Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Jayne Bryant. 

Cyllideb Llywodraeth Leol

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fantoli eu cyllidebau yng Ngorllewin Casnewydd? OQ60632

Diolch i Jayne Bryant, Llywydd. Yn ogystal â grantiau penodol, bydd Cyngor Casnewydd yn derbyn cyllid o £303 miliwn drwy setliad llywodraeth leol 2024-25. Mae hyn yn gynnydd o 4.7 y cant ar y flwyddyn gyfredol.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Michael Gove £600 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr, wedi'i anelu'n bennaf at gostau cynyddol gofal cymdeithasol oedolion a phlant. Eto, mae cydnabyddiaeth eang nad yw'r ffigur hwn yn ddigon uchel. Bydd Aelodau yn y Siambr hon heddiw yn cydnabod bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol. Mae'n debyg ein bod ni i gyd wedi siarad â chynghorwyr ac etholwyr sy'n bryderus iawn am effaith pwysau'r gyllideb ar wasanaethau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud ei bod yn hanfodol i gyllid canlyniadol cyhoeddiad Michael Gove gael ei ddarparu i gynghorau Cymru yn llawn fel y gellir ei dargedu at ysgolion a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Prif Weinidog, pa ymrwymiadau, os o gwbl, a gawsoch chi gan Lywodraeth y DU ar symiau canlyniadol yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf?

Wel, Llywydd, nid oes unrhyw warantau o unrhyw fath, ac mae hyn yn dangos annhegwch y ffordd y caiff cyllid yn y Deyrnas Unedig ei drefnu. Bydd llywodraeth leol yn Lloegr nawr yn gwybod y setliad y mae wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU. Bydd yn rhaid i ni aros tan gyllideb y gwanwyn i weld a yw'r £25 miliwn hwnnw'n cyrraedd Cymru mewn gwirionedd, neu a yw'n cael ei wrthbwyso gan newidiadau eraill yn ein cyllideb, a allai olygu mewn gwirionedd nid ein bod £25 miliwn yn well ein byd, ond ein bod yn waeth ein byd nag yr ydym yn credu y byddwn ar hyn o bryd. Ac nid dyna fyddai'r tro cyntaf i hyn ddigwydd o gwbl. 

Felly, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog cyllid yn cydymdeimlo â'r achos y mae llywodraeth leol yng Nghymru yn ei wneud—wrth gwrs y byddai hi—oherwydd, yma yng Nghymru, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein hawdurdodau lleol, gyda chynnydd o 9.4 y cant ddwy flynedd yn ôl, cynnydd o 7.9 y cant y llynedd, ac rydym wedi anrhydeddu'r hyn y dywedom ni y byddem ni'n ei wneud o ran darparu 3.1 y cant yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhaid i ni aros, Llywydd, mewn ffordd nad oes yn rhaid i adrannau Lloegr aros, i gael gwybod a yw'r arian hwnnw ar gael i ni yng Nghymru mewn gwirionedd. 

Prif Weinidog, mae codiadau treth gyngor enfawr ar y gorwel i lawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru, ac mae'n ddealladwy yn achosi llawer o bryder. Mae trigolion yng Nghasnewydd yn wynebu cynnydd syfrdanol o 8.5 y cant. Yn sir Fynwy, mae pobl leol yn disgwyl naid o 7.5 y cant, ac yng Nghaerffili, mae trigolion yn edrych ar gynnydd o 6.9 y cant. Fel y dywedais i wrth eich Gweinidog cyllid yr wythnos diwethaf, mae trigolion yn cael eu gorfodi i dalu mwy ar adeg pan fo cyllidebau cartrefi eisoes dan bwysau, gan hefyd weld gwasanaethau lleol yn gostwng. Ac mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad â chynghorau lleol yn ddiffuant, oherwydd nid nhw sydd wedi gwneud hyn o reidrwydd; yn anffodus, y Llywodraeth hon wnaeth hynny. Mae awdurdodau lleol, sy'n darparu gwasanaethau hanfodol, wedi eu gwthio i sefyllfa oherwydd diffyg cyllid gan eich Llywodraeth chi. Ac rwy'n gwybod beth fyddwch chi'n ei ddweud, Prif Weinidog—does dim digon o arian ac mae Llywodraeth Cymru yn brin iawn o arian. Ond, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, pe bai'ch Llywodraeth chi'n rhoi'r gorau i wastraffu symiau cywilyddus o arian, er enghraifft £120 miliwn ar wleidyddion yn y lle hwn, £4.25 miliwn ar ffermydd segur i ffrindiau—sydd bellach ar fin bod yr adardy drutaf yng Nghymru—a £33 miliwn ar derfynau cyflymder 20 mya, yna byddai mwy o arian i'w sbario i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'u gwarchod?

Wel, Llywydd, rwy'n gyfarwydd ag anllythrennedd economaidd gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac ni chaf byth fy siomi, na chaf? Rwyf wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau yr wyf wedi ceisio egluro i'r Aelodau Ceidwadol yma y gwahaniaeth rhwng gwariant cyfalaf a refeniw, ond mae'n ymddangos nad ydyn nhw byth yn deall hyd yn oed y ffaith fwyaf sylfaenol honno o gyllid y Llywodraeth. Fe ddywedaf hyn, Llywydd: nid yw'r Llywodraeth hon yn rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yng Nghymru osod y dreth gyngor ar yr uchafswm y gallan nhw, fel y clywsom ni fod y Llywodraeth yn Lloegr yn ei wneud i'w hawdurdodau lleol nhw erbyn hyn. [Torri ar draws.] O, ie, rydym yn clywed eu bod nhw yn eu cyfarwyddo erbyn hyn, bod yn rhaid iddyn nhw wneud y gorau o'r arian sy'n cael ei dynnu i lawr o'r dreth gyngor i wneud iawn am fethiant cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr. Yma yng Nghymru, rydym bob amser wedi blaenoriaethu. Gofynnwch chi i unrhyw arweinydd cyngor yng Nghymru ac unrhyw arweinydd cyngor yn Lloegr lle y byddai'n well ganddyn nhw fod mor bell ag y mae cyllid y cyngor yn y cwestiwn, a dim ond un ateb sydd yna: byddai'n llawer iawn gwell ganddyn nhw fod yma.

13:35
Clefyd Crohn a Cholitis

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd â chlefyd Crohn a cholitis yn cael diagnosis mor gyflym â phosibl? OQ60621

Llywydd, yng Nghymru, mae gennym lwybr safonol y cytunwyd arno yn genedlaethol ar gyfer ymchwilio i glefyd llid y coluddyn. Mae pob bwrdd iechyd yn ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gwasanaethau sy'n ymateb i bobl sy'n ymgyflwyno gyda symptomau'r clefyd.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddom, mae dros 26,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd Crohn a cholitis—cyflyrau cronig gydol oes y perfedd—gydag un o bob pedwar yn cael diagnosis cyn eu bod yn 30 oed. Nid oes iachâd, ond, gydag ymyrraeth gynnar a'r driniaeth gywir, gellir rheoli'r cyflyrau. Fodd bynnag, cyn y pandemig, gwnaeth mwy nag un o bob pedwar—felly, dyna 26 y cant—aros mwy na blwyddyn am ddiagnosis, gyda dau o bob pump yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Disgrifiodd un fenyw ifanc ei thaith fel tipyn o frwydr. Esboniodd hi faint o feddygon a'i trodd i ffwrdd oherwydd nad oedden nhw'n credu ei bod mewn poen, wrth iddi ddioddef crampiau stumog drwy gydol ei TGAU wnaeth barhau i waethygu. Ar ôl blwyddyn, cafodd ddiagnosis o glefyd Crohn o'r diwedd, a disgrifiodd ei thaith o gael diagnosis yn un rhwystredig ac roedd yn teimlo'n ddigymorth, gan ei bod yn ymddangos nad oedd y meddygon yn ei chymryd o ddifrif nes ei bod mewn poen arteithiol. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru archwilio beth arall y gellir ei wneud i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau hyn a hefyd i wella ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol? Diolch.

Llywydd, diolch i Sarah Murphy am hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt pwysig iawn yn rhan olaf ei chwestiwn atodol—bod llawer iawn y mae angen ei wneud i helpu pobl i ddeall natur eu symptomau, ac, wrth gwrs, i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n asesu'r symptomau hynny yn y pen draw, oherwydd mae hwn yn faes lle ceir ansicrwydd diagnostig gwirioneddol. Mae llawer o'r pethau sydd, yn y pen draw, yn glefyd Crohn neu golitis yn edrych fel pob math o gyflyrau eraill nad ydyn nhw'n hynny o gwbl. Bydd meddyg teulu bob amser, fel y byddai eu hyfforddiant proffesiynol yn eu harwain i wneud, yn edrych yn gyntaf ar yr esboniad amlycaf am yr hyn y maen nhw'n ei weld o'u blaenau, ac nid yw hynny'n debygol o fod yn ddiagnosis o glefyd Crohn neu golitis. Felly, mae rheoli ansicrwydd diagnostig yn nodwedd anochel o'r cyflwr hwn. Ond mae mwy y gellir ei wneud i ddwyn perswâd, yn enwedig ar bobl ifanc—ac, fel y dywedodd Sarah Murphy, Llywydd, mae'r rhain yn gyflyrau sy'n dod i'r amlwg yn eithaf cynnar ym mywydau pobl—a bod pobl yn adnabod y symptomau hynny am yr hyn y gallen nhw fod. Ac yna, drwy waith ein harweinydd clinigol cenedlaethol, Dr Barney Hawthorne—sydd wedi ymddeol yn ddiweddar a bydd rhywun newydd yn ei le yn fuan—mae gennym bellach fynediad cyson, mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, i'r prawf allweddol sy'n rhoi'r ddealltwriaeth orau i feddygon teulu o ran a yw hyn yn rhyw gyflwr arall y maen nhw'n ei weld ai peidio neu a yw'n rhywun sy'n dioddef o glefyd Crohn a cholitis. Rydym wedi rhoi llawer o ymdrech yn ystod y blynyddoedd diwethaf i mewn i gyngor sy'n helpu cleifion eu hunain i ddeall y cyflwr ac i reoli'r cyflwr. Ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Crohn's and Colitis UK, yn eu hymgyrch diagnosis cynharach, a'r gwaith addysgol arall y maen nhw'n ei wneud, rydym yn gwybod o safon wirioneddol ardderchog. A'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth, mwy o fanteisio ar y cymorth sydd ar gael, yw gweithio'n agos gyda'r partneriaid trydydd sector hynny.

Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig iawn a ofynnwyd gan Sarah Murphy heddiw, oherwydd, i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis neu gymorth, mae'n gyfnod anodd iawn o'u bywydau, ac yn wanychol. A allwch chi amlinellu, Prif Weinidog, sut rydych chi'n cefnogi yn benodol, neu mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi yn benodol, y rhai sy'n aros i gael diagnosis, neu'r rhai sy'n aros am gymorth neu driniaeth bellach, oherwydd yn aml gall yr arosiadau hynny fod yn hir, fel y nodwyd eisoes, ac mae'n ymwneud â chefnogi pobl wrth iddyn nhw aros o ran cael diagnosis neu gael triniaeth bellach?

Diolch i Russell George am hynny. Rwy'n credu bod tri pheth y gellid eu dweud wrth ateb y pwynt y mae'n ei wneud. Yn gyntaf oll yw'r ffaith bod gennym lwybr safonol sydd wedi'i gytuno'n genedlaethol. Mae hynny'n bwysig iawn oherwydd mae'n golygu bod pobl, ble bynnag maen nhw'n ymgyflwyno yn y system, yn debygol o gael yr un lefel o ofal. Yn ail yw'r ffaith ein bod wedi sicrhau bod mynediad cyson ym maes gofal sylfaenol i'r prawf allweddol sydd ei angen ar feddygon teulu. Ac yna'n drydydd, mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn gwasanaethau endosgopi, oherwydd peth o'r oedi o ran diagnosis a'r rheswm pam mae pobl yn aros yw oherwydd ei fod yn dibynnu ar endosgopi, ac rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i gyflymu argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau diagnostig yng Nghymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Ddeuddeg mis yn ôl, Prif Weinidog, fe wnaeth rhaglen gan y BBC amlygu'r materion yn rygbi Cymru, ac rwy'n credu bod llawer o bobl wedi cael eu synnu a'u syfrdanu gan y dystiolaeth oedd yn y rhaglen honno. Diolch byth, 12 mis yn ddiweddarach, rydyn ni mewn lle llawer gwell. Ac rydyn ni wedi gweld adroddiad yn glanio yn ein mewnflychau, fel Aelodau, sydd wedi dangos y pwyntiau gweithredu y mae Undeb Rygbi Cymru wedi'u cymryd, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw barhau i'w cymryd yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, i gyrraedd man lle bydd pawb yn teimlo'n gynhwysol ac yn mwynhau'r gamp genedlaethol. Beth yw eich barn chi fel Llywodraeth, ac, yn benodol, eich barn chi fel Prif Weinidog, ar y camau y mae Undeb Rygbi Cymru wedi'u cymryd? A sut ydych chi'n eu dwyn nhw i gyfrif fel Llywodraeth, gyda buddsoddiad sylweddol yn y frawdoliaeth rygbi yma yng Nghymru, ar yr addewidion y maen nhw wedi'u gwneud?

Wel, diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiwn hwnnw, Llywydd. Mae e'n hollol gywir—roedd yr adroddiad gwreiddiol hwnnw yn adroddiad a ddatgelodd ddiwylliant o fewn Undeb Rygbi Cymru y mae ef ei hun wedi mynegi ei gywilydd ohono, ac roedd yn adroddiad ysgytwol. Rwy'n credu bod Undeb Rygbi Cymru wedi symud llawer iawn yn ystod y 12 mis diwethaf. Rwy'n credu bod penodi cadeirydd newydd, penodi prif weithredwr newydd, yr ymrwymiad uniongyrchol iawn a wnaed ar ran URC i weithredu argymhellion yr adroddiad annibynnol yr oedden nhw wedi'i gomisiynu, rwy'n credu, yn arwydd da iawn, ond mae llawer o ffordd i fynd. Os oeddech chi eisiau fy asesiad i, rwy'n credu bod dechrau da iawn wedi'i wneud, ond mae yna lawer o waith y bydd angen ei wneud o hyd i sicrhau bod y materion diwylliannol trylwyr hynny, yr ydym yn gwybod eu bod wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn sefydliadau—rydyn ni wedi'i weld mewn sefydliadau eraill yn ddiweddar, onid ydym, yn y gwasanaeth tân ac achub, er enghraifft, yn ne Cymru—. Mae'r diwylliannau hynny'n cydio ac maen nhw'n anodd eu newid. Rwy'n credu bod URC wedi gwneud dechrau da.

Ac o fy safbwynt i, yr hyn yr wyf i am ei wneud, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud, yw cefnogi'r unigolion hynny o fewn y sefydliad sydd am arwain o ran sicrhau newid. Felly, er y byddwn ni, yn amlwg, mewn deialog gyson ag URC—mae swm mawr o arian sydd wedi ei fenthyg i'r undeb ac mae cyswllt rheolaidd yn weinidogol, a rhwng swyddogion ac URC ei hun—wrth i ni weld cynnydd yn cael ei wneud, rwyf am i'r berthynas honno fod yn un gefnogol, ond byddwn yn parhau i asesu'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

Prif Weinidog, rydyn ni ar drothwy pencampwriaeth newydd y Chwe Gwlad, ac rydyn ni mewn gwell sefyllfa nag yr oedd rygbi Cymru ynddi yr adeg hon y llynedd, ac mae'r tîm newydd ar frig URC yn haeddu'r gefnogaeth a'r cyfle hwnnw. Ac un peth a ddigwyddodd yn eithaf clir pan darodd y newyddion yma y penawdau oedd cyfalaf nawdd yn gadael URC a heriau eraill. Amlygodd Llywodraeth Cymru, fel y dywedoch chi, yr ymrwymiad ariannol y mae wedi'i wneud i'r gêm yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, gerbron y pwyllgor diwylliant yma yn y Senedd, tynnodd cadeirydd URC sylw at y baich y mae'r benthyciad hwnnw'n ei roi ar gyllid yr undeb. Telir £2 filiwn y flwyddyn mewn gwasanaethu ac ad-daliadau cyfalaf, ac mae gan undebau eraill ledled y Deyrnas Unedig gyfradd llog llawer is, fel yr wyf yn ei ddeall, ar fenthyciadau sydd wedi cael eu rhoi iddynt. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymateb i'r cais gan URC i weithio gyda nhw i geisio ailstrwythuro'r benthyciad hwnnw, fel nad yw'r baich hwnnw yn cael ei roi ar y gêm llawr gwlad yng Nghymru, pe bai'n rhaid i URC wneud toriadau yn yr hyn yr ydym ni i gyd eisiau ei weld, sef lefel cyfranogiad gynyddol yng Nghymru a lefel broffesiynol fywiog sy'n tyfu, a'r rhanbarthau yn gallu cystadlu ar bob lefel? A mater i'r Llywodraeth a'r undeb fydd gweithio i geisio gwneud hynny drwy'r mecanweithiau sydd wedi'u rhoi ar waith yn flaenorol. Felly, a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag URC ac y bydd yn gallu helpu i ailstrwythuro'r benthyciad hwn fel y gall yr arian hwnnw aros o fewn y gêm a'i helpu i ffynnu yma yng Nghymru?

13:45

Gadewch imi ymateb i ddechrau, Llywydd, i bwynt a wnaeth arweinydd yr wrthblaid wrth gyflwyno ei ail gwestiwn, pwysigrwydd rhoi cyfle i sefydliad ailadeiladu. Rwy'n cytuno ag ef yn y fan yna. Bydd sefydliadau sy'n dod o dan y chwyddwydr, yn y ffordd y gwnaeth Undeb Rygbi Cymru, wedi dioddef niwed o ganlyniad. Ac er ein bod yn gweld cynnydd yn cael ei wneud, mae'n bwysig rhoi cyfle iddyn nhw ddangos y gellir cynnal a pharhau â'r cynnydd hwnnw. 

O ran y benthyciad, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir am rywfaint o hanes hyn i gyd. Dechreuodd y benthyciad hwn yn ystod cyfnod COVID, pan gymerodd URC un o fenthyciadau ymyrraeth busnes mawr coronafeirws Llywodraeth y DU. Doedden nhw ddim yn gallu cynnal yr ad-daliadau o dan y benthyciad hwnnw a daethon nhw at Lywodraeth Cymru. Gwnaethom ni gamu i'r adwy fel benthyciwr dewis olaf, ond fe wnaethom ni etifeddu'r telerau y gwnaed y benthyciad gwreiddiol hwnnw arnynt. A phan fyddwch chi'n delio ag arian cyhoeddus, hyd yn oed pan fyddwch chi'n delio â sefydliadau sydd mor bwysig ym mywyd Cymru ag y mae rygbi Cymru, mae dyletswydd arnoch o hyd i sicrhau bod y rheini'n cael eu gwneud ar delerau masnachol priodol. A dyna sail y benthyciad, benthyciad y mae URC wedi ymrwymo iddo. Roedden nhw'n rhydd i weithredu fel y mynnent wrth dderbyn y benthyciad hwnnw. Ac er ein bod bob amser yn barod ac wedi bod yn barod i siarad â'r undeb ynghylch a ellir ailstrwythuro'r benthyciad, a oes ffyrdd eraill y gallwn ni helpu, yn y pen draw, roedd hwn yn fenthyciad a benderfynwyd yn fasnachol, gydag amodau a etifeddwyd o gymorth coronafeirws y DU, ac yr ymrwymwyd iddo gan URC ei hun o'i wirfodd.

Rwy'n derbyn hynny, ac ni fyddai'r URC yn cilio ohono, ond mae'r pwysau hwn erbyn hyn sy'n cronni a fydd yn amlwg yn gorfod cael—. Rwy'n credu mai'r geiriau a ddefnyddiwyd gan y cadeirydd, gerbron y pwyllgor, oedd 'cynllun B', sydd eto i'w benderfynu. Ond yn ddieithriad byddwn yn gweld tynnu yn ôl o nodweddion o'r gêm yr ydym eisiau eu gweld yn tyfu yma, fel ehangu rygbi llawr gwlad ac fel galluogi ein timau proffesiynol, ein rhanbarthau, i fod yn gystadleuol.

Arweiniodd y trosglwyddiad hwnnw i lyfr benthyciadau Llywodraeth Cymru, fel yr wyf yn ei ddeall, at godi cyfradd llog uwch ar y benthyciad yn hytrach nag aros gyda'r benthyciad COVID y cytunwyd arno yn ystod argyfwng COVID. Rwy'n deall yr ymrwymwyd i hynny o'i wirfodd ar y pryd ac roedd anawsterau wedyn wrth wasanaethu'r benthyciad, ond mae gennym dîm newydd sydd bellach wrth y llyw yn URC, yn dod allan o gyfnod anodd. Ni fyddai unrhyw beth yn rhoi mwy o hyder i'r gêm yma yng Nghymru na pharodrwydd gan Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n amlwg a chefnogi ailstrwythuro—nid dileu, oherwydd rwy'n deall nad yw hynny'n opsiwn sydd ar gael o dan unrhyw ddeddfwriaeth oherwydd y rheolau cystadleuol sy'n bodoli. Ond byddai'r gallu i ymgysylltu ac ailstrwythuro o fudd i bob agwedd ar y gêm yma yng Nghymru.

Felly, a ydych chi'n gallu cadarnhau, Prif Weinidog, fod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ac yn ystyried gyda chydymdeimlad y cais penodol hwn gan URC a wnaed trwy'r dystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant? Ac a wnewch chi gadarnhau heddiw a fydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros ein cynnig yfory a fydd yn cadw rygbi'r Chwe Gwlad ar deledu rhad ac am ddim? Oherwydd bydd mwy o allu i'r cyhoedd weld y gêm yn ei holl ogoniant yn y pinacl hwnnw o'r gêm yn hemisffer y gogledd heb os yn dod â chenhedlaeth yfory ymlaen i lenwi caeau rygbi a chlybiau rygbi'r wlad wych hon sydd gennym.

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'i ddweud am bwysigrwydd buddsoddi yn y gêm ar lawr gwlad, mewn rygbi menywod, mewn rygbi anabl ac yn y rhanbarthau hefyd. Rwy'n hapus i ddweud, wrth gwrs, ein bod bob amser yn barod i ymgysylltu ag URC i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud. Dydw i ddim yn credu y byddai'r telerau y mae'r arian yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru arnynt ar gael i Undeb Rygbi Cymru yn y farchnad fasnachol, felly mae ganddynt fantais eisoes yn y ffordd honno, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn fodlon siarad â nhw a gweld a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud.

Wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddangos rygbi yn rhad ac am ddim yma yng Nghymru. Dyna yr oeddem ni'n dadlau drosto yn y dystiolaeth y gwnaethom ei rhoi i ymchwiliad diweddar Tŷ'r Cyffredin i'r mater hwnnw. Byddai'n eironi, oni fyddai, Llywydd, y byddai pobl yng Nghymru yn gallu gwylio Wimbledon a'r Derby ar eu setiau teledu, yn rhad ac am ddim, ond na allen nhw weld Cymru'n chwarae rygbi. Go brin y byddai hynny'n cyd-fynd â'r hyn y gwyddom ni yw dewisiadau chwaraeon pobl sy'n byw yng Nghymru. 

13:50

Diolch, Llywydd. Dwi eisiau tynnu sylw'r Prif Weinidog at adroddiadau bod canolfannau'r ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn wynebu cael eu cau. Dwi'n credu'r bobl glinigol hynny sy'n ofni y bydd hynny'n rhoi'r canolbarth a'r gogledd-orllewin dan anfantais ac yn wir yn peryglu bywydau. Dwi wedi cydgyflwyno datganiad barn ar y mater yn gynharach heddiw.

Mae'r adolygiad o ddarpariaeth ambiwlans awyr yn cael ei gynnal gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, sy'n bwyllgor ar y cyd rhwng y saith bwrdd iechyd. Felly, mae'r gallu gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ac i ymyrryd. Ydy'r Prif Weinidog yn barod i gydnabod y pryderon gwirioneddol a chymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu'r ddau safle fel bod ambiwlans awyr Cymru yn gwasanaethu pob rhan o'r wlad yma'n gyfartal?

Wrth gwrs dwi'n cydnabod y ffaith fod pobl leol yn pryderu am ddyfodol y gwasanaeth, ond mae hwn yn digwydd ble bynnag mae pethau'n cael eu haildrefnu. A dyna beth sydd wedi digwydd yn y fan hon. Mae'r bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth wedi bod mas yn siarad gyda phobl leol ac yn siarad gyda phobl ledled Cymru, achos yr hyn maen nhw'n ei awgrymu yw gwasanaeth lle bydd neb yn colli mas ar y gwasanaeth sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ond ble mae cyfle i lot fwy o bobl eraill gael gwasanaeth sydd ddim ar gael iddynt heddiw. Dyna oedd yr egwyddor oedd yn tanlinellu'r hyn yr oedd y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yn ei wneud, ac roedden nhw'n glir am hynny o'r dechrau. 

Yr egwyddorion a nodwyd ganddyn nhw yn y dechrau, Llywydd, oedd na ddylai'r gwasanaeth fod yn waeth i unrhyw un a rhaid i'r gwasanaeth fod o fantais i bobl newydd. Gallai dau neu dri o bobl bob diwrnod nad ydyn nhw'n derbyn y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd dderbyn y gwasanaeth o dan y trefniadau newydd—500 yn fwy o hediadau i bobl sydd eu hangen y flwyddyn. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni droi ein cefnau arno'n hawdd. 

Dwi'n gwbl grediniol y byddai rhoi tîm ychwanegol ar y ddaear yn y gogledd-ddwyrain yn darparu'r gofal ychwanegol hwnnw a bod tynnu'r hofrenyddion o'r ddwy ganolfan yma yn mynd i olygu gwasanaeth salach. Y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys sydd yn darparu'r gofal ar yr ambiwlans awyr, ond nid colli'r gwasanaeth ambiwlans awyr ydy'r unig bryder am wasanaethau EMRTS yn y gogledd ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cadarnhad gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr bod gwasanaeth brys EMRTS i drosglwyddo cleifion o Ysbyty Gwynedd i leoliadau eraill os ydyn nhw angen triniaeth gritigol eisoes wedi cael ei gwtogi i oriau'r dydd yn unig. Mae hynny'n achosi pryder gwirioneddol. 

Y gwasanaeth trosglwyddo cleifion brys yw'r hyn sy'n trosglwyddo cleifion o Ysbyty Gwynedd i Lerpwl neu Stoke, dyweder, efallai ar ôl trawma difrifol mewn damwain neu os oes angen gofal arbenigol arall arnyn nhw. Bellach mae wedi cael ei dynnu'n ôl yn ystod y nos. Ond nid yw argyfyngau meddygol yn gwahaniaethu yn seiliedig ar yr adeg o'r dydd. Hanfod gofal brys yw ei fod ar gael i chi pan fydd ei angen arnoch, lle mae ei angen arnoch. 

