir. Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu yn ein hatgoffa bod anawsterau bwyta, yfed a llyncu yn gyffredin ac maent yn aml yn digwydd gyda chyflyrau iechyd eraill, megis yn dilyn strôc, neu ddiagnosis o glefyd Parkinson neu ddementia.

Gall anawsterau llyncu, neu ddysffagia, i ddefnyddio’r term meddygol, effeithio ar bobl o bob oed a phob cyfnod mewn bywyd, o fabanod newydd-anedig i bobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes. Rhai o arwyddion a symptomau anawsterau bwyta, yfed a llyncu yw bwyd yn mynd yn sownd yn y gwddf, anhawster wrth gnoi neu reoli bwyd neu hylifau yn y geg, heintiau rheolaidd ar y frest neu niwmonia, neu fwyd neu ddiod yn dod allan o'r trwyn wrth lyncu a gorbryder wrth fwyta, yfed neu lyncu. Nawr, gall anawsterau bwyta, yfed a llyncu arwain at ansawdd bywyd gwaeth i unigolion a'u teuluoedd oherwydd embaras a diffyg mwynhad o fwyd. Gall dysffagia hefyd gael canlyniadau a allai fygwth bywyd. Gall arwain at dagu, niwmonia, heintiau ar y frest, dadhydradu a chamfaethiad, gan arwain at dderbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, ac mewn rhai achosion, at farwolaeth.

Ond mae gan ein therapyddion lleferydd ac iaith rôl unigryw i’w chwarae wrth asesu, diagnosio a rheoli anawsterau llyncu. Yn ddiweddar, ymwelais â therapyddion lleferydd ac iaith yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am eu gwaith yn y maes hwn, ac roeddwn yn edmygu eu harbenigedd a’u tosturi. Lywydd, rwy'n gobeithio bod nifer o'r Aelodau yma yn y Senedd wedi cael cyfle i fynychu’r caffi llyncu a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Mabon heddiw, ar y cyd â thîm arlwyo’r Senedd, i ddysgu’n uniongyrchol am effeithiau hyn. Felly, heddiw, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu, Lywydd, rydym yn talu teyrnged i'r gweithwyr proffesiynol anhygoel sy'n helpu pawb sy'n byw gydag anawsterau bwyta a llyncu a'r bobl sy'n eu cefnogi.

Diolch i chi i gyd.

Yfory, dydd Iau 14 Mawrth, yw Diwrnod Arennau'r Byd. Mae dros 3,000 o oedolion yng Nghymru yn cael triniaeth, naill ai drwy drawsblaniad aren neu ddialysis, ac amcangyfrifir y bydd y ffigur hwnnw'n cynyddu 3 y cant y flwyddyn, yn seiliedig ar y data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Gofrestrfa Arennol y DU. Mae 38 o blant hefyd yn derbyn triniaeth ar gyfer methiant yr arennau.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Popham Kidney Support, elusen sydd wedi’i lleoli yn fy etholaeth i ac sy’n cefnogi pobl ledled Cymru sydd â chlefyd yr arennau. Yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd, roedd yn syndod gweld cymaint o staff sy'n gweithio yn y Senedd a alwodd heibio sydd â pherthnasau neu ffrindiau sy'n dioddef o broblemau gyda'r arennau. Pan fydd eich arennau'n cael eu niweidio, gall hylifau a deunydd gwastraff gronni yn eich corff. Gall hyn achosi chwyddo yn eich pigyrnau, cyfog, gwendid, cwsg gwael a diffyg anadl. Heb driniaeth, gall y niwed waethygu a bydd eich arennau yn stopio gweithio yn y pen draw. Mae arwyddion cynnar o glefyd yr arennau yn cynnwys pendro a blinder ac un o'r arwyddion cyntaf posibl o arennau'n gwanhau yw'r profiad o wendid cyffredinol ynoch chi a'ch iechyd cyffredinol, chwyddo a newidiadau o ran troethi. Y broblem gyda hyn, fel llawer o'r symptomau hyn, yw bod llawer iawn o afiechydon eraill yn dangos yr un symptomau. Felly, byddwn yn annog pobl, os oes ganddynt y symptomau hynny, i ymweld â’u meddyg teulu.

Mae clefyd cronig yn yr arennau yn gyflwr hirdymor, lle nad yw arennau'n gweithio cystal ag y dylent. Mae'n gyflwr cyffredin sy'n aml yn gysylltiedig â heneiddio, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gofalu am ein harennau a'n bod yn achub ar bob cyfle i ymweld â'n meddyg teulu os oes angen.

Diolch, Lywydd. Ddydd Sul, am 12.19 pm, yn ddim ond 32 oed, bu farw Tassia Haines ar ôl taith anodd wyth mlynedd gyda chanser cychwynnol ac eilaidd y fron.

Mae pawb yma naill ai wedi cwrdd â Tassia, neu o leiaf wedi cael e-byst lobïo niferus ganddi. Cyfarfûm â Tassia gyntaf yn 2021, pan ddaeth i fy swyddfa i ofyn imi godi mater gyda Llywodraeth Cymru ynghylch diffyg darpariaeth ar gyfer cleifion canser eilaidd y fron yng Nghymru. Yr hyn a ddilynodd oedd ffrwydrad o frwdfrydedd, penderfynoldeb a chadernid i beidio â derbyn atebion a oedd yn ddim mwy na geiriau, ond yn hytrach, camau gweithredu a fyddai’n darparu gwell gwasanaethau i'r cleifion a fyddai, fel hithau, yn cael diagnosis o ganser eilaidd y fron. Roedd hyn yn cynnwys deiseb i Bwyllgor Deisebau'r Senedd, o'r enw 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl', a gasglodd dros 14,000 o lofnodion ac a drafodwyd yma yn y Siambr.

Am daith y bu ymgyrchu Tassia arni, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud o ganlyniad i’w phenderfynoldeb i gryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer cleifion canser eilaidd y fron yng Nghymru. Cymeradwywyd llwybr canser metastatig y fron newydd gan rwydwaith canser Cymru, llwybr a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws ymddiriedolaethau GIG Cymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y ceir nyrsys canser eilaidd y fron arbenigol ym mhob un o'r byrddau iechyd ledled Cymru. Y llynedd, roeddwn yn falch o groesawu Tassia a METUPUK yn y Pierhead wrth iddynt ryddhau canllawiau newydd ar symptomau 'baner goch' ar draws yr ymddiriedolaethau a darpariaeth gofal sylfaenol.

Ond nid ymgyrchydd yn unig oedd Tassia, roedd yn eiriolwr cryf dros gleifion canser metastatig y fron yng Nghymru, ac ysbrydolodd ddegau o filoedd o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol ledled y byd, wrth iddi ddogfennu ei thaith gyda chanser y fron. Ond rydym yn anghofio'r ochr arall iddi, gan ei bod hefyd yn artist dawnus iawn, ac roedd yn aml yn sianelu ei chelf drwy ei hymgyrchu. Nawr, mae'n gadael ei gŵr Nick a’i mam Gina, ac ar ran Aelodau ar draws y Siambr, rwy'n cydymdeimlo â nhw ar yr adeg drist ac anodd hon.

I gloi, Lywydd, byddai Tassia am i mi ddweud yma nad yw ei marwolaeth, er mor drasig, yn anomaledd, a bod oddeutu 12,000 o fenywod yn y DU yn marw o ganser eilaidd y fron bob blwyddyn. Mae'n parhau i fod yn un o'r prif achosion marwolaeth ymhlith menywod. Er efallai nad Tassia sy’n arwain yr ymgyrch honno mwyach, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom yma i sicrhau mai ei gwaddol fydd gwell gofal arbenigol i gleifion sy’n dal i fyw gyda’r clefyd ofnadwy hwn yng Nghymru.

Tassia, diolch i chi am bopeth.

16:00

Diolch am y deyrnged gref iawn honno i Tassia, ac rydym ni fel Senedd yn cydymdeimlo â'i theulu yn y cyfnod anodd hwn. Ond diolch, Tassia.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Adfywio Canol Trefi'

Eitem 6, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 'Adfywio Canol Trefi'. Y Cadeirydd i wneud y cynnig, Mark Isherwood.

Cynnig NDM8516 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad, 'Adfywio Canol Trefi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Prynhawn da. Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar adfywio canol trefi. Mae ein hadroddiad yn cyffwrdd â'n holl gymunedau ac etholaethau. Roedd yr ymchwiliad hwn yn ystyried adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Adfywio Canol Trefi yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021. Roedd yr adroddiad hwn yn ystyried sut roedd awdurdodau lleol yn rheoli ac yn adfywio canol eu trefi a sut roedd Llywodraeth Cymru yn eu helpu i fynd i'r afael â'r her hon. Roedd yn nodi pedwar maes allweddol i awdurdodau lleol eu hystyried, gan ganolbwyntio ar bedwar pennawd allweddol.

Yn gyntaf, y bwriad: yr angen i awdurdodau lleol fod yn gliriach ynghylch diben canol eu trefi a darparu arweinyddiaeth i fynd i'r afael â'r heriau. Yn ail, cynnwys: mae angen cynnwys cymunedau a busnesau'n llawn yn y broses. Yn drydydd, gwybodus: mae angen i awdurdodau lleol werthuso a defnyddio data'n fwy effeithiol i ddeall eu trefi ac effaith prosiectau adfywio blaenorol. Ac yn bedwerydd, ymyriad: mae angen i awdurdodau lleol ymyrryd mwy wrth hyrwyddo adfywio.

Roedd gwaith yr archwilydd cyffredinol yn dilyn adroddiad ymchwil annibynnol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, o'r enw 'Small Towns, Big Issues'. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys astudiaeth fanwl o ganol tair tref neu ddinas yng Nghymru, sef Bangor, Pen-y-bont ar Ogwr a Hwlffordd, i lywio ystyriaeth o'r cyd-destun ehangach mewn perthynas ag adfywio. Cyfarfu'r pwyllgor ag un o awduron yr adroddiad, yr Athro Karel Williams, ar ddechrau ein hymchwiliad i ddeall cwmpas gwaith y pwyllgor yn y maes hwn yn well. Yn dilyn y sesiwn, cytunwyd i ystyried y pwyntiau allweddol canlynol: polisi a deddfwriaeth genedlaethol sy'n hanfodol i adfywio trefi i'w galluogi i ffynnu a goroesi; creu a chynnal cynghreiriau lleol o newid; ardrethi annomestig, trethi a chymhellion canol trefi; argaeledd, rheolaeth ac effaith cyllid Llywodraeth Cymru a'r DU ar gyfer adfywio canol trefi; a bargeinion dinesig a phartneriaethau rhanbarthol, a chyd-bwyllgorau corfforedig.

Roedd y pwyllgor yn falch o ymweld â Chaerfyrddin, Treforys, yr Wyddgrug a Wrecsam i glywed gan randdeiliaid lleol sy'n gweithio yn eu cymunedau i hyrwyddo'r diben hwn. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, y grŵp Coastal Housing, Cyngor Tref yr Wyddgrug, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Roedd yn bleser clywed am y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud, ond roedd yn sobreiddiol clywed am yr heriau yr oedd pob lleoliad yn eu hwynebu hefyd. Roeddem yn falch o weld enghreifftiau o arferion da yn ystod yr holl ymweliadau hyn, gan gynnwys hen siop Debenhams yng Nghaerfyrddin, sydd wedi'i haddasu at ddibenion gwahanol ac sydd bellach yn hyb lleol ar gyfer gwasanaethau, yn ogystal â chlywed am fentrau cyffrous yn Wrecsam, gan gynnwys prosiect Porth Wrecsam a'r amgueddfa bêl-droed genedlaethol. Fe wnaethom ymweld hefyd â Bryn y Beili hanesyddol yn yr Wyddgrug, a ailddatblygwyd fel ased cymunedol ar gyfer y bobl leol, a gallasom weld y gwaith da sy'n cael ei wneud i adfywio a hyrwyddo'r stryd fawr yn yr Wyddgrug a Threforys—ac rwy'n credu efallai y bydd Mike Hedges yn siarad am hynny yn nes ymlaen—drwy gamau gweithredu lleol a rhanddeiliaid.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

16:05

Hoffai'r pwyllgor ddiolch yn ddiffuant i bawb a gyfrannodd at yr ymweliadau hyn ac a ddarparodd fewnwelediad gwerthfawr i'r pwyllgor a ddylanwadodd ar ei gasgliadau. Yn ogystal â'r ymweliadau hyn, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Phil Prentice, o Towns Partnership yrAlban, yn ogystal â Richard Roe o Gyngor Trafford, am eu profiadau, cadarnhaol a negyddol, mewn perthynas ag adfywio yn yr Alban a Lloegr. Clywsom hefyd gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, yn ogystal â Chris Jones, arbenigwr ym maes adfywio. Fe wnaethom hefyd ymgynghori'n ehangach, gan dderbyn tystiolaeth ysgrifenedig werthfawr gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, Un Llais Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach ac awdurdodau lleol.

Er bod llawer o waith da yn cael ei wneud i wella canol trefi yng Nghymru, rydym wedi dysgu bod angen gwneud mwy i gyflymu'r adfywio, lle mae trefi a strydoedd mawr Cymru wedi newid yn anfesuradwy, ac wedi cael eu newid yn anfesuradwy gan y pandemig a'r cynnydd mewn siopa ar-lein, ac mae pwysau ariannol yn parhau i effeithio ar bob cymuned. Yn wir, canfu'r pwyllgor fod adnoddau ar gyfer adfywio yn amrywio ledled Cymru gyda rhai awdurdodau lleol ag adnoddau pwrpasol ar waith ar gyfer adfywio, tra bod ardaloedd eraill yn dibynnu ar strwythurau mwy lleol.

Clywsom fod cysylltiadau trafnidiaeth ac argaeledd meysydd parcio gwael yn effeithio ar nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, er anfantais i fusnesau lleol, fod diffyg systemau trafnidiaeth syml ac integredig yn atal pobl rhag ymweld â chanol trefi yn amlach, a bod yn well ganddynt ddefnyddio lleoliadau y tu allan i'r dref yn lle hynny, a bod y gyfundrefn ardrethi annomestig bresennol yn atal buddsoddiad mewn trefi, gan atal eiddo gwag rhag cael eu hailddatblygu a rhoi pwysau ychwanegol ar fusnesau bach sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau ynni cynyddol. Gwelsom fod angen gweledigaeth newydd ar y stryd fawr i gyd-fynd â system drafnidiaeth wirioneddol integredig a fforddiadwy, dull syml o drethu, cymhellion ariannol i annog arloesedd a busnesau newydd, rheoliadau cynllunio symlach a mwy hygyrch i gefnogi hyn, a dull pragmataidd o addasu eiddo gwag at ddibenion gwahanol gydag anogaeth a chefnogaeth i fusnesau wneud hynny.

Ni fydd hyn yn llwyddiannus heb wneud mwy ar lefel genedlaethol i rymuso ein cymunedau i wneud y penderfyniadau i wella eu cymunedau, ac os oes dull rhanbarthol cryfach o adfywio, grymuso rhanddeiliaid i wneud y penderfyniadau mawr sy'n gywir ar gyfer eu hardal.

Er bod cynghreiriau lleol dros newid hefyd yn amhrisiadwy, ni fyddant yn llwyddo oni bai fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r ymagwedd newydd tuag at adfywio ac yn cefnogi'r cynghreiriau lleol hyn yn unol â hynny. Fe wnaeth y pwyllgor wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ardrethi annomestig, polisi cynllunio, trafnidiaeth, partneriaethau rhanbarthol ac eiddo gwag. Er ein bod yn falch fod yr holl argymhellion hyn wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru, byddai'r pwyllgor yn hoffi cael rhagor o wybodaeth am rai o'r argymhellion a wnaethom, er mwyn deall mwy am y monitro, y gwerthuso, yr amserlenni a'r camau gweithredu sydd ynghlwm wrthynt.

Gwnaeth y pwyllgor gyfres o argymhellion ynghylch gwaith adfywio'r cyd-bwyllgorau corfforedig, gan alw am fwy o dryloywder ynghylch eu cyfansoddiad a'r adnoddau a ddarperir iddynt, a byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y byddant yn monitro'r argymhellion hyn. Nodwn waith Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gwerthuso rôl cyd-bwyllgorau corfforedig yn ei adroddiad ym mis Tachwedd 2023. Rydym yn cytuno â'i gasgliadau fod yn rhaid gwneud mwy i gynyddu tryloywder y sefydliadau hyn, er mwyn i'r cyhoedd ddeall eu gwaith yn well a'r effaith y maent yn ei chael neu nad ydynt yn ei chael. Yng nghyd-destun datblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol gan gyd-bwyllgorau corfforedig, nododd ein hadroddiad hefyd fod Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor,

'Pan fyddwn yn siarad â busnesau a phan fyddwn yn siarad â chwsmeriaid, rydym yn gwybod bod pethau fel parcio fforddiadwy ac argaeledd parcio yn dal i fod yn rhan sylfaenol iawn o'r sgwrs'.

Mae'r gyfundrefn ardrethi annomestig bresennol yn atal buddsoddi mewn trefi, gan atal eiddo gwag rhag cael ei ailddatblygu a rhoi pwysau ychwanegol ar fusnesau bach sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau ynni cynyddol. Er bod y pwyllgor yn falch o glywed am ryddhad gwelliannau Llywodraeth Cymru, a fydd yn ysgafnhau'r baich i fusnesau sy'n buddsoddi yn eu heiddo, a'n bod yn nodi casgliadau'r ymgynghoriad sy'n dangos bod y rhan fwyaf o'r ymatebion hynny o blaid y rhyddhad, rydym hefyd yn nodi bod yr ymgynghoriad wedi dangos mwyafrif yn galw am gyfnod hwy o ryddhad i fusnesau sy'n gwneud y buddsoddiadau hanfodol hyn. Felly, gofynnwn i Lywodraeth Cymru ystyried a ellid addasu'r cynllun newydd hwn i roi cymhelliant pellach i fusnesau fuddsoddi a thyfu, ac i ymateb i'r pryder yn ein hadroddiad ni am fethiant y mecanwaith ardrethi annomestig cyfredol i adlewyrchu gwerth ardrethol gwirioneddol eiddo yn gywir, lle mae cynnal presenoldeb manwerthu yn cosbi busnesau i'r fath raddau o'i gymharu â manwerthwyr ar-lein yn unig.

O ran cynllunio, argymhellodd y pwyllgor fod angen ymyrryd mwy i ffafrio datblygiadau canol trefi dros ddatblygiadau y tu allan i'r dref. Er ein bod yn cydnabod ymateb Llywodraeth Cymru, mae angen i wybodaeth bellach ynglŷn â sut i ddefnyddio cynlluniau presennol fod yn fwy ymyraethol. Hoffai'r pwyllgor wybod hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso'r system i benderfynu a yw hyn yn cael ei gyflawni.

Roedd ein hadroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru lunio dogfen ganllawiau gynhwysfawr ar gyfer awdurdodau lleol sy'n amlinellu'r opsiynau sydd ar gael i awdurdodau lleol mewn perthynas ag addasu eiddo gwag at ddibenion gwahanol. Ac wrth dderbyn hyn, dywedodd Llywodraeth Cymru fod rhaglen Unnos yn cefnogi awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi priodol ar eiddo gwag ac adfeiliedig. Fodd bynnag, lansiwyd rhaglen Unnos rhyw ddwy flynedd cyn ein hadroddiad, ac er bod y pwyllgor yn nodi rôl Unnos yn adfywio adeiladau adfeiliedig a gwag, ychydig iawn o wybodaeth sydd yn y parth cyhoeddus am waith Unnos hyd yma a'i weithgareddau arfaethedig ar gyfer y dyfodol. Felly, mae angen gwneud mwy i roi cyhoeddusrwydd i'w gwaith a dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mecanweithiau gwerthuso cadarn ar waith i sicrhau bod yr amcanion a nodir yn ein hargymhellion yn cael eu cyflawni.

Yn olaf, mewn ymateb i'n hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o'r cymorth ariannol sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer addasu eiddo gwag at ddibenion gwahanol, ac ystyried a yw'r cynlluniau hyn a'r arian a ddyrannwyd iddynt yn ddigonol i gyflawni eu hamcanion, nodwn, wrth dderbyn hyn, fod ymateb Llywodraeth Cymru yn datgan

'Gellir talu'r costau o'r cyllidebau presennol.'

Fodd bynnag, mae'n ansicr a fydd y cyllidebau presennol yn ddigon i sicrhau cyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen, a byddem yn croesawu rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y byddant yn ceisio cyflawni'r argymhelliad hwn. Mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r syniadau sydd wedi'u cynnwys yn ein hadroddiad a bydd yn monitro sut y bydd ein hargymhellion yn cael eu gweithredu. Diolch yn fawr.

16:10

Rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cynnal yr astudiaeth ar adfywio canol trefi a'n bod wedi cael dadl ar hyn heddiw.

Gan ganolbwyntio ar Dreforys, lle rwy'n byw a lle mae fy swyddfa etholaethol wedi'i lleoli, llwyddodd y pwyllgor i gerdded ar hyd Woodfield Street yn Nhreforys, sydd wedi ymddangos yn helaeth yn yr adroddiad Trawsnewid Trefi, a chael cyfle i gyfarfod â swyddogion y cyngor a swyddogion cymdeithasau tai, a buom yn trafod natur newidiol y busnesau sydd i'w gweld ar y stryd. Bu'r pwyllgor hefyd yn ymweld ag eglwys Tabernacl Treforys a Chanolfan y Galon Sanctaidd, ac mae'r ddau le'n cael eu defnyddio fel adnoddau cymunedol ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.

Clywodd y pwyllgor hefyd am ddatblygiad arfaethedig eglwys Sant Ioan—sef yr 'eglwys yng nghanol y ffordd', i'r rhai sy'n adnabod yr ardal—a hen dafarn y Crown. Nodwyd gan y pwyllgor fod Treforys bellach wedi ei dominyddu gan fusnesau gwasanaeth personol—siopau trin gwallt, bariau ewinedd, caffis a pharlyrau tatŵ; rwy'n siŵr fod hynny'n swnio'n gyfarwydd i bawb arall yma pan edrychwch chi ar ganol trefi—sy'n wahanol i'r cynnig manwerthu mwy traddodiadol a welwyd yn y gorffennol. Nodwyd bod y stryd fawr wedi colli banciau Lloyds a Halifax yn ddiweddar, yn sgil colli'r holl fanciau eraill o'r stryd fawr. Dim ond Cymdeithas Adeiladu'r Principality a pheiriant arian parod NatWest sydd ar ôl.

Clywodd y pwyllgor am waith Adfywio Treforys, grŵp partneriaeth sy'n weithgar yn nifer o'r cynlluniau datblygu uchod, ymhlith eraill. Mae'r grŵp hefyd yn darparu grantiau dechrau busnes i gefnogi busnesau newydd, yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fusnesau, ac mae wedi cynnal digwyddiadau arbennig i ddenu ymwelwyr i'r dref. Mae'r bartneriaeth hefyd wedi defnyddio'r gronfa benthyciadau canol trefi, ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2 filiwn ohoni i'r grŵp partneriaeth. Y bwriad ar gyfer hwn oedd caffael a datgloi safleoedd ac adeiladau gyda'r nod o becynnu a gwerthu cynnig ar y farchnad agored o fewn amserlen gytunedig.

Dadleuodd yr Athro Karel Williams dros greu cynghreiriau lleol ar gyfer newid, gan ddefnyddio sgiliau, arbenigedd, cyllid a dilysrwydd amrywiaeth o ddiddordebau lleol—er enghraifft masnachwyr lleol, cymdeithas ddinesig, sefydliadau angori a gwahanol haenau o Lywodraeth. Mae'n credu y bydd y cynghreiriau hyn yn gallu creu mudiadau lleol cryf sy'n dod â phobl at ei gilydd i wella eu trefi. Ac mae pobl yn perthyn i dref. Pe byddech yn gofyn i bobl yn Nhreforys o ble maent yn dod, byddent yn dweud 'Treforys'. Ni fyddent yn dweud 'Abertawe' ac ni fyddent yn dweud 'Cymru'. Byddent yn dweud wrthych eu bod yn dod o Dreforys. Ac rwy'n siŵr, pe bawn i'n mynd i lawer o drefi bach eraill ac yn gofyn iddynt o ble maent yn dod, ni fyddent yn siarad am yr ardal ehangach y maent yn byw ynddi; byddent yn dweud wrthych chi ynglŷn â lle maent yn byw, sef y pentref neu'r dref lle maent yn byw.

