Y Cyfarfod Llawn
Plenary
25/10/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a dyma gychwyn ar ein cyfarfod ni y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OQ58632
Llywydd, diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Rydyn ni yng nghanol argyfwng tlodi, ac yn gwneud popeth y gallwn ni ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant. Eleni, drwy raglenni sy’n amddiffyn cartrefi sydd dan anfantais, a chynlluniau sy’n rhoi arian nôl ym mhocedi pobl, rydyn ni wedi darparu gwerth £1.6 biliwn o gymorth.
Diolch, Prif Weinidog. Datgelodd y gwaith ymchwil diweddaraf gan Sefydliad Bevan bod nifer y bobl ar aelwydydd ag un neu ddau o blant sy'n gorfod lleihau faint o fwyd maen nhw'n eu bwyta bron wedi dyblu ers yr adeg yma y llynedd, gydag un o bob 10 teulu ag un plentyn, ac un o bob pum teulu â dau blentyn yn lleihau'r bwyd y maen nhw'n ei roi i'w plant. Felly, mae'r nifer syfrdanol yna o 6,300 o blant y cofnodwyd eu bod yn byw mewn tlodi yn fy sir enedigol, Castell-nedd Port Talbot, yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, wedi codi hyd yn oed yn uwch dros yr wythnosau diwethaf wrth i gostau bob dydd saethu i fyny. Ac rydym ni'n gwybod bod y tlodi hwn yn achosi anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau, rhywbeth y mae 114 aelod o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi tynnu sylw ato yn eu llythyr agored diweddar atoch chi, sy'n rhybuddio nad oes gan Gymru strategaeth wedi'i chanolbwyntio ac amlwg, sy'n pennu targedau penodol i leihau tlodi plant a chanlyniadau iechyd anghyfartal. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun y bobl a fyddai'n gwneud i'r pecyn cyflog fynd ymhellach, yn ymestyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd ac yn cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Prif Weinidog, a wnewch chi wrando ar eiriau'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac a wnewch chi weithio gyda Phlaid Cymru i ddiogelu plant Cymru rhag tlodi?
Wel, Llywydd, diolch i Sioned Williams am rai o'r ffeithiau pwysig iawn hynny. Rwy'n credu fy mod i wedi adrodd yn flaenorol i'r Senedd bod pwyllgor costau byw'r Cabinet yn cyfarfod yn wythnosol, ac, ar ddechrau pob cyfarfod, rydym ni'n clywed ar hyn o bryd gan grwpiau arbenigol sy'n gallu rhoi'r wybodaeth a'r syniadau diweddaraf i ni ynglŷn â sut y gallwn ni wneud mwy i helpu pobl yng Nghymru. Fe wnaeth pwyllgor y Cabinet gyfarfod ddoe, a ddoe roedd y dystiolaeth arbenigol yn wir gan Sefydliad Bevan. Aeth prif weithredwr y sefydliad drwy nifer o'r pwyntiau y mae Sioned Williams wedi eu codi y prynhawn yma, ac aeth drwy'r pethau y mae'r sefydliad yn credu sy'n cael effaith gadarnhaol yma yng Nghymru gyda ni, y pethau rydym ni wedi eu gwneud ar y cyd â Phlaid Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim—ac mae dros 4,000 o blant ychwanegol yn rhanbarth yr Aelod yn derbyn pryd ysgol am ddim o ganlyniad i'r gwaith rydym ni wedi ei wneud gyda'n gilydd—ac edrych ar effaith y cymorth rydym ni'n ei roi gyda chost y diwrnod ysgol, a gyda'r gronfa cymorth dewisol, gyda dros 4,500 o ddyfarniadau yn rhanbarth yr Aelod yn unig ym mis Medi. Yr holl bethau ymarferol hynny yr ydym ni'n gallu eu gwneud, a'r agweddau ymarferol y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arnyn nhw. Mae gwaith yn cael ei wneud, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, ar strategaeth tlodi plant ond, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio llai ar strategeiddio nag yr ydym ni ar nodi'r camau ymarferol hynny y gallwn ni gynorthwyo â nhw a fydd yn helpu'r teuluoedd hynny a'r plant hynny drwy'r gaeaf hwn.
Rwy'n falch iawn, Llywydd, o weld mwy o awdurdodau lleol yn nodi'r ffyrdd y byddan nhw'n defnyddio'r gronfa ddewisol yr ydym ni wedi ei darparu iddyn nhw i helpu teuluoedd drwy'r gaeaf hwn, a gwn y bydd Sioned Williams yn falch o weld, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn ei rhanbarth hi, bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu defnyddio'r arian sydd ganddyn nhw nawr i ddarparu £50 i deuluoedd ar gyfer pob plentyn ym mhob teulu sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, a £150 i'r holl deuluoedd hynny sydd â phlant sy'n byw mewn llety dros dro. Lle mae syniadau pellach, a phethau pellach y gallwn ni weithio arnyn nhw gyda'n gilydd, yna, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn awyddus i ymchwilio i syniadau sy'n ymarferol, ac sydd, o safbwynt ariannol, o fewn ffiniau'r posibl.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Brifysgol Loughborough a ddangosodd bod tlodi plant ledled y DU, yn 2020-21, wedi gostwng 4 y cant, ond, yng Nghymru, roedd wedi cynyddu 5 y cant. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pam mae'r ystadegau yn dweud wrthym ni fod eich Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â mynd i'r afael â thlodi plant?
Llywydd, nid yw'r ffigyrau'n dangos y fath beth. Yr hyn mae'r ffigyrau'n ei ddangos yw effaith toriadau i fudd-daliadau gan Lywodraeth y DU. Ac os ydych chi'n byw mewn rhan o'r wlad lle mae mwy o deuluoedd yn dibynnu ar fudd-daliadau, yna mae'r toriadau i'r budd-daliadau hynny, wrth gwrs, yn cael mwy o effaith. Gadewch i mi ddweud wrtho beth mae'r gwaith ymchwil ddiweddaraf yn ei ddweud wrthym ni am weithredoedd ei Lywodraeth. Mae'r Resolution Foundation yn canfod, os nad yw budd-daliadau'n cael eu codi yn unol â chwyddiant, yna bydd 300,000 o blant eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn canfod eu hunain mewn tlodi llwyr. Mae'n debyg mai dyma'r bedwaredd wythnos yn olynol yr wyf i wedi gwahodd y Ceidwadwyr Cymreig i ddweud eu bod nhw'n credu y dylid cynyddu budd-daliadau—[Torri ar draws.] Wel, os gwnaethoch chi ddweud hynny wythnos diwethaf, yna rwy'n falch iawn—[Torri ar draws.] Os gwnaethoch chi ei ddweud yr wythnos diwethaf, rwy'n falch dros ben o'i gydnabod, oherwydd rwy'n meddwl po fwyaf y gallwn ni siarad gyda'n gilydd ar y mater hwnnw, y mwyaf o ddylanwad fydd gennym ni. Ac o ystyried hynny, fel plaid, mae gennych chi allu uniongyrchol i ddylanwadu ar Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wybod eich bod chithau hefyd yn credu y dylid cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, byddai hynny'n newyddion da i'r teuluoedd tlawd hynny yng Nghymru. Hyd yn oed os yw budd-daliadau'n cael eu cynyddu yn unol â chwyddiant, yna mae'r Resolution Foundation yn dweud y bydd tlodi plant ar draws y Deyrnas Unedig yn codi i 34 y cant—yr uchaf ers dros 20 mlynedd. Ac i bobl sy'n ddibynnol ar gymorth di-waith sylfaenol, bydd gwir werth y cymorth hwnnw yn is nag yr oedd ar yr adeg pan oedd Mrs Thatcher yn Brif Weinidog y DU. Dyna pam rydych chi'n gweld y ffigurau rydych chi'n eu dyfynnu—oherwydd effaith y 12 mlynedd diwethaf ar incwm y teuluoedd tlotaf ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Mae llawer o blant yn byw mewn tlodi nad yw wedi'i achosi gan ddiogi neu afradlondeb rhieni; mae llawer o rieni yn gweithio dwy neu dair swydd, ond am isafswm cyflog, ar oriau afreolaidd. Mae ehangu prydau ysgol am ddim i ddarpariaeth gyffredinol o brydau bwyd i'w groesawu'n fawr. Pa gymorth pellach all Llywodraeth Cymru ei roi i gynorthwyo banciau bwyd, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud dadl i roi terfyn ar y tâl sefydlog gan gwmnïau ynni, sy'n golygu bod pobl yn talu am ynni ar ddiwrnodau nad ydyn nhw'n defnyddio unrhyw ynni? Dyma'r tâl mwyaf creulon sydd gennych chi—dydych chi ddim yn defnyddio unrhyw ynni am bum diwrnod, ac yna rydych chi'n cynhesu powlen o gawl, sy'n costio tua £2.50 neu £3.00 i chi.
Mae Mike Hedges yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, Llywydd. Rwy'n meddwl mai un o gelwyddau mwyaf niweidiol tlodi yw bod tlodi yn cael ei achosi rywsut gan y bobl sydd mewn tlodi. Nid wyf i erioed wedi cwrdd â phobl a allai reoli arian yn well na'r bobl hynny sydd â'r lleiaf i ymdopi ag ef—mae'n rhaid iddyn nhw. Ac mae'r syniad mai diogi neu afradlondeb rhieni sy'n gyfrifol i'w wrthod yn llwyr. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn arall i gynorthwyo gwaith gwrth-dlodi ar lefel gymunedol yng Nghymru dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Mae hynny bellach yn £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac mae llawer o hynny'n mynd yn uniongyrchol i fanciau bwyd, sydd bellach yn gweld bod y rhoddion yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw cynt yn lleihau wrth i deuluoedd hyd yn oed ymhellach i fyny'r lefel incwm fethu â rheoli effaith prisiau ynni a chwyddiant bwyd. Tynnodd Sioned Williams sylw at waith Sefydliad Bevan, Llywydd, a bydd yn gwybod nawr, yn y gwaith hwnnw, nad teuluoedd sydd ar yr incwm isaf oll yn unig sy'n dweud na allan nhw fforddio'r pethau sylfaenol erbyn hyn; mae teuluoedd ymhellach i fyny'r raddfa incwm yn dweud hynny hefyd, wrth i bobl ganfod bod y pethau y maen nhw wedi gwneud ymrwymiadau iddyn nhw pan oedden nhw mewn cyfnod gwell bellach y tu hwnt i'w cyrraedd.
Ac mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am daliadau sefydlog a'r mesuryddion talu ymlaen llaw, Llywydd, yn fy marn i, yn un o anghyfiawnderau mawr ein hoes. Codais hyn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU yng Nghyngor Prydain-Iwerddon pan gyfarfu ym mis Gorffennaf, ac ysgrifennais yn syth wedyn at Weinidog Llywodraeth y DU a oedd yn bresennol, gan ofyn iddo weithredu ar lefel y DU i ganslo taliadau sefydlog i bobl sy'n dibynnu ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Ni all fod dim gwaeth, Llywydd, a all yna, na chanfod, ar ôl methu â chael mynediad at ynni ers llawer o ddiwrnodau a chrafu'r arian at ei gilydd er mwyn gallu llenwi'r mesurydd talu ymlaen llaw eto, nad yw'r arian rydych chi wedi ei roi ynddo yn ddim byd tebyg i'r arian yr ydych chi wedi ei ganfod gan ei fod eisoes wedi cael ei gymryd oddi arnoch? Mewn llawer o achosion, byddwch wedi cael eich rhoi ar fesurydd talu ymlaen llaw oherwydd dyled. Mae 60,000 o gwsmeriaid mesuryddion talu ymlaen llaw newydd yn y Deyrnas Unedig hyd yma eleni. Mae eu mesuryddion yn cael eu graddnodi fel mai'r peth cyntaf y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw talu'r arian sy'n ddyledus ganddyn nhw yn ôl. Wedyn maen nhw'n canfod, yn yr holl ddiwrnodau pan nad oedd ganddyn nhw unrhyw drydan o gwbl, bod yn rhaid iddyn nhw dalu tâl sefydlog am gyfnod pan nad oedden nhw'n gallu cael mynediad at y gwasanaeth. Dychmygwch faint y mae'n rhaid bod hynny'n brifo. Mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am y camau y gellid eu cymryd, am gost isel iawn, rwy'n credu, i'r Llywodraeth neu i'r cwmnïau, i unioni'r anghyfiawnder hwnnw yn alwad hynod bwysig rydym ni wedi ei chlywed y prynhawn yma.
2. A wnaiff y Prif Weinidog nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd? OQ58597
Llywydd, prynhawn da i Dr Hussain. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gwbl groes i ddull trychinebus y Llywodraeth Geidwadol ddiweddaraf. Ochr yn ochr â busnesau ac mewn partneriaeth â nhw, rydym ni'n buddsoddi yn y seilwaith ffisegol sy'n hyrwyddo buddsoddiad a'r cyfalaf dynol sy'n gwella cynhyrchiant.
Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd eich Llywodraeth ei 'Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru—Llif Prosiectau', yn cyflwyno amrywiaeth o fuddsoddiadau mewn cymunedau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yr oedd awdurdodau lleol wedi ymrwymo iddyn nhw. Er fy mod i'n croesawu'r ymgais i nodi'r gweithgareddau hyn, mae'n amlwg bod amrywiaeth o heriau mawr bellach yn wynebu de'r wlad nad ydyn nhw'n cael sylw, ac nid lleiaf y tagfeydd parhaus ar yr M4 yn nhwneli Brynglas yng Nghasnewydd. Mae CBI Cymru wedi dadlau ers amser maith dros roi sylw i hyn er budd ein ffyniant a'n cyflogaeth yn ne a gorllewin Cymru. Yr wythnos hon hefyd yw Wythnos Genedlaethol Lorïau y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, a lansiwyd ganddyn nhw yn fy rhanbarth i ddoe. Dywedodd cludwyr ar y ffyrdd wrthyf i yn y lansiad bod oedi o amgylch Casnewydd yn aml yn gwthio gyrwyr dros eu horiau penodedig a bod y diffyg parciau lorïau hefyd yn cael effaith. Prif Weinidog, yn absenoldeb gwneud y peth iawn ac adeiladu ffordd liniaru, pa atebion amgen sydd gennych chi ar y gweill i ddatgloi'r cysylltiad hanfodol hwn i Gymru a gwella'r sefyllfa i gludwyr ar y ffyrdd Cymru? Diolch.
Llywydd, nid wyf yn bwriadu ail-fyw mater sydd wedi ei hen setlo yma yng Nghymru. Fe wnaeth y Blaid Geidwadol gyflwyno eu hachos i'r bobl yng Nghymru yn etholiad diwethaf y Senedd. Roedd adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn addewid blaenllaw a wnaeth Plaid Geidwadol Cymru, a methodd eich plaid ag ennill yr un sedd—yr un sedd—ar hyd yr M4 gyfan yn ne Cymru. Felly, os ydych chi'n credu bod eich dadl yn un gadarn, gallwch chi barhau i'w chyflwyno i bobl yng Nghymru, a byddwch yn parhau i gael yr un ateb.
Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw bwrw ymlaen â chynigion comisiwn Burns—cyfres o gamau ymarferol y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â thagfeydd wrth yr M4. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, fydd yn golygu y bydd traffig trwm sy'n dod o ganolbarth Lloegr yn gallu mynd yn uniongyrchol i dde-orllewin Cymru heb orfod dod i lawr a mynd trwy Gasnewydd. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, Llywydd, ceir her fawr sy'n wynebu Llywodraeth y DU nawr. Lansiodd Llywodraeth Johnson adolygiad cysylltedd y DU. Fe wnaethon ni roi tystiolaeth i adolygiad Syr Peter Hendy—nid wyf i'n credu bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud hynny—ac fe wnaethon ni hyrwyddo yno'r buddsoddiad sydd ei angen i wella'r ail reilffordd, yr ail brif linell, i lawr o dde Cymru, er mwyn gallu tynnu traffig oddi wrth yr M4 ac fel bod gan bobl well dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus amgen. Fe wnaeth adolygiad Hendy gymeradwyo'r ddadl yr ydym ni wedi ei gwneud, ac, i fod yn deg, mae Llywodraeth y DU wedi darparu swm bach o arian i ddatblygu'r syniadau a gymeradwywyd gan adolygiad Hendy. Nawr fe fydd penderfyniad mawr. Fe gawn ni weld a fydd Prif Weinidog diweddaraf y DU yn bwrw ymlaen â'r addewidion a wnaed yn adolygiad cysylltedd y DU a dangos eu bod nhw'n barod i fuddsoddi yng Nghymru, fel y gellir mynd i'r afael yn briodol â rhai o'r materion y mae Dr Hussain wedi'u crybwyll.
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn bwriadu dweud 'yr un sedd etholaeth ar hyd yr M4'.
Beth ddywedais i?
Fe ddywedoch chi 'yr un sedd'.
Yr un sedd etholaeth—mae'n ddrwg gen i.
Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ofni bod ymdrechion i hybu twf wedi cael eu tanseilio'n angheuol gan yr hyn mae'r Torïaid wedi ei wneud i'n heconomi, ac rwy'n pryderu am y posibilrwydd o golli swyddi a'r niwed y bydd hynny'n ei olygu nid yn unig i'n heconomi, ond i fywydau pobl. Mae busnesau ar draws fy rhanbarth dan bwysau gyda biliau ynni cynyddol a chwyddiant. Canfu mynegai busnesau bach Ffederasiwn y Busnesau Bach yn ddiweddar bod hyder busnesau wedi plymio, wrth iddyn nhw wynebu costau cynyddol a refeniw gostyngol, ac mae cyflogeion sector cyhoeddus hefyd yn wynebu'r posibilrwydd o don newydd o hyper-gyni, gydag arweinwyr cynghorau a Gweinidogion yn rhybuddio bod y sefyllfa ariannol yn ddifrifol. Felly a wnewch chi sicrhau'r Senedd, Prif Weinidog, y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i ddiogelu swyddi yng Nghymru dros y cyfnod sydd i ddod, ac egluro pa drafodaethau y byddwch chi'n eu cael gyda chynrychiolwyr busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i geisio osgoi colli swyddi?
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn yna, Llywydd, oherwydd mae'n iawn: ar unrhyw ddarlleniad rhesymol o'r prosbectws presennol, mae colledion swyddi yn dod i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu i mi ddweud ar lawr y Senedd yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, pe baem ni'n gweld toriadau i wariant cyhoeddus o'r math sy'n tynnu dŵr i'r llygaid a addawyd gan Ganghellor y Trysorlys, yna bydd hynny'n arwain at golli cannoedd, os nad miloedd, o swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n gwbl anochel. Mae tua 50 y cant i 56 y cant o'r holl arian sy'n cael ei wario yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario ar bobl; cyflogi pobl i wneud y swyddi y mae pobl eraill wedyn yn dibynnu arnyn nhw. Os bydd toriadau i'r cyllidebau hynny, yna bydd y swyddi hynny'n cael eu colli. Mae'n gwbl anochel, a bydd yn ganlyniad uniongyrchol o orfod ymdrin â chanlyniadau trychinebus y Prif Weinidog mwyaf byrhoedlog yn hanes y DU.
Eto, mae Delyth Jewell yn iawn i gyfeirio at y ffaith bod y pwysau hynny'n ymddangos yn y sector preifat yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Mae Banc Lloegr yn dweud bod economi'r DU eisoes mewn dirwasgiad a bydd yn codi cyfraddau llog eto ym mis Tachwedd er gwaethaf y ffaith y bydd, o dan unrhyw amgylchiadau eraill, yn torri cyfraddau llog er mwyn cefnogi economi sy'n crebachu, a bydd hynny'n rhoi pwysau mawr ar gyflogaeth yn y sector preifat hefyd.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol ac yn y GIG i sicrhau, y gorau gallwn ni, bod pa bynnag effaith a ddaw o'r datganiad ar 31 Hydref cyn lleied â phosibl. Ac rydym ni'n gweithio gyda'n cyflogwyr mawr hefyd, y mae gan lawer ohonyn nhw gynlluniau i ehangu cyflogaeth yma yng Nghymru, oherwydd yr agwedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i'r materion hyn. Maen nhw'n deall ein bod ni'n bartneriaid gyda nhw, yn y busnes o'u helpu. Meddyliwch, Llywydd, am eiliad, am Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru yn y gogledd, a adeiladwyd gyda £20 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, a'r rheswm pam mae Wing of Tomorrow yn cael ei adeiladu gan Airbus yn y gogledd; y rheswm pam, gyda'r sector bwyd a diod yn y gogledd, mae gennym ni brosiect Ffatri'r Dyfodol wedi'i leoli yn yr AMRC—oherwydd ein bod ni'n deall, mewn ffordd nad yw'r Torïaid byth yn ei ddeall, fod buddsoddiad cyhoeddus sy'n cael ei ddefnyddio'n briodol yn denu buddsoddiad preifat, ac ddim yn ei gau allan, a'i bod yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth i fuddsoddi mewn sgiliau gweithlu sy'n dod â chyflogaeth i Gymru yn y dyfodol. Dyna hanes Airbus; dyna hanes y clwstwr seiberddiogelwch yn y de. Maen nhw'n enghreifftiau o'r ffordd y gall agwedd synhwyrol at dwf economaidd wneud i bethau ddigwydd, yn union fel rydym ni wedi gweld beth all agwedd drychinebus tuag at dwf economaidd ei wneud i ragolygon y wlad ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, y tro diwethaf i ni gyfarfod, Prif Weinidog, roedd y Torïaid yn dweud wrthym ni mai Liz Truss oedd y Prif Weinidog gorau i ni ei gael erioed ac nad oedd hi'n bosibl herio polisi economaidd y Ceidwadwyr. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o newid i hynny yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond, yr hyn nad ydym wedi ei weld, wrth gwrs, yw unrhyw newid yn realiti anallu economaidd y Torïaid, sy'n golygu nad yw Cymru'n cael y buddsoddiad a ddylai ddod i ni. Mae pobl Blaenau Gwent eisiau gweld buddsoddiad yn rheilffordd Glynebwy, ond dydyn nhw ddim yn ei gael gan nad yw'r rheilffyrdd wedi'u datganoli, ac ni wnaiff y Torïaid fuddsoddi yng Nghymru.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn sydd angen i ni ei weld yw nid yn unig newid Llywodraeth, ond mae angen i ni weld newid agwedd gan Drysorlys y DU sy'n golygu bod gwledydd fel Cymru a'r Alban, a gogledd Lloegr, yn cael yr un flaenoriaeth a buddsoddiad â Llundain a de-ddwyrain Lloegr?
Wel, Llywydd, wrth gwrs rwy'n cytuno ag Alun Davies mai'r hyn sydd ei angen ar y wlad hon yw etholiad cyffredinol—cyfle i bob plaid wneud eu dadleuon i bobl ac i'r bobl benderfynu beth maen nhw'n ei gredu yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'r etholiad cyffredinol hwnnw'n anghenraid democrataidd, ond mae hefyd yn anghenraid economaidd oherwydd mae angen Llywodraeth arnoch chi sydd â mandad ac â'r sefydlogrwydd i wneud y penderfyniadau anodd sydd yn ddiamheuaeth yno i'w gwneud. Pe bai gennym ni'r cyfle hwnnw, rwy'n credu nid yn unig y byddai Cymru ar ei hennill, ond byddai'r Deyrnas Unedig, wrth gwrs, ar ei hennill hefyd.
O ran y pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud am y Trysorlys, mae gen i ofn fy mod i wedi credu ers tro bod y Trysorlys, wedi'i yrru gan fformiwla Barnett, yn Drysorlys i Loegr yn ei hanfod, a bod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn syml, yn cael canlyniadau penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y ffordd honno. Mae angen Trysorlys arnom ni sy'n barod i wneud y penderfyniadau sy'n cydnabod gwahanol anghenion y Deyrnas Unedig ac sy'n barod i fuddsoddi yn y ffordd honno. Gadewch i ni roi un enghraifft o ba mor wahanol yr ystyrir pethau yn Llundain a chan y blaid Geidwadol: byddai'r pecyn o doriadau treth a wnaed gan Liz Truss, sydd bellach wedi cael eu tanseilio, wedi arwain at dair gwaith—[Torri ar draws.]
Iawn, gadewch i ni glywed y Prif Weinidog yn gorffen ei ateb i'r cwestiwn.
Diolch, Llywydd. Y cwbl rwy'n ei wneud yw egluro pwysigrwydd y pwynt a wnaeth Alun Davies. Pe bai Llywodraeth Liz Truss wedi cael eu ffordd, byddai'r toriadau treth hynny wedi darparu tair gwaith cymaint i Lundain a'r de-ddwyrain nag y bydden nhw wedi ei ddarparu i Gymru neu i ogledd Lloegr. Roedden nhw, wrth gwrs, yn falch iawn o gefnogi hynny i gyd dim ond pythefnos yn ôl, yn union fel heddiw, mae'n siŵr eu bod nhw'n falch o droi eu cefnau ar y cyfan fel pe na bai erioed wedi digwydd. Ond, y pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud yw hynny'n union: mae angen Trysorlys arnom ni sy'n barod i feddwl am anghenion y wlad yn ei chyfanrwydd, nid Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn unig.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, hoffwn eich hysbysu bod gennym ni chwe Aelod rhanbarthol ac un Aelod etholaeth sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r M4, felly mae gennym ni fudd personol, ac mae hynny'n gynnydd i nifer yr Aelodau a ddaeth yn ôl ar ôl etholiadau 2021.
Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: ar ôl y ffigurau amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf, un o'r materion mawr y mae llawer o bobl yn cael trafferth ag ef yw cael apwyntiad gyda meddyg teulu. Rwyf i wedi gweld, mewn rhannau eraill o'r DU, bod ymrwymiadau wedi cael eu gwneud, os bydd rhywun angen apwyntiad gyda meddyg teulu, y bydd yn ei gael o fewn deuddydd. A ydych chi'n barod i wneud ymrwymiad tebyg yma yng Nghymru?
Llywydd, mae'n bwysig cael y ffeithiau'n iawn, ac rwy'n hapus i gywiro'r ffaith bod Plaid Geidwadol Cymru wedi ennill un sedd etholaethol ar hyd cyfan yr M4 yn ne Cymru.
