Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/02/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn hwn. Y cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, ac i'w ofyn gan Siân Gwenllian.

Costau Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc Arfon gyda chostau teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ59096

Diolch. Un o nodau 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yw lleihau cost teithio cynaliadwy i bawb yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc. Rydym yn gweithio tuag at system drafnidiaeth hygyrch ledled y wlad ac mae gennym nifer o gynlluniau wedi’u hanelu at deithwyr iau.

Mae'n dda clywed bod yna gynlluniau ar y gweill, ac, wrth gwrs, mae angen eu hymestyn nhw a dod â chynlluniau newydd ymlaen hefyd. Ond yn rhannau gwledig fy etholaeth i, nid cost teithio ar fysus ydy'r unig broblem. Mae yna brinder bysus yn y lle cyntaf, gyda rhai cymunedau heb ffordd o deithio o gwbl ar adegau, gan nad oes yna ddim trenau, metro, llwybrau seiclo addas, nac ychwaith wasanaeth bysus ar rai adegau o'r dydd. Mae Yr Orsaf ym Mhenygroes yn datblygu prosiect i gefnogi trigolion, gan gynnwys pobl ifanc, sy'n wynebu rhwystrau oherwydd diffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn nyffryn Nantlle, a hynny efo cefnogaeth partneriaeth trafnidiaeth gymunedol dyffryn Nantlle. Ydy trafnidiaeth gymunedol yn faes yr ydych chi fel Dirprwy Weinidog am ei weld yn datblygu i'r dyfodol, ac felly, os ydy hyn yn flaenoriaeth gennych chi, faint o gyllid sydd wedi ei glustnodi ar gyfer annog y math yma o drafnidiaeth yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?

Diolch. Nifer o bwyntiau yno. Rwy'n gyfarwydd â gwaith Partneriaeth Ogwen, ac wedi ymweld â rhai o'u cynlluniau—maent yn sefydliad rhagorol. Roeddwn yn arbennig o hoff o'r cynllun rydym wedi bod yn eu hariannu i ôl-osod beiciau, i osod batri arnynt, sydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac yn enwedig mewn ardaloedd bryniog, yn beth ymarferol iawn y gallwn ei wneud i helpu pobl nad oes ganddynt fynediad hawdd at gar neu drafnidiaeth gyhoeddus. Gwyddom ein bod, ers cenedlaethau, wedi bod yn ffafrio buddsoddiad mewn cynlluniau ffyrdd, ar gyfer y bobl sydd â cheir, a'n bod, dros amser, wedi bod yn esgeuluso trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym wedi gweld dirywiad yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, rydym wedi gweld dirywiad yn nifer y llwybrau teithio, ac rydym wedi gweld prisiau'n codi. Felly, dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn cyflwyno ein Bil bysiau, i ailgynllunio'r gwasanaeth, ac mae'n un o'r rhesymau pam y byddwn yn cyhoeddi'r adolygiad ffyrdd ddydd Mawrth nesaf, er mwyn symud adnoddau, dros amser, o gynlluniau sy'n seiliedig ar geir i gynlluniau ar gyfer pawb.

Yn y cyfamser, mae gennym heriau ariannol anodd iawn, ac rydym yn gweld cynlluniau bysiau yn cael eu diddymu, sy'n dangos y broblem sydd gennym gyda'r system sydd wedi'i phreifateiddio, gan nad oes trosolwg strategol dros hyn—mae'n cael ei wneud ar hap gan gwmnïau bysiau. Ac yna, mae gennym y broblem bellach, yn enwedig yn y Gymru wledig, lle mae cwmnïau bysiau'n ei chael hi'n anodd cynnal eu model busnes, ac mae cost ynni'n eu hatal rhag gallu darparu llwybrau teithio, ac nid ydynt yn tendro am wasanaethau newydd. Felly, mae ystod o heriau yn ein hwynebu, ond y broblem sylfaenol yw’r diffyg buddsoddiad sydd gennym. Oherwydd rydym wedi blaenoriaethu pethau eraill, gan gynnwys yn rhan o’r cytundeb cydweithio. Gallem fod wedi dewis blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus; fe ddewisom ni bethau eraill, ac mae'n rhaid inni wneud y gorau a allwn gyda'r hyn sydd gennym. Ond yn amlwg, fel rhan o'n hymdrech i newid dulliau teithio a'r targedau sero net, mae angen inni symud adnoddau i raddau mwy o lawer tuag at drafnidiaeth gyhoeddus.

Hoffwn adleisio’r sylwadau a godwyd gan yr Aelod dros Arfon, a chydnabod bod angen y ffocws pwysig hwn ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, mewn ardaloedd fel Arfon ac ar draws gogledd Cymru—y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, wrth gwrs. Ddirprwy Weinidog, rwy’n siŵr eich bod yn un o ddarllenwyr brwd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig yr un ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021. Ynddo, roeddem ni fel y Ceidwadwyr yn galw am deithiau bws am ddim a theithiau trên am bris gostyngol i bobl ifanc 16 i 24 oed, i helpu ein pobl ifanc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Wrth gwrs, gallai hyn sicrhau'r newid rydych chi a minnau mor awyddus i’w weld yn ein dulliau teithio, gan gefnogi ein hamgylchedd ar yr un pryd, sydd mor bwysig. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa ystyriaeth rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i’r math hwn o syniad, i sicrhau teithio am ddim ar fysiau i’n pobl ifanc, fel y gallwn weld newid mewn dulliau teithio a chefnogi ein hamgylchedd hefyd? Diolch yn fawr iawn.

Wel, nid oes unrhyw amheuaeth y byddai gennym fwy o ddefnydd pe bai gennym brisiau is. Mae cynlluniau ar waith ledled y byd, gan gynnwys y defnydd o fysiau am ddim yn Normandi a mannau eraill, a chynlluniau bysiau am ddim yng Nghymru, yng Nghaerdydd ac Abertawe a Chasnewydd, am gyfnodau byr, sydd wedi dangos cynnydd mewn defnydd. Felly, pan fydd prisiau’n gostwng, gwyddom fod pobl yn fwy tebygol o’u defnyddio. Nid oes prinder cyfleoedd a syniadau i gynyddu defnydd a lleihau prisiau tocynnau, a chymell pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yr her bob amser yw'r adnoddau. Felly, nid wyf yn siŵr sut mae’r Ceidwadwyr yn bwriadu ariannu’r cynllun a oedd ganddynt yn eu maniffesto, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw opsiynau hawdd i wneud hynny.

Mae gennym gynnig ar fysiau lle mae pobl rhwng 16 a 21 oed yn cael traean oddi ar docyn bws oedolyn, ac rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith, fel rhan o’n hymrwymiad i drefn brisiau siwrneiau decach, ar fodelu’r hyn y gallem ei gyflawni pe bai gennym docynnau bysiau llawer rhatach. Ac mae’r holl ffigurau'n galonogol iawn; yr adnoddau yw'r her.

13:35
Llifogydd mewn Cymunedau Arfordirol

2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cymunedau arfordirol sy'n wynebu bygythiad o lifogydd? OQ59079

Diolch, Janet. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £293 miliwn mewn lleihau perygl llifogydd i gymunedau arfordirol ledled Cymru drwy ein rhaglen rheoli risgiau arfordirol. Bydd hyn yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 15,000 eiddo, ac mae’n cynnwys, er enghraifft, mwy na £19 miliwn o fuddsoddiad yn Aberconwy. Mae map rhyngweithiol yn dangos ein buddsoddiad wedi'i gyhoeddi ar-lein.

Diolch, Weinidog. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, yn 2014, fod oddeutu 50,000 tunnell o graig chwarel ffres a budr wedi cael ei ddympio heb unrhyw rybudd ar ein traeth tywodlyd hyfryd, traeth y gogledd yn Llandudno. Ar y pryd, fe'i gelwid yn 'raean'. Roedd y dref yn gandryll, gyda thrigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnesau yn dal yn flin hyd heddiw. Gallaf gofio'r ewyn llaethog, gwyn yn cael ei olchi i'r lan am oddeutu tair wythnos, a'i fod yn cael ei alw ar y pryd yn 'raean glân ac anadweithiol.'

Nawr, yn 2023—wel, cyn hynny, a dweud y gwir—rydym bellach yn ymwybodol o'r nifer o opsiynau a gynigiwyd i chi i gyflwyno cynllun amddiffynfeydd llifogydd o'r môr newydd. Un o’r opsiynau yw gweithredu cynllun a fyddai’n ailgyflenwi tywod, a chefnogwyd cam 1 hyd yn oed. Ni allaf orbwysleisio fy siom aruthrol na fydd y cynllun hwn yn cael ei gefnogi mwyach, gan eich bod yn teimlo bod y gost yn ormod o gymharu â manteision esthetig adfer tywod. Llandudno yw brenhines cyrchfannau Cymru, a phrif drysor—

Rwy'n mynd i orfod galw arnoch i ofyn eich cwestiwn nawr, gan fy mod ar fin gofyn ichi ofyn eich cwestiynau fel llefarydd, ac mae tri o'r rheini. Felly, a wnewch chi ofyn eich cwestiwn?

Iawn. Pa gamau y gallwch eu cymryd, Weinidog? Sut rydym yn gwneud cynnydd ar hyn? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod gennym yr amddiffynfeydd môr cywir sydd eu hangen arnom, ond y gallwn hefyd, ar ryw gam, weld ein traeth tywodlyd yn cael ei adfer yn Llandudno? Diolch.

Ie, diolch, Janet. Felly, yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid grant yn ddiweddar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer Llandudno, yn seiliedig ar gynnal a gwella’r amddiffynfa bresennol o goblau ar draeth y gogledd. Nid yw'r opsiwn i ailgyflenwi tywod yn darparu unrhyw fudd ychwanegol o ran llifogydd, a byddai'n costio llawer mwy i'r rhaglen rheoli perygl arfordirol, a dyna'r broblem. Felly, er fy mod yn deall yr hyn a ddywedwch am y traeth tywodlyd yn llwyr, diben y rhaglen rheoli risg arfordirol yw rheoli risg arfordirol; nid yw'n ymwneud ag atyniadau twristiaeth a gwerth esthetig arall. Nid wyf yn gwadu gwerth hynny; rwy'n dweud nad dyna yw diben y rhaglen.

Felly, os yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i ailgyflenwi tywod ar draeth y gogledd yn Llandudno, mae gwir angen iddynt chwilio am ffynonellau eraill o gyllid. Mae ffynonellau eraill o gyllid ar gael, ond yn bendifaddau, ni allaf gymryd rhaglen rheoli risg arfordirol sydd wedi’i chynllunio’n benodol i amddiffyn lleoedd rhag llifogydd a’i defnyddio at ddiben hollol wahanol. Felly, er fy mod yn cydymdeimlo â'r hyn a ddywedwch, nid hon yw'r rhaglen gywir ar gyfer hynny. A gallwch ddweud o'r swm o arian rydym wedi'i fuddsoddi yn arfordir Cymru ein bod o ddifrif yn ceisio amddiffyn cymaint o eiddo â phosibl rhag llifogydd. Yn amlwg, rydym yn ceisio gwneud hynny yn y ffordd fwyaf amgylcheddol a dymunol yn esthetig ag y gallwn, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â faint o eiddo rydym yn eu hamddiffyn. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn gallu gweithio gyda’r cyngor i gytuno ar opsiwn gwell, ond nid drwy’r model ariannu hwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, Nawr, ni ellir gwadu bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael ag adeiladau anniogel. Mae'r Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS wedi anfon contractau cyfreithiol rwymol i bob datblygwr a fydd yn eu hymrwymo i dalu i gyweirio'r adeiladau anniogel hyn. Bydd y contract hwn yn golygu bod datblygwyr yn ymrwymo oddeutu £2 biliwn neu fwy ar gyfer atgyweiriadau i adeiladau a ddatblygwyd neu a adnewyddwyd ganddynt dros y 30 mlynedd diwethaf, ac yn diogelu miloedd o lesddeiliaid sy’n byw mewn cannoedd o adeiladau ledled Lloegr. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn ceisio atal datblygwyr rhag gweithredu’n rhydd yn y farchnad dai os nad ydynt yn arwyddo ac yn cydymffurfio â'r contract cyweirio. A fyddwch yn gwneud yr un peth ar gyfer y rheini sy’n gweithredu yng Nghymru ac sydd naill ai’n gwrthod cefnogi neu’n torri telerau cytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru?

13:40

Ydw, Janet, rwy'n ymwybodol iawn o ddatganiadau amrywiol Michael Gove. Cyfarfûm yn ddiweddar iawn â’r Gweinidog tai ar y pryd, sydd bellach yn Weinidog dros ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon, rwy’n credu—mae’n anodd dal i fyny—i siarad am hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Michael Gove hefyd, ond nid wyf wedi cael un ers ei ailymgnawdoliad.

Mae'r rhaglen yma bron yn union yr un fath ym mhob agwedd rydych newydd ei nodi. Rydym wedi gweithio gyda’r 11 datblygwr mawr yng Nghymru. Mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i'r cytundeb. Mae'r ddogfennaeth gyfreithiol ganddynt ar hyn o bryd. Yn amlwg, maent yn edrych i weld beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r ddogfennaeth gyfreithiol yno. Mae ein dogfennaeth yn wahanol am fod y fframwaith cyfreithiol yng Nghymru yn wahanol, ond serch hynny, mae'r pwyslais yr un fath. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rydym yn mynd ychydig yn gyflymach na hynny. Mae gennym ddau o'r datblygwyr mawr eisoes yn dechrau ar y gwaith cyweirio. Rydym wedi mynd ymhell iawn gyda'n rhaglen o arolygon. Dim ond ychydig o adeiladau sydd gennym ar ôl. Mae’r rheini sydd ar ôl nad ydynt wedi’u cwblhau ar gyfer yr arolwg ymwthiol llawn i gyd oherwydd bod angen set gymhleth o gytundebau gan rydd-ddeiliaid amrywiol ac yn y blaen, ac nid wyf am fanylu ar hynny, ond ceir materion rheoli cymhleth mewn perthynas â rhai o'r adeiladau. Mae'r lleill yn ymwneud â lle bu'n rhaid cau prif ffordd gyfan er mwyn cael mynediad i'r adeilad i wneud y gwaith, ac rydym wedi gorfod gweithio gyda'r cyngor lleol i lunio cynllun rheoli traffig i allu gwneud hynny. Heblaw am hynny, maent i gyd wedi'u cwblhau. Mae'r adroddiadau i gyd yn yr arfaeth. Byddwn yn gallu dechrau ar y gwaith cyweirio cyn gynted ag y gallwn.

Rydym hefyd yn gweithio ar raglen ar gyfer yr hyn a elwir yn adeiladau amddifad. Hyd y gwn i, nid oes rhaglen fel hon yn Lloegr. Mae gennym 16 i 23 o adeiladau amddifad—mae'n dibynnu i raddau ar yr hyn rydych yn ei alw. Adeilad amddifad yw un lle nad oes yswiriwr, asiant rheoli neu ddatblygwr cyfrifol y gellir eu dwyn i gyfrif, a byddwn yn gallu bwrw ymlaen â rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith cyweirio arnynt.

Ond credaf mai dyma’r pwynt pwysicaf yma: rwyf bob amser wedi bod o'r farn y dylai’r Llywodraeth ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn hyn o beth. Nid ydym am i lesddeiliaid unigol orfod cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y datblygwyr, sef yr hyn y mae Deddf adeiladau Lloegr yn ei wneud. Rwy’n deall pam y gwnaethant hynny, ond nid ydym yn credu bod hynny’n iawn. Felly, bydd gennym y contract yma, ac os na chedwir ato, ein cyfrifoldeb ni fydd cymryd camau yn erbyn y datblygwyr. Dyna fel y dylai fod, yn fy marn i. Byddaf hefyd yn archwilio i weld a allwn, er enghraifft, atal adeiladwyr rhag ymgymryd â safleoedd lle mae caniatâd cynllunio yn bodoli eisoes a pharhau â'r gwaith. Dyna ail gam y gwaith. Ond rwy'n eithaf balch fod datblygwyr yma wedi dod ar y daith hon gyda ni.

Ac yna y peth olaf a ddywedaf ar y pwynt hwn, ac mae'n werth cadw hyn mewn cof, yw bod rhai o'r adeiladau, rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf yn yr ymgyrch—a phwy all eu beio am gael ymgyrch; mae'n beth erchyll i fyw gydag ef—mae rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf mewn adeiladau lle ceir ymgyfreitha helaeth eisoes ar y gweill, ac ni allwn ymyrryd â'r achosion hynny. Felly, rydym wedi ein rhwystro gan rai o'r prosesau sy'n mynd rhagddynt. Ond rwy'n dal i gydymdeimlo'n llwyr â'r bobl sy'n byw gyda hyn. A'r peth olaf yr hoffwn ei ddweud wrthych, Janet, yw os ydych yn adnabod unrhyw un sydd mewn sefyllfa enbyd oherwydd hyn, a fyddech cystal ag argymell y cynllun prynu allan iddynt, gan nad ydym wedi cael cymaint o ddiddordeb ynddo ag y byddem wedi hoffi, ac rwy'n gobeithio sicrhau cymaint o gyhoeddusrwydd iddo â phosibl.

Diolch am eich ateb cynhwysfawr, Weinidog, rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, po hiraf y mae’n ei gymryd i ddatrys yr argyfwng hwn, y mwyaf yw’r pwysau meddyliol ac ariannol ar y trigolion agored i niwed hyn. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi hefyd na ddylem fod yn caniatáu i bobl eraill fanteisio ar hyn ac elwa'n ariannol. Y rheswm pam rwy'n sôn am hyn nawr yw am fod unigolion wedi ysgrifennu ataf yn egluro, mewn rhai achosion, fod y ffi gwasanaeth, ers hyn oll, am fflat dair ystafell wely wedi cynyddu o £2,500 i oddeutu £5,000 y flwyddyn. Ochr yn ochr â hynny, clywais yr honiad fod o leiaf un asiant rheoli'n codi ffi broceriaeth fewnol am yswiriant, a hefyd yn rhoi hysbysiadau adran 20, ddim yn gwneud y gwaith, yn codi ffioedd gweinyddol ar ben y ffi reoli, ac nad oes gan rai ohonynt unrhyw bolisi corfforaethol ar gyfer gwaith cynnal a chadw rhagweithiol nac ar gyfer gwirio'n rheolaidd fod ffyrdd o ddianc wedi'u hadrannu'n unigol rhag tân. Rwy'n ystyried bod honno'n drefn reoli erchyll. A fyddech yn barod i ymchwilio ymhellach i hyn drwy gyfrwng adolygiad neu ryw fath o ymchwiliad i ganfod sut yn union y mae pob asiant rheoli yng Nghymru wedi ymateb i’r argyfwng cladin, ac a oes unrhyw arwydd y gallai rhai fod yn elwa o’r sefyllfa hon?

13:45

Ydw, rwy'n ymwybodol iawn o hyn hefyd. Mae un o'r asiantau rheoli mwyaf wedi bod yn fy ngweld yn ddiweddar iawn. Mae llawer iawn o bobl yn fy etholaeth yn wynebu'r broblem hon, felly rwy'n ymwneud â'r mater yn lleol hefyd. Weithiau, mae'n anodd gwahanu diogelwch yr adeilad oddi wrth faterion sy'n ymwneud ag adeiladwaith, a all fod yn gymhleth hefyd. Felly, rydym yn edrych i weld a allwn ddatrys materion adeiladwaith, nad ydynt o reidrwydd yn faterion diogelwch adeiladau, ar yr un pryd, gan fod gwneud dau swp o waith yn amlwg yn ddisynnwyr. Ond byddaf hefyd, yn y sgwrs gyda Lucy Frazer, yn parhau â hyn gyda'r swyddogion, a byddaf yn amlwg yn ceisio cyfarfod â'r Gweinidog tai newydd cyn gynted ag y gwn pwy ydynt. Ond buom yn trafod y rhaglen ddiwygio cyfraith lesddaliad y mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hi gyda hi a’i swyddogion.

Fe wyddoch, Janet, fod cymhlethdod y setliad datganoli yn y maes hwn yn anhawster. Gwn bod pobl yn fy nghasáu i'n siarad am ba mor gymhleth yw hyn, ond nid oes dianc rhag y ffaith honno. Mae gallu Llywodraeth Cymru i reoleiddio asiantau rheoli ai peidio yn un o'r pethau rydym yn edrych arnynt, a cheir materion cyfreithiol cymhleth sy'n codi yn hynny o beth. Ond yr hyn sy'n wirioneddol glir yw bod y rhan fwyaf o'r asiantau rheoli mawr yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, felly mae angen inni sicrhau bod gennym raglen addas—rwy'n credu y byddwch yn cytuno â mi ar hynny.

Felly, rwy’n mawr obeithio, ac rydym yn sicr yn gweithio tuag at Lywodraeth y DU yn deddfu ar gyfer diwygio cyfraith lesddaliadau ac asiantau rheoli, a gobeithiaf y byddant yn ychwanegu gwerthwyr tai yn y man gwerthu, gan fod gwahanol gyd-Aelodau o amgylch y Siambr hon—rwy'n meddwl am Hefin David yn arbennig—wedi codi mater ffioedd rheoli ystadau ar sawl achlysur, a'r un corff o bobl sy'n ymdrin â hwy. Felly, yr ateb syml i'ch cwestiwn yw: ydym, rydym yn ymwybodol iawn o'r mater. Ydy, rydym yn cael yr asiantau rheoli i mewn i siarad gyda ni. Byddaf yn cynnal cyfarfod ar gyfer pob un ohonynt yng Nghymru, gan gynnwys y rhai bach, yn fuan iawn. Ond yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw system reoleiddio sy'n nodi eu cymwysterau proffesiynol a'r hyn y gallant godi tâl amdano.

A Lywydd, gan fentro trethu eich amynedd gyda hyd fy ateb—ac rwy'n ymddiheuro; mae'n faes cymhleth iawn—dylwn ddweud ein bod hefyd yn teimlo y dylid rhoi sylw i hyn yn y gwaith ar ddiwygio adeiladu y byddwn yn ei gyflwyno gerbron y Senedd, er mwyn sicrhau, pan fydd adeiladau newydd yn cael eu codi yn y dyfodol, y bydd hi'n glir pwy all a phwy na all fod yn asiant rheoli.

Diolch, unwaith eto, Weinidog. Ni allaf ddadlau â’r ymateb hwnnw o gwbl.

Nawr, fy mhwynt olaf: yn y gyllideb ar gyfer 2023-24, mae cyllid diogelwch adeiladau ar fin cael gostyngiad o 37 y cant mewn adnoddau. Er bod y gyllideb ddangosol wedi neilltuo £9.5 miliwn ar gyfer 2023-24, mae dyraniad y gyllideb ddrafft wedi gostwng i £6 miliwn. Rwyf braidd yn ddryslyd ac efallai y gallech esbonio'r sefyllfa'n well. Felly, sut y gallwch ddweud ar y naill law fod diogelwch adeiladau yn un o'ch prif flaenoriaethau, ond eich bod yn ei dorri ar yr un pryd?