Mae'r hyn sydd wedi'i ddisgrifio fel yr hyn sydd ei angen yn cynnwys gweledigaeth a rennir sy'n cysylltu'r lle ac yn ysgogi gwahanol bobl a rhanddeiliaid i drefnu cynghrair sy'n gallu darparu llif o brosiectau cydlynol, a 'phrosiect a mwy', sy'n fwy nag adeiladau oherwydd eu bod yn cysylltu â gwahanol gymunedau ac yn meddu ar ddimensiwn cymdeithasol. Mae'r dyddiau pan oedd canol trefi wedi'u creu o fusnesau manwerthu yn bennaf wedi dod i ben. Nid ydym yn y 1950au, nid ydym yn y 1960au, nid ydym yn y 1970au. Rydym yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym. Mae'r byd wedi newid, yn enwedig ar ôl pandemig COVID. Ers inni ymweld â Threforys, mae Boots hefyd wedi cau. Mae hyn yn dilyn cau siopau Debenhams a Wilko ar draws y DU. Yn ddiweddar, fe wneuthum restr o fanwerthwyr sydd wedi cau yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Roedd yn hir ac yn dorcalonnus, a phe bawn i'n rhestru'r siopau mawr yn unig, byddai fy amser yn dod i ben. Rydym wedi gweld twf manwerthwyr ar-lein, ac maent naill ai'n dosbarthu i'r cartref neu'n cynnig gwasanaeth clicio a chasglu. Ym mis Tachwedd 2023, roedd gwerth gwerthiant ar-lein fel canran o gyfanswm gwerthiant manwerthu ym Mhrydain dros 30 y cant. Mae'r ganran yn uwch ym marchnad manwerthu ffasiwn y DU, lle mae'r gyfran ar-lein yn 41 y cant, a disgwylir iddi gynyddu i bron i 50 y cant erbyn 2028.

Mae Cenhedlaeth Z, fel y'u gelwir, a anwyd rhwng canol y 1990au a dechrau'r 2010au, wedi'u magu yn yr oes ddigidol, ac maent yn siopwyr ar-lein brwd. Mewn gwirionedd, maent yn frwd dros wneud popeth ar-lein, ac rwy'n credu mai dyna'r gwahaniaeth. Edrychwch ar y siopau, neidiwch 30 mlynedd, a dyfalwch faint o'r bobl hynny fydd yn dal yn fyw ymhen 30 mlynedd. Mae hynny'n broblem. Mae siopau yng nghanol trefi yn ddibynnol ar grŵp sy'n heneiddio'n gyflym. Ochr yn ochr â cholli manwerthwyr, rydym wedi gweld canghennau banc yn cau. Mae hyn wedi digwydd yn sgil defnyddio cardiau debyd a chredyd yn hytrach nag arian parod ar gyfer mwy o drafodion. Yn fyd-eang, gwneir 16 y cant o daliadau drwy arian parod, tra bod cardiau debyd yn 23 y cant, cardiau credyd yn 26 y cant, ac mae waledi digidol—neu ddefnyddio eich ffôn, fel y mae pobl iau yn ei ddweud wrthyf—yn 32 y cant. Fel arfer, mae ffioedd prosesu cardiau rhwng 1.5 y cant a 3.5 y cant, ond gallant fod mor uchel â 6 y cant am bob eitem sy'n cael ei werthu. Yr hyn y gallem ei wneud i helpu yw defnyddio arian parod wrth brynu gan fanwerthwr bach lleol. Bydd yn eu helpu, a bydd yn costio'r un faint i chi. Defnyddiwch siopau mewn canolfannau siopa a siopau lleol—

16:15

Diolch. A ydych chi'n cydnabod pwysigrwydd hybiau bancio? Agorwyd un yn fy etholaeth yn ddiweddar ac mae'n cael ei redeg gan Swyddfa'r Post a thrwy LINK, sy'n draddodiadol yn defnyddio peiriannau arian parod, felly gallai hwnnw fod yn ateb arall i'r broblem fancio, efallai, yn Nhreforys, yn ogystal â'r hyn a fu ym Mhrestatyn hefyd.

Yn sicr, mae yna hyb bancio symudol yn Nhreforys, ond nid diffyg hyb bancio yw'r broblem; y broblem yw bod pobl yn tueddu i beidio â defnyddio arian. Maent yn defnyddio cardiau debyd a chredyd a'u ffonau.

Defnyddiwch siopau mewn canolfannau siopa, fel y dywedais. Rwyf bob amser yn cael fy atgoffa o'r person a ddywedodd wrthyf, pan oeddwn i'n dosbarthu taflenni, nad oedd digon o siopau yng nghanol dinasoedd a threfi, wrth i'w nwyddau ar-lein gael eu dosbarthu. I ddefnyddio sylw dyfarnwr rygbi ar siopau lleol, 'Defnyddiwch nhw neu fe'u collwch nhw'. 

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i dîm y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, y Cadeirydd, ochr yn ochr â'n hymchwilwyr, a hefyd i'r Aelodau am eu gwaith caled ac am eu hymroddiad wrth greu'r adroddiad hwn. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig iawn ynghylch yr heriau a wynebwn wrth geisio sicrhau bod ein trefi yng Nghymru yn cyrraedd y safonau uchaf posibl i sicrhau bod gennym hybiau, siopau, gwasanaethau cymunedol effeithiol a ffyniannus ac yn y pen draw, economïau lleol ffyniannus. Er bod yr holl bwyntiau ac atebion yn yr adroddiad yn bwysig iawn i ddyfodol canol ein trefi, mae yna ychydig o brif feysydd yr hoffwn ganolbwyntio arnynt heddiw.

Yn gyntaf, rydym i gyd yn gwybod bod prosiectau i adfywio a buddsoddi yng nghanol ein trefi angen cyllid sylweddol. Mae'n bwysig nodi, er bod cynlluniau cyllido cenedlaethol a weithredir gan Lywodraeth y DU yn cael eu dyfarnu drwy'r gronfa ffyniant bro, sydd wedi darparu £440 miliwn i brosiectau Cymreig ers cyhoeddi'r cylch cyntaf ym mis Hydref 2021, mae system gyllido Llywodraeth Cymru wedi'i rhannu'n 13 cynllun cyllido ar wahân. Nododd adroddiad yr archwilydd cyffredinol fod y modd mae Llywodraeth Cymru yn rheoli'r cyllid hwn yn 'broblemus', ac argymhellodd y dylid ei gyfuno er mwyn lleihau biwrocratiaeth a symleiddio'r broses ymgeisio. Fel y gwyddom, Weinidog, byddai sicrhau bod y cyllid hwn yn haws i'w gael yn annog mwy o sefydliadau yn y pen draw i wneud cais am gyllid, gan wneud y gwaith o adfywio canol trefi yn fwy hygyrch, a hefyd yn ddeniadol i sefydliadau gymryd rhan ynddo.

Felly, ar ôl derbyn yr argymhelliad, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud nawr i sicrhau bod cynlluniau cyllido yn fwy syml a bod nifer y ceisiadau am ddeunyddiau ategol mewn ceisiadau yn cael eu cadw mor isel â phosibl i sicrhau bod y broses yn haws, yn fwy deniadol, fel ein bod yn gweld mwy o'r prosiectau hyn yn mynd rhagddynt? Ochr yn ochr â hyn, hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am eich rhaglen fenthyciadau Trawsnewid Trefi fel bod busnesau preifat, cymdeithasau tai cymdeithasol a datblygwyr eiddo yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddynt fel y gallant gael eu cefnogi gan eu hawdurdodau lleol er budd cymunedau yn y pen draw.

Elfen arall o ganfyddiadau'r adroddiad a oedd yn peri pryder mawr imi, Weinidog, oedd yr awgrym fod cyllid yn aml yn cael ei gyfeirio at awdurdodau lleol sy'n effeithiol wrth wneud ceisiadau, sy'n creu risg y gallai awdurdodau sydd â mwy o adnoddau gael eu gwobrwyo, ac y gallai'r rhai nad oes ganddynt adnoddau gael eu cosbi. Mae natur dameidiog cynlluniau cyllido yn gwaethygu'r broblem hon ymhellach. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i gadarnhau nad yw hyn yn digwydd mewn gwirionedd. A pha gynlluniau cyllido, ar lefel Cymru a'r DU gyfan, sydd ar y gweill ochr yn ochr â'i gilydd, er gwaethaf gwahaniaethau gwleidyddol, i sicrhau bod canol ein trefi'n cael eu cefnogi'n ddigonol?

Yn ogystal â chyllid, trafnidiaeth—rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelodau wedi sôn am hyn—ac mae mynediad at gyfleusterau lleol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i allu cymunedau i ffynnu. Canfu'r adroddiad

'Effeithir yn andwyol ar lawer o fusnesau canol tref drwy godi tâl am barcio ceir, mynediad at gludiant cyhoeddus a seilwaith trafnidiaeth gwael.'

Aeth yr adroddiad ymlaen i nodi hefyd fod argaeledd meysydd parcio ac opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus gwael yn rhwystrau allweddol i bobl sy'n ymweld â chanol eu trefi yn amlach, ochr yn ochr ag unigolion a ymatebodd i'r arolwg gan nodi mai dirywiad ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus annigonol yw'r rhesymau am hynny yn fwyaf cyffredinol. Rydym yn gweld enghraifft glasurol yma o ryfel Llafur yn erbyn modurwyr: diffyg meysydd parcio, neu, pan fyddant ar gael, mae parcio'n ddrud iawn, ond eto nid oes opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ymarferol ar gael. Felly, Weinidog, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau yn uniongyrchol i ganol trefi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, fel nad yw ein busnesau'n dioddef o ganlyniad uniongyrchol i anallu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thrafnidiaeth. 

Nododd datganiad sefyllfa Llywodraeth Cymru ei hun ar ganol trefi ym mis Mai 2023 fod y ddibyniaeth gynyddol ar geir preifat wedi cefnogi datblygiad parhaus lleoliadau y tu allan i'r dref ac wedi annog symudiad i ffwrdd o fyw yng nghanol y dref. Er bod hyn yn creu llawer o gyfleoedd i ddatblygu mewn mannau eraill, sydd â'i fanteision wrth gwrs, mae yna risg hefyd y bydd yn arwain at lai o fuddsoddi a llai o ymwelwyr â chanol ein trefi. Ni allwn fforddio i hyn ddigwydd. Mae ein busnesau eisoes wedi cael eu cosbi gan y Llywodraeth Lafur hon wedi iddynt ostwng y rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant. Mae angen cefnogaeth arnynt, Weinidog, ac atebion, nid rheolaeth ac ymosodiadau ariannol. Felly, hoffwn wybod beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i annog pobl yng nghanol ein trefi a chefnogi ein busnesau i aros yng nghanol ein trefi, fel nad ydym yn gweld mwy o siopau gwag a mwy o niwed i economi Cymru.

Yn olaf, Weinidog, a wnewch chi hefyd ymrwymo i ymchwilio i'r diffyg llefydd parcio yng nghanol ein trefi, a beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem, wrth symud ymlaen? Bydd angen mwy o gysylltiadau trafnidiaeth neu ddarparu mwy o lefydd parcio i hybu buddsoddiad a thwf yng nghanol ein trefi ledled Cymru. Ac er y byddwn wrth fy modd yn gweld y ddau beth yn digwydd, nid wyf yn hyderus y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu gwella'r cysylltiadau hyn gydag ychydig dros wythnos i fynd, gan na lwyddodd i'w wneud dros y tair blynedd diwethaf.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw canol ein trefi fel canolfannau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i lawer o gymunedau. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru—a'r un nesaf—yn ystyried yr adroddiad hwn o ddifrif, yn ogystal â'i argymhellion, yn hytrach na dim ond eu derbyn yn unig. Diolch.

16:20

Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor yn fawr, ac rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hefyd, ond wrth gwrs, mae hyn yn galw am gamau gweithredu i ddatblygu'r nifer o syniadau sydd wedi'u codi yn yr adroddiad. Roeddwn eisiau canolbwyntio ar dair agwedd ar yr adroddiad yn arbennig. Mae'r ddwy gyntaf yn gysylltiedig, sef cynllunio ac eiddo gwag.

Rwy'n credu bod y pwyllgor yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith bod y system gynllunio yn un elfen o adfywio canol trefi, ond mae ei hyblygrwydd yn elfen bwysig iawn mewn gwirionedd—un a fydd, os na fyddwn yn ei chael yn iawn, yn rhwystro llawer o'n huchelgeisiau mewn meysydd eraill o ailddatblygu. Yr hyn yr hoffwn ei weld mewn gwirionedd yw system alluogi ar gyfer awdurdodau lleol. Clywsom sôn am yr angen i awdurdodau lleol fod yn fwy ymyraethol. Wel, mae angen i ni eu galluogi i fod yn fwy ymyraethol, i symud yn gyflym pan fo sefyllfaoedd yn codi. Rwy'n meddwl yma am ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto, ydw, ond rwy'n meddwl hefyd am drosi eiddo masnachol yn eiddo preswyl.

Rwy'n meddwl am ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae fy swyddfa, ac mae tua phedwar neu bum llawr o ofod swyddfa gwag uwchben fy swyddfa i. Rydym yn gwybod bod yna broblem gyda'r cyflenwad tai; rydym yn gwybod bod yna brinder difrifol o fflatiau un a dwy ystafell wely. Wel, mae digon o lefydd yng nghanol ein trefi a fyddai'n gallu helpu i lenwi'r bwlch a helpu i fynd i'r afael â'r prinder, pe byddem yn buddsoddi ynddynt. Ac wrth gwrs, drwy ddenu pobl i fyw yng nghanol y dref, mae'n dilyn wedyn eich bod yn creu 'ymwelwyr' sydd yno'n barod, onid ydych, oherwydd bydd y bobl hynny eisiau gwasanaethau, byddant eisiau mynd am goffi, byddant eisiau mynd am fwyd, byddant eisiau mynd am beint. Felly, rydych chi'n creu 'ymwelwyr' sydd yno'n barod. Byddwn yn gwerthfawrogi rhai sylwadau gan y Gweinidog ar hynny.

Yn olaf, rwyf am grybwyll ardrethi annomestig. Rwy'n croesawu paragraff 163 ar y lluosydd. Fel y mae'r pwyllgor yn nodi, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i ni fod yn greadigol iawn wrth feddwl am sut i ymdrin ag ardrethi annomestig. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi siarad llawer, mewn ymateb i gyllideb Llywodraeth Cymru, am yr angen i edrych ar y lluosydd a sut y gallem amrywio hwnnw ar gyfer gwahanol sectorau o'r economi. Nid wyf yn dangos unrhyw ragfarn yma, ond rwy'n meddwl tybed, wrth edrych ar archfarchnadoedd, er enghraifft, gan feddwl am ganolfannau siopa y tu allan i drefi, a ydynt yn talu digon? Byddwn i'n dadlau nad ydynt. Ond drwy amrywio'r lluosydd a chynyddu faint o arian y mae archfarchnadoedd a chanolfannau siopa y tu allan i drefi yn talu i mewn i'r system, gallem ddefnyddio'r cyllid hwnnw i helpu busnesau bach a busnesau lleol ar ein strydoedd mawr. Mae'n wir fod llawer o'r lleoedd hyn yn dda i'r defnyddiwr unigol, ond nid ydynt o reidrwydd yn dda i'r gymuned, ac wrth gwrs mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng siopa ar-lein a siopau brics a morter hefyd. Felly, byddwn yn adleisio argymhelliad 5 o adroddiad y pwyllgor, ac unwaith eto, byddwn yn gwerthfawrogi sylwadau gan y Gweinidog ar y pwynt hwnnw'n fawr.

16:25

Canol trefi yw curiad calon ein cymunedau lleol mewn gwirionedd; maent yn dweud cyfrolau amdanom ni fel pobl, fel roedd Mike yn ei ddweud, ac o ble rydym ni'n dod. Pan fo rhywun yn gofyn o ble rwy'n dod, anaml y byddaf yn dweud unrhyw beth ar wahân i 'Dredegar', ac mae hynny fel petai'n ddigon i'r rhan fwyaf o bobl. Ond nid yw Tredegar heddiw fel y Tredegar lle cefais fy magu, wrth gwrs. Pan oeddwn i'n tyfu i fyny yno, roeddwn yn cynilo fy arian poced, yn gwneud fy ngwaith i ennill ychydig mwy o geiniogau, ac yna byddwn yn mynd i lawr i Irene's i brynu modelau Airfix a phethau, ac i brynu pêl-droed o'r dref ac yn y blaen, ond ni allwch wneud hynny heddiw. Nid oes gennych yr un amrywiaeth o siopau; nid oes gennych yr un cyfleoedd yn y dref ag a oedd gennych yn y gorffennol. Ac mewn sawl ffordd ni fydd hynny'n newid yn y dyfodol, oherwydd mae'r canol trefi a welwn heddiw yn ganlyniadau dewisiadau a wnaed yn y gorffennol ac yn ganlyniadau newidiadau technolegol, newidiadau manwerthu, newidiadau cymdeithasol a newid o ran trafnidiaeth.

Roedd teithio i Gaerdydd pan oeddwn yn tyfu i fyny yn daith enfawr. Byddech chi naill ai'n croesi i Rymni i ddal y trên, neu byddech chi'n dal y bws, a byddai'n cymryd dwy awr i chi gyrraedd Caerdydd ar y bws. Y dyddiau hyn, mae pobl yn gyrru yn ôl ac ymlaen ac yn cymudo i Gaerdydd; ni fyddai hynny'n digwydd yn y 1970au. Felly, rydym yn byw mewn lle gwahanol, ac nid wyf yn credu bod edrych yn ôl ar sut oedd pethau'n arfer bod yn ddefnyddiol iawn wrth geisio canfod ffordd ymlaen ar gyfer y dyfodol. Ond hefyd, nid oherwydd bod newid wedi'i orfodi arnom yn unig yr ydym mewn lle gwahanol. Rydym mewn lle gwahanol hefyd oherwydd ein bod ni—rwy'n dweud 'ni' yn gyfunol fel cymdeithas—wedi gwneud penderfyniadau am y mathau o lefydd rydym eisiau byw ynddynt. Rydym wedi mabwysiadu model o gyfalafiaeth fanwerthol Americanaidd bron yn farus sydd wedi diwreiddio canol ein trefi. Y canlyniad yw, os wyf am brynu unrhyw beth heddiw—anrhegion Nadolig ac yn y blaen—byddwn yn fwy tebygol o fynd i barc manwerthu Cyfarthfa ym Merthyr Tudful nag y byddwn o aros yn fy nghymuned fy hun, ac mae hynny'n ganlyniad i'r dewisiadau a wnaed drosom ni a gennym ni.

Felly, beth a wnawn? Rydym yn gwybod bod yna ffyrdd gwahanol ymlaen. Bydd llawer ohonoch yn gwybod fy mod i'n treulio cymaint o amser ag y gallaf, weithiau, ar dir mawr Ewrop, ac os ydych chi'n gyrru drwy Wlad Belg neu'r Iseldiroedd neu Ffrainc neu'r Almaen, ac yn stopio ac yn mynd i wahanol drefi a phentrefi, fe welwch gymunedau ag iddynt galon yng nghanol y dref, sydd â dewis o siopau a bwytai a chaffis annibynnol, ac mae gennych gyfle i siopa a mwynhau profiad cymunedol, fel yr arferem ni allu ei wneud ychydig flynyddoedd yn ôl. Ac yn y Deyrnas Unedig, rydym yn wahanol, ac rydym yn wahanol oherwydd dewisiadau a wnaed gan Lywodraethau olynol. Ar gyfer y dyfodol, rwy'n credu y dylem wneud dewisiadau gwahanol, a dylem sicrhau bod y cymunedau rydym i gyd yn byw ynddynt yn cael yr un cyfleoedd i ffynnu eto. Ac yn sicr, rwy'n gweld bod yna heriau manwerthu mewn ardaloedd fel Caerdydd yn dilyn y pandemig. Gadewch inni wynebu'r peth, nid yw'r dinasoedd yn ddiogel rhag y newidiadau sy'n digwydd, a bydd unrhyw un ohonom sy'n cofio'r ddinas hon rai degawdau yn ôl, ac yn sicr cyn y pandemig, wedi gweld effaith dewisiadau gwahanol yma yn y ddinas.

Ond mae'r dewisiadau hynny a'r newidiadau hynny'n llawer mwy dwys mewn cymunedau tlotach a dosbarth gweithiol. Pan edrychaf ar effaith y pandemig ar y cymunedau ym Mlaenau Gwent, mae'n llawer mwy a llawer mwy dwys nag ydyw mewn cymunedau sy'n gymharol agos—cymunedau yn sir Frycheiniog neu sir Fynwy, nad ydynt wedi cael eu heffeithio i'r un graddau ag a welsom ym Mlaenau Gwent. Ac mae'n rhaid inni ofyn pam. Ac nid yw'n ymwneud â ffrydiau cyllido unigol na phenderfyniadau polisi unigol Llywodraethau unigol; mae'n ymwneud â'r pecyn cyfan—pecyn cyfannol o newid y mae angen i ni allu ei gyflawni, os ydym am ail-greu'r canol trefi a'r canol cymunedau y byddem eisiau i'n plant dyfu i fyny ynddynt ac y byddem ni ein hunain eisiau ymddeol iddynt.

16:30

Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Un o'r pethau y credaf y gallai fod yn ddefnyddiol er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn yw lleihau ardrethi busnes yng nghanol ein trefi a'n strydoedd mawr, eu cynyddu ar gyfer canolfannau siopa y tu allan i'r dref, y mae llawer ohonynt wedi bod yn ffynnu, ac yn wir, eu cynyddu ar gyfer y manwerthwyr ar-lein yn unig sydd i'w gweld yn gwneud yn dda. A fyddech chi'n cytuno bod hynny'n un rhan o'r ateb a allai fynd rywfaint o'r ffordd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn y mae strydoedd mawr yn eich etholaeth chi, ac yn fy etholaeth i yn wir, wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Nid wyf yn credu bod hwn yn faes sy'n rhannu'r Siambr mewn gwirionedd. Rwy'n credu y bydd gan bob un ohonom yr un math o uchelgais, ac rwy'n credu bod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn rhai da, ac rwy'n cytuno â'r math o awgrymiadau y mae'n eu gwneud. Ond mae angen inni fynd gam ymhellach na hynny, onid oes, oherwydd mae'n rhaid inni alluogi pobl i fyw a gweithio a chymdeithasu yng nghanol ein cymunedau. Mae hynny'n golygu bod angen inni hefyd sicrhau bod mynediad digidol ar gael fel hawl ac fel mater o drefn. Mewn sawl rhan o fy etholaeth i, mae'r signal ffôn symudol yn wael ac nid oes gobaith o gwbl o fand eang symudol, ac mae hynny, yn 2024, yn gwbl annerbyniol, ac mae angen inni ddweud hynny'n glir. Nid wyf am brofi amynedd ein Cadeirydd dros dro am eiliad yn hwy, ond hoffwn ddweud fy mod yn credu bod yr adroddiad yn rhagorol, ac rwy'n gobeithio y bydd ymateb y Llywodraeth yn ymateb i'r adroddiad ei hun, a hefyd yn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu. Diolch yn fawr iawn.

Wel, mae bob amser yn dda cytuno â Darren Millar, yn enwedig ar y mater hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio bod llawer o'r manwerthwyr ar-lein hyn yn sefydliadau rhyngwladol, ac nid oes ganddynt safle tiriogaethol mewn gwirionedd; maent ar Ynysoedd y Wyryf neu ryw hafan dreth arall, uffern dreth. Sut y gallwn ni eu cyrraedd? Felly, mae hon yn broblem ryngwladol y mae angen inni feddwl amdani yn fyd-eang, oherwydd nid oes amheuaeth fod rhai pobl yn osgoi talu trethi'n gyfan gwbl.

Rwy'n hoff iawn o'r ddinas 15 munud, yn enwedig oherwydd, i lawer o fy etholwyr, os na allant gerdded ato, ni allant fforddio ei brynu, oherwydd mae eu harian mor brin, mae cost y tocyn bws i gyrraedd rhywle arall ac yn ôl yn rhwystr enfawr. Ac wrth inni ymdopi â'r newidiadau y mae'n rhaid inni eu gwneud mewn perthynas â newid hinsawdd, i fod yn gyson yn ein rhwymedigaethau sero net, mae'n rhaid inni feddwl beth yw'r pethau wythnosol y mae angen i bawb eu prynu, a sut y gall pobl eu cyrraedd. Mae'r daith siopa achlysurol yn galw am deithio pellach.