O ran apwyntiadau meddyg teulu, gadewch i ni fod yn eglur nad oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gyflawni. Rwyf i wedi ei glywed yn cael ei wneud gan Weinidogion iechyd Ceidwadol dro ar ôl tro dros fwy na degawd. Dydyn nhw erioed wedi llwyddo i wneud iddo ddigwydd hyd yma; yn sicr dydyn nhw ddim yn mynd i wneud iddo ddigwydd y tro hwn chwaith.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai bod y Comisiwn Ansawdd gofal, dim ond yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gyflwr gofal iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr. Disgrifiodd system, fel maen nhw'n dweud, sy'n sefyll yn stond: dim ond dau berson o bob pump sy'n gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny oherwydd bod cyflwr gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol yn Lloegr yn golygu na all y bobl hynny adael yr ysbyty. Mae pobl yn Lloegr yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, Llywydd, yn gweithio mor galed ag y gallan nhw. Nid wyf i'n gwneud dim beirniadaeth ohonyn nhw o gwbl. Dim ond eu bod nhw'n wynebu, fel yr ydym ni, rwystrau sylweddol dros ben o ran gallu darparu'r gwasanaeth i bawb yn y ffordd y byddem ni'n dymuno gwneud hynny. Treuliais fore dydd Gwener mewn meddygfa deulu yma yng Nghymru, yn clywed gan feddygon teulu a'r tîm gofal sylfaenol ehangach am yr holl ymdrechion rhyfeddol y maen nhw'n eu gwneud i allu darparu apwyntiadau ar gyfer y boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethu, ac maen nhw'n gwybod bob dydd, nad ydyn nhw'n gallu gwneud y swydd yn y ffordd y bydden nhw'n hoffi i'r swydd honno gael ei gwneud, ond yn sicr nid yw hynny oherwydd nad ydyn nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud i hynny ddigwydd, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru i wneud hynny.
Wel, mae'n ddiddorol mai llefarydd iechyd y Blaid Lafur wnaeth yr ymrwymiad hwnnw yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi'r ffôn ac yn dweud wrtho nad oes modd cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, o gofio eu bod nhw'n edrych at Gymru bob tro i weld yr hyn y gellir ei gyflawni ar lefel San Steffan. Roedd hwnna'n sylw diddorol i chi ei wneud yn y fan yna, Prif Weinidog.
Beth am arosiadau o ddwy flynedd? Yn benodol, yma yng Nghymru mae gennym ni ychydig yn llai na 60,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy i gael cwblhau eu triniaeth ar y GIG. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn Lloegr, mae'r arosiadau dwy flynedd hynny wedi cael eu dileu, ac yn yr Alban, maen nhw bron wedi cael eu dileu. A wnewch chi roi amserlen i ni o ran pryd fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru, a phryd y gall y 59,000 sydd wedi bod ar restr aros am ddwy flynedd neu fwy ddisgwyl yr un lefel o wasanaeth yma yng Nghymru?
Llywydd, yn y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yr wythnos diwethaf, dangoswyd bod yr arosiadau hir hynny yn parhau i leihau. Maen nhw bellach wedi lleihau bum mis yn olynol. Fe wnaethon nhw leihau eto ym mis Gorffennaf, a chyn belled ag y bo'r system yn gallu parhau yn y ffordd honno, yna wrth gwrs bydd yr arosiadau hir hynny'n cael eu dileu.
Yr hyn yr oedd y ffigurau yn ei ddangos hefyd yw i ba raddau y mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er gwaethaf y pwysau aruthrol sy'n ei wynebu, wedi gallu adfer lefelau gweithgarwch bellach. Roedd gweithgarwch cleifion allanol ym mis Gorffennaf ar 102 y cant o'r lefelau cyn y pandemig. Mewn geiriau eraill, nid yn unig y mae'r system yn darparu popeth yr oedd cyn i'r pandemig daro, ond mae'n dal i weithredu mewn cyflwr lle mae dros 500 o gleifion yn meddiannu gwely yn GIG Cymru heddiw gyda COVID, lle nad yw dros 1,000 mewn gwaith oherwydd COVID—mae'r system yn darparu apwyntiadau cleifion allanol i lefelau uwch na'r hyn yr oedd yn gallu ei wneud cyn i'r pandemig daro. Ac mae llawdriniaethau, gofal cleifion mewnol dewisol, wedi gwella i 92 y cant o'r lefel yr oedden nhw arni cyn y pandemig. Dyna'r lefel uchaf yr ydym ni wedi ei gweld ers i'r pandemig daro, a hyn oll tra bod y system yn parhau i wneud popeth arall y gwnaethom ni ofyn ganddi. Yr wythnos hon, rydym ni wedi mynd dros 500,000 o frechiadau COVID a roddwyd dros gyfnod yr hydref hwn. Pwy sy'n rhan o wneud hynny i gyd? Wel, y meddygon teulu y soniodd yr Aelod amdanyn nhw yn ei gwestiwn cyntaf, a'r holl staff eraill hynny sy'n troi i fyny ar benwythnosau ac yn rhedeg y clinigau sy'n golygu ein bod ni wedi gweld y llwyddiant rhyfeddol hwnnw.
Felly, er bod y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed bob dydd i adennill y tir a gollwyd yn ystod COVID, i ymateb i'r argyfyngau y mae pobl yn eu cyflwyno, i wneud y pethau eraill rydym ni'n eu gofyn ganddyn nhw o ran brechu nid yn unig ar gyfer COVID, ond ar gyfer y ffliw hefyd, rydym ni'n gweld yr arosiadau hir hynny yn parhau i leihau.
Yn fy nghwestiwn cyntaf, Prif Weinidog, gofynnais i chi gefnogi ymrwymiad y dywedodd llefarydd iechyd y blaid Lafur yn San Steffan y byddai Llafur yn ei gyflawni, ac fe ddywedoch chi nad oedd modd ei gyflawni. Yn yr ail gwestiwn, gofynnais i chi roi ymrwymiad a map ffordd i ddileu'r arosiadau dwy flynedd yma yn y GIG. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, Richard Cooper, a gafodd ei hysbysu, i gael ei lawdriniaethau clun ar y GIG yma yng Nghymru—oherwydd roedd angen llawdriniaeth ar y ddwy glun—gallai ddisgwyl arhosiad o bedair i bum mlynedd i'r llawdriniaethau hynny gael eu cyflawni. Bu'n rhaid iddo ddefnyddio ei gynilion preifat ei hun i fynd i glinig yng Ngwlad Pwyl i gael y llawdriniaeth. Nawr, ni allaf gael ymrwymiad ar amseroedd ymateb meddygon teulu, ni allaf gael ymrwymiad ar arosiadau dwy flynedd gennych chi; beth yw'r cyngor y dylwn i ei roi i'm hetholwyr, fel Richard Cooper, sy'n gorfod defnyddio eu cynilion eu hunain, eu potiau pensiwn, oherwydd na allwch chi ddarparu gwasanaeth iechyd sy'n gallu diwallu anghenion pobl Cymru?
Ar y tri phwynt hynny, Llywydd, yn gyntaf oll, cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Lafur, byddwn yn gallu gweithredu addewidion y Blaid Lafur. Rwyf i wedi esbonio i chi—[Torri ar draws.] Rwyf i wedi esbonio i chi pam, o dan eich Llywodraeth chi, gyda chyllidebau'n gostwng o un flwyddyn i'r llall, a nawr cyfnod arall o gyni cyllidol yn ein hwynebu ni i gyd, ni fydd yr addewidion a wnaed gan eich Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr yn cael eu cyflawni. Gyda Llywodraeth Lafur, yna bydd y pethau hynny'n wahanol ac yna wrth gwrs byddwn ni'n gweld pethau'n gwella, fel y gwnaethom ni o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Ac esboniais i chi bod arosiadau hir yn y GIG yn parhau i leihau, er gwaethaf popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud, ac mae popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud yn ymestyn i geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth orthopedig cynaliadwy yma yng Nghymru. Mae hynny'n her, Llywydd. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Mae gennym ni fwy o waith y mae angen ei wneud. Mae gennym ni theatrau llawdriniaeth nad ydyn nhw'n gallu cwblhau lefel y gweithgarwch yr oedden nhw'n gallu ei gwblhau cyn y pandemig o hyd, ac eto, fel y dywedais i, ym mis Awst yn unig cyflawnwyd 24,000 o lawdriniaethau yn y GIG yng Nghymru, a 230,000 o apwyntiadau cleifion allanol. Er fy mod i'n gresynu unrhyw un sy'n aros yn rhy hir am y llawdriniaeth sydd ei hangen arnyn nhw, yr hyn rwy'n ei ddweud wrthyn nhw yw bod y system yn gweithio mor galed ag y gall, mae'n ennill tir nid colli tir, a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ariannol ond hefyd yn y staff sydd ei angen arnom ni i wneud yn siŵr bod ein GIG yn parhau i ddarparu'r driniaeth y mae'n ei darparu ar y lefel ddiwydiannol honno yr wyf i newydd ei disgrifio i chi o fis Awst yn unig.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi gwyno'n gwbl briodol bod Prif Weinidog Torïaidd diwethaf y DU wedi methu â chodi'r ffôn i chi, ac yn wir yn trin eich Llywodraeth chi a'r Llywodraethau datganoledig eraill â dirmyg. Sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r berthynas gyda Phrif Weinidog diweddaraf y DU? A wnewch chi benderfynu newid tac efallai a cheisio codi'r ffôn iddo ef, fel y mae arweinwyr Llywodraethau cenedlaethol eraill ar fin ei wneud dros y dyddiau nesaf? Os byddwch chi'n sgwrsio, mae'n siŵr y byddwch chi eisiau ei longyfarch ar fod yr unigolyn Asiaidd Prydeinig cyntaf i gael ei ethol yn Brif Weinidog y DU, sydd wir yn ddigwyddiad hanesyddol ac yn fwy addas fyth ei fod yn ystod Diwali. Ond a fyddwch chi hefyd eisiau tanlinellu mai'r un peth y mae'n rhaid iddo beidio â'i wneud yn ei gyllideb Calan Gaeaf yw cychwyn cyfnod newydd o gyni cyllidol a phlymio'r economi i ddirwasgiad, pobl i dlodi a'n gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, i argyfwng mwy dwys fyth?
Llywydd, rwy'n gobeithio wrth gwrs y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn mabwysiadu agwedd wahanol o ran y berthynas â'r Llywodraethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n gweld cyfres o Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru heddiw yn galw ar Brif Weinidog newydd y DU i achub y blaen yn hynny o beth, ac mae'n gam i Brif Weinidog y DU ei gymryd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yna gyswllt cynnar gan y weinyddiaeth ddiweddaraf, ac, os oes, yna gallwch fod yn sicr y byddaf eisiau cael perthynas adeiladol gyda Phrif Weinidog newydd y DU. Os caf gyfle, bydd cyfres o bethau y byddaf i eisiau eu rhoi'n gynnar ar ei restr o flaenoriaethau. Dyfodol y Deyrnas Unedig ei hun—byddaf yn ei atgoffa, rwy'n siŵr, mai Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth unoliaethol ddiamwys arall y bydd ganddo gysylltiad â hi, a byddwn eisiau gweithio gydag ef i wneud yn siŵr bod dyfodol llwyddiannus i'r Deyrnas Unedig.
Rwyf i eisiau siarad ag ef am faterion unigol pwysig iawn sy'n bwysig yma yng Nghymru—dyfodol Tata Steel, er enghraifft. Pan ysgrifennais at y Prif Weinidog ond un yn ôl yn gynharach yn yr haf, fe wnaeth fy ateb gan gydnabod difrifoldeb sefyllfa Tata Steel, ond gan ddweud mai mater i Brif Weinidog nesaf y DU fyddai gwneud y penderfyniadau am lefel y cymorth y gellid ei chynnig i'r cwmni; wel, mae'r Prif Weinidog diweddaraf hwnnw wedi mynd a dod ac ni wnaed penderfyniad o'r math hwnnw. Felly, os caf gyfle, byddaf yn sicr yn dweud wrth Brif Weinidog newydd y DU y dylai rhoi sylw i'r mater pwysig iawn hwnnw, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, fod yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau. Ac, wrth gwrs, Llywydd, dywedaf hefyd mai'r peth olaf un sydd ei angen ar bobl yng Nghymru neu ar draws y Deyrnas Unedig yw dos pellach o gyni cyllidol Torïaidd.
Rydych chi wedi bod yn galw am etholiad cyffredinol, ac mae dadl na ellir ei hateb dros gael un, o ystyried ein bod ni bellach wedi cael dau Brif Weinidog y DU heb fandad democrataidd. Y gwir amdani yw bod y Prif Weinidog Sunak yn rhydd i anwybyddu hynny, fel y mae'n rhydd i'ch anwybyddu chi. Mae cyfansoddiad anysgrifenedig y DU yn canolbwyntio grym enfawr yn nwylo Prif Weinidog y DU, sy'n esbonio'r llanast rydym ni ynddo. Nawr, mae athrawiaeth goruchafiaeth San Steffan yn golygu bod Prif Weinidog newydd y DU yn rhydd i ddiddymu unrhyw Ddeddf y Senedd hon a diddymu unrhyw rym, er nad oes ganddo unrhyw fandad i wneud hynny, yn sicr nid yma yng Nghymru. Nawr, efallai y bydd y pendil gwleidyddol yn troi yn yr etholiad nesaf, pryd bynnag y daw, ond sut gallwn ni roi'r gorau i fod yn union yr un sefyllfa mewn blynyddoedd i ddod, pan fydd y pendil yn troi'n ôl? Sut ydych chi'n cynnig y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn gwreiddio ein democratiaeth yng Nghymru mewn system wleidyddol lle mae San Steffan yn oruchaf?
Llywydd, rwy'n cytuno bod dadl na ellir ei hateb dros etholiad, ac nid wyf i'n credu bod Prif Weinidog y DU yn y sefyllfa anorchfygol y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i awgrymu. Efallai y bydd y rhaniadau dwfn y tu mewn i'r Blaid Geidwadol yn cael eu cuddio am ychydig wythnosau eto. Efallai y byddwn ni'n gweld Aelodau Seneddol Ceidwadol yn chwarae pêl-droed yn erbyn ei gilydd ar y lawnt y tu allan i Senedd San Steffan mewn rhyw fath o gadoediad Nadolig, ond, unwaith y bydd y Nadolig allan o'r ffordd, yna mae gen i ofn y bydd y Prif Weinidog newydd yn wynebu'r rhaniadau dwfn iawn, iawn y tu mewn i'r Blaid Geidwadol, fel y mae'r pedwar rhagflaenydd diwethaf wedi ei wneud hefyd. Ac nid wyf i o'r un farn yn union ag arweinydd Plaid Cymru o feddwl na fydd etholiad cyffredinol ar ei ffordd i ni yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ar ôl yr etholiad hwnnw, bydd cyfle, rwy'n gobeithio, i Lywodraeth Lafur newydd wneud yr union beth y mae Adam Price wedi ei ddweud: gwreiddio datganoli, fel na ellir ei erydu yn y modd rydym ni wedi ei weld ers 2019. Rwy'n credu bod cyfres o ffyrdd ymarferol y gellir gwneud hynny, a phan fydd adroddiad Gordon Brown ar drefniadau'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol yn cael ei gyhoeddi, rwy'n credu y byddwn ni'n gweld nifer o'r syniadau ymarferol hynny. Nid wyf i'n mynd i'w trafod nhw y prynhawn yma o reidrwydd, Llywydd, ond maen nhw yna. Maen nhw yna mewn ffyrdd a fyddai'n sicrhau y gellir trefnu'r pethau a gymeradwywyd mewn dau refferendwm gan bobl yng Nghymru mewn ffordd y gellir darparu'r dewisiadau hynny heb y risg eu bod nhw bob amser o dan bwysau o gael eu herydu.
Pan oeddech chi yn Iwerddon yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ail-bwysleisio eich barn bod y Deyrnas Unedig, i Gymru, yn bolisi yswiriant gwych, ond sut mae'r polisi hwnnw'n gweithio i ni pan fo modd newid y contract yn gyson dros ein pennau, yn erbyn ein dymuniadau ac yn erbyn ein buddiannau? Fe wnaethoch chi sôn am gyfuno risg drwy'r undeb, ond siawns nad yw digwyddiadau'r wythnosau diwethaf wedi dangos bod yr undeb mewn gwirionedd yn ein hamlygu ni yng Nghymru i risg, i ansicrwydd ac i niwed y gellir ei osgoi. Nawr, rydych chi wedi dweud na fyddech chi byth yn cefnogi Cymru annibynnol, ond a fyddech chi'n derbyn bod rhai amgylchiadau o leiaf—Llywodraeth Dorïaidd arall yn cael ei hethol yn erbyn ein dymuniadau yng Nghymru, neu bleidlais dros annibyniaeth i'r Alban mewn refferendwm—lle gallai annibyniaeth ddod, i Gymru, a hyd yn oed i'ch plaid, yr opsiwn mwy blaengar? Rwy'n deall bod yn well gennych chi undeb barhaus, ond onid yw dweud 'byth' i annibyniaeth yn gwneud dim ond clymu ein hunain i ddyfodol na fydd byth yn eiddo i ni ei benderfynu?
Llywydd, mae'r cwestiwn a ddylai Cymru fod yn annibynnol yn gwestiwn i bobl yng Nghymru, ac rwyf i wedi dweud erioed pe bai plaid yn cynnig hynny fel dewis mewn maniffesto ac y bydden nhw'n ennill mwyafrif y seddi yma yn y Senedd, yna, wrth gwrs, os yw pobl yn dewis y cam hwnnw, yna dyna ewyllys ddemocrataidd pobl yng Nghymru. Eu llais nhw yw'r un pwysig—nid fy un i, pa un a ydw i'n meddwl ei fod yn iawn neu'n anghywir. Lle byddaf yn cytuno ag arweinydd Plaid Cymru yw hyn: pe bai geometreg wleidyddol y Deyrnas Unedig yn newid, pe bai un o'i rhannau cyfansoddol yn dewis gwahanol ddyfodol, nid yw hynny'n gadael yr hyn sy'n weddill heb ei gyffwrdd. Byddai'n rhaid i chi gael cyfres ddifrifol iawn o drafodaethau ynglŷn â'r ffordd orau y gellid cynllunio dyfodol Cymru o dan yr amgylchiadau gwahanol hynny, a dyna pam, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod, rydym ni wedi sefydlu ein comisiwn cyfansoddiadol ein hunain i'n helpu i feddwl pa ddewisiadau fyddai ar gael i Gymru o dan yr amgylchiadau hynny. Gallai annibyniaeth fod yn un ohonyn nhw, fel y bu ers sefydlu ei blaid ac ers iddi roi'r dewis hwnnw gerbron pobl Cymru. Hyd yn hyn, nid yw pobl wedi cael eu perswadio o hynny, a bydd gwahanol fathau o ddyfodol y byddai'n well gan eraill ohonom ni eu hyrwyddo. Ond dyna'r lle iawn i'r penderfyniadau hyn gael eu trafod; dydyn nhw ddim yn fater i mi fel Prif Weinidog na hyd yn oed i bleidiau gwleidyddol yma wneud y penderfyniad hwnnw. Yn union fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru bod dadl na ellir ei hateb dros etholiad cyffredinol i benderfynu cyfeiriad economaidd y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, felly hefyd y byddai'n angen na ellir ei ateb am benderfyniadau o'r fath y mae wedi'u hamlinellu y prynhawn yma i gael eu gwneud gan y bobl sy'n ein rhoi ni yma.
3. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith rhaglen prentisiaethau gradd Llywodraeth Cymru ar niferoedd mynediad am brentisiaethau gradd? OQ58629
Llywydd, ers i'r rhaglen prentisiaeth gradd ddechrau yng Nghymru yn 2018, rydym ni wedi sicrhau cynnydd o fwy na phum gwaith i gofrestriadau. Yn y flwyddyn academaidd bresennol, mae 780 o brentisiaethau yn gweithio i ennill cymwysterau lefel gradd ym meysydd digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n ddiddorol, yr hyn a ddywedoch chi, a hoffwn nodi bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi prentisiaethau gradd yn llawn, ac, a dweud y gwir, rydym ni'n mynd ymhellach na'r polisi presennol. Ond, Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, sefais yma a chodais rai ystadegau pryderus yn amlygu mai gwrywod dosbarth gweithiol gwyn yw'r rhai lleiaf tebygol o fynd i'r brifysgol ar draws y DU, ond mae'r darlun yn waeth yng Nghymru. Fe wnaethoch chi awgrymu nad oedd y broblem cynddrwg ag y dywedais i, gan geisio esgusodi'r ffigurau. Fe ddywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu:
'Ni fydd ein rhaglen prentisiaethau gradd yn cael ei chyfri yn y ffigurau y mae'r Aelod wedi'u hawgrymu y prynhawn yma',
fel pe bai hynny rhywsut yn gwneud i'r sefyllfa edrych yn well. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2019-20, roedd 380 o brentisiaid newydd a pharhaus yn y rhaglen prentisiaeth gradd. Yn yr un cohort, aeth 83,800 o fyfyrwyr o Gymru i'r brifysgol—453 y cant yn fwy na'r nifer sy'n dilyn prentisiaethau gradd; dim ond 0.45 y cant o 83,800 yw 380. Prif Weinidog, mae'n gwbl eglur o'r ystadegau y byddai prentisiaethau gradd, hyd yn oed pe baen nhw'n cael eu cynnwys yn y ffigurau, a'ch ffigurau newydd a amlinellwyd gennych chi nawr, yn gwneud ychydig iawn o wahaniaeth i'r niferoedd cyffredinol hynny a amlinellais. Felly, Prif Weinidog, mae'r broblem yn parhau: rydym ni'n gweld niferoedd isel o dderbyniadau prifysgol ymhlith dynion dosbarth gweithiol gwyn. Sut yn union ydych chi'n ceisio unioni'r sefyllfa, ac, eto, pa atebion ymarferol ydych chi'n mynd i'w rhoi ar waith i sicrhau nad yw'r duedd honno'n parhau?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi mwynhau cyfraniad diweddaraf Laura Anne Jones at ei hymgyrch arweinyddol, ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: y bydd angen iddi arafu ar y niferoedd er mwyn caniatáu i bobl ddilyn y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen y trawsgrifiad fel y gallaf ddilyn y ddadl yr oedd hi'n ei gwneud yn well.
Mae'r rhaglen brentisiaeth—y rhaglen prentisiaeth gradd—Llywydd, wedi ei chynllunio i ganolbwyntio, fel y dywedais i yn fy ateb, ar y meysydd hynny lle mae gennym ni anghenion arbennig yn economi Cymru—digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch yn eu plith—meysydd lle, yn hanesyddol, y mae menywod wedi cael eu tangynrychioli ond mae dynion ifanc gwyn yn sicr yn y mwyafrif ac, er gwaethaf ein hymdrechion i ddenu menywod ifanc i'r meysydd hynny drwy'r rhaglen prentisiaeth gradd, mae hynny'n parhau i fod yn wir.
Ond yr hyn sy'n bwysicach o ran y cwestiwn a ofynnwyd i mi, Llywydd, yw a ydym ni'n denu drwy'r llwybr prentisiaeth gradd pobl ifanc na fyddai fel arall mewn addysg uwch. Rwy'n cael fy nghalonogi bod dros 57 y cant o'r bobl ifanc hynny sy'n dod i ddilyn prentisiaethau gradd yng Nghymru yn dod o deuluoedd lle nad oes rhiant erioed wedi bod mewn addysg uwch. Mewn geiriau eraill, rydym ni'n recriwtio drwy'r llwybr hwnnw pobl na fyddai mor debygol o gael profiad addysg uwch drwy'r llwybrau confensiynol. Ac yn yr ystyr hwnnw, rwy'n falch bod yr Aelod wedi croesawu'r rhaglen prentisiaeth gradd, oherwydd rwy'n meddwl—nid wyf i'n credu fy mod i wedi ei dilyn hi'n llwyr yma, ond rwy'n meddwl, pan fyddaf yn astudio ei ffigurau, y byddaf yn gweld, mewn gwirionedd, ei bod yn gwneud yr hyn y mae hi eisiau iddi ei wneud; mae'n cyrraedd y rhannau hynny o'r gymuned y mae llwybrau mwy confensiynol i addysg uwch yn methu â sicrhau'r treiddiad yr hoffem ni ei weld.
Ddydd Gwener yma, byddaf yn ymweld â Grŵp DRB yn fy etholaeth fy hun, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n falch o fod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth mewn gweithgynhyrchu uwch yn DRB, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i hefyd yn hynod ddiolchgar i'r cwmni am ariannu fy ngradd rhan amser tra'r oeddwn i yno. Cyn i mi ymweld a dychwelyd i fy hen weithle, byddaf yn siarad mewn cynhadledd prinder sgiliau, a drefnwyd gan Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy. Pa neges gaf i ei hanfon gennych chi, fel Prif Weinidog Cymru, i'r gynhadledd, i gwmnïau fel Grŵp DRB yn Alun a Glannau Dyfrdwy, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi'r sgiliau i'r gweithlu nesaf i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion diwydiannol gwyrdd yn y gogledd-ddwyrain?