Dywed y bwrdd iechyd fod mesurau lliniaru tymor byr yn cael eu rhoi ar waith tra bod cynllun mwy parhaol yn cael ei lunio, ond y pryder yw—pryder amlwg—na fydd hyn yn cynnwys gwasanaeth 24 awr. Yn syml, mae angen hwn arnom 24 awr y dydd ac mae clinigwyr yn poeni'n daer. A yw'r Prif Weinidog yn barod i ymgysylltu ar y mater hwn fel y gallwn ni geisio adfer y gwasanaeth hwn 24 awr y dydd ar frys?

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn bodoli 24 awr y dydd, a rhan o'r rheswm pam y cynigir diwygio yw y gall fod ar gael yn fwy ledled Cymru. Mae'n anodd i mi ddeall yn llawn y pwyntiau y mae arweinydd Plaid Cymru yn eu gwneud. Mae ef eisiau beirniadu symudiadau i sicrhau bod gwasanaeth ar gael yn ehangach, ac yna mae'n bryderus pan nad oes gwasanaeth ar gael yn ddigonol. Tybed a yw'n credu bod unrhyw wrthddywediad yn y ddau safbwynt hynny y mae wedi'u datblygu hyd yn hyn y prynhawn yma. Mater i'r bwrdd iechyd ei hun fydd sefydlu ac egluro'r manylion ar lawr gwlad, ac, wrth gwrs, byddan nhw'n gwneud hynny mewn deialog â Llywodraeth Cymru a gyda'r Gweinidog yn ei goruchwyliaeth reolaidd iawn o'r ffordd y mae'r bwrdd yn gweithredu.

13:55

Wrth gwrs, rydyn ni'n sôn am un gwasanaeth, yr ambiwlans awyr, a allai gael ei newid yn y dyfodol. Mae hyn eisoes wedi'i gyflwyno o ran trosglwyddo cleifion brys yn Ysbyty Gwynedd. Felly, nid yw'n cael ei ddileu oherwydd bod rhywbeth arall yn dod yn ei le. Mae hyn yn golygu colli gwasanaeth. 

Un elfen sy'n rhwystredig i glinigwyr yw eu dealltwriaeth y gallai'r gwasanaeth trosglwyddo fod yn cael ei wella mewn rhannau eraill o Gymru. Dydw i, yn sicr, fel y gŵyr y Prif Weinidog, ddim yn mynd i roi un rhan o Gymru yn erbyn y llall, ond rwy'n credu'n gryf bod yn rhaid i'r Llywodraeth ddangos yn glir, bob amser, ei bod yn trin pob rhan o Gymru yn gyfartal.

Mae arnaf i ofn na fydd y bygythiad i'r canolfannau ambiwlansys aer, ynghyd â dileu trosglwyddiadau brys eisoes, ond yn atgyfnerthu ymdeimlad o annhegwch a deimlir gan gleifion yn y canolbarth neu'r gogledd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried y neges honno hefyd, wrth benderfynu sut i ymyrryd ar yr ambiwlans awyr a'r gwasanaeth trosglwyddo brys?

Wrth gwrs rwy'n cydnabod, pan fydd newid yn digwydd, bod yn rhaid i chi fod yn siŵr eich bod yn ceisio mynd â'ch poblogaeth leol gyda chi ar y daith honno. Mae'r gwasanaeth iechyd wedi newid o'r diwrnod cyntaf y cafodd ei sefydlu yn 1948, a bydd yn parhau i newid. Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn teimlo'n angerddol am y gwasanaeth y maen nhw'n ei weld ac y maen nhw'n ei adnabod, a bod newid y pethau hynny ar lawr gwlad bob amser yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei wneud trwy broses o rannu gwybodaeth, ateb cwestiynau pobl, gan obeithio gallu mynd i'r afael â'r pryderon a godir. Dyna fyddem ni'n disgwyl i'n holl fyrddau iechyd ei wneud, ac rwy'n siŵr mewn unrhyw drafodaethau y bydd y Gweinidog yn eu cael—. Ac mae'n newyddion da iawn bod y Gweinidog wedi gallu cadarnhau bod cadeirydd newydd y bwrdd iechyd bellach mewn swydd barhaol, ac rwy'n credu ei fod eisoes wedi dangos, gyda'r prif weithredwr newydd, benderfyniad gwirioneddol iawn bob amser i wrando, bob amser i fod ar gael i bobl ar lawr gwlad lle mae'r pryderon hynny. Byddwn i yn sicr yn disgwyl i hynny barhau.

Digartrefedd

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion sy'n wynebu digartrefedd yng Nghanol De Cymru? OQ60591

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â digartrefedd i ben. Eleni yn unig, mae mwy na £210 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n atal a chefnogi digartrefedd. Mae'r cyllid yma wedi cael ei ddiogelu dros 2024-25, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol heriol. Mae hyn yn cynnwys dros £45 miliwn i awdurdodau yng Nghanol De Cymru.

Diolch, Brif Weinidog. Dros y mis diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg bod hen adeilad Toys 'R' Us ym Mae Caerdydd yn cael ei ddefnyddio fel llety dros dro i unigolion sy'n aros am dai. Wrth gwrs bod angen darparu lloches ar unwaith i unrhyw un sy'n ddigartref, ond mae'r amodau y mae pobl agored i niwed yn cael eu cartrefu ynddynt yn fy mhoeni'n fawr, ac mae hefyd yn pryderu nifer o staff sy'n cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth.

O ystyried y pryderon hyn ynghylch iechyd a diogelwch defnyddwyr y gwasanaethau a'r staff eu hunain mewn cyfleusterau o'r fath, hoffwn ofyn a ydych chi'n credu bod cartrefu unigolion agored i niwed yn y math hwn o adeilad yn ateb addas a chynaliadwy i fynd i’r afael â'r argyfwng digartrefedd yma yn ein prifddinas a hefyd yng Nghymru. Pa fesurau rhagweithiol y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau lles a diogelwch y rhai sy'n cael eu cartrefu mewn llety dros dro?

Fel y mae Cyngor Caerdydd ei hun wedi dweud, roedd ei benderfyniad i ddefnyddio Toys 'R' Us yn benderfyniad a wnaed o dan y pwysau enfawr y mae'r ddinas yn ei wynebu. Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Caerdydd yn dod yn fagned i bobl sy'n dod i'r ddinas, sy'n canfod nad oes ganddyn nhw unman i fyw, ac sy'n troi at yr awdurdod lleol i'w cynorthwyo. Ar yr un pryd, mae Caerdydd, uwchlaw unrhyw ran arall o Gymru, yn delio â chanlyniadau penderfyniad y Swyddfa Gartref i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau yn y system loches—peth da ynddo'i hun, ond gyda llawer iawn o bobl yn cael eu taflu allan o'r llety yr oedden nhw'n gallu ei fwynhau yn flaenorol, heb unman i fynd, ond i wasanaethau digartrefedd yr awdurdod lleol. Daeth y ddau beth hynny at ei gilydd cyn y Nadolig mewn ffordd a oedd yn eithriadol o anodd i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ffordd o ymateb. Mae wedi defnyddio safle Toys 'R' Us. Mae'n dweud y bydd wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle hwnnw ym mis Ebrill eleni oherwydd bod ganddo lety arall mwy addas yn dod yn barod. Yn y cyfamser, mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wneud pobl yn yr amgylchiadau dros dro ac anfoddhaol hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod.

O ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref y llynedd gwelwyd y nifer uchaf o ymgyflwyniadau o bobl sy'n ddigartref nag yn unrhyw un o'r tair blynedd flaenorol. Ond gwelwyd hefyd y nifer uchaf o bobl yn symud ymlaen o lety dros dro i lety parhaol yma yng Nghymru. Felly, er bod y galw yn cynyddu drwy'r amser, mae ymdrechion Llywodraeth Cymru, gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol sydd, yn fy marn i, wedi gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, yn golygu bod mwy o bobl nag o'r blaen yn dal i gael eu symud ymlaen i lety gwell a hirdymor. Byddwn yn parhau i wneud hynny gyda'r buddsoddiad y mae ein cyllideb ddrafft yn ei nodi, ond ni ddylai neb fod o dan unrhyw amheuaeth bod hon yn system dan bwysau aruthrol, ac fe syrthiodd y pwysau hynny ar Gaerdydd yn arbennig yn yr wythnosau hynny yn arwain at y Nadolig.

14:00

Prif Weinidog, fel y gwyddoch efallai, mae'r rhwydwaith digartrefedd a gwybodaeth cyfun, CHAIN, a gomisiynwyd ac a ariennir gan Awdurdod Llundain Fwyaf, yn gronfa ddata o wybodaeth sy'n cofnodi pobl a welir yn cysgu allan gan dimau allgymorth yn Llundain. Mae'r gwasanaethau sy'n cofnodi gwybodaeth ar CHAIN yn cynnwys timau allgymorth, prosiectau llety, canolfannau dydd a phrosiectau arbenigol, fel y prosiect No Second Night Out a gomisiynwyd. Manteision gwirioneddol y rhwydwaith yw ei fod yn cael ei ddiweddaru bob dydd ac mae'n darparu dealltwriaeth llawer mwy manwl o gysgu allan mewn ardal benodol, o'i gymharu â'r cyfrif cenedlaethol. Mae hefyd yn casglu llawer mwy o fanylion am sefyllfa unigolyn, fel pa mor hir y mae wedi bod yn cysgu allan, ac mae'n helpu asiantaethau fel Byddin yr Iachawdwriaeth, sy'n gwneud gwaith mor anhygoel o helpu pobl ddigartref, gydag unrhyw anghenion cymorth sydd ganddyn nhw. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried cyflwyno cronfa ddata amlasiantaeth gynhwysfawr, yn debyg i system CHAIN sy'n gweithredu yn Llundain, yng Nghymru er mwyn gwella'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i bobl sy'n profi digartrefedd ar y stryd? Diolch.

Llywydd, rwy'n ymwybodol o system CHAIN, a heb os mae llawer o rinweddau iddi mewn dinas maint a graddfa Llundain, ond nid wyf yn credu bod yr anhawster a wynebir mewn gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru yn un o ddiffyg gwybodaeth. Mae gennym adroddiadau misol gan ein holl awdurdodau lleol am nifer y bobl sy'n ddigartref ar y stryd; maen nhw mewn cysylltiad uniongyrchol â phob un ohonyn nhw yn rheolaidd iawn. Yr hyn nad oes gan ein system yw'r cyllid angenrheidiol i allu ymateb i bobl sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa honno. Nid diffyg gwybodaeth mohono, Llywydd, yr her yw ymateb i broblem sydd wedi bod yn tyfu bob blwyddyn ers pandemig COVID. 

Yr Economi Gydweithredol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu'r economi gydweithredol? OQ60628

Llywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am hynny. Mae mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol dan arweiniad y gymuned yn rhan bwysig o'r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Mae cymorth pwrpasol i helpu i dyfu'r sector ar gael drwy Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gadeirio trafodaeth bord gron ar adroddiad newydd ar bwrpas busnes cydfuddiannol a chydweithredol mewn cymdeithas. Tynnodd yr adroddiad sylw, er enghraifft, at y ffaith bod gan economi gydfuddiannol a chydweithredol y DU yn 2022 refeniw blynyddol cyfunol o ychydig o dan £88 biliwn, neu 3.5 y cant o gynnyrch domestig gros. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru eisoes ar ei ffordd i gyrraedd ei nod o ddyblu nifer y busnesau cydweithredol yng Nghymru y tymor hwn. Mae un argymhelliad yn yr adroddiad yn galw ar dimau polisi ar draws y Llywodraeth i ystyried y manteision y mae mentrau cydweithredol a chydfuddiannol yn eu cynnig i'r economi. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori hyn o fewn ei strategaeth economaidd?

Diolch i Vikki Howells am dynnu sylw at yr adroddiad. Mae'n adroddiad ardderchog, os nad yw cyd-Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen. Yr hyn sy'n dod â'r adroddiad yn fyw yn fy marn i yw'r astudiaethau achos sydd wedi'u cynnwys drwyddo, sy'n dangos y ffordd y mae ffyrdd cydweithredol a chydfuddiannol o ddarparu gwasanaethau i'w canfod nid yn uniongyrchol ym maes yr economi yn unig, fel y dywed Vikki Howells, ond gallan nhw wneud llawer i gynorthwyo ar draws y cyfrifoldebau sy'n cael eu harfer yn y Senedd hon.

Yr astudiaeth achos sydd o Gymru yn yr adroddiad yw un Cymdeithas Adeiladu Principality, sydd wrth gwrs ei hun yn sefydliad cydfuddiannol, a'i bartneriaeth â Grŵp Pobl, gyda'r bwriad o sicrhau bod gan dai yng Nghymru well siawns o allu bodloni'r rhwymedigaethau newid hinsawdd y gwyddom sydd yno i ni heddiw ac yn y dyfodol. Ond nid dyna'r unig enghraifft, o bell ffordd, yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar draws yr ystod o bethau sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, mewn gofal cymdeithasol bydd llawer o gyd-Aelodau yma yn gwybod am Solva Care, sydd wedi ennill llawer o wobrau. Mae cwmni cydweithredol Friends United Together yn Abertawe, menter gydweithredol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Yn y maes addysg, rydym wedi cael cydweithfa athrawon cyflenwi yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fydd angen iddyn nhw ddefnyddio pobl oddi ar y rhestrau cyflenwi. Mae cwmni cydweithredol llaeth organig Calon Wen yn Arberth yn enghraifft arall o gwmni cydweithredol. Mae gennym gwmnïau cydweithredol yn y diwydiant bwyd, yn y celfyddydau, mewn busnes. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn gwneud y pwynt yn bwerus, ond rwy'n credu hefyd y gallwn ni ddangos yma yng Nghymru ein bod yn defnyddio'r model cydweithredol hwnnw, wrth gwrs, yn adran yr economi, ond gan sicrhau bod ei fanteision yn hysbys ac yn cael eu gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru.

14:05

Prif Weinidog, rydym wedi gweld nifer o sefydliadau poblogaidd yn sir Benfro, fel tafarndai a siopau, yn cael eu trosglwyddo o fusnesau preifat i fodelau cydweithredol o weithredu dros y blynyddoedd diwethaf. Dau o'r rhai mwyaf diweddar yw tafarndai fel y Crymych Arms yng Nghrymych a Thafarn y Cross yng Nghas-lai, a gafodd gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU hefyd. Rwy'n gwybod, hefyd, fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i'r asedau hyn gael eu cymryd drosodd fel hyn er budd y gymuned. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi mai'r hyn sy'n hanfodol yw sicrhau y gall cynifer o wirfoddolwyr â phosibl ddod ymlaen i gefnogi cwmnïau cydweithredol o'r fath a'u gwneud yn hynod lwyddiannus. O ystyried pwysigrwydd gwirfoddolwyr, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i hyrwyddo pwysigrwydd yr asedau cymunedol hyn fel bod cynifer o wirfoddolwyr â phosibl yn dod ymlaen i gefnogi mentrau o'r fath? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau cymunedol sydd wedi helpu i hwyluso mentrau o'r fath i ddod yn fentrau cydweithredol yn y lle cyntaf?

Llywydd, diolch i Paul Davies am y ddau bwynt hynny. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oeddwn gyda'i gyd-Aelod Darren Millar mewn siop gymunedol yn ei etholaeth, a dywedodd y person y gwnaethom gyfarfod ag ef, sef y person sy'n gyfrifol amdani, wrthyf yn uniongyrchol iawn, 'nid fi yw'r person pwysig yma, ond y gwirfoddolwyr sy'n caniatáu i'r siop hon barhau i gynnig y gwasanaeth y mae'n ei wneud i'r gymuned leol hon.' Felly, rwy'n deall yn llwyr y pwynt y mae Paul Davies yn ei wneud, Llywydd, ac, wrth gwrs, yma yng Nghymru, rydyn ni'n ddigon ffodus i fod â seilwaith cadarn ar gyfer gwirfoddoli. Mae gennym Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy'n cymryd y safbwynt Cymru gyfan hwnnw ar gefnogi gwirfoddolwyr, ond mae gennym gynghorau gwirfoddol sirol sy'n addasu'r polisïau hynny a'r posibiliadau grant hynny i anghenion cymunedau lleol. Maen nhw'n gwneud hynny nid yn unig wrth gefnogi gwirfoddoli ac annog pobl i ddod ymlaen i wneud hynny, ond maen nhw hefyd yn cefnogi sefydliadau cymunedol eu hunain. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud, Llywydd, ac rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa arbennig o dda yng Nghymru, nid yn unig oherwydd ein bod yn genedl o wirfoddolwyr—mae canran uwch o bobl yn gwirfoddoli yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—ond mae gennym hefyd y seilwaith ar waith i'w cefnogi i wneud hynny.

Wrth gwrs, nid yw'r syniad o fentrau cydweithredol yn rhywbeth sy'n gysyniad dieithr i Gymru. Dechreuodd y syniad yng Nghymru, felly mae'n bwysig ein bod yn arwain y ffordd i'r dyfodol. Nawr, yn ôl ym mis Hydref fe godais gyda'r Prif Weinidog botensial heb ei ddefnyddio y sector yma yng Nghymru, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae'n cyfrif am 0.6 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru. Os ydym am weld cynnydd yn y ffigur hwnnw, wrth gwrs, mae cynyddu nifer y cwmnïau cydweithredol sy'n gweithredu yn bwysig, ond hefyd, edrych ar feintiau'r cwmnïau cydweithredol hynny ac edrych ar gyfleoedd mewn diwydiannau eraill lle gallem dyfu cwmnïau cydweithredol sylweddol yn yr un modd ag y maen nhw wedi'i wneud yn Mondragón yng Ngwlad y Basg. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru nid yn unig yn edrych ar gynyddu nifer y cwmnïau cydweithredol, ond hefyd yn edrych ar gynyddu maint y cwmnïau cydweithredol hynny hefyd, fel eu bod yn cyflawni'r lefelau twf yr ydym am eu gweld, ond hefyd, y swyddi o ansawdd da y gwyddom y gallant?

14:10

Roedd cwmnïau cydweithredol Robert Owen ar raddfa sylweddol, on'd oedden nhw? Roedd New Lanark yn dref gyfan a neilltuwyd i'r ffordd gydweithredol o wneud pethau. Gofynnwyd cwestiwn i mi, fel y dywedodd yr Aelod, yn gynharach yn y flwyddyn ynghylch busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn dod yn gwmnïau cydweithredol yng Nghymru ac roeddwn yn gallu dweud wrtho bryd hynny ein bod yn gwneud cynnydd da iawn tuag at ein targed arno, ac, mewn gwirionedd, mae'r cyflymder hwnnw wedi cyflymu ers imi ateb y cwestiwn hwnnw: 70 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru bellach, tri arall yng ngham cyfreithiol y broses bontio a phum ymholiad newydd arall yn awr yn cael eu cymryd drwy'r broses y mae angen i chi fynd drwyddi i ddod yn gwmni cydweithredol sy'n eiddo i weithwyr.

Rwy'n cofio cael gwybod yn Mondragón, pan oeddwn i yno, nad oedden nhw wedi llwyddo i ddwyn perswâd ar bobl yn y ddau gwm y naill ochr iddyn nhw i fabwysiadu'r model, felly ddylen ni ddim dilorni ein hunain yn ormodol yng Nghymru os nad ydyn ni wedi gwneud cymaint ag y gwnaethon nhw lwyddo i'w wneud. Ond mae gwersi o rannau eraill o'r byd, a chan y cwmnïau cydweithredol mawr hynny, oherwydd erbyn hyn mae gennym rai busnesau ar raddfa wirioneddol fawr sy'n eiddo i weithwyr yma yng Nghymru, a'n nod bob amser yw cynorthwyo busnesau ar y daith honno, fel eu bod yn parhau i fod wedi'u gwreiddio yma yng Nghymru ac yn defnyddio eu gallu i dyfu i barhau i wneud y cyfraniad hwnnw i economi ehangach Cymru.

Hawliau o ran Datblygu a Ganiateir

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hawliau o ran datblygu a ganiateir yng Nghymru? OQ60592

Mae hawliau o ran datblygu a ganiateir yn galluogi datblygiad gydag effeithiau cynllunio cyfyngedig i fynd rhagddo heb fod angen cais cynllunio. Caiff y rhain eu hadolygu'n barhaus mewn ymgynghoriad ag awdurdodau cynllunio, busnesau a sefydliadau eraill sydd â budd yn y system gynllunio.

Diolch. Mewn ymateb i gwestiwn tebyg ar 9 Ionawr, dywedodd Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog twristiaeth, wrth y Senedd hon

'Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi economi ymwelwyr fywiog drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru'.

Nawr, mae'r ffeithiau yn creu darlun gwahanol. Erbyn hyn mae canfyddiad cynyddol bod y Llywodraeth hon, yng Nghymru, a gefnogir gan Blaid Cymru, ar agenda gwrth-dwristiaeth. Ac mae'n rhaid i chi sylweddoli bod hwn yn ddiwydiant gwerth £6.2 biliwn, felly gadewch i ni edrych ar yr hyn sydd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio hwn: rheol 182 diwrnod ar gyfer llety hunanarlwyo, cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, cynllun trwyddedu ar gyfer llety lletygarwch, treth twristiaeth, torri'r 75 y cant—[Torri ar draws.] Rwyf ymhell o fewn fy amser.

Ydych, rydych chi o fewn eich amser. [Torri ar draws.] Rydych chi o fewn eich amser, Janet Finch-Saunders; dydw i ddim yn siŵr a ydych chi o fewn eich pwnc ar hyn o bryd.

Mae hyn yn ymwneud â hawliau datblygu a ganiateir a'r pwyntiau rwy'n eu gwneud.

Iawn. Felly, ymhellach i'r ymgynghoriad ar ymestyn hawliau datblygu ar gyfer gwersylloedd dros dro, ac er mwyn helpu'r sector, a wnewch chi nawr gynyddu nifer y diwrnodau o 28 i 60 i'r busnesau hyn? Diolch.

Wel, Llywydd, fe wnes i ddeall, yn y pen draw, y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud. Mae gan y Gweinidog amrywiaeth o bynciau y bydd yn eu hystyried yn ystod y 12 mis nesaf mewn perthynas â hawliau o ran datblygu a ganiateir. Bydd hynny'n cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, gwefru trydan, y cynllun dychwelyd poteli—yr oedd yr Aelod yn gefnogwr mor frwd ohono—a pharciau carafanau, felly mae ar y rhestr i'r Gweinidog ei ystyried eleni. Pan fydd hi'n gwneud hynny, mae'n anochel y bydd hi'n pwyso a mesur y cydbwysedd hawliau yn y fan yma. Rwy'n deall y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud ac mae'r sector wedi eu gwneud o ran pe bai'n cael mwy o ddiwrnodau pan fyddai'n gallu agor meysydd carafanau heb ganiatâd cynllunio, byddai hynny o fantais i rai pobl yn y diwydiant. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod cwynion wedi bod yn y gorffennol bod y safleoedd carafanau dros dro hynny yn creu traffig sydd heb ei reoleiddio, bod mwg sy'n effeithio ar bobl sy'n byw gerllaw, bod sŵn gan bobl—sydd, wedi'r cyfan, yn dod ar wyliau i fwynhau eu hunain, ac maen nhw'n agos iawn weithiau at ble mae pobl yn byw eu bywydau. Felly, yr hyn y bydd y Gweinidog yn ei wneud fydd pwyso a mesur y gwahanol ystyriaethau hynny. Os yw'n bosibl ymestyn nifer y diwrnodau y gall parciau carafanau weithredu heb ganiatâd cynllunio, yna bydd yn rhaid bod mesurau diogelu ar gyfer pobl sy'n byw gerllaw hefyd.

Y Post Brenhinol

6. Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i gyhoeddiad Ofcom y gallai'r Post Brenhinol leihau sawl gwaith y dosberthir llythyrau i dri diwrnod yr wythnos? OQ60613

14:15

Nid gwasanaeth sydd wedi'i gyfyngu i ddim ond tri diwrnod yr wythnos yw'r ffordd orau o ddatrys yr heriau sy'n wynebu'r Post Brenhinol. Bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cwrdd ag Ofcom yr wythnos nesaf i'w gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw newidiadau i wasanaethau post ystyried anghenion Cymru ac unrhyw effeithiau ar bobl sy'n agored i niwed.

Diolch. Ers i'r Post Brenhinol gael ei breifateiddio, mae ei asedau wedi cael eu cymryd oddi arno. Nid oedd y llythyr un-pris cyffredinol erioed yn broffidiol ynddo'i hun, roedd yn rhan o becyn o wasanaethau. Ac yn ddiweddar, mae gweithwyr wedi cael eu cyfarwyddo i ddosbarthu'r parseli mwy proffidiol a gadael llythyrau ar ôl, wrth i rowndiau fynd yn rhy fawr i'w cyflawni gan y gweithlu sydd ar ôl; hyn oll tra bod prif weithredwyr wedi cael dyfarniadau cyflog enfawr a bod cyfranddalwyr wedi elwa. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effaith y bydd cwtogi'r gwasanaeth dosbarthu llythyrau yn ei chael ar apwyntiadau iechyd ac ar y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol?

Wel, Llywydd, mae Carolyn Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn ar ddiwedd ei chwestiwn atodol. Fe ddywedais i yn fy ateb gwreiddiol mai un o'r ddau bwynt allweddol y bydd y Dirprwy Weinidog yn eu cyfleu yr wythnos nesaf fydd anghenion cyffredinol Cymru—. Ac mae gwasanaeth post cyffredinol yn golygu yn anochel eich bod chi'n cael yr un gwasanaeth os yw'n anodd darparu'r gwasanaeth hwnnw i chi, os ydych chi'n byw mewn man anghysbell ac mae'n anochel ei fod yn ddrutach, ag os ydych chi'n byw mewn ardal dinas fewnol boblog, lle mae'n llawer haws darparu'r gwasanaeth hwnnw; dyna natur gwasanaeth cyffredinol a byddwn ni'n gwneud y pwynt hwnnw. Ond byddwn ni hefyd yn gwneud pwyntiau ar ran yr unigolion agored i niwed hynny yn ein cymuned. Rydyn ni'n gwybod bod ein gwasanaethau iechyd yn cael eu defnyddio llawer mwy gan bobl yn ddiweddarach yn eu bywyd na phobl sy'n gynharach yn eu bywyd. Rydyn ni'n gwybod bod y bobl hynny, ar y cyfan, yn llai tebygol o ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol. Mae'n wych bod y gwasanaeth iechyd yn defnyddio negeseuon testun a phethau eraill i atgoffa pobl o apwyntiadau, ond, os nad ydych chi'n gweithredu yn y byd hwnnw, rydych chi'n dibynnu ar y llythyr yn dod trwy'r drws, ac os ydych chi ond yn cael llythyrau dri diwrnod yr wythnos, mae'r siawns yn llawer rhy uchel na fydd rhywun yn cael apwyntiad neu na fydd yn cael gwybod am ei apwyntiad mewn da bryd i allu gwneud y trefniadau angenrheidiol i allu cadw'r apwyntiad hwnnw. Mae'r rheini'n bwyntiau pwysig iawn i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a bydd y Gweinidog yn cyfleu'r pwynt hwnnw'n uniongyrchol iawn i'r rheoleiddiwr.