Felly, rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gorfod ymdopi â'r pentrefi sy'n colli eu hysgol gynradd ac sydd wedyn yn colli eu siop, ac sydd wedyn yn colli'r potensial ar gyfer unrhyw fath o ymddiddan dynol yn y gymuned honno, ac mae hynny'n gallu bod yn niweidiol iawn. Ond nid problem i ganol trefi a phentrefi yn unig yw hon, mae'n broblem y bu'n rhaid i ganol dinas Caerdydd fynd i'r afael â hi hefyd, ac mae'n ymwneud â mwy na COVID. Mae'r sector lletygarwch hefyd yn cael amser anodd iawn oherwydd bod llai o arian yn cylchredeg, ac yn anochel, mae gwariant dewisol yn cael ergyd fawr. 

Ond rwyf eisiau cymeradwyo, er enghraifft, ailddatblygiad beiddgar Landsec o safle Debenhams, a oedd yn adeilad hyll ac nid oedd iddo botensial i gael ei addasu at ddibenion preswyl oherwydd y ffordd y cafodd ei adeiladu. Nid oedd digon o olau naturiol ac nid ydych eisiau i bobl gerdded heibio eich ystafell fyw pan fyddant ar y ffordd i rywle. Felly, rwy'n credu bod eu syniad beiddgar o greu sgwâr canol y dref, lle gall teuluoedd fynd i gael picnic tra'u bod yn cael diwrnod o siopa, neu i roi gofod artistig i gerddorion neu artistiaid stryd, yn dda iawn. Nid ewyllys da sydd wedi eu sbarduno i wneud hyn, maent yn ei wneud am mai dyna eu ffordd nhw o ddiogelu eu hasedau sylweddol yng Nghaerdydd, felly mae'n rhaid iddynt— . Mae ganddynt yr adnoddau, os mynnwch, i ailystyried diben canol trefi a dinasoedd, o gofio nad blip yn sgil COVID-19 yw siopa ar-lein ond tuedd sy'n ymddangos fel pe bai yma i aros. 

Felly, rhaid i ganol trefi ymwneud â mwy na gwario arian yn unig. Mae'r argyfwng costau byw, nad oes diwedd arno ac sy'n realiti ddyddiol i o leiaf draean o'r boblogaeth, yn golygu bod yn rhaid i ganol trefi fod yn lleoedd i gyfarfod a chymdeithasu, cyfnewid syniadau, cael eich cyfoethogi gan amgylchiadau diwylliannol, boed hynny'n harddwch gweledol blwch blodau neu'n ddigwyddiad diwylliannol mawr, neu ddigwyddiad chwaraeon. 

Rwy'n credu mai un o'r problemau gwirioneddol y mae'n rhaid inni ymdrin â nhw yw nifer y canolfannau siopa y tu allan i'r dref, ac rwy'n llwyr gefnogi argymhelliad y pwyllgor ynghylch anghymell hynny, ond mae'n anodd iawn gwrthsefyll pan fydd cwmnïau angori fel Marks and Spencer yn penderfynu symud allan o'r dref. Ac rwy'n gwbl ymwybodol fod fy nghyd-Aelod Jeremy Miles wedi bod yn ymrafael â'r union broblem honno lle maent yn symud allan o Gastell-nedd, gan greu bygythiad gwirioneddol i'r dref hanesyddol honno. 

Ond credaf mai un o'r ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â hyn efallai, gyda chymhellion treth a hefyd wrth ymdrin â'r Bil bysiau sydd ar y ffordd, yw drwy sicrhau, os yw cwmnïau'n teimlo y byddai symud o'r dref yn eu rhoi mewn sefyllfa well, y dylai fod yn ddyletswydd arnynt i ddarparu'r gwasanaeth bws i'r rhai sydd angen eu cyrraedd, oherwydd fel arall rydym yn cynyddu traffig ceir ac mae hynny'n groes i 'Llwybr Newydd'. Felly, mae angen inni gryfhau'r system gynllunio i sicrhau y gallwn wneud i hynny ddigwydd. Dylent dalu am y cerbydau sy'n galluogi pawb i gyrraedd eu siopau, ac mae hynny'n cynnwys y gyfran o'r boblogaeth nad oes ganddynt gerbyd. 

Ond i grynhoi, rwy'n credu y dylem gydnabod yr hyn sy'n ethos o gyfnod Mark Drakeford fel Prif Weinidog, sef mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth sydd ei angen ar eu hardaloedd a bod pob canol tref yn wahanol. Felly, mae'r argymhelliad i roi mwy o hyblygrwydd yn y meini prawf ar gyfer cymhellion canol trefi i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n credu ei fod yn un y dylem adeiladu arno.

16:35

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a chredaf ei fod yn amserol iawn ac yn ddefnyddiol iawn. Mae cryn dipyn o dir cyffredin ar draws y Siambr, onid oes, fel y clywsom eisoes, ac rydym i gyd yn gyfarwydd â heriau siopa ar-lein, datblygiadau y tu allan i ganol trefi, effeithiau'r pandemig, a llawer o rai eraill. Mae'n set heriol iawn o amgylchiadau, felly yn amlwg mae angen set eang o ymatebion. Ac rwy'n cytuno'n gryf fod yn rhaid i hynny fod wedi'i leoli'n lleol o ran partneriaethau lleol, oherwydd gwn fod y canol trefi a dinasoedd sy'n bwysig yn fy etholaeth ac i fy etholaeth yn amrywio o ran maint, a bydd yr atebion i'r problemau'n amrywio yn unol â hynny. Ar gyfer canol dinas Casnewydd, mae llawer iawn o fuddsoddi angenrheidiol wedi bod, ond yn amlwg mae angen gwneud llawer mwy—llawer o ddarpariaeth breswyl newydd; prosiect mawr i ailddatblygu'r farchnad yn y canol; yn ddiweddar mae lleoliad cerddoriaeth sy'n dal 500 o bobl y Corn Exchange wedi agor, sydd wedi creu llawer o gyffro a bwrlwm go iawn; mwy o wasanaethau cyhoeddus, mwy o gyfleusterau hamdden, adloniant. Mae llawer o arallgyfeirio wedi bod. Ond rwy'n cytuno'n gryf, fel y dywedodd Luke Fletcher, o ran darpariaeth breswyl, ei fod yn mynd i'r afael â llawer o'n heriau dybryd yng Nghymru, onid yw? Mae'n helpu gyda'r arallgyfeirio, mae'n helpu gyda nifer yr ymwelwyr, ond mae hefyd yn darparu, yn arbennig, efallai, yr eiddo llai o faint y mae galw mawr amdano yn y cyflenwad tai. Felly, rwy'n credu y byddai llawer mwy o hynny'n ddefnyddiol dros ben.

Yng Nghil-y-coed, yn Nwyrain Casnewydd—mae'n llawer llai, yn amlwg, na chanol dinas Casnewydd; mae'n dref—mae rhai o'r heriau yn ymwneud â nodi perchnogaeth eiddo a chael perchnogion y safle i fod yn gefnogol a chydweithredu â rhywfaint o'r camau sydd eu hangen. Ond unwaith eto, mae llawer o ymdrech wedi mynd tuag at wella canol y dref, i'w wneud yn ofod o safon i bobl eistedd o gwmpas a chyfarfod. Mae'r canol trefi hyn yn bwysig iawn at y dibenion cymdeithasol hynny. Ac mae yna dîm tref Cil-y-coed sy'n cynnal digwyddiadau ac yn helpu i amrywio'r cynnig a denu pobl i ganol y dref. Ac ym Magwyr, sy'n bentref, mae'n ymwneud llawer mwy â busnesau lleol annibynnol o safon yn gwneud y cynnig o ansawdd hwnnw y mae pobl leol eisiau ei weld. Rydym yn gwybod yn iawn, onid ydym, os yw'r busnesau hyn sy'n eiddo i bobl leol yn gwneud elw yn y canol trefi hyn, byddant yn gwario'r elw'n lleol, ac felly bydd gennych y cylch rhinweddol hwnnw o fuddsoddi a gwario, tra bod y cwmnïau mawr yn sugno arian allan o ganol trefi, ac nid yw hynny'n dda i'r economïau lleol o gwbl.

Ac un o'r manteision hefyd, rwy'n credu, yw cael dull eang o fynd i'r afael â'r problemau. Os edrychwn ar Gasnewydd, er enghraifft, ychydig dros y ffordd o ganol y ddinas mae gennym Rodney Parade, cartref tîm pêl-droed Casnewydd, cartref tîm rygbi'r Dreigiau. Mae trafnidiaeth gyhoeddus gerllaw, felly pan fydd gennych y gemau mawr, y digwyddiadau mawr, mae'r holl bobl, yr holl ymwelwyr, yng nghanol dinas Casnewydd. Mae cymaint o agweddau ar hyn. Mae cymaint o dimau mawr wedi adleoli, onid ydynt, unwaith eto i gyrion trefi a dinasoedd, felly nid ydych chi'n cael yr effaith honno, nid ydych chi'n cael y wefr honno ar ddiwrnodau'r gemau mawr, ac yn wir, yr holl gemau y maent yn eu chwarae drwy gydol y tymor.

Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, ein bod angen dull eang sy'n cydnabod yr hyblygrwydd sydd mor bwysig—canol dinasoedd, canol trefi, canol pentrefi—a gweithio gyda'r partneriaethau lleol a'r awdurdodau lleol sy'n deall yr amgylchiadau lleol orau. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'r angen am y math hwnnw o ddull, ac mae'n cynnig argymhellion defnyddiol iawn, ac rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn edrych yn fanwl iawn arno, ac rwy'n croesawu'r ymateb y maent eisoes wedi'i wneud. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a phawb a roddodd amser i roi tystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor, a hoffwn ddiolch hefyd i'r archwilydd cyffredinol a'i dîm am eu cyfraniad gwerthfawr i'r gwaith pwysig hwn. Rwy'n falch o gadarnhau ein bod wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor yn llawn.

Rwy'n credu, fel y mae pob Aelod wedi'i gydnabod yn y ddadl hon, fod canol ein trefi yn wynebu heriau digynsail. Mae effaith datblygiadau y tu allan i'r dref, arferion manwerthu sy'n newid a phandemig COVID i gyd wedi arwain at ganlyniadau i'n strydoedd mawr. Yn wir, mae gormod o siopau gwag, rhy ychydig o gartrefi a rhy ychydig o fannau gwyrdd yng nghanol ein trefi, ac rydym i gyd eisiau i ganol ein trefi fod yn lleoedd lle gallwn fyw, gweithio a chwarae. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gyflawni'r weledigaeth hon drwy ddarparu arweiniad strategol clir a chefnogi gweithgareddau adfywio ein hawdurdodau lleol. Mae hyn eisoes yn cael ei adlewyrchu yn ein rhaglen lywodraethu drwy ymrwymiadau penodol sy'n cefnogi canol ein trefi. Mae'r ymrwymiadau hyn yn cynnwys cefnogi gwaith i ddatblygu cofrestr o adeiladau gwag, a helpu busnesau bach i symud i siopau gwag. 

Heddiw, hoffwn fynd i'r afael â rhai o'r prif faterion a godwyd gan y pwyllgor yn ei argymhellion, yn ogystal â rhai o'r heriau ehangach sy'n effeithio ar ganol ein trefi. Drwy 'Cymru'r Dyfodol' a 'Polisi Cynllunio Cymru', rydym wedi cryfhau ein polisi 'canol y dref yn gyntaf'. Fe'i cyflwynir ar lefel leol gan bolisïau a phenderfyniadau cynlluniau datblygu lleol ar geisiadau cynllunio. Mae hefyd yn egwyddor drawsbynciol sydd wedi'i hymgorffori yn strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru. Ac er mwyn gwneud hynny'n glir iawn, mae 'canol y dref yn gyntaf' yn golygu ein bod eisiau gweld canol trefi yn cael eu hystyried yn gyntaf ar gyfer lleoli cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaeth cyhoeddus newydd sylweddol. Bydd yr ystod amrywiol hon o wasanaethau yn sicr o ddenu mwy o ymwelwyr i ganol ein trefi.

Pan lansiais ein datganiad sefyllfa ar ganol trefi ym mis Mai y llynedd, roeddwn yn glir iawn fod adfywio canol trefi yn waith cymhleth. Rhaid inni ystyried y rhesymau y tu ôl i benderfyniad gwasanaethau i symud o ganol trefi i leoliadau y tu allan i'r dref, twf siopa ar-lein, dibyniaeth ar geir preifat, capasiti lleol i gyflawni, ac wrth gwrs, yr argyfyngau hinsawdd a natur. Fe wneuthum lansio'r strategaeth honno yng nghanol tref Castell-nedd—tref y bûm yn byw ynddi am gyfnod byr pan oeddwn yn blentyn bach. Roedd fy nhad yn rhedeg tafarn yng nghanol tref Castell-nedd. Yna daeth honno'n siop esgidiau ac mae bellach yn siop elusen, sydd, rwy'n credu, yn dangos treigl amser drwy ganol y dref yn dda iawn. Ond roeddwn yn falch iawn o lansio'r polisi wrth sefyll y tu allan i'r llyfrgell a'r ganolfan hamdden newydd yng Nghastell-nedd, sydd wedi cael effaith gatalytig iawn ar ddenu pobl yn ôl i'r canol. Mae'n rhaid iddo fod yn lle croesawgar, onid oes, er mwyn denu pobl.

Ac fe wnethum fwynhau fy ymweliad â Chasnewydd a'r farchnad newydd, a'r defnydd arbrofol, ond sydd bellach i'w gyflwyno, o'r safle uwchben y siopau yno ac ar hyd yr—rwyf wedi anghofio'r gair—arcêd, arcêd newydd y farchnad, a oedd yn hyfryd, lle rydym wedi defnyddio gofod gwag uwchben y siopau fel preswylfeydd. Ond rydym wedi eu haddasu'n breswylfeydd, gyda'ch cymorth chi, John, a Jayne Bryant, a chyda chymorth y cyngor, ac mae hynny wedi cael effaith ysgogol ar yr ardal honno hefyd, onid yw? Roedd yn wirioneddol hyfryd; fe wneuthum fwynhau'r ymweliad hwnnw'n fawr. Rwy'n gwneud y pwynt, mewn gwirionedd, i ddangos y gellir ei wneud, ond mae angen ymdrech gyfunol ac ystod o wasanaethau i'w rhoi i mewn. 

A phwynt Mike wedyn ynglŷn â pha drefi rydych chi'n uniaethu â nhw: felly, un o'r pethau eraill am ein polisi 'canol y dref yn gyntaf' yw ein bod wedi gorfod ystyried, yn enwedig yn y dinasoedd—. Rwy'n cydnabod pwynt Mike yn llwyr. Rwy'n dod o ran wahanol o Abertawe. Ond pe baech chi'n dweud 'canol y dref yn gyntaf' yn Abertawe, efallai y byddech chi'n dweud canol y ddinas yn y pen draw, ac ni fyddai hwnnw'n bolisi da ychwaith; rydych chi eisiau i ganol y maestrefi gael eu hystyried fel canol trefi hefyd. Felly, mae'n waith cymhleth. Weithiau mae'r llanw a thrai yn y canolfannau rhanbarthol hynny'n digwydd mewn ffordd nad yw'n rhagweladwy iawn mewn gwirionedd. Rwy'n dod o ardal yn Abertawe o'r enw Uplands, ac mae'n cael ychydig o atgyfodiad ar hyn o bryd, ond mae'n anodd iawn deall yn iawn beth yw'r zeitgeist ar gyfer llanw a thrai y lleoedd hyn. Felly, rwy'n gwneud y pwyntiau anecdotaidd hyn, mewn gwirionedd, i dynnu sylw at y ffaith bod yna faterion eang sy'n effeithio ar bob canol tref, ac mae'r rhain i gyd yn cael eu hadlewyrchu yn adroddiad trylwyr iawn y pwyllgor a'u hargymhellion.

Mae llawer o'r ysgogiadau ar gyfer adfywio canol ein trefi yn nwylo awdurdodau lleol, ond rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn alluogwr allweddol. Mae gennym raglen flaenllaw Trawsnewid Trefi, ac mae'r rhaglen honno'n darparu £125 miliwn o gyllid grant a benthyciadau dros dair blynedd i gefnogi'r gwaith hwnnw. Mae Trawsnewid Trefi yn becyn cymorth cydlynol ond hyblyg, ac mae sut y caiff ei ddefnyddio'n cael ei lywio gan awdurdodau lleol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol unigryw i flaenoriaethu buddsoddiad yn seiliedig ar gynlluniau creu lleoedd, yn benodol am y rheswm y soniais amdano, sef mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i wybod lle sydd orau i leoli'r canolfannau rhanbarthol a chanol dinas hynny gael eu lleoli. Mae Trawsnewid Trefi yn gatalydd ar gyfer newid i ailddyfeisio canol trefi ledled Cymru, ond mae angen inni sicrhau bod y rhaglen yn glynu wrth anghenion ein trefi, a byddwn yn cynnal adolygiad o'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn 2024-25, a bydd hwnnw'n cynnwys asesiad o'r meini prawf a ddefnyddir i asesu ceisiadau am gyllid, y mae Mark, a Jenny rwy'n credu, a nifer o bobl eraill wedi ei grybwyll. 

Mae'r pwyllgor hefyd wedi codi mater eiddo gwag yn benodol. Rydym yn cytuno'n llwyr fod eiddo gwag yn falltod, nid yn unig ar ganol trefi, ond ar ein holl gymunedau yn ehangach. Mae'n annerbyniol fod cymaint o gartrefi gwag pan fo cymaint o bobl yn ddigartref, ac rwy'n benderfynol o gefnogi awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i ailddefnyddio eiddo gwag preswyl a masnachol unwaith eto. Adlewyrchir hyn gan y nifer o ffyrdd y darperir cymorth ar draws nifer o gynlluniau grant a benthyciadau.

Ar y pwynt hwnnw, hoffwn argymell i'r Aelodau, os oes ganddynt adeiladau adfeiliedig yng nghanol eu trefi eu hunain, i dynnu ein sylw at hynny. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio eu pwerau gorchymyn prynu gorfodol yn effeithiol iawn. Felly, weithiau, fel y dywedodd John rwy'n credu, gall fod yn anodd iawn canfod pwy yw perchennog yr adeilad, felly rydym yn galluogi ein hawdurdodau lleol i wneud y gwaith hwnnw a defnyddio pwerau gorchymyn prynu gorfodol, lle daw'n amlwg yn aml, ac mae hyn wedi digwydd yn fy ardal i, fod y cwmni yn ddim ond cwmni buddsoddi yn rhywle neu'i gilydd ac nad ydynt hyd yn oed yn gwybod eu bod yn berchen ar yr eiddo dan sylw, ond mae'n cael effaith wirioneddol ddiflas ar y dref. Maent yn eistedd arno fel rhan o bortffolio enfawr o 'fuddsoddiad', mewn dyfynodau. Mae hynny wedi cael effaith go ysgogol. Bydd unrhyw un ohonoch sy'n adnabod y Stryd Fawr yn Abertawe, er enghraifft, yn gweld y gwahaniaeth yn y stryd honno o ganlyniad i'r ffaith bod y cyngor wedi prynu adeiladau'n orfodol ac wedi gwneud defnydd buddiol ohonynt.

16:50

A wnewch chi gydnabod gwaith ac ymdrechion Llywodraeth y DU drwy gronfa'r trefi, sydd hefyd yn helpu gyda'r sefyllfa honno, gyda buddsoddiad o £20 miliwn i ganol tref y Rhyl yn fy etholaeth i, a llawer mwy ledled Cymru hefyd mae'n debyg o ganlyniad i gyllideb y gwanwyn? Mae honno'n gymorth mawr, ochr yn ochr â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gydag awdurdodau lleol, a'r gefnogaeth gydag arian gan Lywodraeth y DU hefyd.

Ie, a'r hyn rydym wedi'i wneud, mewn llawer o achosion, yw sicrhau bod eu cyllid nhw'n cael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer ein cyllid ni, neu fod ein cyllid ni'n cael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer eu cyllid nhw, ac mewn gwirionedd, rydych chi'n dyblu'r effaith, felly mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Rwyf am ddweud, serch hynny, nad ydym bob amser wedi cael llawer iawn o rybudd o hynny, felly mae wedi bod yn anodd iawn cynllunio lle y gallem wneud y defnydd gorau o'r arian cyfatebol. Rwyf fi a fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi dweud wrth y Llywodraeth ein bod yn croesawu'r cyllid, ond y byddai rhywfaint o gynllunio o ran lle y gallem gyfeirio rhywfaint o'r cyllid hwnnw fel y gallwn ddyblu ei effaith yn y ffordd honno yn ddefnyddiol tu hwnt. 

Beth bynnag, gan droi'n ôl at yr eiddo gwag, rwy'n awyddus iawn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau gorchymyn prynu gorfodol yn enwedig os oes ganddynt adeiladau mewn cyflwr gwael, ac adeiladau treftadaeth yn arbennig, y buom yn edrych arnynt, ac mae pwynt Mike am yr eglwysi yn un da iawn, lle gallwn yn bendant wneud defnydd buddiol ohonynt unwaith eto. Mae gan lawer ohonom eglwysi neu gapeli enfawr yng nghanol ein trefi lleol sy'n eistedd yno yn gwneud dim byd. Gellid eu trawsnewid yn hawdd i fod yn rhywbeth llawer mwy defnyddiol ar gyfer yr oes sydd ohoni, ac mae hefyd yn diogelu'r dreftadaeth ddiwylliannol. Fe godais hyn ddoe, pan oeddwn yn sôn am ail gartrefi. 

Felly, mewn ymateb i argymhelliad 7, rwy'n falch iawn o gadarnhau y byddwn yn adolygu, gyda mewnbwn awdurdodau lleol a rhanddeiliaid, y cymorth ariannol sydd ar gael i gefnogi'r gwaith o fynd i'r afael ag eiddo gwag. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi ymrwymo i sefydlu Unnos. Drwy gymorth Unnos, mae awdurdodau lleol yn cymryd camau gorfodi priodol ar eiddo gwag ac adfeiliedig. Bydd rhaglen Unnos hefyd yn datblygu dogfen ganllawiau i awdurdodau lleol ar gartrefi gwag erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Felly, Ddirprwy Lywydd dros dro, cyfeiriodd y pwyllgor yn briodol ddigon at y system gynllunio fel maes polisi lle gellir gwneud newidiadau i gefnogi canol ein trefi, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i argymhellion y pwyllgor ar gynllunio. Mae gan 'Polisi Cynllunio Cymru' a 'Cymru'r Dyfodol' bolisïau clir sy'n hyrwyddo egwyddorion 'canol y dref yn gyntaf' ar gyfer y system gynllunio yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad o hawliau datblygu a ganiateir ac yn ymgynghori ar ba mor briodol yw cyflwyno cyfres newydd o hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer canol trefi. Bydd yn ystyried a ddylem ganiatáu newid defnydd heb fod angen caniatâd cynllunio. Gallai hynny fod yn gleddyf deufiniog, felly mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ein bod wedi rhoi'r polisïau ar waith i wneud yn siŵr, lle mae'r newid defnydd hwnnw'n digwydd, ei fod yn digwydd mewn ffordd briodol ac nad yw'n arwain at gynnydd yn y math o bethau na fyddai unrhyw un ohonom eisiau eu gweld yn cynyddu yng nghanol ein trefi. Felly, nid wyf yn credu ei fod mor syml â chael gwared ar y rhwystr yn unig.

Byddwn hefyd yn ystyried a ddylid cryfhau gweithrediad y polisi 'canol y dref yn gyntaf' drwy ymestyn yr hyn a elwir yn gyfarwyddyd hysbysu i gynnwys cynigion manwerthu, masnachol a datblygiadau sector cyhoeddus y tu allan i ganol trefi. Byddai hynny'n caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid gwneud cais am benderfyniad yn hytrach na bod y penderfyniad yn cael ei wneud gan yr awdurdod cynllunio lleol, pe bai'n ymddangos bod yr awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio o'r math hwnnw y tu allan i'r dref.    

Weinidog, rwyf wedi bod yn hael iawn, ond mae angen ichi ddirwyn i ben nawr.

