Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Jayne Bryant. 

Cyllideb Llywodraeth Leol

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fantoli eu cyllidebau yng Ngorllewin Casnewydd? OQ60632

Diolch i Jayne Bryant, Llywydd. Yn ogystal â grantiau penodol, bydd Cyngor Casnewydd yn derbyn cyllid o £303 miliwn drwy setliad llywodraeth leol 2024-25. Mae hyn yn gynnydd o 4.7 y cant ar y flwyddyn gyfredol.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Michael Gove £600 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr, wedi'i anelu'n bennaf at gostau cynyddol gofal cymdeithasol oedolion a phlant. Eto, mae cydnabyddiaeth eang nad yw'r ffigur hwn yn ddigon uchel. Bydd Aelodau yn y Siambr hon heddiw yn cydnabod bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol. Mae'n debyg ein bod ni i gyd wedi siarad â chynghorwyr ac etholwyr sy'n bryderus iawn am effaith pwysau'r gyllideb ar wasanaethau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud ei bod yn hanfodol i gyllid canlyniadol cyhoeddiad Michael Gove gael ei ddarparu i gynghorau Cymru yn llawn fel y gellir ei dargedu at ysgolion a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Prif Weinidog, pa ymrwymiadau, os o gwbl, a gawsoch chi gan Lywodraeth y DU ar symiau canlyniadol yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf?

Wel, Llywydd, nid oes unrhyw warantau o unrhyw fath, ac mae hyn yn dangos annhegwch y ffordd y caiff cyllid yn y Deyrnas Unedig ei drefnu. Bydd llywodraeth leol yn Lloegr nawr yn gwybod y setliad y mae wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU. Bydd yn rhaid i ni aros tan gyllideb y gwanwyn i weld a yw'r £25 miliwn hwnnw'n cyrraedd Cymru mewn gwirionedd, neu a yw'n cael ei wrthbwyso gan newidiadau eraill yn ein cyllideb, a allai olygu mewn gwirionedd nid ein bod £25 miliwn yn well ein byd, ond ein bod yn waeth ein byd nag yr ydym yn credu y byddwn ar hyn o bryd. Ac nid dyna fyddai'r tro cyntaf i hyn ddigwydd o gwbl. 

Felly, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog cyllid yn cydymdeimlo â'r achos y mae llywodraeth leol yng Nghymru yn ei wneud—wrth gwrs y byddai hi—oherwydd, yma yng Nghymru, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein hawdurdodau lleol, gyda chynnydd o 9.4 y cant ddwy flynedd yn ôl, cynnydd o 7.9 y cant y llynedd, ac rydym wedi anrhydeddu'r hyn y dywedom ni y byddem ni'n ei wneud o ran darparu 3.1 y cant yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhaid i ni aros, Llywydd, mewn ffordd nad oes yn rhaid i adrannau Lloegr aros, i gael gwybod a yw'r arian hwnnw ar gael i ni yng Nghymru mewn gwirionedd. 

Prif Weinidog, mae codiadau treth gyngor enfawr ar y gorwel i lawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru, ac mae'n ddealladwy yn achosi llawer o bryder. Mae trigolion yng Nghasnewydd yn wynebu cynnydd syfrdanol o 8.5 y cant. Yn sir Fynwy, mae pobl leol yn disgwyl naid o 7.5 y cant, ac yng Nghaerffili, mae trigolion yn edrych ar gynnydd o 6.9 y cant. Fel y dywedais i wrth eich Gweinidog cyllid yr wythnos diwethaf, mae trigolion yn cael eu gorfodi i dalu mwy ar adeg pan fo cyllidebau cartrefi eisoes dan bwysau, gan hefyd weld gwasanaethau lleol yn gostwng. Ac mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad â chynghorau lleol yn ddiffuant, oherwydd nid nhw sydd wedi gwneud hyn o reidrwydd; yn anffodus, y Llywodraeth hon wnaeth hynny. Mae awdurdodau lleol, sy'n darparu gwasanaethau hanfodol, wedi eu gwthio i sefyllfa oherwydd diffyg cyllid gan eich Llywodraeth chi. Ac rwy'n gwybod beth fyddwch chi'n ei ddweud, Prif Weinidog—does dim digon o arian ac mae Llywodraeth Cymru yn brin iawn o arian. Ond, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, pe bai'ch Llywodraeth chi'n rhoi'r gorau i wastraffu symiau cywilyddus o arian, er enghraifft £120 miliwn ar wleidyddion yn y lle hwn, £4.25 miliwn ar ffermydd segur i ffrindiau—sydd bellach ar fin bod yr adardy drutaf yng Nghymru—a £33 miliwn ar derfynau cyflymder 20 mya, yna byddai mwy o arian i'w sbario i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'u gwarchod?

Wel, Llywydd, rwy'n gyfarwydd ag anllythrennedd economaidd gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac ni chaf byth fy siomi, na chaf? Rwyf wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau yr wyf wedi ceisio egluro i'r Aelodau Ceidwadol yma y gwahaniaeth rhwng gwariant cyfalaf a refeniw, ond mae'n ymddangos nad ydyn nhw byth yn deall hyd yn oed y ffaith fwyaf sylfaenol honno o gyllid y Llywodraeth. Fe ddywedaf hyn, Llywydd: nid yw'r Llywodraeth hon yn rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yng Nghymru osod y dreth gyngor ar yr uchafswm y gallan nhw, fel y clywsom ni fod y Llywodraeth yn Lloegr yn ei wneud i'w hawdurdodau lleol nhw erbyn hyn. [Torri ar draws.] O, ie, rydym yn clywed eu bod nhw yn eu cyfarwyddo erbyn hyn, bod yn rhaid iddyn nhw wneud y gorau o'r arian sy'n cael ei dynnu i lawr o'r dreth gyngor i wneud iawn am fethiant cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr. Yma yng Nghymru, rydym bob amser wedi blaenoriaethu. Gofynnwch chi i unrhyw arweinydd cyngor yng Nghymru ac unrhyw arweinydd cyngor yn Lloegr lle y byddai'n well ganddyn nhw fod mor bell ag y mae cyllid y cyngor yn y cwestiwn, a dim ond un ateb sydd yna: byddai'n llawer iawn gwell ganddyn nhw fod yma.

13:35
Clefyd Crohn a Cholitis

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd â chlefyd Crohn a cholitis yn cael diagnosis mor gyflym â phosibl? OQ60621

Llywydd, yng Nghymru, mae gennym lwybr safonol y cytunwyd arno yn genedlaethol ar gyfer ymchwilio i glefyd llid y coluddyn. Mae pob bwrdd iechyd yn ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gwasanaethau sy'n ymateb i bobl sy'n ymgyflwyno gyda symptomau'r clefyd.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddom, mae dros 26,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd Crohn a cholitis—cyflyrau cronig gydol oes y perfedd—gydag un o bob pedwar yn cael diagnosis cyn eu bod yn 30 oed. Nid oes iachâd, ond, gydag ymyrraeth gynnar a'r driniaeth gywir, gellir rheoli'r cyflyrau. Fodd bynnag, cyn y pandemig, gwnaeth mwy nag un o bob pedwar—felly, dyna 26 y cant—aros mwy na blwyddyn am ddiagnosis, gyda dau o bob pump yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Disgrifiodd un fenyw ifanc ei thaith fel tipyn o frwydr. Esboniodd hi faint o feddygon a'i trodd i ffwrdd oherwydd nad oedden nhw'n credu ei bod mewn poen, wrth iddi ddioddef crampiau stumog drwy gydol ei TGAU wnaeth barhau i waethygu. Ar ôl blwyddyn, cafodd ddiagnosis o glefyd Crohn o'r diwedd, a disgrifiodd ei thaith o gael diagnosis yn un rhwystredig ac roedd yn teimlo'n ddigymorth, gan ei bod yn ymddangos nad oedd y meddygon yn ei chymryd o ddifrif nes ei bod mewn poen arteithiol. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru archwilio beth arall y gellir ei wneud i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau hyn a hefyd i wella ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol? Diolch.

Llywydd, diolch i Sarah Murphy am hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt pwysig iawn yn rhan olaf ei chwestiwn atodol—bod llawer iawn y mae angen ei wneud i helpu pobl i ddeall natur eu symptomau, ac, wrth gwrs, i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n asesu'r symptomau hynny yn y pen draw, oherwydd mae hwn yn faes lle ceir ansicrwydd diagnostig gwirioneddol. Mae llawer o'r pethau sydd, yn y pen draw, yn glefyd Crohn neu golitis yn edrych fel pob math o gyflyrau eraill nad ydyn nhw'n hynny o gwbl. Bydd meddyg teulu bob amser, fel y byddai eu hyfforddiant proffesiynol yn eu harwain i wneud, yn edrych yn gyntaf ar yr esboniad amlycaf am yr hyn y maen nhw'n ei weld o'u blaenau, ac nid yw hynny'n debygol o fod yn ddiagnosis o glefyd Crohn neu golitis. Felly, mae rheoli ansicrwydd diagnostig yn nodwedd anochel o'r cyflwr hwn. Ond mae mwy y gellir ei wneud i ddwyn perswâd, yn enwedig ar bobl ifanc—ac, fel y dywedodd Sarah Murphy, Llywydd, mae'r rhain yn gyflyrau sy'n dod i'r amlwg yn eithaf cynnar ym mywydau pobl—a bod pobl yn adnabod y symptomau hynny am yr hyn y gallen nhw fod. Ac yna, drwy waith ein harweinydd clinigol cenedlaethol, Dr Barney Hawthorne—sydd wedi ymddeol yn ddiweddar a bydd rhywun newydd yn ei le yn fuan—mae gennym bellach fynediad cyson, mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, i'r prawf allweddol sy'n rhoi'r ddealltwriaeth orau i feddygon teulu o ran a yw hyn yn rhyw gyflwr arall y maen nhw'n ei weld ai peidio neu a yw'n rhywun sy'n dioddef o glefyd Crohn a cholitis. Rydym wedi rhoi llawer o ymdrech yn ystod y blynyddoedd diwethaf i mewn i gyngor sy'n helpu cleifion eu hunain i ddeall y cyflwr ac i reoli'r cyflwr. Ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Crohn's and Colitis UK, yn eu hymgyrch diagnosis cynharach, a'r gwaith addysgol arall y maen nhw'n ei wneud, rydym yn gwybod o safon wirioneddol ardderchog. A'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth, mwy o fanteisio ar y cymorth sydd ar gael, yw gweithio'n agos gyda'r partneriaid trydydd sector hynny.

Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig iawn a ofynnwyd gan Sarah Murphy heddiw, oherwydd, i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis neu gymorth, mae'n gyfnod anodd iawn o'u bywydau, ac yn wanychol. A allwch chi amlinellu, Prif Weinidog, sut rydych chi'n cefnogi yn benodol, neu mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi yn benodol, y rhai sy'n aros i gael diagnosis, neu'r rhai sy'n aros am gymorth neu driniaeth bellach, oherwydd yn aml gall yr arosiadau hynny fod yn hir, fel y nodwyd eisoes, ac mae'n ymwneud â chefnogi pobl wrth iddyn nhw aros o ran cael diagnosis neu gael triniaeth bellach?

Diolch i Russell George am hynny. Rwy'n credu bod tri pheth y gellid eu dweud wrth ateb y pwynt y mae'n ei wneud. Yn gyntaf oll yw'r ffaith bod gennym lwybr safonol sydd wedi'i gytuno'n genedlaethol. Mae hynny'n bwysig iawn oherwydd mae'n golygu bod pobl, ble bynnag maen nhw'n ymgyflwyno yn y system, yn debygol o gael yr un lefel o ofal. Yn ail yw'r ffaith ein bod wedi sicrhau bod mynediad cyson ym maes gofal sylfaenol i'r prawf allweddol sydd ei angen ar feddygon teulu. Ac yna'n drydydd, mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn gwasanaethau endosgopi, oherwydd peth o'r oedi o ran diagnosis a'r rheswm pam mae pobl yn aros yw oherwydd ei fod yn dibynnu ar endosgopi, ac rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i gyflymu argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau diagnostig yng Nghymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Ddeuddeg mis yn ôl, Prif Weinidog, fe wnaeth rhaglen gan y BBC amlygu'r materion yn rygbi Cymru, ac rwy'n credu bod llawer o bobl wedi cael eu synnu a'u syfrdanu gan y dystiolaeth oedd yn y rhaglen honno. Diolch byth, 12 mis yn ddiweddarach, rydyn ni mewn lle llawer gwell. Ac rydyn ni wedi gweld adroddiad yn glanio yn ein mewnflychau, fel Aelodau, sydd wedi dangos y pwyntiau gweithredu y mae Undeb Rygbi Cymru wedi'u cymryd, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw barhau i'w cymryd yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, i gyrraedd man lle bydd pawb yn teimlo'n gynhwysol ac yn mwynhau'r gamp genedlaethol. Beth yw eich barn chi fel Llywodraeth, ac, yn benodol, eich barn chi fel Prif Weinidog, ar y camau y mae Undeb Rygbi Cymru wedi'u cymryd? A sut ydych chi'n eu dwyn nhw i gyfrif fel Llywodraeth, gyda buddsoddiad sylweddol yn y frawdoliaeth rygbi yma yng Nghymru, ar yr addewidion y maen nhw wedi'u gwneud?

Wel, diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiwn hwnnw, Llywydd. Mae e'n hollol gywir—roedd yr adroddiad gwreiddiol hwnnw yn adroddiad a ddatgelodd ddiwylliant o fewn Undeb Rygbi Cymru y mae ef ei hun wedi mynegi ei gywilydd ohono, ac roedd yn adroddiad ysgytwol. Rwy'n credu bod Undeb Rygbi Cymru wedi symud llawer iawn yn ystod y 12 mis diwethaf. Rwy'n credu bod penodi cadeirydd newydd, penodi prif weithredwr newydd, yr ymrwymiad uniongyrchol iawn a wnaed ar ran URC i weithredu argymhellion yr adroddiad annibynnol yr oedden nhw wedi'i gomisiynu, rwy'n credu, yn arwydd da iawn, ond mae llawer o ffordd i fynd. Os oeddech chi eisiau fy asesiad i, rwy'n credu bod dechrau da iawn wedi'i wneud, ond mae yna lawer o waith y bydd angen ei wneud o hyd i sicrhau bod y materion diwylliannol trylwyr hynny, yr ydym yn gwybod eu bod wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn sefydliadau—rydyn ni wedi'i weld mewn sefydliadau eraill yn ddiweddar, onid ydym, yn y gwasanaeth tân ac achub, er enghraifft, yn ne Cymru—. Mae'r diwylliannau hynny'n cydio ac maen nhw'n anodd eu newid. Rwy'n credu bod URC wedi gwneud dechrau da.

Ac o fy safbwynt i, yr hyn yr wyf i am ei wneud, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud, yw cefnogi'r unigolion hynny o fewn y sefydliad sydd am arwain o ran sicrhau newid. Felly, er y byddwn ni, yn amlwg, mewn deialog gyson ag URC—mae swm mawr o arian sydd wedi ei fenthyg i'r undeb ac mae cyswllt rheolaidd yn weinidogol, a rhwng swyddogion ac URC ei hun—wrth i ni weld cynnydd yn cael ei wneud, rwyf am i'r berthynas honno fod yn un gefnogol, ond byddwn yn parhau i asesu'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

Prif Weinidog, rydyn ni ar drothwy pencampwriaeth newydd y Chwe Gwlad, ac rydyn ni mewn gwell sefyllfa nag yr oedd rygbi Cymru ynddi yr adeg hon y llynedd, ac mae'r tîm newydd ar frig URC yn haeddu'r gefnogaeth a'r cyfle hwnnw. Ac un peth a ddigwyddodd yn eithaf clir pan darodd y newyddion yma y penawdau oedd cyfalaf nawdd yn gadael URC a heriau eraill. Amlygodd Llywodraeth Cymru, fel y dywedoch chi, yr ymrwymiad ariannol y mae wedi'i wneud i'r gêm yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, gerbron y pwyllgor diwylliant yma yn y Senedd, tynnodd cadeirydd URC sylw at y baich y mae'r benthyciad hwnnw'n ei roi ar gyllid yr undeb. Telir £2 filiwn y flwyddyn mewn gwasanaethu ac ad-daliadau cyfalaf, ac mae gan undebau eraill ledled y Deyrnas Unedig gyfradd llog llawer is, fel yr wyf yn ei ddeall, ar fenthyciadau sydd wedi cael eu rhoi iddynt. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymateb i'r cais gan URC i weithio gyda nhw i geisio ailstrwythuro'r benthyciad hwnnw, fel nad yw'r baich hwnnw yn cael ei roi ar y gêm llawr gwlad yng Nghymru, pe bai'n rhaid i URC wneud toriadau yn yr hyn yr ydym ni i gyd eisiau ei weld, sef lefel cyfranogiad gynyddol yng Nghymru a lefel broffesiynol fywiog sy'n tyfu, a'r rhanbarthau yn gallu cystadlu ar bob lefel? A mater i'r Llywodraeth a'r undeb fydd gweithio i geisio gwneud hynny drwy'r mecanweithiau sydd wedi'u rhoi ar waith yn flaenorol. Felly, a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag URC ac y bydd yn gallu helpu i ailstrwythuro'r benthyciad hwn fel y gall yr arian hwnnw aros o fewn y gêm a'i helpu i ffynnu yma yng Nghymru?

13:45

Gadewch imi ymateb i ddechrau, Llywydd, i bwynt a wnaeth arweinydd yr wrthblaid wrth gyflwyno ei ail gwestiwn, pwysigrwydd rhoi cyfle i sefydliad ailadeiladu. Rwy'n cytuno ag ef yn y fan yna. Bydd sefydliadau sy'n dod o dan y chwyddwydr, yn y ffordd y gwnaeth Undeb Rygbi Cymru, wedi dioddef niwed o ganlyniad. Ac er ein bod yn gweld cynnydd yn cael ei wneud, mae'n bwysig rhoi cyfle iddyn nhw ddangos y gellir cynnal a pharhau â'r cynnydd hwnnw. 

O ran y benthyciad, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir am rywfaint o hanes hyn i gyd. Dechreuodd y benthyciad hwn yn ystod cyfnod COVID, pan gymerodd URC un o fenthyciadau ymyrraeth busnes mawr coronafeirws Llywodraeth y DU. Doedden nhw ddim yn gallu cynnal yr ad-daliadau o dan y benthyciad hwnnw a daethon nhw at Lywodraeth Cymru. Gwnaethom ni gamu i'r adwy fel benthyciwr dewis olaf, ond fe wnaethom ni etifeddu'r telerau y gwnaed y benthyciad gwreiddiol hwnnw arnynt. A phan fyddwch chi'n delio ag arian cyhoeddus, hyd yn oed pan fyddwch chi'n delio â sefydliadau sydd mor bwysig ym mywyd Cymru ag y mae rygbi Cymru, mae dyletswydd arnoch o hyd i sicrhau bod y rheini'n cael eu gwneud ar delerau masnachol priodol. A dyna sail y benthyciad, benthyciad y mae URC wedi ymrwymo iddo. Roedden nhw'n rhydd i weithredu fel y mynnent wrth dderbyn y benthyciad hwnnw. Ac er ein bod bob amser yn barod ac wedi bod yn barod i siarad â'r undeb ynghylch a ellir ailstrwythuro'r benthyciad, a oes ffyrdd eraill y gallwn ni helpu, yn y pen draw, roedd hwn yn fenthyciad a benderfynwyd yn fasnachol, gydag amodau a etifeddwyd o gymorth coronafeirws y DU, ac yr ymrwymwyd iddo gan URC ei hun o'i wirfodd.

Rwy'n derbyn hynny, ac ni fyddai'r URC yn cilio ohono, ond mae'r pwysau hwn erbyn hyn sy'n cronni a fydd yn amlwg yn gorfod cael—. Rwy'n credu mai'r geiriau a ddefnyddiwyd gan y cadeirydd, gerbron y pwyllgor, oedd 'cynllun B', sydd eto i'w benderfynu. Ond yn ddieithriad byddwn yn gweld tynnu yn ôl o nodweddion o'r gêm yr ydym eisiau eu gweld yn tyfu yma, fel ehangu rygbi llawr gwlad ac fel galluogi ein timau proffesiynol, ein rhanbarthau, i fod yn gystadleuol.

Arweiniodd y trosglwyddiad hwnnw i lyfr benthyciadau Llywodraeth Cymru, fel yr wyf yn ei ddeall, at godi cyfradd llog uwch ar y benthyciad yn hytrach nag aros gyda'r benthyciad COVID y cytunwyd arno yn ystod argyfwng COVID. Rwy'n deall yr ymrwymwyd i hynny o'i wirfodd ar y pryd ac roedd anawsterau wedyn wrth wasanaethu'r benthyciad, ond mae gennym dîm newydd sydd bellach wrth y llyw yn URC, yn dod allan o gyfnod anodd. Ni fyddai unrhyw beth yn rhoi mwy o hyder i'r gêm yma yng Nghymru na pharodrwydd gan Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n amlwg a chefnogi ailstrwythuro—nid dileu, oherwydd rwy'n deall nad yw hynny'n opsiwn sydd ar gael o dan unrhyw ddeddfwriaeth oherwydd y rheolau cystadleuol sy'n bodoli. Ond byddai'r gallu i ymgysylltu ac ailstrwythuro o fudd i bob agwedd ar y gêm yma yng Nghymru.

Felly, a ydych chi'n gallu cadarnhau, Prif Weinidog, fod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ac yn ystyried gyda chydymdeimlad y cais penodol hwn gan URC a wnaed trwy'r dystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant? Ac a wnewch chi gadarnhau heddiw a fydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros ein cynnig yfory a fydd yn cadw rygbi'r Chwe Gwlad ar deledu rhad ac am ddim? Oherwydd bydd mwy o allu i'r cyhoedd weld y gêm yn ei holl ogoniant yn y pinacl hwnnw o'r gêm yn hemisffer y gogledd heb os yn dod â chenhedlaeth yfory ymlaen i lenwi caeau rygbi a chlybiau rygbi'r wlad wych hon sydd gennym.

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'i ddweud am bwysigrwydd buddsoddi yn y gêm ar lawr gwlad, mewn rygbi menywod, mewn rygbi anabl ac yn y rhanbarthau hefyd. Rwy'n hapus i ddweud, wrth gwrs, ein bod bob amser yn barod i ymgysylltu ag URC i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud. Dydw i ddim yn credu y byddai'r telerau y mae'r arian yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru arnynt ar gael i Undeb Rygbi Cymru yn y farchnad fasnachol, felly mae ganddynt fantais eisoes yn y ffordd honno, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn fodlon siarad â nhw a gweld a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud.

Wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddangos rygbi yn rhad ac am ddim yma yng Nghymru. Dyna yr oeddem ni'n dadlau drosto yn y dystiolaeth y gwnaethom ei rhoi i ymchwiliad diweddar Tŷ'r Cyffredin i'r mater hwnnw. Byddai'n eironi, oni fyddai, Llywydd, y byddai pobl yng Nghymru yn gallu gwylio Wimbledon a'r Derby ar eu setiau teledu, yn rhad ac am ddim, ond na allen nhw weld Cymru'n chwarae rygbi. Go brin y byddai hynny'n cyd-fynd â'r hyn y gwyddom ni yw dewisiadau chwaraeon pobl sy'n byw yng Nghymru. 

13:50

Diolch, Llywydd. Dwi eisiau tynnu sylw'r Prif Weinidog at adroddiadau bod canolfannau'r ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn wynebu cael eu cau. Dwi'n credu'r bobl glinigol hynny sy'n ofni y bydd hynny'n rhoi'r canolbarth a'r gogledd-orllewin dan anfantais ac yn wir yn peryglu bywydau. Dwi wedi cydgyflwyno datganiad barn ar y mater yn gynharach heddiw.

Mae'r adolygiad o ddarpariaeth ambiwlans awyr yn cael ei gynnal gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, sy'n bwyllgor ar y cyd rhwng y saith bwrdd iechyd. Felly, mae'r gallu gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ac i ymyrryd. Ydy'r Prif Weinidog yn barod i gydnabod y pryderon gwirioneddol a chymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu'r ddau safle fel bod ambiwlans awyr Cymru yn gwasanaethu pob rhan o'r wlad yma'n gyfartal?

Wrth gwrs dwi'n cydnabod y ffaith fod pobl leol yn pryderu am ddyfodol y gwasanaeth, ond mae hwn yn digwydd ble bynnag mae pethau'n cael eu haildrefnu. A dyna beth sydd wedi digwydd yn y fan hon. Mae'r bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth wedi bod mas yn siarad gyda phobl leol ac yn siarad gyda phobl ledled Cymru, achos yr hyn maen nhw'n ei awgrymu yw gwasanaeth lle bydd neb yn colli mas ar y gwasanaeth sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ond ble mae cyfle i lot fwy o bobl eraill gael gwasanaeth sydd ddim ar gael iddynt heddiw. Dyna oedd yr egwyddor oedd yn tanlinellu'r hyn yr oedd y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yn ei wneud, ac roedden nhw'n glir am hynny o'r dechrau. 

Yr egwyddorion a nodwyd ganddyn nhw yn y dechrau, Llywydd, oedd na ddylai'r gwasanaeth fod yn waeth i unrhyw un a rhaid i'r gwasanaeth fod o fantais i bobl newydd. Gallai dau neu dri o bobl bob diwrnod nad ydyn nhw'n derbyn y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd dderbyn y gwasanaeth o dan y trefniadau newydd—500 yn fwy o hediadau i bobl sydd eu hangen y flwyddyn. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni droi ein cefnau arno'n hawdd. 

Dwi'n gwbl grediniol y byddai rhoi tîm ychwanegol ar y ddaear yn y gogledd-ddwyrain yn darparu'r gofal ychwanegol hwnnw a bod tynnu'r hofrenyddion o'r ddwy ganolfan yma yn mynd i olygu gwasanaeth salach. Y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys sydd yn darparu'r gofal ar yr ambiwlans awyr, ond nid colli'r gwasanaeth ambiwlans awyr ydy'r unig bryder am wasanaethau EMRTS yn y gogledd ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cadarnhad gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr bod gwasanaeth brys EMRTS i drosglwyddo cleifion o Ysbyty Gwynedd i leoliadau eraill os ydyn nhw angen triniaeth gritigol eisoes wedi cael ei gwtogi i oriau'r dydd yn unig. Mae hynny'n achosi pryder gwirioneddol. 

Y gwasanaeth trosglwyddo cleifion brys yw'r hyn sy'n trosglwyddo cleifion o Ysbyty Gwynedd i Lerpwl neu Stoke, dyweder, efallai ar ôl trawma difrifol mewn damwain neu os oes angen gofal arbenigol arall arnyn nhw. Bellach mae wedi cael ei dynnu'n ôl yn ystod y nos. Ond nid yw argyfyngau meddygol yn gwahaniaethu yn seiliedig ar yr adeg o'r dydd. Hanfod gofal brys yw ei fod ar gael i chi pan fydd ei angen arnoch, lle mae ei angen arnoch. 

Dywed y bwrdd iechyd fod mesurau lliniaru tymor byr yn cael eu rhoi ar waith tra bod cynllun mwy parhaol yn cael ei lunio, ond y pryder yw—pryder amlwg—na fydd hyn yn cynnwys gwasanaeth 24 awr. Yn syml, mae angen hwn arnom 24 awr y dydd ac mae clinigwyr yn poeni'n daer. A yw'r Prif Weinidog yn barod i ymgysylltu ar y mater hwn fel y gallwn ni geisio adfer y gwasanaeth hwn 24 awr y dydd ar frys?

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn bodoli 24 awr y dydd, a rhan o'r rheswm pam y cynigir diwygio yw y gall fod ar gael yn fwy ledled Cymru. Mae'n anodd i mi ddeall yn llawn y pwyntiau y mae arweinydd Plaid Cymru yn eu gwneud. Mae ef eisiau beirniadu symudiadau i sicrhau bod gwasanaeth ar gael yn ehangach, ac yna mae'n bryderus pan nad oes gwasanaeth ar gael yn ddigonol. Tybed a yw'n credu bod unrhyw wrthddywediad yn y ddau safbwynt hynny y mae wedi'u datblygu hyd yn hyn y prynhawn yma. Mater i'r bwrdd iechyd ei hun fydd sefydlu ac egluro'r manylion ar lawr gwlad, ac, wrth gwrs, byddan nhw'n gwneud hynny mewn deialog â Llywodraeth Cymru a gyda'r Gweinidog yn ei goruchwyliaeth reolaidd iawn o'r ffordd y mae'r bwrdd yn gweithredu.

13:55

Wrth gwrs, rydyn ni'n sôn am un gwasanaeth, yr ambiwlans awyr, a allai gael ei newid yn y dyfodol. Mae hyn eisoes wedi'i gyflwyno o ran trosglwyddo cleifion brys yn Ysbyty Gwynedd. Felly, nid yw'n cael ei ddileu oherwydd bod rhywbeth arall yn dod yn ei le. Mae hyn yn golygu colli gwasanaeth. 

Un elfen sy'n rhwystredig i glinigwyr yw eu dealltwriaeth y gallai'r gwasanaeth trosglwyddo fod yn cael ei wella mewn rhannau eraill o Gymru. Dydw i, yn sicr, fel y gŵyr y Prif Weinidog, ddim yn mynd i roi un rhan o Gymru yn erbyn y llall, ond rwy'n credu'n gryf bod yn rhaid i'r Llywodraeth ddangos yn glir, bob amser, ei bod yn trin pob rhan o Gymru yn gyfartal.

Mae arnaf i ofn na fydd y bygythiad i'r canolfannau ambiwlansys aer, ynghyd â dileu trosglwyddiadau brys eisoes, ond yn atgyfnerthu ymdeimlad o annhegwch a deimlir gan gleifion yn y canolbarth neu'r gogledd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried y neges honno hefyd, wrth benderfynu sut i ymyrryd ar yr ambiwlans awyr a'r gwasanaeth trosglwyddo brys?

Wrth gwrs rwy'n cydnabod, pan fydd newid yn digwydd, bod yn rhaid i chi fod yn siŵr eich bod yn ceisio mynd â'ch poblogaeth leol gyda chi ar y daith honno. Mae'r gwasanaeth iechyd wedi newid o'r diwrnod cyntaf y cafodd ei sefydlu yn 1948, a bydd yn parhau i newid. Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn teimlo'n angerddol am y gwasanaeth y maen nhw'n ei weld ac y maen nhw'n ei adnabod, a bod newid y pethau hynny ar lawr gwlad bob amser yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei wneud trwy broses o rannu gwybodaeth, ateb cwestiynau pobl, gan obeithio gallu mynd i'r afael â'r pryderon a godir. Dyna fyddem ni'n disgwyl i'n holl fyrddau iechyd ei wneud, ac rwy'n siŵr mewn unrhyw drafodaethau y bydd y Gweinidog yn eu cael—. Ac mae'n newyddion da iawn bod y Gweinidog wedi gallu cadarnhau bod cadeirydd newydd y bwrdd iechyd bellach mewn swydd barhaol, ac rwy'n credu ei fod eisoes wedi dangos, gyda'r prif weithredwr newydd, benderfyniad gwirioneddol iawn bob amser i wrando, bob amser i fod ar gael i bobl ar lawr gwlad lle mae'r pryderon hynny. Byddwn i yn sicr yn disgwyl i hynny barhau.

Digartrefedd

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion sy'n wynebu digartrefedd yng Nghanol De Cymru? OQ60591

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â digartrefedd i ben. Eleni yn unig, mae mwy na £210 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n atal a chefnogi digartrefedd. Mae'r cyllid yma wedi cael ei ddiogelu dros 2024-25, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol heriol. Mae hyn yn cynnwys dros £45 miliwn i awdurdodau yng Nghanol De Cymru.

Diolch, Brif Weinidog. Dros y mis diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg bod hen adeilad Toys 'R' Us ym Mae Caerdydd yn cael ei ddefnyddio fel llety dros dro i unigolion sy'n aros am dai. Wrth gwrs bod angen darparu lloches ar unwaith i unrhyw un sy'n ddigartref, ond mae'r amodau y mae pobl agored i niwed yn cael eu cartrefu ynddynt yn fy mhoeni'n fawr, ac mae hefyd yn pryderu nifer o staff sy'n cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth.

O ystyried y pryderon hyn ynghylch iechyd a diogelwch defnyddwyr y gwasanaethau a'r staff eu hunain mewn cyfleusterau o'r fath, hoffwn ofyn a ydych chi'n credu bod cartrefu unigolion agored i niwed yn y math hwn o adeilad yn ateb addas a chynaliadwy i fynd i’r afael â'r argyfwng digartrefedd yma yn ein prifddinas a hefyd yng Nghymru. Pa fesurau rhagweithiol y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau lles a diogelwch y rhai sy'n cael eu cartrefu mewn llety dros dro?

Fel y mae Cyngor Caerdydd ei hun wedi dweud, roedd ei benderfyniad i ddefnyddio Toys 'R' Us yn benderfyniad a wnaed o dan y pwysau enfawr y mae'r ddinas yn ei wynebu. Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Caerdydd yn dod yn fagned i bobl sy'n dod i'r ddinas, sy'n canfod nad oes ganddyn nhw unman i fyw, ac sy'n troi at yr awdurdod lleol i'w cynorthwyo. Ar yr un pryd, mae Caerdydd, uwchlaw unrhyw ran arall o Gymru, yn delio â chanlyniadau penderfyniad y Swyddfa Gartref i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau yn y system loches—peth da ynddo'i hun, ond gyda llawer iawn o bobl yn cael eu taflu allan o'r llety yr oedden nhw'n gallu ei fwynhau yn flaenorol, heb unman i fynd, ond i wasanaethau digartrefedd yr awdurdod lleol. Daeth y ddau beth hynny at ei gilydd cyn y Nadolig mewn ffordd a oedd yn eithriadol o anodd i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ffordd o ymateb. Mae wedi defnyddio safle Toys 'R' Us. Mae'n dweud y bydd wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle hwnnw ym mis Ebrill eleni oherwydd bod ganddo lety arall mwy addas yn dod yn barod. Yn y cyfamser, mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wneud pobl yn yr amgylchiadau dros dro ac anfoddhaol hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod.

O ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref y llynedd gwelwyd y nifer uchaf o ymgyflwyniadau o bobl sy'n ddigartref nag yn unrhyw un o'r tair blynedd flaenorol. Ond gwelwyd hefyd y nifer uchaf o bobl yn symud ymlaen o lety dros dro i lety parhaol yma yng Nghymru. Felly, er bod y galw yn cynyddu drwy'r amser, mae ymdrechion Llywodraeth Cymru, gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol sydd, yn fy marn i, wedi gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, yn golygu bod mwy o bobl nag o'r blaen yn dal i gael eu symud ymlaen i lety gwell a hirdymor. Byddwn yn parhau i wneud hynny gyda'r buddsoddiad y mae ein cyllideb ddrafft yn ei nodi, ond ni ddylai neb fod o dan unrhyw amheuaeth bod hon yn system dan bwysau aruthrol, ac fe syrthiodd y pwysau hynny ar Gaerdydd yn arbennig yn yr wythnosau hynny yn arwain at y Nadolig.

14:00

Prif Weinidog, fel y gwyddoch efallai, mae'r rhwydwaith digartrefedd a gwybodaeth cyfun, CHAIN, a gomisiynwyd ac a ariennir gan Awdurdod Llundain Fwyaf, yn gronfa ddata o wybodaeth sy'n cofnodi pobl a welir yn cysgu allan gan dimau allgymorth yn Llundain. Mae'r gwasanaethau sy'n cofnodi gwybodaeth ar CHAIN yn cynnwys timau allgymorth, prosiectau llety, canolfannau dydd a phrosiectau arbenigol, fel y prosiect No Second Night Out a gomisiynwyd. Manteision gwirioneddol y rhwydwaith yw ei fod yn cael ei ddiweddaru bob dydd ac mae'n darparu dealltwriaeth llawer mwy manwl o gysgu allan mewn ardal benodol, o'i gymharu â'r cyfrif cenedlaethol. Mae hefyd yn casglu llawer mwy o fanylion am sefyllfa unigolyn, fel pa mor hir y mae wedi bod yn cysgu allan, ac mae'n helpu asiantaethau fel Byddin yr Iachawdwriaeth, sy'n gwneud gwaith mor anhygoel o helpu pobl ddigartref, gydag unrhyw anghenion cymorth sydd ganddyn nhw. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried cyflwyno cronfa ddata amlasiantaeth gynhwysfawr, yn debyg i system CHAIN sy'n gweithredu yn Llundain, yng Nghymru er mwyn gwella'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i bobl sy'n profi digartrefedd ar y stryd? Diolch.

Llywydd, rwy'n ymwybodol o system CHAIN, a heb os mae llawer o rinweddau iddi mewn dinas maint a graddfa Llundain, ond nid wyf yn credu bod yr anhawster a wynebir mewn gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru yn un o ddiffyg gwybodaeth. Mae gennym adroddiadau misol gan ein holl awdurdodau lleol am nifer y bobl sy'n ddigartref ar y stryd; maen nhw mewn cysylltiad uniongyrchol â phob un ohonyn nhw yn rheolaidd iawn. Yr hyn nad oes gan ein system yw'r cyllid angenrheidiol i allu ymateb i bobl sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa honno. Nid diffyg gwybodaeth mohono, Llywydd, yr her yw ymateb i broblem sydd wedi bod yn tyfu bob blwyddyn ers pandemig COVID. 

Yr Economi Gydweithredol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu'r economi gydweithredol? OQ60628

Llywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am hynny. Mae mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol dan arweiniad y gymuned yn rhan bwysig o'r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Mae cymorth pwrpasol i helpu i dyfu'r sector ar gael drwy Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gadeirio trafodaeth bord gron ar adroddiad newydd ar bwrpas busnes cydfuddiannol a chydweithredol mewn cymdeithas. Tynnodd yr adroddiad sylw, er enghraifft, at y ffaith bod gan economi gydfuddiannol a chydweithredol y DU yn 2022 refeniw blynyddol cyfunol o ychydig o dan £88 biliwn, neu 3.5 y cant o gynnyrch domestig gros. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru eisoes ar ei ffordd i gyrraedd ei nod o ddyblu nifer y busnesau cydweithredol yng Nghymru y tymor hwn. Mae un argymhelliad yn yr adroddiad yn galw ar dimau polisi ar draws y Llywodraeth i ystyried y manteision y mae mentrau cydweithredol a chydfuddiannol yn eu cynnig i'r economi. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori hyn o fewn ei strategaeth economaidd?

Diolch i Vikki Howells am dynnu sylw at yr adroddiad. Mae'n adroddiad ardderchog, os nad yw cyd-Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen. Yr hyn sy'n dod â'r adroddiad yn fyw yn fy marn i yw'r astudiaethau achos sydd wedi'u cynnwys drwyddo, sy'n dangos y ffordd y mae ffyrdd cydweithredol a chydfuddiannol o ddarparu gwasanaethau i'w canfod nid yn uniongyrchol ym maes yr economi yn unig, fel y dywed Vikki Howells, ond gallan nhw wneud llawer i gynorthwyo ar draws y cyfrifoldebau sy'n cael eu harfer yn y Senedd hon.

Yr astudiaeth achos sydd o Gymru yn yr adroddiad yw un Cymdeithas Adeiladu Principality, sydd wrth gwrs ei hun yn sefydliad cydfuddiannol, a'i bartneriaeth â Grŵp Pobl, gyda'r bwriad o sicrhau bod gan dai yng Nghymru well siawns o allu bodloni'r rhwymedigaethau newid hinsawdd y gwyddom sydd yno i ni heddiw ac yn y dyfodol. Ond nid dyna'r unig enghraifft, o bell ffordd, yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar draws yr ystod o bethau sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, mewn gofal cymdeithasol bydd llawer o gyd-Aelodau yma yn gwybod am Solva Care, sydd wedi ennill llawer o wobrau. Mae cwmni cydweithredol Friends United Together yn Abertawe, menter gydweithredol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Yn y maes addysg, rydym wedi cael cydweithfa athrawon cyflenwi yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fydd angen iddyn nhw ddefnyddio pobl oddi ar y rhestrau cyflenwi. Mae cwmni cydweithredol llaeth organig Calon Wen yn Arberth yn enghraifft arall o gwmni cydweithredol. Mae gennym gwmnïau cydweithredol yn y diwydiant bwyd, yn y celfyddydau, mewn busnes. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn gwneud y pwynt yn bwerus, ond rwy'n credu hefyd y gallwn ni ddangos yma yng Nghymru ein bod yn defnyddio'r model cydweithredol hwnnw, wrth gwrs, yn adran yr economi, ond gan sicrhau bod ei fanteision yn hysbys ac yn cael eu gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru.

14:05

Prif Weinidog, rydym wedi gweld nifer o sefydliadau poblogaidd yn sir Benfro, fel tafarndai a siopau, yn cael eu trosglwyddo o fusnesau preifat i fodelau cydweithredol o weithredu dros y blynyddoedd diwethaf. Dau o'r rhai mwyaf diweddar yw tafarndai fel y Crymych Arms yng Nghrymych a Thafarn y Cross yng Nghas-lai, a gafodd gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU hefyd. Rwy'n gwybod, hefyd, fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i'r asedau hyn gael eu cymryd drosodd fel hyn er budd y gymuned. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi mai'r hyn sy'n hanfodol yw sicrhau y gall cynifer o wirfoddolwyr â phosibl ddod ymlaen i gefnogi cwmnïau cydweithredol o'r fath a'u gwneud yn hynod lwyddiannus. O ystyried pwysigrwydd gwirfoddolwyr, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i hyrwyddo pwysigrwydd yr asedau cymunedol hyn fel bod cynifer o wirfoddolwyr â phosibl yn dod ymlaen i gefnogi mentrau o'r fath? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau cymunedol sydd wedi helpu i hwyluso mentrau o'r fath i ddod yn fentrau cydweithredol yn y lle cyntaf?

Llywydd, diolch i Paul Davies am y ddau bwynt hynny. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oeddwn gyda'i gyd-Aelod Darren Millar mewn siop gymunedol yn ei etholaeth, a dywedodd y person y gwnaethom gyfarfod ag ef, sef y person sy'n gyfrifol amdani, wrthyf yn uniongyrchol iawn, 'nid fi yw'r person pwysig yma, ond y gwirfoddolwyr sy'n caniatáu i'r siop hon barhau i gynnig y gwasanaeth y mae'n ei wneud i'r gymuned leol hon.' Felly, rwy'n deall yn llwyr y pwynt y mae Paul Davies yn ei wneud, Llywydd, ac, wrth gwrs, yma yng Nghymru, rydyn ni'n ddigon ffodus i fod â seilwaith cadarn ar gyfer gwirfoddoli. Mae gennym Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy'n cymryd y safbwynt Cymru gyfan hwnnw ar gefnogi gwirfoddolwyr, ond mae gennym gynghorau gwirfoddol sirol sy'n addasu'r polisïau hynny a'r posibiliadau grant hynny i anghenion cymunedau lleol. Maen nhw'n gwneud hynny nid yn unig wrth gefnogi gwirfoddoli ac annog pobl i ddod ymlaen i wneud hynny, ond maen nhw hefyd yn cefnogi sefydliadau cymunedol eu hunain. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud, Llywydd, ac rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa arbennig o dda yng Nghymru, nid yn unig oherwydd ein bod yn genedl o wirfoddolwyr—mae canran uwch o bobl yn gwirfoddoli yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—ond mae gennym hefyd y seilwaith ar waith i'w cefnogi i wneud hynny.

Wrth gwrs, nid yw'r syniad o fentrau cydweithredol yn rhywbeth sy'n gysyniad dieithr i Gymru. Dechreuodd y syniad yng Nghymru, felly mae'n bwysig ein bod yn arwain y ffordd i'r dyfodol. Nawr, yn ôl ym mis Hydref fe godais gyda'r Prif Weinidog botensial heb ei ddefnyddio y sector yma yng Nghymru, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae'n cyfrif am 0.6 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru. Os ydym am weld cynnydd yn y ffigur hwnnw, wrth gwrs, mae cynyddu nifer y cwmnïau cydweithredol sy'n gweithredu yn bwysig, ond hefyd, edrych ar feintiau'r cwmnïau cydweithredol hynny ac edrych ar gyfleoedd mewn diwydiannau eraill lle gallem dyfu cwmnïau cydweithredol sylweddol yn yr un modd ag y maen nhw wedi'i wneud yn Mondragón yng Ngwlad y Basg. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru nid yn unig yn edrych ar gynyddu nifer y cwmnïau cydweithredol, ond hefyd yn edrych ar gynyddu maint y cwmnïau cydweithredol hynny hefyd, fel eu bod yn cyflawni'r lefelau twf yr ydym am eu gweld, ond hefyd, y swyddi o ansawdd da y gwyddom y gallant?

14:10

Roedd cwmnïau cydweithredol Robert Owen ar raddfa sylweddol, on'd oedden nhw? Roedd New Lanark yn dref gyfan a neilltuwyd i'r ffordd gydweithredol o wneud pethau. Gofynnwyd cwestiwn i mi, fel y dywedodd yr Aelod, yn gynharach yn y flwyddyn ynghylch busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn dod yn gwmnïau cydweithredol yng Nghymru ac roeddwn yn gallu dweud wrtho bryd hynny ein bod yn gwneud cynnydd da iawn tuag at ein targed arno, ac, mewn gwirionedd, mae'r cyflymder hwnnw wedi cyflymu ers imi ateb y cwestiwn hwnnw: 70 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru bellach, tri arall yng ngham cyfreithiol y broses bontio a phum ymholiad newydd arall yn awr yn cael eu cymryd drwy'r broses y mae angen i chi fynd drwyddi i ddod yn gwmni cydweithredol sy'n eiddo i weithwyr.

Rwy'n cofio cael gwybod yn Mondragón, pan oeddwn i yno, nad oedden nhw wedi llwyddo i ddwyn perswâd ar bobl yn y ddau gwm y naill ochr iddyn nhw i fabwysiadu'r model, felly ddylen ni ddim dilorni ein hunain yn ormodol yng Nghymru os nad ydyn ni wedi gwneud cymaint ag y gwnaethon nhw lwyddo i'w wneud. Ond mae gwersi o rannau eraill o'r byd, a chan y cwmnïau cydweithredol mawr hynny, oherwydd erbyn hyn mae gennym rai busnesau ar raddfa wirioneddol fawr sy'n eiddo i weithwyr yma yng Nghymru, a'n nod bob amser yw cynorthwyo busnesau ar y daith honno, fel eu bod yn parhau i fod wedi'u gwreiddio yma yng Nghymru ac yn defnyddio eu gallu i dyfu i barhau i wneud y cyfraniad hwnnw i economi ehangach Cymru.

Hawliau o ran Datblygu a Ganiateir

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hawliau o ran datblygu a ganiateir yng Nghymru? OQ60592

Mae hawliau o ran datblygu a ganiateir yn galluogi datblygiad gydag effeithiau cynllunio cyfyngedig i fynd rhagddo heb fod angen cais cynllunio. Caiff y rhain eu hadolygu'n barhaus mewn ymgynghoriad ag awdurdodau cynllunio, busnesau a sefydliadau eraill sydd â budd yn y system gynllunio.

Diolch. Mewn ymateb i gwestiwn tebyg ar 9 Ionawr, dywedodd Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog twristiaeth, wrth y Senedd hon

'Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi economi ymwelwyr fywiog drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru'.

Nawr, mae'r ffeithiau yn creu darlun gwahanol. Erbyn hyn mae canfyddiad cynyddol bod y Llywodraeth hon, yng Nghymru, a gefnogir gan Blaid Cymru, ar agenda gwrth-dwristiaeth. Ac mae'n rhaid i chi sylweddoli bod hwn yn ddiwydiant gwerth £6.2 biliwn, felly gadewch i ni edrych ar yr hyn sydd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio hwn: rheol 182 diwrnod ar gyfer llety hunanarlwyo, cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, cynllun trwyddedu ar gyfer llety lletygarwch, treth twristiaeth, torri'r 75 y cant—[Torri ar draws.] Rwyf ymhell o fewn fy amser.

Ydych, rydych chi o fewn eich amser. [Torri ar draws.] Rydych chi o fewn eich amser, Janet Finch-Saunders; dydw i ddim yn siŵr a ydych chi o fewn eich pwnc ar hyn o bryd.

Mae hyn yn ymwneud â hawliau datblygu a ganiateir a'r pwyntiau rwy'n eu gwneud.

Iawn. Felly, ymhellach i'r ymgynghoriad ar ymestyn hawliau datblygu ar gyfer gwersylloedd dros dro, ac er mwyn helpu'r sector, a wnewch chi nawr gynyddu nifer y diwrnodau o 28 i 60 i'r busnesau hyn? Diolch.

Wel, Llywydd, fe wnes i ddeall, yn y pen draw, y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud. Mae gan y Gweinidog amrywiaeth o bynciau y bydd yn eu hystyried yn ystod y 12 mis nesaf mewn perthynas â hawliau o ran datblygu a ganiateir. Bydd hynny'n cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, gwefru trydan, y cynllun dychwelyd poteli—yr oedd yr Aelod yn gefnogwr mor frwd ohono—a pharciau carafanau, felly mae ar y rhestr i'r Gweinidog ei ystyried eleni. Pan fydd hi'n gwneud hynny, mae'n anochel y bydd hi'n pwyso a mesur y cydbwysedd hawliau yn y fan yma. Rwy'n deall y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud ac mae'r sector wedi eu gwneud o ran pe bai'n cael mwy o ddiwrnodau pan fyddai'n gallu agor meysydd carafanau heb ganiatâd cynllunio, byddai hynny o fantais i rai pobl yn y diwydiant. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod cwynion wedi bod yn y gorffennol bod y safleoedd carafanau dros dro hynny yn creu traffig sydd heb ei reoleiddio, bod mwg sy'n effeithio ar bobl sy'n byw gerllaw, bod sŵn gan bobl—sydd, wedi'r cyfan, yn dod ar wyliau i fwynhau eu hunain, ac maen nhw'n agos iawn weithiau at ble mae pobl yn byw eu bywydau. Felly, yr hyn y bydd y Gweinidog yn ei wneud fydd pwyso a mesur y gwahanol ystyriaethau hynny. Os yw'n bosibl ymestyn nifer y diwrnodau y gall parciau carafanau weithredu heb ganiatâd cynllunio, yna bydd yn rhaid bod mesurau diogelu ar gyfer pobl sy'n byw gerllaw hefyd.

Y Post Brenhinol

6. Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i gyhoeddiad Ofcom y gallai'r Post Brenhinol leihau sawl gwaith y dosberthir llythyrau i dri diwrnod yr wythnos? OQ60613

14:15

Nid gwasanaeth sydd wedi'i gyfyngu i ddim ond tri diwrnod yr wythnos yw'r ffordd orau o ddatrys yr heriau sy'n wynebu'r Post Brenhinol. Bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cwrdd ag Ofcom yr wythnos nesaf i'w gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw newidiadau i wasanaethau post ystyried anghenion Cymru ac unrhyw effeithiau ar bobl sy'n agored i niwed.

Diolch. Ers i'r Post Brenhinol gael ei breifateiddio, mae ei asedau wedi cael eu cymryd oddi arno. Nid oedd y llythyr un-pris cyffredinol erioed yn broffidiol ynddo'i hun, roedd yn rhan o becyn o wasanaethau. Ac yn ddiweddar, mae gweithwyr wedi cael eu cyfarwyddo i ddosbarthu'r parseli mwy proffidiol a gadael llythyrau ar ôl, wrth i rowndiau fynd yn rhy fawr i'w cyflawni gan y gweithlu sydd ar ôl; hyn oll tra bod prif weithredwyr wedi cael dyfarniadau cyflog enfawr a bod cyfranddalwyr wedi elwa. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effaith y bydd cwtogi'r gwasanaeth dosbarthu llythyrau yn ei chael ar apwyntiadau iechyd ac ar y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol?