Gwnaeth prif weithredwr Ofcom y pwynt ein bod ni'n anfon hanner cymaint o lythyrau ag y gwnaethon ni yn 2011 ac yn derbyn llawer mwy o barseli, ond nid yw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol wedi newid ers hynny. Nododd Ofcom yn ei ddogfen hefyd fod llawer o wledydd eraill Ewrop, am yr un rhesymau, wedi lleihau amlder dosbarthu llythyrau neu wedi ymestyn amseroedd dosbarthu llythyrau, gan gynnwys Sweden, Gwlad Belg, Norwy a Denmarc. Fodd bynnag, ddydd Mercher diwethaf, addawodd y Prif Weinidog i gynnal rhwymedigaeth y Post Brenhinol i ddosbarthu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos. O ystyried y bydd Ofcom nawr yn ymgynghori ar ei gynigion cyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn yr haf a'r arwydd a roesoch y byddwch chi'n ymgysylltu ag Ofcom, gan gynnwys cyfarfod yr wythnos nesaf, pa gynigion, os o gwbl, sydd gennych chi i fynd i'r afael â'r sefyllfa anodd honno, lle mae galw defnyddwyr wedi newid yn sylweddol, ond, ar yr un pryd, mae'r cyhoedd eisiau'r gwasanaeth chwe diwrnod cyffredinol hwnnw?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno bod cyfyng-gyngor i'w ddatrys yno, gyda nifer y llythyrau yn lleihau a natur y busnes yn newid. Dyna pam mae Ofcom ei hun wedi cyflwyno ei gynigion. Byddwn ni'n ymgysylltu â'r cynigion hynny, wrth gwrs; fel y dywedais i, bydd y Gweinidog yn cyfarfod ag Ofcom ar 9 Chwefror. Yr hyn sy'n bwysig i ni yw nad yw buddiannau Cymru yn cael eu hesgeuluso wrth ddatrys y cyfyng-gyngor hwnnw, a bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn, ac nid wyf i'n dychmygu am eiliad y byddai'r Aelod yn anghytuno â'r naill neu'r llall o'r egwyddorion hynny.

Gwella Gwasanaethau'r GIG yn Islwyn

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau'r GIG yn Islwyn? OQ60633

Llywydd, rydyn ni'n ymdrechu'n gyson i wella gwasanaethau ar gyfer etholaeth yr Aelod, fel y dangoswyd yr wythnos diwethaf, pan agorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ganolfan iechyd a lles newydd gwerth £19 miliwn. Bydd trigolion Islwyn hefyd yn elwa ar fuddsoddiad o £14 miliwn yn yr adran frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, yn ogystal ag uned gofal y fron newydd a fydd yn agor fis nesaf.

14:20

Diolch, Prif Weinidog. Mae gallu Llywodraeth Cymru ac yn wir y Senedd hon i ddarparu a goruchwylio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn seiliedig ar y cyllid y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn San Steffan. Mae Gweinidog iechyd Cymru wedi rhoi gwybod i'r Senedd bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ymyrraeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hon yn oruchwyliaeth i'w chroesawu mewn amgylchedd anhygoel o anodd. Rwyf i hefyd yn croesawu'r newyddion am y cyhoeddiad, fel y dywedodd y Prif Weinidog, fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £14 miliwn ychwanegol ar gael i ehangu ac ad-drefnu rhannau o Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae'r Faenor wedi bod yn gyfleuster newydd pwysig i bobl Gwent wrth i ofynion gofal iechyd gynyddu, ac mae'n hanfodol bod y Faenor yn gwella, gan ei fod wedi dod yn ganolfan gofal iechyd allweddol yng Ngwent. Prif Weinidog, pa egwyddorion a chamau gweithredu sy'n arwain Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a gwella'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Ngwent, tra bod gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu difrodi'n arw gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, sydd, erbyn hyn, yn cychwyn ar ei dirywiad marwol terfynol?

Cyn i mi ofyn i'r Prif Weinidog ateb, a gaf i wirio bod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn, oherwydd doedd y cysylltiad band eang ddim yn ddigon da? Os ydych chi wedi deall y cwestiwn, gallwch chi ateb. Ond os caf i ddweud wrth Rhianon Passmore, os byddwch chi eisiau cymryd rhan yn ddiweddarach yn y sesiwn, bydd angen i chi wella'r cysylltiad band eang yr ydych chi'n gweithio arno ar hyn o bryd. Prif Weinidog.

Llywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau eraill am y tawelwch cymharol wrth i'r cwestiwn gael ei ofyn? Doedd hi ddim yn hawdd ei ddilyn, ond rwy'n credu fy mod i wedi gallu deall hanfod allweddol yr hyn a ddywedodd Rhianon Passmore.

Gofynnodd i mi ar y diwedd pa egwyddorion sy'n llywio gweithredoedd Llywodraeth Cymru o ran y gwasanaeth iechyd ac, wel, y rheini yw ein hymrwymiad parhaus i egwyddorion sylfaenol y gwasanaeth iechyd. Roedd y ganolfan newydd y soniais i amdani yn fy ateb, y ganolfan iechyd a lles gwerth £19 miliwn, yn Nhredegar, wrth gwrs, ac nid oes lle mwy addas i ddangos buddsoddiad mewn gwasanaeth iechyd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain nag yn y man lle cafodd y gwasanaeth iechyd ei hun ei eni. Felly, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wasanaeth sy'n gynhwysfawr, yn gyffredinol, am ddim lle mae'n cael ei ddefnyddio, a lle mae mynediad yn seiliedig nid ar faint o arian sydd gennych chi yn eich poced na'r dylanwad y gallwch chi ei gael, ond ar eich angen clinigol. Dyna sy'n arwain y buddsoddiadau a wneir gan Lywodraeth Cymru.

Rwy'n cytuno â'r pwynt y gwnaeth yr Aelod am yr angen i wella adran frys Ysbyty Athrofaol y Faenor, o ystyried y rhan y mae'n ei chwarae erbyn hyn yn yr ecoleg honno o wasanaethau iechyd yn ardal Gwent, ond dyna pam mae'r Gweinidog wedi darparu'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Bydd yn mwy na dyblu'r capasiti yn yr adran frys honno ac yn sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth y mae etholwyr Rhianon Passmore yn dibynnu arno.

Elw Gormodolyn yr Economi

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o sut mae elw gormodol mewn rhai sectorau o’r economi yn effeithio ar drigolion Cymru? OQ60618

Wel, Llywydd, does dim amheuaeth bod gorelwa wedi ychwanegu at bwysau chwyddiant ar gyllidebau aelwydydd Cymru. I roi un enghraifft yn unig, daeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'r casgliad ym mis Tachwedd bod gwneuthurwyr rhai brandiau bwyd poblogaidd wedi codi eu prisiau yn fwy na'u costau yn ystod yr argyfwng costau byw.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rydych chi'n iawn, Prif Weinidog; mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi gwneud eu darn eu hunain o waith, ond felly hefyd—. Mae ymchwil wedi'i wneud gan Uno'r Undeb, Llywydd, ac rwy'n cyfeirio Aelodau at fy natganiad buddiannau. Gwnaeth Uno'r Undeb ddarganfod bod elw gormodol, mewn llawer o ddiwydiannau, yn gwthio prisiau i fyny—[Torri ar draws.] Llywydd, gall y Ceidwadwyr weiddi nerth eu pennau, ond byddan nhw eisiau gwrando ar wirionedd yr hyn y mae llawer o fy nhrigolion i yn ei wynebu a llawer o'u rhai nhw yn ei wynebu yn eu cymunedau eu hunain: elw gormodol yn cynyddu prisiau. Cafodd Llywodraeth Geidwadol y DU, Llywydd, ei gorfodi i weithredu mewn ffordd symbolaidd yn y sector ynni. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi bod yn wir yn unman arall, ac nid yw wedi bod yn ddigon da o bell ffordd. Mewn sectorau eraill, fel yswiriant ceir, mae'n effeithio ar eu hetholwyr yn ddyddiol. Mewn meysydd eraill, fel bwyd, mae'n effeithio ar eu hetholwyr yn ddyddiol. Mae'r ymddygiad hwn wedi mynd rhagddo'n ddilyffethair. Prif Weinidog, y gaeaf diwethaf gwnaethon ni weld rhai cwmnïau yn gwneud elw gormodol ac yn newid cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn orfoleddus i fesuryddion rhagdalu ar yr un pryd. Roedd yr elw gormodol hwn yn ymfflamychol, roedd yn niweidiol i dwf, ac roedd yn niweidiol i fy etholwyr a phoblogaeth Cymru. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, felly: beth yw'ch asesiad chi o'r hyn sydd angen digwydd i sicrhau bod Llywodraeth San Steffan yn cymryd y broblem hon o ddifrif?

14:25

Wel, Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynny. Rwyf i hefyd yn falch o ddatgan fy aelodaeth o Uno'r Undeb ac i gymeradwyo'r gwaith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn. Pan welais i'r cwestiwn dros y penwythnos, Llywydd, cefais i fy atgoffa o ddywediad enwog gan y meddyliwr sosialaidd a gwleidyddol gwych hwnnw, R.H. Tawney. Rwy'n credu mai 100 mlynedd yn ôl bron i nawr oedd hi pan ddywedodd ef,

'mae'r hyn y mae pobl gyfoethog feddylgar yn ei alw'n broblem tlodi, yn cael ei alw, gyda chyfiawnder cyfartal, yn broblem cyfoeth gan bobl dlawd feddylgar'.

A dyna sydd wrth wraidd y pwynt y mae Jack Sargeant wedi'i wneud, onid ydyw? Rydyn ni'n byw yn y gymdeithas hynod anghyfartal hon. Rydyn ni'n siarad llawer iawn yma yn y Siambr hon am dlodi. Rydyn ni'n siarad ychydig yn llai nag y dylen ni am broblem cyfoeth a'r angen i sicrhau bod yr asedau sydd ar gael i ni fel dinasyddion y Deyrnas Unedig yn cael eu dosbarthu'n decach rhyngom ni. Er gwaethaf popeth sydd wedi'i wneud, Llywydd, i wella sefyllfa cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu, roedd Cyngor ar Bopeth yn adrodd yr wythnos diwethaf y bydd 2 filiwn o bobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu yn wynebu bod heb gyflenwad yn anwirfoddol. Byddan nhw wedi datgysylltu eu hunain o gyflenwadau achubiaeth oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu fforddio eu bwydo. A hynny er gwaethaf yr elw rhyfeddol y mae'r cwmnïau ynni hynny wedi'i wneud yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.

A, Llywydd, nid dim ond yn y fan honno y mae'n digwydd. Mae Jack Sargeant wedi tynnu sylw at y diwydiant bwyd, at y diwydiant yswiriant a'r diwydiant ynni. Ond cawson ni gyfraniad pwerus ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf gan Jane Dodds yn sôn am ddileu elw o wasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac o ran hynny daeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'r casgliad, yn y diwydiant hwnnw, lle byddai enillion rhesymol ar fuddsoddiad yn 6 y cant, bod y diwydiant yn cymryd dwywaith hynny mewn elw gormodol. Dywedodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ei hun fod y DU wedi cerdded yn ei chwsg i mewn i farchnad gamweithredol lle'r oedd elw gormodol yn cael ei wneud ar draul y plant agored i niwed hynny a oedd yn dibynnu arno. Yn y ffordd y mae Jack Sargeant wedi dweud y prynhawn yma, Llywydd, mae angen Llywodraeth arnom sy'n barod i sicrhau chwarae teg er budd dinasyddion yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cyhoeddiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Bydd dadl y pwyllgor yfory ar yr heriau sy'n wynebu gweithlu'r diwydiant creadigol yng Nghymru, a gafodd ei gohirio o'r wythnos diwethaf. Felly, mae'r ddadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gysylltiadau rhyngwladol 2022-23 wedi'i gohirio tan 28 Chwefror. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda, Trefnydd, y cyntaf ar ddyfodol ein strydoedd mawr yng Nghymru? Mae llawer o ganol trefi wedi bod yn ei chael hi'n anodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwyddom fod y gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein a datblygiadau y tu allan i'r dref, gyda'u cyfleoedd i barcio am ddim, wedi'i gwneud hi'n anodd cynnal busnes, weithiau, yng nghanol ein trefi. Ac, wrth gwrs, mae effaith ddiweddaraf y gostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes yn achosi i lawer o fusnesau yn fy etholaeth gysylltu i ddweud y gallai hynny fod yn fater o fethu neu lwyddo iddyn nhw. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod mwy o drafodaeth ynghylch dyfodol canol ein trefi, sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn ffynnu yn y dyfodol, a thybed a gawn ni ddatganiad fel y gallwn ni ymgysylltu a thrafod hyn ar sail drawsbleidiol i weld beth y gellid ei wneud i'w gwarchod nhw.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ynghylch a yw Trafnidiaeth Cymru yn cynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr Cymru? Gwyddom fod £125 miliwn wedi'i roi yn ddiweddar i Trafnidiaeth Cymru, er nad oes achos busnes dros hynny wedi'i gyhoeddi erioed yn ôl pob golwg, ac er nad oedd yn rhan o drefniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y llynedd. Mae wedi cael ei ddwyn i'm sylw gan etholwr fod Trafnidiaeth Cymru wedi gwario £5,500 yn ddiweddar—rwy'n gwybod ei fod yn swm bach mewn termau cymharol—yn lapio trên mewn slogan ac arwydd hysbysebu 'Gwnaed yng Nghymru'. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n wariant dewisol diangen ar draul trethdalwyr, a thybed beth arall y mae Trafnidiaeth Cymru yn gwario'n wastraffus arno heb fod achos busnes priodol dros wneud hynny.

Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Weinidog Trafnidiaeth Cymru ynghylch pam mae'r symiau sylweddol hyn yn cael eu rhoi i'r sefydliad hwnnw pan ei fod yn ymddangos ei fod yn gallu gwario'n wamal ar y math hwnnw o hysbysebu.

14:30

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn dilyn darn ymchwiliol a gafodd ei gyhoeddi dros y penwythnos gan The Sunday Times ynghylch arian parod ar gyfer cyrsiau, a ddatgelodd mai Prifysgol Caerdydd oedd un o'r prifysgolion a enwyd a oedd yn cynnig recriwtio myfyrwyr tramor ar raddau llawer is nag y bydden ni'n eu disgwyl gan fyfyrwyr yma yng Nghymru, sy'n golygu bod myfyrwyr yn colli allan, gan fod angen iddyn nhw gael graddau A* rhy uchel ac yn y blaen i fynd ar rai cyrsiau, sy'n gwbl hanfodol o ran economi Cymru, wrth gwrs, ac yn colli allan oherwydd y sefyllfa y mae llawer o'n prifysgolion yn ei hwynebu o ran eu trafferthion ariannol.

Rwy'n credu bod angen eglurder ar hyn, a byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ddeall pa drafodaethau y gallai ef eu cael â Phrifysgol Caerdydd i sicrhau nad yw myfyrwyr o Gymru yn colli allan, a hefyd, nad ydyn ni'n manteisio'n annheg ar fyfyrwyr rhyngwladol.

Wel, yn amlwg, rydyn ni'n croesawu myfyrwyr tramor i'n prifysgolion yng Nghymru, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn siarad ag is-gangellorion yn gyffredinol ar hyn o bryd ynghylch myfyrwyr tramor, ac rwy'n siŵr y bydd e'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg briodol. 

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi am yr adfachiad o £70 miliwn a gafodd Llywodraeth Cymru gan gynllun band eang Cyflymu Cymru. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymarfer caffael ar sut y gallen nhw ategu cynllun Llywodraeth Cymru o ran band eang, ond byddai'n ddefnyddiol pe gallen ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarfer caffael hwn yn y Siambr, os gwelwch yn dda, oherwydd mae pobl yn fy etholaeth eisiau rhywfaint o sicrwydd bod y cynllun hwnnw'n mynd i sicrhau bod ein heiddo anoddach eu cyrraedd yn gallu cael mynediad teg at fand eang cyflym yn ein cymunedau gwledig. 

Diolch. Yn sicr, gwnaf ofyn i'r Gweinidog priodol roi'r wybodaeth ddiweddaraf  drwy ddatganiad ysgrifenedig. 

Wel, yn gyfleus iawn, dwi eisiau dilyn yr un trywydd a gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi, achos dwi wedi codi pryderon yn y Siambr yma o'r blaen am ardaloedd gwledig yn sir Gaerfyrddin, ac ardaloedd gwledig yng Ngheredigion hefyd, sydd wedi cael eu siomi dro ar ôl tro gan gwmnïau sydd wedi addo gweithredu'r talebau ac wedi gadael yr ardaloedd yna i lawr. Ac mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb: dwi'n byw yn un o'r ardaloedd ac wedi bod yn un o'r bobl sydd wedi datgan diddordeb. Hynny yw, aeth cwmni Broadway i'r wal a gadael pobl i lawr. Wedyn, fe'u prynwyd nhw gan gwmni o'r enw Voneus, a'r wythnos diwethaf fe glywon ni eu bod nhw ddim yn mynd i ymrwymo i ddilyn y cynllun talebau. Felly, ar ôl siarad ag Openreach yn wreiddiol, wedyn Broadway, wedyn Voneus, rŷn ni'n dal, yn yr ardaloedd yma, heb y math o wasanaeth band llydan rŷn ni'n ei haeddu.

Felly, a gaf i ofyn—rwy'n gwybod bod sawl elfen o hyn yn perthyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadau ei wneud i gyflenwi gwasanaethau yn y notspots yma mewn ardaloedd gwledig?

Diolch. Wel, yr hyn a wnaf yw gofyn i'r Gweinidog gynnwys eich materion chi hefyd yn y datganiad ysgrifenedig. Mae'n bwysig iawn bod gan ein cymunedau gwledig fynediad at fand eang yn y ffordd y mae gan ardaloedd trefol hefyd, ar gyfer busnes ac, yn amlwg, ar gyfer defnydd personol hefyd. Felly, fe wnaf yn siŵr bod hynny'n cael ei gynnwys yn y datganiad hwnnw.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda. Yr wythnos diwethaf, cafodd ei gyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi'r cynllun i gau Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn fy rhanbarth bob nos o'r wythnos. Yn flaenorol, mae wedi gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac mae fy etholwyr a minnau'n bryderus iawn am y penderfyniad i gau'r uned mân anafiadau bob nos. Dyma'r penderfyniad anghywir i fy etholwyr i ac nid yw'n rhoi anghenion cleifion yn gyntaf. Nid yw'r penderfyniad yn cael ei gefnogi gan drigolion lleol na gwleidyddion fel ei gilydd. Bydd yn golygu bod pobl yn fy rhanbarth yn gorfod teithio nifer sylweddol o filltiroedd i gael triniaeth, a bydd ond yn ychwanegu at yn rhoi mwy o bwysau ar y Faenor ar adeg pan yw eisoes dan bwysau aruthrol.

Felly, hoffwn i'r Gweinidog ryddhau datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar ba drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r bwrdd iechyd, yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau i fod ar gael i fy etholwyr gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw, ac a yw'r Gweinidog yn credu bod y newidiadau hyn yn ddigonol. Yn amlwg, mae angen i fy etholwyr wybod hefyd beth yw'r dewisiadau eraill sydd ar gael iddynt, pa drafnidiaeth fydd ar gael iddynt. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi bod angen i'm holl etholwyr fod yn ymwybodol o'r newid sylweddol hwn yn y gwasanaeth. Diolch.

14:35

Diolch. Wel, nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mae hwn yn amlwg yn fater gweithredol o fewn Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Fy nealltwriaeth i yw mai dim ond un claf y nos oedd yn mynd yno, ar gyfartaledd. Ac unwaith eto, mater i'r bwrdd iechyd yw sicrhau bod yr wybodaeth am ble y dylen nhw fynd mewn achos o argyfwng, bod y boblogaeth gyffredinol y maen nhw'n ei gwasanaethu yn gwybod hynny.

Wel, mewn gwirionedd, fel Laura, hoffwn i gael datganiad llafar, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd ynghylch darparu unedau mân anafiadau yn y rhanbarth. Rydyn ni wedi gweld, fel y cafodd ei amlinellu eisoes, yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn cael ei chau dros nos. Mae llawer o gleifion yn poeni am ble y bydden nhw'n mynd yn hwyr yn y nos pe bai rhywbeth yn mynd o'i le, ac mae dros 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i gefnogi'r cyfleuster hwnnw. Mae oriau cyfyngedig hefyd yn mynd i gael eu gwneud yn barhaol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach. Byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai datganiad ymdrin â'r pryderon lleol hynny, a fyddai deddfwriaeth yn bosibl i sicrhau bod darpariaeth 24 awr y dydd yn cael ei chynnig i bobl, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig pan fo gwasanaethau damweiniau ac achosion brys wedi cael eu canoli cymaint ar draws y rhanbarth cyfan, oherwydd mae pobl yn teimlo'n ynysig ac yn poeni am ble i gael help.

Nawr, ar fater sy'n gysylltiedig â hynny, mae etholwr wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder am y pwysau sy'n cael ei roi ar staff oherwydd llwyth gwaith, rwy'n credu, yn Ysbyty Ystrad Fawr, yn yr uned mân anafiadau mewn gwirionedd—staff yr oedd, gyda llaw, yn eu yn canmol am eu hymroddiad, ond mae yna bryder y gallen nhw fod yn cael eu gorweithio. Rwyf wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd. Dywedon nhw wrthyf fod y lefelau staffio yn yr uned yn cydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth. Fe wnaethon nhw hefyd gyfaddef bod y lefelau staffio hynny yn cael eu hadolygu. Felly, yn yr un datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, a allai'r Gweinidog iechyd ymrwymo i adolygu'r canllawiau presennol, er mwyn sicrhau bod staff a chleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, os gwelwch yn dda? Diolch.

Wel, dydw i ddim yn credu bod gen i unrhyw beth mwy i'w ychwanegu, mewn gwirionedd, at yr ateb a roddais i Laura Anne Jones. Nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mater i Aneurin Bevan ydyw, felly rydych chi wedi gwneud y peth iawn yn ysgrifennu atyn nhw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y bwrdd iechyd yn sicrhau bod y boblogaeth y maen nhw'n eu gwasanaethu yn ymwybodol o'r newidiadau. Rwy'n gwerthfawrogi nad oes neb yn hoffi newid, ond mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble i fynd i gael mynediad i'r gwasanaeth iechyd cywir, ar yr adeg gywir.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad? A gaf i ofyn am y cyntaf gan y Gweinidog iechyd, ar ddarparu gwasanaethau brys ac amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru? Rwyf wedi cael gwybod am etholwr y bu'n rhaid i'w berthynas aros 26 awr am ambiwlans ar ôl i ymatebwr cyntaf cychwynnol gyrraedd. Mae teulu etholwr arall wedi cysylltu i ddweud wrthyf am eu perthynas a arhosodd dros awr a hanner am ambiwlans ar ôl cael trawiad ar y galon ar Noswyl Nadolig. Yn anffodus, bu farw'r person hwnnw yn 40 oed, gan adael dau o blant bach. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hynny'n hollol warthus, ac rwy'n cydymdeimlo â'r teulu. Gweinidog, o ystyried yr achosion annerbyniol hyn, mae'n hanfodol bod amser yn cael ei neilltuo nawr, rwy'n credu, i drafod gwasanaethau iechyd brys, ac amseroedd aros ambiwlansys yn benodol, fel bod yr Aelodau a'r cyhoedd yn gallu deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu.

Ac yn ail, Llywydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cysylltedd llwybrau troed? Rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwr sydd wedi mynegi pryder am ddiffyg cysylltedd llwybrau troed, ac sy'n galw am iddyn nhw gael eu cysylltu'n well ledled y wlad. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn golygu cael cefnogaeth tirfeddianwyr, awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, ac yn wir rhanddeiliaid eraill, ond byddwn i'n ddiolchgar pe byddai modd darparu datganiad—ysgrifenedig neu lafar—yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn.

Diolch. O ran eich cais cyntaf, yn amlwg, mae'r ddwy sefyllfa y gwnaethoch chi eu hamlinellu yn annerbyniol, ac rwyf innau hefyd yn anfon fy nghydymdeimlad at y teulu sy'n gysylltiedig â'r ail enghraifft y gwnaethoch chi ei rhoi. Os ydyn ni'n edrych ar ein gwasanaeth ambiwlans, ac yn sicr os ydyn ni'n ei gymharu â'r adeg hon y llynedd, rydyn ni wedi gweld rhai gwelliannau, er gwaetha'r galw uchaf erioed am alwadau coch a gofnodwyd fis diwethaf. Ychydig dros wyth munud oedd yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau coch lle mae bywyd yn y fantol, ac ymatebwyd i 80 y cant o alwadau coch o fewn 15 munud. Unwaith eto, adrannau brys, rydyn ni'n gwybod bod y system o dan bwysau mawr, ond mae pobl yn dal i dderbyn gofal o safon dda iawn yn ein hadrannau brys ledled Cymru, ac mae hyn yn sicr yn dyst i waith caled ein staff iechyd.

O ran eich ail bwynt, efallai y byddai'n well, rwy'n credu, petaech yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch llwybrau troed, a bydd hi'n gallu ateb y pryderon penodol sydd gennych yn uniongyrchol. 

14:40

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i? A gaf i ddatganiad gennych chi, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, ar yr asesiad o effaith economaidd y cynllun ffermio cynaliadwy, sydd wedi cael rhywfaint o sylw yr wythnos hon, yn amlinellu'r posibilrwydd y bydd 5,500 o swyddi yn cael eu colli ac y bydd gwerth £200 miliwn o golledion i incwm ffermydd? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud bod yr asesiad yn seiliedig ar iteriad blaenorol o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond, wrth gwrs, yn sylfaenol, nid yw llawer wedi newid, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu y byddai datganiad yn egluro perthnasedd yr asesiad effaith i'r cynigion presennol yn ddefnyddiol, o ran sut, efallai, mae'r asesiad effaith wedi arwain at newid yn yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig nawr a sut y byddwch chi, felly, yn sicrhau pontio teg sy'n osgoi colli miloedd o swyddi a gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o incwm ffermydd hefyd. Ac efallai y gallech chi ddweud wrthyn ni hefyd pryd y bydd asesiad effaith wedi'i ddiweddaru yn cael ei ddarparu i lywio'r ymgynghoriad presennol sy'n mynd rhagddo o amgylch y cynllun ffermio cynaliadwy.

A gaf i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant, os caf i ofyn am un? Mae nifer o doriadau yn y gyllideb sy'n mynd i effeithio ar sefydliadau sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol o'i phortffolio hi, a fydd yn arwain at golli swyddi. Nawr, rwy'n gwybod bod rhai o'r cyrff hyn eisoes yn ymgymryd â phrosesau diswyddo. Felly, byddwn i eisiau datganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n rhoi sicrwydd i ni fod y prosesau hynny'n cael eu cynnal mewn modd priodol, eu bod yn trin pawb yn deg, a'u bod yn caniatáu digon o amser i bobl sy'n gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am eu cyflogaeth yn y dyfodol—eu bod yn cael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y penderfyniadau gwybodus hynny—a'u bod yn digwydd gyda rhywfaint o gysondeb ar draws y sefydliadau a'r sector, oherwydd, yn amlwg, bydd goblygiadau sylweddol. Ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn croesawu'r sicrwydd hynny. 