Felly, mae'n rhaglen amlochrog yn y bôn, ac felly, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw graddnodi'r gyllideb hyd at y pwynt lle rydym yn gwneud y gwaith cyweirio. Felly, fe welwch ein bod yn gwario llai ar ddechrau'r rhaglen gan ein bod yn cynnal arolygon. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith cyweirio. Rydym yn amlwg wedi gwneud gwaith cyweirio ar adeiladau cymdeithasol sy'n bodloni'r meini prawf, er enghraifft. Rydym ar fin dechrau'r gwaith cyweirio y soniais amdano ar adeiladau amddifad. Bydd rhai o'r adeiladau sy'n eiddo i'r sector preifat yn cael eu cyweirio. Ond mae'n amlwg y bydd y rhaglen hon yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd—pedair neu bum mlynedd, yn gyffredinol, ar gyfer rhaglen gyfalaf o'r fath. Felly, mae angen ichi edrych ar y gyllideb yn ei chyfanrwydd.

Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor, i ofyn ei gwestiynau i'r Dirprwy Weinidog. Mabon ap Gwynfor.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy gydnabod bod yna lot o waith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd efo gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Roedd adroddiad diweddar Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, er enghraifft, yn ddifyr iawn, efo un ystadegyn arbennig o ddifyr a oedd yn dweud bod dwy ran o dair o siwrneiau pobl y gogledd yn 15 km neu lai, ond roedd y data yna wedi pwyso’n sylweddol i'r ardaloedd mwyaf poblog yn amlwg.

Mae nifer o gynlluniau metro ar y gweill hefyd, ac os edrychwn ni unwaith eto ar y gogledd, mae yna sôn sylweddol yno am ddatblygu linciau trên o Landudno a Wrecsam i Lerpwl a Manceinion. Mae metro bae Abertawe yng ngorllewin Cymru yn sôn am y canolfannau trefol unwaith eto. Ond yr hyn sydd yn nodedig yn hyn oll ydy absenoldeb llwyr cynlluniau ar gyfer y Gymru wledig. Ble mae Ceredigion, Powys, y rhan fwyaf o Wynedd a’r berfeddwlad yn y cynlluniau metro? Felly, beth ydy uchelgais y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod trigolion y Gymru wledig yn medru cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus?

Diolch yn fawr iawn am y set bwysig honno o gwestiynau. Mewn gwirionedd, dangosodd y data a gyhoeddwyd gan gomisiwn Burns ar gyfer gogledd Cymru, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, fod y rhan fwyaf o deithiau’n gymharol fyr, ac mewn egwyddor, y gallai trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gymryd lle llawer ohonynt pe bai’r gwasanaethau ar gael. Rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn gydag awdurdodau lleol ac eraill mewn gwahanol rannau o Gymru, a’r hyn sy’n drawiadol yw, pan fyddwch yn mapio ardaloedd gwledig, fod ardaloedd gwledig i'w cael ym mhob sir yng Nghymru. Nid yw'n fater sy'n ymwneud â'r canolbarth yn unig, neu'n fater sy'n ymwneud â'r gogledd-orllewin; mae gwledigrwydd ym mhobman, ac mae mater hygyrchedd a dewis yn her wirioneddol ledled y wlad.

Gwyddom o wledydd eraill, lle gwneir dewisiadau gwahanol, y gallwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus hyfyw mewn ardaloedd gwledig iawn. Os edrychwch ar Sweden, yr Almaen neu'r Swistir, mae gan hyd yn oed y pentrefi bach wasanaeth bws bob awr. Felly, nid oes unrhyw reswm, mewn egwyddor, pam na allem wneud cynnig llawer gwell ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae'n gwestiwn o adnoddau a dewisiadau gwleidyddol. Nawr, os ydym yn mynd i gyflawni'r targedau newid hinsawdd y mae pob un ohonom wedi ymrwymo iddynt, yn amlwg, mae angen inni newid dulliau teithio, pobl yn newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy ym mhob rhan o Gymru. Un o’r pethau rydym yn canolbwyntio arnynt yw dweud, ‘Sut rydym yn sicrhau mai'r hyn y gwyddom yw’r peth iawn i’w wneud yw'r peth hawsaf i’w wneud?’, gan mai natur ddynol yw gwneud y peth hawsaf, ac ar hyn o bryd, mewn sawl rhan o Gymru, nid yw'n hawdd, neu mewn llawer o gymunedau, nid yw'n bosibl dal bws ar ôl 5 neu 6 o'r gloch y nos. Felly, gwyddom nad ydym yn dechrau o le gwych, a gwyddom fod hyn yn mynd i gymryd peth amser.

Fel rhan o’r cytundeb cydweithio, rydym yn edrych ar goridorau trafnidiaeth yn y gorllewin. Mae’r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, a minnau wedi cytuno ar raglen waith gyda Trafnidiaeth Cymru i asesu’r posibiliadau ar gyfer coridorau bysiau, yn bennaf, yn y gorllewin, ond gan edrych hefyd ar sut, o ran cynllunio, y gallwn gadw’r hen reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Ond ar ryw adeg, bydd angen inni ddewis ble rydym yn rhoi'r buddsoddiad prin sydd gennym a ble mae'r flaenoriaeth. Credaf mai dyna yw ein cyfyng-gyngor, oherwydd o safbwynt carbon, rydym bob amser yn mynd i fod yn awyddus i gyflawni’r gostyngiadau cyflymaf a’r gostyngiadau mwyaf mewn carbon. Yn amlwg, bydd buddsoddiadau mewn ardaloedd gwledig yn ddrytach a byddant yn cael llai o effaith o ran carbon, a bydd angen inni fynd i'r afael â'r tensiwn hwnnw. Ond rwy'n glir iawn nad ydym yn mynd i allu llwyddo yn ein gweledigaeth gyffredinol oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r broblem wledig.

13:50

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hynny, a'r geiriau cynnes iawn sydd wedi cael eu rhoi yn cefnogi cael darpariaeth yn yr ardaloedd gwledig, ond ymhellach i hynny, mae wedi dod i fy sylw i fod y cynllun bus emergency scheme, a gafodd ei gyflwyno yn ystod COVID, am gael ei arallgyfeirio er mwyn digolledi anghenion eraill o fewn y Llywodraeth, ac felly bod y pres yma'n dirwyn i ben yn ddisymwth iawn.

Mae sawl darparwr bysus wedi cysylltu efo Aelodau'r meinciau yma dros y dyddiau diwethaf yn sôn fod y cynllun BES yma, a oedd i fod i ymestyn am flwyddyn arall, wedi cael ei ollwng ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Mae hyn, wrth gwrs, wedi chwalu cynlluniau bysus, y cwmnïau, ac yn golygu nad ydyn nhw'n medru rhoi notis angenrheidiol ar gyfer dirwyn llwybr penodol i ben. Darparwyr lleol a chymharol fach ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, sydd heb gronfa fawr o arian i'w galluogi i ddigolledi rhai o'r llwybrau yma. O ganlyniad, maen nhw'n ein rhybuddio ni y bydd hyn yn golygu bod nifer o lwybrau yn mynd i ddod i ben, a hwyrach rhai busnesau yn dirwyn i ben. Mae'r darparwyr bysus hynny'n tiwnio i mewn heddiw i'r sesiwn yma ac yn gwrando i weld os medrith y Dirprwy Weinidog roi sicrwydd iddyn nhw y bydd y gyllideb a'r grant yn parhau i ariannu'r llwybrau bysus yma. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ein sicrhau na fydd yr ariannu i wasanaethau bysus Cymru yn ei chyfanrwydd, sydd yn golygu'r bus emergency scheme, yn cael ei dorri, ac y bydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf?

Wel, mae'n fwy na geiriau cynnes yn unig. Rydym wedi gwario £150 miliwn ers dechrau’r pandemig ar achub y diwydiant bysiau yng Nghymru. Felly, gadewch inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny: heb gymorth ac ymyrraeth Llywodraeth Cymru, byddai’r diwydiant bysiau wedi mynd i'r wal; ni fyddai unrhyw wasanaethau bws ar ôl. Felly, credaf ei bod ond yn deg inni gofio ein bod wedi rhoi ein harian ar ein gair.

Nawr, holl bwynt y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau—mae'r cliw yn y teitl—oedd ei fod yno ar gyfer argyfwng; ni fwriadwyd erioed iddo fod yn gyllid hirdymor, a'r bwriad bob amser oedd y byddai'n dod i ben. Nawr, yr her sydd gennym yw nad yw'r lefelau defnydd wedi dychwelyd i'r un lefelau â chyn y pandemig. Felly, rydym yn cefnogi rhwydwaith bysiau nad yw'n gweld yr un ymddygiadau bellach â’r hyn a welai'n flaenorol. Felly, ar un ystyr, rydym yn ffosileiddio rhwydwaith bysiau. Mae hyd yn oed y diwydiant yn cytuno bod angen inni ad-drefnu ac ailedrych ar y rhwydweithiau bysiau yng Nghymru.

Nawr, rydym wedi bod yn gwneud hyn yn fwy hael o lawer na Lloegr; rydym wedi cynnal llawer mwy o ddefnydd o ddarpariaeth bysiau nag sydd wedi digwydd dros y ffin. Credaf y byddai unrhyw olwg deg yn edrych ar y toriadau sy’n cael eu gwneud yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae’r diwydiant bysiau wedi wynebu ymyl clogwyn ledled y DU oherwydd y datgysylltiad rhwng y realiti, yr ymddygiadau, ac economeg y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae gennym broblem wirioneddol yma, yn yr ystyr nad yw cyfraddau defnydd, yn enwedig ymhlith pensiynwyr, wedi dychwelyd i'r cyfraddau rydym am eu gweld. Ac yn syml iawn, nid oes gennym arian i barhau i gynnal y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau ar yr un lefelau â phan oedd y pandemig ar ei anterth. Felly, mae gennym broblem.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant. Cyfarfu Julie James a minnau â’r gweithredwyr ddydd Gwener diwethaf. Rydym wedi bod yn cyfarfod drwy gydol yr wythnos hon, a byddwn yn cyfarfod â hwy eto ddydd Gwener, gan eu bod wedi cyrraedd y terfyn amser i hysbysu'r comisiynydd traffig ar gyfer rhoi'r contractau hyn yn ôl. Rydym wedi siarad â’r comisiynydd traffig ynglŷn â chynnig rhywfaint o ddisgresiwn ynghylch pryd y bydd y trothwy hwnnw'n cael ei gyrraedd, ac maent yn sicr yn agored i fod yn bragmatig ynglŷn â hynny. A'r hyn rydym am ei wneud yw tapro'r cynllun, nid wynebu ymyl clogwyn. Ond mae'n rhaid inni ddod â'r cymorth i ben, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i ateb nad yw'n arwain at ddiddymu llawer o lwybrau teithio, ond mae'r sefyllfa ariannol rydym ynddi—ein cyllideb—yn heriol tu hwnt, ac rydym yn gweithio drwy'r wythnos hon i weld beth y gallwn ei wneud.

13:55
Trydan o Ffynonellau Adnewyddadwy

3. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at ei tharged o gyflenwi 70 y cant o alw trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030? OQ59073

Diolch, Natasha. Yn 2021, cynhyrchodd prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yr hyn sy'n cyfateb i 55 y cant o’n defnydd o drydan. Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’n hadolygiad o dargedau ynni’n dangos bod cyfres o brosiectau ar y gweill i gyflawni ein targed ar gyfer 2030, llwybr uchelgeisiol ond credadwy at ein targed arfaethedig o 100 y cant erbyn 2035.

Diolch, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar a chefais gyflwyniad gan ddatblygwyr fferm ynni solar arfaethedig yng Nghraig y Perthi ger gorsaf ynni Aber-wysg. Mae ynni solar, fel y gwyddoch yn well nag unrhyw un rwy’n siŵr, yn un o’r ffyrdd rhataf o gynhyrchu ynni ar hyn o bryd, a chyda chynlluniau fel fferm solar Craig y Perthi ar y gweill, mae gwir botensial gan ynni solar nid yn unig i fynd i’r afael â'n gofynion ynni, ond hefyd i ddarparu cymorth i bobl sy'n dioddef gyda biliau ynni uchel ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, a allwch roi gwybod i ni yma yn y Siambr heddiw a thu hwnt pa gynnydd sy’n cael ei wneud, yn benodol, ar gynyddu nifer y prosiectau solar ffotofoltäig yma yng Nghymru? Diolch.

Diolch, Natasha. Yn amlwg, nid wyf am wneud sylwadau ar brosiectau unigol gan mai fi yw'r Gweinidog cynllunio hefyd, felly fe wnaf sylwadau cyffredinol am hynny.

Yn amlwg, rydym am weld prosiectau ynni solar, ochr yn ochr â llu o bethau eraill yn y farchnad ynni adnewyddadwy. Rydym yn dymuno gweld cymaint â phosibl o ganlyniadau gwahanol o brosiectau ynni. Felly, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau solar nad ydynt yn defnyddio tir amaethyddol da, prosiectau solar wedi'u lleoli ar dir heb amaethyddiaeth o safon uchel. Rydym yn gobeithio y bydd y ffermydd solar yn ystyried y potensial ar gyfer cydleoli bioamrywiaeth neu blannu coed. Ceir enghreifftiau rhagorol ledled Cymru. Nid yw'r paneli o reidrwydd yn sefydlog—gellir eu codi o'r ddaear, gallant fod ar wahanol onglau, gallant symud hyd yn oed, ac yn y blaen. Felly, yn gyffredinol, rydym yn ceisio annog cymaint o ynni solar â phosibl yn y lle iawn. Rydym yn ceisio annog pobl i beidio â'i ddefnyddio yn y lle anghywir, fel rydym yn ei wneud gyda phob prosiect ynni arall hefyd, ac rydym yn gofyn i'r datblygwyr ddweud ystod eang o bethau wrthym wrth iddynt gyflwyno'r cynlluniau, gan gynnwys faint o ynni y byddant yn ei gynhyrchu, yn amlwg, sut y byddai'n cysylltu â'r grid, neu a yw'n system gaeedig.

Mae prosiect gwych i lawr yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, rwy’n credu, neu efallai fy mod yn anghywir, efallai ei fod yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, ond mae’n pweru Ysbyty Treforys, ac mae'n defnyddio system gaeedig. Ai yn eich etholaeth chi y mae'r prosiect hwnnw?

Nid oeddwn yn hollol siŵr ble mae'r ffin. Mae'n brosiect rhagorol, ac un o'r pethau y buom yn eu trafod pan oeddem yno—cefais y fraint o'i agor, felly mae bellach yn pweru'r ysbyty, gan helpu gyda'u hôl troed carbon a'u hynni—ond un o'r pethau mawr amdano yw bod ganddo brosiect perthi ac ymylon o'i amgylch ar gyfer coed, a phlannwyd gweirglodd fioamrywiol oddi tano. Beth sydd beidio â'i hoffi?

Felly, yr ateb byr yw, 'Po fwyaf o bethau y gall eu cyflwyno ar yr un pryd a'r gofod y gall ei ddefnyddio na ellir ei ddefnyddio at ddefnydd buddiol arall, gorau oll', ac yna, gallwn sicrhau caniatâd ar gyfer y prosiectau.

Yn ogystal â'r targed canmoladwy i gyflawni 70 y cant o alw Cymru am drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, erbyn 2035 wrth gwrs, rydym yn anelu at gynhyrchu 100 y cant o ynni o ffynonellau adnewyddadwy. Ond hefyd, ac mae hyn wedi'i gynnwys yn eich cynlluniau yno, rhaid inni ddod o hyd i gynnydd pumplyg yn y trydan a gynhyrchir o'r ffynonellau adnewyddadwy hynny erbyn 2050. Mae'n her enfawr, ond mae'n gyfle gwych, yn enwedig os gallwn sicrhau bod gan gymunedau gyfran yn hyn, yn ogystal â llywodraeth leol, ein bwrdeistrefi gwych, a bod cyfran gan Lywodraeth Cymru yn hyn hefyd. Oherwydd mae'r her yn fawr, ond am gyfle, o'r diwedd, i bob un ohonom gymryd rhan yn hyn hefyd. Felly, sut rydym yn mynd i fwrw ymlaen â hynny, ar lefel gymunedol ond hefyd ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefel genedlaethol?

14:00

Diolch, Huw. Lywydd, mae perygl y bydd angen imi draddodi darlith awr yn ateb i bob un o'r cwestiynau hyn. Nid wyf am fod yn ormod o dreth ar eich amynedd. Digon yw dweud, Huw, ein bod eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn gwneud cwmni datblygu ynni sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Rhan o bwynt hynny yw adeiladu safleoedd enghreifftiol gyda llawer o berchnogaeth gymunedol a manteisio ar yr adnoddau sydd gennym eisoes. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gydag Ystad y Goron i ddatblygu ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd ac ynni gwynt sefydlog oddi ar ein harfordir gogleddol. Mae hynny ar ei ben ei hun yn gyfle 2 GW ar unwaith, gyda llawer mwy i ddod. Y broblem fawr i ni yw grid. Rydym yn trafod cynllun rhwydwaith cyfannol newydd gyda'r grid, rhwydwaith a fydd yn fy marn i yn creu cyfle i nifer fawr o brosiectau bach ar draws Cymru, gan gynnwys math o 'gartrefi fel gorsafoedd pŵer' yr edrychwn ymlaen at eu gweld. Cryno iawn yno, Lywydd—gobeithio eich bod yn cytuno.

Diogelwch Adeiladau

4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â diogelwch adeiladau? OQ59080

Diolch, Rhys. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn perthynas â diogelwch adeiladau. Rwy'n ymgysylltu â fy nghymheiriaid yn Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig drwy gyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol, lle rwy'n trafod materion sy'n cynnwys diogelwch adeiladau.

Diolch yn fawr, Weinidog. Cefais fy siomi wrth glywed eich ateb i fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders eich bod eto i dderbyn ymateb i'ch cais i gyfarfod â Michael Gove. Gobeithio y bydd yn ymateb i chi yn fuan iawn. Weinidog, darllenais eich erthygl yn Welsh Housing Quarterly, ac yn honno rydych yn nodi camau pellach ar ddiogelwch adeiladau. Roeddwn yn falch o weld bod rhywfaint o waith cyweirio wedi digwydd gydag o leiaf ddau ddatblygwr. Pryd rydych chi'n disgwyl i'r datblygwyr eraill—11 i gyd—ddechrau'r gwaith cyweirio, a faint o ddatblygwyr sydd eto i ymgysylltu neu wedi gwrthod ymrwymo i'r cytundeb? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys. Cyfarfûm â Lucy Frazer. Yn anffodus, newidiodd swyddi'n eithaf buan wedyn. Nid wyf yn mynd i gymryd hynny'n bersonol. Bydd rhaid imi geisio cyfarfod â'r Gweinidog tai newydd cyn gynted ag y gwn i pwy fyddant. Rwy'n cyfarfod â Michael Gove yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol lefel uwch lle rydym yn trafod y materion hyn hefyd, ond nid wyf wedi cael cyfle i wneud hynny yn ystod y mis diwethaf. Mae gennym 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i'r cytundeb, felly rydym yn falch iawn eu bod wedi gwneud hynny. Rydym yn y broses o gytuno ar y ddogfennaeth gyfreithiol sy'n mynd ochr yn ochr â hynny, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy i sicrhau y gallant ddechrau cyn hynny. Mae dau ohonynt, Persimmon a Bellway, wedi dechrau ar eu gwaith mewn datblygiadau cyn y ddogfennaeth gyfreithiol. Rydym yn gweithio gydag eraill i weld a allwn ni gyflymu hynny. Byddwn yn eu hannog nawr i ddechrau'r gwaith cyn gynted â phosibl, ond er hynny hoffem iddynt ymrwymo i'r ddogfennaeth gyfreithiol.

Heb ildio gormod o safbwynt cyfrinachedd masnachol, yr ystod o bethau rydym yn eu trafod yw, er enghraifft, a all y Llywodraeth helpu gyda phroblemau llif arian drwy dalu ymlaen llaw a chael ei had-dalu, a oes modd rhannu'r gwaith mewn rhyw ffordd, a hefyd sut olwg sydd ar y gadwyn gyflenwi a'r gadwyn gyflogaeth. Oherwydd gyda'r ewyllys gorau yn y byd, byddwn i gyd yn ymladd dros yr un adnoddau os nad ydym yn ofalus. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ei fod wedi'i raddnodi. Rydym hefyd am ystyried canlyniad ein harolygon, gan gynnwys yr arolygon ymwthiol, fel ein bod yn edrych ar ddull 'adeiladwaith gwaethaf yn gyntaf' yma yng Nghymru. Ond fel y dywedais mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, byddaf hefyd yn feirniadol iawn o unrhyw ddatblygwyr nad ydynt yn ymrwymo ac yn dechrau cyn gynted ag y gallant.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Rhys am godi'r mater hwn. Weinidog, rwy'n deall na fydd PRP, y cwmni a gyfarwyddwyd gan Lywodraeth Cymru i gwblhau arolygon safle o'r 163 o adeiladau yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru fel rhai yr effeithir arnynt gan faterion cladin, yn rhyddhau unrhyw adroddiadau nes y bydd yr holl arolygon wedi'u cwblhau. Nodwyd bod yr amserlen ar gyfer cwblhau rywbryd ym mis Hydref, ac rydym bellach bedwar mis dros y dyddiad cwblhau gwreiddiol hwnnw. Fel y bydd y Gweinidog yn cytuno rwy'n siŵr, mae'r mater hwn yn hynod bwysig i lawer o bobl sy'n berchen ar fflatiau, oherwydd nad ydynt yn gallu gwerthu neu ail-forgeisio eiddo nes bod yr arolygon safle hyn wedi'u cwblhau ac unrhyw waith posibl a nodwyd yn cael ei wneud. Felly, Weinidog, a allwch chi ddarparu dyddiad y byddwch yn disgwyl y bydd PRP wedi cwblhau'r holl arolygon safle ac yn sicrhau bod eu hadroddiadau ar gael? Diolch.

14:05

Diolch, Joel. Fel y dywedais, rydym yn ymwybodol iawn o beth yw'r sefyllfa ar bob safle. Rydym yn deall beth fu'r anawsterau. Mae gan y safleoedd sy'n weddill i gyd, y rhai nad ydynt wedi'u cwblhau eto, naill ai strwythur rheoli cymhleth ac mae wedi cymryd peth amser inni gael yr holl gydsyniadau yn eu lle ar gyfer yr arolygon ymwthiol—rwy'n credu bod gennym bob un ond dau o'r rheini yn eu lle nawr—ac mae'r lleill yn galw am gau prif dramwyfa neu mae rhyw fater cyfleustodau arall yn codi mewn perthynas â dechrau'r gwaith. Felly, nid yw'n fater o fod angen inni roi dyddiad gorffen arno; rydym yn deall beth yw'r mater sy'n codi ar gyfer pob un o'r adeiladau ac rydym yn gweithio gyda hwy i wneud yn siŵr y gallwn oresgyn hynny, gan gynnwys siarad ag awdurdodau lleol ac ymgysylltu yn y ffordd honno.

