Y Cyfarfod Llawn
Plenary
09/02/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.
1. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch hawliau disgyblion ysgol anabl? OQ57596
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tegwch a chynhwysiant mewn addysg. Mae ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn hyrwyddo mynediad i bawb. Mae'n rhaid i ysgolion a sefydliadau addysg bellach a gefnogir drwy'r rhaglen sicrhau bod eu hadeiladau yn caniatáu mynediad i ddisgyblion, myfyrwyr, staff ac ymwelwyr anabl.
Diolch, Weinidog. Ysgrifennais at y Gweinidog addysg y llynedd i fynegi pryderon am y diffyg gweithredu o sylwedd i fynd i’r afael â’r tarfu ar addysg disgyblion anabl a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y pandemig. Mae Mark Edwards yn un o lawer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynghylch y mater hwn. Mae'n teimlo bod ei fab, sy’n ddisgybl anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Maes y Coed, Bryncoch, yn cael ei drin yn anghyfartal, er nad oes unrhyw fai ar yr ysgol ei hun, gan ei fod yn parhau i golli cyfnodau hanfodol ac estynedig o'i addysg. Mae diffyg darpariaeth profion COVID anymwthiol yn gorfodi llawer o ddisgyblion, fel mab Mark, i orfod ynysu am gyfnod bob tro y bydd ganddynt symptomau posibl. Rhai enghreifftiau yn unig o’r angen i’r Llywodraeth weithredu yw’r diffyg cronfeydd addysgu arbenigol digonol i liniaru effaith heintiau ar staffio. Mae dosbarth mab Mark wedi bod ar gau am wythnosau ar y tro ar brydiau dros y misoedd diwethaf, gyda llai na diwrnod o rybudd weithiau. Dywedodd Mark wrthyf, 'Mae fel pe bai plant fel fy mab a'u haddysg yn llai gwerthfawr.' Sut y bydd y Gweinidog yn cynnal hawliau pob plentyn i addysg gyfartal yn ystod y cyfnod hwn, a beth y bydd y Gweinidog yn ei wneud i sicrhau na cheir gwahaniaethu yn erbyn plant ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol yn y modd hwn?
Diolch yn fawr, Sioned Williams, am eich cwestiwn hynod bwysig ac am fwydo’r dystiolaeth honno’n ôl. Rydym yn mynd i’r afael ag anghenion dysgu ychwanegol o ganlyniad i’n hymrwymiad i hawliau plant a’n hymrwymiad i hawliau plant anabl, mewn gwirionedd, sydd wedi’u hymgorffori'n bendant iawn ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Felly, rydym yn buddsoddi ym mywydau plant anabl drwy ein hymrwymiad ariannol. Mae hynny'n hollbwysig o ran adnoddau—£21 miliwn i gyflwyno'r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2018 (Cymru)yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid inni oresgyn rhwystrau i ddysgu fel y gall plant anabl gyflawni eu potensial llawn. Cyhoeddodd y Gweinidog addysg £10 miliwn yn ychwanegol eleni i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys llawer o blant anabl—yn bwysig iawn, mewn ymateb i’ch cwestiwn—y mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol arnynt. Ac wrth gwrs, caiff hyn ei gydnabod hefyd yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Felly, fis diwethaf, unwaith eto, credaf fod y Gweinidog addysg wedi cyhoeddi £100 miliwn mewn cyllid ychwanegol i wneud ysgolion a cholegau yn ddiogel rhag COVID, a bydd £50 miliwn hefyd yn helpu i sicrhau mynediad i adeiladau. Felly, mae’n amlwg mai dyma’r ymrwymiad a’r prif amcan, nid yn unig i mi fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond hefyd i Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae, fel y'i hymgorfforwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae Erthygl 31 o’r confensiwn yn nodi bod gan bob plentyn hawl:
'i orffwys a chael hamdden, chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn a chymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.'
Mae adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i anghenion plant sy’n bobl anabl mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn yr ardal y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdani. Er gwaethaf y cyfrifoldeb hwn i roi sylw i anghenion plant, mae llawer o feysydd chwarae ledled Cymru nad oes ganddynt unrhyw gyfleuster addas ar gyfer plentyn ag anabledd. Yn fy etholaeth i, Aberconwy, mae rhieni wedi dweud wrthyf fod yn rhaid iddynt eistedd a gwylio eu plant yn gwylio plant eraill yn chwarae. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Weinidog, fod hyn yn hynod o drist ac na ddylai fod yn digwydd yn yr oes sydd ohoni. Felly, a wnewch chi drafod y mater gyda’r Prif Weinidog, ac edrych i weld a oes unrhyw fwriad i greu cyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu cyllid digonol i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod gan bob maes chwarae, ym mhob cymuned, o leiaf un cyfleuster ar gyfer plant ag anableddau? Diolch.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd. Wrth gwrs, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i baratoi strategaeth hygyrchedd, a hynny, mewn gwirionedd, ar gyfer yr ystâd addysgol gyfan. Rwy’n sylweddoli eich bod hefyd yn cyfeirio at feysydd chwarae yn y gymuned hefyd, sy’n gyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Ond dyna lle y mae’r cyfrifoldebau statudol a nodir yn ein Mesur hawliau plant a phobl ifanc mor bwysig i ni yma yng Nghymru. Ond yn sicr, byddaf yn mynd i’r afael â hyn ac yn archwilio'r mater, yn enwedig gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc. A thynnaf sylw hefyd at y cyllid a roddwyd i Gwaith Chwarae a’r Haf o Hwyl y llynedd, a oedd hefyd yn estyn allan gan ymgysylltu'n gynhwysol â phlant a phobl ifanc, ac i sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol yn gynhwysol yn hynny o beth.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i amddiffyn pobl ar incwm isel yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ57618
Diolch, Delyth Jewell. Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, rydym wedi dyblu'r taliad cymorth tanwydd gaeaf, o £100 i £200, ac wedi ymestyn ein cyllid ar gyfer banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ofyn yn benodol i chi, os gwelwch yn dda, am ragor o wybodaeth am yr uwchgynhadledd bord gron y byddwch yn ei chynnal yr wythnos nesaf, a chroesawaf hynny'n fawr. Gwn fod y Llywodraeth wedi cytuno i'w chynnull yn dilyn dadl Plaid Cymru yn y Senedd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi rhagor o wybodaeth i ni, os gwelwch yn dda, am y sectorau a’r grwpiau a fydd yn cael eu cynrychioli. Ac—mae hyn yn rhywbeth a godwyd, mewn gwirionedd, gydag un o'ch cyd-Weinidogion ddoe yn y Siambr—a allwch roi mwy o sicrwydd i ni y bydd lleisiau'r bobl y bydd y cynnydd hwn yn y costau'n effeithio fwyaf arnynt yn bersonol yn cael eu clywed yn rhan o'r uwchgynhadledd bord gron honno? Yn ogystal â hynny, os caf, yn gyflym, Weinidog, mae etholwyr wedi cysylltu â mi—rwy’n siŵr y bydd yr un peth wedi digwydd i chi—i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud â'r swm canlyniadol Barnett yn sgil gostyngiad y dreth gyngor yn Lloegr. Rwy'n deall eich bod wedi dweud eich bod yn gweithio ar ffyrdd o sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed. Rwy’n cymryd bod hyn yn mynd i gael ei drafod yn rhan o’r uwchgynhadledd bord gron hefyd, ond a allwch roi syniad i ni hefyd, os gwelwch yn dda, pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad ar hynny? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn defnyddiol iawn, oherwydd gallaf roi ymateb llawn i chi yn awr ar y cynlluniau ar gyfer yr uwchgynhadledd bord gron ddydd Iau nesaf, 17 Chwefror. Rydym wedi gwahodd pob un o’r sefydliadau sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn tlodi ledled Cymru. Yn amlwg, mae hynny’n cynnwys nid yn unig y rheini sy'n ymwneud â thlodi bwyd—Ymddiriedolaeth Trussell a banciau bwyd eraill a sefydliadau bwyd cymunedol sy’n ymateb i her tlodi bwyd—ond hefyd y rheini sy’n ymateb i heriau tlodi tanwydd, gan gynnwys y cynghorwyr sy'n bwysig i ni, fel Sefydliad Bevan, er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eu tystiolaeth. Mae profiadau bywyd yn hollbwysig. Cyfarfûm â’r grŵp gweithredu ar dlodi plant yr wythnos diwethaf, ac roedd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi yn hynod ddefnyddiol, yn dod â ni at wraidd yr hyn sy’n digwydd mewn cymunedau. Ond rwyf hefyd yn sicrhau bod y Llywodraeth gyfan yn rhan o hyn. Felly, byddaf yn cael cyfarfod dwyochrog â'r holl Weinidogion yr wythnos hon. Mae gennym weithgor trawslywodraethol, i edrych ar bob portffolio, o ran yr hyn y gallant ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. I Lywodraeth Cymru, mae hwn yn ymrwymiad gyda phartneriaid. Y bore yma, cyfarfûm â’r rhai sy’n darparu'r gronfa gynghori sengl, Cyngor ar Bopeth, Shelter, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig—pob un o’r partneriaid sy’n gweithio ar flaen y gad, yn darparu cyngor ac arweiniad—a’r gronfa cymorth dewisol hefyd. Felly, byddaf yn gallu adrodd ar hyn oll. Byddaf yn cadeirio’r uwchgynhadledd, ochr yn ochr â'm cyd-Weinidogion, y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. O ran y cyllid, rydym yn cadarnhau manylion y cyllid a fydd yn dod i Gymru yn sgil y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU, ond ar yr un pryd, fel y dywedais, rydym yn datblygu cynlluniau ar sut y gallwn ddefnyddio'r cyllid hwnnw i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, a thrafod yr argyfwng a’r blaenoriaethau—ac mae hynny’n hollbwysig am y digwyddiad yr wythnos nesaf—a ddaw gan y rheini sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hwnnw ac sy'n ymateb iddo yn ddyddiol.
Weinidog, mae’r argyfwng costau byw sy’n effeithio ar bobl ledled y DU yn frawychus dros ben i lawer o bobl yn fy etholaeth i. Mae tlodi gwledig yn rhywbeth nad yw llawer yn y Gymru drefol yn ei ystyried wrth greu polisïau i wrthsefyll caledi economaidd i lawer o deuluoedd ar incwm is sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae yna ffyrdd o ymladd yr argyfwng o fewn y setliad datganoli. Mae gan eich Llywodraeth reolaeth rannol dros lefelau treth incwm, a bob blwyddyn, gallwch ddewis amrywio’r cyfraddau hyn. Felly, pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i dorri cyfradd y dreth incwm i'r rheini sy'n talu'r gyfradd sylfaenol er mwyn lleddfu rhywfaint ar y pwysau a wynebir gan y rheini ar y cyflogau isaf yn ein cymdeithas? Diolch, Lywydd.
Wel, o ran eich Llywodraeth chi, hoffwn pe byddent yn gwrando ar ein galwadau i sicrhau y telir am y costau a roddir ar filiau cartrefi, y costau cymdeithasol hynny, ac yn wir, y costau amgylcheddol, drwy drethiant cyffredinol. Dyna ein galwad ar Lywodraeth y DU, a hefyd, eu bod yn cynyddu’r gostyngiad Cartrefi Clyd. Mae'r ffaith eu bod yn cyhoeddi ad-daliad nad yw'n dod i mewn, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, tan fis Hydref, ac yna'n disgwyl i bawb ei dalu'n ôl yn sarhad ar y rheini sy'n wynebu effeithiau mwyaf yr argyfwng costau byw heddiw. Yr hyn a wnawn gyda'n Llywodraeth yng Nghymru yw gwario ein harian—fe wnaethoch gymryd rhan yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft ddoe—ac efallai y bydd angen inni sicrhau bod pob punt ohono'n cael ei wario i ddarparu ar gyfer y rheini sy'n wynebu'r effeithiau mwyaf. Mae'n rhaid imi ddweud, o ble byddai’r arian yn dod ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus hynny? Yn sicr, nid ydym yn mynd i ddilyn eich llwybr chi. Mae angen ichi berswadio eich Llywodraeth yn San Steffan i fuddsoddi drwy drethiant cyffredinol yn yr argyfwng costau byw.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Weinidog, bron i flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd adroddiad 'Caffael Llesiant yng Nghymru’, ac mae’n dangos yn glir, ar ôl bron i saith mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, fod y Llywodraeth hon yn esgeuluso’i chyfrifoldebau i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn gywir ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru, a sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru yn y modd a’r ysbryd y bwriadwyd iddi wneud. Un darn o’r adroddiad llesiant caffael a oedd yn anghyfforddus i’w ddarllen oedd ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion ynghylch newid hinsawdd. Fel y gŵyr y Gweinidog, mynegodd y comisiynydd bryder nad oedd arian cyhoeddus, yn enwedig o ystyried caffael, yn cael ei wario yn unol â’r argyfwng hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatgan, ac argymhellodd,
'Er mwyn cyflawni targedau allyriadau carbon dylai pob corff cyhoeddus ddatgan yn glir sut y maent wedi ystyried effaith carbon eu penderfyniadau caffael'.
Yn siomedig, ymateb Llywodraeth Cymru oedd y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lunio strategaeth gaffael ac adrodd ar gydymffurfiaeth. Nawr, er y gallai’r Bil hwn osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, ni fydd yn cyflawni unrhyw beth o fewn yr amserlenni sydd eu hangen. Nid yw’n ddim mwy na gohirio, oherwydd nid yw’r Bil wedi’i gyflwyno eto, ac ni ddaw'n gyfraith ac yn weithredol am sawl blwyddyn. Mae angen pendant a digynsail i wneud popeth a allwn i gyflawni ein targedau allyriadau carbon, ond mae bron fel pe bai’r Llywodraeth yn ystyried y Bil partneriaeth gymdeithasol yn ateb a fydd yn datrys pob un o’u problemau, pan nad yw'n ddim byd ond dos o’r meddylfryd sosialaidd sy’n rhagnodi mai’r unig ffordd o ymdrin â methiant deddfwriaethol yw creu mwy o ddeddfwriaeth. O ystyried bod rhwng 50 y cant a 70 y cant o holl allyriadau carbon cyrff cyhoeddus yn dod o gaffael, ac o ystyried yr angen digynsail i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn deall yr ôl troed carbon, a all y Gweinidog ymrwymo i roi argymhellion eich comisiynydd, sy’n gwneud adrodd ar effaith carbon mewn penderfyniadau caffael cyhoeddus yn orfodol, ar waith ar unwaith? Diolch.
Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn go gynhwysfawr a meddylgar, ac yna disgynnodd i’r lefel isel honno unwaith eto drwy roi cic hawdd i'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus. Mae'n cyfeirio at ateb i bob problem. Mae’n ddeddfwriaeth arwyddocaol, ac yn bendant, nid yw’n cael ei ohirio; disgwylir iddi ddod gerbron y Senedd hon ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond rwy’n teimlo, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru yn methu’r pwynt, oherwydd yn hytrach na chyflwyno deddfwriaeth newydd, mae angen ichi sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn gweithio yn gyntaf. Os yw Deddf cenedlaethau’r dyfodol wedi’i beirniadu mor hallt am nad yw'n gweithio, pam y dylem ddisgwyl i’r Bil partneriaeth gymdeithasol weithio? Fel y crybwyllwyd yn y ddadl ar y gyllideb ddoe, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi datgan yn gyhoeddus iawn mai ei chyllideb hi yw’r lleiaf o gyllidebau’r holl gomisiynwyr ac nad yw’n ddigon mawr iddi roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar waith yn llawn. Mae’r comisiynydd wedi cwyno ymhellach fod 43 y cant o’i hamser yn cael ei dreulio’n rhoi cyfarwyddyd i Lywodraeth Cymru ar sut i roi polisi ar waith o fewn ei sefydliad ei hun. O ganlyniad, mae’r comisiynydd wedi gofyn i’w chyllideb gael ei chynyddu i £1.592 miliwn ar gyfer 2022 a 2023, fel y gall ei swyddfa, ac rwy'n dyfynnu,
'gynllunio ar gyfer a diwallu gofynion gwaith statudol hysbys ar ddiwedd 2021-22 a dechrau 2022-23.'
Mae’r comisiynydd wedi datgan bod y tanariannu llinell wastad ar gyfer ei swyddfa yn golygu, yn ei geiriau ei hun,
'y gallaf wneud llai mewn termau real tra bod disgwyliadau a galwadau am gefnogaeth a chyngor ar draws 44 o gyrff cyhoeddus yn tyfu',
a bod
'lefel y gefnogaeth a'r cyngor a gynigir i Gyrff Cyhoeddus a Gweinidogion yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.'
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wythnos hon, dywedodd y comisiynydd, ac rwy'n dyfynnu eto, nad oedd yn cael yn agos at ddigon o adnoddau, sy’n golygu bod y comisiynydd yn nodi na fyddai ei swyddfa’n gallu bodloni gofynion gwaith statudol fel y’u gorfodir gan y Llywodraeth hon os nad yw'n cael mwy o arian.
Os yw’r comisiynydd yn cwyno nad oes ganddi adnoddau ariannol i gyflawni ei dyletswyddau cyffredinol, Ddirprwy Weinidog, sut y gallai'r comisiynydd fod wedi gwastraffu swm sylweddol o’i harian a’i chyllideb ar logi corff allanol i ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb o incwm sylfaenol cyffredinol a chynnal ymchwil i wythnos waith fyrrach, sydd ill dau'n faterion a gedwir yn ôl nad oes gan ei swyddfa na’r Llywodraeth hon unrhyw reolaeth drostynt?
Ddirprwy Weinidog, rhaid eich bod yn cytuno bod y comisiynydd yn gwastraffu arian cyhoeddus ar ymchwil o’r fath, yn enwedig gan nad yw incwm sylfaenol cyffredinol erioed wedi’i roi ar waith yn gyfan gwbl, er gwaethaf treialon ledled y byd, ac er eu bod yn dangos dro ar ôl tro nad yw ymddygiad pobl yn cyd-fynd â’r model sosialaidd o sut y mae’r byd yn gweithio. O ystyried y feirniadaeth helaeth—
Credaf y bydd yn rhaid imi dynnu eich sylw at y ffaith eich bod wedi bod dros ddwy funud bellach. Byddwn yn ddiolchgar os gallwch ofyn eich cwestiwn yn awr.
Iawn, perffaith. O ystyried y feirniadaeth helaeth gan gomisiynydd y Llywodraeth hon, yn enwedig fod Llywodraeth Cymru wedi methu dangos arweinyddiaeth glir, gydgysylltiedig a bod cyfathrebu ac integreiddio gwael rhwng gwahanol flaenoriaethau Cymreig, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar lawer o’i hargymhellion, a ydych yn credu bod hyn yn cyfiawnhau ailfeddwl am y ffordd orau o weithredu Deddf cenedlaethau’r dyfodol, ac, yn hytrach na chomisiynydd, efallai y byddai’r Ddeddf yn cael ei gweithredu’n well yn fewnol gan Lywodraeth Cymru? Diolch.
Lywydd, fel nifer o bobl yma, credaf imi golli golwg ar y cwestiwn yng nghyfraniad yr Aelod. A hoffwn wneud y pwynt mai cyfrifoldeb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw hyn, felly ysgrifennwch ati hi ynghylch y materion hyn. Ond gallaf ddweud wrth yr Aelod ar y pwynt hwn ein bod mewn trafodaethau gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ynghylch ystod o opsiynau i liniaru'r pwysau cyllidebol a wynebir gan y comisiynydd, ac mae hyn yn cynnwys opsiynau mewn perthynas â'r ymarfer alinio a'r cronfeydd wrth gefn y mae’n rhaid i’r comisiynydd eu defnyddio i drefnu ei gwaith. Rydym yn cydnabod y gwaith y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei wneud yn hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy ac yn cynghori cyrff ar sut y gallant weithio mewn ffordd gynaliadwy, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, oherwydd ar hyn o bryd, ymddengys bod y comisiynydd yn rhydd i wastraffu arian cyhoeddus yn ôl ei disgresiwn ac ar ei phrosiectau amherthnasol ei hun. Ond ers cael fy ethol, rwyf wedi darllen a chlywed am sefydliadau dirifedi yn cwyno nad yw Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar weithredu polisi—
A gaf fi dorri ar draws? Mae angen imi gael tawelwch. Rwy’n cael trafferth clywed yr Aelodau a’r Dirprwy Weinidog hefyd. Felly, os gallwn gael tawelwch ar y meinciau cefn, ac os gallwch gadw eich cwestiwn mor gryno â phosibl, diolch.
Ie, diolch, Lywydd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar roi polisi ar waith, ac mae yna hinsawdd o eiriau ac addewidion sy'n swnio'n gefnogol, ond diffyg gweithredu amlwg. Mewn cyfarfod diweddar ag un o’r comisiynwyr, codwyd mater gweithredu polisi unwaith eto, ynghyd â phwynt diddorol iawn arall. Maent yn credu bod y broblem weithredu sydd gan y Llywodraeth hon yn deillio o’r ffaith bod cyfrifoldebau portffolio Gweinidogion wedi’u halinio’n wael o’u cymharu â’r meysydd polisi y maent yn ymdrin â hwy.
O’r hyn a ddeallaf, mae hyn wedi’i godi eisoes yng nghyfarfodydd y Llywodraeth, ac er y bydd Gweinidogion yn siŵr o gydweithio’n agos, mae natur adweithiol llywodraeth yn golygu bod llawer o feysydd yn cael eu hesgeuluso. Mae'n hawdd bwrw golwg dros y rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol a gweld sut nad yw portffolios yn alinio â'i gilydd. Er enghraifft, mae rôl peillwyr mewn amaethyddiaeth, a ddylai berthyn i faterion gwledig, yn dod o dan gyfrifoldebau’r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac yn eich portffolio chi, Ddirprwy Weinidog, mae llawer o’r cyfrifoldebau sydd gan y comisiynydd plant, er enghraifft, yn dod o dan gylch gwaith y Gweinidog addysg, yn hytrach na chi.
Er na fyddwn byth yn disgwyl i’r Dirprwy Weinidog gyfaddef yn gyhoeddus fod y broblem hon yn bodoli, mewn ysbryd o geisio sicrhau'r gorau i bobl Cymru, a wnaiff y Dirprwy Weinidog neu’r Gweinidog ymrwymo i godi mater alinio polisi a rôl fel eitem o fusnes pan fydd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod nesaf? Diolch.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn olaf. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod a’r Aelodau yma ein bod, fel Llywodraeth gyfrifol, yn gweithio ar sail drawslywodraethol. Nid ydym yn gweithredu mewn seilos ac rydym yn cydnabod ein bod yn gweithio ar y cyd, boed hynny gyda’r Gweinidog addysg, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gyda fy nghyd-Aelodau ym maes iechyd, ac ar draws Llywodraeth Cymru yn gyffredinol i sicrhau ein bod yn gweithio fel Llywodraeth, yn gyfunol, i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae pobl hŷn wedi dioddef cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi golygu bod llawer ohonynt yn pryderu am y dyfodol. Bydd yr argyfwng costau byw yn ychwanegu’n sylweddol at y pryderon hyn, yn enwedig gan fod biliau tanwydd eisoes yn debygol o fod yn uwch oherwydd y gofynion ynysu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cyfrifodd cyhoeddiad y Llywodraeth ar y cynllun cymorth tanwydd gaeaf fod oddeutu 350,000 o ddeiliaid tai yn gymwys i wneud cais am daliad o £200 o dan y cynllun. Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ni hawliwyd dros £200 miliwn o gredyd pensiwn yng Nghymru y llynedd. Gan gofio bod risgiau iechyd yn cynyddu oherwydd cartrefi oer i bobl dros 55 oed, a bod mynediad at fand eang aneffeithlon a’r rhyngrwyd yn anodd i lawer, a allwch ddweud wrthym faint o aelwydydd cymwys sydd wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yn hyn, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r terfyn amser estynedig i hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael, yn enwedig i bobl hŷn?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig ar yr argyfwng costau byw, ac yn benodol ar ein pryderon ynghylch trechu tlodi tanwydd. Gallaf ddweud wrth yr Aelod a'r Aelodau ar draws y Siambr, fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, rwy'n credu, y dylai 350,000 o bobl fod yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf; mae'r £100 wedi dyblu yn y pythefnos diwethaf i £200; rydym wedi cael 146,000 o geisiadau hyd yn hyn, ac mae dros 105,000 o daliadau wedi’u gwneud.
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yma yn cysylltu â phawb y maent yn eu hystyried yn gymwys ar gyfer ein cynllun cymorth taliadau tanwydd gaeaf. Mae'n bwysig iawn hefyd—. Mae wedi’i ymestyn hyd at ddiwedd mis Chwefror, felly rwyf hefyd yn annog pawb yma ar draws y Siambr, gan fy mod yn siŵr y bydd pob un ohonoch yn awyddus i sicrhau y bydd eich etholwyr sy’n gymwys yn gwneud cais am y cynllun cymorth tanwydd.
Ond mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod anghenion pensiynwyr, ac rwy'n falch eich bod wedi codi'r mater nad yw dau o bob pump o bobl sy'n gymwys i gael credyd pensiwn yn ei hawlio. Felly, rwy'n croesawu ymrwymiad y comisiynydd pobl hŷn, ac Age Cymru yn wir, a phawb sy’n cynrychioli pobl hŷn a phensiynwyr, i gefnogi ein hawliadau gwneud y gorau o incwm, ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, ac i sicrhau eu bod yn gwneud ceisiadau am y cynllun credyd pensiwn.
Ond rhaid imi ddweud mai neges arall, sydd ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd mewn gwirionedd, yw y gallai'r ad-daliadau biliau ynni i bobl hŷn ac aelwydydd agored i niwed drwy'r gostyngiad cartref cynnes a'r taliad tanwydd gaeaf, yn ogystal â'r cynllun taliadau tanwydd gaeaf, gael eu hehangu’n hawdd gan Lywodraeth y DU i gynnig cymorth pellach, felly rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i alw am hynny ar ôl y cynnydd gwarthus, yn fy marn i, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf mewn perthynas â'r gostyngiad cartref cynnes. Ac a gaf fi achub ar y cyfle i ddweud, wrth gwrs, fod pensiynwyr hefyd yn gymwys i wneud cais i'r gronfa cymorth dewisol? Ac rydym yn buddsoddi, drwy raglen Cartrefi Clyd, mewn mesurau effeithlonrwydd ynni.
Diolch, Weinidog. Fe sonioch chi am raglen Cartrefi Clyd. Er gwaethaf targed gan Lywodraeth Cymru yn 2010 i ddileu tlodi tanwydd cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol ym mhob cartref erbyn 2018, gostyngiad o 6 y cant yn unig a gafwyd mewn tlodi tanwydd ym mhob cartref rhwng 2012 a 2016. Mae’r Llywodraeth hon yn ymgynghori ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd, a lansiwyd gyntaf yn 2009. Mae llawer, gan gynnwys Sefydliad Bevan, wedi dadlau na all un rhaglen gael nod deuol o leihau tlodi tanwydd a datgarboneiddio cartrefi. Methodd rhaglen Cartrefi Clyd fodloni'r naill amcan na'r llall yn ddigonol, oherwydd ei nodau deuol. I fynd i’r afael â hyn, dylid sefydlu dwy raglen ar wahân, un i ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio cartrefi ac un ar dlodi tanwydd.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn cwestiwn ynghylch pa un o'r ddau amcan, trechu tlodi tanwydd a mynd i'r afael â newid hinsawdd, a ddylai gael blaenoriaeth dros y llall mewn rhaglen newydd. Ni ddylai'r ddau amcan orfod cystadlu. Onid yw'n bryd inni fynd at wraidd y materion hyn gyda dwy raglen ar wahân, ond sy'n rhaglenni â ffocws, sy'n cydweithio â'i gilydd? Diolch.
Diolch. Unwaith eto, cyfraniad defnyddiol iawn, oherwydd, fel y dywedwch, Peredur, rydym yn ymgynghori ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd. Fe ddechreuodd ym mis Rhagfyr ac mae’r ymgynghoriad yn parhau tan 1 Ebrill, ac mae gennym banel cynghori ar dlodi tanwydd. Mae’r pwyntiau a wnewch yn bwysig iawn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried y ddau yn amcanion y dylem fod yn anelu tuag atynt yn ein rhaglen Cartrefi Clyd. Ond o ran gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy raglen Cartrefi Clyd, hyd at ddiwedd mis Mawrth y llynedd, dylwn ddweud bod £394 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref, a mwy na 168,000 o bobl wedi cael cyngor effeithlonrwydd ynni drwy raglen Cartrefi Clyd hefyd. Felly, oes, mae angen inni sicrhau bod hyn yn cefnogi'r gwaith o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru ac yn cefnogi twf cynaliadwy yn y sector ynni adnewyddadwy ac ôl-osod tai. Felly, gadewch inni weld sut y gall y rhaglenni newydd ddiwallu'r anghenion, ni waeth sut y byddant yn datblygu mewn perthynas â'r amcanion.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl gyda'u biliau tanwydd? OQ57605
Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd bresennol ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Yn ogystal â hynny, ar 1 Chwefror, cynyddais ein taliadau cymorth tanwydd gaeaf i £200.
Diolch. Weinidog, mae cynllun Nyth Llywodraeth Cymru yn cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref i leihau biliau ynni. Fodd bynnag, nid oes unrhyw grantiau penodol ar gyfer paneli solar yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r warant allforio doeth, a lansiwyd ar 1 Ionawr 2020, yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i rai cyflenwyr trydan dalu cynhyrchwyr bach am drydan carbon isel y gallant ei allforio yn ôl i’r grid cenedlaethol, os bydd meini prawf penodol wedi eu bodloni. Yn yr Alban, mae'r Llywodraeth yn darparu benthyciadau di-log drwy gynllun benthyca Home Energy Scotland, sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni amrywiol, gan gynnwys systemau ynni adnewyddadwy yn y cartref. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda'ch cyd-Weinidogion yma yng Nghymru ynglŷn â chynlluniau i ddarparu grantiau i osod paneli solar ar eiddo domestig yng Nghymru i roi atebion hirdymor i bobl i'w helpu gyda’u biliau tanwydd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Mae hyn yn dangos pa mor drawslywodraethol yw’r maes polisi hwn, gan y bydd hwn hefyd yn gwestiwn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond gall hefyd fwydo i mewn i’r ymgynghoriad rwyf newydd fod yn sôn amdano, wrth ymateb i’r cwestiwn ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni, rhaglen Cartrefi Clyd a'r ymgynghoriad. Felly, yn amlwg, mae angen inni edrych ar bob cyfle i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac mae hynny ar gyfer aelwydydd hefyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod angen buddsoddiad sylweddol ar hyn, a byddwn yn gobeithio y byddech yn cefnogi ein galwad am ddyraniad mwy o drethiant cyffredinol drwy Drysorlys Llywodraeth y DU i'n helpu gyda'r uchelgeisiau hynod bwysig hyn.
Weinidog, mae argyfwng costau byw'r Torïaid yn cael effaith ar bob aelwyd yn Islwyn. Fodd bynnag, er bod rhai o drigolion Islwyn yn gorfod dewis rhwng bwyta neu wresogi, ddoe, cyhoeddodd y cawr olew BP ei elw uchaf ers wyth mlynedd: £9.5 biliwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Shell elw o £14.3 biliwn, y mae dadansoddwyr yn credu y bydd yn tyfu i £23.6 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mehefin. Mae cyfalafiaeth anrheoleiddiedig y Torïaid yn achosi dioddefaint enfawr i bobl Cymru, wrth inni aros am ddeddfwriaeth y DU ar wyngalchu arian, cyfrifyddu tramor a thwyll. Ac mewn cyferbyniad, cyhoeddiad Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch ehangu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan ddyblu'r taliad untro i £200, yw'r math o fesurau lliniaru gweithredol sydd eu hangen ar bobl. Weinidog, mae prif weithredwr BP, Bernard Looney, wedi dweud ei hun fod BP wedi troi'n beiriant gwneud arian. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i ddweud wrth Lywodraeth Dorïaidd y DU am gyflwyno treth ffawdelw ar gwmnïau ynni, er mwyn amddiffyn teuluoedd sy’n dioddef yng Nghymru, wrth i gorfforaethau ynni rhyngwladol fwynhau elw gormodol ar adeg o argyfwng dyled cenedlaethol?
Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y gefnogaeth gref gan y Siambr hon—rhai o ochrau’r Siambr hon, beth bynnag—i alw am dreth ffawdelw, sef yr union beth y galwodd Julie James a minnau amdano yr wythnos diwethaf wrth ymateb i godi'r cap gan Ofgem, sydd wrth gwrs yn cael effaith ddinistriol ar aelwydydd ledled Cymru, ac yn enwedig yn eich etholaeth chi yn Islwyn—. Roeddwn yn cytuno'n gryf â phennawd erthygl olygyddol y Western Mail, yn galw am leddfu poen defnyddwyr drwy gyflwyno treth ffawdelw. Credaf fod hynny'n cynrychioli barn pobl yng Nghymru ar y ffawdelw ofnadwy hwnnw—Shell yr wythnos diwethaf a BP yr wythnos hon. Gyda chynnydd o £700 yn y cap ar brisiau ynni, pam nad ydynt yn cyflwyno treth ffawdelw yn awr?
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol? OQ57588
Diolch, Paul Davies. Os ydym am greu cymdeithas werdd, deg a chyfiawn, bydd gan y trydydd sector rôl allweddol i'w chwarae. Gall trydydd sector cadarn a bywiog helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt yn anghymesur gan y pandemig a'r argyfwng costau byw.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae cynaliadwyedd y sector gwirfoddol wedi cael ei daro'n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae angen cefnogi'r sector yn gyflym gan ei fod yn wynebu heriau sylweddol wrth symud ymlaen. Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, gallai fod cynnydd serth yn y galw am wasanaethau elusennau ar adeg pan fo llawer o elusennau heb wella eu cynaliadwyedd yn sgil y pandemig. Weinidog, gwn fod cyngor partneriaeth y trydydd sector wedi cytuno ar gynllun adfer y llynedd, sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n codi, ond a allwch ddweud wrthym pa waith ychwanegol sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y sector gwirfoddol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn gallu darparu gwasanaethau mawr eu hangen i bobl yn eu cymunedau?
Diolch yn fawr am gwestiwn defnyddiol iawn, oherwydd roedd gennym gynllun adfer COVID ar gyfer y trydydd sector. Rwy'n cadeirio cyngor partneriaeth y trydydd sector; caiff ei gydgynhyrchu, mae'n nodi ein blaenoriaethau ar y cyd ac mae ganddo dair ffrwd waith: cymorth, cysylltiadau a gwirfoddoli. Mae gennym drydydd cam ein cronfa gwydnwch y trydydd sector hefyd gyda dros £6.5 miliwn ar gael, ac unwaith eto, rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn sicrhau y gall eich sefydliadau trydydd sector wneud defnydd o hwnnw, yn enwedig wrth edrych ar eich cynghorau gwasanaeth gwirfoddol fel llwybr at hynny.
Rwyf am ddweud i orffen fod gwirfoddoli'n allweddol i hyn, felly rydym wedi sicrhau £1 filiwn ychwanegol ar gyfer ein grant Gwirfoddoli Cymru, ac mae elfen strategol benodol yn perthyn i hwnnw sy'n adeiladu ar y gwaith a'r momentwm a welwyd yn ystod y pandemig. Yn ddiddorol iawn, cyfarfûm â chynrychiolwyr Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin heddiw, sy'n dweud eu bod bellach yn gweithio gyda gwirfoddolwyr yng ngorllewin Cymru i sicrhau y gallant barhau i chwarae eu rhan. Yn wir, mae rhai o'r sefydliadau yn datblygu gwirfoddoli o bell erbyn hyn, sy'n ymateb i'r anghenion hynny, rwy'n siŵr.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru? OQ57600
Rydym yn parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i wneud Cymru'r genedl fwyaf cyfeillgar LHDTC+ yn Ewrop. Mae ein cynllun gweithredu LHTDC+ yn rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu i ben ym mis Hydref ac mae dadansoddiad ar y gweill, a fydd yn cael ei ddefnyddio i'w ddatblygu a'i gryfhau ymhellach.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, cyflwynwyd y cwestiwn hwn cyn i'r llysoedd ddwyn rheithfarn ar lofruddiaeth drasig ac chiaidd Dr Gary Jenkins, ac rwy'n sicr y bydd y Gweinidog am ymuno â phob un ohonom yn y Siambr hon heddiw i dalu teyrnged iddo. Roedd hwn yn ymosodiad homoffobig a ddigwyddodd yn y ddinas hon, nid nepell o'r man lle'r ydym yn siarad heddiw. Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pob un o'r Aelodau pan ddywedaf ein bod yn cydymdeimlo'n ddwys a diffuant â'i deulu, ei ffrindiau a phawb sy'n galaru ar ei ôl. Roedd yn ddyn a gysegrodd ei fywyd i'n GIG, ac a gaiff ei ddisgrifio gan bawb a oedd yn ei adnabod fel dyn caredig a thrugarog. Bydd Dr Jenkins yn cael ei gofio yn y ffordd honno, ac am ei wasanaeth i'n gwlad. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i dalu teyrnged i Dr Jenkins ac i bob un sy'n parhau â'r ymgyrch i sicrhau'r genedl gyfartal, ddiogel a chyfiawn y gwyddom y gall Cymru fod pan fyddwn ar ein gorau?
Diolch. Mae fy meddyliau i a meddyliau Llywodraeth Cymru gyda'r teulu, ffrindiau, cydweithwyr a phawb a oedd yn adnabod Dr Gary Jenkins. Fel pawb yma, cefais fy nhristau gan lofruddiaeth homoffobig erchyll Dr Jenkins. Mynychais yr wylnos yng Nghaerdydd ar risiau'r amgueddfa genedlaethol nos Sul gyda channoedd o bobl, lle y cawsom ein cyffwrdd gan bobl yn talu teyrnged i enaid caredig, a oedd yn hynod o hael, yn drugarog ac yn dosturiol, ac fel y dywedoch chi, rhywun a weithiodd yn galed gan gysegru ei fywyd i'n GIG, dyn y cafodd ei fywyd effaith gadarnhaol ar gynifer o fywydau eraill. Rwy'n credu bod yr wylnos wedi dangos cryfder y teimlad yn dilyn y digwyddiad erchyll hwn, a gwn fod y gymuned LHDTC+ yng Nghaerdydd a thu hwnt wedi teimlo effaith yr ymosodiad yn ddwfn iawn.
Buom yn siarad yr wythnos diwethaf fel rhan o Fis Hanes LHDTC+ am ba mor bell rydym wedi dod, ond mae'n dangos yn y ffordd greulonaf sy'n bosibl pa mor bell sydd gennym i fynd o hyd. Dyma'r pegwn creulonaf, ond mae cymaint o bobl LHDTC+, a minnau yn eu plith, yn dal i wynebu sylwadau sarhaus a bychanus yn ddyddiol. Ni theimlwn y gallwn ddal dwylo ein hanwyliaid wrth gerdded ar hyd y stryd. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn codi llais ac yn defnyddio ein llwyfan er lles yn y Siambr hon a dangos sut genedl y dymunwn fod. Fel Llywodraeth Cymru, dyna pam y mae ein cynllun gweithredu mor bwysig. Rydym eisoes wedi rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod ni, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau, yn cyfarfod â chynrychiolwyr o'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru, a chyda'r heddlu, i weld beth arall sydd angen ei wneud i sicrhau bod ein cymunedau'n saff, fel y dylent fod, ac yn ddiogel ar y strydoedd ac yng nghymunedau Cymru.
A gaf fi uniaethu â theimladau'r Aelod dros Ogwr a hefyd sylwadau'r Gweinidog y prynhawn yma? A gaf fi hefyd holi'r Gweinidog ynglŷn â'r adroddiadau heddiw ar raglen BBC Wales Live am eiriau sarhaus ac ymosodiadau homoffobig o fewn y system addysg? Yn anffodus, maent yn nodi cynnydd yn hynny drwy adroddiadau Estyn sy'n deillio o'r arolygiadau a gynhaliwyd. Gallwn siarad cymaint ag y dymunwn am gynlluniau gweithredu, ac rwy'n siŵr eu bod yn cael eu llunio gyda'r bwriad gorau yn y byd, ond yn anffodus y realiti yw, o'r profiadau bywyd go iawn, fod pobl sy'n mynd i rai o'n sefydliadau addysg yn profi ymosodiadau homoffobig. Yn anffodus, mae'r adroddiad yn dangos, lle y mae'r proffesiwn addysgu'n cael gwybod am y rhain, fod diffyg profiad, mewn rhai achosion, i allu ymdrin â hwy mewn modd sensitif. A allwch gadarnhau eich bod yn cydweithio â'r adran addysg i sicrhau—fe gyfeirioch chi at hyn yn gynharach—nad oes gwaith seilo o'r fath yn digwydd yn y Llywodraeth, a lle y codir y pryderon hyn gan Estyn neu sefydliadau eraill, yr ymdrinnir â hwy'n briodol ac y rhoddir cymorth i'n hathrawon, fel y gallant ymdrin ag adroddiadau o'r fath pan gânt eu cyflwyno iddynt?
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfraniad. Rwy'n gyfarwydd ag adroddiad Estyn a'r adroddiadau sydd wedi bod ar y BBC heddiw. Mae'n hynod o drist fod pobl ifanc yn unrhyw le yn dal i wynebu ofn, boed yn ofn ymosodiadau corfforol neu sylwadau sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus ac na allwch fod yn chi eich hun. Gwn ein bod yn gweithio'n agos iawn ar draws y Llywodraeth gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog addysg i sicrhau nid yn unig fod ysgolion yn lleoedd diogel a bod plant a phobl ifanc yn cael cefnogaeth, ond mewn gwirionedd, fod gan athrawon ac addysgwyr yr adnoddau cywir a'r hyder i ymdrin â'r pethau hyn mewn modd sensitif a bod pobl ifanc yn gallu troi atynt a theimlo bod eu hysgol yn lle diogel, fel y dylai fod.
Roeddwn yn edrych ar adroddiad y BBC yn gynharach, a chredaf fod enghraifft o ysgol yng Nghaerdydd. Mae ganddynt grŵp o'r enw Digon, a phan fydd rhywun wedi dweud rhywbeth efallai, neu pan na fydd rhywun yn deall bwriad yr iaith y maent wedi'i defnyddio, y niwed y gallai ei achosi, maent yn eistedd gyda hwy—. Gallai fod yn ddim mwy na sylw ysgafn iddynt hwy, neu efallai nad ydynt yn deall yr effaith sylweddol y gallai ei chael ar berson arall. Yr hyn y maent yn ceisio'i wneud mewn gwirionedd—a chredaf fod hon yn ffordd dda iawn o fynd ati y gallwn ei dysgu wrthi o rywle arall hefyd—yw eistedd gyda'r bobl ifanc hyn ac esbonio'r effaith a gafodd a pham y mae'n brifo a pham ei fod yn anghywir, mewn ffordd sydd bron fel cyfiawnder adferol, ond mewn ffordd sy'n digwydd rhwng cyfoedion, mewn ffordd y maent yn ei deall. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn i gyd ddysgu ohono, beth bynnag fo'n hoedran.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chlybiau nos a rhanddeiliaid eraill ynghylch gwella diogelwch menywod yn eu lleoliadau? OQ57611
Mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chynrychiolwyr o'r diwydiant clybiau nos a'r heddlu ynghylch diogelwch menywod wrth gymdeithasu ac wrth weithio yn y lleoliadau hyn. Gan adeiladu ar ein gwaith yn y maes hwn, rydym bellach wedi ymrwymo i ehangu'r ymgyrch hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth 'Paid cadw'n dawel' i gynnwys y gweithlu hwn hefyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn cofio dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar sbeicio a diogelwch menywod, a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd. Er i gynnig y ddadl gael ei ddiwygio, roedd yn amlwg yn ystod y ddadl fod consensws ar draws y Siambr fod angen cymryd camau i gadw menywod yn ddiogel mewn lleoliadau fel clybiau nos. Mae hwn yn amlwg yn fater eithriadol o ddifrifol i lawer o fenywod ifanc ledled Cymru. Er efallai na fydd sylw'r cyfryngau heddiw arno yn yr un ffordd ag yr oedd ym mis Tachwedd, mae'n dal i fod yn realiti ar nosweithiau allan i lawer, a chredaf ei fod yn ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid i sicrhau newid go iawn i fenywod. Ni ellir gadael i fusnesau weithredu ar eu pen eu hunain. Felly, a gaf fi ofyn, Ddirprwy Weinidog, 13 wythnos ar ôl y ddadl honno yma yn y Senedd, beth sydd wedi newid i fenywod yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'r sylw arwyddocaol hwnnw ar y diwedd. Rwy'n credu bod thema i'w gweld heddiw ynghylch sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel mewn mannau ledled y wlad, boed yn sbeicio neu'n fenywod sy'n ofni am eu diogelwch oherwydd ymddygiad rhai dynion yn y lleoliadau hyn. Gwn ein bod yn dweud nad yw pob dyn yn ymddwyn felly, ond gallwn warantu bod y rhan fwyaf o fenywod wedi teimlo mewn sefyllfa lle y maent wedi bod yn anghyfforddus mewn clwb nos neu mewn bar. Gwn ei fod wedi digwydd i mi heb fod yn rhy ddiweddar mewn bar, lle'r oeddwn yn eistedd yno gyda fy ngwraig a gallwn weld rhywun—a gallwn weld cartref ein democratiaeth. Fe geisiaf beidio â defnyddio iaith anseneddol, ond roeddwn yn eithaf llym pan wrthododd y person hwnnw roi'r gorau iddi.
I fynd yn ôl at sylwedd cwestiwn yr Aelod, gwn fod fy nghyd-Aelod Jane Hutt, yn dilyn hynny, wedi cyfarfod â chynrychiolwyr yr heddluoedd yng Nghymru i edrych ar sut y gallwn ledaenu arfer da mewn perthynas â'r ymgyrch 'Paid cadw'n dawel'. Ond rwy'n credu bod yna gyfleoedd go iawn i'w cael. Fel y dywedwch, nid yw'n fater i sefydliadau lletygarwch yn unig, ac nid yw'n fater i'r Llywodraeth yn unig; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef ar y cyd. Credaf fod cyfleoedd ehangach, mae'n debyg, y gallwn edrych arnynt o ran trwyddedu a phethau, a phethau y gallwn eu rhoi i mewn i sicrhau bod pobl yn cael eu cadw'n ddiogel, a bod pobl sy'n gweithio yn y lleoliadau hyn yn gwybod am y mathau o bethau rydym yn chwilio amdanynt hefyd, i geisio eu dileu a sicrhau ein bod yn mabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch at hyn.
Fel y gwyddoch, Weinidog, mae miloedd o fenywod yng Nghymru yn gweithio sifftiau ac mae hynny'n aml yn golygu oriau anghymdeithasol, lle y mae disgwyl iddynt naill ai ddechrau neu orffen gweithio'n hwyr y nos. Yn ddealladwy, mae llawer o weithwyr, yn enwedig menywod, wedi mynegi pryder am eu diogelwch wrth deithio i'r gwaith ac oddi yno yn ystod y nos. Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfrifoldeb y cyflogai ac nid y cyflogwr yw cyrraedd adref yn ddiogel yn ystod yr oriau anghymdeithasol hynny. Mae ymgyrch 'get me home safely' undeb Unite, sy'n mynd i'r afael â'r mater penodol hwn, yn galw ar gyflogwyr i wneud popeth rhesymol i sicrhau bod gweithwyr yn gallu cyrraedd adref yn ddiogel. Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chyflogwyr fel y rhai yn y sector lletygarwch ynghylch y camau y maent yn eu cymryd i sicrhau bod eu gweithwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n gyfarwydd â'r ymgyrch 'get me home safely' y mae'n cyfeirio ati gan Unite, oherwydd roeddwn yn yr un sesiwn pan glywsom gan bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw yn awr a'u straeon real iawn—yn enwedig menywod hefyd, unwaith eto, o dan yr amgylchiadau hyn, sydd wedi cael eu gadael i weithio'n hirach ar eu shifft pan nad oeddent wedi cynllunio i wneud hynny, a phan nad oes trafnidiaeth gyhoeddus, neu eu bod yn cloi'r safle ar eu pen eu hunain. Credaf ei bod yn ymgyrch bwysig iawn, nid yn unig i godi ymwybyddiaeth, ond i ddangos y camau pendant y gallwn eu cymryd, gan fynd yn ôl at y cwestiwn blaenorol ynghylch y cyfleoedd, rwy'n meddwl, gyda thrwyddedu i edrych ar y pethau hyn. Rwyf wedi eu gwahodd, yn sgil y cyfarfod hwnnw, i gysylltu â mi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i weld beth y gallwn ei wneud ar y cyd i weithredu rhai o'r galwadau yn yr ymgyrch honno.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y mesurau y mae wedi'u cyflwyno yn ystod y pandemig ar hawliau cyfartal pobl sydd â phroblemau golwg yn Arfon? OQ57613
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Yn ystod y pandemig, comisiynodd y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl ymchwil ar yr effaith ar bobl anabl, gan gynnwys y rheini sydd â nam ar eu golwg. O ganlyniad, mae’r tasglu hawliau pobl anabl wedi cael ei sefydlu i edrych ar effaith y pandemig, ac un o’r blaenoriaethau cyntaf fydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Diolch am yr ateb. Mae bron i 5,000 o bobl yng Ngwynedd yn byw efo problemau golwg, ac wrth i'r defnydd o brofion llif unffordd fod yn rhan o'n bywydau ni am gyfnod eto, mae angen sicrhau bod cymorth ar gael iddyn nhw o ran cymryd y profion a hefyd o ran deall y canlyniadau. Dwi'n ymwybodol o'r cynllun i gynnig cymorth drwy ap o'r enw Be My Eyes, ond dydy o ddim wedi bod yn llwyddiannus i bawb, efo llawer yn gorfod dibynnu ar gymorth gan bobl eraill, ac, wrth gwrs, nid pawb sydd â mynediad at ddyfeisiau digidol. Fedrwch chi roi diweddariad inni o ba gamau eraill sydd yn cael eu rhoi ar waith yn sgil canfyddiadau'r peilot penodol yma?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae'n bwysig iawn fy mod yn tynnu sylw fy nghyd-Aelod, y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig, at Be My Eyes fel un enghraifft o sut y gallwn estyn allan at bobl sy'n ei chael yn anodd defnyddio profion llif unffordd am eu bod yn anhygyrch. Byddaf am ei godi gyda'n grŵp cyfathrebu hygyrch a sefydlwyd yn 2022 i drafod a goresgyn rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael gafael ar wybodaeth, yn enwedig o ganlyniad i COVID-19. A gaf fi ddweud i orffen hefyd, yr wythnos diwethaf cawsom ail gyfarfod ein tasglu anabledd, sy'n ymateb i'r argymhellion cryf iawn a ddeilliodd o 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19' o ganlyniad i dystiolaeth o effaith y pandemig ar bobl anabl? Felly, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi pobl â nam ar eu golwg a phobl ddall yng Nghymru. Fe edrychaf ymhellach ar hyn a dod yn ôl atoch, oherwydd mae'n hollbwysig er mwyn gallu cyflawni'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n ymwneud â dileu rhwystrau a dealltwriaeth o brofiad bywyd pobl.
8. Sut y mae'r Gweinidog yn defnyddio mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant yng Ngogledd Cymru? OQ57615
Rydym yn gweithio ar draws y portffolios ac ar draws y Llywodraeth i gynyddu mynediad at waith teg. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo manteision y cyflog byw go iawn i gyflogwyr, i weithwyr ac i'n cymunedau. Mae gwell bargen i weithwyr, wedi'i hadeiladu ar bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, yn hanfodol i ffyniant ehangach ledled Cymru gan gynnwys yng ngogledd Cymru.
Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r ffyrdd gorau o drechu tlodi yw hyrwyddo ffyniant, ac un o'r ffyrdd gorau o godi allan o dlodi yw bod mewn swydd dda a diogel ac i fusnesau ffynnu er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol mai peth o fy hoff ddeunydd darllen amser gwely yw'r cytundeb cydweithio rhwng eich Llywodraeth chi a Phlaid Cymru, ac er bod nifer o gyfeiriadau yno at drechu tlodi, siom oedd gweld na ddefnyddiwyd y gair 'ffyniant' un waith drwy'r ddogfen honno, rhywbeth a allai deimlo fel mater bach i rai, Lywydd, ond mae'n ymwneud â gosod cywair cadarnhaol ynghylch uchelgais i ni yma yng Nghymru. Yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod ffyniant yn cael ei hyrwyddo, gan sicrhau bod swyddi a gyrfaoedd ar gael ledled gogledd Cymru er mwyn helpu i leihau tlodi? Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, er fy mod yn petruso cyn dweud efallai fod angen iddo fynd allan mwy os mai ei hoff ddeunydd darllen amser gwely yw'r cytundeb cydweithio? [Chwerthin.] Ond na, rwy'n derbyn bod iaith yn bwysig yn yr hyn a wnawn a sut rydym yn fframio pethau ac yn cysylltu pethau gyda'i gilydd, oherwydd fel y dywedais yn y datganiad agoriadol, yn ogystal â'r unigolion yr ydym yn creu'r cyfleoedd hynny ar eu cyfer, mae gwaith a chyfle teg o fudd arbennig i fusnesau bach a chanol ein trefi a'n cymunedau wrth i bobl wario'u harian a buddsoddi'n lleol hefyd. Felly, yn amlwg, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr Economi ac ar draws ein portffolio cyfiawnder cymdeithasol, rwy'n credu y dywedwn fod gennym gysylltiad rhwng yr hyn y cyfeiriaf ato fel cyfiawnder cymdeithasol a'r ochr cyfiawnder economaidd, felly y gwaith teg, y cyflog byw a'r gwaith mewn partneriaeth. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pethau mor gyson ag y gallant fod, ac wrth gwrs, fel Gweinidog dros Gymru gyfan, rwyf bob amser yn ystyried Cymru gyfan, ond fel gogleddwr balch, rwy'n cadw llygad barcud ar bethau yng ngogledd Cymru.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â diwygio neu ddileu cyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57594
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch yr effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU i newid statws cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir? OQ57622
3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer deddfwriaeth ar gyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57599
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda llywodraethau eraill y DU mewn perthynas â chyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57604
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth y DU wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu ymgysylltu'n llawn â'r Llywodraethau datganoledig wrth gynnal ei hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir. Rydym yn pwyso am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn y bydd yr adolygiad yn ei wneud, y cynigion a allai ddilyn a'r goblygiadau i Gymru.
Diolch. Lywydd, roeddwn wrth fy modd yn darllen ar yr agenda y bydd cynifer o Aelodau'n holi'r Cwnsler Cyffredinol heddiw am gyfraith yr UE a ddargedwir. Ac rwy'n siŵr fod nifer, gan gynnwys fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen, wrth eu boddau fod Llywodraeth y DU yn nodi dwy flynedd ers Brexit drwy barhau i gyflawni ewyllys ddemocrataidd pobl y Deyrnas Unedig yng Nghymru. Er ein bod wedi gadael y bloc, mae cyfraith yr UE a wnaed cyn 1 Ionawr 2020 yn parhau i gael blaenoriaeth yn ein fframwaith domestig. Mae hynny'n warthus mewn gwirionedd ac nid yw'n gydnaws â'n statws fel gwlad annibynnol sofran. Ar hyn o bryd mae swyddogion ar draws y Llywodraeth yn adolygu holl gyfreithiau'r UE a ddargedwir i benderfynu a ydynt o fudd i'r DU. Nawr, rydych wedi datgan yn gyhoeddus eich bod am ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU. A fyddwch chi, felly, yn cydweithredu mewn ffordd gadarnhaol drwy wneud argymhellion ynghylch pa gyfraith yr UE yr hoffech ei gweld yn cael ei diwygio neu ei dileu, a dywedwch wrthym beth ydynt os gwelwch yn dda? Diolch.
Wel, diolch i'r Aelod am y sylw hwnnw. Hoffwn atgoffa'r Aelodau—efallai eu bod wedi darllen amdano eisoes—am y pryderon sydd gennym ynglŷn â'r ffordd y mae hyn yn cael ei brosesu a'i ruthro yn ei flaen yn sydyn heb unrhyw reswm clir. Ym mis Rhagfyr cawsom lythyr gan yr Arglwydd Frost yn tynnu ein sylw at ddatganiad ysgrifenedig yn nodi mwy o fanylion am yr adolygiad, lle y cynigiodd drafod yr adolygiad hefyd mewn cyfarfod o grŵp rhyngweinidogol newydd y DU-UE yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni chafodd Gweinidogion y Llywodraethau datganoledig wybod am fwriad Llywodraeth y DU i gyhoeddi ei dogfen bolisi 'The Benefits of Brexit' tan alwad a wnaed ar 29 Ionawr. Fe'i cyhoeddwyd ddeuddydd yn ddiweddarach. Yn wir, credaf imi ei weld pan gafodd ei gyhoeddi ar 31 Ionawr. Mae manylion am y cynigion polisi sy'n cael eu datblygu fel rhan o'r adolygiad wedi bod yn gyfyngedig iawn hyd yma, ac mae'r ddogfen bolisi i raddau helaeth yn ailadrodd datganiad ysgrifenedig yr Arglwydd Frost. Mae fy swyddogion polisi yn pwyso am eglurder yn hyn o beth, ac maent wedi gofyn am gyfarfod y mis hwn i gael diweddariad pellach ar gynlluniau Llywodraeth y DU, sy'n dal i fod yn aneglur iawn.
Cytunais i gais gan y Cwnsler Cyffredinol i grwpio cwestiynau 1, 2, 3 a 4, ac felly gofynnaf i Rhys ab Owen ofyn ei gwestiwn atodol yn awr.
Diolch yn fawr iawn i chi, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mae'n debyg eich bod yn ymwybodol o dystiolaeth Philip Rycroft y bore yma i bwyllgor dethol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Disgrifiodd Brexit fel sioc i'r system, a bod un o'r cynseiliau yr adeiladwyd datganoli arni—confensiwn Sewel—wedi methu oherwydd Brexit. Efallai nad yw'r rheini'n eiriau arferol gan was sifil, ond ei eiriau ef oeddent, nid fy ngeiriau i. Pan roesoch chi dystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fis diwethaf, fe wnaethoch ddisgrifio sefyllfa'r Bil ynysu Brexit, fel rwy'n hoff o'i alw, fel un sy'n cael effaith enfawr ar y setliad datganoli mewn meysydd datganoledig. Rwy'n gwybod mai dim ond ar y dydd Sadwrn y cawsoch wybod amdano, ac rwy'n siŵr fod gennych bethau gwell i'w gwneud ar ddydd Sadwrn na bod yn rhan o'r alwad ffôn honno, ond ni allech roi llawer o fanylion i ni bryd hynny am lefel yr ymgysylltu. Rwy'n falch o glywed bod sicrwydd wedi'i roi y bydd mwy o lefelau ymgysylltu ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o fanylion am hynny. A ydych o'r farn ei bod yn briodol i randdeiliaid Cymreig a'r Senedd hon gymryd rhan yn y broses honno hefyd? Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau a godwch yn gwbl gywir—mae cyfraith yr UE a ddargedwir ac adolygu'r gyfraith yn rhywbeth sy'n peri pryder sylweddol i ni, nid fel mater cyfansoddiadol yn unig, ond yn sgil y datganiadau a wnaed ar draws y Siambr hon gan bob plaid ynghylch pwysigrwydd safonau ym meysydd bwyd, yr amgylchedd ac yn y blaen. Felly, nid yw'n glir beth yn union ydyw. Rhaid imi ddweud, darllenais y ddogfen, ac o ystyried y ddadl gynharach a wnaed—. Sam Rowlands, gallwch gael copi o fy—[Anghlywadwy.]—bydd yn sicr yn gwella eich insomnia. [Chwerthin.] Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n cynnwys rhywbeth y credaf y bydd ar wefusau pob dinesydd yng Nghymru pan fyddant yn edrych ar y rhyfeddodau a gaiff eu datgan ynghylch cyflawniad. Gwrandewch: ailgyflwyno ein pasbortau glas eiconig, sy'n cael eu hargraffu gan gwmni yn Ffrainc. Ond nid yw hynny'n ddigon—mae'n rhagori ar hynny mewn gwirionedd, oherwydd rydym yn adolygu gwaharddiad ar farchnata a gwerthiannau imperial yr UE i roi mwy o ddewis i fusnesau a defnyddwyr ynghylch y mesuriadau a ddefnyddir. Ond mae'n mynd yn well na hynny hyd yn oed, oherwydd byddwn yn caniatáu i fusnesau ddefnyddio symbol stamp y Goron ar wydr peint. Felly, credaf y gallaf ddweud wrth yr Aelod fod gennym lawer i edrych ymlaen ato yn sicr. Ond o ddifrif, mae hon yn ddogfen arwyddocaol a phwysig iawn, a byddwn yn ymgysylltu'n llawn, a byddwn yn ei thrafod yn llawn gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.
Ategaf y pwyntiau a wnaeth Rhys ynghylch ymgysylltu priodol ac ymagwedd adeiladol y Gweinidog, ond a gaf fi ddweud, roedd dinasyddion ledled y wlad yn chwifio'r baneri dros y penwythnos. Roeddent yn falch iawn o glywed y newyddion hwn, a hefyd am benodi dyn y bobl, Jacob Rees-Mogg, yn Weinidog dros gyfleoedd Brexit, ac y byddai coelcerth o reoliadau'n cael ei chreu wrth i'r Bil Brexit rhif 2 hwn â'r teitl mawreddog, fynd rhagddo ar y gyfraith a ddargedwir. Rydym ymhell y tu hwnt i barodi nawr, wrth gwrs, gan fod hyn yn cyd-daro ag adroddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus trawsbleidiol fod Brexit a biwrocratiaeth gynyddol symudiadau masnach trawsffiniol wedi llesteirio masnach â'r UE bob dydd ers i ni adael. Gwelwn yr effaith wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon ac Éire bob dydd. Mae cludwyr nwyddau'n dewis osgoi porthladdoedd Cymru a'r DU i deithio'n uniongyrchol i'r cyfandir, ac o fewn y 24 awr ddiwethaf dysgasom fod allforion i'r Almaen o'r DU wedi gostwng 8.5 y cant yn ystod 2021, a chyn i feinciau'r gwrthbleidiau ddweud, 'Wel, mae hynny wedi bod yr un fath i bawb', mae hynny o'i gymharu â chynnydd o 16.8 y cant mewn mewnforion o aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd. Weinidog, Gwnsler Cyffredinol—. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y bydd yr iteriad newydd o Fil Brexit rhif 2 yn adeiladu ar y llwyddiannau rhyfeddol hyn?