Roeddwn ar fin dweud bod fy amser ar fin dod i ben. Mae gennyf nifer o faterion eraill i'w codi, felly fe frysiaf drwyddynt yn gyflym. Ar drafnidiaeth—

Ar drafnidiaeth, roeddem eisiau tynnu sylw at y dystiolaeth yr ydym yn ei hystyried yn ofalus iawn yn y pwyllgor ar sut y dylai'r polisïau trafnidiaeth edrych. Bydd y cyd-bwyllgorau corfforedig newydd yn edrych ar y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a fydd yn cynorthwyo gyda hynny. Mae nifer o bethau y tu hwnt i fy maes portffolio i, na wnaf sylwadau arnynt, ond byddwn yn ysgrifennu yn ôl at y pwyllgor gyda'r argymhellion yn llawn. Diolch.

16:55

Diolch. Mae fy ngarddwrn yn brifo ar ôl yr holl ysgrifennu, ond rwyf am geisio gwneud yr hyn a allaf gyda'r amser cyfyngedig sydd ar gael. Rwyf am ddechrau, rwy'n credu, fel y gwnaeth un o fy nghyd-Aelodau, drwy ddiolch i'r tîm clercio, yr ymchwilwyr, y cyfreithwyr a'r archwilydd cyffredinol a thîm Archwilio Cymru am eu cyfraniad amhrisiadwy—cyfraniad enfawr—i'r gwaith a wnaed gan y pwyllgor ar yr adroddiad hwn. 

Cyfeiriodd Mike Hedges, fel y nodais y gallai ei wneud, at le o'r enw Treforys. Soniodd am y cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr y cyngor a'r gymdeithas dai a chyfeiriodd at ganolfan, hen eglwys a hen dafarn sydd bellach yn cael eu defnyddio fel adnoddau cymunedol. Cyfeiriodd at fater amserol iawn—colli banciau ar y stryd fawr. Ac roeddwn yn falch o'i glywed yn dweud, fel rhywun a arferai ddilyn gyrfa mewn cymdeithas adeiladu, mai'r unig fanc neu gymdeithas adeiladu effeithiol sydd ar ôl yno yw'r Principality, gyda pheiriant arian parod yn dal i fod yno. Soniodd am bwysigrwydd cynghreiriau lleol, sy'n dod â phobl ynghyd gyda gweledigaeth a rennir. Dywedodd fod y dyddiau pan oedd canol trefi'n cynnwys manwerthwyr yn bennaf wedi dod i ben, gyda siopau yn cynnwys Boots a Debenhams wedi cau, a thwf manwerthwyr ar-lein a gwasanaethau clicio a chasglu, a siopau'n gynyddol ddibynnol ar gwsmeriaid hŷn, a daeth â'i gyfraniad i ben gyda'r rhybudd, 'Defnyddiwch nhw neu fe'u collwch nhw.'  

Canolbwyntiodd Natasha Asghar ar nifer o brif feysydd, cyllid, a chyfeiriodd at gyllid ffyniant bro gan Lywodraeth y DU a 13 o gynlluniau gwahanol gan Lywodraeth Cymru sydd angen eu cydgrynhoi a'u symleiddio i wneud y broses ymgeisio'n haws fel bod canol ein trefi'n gallu elwa o hynny. Cyfeiriodd at gyllid benthyciadau ar gyfer trefi a dywedodd fod cyllid yn aml yn cael ei gyfeirio at awdurdodau lleol sydd â'r adnoddau i wneud ceisiadau da ar draul y gweddill. Dywedodd bod cyfleusterau parcio a seilwaith trafnidiaeth gwael yn rhwystrau allweddol i bobl sy'n ymweld â chanol trefi a dywedodd fod gostyngiadau mewn rhyddhad ardrethi busnes yn allweddol, yn enwedig pan edrychwch ar ffigurau cymharol dros y ffin, a nododd fod canol trefi yn ganolfannau economaidd a chymdeithasol i gymunedau.

Galwodd Luke Fletcher yn briodol am gamau gweithredu i ddilyn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor. Dywedodd fod angen system alluogi i helpu awdurdodau lleol i fod yn ymyraethol, i ailddefnyddio eiddo gwag unwaith eto a throi eiddo masnachol yn gartrefi. Dywedodd fod angen inni fod yn greadigol gyda'r lluosydd ardrethi annomestig—rwy'n credu y byddai pob Aelod yn cytuno â hynny—i ffafrio manwerthwyr yng nghanol ein trefi.

Cyfeiriodd Alun Davies at ganol trefi fel curiad calon ein cymunedau lleol. Bu'n yn hel atgofion am brynu modelau Airfix pan oedd yn ifanc, fel roeddwn i'n arfer ei wneud. Ond dywedodd nad yw'n ddefnyddiol hel atgofion ynglŷn â sut oedd pethau'n arfer bod. Aeth ymlaen i ddangos y cyferbyniad rhwng y sefyllfa yma a chymunedau tir mawr Ewrop, y mae eu calonnau, fel y dywedodd, yng nghanol eu trefi, a dywedodd fod angen gwneud dewisiadau lle mae'r cymunedau tlotaf â'r problemau mwyaf, a bod angen pecyn cyfannol o newid i ailwampio canol trefi a'u troi'n ganolfannau cymunedau drwy alluogi pobl a sicrhau mynediad digidol hefyd. Daeth i ben drwy ddweud ei fod yn adroddiad ardderchog, felly diolch, Alun.

Jenny Rathbone—mae'n rhaid inni feddwl am bethau y mae pobl angen eu prynu ar sail wythnosol a sut y gallant eu cyrraedd, sy'n crynhoi hanfod y sefyllfa. Tynnodd sylw at y ffaith bod y sector lletygarwch hefyd yn cael amser anodd iawn, soniodd am fanteision sgwâr y dref a mannau cyhoeddus a rennir, a dywedodd na all canol trefi ymwneud â gwario arian yn unig, a bod yn rhaid iddynt hefyd fod yn lleoedd i gyfarfod a chymdeithasu. Mae angen inni anghymell canolfannau siopa y tu allan i drefi, ac awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth sydd ei angen ar eu hardaloedd. Ond felly, fel y dywedais yn gynharach wrth ystyried yr adroddiad, mae angen eu grymuso i fod yn fwy ymyraethol.

Soniodd John Griffiths am bwysigrwydd partneriaethau lleol o wahanol feintiau ac atebion amrywiol. Tynnodd sylw at y ffaith bod busnesau sy'n eiddo lleol yn gwario ac yn buddsoddi'n lleol, a'r angen am hyblygrwydd, boed yng nghanol dinasoedd fel Casnewydd neu yng nghanol pentrefi.

Dywedodd y Gweinidog, Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod canol ein trefi yn wynebu heriau digynsail: gormod o siopau gwag, dim digon o gartrefi, dim digon o fannau gwyrdd. Cyfeiriodd at ymrwymiadau a pholisïau presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys 'canol y dref yn gyntaf', ond bod angen ymdrech gyfunol ac amrywiaeth o wasanaethau. Dywedodd fod nifer o'r ysgogiadau yn dal i fod yn nwylo awdurdodau lleol a chyfeiriodd at adeiladau adfeiliedig a gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio pwerau prynu gorfodol. Efallai y bydd hi'n cofio imi ysgrifennu ati y llynedd, ar ôl cyfarfod â Bae Colwyn, i ddweud eu bod angen gwella'r pwerau prynu gorfodol hynny os yw grwpiau lleol yn mynd i allu cyflawni fel y byddent yn dymuno.

Ymyrrodd Gareth Davies i dynnu sylw at y ffaith bod yna gyllid gan Lywodraeth y DU hefyd ar gyfer canol trefi mewn llefydd fel y Rhyl. Dywedodd y Gweinidog y bydd yn adolygu'r cymorth ariannol sydd ar gael i awdurdodau lleol i addasu eiddo at ddibenion gwahanol. Ond hoffwn nodi, fel y soniais yn fy araith gychwynnol, ein bod hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu'r arian a ddyrannwyd ar gyfer hyn a sut, yn y dyfodol, y gellid ystyried cyllid yn unol â hynny. Daeth i ben drwy ddweud eu bod yn ystyried sut olwg a ddylai fod ar drafnidiaeth wrth inni symud ymlaen.

Felly, rwy'n gorffen trwy ddiolch i'r holl gyfranwyr, a chan mai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ydyw, drwy nodi bod ein holl argymhellion wedi'u gwneud ar ôl i'r amrywiol bolisïau a strategaethau gael eu rhoi ar waith. Fel bob amser, mae ein diddordeb nid yn gymaint yng nghywirdeb neu anghywirdeb y polisi, ond yn hytrach yn y gwaith o'i weithredu, ei fonitro, ei werthuso, ac os oes angen, ei orfodi. Dyna'r meysydd y byddwn yn ceisio cadw llygad arnynt yn unol â'n cylch gwaith. Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r adroddiad yna wedi ei nodi.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllideb Llywodraeth y DU

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 7 yw'r eitem nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac i wneud y cynnig, Peter Fox.

Cynnig NDM8518 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU, cynllun ar gyfer twf tymor hir, a fydd yn cynnwys:

a) toriad dwy geiniog i gyfraniadau yswiriant gwladol, gan arbed £450 y flwyddyn ar gyfartaledd i weithwyr Cymru;

b) £168 miliwn o gyllid canlyniadol Barnett ychwanegol i Gymru;

c) prynu safle'r Wylfa am £160 miliwn;

d) £20 miliwn o gyllid ar gyfer y Rhyl fel rhan o'r Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi;

e) £10 miliwn o gyllid i Venue Cymru yn Llandudno;

f) £5 miliwn o gyllid ar gyfer cyfleusterau diwylliannol yng Nghasnewydd;

g) £5 miliwn o gyllid i lansio safle lansio bwyd-amaeth mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion;

h) £1.6 miliwn o gyllid tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae’r wythnosau diwethaf hyn wedi bod yn stori o ddwy gyllideb wahanol iawn, un o bolisïau tymor byr wedi’u cyfuno â thoriadau cyllidebol ac ystumio gwleidyddol, a’r llall yn cynnig toriadau treth, twf economaidd a ffyniant. Tra bo'r Ceidwadwyr wedi bod yn torri trethi i fusnesau a gweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthod trosglwyddo'r buddion i bobl Cymru, boed yn gymorth ardrethi busnes i fusnesau neu gymorth gofal plant mwy hael i deuluoedd â phlant bach. Diolch i doriad o 2c gan y Canghellor i yswiriant gwladol, yn ychwanegol at y toriad o 2c a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, bydd dros 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn cael £642 y flwyddyn yn ychwanegol. Ac mae'r Canghellor wedi nodi y gallai fod mwy i ddod pan fydd yr amodau'n caniatáu.

Gyda’r economi’n dechrau troi cornel, mae’r penderfyniadau hyn wedi’u gwneud mewn ffordd gyllidol gyfrifol, gan sicrhau bod teuluoedd gweithgar ar draws y Deyrnas Unedig yn cael eu cefnogi a’u galluogi i gadw mwy o’u harian eu hunain, a bod hyn yn digwydd gan leihau chwyddiant ar yr un pryd. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i helpu teuluoedd hefyd. Gŵyr pob un ohonom fod plant yn fendith, ond gall y cyfrifoldeb o’u magu olygu cost ariannol sylweddol, yn enwedig wrth i gost gofal plant barhau i godi. Felly rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi’u cymryd i ymestyn cymorth gofal plant yn Lloegr, yn ogystal â mynd i’r afael â’r rhwystrau annheg y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth dderbyn budd-dal plant. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â Llywodraeth Cymru, sydd, yn anffodus, yn dal i wrthod ymestyn cymorth gofal plant tebyg i deuluoedd â phlant ifanc, er eu bod wedi cael cyllid canlyniadol i wneud hynny.

Yn anffodus, yng Nghymru, rydym yn gweld Llywodraeth sydd wedi colli cysylltiad â’i phobl, lle mae mwy o wleidyddion yn y lle hwn, diwygio cyfansoddiadol, terfynau diofyn 20 mya drud sy’n niweidiol i'r economi, incwm sylfaenol cyffredinol a phrosiectau porthi balchder eraill yn cael blaenoriaeth gan Lafur, gyda chefnogaeth oddi ar feinciau Plaid Cymru. Caiff y datgysylltiad hwn ei adleisio gan y dull anwybodus rydym wedi’i weld dros yr wythnosau diwethaf o ymdrin â’n cymunedau gwledig. Mae’n amlwg pa blaid sydd ar ochr teuluoedd sy’n gweithio yma yng Nghymru, ac yn sicr, nid Llafur na Phlaid Cymru mohonynt.

Rwyf wedi dadlau yn y Siambr hon y dylai’r economi fod yn flaenoriaeth, gan fod economi ffyniannus yn creu swyddi, twf, cyflogau gwell, gwell safonau byw, a thrwy gynyddu elw a wneir drwy drethi, gwell gwasanaethau cyhoeddus. Mae busnesau bach yn allweddol i lwyddiant yr economi, yn enwedig yma yng Nghymru, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cymryd camau i gefnogi busnesau. Yn sgil y gyllideb, mae miloedd o fusnesau wedi'u heithrio rhag talu treth ar werth oherwydd bod y trothwy treth wedi'i newid, sydd o fantais i lawer o fusnesau Cymru. Yn Lloegr, rydym hefyd wedi gweld busnesau yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden yn cael toriad o 75 y cant i’w hardrethi busnes, gan helpu sector sy’n parhau i ymrafael gyda’r gost gynyddol o wneud busnes.

Ond mae Llafur Cymru wedi methu darparu’r un cymorth i fusnesau yng Nghymru, er eu bod, unwaith eto, wedi cael y cyllid canlyniadol i wneud hynny. Mae effeithiau eu datgysylltiad â busnesau yn ddwys yn fy etholaeth i ar y ffin, wrth i fusnesau erfyn am gymorth wrth iddynt gystadlu â busnesau o Loegr ychydig filltiroedd yn unig dros y ffin sy’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth sy’n malio am fusnesau bach. Mae’n rhaid inni groesawu'r gwerth £168 miliwn ychwanegol o gyllid canlyniadol Barnett i Gymru, a mater i’r Llywodraeth Lafur nawr yw gwario'r arian hwn ar flaenoriaethau pobl Cymru: mwy o feddygon, nyrsys, athrawon a dysgu, a chymorth i fusnesau.

Nawr, byddwn yn clywed—ac rydym eisoes wedi clywed—gan y Gweinidog, yn dweud y rhoddwyd cyfrif am yr arian hwn eisoes, a'i fod eisoes wedi'i gynnwys yn eu cyllideb. Nawr, er bod y cyhoeddiad diweddar o £25 miliwn yn hysbys, gan iddo gael ei gyhoeddi cyn y gyllideb, dywedir wrthyf yn hyderus gan Lywodraeth y DU fod gweddill y £168 miliwn yn deillio'n uniongyrchol o gyhoeddiad y Canghellor o £2.5 biliwn ar gyfer iechyd ddydd Mawrth diweddaf. Felly, nid oes gennyf unrhyw syniad sut y byddai Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi cyfrif am rywbeth nad oedd unrhyw un yn gwybod amdano cyn i'r Canghellor ei gyhoeddi. [Torri ar draws.] Mae'r cliw yn y teitl: mae'n gyllid 'canlyniadol', sy'n golygu ei fod yn cael ei ddarparu o ganlyniad i benderfyniad penodol. Felly, yn bendant, ni ddylai'r arian ychwanegol hwn gael ei ddefnyddio i gynnal prosiectau porthi balchder Llywodraeth Cymru.

Rwy'n croesawu'r newyddion hefyd fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi prynu safle Wylfa, a fydd nid yn unig yn sicrhau’r cyfle i gynhyrchu ynni niwclear yng Nghymru, ond hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer swyddi crefftus iawn sy’n talu’n dda ar draws gogledd Cymru; rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi methu ei wneud yn gyson, gan anwybyddu gogledd Cymru, am fod eu ffocws fel arfer ar y de, lle mae ganddynt seddi mwy diogel.

Yn ogystal â hyn, mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi darparu ystod o fuddsoddiadau i gefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys, fel y clywsom, gwerth £20 miliwn o gyllid ar gyfer y Rhyl fel rhan o’r cynlluniau hirdymor ar gyfer trefi; £10 miliwn o gyllid ar gyfer Venue Cymru yn Llandudno; £5 miliwn o gyllid ar gyfer cyfleusterau diwylliannol yng Nghasnewydd; £5 miliwn o gyllid i lansio'r porth bwyd-amaeth, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chyngor Ceredigion; a gwerth £1.6 miliwn o gyllid i ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.

Mae’n amlwg fod gan y Ceidwadwyr gynllun hirdymor ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, tra bo Llafur yn parhau i ffit-ffatian, heb strategaeth glir ar gyfer ymdrin â'r economi. Ac os mai Cymru, fel y dywedodd Keir Starmer i gychwyn cyn iddo newid ei feddwl, yw glasbrint Llafur ar gyfer llwyddiant, mae'r Deyrnas Unedig a Chymru yn mynd i gael sioc os bydd Llafur yn ennill yr etholiad nesaf. Diolch, Lywydd.

17:05

Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod:

a) y Canghellor wedi cyhoeddi Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU;

b) twf cyflog real a Chynnyrch Domestig Gros (CDG) y pen wedi cynyddu ar ei gyfradd isaf ers yr Ail Ryfel Byd o dan Lywodraeth hon y DU; ac

c) treth fel cyfran o CDG wedi cynyddu i'w lefel uchaf ers 1948 o dan Lywodraeth hon y DU.

2. Yn gresynu:

a) mai'r tymor Senedd San Steffan hwn fydd y cyntaf yn hanes modern i oruchwylio cwymp mewn incwm gwario aelwydydd a safonau byw;

b) at y methiant i wella’r trothwy lwfans personol yn unol â chwyddiant, a fydd yn gadael aelwydydd incwm isel yn waeth eu byd ac yn ymwreiddio anghydraddoldebau incwm;

c) y bydd gwariant o ddydd i ddydd ar gyfer adrannau anwarchodedig Llywodraeth y DU yn gostwng 13 y cant dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru mewn meysydd fel cyfiawnder;

d) y bydd Canary Wharf yn derbyn £240 miliwn mewn Cronfeydd Ffyniant Bro, tra bod Llywodraeth Cymru am dderbyn dim ond £170 miliwn; ac

e) nad yw Plaid Geidwadol y DU na Phlaid Lafur y DU wedi ymrwymo i fargen ariannu deg i Gymru, nac i roi ei chyfran o gyllid canlyniadol HS2 i Gymru.

3. Yn credu bod:

a) potensial Cymru yn cael ei rwystro gan ddiffyg buddsoddiad priodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n seilwaith adfeiliedig; a

b) gyllideb Llywodraeth y DU 2024 yn methu'n llwyr â mynd i'r afael â blaenoriaethau ac anghenion pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, ac mi fuaswn i'n licio symud gwelliant 1 yn enw Heledd.

A ninnau ar drothwy tymor y Pasg, mae'n rhaid imi ganmol y Torïaid am amseroldeb y ddadl heddiw, gan fod cyllideb y gwanwyn Llywodraeth y DU yr un mor wag a strwythurol gadarn ag wy Pasg cynnes. Ar ôl 14 mlynedd o gyni creulon, mae pleidleiswyr ledled Cymru a gweddill y DU yn erfyn am newid ystyrlon. Yn lle hynny, mae ganddynt Lywodraeth ddiddeall sy'n ailadrodd yr un hen syniadau.

Gadewch inni ddechrau gyda'u prif honiad ynghylch eu haddewidion i dorri trethi, sy'n dymchwel gyda'r cyffyrddiad cyntaf o ddadansoddiad gwleidyddol. Fel yr adlewyrchir yn ein gwelliant, y gwir amdani yw bod trethi, o dan y Llywodraeth hon, wedi codi i’w lefel uchaf fel cyfran o gynnyrch domestig gros ers 1948, felly o ran eu honiadau mynych eu bod yn lleddfu’r baich treth honedig ar y boblogaeth sy'n gweithio, y cyfan a wnaethant yw gwneud mân addasiadau gan barhau i gynyddu'r pwysau mewn mannau eraill. Ac yn null nodweddiadol y Torïaid, mae’r toriadau sydd wedi’u cyhoeddi i gyfraniadau yswiriant gwladol o fudd i’r rheini sydd eisoes yn gefnog ar draul teuluoedd incwm isel a phensiynwyr.

Mae’r methiant i gynyddu trothwyon treth incwm yn unol â chwyddiant yn golygu y bydd unrhyw un sy’n ennill llai na £26,000 yn gynyddol waeth eu byd o ganlyniad i’r gyllideb. Gan fod cyflogau yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan, bydd y pwysau ariannol yn cael ei deimlo’n anghymesur yma. Yn wir, Llywodraeth y DU sydd â'r anrhydedd o fod y gyntaf ers yr ail ryfel byd i lywodraethu dros gwymp yn incwm gwario aelwydydd a safonau byw—gan dorri pob record am y rhesymau cwbl anghywir. Dyna fydd gwaddol truenus y Llywodraeth Dorïaidd hon.

Yr unig ffordd y mae’r Canghellor wedi gallu fforddio’r toriadau treth hyn oedd trwy orfodi rownd boenus arall o gyni. Amlygir hyn gan y ffaith bod gwariant o ddydd i ddydd ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU sydd heb eu diogelu yn mynd i ostwng 13 y cant dros y pum mlynedd nesaf. Prin y bydd hyd yn oed y cyrch hwn ar wasanaethau cyhoeddus yn talu am y diffyg cyffredinol mewn refeniw gan fod yr hyblygrwydd cyllidol sy’n weddill ar gyfer y gyllideb nesaf ymhell islaw’r cyfartaledd diweddar o £26 biliwn. Nid yw hyn yn gadael llawer o sicrwydd ar gyfer digwyddiadau annisgwyl, fel ymosodiad arall ar y bunt yn sgil camreoli economaidd y Torïaid.

Nid yw'n syndod fod Sefydliad Resolution wedi disgrifio'r gyllideb hon, yn ddigon caredig, fel ffuglen ariannol, tra bo'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud, yn gwbl briodol, fod cynllun y Canghellor ar gyfer twf yn ddiffygiol o ran hygrededd. Nid oes ond angen ichi edrych ar ba mor wael yw'r ymateb iddo yn yr arolygon barn a chan y rhan fwyaf o economegwyr i sylweddoli cymaint allan o gysylltiad yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd. Ac mae'r ffaith eu bod wedi clustnodi £240 miliwn ar gyfer Canary Wharf gan barhau i wrthod ei chyfran deg o gyllid HS2 i Gymru yn tanlinellu cyn lleied o ots sydd ganddynt am ein buddiannau ni yma yng Nghymru. Yn naturiol, mae hyn oll yn codi'r cwestiwn: 'Pam fod Plaid Lafur y DU, yn ôl pob golwg, mor awyddus i ddilyn yr un llwybr cyfeiliornus â'r Torïaid?'

Ar adeg pan fo pobl yn dyheu am fuddsoddiad teilwng mewn gwasanaethau cyhoeddus, y cyfan sy'n cael ei addo i ni gan ddarpar Lywodraeth Keir Starmer yw fersiwn wedi’i hailwampio o gyni, a gwrthodiad i roi bargen ariannu deg i Gymru. Ac er eu cwynion am gyllideb y gwanwyn, mae’n werth pwysleisio nad yw’r Blaid Lafur yn gwrthwynebu unrhyw fesur o gwbl mewn gwirionedd. Yn llythrennol, ni allwn fforddio aros yn dawel i sefydliad San Steffan roi'r gorau i'r difaterwch a’r esgeulustod cronig hwn mewn perthynas â Chymru, ac mae'n rhaid inni fod yn ddigyfaddawd yn ein galwadau am degwch i’n cenedl. Am y rheswm hwn y galwaf ar yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant. Diolch yn fawr.

17:10

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu o ran Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024:

a) nid yw’n darparu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, heblaw am yr hyn sydd eisoes yn ei chynlluniau gwario;

b) mae’n golygu bod setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hyd at £700 miliwn yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;

c) nid yw’n darparu unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod ei chyllideb gyfalaf gyffredinol yn 2024-25 hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;

d) mae’n anwybyddu gofynion craidd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu tomenni glo ac i ailgategoreiddio HS2, gan gynnwys darparu’r £270 miliwn na fydd Cymru wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod gwario presennol; ac

e) nid yw’n darparu cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny sydd ar yr incwm isaf.