Diolch. O ran yr asesiadau o effaith economaidd ar y dadansoddiad economaidd cyn yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, nid wyf yn credu y byddaf yn gwneud datganiad llafar ynghylch hynny. Rwyf wedi'i gwneud hi'n glir iawn bod y data hwn yn hen iawn, a'r rheswm y gwnes i ei rannu yn y ffordd y gwnes i oedd er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw yn ei gylch, oherwydd roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod y data hwnnw ar gael cyn yr ymgynghoriad cyfredol ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy. Rwyf wedi'i gwneud yn glir iawn y bydd dadansoddiad economaidd newydd, a bydd hwnnw'n cael ei wneud ar ôl i'r ymgynghoriad gau, sef ar 9 Mawrth, rwy'n credu, cyn i'r penderfyniadau terfynol gael eu gwneud ar y cynllun ffermio cynaliadwy yr haf hwn.

O ran y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant a'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel y gwyddoch chi, rydyn ni wrthi'n craffu ar y gyllideb ddrafft. Rwy'n deall yn iawn y pryderon sydd gennych chi, ac mae'r Dirprwy Weinidog yn sicrhau ei bod hi'n siarad â'r sefydliadau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw wrth i'r broses fynd yn ei blaen. Unwaith y caiff y gyllideb ei phennu, rwy'n credu y bydd y sgyrsiau hynny'n amlwg yn parhau.  

Diolch, Llywydd. Wel, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar effaith sgandal Horizon Swyddfa'r Post ar swyddfeydd post yng Nghymru? Mae'r swyddfa bost yn Nefyn wedi cau yn ddiweddar, ac, yn anffodus, maen nhw'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i rywun i ymgymryd â'r contract. Fe gaeodd, yn rhannol, oherwydd diffyg hyder yn y systemau TG, ac rwy'n cael fy arwain i gredu bod cymunedau eraill yn wynebu ymatebion tebyg hefyd. Mae Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaeth hanfodol i lawer o bobl ac mae angen i ni gael sicrwydd y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu cynnal. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar hynny, os gwelwch yn dda? 

Yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gamau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i ymdrin ag ymosodiadau rhywiol a threisio. Yr wythnos diwethaf, cwrddais â RASASC, Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, ym Mangor. Cefais fy nychryn wrth glywed rhai o'r ystadegau ac i ddeall bod traean o'r menywod a gafodd eu holi yn ffair y glas y llynedd yn adnabod rhywun a oedd wedi cael ei dreisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Yn wir, gogledd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o drais rhywiol unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain, ac rydyn ni'n gweld niferoedd cynyddol o atgyfeiriadau, gyda chynnydd o 30 y cant o flwyddyn i flwyddyn eleni, yn enwedig ymhlith plant. Mae'r data yn syfrdanol, ac rwy'n bryderus iawn am les menywod a phlant. Felly, hoffwn i gael datganiad ar y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd yn hyn o beth. Diolch.

14:45

Diolch i chi. Mae'r ddau Weinidog wedi cytuno i gyflwyno datganiadau ysgrifenedig. Diolch.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Eitem 3, felly, fydd yr eitem nesaf. Datganiad gan y Prif Weinidog yw hwn ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Felly, y Prif Weinidog.

Lywydd, diolch yn fawr. Roedd cyhoeddi adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, 10 diwrnod yn ôl, yn ddigwyddiad pwysig yn hanes byr datganoli yng Nghymru. Fy swydd gyntaf y prynhawn yma yw talu teyrnged i’r 11 aelod o’r comisiwn, ac yn enwedig y cyd-gadeiryddion, cyn-Archesgob Cymru a Chaergaint, Dr Rowan Williams, a’r academydd nodedig Cymreig, yr Athro Laura McAllister. Y tu ôl i'r comisiwn roedd grŵp arbenigol gweithgar a dylanwadol a hefyd ysgrifenyddiaeth a wnaeth lawer i gefnogi cynhyrchu'r ddogfen derfynol eglur a pherswadiol. 

Llywydd, fe ddylwn i ddiolch hefyd i'r uwch aelodau hynny o bob un o'r pleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon am eu cymorth gyda nodi'r comisiynwyr hynny a wnaeth gyfrannu'r safbwyntiau gwleidyddol sy'n saernïo dadl gyfansoddiadol ein cenedl. Teyrnged ryfeddol i ddoniau'r cyd-gadeiryddion yn wyneb comisiwn llawn unigolion â safbwyntiau cadarn a chryf, yw bod yr adroddiad terfynol, i ddyfynnu Dr Williams a'r Athro McAllister, yn gynnyrch

'dadl resymegol a chynhwysol ar sail data a thystiolaeth',

a arweiniodd at gasgliadau unfrydol. Mae'r ffaith y gallai comisiwn trawsbleidiol ddod i gynifer o gasgliadau cyffredin yn rhoi gwir bwys ac arwyddocâd ychwanegol i'r adroddiad terfynol, ac rwy'n diolch unwaith eto i bawb a helpodd i wneud i hynny ddigwydd.

Nawr, Llywydd, fe ellir olrhain tarddiad y comisiwn i faniffesto Llafur Cymru yn 2021, pryd y gwnaethom ni addo y byddem ni'n

'Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym eisiau meithrin trafodaeth ddinesig genedlaethol yng Nghymru ar ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.'

Dyna'r hyn y gwnaethom ni ei ddweud yn ein maniffesto. Cafodd cylch gwaith terfynol y comisiwn hwnnw ei nodi yn y rhaglen lywodraethu a'i mireinio unwaith eto yn y cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur hon a Phlaid Cymru.

Roedd yr amgylchiadau a fu'n darddle i'r syniad am y comisiwn yn adlewyrchu'r straen a'r pwysau mawr a oedd yn cael eu rhoi ar drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Roedd y bleidlais refferendwm Brexit yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi rhoi mwyafrifoedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, tra bod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio i ymadael. Roedd Plaid Genedlaethol yr Alban wedi ennill 56 o 59 seddau'r senedd yn etholiad cyffredinol 2015, ac erbyn hynny roedd hi wedi bod yn llywodraethu yn Holyrood ers bron i ddegawd. Ym mis Rhagfyr 2019, fe lwyddodd y Blaid Geidwadol i lunio Llywodraeth fwyafrifol gyntaf ei phlaid yn San Steffan ers 1992, a'r gyntaf ers datganoli. Fe ddywedodd y Prif Weinidog bryd hynny, Boris Johnson, wrth ei gefnogwyr ei fod ef o'r farn mai datganoli fu camgymeriad mwyaf y Llywodraeth Lafur Newydd ac fe aeth ati i ymdrin â deddfwrfeydd yn Belfast, Caerdydd a Chaeredin ar sail y farn honno. Fe ychwanegodd oes undebaeth gyhyrog, fel y'i gelwid yn Stryd Downing, dyndra newydd at y sefyllfa gan ehangu'r holltiadau eto yn y Deyrnas Unedig a oedd eisoes mewn cyflwr bregus.

Yma yng Nghymru, yn yr etholiad i Senedd Cymru yn 2021, roedd hi'n amlwg y byddai pleidleiswyr yn cael cyfle, pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny, i gefnogi ymgeiswyr ymroddedig i wyrdroi datganoli yn gyfan gwbl—Plaid Diddymu Cynulliad Cymru—ac ymgeiswyr ymroddedig i ymadael â'r Deyrnas Unedig.

Nawr, Llywydd, mae yna rai sy'n credu bod cynnwrf cyfansoddiadol y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, bod helyntion diamheuol Plaid Genedlaethol yr Alban yn golygu bod undebaeth gonfensiynol wedi cario'r dydd a bod y rheolaeth honno o Lundain wedi cael ei chadarnhau o'r newydd. Mae hwnnw, rwy'n credu, yn gasgliad sy'n ffôl a pheryglus. Mae'r heriau cyfansoddiadol sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig, yn enwedig i'r rhai ohonom ni sy'n credu ym mharhad y Deyrnas Unedig, yr un mor wirioneddol heddiw â phan sefydlwyd y comisiwn. Erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, efallai y bydd prif weinidog Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon—ac rwy'n croesawu'r datblygiadau dros nos i adfer Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon—ac mae hi'n bosibl mai llywodraeth Sinn Féin fydd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Nid yw unrhyw un sy'n credu bod y cynnwrf cyfansoddiadol drosodd yn gwneud dim ond ymroi i obeithio yn ofer.

Sefydlwyd y comisiwn, ar y llaw arall, i ddarparu meddylfryd o safon wahanol iawn, ac fe wnaeth hynny'n union. Mae'r adroddiad interim yn nodi'r 10 her fwyaf sy'n wynebu datganoli yn bendant: ansefydlogrwydd y setliad datganoli, breuder y cysylltiadau rhynglywodraethol, y problemau gyda chyfundrefn ariannu gwledydd datganoledig, absenoldeb arweinyddiaeth o ran yr undeb, ac ati blaen. Nawr mae'r adroddiad terfynol yn nodi rhai datrysiadau i'r cyfyng-gyngor hwn. Mae'r comisiwn wedi rhoi set o fesurau gerbron a all ymwreiddio a gwella'r setliad presennol, gan ei wneud yn llai agored i ymosodiadau gan weinyddiaeth elyniaethus yn San Steffan. Ac, yn ogystal â sadio gwreiddiau datganoli yn y ffordd honno, mae'r adroddiad yn archwilio'r achos dros ehangu cyfrifoldebau'r Senedd hon, ac mae'n gwneud hynny mewn chwe maes gwahanol: darlledu, cyflogaeth, ynni, cyfiawnder, trafnidiaeth a lles. Yn gefndir i'r cynigion penodol hyn, mae'r comisiwn yn asesu tri dyfodol cyfansoddiadol eang sydd ar gael i rai sy'n gyfranogion o ddull blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru: sef fersiwn mwy caboledig a gwarchodedig o'r setliad presennol, dyfodol ffederal i'r Deyrnas Unedig, a Chymru annibynnol.

Nawr, Llywydd, ni fwriadwyd erioed i'r comisiwn geisio dod i gasgliad a fyddai'n rhoi cyfarwyddyd i ddinasyddion Cymru o ran y dull i'w ffafrio gan y rhai a oedd yn archwilio i'r mater. Yn hytrach na hynny, mae'r adroddiad yn cynnig dadansoddiad difrifol o fanteision ac anfanteision pob posibilrwydd ar gyfer pob un ohonom ni, gan ein galluogi ni i ddod i gasgliad mwy deallus, llawn tystiolaeth ein hunain, yn unigolion ac yn bleidiau gwleidyddol. Ac fe gaiff hyn i gyd, Llywydd, ei grynhoi mewn 10 argymhelliad. Pa mor aml yr ydym ni wedi gweld adroddiadau yn y Senedd hon sy'n frith o argymhellion sy'n sicr o suddo yn llwyr oherwydd eu pwysau eu hunain? Drwy ganolbwyntio ar nifer fechan o gynigion allweddol, rwy'n credu, mae'r comisiwn wedi mynd ffordd bell i sicrhau y bydd ei waith yn mynd rhagddo ac y bydd â dylanwad grymus ar y dadleuon a'r trafodaethau a fydd yn deillio ohono.

Un pwynt olaf, Llywydd, os caf i: yn fy sgwrs gyntaf gyda Dr Williams, wrth i mi ofyn a fyddai'n barod i ystyried cynorthwyo gydag arwain y comisiwn, fe ddywedodd wrthyf y byddai'n barod i wneud felly, ond dim ond pe gellid cyflawni gwaith y comisiwn mewn ffordd a fyddai'n cynnwys cymaint â phosibl o'r bobl hynny sydd â rhan yn y gwaith o lunio'r Gymru gyfoes. Y canlyniad yw bod awdurdod yr adroddiad yn tarddu nid yn unig o drylwyredd deallusol ei dystiolaeth a'i gasgliadau ef, ond o'r miloedd o'n cyd-ddinasyddion ni sydd wedi bod â rhan yn ei sgwrs. Yn wir, mae'r cyntaf o'r 10 argymhelliad terfynol yn annog Llywodraeth Cymru a'r Senedd i gryfhau ein gallu ni ein hunain o ran arloesi democrataidd ac ymgysylltu â'r gymuned yn y gwaith a wnawn ni.

Os mai dim ond un bennod o'r adroddiad y mae cydweithwyr yn darllen, tu hwnt i'r crynodeb a'i argymhellion, dwi'n awgrymu i chi ddarllen pennod 3, 'cryfhau democratiaeth yng Nghymru'. I unrhyw un sy'n gweithio ar linell flaen democratiaeth, dyma syniadau y gallai pob un ohonom dynnu arnynt yn ein hetholaethau, yma yn y Senedd ac yn Llywodraeth Cymru. Mae'r ffordd mae ein gwlad yn cael ei threfnu, dyfodol y Deyrnas Unedig a Chymru, a llais dinasyddion, wrth wneud penderfyniadau o'r fath, mae hynny i gyd i'w weld yn adroddiad terfynol y comisiwn, a dylai gael ei gymryd o ddifrif gan bawb. Diolch yn fawr, Llywydd.

14:55

Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad brynhawn heddiw. Fel un a wnaeth lawer o waith ynglŷn â chomisiwn Silk a sefydlu comisiwn Silk, fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i, pe byddai comisiwn i'w sefydlu, y byddai'n cael ei sefydlu yn unol â'r cylch gwaith yr oedd comisiwn Silk yn gweithredu ynddo. Fe allaf i gofio'r troeon lawer y buom ni'n eistedd ym Mharc Cathays—y Prif Weinidog ar y pryd, arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill a minnau—a thrafod a gweithio drwy raglen ac, yn y pen draw, y ddeddfwriaeth a fyddai'n dod i'r wyneb yn sgil hynny. Ac rwy'n cofio gadael y lle hwn ar ôl cwestiynau'r Prif Weinidog un diwrnod a mynd i San Steffan i eistedd yn swyddfa arweinydd y tŷ, gyda'r arweinwyr eraill, a gweithio drwy sut y gallai datganoli symud ymlaen ac, yn y pen draw, sut y gellid trosglwyddo pwerau trwy gyfrwng dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru lwyddiannus yn Nhŷ'r Cyffredin. Nid hwnnw oedd y model a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, a phan gysylltodd y Cwnsler Cyffredinol â mi ynglŷn â chyflwyno cynrychiolaeth y Ceidwadwyr, fe eglurwyd yn fanwl iawn i mi nad llefarwyr y pleidiau oedd yr unigolion hynny ar y comisiwn hwnnw. Rwy'n parchu hynny, ond, yn yr adroddiad, mae hi'n ymddangos ei fod ef yn ceisio nodi mai'r farn a fynegwyd gan yr un a enwebodd y Ceidwadwyr ar y comisiwn oedd barn y Blaid Geidwadol. Nid yw hynny'n wir. Fe wnaethom ni roi tri enw i'w hystyried ac fe benderfynodd y comisiwn pwy fyddai'r unigolyn hwnnw a fyddai'n gomisiynydd presennol. Bargyfreithiwr oedd un, roedd gan y llall brofiad ar lefel cabinet llywodraeth leol, ac roedd gan yr un arall brofiad ar lefel San Steffan a gafodd yn rhinwedd ei swydd yn ymgynghorydd arbennig. Hwnnw oedd y model a ddewisodd y Llywodraeth ar gyfer y comisiynwyr. Ac rwy'n parchu hynny, ond rwy'n credu y byddai comisiwn fel un Silk wedi bod yn ffordd well o edrych arni hi, pe byddai yna drafodaeth a sgwrs wedi bod o ran sut y gallasid gwella a datblygu datganoli a symud ymlaen.

O'm safbwynt personol, rwyf i'n credu bod angen newid y setliad, gyda rhai eithriadau nodedig, fel y gyllideb, er enghraifft, y gwnaethoch chi gyfeirio ati yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, a'r trefniadau ariannol sydd gennych chi â'r Trysorlys, ond mae'r setliad cyffredinol sydd gennym ni, o ystyried y ddwy Ddeddf ddeddfwriaethol a basiwyd gan San Steffan, yn gadarn, yn grymuso ac yn egnïo'r Senedd hon i Gymru ar gyfer bodloni disgwyliadau pobl Cymru.

Fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i heddiw, mewn gwirionedd, fod yn ymateb i ddatganiad gan y Prif Weinidog yn egluro pam y dylid cyfeirio adnoddau'r Llywodraeth at ymchwiliad COVID dros Gymru, ond rwy'n deall yn iawn mai ymrwymiad maniffesto oedd hwnnw, gan edrych, yn amlwg, tuag at gytundeb â Phlaid Cymru, ar ddiwedd etholiad 2021, pan fyddai'n rhaid sefydlu clymblaid, efallai. Nawr, rhagorfraint y Llywodraeth fyddai honno oherwydd, yn amlwg, y chi a fyddai'n ennill yr etholiad hwnnw—rwy'n derbyn hynny. Ac, yn amlwg, fe allai'r drafodaeth honno fod wedi digwydd rhwng Plaid Cymru a chwithau, yn amlwg. Ond rwy'n credu mai'r blaenoriaethau mwyaf sydd gan bobl yma yng Nghymru yw cael gwybod pam wnaeth Llywodraeth Cymru bethau neu beidio yn ystod cyfnod COVID, a dyna pam y byddai hi'n well gennym ni weld ymchwiliad COVID ledled Cymru. Mae hi'n bwysig cydnabod, hefyd, pa mor gyflym y gwnaeth cydweithwyr y Prif Weinidog sydd ar ben arall yr M4 wrthod y cynigion o fewn y comisiwn hwn. Rwy'n dyfynnu safbwynt Jo Stevens yn hyn o beth, pan ddywedodd hi,

'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'

Mae hynny'n weddol bendant. Roeddwn i'n cydymdeimlo ag arweinydd Plaid Cymru ddydd Mawrth diwethaf—ni fyddai ef yn disgwyl unrhyw gydymdeimlad oddi wrth arweinydd y Ceidwadwyr—pan geisiodd ef gael eglurder gennych chi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn. Mae hwnnw'n weddol bendant, hynny yw y datganiad hwnnw:

'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'

Roedd hwnnw'n ddaliad mawr yn y darn o waith a wnaeth y comisiwn ar ran Llywodraeth Cymru wrth ystyried pwerau datganoledig pellach. Ac felly, fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog beth yw ei safbwynt ef o ran cysoni'r gwahaniaethau rhwng ei gydweithwyr yn San Steffan ac, yn amlwg, yma yn y bae. Ac mae hi'n ddiddorol nodi mai dim ond un o'r ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth sydd yn y Siambr i glywed y datganiad cyfansoddiadol pwysig hwn, a'r un sydd ar goll yw'r un mwyaf cymeradwy gan ASau ar ben arall yr M4—mae hynny'n siarad cyfrolau a dweud y lleiaf.

Fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar swyddogaeth fwy grymusol o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid unig ystyr datganoli yw datganoli grym o Lundain i Gaerdydd; mewn gwirionedd mae'n golygu datganoli grym o Gaerdydd i ranbarthau Cymru hefyd. Pan fo'r setliad llywodraeth leol yn dal i fod o gyfnod cyn datganoli, a phob tro y bydd meinciau'r Llywodraeth yn cyflwyno cynnig y mae wedi ei chael hi'n rhy anodd gwneud unrhyw newidiadau, nid yw wedi dewis gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar y setliad sydd ganddi hi ac yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi o ran llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, a'r strwythurau y gellid eu grymuso gan fwy o ddatganoli o Gaerdydd i ranbarthau Cymru? Fe fyddai hwnnw'n rhywbeth y byddem ni ar y meinciau hyn yn ei groesawu gyda breichiau agored.

Rwyf i am gloi gyda'r sylw hwn, os caf i. Fe orffennodd y Prif Weinidog ei ddatganiad drwy fynd i'r afael â'r angen i rymuso pobl Cymru, a'r sgwrs a gafodd ef gyda Dr Rowan Williams. Fe gytunodd hwnnw i gymryd rhan yn y comisiwn ar yr amod y byddai argymhellion y comisiwn ynghylch gwrando ar leisiau pobl yn thema ganolog i Lywodraeth Cymru ac yn wir i'r Senedd. Rydym ni newydd dderbyn y ddeiseb fwyaf a ddaeth gerbron y Senedd erioed yn cynnwys bron i 0.5 miliwn o bobl yn llofnodi deiseb i ddiddymu polisi a gyflwynodd ei Lywodraeth ef. Os ydych chi'n sôn am wrando ar bobl, dyna sgrech uchel ar y diawl gan bobl Cymru i newid cyfeiriad a newid cwrs. Felly, yn hytrach na dim ond rhoi'r geiriau hynny mewn datganiad y gwnaethoch chi ei ddarllen heddiw, pam na wnewch chi roi hynny ar waith a diddymu'r terfyn 20 mya cyffredinol? 

15:00

Mae arweinydd yr wrthblaid a minnau o'r un farn gadarnhaol ynglŷn â chomisiwn Silk. Rwy'n credu mai hwnnw oedd y cyfrwng cywir i wneud y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud. Ond mae hwn yn waith gwahanol iawn ac roedd angen cyfrwng gwahanol iawn. I gymryd ei bwynt olaf nesaf, yr hyn a ddywedodd Dr Rowan Williams wrthyf i oedd pe byddai ef am gyd-gadeirio comisiwn, roedd yn dymuno bod â'r hyder o wybod y byddai'r comisiwn yn gallu cynnwys cymaint o bobl â phosibl yn ei ddadleuon ag y gellid gwneud felly. Nid oedd yn dymuno comisiwn lle byddai pobl yn ymadael oddi yma ac yn mynd i ystafell gaeedig ym Mharc Cathays i benderfynu beth fyddai'r canlyniad. Mae'n ddull gwahanol iawn am fod y pwrpas yn wahanol iawn.

Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i arweinydd yr wrthblaid am gynnig enwau pobl i eistedd ar y comisiwn, nid oherwydd eu bod yn cynrychioli eu plaid, ond oherwydd y bydden nhw'n dod â'r persbectif hwnnw i ddadleuon y comisiwn. Ac os caf i ddweud hynny, rwy'n credu bod cyfraniad Lauren McEvatt, yr unigolyn a oedd yn dod o safbwynt y Ceidwadwyr, wedi bod â dylanwad gwirioneddol ar y comisiwn. Roedd hi'n weithgar iawn, a'i chyfraniadau yn rhai meddylgar iawn. Roeddwn i yn Llundain wythnos diwethaf yn y Sefydliad Llywodraethu; roedd hi yn y gynulleidfa yno, ac fe wnaeth hi rai pwyntiau pwysig iawn yno hefyd. Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y ffaith ei bod hi yno i gyfrannu'r safbwyntiau hynny, nid am ei bod hi'n siarad ar ran y Blaid Geidwadol, ond oherwydd y gallai hi sicrhau y byddai'r traddodiadau, y ffyrdd o feddwl, yr ymagwedd a fyddai'n cael ei chymryd gan y blaid honno yn cael gwrandawiad o amgylch y bwrdd hwnnw.

Nid wyf i'n cytuno, wrth gwrs, ag arweinydd yr wrthblaid fod y setliad presennol yn gadarn. Sut allai unrhyw un ddod i'r casgliad hwnnw yn dilyn y ffyrdd y mae confensiwn Sewel wedi cael ei amharchu mor aml gan lywodraethau yn San Steffan ers 2019? Mae hwnnw'n gonfensiwn na chafodd ei dorri erioed gan Lywodraethau Llafur na Llywodraethau Ceidwadol tan 2019, ac ers hynny, mae wedi cael ei dorri yn deilchion dro ar ôl tro ar ôl tro. Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), agweddau masnach ar y Bil Caffael, y Bil Mudo Anghyfreithlon, y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), y Bil Ynni—fe drafodwyd y rhain i gyd ar lawr y Senedd. Gwrthodwyd caniatâd i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, ac ym mhob un achos fe aeth y Llywodraeth honno yn ei blaen i ddeddfu er gwaethaf diffyg cydsyniad y Senedd hon iddyn nhw wneud felly. Sut y gall unrhyw un ddod i'r casgliad bod y setliad yn gadarn pan fyddo mor agored i niwed â hynny?

O ran plismona a chyfiawnder, fe roddais i fy atebion yr wythnos diwethaf. Fe fynegais i'n eglur bolisi'r Llywodraeth hon a'r blaid hon yng Nghymru. Mae adroddiad Gordon Brown a gomisiynwyd gan Keir Starmer yn dweud y dylai'r broses honno ddechrau gyda datganoli cyfiawnder a phrawf ieuenctid, ac rwy'n edrych tuag at fy nghydweithwyr yn San Steffan i sicrhau bod hynny'n digwydd.

O ran datganoli pwerau tu hwnt i'r Senedd, er enghraifft, rydym ni wedi llofnodi bargen twf canolbarth Cymru, y ceisiodd ei blaid ef mor ddyfal i'w difrodi yn esiampl Fferm Gilestone. Rydym ni'n credu y dylid trosglwyddo pwerau i lywodraeth leol. Yr ardoll ymwelwyr—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn wir. Rydym ni wedi ymrwymo i gytundeb twf canolbarth Cymru. Fe fyddai cynnig Fferm Gilestone wedi dod â swyddi i'r canolbarth. Fe fyddai wedi creu swyddi i bobl ifanc yn y canolbarth. Fe'i cefnogwyd gan bartneriaid eraill ym margen twf canolbarth Cymru. Rydym ni'n credu mewn gwneud pethau mewn ffordd ranbarthol, ac nid wyf i'n credu y gallwch ddweud bod hynny'n wir am yr wrthblaid yn y fan hon.

Rwy'n credu mewn rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol allu gweithredu. Dyna pam y byddwn ni'n rhoi ardoll ymwelwyr gerbron y Senedd hon, i roi'r pŵer i awdurdodau lleol weithredu honno pan fyddan nhw'n dewis gwneud felly. Eu nacáu nhw a fyddech chi. Wythnos ar ôl wythnos rydych chi ar eich traed yma'n dweud pa mor anfodlon ydych chi i awdurdodau lleol fod â'r pŵer hwnnw. Felly, pan ydych chi'n dweud wrthyf i nad yw datganoli yn gorffen gyda Bae Caerdydd, rwy'n credu hynny, ac rydym ni'n gwneud pethau i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ei nacáu nhw a wnewch chi pan na fyddwch chi'n dymuno gwneud felly. Eich polisi chi o ran datganoli i lywodraeth leol yw eich bod chi'n fodlon rhoi pŵer iddyn nhw os ydych chi'n cytuno â'r hyn y byddan nhw'n ei wneud ag ef, ac ni fyddwch chi'n rhoi pŵer iddyn nhw os nad ydych chi'n cytuno. Nid datganoli mo rhywbeth felly, Llywydd, o gwbl.

Ac o ran ymchwiliad COVID, rwy'n edrych ymlaen at ddyfodiad yr ymchwiliad COVID i Gymru. Fe fydd yma yn ystod wythnos olaf mis Chwefror a phythefnos gyntaf mis Mawrth. Fe fydd yn craffu yn yr un ffordd ar y camau a gymerwyd yma yng Nghymru ag y gwelsoch chi'n digwydd ar gamau Gweinidogion y DU a Gweinidogion yr Alban. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i ateb y cwestiynau a ofynnir i ni, a hynny'n briodol, hyd eithaf fy ngallu. 