Rwy'n ymwybodol iawn fod hyn yn cymryd mwy o amser nag a feddyliem. Yn anffodus, mae hyd yn oed yn fwy cymhleth nag a feddyliwn, ac rwy'n cael fy nhrolio ar y cyfryngau cymdeithasol bob tro rwy'n dweud hynny, ond mae'n dal i fod yn ffaith ei fod yn gymhleth. Byddwn yn cyflwyno Bil diwygio adeiladau, sy'n ei wneud yn llawer llai cymhleth ac yn gwneud i bobl ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Gobeithio y bydd y Senedd yn ein helpu ni i'w basio pan gaiff ei gyflwyno. Rydym yn dysgu llawer o'r cymhlethdod a wynebwn wrth wneud hyn i'n helpu i saernïo'r Bil a sicrhau bod y system a roddwn ar waith ar gyfer y dyfodol yn gwneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd eto.

Prynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn flin eich bod wedi cael eich trolio ar y cyfryngau cymdeithasol; mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac mae'n ddrwg gennyf glywed hynny. Roeddwn eisiau gofyn dau gwestiwn byr iawn, un yn sgil eich ymateb i Janet Finch-Saunders. Roedd yn dda clywed am y cynllun prynu allan. Fe ddywedoch chi na wneir defnydd ohono mewn gwirionedd, felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: tybed beth yw'r broses gyfathrebu, sut rydych chi'n ei hysbysebu. Ac mae'r ail yn rhywbeth, unwaith eto, y gwnaethoch chi gyffwrdd ag ef: a oes cytundeb ar waith i ymgysylltu â datblygwyr sy'n mynd â lesddeiliaid i'r llys? Rydym i gyd yn gwybod bod hynny'n straen enfawr ar bobl sydd wedi cymryd camau efallai yn gynnar yn y broses i geisio cael gwaith cyweirio wedi'i wneud. Diolch yn fawr iawn.

Ar y cynllun cefnogi lesddeiliaid, pan wnaethom ei lansio ym mis Mehefin y llynedd, dywedais y byddem yn parhau i'w adolygu bob tri mis, ac rydym wedi parhau i wneud hynny. Rydym wedi adolygu a llacio'r meini prawf cymhwysedd bob tro er mwyn cyrraedd ystod ehangach o bobl. Nawr, rydym wedi cynnwys cost gynyddol ynni yn y ffactorau caledi sy'n cael eu hystyried, ac rydym wedi caniatáu i drigolion sydd wedi'u dadleoli fod yn gymwys. Felly, yn y bôn, os ydych chi'n gwpl ar eich pensiwn a'ch bod wedi prynu'r fflat fel eich incwm pensiwn, rydym yn caniatáu i chi fanteisio ar y cynllun nawr, ac nid oedd hynny'n wir pan ddechreuodd y cynllun.

Rydym wedi tynnu sylw ato drwy'r asiantau rheoli a thrwy'r holl lwybrau amrywiol rydym yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys y grwpiau lesddeiliaid rydym yn ymgysylltu â hwy. Mae rhai o'r grwpiau lesddeiliaid wedi gwrthod ymgysylltu â ni yn anffodus, ond rydym yn dal i geisio cyfathrebu ag ystod mor eang â phosibl ohonynt. A Lywydd, dylai unrhyw un sydd ag unrhyw un yn y sefyllfa hon yn eu hetholaeth neu ranbarth gysylltu mor fuan â phosibl oherwydd rydym yn awyddus iawn i helpu cymaint o bobl â phosibl. Ond yn bwysicach fyth, rydym eisiau helpu pob lesddeiliad.

Rwyf o'r farn na ddylai lesddeiliaid unigol orfod erlyn datblygwyr unigol ar hyn, ond y dylai'r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am hynny, a dyna sail y cynllun a ddatblygwyd gennym. Yn anffodus, lle mae achos ar y gweill, ni allwn ymyrryd yn hwnnw. Dyna'r broblem. Felly, os oes achos ar y gweill, mae fy nwylo wedi'u rhwymo. Hoffwn pe na bai hynny'n wir, ond dyna fel mae pethau. Rydym eisoes wedi cynnig talu am arolygon sydd wedi'u cynnal yn y ffordd gywir yn ôl-weithredol, ac mae nifer o bethau eraill y gallwn eu gwneud. Ond lle mae achos ar y gweill, mae arnaf ofn fod fy nwylo wedi'u rhwymo. 

Rwy'n meddwl eich bod wedi gweld faint o broblem yw hyn i nifer iawn ohonom sy'n cynrychioli etholaethau. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae gennyf ddau adeilad uchel iawn yn Nwyrain Abertawe, Altamar a Chei'r De. Yn wir, mae'n bosibl fod y Gweinidog yn gyrru heibio iddynt ar ei ffordd i mewn ambell fore. Mae preswylwyr yn y blociau hynny wedi mynegi pryder difrifol wrthyf. Yn Altamar, maent yn pryderu bod Bellway yn gwrthod cyfarfod â hwy. Credant y byddai gweithredu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn sicrhau bod camau'n cael eu rhoi ar waith. Pam na wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chaniatáu i'r ddeddfwriaeth gael ei defnyddio yng Nghymru?

14:10

Diolch, Mike. Nid wyf yn cytuno y byddai'n caniatáu i gamau gael eu rhoi ar waith. Rydym yn ymwybodol iawn o'r adeiladau hynny. Mae'r ddau ohonynt ar y cam arolwg ymwthiol; mae un ohonynt wedi'i gwblhau. Mae un o'r adeiladau heb ofyn inni dalu am arolwg roeddent eisoes wedi'i gael. Rwy'n fwy na pharod i drafod y manylion gyda chi os ydych am gyfarfod â mi yn ei gylch. Hoffem iddynt ddechrau ar y gwaith. Gobeithio y bydd y ddau adeilad yn gwneud gwaith cyweirio'n fuan. Os oes problem gydag un o'r datblygwyr yn gwrthod ymgysylltu, os hoffech ysgrifennu ataf, rwy'n hapus iawn i ymyrryd.

Caniatâd Cynllunio

5. Pa feini prawf y mae'r Gweinidog yn eu rhoi ar waith wrth benderfynu a ddylid gwyrdroi penderfyniad awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio? OQ59082

Os yw awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod cais am ganiatâd cynllunio, gall yr ymgeisydd apelio at Weinidogion Cymru. Mae cyfraith gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i apeliadau cynllunio gael eu penderfynu yn unol â'r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn dynodi fel arall.

Weinidog, yn 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthdroi penderfyniad cyngor Caerffili i wrthod cais i godi 260 o gartrefi yn Hendredenni. Gwrthwynebwyd y cais gan drigolion, cynrychiolwyr ward, yr Aelod o'r Senedd a'r Aelod Seneddol lleol, ond eto fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiystyru'r consensws lleol. Yn y llythyr penderfynu, fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd argymell amod y dylai'r cynllun gynnwys nodweddion draenio strategol a chynllun ar gyfer gwaredu dŵr wyneb a llif draenio tir, gan roi'r cyfrifoldeb am gymeradwyo'r cynlluniau ar y cyngor. Ond chwe blynedd yn ddiweddarach, mae gennym CNC yn ymchwilio i adroddiadau fod dŵr ffo yn llygru tir preswylydd lleol, gydag ofnau y gallai hyn hefyd fod wedi effeithio ar afon gyfagos, Nant yr Aber. Yn ogystal, mae ofnau am anhrefn traffig wedi'u gwireddu, ac mae pryderon am allu gwasanaethau lleol i ddarparu ar gyfer cannoedd o drigolion newydd yn parhau. Rwy'n gwybod na fyddwch yn gallu gwneud sylw ar achos unigol, Weinidog, ond a gaf fi ofyn a ydych yn deall rhwystredigaeth pobl leol pan fydd cynlluniau fel hyn yn cael eu gorfodi arnynt yn erbyn eu dymuniadau? Pa newidiadau y credwch chi y gellid eu gwneud i'r system gynllunio er mwyn rhoi pŵer i gymunedau wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy heb ofni y cânt eu diystyru gan Gaerdydd?

Diolch, Delyth. Rwy'n deall y rhwystredigaeth yn llwyr, ac mae'n cael ei theimlo'n ddwfn mewn nifer o gymunedau. Yr anhawster yw bod hon—fel y gwn eich bod chi'n gwybod—yn broses led-farnwrol. Nid yw'n ymwneud â barnu beth sydd orau; mae'n ymwneud â dilyn proses led-farnwrol. Nid wyf yn mynd i siarad am gais unigol; nid yw'r manylion gennyf o fy mlaen. Ond yn gyffredinol, mae'r rhwystredigaeth fel arfer yn ymwneud â bod pobl heb ddeall bod y cynllun datblygu lleol yn caniatáu datblygiad o'r math hwnnw ac nad ydynt wedi gwrthwynebu ar gam digon cynnar yn y cynllun datblygu, neu fod y cynllun datblygu bellach wedi dyddio i'r pwynt lle nad oes ganddo bŵer a bod modd cyflwyno caniatâd cynllunio tybiannol, neu na fu digon o wrthwynebiadau gan nifer o ymgyngoreion statudol i'w symud ymlaen; mae amrywiaeth o bethau o'r math hwnnw. Nid wyf yn credu fy mod yn gyfarwydd â'r un y soniwch amdano, mae arnaf ofn, ond nid Caerffili fyddai'r unig gyngor a fyddai wedi cael trafferth cael ei gynllun datblygu lleol newydd yn ei le. Felly, mae'n ddigon posibl fod ystod o'r ffactorau hynny ar waith.

Yr ateb yw sicrhau—ac rydym yn gwneud ymdrechion enfawr yn hyn o beth—fod gan gymunedau gyfle gwirioneddol i wneud sylwadau ar y cam CDLl, fel eu bod yn deall pa fath o ddatblygiad a allai gael ei gyflwyno yn eu cymuned os nad ydynt yn mynegi eu dymuniadau ac yn datgan eu barn ar y cam hwnnw. Felly, rwy'n meddwl mai dyna'r pwynt: achos mae'n system sy'n cael ei harwain gan gynllun, ac os nad yw yn y cynllun, mae'n llawer anos cyflwyno apêl. Os yw yn y cynllun, yna yn amlwg, gall y datblygwr fod—. Holl bwynt y cynllun yw caniatáu i'r datblygwyr gael rhyw lefel o sicrwydd ynglŷn â'r hyn a allai gael ei ganiatáu. Felly, dyna'r pwynt: sicrhau ein bod yn gwneud ymdrechion enfawr ar bwynt cynnar yn y broses gynllunio. Rydym yn ariannu Cymorth Cynllunio Cymru i helpu cymunedau i wneud hynny, ac rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs gyda chi—rwy'n siŵr y bydd hon yn broblem i nifer o'r Aelodau—ynglŷn â sut gallwn sicrhau bod cymunedau'n ymgysylltu ar y cam cynnar hwnnw.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, dwi'n croesawu'n fawr iawn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau—

Peilonau Trydan

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru parthed codi peilonau trydan yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59095

Diolch, Cefin. Mae angen ateb strategol arnom i ddiweddaru ein seilwaith grid i gyflawni ein hymrwymiadau sero net a rhoi mynediad at drafnidiaeth a gwres glân i bobl. Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi'r sefyllfa a ffafrir gennym, sef y dylai llinellau pŵer newydd fod o dan y ddaear lle bo modd a bod disgwyl i ymgysylltiad â'r cyhoedd liniaru eu heffaith mewn mannau eraill.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dwi'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd holl anghenion trydan Cymru yn y dyfodol yn dod o ffynonellau adnewyddol, a hynny erbyn 2035. Ond mae fy nghwestiwn i'n gysylltiedig â sut rydym ni'n bwriadu trosglwyddo'r trydan yma ar draws cefn gwlad. Nawr, fel dywedoch chi, mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu barciau cenedlaethol mae disgwyl i'r ceblau trydan yma gael eu claddu dan y ddaear, ond does yna ddim ymrwymiad bod hynny'n digwydd mewn ardaloedd y tu fas i'r ardaloedd dynoedig hyn. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf i wedi clywed am gynlluniau ar gyfer codi peilonau newydd yn nyffryn Tywi—ac mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb, rwy'n byw yn nyffryn Tywi—er mwyn cario ceblau o ganolbarth Cymru lawr i Sir Gaerfyrddin. A dwi ddim yn unllygeidiog drwy ddweud bod dyffryn Tywi yn ardal o brydferthwch ac arwyddocâd hanesyddol arbennig, ac mae yna enghreifftiau mewn gwledydd yn Ewrop lle maen nhw'n gosod ceblau o dan y ddaear. Felly, fy nghwestiwn i, heb fy mod yn swnio fel Nimby mewn gwirionedd, yw: a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddatblygu a gweithredu set newydd ehangach o fesurau ynghylch gosod ceblau trydan o dan y ddaear? 

14:15

Diolch, Cefin. Y polisi yw y dylid gosod ceblau trawsyrru trydan o dan y ddaear lle bo modd, nid yn unig mewn tirweddau dynodedig, ond lle bo modd. Weithiau, nid yw'n bosibl, hyd yn oed mewn tirwedd ddynodedig. Nid ydym am i neb gloddio ein mawndiroedd, er enghraifft. Felly byddem yn disgwyl i ddatblygwyr ddod o hyd i'r llwybr gorau. Weithiau, nid y llwybr byrraf fydd hwnnw, ac yna ceir trafodaeth i weld pa lwybr yw'r gorau, ac nid yw 'gorau', fel rwy'n dweud, yn golygu'r llwybr byrraf. Y llwybr gorau yw'r llwybr amgylcheddol gorau; y llwybr gorau i'r cymunedau sydd angen y trydan. Felly, rydym yn disgwyl i'r datblygwyr ymgymryd â chyfres o ymgysylltiadau cyhoeddus, gyda'r cymunedau yr effeithir arnynt a chyda'r awdurdodau lleol a chyda ni, ynglŷn â beth yw'r llwybr gorau, a chyda'r grid cenedlaethol am y cysylltiadau, ac rydym yn disgwyl dod i gasgliad am y llwybr gorau a'r angen am y trydan yn yr ardal honno. Felly, mae'n we gymhleth o ystyriaethau.

Rydym hefyd yn gweithio, ac wedi bod ers peth amser, ar y broses lunio rhwydwaith gyfannol newydd hon, oherwydd rydym yn credu ers amser maith—ers tua 40 mlynedd—fod grid wedi'i gynllunio yn grid gwell. Felly rydym hefyd yn gweithio ar draws Cymru ar lunio cynllun ynni ar gyfer y dyfodol, er mwyn inni allu helpu i lunio'r grid lle mae angen iddo fod, ac yna ystyried pethau fel ble y gallech ei osod o dan y ddaear, pa fath o gebl, pa foltedd, a'r cyfan oll, lle dylai'r is-orsaf fod, er enghraifft. Mae yna gyfres gyfan o bethau eraill; mae'n ymwneud â mwy na'r llinellau trawsyrru yn unig. Ac rydym yn credu, ac rwy'n meddwl bod pawb yma'n credu mae'n debyg, fod y cynllun hwnnw'n ffordd lawer gwell o'i wneud na bod pob datblygwr unigol yn ceisio cysylltu eu datblygiad hwy yn y ffordd fyrraf sy'n bosibl, ac yn amlwg, mae pwysau economaidd i wneud hynny. Felly, os caf ailadrodd, felly, rydym angen yr ymgynghoriad ar bob lefel, rydym angen i'r grid wneud yn well ar hyn i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â'r cynllun, mae angen i'r cymunedau fod yn rhan o'r broses, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y trydan sydd ei angen arnom mewn gwirionedd, ac yn y lle cywir ar gyfer y peth cywir.

Yn bersonol, mae gennyf nod arall. Nid wyf am i unrhyw gymuned yng Nghymru allu gweld cyfleuster ynni adnewyddadwy a methu manteisio arno. Felly, rwy'n datgan diddordeb fy hun yma, Lywydd: gallaf edrych allan o fy ffenestr gartref a gweld dwy fferm wynt, ac olew oddi ar y grid sydd gennyf fi. Mae honno'n sefyllfa y mae gwir angen inni fynd i'r afael â hi. Rwy'n meddwl bod y cymunedau'n llawer mwy abl i ddeall beth sy'n digwydd os ydynt yn elwa'n uniongyrchol ohono. Felly, mae angen inni weithio ar hynny hefyd. 

Cwestiwn 7, Jane Dodds. Cwestiwn 7, Jane Dodds, ar Ffos-y-Fran.   

Na oedd hynny.

Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OQ59091].  

Adolygiad Ffyrdd

8. Sut mae Llywodraeth Cymru'n ymgysylltu ag awdurdodau lleol o ran yr adolygiad o ffyrdd? OQ59077

Diolch. Cynhaliwyd gwaith ymgysylltu gydag awdurdodau lleol i drafod yr adolygiad ffyrdd a'i oblygiadau. Roedd cywair y trafodaethau hynny'n gadarnhaol a phragmatig, gyda phwyslais ar gydweithio gyda llywodraeth leol ar ddatblygu cynlluniau sy'n cefnogi newid dulliau teithio a datgarboneiddio trafnidiaeth.

Weinidog, mae hynny'n gadarnhaol iawn ac yn dda i'w glywed. Fe fyddwch wedi gweld yn y 24 awr ddiwethaf, wrth gwrs, yr anrhefn sydd wedi'i achosi ar draws y rhwydwaith ffyrdd lleol yn Wrecsam a'r cyffiniau, pan gaiff yr A483 ei chau neu pan fydd llai o lonydd, ac mae'n dangos sut mae llai o gapasiti ar y cefnffyrdd yn effeithio ar faint o draffig sy'n teithio drwy drefi a phentrefi cyfagos lle ceir ffyrdd lleol. Felly, a wnewch chi weithio gydag awdurdodau lleol i asesu effaith peidio â bwrw ymlaen â gwelliannau i gefnffyrdd, o ran maint traffig, allyriadau a diogelwch, ffyrdd cyfagos a chymunedau lleol, ac a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi asesiadau effaith o'r fath?

14:20

Diolch. Roeddwn yn falch o gyfarfod â Ken Skates ddoe i drafod ei bryder am ansawdd aer o amgylch y ffyrdd lleol yn ei etholaeth a goblygiadau'r hyn a allai ddeillio o'r adolygiad ffyrdd. Byddwn yn cyhoeddi hwnnw ddydd Mawrth nesaf, y pedwerydd ar ddeg, ynghyd â'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a pholisi ffyrdd newydd yn y dyfodol. Bydd Ken Skates yn cofio pan gyhoeddodd ef a minnau strategaeth trafnidiaeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, ein bod wedi ymrwymo i roi mynd i'r afael â newid hinsawdd wrth galon ein polisi trafnidiaeth, ac mae angen bwrw ymlaen â hynny nawr. Mae hynny'n aml yn anghyfforddus ac yn golygu gwneud pethau'n wahanol, ac mae'n gwrthdaro weithiau gyda disgwyliadau lleol sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd. Ond mae gennym bolisi cynllunio blaengar bellach, 'Dyfodol Cymru', mae gennym 'Bolisi Cynllunio Cymru', mae gennym Gymru Sero Net ac mae gennym strategaeth trafnidiaeth Cymru oll yn dweud wrthym fod angen newid sylfaenol, a dyna y bwriadwn ei wneud drwy gyhoeddi'r adolygiad.

Yn amlwg, mae yna broblemau trafnidiaeth yn bodoli, ac fe amlygodd rai yn ei etholaeth ei hun. Roedd y sefyllfa yn Wrecsam yn anffodus, oherwydd bod peth gwaith cynnal a chadw wedi gor-redeg ac i fod wedi ei gwblhau dros nos, ond fe lusgodd ymlaen. Bydd yna bob amser ddigwyddiadau o'r fath sy'n mynd i achosi anghyfleustra ac oedi ni waeth faint o gapasiti sydd gennych ar y rhwydwaith priffyrdd. Mae angen inni adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwydn yn sicr, ond un sy'n wydn nid yn unig yn erbyn pwysau tymor byr, ond hefyd yn erbyn y pwysau yn y tymor canolig i hirdymor a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ond byddwn yn parhau i weithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol a chyda'r Aelodau i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu cynlluniau sy'n helpu pobl leol ac yn ein rhoi mewn sefyllfa i wrthsefyll yr heriau a wynebwn.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Y cwesitynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price.

Siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr

1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr yn ôl data'r cyfrifiad diwethaf? OQ59088

Mae cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau iaith ein holl ddisgyblion yn ogystal â deall yn well beth sydd y tu ôl i’r cwymp pellach yn y cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth. Mae defnydd iaith yn ganolog i hyn. Byddwn yn dadansoddi ymhellach pan ddaw rhagor o ddata ar gael.

Bydd y Gweinidog wedi gweld y ffigurau, wrth gwrs, ac maen nhw yn peri gofid, onid ŷn nhw? Hynny yw, mae'n amrywio o gwymp o ychydig o dan 3 y cant ymhlith y rhai ieuengaf, 3 y cant wedi hynny rhwng 16 a 64, a chwymp o bron i 9 y cant yn y ganran dros 65. Mae gwahanol ffactorau, efallai, yn gyrru'r gwahanol gostyngiadau yma, ond yn sicr yn creu darlun sydd yn peri pryder. Dwi'n gwybod bod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn mynd i ddadansoddi'r cyfrifiad ar draws y cymunedau Cymraeg ac yn mynd i ddod lan ag argymhellion o ran pa ardaloedd dylid eu pennu fel ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, ond ydy'r Gweinidog yn gallu dweud mwy nawr ynglŷn â'r mathau o ymyriadau dŷch chi'n meddwl fel Llywodraeth fyddai'n addas ar gyfer y sefyllfa dŷn ni'n ei hwynebu yn sir Gâr? Tra'n bod ni'n aros am adroddiad y comisiwn, fyddech chi'n fodlon cwrdd gyda fi ac aelodau etholedig eraill y cyngor sir a rhanddeiliaid yn sir Gâr i drafod yr hyn y gellir ei wneud yn syth i fynd i'r afael gyda'r heriau dŷn ni'n eu hwynebu?

Diolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig hynny. Gwnes i gyfarfod gyda chyfarwyddwr addysg ac arweinydd cyngor sir Gâr yr wythnos ddiwethaf i drafod eu cynllun strategol nhw ac roedd neges y cyngor sir yn glir, rwy'n credu, eu bod nhw'n gweld eu hunain fod angen gweithredu yn sgil hynny mewn ffordd sydd yn bwrpasol ac heb oedi. Mae gyda ni ffydd y byddan nhw'n gwneud hynny, wrth gwrs. Mae cabinet y sir, rwy'n credu, yn unfrydol yn cefnogi'r cynlluniau sydd gyda nhw, sydd yn beth i'w groesawu. 

Fel gwnaeth yr Aelod ddweud, mae'r darlun yn un cymhleth yn yr ystyr bod cohorts gwahanol o ran oedran wedi cael eu 'impact-o' mewn ffyrdd gwahanol. Mae elfen ddaearyddol hefyd, gydag efallai consyrn penodol yng nghwm Aman, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid deall y data yn ei gyd-destun. Mae elfennau positif, wrth gwrs, hefyd yn yr hyn mae'r sir yn ei wneud, yn benodol o ran y buddsoddiad mewn trochi a'r cynlluniau uchelgeisiol sydd gyda nhw i symud 10 ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol i ddarparu mwy a mwy trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn i'n barod iawn i gwrdd gydag ef ac eraill. Roeddwn i'n bwriadu, beth bynnag, cael cyfres o gyfarfodydd rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru i drafod gyda rhanddeiliaid lleol, a byddai'n addas iawn gwneud hynny in Sir Gâr, dwi'n credu.