Wel, Llywydd, mae Carolyn Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn ar ddiwedd ei chwestiwn atodol. Fe ddywedais i yn fy ateb gwreiddiol mai un o'r ddau bwynt allweddol y bydd y Dirprwy Weinidog yn eu cyfleu yr wythnos nesaf fydd anghenion cyffredinol Cymru—. Ac mae gwasanaeth post cyffredinol yn golygu yn anochel eich bod chi'n cael yr un gwasanaeth os yw'n anodd darparu'r gwasanaeth hwnnw i chi, os ydych chi'n byw mewn man anghysbell ac mae'n anochel ei fod yn ddrutach, ag os ydych chi'n byw mewn ardal dinas fewnol boblog, lle mae'n llawer haws darparu'r gwasanaeth hwnnw; dyna natur gwasanaeth cyffredinol a byddwn ni'n gwneud y pwynt hwnnw. Ond byddwn ni hefyd yn gwneud pwyntiau ar ran yr unigolion agored i niwed hynny yn ein cymuned. Rydyn ni'n gwybod bod ein gwasanaethau iechyd yn cael eu defnyddio llawer mwy gan bobl yn ddiweddarach yn eu bywyd na phobl sy'n gynharach yn eu bywyd. Rydyn ni'n gwybod bod y bobl hynny, ar y cyfan, yn llai tebygol o ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol. Mae'n wych bod y gwasanaeth iechyd yn defnyddio negeseuon testun a phethau eraill i atgoffa pobl o apwyntiadau, ond, os nad ydych chi'n gweithredu yn y byd hwnnw, rydych chi'n dibynnu ar y llythyr yn dod trwy'r drws, ac os ydych chi ond yn cael llythyrau dri diwrnod yr wythnos, mae'r siawns yn llawer rhy uchel na fydd rhywun yn cael apwyntiad neu na fydd yn cael gwybod am ei apwyntiad mewn da bryd i allu gwneud y trefniadau angenrheidiol i allu cadw'r apwyntiad hwnnw. Mae'r rheini'n bwyntiau pwysig iawn i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a bydd y Gweinidog yn cyfleu'r pwynt hwnnw'n uniongyrchol iawn i'r rheoleiddiwr.

Gwnaeth prif weithredwr Ofcom y pwynt ein bod ni'n anfon hanner cymaint o lythyrau ag y gwnaethon ni yn 2011 ac yn derbyn llawer mwy o barseli, ond nid yw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol wedi newid ers hynny. Nododd Ofcom yn ei ddogfen hefyd fod llawer o wledydd eraill Ewrop, am yr un rhesymau, wedi lleihau amlder dosbarthu llythyrau neu wedi ymestyn amseroedd dosbarthu llythyrau, gan gynnwys Sweden, Gwlad Belg, Norwy a Denmarc. Fodd bynnag, ddydd Mercher diwethaf, addawodd y Prif Weinidog i gynnal rhwymedigaeth y Post Brenhinol i ddosbarthu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos. O ystyried y bydd Ofcom nawr yn ymgynghori ar ei gynigion cyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn yr haf a'r arwydd a roesoch y byddwch chi'n ymgysylltu ag Ofcom, gan gynnwys cyfarfod yr wythnos nesaf, pa gynigion, os o gwbl, sydd gennych chi i fynd i'r afael â'r sefyllfa anodd honno, lle mae galw defnyddwyr wedi newid yn sylweddol, ond, ar yr un pryd, mae'r cyhoedd eisiau'r gwasanaeth chwe diwrnod cyffredinol hwnnw?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno bod cyfyng-gyngor i'w ddatrys yno, gyda nifer y llythyrau yn lleihau a natur y busnes yn newid. Dyna pam mae Ofcom ei hun wedi cyflwyno ei gynigion. Byddwn ni'n ymgysylltu â'r cynigion hynny, wrth gwrs; fel y dywedais i, bydd y Gweinidog yn cyfarfod ag Ofcom ar 9 Chwefror. Yr hyn sy'n bwysig i ni yw nad yw buddiannau Cymru yn cael eu hesgeuluso wrth ddatrys y cyfyng-gyngor hwnnw, a bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn, ac nid wyf i'n dychmygu am eiliad y byddai'r Aelod yn anghytuno â'r naill neu'r llall o'r egwyddorion hynny.

Gwella Gwasanaethau'r GIG yn Islwyn

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau'r GIG yn Islwyn? OQ60633

Llywydd, rydyn ni'n ymdrechu'n gyson i wella gwasanaethau ar gyfer etholaeth yr Aelod, fel y dangoswyd yr wythnos diwethaf, pan agorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ganolfan iechyd a lles newydd gwerth £19 miliwn. Bydd trigolion Islwyn hefyd yn elwa ar fuddsoddiad o £14 miliwn yn yr adran frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, yn ogystal ag uned gofal y fron newydd a fydd yn agor fis nesaf.

14:20

Diolch, Prif Weinidog. Mae gallu Llywodraeth Cymru ac yn wir y Senedd hon i ddarparu a goruchwylio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn seiliedig ar y cyllid y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn San Steffan. Mae Gweinidog iechyd Cymru wedi rhoi gwybod i'r Senedd bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ymyrraeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hon yn oruchwyliaeth i'w chroesawu mewn amgylchedd anhygoel o anodd. Rwyf i hefyd yn croesawu'r newyddion am y cyhoeddiad, fel y dywedodd y Prif Weinidog, fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £14 miliwn ychwanegol ar gael i ehangu ac ad-drefnu rhannau o Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae'r Faenor wedi bod yn gyfleuster newydd pwysig i bobl Gwent wrth i ofynion gofal iechyd gynyddu, ac mae'n hanfodol bod y Faenor yn gwella, gan ei fod wedi dod yn ganolfan gofal iechyd allweddol yng Ngwent. Prif Weinidog, pa egwyddorion a chamau gweithredu sy'n arwain Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a gwella'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Ngwent, tra bod gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu difrodi'n arw gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, sydd, erbyn hyn, yn cychwyn ar ei dirywiad marwol terfynol?

Cyn i mi ofyn i'r Prif Weinidog ateb, a gaf i wirio bod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn, oherwydd doedd y cysylltiad band eang ddim yn ddigon da? Os ydych chi wedi deall y cwestiwn, gallwch chi ateb. Ond os caf i ddweud wrth Rhianon Passmore, os byddwch chi eisiau cymryd rhan yn ddiweddarach yn y sesiwn, bydd angen i chi wella'r cysylltiad band eang yr ydych chi'n gweithio arno ar hyn o bryd. Prif Weinidog.

Llywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau eraill am y tawelwch cymharol wrth i'r cwestiwn gael ei ofyn? Doedd hi ddim yn hawdd ei ddilyn, ond rwy'n credu fy mod i wedi gallu deall hanfod allweddol yr hyn a ddywedodd Rhianon Passmore.

Gofynnodd i mi ar y diwedd pa egwyddorion sy'n llywio gweithredoedd Llywodraeth Cymru o ran y gwasanaeth iechyd ac, wel, y rheini yw ein hymrwymiad parhaus i egwyddorion sylfaenol y gwasanaeth iechyd. Roedd y ganolfan newydd y soniais i amdani yn fy ateb, y ganolfan iechyd a lles gwerth £19 miliwn, yn Nhredegar, wrth gwrs, ac nid oes lle mwy addas i ddangos buddsoddiad mewn gwasanaeth iechyd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain nag yn y man lle cafodd y gwasanaeth iechyd ei hun ei eni. Felly, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wasanaeth sy'n gynhwysfawr, yn gyffredinol, am ddim lle mae'n cael ei ddefnyddio, a lle mae mynediad yn seiliedig nid ar faint o arian sydd gennych chi yn eich poced na'r dylanwad y gallwch chi ei gael, ond ar eich angen clinigol. Dyna sy'n arwain y buddsoddiadau a wneir gan Lywodraeth Cymru.

Rwy'n cytuno â'r pwynt y gwnaeth yr Aelod am yr angen i wella adran frys Ysbyty Athrofaol y Faenor, o ystyried y rhan y mae'n ei chwarae erbyn hyn yn yr ecoleg honno o wasanaethau iechyd yn ardal Gwent, ond dyna pam mae'r Gweinidog wedi darparu'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Bydd yn mwy na dyblu'r capasiti yn yr adran frys honno ac yn sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth y mae etholwyr Rhianon Passmore yn dibynnu arno.

Elw Gormodolyn yr Economi

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o sut mae elw gormodol mewn rhai sectorau o’r economi yn effeithio ar drigolion Cymru? OQ60618

Wel, Llywydd, does dim amheuaeth bod gorelwa wedi ychwanegu at bwysau chwyddiant ar gyllidebau aelwydydd Cymru. I roi un enghraifft yn unig, daeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'r casgliad ym mis Tachwedd bod gwneuthurwyr rhai brandiau bwyd poblogaidd wedi codi eu prisiau yn fwy na'u costau yn ystod yr argyfwng costau byw.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rydych chi'n iawn, Prif Weinidog; mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi gwneud eu darn eu hunain o waith, ond felly hefyd—. Mae ymchwil wedi'i wneud gan Uno'r Undeb, Llywydd, ac rwy'n cyfeirio Aelodau at fy natganiad buddiannau. Gwnaeth Uno'r Undeb ddarganfod bod elw gormodol, mewn llawer o ddiwydiannau, yn gwthio prisiau i fyny—[Torri ar draws.] Llywydd, gall y Ceidwadwyr weiddi nerth eu pennau, ond byddan nhw eisiau gwrando ar wirionedd yr hyn y mae llawer o fy nhrigolion i yn ei wynebu a llawer o'u rhai nhw yn ei wynebu yn eu cymunedau eu hunain: elw gormodol yn cynyddu prisiau. Cafodd Llywodraeth Geidwadol y DU, Llywydd, ei gorfodi i weithredu mewn ffordd symbolaidd yn y sector ynni. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi bod yn wir yn unman arall, ac nid yw wedi bod yn ddigon da o bell ffordd. Mewn sectorau eraill, fel yswiriant ceir, mae'n effeithio ar eu hetholwyr yn ddyddiol. Mewn meysydd eraill, fel bwyd, mae'n effeithio ar eu hetholwyr yn ddyddiol. Mae'r ymddygiad hwn wedi mynd rhagddo'n ddilyffethair. Prif Weinidog, y gaeaf diwethaf gwnaethon ni weld rhai cwmnïau yn gwneud elw gormodol ac yn newid cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn orfoleddus i fesuryddion rhagdalu ar yr un pryd. Roedd yr elw gormodol hwn yn ymfflamychol, roedd yn niweidiol i dwf, ac roedd yn niweidiol i fy etholwyr a phoblogaeth Cymru. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, felly: beth yw'ch asesiad chi o'r hyn sydd angen digwydd i sicrhau bod Llywodraeth San Steffan yn cymryd y broblem hon o ddifrif?

14:25

Wel, Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynny. Rwyf i hefyd yn falch o ddatgan fy aelodaeth o Uno'r Undeb ac i gymeradwyo'r gwaith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn. Pan welais i'r cwestiwn dros y penwythnos, Llywydd, cefais i fy atgoffa o ddywediad enwog gan y meddyliwr sosialaidd a gwleidyddol gwych hwnnw, R.H. Tawney. Rwy'n credu mai 100 mlynedd yn ôl bron i nawr oedd hi pan ddywedodd ef,

'mae'r hyn y mae pobl gyfoethog feddylgar yn ei alw'n broblem tlodi, yn cael ei alw, gyda chyfiawnder cyfartal, yn broblem cyfoeth gan bobl dlawd feddylgar'.

A dyna sydd wrth wraidd y pwynt y mae Jack Sargeant wedi'i wneud, onid ydyw? Rydyn ni'n byw yn y gymdeithas hynod anghyfartal hon. Rydyn ni'n siarad llawer iawn yma yn y Siambr hon am dlodi. Rydyn ni'n siarad ychydig yn llai nag y dylen ni am broblem cyfoeth a'r angen i sicrhau bod yr asedau sydd ar gael i ni fel dinasyddion y Deyrnas Unedig yn cael eu dosbarthu'n decach rhyngom ni. Er gwaethaf popeth sydd wedi'i wneud, Llywydd, i wella sefyllfa cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu, roedd Cyngor ar Bopeth yn adrodd yr wythnos diwethaf y bydd 2 filiwn o bobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu yn wynebu bod heb gyflenwad yn anwirfoddol. Byddan nhw wedi datgysylltu eu hunain o gyflenwadau achubiaeth oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu fforddio eu bwydo. A hynny er gwaethaf yr elw rhyfeddol y mae'r cwmnïau ynni hynny wedi'i wneud yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.

A, Llywydd, nid dim ond yn y fan honno y mae'n digwydd. Mae Jack Sargeant wedi tynnu sylw at y diwydiant bwyd, at y diwydiant yswiriant a'r diwydiant ynni. Ond cawson ni gyfraniad pwerus ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf gan Jane Dodds yn sôn am ddileu elw o wasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac o ran hynny daeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'r casgliad, yn y diwydiant hwnnw, lle byddai enillion rhesymol ar fuddsoddiad yn 6 y cant, bod y diwydiant yn cymryd dwywaith hynny mewn elw gormodol. Dywedodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ei hun fod y DU wedi cerdded yn ei chwsg i mewn i farchnad gamweithredol lle'r oedd elw gormodol yn cael ei wneud ar draul y plant agored i niwed hynny a oedd yn dibynnu arno. Yn y ffordd y mae Jack Sargeant wedi dweud y prynhawn yma, Llywydd, mae angen Llywodraeth arnom sy'n barod i sicrhau chwarae teg er budd dinasyddion yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cyhoeddiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Bydd dadl y pwyllgor yfory ar yr heriau sy'n wynebu gweithlu'r diwydiant creadigol yng Nghymru, a gafodd ei gohirio o'r wythnos diwethaf. Felly, mae'r ddadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gysylltiadau rhyngwladol 2022-23 wedi'i gohirio tan 28 Chwefror. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda, Trefnydd, y cyntaf ar ddyfodol ein strydoedd mawr yng Nghymru? Mae llawer o ganol trefi wedi bod yn ei chael hi'n anodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwyddom fod y gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein a datblygiadau y tu allan i'r dref, gyda'u cyfleoedd i barcio am ddim, wedi'i gwneud hi'n anodd cynnal busnes, weithiau, yng nghanol ein trefi. Ac, wrth gwrs, mae effaith ddiweddaraf y gostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes yn achosi i lawer o fusnesau yn fy etholaeth gysylltu i ddweud y gallai hynny fod yn fater o fethu neu lwyddo iddyn nhw. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod mwy o drafodaeth ynghylch dyfodol canol ein trefi, sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn ffynnu yn y dyfodol, a thybed a gawn ni ddatganiad fel y gallwn ni ymgysylltu a thrafod hyn ar sail drawsbleidiol i weld beth y gellid ei wneud i'w gwarchod nhw.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ynghylch a yw Trafnidiaeth Cymru yn cynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr Cymru? Gwyddom fod £125 miliwn wedi'i roi yn ddiweddar i Trafnidiaeth Cymru, er nad oes achos busnes dros hynny wedi'i gyhoeddi erioed yn ôl pob golwg, ac er nad oedd yn rhan o drefniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y llynedd. Mae wedi cael ei ddwyn i'm sylw gan etholwr fod Trafnidiaeth Cymru wedi gwario £5,500 yn ddiweddar—rwy'n gwybod ei fod yn swm bach mewn termau cymharol—yn lapio trên mewn slogan ac arwydd hysbysebu 'Gwnaed yng Nghymru'. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n wariant dewisol diangen ar draul trethdalwyr, a thybed beth arall y mae Trafnidiaeth Cymru yn gwario'n wastraffus arno heb fod achos busnes priodol dros wneud hynny.

Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Weinidog Trafnidiaeth Cymru ynghylch pam mae'r symiau sylweddol hyn yn cael eu rhoi i'r sefydliad hwnnw pan ei fod yn ymddangos ei fod yn gallu gwario'n wamal ar y math hwnnw o hysbysebu.

14:30

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn dilyn darn ymchwiliol a gafodd ei gyhoeddi dros y penwythnos gan The Sunday Times ynghylch arian parod ar gyfer cyrsiau, a ddatgelodd mai Prifysgol Caerdydd oedd un o'r prifysgolion a enwyd a oedd yn cynnig recriwtio myfyrwyr tramor ar raddau llawer is nag y bydden ni'n eu disgwyl gan fyfyrwyr yma yng Nghymru, sy'n golygu bod myfyrwyr yn colli allan, gan fod angen iddyn nhw gael graddau A* rhy uchel ac yn y blaen i fynd ar rai cyrsiau, sy'n gwbl hanfodol o ran economi Cymru, wrth gwrs, ac yn colli allan oherwydd y sefyllfa y mae llawer o'n prifysgolion yn ei hwynebu o ran eu trafferthion ariannol.

Rwy'n credu bod angen eglurder ar hyn, a byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ddeall pa drafodaethau y gallai ef eu cael â Phrifysgol Caerdydd i sicrhau nad yw myfyrwyr o Gymru yn colli allan, a hefyd, nad ydyn ni'n manteisio'n annheg ar fyfyrwyr rhyngwladol.

Wel, yn amlwg, rydyn ni'n croesawu myfyrwyr tramor i'n prifysgolion yng Nghymru, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn siarad ag is-gangellorion yn gyffredinol ar hyn o bryd ynghylch myfyrwyr tramor, ac rwy'n siŵr y bydd e'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg briodol. 

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi am yr adfachiad o £70 miliwn a gafodd Llywodraeth Cymru gan gynllun band eang Cyflymu Cymru. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymarfer caffael ar sut y gallen nhw ategu cynllun Llywodraeth Cymru o ran band eang, ond byddai'n ddefnyddiol pe gallen ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarfer caffael hwn yn y Siambr, os gwelwch yn dda, oherwydd mae pobl yn fy etholaeth eisiau rhywfaint o sicrwydd bod y cynllun hwnnw'n mynd i sicrhau bod ein heiddo anoddach eu cyrraedd yn gallu cael mynediad teg at fand eang cyflym yn ein cymunedau gwledig. 

Diolch. Yn sicr, gwnaf ofyn i'r Gweinidog priodol roi'r wybodaeth ddiweddaraf  drwy ddatganiad ysgrifenedig. 

Wel, yn gyfleus iawn, dwi eisiau dilyn yr un trywydd a gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi, achos dwi wedi codi pryderon yn y Siambr yma o'r blaen am ardaloedd gwledig yn sir Gaerfyrddin, ac ardaloedd gwledig yng Ngheredigion hefyd, sydd wedi cael eu siomi dro ar ôl tro gan gwmnïau sydd wedi addo gweithredu'r talebau ac wedi gadael yr ardaloedd yna i lawr. Ac mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb: dwi'n byw yn un o'r ardaloedd ac wedi bod yn un o'r bobl sydd wedi datgan diddordeb. Hynny yw, aeth cwmni Broadway i'r wal a gadael pobl i lawr. Wedyn, fe'u prynwyd nhw gan gwmni o'r enw Voneus, a'r wythnos diwethaf fe glywon ni eu bod nhw ddim yn mynd i ymrwymo i ddilyn y cynllun talebau. Felly, ar ôl siarad ag Openreach yn wreiddiol, wedyn Broadway, wedyn Voneus, rŷn ni'n dal, yn yr ardaloedd yma, heb y math o wasanaeth band llydan rŷn ni'n ei haeddu.

Felly, a gaf i ofyn—rwy'n gwybod bod sawl elfen o hyn yn perthyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadau ei wneud i gyflenwi gwasanaethau yn y notspots yma mewn ardaloedd gwledig?

Diolch. Wel, yr hyn a wnaf yw gofyn i'r Gweinidog gynnwys eich materion chi hefyd yn y datganiad ysgrifenedig. Mae'n bwysig iawn bod gan ein cymunedau gwledig fynediad at fand eang yn y ffordd y mae gan ardaloedd trefol hefyd, ar gyfer busnes ac, yn amlwg, ar gyfer defnydd personol hefyd. Felly, fe wnaf yn siŵr bod hynny'n cael ei gynnwys yn y datganiad hwnnw.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda. Yr wythnos diwethaf, cafodd ei gyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi'r cynllun i gau Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn fy rhanbarth bob nos o'r wythnos. Yn flaenorol, mae wedi gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac mae fy etholwyr a minnau'n bryderus iawn am y penderfyniad i gau'r uned mân anafiadau bob nos. Dyma'r penderfyniad anghywir i fy etholwyr i ac nid yw'n rhoi anghenion cleifion yn gyntaf. Nid yw'r penderfyniad yn cael ei gefnogi gan drigolion lleol na gwleidyddion fel ei gilydd. Bydd yn golygu bod pobl yn fy rhanbarth yn gorfod teithio nifer sylweddol o filltiroedd i gael triniaeth, a bydd ond yn ychwanegu at yn rhoi mwy o bwysau ar y Faenor ar adeg pan yw eisoes dan bwysau aruthrol.

Felly, hoffwn i'r Gweinidog ryddhau datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar ba drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r bwrdd iechyd, yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau i fod ar gael i fy etholwyr gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw, ac a yw'r Gweinidog yn credu bod y newidiadau hyn yn ddigonol. Yn amlwg, mae angen i fy etholwyr wybod hefyd beth yw'r dewisiadau eraill sydd ar gael iddynt, pa drafnidiaeth fydd ar gael iddynt. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi bod angen i'm holl etholwyr fod yn ymwybodol o'r newid sylweddol hwn yn y gwasanaeth. Diolch.

14:35

Diolch. Wel, nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mae hwn yn amlwg yn fater gweithredol o fewn Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Fy nealltwriaeth i yw mai dim ond un claf y nos oedd yn mynd yno, ar gyfartaledd. Ac unwaith eto, mater i'r bwrdd iechyd yw sicrhau bod yr wybodaeth am ble y dylen nhw fynd mewn achos o argyfwng, bod y boblogaeth gyffredinol y maen nhw'n ei gwasanaethu yn gwybod hynny.

Wel, mewn gwirionedd, fel Laura, hoffwn i gael datganiad llafar, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd ynghylch darparu unedau mân anafiadau yn y rhanbarth. Rydyn ni wedi gweld, fel y cafodd ei amlinellu eisoes, yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn cael ei chau dros nos. Mae llawer o gleifion yn poeni am ble y bydden nhw'n mynd yn hwyr yn y nos pe bai rhywbeth yn mynd o'i le, ac mae dros 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i gefnogi'r cyfleuster hwnnw. Mae oriau cyfyngedig hefyd yn mynd i gael eu gwneud yn barhaol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach. Byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai datganiad ymdrin â'r pryderon lleol hynny, a fyddai deddfwriaeth yn bosibl i sicrhau bod darpariaeth 24 awr y dydd yn cael ei chynnig i bobl, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig pan fo gwasanaethau damweiniau ac achosion brys wedi cael eu canoli cymaint ar draws y rhanbarth cyfan, oherwydd mae pobl yn teimlo'n ynysig ac yn poeni am ble i gael help.

Nawr, ar fater sy'n gysylltiedig â hynny, mae etholwr wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder am y pwysau sy'n cael ei roi ar staff oherwydd llwyth gwaith, rwy'n credu, yn Ysbyty Ystrad Fawr, yn yr uned mân anafiadau mewn gwirionedd—staff yr oedd, gyda llaw, yn eu yn canmol am eu hymroddiad, ond mae yna bryder y gallen nhw fod yn cael eu gorweithio. Rwyf wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd. Dywedon nhw wrthyf fod y lefelau staffio yn yr uned yn cydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth. Fe wnaethon nhw hefyd gyfaddef bod y lefelau staffio hynny yn cael eu hadolygu. Felly, yn yr un datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, a allai'r Gweinidog iechyd ymrwymo i adolygu'r canllawiau presennol, er mwyn sicrhau bod staff a chleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, os gwelwch yn dda? Diolch.

Wel, dydw i ddim yn credu bod gen i unrhyw beth mwy i'w ychwanegu, mewn gwirionedd, at yr ateb a roddais i Laura Anne Jones. Nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mater i Aneurin Bevan ydyw, felly rydych chi wedi gwneud y peth iawn yn ysgrifennu atyn nhw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y bwrdd iechyd yn sicrhau bod y boblogaeth y maen nhw'n eu gwasanaethu yn ymwybodol o'r newidiadau. Rwy'n gwerthfawrogi nad oes neb yn hoffi newid, ond mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble i fynd i gael mynediad i'r gwasanaeth iechyd cywir, ar yr adeg gywir.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad? A gaf i ofyn am y cyntaf gan y Gweinidog iechyd, ar ddarparu gwasanaethau brys ac amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru? Rwyf wedi cael gwybod am etholwr y bu'n rhaid i'w berthynas aros 26 awr am ambiwlans ar ôl i ymatebwr cyntaf cychwynnol gyrraedd. Mae teulu etholwr arall wedi cysylltu i ddweud wrthyf am eu perthynas a arhosodd dros awr a hanner am ambiwlans ar ôl cael trawiad ar y galon ar Noswyl Nadolig. Yn anffodus, bu farw'r person hwnnw yn 40 oed, gan adael dau o blant bach. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hynny'n hollol warthus, ac rwy'n cydymdeimlo â'r teulu. Gweinidog, o ystyried yr achosion annerbyniol hyn, mae'n hanfodol bod amser yn cael ei neilltuo nawr, rwy'n credu, i drafod gwasanaethau iechyd brys, ac amseroedd aros ambiwlansys yn benodol, fel bod yr Aelodau a'r cyhoedd yn gallu deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu.

Ac yn ail, Llywydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cysylltedd llwybrau troed? Rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwr sydd wedi mynegi pryder am ddiffyg cysylltedd llwybrau troed, ac sy'n galw am iddyn nhw gael eu cysylltu'n well ledled y wlad. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn golygu cael cefnogaeth tirfeddianwyr, awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, ac yn wir rhanddeiliaid eraill, ond byddwn i'n ddiolchgar pe byddai modd darparu datganiad—ysgrifenedig neu lafar—yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn.

Diolch. O ran eich cais cyntaf, yn amlwg, mae'r ddwy sefyllfa y gwnaethoch chi eu hamlinellu yn annerbyniol, ac rwyf innau hefyd yn anfon fy nghydymdeimlad at y teulu sy'n gysylltiedig â'r ail enghraifft y gwnaethoch chi ei rhoi. Os ydyn ni'n edrych ar ein gwasanaeth ambiwlans, ac yn sicr os ydyn ni'n ei gymharu â'r adeg hon y llynedd, rydyn ni wedi gweld rhai gwelliannau, er gwaetha'r galw uchaf erioed am alwadau coch a gofnodwyd fis diwethaf. Ychydig dros wyth munud oedd yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau coch lle mae bywyd yn y fantol, ac ymatebwyd i 80 y cant o alwadau coch o fewn 15 munud. Unwaith eto, adrannau brys, rydyn ni'n gwybod bod y system o dan bwysau mawr, ond mae pobl yn dal i dderbyn gofal o safon dda iawn yn ein hadrannau brys ledled Cymru, ac mae hyn yn sicr yn dyst i waith caled ein staff iechyd.

O ran eich ail bwynt, efallai y byddai'n well, rwy'n credu, petaech yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch llwybrau troed, a bydd hi'n gallu ateb y pryderon penodol sydd gennych yn uniongyrchol. 

14:40

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i? A gaf i ddatganiad gennych chi, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, ar yr asesiad o effaith economaidd y cynllun ffermio cynaliadwy, sydd wedi cael rhywfaint o sylw yr wythnos hon, yn amlinellu'r posibilrwydd y bydd 5,500 o swyddi yn cael eu colli ac y bydd gwerth £200 miliwn o golledion i incwm ffermydd? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud bod yr asesiad yn seiliedig ar iteriad blaenorol o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond, wrth gwrs, yn sylfaenol, nid yw llawer wedi newid, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu y byddai datganiad yn egluro perthnasedd yr asesiad effaith i'r cynigion presennol yn ddefnyddiol, o ran sut, efallai, mae'r asesiad effaith wedi arwain at newid yn yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig nawr a sut y byddwch chi, felly, yn sicrhau pontio teg sy'n osgoi colli miloedd o swyddi a gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o incwm ffermydd hefyd. Ac efallai y gallech chi ddweud wrthyn ni hefyd pryd y bydd asesiad effaith wedi'i ddiweddaru yn cael ei ddarparu i lywio'r ymgynghoriad presennol sy'n mynd rhagddo o amgylch y cynllun ffermio cynaliadwy.

A gaf i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant, os caf i ofyn am un? Mae nifer o doriadau yn y gyllideb sy'n mynd i effeithio ar sefydliadau sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol o'i phortffolio hi, a fydd yn arwain at golli swyddi. Nawr, rwy'n gwybod bod rhai o'r cyrff hyn eisoes yn ymgymryd â phrosesau diswyddo. Felly, byddwn i eisiau datganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n rhoi sicrwydd i ni fod y prosesau hynny'n cael eu cynnal mewn modd priodol, eu bod yn trin pawb yn deg, a'u bod yn caniatáu digon o amser i bobl sy'n gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am eu cyflogaeth yn y dyfodol—eu bod yn cael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y penderfyniadau gwybodus hynny—a'u bod yn digwydd gyda rhywfaint o gysondeb ar draws y sefydliadau a'r sector, oherwydd, yn amlwg, bydd goblygiadau sylweddol. Ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn croesawu'r sicrwydd hynny. 

Diolch. O ran yr asesiadau o effaith economaidd ar y dadansoddiad economaidd cyn yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, nid wyf yn credu y byddaf yn gwneud datganiad llafar ynghylch hynny. Rwyf wedi'i gwneud hi'n glir iawn bod y data hwn yn hen iawn, a'r rheswm y gwnes i ei rannu yn y ffordd y gwnes i oedd er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw yn ei gylch, oherwydd roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod y data hwnnw ar gael cyn yr ymgynghoriad cyfredol ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy. Rwyf wedi'i gwneud yn glir iawn y bydd dadansoddiad economaidd newydd, a bydd hwnnw'n cael ei wneud ar ôl i'r ymgynghoriad gau, sef ar 9 Mawrth, rwy'n credu, cyn i'r penderfyniadau terfynol gael eu gwneud ar y cynllun ffermio cynaliadwy yr haf hwn.

O ran y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant a'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel y gwyddoch chi, rydyn ni wrthi'n craffu ar y gyllideb ddrafft. Rwy'n deall yn iawn y pryderon sydd gennych chi, ac mae'r Dirprwy Weinidog yn sicrhau ei bod hi'n siarad â'r sefydliadau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw wrth i'r broses fynd yn ei blaen. Unwaith y caiff y gyllideb ei phennu, rwy'n credu y bydd y sgyrsiau hynny'n amlwg yn parhau.  

Diolch, Llywydd. Wel, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar effaith sgandal Horizon Swyddfa'r Post ar swyddfeydd post yng Nghymru? Mae'r swyddfa bost yn Nefyn wedi cau yn ddiweddar, ac, yn anffodus, maen nhw'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i rywun i ymgymryd â'r contract. Fe gaeodd, yn rhannol, oherwydd diffyg hyder yn y systemau TG, ac rwy'n cael fy arwain i gredu bod cymunedau eraill yn wynebu ymatebion tebyg hefyd. Mae Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaeth hanfodol i lawer o bobl ac mae angen i ni gael sicrwydd y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu cynnal. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar hynny, os gwelwch yn dda? 

Yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gamau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i ymdrin ag ymosodiadau rhywiol a threisio. Yr wythnos diwethaf, cwrddais â RASASC, Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, ym Mangor. Cefais fy nychryn wrth glywed rhai o'r ystadegau ac i ddeall bod traean o'r menywod a gafodd eu holi yn ffair y glas y llynedd yn adnabod rhywun a oedd wedi cael ei dreisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Yn wir, gogledd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o drais rhywiol unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain, ac rydyn ni'n gweld niferoedd cynyddol o atgyfeiriadau, gyda chynnydd o 30 y cant o flwyddyn i flwyddyn eleni, yn enwedig ymhlith plant. Mae'r data yn syfrdanol, ac rwy'n bryderus iawn am les menywod a phlant. Felly, hoffwn i gael datganiad ar y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd yn hyn o beth. Diolch.

14:45

Diolch i chi. Mae'r ddau Weinidog wedi cytuno i gyflwyno datganiadau ysgrifenedig. Diolch.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Eitem 3, felly, fydd yr eitem nesaf. Datganiad gan y Prif Weinidog yw hwn ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Felly, y Prif Weinidog.

Lywydd, diolch yn fawr. Roedd cyhoeddi adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, 10 diwrnod yn ôl, yn ddigwyddiad pwysig yn hanes byr datganoli yng Nghymru. Fy swydd gyntaf y prynhawn yma yw talu teyrnged i’r 11 aelod o’r comisiwn, ac yn enwedig y cyd-gadeiryddion, cyn-Archesgob Cymru a Chaergaint, Dr Rowan Williams, a’r academydd nodedig Cymreig, yr Athro Laura McAllister. Y tu ôl i'r comisiwn roedd grŵp arbenigol gweithgar a dylanwadol a hefyd ysgrifenyddiaeth a wnaeth lawer i gefnogi cynhyrchu'r ddogfen derfynol eglur a pherswadiol. 

Llywydd, fe ddylwn i ddiolch hefyd i'r uwch aelodau hynny o bob un o'r pleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon am eu cymorth gyda nodi'r comisiynwyr hynny a wnaeth gyfrannu'r safbwyntiau gwleidyddol sy'n saernïo dadl gyfansoddiadol ein cenedl. Teyrnged ryfeddol i ddoniau'r cyd-gadeiryddion yn wyneb comisiwn llawn unigolion â safbwyntiau cadarn a chryf, yw bod yr adroddiad terfynol, i ddyfynnu Dr Williams a'r Athro McAllister, yn gynnyrch

'dadl resymegol a chynhwysol ar sail data a thystiolaeth',

a arweiniodd at gasgliadau unfrydol. Mae'r ffaith y gallai comisiwn trawsbleidiol ddod i gynifer o gasgliadau cyffredin yn rhoi gwir bwys ac arwyddocâd ychwanegol i'r adroddiad terfynol, ac rwy'n diolch unwaith eto i bawb a helpodd i wneud i hynny ddigwydd.

Nawr, Llywydd, fe ellir olrhain tarddiad y comisiwn i faniffesto Llafur Cymru yn 2021, pryd y gwnaethom ni addo y byddem ni'n

'Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym eisiau meithrin trafodaeth ddinesig genedlaethol yng Nghymru ar ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.'

Dyna'r hyn y gwnaethom ni ei ddweud yn ein maniffesto. Cafodd cylch gwaith terfynol y comisiwn hwnnw ei nodi yn y rhaglen lywodraethu a'i mireinio unwaith eto yn y cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur hon a Phlaid Cymru.

Roedd yr amgylchiadau a fu'n darddle i'r syniad am y comisiwn yn adlewyrchu'r straen a'r pwysau mawr a oedd yn cael eu rhoi ar drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Roedd y bleidlais refferendwm Brexit yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi rhoi mwyafrifoedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, tra bod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio i ymadael. Roedd Plaid Genedlaethol yr Alban wedi ennill 56 o 59 seddau'r senedd yn etholiad cyffredinol 2015, ac erbyn hynny roedd hi wedi bod yn llywodraethu yn Holyrood ers bron i ddegawd. Ym mis Rhagfyr 2019, fe lwyddodd y Blaid Geidwadol i lunio Llywodraeth fwyafrifol gyntaf ei phlaid yn San Steffan ers 1992, a'r gyntaf ers datganoli. Fe ddywedodd y Prif Weinidog bryd hynny, Boris Johnson, wrth ei gefnogwyr ei fod ef o'r farn mai datganoli fu camgymeriad mwyaf y Llywodraeth Lafur Newydd ac fe aeth ati i ymdrin â deddfwrfeydd yn Belfast, Caerdydd a Chaeredin ar sail y farn honno. Fe ychwanegodd oes undebaeth gyhyrog, fel y'i gelwid yn Stryd Downing, dyndra newydd at y sefyllfa gan ehangu'r holltiadau eto yn y Deyrnas Unedig a oedd eisoes mewn cyflwr bregus.

Yma yng Nghymru, yn yr etholiad i Senedd Cymru yn 2021, roedd hi'n amlwg y byddai pleidleiswyr yn cael cyfle, pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny, i gefnogi ymgeiswyr ymroddedig i wyrdroi datganoli yn gyfan gwbl—Plaid Diddymu Cynulliad Cymru—ac ymgeiswyr ymroddedig i ymadael â'r Deyrnas Unedig.

Nawr, Llywydd, mae yna rai sy'n credu bod cynnwrf cyfansoddiadol y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, bod helyntion diamheuol Plaid Genedlaethol yr Alban yn golygu bod undebaeth gonfensiynol wedi cario'r dydd a bod y rheolaeth honno o Lundain wedi cael ei chadarnhau o'r newydd. Mae hwnnw, rwy'n credu, yn gasgliad sy'n ffôl a pheryglus. Mae'r heriau cyfansoddiadol sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig, yn enwedig i'r rhai ohonom ni sy'n credu ym mharhad y Deyrnas Unedig, yr un mor wirioneddol heddiw â phan sefydlwyd y comisiwn. Erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, efallai y bydd prif weinidog Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon—ac rwy'n croesawu'r datblygiadau dros nos i adfer Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon—ac mae hi'n bosibl mai llywodraeth Sinn Féin fydd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Nid yw unrhyw un sy'n credu bod y cynnwrf cyfansoddiadol drosodd yn gwneud dim ond ymroi i obeithio yn ofer.

Sefydlwyd y comisiwn, ar y llaw arall, i ddarparu meddylfryd o safon wahanol iawn, ac fe wnaeth hynny'n union. Mae'r adroddiad interim yn nodi'r 10 her fwyaf sy'n wynebu datganoli yn bendant: ansefydlogrwydd y setliad datganoli, breuder y cysylltiadau rhynglywodraethol, y problemau gyda chyfundrefn ariannu gwledydd datganoledig, absenoldeb arweinyddiaeth o ran yr undeb, ac ati blaen. Nawr mae'r adroddiad terfynol yn nodi rhai datrysiadau i'r cyfyng-gyngor hwn. Mae'r comisiwn wedi rhoi set o fesurau gerbron a all ymwreiddio a gwella'r setliad presennol, gan ei wneud yn llai agored i ymosodiadau gan weinyddiaeth elyniaethus yn San Steffan. Ac, yn ogystal â sadio gwreiddiau datganoli yn y ffordd honno, mae'r adroddiad yn archwilio'r achos dros ehangu cyfrifoldebau'r Senedd hon, ac mae'n gwneud hynny mewn chwe maes gwahanol: darlledu, cyflogaeth, ynni, cyfiawnder, trafnidiaeth a lles. Yn gefndir i'r cynigion penodol hyn, mae'r comisiwn yn asesu tri dyfodol cyfansoddiadol eang sydd ar gael i rai sy'n gyfranogion o ddull blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru: sef fersiwn mwy caboledig a gwarchodedig o'r setliad presennol, dyfodol ffederal i'r Deyrnas Unedig, a Chymru annibynnol.

Nawr, Llywydd, ni fwriadwyd erioed i'r comisiwn geisio dod i gasgliad a fyddai'n rhoi cyfarwyddyd i ddinasyddion Cymru o ran y dull i'w ffafrio gan y rhai a oedd yn archwilio i'r mater. Yn hytrach na hynny, mae'r adroddiad yn cynnig dadansoddiad difrifol o fanteision ac anfanteision pob posibilrwydd ar gyfer pob un ohonom ni, gan ein galluogi ni i ddod i gasgliad mwy deallus, llawn tystiolaeth ein hunain, yn unigolion ac yn bleidiau gwleidyddol. Ac fe gaiff hyn i gyd, Llywydd, ei grynhoi mewn 10 argymhelliad. Pa mor aml yr ydym ni wedi gweld adroddiadau yn y Senedd hon sy'n frith o argymhellion sy'n sicr o suddo yn llwyr oherwydd eu pwysau eu hunain? Drwy ganolbwyntio ar nifer fechan o gynigion allweddol, rwy'n credu, mae'r comisiwn wedi mynd ffordd bell i sicrhau y bydd ei waith yn mynd rhagddo ac y bydd â dylanwad grymus ar y dadleuon a'r trafodaethau a fydd yn deillio ohono.

Un pwynt olaf, Llywydd, os caf i: yn fy sgwrs gyntaf gyda Dr Williams, wrth i mi ofyn a fyddai'n barod i ystyried cynorthwyo gydag arwain y comisiwn, fe ddywedodd wrthyf y byddai'n barod i wneud felly, ond dim ond pe gellid cyflawni gwaith y comisiwn mewn ffordd a fyddai'n cynnwys cymaint â phosibl o'r bobl hynny sydd â rhan yn y gwaith o lunio'r Gymru gyfoes. Y canlyniad yw bod awdurdod yr adroddiad yn tarddu nid yn unig o drylwyredd deallusol ei dystiolaeth a'i gasgliadau ef, ond o'r miloedd o'n cyd-ddinasyddion ni sydd wedi bod â rhan yn ei sgwrs. Yn wir, mae'r cyntaf o'r 10 argymhelliad terfynol yn annog Llywodraeth Cymru a'r Senedd i gryfhau ein gallu ni ein hunain o ran arloesi democrataidd ac ymgysylltu â'r gymuned yn y gwaith a wnawn ni.

Os mai dim ond un bennod o'r adroddiad y mae cydweithwyr yn darllen, tu hwnt i'r crynodeb a'i argymhellion, dwi'n awgrymu i chi ddarllen pennod 3, 'cryfhau democratiaeth yng Nghymru'. I unrhyw un sy'n gweithio ar linell flaen democratiaeth, dyma syniadau y gallai pob un ohonom dynnu arnynt yn ein hetholaethau, yma yn y Senedd ac yn Llywodraeth Cymru. Mae'r ffordd mae ein gwlad yn cael ei threfnu, dyfodol y Deyrnas Unedig a Chymru, a llais dinasyddion, wrth wneud penderfyniadau o'r fath, mae hynny i gyd i'w weld yn adroddiad terfynol y comisiwn, a dylai gael ei gymryd o ddifrif gan bawb. Diolch yn fawr, Llywydd.

14:55

Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad brynhawn heddiw. Fel un a wnaeth lawer o waith ynglŷn â chomisiwn Silk a sefydlu comisiwn Silk, fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i, pe byddai comisiwn i'w sefydlu, y byddai'n cael ei sefydlu yn unol â'r cylch gwaith yr oedd comisiwn Silk yn gweithredu ynddo. Fe allaf i gofio'r troeon lawer y buom ni'n eistedd ym Mharc Cathays—y Prif Weinidog ar y pryd, arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill a minnau—a thrafod a gweithio drwy raglen ac, yn y pen draw, y ddeddfwriaeth a fyddai'n dod i'r wyneb yn sgil hynny. Ac rwy'n cofio gadael y lle hwn ar ôl cwestiynau'r Prif Weinidog un diwrnod a mynd i San Steffan i eistedd yn swyddfa arweinydd y tŷ, gyda'r arweinwyr eraill, a gweithio drwy sut y gallai datganoli symud ymlaen ac, yn y pen draw, sut y gellid trosglwyddo pwerau trwy gyfrwng dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru lwyddiannus yn Nhŷ'r Cyffredin. Nid hwnnw oedd y model a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, a phan gysylltodd y Cwnsler Cyffredinol â mi ynglŷn â chyflwyno cynrychiolaeth y Ceidwadwyr, fe eglurwyd yn fanwl iawn i mi nad llefarwyr y pleidiau oedd yr unigolion hynny ar y comisiwn hwnnw. Rwy'n parchu hynny, ond, yn yr adroddiad, mae hi'n ymddangos ei fod ef yn ceisio nodi mai'r farn a fynegwyd gan yr un a enwebodd y Ceidwadwyr ar y comisiwn oedd barn y Blaid Geidwadol. Nid yw hynny'n wir. Fe wnaethom ni roi tri enw i'w hystyried ac fe benderfynodd y comisiwn pwy fyddai'r unigolyn hwnnw a fyddai'n gomisiynydd presennol. Bargyfreithiwr oedd un, roedd gan y llall brofiad ar lefel cabinet llywodraeth leol, ac roedd gan yr un arall brofiad ar lefel San Steffan a gafodd yn rhinwedd ei swydd yn ymgynghorydd arbennig. Hwnnw oedd y model a ddewisodd y Llywodraeth ar gyfer y comisiynwyr. Ac rwy'n parchu hynny, ond rwy'n credu y byddai comisiwn fel un Silk wedi bod yn ffordd well o edrych arni hi, pe byddai yna drafodaeth a sgwrs wedi bod o ran sut y gallasid gwella a datblygu datganoli a symud ymlaen.

O'm safbwynt personol, rwyf i'n credu bod angen newid y setliad, gyda rhai eithriadau nodedig, fel y gyllideb, er enghraifft, y gwnaethoch chi gyfeirio ati yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, a'r trefniadau ariannol sydd gennych chi â'r Trysorlys, ond mae'r setliad cyffredinol sydd gennym ni, o ystyried y ddwy Ddeddf ddeddfwriaethol a basiwyd gan San Steffan, yn gadarn, yn grymuso ac yn egnïo'r Senedd hon i Gymru ar gyfer bodloni disgwyliadau pobl Cymru.

Fe fyddai hi wedi bod yn well gennyf i heddiw, mewn gwirionedd, fod yn ymateb i ddatganiad gan y Prif Weinidog yn egluro pam y dylid cyfeirio adnoddau'r Llywodraeth at ymchwiliad COVID dros Gymru, ond rwy'n deall yn iawn mai ymrwymiad maniffesto oedd hwnnw, gan edrych, yn amlwg, tuag at gytundeb â Phlaid Cymru, ar ddiwedd etholiad 2021, pan fyddai'n rhaid sefydlu clymblaid, efallai. Nawr, rhagorfraint y Llywodraeth fyddai honno oherwydd, yn amlwg, y chi a fyddai'n ennill yr etholiad hwnnw—rwy'n derbyn hynny. Ac, yn amlwg, fe allai'r drafodaeth honno fod wedi digwydd rhwng Plaid Cymru a chwithau, yn amlwg. Ond rwy'n credu mai'r blaenoriaethau mwyaf sydd gan bobl yma yng Nghymru yw cael gwybod pam wnaeth Llywodraeth Cymru bethau neu beidio yn ystod cyfnod COVID, a dyna pam y byddai hi'n well gennym ni weld ymchwiliad COVID ledled Cymru. Mae hi'n bwysig cydnabod, hefyd, pa mor gyflym y gwnaeth cydweithwyr y Prif Weinidog sydd ar ben arall yr M4 wrthod y cynigion o fewn y comisiwn hwn. Rwy'n dyfynnu safbwynt Jo Stevens yn hyn o beth, pan ddywedodd hi,

'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'

Mae hynny'n weddol bendant. Roeddwn i'n cydymdeimlo ag arweinydd Plaid Cymru ddydd Mawrth diwethaf—ni fyddai ef yn disgwyl unrhyw gydymdeimlad oddi wrth arweinydd y Ceidwadwyr—pan geisiodd ef gael eglurder gennych chi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn. Mae hwnnw'n weddol bendant, hynny yw y datganiad hwnnw:

'Ond ni fyddwn yn ystyried datganoli plismona a chyfiawnder.'

Roedd hwnnw'n ddaliad mawr yn y darn o waith a wnaeth y comisiwn ar ran Llywodraeth Cymru wrth ystyried pwerau datganoledig pellach. Ac felly, fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog beth yw ei safbwynt ef o ran cysoni'r gwahaniaethau rhwng ei gydweithwyr yn San Steffan ac, yn amlwg, yma yn y bae. Ac mae hi'n ddiddorol nodi mai dim ond un o'r ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth sydd yn y Siambr i glywed y datganiad cyfansoddiadol pwysig hwn, a'r un sydd ar goll yw'r un mwyaf cymeradwy gan ASau ar ben arall yr M4—mae hynny'n siarad cyfrolau a dweud y lleiaf.

Fe hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar swyddogaeth fwy grymusol o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid unig ystyr datganoli yw datganoli grym o Lundain i Gaerdydd; mewn gwirionedd mae'n golygu datganoli grym o Gaerdydd i ranbarthau Cymru hefyd. Pan fo'r setliad llywodraeth leol yn dal i fod o gyfnod cyn datganoli, a phob tro y bydd meinciau'r Llywodraeth yn cyflwyno cynnig y mae wedi ei chael hi'n rhy anodd gwneud unrhyw newidiadau, nid yw wedi dewis gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar y setliad sydd ganddi hi ac yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi o ran llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, a'r strwythurau y gellid eu grymuso gan fwy o ddatganoli o Gaerdydd i ranbarthau Cymru? Fe fyddai hwnnw'n rhywbeth y byddem ni ar y meinciau hyn yn ei groesawu gyda breichiau agored.

Rwyf i am gloi gyda'r sylw hwn, os caf i. Fe orffennodd y Prif Weinidog ei ddatganiad drwy fynd i'r afael â'r angen i rymuso pobl Cymru, a'r sgwrs a gafodd ef gyda Dr Rowan Williams. Fe gytunodd hwnnw i gymryd rhan yn y comisiwn ar yr amod y byddai argymhellion y comisiwn ynghylch gwrando ar leisiau pobl yn thema ganolog i Lywodraeth Cymru ac yn wir i'r Senedd. Rydym ni newydd dderbyn y ddeiseb fwyaf a ddaeth gerbron y Senedd erioed yn cynnwys bron i 0.5 miliwn o bobl yn llofnodi deiseb i ddiddymu polisi a gyflwynodd ei Lywodraeth ef. Os ydych chi'n sôn am wrando ar bobl, dyna sgrech uchel ar y diawl gan bobl Cymru i newid cyfeiriad a newid cwrs. Felly, yn hytrach na dim ond rhoi'r geiriau hynny mewn datganiad y gwnaethoch chi ei ddarllen heddiw, pam na wnewch chi roi hynny ar waith a diddymu'r terfyn 20 mya cyffredinol? 

15:00

Mae arweinydd yr wrthblaid a minnau o'r un farn gadarnhaol ynglŷn â chomisiwn Silk. Rwy'n credu mai hwnnw oedd y cyfrwng cywir i wneud y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud. Ond mae hwn yn waith gwahanol iawn ac roedd angen cyfrwng gwahanol iawn. I gymryd ei bwynt olaf nesaf, yr hyn a ddywedodd Dr Rowan Williams wrthyf i oedd pe byddai ef am gyd-gadeirio comisiwn, roedd yn dymuno bod â'r hyder o wybod y byddai'r comisiwn yn gallu cynnwys cymaint o bobl â phosibl yn ei ddadleuon ag y gellid gwneud felly. Nid oedd yn dymuno comisiwn lle byddai pobl yn ymadael oddi yma ac yn mynd i ystafell gaeedig ym Mharc Cathays i benderfynu beth fyddai'r canlyniad. Mae'n ddull gwahanol iawn am fod y pwrpas yn wahanol iawn.

Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i arweinydd yr wrthblaid am gynnig enwau pobl i eistedd ar y comisiwn, nid oherwydd eu bod yn cynrychioli eu plaid, ond oherwydd y bydden nhw'n dod â'r persbectif hwnnw i ddadleuon y comisiwn. Ac os caf i ddweud hynny, rwy'n credu bod cyfraniad Lauren McEvatt, yr unigolyn a oedd yn dod o safbwynt y Ceidwadwyr, wedi bod â dylanwad gwirioneddol ar y comisiwn. Roedd hi'n weithgar iawn, a'i chyfraniadau yn rhai meddylgar iawn. Roeddwn i yn Llundain wythnos diwethaf yn y Sefydliad Llywodraethu; roedd hi yn y gynulleidfa yno, ac fe wnaeth hi rai pwyntiau pwysig iawn yno hefyd. Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y ffaith ei bod hi yno i gyfrannu'r safbwyntiau hynny, nid am ei bod hi'n siarad ar ran y Blaid Geidwadol, ond oherwydd y gallai hi sicrhau y byddai'r traddodiadau, y ffyrdd o feddwl, yr ymagwedd a fyddai'n cael ei chymryd gan y blaid honno yn cael gwrandawiad o amgylch y bwrdd hwnnw.