Diolchaf i Jack Sargeant am hynny a'i longyfarch, wrth gwrs, ar y ffordd y daeth ef ei hun drwy'r system brentisiaeth honno a gwneud hynny'n llwyddiannus. Yr hyn y gallwch chi ei ddweud yn eithaf sicr wrth y fforwm busnes yw bod ganddyn nhw, yng Nghymru, Lywodraeth sy'n deall yn iawn y cyfrifoldeb sydd gennym ni i fuddsoddi yn y sgiliau a fydd yn caniatáu i fusnesau yn y rhan honno o Gymru i barhau i ffynnu. Mae diweithdra, Llywydd, yng Nghymru ar ei isaf yn y gogledd-ddwyrain. Fe wnes i gyfarfod â chwmnïau yn ardal Glannau Dyfrdwy pan oeddwn i yn y gogledd dim ond cwpwl o wythnosau yn ôl. Maen nhw'n gwybod ei bod hi'n farchnad gystadleuol i ddenu, yn enwedig, pobl ifanc i fanteisio ar y cyfleoedd gwaith sydd ar gael iddyn nhw, ac roedden nhw'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn enwedig y darparwyr llawr gwlad hynny—Coleg Cambria ac eraill—y pethau y maen nhw'n eu gwneud i alinio'r rhaglenni y maen nhw'n eu darparu gydag anghenion y dyfodol diwydiannol gwyrdd gwych hwnnw rydym ni eisiau ei greu yma yng Nghymru. A byddwn yn ddiolchgar iawn i Jack Sargeant pe gallai, ar ein rhan ni, ar ran Llywodraeth Cymru, atgyfnerthu, gyda'r fforwm busnes hwnnw, ein penderfyniad i barhau i weithio ochr yn ochr â nhw a'r system addysg i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynhyrchu pobl ifanc sydd â'r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw i greu dyfodol llwyddiannus iddyn nhw eu hunain, ac i gyfrannu at y cyflogwyr gwych hynny sydd gennym ni yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith dolydd blodau gwyllt ar fywyd gwyllt yn Sir Ddinbych? OQ58599
Llywydd, cofnododd prosiect blodau gwyllt sir Ddinbych 268 o rywogaethau blodau gwyllt ar eu safleoedd yn 2021. Nid oedd 136 o'r rhywogaethau hynny wedi cael eu canfod yno o'r blaen, ac mae rhwydwaith safleoedd y prosiect yn tyfu bob blwyddyn, wedi'i gefnogi gan fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog, a'r rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn y prynhawn yma yw bod nifer o drigolion ardal Nant Close yn Rhuddlan wedi cysylltu â mi, ac o ardaloedd arfordirol y Rhyl a Phrestatyn dros yr haf, sy'n bryderus iawn am rai o ddefnyddiau dolydd blodau gwyllt mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Nawr, gallaf yn sicr weld budd dolydd blodau gwyllt a'r effeithiau cadarnhaol y mae'r rhain yn eu cael ar hybu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn sir Ddinbych, ond a fyddech chi'n ymuno â mi, Prif Weinidog, i alw ar sir Ddinbych ac awdurdodau lleol i fabwysiadu agwedd fwy synnwyr cyffredin at brosiectau o'r fath? Felly, lle ceir tystiolaeth dda o effeithiolrwydd, yna cadwch nhw ar bob cyfrif, ond pan nad oes llawer o dystiolaeth o hyn, yna torrwch nhw i lawr ac adfer rhywfaint o drefn arddwriaethol, fel y gallwn ni chwalu'r myth bod y cyngor yn rhy ddiog i dorri'r lawnt a rhoi sicrwydd i'm hetholwyr bod—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Aelod orffen ei gwestiwn. Gadewch i'r Aelod orffen ei gwestiwn, os gwelwch yn dda.
Diolch. Fel y gallwn ni chwalu'r myth bod y cyngor yn rhy ddiog i dorri'r lawnt a rhoi sicrwydd i'm hetholwyr y bydd yr haf nesaf yn fwy effeithiol na'r un yma.
Wel, Llywydd, wnes i wir ddim dychmygu'r prynhawn yma y byddem ni'n clywed bod plaid Geidwadol Cymru yn erbyn blodau. [Chwerthin.] Maen nhw yn erbyn bron popeth arall, ond doeddwn i ddim wedi disgwyl gweld dolydd blodau gwyllt yn cael eu hychwanegu at eu rhestr o bethau nad ydyn nhw'n eu cefnogi yn y Gymru fodern. Wrth gwrs, nid wyf i'n cefnogi'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma. A dweud y gwir, rwy'n llongyfarch Cyngor Sir Ddinbych yn llwyr.
A gyda llaw, Llywydd, dyma fyddai gweithredoedd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod ar adeg pan oedd y Blaid Geidwadol yn rhan o weinyddiaeth Cyngor Sir Ddinbych, oherwydd nid ydych chi'n creu dôl blodau gwyllt mewn pum munud. Gall hi gymryd nifer o flynyddoedd i gyflawni'r hyn y llwyddodd ei gydweithwyr i'w gyflawni yn sir Ddinbych.
Rwy'n credu ei fod yn fater o glod gwirioneddol i brosiect blodau gwyllt sir Ddinbych, yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, eu bod nhw wedi gallu creu bron i 50 erw o ddolydd brodorol lleol ar draws y sir. Mae honno'n gamp sylweddol iawn. Mae'n gyfraniad go iawn at gynnal bioamrywiaeth, i wneud y pethau y gallwn ni eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth. Rwy'n eu llongyfarch, ac rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i'w Haelod lleol gefnogi'r ymdrechion hynny yn hytrach na lladd arnyn nhw o'r ymylon.
A gaf i ddatgan diddordeb yn gyflym? Rwy'n aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Diolch. Fe es i gyfarfod cyffredinol blynyddol yr ymddiriedolaeth natur ddydd Sadwrn. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych gyda thirfeddianwyr o ran eu rheoli nhw ar gyfer natur, a siaradodd y prif swyddog gweithredol am bryderon sylweddol am bolisïau Llywodraeth y DU yn gwanhau amddiffyniadau amgylcheddol o adael yr UE, a hefyd dadreoleiddio o dan barthau buddsoddi. Siaradodd am y ffordd y mae Cymru'n arwain y ffordd o ran polisïau natur, ac un prosiect gwych yw prosiect natur 'Iddyn Nhw' Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda chynghorau a phartneriaethau natur lleol, gan reoli lleiniau ymyl ffordd a glaswelltiroedd amwynder ar gyfer bioamrywiaeth, gan sicrhau cefnogaeth y trigolion. Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol y gogledd wedi bod yn ysgrifennu at arweinwyr cynghorau, gan gynnwys rhai sir Ddinbych, yn eu hannog i ddangos diddordeb yn y parthau dadreoleiddio buddsoddi hyn, a gwn na ymgynghorwyd â dau arweinydd cynghorau yn Lloegr sydd ar y ffin cyn iddyn nhw gael eu hychwanegu at y rhestr.
Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ysgrifennu at arweinwyr cynghorau gogledd Cymru, i rannu eich pryderon ynglŷn â'r pwysau sydd arnyn nhw o ran yr amgylchedd naturiol o dan y parthau buddsoddi wedi'u dadreoleiddio? Ac a allech chi hefyd ysgrifennu i gefnogi'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud yn y prosiect 'Iddyn Nhw', yn rheoli ein hardaloedd bywyd gwyllt a'n lleiniau glaswellt ar gyfer bioamrywiaeth, fel y gallwn sicrhau cefnogaeth ein trigolion ynghyd â nhw? Rwy'n poeni y gallai ddisgyn ymhellach i lawr y rhestr o dan gyni cyllidol 2. Diolch.
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud, a gomisiynwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, i hyrwyddo gwell rheolaeth o'n lleiniau ffyrdd a'n glaswelltiroedd ar draws y gogledd? Mae Carolyn Thomas yn llygad ei lle, Llywydd. Dyma beth mae dadreoleiddio yn ei olygu. Yn ymarferol, yr hyn y mae'n ei olygu yw diddymu'r amddiffyniadau sydd gennych chi a minnau fel y gallwn ni warchod ein hamgylchedd, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod yr hawliau rydym ni'n eu mwynhau yno ar ein cyfer ni ar gyfer y dyfodol. Mae hon yn broblem wirioneddol i ni yma yng Nghymru, oherwydd mae gennym ni safleoedd dynodedig trawsffiniol lle byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal, ac ni fyddwn yn hapus iawn â'r syniad y dylid gostwng y safonau hynny i fynd ar drywydd rhyw fath o ymrwymiad ideolegol i ddileu'r amddiffyniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu, yn y ffordd y mae'r Aelod wedi awgrymu, i longyfarch yr awdurdodau hynny yn y gogledd sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n deall bod ganddyn nhw yn Llywodraeth Cymru Lywodraeth sydd ar eu hochr nhw.FootnoteLink
5. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i weithlu gofal cymdeithasol Cymru? OQ58637
Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid gofal cymdeithasol i wella telerau ac amodau cyflogaeth y gweithlu. Mae £43 miliwn wedi cael ei ddarparu i'r sector i'w helpu i gynyddu cyflogau i'r cyflog byw gwirioneddol. Yn ogystal â hynny, mae £45 miliwn wedi cael ei roi ar ffurf grant y gweithlu i awdurdodau lleol eleni.
Diolch am yr ateb.
Mae'r cwestiwn yma'n dilyn ymlaen, mewn sawl ffordd, o fy nghwestiwn yr wythnos diwethaf am y gwasanaeth ambiwlans. Pen arall y raddfa yw hon, lle gallai oedi ymhellach i lawr y ffordd gyda'r gwasanaeth ambiwlans gael ei achosi drwy oedi wrth drosglwyddo gofal, sydd wrth gwrs yn dibynnu'n enfawr ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Cefais alwad yr wythnos hon a'r wythnos ddiwethaf hefyd gan Neville Southall, sy'n gweithio i Unsain, yn ceisio cael cartrefi gofal i gydnabod gwerth eu gweithlu, a gweithio gyda chartrefi gofal ac Unsain i wneud hynny, a dywedodd bod ychydig o bethau a allai ddigwydd i helpu pethau i wella. Yn gyntaf oll, cyflog, ac mae'r Prif Weinidog wedi cydnabod bod y cyflog byw gwirioneddol yn hanfodol; ceir recriwtio hefyd, gan fod y bobl hynny sy'n gweithio yn y sector gofal yn gweld eu bod nhw'n cael eu gorlwytho â gwaith; ceir amodau gwaith, nad ydyn nhw'n gyfartal â'r GIG; ceir cydnabyddiaeth undebau llafur, sy'n hanfodol bwysig; ac ar y cyfan mae hynny'n gyfystyr â chyd-barch â'u cydweithwyr yn y GIG. A'r hyn a ddywedodd Neville Southall wrthyf i oedd ei fod yn canfod bod pobl yn y sector gofal yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cydnabod llai na'u cymheiriaid yn y GIG yn ystod y pandemig. Felly, mae'r pethau hyn i gyd gyda'i gilydd yn bwysig. A fyddai'r Prif Weinidog yn barod i ganiatáu i swyddogion gyfarfod gyda mi a gyda Neville Southall, a'r Gweinidog, i drafod rhai o'r materion hyn a cheisio dod o hyd i ffordd drwy hynny a fyddai o gymorth iddo yn ei waith?
Wel, Llywydd, fe wnaeth Hefin David gyfres o bwyntiau pwysig yn y fan yna, yr wyf i'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â phob un ohonyn nhw ac sydd i gyd yn feysydd yr ydym ni'n parhau i wneud ein hymdrechion ynddyn nhw. Soniais am y £43 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithlu gofal cymdeithasol, y buddsoddiad ychwanegol rydym ni wedi ei wneud—£10 miliwn a dweud y gwir, ar ben y £45 miliwn rydym ni'n ei ddarparu fel rheol yn y grant gweithlu blynyddol, i helpu awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i recriwtio ac yna chadw gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae codi statws y proffesiwn yn bwysig iawn i wneud hynny. Dyna pam y pasiodd y Senedd hon ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol cofrestru'r gweithlu. Mae dros 40,000 o weithwyr ym maes gofal cymdeithasol eisoes wedi'u cofrestru neu ar fin cael eu cofrestru yma yng Nghymru. Fe wnaethon ni ddechrau trwy gofrestru gweithwyr gofal cartref, fe wnaethon ni symud ymlaen i gofrestru cartrefi gofal i oedolion hefyd, ac mae hynny'n bwysig gan mai trwy gofrestru rydych chi'n agor y drws i ddatblygiad gyrfaol, hyfforddiant, cyfleoedd, hyfforddiant arweinyddiaeth. Mae'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, yr ydym ni wedi ei sefydlu yn rhan o'r fforwm partneriaeth gymdeithasol, newydd gwblhau'r fersiwn gyntaf o fodel y maen nhw'n mynd i'w hyrwyddo ar gyfer datblygiad gan weithwyr ym maes gofal cymdeithasol. Felly, os byddwch chi'n dod yn weithiwr gofal cymdeithasol, gallwch weld sut y gallai gyrfa ddatblygu o'ch blaen, fel y byddech chi, yn wir, pe byddech chi'n ymuno â'r GIG. Rwy'n hapus iawn i edrych i weld a fyddai sgwrs rhwng y fforwm a Mr Southall yn ffordd dda o fwrw ymlaen â rhai o'r pwyntiau y mae wedi eu gwneud, a gyflëwyd gan yr Aelod dros Gaerffili y prynhawn yma.FootnoteLink
Ar hyn o bryd mae fy awdurdod lleol fy hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn comisiynu tua 790 o welyau sy'n cefnogi unigolion mewn gofal preswyl a/neu nyrsio. £23 miliwn oedd y gwariant gros yng Nghonwy ar wasanaethau preswyl a nyrsio yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda chynnydd posibl yn y dyfodol o ddim ond tua 7 i 9 y cant—7 i 9 y cant, nid 79 y cant. Ac eto, mewn rhai awdurdodau lleol eraill, lle maen nhw'n cadw cronfa wrth gefn flwyddyn ar ôl blwyddyn, mewn rhai awdurdodau lleol, cwpl o gannoedd o filiynau wrth gefn, mae darparwyr yn hysbysu'r awdurdod lleol bod y cyfuniad o lefelau uchel na ragwelwyd o chwyddiant, lefelau gofal cynyddol, gwasanaethau cymhleth a phwysau gweithlu cyfredol yn arwain at ddiffyg ariannol yn ymwneud â gofal preswyl a nyrsio—ac fe welais hyn yn bersonol pan ymwelais â chartref gofal yn ddiweddar. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai'r cyfraddau a delir gan unrhyw awdurdod lleol i gartrefi gofal gynyddu yn unol â chwyddiant o leiaf? A pha gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod setliad ariannu tecach ac un sy'n adlewyrchu'n well gwir gost yr angen gofal cymdeithasol yn ein hawdurdodau lleol? Diolch.
Llywydd, rydym wedi trafod droeon yma y galwadau a ddaw o wahanol rannau o Gymru i ddiwygio'r fformiwla ariannu, ac rydym ni bob amser wedi dweud, fel Llywodraeth, y byddwn ni, wrth gwrs, yn barod i drafod y peth gydag awdurdodau lleol pan fyddan nhw'n cyflwyno cynnig ar gyfer diwygio. Yr hyn na allwn ei wneud o bosibl, fel y bydd yr Aelod yn ei ddeall, yw cytuno ar fformiwla ar wahân ar gyfer pob un o'r 22 awdurdod lleol. Ceir un fformiwla, fel sydd yn Lloegr, fel sydd yn yr Alban. Nid oes modd osgoi bod gennych chi un system. Gellir diwygio'r system, ond dim ond gyda chytundeb awdurdodau lleol eu hunain y gellir ei diwygio. Ac, o ran y pwynt y mae hi'n ei wneud ynglŷn â sicrhau cynnydd yn unol â chwyddiant i gyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny, rwy'n gobeithio ei bod hi'n cyfleu'r pwynt hwnnw i'r Llywodraeth newydd yn San Steffan, oherwydd os byddan nhw'n rhoi'r cynnydd hwnnw i ni, byddwn yn bendant yn ei roi i'r gwasanaethau y mae hi wedi siarad amdanyn nhw y prynhawn yma.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amseroedd aros canser y GIG? OQ58607
Mae arloesedd, buddsoddiad ychwanegol a recriwtio staff arbenigol ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd ochr yn ochr ag arweinwyr clinigol i leihau amseroedd aros canser.
Diolch. Dangosodd y data ddiweddaraf a gafodd ei ryddhau ar achosion canser, mai dim ond 52.5 y cant ym mis Awst a gyrhaeddodd nod y Llywodraeth o ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod—y nifer lleiaf ers i gofnodion gael eu casglu. Mae un o fy etholwyr i wedi bod yn aros dros saith mis am driniaeth canser. Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd wedi cael canser y geg ac roedd wedi cael mynediad i ysbyty Henffordd, lle cafodd driniaeth lwyddiannus o fewn tri mis ar ôl cael ei gyfeirio am ganser y geg a chanser y trwyn wedi hynny. Ar ôl symud i fy etholaeth i, datblygodd ganser bach ar ei glust, a oedd yn gofyn am driniaeth gymharol fach. Ond o ganlyniad uniongyrchol i fod yn sownd ar restr aros GIG Cymru, mae'n debygol nawr o golli ei glyw a'i glust. Mae'r hyn a ddechreuodd fel twf bach canseraidd, a allai fod wedi'i dynnu gydag ymyrraeth gynnar, nawr wedi tyfu'n rhywbeth cwbl erchyll i'r unigolyn.
Diolch i'r Gweinidog iechyd am ei gohebiaeth o ran hyn, ond, yn gyntaf Prif Weinidog, er ei fod yn newyddion i'w groesawu bod Cymru'n cyflwyno canolfannau diagnosis cyflym, yn anffodus, mae'n rhy hwyr i fy etholwr i. Ydych chi'n cytuno bod angen mwy o weithredu i ymdrin â thriniaeth ar ei hôl hi yng Nghymru i atal pobl rhag mynd drwy ddioddefaint o'r fath, a pha obaith y gall y Llywodraeth ei ddarparu i bobl sy'n dioddef fel fy etholwr i?
Diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Rydw i wedi gallu darllen ei lythyr at y Gweinidog iechyd ac rydw i wedi gweld ei hateb. Gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth sy'n ddefnyddiol i'w etholwr yn yr hyn sy'n amlwg yn amgylchiadau unigol sy'n peri gofid mawr.
Mae'r system yn gweithio'n galed bob mis i ymdrin â'r cynnydd yn nifer yr achosion sy'n dod drwy'r drws. Ac mae'n beth da bod mwy o achosion yn dod drwy'r drws, oherwydd rydym ni eisiau sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio i'r system mor gynnar â phosibl. Ym mis Awst, cafodd y nifer uchaf o gleifion eu trin yn y flwyddyn ariannol hon, a chafodd y nifer uchaf erioed o gleifion wybod nad oedd ganddyn nhw ganser—aeth 13,500 o gleifion yng Nghymru ym mis Awst drwy'r system a chael gwybod nad oedd ganddyn nhw'r clefyd ofnadwy hwnnw'n pwyso arnyn nhw. Pan ydych chi'n cyfri'r bobl a gafodd eu trin, a'r bobl a gafodd wybod nad oedden nhw angen triniaeth, mae hynny'n dod i dros 14,500 o bobl, sef y niferoedd uchaf yr ydym ni erioed wedi ymdopi ag ef. Ac eto cafodd 16,000 o bobl eu cyfeirio at y system yn yr un mis. Fel yr wyf i'n ei ddweud, Llywydd, mae hynny'n newyddion da, oherwydd mae hynny'n golygu ein bod ni'n gweld mwy o bobl, ac yn gynharach, a gobeithio bydd mwy o'r bobl yna'n darganfod nad oed angen iddyn nhw wynebu diagnosis o ganser.
Ond fe welwch chi, a bydd yr Aelod dros Fynwy yn gweld, hyd yn oed os ydych chi'n ymdopi â nifer uchaf erioed o bobl sy'n dod trwy'r system, os oes gennych chi'r niferoedd uchaf erioed o bobl yn dod i mewn i'r system, mae'r system yn dal i fod wedi'i hymestyn i'r eithaf. Dyna pam mae gennym ni'r canolfannau diagnostig cyflym newydd, dyna pam mae gennym ni'r clinigau un stop newydd, dyna pam ein bod ni'n datblygu'r system diagnosteg symud yn syth at brofion. Mae'r rhain i gyd yn ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan glinigwyr i ddod o hyd i ffordd o ymateb i'r cyfeiriadau newydd ac ymdrin â phobl sydd wedi bod yn y system yn rhy hir yn barod.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn ogystal â thalu teyrnged i'r gweithwyr iechyd a'r rhai yn ein proffesiynau iechyd sy'n ymdrin â chanser, mae amrywiaeth o elusennau hefyd sy'n diwallu anghenion pawb sy'n dioddef o ganser, ac mae hynny'n cynnwys teuluoedd y rhai sy'n dioddef o ganser. Mae gan nifer o'r rheiny broblemau iechyd meddwl, ac mae pobl eisiau siarad, nid yn unig y dioddefwr canser, ond y rhai o fewn y teulu a'r teulu estynedig. Mae'n gyfnod anodd iawn, a diolch i fy nghydweithiwr Peter Fox am godi'r mater a siarad am y sefyllfa drist iawn honno. Rwy'n gobeithio y bydd teulu'r person hwnnw, yn ogystal â'r dioddefwr hwnnw, yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw.
Yn ogystal â'r elusennau mwy fel Macmillan ac ymddiriedolaeth Marie Curie, mae gennym ni hefyd, yn y canolbarth a'r gorllewin, y Bracken Trust wych yn Llandrindod, sy'n cwrdd ag anghenion teuluoedd a'u gofalwyr. Mae ganddyn nhw wasanaeth galw heibio, gwasanaeth cyfnewid wig, ac maen nhw yn cynnig y gefnogaeth yna i deuluoedd sy'n cael eu heffeithio. Tybed a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r elusennau gwych hynny sy'n gweithredu yn y maes gyda'r dioddefwr a'r teulu ehangach? Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds; mae'r rheiny i gyd yn bwyntiau pwysig iawn. Mae hi'n hollol gywir—nid yr unigolyn yn unig sydd yma, teulu'r unigolyn sy'n cael ei ddal mewn diagnosis canser. A dim ond un o'r anawsterau mae teuluoedd yn ei wynebu yw effaith gorfforol diagnosis canser. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud gan sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru, dim ond ar geisio sicrhau bod pobl yn cael yr help ariannol sydd ei angen arnyn nhw. Mae bod yn sâl gyda chanser yn aml yn golygu nad yw pobl yn gallu ennill arian mewn ffordd y byddai ganddyn nhw o'r blaen, ac nid yw'r system fudd-daliadau yn cydymdeimlo, yn y ffordd y dylai, â phobl sy'n wynebu'r anawsterau hynny. Felly, mae yna broblemau ymarferol, mae'r problemau iechyd ehangach, gan gynnwys effeithiau iechyd meddwl, o ddiagnosis o'r math yna. Mae'r llawer iawn o sefydliadau bach a lleol sy'n bodoli ledled Cymru yn arwydd o gryfder cymdeithas ddinesig Cymru—bod pobl yn rhoi o'u hamser, yn codi'r arian hynny, yn darparu'r gwasanaethau hynny. Ac mae'r gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector, rhan o'n tirwedd ers sefydlu datganoli gyntaf. Rydym ni'n cydnabod ac yn gweithio gyda'r grŵp ehangach hwnnw o bobl yn ein cymdeithas, sydd eisiau sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus craidd a ddarperir yn cael eu cefnogi a'u hymestyn, yn enwedig i bobl â'r anghenion mwyaf.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ58598
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel i'w phoblogaeth leol, wedi'i seilio ar y dystiolaeth a'r cyngor clinigol diweddaraf.
Prif Weinidog, fel yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol, ddydd Sadwrn, mae'n Ddiwrnod Strôc y Byd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau i gyd wedi manteisio ar y cyfle i gwrdd â'r Gymdeithas Strôc y tu allan ar risiau'r Senedd yn gynharach i ddysgu mwy am ofal strôc a'r effaith gadarnhaol y gall thrombectomy ei gael ar gleifion strôc. Yn ardal fy mwrdd iechyd i, roedd y gyfradd thrombectomy yn 2020-21 yn 0.15 y cant, sy'n golygu nad oedd yn bosibl i ddigon o gleifion strôc gael un. Ac eto, rydym ni'n gwybod y gall y driniaeth hon wneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau a lleihau'r siawns o anableddau fel parlys, dallineb neu anawsterau cyfathrebu yn sylweddol. Felly, Prif Weinidog, pa waith sy'n cael ei wneud i gynyddu'r gyfradd thrombectomy ar frys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel bod mwy a mwy o bobl yn fy etholaeth i'n gallu cael gafael ar y driniaeth hanfodol iawn hon?
Rwy'n siŵr y bydd aelodau ar draws y Siambr eisiau nodi Diwrnod Strôc y Byd, ac i gydnabod y datblygiadau sylweddol iawn sydd wedi bod yn ddiweddar mewn triniaethau sydd ar gael i gleifion strôc a'r ffordd y mae'r GIG wedi gallu ymateb i hynny. Nid ydw i'n ddigon cyfarwydd â manylion cwestiwn yr Aelod i roi ateb uniongyrchol iddo ar y pwyntiau hynny y prynhawn yma, ond mae'r Gweinidog iechyd yn ei lle, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi hi bethau y gall hi eu dweud yfory, rwy'n credu, pan fydd hi'n cyfrannu ar lawr y Senedd, bydd hynny'n help i ateb y pwyntiau pwysig mae Paul Davies wedi'u gwneud y prynhawn yma.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Joel James.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r angen am ddatgarboneiddio digidol? OQ58620
Gall technolegau digidol gynorthwyo'r ymdrech angenrheidiol i ddatgarboneiddio Cymru yn sylweddol. Fodd bynnag, gall y weithred o ddefnyddio, ei hun, greu ôl troed carbon. Datgarboneiddio digidol cynaliadwy felly yw uchelgais strategaeth ddigidol Cymru.
Prif Weinidog, mae mwy na 60 y cant o'r data digidol y mae cwmnïau'n ei gynhyrchu yn cael ei gasglu, ei brosesu a'i storio at ddibenion untro yn unig. Gallai hyn gynnwys hen daenlenni, nifer o ddelweddau bron yr un fath, neu'r miloedd ar filoedd o e-byst heb eu darllen neu wedi'u storio na fydd byth, byth yn cael eu hystyried eto. Caiff y math hwn o ddata ei alw'n 'ddata tywyll' neu 'ddata anstrwythuredig'. Ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu 2.5 y cant o'r holl allyriadau carbon deuocsid byd-eang sy'n cael eu hachosi gan bobl, sy'n fwy na chyfanswm y sector hedfan at ei gilydd ar 2.1 y cant. Yn bryderus, mae maint y data tywyll yn tyfu ar gyfradd o 62 y cant y flwyddyn, a rhagwelir y bydd y carbon deuocsid dilynol sy'n cael ei gynhyrchu yn cyfrif am fwy na'r sectorau hedfan, modurol ac ynni gyda'i gilydd mewn dim ond ychydig flynyddoedd. Mae polisi'r Llywodraeth ac arloesi technolegol yn canolbwyntio'n bennaf ar ymdrin ag allyriadau carbon traddodiadol a dal a storio carbon heb ymdrin â phroblem gynyddol data tywyll, ond rhan o weledigaeth ddigidol y Llywodraeth hon yw hyrwyddo ffyniant a chadernid economaidd drwy groesawu a manteisio ar arloesi digidol. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat yng Nghymru yn rhoi dulliau ar waith i ymdrin â'r carbon deuocsid o ddata tywyll? Diolch.