14:25

Weinidog, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yw annog ei defnydd mewn lleoliad anffurfiol. Mae gweithio gyda sefydliadau fel y clwb Ffermwyr Ifanc ledled sir Gaerfyrddin yn gallu bod yn rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed Cymraeg 2050. Yn ddiweddar, rwyf i wedi codi gyda’r Gweinidog materion gwledig y ffaith mai’r unig gymorth ariannol y mae’r Ffermwyr Ifanc yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yw drwy’r grant iaith. Er bod hyn i’w groesawu, rwy’n credu y gellir dal gwneud mwy i gefnogi grwpiau cymunedol eraill i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg. Felly, sut ydych chi’n gweithio gyda’ch cydweithiwr yn y Cabinet i sicrhau bod cymorth ariannol i sefydliadau fel y Ffermwyr Ifanc a grwpiau eraill yn gallu cefnogi eu llwyddiant a hyrwyddo’r Gymraeg ar yr un pryd? Diolch.

Diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau hynny. Mae cyfraniad mudiad y clybiau ffermwyr ifanc i waith ieuenctid yn ein cymunedau gwledig ni yn amhrisiadwy. Rwy’n falch o’r cyfraniad ariannol o bron £125,000 rŷn ni’n ei roi i ffederasiwn Cymru a’r ffederasiynau sirol er mwyn sicrhau bod eu gwaith pwysig nhw yn parhau. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc ym myd amaeth Cymru a chymunedau gwledig ehangach yn ysbrydoledig.

Rŷm ni eisoes, wrth gwrs, yn darparu ffynhonnell o arian ar gyfer cyrff mewn amryw sectorau. Mi wnes i ddatgan cronfa yr wythnos ddiwethaf, neu'r wythnos gynt, sy’n cynyddu’r rheini eleni yn sgil y pwysau o ran costau byw a chwyddiant ar gyllidebau amryw o’r rheini. Fel y mae’r Aelod yn gwybod, rŷm ni wrthi ar hyn o bryd yn arolygu ein cynllun grant er mwyn sicrhau bod hynny’n cyd-fynd gyda chynllun Cymraeg 2050. Rwy’n gwybod y bydd ef yn croesawu hynny hefyd.

Addysg ôl-16 i Bobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sydd am fynychu i addysg ôl-16, a'u teuluoedd? OQ59089

Am y tro cyntaf erioed, mae gennym system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr o ddim i 25 oed gydag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn gwneud buddsoddiad newydd yn y dyddiau nesaf o £2.1 miliwn i golegau addysg bellach i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r system hon i bobl ifanc.

Diolch. Roedd yn ddefnyddiol clywed hynny. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith achos yr ysgrifennais atoch yn ei gylch yn y gorffennol, sy'n cyffwrdd â fy nghwestiwn gwreiddiol—. Y prif fater a gafodd ei ddwyn i fy sylw oedd nad oes cyfeirio syml ar gael yn gyffredinol i bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd sy'n dymuno mynychu addysg ôl-16. Rwy'n siŵr, Weinidog, y byddwch yn cytuno y dylid cael proses i sicrhau bod modd diwallu anghenion person ifanc. Ond o'r hyn rwy'n ei ddeall, mae yna rwystredigaeth nad yw'r broses hon mor glir ag y dylai fod, ac y gall fod diffyg cyfathrebu ynglŷn â pham y gwnaed penderfyniadau penodol.

Rwy'n derbyn bod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ceisio gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Ond a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae'r diwygiadau presennol yn cael eu hymestyn i helpu pobl ifanc ag ADY a'u teuluoedd yn well gyda phontio i addysg ôl-16, ac i sicrhau y gallant gael cyngor a chefnogaeth gyson a syml, fel y gallwn gael gwared ar unrhyw rwystrau diangen ac agor cymaint o ddrysau â phosibl i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedodd, mae wedi gohebu â mi mewn perthynas â materion penodol ar ran etholwyr. Er fy mod yn siŵr nad oedd yr ymateb yr hyn y gobeithiai amdano, rwy'n gobeithio o leiaf ei fod yn esboniad clir o'r penderfyniad a wnaed, ac effaith y broses apelio, os mai at hynny y mae'n cyfeirio yn ei gwestiwn. Bwriad y system ADY yw cryfhau hawliau pobl ifanc a sicrhau bod eu teimladau a'u safbwyntiau, a rhai eu teuluoedd, yn cael eu clywed a'u hystyried yn llawn. Y bwriad yw sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi ar waith yn gyflym yn y ffordd orau i adlewyrchu anghenion y bobl ifanc hynny.

Yng nghyd-destun diwygiadau ôl-16, fel y gŵyr yr Aelod, rydym wedi mabwysiadu dull llifo drwodd i symud pobl ifanc o'r system AAA i'r system ADY. Felly, bydd y rhai sydd ym mlwyddyn 11 neu'n iau ar hyn o bryd yn llifo drwodd i mewn i addysg bellach gyda'u cynllun datblygu unigol presennol ar y pwynt hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatganoli'r cyllidebau er mwyn cefnogi awdurdodau lleol sy'n gwneud y penderfyniadau hynny i'r dyfodol, fel bod cysylltiad lleol rhwng anghenion pobl ifanc a'r ddarpariaeth sydd ar gael. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chyfathrebu argaeledd gwasanaethau i bobl ifanc. Yn amlwg, mae'n egwyddor bwysig yn y cod a'r Ddeddf fod hynny'n gweithio'n effeithiol. Yn fwyaf diweddar, ddiwedd y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi cyfres o ddogfennau canllaw ar gyfer pobl ifanc am y system a'r cod, ac rwy'n gobeithio y bydd gwefan fraenaru ADY, sy'n ceisio helpu pobl ifanc ag ADY, yn arf defnyddiol iddynt, fel bod pobl ifanc yn gwybod pa hawliau sydd ganddynt a pha gymorth sydd ar gael iddynt.

14:30

Ar ddechrau mis Ionawr, fe wnes i godi'r mater o ddiffyg asesiadau Cymraeg amserol i blant a phobl ifanc niwro-amrywiol. Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd angen asesiadau cyfrwng Cymraeg ond yn gorfod aros blynyddoedd am yr asesiadau hynny. Mae yna un, er enghraifft, wedi bod yn aros am asesiad ers mis Chwefror, ac fe gafodd asesiad cychwynnol ar-lein gan gwmni Healios rai wythnosau yn ôl. Cymraeg ydy mamiaith y plentyn, a barnodd yr aseswyr y dylid cael yr asesiad yn Gymraeg er mwyn cael canlyniad teg, ond mae'r unig asesydd cyfrwng Cymraeg i ffwrdd ar famolaeth. Ailgyfeiriwyd yr achos i'r gwasanaeth niwro-ddatblygol lleol; canlyniad hynny yw y bydd yn rhaid aros dwy neu dair blynedd am asesiad wyneb i wyneb cyfrwng Cymraeg. Felly, a ydy'r Gweinidog yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod pobl sydd efo'r Gymraeg fel eu mamiaith yn gorfod aros llawer iawn mwy o amser am asesiadau, a pha waith traws-adrannol sydd yn digwydd er mwyn gwella'r ddarpariaeth a sicrhau bod y sefyllfa yma'n gwella?

Wel, dwi ddim yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod hynny'n digwydd, wrth gwrs, ac rwy'n flin i glywed yr enghraifft y mae'r Aelod yn ei dwyn i'r Siambr heddiw. Un o'm blaenoriaethau i, o ran y diwygiadau o fewn y system addysg o leiaf, yw sicrhau bod gennym ni arbenigedd yn y maes hwn yn y Gymraeg. Rŷn ni wrthi'n comisiynu adnoddau i gefnogi hynny ar hyn o bryd, ond dŷn ni ddim wedi cyrraedd lle sydd angen inni fod—rwy'n derbyn hynny'n llawn. Ond mae gwaith yn digwydd eisoes i gomisiynu mwy o adnoddau a hefyd i gael darpariaeth ar draws Cymru, fel bod arweinyddiaeth yn y system i allu ymateb i'r math o heriau y mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw. Os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf fi am yr enghraifft benodol honno, rwy'n hapus i edrych ar hynny, ond hefyd fe allaf i weithio gyda Julie Morgan ar sut y mae hyn yn gweithio yn y system iechyd hefyd a dwyn yr enghraifft at sylw yr arweinydd iaith Gymraeg sydd gyda ni yn y system eisoes.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ers 2017, mae 40 y cant o staff cymorth ysgolion sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg wedi gadael. Mae'n amlwg fod problem enfawr gyda chadw staff wrth galon y byd addysg yng Nghymru, sy'n achosi i'r diwydiant golli staff profiadol ar y raddfa hon. Oherwydd hyn, mae ysgolion sy'n brin o arian yn gorfod rhoi hyd yn oed mwy o straen ar eu cyllidebau, ac yn gorfod recriwtio a hyfforddi mwy o staff. Pam eich bod chi wedi caniatáu i'r broblem hon barhau am bron i chwe blynedd bellach, a phryd fydd eich Llywodraeth yn datrys yr argyfwng cadw staff, sydd wedi datblygu i raddau helaeth o dan eich gwyliadwriaeth chi?

Wel, rwy'n cydnabod bod angen inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi staff cymorth o fewn y system, sy'n darparu gwasanaeth pwysig iawn i'n pobl ifanc ac sy'n anhepgor yn ein hysgolion. Nid yw cwestiwn yr Aelod yn cydnabod y gwaith a wneuthum ers dod yn Weinidog mewn perthynas â'r mater hwn. Fe fydd yn cofio, oherwydd fe wneuthum ddatganiad yn y Siambr hon y llynedd, fy mod wedi dechrau rhaglen waith i gefnogi'r union bobl y mae hi'n cyfeirio atynt yn ei chwestiwn. Mae hynny'n cynnwys proses waith a arweinir gan gynorthwywyr addysgu ar safoni rolau a defnyddio cynorthwywyr addysgu yn gyson ar draws awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru. Mae hefyd wedi'i gyplysu â hawl, am y tro cyntaf, i raglen ddysgu proffesiynol i gynorthwywyr dysgu. Bydd y grant dysgu proffesiynol yn cael ei bwysoli bellach i adlewyrchu nifer y cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion. Mae'r rheini i gyd yn ddatblygiadau newydd sydd wedi dod i rym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n cydnabod ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r rôl y mae cynorthwywyr addysgu a staff cymorth eraill yn ei chwarae yn ein hysgolion, ac rwy'n sicr yn gwneud hynny.

Yn bendant, Weinidog—mae'n rôl amhrisiadwy, a gwell hwyr na hwyrach, mae'n debyg. Ond nid argyfwng gyda staff cymorth yn unig yw hi. O fy sgyrsiau gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau, mae'n gwbl amlwg fod gennym argyfwng recriwtio a denu athrawon pynciau craidd. Y llynedd, ni wnaethoch gyrraedd 50 y cant o'ch targed eich hun ar gyfer athrawon mathemateg, ac ychydig o dan 30 y cant ar gyfer athrawon ffiseg a chemeg. Ni allwch ddenu athrawon craidd cyfrwng Cymraeg hyd yn oed, sy'n angenrheidiol i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg. Nid yw pethau'n gweithio. Ers 2011, rydym wedi gweld gostyngiad o 10 y cant yn niferoedd athrawon wrth iddynt adael y proffesiwn yn eu heidiau. Mae recriwtio a chadw athrawon o safon uchel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru yn cael yr addysg orau y maent yn ei haeddu. O'r ffigurau hyn, mae'n gwbl amlwg eich bod yn methu'n enbyd yn eich amcanion ac mae hynny'n peri pryder. Weinidog, pam eich bod chi a'ch Llywodraeth wedi caniatáu i'r broblem barhaus hon droi'n argyfwng?

14:35

Os yw'r Aelod eisiau gwybod sut olwg sydd ar broffesiwn addysgu digalon nad yw'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi gan ei Lywodraeth, nid oes ond angen iddi edrych dros y ffin ar yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, sy'n drychinebus o ran cadw a recriwtio yn gyffredinol. Felly, dyna sut olwg sydd ar bolisi addysg Ceidwadol. Gallwn ei weld yn digwydd o flaen ein llygaid. 

Yr hyn sydd gennym yng Nghymru—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn mwmian; rwy'n hapus i ateb y cwestiwn. Yr hyn a wnawn yng Nghymru, fel y bydd hi'n gwybod—rydym wedi trafod y mater yn y Siambr lawer gwaith, a gwn fod ganddi farn gref ar hyn, os ychydig yn anwybodus weithiau—yw bod gennym gynllun 10 mlynedd i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, gan gydweithio â'n partneriaid ar draws y system mewn ffordd sy'n greadigol a chan roi cynnig ar ddulliau newydd i wella niferoedd yr athrawon cyfrwng Cymraeg sy'n dod i mewn i'n proffesiwn.

Mae gennym gymelliadau ariannol i annog y rheini mewn pynciau anodd, lle mae recriwtio'n her, nid yn unig yng Nghymru, nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol. Felly, mae rhai o'r rheini ym maes mathemateg, mae rhai ohonynt yn rhai o'r pynciau gwyddonol. Mae gennym drefniadau ar waith i ddenu pobl ifanc i'r proffesiwn i addysgu yn y meysydd hynny, oherwydd rwyf eisiau sicrhau, yn y meysydd rwy'n cytuno â hi sy'n feysydd allweddol, fod gennym gyflenwad llawn o staff i allu sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr addysg y maent ei hangen. 

Weinidog, mae addysg wedi ei ddatganoli. Rydych yn pedlera'r un hen esgusodion pan fo gennych ysgogiadau ar gael i chi. Er bod nodau'r porth canolog newydd i athrawon cyflenwi a awgrymir yn gywir—ac rwy'n rhoi clod i chi am hynny—mae hyd yn oed Cyngor y Gweithlu Addysg wedi dweud nad yw'n mynd i weithio'n ymarferol o ystyried nad oes cymhelliad nac ysgogiad i wneud iddynt symud i'r system ganolog, oherwydd nad ydynt yn gystadleuol yn ariannol o gymharu â chynigion y sector preifat, ac mae'n dibynnu'n llwyr ar awdurdodau lleol a staff yn ymrwymo iddo; nid yw'n orfodol. Nid yw ond yn ateb tymor byr arall, onid yw, na fydd yn datrys y broblem ddifrifol rydych wedi'i chreu. 

A bod yn hollol onest, mae'n drewi o 25 mlynedd o hen Lywodraeth flinedig sydd wedi rhedeg allan o syniadau ac sy'n gweithredu'n ddall gan obeithio am y gorau. Nid ydych yn denu athrawon pynciau craidd. Nid ydych yn cadw staff cymorth, ac ni all eich plaid, plaid yr undebau, atal streiciau addysg hyd yn oed gyda'r ysgogiadau sydd ar gael i chi.

Weinidog, rwyf eisiau gwybod beth yn union rydych yn ei wneud i ddatrys yr argyfwng staff addysgu a grëwyd gennych.

Wel, nid wyf yn siŵr a wrandawodd yr Aelod ar y ddau ateb blaenorol a roddais, ond rwyf wedi amlinellu'n fanwl iawn beth rydym yn ei wneud. Mae'r cwestiwn o gadw a recriwtio yn her ym mhob rhan o'r byd. Mae'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yn benodol i'n hanghenion ni yng Nghymru. Rwyf wedi amlinellu rhestr o faterion iddi ac mae'n amlwg ei bod wedi diystyru'r rhestr honno yn ei thrydydd cwestiwn. Yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yw sicrhau bod ein proffesiwn dysgu yn cydnabod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Os ydym eisiau gweld sut mae'r Ceidwadwyr yn trin y proffesiwn, gallwn edrych dros y ffin. Rydym yng nghanol anghydfod gydag athrawon ym mhob rhan o'r DU. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid mewn ffordd sy'n eu parchu yn hytrach na cheisio deddfu i gyfyngu ar eu hawliau. Os yw'n credu mai dyna'r ffordd gywir o ddenu athrawon i'r proffesiwn, mae arnaf ofn fy mod yn credu ei bod wedi camgymryd yn fawr.

Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, gofynnais i'r Gweinidog cyllid ystyried goblygiadau'r gyllideb o ran y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac, yn benodol, os oedd cynlluniau i gefnogi mynediad am ddim i deuluoedd lleol neu deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Y llynedd, fe wnaethoch fuddsoddi mewn mynediad am ddim i bawb i Eisteddfod yr Urdd ar flwyddyn canmlwyddiant y mudiad, a 15,000 o docynnau am ddim ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'r ddau gynllun yn llwyddiant, gyda'r Urdd yn nodi bod cynnydd o 31 y cant wedi bod mewn niferoedd yn mynychu, gydag 20 y cant o ymwelwyr yn dod o 40 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sir Ddinbych. Oes bwriad gennych barhau gyda buddsoddiad o'r fath, er mwyn sicrhau bod teuluoedd lleol ar incwm isel yn parhau i fedru mwynhau'r hyn sydd gan ddwy o'n gwyliau cynhenid Cymreig ni i'w cynnig, a manteisio ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig fel rhan o'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg?

Wel, fel y gwnaeth yr Aelod ei ddweud, yn 2022-23, gwnaethon ni gynyddu grant craidd yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod gan yr Eisteddfod adnoddau i lwyfannu Eisteddfodau'r dyfodol, a hynny mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol. Rŷn ni am ddyrannu cyllid ychwanegol i'r Eisteddfod yn 2023-24 yn y gyllideb ddrafft, er mwyn cryfhau ei strwythurau ymgysylltu cymunedol, sydd mor bwysig i'w gwaith nhw fel gŵyl. Bydd hyn yn golygu dyrannu ryw £1 filiwn i'r Eisteddfod yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Rŷn ni hefyd yn cefnogi prosiect peilot cynhwysiant cymdeithasol a chymunedol i gyd-fynd â'r ddwy Eisteddfod nesaf mewn ardaloedd lle rŷn ni'n gweld mewnfudo sylweddol a galw mawr am ail gartrefi.

O ran ein cefnogaeth i'r Urdd, mae'r Urdd yn gwneud gwaith ffantastig o ran yr Eisteddfod ac fel mudiad yn ehangach na hynny. Mae swyddogion ar draws y Llywodraeth yn cydweithio â'r Urdd er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn hygyrch, er mwyn sicrhau bod cyfle i bawb fwynhau gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, ac rydyn ni'n cefnogi'r Urdd mewn amryw ffyrdd eraill.

14:40

Diolch, Weinidog. Dwi dal ddim yn siŵr os yw hynny'n golygu y bydd yna fynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mi fyddwn i'n gofyn, os nad ydych chi'n bendant o hynny eto, mi fyddai'n dda cael eglurder os bydd hynny'n gallu parhau mewn unrhyw ffordd. Oherwydd, fel sydd wedi'i dangos, mae yna fanteision lu o ran y Gymraeg o ran sicrhau mynediad am ddim, gan olygu bod cyfle i rai pobl fynychu digwyddiad Cymraeg yn eu hardal am y tro cyntaf erioed. Mae hynny yn ysgogi pobl i roi eu plant mewn addysg Gymraeg ac ati. Felly, gaf i ofyn i chi ailystyried neu edrych yn benodol o ran y cwestiwn gwnes i ei ofyn?

Yn ail, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi’n siŵr, o gynlluniau arfaethedig gan awdurdodau lleol i gau neu leihau rai gwasanaethau diwylliannol, megis amgueddfa Caerdydd, a gwasanaethau llyfrgelloedd mewn amryw leoliadau yng Nghymru. Mae nifer o brosiectau celfyddydol fel hyn dan fygythiad yn sgil heriau ariannol sylweddol. Rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yw’r celfyddydau mynegiannol, a dywedir yn y canllaw bod hyn yn allweddol bwysig fel bod dysgwyr yn dod i ddeall a gwerthfawrogi diwylliannau a chymdeithasau yng Nghymru a’r byd. Gyda dyfodol nifer o leoliadau diwylliannol a chelfyddydol mewn perygl, ydych chi’n pryderu beth fydd effaith hyn ar yr elfen benodol hon o’r cwricwlwm newydd, ac ydych chi wedi gofyn i awdurdodau lleol edrych ar effaith toriadau o’r fath ar gyfleoedd addysgiadol ein plant a’n pobl ifanc?

Rydyn ni'n annog ysgolion i edrych ar bob ffynhonnell o brofiadau sydd ar gael i'n pobl ifanc ni fel eu bod nhw'n gallu cael amrywiaeth, ac amrywiaeth yn y Gymraeg yn benodol. Fel gwnes i grybwyll yn fras yn gynharach, mae gennym ni gynllun grant sydd yn darparu cefnogaeth ariannol o safbwynt polisi'r Gymraeg i amryw o sefydliadau a mudiadau sydd yn darparu lot o brofiadau deniadol a diddorol ac addysgiadol i'n pobl ifanc ni. Rŷn ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y cynllun grant yn ehangach, ond fe wnaf i ei chyfeirio hi at y gyllideb ddrafft, sy'n dangos yr hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud yn y maes hwn.

Cwricwlwm i Gymru

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru? OQ59074

Gwnaf. [Chwerthin.] Ym mis Medi, bydd pob ysgol a lleoliad yn gweithio gyda'r Cwricwlwm i Gymru wrth iddo barhau i flwyddyn academaidd 2026-27. Mae ein cefnogaeth barhaus i'r proffesiwn yn allweddol i'w weithredu'n llwyddiannus, ac mae fy adroddiad blynyddol bob mis Gorffennaf yn ymdrin â sut rydym yn cyfathrebu'n eang ar gynnydd a blaenoriaethau.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, Weinidog. Ers cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai pwrpas asesu disgyblion yw llywio'r ffordd y mae athrawon yn cefnogi disgyblion. Ond mae diffyg fframwaith asesu amlwg a chlir wedi achosi i un pennaeth lleol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro deimlo'n bryderus am gyfnod pontio disgyblion o addysg gynradd i addysg uwchradd. Er mwyn sicrhau llwybr cywir ar gyfer dysgu a chynnydd disgyblion, mae fframwaith asesu clir yn allweddol i sefydlu targedau penodol, ond eto mae rhai athrawon yn credu bod cod cynnydd a chwe maes dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru yn amwys. O ystyried pryderon y pennaeth yn fy etholaeth, beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i dawelu meddyliau athrawon y bydd cyfnod pontio disgyblion i gyfnod allweddol 3 yn llyfn, a sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lefelu'r cwricwlwm newydd gyda'r system arholiadau TGAU bresennol? Diolch.

Wel, byddwn yn annog y pennaeth yn ei etholaeth i ymgysylltu â'r prosiect Camau a ariennir gennym drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy'n darparu adnoddau i gefnogi ysgolion wrth iddynt ddatblygu dulliau asesu newydd. Mae'n hanfodol, mewn gwirionedd, fod gennym asesu wrth wraidd y cwricwlwm newydd i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol. Nid yw yno er mwyn atebolrwydd. Mae hwnnw'n newid sylfaenol iawn. Mae'n hanfodol i'r cwricwlwm, ond mae'n cynnwys newidiadau mewn addysgeg ac mewn ymarfer addysgu a dysgu. Byddwn yn ei annog yn ogystal i weithio gyda'i glwstwr i sicrhau bod ymagwedd gyson tuag at asesu a chynnydd ar draws y clwstwr, a byddwn hefyd yn ei annog i ymgysylltu â sgyrsiau'r rhwydwaith cenedlaethol, sydd wedi bod ac yn mynd i barhau i fod yn ffynhonnell o wybodaeth bellach a dysgu proffesiynol mewn perthynas ag asesu.