Os caf ymateb efallai i sylw cyntaf yr Aelod, a oedd yn ymwneud â chreu teitlau gweinidogol newydd disgrifiadol propagandaidd rhyfeddol—y Gweinidog dros gyfleoedd Brexit—mae bron yn eich atgoffa, onid yw, o Lywodraeth yr Undeb Sofietaidd flaenorol a'r 'Gweinidog dros or-gyflawniad y cynllun pum-mlynedd'? [Chwerthin.] Ond mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, oherwydd mae'r ddogfen sydd gennym yn ddogfen bropagandaidd iawn; mae'n llawn dyheadau llac iawn. Byddwn yn amlwg am eu hystyried ac archwilio'r hyn y maent yn ei olygu, ond hefyd byddwn am gael gwarantau ynghylch yr uniondeb cyfansoddiadol. Yn y cyfarfod a gefais ar y dydd Sadwrn y cyfeiriais ato, nodais yn benodol iawn nid yn unig fod y broses yn annerbyniol, ein galw yn y modd hwnnw, ond nad oedd yn ymgysylltiad parchus, ond yn yr un modd, ein bod am gael sicrwydd—a gwn fod eraill wedi gofyn am yr un peth—ynghylch uniondeb datganoli. Rwy'n dal i fod heb fy argyhoeddi ein bod wedi cael hynny, ond fe gawn weld beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Ond y pwynt y mae'n ei godi wrth gwrs, yw, os edrychwch ar gyfraith yr UE a ddargedwir, os ydych am edrych ar bob agwedd ohoni, rhaid ichi edrych ar bob ffactor, nid dim ond y rhai propagandaidd rydych am eu cael, ond y goblygiadau difrifol sydd i fasnach yn sgil rhai o'r pethau sydd naill ai wedi'u dileu neu y bwriedir eu dileu, a'r goblygiadau difrifol a allai fod i'r safonau rydym am eu cynnal mewn bwyd, amaethyddiaeth, yr amgylchedd ac yn y blaen.
Gwnsler Cyffredinol, mae'n hanfodol gweithio ar y cyd â Llywodraethau datganoledig eraill y DU. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cefnogi datganoli ac wedi pleidleisio drosto ddwywaith mewn refferenda. Ni ddylai gadael yr UE olygu bod datganoli'n cael ei wanhau gan Lywodraeth y DU. Rhaid diogelu ein pwerau datganoledig. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod pob gwlad yn cydweithio i amddiffyn eu buddiannau datganoledig?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn cydweithio â holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau a'r negodiadau'n cydymffurfio â'r egwyddorion y cytunwyd arnynt eisoes yn awr mewn perthynas â'r adolygiad rhynglywodraethol, sef parch at y Llywodraethau datganoledig, parch ar y ddwy ochr, ac egwyddorion uniondeb yn y ffordd y mae'r trafodaethau i'w cynnal mewn gwirionedd. Nawr, os bydd hynny'n digwydd, gallwn gael trafodaeth gadarnhaol ac adeiladol, ond rwy'n ei gwneud yn glir iawn na fyddwn yn ildio, ni fyddwn yn cyfaddawdu, os mai dim ond ymgais i gyflwyno Bil marchnad fewnol rhif 2 arall yw hyn.
Wrth symud ymlaen, beth yw sefyllfa cyfraith achosion o Lys Ewrop, megis dyfarniad enwog Bosman? A fyddant yn dal i fod yn berthnasol a ninnau wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac os felly, am ba mor hir? Mae hwn yn fater o gryn ddiddordeb a chanddo sgil-effeithiau enfawr, ac nid yn unig i bêl-droed.
Wel, wrth gwrs, mae dylanwad cyfreitheg—dylanwad penderfyniadau o Ewrop, gan Lys Ewrop, yn amlwg yn rhai pwysig, sy'n dal i gael eu hystyried, ac wrth gwrs, fel y mae Aelodau o bob plaid wedi'i nodi, mae gennym gyfraith yr UE a ddargedwir. Credaf y bydd y rhagdybiaeth, rywsut—gwnaethpwyd rhagdybiaeth gan y siaradwr cyntaf—fod yr holl bethau hyn rywsut yn ddrwg, fod y cyfan rywsut yn rhywbeth negyddol, yn cael eu profi'n anghywir yn y pen draw, ond eto, tan y bydd yr adolygiad yn dechrau—. Nawr, y broblem yw, hyd nes y byddwn yn ymgysylltu'n iawn, ni fyddwn yn gwybod yn fanwl i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth y DU yn dymuno mynd, ond rwy'n gobeithio mai'r hyn a ddaw ohono yw y byddwn yn cydnabod bod sawl agwedd ar gyfraith bresennol yr UE yr ydym nid yn unig am eu cadw, ond y gallem fod yn dymuno'u gwella hefyd, a lle y bydd hynny'n digwydd, rwy'n gobeithio na fydd ymgais i negyddu'r holl bethau cadarnhaol sy'n bodoli.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wel, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd cyfiawnder y DU y bydd saith o swyddfeydd rhanbarthol newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael eu hagor ledled Cymru a Lloegr fel rhan o raglen Places for Growth Llywodraeth y DU, gyda 22,000 o rolau yn symud allan o Lundain erbyn 2030. Bydd y newid hwn yn arwain at fwy na 2,000 yn rhagor o rolau mewn meysydd fel cyllid, adnoddau dynol a digidol yn symud allan erbyn 2030, gyda 500 o’r rheini’n mynd i Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.
Hefyd, bydd canolfan gydweithredu newydd yn agor yng Nghaerdydd i dimau gyfarfod neu fynychu hyfforddiant ac i weithwyr cartref ei defnyddio pan fydd angen iddynt fod yn y swyddfa. Dywedodd Ysgrifennydd cyfiawnder y DU:
'Drwy gael mwy o'n staff wedi'u lleoli y tu allan i Lundain gallwn recriwtio'r bobl orau lle bynnag y maent yn byw fel bod y system gyfiawnder yn elwa o gefndiroedd, rhagolygon a phrofiadau mwy amrywiol.'
Ac ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru:
'Rydym am wneud defnydd llawn o dalent a photensial gweithlu Cymru a bydd symud cannoedd o rolau i Gymru yn ein helpu i gyflawni'r amcan hwnnw.'
Sut y byddwch yn ymgysylltu’n gadarnhaol â hyn, i’r perwyl hwn a hefyd i sicrhau synergedd â gwasanaethau datganoledig, gan wneud y gorau o gryfderau’r ddwy Lywodraeth at ddiben cyffredin?
Wel, diolch am eich cwestiwn, ac rwy’n cefnogi’r cynnig a wnaed ac yn croesawu'r datganiad. Gallaf ddweud wrthych, a dweud y gwir, fy mod i a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod sawl awr yn ôl gyda’r Arglwydd Wolfson i drafod yr union gyhoeddiad a beth fyddai’r goblygiadau. Nid yw’r rhain, wrth gwrs, yn swyddi newydd, ond maent yn swyddi a fydd, wrth i unigolion ymddeol neu adael, yn cael eu trosglwyddo i saith hyb rhanbarthol newydd.
Credaf mai’r hyn sy’n aneglur yw’r amserlen ar gyfer hyn, gan yr ymddengys bod nifer o ffactorau ar waith. Y pwynt a wneuthum yw: wel, wrth gwrs, os bydd niferoedd sylweddol o swyddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn symud i Gymru, efallai y bydd cyfleoedd i wneud rhywbeth am gyflwr echrydus Canolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol Caerdydd—mater lle y ceir pryderon gwirioneddol ynghylch y cyfleusterau sydd ar gael, ond hefyd y neges sy'n cael ei chyfleu gan gyflwr y ganolfan cyfiawnder sifil honno a’r angen am ganolfan cyfiawnder sifil newydd bwrpasol yng Nghaerdydd. A byddai hynny'n gyfle, oni fyddai, i edrych ar lle y mae cyfleusterau'r Gweinidog Cyfiawnder wedi'u lleoli. Yn anffodus, nid yw’n edrych fel pe bai unrhyw gynnydd sylweddol yn mynd i gael ei wneud ar y ganolfan cyfiawnder sifil, ond o ran y swyddi, byddwn yn cydweithredu ac yn cydgysylltu ac yn ymgysylltu ynghylch y ffordd orau o hwyluso hyn wrth gwrs, fel rydym yn ei wneud gyda materion cydweithredu eraill ym maes cyfiawnder gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyda’r meysydd amrywiol o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
Diolch, ac wrth gwrs, bydd canolfan gydweithredu newydd hefyd yn agor yng Nghaerdydd. Ond wrth ymateb i'ch datganiad, 'Cymorth Cyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder', yma dair wythnos yn ôl, cyfeiriais at gyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos honno ynglŷn â chyllid ychwanegol i'r cynllun cyfryngu teuluol i helpu miloedd yn rhagor o deuluoedd i osgoi'r llys, at adroddiad Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin fis Gorffennaf diwethaf ar ddyfodol cymorth cyfreithiol, a nododd angen gwirioneddol am gynllun mwy hyblyg sy’n caniatáu i unrhyw un â phroblem gyfreithiol na allant fforddio cyfreithiwr gael mynediad at gyngor cyfreithiol cynnar, ac at adolygiad Llywodraeth y DU o'r prawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol fel rhan o'u cynllun gweithredu ehangach ar gyfer cymorth cyfreithiol, a gofynnais pa gyswllt a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn a’r ymgynghoriad a fydd yn dilyn. Yn anffodus, methodd eich ymateb ar y pryd ateb fy nghwestiwn ac ni chyfeiriodd o gwbl at y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd gan Senedd y DU a Llywodraeth bresennol y DU ar gymorth cyfreithiol. Sut, felly, y byddwch yn mynd ati'n gadarnhaol ar hyn i sicrhau synergedd â gwasanaethau datganoledig, gan wneud y gorau o gryfderau’r ddwy Lywodraeth at ddiben cyffredin?
Diolch am eich cwestiwn. Nid oes amheuaeth, yn y degawd diwethaf, fod y toriadau i gymorth cyfreithiol wedi cael effaith hollol drychinebus ar ein cymunedau ac wedi difreinio llawer o’n dinasyddion yng Nghymru rhag mynediad at gyfiawnder. O ran yr adolygiad—y ddau adolygiad, wrth gwrs—mae un adolygiad yn ymwneud â chymorth cyfreithiol troseddol, gyda'r Arglwydd Bellamy. Cyfarfûm â’r Arglwydd Bellamy i drafod hwnnw mewn gwirionedd; unwaith eto, codais fater cynigion yr Arglwydd Bellamy ar gymorth cyfreithiol troseddol, ac yn benodol, rhai o’r argymhellion sy’n cael eu gwneud ynglŷn â'r angen i ariannu’n briodol i ymdrin â pheth o'r diffyg cyngor sydd gennym. Ac rydym yn dal i aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU ynghylch eu bwriad gyda hynny.
Yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach a dweud y gwir, yw'r adolygiad cyfiawnder sifil, y mae'r Arglwydd Wolfson yn ei gyflawni ar hyn o bryd, rwy'n credu. Ac yn amlwg, mae meysydd yno sy'n peri pryder i ni, mewn perthynas â materion economaidd-gymdeithasol a chymorth cyfreithiol, a meysydd eraill yn gyffredinol mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder sifil. Felly, edrychwn ymlaen at weld beth yw'r cynigion a fydd yn cael eu cyflwyno. Yn amlwg, mae profion modd yn berthnasol mewn cymorth cyfreithiol troseddol, ac yn wir, mewn cymorth cyfreithiol sifil. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, serch hynny, gyda'r toriadau enfawr a wnaed i gymorth cyfreithiol, a’r effaith ar ein cymunedau, achubiaeth bwysig, wrth gwrs, yw’r gronfa gynghori sengl y mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gyfrifol amdani, ac sydd wedi helpu gydag oddeutu 250,000 o achosion ar gyfer 130,000 o ddinasyddion Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Diolch yn fawr iawn am gydnabod hynny. Wel, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn cyflwyno Bil Rhyddid Brexit—[Chwerthin.]—i roi diwedd ar statws arbennig cyfraith yr UE, i wneud ein busnesau'n fwy cystadleuol a'n pobl yn fwy ffyniannus. Nid fi sydd wedi dyfeisio enw'r Bil; dyna enw'r Bil. Bydd y Bil yn ei gwneud yn haws i gyfraith yr UE gael ei diwygio neu ei dileu yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar fanteision Brexit, sy'n nodi sut y caiff rheoliadau eu hadolygu, er enghraifft, er mwyn creu fframwaith rheoleiddio addas at y diben ar gyfer deallusrwydd artiffisial, ac i ddarparu aer glanach, creu cynefinoedd newydd a lleihau gwastraff. Wrth ymateb, fe ddywedoch chi eich bod am ymwneud yn adeiladol â Llywodraeth y DU ar y Bil, ond fe wnaethoch fynegi pryder y gallai arwain at ostwng safonau ffermio a physgota, yn ogystal â mesurau diogelu’r amgylchedd.
Fodd bynnag, ar adeg Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), cytunodd Llywodraeth y DU y byddai fframweithiau DU gyfan i ddod yn lle llyfr rheolau’r UE yn cael eu negodi’n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU, mewn meysydd fel bwyd, lles anifeiliaid a’r amgylchedd, gan osod safonau na ellid syrthio'n fyr ohonynt, gan gadw'r trefniadau cyffredin presennol hyd nes y cytunir ar y safonau hyn. Ac wrth gwrs, mae nifer o’r fframweithiau hyn yn cael eu hystyried gan bwyllgorau’r Senedd ar hyn o bryd. Felly, sut y byddwch yn ymgysylltu’n gadarnhaol â Bil arfaethedig y DU i sicrhau synergedd â phwerau datganoledig, gan wneud y gorau o gryfderau’r ddwy Lywodraeth at ddiben cyffredin?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Wel, diolch am y cwestiwn. Ac rydych yn codi pwynt dilys, sef: sut y byddwn yn ymgysylltu, beth fydd y synergedd, beth fydd egwyddorion yr ymgysylltiad hwnnw? Y broblem gyda'r ddogfen y cyfeiriwch ati yw mai nifer o benawdau ydyw mewn gwirionedd—nid oes unrhyw beth ynddi sy'n rhoi unrhyw syniad i chi i ba gyfeiriad y gallai Llywodraeth y DU fod yn mynd iddo. Efallai y byddant yn dweud, 'Wel, efallai nad dyna ddiben y Bil’, ond rhoddaf enghraifft i chi. Mae’n cyfeirio at gyfraith yr UE, ac yn dweud pa mor wych yw hi ein bod wedi adfer rheolaeth, ac mai Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw’r goruchaf lys bellach o ganlyniad i adael yr UE. Ond wedyn, ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU eisiau cyflwyno deddfwriaeth sy'n atal y Goruchaf Lys rhag ymdrin â materion adolygu barnwrol, rheolaeth y gyfraith ac yn y blaen. Felly, ar y naill law, mae'n ymwneud â grymuso'r Goruchaf Lys, ond ar y llaw arall, 'Wel, fe'i grymuswn i'r graddau nad yw'n ymyrryd â'r hyn rydym am ei wneud a'r ffordd rydym yn dewis gweithredu.' Felly, credaf fod nifer o egwyddorion a gwrthddywediadau ynddo. Yn sicr, byddai’n berthnasol ar gyfer edrych ar sut y mae hynny’n rhyngweithio â’r fframweithiau. Nawr, wrth gwrs, ymyrrodd Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 â'r fframweithiau yn aruthrol, ac wrth gwrs, mae materion cyfreithiol yn dal heb eu datrys mewn perthynas â hynny. Ond y cyfan y gallaf ei wneud yw ailadrodd wrth yr Aelod eto y byddwn yn ymgysylltu o ddifrif; byddwn yn ymgysylltu fel Llywodraeth gyfrifol ar sail yr egwyddorion a gytunwyd rhyngom. Rwy'n gobeithio bod y cyfarfod a gawsom ddydd Sadwrn diwethaf yn eithriad ac nid yn adlewyrchiad o’r ffordd y mae’r DU yn bwriadu bwrw ymlaen â'r trafodaethau hynny yn y dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ddiwedd mis Ionawr, gofynnodd fy nghyfaill ym Mhlaid Genedlaethol yr Alban, Kirsty Blackman, gwestiwn am adolygiadau ôl-ddeddfwriaethol yn Swyddfa Cymru. Mewn ymateb i’r cwestiwn hwnnw, atebodd Simon Hart, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl y Gweinidog cyfleoedd Brexit, fod gwaith ar y gweill i asesu Deddf Cymru 2017. Fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol, mae hon yn ddeddfwriaeth allweddol mewn perthynas â'r setliad datganoli. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y dylem roi cydsyniad i’r Bil Iechyd a Gofal, a fydd yn rhoi pŵer i Weinidogion y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, deddfwriaeth allweddol arall mewn perthynas â’n setliad datganoli. O ystyried yr holl gamau eraill y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i danseilio datganoli, a ydych yn pryderu ynglŷn â throsglwyddo’r pŵer hwnnw iddynt? Hefyd, a oeddech yn ymwybodol o’r adolygiad o Ddeddf 2017? Ac os felly, pryd roeddech chi'n mynd i roi gwybod i'r Senedd? Diolch yn fawr.
Wel, diolch am eich cwestiwn. Yn y lle cyntaf, mewn perthynas â holl ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, mae'r Aelod yn ymwybodol o’r egwyddorion sydd ar waith. Un o’r anawsterau sy’n codi, ac yn enwedig yn y Bil y mae wedi’i grybwyll, yw bod yna nifer o faterion yn codi ynglŷn â chymhwysedd, ffactorau trawsffiniol yn codi eu pennau ac anghytundeb ynghylch cymhwysedd. Mae’n rhaid dweud bod y broses o ymgysylltu ynghylch yr hyn y rhoddir cydsyniad iddo, yr hyn na roddir cydsyniad iddo, yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn ddifrifol iawn, ac mae mater uniondeb datganoli yn flaenllaw. Nid ydym yn cydsynio i rywbeth oni bai ein bod yn derbyn, yn y pen draw, y bydd Cymru ar ei hennill o ganlyniad i beth bynnag y rhoddir cydsyniad iddo, ac wrth gwrs, nid Llywodraeth Cymru sy’n cydsynio; mae Llywodraeth Cymru yn argymell i’r Senedd gydsynio drwy broses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol.
Ar Ddeddf Cymru 2017, credaf ei bod yn debygol y bydd nifer o faterion yn codi o ganlyniad i gyfres o adolygiadau yn y dyfodol mewn perthynas â'r Ddeddf benodol honno. Credaf y bydd materion yn codi mewn perthynas â'r adolygiad o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, er enghraifft, a chredaf fod meysydd eraill o ddiddordeb i ni hefyd. Ond os byddaf yn rhan o unrhyw ddatblygiadau, byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Senedd hon arnynt.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Nawr, rydym wedi cael yr adroddiad hirddisgwyliedig ar gysylltiadau rhynglywodraethol, sy'n mynd i adeiladu gwell perthynas rhwng Llywodraethau'r DU, yn seiliedig ar egwyddorion parch cydradd a meithrin a chynnal ymddiriedaeth. Ond y gwir amdani, Gwnsler Cyffredinol, yw bod cryn dipyn o ddrwgdybiaeth rhwng y Llywodraethau, rhagolygon sylfaenol wahanol ynghylch dyfodol y cyfansoddiad a gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ymdrechion i ailddatgan sofraniaeth Senedd y DU dros y gwledydd datganoledig. Felly, beth sy’n cael ei wneud i roi’r peirianwaith a’r prosesau a nodir ar waith er mwyn troi ymddiriedaeth a pharch cydradd yn berthynas rynglywodraethol gadarnhaol ac adeiladol? Yn ogystal, a fydd y trafodaethau ynghylch y peirianwaith a’r broses yn ein cynnwys ni yma yn y Senedd? Diolch.
Wel, edrychwch, a gaf fi ddweud yn gyntaf fod yr adolygiad rhynglywodraethol, a’r broses y mae’r Aelod wedi’i gweld, yn bwysig? Yn fy marn i, mae'n sicr yn gam arwyddocaol ymlaen, ond mae’n gam pwyllog ymlaen, gan y bydd yn rhaid inni weld sut y bydd yn gweithio. Mae’n sicr yn amlinellu materion parch ac uniondeb a ddylai fod yn berthnasol ar sail gyfansoddiadol i lywodraeth ddatganoledig. Ac mae'n ddiddorol nodi bod yr adolygiad yn defnyddio'r term 'llywodraeth ddatganoledig', yn hytrach na 'gweinyddiaeth ddatganoledig' wrth gwrs, tan ichi edrych ar y rhan am y Trysorlys, lle y mae'n mynd yn ôl i ddefnyddio 'gweinyddiaethau datganoledig', ond dyna fel y mae am y tro. Gwn fod swyddogion yn cydweithio ac yn edrych ar greu’r ysgrifenyddiaeth annibynnol a’r strwythur a fydd ar waith, ac amserlen y cyfarfodydd a gynhelir ac ati. Mae’r ffaith y bydd fforwm ar gyfer cyfarfodydd rhyngweinidogol yn amlwg yn bwysig, fel y bydd cyfarfod y Prif Weinidogion o fewn y broses hon. O ran y Senedd, o ganlyniad i’r cytundeb rhyngsefydliadol—. Wel, wrth gwrs, ceir cytundeb eisoes y bydd manylion y cyfarfodydd a gynhelir ac yn y blaen yn cael eu rhannu, a byddwn yn gobeithio y bydd trafodaeth agored yma. Credaf fod y broses gyfan yn un lle y ceir ymrwymiad ysgrifenedig ar ei chyfer hyd yn oed, i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn gwneud popeth a allaf i'w gynnal, gan ein bod yn awyddus i wneud i'r adolygiad newydd hwn weithio. Mae er budd pobl Cymru os yw'n gweithio, ond nid ydym am ragdybio ar sail arferion y gorffennol ei fod o reidrwydd yn mynd i weithio. Ei wendid sylfaenol, wrth gwrs, yw nad oes iddo statws cyfansoddiadol. Nid oes iddo statws barnadwy. Ond efallai ein bod ar y ffordd tuag at hynny. Credaf mai dyma'r arwydd cyntaf hefyd o strwythur cyfansoddiadol ffederal o ran ymgysylltu. Nawr, mae cryn dipyn o ffordd i fynd, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am faterion pwysig fel y byddant yn codi.
5. Pa gyngor a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i'r Gweinidog cyllid ar oblygiadau cyfansoddiadol cyflwyno'r Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)? OQ57621
Diolch yn fawr iawn eto. Rwy’n fodlon fod goblygiadau cyfansoddiadol y Bil wedi bod drwy broses graffu a gwerthuso briodol. Bydd pedwar prawf diben ar gyfer y pwerau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, a dim ond pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn fod hynny’n briodol y gellir eu defnyddio. Mae cyfyngiadau digonol ar y pwerau hyn.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â’r pwerau eang pan fo Gweinidogion yn teimlo bod hynny'n briodol, ond rwy’n siŵr eich bod hefyd yn cofio, yn ôl yn eich dyddiau fel myfyriwr, Gwnsler Cyffredinol, cael eich dysgu mai dim ond yn rhagweithredol, at ei gilydd, y dylid defnyddio cyfreithiau, yn hytrach nag yn ôl-weithredol. Ac rwy'n siŵr hefyd, mewn darlithoedd ar y cyfansoddiad, ichi gael eich dysgu am bwysigrwydd craffu seneddol. Nawr, er bod gan y Bil hwn lawer o nodweddion synhwyrol, megis y gallu i newid y broses dreth yn gyflym i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, mae’n cyfyngu ar gwmpas y craffu drwy gael gwared ar glo y Senedd. Mae clo y Senedd yn bwysig, lle'r oedd pŵer i newid y Ddeddf yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Senedd yn unig. Mae hynny wedi mynd. Nawr, mae ehangder y Bil yn newid lleoliad pŵer yn sylfaenol yn y Senedd i Weinidogion, ac yn ogystal â hynny, mae'n rhoi pwerau i Weinidogion newid Deddfau yn ôl-weithredol. Mae hynny'n amlwg yn tanseilio rheolaeth y gyfraith drwy greu ansicrwydd o fewn y gyfraith. Nawr, rydym yn aml yn beirniadu Llywodraeth San Steffan am danseilio rheolaeth y gyfraith, ond mae’n wir am Lywodraeth Cymru yn yr achos hwn. Yng ngoleuni hynny, pa fesurau diogelu y byddwch yn eu cyflwyno yn y Bil hwn er mwyn atal erydu ar graffu a rheolaeth y gyfraith? Diolch yn fawr.
Diolch am eich cwestiwn. Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac mae’n bwynt sydd wedi’i ystyried yn ofalus iawn; rwyf wedi meddwl amdano a gwn fod y Gweinidog cyllid wedi meddwl amdano hefyd. Ac wrth gwrs, credaf fod y Bil ar Gam 1 yn y broses graffu. Gwn fod y Gweinidog cyllid wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid yn y sesiwn gyntaf, yr wythnos diwethaf, ac yn sicr, mae sesiwn arall yr wythnos nesaf, a chredaf ei bod i fod i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Y peth cyntaf yw hanfod y Bil. Yr hyn y mae’r Bil yn ei wneud yw galluogi newidiadau i Ddeddfau treth Cymru drwy reoliadau pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn fod y newidiadau hynny’n angenrheidiol neu’n briodol, a lle y mae'n ofynnol iddynt ddod i rym ar unwaith neu’n fuan wedyn. Felly, yn y bôn, lle y mae nifer o amgylchiadau allanol a all godi, mae'n ymwneud â diogelu uniondeb system drethi Cymru yn sgil newidiadau a all ddigwydd.
Ac rydych yn llygad eich lle—mae mater y clo yn un pwysig. Ni allaf gofio trafod unrhyw beth fel hyn pan oeddwn yn fyfyriwr. Cofiwch chi, roedd hynny dros 40 mlynedd yn ôl, felly efallai fod eich cof ychydig yn fwy ffres na fy nghof i. Ond mae'n bwynt cyfansoddiadol pwysig, a gwn fod cryn dipyn o sylwebaeth wedi bod yn ei gylch—hynny yw, y byddai'n rhaid i newid ddod gerbron y Senedd er mwyn i'r pŵer gael ei ddatgloi i alluogi ei ddefnyddio. Credaf mai'r anhawster gyda hynny yw sydynrwydd unrhyw newid y gallai fod ei angen, a chredaf fod cydnabyddiaeth gyffredinol fod angen cael y pŵer. Ond rydych yn llygad eich lle ei fod, wrth gwrs, yn bŵer sylweddol. Mae unrhyw bŵer sydd gan Lywodraeth i wneud newidiadau, a newidiadau ôl-weithredol o bosibl, yn sylweddol ac mae angen craffu arno'n drylwyr.
Y dull a ddefnyddir i wneud hyn yw cael prawf pedwar diben fel ei fod yno i sicrhau y gall ymdrin â materion sy’n codi’n annisgwyl, yn sydyn ac ati yng nghyd-destun osgoi trethi, neu i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, neu i ymateb ar frys i benderfyniadau llys neu dribiwnlys, neu i bethau sy’n digwydd ar lefel Llywodraeth y DU sy’n golygu bod angen inni ymateb. Ac mewn rhai ffyrdd, mae'n eithaf tebyg i'r rheoliadau COVID yn yr ystyr eu bod yn cael eu gwneud, maent yn dod i rym ac ati, ac felly mae gennych y weithdrefn gadarnhaol, neu'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft o bosibl, o dan ystyriaeth.
Rwy'n credu y gallaf ei ddweud eich bod yn llygad eich lle i godi’r pwynt. Mae’n fater y mae’n rhaid ei archwilio’n ofalus iawn. Mae’r Gweinidog cyllid yn mynychu gwahanol sesiynau craffu'r pwyllgorau er mwyn gwneud hynny. A heb os, bydd hyn yn dod yn ôl gerbron y Siambr hon. O ran y cydbwysedd a fy nealltwriaeth i o’r hyn sy'n angenrheidiol a’r brys sy'n angenrheidiol, o bryd i’w gilydd, i weithredu, credaf fod yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y Bil yn cydnabod y materion cyfansoddiadol sylweddol hynny y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy. Ond wrth gwrs, bydd y broses graffu yn parhau, a bydd y Gweinidog cyllid yn amlwg yn ymgysylltu fel rhan ohoni.
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu amrywiaeth ynadon lleyg yng Nghymru? OQ57592
Diolch am eich cwestiwn. Y Swyddfa Farnwrol, nid Llywodraeth y DU, sy’n penodi ynadon lleyg. Yn bersonol nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau am ynadon yn benodol, ond mae’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried gyda phartneriaid wrth inni fwrw ymlaen â chynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru.
Mae'n dda clywed hynny. Fe fyddwch yn gwybod bod Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ar hyn o bryd yn cynnal yr ymdrech recriwtio fwyaf yn ei hanes 650 mlynedd i ddod o hyd i 4,000 o ynadon lleyg newydd. Cymerwyd y cam hwn i fynd i'r afael â'r ffaith bod nifer yr ynadon wedi gostwng dros y degawd diwethaf o 25,170 yn 2012 i 12,651 y llynedd. Felly, wrth gwrs, swydd wirfoddol yw ynad lleyg yn dechnegol, lle y disgwylir i unigolion roi o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn o'u hamser, sy'n golygu y gall nifer ohonynt gyflawni'r rôl hollbwysig hon ochr yn ochr â'u gwaith a'u cyfrifoldebau gofalu eu hunain. Daw’r ymgyrch recriwtio ar adeg hynod o enbyd, gan fod ystadegau ar gyfer mis Tachwedd 2021 yn dangos bod 372,000 o achosion heb eu clywed yn y llysoedd ynadon. Mae hefyd yn darparu cyfle yn awr i amrywio’r ynadaeth, o gofio, fis Ebrill diwethaf, fod ychydig dros wyth o bob 10 ohonynt dros 50 oed. Gwnsler Cyffredinol, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i hyrwyddo’r cyfle gwirfoddol hwn ymhlith ein pobl ifanc, ac yn arbennig felly yn ein cymunedau Cymraeg iaith gyntaf, i sicrhau bod y rheini sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yn dod yn fwy cynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu?
Diolch. Mae'n gwestiwn pwysig. Mae'n codi'r cwestiwn pam, mewn 10 mlynedd, gyda nifer yr ynadon bron wedi haneru, mai yn awr y rhoddir camau ar waith, a hithau mor hwyr yn y dydd, ac mewn ffordd mor gyfyngedig. Pam fod cymaint yn llai o ynadon nag o'r blaen? Ond rwy'n croesawu'r cam i recriwtio 4,000 o ynadon ychwanegol, ac wrth gwrs, o ganlyniad i COVID, mae camau’n cael eu cymryd hefyd i ehangu capasiti ynadon i ymdrin â mwy o achosion.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu bod ynadon yn cyflawni rôl hanfodol yn caniatáu i’n system gyfiawnder, sydd wedi'i thanariannu, weithredu? Ac mae arnom ddyled i'r holl bobl sy'n rhoi o'u hamser a'u harbenigedd. Credaf mai un ffactor a allai fod wedi cyfrannu at y gostyngiad hefyd yw cau cymaint o lysoedd ynadon. Mae pobl yn uniaethu â’u cymunedau, â’u llysoedd lleol, ac mae system y llysoedd ynadon bob amser wedi bod yn rhan o system gyfiawnder leol. Mae’r cysylltiad hwnnw rhwng cyfiawnder a’r gymuned wedi’i dorri.
Un peth y gallaf ei ddweud ynghylch un o'r pethau y credaf y gallwn eu gwneud a lle y gallwn weithio gyda Llywodraeth y DU—ac unwaith eto, mae'n fater y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi bod yn gweithio arno ac yn ei drafod—yw dadgyfuno data fel ein bod yn gallu ei ddadansoddi. Nawr, gwyddom beth yw'r proffil oedran. Gwyddom hefyd fod oddeutu 55 y cant o ynadon yng Nghymru yn fenywod yn hytrach na dynion. Gwyddom hefyd fod oddeutu 5 y cant o gefndir lleiafrifol, ond nid oes gennym lawer mwy o fanylion na hynny. Nid ydym yn gwybod a yw rhai grwpiau ethnig wedi'u tangynrychioli. Nid ydym yn gwybod lle, yn benodol, y maent wedi’u lleoli, ac nid oes gennym y data sydd ei angen arnom yn fy marn i ar y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg. A chan ein bod yn awyddus i annog a gweld mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn ein system llysoedd, credaf ei bod yn bwysig gwybod hynny.