Diolch i Joel James am y cwestiwn yna. Fel mae'n digwydd, oherwydd nid wyf i'n gwneud unrhyw honiadau fy mod i'n arbenigwr yn y maes hwn, roeddwn i'n trafod yr union fater yna gyda phrif swyddog digidol Cymru yn ddiweddar iawn. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig oherwydd mae'n amlygu mater sydd mewn rhai ffyrdd ond wedi dod i'r fei mewn dadl gyhoeddus yn ddiweddar iawn. O'r drafodaeth a gefais, fy nealltwriaeth i yw bod dau ateb posibl i'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud. Yn gyntaf oll, mae cyfrifoldeb ar y cwmnïau mawr hynny sy'n storio data, gan gynnwys data sy'n cael ei storio yn y cwmwl, i roi camau ar waith y gallen nhw eu cymryd eisoes i leihau storio data tywyll ac felly i leihau ei ôl carbon. Yn y dyfodol, nawr bod hwn yn fater sydd wedi dod i fwy o amlygrwydd a mwy o ddealltwriaeth, pan fydd contractau'n cael eu taro rhwng cyrff cyhoeddus a busnesau eraill gyda'r darparwr data, dylai rhan o'r trefniadau contract newydd hynny fod yn ffordd y gall storio data yn ofer na fydd byth yn cael ei ddefnyddio na'i weld eto ddod yn rhan o'r cytundeb sydd gennych chi gyda'r darparwr, fel bod y data hwnnw'n cael ei waredu mewn ffordd nad yw'n arwain at yr effeithiau niweidiol y mae Joel James wedi'u hamlygu y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Fe gaiff y Trefnydd wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar yr oriel gelf gyfoes genedlaethol wedi ei dynnu'n ôl. Hefyd, mae'r drafodaeth ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg wedi'i gohirio tan 15 Tachwedd. Yn olaf, mae datganiad llafar ar gau pont Menai wedi'i ychwanegu fel yr eitem olaf ar agenda heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, yr wythnos diwethaf, cefais i'r pleser o gyfarfod â Diabetes UK a'r Aelod Seneddol Syr James Duddridge i drafod y clefyd llai adnabyddus diabetes math 3c, rhywbeth y mae James a fy nhad yn dioddef ohono. I'r rhai yn y Siambr nad ydyn nhw'n ymwybodol, mae diagnosis math 3c yn digwydd pan fydd y pancreas nid yn unig yn stopio cynhyrchu inswlin ar gyfer y corff ond yn rhwystro cynhyrchu ensymau treuliol hefyd. Mae llu o gyflyrau eraill yn achosi hyn yn aml, fel pancreatitis, canser y pancreas, ffibrosis systig a haemochromatosis. Fodd bynnag, er gwaethaf ei achosion, yn aml mae'n cael camddiagnosis, gan amlaf fel diabetes math 2. Felly, o ystyried ei brinder a phwysigrwydd cael diagnosis cywir, a gaf i ofyn i'r Gweinidog iechyd, naill ai ar lafar neu mewn datganiad ysgrifenedig, wneud datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth glinigol am ddiabetes math 3c a sut y mae modd cefnogi unigolion sy'n byw gyda'r cyflwr? Diolch, Llywydd.
Diolch. Yn sicr, rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud gwaith da iawn o ran codi ymwybyddiaeth o fath o ddiabetes anhysbys iawn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei lle ac wedi cytuno i ysgrifennu atoch chi am hyn.
Trefnydd, roedd y ffigyrau a gafodd eu rhoi i fy swyddfa yn amlygu'r problemau capasiti o fewn GIG Cymru. Mae ymddiriedolaeth ambiwlansys Cymru yn colli mwy na 2,000 awr y mis yn rheolaidd oherwydd ambiwlansys yn aros y tu allan i un ysbyty yn unig yn fy rhanbarth i. Mae'r ffaith mai'r ysbyty hwn yw ysbyty blaenllaw y Faenor hyd yn oed yn fwy problematig, gan fod hyn i fod i gyflwyno gwelliant mewn gwasanaethau iechyd i etholwyr. A all y Llywodraeth hon felly orchymyn adolygiad i faterion capasiti o fewn y GIG a'r sgil-effaith y mae hyn yn ei gael ar wasanaethau eraill a lles cleifion? Mae'r drefn bresennol yn methu cleifion, mae'n methu ysbytai ac mae'n methu staff ambiwlans. Gobeithio eich bod chi'n cytuno bod pethau'n annerbyniol ac na all pethau fynd ymlaen fel hyn.
Diolch. Wel, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr mae'n rhywbeth rwy'n meddwl ein bod ni wedi'i weld y tu allan i lawer o'n hysbytai yng Nghymru, sy'n rhywbeth nad ydym ni eisiau'i weld, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r holl fyrddau iechyd i geisio gwella'r amseroedd y mae ambiwlansys yn aros y tu allan. Yn amlwg, mae hwn yn broblem gyda gallu yn ein hadrannau brys, ac, unwaith eto, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i recriwtio mwy o ymgynghorwyr meddygol brys. Rwy'n gwybod, yn sicr, bod Betsi Cadwaladr, nad yw, rwy'n gwerthfawrogi, yn eich ardal chi, yn faes lle maen nhw wir wedi bod â phwyslais gwirioneddol.
Rwy'n gofyn am un datganiad yn unig fel cyfrwng ar gyfer yr wybodaeth diweddaraf. Roedd gwir deimlad o optimistiaeth flwyddyn yn ôl, pan gamodd Llywodraeth Cymru i'r adwy o ran materion rhaglen arbed ynni cymunedol Caerau Arbed, gyda dros 100 o ddeiliaid tai—nid pob un drwy gynllun Cymru, mewn gwirionedd, y mwyafrif drwy raglen CESP Lloegr—wedi'u heffeithio'n ddwfn, a'u cartrefi a'u safon byw hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae hi wir yn broblem. Ond fe gamodd Llywodraeth Cymru i'r adwy a dywedodd y byddai'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno achos busnes a fyddai wedyn yn cael ei gymeradwyo a gallen ni fynd ati i wella cartrefi'r holl bobl hynny. Ond mae amser wedi mynd heibio; rwy'n credu ei bod hi'n wyth mis ers i'r achos busnes gael ei gyflwyno. Rwy'n gwybod bod yna 'nôl a blaen' wedi bod rhwng y cyngor a Llywodraeth Cymru yn mireinio'r peth, oherwydd yr wyf i wedi ysgrifennu o'r blaen. Mae Aelodau eraill yn y Senedd wedi codi'r mater yma hefyd. Ond mae angen datganiad, fel y gallwn ni roi'r sicrwydd i bobl bod hyn yn mynd yn ei flaen, er gwaethaf yr oedi, er gwaethaf mireinio, er gwaethaf gorfod cael yr holl fiwrocratiaeth wedi'i chymeradwyo, oherwydd mae'n swm anferth o arian yr ydym ni'n sôn amdano, ond rydym ni eisiau'i weld yn symud ymlaen. Felly, a oes unrhyw obaith y gallem ni gael datganiad o'r wybodaeth ddiweddaraf fel y bydd yr holl ddeiliaid tai hynny—dros 100 yng Nghaerau—yn gwybod y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud o'r diwedd, ac yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?
Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd yn amlwg â chyfrifoldeb am y cynllun hwn, wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddiolch i'w swyddogion, yn enwedig, am eu hymgysylltiad parhaus gyda'i swyddogion wrth ddatblygu'r achos busnes manwl. Fel y dywedoch chi, cymeradwyodd y Gweinidog y cynllun mewn egwyddor, nôl ym mis Tachwedd diwethaf, felly mae bron i flwyddyn wedi bod, ac yn amlwg mae cyflwyniad wedi bod ers hynny o'r achos busnes manwl, ac rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog yn gweithio ar gyngor, a fydd yn cael ei roi i'r Gweinidog a hynny ar fin digwydd.
A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog iechyd y prynhawn yma ar amseroedd aros yn ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, gan fod Chelsea Clark o Meliden wedi cysylltu â mi dros nos, y mae ei nain wedi bod yn eistedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys am 35 awr—35 awr mewn coridor budr gyda chlot gwaed yn ei choes, niwmonia, ac mae hi eisoes wedi cael sepsis a llid yr ymennydd, sydd wedi achosi clefyd yr arennau? Mae hwn yn achos byw, Trefnydd, sydd yn achosi llawer o drallod i'r claf a'i theulu, ac mae angen gwneud rhywbeth, gan ein bod ni'n gweld o achosion fel hyn yn rhy aml. Felly, hoffwn i gael datganiad brys gan Lywodraeth Cymru prynhawn yma yn manylu ar ba ddulliau maen nhw'n mynd i'w defnyddio i ddod â'r bwrdd iechyd i gyfrif ar y problemau hyn. A gan fethu hyn, a fydd Llywodraeth Cymru'n derbyn eu bod nhw wedi colli rheolaeth dros wasanaethau iechyd yn y gogledd yn llwyr? Mae angen atebion ar fy etholwyr i ac maen nhw eu hangen nhw arnyn nhw nawr.
Wel, mae'r Aelod yn gwybod nad oes modd i ni wneud datganiad brys y prynhawn yma ar achos unigol gofidus iawn, ac mae'n ddrwg gennyf i nad yw'r Gweinidog yn y Siambr, ond byddaf i'n sicrhau ei bod hi'n clywed am yr achos unigol. Er na all hi wneud sylwadau ar achos penodol yn amlwg, byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith arwyddocaol y mae'r Gweinidog yn ei wneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn enwedig ynghylch yr adran damweiniau ac achosion brys. Gwnes i sôn yn fy ateb cynharach i Peredur am y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gallu cael—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Gweinidog—[Anghlywadwy.]
—i wneud yn siŵr bod—
Beth sy'n digwydd i fy meicroffon? Gadwch i'r Trefnydd fynd yn ei blaen. Rwy'n credu ei bod hi wedi fy nghlywed i.
—i wneud yn siŵr bod gan ein prif ysbytai yn y gogledd yr ymgynghorwyr gofal brys sy'n ofynnol.
Gweinidog, fel clinigwr, rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau enfawr ar y GIG, ar ein cleifion sy'n aros am driniaeth, ac ar ein staff, sydd wedi dangos y fath broffesiynoldeb yn wyneb heriau digynsail. Er fy mod i'n gwybod bod yn rhaid i ni ddatrys yr argyfwng tymor byr, mae angen i ni hefyd edrych i'r tymor hwy yn strategol a gyda phwrpas. Ym maes gofal canser, mae hyn yn hanfodol bwysig. Mae gan Loegr a'r Alban gynllun canser cenedlaethol, ac fe wnaeth Gogledd Iwerddon ymgynghori ar hyn fis Tachwedd diwethaf. Ar y llaw arall, Cymru yw'r unig genedl o'r DU nawr sydd heb gynllun canser. Rwy'n gwybod ei bod yn ddyletswydd arnoch, i'r rhai sydd angen gofal a thriniaeth ac i'r rhai sy'n darparu ein gwasanaethau, sefydlu strategaeth i nodi'r canlyniadau sydd eu hangen. A wnaiff y Gweinidog drefnu dadl yn amser y Llywodraeth i ganiatáu i'r Gweinidog nodi ei syniadau? Diolch.
Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried gwneud datganiad ar wasanaethau canser yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n gwneud hynny bron bob blwyddyn, ond nid ydw i'n hollol siŵr lle yr ydym ni yn y cylch, ond yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog—sydd newydd glywed eich cwestiwn—os yw hi'n barod i wneud hynny.
Prynhawn da, Trefnydd. Mae'r sefyllfa ariannol benodol ar hyn o bryd yn golygu bod y rhai tlotaf yn ein cymdeithas yn mynd i ddioddef ergyd arbennig o galed ac mae'r rheiny sydd mewn dyled ar hyn o bryd yn mynd i ddioddef problemau penodol. Cafodd hyn ei amlygu mewn stori ar-lein gan y BBC a ganolbwyntiodd ar achos ofnadwy mam sengl a oedd yn gweithio fel gofalwr. Soniodd Julie am y cywilydd roedd hi'n ei deimlo. Soniodd hi am braw a wynebodd ei merch ifanc pan oedd beilïaid mewn arfwisg corff llawn yn curo ar y drws. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno na ddylai neb orfod byw fel hyn. Rydym yn gwybod mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o waharddiadau ariannol yn y DU ac mae angen i ni fod yn barod i ystyried atebion radical i ymdrin ag effeithiau dyled ar ein trigolion yma.
Felly, mae hyn hefyd drwy ddilyniant. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'r pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol a wnaeth argymell y dylai Cymru ystyried coelcerth ddyled. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pwnc hwn a'r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, rydym ni'n sicr yn gwybod, i lawer o bobl, y bydd yr argyfwng costau byw hwn yn eu gwthio dros y diben, yn anffodus, o ran eu cyllid, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus iawn, a'i bod hi'n edrych—. Rwy'n gwybod mai un maes lle mae hi'n gwneud rhywfaint o waith yw dyled sy'n ddyledus i gredydwyr y sector cyhoeddus, er enghraifft, ac mae hynny'n cynnwys awdurdodau lleol, sy'n dod yn bryder cynyddol wrth i bobl wynebu'r argyfwng costau byw, ac mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r cynnig am goelcerth ddyled.
Fel Llywodraeth, rydym ni'n sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu ni i gefnogi ein trigolion o ran gallu manteisio ar gefnogaeth ariannol, a gwneud yr hyn y gallwn ni i helpu pobl gyda dyled a gyda'r argyfwng costau byw, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei ateb yn ystod ei sesiwn holi sut, fel Cabinet, bob wythnos mae gennym ni is-bwyllgor costau byw o'r Cabinet, lle mae gennym ni arbenigwyr yn dod i mewn i roi cyngor i ni ynglŷn â sut y gallwn ni fod yn fwy radical a beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu pobl.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi am ba waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu masnach cyn y Nadolig i'n busnesau canol trefi sy'n gweithio'n galed? Rwy'n credu'n gryf y dylem ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu busnesau i ffynnu, nid dim ond goroesi, ledled Cymru, ac maen nhw'n wynebu pwysau costau byw cynyddol a pharhau i ymdrin â chanlyniadau'r pandemig coronafeirws. Yn fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain, rwyf i wedi lansio menter newydd i roi hwb angenrheidiol i fusnesau yn ystod cyfnod yr ŵyl a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi. Rwyf i wedi ysgrifennu at holl arweinwyr yr holl awdurdodau lleol ar draws y de-ddwyrain, yn gofyn iddyn nhw gefnogi fy nghynigion a gweithio gyda mi i wireddu hyn. Fy nghynllun i yw gweld ffioedd parcio ceir yn cael eu dileu ym mhob maes parcio sy'n cael eu rheoli gan y cyngor drwy gydol mis Rhagfyr mewn ymgais i annog mwy o bobl i fynd allan wrth i gyfnod yr ŵyl agosáu. Bydd busnesau nid yn unig yn elwa o ganlyniad i barcio am ddim, ond byddai hefyd yn cyfrannu'n helaeth at helpu teuluoedd sy'n teimlo'r wasgfa ariannol. Mae llawer o ganol trefi ledled y DU wedi cyflwyno cynlluniau tebyg, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac rwy'n gwerthfawrogi bod cyngor Mynwy yn wir wedi dechrau ar hyn hefyd. Felly, byddai unrhyw gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i fy menter i'n cael ei werthfawrogi'n fawr, a byddwn i hefyd yn gwerthfawrogi pe bai Gweinidog yr economi yn gallu amlinellu sut yn union y mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i helpu busnesau Cymru yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Diolch. Yn sicr, rwy'n credu y byddai'n werth i chi ysgrifennu at Weinidog yr Economi, gan amlinellu'r cynigion sydd wedi'u hawgrymu gennych chi, ac rwy'n gwybod ein bod ni wedi gwneud cryn dipyn o waith fel rhan o adfywio canol tref, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig yn ystod y blynyddoedd blaenorol, i dynnu sylw at sut y gallan nhw gael mwy o ymwelwyr i ganol ein trefi, ac, yn amlwg, mae parcio am ddim yn un maes.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am y ffaith bod angen cefnogaeth frys ar rai ysgolion cynradd i ymestyn eu ceginau a chyflogi mwy o staff i reoli'r polisi prydau ysgol am ddim. Yn wir, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig, gwnaeth y Gweinidog addysg fy nghyngori i, ac rwy'n dyfynnu,
'Bydd gwaith arall yn cael ei wneud yn ystod mis Hydref i ddeall a oes angen unrhyw waith uwchraddio ceginau ychwanegol i gyflawni camau nesaf prydau ysgol cynradd cyffredinol.'
Yr oedd bryd hynny, fodd bynnag, yn methu
'cadarnhau nifer yr ysgolion cynradd yng Nghymru y mae angen uwchraddio eu ceginau.'
Heb y staff sy'n cael eu cyflogi i weithio yng ngheginau ein hysgolion yn Aberconwy ac ar draws Cymru, nid yw darparu'r cynnig cyffredinol hwn yn mynd i fod yn bosibl. Gwnes i gyfarfod ag un o'r timau hynny—tîm cegin ysgol, y diwrnod o'r blaen—ac roedden nhw'n gweithio'n anhygoel o galed, ond maen nhw eu hunain nawr yn dechrau mynd i banig ynghylch sut maen nhw'n mynd i gymryd y polisi hwn a'i gyflawni'n gywir, gyda nifer y disgyblion mewn gwahanol ysgolion. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog? A wnaiff e' roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar ganlyniad y gwaith y mis hwn fel bod timau cegin ysgol eu hunain yn gallu darganfod a ydyn nhw'n mynd i fod yn derbyn yr help hwn? Ac, yn bennaf, cyllid hefyd maen nhw'n chwilio amdano. Diolch.
Diolch. Yn amlwg, wrth i ni gyflwyno'r polisi hwn, bydd mwy o waith yn cael ei wneud gyda'n hysgolion, ac mae hynny eisoes yn digwydd. Fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi cael ymateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas â gwaith pellach oedd yn cael ei wneud yn ystod mis Hydref. Yn amlwg, rydym ni'n dal ym mis Hydref, felly byddwn yn gobeithio pan fydd ganddo'r wybodaeth honno wrth law, os yw'n teimlo bod angen iddo wneud diweddariad, y bydd yn gwneud hynny.
Diolch, Gweinidog busnes. Hoffwn ofyn am ddatganiad, hefyd, gan y Gweinidog addysg yn datgan safbwynt y Llywodraeth ar yr elusen Mermaids a'u dylanwad ar ddeunydd addysgol yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae ymchwiliad ar y gweill gan y Comisiwn Elusennau ynghylch cydymffurfiaeth yr elusen, ac, y mis yma, mae'r Adran Addysg wedi dileu Mermaids fel adnodd iechyd meddwl a lles i ysgolion o ganlyniad i ymchwiliad sy'n parhau, difrifoldeb yr honiadau a'r angen i amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc. A gaf i ofyn felly i'r Gweinidog Addysg am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch Mermaids a'r pryderon yr amlinellais i? Diolch.
Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw waith sy'n cael ei wneud gan y sefydliad rydych chi'n cyfeirio ato, ond os yw hynny'n wir, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Heddiw, rydw i'n cyhoeddi ein fframwaith imiwneiddio cenedlaethol newydd. Mae brechu wedi bod yn rhan hanfodol o ddarpariaeth GIG Cymru i ddiogelu ein dinasyddion a'n cymunedau ers amser maith. Roedd y pandemig yn gofyn i ni feddwl yn wahanol am ddefnyddio brechiadau, yn enwedig yr angen i gael cynifer â phosib i'w cymryd ac i sicrhau tegwch. Mae'n rhaid i ni ddysgu'r gwersi hyn a'u cynnwys yn ein trefniadau yn y dyfodol, a thrwy'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol hwn y byddwn yn gwneud hynny. Mae arna i eisiau i'r fframwaith hwn alluogi newidiadau cadarnhaol i gyflawni a gwella trefniadau brechu a chynyddu'r niferoedd sy'n cael eu brechu ar draws ein holl raglenni brechu.
Cafodd y rhaglen trawsnewid brechiadau ei sefydlu yn gynharach eleni i edrych ar ddarparu gwasanaethau brechu er mwyn sicrhau bod y trefniadau'n addas i'r dyfodol. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, a fraenarodd y tir ar gyfer rhaglen gyfunol i frechu yn erbyn COVID-19 a'r ffliw a lansiwyd ar 1 Medi. Mae'r rhaglen yn bwrw ymlaen yn dda, gyda'r ymgyrchoedd COVID-19 a'r ffliw bellach ar eu hanterth. Bydd pawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 yn cael gwahoddiad erbyn diwedd Tachwedd, a bydd y rhai sy'n gymwys i gael brechiad ffliw yn cael gwahoddiad erbyn diwedd Rhagfyr. Mae mor bwysig ein bod yn sicrhau bod cynifer â phosib yn cael y ddau frechlyn, ac rwy'n annog pawb i fynd i'w hapwyntiadau yr hydref hwn i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd.
Er mor bwysig ydynt, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'r fframwaith hwn yn ymwneud â llawer mwy na brechu yn erbyn firysau anadlol; mae'n cynnwys ein holl raglenni brechu, gan gynnwys brechiadau plentyndod. A llwyddiant ac arfer da'r rhaglenni yma sydd wedi bod yn sylfaen i'r broses drawsnewid. Yn wir, fe wnaethant ddarparu sail i'n rhaglen frechu COVID-19 sy'n arwain y byd.
Ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol imiwneiddio yng Nghymru yw bod cynifer â phosib yn cael brechlyn effeithiol mewn ffordd gynaliadwy ar yr adeg gywir i leihau salwch difrifol a marwolaeth. Mae arnom ni eisiau gweld gwasanaethau brechu sydd yn glir, lle mae pobl yn gwybod pa frechiadau y maent yn gymwys i'w cael, a sut i'w derbyn, gyda chynifer â phosib yn eu cael a thegwch yn y ffordd y gwneir hynny wrth galon dylunio a darparu gwasanaethau. Dyma'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol cyntaf i'w gyhoeddi ar gyfer Cymru, ac fe'i datblygwyd ar y cyd, gyda Llywodraeth Cymru a'r GIG yn gweithio fel un tîm i adnabod a defnyddio gwersi o'r pandemig i drosglwyddo i sefyllfa o well gweithredu rheolaidd ar gyfer pob rhaglen frechu.
Bydd atebolrwydd y byrddau iechyd yn parhau heb newid, gyda byrddau yn asesu angen lleol, comisiynu, rheoli perfformiad a gwerthuso'r ddarpariaeth yn unol â'r cyfeiriad strategol cenedlaethol. Ein bwriad yw cefnogi hynny, galluogi gwelliannau ac i sicrhau bod cymaint â phosib o bobl yn manteisio i'r eithaf ar ddiogelu pawb yng Nghymru. Bydd gan fwrdd gweithredu'r GIG ran allweddol yn y gwaith o gynllunio a rheoli perfformiad rhaglenni brechu yn y dyfodol.
Felly, mae'r fframwaith yn nodi chwe maes pwyslais allweddol, lle mae ein blaenoriaethau a'n disgwyliadau strategol yn cael eu gosod, a'r rhain yw tegwch brechu, brechu digidol, cymhwysedd, llythrennedd brechu cyhoeddus, rhoi a llywodraethu. Mae mwyafrif yr ymrwymiadau a amlinellir yn y fframwaith yn adeiladu ar arferion sydd wedi gweithio'n dda o'n profiad o raglen COVID-19 ac o hyblygrwydd hynny neu ar yr arferion gorau o raglenni presennol, hirsefydlog. Mae'r cyfan wedi'u nodi gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau ar lawr gwlad. Rydym ni'n gwybod nad yw niwed iechyd yn sgil COVID-19 wedi effeithio ar bobl yng Nghymru yn yr un modd. Roedd angen cefnogaeth benodol i alluogi ac annog grwpiau sydd wedi'u hesgeuluso i fanteisio ar y cynnig o frechu. Bydd pobl o gymunedau anoddach eu cyrraedd yn dod ymlaen i gael eu brechu, sy'n awgrymu bod hygyrchedd yn hytrach nac argaeledd yn rhwystr allweddol. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef, a dyna pam rydym ni wedi rhoi tegwch o ran brechu wrth wraidd dull brechu Cymru a'r fframwaith hwn.
Mae dealltwriaeth a diddordeb y cyhoedd yn hanfodol wrth gefnogi pobl i gael eu brechu, felly mae'r fframwaith yn canolbwyntio ar hyn. Mae'n cynnwys blaenoriaethau ar gyd-gynhyrchu deunyddiau i gleifion, strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn, a hyfforddiant i gynyddu ymwybyddiaeth o frechu ymhlith y gweithlu iechyd a gofal, a ffigyrau cymunedol a dibynadwy, fel y gallant eirioli dros frechu a gwneud i bob cyswllt gyfrif.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Mae'r fframwaith yn ymrwymo i greu adnodd imiwneiddio craidd mewn byrddau iechyd. Mae'n newid strwythurau llywodraethu i sicrhau goruchwyliaeth a rheolaeth briodol ac integredig i'r holl raglenni brechu a llifoedd gwaith i drawsnewid y seilwaith digidol ar gyfer brechu, sy'n cynnig cyfleoedd enfawr i wasanaethau a dinasyddion.
Ymrwymiad arall o bwys yn y fframwaith yw symud i broses gaffael ganolog ar gyfer brechlyn y ffliw. Rŷn ni wedi gweld lefelau digynsail yn manteisio ar y brechlyn yn ein rhaglen COVID-19. Dwi'n derbyn bod hyn yn rhannol oherwydd y cyd-destun, ond mae peth o'r diolch hefyd i'r ffordd y mae'r system wedi meithrin cysylltiadau a chynnwys grwpiau sydd wedi bod yn anodd eu cynnwys yn y gorffennol. Dwi am i'r pwyslais hwn ar ddiogelu iechyd gael ei ddefnyddio yn y rhaglen ffliw yn y dyfodol hefyd. Gallwn ni ddim disgwyl i ddarparwyr gofal sylfaenol ysgwyddo'r risg o archebu mwy o'r brechlyn. Rŷn ni'n cydnabod bod yn rhaid cadw'r risg hon ar lefel genedlaethol, felly rŷn ni'n archwilio sut allwn ni symud at fodel caffael cenedlaethol o 2024 ymlaen.