Gweinidog, gobeithio i chi fwynhau eich ymweliad â'n hysgolion gwych yn Ffaldau a Llangynwyd yr wythnos diwethaf. 

Pan wnaethom ymweld â Llangynwyd, aethom i'r wers gelf a oedd yn cael ei chynnal a'r hyn a wnaeth fy nharo gyda'r cwricwlwm newydd oedd eu bod yn defnyddio'r sesiwn gelf honno i ddatblygu materion yn ymwneud â hunaniaeth, iechyd meddwl, yn ogystal â dysgu sgiliau celf da iawn. Ac yna roeddent yn ymgorffori hynny i agweddau eraill ar y cwricwlwm a gâi eu dysgu mewn gwersi eraill. Rwy'n credu ei fod yn agoriad llygad o ran y ffordd roedd yr ysgol wedi ymroi i'r cwricwlwm newydd. Felly, yn rhannol i ateb cwestiwn Sam, ond hefyd yn rhannol i ofyn am eich barn ar hynny, sut rydym yn sicrhau'r ymarfer gorau wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, a'i integreiddio â hyblygrwydd o'r fath ar draws yr ysgol, yn union fel roeddent yn ei wneud yn Llangynwyd?

14:45

Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, ac fel y dywedwch, mae'n adlewyrchu un o'r pwyntiau a gododd Sam Kurtz yn ei gwestiwn hefyd. Mae angen taro cydbwysedd, onid oes, gan eich bod yn newid system gyfan rhwng cyfarwyddyd canolog a'r math o hyblygrwydd a datganoli, os hoffech, i ysgolion y gallu i gynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n gweithio i'w cymunedau a'u dysgwyr. Ac ar un ystyr mae yna densiwn cynhenid yno. 

Rwy'n glir mai cwricwlwm i Gymru ydyw, ac felly dylai'r dysgu proffesiynol a'r adnoddau sydd ar gael i athrawon mewn unrhyw ran o Gymru drwy eu consortia, er enghraifft, fod ar gael i'r rheini yn unrhyw ran o Gymru. Felly, un o'r pethau a wnaethom ar ddiwedd y llynedd oedd darparu pwynt mynediad cyffredin fel bod unrhyw addysgwr yn unrhyw ran o Gymru yn gallu cael mynediad at yr holl adnoddau a'r dysgu proffesiynol hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ond nid dyna ddiwedd y stori. Yr agwedd arall yw gwneud yn siŵr fod fframwaith cyson ar gael ar gyfer atebolrwydd ar draws y system, sef yr hyn sydd gennym gyda'r dull newydd y mae Estyn yn ei gyflwyno, naill ai drwy'r rhwydwaith cenedlaethol fel y soniais yn gynharach, neu, yn hollbwysig, drwy waith y clystyrau.

Ac rwy'n credu hefyd, gyda llaw, ein bod wedi gweld gwaith clwstwr effeithiol iawn yn ein hymweliad â Llangynwyd, pan wnaethom gyfarfod â phennaeth ysgol gynradd yn ogystal. Roedd hi'n ymddangos bod yna set gref iawn o berthnasoedd gwaith yno, a dyna sydd angen inni ei weld. Os oes unrhyw bennaeth mewn unrhyw ysgol yng Nghymru sydd ag amheuon ynglŷn ag a yw eu clwstwr yn gweithio yn y ffordd y byddent eisiau ei gweld, byddwn yn eu hannog i wneud hynny'n flaenoriaeth, oherwydd rwy'n credu ei fod yn eithaf sylfaenol i lwyddiant y diwygiadau.

Safonau Addysgol yn Islwyn

4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i godi safonau addysgol yn Islwyn? OQ59097

Mae'r Cwricwlwm i Gymru'n parhau'n allweddol i godi safonau addysg i bob dysgwr. Mae ein canllawiau gwella ysgolion yn cyd-fynd ag ymarfer ac egwyddorion y cwricwlwm, gan osod fframwaith i'r system addysg gefnogi ysgolion i ddarparu'r profiadau a'r canlyniadau dysgu gorau posibl i'w dysgwyr.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae Ysgol Gynradd Markham yn etholaeth Islwyn, a adeiladwyd dros 110 mlynedd yn ôl ym 1913, yn gwasanaethu'r gymuned leol. Mae'n faestref werdd ond nid yw'n ddeiliog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pennaeth ysgol Markham, Mrs Lindsey Pritchard, ei staff, y llywodraethwyr a'r disgyblion ar adroddiad disglair gan Estyn sydd wedi canu clodydd yr ysgol yn ei adroddiad arolygu diweddar? Arwyddair yr ysgol, yn addas iawn, yw 'Gwneud y Gorau o Bob Dydd'. Nododd Estyn fod ysgol gynradd Markham yn 

'lle meithringar a bywiog i ddisgyblion a staff',

ac roedd plant yn teimlo'n 'falch o fod yn rhan ohoni'. Nodwyd hefyd fod staff 'uchelgeisiol' yn helpu disgyblion i wneud cynnydd da iawn yn ystod eu hamser yn yr ysgol, a bod gan bob dosbarth

'ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol'.

Weinidog, pa neges y gallwch ei rhoi felly i gymuned Markham mewn perthynas â'u hysgol falch? Ac a wnewch chi bob ymdrech i ymweld ag ysgol gynradd Markham yn ystod eich amserlen brysur yn 2023 i weld drosoch eich hun sut y gall gwaith partneriaeth Llywodraeth Cymru, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion cymunedol rhagweithiol drawsnewid cymunedau a newid bywydau a llwybrau plant Cymru am byth? Diolch.

Ie, rwy'n hapus iawn i longyfarch Mrs Pritchard a staff a disgyblion yr ysgol. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud llawer, yr ymadrodd a ddefnyddiodd yr Aelod, a oedd yn adlewyrchu'r hyn a ddywedodd Estyn, rwy'n credu, sef bod yr ysgol eisiau gwneud i blant deimlo'n falch o fod yn rhan ohoni. A'r rheswm y mae hynny mor bwysig yw oherwydd ei fod yn adlewyrchu pa mor bwysig yw grym pobl ifanc yn ein hysgolion ac yn y cwricwlwm newydd yn benodol. Ac nid oes prawf gwell o lwyddiant ysgol na gweld y disgyblion y mae'r ysgol yno i'w cefnogi a'u gwasanaethu yn teimlo'n falch o fod yn rhan o gymuned yr ysgol honno?

Rwy'n casglu hefyd fod cynnig addysg ddigidol trawiadol iawn ym Markham, gan gynnwys gorsaf radio wedi'i chyfarparu'n llawn, felly rwy'n awyddus iawn i ddod draw i ymweld â'r ysgol ar ryw adeg yn nes ymlaen eleni. 

14:50

Weinidog, rydych wedi darllen llawer o adroddiadau; rwyf bellach wedi darllen nifer o adroddiadau ar addysg, ar ôl gofyn llawer o gwestiynau i chi dros y blynyddoedd diwethaf. Nawr, yn ystadegol, rydym i gyd yn gwybod bod plant sy'n cael eu magu mewn tlodi ac mewn ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol. Mae ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg i effaith anghydraddoldebau addysgol yn dangos, gwaetha'r modd, fod ysgolion Cymru'n dioddef bwlch anfantais eang o gymharu ag ysgolion Lloegr. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud bod cynnydd yn lleihau'r bwlch anfantais hwn, ac yn wir, mae wedi bod yn gymharol fach dros y 10 mlynedd diwethaf, a bod angen i awdurdodau lleol yng Nghymru ddysgu o ardaloedd difreintiedig yn Lloegr sydd â demograffeg debyg, fel Barnsley a Salford, sydd wedi llwyddo i gyflawni bylchau anfantais llai dros amser. Felly, Weinidog, pa gamau rydych chi'n eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r bwlch anfantais yng Nghymru i godi safonau addysgol i ddisgyblion yn Islwyn, ac yn y pen draw, ledled Cymru? Diolch. 

Mae'r adroddiad y mae'n cyfeirio ato yn ei chwestiwn yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth ac at y ddadl, ac yn sicr roedd yn adlewyrchu, yn fras o leiaf, ein dealltwriaeth ni o'r heriau sy'n ein hwynebu mewn rhannau o'r system. Fe fydd hi'n cofio, efallai, yn y llu o adroddiadau y mae hi wedi'u darllen, yr araith a roddais i Sefydliad Bevan y llynedd a'r datganiad a wneuthum yn y Siambr, a oedd yn amlinellu rhaglen helaeth iawn o gamau rydym yn eu cymryd i gau'r bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru. Y diweddaraf o'r rheini, efallai iddi weld yn y wasg ychydig wythnosau yn ôl, oedd cyhoeddi hyrwyddwyr cyrhaeddiad ein carfan o benaethiaid sydd wedi dangos llwyddiant arbennig yn eu hysgolion gyda chau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn eu hysgol yn cael cyfle i ffynnu. Maent bellach yn gweithio gyda phenaethiaid eraill i rannu'r arferion gorau hynny yn y ffordd y clywsom yn gynharach sydd mor bwysig. Dyna un o ystod o ymyriadau.

Fel y bydd hi'n gwybod efallai, rydym hefyd yn comisiynu ymchwil i addysgu gallu cymysg, a hefyd beth arall y gallwn ei wneud i ddenu athrawon i rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hynny fel ein bod yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mewn gwirionedd, rwy'n bwriadu gwneud datganiad i'r Siambr yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn nodi'n fanwl y cynnydd a wnaed yn erbyn yr holl ystod o eitemau a nodais y llynedd, ac rwy'n hapus iawn i ateb unrhyw gwestiynau pellach bryd hynny. 

Y Bwlch Sgiliau

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â sut y gall y system addysg helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru? OQ59084

Mae trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi wedi canolbwyntio'n bennaf ar sut mae'r system addysg yn cefnogi'r agenda sgiliau a'r warant i bobl ifanc. Hefyd, yr wythnos hon, trafododd y Cabinet gwestiwn sgiliau sero net, gan gynnwys rôl addysg wrth gyflawni ein huchelgeisiau yn y maes pwysig hwnnw. 

Diolch am yr ateb, Gweinidog. 

Mae gwaith diweddar gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi dangos, dros y pum mlynedd nesaf, fod Cymru angen 9,100 o newydd-ddyfodiaid ychwanegol i'r byd adeiladu, a nodwyd bod gosod brics, rolau trydanol a thoi yn feysydd y mae galw arbennig amdanynt. Gyda'r gyllideb ddrafft, mae cyfle yma i adeiladu ar sut mae'r system addysg yn cefnogi pobl i mewn i'r diwydiannau hyn, ond fel y crybwyllais ddoe, mae sgyrsiau a gefais gyda'r sector yn tynnu sylw at yr heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu yn ystod eu haddysg a allai danseilio eu cynnydd i yrfa yn y diwydiant. Yn amlach na pheidio, mae'r heriau hyn yn ymwneud â gallu myfyrwyr incwm isel i ariannu eu haddysg, a'r hyn y mae colegau'n ei weld yw myfyrwyr yn gadael addysg i gael swyddi mwy hygyrch sy'n talu cyflogau uwch i ddechrau, ond nad ydynt yn cyflawni anghenion hirdymor ein cymunedau yn y pen draw. Bydd cadw staff yn allweddol i fynd i'r afael â phrinder sgiliau o'r fath. Felly, sut mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd yn mynd i'r afael â'r heriau penodol iawn hyn, ac a yw'n credu bod cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn cynnig ateb posibl? 

Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y byddwn yn ei chael yn yr wythnosau sydd i ddod mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn benodol. Bydd yn gwybod, o fy ymddangosiadau blaenorol yn y cwestiynau hyn ac yn y trafodaethau a gawsom, fod y pwysau gwirioneddol ar gyllidebau wedi golygu nad ydym wedi gallu cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn hapus iawn o fod wedi gallu ei gynnal, ac nid yw hynny wedi bod yn wir ar draws rhannau eraill o'r DU, fel y bydd yn gwybod. Rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o allu cynyddu'r cyllid sydd ar gael i golegau addysg bellach mewn perthynas â'r gronfa ariannol wrth gefn, sydd ar gael, fel y gŵyr, i gefnogi myfyrwyr mewn addysg bellach sydd o dan bwysau arbennig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi myfyrwyr yn y sefyllfa honno yn y ffordd rwy'n gwybod ei fod yntau hefyd. Bydd hefyd yn cofio ein bod ni, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi sicrhau cynnydd mawr yn y cyllid sydd ar gael i golegau addysg bellach er mwyn gallu cynnig yr ystod ehangach honno o sgiliau y mae'n eu nodi yn ei gwestiwn, ac rwy'n cytuno ag ef eu bod yn bwysig iawn.

Weinidog, mae'n anodd dychmygu sut le fydd gweithle yfory. Pe bai rhywun wedi dweud yr adeg hon y llynedd y byddai deallusrwydd artiffisial yn pasio'r cyfweliad ar gyfer swydd peiriannydd rhaglen lefel 3 yn Google, byddem wedi meddwl eu bod yn wallgof, ond dyna'n union a wnaeth ChatGPT ychydig ddyddiau yn ôl. Mae'r cynnydd cyflym mewn deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno set hollol newydd o heriau ar gyfer y farchnad swyddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae hefyd yn creu cyfres gyfan o gyfleoedd newydd i ddysgwyr heddiw. Weinidog, sut fydd y system addysg yn addasu i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cofleidio'r technolegau newydd hyn a'r rhai sy'n dod i'r amlwg ac ymbaratoi ar gyfer beth bynnag y bydd yfory'n ei daflu atynt? Diolch.

14:55

Mae Altaf Hussain yn gwneud pwynt pwysig iawn o ran natur newidiol ein heconomi a pha mor anodd y gall fod i ragweld y newidiadau hynny weithiau. Mae hyn yn dangos i mi bod angen i ni sicrhau bod ein pobl ifanc wedi'u harfogi ar gyfer unrhyw newid yn y gymdeithas, a bod angen i ni ddarparu sgiliau a phrofiadau iddynt, yn ogystal â gwybodaeth, fel y gallant lywio economi sy'n newid mewn ffordd sy'n blaenoriaethu eu diddordebau ac sy'n eu galluogi i ffynnu.

Rwy'n credu ei fod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yna set arbennig o gyfleoedd, a heriau hefyd, mewn perthynas â thrawsnewidiad digidol ein cymdeithas, ac mae deallusrwydd artiffisial yn un o'r enghreifftiau hynny. Bydd yn gwybod bod yna set o gymwyseddau digidol trawsbynciol wrth wraidd ein cwricwlwm newydd. Bydd hefyd yn gwybod am y buddsoddiad sylweddol rydym wedi'i wneud fel Llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau lefel eang iawn o fynediad at gyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a dyfeisiau eraill, a'r cysylltedd band eang sy'n cefnogi hynny. Yr her nawr yw gwneud yn siŵr bod ein hysgolion yn gallu manteisio ar swyddogaeth lawn hwnnw, ac rydym yn gweithio gyda'n proffesiwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Prynhawn da, Gweinidog. Dwi eisiau gofyn am gyfrifau dysgu personol, os gwelwch chi'n dda. Roedd y rhain yn cael eu datblygu gan Kirsty Williams yn y bumed Senedd i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu yma yng Nghymru. Gaf i ofyn, plîs, am ddiweddariad ar y cyfrifau, a sut ydych chi'n cydweithio efo Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pobl ifanc yma yng Nghymru yn cael y sgiliau mae angen iddyn nhw eu cael, yn enwedig i'r economi werdd? Diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn hwnnw. Mae'r cyfrifau'n rhywbeth dwi'n ffan mawr ohonyn nhw fy hunan ac wedi cynyddu'r gyllideb ar eu cyfer nhw'n sylweddol. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i greu cyfleoedd fel bod pobl mewn gwaith yn gallu adnewyddu a thrawsnewid eu sgiliau, a dau o'r meysydd lle rŷn ni wedi pwysleisio ein bod ni'n eu hariannu yw sgiliau digidol, fel roedd Altaf Hussain yn sôn jest nawr, a hefyd sgiliau gwyrdd. Wrth inni fynd ati i edrych ar gynyddu'r gyllideb ar gyfer y PLAs, un o'r blaenoriaethau mwyaf yw sicrhau ein bod ni'n adlewyrchu anghenion yr economi, felly mae'r trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi yn sicr yn mynd i'r perwyl hynny.

Yn y flwyddyn ariannol hon, fe wnes i ddyrannu bron i £18 miliwn ar gyfer y cynllun PLA, a beth rŷn ni wedi gweld yn digwydd yw ein bod ni'n gallu—ac mae hyn wedi digwydd yn ystod cyfnod COVID hefyd—darparu arian a wedyn sicrhau ein bod ni'n cefnogi pobl i gael sgiliau newydd mewn cyfnod byr iawn. Mae'r gallu i symud yn gyflym mor bwysig yng nghyd-destun economi sydd yn newid.

Ysgolion Bro

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer ysgolion bro? OQ59083

Yn sicr. Mae ysgolion bro wrth wraidd ein hagenda i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn 2022-23—y flwyddyn ariannol hon—darparwyd £3.84 miliwn ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, £660,000 ar gyfer swyddi rheolwyr ysgolion bro, a £20 miliwn ar gyfer gwelliannau cyfalaf i ysgolion. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym hefyd wedi cyhoeddi dwy set o ganllawiau ar gyfer ysgolion hefyd.

Roedd fy nghwestiwn yn benodol am y £20 miliwn hwnnw o gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion bro. Cyfeiriwyd ato yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—gobeithio bod y teitl hwnnw'n gywir—a oedd yn edrych ar sut y dylid gwario'r arian hwnnw. Adroddiad 'Sicrhau Chwarae Teg' yw'r un rwy'n meddwl amdano. Hefyd, cyfarfûm â Dr Nicola Williams-Burnett o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd â llawer iawn o arbenigedd ymchwil yn y maes hwn ac sy'n awyddus i weld y dyheadau hynny sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn cael eu gwireddu. Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn i'r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion ar gyflwyno'r rhaglen gyfalaf a lle mae'r cyllid hwnnw'n cael ei gyfeirio, ac yn arbennig pa fanteision ymarferol sydd wedi dod i'r amlwg a sut y bydd y canlyniadau hynny'n cael eu gwerthuso.

15:00

Wel, mae'n bwysig iawn, onid yw, yn ogystal â gallu dyrannu cyllid sylweddol, ein bod yn sicrhau ei fod yn cael ei wario mewn ffordd sy'n effeithiol ac sydd hefyd yn darparu tystiolaeth dda i eraill o'r ffordd orau o wario'r arian hwnnw. Wrth gwrs, bydd y cyllid yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol hon, felly bydd yr asesiad o'r effaith yn amlwg yn dilyn o’r fan hon. Ond mae’r mathau o bethau rydym wedi gweld buddsoddiad ynddynt—y grant cyfalaf yw hwn—yn cynnwys gwella goleuo allanol mewn lleoliadau chwaraeon, darparu llefydd i storio offer ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol, llochesi awyr agored, mesurau diogelwch i gadw ardaloedd ar gyfer ysgolion ac at ddefnydd cymunedol ar wahân, ac addasiadau i ystafelloedd newid, i doiledau ac yn y blaen, i hwyluso defnydd cymunedol.

Mewn perthynas â sut mae’r arian hwnnw wedi llifo drwy’r system, yn amlwg, mae’r cyfrifoldeb am ddosbarthu yn nwylo’r awdurdodau lleol, ond rydym yn disgwyl iddynt ganolbwyntio’r cyllid ar brosiectau ar raddfa fach i ganolig a chymryd sylw llawn o’r canllawiau rydym wedi eu cyhoeddi ar sut y dylent fynd ati i wneud hynny. Dyna'r ffordd orau, yn ein barn ni, o sicrhau y gall ysgolion addasu ac agor eu hadeiladau'n effeithiol y tu allan i oriau traddodiadol. O ran sut y cafodd yr arian ei ddarparu i awdurdodau lleol, fe’i dosbarthwyd ar sail fformiwläig, yn dibynnu ar ysgolion a dysgwyr ym mhob awdurdod lleol unigol, ac fel y soniais ar y dechrau, byddwn yn gwerthuso canlyniadau’r cyllid hwnnw maes o law.

Mesurau Arbed Costau ar gyfer Ysgolion

7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fesurau posibl i arbed costau ar gyfer ysgolion? OQ59092

Wel, mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau ariannol sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Awdurdodau lleol, wrth gwrs, sydd i benderfynu ar gyllidebau ysgolion. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i weithio gyda'u hysgolion, fel y mae llawer yn ei wneud, i gynnig mesurau rhesymol ar gyfer arbed costau lle bo hynny'n briodol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwneud arbedion o dros £1.7 miliwn mewn costau addysg. Mae cynigion gan y cyngor ar gyfer ysgolion yn cynnwys diffodd gliniaduron a rhoi'r gorau i lungopïo. Nid wyf yn siŵr faint o'r £1.7 miliwn a fydd yn cael ei arbed drwy roi'r gorau i lungopïo mewn ysgolion, ond mae hyn yn swnio fel ffordd anaddas o drin ein hathrawon a’n plant, gyda’r cabinet yn tincran ar yr ymylon. Weinidog, i wneud arbedion effeithlonrwydd mewn ysgolion, mae angen inni sicrhau bod yr adeiladau mor effeithlon â phosibl o ran eu defnydd o ynni, felly pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, fel y gall hynny helpu cyllidebau ysgolion?

Wel, fel y gŵyr, rydym yn sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol mewn perthynas â datgarboneiddio’r ystad ysgolion—bydd gennyf ragor i’w ddweud am hynny yn yr wythnosau nesaf, fel mae’n digwydd—yn ogystal â sicrhau bod yr holl ysgolion newydd sy’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru yn ysgolion sero net, o ran carbon corfforedig, ond hefyd o ran eu gweithrediad. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gallu sicrhau bod ein hystad ysgolion yn cael ei diogelu at y dyfodol o ran ei hanghenion ynni yn y ffordd yr awgryma'r Aelod.

Disgyblion Niwroamrywiol

Rydym yn parhau i gefnogi disgyblion niwroamrywiol. Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm i Gymru yn canolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc drwy gynlluniau sy'n canolbwyntio ar unigolion a chefnogi cynnydd unigolion.