Gallaf ddweud bod y trafodaethau a gawsom wedi cael croeso mawr. Byddwn yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i nodi meini prawf y data angenrheidiol, a chredaf fod hynny’n enghraifft o'r cydweithredu cadarnhaol ac adeiladol sy’n mynd rhagddo ac y buom yn ei ddatblygu.
7. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r angen am ddiwygiadau rhyngseneddol yn sgil y newidiadau i gysylltiadau rhynglywodraethol ar lefel y DU? OQ57602
Diolch. Mater i’r Seneddau eu hunain yw trefniadau rhyngseneddol. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau tryloywder, craffu ac atebolrwydd ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae gennym gytundeb adolygu rhynglywodraethol ffurfiol gyda’r Senedd, sy’n cynnwys cyhoeddi adroddiad blynyddol.
Credaf fod y diwygiadau rhynglywodraethol yn cynnwys rhywfaint o newyddion cadarnhaol. Os gellir eu gwneud yn rhan annatod o'r cywair parchus ond hefyd o beirianwaith y Llywodraeth fel eu bod yn wirioneddol ystyrlon rhwng Llywodraethau, mae ynddynt obaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. Ond yr hyn a wyddom, wrth gwrs, yw bod cryfhau'r peirianwaith rhynglywodraethol yn golygu bod angen mwy o graffu ar yr hyn sy'n digwydd ar y lefel honno. Felly, tybed—ac rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed y Cwnsler Cyffredinol, mai mater i Seneddau yw hwn—a fyddai ef, yn bersonol, gyda’i brofiad ef, yn cefnogi’r cysyniad fod angen ffocws cyfartal yn awr ar ddiwygio rhyngseneddol fel bod y craffu'n addas ar gyfer diwygio rhynglywodraethol? A gellid bwrw ymlaen â hynny drwy waith o fewn y pwyllgorau ar draws y gwledydd, drwy'r fforymau rydym yn eu hail-gyfansoddi o fewn y seneddau, neu'n wir—a chyda pharch mawr i fy nghyd-Aelod sy'n eistedd gyferbyn—drwy gonfensiwn y Llywyddion hefyd pe byddent yn dymuno troi eu sylw at ddiwygio rhyngseneddol.
Diolch, ac rydych yn llygad eich lle, ac rwy'n falch fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn rhoi sylw manwl i hyn, oherwydd, wrth i'r cysylltiadau hyn ddatblygu ac ymdrin â materion gwirioneddol arwyddocaol sy'n effeithio ar fywydau pobl, mae'n bwysig iawn cael craffu cadarn, adeiladol a strategol. Yr un ochr iddo yma, wrth gwrs, yw bod cytundeb rhyngsefydliadol rhwng Llywodraeth Cymru a’r pwyllgor a gadeirir gennych chi. Mae hynny’n bwysig. Credaf fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd tryloywder a chraffu ar y materion hyn hefyd.
Ond a gaf fi sôn am ar y fforwm rhyngseneddol, gan y credaf—? Fel y gwyddoch, roeddwn yn aelod ohono o’r blaen, a gwn iddo gael ei sefydlu yng nghyswllt Brexit, ac ati. Ymddengys i mi y gallai fod yn fforwm sy’n cynnig cyfle i greu pwyllgor craffu traws-seneddol a allai weithredu’n adeiladol iawn ar draws y pwyllgorau cyfansoddiadol a’r pwyllgorau deddfwriaeth, boed yn Dŷ’r Arglwyddi, neu'r pwyllgorau cyfansoddiadol, ac yn y blaen. Credaf fod hwnnw’n bosibilrwydd diddorol iawn, ac rwy’n siŵr ei fod yn rhywbeth y bydd y fforwm rhyngseneddol sy'n cael ei ailsefydlu, fel y dywedwch, yn edrych i weld sut y byddai’n ffitio o fewn y rôl benodol honno.
8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch cynigion Llywodraeth y DG i ariannu prosiectau yng Nghymru yn uniongyrchol o dan ei chronfa codi'r gwastad? OQ57620
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn dal i fynd drwy fanylion y Papur Gwyn ar godi'r gwastad, ond drwy eu defnydd o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, mae Gweinidogion y DU yn parhau i ddiystyru’r setliadau datganoli a throsolwg democrataidd y Senedd hon.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb yna. Mae'r cynlluniau yma, codi'r gwastad, yn edrych i gydweithio yn uniongyrchol efo awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae yna sôn am ddatganoli yn y Papur Gwyn, ond datganoli yng nghyd-destun Lloegr ydy hynny, wrth gwrs. Y sbin sy'n cael ei roi yw eu bod nhw'n bwriadu lleihau'r gagendor anferthol yma sydd yn bodoli, a'r anghyfartaledd sydd yn y Deyrnas Gyfunol. Ond, mae cydweithio'n uniongyrchol efo awdurdodau lleol yma yng Nghymru am danseilio'r broses ddatganoli, fel rŷch chi wedi'i ddweud. A ydych chi'n credu y bydd y rhaglen yma, y Papur Gwyn o gael ei greu yn Ddeddf, yn cyflawni ei dibenion o leihau anghyfartaledd, neu a fydd yn methu yn hyn o beth ac, yn hytrach, yn andwyo ymdrechion y Llywodraeth yma yng Nghymru?
Diolch. Gallaf ddweud wrthych nad yw swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gysylltiad gyda Llywodraeth y DU ar y Papur Gwyn ar godi'r gwastad, er bod datblygu economaidd yn gymhwysedd datganoledig mewn gwirionedd. Mae ein profiad o'r math hwn o waith partneriaeth rhynglywodraethol ar y materion penodol hyn wedi bod yn gwbl annerbyniol yn fy marn i.
Mae cyflawni agenda codi'r gwastad yng Nghymru heb unrhyw bartneriaeth â Llywodraeth Cymru nid yn unig yn amharchu'r setliad datganoli, mae hefyd yn gwanhau potensial unrhyw raglen fuddsoddi. Cydnabyddir yr angen i barchu Llywodraethau datganoledig mewn perthynas â gweithredu'r defnydd o gyllid. Nododd y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol:
'mae absenoldeb ymddangosiadol unrhyw ymgysylltiad strategol ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig ar agenda codi'r gwastad, yn amlygu'r diffyg eglurder a ffocws sy'n gysylltiedig â'r polisi pwysig hwn.'
A pheidiwch ag anghofio: comisiynodd Llywodraeth y DU adolygiad Dunlop i ymchwilio i'r materion hyn ac yn y blaen. Nododd adolygiad Dunlop
'na ddylai cyllid gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig gymryd lle cyllid craidd a rhaid ei gymhwyso gyda chefnogaeth y llywodraethau datganoledig.'
Hyd yma, rhaid imi ddweud y bu methiant llwyr yn hynny o beth, ac rydym wedi gweld hynny hefyd yn yr enghreifftiau o'r defnydd o gyllid codi'r gwastad. Ar y ffaith nad ydym yn cael y lefel o gyllid a addawyd i ni, yn bendant: disgwylir i gyllideb Cymru fod bron i £1 biliwn yn waeth erbyn 2024 o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiad na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae cwestiwn 9 [OQ57624] wedi'i dynnu yn ôl. Felly, yn olaf, cwestiwn 10, Delyth Jewell.
10. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â datganoli mwy o bwerau trethiant? OQ57617
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Bedair blynedd ers dechrau'r broses i ddatganoli pwerau newydd ar gyfer treth ar dir gwag, nid ydym wedi gallu sicrhau'r pwerau hyn o hyd. Mae'n gwbl glir yn awr nad yw'r broses yn addas i'r diben.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Gwnsler Cyffredinol, ar ymweliad diweddar â Chymru, dywedodd Prif Weinidog y DU
'rhaid i lywodraethau datganoledig gymryd mwy o gyfrifoldeb dros godi eu cyllid eu hunain.'
A allech ddweud wrthym felly pa bwerau trethu newydd y mae Llywodraeth y DU wedi'u cynnig i Lywodraeth Cymru? Ac os na chynigiwyd unrhyw bwerau newydd, Gwnsler Cyffredinol, yn eich barn chi, beth a olygai'r Prif Weinidog pan ddywedodd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd mwy o gyfrifoldeb dros godi ei chyllid ei hun?
Wel, credaf mai'r ateb gorau i'r cwestiwn hwnnw yw fy mod yn credu y bydd yn rhaid imi ofyn i'r Gweinidog pan fyddaf yn cyfarfod ag ef oherwydd, ar hyn o bryd, o'r hyn a ddeallaf, mae'r trafodaethau ar dreth ar dir gwag er enghraifft—. Rydym eisiau treth o'r fath oherwydd potensial treth o'r fath i gyflawni ein huchelgeisiau ym maes tai ac adfywio.
Mae'n ymddangos mai'r hyn a ddylai ddigwydd yw y dylai'r ymgysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â datganoli pwerau treth mewn rhai meysydd ymwneud â pha drethi sy'n briodol i Lywodraeth ddatganoledig. Wel, mae hynny eisoes wedi'i sefydlu. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU bellach yn mynd i'r cyfeiriad lle y mae am wybod sut rydym yn bwriadu eu defnyddio. Wel, a bod yn onest, os yw'r pŵer yn briodol i gael ei ddatganoli, mater i'r lle hwn yw pennu'r ffordd orau o ddefnyddio'r pŵer penodol hwnnw. O ganlyniad, mae'r trafodaethau'n troi mewn cylchoedd ac nid yw'r pwerau, y credaf eu bod yn dod o Ddeddf 2014, yn addas i'r diben o gwbl, ac mae taer angen newid.
Ceir meysydd trethiant eraill a fyddai'n ein cynorthwyo, wrth gwrs, boed hynny'n ymwneud â threth ar werth, neu doll teithwyr awyr, ac wrth gwrs mae llawer o sôn gan Lywodraeth y DU am doll teithwyr awyr. Wel, rydym wedi bod yn gofyn am godi'r gwastad ar ochr treth y doll teithwyr awyr ers cryn dipyn o amser, ac mae hynny'n dal i fod heb ei gydnabod.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a fydd yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Jack Sargeant.
1. Sut y bydd y Comisiwn yn cefnogi Senedd leuenctid Cymru yn ystod y Chweched Senedd? OQ57585
Diolch am y cwestiwn. Mae’r Senedd Ieuenctid yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Senedd. Roeddem yn falch iawn gyda llwyddiant tymor cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru, a gyda brwdfrydedd ac angerdd y grŵp cyntaf o Aelodau Senedd Ieuenctid. Rydym newydd ethol yr ail garfan o Aelodau ac rwy'n edrych ymlaen at gadeirio'r cyfarfod llawn cyntaf ar 19 Chwefror. Yn rhithiol fydd y cyfarfod hwnnw, ond dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yna gyfarfod o'r Senedd Ieuenctid yn cwrdd yn fuan iawn wedi hynny yn y Siambr yma.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac edrychaf ymlaen at y canlyniad a'r diweddariad o gyfarfod cyntaf y Senedd Ieuenctid sydd newydd ei hethol. Fel llawer ohonom yma, rwy'n awyddus iawn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid gael cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol barhaol, i adael eu marc ar wleidyddiaeth Cymru ac i adael eu marc a'u newid cadarnhaol ar fywyd cyhoeddus Cymru. Un o'r materion y mae pobl ifanc yn eu dwyn i fy sylw yn barhaus yn fy nghymuned yn Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r defnydd o blastig untro. A gaf fi ofyn i'r Comisiwn pa ystyriaeth y maent wedi'i rhoi i hwyluso'r gwaith o drosglwyddo'r maes polisi pwysig hwn fel y gall yr unigolion angerddol hyn wneud cynnydd ar ran pobl Cymru?
Wel, testun llawenydd mawr oedd gweld y seneddwyr ifanc yn y Senedd Ieuenctid gyntaf yn dewis tri mater perthnasol a modern iawn fel eu tri maes blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt. Un, wrth gwrs, oedd plastig untro a'r pryderon amgylcheddol sydd ganddynt. Bydd y Senedd Ieuenctid newydd yn penderfynu ei hun ymhen ychydig wythnosau beth fydd ei blaenoriaethau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, ac rwy'n credu ei bod hi'n her i bob un ohonom, wrth inni wrando ar leisiau ein Senedd Ieuenctid—. A gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu ymuno â ni yn y cyfarfod ar 19 Chwefror ar ryw bwynt. Nid yw'n ddiwrnod pan fydd y chwe gwlad yn chwarae, fe'i dewiswyd yn fwriadol am y rheswm hwnnw. Gwnaethom y camgymeriad hwnnw y tro cyntaf; ni wnawn yr un camgymeriad yr eildro. Felly, gwrandewch wrth iddynt benderfynu drostynt eu hunain beth fydd eu blaenoriaethau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn synnu pe na bai pryderon am yr amgylchedd a newid hinsawdd yn cael sylw eithaf amlwg.
2. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a recriwtio agored yng ngweithle'r Senedd? OQ57601
Mae'r Comisiwn yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ac unrhyw un arall a hoffai fod yn rhan o'r gweithle ac ymgyfarwyddo â gweithgareddau'r Senedd drwy amrywiaeth o gyfleoedd am brofiad gwaith tymor byr. Mae'r Comisiwn yn gweithredu cynllun profiad gwaith ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, ac mae hynny yn gyfle i unrhyw un dros 16 oed i ymgysylltu â gwaith y Senedd. Caiff cyfleoedd recriwtio i swyddi sefydlog yn y Comisiwn eu hysbysebu ar ystod eang o blatfformau a'u hyrwyddo yn unol ag egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna.
Mae hwn yn gwestiwn gwirioneddol agored, oherwydd mae'r graddau y mae'r Senedd yn agor i bobl—pobl ifanc ac eraill—ledled y wlad yn creu argraff arnaf a dweud y gwir, o ran dweud, 'Dewch yma a phrofwch—a chael profiad gwaith,' neu, 'Gwnewch gais am waith yma, wrth galon ein democratiaeth genedlaethol.' Ac os edrychwch chi ar y wefan, mae wedi'i gyfeirio'n dda iawn ac yn y blaen. Ond fy nghwestiwn i, fel dilyniant, yw a oes unrhyw ddadansoddiad wedi'i wneud i weld o lle y daw'r bobl sy'n dod yma—a ydynt yn dod o brofiad gwaith mewn ysgolion neu a ydynt yn gwneud cais drwy recriwtio agored yma i rolau amrywiol. Pa rannau o'r wlad y dônt ohonynt? I ba swyddfeydd yr ânt i weithio? Pa gefndir economaidd-gymdeithasol sydd ganddynt? A ydynt yn dod o gefn gwlad Cymru a'r Cymoedd ac o'r ardaloedd arfordirol? A ydynt yn tueddu i grynhoi o fewn ardaloedd daearyddol neu haenau penodol yn ein cymdeithas? Byddai'n ddiddorol iawn gwybod hynny hefyd. Ond rwy'n cymeradwyo'r gwaith a wnaed mewn gwirionedd, fel recriwtiwr agored iawn a hefyd i roi profiad gwaith i bobl ifanc yn ein hysgolion.
Mae'r rheini'n gwestiynau diddorol iawn. Down yma i'r lle hwn o bob rhan o Gymru, ond mae o lle y daw'r staff sy'n gwasanaethu'r Comisiwn a staff ein pleidiau gwleidyddol hefyd yn gwestiwn da i wybod yr ateb iddo. Nid wyf yn gwybod yr ateb iddo wrth imi sefyll yma yr eiliad hon, ac rwy'n tybio ein bod yn casglu rhai o'r ystadegau hynny, ond yn sicr, fe wnaf ymchwilio iddo a gofyn am rywfaint o eglurder ynghylch hynny i'w rannu gyda'r holl Aelodau. Rwy'n tybio bod diddordeb o bob cwr o'r Siambr mewn gwybod a ydym yn gwneud hynny, a sut.
Mae cwestiwn 3 [OQ57625] wedi'i dynnu yn ôl.
Eitem 4 ar yr agenda sydd nesaf, ond ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Felly symudwn ymlaen at eitem 5, y datganiad 90 eiliad. Galwaf ar Jack Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac nid yw dweud bod prentisiaethau'n newid bywydau yn or-ddweud. Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch fy mod wedi gwasanaethu fel prentis beiriannydd yn DRB Group ar Lannau Dyfrdwy. Mae prentisiaethau'n darparu'r sgiliau angenrheidiol i unigolion ddechrau ar yrfaoedd llwyddiannus. Ar yr un pryd, maent o fudd i gyflogwyr, i'w helpu i ddod o hyd i'r bobl fedrus berthnasol sydd eu hangen arnynt i helpu i ddiwallu anghenion eu busnesau ac economi Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae sefydliadau fel ColegauCymru a Coleg Cambria yn gwneud gwaith gwych, gan weithio gyda dros 1,000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth i bobl Cymru.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am weld prentisiaethau'n ffynnu yma yng Nghymru, a bod yn rhan fwy fyth o'n bywyd cenedlaethol. Rwy'n annog holl bobl Cymru, o bob oed a chefndir, i ystyried prentisiaeth, ac wrth inni edrych tuag at y dyfodol, pwy na fyddai'n croesawu gweld mwy o brentisiaid hyfforddedig yn eistedd yn y Siambr hon ac yn ychwanegu'r profiad a gawsant o'r diwydiant gwaith at y broses o lunio polisi a gwneud penderfyniadau ar ran pobl Cymru? Diolch yn fawr.
Diolch. Byddwn yn awr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i’r trafodion ailgychwyn a dylai unrhyw Aelodau sy’n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i’r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:12.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:24, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar reolaethau rhent. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7831 Mabon ap Gwynfor
Cefnogwyd gan Rhys ab Owen, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;
b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf;
c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.] Diolch am y croeso. Rhaid imi ddatgan diddordeb ar gychwyn y ddadl fel rhywun sydd ag eiddo arall gyda thenant yn byw ynddo fo. Felly, pam fy mod i, o bawb, yn cyflwyno cynnig i reoli rhent? Yn syml, oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
Mae yna argyfyngau enbyd yn digwydd ar hyd hanes ac maen nhw'n arwain at wasgfa ariannol sydd yn ei thro yn arwain at dlodi enbyd. Mae hyn yn wir yn ddieithriad, ac mae hanes yn dyst i’r ffaith. Ar adegau o argyfwng enbyd, mae llywodraethau yn gweithredu i ddangos eu bod nhw yno i amddiffyn ac i helpu drwy gynnig tarian yn erbyn yr elfennau gwaethaf.
Gadewch inni gymryd un enghraifft amlwg o hanes. Yn dilyn yr ail ryfel byd, beth wnaeth Clement Attlee ac Aneurin Bevan? Fe aethon nhw ati i weithredu argymhellion adroddiad Ridley a chryfhau y rheolaethau rhent a dechrau ar raglen anferthol o adeiladu tai cyhoeddus. Fe soniodd Aneurin Bevan ei hun am yr angen i warchod tenantiaid. Ac mae pobl Cymru yn edrych arnom ni yma heddiw i wneud beth fedrwn ni i’w hamddiffyn rhag disgyn i dlodi yn wyneb heriau anferthol ar ôl-COVID. Dydyn ni ddim yn gwybod impact llawn COVID eto—fe ddaw yn gliriach wrth i amser fynd yn ei flaen—ond rydym ni’n dechrau gweld ei effaith andwyol yn barod, a hyn ar ben dros 10 mlynedd o lymder llethol. Mae cyflogau wedi methu â chadw i fyny efo chwyddiant, mae chwyddiant ar fin bwrw ei lefel uchaf ers 30 mlynedd, ac mae costau byw ar gynnydd. Ond, ar ben hyn, mae rhent wedi cynyddu yn fwy yng Nghymru nag yn yr un ardal arall o’r Deyrnas Gyfunol, gan weld cynnydd o bron i 13 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Mae dros hanner y plant sy’n byw mewn tai rhent yn byw mewn tlodi. Mae’r canran o bobl sy’n byw mewn tlodi yn y sector rhent yn fwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol. Mae Caerdydd yn ei chael hi'n arbennig o wael, efo’r Joseph Rowntree Foundation yn amcangyfrif fod nifer yn gwario 35 y cant o’u hincwm ar rent yn unig. Gall pobl ifanc ddim fforddio prynu tai yn eu cymunedau ac mae rhestrau aros tai cymdeithasol yn hirfaith. Felly, yr unig ddewis ydy rhentu yn breifat neu, i rai, yn anffodus, byw efo mam a dad. Does dim syndod bod ffigurau’r ONS yn dangos bod treian o bobl rhwng 20 a 30 oed yn byw efo’u rhieni yma yng Nghymru. Mae Shelter Cymru wedi gweld rhenti yn dyblu mewn mis mewn rhai achosion, ac Acorn yng Nghaerdydd yn sôn am landlordiaid yn cynyddu rhent dros £100 y mis i rai tenantiaid. Heb gamau ymyrraeth, yna byddwn yn gweld mwy a mwy o bobl yn canfod eu hun yn byw mewn tlodi neu hyd yn oed yn ddigartref.
Gwn y bydd rhai yn cael braw o ddarllen y cynnig, ac yn reddfol yn gwrthwynebu, gan gyfeirio at enghreifftiau ble mae polisi o dan y teitl 'rheolaethau rhent' wedi methu. Ac mae hynny’n wir; mae yna arbrofion wedi methu. Ond pan eu bod nhw wedi eu llunio yn gywir, wedi cael eu targedu ac wedi cael eu cyplysu a'u cyd-blethu â pholisïau eraill llwyddiannus, yna mae rheolaethau rhent yn bolisi sydd yn llwyddo ac yn boblogaidd. Ac mae'n boblogaidd heddiw, efo dros dwy ran o dair o bobl yn cefnogi cyflwyno polisi o’r fath yn y Deyrnas Gyfunol, yn ôl pôl piniwn diweddar gan YouGov. Noder nad ydy’r cynnig yn cyflwyno math arbennig o system reoli rhent, ond mae o yn nodi yr angen i osod rheolaeth ar renti i lefelau sy’n ateb y gallu i dalu.
Gadewch inni edrych ar rai enghreifftiau. Dydy Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon ddim yn nodedig am fod yn un arbennig o adain chwith; yn wir, mae'n Llywodraeth mwy adain dde. Ond yno, maen nhw wedi cyflwyno camau i reoli rhent, efo adolygiad rhent heb fod yn llai na bob dwy flynedd a chyfnod 90 niwrnod o notis o’r newid hwnnw. Mae yna barthau pwysau rhent yno ar gyfer ardaloedd ble mae pwysau yn arbennig o uchel ac yn golygu na all rhent gynyddu yn uwch na chwyddiant yn y parthau hynny. Yng Nghatalunya, mae'r Llywodraeth yno wedi cyflwyno trefn sy’n cyfyngu ar y rhent i garfan benodol o bobl, er enghraifft os ydy’r rhent yn gydradd i 30 y cant neu'n fwy o’r incwm. Ac, wrth gwrs, mae rheolau rhentu mewn bodolaeth mewn gwahanol daleithiau ar draws yr Unol Daleithiau, ac maen nhw wedi cael eu cyflwyno mewn modd sydd wedi eu targedu yn bwrpasol.
Mae’n amlwg felly fod cynnal gwaith paratoadol a pharatoi manwl yn gwbl allweddol i sicrhau llwyddiant polisi o'r fath. Dyna pam fy mod i’n hynod o falch fod y Llywodraeth yma heddiw wedi dod i gytundeb â ni ym Mhlaid Cymru i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno rheolaethau rhent fel rhan o becyn ehangach mewn Papur Gwyn ar dai. Dyma fydd y cam cyntaf tuag at ddeddfu a sicrhau bod yna dai tecach yma yng Nghymru i'n pobl ni.
Mae’r cynnig yma felly yn gyfle cychwynnol i ddechrau gwyntyllu’r potensial ar gyfer system deg o reoli rhent, a'r cyfraniad y gallai wneud i'n nod ehangach o warantu hawliau tenantiaid—hawliau pobl i fyw efo to uwch eu pennau heb y bygythiad o ddigartrefedd yn lluchio cysgod dros eu bywydau. Mae o hefyd yn ddatganiad o egwyddor sylfaenol—bod yna anghyfiawnder sylfaenol yn nhrefniadaeth bresennol ein cyfundrefn dai, sef bod pobl yn byw mewn tlodi tra bod carfan fach iawn o bobl yn gwneud elw ar eu cefnau.
Dwi'n gofyn i Aelodau o'r Senedd, felly, gefnogi'r cynnig yma heddiw, a grymuso'r Llywodraeth i fwrw ati â'r gwaith paratoadol, er mwyn rhoi'r seiliau mewn lle ar gyfer galluogi cyflwyno system o reoli rhent, law yn llaw â gwaith ehangach i sicrhau bod gan bawb yr hawl i gartref yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy natganiad o fuddiannau, ac yn wir, rwyf am ddatgan diddordeb yn y ddadl hon. Byddaf hefyd yn pleidleisio'n gadarn iawn yn erbyn y cynnig deddfwriaethol hwn, ac nid yw hynny'n tynnu oddi ar y ffaith fy mod yn ymwybodol o'r gwaith rydych wedi'i wneud ar hyn. Mae tystiolaeth glir y gall rheolaethau rhent gael effeithiau negyddol sylweddol, ar landlordiaid, tenantiaid, ac yn wir, ar ansawdd y stoc dai. Arweiniodd cyfraith rheolaethau rhent San Francisco ym 1994 at gynnydd o 5.1 y cant mewn rhenti yn gyffredinol dros y ddau ddegawd nesaf. Creodd y cynnydd cyffredinol mewn rhenti gost gronedig o £2.9 biliwn i rentwyr presennol a rhentwyr yn y dyfodol, gyda landlordiaid yn newid i fathau eraill o eiddo tirol, a oedd wedyn yn lleihau'r cyflenwad tai, gan ei symud tuag at fathau llai fforddiadwy o dai.
Nawr, rydym eisoes yn gweld patrwm sy'n peri cryn bryder yng Nghymru. Mae landlordiaid preifat, broceriaid ariannol, yn dweud wrthyf eu bod hwy neu eu cleientiaid wedi cael llond bol erbyn hyn ar y rheolaethau niferus a osodir arnynt, er mai'r cyfan y maent am ei wneud yw darparu llety o ansawdd da yn gyfnewid am rent teg. Mae llawer bellach yn gwerthu eu stoc neu'n symud i'r sector llety gwyliau. Mewn gwirionedd, rhwng 2018-19 a 20-21, mae dros 4,500 o landlordiaid preifat Cymru wedi gadael y sector. Weinidog, gallwch ysgwyd eich pen, ond mae’r ffigur hwnnw gennyf, yn bendant, ac wedi’i ddarparu i mi gan Rhentu Doeth Cymru eu hunain, mewn du a gwyn.
Nawr, yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod bord gron i werthwyr tai, a dywedwyd yn glir fod asiant yn ne Cymru sy’n rheoli mwy na 4,000 o unedau, ac maent yn gwybod i sicrwydd fod perchnogion yn pleidleisio â’u traed ac yn gadael y sector rhentu. Byddai eich cynnig, Mabon, yn troi'r don honno’n tswnami o landlordiaid yn gadael, a’r union bobl rydych yn credu eich bod yn ceisio eu helpu a fyddai'n dioddef. Mae astudiaethau wedi dangos bod rheolaethau rhent yn arwain at ddirywiad yn ansawdd tai, o ganlyniad i'r gostyngiad yn incwm y landlordiaid a llai o awydd i gynnal a chadw'r tai. Cyflwynodd yr Almaen system genedlaethol o reolaethau rhent yn 2015, ond yn ôl ymchwil, ni chafodd hyn unrhyw effaith barhaus ar brisiau rhent, gan arwain yn lle hynny at ddirywiad yn ansawdd tai.
Nawr, mae Dr Simon Brooks wedi nodi'n glir fod darparu cyflenwad digonol o lety rhent yn arbennig o bwysig mewn trefi fel Llangefni, Caergybi, Aberdaugleddau, Hwlffordd, a Chaernarfon a Bangor yng Ngwynedd. Nid oes enghraifft well o fethiant sosialaeth yng Nghymru na’r llanast llwyr y mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ei wneud o’n sector tai. Fel y nodwyd yn glir yn fy nghyfarfod bord gron gyda gwerthwyr tai, maent yn credu mai dim ond gyrru faint o stoc sydd ar gael i denantiaid ei rhentu rydych yn ei wneud—
Janet, a allwch ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Y ddeddfwriaeth hon fydd yr hoelen olaf yn yr arch, a bydd yn arwain at sefyllfa waeth i'r union bobl y credwch eich bod yn ceisio eu helpu. Hoffwn ofyn i bob Aelod gefnogi tenantiaid, landlordiaid, a sicrhau nad yw ein stoc dai'n dirywio ymhellach, a phleidleisio’n gadarn yn erbyn hyn. Diolch.
Rwy'n credu mewn rheolaethau rhent, ac nid wyf yn berchen ar unrhyw dai ar wahân i'r un rwy'n byw ynddo. Gyda phrinder eiddo rhent o gymharu â'r galw, heb reolaethau, bydd rhenti'n parhau i gynyddu. O ganlyniad i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr cyn 1979, dirywiodd y sector rhentu preifat. Dechreuodd y sector rhentu preifat dyfu eto ar ôl 1989 a dyma'r ddeiliadaeth fwyaf ond un yn y DU bellach, ar ôl perchen-feddiannaeth. Mae cynnydd lefelau rhent yn y sector preifat a ffocws ar leihau gwariant ar fudd-daliadau tai wedi arwain sawl sylwebydd, ac rwy'n cytuno â hwy, i alw am ailgyflwyno rhyw ffurf ar reolaethau rhent ar gyfer y sector preifat. Roedd Deddf Rhenti 1965, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur dan arweiniad Harold Wilson, yn rheoleiddio tenantiaethau, gyda rhenti teg yn cael eu gosod gan swyddogion rhent annibynnol. Daeth hynny i ben gyda Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, ac fe soniasom am 1989 yn gynharach, sef y dyddiad y dechreuodd y cynnydd mewn darpariaeth rhent preifat.
Beth yw manteision rheolaethau rhent? Fforddiadwyedd, mae'n atal dadleoli, sefydlogrwydd cymdogaethau. Tybiaf mai'r dadl a wneir— gwnaeth Janet Finch-Saunders y ddadl honno, dadl a wrthodais cyn iddi siarad hyd yn oed—yw eu bod yn lleihau argaeledd eiddo ar rent ar gyfer adnewyddu a gwella stoc. Yn gyntaf, mae rhent uchel eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat wedi cau prynwyr tro cyntaf allan. Ond hoffwn siarad am Blasmarl yn Abertawe, o lle rwy'n dod. I ddechrau, roedd yno niferoedd mawr o eiddo wedi’u rhentu’n breifat, ond wrth i dai cyngor ddod ar gael, symudodd fy nheulu, fel llawer o deuluoedd eraill, i’r tai cyngor newydd hyn, a gwerthwyd y tai a oedd ar ôl, a daeth llawer o bobl, drwy forgais, yn berchen-feddianwyr ac yna gwnaethant welliannau i’r cartrefi hynny. Bellach, mae'r eiddo hyn yn cael eu prynu ac ar gael i'w rhentu'n breifat. Mae’n rhaid fy mod wedi methu’r gwaith adnewyddu ar raddfa fawr i’r eiddo rhent preifat rhatach yn nwyrain Abertawe.