Nid wyf i'n cytuno, wrth gwrs, ag arweinydd yr wrthblaid fod y setliad presennol yn gadarn. Sut allai unrhyw un ddod i'r casgliad hwnnw yn dilyn y ffyrdd y mae confensiwn Sewel wedi cael ei amharchu mor aml gan lywodraethau yn San Steffan ers 2019? Mae hwnnw'n gonfensiwn na chafodd ei dorri erioed gan Lywodraethau Llafur na Llywodraethau Ceidwadol tan 2019, ac ers hynny, mae wedi cael ei dorri yn deilchion dro ar ôl tro ar ôl tro. Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), agweddau masnach ar y Bil Caffael, y Bil Mudo Anghyfreithlon, y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), y Bil Ynni—fe drafodwyd y rhain i gyd ar lawr y Senedd. Gwrthodwyd caniatâd i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, ac ym mhob un achos fe aeth y Llywodraeth honno yn ei blaen i ddeddfu er gwaethaf diffyg cydsyniad y Senedd hon iddyn nhw wneud felly. Sut y gall unrhyw un ddod i'r casgliad bod y setliad yn gadarn pan fyddo mor agored i niwed â hynny?

O ran plismona a chyfiawnder, fe roddais i fy atebion yr wythnos diwethaf. Fe fynegais i'n eglur bolisi'r Llywodraeth hon a'r blaid hon yng Nghymru. Mae adroddiad Gordon Brown a gomisiynwyd gan Keir Starmer yn dweud y dylai'r broses honno ddechrau gyda datganoli cyfiawnder a phrawf ieuenctid, ac rwy'n edrych tuag at fy nghydweithwyr yn San Steffan i sicrhau bod hynny'n digwydd.

O ran datganoli pwerau tu hwnt i'r Senedd, er enghraifft, rydym ni wedi llofnodi bargen twf canolbarth Cymru, y ceisiodd ei blaid ef mor ddyfal i'w difrodi yn esiampl Fferm Gilestone. Rydym ni'n credu y dylid trosglwyddo pwerau i lywodraeth leol. Yr ardoll ymwelwyr—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn wir. Rydym ni wedi ymrwymo i gytundeb twf canolbarth Cymru. Fe fyddai cynnig Fferm Gilestone wedi dod â swyddi i'r canolbarth. Fe fyddai wedi creu swyddi i bobl ifanc yn y canolbarth. Fe'i cefnogwyd gan bartneriaid eraill ym margen twf canolbarth Cymru. Rydym ni'n credu mewn gwneud pethau mewn ffordd ranbarthol, ac nid wyf i'n credu y gallwch ddweud bod hynny'n wir am yr wrthblaid yn y fan hon.

Rwy'n credu mewn rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol allu gweithredu. Dyna pam y byddwn ni'n rhoi ardoll ymwelwyr gerbron y Senedd hon, i roi'r pŵer i awdurdodau lleol weithredu honno pan fyddan nhw'n dewis gwneud felly. Eu nacáu nhw a fyddech chi. Wythnos ar ôl wythnos rydych chi ar eich traed yma'n dweud pa mor anfodlon ydych chi i awdurdodau lleol fod â'r pŵer hwnnw. Felly, pan ydych chi'n dweud wrthyf i nad yw datganoli yn gorffen gyda Bae Caerdydd, rwy'n credu hynny, ac rydym ni'n gwneud pethau i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ei nacáu nhw a wnewch chi pan na fyddwch chi'n dymuno gwneud felly. Eich polisi chi o ran datganoli i lywodraeth leol yw eich bod chi'n fodlon rhoi pŵer iddyn nhw os ydych chi'n cytuno â'r hyn y byddan nhw'n ei wneud ag ef, ac ni fyddwch chi'n rhoi pŵer iddyn nhw os nad ydych chi'n cytuno. Nid datganoli mo rhywbeth felly, Llywydd, o gwbl.

Ac o ran ymchwiliad COVID, rwy'n edrych ymlaen at ddyfodiad yr ymchwiliad COVID i Gymru. Fe fydd yma yn ystod wythnos olaf mis Chwefror a phythefnos gyntaf mis Mawrth. Fe fydd yn craffu yn yr un ffordd ar y camau a gymerwyd yma yng Nghymru ag y gwelsoch chi'n digwydd ar gamau Gweinidogion y DU a Gweinidogion yr Alban. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i ateb y cwestiynau a ofynnir i ni, a hynny'n briodol, hyd eithaf fy ngallu. 

15:05

Buaswn i’n licio dechrau heddiw drwy longyfarch a diolch i Laura McAllister a Rowan Williams ac aelodau’r comisiwn i gyd am eu holl waith. Maen nhw wedi cynnal sgwrs ar ein dyfodol cyfansoddiadol ni sydd wedi bod yn ehangach ac yn fwy cynhwysol nag ydym ni wedi'i gael ers dyfodiad datganoli; yn fwy nag ydym ni wedi cael erioed, mae’n siŵr. Dros ddwy flynedd, mi gawson nhw mwy na 15,000 o ymgysylltiadau efo pobl o bob rhan o Gymru, o bob cefndir. Mae hwn wedi dangos, er gwaetha’r honiadau gan rai ar y meinciau cyferbyn, nad dim ond yr anoracs sydd â diddordeb yn ein setliad cyfansoddiadol ni. A buaswn i’n dadlau mai un o lwyddiannau mwyaf gwaith y comisiwn ydy dangos bod materion cyfansoddiadol yn faterion bara menyn, ac, i’r gwrthwyneb, mai cwestiynau bara menyn ydy cwestiynau cyfansoddiadol.

Er gwaethaf yr honiadau gan rai ar feinciau'r Ceidwadwyr, nid oes unrhyw beth o gwbl yn ofer ynghylch archwilio ein dyfodol cyffredin mewn ysbryd o fod yn agored, yn wrthrychol a chydweithio. Fe allwn i atgoffa'r Aelodau gyferbyn bod y Blaid Geidwadol wedi cyfranogi yn weithredol yn y broses hon, a bod adroddiad y comisiwn wedi cael ei gymeradwyo gan un a benodwyd arno ganddyn nhw. Rwy'n gwahodd y Ceidwadwyr i ystyried bod hwnnw'n gryfder i'r adroddiad hwn.

Mae bron i bythefnos wedi mynd heibio erbyn hyn ers cyhoeddi'r adroddiad, ac rwy'n credu, mae eisoes wedi newid y meddylfryd yn llwyr o ran ailddiffinio'r ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan roi brys ac ysgogiad newydd iddo, ac mae'n adnodd newydd gwerthfawr y dylid tynnu oddi arno. Rwy'n dweud 'brys newydd' am ei fod yn datgan mewn termau cignoeth iawn—termau trawsbleidiol cignoeth—na ellir cynnal y sefyllfa sydd ohoni. Mae'n rhaid i rywbeth newid, ac fe geir cytundeb ynglŷn â hynny. Ac wrth i ni ystyried nawr a chynllunio ar gyfer y newid hwnnw, mae'r comisiwn wedi sefydlu sylfaen newydd o dystiolaeth a fframwaith newydd ar gyfer ei ddadansoddi.

Yn gyffrous o'm safbwynt i, mae sylfaen y dystiolaeth yn dangos bod annibyniaeth yn ddewis hyfyw i Gymru ac y gellir ei chyflawni. Wrth gwrs, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai hwnnw yw'r dewis gorau i Gymru, y ffordd orau o gyflawni'r uchelgeisiau er mwyn ein cenedl—uchelgeisiau sydd, rwy'n gobeithio, yn gyffredin ar draws y Siambr hon. Ac mae'r comisiwn yn eglur ynglŷn â hyn: oni bai i'r holl ysgogiadau sydd eu hangen arnom ni i newid ein tynged economaidd fod ar gael i ni, mae ein hanes ni'n debygol o barhau i fod yn un o farweidd-dra a dirywiad rheoledig, a chyda'r ystod lawn o bwerau na all dim ond annibyniaeth ei gyflawni yn y pen draw, fe allwn ni newid y stori.

Ond fe wn i mai taith yw hon hefyd, ac mae llawer o bobl, am resymau cwbl ddealladwy, heb eu hargyhoeddi eto. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at beryglon, ydy, ond mae hynny'n wir am yr holl ddewisiadau o'n blaenau ni, gan gynnwys y perygl o aros yn y fan a'r lle a'r tlodi ymwreiddiedig y mae ein haelodaeth ni o'r DU wedi ei achosi i gymaint o deuluoedd a chymunedau. Felly, mae pobl yn chwilio am fwy o dystiolaeth, mwy o drafodaeth, wrth gwrs felly. Mae pawb yn yr un sefyllfa. Ac rwy'n dweud wrthych chi, rwy'n barod ar gyfer cymaint o sgyrsiau â phosibl, ni waeth pa mor anodd yw'r cwestiynau sy'n codi.

Fel dywedais i, rydym ni ar y meinciau hyn yn eglur o ran maint ein huchelgais a'n ffydd yng Nghymru—nid yw hynny mor wir am eraill. Roedd hi'n siomedig, fel dywedais i yr wythnos diwethaf, cyn i'r inc hyd yn oed fod wedi sychu ar bapur adroddiad y comisiwn, fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid eisoes wedi bod ar y cyfryngau i ddiystyru rhai o'i argymhellion allweddol. I'r gwrthwyneb, os caf i ddweud hefyd ym mhresenoldeb y ddau ohonyn nhw, mae tawelwch llethol wedi bod bron iawn o'r fan lle rwyf i'n gwrando o ran argymhellion y comisiwn oddi wrth y ddau ymgeisydd sy'n ymgeisio i arwain Llafur Cymru, ac rwy'n eu gwahodd nhw i dorri ar y tawelwch hwnnw.

Fe fyddai hi'n dda gennyf i ddeall, wrth gwrs, sut mae'r Prif Weinidog yn bwriadu bwrw ymlaen â'r ddadl hon o fewn ei blaid ei hun. Rwy'n eiddgar i weithio gydag ef, neu unrhyw un arall sy'n awyddus i ddwyn taith gyfansoddiadol Cymru yn ei blaen. Roedd ef â rhan mor allweddol yn ysgogi'r gwaith hwn ac, er gwaethaf y ffaith ei fod ar fin ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog, rwy'n amau na fydd ef yn dymuno ymbellhau yn ormodol oddi wrth y ddadl ehangach ynglŷn â dyfodol Cymru.

Yn nodedig iawn, ychydig iawn a gafodd ei ddweud, yn ôl cyd-gadeiryddion y comisiwn cyfansoddiadol, gan y rhai sy'n cefnogi'r sefyllfa sydd ohoni. Pam y maen nhw'n credu bod y sefyllfa hon cystal ag y gall pethau fod i Gymru? Yr hyn sy'n allweddol, yn fy marn i, yw y dylai'r drafodaeth, y drafodaeth genedlaethol wirioneddol a gawsom ni drwy gyfrwng y comisiwn ynglŷn â thaith Cymru i'r dyfodol, allu parhau. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gefnogi fy nymuniad i'r momentwm a enillwyd drwy waith y comisiwn allu parhau a gofyn i'r gwaith hwn barhau? Fe fyddai comisiwn parhaol yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda, rwy'n credu. Mae dyfodol cyfansoddiadol Cymru, wrth gwrs, yn perthyn, yn y pen draw, nid i ni yn y pleidiau gwleidyddol yn y fan hon, ond i holl bobl Cymru. Fe allwn ni sicrhau yn y fan hon fod ein dinasyddion yn cael dweud eu dweud, ac mae'r comisiwn wedi dangos pa mor egnïol y gall y sgwrs honno fod.

15:10

Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, bod natur y gwaith, y ffordd roedd y comisiwn wedi mynd ati, yn sefyll y tu ôl i'r adroddiad i gyd, gan roi pŵer i bopeth rŷn ni'n gallu ei ddarllen yn y fersiwn terfynol.

Fe ddylwn i ddweud, ddim ond ar gyfer y cofnod, Llywydd, mai'r Llywodraeth a benododd bob un o aelodau'r comisiwn. Fe wnaeth y pleidiau gwleidyddol gyflwyno enwau, ac yna'r Llywodraeth a oedd yn penodi'r aelodau i gyd, yn cynnwys Leanne Wood, a oedd yn cynrychioli Plaid Cymru, ac fe wn i ei bod hi wedi bod â rhan weithgar dros ben yn y digwyddiadau cymunedol hynny gan sicrhau bod y sgyrsiau sydd wedi llywio'r adroddiad mor egnïol ag y byddech chi wedi dymuno iddyn nhw fod.

Rwy'n cytuno bod brys ynglŷn ag argymhellion yr adroddiad. Mae'r angen am frys yn arbennig o daer ar rywun fel fi sydd o'r farn fod gwell dyfodol i Gymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Am fy mod i'n awyddus i weld Teyrnas Unedig y byddai pobl yng Nghymru yn dymuno bod yn rhan ohoni, y bydden nhw'n gweld y manteision o berthyn iddi, y bydden nhw'n gweld y bydd ein dyfodol ni'n well o'i gysylltu â dyfodol pobl eraill sy'n byw yn Lloegr ac yn yr Alban mewn achosion sy'n gyffredin. Rwy'n credu bod y ddadl sydd y tu ôl i'r adroddiad yn dangos pa mor daer yw'r angen i fynd ati i hyrwyddo'r achos hwnnw a'i wneud yn argyhoeddiadol.

Mae'r adroddiad yn wir yn dweud bod annibyniaeth yn ddewis sy'n hyfyw, ond mewn rhai ffyrdd nid hwnnw yw'r cwestiwn gwirioneddol. Nid a yw'r peth yn hyfyw, ond a yw'n fanteisiol. Ac rwyf i'n eglur iawn, y rheswm nad oes gennyf i ffydd mewn annibyniaeth yw oherwydd nad wyf i'n credu y byddai hynny'n fanteisiol i Gymru. Nid oes gennyf i ffydd mewn codi rhwystrau newydd. Nid oes gennyf i ffydd mewn creu ffiniau newydd pan nad oes ffiniau yn bod. Mae cymaint o bethau yn cysylltu pobl sy'n gweithio yng Nghymru â phobl sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae honno'n garreg sylfaen bwysicach, rwy'n credu, ar gyfer y dyfodol llwyddiannus hwnnw'r ydym ni'n awyddus i'w weld.

Y peth a'm synnodd i fwyaf yn yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yw, yn yr achos hwn yn unig, nad yw hi'n ymddangos ei fod ef yn rhoi sylw dyledus i drafodaethau yn y Blaid Lafur, y mae ef yn ymgolli ynddyn nhw mor aml, oherwydd pe byddai ef wedi bod yn gwrando yn ofalus fe fyddai ef wedi deall bod y dadleuon hyn yn fywiog iawn ymhlith y Blaid Lafur ac felly y bu hi erioed.

Fe hoffwn i weld yr adroddiad yn sail i ragor o drafodaeth a dadl. Fe hoffwn i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn ni ddal ati i fanteisio ar arbenigedd a phrofiad y bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o'r daith a arweiniodd at yr adroddiad. Ac fe fyddwn ni'n gweithio yn y Llywodraeth i ddod o hyd i ffyrdd o beri i hynny ddigwydd. Rwyf i fy hun yn edrych ymlaen at fod â rhan yn y trafodaethau i gyd. Rwy'n dweud weithiau, pan fydd pobl yn gofyn i mi ynglŷn ag ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog, fy mod i, chwedl Tony Benn, yn rhoi'r gorau i'r swydd i dreulio rhagor o amser yn gwleidydda. [Chwerthin.] Ac os felly, fe fydd hynny'n rhoi'r cyfle i mi wneud hynny yn rhan o'r hyn y byddaf i'n parhau i fod â diddordeb ynddo i'r dyfodol. 

15:15

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad y prynhawn yma. Mae hi'n ddogfen ddiddorol a heriol. Mae hi'n ddogfen ddifrifol sy'n herio pob un ohonom, gan gynnwys, rwy'n meiddio dweud, y Ceidwadwyr, i feddwl o ddifrif am y materion hyn. Ac mae hi'n eistedd ochr yn ochr â chomisiwn Thomas fel cyfraniad difrifol at lywodraethu yn ein gwlad i'r dyfodol. Ac ni ellir diystyru'r dogfennau hynny, na'r dystiolaeth honno, na'r dadleuon hynny yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth. Mae'n rhaid eu cymryd nhw o ddifrif ac ymgysylltu â nhw. Ac rwy'n gobeithio y bydd gwrthblaid Geidwadol yn gallu gwneud hynny ryw ddiwrnod.

Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw edrych tuag at Deyrnas Unedig wahanol, Prif Weinidog. A'r cwestiwn sydd gennyf i ar eich cyfer chi yw: sut ydym ni am wynebu'r her o ran ymgysylltu â'r sefydliad yn Llundain nad oes ganddo fawr o ddiddordeb mewn dyfodol gwahanol, na dyfodol sy'n wahanol iawn i ni yng Nghymru i'n sefyllfa gyfredol heddiw?

Ni wnaeth y comisiwn drafod strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig a hynny am resymau da iawn, ac rwy'n cydnabod hynny—rwy'n cydnabod pam nad oedd unrhyw ymdriniaeth o hynny. Ond oni bai bod strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig yn cael eu newid hefyd ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol o ran pwerau a democratiaeth yn y DU, efallai y bydd y strwythurau gennym ni ond ni fydd yr offer gennym ni i wneud y gwaith. Ac felly fe fydd y pethau hyn yn cyd-fynd â'i gilydd hefyd.

Ac yn olaf, Prif Weinidog, mae hi'n demtasiwn fawr iawn i lawer o bobl, yn enwedig yr ochr hon i'r Siambr efallai, geisio dweud bod y gwaith wedi cael ei gwblhau pan fydd y Ceidwadwyr allan o rym. Sut fyddwn ni'n darbwyllo ein cydweithwyr ni yn y Blaid Lafur wedyn, a fydd o'r farn mai'r amcan yw cael Llywodraeth Lafur i'r DU ac o'r farn y bydd yr argyfwng mawr drosodd o ran y ddadl gyfansoddiadol?

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Diolch i Alun Davies am yr holl bwyntiau yna, Dirprwy Lywydd dros dro. Fe wnaeth ef bwyntiau difrifol ac mae ef yn gywir i ddweud bod yr adroddiad yn un difrifol a heriol i'w ddarllen. Ni fyddech chi'n disgwyl dim llai, rwy'n credu, o ystyried safon y bobl a oedd yn rhan o'r comisiwn a chadernid y grŵp cynghori yr oedden nhw'n gallu elwa ar ei waith. Fe geir dyfnder dadansoddiadol gwirioneddol a thrylwyredd yn y ffordd y cafodd fframwaith ei gymhwyso i'r dystiolaeth ar gyfer crynhoi'r dadansoddiadau a'r casgliadau y mae'r adroddiad yn eu tynnu oddi wrth hynny.

Mae yna berygl yn bod bob amser, yn y Blaid Lafur, y bydd pobl o'r farn, am fod y Ceidwadwyr wedi cael eu trechu, y bydd y gwaith cyfansoddiadol wedi cael ei gyflawni. Ond fe hoffwn i atgoffa pawb mai Llywodraeth Lafur oedd hi, yn ei blwyddyn gyntaf yn 1997, ar ôl 17 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, a wnaeth benderfynu ei bod hi'n rhaid canfod yr amser ar gyfer y diwygiadau cyfansoddiadol a arweiniodd at sefydlu'r Senedd hon. Felly, er y ceir tensiwn yn aml, a bod dadl i'w chael, mae'r dystiolaeth sydd gennym ni'n dangos yn eglur iawn mai'r Blaid Lafur yw awdur datganoli. Rydym ni yma oherwydd Llywodraeth Lafur a'r ymrwymiad a gyflawnodd y Llywodraeth Lafur honno.

Sut allwn ni, yng Nghymru, barhau i ddylanwadu ar y drafodaeth honno? Wel, dyma'r profiad a gefais i o fod yn yr ystafell gyda chydweithwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU. Mae gan gydweithwyr yn yr Alban fantais bob amser yn y ffaith eu bod wedi cael eu hethol yn Llywodraeth sydd â mandad, chwedl nhw, i dynnu'r Alban o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y byddan nhw'n cael gwrandawiad difrifol bob amser. Mae cydweithwyr o Ogledd Iwerddon yn dod i mewn i'r ystafell gyda holl hanes cythryblus y rhanbarth, a'r angen i bawb sy'n bresennol fod yn ofalus o ran sicrhau nad yw'r penderfyniadau a wneir yn ailgynnau'r trafferthion hynny. Maen nhw'n dod gyda grym hynny yn eu meddiant. Yr hyn sydd gan Gymru yn syml yw cryfder ein dadl. Dyna yw ein harwyddocâd ni, a dyna pam rwyf i o'r farn fod llawer o sylwebyddion annibynnol yn dod i'r casgliad, pan fu ystyriaeth ddifrifol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, wedyn, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf neu fwy, mai o Gymru y daeth y cyfraniad mwyaf at y ddadl honno. Boed hynny drwy gomisiwn Thomas, boed hynny drwy gomisiwn annibynnol, a'r dylanwad a gafodd Carwyn Jones a Paul Murphy ar yr adroddiad terfynol o waith Gordon Brown, rwy'n credu y gallwch chi weld cyfraniad Cymru yno yn ein parodrwydd ni i geisio gwneud pethau a meddwl o ddifrif, cael trefn ar y dadleuon, y datrysiadau ymarferol y gellir eu cyflawni. Dyna pam mae'r adroddiad hwn, sef adroddiad terfynol y comisiwn, mor rymus: am ei fod yn sefyll yn gadarn iawn yn y traddodiad hwnnw. 

15:20

Prif Weinidog, mae'r adroddiad hwn wedi costio cyfanswm o £1.5 miliwn hyd yn hyn ac mae'n dal i gynyddu. I fod yn gwbl onest, ni fydd yn cael ei weithredu dan Lywodraeth Geidwadol, a chyn i'r inc sychu ar y papur, fe gafodd ei daro i lawr gan ysgrifennydd gwladol Llafur, a ddywedodd y byddai Llywodraeth Lafur newydd, ac rwy'n dyfynnu, yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig. Felly, rwy'n edrych ymlaen, Prif Weinidog, at weld yr adroddiad hwn yn cael ei roi yn ôl ar y silff ac yn cymryd ei le fel y peth mwyaf costus i hel llwch erioed.

Nawr, roeddwn i'n dymuno codi pwynt wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, pryd y galwodd am gyflwyno comisiwn parhaol i edrych ar hyn yn barhaus. Fe sylwais i na wnaethoch chi fynd i'r afael â hynny yn eich ateb, felly a allwch chi ddweud na fydd hynny'n digwydd—sefydlu comisiwn cyfansoddiadol parhaol yma yng Nghymru?

Wel, mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd, mae'n gyfraniad digalon iawn y mae'r unigolyn yn ei wneud, on'd yw e? Byddech chi'n tybio y gallai fod yn meddwl ei fod wedi cael ei anfon yma i wneud rhyw fath o gyfraniad difrifol i ddyfodol y Deyrnas Unedig. Ond os yw ef o'r farn mai dyna'r cwbl sydd ganddo i'w gynnig—os mai'r hyn yr ydym ni newydd ei glywed yw'r cyfan sydd ganddo i'w gynnig—yna fe allaf i ddweud wrtho nawr, fel y dywedodd eraill yn y fan hon, ei fod yn gwybod cost pob peth ac yn deall gwerth dim.

Fe fydd fy nghyd-Aelod, Jo Stevens, yn falch ei fod wedi cyfeirio ati hi fel Ysgrifennydd Gwladol nesaf Cymru. Roedd yn garedig iawn iddo ei chymeradwyo hi yn y ffordd honno. Ar hynny, o leiaf, efallai ei fod wedi darllen yr ysgrifen ar y mur. A dweud y gwir, pe bai wedi bod yn gwrando, fe wnes i fynd i'r afael â'r pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Fe ddywedais i fy mod o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i'r sgwrs barhau, y dylid gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyfleu profiad ac arbenigedd pobl sydd wedi bod ar y comisiwn ac sydd wedi bod yn rhan o gynhyrchu'r adroddiad hwnnw heddiw. Nid wyf i am ddweud, y prynhawn yma, y byddwn ni'n gwneud hynny trwy gomisiwn sefydlog, neu y byddwn ni'n ei wneud yn y ffordd hon. Rydyn ni'n cytuno ar yr amcan. Fe fydd yna ddigon o gyfle i drafod sut y caiff yr amcan hwnnw ei gyflawni.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, a hefyd am ei arweiniad, yn sicrhau bod y comisiwn yma wedi dod i fodolaeth ac wedi cyfrannu yn y ffordd bwysig y mae wedi gwneud yn barod, ond hefyd am sicrhau'r ysbryd cynhwysol, agored yr oedd y ddau gyd-gadeirydd, a dweud y gwir, am sicrhau o ran gwaith y comisiwn?

Gwlad y comisiynau yw Cymru, fel dywed y comisiwn. Ond mae hynny'n awgrymu, onid ydyw, yr angen am rywbeth mwy cadarn, mwy parhaol na dim ond cyfres o gomisiynau dros y blynyddoedd os ydym ni'n awyddus i gael gwelliant parhaus o ran ein hiechyd democrataidd. Yn ei argymhelliad cyntaf, mae'n galw am allu pwrpasol, gydag arweinyddiaeth newydd a gefnogir gan arbenigedd a phrofiad, sy'n cynhyrchu egni newydd, syniadau newydd ar gyfer arloesi democrataidd ac addysg ddinesig—croesiad, os mynnwch chi, rhwng labordy democratiaeth ac ysgol dinasyddiaeth ledled y wlad. Yn wir, fel soniwyd eisoes, yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu oedd i fod â chomisiwn sefydlog.

Felly, rwy'n deall nad yw'r Prif Weinidog am ddewis y cyfrwng ar hyn o bryd, ond a gaf i awgrymu nifer o bosibiliadau—cyfleodd i ni ymchwilio, efallai, i wedd y gallu newydd hwnnw? Mae gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a gaiff ei enw newydd yn fuan ddiben eang eisoes yn wir o ran hyrwyddo iechyd democrataidd—a allem ni roi'r ddyletswydd benodol honno i hwnnw? Neu a ellid ehangu'r ysgol lywodraeth genedlaethol a gaiff ei chreu cyn bo hir o ran ei dibenion, nid yn unig yn ysgol hyfforddi gweision sifil, ond yn academi hefyd i'r genhedlaeth nesaf o wleidyddion a dinasyddion gweithredol, deallus, ymgysylltiedig, gyda swyddogaeth o ran ymchwil a datblygu democratiaeth hefyd? A lle bynnag yr ydym ni'n penderfynu magu'r gallu newydd hwn, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen rhywbeth arnom ni, canolbwynt newydd, os mynnwch chi, ar gyfer ein democratiaeth, gan weithio ar draws y pleidiau, y tu hwnt i bleidiau—elfen newydd yn ein seilwaith democrataidd? Oherwydd pan edrychwn ni ar yr argyfwng ledled y byd o ran democratiaeth, fy mhryder i yw y bydd y Siambr hon, beth bynnag fydd ei maint, mewn perygl o fod yn siambr i adleisio mewn gwactod oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth—oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth i adfywio ein democratiaeth. Democratiaeth, wedi'r cyfan, yw'r gobaith gorau sydd gennym ni yng Nghymru, fel ym mhobman arall, i gyflawni cynnydd ar ran y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.

15:25

Dirprwy Lywydd dros dro, diolch yn fawr i Adam Price am beth ddywedodd e am yr ysbryd y tu ôl i'r comisiwn, a diolch iddo fe am ei gyfraniad e pan oedd y comisiwn yn cael ei sefydlu a phan oeddem ni'n trafod y gwaith yr oedd y comisiwn i'w wneud.

Wel am wahaniaeth o ran ansawdd, Dirprwy Lywydd dros dro, yn y ddau gyfraniad a glywsom ni, un ar ôl y llall. Mae llawer o'r pethau a ddywedodd Adam Price yn fy marn i'n bethau y dylem ni eu hystyried. Rwy'n credu bod y posibilrwydd y daw'r ysgol lywodraethu genedlaethol, er enghraifft, yn ffordd o addysgu arweinyddion dinesig y dyfodol, nid arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol yn unig, yn un y dylem ni ei drafod a'i ystyried. Ac mae e'n gywir, onid yw, ynglŷn â'r argyfwng democrataidd a welwn ni ledled y byd? Os nad ydym ni'n ofalus, fe fyddwn ni'n rhoi coel i'r gred y bydd democratiaeth yn siŵr o barhau, ei bod hi'n anochel y byddwn ni'n parhau i fyw mewn gwlad lle mae'r bobl sy'n dod i'r fan hon yn gwneud hynny am eu bod nhw wedi cael eu dewis gan bobl yng Nghymru i wneud y gwaith y cawsom ni ein dewis i'w wneud. Ond ni fydd democratiaeth yn ffynnu oni bai eich bod chi'n gofalu am yr ardd lle caiff ei hau. A dyna oedd bwriad yr adroddiad hwn. A bod yn optimistaidd, y rheswm y dywedais i yn fy natganiad agoriadol, pe bai dim ond un bennod yn cael ei darllen gan gydweithwyr, y drydedd bennod ddylai honno fod oherwydd yr hyn y mae'r drydedd bennod honno'n ei ddweud: pan oedd gan y comisiwn ystafell lawn o bobl nad oedden nhw'n gwybod yn iawn pam ddylai unrhyw un fod yn gofyn am eu barn nhw am y pethau hyn ac na allen nhw weld yn iawn pam ddylai trafodaeth ynglŷn â'r dyfodol cyfansoddiadol olygu unrhyw beth yn eu bywydau nhw, yr hyn a wnaethon nhw ei ddarganfod oedd nad oedd hi'n cymryd llawer o amser yn trafod fel hynny cyn i'r cysylltiadau ddod yn gwbl amlwg i bobl—sut oedden nhw'n gallu gweld bod y pethau bara menyn, y pethau sy'n digwydd yn eu bywyd bob dydd, yn cael eu gwreiddio yn y strwythurau yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â nhw. Ac rwy'n credu bod honno'n ffynhonnell o optimistiaeth, ond mae'n dweud wrthym ni, fel yn yr adroddiad, na fydd hynny'n digwydd oni bai ein bod ni i gyd yn barod i feddwl yn llawn dychymyg ac yn greadigol, ac ymegnïo o'r newydd yn hyn o beth.

15:30

Rwy'n diolch yn fawr iawn wir i bawb sydd wedi cyfrannu at gyflwyno'r adroddiad hwn. Mae hwn yn adroddiad difrifol iawn. Mae'n gadarn ei ddeallusrwydd. Rwy'n credu ei fod yn gytbwys iawn ei ystyriaethau, ac mae'n haeddu ystyriaeth ddifrifol gan bawb sy'n meddwl am y dyfodol, nid yn unig yn y lle hwn, ond am ddyfodol Cymru, a dyfodol Cymru a'r ynysoedd hyn yn ogystal â hynny, a llywodraethu a llywodraeth yr ynysoedd hyn hefyd. Ac rwy'n credu ei fod yn deilwng o ystyriaeth ddifrifol ac ymgysylltiad gan bob plaid. Ac rwy'n credu, gyda llaw—rwyf i am ddod at hyn ymhen eiliad—fod yna faterion y bydd y Ceidwadwyr yn awyddus i ymgysylltu â nhw yn hyn o beth.

Ac mae hi'n bwysig, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag ansawdd ein llywodraethu a'n llywodraeth ni. Mae'n ymwneud â chysylltiadau a pharch rhynglywodraethol a rhwng seneddau. Mae'n ymwneud â diogelu'r setliad datganoli cyfredol, a chyflwyno cynigion a allai esgor ar setliad cyfansoddiadol yma yng Nghymru, a ledled y DU, sy'n fwy addas i'r sefyllfa ôl-UE ar hyn o bryd, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, sy'n addas i'r dyfodol hefyd.

A'r pwynt yr wyf am ei roi gerbron cyd-Aelodau yn y Senedd heddiw, o bob plaid, yw: mae yna argymhellion yn yr adroddiad hwn ynghylch nid yn gymaint o ran ein cyfeiriad yn y dyfodol, ond o ran amddiffyn datganoli nawr, ac fe fyddwn i'n dweud bod rhai o'r argymhellion hyn yn adleisio—ac rwy'n siarad ar fy rhan fy hun heddiw, ond maen nhw'n adleisio—rhai o syniadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a phwyllgorau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi hefyd, gan y fforwm rhyngseneddol ac eraill, ac maen nhw'n sôn am ymgorffori confensiwn Sewell yn y ddeddfwriaeth, ac ymgorffori cysylltiadau rhynglywodraethol yn y ddeddfwriaeth ar sail y ddyletswydd honno i gydweithio a dangos parch cyfartal i Lywodraethau'r DU.

Felly, Prif Weinidog, a chyd-Aelodau Ceidwadol, a gaf i ddim ond awgrymu: mae'r rhain yn bethau y gallwn ni, yn y fan hon, nawr, gytuno i weithio arnyn nhw gyda'n gilydd, a chyflwyno sylwadau gerbron Lywodraeth y DU a Senedd y DU ar gyfer mynegi, 'Mae'r rhain, o leiaf, yn bethau y mae angen i ni eu cloi nhw i mewn', oherwydd mae'r perygl a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad hwn yn un y mae eraill wedi tynnu sylw ato eisoes—gan gynnwys y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—sef, heb gloi'r rhain i mewn, fe fyddwn ni mewn perygl o rowlio i lawr fryn datganoli. 

Wel, Llywydd, mae'r adroddiad yn eglur iawn, oni bai y caiff camau eu cymryd, yna fe fydd datganoli yng Nghymru yn crebachu, ac ni allwch chi sefyll yn eich unfan. Ac nid ydym ni wedi bod yn sefyll yn ein hunfan, oherwydd fe welsom ni bethau yn mynd trwy ddwylo'r Senedd hon ac yn ôl i Lundain. Ac, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Lywydd, mae hi'n amlwg iawn hefyd ar nifer o'r tudalennau nad Llywodraeth Cymru yw ei hunig gynulleidfa; y Senedd ei hun yw hi i raddau helaeth iawn. Ac mae Huw yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r ffordd y mae gweithredu seneddol—a gaiff ei adlewyrchu mewn sawl adroddiad, yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin, yn ogystal ag yma ac mewn mannau eraill—a gallu deddfwrfeydd i ddod at ei gilydd i wella'r ffordd y caiff pŵer ei ddosbarthu yn iawn trwy'r Deyrnas Unedig ac yna'n dod yn ôl at ei gilydd unwaith eto i gyflawni dibenion sy'n gyffredin, yr ydym yn cytuno o ran ein bod yn dymuno rhannu'r sofraniaeth honno—. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn hynod rymus wrth ymdrin â'r materion hynny hefyd. 

Diolch, Llywydd dros dro. Prif Weinidog, roedd yr adroddiad o ddiddordeb mawr i mi, ac, yn amlwg, fe'i darllenais o'n fanwl, ac rwy'n credu bod llawer o wybodaeth ddefnyddiol i'w chasglu ohono. Yn amlwg, fel chi, rwy'n ymroddedig i'r undeb. Fe hoffwn i weld Cymru yn cyfranogi yn llawn yn y DU, ac mae'r ffaith bod gan Gymru ddwy Lywodraeth yn brwydro ar ei chyfer—un ar yr ochr hyn o'r M4, a'r llall yr ochr draw—peth da yw hynny yn fy marn i.

Nawr, yn amlwg, roedd rhai pethau yn yr adroddiad a oedd yn peri pryder, y mae'r comisiwn wedi tynnu sylw atyn nhw, ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith, gyda llaw. Un o'r pethau hynny oedd y diffyg ymwybyddiaeth ymhlith dinasyddion yng Nghymru o'r pwerau a'r cyfrifoldebau a chan bwy y maen nhw, boed hynny yn y Senedd hon neu ar haen Senedd y DU. Ac i ba raddau tybed yr ydych chi'n barod i edrych ar yr hyn y gellid ei wneud nid yn unig o ran ein system addysg, gydag addysg dinasyddiaeth—sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn—ond ymhlith y boblogaeth yn fwy eang, nad yw llawer ohonyn nhw'n mynd drwy'r system addysg ar hyn o bryd, ond mae angen addysg arnyn nhw o hyd ynghylch pwy sydd â'r cyfrifoldebau.

Wrth gwrs, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio hefyd ar y berthynas wael sydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Fe wyddom ni fod straen a phwysau yn aml yn gallu bod wrth i'r cyfansawdd gwleidyddol amrywio mewn gwahanol leoedd, ac mae'n siŵr fod hynny wedi gwaethygu'r berthynas, fel gwnaeth, wrth gwrs, y sefyllfa gyfan gyda Brexit. Ond, yn amlwg, mae awydd ymhlith y cyhoedd i weld gwelliant gyda'r pethau hyn, heb ystyriaeth i liwiau'r pleidiau gwleidyddol ym mhob siambr. Ac eto, tybed i ba raddau y gallwch chi fyfyrio ar y ffaith bod pethau wedi gwella yn sylweddol ers newid y Prif Weinidog yn San Steffan, dros y 12 mis diwethaf, o leiaf.

Ac yn drydydd, dim ond codi'r mater o ran y berthynas sydd rhwng seneddau—ac rwy'n credu bod honno'n bwysig dros ben, mewn gwirionedd—fel gwyddoch chi, rwyf i'n aelod o Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, ac yn hoffi cyfranogi yn llawn yng ngwaith y Cynulliad hwnnw. Ac mae hwnnw wrth gwrs yn ystyried y berthynas ar draws yr ynysoedd, gan gynnwys gyda Gweriniaeth Iwerddon. Ond rwy'n credu bod gwir angen fforwm ar gyfer y berthynas ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig, heb i Weriniaeth Iwerddon fod yn rhan o hwnnw, oherwydd mae rhai pethau sydd o ddiddordeb i holl Seneddau'r Deyrnas Unedig nad ydyn nhw, a dweud y gwir, yn cael eu trafod mewn ffordd agored, gyda'r ymgysylltiad priodol. Ac felly, tybed pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu cynulliad rhyngseneddol o ryw fath, gan weithio gyda'r Senedd, wrth gwrs, yn ei chynrychioli—

15:35

—er mwyn gwneud yn siŵr bod modd hwyluso'r mathau hynny o ddadleuon a thrafodaethau. Oherwydd nid yw'r adroddiad hwn yn ymhelaethu ar hynny, ond mae'n beth pwysig y mae angen iddo ddod allan o'r gwaith hwn.

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i Darren Millar am y cyfraniad meddylgar hwnnw ac am y parch a ddangosodd i waith y comisiwn a'r rhai sydd wedi cyfrannu cymaint ato. Rwy'n credu bod y mater o ymwybyddiaeth dinasyddion—rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am yr angen i ni wneud mwy a gwneud mwy o ran addysg. O'm mhrofiad fy hun dros fwy na 40 mlynedd, yn sicr, erbyn hyn o boeni pobl yn eu cartrefi eu hunain, curo ar eu drysau ar adeg etholiad, pan fydd rhywun yn dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, mae'r cyfan yn ymwneud â'r Llywodraeth, onid ydyw? Rwyf wedi curo ar ddrysau mewn etholiadau cynghorau cymuned, etholiadau awdurdodau lleol, etholiadau'r Senedd, etholiadau seneddol, etholiadau Ewropeaidd. Y person sy'n dod i'r drws, mewn rhai ffyrdd, dydyn nhw ddim eisiau gwybod am hynny, maen nhw eisiau gwybod, 'Pam na alla i barcio fy nghar?', 'Pryd mae'r sbwriel yna'n mynd i gael ei gasglu?' Y pethau maen nhw'n eu gweld o'u stepen drws eu hunain yw'r pethau maen nhw eisiau siarad â chi amdanyn nhw. Felly, er fy mod i o blaid gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn deall y system yn well, yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod, fwy na thebyg, mai'r hyn y mae gan bobl ddiddordeb ynddo fwyaf, pa bynnag lefel o lywodraeth rydych chi'n rhan ohoni, yw'r pethau maen nhw'n eu gweld, sy'n bwysig iddyn nhw, o ddydd i ddydd.

Edrychwch, mae rhywfaint o welliant wedi bod yn naws perthnasoedd rhynglywodraethol ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y DU. Mae'n barod iawn i gydnabod bod y Deyrnas Unedig yn cynnwys gwahanol gydrannau a'u bod yn haeddu parch. Ond mae'n rhaid iddo fod yn fwy na hynny. Mae gan y peirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol, y cymerodd bum mlynedd i gytuno arno, a gomisiynwyd gan Theresa May, y cytunwyd arno, fel y dywedais i, bum mlynedd yn ddiweddarach, gyngor o Weinidogion sy'n ganolog iddo. Wnaeth e' ddim cwrdd unwaith yn 2023, er gwaetha'r heriau niferus rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n eu hwynebu—costau byw ac argyfyngau eraill. Ni chyfarfu'r cyngor hwnnw unwaith. Ac er bod y naws yn well, y perfformiad gwirioneddol, mae'n anodd dweud ein bod ni wedi gweld y gwelliant sydd ei angen.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Darren Millar hefyd, Llywydd, am drefniadau rhyng-seneddol, am gryfhau'r rheini, ac mae llawer o waith yn digwydd ar lefel seneddol i wneud hynny. Nid mater i'r Llywodraeth yw arwain ar y gwaith hwnnw na cheisio dylanwadu arno, ond rydw i fy hun yn falch o'i weld. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, serch hynny, yw'r peirianwaith mwy cadarn hwnnw y cyfeiriodd Darren Millar ato. Mae yno ar dudalennau'r adroddiad. Mae adroddiad Gordon Brown yn cynnig cyngor newydd o'r cenhedloedd a'r rhanbarthau, fel man lle gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd a thrafod a rhannu'r pethau hynny rydyn ni'n gwybod sy'n bwysig i bobl ble bynnag maen nhw'n byw yn y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu pe bai'r cyngor hwnnw'n cyfarfod heddiw, bydden nhw eisiau gweld yr adroddiad hwn, a byddai yna fforwm lle byddem yn gallu bwrw ymlaen ag ef. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r jig-so cyfansoddiadol hwn hefyd. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.

15:40
4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Papur Gwyn ar Fil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Papur Gwyn ar gyfer Bil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau amrywiaeth, a dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ein Papur Gwyn ar sefydlu egwyddorion amgylcheddol, cryfhau llywodraethu amgylcheddol a chyflwyno targedau bioamrywiaeth ar gyfer Cymru wyrddach. Mae'r Papur Gwyn hwn yn nodi cynigion i gyflwyno Bil i'r Senedd a fydd yn ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau nad oes unrhyw ostyngiad mewn ansawdd na safonau amgylcheddol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn cryfhau llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru drwy sefydlu corff newydd i oruchwylio gweithredu a chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Ac, yn olaf, bydd yn cyflwyno dull newydd o ymdrin â thargedau bioamrywiaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng natur parhaus.

Mae'r cynigion yn adlewyrchu ein hymrwymiad tuag at Gymru wyrddach i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur, fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu. Datblygwyd y cynigion fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur drwy ein rhaglen lywodraethu. Rydym wedi blaenoriaethu diwygio cymorth amaethyddol ac wedi cyflwyno deddfwriaeth aer glân newydd. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran gweithredu targed sero-net newydd ac wedi nodi llwybr i'w gyflawni. Rydym wedi creu grantiau newydd ar gyfer adfer natur, gwariant sydd wedi'i ailgyfeirio'n sylweddol ar drafnidiaeth, wedi gwneud diwygiadau cynllunio ac wedi cefnogi buddsoddiadau i gyrraedd targedau ansawdd dŵr.

Rydym wedi blaenoriaethu diwygio gweithredol yn briodol i gefnogi'r amgylchedd, a bydd y cynigion yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau'r diwygiadau hanfodol hyn trwy gryfhau ein fframwaith llywodraethu cyffredinol. Wrth wneud hynny, byddwn yn sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol yn unol â disgwyliadau pobl yng Nghymru. Nid ymarfer i ddisodli strwythurau a deddfwriaeth a oedd ar waith tra roeddem yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn unig yw'r dull hwn; mae ein dull gweithredu wedi'i deilwra i'r cyd-destun Cymreig. Byddwn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru nid yn unig i roi sylw dyledus i'r egwyddorion amgylcheddol sy'n deillio o'r UE, ond i nodi mewn canllawiau statudol sut yn union y bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hystyried wrth ddatblygu polisi.

Yn yr un modd, bydd y corff llywodraethu yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru. Bydd y corff yn gweithio mewn ysbryd o gydweithio ac yn cymryd ymagwedd uwchgyfeiriol, gan weithio gydag awdurdodau cyhoeddus Cymru i unioni pethau. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, bydd gan y corff yr hawl i gymryd camau gorfodi effeithiol i sicrhau cydymffurfiaeth. Wrth gyhoeddi'r cynigion hyn, hoffwn gydnabod gwaith asesydd dros dro diogelu'r amgylchedd yng Nghymru, Dr Nerys Llewelyn Jones. Mae'r IEPAW wedi bod, ac yn parhau i gyflawni rôl werthfawr mewn perthynas â gweithredu cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, ac mae'r Papur Gwyn yn nodi cynigion a fydd yn adeiladu ar waith pwysig yr IEPAW.

Ym mis Rhagfyr 2022, nodais ein huchelgais ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng natur ar lwyfan y byd yn COP15 ym Montreal. Fel rhan o'n hymateb i fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal, ymrwymais i osod targedau natur uchelgeisiol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Gan gydnabod bod angen camau gweithredu parhaus a hirdymor i gyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen, mae'r Papur Gwyn yn cyflwyno fframwaith adfer natur strategol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth, yn ogystal â darparu mwy o atebolrwydd a thryloywder. Mae hyn yn cynnwys targedau bioamrywiaeth statudol, sy'n cynnwys prif darged positif i natur a gaiff ei nodi yn y Bil, a chyfres o dargedau cefnogi bioamrywiaeth a gaiff eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth. Rydym yn rhagweld y bydd rhai o'r rhain yn dargedau newydd, tra bydd eraill yn cyd-fynd â thargedau amgylcheddol presennol sydd eisoes wedi'u cynllunio i gefnogi lleihau'r pwysau ar ecosystemau a chynyddu gweithgarwch adfer natur. Ar ôl ei sefydlu, byddem yn ceisio mewnbwn y corff llywodraethu newydd i nodi targedau newydd a all ysgogi cynnydd cadarnhaol ychwanegol o ran natur yn fwyaf effeithiol.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y bydd Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth adfer natur a fydd yn nodi gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sy'n bositif i natur, a chynllun gweithredu adfer natur, a fydd yn manylu ar y camau tymor byrrach sydd eu hangen i gyflawni'r targedau bioamrywiaeth statudol. Bydd angen dull gweithredu ledled Cymru i gyflawni'r uchelgais hon. Dyna pam rwyf hefyd yn cynnig cynlluniau adfer natur lleol a fyddai'n cael eu cynhyrchu gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y rhain yn amlinellu blaenoriaethau a chamau gweithredu ar lefel leol, ac yn cefnogi cydweithredu rhanbarthol. 

Mae'r dull hwn yn ategu ein pwyslais ehangach ar Gymru gydnerth, sy'n cwmpasu Cymru gyfan, nid dim ond safleoedd gwarchodedig dynodedig. Ein huchelgeisiau yw sicrhau bod safleoedd gwarchodedig yn cael eu cynnal a'u gwella, er mwyn osgoi difrod amgylcheddol diangen ledled Cymru a gwneud gwaith rhagweithiol o ran adfer natur mewn ardaloedd lle mae wedi dirywio. Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn am gymorth ac egni'r holl randdeiliaid sydd wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r gwaith hwn hyd yma, a byddwn yn parhau â'r trafodaethau manwl hyn wrth i ni fireinio ein cynigion polisi a chyflwyno deddfwriaeth.

Mae agwedd y Llywodraeth hon tuag at yr amgylchedd wedi'i wreiddio mewn cyfiawnder cymdeithasol. Ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl Cymru heddiw mewn ffordd nad yw'n amddifadu cenedlaethau'r dyfodol o'u gallu i ddiwallu eu hanghenion nhw. Yn y modd hwn, mae cadw adnoddau naturiol a rhannu'r manteision a ddaw ohonynt yn fater o degwch. Mae'r cynigion a gyhoeddwyd heddiw wedi'u cynllunio i helpu i lunio agenda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys sut maen nhw'n cydweithio â chymunedau a busnesau i sicrhau perthynas fwy cynaliadwy â'n byd naturiol. Diolch.

15:45

Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Mae'r Papur Gwyn yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir, oherwydd mae'n rhoi natur, yr amgylchedd a bioamrywiaeth ar flaen ein meddyliau o ran deddfwriaeth. Fodd bynnag, a allech chi ddatrys problem fach i mi, Gweinidog? A allech chi gynghori pam nad yw'r Papur Gwyn hwn wedi'i gyhoeddi eto, yn ôl y Llyfrgell? Unwaith rwyf yn gwybod eich bod yn cyflwyno datganiadau, rydym fel arfer yn cael y papur ac yn ei ddarllen, fel y gallwn ni godi unrhyw bryderon mewn gwirionedd, ac rwy'n cael trafferth dod o hyd iddo.

Mae angen i ni ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Yn ystod proses ddeddfwriaethol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), pasiodd mwyafrif o'r Senedd hon ein gwelliannau, a fyddai wedi gwthio ymlaen creu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Mae'n hen bryd i hynny ddigwydd a gofynnwyd amdano droeon drwy ein pwyllgor amgylchedd a newid hinsawdd. Ac mae'n gwaethygu: fe glywais i yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf bod hyd yn oed rhywfaint o ansicrwydd nawr ynghylch pryd y bydd rheoliadau sy'n ofynnol o ganlyniad i'r Ddeddf honno'n cael eu cyflwyno. 

Er gwaethaf yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth sydd wedi arwain at fabwysiadu'r nod o warchod 30 y cant o dir a môr, nid ydych wedi manteisio ar y cyfle i roi sail statudol i hyn o hyd. Wrth gwrs, rydych chi wedi buddsoddi £15 miliwn yn rhaglen Rhwydweithiau Natur, i ddiogelu cynefinoedd naturiol amrywiol Cymru, o forfeydd heli ac aberoedd i goedwigoedd a glaswelltiroedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am wneud hynny, ac mae'n rhywbeth y mae'r ddwy ohonom ni yn awyddus i sicrhau ei fod yn digwydd, ond rydych chi'n colli cyfle go iawn i fynd ymhellach, yn enwedig yn yr amgylchedd morol.

Mae yna brosiectau penodol, fel y gwyddoch chi, sy'n gyffrous, megis gwaith morfa heli yn sir Gaerfyrddin, aber Conwy a'r Hafren, a chlogwyni môr ar benrhyn Llŷn ac Ynys Môn, ond nid yw'r rhain yn gweld newid ledled y wlad. Er enghraifft, rwyf wedi galw o'r blaen am greu cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru, wedi'i gynllunio i gynnal a gwella ein cynefin carbon glas morol gwerthfawr. Byddai hynny'n gosod targedau ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys gwaddodion morol, morwellt, morfeydd heli, cynefinoedd gwaddodol islanwol a physgod cregyn. Er bod y Senedd yn cefnogi ein cynigion deddfwriaethol i gael cynllun datblygu morol cenedlaethol ar gyfer Cymru, a fyddai'n helpu i greu sicrwydd i bob plaid ac yn osgoi unrhyw wrthdaro yn ystod y cam ymgeisio, oherwydd gallai gwely'r môr gael ei fapio allan wedyn, fel yr ydym yn ei wneud gyda chynlluniau datblygu lleol—dyma'r math o gamau gweithredu yr ydym yn gobeithio y byddwch chi'n eu cymryd.