Bydd darparwyr gofal sylfaenol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, yn dal i chwarae rhan bwysig iawn wrth ddarparu brechlyn y ffliw a rhaglenni brechu eraill ar ôl 2024. Maen nhw'n elfen hollbwysig o'r opsiynau y dylid eu rhoi i ddinasyddion er mwyn sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o bobl yn manteisio ar y brechlynnau. Rŷn ni'n gweithio'n agos gyda phawb sy'n rhan o'r gwaith hwn i roi'r newidiadau ar waith.
Mae cyhoeddi’r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol yn garreg filltir allweddol sy'n dangos ein bod wedi symud i gyfnod gweithredu'r rhaglen drawsnewid frechu. Rŷn ni'n disgwyl y bydd y broses o bontio i'r trefniadau newydd yn digwydd yn ystod 2023 a 2024. Drwy gydol y cyfnod gweithredu, bydd y rhaglenni presennol yn parhau i gael eu cyflawni'n effeithiol, a bydd ein trefniadau llywodraethu yn adlewyrchu hyn. Uned gyflawni'r gwasanaethau iechyd fydd yn goruchwylio'r gwaith gweithredu, a bydd yr uned yn dod yn rhan o waith gweithredu'r gwasanaeth iechyd yn 2023, gyda Llywodraeth Cymru yn symud i rôl oruchwylio. Rŷn ni wedi ymrwymo i barhau i weithio ar y cyd yn ystod y cyfnod gweithredu, a'r bwriad yw cyhoeddi diweddariad yn 2023 i roi gwybod am y cynnydd sy'n digwydd o ran y newidiadau a'r ymrwymiadau sydd wedi'u nodi yn y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a chi wedi datgan droeon trwy gydol y pandemig y byddai'r wyddoniaeth yn arwain eich Llywodraeth. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, gyda'r dull hwnnw hefyd, a sefydlodd y Llywodraeth y gell gynghori dechnegol sydd hefyd wedi derbyn argymhellion y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu, o ran pa grwpiau ddylai gael brechiadau COVID. Nawr, yn eich fframwaith, rydych yn nodi eich bod yn cael eich tywys gan gyngor y cyd-bwyllgor, ond mae'r fframwaith hefyd yn mynd ymlaen i ddweud,
'Wedi dweud hynny, hyd yn oed mewn rhaglenni sydd fel arfer
yn sefydlog, bydd angen ymateb brys a chyflym weithiau'.
Felly dim ond eisiau gofyn oeddwn i beth mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun pryd rydych chi'n aros am gyngor gan y cyd-bwyllgor. Wrth gwrs, mae'r cyd-bwyllgor yn sefydliad hynod bwysig, sy'n cynnwys clinigwyr ac arbenigwyr ar draws y DU, ac asiantaeth diogelwch iechyd y DU. Mae hefyd yn rhoi argymhellion i holl awdurdodau iechyd y DU ar frechiadau eraill, nid dim ond COVID-19. Felly dim ond ceisio gofyn i chi ydw i pa ddyfodol ydych chi'n gweld sydd i'r cyd-bwyllgor, er enghraifft, a gaiff ei swyddogaeth ei gryfhau, neu ydych chi'n cymryd safbwynt gwahanol?
Darllenais hefyd gyda diddordeb, Gweinidog, yr adran ar frechu'n ddigidol, ac mae'n nodi eich bod wedi comisiynu Iechyd a Gofal Digidol Cymru—Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gynt—i adolygu'r holl systemau brechu, ond eich bod yn chwilio am atebion tymor byrrach. Felly, rwy'n ymwybodol bod y system imiwneiddio Gymreig bresennol wedi'i sefydlu yn ystod y pandemig i gofnodi a rheoli darparu brechlynnau COVID, ond rwyf hefyd wedi cael gwybod bod y gwasanaeth gwybodeg, neu y gall fod, yn feichus ac yn anhyblyg, felly efallai y gallech roi barn ar hynny. Ond, er y bu'r system, efallai, yn ddigonol i gofnodi brechlynnau COVID a drefnwyd ymlaen llaw, rwy'n dyfalu efallai na fydd y system yn debygol o fod yn briodol yn ei ffurf bresennol i gofnodi brechlynnau ffliw a brechiadau eraill y gallai fod eu hangen ar gleifion. Felly tybed, Gweinidog, p'un ai, felly, rydych chi'n disgwyl i'r gwasanaeth gwybodeg ddod y brif system TG ar gyfer rheoli a chofnodi brechlynnau yn y dyfodol, ac os felly, sut ydych chi'n bwriadu gwella'r system fel ei bod yn fwy hyblyg, llai biwrocrataidd a symlach i'w defnyddio?
Byddai diweddariad cyflym ynghylch brechiadau ffliw a COVID ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi. Rwy'n gwybod eich bod chi, neu rwy'n credu bod eich swyddogion, wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd yn hynny o beth, felly byddai diweddariad ar hynny'n cael ei werthfawrogi. Ac yn olaf, Gweinidog, darllenais gyda hyfrydwch eich bod wedi sôn am ddefnyddio ap hir-ddisgwyliedig GIG Cymru yn y fframwaith, ond does dim gwybodaeth ynglŷn â phryd y bydd hyn yn digwydd. Fydd hyn cyn y gaeaf, o fewn y chwe mis nesaf, y flwyddyn nesaf? Rydym yn aros am rywbeth a fydd yn chwyldroi mynediad cleifion i apwyntiadau, presgripsiynau a mwy, felly allwch chi gadarnhau pryd y cyflwynir hynny? Diolch, Gweinidog.
Diolch yn fawr, Russell. Rydym ni, trwy gydol y pandemig, wedi bod yn dilyn cyngor y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu, sydd, fel y gwyddoch chi, wedi'i ymgorffori mewn gwyddoniaeth a dull gweithredu clinigol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn amlwg, os oes adegau pan fydd angen i ni weithio ar gyflymder, maen nhw hefyd wedi dangos, yn ystod y pandemig, y gallan nhw hefyd weithio ar gyflymder. Rwy'n credu y byddai'n rhaid i ni gael rheswm eithaf da i gefnu ar gyngor y cyd-bwyllgor, felly yn sicr dyna'r model rydym ni wedi'i ddilyn hyd yn hyn.
O ran brechu digidol, byddwn ni'n datblygu taith frechu ddigidol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bydd hynny'n cynnwys cofnod brechu integredig, cydsyniad digidol ac ymarferoldeb archebu a chyfathrebu a chofnodi gwell. Felly, fel rydych chi wedi ei nodi, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn mynd i adolygu'r holl systemau brechu. Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn cyfathrebu â'i gilydd, felly mae rhyngweithrededd yn gwbl allweddol, a dyna beth maen nhw'n gweithio i'w wneud. Felly, wrth feddwl am atebion digidol tymor hir, bydd angen i ni gael rhai atebion tymor byrrach i wneud gwelliannau ar unwaith. Mae cynlluniau gwella digidol presennol a fydd yn cysylltu â phethau fel ein portffolio trawsnewid meddyginiaethau digidol, yr adnodd data cenedlaethol a'r gwasanaethau digidol i gleifion a rhaglen gyhoeddus.
Mae ap GIG Cymru—. Iawn, rwy'n mynd i ddweud wrthych chi'n dawel, Russell. Mewn gwirionedd mae'n cael ei brofi ar hyn o bryd; mae wedi cael ei brofi. Yr hyn mae arnom ni eisiau ei wneud yw sicrhau ei fod yn gweithio a bod y swyddogaeth yn gweithio. Mae'n rhaid cael tri mater allweddol iawn sy'n gwneud iddo weithio'n dda. Un yw bod angen i'r darnau technegol weithio'n dda. Yr ail yw eich bod angen i'r claf allu ei ddefnyddio, ac felly gwneud yn siŵr ei bod yn broses syml iawn y gall pawb ei ddefnyddio. A'r trydydd yw bod angen, er enghraifft, i feddygon teulu i allu cysylltu ag ef. Felly, mae hynny'n cael ei brofi ar hyn o bryd mewn gweithrediad byw go iawn; mae 1,000 o bobl yn ei ddefnyddio wrth i ni siarad. Felly, mae pethau'n dod yn eu blaen, ond yr hyn nad ydw i eisiau ei wneud yw lansio rhywbeth, fel y gwnaethon nhw yn Lloegr, y mae'r holl feddygon teulu wedyn yn ei ddiffodd oherwydd ei fod yn rhy llethol. Dim ond ceisio sicrhau ydym ni ein bod ni'n ystyried pethau a ddim yn ei lansio'n ffurfiol nes ein bod ni'n hollol sicr bod y peth yn mynd i weithio.
Diolch am y datganiad. Dwi'n eiddgar, wrth gwrs, i gadarnhau cefnogaeth frwd y meinciau yma i raglenni brechu yn gyffredinol a'u cyfraniad nhw at iechyd y genedl. Mewn ffordd, mae'n od, tra'n croesawu'r fframwaith newydd, nad oedd gennym ni fframwaith ynghynt, mor bwysig ydy brechu fel rhan o'r tirwedd iechyd yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, rydyn ni wedi bod drwy gyfnod lle mae yna fwy o sylw wedi cael ei roi i frechiadau nag ar unrhyw gyfnod yn ein hanes ni, debyg iawn, efo'r pandemig. Un cwestiwn ar raglen frechu'r pandemig. Mae'r Llywodraeth yn dweud bod rhaglen booster yr hydref yn mynd yn iawn, ond mae'r ffigurau yn awgrymu bod yr uptake yn llai nag y mae o wedi bod, yn enwedig pobl immunosuppressed. Tybed all y Gweinidog ymchwilio, neu roi ymrwymiad i ymchwilio i pam fod yr uptake wedi bod, mae'n ymddangos, gymaint llai yr hydref yma.
Ond yn ôl at y datganiad yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod y chwe maes ffocws yn y fframwaith yn synhwyrol. Dwi'n croesawu'n arbennig, mae'n rhaid dweud, y sylw sydd yna ar anelu am system lle mae pawb yn gyfartal, lle mae pawb yn cael mynediad cyfartal at frechiadau, achos ar hyn o bryd, fel mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, nid dyna yr achos.
Dwi am roi sylw i un peth yn benodol yn fan hyn. Mae'r datganiad yn cyfeirio at y bwriad i greu system gaffael ganolog ar gyfer brechiad y ffliw o 2024 ymlaen. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae meddygfeydd yn caffael brechiadau eu hunain yn uniongyrchol gan gyflenwyr. Mae'r Alban wedi dweud yn barod eu bod nhw'n troi at system gaffael ganolog, lle mae'r byrddau iechyd yn prynu'r holl frechlynnau ac yn eu dosbarthu nhw yn lleol. Rŵan, tra bod yna fanteision, dwi'n meddwl, i symud i system ganolog fel hyn ar gyfer yr hirdymor, mae'n bwysig, dwi'n meddwl, ar y pwynt cynnar yma yn y trafodaethau, i gadw mewn golwg yr heriau sy'n debyg iawn o godi, ac rydyn ni'n gwybod hynny o brofiad yr Alban. Pan wnaeth yr Alban gyflwyno'r system, mi wnaethon nhw sylweddoli (1) y byddai hi'n cymryd cyfnod o bosib tair blynedd i gyflwyno system fel hyn, ond (2) y byddai fo'n cael effaith negyddol ar y fferyllfeydd—ar y meddygfeydd, sori. Mi oedd angen ymateb i'r ansicrwydd yna; beth wnaethon nhw, fel Llywodraeth yr Alban, oedd rhoi £5 miliwn yn ychwanegol i wneud yn siŵr bod y broses nid yn unig yn cyflymu, yn digwydd yn effeithiol, ond, yn fwy na hynny, yn digolledi meddygfeydd yn ystod y cyfnod cychwynnol yna. Felly, gaf i ofyn a wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i gydweithio'n agos iawn â meddygon a meddygfeydd i chwilio am ffyrdd o liniaru'r effeithiau negyddol posib yna, os bydd hwn yn cael ei gyflwyno? A hefyd a wnaiff hi gytuno i ystyried dilyn esiampl yr Alban a chynnig cymorth ariannol penodol lle bo angen gwneud hynny?
Diolch yn fawr. Wel, jest o ran y booster, felly, dwi'n falch o ddweud, ar yr ail ar bymtheg o'r mis yma, roedd 471,488 o bobl wedi cael y booster. Mae targed gyda ni o 75 y cant. Dwi'n falch o ddweud, os ydych chi mewn cartref gofal, rŷn ni lan at 74 y cant eisoes. Felly, mae hwnna ymhell o flaen ein targed ni. Rŷn ni yn poeni rhywfaint am staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal a staff yn y byrddau iechyd, felly dwi'n gwybod bod chief executive yr NHS wedi ysgrifennu nawr at y byrddau iechyd i ofyn iddyn nhw roi tipyn bach mwy o ymdrech i gael staff. Dwi'n gwybod eu bod nhw wedi blino a'u bod nhw'n gwneud ymdrech fawr, ac efallai mai pwysau gwaith sydd wedi'u stopio nhw rhag gwneud hynny, ond mae yn bwysig iddyn nhw ddiogelu eu hunain wrth inni fynd i mewn i beth rŷn ni'n gwybod fydd yn aeaf caled. Rŷch chi'n iawn ynglŷn â'r grŵp risg yna: felly, rŷn ni'n edrych ar tua 7 y cant o bobl o bump i 49, ond dyw'r ffocws ddim wedi bod ar hynny eto; rŷn ni yn ei gwneud hi mewn trefn blaenoriaeth, a dyna pam rŷn ni wedi sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio'n gyntaf ar y cartrefi gofal yna.
O ran y system caffael cenedlaethol, yn amlwg dyw hwn ddim yn mynd i ddigwydd yfory, ond mae hyd yn oed beth sydd wedi digwydd eleni, lle rŷn ni wedi gweld GPs, er enghraifft, yn prynu'r y flu vaccine—dydyn nhw ddim wedi ordro digon ac rŷn ni wedi gorfod camu mewn fel Llywodraeth. Felly, eisoes, rŷn ni'n camu i mewn, ac, wrth gwrs, mae hwnna'n golygu bod arian ychwanegol yn mynd mewn. Ond, os ydych chi'n mynd i system caffael cenedlaethol, rŷch chi'n fwy tebygol o gael gwell dêl hefyd, felly dwi yn gobeithio y bydd hwnna'n gwneud gwahaniaeth.
Diolch i chi.
Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Banc Datblygu Cymru—Buddsoddi Uchelgeisiol. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd dros dro. Rwy'n gwybod bod busnesau a gweithwyr yn ymgodymu o'r newydd ag ysgytwadau gwirioneddol unwaith eto. Yn dilyn llawer o drafodaethau a gefais i gyda busnesau yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwy'n cydnabod yr anawsterau aruthrol y maen nhw'n eu hwynebu. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw amheuaeth ynghylch difrifoldeb y sefyllfa. Mae ein heconomi ni'n fwy dibynnol ar fusnesau bach, felly fe fydd y risgiau y maen nhw'n eu hwynebu yn sicr o ergydio ein cymunedau ni'n anghymesur. Mae llawer o fusnesau bach yn anadl einioes i'n cymunedau ni ac yn cynnig man cyfarfod i bobl, gan lunio rhan o gymeriad y cymdogaethau ledled Cymru. Yn oes datganoli, rwy'n falch ein bod ni wedi cydweithio i estyn cefnogaeth sy'n ymateb i fusnesau bach a chanolig.
Rwy'n gwybod bod y Banc Datblygu â rhan ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau. Cafodd hynny ei fynegi yn hyglyw ac eglur yn ein huwchgynhadledd economaidd ni'n ddiweddar. Fe geir safbwyntiau amrywiol wrth gwrs o ran ein dull ni o sicrhau economi gryfach yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir, ond mae pob un ohonom ni'n awyddus i feithrin amgylchedd sy'n rhoi mwy o gydnerthedd i ni. Yn fy marn i, mae hynny'n golygu economi lle ceir sgiliau ac amddiffyniadau sy'n rhoi diogelwch i bobl drwy'r cyfnodau anodd sydd i ddod.
Nawr, mae gan Gymru gydnerthedd cynhenid. Mae busnesau Cymru wedi camu i'r adwy ac wedi datblygu gallu rhyfeddol i addasu i'r heriau anoddaf. Yr ysbryd hwn sydd wedi cynnal cymaint o fusnesau yn ystod ansicrwydd y cyfnod diweddar. Yn gwrthgyferbynu yn llwyr â Llywodraeth y DU, mae gan Gymru Lywodraeth sefydlog, aeddfed yn ogystal â rhwydwaith o bartneriaid cymdeithasol sy'n ein helpu i wneud y penderfyniadau cywir. Roedd yr uwchgynhadledd yn gynharach y mis hwn yn enghraifft ardderchog o dîm Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i feintioli problemau a chynnig datrysiadau.
Fe fyddaf i'n cwrdd â rhanddeiliaid allweddol unwaith yn rhagor ar ddechrau mis Tachwedd i gael eu hadborth nhw ynglŷn ag ymdrechion Llywodraeth y DU i sefydlogi'r economi yn dilyn y gyllideb Calan Gaeaf. Y gobaith yw y gallwn ni asesu gyda mwy o sicrwydd wedyn o ran yr ystod o gymorth sydd ei angen yma yng Nghymru a'r ysgogiadau ymarferol sydd ar gael i ni os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ac yn torri cyllideb Llywodraeth Cymru eto.
Ond, heddiw, fe hoffwn i nodi pum mlynedd ers sefydlu Banc Datblygu Cymru, banc datblygu rhanbarthol cyntaf y DU, a sôn am fy uchelgeisiau ar gyfer ei ddyfodol. Mae'r banc datblygu wedi tyfu i reoli arian gyda chyfanswm o tua £2 biliwn, ac wrth wneud hynny mae wedi dod yn rhan allweddol o'r ecosystem datblygu economaidd a chyllid yma yng Nghymru. Mae'r banc â rhan ganolog wrth ariannu busnesau sydd â chynlluniau busnes cadarn ond sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyllid o'r farchnad. Mae'n gwneud hyn drwy weithio law yn llaw yn gyfochrog â'r cyngor a'r cymorth sy'n cael eu darparu gan Busnes Cymru a thrwy gysylltiadau clos iawn â banciau prif ffrwd a chyd-fuddsoddwyr eraill, lle mae'n llunio rhan yn unig o'r pecyn buddsoddiad yn ei gyfanrwydd. Drwy fynd i'r afael â bylchau yn y farchnad, mae'r banc yn caniatáu i fusnesau gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnyn nhw. Dros bum mlynedd gyntaf ei fodolaeth, mae'r banc wedi rhagori ar nodau buddsoddi, gan gyflawni effaith economaidd o £1.2 biliwn. Fe gyrhaeddodd buddsoddiad cyffredinol o ran dyled ac ecwiti £110 miliwn yn 2021-22 yn ôl bwriad, a bennwyd yn ôl yn 2017, i gyrraedd £80 miliwn erbyn y flwyddyn honno.
O ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gymryd rheolaeth uniongyrchol ar y rhaglenni a addawyd yn lle'r rhaglenni a oedd yn cael eu hariannu gan yr UE, mae'r dirwedd ariannu yn llawer mwy cymhleth erbyn hyn nag yr oedd hi bum mlynedd yn ôl. Mae'r ffaith bod ein banc datblygu ein hunain sydd â digon o gyfalaf gennym ni nawr yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i helpu i ysgogi datblygiad economaidd.
Wrth gynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf, rydym ni wedi ystyried y dirwedd newidiol hon o ran ariannu, sy'n cynnwys arian newydd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain. Gyda'i gilydd, mae hi'n bosibl y bydd yr arian hwn yn dod â thua £35 miliwn y flwyddyn o gyfalaf ychwanegol i Gymru. Mae hwnnw'n ddatblygiad i'w groesawu, a fydd, o'i gyfuno â'r buddsoddiadau blynyddol a fwriedir gan y banc datblygu, sydd am godi i dros £120 miliwn y flwyddyn dros yr un cyfnod, yn helpu i sicrhau y bydd mwy o fusnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar gyllid. Fe fydd y banc datblygu yn cydweithio yn glos â nhw i sicrhau bod eu buddsoddiad oddi wrth brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain yn ategu ei gilydd ac yn cefnogi busnesau ledled ein cenedl ni.
Yn ein rhaglen lywodraethu ni, rydym ni'n amlinellu ein huchelgais i gynyddu'r defnydd o gyfran ecwiti mewn cymorth busnes. Fe all buddsoddi ecwiti gefnogi busnesau arloesol sydd â thwf dichonadwy, gan greu swyddi o werth mawr a rhoi hwb i allforion. Mae cyfran ecwiti nid yn unig yn dod ag adnodd y cyllid ond ag arbenigedd i fusnesau hefyd, ac fe all fod yn gatalydd pwerus ar gyfer twf economaidd hirdymor.
Hyd yn hyn, mae ein banc datblygu ni wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti mewn busnesau yng Nghymru, sydd, ochr yn ochr â buddsoddwyr eraill, wedi eu helpu i godi dros £200 miliwn. Rwyf i wedi rhoi gorchwyl i'r banc datblygu i anelu at nod o £100 miliwn o leiaf o ran cyfanswm buddsoddi ecwiti, a all, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddi'r sector preifat, gyflawni dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau arloesol—chwistrelliad o gyfalaf a fydd yn helpu i greu swyddi newydd, ehangu sectorau twf newydd yn ein heconomi, a helpu i ddiogelu safle Cymru i'r dyfodol.
Bydd y buddsoddiad ecwiti newydd hwn yn cael ei gyfeirio yn fwy uniongyrchol eto hyd yn oed, gyda chefnogaeth arall gan Lywodraeth Cymru, o gyngor busnes hyd gymorth arloesi, sy'n ei wneud yn gynnig cyflawn a'r gorau o'r fath. Wrth symud ymlaen, fe fydd gan fusnesau sy'n cael buddsoddiad ecwiti gefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi. Rydym ni o'r farn y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi cwmnïau technoleg newydd cyffrous i fynd â'u cynnyrch o fod yn gysyniad cynnar hyd at ei farchnata, a rhoi cymorth i fusnesau uchelgeisiol i anelu at fod â thwf cryf, a thimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw yn eiddo Cymru. Ac yn wir, dim ond amser cinio heddiw, cyn bod yn bresennol yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, bûm mewn digwyddiad dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol. Ac i'r rhai sydd â diddordeb, roedd Huw Lewis yn bresennol hefyd, gynt o'r parthau hyn, yn ei swydd newydd ef.
O bryder uniongyrchol i fusnesau yw'r heriau sy'n cael eu hachosi gan gostau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni. I helpu busnesau, fe fydd y banc datblygu yn parhau i gynnig hyblygrwydd i'w cwsmeriaid nhw drwy ymataliad a gwyliau ad-dalu lle bo hynny'n briodol. Er bod cyfraddau llog ar fenthyciadau'r banc datblygu wedi cael eu pennu wrth eu rhoi nhw—mae hynny'n amddiffyn y cwsmeriaid hyn rhag yr anwadalwch presennol—rydym ni'n gwybod hefyd nad y cyfraddau yw'r unig fater, ac fe all busnesau fod â ffydd fod y banc wedi ymrwymo i weithio gyda nhw drwy'r cyfnod anodd hwn.
Mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig wrth gefnogi pontio busnes ar egwyddor 'buddsoddi i arbed' ac mae cyllid ganddo ar waith eisoes i gefnogi busnesau ar eu taith hyd at sero net. Ar hyn o bryd, mae'r banc yn datblygu cynllun newydd yn gyflym a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n darparu ar gyfer datgarboneiddio. Ei nod fydd cynnig telerau ad-dalu sy'n fwy hyblyg, cyfraddau llog deniadol a chymorth fel arall, megis cymorth tuag at gostau ymgynghori, yn rhan o'r cynnig hwn i alluogi busnesau i fanteisio ar y lwfansau cyfalaf hael presennol a sicrhau eu bod nhw â ffydd fod y technolegau a'r datrysiadau sy'n cael eu mabwysiadu yn addas ar eu cyfer nhw. Rwy'n gofyn i'r banc datblygu wneud popeth yn ei allu i gyflymu ei gynlluniau er mwyn i'r gwaith cyflenwi ddechrau eleni, gan sicrhau buddugoliaeth ddwbl i fusnesau cymwys drwy eu helpu nhw i dorri costau ynni'r dyfodol a symud ymlaen â'n huchelgais gyffredin ni o ran datgarboneiddio.
Mae Banc Datblygu Cymru yn ased i'r genedl. Mae'n parhau i helpu busnesau ledled Cymru i oroesi, tyfu a ffynnu. Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnodd hyd yn hyn ac mae gennyf i ffydd yn y cynlluniau sydd ganddo i gyflawni fy uchelgeisiau i o ran dyfodol yr economi yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma a llongyfarch y banc datblygu ar gyrraedd ei ben-blwydd yn bump oed? Nawr, mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn agored iawn i graffu gan Bwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig, ac rwy'n gwybod bod yr Aelodau yn croesawu'r gallu i holi'r tîm ynglŷn â'i fuddsoddiadau a'i gynnydd. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn briodol yn cydnabod bod economi Cymru yn dibynnu mwy ar fusnesau bach, ac felly mae hi'n hollbwysig bod y banc datblygu yn ymestyn at fentrau bach a chanolig ac yn cynnig cefnogaeth. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod y banc datblygu â swyddogaeth ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau, ond nid yw yn dweud yn iawn wrthym ni sut mae'r gwaith hwnnw'n digwydd, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut yn union y mae'r banc datblygu yn gweithio gyda busnesau bach yn benodol, o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol.
Mae datganiad heddiw yn tynnu sylw at waith da iawn gan y banc datblygu. Mae hi'n wych clywed ei fod wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti i fusnesau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod yr arian yn mynd i fusnesau ym mhob rhan o Gymru, ac felly fe allai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y banc yn codi ymwybyddiaeth o'i wasanaethau i fusnesau ym mhob cwr o'r wlad.
Mae'r Gweinidog wedi rhoi nod i'r banc o gyfanswm o £100 miliwn o ran buddsoddi ecwiti, sydd, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddiad y sector preifat, yn gallu darparu dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau. Fe fydd gweithio gyda chyd-fuddsoddwyr yn hanfodol os yw'r banc yn dymuno i'w fuddsoddiad mewn busnesau yng Nghymru fod â'r effaith fwyaf. Wrth gwrs, ar gyfer gwneud hynny, mae'n rhaid i'r banc barhau i annog y sector preifat i fuddsoddi ochr yn ochr ag ef ei hun, ac felly efallai y gall y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud i gynyddu'r cyd-fuddsoddiad hwnnw.