Ochr yn ochr â rheolaethau rhent, mae angen inni adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr. A dweud y gwir, rwy’n sôn am hynny'n amlach nag yr hoffai pobl ei glywed gennyf, mwy na thebyg, ond mae angen inni adeiladu tai cyngor yr un mor gyflym ag y byddem yn eu hadeiladu yn y 1950au a’r 1960au. Mae rheolaethau rhent yn cynyddu argaeledd tai i'w prynu gan bobl i fyw ynddynt, yn lleihau costau rhentu, yn rhoi sicrwydd ynghylch costau rhentu, yn cael gwared ar y cymhelliant i symud un tenant allan er mwyn dod ag un i mewn i dalu rhent uwch. Rwy’n annog pawb i gefnogi hyn heddiw. Mae hwn, i bob pwrpas, yn bolisi Llafur; mae’n rhywbeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Wilson, a weithiodd yn dda iawn i sicrhau chwarae teg i bobl dlawd a llai cyfoethog, ond cafodd y Torïaid wared arno yn y 1980au. Mae gennym gyfle i'w ailgyflwyno yn awr er budd pawb sy'n rhentu yng Nghymru. Rwy’n annog pawb, yn enwedig fy nghyd-Aelodau Llafur, i gefnogi’r hyn sydd i bob pwrpas yn ateb sosialaidd.
Yr angen am loches yw un o'r anghenion dynol mwyaf sylfaenol, ond gellir camfanteisio ar yr angen hwn. Mae llawer o’r problemau rydym yn eu trafod bob dydd gyda’n hetholwyr yn ymwneud â’r argyfwng tai sydd wedi anrheithio ein cymunedau. Oherwydd, yn ddiamau, mae hwn yn argyfwng, ac mae'n cael yr effaith galetaf ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid inni gymryd camau i'w hamddiffyn.
Tai yw’r gost fyw fwyaf a wynebir gan y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru, ac mae codiadau afreolus mewn rhenti yn gorfodi gormod o denantiaid i dalu cyfran afresymol, ac anghynaliadwy yn y pen draw, o’u hincwm cyfyngedig i landlordiaid. Mae’r darlun a baentiwyd gan yr ystadegau a ddyfynnwyd gan Mabon ap Gwynfor yn datgelu maint ac effaith fwyfwy negyddol rhenti annheg ac anfforddiadwy, sy’n cael effaith anghymesur ar bobl ar incwm isel, gan waethygu anghydraddoldeb, a gwaethygu lefelau tlodi sydd eisoes yn rhy uchel. A gwyddom fod menywod, pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, pobl ifanc, ffoaduriaid, ymfudwyr, pobl anabl a phobl LHDTC+ oll yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan strwythurau economaidd sy’n cosbi’r rheini ar incwm isel, wrth iddynt wynebu gwahaniaethu hefyd o ran mynediad at dai.
Fel y clywsom gan Mabon ap Gwynfor, mae rhenti wedi cynyddu bron i 13 y cant yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gwaith achos Shelter Cymru wedi nodi achosion o gynnydd difrifol, cymaint â 100 y cant y mis mewn un achos. Ac mae'r canlyniadau i'r rheini na allant fforddio'r codiadau hyn yn enbyd, gan arwain yn aml at ddyledion problemus, troi allan, digartrefedd. Nid yw cyflogau wedi cynyddu’n unol â hynny, a chyda phrisiau tanwydd yn codi’n aruthrol, ynghyd â chost gynyddol hanfodion bob dydd, mae angen gweithredu ar frys er mwyn roi diwedd ar y ffordd y mae rhenti heb eu rheoli yn cyfrannu at yr argyfwng costau byw ac anghydraddoldeb cymdeithasol ehangach.
Mae cyfiawnder economaidd yn fater cydraddoldeb. Mae'n rhaid i weithredoedd y rhai ohonom ar adain flaengar gwleidyddiaeth gyd-fynd â'r uchelgeisiau a gaiff eu datgan. Fel y soniodd Mabon, mae gennym gyfle yma i roi'r camau gweithredu ystyrlon cyntaf ar waith i helpu tenantiaid, megis ystyried rheolaethau rhent wedi’u targedu, a chefnogi Papur Gwyn y Llywodraeth ar dai, ac wrth wneud hynny, parhau yn nhraddodiad cewri radicalaidd Cymru. Gyd-Aelodau, gadewch inni ddangos mai ni yw etifeddion y traddodiad radical hwnnw.
Mae tlodi'n cyfyngu ar eich rhyddid i fwynhau bywyd pleserus a diledryw, ond mae hyd yn oed y posibilrwydd o gwympo i fyw mewn tlodi neu golli eich cartref yn ddigon i gyfyngu ar eich rhyddid. Cyhyd â bod landlordiaid yn parhau i fod â gallu i godi rhenti'n fympwyol, bydd tenantiaid yn parhau i fyw o dan gwmwl tywyll o ansicrwydd economaidd. Mae’r cynnig hwn yn arwydd y byddem ni fel Senedd yn amddiffyn hawliau a rhyddid pobl gyffredin i allu byw eu bywydau heb y bygythiad cyson hwnnw. Mae’r argyfwng tai yn ganlyniad i system economaidd a luniwyd i warchod cyfoeth yr ychydig, nid anghenion y lliaws, a heb fesurau lliniaru, megis rhyw ffurf ar reolaethau rhent, bydd y system yn parhau fel y mae. Diolch.
Dylwn ddatgan buddiant fel rhywun sy'n rhentu eiddo ar hyn o bryd.
Wel, gyfeillion, ni feddyliais erioed y byddwn yn sefyll yma y prynhawn yma i ymladd yn erbyn rheolaethau rhent. Ble maent wedi gweithio? Ble maent wedi bod yn llwyddiant i'r bobl rydych yn honni y byddent yn eu helpu? Nid oes unrhyw un wedi dweud wrthyf hyd yma, gan mai'r ateb yw nad ydynt yn gweithio. Nid oes unrhyw un yn gwadu bod pwysau sylweddol ar y farchnad dai a bod prinder cartrefi i bobl ifanc. Fodd bynnag, nid mwy o fiwrocratiaeth a mwy o reoleiddio yw'r ateb gan ein bod yn y sefyllfa hon oherwydd biwrocratiaeth a rheoleiddio. Ledled Cymru gyfan yn 2021, o dan reolaeth Llywodraeth Lafur Cymru, fe wnaeth eich cyllideb ddrafft eich hun dynnu sylw at y ffaith mai 4,314 yn unig o anheddau newydd a gychwynnwyd, ac nid yw’n mynd i wella gyda chanllawiau ffosffadau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n atal pobl rhag adeiladu tai.
Ni fydd rheolaethau rhent a mwy o fiwrocratiaeth yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, ond gallent waethygu’r argyfwng tai. Mae landlordiaid yn yr ystafell hon heddiw a thu hwnt yn gwybod, os cyflwynir rheolaethau rhent, y gallai rhai o’r bobl hynny ei chael hi'n anodd talu morgeisi ar yr eiddo, y gallent ei chael yn anodd talu’r gwaith cynnal a chadw ar eiddo, y bydd tenantiaid yn cael eu troi allan wrth i’r cartrefi hynny fynd ar y farchnad agored, ac unwaith eto, byddwn yn gweld mwy o gartrefi yn mynd ar Airbnb. Mae rheolaethau rhent yn peri risg wirioneddol o ansefydlogi'r farchnad, ac mae pob un ohonoch yn gwybod hynny. Bachu penawdau'n unig a wna polisïau fel hyn, nid ydynt yn gweithio, ac mae pobl bob amser yn dod o hyd i ffordd o osgoi'r rheoliadau.
Mae pobl ifanc angen mynediad at gartrefi fforddiadwy, ac mae angen inni wneud hynny drwy ddadreoleiddio a lleihau’r baich ar y sector adeiladu tai, Weinidog, a gadewch inni ddechrau adeiladu, adeiladu, adeiladu.
Rwyf wedi cefnogi rheolaethau rhent ers tro ac rwy’n cefnogi unrhyw gam i fynd i’r afael â’r tlodi a achosir gan godiadau rhent afresymol. Bu'n argyfwng ar farchnad dai'r DU ers degawdau. Mae sylfeini'r system wedi'u torri. Mae’r syniad y dylai fod hawl gan bawb i do uwch eu pennau, fel cymaint o feysydd eraill yn ein heconomi, bellach yn ddarostyngedig i fympwyon grymoedd y farchnad a'r dyhead i wneud elw.
Pan ddaeth Margaret Thatcher i rym, diddymodd ei Llywodraeth gyllid i gynghorau adeiladu tai economaidd gynhyrchiol, gan ddewis cefnogi rhenti a morgeisi yn lle hynny. Ymwthiodd dogma’r farchnad ymhellach i bolisi tai’r DU drwy bolisi trychinebus yr hawl i brynu. Ni ddarparwyd tai yn lle'r rhan fwyaf o'r tai a werthwyd o dan y polisi hwn. Roedd yn enghraifft o werthu asedau'r wladwriaeth i'r sector preifat ar raddfa enfawr. Dinistriodd ddegawdau o gytundeb gwleidyddol prif ffrwd ar yr angen i gynghorau ddarparu tai cymdeithasol.
Gan ddechrau gyda Llywodraeth Lafur Clement Attlee, darparodd y wladwriaeth gyllid i gynghorau fuddsoddi mewn cynyddu'r nifer o dai cymdeithasol, ac am ddegawdau, câi cannoedd o filoedd o dai rhent cymdeithasol, ar gyfartaledd, eu hadeiladu bob blwyddyn. Yn economaidd, roedd y cyfiawnhad yn amlwg, gan fod adeiladu tai ar raddfa fawr yn golygu bod prisiau tai a rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy oherwydd bod y cyflenwad yn fawr. Pan ystyrir tai fel buddsoddiad ariannol, y gwrthwyneb sy'n wir. Mae pwysau i gyfyngu ar y cyflenwad er mwyn codi prisiau, gan gynyddu elw'r rheini sy'n berchen ar yr asedau. Lle y caiff tai eu hadeiladu, bellach caiff ei adael i raddau helaeth i ddatblygwyr eiddo preifat, a'u prif gymhelliant hwy yw gwneud elw i'w cyfranddalwyr.
Mae twf cyflym ac anghynaliadwy dosbarth o landlordiaid prynu-i-osod ers y 1980au nid yn unig wedi dadwneud llawer o’r cynnydd a wnaed i amodau tenantiaid ond hefyd mae wedi arwain at beri i brisiau tai godi i'r entrychion. Mae'r prisiau uwch ynghyd â'r cyflenwad isel yn arwain at renti cynyddol. Mae rheolaethau rhent yn cynnig un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gennym i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Nid ydynt yn ddigynsail, maent yn weddol gyffredin ledled Ewrop. Yn 2016, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban y pŵer i osod rheolaethau ar renti, ac yng Nghymru, mae'n rhaid inni ddysgu gwersi am fethiannau dull gweithredu’r Alban, a achoswyd gan ofnusrwydd siomedig a diffyg uchelgais. Yn gyntaf ac yn bennaf, nod rheolaethau rhent ddylai fod i amddiffyn tenantiaid. Fel nod mwy hirdymor, dylent atal landlordiaid prynu-i-osod rhag cronni eiddo a chynyddu’r nifer ohonynt sy’n dymuno gwerthu. Bydd hyn yn darparu cynnydd yn y cyflenwad, gan ganiatáu i denantiaid brynu eu tai eu hunain. Bydd ehangu tai cymdeithasol yn barhaus gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau cartrefi i’r rheini nad ydynt yn dymuno prynu neu sy’n dal i fod yn methu gwneud hynny, ac edrychaf ymlaen at y Papur Gwyn, ac rwy’n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu rheolaethau rhent, fel yr addawyd yn y maniffesto. Pobl ifanc a'r dosbarth gweithiol sy'n teimlo effeithiau'r argyfwng tai yn fwyaf difrifol. Os na weithredwn, byddwn yn condemnio ieuenctid yfory i ddyfodol heb sicrwydd tai. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth nodi’r cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nodi’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Mae’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu'n adlewyrchu’r ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru 2021 i ddatblygu cynllun cenedlaethol i osod cyfyngiadau ar renti i deuluoedd a phobl ifanc sydd wedi’u prisio allan o’r farchnad rentu preifat a’r rheini sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae ymrwymiad y rhaglen lywodraethu hefyd erbyn hyn yn adlewyrchu cynnwys rheolaethau rhent yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Ein hymrwymiad yw cyhoeddi Papur Gwyn ar renti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel. Yn unol â’r cytundeb cydweithio, bydd hynny'n cynnwys cynigion ar reolaethau rhent. Fel y gŵyr llawer ohonoch, serch hynny, mae hanes rheolaethau rhent braidd yn frith, gyda llawer o ymyriadau blaenorol heb gael y budd a fwriadwyd, neu'n wir, wedi arwain at rai effeithiau negyddol difrifol. Gwyddom, er enghraifft, nad yw deddfwriaeth y parthau pwysau rhent a gyflwynwyd yn yr Alban wedi’i defnyddio eto, a bu’n rhaid ailgynllunio mesurau a gyflwynwyd yn Iwerddon yn sylweddol, gan eu bod wedi cael eu beirniadu am arwain at godiadau rhent a lleihau'r cyflenwad.
Fodd bynnag, mae enghreifftiau da ledled y byd o reolaethau rhent yn gweithio yn y ffordd gywir at y dibenion cywir. Mae'n rhaid imi ddweud wrth y Ceidwadwyr gyferbyn fod eu 'hargyfwng ffosffadau’, fel y maent yn ei alw, sy'n atal y dull adeiladu, adeiladu, adeiladu yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’u hymrwymiad dywededig i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.
Na, nid yw—[Anghlywadwy.]
Sut ar y ddaear y credwch y gallwn gael afonydd yn llawn ffosffadau ac adeiladu tai is na'r safon dros holl dir gwyrdd Cymru a chael ymagwedd gydlynol at yr argyfyngau hinsawdd a natur, ni allaf ddeall. Felly, mae angen ichi edrych yn ofalus arnoch chi'ch hunain a mabwysiadau ymagwedd gydlynol at hyn.
Rwyf wedi cyfarfod â nifer fawr o fuddsoddwyr sector preifat sy’n hoff iawn o’r dull gweithredu sydd gennym yma yng Nghymru. Maent yn dymuno sicrhau, wrth gwrs, gan eu bod yn bobl raslon, eu bod yn cyfrannu at sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gartref addas, fforddiadwy a diogel, gan eu bod yn ymwybodol iawn fod a wnelo tai â mwy nag elw yn unig. Felly, credaf eich bod yn troi ymysg y criw anghywir draw ar feinciau asgell dde'r Ceidwadwyr.
Felly, rydym o'r farn mai’r dull gweithredu a nodir yn ein rhaglen lywodraethu yw’r ffordd gywir ymlaen. Cyn bo hir, byddwn yn comisiynu ymchwil annibynnol fel y gall pob un ohonom ddeall pa fesurau sydd â'r gobaith gorau o lwyddo. Gan adeiladu ar y gwaith ymchwil hwnnw, byddwn wedyn yn cynhyrchu Papur Gwyn yn cynnwys y cynigion polisi, a fydd yn destun ymgynghoriad.
Rydym yn gwbl ymrwymedig, wrth gwrs, i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gartref addas, fforddiadwy a diogel. Mae sicrhau bod rhenti’n fforddiadwy yn ganolog i hyn, ac rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o’r argyfwng costau byw sy’n wynebu cymaint o bobl yng Nghymru. Fel y dywedais mewn dadl ddoe ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, y Torïaid ar y meinciau gyferbyn, wrth iddynt weiddi arnaf o'u seddau, yw’r blaid sydd wedi rhewi’r lwfans tai lleol, gan sicrhau nad oes gan bobl fynediad at renti fforddiadwy yn y sector rhentu preifat os ydynt ar fudd-daliadau. O ddifrif, mae angen ichi edrych arnoch chi'ch hunain yn ofalus.
Rydym eisoes yn rhoi llu o fesurau ar waith, gan gynnwys ein hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu. Ar y sector rhentu preifat, rwyf eisoes wedi cyfeirio at y cynllun lesio cenedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar ein cynllun peilot llwyddiannus i alluogi awdurdodau lleol i lesio eiddo oddi wrth berchnogion eiddo preifat am gyfnod o rhwng pump ac 20 mlynedd. Mae gennym nifer fawr o fuddsoddwyr preifat a chanddynt diddordeb yn hyn. Bydd awdurdodau lleol yn darparu’r cartrefi hyn am rent fforddiadwy i bobl y byddent fel arall yn wynebu digartrefedd o bosibl. Byddant yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar denantiaid i gynnal eu tenantiaethau a ffynnu yn eu cartrefi.
Yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, ac rwy’n atgoffa Mabon, gan iddo fethu cofio am hyn yn ei araith, y bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn trawsnewid y dirwedd i denantiaid ac yn cryfhau eu hawliau’n sylweddol. Ar yr amod nad ydynt yn torri eu contract, bydd gan denantiaid hawl i chwe mis o rybudd os bydd y landlord yn dymuno dod â'r contract i ben. Ni ellir cyflwyno'r hysbysiad hwnnw yn ystod y chwe mis cyntaf, felly bydd ganddynt sicrwydd am flwyddyn o leiaf ar ôl symud i'w cartref. Bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn rhoi mwy o sicrwydd i bob tenant nag unrhyw le arall yn y DU. Wrth gwrs, mae llawer o ddarpariaethau pwysig eraill yn y Ddeddf, gan gynnwys mewn perthynas â gwella ansawdd cartrefi ar rent a sicrhau eu bod yn addas i bobl fyw ynddynt.
Byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyrdd yn ddiweddarach eleni, fel y cam nesaf tuag at gyflwyno deddfwriaeth i ddod â digartrefedd i ben, a fydd yn diwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar atal digartrefedd ac ailgartrefu cyflym. O ran yr ymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn a welir yn ein rhaglen lywodraethu, bydd hwn yn archwilio’r rôl y gall rheolaethau rhent ei chwarae yn gwneud y farchnad rentu preifat yn fwy fforddiadwy. Mae'n faes polisi a chyfraith helaeth a chymhleth, ac mae'n hanfodol casglu'r dystiolaeth, gan gynnwys modelau rhyngwladol o reolaethau rhent a phrofiad ac effaith mesurau a roddwyd ar waith yn yr Alban ac Iwerddon, y cyfeiriodd Mabon atynt. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu o'r dulliau a ddefnyddiwyd mewn gwledydd eraill, ac yn benodol, bydd hyn yn cynnwys deall beth sydd wedi gweithio'n dda lle y mae rheolaethau rhent ar waith a beth nad yw wedi gweithio, ac yn allweddol, fel y soniodd Carolyn Thomas, unrhyw ganlyniadau anfwriadol, fel y gallwn gael gwared arnynt yn y mesurau a roddwn ar waith.
Fel y nodais, yn Iwerddon er enghraifft, cyflwynwyd y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i renti gynyddu i uchafswm o 4 y cant mewn parthau pwysau rhent, ond mewn gwirionedd, daeth yn amlwg fod chwyddiant yn is na hynny, a throdd y 4 y cant yn darged yn hytrach na chap. Felly, mae angen inni lunio ein deddfwriaeth yn ofalus fel nad oes gennym ffiniau anhyblyg ar waith ac er mwyn inni allu ei raddnodi'n gyffredinol. Yn anecdotaidd, mae’r mesurau yno'n gysylltiedig â chynnydd mewn achosion o droi allan, wrth gwrs, am fod ganddynt derfyn uchaf yn hytrach na chap, ac mae angen inni ymatal rhag gwneud hynny.
Byddwn yn comisiynu’r ymchwil annibynnol i’r rheolaethau rhent fel ein bod yn canfod yr enghreifftiau da iawn sydd gennym. Cyfeiriodd Mabon at Gatalonia, er enghraifft, a gwyddom fod hynny wedi bod yn llwyddiannus yno. Bydd ymgysylltu â phartneriaid a dinasyddion yn rhan bwysig iawn o’r ymchwil hwn, a fydd wedyn yn llywio’r cynigion polisi i’w cynnwys yn y Papur Gwyn.
Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n llwyr gefnogi'r ymdrech i gynyddu mynediad at gartrefi fforddiadwy, ac i sicrhau bod hyn yn hawl i bob unigolyn yng Nghymru. Er hynny, mae'n hollbwysig archwilio beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hyn a sicrhau mwy o dai gweddus a fforddiadwy. Bydd y Papur Gwyn wedi'i seilio ar dystiolaeth a gasglwyd, a bydd yn darparu opsiynau cadarn ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol ar ddulliau newydd o sicrhau fforddiadwyedd rhenti. Diolch.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb cynhwysfawr.
Dwi'n ymddiddori, mae'n rhaid dweud, efo ymatebion y Ceidwadwyr. Dwi'n meddwl weithiau hwyrach eu bod nhw wedi ysgrifennu rhyw araith ymlaen llaw a ddim cymryd dim sylw o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd tra bo rhywun yn cydnabod—mae'r Gweinidog ei hun yma wedi cydnabod—fod yna wendidau efo rheolaethau rhent, ac rydw innau wedi dweud hynny, mewn rhai achosion, mae yna enghreifftiau ohono fo yn llwyddo, ac enghreifftiau amlwg iawn hefyd.
Ac rydyn ni'n gwybod, er mwyn i reolaethau rhent lwyddo, fod yn rhaid iddyn nhw gael eu cyplysu a'u priodi efo ystod o bolisïau eraill; nid y lleiaf ohonyn nhw ydy adeiladu, adeiladu ac adeiladu, fel mae Mike Hedges wedi'i ddweud hefyd. Ond, wrth sôn am adeiladu, mae'n rhaid inni dderbyn na fyddai eich cyfeillion chi yn y Ceidwadwyr sydd yn y sector breifat adeiladu yn ateb y galw oherwydd, wrth gwrs, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn creu proffid ac elw yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau bod tai cyhoeddus yn cael eu hadeiladu unwaith eto, gan rymuso'n hawdurdodau lleol i'w galluogi nhw i ailadeiladu tai cyngor eto er mwyn ateb y galw, oherwydd bod y diffyg stoc ar hyn o bryd yn golygu bod rhai o'r landlordiaid rogue yna, sydd eisiau manteisio ar bobl, eu bod nhw'n gwybod eu bod nhw'n medru cynyddu rhent yn gyson, yn gyson ac yn gyson. Amdani, James.
Onid ydych yn cytuno â mi, felly, fod canllawiau ffosffadau Llywodraeth Cymru yn mynd i atal adeiladu tai cyngor ac adeiladu tai cymdeithasol mewn rhannau penodol o Gymru?
Mae hwnna'n bryder, bod y polisi yna'n golygu bod nifer o dai cymdeithasol lawr yn Nyffryn Teifi ac yn sir Fynwy ddim yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ond mater i'r Llywodraeth ydy hynny.
Ond dwi yn falch iawn o glywed bod y Llywodraeth wedi comisiynu ymgynghoriad i mewn i hyn, ac yn croesawu hynny'n fawr, oherwydd, os ydy'r polisi'n mynd i lwyddo, fel rydyn ni wedi dysgu o gyfnod Clement Attlee ymlaen, os ydy o'n mynd i lwyddo, mae'n rhaid iddo fo fod yn un sydd wedi cael ei ymchwilio'n drwyadl ac sy'n priodi i mewn i'r polisïau eraill. Felly, buaswn i'n falch iawn, os gwelwch yn dda, Weinidog, os caf i weld termau a chyfarwyddiadau'r gwaith yna. Buasai fo'n ddifyr iawn. Ond gadewch i ni yma heddiw, felly, ddatgan ein cefnogaeth i'r polisi yma yn ei ystyr ehangach, ein bod ni eisiau gweld camau'n cael eu cymryd, yn cefnogi bod y Llywodraeth yn gwneud hyn efo'r ymchwil ac yn mynd i ddod â Phapur Gwyn ymlaen a sicrhau bod yna dai fforddiadwy i'n pobl yn ein cymunedau ni yma yng Nghymru. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr iawn ichi.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Symudwn ymlaen nawr at yr eitem nesaf ar yr agenda, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: gwasanaethau canser. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Cynnig NDM7911 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynllun adfer yn dilyn COVID-19 GIG Cymru a gyhoeddwyd ar ddiwedd y tymor seneddol diwethaf.
2. Yn mynegi pryder:
a) bod rhestrau aros yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda bron i un o bob tri chlaf yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth;
b) mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser cyn bo hir.
3. Yn nodi pryder pellach ynghylch adroddiadau gan Gyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio gyda 120 i 130 y cant o'r capasiti blaenorol i ddelio â niferoedd cynyddol o gleifion canser.
4. Yn mynegi siom nad yw datganiad ansawdd ar ganser 2021 yn cynnwys manylion a'i fod ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser;
b) cyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf;
c) cefnogi cleifion canser drwy eu triniaeth drwy, er enghraifft, gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. I rai pobl yng Nghymru, maent yn poeni y byddant yn marw heb gael y driniaeth canser sydd ei hangen arnynt, a dyna farn bwrdd y cynghorau iechyd cymuned ac Andy Glyde o Cancer Research UK. Mae’r ddadl heddiw, wrth gwrs, yn hynod bwysig i lawer o bobl ledled Cymru, ac mae ein cynnig yn galw am nifer o fesurau, megis cymorth i gleifion canser drwy eu triniaeth, er enghraifft, drwy gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi neu gemotherapi. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser, a chyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru yn mynd i’r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf.
Mae amseroedd triniaeth canser presennol yn awgrymu nad yw gwasanaethau canser Cymru yn dal i fyny â diagnosis a thriniaeth. Fis Tachwedd diwethaf, 58 y cant yn unig o gleifion a gafodd ddiagnosis newydd o ganser a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r diwrnod yr amheuir gyntaf fod ganddynt ganser, ymhell islaw'r targed o 75 y cant. Yn y cyfamser, mae’r rhestrau aros canser yng Nghymru yn parhau i godi, gyda bron i un o bob tri llwybr cleifion yn cymryd dros flwyddyn i’w drin, tra bo cyfarwyddwr clinigol canser cenedlaethol Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio ar 120 y cant i 130 y cant o'u capasiti blaenorol i ymdrin â'r niferoedd cynyddol o gleifion.
Mae cyfraddau goroesi canser Cymru wedi bod yn arafu ers blynyddoedd lawer. Cyn y pandemig, dangosodd data uned gwybodaeth canser Cymru mai Cymru oedd â’r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a’r isaf ond un ar gyfer tri math o ganser, ledled y DU. Felly, er bod y pandemig, wrth gwrs, wedi rhoi mwy o straen ar y system—mae hynny'n ddealladwy, wrth gwrs—byddwn yn awgrymu bod y system eisoes wedi torri cyn y pandemig.
Mae pob rhan arall o’r DU wedi ymrwymo i roi strategaeth ganser gadarn ar waith, ac mae’n drist gweld, cyn bo hir, mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser ddiffiniol. Mae gwasanaethau canser Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â tswnami o achosion canser y methwyd gwneud diagnosis ohonynt ac ymddangosiad canserau ar gamau diweddarach o ganlyniad uniongyrchol, wrth gwrs, i ohirio gwasanaethau’r GIG yn ystod y cyfyngiadau symud. Ac yn ychwanegol at hyn, mae gennym bum mlynedd—neu flynyddoedd lawer—o brinder staff cronig.
Nawr, ymddengys bod y Llywodraeth yn meddwl mai strategaeth yw eu datganiad ansawdd ar gyfer canser. Wel, cywirwch fi os wyf yn anghywir, ond mae'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau ar y diwedd os wyf wedi dadansoddi hynny'n gywir, ond mae elusennau canser yn dweud eu hunain fod diffyg manylder ac uchelgais yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser ac nad yw'n strategaeth genedlaethol. Mae angen strategaeth ganser ar Gymru. Yn anffodus, mae'r gweithlu canser hefyd yn broblem yng Nghymru. Dylai gweithlu canser arbenigol sy’n gallu ymdopi â’r galw ac ôl-groniad cynyddol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn atal cyfraddau goroesi canser rhag gwaethygu ymhellach. Mae Cymru'n brin o arbenigwyr canser eisoes—rydym yn ymwybodol o hynny, yn anffodus—gyda bylchau sylweddol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, a hynny yn ôl llawer o bobl, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Radiolegwyr. Yn syfrdanol, er gwaethaf y pryderon dybryd hyn, nid yw cynllun gweithlu 10 mlynedd diweddaraf y GIG yn cynnwys cynllun gweithlu penodol ar gyfer arbenigwyr canser. Mewn gwirionedd, nid yw strategaeth ar y cyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a gofal cymdeithasol ym mis Hydref 2020 yn sôn am ganser o gwbl. Yn lle hynny, mae gan y strategaeth nodau cyffredinol, gan gynnwys—rwy'n dyfynnu yma—cael gweithlu
'mewn niferoedd digonol i allu darparu gofal iechyd a chymdeithasol ymatebol sy’n diwallu anghenion pobl Cymru'.
Wel, dyna pam ein bod yn cynnal y ddadl hon heddiw, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu a strategaeth ganser lawn sy’n cynnwys targedau penodol, yn ogystal â chymorth i gleifion canser drwy gydol eu triniaeth i leddfu'r sgil-effeithiau anodd y mae triniaeth ar gyfer canser yn aml yn eu hachosi.
O ystyried pa mor gyffredin yw canser, mae pobl Cymru yn mynnu ac yn haeddu triniaethau sy’n diwallu eu hanghenion ac yn bwysicaf oll, triniaethau sydd gyfuwch â pherfformiad gwasanaethau mewn mannau eraill yn y DU. Felly, carwn annog Llywodraeth Cymru heddiw i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser, i gyhoeddi strategaeth ganser lawn sy’n nodi sut y bydd Cymru yn mynd i’r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf, ac i gefnogi cleifion canser drwy eu triniaethau, er enghraifft, drwy gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi.
Rwy'n gobeithio y bydd ein dadl y prynhawn yma'n ddadl synhwyrol. Mae’n ddadl deilwng iawn i’w chael y prynhawn yma yn fy marn i, ac rwy’n mawr obeithio y cawn gyfraniadau cadarnhaol gan Aelodau eraill, ac rwy’n mawr obeithio y cawn gyfraniad cadarnhaol gan y Gweinidog wrth iddi gloi ar ddiwedd y ddadl. Carwn annog yr Aelodau, wrth gwrs, i gefnogi ein galwadau a’n cynnig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2(a) a rhoi pwynt newydd yn ei le:
Yn nodi:
a) y dull gweithredu a nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sy’n cynnwys cyflwyno datganiadau ansawdd ar gyfer datblygu gwasanaethau clinigol;
b) y cafodd dull gweithredu Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021 ar ffurf datganiad ansawdd;
c) y cafodd dogfen Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru—COVID-19: Edrych tua’r dyfodol, a oedd yn cynnwys canser, ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021;
d) bod bron i £250 miliwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn adferiad gwasanaethau GIG, gan gynnwys canser;
e) bod yr ystadegau canser swyddogol diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019;
f) bod ehangu lleoedd hyfforddi GIG yn cynnwys pedair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg glinigol a thair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg feddygol bob blwyddyn am bum mlynedd;
g) y bydd byrddau iechyd yn canolbwyntio ar adferiad gwasanaethau canser yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'cwblhau'r broses o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth'.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn o gael cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ac i gyflwyno'n ffurfiol ein gwelliant ni. O ran y prif gynnig, mi fyddwn ni'n cefnogi'r prif gynnig heddiw, wrth gwrs. Yn ogystal â bod yn ddatganiad o bryder go iawn am gyflwr gwasanaethau iechyd yn gyffredinol ar ôl dwy flynedd o bandemig, mae yna elfennau yn y cynnig dwi yn sicr wedi rhoi sylw iddyn nhw dros gyfnod o flynyddoedd bellach: mor annigonol yw'r datganiad safon fel modd o yrru gwelliannau i wasanaethau canser, a'r angen i fuddsoddi yn y gweithlu canser i gefnogi cleifion drwy eu triniaeth, ac ati.