Rwyf wedi ysgrifennu'n bersonol atoch ac rwyf wedi cyfarfod â'ch swyddogion i drafod ffyrdd y gallwn hefyd integreiddio ynni adnewyddadwy ag adfer natur morol ar yr un pryd. Mae ffermydd gwynt alltraeth yng Ngwlad Belg yn cynnig yr amgylchedd unigryw i adfer riffiau wystrys, ac rwyf wrth fy modd â'r gwaith rydych chi eisoes yn helpu i'w gefnogi ar hyn. Mae'r prosiect, a elwir yn UNITED, yn canolbwyntio ar synergeddau rhwng cynhyrchu gwynt ar y môr a dyframaeth ac adfer wystrys gwastad. Ni chaniateir pysgota ar wely'r môr mewn parciau gwynt, sy'n atal difrod i'r rîff. Roeddwn yn meddwl tybed a fyddech chi'n gallu dweud rhywbeth heddiw am bysgota ar wely'r môr. Mae'r swbstrad caled a ddefnyddir fel amddiffyniad rhag erydiad o amgylch tyrbinau gwynt mewn gwirionedd yn ddelfrydol ar gyfer larfa wystrys i setlo a chychwyn riffiau naturiol. Byddai'n dda iawn pe gallem ddilyn yr arweiniad hwnnw yma yng Nghymru.

Hoffwn weld datganiad neu rywbeth gennych chi heddiw ynghylch a ydych yn ei hanfod yn rhwystro prosiectau ynni adnewyddadwy ar neu ger ein mawndir a'r rhesymau dros hynny. Rwyf wedi ysgrifennu atoch gyda thystiolaeth, gan gredu y gall y ddau gydfodoli ac y gellid newid geiriad pennod 6 'Polisi Cynllunio Cymru' fel bod yr hyblygrwydd hwn. Mae hwn yn faes polisi y gwn fod gan y ddau ohonom ddiddordeb arbennig ynddo, felly edrychaf ymlaen at weithio gyda chi a chynnal yr archwiliad ar y cyd hwnnw yr ydych wedi fy ngwahodd i fod yn rhan ohono mewn dôl morwellt.

Felly, a allwch chi egluro'r amserlen i'r Papur Gwyn ddod yn Fil drafft gerbron y Senedd hon ac egluro pam y bydd rhai o'r targedau'n cael eu gosod mewn is-ddeddfwriaeth, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol, oherwydd rydym eisoes yn gweld nawr, gyda'r Bil seilwaith sy'n dod drwodd, pa mor orddibynnol ydyw ar is-ddeddfwriaeth, a disgrifiwyd hynny i ni fel rhywbeth nad yw'n foddhaol? A allech chi roi syniad pryd y dylem ddisgwyl gweld corff llywodraethu amgylcheddol ar waith? A fyddech chi'n defnyddio'r ddeddfwriaeth fel ffordd o greu dyletswydd gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynllunio a chreu cynllun datblygu morol cenedlaethol, un gofodol, amlinellu pa gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar gyflawni'r nod 30:30, ac egluro pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i'r pwysau sylweddol o fewn awdurdodau cyhoeddus cyn disgwyl iddyn nhw lunio cynlluniau adfer natur lleol? Diolch.

15:50

Diolch, Janet. Nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi lwyddo i ddod i'r sesiynau briffio technegol a gynigiwyd y bore yma. Aeth negeseuon e-bost allan gyda chopïau o'r Papur Gwyn yno, ymddiheuriadau os na chawsoch chi un, ac mae wedi'i gyhoeddi heddiw, felly dyna pam nad yw yn y Llyfrgell eto. Mae'n amlwg felly bod cyfle i nodi'r holl bwyntiau rydych chi wedi'u gwneud ynglŷn â'r hyn yr hoffech chi ei weld a'r hyn na hoffech chi ei weld yn cael ei gynnwys yn y targedau, fel rhan o'r broses ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymateb iddo.

Mae yna nifer o bethau y gwnaethoch chi eu codi yr hoffem weld targed ar eu cyfer fwy na thebyg. Mae'r targedau yn mynd i gael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth, yn yr un modd ag y cafodd y Ddeddf aer glân ei strwythuro, felly bydd gennym y prif nod bioamrywiaeth fyd-eang ynddo, nodau bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal ar gyfer 30 y cant, ond rydym yn bod yn benodol iawn: 30 y cant o'n tir, ein hafonydd a'n moroedd. Nid dim ond 30 y cant o bopeth yw hynny, oherwydd mae'n gweithio allan yn wahanol mewn gwirionedd, os ydych chi'n ei wneud fel hynny.

Holl bwynt hyn yw sefydlu'r corff llywodraethu i wneud yn siŵr ein bod ni wedyn yn gwneud yr hyn rydyn ni'n dweud y byddwn ni'n ei wneud, ond hefyd i roi cyngor i ni ar y targedau hynny wrth i'r peth fynd yn ei flaen. Byddai hynny'n cynnwys y ffordd orau o wneud gwaith adfer, neu ganran yr adferiadau y gallem eu gwneud, a'r anawsterau o ran yr hyn sy'n mynd gyda beth, felly y peth fferm wynt rydych chi'n tynnu sylw ato. A dweud y gwir, fel y nodoch chi'n briodol hefyd, gall ffermydd gwynt morol fod yn ddefnyddiol iawn o ran atal treillrwydo ar waelod y môr ac ymddwyn fel meithrinfeydd ar gyfer gwahanol rywogaethau ac yn y blaen. Felly, pwynt y broses hon yw mai'r Papur Gwyn yw hwn, a bydd yr ymgynghoriad arno yn arwain at y Bil. Bydd yn bwydo i mewn i'r Bil. Mae'r Bil eisoes ar y gweill. Mae'n cymryd blwyddyn dda i lunio Bil i'w gyflwyno i'r pwyllgor, yn enwedig gyda'r broses gyfieithu a'r gwiriadau cyfwerthedd a phopeth arall. Felly, dyma ddechrau'r Bil hwnnw yn gwneud ei ffordd drwy'r Senedd.

Felly, Dirprwy Lywydd, byddwn i'n dweud y dylem ni i gyd annog cynifer o bobl â phosib yn ein holl etholaethau ledled Cymru—nid wyf yn golygu ein hetholaethau gwleidyddol yn unig, rwy'n golygu ein hetholaethau o gymunedau ac ati—i wneud yn siŵr ein bod yn cael cymaint o ymateb â phosib. Mae'n deillio'n uniongyrchol o'r gwaith archwilio dwfn, felly mae ei strwythur wedi dod yn uniongyrchol o'r gwaith a wnaethom gyda rhanddeiliaid. Nid wyf yn disgwyl i unrhyw un o'n prif randdeiliaid ymateb i hyn mewn ffordd fydd yn ei lesteirio, ond rydym yn disgwyl gwahaniaethau, wrth gwrs, o ran sut y dylid strwythuro'r peth ac yn y blaen. 

Gweinidog, dwi'n croesawu’r datganiad hwn. Mae gwir angen deddfwriaeth ar frys ar y mater hwn. Rŷn ni'n gwerthfawrogi’r cyfle i drafod, wrth gwrs, achos dyma'r cyfle i gloi'r bwlch sy'n bodoli yn amddiffyniadau amgylcheddol ein gwlad. Dwi'n croesawu’r penderfyniad, y penderfyniad sydd gan y Llywodraeth i ymateb i’r argyfwng natur. Ni fel plaid, wrth gwrs, wnaeth gynnal y ddadl i ddatgan yr argyfwng natur. Roedd e’n foment pwysig. Does dim momentwm tu ôl i foment oni bai bod gweithredu yn digwydd. Felly dyma ni’r gweithredu, a dwi'n croesawu hynny, yn sicr. 

Mae yna lot i’w groesawu o ran beth fydd yn y Papur Gwyn. Mae’r targed bras yn un pwysig, a bydd sefydlu trefniadau llywodraethu amgylcheddol annibynnol eto yn foment pwysig. Am yn rhy hir, wrth gwrs, rŷn ni wedi bod yn aros am hyn—mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi edrych i mewn i hyn—a bydd angen gwneud yn siŵr bod y trefniadau yn rhai sydd nid yn unig yn gweithio’n dda, ond yn rhai bydd y cyhoedd yn eu deall. Pa gadarnhad allwch chi ei roi inni am y rhyngwynebu yna fydd yn digwydd gyda'r cyhoedd, i'w gwneud nhw'n fwy ymwybodol o ble i fynd i gael cyngor, ble i fynd i gael help, yn enwedig os byddan nhw'n drysu o ran beth ydy'r gwahaniaeth rhwng y rhain ac NRW?

O ran yr amseru a’r gweithredu—rŷch chi wedi cael cwestiynau am hyn yn barod—a allech chi roi cadarnhad inni y bydd pob ymgais yn cael ei gymryd gan y Llywodraeth i osgoi rhagor o oedi oni bai bod dim modd ei osgoi fe, plis? Wrth gwrs, dwi’n croesawu’r targedau, er wrth gwrs, drwy ddeddfwriaeth—'eilaidd' ydy 'secondary legislation'? Eilradd, eilradd. Ond buaswn i’n hoffi deall mwy am y methodoleg fydd yn cael ei ddefnyddio i osod a monitro’r targedau. Dwi’n gwybod efallai y bydd y gwybodaeth yna ddim i gyd ar gael ar hyn o bryd, ond pan fydd e ar gael, a fydd hwnna’n cael ei wneud yn gyhoeddus, plis?

O ran effeithiolrwydd y corff llywodraethu, faint o bwerau gorfodaeth fydd ganddyn nhw, eto o’i gymharu ag NRW? Achos mae problemau o ran capasiti NRW gyda gorfodaeth yn erbyn torri rheolau gyda charthion yn ein hafonydd, ac yn y blaen. Pa sicrwydd fydd yna na fydd y corff yma yn dioddef yn yr un ffordd gyda hwnna? Ac yn olaf, sut y byddwch chi yn mynd ati i sicrhau annibyniaeth y corff yna oddi wrth y Llywodraeth?

Felly, eithaf tipyn o gwestiynau, ond yn sicr dwi’n croesawu’r datblygiad hwn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio a gweld y corff hwn yn cael ei sgrwtineiddio, wrth gwrs, i sicrhau bod ein gofidion ni i gyd am ein byd naturiol yn cael eu hateb, a bod y bywyd gwyllt yna yn cael ei warchod. A buaswn i’n hoffi ategu’r geiriau roeddech chi’n eu dweud, ein diolch ni i gyd i Nerys a phawb sydd wedi bod yn gweithio gyda hi ar y gwaith pwysig maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y cyfnod dros dro. Diolch.

15:55

Ie, diolch yn fawr, Delyth. Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau da iawn, wrth gwrs. Felly, mae hi yn foment arwyddocaol, rwy'n credu, ac mae'n ffaith sicr mai ni yw'r olaf o'r cenhedloedd i wneud hyn. Fodd bynnag, rwyf wir yn credu bod hwn yn gyfle i achub y blaen ar y cenhedloedd eraill, felly byddwn yn mynd o'r olaf i'r gyntaf, oherwydd gallwn ddysgu nawr o'r problemau a'r anawsterau sydd wedi bod gyda modelau Lloegr a'r Alban. Mae swyddogion yno wedi bod yn hapus iawn i rannu gyda ni bethau yr hoffen nhw pe baen nhw wedi'u gwneud neu ddim wedi'u gwneud neu beth bynnag, ac i ddysgu o'r pethau maen nhw wedi'u gwneud yn dda, ac rydyn ni wedi gallu nodi hynny hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n cael y gorau o hynny yn y pen draw, oherwydd rydyn ni wedi gallu nodi llawer o'r hyn sydd wedi'i ddysgu, ac, wrth gwrs, ni allaf ddweud yn ddigon aml pa mor dda y mae Nerys a'i thîm wedi'i wneud.

Fe ddylwn i ymddiheuro'n gyhoeddus: roedd gen i firws ofnadwy y gall fod pob un ohonoch yn gyfarwydd ag ef yr wythnos diwethaf, felly bu'n rhaid i fi aros gartref, ac roedd yn golygu nad oeddwn yn gallu cwrdd â hi wyneb yn wyneb fel yr oeddwn i wedi bwriadu ei wneud. Roedd yn wych cael canlyniad negatif ddydd Sadwrn a chael fy rhyddhau. [Torri ar draws.] Wel, yn union. Ond roedd hi'n bechod peidio â gallu gwneud hynny.

Rwy'n gobeithio gallu aildrefnu'r cyfarfod hwnnw. Ond mae arbenigedd ei thîm wedi bod yn amhrisiadwy wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud ag adnoddau. Rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi rhoi mwy o adnoddau i mewn i'w thîm, er enghraifft. Ac wrth gwrs, pan ddaw'r Bil gerbron y pwyllgorau, bydd yna asesiad effaith ariannol a rheoleiddiol cyflawn yn dod gydag ef, ac yn y gwaith craffu cyllidebol mewn pwyllgorau, rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod ni wedi diogelu'r cyllidebau deddfwriaeth er mwyn gallu cyflawni'r ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau nad yw hynny'n dod yn un o'r problemau, am resymau amlwg.

Bydd y rhyngwyneb yn un diddorol; mae'n rhywbeth y byddwn yn cael mwy allan ohono yn yr ymgynghoriad, ac mae'n rhywbeth y bydd y pwyllgorau eisiau edrych arno. Ond, yn gyffredinol, nid awdurdod rheoleiddiol yw hwn; awdurdod ydyw sy'n rhoi arweiniad i awdurdodau cyhoeddus ar sut i osod y targedau a'u monitro a sicrhau eu bod yn eu cyflawni. Byddem yn disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru ddelio ag achos o dorri rheoliadau, ond bydd angen i ni weithio ar ymylon hynny a byddwn yn disgwyl i'r sefydliadau gydweithio â'i gilydd, fel nad oes gennym dirwedd gymhleth. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at sut y bydd aelodau'r cyhoedd yn deall hynny, a rhan o ddyletswydd y corff llywodraethu fydd sicrhau, yn yr un modd ag y mae'r comisiynwyr yn ei wneud, bod ei waith ei hun yn cael ei ddeall.

Yn wir, rydym wedi edrych yn fanwl iawn ar strwythur swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wrth edrych ar y cynigion yma sydd, yr wyf yn siŵr eich bod chi'n gwybod eisoes, ar gyfer comisiwn yn hytrach na chomisiynydd, oherwydd rydym yn disgwyl y bydd angen ystod o wahanol arbenigedd gwyddonol ar draws y comisiwn, ond, wrth gwrs, gyda chadeirydd a fyddai'n dod yn ganolbwynt, os mynnwch, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

Credwn ei bod yn bwysig iawn ei fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ei fod yn ein dwyn i gyfrif. Un o'r trafodaethau a fydd yn digwydd fel rhan o'r ymgynghoriad hwn yw i ba raddau y dylid cynnwys cyrff cyhoeddus eraill yn y Ddeddf. Mae manteision ac anfanteision i hynny, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan o'r ymgynghoriad. Felly, a ddylai awdurdodau lleol unigol gael eu rhwymo'n benodol ganddi, neu a ddylid eu gwneud fel consortia rhanbarthol, neu beth yw strwythur hynny? Bydd y pwyllgorau'n cymryd diddordeb, rwy'n siŵr, yn hynny ac yn gallu ein cynorthwyo gyda hynny. Mae hynny'n rhan fawr o'r hyn y mae'r ymgynghoriad yn ei olygu.

Yn olaf hoffwn ddweud nad oes gennym unrhyw le i lithro yma. Rydym am sicrhau bod y pwyllgor yn gwneud ei waith yn dda, ac felly mae'n rhaid i ni ei gael i mewn i'r pwyllgor yn y slot sydd wedi'i nodi. A dyma'r Bil olaf ond un i fynd drwy'r Senedd yn nhymor y Senedd hon, felly nid yw llithriad yn opsiwn, ac mae'n rhaid i ni gael hyn yn iawn. Dyna pam mae angen i'r ymgynghoriad fod yn drylwyr, mae angen inni sicrhau ei fod yn iawn, ac yna mae angen i ganlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw fwydo i'r gwaith drafftio fel y gallwn ni i gyd fod yn dawel ein meddwl ein bod ni'n gwneud y gyfraith orau y gallwn.

16:00

Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn, Gweinidog, ac mae'n dda iawn eich clywed chi'n dweud, er ein bod ni mewn sefyllfa gymharol wan ar hyn o bryd o ran ein strwythurau llywodraethu a diffyg targedau ac elfennau pwysig iawn eraill o ddiogelu ein natur a'n bioamrywiaeth, y byddwn yn achub y blaen, fel petai, ar rannau eraill o'r DU, oherwydd yn amlwg dyna'r safle lle hoffai pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, weld ein gwlad. Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar rai enghreifftiau da iawn o ran ein bioamrywiaeth a'n hamgylchedd a'r angen i'w amddiffyn a rhoi'r strwythurau a'r targedau hyn i'w warchod, fel Gwastadeddau Gwent, er enghraifft, yr wyf yn cynrychioli rhan ohonynt? Yno, mae gennym bwyslais go iawn ar y materion hyn, cefnogaeth dda iawn gan sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a nifer enfawr o wirfoddolwyr yn gweithio o ddydd i ddydd. Ac, wrth gwrs, mae gennym rywogaethau eiconig fel llygod y dŵr, yr wyf yn falch iawn o'u hyrwyddo. Mae angen i ni fynd â'r cyhoedd a grwpiau gyda ni, Gweinidog, ac rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio ar ardaloedd sy'n ein galluogi i wneud hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, John. Rwy'n credu mai un o'r pethau y bydd gennym ddiddordeb mawr yn ei wneud fydd sicrhau bod y corff llywodraethu, wrth edrych ar y targedau y mae'n eu gosod ar gyfer y gwahanol gyrff cyhoeddus a gwmpesir ganddo, yn ystyried y wyddoniaeth dinasyddion sydd ar gael yn rhwydd iawn, y mae llawer ohoni o'r ansawdd gorau, ansawdd safon fyd-eang. Felly, byddwn yn sicr yn adeiladu ar hynny. Pwrpas hyn yw gosod targedau eilaidd, weithiau ledled Cymru, ar gyfer dirywiad neu adfer rhywogaethau, ond mewn gwirionedd, weithiau, ar gyfer ardaloedd penodol iawn. Rwy'n gwybod bod Gwastadeddau Gwent yn agos iawn at eich calon, ond mae ardaloedd eraill fel yr un yna. Yn ddiweddar, ymwelais â biosffer Dyfi, er enghraifft, sydd â grŵp tebyg iawn o wirfoddolwyr sydd yr un mor benderfynol o sicrhau bod yr ardal honno'n aros yn y cyflwr hwnnw, neu mewn gwirionedd yn cael ei hadfer i'r cyflwr hwnnw ar gyfer rhai rhannau ohoni.

Bydd angen i ni edrych ar dargedau daearyddol, targedau pan-rywogaethau a thargedau system ecoleg. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym am ei wneud a bydd yn rhan o'r hyn y bydd y pwyllgorau'n edrych arno o ran yr hyn y mae'r is-ddeddfwriaeth yn cael ei galluogi i'w wneud. Bydd angen i'r Bil alluogi'r gwahanol fathau o dargedau y gellir eu gosod er mwyn cael y mathau o ganlyniadau rydych chi'n chwilio amdanyn nhw. Rwyf wir yn credu y bydd yn ein rhoi ar gwrs gwahanol wrth i ni geisio diogelu'r systemau hynny. Dyna yw ysgyfaint gwyrdd cytrefiad y de-ddwyrain, a gellir dweud yr un peth am fiosffer Dyfi ac, yn wir, am Benrhyn Gŵyr, lle yr wyf yn digwydd byw. Mae'r pethau hyn yn rhoi bywyd i'n dinasoedd a'n planed, ac, yn wir, i ni fel bodau dynol; nid ar gyfer eu lles eu hunain yn unig. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig iawn.

Diolch yn fawr iawn am eich gwaith fel ceidwad brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd yn ogystal â'r argyfwng bioamrywiaeth. Rwy'n falch iawn ein bod ni nawr yn rhoi ar ddu a gwyn yr hyn sydd ei angen arnom i ddiogelu'r amgylchedd wrth symud ymlaen. Yn amlwg, mae hyn yn mynd i olygu cryn dipyn o waith gyda'ch cyd-Aelod Lesley Griffiths, fel y Gweinidog dros faterion gwledig, lle mae arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus yn egwyddor bwysig iawn o'r cynllun tir cynaliadwy newydd.

Wrth siarad â ffermwyr yn Nhreorci 10 diwrnod yn ôl, mae'n amlwg nad yw ffermwyr yn aml yn ymwybodol o werth enfawr eu corsydd mawn a'u lleoedd ar gyfer natur ar eu ffermydd—ar gyfer bioamrywiaeth ac yn nhermau ariannol yn y cynllun yn y dyfodol. Felly, er bod un o'r ffermwyr organig sy'n ffermio ar gyrion Gorllewin Caerdydd yn gallu dweud wrthyf, 'Mae gen i 275 o rywogaethau sy'n cydfodoli'n hapus â'm gwartheg a'm defaid', rwy'n weddol hyderus ei bod hi'n eithaf anarferol o ran deall pa asedau bioamrywiaeth y mae hi'n gofalu amdanynt. Felly, sut ydych chi'n rhagweld y bydd y cynlluniau adfer natur lleol hyn yn cael eu datblygu ar y cyd i gyflawni llinell sylfaen dirywiad bioamrywiaeth neu gyfoeth bioamrywiaeth sydd eisoes yn bodoli ar lawer o ffermydd, fel ein bod ni'n gwybod pa amcanion yr ydym yn talu amdanynt, a sut y gallwn olrhain canlyniadau'r buddsoddiad cyhoeddus a gynlluniwyd yn benodol i wella bioamrywiaeth?

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â llygredd dŵr. Yn y pwyllgor newid hinsawdd, rydym wedi clywed gan Glenys Stacey, cadeirydd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd Lloegr, ac, am y tro, Gogledd Iwerddon, ac mae hi'n glir iawn na fyddan nhw'n dibynnu ar ddirwyon i orfodi'r rheoliadau, oherwydd bod cyfarwyddwyr pa bynnag gwmni sydd dan sylw yn trosglwyddo'r dirwyon i'r cyhoedd yn eu biliau.

16:05

Pa ysgogiadau ydych chi'n eu rhagweld yn y rheoliadau hyn ar gyfer mynd i'r afael â llygredd dŵr sy'n sicr yn un o'r materion difrifol allweddol sy'n ein hwynebu?

Diolch, Jenny. Fe wnaf i hynny ychydig i'r gwrthwyneb. Bwriad polisi'r Bil yw y bydd goruchwylio personau preifat sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus yng Nghymru a allai ymwneud â'r amgylchedd neu effeithio arno yn cael ei gynnwys. Felly, bydd y cwmnïau dŵr yn cael eu cynnwys, ac mae eraill hefyd; bydd awdurdodau harbwr ac eraill yn cael eu cynnwys. Ac felly, bydd y Bil yn effeithio arnynt, ac felly pan fyddant yn rhoi eu rhaglen buddsoddi mewn seilwaith i Ofwat, ac ati, bydd yn rhaid iddynt ystyried yr egwyddorion amgylcheddol yn y Bil. Yn y modd hwn, mae'n ysgogi dull gwahanol o fynd i'r afael â hynny. Ni fydd yn datrys y ffaith bod y diwydiant dŵr ond yn cael ei ariannu gan y rhai sy'n talu'r biliau, sy'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn ei wneud. Mae'n nonsens llwyr bod y Llywodraeth yn gwario arian ar groesffyrdd ond yn methu gwario ar seilwaith dŵr oherwydd honnir ei fod yn eiddo i'r cwmni dŵr. Nonsens yw hynny, ond nid yw'n nonsens y gallaf ei newid yn benodol yn y Bil hwn. Yr hyn y gallaf ei wneud yw ysgogi strategaeth fuddsoddi wahanol ar gyfer y farchnad sy'n bodoli. Byddwn yn sicr yn gwneud hynny.

Ac ydy, mae'n sicr yn rhyngweithio â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n credu bod gennym nifer fawr iawn o ffermwyr ledled Cymru sy'n ymwybodol iawn o fioamrywiaeth. Yn wir, gwnaeth nifer fawr o ffermwyr gyfrannu at yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn sôn am y ffermwr ifanc a oedd wyth mis yn feichiog yn dangos ei fferm fioamrywiol rhwng Amroth a Saundersfoot i mi, i fyny clogwyn mor serth fel na allwn gadw i fyny gyda hi. Roedd hi'n anhygoel, ac roedd y ffordd yr oedd bioamrywiaeth yn cael ei gwella ar y fferm weithredol honno, a'r cynnydd go iawn yn eu hincwm o ganlyniad i hynny, yn rhyfeddol. Erbyn hyn mae ganddi ffermwr cenhedlaeth nesaf iach iawn sy'n dod ymlaen yn dda. Ond roedd hi'n ysbrydoledig, ac roedd gennym nifer fawr o ffermwyr eraill yn ein harchwiliad dwfn a oedd yn hollol ysbrydoledig hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y cyfuniad o wobrau a gofynion gan y cyrff llywodraethu yn arwain at newid sylweddol o ran hynny.

Yn amlwg, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ymwneud ag incwm i ffermwyr wrth iddynt newid yr arferion hynny, yn ogystal â gwobrau i ffermwyr sy'n newid yn gyflymach, ac mae Lesley a minnau wedi cael nifer fawr o sgyrsiau am y rhyngweithio hwnnw. Ond ni allwn wneud hyn heb ein tirfeddianwyr. Felly, rhan o'r hyn y bydd yn rhaid i'r corff hwn ei wneud yw y bydd yn rhaid iddo edrych ar y ffordd mae'r ddyletswydd gyhoeddus yn rhyngweithio â thirddaliadaeth ledled Cymru. Felly, wrth edrych ar barciau cenedlaethol, er enghraifft, bydd yn rhaid iddo edrych ar sut olwg sydd ar y polisi ar gyfer ffermio yn y parciau cenedlaethol, a sicrhau bod gan bobl incwm cynaliadwy ar eu fferm wrth i ni newid i system newydd. Felly, mae'n rhan fawr o'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rwy'n credu y bydd yn sbarduno newid go iawn mewn agwedd. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n enwog yn fyd-eang. Lle bynnag yr ydym yn mynd fel aelodau o'r Llywodraeth, gofynnir i ni wneud sylwadau ar sut ar y ddaear y gwnaethon ni sicrhau bod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn mynd drwyddo. Efallai ein bod ni'n ei chymryd ychydig yn ganiataol nawr, ond mae'n seismig o ran ei gweithrediad, ac rwy'n credu y bydd y Bil newydd hwn ond yn gwella'r enw da hwnnw.

Gweinidog, fe wnaethoch chi addo, ar ôl COP15 ac ar ôl yr archwiliad dwfn o fioamrywiaeth, y byddech chi'n dod nôl atom gyda rhywbeth gwell, mwy ystyrlon, a fyddai'n canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol iawn i natur, felly dyma ni heddiw. Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad a chyhoeddi'r Papur Gwyn hwn gydag enw amgylcheddol hir iawn. Fel rhan o'r ymgynghoriad, efallai y gallem edrych ar deitl byr ar gyfer y Bil pan gaiff ei gyflwyno, a fy nghynnig agoriadol yw 'Bil adfer natur a llywodraethu amgylcheddol', fel ei fod yn dweud yn union beth y mae i fod i'w wneud. Gallwn ni wneud y pethau eraill ac efallai y bydd hyd yn oed yn fyrrach eto.

A gaf fi ofyn i chi, Gweinidog, o fewn y cynigion sy'n cael eu cyflwyno—? Rydw i'n mynd i fynd i'r lefel uchel, oherwydd byddwn ni'n ymdrin â'r manylion, rwy'n gwybod. Ond ar y lefel uchel, beth mae hyn yn ei olygu i ddinasyddion o ran eu gallu i weld ble mae ein dull o adfer natur yn gweithio a lle mae'n methu, a sut y gallan nhw wedyn herio'r methiant hwnnw?

Yn ail, rydym yn siarad am hyn yn cael ei ddatblygu, y corff llywodraethu hwn yn gweithio mewn ffordd gydweithredol, gan gymryd ymagwedd uwchgyfeiriol a gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i unioni pethau. A yw hi'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, gadewch i ni beidio ag unioni pethau ar ôl y digwyddiad, gadewch i ni unioni pethau ymlaen llaw, ac mae'n rhaid i hynny fod yn un o rolau'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma?

A gaf i ofyn iddi, o ran y targedau, sef y pethau oedd bob amser yn mynd i fod yn anodd gyda hyn—a dywedodd y byddai'n dod yn ôl ar ôl COP15 yn fwy gwybodus o ran lle y dylem siapio'r targedau hynny—a fydd ymgysylltiad llawn, manwl, ystyrlon nawr, nid yn unig gyda dinasyddion yn ehangach, ond hefyd gyda'r holl sefydliadau amgylcheddol hynny, yn ogystal â ffermwyr ac yn y blaen, i sicrhau bod y targedau hynny'n hollol gywir? Oherwydd mae hynny'n hanfodol.

Ac yn olaf, o ran safleoedd gwarchodedig dynodedig, mae hyn wedi bod yn asgwrn cynnen ers tro, oherwydd gan fod gennym newid hinsawdd, mae'n golygu bod y safleoedd hynny'n newid eu hunain—mae'r cynefinoedd yn newid, mae'r rhywogaethau'n symud. Felly, lle ydyn ni arni ar hyn o bryd? Beth fydd y Bil hwn yn ei wneud o ran y ffordd rydym yn edrych ar ddiogelu ein safleoedd mwyaf arbennig, ond hefyd y ffaith bod newid yn yr hinsawdd yn newid symudiad y safleoedd hynny hefyd? Llawer mwy o gwestiynau i ddilyn, ond dyna sylwadau agoriadol.

16:10

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Huw. Mae teitlau biliau bob amser yn sgwrs ddiddorol rhwng swyddfa'r cyngor deddfwriaethol, sydd â barn benderfynol iawn ynghylch yr hyn y dylai teitl y Bil ei wneud, a'r rhai ohonom a hoffai rywbeth ychydig yn fwy ffasiynol. Ond maen nhw'n dod yn adnabyddus am yr hyn ydyn nhw. Felly, nid yw'r Ddeddf aer glân, wrth gwrs, yn cael ei galw'n 'Ddeddf aer glân', ond dyna a elwir bellach ar lafar gwlad. Rwy'n amau y bydd gennym rywbeth ar hyd y llinellau hynny. Bydd pobl yn ymateb i'r ymgynghoriad mai 'Bil natur-bositif' mae'n ymddangos, yw'r ffefryn ar hyn o bryd ymhlith nifer fawr o bobl. Ond dyna lle rydyn ni'n mynd gydag ef, oherwydd dyna beth fydd ef.

Y pwynt yma yw nad yw'n ymwneud ag adfer yn unig, mae'n ymwneud â bod yn gadarnhaol ynghylch natur yn ei holl agweddau, deall na allwn fodoli heb natur, ein hecosystemau, a'u bod yn eithaf sylfaenol i'r hyn ydym ni. Mae bob amser yn fy rhyfeddu nad yw pobl yn gweld hynny, heb y gwahanol rannau o natur, na allem anadlu nac yfed na bwyta. Mae'r pethau hyn yn hanfodol i'r ddynoliaeth. Ac rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen nad yw hyn yn ymwneud â diogelu'r blaned—bydd y blaned yn parhau. Mae'n ymwneud ag amddiffyn dynoliaeth ar y blaned. Mae hynny'n beth gwahanol iawn. Allwn i ddim cytuno mwy.

O ran y targedau, y prif darged natur-bositif arfaethedig yw'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang—felly, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030, a'u hadferiad clir erbyn 2050. Mae hynny'n amlwg wedi'i anelu at ysgogi uchelgais a chamau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a'r hinsawdd, oherwydd eu bod yn ddwy ochr yr un geiniog. Ac mae'r busnes hwnnw am bethau yn symud o gwmpas, wrth gwrs, yn cael ei ysgogi gan yr argyfwng hinsawdd. Felly, wrth i ni geisio bod yn gydnerth o ran yr argyfwng hinsawdd, yn ogystal â cheisio atal rhai o'r newidiadau mwy trychinebus yn yr hinsawdd, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni gael agwedd well tuag at y tirweddau dynodedig sydd ag ymylon pendant, y byddwn yn sicr yn eu hystyried. Ac mae'n cyd-fynd â nodau llesiant Cymru gydnerth a chydnabod yr angen i amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod gennym ni hynny eisoes yn y gyfraith yng Nghymru. Rydyn ni'n tueddu i anghofio hynny.

Wrth i ni fynd drwy'r pwyllgor, byddwn yn cael trafodaeth am beth arall sydd ei angen ar wyneb y Bil ac, heb os, byddwn yn cael trafodaeth gadarn amdano, fel y gwnaethom gyda'r Ddeddf aer glân, oherwydd rwy'n credu bod cydbwysedd i'w daro rhwng yr hyn y mae'r Bil yn ei ddweud ymlaen llaw am yr hyn y dylem ei wneud a'r hyn y bydd y corff llywodraethu yn ei wneud, Ac yna yr hyn y gallwn ei roi mewn deddfwriaeth eilaidd sy'n sbarduno gwelliant cyson. Fel y gwyddoch chi, os ydych chi'n rhoi pethau ar wyneb y Bil, maen nhw'n tueddu i fod yn gwbl ddigyfnewid ac yn dyddio yn eithaf cyflym, yn enwedig yn y maes hwn lle mae llawer o wyddoniaeth yn newid trwy'r amser. Felly, bydd yn dasg i'r pwyllgorau weithio gyda ni i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu rhoi rhai o'r pethau eilaidd o flaen y pwyllgor, ond mae llawer o hynny'n dibynnu ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gwyddonwyr y tu ôl i'r llenni sy'n gweithio ar rywfaint o hyn, ac yn wir ar rai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wrth i ni eu cael yn ôl. Ond rwy'n credu, ar ddiwedd tymor y Senedd hon, y bydd gennym Fil y gallwn fod yn falch ohono ar lwyfan byd-eang yn ogystal ag yma gartref.

O, mae Dirprwy Lywydd gwahanol yn dod â'r ddadl i ben.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost

Fe symudwn ymlaen nawr i ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gofio'r Holocost. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—Jane Hutt.

16:15

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Dydd Sadwrn oedd Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yma yn y Senedd fe wnaethom nodi'r diwrnod hwnnw trwy oleuo ein hadeilad â lliw porffor. Yn y tywyllwch, roedd y golau hwn yn ein hatgoffa o'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol. Am 8.00pm ar yr un diwrnod, ymunodd pobl ledled y DU â'r foment 'goleuo'r tywyllwch' trwy danio canhwyllau a'u gosod yn eu ffenestri. Cafodd adeiladau a thirnodau eraill ar draws y DU eu goleuo'n borffor yn ystod y foment genedlaethol hon o undod. Bu nifer o leoedd ar draws Cymru yn cymryd rhan, gan gynnwys y llwyfan band a Chanolfan Alun R. Edwards yn Aberystwyth, a Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin.

Gyda'r Prif Weinidog, aeth llawer ohonom i seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru ddydd Gwener, 26 Ionawr, yn y Deml Heddwch, a roddodd gyfle i fyfyrio ar ran o hanes na ddylem ni a chenedlaethau'r dyfodol fyth ei hanghofio. Roedd hi'n seremoni deimladwy iawn, gydag anerchiadau gan John Hajdu MBE, goroeswr yr Holocost o Hwngari, ac Isam Agieb, oedd wedi ffoi o'r hil-laddiad yn Darfur. Cymerodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, Anabledd Cymru, Stonewall Cymru, Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gyd ran yn y gwasanaeth, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r gwahanol gymunedau o bobl a dargedwyd yn ystod yr Holocost. Roedd y gwrthdaro presennol yn y dwyrain canol a'r Wcráin, y miloedd o fywydau a gollwyd yn y gwrthdaro hynny a'r dioddefaint sy'n dal i gael ei ddioddef, yn bennaf ym meddyliau'r rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni. Rwy'n gwybod y bydd pobl ledled Cymru yn ymuno â Llywodraeth Cymru i ddangos undod â phawb sy'n parhau i ddioddef erledigaeth a thrais.

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynnwys Father's House Sabbath Congregation yn sir y Fflint, a gynhaliodd eu gwasanaeth coffa blynyddol ar gyfer yr Holocost ar y thema, 'dim dihangfa'. Cyflwynwyd y gwasanaeth cofio gan Pastor Michael Fryer, ynghyd â'r siaradwyr gwadd Mark Tami AS, Carolyn Thomas AS, Jack Sargeant AS, a disgybl o Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry.

Gwnaeth Sefydliad Celf Josef Herman goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Ar 27 Ionawr dangoswyd ffilm arbennig, The Silent Village, ffilm bropaganda fer Brydeinig o 1943. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori wir am gyflafan pentref Tsiecaidd Lidice, a ailadroddir fel pe bai wedi digwydd yng Nghymru.

Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2024 yw 'breuder rhyddid'. Yn eu cyflwyniad i'r thema eleni, amlygodd Ymddiriedolaeth Cofio'r Holocost nad oes modd cymryd rhyddid yn ganiataol ac ni ddylem laesu dwylo—rhaid i ni frwydro i sicrhau nad yw byth yn cael ei golli. Pwysleisiwyd bod erydiad rhyddid yn broses gynnil, araf yn aml ac mae'r effaith yn bellgyrhaeddol:

'Nid yn unig y mae cyfundrefnau cyflawnwyr yn erydu rhyddid y bobl y maent yn eu targedu, gan ddangos pa mor fregus yw rhyddid, maent hefyd yn cyfyngu ar ryddid eraill o'u cwmpas, er mwyn atal pobl rhag herio'r gyfundrefn. Er gwaethaf hyn, ym mhob hil-laddiad mae yna rai sy'n peryglu eu rhyddid eu hunain i helpu eraill, i ddiogelu rhyddid pobl eraill neu i sefyll yn erbyn y gyfundrefn.'

Tanlinellodd y thema eleni y ffyrdd niferus y mae rhyddid yn cael ei gyfyngu a'i erydu. Roedd yn taflu goleuni ar yr unigolion a fentrodd eu rhyddid i achub eraill a phwysleisiodd nad yw rhyddid o reidrwydd yn golygu bod yn hollol rydd. Mae pobl gyffredin yn gorfod symud i wlad newydd; maent yn aml yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ac mae angen iddynt ailadeiladu eu bywyd. Hyn oll wrth iddynt geisio goresgyn y trawma sy'n deillio o'u herledigaeth ar yr un pryd.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru sydd, dros y misoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i gynllunio a chefnogi gweithgareddau coffa ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i redeg y prosiect Gwersi o Auschwitz. Mae hwn yn gwrs pedair rhan unigryw, sy'n cynnwys dau seminar, ymweliad undydd â Gwlad Pwyl, a phrosiect camau nesaf lle mae myfyrwyr yn trosglwyddo'r gwersi y maent wedi'u dysgu. Yn llawer mwy na gwibdaith yn unig, mae'n daith bwerus o ddysgu ac archwilio hanes yr Holocost a'r byd rydym yn byw ynddo. Yn 2023 cymerodd 110 o fyfyrwyr o 55 o ysgolion Cymru ran yn y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys chwe ysgol a gymerodd ran yn y rhaglen am y tro cyntaf. Mae disgwyl i'r cwrs Gwersi o Auschwitz, nesaf i Gymru gael ei gynnal eleni, ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth.

Mae mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru. Ym mis Gorffennaf cyfarfûm â chynghorydd annibynnol Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth, yr Arglwydd Mann, i drafod ei adroddiad 'Tackling Antisemitism in the UK 2023' a sut y byddwn ni fel Llywodraeth yn cefnogi gweithredu'r argymhellion yng Nghymru. Croesawodd yr Arglwydd Mann y Cwricwlwm i Gymru a'i bwyslais ar helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gan ei gydnabod fel llwyfan i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddais lythyr ar y cyd â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i bob pennaeth yng Nghymru i ddarparu arweiniad a chymorth i ysgolion a lleoliadau addysg ar sut i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia yn effeithiol, gan gynnwys ffyrdd o gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd. Er ei bod yn bwysig myfyrio ar y gorffennol, mae'r un mor hanfodol ystyried yr hyn y gallwn ei wneud nawr ac yn y dyfodol i sicrhau bod Cymru yn genedl dosturiol a chyfrifol yn fyd-eang ac yn parhau felly. Mewn byd sy'n gynyddol ansefydlog, mae angen cefnogi unigolion i sicrhau eu bod yn cyflawni integreiddio ac yn cael eu derbyn, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Yn wyneb yr heriau hyn, rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus yn ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r grymoedd cudd ac amlwg sy'n ysgogi erledigaeth lleiafrifoedd ar bob lefel yn ein cymdeithas, boed hynny'n sefydliadol, cymdeithasol neu'n ddiwylliannol.

Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2023 oedd casineb sy'n seiliedig ar ffydd, gan ganolbwyntio ar wrthsemitiaeth, a roddodd gyfle i godi'r mater hwn i ystod o gynulleidfaoedd trwy lawer o ddigwyddiadau cydweithredol a gynhaliwyd ledled Cymru. Siaradodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol mewn digwyddiad cenedlaethol, a drefnwyd gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, i nodi'r wythnos. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'r ganolfan, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i gymunedau Iddewig a chrefyddau eraill yng Nghymru, ac am weithio'n agos gyda'r heddlu fel rhan o'r gwaith hwn.

Mae'r fforwm cymunedau ffydd, a sefydlwyd yn sgil 9/11, yn cael ei gyd-gadeirio gennyf i a'r Prif Weinidog. Trwy'r fforwm, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr ffydd ar faterion sy'n effeithio ar fywyd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Mae gan y fforwm hwn swyddogaeth hanfodol hefyd wrth hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grefyddau a chredoau. Mae'r perthnasoedd cryf hyn mor bwysig nawr fel ffordd i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu byd mwy diogel yn y dyfodol.

Felly, rwyf am gau'r datganiad hwn trwy ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am eu gwaith hanfodol. Rydym yn condemnio'r casineb ffiaidd a fynegir gan unigolion sy'n ceisio creu hinsawdd o ofn gyda'r bwriad o ddarnio ein cymunedau. Heddiw ac wrth symud ymlaen mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod Cymru'n parhau i wrthsefyll pob math o gasineb, er mwyn helpu i greu cenedl fwy diogel a chyfartal lle mae gwahaniaeth yn cael ei dderbyn a'i groesawu. Diolch.

16:20

Diolch. Wel, cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost, fel y clywsom, ar 27 Ionawr bob blwyddyn—pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll difa mwyaf y Natsïaid, ar 27 Ionawr 1945; gan gofio'r miliynau o bobl a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost dan erledigaeth y Natsïaid ac yn yr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur; ac addysgu cenedlaethau o bobl ifanc am yr hanes ofnadwy hwn a'r angen i sefyll yn erbyn gweithredoedd o ragfarn a chasineb heddiw. Yn ogystal â'r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn yr Holocost, roedd awdurdodau Natsïaidd hefyd yn targedu ac yn lladd grwpiau eraill, gan gynnwys plant oherwydd eu hisraddoldeb hiliol a biolegol, Roma a Sipsiwn Sinti, Almaenwyr anabl, pobl LHDT, a rhai o'r bobl Slafaidd, yn enwedig Pwyliaid a Rwsiaid. Erlidiwyd grwpiau eraill ar sail wleidyddol, ideolegol ac ymddygiadol. Felly—ac rwy'n siŵr y bydd hi—a wnaiff y Gweinidog gytuno bod y gorffennol yn llywio'r dyfodol a bod y rhai sy'n methu â dysgu o'r gorffennol yn cael eu tynghedu i ailadrodd ei gamgymeriadau a'i erchyllterau?

Yn wreiddiol, gwasanaethodd Auschwitz fel canolfan gadw ar gyfer carcharorion gwleidyddol. Fodd bynnag, datblygodd i fod yn rhwydwaith o wersylloedd, lle cafodd Iddewon a gelynion canfyddedig eraill y wladwriaeth Natsïaidd eu difa, yn aml mewn siambrau nwy neu gael eu defnyddio fel caethlafur. Es i i ymweld ag amgueddfa'r Holocost a oedd yn cynhyrfu rhywun fel y dylai, pan oeddwn yn Israel, a mis Medi diwethaf fe wnes i ymweld ag Auschwitz-Birkenau, a oedd yn brofiad emosiynol iawn, y mwyaf o'r gwersyll-garcharau a gwersylloedd difa'r Natsïaid. Y barics gwag, ffensys weiren bigog, yr arddangosion difrifol, y simneiau a oedd yn dweud y cyfan—gadawodd yr holl olion hyn argraff gref. Ond yr hyn a'm trawodd fwyaf oedd ehangder enfawr y gofeb wasgarog i wersyll difa enwocaf hanes. Fe wnes i hefyd ymweld â ffatri Oskar Schindler yn Krakow a oedd yn brofiad atgofus. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr Holocost, gan gynnwys yr erchyllterau a ddigwyddodd yn Auschwitz-Birkenau a gwersylloedd difa eraill yn rhan annatod o addysg, yn ein hysgolion a ffynonellau gwybodaeth ehangach ar gyfer pob cenhedlaeth?

Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru. Fe wnaethoch chi hefyd rannu hyn gyda ni yn eich datganiad ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost y llynedd. Pa ddiweddariad allwch chi ei roi ynghylch eu gweithgareddau ers hynny?

Cafodd nifer o fy mhlant fy hun a fynychodd Ysgol Uwchradd Castell Alun yn sir y Fflint fudd o ymweliad ag Auschwitz-Birkenau gyda'r ysgol. Roedd yn digwydd bod yn un o'r ysgolion hynny oedd yn cydnabod pa mor bwysig oedd hi i hyn gael sylw, ond mae llawer o rai eraill nad ydynt yn gwneud hynny. Sut allwn ni sicrhau bod hyn yn cael ei ymgorffori ar sail prif ffrwd, nid yn unig yn yr ysgolion hynny sydd ar flaen y gad o ran materion fel hyn, ond y rhai sydd efallai angen eu helpu ymhellach ar hyd y ffordd? Sut bydd hyn hefyd yn ymgorffori'r adnodd newydd ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru am yr Holocost Romani, neu'r porajmos, a lansiwyd gan Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani gyda chyllid gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau'r DU? A sut y bydd hyn yn sicrhau ymwybyddiaeth y cyhoedd o bron i 0.25 miliwn o blant ac oedolion anabl a lofruddiwyd o dan y gyfundrefn Natsïaidd hefyd?

Cofnododd Heddlu Gogledd Cymru gynnydd mewn troseddau casineb crefyddol yn yr wythnosau yn dilyn cychwyn y gwrthdaro rhwng Hamas ag Israel y llynedd. Mae nifer y troseddau casineb gwrthsemitig a gofnodwyd gan nifer o heddluoedd Cymru hefyd wedi gweld cynnydd tebyg. A yw'r Gweinidog yn cytuno, ac rwy'n siŵr y bydd hi, fod hyn yn ysgytwad difrifol? Felly, pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthsefyll y cynnydd hwn mewn troseddau casineb crefyddol a hiliol? 

Fe es i seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam, a drefnwyd gan Gymdeithas y Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam, a'r thema a ddewiswyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost oedd 'pobl gyffredin'. Fel y dywedoch chi, y thema eleni yw 'breuder rhyddid', gan ein hatgoffa o erydiad araf a chynnil rhyddid sy'n creu'r amgylchiadau sy'n caniatáu i hil-laddiad ddigwydd. Mae hefyd yn ein hannog i beidio â chymryd ein rhyddid yn ganiataol ac i fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb ein hunain wrth amddiffyn a chryfhau rhyddid yn ein cymunedau. Felly, a fyddech chi'n ymuno â mi i gefnogi'r datganiad diweddar gan y Pab Francis,

'Dydd Sadwrn, 27 Ionawr, yw Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Holocost. Boed i gofio a chondemnio'r difodiad erchyll hwnnw o filiynau o Iddewon a phobl o grefyddau eraill, a ddigwyddodd yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, helpu pawb i beidio ag anghofio na ellir cyfiawnhau rhesymeg casineb a thrais byth, oherwydd ei fod yn gwadu ein dynoliaeth.'

Fe wnaf ddiweddu trwy ddyfynnu sut y gwnaeth ef ddiweddu gan annog ni i gyd i weddïo dros heddwch ledled y byd. Diolch yn fawr. 

16:25

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am eich cyfraniad i'r datganiad hwn, ac mae'n gyfraniad pwysig. Fel y dywedwch chi, mae gennym ddyletswydd i wrthsefyll casineb ac erledigaeth, ac mae coffáu'r Holocost yn bwysig er mwyn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio pa mor ddirdynnol y gall naratif casineb fod a beth all ddigwydd os yw pobl mewn cymunedau yn cael eu targedu a'u dad-ddyneiddio oherwydd pwy ydyn nhw. Diolch i chi am rannu eich profiadau a'ch dysgu o ganlyniad i'ch ymweliadau a'ch ymgysylltiad. Wrth gwrs, ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos; dechreuodd gydag erydiad graddol hawliau dynol, ac, wrth gwrs, y rhethreg ddadunol yn erbyn pobl a oedd yn wahanol neu'n cael eu hystyried yn wahanol i eraill. Ac roedd hi'n bwerus iawn ddydd Gwener—ac rwy'n adnabod eraill oedd yno ddydd Gwener ac, yn wir, ddydd Mercher diwethaf, pan gawson ni ddigwyddiad yn adeilad y Pierhead—y ffaith bod gennym ni gyfraniadau yn ystod y gweddïau gan Anabledd Cymru, Stonewall Cymru a'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani—roedd Isaac Blake hefyd yn cymryd rhan. Roedd yn bwysig iawn i hon gael ei chlywed, y neges gref honno o erydiad hawliau dynol a'r rhethreg honno yn erbyn pobl, yr hyn a gyflawnodd yr Holocost gyda stigma a chasineb wrth gwrs.

Felly, rwy'n credu bod y buddsoddiad rydym wedi'i wneud wedi bod yn bwysig. Dim ond rhai o'r digwyddiadau a gynhaliwyd dros y penwythnos rwyf wedi sôn amdanynt, ac mae mwy i ddod o ran ein cefnogaeth i ddigwyddiadau cymunedol a'r foment genedlaethol 'goleuo'r tywyllwch'. Mae gennym adroddiadau da eraill o'r hyn a ddigwyddodd o'r ymgysylltiad â'r gymuned, er enghraifft, Cyngor Tref Tredegar yn tanio canhwyllau ger meini coffa Aneurin Bevan, yn Nhredegar—mae'n bosib bod yr Aelod Alun Davies yn sôn am hynny—hefyd, dim ond cydnabod gwasanaethau gwirfoddol, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn ychwanegu gwybodaeth ar eu gwefan, e-fwletinau; swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn trefnu gweminar ar 18 Rhagfyr ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost i adran cenedlaethau'r dyfodol; grŵp Caru Dy Lyfrgell Trefynwy—. Mae llawer o rai eraill—Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar grefydd, gwerthoedd a moeseg Castell-nedd Port Talbot. A hefyd yn y gogledd, roeddech chi'n sôn am yr heddlu—roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi nodi'r diwrnod hefyd. Ac fe gynhaliodd Prifysgol Bangor ddigwyddiad ym mhrif adeilad celfyddydau Neuadd Powys, Ffordd y Coleg ym Mangor.