2. Yn gresynu hefyd:

a) bod y cynnydd mewn treth bersonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth hon y DU yn dilyn ei phenderfyniad blaenorol i rewi trothwyon yn uwch na’r gostyngiadau i dreth a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024 a Datganiad yr Hydref 2023 gyda’i gilydd, a dwywaith yn uwch erbyn 2028-29;

b) nad yw cyfansymiau gwario cyffredinol Llywodraeth y DU yn golygu twf gwirioneddol mewn gwariant cyhoeddus y person dros y pum mlynedd nesaf, heb unrhyw gynllun credadwy i gyflawni lefel y gwariant cyhoeddus y maent wedi’i hamlinellu;

c) bod disgwyl i safonau byw yn y DU adlewyrchu’r ffaith bod gwerth chwe blynedd o dwf wedi’i golli, gan ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig erbyn 2025 ar y cynharaf, fel y’i mesurwyd gan incwm gwario gros aelwyd y pen; a

d) bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais dros arian a’u bod hefyd yn tanseilio ac yn anwybyddu datganoli a’r Senedd yma.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Felly, rydym yn trafod araith cyllideb Llywodraeth Geidwadol y DU ar gyfer 2024, ac am wahanol i'r gyllideb yr ydym newydd ei gweld yn cael ei phasio gan y Llywodraeth hon yma. Felly, yn debyg iawn i egin cenhinen Bedr yn gwthio'i ffordd tua'r wyneb, mae’r gyllideb hon nid yn unig yn arwydd o dwf, ond yn arwydd o ddyddiau gwell, cynhesach o’n blaenau. Yn wir, am newyddion rhagorol yw’r gyllideb ddiweddaraf hon i Gymru: £168 miliwn yn ychwanegol o gyllid canlyniadol Barnett i Gymru; prynu safle niwclear Wylfa am £160 miliwn; £10 miliwn o gyllid ar gyfer Venue Cymru yn fy nhref i, Llandudno; £18 miliwn o gyllid ffyniant bro ar gyfer llwybrau teithio llesol newydd yn fy etholaeth. Ac ar ben y cyfan, serch hynny, o ran y gyllideb hon, mae cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael eu torri 2c, gan arbed £450 y flwyddyn i weithwyr Cymru ar gyfartaledd, a llawer mwy i bobl ar gyflogau uwch. Dyma’r gwahaniaeth rhwng y Ceidwadwyr a Llywodraeth Cymru. Lle'r oedd eu cyllideb nhw wedi'i nodweddu gan brosiectau porthi balchder sosialaidd, mae ein cyllideb ni'n gwobrwyo gwaith caled y Cymry. Mae ein cyllideb ni wedi diogelu dyfodol annibyniaeth ynni’r DU, ac wedi sicrhau y bydd ein diwydiannau creadigol yn cael y buddsoddiad y maent yn ei haeddu, gan ddiogelu diwylliant Cymru am flynyddoedd i ddod.

Rydym wedi gallu gwneud hyn oherwydd ein gwerthoedd Ceidwadol creiddiol o ddarbodusrwydd ariannol, ein delfrydau o ragofal a chynnal sefydlogrwydd. Mae strategaeth gyllidol ddarbodus yn ystod dau argyfwng digynsail yn ein galluogi i gyflwyno cyllideb flaengar i Gymru, gan flaenoriaethu buddsoddiad yn ei dyfodol, heb gyfaddawdu ar ein gwasanaethau hanfodol, ein diwylliant, nac yn wir, ein synnwyr cyffredin. Mae’r gyllideb hon yn newyddion arbennig o dda i ogledd Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol yn y rhanbarth sydd bellach yn cynnwys cytundeb gwerth £160 miliwn gyda Hitachi ar gyfer caffael safle niwclear Wylfa yn Ynys Môn, lle mae Virginia Crosbie AS wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau y gwneir y buddsoddiad hwn yn ei hetholaeth, gan ddarparu swyddi i bobl Ynys Môn yn ogystal â helpu’r rhagolygon economaidd i ni ar draws gogledd Cymru.

17:15

Llywodraeth Geidwadol y DU, wrth gwrs, a gafodd wared ar y buddsoddiad yn sir Fôn.

Caffael safle niwclear Wylfa yn Ynys Môn a safle Oldbury yn Ne Swydd Gaerloyw. Mae’n amlwg, serch hynny, fod Ynys Môn yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses o ddatblygu ein huchelgais niwclear, ac mae’r penderfyniad hwn gan y Llywodraeth Geidwadol yn gam mawr tuag at ddenu oddeutu £20 biliwn ar gyfer safle gwaith mawr, ynghyd â chymorth i adweithyddion modiwlar bach. Mae’r prosiect hwn yn rhagweld y bydd oddeutu 800 o swyddi adeiladu’n cael eu creu—800 o yrfaoedd sefydlog, 800 o swyddi sy’n talu’n dda—a nifer o swyddi eilaidd a swyddi yn y gadwyn gyflenwi. Mae’r mathau hyn o brosiectau yn gwbl hanfodol i wella cyfleoedd cyflogaeth, gan alluogi cenedlaethau iau i fforddio cartrefi, i aros yn ein cymunedau, a thrwy hynny, i warchod yr iaith Gymraeg a’n diwylliant.

A sôn am warchod ein hiaith a’n diwylliant, bydd ein theatr gymunedol, Venue Cymru, yn cael buddsoddiad sylweddol o £10 miliwn. Wrth gwrs, cawsom gynhadledd wych yno yn ddiweddar, oni chawsom? Bydd hyn yn cael effaith enfawr ar ein heconomi leol, gan gyfrannu at dwf sector twristiaeth a lletygarwch Cymru. Mae’n enghraifft arall o pam fod ein dull cyllidol Ceidwadol yn gweithio. Mae’n cydnabod y gall addasu parhaus a buddsoddiad strategol mewn lleoedd fel tref hardd Llandudno arwain at dwf sylweddol yn y farchnad dwristiaeth, a’r holl sectorau sy’n elwa o’r fasnach dwristiaeth—mae byd o wahaniaeth rhwng hynny a'r cyngor Plaid Cymru/Llafur/annibynnol yng Nghonwy, ac yn wir, Llywodraeth Lafur Cymru oddi tanoch chi, Alun, fel y Gweinidog, pan wnaethoch ddifetha ein traeth drwy roi creigiau arno, a gwastraffu £1.4 miliwn o arian trethdalwyr. [Torri ar draws.] Do, fe wnaethoch ei ddinistrio. Beth bynnag, cawn ddadl ar hynny yr wythnos nesaf.

Yn wir, credir y gallai buddsoddiadau fel hyn wireddu effaith economaidd o £125 miliwn ychwanegol y flwyddyn yn Llandudno erbyn 2045. Cafodd busnesau hwb mawr ei angen hefyd, ac fe wnaethant, oherwydd gadewch inni fod yn onest, yn ystod COVID, bu fy etholaeth o dan gyfyngiadau symud am gyfnod cryn dipyn yn hirach nag eraill. Drwy bwysleisio’r camau breision a gymerwyd yn y gyllideb hon, gobeithio y gallwn ddechrau gweld y gwahaniaethau enfawr rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr. Y cyfan a welais i—

—yw camreolaeth Llafur Cymru ar arian trethdalwyr ac anghymhwyster ariannol a chyllidol. Rwy’n falch o’r gyllideb hon, ac rwy’n falch o Lywodraeth Geidwadol y DU.

Nid wyf yn gwbl siŵr sut i ddilyn hynny, Lywydd. Rwy’n falch iawn fod yr Aelod yn credu fy mod yn ddigon pwerus i reoli’r tywydd. Mae'n rhywbeth nad yw fy arweinwyr fy hun erioed wedi'i gredu.

O ran yr hyn a wnawn y prynhawn yma, wrth drafod cyllideb y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, credaf y byddai'n ddefnyddiol, mewn gwirionedd, pe baem yn cael dadl benodol ar y materion hyn yn rheolaidd, gan eu bod yn faterion cyllidol ac ariannol pwysig, sy'n cael effaith fawr ar bopeth a wnawn yma. Pan oeddwn yn gwylio’r gyllideb, beth oeddwn i'n gobeithio ei weld? Nid oes gennyf ddiddordeb, fel y mae'n digwydd, mewn darllen areithiau a ysgrifennwyd gan y swyddfa ganolog. Credaf fod y materion sy’n ein hwynebu fel gwlad yn rhy—[Torri ar draws.] Wel, ni allwch fy nghyhuddo o wneud hynny. Nid yw’r Gweinidog byth yn gwneud hynny, gadewch imi ddweud hynny wrthych. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cydnabyddiaeth o ble mae’r wlad hon arni hyn o bryd, a ble rydym arni hyn o bryd yw mewn sefyllfa ddifrifol tu hwnt. Mae gennym economi sydd ar y gorau'n wastad. Clywais Weinidogion y DU ar y radio y bore yma yn dathlu twf o 0.2 y cant ym mis Ionawr fel pe bai’n fuddugoliaeth o ran polisi economaidd ar ôl 13 neu 14 mlynedd mewn grym. Anghredadwy.

Mae gennym lefelau uwch o anghydraddoldeb yn y Deyrnas Unedig nag yn unrhyw le yng ngorllewin Ewrop. Unrhyw le yng ngorllewin Ewrop—y lefelau uchaf o anghydraddoldeb. Ac mae gennym hollti cymdeithasol yn ein cymdeithas sydd, a dweud y gwir, yn gwbl frawychus i mi. Yr hyn yr hoffwn ei weld gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw cydnabyddiaeth o hynny. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn ychydig o friwsion oddi ar eu bwrdd. Anogaf y Ceidwadwyr, sy'n rhestru buddsoddiadau yn eu hetholaethau eu hunain, fel pe bai hynny’n rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano—. Gadewch imi ddweud wrthych, Peter, gwariodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fwy o arian yr wythnos diwethaf ar Canary Wharf nag a wariwyd ganddynt yng Nghymru gyfan. Ac os bydd unrhyw beth yn dweud wrthych am flaenoriaethau Llywodraeth y DU, bydd y penderfyniad unigol hwnnw yn gwneud hynny.

Ond gwyddom ein bod mewn sefyllfa ddifrifol. Mae cynnyrch domestig gros y pen ychydig yn fwy na chyfartaledd o £8,000 y pen ar hyn o bryd. Mae hynny, yn y bôn, yr un peth â 2007. Mae patrymau twf hanesyddol yn awgrymu y dylai fod dros £11,000 y pen erbyn heddiw. Mae 27 y cant yn is na ble y dylai fod. Ac rydych chi'n galw hynny'n llwyddiant economaidd. Ni fyddwch yn gallu ariannu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol oni bai eich bod yn gallu tyfu'r economi. Disgrifiodd y Financial Times, rwy'n credu, y penderfyniadau a wnaed yn y gyllideb yr wythnos diwethaf fel rhai ‘creulon’ i bwy bynnag sy’n dilyn Jeremy Hunt fel Canghellor, gan y gwyddom y bydd angen gwneud toriadau enfawr mewn gwariant cyhoeddus o 2025-26 ymlaen i wneud iawn am y toriad mewn yswiriant gwladol a gyhoeddwyd. Mae hynny’n anghyfrifoldeb ariannol ar adeg o golledion sylfaenol mewn cynhyrchiant. Rydym yn gweld cynhyrchiant yn gostwng mewn termau real. Rydym yn gweld pobl yn gweithio'n hirach, yn gweithio'n galetach, ond yn cynhyrchu llai. Nid oes unrhyw economi yng ngorllewin Ewrop yn perfformio cyn waethed â hynny. Nid yw incwm cyfartalog wedi gostwng i'r graddau y maent yn gostwng heddiw o dan unrhyw Senedd arall yn ystod oes yr un ohonom. Fe wnaf ildio.

17:20

Mae ffigurau diweddaraf y G7 yn dangos mai economi’r DU yw’r economi sydd wedi tyfu gyflymaf dros y cyfnod. Yr unig economïau yn y G7 sydd wedi ei churo yw America a Chanada.

Mae’r cynnyrch domestig gros wedi cynyddu gan iddo ostwng cymaint o ganlyniad i Brexit a’r pandemig. Felly, mae'r adlam yn fwy yn—[Torri ar draws.] Pe baech yn gwrando, mae'r adlam yn fwy yn y dadansoddiad tymor byr iawn, rydych chi'n iawn am hynny, ond nid wyf yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd y llynedd a chwe mis yn ôl—rwy’n edrych ar hanes economi Prydain dros y degawd diwethaf ers 2007 a chyn hynny, ac mae’r rheini’n gwestiynau llawer mwy sylfaenol nad ydynt yn cael eu hateb. Mae'r twf o 0.2 mewn cynnyrch domestig gros ym mis Ionawr yn cynrychioli colled incwm sylweddol i'r wladwriaeth. Dyna pam fod y beichiau treth ar eu lefelau uchaf ers 70 mlynedd, ac eto, rydym yn codi llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Fel arfer, ar brynhawn dydd Mercher, Lywydd, rwy’n eistedd yma, ac rydym yn eistedd gyda’n gilydd, ac rydym yn gwrando ar y Ceidwadwyr yn mynnu bod mwy o arian yn cael ei wario. Anaml y bydd Peter Fox yn codi heb fynnu mwy o arian i lywodraeth leol. Rydym yn ei glywed dro ar ôl tro—[Torri ar draws.] Mae'n mynd i wneud hynny nawr. Gadewch imi orffen fy mrawddeg. Dro ar ôl tro, rydym yn clywed mwy o alw am wariant cyhoeddus, ond yr hyn nad ydym yn ei weld gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw buddsoddiad yn yr hanfodion economaidd sy’n ein galluogi i dyfu economi ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch, Alun. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall eich rhesymeg i gyd yma. A ydych chi'n dweud eich bod yn erbyn y ffaith y bydd 1.2 miliwn o bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn cael £642 y flwyddyn yn ychwanegol yn eu pocedi, eu harian eu hunain yn eu pocedi, ac yn cadw'r arian hwnnw? Beth ydych chi'n ei chael hi'n anodd deall sy'n dda am hynny?

17:25

Nid wyf yn gwrthwynebu hynny mewn egwyddor, ond os edrychwch, er enghraifft, ar bensiynwyr, ers 2019, mae incwm cyfartalog pensiynwyr wedi’i dorri £900 y pen. Yr hyn a welwn—a dyma’r mater gwirioneddol nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddeall, yn fy marn i—yw bod y toriadau treth tymor byr hynny’n cael eu gorbwyso gan godiadau treth mwy hirdymor oherwydd llusgiad cyllidol a’r holl bethau eraill. Felly, ni waeth pwy ydych, rydych chi'n talu mwy o dreth, ac yn cael llai amdani. Dyma’r pwynt rwyf am orffen gydag ef, Lywydd.

Bydd y Ceidwadwyr bob amser yn chwalu pethau. Chwalodd Liz Truss a Kwasi Kwarteng yr economi y llynedd. Nid yw'r economi'n gwella. A dywedaf hyn, wrth gloi, wrth fy ochr fy hun: ffantasi yw credu y gallwn barhau i wneud yr un peth a disgwyl canlyniad gwahanol. Wrth fy ochr fy hun, dywedaf hyn: ni ellir atgyweirio’r niwed hwn i’n heconomi y tu allan i’r farchnad sengl a’r tu allan i’r undeb tollau. Mae gennym benderfyniadau sylfaenol i’w gwneud ar bob ochr i’r Siambr ar y mater hwn.

Fe wnaf ychwanegu llais rheswm i’r ddadl, yn dilyn y cyfraniad blaenorol. Yn dilyn toriad Llywodraeth Cymru i ryddhad ardrethi busnes, mae nifer sylweddol o fusnesau yn y Rhyl ac ar draws fy etholaeth yn pryderu am hyfywedd eu busnesau, o ystyried y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr ers COVID. Mae colli cymorth treth yn faich ychwanegol ar fusnesau bach y stryd fawr. Rwy'n falch iawn, felly, fod y Rhyl yn cael £20 miliwn o gyllid i gyflawni prosiectau sy'n seiliedig ar anghenion a blaenoriaethau lleol. Dyma y bûm yn galw amdano’n gyson yn y Senedd.

Buddsoddiad yng nghanol ein trefi, yn enwedig mewn trefi arfordirol gogleddol fel y Rhyl, sydd â llai o weithgarwch economaidd, lefelau uwch o anghydraddoldeb, strydoedd mawr sy’n marw, a gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu tanariannu, ac sydd newydd gael eu torri ymhellach gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych—. Dim ond heddiw, fe wnaethant gyhoeddi eu bod yn cau’r holl doiledau cyhoeddus, er gwaethaf cynnydd o 9.34 y cant yn y dreth gyngor o fis Ebrill. Athroniaeth Llafur yw trethu mwy, rhoi llai. Dyna pam fy mod yn croesawu’r buddsoddiad ffyniant bro yn y Rhyl, a fydd yn talu ar ei ganfed pan fydd y dref wedi’i hadfywio. Mae'r cyllid ffyniant bro hwn yn ychwanegol at y £20 miliwn a roddwyd hefyd i Gyngor Sir Ddinbych yn rownd ariannu ffyniant bro y flwyddyn flaenorol. Ond yn anffodus, gyda fformiwla ariannu aneffeithiol, mae awdurdodau lleol yng Nghymru sydd dan bwysau yn dal i godi’r dreth gyngor i lefelau annerbyniol, fel sydd newydd gael ei grybwyll.

Bydd y toriadau i yswiriant gwladol yn arbed £450 y flwyddyn i weithwyr Cymru ar gyfartaledd; mae hyn yn golygu mwy o arian ym mhocedi pobl i'w wario gyda busnesau Cymru. Rwy’n falch iawn hefyd fod Llywodraeth y DU wedi dyrannu £160 miliwn ychwanegol i ymestyn parthau buddsoddi yng Nghymru o bum mlynedd i 10 mlynedd, sy’n golygu y gallwn fanteisio ar borthladd rhydd Ynys Môn a’r porthladd rhydd Celtaidd i’w llawn botensial—dau borthladd rhydd a gafwyd, dylwn ychwanegu, diolch i Lywodraeth y DU. Mae’r ddau borthladd rhydd yn gweithredu fel sbardun i economi Cymru sydd o fantais i fusnesau, a thrwy hynny, i weithwyr ledled ein gwlad, gan ganiatáu mewnforion rhatach i leihau costau i’r defnyddiwr a chaniatáu allforio nwyddau Cymreig am gost is.

Rwy’n falch fod y Canghellor yn cydnabod potensial economi Cymru sydd wedi gwneud y buddsoddiad hwnnw, ac mae’n rhywbeth, Lywydd, nad ydym wedi’i weld yng nghyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru. Nid ydym yn gweld cyllid ar gyfer parthau buddsoddi; nid ydym yn gweld buddsoddiad yng nghanol ein trefi, fel y Rhyl; nid ydym yn gweld buddsoddi mewn busnesau Cymreig, sy'n fuddsoddiadau a fydd yn talu amdanynt eu hunain yn y tymor hir. Rydym yn gweld rhyddhad ardrethi busnes yn cael ei dorri; toriadau i ddiwylliant a'r celfyddydau; a symiau cynyddol o arian yn cael eu sianelu i dyllau duon cyllidol a chynlluniau nad oedd unrhyw un eu heisiau yng Nghymru, neu na ofynnodd unrhyw un amdanynt, fel y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol, 20 mya, fel diwygio ein democratiaeth yng Nghymru heb refferendwm, ac ariannu 36 yn rhagor o wleidyddion, unwaith eto, heb unrhyw fandad.

Diolch byth, fel ateb rhannol i doriadau Llywodraeth Cymru i gyllid pob corff celfyddydol a diwylliannol yng nghyllideb 2024-25, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer y meysydd hyn. Byddai toriadau i’r cyllidebau hyn yn cael effaith ar iechyd meddwl, sy'n rhywbeth y gwnaeth y pwyllgor diwylliant ei gydnabod hefyd. Felly, rwy'n falch y bydd Theatr Clwyd, sy'n atyniad enfawr yn y gogledd, yn cael £1.6 miliwn, a bod cyllid wedi'i gyhoeddi ar gyfer Venue Cymru yn etholaeth Janet hefyd, fel y soniodd, ac fel—[Torri ar draws.] Do, bûm yn eich heclo ar ddechrau’r ddadl ac rydych chi'n fy heclo yn ôl nawr. Ond yr hyn roeddwn yn ei ddweud, pan oeddwn yn heclo cyfrannwr blaenorol, oedd eich bod mewn gwirionedd wedi torri'r gyllideb ddiwylliant, lle mae Llywodraeth y DU wedi camu i'r adwy ac wedi rhoi hwb i'r prosiectau hynny ac wedi caniatáu iddynt ddigwydd. Mae Theatr Clwyd wedi bodoli ers y 1970au, ac mae taer angen diwygio strwythurol arni, rhywbeth y mae’r £1.6 miliwn hwn wedi gallu ei wneud. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny? Nac ydynt wir. Nac ydynt wir.

Rwyf hefyd yn croesawu cyhoeddiadau’r Canghellor y bydd Llywodraeth y DU yn diwygio’r tâl budd-dal plant incwm uchel, sy’n cosbi aelwydydd lle nad oes ond un rhiant yn gweithio, gan roi’r aelwyd honno, felly, mewn braced treth uwch a’u gwneud yn anghymwys i gael budd-dal plant, tra bo aelwydydd ag incwm ar y cyd sy'n uwch yn gallu talu llai o dreth a dal i fod yn gymwys i gael budd-dal plant. Mae’r Canghellor wedi dechrau diwygio’r dreth hon ar deuluoedd drwy godi’r trothwy cyflog, a bydd hyn yn lleihau’r gyfradd dreth effeithiol y mae teuluoedd yng Nghymru yn ei thalu, gan gymell gweithio, gan y bydd rhieni’n cadw mwy o’r hyn y maent yn ei ennill. Mae hefyd yn cydnabod y cyfrifoldebau gofalu y mae llawer o rieni yn dymuno eu cyflawni, gyda chost gynyddol gofal plant.

Ac i gloi, Lywydd, mae croeso cynnes i gyllideb wanwyn y Canghellor yng ngogledd Cymru, ac edrychaf ymlaen at y manteision a ddaw yn sgil y buddsoddiadau hyn, nid yn unig i fy etholaeth i, ond ar draws rhanbarth gogledd Cymru i gyd.

17:30

Mae cyllidebau yn weithredoedd gwleidyddol. Maent yn ddewisiadau economaidd sy'n seiliedig ar werthoedd ideolegol, ac adlewyrchodd cyllideb y Canghellor yn glir y gagendor rhwng blaenoriaethau’r Torïaid yn San Steffan a bywydau pobl gyffredin Cymru. Mae’r ‘baich treth’ fel y’i gelwir wedi dod yn thema sy'n codi dro ar ôl tro yn rhethreg y ddwy brif blaid yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf, wrth drafod y gyllideb. Mae Plaid Cymru yn gwrthod y naratif niweidiol hwn yn llwyr, gan ei fod yn portreadu trethiant a chyfraniadau yswiriant gwladol fel rhyw fath o sathru afresymol ar hawliau unigolion. Os ydym am weld gwasanaethau cyhoeddus o safon fyd-eang sy’n darparu ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, mae'n rhaid i ni eu hariannu’n briodol. Ac mae digon o dystiolaeth fod gwledydd sy'n trethu eu dinasyddion yn deg ac yn gymesur ag anghenion cymdeithasol, fel y gwledydd Sgandinafaidd, yn mwynhau safonau byw uchel ac yn cael eu rhestru ymhlith y gorau yn y byd mewn mynegeion hapusrwydd a llesiant. Ac os siaradwch â phobl gyffredin, nid pobl sydd â phortffolio eiddo neu fuddsoddiadau mewn cronfeydd rhagfantoli, maent yn fwy awyddus i wybod bod cymorth ar gael iddynt pan fydd ei angen, ar gyfer eu hiechyd a'u lles, yn enwedig pan fo'r lefelau uchaf erioed o galedi economaidd yn arwain at y pwysau mwyaf erioed ar wasanaethau cyhoeddus. Ond mae tanfuddsoddi yn y gwasanaethau hynny yn golygu bod pobl yn talu mwy am lai. Ac os siaradwch â’r sefydliadau sy’n cefnogi’r teuluoedd hynny, dyma sydd ganddynt i’w ddweud am gynlluniau Llywodraeth San Steffan. Dywedodd prif weithredwr y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant:

'Ers bron i bymtheng mlynedd, mae'r pedair miliwn o blant o deuluoedd tlawd wedi bod ar y gwaelod ac nid yw heddiw'n ddim gwahanol.... Roedd angen dileu'r terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau ar deuluoedd...trodd y Canghellor ei gefn.'