Mae yna ddau beth dwi am roi sylw iddyn nhw yn yr ychydig funudau nesaf. Yn gyntaf, ein gwelliant ni a'r angen i gwblhau'r gwaith yna, ar frys, o sefydlu canolfannau diagnosis cyflym ar draws Cymru er mwyn gwneud yn siŵr bod yr isadeiledd yna yn ei le ar gyfer adnabod a thrin canser yn y ffordd fwyaf cyflym posibl. Allwn ni ddim gor-bwysleisio'r angen am ddiagnosis cyflym a'r budd sy'n dod o sicrhau diagnosis cyflym, ac wrth gwrs mae'r pandemig yr ydym ni wedi byw drwyddo wedi creu argyfwng ehangach, o bosibl. Yn ôl yr ystadegau, mae rhyw 1,700 yn llai o bobl nag y byddem ni wedi'u disgwyl wedi dechrau triniaeth canser yng Nghymru rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.
Cymru oedd y wlad gyntaf—mi allwn ni ymfalchïo yn hynny—y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dreialu canolfannau diagnostig brys. Mae yna rai yn bodoli eisoes, mae eraill ar y gweill, a dwy ardal wedyn—Powys a Chaerdydd a'r Fro—lle nad oes yna ddim cynlluniau mewn lle. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad gan y Gweinidog heddiw ar y gwaith i sicrhau bod canolfannau yn mynd i fod ar gael i wasanaethu holl boblogaeth Cymru. Does yna ddim lle i unrhyw fath o loteri cod post pan ddaw hi at wasanaethau canser, a dyna fyrdwn ein gwelliant ni heddiw.
Yr ail elfen dwi am wneud sylwadau arni hi—ac mae yna gyfeiriad ato fo ddwywaith yn y cynnig gwreiddiol—ydy'r diffyg amlwg iawn yma o gynllun canser, neu ddiffyg strategaeth canser cenedlaethol, a allai sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adeiladu'r mathau o wasanaethau canser rydyn ni eu hangen yng Nghymru. Mae'n rhaid cofio ein bod ni'n wynebu heriau enfawr yma yng Nghymru. Mae rhyw 20,000 o bobl, rhywbeth felly, yn cael diagnosis canser yng Nghymru yn flynyddol, mae o bosibl rhyw 170,000 yn byw efo canser, ac mae'r lefel o anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol—rhywbeth rydyn ni wedi'i drafod yn y Siambr yma yn ddiweddar—yn golygu bod cyfraddau goroesi ar gyfer rhai mathau o ganser yn salach yng Nghymru nag yng ngweddill yr ynysoedd yma, ac ar draws Ewrop.
Ac yn yr Alban a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon yn fuan, mae yna gynlluniau canser, cynlluniau sy'n gosod targedau clir, yn rhoi ffocws clir ar gyfer datblygu a chefnogi gwasanaethau. Rhyw gasgliad o wahanol raglenni a fframweithiau sydd gennym ni yma yng Nghymru, a dydy o ddim yn ddigon da. Os ydyn ni o ddifrif am fynd i'r afael â chanser, yna mae angen strategaeth. Beth gawson ni gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth y llynedd, ar ôl i'r cynllun cyflawni canser ddod i ben ychydig fisoedd cyn hynny, oedd datganiad ansawdd ar gyfer canser. Nid cynllun a strategaeth i wella diagnosis, triniaeth, ymchwil canser yng Nghymru, ond rhywbeth heb y manylder sydd ei angen, sydd ddim yn cynnig yr atebolrwydd sydd ei angen, na'r camau gweithredu, na'r amcanion, na'r amserlen sydd eu hangen, ac sydd heb y weledigaeth dwi'n meddwl roedden ni ei hangen beth bynnag, heb sôn am y weledigaeth sydd ei hangen rŵan i adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig.
Dirprwy Lywydd, gair yn sydyn gen i am welliant y Llywodraeth. Pleidleisio yn erbyn a fyddwn ni. Dydy o'n gwneud dim i gynnig atebion i'r creisis canser rydyn ni'n ei wynebu yng Nghymru—rhyw restr o beth mae'r Llywodraeth yn dweud maen nhw wedi ei wneud sydd gennym ni. Ac, er mai dim ond gofyn i ni nodi'r rhestr honno mae'r Llywodraeth, sut allwn ni ei gefnogi pan mai'r cyfan ydy o yw rhestr o bethau sy'n osgoi mynd i'r afael â'r sefyllfa o roi cynllun o sylwedd mewn lle? Dwi'n reit siŵr bod y Gweinidog eisiau i'n gwasanaethau canser ni fod y gorau y gallan nhw fod. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn dymuno gweld hynny, ond mae gen i ofn na welwn ni hynny heb strategaeth gadarn mewn lle. Felly, dwi'n gofyn eto iddi heddiw i wrando ar y dros 20 o elusennau a sefydliadau sy'n rhan o Gynghrair Canser Cymru sy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i lunio strategaeth ganser gynhwysfawr i Gymru.
Hoffwn ddiolch i Russell George a fy nghyd-Aelodau Ceidwadol am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae canser yn rhywbeth sydd, yn anffodus, yn cyffwrdd â phawb mewn cymdeithas, boed hynny drwy aelod o'r teulu, ffrind, rhywun lle'r ydym yn byw, mae gan bob un ohonom stori ynglŷn â sut y mae canser wedi effeithio arnom ni neu rywun rydym yn ei garu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Effeithiwyd ar fy nheulu i gan ganser y fron a chanser y croen, a chollodd fy nwy ffrind gorau eu tadau i ganser y prostad. Felly, rwyf i, fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon ac yng Nghymru, yn gwybod yn rhy dda am y niwed y mae'n ei achosi i deulu a pha mor hanfodol yw cael diagnosis yn gynnar fel bod pawb yn cael y cyfle gorau i oroesi.
Canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, gyda thua 19,600 o bobl, yn drasig iawn, yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sefyll dros ein hetholwyr a sicrhau bod gwasanaethau canser Cymru cystal ag y gallant fod. Er bod cyfraddau goroesi wedi gwella'n fawr dros y degawdau diwethaf, mae'r DU yn dal i lusgo ar ôl gwledydd cymharol yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Gellir dweud yr un peth yma yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi wedi gwella yn ystod y degawdau diwethaf, ond nid ydynt yn ddigon da o hyd, gyda chyfraddau goroesi un flwyddyn ar gyfer canserau'r stumog, y colon, y pancreas, yr ysgyfaint a'r ofari yn llawer is na chyfartaledd y DU. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, wrth gwrs, wedi'u dwysáu a'u gwaethygu gan y pandemig, ond gwyddom bellach, yn y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, fel y dywedwyd, fod 1,700 yn llai o bobl wedi dechrau triniaeth ar gyfer canser yng Nghymru.
Mae'r heriau y mae gwasanaethau canser yn eu hwynebu yn golygu bod angen i'r Llywodraeth hon weithredu ar frys ac yn bendant, nid yn unig i ddod â gwasanaethau yn ôl i lle'r oeddent cyn y pandemig, ond i drawsnewid ein gwasanaethau canser yn llwyr fel eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—gwasanaethau ymatebol a hygyrch wedi'u digidoli, ac ar-lein lle y bo hynny'n bosibl—er mwyn gwella canlyniadau canser a chyfraddau goroesi yn y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, wrth i ganser esblygu, mae angen i ni esblygu hefyd ac mae angen i ni fuddsoddi'n helaeth mewn technolegau a thriniaethau newydd. Mae angen i ni sicrhau mai Cymru, o bosibl, sy'n arwain yn rhai o'r meysydd hyn, mai ni yw'r rhai sy'n datblygu'r triniaethau a thechnolegau newydd hyn. Mae arloesi'n gwbl allweddol wrth fynd i'r afael â chanser a gwella canlyniadau, ac mae angen inni fuddsoddi'n briodol hefyd mewn cyllido ac ehangu'r gronfa mynediad at driniaethau yma yng Nghymru. Mae'r pandemig wedi dangos i ni beth y gallwn ei gyflawni. Rhaid inni sicrhau ein bod yn meddwl yn fwy uchelgeisiol er mwyn ymladd y lladdwr mawr hwn.
Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, gwelwn ffigurau aros am driniaeth canser gwaeth nag erioed. Mae fy etholwyr yn teimlo eu bod yn cael cam. Rwy'n falch o weld y cyhoeddiad yn fy rhanbarth, serch hynny, ynglŷn â chanolfan ragoriaeth newydd ar gyfer canser y fron, cyhoeddiad sydd i'w groesawu'n fawr. Bydd hwn yn gam hollbwysig gan ein bod i gyd yn gwybod na fydd canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru yn gwella heb gael diagnosis amserol a'r defnydd o'r triniaethau diweddaraf a mwyaf effeithiol. Mae hygyrchedd yn allweddol, felly mae angen inni weld mwy o gyhoeddiadau fel hyn, gyda chanolfannau wedi'u gwasgaru'n gyfartal ledled Cymru, fel y dywedwyd eisoes o'r meinciau eraill, ond teimlaf fod angen ailadrodd: mae arnom angen mynediad at driniaeth yn gyfartal ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sy'n cael eu hesgeuluso mor aml.
Yn gynharach y mis hwn, dywedodd yr Arlywydd Biden y gallwn roi diwedd ar ganser fel y gwyddom amdano. Fe wnaeth Sajid Javid ddatgan rhyfel ar ganser. Weinidog, mae'n gwneud imi ofyn: beth yw ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru? Pryd y gwelwn strategaeth ganser gynhwysfawr i Gymru? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am gynllun cyflawni neu strategaeth newydd ar gyfer canser, cynllun gweithlu ar gyfer y gweithlu canser gyda thargedau y gellir eu cyflawni, cyflwyno canolfannau diagnosis cyflym ar gyfer canser ar fyrder, ehangu'r gronfa mynediad at driniaethau, cefnogi cleifion mewn ffyrdd fel darparu gofal deintyddol am ddim, fel y dywedwyd. Mae arnom angen strategaeth, Weinidog. Yn syml iawn, mae angen inni weld llawer mwy o fanylion ac uchelgais gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, ac mae angen inni wella mesurau ataliol hefyd—gordewdra, alcohol, ysmygu, ac yn y blaen. Mae arnom angen polisïau sy'n symud o'r diwedd tuag at agenda ataliol yn ogystal ag un adweithiol. Diolch yn fawr.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o wisgo fy mathodyn Marie Curie, y cennin Pedr, i gefnogi eu gwaith. Yn anffodus, bydd 50 y cant o'r boblogaeth yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn ystod eu hoes, ac rydym i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael canser, ac yn drasig, mae llawer gormod ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi marw. Gan Gymru y mae rhai o'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn y byd gorllewinol, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod ein gwasanaethau canser gystal ag unman yn y byd. Ni all ein poblogaeth fforddio strategaeth ganser heb uchelgais. Fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi dweud, mae'r problemau yn ein llwybrau canser yn rhagflaenu'r pandemig, ac fel llawer o'r problemau sy'n wynebu ein GIG, mae llawer o'r problemau hyn yn deillio o broblemau staffio, neu'n hytrach, o ddiffyg cydlyniad wrth gynllunio'r gweithlu.
Gwyddom i gyd fod diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi canser yn hirdymor, ac eto gennym ni y mae'r nifer isaf o radiolegwyr ymgynghorol fesul 100,000 o gleifion yn unrhyw ran o'r DU. A'r hyn sy'n waeth yw ein bod, yn ôl Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, yn mynd i golli cymaint â thraean o'r gweithlu hwnnw dros y tair i bedair blynedd nesaf wrth i weithwyr ymddeol. Ni allaf ddychmygu'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar staff presennol gan y bydd disgwyl iddynt lenwi'r bwlch. Gwyddom fod cyfarwyddwr clinigol canser cenedlaethol Cymru wedi datgan y bydd yn rhaid i'r gwasanaeth redeg ar oddeutu 130 y cant o'r capasiti i gyrraedd lle'r oeddem cyn y pandemig. Ond nid ydym am i'r gwasanaeth ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig, ac i ailadrodd ymadrodd poblogaidd ar hyn o bryd, rydym am ailgodi'n gryfach.
Er mwyn cyflawni hynny, rhaid inni fynd i'r afael ar frys â phrinder staff hanesyddol. Mae gennym brinder difrifol ar draws y meysydd, nid mewn diagnosteg yn unig. Mae gennym fylchau ar draws oncoleg glinigol; mae bron i un o bob 10 swydd yn dal heb eu llenwi. O ganlyniad i brinder, nid yw un o bob pum claf canser yng Nghymru yn cael cymorth nyrsio canser arbenigol yn ystod eu diagnosis neu eu triniaeth. Golyga hyn ein bod yn ei chael hi'n anodd darparu gofal priodol yn awr, heb sôn am ganiatáu ar gyfer gwasanaethau newydd neu wasanaethau estynedig. Mae Cymorth Canser Macmillan yn awgrymu y bydd angen i Gymru gynyddu ei gweithlu cymorth nyrsio canser arbenigol 80 y cant erbyn diwedd y degawd hwn er mwyn ateb y galw. Ac mae Cancer Research UK yn tynnu sylw at y ffaith bod y bylchau hyn yng ngweithlu'r GIG yn rhwystr sylfaenol i drawsnewid gwasanaethau canser a gwella cyfraddau goroesi canser. Eto, er gwaethaf y pryderon a leisiwyd yn briodol gan y trydydd sector ac arweinwyr canser clinigol, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynllun ar gyfer y gweithlu canser arbenigol.
Mewn gwirionedd, nid yw strategaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn crybwyll canser hyd yn oed. Un o'r problemau iechyd mwyaf sy'n wynebu ein gwlad ac nid oes gan Lywodraeth Cymru gynllun i fynd i'r afael ag ef. Oni bai bod Gweinidogion yn wynebu eu cyfrifoldeb ac yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, bydd canser yn parhau i fod yn ddedfryd marwolaeth i lawer gormod o bobl. Bydd ein cyfraddau goroesi canser yn parhau i ostwng, a bydd dinasyddion Cymru yn parhau i golli anwyliaid yn ddiangen. Mae'n bryd inni gael strategaeth ganser uchelgeisiol gyda'r nod o ddileu marwolaethau diangen o ganser, a chynllun i ddarparu gweithlu ar gyfer diwallu anghenion cleifion canser yn y dyfodol; cynllun i gefnogi cleifion drwy gydol eu taith ganser o ddiagnosis i wellhad; a chynllun sy'n adeiladu capasiti i ymateb i heriau'r ôl-groniad COVID ac ar gyfer pandemigau yn y dyfodol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw.
Weinidog, gwyddom i gyd mai'r frwydr yn erbyn canser yn aml fydd y frwydr anoddaf y bydd unrhyw berson, a'u teuluoedd yn wir, yn ei hwynebu yn ystod eu hoes. Cyfrifoldeb dwys cymdeithas yw rhoi'r gofal, y driniaeth a'r cymorth gorau posibl iddynt, er mwyn iddynt gael y cyfle gorau i guro a goroesi'r salwch gwirioneddol ddinistriol hwn. Fodd bynnag, o dan y Llywodraeth Lafur hon, cafodd miloedd o drigolion ledled Cymru gam pan oeddent fwyaf o angen cefnogaeth. Gwelwn y tswnami o achosion canser y methwyd gwneud diagnosis ohonynt, a nifer cynyddol o ganserau ar gam diweddarach o ganlyniad uniongyrchol i ohirio gwasanaethau'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.
Yn y pen draw, fodd bynnag, nid yw'r mater hwn wedi codi'n ddisymwth i Lywodraeth Cymru, gyda thargedau aros canser heb eu cyrraedd ers 2008 a chyda 56 y cant yn unig o gleifion yn cael triniaeth o fewn 62 diwrnod ledled Cymru. Yn ogystal, mae data uned gwybodaeth canser Cymru yn dangos mai Cymru sydd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a'r ail isaf ar gyfer tri math, ar draws y DU. Mae methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem cyn y pandemig wedi ei gwaethygu. Yn frawychus, bedwar mis yn ôl yn unig, adroddwyd mai dim ond 57.9 y cant o gleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol uniongyrchol o fewn 62 diwrnod i'r diwrnod yr amheuwyd gyntaf bod ganddynt ganser. Mae hynny'n llawer is na'r targed o 75 y cant.
Yn yr un mis, adroddwyd bod dros 27,000 o bobl yn aros am wasanaethau radioleg ar ôl cael eu cyfeirio gan y meddyg ymgynghorol am waith diagnostig canser, gydag un o bob wyth o'r bobl hyn yn aros mwy na 14 wythnos. Roedd 30,000 o bobl eraill yn aros am ddiagnosteg radioleg ar ôl cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu. Fel y mae, Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig cyn bo hir i fod heb strategaeth canser. Rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu'n gyflym. At hynny, cydnabyddir y gall radiotherapi a chemotherapi gael effaith niweidiol ar iechyd deintyddol. Fodd bynnag, ni chynigir cymorth meddygol deintyddol am ddim i'r cleifion hyn yn awr, sy'n eu gadael mewn mwy o boen ac yn teimlo nad ydynt yn cael fawr o gefnogaeth. Wrth i ni gefnu ar bandemig COVID-19, dyma gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru adolygu, ac i chi ddiwygio eich dull o weithredu.
Mae Cancer Research Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen gweithlu canser cynaliadwy ar Gymru i ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Maent yn tynnu sylw at y bylchau a'r amrywio sylweddol o fewn y gweithluoedd diagnostig, triniaeth a nyrsio. Erys swyddi radiolegwyr ymgynghorol yn wag. Maent yn dweud bod datblygiadau fel y llwybr sengl lle'r amheuir canser i'w groesawu, ond ni allant gyflawni mwy na hyn a hyn heb y staff cywir. Felly, Weinidog, a wnewch chi wrando ar y sefydliadau sy'n gweithio'n eithriadol o galed yn ceisio cefnogi pobl â chanser? A wnewch chi gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser? Ac a wnewch chi gyhoeddi strategaeth ganser fanwl a chynhwysfawr i nodi sut y bydd Cymru'n ymladd canser dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â dod â'r ddeddfwriaeth berthnasol gerbron y Senedd hon i ddarparu gofal deintyddol am ddim i gleifion sy'n cael radiotherapi a chemotherapi? Credaf ein bod i gyd yn gwybod, wrth sefyll yma heddiw neu wrth eistedd yma heddiw, fod angen newid sylweddol, ac ar frys. Mae pobl yn brwydro canser yn awr ac nid oes gan eu teuluoedd amser i wylio'r Llywodraeth hon yn parhau i fethu cyrraedd ei thargedau.
Rwy'n mynd i wneud apêl bersonol. Weinidog, rwyf wedi trafod hyn gyda'r Prif Weinidog. Cefais sefyllfaoedd lle y mae fy etholwyr wedi cysylltu â mi, lle y maent wedi cael diagnosis angheuol iawn drwy alwad ffôn. Roedd un ohonynt am 3.20 p.m ar brynhawn dydd Gwener. Cafodd y teulu eu distrywio gan hyn, ac effeithiodd hynny wedyn ar les y person. Dywedodd y Prif Weinidog mai mater i glinigwyr yw penderfynu sut y maent yn dweud wrth eu cleifion fod ganddynt ganser. Yn yr achos hwn, nid oeddent yn glinigwyr, staff gweinyddol oeddent. Nid dyna'r ffordd i glywed bod gennych ganser. Yn sicr, am 3.20 p.m. ar brynhawn dydd Gwener, dychmygwch eu diymadferthedd a'u hofn. Pan wnaethant ofyn, 'Wel, beth yw'r cam nesaf?', yr ateb oedd, 'Fe ddown i gysylltiad.' Dair wythnos yn ddiweddarach, fe wnaethant gysylltu â mi, a chredwch fi, gallwn ddweud wedyn wrth y bwrdd iechyd, 'Helpwch y bobl hyn.' Ni ddylai hynny ddigwydd, a dyna brofiad uniongyrchol o'r hyn sy'n digwydd. Diolch am wrando, Weinidog.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl bwysig hon am wasanaethau a chanlyniadau canser. Gallaf ddweud wrthych fy mod wedi gwrando'n ofalus iawn ar bopeth sydd wedi'i ddweud a byddaf yn ystyried eich sylwadau ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r hyn y buoch yn sôn amdano y prynhawn yma. Mae gennyf ofn na fyddaf yn gallu cefnogi'r penderfyniad am nifer o resymau, a hoffwn esbonio pam. Ond rwy'n cydnabod bod angen inni wneud yn well ar ganser. Mae'n fater o fywyd a marwolaeth go iawn. Rwy'n derbyn bod yn rhaid i'r datganiad ansawdd fod yn ddechrau'r stori, nid diwedd y stori, ac yn sicr mae llawer mwy o waith i'w wneud yn y gofod hwn.
Un o'r problemau gyda'r cynnig yw ei fod yn cyfuno amseroedd aros cyffredinol ag amseroedd aros canser. Mae'r amser aros ar gyfer gofal dewisol arferol yn wahanol iawn i'r llwybr canser 62 diwrnod. Mae cleifion canser bob amser wedi cael eu trin â brys clinigol yng Nghymru. Dynodwyd canser yn wasanaeth hanfodol ar ddechrau'r pandemig, a lle bynnag y bo modd, rydym wedi cynnal ac wedi blaenoriaethu gwasanaethau canser drwy gydol yr amser. Mae hyn wedi arwain at lwybrau newydd a gweld cleifion mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai o'r gwersi hynny'n wirioneddol gadarnhaol ac mae angen inni eu hymgorffori.
Mae'r cynnig hefyd yn awgrymu mai strategaeth canser yw'r unig ffordd o wella canlyniadau canser ac mae'n honni bod Cymru'n allanolyn ar draws y DU. Ond mae gennyf ofn nad yw hynny'n wir. Ar hyn o bryd, mae Lloegr yn cynnwys canser yn ei chynllun hirdymor, nid oes gan Ogledd Iwerddon strategaeth, ac roedd strategaeth yr Alban yn rhagflaenu'r pandemig. Er mwyn gwella gwasanaethau canser, mae'n amlwg y bydd yn rhaid inni ddarparu mwy o driniaeth canser nag a wnaethom yn hanesyddol, ond yr anhawster yw ein bod yn dal ynghanol pandemig lle y mae cynhyrchiant wedi ei leihau gan fesurau rheoli heintiau a chan staff yn gorfod ynysu.
Er hynny, nid wyf am ddiystyru'r pryder y mae pawb ohonom yn ei deimlo am y modd y mae'r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau canser. Rwyf wedi dweud droeon pa mor bryderus rwyf i am yr effaith ar wasanaethau canser. Dyna pam y gwnaethom gyflwyno ein dull newydd o ymdrin â gwasanaethau canser yn ystod y pandemig. Dyna pam mai canser oedd yr unig glefyd a gafodd ei glustnodi yng nghynllun adfer mis Mawrth 2021. Dyna pam rwy'n gwneud gwella gwasanaethau canser yn ffocws allweddol i gynlluniau byrddau iechyd. Dyna pam rwy'n buddsoddi mewn gweithgarwch adfer, offer newydd, hyfforddi mwy o glinigwyr canser a chyfleusterau newydd ledled Cymru. Fy mwriad yw cyhoeddi cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio ym mis Ebrill, a bydd hwnnw, wrth gwrs, yn cynnwys ystod o gamau gweithredu a mesurau a fydd yn cefnogi cleifion canser.
Gwelwyd llawer o feirniadu ar y cysyniad o ddatganiad ansawdd ar gyfer canser, ond hoffwn atgoffa'r Aelodau fod ein bwriad i gyhoeddi cyfres o ddatganiadau ansawdd wedi'i nodi yn 'Cymru Iachach'. Dyna oedd yr ymateb i'r adolygiad seneddol. Dywedai y byddai datganiadau ansawdd yn disgrifio'r canlyniadau a'r safonau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich parodrwydd i ystyried y dadleuon a'r sgyrsiau y prynhawn yma, a'ch bod yn agored i'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma, Weinidog. Ar y datganiadau ansawdd, rwy'n credu mai'r broblem—dywedwch os wyf yn anghywir—yw nad oes targedau yn y rheini. Nid oes gweledigaeth yn y rheini. Dim ond cyfres o ddatganiadau ydyw. Rhaid eich bod yn cydnabod bod angen hynny os ydym am gael—. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: a ydych yn derbyn yr angen am strategaeth canser uwchlaw a thu hwnt i'r datganiad ansawdd canser?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Yr hyn nad ydym yn brin ohono yw targed. Mae gennym darged; nid ydym yn cyrraedd y targed eto. Yr hyn sydd ei angen arnom yw mecanwaith i gyrraedd y targed, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae angen inni sicrhau y gallwn ei gyflawni. Mae llawer o bobl wedi sôn heddiw am yr angen i sicrhau bod staff ar gael, er enghraifft, a bod hyfforddiant ar waith. Cyn y Nadolig, fe wnaethom gyhoeddi £0.25 biliwn i ganolbwyntio ar hyfforddiant o fewn y GIG. Mae wedi bod yn ddiddorol edrych ar y cynigion gofal wedi'i gynllunio yn Lloegr a gyhoeddwyd ddoe. Un feirniadaeth enfawr o hynny yw: ble mae'r cynllun ar gyfer hyfforddi? Wel, mae gennym gynlluniau hyfforddi ar waith; mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio ar hyn, maent yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Gallaf roi'r holl fanylion i chi ynglŷn â faint o bobl sy'n mynd i gael eu hyfforddi ym mhob maes canser gwahanol.
Felly, rydym yn gwneud cryn dipyn o waith. Y gwahaniaeth mewn ffordd yw nad ydym wedi'i becynnu, ac mae rheswm dros hynny, a'r rheswm yw mai'r hyn sydd gennym yw set integredig o ymrwymiadau polisi a ddisgrifiwyd yn y fframwaith clinigol cenedlaethol, a'r hyn sydd angen i chi ei ddeall yw'r cyd-destun y mae angen i'r cynllun canser hwn weithio ynddo. Gadewch imi eich atgoffa o'r hyn y ceisiwn ei wneud: rydym am gael set gliriach, fwy effeithiol, lai dyblygol o drefniadau polisi y gall ein cyrff GIG sy'n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau canser ymateb iddynt yn effeithiol. Rwy'n deall yr atyniad o nodi manylion mewn un ddogfen sut rydym yn mynd i ddatrys canser, ond nid dyna sut y caiff system iechyd gymhleth iawn ei chyflawni. Rydym wedi clywed heddiw am yr angen i edrych ar atal. Wel, a ydych am gael strategaeth gordewdra gyfan wedi'i gosod o fewn y cynllun canser? Nid yw i'w weld yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Mae gennym gynllun ysmygu hefyd; mae gennym lawer o gynlluniau gwahanol ac mae'r cyfan yn cyfrannu, felly rwy'n credu bod yn rhaid inni ddeall pa mor gymhleth yw hyn.
Yn ganolog i wella canlyniadau canser mae adnabod rhywun sy'n wynebu risg a chael y prawf diagnostig wedi'i wneud. Os edrychwn ar bwy sy'n darparu'r rhan honno o'n llwybr canser, nid gwasanaethau canser ydynt. Felly, ble byddem yn rhoi'r rheini? A ydym yn eu rhoi yn y cynllun canser ai peidio? Oherwydd nid ydynt yn arbenigwyr canser; ymarferwyr cyffredinol ydynt sy'n nodi'n gyntaf a oes angen archwilio ymhellach. Deintyddion ydynt, optegwyr ydynt, maent hefyd yn cynnwys sgrinwyr a thimau cleifion allanol ac adrannau brys. Dyma lle y mae'r amheuaeth glinigol gychwynnol o ganser yn codi, a lle y caiff pobl eu hatgyfeirio ohono. A phan gânt eu hatgyfeirio i gael archwiliad, i ble maent yn mynd? Maent yn mynd at batholegwyr, maent yn mynd at radiolegwyr, maent yn mynd at endosgopwyr. A ydych chi am gynnwys hynny i gyd? Bydd eich cynllun yn enfawr, Russell. Felly, credaf fod dull o weithredu wedi'i nodi'n glir yn 'Cymru Iachach', a dyna pam ein bod wedi mabwysiadu'r dull hwn.
Ond Weinidog, nid fi a'r gwrthbleidiau eraill yn unig sy'n galw am gynllun canser. Rwy'n deall y manylion a grybwyllwyd gennych—na ellir cynnwys hyn i gyd mewn cynllun—ond rydych chi hefyd yn dweud bod yr 20 elusen sydd wedi awgrymu y dylid cael cynllun canser yn anghywir hefyd ac wedi camddeall y dull o weithredu. Rwy'n ceisio deall y gwrthwynebiad i gael cynllun trosfwaol yma.
Rwy'n ceisio egluro i chi fod y system—. Pam y dylid gosod hynny i gyd o fewn strategaeth ganser, os gallai fod yn rhywbeth lle gallai fod goblygiadau ar gyfer strôc? Beth a wnawn yno? A ydych chi'n eu gwahanu? A ydych yn rhoi popeth—? Mae'n ymwneud â dyblygu; rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn nad ydym yn dyblygu strategaethau gwahanol. Ni allwn obeithio gwella canlyniadau canser oni bai ein bod yn gweld adferiad a thrawsnewidiad yr holl wasanaethau gwahanol, a phob un ohonynt yn destun cymorth rhaglenni polisi cenedlaethol pwysig a threfniadau cynllunio lleol.
Gellid adrodd stori debyg am fynediad at lawdriniaeth, yr ymyrraeth amlycaf ar gyfer triniaeth iachusol, ac am ein gwasanaethau gofal lliniarol hanfodol, gyda phob un ohonynt yn sefyll ochr yn ochr â rhannau arbenigol o'r llwybr canser fel radiotherapi a chemotherapi, sy'n amlwg yn feysydd arbenigedd ar gyfer canser. Pan fyddwn yn deall ehangder y gwasanaethau ehangach sy'n gysylltiedig â'r llwybr canser, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall pam fy mod yn credu bod angen i ni fabwysiadu dull mwy cynnil.
Nid rhyw fath o gynllun cyflawni disylwedd yw'r datganiad ansawdd ar gyfer canser; mae'n strwythur cwbl newydd sydd wedi'i gynllunio i weithio o fewn y cyd-destun Cymreig, a disgrifir ei resymeg yn y fframwaith clinigol cenedlaethol.
Mae'n werth cofio bod y datganiad ansawdd ar gyfer canser yn cynnwys 19 o lwybrau gofal ar gyfer gwahanol fathau o ganser, felly mewn gwirionedd, mae llawer iawn o uchelgais a manylder yma, mwy nag a welsom ni yn y cynlluniau cyflawni blaenorol, ac yn hyn o beth dŷn ni o flaen y Deyrnas Unedig. Mae gyda ni ragor i'w wneud, ac mae angen i ni fynd ymhellach; dwi'n derbyn hynny. Fe fyddwn ni'n diweddaru'r datganiad ansawdd gan ychwanegu llwybrau, manylebau gwasanaeth a metrigau wrth iddyn nhw gael eu cytuno, ac fe fyddwn ni'n gweithio mwy ar lefel genedlaethol drwy'r bwrdd rhwydwaith canser newydd i ganolbwyntio ar y gweithlu canser y mae cymaint ohonoch chi wedi sôn amdano—
Weinidog, mae angen ichi ddod i ben yn awr. Rwyf wedi rhoi'r amser ychwanegol am yr ymyriadau.