Ond rwyf eisiau troi at y pwyntiau pwysig am addysg yn enwedig a rôl Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Bydd y rhai ohonom a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead, neu yn wir ddydd Gwener, wedi clywed gan y bobl ifanc, y llysgenhadon ifanc, a roddodd gyfraniadau mor bwysig yn y digwyddiadau hynny. Mae'n rhaid i ni fod mor falch—rydyn ni mor falch—o'n pobl ifanc pan fyddan nhw'n siarad am eu profiadau. Ac rwyf eisiau gwneud y pwynt am rôl Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, yr ydym wedi bod yn ei hariannu wrth gwrs, fel y dywedais, ers 2008, a'r cyfranogwyr yn dysgu am fywyd Iddewig cyn y rhyfel a gwersyll-garchar a gwersyll difa'r Natsïaid gynt, Auschwitz-Birkenau, cyn ystyried perthnasedd cyfoes yr Holocost. Maent yn dod yn llysgenhadon, ac yn wir roedden nhw, y bobl ifanc a siaradodd ddydd Mercher diwethaf, ac yn wir ddydd Gwener—yn llysgenhadon mor gryf, pwerus yn ein hysbrydoli ni, ac yn eu hysbrydoli nhw wrth gwrs, y profiad, i rannu eu gwybodaeth yn eu cymunedau. Rwy'n credu bod un o'r llysgenhadon yn sôn am ei rhannu yn yr ysgolion cynradd. Wrth gwrs, y ffaith yw eu bod nhw'n dysgu, maen nhw'n deall, ac yn cyfarfod, yn wir, fel y gwnaethon nhw, rai o'r goroeswyr—pŵer hynny i'r bobl ifanc hynny.

Rwy'n credu bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein cwricwlwm, mae wedi cael ei gydnabod, oherwydd mae amrywiaeth bellach yn thema drawsbynciol yng Nghwricwlwm Cymru, ac mae hyn yn helpu ac yn arfogi ein pobl ifanc i ddeall a pharchu hanesion, diwylliannau a thraddodiadau eu hunain a rhai eraill—ac mae hynny'n bwysig iawn, bod ein cwricwlwm newydd yn adlewyrchu gwir amrywiaeth y boblogaeth a dysgwyr—a deall sut mae amrywiaeth yn cael ei lunio.

Yn olaf, hefyd, rwyf eisiau gwneud sylw ynghylch eich pwynt sydd wedi'i wneud yn arbennig am fynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae hyn yn rhywbeth y soniais amdano yn fy natganiad, ond dim ond i fyfyrio eto ar y ffaith ei bod yn bwysig cydnabod bod y mater yn ymwneud â throseddau casineb—. Ni yw'r cyntaf mewn gwirionedd—. Canolfan Cymorth Casineb Cymru yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y DU i gynnig gwasanaeth troseddau casineb sy'n gyfeillgar i blant a phobl ifanc, ac mae gennym ein hymgyrch gyfathrebu, Mae Casineb yn Brifo Cymru, ond rydym hefyd yn ceisio deall ffyrdd y gallwn estyn allan at y rhai y mae casineb hil neu gyfeiriadedd rhywiol neu droseddau casineb crefydd yn effeithio'n arbennig arnyn nhw, rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y pwyslais y llynedd.

Mae'n bwysig bod plant ysgol yn dysgu am gamweddau a chanlyniadau gwrthsemitiaeth cyfoes, ac rwyf wedi sôn am y llythyr a anfonais i a'r Gweinidog addysg at bob pennaeth, gan godi'r ymwybyddiaeth honno am wrthsemitiaeth ac, yn wir, Islamoffobia. Mae hyn i gyd yn ymwneud â'r ffyrdd yr ydym ni, trwy addysg, a'r ffyrdd yr ydym yn ymyrryd ac yn cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost. A gall Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost gyflawni'r pwynt pwysig iawn hwnnw, yr wyf yn ei ddeall, gan gytuno bod y gorffennol yn llywio'r dyfodol. Diolch yn fawr, Mark.

16:35

Fel rŷch chi wedi'i adlewyrchu yn eich datganiad, Weinidog, yn waelodol i'n gweithred o gofio erchyllterau'r Holocost yw myfyrio ar allu dyn i achosi dioddefaint annynol i'w gyd-ddyn, a hefyd gallu dyn i gadw'n dawel yn wyneb y fath ddioddefaint. Mae peidio ag aros yn dawel yn wyneb erchyllterau gwladwriaeth yn erbyn grŵp penodol o bobl, fel Iddewon Ewrop yn yr 1930au a 1940au'r ganrif ddiwethaf, yn gallu cymryd dewrder—dewrder personol anhygoel, fel yn achos rhai fel Sophie Scholl yn Almaen y Natsiaid. Mae hefyd yn cymryd dewrder gwleidyddol mawr ar ran Llywodraethau i wrthwynebu ymddygiad gormesol cenhedloedd grymus.

Hoffwn ddyfynnu, yn y cyd-destun yma, deyrnged a ysgrifennwyd i un o feddylwyr diwinyddol mwyaf blaenllaw Iddewiaeth yr ugeinfed ganrif, ac un o arweinwyr y mudiad dros hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau, Rabbi Abraham Joshua Heschel. Mae'r deyrnged gan yr ysgolhaig diwynyddol o Gymru, W.D. Davies, ac fe'i darllenwyd ganddo yn angladd Rabbi Heschel yn 1972. Ganwyd W.D. Davies yn fab i löwr a'i wraig yng Nglanaman, ychydig filltiroedd o ble dwi'n byw yng Nghwm Tawe. Cafodd yrfa ddisglair yma ac yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys dal cadeiriau ym mhrifysgolion Princeton a Duke. Ac mae ei eiriau o deyrnged i'w gyd-ysgolhaig yn hynod berthnasol i bwysigrwydd y weithred o gofio, a'i natur. 

'Rwy'n cofio unwaith, yn ei gartref, iddo gyfeirio at dawelwch pobl nobl yn yr Almaen, ac mewn mannau eraill, ym mhresenoldeb gweithredoedd gwrthun ac aruthrol Hitler, a soniodd am yr angen i brotestio'n gyhoeddus yn erbyn y fath.... Ei fod wedi gorymdeithio yn gyhoeddus iawn i Selma ac wedi gwrthwynebu'n gyhoeddus iawn ryfel Fietnam... nid damwain oedd hyn i gyd. Dyma ei ymateb angerddol yn erbyn tawelwch llwfr pobl nobl ym mhresenoldeb camweddau annioddefol. Mae mwy nag un cyfreithydd mawr wedi dweud ei bod yn bwysig nid yn unig bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ond y gwelir bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni. Teimlai Abraham Heschel ei bod yn bwysig nid yn unig bod rhywun yn protestio yn erbyn drwg, ond bod rhywun yn cael ei weld yn protestio, hyd yn oed os yw mewn perygl o gael ei gamddehongli a'i gamddeall. Roedd cael ei weld yn protestio, yn ei feddwl, yn rhan angenrheidiol o'i benderfyniad i beidio â bod yn euog o dawelwch peryglus.'

Mae'r Holocost felly yn mynnu ein bod yn cymryd safiad, yn galw'n gyhoeddus am ddiwedd i ragfarn a chasineb neu drais ar sail hil, crefydd, rhywioldeb neu rywedd, neu unrhyw nodwedd sy'n cael ei ddefnyddio fel sail gorthrwm, anghyfiawnder a chyfyngu ar ryddid, yn sail dros achosi dioddefaint, dros achosi newyn, dros yrru pobl o'u cartrefi, dros ladd didrugaredd. Hoffwn gofio heddiw'r Llywodraethau hynny sydd wedi sefyll yn erbyn cenhedloedd grymus i atal hyn, o gyfnod yr ail ryfel byd hyd heddiw. Hoffwn gofio'r bobl sydd wedi cymryd safiad cyhoeddus yn erbyn hyn, gan alw am heddwch ac am gyfiawnder.

Hoffwn wybod, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'ch gweithred chi o gofio eleni yn un sydd yn oddefol. Sut ydych chi'n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sefyll yn erbyn gormes a thrais ac i alw am heddwch a chyfiawnder ar yr ynysoedd hyn, a hefyd yn eu perthynas gyda Llywodraethau'r byd, yn benodol ar hyn o bryd wrth feddwl am ddyfarniad interim gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol fod achos credadwy, o dan gonfensiwn hil-laddiad 1948, yn erbyn Llywodraeth Israel, a bod y boblogaeth Balesteinaidd yn Gaza mewn perygl gwirioneddol o ddifrod anadferadwy?

Sonioch chi fod y gwrthdaro yn y dwyrain canol ym mlaen eich meddwl yn seremoni gofio'r wythnos diwethaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r lefelau cynyddol o wrthsemitiaeth ac Islamaffobia o fewn ein cymunedau, sydd wedi'u dwysau gan weithredoedd Llywodraeth Israel yn Gaza ac ymosodiad Hamas ar ddinasyddion Israel? Ydych chi'n cytuno bod angen pwyso ar Lywodraeth San Steffan i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza a dychweliad diogel y gwystlon Israelaidd er mwyn lleihau tensiynau ac felly lefel troseddau casineb o'r fath yng Nghymru? Os felly, ydych chi'n fodlon rhoi pwysau Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r galwadau am gadoediad ar unwaith i gyflawni hyn?

Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw bod rhyddid yn fregus. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth San Steffan i barchu cyfraith ryngwadol gan sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu hamddiffyn yn ddiwahân yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol, a bod sancsiynau yn cael eu cymryd yn erbyn y cenhedloedd sy'n torri confensiynau a chyfraith ryngwladol drwy gyfyngu rhyddid pobloedd i gael hawl i fywyd, rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol, a'r hawl i ddiogelwch?

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn gyfle i ni adnewyddu ein hymrwymiad i amddiffyn heddwch a hawliau dynol yn y byd heddiw. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, na ddylwn fyth aros yn dawel yn wyneb anghyfiawnder a dioddefaint, na ddylai Llywodraeth fod yn euog, fel y soniodd Rabbi Heschel, o compromising silence—hyd yn oed os oes perygl o gael ein camddeall a'n camgynrychioli wrth wneud hynny?

16:40

Diolch yn fawr, Sioned Williams. A diolch, unwaith eto, am eich cyfraniad i'r datganiad hwn, a hefyd am dynnu sylw at ddewrder y bobl sydd wedi sefyll i fyny a pheidio ag aros yn dawel, gan ddilyn pwynt Mark Isherwood yn sicr ynglŷn â chytuno y gall y gorffennol lywio'r dyfodol. Ond gwrthod aros yn dawel—. Rydych chi wedi sôn am y bobl ddewr ledled y byd ac yn ein hanes ni, ac, wrth gwrs, rwy'n credu bod hyn hefyd yn mynd â ni'n ôl at bwysigrwydd ein cwricwlwm a'r ffaith bod datblygu dinasyddion gwybodus a moesegol yn ymwneud â hanes. Mae hefyd yn ymwneud â dysgu am yr amrywiaeth, am bobl heddiw ac, mewn gwirionedd, rwy'n falch iawn, fel rwy'n siŵr y mae'r Gweinidog, a phob un ohonoch chi, fod hawliau dynol yn rhan allweddol o'r cwricwlwm.

Ond diolch am gofio'r deyrnged honno hefyd i Rabi Joshua Heschel a gwneud y cysylltiad â Chymru gyda W.D. Davies. Mae'n bwysig, wrth gwrs, ac mae llawer ohonom yn cydnabod, bod protestio cyhoeddus yn ffordd bwysig o fynegi ein barn. Mae'n rhan o'n democratiaeth lewyrchus ein bod yn chwarae ein rhan yn hynny. Ond rwy'n credu bod yr ymadroddion o undod a chefnogaeth a welsom ddydd Mercher diwethaf yn adeilad y Pierhead, lle, ar draws pleidiau, roeddem yn dod at ein gilydd ac yn clywed nid yn unig ein pobl ifanc, ond hefyd dystiolaeth a phrofiad bywyd Eva Clarke, yn bwysig iawn.

Do, fe wnaethom gydnabod, a gwnes i yn fy natganiad, bod gwrthdaro ledled y byd ar flaen ein meddyliau. Ac, wrth gwrs, dim ond o ran y sefyllfa yn y dwyrain canol, mae angen cadoediad cynaliadwy a pharhaol arnom er mwyn sicrhau ein bod yn cael cymorth dyngarol brys, cadw newyn i ffwrdd, a hefyd rhyddhau gwystlon, a darparu lle ar gyfer cadoediad cynaliadwy fel nad yw ymladd yn ailgychwyn. Ac, yn amlwg, rydym yn cydnabod ac yn edrych ar y sefyllfa o ran dyfarniad interim y llys cyfiawnder rhyngwladol. Ond rwy'n credu, o ran ein rôl ni a'r pwyntiau a wnawn, mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol, fel y dywedais, am gydlyniant cymunedol, am y Gymru dosturiol a gofalgar a moesegol yr ydym eisiau ei gweld yn ein pobl ifanc ac yn wir yn ein holl ddinasyddion. Ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y Prif Weinidog a minnau hefyd yn cyfarfod ag arweinwyr Mwslimaidd ar ddiwrnod Hannukah a digwyddiad pwerus iawn ar risiau'r Senedd.

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Yn eich datganiad, roeddech yn cydnabod gwaith y Pastor Michael Fryer a'r rhai yn Father's House yn fy etholaeth fy hun yn Queensferry. Maent yn chwarae rhan hynod bwysig wrth sicrhau ein bod yn cofio ac nid ydym byth yn anghofio'r Holocost a'r trychinebau hynny ledled y byd. Ac maen nhw'n chwarae rhan bwysig wrth sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol byth yn anghofio. 

Gweinidog, dywedoch chi fod Mark Tami wedi cefnogi'r digwyddiad dros y penwythnos, ac mae Carolyn a minnau wedi cael y fraint o siarad yno sawl gwaith—nid yn unig ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, ond ar hyd y flwyddyn. Tybed a allech chi ymuno â mi i ddiolch i'r Pastor Michael a'r tîm yn Father's House am eu holl waith, ac efallai siarad ymhellach am sut y gallwn gefnogi'r sefydliadau hyn, fel Father's House, yn y swyddogaeth y maent yn ei chyflawni wrth addysgu a goleuo pobl Cymru, trwy gydol y flwyddyn. Diolch.

16:45

Diolch, Jack Sargeant. Rwyf wedi cydnabod y digwyddiad pwysig hwnnw a gynhaliwyd yn Father's House Sabbath Congregation yn sir y Fflint. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yw, nid yn unig o ran eich cyfraniad a'r siaradwyr gwadd a oedd yn bresennol, ond y cofio: roedd yn wasanaeth cofio nad oedd yn digwydd unwaith yn unig. Yn sicr, hoffwn ddod i ymweld â Father's House a chwrdd â'r gynulleidfa, oherwydd gallaf weld bod hyn yn cael ei drwytho ym mhopeth a wnânt, nid ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn unig.

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei nodi yn y Senedd fel hyn gyda datganiad gan y Gweinidog bob blwyddyn, yn yr un modd ag yr ydym, yn flynyddol, yn nodi'r digwyddiad yn y Senedd, fel oedd yn digwydd yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, ni lwyddais i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw, wrth gwrs, ond credaf fod Eva Clarke wedi siarad yn glir iawn am effaith yr Holocost, nid dim ond arni hi a'i theulu agos, ond wrth gwrs ar y bobl Iddewig a phawb arall a ddioddefodd dan ddwylo'r gyfundrefn Natsïaidd ofnadwy yn y 1930au a'r 1940au.

Mae'n bwysig ein bod yn dathlu'r pethau hyn yn lleol hefyd, ac rwy'n falch bod nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal ledled Cymru yn cofio'r Holocost, gan gynnwys un a es iddo dros y penwythnos yn Llandudno, lle mae Cyfeillion Cristnogol Israel yn y gogledd yn dod ynghyd â'r gymuned Iddewig leol er mwyn cynnal digwyddiad blynyddol lle mae pobl ifanc, hen bobl, goroeswyr yr Holocost bob amser yn cymryd rhan.

Cefais fy nharo'n arbennig eleni gan effaith y rhaglen Gwersi o Auschwitz ar y bobl ifanc a siaradodd am eu hymweliad ag Auschwitz yn y digwyddiad penodol hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i'r rhaglen honno, er mwyn sicrhau y gall llawer mwy o bobl ifanc gael y cyfle i ddod yn llysgenhadon ar gyfer y rhai sydd wedi profi erchyllterau'r Holocost, yn enwedig yn Auschwitz.

Yn ogystal â hynny, roedd llyfr y soniwyd amdano yn y digwyddiad dros y penwythnos gan un o fy etholwyr, Andrew Hesketh, sydd wedi ysgrifennu'r llyfr, Escape to Gwrych Castle. Mae'n ymwneud â'r 300 o ffoaduriaid Iddewig a ddaeth draw fel rhan o'r rhaglen Kindertransport, ac roedden nhw yn y castell—y ganolfan unigol fwyaf yn y DU ar y pryd ar gyfer ffoaduriaid a'r rhai a oedd yn cyrraedd gyda'r Kindertransport. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Roeddwn i'n gwybod bod rhai Iddewon wedi bod yn llochesu yn y castell yn ystod y rhyfel, ond doedd gen i ddim syniad mai hon oedd y ganolfan unigol fwyaf. Byddwn yn cymeradwyo'r llyfr hwnnw i unrhyw un sydd â diddordeb yn nigwyddiadau'r rhyfel, yr Holocost, ac yn wir yn ymateb hael y cyhoedd yng Nghymru i'r unigolion hynny mewn angen.

Yn olaf, Gweinidog, os caf i, hoffwn ddiolch i'r prifysgolion hynny yng Nghymru sydd wedi gwneud gwaith i geisio hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth ac sydd wedi ei fabwysiadu—Bangor nawr a Chaerdydd. Mae mwy o waith i'w wneud o hyd ymhlith ein sefydliadau addysg uwch, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech barhau i weithio gyda'ch cyd-Weinidog, Gweinidog addysg y Cabinet i fynd i'r afael â'r diffygion hynny mewn rhai rhannau o'n sefydliadau addysg ledled Cymru. Diolch. 

Diolch yn fawr, Darren Millar unwaith eto. Rwy'n gwybod eich bod yn gobeithio bod yn—. Fe wnaethoch chi helpu i drefnu'r digwyddiad pwerus ddydd Mercher diwethaf gyda'r grŵp trawsbleidiol a Jenny Rathbone. Roedd yn anhygoel clywed am hanes bywyd ac amgylchiadau Eva Clarke a'i theulu, a chlywed hefyd gan y llysgenhadon ifanc.

Rwyf wedi sôn am lawer o ddigwyddiadau lleol, ond mae'n dda ein bod wedi clywed ar gof a chadw am y digwyddiad yn Llandudno, a chyfraniad y bobl ifanc sydd wedi elwa ar—. Yn amlwg, bydd eu profiad bywyd cyfan yn elwa ar Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, yr ydym wedi'i hariannu ers 2008—rwy'n credu mai fi oedd y Gweinidog addysg bryd hynny mewn gwirionedd—a gwn y byddwn yn parhau i'w hariannu. Mae'n ddiddorol y cawsom sefyllfa ar-lein yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y prosiect Gwersi o Auschwitz wyneb yn wyneb ac ar-lein 1,957 o fyfyrwyr a 226 o athrawon o bob rhan o Gymru.

Mae'n bwysig eich bod wedi sôn am y gwaith yr ydym yn ei wneud o ran mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost, a fabwysiadwyd gennym ym mis Mai 2017, wrth gwrs, a'r gwaith yr ydym yn parhau i'w wneud gyda sefydliadau addysg bellach ac uwch. Ysgrifennom ym mis Rhagfyr at yr holl sefydliadau addysg bellach ac uwch i ofyn iddynt, er enghraifft, sicrhau eu bod yn cefnogi myfyrwyr, yn edrych ar faterion, yn dysgu am wrthsemitiaeth ac, yn wir, Islamoffobia a gwahaniaethu. A diolch, hefyd, am adrodd ar rai o'r datblygiadau sydd wedi digwydd mewn addysg uwch. Mae'n rhywbeth lle mae'r Gweinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â pharchu ymreolaeth prifysgolion, ond yn awyddus i fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost sy'n fater pwysig o egwyddor. Ac mae'n rhaid iddynt gyflawni eu swyddogaethau er mwyn cydnabod eu rhwymedigaethau yn llawn o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus hefyd.

16:50

Mae gen i bum siaradwr ac rydyn ni dros amser, felly os caf i ofyn yn barchus i bobl gadw at amser, rwy'n gwybod eich bod chi i gyd eisiau siarad ac rydyn ni i gyd eisiau eich clywed. Delyth Jewell.

Efallai mai'r peth mwyaf brawychus am yr Holocost oedd pa mor hawdd oedd hi iddo ddigwydd. Nid eithafwyr yn unig a aeth ar ôl Iddewon neu ddisgwyl iddynt wnïo sêr Dafydd ar eu dillad. Gwnaed hi'n bosibl oherwydd difaterwch dychrynllyd y bobl a ddewisodd edrych y ffordd arall—dewis edrych y ffordd arall wrth i'r lorïau yrru heibio a'r wagenni rheilffordd yn cloncian trwy'r nos. Ni allwn gofio'r Holocost yn oddefol, mae'n rhaid i ni ymwreiddio ymwybyddiaeth yn ein heneidiau o ba mor rhwydd oedd hi i ladd miliynau—daethpwyd â bywydau Iddewon, pobl anabl, pobl hoyw i ben oherwydd bod pobl wedi penderfynu nad oeddent yn haeddu bodoli.

Gweinidog, rwy'n poeni'n fawr am y cynnydd mewn ymosodiadau gwrthsemitig sydd wedi'u hysgogi, mae'n ymddangos, gan yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol. Mae'n annealladwy i mi sut y gallai unrhyw un feio pobl Iddewig neu ddisgwyl iddynt fod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd ar gyfandir arall. Pobl Iddewig sy'n byw yng Nghymru yw ein brodyr a'n chwiorydd; maen nhw'n bobl heddychlon. A wnewch chi ymuno â mi, Gweinidog, i gadarnhau'r pwynt hwn ac estyn cyfeillgarwch ac undod atynt?

Diolch yn fawr, Delyth Jewell, am y sylwadau pwysig iawn yna. Rydym yn hynod bryderus ynghylch adroddiadau bod cynnydd mewn troseddau casineb yn targedu cymunedau Iddewig, ac rydym yn annog aelodau'r cymunedau hynny i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau casineb. Gellir eu hadrodd i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, fel y dywedais i, neu drwy gysylltu â'r heddlu. Rydym mewn gwirionedd yn monitro unrhyw gynnydd yng Nghanolfan Cymorth Casineb Cymru, ac mae'n rhaid i mi ddweud, unrhyw gynnydd yn yr adroddiadau am droseddau casineb gwrthsemitig ac, yn wir, Islamoffobig ar hyn o bryd, oherwydd mae angen i ni sicrhau ein bod yn deall effaith hyn. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'r gymuned Iddewig wrth gondemnio'r casineb a fynegir gan unigolion sy'n ceisio creu'r hinsawdd honno o ofn, gyda'r nod o ddarnio ein cymunedau. Ond byddwn yn goresgyn hynny gyda datganiadau a chyfraniadau ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, fel yr amlinellais heddiw. 

Mae 'breuder rhyddid' yn ddatganiad hynod o bwerus. Roedd breuder dynoliaeth yn rhywbeth yr oeddwn yn myfyrio arno ychydig wythnosau yn ôl yng ngwersyll-garchar Dachau, lle rydych chi'n edrych o gwmpas normalrwydd ystad ddiwydiannol ar gyrion Munich ac yn myfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd yno oes yn ôl, a breuder dynoliaeth a ganiataodd i hynny ddigwydd. Ac, wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod nad canlyniad geiriau Goebbels yn unig oedd Dachau ym mis Tachwedd 1938, a ynganwyd ychydig filltiroedd i ffwrdd yn hen neuadd y dref yng nghanol Munich. Canlyniad casineb, casineb a oedd wedi cael ei ysgogi gan lywodraeth anoddefgar ac a geisiodd feio eraill am y problemau a oedd yn wynebu'r Almaen bryd hynny—breuder gwareiddiad.

Cerddodd Jenny Rathbone, Llyr Huws Gruffydd, Darren Millar a minnau trwy Yad Vashem yn Jerwsalem rai blynyddoedd yn ôl. Cerddom ni drwy hanes yr Holocost, ac ni wnaeth ddechrau yn Dachau, ni wnaeth ddechrau ar Kristallnacht; dechreuodd gyda gweithredoedd unigol o gasineb ac anoddefgarwch. Rwy'n falch bod y Gweinidog addysg yn ei le y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio, wrth i ni addysgu goddefgarwch a dynoliaeth i blant, ein bod yn eu haddysgu am ganlyniadau annynoldeb ac anoddefgarwch. Rydym i gyd yn gwybod, os edrychwn ar gyfryngau cymdeithasol heno, y byddwn yn gweld breuder rhyddid, breuder dynoliaeth, a byddwn yn gweld breuder y ddynoliaeth gyffredin sy'n ein huno ni i gyd. Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom, wrth gofio digwyddiadau'r Holocost, hefyd yn cofio bod angen i ni amlygu casineb pan welwn ni ef yn y byd heddiw.

16:55

Diolch yn fawr. Mae eich datganiad yn sefyll ar ei gryfder ei hun: breuder rhyddid; mae eich profiadau chi hefyd, ar gofnod. Maen nhw'n bwysig, ac rydyn ni'n eu parchu nhw a'ch ymgysylltiad. Rwyf eisiau sôn am un pwynt, yn ogystal â'r cwricwlwm a'r hyn rydyn ni'n ei wneud ym myd addysg, mae gennym ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'; mae'n darparu fframwaith trawslywodraethol a fydd yn ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ein system addysg. Mae athrawon yn dweud wrthyf sut maen nhw'n dysgu dim ond trwy ddysgu, dysgu hyn gyda'u disgyblion. Rwy'n credu y bydd y ffaith bod y cynllun hwnnw'n cynnwys nodau a chamau gweithredu i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, Islamoffobia, gan gynnwys ein cefnogaeth barhaus i ddioddefwyr troseddau casineb, yn cael dylanwad pwerus, gobeithio.

Yr wythnos diwethaf, Gweinidog, roedd yn anrhydedd i mi sefyll yn lle Darren Millar yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn y Pierhead, ac mae'n rhaid imi ganmol yr Aelod dros Orllewin Clwyd am y gwaith y mae wedi'i wneud fel Aelod yma i eiriol dros gofio'r Holocost a'r gwaith y mae wedi'i wneud gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Wrth wrando ar oroeswr yr Holocost, Eva Clarke BEM a'i thystiolaeth bwerus, roedd yn un o'r digwyddiadau pwysicaf i mi fod yn rhan ohono yn fy nghyfnod yn y Senedd. 

Digwyddiad pwysig arall yn fy mywyd oedd pan wnes i, fel disgybl Ysgol Bro Gwaun, ymweld ag Auschwitz, ac mae hynny'n brofiad sy'n byw gyda mi hyd heddiw. Mae'n anhygoel o anodd rhoi mewn geiriau beth mae rhywun yn ei brofi pan fydd yn ymweld ag Auschwitz. Un peth a glywais ac a welais dro ar ôl tro yn ystod fy ymweliad ag Auschwitz, pan ymwelais â'r geto Iddewig yn Krakow a'r gofeb ym Merlin i Iddewon Ewrop a lofruddiwyd, oedd yr ymadrodd gan George Santayana:

'Mae'r rhai na allant gofio'r gorffennol yn cael eu condemnio i'w ailadrodd.'

Felly, gadewch i ni gofio'r Holocost am yr hyn ydoedd: y llofruddiaeth, difodiad systematig 6 miliwn o Iddewon, dwy ran o dair o boblogaeth Iddewig Ewrop. Ond ydyn ni wir wedi cofio'r gorffennol os yw'r canser o wrthsemitiaeth yn dal i fod yn llawer rhy gyffredin yn ein gwlad ac ar draws y byd? Ydyn ni wir wedi cofio'r gorffennol os yw Iddewon yn parhau i gael eu targedu mewn damcaniaethau cynllwyn a'u darlunio fel bychod dihangol am faterion lle nad oes bai arnyn nhw? Felly, Gweinidog, wrth gofio geiriau George Santayana, sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gofio drwg yr Holocost ac erledigaeth Iddewon i sicrhau nad yw cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn cael eu condemnio i'w ailadrodd? Diolch.

Diolch yn fawr, Samuel Kurtz. Diolch am y rhan a chwaraeoch chi ddydd Mercher diwethaf, ac, yn wir, unwaith eto, rwy'n ailadrodd ac yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wnaethpwyd, tystiolaeth Eva Clarke. Eich ymweliad ag Auschwitz, fel y mynegodd pawb yr effaith y mae wedi'i chael—. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi siarad am ein hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru. Cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac, yn wir, ein canolfan Cymru ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb, rwy'n credu sydd i gyd yn arwydd o'n hymrwymiad i hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, Llywydd dros dro, ein bod ni'n treulio ein hamser, ein bod yn gwrando ar yr holl gyfraniadau heddiw, oherwydd nid dim ond heddiw rydyn ni'n cofio effaith hyn, ond bob dydd.

17:00

Diolch i Darren Millar am gael Eva Clarke i ddod yma a rhoi disgrifiad mor rhyfeddol i ni o allu ei mam i oroesi.

Ddydd Sul, es i berfformiad o 'Stumbling Stones', a oedd ar y naill law yn grŵp bywiog o gerddorion o'r enw Klezmer-ish, sy'n cynnwys Thomas Verity, prif glarinetydd Opera Cenedlaethol Cymru. Fe wnaethant berfformio cymysgedd o gerddoriaeth klezmer, Seffardig, Iddew-Almaenig a Tango, dathliad gwych o'r hyn a gollwyd a'r hyn sydd wedi goroesi o fywiogrwydd, llawenydd ac ing diwylliant Iddewig. Fe'i cymysgwyd â stori teulu Almaenaidd-Iddewig fy ffrind Julia Nelki, a gafodd, ar y naill law, loches yma, yn ogystal â'r rhai a anfonwyd i'r gwersylloedd difa.

Fel y dywedodd y chwaraewr bas dwbl, nid yw'n ymwneud yn unig â chofio'r gorffennol; mae'n ymwneud ag archwilio perthnasedd y gorffennol i'r presennol a'r dyfodol. Felly, roedd yn hynod o bwysig bod 'Stumbling Stones' yn cynnwys cyfranogiad ceisiwr lloches o Malawi sydd wedi bod yn byw yn Lloegr am y saith mlynedd diwethaf ac sy'n dal i aros am statws ffoadur, a Qais Attalla, Palestiniad o Gaza sydd wedi colli 40 aelod o'i deulu yn ystod y misoedd diwethaf. Gyda'i gilydd, roedd cyfuno'r dathliad gwych hwn o ddiwylliant Iddewig a chydnabyddiaeth o'r camgymeriadau y byddwn yn eu hailadrodd os na ddeallwn yr hyn oedd yn foment bwerus iawn. Rwyf eisiau dod â'r perfformiad hwn i dde Cymru, a gyda chymorth Thomas Verity, rwy'n gobeithio y byddwn yn dod ag ef yma, efallai i synagog Merthyr, ac efallai y byddaf yn troi at Lywodraeth Cymru am ychydig o arian.

Ond dyma'r math o beth sydd angen i ni ei wneud; nid yn unig i ailadrodd y straeon, ond hefyd i roi perthnasedd modern i hyn. Rwyf mor falch eich bod wedi dewis, gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, 'breuder rhyddid', oherwydd mae hynny'n hollol wir.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Mae hwnna'n gyfraniad pwysig ynddo'i hun, oherwydd rydych chi'n sôn am yr effaith y gall diwylliant ei chael arnom ni o ran y profiad hwnnw a gawsoch gyda 'Stumbling Stones', y cyfraniadau a wnaed yn y cyngerdd hwnnw, ond hefyd i gysylltu hynny â chyfraniadau y ceisiwr noddfa o Malawi, ac yn wir profiad y Palestiniad a oedd yno. Mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd yn draws-ddiwylliannol a dysgu.

Llwyddais ar y penwythnos i wylio'r ffilm—ac roeddwn i'n mynd i sôn am hyn mewn ymateb i Darren Millar—One Life, am waith anhygoel Syr Nicholas Winton, ac os oes unrhyw un sydd heb lwyddo i weld y ffilm honno o ran y Kindertransport o Prag yn y dyddiau olaf hynny cyn i'r rhyfel ddechrau—. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod diwylliant yn hanfodol i hyn hefyd.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad pwysig. Fel y dywedwch chi, mae disgwyl i bob un ohonom, os ydym am greu cenedl fwy diogel, fwy cyfartal, i amlygu casineb, rhagfarn a'r drygau a achosir yn eu henw, ac i beidio byth â gadael i'r dioddefaint y maent yn ei achosi gael ei anghofio. Un enghraifft dda iawn o hyn yw Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr, sy'n cynnal nifer o wasanaethau coffa'r Holocost yn ystod yr wythnos sy'n arwain at ddiwrnod y cofio. Rwy'n credu bod yr ysgol wedi bod yn cynnal y rhain ers 20 mlynedd ers iddynt ymweld ag Auschwitz a chwrdd â goroeswr yr Holocost, y gwnaethant addo iddo y byddent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad ydym byth yn anghofio.

Mae Ms Bell, ei chydweithwyr a'i myfyrwyr yn gwneud gwaith gwych, gan wahodd cynrychiolwyr o'r gymuned leol i'r cynulliadau hyn hefyd, ac rwy'n siŵr y byddent yn croesawu rhywun o Lywodraeth Cymru efallai i fod yn bresennol i weld beth maen nhw'n ei wneud, ac efallai darganfod sut y gellir hyrwyddo enghreifftiau tebyg o arfer gorau ledled Cymru. Mae'n dda clywed am y niferoedd cynyddol o ysgolion yng Nghymru sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Gwersi o Auschwitz, Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost. Fodd bynnag, yn ôl fy nghyfrifiadau i, mae hynny yn cynrychioli tua un o bob tair ysgol yng Nghymru yn unig. Rwy'n gwerthfawrogi bod y prosiect yn cael ei redeg ar sail y cyntaf i'r felin, ond a oes unrhyw waith wedi'i wneud i nodi rhwystrau a allai atal ysgolion rhag cymryd rhan, ac, os felly, beth y gellir ei wneud i'w goresgyn?

17:05

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod angen rhoi'r adborth hwn i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac, yn wir, y gweithiwr cymorth cymunedol a ariennir gennym i helpu i estyn allan, a byddwn yn gwneud hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith fy mod wedi cael rhai arwyddion o gyfraniadau a ffyrdd y cafodd hyn ei gydnabod a'i ddathlu o ran cyfoeth cyfraniadau'r bobl ifanc hynny, ond gan nodi erchyllterau'r Holocost. Er enghraifft, o ran 'breuder rhyddid', rwy'n gweld bod gan Ysgol Uwchradd Bedwas ddisgyblion hefyd yn cymryd rhan yn hyn o ran y pwyslais hwnnw. Ond hoffwn fynd ar drywydd hwn o ran Vikki Howells, eich ysgol chi, sydd bellach wedi ymgorffori hyn yn y cwricwlwm a dysgu ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol honno.

Diolch. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi gor-redeg, ond roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymestyn y ddadl honno.

6. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru

Rydym bellach yn symud ymlaen at eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru ar BlasCymru/TasteWales.

Diolch yn fawr, Cadeirydd. Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ar BlasCymru/TasteWales 2023. Lansiodd Llywodraeth Cymru y digwyddiad yn ôl yn 2017 ac mae wedi cael ei gynnal bob dwy flynedd ers hynny, hyd yn oed yn ystod pandemig COVID-19. Roedd thema'r digwyddiad yn adlewyrchu'r heriau y mae'r diwydiant yn parhau i'w hwynebu, ond hefyd ei gryfderau mwyaf: 'Pwerus gyda'n gilydd: O her i lwyddiant. Rôl gwydnwch, arloesedd ac optimistiaeth.'

Rwy'n ddiolchgar i'r siaradwyr gwadd a ymunodd â ni. Cyflwynodd Shelagh Hancock, prif swyddog gweithredol First Milk, yr heriau i fusnesau amaethyddol a bwyd ac amlinellodd agwedd ei sefydliad ei hun tuag at gynaliadwyedd. Rhannodd Chris Hayward o'r Sefydliad Dosbarthu Bwydydd hefyd ystod eang o fewnwelediadau manwerthu a defnyddwyr diddorol ar gyfer 2024.

Wrth wraidd BlasCymru mae broceriaeth rhwng busnesau bwyd Cymru a phrynwyr domestig a rhyngwladol mawr. Credwn y gall y Llywodraeth chwarae rhan weithredol wrth gefnogi busnesau bwyd yng Nghymru i ddatblygu eu cymwysterau o ran cynaliadwyedd mewn ffyrdd sy'n helpu i'w gwneud yn fusnesau deniadol i brynwyr mawr yn y DU a thramor. Mae hyn nid yn unig yn helpu economi Cymru, ond wrth hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy a chyfrifol, rydym yn hyrwyddo llesiant ehangach Cymru ar yr un pryd.

Yn BlasCymru, rydym yn gallu denu'r prynwyr rhyngwladol a domestig â blaenoriaeth hynny i deithio o bob rhan o'r DU a'r byd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd oherwydd yr enw da am ragoriaeth a geir ymhlith busnesau bwyd Cymru sy'n arddangos yno. Dros y ddau ddiwrnod, croesawodd Cymru 276 o brynwyr masnach, gan gynnwys 30 o brynwyr rhyngwladol o 11 gwlad. Cymerodd cyfanswm o 122 o fusnesau bwyd a diod o Gymru ran yn y digwyddiad, ynghyd â 15 seren newydd—busnesau newydd yng Nghymru sydd wedi datblygu eu busnesau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae'r froceriaeth wedi'i threfnu'n ofalus, gyda chynllunio ar gyfer y cyfarfodydd hynny'n digwydd am fisoedd lawer cyn y digwyddiad ei hun. Yn y digwyddiad, cynhaliwyd 2,100 o gyfarfodydd dwyochrog rhwng busnesau bwyd a phrynwyr mawr. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, cynhyrchodd y cyfarfodydd broceriaeth werthiannau a gadarnhawyd a rhai posibl gwerth dros £38 miliwn. Dyma'r cyfanswm uchaf ar gyfer digwyddiad BlasCymru a bydd yn cynyddu dros amser wrth i sgyrsiau barhau i ddwyn ffrwyth.

O ystyried y cyd-destun economaidd llwm yr ydym yn ei wynebu, mae hon yn bleidlais eithriadol o hyder yn y sector bwyd yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae sector bwyd a diod Cymru wedi cynhyrchu canran fwy mewn twf allforio na rhanbarthau tebyg o'r DU. Mae llwyddiant y sector o fewn marchnadoedd domestig hefyd yn hynod gadarnhaol. Canfu archwiliad diweddar gan fanwerthwyr fod nifer yr unedau cadw stoc ar draws 23 o siopau yng Nghymru wedi cynyddu o 1,250 i 1,966—cynnydd o 57 y cant ers 2019. Roedd y digwyddiad yn cynnwys parthau arddangos i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill. Rhoddwyd cyfle hefyd i fusnesau bwyd Cymru arddangos cynhyrchion newydd, ac roedd 203 o gynhyrchion newydd i'w gweld yn y digwyddiad, gan ddangos arloesedd ac ansawdd o'r radd flaenaf.

Ers blynyddoedd lawer mae Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau statws bwyd gwarchodedig ar gyfer cynnyrch. Mae statws gwarchodedig yn cydnabod ac yn gwarantu nodweddion a dilysrwydd unigryw cynnyrch. Roedd 14 o amrediadau cynnyrch wedi'u diogelu gan y cynllun dynodiad daearyddol a arddangoswyd yn y digwyddiad—yr holl gynhwysion rhywiog o fynyddoedd, corsydd a phorfeydd Cymru. Mae'r cynhyrchion anhygoel hyn yn dibynnu ar amgylchedd naturiol iach, ac wrth ddiogelu'r cynhyrchion bwyd hyn rydym yn helpu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i'n cymunedau hefyd, gan adlewyrchu'r pwysigrwydd a roddwn ar dirwedd a diwylliant ar gyfer ein llesiant. Mae enghreifftiau'n cynnwys cig oen Cymru dynodiad daearyddol gwarchodedig—PGI—a chig eidion Cymru PGI, yn ogystal â brandiau rhanbarthol fel cig oen morfa heli Gŵyr a chig oen mynyddoedd Cambria. Roedd rhifyn arbennig o'r cylchgrawn National Geographic yn canolbwyntio ar y bwydydd gwarchodedig hyn, yn union oherwydd yr ymdeimlad o le y mae ein cynhyrchion bwyd gwarchodedig yn eu cyfleu. Cefais fy nghalonogi gan lefel y sylw yn y cyfryngau, gyda 24 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhanbarthol yn bresennol, a sylw sylweddol ar draws pob sianel, i gyd yn helpu i ledaenu'r gair am gynnyrch cynaliadwy o Gymru.

BlasCymru yw canolbwynt ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Y nod y mae'r weledigaeth hon yn seiliedig arno yw

'creu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth, gydag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.'

Rydym yn gweld bod gwaith teg, cynaliadwyedd amgylcheddol a llwyddiant economaidd i'r sector yn gysylltiedig yn eu hanfod. Mae llwyddiant BlasCymru yn dangos hyn yn gweithio'n ymarferol. Mae'r digwyddiad yn ein helpu i annog mwy o fusnesau bwyd i gymryd rhan yn y rhaglenni cymorth pwrpasol hynny i'w helpu i wella canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol, hyrwyddo sgiliau a chyflogadwyedd, ac i ddatblygu eu hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn gyflawni hyn yn cael ei hadlewyrchu yn thema'r digwyddiad, sef 'pwerus gyda'n gilydd', a hynny drwy ein rhwydweithiau clwstwr. Mae'r rhwydwaith yn dod â chyflenwyr, y byd academaidd a'r Llywodraeth at ei gilydd o ran diddordebau cyffredin. Mae ein clwstwr cynaliadwyedd bwyd a diod, er enghraifft, yn cynnwys 100 o aelodau busnes a 30 o sefydliadau cymorth. Trwy ddarparu cymorth un i un i fusnesau sy'n ceisio achrediad B Corp, rydym yn cefnogi cyflwyno'r manteision cymdeithasol i gymunedau Cymru, ac, wrth wneud hynny, yn helpu'r busnesau eu hunain i sicrhau cyfleoedd newydd yn y farchnad.

Yn y digwyddiad, gwnaethom gyflwyno cyfres o offer a rhwydweithiau digidol newydd i helpu busnesau i gynyddu eu cynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys ein rhaglen hyfforddi cynaliadwyedd a datgarboneiddio newydd a phecyn cymorth cynaliadwyedd bwyd a diod ar-lein i fusnesau. Roedd hefyd yn cynnwys ein e-ganolfan newid hinsawdd, sy'n defnyddio data yr ydym wedi'i ddwyn ynghyd o'n rhaglenni cymorth i alluogi busnesau i feincnodi eu hunain o'u cymharu â'r rhai sydd wedi bod ar flaen y gad wrth wneud i gynaliadwyedd weithio o fewn eu cadwyni cyflenwi. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ennyn diddordeb busnesau yn y cymorth sydd ar gael drwy Brosiect Helix, ein cynllun arloesi bwyd blaenllaw, sy'n darparu cymorth wedi'i deilwra i fusnesau ar draws pob maes o'u proses gynhyrchu a'u cadwyn gyflenwi. Ers ei sefydlu yn 2016, mae Prosiect Helix wedi cynorthwyo 703 o fentrau, gan gynnal 3,600 o swyddi, a chreu 683 o swyddi newydd. Asesir bod yr effaith ariannol gyffredinol ar y diwydiant bwyd a diod oddeutu £355 miliwn.

Mae llwyddiant digwyddiad diweddaraf BlasCymru yn glod enfawr i gyflawniadau trawiadol sector bwyd Cymru. Mae hefyd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw hi i'r Llywodraeth gael strategaeth ddiwydiannol, er budd nid yn unig busnesau ond y gymuned ehangach hefyd. Mae ein buddsoddiad yn BlasCymru/TasteWales a'r holl raglenni cymorth a gynigiwn yn cael ei ad-dalu sawl gwaith drosodd. Yr un mor bwysig, yw'r ffaith fod y Llywodraeth wedi camu i'r adwy i gymryd rôl weithredol yn golygu ein bod mewn sefyllfa i hyrwyddo manteision ehangach i bobl Cymru hefyd.

Credwn fod digwyddiadau BlasCymru yn enghraifft fyw o sut mae'n bosibl, trwy gydweithio ag eraill, i'r Llywodraeth hyrwyddo twf economaidd a llesiant ehangach drwy ddilyn ein gwerthoedd craidd o gynaliadwyedd a gwaith teg. Nid yw'r gwerthoedd hyn yn groes i'r llwyddiant hwnnw—nhw yw'r sail iddo. Diolch.

17:10

Diolch, Llywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Rwy'n falch o weld ac, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r gwerth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ein diwydiant bwyd a diod gwych yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y datganiad hwn nid yn unig yn amser i fyfyrio ar y diwydiant yn ei gyfanrwydd, ond hefyd yn amser i fyfyrio ar werth BlasCymru i'n cenedl a'n gallu allforio a'n cyfleoedd rhwydweithio i randdeiliaid y diwydiant. Rwy'n gwybod ei fod yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad masnach blaenllaw o ddiwydiant bwyd a diod Cymru ac fel y mwyaf o'i fath, lle gwelwn gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru, prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd yn dod at ei gilydd mewn un fforwm. Rhoddodd BlasCymru 2023, fel y clywsom ni, gyfle i dros 120 o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru gwrdd â dechrau trafodaethau gyda dros 270 o brynwyr masnach a gwelwyd 200 o gynhyrchion newydd yn cael eu harddangos. Rwy'n gwybod bod y digwyddiad BlasCymru eilflwydd blaenorol wedi'i gynnal yn 2021, ac ers hynny rydym wedi gweld cynnydd enfawr ar draws gwerthiant allforion y DU ar gyfer y sector bwyd a diod. Felly, Gweinidog, er ein bod yn nodi bod nifer trawiadol ac addawol o randdeiliaid yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd BlasCymru bob yn ail flwyddyn, tybed a allech chi amlinellu sut mae llwyddiant y cyfarfodydd hyn yn cael ei fesur o ran allbwn a pha mor gost-effeithiol ydyn nhw.

Er gwaethaf beirniadaeth hirfaith ac estynedig gan y Llywodraeth hon o'n hymadawiad â'r UE, torrodd gwerth ein hallforion bwyd a diod o Gymru i'r UE pob record yn 2022, pan wnaethant gyrraedd £594 miliwn—cynnydd o £130 miliwn ers 2021. Ochr yn ochr â hyn, roedd y diwydiant hefyd yn gallu hybu ei allforion y tu allan i'r UE yn yr un flwyddyn, pan gyrhaeddon nhw £203 miliwn—i fyny o £176 miliwn y flwyddyn flaenorol. Ond, Gweinidog, yr hyn sy'n fwyaf nodedig yn fy marn i wrth edrych ar y data ar ein hallforion, sydd yn arbennig o addawol, yw mai'r categori allforio gwerth uchaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru yn 2022 oedd cynhyrchion cig a chynhyrchion sy'n gysylltiedig â chig, gwerth cyfanswm o £265 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 42 y cant ers 2021, ac yn rhywbeth sydd, fel y gwyddom, yn ganlyniad i'r gwaith caled di-baid a wneir gan ein ffermwyr a'n teuluoedd. Dim ffermwyr, dim bwyd. Ac er ei bod yn wych eich gweld chi a'ch Llywodraeth yn cefnogi ac yn hyrwyddo ein sector bwyd a diod, bydd yn cael ei ystyried braidd yn goegwych yng ngoleuni'r dadansoddiad damniol ar gynhyrchu bwyd y byddai'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ei gael. Ochr yn ochr â chyllideb wedi'i thorri, nad yw'n amlwg yn cefnogi'r sector fel y mae angen iddo wneud, mae asesiad effaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn amlygu, yn hollol ddi-flewyn-ar-dafod, yr effaith negyddol y byddai'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chael. Mae'r modelu wedi rhagweld gostyngiad o 122,000 yn unedau da byw Cymru, sydd, i bob pwrpas, yn ostyngiad o 10.8 y cant yn nifer y da byw yng Nghymru; toriad o 11 y cant i lafur ar ffermydd Cymru, sy'n cyfateb i golli 5,500 o swyddi; ac, yn olaf, ergyd o £125 miliwn i allbwn o'r sector, a cholled o £199 miliwn i incwm busnesau fferm. Mae hynny'n ostyngiad mewn incwm o 85 y cant. Felly, yn gwbl briodol, mae NFU Cymru wedi gwneud sylwadau ar y ffaith bod y data hwn yn eithaf brawychus a dweud y gwir, ac mae'n hollol groes i deimladau ymgynghoriad yr SFS sef 'cadw ffermwyr yn ffermio'. Felly, gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, tybed a allech chi nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio parhau i gefnogi sector bwyd a diod Cymru, wrth symud i 2025, gan ystyried cefndir llwm toriadau cyllidebol ac ansicrwydd a orfodwyd ar ein sector ffermio. Ac eto, ein ffermwyr sy'n un o'r elfennau allweddol wrth sicrhau goroesiad y diwydiant bwyd a diod. Ac o ystyried nawr bod Llywodraeth Cymru yn pendroni beth i'w wneud â Fferm Gilestone yn dilyn y llanast hwnnw, efallai y gallech ddefnyddio'r fferm fel arddangoswr ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy os ydych chi mor hyderus â hynny y bydd y cynllun yn llwyddiant.

Nawr, er ein bod ni i gyd yn deall anhawster pwysau ariannol nid yn unig ar y Llywodraeth hon, ond ar lywodraethau eraill ledled y byd, rhaid cefnogi ein diwydiant bwyd a diod yng Nghymru fel blaenoriaeth economaidd, ddiwylliannol a chymdeithasol. Rydym nid yn unig yn sôn am gynnyrch o Gymru, ond am ein defnyddwyr o Gymru sydd, yn ôl ymchwil yr NFU, yr wyf wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf, yn dangos bod 82 y cant o bobl yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol i ffermwyr i gynhyrchu bwyd.

Felly, yn olaf, Gweinidog, un maes domestig y mae ein sector bwyd a diod yn cyd-fynd yn agos ag ef, yn enwedig ar draws fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yw'r diwydiant twristiaeth. Hoffwn ofyn, felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y ddau sector yn elwa ar ei gilydd, felly rydym yn defnyddio popeth sydd gan Gymru i'w gynnig yn effeithiol ar draws gwahanol sectorau. Mae ein diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi'i gysylltu'n gynhenid â'n ffermwyr, ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hanes. Er fy mod yn rhannu eich uchelgeisiau yn llwyr ar gyfer BlasCymru a'r diwydiant bwyd a diod ehangach yma yng Nghymru—ac rwy'n llongyfarch yr holl randdeiliaid am gynnydd gwych dros y blynyddoedd diwethaf—er mwyn cyflawni ei botensial llawn ni ddylid tynnu'r tir o dan ei draed gyda pholisi amaethyddol sy'n tanseilio cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Diolch, Llywydd dros dro.

17:20

Wel, byddwn yn sicr yn cytuno â'r pwynt olaf yna, a gallaf eich sicrhau nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Hynny yw, mae'r dadansoddiad y gwnaethoch gyfeirio ato—a chefais sgwrs gydag NFU Cymru yn ei gylch—fel y dywedais i, yn hen ddata, a bydd dadansoddiad economaidd pellach cyn dyluniad terfynol y cynllun ffermio cynaliadwy yr haf nesaf.