Dywedodd Simon Francis o’r Gynghrair Dileu Tlodi Tanwydd:

'Yr hyn roedd ei angen arnom gan y Canghellor oedd cynllun hirdymor ar gyfer cartrefi cynnes ac ynni rhatach, ond yn lle hynny, mae'r llywodraeth wedi condemnio teuluoedd i aeaf arall mewn cartrefi oer ac wedi methu ariannu diwygiadau i system ynni doredig Prydain.'

Dywedodd prif weithredwr Sefydliad Joseph Rowntree:

'Cyllideb ar gyfer rhai ar gyflogau mawr a pherchnogion mawr oedd hon. Mae blaenoriaethu toriadau treth enillion cyfalaf i berchnogion eiddo lluosog yn sarhad ar bron i bedair miliwn o bobl sy'n wynebu diymgeledd yn y DU heddiw.'

Dyma’r cyd-destun y gosodwyd y gyllideb hon ynddo, lle gwnaed y penderfyniadau hyn. Mae tlodi’n effeithio ar 21 y cant o’n poblogaeth. Mae hynny wedi aros yr un fath, fwy neu lai, ers 2010. Cyfraddau tlodi plant yng Nghymru, sef 28 y cant ar hyn o bryd—ffigur arall sydd prin wedi newid dros y degawd diwethaf. Ac yna, y cynnydd cywilyddus mewn digartrefedd yn ein cymunedau; y lleihad o 12 y cant mewn termau real yng nghyllid llywodraeth leol, sydd wedi cael effaith mor drychinebus ar ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol; cynnydd o 37 y cant yn y defnydd o fanciau bwyd ledled Cymru, dros y flwyddyn flaenorol yn unig; a niferoedd helaeth o weithlu ein sector cyhoeddus yn gorfod dioddef blwyddyn ar ôl blwyddyn o gyflogau llai.

Ac yn olaf, yn fwyaf damniol oll, daeth astudiaeth gan Brifysgol Glasgow i’r casgliad fod 335,000 o farwolaethau ychwanegol wedi’u cofnodi ar draws yr Alban, Lloegr a Chymru rhwng 2012 a 2019 o ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth y DU, wedi’u crynhoi’n anghymesur yng nghwintel mwyaf difreintiedig cymdeithas. Mae hyn yn tanlinellu’r ffaith bod tlodi'n lladd. Nid y tywydd sy’n achosi tlodi, caiff ei achosi gan ddewisiadau gwleidyddol, a dyma ganlyniad penderfyniadau a wneir gan Lywodraethau. Ac er nad yw'r ddwy blaid fawr yn San Steffan yn dangos unrhyw awydd i gael gwared ar ddogma cyni treuliedig a chyfeiliornus, mae dewis arall blaengar i'w gael.

17:35

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwyf wedi gwrando’n astud ar eich cyfraniad, a chyfraniad Peredur hefyd, wrth ichi sôn am wendidau cyllidol Llywodraeth y DU, ac yn wir, Llywodraeth Cymru yma. Beth fyddai Plaid Cymru yn ei wneud mor wahanol? Nid wyf yn gweld cynllun gennych chi o'r hyn y byddech yn ei wneud yn wahanol. Os gwelwch yn dda, disgrifiwch hynny, os gallwch.

Rwy'n credu fy mod newydd ddweud bod arnom angen trethiant teg, mae arnom angen buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o’r polisïau yn ein cytundeb cydweithio wedi’u hanelu at yr union bobl sydd ar y gwaelod, ac nad ydynt yn cael unrhyw ystyriaeth o gwbl gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan.

Mae'n rhaid inni fod yn barod i gael sgwrs onest am ein hymagwedd at y berthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus. Mae’r diwygiadau hirddisgwyliedig i’r statws byw tu allan i'r wlad yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond gallai’r Canghellor fod wedi mynd yn llawer pellach na’r mesurau hynny a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ni soniodd am yr angen amlwg i gydraddoli trethi enillion cyfalaf â chyfraddau treth incwm, cam a allai godi £15 biliwn ychwanegol ar adeg o bwysau aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus.

Er y bydd y trothwy budd-dal plant incwm uchel yn cynyddu o £50,000 i £60,000, gyda’r tapr hwnnw’n cael ei ymestyn i £80,000, nid oes sôn am gael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau sy’n effeithio ar y tlotaf, sy’n dyfnhau cyfraddau tlodi plant, a fydd yn amddifadu degau o filoedd o deuluoedd yng Nghymru o tua £3,200 y flwyddyn. Mae 40 y cant o blant mewn tlodi yng Nghymru yn byw mewn teuluoedd â mwy na thri o blant. Efallai fod darpar Lywodraeth Keir Starmer wedi colli dewrder ei hargyhoeddiadau i gyflwyno agenda radical i newid y ddynameg hon, ond hoffwn annog yr Aelodau Llafur yma yn enwedig i ymuno â ni i fynnu gwell ar gyfer eu hetholwyr, ein cymunedau a’n cenedl, y teuluoedd rydych chi'n eu cynrychioli ac sy'n ei chael hi'n anodd mewn caledi sy'n gwaethygu. Mynnwch hynny.

Credaf eich bod newydd ollwng y gath o'r cwd. Mae Plaid Cymru, mewn Cymru annibynnol, am inni dalu trethi ar lefel debyg i'r hyn a welwn yn rhai o wledydd y byd sy’n talu’r lefel uchaf o drethi yn unrhyw le—

Dyna weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru—trethi uwch. Rydym yn gwybod hynny nawr. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Sioned. Credaf y byddai etholwyr yn ein rhanbarth ni yng Ngorllewin De Cymru yn falch iawn o fod yn talu llai o dreth o ganlyniad i'r gyllideb hon gan Lywodraeth y DU. Ac am bleser yw—

A ydych chi'n credu bod trigolion Gorllewin De Cymru yr un mor falch fod y DU yn safle 39 o 39 yn sgôr tlodi plant UNICEF?

Wel, yr hyn rwy'n ei wybod yw bod cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yn uwch nag y maent yng ngweddill y DU ac yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw, tra bo'r cyfraddau yng ngweddill y DU yn gostwng. Dyna waddol eich cytundeb cydweithio â’r Blaid Lafur. [Torri ar draws.] Ond beth bynnag, symudwn yn ein blaenau.

A gaf i ddweud ei bod yn bleser cael cymryd rhan yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllideb Llywodraeth y DU, cynllun ar gyfer twf hirdymor? Ac fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod Peter Fox wrth agor y ddadl heddiw, bydd cyllideb Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn darparu manteision enfawr i bobl ledled y DU ac yng Ngorllewin De Cymru, yn enwedig yma yng Nghymru. Bydd cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer twf hirdymor yn cefnogi cymunedau, fel y clywsom eisoes heddiw, mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Ac mae’n drueni, ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd, nad ydym yn gweld yr un cynllun economaidd addawol a chadarnhaol hwnnw, a’r gyllideb honno'n cael ei chyflwyno ganddynt hwythau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £168 miliwn ychwanegol o gyllid canlyniadol Barnett, ac ar y meinciau hyn mae gennym un gobaith: na welwn yr arian hwnnw'n cael ei wastraffu ar yr un prosiectau porthi balchder a welsom dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae angen mwy o feddygon, mwy o nyrsys a mwy o athrawon ar Gymru, nid mwy o wleidyddion. Wrth siarad am eiliad fel Gweinidog diwylliant yr wrthblaid, rhan allweddol o’r gyllideb yr oeddwn wrth fy modd yn ei gweld oedd y buddsoddiad mewn gwariant diwylliannol ledled Cymru. Gwelsom hynny gyda’r £5 miliwn o gyfleusterau diwylliannol yng Nghasnewydd, £1.6 miliwn tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd, y bu Alun a minnau ar ymweliad â hi—mwynheais hynny’n fawr—a £10 miliwn o gyllid ar gyfer Venue Cymru, lleoliad gwych lle cynhaliwyd cynhadledd Plaid Geidwadol Cymru yn ddiweddar—sydd wedi'i leoli yn Llandudno, yng nghanol yr etholaeth a gynrychiolir mor fedrus gan frenhines Llandudno, Janet Finch-Saunders. Ac am wrthgyferbyniad yw’r gyllideb honno, blaenoriaethu’r gyllideb ddiwylliannol, gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn torri cyllidebau diwylliannol yma yng Nghymru, gan fethu blaenoriaethu ein treftadaeth genedlaethol.

Ond yn fwy cyffredinol, bydd gweithwyr ledled y wlad yn mynd adref fis nesaf gyda mwy o arian yn eu pecyn cyflog diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae’r toriad o 2c yn y dreth incwm yn golygu nawr y bydd gweithwyr cyfartalog yng Nghymru, ar gyflog o £31,800, £770 yn well eu byd nag yr oeddent—[Torri ar draws.]—mewn eiliad—y llynedd. Bydd y toriad hwn o fantais i fwy na 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru. A pheidiwch ag anghofio, dyma'r eildro inni dorri yswiriant gwladol 2c mewn llai na blwyddyn, gan dynnu'r gyfradd i lawr o 12c i 8c.

17:40

Beth yw ei farn ynglŷn â'r dadansoddiad annibynnol o'r gyllideb sy'n dangos, oherwydd llusgiad cyllidol—mewn geiriau eraill, pobl yn cael eu llusgo i'r gyfradd treth incwm is—mewn gwirionedd, i'r rheini sy'n ennill llai na £26,000 y flwyddyn—y rhan fwyaf o fy etholwyr, a dweud y gwir—y byddant naill ai yn yr un sefyllfa yn union, neu'n waeth eu byd mewn gwirionedd, tra byddwch chi a minnau'n elwa?

Wel, o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, rwy'n cofio bod y rhai ar y cyflogau isaf oll yn talu treth ar yr enillion hynny. Mae’r £12,500 cyntaf y mae unrhyw un yn ei ennill, o ganlyniad i’r Llywodraeth Geidwadol hon, yn gwbl ddi-dreth. Ac ers hynny, mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi, ar yswiriant gwladol, ei fod am fynd ymhellach, drwy ddileu’r dreth ddwbl honno ar waith yn gyfan gwbl yn y tymor hir.

Ac yn ogystal, hoffwn ddweud, ym mis Medi eleni, y bydd Llywodraeth y DU yn ymestyn y ddarpariaeth gofal plant, sy'n golygu y bydd rhieni'n cael cymorth ychwanegol i blant o naw mis oed ymlaen. I lawer o deuluoedd, mae cost gofal plant fel cael ail forgais, neu hyd yn oed yn atal pobl rhag mynd ar yr ysgol eiddo. Nid yn unig fod y newid hwn yn rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi rhieni, ond mae hefyd yn cefnogi rhieni yn ôl i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth heb deimlo’r un pwysau ariannol. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod ein teuluoedd gweithgar ac am annog rhieni i ddychwelyd i’r gwaith. Bydd o fudd iddynt drwy godi'r trothwy ar gyfer dechrau ad-dalu budd-dal plant, ac ym mis Ebrill, bydd yn cynyddu o £50,000 i £60,000, cynnydd o 20 y cant, a fydd yn golygu y bydd 170,000 o deuluoedd yn rhoi'r gorau i dalu’r tâl eleni.

Dyma Lywodraeth y DU sydd o ddifrif ynglŷn â thwf cynaliadwy, hirdymor. Er gwaethaf pandemig byd-eang, y rhyfel yn Wcráin, ac ie, cyflawni Brexit, credaf fod y Llywodraeth Geidwadol hon yn cyflawni ar ran pob cornel o’r Deyrnas Unedig o ran buddsoddi ac o ran ffyniant bro. Mae'n amlwg ein bod, yn y gyllideb hon, wedi gweld manteision cadarnhaol go iawn i gymunedau ledled Cymru, ac mae'n un y dylai'r Senedd hon ei chroesawu heddiw. Dyna pam fy mod yn galw ar bob Aelod ar draws y Siambr hon i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr.

Diolch, Lywydd. Felly, rydym newydd glywed sut mae’r Llywodraeth Geidwadol o ddifrif ynglŷn â thwf, a flwyddyn ar ôl y gyllideb ar gyfer twf, fel y'i gelwir, cyflwynodd y Canghellor ei gyllideb ddiweddaraf yr wythnos diwethaf yn erbyn cefndir economi’r DU, sy'n llai bellach na'r hyn ydoedd flwyddyn yn ôl, adeg y gyllideb ar gyfer twf. Caiff twf isel yr economi ei adlewyrchu mewn safonau byw, ac mae’r rhain yn effeithiau go iawn ar y bobl y mae pob un ohonom yn eu cynrychioli. Rhagwelir y bydd incwm gwario gros aelwydydd y pen—a dyna'r mesur economaidd gorau o safonau byw—0.9 y cant yn is na’i lefel yn 2019 erbyn diwedd eleni, ac nid yw’n debygol o ddychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig tan 2025. Mae hynny'n golygu chwe blynedd o dwf coll.

Mae Sefydliad Resolution wedi adrodd, o dan Lywodraeth y DU, fod twf cyflog gwirioneddol a chynnyrch domestig gros y pen wedi cynyddu ar eu cyfraddau isaf ers yr ail ryfel byd, ac mai Llywodraeth y DU fydd y gyntaf ers 1955 i lywodraethu dros gwymp yn incwm gwario gwirioneddol aelwydydd a safonau byw.

Felly, nid yw penderfyniad y Canghellor i dorri 2c oddi ar gyfraniadau yswiriant gwladol gweithwyr 2c yn targedu’r bobl sydd â’r angen mwyaf. Mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi nodi bod bron i hanner y budd yn mynd i’r 20 y cant cyfoethocaf o aelwydydd, ac mai dim ond 3 y cant yn unig o’r budd sy'n mynd i’r pumed tlotaf o aelwydydd.

A wnaiff hi nodi na roddwyd ateb digonol yn fy ymyriad blaenorol ar y siaradwr Ceidwadol fod effaith rhewi trothwyon treth incwm tan 2028 yn golygu bod mwy a mwy o bobl ar yr incwm isaf yn cael eu llusgo i mewn iddo nawr, sef yr hyn a elwir yn llusgiad cyllidol, ac mae’n golygu, i bob pwrpas, y bydd y rheini sydd ar incwm o lai na £26,000 yn waeth eu byd, beth bynnag am ymgais y Ceidwadwyr i ystumio'r ffeithiau?

17:45

Yn sicr. Mae'r tlotaf yn mynd yn dlotach, ac mae hynny'n arbennig o wir yn y cyd-destun rwyf wedi'i ddisgrifio am gostau byw ac incwm gwario ac yn y blaen. A'r cyfoethocaf sy'n elwa o'r newidiadau diweddar hyn gan Lywodraeth y DU. A hyd yn oed gyda’r toriad i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd yn yr hydref, mae’r toriadau diweddaraf hyn i gyfraniadau yswiriant gwladol yn dal i fod ond yn gwrthdroi hanner y cynnydd mewn trethi personol a wnaed yng nghyfnod y Llywodraeth DU hon mewn grym wrth iddi rewi trothwyon treth personol a lwfansau.

Felly, mae’r Canghellor, unwaith eto, wedi methu cydnabod pwysigrwydd hanfodol gwasanaethau cyhoeddus, yn union fel y gwnaeth yn yr hydref. Yng Nghymru, rydym wedi cydnabod rôl gwasanaethau cyhoeddus yn sbarduno twf economaidd, yn sicrhau swyddi i bobl a hefyd yn ein cefnogi i gyflawni ein targedau sero net. Mewn cyferbyniad, nid oedd unrhyw beth yng nghyllideb y Canghellor ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac mae cyfansymiau gwariant cyffredinol Llywodraeth y DU yn awgrymu na fydd unrhyw dwf gwirioneddol mewn gwariant cyhoeddus y pen dros y pum mlynedd nesaf, gan adael ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn agored i doriadau mewn termau real, gyda gwariant y GIG yn Lloegr yn cynyddu 1 y cant yn unig mewn termau arian parod y flwyddyn nesaf, o gymharu â 5 y cant yma nawr.

Mae’r £168 miliwn o adnoddau canlyniadol i Gymru yn ymwneud â chyllid sy'n gysylltiedig â chyflogau’r GIG, yn ôl yr hyn a ddeallwn, a chytunwyd ar hynny flwyddyn yn ôl, ac roedd y cyllid i lywodraeth leol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion a gyhoeddwyd yn Lloegr—dyna’r £25 miliwn yr oeddem eisoes yn ymwybodol ohono ac y cawsom drafodaethau yn ei gylch yn y Senedd hon cyn y gyllideb—wedi’i gynnwys eisoes yn ein cynlluniau gwariant beth bynnag. Felly, golyga hyn fod ein setliad ar gyfer 2024-25 yn dal i fod hyd at £700 miliwn yn is mewn termau real na’r disgwyl ar adeg adolygiad o wariant 2021, ac mae ein cyllideb yn 2024-25 £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010.

Nid oes fawr iawn yn y gyllideb a fydd yn darparu’r amodau angenrheidiol i hybu cynhyrchiant a chreu amgylchedd ar gyfer buddsoddi i gefnogi safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus. Nid oedd unrhyw arian cyfalaf ychwanegol i Lywodraeth Cymru, gan adael ein cyllideb cyllid cyfalaf gyffredinol yn 2024-25 yn werth hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r disgwyl ar adeg yr adolygiad o wariant diwethaf. Yn ogystal â hyn, unwaith eto anwybyddodd cyllideb y Canghellor y blaenoriaethau craidd ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth y DU yma yng Nghymru, ac mae'r rheini'n alwadau y buom yn eu gwneud ynghylch diogelwch tomenni glo ac ailddosbarthu HS2.

Mae polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn gwneud cam â phobl, busnesau a chymunedau, ac maent yn mynd ag arian a phwerau oddi ar Gymru, gan eu rhoi yn nwylo Gweinidogion yn Whitehall. Mae ffyniant bro wedi'i ddefnyddio gan Lywodraeth y DU fel ffordd o dorri cyllidebau Cymru, ac mewn rhai meysydd, i ailfrandio, yn sinigaidd, rhywfaint o’r arian hwnnw fel buddsoddiad y DU yng Nghymru. Ac roedd hyn yn amlwg iawn yng nghyllideb y Canghellor, lle cyhoeddodd yr £1.6 miliwn symbolaidd hwnnw tuag at ariannu'r gwaith o adnewyddu Theatr Clwyd yn sir y Fflint. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’r £23.5 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i fuddsoddi yn yr un prosiect fel rhan o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, felly gobeithio bod y Ceidwadwyr Cymreig yn glir iawn gyda’u hetholwyr ynglŷn ag o ble y daw'r buddsoddiad gwirioneddol ar gyfer y prosiect hwnnw.

Dim ond diferyn yn y môr yw buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghymru, ac ni fydd yn gwneud fawr iawn i gefnogi economi Cymru a lleihau’r anghydraddoldebau rhanbarthol sy’n bodoli ledled y DU. Mae Cymru bron i £1.3 biliwn ar ei cholled mewn termau real oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei hymrwymiadau a darparu'r cyllid llawn yn lle arian blaenorol yr UE. Ddydd Llun, clywsom fod cyfran o’r cyllid ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin bellach wedi’u hailddyrannu i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, fel eu bod nhw'n penderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio. Ein safbwynt ni yng Nghymru o hyd, o dan ein setliad datganoli, yw y dylid rhoi'r cyllid ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn ôl i Lywodraeth Cymru i'w ddosbarthu.

Mae’r cyhoeddiad a wnaed gan y Canghellor ynghylch prynu safle Wylfa gan Hitachi yn newyddion i’w groesawu i Ynys Môn a’r cyffiniau. Fodd bynnag, dim ond y cam cyntaf yw hwn ar y daith i ailgychwyn prosiect yn Wylfa. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw trywydd clir iawn sy’n amlinellu sut y caiff prosiect Wylfa newydd ei gyflawni, ac mae’n amlwg fod manteision economaidd-gymdeithasol sylweddol y gallai prosiect newydd eu gwireddu, ond mae angen eglurder arnom cyn gynted â phosibl, ac wrth gwrs, rydym yn barod i weithio'n gynhyrchiol ar hwnnw.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau Cymru, ac rydym wedi diogelu gwasanaethau cyhoeddus ac wedi targedu cymorth ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cyllideb. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus i bawb.

17:50

Diolch, Lywydd. Er gwaethaf ymdrechion meinciau Llafur a Phlaid Cymru i baentio darlun diobaith, gan fychanu rhagolygon Cymru, fe glywsom heddiw am lawer o’r mesurau rhagorol o gyllideb Llywodraeth Geidwadol y DU a fydd yn darparu manteision enfawr i bobl Cymru. Clywsom am yr 1.2 miliwn o bobl sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n mynd i elwa o'r toriad i yswiriant gwladol—. Mae'n ymyriad cynnar iawn, Huw, ond ewch amdani.

Rwy'n gobeithio ei fod yn amserol, gan fy mod yn annheg iawn yn gynharach, mae'n rhaid imi ddweud—mae'n rhaid imi ddweud—gan fod peth o'r dadansoddiad annibynnol yn dangos y bydd gweithwyr, ar gyfartaledd, yn well eu byd. Mewn gwirionedd, mae peth o'r dadansoddiad annibynnol sydd gennyf o'm blaen yn awgrymu bod gweithwyr ar gyflogau cyfartalog £2.68 yr wythnos yn well eu byd yn wir. Da iawn i’r Ceidwadwyr: i ennill yr etholiad cyffredinol, rydych chi newydd brynu cefnogaeth yr etholwyr â phastai o Greggs.

Diolch. Diolch am eich ymyriad, Huw, roedd yn graff iawn—craff iawn yn wir. Rydym wedi clywed heddiw hefyd—clywsom heddiw hefyd—fod teuluoedd Cymru ar eu hennill wrth i Lywodraeth y DU godi’r trothwy ar gyfer hawlio budd-dal plant. Clywsom am y buddsoddiad enfawr i gaffael Wylfa fel safle ar gyfer datblygiad niwclear i wneud Ynys Môn yn gyrchfan ynni gyda’r gorau yn y byd. Rydym wedi clywed am y buddsoddiad uniongyrchol o £20 miliwn i'r Rhyl, £5 miliwn i Gasnewydd, £1.6 miliwn i Theatr Clwyd a £10 miliwn i Venue Cymru yn Llandudno hefyd.

Ein cymunedau ffermio—dychmygwch hynny; dychmygwch fuddsoddi mewn cymunedau ffermio—£5 miliwn ar gyfer porth bwyd-amaeth i gefnogi prosiectau amgylcheddol mewn amaeth. Ac wrth gwrs, y £170 miliwn mewn cyllid canlyniadol Barnett ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ychwanegol at y grant bloc uchaf erioed y mae eisoes yn ei dderbyn. Dyna mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei wneud i Gymru.

Yr hyn a glywsom gan yr Aelodau yw manylion cymysgedd o dri edefyn cyffredinol sy’n darparu'r cymorth i bobl Cymru. Yr edefyn cyntaf yw’r budd—[Torri ar draws.] A hoffech wneud ymyriad, Alun Davies?

Rwy'n gwneud y pwynt—. Rwy'n wael iawn am wrthod gwahoddiadau. Mae’r Aelod yn rhestru’r buddsoddiadau hyn gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gwario mwy, yn gymesur, bob dydd o’r wythnos yn Llundain nag y maent yn ei wario naill ai yng ngogledd Lloegr, Cymru neu’r Alban. Mae angen inni fynd i’r afael ag anghydraddoldebau sylfaenol yn y Deyrnas Unedig, yn hytrach na cheisio eu cyfiawnhau.

Gadewch imi egluro hyn i chi, Alun, gan fy mod yn credu eich bod yn methu'r pwynt, ac nid yn unig am y buddsoddiad uniongyrchol yn y prosiectau hynny. Wrth gwrs, mae cyfrifoldeb datganoledig a darpariaeth gwasanaethau datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru yn cael £18 biliwn y flwyddyn o'r setliad—o'r adolygiad o wariant—clywsom eisoes am £170 miliwn ychwanegol, yn ychwanegol at yr £820 miliwn ers adolygiad 2021 hefyd. Amlygwyd enghraifft o’r arian ychwanegol hwn gan Peter Fox yn ei sylwadau agoriadol, gyda’r pecyn o fesurau gofal plant i ymestyn cymorth gofal plant yn Lloegr. Mae'n anffodus, a dweud y lleiaf, fod Llywodraeth Cymru yn gwrthod cynnig mesurau cymorth gofal plant tebyg i deuluoedd yma yng Nghymru, er iddynt gael symiau sylweddol o gyllid canlyniadol Barnett. Mae’r rhain yn symiau enfawr o arian, ac mae’n drueni mawr fod Llafur yng Nghaerdydd yn benderfynol o’i wastraffu ar brosiectau porthi balchder diddiwedd, fel y clywsom gan Aelodau, gan gynnwys Tom Giffard, a dynnodd sylw at y penderfynoldeb i gael mwy o wleidyddion yn y lle hwn.