Diolch yn fawr. Fe ddof i ben drwy ddweud fy mod yn derbyn bod llawer mwy y mae angen inni ei wneud yn y gofod hwn mewn gwirionedd. Nid wyf yn derbyn mai cynllun canser yw'r ateb, ond yr hyn rwy'n ei dderbyn yw bod angen inni roi ffocws go iawn i lawer o'r meysydd rydych wedi cyffwrdd â hwy, ond mae angen rhywun i sicrhau bod cyflawniad y datganiad hwnnw, y datganiad ansawdd, yn cael ei yrru'n llawer rhwyddach. Ac wrth gwrs, gobeithio y bydd hynny'n haws wrth inni gefnu ar y pandemig.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu nodiadau. Diolch i bawb am eu cyfraniad ac i'r Gweinidog am ei hymateb. Dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod wedi gwrando'n ofalus iawn, ac yn gwneud llawer o waith gan ei fod i gyd yn gymhleth iawn, ond fel y nododd Russell George, nid oes unrhyw dargedu, dim gweledigaeth. Mae 20 o elusennau arbenigol hefyd yn galw am strategaeth canser. O leiaf fe dderbyniodd y Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae llawer mwy y gallwn ei wneud.'
Ar ôl gwrando ar y Gweinidog, rhaid imi ddweud ei bod yn warthus eu bod yn ceisio dileu cynnig yn galw arnynt i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser a chyhoeddi strategaeth ganser lawn, yn nodi sut y bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros bum mlynedd. Yn hytrach, maent yn cynnig datganiad ansawdd ar gyfer canser sy'n brin o fanylion, ac sydd ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser gan osgoi monitro ac atebolrwydd mesuradwy. Mae hefyd yn osgoi dealltwriaeth y cyhoedd. Mae'r cyhoedd yn deall geiriau fel 'strategaeth', ond nid oes neb yn deall beth yw 'datganiad ansawdd', oni bai eich bod yn perthyn i'r haenau uchaf yn y maes rheoli adnoddau dynol neu'n gosod nodau corfforaethol ar gyfer eu cyhoeddi ar flaen eich cyfrifon blynyddol ac adroddiadau i'ch cyfranddalwyr. Nid yw'n derm sy'n hygyrch i'r bobl rydym yn ceisio eu helpu.
Fel y clywsom, cyn bo hir Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser—cyn bo hir, Weinidog. Mae'r cyhoedd yn deall strategaeth, ond fel y dywedais, mae datganiad ansawdd yn ffordd o osgoi atebolrwydd i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny. Er gwaethaf y cynnydd a wnaed yn y misoedd diwethaf, mae targedau Llywodraeth Cymru yn parhau heb eu cyrraedd ac mae rhestrau aros yn parhau i godi. Hyd yn oed cyn y pandemig, nid oedd amseroedd aros ar gyfer canser wedi'u cyrraedd ers 2008 ac roedd pedair gwaith y nifer o bobl yn aros dros flwyddyn am driniaeth yng Nghymru nag yn Lloegr gyfan. Hyd yn oed cyn y pandemig, dangosodd data uned gwybodaeth canser Cymru mai Cymru oedd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a'r ail isaf ar gyfer tri math, yn y DU.
Y mis diwethaf, chynheliais gyfarfod ymwybyddiaeth o ganser yr ofari Cymru ar-lein, digwyddiad a drefnwyd gan Target Ovarian Cancer a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, lle y clywsom, cyn y pandemig, mai dim ond 37 y cant o fenywod â chanser yr ofari yng Nghymru a gafodd ddiagnosis cynnar. Ac rwy'n cydnabod ac yn diolch i'r Gweinidog am y llythyr a gefais ganddi heddiw ynglŷn â hynny. Ac ydy, mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o'r cyflwr wedi gostwng, ond mae'n dal i fod yn warthus mai dim ond ar gam diweddarach y cafodd 63 y cant o fenywod ddiagnosis, gan leihau eu gobaith o oroesi.
Bythefnos yn ôl, cyfarfûm â Cymorth Canser Macmillan. Roedd ein trafodaeth yn cynnwys y cynnydd mewn ceisiadau am fudd-daliadau gan bobl sydd â salwch terfynol, gan adlewyrchu'r cynnydd mewn diagnosis ar gam diweddarach yn ystod y pandemig a'r twf a ragwelir yn y galw yn y dyfodol. Trafodwyd yr angen i ddatganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer canser gynnwys cerrig milltir a gwasanaethau cymunedol.
Bythefnos yn ôl, cyfarfûm â Prostate Cancer UK. Roedd ein trafodaeth yn cynnwys y nifer o gategorïau risg o ganser y prostad cam cynnar na wnaed diagnosis ohono ers y pandemig. Rwy'n croesawu'r newyddion eu bod yn lansio ymgyrch godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad gyda'r GIG ar 17 Chwefror, wedi'i hanelu at ddynion yn y grwpiau risg uchaf.
Dywed Cancer Research Cymru fod Cymru, hyd yn oed cyn yr argyfwng presennol, wedi perfformio'n wael ar lawer o fesurau'n ymwneud â diagnosis, triniaeth a goroesi canser, gan ychwanegu bod effaith y pandemig ar wasanaethau canser, yn enwedig ei weithlu, yn peri pryder. Ac mae'r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn parhau i godi proffil y chwe math o ganser llai goroesadwy, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol diagnosis cynnar er mwyn gwella'r gobaith o oroesi.
Wrth agor y ddadl heddiw, dywedodd Russell George nad yw'r amseroedd triniaeth canser presennol yn dal i fyny, fod cyfraddau goroesi canser Cymru wedi bod yn arafu ers blynyddoedd lawer, a bod y system wedi torri hyd yn oed cyn y pandemig. Cyfeiriodd at y blynyddoedd o brinder staff cronig a phrinder arbenigwyr canser, ac anogodd Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw gweithlu llawn ar gyfer arbenigwyr canser a strategaeth ganser lawn.
Cynigiodd Rhun ap Iorwerth welliant Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i gwblhau'r gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth, rhywbeth rydym ni'n ei gefnogi'n llawn gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs. Cyfeiriodd at absenoldeb amlwg strategaeth ganser genedlaethol a thynnodd sylw at y ffaith bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn is na'r rhai yn y gwledydd eraill ym Mhrydain a gwledydd eraill ledled Ewrop. Maent yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth Lafur—ac fe wnawn ninnau hynny hefyd wrth gwrs. Ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wrando yn hytrach ar y dros 20 o elusennau sy'n ffurfio Cynghrair Canser Cymru, fel y gwnaeth Russell George mewn ymateb i'r Gweinidog ar y diwedd. Nid gwirfoddolwyr hapus yw'r rhain neu deuluoedd mewn profedigaeth; arbenigwyr ydynt. Dyma'r bobl sydd â'r wybodaeth dechnegol, yr arbenigedd a'r wybodaeth rheng flaen i allu helpu'r Llywodraeth i wneud pethau yn y ffordd gywir, a rhaid gwrando arnynt.
Cyfeiriodd Laura Anne Jones at y 19,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn sydd, yn drasig iawn, yn cael diagnosis o ganser. Dywedodd fod cyfraddau goroesi yng Nghymru wedi gwella, ond eu bod yn dal i fod yn llawer is na chyfartaledd y DU, a bod angen gweithredu pendant a phenderfynol i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn y dyfodol, gyda strategaeth ganser gynhwysfawr ochr yn ochr ag agenda ataliol. Nododd Gareth Davies fod diagnosis cynnar yn allweddol i allu goroesi, ond rhagwelir y bydd y gweithlu canser arbenigol yn lleihau mewn gwirionedd. Soniodd am yr angen i fynd i'r afael â phrinder staff hanesyddol mewn diagnosteg ac oncoleg glinigol, a dywedodd ei bod yn bryd cael strategaeth ganser uchelgeisiol a chynllun gweithlu i ddileu marwolaethau diangen y gellir eu hosgoi. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod miloedd yn cael cam o dan Lywodraeth Lafur Cymru ac nad yw hyn yn rhywbeth sydd newydd godi ei ben iddynt. Galwodd am lenwi'r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd deintyddol cleifion canser hefyd.
Wel, hyd yn oed cyn COVID, roedd Cymru eisoes yn llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU gyda'i chyfraddau goroesi canser. Fel y clywsom gan lawer o siaradwyr, o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wrth gwrs, nid y DU yn unig ydyw; rydym yn llusgo ar ôl llawer o'n partneriaid rhyngwladol hefyd. Nawr, mae gwasanaethau canser Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r tswnami—ac rydym wedi clywed y gair hwnnw droeon—o ganser y methwyd gwneud diagnosis ohono ac ymddangosiad canserau ar gam diweddarach. Pan ychwanegir hyn at flynyddoedd o brinder staff cronig, mae'n hawdd deall pam y mae elusennau canser yn dweud nad yw'r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn ddigon manwl ac uchelgeisiol. Nid yw'n strategaeth genedlaethol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig yn unol â hynny. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 8 y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar adnoddau Cymru. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Cynnig NDM7912 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r enghreifftiau niferus o gyfoeth sy'n deillio o adnoddau Cymru yn cael ei fwynhau y tu allan i Gymru, fel asedau Ystâd y Goron, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd a phlannu coed ar dir amaethyddol.
2. Yn cytuno:
a) bod hyn yn cynrychioli tuedd hanesyddol a chyfoes o echdynnu a manteisio ar adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol;
b) y dylid cadw'r asedau hyn, a'r manteision sy'n deillio ohonynt, yng Nghymru, er budd pawb sy'n byw yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar bosibilrwydd, ar faint o botensial sydd wedi'i wreiddio yn ein cenedl a'n hadnoddau naturiol, ond potensial a gedwir allan o'n cyrraedd. Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau, wrth agor ein dadl, ar y camau y gallem eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur a chyflawni ein potensial ynni.
Gadewch i ni ystyried Ystâd y Goron. Mae yna thema a fydd yn codi dro ar ôl tro yn y ddadl hon fod pethau'n wahanol yn yr Alban. Yn y wlad honno, cafodd Ystâd y Goron ei datganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2017. Pe baem yn dilyn yr un llwybr, byddai refeniw proffidiol o brydlesi Ystâd y Goron yn mynd i Drysorlys Cymru yn hytrach na San Steffan, a choffrau'r Frenhines yn wir. Yn hytrach, mae rheolaeth Ystâd y Goron dros ein gwely môr a darnau mawr o dir yn golygu y gallai Cymru fod yn colli cyfle i elwa ar y rhuthr am aur gwyrdd sy'n creu budd i'r Alban ar hyn o bryd. Mae rhai amcangyfrifon yn dangos y gallai Llywodraeth y DU godi hyd at £9 biliwn dros y degawd nesaf yn unig o werthu lleiniau gwely môr i ddatblygwyr ffermydd gwynt—y cyfan yn botensial, yn arian na allwn ni fanteisio arno. Cynhyrchodd tiroedd Ystâd y Goron £8.7 miliwn mewn refeniw y llynedd, ac mae prisiad portffolio morol Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2 miliwn i £549.1 miliwn. Mae hwn yn arian a fyddai'n galluogi Cymru i adeiladu a datblygu ein diwydiant ynni adnewyddadwy ein hunain yng Nghymru a chadw cyfoeth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na gwerthu ein hasedau gwerthfawr i'r cynigydd tramor uchaf. Mae'n warthus fod yr adnoddau hyn wedi'u cloi rhagom ac o fudd i eraill yn lle hynny, oherwydd nid yn unig y mae Ystâd y Goron yn atal perchnogaeth leol ar dir Cymru ac yn mynd â refeniw allan o Gymru, mae hefyd yn cefnogi economïau eraill i elwa ar asedau Cymru.
Talodd Ystâd y Goron £345 miliwn i Lywodraeth y DU yn 2019-20. Gostyngodd refeniw net yr ystâd 29.9 y cant yn 2020 oherwydd y pandemig, er na welodd y frenhines ostyngiad yn y grant sofran, gan nad yw'r grant yn gostwng pan fydd elw'n gostwng, er ei fod yn codi pan fydd elw'n cynyddu. A thrwy'r amser, y bobl sy'n dioddef o ganlyniad yw pobl Cymru. Mae'n dilyn, Ddirprwy Lywydd, y dylem adnewyddu galwadau am ddatganoli pwerau ynni'n llawn, gan ein bod ar hyn o bryd yn cael ein llyffetheirio gan seilwaith grid annigonol a threfn reoleiddio sy'n galw am feddwl mwy strategol. Mae angen inni reoli ac elwa o adnoddau naturiol ein gwlad a chael gallu i ddatblygu prosiectau mwy os ydym am gyrraedd sero net a chyflawni dros ein pobl a'n cymunedau. Oherwydd bydd hyd yn oed yr argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn cael ei waethygu yng Nghymru gan y ffaith nad oes gennym bwerau dros adnoddau naturiol. Un eironi sylfaenol am farchnad ynni ryddfrydig newydd y DU yw ei bod yn gweld cwmnïau ynni a gefnogir gan wladwriaethau o bob rhan o dir mawr Ewrop yn ennill refeniw trwy ddefnyddio adnoddau Cymru, sydd, yn ei dro, yn helpu i ariannu eu gwasanaethau cyhoeddus hwy yn ôl adref. Cymru fel man dirprwyol, endid sydd o fudd i eraill, nid iddi hi ei hun.
Ac ar yr un mater, rwyf am orffen drwy ddweud gair am blannu coed. Mae llwybr Cymru tuag at sero net yn cynnwys targed o blannu 180,000 hectar ychwanegol o goed erbyn 2050, ond daeth pryderon i'r amlwg am ffermydd Cymru yn cael eu prynu gan gorfforaethau rhyngwladol o'r tu allan i Gymru i blannu coed fel ffordd o wrthbwyso eu hallyriadau carbon. Unwaith eto, mae hyn yn cloi ein tirweddau o dan reolaeth pobl na fyddant byth yn gosod troed yng Nghymru o bosibl. A gall y plannu coed hwn effeithio'n ddifrifol ar gynhyrchiant bwyd, ystyriaethau cymdeithasol a'r amgylchedd ehangach. Mae George Monbiot wedi cyfeirio ato fel yr ymgyrch fawr i fachu tir oherwydd yr hinsawdd, tra bo'r academydd Dr Thomas Crowther yn ei disgrifio fel ymgyrch dorfol gorfforaethol i blannu coed sy'n niweidio natur. Mae fel rhywbeth allan o nofel ddystopaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod problem yma. Mae'n ffenomenon sy'n rhan o duedd fyd-eang ehangach. Ac yn sicr, mae angen adolygu'r gofynion asesu effaith amgylcheddol er mwyn cryfhau'r amddiffyniadau i ystyriaethau dynol, amaethyddol, cymdeithasol a hyd yn oed ieithyddol. Yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rydym cyn gyfoethoced mewn adnoddau naturiol ag yr ydym gyda'n diwylliant a'n hanes. Caiff yr adnoddau naturiol hynny eu defnyddio ar hyn o bryd fel ffordd o gyfyngu ar ein potensial. Ni allwn adael i'r ymgyrch fawr i fachu enillion barhau. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.
Daeth y Llywydd i'r Gadair.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i gynnig yn ffurfiol y gwelliant.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno mai'r ffordd orau o sicrhau'r manteision mwyaf posibl o adnoddau naturiol yng Nghymru yw mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle mae penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.
2. Yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan weithio mewn cymunedau lleol a chyda phartneriaid rhyngwladol.
3. Yn gresynu at gamreolaeth ddi-drefn Llywodraeth y DU ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar sut y mae’r manteision economaidd sy’n gysylltiedig ag adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu gwasgaru, gan gynnwys yr effaith ar gymunedau gwledig a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, mae ein hadnoddau Cymreig yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi swyddi yng Nghymru. Er enghraifft, mae gan RWE, sy'n gweithredu tua 3 GW o gynhyrchiant ynni yng Nghymru ar draws 12 safle, bortffolio amrywiol o wynt ar y tir ac ar y môr, dŵr a nwy, ac mae'n cyflogi tua 200 o bobl yn uniongyrchol yn eu swyddfeydd ym Maglan, Llanidloes, Dolgarrog a phorthladd Mostyn. Yn wir, mae'r Ceidwadwyr Cymreig am adeiladu ar fanteision gwneud Cymru'n sero net drwy greu 15,000 o swyddi gwyrdd newydd.
Nawr, credwn fod Ystâd y Goron yn chwarae rhan bwysig ac allweddol yma yng Nghymru, megis rheoli tua 65 y cant o flaendraeth a gwely afon Cymru, ac mae hyn yn cynnwys nifer o borthladdoedd, megis Aberdaugleddau, perchnogaeth ar dros 50,000 erw o ucheldir a thir comin Cymru, ac maent yn gyfrifol am oddeutu 250,000 erw o fuddiannau mwynau crai ac yn rheoli'r hawliau i ddyddodion aur ac arian.
Nawr, fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru fis diwethaf—ac rwy'n cytuno—'Os nad yw wedi torri, peidiwch â'i drwsio.' Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Plaid Cymru, heddiw, ddarparu unrhyw dystiolaeth ystyrlon nad yw Ystâd y Goron yn gweithredu'n effeithiol.
Nawr, rwyf wedi gwneud fy ymchwil ar hyn, a'r prif bethau a ddysgais oedd hyn: er enghraifft, yn ystod 2021, diolch i Ystâd y Goron, cynyddodd capasiti gweithredol cronnol yn y sector gwynt ar y môr i 9.61 GW. Roedd canlyniad rownd 4 yn darparu potensial ar gyfer hyd at 8 GW o gapasiti. Cynyddodd prisiad y portffolio morol yn sylweddol—[Torri ar draws.]—cewch eich tro mewn munud, Weinidog—o £49.2 miliwn i £549.1 miliwn. Cyrhaeddwyd carreg filltir i'r sector gwynt ar y môr yng Nghymru yn sgil llofnodi cytundeb prydles ar gyfer prosiect arddangos gwynt arnawf arfaethedig 96 MW Erebus.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, ewch chi.
Pam y mae'n gweithio i'r Alban ac na fyddai'n gweithio i Gymru?
Wel, gadewch inni fod yn onest, nid yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd—. Os meddyliwch am y peth, rydych yn eithaf aml yn—. Yma, clywn gymaint yn erbyn Llywodraeth y DU, rydym hyd yn oed yn clywed pethau yn erbyn y Goron. Felly, i mi, pam y credwch y byddai'n gweithio yma am ei fod yn gweithio yn yr Alban? Mae—. Rhun, dywedwch wrthyf os gwelwch yn dda: ble nad yw'n gweithio yma?
Wel, os derbyniwch ymyriad arall, mae Ystâd y Goron yr Alban newydd gyhoeddi prydlesi ar gyfer 25 GW—llwyth syfrdanol o gynhyrchiant gwynt ar y môr—oherwydd cânt eu hysgogi i wneud hynny am mai hwy sy'n elwa yn y pen draw o hynny. Fe gewch eich ysgogi i'w wneud am mai gennych chi y mae'r fantais a'r pwerau i'w wneud. Dyna pam y mae'n gweithio.
Lle y byddwn yn cytuno â chi yw nad yw Llywodraeth Cymru yn cael ei hysgogi'n arbennig i wneud unrhyw beth ar hyn, ond dyna ni. [Torri ar draws.]
Cyflawnwyd carreg filltir i sector gwynt ar y môr Cymru gyda llofnodi cytundeb ar gyfer prydlesu—. O, rwyf eisoes wedi dweud hynny. Cynigiwyd cyfle parhaus i gael mynediad at wely'r môr ar gyfer prosiectau tonnau neu ffrwd lanw, a chyflenwyd 683,000 tunnell o agregau morol i'n porthladdoedd yng Nghymru. Yn wir, ceir tystiolaeth real a dogfennol o Ystâd y Goron yn gweithio'n llwyr er lles gorau Cymru. Maent yn rhoi hawliau tirfeddianwyr dros y blaendraeth yn y Rhyl i Gyngor Sir Ddinbych i gynorthwyo mewn cynllun amddiffyn rhag llifogydd ar lan y môr sy'n werth £27.5 miliwn i ddiogelu 1,650 o gartrefi yn nwyrain y dref, a gwaith, er enghraifft, gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith ar weithredu cynllun morol cenedlaethol Cymru.
Mae Ystâd y Goron yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i reoli ein hadnoddau yng Nghymru, felly pam peryglu'r llwyddiant hwnnw drwy roi hyd yn oed mwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau gweinyddiaeth aflwyddiannus Llywodraeth Cymru sy'n amlwg yn cael ei chynnal gan Blaid Cymru? Dylai eich clymblaid ganolbwyntio ar y llanast y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ei wneud. Mae gennych darged ar gyfer plannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050, ac eto gallai hynny arwain at goedwigo 3,750 o ffermydd teuluol yng Nghymru.
Nawr, pan fynegais bryderon am hyn yn y Senedd, dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, na ddylai cyrraedd targedau creu coetiroedd effeithio ar gymunedau na newid y math o dirfeddianwyr, ac eto mae'n gwneud hynny. Mae'r dystiolaeth yn cynyddu. Mae'r cymoedd yn newid i lystyfiant, mae coedwigoedd yn gwthio ffermwyr allan. Mae ffigurau a gafwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru wedi dangos bod 75 y cant o'r ceisiadau coedwigo yng Nghymru ar gyfer dros 50 hectar o blannu yn dod gan elusennau a chwmnïau preifat yn Lloegr. Bu cynnydd o 450 y cant yn nifer y ceisiadau asesu effaith amgylcheddol coedwigo i CNC rhwng 2015 a 2021, ac eto dim ond 20 y cant o geisiadau a ddaeth gan unigolion neu fusnesau preifat yma yng Nghymru.
Rydym yn anelu i'r un cyfeiriad â Seland Newydd, lle'r arweiniodd eu cynllun masnachu allyriadau at gynnydd cyflym yn y tir fferm da a brynwyd gan fuddsoddwyr carbon gyda'r bwriad o werthu gwrthbwysiadau carbon yn y dyfodol drwy greu coedwigoedd. O fewn cyfnod o dair wythnos, deallaf fod 80,000 o unedau stoc wedi'u colli yn y rhan ddeheuol o Ynys y Gogledd i blannu coed, gyda dwy ran o dair ohono'n eiddo i gwmnïau tramor a bydd yn costio tua $35 miliwn i'r ardal yn sgil cynhyrchiant a gollwyd. Nid dyna'r dyfodol rwyf ei eisiau i Gymru, felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig a'r gwelliant heddiw. Ond hoffwn gloi drwy ofyn i'r Senedd weithio'n drawsbleidiol i fynd ar drywydd y syniad o sefydlu comisiwn pontio cyfiawn, er mwyn sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ein cymunedau gwledig ac yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg, sy'n ffynnu'n hanesyddol yng nghefn gwlad Cymru, ac rwy'n ailadrodd: rydym yn llawer gwell ein byd trwy adael i Ystâd y Goron ofalu amdanom yng Nghymru, fel y maent yn ei wneud mor dda.
Gaf i ddechrau drwy ddatgan diddordeb fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Gaerfyrddin? Dwi'n hynod o falch o allu cyfrannu i'r ddadl hon. Mae ecsbloetio adnoddau naturiol Cymru gan San Steffan yn fater emosiynol a hanesyddol iawn. Mae'r math hwn o economi echdynnol, hynny yw, economi extractive, wedi digwydd ers canrifoedd, gyda'n glo, ein llechi, dŵr, trydan, tai ar gyfer twristiaid, ac yn fwy diweddar ein tir amaethyddol ar gyfer plannu coed. Mae creithiau ffisegol y rheibio hwn yn dal i nodweddu ein tirwedd trwy'r tipiau glo, y tomennu llechi, ein cronfeydd dŵr, y tai gwyliau gwag, di-olau yn ystod y gaeaf, ac yn y coed lle bu cymdogaeth.
Yn mhob un o'r enghreifftiau hyn, mae cyfoeth ein hadnoddau naturiol wedi mynd allan o Gymru, a'n gadael o hyd ymhlith un or gwledydd tlotaf yn Ewrop. Ond meddyliwch pa mor gyfoethog y gallai Cymru fod petai gennym reolaeth ddeddfwriaethol dros yr adnoddau naturiol hyn. Fel mater o egwyddor, yn fy marn i, wrth galon ein holl bolisïau fel Senedd, dylid adeiladu cyfoeth cymunedol a pherchnogaeth leol ar economi a chyfalaf naturiol Cymru.
Gadwech inni ystyried adnoddau Ystâd y Goron, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, fel enghraifft. Yn fy marn i, dylid datganoli asedau tiriogaethol Ystâd y Goron i'r lle hwn, a dod â'n hadnoddau naturiol a'r rhenti sy'n cael eu codi yn nes at adref, er mwyn creu incwm i'w ddefnyddio er lles pobl Cymru. Gellid wedyn defnyddio'r elw a ddaw o'r ystâd er mwyn ymateb i flaenoriaethau economaidd a chymdeithasol Cymru.
Mae Ystâd y Goron, fel rŷn ni wedi clywed, yn berchen ar ryw 65 y can o wely'r môr a thiroedd ar hyd yr arfordir o gwmpas Cymru. Yn ôl yr amcangyfrif diwethaf, mae'r adnoddau hyn yn werth rhyw £600 miliwn. Dychmygwch am eiliad yr elw a fyddai'n gallu dod i Gymru drwy fuddsoddi mewn cynlluniau ynni gwyrdd cyffrous ar y môr fel tyrbinau gwynt a'r morlynnoedd llanw, y tidal lagoons ac yn y blaen. Ar hyn o bryd, Ystâd y Goron sy'n dal yr hawl ar y lleoliadau hyn. Dim ond pan gânt eu rheoli gan Gymru a'i phobl y gellir defnyddio a dosbarthu adnoddau naturiol Cymru a'r rhenti economaidd sy'n deillio o'u defnydd mewn ffordd y byddai'n elwa'n cymunedau.
Wedi'r cyfan, mae Ystâd y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i'r Alban ers 2017, ac maen nhw'n elwa o ryw £12 miliwn y flwyddyn i wario ar iechyd, addysg, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni gwyrdd ac yn y blaen. Byddai Ystâd y Goron yn nwylo pobl Cymru yn rhoi ffynhonnell ariannol hirdymor inni, fyddai'n ein galluogi i fuddsoddi yn ein dyfodol a gwireddu ein amcanion newid hinsawdd.
Gadwech imi nesaf droi at ddŵr, sydd yn bwnc eithriadol o emosiynol inni yng Nghymru. Does dim ond rhaid i fi gyfeirio at Dryweryn er mwyn deall cymaint o effaith mae boddi Capel Celyn wedi ei gael ar ein seicoleg fel cenedl. Caiff miliynau ar filiynau o litrau o ddŵr eu tynnu o Gymru a'u hanfon dros y ffin bob dydd. Mae'r protocol dŵr presennol, sy'n amlinellu'r berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a San Steffan yn sicrhau bod gan San Steffan y feto dros benderfyniadau sy'n ymwneud â dŵr yng Nghymru. Gallwn ni byth a dylen ni byth setlo am addewidion gwag gan San Steffan, a chydag ofnau am brinder dŵr yn tyfu a chyfnodau o sychder yn debygol o ddod yn rhywbeth mwy cyffredin yn y dyfodol, mae'n bosib iawn y daw dŵr yn adnodd hynod o werthfawr i ni. Rhaid inni felly gael cytundeb cyfreithiol na ellir byth ddinistrio cymunedau Cymru eto ar gyfer anghenion dŵr, a bod unrhyw benderfyniadau am ddiwallu anghenion yn cael eu gwneud yma gan Lywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol.
Dwi am orffen drwy sôn am drydan. Mae Cymru'n cynhyrchu dwywaith mwy o drydan nag sydd ei angen arnom ni. Mae'r gweddill yn cael ei allforio. Yn Ewrop, dim ond Ffrainc, yr Almaen a Sweden sy'n allforio mwy o drydan na ni yng Nghymru, ond y broblem yw, er ein cryfder, ychydig iawn o fudd sy'n dod i bobl Cymru, gyda rhyw draean o gartrefi'n dioddef o dlodi tanwydd, a'n pobl yn wynebu'r costau tanwydd mwyaf uchel yn y Deyrnas Unedig. Dyw hynny, Llywydd, ddim yn dderbyniol.
Felly—a dwi'n cloi gyda'r paragraff byr hwn—er mwyn dyfodol lle nad yw Cymru unwaith eto'n cael ei gwasgu i gyflenwi ei hadnoddau i'r byd tra bod ei phobl ei hun yn dioddef, rhaid inni sicrhau bod gan ein cenedl, ein pobl, reolaeth dros ein hased mwyaf gwerthfawr, sef ein hadnoddau naturiol. Gadewch inni beidio â gadael gwaddol i genedlaethau'r dyfodol fel ein tipiau glo a'n cronfeydd dŵr o gyfleoedd a gollwyd sy'n glwyfau dolurus o'r ffordd mae Cymru wedi cael ei hecsbloetio dros y canrifoedd. Mae'n bryd i hynny ddod i ben. Mae'n bryd inni gael rheolaeth lwyr ar yr adnoddau hynny sydd ar dir Cymru.
Pan fyddaf yn teithio ar hyd gogledd Cymru, naill ai ar y trên neu ar y ffordd, yn cerdded llwybr yr arfordir neu'n ymweld â'r cyrchfannau glan môr hardd, yr olygfa allan i'r môr yw tyrbinau gwynt, ac mae'r tyrbinau hynny'n eiddo i gwmni o'r Almaen, RWE, sy'n cynhyrchu traean o holl drydan adnewyddadwy Cymru. Maent yn prydlesu'r tir gan Ystâd y Goron. Mae BP wedi ennill yr hawl i ddatblygu mwy o dyrbinau gwynt ar fôr Iwerddon ar ôl i Ystâd y Goron werthu mwy o'r ardal, gan wneud miliynau o bunnoedd mewn rhent dros y degawd nesaf. Yn wahanol i'r Alban, nid yw Ystâd y Goron wedi'i datganoli yng Nghymru, ac felly nid yw'r arian hwn, a gynhyrchir gan adnoddau naturiol Cymru, yn cael ei ailfuddsoddi'n uniongyrchol i ddarparu seilwaith gwell a fydd o fudd i bobl Cymru, ac nid yw'n cael ei ddefnyddio ychwaith i sicrhau bod prisiau'n cael eu cadw ar gyfradd y gall pobl gyffredin ei fforddio. Mae EDF, sy'n eiddo cyhoeddus yn Ffrainc, yn gwerthu trydan i'r DU am bris uchel. Mae hynny ar fin codi 54 y cant. Ond yn Ffrainc, mae'r Llywodraeth wedi sicrhau bod y cynnydd wedi'i gapio ar 4 y cant. Yn Ewrop, ac mewn gwledydd sydd â'u cwmnïau eu hunain sy'n eiddo cenedlaethol, mae'r pris draean yn is nag yn y DU.
Cawn ein hamgylchynu gan gwmnïau sy'n gwneud elw i gyfranddalwyr, ond yn anffodus, mae hyn yn dilyn hanes hir o adnoddau naturiol Cymru yn cael eu hysbeilio tra bod buddiannau'r Cymry'n cael eu bwrw o'r neilltu. Boed yn lo, yn ddŵr neu'n wynt, mae'n rhaid i'r patrwm hwn ddod i ben. Mae'r argyfwng ynni a wynebwn yn awr yn dangos sut y ceir anghydbwysedd llwyr yn y system. Sut y gall fod yn iawn, tra bod pobl ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, fod BP a Shell yn parhau i wneud biliynau o bunnoedd mewn elw ac nad yw eu gweithrediadau môr y Gogledd wedi talu unrhyw dreth ers nifer o flynyddoedd? Mae'r system gyfan o fudd i ychydig bach o gyfranddalwyr cyfoethog iawn ar draul y lliaws.