Nawr, rydym ni'n gwybod am effaith aruthrol pandemig COVID ar fusnesau yng Nghymru, ac mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig o ran cefnogi adferiad economaidd a chefnogi busnesau. Mae hi'n hanfodol nad yw dull sy'n trin pawb yr un fath trwy'r amser yn cael ei fabwysiadu gan y banc, ac rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn siarad am gynnig hyblygrwydd i'w gwsmeriaid trwy ataliad a gwyliau ad-dalu. Mae datganiad heddiw yn cydnabod yr heriau oherwydd costau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni y mae busnesau yn eu hwynebu ac felly efallai gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut y gall y banc roi cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer busnesau o ran yr heriau penodol hyn.
Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod y swyddi sy'n cael eu creu gan y banc datblygu, ac mae swm o waith da wedi bod yn mynd rhagddo i nodi a mesur cynhyrchiant hefyd. Yn ôl cynllun corfforaethol y banc, ei nod o ran swyddi sylfaenol ar gyfer 2022 i 2027 yw 20,000 o swyddi, ond mae hi'n hanfodol bod cyfran o feintioli ansawdd swyddi. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod llwyddiant o ran swyddi, a'r hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i Lywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Mae'r Gweinidog wedi dweud yn eglur heddiw y bydd busnesau sy'n derbyn buddsoddiad ecwiti yn cael cefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi nhw. Mae datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd y banc yn cefnogi cwmnïau technoleg newydd i ddwyn eu cynnyrch nhw ymlaen o gysyniad cynnar hyd at y farchnad, yn ogystal â busnesau sy'n anelu at dwf mawr, a thimau rheoli i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru.
Rydw i, wrth gwrs, yn croesawu'r uchelgais yma, ac fe wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae'r banc yn buddsoddi mewn busnesau newydd ym maes technoleg newydd yn benodol. Mae rhywfaint o waith da wedi digwydd ynghylch cronfa sbarduno technoleg Cymru, ond mae angen gwneud mwy, ac felly fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw wybodaeth bellach y gall y Gweinidog ei rhoi yn hyn o beth.
Yn yr un modd, mae hi'n bwysig fod yna gefnogaeth i dimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau cyfredol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru. Hyd yma, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy'n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru, wedi bod yn cynnig llwybr ariannu posibl ar sail dyled i'r gweithwyr allu prynu eu busnesau. Ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth ar gael i reolwyr brynu busnesau drwy gronfa olyniaeth rheoli Cymru, ond efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae'r cronfeydd hynny'n cael eu gwerthuso a'u monitro, er mwyn i ni sicrhau bod y gefnogaeth briodol ar gael i fusnesau.
Ac yn olaf, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at waith y banc datblygu i hyrwyddo trawsnewid yng Nghymru i amgylchedd busnes sy'n cynnig cryn dipyn yn fwy o ran datgarboneiddio. Mae gennyf i ddiddordeb arbennig yn natblygiad cynllun newydd a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca ar gyfer ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni datgarboneiddio. Yn wir, mae adroddiad blynyddol y banc yn dangos bod 41 y cant o'i gwsmeriaid wedi mynegi eu bod yn cael eu hysgogi i weithredu ynglŷn â newid hinsawdd, ond nad yw'r arbenigedd hwnnw ganddyn nhw mewn gwirionedd. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu dweud ychydig mwy wrthym ni am y cynllun newydd sy'n cael ei ddatblygu a phryd mae hwnnw'n debygol o fod ar waith.
Felly, wrth gloi, Llywydd dros dro, rydym ni'n gwybod mai un o brif themâu'r banc yw buddsoddi mewn busnesau sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth yn ein cymunedau ni, ac mae'n rhaid i ni gofio bod y banc, yn ei hanfod, yn fuddsoddwr sy'n ceisio creu effaith sydd â phwrpas cymdeithasol. Ac, felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma, a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed mwy am waith y banc datblygu yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf? Diolch i chi.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Mae hon yn sefyllfa fanteisiol i fod yn gwneud datganiad ynddi hi, sef bum mlynedd ar ôl i Ken Skates lansio'r banc datblygu. Mae hi'n deg dweud, ar y pryd, nad oedd pawb mor obeithiol y byddem ni'n gallu dathlu ei daith lwyddiannus ef nawr, a'i gyflawniadau o ran ei nodau buddsoddi sydd wedi bod yn well na'r disgwyl.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â busnesau bach a pha mor ymwybodol ydyn nhw o hyn, mewn gwirionedd, fe ymgymerodd Ffederasiwn y Busnesau Bach â'u harolwg eu hunain, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, ac roedd hwnnw'n canfod bod dwy ran o dair o'u haelodau yn ymwybodol o'r banc datblygu eisoes, a bu cynnydd sylweddol hefyd mewn ymwybyddiaeth o frand y banc datblygu dros y pum mlynedd ers ei sefydlu, a bod 92 y cant o gwsmeriaid, mewn gwirionedd, wedi dweud y bydden nhw'n defnyddio'r banc datblygu ar gyfer anghenion cyllido yn y dyfodol, ac, unwaith eto, bod naw o bob 10 yn cysylltu'r banc datblygu gyda gonestrwydd a hygrededd. Ac, yn fy marn i, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n meddwl am sefydliadau ariannol, mae hynny'n dangos nid yn unig ei fod wedi ennill ei blwyf ac wedi codi'r ymwybyddiaeth ohono i'r fath raddau mewn dim ond pum mlynedd, ond bod enw da iddo hefyd ymhlith ei gwsmeriaid cyfredol, yn ogystal â hynny. Fe fyddem ni'n hoffi gweld mwy o'r bobl hynny yn y traean olaf hwnnw yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r banc yn ei wneud ac yn manteisio ar y cynhyrchion sydd ganddo i'w gynnig.
Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r buddsoddiad a all ddigwydd gan y banc datblygu, boed yn fenthyciad neu'n ecwiti, neu'n gyfuniad o'r ddau, yn rhan o'r pecyn o gefnogaeth buddsoddi yn aml, ac mae hynny, rwy'n credu, yn cyffwrdd â'ch pwynt chi ynglŷn â chyd-fuddsoddi. Yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd â banciau'r stryd fawr a'r banc datblygu i siarad am rai o'r heriau i'r economi yng Nghymru, yr heriau yr ydym ni wedi bod yn eu gweld nhw gyda'r cynnydd mewn cyfraddau llog, a sut olwg a oedd ar yr hinsawdd fuddsoddi. Nawr, mae yna her bob amser oherwydd bod rhai busnesau yn ceisio arbed arian ac yn peidio â gwneud dewisiadau o ran buddsoddi, sy'n ddealladwy o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y chwech neu saith wythnos diwethaf. Ond mae yna fusnesau sy'n bwriadu buddsoddi o hyd.
Yr hyn yr ydym ni'n ei sôn amdano heddiw yw'r lansiad, neu'r arwydd ein bod ni'n mynd i allu lansio o fewn y flwyddyn eleni—dyna fy nod i; os nad felly, yna yn gynnar yn y flwyddyn newydd—gynnyrch newydd i helpu pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol nhw, i ddatgarboneiddio a helpu gyda chostau ynni hefyd. Felly, rydym ni'n gobeithio cael mwy o bobl i ddod i mewn i'r maes hwnnw. A dyna faes hefyd lle mae llawer o fanciau ar y stryd fawr yn dweud bod ganddyn nhw arian ar gael i'w fuddsoddi ymhellach. Felly, fe fydd yr her o ran cyd-fuddsoddi, yr hyn y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud, yr hyn y mae'r busnesau eu hunain yn ei godi yn aml—mae nhw'n aml yn chwilio am rywun i bontio'r bwlch rhwng eu cyllid nhw a rhywun arall—ond buddsoddwyr posibl eraill hefyd, nid banciau'r stryd fawr yn unig. Mae hynny'n cynnwys, fel dywedais i, fuddsoddwyr ecwiti eraill.
Rhan o'n her ni yw bod y rhan fwyaf o'r buddsoddiad ecwiti sy'n digwydd ledled y DU wedi ei ganoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Os oeddech chi'n cael y sgwrs yma gyda de-orllewin Lloegr neu ogledd Lloegr, fe fydden nhw'n dweud fel hyn, 'Y broblem yw, mae gormod o arian yng nghornel de-ddwyrain Lloegr sy'n gorlifo.' Ac maen nhw eu hunain—ac os ydych chi'n siarad â'r Ffederasiwn Busnesau Bach—yn dweud, 'Fe hoffem ninnau gael banc datblygu rhanbarthol fel Banc Datblygu Cymru.' Mae hi'n fantais fawr y mae pobl a busnesau yn ei chydnabod, ond mae angen i ni sicrhau bod buddsoddwyr ecwiti eraill yn edrych ar Gymru hefyd, ar gyfer ychwanegu at yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y banc datblygu.
Nawr, roeddwn i'n sôn am brifddinas-ranbarth Caerdydd a'u buddsoddiad nhw, ond am Fanc Busnes Prydain hefyd. Maen nhw'n annhebygol o fod â'u harian nhw'n barod tan y flwyddyn nesaf. Pan gyhoeddwyd y buddsoddiad gan y cyn-Ganghellor, sy'n Brif Weinidog y DU erbyn hyn, fe gyhoeddodd ef y byddai cronfa yng Nghymru. Mae hi'n deg dweud, bryd hynny, nad oedd yna unrhyw gynllun arbennig. Erbyn hyn mae yna rywbeth sy'n edrych yn fwy tebyg i gynllun, ac mae'r banc datblygu, fel rwy'n dweud, wedi bod yn ymgysylltu ac yn cynllunio yn wirioneddol sut wedd a fyddai ar hynny. Fe fydd rhoi hynny ar waith yn cymryd peth amser eto, ac felly rwy'n edrych ymlaen at y buddsoddiad ychwanegol hwnnw sy'n dod i mewn i ategu'r darlun hwnnw. Ac, yn ogystal â hynny, ac nid buddsoddwyr preifat unigol yn unig chwaith, mae nifer o fuddsoddwyr cyfoeth sofran—o Ewrop a thu hwnt—sy'n edrych ar gyfleoedd yng Nghymru. A rhan o'r cydbwysedd y mae'n rhaid i ni ei daro yw, pan fo hwnnw'n gyfle gwirioneddol, yw sut ydym ni am wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cytundeb nad yw'n golygu y bydd yr asedau hynny'n cael eu diwreiddio o Gymru, ond eu bod nhw'n cael eu tyfu yma hefyd.
Rwy'n credu bod hyn yn cyffwrdd â'ch pwynt chi am y sector technoleg. Mae technoleg ariannol a seiber yn enghreifftiau da iawn o sector sy'n gryf yng Nghymru a'r cyfle i hwnnw dyfu eto—yn sicr mewn rhannau o'r sgyrsiau a gefais i gyda sefydliadau bancio, gyda chronfeydd cyfoeth sofran eraill, ac yn wir gyda'r sectorau eu hunain. Mae gennym ni grŵp cadarnhaol iawn o sectorau yng Nghymru. Rwyf i o'r farn ei fod yn un o'r pethau yr ydym ni'n ei werthfawrogi, a bod gweddill y byd yn edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ac yn gadarnhaol iawn ynglŷn â'r peth, o ran dysgu sut y daethom ni yma, ond ar gyfer ystyried hefyd a allen nhw fuddsoddi er mwyn helpu i dyfu'r sector yn y fan hon hefyd. Ac ym mhob un o'r sectorau hynny, rydym ni'n debygol o weld cyflogaeth o werth mawr.
Mae'r cynnig gan Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru yn cynnwys cefnogaeth a deilwrwyd, fel crybwyllais i yn fy natganiad, felly nid yn unig y cewch chi arian—fe gewch chi rywfaint o gefnogaeth ac ymgynghoriaeth ynglŷn â hwnnw. Rydym ni wedi dweud, yn y gronfa newydd ar gyfer buddsoddi mewn datgarboneiddio, y gallai cymorth ymgynghori fod yn rhan o'r hyn a gaiff ei greu, i ddeall anghenion penodol busnes unigol. Rwy'n falch iawn o ailadrodd yr hyn a ddywedais i am berchnogaeth gweithwyr, nid yn unig y cronfeydd ar gyfer prynu busnesau gan eu rheolwyr nhw, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud eisoes gyda grwpiau fel Cwmpas Cymru a'r cronfeydd y maen nhw'n eu gweinyddu, i geisio cynyddu nifer y busnesau sy'n perthyn i'w gweithwyr ledled Cymru a gwireddu ein haddewid maniffesto i ddyblu'r sector.
Ac yn olaf, ynglŷn â'ch pwynt chi am ein dull ni o sicrhau y bydd hyn yn hysbys o gwmpas Cymru, wrth gwrs, mae gan y banc datblygu bum swyddfa, a leolir yng Nghaerdydd, Llanelli, Cyffordd Llandudno, y Drenewydd, a'r pencadlys, wrth gwrs, sydd yn Wrecsam.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Ac wrth gwrs, mae yna rôl bwysig gan y banc yn nyfodol economi Cymru.
Mae Banc Datblygu Cymru yn estyn cymorth i'w gwsmeriaid trwy nifer o sefydliadau, gan gynnwys Busnes Cymru. Mae Busnes Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn rhad ac am ddim i gwmnïau ac unig fasnachwyr o Gymru. Bron i flwyddyn yn ôl bellach, cafwyd trafodaethau mewn pwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn hefyd am bryderon ynglŷn â chyllid i Fusnes Cymru, y mae llawer ohono'n mynd at gefnogi'r busnesau hynny. Ar 11 o fis Rhagfyr 2021, fe wnaethoch chi, Gweinidog, nodi bod dros draean o arian Busnes Cymru yn dod o ffynonellau Ewropeaidd. Flwyddyn yn ddiweddarach, sut mae hyn wedi effeithio ar Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, ac a oes asesiad effaith wedi cael ei wneud? Tua'r un pryd, fe ofynnais i'r Gweinidog hefyd am y cyrsiau a gynigir gan Fusnes Cymru, ac roeddwn i'n ddiolchgar am y cyfarfod dilynol a gawsom ni ynglŷn â'r pwnc hwnnw. Ers hynny, a oes unrhyw ehangu wedi bod o ran niferoedd y cyrsiau a faint sydd ar gael?
Nawr, mae cwmnïau cydweithredol a phartneriaethau cymdeithasol yn caniatáu i economi Cymru dyfu mewn ffordd fwy cynaliadwy, ac fe fydd rhan enfawr ganddyn nhw wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Ac rwyf i am achub ar y cyfle hwn i roi cyhoeddusrwydd i'r grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol sy'n cael ei gynnal yfory, pryd byddwn ni'n edrych ar yr union fater hwn. Ym mis Mehefin 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau sy'n perthyn i'w gweithwyr yng Nghymru. Yn gynharach eleni, fe ofynnais i'r Gweinidog am y cyllid sydd ar gael ar gyfer cwmnïau cydweithredol, ar gyfer helpu i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr yng Nghymru. Fe fyddwn i'n awyddus i wybod pa gynnydd sydd wedi bod o ran cyrraedd y nod hwnnw. Fe wnes i nodi, yn ei ddatganiad ef, ei fod wedi sôn am gefnogi rheolwyr sy'n prynu busnesau. Ai hynny felly yn hytrach na gweithwyr yn prynu busnesau yn y cyd-destun penodol hwnnw? Mae gwahaniaeth pwysig i'w nodi rhwng rheolwyr yn prynu a gweithwyr yn prynu. Fe fydd gan y ddau grŵp flaenoriaethau a bwriadau gwahanol wrth symud ymlaen.
Yn olaf, cymhelliant sero net busnesau'r flwyddyn nesaf. Mae'r fenter honno'n gobeithio cymell busnesau i ostwng eu hôl troed carbon ar sail yr egwyddor o fuddsoddi i arbed ac fe ddylai hynny leihau'r defnydd o ynni a biliau busnesau is yn yr hirdymor. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu. Fe fydd busnesau sy'n ystyried buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy neu fesurau effeithlonrwydd ynni yn cael cynnig o delerau mwy ffafriol. Fe all busnesau fenthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni datgarboneiddio drwy delerau ad-dalu mwy hyblyg, cyfraddau llog deniadol a chefnogaeth yn fwy eang, fel cymorth tuag at gostau ymgynghoriaeth. Mae'r Gweinidog yn rhoi'r gorchwyl i'r banc hefyd i anelu at nod uchelgeisiol o fuddsoddi ecwiti o £100 miliwn dros y pump i saith mlynedd nesaf.
Er bod y cyhoeddiad hwn i helpu anelu at nodau sero net yng Nghymru i'w groesawu, mae hwn yn rhywbeth y gwnes i eich holi chi a'r Prif Weinidog ynglŷn ag ef yn ddiweddar, ac fe alwyd amdano gan lawer yn y Siambr hon. Sut mae'r cynnydd hwn mewn buddsoddi yn cyd-fynd ag egwyddor pontio teg? Wrth i mi holi, roeddwn i'n cyfeirio at fusnesau, bragdai annibynnol bychain yn benodol, sydd wedi ymestyn eu cyllid ymhellach nag yr oedden nhw'n credu ei bod hi'n bosibl yn ystod y pandemig, a nawr, yn ystod yr argyfwng costau byw, efallai eu bod nhw'n amharod i ysgwyddo mwy o ddyled. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrthyn nhw yn ogystal â'r rhai na fydden nhw o bosibl yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn?
Hefyd, a fyddai Banc Datblygu Cymru, yn sgil y fenter hon, yn gallu rhedeg dull gweithredu sy'n rhoi blaenoriaeth i ddeunyddiau adeiladu effeithlon o ran ynni, gyda'r telerau mwyaf ffafriol yn cael eu rhoi ar gyfer adeiladu â'r deunyddiau hynny? Mae'r dull o sicrhau effeithlonrwydd ynni sy'n rhoi blaenoriaeth i ddeunyddiau yn ceisio gwella perfformiad y darnau a'r deunyddiau yn lluniad yr adeilad ei hun, cyn defnyddio unrhyw systemau mecanyddol neu drydanol. Diolch yn fawr.
I ddechrau, ynglŷn â'ch pwynt chi am y cyrsiau unigol sydd ar gael, nid wyf i mewn sefyllfa i ateb y pwynt arbennig hwnnw nawr, ond fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr fy mod yn dod yn ôl atoch chi gyda'r manylion o ran y pwynt arbennig hwnnw.
Ynglŷn â'ch pwynt olaf chi ynghylch buddsoddiad sero net a'r cyhoeddiad a wnaethom ni heddiw ynghylch y gefnogaeth newydd a ddylai fod ar gael i helpu gyda datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni a lleihau costau ynni, y tro diwethaf i ni siarad fe fynegais i y byddai gennyf i fwy i'w ddweud yn ystod yr wythnosau nesaf, a dyma ni. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar hynny ers cryn amser. Nid rhywbeth sydd wedi ei greu yn ystod yr wythnos diwethaf fwy neu lai mohono.
Ystyr hyn yn rhannol yw ceisio creu pontio teg, i sicrhau, wrth i ni ddatgarboneiddio, nad ydym ni dim ond yn cadw'r swyddi sydd gennym ni, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn helpu i leihau risgiau'r dyfodol i raddau, nid yn unig o safbwynt ehangach o ran yr hinsawdd, ond o ran y costau sy'n bodoli nawr i fusnesau. Dyma rywbeth yn fy marn i y bydd nifer o fusnesau yn awyddus i'w ystyried yn fanwl iawn. Ac, fel dywedaf i, ar y pwynt ynglŷn ag amgylchiadau unigryw busnesau unigol fel roeddech chi'n sôn, wel, mae'r rhain yw amrywio yn fawr rhwng y naill fusnes a'r llall. Bydd anghenion busnesau unigol yn yr un sector yn wahanol, a chyfleoedd amrywiol ganddyn nhw, efallai, i fanteisio ar hynny. Hynny yw, edrych ar wead eu sefydliadau nhw ar hyn o bryd a'u cyfleoedd nhw i wneud y gorau o hynny. Dyna pam yr oeddwn i'n tynnu sylw at y ffaith mai'r cyfle sydd yma yw gallu edrych ar yr hyn sy'n bosibl i'r busnes unigol hwnnw. Yn ogystal â hynny, fe fydd hi'n bosibl y byddwn ni'n gallu cefnogi cynlluniau ynni ardal yn y pen draw hefyd, os ydych chi'n meddwl am nifer y busnesau a allai rannu ôl troed eang cyffredin yng nghyd-destun parc busnes neu ardal ac sy'n awyddus i ystyried a fyddai hi'n bosib gwneud mwy o fewn lleoliad arbennig ac nid yn unig yng nghyd-destun busnesau unigol. Felly, fe fydd yna amrywiaeth o wahanol amgylchiadau unigol.
Y gwirionedd arall y mae'n rhaid i ni ei wynebu yw, hyd yn oed gyda'r gefnogaeth sydd ar gael, ac mae hyn oddi wrth y banc a'r benthyciadau a gynigir ganddo, pa un a yw ar ffurf ecwiti neu'n gyllid benthyg unigol neu gyfuniad o'r pethau hyn, nid oes gan Lywodraeth Cymru, fel rydym ni wedi dweud heddiw, mo'r grym noeth i ddarparu cynllun ar sail grantiau a fydd yn ymestyn at bob maes yn yr economi. Fe wn i fod yna fwy o fusnesau â heriau a fyddai'n fusnesau hyfyw fel arall yn fy marn i ond nid oes gennym ni fodd i'w cefnogi nhw. Dyna pam yr ydym ni'n aros mor ddisgwylgar am ganlyniad y gyllideb Calan Gaeaf. 'Wn i ddim a gawsoch chi gyfle i wrando ar y Gweinidog cyllid yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg heddiw, ond y sefyllfa wirioneddol o ran ein cyllideb ni'n syml yw nad oes gennym ni arian ychwanegol sy'n cael ei ddal yn ôl mewn gobaith y gallwn ni ei fuddsoddi eto dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae hwn yn ddarlun ariannol dyrys tu hwnt sy'n ein hwynebu ni, ac mae'r busnesau eu hunain yn gwybod hynny hefyd.
Yn y sgyrsiau a gefais i ag amrywiaeth o grwpiau busnes o wahanol feintiau mewn gwahanol sectorau, roedden nhw i gyd yn gwybod nad yw'r arian gennym ni'n aros ar eu cyfer nhw. Mewn gwirionedd, roedd busnesau gweithgynhyrchu yn eglur iawn eu bod nhw'n bryderus ynglŷn â'r dyfodol, nid am nad oedd ganddyn nhw lyfrau'n llawn archebion, ond oherwydd eu bod nhw'n ymwybodol o'r costau a'r prisiau cynyddol ar gyfer nwyddau, yr heriau o ran chwyddiant, ac maen nhw'n gwybod mewn gwirionedd bod angen i Lywodraeth y DU weithio fel pe byddai hi ar eu hochr nhw i'w helpu nhw drwy'r hyn sydd i ddod. Fe fyddwn ni i gyd yn canfod yn weddol fuan sut wedd fydd ar bethau mewn gwirionedd. Fe fyddwn i'n falch iawn o gael fy nghywiro ac y bydd pecyn hael ar gael i helpu busnesau i oroesi yn eu sefyllfa bresennol, ond nid yn unig hynny, i ffynnu mewn gwirionedd yn y dyfodol. Yma yng Nghymru, serch hynny, fe fyddwn yn gwneud y gorau o'r manteision sydd gennym ni, ac mae Banc Datblygu Cymru yn un o'r rhain. Ond ni allaf i ddweud wrthych chi na neb arall y byddwn ni'n gallu achub pob busnes unigol y byddem ni fel arall yn awyddus i'w achub.
O ran Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru a'r sefyllfa bresennol wirioneddol gyda chyllid yn lle cyllid o Ewrop, fel nodais i—ac rwyf i wedi bod yn gwbl agored o'r cychwyn cyntaf—fe geir effaith wirioneddol ac arwyddocaol oherwydd y cronfeydd Ewropeaidd sy'n diflannu heb unrhyw beth tebyg o ran gwerth yn eu lle nhw neu, yn wir, o ran eu dibenion nhw. Yr hyn y mae'n yn ei olygu, er hynny, yw ar gyfer cynnal Busnes Cymru, sef yr hyn a wnes i, rwyf i wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn gyda gweddill fy nghyllideb adrannol i. Mae hynny'n golygu nad wyf i wedi gallu buddsoddi mewn meysydd eraill y byddwn i fel arall wedi bod yn awyddus i fuddsoddi ynddyn nhw i helpu i gefnogi dyfodol economi Cymru, am fy mod i o'r farn fod gwasanaeth Busnes Cymru yn wir bwysig ledled Cymru, ac fe allwch chi weld hynny o'r canlyniadau a'r niferoedd o fusnesau sydd wedi cael cefnogaeth, cymorth a chyngor gan Fusnes Cymru. Unwaith eto, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud wrth eu cymheiriaid yng ngweddill y DU yn rheolaidd fod yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru mewn gwirionedd yn werthfawr iawn. Mewn gwirionedd, fe hoffai Ffederasiwn y Busnesau Bach yn Lloegr weld gwasanaeth fel Busnes Cymru mewn rhanbarthau ledled Lloegr. Mae hynny'n esbonio pam y bu i mi warchod y cyllidebau i'r dyfodol ar gyfer y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig. Pe byddai swm tebyg o arian gennym ni i fuddsoddi mewn gwahanol ddewisiadau, fe fyddai'n golygu y byddem ni'n gallu gwneud mwy, ac, yn wir, fe allai Banc Datblygu Cymru ehangu eto hefyd.
Yn olaf, o ran cefnogaeth ymarferol i fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr—ac rwy'n cydnabod y pwynt nad yw rheolwyr yn prynu busnesau yn gwbl gyfystyr â hynny o reidrwydd—mae gennym ni hyd at 40 o fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr erbyn hyn, ac yn ddiweddar rwyf i wedi cadarnhau bod £170,000 ychwanegol ar gael i Gwmpas Cymru i helpu gyda'r cymorth ymarferol hwnnw i symud busnesau o un dull o berchnogaeth i un arall. Fe geir enghreifftiau da iawn o fusnesau newydd sy'n eiddo i'w gweithwyr yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi pryd y byddwn ni, fel rwy'n ffyddiog y byddwn ni, wedi cyflawni ein nod maniffesto ni, sef dyblu maint y sector.
Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod y banc datblygu yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i ysgogi datblygiad economaidd. Rwyf i, fel Paul Davies, yn falch fod y banc datblygu am fod â rhan ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau. Mae gennyf i dri chwestiwn. Ym mha ffordd y bwriedir iddyn nhw helpu busnesau i symud o fod yn fentrau bach i rai canolig, sef un o wendidau economi Cymru? Ai bwriad y Gweinidog yw blaenoriaethu tri o sectorau twf sef gwyddorau bywyd, TGCh a gwasanaethau ariannol? Ac, efallai, yn bwysicaf i gyd o fy safbwynt i, yn Abertawe, a fydd y banc yn rhoi mwy o gefnogaeth i brosiectau dinas-ranbarth Bae Abertawe?
Diolch i chi am y cwestiynau. Rydych chi'n iawn; mae twf o fach i ganolig ac o ganolig i fawr wedyn yn un o'r heriau mawr i ni o ran yr economi. Mewn gwirionedd, dyma un o'r union bethau y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud, oherwydd, yn aml, methu â chael gafael ar gyllid sy'n dal pobl yn ôl. Dyma pryd mae banciau ar y stryd fawr wedi gweld bwlch yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac mae Banc Datblygu Cymru wedi gallu cau'r bwlch hwnnw. O ran y swyddi a'r dewisiadau o ran buddsoddi, nid arian yn unig sydd wedi helpu i greu tua 2,600 o swyddi—i naill ai ddiogelu neu greu rhai oherwydd y buddsoddiadau a fu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf—ond, mewn gwirionedd, mae hynny'n ychwanegu at gynnydd yng ngwerth ychwanegol gros Cymru o tua £85.8 miliwn yn ystod y flwyddyn honno, ac rydych chi'n disgwyl i hynny barhau i dyfu wrth i ni symud ymlaen. Felly, dyna un o'r pethau yr wyf i'n wirioneddol bryderus yn ei gylch.
Oes, mae gweithgarwch mewn gwyddorau bywyd, ac fe geir gweithgarwch mewn gwasanaethau ariannol, yn enwedig yn y sector technoleg ariannol sy'n tyfu yma. Ac ynglŷn â'ch pwynt ehangach chi am y sector technoleg ehangach a sut olwg sydd ar hwnnw, mewn gwirionedd mae'r gwasanaethau hyn yn mynd i mewn i'r rhan fwyaf o fusnesau nawr, ac felly mae yna dipyn o ystyr i'r hyn y mae ein sector technoleg ehangach ni'n ei wneud. Ar daith ddiweddar, y daith fasnach a arweiniais i'r Emiradau Arabaidd Unedig, roedd gennym ni lawer iawn o fusnesau technoleg, busnesau bach a chanolig, yn chwilio am fuddsoddiad ac yn cydnabod bod cyfle iddyn nhw yn hyn o beth, gan gynnwys busnesau yn Abertawe, fe fyddwch chi'n falch iawn o'i glywed.
Ac ie, ynglŷn â'ch pwynt chi o ran bargen ddinesig Bae Abertawe, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud; sut y gall helpu i weithio gyda honno a bargeinion twf eraill yng Nghymru i ddatblygu'r prosiectau sydd ganddyn nhw. Mewn gwirionedd rwy'n gadarnhaol iawn o ran y cynnydd ymarferol y mae grŵp bargen ddinesig Bae Abertawe yn ei wneud nid yn unig o ran bod â phortffolio o brosiectau, ond o ran y buddsoddiad sy'n cael ei wneud eisoes.
Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr, gyfweliadau amrywiol, gan gynnwys rhai ynglŷn â'r ffaith nad ydym ni wedi datrys y broblem o berygl moesol parhaus sefydliadau sy'n rhy fawr i fethu, a dyna pam y bu'n rhaid i Fanc Lloegr ymyrryd yn y marchnadoedd yn dilyn cyllideb fechan drychinebus Liz Truss, i achub cronfeydd pensiwn a oedd wedi ymhél â buddsoddiadau llawn risg i gynyddu'r difidendau y maen nhw'n eu dosbarthu. Felly, rwy'n croesawu gwaith Banc Datblygu Cymru yn fawr iawn, ac mae angen llawer mwy o sefydliadau fel hyn i gynnig ychydig mwy o sefydlogrwydd yn y marchnadoedd ariannol. Rwy'n croesawu'r wybodaeth i gyd y gwnaethoch chi ei rhannu ynglŷn â'r buddsoddiad ecwiti y mae'r banc datblygu yn ei ddarparu ar gyfer cwmnïau sy'n dymuno datgarboneiddio; mae honno'n ymddangos yn fuddugoliaeth lwyr i'r cwmnïau hynny, yn ogystal ag o ran ein nodau sero net ni ledled Cymru.
Yr wythnos diwethaf, roeddwn i mewn cynhadledd a drefnwyd gan Gynghrair Gweithwyr y Tir ac fe glywais i am ddatblygiad llwyddiannus busnesau garddwriaeth bychain sy'n gwneud elw ac nad oes angen unrhyw gymhorthdal arnyn nhw. Mae'r ddau wedi eu lleoli yn weddol leol yn y de-ddwyrain, ym Mhenrhyn Gŵyr a Bro Morgannwg. Rydych chi'n sôn bod eisiau economi lle mae'r sgiliau a'r amddiffyniadau gan bobl i roi diogelwch iddyn nhw mewn cyfnodau anodd. A wnaeth yr uwchgynhadledd economaidd ddiweddar drafod diogelwch bwyd yng nghyd-destun y ffaith—
A wnaiff yr Aelod ofyn ei chwestiwn hi, os gwelwch hi'n dda?
—nad yw bwyd yn dod i mewn i'r farchnad gyfanwerthu? A pha fuddsoddiadau a ydych chi'n ymwybodol ohonyn nhw y gallai Banc Datblygu Cymru fod yn eu buddsoddi i gynyddu swm y bwyd yr ydym ni'n ei dyfu yng Nghymru?
Nid yw cynyddu diogelwch bwyd yn y wlad yn amcan penodol i'r banc datblygu. Nid yw'n amcan penodol y gwnaethom ni ei bennu. Er hynny, rydym ni wedi pennu amcanion ynghylch helpu Cymru i bontio i economi fwy cynaliadwy a chynlluniau ynghylch sero net. Lesley Griffiths, fel gwyddoch chi, yw'r Gweinidog sy'n arwain y sector fwyd. Fe soniais i am hynny'r wythnos diwethaf, ac fe nododd Alun Davies waith o ran cefnogi'r sector bwyd a diod ar hyd ei oes, mewn ffordd bersonol weithiau—ein bod ni mewn gwirionedd wedi gweld twf gwirioneddol yn y sector o safbwynt allforio. Ond mae yma rywbeth hefyd ynglŷn â'r hyn sydd ei angen i ni ei wneud, ac rydym ni'n cydnabod hynny yn y Llywodraeth, yng nghyd-destun diogelwch bwyd ehangach o ran sut caiff bwyd ei gynhyrchu, ymhle y caiff ei gynhyrchu, a pha mor lleol hefyd.
Nid wyf i'n ceisio osgoi'r mater; dim ond mai fy marn i yw nad y banc datblygu yw'r prif ysgogydd yn hyn o beth. Nid yw hynny'n golygu na fydd yna gefnogaeth i brosiectau sy'n cynnig diogelwch bwyd. Yn wir, yn y sector bwyd a diod rydym ni wedi cefnogi nifer o brosiectau i dyfu ac ehangu. Yn yr uwchgynhadledd economaidd roedd llawer mwy o sôn am fusnesau yn ceisio goroesi ac yn awyddus i ddeall yr hyn sy'n debyg o ddigwydd, ac undebau llafur â diddordeb yn nhelerau ac amodau gweithwyr sy'n symud ymlaen a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, ond yn sicr yn dymuno cefnogi busnesau i fwynhau dyfodol llewyrchus. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n siarad yn groes i'n gilydd o ran diben a phwrpas yr uwchgynhadledd, oherwydd ni wnaeth unrhyw fusnes arbennig sôn am ddiogelwch bwyd yn y digwyddiad hwnnw, ac ni fyddwn i wedi disgwyl hynny o reidrwydd.
Rwy'n deall eich pwynt chi ynglŷn â chronfeydd pensiynau, maint y ddyled a oedd ganddyn nhw a chyfradd y risg a oedden nhw'n ei hwynebu hefyd. Ac wrth gwrs yr hyn a newidiodd mewn gwirionedd ac a oedd yn annisgwyl iawn ychydig wythnosau yn ôl, yw bod dyled y Llywodraeth wedi newid ei phroffil. Felly, roedd gwerth dyled y Llywodraeth honno a buddsoddiad y Llywodraeth yn ffactor gwirioneddol ar gyfer cronfeydd pensiynau a oedd yn ceisio darparu elw sefydlog i ddeiliaid y pensiynau. Rwyf i'n sicr yn gobeithio, o safbwynt busnesau, pensiynwyr, a deiliaid tai, yn wir, y byddwn ni'n gweld mwy o sefydlogrwydd o du marchnad y DU. Mae ganddo effaith wirioneddol nid yn unig ar deuluoedd unigol ond ar fusnesau unigol, oherwydd mae amodau'r ddyled sydd ar gael yn ffactor gwirioneddol wrth rwystro buddsoddi yn economi Cymru.
Rwy'n mwynhau datganiadau'r Gweinidog ac yn mwynhau'r sgyrsiau y mae'n eu cychwyn ar draws y Siambr. Wrth drafod llawer o'i flaenoriaethau amrywiol ef ar gyfer y banc buddsoddi fe'i gwnaeth hi'n eglur ei fod ef yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio mewn ffordd ystwyth iawn, yn chwilio am gyfleoedd, ac yn buddsoddi mewn ffordd greadigol hefyd, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd ef brynhawn heddiw am ddatgarboneiddio yn fawr iawn.
Yr hyn sy'n fy mhoeni i weithiau, Gweinidog, yw na osodwyd amcanion na nodau eglur iawn ar gyfer y gweithgarwch hwn. Er enghraifft, un o'r materion mwyaf sy'n ein hwynebu ni yn economi Cymru yw cynhyrchiant. Pa ganllawiau neu gyngor a wnaethoch chi eu rhoi i'r banc datblygu ar gyfer mynd i'r afael â materion cynhyrchiant yn yr economi, a sut fyddwch chi'n mesur a yw'r banc datblygu yn cael effaith yn hynny o beth?
Mae'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli ym Mlaenau Gwent, wrth gwrs, yn un o'r ardaloedd lle mae angen mwy o fuddsoddiad arnom ni, nid yn unig o ran cynhyrchiant ond o ran gweithgarwch economaidd. A ydych chi'n rhoi canllawiau eglur i'r banc datblygu ynglŷn ag agwedd ofodol ei fuddsoddiad, fel eich bod chi'n edrych a'ch bod chi'n pennu nodau ar gyfer buddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd, er enghraifft, i sicrhau eich bod chi'n buddsoddi mewn gwirionedd nid yn unig mewn busnesau i sicrhau canlyniadau byd-eang, a fyddai'n ysgogi buddsoddiad i fannau fel Caerdydd a choridor yr M4, ond yn ysgogi buddsoddiad i rai o rannau llai breintiedig Cymru, sy'n dioddef o ran methiant sylweddol yn y farchnad?
Fe geir dau bwynt bras yn y fan yna. Y cyntaf yw hyn, ydw, pan fyddaf i'n siarad â'r banc datblygu rwy'n hoffi gwybod i ble y bydd y buddsoddiad hwnnw'n mynd. Pe byddai hwnnw'n mynd i gyd yn ddestlus i ranbarth Caerdydd a'r cyffiniau yn unig, ni fyddai hynny'n briodol wedyn yn fy marn i, oherwydd fe gafodd ei sefydlu yn rhannol i ymdrin â'r bwlch y soniwyd amdano ynglŷn â chwmnïau bach i ganolig, fel roedd Mike Hedges yn dweud, am estyn cyfalaf i rai o'r busnesau hynny, a oedd yn broblem i fenthycwyr traddodiadol yn aml. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad yw benthycwyr ar y stryd fawr yn gwneud unrhyw beth i helpu pobl ar y daith honno o ran twf, ond mewn gwirionedd dyma lle mae'r alwad wirioneddol wedi bod am weithredu pellach. A'r rhannau amrywiol o'r wlad y mae pobl ynddyn nhw hefyd, ac rwy'n cydnabod bod honno'n ffactor wirioneddol yn eich etholaeth chi. Felly, ydym, rydym ni'n ystyried hynny, ond nid yw'n ymwneud â'r banc datblygu yn unig.
Nid wyf i wedi pennu nod na mesur arbennig iddyn nhw. Rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gyda'r Aelod ac eraill—ac mae cyfarfod ehangach i ddod ar gyfer trafod rhai o'r pwyntiau hyn—am y cylch gwaith a osodais i iddyn nhw a phryd a sut yr ydym ni'n disgwyl gweld cynnydd. Ond ystyr hyn wedyn hefyd yw cynnal rhan o'r sgwrs gyda'r brifddinas-ranbarth, er enghraifft. Yr hyn yr ydym ni'n ei siarad amdano gyda nhw a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld ac yn disgwyl ei weld wrth i'r brifddinas-ranbarth fuddsoddi mwy o arian yw sicrhau, unwaith eto, nad yw'n digwydd o gwmpas Caerdydd a Chasnewydd yn unig ond bod angen i'r brifddinas-ranbarth yn ei chyfanrwydd weld y budd—ac nid yn unig i dynnu pobl yn gyflym o rannau eraill o'r brifddinas-ranbarth i Gaerdydd neu Gasnewydd neu ganolfannau trefol mawr eraill ond mewn gwirionedd i ysgogi rhywfaint o dwf mewn rhannau eraill o'r rhanbarth hefyd. Ni all fod i gyn i un cyfeiriad, tynnu pobl o'r Cymoedd i mewn i Gaerdydd a Chasnewydd.
Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o ran y metrigau yr ydym ni'n eu gosod i ni ein hunain, ac mae hynny'n cyffwrdd â'r penbleth o ran cynhyrchiant hefyd, oherwydd ystyr llawer o hynny'n aml yw'r ysgogiadau sydd ar gael i ni ar gyfer buddsoddi mewn cyfalaf dynol, mewn sgiliau a phobl, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael pobl i fuddsoddi wedyn mewn ardaloedd lle mae'r bobl hynny eu hunain yn byw ac yn gallu gweithio ynddyn nhw. Felly, mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau gennym ni, gan nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Bydd angen i ni edrych eto i weld a oes unrhyw newid cyfeiriad sy'n wahanol yn yr ailadroddiad diweddaraf o Lywodraeth y DU, oherwydd fe nodwyd y cynllun hwnnw pan oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithredol ac roedd pobl yn nes at y farchnad. Mae'n ddigon posibl y bydd angen i ni ystyried unwaith yn rhagor, yn gynt na'r disgwyl yn fy marn i, a ydym ni'n parhau i wneud digon a hynny yn y mannau priodol oherwydd, mae arna' i ofn, fe fyddwn ni'n wynebu darlun economaidd llymach, gyda mwy o bobl ar y clwt yn y misoedd nesaf o bosibl.
Felly, ein hymyriadau ni, fel rhaglen ReAct+—a ydyn nhw am wneud digon i gael pobl yn ôl i waith yn gyflym, ac a ydym ni'n gwneud digon i gael pobl sydd wedi bod mewn segurdod economaidd hirdymor yn ôl ar lwybr i fod yn gweithio a bod â'r sgiliau i wneud mwy na dim ond mynd i'r gwaith ond i lwyddo ym myd gwaith hefyd? Dyma pam yr ydym ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein lle polisi sgiliau hefyd, nid yn unig o ran prentisiaethau ond mewn hyfforddiant mewn gwaith yn ogystal â hynny. O ran y gweithlu presennol, mae dyfodol gwaith yma eisoes mewn llu o wahanol ffyrdd. Ymhen 10 mlynedd, fe fydd y rhan fwyaf o'r bobl sydd mewn gwaith eisoes yn gweithio. Yr hyn sydd ei angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y sgiliau ganddyn nhw a fydd yn addas ar gyfer y byd gwaith ymhen 10 mlynedd. Felly, ystyr hyn i raddau helaeth fydd buddsoddi yn y gweithlu presennol, ac fe fydd hynny'n bendant yn gwneud gwahaniaeth i gynhyrchiant.
A'r pwynt olaf yn hyn o beth yw buddsoddi yn ansawdd yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth sydd gan fusnesau. Nid gweithwyr ar lawr gwaith yw hynny'n unig, os mynnwch chi, mae hynny'n ymwneud hefyd â'r arweinwyr a'r rheolwyr sydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i effeithiolrwydd a chynhyrchiant busnesau. Ond, fel dywedais i, rwy'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n siarad mwy am hynny yn y Siambr a'r tu allan iddi yn y misoedd i ddod.
Rwyf i am ganiatáu un cwestiwn arall, os yw hwnnw'n un cryno, ac un ateb arall, os yw hwnnw'n un cryno. Huw Irranca-Davies.
Diolch. Yn wir, fe fyddaf i'n gryno. Gweinidog, diolch am y datganiad a hefyd am ddod i lansiad adroddiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol amser cinio, 'Owning the workplace, securing the future', ynglŷn â sut yr ydym ni'n cynyddu cyfradd perchnogaeth gan y gweithwyr mewn busnesau yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwneud yn dda eisoes, rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni fynd ymhellach. Sut all Banc Datblygu Cymru fod â rhan yn hyn o beth, gan gynyddu perchnogaeth gan y gweithwyr? A oes unrhyw ran arbennig iddyn nhw pan fo problem gennych chi o ran olyniaeth a throsglwyddo i berchnogaeth gan y gweithwyr yn y gweithle, rhyw fath o gyfleuster dal, rhywfaint o gyllid a fyddai'n caniatáu i'r trafodaethau hynny ddigwydd gyda gweithwyr yn y gweithle fel nad oes rhuthr gwyllt o chwe mis hyd at lwyddiant neu fethiant llwyr, ein bod ni mewn gwirionedd yn gallu pwyllo a mynd drwy'r broses honno gyda nhw? Pa swyddogaeth sydd gan Fanc Datblygu Cymru o ran perchnogaeth gan y gweithwyr?
Mae'r banc datblygu yn weithredol yn y maes hwn eisoes, yn cefnogi perchenogaeth gan y gweithwyr, ond mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr ag eraill fel Cwmpas Cymru, fel gwyddoch chi. Fe fyddwn i'n hapus i gael sgwrs ehangach â chi. Fel gwyddoch chi, yn y digwyddiad heddiw, fe wnes i ymrwymo i gael sgwrs â chi a gweithredwyr eraill yn y maes hwn nid yn unig ar gyfer ystyried y syniadau a fynegwyd amser cinio heddiw ond i weld sut y gall gwahanol sefydliadau wneud eu rhan. Rwyf i o'r farn y bydd hwnnw'n bwynt diddorol i'w godi a gweithio drwyddo gyda'r banc datblygu ei hun.
Diolch i chi, Gweinidog.
Symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar rôl y sector cyhoeddus yn system ynni'r dyfodol, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd—Julie James.
Diolch, Llywydd dros dro
Rydym wedi treulio llawer iawn o amser yn y Siambr hon yn siarad am yr argyfwng costau byw, sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r cynnydd mawr yng nghost ynni. Mae cadw pobl Prydain yn gaeth i bris tanwydd ffosil yn ddrwg i dalwyr biliau ac yn drychinebus i'r camau yr ydym ni i gyd yn gwybod y mae angen i ni eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r costau cynyddol a'r diffyg sicrwydd y bydd cyflenwad yn cryfhau'r achos dros gydnerthedd ynni a'r angen am reolaeth dros ein system ynni. Mae ein Llywodraeth wedi hyrwyddo'r angen am fwy o effeithlonrwydd ynni a mwy o ynni adnewyddadwy, ynghyd â mesurau hyblygrwydd i sicrhau y gallwn bob amser ateb y galw. Dyma'r atebion tymor hir cywir i gyflawni o ran yr argyfwng costau byw presennol a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r system llawer mwy lleol hon yn gofyn i ni ymwneud llawer mwy â'r system ynni nag o'r blaen. Bydd angen i'r llywodraeth ar bob lefel fod â rôl weithredol wrth ddylunio'r system ynni sero-net, un sy'n galluogi pobl i fyw a symud, ond eto sydd â'r costau a'r effeithiau isaf posibl.
Rwyf wedi bod yn falch iawn o'r ffordd mae awdurdodau lleol a rhanbarthau wedi gweithio gyda ni ar gynlluniau ynni sy'n nodi'r newidiadau sydd angen digwydd, a sut y gall y newidiadau hynny sicrhau swyddi medrus i bobl yn eu hardaloedd. Wedi'r cynlluniau treialu llwyddiannus yng Nghonwy a Chasnewydd, edrychaf ymlaen at weld gweddill ein hawdurdodau yn datblygu cynlluniau ynni lleol manwl, a fydd yn sail i'r cynllun ynni cenedlaethol yn 2024. Nid yw'r cynlluniau hyn yn datrys ein problemau cost ynni ar unwaith, ond maent yn gosod fframwaith cryf i ni ganolbwyntio ar y cyd ein camau i amddiffyn ein hunain yn y tymor canolig. Wrth gyflawni'r cynlluniau hyn, rhaid i ni feddwl yn wahanol fel cenedl am sut rydyn ni'n rheoli asedau cyhoeddus. Byddwn ni'n cyflawni rhwymedigaethau sero-net yn unig mewn ffyrdd sydd o fudd i gymunedau trwy gymryd dulliau newydd a gwahanol.
Rydym eisoes wedi defnyddio'r prif ased cyhoeddus sef ystad goetir Llywodraeth Cymru i gyflawni ein polisi ar ynni adnewyddadwy a budd lleol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi goruchwylio gwaith gosod pedwar prosiect gwerth 441 MW o wynt ar y tir, ac mae 134 MW arall yn dal i gael ei ddatblygu. Mae hyn wedi darparu nid yn unig incwm i'r pwrs cyhoeddus o daliadau prydles ac yn uniongyrchol i gymunedau o gronfeydd budd cymunedol, ond cyfleoedd i gymunedau gymryd perchnogaeth o ran o'r datblygiadau hyn. Mae'r prosiectau hefyd wedi ariannu gwelliannau mewn cyfalaf naturiol, fel adfer ac ehangu ardaloedd lle'r oedd mawn mewn perygl o ryddhau nwyon tŷ gwydr.
Mae wedi bod yn ddiddorol nodi bod y cwmnïau sy'n ennill cystadlaethau prydles—y rhai hynny sydd fwyaf parod i sicrhau buddion lleol—yn ddatblygwyr sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Rydym yn rhannu uchelgais y cenhedloedd eraill hyn, ac rydym yn benderfynol o sicrhau cymaint â phosibl y gwerth y mae Cymru yn ei dderbyn gan asedau cenedlaethol Cymru a ddefnyddir i gynhyrchu ynni. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda CNC i asesu lefel y cynhyrchu gan wynt y gall yr ystad goetir ei chynnal ac ystyried sut i sicrhau bod Cymru'n cadw mwy o'r manteision mewn marchnad sy'n newid. Mae tir cyhoeddus yn gyfle gwych, fodd bynnag, nid yw ond yn deg cymryd cyfran fwy o ran y risgiau os ydym yn dymuno cymryd mwy o'r enillion i Gymru.
Felly, Llywydd dros dro, rwy'n falch iawn o gyhoeddi, fel y nodais yn Cymru Sero Net y llynedd, ein bod ni'n mynd i sefydlu datblygwr gwladol Cymru. Byddwn ni'n cymryd mwy o risgiau pan fydd y rhain yn rhesymol, ac yn cael yr enillion er budd dinasyddion Cymru. Byddwn ni'n bwrw ymlaen â phrosiectau ar dir Llywodraeth Cymru ac yn eu datblygu'n fasnachol, gan barchu barn pobl a rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy ar yr un pryd. Byddwn yn cyflawni'n uniongyrchol ar ein nodau i gael dros gigawat o gynhyrchiant dan berchnogaeth leol erbyn 2030, a'n hymrwymiad maniffesto i gynhyrchu o leiaf 100 MW ychwanegol erbyn 2026.
Mae hwn yn ddull hirdymor, ac nid ydym yn disgwyl gweld enillion tan tua diwedd y ddegawd. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl enillion sylweddol o'u cymharu â'n buddsoddiad. Bydd yr incwm yn ein helpu i gefnogi cymunedau—fel yn wir yr ydym eisoes wedi gweld cymunedau'n elwa yn ystod COVID ac erbyn hyn yr argyfwng costau byw—o'r cronfeydd cymunedol o ffermydd gwynt presennol. Ond rwy'n arbennig o awyddus i archwilio sut y gallwn gysylltu'r datblygiadau hyn â ôl-osod cartrefi gerllaw, gan ddefnyddio busnesau lleol. Bydd hyn yn golygu gweithio mewn ffordd wahanol gyda'r sector preifat. Gobeithio y bydd y sector hwnnw'n croesawu aelod arall dan berchnogaeth gyhoeddus, gan weithio ar sail gyfartal a dychwelyd elw i'r pwrs cyhoeddus. Byddwn yn gweithio gyda CNC i ystyried sut, yn y dyfodol, y gallwn gynnig cyfleoedd ar draws yr ystad coetir sy'n ategu ein datblygiadau ni, cyfleoedd i ddatblygwyr masnachol a chymunedol gynnig mentrau ar y cyd gyda ni.