Diolch. Mae rhieni disgyblion sydd wedi cael diagnosis neu yr amheuir fod ganddynt gyflyrau niwroamrywiol yn dal i gysylltu â mi yn rheolaidd, gyda llawer ohonynt wedi cael diagnosis o gyflyrau niwroamrywiol eu hunain a'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn sir y Fflint. Yn ystod y misoedd diwethaf yn unig, mae'r e-byst a ddaeth i law gan rieni yn sir y Fflint yn cynnwys y canlynol: 'Rydym yn atodi tystiolaeth sy'n dangos ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth ac a gedwir yn ei ffeil addysg, ac eto nid yw wedi cael asesiad ffurfiol na diagnosis o awtistiaeth.' Dywedodd mam niwroamrywiol arall, 'Os rhywbeth, rydym wedi cael ein heithrio o unrhyw beth er enghraifft pan aeth y gwasanaethau cymdeithasol i ysgol fy merch yn ddiweddar. Sut mae honno'n bartneriaeth gyfartal pan fyddwch yn byw mewn ofn ac yn methu ymddiried?' Ysgrifennodd un arall, 'Mae fy mab yn awtistig ac wedi cwyno am fwlio eithafol gan ddisgyblion a chynorthwyydd addysgu yn ei ysgol flaenorol. Gwrthododd y cyngor unrhyw gais am gymorth.' Ysgrifennodd eiriolwr dros fam awtistig fod mab ei chleient yn dod adref o'r ysgol gyda chleisiau. Dywedodd y gweithiwr cymdeithasol a ymwelodd na allai weld unrhyw gleisiau er bod ei fam wedi tynnu lluniau o'r cleisiau y diwrnod hwnnw. Ac yn olaf, yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd mam fod ysgol ei merch awtistig wedi gwneud llawer o atgyfeiriadau ar gyfer ei merch, ond cawsant eu rhwystro. Sut y gallwch sicrhau bod deddfwriaeth Cymru ar waith yn effeithiol i atal tramgwyddo mynych ac amlwg o'r fath rhag digwydd?

15:05

Wel, nid oes yr un ohonom yn dymuno clywed y mathau o enghreifftiau y mae Mark Isherwood wedi’u disgrifio yn ei gwestiwn heddiw, ac os hoffai ysgrifennu ataf yn benodol ynglŷn ag unrhyw un ohonynt, byddwn yn fwy na pharod i fynd i'r afael â hynny.

Mewn perthynas â sicrhau bod y diwygiadau'n effeithiol, rydym yn sicrhau bod cyllid ychwanegol yn y system, eleni ac ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Rydym bellach ychydig dros flwyddyn i mewn i gyfnod gweithredu tair blynedd ar gyfer y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol pwysig iawn. Bydd yn gwybod hefyd ein bod wedi cyhoeddi deunydd newydd pwysig yn ddiweddar, sef canllawiau i ddisgyblion a’u rhieni ynglŷn â'u hawliau a’r gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt. Ac mewn perthynas â chefnogi’r gweithlu i ddeall anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn addysg gychwynnol i athrawon ac mewn dysgu proffesiynol parhaus i athrawon sy'n gweithio, yn amlwg, mae diwallu’r anghenion hynny yn flaenoriaeth, ac mae cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn rhan o astudiaethau craidd athro dan hyfforddiant. Rydym hefyd wedi datblygu rhaglen ddysgu proffesiynol genedlaethol ar-lein ar anghenion dysgu ychwanegol, wedi'i hanelu'n benodol at gydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol, ond hefyd athrawon a darlithwyr, fel y gallant ddatblygu eu gallu eu hunain i gefnogi athrawon yng nghyswllt anghenion dysgu ychwanegol. Ac yn ogystal â’n gwaith i gefnogi pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol, rydym yn ariannu’r tîm awtistiaeth cenedlaethol i ddarparu cymorth ac adnoddau perthnasol i’r sector addysg hefyd.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw eitem 3, sef y cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac i'w ofyn gan Jack Sargeant.

Mesuryddion Rhagdalu

1. Yn sgil cyhoeddiad Ofgem ynghylch roi terfyn ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu cael eu datgysylltu o ganlyniad i gael eu gorfodi i newid yn barod y gaeaf hwn? TQ722

Rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith yn ystod y pythefnos diwethaf, yn annog Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr arfer ffiaidd o osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Galwaf arnynt ac ar gyflenwyr ynni i gael gwared ar unrhyw fesuryddion a osodwyd yn orfodol y gaeaf hwn, ac rwy’n ceisio cael cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb, a diolch iddi eto am ei harweinyddiaeth ar ran Llywodraeth Cymru yn dwyn y materion hyn i sylw Llywodraeth y DU?

Mae Llywodraeth y DU, Ofgem a’r llysoedd wedi gwylio’r sgandal genedlaethol hon yn datblygu ers dros flwyddyn, gan ymddiried mewn cyflenwyr ynni ac asiantau casglu dyledion yn ôl pob golwg i wneud y peth iawn. Mae miloedd o warantau ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol wedi'u pasio heb eu craffu; yr unig wiriad yw bod yr asiantau casglu dyledion yn dweud nad oes unrhyw un yr effeithir arnynt yn agored i niwed. Gwyddom nad yw hynny’n wir. Yr wythnos diwethaf, byddai pob un ohonom wedi gweld y lluniau o'r canlyniadau: pobl yn mynd i mewn i dai pobl agored i niwed, gan dorri i mewn iddynt yn aml, a gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Mae'r llysoedd bellach wedi gwahardd hyn o'r diwedd, ond i mi, mae'n llawer rhy hwyr i'r miloedd sydd eisoes wedi gorfod newid.

Weinidog, mae angen iawndal ystyrlon, mae angen gwaharddiad ar newid mesuryddion o bell, a chaniatáu i’r rheini sydd eisoes wedi newid—wedi gorfod newid—newid yn ôl yn rhad ac am ddim. Yn eich cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU, os byddant yn derbyn eich gwahoddiad a’ch galwadau, a wnewch chi fynegi pwysigrwydd a brys y galwadau rwyf wedi’u gwneud heddiw? Ac a wnewch chi ymchwilio hefyd i weld a allai Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon gefnogi datblygiad rheolau tebyg i'r rheini a roddwyd ar waith ar gyfer dŵr yn ôl yn y 1990au—rheolau nad ydynt yn caniatáu datgysylltu a thorri cyflenwad pobl, pobl ar draws ein cymdeithas yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig?

Wel, hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am ei ymgyrch ddi-baid ac effeithiol ar y sgandal mesuryddion rhagdalu sydd wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf. Rydych wedi codi hyn yn gyson dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi helpu i’w ddatgelu, i ni ac i Lywodraeth Cymru ymateb, ac yn wir, y Senedd gyfan a’n grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd y mae Mark Isherwood yn ei gadeirio, a gallaf roi sicrwydd i chi fod mynd i'r afael â'r sgandal warthus hon ar frig fy agenda ar hyn o bryd fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Felly, mewn cyswllt a gohebiaeth ddiweddar â Llywodraeth y DU ac Ofgem, gan gynnwys cyfarfod a gynhaliais gyda bwrdd Ofgem y bore yma a oedd yn digwydd bod yng Nghaerdydd, rwyf wedi pwysleisio'r angen i gyflenwyr ynni i roi'r gorau i osod mesuryddion gorfodol, a hefyd i newid unrhyw fesuryddion rhagdalu a osodwyd yn ddiweddar yn ôl, ac rwy’n parhau i geisio cael y cyfarfod hwnnw gyda’r Ysgrifennydd Gwladol i egluro bod yr alwad hon yn fater o frys. Rwyf wedi cael ymateb gan y Gweinidog ynni, ac rwy’n fwy na pharod i'w rannu â fy nghyd-Aelodau yn y Siambr yn y Senedd heddiw.

Bwriad y rheolau presennol, wrth gwrs, oedd amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond nid ydynt wedi gweithio. Mae'n amlwg nad ydynt yn gweithio fel y bwriadwyd, ac mae'n rhaid inni edrych ar hynny. Felly, gofynnais y cwestiwn hwnnw i fwrdd Ofgem heddiw. Mae'n rhaid iddynt reoleiddio'r diwydiant yn effeithiol, ac yn fy nghyfarfod â hwy, gyda chadeirydd a bwrdd Ofgem y bore yma, dywedais wrthynt: a ydynt yn gwneud defnydd effeithiol o'u pwerau presennol fel rheoleiddiwr? A ydynt yn defnyddio'r pwerau hynny? A ydynt yn gallu gwneud digon i reoleiddio'r sector yn effeithiol? A oes angen deddfwriaeth gryfach? Beth y gallwn ei wneud o ran y pwerau pellach sydd eu hangen i reoleiddio’r sector? A hefyd, yn eu hymateb, byddaf yn rhannu gyda'r Senedd heddiw eu bod wedi dweud eu bod wedi lansio ymchwiliad cadarn i weithgarwch Nwy Prydain, yr asiantaeth casglu dyledion a ddefnyddient, a'u bod yn edrych yn fewnol ar eu gweithgareddau cydymffurfio. Dywedasant eu bod yn defnyddio eu holl bwerau presennol hyd yr eithaf, ond yn amlwg, mae angen inni glywed ganddynt, a chredaf y bydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw'n barod o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

Yn olaf, ar eich pwynt ynglŷn â dŵr, mae gwres ac ynni'n wasanaethau hanfodol i’n cartrefi. Fel gyda dŵr, ni ddylai cwmnïau cyflenwi ynni allu datgysylltu defnyddwyr, ac rwy’n mynd i godi’r pwynt penodol hwn, fel y gwneuthum heddiw gydag Ofgem, gyda Llywodraeth y DU.

15:10

Fis diwethaf, cyn eich llythyrau ar 31 Ionawr a 2 Chwefror i Lywodraeth y DU a chyn i ymchwiliad The Times ddatgelu bod Nwy Prydain yn anfon casglwyr dyledion fel mater o drefn i dorri i mewn i gartrefi cwsmeriaid a gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol, hyd yn oed pan oeddent yn ymwybodol eu bod yn hynod agored i niwed, ysgrifennodd Grant Shapps, Ysgrifennydd busnes y DU ar y pryd, at gyflenwyr ynni i ddatgan y dylent roi’r gorau i osod mesuryddion rhagdalu gorfodol yng nghartrefi cwsmeriaid agored i niwed ac y dylent wneud mwy o ymdrech i helpu’r rheini sy’n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Galwodd am gyhoeddi ymchwiliad diweddar y cyflenwyr ynni i gwsmeriaid agored i niwed ar unwaith, a rhyddhau data ar y ceisiadau a wnaed gan gyflenwyr i osod mesuryddion gorfodol. Yr wythnos diwethaf, gofynnodd Ofgem i gwmnïau ynni roi'r gorau dros dro i osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, a ddydd Llun, gorchmynnodd yr Arglwydd Ustus Edis lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr i roi’r gorau ar unwaith i awdurdodi gwarantau i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Ar yr un diwrnod, cyfarfu Gweinidog ynni y DU, Graham Stuart, â phennaeth Ofgem a dweud wrtho fod Llywodraeth y DU yn disgwyl camau gweithredu cryf ac ar unwaith pan na fydd cyflenwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau.

Yn sgil eich galwad am waharddiad llwyr, pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i bryderon ynghylch cynnydd dilynol mewn gweithredu gan feilïaid, sef yr unig beth sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi dal Llywodraeth y DU yn ôl? A sut y byddwch yn gweithio gyda Nwy Prydain i hyrwyddo eu cronfa gymorth a glustnodwyd ar gyfer cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu, ac a dargedwyd i helpu cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu a chwsmeriaid sy'n agored i niwed, sydd er hynny'n gorfod gwneud cais amdano? Diolch.

Diolch am eich cwestiynau, Mark Isherwood, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cefnogi fy ngalwad am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Wrth gwrs, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ac rwyf wedi cael ymateb gan y Gweinidog ynni. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n glir iawn yw bod yn rhaid inni gydnabod maint y broblem: mae 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan; mae 15 y cant o'n holl aelwydydd, 24 y cant o denantiaid yn y sector rhentu preifat, a bron i hanner y tenantiaid tai cymdeithasol yn defnyddio mesuryddion rhagdalu, a hwy sydd ar yr incwm isaf. Rydym yn sôn am y bobl fwyaf agored i niwed.

Yr hyn a ddywedais wrth Lywodraeth y DU yw ein bod yn falch o weld cyflenwyr ynni yn rhoi'r gorau i'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, ond beth a gymerodd i wneud hynny? Cymerodd ymchwiliad The Times, a gwleidyddion fel Jack Sargeant, ac yn wir, Ed Miliband, byddwn yn dweud, i ddatgelu'r hyn a oedd yn digwydd. Ni weithiodd camau gorfodi. Nid yw Llywodraeth y DU yn gweithredu digon i edrych ar y ddeddfwriaeth newydd y bydd angen ei chyflwyno yn ôl pob tebyg. Nid oes digon o fesurau diogelu ar waith gan Ofgem. Dywedais wrth Ofgem, 'Fe wnawn eich cefnogi os oes angen mwy o bwerau rheoleiddio arnoch; mae angen inni eich cefnogi i wneud hyn.'

Mae'n rhaid inni aros am ganlyniad yr ymchwiliad i Nwy Prydain. Rwyf wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni ar sawl achlysur. Maent wedi rhoi sicrwydd i mi ynglŷn â'r ffordd y maent yn trin ac yn cefnogi cwsmeriaid agored i niwed. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn derbyn rhywfaint o'r sicrwydd y maent wedi'i roi i mi pan glywn am eu defnydd o'r asiantaethau casglu dyledion diegwyddor hyn yn enwedig. Rwyf yn cyfarfod â’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yr wythnos nesaf, a byddaf yn gallu adrodd yn ôl ar hynny, gan fod angen inni edrych ar eu gwaith. Roeddwn yn falch fod Peredur wedi codi hynny ddoe ynglŷn â'u defnydd ac o ran edrych ar sut mae asiantau gorfodi achrededig yn allweddol i hyn. Byddaf yn sicr yn ymateb i’r Senedd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn.

15:15

Yn y grŵp trawsbleidiol rwy'n ei gadeirio ar hawliau defnyddwyr, clywsom ddydd Llun gan Which?. Dangosodd eu hadroddiad diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, fod 92 y cant o ddefnyddwyr Cymru yn poeni am brisiau ynni uwch nag yn Lloegr a’r Alban, a bod defnyddwyr yn cymryd camau i arbed costau a allai fod yn niweidiol i’w hiechyd. Gwyddom eu bod yn niweidiol i'w hiechyd: mae 78 y cant yn rhoi'r gwres ymlaen yn llai aml, 18 y cant yn bwyta llai o brydau wedi'u coginio. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wneud popeth yn ei gallu i ddiogelu ei dinasyddion. Yn yr un grŵp trawsbleidiol hwnnw, roedd Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhannu’r rhwystredigaeth. Roedd eu graffiau’n dangos yn glir yr hyn sy'n digwydd gyda mesuryddion rhagdalu, ac roeddent yn gwbl rwystredig ei bod wedi cymryd sylw yn The Times i allu ennyn rhywfaint o gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU ar hyn.

Mae dosbarthiad a chyflenwad trydan a'r cyflenwad nwy, wrth gwrs, ill dau'n faterion a gedwir yn ôl yn San Steffan o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae diogelu defnyddwyr hefyd yn fater a gedwir yn ôl. O gofio hyn, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i gael y pwerau hyn wedi'u datganoli, fel y gallwn sicrhau bod y gwaharddiad sydd ei angen arnom yn cael ei weithredu a’i gynnal? A wnaiff y Gweinidog alw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli’r pwerau hyn? Hefyd, clywsom ar y newyddion ddoe, rwy'n credu, fod y nifer sy’n manteisio ar y talebau sydd ar gael i gwsmeriaid rhagdalu o dan gynllun cymorth biliau ynni Llywodraeth y DU ymhell islaw’r hyn a ragwelwyd. A yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw arian heb ei wario neu ei hawlio'n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r aelwydydd agored i niwed yma yng Nghymru sydd mewn tlodi tanwydd ac ar fesuryddion rhagdalu?

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams, am adrodd ar y grŵp trawsbleidiol ar hawliau defnyddwyr. Byddaf yn cyfarfod cyn bo hir â National Energy Action a Cyngor ar Bopeth, sy'n allweddol o ran rhoi gwybod i ni, a rhoi gwybod i ni'n rheolaidd, am y dystiolaeth a'r cyfeiriad y mae angen inni fynd iddo o ran polisi. Credaf fod hon yn adeg pan fyddwn yn edrych ar y pwerau sydd gennym, y ffyrdd y gallwn ymyrryd pan fydd cymaint wedi'i gadw yn ôl, a dyna pam fod yn rhaid inni bwyso ar Lywodraeth y DU ar y materion hyn. Credaf fod hyn yn ymwneud â’r bobl fwyaf agored i niwed. Rwyf wedi sôn am y niferoedd sydd ar fesuryddion rhagdalu. Rydym wedi ymyrryd yn y ffyrdd y gallwn, nid yn unig gyda'n cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond gyda’n partneriaeth â’r Sefydliad Banc Tanwydd, i sicrhau y gall pobl gael mynediad at dalebau tanwydd drwy’r misoedd anodd hyn.

Unwaith eto, dywedais wrth Ofgem heddiw—roeddent yn cyfarfod yng Nghaerdydd—'Mae'n rhaid ichi ddangos i ni beth fydd effaith eich ymchwiliad i Nwy Prydain' o ran eu defnydd syfrdanol a gwarthus o'r asiantau gorfodi dyledion hynny. Mae fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, yn cwestiynu’r llysoedd a’r ffyrdd y mae’r llysoedd wedi gwthio'r gwarantau hyn drwodd. Mae'n achos pryder, fel y nododd, fod dros 22,000 o warantau wedi’u cyhoeddi drwy lys ynadon Abertawe dros y tair blynedd diwethaf, nid yn unig i bobl yng Nghymru, yn ôl yr hyn a ddeallwn. Mae hyn yn creu achos cryf dros ddatganoli cyfiawnder, onid yw, o ran y ffordd ymlaen.

Ond i gloi, hoffwn ddweud, ac mae’n bwysig, fy mod wedi codi’r mater ynglŷn â sut y gall dinasyddion ar fesuryddion rhagdalu ddefnyddio eu talebau. Mae Cyngor ar Bopeth wedi dweud nad yw’r holl ymdrechion i gyrraedd y cwsmeriaid hynny yn effeithiol o hyd, fel rydych wedi'i nodi. Cefais ymateb gan Lywodraeth y DU, ac yn wir, gan gyflenwyr ynni yn dweud y gellir ailgyhoeddi talebau, ac rydym yn disgwyl iddynt barhau i wneud hynny hyd yn oed os yw’r cyfnod 90 diwrnod wedi dod i ben. Ond unwaith eto, byddwn yn defnyddio'r cyfle hwn i hyrwyddo'r ffyrdd y gall pobl—y cyflenwyr, a'r cwsmeriaid yn wir—gael gafael ar y talebau hynny.

15:20

Mae’r camfanteisio gwarthus hwn ar yr unigolion a chanddynt leiaf ac sydd angen cadw’n gynnes fel pawb arall, yn dangos yn glir fod gennym system sydd wedi torri’n llwyr. Felly, os cewch byth gyfle i siarad â Llywodraeth y DU am eu methiant i weithredu ar hyn—. Mae Jack Sargeant wedi bod yn codi hyn yn y Senedd ers dros dri mis. A beth mae'r ynadon wedi bod yn ei wneud wrth roi'r trwyddedau hyn? A ydynt wedi bod yn gofyn a yw’r unigolion hyn yn agored i niwed ac yn gallu cyrraedd y siop er mwyn ychwanegu at eu credyd? Ymddengys i mi mai’r hyn sydd ei angen arnom, Weinidog, yw ailwampio’r system reoleiddio’n llwyr—dangoswyd bod Ofgem yn ddi-rym—ac mae angen inni hefyd roi diwedd ar yr arfer o godi mwy ar y rheini sydd ar fesuryddion rhagdalu na’r rheini sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol. Mae'n gwbl warthus, o ystyried nad oes gwasanaeth. Nid oes ond raid ichi edrych ar y mesurydd i weld faint o ynni y mae pobl wedi'i ddefnyddio, maent yn gwybod hynny. Felly, mae'n ymddangos yn hollol—. Felly, a wnewch chi gael trafodaethau (a) gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ynglŷn â'r modd y maent yn mynd i gynyddu ymwybyddiaeth yr ynadon o sut mae pobl gyffredin yn byw; a (b) a wnewch chi annog Llywodraeth y DU i ailwampio’r system reoleiddio, a elwir hefyd yn Ofgem, yn llwyr?

Yn sicr, byddaf yn mynd ar drywydd pob un o’r pwyntiau hynny, Jenny Rathbone, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gyda Llywodraeth y DU, ac yn wir, gydag Ofgem. Dywedais wrth Ofgem, 'Mae angen ichi ailwampio'r rheoliadau’n llwyr’, a chawn weld pa effaith y mae eu pwerau gorfodi yn ei chael o ran eu hymchwiliadau i Nwy Prydain.

Do, fel y dywedodd Mark Isherwood, cymerodd alwad gan yr Arglwydd Ustus Edis i atal y ceisiadau am warantau ar gyfer mesuryddion rhagdalu mewn llysoedd ynadon a llysoedd barnwyr rhanbarth, felly mae’r Cwnsler Cyffredinol yn mynd ar drywydd hynny hefyd. Nid ydynt wedi'u rhestru mwyach, ond pan glywch am y ffordd roeddent yn mynd drwy ystafelloedd cefn y llysoedd, pobl heb unrhyw gynrychiolaeth—£22, credaf i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud; yr arian a wnaed gan y llysoedd o hyn—mae angen inni adolygu'r ddeddfwriaeth. Mewn gwirionedd, dywedodd yr Arglwydd Ustus Edis hynny ei hun.

Yn olaf, credaf mai’r pwynt yw mai’r rhai mwyaf agored i niwed a’r tlotaf mewn cymdeithas sydd ar fesuryddion rhagdalu. Dylid cael gwared arnynt. Ydy, mae’n ddewis i rai, ond un o’r cwestiynau a ofynnwyd, ac rwy’n siŵr ei fod wedi’i ofyn yn eich grwpiau trawsbleidiol, yw: a yw gosod mesuryddion o bell wedi dod i ben? Na, ni chredaf ei fod. Mae gosod gorfodol wedi dod i ben, ond mae gosod o bell yn dal i ddigwydd.

Yn olaf, rwyf wedi gofyn i gyflenwyr beidio â chodi taliadau sefydlog. Yng ngogledd Cymru, maent yn uwch nag yn unrhyw le arall yn y DU gyfan, ac maent yn uchel iawn yn ne Cymru. A hyd yn oed os na all pobl roi arian yn eu mesuryddion, maent yn dal i orfod talu'r taliadau sefydlog, felly pan fyddant yn cael eu talebau tanwydd, drwom ni o bosibl, maent ond yn talu'r taliadau sefydlog. Onid yw honno'n sefyllfa gwbl warthus y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi?

Mae’r Gweinidog wedi ateb rhan o’r hyn roeddwn yn mynd i’w godi, gan fod y Gweinidog wedi hen arfer â mi'n sôn am broblem pobl yn gorfod talu taliadau sefydlog. Deallaf o ddarllen The Observer ddydd Sul diwethaf y gall taliadau sefydlog fod hyd at 50c y dydd. Nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn ystyried gorfod treulio diwrnod heb roi unrhyw oleuadau ymlaen, heb wylio unrhyw deledu, heb roi'r gwres ymlaen o gwbl. Dyna fywyd nifer o fy etholwyr, lle mae’n rhaid iddynt beidio â defnyddio unrhyw ynni, ac yna pan fyddant yn gwneud hynny—. Fel y dywedodd un etholwr wrthyf—rwyf wedi sôn am hyn wrth y Gweinidog o’r blaen ac rwy’n mynd i barhau i sôn amdano—nid oedd wedi defnyddio unrhyw ynni ers pedwar diwrnod, yna cynhesodd dun o gawl, ac aeth ei chostau ynni dros £2 gan nad oedd wedi defnyddio unrhyw ynni ers pedwar diwrnod. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid inni ddod â thaliadau sefydlog i ben a bod angen inni ddod â hwy i ben nawr? Oherwydd yr hyn sy'n digwydd yw bod y bobl dlotaf yn talu mwy a mwy am lai a llai. Mae'n sgandal; mae’n sgandal na ddylai fod wedi’i chaniatáu, ac yn sicr, mae'n un y mae angen inni roi diwedd arni.