15:05

Buaswn i’n licio dechrau heddiw drwy longyfarch a diolch i Laura McAllister a Rowan Williams ac aelodau’r comisiwn i gyd am eu holl waith. Maen nhw wedi cynnal sgwrs ar ein dyfodol cyfansoddiadol ni sydd wedi bod yn ehangach ac yn fwy cynhwysol nag ydym ni wedi'i gael ers dyfodiad datganoli; yn fwy nag ydym ni wedi cael erioed, mae’n siŵr. Dros ddwy flynedd, mi gawson nhw mwy na 15,000 o ymgysylltiadau efo pobl o bob rhan o Gymru, o bob cefndir. Mae hwn wedi dangos, er gwaetha’r honiadau gan rai ar y meinciau cyferbyn, nad dim ond yr anoracs sydd â diddordeb yn ein setliad cyfansoddiadol ni. A buaswn i’n dadlau mai un o lwyddiannau mwyaf gwaith y comisiwn ydy dangos bod materion cyfansoddiadol yn faterion bara menyn, ac, i’r gwrthwyneb, mai cwestiynau bara menyn ydy cwestiynau cyfansoddiadol.

Er gwaethaf yr honiadau gan rai ar feinciau'r Ceidwadwyr, nid oes unrhyw beth o gwbl yn ofer ynghylch archwilio ein dyfodol cyffredin mewn ysbryd o fod yn agored, yn wrthrychol a chydweithio. Fe allwn i atgoffa'r Aelodau gyferbyn bod y Blaid Geidwadol wedi cyfranogi yn weithredol yn y broses hon, a bod adroddiad y comisiwn wedi cael ei gymeradwyo gan un a benodwyd arno ganddyn nhw. Rwy'n gwahodd y Ceidwadwyr i ystyried bod hwnnw'n gryfder i'r adroddiad hwn.

Mae bron i bythefnos wedi mynd heibio erbyn hyn ers cyhoeddi'r adroddiad, ac rwy'n credu, mae eisoes wedi newid y meddylfryd yn llwyr o ran ailddiffinio'r ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan roi brys ac ysgogiad newydd iddo, ac mae'n adnodd newydd gwerthfawr y dylid tynnu oddi arno. Rwy'n dweud 'brys newydd' am ei fod yn datgan mewn termau cignoeth iawn—termau trawsbleidiol cignoeth—na ellir cynnal y sefyllfa sydd ohoni. Mae'n rhaid i rywbeth newid, ac fe geir cytundeb ynglŷn â hynny. Ac wrth i ni ystyried nawr a chynllunio ar gyfer y newid hwnnw, mae'r comisiwn wedi sefydlu sylfaen newydd o dystiolaeth a fframwaith newydd ar gyfer ei ddadansoddi.

Yn gyffrous o'm safbwynt i, mae sylfaen y dystiolaeth yn dangos bod annibyniaeth yn ddewis hyfyw i Gymru ac y gellir ei chyflawni. Wrth gwrs, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai hwnnw yw'r dewis gorau i Gymru, y ffordd orau o gyflawni'r uchelgeisiau er mwyn ein cenedl—uchelgeisiau sydd, rwy'n gobeithio, yn gyffredin ar draws y Siambr hon. Ac mae'r comisiwn yn eglur ynglŷn â hyn: oni bai i'r holl ysgogiadau sydd eu hangen arnom ni i newid ein tynged economaidd fod ar gael i ni, mae ein hanes ni'n debygol o barhau i fod yn un o farweidd-dra a dirywiad rheoledig, a chyda'r ystod lawn o bwerau na all dim ond annibyniaeth ei gyflawni yn y pen draw, fe allwn ni newid y stori.

Ond fe wn i mai taith yw hon hefyd, ac mae llawer o bobl, am resymau cwbl ddealladwy, heb eu hargyhoeddi eto. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at beryglon, ydy, ond mae hynny'n wir am yr holl ddewisiadau o'n blaenau ni, gan gynnwys y perygl o aros yn y fan a'r lle a'r tlodi ymwreiddiedig y mae ein haelodaeth ni o'r DU wedi ei achosi i gymaint o deuluoedd a chymunedau. Felly, mae pobl yn chwilio am fwy o dystiolaeth, mwy o drafodaeth, wrth gwrs felly. Mae pawb yn yr un sefyllfa. Ac rwy'n dweud wrthych chi, rwy'n barod ar gyfer cymaint o sgyrsiau â phosibl, ni waeth pa mor anodd yw'r cwestiynau sy'n codi.

Fel dywedais i, rydym ni ar y meinciau hyn yn eglur o ran maint ein huchelgais a'n ffydd yng Nghymru—nid yw hynny mor wir am eraill. Roedd hi'n siomedig, fel dywedais i yr wythnos diwethaf, cyn i'r inc hyd yn oed fod wedi sychu ar bapur adroddiad y comisiwn, fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid eisoes wedi bod ar y cyfryngau i ddiystyru rhai o'i argymhellion allweddol. I'r gwrthwyneb, os caf i ddweud hefyd ym mhresenoldeb y ddau ohonyn nhw, mae tawelwch llethol wedi bod bron iawn o'r fan lle rwyf i'n gwrando o ran argymhellion y comisiwn oddi wrth y ddau ymgeisydd sy'n ymgeisio i arwain Llafur Cymru, ac rwy'n eu gwahodd nhw i dorri ar y tawelwch hwnnw.

Fe fyddai hi'n dda gennyf i ddeall, wrth gwrs, sut mae'r Prif Weinidog yn bwriadu bwrw ymlaen â'r ddadl hon o fewn ei blaid ei hun. Rwy'n eiddgar i weithio gydag ef, neu unrhyw un arall sy'n awyddus i ddwyn taith gyfansoddiadol Cymru yn ei blaen. Roedd ef â rhan mor allweddol yn ysgogi'r gwaith hwn ac, er gwaethaf y ffaith ei fod ar fin ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog, rwy'n amau na fydd ef yn dymuno ymbellhau yn ormodol oddi wrth y ddadl ehangach ynglŷn â dyfodol Cymru.

Yn nodedig iawn, ychydig iawn a gafodd ei ddweud, yn ôl cyd-gadeiryddion y comisiwn cyfansoddiadol, gan y rhai sy'n cefnogi'r sefyllfa sydd ohoni. Pam y maen nhw'n credu bod y sefyllfa hon cystal ag y gall pethau fod i Gymru? Yr hyn sy'n allweddol, yn fy marn i, yw y dylai'r drafodaeth, y drafodaeth genedlaethol wirioneddol a gawsom ni drwy gyfrwng y comisiwn ynglŷn â thaith Cymru i'r dyfodol, allu parhau. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gefnogi fy nymuniad i'r momentwm a enillwyd drwy waith y comisiwn allu parhau a gofyn i'r gwaith hwn barhau? Fe fyddai comisiwn parhaol yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda, rwy'n credu. Mae dyfodol cyfansoddiadol Cymru, wrth gwrs, yn perthyn, yn y pen draw, nid i ni yn y pleidiau gwleidyddol yn y fan hon, ond i holl bobl Cymru. Fe allwn ni sicrhau yn y fan hon fod ein dinasyddion yn cael dweud eu dweud, ac mae'r comisiwn wedi dangos pa mor egnïol y gall y sgwrs honno fod.

15:10

Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, bod natur y gwaith, y ffordd roedd y comisiwn wedi mynd ati, yn sefyll y tu ôl i'r adroddiad i gyd, gan roi pŵer i bopeth rŷn ni'n gallu ei ddarllen yn y fersiwn terfynol.

Fe ddylwn i ddweud, ddim ond ar gyfer y cofnod, Llywydd, mai'r Llywodraeth a benododd bob un o aelodau'r comisiwn. Fe wnaeth y pleidiau gwleidyddol gyflwyno enwau, ac yna'r Llywodraeth a oedd yn penodi'r aelodau i gyd, yn cynnwys Leanne Wood, a oedd yn cynrychioli Plaid Cymru, ac fe wn i ei bod hi wedi bod â rhan weithgar dros ben yn y digwyddiadau cymunedol hynny gan sicrhau bod y sgyrsiau sydd wedi llywio'r adroddiad mor egnïol ag y byddech chi wedi dymuno iddyn nhw fod.

Rwy'n cytuno bod brys ynglŷn ag argymhellion yr adroddiad. Mae'r angen am frys yn arbennig o daer ar rywun fel fi sydd o'r farn fod gwell dyfodol i Gymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Am fy mod i'n awyddus i weld Teyrnas Unedig y byddai pobl yng Nghymru yn dymuno bod yn rhan ohoni, y bydden nhw'n gweld y manteision o berthyn iddi, y bydden nhw'n gweld y bydd ein dyfodol ni'n well o'i gysylltu â dyfodol pobl eraill sy'n byw yn Lloegr ac yn yr Alban mewn achosion sy'n gyffredin. Rwy'n credu bod y ddadl sydd y tu ôl i'r adroddiad yn dangos pa mor daer yw'r angen i fynd ati i hyrwyddo'r achos hwnnw a'i wneud yn argyhoeddiadol.

Mae'r adroddiad yn wir yn dweud bod annibyniaeth yn ddewis sy'n hyfyw, ond mewn rhai ffyrdd nid hwnnw yw'r cwestiwn gwirioneddol. Nid a yw'r peth yn hyfyw, ond a yw'n fanteisiol. Ac rwyf i'n eglur iawn, y rheswm nad oes gennyf i ffydd mewn annibyniaeth yw oherwydd nad wyf i'n credu y byddai hynny'n fanteisiol i Gymru. Nid oes gennyf i ffydd mewn codi rhwystrau newydd. Nid oes gennyf i ffydd mewn creu ffiniau newydd pan nad oes ffiniau yn bod. Mae cymaint o bethau yn cysylltu pobl sy'n gweithio yng Nghymru â phobl sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae honno'n garreg sylfaen bwysicach, rwy'n credu, ar gyfer y dyfodol llwyddiannus hwnnw'r ydym ni'n awyddus i'w weld.

Y peth a'm synnodd i fwyaf yn yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yw, yn yr achos hwn yn unig, nad yw hi'n ymddangos ei fod ef yn rhoi sylw dyledus i drafodaethau yn y Blaid Lafur, y mae ef yn ymgolli ynddyn nhw mor aml, oherwydd pe byddai ef wedi bod yn gwrando yn ofalus fe fyddai ef wedi deall bod y dadleuon hyn yn fywiog iawn ymhlith y Blaid Lafur ac felly y bu hi erioed.

Fe hoffwn i weld yr adroddiad yn sail i ragor o drafodaeth a dadl. Fe hoffwn i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn ni ddal ati i fanteisio ar arbenigedd a phrofiad y bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o'r daith a arweiniodd at yr adroddiad. Ac fe fyddwn ni'n gweithio yn y Llywodraeth i ddod o hyd i ffyrdd o beri i hynny ddigwydd. Rwyf i fy hun yn edrych ymlaen at fod â rhan yn y trafodaethau i gyd. Rwy'n dweud weithiau, pan fydd pobl yn gofyn i mi ynglŷn ag ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog, fy mod i, chwedl Tony Benn, yn rhoi'r gorau i'r swydd i dreulio rhagor o amser yn gwleidydda. [Chwerthin.] Ac os felly, fe fydd hynny'n rhoi'r cyfle i mi wneud hynny yn rhan o'r hyn y byddaf i'n parhau i fod â diddordeb ynddo i'r dyfodol. 

15:15

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad y prynhawn yma. Mae hi'n ddogfen ddiddorol a heriol. Mae hi'n ddogfen ddifrifol sy'n herio pob un ohonom, gan gynnwys, rwy'n meiddio dweud, y Ceidwadwyr, i feddwl o ddifrif am y materion hyn. Ac mae hi'n eistedd ochr yn ochr â chomisiwn Thomas fel cyfraniad difrifol at lywodraethu yn ein gwlad i'r dyfodol. Ac ni ellir diystyru'r dogfennau hynny, na'r dystiolaeth honno, na'r dadleuon hynny yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth. Mae'n rhaid eu cymryd nhw o ddifrif ac ymgysylltu â nhw. Ac rwy'n gobeithio y bydd gwrthblaid Geidwadol yn gallu gwneud hynny ryw ddiwrnod.

Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw edrych tuag at Deyrnas Unedig wahanol, Prif Weinidog. A'r cwestiwn sydd gennyf i ar eich cyfer chi yw: sut ydym ni am wynebu'r her o ran ymgysylltu â'r sefydliad yn Llundain nad oes ganddo fawr o ddiddordeb mewn dyfodol gwahanol, na dyfodol sy'n wahanol iawn i ni yng Nghymru i'n sefyllfa gyfredol heddiw?

Ni wnaeth y comisiwn drafod strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig a hynny am resymau da iawn, ac rwy'n cydnabod hynny—rwy'n cydnabod pam nad oedd unrhyw ymdriniaeth o hynny. Ond oni bai bod strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig yn cael eu newid hefyd ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol o ran pwerau a democratiaeth yn y DU, efallai y bydd y strwythurau gennym ni ond ni fydd yr offer gennym ni i wneud y gwaith. Ac felly fe fydd y pethau hyn yn cyd-fynd â'i gilydd hefyd.

Ac yn olaf, Prif Weinidog, mae hi'n demtasiwn fawr iawn i lawer o bobl, yn enwedig yr ochr hon i'r Siambr efallai, geisio dweud bod y gwaith wedi cael ei gwblhau pan fydd y Ceidwadwyr allan o rym. Sut fyddwn ni'n darbwyllo ein cydweithwyr ni yn y Blaid Lafur wedyn, a fydd o'r farn mai'r amcan yw cael Llywodraeth Lafur i'r DU ac o'r farn y bydd yr argyfwng mawr drosodd o ran y ddadl gyfansoddiadol?

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Diolch i Alun Davies am yr holl bwyntiau yna, Dirprwy Lywydd dros dro. Fe wnaeth ef bwyntiau difrifol ac mae ef yn gywir i ddweud bod yr adroddiad yn un difrifol a heriol i'w ddarllen. Ni fyddech chi'n disgwyl dim llai, rwy'n credu, o ystyried safon y bobl a oedd yn rhan o'r comisiwn a chadernid y grŵp cynghori yr oedden nhw'n gallu elwa ar ei waith. Fe geir dyfnder dadansoddiadol gwirioneddol a thrylwyredd yn y ffordd y cafodd fframwaith ei gymhwyso i'r dystiolaeth ar gyfer crynhoi'r dadansoddiadau a'r casgliadau y mae'r adroddiad yn eu tynnu oddi wrth hynny.

Mae yna berygl yn bod bob amser, yn y Blaid Lafur, y bydd pobl o'r farn, am fod y Ceidwadwyr wedi cael eu trechu, y bydd y gwaith cyfansoddiadol wedi cael ei gyflawni. Ond fe hoffwn i atgoffa pawb mai Llywodraeth Lafur oedd hi, yn ei blwyddyn gyntaf yn 1997, ar ôl 17 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, a wnaeth benderfynu ei bod hi'n rhaid canfod yr amser ar gyfer y diwygiadau cyfansoddiadol a arweiniodd at sefydlu'r Senedd hon. Felly, er y ceir tensiwn yn aml, a bod dadl i'w chael, mae'r dystiolaeth sydd gennym ni'n dangos yn eglur iawn mai'r Blaid Lafur yw awdur datganoli. Rydym ni yma oherwydd Llywodraeth Lafur a'r ymrwymiad a gyflawnodd y Llywodraeth Lafur honno.

Sut allwn ni, yng Nghymru, barhau i ddylanwadu ar y drafodaeth honno? Wel, dyma'r profiad a gefais i o fod yn yr ystafell gyda chydweithwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU. Mae gan gydweithwyr yn yr Alban fantais bob amser yn y ffaith eu bod wedi cael eu hethol yn Llywodraeth sydd â mandad, chwedl nhw, i dynnu'r Alban o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y byddan nhw'n cael gwrandawiad difrifol bob amser. Mae cydweithwyr o Ogledd Iwerddon yn dod i mewn i'r ystafell gyda holl hanes cythryblus y rhanbarth, a'r angen i bawb sy'n bresennol fod yn ofalus o ran sicrhau nad yw'r penderfyniadau a wneir yn ailgynnau'r trafferthion hynny. Maen nhw'n dod gyda grym hynny yn eu meddiant. Yr hyn sydd gan Gymru yn syml yw cryfder ein dadl. Dyna yw ein harwyddocâd ni, a dyna pam rwyf i o'r farn fod llawer o sylwebyddion annibynnol yn dod i'r casgliad, pan fu ystyriaeth ddifrifol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, wedyn, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf neu fwy, mai o Gymru y daeth y cyfraniad mwyaf at y ddadl honno. Boed hynny drwy gomisiwn Thomas, boed hynny drwy gomisiwn annibynnol, a'r dylanwad a gafodd Carwyn Jones a Paul Murphy ar yr adroddiad terfynol o waith Gordon Brown, rwy'n credu y gallwch chi weld cyfraniad Cymru yno yn ein parodrwydd ni i geisio gwneud pethau a meddwl o ddifrif, cael trefn ar y dadleuon, y datrysiadau ymarferol y gellir eu cyflawni. Dyna pam mae'r adroddiad hwn, sef adroddiad terfynol y comisiwn, mor rymus: am ei fod yn sefyll yn gadarn iawn yn y traddodiad hwnnw. 

15:20

Prif Weinidog, mae'r adroddiad hwn wedi costio cyfanswm o £1.5 miliwn hyd yn hyn ac mae'n dal i gynyddu. I fod yn gwbl onest, ni fydd yn cael ei weithredu dan Lywodraeth Geidwadol, a chyn i'r inc sychu ar y papur, fe gafodd ei daro i lawr gan ysgrifennydd gwladol Llafur, a ddywedodd y byddai Llywodraeth Lafur newydd, ac rwy'n dyfynnu, yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig. Felly, rwy'n edrych ymlaen, Prif Weinidog, at weld yr adroddiad hwn yn cael ei roi yn ôl ar y silff ac yn cymryd ei le fel y peth mwyaf costus i hel llwch erioed.

Nawr, roeddwn i'n dymuno codi pwynt wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, pryd y galwodd am gyflwyno comisiwn parhaol i edrych ar hyn yn barhaus. Fe sylwais i na wnaethoch chi fynd i'r afael â hynny yn eich ateb, felly a allwch chi ddweud na fydd hynny'n digwydd—sefydlu comisiwn cyfansoddiadol parhaol yma yng Nghymru?

Wel, mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd, mae'n gyfraniad digalon iawn y mae'r unigolyn yn ei wneud, on'd yw e? Byddech chi'n tybio y gallai fod yn meddwl ei fod wedi cael ei anfon yma i wneud rhyw fath o gyfraniad difrifol i ddyfodol y Deyrnas Unedig. Ond os yw ef o'r farn mai dyna'r cwbl sydd ganddo i'w gynnig—os mai'r hyn yr ydym ni newydd ei glywed yw'r cyfan sydd ganddo i'w gynnig—yna fe allaf i ddweud wrtho nawr, fel y dywedodd eraill yn y fan hon, ei fod yn gwybod cost pob peth ac yn deall gwerth dim.

Fe fydd fy nghyd-Aelod, Jo Stevens, yn falch ei fod wedi cyfeirio ati hi fel Ysgrifennydd Gwladol nesaf Cymru. Roedd yn garedig iawn iddo ei chymeradwyo hi yn y ffordd honno. Ar hynny, o leiaf, efallai ei fod wedi darllen yr ysgrifen ar y mur. A dweud y gwir, pe bai wedi bod yn gwrando, fe wnes i fynd i'r afael â'r pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Fe ddywedais i fy mod o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i'r sgwrs barhau, y dylid gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyfleu profiad ac arbenigedd pobl sydd wedi bod ar y comisiwn ac sydd wedi bod yn rhan o gynhyrchu'r adroddiad hwnnw heddiw. Nid wyf i am ddweud, y prynhawn yma, y byddwn ni'n gwneud hynny trwy gomisiwn sefydlog, neu y byddwn ni'n ei wneud yn y ffordd hon. Rydyn ni'n cytuno ar yr amcan. Fe fydd yna ddigon o gyfle i drafod sut y caiff yr amcan hwnnw ei gyflawni.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, a hefyd am ei arweiniad, yn sicrhau bod y comisiwn yma wedi dod i fodolaeth ac wedi cyfrannu yn y ffordd bwysig y mae wedi gwneud yn barod, ond hefyd am sicrhau'r ysbryd cynhwysol, agored yr oedd y ddau gyd-gadeirydd, a dweud y gwir, am sicrhau o ran gwaith y comisiwn?

Gwlad y comisiynau yw Cymru, fel dywed y comisiwn. Ond mae hynny'n awgrymu, onid ydyw, yr angen am rywbeth mwy cadarn, mwy parhaol na dim ond cyfres o gomisiynau dros y blynyddoedd os ydym ni'n awyddus i gael gwelliant parhaus o ran ein hiechyd democrataidd. Yn ei argymhelliad cyntaf, mae'n galw am allu pwrpasol, gydag arweinyddiaeth newydd a gefnogir gan arbenigedd a phrofiad, sy'n cynhyrchu egni newydd, syniadau newydd ar gyfer arloesi democrataidd ac addysg ddinesig—croesiad, os mynnwch chi, rhwng labordy democratiaeth ac ysgol dinasyddiaeth ledled y wlad. Yn wir, fel soniwyd eisoes, yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu oedd i fod â chomisiwn sefydlog.

Felly, rwy'n deall nad yw'r Prif Weinidog am ddewis y cyfrwng ar hyn o bryd, ond a gaf i awgrymu nifer o bosibiliadau—cyfleodd i ni ymchwilio, efallai, i wedd y gallu newydd hwnnw? Mae gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a gaiff ei enw newydd yn fuan ddiben eang eisoes yn wir o ran hyrwyddo iechyd democrataidd—a allem ni roi'r ddyletswydd benodol honno i hwnnw? Neu a ellid ehangu'r ysgol lywodraeth genedlaethol a gaiff ei chreu cyn bo hir o ran ei dibenion, nid yn unig yn ysgol hyfforddi gweision sifil, ond yn academi hefyd i'r genhedlaeth nesaf o wleidyddion a dinasyddion gweithredol, deallus, ymgysylltiedig, gyda swyddogaeth o ran ymchwil a datblygu democratiaeth hefyd? A lle bynnag yr ydym ni'n penderfynu magu'r gallu newydd hwn, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen rhywbeth arnom ni, canolbwynt newydd, os mynnwch chi, ar gyfer ein democratiaeth, gan weithio ar draws y pleidiau, y tu hwnt i bleidiau—elfen newydd yn ein seilwaith democrataidd? Oherwydd pan edrychwn ni ar yr argyfwng ledled y byd o ran democratiaeth, fy mhryder i yw y bydd y Siambr hon, beth bynnag fydd ei maint, mewn perygl o fod yn siambr i adleisio mewn gwactod oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth—oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth i adfywio ein democratiaeth. Democratiaeth, wedi'r cyfan, yw'r gobaith gorau sydd gennym ni yng Nghymru, fel ym mhobman arall, i gyflawni cynnydd ar ran y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.

15:25

Dirprwy Lywydd dros dro, diolch yn fawr i Adam Price am beth ddywedodd e am yr ysbryd y tu ôl i'r comisiwn, a diolch iddo fe am ei gyfraniad e pan oedd y comisiwn yn cael ei sefydlu a phan oeddem ni'n trafod y gwaith yr oedd y comisiwn i'w wneud.

Wel am wahaniaeth o ran ansawdd, Dirprwy Lywydd dros dro, yn y ddau gyfraniad a glywsom ni, un ar ôl y llall. Mae llawer o'r pethau a ddywedodd Adam Price yn fy marn i'n bethau y dylem ni eu hystyried. Rwy'n credu bod y posibilrwydd y daw'r ysgol lywodraethu genedlaethol, er enghraifft, yn ffordd o addysgu arweinyddion dinesig y dyfodol, nid arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol yn unig, yn un y dylem ni ei drafod a'i ystyried. Ac mae e'n gywir, onid yw, ynglŷn â'r argyfwng democrataidd a welwn ni ledled y byd? Os nad ydym ni'n ofalus, fe fyddwn ni'n rhoi coel i'r gred y bydd democratiaeth yn siŵr o barhau, ei bod hi'n anochel y byddwn ni'n parhau i fyw mewn gwlad lle mae'r bobl sy'n dod i'r fan hon yn gwneud hynny am eu bod nhw wedi cael eu dewis gan bobl yng Nghymru i wneud y gwaith y cawsom ni ein dewis i'w wneud. Ond ni fydd democratiaeth yn ffynnu oni bai eich bod chi'n gofalu am yr ardd lle caiff ei hau. A dyna oedd bwriad yr adroddiad hwn. A bod yn optimistaidd, y rheswm y dywedais i yn fy natganiad agoriadol, pe bai dim ond un bennod yn cael ei darllen gan gydweithwyr, y drydedd bennod ddylai honno fod oherwydd yr hyn y mae'r drydedd bennod honno'n ei ddweud: pan oedd gan y comisiwn ystafell lawn o bobl nad oedden nhw'n gwybod yn iawn pam ddylai unrhyw un fod yn gofyn am eu barn nhw am y pethau hyn ac na allen nhw weld yn iawn pam ddylai trafodaeth ynglŷn â'r dyfodol cyfansoddiadol olygu unrhyw beth yn eu bywydau nhw, yr hyn a wnaethon nhw ei ddarganfod oedd nad oedd hi'n cymryd llawer o amser yn trafod fel hynny cyn i'r cysylltiadau ddod yn gwbl amlwg i bobl—sut oedden nhw'n gallu gweld bod y pethau bara menyn, y pethau sy'n digwydd yn eu bywyd bob dydd, yn cael eu gwreiddio yn y strwythurau yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â nhw. Ac rwy'n credu bod honno'n ffynhonnell o optimistiaeth, ond mae'n dweud wrthym ni, fel yn yr adroddiad, na fydd hynny'n digwydd oni bai ein bod ni i gyd yn barod i feddwl yn llawn dychymyg ac yn greadigol, ac ymegnïo o'r newydd yn hyn o beth.

15:30

Rwy'n diolch yn fawr iawn wir i bawb sydd wedi cyfrannu at gyflwyno'r adroddiad hwn. Mae hwn yn adroddiad difrifol iawn. Mae'n gadarn ei ddeallusrwydd. Rwy'n credu ei fod yn gytbwys iawn ei ystyriaethau, ac mae'n haeddu ystyriaeth ddifrifol gan bawb sy'n meddwl am y dyfodol, nid yn unig yn y lle hwn, ond am ddyfodol Cymru, a dyfodol Cymru a'r ynysoedd hyn yn ogystal â hynny, a llywodraethu a llywodraeth yr ynysoedd hyn hefyd. Ac rwy'n credu ei fod yn deilwng o ystyriaeth ddifrifol ac ymgysylltiad gan bob plaid. Ac rwy'n credu, gyda llaw—rwyf i am ddod at hyn ymhen eiliad—fod yna faterion y bydd y Ceidwadwyr yn awyddus i ymgysylltu â nhw yn hyn o beth.

Ac mae hi'n bwysig, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag ansawdd ein llywodraethu a'n llywodraeth ni. Mae'n ymwneud â chysylltiadau a pharch rhynglywodraethol a rhwng seneddau. Mae'n ymwneud â diogelu'r setliad datganoli cyfredol, a chyflwyno cynigion a allai esgor ar setliad cyfansoddiadol yma yng Nghymru, a ledled y DU, sy'n fwy addas i'r sefyllfa ôl-UE ar hyn o bryd, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, sy'n addas i'r dyfodol hefyd.