Ond mae'n ymwneud â mwy na chyllid canlyniadol fformiwla Barnett—dim ond un o'r edefynnau yw hynny. Mae cyllideb yr wythnos diwethaf yn darparu cymorth helaeth gan drethdalwyr i Gymru fel rhan greiddiol a phwysig o'r Deyrnas Unedig. Mae'r datganiad a'r gyllideb yn yr hydref ac o gyllideb yr wythnos diwethaf hefyd, gyda'i gilydd, yn darparu £900 y flwyddyn o fudd ychwanegol i weithwyr yng Nghymru drwy'r toriadau i yswiriant gwladol. Rydym wedi rhewi’r dreth ar alcohol, gan leddfu’r pwysau ar ein sector lletygarwch. Mae’n nodi cynlluniau i gefnogi teuluoedd drwy newidiadau i fudd-dal plant, gan wneud rhai rhieni yn well eu byd o hyd at £1,260 y flwyddyn ar gyfartaledd. Ac roedd y gyllideb hefyd yn ymrwymo i gynyddu pensiynau. Gadewch inni beidio ag anghofio hyn: bydd cannoedd ar filoedd o bensiynwyr yng Nghymru yn cael cynnydd o 8.5 y cant i’w pensiwn gwladol, gan sicrhau urddas yn eu henaint i’r cannoedd ar filoedd o bensiynwyr ledled Cymru sydd wedi gweithio ar hyd eu bywydau. Hefyd, o fis Ebrill ymlaen, bydd y cynnydd o 9.8 y cant i’r cyflog byw cenedlaethol o fudd i filoedd o weithwyr ar y cyflogau isaf yma yng Nghymru, gan sicrhau y bydd cyflog gweithiwr llawn amser yng Nghymru yn cynyddu dros £1,800 y flwyddyn. Mae’r Ceidwadwyr yn cyflawni ar ran y Deyrnas Unedig gyfan. Dyna oedd yr ail edefyn.

Y trydydd edefyn sydd wedi'i amlygu heddiw yw'r buddsoddiad uniongyrchol ledled Cymru. Rydym wedi clywed am gaffael Wylfa fel safle ar gyfer datblygiad niwclear—nad yw ond yn bosibl mewn Teyrnas Unedig sy'n elwa o Lywodraeth Geidwadol i warchod annibyniaeth ynni Prydain. A gwnaeth Gareth Davies gymwynas â ni drwy ddathlu cyfran newydd o fuddsoddiad ffyniant bro yn y Rhyl, yr £20 miliwn, yn ychwanegol at yr £20 miliwn yng nghyllideb y llynedd ar gyfer y cyllid ffyniant bro, a bydd hyn yn mynd rywfaint o’r ffordd at wneud y Rhyl yn wych eto, sy'n rhywbeth y bydd Gareth, rwy’n siŵr, yn ei gefnogi. Amlinellodd Janet Finch-Saunders a Tom Giffard yr effaith ganlyniadol y bydd buddsoddiad Llywodraeth y DU yn ei chael yn Llandudno, y £10 miliwn i Venue Cymru, gan roi hwb i’r sector twristiaeth a lletygarwch yn y rhan honno o’r byd, a denu pobl i leoliad rhagorol mewn tref lan môr hardd. Ac er bod Alun Davies yn wfftio'r buddsoddiad hwn, mae hyn yn rhoi'r gallu i bobl yn ein cymunedau gael mwy o lais dros y ffordd y caiff arian ei wario, gan roi sicrwydd hirdymor i drefi fel y Rhyl allu cyflawni prosiectau sy'n seiliedig ar flaenoriaethau lleol—[Torri ar draws.] Cefin.

17:55

Rwyf wedi clywed pob un ohonoch yn rhestru'r holl brosiectau gwych hyn, ond mae dadansoddiad arbenigol yn dangos bod £46 biliwn o ymrwymiadau heb eu hariannu yn y gyllideb ddiwethaf, sydd hyd yn oed yn uwch na chyllideb hunanddinistriol Liz Truss a Kwasi Kwarteng. Felly, a allwch chi egluro i mi sut mae'r twll du enfawr hwnnw'n mynd i gael ei lenwi, neu a ydym yn mynd i ddod i'r casgliad amlwg mai dim ond gimig etholiadol yw hyn?

Rwy'n siŵr fod cynllun pum pwynt rywle draw ar y meinciau hynny ar gyfer yr economi yng Nghymru, ond rydym eto i'w glywed yn gryno o gwbl. A'r hyn a glywn heddiw oddi ar y meinciau gyferbyn yw'r wfftio parhaus hwn, a bychanu rhagolygon Cymru. Yn bersonol, rwy'n falch o weld buddsoddi yma yng Nghymru.

Felly, wrth gloi’r ddadl heddiw, gadewch inni gydnabod bod cyllideb y DU, yn gyntaf oll, yn rhoi mwy o gefnogaeth i gyfrifoldebau datganoledig, yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl weithgar yng Nghymru, ac yn bendant, yn sicrhau bod cymunedau’n cael y buddsoddiad uniongyrchol hwnnw. O ganlyniad, rwy’n annog pob Aelod yn y lle hwn i bleidleisio dros gynnig y Ceidwadwyr Cymreig a phleidleisio dros ffyniant Cymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, fe wnawn ni gymryd y bleidlais yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Nawfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'

Eitem 8 yw'r eitem nesaf, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—'Nawfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9', yw'r eitem yma. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Vikki Howells.

Cynnig NDM8519 Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Nawfed Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 6 Mawrth 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri.

3. Yn penderfynu y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii) am gyfnod o 42 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 15 Mai 2024.

4. Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor a thîm clercio a chyfreithiol y pwyllgor am eu cefnogaeth ar yr achos hwn.

Ystyriodd y pwyllgor adroddiad y comisiynydd safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Rhys ab Owen AS ynghylch ei ymddygiad ar noson 30 Mehefin i 1 Gorffennaf 2021. Rhoddodd y pwyllgor ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad ni yn nodi penderfyniad y pwyllgor ar ganfyddiadau a barn y comisiynydd ac yn gwneud argymhelliad ynghylch y sancsiwn sy’n briodol yn yr achos hwn. Ar ôl derbyn adroddiad y comisiynydd, mae’r pwyllgor wedi rhoi mwy o ryddid i’r Aelod wneud sylwadau mewn sesiwn lafar a thrwy gyflwyniadau ysgrifenedig a gohebiaeth nag a roddwyd yn flaenorol i Aelod sydd wedi bod yn destun cwyn a ystyriwyd gan y pwyllgor safonau.

Mae’r Aelod hefyd wedi cael holl ymatebion y comisiynydd i’r pwyntiau a godwyd. Fel y mae’r pwyllgor yn nodi yn yr adroddiad, mae’r pwyllgor wedi penderfynu gwneud canfyddiad fod cod ymddygiad yr Aelodau wedi'i dorri mewn perthynas â’r pum mater a gyflwynwyd yn wreiddiol i’r Aelod gan y comisiynydd, sef ei fod yn feddw, wedi rhegi ar ac wedi cyffwrdd â’r achwynydd yn amhriodol ar noson 30 Mehefin i 1 Gorffennaf 2021. Rydym yn argymell sancsiwn o 42 diwrnod, ar sail y gŵyn wreiddiol a ddaeth i law'r comisiynydd ym mis Awst 2022. Mae'r ffeithiau sy’n berthnasol i’r gŵyn a rhesymau’r pwyllgor dros ei argymhellion wedi’u nodi yn adroddiad llawn y pwyllgor.

Mae'r system safonau yn un sy'n galw am gydbwyso gofalus rhwng yr angen i fod yn dryloyw a'r angen i osgoi trallod neu niwed pellach lle nad oes budd cyhoeddus mewn sicrhau bod gwybodaeth ar gael. O’r herwydd, bydd yr Aelodau’n nodi bod y pwyllgor wedi penderfynu peidio â chyhoeddi adroddiad y comisiynydd. Roeddem yn ymwybodol o'r angen i sicrhau preifatrwydd pawb y mae'r gŵyn hon yn ymwneud â nhw. Fodd bynnag, mae’r pwyllgor wedi sicrhau bod yr adroddiad a’r atodiadau a’r dogfennau cysylltiedig ar gael i’w harchwilio gan yr Aelodau o dan amodau cyfrinachedd llym mewn ystafell ddarllen, gyda golygiadau hanfodol yn unig i barchu preifatrwydd tystion a thrydydd partïon, ac yn arbennig, i ddiogelu manylion yr unigolion a enwir yn adroddiad y comisiynydd. Mae hyn yn dilyn arfer sydd wedi’i fabwysiadu yn neddfwrfeydd eraill y DU mewn achosion tebyg.

Hoffwn achub ar y cyfle i atgoffa’r Aelodau fod enw da’r Senedd fel sefydliad ac ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ynddi yn dibynnu arnom ni fel Aelodau i gadw at y cod ymddygiad. Wrth wneud hynny, mae'n rhaid inni ddangos uniondeb, arweiniad a pharch yn ein hymddygiad ac yn yr esiampl a osodwn i eraill. Ar ddechrau’r chweched Senedd, fe wnaethom ni fel Senedd fynegi ein hymrwymiad i gynnal urddas pobl eraill a gwahardd ymddygiad digroeso ac aflonyddu. Mabwysiadwyd egwyddor ychwanegol gennym o barch at safonau hirsefydlog y saith egwyddor bywyd cyhoeddus yn ein cod ymddygiad. At yr egwyddor bwysig hon y tynnaf sylw’r Aelodau yn benodol heddiw.

Fel y nodwyd eisoes mewn mannau eraill, yr argymhelliad yw’r gwaharddiad hiraf a gynigiwyd hyd yma gan bwyllgor safonau’r Senedd, ac mae’n adlewyrchu difrifoldeb y tramgwydd i'r cod ymddygiad a phenderfynoldeb y pwyllgor i gynnal yr egwyddor sylfaenol o barch. Mae'n rhaid i’r Senedd fod yn weithle diogel a chynhwysol lle caiff pawb eu trin yn gyfartal. Ni ddylai’r rhai sy’n gweithio i Aelodau ac sy’n gwasanaethu Aelodau deimlo bod yn rhaid iddynt oddef ymddygiad nad yw’n dderbyniol.

Hoffwn orffen drwy roi sicrwydd i'r Senedd hon fod y pwyllgor wedi gwneud ei argymhelliad ar sail y dystiolaeth ger ei fron, ac fel y nodwn yn ein hadroddiad, roeddem yn ofalus nad oeddem yn caniatáu i emosiwn gymylu ein hasesiad gwrthrychol o’r ffeithiau. Fodd bynnag, dyma’r gŵyn gyntaf a ystyriwyd gan y Senedd sy’n mynd i’r afael â materion aflonyddu ac ymddygiad digroeso, a byddai’n esgeulus imi beidio â chydnabod bod yr achos hwn wedi cael effaith sylweddol ar bawb dan sylw. Yn fwyaf arbennig, roedd angen dewrder i'r achwynydd benderfynu codi eu llais ac ymgysylltu â'r broses gwyno. Mae’r pwyllgor yn gobeithio y bydd ei waith ar y gŵyn hon yn rhoi sicrwydd i eraill sy’n ystyried gwneud cwyn y byddant yn gweld bod yma broses deg a diduedd gydag amgylchedd diogel a fydd yn eu galluogi i gael eu clywed. Mae’r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

18:00

Diolch am y cyfle i siarad, Lywydd, a diolch ymlaen llaw i fy nghyd-Aelodau am wrando ar yr hyn sydd gennyf i'w ddweud. Byddaf yn gwneud fy araith yn Saesneg gan fy mod eisiau siarad yn uniongyrchol â phob Aelod. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, mae'r lle hwn yn golygu llawer i mi, ac rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i siarad ar ôl cyfnod hir ac anodd. Ac er fy mod yn dymuno pe bawn i wedi gallu siarad â chi wyneb yn wyneb i ddangos fy mharch tuag atoch chi a'r sefydliad, oherwydd sefyllfa iechyd ddifrifol fy nai Emrys Arthur, mae angen imi fynd i'r ysbyty heno i gefnogi fy nheulu. Dyna pam rwy'n ymuno â chi o bell. Diolch o flaen llaw am ddeall hyn.

Wrth gwrs, hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro i'r bobl y mae fy ymddygiad wedi effeithio'n uniongyrchol arnynt, i fy nheulu, i chi fy nghyd-Aelodau yn y Senedd, ac i'r cyhoedd rwy'n eu gwasanaethu. Rwyf wedi eich siomi chi i gyd. Roedd fy ymddygiad ar y noson dan sylw yn bell iawn o gyrraedd y safon a ddisgwylir gan swyddog cyhoeddus, ac am hynny rwy'n ymddiheuro'n ddiamod, yn bennaf i'r rhai a oedd yn bresennol ac yr effeithiwyd arnynt gan fy ymddygiad y noson honno, sydd bron i dair blynedd yn ôl bellach, i chi fy nghyd-Aelodau, i fy nheulu ac i'r cyhoedd. Roeddwn wedi cael gormod i'w yfed y noson honno ac fe wneuthum ymddwyn yn wael. Rwy'n derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad a chanlyniadau'r ymddygiad hwnnw. O'r herwydd, rwy'n derbyn y gosb a roddwyd i mi hefyd, hyd yn oed os oes gennyf amheuon ynglŷn â'r ffordd y daethpwyd i'r penderfyniad, ac mae gennyf amheuon, Lywydd.

Er fy mod yn parchu'r angen am y broses hon, roedd ei hyd a'i diffyg tryloywder yn heriol i bawb dan sylw. Nid yw ond yn iawn fod gennym broses o'r fath, ond mae angen gwella'r broses honno, ac mae'n rhaid ei gwella i bawb dan sylw. Cyflwynwyd y gŵyn i'r comisiwn safonau ar 1 Gorffennaf 2022. Mae bellach yn 13 Mawrth 2024. Mae dros 20 mis wedi mynd heibio; 622 diwrnod. Ni waeth pa mor amlwg y bo, ni ddylai un unigolyn fod yn ymchwilydd a chanfyddwr ffeithiau. Mae hyn yn arbennig o wir pan nad oes modd herio neu apelio'r broses heb adolygiad barnwrol a allai gostio swm chwe ffigur. Byddai cost o'r fath yn rhwystro'r rhan fwyaf rhag ceisio apelio, ar wahân i'r rhai cyfoethog iawn, sy'n tynnu sylw at y rhwystr gwirioneddol i degwch. Byddwn yn dychmygu bod hwn yn swm sydd y tu hwnt i'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma yn y Senedd. Ond Lywydd, y rheolau fel y maent yw'r rheolau, ac mae'n rhaid imi gydymffurfio â nhw. Rwy'n cydymffurfio â nhw.

Mae'r profiad hwn wedi dangos i mi pa mor bwysig yw trugaredd a pheidio â diffinio eraill yn ôl eu hadegau gwaethaf. Ac nid oes rhaid inni ruthro i roi barn; beth bynnag yw fy mhechodau, nid ydynt yr hyn a ddisgrifiwyd mewn ambell sylwebaeth am yr adroddiad yn y cyfryngau. Felly, hoffwn annog pawb i ddarllen adroddiad y pwyllgor yn ofalus cyn cynnig eu sylwadau.

Wrth gwrs, mae gwneud camgymeriadau yn ddynol, ac er bod maddeuant yn rhywbeth i bobl eraill ei gynnig, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid ei ennill hefyd. Rwyf wedi gwneud newidiadau personol sylweddol gyda'r nod o ddod yn unigolyn gwell ond hefyd i fod yn gynrychiolydd mwy ymroddedig ar ran fy etholwyr. Rwyf wedi gwneud fy ngorau glas i weithio'n galed ar ran fy etholwyr wrth i'r broses hon ddatblygu. Nid wyf wedi eu siomi o ran y gwaith rwy'n ei wneud ar eu rhan, er fy mod wedi siomi pobl, a'u siomi nhw mewn perthynas â'r mater hwn.

Hoffwn ddiolch i fy ngwraig a fy nheulu am eu cariad a'u cefnogaeth. Byddaf yn rhoi'r un gefnogaeth iddynt hwy nawr, pan fydd ei angen fwyaf ar fy nheulu ar yr adeg anodd hon. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau o bob ochr i'r Siambr a phob etholwr sydd wedi gwneud yn siŵr fy mod i'n iawn yn ystod y broses hir hon. Rwyf wedi'i werthfawrogi ac wedi'i angen yn fawr. Mae hi'n ddrwg gennyf. Diolch yn fawr.

18:05

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y ffordd barchus y mae wedi ymwneud â'r pwyllgor. O ran hyd yr ymchwiliad, yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod y Comisiynydd Safonau wedi cyflawni ei ymchwiliad i'r gŵyn rhwng 15 Awst 2022 a 12 Mai 2023. Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys cyfweld â'r Aelod, yr achwynydd ac amryw o dystion eraill, a dechreuodd y pwyllgor ei ystyriaeth ei hun o adroddiad y comisiynydd ar 24 Mai 2023.

Yn yr atodiad i'r adroddiad, bydd yr Aelodau'n gweld amserlen o drafodion pwyllgorau, ac yn arbennig nifer y cyflwyniadau a'r ymatebion a gafwyd. Gofynnodd y pwyllgor hefyd am eglurhad o bwyntiau penodol, a oedd yn golygu bod angen i dystion gael eu hail-gyfweld gan y comisiynydd safonau a datgelu dogfennau pellach. Roedd y pwyllgor yn awyddus drwy'r amser i sicrhau ei fod yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i'r sylwadau a gyflwynwyd ac nid oedd yn barod i ruthro i ddod i gasgliad.

O ran ymchwiliad y comisiynydd ei hun, ystyriodd y pwyllgor feirniadaeth yr Aelod yn ofalus ac rydym wedi nodi ei farn yn ein hadroddiad. Pe na bai'r pwyllgor yn fodlon, byddem wedi gwrthod canfyddiadau'r comisiynydd yn eu cyfanrwydd. Fe wnaeth y pwyllgor wrthod gwneud penderfyniad ar nifer o ganfyddiadau nad oeddent yn greiddiol i'r gŵyn wreiddiol am y rhesymau gweithdrefnol a nodwyd gennym yn yr adroddiad. Diolch, Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyma ni'n cyrraedd nawr y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe awn ni yn syth i'r bleidlais.

9. Cyfnod Pleidleisio

Y bleidlais gyntaf yw'r bleidlais ar eitem 3, sef yr ail gyllideb atodol 2023-24. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 23 yn ymatal, 1 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

18:10

Eitem 3. Dadl ar Ail Gyllideb Atodol 2023-2024: O blaid: 27, Yn erbyn: 1, Ymatal: 23

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd ar eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllideb Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllideb Llywodraeth y DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf, felly. Gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllideb Llywodraeth y DU. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8518 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu o ran Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024:

a) nid yw’n darparu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, heblaw am yr hyn sydd eisoes yn ei chynlluniau gwario;

b) mae’n golygu bod setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hyd at £700 miliwn yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;

c) nid yw’n darparu unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod ei chyllideb gyfalaf gyffredinol yn 2024-25 hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;

d) mae’n anwybyddu gofynion craidd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu tomenni glo ac i ailgategoreiddio HS2, gan gynnwys darparu’r £270 miliwn na fydd Cymru wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod gwario presennol; ac

e) nid yw’n darparu cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny sydd ar yr incwm isaf.

2. Yn gresynu hefyd:

a) bod y cynnydd mewn treth bersonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth hon y DU yn dilyn ei phenderfyniad blaenorol i rewi trothwyon yn uwch na’r gostyngiadau i dreth a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024 a Datganiad yr Hydref 2023 gyda’i gilydd, a dwywaith yn uwch erbyn 2028-29;

b) nad yw cyfansymiau gwario cyffredinol Llywodraeth y DU yn golygu twf gwirioneddol mewn gwariant cyhoeddus y person dros y pum mlynedd nesaf, heb unrhyw gynllun credadwy i gyflawni lefel y gwariant cyhoeddus y maent wedi’i hamlinellu;

c) bod disgwyl i safonau byw yn y DU adlewyrchu’r ffaith bod gwerth chwe blynedd o dwf wedi’i golli, gan ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig erbyn 2025 ar y cynharaf, fel y’i mesurwyd gan incwm gwario gros aelwyd y pen; a

d) bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais dros arian a’u bod hefyd yn tanseilio ac yn anwybyddu datganoli a’r Senedd yma.

Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllideb Llywodraeth y DU. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru: Yr heriau i athrawon a dysgwyr

Dyna ni ddiwedd ar y pleidleisio, felly, ac fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma yn cael ei chyflwyno gan Hefin David.

A bydd Hefin David yn dechrau ei ddadl pan fydd rhai Aelodau wedi gadael y Siambr yn dawel.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddweud bod yr araith rwyf ar fin ei gwneud wedi'i hysgrifennu gan arweinwyr digidol ym mlwyddyn 9—dywedais eu bod ym mlwyddyn 10 ddoe; maent ym mlwyddyn 9 mewn gwirionedd—Ysgol Uwchradd Bedwas, ac maent yn yr oriel heddiw: Reggie Dovener, Nia Parsons a Kaia Wells. Nhw sydd wedi ysgrifennu'r araith hon. Hoffwn sicrhau'r Gweinidog fy mod innau wedi ei darllen hefyd, ac rwyf am ei defnyddio i wneud fy nghyfraniad heddiw.

Y cwestiwn y maent yn ei ofyn yw a ddylem wahardd ffonau symudol yn yr ysgol. Mae'n bwnc perthnasol iawn ar hyn o bryd. Fel cymdeithas, rydym wedi dod i arfer â defnyddio ffonau symudol a chael yr wybodaeth ddiweddaraf ar flaenau ein bysedd. I'n plant yn ein hysgolion, a yw hyn yn gymorth i'w haddysg neu a yw'n rhwystr i'w datblygiad? Mae gan ysgolion eu polisïau eu hunain ar ffonau symudol ledled Cymru. Mae rhai yn eu gwahardd yn llwyr, ac mae hyn yn golygu bod ffonau naill ai'n cael eu rhoi i athro neu'n cael eu rhoi mewn bag wedi'i selio am weddill y dydd. Mae gan ysgolion eraill reol sy'n dweud na allant ddefnyddio eu ffonau mewn gwersi, ac mae hyn yn gweithio i rai, ond nid i eraill.

Ym mis Hydref 2023, cyflwynodd Llywodraeth y DU ganllawiau a oedd yn awgrymu gwahardd ffonau ar hyd y diwrnod ysgol. Ym mis Chwefror 2024, cyflwynodd yr Adran Addysg ganllawiau ar wahardd ffonau symudol ar hyd y diwrnod ysgol. Mae'r ysgolion yng Nghymru sydd wedi gwahardd ffonau symudol ar hyd y diwrnod ysgol yn cynnwys Ysgol Uwchradd Llanidloes, Ysgol Aberconwy yng Nghonwy, ac Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful. Dywedodd Ysgol Uwchradd Llanidloes fod achosion o seiberfwlio wedi gostwng yn ddramatig. Dywedodd Mr Owen, y pennaeth, gŵr yr wyf yn ei adnabod, wrth Wales Online,

'Roeddwn yn arfer mynd mewn i'r ffreutur ac roedd yna dawelwch annaearol am eu bod i gyd ar eu ffonau. Nawr maent yn siarad mwy â'i gilydd.'

Mae Ysgol Aberconwy wedi buddsoddi mewn bag, sy'n costio £10, sy'n cloi'r ffôn yn ystod y diwrnod ysgol. Dywedodd y pennaeth, Mr Gerrard, fod parth di-ffôn yr ysgol wedi cael gwared ar seiberfwlio, tra bo plant yn cymdeithasu ac yn canolbwyntio'n well am na allant chwarae ar eu ffonau yn ystod gwersi ac amseroedd egwyl.