15:25

A gaf fi ddiolch i'r Llywydd am alluogi mwy o Aelodau i wneud y pwyntiau a gofyn y cwestiynau heddiw ar gyfer y cwestiwn amserol hwn? Mae'n wir fod y taliadau sefydlog yn warthus o ran yr effaith a gânt ar fywydau pobl.

A gaf fi fynd yn ôl at y pwynt a godwyd gan Jack Sargeant yn ei gwestiwn atodol? Mae arnom angen y math o ddeddfwriaeth sydd gennym yn y diwydiant dŵr i atal cwsmeriaid rhag cael eu datgysylltu hyd yn oed os oes ganddynt ôl-ddyledion, ac mae arnom angen i Ofgem gael y pwerau hynny i ddiogelu cwsmeriaid agored i niwed. Ond rwyf am barhau i bwyso am roi diwedd ar y taliadau sefydlog hynny, y gall cyflenwyr ynni, gyda’r holl elw sy’n cael ei wneud, fforddio eu torri a’u talu.

Diolch am ganiatáu’r cwestiwn, Lywydd. Weinidog, rwy’n ddiolchgar i chi am eich atebion hyd yn hyn heddiw ar yr arferion ffiaidd a welsom yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn rhyddhau Llywodraeth y DU rhag eu cyfrifoldeb yn hyn o beth; mae ganddynt gyfrifoldeb. Hwy, yn y pen draw, yw'r Llywodraeth sy'n gosod y fframwaith deddfwriaethol. Ond un peth y credaf sy’n wendid sylfaenol yma yw’r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone ac eraill: nid yw Ofgem yn addas i’r diben o gwbl. Rwy’n siarad o safbwynt busnes, ac rwy’n datgan buddiant yn yr ystyr fy mod wedi ymwneud ag Ofgem. Rwyf wedi codi'r mater gyda'r Prif Weinidog ei hun yma ar sawl achlysur yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â lle i Gymru ar fwrdd Ofgem—aelod penodedig o'r bwrdd, fel y gellir cynrychioli buddiannau Cymru yn briodol.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â hwy o bryd i'w gilydd, fel y gwnaethoch chi heddiw. A wnaethoch chi ofyn y cwestiwn i aelodau’r bwrdd heddiw? A ydynt o'r farn, yng ngoleuni’r dystiolaeth dros y 12 mis diwethaf, eu bod hwy eu hunain yn addas i’r diben, o ystyried y malltod a welsom ar fywydau pobl gyda’r hyn a ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf, ond hefyd eu hanallu ymddangosiadol yn wyneb yr hyn sydd wedi digwydd yn y farchnad drydan ac ynni dros y 12 mis diwethaf yn enwedig, lle mae busnesau a defnyddwyr wedi teimlo’n ddiobaith dan law llawer o gwmnïau mawr nad ydynt wedi dangos unrhyw barch at ddymuniadau a phryderon pobl a’u sefyllfaoedd?

Diolch yn fawr iawn, Andrew R.T. Davies. Bûm yn dirprwyo dros y Prif Weinidog heddiw ar fwrdd Ofgem. Roeddent yn cyfarfod yn swyddfeydd Llywodraeth y DU yn y Sgwâr Canolog, lle mae ganddynt swyddfa Ofgem, a fydd yn cael ei hehangu, yn ôl yr hyn roeddent yn ei ddweud wrthyf, o ran eu presenoldeb yma yng Nghymru. Mae cadeirydd bwrdd Ofgem yn cynrychioli buddiannau Cymru. Maent wedi bod yma ers dau ddiwrnod yn ymweld â Tata a mentrau ynni lleol hefyd. Credaf fod eich pwyntiau wedi'u gwneud yn dda iawn. Mae'n rhaid inni weld nawr a ydynt yn defnyddio eu pwerau ai peidio, y pwerau y dywedant sydd ganddynt, o ran adolygiad trwyadl o’r hyn sy’n digwydd, beth yw’r sgandal, a chwestiynu wedyn beth yw eu rôl hwy. Diolch.

Y Cynnig Cyflog i Weithwyr y GIG

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynnig cyflog newydd a gynigiwyd i weithwyr y GIG gan Lywodraeth Cymru? TQ725

Diolch yn fawr iawn. Yn llythrennol, mae datganiad ysgrifenedig newydd gael ei gyhoeddi ar y pwnc hwn, ond rwy'n fwy na pharod i nodi rhai agweddau ar y cynnig i weithwyr y GIG er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol, os yw hynny'n ddefnyddiol.

Diolch am eich ateb y prynhawn yma, Weinidog. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio y gellir cytuno ar ateb a all arwain at osgoi gweithredu diwydiannol pellach yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn fy nghwestiwn amserol y prynhawn yma gan fod cwestiynau pellach gennyf yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig ddydd Gwener. Wrth gwrs, yn y 10 munud diwethaf, mae datganiad ysgrifenedig pellach wedi glanio ym mewnflwch Aelodau’r Senedd. Rwy’n falch fod y cwestiwn amserol wedi arwain at y datganiad ysgrifenedig hwn, sydd efallai’n ateb rhai o’r cwestiynau a oedd gennyf, ond sydd hefyd efallai’n arwain at fwy o gwestiynau gennyf hefyd, o ystyried y cyfle hwn nawr, Weinidog.

Ond a gaf fi ofyn yn gyntaf: a ydych yn credu bod ffynhonnell y cyllid ar gyfer y cynnig hwn yn gynaliadwy? A’r rheswm y gofynnaf y cwestiwn hwnnw yw am fod y Gweinidog cyllid wedi dweud wrth y BBC ei fod yn cael ei ariannu o’r cronfeydd wrth gefn. Ond beth am y blynyddoedd i ddod, a sut bydd y setliad cyflog yn cael ei ariannu o un flwyddyn i'r llall? Rwyf wedi edrych yn gyflym iawn drwy eich datganiad ysgrifenedig dros y 10 munud diwethaf, Weinidog. O ran oriau gwaith, fe sonioch chi am weithgor sy’n cael ei sefydlu ac sy’n adrodd erbyn yr hydref. Mae hynny’n swnio’n gadarnhaol, ond efallai y gallwch amlinellu beth yw cylch gwaith y gweithgor hwnnw. 'Gweithio hyblyg'—dyna bennawd arall roeddwn yn falch o'i weld, Weinidog. Efallai y gallwch ddweud ychydig mwy ynglŷn â'ch strategaeth ymddeol a dychwelyd a amlinellwyd gennych yn eich datganiad y prynhawn yma. Roeddwn yn falch iawn o weld y pennawd 'Lleihau'r defnydd o staff asiantaeth'. Mae'n debyg mai'r cwestiwn yn y cyswllt hwnnw yw: sut? Nid oedd llawer iawn o fanylion yn y datganiad, felly efallai y gallwch ymhelaethu ar hynny. Ac roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn eich pwynt yn eich datganiad y prynhawn yma, Weinidog, ar adfer lefelau cyflog, ac rydych yn sôn am ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, y corff adolygu cyflogau. Ond a gaf fi ofyn: beth am y dylanwad y gallech ei gael ar eich corff adolygu cyflogau eich hun yn hynny o beth hefyd? Diolch, Weinidog.

15:30

Diolch yn fawr. Ac fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn trafod yn ddiwyd iawn dros gyfnod hir iawn, trafodaethau dwys iawn, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod i gasgliad nos Iau. Cafodd hwnnw ei roi, yn sicr i'r swyddogion o fewn yr undebau hynny, ac mae'r mwyafrif llethol ohonynt, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi dod a'u gweithredu diwydiannol i ben, ac nid yw hynny'n beth bach—ac rydym yn siarad am yr RCN, yr RCM, Unison, CSP, GMB, BMA, BAOT, a SOR. Maent i gyd wedi cytuno i beidio â pharhau â gweithredu diwydiannol tra byddant yn rhoi'r pecyn hwn ger bron eu haelodau. Felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny. Rwy'n credu bod gwers yma i Lywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, sef bod eistedd a thrafod yn gallu arwain at gasgliadau cadarnhaol.

Nawr, rwy'n hollol glir nad yw hyn ar ben. Yn y pen draw, penderfyniadau ar gyfer aelodau cyffredin yr undebau llafur hynny fydd y rhain, a bydd angen iddynt benderfynu nawr a ydynt eisiau'r pecyn a roddwyd at ei gilydd mor ofalus. Ni fu'n broses hawdd; mae wedi bod yn broses heriol iawn. Ac ar rai o'r pwyntiau a wnaethoch—. Ac rydych chi'n hollol iawn, yn llythrennol y funud hon y daeth hyn drwodd. Nid oherwydd y cwestiwn amserol y digwyddodd hynny ond oherwydd ein bod, yn llythrennol, newydd orffen trafod gyda'r undebau llafur, felly roedd yn dynn iawn, ac rwy'n falch ei fod wedi cyd-daro â'ch cwestiwn, Russell.

Ond ar ffynonellau cyllid, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall beth rydym wedi'i ddweud drwy'r holl broses hon, fod yna swm o arian ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a'r hyn a wnaethom yw ysbeilio ein cronfeydd wrth gefn i gael yr arian i dalu am y flwyddyn ariannol hon. Y flwyddyn ariannol nesaf—ac roedd yr undebau'n glir iawn gyda ni—mae yna rai llinellau coch, a'u llinell goch hwy, mewn perthynas ag undebau iechyd, oedd eu bod hwy eisiau gweld o leiaf elfen o hyn wedi'i gyfuno ar gyfer blynyddoedd i ddod. Felly, y gwir amdani yw ein bod wedi gwneud hyn drwy risg. Ac fe wnaethoch chi holi am nyrsys asiantaeth, ac rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydym i gyd yn awyddus i'w weld, ond nawr, drwy weithio gyda'r undebau llafur, rwy'n credu y bydd yn llawer haws inni geisio cyflawni arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas â gweithwyr asiantaeth y flwyddyn nesaf. Ond y gwir amdani yw ein bod yn creu risg o tua £60 miliwn y flwyddyn nesaf. Felly, os na allwn ddod o hyd i'r arbedion hynny, rwy'n mynd i orfod gwneud penderfyniad anodd iawn fel Gweinidog iechyd i ddod o hyd i doriadau mewn meysydd eraill. Ond rydym wedi edrych ar hyn mewn cryn dipyn o fanylder, rydym yn credu y gallwn ei wneud, a bydd yn llawer haws cyflawni hyn os ydym yn ei wneud gyda'r undebau llafur, ac yn amlwg, gyda rheolwyr y bwrdd iechyd.

Y peth arall y gwnaethoch chi sôn amdano yw oriau gwaith. Fel y dywedwch, byddwn yn sefydlu gweithgor, a bydd y grŵp hwnnw'n adrodd erbyn yr hydref. Ymddeol a dychwelyd—mae yna elfen o hyn, yn amlwg, sydd yn nwylo Llywodraeth y DU i bob pwrpas, oherwydd mae peth ohono'n ymwneud â phensiynau. Felly, unwaith eto, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, i ofyn iddynt ystyried materion mewn perthynas â phensiynau i'r rhai sy'n barod i ymddeol. 

Ac adfer lefelau cyflog, fel egwyddor yn unig, rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod bod erydu wedi digwydd dros y blynyddoedd, ac wrth gwrs, mewn byd delfrydol, hoffem weld symud tuag at adfer lefelau cyflog. 

15:35

A gaf i wneud sylw yn gyntaf am y cynnig codi'r cyflog o 1.5 y cant, achos dim ond y swm hwnnw sy'n cael ei ystyried fel codiad cyflog, nid y bonws, wrth gwrs? Dwi'n hollol glir nad ydy o'n ddigon i wneud i fyny am flynyddoedd lawer o dorri cyflog mewn termau real, ond mae'n hollol iawn mai aelodau undebau eu hunain rŵan fydd yn penderfynu pa un ai i'w dderbyn o a'i peidio. 

O ran y mater yma o pay restoration, mae'n dda clywed ymrwymiad mewn egwyddor; beth fyddwn i'n licio'i glywed gan y Gweinidog ydy cynllun ar gyfer mynd i'r afael â'r ffaith ein bod ni wedi gweld degawd a mwy o dorri cyflog. 

Newydd weld y cynlluniau ydyn ni am y materion sydd ddim yn ymwneud â chyflog. Mae'n bwysig iawn, iawn, ein bod ni'n cael rhagor o fanylion am yr hyn sy'n cael ei gynnig, achos mae methiant i ddelio efo gymaint o'r elfennau hynny yn rhan fawr o beth sydd wedi gyrru pobl i weithio mwy a mwy fel asiantaeth, wrth gwrs. Dwi jest, yn sydyn, am ganolbwyntio ar weithio asiantaeth. Mae gen i gopi yn fan hyn o'r gytundeb rhwng NHS Cymru a'r holl asiantaethau sydd yn darparu staff iechyd yng Nghymru. Nyrsio—148 asiantaeth wedi arwyddo'r cytundeb hwn. Mae rhai ohonyn nhw'n arbenigol, ond beth sydd gennym ni yn y fan hyn ydy prawf o scale y preifateiddio sydd wedi digwydd o'r gweithlu o fewn yr NHS—148 o gwmnïau yn gwneud elw oddi ar gefn nyrsys, oddi ar gefn yr NHS yng Nghymru. Ac mae'r cytundeb yn dweud yn glir faint maen nhw'n cael eu talu—rhwng £30 a £48 yr awr, plus VAT, am staff nyrsio band D. Mae'r nyrsys eu hunain yn cael eu talu o £20 i fyny—30 y cant a mwy o cut yn mynd i'r asiantaeth. Pa bryd ydyn ni'n mynd i weld symudiad go iawn oddi wrth y math yma o gytundeb, sy'n sugno arian allan o'n gwasanaeth iechyd ni yng Nghymru? Faint o arian, ac o fewn pa amserlen ydych chi angen ei wario er mwyn cyllido'r codiad cyflog bach rydych chi wedi ei gynnig ar hyn o bryd?

Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y banc nyrsio cenedlaethol yn rhywbeth sydd yn digwydd go iawn er lles ein nyrsys, er lles ein cleifion o fewn yr NHS, ac er mwyn gallu delifro cyflogau uwch a theg mewn blynyddoedd i ddod. 

Diolch yn fawr. Ni fu hwn yn gynnig hawdd i'w negodi, a'r hyn y llwyddasom i'w wneud yw cael sefyllfa lle, ar ben y £1,400, sef yr argymhelliad gan y corff adolygu cyflogau annibynnol, rydym wedi dod o hyd i 3 y cant ychwanegol nawr—1.5 y cant ohono'n gyflog cyfunedig a 1.5 y cant yn anghyfunol. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol yw, os na chaiff y pecyn hwn ei dderbyn—ac rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fy mod yn hollol glir mai dyma'r unig gynnig sydd ar y bwrdd—os caiff y cynnig hwn ei wrthod, ni fyddwn yn gallu gwneud unrhyw gynnig cyflog uwch ar gyfer 2022-23. Dyna'r realiti neu'r sefyllfa. Felly, hwn neu ddim byd yw hi. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall mai dyna rydym yn siarad amdano fan hyn. 

Felly, o ran beth mae hynny'n ei olygu, bydd y rhai ar waelod band 5, sy'n cynnwys nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd newydd ddechrau ar eu gyrfaoedd yn y GIG, wedi derbyn cyfanswm codiad cyflog o 8.62 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. A bydd ein staff ar y cyflogau isaf wedi cael codiad cyflog o 14.15 y cant. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn clywed y ffigyrau hynny, oherwydd nid yw hwnnw'n lle afresymol i setlo. 

Nawr, o ran yr asiantaeth, edrychwch, rwy'n credu ein bod i gyd wedi ymrwymo i leihau faint o arian a wariwn ar weithwyr asiantaeth. Rydym wedi bod yn ymladd tanau fesul un ers amser hir iawn; nid wyf yn meddwl y gall unrhyw un wadu hynny. Rydym yn mynd i gadw ein ffocws yn llwyr ar hyn nawr. Dyna pam y gwelwch chi rywfaint o fanylion yr hyn rydym am ei wneud yn y strategaeth weithredu ar gyfer y gweithlu a gyhoeddais yr wythnos diwethaf, a bydd cronfa Cymru gyfan yn rhan o hynny wrth gwrs.

15:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am eich datganiad, Weinidog, a hefyd y diweddariad i gwestiynau rydych chi wedi eu cymryd y prynhawn yma. Rwy'n sylwi o'r undebau sydd wedi'u rhestru nad yw Unite yn cael eu rhestru yno fel undeb sy'n rhan o'r trafodaethau, ond rwy'n deall eich bod wedi cael trafodaethau ddydd Sul gyda'u hysgrifennydd cyffredinol cenedlaethol. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â beth oedd wedi'i gynnwys yn y trafodaethau hynny? O ystyried nad ydynt yn rhan o'r datganiad hwn a'r sefydliadau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn, sut rydych chi'n gweld eich hun yn gallu datrys yr anghydfod gydag Unite, oherwydd yn amlwg mae hwnnw'n anghydfod sy'n parhau ar draws yr ystad iechyd?

Diolch yn fawr. Fe wneuthum gynnal trafodaethau anffurfiol iawn gydag ysgrifennydd cyffredinol Unite a oedd yn digwydd bod yng Nghymru ar y penwythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn pwysleisio mai trafodaethau anffurfiol oedd y rhain gan fod Unite, drwy beidio â rhoi'r gorau i'w gweithredu diwydiannol, wedi eithrio eu hunain nawr o'r bwrdd trafod. Felly, popeth sydd wedi cael ei drafod y prynhawn yma mewn perthynas â'r agweddau nad ydynt yn ymwneud â chyflog o'r hyn y soniwn amdano, nid oedd Unite yn yr ystafell pan oedd hynny'n cael ei drafod. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i gyrraedd sefyllfa lle nad ydym yn gweld mwy o weithredu diwydiannol mewn perthynas ag iechyd yng Nghymru, ond byddwn yn gweithio gyda'r rhai sy'n gefnogol i wneud yn siŵr y gallwn symud ymlaen lle mae hynny'n ymarferol.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym i gyd yn cydnabod y manteision i iechyd a lles o fynd allan i'r awyr agored, ac mae cerdded yn ffordd wych o wneud hynny. Ond nid ydym i gyd yn mynd i heidio i Ben y Fan neu Eryri, ac ni ddylem orfod gwneud hynny ychwaith. Beth pe bai ffordd o weithio gyda phobl ar draws Cymru i wella natur a mynediad at gerdded yn eu hardaloedd lleol? Mae hynny'n syniad gwych, ac mae wedi hen ddechrau.

Drwy gydol 2022 a 2023, mae'r prosiect Llwybrau at Les wedi rhoi adnoddau a hyfforddiant i 18 o gymunedau ledled Cymru ar gyfer gwella natur a mynediad at gerdded yn eu hardaloedd lleol. Mae prosiect blaenllaw y Cerddwyr, sy'n werth £1.2 miliwn, yn gwella mynediad at fannau gwyrdd lleol, gan weithio ar lawr gwlad gyda gwirfoddolwyr i roi'r offer a'r hyfforddiant am ddim sydd ei angen i nodi a llunio llwybrau newydd, ac i wella ac uwchraddio'r rhai presennol. Maent hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r 22 awdurdod lleol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Coed Cadw ac eraill i wella'r amgylchedd lleol i natur allu ffynnu. Gyda gweithgareddau fel plannu coed, hau blodau gwyllt a dyddiau gweithgaredd bywyd gwyllt, mae digon o weithgareddau i bobl o bob oedran a chefndir gymryd rhan ynddynt. Fe'i harweinir gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Drwy fuddsoddi mewn gwirfoddolwyr lleol i reoli ac ymgymryd â gwaith cynnal a chadw llwybrau a gwella cynefinoedd ymarferol, ymgysylltu â'r gymuned, bydd llwybrau a mannau gwyrdd yn cael eu cryfhau, a bydd manteision iechyd a lles natur a gweithgarwch corfforol awyr agored yn cael eu gwireddu hefyd. Felly, diolch i'r Cerddwyr, mudiad rwy'n is-lywydd balch arnynt, ac i bob partner am y prosiect arloesol hwn yma yng Nghymru.

Ddydd Llun nesaf yw canmlwyddiant darlledu radio o Gymru. Cafodd ei lansio yng Nghaerdydd o ystafell uwchben siop gerddoriaeth ar Stryd y Castell a dyma'r fenter ddarlledu gyntaf y tu allan i Lundain. Yn syfrdanol, llwyddodd pobl o Bontypridd, Rhymni, Casnewydd a Gwent i wrando ar ddarllediad agoriadol radio 5WA. Syfrdanol, oherwydd, oni bai eich bod yn gallu fforddio'r hyn sy'n cyfateb i gyflog pythefnos i brynu radio, roedd yn rhaid ichi ddibynnu ar ryw amatur galluog a oedd wedi meistroli'r gwaith o addasu meicroffonau ffôn wyneb i waered i adeiladu radio grisial, neu efallai y gallech fod wedi mynychu parti gwrando, fel yr un a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. 

Roedd repertoire y gerddorfa radio, y saith ohonynt, yn cynnwys ffefrynnau cyfoes fel My Life Belongs to You Ivor Novello a Dafydd y Garreg Wen. Roedd yr olaf, a gâi ei chanu gan Mostyn Thomas o Flaenau Gwent yn ffres o'i fuddugoliaeth yn yr Eisteddfod yn 1922, yn hanesyddol gan mai dyna'r tro cyntaf erioed i'r Gymraeg gael ei darlledu.

Nawr, aeth yr amaturiaid hyn—roeddent i gyd yn amaturiaid ar y dechrau—drwy bum rheolwr gorsaf yn y chwe wythnos gyntaf ar yr awyr. Am ddau ddiwrnod yn unig y parhaodd yr 'uncle' cyntaf, uncle Fred. Roedd uncle Arthur, ar y llaw arall, yno i aros. Roedd Arthur Corbett-Smith yn awyddus iawn i sicrhau bod y BBC ar gyfer Cymru a gorllewin Lloegr yn mynd i gael naws lawer mwy hamddenol na'r hyn a gâi ei ddarlledu o Lundain. Er ei fod yn cydymffurfio'n llawn â'r egwyddorion Reithaidd, 'addysgu, diddanu a hysbysu,' roedd am iddynt ddigwydd yn yr un rhaglen, nid mewn seilos. Felly, cafodd anerchiadau eu galw'n sgyrsiau; roedd gan Lundain eu Children's Hour, ond roedd gan Gymru awr y 'Kiddiewinks'. Os ydych chi am ddysgu mwy am hyn, gwrandewch ar y cyngerdd a gaiff ei ddarlledu ddydd Llun, cyngerdd a fynychais ddydd Sul diwethaf pan gafodd ei recordio. Yn yr un modd, gallwch wrando ar The Ministry of Happiness y BBC, comedi sefyllfa sy'n cael ei darlledu ar hyn o bryd ac a gafodd ei lansio er cof am y darlledwyr arloesol hyn.