A'r pwynt yr wyf am ei roi gerbron cyd-Aelodau yn y Senedd heddiw, o bob plaid, yw: mae yna argymhellion yn yr adroddiad hwn ynghylch nid yn gymaint o ran ein cyfeiriad yn y dyfodol, ond o ran amddiffyn datganoli nawr, ac fe fyddwn i'n dweud bod rhai o'r argymhellion hyn yn adleisio—ac rwy'n siarad ar fy rhan fy hun heddiw, ond maen nhw'n adleisio—rhai o syniadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a phwyllgorau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi hefyd, gan y fforwm rhyngseneddol ac eraill, ac maen nhw'n sôn am ymgorffori confensiwn Sewell yn y ddeddfwriaeth, ac ymgorffori cysylltiadau rhynglywodraethol yn y ddeddfwriaeth ar sail y ddyletswydd honno i gydweithio a dangos parch cyfartal i Lywodraethau'r DU.

Felly, Prif Weinidog, a chyd-Aelodau Ceidwadol, a gaf i ddim ond awgrymu: mae'r rhain yn bethau y gallwn ni, yn y fan hon, nawr, gytuno i weithio arnyn nhw gyda'n gilydd, a chyflwyno sylwadau gerbron Lywodraeth y DU a Senedd y DU ar gyfer mynegi, 'Mae'r rhain, o leiaf, yn bethau y mae angen i ni eu cloi nhw i mewn', oherwydd mae'r perygl a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad hwn yn un y mae eraill wedi tynnu sylw ato eisoes—gan gynnwys y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—sef, heb gloi'r rhain i mewn, fe fyddwn ni mewn perygl o rowlio i lawr fryn datganoli. 

Wel, Llywydd, mae'r adroddiad yn eglur iawn, oni bai y caiff camau eu cymryd, yna fe fydd datganoli yng Nghymru yn crebachu, ac ni allwch chi sefyll yn eich unfan. Ac nid ydym ni wedi bod yn sefyll yn ein hunfan, oherwydd fe welsom ni bethau yn mynd trwy ddwylo'r Senedd hon ac yn ôl i Lundain. Ac, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Lywydd, mae hi'n amlwg iawn hefyd ar nifer o'r tudalennau nad Llywodraeth Cymru yw ei hunig gynulleidfa; y Senedd ei hun yw hi i raddau helaeth iawn. Ac mae Huw yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r ffordd y mae gweithredu seneddol—a gaiff ei adlewyrchu mewn sawl adroddiad, yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin, yn ogystal ag yma ac mewn mannau eraill—a gallu deddfwrfeydd i ddod at ei gilydd i wella'r ffordd y caiff pŵer ei ddosbarthu yn iawn trwy'r Deyrnas Unedig ac yna'n dod yn ôl at ei gilydd unwaith eto i gyflawni dibenion sy'n gyffredin, yr ydym yn cytuno o ran ein bod yn dymuno rhannu'r sofraniaeth honno—. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn hynod rymus wrth ymdrin â'r materion hynny hefyd. 

Diolch, Llywydd dros dro. Prif Weinidog, roedd yr adroddiad o ddiddordeb mawr i mi, ac, yn amlwg, fe'i darllenais o'n fanwl, ac rwy'n credu bod llawer o wybodaeth ddefnyddiol i'w chasglu ohono. Yn amlwg, fel chi, rwy'n ymroddedig i'r undeb. Fe hoffwn i weld Cymru yn cyfranogi yn llawn yn y DU, ac mae'r ffaith bod gan Gymru ddwy Lywodraeth yn brwydro ar ei chyfer—un ar yr ochr hyn o'r M4, a'r llall yr ochr draw—peth da yw hynny yn fy marn i.

Nawr, yn amlwg, roedd rhai pethau yn yr adroddiad a oedd yn peri pryder, y mae'r comisiwn wedi tynnu sylw atyn nhw, ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith, gyda llaw. Un o'r pethau hynny oedd y diffyg ymwybyddiaeth ymhlith dinasyddion yng Nghymru o'r pwerau a'r cyfrifoldebau a chan bwy y maen nhw, boed hynny yn y Senedd hon neu ar haen Senedd y DU. Ac i ba raddau tybed yr ydych chi'n barod i edrych ar yr hyn y gellid ei wneud nid yn unig o ran ein system addysg, gydag addysg dinasyddiaeth—sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn—ond ymhlith y boblogaeth yn fwy eang, nad yw llawer ohonyn nhw'n mynd drwy'r system addysg ar hyn o bryd, ond mae angen addysg arnyn nhw o hyd ynghylch pwy sydd â'r cyfrifoldebau.

Wrth gwrs, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio hefyd ar y berthynas wael sydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Fe wyddom ni fod straen a phwysau yn aml yn gallu bod wrth i'r cyfansawdd gwleidyddol amrywio mewn gwahanol leoedd, ac mae'n siŵr fod hynny wedi gwaethygu'r berthynas, fel gwnaeth, wrth gwrs, y sefyllfa gyfan gyda Brexit. Ond, yn amlwg, mae awydd ymhlith y cyhoedd i weld gwelliant gyda'r pethau hyn, heb ystyriaeth i liwiau'r pleidiau gwleidyddol ym mhob siambr. Ac eto, tybed i ba raddau y gallwch chi fyfyrio ar y ffaith bod pethau wedi gwella yn sylweddol ers newid y Prif Weinidog yn San Steffan, dros y 12 mis diwethaf, o leiaf.

Ac yn drydydd, dim ond codi'r mater o ran y berthynas sydd rhwng seneddau—ac rwy'n credu bod honno'n bwysig dros ben, mewn gwirionedd—fel gwyddoch chi, rwyf i'n aelod o Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, ac yn hoffi cyfranogi yn llawn yng ngwaith y Cynulliad hwnnw. Ac mae hwnnw wrth gwrs yn ystyried y berthynas ar draws yr ynysoedd, gan gynnwys gyda Gweriniaeth Iwerddon. Ond rwy'n credu bod gwir angen fforwm ar gyfer y berthynas ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig, heb i Weriniaeth Iwerddon fod yn rhan o hwnnw, oherwydd mae rhai pethau sydd o ddiddordeb i holl Seneddau'r Deyrnas Unedig nad ydyn nhw, a dweud y gwir, yn cael eu trafod mewn ffordd agored, gyda'r ymgysylltiad priodol. Ac felly, tybed pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu cynulliad rhyngseneddol o ryw fath, gan weithio gyda'r Senedd, wrth gwrs, yn ei chynrychioli—

15:35

—er mwyn gwneud yn siŵr bod modd hwyluso'r mathau hynny o ddadleuon a thrafodaethau. Oherwydd nid yw'r adroddiad hwn yn ymhelaethu ar hynny, ond mae'n beth pwysig y mae angen iddo ddod allan o'r gwaith hwn.

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i Darren Millar am y cyfraniad meddylgar hwnnw ac am y parch a ddangosodd i waith y comisiwn a'r rhai sydd wedi cyfrannu cymaint ato. Rwy'n credu bod y mater o ymwybyddiaeth dinasyddion—rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am yr angen i ni wneud mwy a gwneud mwy o ran addysg. O'm mhrofiad fy hun dros fwy na 40 mlynedd, yn sicr, erbyn hyn o boeni pobl yn eu cartrefi eu hunain, curo ar eu drysau ar adeg etholiad, pan fydd rhywun yn dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, mae'r cyfan yn ymwneud â'r Llywodraeth, onid ydyw? Rwyf wedi curo ar ddrysau mewn etholiadau cynghorau cymuned, etholiadau awdurdodau lleol, etholiadau'r Senedd, etholiadau seneddol, etholiadau Ewropeaidd. Y person sy'n dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, dydyn nhw ddim eisiau gwybod am hynny, maen nhw eisiau gwybod, 'Pam na alla i barcio fy nghar?', 'Pryd mae'r sbwriel yna'n mynd i gael ei gasglu?' Y pethau maen nhw'n eu gweld o'u stepen drws eu hunain yw'r pethau maen nhw eisiau siarad â chi amdanyn nhw. Felly, er fy mod i o blaid gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn deall y system yn well, yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod, fwy na thebyg, mai'r hyn y mae gan bobl ddiddordeb ynddo fwyaf, pa bynnag lefel o lywodraeth rydych chi'n rhan ohoni, yw'r pethau maen nhw'n eu gweld, sy'n bwysig iddyn nhw, o ddydd i ddydd.

Edrychwch, mae rhywfaint o welliant wedi bod yn naws perthnasoedd rhynglywodraethol ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y DU. Mae'n barod iawn i gydnabod bod y Deyrnas Unedig yn cynnwys gwahanol gydrannau a'u bod yn haeddu parch. Ond mae'n rhaid iddo fod yn fwy na hynny. Mae gan y peirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol, y cymerodd bum mlynedd i gytuno arno, a gomisiynwyd gan Theresa May, y cytunwyd arno, fel y dywedais i, bum mlynedd yn ddiweddarach, gyngor o Weinidogion sy'n ganolog iddo. Wnaeth e' ddim cwrdd unwaith yn 2023, er gwaetha'r heriau niferus rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n eu hwynebu—costau byw ac argyfyngau eraill. Ni chyfarfu'r cyngor hwnnw unwaith. Ac er bod y naws yn well, y perfformiad gwirioneddol, mae'n anodd dweud ein bod ni wedi gweld y gwelliant sydd ei angen.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Darren Millar hefyd, Llywydd, am drefniadau rhyng-seneddol, am gryfhau'r rheini, ac mae llawer o waith yn digwydd ar lefel seneddol i wneud hynny. Nid mater i'r Llywodraeth yw arwain ar y gwaith hwnnw na cheisio dylanwadu arno, ond rydw i fy hun yn falch o'i weld. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, serch hynny, yw'r peirianwaith mwy cadarn hwnnw y cyfeiriodd Darren Millar ato. Mae yno ar dudalennau'r adroddiad. Mae adroddiad Gordon Brown yn cynnig cyngor newydd o'r cenhedloedd a'r rhanbarthau, fel man lle gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd a thrafod a rhannu'r pethau hynny rydyn ni'n gwybod sy'n bwysig i bobl ble bynnag maen nhw'n byw yn y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu pe bai'r cyngor hwnnw'n cyfarfod heddiw, bydden nhw eisiau gweld yr adroddiad hwn, a byddai yna fforwm lle byddem yn gallu bwrw ymlaen ag ef. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r jig-so cyfansoddiadol hwn hefyd. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.

15:40
4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Papur Gwyn ar Fil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Papur Gwyn ar gyfer Bil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau amrywiaeth, a dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ein Papur Gwyn ar sefydlu egwyddorion amgylcheddol, cryfhau llywodraethu amgylcheddol a chyflwyno targedau bioamrywiaeth ar gyfer Cymru wyrddach. Mae'r Papur Gwyn hwn yn nodi cynigion i gyflwyno Bil i'r Senedd a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau nad oes unrhyw ostyngiad mewn ansawdd na safonau amgylcheddol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn cryfhau llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru drwy sefydlu corff newydd i oruchwylio gweithredu a chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Ac, yn olaf, bydd yn cyflwyno dull newydd o ymdrin â thargedau bioamrywiaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng natur parhaus.

Mae'r cynigion yn adlewyrchu ein hymrwymiad tuag at Gymru wyrddach i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur, fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu. Datblygwyd y cynigion fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur drwy ein rhaglen lywodraethu. Rydym wedi blaenoriaethu diwygio cymorth amaethyddol ac wedi cyflwyno deddfwriaeth aer glân newydd. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran gweithredu targed sero-net newydd ac wedi nodi llwybr i'w gyflawni. Rydym wedi creu grantiau newydd ar gyfer adfer natur, gwariant sydd wedi'i ailgyfeirio'n sylweddol ar drafnidiaeth, wedi gwneud diwygiadau cynllunio ac wedi cefnogi buddsoddiadau i gyrraedd targedau ansawdd dŵr.

Rydym wedi blaenoriaethu diwygio gweithredol yn briodol i gefnogi'r amgylchedd, a bydd y cynigion yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau'r diwygiadau hanfodol hyn trwy gryfhau ein fframwaith llywodraethu cyffredinol. Wrth wneud hynny, byddwn yn sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol yn unol â disgwyliadau pobl yng Nghymru. Nid ymarfer i ddisodli strwythurau a deddfwriaeth a oedd ar waith tra roeddem yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn unig yw'r dull hwn; mae ein dull gweithredu wedi'i deilwra i'r cyd-destun Cymreig. Byddwn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru nid yn unig i roi sylw dyledus i'r egwyddorion amgylcheddol sy'n deillio o'r UE, ond i nodi mewn canllawiau statudol sut yn union y bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hystyried wrth ddatblygu polisi.

Yn yr un modd, bydd y corff llywodraethu yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru. Bydd y corff yn gweithio mewn ysbryd o gydweithio ac yn cymryd ymagwedd uwchgyfeiriol, gan weithio gydag awdurdodau cyhoeddus Cymru i unioni pethau. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, bydd gan y corff yr hawl i gymryd camau gorfodi effeithiol i sicrhau cydymffurfiaeth. Wrth gyhoeddi'r cynigion hyn, hoffwn gydnabod gwaith asesydd dros dro diogelu'r amgylchedd yng Nghymru, Dr Nerys Llewelyn Jones. Mae'r IEPAW wedi bod, ac yn parhau i gyflawni rôl werthfawr mewn perthynas â gweithredu cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, ac mae'r Papur Gwyn yn nodi cynigion a fydd yn adeiladu ar waith pwysig yr IEPAW.

Ym mis Rhagfyr 2022, nodais ein huchelgais ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng natur ar lwyfan y byd yn COP15 ym Montreal. Fel rhan o'n hymateb i fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal, ymrwymais i osod targedau natur uchelgeisiol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Gan gydnabod bod angen camau gweithredu parhaus a hirdymor i gyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen, mae'r Papur Gwyn yn cyflwyno fframwaith adfer natur strategol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth, yn ogystal â darparu mwy o atebolrwydd a thryloywder. Mae hyn yn cynnwys targedau bioamrywiaeth statudol, sy'n cynnwys prif darged positif i natur a gaiff ei nodi yn y Bil, a chyfres o dargedau cefnogi bioamrywiaeth a gaiff eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth. Rydym yn rhagweld y bydd rhai o'r rhain yn dargedau newydd, tra bydd eraill yn cyd-fynd â thargedau amgylcheddol presennol sydd eisoes wedi'u cynllunio i gefnogi lleihau'r pwysau ar ecosystemau a chynyddu gweithgarwch adfer natur. Ar ôl ei sefydlu, byddem yn ceisio mewnbwn y corff llywodraethu newydd i nodi targedau newydd a all ysgogi cynnydd cadarnhaol ychwanegol o ran natur yn fwyaf effeithiol.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y bydd Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth adfer natur a fydd yn nodi gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sy'n bositif i natur, a chynllun gweithredu adfer natur, a fydd yn manylu ar y camau tymor byrrach sydd eu hangen i gyflawni'r targedau bioamrywiaeth statudol. Bydd angen dull gweithredu ledled Cymru i gyflawni'r uchelgais hon. Dyna pam rwyf hefyd yn cynnig cynlluniau adfer natur lleol a fyddai'n cael eu cynhyrchu gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y rhain yn amlinellu blaenoriaethau a chamau gweithredu ar lefel leol, ac yn cefnogi cydweithredu rhanbarthol. 

Mae'r dull hwn yn ategu ein pwyslais ehangach ar Gymru gydnerth, sy'n cwmpasu Cymru gyfan, nid dim ond safleoedd gwarchodedig dynodedig. Ein huchelgeisiau yw sicrhau bod safleoedd gwarchodedig yn cael eu cynnal a'u gwella, er mwyn osgoi difrod amgylcheddol diangen ledled Cymru a gwneud gwaith rhagweithiol o ran adfer natur mewn ardaloedd lle mae wedi dirywio. Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn am gymorth ac egni'r holl randdeiliaid sydd wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r gwaith hwn hyd yma, a byddwn yn parhau â'r trafodaethau manwl hyn wrth i ni fireinio ein cynigion polisi a chyflwyno deddfwriaeth.

Mae agwedd y Llywodraeth hon tuag at yr amgylchedd wedi'i wreiddio mewn cyfiawnder cymdeithasol. Ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl Cymru heddiw mewn ffordd nad yw'n amddifadu cenedlaethau'r dyfodol o'u gallu i ddiwallu eu hanghenion nhw. Yn y modd hwn, mae cadw adnoddau naturiol a rhannu'r manteision a ddaw ohonynt yn fater o degwch. Mae'r cynigion a gyhoeddwyd heddiw wedi'u cynllunio i helpu i lunio agenda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys sut maen nhw'n cydweithio â chymunedau a busnesau i sicrhau perthynas fwy cynaliadwy â'n byd naturiol. Diolch.

15:45

Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Mae'r Papur Gwyn yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir, oherwydd mae'n rhoi natur, yr amgylchedd a bioamrywiaeth ar flaen ein meddyliau o ran deddfwriaeth. Fodd bynnag, a allech chi ddatrys problem fach i mi, Gweinidog? A allech chi gynghori pam nad yw'r Papur Gwyn hwn wedi'i gyhoeddi eto, yn ôl y Llyfrgell? Unwaith rwyf yn gwybod eich bod yn cyflwyno datganiadau, rydym fel arfer yn cael y papur ac yn ei ddarllen, fel y gallwn ni godi unrhyw bryderon mewn gwirionedd, ac rwy'n cael trafferth dod o hyd iddo.

Mae angen i ni ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Yn ystod proses ddeddfwriaethol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), pasiodd mwyafrif o'r Senedd hon ein gwelliannau, a fyddai wedi gwthio ymlaen creu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Mae'n hen bryd i hynny ddigwydd a gofynnwyd amdano droeon drwy ein pwyllgor amgylchedd a newid hinsawdd. Ac mae'n gwaethygu: fe glywais i yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf bod hyd yn oed rhywfaint o ansicrwydd nawr ynghylch pryd y bydd rheoliadau sy'n ofynnol o ganlyniad i'r Ddeddf honno'n cael eu cyflwyno. 

Er gwaethaf yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth sydd wedi arwain at fabwysiadu'r nod o warchod 30 y cant o dir a môr, nid ydych wedi manteisio ar y cyfle i roi sail statudol i hyn o hyd. Wrth gwrs, rydych chi wedi buddsoddi £15 miliwn yn rhaglen Rhwydweithiau Natur, i ddiogelu cynefinoedd naturiol amrywiol Cymru, o forfeydd heli ac aberoedd i goedwigoedd a glaswelltiroedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am wneud hynny, ac mae'n rhywbeth y mae'r ddwy ohonom ni yn awyddus i sicrhau ei fod yn digwydd, ond rydych chi'n colli cyfle go iawn i fynd ymhellach, yn enwedig yn yr amgylchedd morol.

Mae yna brosiectau penodol, fel y gwyddoch chi, sy'n gyffrous, megis gwaith morfa heli yn sir Gaerfyrddin, aber Conwy a'r Hafren, a chlogwyni môr ar benrhyn Llŷn ac Ynys Môn, ond nid yw'r rhain yn gweld newid ledled y wlad. Er enghraifft, rwyf wedi galw o'r blaen am greu cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru, wedi'i gynllunio i gynnal a gwella ein cynefin carbon glas morol gwerthfawr. Byddai hynny'n gosod targedau ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys gwaddodion morol, morwellt, morfeydd heli, cynefinoedd gwaddodol islanwol a physgod cregyn. Er bod y Senedd yn cefnogi ein cynigion deddfwriaethol i gael cynllun datblygu morol cenedlaethol ar gyfer Cymru, a fyddai'n helpu i greu sicrwydd i bob plaid ac yn osgoi unrhyw wrthdaro yn ystod y cam ymgeisio, oherwydd gallai gwely'r môr gael ei fapio allan wedyn, fel yr ydym yn ei wneud gyda chynlluniau datblygu lleol—dyma'r math o gamau gweithredu yr ydym yn gobeithio y byddwch chi'n eu cymryd.

Rwyf wedi ysgrifennu'n bersonol atoch ac rwyf wedi cyfarfod â'ch swyddogion i drafod ffyrdd y gallwn hefyd integreiddio ynni adnewyddadwy ag adfer natur morol ar yr un pryd. Mae ffermydd gwynt alltraeth yng Ngwlad Belg yn cynnig yr amgylchedd unigryw i adfer riffiau wystrys, ac rwyf wrth fy modd â'r gwaith rydych chi eisoes yn helpu i'w gefnogi ar hyn. Mae'r prosiect, a elwir yn UNITED, yn canolbwyntio ar synergeddau rhwng cynhyrchu gwynt ar y môr a dyframaeth ac adfer wystrys gwastad. Ni chaniateir pysgota ar wely'r môr mewn parciau gwynt, sy'n atal difrod i'r rîff. Roeddwn yn meddwl tybed a fyddech chi'n gallu dweud rhywbeth heddiw am bysgota ar wely'r môr. Mae'r swbstrad caled a ddefnyddir fel amddiffyniad rhag erydiad o amgylch tyrbinau gwynt mewn gwirionedd yn ddelfrydol ar gyfer larfa wystrys i setlo a chychwyn riffiau naturiol. Byddai'n dda iawn pe gallem ddilyn yr arweiniad hwnnw yma yng Nghymru.

Hoffwn weld datganiad neu rywbeth gennych chi heddiw ynghylch a ydych yn ei hanfod yn rhwystro prosiectau ynni adnewyddadwy ar neu ger ein mawndir a'r rhesymau dros hynny. Rwyf wedi ysgrifennu atoch gyda thystiolaeth, gan gredu y gall y ddau gydfodoli ac y gellid newid geiriad pennod 6 'Polisi Cynllunio Cymru' fel bod yr hyblygrwydd hwn. Mae hwn yn faes polisi y gwn fod gan y ddau ohonom ddiddordeb arbennig ynddo, felly edrychaf ymlaen at weithio gyda chi a chynnal yr archwiliad ar y cyd hwnnw yr ydych wedi fy ngwahodd i fod yn rhan ohono mewn dôl morwellt.

Felly, a allwch chi egluro'r amserlen i'r Papur Gwyn ddod yn Fil drafft gerbron y Senedd hon ac egluro pam y bydd rhai o'r targedau'n cael eu gosod mewn is-ddeddfwriaeth, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol, oherwydd rydym eisoes yn gweld nawr, gyda'r Bil seilwaith sy'n dod drwodd, pa mor orddibynnol ydyw ar is-ddeddfwriaeth, a disgrifiwyd hynny i ni fel rhywbeth nad yw'n foddhaol? A allech chi roi syniad pryd y dylem ddisgwyl gweld corff llywodraethu amgylcheddol ar waith? A fyddech chi'n defnyddio'r ddeddfwriaeth fel ffordd o greu dyletswydd gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynllunio a chreu cynllun datblygu morol cenedlaethol, un gofodol, amlinellu pa gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar gyflawni'r nod 30:30, ac egluro pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i'r pwysau sylweddol o fewn awdurdodau cyhoeddus cyn disgwyl iddyn nhw lunio cynlluniau adfer natur lleol? Diolch.

15:50

Diolch, Janet. Nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi lwyddo i ddod i'r sesiynau briffio technegol a gynigiwyd y bore yma. Aeth negeseuon e-bost allan gyda chopïau o'r Papur Gwyn yno, ymddiheuriadau os na chawsoch chi un, ac mae wedi'i gyhoeddi heddiw, felly dyna pam nad yw yn y Llyfrgell eto. Mae'n amlwg felly bod cyfle i nodi'r holl bwyntiau rydych chi wedi'u gwneud ynglŷn â'r hyn yr hoffech chi ei weld a'r hyn na hoffech chi ei weld yn cael ei gynnwys yn y targedau, fel rhan o'r broses ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymateb iddo.

Mae yna nifer o bethau y gwnaethoch chi eu codi yr hoffem weld targed ar eu cyfer fwy na thebyg. Mae'r targedau yn mynd i gael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth, yn yr un modd ag y cafodd y Ddeddf aer glân ei strwythuro, felly bydd gennym y prif nod bioamrywiaeth fyd-eang ynddo, nodau bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal ar gyfer 30 y cant, ond rydym yn bod yn benodol iawn: 30 y cant o'n tir, ein hafonydd a'n moroedd. Nid dim ond 30 y cant o bopeth yw hynny, oherwydd mae'n gweithio allan yn wahanol mewn gwirionedd, os ydych chi'n ei wneud fel hynny.

Holl bwynt hyn yw sefydlu'r corff llywodraethu i wneud yn siŵr ein bod ni wedyn yn gwneud yr hyn rydyn ni'n dweud y byddwn ni'n ei wneud, ond hefyd i roi cyngor i ni ar y targedau hynny wrth i'r peth fynd yn ei flaen. Byddai hynny'n cynnwys y ffordd orau o wneud gwaith adfer, neu ganran yr adferiadau y gallem eu gwneud, a'r anawsterau o ran yr hyn sy'n mynd gyda beth, felly y peth fferm wynt rydych chi'n tynnu sylw ato. A dweud y gwir, fel y nodoch chi'n briodol hefyd, gall ffermydd gwynt morol fod yn ddefnyddiol iawn o ran atal treillrwydo ar waelod y môr ac ymddwyn fel meithrinfeydd ar gyfer gwahanol rywogaethau ac yn y blaen. Felly, pwynt y broses hon yw mai'r Papur Gwyn yw hwn, a bydd yr ymgynghoriad arno yn arwain at y Bil. Bydd yn bwydo i mewn i'r Bil. Mae'r Bil eisoes ar y gweill. Mae'n cymryd blwyddyn dda i lunio Bil i'w gyflwyno i'r pwyllgor, yn enwedig gyda'r broses gyfieithu a'r gwiriadau cyfwerthedd a phopeth arall. Felly, dyma ddechrau'r Bil hwnnw yn gwneud ei ffordd drwy'r Senedd.

Felly, Dirprwy Lywydd, byddwn i'n dweud y dylem ni i gyd annog cynifer o bobl â phosib yn ein holl etholaethau ledled Cymru—nid wyf yn golygu ein hetholaethau gwleidyddol yn unig, rwy'n golygu ein hetholaethau o gymunedau ac ati—i wneud yn siŵr ein bod yn cael cymaint o ymateb â phosib. Mae'n deillio'n uniongyrchol o'r gwaith archwilio dwfn, felly mae ei strwythur wedi dod yn uniongyrchol o'r gwaith a wnaethom gyda rhanddeiliaid. Nid wyf yn disgwyl i unrhyw un o'n prif randdeiliaid ymateb i hyn mewn ffordd fydd yn ei lesteirio, ond rydym yn disgwyl gwahaniaethau, wrth gwrs, o ran sut y dylid strwythuro'r peth ac yn y blaen. 