18:15

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae gan Ysgol Uwchradd Bedwas eu hunain bolisi sy'n dweud na chaiff disgyblion ddefnyddio ffonau symudol yn y dosbarth, ond maent yn ystyried cynnal ymgynghoriad—Ysgol Uwchradd Bedwas yn fy etholaeth—ar wahardd ffonau symudol ar hyd y dydd. Rwy'n disgwyl cael e-byst. O ymchwil rhieni, mae tua chwarter y rhieni'n pryderu ynglŷn â gwahardd ffonau symudol neu eu hatal rhag cael eu gweld yn yr ysgol, a dywedodd Mr Diehl, y pennaeth, ar wefan yr ysgol fod nifer cynyddol o ysgolion eraill wedi gwahardd y defnydd o ffonau symudol, fod yr ysgol yn ymchwilio i effaith gwaharddiadau o'r fath, ac os yw'r ysgol yn teimlo bod angen mabwysiadu dull tebyg, cynhelir ymgynghoriad llawn gyda disgyblion, rhieni, staff a rhanddeiliaid eraill cyn i'r corff llywodraethu wneud penderfyniad. Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol, a hoffwn ychwanegu y byddwn yn gobeithio bod yr arweinwyr digidol yn cael llais amlwg yn y ffordd y bydd hynny'n datblygu.

Felly, maent wedi dweud wrthyf—. Dyma rai o'r dadleuon yn erbyn defnyddio ffonau symudol mewn ysgolion: mae seiberfwlio ymhlith dysgwyr yn yr ysgol yn rhywbeth sydd wedi cael sylw sawl gwaith. Mae seiberfwlio'n digwydd yn ystod y diwrnod ysgol a gall gynnwys tynnu lluniau a'u rhannu. Gall llai o ryngweithio â thechnoleg ddigidol symudol leihau seiberfwlio ar hyd y diwrnod ysgol. Ni fydd dysgwyr yn cael cyfle i gofnodi digwyddiadau a'u rhannu, a dylai hyn leihau nifer y digwyddiadau sy'n cael eu rhannu drwy gyfryngau fel Snapchat, ac fe roddaf rai enghreifftiau i chi mewn munud. Mae cael gwared ar yr apiau ar ffonau symudol, sy'n tynnu sylw dysgwyr, wedi gwella perfformiad disgyblion mewn rhai ysgolion, ac mae ffotograffau o athrawon wedi'u tynnu a'u rhannu ar draws llawer o gyfryngau cymdeithasol. Mae delweddau'n cael eu defnyddio fel memynnau i godi cywilydd ar yr athrawon sydd yn y ffotograffau. Os yw ysgol yn dewis gwahardd ffonau symudol yn llwyr, bydd y gwaharddiadau tymor penodol yn cynyddu i ddechrau, ond pan fydd dysgwyr yn gwybod na chaiff ffonau eu defnyddio, credant y bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cydymffurfio.

Mae disgyblion yn teimlo bod angen ffonau symudol i gysylltu â rhieni yn ystod y diwrnod ysgol. Nid yw hyn yn angenrheidiol, gan fod systemau ysgol arferol yn gallu ymdrin ag argyfyngau teuluol, fel y maent wedi'i wneud erioed. Mae dysgwyr yn barod iawn i gysylltu â'u rhieni pan fyddant wedi cael neges destun oherwydd bod disgybl wedi camymddwyn mewn gwers ac wedi cael cosb o ganlyniad. Mae hyn wedi annog mwy o rieni i ymweld â'r ysgol heb apwyntiadau, ac mewn tymer, oherwydd eu bod wedi cael cofnod unochrog o'r digwyddiad gan y disgybl a anfonodd y neges. A gallaf weld ein cyn-athro yma yn nodio sy'n dangos pa mor gyfarwydd yw hynny. Mae hyn wedi achosi rhyngweithio mwy egnïol rhwng staff a rhieni a gwarcheidwaid.

Gyda llai o ddigwyddiadau seiberfwlio, fodd bynnag, yn sgil gwahardd y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, gallwn leddfu pryderon diogelu, a bydd hyn yn helpu timau llesiant mewn ysgolion sy'n ymdrin â bwlio ffonau symudol o ddydd i ddydd. Hefyd, mae'n costio i ddysgwyr ddefnyddio ffonau symudol, oherwydd maent yn gorfod defnyddio eu pecynnau data yn yr ysgol, am fod Wi-Fi yn eithaf cyfyngedig mewn rhai ysgolion, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Bedwas, a phrofais hynny fy hun, pan oeddem yn cyfarfod ac yn mynd drwy'r araith hon y diwrnod o'r blaen. Mae angen ariannu ysgolion yn briodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gagendor digidol i'w weld yn yr ystafell ddosbarth.

Ond nid dyna'r stori gyfan. Mae yna ddadl hefyd o blaid y defnydd o ffonau symudol yn yr ysgol, a dyma sut mae'r tîm arweinyddiaeth ddigidol yn ei gweld hi. Mae llawer o ffreuturau'n newid i ddulliau talu digyswllt a heb ddefnyddio arian parod. Bydd rhai dysgwyr angen eu ffonau symudol i dalu am ginio. Mae rhai dysgwyr angen eu ffonau symudol i fonitro cyflyrau meddygol fel diabetes. Gan fod cyllidebau ysgolion yn brin, efallai y byddant yn gofyn i ddisgyblion ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i arbed arian ar gostau argraffu—gallai hyn fod drwy godau QR neu gael mynediad at blatfform Hwb. A gofynnir i ddysgwyr ddefnyddio eu dyfeisiau personol i wneud ymchwil mewn gwersi, oherwydd gallai fod prinder adnoddau digidol gan yr ysgol. Pan oeddwn yn ddarlithydd prifysgol, rwy'n cofio mai un o'r pethau a oedd yn ddefnyddiol iawn oedd cael y myfyrwyr i ddefnyddio eu ffonau symudol i greu cyflwyniadau fideo ar gyfer asesiadau. Mae ffonau symudol yn dda iawn at y diben hwnnw.

Gyda mwy o lythrennedd a ffocws ar ddarllen, bydd llawer o ddisgyblion yn defnyddio platfformau llyfrau fel myON i ddarllen amrywiaeth o destunau yn ystod gwersi neu amser bugeiliol. Dywedodd Ysgol Uwchradd Caergybi yn 2019 fod gwrthdroi'r gwaharddiad ar ffonau symudol mewn ysgolion wedi gwrthdroi'r gwrthdaro rhwng disgyblion. Dywedodd un unigolyn, sy'n athro, wrthym y dylid gallu eu defnyddio mewn ysgolion.

'Mae disgyblion yn defnyddio Google Classroom, y gellir ei gyrchu drwy ffonau symudol. Rwyf wedi gweithio gydag ysgolion gyda gwaharddiad llawn ac ysgolion lle caniateir i ddisgyblion ddefnyddio'u ffonau symudol. Pan ganiateir i ddisgyblion ddefnyddio ffonau symudol yn gyfrifol, cânt eu grymuso i wneud y dewisiadau cywir wrth ddefnyddio technoleg. Rwy'n dweud 'na' wrth waharddiad',

meddai'r athro.

Mae rhai dysgwyr sy'n cael amser caled yn yr ysgol yn cael eu cysur o'r ffaith bod ganddynt eu dyfais, fel y gallant gysylltu ag aelodau'r teulu i gael sicrwydd yn ystod y dydd, ac mae llawer yn teimlo bod disgyblion yn cael cysur o gael y ffôn symudol yn eu bag wrth eu hochr. Mater arall a godwyd oedd dysgwyr sydd hefyd yn ofalwyr ifanc. Dywedodd unigolyn sy'n gweithio gyda gofalwyr ifanc wrthym y byddai gwaharddiad yn erchyll iddynt. Byddent yn bryderus ynglŷn â sut oedd eu perthynas drwy gydol y dydd, a byddai'r pryder hwnnw'n tarfu ar eu dysgu. Mae neges destun yma ac acw yn rhoi sicrwydd iddynt fod eu hanwyliaid yn iawn, a gallant ymlacio wedyn.

Rwyf eisiau sôn hefyd, o fy mhersbectif fy hun, am y defnydd o dechnoleg o'r fath a disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae fy merch, yn enwedig, yn teimlo bod defnyddio ffôn symudol yn tawelu ei meddwl, ac mae hefyd yn tueddu i ddinistrio iPads, ond stori arall yw honno. Ond mae cael y ffôn symudol wrth law yn gallu tawelu ei meddwl a hefyd yn ei galluogi i gyfathrebu'n fwy effeithiol na hebddo. Felly, mae mater ADY yn codi hefyd.

Rhai o'r anghysondebau i ddysgwyr. Wel, mewn rhai ysgolion, y polisi yw dim ffonau mewn gwersi, a gofynnir i ddisgyblion ddefnyddio cod QR i gael mynediad at dasg neu i gwblhau arolwg, ac mae athrawon yn gofyn iddynt ddefnyddio eu ffonau. Gofynnir iddynt wneud yr hyn y mae rheol yr ysgol yn dweud wrthynt am beidio â'i wneud. Ac mae rhai disgyblion wedi dweud eu bod yn teimlo bod anghysondeb, gyda rhai staff yn caniatáu defnyddio ffonau a rhai ddim. Mae athrawon hefyd yn defnyddio eu ffonau yn ystod y diwrnod ysgol, ac os oes gwaharddiad yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion, dylid ei gyflwyno i athrawon hefyd.

Roedd un person yn cydnabod bod yr anghysondebau cynhenid yn y mater yn dangos bod ffonau symudol yn gleddyf deufiniog. I'r rhan fwyaf o bobl ifanc, maent yn offer defnyddiol ar gyfer bywyd modern, ond mae gwybod pryd i beidio â'u defnyddio a gwybod sut i'w defnyddio'n briodol yn sgíl bywyd allweddol. Gellir eu defnyddio hefyd fel dyfais ddiogelwch—gall y rhieni gyrraedd y plant pan fyddant allan yn y gymuned, a gellir eu defnyddio fel dyfais olrhain.

Fodd bynnag, mae yna ochr dywyllach pan ystyriwn gamfanteisio rhywiol a throseddol ar blant, oherwydd mae ffonau symudol yn caniatáu i gyflawnwyr gael mynediad at blant agored i niwed lle bynnag y bônt, gan gynnwys yr ysgol. Ceir problemau'n ymwneud â phobl ifanc yn eu defnyddio i greu a dosbarthu delweddau camfanteisiol o blant, ac fel rydym eisoes wedi crybwyll, gallant greu problem gyda fideos sy'n codi cywilydd ar athrawon a disgyblion eraill.

Gofynnodd y tîm arweinyddiaeth ddigidol i 10 dosbarth cofrestru gwahanol, blynyddoedd 8 i 11, a oeddent yn credu y dylid gwahardd ffonau symudol. Roedd y rhan fwyaf ym mhob un o'r dosbarthiadau'n dweud na ddylid eu gwahardd. Ond roedd yna ddau ym mlwyddyn 8 a ddywedodd y dylent gael eu gwahardd. Gofynnwyd am farn 10 o'r athrawon. Dywedodd pump o'r athrawon y dylid eu gwahardd, dywedodd pump o'r athrawon na ddylent eu gwahardd. Diolch, athrawon, mae hynny'n help mawr. Rhoddodd ambell un eu barn, a dywedodd un, 'Pam cosbi'r mwyafrif am dwpdra'r lleiafrif?' Dywedodd un arall, 'Cyn belled â'u bod yn barchus, mae'n iawn', a dywedodd athro technoleg, 'Mae angen ffonau arnom i dynnu lluniau o'n gwaith cwrs.' A dywedodd disgybl, 'Mae ffonau'n rhan o gymdeithas, yn union fel y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan o wleidyddiaeth. Gall ffonau fod yn ddyfais feddygol, ac achub bywyd pobl sydd â diabetes.'

Ond fe glywais straeon personol anodd iawn hefyd gan ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Bedwas. Dros hanner tymor mis Chwefror, ymosodwyd ar Reggie, sydd yn yr oriel, disgybl yn Ysgol Uwchradd Bedwas, ar X, Twitter gynt, am ei gredoau gwleidyddol. Nid wyf yn credu y bydd ots ganddo fy mod yn dweud ei fod wedi ymuno â'r Blaid Lafur, ac wedi dweud hynny ar Twitter, a bu'n destun llawer iawn o ymosodiadau. Yn ffodus ar y pryd, dangosodd Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys Vaughan Gething a Lynne Neagle, ac eraill, cynghorwyr lleol ac aelodau eraill o'r blaid, eu cefnogaeth iddo, ac mae eisiau dweud, 'Diolch am hynny', oherwydd rhoddodd hynny nerth iddo ar y pryd.

Ar ôl hanner tymor mis Hydref, ymosodwyd ar ferch 13 oed ar safle'r ysgol. Roedd yr ymosodiad wedi'i gynllunio, defnyddiwyd technoleg symudol i gynllunio'r ymosodiad gan gyd-ddysgwyr, ar, ac oddi ar safle'r ysgol. Cafodd yr ymosodiad ei ffilmio gan sawl disgybl, a'i rannu drwy'r ysgol ac eraill yn yr ardal. Roeddent yn cynllunio i'w wneud eto a'i roi ar Snapchat. Dyna oedd y bwriad.

Hoffwn ddweud ambell beth, oherwydd roedd Jayne Bryant am gael munud o fy araith heddiw, ond mae hi wedi gorfod mynd i ddigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Cynhaliwyd ymchwiliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gadeirir ganddi, ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn 2022. Clywodd lawer o dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad hwnnw am y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Mae'r rhan fwyaf o aflonyddu rhywiol yn digwydd ar-lein drwy ffonau symudol y tu allan i'r diwrnod ysgol. Mewn gwirionedd, dywedodd Estyn ac eraill wrth y pwyllgor mai'r her fwyaf yw'r hyn sy'n digwydd y tu allan i'r ystafell ddosbarth, a hyd yn oed y tu allan i'r ysgol. Byddai angen i ysgolion ymdrin â materion sy'n codi ar y safle sy'n gysylltiedig â defnydd amhriodol rhwng dysgwyr, boed ffonau wedi eu gwahardd ar dir yr ysgol neu beidio. Clywodd y pwyllgor safbwyntiau cymysg hefyd ynglŷn ag a ddylid gwahardd ffonau o gwbl. Roedd rhai yn cefnogi gwaharddiad llwyr, tra bod eraill yn dadlau y gall ffonau fod yn offer dysgu rhagorol os cânt eu defnyddio'n briodol, fel rydym wedi dweud yn yr araith hon heddiw. Felly, mae'n fater cymhleth sydd wedi cael ei gydnabod gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Felly, i gloi, rwy'n credu bod yr arweinwyr digidol yn cytuno ei fod yn fater dadleuol. Mae llawer o ddisgyblion yn teimlo na ddylid gwahardd ffonau symudol. Mae llawer o arweinwyr ysgolion yn teimlo y dylid eu gwahardd i wella ymddygiad. Mae llawer o athrawon yn teimlo eu bod yn gymorth ac yn rhwystr ac nid ydynt yn gwybod beth i'w wneud, ac mae'r mater wedi hollti barn.

'Rydym yn teimlo bod angen i'r Gweinidog addysg'—

dyma eu cais i chi, Weinidog addysg—

'roi arweiniad i ysgolion yng Nghymru ar ddefnydd derbyniol o ffonau symudol mewn ysgolion fel bod gennym ddull Cymru gyfan o ymdrin â hyn. Rydym yn teimlo bod angen i'r Gweinidog addysg roi arweiniad ar sut y dylai ysgolion reoli hyn o lefel ystafell ddosbarth hyd at lefel uwch reolwyr. Dylai'r canllawiau gynnwys barn pobl ifanc, a dylid ymgynghori ag athrawon ac arweinwyr ysgolion hefyd, a hoffem weld cysondeb ledled Cymru, boed ffonau symudol yn cael eu gwahardd neu beidio, er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwared o seiberfwlio mewn ysgolion.'

Ac i gloi, gallwch weld o'r araith hon, mae llais yr arweinwyr digidol hynny'n gwbl allweddol yn hyn i gyd, a hoffwn argymell bod y Gweinidog addysg nid yn unig yn siarad â Reggie, Nia a Kaia, ond hefyd â phobl eraill debyg iddynt mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae ganddynt ddylanwad enfawr ar ddatblygu polisi yn y maes hwn.

18:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Hefin David am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, ac am y pwyntiau a wnaeth ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, ac yn bwysicach o lawer, a gaf i ddiolch i arweinwyr digidol Ysgol Uwchradd Bedwas am ysgrifennu'r araith? Rwy'n credu efallai y dylem ofyn i chi ysgrifennu mwy o areithiau sy'n cael eu cyflwyno yn y Siambr hon. Rwy'n gobeithio na fydd gan Hefin ots fy mod i'n dweud hyn, ond sylwais ar welliant amlwg o ran ansawdd. [Chwerthin.]

Rwyf hefyd yn gobeithio na fydd gan gyd-Aelodau ots fy mod yn nodi y byddai'r rhan fwyaf ohonom wedi mynychu'r ysgol ar adeg pan nad oedd ffonau symudol mor gyffredin ag y maent heddiw, ac rwy'n credu bod tyfu i fyny mewn oes heb gyfryngau cymdeithasol a heb fynediad parod at bopeth y gall y rhyngrwyd ei gynnig, y da a'r drwg, wedi golygu ein bod wedi cael profiadau a chyfleoedd gwahanol i rai dysgwyr heddiw, ond mae'n bwysig, mewn unrhyw ddadl ar y pwnc hwn, neu ar unrhyw bwnc arall, ein bod yn cydnabod realiti eu bywydau nhw, a dyna pam mae eu cyfraniad i'r ddadl hon mor bwysig. Mae'r genhedlaeth hon yn un sydd wedi tyfu i fyny gyda'r rhyngrwyd, gyda'r cyfryngau cymdeithasol, a mynediad at ystod o dechnoleg a dyfeisiau digidol, ac mae mynediad at ffonau symudol a chyfryngau digidol eraill yn rhan annatod o fywydau ein pobl ifanc, ac yn rhywbeth y bydd angen iddynt ddysgu ei lywio wrth i'n technoleg barhau i esblygu.

O'i reoli'n gywir, fel y clywsom yn yr araith, gall mynediad at y byd ar-lein, yn aml drwy ffonau symudol, fod yn addysgiadol ac yn ffordd wych i blant a phobl ifanc gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol. Roeddem yn arfer dweud bod dysgwyr angen sgiliau digidol i ymuno â'r gweithlu, ond yn gynyddol, fel y cafodd ei gydnabod yn yr araith, mae angen y sgiliau hyn arnom i gael mynediad at addysg a hyfforddiant hefyd. Mae rhai ysgolion, unwaith eto, fel y clywsom, yn defnyddio adnoddau dysgu ar-lein mewn gwersi neu waith gosod sy'n gofyn i ddysgwyr wneud eu hymchwil eu hunain. Mae hyn yn helpu dysgwyr, yn amlwg, i feithrin sgiliau hanfodol wrth lywio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a gwneud penderfyniadau ynglŷn â pa ffynonellau i'w defnyddio i gefnogi eu gwaith. Mae'r llu o apiau adolygu cymeradwy yn annog ein dysgwyr i ddysgu lle bynnag y bônt ac yn gwella eu sgiliau ymchwilio. Gellir hyd yn oed ystyried y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol eu hunain, fel y dywedodd Hefin David, yn sgíl bywyd, er bod angen ei ddefnyddio'n gyfrifol, gyda rhywfaint o ragofal, wrth ryngweithio ag eraill.

Wrth gwrs, nid oes rhaid i'r holl ryngweithio cadarnhaol hwn yn y gofod digidol ac ar-lein ddigwydd drwy ffonau symudol, ac rwy'n ymwybodol o'r angen i ddisgyblion ddeall sut i ddysgu a gweithio heb adnoddau digidol ac effeithiau anfantais ddigidol, ac yn wir, fel rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom yn cydnabod, y ffordd y mae dyfeisiau digidol yn tynnu sylw. Ond wrth inni weld mwy o ddatblygiadau ym maes technoleg ddigidol, gan gynnwys y defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial, nid yw'n fater syml o ddileu'r defnydd o'r dechnoleg o ystafelloedd dosbarth. Lle caiff ei reoli'n briodol, gall athrawon ddod o hyd i ffyrdd arloesol o integreiddio technoleg symudol yn addysg yr ystafell ddosbarth. Rwy'n credu mai dyma'r rheswm pam nad yw dull cyffredinol yn briodol a pham ei fod yn fater y dylid mynd i'r afael ag ef yn lleol.

Mae polisïau ar ddefnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol yn fater i ysgolion a chyrff llywodraethu. Credwn mai ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad hwn. Gall unrhyw un sy'n ymweld ag ysgolion yn rheolaidd weld bod y rhan fwyaf o benaethiaid yn gallu sefydlu, ac eisoes wedi sefydlu, polisïau clir ar ffonau symudol, gyda nifer ohonynt yn cyfyngu ar y defnydd o ffonau a dyfeisiau electronig eraill, tabledi ac yn y blaen yn ystod y diwrnod ysgol. Mae gan rai ysgolion bolisïau ar wahân ynghylch defnyddio ffonau symudol ac mae eraill wedi eu hymgorffori mewn polisïau eraill, megis polisïau diogelwch ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.

Yn aml, nid yw'r her fwyaf sy'n wynebu ysgolion mewn perthynas â ffonau symudol a'r cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol, ond yn hytrach â'r hyn sy'n digwydd y tu allan i'r ysgol. Gall y mynediad ar unwaith, mewn amser real at y cyfryngau cymdeithasol a'r apiau negeseuon a'r rhyngrwyd yn sicr arwain at faterion sy'n cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl a llesiant. Rydym yn gwybod, er enghraifft, y gall gormod o amser sgrin effeithio ar ymddygiad, cwsg a gallu disgyblion i ganolbwyntio, ac y gall arwain at lai o weithgarwch corfforol a llai o ryngweithio cymdeithasol. Fel y gwyddom ac fel y clywsom heddiw, gall y defnydd o ffonau symudol arwain at seiberfwlio a mwy o bwysau ar blant gan gyfoedion i gydymffurfio neu i gael ffôn diweddaraf, ac yn fwyaf pryderus, i gymryd camau byrbwyll i gael mwy o bobl i 'hoffi' eu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n cytuno bod yna risg wirioneddol, fel y nododd Hefin David, o achosion o bobl yn ceisio meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant, yn anfon delweddau anaddas atynt, neu achosion o fwlio neu aflonyddwch. Yn anffodus, rydym hefyd wedi gweld achosion lle mae plant wedi cyflawni hunanladdiad neu wedi cael gafael ar wybodaeth ar-lein sydd wedi arwain at broblemau iechyd meddwl a chorfforol difrifol, gan gynnwys anhwylderau bwyta.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn ganolog i gefnogi plant a phobl ifanc i adnabod nodweddion perthnasoedd diogel ac iach. Mae'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol yn nodi pwyntiau dysgu craidd, sy'n ceisio mynd i'r afael â materion sy'n peri gofid fel bwlio ac aflonyddu. Mae gwersi wedi'u teilwra i ddatblygiad disgyblion a'u nod yw diogelu disgyblion drwy eu grymuso i adnabod aflonyddu ac yna i siarad am y peth a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae diogelwch ar-lein yn enwedig yn nodwedd allweddol yn y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mae addysgu pobl ifanc sut i ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol yn ddiogel yn fater trawsgwricwlaidd.

Ar ganllawiau, y gofynnodd Hefin David amdanynt yn ei araith, mae cyfoeth o adnoddau a chanllawiau ar gael yn adran 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb i gefnogi ysgolion i liniaru'r peryglon o gam-drin a niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio ffonau symudol mewn ysgolion. Mae cyngor penodol eisoes ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd ar faterion yn cynnwys iechyd meddwl a llesiant a'r rhyngrwyd, ac yna, y cwestiwn allweddol yr ydym i gyd yn ymrafael ag ef ar gydbwyso amser sgrin a chyfryngau cymdeithasol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, er bod yna adegau pan ellir defnyddio ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth, ar y cyfan maent yn tynnu sylw a dyna pam mae gan y mwyafrif o ysgolion uwchradd bolisïau ar waith eisoes i fynd i'r afael â'r broblem. Mae angen inni sicrhau, serch hynny, ein bod yn dysgu arferion iach i'n disgyblion ac yn darparu sgiliau iddynt lywio'r byd digidol ac ar-lein, ond hefyd sut i gymryd seibiant a dod yn ôl i'r byd go iawn eto. Nid gwersi ar gyfer yr ysgol yn unig yw'r rhain; maent yn wersi am oes. Yn y pen draw, fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, credaf y dylem ymddiried mewn ysgolion, gan ddefnyddio'r canllawiau hynny, ac ymddiried mewn athrawon i roi polisïau ar waith sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr. Diolch yn fawr.

18:30

Diolch i'r Gweinidog a Hefin David. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

A diolch i'r arweinwyr digidol o Fedwas hefyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:33.