15:45

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, sy'n dathlu a hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i mewn i waith a'r buddion y maent yn eu cynnig i unigolion a chyflogwyr. Hoffwn dynnu sylw arbennig at waith ColegauCymru, sy'n cydlynu'r rhwydwaith o 13 coleg addysg bellach i ddarparu rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd galwedigaethol, o'r lefel iau i'r lefel sylfaen a phrentisiaethau uwch. Mae gan golegau Cymru gysylltiadau cryf â diwydiant a systemau cymorth sefydledig iawn i ddysgwyr, gan gynnwys canolfannau cyflogaeth a menter penodedig sydd bellach ym mhob coleg yng Nghymru. Mae'r sector addysg bellach mewn sefyllfa dda i helpu i ddarparu'r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr gychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus a chynhyrchu a chadw gweithlu medrus i helpu i ddiwallu'r galw yn y presennol a'r dyfodol ar gyfer busnesau ac economi Cymru.

Rwyf hefyd am fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at ddwy stori lwyddiant o golegau yn fy rhanbarth i. Mae Arjundeep Singh, myfyriwr BTEC peirianneg fecanyddol a thrydanol yng Ngholeg y Cymoedd, wedi ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn a gwobr gwaith gorau, yn ogystal â phrentis y flwyddyn yng Ngwobrau Fforwm Busnes Caerffili. Mae bellach ar fin dechrau mewn swydd amser llawn yn British Airways. Daeth Ffion Llewellyn, sy'n gwneud ei harholiadau safon uwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn llysgennad y Gymraeg ar ran y coleg hwnnw, a sefydlodd foreau coffi wythnosol i glwb dysgwyr Cymraeg y coleg, arweiniodd gyfrif TikTok Dysgu Cymraeg y coleg a chymerodd ran mewn podlediadau llesiant yn y Gymraeg fel rhan o academi cyfryngau Jason Mohammad. Mae Ffion bellach yn gwneud prentisiaeth cynhyrchu yn y Gymraeg gyda'r BBC.

Mae'r rhaglen brentisiaethau yn elfen hanfodol o gynnig galwedigaethol addysg bellach sy'n cefnogi dysgu mewn colegau a darparu cymorth ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd yn y gymuned. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i godi'r proffil ac egluro bod gwahanol lwybrau yn bodoli i gael mynediad at brentisiaethau a chaniatáu i'n myfyrwyr gael mynediad at yr amrywiaeth eang o rolau sydd ar gael iddynt. Diolch.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—'Absenoldebau disgyblion'

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Absenoldebau disgyblion'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM8195 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Absenoldebau disgyblion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg ar absenoldeb disgyblion. Fe wnaethom gynnal ymchwiliad arbennig byr yr haf diwethaf i geisio deall effaith y pandemig ar bresenoldeb yn yr ysgol.

Roeddem yn gwybod, cyn y pandemig, fod ffocws cryf wedi bod, yn yr ysgol ac ar lefelau cenedlaethol, i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol. Roeddem eisiau adeiladu ar adroddiad gan Meilyr Rowlands ar absenoldeb o'r ysgol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd ein canfyddiadau'n cyd-fynd yn helaeth â chanfyddiadau ei adroddiad ef, ac rydym yn gobeithio eu bod o gymorth mawr i Lywodraeth Cymru.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am eu diwydrwydd wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, yn ogystal â'r rhai a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i'r teuluoedd a'r bobl ifanc a ddaeth i'n grwpiau ffocws i drafod eu profiadau. Mae ein cynllun strategol yn rhoi pwyslais enfawr ar bwysigrwydd clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i glywed a gosod y lleisiau hyn ar y blaen. Gallaf eich sicrhau bod eich lleisiau wedi bod yn help mawr wrth lunio ein gwaith. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei gyfraniad cadarnhaol i'n gwaith ar y mater hwn.

Fe wnaethom saith argymhelliad i gyd, a chafodd pob un ohonynt eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu eu canllawiau presenoldeb ar hyn o bryd, ac rydym yn falch o weld y Gweinidog yn ymrwymo i'r adolygiad hwn, sy'n cwmpasu'r canllawiau ar waharddiadau ac ymddygiad, gan fod cysylltiad agos rhwng y materion hyn. Rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad y bydd y canllawiau diwygiedig yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn seiliedig ar ymarfer sy'n ystyriol o drawma a thystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio mewn gwirionedd.

Clywsom dystiolaeth glir iawn fod gan bawb ran i'w chwarae yn y gwaith o hyrwyddo a chefnogi presenoldeb cyson. Felly, mae'n dda clywed gan y Gweinidog y bydd y canllawiau hyn yn nodi'r rolau y gall pob partner eu chwarae, gan fynd y tu hwnt i staff yr ysgol yn unig, a chwmpasu awdurdodau lleol, llywodraethwyr, a rhieni a gofalwyr wrth gwrs.

Yn ystod y pandemig, newidiodd y math o ddata presenoldeb a gafodd ei gasglu a'i gyhoeddi, sy'n ei gwneud hi'n anodd cymharu'r data ar bresenoldeb sydd ar gael cyn y pandemig a'r data sydd ar gael nawr. Ond mae'r tueddiadau cyffredinol yn dangos bod lefelau presenoldeb wedi gostwng ers i'r ysgolion gau yn sgil y pandemig. Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, presenoldeb cyfartalog y flwyddyn academaidd gyfredol oedd 91.4 y cant. O ddata diweddaraf Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd y bore yma, roedd presenoldeb cyfartalog y flwyddyn academaidd hon wedi gostwng i 89.3 y cant. Mae'r data hefyd yn dangos bod y gyfradd presenoldeb yn is ymhlith dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag ymhlith dysgwyr nad ydynt yn gymwys.

Clywsom dystiolaeth anecdotaidd fod yr argyfwng costau byw yn creu rhwystr ychwanegol i blant a phobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol. Er bod hyn yn anecdotaidd, mae'n adeiladu ar bryderon hirsefydlog am effaith cost y diwrnod ysgol a'r rhwystrau y gall eu creu. Roedd hefyd yn dystiolaeth anecdotaidd yr oedd yr holl randdeiliaid i'w gweld yn cytuno â hi. Ac rydym yn glir iawn na ddylai'r un plentyn golli ysgol am nad yw eu teulu'n gallu fforddio iddynt fod yn bresennol. Mae hyn yn cynnwys anfanteision sydd eisoes yn bodoli, ac sy'n sylfaenol annheg.

Felly, fe wnaethom argymhelliad 2 a alwai am astudiaeth frys i weld sut mae'r argyfwng costau byw presennol yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol. Oherwydd bod y dystiolaeth hon yn anecdotaidd ar hyn o bryd, roeddem yn pryderu ei bod yn ei gwneud hi'n anos creu atebion ac ymyriadau polisi effeithiol. Fe wnaethom alw am wneud hyn o fewn dau fis i ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, ac iddo gael ei gefnogi gan gynllun gweithredu.

Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr amserlen a nodwyd yn heriol. Dywedasant eu bod mewn trafodaethau anffurfiol gydag awdurdod lleol ynglŷn â chynnig ymchwil a fyddai'n edrych yn fanwl ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd, gan ganolbwyntio ar ba ddulliau ac ymyriadau sy'n cael yr effaith fwyaf ar deuluoedd incwm is. Nawr, er bod hwn yn swnio fel gwaith addawol, nid yw'n cyrraedd uchelgais ein hargymhelliad. Fe wnaethom osod amserlen heriol iawn ar gyfer yr argymhelliad oherwydd ein bod yn teimlo angen i ddeall ar frys sut mae'r argyfwng presennol yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol ar hyn o bryd ac i nodi pa gamau y gellir eu cymryd yn gyflym i fynd i'r afael â'r broblem. Os yw plant a phobl ifanc yn dechrau colli ysgol am nad ydynt yn gallu fforddio mynychu, rydym yn poeni y bydd hyn yn ei gwneud hi'n anos ail-ennyn eu diddordeb mewn addysg po hiraf y byddant yn absennol.

Nodwn hefyd mai edrych ar bresenoldeb yn yr ysgol uwchradd yn unig y byddai'r cynnig ymchwil hwn yn ei wneud. Nid yw'n glir ychwaith a fyddai'r cynnig yn edrych ar y darlun ar draws Cymru. Efallai y gall y Gweinidog amlinellu pa waith y mae'n bwriadu ei wneud i edrych ar y dystiolaeth mewn lleoliadau cynradd. A Weinidog, a allwch chi hefyd gadarnhau y byddai'r cynnig ymchwil yn cwmpasu Cymru gyfan, ac os nad ydych yn gallu cefnogi'r cynnig ymchwil a nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru, pa waith a allai gymryd ei le?

Roedd cysylltiad agos rhwng y materion costau byw ag argymhelliad 3, ar deithio gan ddysgwyr. O'n gwaith ar y pwyllgor hwn ond hefyd fel Aelodau unigol—rhywbeth y gwnaethom ei drafod ddoe hefyd yn y ddadl ar y gyllideb—rydym yn ymwybodol iawn o'r rhwystrau y mae rhai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu i gael mynediad at gludiant priodol a fforddiadwy i'r ysgol. Fe wnaethom alw am ddull o wneud penderfyniadau teithio sy'n rhoi'r disgybl yn gyntaf, gydag anghenion y disgybl unigol yn hytrach na chost yn ffactor bwysicaf. Rydym yn cydnabod bod hyn yn gofyn llawer gan awdurdodau lleol mewn cyfnod anodd yn ariannol, felly galwasom ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o gyllid i allu cyflawni. Fe alwasom hefyd am sicrhau bod yr adolygiad presennol yn radical wrth chwilio am atebion arloesol i'r broblem hirsefydlog hon. Ni ddylai presenoldeb plant yn yr ysgol gael ei rwystro am nad oes ganddynt opsiynau cludiant fforddiadwy neu ddiogel.

Wrth ymateb, mae'r Gweinidog yn amlinellu'r adolygiad presennol a'r newidiadau sydd i ddod i'r ddarpariaeth o wasanaethau bws. Fodd bynnag, rydym yn pryderu, fel gyda'r argymhelliad blaenorol, nad yw hyn yn adlewyrchu'r angen brys i fynd i'r afael â'r mater hwn nawr. Felly, pryd fydd yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi ei gwblhau, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld camau gweithredu'r adolygiad yn cael eu gweithredu?

Yn olaf, hoffwn ofyn am fwy o eglurder gan y Gweinidog ar yr ymateb i argymhelliad 1 a alwai am ymgyrch genedlaethol yn canolbwyntio ar effeithiau cadarnhaol presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol. Credwn y dylid cyflwyno hyn ar y cyd ag ymgyrchoedd lleol wedi'u haddasu'n well ar lefel awdurdod lleol ac ysgol, a fyddai'n ategu ymgyrch genedlaethol. Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu cyfathrebiadau er mwyn pwysleisio pwysigrwydd mynd i'r ysgol. A all roi mwy o fanylion i ni ynglŷn â fformat y cyfathrebiadau hyn, ac ai dyma'r ymgyrch genedlaethol y mae'r pwyllgor am ei gweld?

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad unwaith eto, gan gynnwys y rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar, i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, a'r Gweinidog a'i swyddogion am ymwneud yn gadarnhaol â'n gwaith. Rwy'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan gyd-Aelodau a'r Gweinidog i'w ddweud. Diolch.

15:55

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd rhagorol, Jayne Bryant, a hefyd i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, wrth gwrs, a'r clercod, y staff a'r bobl a roddodd dystiolaeth ac a wnaeth yr adroddiad hanfodol hwn yn realiti—ac wrth gwrs, i'r Gweinidog am ei gydweithrediad hefyd. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â lefelau absenoldeb disgyblion sy'n codi'n aruthrol, problem sydd wedi'i gwaethygu, fel y clywsom eisoes, gan y pandemig a'r argyfwng costau byw. Credaf fod yr adroddiad yn un trylwyr a hoffwn ganolbwyntio ar ambell fater allweddol sy'n codi ohono heddiw.

Rydym wedi gweld bod disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hamddifadu o gefnogaeth briodol ac amserol, ac mae hynny'n arwain at absenoldeb cyson o'r ysgol. Canfu Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru fod 43 y cant o fyfyrwyr awtistig yn absennol yn gyson, ystadegyn sy'n peri pryder. Gwelwn hefyd mai myfyrwyr sy'n byw mewn tlodi, fel y dywedwyd eisoes, yw cyfran uchel o'r rhai sy'n absennol o'r ysgol, ac roedd hyn yn glir iawn yn yr adroddiad drwyddo draw.

Canfu arolwg blynyddol tlodi plant a theuluoedd 2021 fod 94 y cant o addysgwyr yng Nghymru yn dweud bod tlodi wedi cael effaith ar brofiad ysgol plentyn, sydd wrth gwrs wedi ei waethygu bellach gan yr argyfwng costau byw a'r pandemig. Mae'r tueddiadau presennol yn achos braw, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr fynychu'r ysgol, a'n bod mor gefnogol â phosibl i ddysgwyr unigol gyda'u hanghenion unigol, er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli'r addysg y maent oll yn ei haeddu.

Mae'n amlwg o'r argymhellion fod angen dull amlweddog arnom i sicrhau ein bod yn atal y duedd bryderus hon. Mae argymhelliad 3 yr adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid digonol gan awdurdodau lleol, fel yr amlinellodd ein Cadeirydd eisoes, i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc fynediad at opsiynau cludiant ysgol priodol ar gyfer eu cludo i'r ysgol yn ddiogel. Mae hyn yn gwbl hanfodol, yn enwedig pan fo cyllidebau awdurdodau lleol mor dynn yn yr hinsawdd bresennol.

Fodd bynnag, dull Llywodraeth Cymru yw derbyn hyn mewn egwyddor yn unig, a'i gynnwys gyda'r Papur Gwyn 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn', sydd yn fy marn i yn lleihau pwysigrwydd y mater hwn ac yn creu oedi cyn y ceir gweithredu go iawn. Fel y dywedais yn y pwyllgor—ac rwy'n gweld y pethau hyn yn fy rhanbarth fy hun yn llawer rhy reolaidd, fel pawb ohonom—mae angen y dull disgybl yn gyntaf a gyflwynwyd gan y pwyllgor. Mae angen ei ddiwygio'n gyfan gwbl, ac nid gwneud addasiadau bach yn unig.

Ond mae'n rhaid cofio bod yna blant nawr sydd angen help gyda chludiant i'r ysgol, ac ni allwn aros i'r Papur Gwyn droi'n weithredu ymhen blynyddoedd i ddod. Mae angen inni weld gweithredu ar unwaith i ehangu'r cynnig cludiant i'r ysgol, gan leihau'r gost i rieni, oherwydd, am y tro, mae nifer yn methu fforddio cludiant i'r ysgol, ac ni allant fforddio gyrru eu plant i'r ysgol chwaith. Mae hyn yn creu sefyllfa ofidus i rieni, ac wrth gwrs mae'n effeithio ar y dysgwyr ac yn effeithio ar lefel yr absenoldeb a welwn. Rwy'n cytuno'n llwyr â Jayne Bryant na ddylai hyn fod yn rhwystr i ddysgu yn yr oes sydd ohoni.

Mae argymhelliad 4 yn mynd i'r afael â'r myfyrwyr sy'n fwyaf tebygol o fod yn absennol, a pham. Fel y gwyddom o'r adroddiad, gall amrywio o anghenion ADY i broblemau iechyd meddwl, a materion iechyd meddwl nad ydynt yn cael sylw digonol a chefnogi dysgwyr i allu aros yn yr ysgol. Er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac y byddant yn ystyried data absenoldeb a gwahardd i lywio cefnogaeth i lesiant dysgwyr, mae'n hanfodol, lle bo angen cymorth, ei fod yn cael ei gyflwyno ar frys ar lawr gwlad lle mae ei angen. Mae'r data'n ddiystyr heb y gefnogaeth briodol i'w ddilyn, ac rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyn heb dderbyn yr argymhelliad.

Mae angen inni wybod hefyd sut bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r ddarpariaeth a'i llwyddiant neu ei methiant. Hoffwn hefyd i'r Gweinidog fynd i'r afael â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y genhedlaeth hon o fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at gludiant i'r ysgol, nid dim ond canolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf, ac egluro sut mae'n sicrhau nad yw rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref yn cael eu cynnwys yn y ffigurau absenoldeb ysgol, gan ei bod yn hanfodol inni sicrhau bod y cyfrwng addysg hwnnw'n cael ei gadw'n agored a heb ei ddifwyno. Ond mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru—. Mae angen inni ddeall pam y gwelwyd cynnydd mor sylweddol yn nifer y rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref ers dechrau'r pandemig.

Mae'r adroddiad sydd ger ein bron yn tynnu sylw at y brys i fynd i'r afael â hyn, fel y nododd ein Cadeirydd, felly hoffwn glywed gan y Gweinidog sut mae'n gweithio nawr gydag awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion i sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r duedd bryderus hon yn lefelau absenoldeb disgyblion. Ydy, mae wedi gostwng ychydig, ond mae'r ffigurau'n dal i fod yn llawer rhy uchel. Diolch.

16:00

Hoffwn innau ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a fy nghyd-Aelodau, y clercod a phawb a gyfrannodd, ynghyd â’r Gweinidog. Mi oedd hwn ymchwiliad pwysig tu hwnt.

Fel sydd eisoes wedi ei amlinellu, rydyn ni i gyd yn gwybod pwysigrwydd presenoldeb o ran datblygiad dysgwyr mewn ysgolion, nid yn unig o ran eu cyrhaeddiad academaidd, ond hefyd eu datblygiad cymdeithasol, meddyliol ac emosiynol. Ond y ffaith amdani ydy, ledled Cymru, mae gormod o ddysgwyr yn colli cyfleoedd pwysig oherwydd absenoldeb, a’r hyn roeddem ni fel pwyllgor eisiau deall yn well oedd pam.

Fel soniwyd eisoes, roedd hon yn broblem cyn COVID, ond yn sicr mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny. Ac os na fydd gwella ar y sefyllfa hon yn fuan, yna bydd nifer o ddysgwyr yn colli allan ar lu o gyfleoedd a fydd wedyn yn effeithio arnynt am ddegawdau i ddod. Dyna pam bod yr adroddiad hwn mor allweddol bwysig.

Dwi’n croesawu’n benodol ymateb y Llywodraeth i’r ail argymhelliad, a’r cytundeb i gomisiynu ymchwil i ddeall yn well effaith yr argyfwng costau byw ar allu disgyblion i fynychu’r ysgol. Yn sicr, roedd y comisiynydd plant yn bendant o ran y cysylltiad rhwng absenoldeb a thlodi, a gyda tlodi plant yn cynyddu yma yng Nghymru, mae’n rhaid i ni ddeall yn well pam bod hyn yn digwydd a beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau’r dechrau gorau posibl i bob dysgwr sy’n mynychu ysgol.

Un mater a godwyd gyda ni fel pwyllgor, a sydd eisoes wedi ei godi—ac mae wedi’i godi efo fi fel Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru—yw’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â chost trafnidiaeth, a dyna fyrdwn trydydd argymhelliad y pwyllgor. Dwi’n falch o weld y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ond eto, mae o’n fy mhryderu i fod hyn yn cymryd gymaint o amser i’w ddatrys.

Rwyf wedi codi nifer o weithiau erbyn hyn gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd achos yn fy rhanbarth yn Ysgol Uwchradd Llanishen, sydd wedi ei godi gan Ruben Kelman, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Mae'r dystiolaeth yn glir gan yr ysgol fod cost bws yn atal rhai dysgwyr rhag mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Serch hynny, erys y sefyllfa hon heb ddatrysiad. Faint mwy o bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio fel hyn? A pham nad yw cynghorau megis Cyngor Caerdydd ac eraill yn ymateb yn syth i ddatrys sefyllfaoedd o’r fath, pan rydym yn derbyn tystiolaeth bod plant yn methu fforddio mynd i’r ysgol?

Hoffwn hefyd ganolbwyntio ar un maes allweddol arall a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein hymchwiliad, sef capasiti staffio, neu'n hytrach diffyg capasiti staffio, a sut mae'n un o'r rhwystrau mwyaf i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion. Fel y clywsom, mae'n broblem a gafodd ei gwaethygu oherwydd absenoldebau staff yn sgil COVID-19, ac anawsterau i sicrhau staff cyflenwi, ond mae heriau eraill hefyd, yn gysylltiedig â'r gyllideb ddrafft, a drafodwyd gennym ddoe. Rydym eisoes wedi cael rhybudd gan undebau athrawon y bydd cyllidebau ysgolion dan straen, gyda phenaethiaid yn rhybuddio y bydd yn rhaid iddynt ystyried torri'n ôl ar athrawon a chynorthwywyr addysgu, yn ogystal â chymorth ychwanegol i ddisgyblion a'u teuluoedd.

Fodd bynnag, daw ein hadroddiad i'r casgliad fod yna bryderon sylweddol eisoes ynghylch capasiti staffio a gwytnwch i gefnogi presenoldeb disgyblion. Roedd rhywfaint o hyn yn cyfeirio'n benodol at gefnogi dysgu cyfunol a hyblyg hefyd. Yn y pen draw, ceir grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol sy'n eu hatal rhag mynychu'r ysgol, nifer ohonynt nad oes ganddynt reolaeth drostynt. Gall dysgu cyfunol, newid a ddatblygwyd yn ystod y pandemig, gynnig opsiwn effeithiol i helpu'r grwpiau hyn o ddysgwyr i gynnal presenoldeb. Ni fydd dychwelyd i normal yn gweithio yn y sefyllfa hon, ac mae'n bosibl y bydd y gallu i ddefnyddio'r arferion newydd hyn yn helpu i gefnogi'r dysgwyr hynny.

Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr angen i wella'r gwaith o gasglu data yn ogystal â chyhoeddi a dadansoddi data ar absenoldeb disgyblion. Mae'r angen am ddata wedi'i ddadgyfuno yn hanfodol er mwyn nodi tueddiadau absenoldeb ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr. Mae angen inni anfon neges glir at bawb nad yw presenoldeb yn opsiynol i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol, ac os oes rhwystrau sy'n effeithio ar bresenoldeb, yn enwedig costau, mae angen inni weithredu ar frys. Mae addysg yn hawl ac ni ddylai unrhyw blentyn na pherson ifanc golli diwrnod o ysgol am nad yw eu teuluoedd yn gallu fforddio iddynt fynychu.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr argymhellion yn cael eu gweithredu, ac unwaith eto rwy'n gofyn i bawb sy'n gallu helpu i wireddu'r argymhellion hyn eu gweithredu ar frys. Mae pob diwrnod sy'n cael ei golli yn yr ysgol gan ddysgwr yn ddiwrnod sy'n ehangu'r bwlch cyrhaeddiad. Mae angen inni weithredu nawr.

16:05