Gweinidog, dwi'n croesawu’r datganiad hwn. Mae gwir angen deddfwriaeth ar frys ar y mater hwn. Rŷn ni'n gwerthfawrogi’r cyfle i drafod, wrth gwrs, achos dyma'r cyfle i gloi'r bwlch sy'n bodoli yn amddiffyniadau amgylcheddol ein gwlad. Dwi'n croesawu’r penderfyniad, y penderfyniad sydd gan y Llywodraeth i ymateb i’r argyfwng natur. Ni fel plaid, wrth gwrs, wnaeth gynnal y ddadl i ddatgan yr argyfwng natur. Roedd e’n foment pwysig. Does dim momentwm tu ôl i foment oni bai bod gweithredu yn digwydd. Felly dyma ni’r gweithredu, a dwi'n croesawu hynny, yn sicr. 

Mae yna lot i’w groesawu o ran beth fydd yn y Papur Gwyn. Mae’r targed bras yn un pwysig, a bydd sefydlu trefniadau llywodraethu amgylcheddol annibynnol eto yn foment pwysig. Am yn rhy hir, wrth gwrs, rŷn ni wedi bod yn aros am hyn—mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi edrych i mewn i hyn—a bydd angen gwneud yn siŵr bod y trefniadau yn rhai sydd nid yn unig yn gweithio’n dda, ond yn rhai bydd y cyhoedd yn eu deall. Pa gadarnhad allwch chi ei roi inni am y rhyngwynebu yna fydd yn digwydd gyda'r cyhoedd, i'w gwneud nhw'n fwy ymwybodol o ble i fynd i gael cyngor, ble i fynd i gael help, yn enwedig os byddan nhw'n drysu o ran beth ydy'r gwahaniaeth rhwng y rhain ac NRW?

O ran yr amseru a’r gweithredu—rŷch chi wedi cael cwestiynau am hyn yn barod—a allech chi roi cadarnhad inni y bydd pob ymgais yn cael ei gymryd gan y Llywodraeth i osgoi rhagor o oedi oni bai bod dim modd ei osgoi fe, plis? Wrth gwrs, dwi’n croesawu’r targedau, er wrth gwrs, drwy ddeddfwriaeth—'eilaidd' ydy 'secondary legislation'? Eilradd, eilradd. Ond buaswn i’n hoffi deall mwy am y methodoleg fydd yn cael ei ddefnyddio i osod a monitro’r targedau. Dwi’n gwybod efallai y bydd y gwybodaeth yna ddim i gyd ar gael ar hyn o bryd, ond pan fydd e ar gael, a fydd hwnna’n cael ei wneud yn gyhoeddus, plis?

O ran effeithiolrwydd y corff llywodraethu, faint o bwerau gorfodaeth fydd ganddyn nhw, eto o’i gymharu ag NRW? Achos mae problemau o ran capasiti NRW gyda gorfodaeth yn erbyn torri rheolau gyda charthion yn ein hafonydd, ac yn y blaen. Pa sicrwydd fydd yna na fydd y corff yma yn dioddef yn yr un ffordd gyda hwnna? Ac yn olaf, sut y byddwch chi yn mynd ati i sicrhau annibyniaeth y corff yna oddi wrth y Llywodraeth?

Felly, eithaf tipyn o gwestiynau, ond yn sicr dwi’n croesawu’r datblygiad hwn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio a gweld y corff hwn yn cael ei sgrwtineiddio, wrth gwrs, i sicrhau bod ein gofidion ni i gyd am ein byd naturiol yn cael eu hateb, a bod y bywyd gwyllt yna yn cael ei warchod. A buaswn i’n hoffi ategu’r geiriau roeddech chi’n eu dweud, ein diolch ni i gyd i Nerys a phawb sydd wedi bod yn gweithio gyda hi ar y gwaith pwysig maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y cyfnod dros dro. Diolch.

15:55

Ie, diolch yn fawr, Delyth. Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau da iawn, wrth gwrs. Felly, mae hi yn foment arwyddocaol, rwy'n credu, ac mae'n ffaith sicr mai ni yw'r olaf o'r cenhedloedd i wneud hyn. Fodd bynnag, rwyf wir yn credu bod hwn yn gyfle i achub y blaen ar y cenhedloedd eraill, felly byddwn yn mynd o'r olaf i'r gyntaf, oherwydd gallwn ddysgu nawr o'r problemau a'r anawsterau sydd wedi bod gyda modelau Lloegr a'r Alban. Mae swyddogion yno wedi bod yn hapus iawn i rannu gyda ni bethau yr hoffen nhw pe baen nhw wedi'u gwneud neu ddim wedi'u gwneud neu beth bynnag, ac i ddysgu o'r pethau maen nhw wedi'u gwneud yn dda, ac rydyn ni wedi gallu nodi hynny hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n cael y gorau o hynny yn y pen draw, oherwydd rydyn ni wedi gallu nodi llawer o'r hyn sydd wedi'i ddysgu, ac, wrth gwrs, ni allaf ddweud yn ddigon aml pa mor dda y mae Nerys a'i thîm wedi'i wneud.

Fe ddylwn i ymddiheuro'n gyhoeddus: roedd gen i firws ofnadwy y gall fod pob un ohonoch yn gyfarwydd ag ef yr wythnos diwethaf, felly bu'n rhaid i fi aros gartref, ac roedd yn golygu nad oeddwn yn gallu cwrdd â hi wyneb yn wyneb fel yr oeddwn i wedi bwriadu ei wneud. Roedd yn wych cael canlyniad negatif ddydd Sadwrn a chael fy rhyddhau. [Torri ar draws.] Wel, yn union. Ond roedd hi'n bechod peidio â gallu gwneud hynny.

Rwy'n gobeithio gallu aildrefnu'r cyfarfod hwnnw. Ond mae arbenigedd ei thîm wedi bod yn amhrisiadwy wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud ag adnoddau. Rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi rhoi mwy o adnoddau i mewn i'w thîm, er enghraifft. Ac wrth gwrs, pan ddaw'r Bil gerbron y pwyllgorau, bydd yna asesiad effaith ariannol a rheoleiddiol cyflawn yn dod gydag ef, ac yn y gwaith craffu cyllidebol mewn pwyllgorau, rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod ni wedi diogelu'r cyllidebau deddfwriaeth er mwyn gallu cyflawni'r ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau nad yw hynny'n dod yn un o'r problemau, am resymau amlwg.

Bydd y rhyngwyneb yn un diddorol; mae'n rhywbeth y byddwn yn cael mwy allan ohono yn yr ymgynghoriad, ac mae'n rhywbeth y bydd y pwyllgorau eisiau edrych arno. Ond, yn gyffredinol, nid awdurdod rheoleiddiol yw hwn; awdurdod ydyw sy'n rhoi arweiniad i awdurdodau cyhoeddus ar sut i osod y targedau a'u monitro a sicrhau eu bod yn eu cyflawni. Byddem yn disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru ddelio ag achos o dorri rheoliadau, ond bydd angen i ni weithio ar ymylon hynny a byddwn yn disgwyl i'r sefydliadau gydweithio â'i gilydd, fel nad oes gennym dirwedd gymhleth. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at sut y bydd aelodau'r cyhoedd yn deall hynny, a rhan o ddyletswydd y corff llywodraethu fydd sicrhau, yn yr un modd ag y mae'r comisiynwyr yn ei wneud, bod ei waith ei hun yn cael ei ddeall.

Yn wir, rydym wedi edrych yn fanwl iawn ar strwythur swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wrth edrych ar y cynigion yma sydd, yr wyf yn siŵr eich bod chi'n gwybod eisoes, ar gyfer comisiwn yn hytrach na chomisiynydd, oherwydd rydym yn disgwyl y bydd angen ystod o wahanol arbenigedd gwyddonol ar draws y comisiwn, ond, wrth gwrs, gyda chadeirydd a fyddai'n dod yn ganolbwynt, os mynnwch, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

Credwn ei bod yn bwysig iawn ei fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ei fod yn ein dwyn i gyfrif. Un o'r trafodaethau a fydd yn digwydd fel rhan o'r ymgynghoriad hwn yw i ba raddau y dylid cynnwys cyrff cyhoeddus eraill yn y Ddeddf. Mae manteision ac anfanteision i hynny, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan o'r ymgynghoriad. Felly, a ddylai awdurdodau lleol unigol gael eu rhwymo'n benodol ganddi, neu a ddylid eu gwneud fel consortia rhanbarthol, neu beth yw strwythur hynny? Bydd y pwyllgorau'n cymryd diddordeb, rwy'n siŵr, yn hynny ac yn gallu ein cynorthwyo gyda hynny. Mae hynny'n rhan fawr o'r hyn y mae'r ymgynghoriad yn ei olygu.

Yn olaf hoffwn ddweud nad oes gennym unrhyw le i lithro yma. Rydym am sicrhau bod y pwyllgor yn gwneud ei waith yn dda, ac felly mae'n rhaid i ni ei gael i mewn i'r pwyllgor yn y slot sydd wedi'i nodi. A dyma'r Bil olaf ond un i fynd drwy'r Senedd yn nhymor y Senedd hon, felly nid yw llithriad yn opsiwn, ac mae'n rhaid i ni gael hyn yn iawn. Dyna pam mae angen i'r ymgynghoriad fod yn drylwyr, mae angen inni sicrhau ei fod yn iawn, ac yna mae angen i ganlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw fwydo i'r gwaith drafftio fel y gallwn ni i gyd fod yn dawel ein meddwl ein bod ni'n gwneud y gyfraith orau y gallwn.

16:00

Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn, Gweinidog, ac mae'n dda iawn eich clywed chi'n dweud, er ein bod ni mewn sefyllfa gymharol wan ar hyn o bryd o ran ein strwythurau llywodraethu a diffyg targedau ac elfennau pwysig iawn eraill o ddiogelu ein natur a'n bioamrywiaeth, y byddwn yn achub y blaen, fel petai, ar rannau eraill o'r DU, oherwydd yn amlwg dyna'r safle lle hoffai pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, weld ein gwlad. Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar rai enghreifftiau da iawn o ran ein bioamrywiaeth a'n hamgylchedd a'r angen i'w amddiffyn a rhoi'r strwythurau a'r targedau hyn i'w warchod, fel Gwastadeddau Gwent, er enghraifft, yr wyf yn cynrychioli rhan ohonynt? Yno, mae gennym bwyslais go iawn ar y materion hyn, cefnogaeth dda iawn gan sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a nifer enfawr o wirfoddolwyr yn gweithio o ddydd i ddydd. Ac, wrth gwrs, mae gennym rywogaethau eiconig fel llygod y dŵr, yr wyf yn falch iawn o'u hyrwyddo. Mae angen i ni fynd â'r cyhoedd a grwpiau gyda ni, Gweinidog, ac rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio ar ardaloedd sy'n ein galluogi i wneud hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, John. Rwy'n credu mai un o'r pethau y bydd gennym ddiddordeb mawr yn ei wneud fydd sicrhau bod y corff llywodraethu, wrth edrych ar y targedau y mae'n eu gosod ar gyfer y gwahanol gyrff cyhoeddus a gwmpesir ganddo, yn ystyried y wyddoniaeth dinasyddion sydd ar gael yn rhwydd iawn, y mae llawer ohoni o'r ansawdd gorau, ansawdd safon fyd-eang. Felly, byddwn yn sicr yn adeiladu ar hynny. Pwrpas hyn yw gosod targedau eilaidd, weithiau ledled Cymru, ar gyfer dirywiad neu adfer rhywogaethau, ond mewn gwirionedd, weithiau, ar gyfer ardaloedd penodol iawn. Rwy'n gwybod bod Gwastadeddau Gwent yn agos iawn at eich calon, ond mae ardaloedd eraill fel yr un yna. Yn ddiweddar, ymwelais â biosffer Dyfi, er enghraifft, sydd â grŵp tebyg iawn o wirfoddolwyr sydd yr un mor benderfynol o sicrhau bod yr ardal honno'n aros yn y cyflwr hwnnw, neu mewn gwirionedd yn cael ei hadfer i'r cyflwr hwnnw ar gyfer rhai rhannau ohoni.

Bydd angen i ni edrych ar dargedau daearyddol, targedau pan-rywogaethau a thargedau system ecoleg. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym am ei wneud a bydd yn rhan o'r hyn y bydd y pwyllgorau'n edrych arno o ran yr hyn y mae'r is-ddeddfwriaeth yn cael ei galluogi i'w wneud. Bydd angen i'r Bil alluogi'r gwahanol fathau o dargedau y gellir eu gosod er mwyn cael y mathau o ganlyniadau rydych chi'n chwilio amdanyn nhw. Rwyf wir yn credu y bydd yn ein rhoi ar gwrs gwahanol wrth i ni geisio diogelu'r systemau hynny. Dyna yw ysgyfaint gwyrdd cytrefiad y de-ddwyrain, a gellir dweud yr un peth am fiosffer Dyfi ac, yn wir, am Benrhyn Gŵyr, lle yr wyf yn digwydd byw. Mae'r pethau hyn yn rhoi bywyd i'n dinasoedd a'n planed, ac, yn wir, i ni fel bodau dynol; nid ar gyfer eu lles eu hunain yn unig. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig iawn.

Diolch yn fawr iawn am eich gwaith fel ceidwad brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd yn ogystal â'r argyfwng bioamrywiaeth. Rwy'n falch iawn ein bod ni nawr yn rhoi ar ddu a gwyn yr hyn sydd ei angen arnom i ddiogelu'r amgylchedd wrth symud ymlaen. Yn amlwg, mae hyn yn mynd i olygu cryn dipyn o waith gyda'ch cyd-Aelod Lesley Griffiths, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, lle mae arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus yn egwyddor bwysig iawn o'r cynllun tir cynaliadwy newydd.

Wrth siarad â ffermwyr yn Nhreorci 10 diwrnod yn ôl, mae'n amlwg nad yw ffermwyr yn aml yn ymwybodol o werth enfawr eu corsydd mawn a'u lleoedd ar gyfer natur ar eu ffermydd—ar gyfer bioamrywiaeth ac yn nhermau ariannol yn y cynllun yn y dyfodol. Felly, er bod un o'r ffermwyr organig sy'n ffermio ar gyrion Gorllewin Caerdydd yn gallu dweud wrthyf, 'Mae gen i 275 o rywogaethau sy'n cydfodoli'n hapus â'm gwartheg a'm defaid', rwy'n weddol hyderus ei bod hi'n eithaf anarferol o ran deall pa asedau bioamrywiaeth y mae hi'n gofalu amdanynt. Felly, sut ydych chi'n rhagweld y bydd y cynlluniau adfer natur lleol hyn yn cael eu datblygu ar y cyd i gyflawni llinell sylfaen dirywiad bioamrywiaeth neu gyfoeth bioamrywiaeth sydd eisoes yn bodoli ar lawer o ffermydd, fel ein bod ni'n gwybod pa amcanion yr ydym yn talu amdanynt, a sut y gallwn olrhain canlyniadau'r buddsoddiad cyhoeddus a gynlluniwyd yn benodol i wella bioamrywiaeth?

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â llygredd dŵr. Yn y pwyllgor newid hinsawdd, rydym wedi clywed gan Glenys Stacey, cadeirydd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd Lloegr, ac, am y tro, Gogledd Iwerddon, ac mae hi'n glir iawn na fyddan nhw'n dibynnu ar ddirwyon i orfodi'r rheoliadau, oherwydd bod cyfarwyddwyr pa bynnag gwmni sydd dan sylw yn trosglwyddo'r dirwyon i'r cyhoedd yn eu biliau.

16:05

Pa ysgogiadau ydych chi'n eu rhagweld yn y rheoliadau hyn ar gyfer mynd i'r afael â llygredd dŵr sy'n sicr yn un o'r materion difrifol allweddol sy'n ein hwynebu?

Diolch, Jenny. Fe wnaf i hynny ychydig i'r gwrthwyneb. Bwriad polisi'r Bil yw y bydd goruchwylio personau preifat sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus yng Nghymru a allai ymwneud â'r amgylchedd neu effeithio arno yn cael ei gynnwys. Felly, bydd y cwmnïau dŵr yn cael eu cynnwys, ac mae eraill hefyd; bydd awdurdodau harbwr ac eraill yn cael eu cynnwys. Ac felly, bydd y Bil yn effeithio arnynt, ac felly pan fyddant yn rhoi eu rhaglen buddsoddi mewn seilwaith i Ofwat, ac ati, bydd yn rhaid iddynt ystyried yr egwyddorion amgylcheddol yn y Bil. Yn y modd hwn, mae'n ysgogi dull gwahanol o fynd i'r afael â hynny. Ni fydd yn datrys y ffaith bod y diwydiant dŵr ond yn cael ei ariannu gan y rhai sy'n talu'r biliau, sy'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn ei wneud. Mae'n nonsens llwyr bod y Llywodraeth yn gwario arian ar groesffyrdd ond yn methu gwario ar seilwaith dŵr oherwydd honnir ei fod yn eiddo i'r cwmni dŵr. Nonsens yw hynny, ond nid yw'n nonsens y gallaf ei newid yn benodol yn y Bil hwn. Yr hyn y gallaf ei wneud yw ysgogi strategaeth fuddsoddi wahanol ar gyfer y farchnad sy'n bodoli. Byddwn yn sicr yn gwneud hynny.

Ac ydy, mae'n sicr yn rhyngweithio â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n credu bod gennym nifer fawr iawn o ffermwyr ledled Cymru sy'n ymwybodol iawn o fioamrywiaeth. Yn wir, gwnaeth nifer fawr o ffermwyr gyfrannu at yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn sôn am y ffermwr ifanc a oedd wyth mis yn feichiog yn dangos ei fferm fioamrywiol rhwng Amroth a Saundersfoot i mi, i fyny clogwyn mor serth fel na allwn gadw i fyny gyda hi. Roedd hi'n anhygoel, ac roedd y ffordd yr oedd bioamrywiaeth yn cael ei gwella ar y fferm weithredol honno, a'r cynnydd go iawn yn eu hincwm o ganlyniad i hynny, yn rhyfeddol. Erbyn hyn mae ganddi ffermwr cenhedlaeth nesaf iach iawn sy'n dod ymlaen yn dda. Ond roedd hi'n ysbrydoledig, ac roedd gennym nifer fawr o ffermwyr eraill yn ein harchwiliad dwfn a oedd yn hollol ysbrydoledig hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y cyfuniad o wobrau a gofynion gan y cyrff llywodraethu yn arwain at newid sylweddol o ran hynny.

Yn amlwg, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ymwneud ag incwm i ffermwyr wrth iddynt newid yr arferion hynny, yn ogystal â gwobrau i ffermwyr sy'n newid yn gyflymach, ac mae Lesley a minnau wedi cael nifer fawr o sgyrsiau am y rhyngweithio hwnnw. Ond ni allwn wneud hyn heb ein tirfeddianwyr. Felly, rhan o'r hyn y bydd yn rhaid i'r corff hwn ei wneud yw y bydd yn rhaid iddo edrych ar y ffordd mae'r ddyletswydd gyhoeddus yn rhyngweithio â thirddaliadaeth ledled Cymru. Felly, wrth edrych ar barciau cenedlaethol, er enghraifft, bydd yn rhaid iddo edrych ar sut olwg sydd ar y polisi ar gyfer ffermio yn y parciau cenedlaethol, a sicrhau bod gan bobl incwm cynaliadwy ar eu fferm wrth i ni newid i system newydd. Felly, mae'n rhan fawr o'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rwy'n credu y bydd yn sbarduno newid go iawn mewn agwedd. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n enwog yn fyd-eang. Lle bynnag yr ydym yn mynd fel aelodau o'r Llywodraeth, gofynnir i ni wneud sylwadau ar sut ar y ddaear y gwnaethon ni sicrhau bod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn mynd drwyddo. Efallai ein bod ni'n ei chymryd ychydig yn ganiataol nawr, ond mae'n seismig o ran ei gweithrediad, ac rwy'n credu y bydd y Bil newydd hwn ond yn gwella'r enw da hwnnw.

Gweinidog, fe wnaethoch chi addo, ar ôl COP15 ac ar ôl yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth, y byddech chi'n dod nôl atom gyda rhywbeth gwell, mwy ystyrlon, a fyddai'n canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol iawn i natur, felly dyma ni heddiw. Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad a chyhoeddi'r Papur Gwyn hwn gydag enw amgylcheddol hir iawn. Fel rhan o'r ymgynghoriad, efallai y gallem edrych ar deitl byr ar gyfer y Bil pan gaiff ei gyflwyno, a fy nghynnig agoriadol yw 'Bil adfer natur a llywodraethu amgylcheddol', fel ei fod yn dweud yn union beth y mae i fod i'w wneud. Gallwn ni wneud y pethau eraill ac efallai y bydd hyd yn oed yn fyrrach eto.

A gaf fi ofyn i chi, Gweinidog, o fewn y cynigion sy'n cael eu cyflwyno—? Rydw i'n mynd i fynd i'r lefel uchel, oherwydd byddwn ni'n ymdrin â'r manylion, rwy'n gwybod. Ond ar y lefel uchel, beth mae hyn yn ei olygu i ddinasyddion o ran eu gallu i weld ble mae ein dull o adfer natur yn gweithio a lle mae'n methu, a sut y gallan nhw wedyn herio'r methiant hwnnw?

Yn ail, rydym yn siarad am hyn yn cael ei ddatblygu, y corff llywodraethu hwn yn gweithio mewn ffordd gydweithredol, gan gymryd ymagwedd uwchgyfeiriol a gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i unioni pethau. A yw hi'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, gadewch i ni beidio ag unioni pethau ar ôl y digwyddiad, gadewch i ni unioni pethau ymlaen llaw, ac mae'n rhaid i hynny fod yn un o rolau'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma?

A gaf i ofyn iddi, o ran y targedau, sef y pethau oedd bob amser yn mynd i fod yn anodd gyda hyn—a dywedodd y byddai'n dod yn ôl ar ôl COP15 yn fwy gwybodus o ran lle y dylem siapio'r targedau hynny—a fydd ymgysylltiad llawn, manwl, ystyrlon nawr, nid yn unig gyda dinasyddion yn ehangach, ond hefyd gyda'r holl sefydliadau amgylcheddol hynny, yn ogystal â ffermwyr ac yn y blaen, i sicrhau bod y targedau hynny'n hollol gywir? Oherwydd mae hynny'n hanfodol.

Ac yn olaf, o ran safleoedd gwarchodedig dynodedig, mae hyn wedi bod yn asgwrn cynnen ers tro, oherwydd gan fod gennym newid hinsawdd, mae'n golygu bod y safleoedd hynny'n newid eu hunain—mae'r cynefinoedd yn newid, mae'r rhywogaethau'n symud. Felly, lle ydyn ni arni ar hyn o bryd? Beth fydd y Bil hwn yn ei wneud o ran y ffordd rydym yn edrych ar ddiogelu ein safleoedd mwyaf arbennig, ond hefyd y ffaith bod newid yn yr hinsawdd yn newid symudiad y safleoedd hynny hefyd? Llawer mwy o gwestiynau i ddilyn, ond dyna sylwadau agoriadol.

16:10

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Huw. Mae teitlau biliau bob amser yn sgwrs ddiddorol rhwng swyddfa'r cyngor deddfwriaethol, sydd â barn benderfynol iawn ynghylch yr hyn y dylai teitl y Bil ei wneud, a'r rhai ohonom a hoffai rywbeth ychydig yn fwy ffasiynol. Ond maen nhw'n dod yn adnabyddus am yr hyn ydyn nhw. Felly, nid yw'r Ddeddf aer glân, wrth gwrs, yn cael ei galw'n 'Ddeddf aer glân', ond dyna a elwir bellach ar lafar gwlad. Rwy'n amau y bydd gennym rywbeth ar hyd y llinellau hynny. Bydd pobl yn ymateb i'r ymgynghoriad mai 'Bil natur-bositif' mae'n ymddangos, yw'r ffefryn ar hyn o bryd ymhlith nifer fawr o bobl. Ond dyna lle rydyn ni'n mynd gydag ef, oherwydd dyna beth fydd ef.

Y pwynt yma yw nad yw'n ymwneud ag adfer yn unig, mae'n ymwneud â bod yn gadarnhaol ynghylch natur yn ei holl agweddau, deall na allwn fodoli heb natur, ein hecosystemau, a'u bod yn eithaf sylfaenol i'r hyn ydym ni. Mae bob amser yn fy rhyfeddu nad yw pobl yn gweld hynny, heb y gwahanol rannau o natur, na allem anadlu nac yfed na bwyta. Mae'r pethau hyn yn hanfodol i'r ddynoliaeth. Ac rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen nad yw hyn yn ymwneud â diogelu'r blaned—bydd y blaned yn parhau. Mae'n ymwneud ag amddiffyn dynoliaeth ar y blaned. Mae hynny'n beth gwahanol iawn. Allwn i ddim cytuno mwy.

O ran y targedau, y prif darged natur-bositif arfaethedig yw'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang—felly, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030, a'u hadferiad clir erbyn 2050. Mae hynny'n amlwg wedi'i anelu at ysgogi uchelgais a chamau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a'r hinsawdd, oherwydd eu bod yn ddwy ochr yr un geiniog. Ac mae'r busnes hwnnw am bethau yn symud o gwmpas, wrth gwrs, yn cael ei ysgogi gan yr argyfwng hinsawdd. Felly, wrth i ni geisio bod yn gydnerth o ran yr argyfwng hinsawdd, yn ogystal â cheisio atal rhai o'r newidiadau mwy trychinebus yn yr hinsawdd, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni gael agwedd well tuag at y tirweddau dynodedig sydd ag ymylon pendant, y byddwn yn sicr yn eu hystyried. Ac mae'n cyd-fynd â nodau llesiant Cymru gydnerth a chydnabod yr angen i amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod gennym ni hynny eisoes yn y gyfraith yng Nghymru. Rydyn ni'n tueddu i anghofio hynny.

Wrth i ni fynd drwy'r pwyllgor, byddwn yn cael trafodaeth am beth arall sydd ei angen ar wyneb y Bil ac, heb os, byddwn yn cael trafodaeth gadarn amdano, fel y gwnaethom gyda'r Ddeddf aer glân, oherwydd rwy'n credu bod cydbwysedd i'w daro rhwng yr hyn y mae'r Bil yn ei ddweud ymlaen llaw am yr hyn y dylem ei wneud a'r hyn y bydd y corff llywodraethu yn ei wneud, Ac yna yr hyn y gallwn ei roi mewn deddfwriaeth eilaidd sy'n sbarduno gwelliant cyson. Fel y gwyddoch chi, os ydych chi'n rhoi pethau ar wyneb y Bil, maen nhw'n tueddu i fod yn gwbl ddigyfnewid ac yn dyddio yn eithaf cyflym, yn enwedig yn y maes hwn lle mae llawer o wyddoniaeth yn newid trwy'r amser. Felly, bydd yn dasg i'r pwyllgorau weithio gyda ni i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu rhoi rhai o'r pethau eilaidd o flaen y pwyllgor, ond mae llawer o hynny'n dibynnu ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gwyddonwyr y tu ôl i'r llenni sy'n gweithio ar rywfaint o hyn, ac yn wir ar rai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wrth i ni eu cael yn ôl. Ond rwy'n credu, ar ddiwedd tymor y Senedd hon, y bydd gennym Fil y gallwn fod yn falch ohono ar lwyfan byd-eang yn ogystal ag yma gartref.

O, mae Dirprwy Lywydd gwahanol yn dod â'r ddadl i ben.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost

Fe symudwn ymlaen nawr i ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gofio'r Holocost. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—Jane Hutt.