Ond i fynd yn ôl at BlasCymru, rwy'n croesawu eich sylwadau cadarnhaol iawn yn ei gylch. Fel y dywedwch chi, mae'n ddigwyddiad bob dwy flynedd; dyma'r pedwerydd BlasCymru, ac mae pob un yn mynd yn well ac yn well. Ac yn sicr, y data rydyn ni wedi'i dderbyn, y soniais amdano yn fy natganiad llafar, sef bod £38 miliwn o fusnes newydd—. Roeddwn i mewn becws, mewn gwirionedd, yn etholaeth Ken Skates ychydig wythnosau yn ôl ac roedden nhw'n siarad am y sgyrsiau roedden nhw wedi'u cael, ac roedden nhw'n parhau â'r rhain. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn yn sôn amdano, y froceriaeth: mae llawer iawn o feddwl yn cael ei roi i'r froceriaeth honno, a'r bobl y mae ein cynhyrchwyr bwyd yn cwrdd â nhw yn ystod BlasCymru. Felly, rwy'n credu mai 28 o brynwyr yr oedd y cwmni penodol hwn wedi cwrdd â nhw dros y ddau ddiwrnod. Nawr, os ydych chi'n meddwl sut y byddech chi'n cyrraedd 28 prynwr—byddai hynny'n golygu llawer iawn o waith i fusnes bach iawn i allu mynd allan, cwrdd â'r prynwyr hynny, cael y sgyrsiau hynny. Felly, i mi, y froceriaeth y soniais amdani—mae'n gwbl ganolog i BlasCymru—ond rwyf wedi'i gweld yn tyfu ac yn tyfu dros y pedwar digwyddiad.

Mae'n rhaid i chi geisio cadw pethau'n ffres, wrth gwrs, a gwneud pethau gwahanol. Felly, eleni, symudon ni o'r arddangosfeydd unigol lluosog, er enghraifft, yr oeddem wedi'u cael o'r blaen, ac roedd gennym dri pharth thematig integredig, a chawsom deithiau tywys o'r froceriaeth hefyd, ac roedd yr holl gynnyrch yn cael ei arddangos, gan gynnwys y cynhyrchion newydd, yr oedd dros 200 ohonynt. Cawsom hefyd raglen seminarau helaeth iawn, oherwydd, unwaith eto, i fusnesau ddod draw i BlasCymru, maen nhw'n rhoi o'u hamser, yn enwedig os ydyn nhw'n gwmnïau bychain, a dyna yw llawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod. Cafodd y datblygiadau arloesol newydd hyn dderbyniad da iawn, ac mae'n dda gallu adeiladu ar y rheini.

Roeddech chi'n cyfeirio at allforion, ac rwy'n credu ein bod ni'n cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl o ran allforion, ond os edrychwch chi ar y gwledydd y mae ein hallforion yn tueddu i fynd iddynt o safbwynt bwyd a diod, Ffrainc bellach yw'r gyrchfan gwerth uchaf ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru, sef £150 miliwn. Ymhlith y prif gyrchfannau eraill mae Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r Almaen, felly mae tipyn o thema yna—dyma ein cymdogion agosaf, wrth gwrs, sy'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Rydych chi'n llygad eich lle ynglŷn â chig a chynhyrchion sy'n gysylltiedig â chig: mae hynny'n cyfrif am 33 y cant o werth allforio bwyd a diod. Ac yna grawnfwydydd a chynhyrchion sy'n gysylltiedig â grawnfwydydd gyda chyfran o 20 y cant o'r holl allforion bwyd a diod. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: dim ffermwyr, dim bwyd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i gefnogi ein ffermwyr, ac fel y dywedais wrthych yr wythnos diwethaf yn fy nghwestiynau llafar, nid oedd y dadansoddiad, neu'r arolwg a gyflwynwyd gan NFU Cymru yn fy synnu o gwbl. Rwy'n deall yn llwyr fod pobl Cymru yn derbyn bod yn rhaid i ni barhau i gefnogi ein ffermwyr.

Diolch, a diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad. Ffigurau eithaf trawiadol, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud, ac wrth gwrs nid oes amheuaeth fod y sector bwyd a diod yn gwneud cyfraniad economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sylweddol i lesiant yng Nghymru. Ac mae'r themâu, rwy'n credu, o wydnwch, arloesedd ac optimistiaeth i'w croesawu'n fawr, er y byddwn yn adleisio pryderon efallai fod optimistiaeth ar hyn o bryd yn anodd, o gofio bod holl dirwedd cefnogaeth, nid yn uniongyrchol i'r sector bwyd a diod ehangach, ond yn enwedig i gynhyrchwyr cynradd, yn edrych yn heriol. Byddwn yn ailadrodd y pryderon a wnaed gan yr NFU heddiw mewn datganiad a gyflwynwyd ganddynt yn gofyn i'r Llywodraeth ailystyried nifer o agweddau ar y cynigion, ond gallwn ddod yn ôl at hynny pan fyddwch yn rhoi datganiad i ni ar y cynllun ffermio cynaliadwy.

Rwyf eisiau dewis un darn, rydych yn dweud yn y datganiad:

'Wrth wraidd BlasCymru mae broceriaeth rhwng busnesau bwyd o Gymru a phrynwyr domestig a rhyngwladol mawr. Credwn y gall y Llywodraeth chwarae rhan weithredol wrth gefnogi busnesau bwyd.'

Ond, wrth gwrs, rydym yn wynebu cyfnod sydd bellach yn un o adnoddau prin, felly i ba raddau y mae'r adnoddau prin hynny yn mynd i ffrwyno'r dylanwad hwnnw a chyfyngu ar y rôl y gall y Llywodraeth ei chwarae wrth helpu i dyfu'r sector? Pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni na fydd toriadau posib yn mygu twf a welsom yn ystod y cyfnod diweddar? Rydych chi'n dweud bod eich buddsoddiad yn BlasCymru a'r holl raglenni cymorth rydych chi'n eu cynnig yn cael ei ad-dalu sawl gwaith drosodd. Wel, wrth gwrs, y mae, ond po leiaf sy'n cael ei roi ymlaen llaw, y lleiaf sy'n dod yn ôl allan o ran adenillion ar fuddsoddi.

Clywais chi, mewn tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, pan oedd eich cyllideb yn destun craffu, yn sôn efallai y byddai'n rhaid i'ch dull o weithredu newid a byddai'n rhaid i chi edrych ar wahanol ffyrdd o fynd i'r afael â phethau. Roeddech chi'n sôn am y posibilrwydd, er enghraifft, o gynnal digwyddiadau masnach ac allforio rhithwir. Nawr, dwi ddim yn siŵr y gallwch chi flasu caws o Gymru yn rhithiol, na'i olchi i lawr gyda chwrw iawn o Gymru yn rhithiol. Mae'n teimlo fel dipyn o ddynwarediad rhad. Rwyf eisiau cael fy argyhoeddi mai dyna'r dull gorau, neu hyd yn oed ei fod yn ddull werth chweil—gallwch fy mherswadio fel arall, rwy'n siŵr. Felly, i ba raddau y byddwn ni wir yn defnyddio rhai o'r dulliau hynny, yn hytrach na rhai o'r dulliau eraill sydd wedi profi eu hunain yn ystod y blynyddoedd diwethaf efallai? Ac, wrth gwrs, a yw hynny'n golygu y bydd yn rhaid i ymdrechion Cymru ddefnyddio sail mentrau Llywodraeth y DU? Ac os yw hynny'n wir, yna sut ydym ni, o fewn yr amgylchedd hwnnw, yn amddiffyn uniondeb y brand Cymreig a'r ddraig Gymreig?

Fe wnaethoch chi siarad cryn dipyn, fe wnaethoch chi ymhelaethu cryn dipyn, am sgiliau. Wel, sut ydyn ni felly'n sicrhau, yn yr hinsawdd yma, y bydd yna lif o sgiliau yn dod drwodd? Mae nifer o raglenni hyfforddi wedi cael eu crybwyll yn eich datganiad—ydyn nhw'n cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol? Ac a allwch chi roi sicrwydd i ni—? Oherwydd, yn amlwg, mae bwyd yn cyffwrdd nifer o bortffolios gweinidogol yma: economi a thwristiaeth fel ei gilydd, iechyd a phethau eraill. Felly, dywedwch wrthym am y gwaith trawslywodraethol a allai fod yn digwydd, oherwydd mae angen i ni, yn yr amgylchedd economaidd hwn, wneud i bob £1 weithio mor galed â phosibl, a byddai cael dull trawslywodraethol, rwy'n credu, yn helpu i gadw'r sector ar y trywydd cadarnhaol y mae arno.

17:25

Diolch. Felly, fe godoch chi ychydig o gwestiynau a phwyntiau yna; fe geisiaf ateb pob un ohonyn nhw. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn am optimistiaeth, mae'n anodd iawn. Mae cymaint o heriau, ac mae'n ymddangos bod yr heriau wedi digwydd un ar ôl y llall, onid ydyn nhw, dros y blynyddoedd diwethaf? Ac, yn amlwg, mae'r her o gyllideb Llywodraeth Cymru gwerth £1.3 biliwn yn llai na phan gafodd ei gosod, yn ôl yn 2021, yn enfawr, ac rydym i gyd wedi gorfod dioddef toriadau ac, fel y gwyddoch chi, mae fy mhortffolio i wedi cael ei dorri, ac mae bwyd a diod yn rhan o fy mhortffolio, ac, yn anffodus—rydym yng nghanol y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft ar hyn o bryd—mae'n debygol y bydd yn amlwg y bydd yn rhaid i'r rhan honno o'r portffolio ddioddef ei siâr o doriadau.

Un peth y byddwn i eisiau ei warchod yw BlasCymru. Felly, ni fydd un y flwyddyn ariannol nesaf hon, felly, yn amlwg, ni fydd hynny'n cael effaith. Ond bydd effaith ar ymweliadau datblygu masnach ac ati, ond gobeithio y bydd hyn am flwyddyn yn unig. Rwy'n gobeithio y bydd mwy o arian y flwyddyn nesaf, er mwyn gallu codi i'r lefel yr ydym wedi bod arni. Mae hefyd yn dda, rwy'n credu, i adnewyddu. Felly, er enghraifft, mae gennym bresenoldeb yn Gulfood yn Dubai bob amser—mae gennym nifer o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yno bob amser. Felly, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gwrando ar y cwmnïau hynny i glywed beth yw'r adenillion o fuddsoddi, oherwydd dyna sut rydych chi'n ei fonitro. Felly, i mi, Blas yw ein digwyddiad blaenllaw yn sicr. Nid yw'n rhad; dyma'r digwyddiad drutaf yr ydym ni, fel Llywodraeth, yn ei ariannu. Ac, yn amlwg, dydyn ni ddim yn cael unrhyw beth yn ôl—dyma ein bwyd a'n diod ni. Ond pan glywch chi am werth £38 miliwn o archebion newydd a busnes newydd a busnes posib—. Ac mae'n wych cerdded o gwmpas y froceriaeth honno a gweld y sgyrsiau hynny. Mae'n debyg eich bod wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen—mae'n seiliedig ar 'speed dating,' ac maen nhw i gyd yn mynd mor hir, ac mae'r prynwyr yn dweud, 'Rydych chi'n gwybod bod gennych chi'r amser hwnnw gyda'r person hwnnw a'ch bod chi'n gwneud y gorau ohono', ac ni fyddech chi'n gallu cael y nifer yna o gysylltiadau dros gyfnod o amser. Felly, byddwn yn sicr yn amddiffyn BlasCymru, oherwydd, i mi, mae'r adenillion o fuddsoddi mor sylweddol.

Rwy'n clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud am ddigwyddiadau rhithwir, ond mewn gwirionedd y cwmnïau bwyd a diod sydd wedi bod yn dweud wrthyf eu bod yn credu bod hynny'n werth chweil. A wyddoch chi, mae'n debyg bod dynwarediad rhad yn gywir—fel y dywedwch, allwch chi ddim blasu bwyd a diod o Gymru. Fodd bynnag, os ydyn nhw'n dweud wrthym ei bod yn werth chweil, nid yw hynny'n costio llawer. Felly, rwy'n credu y byddem yn parhau i wneud y rheini, yn enwedig tra bo cyllidebau wedi'u cyfyngu.

Dydw i erioed wedi gwneud llawer gyda Llywodraeth y DU a'u—. Yn amlwg, mae ganddyn nhw jac yr undeb ar eu holl 'Best is' neu beth bynnag. Rwy'n angerddol iawn dros sicrhau bod ein bwyd a'n diod ni o Gymru, sydd wedi'i labelu mor glir, fel y dywedwch chi, gyda'r ddraig ac ati, yn cael eu diogelu. Rwy'n credu y gallwn barhau i wneud hynny. Rydyn ni'n gweld mwy o fanwerthwyr mawr, mwy o archfarchnadoedd mawr—. Anaml iawn y byddwch chi'n mynd i archfarchnad yng Nghymru a ddim yn gweld ambell eitem o fwyd a diod o Gymru, ac mae'n sicr yn bwysig ein bod ni'n parhau i wneud hynny.

Es i i wobrau Cymdeithas Goginio Cymru nos Fercher diwethaf yn ôl yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, ac roedd yn dda iawn. Yno, mae gennych uwch-gogydd Cymru, cogydd iau Cymru a sgiliau eraill hefyd, ond i weld y gwaith maen nhw'n ei wneud gyda'n pobl ifanc—. Mae rhai ohonynt yn ifanc iawn, iawn ac nid yw'n waith hawdd gweithio yn y ceginau a chynhyrchu'r bwyd anhygoel hwn. Ond roedd mor dda gweld y brwdfrydedd ac rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i annog. Dyma un o'r sectorau mwyaf, yn amlwg, yng Nghymru. Mae'n cyflogi 0.25 miliwn o bobl o'r fferm i'r fforc, fel y gwyddoch, a'n sector bwytai a lletygarwch. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau, a phan oeddwn yn BlasCymru, daeth grŵp o brentisiaid draw i weld beth oedd ar gael, a llwyddais i gael 10 munud gyda nhw, ac roedd y brwdfrydedd oedd ganddyn nhw ynghylch y sector yn wych. Ac unwaith eto, mae'n rhan o'r weledigaeth honno ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sydd gennym ni. 

17:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Gweinidog, ni ddylem danbrisio'r rôl rydych chi wedi'i chwarae fel Gweinidog yn llwyddiant BlasCymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny heddiw. Nid wyf yn credu y byddwch yn synnu, Gweinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai, y byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad byr ar rôl y diwydiant bragu yng Nghymru. Rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau am sut mae ein diwydiant bragu unigryw—sydd bellach yn cael ei gydnabod yn fyd-eang fel un o safon ardderchog, ac yn briodol felly, ond—rydyn ni wedi cael sgwrs sawl gwaith am sut y gall ein diwylliant Cymreig a llwyddiant y timau chwaraeon chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo diwydiant bragu Cymru i'r byd. Felly, tybed a yw hynny drwy BlasCymru neu lwybrau eraill, a allwch amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r gwaith o hyrwyddo ein diwydiant bragu ymhellach yn y fforymau hyn? Diolch.  

Diolch am hwnna. Un o'r pethau roeddwn i wir eisiau ei wneud gyda BlasCymru y tro cyntaf nôl yn 2017 oedd dod â'r byd i Gymru, ac rwy'n meddwl ein bod ni wedi gwneud hynny. Gwnaeth y tîm o swyddogion sy'n gweithio ar hyn waith gwych, ac maent newydd adeiladu ar y llwyddiant hwnnw flwyddyn ar ôl blwyddyn bellach. Fel y dywedais i, cawsom bedwar hyd yn hyn. Yn ystod pandemig COVID, yn amlwg gostyngodd nifer y prynwyr rhyngwladol a oedd yn dod drosodd a bydd yn cymryd ychydig o amser i adfer hynny eto, ond fe welsom, fel y dywedais i, 11 gwlad—. Daeth prynwyr o 11 gwlad i BlasCymru eleni, ac rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr. Cawsom hefyd Wobrau Bwyd a Ffermio'r BBC yn ffilmio yn ystod BlasCymru, a oedd unwaith eto yn fy marn i yn bluen arall yn ein cap, ac roedd yn dda gweld y sylw a gawsom mewn cysylltiad â hynny.

Fel rydych yn ei ddweud, mae'r sector diod mor bwysig, a soniais am ein rhwydweithiau clwstwr, yr wyf yn credu—. Dim ond o fewn rhan bwyd a diod y portffolio yr ydym yn ei wneud ond rwy'n credu bod y clystyrau'n gweithio'n dda iawn, lle mae gennych chi academia, mae gennych gyflenwyr, mae gennych chi Lywodraeth i gyd yn gweithio gyda'i gilydd at yr un diben hwnnw. Heno—rwy'n siŵr y bydd ambell Aelod yn y Siambr yno—mae'r clwstwr diodydd yn cyfarfod ac rydym yn lansio'r strategaeth cwrw a gwirodydd wrth symud ymlaen, ac rwy'n credu y bydd hynny'n ein helpu ni hefyd gyda'n hallforion.

Fe wnaethoch chi sôn am ddigwyddiadau byd-eang, ac rwy'n gwybod ein bod wedi cael trafodaeth yn y Siambr am Gwpan Rygbi'r Byd a gynhaliwyd yn Japan a sut na allech chi brynu Wrexham Lager yn Wrecsam—dim ond yn Japan y gallech chi ei brynu, oherwydd doedden nhw ddim yn gallu ei hedfan allan yn ddigon cyflym. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y digwyddiadau hynny sydd â'r sylw byd-eang hwnnw a bod yn rhan o hynny. Yn sicr, wrth i ni dyfu ein sector bwyd a diod, mae mwy a mwy o gwmnïau eisiau bod yn rhan o'r digwyddiadau byd-eang hynny a byddwn yn hapus iawn i'w cefnogi. 

Gweinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Mae'n wych gweld gwerth y sector bwyd i economi Cymru, a'r ffordd y mae'n darparu cymaint o gyfleoedd gwaith i bobl ledled Cymru. Byddwn hefyd yn adleisio sylwadau Jack Sargeant am yr angerdd rydych chi'n ei ddangos fel Gweinidog a'r gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i'n cynhyrchwyr bwyd o ddydd i ddydd.

Dim ond ychydig o gwestiynau, Gweinidog. Yn gyntaf oll, a ydych chi wedi sylwi ar unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg ynghylch chwaeth mewn bwyd? Yn ail, a fyddech chi'n cytuno, bob dydd, bod gan fwyty newydd sy'n derbyn gwobrau yng Nghymru, bwytai Cymru, y sector lletygarwch, rôl hanfodol i'w chwarae wrth hyrwyddo cynhyrchu bwyd a thynnu sylw at ansawdd y bwyd sy'n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru? Ac yn olaf, yn y maes hwn mae Coleg Cambria yn gwneud gwaith gwych wrth ddarparu hyfforddiant sgiliau i bobl ifanc o ran paratoi bwyd a hylendid. A fyddech yn manteisio ar y cyfle hwn i longyfarch a diolch i'r holl ddarparwyr sgiliau hynny sy'n gwneud gwaith mor wych i roi cyfleoedd i bobl ifanc yn y sector hwn? Diolch.  

17:35

Diolch yn fawr, Ken, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac unwaith eto, wrth fynd yn ôl at y gwobrau coginio lle yr oeddwn i ddydd Mercher diwethaf, a oedd yn cael eu cynnal gan un o'r darparwyr sgiliau yma yng Nghymru, dywedodd Arwyn Watkins fod bwytai sydd bellach yng Nghymru yn debygol o golli cyfle os nad ydyn nhw'n defnyddio bwyd a diod o Gymru ac yn arddangos yn glir iawn ar y bwydlenni eu bod nhw'n defnyddio bwyd a diod o Gymru, Oherwydd ei fod yn sector mor bwysig, ac mae tarddiad bwyd a diod yn dod yn bwysicach o lawer. Mae defnyddwyr eisiau hwn, mae pobl sy'n ymweld â bwytai eisiau hwn, felly mae'n bwysig iawn nad ydyn nhw'n colli'r cyfle hwnnw.

Roedd yn wych gweld—. Soniais i am yr uwch gogyddion a chogyddion iau Cymru, ond roedd gwobrau hefyd am y ffordd yr oedd hylendid yn cael ei gyflawni wrth baratoi bwyd. Felly, y beirniaid—. Rwy'n credu ei fod yn ddigwyddiad dros dri diwrnod lle roedd y beirniaid wedi bod yn cerdded o gwmpas ac yn gwylio sut roedd y cogyddion yn paratoi'r bwyd, felly nid dim ond coginio'r bwyd a sut roedd yn blasu, roedd yn ymwneud â'r ffordd y cafodd ei baratoi. Rwy'n credu, wrth fynd yn ôl at y cwestiwn sgiliau hwnnw, ei bod yn bwysig iawn bod gan ein pobl ifanc, neu'r holl bobl, y sgiliau hynny hefyd wrth baratoi ar gyfer yr adeg pan fyddant yn mynd i mewn i'r sector.

Cefais ginio yng Ngholeg Cambria, yn y bwyty yng Ngholeg Cambria yn fy etholaeth fy hun yn Wrecsam, ychydig cyn y Nadolig, lle, fel y dywedwch chi, mae'r myfyrwyr yn gweini'r bwyd, maen nhw'n gweini ar y byrddau, maen nhw'n coginio'r bwyd, maen nhw'n gwneud popeth, ac roedd mor dda gweld faint o fwyd a diod o Gymru oedd yn cael ei arddangos. Roedd y rheolwr yn falch iawn. Aeth â fi rownd y cefn i wneud yn siŵr y gallwn i weld faint yn union o fwyd a diod o Gymru oedd yn cael ei arddangos, a oedd yn wych. Ac fel y dywedwch chi, mae yna lawer o ddarparwyr ledled Cymru sy'n gwneud hynny, a hoffwn eu llongyfarch i gyd.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg i wneud y cynnig yma. Jeremy Miles.

Cynnig NDM8463 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2022-23.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Pleser yw agor y ddadl hon heddiw a gofyn i chi nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23. 

Mae'r adroddiad yn mynd â ni ar daith trwy amrywiol waith y comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd. Mae'n nodi uchafbwyntiau o'r hyn a gyflawnwyd mewn meysydd fel sicrhau tegwch a hawliau i siaradwyr Cymraeg, dylanwadu ar ddeddfwriaeth a pholisïau, cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat ac elusennau, a'r gwaith mae hi'n ei wneud ar enwau lleoedd. 

Mae'n dda gweld enghreifftiau real yn yr adroddiad o wasanaethau Cymraeg sydd wedi gwella diolch i ymyrraeth a chefnogaeth gan y comisiynydd, er enghraifft, gwella gwasanaethau ffôn cynghorau sir, gwella gwefannau cyrff a gwella'r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn y sector iechyd. Dwi'n falch bod gwaith y comisiynydd o reoleiddio safonau yn gwneud gwahaniaeth ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn rhestru gwaith sydd wedi'i wneud i ddylanwadu ar bolisi, ac mae rôl y comisiynydd yn hynny o beth yn bwysig. Dwi'n ddiolchgar iddi am ymateb i ymgynghoriadau ar bolisïau a Biliau newydd i'n hatgoffa ni yn y Llywodraeth o beth allwn ni ei wneud i helpu'r Gymraeg i ffynnu ar draws ein holl waith. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael ein hatgoffa o'r angen i brif-ffrydio ystyriaethau 'Cymraeg 2050' o'r cychwyn wrth ddatblygu polisi. Mae mewnbwn y comisiynydd wrth i ni ddatblygu deddfwriaeth fel Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) wedi arwain at welliannau cadarnhaol er budd y Gymraeg.

Dwi'n falch o'r cynnydd rŷn ni wedi'i wneud dros y flwyddyn diwethaf o ran y Gymraeg. Fe wnaethon ni lansio ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar gynigion ar gyfer y Bil addysg Gymraeg, sy'n rhan greiddiol o weithredu ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Daeth cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd pob awdurdod lleol yn weithredol. Fe wnaethon ni fuddsoddi ymhellach mewn darpariaeth trochi hwyr er mwyn rhoi cyfle i fwy o blant ddod yn rhan o'n system addysg Gymraeg. Cyhoeddwyd cynllun y gweithlu Gymraeg mewn addysg. Fe wnaethon ni ariannu prosiect peilot i gefnogi awdurdodau lleol yn y de ddwyrain i hyrwyddo addysg Gymraeg. Rŷn ni hefyd wedi ariannu'r Urdd i ailsefydlu'r theatr ieuenctid. Cyhoeddwyd 'Mwy na geiriau' newydd. Cyhoeddwyd y cynllun tai cymunedau Cymraeg, sy'n ymwneud â maes polisi tai, datblygu cymunedol, yr economi a chynllunio ieithyddol. Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei lansio, ac fe wnaethon ni fuddsoddi hefyd mewn amrywiol brosiectau cymunedol drwy'r rhaglen Perthyn. 

Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn ni'n gwireddu'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ac yn dod â mwy o gyrff o dan safonau'r Gymraeg, gan droi nesaf at gyrff cyhoeddus sydd ddim o dan safonau ar hyn o bryd, a chymdeithasau tai.

Mae'r comisiynydd hefyd wedi cyflawni gwaith gwerthfawr gyda busnesau ac elusennau. Mae 86 o sefydliadau wedi ymuno â'r cynllun Cynnig Cymraeg, a dros 190 o bobl wedi mynychu hyfforddiant neu weithdai a gafodd eu cynnal gan swyddfa'r comisiynydd.

Wrth edrych ymlaen, rŷn ni, wrth gwrs, yn ffeindio'n hunain mewn sefyllfa gyllidol heriol. Mae'r comisiynydd, fel ei chyd-gomisiynwyr a nifer fawr o gyrff cyhoeddus eraill, wedi gorfod rhannu'r baich hwn. Mae cyllideb pob comisiynydd wedi cael toriad o 5 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2024-25. Dwi wedi trafod goblygiadau hynny gyda'r comisiynydd a dwi'n hyderus na fydd y toriad hwn yn ymyrryd â'i gallu i ymgymryd â'i swyddogaethau craidd, sef rheoleiddio safonau ac amddiffyn hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Byddaf yn parhau i drafod gyda'r comisiynydd a dwi'n ddiolchgar iawn i Efa Gruffudd Jones am fod mor fodlon i ystyried yn gadarnhaol sut gall hi ymateb i'r her gyllidol hon.

Yn ddiweddar, mae'r comisiynydd wedi dechrau adolygu ffyrdd o weithio er mwyn sicrhau bod ei gwaith rheoleiddio yn cael yr effaith fwyaf. Dwi'n falch bod Efa'n edrych ar ddatblygu dull mwy rhagweithiol o gyd-reoleiddio yn ystod 2024. Mae hynny'n golygu gweithio'n agosach gyda'r cyrff sy'n dod o dan safonau i adnabod risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg a datblygu dulliau rhagweithiol i liniaru'r risgiau hynny. 

Mae'r comisiynydd wedi ysgrifennu at bob corff sy'n dod o dan safonau i nodi'r camau y bydd hi'n eu cymryd yn ystod 2024 i ddatblygu'r dull hwn o reoleiddio a gweithio'n agosach gyda nhw. Dwi'n siŵr y bydd y newid hwn yn sicrhau bod y comisiynydd yn parhau i reoleiddio'n effeithiol, a hefyd yn adeiladu perthynas adeiladol gyda'r cyrff i gynyddu defnydd o'u gwasanaethau Cymraeg.

17:40

Dwi wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn dy enw di.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith y Comisiynydd i annog sefydliadau yn y sector preifat, megis y sector bancio, i ddefnyddio'r Gymraeg ar sail anstatudol.

Yn cytuno y dylai banciau fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg statudol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn amlwg yma i ganolbwyntio ar adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ydyn ni, ond mae'n dda cael ein hatgoffa o'r pethau sydd yn y cytundeb cydweithio, wrth gwrs, ac mae yna gyfeiriadau yn yr adroddiad hwn.

Mi fyddwn ni'n hoffi dechrau drwy dalu teyrnged i'r comisiynydd a'r tîm o staff gweithgar sydd yna. Dwi'n meddwl bod y ffaith bod 837 o ymyraethau—mae hwnna'n sylweddol. Ac o ran yr uchelgais sydd gennym ni o ran 'Cymraeg 2050', cynyddu defnydd, cynyddu hawliau, mae hwn yn eithriadol o bwysig ac yn dangos gwerth y gwaith hwn.

Wrth gwrs, wrth gyflwyno ei hadroddiad, mae hi hefyd yn adlewyrchu ar yr adeg anodd fuodd o golli Aled Roberts a'r cyfnod dros dro fu yn y swyddfa honno, a gwaith cydwybodol iawn Gwenith Price tan i Efa Gruffudd Jones gael ei hapwyntio. Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i swyddfa'r comisiynydd yn y cyd-destun yna, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi gweld ffrwyth gwaith eithriadol o bwysig wrth i'r swyddfa fynd yn ei blaen.

Mae'n rhaid inni, wrth gwrs, adlewyrchu bod yna nifer o bethau amlwg wedi digwydd ers i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, a dyna pam, wrth edrych ar y gwelliant—. Yn amlwg mi ddaeth y newydd o ran HSBC yn dilyn cyhoeddi'r cyfnod sydd dan sylw, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi bod argymhelliad 4 yn sôn yn benodol o ran yr amcan gwaith fod targedu banciau yn benodol wrth gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhan bwysig o'r hyn mae'r comisiynydd yn sôn amdano fo fel rhywbeth y byddai hi'n hoffi canolbwyntio arno fo wrth edrych ymlaen, felly. 

Felly, gobeithio ein bod ni wedi cael pob un blaid yn y Siambr hon i gytuno o ran penderfyniad HSBC ei fod yn warthus ac yn deall pwysigrwydd bod y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg. Ac mae'n dangos hefyd pam fod y gwaith o gael safonau mor eithriadol o bwysig, ein bod ni'n gallu gweld cwmnïau sydd wedi ymrwymo mor gynnes a chadarn yn y gorffennol, pa mor gyflym mae gwasanaeth yn gallu diflannu. A'r holl rwtsh glywon ni o ran bod yna ddim defnydd, ac ati, wel, mae'n rhaid i ni fod yn hyrwyddo hefyd a'i gwneud yn hawdd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. A dwi'n ofni, os nad ydyn ni'n edrych o ran ehangu'r rheoliadau ac ati a safonau, byddwn ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn dewis torri gwasanaethau, sydd yn mynd yn gyfan gwbl groes i'r amcan sydd gennym ni o ran nid yn unig cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, ond y defnydd o'r Gymraeg fel iaith o ddydd i ddydd. Oherwydd mae yna fygythiad gwirioneddol fan hyn. 

Mae'r comisiynydd, wrth gwrs, yn tynnu sylw at yr hyn, ac fe wnaeth y Gweinidog hefyd, o ran y Bil addysg Gymraeg, ac mae hi'n sôn yn ei rhagair fod ymateb y comisiynydd, fel rydyn ni wedi clywed mewn sesiynau tystiolaeth, yn mynd i fod yn tanlinellu'r angen i ymestyn addysg Gymraeg a chyfleoedd i bobl ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Felly, dwi'n gwybod bod ganddi hi a'i thim lygaid barcud iawn ar yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn fan hyn, ac mae'n iawn, felly, ei bod hi'n ein herio ni. Mae yna waith pwysig iawn o fewn yr adroddiad sydd wedi ei wneud hefyd o ran addysg Gymraeg a sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd ati fel y dylen nhw o ran sicrhau'r tegwch yna o ran darpariaeth addysg Gymraeg. A dwi'n meddwl bod y gwaith pwysig a welon ni yn fwy diweddar na chyfnod yr adroddiad blynyddol hwn efo'r comisiynydd plant wedi bod yn eithriadol o bwysig o ran dangos yr anghysondeb sydd yna efo dysgwyr efo anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn tanlinellu'r angen i sicrhau y cydraddoldeb yna, lle bynnag eich bod yn byw yng Nghymru, o ran y Gymraeg.

Rydych chi wedi cyfeirio yn eich ymateb, Weinidog, at sefyllfa cyllideb Comisiynydd y Gymraeg a'ch bod chi'n parhau i fod mewn trafodaethau. Oes yna unrhyw risg benodol rydych chi'n ei gweld ar y funud o ran gallu ymateb, oherwydd yn amlwg o ran nifer yr ymyraethau, ac ati, mae hwnna'n rhywbeth lle does dim rheolaeth gan y comisiynydd o ran gallu mynd ag achosion llys ac ati ymlaen? Mae hefyd yn fy nharo i, o edrych ar yr adroddiad, faint o gyrff cyhoeddus mae swyddfa'r comisiynydd yn gorfod edrych i mewn iddyn nhw. Oes yna waith yn cael ei wneud i atgoffa cyrff cyhoeddus o'u dyletswyddau o ran y Gymraeg, fel ein bod ni'n gallu lleihau nifer y cwynion sydd wedyn yn gorfod cael eu hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg? Mae o i weld yn wastraff llwyr o adnoddau lle, go iawn, mae'r rhain yn gyrff cyhoeddus sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedyn mae Comisiynydd y Gymraeg yn gorfod eu hatgoffa nhw o'u dyletswyddau. Felly, pa waith sy'n mynd rhagddo o ran hynny?

Ac o ran canlyniadau'r cyfrifiad yn 2021, pa drafodaethau pellach ydych chi'n eu cael gyda swyddfa'r comisiynydd i fynd i'r afael â rhai o'r pethau sy'n eithriadol o bryderus o ran hynny? Mae'r rôl o ran hyrwyddo, nid dim ond rheoleiddio, yn eithriadol o bwysig, a dwi'n meddwl os medrwn ni rhyddhau peth o adnodd y comisiynydd i fod yn canolbwyntio ar hyrwyddo hefyd, byddai hynny'n dda. Ond mae angen i'n holl gyrff cyhoeddus ni ymrwymo, ac nid jest mewn geiriau, ond gyda gweithredu o ran y Gymraeg.   

17:45

Dechreuaf fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Efa Gruffudd Jones am gyhoeddi'r adroddiad blynyddol hwn, ei hadroddiad cyntaf ers iddi ymgymryd â'r rôl yn barhaol, a'r cyntaf o lawer, gobeithio. 

Rwy'n ffodus, fel chi, Weinidog, i allu defnyddio'r Gymraeg pryd bynnag rwy'n dymuno, naill ai yn rhinwedd fy swydd neu'n gymdeithasol, ond dyw pawb ddim mor ffodus, ac mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom yn y Siambr hon i barhau i ymdrechu i wneud Cymru'n genedl gwbl ddwyieithog. 

Gan droi at gynnwys yr adroddiad, mae'n amlwg bod swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cael blwyddyn brysur ac wedi gweithio'n galed i hybu a diogelu ein hiaith i'r carn. Yn fy ymateb i'r ddadl ddiwethaf ym mis Tachwedd 2022, croesawais gyfraniad y comisiynydd i Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith a byddwn yn awyddus i wybod a adeiladwyd ar y berthynas hon ymhellach, a pha arferion da a ddysgwyd o'r cysylltiadau hyn.

Mewn sesiwn dystiolaeth i bwyllgor y Senedd, fe wnaeth y comisiynydd newydd ddatgan bod,

'pobl Cymru eisiau gwneud mwy na delio â sefydliadau cyhoeddus yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg.'

Hoffwn wybod pa lwyddiant a gafwyd wrth wireddu'r uchelgais hon ers iddi ddweud hyn ym mis Hydref 2022.

Rwy'n credu'n gryf y dylem fod yn cofleidio technolegau newydd i hyrwyddo a dysgu'r iaith. Mae'r ap iaith Duolingo—rŷn ni wedi siarad am hwn yn y Siambr o'r blaen—yn astudiaeth achos wych. Er ei bod hi'n siomedig i glywed na fydd yr ap yn diweddaru'r cwrs Cymraeg, roedd hi'n braf gweld cymaint yn ymateb i benderfyniad Duolingo. Yn 2020, Cymraeg oedd y nawfed iaith fwyaf poblogaidd ymysg defnyddwyr yr ap yn y Deyrnas Unedig. Ac mae ffigyrau cyfredol yn dangos bod 658,000 o bobl yn dysgu Cymraeg drwy'r ap, a bod 2 filiwn a mwy wedi defnyddio'r cwrs ers ei lansio. Yn fwy calonogol fyth, mae'r cwrs Cymraeg yn cael ei ddefnyddio gan bobl ym mhedwar ban byd sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg. Enghraifft wych o gyrhaeddiad ein hiaith.

O ran technoleg, roeddwn am nodi mater a godwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â defnyddio'r Gymraeg mewn achosion llys. Gydag achosion llys a thribiwnlysoedd ar-lein yn dod yn fwy cyffredin, roeddwn yn siomedig i glywed mai dim ond wyneb yn wyneb y gallai'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg mewn achos llys wneud hynny, ac nad oes modd gwneud hynny o bell. Pa drafodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd i'r afael â hyn? 

O ran ymchwil i'r farchnad a gynhaliwyd gan y comisiynydd, roedd hi'n braf iawn gweld bod 80 y cant o siaradwyr Cymraeg a holwyd yn credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus naill ai'n cynyddu neu wedi aros yr un fath. Roedd 82 y cant o'r farn y gallent ddelio â sefydliadau drwy gyfrwng y Gymraeg os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Mae'r ffigyrau hyn yn galonogol iawn, a hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r cyrff cyhoeddus sy'n weddill, nad ydynt yn cynnig cyfle cyfartal. 

Dim ond hyn a hyn y gall Comisiynydd y Gymraeg ei wneud wrth anelu at dargedau 'Cymraeg 2050'. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Yn gynharach y mis hwn, fe wnes i helpu i lansio 'Adroddiad Effaith CFfI Cymru' yn y Senedd, gan hyrwyddo'r rôl werthfawr y mae'r sefydliad yn ei chwarae yn ein gwlad. Roedd yr adroddiad yn pwysleisio'r ffaith bod 60 y cant o'r aelodaeth yn siarad Cymraeg, a llawer wedi dysgu'r iaith drwy'r sefydliad. Y dyfyniad yn yr adroddiad effaith sy'n crynhoi'n dda glybiau'r ffermwyr ifanc i mi yw,

'Mae'n cynnig cyfle i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg mewn sawl gwahanol ffordd, er enghraifft, drama. Efallai na fyddent wedi ystyried cyfranogi mewn gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg oddi allan i’r CFfI. Mae’n hollol wahanol i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol.'

Mae angen i ni ddatblygu llwybrau gwahanol i'r iaith wrth i ni symud ymlaen os ydym am wneud cynnydd tuag at darged 'Cymraeg 2050'. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau fel y ffermwyr ifanc i gefnogi twf y Gymraeg? 

Yn olaf, byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Roedd agwedd HSBC wrth gyhoeddi eu bod am roi'r gorau i gynnig gwasanaeth llinell ffôn Gymraeg yn warthus. I mi, roedd yn dangos diffyg parch at eu cwsmeriaid Cymraeg a'r iaith, ac yn niweidio enw da'r cwmni yma yng Nghymru. Mae'r comisiynydd a'i rhagflaenwyr wedi gweithio'n galed i annog y defnydd o'r Gymraeg drwy ddulliau anstatudol. Efallai mai nawr yw'r amser i fanciau gadw at safonau swyddogol y Gymraeg. Byddwn yn croesawu eich barn ar hyn, Weinidog.

Mae diwylliant a'r iaith Gymraeg yn cyd-blethu, felly bydd unrhyw newidiadau i galendr yr ysgol sy’n effeithio’n negyddol ar ddigwyddiadau pwysig, megis y Sioe Fawr neu’r Eisteddfod, hefyd yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant. Felly, rwy’n annog y Gweinidog i beidio â bwrw ymlaen â’r newidiadau hyn.

Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, ac yn nodi’r gwaith caled y mae pawb wedi’i wneud ynddo. Rydym ar lwybr—y llwybr cywir, gobeithio—ond mae llawer o rwystrau yn parhau os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, lle mae pobl yn rhydd i sgwrsio yn eu dewis iaith mewn cenedl gwbl ddwyieithog. Diolch, Llywydd.

17:55

Mae enghreifftiau diweddar yn dangos yn glir pam mae angen i bwerau statudol Comisiynydd y Gymraeg ymestyn i gynnwys y sector breifat, gan ddechrau efo’r banciau. Mae agwedd sarhaus banc HSBC yn dangos yn glir pam na ellir dibynnu ar ewyllys da i barchu hawliau siaradwyr Cymraeg.

Ar ddiwedd y 1970au, mi oeddwn i yn aelod o senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Buom yn ymgyrchu’n frwd i gael cwmnïau mawr—banciau a bragdai—i weithredu yn ddwyieithog. Bryd hynny, roedd banc y Midland yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft o arfer da. Banc y Midland ydy HSBC erbyn hyn, wrth gwrs, ond daeth tro ar fyd.

Mae gen i gyfres o e-byst sy’n tanlinellu agwedd negyddol, di-hid ac, yn wir, trahaus, yr HSBC presennol tuag at y Gymraeg.

'Er fy mod yn deall bod y penderfyniad hwn yn anodd, mae'n derfynol',

meddai HSBC wrthyf ar 10 Tachwedd. Wedyn, anwybyddu ymgais pellach gen i i ymresymu â'r banc. Dwi'n dal i ddisgwyl ateb i e-bost 16 Tachwedd. O hyn allan, felly, bydd yn rhaid i gwsmeriaid sydd am ymdrin â busnes yn y Gymraeg aros dros dri diwrnod i wneud hynny. Dros nos, chwalwyd gwasanaeth a oedd yn arwain y ffordd ar un adeg.

Dwi am sôn am ail enghraifft yn ddiweddar o ran pam mae angen ymestyn y safonau, sef ymgyrch Toni Schiavone i gael tocyn parcio Cymraeg gan One Parking Solution. Unwaith eto, mae’r ymateb yn un trahaus a sarhaus. Pam mae'n rhaid i siaradwyr Cymraeg barhau i ymgyrchu a mynnu cael gwasanaethau drwy’r Gymraeg? Mae’n hen bryd i hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg gael parch drwy statud, a hynny ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae'r gwelliant sydd gennym ni heddiw yn cynnig cychwyn drwy wneud y banciau yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg statudol. Dwi’n edrych ymlaen at glywed barn y Gweinidog ar hyn, ac yn falch iawn fod y Ceidwadwyr yn mynd i gefnogi ein gwelliant ni heddiw. Diolch.

Diolch, Llywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw. Mae mwy nag un Aelod wedi gofyn i mi wneud sylw ar y gwelliant, felly jest i ddweud fy mod i’n cytuno ei bod yn agwedd sarhaus ar ran banc HSBC, ac yn cytuno’n llwyr â geiriau Siân Gwenllian ynglŷn â’r tro ar fyd sydd wedi dod ers dyddiau banc y Midland, a oedd yn enghraifft loyw o sut i ymddwyn mewn ffordd sydd yn barchus ac yn gynhwysol o ran yr iaith. Felly, rydw i’n rhannu’r ymdeimlad hwnnw yn sicr. Rwyf wedi ysgrifennu at benaethiaid y banciau i gyd. Felly, fe wnaf i roi’r llythyr hwnnw yn y Llyfrgell fel bod gan bawb fynediad ato fe. Y rheswm byddwn ni ddim yn cefnogi’r gwelliant yw, dyw e ddim yn rhan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Wrth gwrs, rŷm ni wedi cytuno â Phlaid Cymru ar raglen o weithgaredd ynglŷn â’r blaenoriaethu—y pethau rŷm ni’n teimlo ar y cyd yw'r pethau a wnaiff y mwyaf o wahaniaeth i’r mwyaf o bobl. Felly, dyna’r rheswm byddwn ni ddim yn cefnogi’r gwelliant.

Mi wnaeth Heledd Fychan ofyn cwestiwn am yr impact o ran y gyllideb ar allu’r comisiynydd i reoleiddio. Ein dealltwriaeth ni, o’n trafodaethau ni gyda’r comisiynydd, yw nad oes disgwyl y bydd hynny yn cael effaith, fel y bydd yr Aelod yn gwybod. O ran achosion llys a gweithgaredd y tribiwnlysoedd, gan nad oes cronfa wrth gefn o’r un maint gan unrhyw un o’r comisiynwyr ar hyn o bryd, mae trefniant penodol, pwrpasol gennym ni pan fo’r achlysur hwnnw’n codi. Felly, dyw’r trefniant hwnnw ddim yn newid, er gwaethaf y toriad.

Mi wnaeth Heledd Fychan hefyd ofyn beth yw’r bwriad o ran gweithio gyda’r cyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod nhw’n deall eu cyfrifoldebau er mwyn lleihau’r galw neu’r angen i gymryd camau rheoleiddiol. A dyna, wrth gwrs, sydd wrth wraidd yr hyn mae'r comisiynydd yn ceisio gwneud wrth greu'r berthynas honno sy'n fwy rhagweithiol, efallai, ac yn berthynas sydd yn dwyn sylw'r cyrff at eu cyfrifoldebau nhw cyn bod y pethau yma'n mynd o chwith, yn hytrach na delio gyda nhw ar ôl i'r problemau codi.

Fe wnaeth Sam Kurtz ofyn amryw o gwestiynau am dechnoleg. Jest i ddweud am Duolingo, rwy'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, gyda'r pwynt mae'n gwneud, ond, ar lawr gwlad, fyddwn i fy hunain yn synnu pe bai 99 y cant o bobl sy'n defnyddio'r ap yn sylwi bod gwahaniaeth wedi bod. Felly, mae eisiau cymryd rhywfaint o gysur o hynny. Dyw e ddim yn grêt, ond dyw'r Gymraeg ddim yn cael ei—. Mae'n cael ei thrin yn wahanol i'r ieithoedd mwyaf, ond dyma ran o gynllun ehangach gan Duolingo. O safbwynt y Gymraeg, un o'r pethau calonogol, roeddwn i'n meddwl, oedd ymateb Duolingo i'r ymgyrch ar ran pobl sy'n medru'r Gymraeg. Doedden nhw ddim wedi gweld unrhyw beth o'r fath o'r blaen, felly, mae hwnna'n dangos rhywbeth i ni, rwy'n credu, am yr angerdd a'r ymdeimlad sydd o blaid dysgu'r Gymraeg. Bydd gennym ni fwy i ddweud o ran technoleg a defnydd o gyfieithu ar y pryd yn Teams maes o law. Mae datblygiadau ar y gweill ynglŷn â hynny fydd yn cael eu croesawu, rwy'n sicr.

Mae gan bawb rôl i'w chwarae, Llywydd, i warchod y Gymraeg ac i weithio tuag at dargedau 'Cymraeg 2050', a dwi'n sicr bod yr adroddiad hwn yn dangos y comisiynydd yn chwarae rhan ganolog iawn yn hynny. Mae Efa, yn ei blwyddyn lawn gyntaf, wedi dweud yn glir beth yw ei blaenoriaethau. Mae pobl yn ganolog i'w gweledigaeth, gan gynnwys sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg, a phobl yn cael pob cyfle i ddefnyddio'r iaith wrth ddefnyddio gwasanaethau hanfodol, fel ym maes iechyd. Mae hi'n awyddus i wrando ar beth sydd gan gyrff ac unigolion i'w ddweud am y Gymraeg, ac yn benderfynol o annog sefydliadau ac unigolion i weithio gyda'i gilydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r iaith.

I ateb pwynt Heledd Fychan, wrth edrych tua'r dyfodol, er yr heriau sy'n dod yn sgil canlyniadau'r cyfrifiad, mae'r naratif o gwmpas y Gymraeg yn sicr wedi newid ac mae yna gefnogaeth, rwy'n credu, yn fwy nag erioed i'r iaith. Roedd y data, wrth gwrs, yn siomedig, ac mae gofyn inni gydio yn yr egni hwnnw a'r awydd sydd o'n cwmpas ni i gydweithio i wneud gwahaniaeth i'r Gymraeg. Felly, gadwech inni barhau i wneud hynny gyda'n gilydd ar ein taith tua'r filiwn ac i ddyblu defnydd dyddiol o'r iaith. A gofynnaf i chi, felly, nodi'r adroddiad blynyddol hwn yn ffurfiol, gan ddisgwyl ymlaen at flwyddyn arall o gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac, felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitm yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Fe fyddwn ni nawr yn trafod egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ac hefyd y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig yma, o dan 8 a 9, yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. 

8. & 9. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, felly, awn ni ymlaen at gyflwyniad y cynnig gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Cynnig NDM8464 Mick Antoniw

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

Cynnig NDM8465 Mick Antoniw

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ac i wneud cynigion ar yr egwyddorion hynny ac ar y penderfyniad ariannol. 

Nod cyffredinol y Bil yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru. Mae maint y Senedd yn dylanwadu'n fawr ar allu'r Aelodau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'n effeithio ar ei gallu i graffu, i wrando ar etholwyr a'u gwasanaethu. Erbyn hyn, mae gyda ni 20 mlynedd o adroddiadau sy'n dangos bod angen cynyddu'r Senedd i sicrhau democratiaeth o safon sydd i'w disgwyl gan senedd a deddfwrfa fodern yn yr oes sydd ohoni. 

Craffu ar y llywodraeth a'i dwyn i gyfrif yw sylfaen democratiaeth seneddol. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r craffu hwnnw. Mae'n rhan ganolog o ddemocratiaeth iach. Mae'n ffordd sylfaenol o wirio cydbwysedd, a gallu dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym. Mae democratiaethau yn meithrin dadl a her. Maen nhw'n credu bod polisïau a chyfreithiau yn cael eu llunio orau drwy graffu seneddol, a dyna pam mae'r Bil hwn yn fuddsoddiad yn y gwaith o foderneiddio ein democratiaeth a'i gallu i graffu ar lywodraeth.

Rwy'n ddiolchgar i holl aelodau'r Pwyllgor Biliau Diwygio, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu gofalus a manwl ar y Bil, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at gasglu tystiolaeth. Er nad wyf yn gallu cytuno â phob argymhelliad a wnaed gan y pwyllgorau, rwy'n cefnogi llawer o'r argymhellion ac yn credu y byddant yn gwneud gwelliant gwerthfawr i'r ddeddfwriaeth a'i dogfennau ategol. Ni fydd gennyf amser y prynhawn yma i ymateb i bob un o'r 80 o argymhellion a wnaed gan y tri phwyllgor, ond, gan gydnabod y bydd y Bil cyfansoddiadol hwn yn destun craffu gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan, y bydd pob Aelod yn rhan ohono, yng Nghyfnod 2, rwyf wedi ceisio ymateb yn gyflym i'r argymhellion yn ysgrifenedig, a byddaf yn ceisio manylu ar fy safbwynt ar nifer ohonynt heddiw.

Felly, yn gyntaf oll, rwy'n croesawu argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Biliau Diwygio y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Mae hon yn garreg filltir allweddol yng nghynnydd y ddeddfwriaeth nodedig hon, sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i gryfhau ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru ac i fynd i'r afael â diffyg capasiti hirsefydlog ein Senedd genedlaethol. Rwyf hefyd yn cytuno â'u hargymhelliad y dylai Aelodau'r Senedd, drwy gydol eu gwaith craffu parhaus ar y Bil, roi sylw i'r materion a amlygwyd yn adroddiad y pwyllgor, ac, yn wir, y rhai a amlygwyd gan y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Wrth gytuno â hynny, nodaf hefyd argymhelliad 14 y pwyllgor, a oedd yn galw arnaf i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd i ddod i gytundeb ar sut y gellid diwygio'r Bil i sicrhau bod y system etholiadol yn rhoi llais cryfach i bobl Cymru ac atebolrwydd cliriach i Aelodau unigol, a byddaf yn gwneud fy ngorau. Rwy'n credu y gall y system cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig arfaethedig y mae'r Bil hwn yn darparu ar ei chyfer gyflawni'r uwchfwyafrif sy'n angenrheidiol er mwyn iddo gael ei phasio ac y bydd yn llawer gwell na'n system etholiadol bresennol. Bydd yn gwella democratiaeth ac yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif, a bydd yn arwain at Senedd sy'n llawer mwy cynrychioliadol o bobl Cymru, yn ein holl amrywiaethau. Mae'n symleiddio'r system bresennol—bydd pleidleiswyr yn cael un papur pleidleisio yn lle dau—ac mae'n system sydd eisoes yn gyfarwydd i bleidleiswyr, gan ei bod yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer pleidleisiau rhestrau rhanbarthol ac arferai gael ei defnyddio ar gyfer ethol ASEau, Aelodau Senedd Ewrop. Mae rhestrau caeedig hefyd yn cynnig system ymarferol go iawn lle gall pleidiau gymryd camau i fynd i'r afael ag amrywiaeth wrth gynrychioli'r cyhoedd yng Nghymru.

Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod yna wahaniaeth barn a bod y cynnig yn y Bil, yn wir, yn gyfaddawd—cyfaddawd i gyflawni'r ddwy ran o dair sy'n angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei basio ac yn dod yn gyfraith, oherwydd os na chaiff ei basio, yna ni fydd dim yn newid. Felly, yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrth y Senedd hon yw, ar gyfer yr etholiad cyntaf hwn o dan y Bil, efallai na fydd yr hyn sydd gennym yn mynd mor bell ag y byddai rhai yn ei hoffi, ond mae'r Bil yn darparu gofyniad statudol i gynnal adolygiad ar ôl etholiadau 2026. Bydd hynny'n rhoi cyfle i'r Aelodau adolygu sut mae wedi gweithio, pa wersi y gellir eu dysgu a pha newidiadau, os o gwbl, y dylid eu gwneud. Mae'r pŵer ar gyfer newid pellach yn aros gyda'r Senedd.

Gan droi at agweddau eraill ar y Bil, byddwn i'n dweud wrth yr Aelodau fy mod i'n agored i ddeialog adeiladol ar sut y gellid gwella'r Bil ymhellach. Er enghraifft, rwy'n croesawu argymhellion 15 a 50 y pwyllgor mewn perthynas ag enwau ymgeiswyr ar y papur pleidleisio ac adalw, y gellid ystyried bod y ddau ohonynt yn mynd rhywfaint o'r ffordd i roi llais cryfach i bleidleiswyr ac i wella atebolrwydd yr Aelodau i'w hetholwyr.

Nid wyf wedi derbyn argymhelliad 6 y Pwyllgor Biliau Diwygio nac argymhelliad 7 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a oedd ill dau yn galw am ddileu pŵer yn y Bil sy'n darparu ar gyfer cynyddu'r terfyn deddfwriaethol ar Weinidogion Cymru i 18 neu 19. Mae cynnwys y pŵer hwn yn cynnig diogelwch ar gyfer y dyfodol, gan alluogi Llywodraethau Cymru yn y dyfodol i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i amgylchiadau heb ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn unswydd i gynyddu'r terfyn deddfwriaethol gan un neu ddau Weinidog.

Rwyf wedi archwilio a ellid bwrw ymlaen ag argymhelliad 8 y Pwyllgor Biliau Diwygio i ddod ag unrhyw ddefnydd o'r pŵer hwn i ben, ond rwyf wedi nodi y byddai gwelliannau o'r fath yn debygol o effeithio ar adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sydd wedi'i diogelu rhag cael ei haddasu, ac felly rwy'n gwrthod yr argymhelliad ar y sail honno. Fodd bynnag, rwy'n cytuno ag argymhelliad 7 y Pwyllgor Biliau Diwygio y dylai'r pŵer hwn fod yn ddarostyngedig i fwyafrif o ddwy ran o dair, o gofio y bydd defnyddio'r pŵer hwn yn effeithio ar allu'r Senedd i graffu.

Rwyf hefyd wedi derbyn argymhellion 9, 11, 13, 19, 21, 24 a 26 y pwyllgor, gan ddarparu rhesymeg ac ystyriaethau yn ôl y gofyn, ac ymrwymo i ymgymryd â gwaith ac ystyriaeth pellach. Fodd bynnag, nid wyf wedi derbyn argymhelliad 28, a oedd yn galw am welliannau i leihau'r amrywiad a ganiateir o ran y cwota etholiadol o 10 y cant ar adolygiadau o ffiniau etholaethol. Wrth ystyried yr elfen hon o adroddiad y pwyllgor, rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan yr Athro Renwick bod lefel cwota etholiadol yn gyfaddawd yn y bôn rhwng cydraddoldeb cynrychiolaeth a'r hyblygrwydd i ymateb i faterion fel daearyddiaeth, cysylltiadau lleol a chysylltiadau cymunedol. Nodaf hefyd fod cyrff fel Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a Boundaries Scotland wedi mynegi pryderon i'r pwyllgor, po fwyaf anhyblyg yw'r amrywiad, y mwyaf tebygol ydyw y gallai arwain at sefyllfaoedd y gellir eu hosgoi fel arall, fel etholaethau daearyddol mawr iawn neu dorri cysylltiadau cymunedol. Felly, oherwydd hyn, er fy mod yn cydnabod y pryderon a nodwyd gan yr Aelodau ynghylch amrywiadau o ran maint etholaethau, rwy'n credu bod amrywiad o tua 10 y cant yn cydbwyso pryderon o'r fath yn erbyn y rhai a allai godi yn sgil cwota etholiadol mwy anhyblyg.

Rwyf wedi derbyn argymhelliad 31 yn adroddiad y pwyllgor, a oedd yn galw arnaf i gyflwyno gwelliannau i leihau'r cyfnod a roddir i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i roi effaith i argymhellion Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o chwe mis i bedwar mis. Bydd hyn yn golygu y bydd rheoliadau dwyieithog yn cael eu gwneud yn yr un amser â'r rhai sy'n deillio o adolygiadau seneddol y DU.

Rwyf hefyd wedi derbyn argymhelliad 33, gan ymrwymo i gyflwyno gwelliannau fel bod yn rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru roi un enw uniaith i etholaethau'r Senedd os yw hynny'n dderbyniol ar gyfer cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ac rwy'n credu bod y dull hwn yn cyd-fynd â'n delfryd ehangach o gysoni enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg, yn enwedig mewn achosion lle nad oes llawer o wahaniaeth rhyngddynt. Yn yr un modd, rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 39, a oedd yn galw arnaf i ddarparu mecanwaith ar gyfer sicrhau bod ymgeisydd wrth gefn a fyddai fel arall yn gymwys i ymgymryd â swydd wag sy'n codi yn ystod tymor y Senedd yn cael ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd os ydyw, ers yr etholiad, wedi dod oddi ar y fath gofrestr. Felly, rwy'n archwilio opsiynau ar gyfer cyflwyno'r argymhelliad hwn.

Gan symud ymlaen, nid wyf wedi derbyn argymhelliad 41 y Pwyllgor Biliau Diwygio, a oedd yn galw am ddileu adrannau 7 a 19 o'r Bil, nac argymhellion cyfatebol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cydnabod bod yr Aelodau wedi mynegi pryderon ynghylch priodoldeb cyfansoddiadol y darpariaethau hyn, ond nid wyf yn cytuno eu bod yn broblem gyfansoddiadol. Mae yna enghreifftiau eraill o ddyletswyddau statudol yn cael eu gosod ar y Llywydd, ac ni fydd gosod dyletswydd ar y Llywydd yn cyfyngu Senedd y dyfodol i gamau gweithredu penodol. Bydd o fewn pŵer y seithfed Senedd yn llwyr i benderfynu sut mae'n ymateb i'r cynigion y mae adrannau 7 a 19 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd eu cyflwyno. P'un a fydd yn diwygio cynigion o'r fath, p'un a fydd yn cytuno ar y cynigion ac, os cytunir arnynt, sut y caiff unrhyw waith sy'n deillio o gynigion o'r fath eu datblygu, rwy'n credu'n gryf bod y gwaith a ragwelir gan y cynigion yn briodol i'r Senedd ei ystyried.

Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn argymhelliad 47, a byddaf yn anelu at ddiwygio'r Bil er mwyn sicrhau, os bydd y Senedd nesaf yn penderfynu sefydlu pwyllgor o dan y cynnig y darperir ar ei gyfer gan adran 19, ac os bydd y pwyllgor hwnnw'n cynhyrchu adroddiad, y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i ymateb i'r adroddiad hwnnw.

Rwyf hefyd yn croesawu ac yn derbyn ystod o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan nodi barn ac esboniadau mewn ymateb i argymhellion 4, 6, 9, 12, 13 a 14, er enghraifft. Yn yr un modd, rwyf wedi derbyn ystod o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid. Mae llawer o'u hargymhellion yn fy ngwahodd i ymgynghori â Chomisiwn y Senedd, ac, mewn rhai achosion, i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol wedi hynny. Mae trafodaethau rhwng y Llywodraeth a Chomisiwn y Senedd eisoes wedi dechrau mewn perthynas â nifer o'r argymhellion hyn, ac rwy'n rhagweld y byddaf yn darparu ymatebion manylach i'r pwyllgor maes o law.

Dwi'n edrych ymlaen at glywed eich barn ar y Bil hwn. Rydyn ni wedi aros 20 mlynedd am y diwygiadau hyn a dwi'n credu eu bod yn helpu i greu Senedd i Gymru a fydd yn addas i'r diben am yr 20 mlynedd nesaf a thu hwnt. Diolch yn fawr.

18:15

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon y prynhawn yma glywed y bydd Ceidwadwyr Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) heno.

Mae angen mwy o feddygon, nyrsys, deintyddion ac athrawon ar Gymru, does dim angen mwy o wleidyddion arni. Ac mae'n drueni mawr, Llywydd, gweld amser, egni ac adnoddau Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn canolbwyntio ar ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn arwain at gynnydd rhyfeddol o 60 y cant yn nifer Aelodau Senedd Cymru pan allem fod yn trafod materion sy'n bwysicach i bobl Cymru, fel helpu cleifion i gael mynediad at feddygon, deintyddion, profion a thriniaeth, codi safonau gwael yn ein hysgolion a darparu swyddi â chyflogau gwell i weithwyr yng Nghymru. Dyma flaenoriaethau pobl Cymru a dylen nhw fod yn flaenoriaethau i ni fel eu cynrychiolwyr etholedig hefyd.

Dydw i erioed wedi cnocio ar ddrws yng Ngorllewin Clwyd, neu Ogledd Clwyd—. Pan wyf wedi siarad â'r cyhoedd, dydyn nhw erioed wedi dweud mai eu blaenoriaethau nhw yw gweld mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd. Yn hytrach, maen nhw'n dweud wrthyf eu bod am weld camau i ddarparu gwell ysgolion, ysbytai, ffyrdd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Rwyf wedi clywed y rhai sy'n cynnig diwygio'r Senedd yn dweud y gallwn ni fynd i'r afael â'r holl faterion eraill hyn, yr holl flaenoriaethau eraill hyn, ac ehangu maint y Senedd ar yr un pryd, ond nid yw hynny'n wir, oherwydd bydd costau Senedd fwy o faint a mwy o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn rhedeg i ddegau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn, ac mae hynny'n ddegau o filiynau o bunnoedd na fyddwn yn gallu eu buddsoddi yn ein hysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Llywydd, Bil Llywodraeth Cymru yw'r Bil sydd ger ein bron heddiw, nid Bil y Senedd, fel y mae'r Gweinidog wedi ceisio ei gyflwyno. Mae'n ceisio cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhaglen ddiwygio sy'n deillio o gytundeb rhwng cyn-arweinydd Plaid Cymru a chyn-arweinydd Llafur Cymru yn fuan heb aros am ganlyniad gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, gan ddwyn anfri ar y Senedd y maen nhw'n honni eu bod am gryfhau. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori ymlaen llaw ag Aelodau o'r naill grŵp gwleidyddol perthnasol, ac, yn bwysicach fyth, wrth gwrs, ni chafwyd ymgynghori ag aelodau'r cyhoedd chwaith.

Llywydd, dylid ond gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y caiff Aelodau'r Senedd hon eu hethol gyda chaniatâd y cyhoedd yr ydym yma i'w wasanaethu, ac eto nid oes unrhyw fandad cyhoeddus o gwbl ar gyfer y newidiadau a gynigir yn y Bil hwn. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod nad yw'r mwyafrif llethol o'r cyhoedd yn cefnogi cynyddu maint y Senedd; cafodd hynny ei gadarnhau gan dystiolaeth a gasglwyd gan bwyllgor diwygio'r Senedd. Cawsom lwyth o ohebiaeth gan y cyhoedd yn gwrthwynebu'r Bil sydd ger ein bron heddiw, o'i gymharu â dim ond rhywfaint bach o gefnogaeth gan y cyhoedd a ddaeth i law drwy ohebiaeth. Ac roedd hyd yn oed y rhai a oedd o blaid diwygio'r Senedd yn cydnabod, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r dadleuon o blaid Senedd fwy o faint i'r cyhoedd, eu bod yn parhau i fod yn anargyhoeddedig o'r angen i newid.

Mae ASau Llafur a Phlaid wedi bod yn hawlio bod mandad ar gyfer y newidiadau arfaethedig. Maen nhw'n dweud bod y cyfeiriadau niwlog yn eu maniffestos at ddiwygio'r Senedd yn rhoi'r cwmpas angenrheidiol iddyn nhw gyflwyno'r pecyn hwn o fesurau. Ond nid yw hynny'n wir o gwbl, onid yw? Nid oedd maniffesto'r Blaid Lafur, cyn etholiadau diwethaf y Senedd, yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at gynyddu nifer Aelodau'r Senedd. Nid oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at newid y system bleidleisio, ac nid oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at ddileu cyfleoedd i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis. Fe wnaeth maniffesto Plaid gyfeirio o leiaf at Senedd fwy o faint a newid i'r system bleidleisio, ond nid y newid a gynigiwyd drwy'r Bil penodol hwn, ac ni wnaethant sôn am gynnydd o 60 y cant ym maint y Senedd chwaith. Ni soniodd neb am y system bleidleisio rhestrau caeedig hon sydd wedi'i chynnig yn y Bil. A gadewch i mi fod yn glir: mae hon yn system sy'n gyfystyr ag ymgais gan bleidiau gwleidyddol i gipio pŵer, gan gymryd pŵer oddi wrth y pleidleiswyr a'u hatal rhag gallu pleidleisio dros ymgeisydd o'u dewis. [Torri ar draws.] Byddaf yn hapus i gymryd ymyriad.

18:20

Pwy a'ch dewisodd chi i fod yn ymgeisydd? Ai'r cyhoedd neu'ch plaid wleidyddol? Sut mae hyn yn wahanol i'r ffordd y caiff ymgeiswyr eu dewis ar hyn o bryd?

Y peth gwych am y system bleidleisio bresennol yw, os nad yw aelodau'r cyhoedd yn hoffi'r dewis a wneir o ran yr ymgeisydd a ddewisir gan fy mhlaid wleidyddol, nid oes rhaid iddynt bleidleisio drosof. Dyna'r gwahaniaeth. Efallai eich bod am gymryd pŵer oddi wrth bobl Cymru. Dydyn ni ddim, a byddwn ni'n eu hamddiffyn i'r eithaf. Mae'r gallu i bleidleisio dros berson ac nid plaid yn unig yn gwbl hanfodol. Mae'n sicrhau bod atebolrwydd uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr etholedig a'r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu. Mae diddymu system bleidleisio sy'n caniatáu'r dewis hwnnw o blaid un sy'n rhoi pwerau enfawr i bleidiau gwleidyddol benderfynu pwy sy'n cael eu hethol a phwy sydd ddim yn arwain at Senedd lle mae teyrngarwch i'ch plaid wleidyddol yn bwysicach na'ch teyrngarwch i'ch etholwyr, ac a dweud y gwir, bydd yn ddinistriol i ddemocratiaeth Cymru. Bydd hefyd—[Torri ar draws.] Os byddwch chi'n caniatáu i mi gymryd ymyrraeth, byddwn yn hapus i wneud hynny. 

Mae'n rhaid i chi gyfaddef bod arweinydd eich plaid eich hun yma wedi cael ei ddewis trwy system restr gan aelodau ei blaid ei hun.

Mae'r bobl yn fy etholaeth i yn cael cyfle i bleidleisio dros berson unigol, ac wrth gwrs mae ganddyn nhw bleidlais dros blaid wleidyddol ar restr. Ond mae ganddyn nhw bleidlais. Pawb yn y wlad hon—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod nad ydych chi eisiau gwrando, ond os byddwch chi'n caniatáu i mi ymateb—

Y gwir amdani yw y gall pawb yng Nghymru ar hyn o bryd mewn etholiad Senedd bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis. Rydych chi am fynd â'r gallu hwnnw oddi wrthyn nhw.

Bydd y system sydd ger ein bron hefyd yn darparu Senedd Cymru lai cynrychioliadol oherwydd bod angen i ymgeiswyr sicrhau 12 y cant o'r bleidlais mewn etholaeth unigol er mwyn sicrhau un sedd. Rydych chi'n ceisio dadlau y bydd yn fwy cynrychioliadol, ac eto mae'r pleidiau llai hynny, y mae un ohonyn nhw'n cael ei chynrychioli yn y Senedd ar hyn o bryd ond efallai na fydd yn y dyfodol, yn mynd i ddioddef o ganlyniad i hynny, ac rydych chi'n mynd i dawelu eu pleidleiswyr. Felly, nid oes unrhyw fandad cyhoeddus ar gyfer y newidiadau hyn. Rwy'n gwerthfawrogi bod rhai aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill yn credu bod cefnogaeth gan y cyhoedd, felly dywedaf hyn wrthych: os felly, gadewch i ni gael refferendwm. Gadewch i bobl Cymru ddewis a ddylid cymeradwyo'r system erchyll hon i ethol pobl i'r Senedd hon ai peidio, a gallaf ddweud wrthych pa fysedd y byddan nhw'n eu defnyddio i'ch cyfarch mewn ymateb.

Roeddwn i mor awyddus i alw Darren Millar nes i mi anghofio galw Cadeiryddion y tri phwyllgor, oedd i fod i gael eu galw'n gyntaf. Ymddiheuraf i'r tri. David Rees, Cadeirydd pwyllgor y Bil. 

Diolch, Llywydd. Cyn i mi ganolbwyntio ar adroddiad y pwyllgor, hoffwn ddiolch i'r tystion a roddodd dystiolaeth, ac i'r unigolion hynny a gymerodd amser i gyflwyno barn ysgrifenedig i'r pwyllgor. Cafodd popeth a glywsom ac a ddaeth i law ei ystyried wrth ddod i'n casgliadau. Hoffwn hefyd fynegi diolch y pwyllgor i'r tîm clercio a'n cefnogodd, oherwydd heb eu hymroddiad a'u hymrwymiad nhw, ni allem fod wedi ymgymryd â'r gwaith hwn a chynhyrchu'r adroddiad i chi ei ystyried heddiw.

Llywydd, cafodd y pwyllgor y dasg o graffu ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), neu, fel y mae llawer ohonom yn cyfeirio ato, Bil diwygio'r Senedd, yng Nghyfnod 1. Ni ofynnwyd i ni ystyried a oedd angen diwygio'r Senedd, na ffurf y diwygio hwnnw. Roedd pwyllgorau blaenorol y Senedd hon a Seneddau cynharach wedi ystyried y materion hynny. Gofynnwyd i ni ystyried y Bil y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflwyno, ac a oedd y Bil hwnnw'n cyflawni'r cynigion diwygio a fyddai'n sicrhau gwell craffu democrataidd i bobl Cymru, a fydd yn arwain at ddemocratiaeth iachach yng Nghymru.

Gyda'r cylch gwaith hwn yn glir, gwnaethom ymgymryd â'r gwaith craffu gyda'r bwriad o wneud sylwadau ynghylch a ydym yn credu y dylai'r Bil symud ymlaen ac, os felly, sut y gellid ei wella i gryfhau iechyd democrataidd ein cenedl, gan gydnabod bob amser y ffaith y byddai newidiadau cyfansoddiadol o'r fath yn gofyn am gefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau'r Senedd hon. Wrth wneud hyn, fe wnaethom atgoffa'n hunain, fel Aelodau o'r Senedd, ein bod yn cael ein hethol i weithio dros y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli a gyda nhw. Ein gwaith ni yw sicrhau bod buddiannau ein cymunedau ym mlaenau ein meddyliau pan fyddwn ni'n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a phan fyddwn ni'n ceisio gwella penderfyniadau polisi, deddfwriaeth, gwariant a threthiant drwy waith craffu cadarn ac effeithiol.

Mae angen i ni fod yn hyderus y bydd y strwythurau a fydd ar waith yn caniatáu i'r craffu manwl hwnnw ddigwydd. Ac yn erbyn cefndir o newid parhaus, mae'r Senedd a'i Haelodau wedi dod o hyd i ffyrdd o weithio'n wahanol ac yn fwy effeithlon, ond wrth wneud hynny rydym yn aml wedi gweld gallu sefydlog y Senedd yn cael ei ymestyn i'r eithaf. Mae'r Bil hwn gan Lywodraeth Cymru yn garreg filltir allweddol yn natblygiad y Senedd, ac yn natblygiad democratiaeth yng Nghymru, yr ydym i gyd yn ei gwerthfawrogi cymaint. Mae'r Bil yn cwmpasu ystod eang o ddiwygiadau, ac mae'r pwyllgor wedi archwilio'r rhain yn fanwl, sydd wedi ein galluogi i ddod i'n casgliadau.

Yn dilyn ein gwaith craffu, gwnaethom gyhoeddi adroddiad, a oedd yn cynnwys 50 o argymhellion, a'r cyntaf oedd bod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor wedi'u darbwyllo gan y dystiolaeth y byddai Senedd ddiwygiedig a mwy o faint yn gallu cyflawni ei chyfrifoldeb yn well i bobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol. O'r herwydd, gwnaethom argymell bod y Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol fel bod y Bil yn gallu symud ymlaen i gyfnod nesaf y broses ddeddfwriaethol. Nodaf fod y Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio at hynny. Byddwn i wedi synnu pe na bai wedi dweud ei fod yn cytuno â'n penderfyniad. Rwy'n falch iawn ei fod wedi cytuno â'n penderfyniad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod cefnogaeth ddiamod i holl ddarpariaethau'r Bil. Mae yna elfennau yr ydym yn credu bod angen myfyrio arnynt ymhellach, a dyna pam y gwnaethom argymhellion gwahanol.

Deallais yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n croesawu'n fawr yr argymhellion y mae wedi'u derbyn, ond roedd rhai yr wyf yn dal i feddwl bod angen iddo eu hystyried ymhellach. Yr hyn oedd yn peri'r pryder mwyaf i ni oedd y system etholiadol rhestr gaeedig arfaethedig sydd yn y Bil. Arweiniodd y dystiolaeth a gawsom at bryder ynghylch yr effaith y byddai'n ei chael ar ddewis pleidleiswyr, a'r graddau y bydd yn cyfrannu at ddemocratiaeth iach yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod bod y system hon yn cael ei defnyddio eisoes i ethol Aelodau rhanbarthol i'r Senedd, mae yn newid y berthynas sydd gan bleidleiswyr ag unigolyn a enwir y maent wedi pleidleisio drosto yn y system cyntaf i'r felin bresennol.

Nid yw'r pwyllgor wedi dod i gasgliad ynghylch pa system etholiadol y dylid ei defnyddio, er ein bod wedi clywed tystiolaeth am restrau hyblyg a'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, ac yn credu y gallai'r naill system neu'r llall fynd rhywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â'r pryderon yr ydym wedi'u clywed am ddewis pleidleiswyr, atebolrwydd a dylanwad pleidiau ar y rhestrau. Rydym yn annog pob plaid wleidyddol yn y Senedd i gydweithio er mwyn sicrhau bod y system sy'n cael ei chyflwyno yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn gwella atebolrwydd i etholwyr yn y dyfodol.

Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi ffyrdd eraill o wella'r Bil er mwyn sicrhau bod democratiaeth Cymru yn parhau i fod yn flaengar ac yn iach, gan gynnwys, er enghraifft, addasiadau o ran nifer comisiynwyr y comisiwn democratiaetha ffiniau; newidiadau technegol, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u derbyn; a ffyrdd ymarferol o roi'r anghymhwysiad preswylio newydd ar waith ar gyfer ymgeiswyr ac Aelodau. Rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn un o'r rheini hefyd. Rydym hefyd am weld newidiadau i adran 5 y Bil, ynghylch maint Llywodraeth Cymru. Gwrandawais ar yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol, a deallais ei ddadl ar GOWA, ond rwy'n dal i feddwl, ac rydym yn credu, ei bod yn bwysig nad ydym yn defnyddio pwerau rheoleiddio yn unig—y dylid defnyddio deddfwriaeth sylfaenol os ydych yn dymuno cynyddu nifer Gweinidogion Cymru.

Roedd mwyafrif o aelodau'r pwyllgor yn credu y dylai newidiadau o'r fath gael eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, ac felly rydym yn galw ar i'r pwerau rheoleiddio hynny gael eu dileu ac ar i'r Cwnsler Cyffredinol ailystyried y sefyllfa honno. Rydym yn gwerthfawrogi bod angen iddo gryfhau'r broses, ac mae wedi derbyn y mwyafrif o ddwy ran o dair, ond rydym yn dal i ofyn iddo fynd yn ôl i feddwl am yr ateb deddfwriaethol sylfaenol fel yr argymhellir.

Mae gennym bryderon hefyd am adrannau 7 a 19 yn y Bil, y mae'r Cwnsler Cyffredinol, unwaith eto, wedi'u gwrthod, fel y nodwyd ganddo, oherwydd credwn fod y gofyniad i osod rheolau ar Lywydd yn y dyfodol i gyflwyno cynigion i gynnig sefydlu pwyllgorau i wneud gwaith penodol—rydym yn poeni am y gofynion hynny. Rydym yn credu, er enghraifft, bod adran 7 yn gohirio gwaith pellach ar rannu swyddi yn ddiangen—pam na allwn ni ddechrau hynny nawr? Does dim rhaid i ni roi cynnig i'r Senedd nesaf ar gyfer hynny? Ac nid yw adran 19 yn gyson â darpariaethau adolygu cyfraith etholiadol eraill sy'n gosod dyletswyddau ar lywodraethau. Byddai hefyd yn gosod cyfyngiadau sylweddol ar yr amserlen ar gyfer gwaith unrhyw bwyllgor. Rydym hefyd wedi clywed pryderon am egwyddor y darpariaethau hyn, yn enwedig y graddau y mae'n briodol i'r Senedd hon rwymo ei holynwyr. Fel Senedd aeddfed, rhaid i'r Senedd fod â'r hyblygrwydd i bennu ei strwythurau ei hun a sut mae'n defnyddio'r gallu hwnnw i graffu, a dyna pam roeddem yn teimlo bod adrannau 7 a 19 yn broblematig o safbwynt cyfansoddiadol. 

Llywydd, rydym hefyd wedi ystyried rhai materion nad ydynt o fewn y Bil, gan gynnwys sut y gall etholwyr ddwyn Aelodau i gyfrif, ac rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sôn am adalw. Rydym yn credu bod y rheini'n gwestiynau pwysig y mae angen eu codi, ond rydym hefyd yn deall pa mor gymhleth yw cymhwyso'r model presennol mewn system rhestr gaeedig. Awgrymodd y comisiynydd safonau fod lle i gryfhau'r trefniadau anghymhwyso a'r sancsiynau i Aelodau sy'n torri'r cod ymddygiad. Felly, credwn y dylai'r Aelodau fod yn atebol, ac mae'r rhain yn gymhleth, ond rydym yn gofyn i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad edrych ar y materion hyn ymhellach i ddatblygu hynny ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Yn olaf, cofiwn, os caiff y Bil hwn ei basio, fod cyfrifoldeb ar bob Aelod o'r Senedd a'n holynwyr sydd i ddod i sicrhau bod gan bobl yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli hyder yng nghadernid ac uniondeb etholiadau'r Senedd, a bod y manteision posibl a'r canlyniadau gwell y mae'r Bil hwn yn eu haddo yn cael eu cyflawni'n ymarferol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n hyrwyddo'r ddealltwriaeth hon o gymhlethdod y Bil a'r angen i sicrhau bod pobl yn dod gyda ni, oherwydd mae'n bwysig bod gan bobl yr hyder hwnnw yn yr hyn yr ydym yn ei wneud.

Llywydd, i gloi, hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor, yn enwedig Jane Dodds a Llyr Gruffydd, a gymerodd le Heledd Fychan yn ystod yr ystyriaeth derfynol, am y ffordd gadarnhaol, hawddgar ac adeiladol y cynhaliwyd ein gwaith. Rwy'n gobeithio y bydd ein gwaith a'r adroddiad a gynhyrchwyd yn helpu'r Aelodau wrth iddynt ystyried y Bil yn y cyfnod hwn ac mewn cyfnodau yn y dyfodol, os caiff ei basio heddiw. Diolch yn fawr.

18:30

Alun Davies nawr i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd. Fel Aelodau eraill, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i staff ac ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith y gwnaethon nhw wrth gyflwyno'r adroddiad hwn. Ar gyfer y cofnod, ac ar gyfer yr Aelodau hynny yma nad ydynt yn ymwybodol o'r materion hyn, ymgymerais â chadeiryddio'r pwyllgor dros dro er mwyn craffu ar y Bil hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i Carolyn Thomas a Luke Fletcher am gamu i'r adwy fel eilyddion i Huw Irranca-Davies ac Adam Price i wneud y gwaith hwn. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn fel pwyllgor i'r ddau ohonoch am hynny.

Llywydd, fe wnaeth ein hadroddiad ar y Bil lunio pedwar casgliad a gwnaeth 14 o argymhellion. O ystyried arwyddocâd y Bil, daethom i'r casgliad y dylid bod wedi dod o hyd i le o fewn yr amserlen i baratoi a cheisio barn ar Fil drafft. Mae craffu cyn deddfu o'r fath yn arbennig o bwysig ar gyfer Biliau o'r math hwn. Byddai wedi rhoi cyfleoedd i Aelodau a phwyllgorau'r Senedd ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ystyried yn gynnar sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn cynnig troi amcanion polisi yn gyfraith. Yn ein barn ni, mae'n hanfodol cael y ddeddfwriaeth hon yn iawn er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol. Byddai Bil drafft wedi bod o gymorth mawr yn y broses hon.

Ar adran 5 o'r Bil, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi gwrthod barn mwyafrif y pwyllgor y dylid dileu adran 5(b). Pe byddai wyneb y Bil yn nodi uchafswm nifer Gweinidogion Cymru fel 19, byddai hyn yn dileu'r angen am bŵer i wneud rheoliadau i newid y ffigur o 17 i 18 neu 19 ar ryw adeg yn y dyfodol. Byddai'n rhoi mwy o hyblygrwydd, ond mewn ffordd fwy priodol.

Ar adrannau 7 a 19, mynegodd ein hadroddiad bryder bod Bil y mae ei nodau'n cynnwys cynyddu dyfnder gwaith craffu'r Senedd a'i allu i ddwyn Llywodraeth Cymru y dydd i gyfrif yn ceisio dylanwadu ac o bosibl cyfyngu ar system pwyllgorau'r seithfed Senedd. Dylai hynny fod yn fater i'r Senedd honno ei benderfynu. Mae Llywodraeth Cymru, yn adrannau 7 a 19, yn gofyn i'r chweched Senedd basio deddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswyddau ar y seithfed Senedd a rhwymo Llywydd y Senedd honno. Wrth wneud hynny, mae'n torri'r egwyddor na ddylai Deddf Seneddol atal rhyddid gweithredu Senedd yn y dyfodol. Nid ydym yn ystyried bod darpariaethau o'r fath yn briodol yn gyfansoddiadol.

Tynnodd ein hadroddiad sylw hefyd at faterion eraill gyda'r adrannau hyn. Er enghraifft, ar adran 7, nodwyd nad oes sicrwydd y bydd y gwaith datblygu polisi a wneir gan bwyllgor—gwaith sydd, ar y cyfan, yn fater i'r Llywodraeth—yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, gan gwestiynu'r defnydd o adnoddau'r Senedd y byddai'n well eu defnyddio ar graffu a dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Rydym felly yn argymell, Llywydd, y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ystyried priodoldeb cyfansoddiadol adrannau 7 a 19 ac a ddylid eu cynnwys yn y Bil.  

Nid yw esboniad y Cwnsler Cyffredinol dros gadw'r adrannau hyn, sef eu bod yn debyg i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n gosod dyletswydd ar y Llywydd i benderfynu a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ai peidio, mae arna'i ofn, yn ddarbwyllol. Mae'r Senedd yn greadur statud. I basio deddfwriaeth, mae Deddf 2006 yn gosod dyletswyddau parhaol ar Lywydd y Senedd fel bod y Senedd yn gallu cyflawni ei rôl ddemocrataidd i ddeddfu. Nid yw hynny'n cyfateb mewn unrhyw ffordd i'r hyn a gynigir yn adrannau 7 a 19 y Bil. Rwyf hefyd yn nodi cyfiawnhad y Cwnsler Cyffredinol dros gadw adran 19 ar y sail bod y Bil yn deillio o bwyllgor pwrpas arbennig. Fodd bynnag, nid yw adran 19 ei hun yn seiliedig ar argymhelliad y pwyllgor hwnnw.

Yn ein barn ni, gellid gwneud gwaith craffu ôl-deddfwriaethol heb fod angen adran 19. Er enghraifft, gallai unrhyw bwyllgor perthnasol o'r seithfed Senedd gytuno i wneud gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Ddeddf, gan osod ei gylch gwaith a'i amserlen ei hun ar gyfer ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Rydym hefyd wedi dod i'r casgliad yn ein hadroddiad mai Bil Llywodraeth yw hwn, yn ei hanfod, ac nad oes unrhyw reswm pam na ellid gosod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i adrodd ar weithrediad ac effaith eu deddfwriaeth eu hunain o fewn cyfnod penodol o amser, fel sy'n ymddangos yn aml mewn Deddfau eraill y Senedd.

Llywydd, rydych wedi caniatáu imi wneud rhai sylwadau personol ar ddiwedd y cyfraniad hwn, ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny. Gan siarad felly, yn bersonol, gadewch imi ddweud hyn: rwyf wedi gwrando ar y ddadl hon ac rwyf wedi mwynhau gwrando a chyfrannu at y sgyrsiau yr ydym wedi'u cael ar draws y lle hwn. Rwyf hyd yn oed wedi mwynhau cyfraniadau Darren Millar. [Chwerthin.] Rwy'n credu, weithiau, ein bod yn colli rhywbeth yn y ddadl hon. Wyddoch chi, rwyf wedi gwrando a chymryd rhan yn y dadleuon hyn bron ers i Kilbrandon gyhoeddi ei adroddiad yn 1973? Ro'n i yn ysgol iau Dukestown ar y pryd; roedd gen i lawer iawn o ddiddordeb. Ond gadewch imi ddweud hyn: rydym wedi trafod y materion hyn am gyfnod rhy hir efallai. Rydym wedi trafod yn rhy hir o bosibl am natur ein democratiaeth. Mae angen i ni bleidleisio ar y materion hyn ac mae angen i ni symud ymlaen.

Gadewch imi ddweud hefyd: eisteddais ar archwiliad y Pwyllgor Cyllid o gostau'r diwygiad hwn. Clywsom farn Darren ar rai o'r materion hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud na wnaeth llawer o'r dadleuon a'r dystiolaeth o'r costau a roddwyd o'n blaenau greu argraff arnaf na fy mherswadio. Nid oedd gwaith craffu y Pwyllgor Cyllid yn dangos bod llawer o'r costau a gyflwynwyd, mewn unrhyw ffordd, yn rhai go iawn, ac rwy'n credu bod angen i ni edrych eto ar rai o'r materion hynny. Ond rwy'n credu, mewn ymdrechion i fesur y gost bosibl, ein bod ni fel pe baem wedi colli golwg ar pam rydyn ni yma.

Rwy'n gwrando ar yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud ar y materion hyn. Gwrandawais ar Darren yn siarad am oesoedd am faint nad oedd yn dymuno cefnogi gwleidyddion ychwanegol—mae gennym ni ormod o wleidyddion, does dim angen mwy. Yr hyn oedd yn mynd trwy fy meddwl i oedd, 'Ydy e wedi cael y sgwrs hon gyda'r Arglwydd Cameron? A yw e wedi cael y sgwrs hon gydag aelodau teulu Boris Johnson? A yw wedi cael y sgwrs hon gyda'r holl roddwyr a'r cronies a'r ffafrgarwyr sydd bellach yn poblogi'r meinciau coch yn Llundain?' Ac wrth gwrs, yr ateb yw, 'Na, dydy e ddim.' Ac mae'n eistedd yn y fan yna gyda'i holl ffrindiau sydd wedi cefnogi—[Torri ar draws.]—o, dyma ni; rhowch eiliad i mi—pwy sydd wedi cefnogi creu'r ddeddfwrfa fwyaf yn y byd yn Llundain, yn fwy na Phlaid Gomiwnyddol Tsieina, heb ddweud gair.

18:40

Fy marn i yw bod angen diwygio Tŷ'r Arglwyddi, Alun. Does gen i ddim problem o ran dweud hynny, ac rwy'n credu ei fod yn rhy fawr, ac mae gennym ni ormod o arglwyddi nad ydyn nhw'n gweithio ac sy'n dal â hawl i eistedd yn y lle hwnnw. Mae hynny'n anghywir ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Ond nid yw dau gamgymeriad yn gwneud un iawn, ac rydyn ni mewn perygl o wneud camgymeriad ofnadwy yma cyn belled ag y mae democratiaeth yng Nghymru yn y cwestiwn, yn enwedig gyda'r system bleidleisio rhestr gaeedig hon.

Ocê. Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw ymwreiddio a dyfnhau democratiaeth, ac mae hynny'n bwysig. Yr hyn sy'n digwydd yn Llundain yw democratiaeth sy'n cael ei thanseilio drwy greu arglwyddi anetholedig ar sail rhoddion i'r Blaid Geidwadol. Mae hynny yn sarhad sylfaenol ar ddemocratiaeth. Ni ddylai ddigwydd a dylech fod yn cefnogi'r ddemocratiaeth yn y lle hwn.

Ond gadewch i mi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Mae gormod o Ddemocratiaid Rhyddfrydol, iawn, digon teg. [Chwerthin.] Ond does dim un o'r bobl hyn byth yn beirniadu'r costau sy'n cael eu hachosi yn San Steffan yn Llundain. Dydyn nhw byth yn beirniadu creu gwleidyddion newydd yn Llundain. Dydyn nhw byth yn beirniadu—[Torri ar draws.] Dydyn nhw byth yn beirniadu—[Torri ar draws.] Dydyn nhw byth yn beirniadu afradlonrwydd Llywodraeth y DU. Dim ond dyfnhau democratiaeth yng Nghymru y maen nhw'n ei feirniadu, oherwydd, yn y bôn, dydyn nhw ddim yn hoffi democratiaeth Cymru, a dydyn nhw ddim yn poeni am ddemocratiaeth Cymru. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae'n bwysig iawn i mi felly ni fyddaf yn eich galluogi chi i danseilio ein democratiaeth ni.

Rwyf hefyd yn credu—ac mae hyn yn bwysig hefyd—rwy'n credu mewn gwirionedd yn y system STV, y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Rwy'n credu bod STV yn grymuso pobl ac yn darparu democratiaeth deg ac atebol. Mae'n llawer gwell na'r cyntaf i'r felin ac mae'n llawer gwell na'r rhan fwyaf o systemau eraill. Rwy'n edrych ymlaen at fod â Llafur mewn Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn cyflwyno STV i weddill y Deyrnas Unedig, ac rwy'n edrych ymlaen, ar ryw adeg yng Nghymru, i ni gyflawni STV yma yng Nghymru hefyd. Ond rwyf hefyd yn cydnabod—a dyma'r rhan anodd—bod cyflawni newid yn golygu cyfaddawdu, ac, i mi, y cyfaddawd mawr a wnaf yn bersonol wrth gefnogi hyn yw peidio â gwthio ymhellach ar STV. Rwy'n credu mai STV—rwy'n credu'n angerddol mai STV yw'r ffurf fwyaf atebol o Lywodraeth a democratiaeth ac mae angen i ni geisio gwneud hynny. Ond rwy'n gobeithio mai'r hyn y gallwn ni ei wneud heddiw yw symud ymlaen i system gyfrannol a fydd yn ein galluogi ni i gynrychioli pobl mewn etholaethau ar hyd a lled y wlad ond hefyd i ddarparu Llywodraeth atebol yma yng Nghymru. Llywydd, byddaf yn gorffen trwy ddyfynnu—[Torri ar draws.]—drwy ddyfynnu Margaret Thatcher. [Torri ar draws.] Margaret Thatcher—[Torri ar draws.] Dywedwyd bod Margaret Thatcher yn gwybod pris popeth a gwerth dim. Nid yw'r Torïaid heddiw wedi dysgu dim ers hynny.

Diolch, Llywydd. A dwi’n croesawu’r cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma heddiw ar ddyfodol y Senedd. Yn ogystal â diolch i swyddogion y Senedd sydd wedi cefnogi’r pwyllgor wrth drafod y Bil yma, hoffwn i hefyd ddiolch i ymgynghorydd arbenigol y pwyllgor, Ailsa Henderson, gan fod ei harbenigedd a'i gwybodaeth am systemau a ffiniau etholiadol wedi rhoi cyd-destun hanfodol er mwyn llywio ein gwaith.

Mae ein hadroddiad yn gwneud 16 o argymhellion. Rwyf hefyd yn falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn mwyafrif ein hargymhellion a bod y gwaith wedi dechrau ar edrych ar rai o’r rhain efo’r Comisiwn ac eraill. Fodd bynnag, dywed ei ymateb bod rhai o'r argymhellion yn faterion i Gomisiwn y Senedd, er bod y pwyllgor wedi nodi'n benodol ei ddisgwyliad mai mater i'r Aelod sy’n gyfrifol yw darparu'r ffigurau hyn, mewn ymgynghoriad â'r Comisiwn.

Er ein bod yn derbyn bod y Bil hwn yn anarferol, gan fod mwyafrif y costau yn disgyn ar gorff heblaw Llywodraeth Cymru, teimlwn fod anfodlonrwydd y Gweinidog, fel yr Aelod sy’n gyfrifol, i gymryd y cyfrifoldeb arweiniol am y costau hyn rhywfaint yn siomedig.

Gan droi at brif ganfyddiadau'r pwyllgor, rydym yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil, fel y nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, mae gan y pwyllgor bryderon ynghylch rhai o'r rhagdybiaethau a ddefnyddir i fodelu'r amcangyfrifon a gyflwynir yn yr asesiad hwnnw a nod ein hargymhellion yw gwella a chynyddu tryloywder costau ac arbedion posibl.

Rydym yn croesawu honiad y Cwnsler Cyffredinol y byddai cynnydd yn y Senedd yn arwain at graffu gwell ar gyllidebau a deddfwriaeth, materion sy'n agos at galon y Pwyllgor Cyllid. Fodd bynnag, rydym yn siomedig na chafodd amcangyfrifon manwl o arbedion eu cynnwys.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn honni bod y Bil yn fuddsoddiad mewn democratiaeth ac y bydd yn talu amdano'i hun. Er ein bod yn derbyn bod craffu gwell yn arwain at ganlyniadau gwell, dylid bod wedi gwneud ymdrechion gwell i feintioli'r manteision craffu. O ganlyniad, rydym wedi argymell bod y Cwnsler Cyffredinol yn modelu'r arbedion disgwyliedig o ganlyniad i'r Bil i fesur effaith manteision craffu. Er ein bod yn croesawu ei barodrwydd i asesu'r arbedion posibl, mae'n drueni na wnaed gwaith o'r fath cyn cyflwyno'r Bil, o gofio bod y cynigion hyn wedi bod ar y gweill am flynyddoedd lawer.

Nodaf sicrwydd y Cwnsler Cyffredinol, mewn ymateb i argymhelliad 12, na fydd angen staff Llywodraeth Cymru ychwanegol, oni bai bod newid mewn cyfrifoldebau datganoledig. Fodd bynnag, nid ydym yn argyhoeddedig o hyd ac rydym yn credu y bydd yn anodd cynnal lefelau cymorth gweinidogol o fewn yr adnoddau presennol os bydd nifer Gweinidogion Cymru yn cynyddu ac rydym yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol edrych yn fanylach ar hyn eto.

Gan droi yn awr at argymhellion eraill sydd â'r nod o wella eglurder amcangyfrifon cost, mae'r pwyllgor yn pryderu y gallai creu etholaethau mwy, ar gyfartaledd, fod â goblygiadau ariannol i gostau teithio a llety yr Aelodau. Rydym wedi argymell ailasesu'r costau gan ddefnyddio ystod yn hytrach na chostau cyfartalog yr Aelodau presennol, sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol lai, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i derbyn mewn egwyddor.

Yn ogystal, gallai cynnydd mwy yn nifer y pwyllgorau, uwchlaw tri fel y cyfrifir amdanynt yn y Bil, efelychu'r angen i Aelodau eistedd ar sawl pwyllgor ac felly gallai amharu ar yr enillion craffu a wneir yn bosibl gan Aelodau ychwanegol. Mae argymhelliad 5 yn galw am wneud mwy o waith modelu i ddeall y manteision craffu a'r effaith y byddai cynnydd yn nifer y pwyllgorau yn ei gael. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno i drafod hyn ymhellach gyda'r Comisiwn ac rydym yn annog y gwaith hwn i gael ei wneud i sicrhau bod manteision craffu yn cael eu gwireddu, ac mae wedi cadarnhau bod rhywfaint o'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn dynnu sylw at ein hargymhellion yn ymwneud â chostau adolygiadau ffiniau yn y dyfodol. Bydd adolygiadau a gynhelir ar ôl yr ymarfer paru cychwynnol ar gyfer etholiad 2026 yn cael eu llunio fel nad oes unrhyw etholaeth newydd 10 y cant dros neu o dan gydraddoldeb etholiadol. Gall hyn fod yn fenter gymhleth a all arwain at newid sylweddol ac arwain at gostau uwch. Rwyf yn ddiolchgar i’r Cwnsler Cyffredinol am gytuno i ddarparu diweddariad ar gostau unwaith y bydd yr holl newidiadau perthnasol i ffiniau wedi’u cwblhau, er mwyn galluogi’r pwyllgor neu bwyllgor cyllid yn y dyfodol i ddeall effaith ariannol lawn y Bil. 

Llywydd, ein gwaith ni fel pwyllgor yw sicrhau bod yr amcangyfrifon costau a gyflwynir ynghyd â'r holl ddeddfwriaeth a gyflwynir yn y Senedd mor gadarn a chywir â phosib. Rydym yn fodlon â'r costau a gyflwynir ochr yn ochr â'r Bil nodedig hwn, ond credwn fod angen 'fine-tune-io' i sicrhau tryloywder llawn. Diolch yn fawr.

18:45

Rydyn ni’n nodi heddiw cam arall yn nhaith y Bil yma, sydd hefyd yn gam mawr i Gymru. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ein bod ni'n adlewyrchu ar bwysigrwydd y Bil yma.

Mae’r darpariaethau ynddo fo, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn gam pendant, a hir ddisgwyliedig, tuag at greu Senedd sy’n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well ac yn creu Senedd go iawn i Gymru fydd yn gryfach, yn fwy effeithiol ac yn fwy cynrychioliadol o’n cenedl ni ymhob ystyr, a hyn mewn lle erbyn 2026.

Mi fydd hyn yn sicrhau chwarae teg i Gymru o ran nifer yr Aelodau yn ein Senedd ni. Pam ddylem ni fodloni ar gael Senedd fach annigonol o’i gymharu efo gwledydd o faint cyfatebol? Pam na fedrwn ni fynnu'r gorau i Gymru o ran democratiaeth? 

Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol—a pheidiwch â gadael i neb ddweud fel arall—oherwydd Cymru fydd y ddeddfwrfa genedlaethol gyntaf ym Mhrydain i gael gwared yn llwyr ar system etholiadol cyntaf i’r felin. Ystyriwch pa mor annemocrataidd ydy'r sefyllfa bresennol lle gall rywun gael eu hethol i fwyafrif y seddau yn y Senedd yma efo’r mwyafrif wedi pleidleisio yn eu herbyn nhw.

Mi fydd y Bil hefyd yn hwyluso cyflwyno cwotâu rhywedd statudol i osod yr addewid o Senedd fwy cynrychioliadol wrth wraidd y sefydliad ar ei newydd wedd. Datblygiad hynod o arwyddocaol a radical arall, ac mi fyddaf yn edrych ymlaen at weld y Bil rhestrau ymgeiswyr etholiadol yn cael ei gyflwyno yn fuan iawn, gan ei bod yn bwysig wrth gwrs i’r Senedd allu ystyried y ddau Fil ochr yn ochr. Wrth ehangu’r Senedd, y peth olaf rydyn ni am ei weld ydy ailbobi neu ail-greu sefyllfa lle mae merched ydy’r mwyafrif tan gynrychioledig yn y lle yma. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb efo'r cyfle i fod yn cynrychioli eu cymunedau yma a chael Senedd sydd yn wirioneddol gynrychioli Cymru.

Mae’r Bil yn darparu mecanwaith, fel y soniwyd yn gynharach, o ran y mecanwaith adolygu, ac mae'n bendant ein bod ni'n mynd i fod angen hynny. Bydd yna waith pellach i’r Senedd nesaf ei wneud tuag at gyflwyno rhannu swyddi. Mae'n rhaid inni gofio mai democratiaeth ifanc ydyn ni—25 mlynedd sydd ers yr etholiad cyntaf i'r Siambr hon. Rydyn ni'n parhau yn ddemocratiaeth newydd, ond mae'n rhaid inni fod yn barod i esblygu fel ein bod ni'n medru gwireddu'r hyn mae pobl Cymru eisiau inni ei wireddu yn y Siambr hon.

Dros y blynyddoedd, mae llawer o baneli a phwyllgorau a chomisiynau wedi cytuno nad yw ein Senedd wedi’i chyfansoddi yn iawn i wneud y gwaith mae pobl Cymru wedi gofyn iddi hi ei wneud. Bu llawer o drafod hefyd am beth ddylai’r system ddelfrydol fod, ac rydyn ni eisoes wedi clywed barn amrywiol. Rydych chi'n gwybod yn iawn, o ran Plaid Cymru, mai system STV neu restrau cyfrannol agored neu hyblyg y bydden ni yn ei ffafrio, ond y flaenoriaeth ydy sicrhau bod pecyn beiddgar o ddiwygiadau yn eu lle erbyn 2026 a sicrhau bod yr adolygiad wedi hynny yn un gwirioneddol fydd yn galluogi rhagor o newid erbyn 2030.

Gwaith sylwebwyr ac academyddion ydy herio a chynnig dadansoddiad a thynnu sylw at yr arfer orau, a dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Biliau Diwygio. Mi oedd o'n anrhydedd bod yn rhan o'r gwaith hwnnw, ac mi fyddwn i'n hoffi diolch i fy nghyd-aelodau, y Cadeirydd a'r holl staff fu ynghlwm yn cefnogi'r gwaith hwnnw. A diolch yn arbennig i Llyr Gruffydd am gymryd fy lle i dros yr wythnosau diwethaf yma. 

Mi ddaeth nifer o themâu pwysig allan ac wedi’u hargymell gan y pwyllgor, gan gynnwys pwysigrwydd sicrhau bod annibyniaeth a llywodraethiant y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru newydd tu hwnt i gwestiwn ac yn ddilychwyn, o ystyried y bydd â’r gair olaf am bennu’r ffiniau heb bleidlais yma. Mae yna nifer o argymhellion penodol gan y pwyllgor yma i gryfhau hyn, ac mi fydd o'n allweddol gweithredu arnyn nhw yng Nghyfnod 2. A dwi'n nodi bod y Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol hefyd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), ac mi oedd hi'n dda clywed y sylwadau yna. 

Mae yna gwestiynau pellach am y cyfarwyddiadau i’r comisiwn, a dwi'n falch bod y Gweinidog yn gwrthod yr argymhelliad i glymu dwylo'r comisiwn o ran cyfyngu ymhellach ar y cwota 10 y cant. Roeddwn i'n falch bod y pwyllgor wedi cytuno hefyd yn unfrydol i osod y fantol o blaid defnyddio enwau Cymraeg ar etholaethau, a bydd angen gwelliannau pellach ar hyn.