Rydym hefyd yn gobeithio y bydd ein dull ni o weithredu yn helpu i ailffurfio'r farchnad mewn mannau eraill yng Nghymru. Bydd ein dealltwriaeth ddyfnach o arbedion yn sgil datblygiadau mawr yn ein helpu i bennu disgwyliadau ynglŷn â faint o fudd cymdeithasol ac amgylcheddol lleol y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan ffermydd gwynt eraill ledled Cymru. Mae gennym lawer iawn mwy o waith i'w wneud i sefydlu cwmni newydd erbyn mis Ebrill 2024. Ochr yn ochr â sefydlu'r datblygwr, byddwn ni'n datblygu portffolio o brosiectau, gan ymgysylltu yn gynnar â chymunedau ac awdurdodau lleol. Byddwn hefyd yn edrych yn fanwl ar y buddion y bydd y dull hwn yn eu cyflawni. Byddwn yn gweithio gyda'r rhai sy'n byw ger prosiectau i ddiffinio cynigion budd cymunedol sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr bod y prosiectau hynny'n cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr ar y cynnydd wrth i ni weithio trwy sefydlu'r datblygwr. Gobeithio y byddwch i gyd yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, wrth i Gymru fod y genedl gartref gyntaf i fod â datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n dda iawn gweld eich bod chi'n bwrw ymlaen o ran edrych ar brosiectau a all ein helpu ni mewn gwirionedd tuag at ein huchelgeisiau o ran sero carbon, yn ogystal â rhoi mwy o arian yn ôl i'r economi leol. Nawr, ar hyn o bryd, mae gennych chi gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Mae hwn wedi cefnogi 242 o brosiectau, gan arbed 716,000 tunnell o garbon deuocsid rhag cael ei allyrru, gan gynhyrchu £322 miliwn mewn incwm a chynilion lleol. O'ch datganiad, dyna'r darn wnaeth wir sefyll allan i mi ynglŷn â chyhoeddi datblygwr gwladol Cymru a phrosiectau newydd ar dir Llywodraeth Cymru a fydd wedyn yn cael eu datblygu'n fasnachol yn 2024. Am wn i, gan fynd yn ôl at wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sut fydd hwn yn gweithio gyda'r un newydd yr ydych chi'n ei sefydlu, oherwydd, yn 2021, dim ond pum prosiect ynni adnewyddadwy gafodd eu cefnogi gan y gwasanaeth? Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, y dylid herio'r gwasanaeth hwn, os yw'n mynd i barhau i weithredu, i gynyddu niferoedd y prosiectau ynni adnewyddadwy y mae'n eu cefnogi?
Hefyd, mae gwerth £5.34 miliwn o brosiectau yn dod i ben ar ôl sicrhau cyllid, felly mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn nodi na chafodd y cynlluniau eu hadeiladu, ond nid oes eglurder o ran yr hyn sydd wedi digwydd i'r miliynau a gafodd eu buddsoddi. Felly, efallai y gwnewch chi ymhelaethu ar hynny ymhellach. A fyddwch chi'n gydgysylltu â'r gwasanaeth i ganfod beth sydd wedi digwydd i'r rheini? Cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar barodrwydd y sector cyhoeddus i gyrraedd targed sero-net 2030 ym mis Awst 2022, felly mae ansicrwydd o fewn y sector ynghylch a allan nhw gyrraedd y targed sero-net.
Nawr, dim ond 10.4 y cant o'n cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n hyderus eu bod nhw'n mynd i gyrraedd targed 2030, ac nid oedd 40 y cant arall o gyrff cyhoeddus yn cytuno nac yn anghytuno â'r datganiad hwn. Felly, sut ydych chi'n ffyddiog eu bod nhw'n mynd i gyrraedd targed y sector? A chwestiwn arall: mae dau fis wedi mynd heibio ers i'r rhybudd y gallai 90 y cant o gyrff cyhoeddus fethu targed sero-net 2030, felly pa gamau rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â hyn?
Yn ddiddorol, mae'r sector iechyd yn gyfrifol am oddeutu traean o allyriadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae cynllun cyflawni strategaeth ddatgarboneiddio GIG Cymru wedi gosod targed o ostyngiad o 34 y cant mewn allyriadau carbon, ond y gwir amdani yw, os mai dim ond gostyngiad o 34 y cant ohonynt a gyflawnir, yna bydd yn anodd i'r sector cyhoeddus gyflawni ei darged sero-net cyffredinol. Felly, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd, sut fyddwch chi'n gweithio gyda'r Gweinidog iechyd a gofal cymdeithasol i weld targed mwy heriol yn cael ei osod gan GIG Cymru? Mae eraill wedi rhybuddio y bydd cyrraedd y targed yn gofyn am adnoddau ariannol ychwanegol, ac, wrth gwrs, bydd absenoldeb yr arian hwn yn rhwystr i symud ymlaen. Prif bwnc eich datganiad oedd y cwmni datblygu newydd hwn, felly sut fydd hwnnw'n gweithio gyda'r gwasanaeth ynni a oedd gennych, a sut y bydd yn cyflawni mewn gwirionedd? Pa mor ffyddiog—? Ac, am wn i, fy nghwestiwn olaf yw: rydych chi'n dweud yn 2024; mae gennym ni'r argyfwng hinsawdd nawr, a oes unrhyw ffordd o gwbl y gallai hynny gael ei gyflwyno'n gynt? Diolch.
Diolch, Janet. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'ch cyfraniad yn y fan yna ynghylch y gwasanaeth effeithlonrwydd ynni, ac yn amlwg nid dyna yw prif bwrpas y datganiad hwn. Yn amlwg, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth effeithlonrwydd ynni i sicrhau y gallwn gael effeithlonrwydd ynni. Fe wnaethoch chi ddyfynnu rhai o'r ystadegau da iawn yr ydym ni wedi'u cael mewn gwirionedd o ran canlyniadau yn y fan yna. Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw.
Byddwn ni hefyd yn datblygu datblygwr ynni cymunedol, fel rhan o'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a fydd yn tynnu'r cynlluniau ynni lefel gymunedol sydd eu hangen arnom yn y gymuned at ei gilydd ledled Cymru—y cynlluniau ar raddfa fach sydd eu hangen arnom ledled Cymru. A byddan nhw hefyd yn gyfuniad o gynhyrchu trydan—felly o'ch paneli solar, o'ch hydro ar raddfa fach ac yn y blaen, yr wyf yn gwybod bod gennych ddiddordeb ynddyn nhw—ond hefyd yn gweithio ar effeithlonrwydd ynni'r adeiladau sy'n rhan o'r prosiect cymunedol hwnnw. Felly, yn amlwg, yr hyn sydd angen i ni ei wneud hefyd yw lleihau'r galw am gynhyrchu trydan.
Mae'r datganiad hwn, er hynny, am datblygwr ar raddfa fawr iawn sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan ddechrau ar dir Llywodraeth Cymru, i gymryd ei le gyda nifer o gwmnïau sydd eisoes yn gweithio ledled Cymru. Mae Scottish Power, er enghraifft, yn darparu, fel y gwn eich bod chi'n gwybod, y grid yn y gogledd. Mae hyn, Llywydd Dros Dro, yn un o'r hen ystrydebau wedi ei wireddu: felly, mae'n debyg mai'r amser gorau i wneud hyn oedd tua 40 mlynedd yn ôl, a'r amser gorau wedi hynny yw nawr. Felly, dyma ni—rydym ni'n ei wneud. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud hefyd yw gwahodd menter ar y cyd â chwmnïau'r sector preifat—rwy'n dweud 'sector preifat' gyda dyfynodau o'i amgylch, oherwydd cwmni pŵer cenedlaethol o Sweden, cwmni pŵer cenedlaethol yr Alban, cwmni pŵer cenedlaethol yr Almaen, Denmarc yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw, wyddoch chi, mae'r rhain yn gwmnïau sydd yno'n barod, felly dydyn nhw ddim yn rai sector preifat mewn gwirionedd; maen nhw'n weithredwyr sy'n eiddo i'r wladwriaeth—i weithio ochr yn ochr â ni i wneud yn siŵr, wrth gynhyrchu'r math o ynni sydd ei angen arnom ledled Cymru o bob math o ynni adnewyddadwy, er ein bod yn dechrau ar ystad Llywodraeth Cymru gyda gwynt, rydym yn dychwelyd y buddsoddiad yn hwnnw, nid yn unig mewn buddion cymunedol ond y buddsoddiad gwirioneddol yn ôl i bobl Cymru, ac mae'r cwmnïau eraill hynny'n gallu gwneud hynny i'w dinasyddion cenedlaethol nhw. Wrth wneud hynny, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gallu ailfuddsoddi mewn cydnerthedd ynni a effeithlonrwydd ynni, sef dwy ochr o'r un geiniog—rwy'n cytuno'n llwyr â chi.
Felly, rwy'n falch eich bod chi'n croesawu hyn. Bydd yn cymryd blwyddyn i ni sefydlu'r cwmni yn iawn, oherwydd mae hon yn strategaeth fuddsoddi fawr, y mae'n rhaid i ni ei gwneud er mwyn cael ein hagenda pontio teg yn weithredol mewn gwirionedd. Gwn eich bod yn rhannu ein huchelgais na ddylai pobl Cymru, wrth bontio i economi werdd, ddioddef y problemau y gwnaethom eu dioddef mewn chwyldroadau diwydiannol blaenorol. Felly, dyma'r cam mawr cyntaf ymlaen wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau cyfoeth ein diwydiant adnewyddadwy ar gyfer pobl Cymru.
Diolch, Gadeirydd dros dro, a diolch, Weinidog, am eich datganiad. Mae’n dda clywed mwy am fel y gall y sector cyhoeddus chwarae rôl bwysig wrth inni fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae hyn wedi codi yn barod, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n werth i ni siarad ychydig am hyn. Roedd hi'n peri pryder clywed bod Audit Wales wedi dweud dros yr haf ei bod hi'n glir y byddai'r sector yma yn gorfod—er mwyn iddyn nhw gyrraedd y nod o net sero gydag allyriadau carbon erbyn 2030, dywedodd yr archwilydd fod angen i gyrff cyhoeddus gwneud mwy yn gyflymach. Gwnaethon ni glywed fod heriau mawr yn eu ffordd nhw, a bod angen i Lywodraeth Cymru eu helpu nhw i ddod dros yr heriau hyn.
Fel rydyn ni wedi clywed, o'r 48 corff cyhoeddus yr oedd Audit Wales wedi siarad â nhw, dim ond dau oedd wedi asesu goblygiadau ariannol cyrraedd y nod yma yn llawn. Dywedodd y cyrff cyhoeddus fod angen arnynt fwy o fuddsoddiad, a bod angen iddyn nhw ffeindio ffyrdd fwy agile neu wahanol, newydd o ddefnyddio’u harian. A gaf i ofyn i chi yn gyntaf, Weinidog, ymateb i’r pryderon ariannol a dweud sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus, efallai’n ffocysu ar ein system ynni? Hefyd, datgelwyd problemau gyda chapasiti a bylchau yn y sgiliau sydd yn y sector. Dywedodd y cyrff fod eu hadnoddau nhw’n cael eu defnyddio ar gapasiti llawn yn barod wrth iddyn nhw ddelio â gwasanaethau craidd, ac nad oes ganddyn nhw wastad y sgiliau arbenigol i ddelio â natur gymhleth datgarboneiddio.
Rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno, Weinidog, fod angen gweithlu gyda’r sgiliau gwyrdd hyn er mwyn inni wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld y newid sydd ei angen. Felly, a gaf i ofyn i chi osod allan eich vision chi ar gyfer y gweithlu? Ymhellach i hynny, sut ydy’r Llywodraeth yn annog cydweithrediad yn y sector cyhoeddus yn y materion hyn? Mae adroddiad yr archwilydd yn sôn am bwysigrwydd rhannu gwybodaeth, capasiti ac arbenigedd, felly buaswn i’n hoffi clywed eich persbectif chi ar hynny.
Yn olaf ond un, mae data yn her sylweddol yn hyn. Mae’n glir bod dyfodol ein system ynni, a rôl ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus, yn dibynnu ar ddata sydd yn ddibynadwy. Galwodd yr archwilydd ar gyrff cyhoeddus i wella’u dealltwriaeth nhw o allyriadau carbon. Beth ydy’r Llywodraeth yn gwneud i gefnogi hynny a beth sy’n cael ei wneud i wella casglu data gan y Llywodraeth ei hun wrth ystyried hyn? Yn olaf, Weinidog, hoffwn i ofyn: beth oeddech chi’n ei olygu wrth 'returns'? Roeddech chi'n dweud
'nid ydym yn disgwyl gweld enillion tan...diwedd y degawd'.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ai prosiectau oeddech chi’n golygu wrth hwnna, neu returns on investment? Ac yn olaf, o ran yr amserlen, 'the end of the decade', roeddech chi’n dweud. Ydych chi’n cytuno, yn sicr o ran prosiectau ynni cymunedol, fod angen mwy o frys na hynny?
Diolch yn fawr. Sori os oedd hwnna bach yn gyflym ar gyfer y cyfieithwyr.
Does dim angen ymddiheuro i’r cyfieithwyr. Maen nhw’n fwy na ddigon abl i gyfieithu popeth sy’n cael ei ddweud yn y Siambr yma.
Ac rydw i, o'm rhan fy hun, yn ddiolchgar iawn iddyn nhw yn wir, Llywydd, oherwydd mae arna i ofn nad yw fy Nghymraeg i yn ddigon da i drafod ynni adnewyddadwy yn fanwl ar hyn o bryd, er cymaint yr hoffwn iddi fod.
Felly, Delyth, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir am y sylwadau hynny. Fe wnaethoch chi gwmpasu cryn dipyn mewn ychydig iawn o amser yn y fan yna, felly mi wnaf i fy ngorau i ateb rhywfaint o'r cwestiynau hynny, ond mi fyddaf i'n dechrau o gynsail y datganiad, sef mai dyma'r cyhoeddiad amdanom ni'n ffurfio datblygwr ynni sylweddol gwladol. Felly, mae hyn yn raddfa lawer mwy na'r prosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae hwn yn ddatblygwr o bwys. Dyna pam mae'n cymryd degawd i weld unrhyw enillion, oherwydd bydd yn cymryd mor hir â hynny i adeiladu'r fferm wynt gyntaf, y mae gennym ni blot eisoes wedi'i neilltuo ar ei chyfer, ond bydd yn rhaid i ni ymdrin â phob agwedd o ddatblygu hynny, gan gynnwys yr holl ganiatâd cynllunio a'r ymgysylltu cymunedol a'r holl bethau yr ydym ni'n disgwyl i ddatblygwyr eraill ei wneud. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni fuddsoddi o flaen llaw i alluogi'r datblygwr i wneud hynny, ac ni fydd gennym ni fferm wynt weithredol yn cynhyrchu ei helw am beth amser. Felly, dyna yw'r oedi yn y peth arbennig yma.
Y peth arall i'w ddweud yw, oni bai ein bod ni'n datgarboneiddio ein grid yn gyflym—ac, a dweud y gwir, rwyf wedi colli pob ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i weithredu yn hyn o beth; rwy'n gobeithio fy mod i'n anghywir a'u bod nhw'n rhoi trefn ar eu hunain, ond, ar hyn o bryd, nid yw pethau'n edrych yn wych. Wyddon ni ddim eto pwy yw'r Ysgrifennydd Gwladol newydd. Ond oni bai ein bod ni'n datgarboneiddio'r grid, wrth gwrs bydd cyrff yn y sector cyhoeddus ym mhob rhan o Gymru yn ei chael hi'n anodd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, oherwydd datgarboneiddio'r grid y maen nhw'n cael eu hynni ohono yn y lle cyntaf yw un o'r camau mawr ymlaen, ac mae hynny'r un peth ar gyfer tai ac i weithredwyr masnachol ledled Cymru. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, Llywydd, y buom ni'n cael trafodaeth dda gyda'r Gweinidog ar y pryd am gael grid wedi'i gynllunio i Gymru, trefniant datblygu rhwydwaith a oedd yn caniatáu inni gynllunio'r grid a pheidio ag ymateb i rymoedd y farchnad drwy'r amser. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n goroesi'r cynnwrf presennol yn Llywodraeth y DU, oherwydd wrth gwrs mae hynny'n ein galluogi nid yn unig i roi ein generaduron adnewyddadwy mawr ar waith, ond yn bwysicach o lawer, Delyth, mae'n caniatáu i'r holl gynlluniau cymunedol bach ledled Cymru gysylltu â'r grid, i ddefnyddio ynni pan fydd ei angen arnynt, ond, yn bwysicach o lawer, i gyfrannu ynni pan fydd ganddyn nhw ynni dros ben, ac felly'n helpu gyda'r holl argyfwng costau byw a gyda datgarboneiddio.
Yn amlwg, fel y dywedais i mewn ymateb i Janet, dyma un ochr i ddull deublyg. Fe wyddoch chi, o dan y cytundeb cydweithio, ein bod ni'n bwriadu creu Ynni Cymru. Ynni Cymru fydd y datblygwr ynni cymunedol ledled Cymru ar gyfer yr holl brosiectau bach, gan eu tynnu at ei gilydd. Mae'n cael ei drafod ar hyn o bryd ond mae'n debyg—wel, rwy'n gobeithio—y bydd ganddo berthynas â gwasanaeth ynni Cymru, neu hyd yn oed yn disodli hynny, er mwyn dod a'r ddwy agwedd ar hynny—y datgarboneiddio, insiwleiddio, yr ôl-osod a'r agwedd cynhyrchu ynni—at ein gilydd, oherwydd mae'n rhaid inni ddefnyddio llai a sicrhau ein bod yn defnyddio'r hyn y gwnaethom ni ei gynhyrchu yn effeithlon iawn er mwyn cyflawni unrhyw beth yn agos at sero net.
O ran sgiliau, rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, a fy nghyd-Aelod Vaughan Gething, i sicrhau bod gennym ni'r cyfle datblygu economaidd wedi'i amlygu a bod gennym ni'r sgiliau cynhyrchu, fel ein bod ni'n penodi'r prentisiaid cywir, yn sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n colegau addysg bellach i fod yn cynhyrchu'r mathau cywir o brentisiaid i weithio ar y prosiectau hyn, ond mewn gwirionedd, byddwn ni hefyd yn gweithio, wrth gwrs, gyda'n prifysgolion hefyd, oherwydd un o'r manteision mawr o gael datblygwr gwladol yw y caiff ei gynllunio a'i redeg yma yng Nghymru. Ni fyddwn yn mewnforio rhywbeth sydd â'r rhan fwyaf o'r swyddi mawr yn ôl ym mha bynnag wladwriaeth weithredu yr ydych yn sôn amdani. Felly, mae'r gobaith yma wedi fy nghyffroi'n fawr. Mae hwn yn gam mawr ymlaen mewn clytwaith o bethau sydd angen i ni eu gwneud gyda'n gilydd er mwyn cael yr economi werdd llawer gwell a llawer mwy gwyrdd i Gymru y mae arnom ni i gyd ei heisiau.
Yn wyneb graddfa anhygoel yr argyfwng newid hinsawdd sy'n ein hwynebu a'r angen i gyrraedd sero net, mae hwn yn ddatganiad i'w groesawu heddiw ac yn enwedig y cynigion ynghylch datblygwr gwladol Cymreig. Yr hyn yr hoffwn i ei ofyn i chi, Gweinidog, yw: fe wyddoch chi ar garreg fy nrws—dydw i ddim yn gofyn i chi wneud sylw ar y cais unigol, peidiwch â phoeni, ac ni fydd yn dod atoch chi tan, rwy'n credu, 2023—mae gennym y cynnig ar gyfer datblygiad Bryn. Dyma fydd un o'r mwyaf yng Nghymru, os nad yn Ewrop. Rhain hefyd fydd rhai o'r tyrbinau gwynt talaf. Rwyf wedi eiriol yn gyson, gyda llaw, dros bŵer gwynt yr holl flynyddoedd yma. Mae'r rhain yn union gyferbyn â fy nhŷ i; rwy'n parhau'n eiriolwr cyson ohonynt oherwydd yr her honno sydd gennym ni. Ond mae'n ddiddorol iawn ei fod yn gorgyffwrdd; mae'r amseru yn anghywir. Gallai'r cynllun hwn fod wedi bod yn un o rai'r datblygwr gwladol. Iawn, felly os yw'n anghywir, fe ddywedasoch chi hefyd yn eich datganiad:
'Bydd ein dealltwriaeth ddyfnach o arbedion yn sgil datblygiadau mawr yn ein helpu i bennu disgwyliadau ynglŷn â faint o fudd cymdeithasol ac amgylcheddol lleol y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan ffermydd gwynt eraill ledled Cymru.'
Wel, dyma un o'r rhai eraill hynny. Beth ddywedaf i wrthyn nhw pan fyddaf yn eu cyfarfod nesaf ar ran fy etholwyr am faint o ymgysylltu cymunedol, llog, cyfranddaliadau, enillion, ôl-osod, beth bynnag, y dylem ni ddisgwyl ganddyn nhw os yw hyn yn mynd i fod yn un o'r datblygiadau gwynt mwyaf ar y tir nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop? Beth ddylem ni fod yn ei fynnu ganddyn nhw?
Diolch yn fawr, Huw. Felly, yn amlwg, dydw i ddim yn mynd i wneud sylw ar yr agwedd benodol yna, ond yn gyffredinol, un o'r rhesymau mae arnom ni eisiau cwmni gwladol sy'n eiddo i ni, ddinasyddion Cymru, yw i roi pwysau ar yr holl ddatblygiadau eraill ledled Cymru i ddangos beth y gellir ei wneud mewn menter ar y cyd rhwng datblygwr gwladol ac ymgysylltu â'r gymuned a'r partner cyd-fentro. Rydym ni wedi gwneud gwaith da iawn gyda'r buddion cymunedol, ond mae buddion cymunedol yn gyfyngedig; dydych chi ddim yn cael elw uniongyrchol yn ôl o hynny. Mae'n gyfran elw o fath, ond nid yw'n elw uniongyrchol. Yr hyn rydym ni'n bwriadu ei wneud yw cael ffermydd gwynt ledled Cymru—ac rwy'n pwysleisio'n llwyr nad ydw i'n siarad am unrhyw un penodol yma—hoffem i ffermydd gwynt ledled Cymru ymgysylltu â ni o ddifrif wrth sicrhau, wrth adeiladu pa bynnag fferm wynt maen nhw'n ei hadeiladu, fod rhai o'r tyrbinau yn eiddo uniongyrchol i'r gymuned leol. Felly, maen nhw'n cael budd cymunedol o'r fferm wynt gyfan, ond maen nhw mewn gwirionedd yn berchen ar rai o'r tyrbinau—felly, fe gânt eu codi ar ran y gymuned.
Yr hyn y mae arnom ni eisiau ei wneud, wrth ddatblygu gyda Phlaid Cymru a'n cynlluniau o dan y cytundeb cydweithio—ac mae hyn, rwy'n pwysleisio, yn cael ei ddatblygu, nid yw hyn wedi'i gytuno, ond mae'n un o'r trafodaethau rydym ni'n eu cael—yw gweld a yw'r cwmni hwnnw—felly, nid yr un yma yr wyf yn siarad amdano yn y fan yma, ond y bydd y cwmni arall hwnnw—yn gallu hwyluso'r berchnogaeth honno ar ran pobl leol, oherwydd un o'r materion mawr i ni yw nad yw pobl leol yn debygol o allu prynu stociau yn y cwmnïau hynny. Felly, i hwyluso'r berchnogaeth honno. Felly, perthynas lawer mwy uniongyrchol, ac, wrth gwrs, felly, perthynas lawer mwy uniongyrchol drwy gydol yr holl broses—felly, wrth ymgysylltu, wrth ddylunio, wrth adeiladu, gyda sgiliau, wrth ddarparu prosiectau ynni ac ôl-osod cartrefi, wrth uwchsgilio cymunedau cyfan.
Un o'r pethau rwy'n ei ddweud yn aml mewn sgyrsiau gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy—a dyma pam mae'r agwedd grid o hyn mor bwysig—yw bod yna gartrefi drwy Gymru benbaladr sy'n gallu edrych allan o ffenest a gweld fferm wynt ond sydd ar olew nad yw'n rhan o'r grid, sydd ddim yn gallu uwchraddio eu tai er mwyn gallu manteisio ar bethau fel pympiau gwres ffynhonnell aer oherwydd bod y buddsoddiad yn ormod iddyn nhw. Gall y ffermydd gwynt hynny gyfrannu'n uniongyrchol at hynny. Mae angen i ni uwchsgilio ein cymunedau i allu gofyn am y peth cywir mewn buddion cymunedol. Mae angen i ni gael yr elw uniongyrchol iddyn nhw o fod yn berchen ar rai o'r tyrbinau, a bydd i'r datblygwr sylweddol hwn ran allweddol yn llywio'r sgwrs honno i gyfeiriad cyd-fentro.
Rwy'n prysuro i ddweud eto nad ydw i'n trafod unrhyw gais penodol yma, ond, yn amlwg, yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi pwysau ar yr holl system fel ei fod yn ymddwyn mewn ffordd benodol, a gobeithio y bydd hyn nid yn unig ar gyfer gwynt ar y tir, ond hefyd ar gyfer gwynt ar y môr. Rydym ni wedi cael sgyrsiau da iawn gyda Ystad y Goron hyd yn hyn. Rydym ni'n gobeithio'n fawr cael sgwrs debyg am berchnogaeth a gweithrediad cynlluniau gwynt ar y môr hefyd, oherwydd rydym ni'n siarad yn y fan yna am gynhyrchu symiau sylweddol iawn o ynni.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel rwy'n siŵr y byddwch yn cofio, Gweinidog, mentrodd Cyngor Sir Fynwy, yn ôl pan oeddwn i'n arweinydd, sefydlu ei fferm solar ei hun ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn y Crug. Y bwriad oedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer tua 1,400 o gartrefi a lleihau allyriadau carbon. Gofynnodd y cyngor i Lywodraeth Cymru ar y pryd ymuno â'r prosiect fel partner, a chawsom gefnogaeth a chyllid derbyniol drwy'r gronfa twf gwyrdd buddsoddi i arbed er mwyn helpu i gyflawni hynny. Rwy'n siŵr bod llawer o enghreifftiau gwych eraill ar draws yr holl awdurdodau ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at ddau rwy'n gwybod amdanynt, ac rwy'n gobeithio y bydd llywodraeth leol yn cyflwyno cynlluniau ynni manwl iawn, ac rwy'n croesawu'r mentrau rydych chi wedi'u cyhoeddi heddiw fel y gallwn ni gynyddu prosiectau ynni a'u darparu'n gynt yn lleol.
Roedd yr archwiliad manwl i gynlluniau ynni adnewyddadwy a gynhaliwyd y llynedd yn argymell bod angen i ni edrych ar ffyrdd o wella mynediad at dir cyhoeddus a phrosiectau ynni lleol, yn ogystal â meithrin gallu ychwanegol yn y mentrau cymunedol, er mwyn helpu i gychwyn y cynlluniau newydd hynny. Gweinidog, roedd arna i eisiau gwybod yn fras sut rydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog llywodraeth leol i ddatblygu gwybodaeth a gallu ychwanegol mewn awdurdodau lleol a strwythurau rhanbarthol i helpu i gynyddu cynlluniau ynni adnewyddadwy presennol a newydd, fel y gallwn ni greu sector mwy, a mwy cynaliadwy. Diolch.