16:15

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Dydd Sadwrn oedd Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yma yn y Senedd fe wnaethom nodi'r diwrnod hwnnw trwy oleuo ein hadeilad â lliw porffor. Yn y tywyllwch, roedd y golau hwn yn ein hatgoffa o'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol. Am 8.00pm ar yr un diwrnod, ymunodd pobl ledled y DU â'r foment 'goleuo'r tywyllwch' trwy danio canhwyllau a'u gosod yn eu ffenestri. Cafodd adeiladau a thirnodau eraill ar draws y DU eu goleuo'n borffor yn ystod y foment genedlaethol hon o undod. Bu nifer o leoedd ar draws Cymru yn cymryd rhan, gan gynnwys y llwyfan band a Chanolfan Alun R. Edwards yn Aberystwyth, a Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin.

Gyda'r Prif Weinidog, aeth llawer ohonom i seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru ddydd Gwener, 26 Ionawr, yn y Deml Heddwch, a roddodd gyfle i fyfyrio ar ran o hanes na ddylem ni a chenedlaethau'r dyfodol fyth ei hanghofio. Roedd hi'n seremoni deimladwy iawn, gydag anerchiadau gan John Hajdu MBE, goroeswr yr Holocost o Hwngari, ac Isam Agieb, oedd wedi ffoi o'r hil-laddiad yn Darfur. Cymerodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, Anabledd Cymru, Stonewall Cymru, Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gyd ran yn y gwasanaeth, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r gwahanol gymunedau o bobl a dargedwyd yn ystod yr Holocost. Roedd y gwrthdaro presennol yn y dwyrain canol a'r Wcráin, y miloedd o fywydau a gollwyd yn y gwrthdaro hynny a'r dioddefaint sy'n dal i gael ei ddioddef, yn bennaf ym meddyliau'r rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni. Rwy'n gwybod y bydd pobl ledled Cymru yn ymuno â Llywodraeth Cymru i ddangos undod â phawb sy'n parhau i ddioddef erledigaeth a thrais.

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynnwys Father's House Sabbath Congregation yn sir y Fflint, a gynhaliodd eu gwasanaeth coffa blynyddol ar gyfer yr Holocost ar y thema, 'dim dihangfa'. Cyflwynwyd y gwasanaeth cofio gan Pastor Michael Fryer, ynghyd â'r siaradwyr gwadd Mark Tami AS, Carolyn Thomas AS, Jack Sargeant AS, a disgybl o Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry.

Gwnaeth Sefydliad Celf Josef Herman goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Ar 27 Ionawr dangoswyd ffilm arbennig, The Silent Village, ffilm bropaganda fer Brydeinig o 1943. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori wir am gyflafan pentref Tsiecaidd Lidice, a ailadroddir fel pe bai wedi digwydd yng Nghymru.

Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2024 yw 'breuder rhyddid'. Yn eu cyflwyniad i'r thema eleni, amlygodd Ymddiriedolaeth Cofio'r Holocost nad oes modd cymryd rhyddid yn ganiataol ac ni ddylem laesu dwylo—rhaid i ni frwydro i sicrhau nad yw byth yn cael ei golli. Pwysleisiwyd bod erydiad rhyddid yn broses gynnil, araf yn aml ac mae'r effaith yn bellgyrhaeddol:

'Nid yn unig y mae cyfundrefnau cyflawnwyr yn erydu rhyddid y bobl y maent yn eu targedu, gan ddangos pa mor fregus yw rhyddid, maent hefyd yn cyfyngu ar ryddid eraill o'u cwmpas, er mwyn atal pobl rhag herio'r gyfundrefn. Er gwaethaf hyn, ym mhob hil-laddiad mae yna rai sy'n peryglu eu rhyddid eu hunain i helpu eraill, i ddiogelu rhyddid pobl eraill neu i sefyll yn erbyn y gyfundrefn.'

Tanlinellodd y thema eleni y ffyrdd niferus y mae rhyddid yn cael ei gyfyngu a'i erydu. Roedd yn taflu goleuni ar yr unigolion a fentrodd eu rhyddid i achub eraill a phwysleisiodd nad yw rhyddid o reidrwydd yn golygu bod yn hollol rydd. Mae pobl gyffredin yn gorfod symud i wlad newydd; maent yn aml yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ac mae angen iddynt ailadeiladu eu bywyd. Hyn oll wrth iddynt geisio goresgyn y trawma sy'n deillio o'u herledigaeth ar yr un pryd.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru sydd, dros y misoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i gynllunio a chefnogi gweithgareddau coffa ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i redeg y prosiect Gwersi o Auschwitz. Mae hwn yn gwrs pedair rhan unigryw, sy'n cynnwys dau seminar, ymweliad undydd â Gwlad Pwyl, a phrosiect camau nesaf lle mae myfyrwyr yn trosglwyddo'r gwersi y maent wedi'u dysgu. Yn llawer mwy na gwibdaith yn unig, mae'n daith bwerus o ddysgu ac archwilio hanes yr Holocost a'r byd rydym yn byw ynddo. Yn 2023 cymerodd 110 o fyfyrwyr o 55 o ysgolion Cymru ran yn y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys chwe ysgol a gymerodd ran yn y rhaglen am y tro cyntaf. Mae disgwyl i'r cwrs Gwersi o Auschwitz, nesaf i Gymru gael ei gynnal eleni, ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth.

Mae mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru. Ym mis Gorffennaf cyfarfûm â chynghorydd annibynnol Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth, yr Arglwydd Mann, i drafod ei adroddiad 'Tackling Antisemitism in the UK 2023' a sut y byddwn ni fel Llywodraeth yn cefnogi gweithredu'r argymhellion yng Nghymru. Croesawodd yr Arglwydd Mann y Cwricwlwm i Gymru a'i bwyslais ar helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gan ei gydnabod fel llwyfan i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddais lythyr ar y cyd â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i bob pennaeth yng Nghymru i ddarparu arweiniad a chymorth i ysgolion a lleoliadau addysg ar sut i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia yn effeithiol, gan gynnwys ffyrdd o gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd. Er ei bod yn bwysig myfyrio ar y gorffennol, mae'r un mor hanfodol ystyried yr hyn y gallwn ei wneud nawr ac yn y dyfodol i sicrhau bod Cymru yn genedl dosturiol a chyfrifol yn fyd-eang ac yn parhau felly. Mewn byd sy'n gynyddol ansefydlog, mae angen cefnogi unigolion i sicrhau eu bod yn cyflawni integreiddio ac yn cael eu derbyn, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Yn wyneb yr heriau hyn, rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus yn ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r grymoedd cudd ac amlwg sy'n ysgogi erledigaeth lleiafrifoedd ar bob lefel yn ein cymdeithas, boed hynny'n sefydliadol, cymdeithasol neu'n ddiwylliannol.

Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2023 oedd casineb sy'n seiliedig ar ffydd, gan ganolbwyntio ar wrthsemitiaeth, a roddodd gyfle i godi'r mater hwn i ystod o gynulleidfaoedd trwy lawer o ddigwyddiadau cydweithredol a gynhaliwyd ledled Cymru. Siaradodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol mewn digwyddiad cenedlaethol, a drefnwyd gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, i nodi'r wythnos. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'r ganolfan, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i gymunedau Iddewig a chrefyddau eraill yng Nghymru, ac am weithio'n agos gyda'r heddlu fel rhan o'r gwaith hwn.

Mae'r fforwm cymunedau ffydd, a sefydlwyd yn sgil 9/11, yn cael ei gyd-gadeirio gennyf i a'r Prif Weinidog. Trwy'r fforwm, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr ffydd ar faterion sy'n effeithio ar fywyd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Mae gan y fforwm hwn swyddogaeth hanfodol hefyd wrth hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grefyddau a chredoau. Mae'r perthnasoedd cryf hyn mor bwysig nawr fel ffordd i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu byd mwy diogel yn y dyfodol.

Felly, rwyf am gau'r datganiad hwn trwy ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith hanfodol. Rydym yn condemnio'r casineb ffiaidd a fynegir gan unigolion sy'n ceisio creu hinsawdd o ofn gyda'r bwriad o ddarnio ein cymunedau. Heddiw ac wrth symud ymlaen mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod Cymru'n parhau i wrthsefyll pob math o gasineb, er mwyn helpu i greu cenedl fwy diogel a chyfartal lle mae gwahaniaeth yn cael ei dderbyn a'i groesawu. Diolch.

16:20

Diolch. Wel, cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost, fel y clywsom, ar 27 Ionawr bob blwyddyn—pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll difa mwyaf y Natsïaid, ar 27 Ionawr 1945; gan gofio'r miliynau o bobl a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost dan erledigaeth y Natsïaid ac yn yr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur; ac addysgu cenedlaethau o bobl ifanc am yr hanes ofnadwy hwn a'r angen i sefyll yn erbyn gweithredoedd o ragfarn a chasineb heddiw. Yn ogystal â'r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn yr Holocost, roedd awdurdodau Natsïaidd hefyd yn targedu ac yn lladd grwpiau eraill, gan gynnwys plant oherwydd eu hisraddoldeb hiliol a biolegol, Roma a Sipsiwn Sinti, Almaenwyr anabl, pobl LHDT, a rhai o'r bobl Slafaidd, yn enwedig Pwyliaid a Rwsiaid. Erlidiwyd grwpiau eraill ar sail wleidyddol, ideolegol ac ymddygiadol. Felly—ac rwy'n siŵr y bydd hi—a wnaiff y Gweinidog gytuno bod y gorffennol yn llywio'r dyfodol a bod y rhai sy'n methu â dysgu o'r gorffennol yn cael eu tynghedu i ailadrodd ei gamgymeriadau a'i erchyllterau?

Yn wreiddiol, gwasanaethodd Auschwitz fel canolfan gadw ar gyfer carcharorion gwleidyddol. Fodd bynnag, datblygodd i fod yn rhwydwaith o wersylloedd, lle cafodd Iddewon a gelynion canfyddedig eraill y wladwriaeth Natsïaidd eu difa, yn aml mewn siambrau nwy neu gael eu defnyddio fel caethlafur. Es i i ymweld ag amgueddfa'r Holocost a oedd yn cynhyrfu rhywun fel y dylai, pan oeddwn yn Israel, a mis Medi diwethaf fe wnes i ymweld ag Auschwitz-Birkenau, a oedd yn brofiad emosiynol iawn, y mwyaf o'r gwersyll-garcharau a gwersylloedd difa'r Natsïaid. Y barics gwag, ffensys weiren bigog, yr arddangosion difrifol, y simneiau a oedd yn dweud y cyfan—gadawodd yr holl olion hyn argraff gref. Ond yr hyn a'm trawodd fwyaf oedd ehangder enfawr y gofeb wasgarog i wersyll difa enwocaf hanes. Fe wnes i hefyd ymweld â ffatri Oskar Schindler yn Krakow a oedd yn brofiad atgofus. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr Holocost, gan gynnwys yr erchyllterau a ddigwyddodd yn Auschwitz-Birkenau a gwersylloedd difa eraill yn rhan annatod o addysg, yn ein hysgolion a ffynonellau gwybodaeth ehangach ar gyfer pob cenhedlaeth?

Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru. Fe wnaethoch chi hefyd rannu hyn gyda ni yn eich datganiad ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost y llynedd. Pa ddiweddariad allwch chi ei roi ynghylch eu gweithgareddau ers hynny?

Cafodd nifer o fy mhlant fy hun a fynychodd Ysgol Uwchradd Castell Alun yn sir y Fflint fudd o ymweliad ag Auschwitz-Birkenau gyda'r ysgol. Roedd yn digwydd bod yn un o'r ysgolion hynny oedd yn cydnabod pa mor bwysig oedd hi i hyn gael sylw, ond mae llawer o rai eraill nad ydynt yn gwneud hynny. Sut allwn ni sicrhau bod hyn yn cael ei ymgorffori ar sail prif ffrwd, nid yn unig yn yr ysgolion hynny sydd ar flaen y gad o ran materion fel hyn, ond y rhai sydd efallai angen eu helpu ymhellach ar hyd y ffordd? Sut bydd hyn hefyd yn ymgorffori'r adnodd newydd ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru am yr Holocost Romani, neu'r porajmos, a lansiwyd gan Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani gyda chyllid gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau'r DU? A sut y bydd hyn yn sicrhau ymwybyddiaeth y cyhoedd o bron i 0.25 miliwn o blant ac oedolion anabl a lofruddiwyd o dan y gyfundrefn Natsïaidd hefyd?

Cofnododd Heddlu Gogledd Cymru gynnydd mewn troseddau casineb crefyddol yn yr wythnosau yn dilyn cychwyn y gwrthdaro rhwng Hamas ag Israel y llynedd. Mae nifer y troseddau casineb gwrthsemitig a gofnodwyd gan nifer o heddluoedd Cymru hefyd wedi gweld cynnydd tebyg. A yw'r Gweinidog yn cytuno, ac rwy'n siŵr y bydd hi, fod hyn yn ysgytwad difrifol? Felly, pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthsefyll y cynnydd hwn mewn troseddau casineb crefyddol a hiliol? 

Fe es i seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam, a drefnwyd gan Gymdeithas y Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam, a'r thema a ddewiswyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost oedd 'pobl gyffredin'. Fel y dywedoch chi, y thema eleni yw 'breuder rhyddid', gan ein hatgoffa o erydiad araf a chynnil rhyddid sy'n creu'r amgylchiadau sy'n caniatáu i hil-laddiad ddigwydd. Mae hefyd yn ein hannog i beidio â chymryd ein rhyddid yn ganiataol ac i fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb ein hunain wrth amddiffyn a chryfhau rhyddid yn ein cymunedau. Felly, a fyddech chi'n ymuno â mi i gefnogi'r datganiad diweddar gan y Pab Francis,

'Dydd Sadwrn, 27 Ionawr, yw Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Holocost. Boed i gofio a chondemnio'r difodiad erchyll hwnnw o filiynau o Iddewon a phobl o grefyddau eraill, a ddigwyddodd yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, helpu pawb i beidio ag anghofio na ellir cyfiawnhau rhesymeg casineb a thrais byth, oherwydd ei fod yn gwadu ein dynoliaeth.'

Fe wnaf ddiweddu trwy ddyfynnu sut y gwnaeth ef ddiweddu gan annog ni i gyd i weddïo dros heddwch ledled y byd. Diolch yn fawr. 

16:25

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am eich cyfraniad i'r datganiad hwn, ac mae'n gyfraniad pwysig. Fel y dywedwch chi, mae gennym ddyletswydd i wrthsefyll casineb ac erledigaeth, ac mae coffáu'r Holocost yn bwysig er mwyn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio pa mor ddirdynnol y gall naratif casineb fod a beth all ddigwydd os yw pobl mewn cymunedau yn cael eu targedu a'u dad-ddyneiddio oherwydd pwy ydyn nhw. Diolch i chi am rannu eich profiadau a'ch dysgu o ganlyniad i'ch ymweliadau a'ch ymgysylltiad. Wrth gwrs, ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos; dechreuodd gydag erydiad graddol hawliau dynol, ac, wrth gwrs, y rhethreg ddadunol yn erbyn pobl a oedd yn wahanol neu'n cael eu hystyried yn wahanol i eraill. Ac roedd hi'n bwerus iawn ddydd Gwener—ac rwy'n adnabod eraill oedd yno ddydd Gwener ac, yn wir, ddydd Mercher diwethaf, pan gawson ni ddigwyddiad yn adeilad y Pierhead—y ffaith bod gennym ni gyfraniadau yn ystod y gweddïau gan Anabledd Cymru, Stonewall Cymru a'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani—roedd Isaac Blake hefyd yn cymryd rhan. Roedd yn bwysig iawn i hon gael ei chlywed, y neges gref honno o erydiad hawliau dynol a'r rhethreg honno yn erbyn pobl, yr hyn a gyflawnodd yr Holocost gyda stigma a chasineb wrth gwrs.

Felly, rwy'n credu bod y buddsoddiad rydym wedi'i wneud wedi bod yn bwysig. Dim ond rhai o'r digwyddiadau a gynhaliwyd dros y penwythnos rwyf wedi sôn amdanynt, ac mae mwy i ddod o ran ein cefnogaeth i ddigwyddiadau cymunedol a'r foment genedlaethol 'goleuo'r tywyllwch'. Mae gennym adroddiadau da eraill o'r hyn a ddigwyddodd o'r ymgysylltiad â'r gymuned, er enghraifft, Cyngor Tref Tredegar yn tanio canhwyllau ger meini coffa Aneurin Bevan, yn Nhredegar—mae'n bosib bod yr Aelod Alun Davies yn sôn am hynny—hefyd, dim ond cydnabod gwasanaethau gwirfoddol, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn ychwanegu gwybodaeth ar eu gwefan, e-fwletinau; swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn trefnu gweminar ar 18 Rhagfyr ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost i adran cenedlaethau'r dyfodol; grŵp Caru Dy Lyfrgell Trefynwy—. Mae llawer o rai eraill—Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar grefydd, gwerthoedd a moeseg Castell-nedd Port Talbot. A hefyd yn y gogledd, roeddech chi'n sôn am yr heddlu—roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r diwrnod hefyd. Ac fe gynhaliodd Prifysgol Bangor ddigwyddiad ym mhrif adeilad celfyddydau Neuadd Powys, Ffordd y Coleg ym Mangor.

Ond rwyf eisiau troi at y pwyntiau pwysig am addysg yn enwedig a rôl Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Bydd y rhai ohonom a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead, neu yn wir ddydd Gwener, wedi clywed gan y bobl ifanc, y llysgenhadon ifanc, a roddodd gyfraniadau mor bwysig yn y digwyddiadau hynny. Mae'n rhaid i ni fod mor falch—rydyn ni mor falch—o'n pobl ifanc pan fyddan nhw'n siarad am eu profiadau. Ac rwyf eisiau gwneud y pwynt am rôl Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, yr ydym wedi bod yn ei hariannu wrth gwrs, fel y dywedais, ers 2008, a'r cyfranogwyr yn dysgu am fywyd Iddewig cyn y rhyfel a gwersyll-garchar a gwersyll difa'r Natsïaid gynt, Auschwitz-Birkenau, cyn ystyried perthnasedd cyfoes yr Holocost. Maent yn dod yn llysgenhadon, ac yn wir roedden nhw, y bobl ifanc a siaradodd ddydd Mercher diwethaf, ac yn wir ddydd Gwener—yn llysgenhadon mor gryf, pwerus yn ein hysbrydoli ni, ac yn eu hysbrydoli nhw wrth gwrs, y profiad, i rannu eu gwybodaeth yn eu cymunedau. Rwy'n credu bod un o'r llysgenhadon yn sôn am ei rhannu yn yr ysgolion cynradd. Wrth gwrs, y ffaith yw eu bod nhw'n dysgu, maen nhw'n deall, ac yn cyfarfod, yn wir, fel y gwnaethon nhw, rai o'r goroeswyr—pŵer hynny i'r bobl ifanc hynny.

Rwy'n credu bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein cwricwlwm, mae wedi cael ei gydnabod, oherwydd mae amrywiaeth bellach yn thema drawsbynciol yng Nghwricwlwm Cymru, ac mae hyn yn helpu ac yn arfogi ein pobl ifanc i ddeall a pharchu hanesion, diwylliannau a thraddodiadau eu hunain a rhai eraill—ac mae hynny'n bwysig iawn, bod ein cwricwlwm newydd yn adlewyrchu gwir amrywiaeth y boblogaeth a dysgwyr—a deall sut mae amrywiaeth yn cael ei lunio.

Yn olaf, hefyd, rwyf eisiau gwneud sylw ynghylch eich pwynt sydd wedi'i wneud yn arbennig am fynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae hyn yn rhywbeth y soniais amdano yn fy natganiad, ond dim ond i fyfyrio eto ar y ffaith ei bod yn bwysig cydnabod bod y mater yn ymwneud â throseddau casineb—. Ni yw'r cyntaf mewn gwirionedd—. Canolfan Cymorth Casineb Cymru yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y DU i gynnig gwasanaeth troseddau casineb sy'n gyfeillgar i blant a phobl ifanc, ac mae gennym ein hymgyrch gyfathrebu, Mae Casineb yn Brifo Cymru, ond rydym hefyd yn ceisio deall ffyrdd y gallwn estyn allan at y rhai y mae casineb hil neu gyfeiriadedd rhywiol neu droseddau casineb crefydd yn effeithio'n arbennig arnyn nhw, rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y pwyslais y llynedd.

Mae'n bwysig bod plant ysgol yn dysgu am gamweddau a chanlyniadau gwrthsemitiaeth cyfoes, ac rwyf wedi sôn am y llythyr a anfonais i a'r Gweinidog addysg at bob pennaeth, gan godi'r ymwybyddiaeth honno am wrthsemitiaeth ac, yn wir, Islamoffobia. Mae hyn i gyd yn ymwneud â'r ffyrdd yr ydym ni, trwy addysg, a'r ffyrdd yr ydym yn ymyrryd ac yn cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost. A gall Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost gyflawni'r pwynt pwysig iawn hwnnw, yr wyf yn ei ddeall, gan gytuno bod y gorffennol yn llywio'r dyfodol. Diolch yn fawr, Mark.

16:35

Fel rŷch chi wedi'i adlewyrchu yn eich datganiad, Weinidog, yn waelodol i'n gweithred o gofio erchyllterau'r Holocost yw myfyrio ar allu dyn i achosi dioddefaint annynol i'w gyd-ddyn, a hefyd gallu dyn i gadw'n dawel yn wyneb y fath ddioddefaint. Mae peidio ag aros yn dawel yn wyneb erchyllterau gwladwriaeth yn erbyn grŵp penodol o bobl, fel Iddewon Ewrop yn yr 1930au a 1940au'r ganrif ddiwethaf, yn gallu cymryd dewrder—dewrder personol anhygoel, fel yn achos rhai fel Sophie Scholl yn Almaen y Natsiaid. Mae hefyd yn cymryd dewrder gwleidyddol mawr ar ran Llywodraethau i wrthwynebu ymddygiad gormesol cenhedloedd grymus.

Hoffwn ddyfynnu, yn y cyd-destun yma, deyrnged a ysgrifennwyd i un o feddylwyr diwinyddol mwyaf blaenllaw Iddewiaeth yr ugeinfed ganrif, ac un o arweinwyr y mudiad dros hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau, Rabbi Abraham Joshua Heschel. Mae'r deyrnged gan yr ysgolhaig diwynyddol o Gymru, W.D. Davies, ac fe'i darllenwyd ganddo yn angladd Rabbi Heschel yn 1972. Ganwyd W.D. Davies yn fab i löwr a'i wraig yng Nglanaman, ychydig filltiroedd o ble dwi'n byw yng Nghwm Tawe. Cafodd yrfa ddisglair yma ac yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys dal cadeiriau ym mhrifysgolion Princeton a Duke. Ac mae ei eiriau o deyrnged i'w gyd-ysgolhaig yn hynod berthnasol i bwysigrwydd y weithred o gofio, a'i natur. 

'Rwy'n cofio unwaith, yn ei gartref, iddo gyfeirio at dawelwch pobl nobl yn yr Almaen, ac mewn mannau eraill, ym mhresenoldeb gweithredoedd gwrthun ac aruthrol Hitler, a soniodd am yr angen i brotestio'n gyhoeddus yn erbyn y fath.... Ei fod wedi gorymdeithio yn gyhoeddus iawn i Selma ac wedi gwrthwynebu'n gyhoeddus iawn ryfel Fietnam... nid damwain oedd hyn i gyd. Dyma ei ymateb angerddol yn erbyn tawelwch llwfr pobl nobl ym mhresenoldeb camweddau annioddefol. Mae mwy nag un cyfreithydd mawr wedi dweud ei bod yn bwysig nid yn unig bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ond y gwelir bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni. Teimlai Abraham Heschel ei bod yn bwysig nid yn unig bod rhywun yn protestio yn erbyn drwg, ond bod rhywun yn cael ei weld yn protestio, hyd yn oed os yw mewn perygl o gael ei gamddehongli a'i gamddeall. Roedd cael ei weld yn protestio, yn ei feddwl, yn rhan angenrheidiol o'i benderfyniad i beidio â bod yn euog o dawelwch peryglus.'

Mae'r Holocost felly yn mynnu ein bod yn cymryd safiad, yn galw'n gyhoeddus am ddiwedd i ragfarn a chasineb neu drais ar sail hil, crefydd, rhywioldeb neu rywedd, neu unrhyw nodwedd sy'n cael ei ddefnyddio fel sail gorthrwm, anghyfiawnder a chyfyngu ar ryddid, yn sail dros achosi dioddefaint, dros achosi newyn, dros yrru pobl o'u cartrefi, dros ladd didrugaredd. Hoffwn gofio heddiw'r Llywodraethau hynny sydd wedi sefyll yn erbyn cenhedloedd grymus i atal hyn, o gyfnod yr ail ryfel byd hyd heddiw. Hoffwn gofio'r bobl sydd wedi cymryd safiad cyhoeddus yn erbyn hyn, gan alw am heddwch ac am gyfiawnder.

Hoffwn wybod, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'ch gweithred chi o gofio eleni yn un sydd yn oddefol. Sut ydych chi'n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sefyll yn erbyn gormes a thrais ac i alw am heddwch a chyfiawnder ar yr ynysoedd hyn, a hefyd yn eu perthynas gyda Llywodraethau'r byd, yn benodol ar hyn o bryd wrth feddwl am ddyfarniad interim gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol fod achos credadwy, o dan gonfensiwn hil-laddiad 1948, yn erbyn Llywodraeth Israel, a bod y boblogaeth Balesteinaidd yn Gaza mewn perygl gwirioneddol o ddifrod anadferadwy?

Sonioch chi fod y gwrthdaro yn y dwyrain canol ym mlaen eich meddwl yn seremoni gofio'r wythnos diwethaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r lefelau cynyddol o wrthsemitiaeth ac Islamaffobia o fewn ein cymunedau, sydd wedi'u dwysau gan weithredoedd Llywodraeth Israel yn Gaza ac ymosodiad Hamas ar ddinasyddion Israel? Ydych chi'n cytuno bod angen pwyso ar Lywodraeth San Steffan i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza a dychweliad diogel y gwystlon Israelaidd er mwyn lleihau tensiynau ac felly lefel troseddau casineb o'r fath yng Nghymru? Os felly, ydych chi'n fodlon rhoi pwysau Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r galwadau am gadoediad ar unwaith i gyflawni hyn?

Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw bod rhyddid yn fregus. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth San Steffan i barchu cyfraith ryngwadol gan sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu hamddiffyn yn ddiwahân yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol, a bod sancsiynau yn cael eu cymryd yn erbyn y cenhedloedd sy'n torri confensiynau a chyfraith ryngwladol drwy gyfyngu rhyddid pobloedd i gael hawl i fywyd, rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol, a'r hawl i ddiogelwch?

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn gyfle i ni adnewyddu ein hymrwymiad i amddiffyn heddwch a hawliau dynol yn y byd heddiw. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, na ddylwn fyth aros yn dawel yn wyneb anghyfiawnder a dioddefaint, na ddylai Llywodraeth fod yn euog, fel y soniodd Rabbi Heschel, o compromising silence—hyd yn oed os oes perygl o gael ein camddeall a'n camgynrychioli wrth wneud hynny?

16:40