Mae’r angen am welliannau mwy technegol i sicrhau does yna ddim canlyniadau anfwriadol o ran y gofyniad preswylio wedi’i grybwyll eisoes, ac mae yna angen am eglurder pellach i’r Senedd ar bwy fydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o gydlynu’r ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r system etholiadol newydd. Mae yna waith pellach hefyd o ran datblygu polisi a datblygu system yng Nghymru i ddatblygu rhaglenni maniffestos y pleidiau ar gyfer llywodraethu Cymru—hyn oll a mwy i’w barhau yng Nghyfnod 2, heb os.

Ond pan fo’r holl dystiolaeth wedi’i chasglu a phawb wedi cael dweud eu dweud, ein gwaith ni fel Aelodau’r Senedd wrth gwrs, fel deddfwyr, ydy gwneud penderfyniadau. Y penderfyniad sy’n ein hwynebu heddiw ydy pwyso a mesur y pecyn yma a’r egwyddorion sydd wedi eu gosod allan fel y maen nhw. Dwi’n falch iawn, ac yn ei hystyried hi'n anrhydedd, o gael pleidleisio dros barhau taith ein democratiaeth, dros gymryd cam ymlaen, tra'n cadw golwg ar ein huchelgais lawn at y dyfodol. Dwi'n annog pob Aelod i gefnogi'r hyn sydd gerbron, er mwyn Cymru a dros ddemocratiaeth.

18:50

A gaf i ddechrau drwy ddweud ei bod hi'n well cael y Bil hwn yn iawn na'i gwblhau yn barod ar gyfer etholiad nesaf y Senedd?

O ran nifer yr Aelodau, yn y 1990au, 80 Aelod oedd y cynnig cychwynnol, ond cafodd hynny ei wyrdroi ar gyfer y 60 Aelod sydd gennym ni heddiw. Mae gan yr Alban 129 o seddi ar gyfer etholaeth o 4,245,000—un Aelod dros bob 32,900 o etholwyr. Mae gan Ogledd Iwerddon 90 Aelod dros etholaeth o 1.3 miliwn—un Aelod ar gyfer pob 15,260 o etholwyr. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 60 Aelod ar gyfer etholaeth o 2,348,000, gan roi 39,140 o etholwyr i bob Aelod. Felly, mae Cymru'n wahanol i'r arfer. Mae gennym ni fwy na'r Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai newid i 96 Aelod yn rhoi 24,464 o etholwyr i bob Aelod, sydd, os edrychwch chi arno, tua hanner ffordd rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, does dim byd anghyffredin amdanom ni'n mynd i fyny i 96.

Ar hyn o bryd mae gennym ni bwyllgorau bach. Rwy'n gwasanaethu gyda Peredur ar y Pwyllgor Cyllid. Mae gennym ni bedwar Aelod: un yn sâl, un wedi'i ddal mewn traffig, does dim cworwm i'r cyfarfod. Bydd unrhyw un sy'n teithio ar hyd yr M4 o'r gorllewin yn ymwybodol iawn o ba mor hawdd yw hi i gael eich dal mewn traffig.

Sut ydych chi'n talu am yr aelodau ychwanegol hyn? Os oes gennych chi fwy o Aelodau, yna bydd angen llai o staff ar y comisiynwyr, fel y comisiynydd plant a'r comisiynydd pobl hŷn, i graffu. Felly, byddai angen cyllidebau llai arnyn nhw.

Byddai'r system rhestr gaeedig bresennol yn golygu mai dim ond rhwng pleidiau a grwpiau y byddai pleidleiswyr yn gallu dewis rhyngddyn nhw, yn hytrach nag ymgeiswyr unigol. Clywodd y pwyllgor a gadeiriodd David Rees dystiolaeth gan arbenigwyr y byddai hyn yn lleihau'r dewis sydd ar gael i bleidleiswyr ac yn peryglu creu anfodlonrwydd ac effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio. Roedd y pwyllgor hefyd yn unedig yn eu pryderon am effaith y system bleidleisio sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar lefel gallu pleidleiswyr i ddewis pwy sy'n eu cynrychioli. Mae cael y system etholiadol yn iawn yn hanfodol i iechyd democratiaeth yng Nghymru, ac rwy'n cytuno â'r pwyllgor ar eu hamheuon sylweddol am y system rhestr gaeedig.

Os pleidleisir dros y Bil yn ystod ei gyfnod cyntaf—ac rwy'n annog bod hynny'n digwydd—yna mae angen ymgynghori pellach ar y system etholiadol. A allwn ni gymeradwyo popeth ond y system etholiadol? Rwy'n meddwl bod mwyafrif yn y fan yma, mae'n debyg—nad ydw i'n un ohonyn nhw—yn ffafrio'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, ond rwy'n credu y dylem ni wir edrych ar system wahanol. Mewn democratiaeth, chwarae'r ffiniau yw trin ffiniau etholiadol yn wleidyddol gyda'r bwriad o greu mantais amhriodol i blaid. Rydym ni'n gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Pan fo pleidiau eraill yn cyflwyno systemau etholiadol i fel y gallan nhw ennill mwyafrif, mae Llafur yng Nghymru yn cyflwyno un i'w gwneud hi'n anodd ennill mwyafrif.

Rydym ni bellach wedi awgrymu system etholiadol o chwe Aelod ar gyfer pob un o'r 16 etholaeth a grëwyd trwy uno dwy etholaeth seneddol, gydag 16 etholaeth. O dan y cynllun, bydd etholaethau newydd y Senedd yn gyfuniad pâr o'r 32 a nodir ar gyfer San Steffan. Roedd nifer o bobl, gan gynnwys fi, yn poeni am faint etholaeth Brycheiniog, Maesyfed a Chwmtawe, yn ymestyn o Drefyclo a Llanandras ar ffin Lloegr i Frynaman Isaf a Gwaen-Cae-Gurwen ar y ffin â sir Gaerfyrddin.

Byddai creu etholaeth chwe Aelod yn golygu bod Aberhonddu, Maesyfed a Chwmtawe naill ai'n mynd tua'r gogledd gyda Maldwyn a Glyndŵr, tua'r gorllewin gyda Cheredigion a Preseli, neu gyda Sir Gaerfyrddin; tua'r de sy'n rhoi dewis o Sir Fynwy, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, Blaenau Gwent a Rhymni neu Ferthyr Tudful ac Aberdâr. Pa bynnag ffordd o greu etholaeth chwe aelod, byddai'r etholaeth yn fawr iawn ac yn cynnwys cymunedau gydag ychydig iawn o bethau yn gyffredin.

Er mai dyma'r enghraifft fwyaf eithafol, bydd llawer o rai eraill y tu allan i'r dinasoedd a fydd hefyd yn cwmpasu ardaloedd mawr iawn. Gallem ethol 96 Aelod yn defnyddio'r etholaethau seneddol, gyda thri o bob un, yn cael eu hethol drwy D'Hondt. Mantais hynny yw y bydd yr etholaethau hyn eisoes wedi cael etholiad cyffredinol i bleidleiswyr ddod i arfer â'r seddi newydd, ac, er y bydd rhai yn fawr, byddant yn llawer llai nag unrhyw un o'r seddi ar y cyd. Dyna pam rwy'n gofyn am 32 etholaeth tri Aelod, lle byddai gan y Senedd a Senedd San Steffan yr un ffiniau.

Rwy'n annog cefnogaeth i'r egwyddor ac rwy'n credu bod cael Senedd 96 Aelod yn syniad da iawn ac rwy'n credu bod ei angen arnom ni—os mai dim ond er mwyn i ni gael Aelod ychwanegol ar y Pwyllgor Cyllid fel nad oes gennym ni yn y pen draw sefyllfa lle rydym ni'n ddibynnol ar yr M4. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cyd-fynd â hynny.

Ac a gaf i ddim ond dweud un peth am y bleidlais sengl drosglwyddadwy? Alun Davies a'i cododd hi. Mae'n llawer o bethau; nid yw cymesuredd yn un o'r pethau hyn. Ac os oes arnoch chi eisiau darganfod pam rwy'n dweud hynny, edrychwch ar ganlyniadau etholiad Iwerddon, edrychwch ar ganlyniadau etholiad cynghorau'r Alban, ac fe welwch chi pa mor anghymesur yw hi.

18:55

Wrth sefyll yma heddiw yn gwrando ar y ddadl hon, ni fyddech yn meddwl mai deilliannau addysgol yng Nghymru oedd y gwaethaf yn y DU; ni fyddech yn meddwl bod pobl yng Nghymru yn ennill £3,000 yn llai na phobl yn yr Alban; ni fyddech yn meddwl mai economi Cymru oedd y gwannaf o holl genhedloedd y DU; ni fyddech yn meddwl mai cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU; ac ni fyddech yn meddwl mai rhestrau aros y GIG yw'r hiraf yn y Deyrnas Unedig. A'r rheswm na fyddech chi'n meddwl dim o'r pethau hynny yw ein bod ni'n sefyll yma unwaith eto yn trafod ychwanegu mwy o wleidyddion i'r Senedd hon ar gost o gannoedd o filiynau o bunnoedd. Pan edrychwch chi ar yr argyfwng sy'n wynebu Cymru o dan y Llywodraeth Lafur hon, ar waelod pob tabl cynghrair y gallwch chi ei ddychmygu, oni fyddech chi'n meddwl, yn lle cynyddu maint y Senedd, y dylem ni fod yn gwario'r cannoedd o filiynau hynny ar fwy o feddygon a nyrsys i fynd i'r afael â'r rhestrau aros hynny sydd gan y gwasanaeth iechyd, mwy o athrawon i fynd i'r afael â'r canlyniadau PISA ofnadwy hynny, a mwy o weithredu i gael y rhai tlotaf yn ein gwlad i mewn i waith ac allan o dlodi? Nid blaenoriaethau'r bobl yw'r hyn rydym ni'n eu trafod heddiw; blaenoriaethau'r gwleidyddion ydyn nhw—blaenoriaethu ein hunain dros ganlyniadau gwell i'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli.

Ac na foed i ni dwyllo ein hunain bod cael mwy o wleidyddion yma yn y Senedd rywsut yn ddewr ac y bydd yn arwain at gynrychiolaeth well i bobl Cymru. Mae'r syniad hwnnw'n chwerthinllyd. Yn wir, canfu pwyllgor trawsbleidiol y Senedd y rhoddwyd iddo'r dasg o edrych ar y Bil hwn yn eithaf clir y gallai'r cynlluniau erydu'r cysylltiad rhwng y cyhoedd a'r gwleidyddion y maen nhw'n yn eu hanfon i'r fan yma. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth y byddai'r cynlluniau'n blaenoriaethu dylanwad pleidiau gwleidyddol dros eu hetholwyr, gan roi'r holl rym yn nwylo chwipiaid y Llywodraeth a chymryd grym oddi wrth y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Llywydd, democratiaeth yw hon. Ddylen ni ddim fod yn sefyll dros hyn. Fel gwleidyddion, ni ddylem ni fod yn falch o sefyll dros system sy'n tynnu grym o ddwylo'r bobl. Ni ddylai gwneud ein gwlad yn llai democrataidd fod yn rhywbeth yr ydym ni'n ei gefnogi.

Rwy'n wirioneddol gredu nad yw'r bobl yn y Siambr hon sy'n cefnogi'r Bil, llawer ohonyn nhw rydym ni wedi clywed ganddyn nhw heddiw, yn bobl ddrwg gyda bwriadau drwg—ddim o gwbl—ac mae dadleuon o blaid diwygio'r fan yma. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno nad yw pethau mor berffaith ag y gallen nhw fod. Ac mae'r dadleuon hynny'n wir yn haeddu cael eu clywed. Ond os ydyn nhw mor boblogaidd, mor ysbrydoledig ac mor drawsnewidiol ag yr ydym ni wedi'i glywed hyd yn hyn heddiw, pam nad ydym ni'n rhoi hynny ar brawf mewn refferendwm? Pa safon o wleidyddiaeth sy'n rhaid bodoli yn y fan yma sydd ond yn gallu gwneud eu dadleuon yng nghysur Siambr y Senedd, ond sy'n methu edrych i fyw llygaid eu pleidleiswyr i wneud yr un achos hwnnw? Pan bleidleisiodd pobl Cymru i sefydlu Cynulliad Cymru, fel yr oedd bryd hynny, roeddwn i'n blentyn ifanc, ond gwnaed yr addewid y byddai hwn yn sefydliad gwleidyddol fyddai'n gwneud pethau'n wahanol, nid yn unig gan ddod â gwneud penderfyniadau yn agosach at y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan y penderfyniadau hynny, ond roedd y gwydr ar yr adeilad, er enghraifft, i fod i ddynodi nad oedd datgysylltiad rhwng y cyhoedd a'r gwleidyddion y tu mewn i'r adeilad. Llywydd, nid yw llawer ledled Cymru yn teimlo bod y Senedd hon wedi gwireddu'r delfrydau hynny fel y mae hi. Ond os ydym ni'n cefnogi'r mesur hwn dros gael mwy o wleidyddion heddiw, heb gymeradwyaeth pobl Cymru, yn eu Senedd, rydym ni'n tanseilio'r union reswm bod y Senedd Gymreig hon yn bodoli.

I'r rhai ohonom ni yn y Siambr hon sy'n credu mewn datganoli, Senedd Cymru a'r cyfan y gall ei gyflawni, mae angen i ni gofio mai Senedd y bobl yw hon ac mai felly y dylai hi fod. Os ydym ni'n pleidleisio dros fwy o wleidyddion heb ofyn caniatâd y bobl, y cyfan fyddwn ni'n ei wneud yw creu'r argraff nad yw hon yn Senedd iddyn nhw. Y cyfan y byddwn ni'n ei wneud yw rhoi mwy o fwledi i'r bobl hynny nad ydyn nhw am i'r lle yma fodoli o gwbl. Pa bynnag ochr i'r Siambr rydych chi'n eistedd arni, waeth pa mor dda ydych chi, faint bynnag rydych chi'n ei gredu'n wirioneddol yn y cynigion hyn, os ydych chi'n ddatganolwr, gochelwch y canfyddiad bod y Senedd hon ond yn gwasanaethu ei hun. Peidiwch â chrwydro o ddelfrydau agoriadol Senedd i'r bobl, gan y bobl, a pheidiwch â phleidleisio dros y cynigion hyn heddiw, o leiaf heb gefnogi refferendwm i'w ddilysu.

19:00

Gan na wnaethoch chi dderbyn ymyrraeth, fe ddywedaf i'r hyn yr oedd ar bawb arall eisiau ei ddweud. Yn y bôn, fe wnaethoch chi benderfynu rhoi'r pwerau hyn i ni. Cawsoch chi y cyfle—eich plaid chi yn y Llywodraeth—i benderfynu ei gwneud hi'n amodol ar refferendwm; fe ddewisoch chi beidio â gwneud hynny. Ac yn wir, pan gawsom ni bwerau codi trethi, ar ôl cynnig y refferendwm yn wreiddiol, fe benderfynoch chi wedyn nad oedd angen refferendwm ar hynny. Felly, nid ydych chi'n gyson â'r hyn rydych chi wedi'i wneud mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n meddwl bod—[Torri ar draws.]

Darren Millar a gododd—

Rwy'n hapus i ildio i Tom Giffard, os hoffai ymateb. Wel, iawn, byddaf yn hael, Darren, gan mai chi ydyw.

Dim ond eisiau cyfeirio ydw i at y ddadl am gysondeb. Wrth gwrs, rydym yn gyson wrth alw am refferendwm lle mae newidiadau sylweddol i'r system bleidleisio'n cael eu cynnig. Fe wnaethom ni gynnal refferendwm ynghylch a ddylid mabwysiadu system bleidleisio amgen o dan Lywodraeth David Cameron. Rhoddodd gyfle i bobl bleidleisio o blaid hynny neu yn ei erbyn. Mae hwn yn newid yr un mor arwyddocaol, a fydd yn dileu etholiadau cyntaf i'r felin i'r Senedd hon, sef sut yr etholir 40 o'r 60 Aelod presennol. Felly, dylid ei ddileu trwy refferendwm yn unig. 

19:05

Felly, a yw hynny'n golygu—newyddion yn torri—y bydd refferendwm mewn gwirionedd ar y newidiadau i'r system etholiadol ar gyfer maer Llundain, neu i'r comisiynwyr heddlu a throseddu sy'n digwydd ym mis Mai? Lle oedd y—? Does dim cysondeb, Darren, yn safbwynt eich plaid. Mae hyn yn seiliedig ar hwylustod gwleidyddol bob tro.

Mae cynnydd gwleidyddol yng Nghymru yn boenus o araf ar y gorau, ac anaml y mae'n digwydd mewn llinell syth. Fel y gwnaeth Alun Davies ein hatgoffa, dywedodd Comisiwn Brenhinol y Cyfansoddiad, comisiwn Kilbrandon, a adroddodd 51 mlynedd yn ôl, ar ôl edrych ar brofiad Stormont gyda'u Tŷ Cyffredin gyda dim ond 52 o Aelodau—yn agos iawn atom ni—ei bod hi ar y lefel honno'n Senedd rhy fach i wneud ei swyddogaeth ddemocrataidd. Yna argymhellodd senedd â 100 o Aelodau dros Gymru. Dyma ni, pedwar comisiwn/panel arbenigol yn ddiweddarach, sydd i gyd wedi dod i'r casgliad bod angen i ni fod yn senedd fwy. Ac rydym ni bron yno—rydym ni bron yno—os llwyddwn ni i wireddu'r Bil yma.

Ac mae'n rhaid i mi anghytuno. Mae'n anghytundeb athronyddol ac ymarferol gyda'r rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr, oherwydd nid wyf yn credu bod cryfhau gallu ein democratiaeth i gyflawni, cryfhau ei gallu i gyflawni ei swyddogaeth allweddol, sef gwella bywydau pobl Cymru, yn tynnu sylw oddi wrth waith gwleidyddiaeth. Dyna sydd wrth wraidd gwleidyddiaeth. Os ydych chi'n dilyn rhesymeg eich dadl, yna, mewn gwirionedd, rydych chi'n dadlau o blaid diddymu, sef, rwy'n gobeithio, nid yr hyn mae arnoch chi yn wir eisiau ei wneud—

Diolch am eich haelioni yn derbyn ymyrraeth arall. Gallaf eich sicrhau nad oes arnom ni eisiau diddymu'r fan yma. Rydym ni'n cefnogi datganoli ac rydym ni'n ddatganolwyr balch. Ond rydych chi yn siarad am gryfhau democratiaeth a chryfhau'r sefydliad hwn. Chi yw'r un person a danseiliodd y sefydliad hwn drwy wneud cytundeb gyda'r Prif Weinidog presennol er mwyn cyflwyno'r cynigion hyn, tra bod y pwyllgor yn bwrw ymlaen â pheth gwaith pwysig wrth ddatblygu rhai cynigion. Felly, mae ychydig yn rhagrithiol ichi ein beirniadu ni pan mai chi yw'r person a danseiliodd democratiaeth.

Mi fyddaf yn meddwl dwywaith y tro nesaf, Darren, cyn derbyn ail ymyrraeth. Edrychwch, pan fydd yn rhaid i chi gael mwyafrif o ddwy ran o dair yn y fan yma, i gael y lefel honno o newid, dim ond ar lefel wleidyddol y gall hynny ddigwydd, lle mae gennych chi bleidiau yn gweithio gyda'i gilydd. A dweud y gwir, er gwaethaf yr hyn a ddywedoch chi, rydych chi'n anghywir: fe wnaethom ni ymgynghori yn ddemocrataidd o fewn ein plaid, a'r unig ffordd y gallech chi gael newid oedd cael cytundeb ar draws rhaniad gwleidyddol y blaid, a dyna ddigwyddodd.

O ran y manteision y mae hyn yn eu cynrychioli o ran ein democratiaeth, ar hyn o bryd, nid yw'r Senedd lai o faint hon yn gallu gwneud ei gwaith. Rydym yn cael ein tanseilio mewn sawl ffordd wahanol. Meddyliwch nid yn unig am graffu, ond ffurfio'r Llywodraeth. Pan fydd gennych chi, fel cyfrannedd, gymaint o bobl yn y blaid lywodraethol, fel y mae ar hyn o bryd, yn dal swyddi gweinidogol, nid oes gennych chi'r gronfa o dalent arall ar y meinciau anweinidogol y gallwch eu cylchdroi. Felly, drwy gynyddu maint y Senedd, rydych chi'n creu cronfa fwy o sgiliau a phrofiad y gellir eu defnyddio. Ac mae hynny'n wir amdanom ni fel Senedd gyfan. Ar hyn o bryd, nid ydym ni'n gynrychioliadol yn gymdeithasol nac o ran profiad bywyd, fel y mae angen i ni fod i wneud ein gwaith. Trwy adeiladu Senedd fwy, gallwn ddod yn fwy cynhwysol ac amrywiol, ac rydym ni i gyd yn ennill o ganlyniad i hynny.

Gan feddwl yn ymarferol, dim ond am ddau ddiwrnod yr wythnos y gallwn ni gwrdd yn y Cyfarfod Llawn. Rydym ni'n fyrrach na'r holl Seneddau eraill, hyd yn oed Cynulliad Gogledd Iwerddon, nawr y bydd ar waith eto. Ni allwn gwrdd mwy na hynny ar gyfer y Cyfarfod Llawn oherwydd ni fyddai cworwm ar bwyllgorau. Ni fyddem yn gallu gwneud hynny. Rydw i ar bedwar pwyllgor, os ydych chi'n cynnwys Comisiwn y Senedd hefyd. Nid yw'n bosibl i ni gael y trydydd diwrnod llawn hwnnw. Meddyliwch am bosibiliadau hyn o ran rhyddhau'r creadigrwydd deddfwriaethol yn y fan yma. Dim ond un Bil Aelod preifat yr ydym ni wedi'i basio yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Dim ond un Bil pwyllgor yr ydym wedi'i basio. Dim ond un Bil pwyllgor rydym ni wedi'i basio erioed, yn bennaf oherwydd nad oes gennym ni'r cymhwysedd, ar hyn o bryd, i allu gwneud hynny. Felly, am yr holl resymau hyn, dyma pam mae hwn yn gyfle hanesyddol, ac rwy'n gobeithio, y tu hwnt i'r anghytundebau rydym ni'n eu cael yma, Darren, fel yr oeddem ni'n eu trafod eiliad yn ôl, y gallwn ni wedyn gael trafodaeth ehangach, sy'n cynnwys eich plaid chi hefyd, o ran sut rydym ni'n gwneud y gorau o'r cyfle democrataidd hwn i gynyddu ein gallu i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Cymru.

Byddaf yn dweud rhywbeth yn fyr am y system etholiadol. Ydy, mae fy mhlaid wedi cefnogi'r bleidlais sengl drosglwyddadwy ers bron i 100 mlynedd, o'r cychwyn cyntaf, a dyna lle rydym ni eisiau cyrraedd. Rwy'n credu ei fod yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ein bod yn cael gwared ar y system cyntaf i'r felin. Ni oedd y genedl gyntaf ar ynys Prydain i wneud hynny, ac mae hynny'n mynd â ni i'r cyfeiriad lle'r hoffem ni fynd, o ran y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae'r mecanwaith adolygu yn rhoi cyfle i ni, a'r hyn y dylem ni ei wneud yw, yn ein pleidiau unigol, pob un ohonom ni—. Bydd ym maniffesto Plaid Cymru, hoffwn ei weld ym maniffestos eraill y pleidiau hefyd. Gadewch i ni weld mwy o awdurdodau lleol yn gwneud yr hyn y mae Gwynedd yn ei wneud, gan gyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn lleol, fel y gallwn ni greu momentwm o ran cyflawni'r hyn yr hoffem ni ei wneud erbyn 2030.

Ac efallai, yn seiliedig ar argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ddoe, efallai yn y mecanwaith adolygu, mae swyddogaeth i ddinasyddion yno hefyd. Mae awgrym ynglŷn â pham nad oes gennym ni gynulliad dinasyddion, ochr yn ochr â'r trafodaethau sy'n digwydd yma, ochr yn ochr â'r dystiolaeth arbenigol, fel y mae'r pwyllgor wedi'i awgrymu. Beth am ddefnyddio hyn mewn gwirionedd fel cyfle i ddefnyddio'r mecanwaith trafod hwnnw o gynulliad dinasyddion i ofyn i bobl Cymru, 'Ydym, rydym ni'n cymryd cam ymlaen gyda'r Bil hwn, ond ble rydych chi am fynd nesaf, oherwydd nid yw cynnydd byth yn dod i ben i'n cenedl?'

19:10

Rydw i'n mynd i ddechrau trwy ofyn i chi ddal ymlaen i'ch seddi oherwydd rydw i'n mynd i ddechrau gyda rhywfaint o ganmoliaeth. Cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, dim ond un peth da sydd wedi dod o gyflwyno polisi terfyn cyflymder 20 mya Llywodraeth Cymru, a hynny yw ei bod wedi dal sylw'r genedl. Mae wedi arwain at fwy o bobl yn cymryd rhan ac yn dangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth, Llywodraeth Cymru ac, yn y pen draw, Senedd Cymru. Mae mwy o bobl wedi oedi a meddwl, 'Wel, os yw Llywodraeth Cymru yn gosod y polisi chwerthinllyd hwn ac yn gwastraffu ein harian, pa syniadau eraill gwallgof maen nhw'n eu dyfeisio?' A gadewch i ni fod yn onest, mae digon i ddewis o'u plith. Ond yr un sydd wedi cael pobl i siarad mewn gwirionedd, yr un sydd wedi boddi fy mewnflwch mewn gwirionedd, ac rwy'n siŵr llawer o'ch rhai chi hefyd, am yr holl resymau anghywir, wrth gwrs yw prosiect mympwyol Llafur a Phlaid o ehangu'r Senedd i greu 36 yn fwy o wleidyddion. [Torri ar draws.] Yn sicr mae wedi.

Nawr, mae ein GIG mewn trafferthion enbyd, diolch i flynyddoedd o gamreoli gan y blaid Lafur, gyda bron i 25,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, ac mae gennym ni'r niferoedd uchaf o bobl yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am 12 awr o'i gymharu â Lloegr a'r Alban. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard mae ein system addysg hefyd yn methu, gyda nifer yr athrawon yn gostwng yng Nghymru. Mae canlyniadau PISA ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn gostwng i'w cyfraddau isaf erioed. Mae ein heconomi yma yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd, gyda chyfraddau goroesi busnes eithriadol o wael, sydd fwy na thebyg â rhywbeth i'w wneud â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn eu cosbi â'r cyfraddau busnes uchaf a welsom ym Mhrydain Fawr. Mae 12 o drefi Cymru mewn rhestr o'r 20 mwyaf bregus yn economaidd yn y DU, ac mae 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol. Mae'r rhestr, yn anffodus, yn un hirfaith mewn gwirionedd. Mae fel rhestr droseddau, ac yn un fe ymddengys bod ar Keir Starmer eisiau ei gorfodi ar y Deyrnas Unedig, gyda Chymru fel ei lasbrint ar gyfer Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion sylweddol iawn hyn? Wel, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, nid llawer iawn, gan fod y Gweinidogion yn llawer rhy brysur yn bogailsyllu. Mae ehangu Senedd Cymru wedi cael ei ddisgrifio gan lawer o wleidyddion di-glem Llafur fel ffordd o gynyddu craffu, ond y gwir amdani yw nad yw'n ddim mwy na phrosiect porthi balchder. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl fy mod i a'm holl gyd-Aelodau yma ar y meinciau Ceidwadol hyn yn gwneud gwaith gwych o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, o ddydd i ddydd. Dyna swyddogaeth y gwrthbleidiau, er efallai na fyddwch yn meddwl hynny, wrth edrych ar y Blaid, sy'n honni eu bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ond ar yr un pryd byth yn colli cyfle i neidio i'r gwely gyda Llafur.

Dyw pobl Cymru ddim am weld eu harian prin yn cael ei wario ar roi mwy o wleidyddion yn fan yma. Maen nhw eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gyflawni yn y meysydd sy'n bwysig iddyn nhw, fel iechyd, addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a'r economi. Gadewch imi roi blas i chi o rai o'r negeseuon yr wyf wedi bod yn eu derbyn gan etholwyr blin, sy'n dangos sut groeso sydd yna i gynlluniau ehangu drud. Dywed un preswylydd, ac rwy'n dyfynnu gair am air,

'Beth mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei gyflawni ar gyfer y bobl rydych chi'n eu cynrychioli wnaeth i chi benderfynu mai dyma'r ffordd orau o wario £120 miliwn nac, er enghraifft, ar 150 o feddygon ymgynghorol newydd i leihau'r rhestrau aros yn ein gwasanaeth iechyd gwladol?'

19:15

A wnewch chi dderbyn ymyriad? O ble gewch chi'r 150 o feddygon ymgynghorol ychwanegol? Fy nealltwriaeth i yw mai ychydig iawn o feddygon di-waith sydd yng Nghymru—mewn gwirionedd, dim—felly, o ble gewch chi nhw?

Mike, ceffyl da yw ewyllys. Os oes gennych chi'r arian, mae unrhyw beth yn bosibl. [Chwerthin.]

Dywedodd preswylydd arall—[Torri ar draws.] Gadewch i mi barhau. Dywedodd preswylydd arall, 'Mae hi y tu hwnt i jôc bod Llywodraeth Cymru yn honni nad oes ganddi arian', rhywbeth yr wyf wedi clywed y Gweinidog yn sôn amdano, 'ond gall rywsut ddod o hyd i £120 miliwn y tu ôl i gefn soffa i dalu am yr ehangiad hwn. Os ydyn nhw'n credu'n onest mai dyma'r hyn mae ar Gymru ei eisiau, yna mae hyn hyd yn oed yn fwy di-glem nag y meddyliais yn wreiddiol'. Rwy'n dal i ddyfynnu'r e-bost a anfonwyd: 'Hoffwn weld yr arian yn cael ei wario ar drwsio ein gwasanaeth iechyd. Mae gen i ffrindiau a theulu yn aros am gyfnodau annerbyniol o amser i gael triniaeth. Rydych chi'n cael trafferth ofnadwy cael apwyntiad deintydd hyd yn oed y dyddiau hyn. Pam maen nhw'n gwastraffu ein harian ni ar fwy o wleidyddion, pan fo llawer mwy o faterion dybryd i ymdrin â nhw?' A dweud y gwir, ni allwn gytuno â nhw fwy. Maen nhw'n iawn. Mae blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, yn gwbl anghywir.

Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod mewn gwirionedd yw sut y gall Llywodraeth Cymru gyfiawnhau gwario mwy na £120 miliwn ar roi mwy o wleidyddion yn y fan yma pan fo'r gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n anodd iawn a bod y Llywodraeth yn torri cyllidebau hanfodol. Yn syml, mae'r Bil yn wastraff amser, arian ac ymdrech, yn fy marn i. A dywedais i hyn ym mis Mehefin 2022: os yw pawb yma mor hyderus, yna, yn onest, rwy'n dal i gredu nad yw hi'n rhy hwyr mewn gwirionedd, ac y gall ddigwydd o hyd, felly mae'n rhaid i chi fynd at y cyhoedd a chael refferendwm sy'n deg mewn gwirionedd.

Hoffwn ddweud ei bod hi'n fraint ac anrhydedd mawr cael bod yn aelod o'r pwyllgor hwn, a hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r holl aelodau, a hefyd i dîm y Bil a'r clercio—diolch yn fawr iawn. Hoffwn gadarnhau ymrwymiad fy mhlaid i egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae diwygio'r Senedd ac ehangu ei haelodaeth yn hanfodol bwysig os ydym ni am fod yn gorff deddfwriaethol effeithiol, ac mae'n rhaid i ni ddarparu, fel y clywsom ni, y craffu cadarn hwnnw y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Mae'r Bil hwn yn gyfle unwaith mewn oes. Rwy'n gwybod ein bod ni'n clywed hynny eithaf tipyn, ond mewn gwirionedd mae'n gyfle mewn cenhedlaeth i newid ein democratiaeth a'i hadfywio. Ond, ar ei ffurf bresennol, mae'r Bil hwn yn syrthio'n brin iawn, iawn o'r gofynion i adeiladu'r ddemocratiaeth iachach, fwy teg a chynhwysol yr ydym yn chwilio amdani. Rydw i'n mynd i ganolbwyntio'n benodol ar y system rhestrau pleidiau caeedig arfaethedig, a fyddai, yn fy marn i, yn gamgymeriad dybryd a pharhaol. Mae cynnig rhestr pleidiau caeedig Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi ennyn beirniadaeth helaeth gan yr Aelodau, y cyfryngau, gan arbenigwyr a'r cyhoedd yn ehangach. Mae Llafur a Phlaid Cymru yn dadlau bod eu diwygiadau yn gam blaengar ymlaen—ac, yn wir, mae hynny'n wir—o'r system cyntaf i'r felin. Ond mae gennym ni gyfle i wneud mwy, ac nid ydym ni wedi deall hynny os yw'r Bil hwn yn mynd yn ei flaen fel y mae. Rydym ni wedi clywed yn y pwyllgor gan arbenigwr ar ôl arbenigwr. Dywedodd yr Athro Alan Renwick y byddai'r newidiadau i Gymru yn ei gwneud hi'n aderyn brith ac yn ein gosod ni ar wahân i normau democrataidd Prydain ac Ewrop. Dywedodd yr Athro Laura McAllister:

'ar adeg pan fo cymaint o ddatgysylltiad rhwng y gwleidyddion a'r cyhoedd, rydym ni'n ei ddatgysylltu ymhellach.'

Clywsom gan lawer o arbenigwyr fod anfanteision sylweddol i'r system hon. Mae systemau rhestr gaeedig yn lleihau'r dewis o bleidleiswyr ac ymreolaeth. Mae angen i ni sicrhau bod ein hetholwyr yn dewis ymgeiswyr sy'n cynrychioli eu hunain neu sydd â safbwyntiau tebyg. Mae cyfle, a byddwn yn pledio gyda chi i fanteisio arno nawr. Nid wyf i chwaith, yn anffodus, wedi clywed yr un rheswm pam mae hyn yn gyfaddawd angenrheidiol i gyflawni'r uwchfwyafrif. Gwyddom fod llawer o gefnogwyr y cynigion hyn wedi hyrwyddo systemau gwell o'r blaen.

Pan soniais i am gyfaddawd, nid oedd fy nghyfaddawd yn ymwneud â chael uwchfwyafrif; roedd yn ymwneud â chydnabod bod cymrodyr da a chyfeillion a chyd-Aelodau, yn y blaid hon a phleidiau eraill, yn teimlo'n gryf ond yn wahanol. Ac nid oedd yn ymwneud â'r uwchfwyafrif; roedd yn ymwneud â chydnabod, gyda newid, fod angen yn symud ymlaen, ysgwyd llaw, a chydnabod bod angen i bob un ohonom ni gyfaddawdu weithiau.

19:20

Diolch am yr ymyrraeth honno. Byddwn i'n dweud hyn wrthych chi: pe bai ar Lafur Cymru eisiau system wahanol i'r un a gynigir, byddai Plaid Cymru wedi ei chefnogi. A dyna ichi eich uwchfwyafrif, o ran y ffordd yr ydw i'n deall hynny. Ac mae'n ddrwg iawn gen i, ond dydw i'n dal ddim yn deall pam na fydd Llafur Cymru yn cefnogi system wahanol i'r un sydd wedi cael ei chyflwyno, fydd wedyn yn sbarduno Plaid Cymru—ac rwy'n gweld pennau'n amneidio yma—i'w gefnogi. Dydw i'n dal heb glywed hynny. Byddwn i wir yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ganolbwyntio ei sylwadau ar hynny.

Fe orffennaf i gyda hyn. Dyma gyfle i Lafur Cymru a Phlaid Cymru ailfeddwl ynghylch eu cefnogaeth i'r system hon. Rwy'n falch o fod yn rhan o Senedd sy'n gwrando ar arbenigwyr. Rwy'n falch o fod yn rhan o Senedd sy'n cymryd argymhellion yr holl bwyllgorau o ddifrif. Mae amser o hyd i gywiro cwrs, nid yn unig ar y system bleidleisio, ond pethau eraill, fel rhannu swyddi, sedd sy'n digwydd dod yn wag, mecanweithiau adolygu, a chael enwau ymgeiswyr ar y pleidleisiau. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Mae gennym ni gyfle nawr i ail-lunio ein democratiaeth yn rhywbeth cyffrous ac ysbrydoledig a fydd wir yn fodd i bobl Cymru gefnogi democratiaeth a fuddsoddwyd ynddi. Ni ddylem ni fod mewn sefyllfa yn 2026 yn meddwl am yr hyn y gallem ni fod wedi'i wneud yn wahanol. Diolch yn fawr iawn.

Mae amser wedi mynd yn drech na ni—ymhell iawn felly—ar y ddadl hon, ond rydw i'n mynd i alw dau gyfraniad pellach, os ydyn nhw'n addo y byddan nhw'n fyrrach na'r cyfraniadau a gawsom ni hyd yma. Felly, Gareth Davies yn gyntaf.

Diolch, Llywydd. Fel Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, etholaeth yr ydw i, dim ond drwy gyd-ddigwyddiad, wedi byw ynddi ar hyd fy oes, wedi gweithio ynddi, y mae gennyf gysylltiadau â phob rhan ohoni, rwy'n ymgynghori ag etholwyr, pobl leol, ffrindiau, teulu a chymdogion yn rheolaidd ar eu blaenoriaethau ar gyfer yr ardal a'r hyn y maen nhw'n ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod datganoli presennol. Ers datganoli, o dan y Blaid Lafur, mae fy etholwyr, mewn gwirionedd, wedi gweld Ysbyty Glan Clwyd yn disgyn o fod yn un o'r ysbytai sy'n perfformio orau yn y DU i fod o dan un o'r byrddau iechyd sy'n perfformio waethaf yn y cyfnod modern; methiant i adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn Y Rhyl gan y Blaid Lafur dros 10 mlynedd o dorri addewidion; ac, yn fwy diweddar, gosodwyd polisi diofyn o 20 mya arnyn nhw, er i dros 13,000 o bobl yn Nyffryn Clwyd arwyddo'r ddeiseb yn erbyn y mesur hwn—mwy na faint o bobl a bleidleisiodd dros Lafur yn Nyffryn Clwyd yn etholiadau'r Senedd yn 2021. Ar ben hyn, mae gennym ni amddifadedd enfawr, yn enwedig mewn ardaloedd yng ngorllewin Y Rhyl a Dinbych uchaf, sydd wedi cael eu hanghofio gan Lafur yng Nghaerdydd ers datganoli ac mae'n un o'r rhesymau pam mae llawer o bobl yn sir Ddinbych, ac yn fwy cyffredinol yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru, yn teimlo eu bod wedi'u difreinio gyda'r Senedd, ac, mewn rhai achosion, yr union gysyniad o ddatganoli ei hun. [Torri ar draws.]

Yn anffodus, edrychwch ar y nifer sy'n pleidleisio ar hyn o bryd yn etholiadau'r Senedd, sydd prin wedi codi dros 40 y cant ers 1999.

Nawr, rhag ofn bod amheuaeth, nid dyna fy marn i, neu ni fyddwn i hyd yn oed wedi trafferthu sefyll dros y Senedd yn y lle cyntaf, ac rwy'n credu y gall datganoli weithio'n well, gyda'r bobl gywir wrth y llyw. Ond yn fy nhair blynedd yn y fan yma, rwy'n gweld Senedd sy'n eistedd dau ddiwrnod yr wythnos, ac, ar sawl achlysur, mae busnes y Llywodraeth ar ddydd Mawrth yn aml yn cwmpasu dim ond tair i bedair awr—[Torri ar draws.]—rhwng 1.30 y pnawn a thua 5 o'r gloch i 5.30 yr hwyr. Ac mae hynny wedi digwydd droeon ers diwedd toriad yr haf yn 2023. Does gen i ddim yr union ffigurau ynghylch sawl gwaith mae hynny wedi digwydd, ond rwy'n gwybod, trwy fy mhrofiad fy hun, mai dyma'r achos. Rwy'n aml yn cyfeirio at yr ymadrodd, 'Os ydych chi am gyflawni rhywbeth mewn bywyd, fel mwy o Aelodau'r Senedd, o leiaf gwnewch achos cadarn i'w wireddu.' Ac yn y cyfnod hwn o amser y bûm i'n Aelod o'r Senedd hyd yn hyn, ychydig iawn a welais i o dystiolaeth, os o gwbl, o gyfiawnhad credadwy dros fwy o Aelodau o'r Senedd ar ôl 2026, ac eithrio ei fod yn ddim ond prosiect porthi balchder arall gan y Blaid Lafur i ymestyn coesau sosialaeth hyd yn oed ymhellach, a chan Blaid Cymru, gan nad ydyn nhw ond yn gweld hyn fel cam arall ar y llwybr at annibyniaeth Cymru, y credaf ein bod yn cerdded yn araf ato mewn trwmgwsg os byddwn yn parhau ar y llwybr hwn.

Ond daw'r cyfan ar draul y trethdalwr—trethdalwyr sydd eisiau gwell GIG, gwell gwasanaethau cyhoeddus, 60 Aelod o'r Senedd sy'n atebol i'r cyhoedd, fel y dylen nhw fod, yn hytrach nag i reolwyr gwleidyddol pleidiau. Pobl dda Cymru unwaith eto sy'n gorfod ysgwyddo baich y trawsnewidiad enfawr i'r Senedd, a'r rheswm pam—. Os yw Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru mor hyderus bod pobl Cymru eisiau mwy o Aelodau o'r Senedd, yna galwch refferendwm a gofyn i'r bobl beth hoffen nhw ddigwydd. Os ydyn nhw'n pleidleisio drosto, digon teg—mae'r bobl wedi siarad, gwych, gadewch i ni fwrw ati ac ehangu'r Senedd ar fyrder. Ond os ydyn nhw'n ei wrthod, gadewch i ni gadw at y system bresennol, mabwysiadu newidiadau ffiniau newydd San Steffan, ymestyn y rhestr ranbarthol i ffurfio'r niferoedd a gollwyd yn yr adran etholaethau a chynnal y drefn sydd gennym ni. Dyna, gyd-Aelodau, yw democratiaeth, pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio.

19:25

Diolch am roi'r cyfle i mi siarad heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae fy marn i ar ehangu'r Senedd yn hysbys iawn ac mae wedi cael ei lleisio—y rhesymau dros hynny—gan gyd-Aelodau eraill. Ond yr hyn yr hoffwn i siarad amdano, os rhoddir caniatâd i hyn fynd rhagddo heddiw, yw rhai o'r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor, yn enwedig ynghylch argymhelliad 16, sy'n ymwneud â seddi gwag yn y Senedd. Os ydym ni am fwrw ymlaen fel Senedd fwy, yr wyf yn ei erbyn, ond os yw'n digwydd ac os yw'r Senedd eisiau i hynny ddigwydd, rwy'n credu y byddai cael sedd wag yn y Senedd hon yn niweidiol i ddemocratiaeth. Rwy'n credu y gallai hynny arwain at rifyddeg seneddol a allai adael y Senedd mewn parlys, gyda phethau'n methu â digwydd. Felly, hoffwn i'r Cwnsler Cyffredinol edrych eto ar argymhelliad 16 a gweld a oes rhywbeth y gallant ei roi mewn deddfwriaeth i sicrhau bod trefniant wrth gefn yn bod—os daw sedd ar gael, gellir ei llenwi.

Un arall o'r argymhellion a gyflwynwyd oedd ynghylch y system rhestr gaeedig, ac rwy'n cytuno â llawer o Aelodau a siaradodd ar y pwynt hwn fod y system rhestr gaeedig yn lleihau dewis pleidleiswyr. Byddwn yn annog y Cwnsler Cyffredinol, os rhoddir caniatâd i hyn fynd yn ei flaen, i edrych ar hynny eto a gweld sut y gallwn ni wneud pobl yn fwy atebol i'r cyhoedd.

Hoffwn hefyd adleisio rhai o'r sylwadau a wnaed gan Adam Price. Pa un a ydych chi'n cytuno â hyn ai peidio, mae wedi agor trafodaeth yma am sut y gallwn ni gryfhau democratiaeth yng Nghymru a sut y gallwn ni wella ein prosesau seneddol. Felly, hoffwn glywed gan y Cwnsler Cyffredinol rai syniadau a allai fod ganddo o ran sut y gallwn ni weithio gyda'r Pwyllgor Busnes ac yn drawsbleidiol i weld sut y gallwn ni wella democratiaeth yn y fan yma heb orfod cynyddu nifer Aelodau'r Senedd sydd yma. Diolch, Llywydd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cefais fy nhemtio wrth i mi wneud nodiadau a gwrando ar y cyfraniadau i geisio ymateb i bob un ohonyn nhw. Ni fyddaf oherwydd rwy'n credu bod yr Aelodau wedi gwneud eu pwyntiau. Maen nhw wedi eu gwneud nhw o ran yr hyn y mae'r Aelodau'n credu ynddo. Mae gan rai, rwy'n credu, sylfaen gryfach mewn ffeithiau nag eraill, ond, serch hynny, mae hynny'n rhan o'r broses ddemocrataidd yma. Felly, ni fyddaf yn ymateb i'r rheini yn y ffordd honno. Rwy'n mynd i geisio cynnal, rwy'n credu, mae'n debyg, y sail gyfansoddiadol foesol yn y ddadl hon, ond mae'n rhaid i mi wneud ychydig o sylwadau, a dyna'r adlewyrchiad hwn yn unig, Darren, ei bod yn eithaf tebygol na fydd unrhyw Aelodau Seneddol Ceidwadol yng Nghymru ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf. Rwy'n credu efallai y byddwn ni—[Torri ar draws.] Rwy'n credu y gallech chi fod yn ddiolchgar iawn, iawn am y ffaith bod gennym ni system a fydd yn sicrhau bod llais Ceidwadol yn y Senedd hon, a dyna mae'r system yn ei wneud mewn gwirionedd.

Mae'r cynigion hyn yn ymwneud â democratiaeth yn y bôn ac maen nhw'n ymwneud â'r gwerth rydych chi'n ei roi ar ddemocratiaeth, a dehongli'r hyn yw'r ddemocratiaeth honno. Y cyfan y gallaf ei wneud, rwy'n credu, yw ailadrodd hyn: rwy'n credu bod y newidiadau hyn yn fuddsoddiad mewn democratiaeth. Wrth fuddsoddi mewn democratiaeth, mae'n rhaid i chi ddweud bryd hynny, 'Pa bris sydd i ddemocratiaeth?' Rwy'n credu bod 0.7 y cant o'r gyllideb, sef yr hyn y bydd hyn yn ei olygu, yn bris sy'n werth ei dalu, ond rwyf hefyd yn credu ei fod yn bris, os yw'n arwain, fel y rhagwelir, at lywodraethu gwell, craffu gwell, cyflawni gwell, democratiaeth well, a fydd wedi talu amdano'i hun. 

Rwy'n credu bod rhai o'r dadleuon dros gost democratiaeth—. Pe bai'r Aelodau wedi sefyll ar eu traed pan oedd cynigion cardiau adnabod yn cael eu cyflwyno, a gostiodd £140 miliwn, efallai y byddai ychydig o hygrededd i'r dadleuon penodol hynny. Roedd gan y cynigion hynny un diben mewn gwirionedd, a hynny yw cyfyngu ar nifer y bobl oedd yn pleidleisio. Pan edrychwn ni ar y beirniadaethau a wnaed yn ddiweddar gan y Comisiwn Etholiadol o gynigion gan Lywodraeth y DU heb refferendwm, y mae'n eu disgrifio fel tanseilio democratiaeth yn y bôn—yr heriau i reolaeth y gyfraith, y ffaith y gallwch chi gael llywodraeth wedi'i hethol gyda mwyafrif mawr ar 35 y cant o'r bleidlais—rwy'n credu bod y cyfeiriad rydym ni'n mynd iddo, y buddsoddiad mewn democratiaeth, gwella ein hatebolrwydd i bobl Cymru, gwella'r craffu ar Lywodraethau, yn bris rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl amdano ein hunain, a phenderfynu a yw'n werth ei dalu.

19:30

Sut ydych chi'n credu y bydd gwaith craffu'r Llywodraeth yn cael ei wella a'i gynyddu os bydd maint y Llywodraeth yn cynyddu gyda maint y Senedd? Pe bai maint y Llywodraeth yn aros yr un fath ag y mae nawr, gyda mwy o Aelodau, yna byddai honno'n ddadl gredadwy. Ond os yw'n debyg am debyg, sut ydych chi'n meddwl bod hynny'n gwella craffu ar y Llywodraeth o dan y system newydd?

Nid yw'n debyg am debyg, oherwydd y Llywodraeth yw'r Weithrediaeth ac mae'n cyflawni swyddogaethau. Mae angen iddyn nhw allu gwneud hynny hyd eithaf eu gallu, sy'n golygu cael digon o Weinidogion yn y Llywodraeth i wneud hynny. Ond mae hefyd yn golygu wedyn fod â'r capasiti digonol o ran y Senedd, Aelodau'r Senedd, i'w galluogi i ddeall, datblygu'r arbenigedd a chyflawni hynny mewn gwirionedd. Rwy'n cofio'r tro diwethaf i ni drafod hyn ichi ddweud nad oedd diben bod â mwy o Aelodau Senedd oherwydd bod pawb wedi mynd adref am 6 o'r gloch. Wel, mae'n 7.30 p.m. nawr, felly rwy'n tybio eich bod chi yma ar oramser. Ond mae hynny'n fater arall.

Mae hon yn ddadl gyfansoddiadol ddifrifol iawn. Rwy'n parchu'n fawr yr holl gyfraniadau a wnaed, yr holl awgrymiadau a wnaed, a gallaf ddweud wrthych chi y bydd y gwaith yn mynd rhagddo o ran eu hystyried, wrth geisio dod i gytundeb lle bo hynny'n bosibl, ond o leiaf o ran trafod yr agweddau hynny. Mae'n gam eithaf anarferol i Lywodraeth ddweud mewn gwirionedd y byddwn yn gosod rhwymedigaeth statudol ar adolygiad i sicrhau y bydd yr hyn a benderfynwyd yma yn rhan o'r broses gyfansoddiadol hon yn cael ei ailystyried gan y Senedd nesaf, lle bydd y pwerau.

Rwy'n credu bod un cwestiwn y mae'n rhaid i ni ei ofyn, ac rwy'n credu mai hwn yw'r un cwestiwn rydym ni bob amser yn ei ofyn wrth i ni fynd drwy'r broses, a phan gyrhaeddwn ni Gyfnod 2 ar hynny, a dyma ni: a ydych chi'n cytuno mai buddsoddiad mewn democratiaeth yw hyn? Pa bris sydd gan y ddemocratiaeth honno, a pha mor bwysig yw hi i chi ac i bobl Cymru? Rwy'n credu ein bod yn gwneud yr hyn sy'n hollol hanfodol. Mae hwn yn gam hanesyddol i Gymru, ac rwy'n credu mai dyma'r cam cywir. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni bleidleisio ar gynnig eitem 8 a chynnig eitem 9.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Fe fyddwn ni'n pleidleisio nawr oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch. Does neb eisiau gwneud hynny.

Mae'r gyfres o bleidleisiau gyntaf ar eitem 7, sef dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y cynnig, felly, yw'r bleidlais nesaf. Agor y bleidlais ar y cynnig yn enw Lesley Griffiths. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg. Cynnig: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 8 yw'r bleidlais nesaf, ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

19:35

Eitem 8. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais olaf fydd ar y penderfyniad—. Mae yna bleidlais arall. Mae'r bleidlais yma ar benderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Galwaf am bleidlais, felly, ar y cynnig eto yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 9. Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:35.