Mae preifateiddio grid ynni'r DU, y grid cenedlaethol, yn gwneud cam â chwsmeriaid. Telir 25 y cant o filiau ynni i gwmnïau rhwydwaith. Fe'i defnyddir i lenwi pocedi cyfranddalwyr, gyda biliynau o bunnoedd yn cael eu talu mewn difidendau. Mae angen inni harneisio ein hadnoddau naturiol ein hunain i greu ynni adnewyddadwy i bobl Cymru, a chredaf yn gryf y bydd angen perchnogaeth gyhoeddus i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, ac ynni uniongyrchol os oes modd, a pheidio â'i gyfeirio at y grid cenedlaethol er mwyn iddynt hwy wneud elw. A gwyddom fod hyn yn bosibl. Yn fy rhanbarth i, sef Gogledd Cymru, mae gan brosiectau ynni yn Abergwyngregyn elfen gymdeithasol wedi'u cynnwys ynddynt i sicrhau bod elw o'r cynllun trydan dŵr o fudd i'r gymuned leol, ac mae Cynllun Ynni a Menter Cymunedol Abertawe, cynllun sydd wedi ennill gwobrau, yn brosiect solar sy'n eiddo i'r gymuned, sy'n gweithio i ddarparu trydan glanach a mwy fforddiadwy ar gyfer pob adeilad, yn ogystal ag adnodd addysg gwerthfawr i'r gymuned leol, ac mae'n enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni.
Ond mae rheoli adnoddau naturiol yn effeithiol yn ymwneud â mwy na chynhyrchiant ynni yn unig; mae'n ymwneud â diogelu'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig er budd cenedlaethau heddiw a'r rhai sydd eto i ddod, ac mae hyn yn galw am gynllunio sylweddol. Mae'n bwysig ein bod yn dechrau sefydlu strategaeth ystyriol lle y ceisir caniatâd ar gyfer defnydd tir. Tir yw un o'n hadnoddau mwyaf, ac ar hyn o bryd mae hefyd yn cael ei brynu gan fusnesau mawr i negyddu eu cyfrifoldeb corfforaethol drwy wrthbwyso carbon, a dylai'r Cymry benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio ein tir a hwy a ddylai elwa o hynny. I grynhoi, mae arnom angen Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yng Nghymru, a dylid datganoli'r pwerau i wneud penderfyniadau ar adnoddau naturiol Cymru i Gymru fel y gallwn greu llwybr sy'n sicrhau bod ein hadnoddau'n cael eu defnyddio er budd y lliaws ac nid ychydig rai. Diolch.
Ni waeth beth fo'ch damcaniaethau neu'ch credoau economaidd, credaf ei bod yn anodd dadlau nad oes gan Gymru economi echdynnol. Ceir tueddiadau hanesyddol a chyfoes o echdynnu economaidd ac ecsbloetio adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol. Mae'r diwydiant glo yn enghraifft hanesyddol berffaith o echdynnu adnoddau o'r fath. Roedd Cymru'n pweru'r byd, gyda'r siec gyntaf £1 filiwn wedi'i llofnodi rownd y gornel o'r Senedd hon, ond yr holl lo wedi ei gludo allan a'r arian wedi'i wneud mewn mannau eraill. Rydym yn dlotach yn awr oherwydd y systemau a ganiataodd ar gyfer echdynnu economaidd a gadael fawr ddim cyfoeth ar ôl i'r Cymry. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi galw hyn yn goma economaidd a grëwyd gan San Steffan. Mae George Monbiot eisoes wedi disgrifio Cymru fel economi echdynnol glasurol, gan fod ein mapiau seilwaith yn debyg i gyfres o ddraeniau sy'n llifo tuag at y porthladdoedd a'r gororau gan wagio Cymru yn y pen draw o'i chyfoeth er budd i rywun arall.
Gallwn weld hefyd fod San Steffan yn dal i reoli 45 y cant o wariant Cymru, heb unrhyw sicrwydd y caiff ei wario'n unol ag anghenion a dyheadau pobl Cymru. A cheir llawer mwy o enghreifftiau, enghreifftiau mwy cyfoes, lle y caiff cyfoeth ei greu o adnoddau Cymru, a'i fwynhau y tu allan i Gymru, heb fawr ddim budd os o gwbl i bobl Cymru nac i economi Cymru, boed hynny drwy Ystâd y Goron, echdynnu ynni adnewyddadwy neu gynhyrchiant bwyd a phlannu coed ar dir amaethyddol. A dyma rywbeth i chi feddwl amdano: mae poblogaeth Cymru'n 4.7 y cant o boblogaeth y DU, ond yn 2020 dim ond 2 y cant o gyllideb ymchwil a datblygu y DU a gawsom. Mae gennym 6 y cant o filltiroedd trac rheilffordd y DU, ond dim ond 1 y cant o gyllideb bresennol Network Rail a gawsom, a hynny cyn ystyried effaith HS2. Ac mae'r rhestr yn parhau. Bydd gadael i draddodiad o economi echdynnol barhau yn niwed pellach i'n heconomi a bywoliaeth a safonau byw dinasyddion Cymru.
Bydd llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn ymwybodol o fath arall o echdynnu sy'n digwydd ar hyn o bryd. Rydym wedi siarad amdano yn y Siambr, a chynhyrchodd Gweinidog yr Economi strategaeth yn ddiweddar i fynd i'r afael ag ef, sef y draen dawn. Rhaid inni wella ein hymdrechion i gadw ein pobl ifanc a'n doniau medrus yng Nghymru ynghyd â'r asedau y maent yn eu sicrhau i'r wlad. Ni allwn ffynnu os na allwn unioni'r draen dawn. Gwelwyd tuedd hanesyddol a phroblem barhaus yn sgil allfudo pobl ifanc a thalent o Gymru i Loegr, rhannau eraill o'r DU, a gweddill y byd. Roedd y 'Strategy for Rural Wales', a ysgrifennwyd gan Gyngor Cymru 50 mlynedd yn ôl, ym 1971, yn trafod yr angen i fynd i'r afael ag allfudo pobl ifanc o gefn gwlad Cymru.
Yn 2017, roedd Cymru yn ddegfed allan o 12 rhanbarth y DU o ran colli graddedigion. Er enghraifft, credir y bydd tua 75 y cant o'r holl bobl ifanc yng Nghymru sydd am fynd i faes meddygaeth yn gweithio i GIG Lloegr yn y pen draw. Pan fydd pobl ifanc uchelgeisiol a doniau yn mudo'n barhaus o ardaloedd penodol yng Nghymru neu Gymru gyfan, mae'n ei gwneud yn anos mynd ar drywydd adferiad economaidd, ac mae'n bygwth mynediad Cymru at sgiliau a doniau a fyddai'n helpu i adeiladu economi gynaliadwy. Mae mynd i'r afael â'r mater yn gymhleth fodd bynnag, gan nad yw llawer o'r data a gesglir ar y draen dawn, megis arolygon graddedigion neu ddata cleifion y GIG, yn manylu ar y rhesymau pam y mae pobl wedi symud allan o Gymru, ac mae allfudo o gefn gwlad Cymru yn debygol o fod wedi ei ysgogi gan resymau gwahanol i'r allfudo o Gaerdydd. Er mwyn ymchwilio i'r mater, rhaid inni wella ein dealltwriaeth o achosion allfudo.
Ond mae'n rhaid inni fynd ati'n fwy gweithredol i wneud hyn. Mae Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi comisiynu a chyhoeddi ymchwil i ffactorau sy'n dylanwadu ar benderfyniadau mudo yn yr Alban. Gellid defnyddio cymhellion ariannol i gadw llafur yng Nghymru, fel sydd wedi'i wneud yn yr Alban, drwy leihau ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr, er enghraifft, a fyddai yn ei hanfod yn gweithredu fel gostyngiad yn y cyfraddau treth cynyddol y mae graddedigion diweddar wedi bod yn eu hwynebu yn dilyn cynnydd i yswiriant gwladol a chynnydd yn y dreth gyngor. Mae'r Alban wedi llwyddo i wrthdroi ei draen dawn i weddill y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl yn symud o weddill y DU i'r Alban na'r ffordd arall.
I gloi, Lywydd, dylid cadw asedau a'u budd, boed yn adnoddau neu'n bobl, yng Nghymru, ac er budd pawb sy'n byw yng Nghymru. Hyd nes y gallwn sicrhau bod hynny'n digwydd, bydd Cymru'n parhau i fethu cyrraedd ei photensial.
Y Gweinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl. Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon.
Fel Llywodraeth Lafur, credwn fod gan y wladwriaeth rôl hanfodol i sicrhau bod cyfoeth yn yr economi yn cael ei ddosbarthu'n deg. Mae dosbarthu cyfoeth yn fwy cyfartal yn mynd law yn llaw â ffyniant a gwaith teg. Fodd bynnag, nid ydym yn credu mewn creu gelyn cyfleus o fuddiannau allanol. Rydym yn byw mewn byd rhyng-gysylltiedig lle na ellir mynd i'r afael â llawer o'r heriau mwyaf dybryd a wynebwn heb gyfnewid a chydweithredu rhwng pobl a gwledydd.
Mae'n niweidiol iawn i fuddiannau pobl sy'n gweithio os yw ffigyrau cyhoeddus yn meithrin ymdeimlad o anfodlonrwydd a rhaniadau at ddiben manteision gwleidyddol tymor byr. Yn hytrach, dylem fod yn cynnig atebion real ac ymarferol i'r anfanteision y mae pobl yn eu hwynebu, oherwydd yn y pen draw bydd yr atebion hynny o fudd i bob un ohonom, yma yng Nghymru ac o amgylch y blaned rydym i gyd yn ei rhannu.
Rydym yn sicr yn rhannu'r pryder a fynegwyd yn y cynnig gwreiddiol fod cymunedau Cymru wedi bod dan anfantais yn economaidd, gan gynnwys drwy echdynnu cyfoeth o adnoddau naturiol, a bod anfanteision o'r fath yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â hwy. Fodd bynnag, nid ydym yn credu ei bod yn iawn nac yn gyfrifol ceisio awgrymu bod tynged cymunedau Cymru wedi ei phennu gan batrymau hanesyddol o wrthdaro sectyddol, neu fod honiadau o'r fath yn adlewyrchu hanes cymhleth Cymru mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Ac nid yw honiadau o'r fath yn cynnig unrhyw atebion ymarferol i'r materion a godwyd ychwaith.
Mae'r enghreifftiau penodol o echdynnu cyfoeth a godwyd yng nghynnig Plaid Cymru yn faterion go iawn y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu arnynt, gan fod cyhoeddiadau a datganiadau diweddar ar ynni, coedwigaeth a sero net i gyd wedi'u rhoi gerbron y Senedd. Nid gweithredwyr tramor gelyniaethus sy'n creu'r her a wynebwn wrth gyflawni'r newid y dymunwn ei weld, ond diffygion yn y setliad datganoli presennol, effaith y newidiadau eang yn yr amgylchedd polisi a grëwyd drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, ac anhrefn yn y meysydd hyn a llawer o feysydd eraill a orfodir ar y wlad hon gan y Llywodraeth Geidwadol anfedrus a chywilyddus yn San Steffan.
Ni fydd ymdeimlad o erledigaeth neu bolisi economaidd llawgaead a gelyniaeth tuag at eraill yn sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol ar adnoddau naturiol, na gwaith teg a ffyniant i'n cymunedau. Ni fydd ychwaith yn denu ac yn cadw'r ddawn leol neu fyd-eang sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru.
Mae fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi cyflwyno cynigion radical, ymarferol ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol i'r Deyrnas Unedig, fel bod mwy o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru, megis sut i ddosbarthu'r refeniw a godir gan Ystâd y Goron yng Nghymru, yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Gellid bwrw ymlaen â'r rhain yn awr, wrth gwrs. I esbonio i'n cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, mae ein perthynas ag Ystâd y Goron yma yng Nghymru yn dda iawn, ac maent yn rheoli nifer fawr o adnoddau yma yng Nghymru yn wir. Yr hyn na allant ei wneud yw rhoi'r refeniw a gynhyrchir gan yr adnodd hwnnw yn ôl i ni, na derbyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch manteisio ar yr adnodd hwnnw. Felly, roedd Janet yn iawn i ddarllen y nifer fawr o bethau y mae Ystâd y Goron yn eu gwneud yn dda; yr hyn y mae'n methu ei ddeall yw bod yr holl elw ohono'n mynd yn syth yn ôl i San Steffan ac nad oes dim ohono'n dod yma. Mae'n amlwg mai dyna'r hyn rydym am ei ddatganoli i Gymru, felly credaf mai camddealltwriaeth allweddol yn yr ymchwil y mae'r Aelod yn dweud ei bod wedi'i wneud yw hynny.
O fethu gwneud hynny, byddai ethol Llywodraeth newydd yn San Steffan, wrth gwrs, yn rhoi cyfle pellach i ddiwygio'r Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n ein gwneud yn gryfach yn wyneb ein heriau polisi domestig, ac yn gryfach yn wyneb yr heriau byd-eang sy'n wynebu pawb ohonom, yn enwedig newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Lywydd, ni allaf gofio sawl gwaith y bu'n rhaid i mi egluro wrth Janet Finch-Saunders na allwch gytuno bod yna argyfwng hinsawdd a mynd ati wedyn i ladd ar bob polisi sy'n angenrheidiol i wneud unrhyw wahaniaeth i hynny. Ni wnaf eu hailadrodd yma, ond bydd yr Aelodau'n gwybod ei fod wedi'i gofnodi fy mod wedi gorfod dysgu'r Aelod gyferbyn na all neidio ar bob trol ac yna gwrthwynebu pob polisi a luniwyd i wneud i hynny ddigwydd.
Mae eironi hefyd yng nghynnig yr wrthblaid fod y dadleuon a gyflwynwyd yn adlewyrchu'r rhai a wnaed gan rai a ymgyrchodd dros dynnu'r DU o'r Undeb Ewropeaidd: yr ymdeimlad o gwyno am eraill ac addewid o ddigon ar ôl i'r pwerau tramor hynny gael eu rhoi'n ôl yn eu lle priodol. Wrth gwrs, mae'r realiti'n llawer mwy cymhleth, ac mae ein cymunedau a'n heconomi yn parhau i fod â chysylltiad agos â rhai ein cymdogion Ewropeaidd. Mae'r aflonyddwch economaidd sydd wedi deillio o ffordd anhrefnus Llywodraeth y DU o ymdrin â'n perthynas â'r UE wedi rhoi'r union gymunedau yr addawyd dyfodol gwell iddynt dan anfantais o ganlyniad, megis ffermwyr a physgotwyr Cymru. A defnyddiwyd hynny fel ffordd o danseilio sefydliadau y dibynnwn arnynt i ymateb i heriau byd-eang ein cyfnod ni, o Erasmus a'r confensiwn ar hawliau dynol, i fasnachu allyriadau a chadwraeth natur drawswladol drwy gynllun LIFE yr UE. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, Lywydd, i annog Llywodraeth y DU i gael yr ymgynghoriad ar y cynllun masnachu allyriadau ar y gweill cyn gynted â phosibl. Nid oes dim o hyn yn anochel, ond efallai ei bod yn bosibl rhagweld na fyddai prosbectws sy'n seiliedig ar ragosodiadau ffug yn ceisio nac yn llwyddo i sicrhau'r manteision a addawyd gan y rhai sy'n ei gyflwyno.
Lywydd, er bod y frwydr dros gydraddoldeb yn real, nid yw dyfodol Cymru'n cael ei bennu gan anghyfiawnder y gorffennol na chan gynllwynion buddiannau allanol. Mae dyfodol gwell lle y caiff manteision adnoddau naturiol cyfoethog Cymru eu rhannu'n deg o fewn ein gafael os ydym yn barod gyda'n gilydd i anelu tuag ato; dyfodol lle y mae adnoddau naturiol Cymru wedi eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn unol â'n cyfrifoldebau byd-eang, gan feithrin cymunedau cryf a gwydnwch economaidd mewn byd cythryblus. Rydym yn gweithredu fel Llywodraeth, gan weithio gyda chymunedau a busnesau yng Nghymru, yn ogystal â chyda Llywodraethau eraill a phartneriaid rhyngwladol, i sicrhau'r dyfodol hwn, a byddwn yn gwrthwynebu'n ffyrnig yr honiadau fod gosod cymunedau yn erbyn ein gilydd yn ddim byd heblaw strategaeth ffug ar gyfer mantais wleidyddol tymor byr, yn erbyn buddiannau'r bobl rydym i gyd yma i'w gwasanaethu ac yn erbyn buddiannau'r amgylchedd naturiol rydym i gyd yn dibynnu arno ym mhob cwr o'r byd. Diolch.
Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am yr holl gyfraniadau. Mi wnaf i brosesu sylwadau'r Gweinidog a dod yn ôl at y rheini, o bosib, tuag at ddiwedd fy nghyfraniad i yn fan hyn.
Dwi a fy nghyd-Aelodau ar feinciau Plaid Cymru yn credu yng Nghymru. Rydyn ni'n uchelgeisiol dros Gymru, a dwi'n gobeithio y bydd pawb yn y Siambr yma yn dweud eu bod nhwythau'n cyd-fynd â hynny. Ond, beth sy'n ein gwahaniaethu ni, dwi'n meddwl, ar y meinciau yma ydy'n gweledigaeth ni am Gymru hyderus, deg a ffyniannus sy'n normal o annibynnol, sy'n gallu gwneud beth sy'n normal o ran defnyddio ei chryfderau a'i hadnoddau fel sylfaen i lunio'r dyfodol hwnnw. Ond, mae'r pwynt olaf yna'n un o'r pethau yna sy'n destun trafod wrth i bobl bwyso a mesur eu perthynas nhw efo'r drafodaeth ar ddyfodol Cymru. Mi wneith rhai ofyn efo diddordeb go iawn, wrth chwilio am ateb, 'Beth ydy'n hadnoddau ni? Oes gennym ni adnoddau o werth yma yng Nghymru?' Mi wneith eraill—a dwi'n edrych ar y meinciau sydd gyferbyn â fi, yn anffodus—rhoi o o fewn mwy o ddatganiad yn amlach na pheidio, 'Does gennym ni ddim adnoddau', neu i'w roi o'n blaen, 'Does gennym ni ddim byd gwerth ei gael, felly anghofiwch am lunio dyfodol gwell.' Mae'r ddadl y prynhawn yma, dwi'n meddwl, wedi bod yn fodd inni drafod beth ydy ein hadnoddau ni ac felly beth ydy'n potensial ni, fel y dywedodd Delyth Jewell yn ei geiriau agoriadol, ac o adnabod beth ydy rhai o'r adnoddau hynny, sut mae eu rheoli nhw er budd pobl Cymru a sut i atal y math o ecsbloetio, ie, rydyn ni yn anffodus wedi profi llawer gormod ohono fo dros y blynyddoedd.
Ni chyflwynwyd hon fel dadl ynglŷn ag annibyniaeth. Rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn gwbl glir yn ein fersiwn ni o Gymru annibynnol, ac mae ein hadnoddau, rheoli'r adnoddau hynny'n ofalus er budd holl bobl Cymru, yn rhan fawr o hynny. Ond wrth gwrs, byddwn yn dadlau bod rheoli'r adnoddau hynny yn y ffordd orau y gallwn, gan atal ecsbloetio'r adnoddau sydd gennym, yn aml gan eraill o'r tu allan i Gymru, yn elfen go bwysig, hyd yn oed yn y sefyllfa gyfansoddiadol lai na delfrydol rydym ynddi ar hyn o bryd. A byddwn yn gobeithio y byddai pawb yn cytuno â hynny hefyd.
Ond mae hi mor ddiddorol gweld bod Llywodraeth Cymru, yn ei gwelliant 'dileu popeth', yn penderfynu amddiffyn y sefyllfa gyfansoddiadol bresennol, gan groesawu, i bob pwrpas, y cyfyngiad ar reolaeth dros ein hadnoddau ni. Mae'r gwelliant hwnnw'n ddatganiad dryslyd sy'n dweud mai'r ffordd i gael y rheolaeth fwyaf ar ein hadnoddau yw peidio â chael rheolaeth lwyr arnynt. Maent yn dweud mai yn y DU y cawn ein gwasanaethu orau, gyda phenderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, pan fo'r un gwelliant yn dweud pa mor ofnadwy o wael y mae Llywodraeth y DU yn gwneud pethau.
Heddiw ddiwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gymru nad oes awydd ymhlith y cyhoedd i ddatganoli Ystâd y Goron yng Nghymru. Gwn fod datganoli Ystâd y Goron yn rhywbeth y mae'r Gweinidog bellach yn ei gefnogi'n fawr, ac rwy'n gwerthfawrogi ei sylwadau ar hynny heddiw, ond gadewch imi ddweud wrthych—gadewch imi gyfieithu i chi, efallai—beth oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei olygu heddiw. Yr hyn a olygai oedd nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw awydd i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru. Fel y clywsom heddiw, byddai datganoli Ystâd y Goron yn dod â manteision enfawr i Gymru, fel y mae'r Alban yn ei weld—mae'r 25 GW o gynhyrchiant ynni ar brydles a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ystâd y Goron yr Alban yn rhyfeddol.
Credaf ei bod yn ddadlennol iawn mai'r hyn a ddysgais o sylwadau'r Aelod dros Aberconwy oedd ei bod yn credu nad ydym yn gallu rheoli'r adnoddau hynny. Byddaf yn ei groesawu os yw am amddiffyn hynny, ond yr hyn a glywais oedd nad yw'n credu y gallem wneud defnydd da o ddatganoli pwerau Ystâd y Goron.
Diolch am dderbyn ymyriad. Onid yw'n ffaith, lle y mae gennym ddatganoli'r holl bwerau gyda Llywodraeth Cymru yma yn awr—iechyd, addysg, trafnidiaeth, seilwaith; gallwn fynd ymlaen, Rhun—os edrychwch ar sut rydym wedi mynd tuag yn ôl mewn llawer o'r rheini, mae'r methiannau'n amlwg i bobl Cymru, ac Aberconwy yn wir?
Fe ofynnaf i chi ar unwaith a ydych am ddod yn ôl ar hyn. A ydych yn dweud yn awr yr hoffech gael gwared ar ddatganoli oherwydd nad ydych yn hoffi rhai pethau y mae plaid arall draw acw yn eu gwneud? Nid wyf i yn y blaid honno ychwaith. Byddwn wrth fy modd yn cael gwared arnynt o rym, ond mae gennym y pŵer yn ein dwylo ein hunain yng Nghymru ac mae gennym y potensial hwnnw, a dyna rydym yn ei geisio bob amser. Ewch amdani.
Gwrandewch, rydym wedi cael datganoli ers 22 mlynedd. Rydym hefyd wedi cael Llywodraeth Lafur yn cael ei chynnal gan Blaid Cymru ac ambell Ddemocrat Rhyddfrydol, a beth rydym wedi'i gyflawni? Mae'n bryd i bobl Cymru ganiatáu i'r Ceidwadwyr fod yma a chael yr ysgogiadau pŵer a'r cyllid i fynd gyda hynny. [Torri ar draws.]
Ni fyddech yn credu bod pedair blynedd a hanner i fynd cyn yr etholiad ar y pwynt hwn, fyddech chi? Rhun ap Iorwerth.
Onid yw'n ddadlennol eto, pan fyddwn yn sôn am rywbeth mor sylfaenol bwysig i ddyfodol Cymru, na allwch help ond ildio i'r demtasiwn o wleidydda hyn yn y modd hwnnw? A ninnau'n edrych ar ryddhau ein potensial, mae angen i chi fod ychydig yn fwy difrifol yn eich gwleidyddiaeth.
Yn ogystal ag edrych ar y rheolaeth y gallem ei gael drwy ddatganoli Ystâd y Goron, mae'r cynnig yn edrych ar elfennau eraill o reolaeth. Rydym wedi sôn am golli cannoedd o erwau o dir ar gyfer coedwigaeth, tir a blannwyd gan fuddsoddwyr o'r tu allan i Gymru i'w defnyddio fel credydau carbon. Mae'n ein hamddifadu ni o gredydau carbon sydd eu hangen arnom fel cenedl, ac mae'n ein hamddifadu hefyd o gyfanrwydd ein cymunedau—cyfleoedd i'n pobl ifanc ym myd ffermio, tanseilio iaith. Gwelwn yr un peth gyda datblygiadau solar ar Ynys Môn yn awr. Gall solar fod yn rhan bwysig iawn o'n cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, ond gadewch i ni fod yn arloesol yn y ffordd y'i gwnawn. Yr hyn sydd gennym ar Ynys Môn yw cynnig ar ôl cynnig ar gyfer miloedd o erwau o dir amaethyddol a glustnodwyd ar gyfer datblygiadau solar gan gwmnïau o'r tu allan i Gymru. 'Pam yma?' gofynnwn. 'O, mae eich tir yn rhatach na safleoedd tir llwyd, diolch yn fawr'. Clywn eu bod yn ymrafael dros dir fferm ym Môn Mam Cymru, sydd wedi bwydo'r genedl ers canrifoedd dirifedi. 'Beth am draffig adeiladu wrth iddo gael ei adeiladu?', gofynnodd un etholwr mewn cyfarfod cyhoeddus arall. 'O, peidiwch â phoeni, bydd llai o draffig fferm ar ôl iddo gael ei adeiladu', daeth yr ymateb anghredadwy. Ac roedd y cynnig budd cymunedol ariannol o'r fferm solar benodol honno yn £50,000 dros gyfnod oes fferm solar o 30 mlynedd. Mae'n sarhaus ac mae'n nodweddiadol o'r ecsbloetio a wynebwn.
Gadewch imi ymdrin â sylwadau'r Gweinidog i orffen, ac a wnaiff hi ychwanegu 'ecsbloetio' at y rhestr o eiriau nad yw'n gyfforddus â hwy. Teimlai ein bod yn rhy barod i leisio anfodlonrwydd, i fod yn ddioddefwyr. Gwrandewch, mae hyn yn ymwneud â dweud, 'Gadewch inni symud ymlaen o'r gorffennol'. Gadewch inni edrych ar ffordd o ymdrin â'n hadnoddau ein hunain mewn ffordd sy'n ein galluogi i gynllunio ein dyfodol fel cenedl o'i gwmpas—nid fel dioddefwyr, nid mewn anfodlonrwydd, ond yn wirioneddol benderfynol. A gadewch inni adeiladu partneriaeth yn y Senedd hon a all helpu i gyflawni'r dyfodol gwell hwnnw.
Yn y gorffennol, am ba reswm bynnag, nid ydym wedi teimlo'n ddigon hyderus i herio'r ecsbloetio—ac rwy'n defnyddio'r gair hwnnw eto. Gadewch inni ddweud bod y dyddiau hynny bellach wedi mynd, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn awr yw edrych ar ein hadnoddau yn eu holl agweddau, a sut i sicrhau y cânt eu defnyddio'n iawn—ie, yn rhyngwladol, mewn partneriaeth â phartneriaid o bob cwr o'r byd, ond er budd ein cymunedau a'n poblogaeth ni.
Lywydd, rydyn ni fel Aelodau Plaid Cymru yn falch o gael y cyfle i gyflwyno dadl fel hon yn Senedd ein gwlad ni. Rydyn ni wedi cael cyfle heddiw i amlinellu rhai o'r pethau sylfaenol yna rydyn ni'n meddwl a all ein galluogi ni i gryfhau seiliau Cymru y dyfodol. Ond, mae angen i'r Senedd yma weithredu ar ddiwedd y dydd—sylweddoli mai gennym ni, fel cynrychiolwyr pobl Cymru a chymunedau Cymru, y mae'r cyfrifoldeb i fynnu yr hawl i warchod ein hadnoddau amhrisiadwy. Does yna ddim ffiniau gwleidyddol na phleidiol ddylai ein gwahanu ni rhag ceisio gwireddu yr uchelgais hwnnw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond mae angen inni gymryd toriad byr gyntaf er mwyn paratoi yn dechnegol. Toriad, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:22.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:26, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Mabon ap Gwynfor ar reoliadau rhent. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. O blaid 14, yn ymatal 22, ac yn erbyn 14. Felly, yn unol â'r canllawiau, mi fyddaf i yn pleidleisio yn erbyn ar y bleidlais gyfartal yna, ac felly mae'r bleidlais yn ei chyfanrwydd yn erbyn.
Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Rheolaethau rhent, cyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor : O blaid: 14, Yn erbyn: 14, Ymatal: 22
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig
Yr eitem nesaf i bleidleisio arno yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau canser. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau Canser. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1 bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, dwi'n bwrw fy mhleidlais i hefyd yn erbyn, yn unol â'r canllawiau. Dwi'n cadarnhau, felly, ganlyniad y bleidlais yna: o blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 yw'r bleidlais nesaf, felly, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly, dwi'n bwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 2, ac felly canlyniad y bleidlais yn derfynol ar welliant 2 yw 25 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 2 hefyd wedi ei wrthod, a gan fod y cynnig a'r ddau welliant heb eu derbyn, yna does dim byd yn cael ei dderbyn a'i gefnogi yn y bleidlais a'r ddadl yna.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gawn ni weld sut aiff y ddadl Plaid Cymru ar adnoddau Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 8. dadl Plaid Cymru - Adnoddau Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Pleidlais ar welliant 1 nesaf, felly—gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1, ac felly canlyniad y bleidlais yn derfynol yw bod 25 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod. Fe wrthodwyd y cynnig, ac felly fe wrthodwyd y cwbl.
A dyna ni, dyna ddiwedd ar ein cyfnod pleidleisio, diolch byth, ac ie, dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio am y prynhawn yma.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Mi fyddwn ni'n symud ymlaen nawr, achos mae darn o waith eto i'w gwblhau: y ddadl fer y prynhawn yma gan Mabon ap Gwynfor ar y testun, 'Po fwyaf rwy'n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i: cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig'. Felly, dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i gyflwyno'i ddadl, a dwi'n galw ar Aelodau, os ydyn nhw'n gadael y Siambr—
Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel. Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi cytuno i bum Aelod arall gymryd rhan yn y drafodaeth wedyn. Mae James Evans, Sam Kurtz, Jane Dodds, Sam Rowlands a Laura Anne Jones wedi mynegi diddordeb i gyfrannu, a dwi'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny.
Llywydd, nid yn aml mae Aelod yn cael cyfle i gyflwyno dadleuon ar lawr ein Senedd, a heddiw dwi'n cael y fraint o gyflwyno dwy ddadl ar faterion gwahanol iawn, ond eto pwysig i fy etholwyr i yn Nwyfor Meirionnydd, ac yn wir i bobl drwy Gymru benbaladr. Dwi'n ddiolchgar nad oes yna bleidlais ar ddiwedd hyn, felly byddaf i ddim yn crio drwy'r nos yn dilyn canlyniad y bleidlais ddiwethaf. [Chwerthin.]
Ond i fynd ymlaen at y teitl: 'Po fwyaf dwi'n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i'. Dyna ydy pennawd y ddadl yma heddiw. Mae'n siŵr eich bod chi gyd wedi dod ar draws y dywediad yma ar ryw ffurf neu'i gilydd dros y blynyddoedd. Mae'n ansicr, mewn gwirionedd, beth ydy gwraidd y dywediad, ond dywed rhai mai Gary Palmer ydy awdur y dywediad, a'i bathodd e mewn gwirionedd. Ond pwy bynnag ddaru fathu'r dywediad, mae'n berffaith glir beth ydy'r neges: os am lwyddo mewn unrhyw faes, yn enwedig chwaraeon, mae'n rhaid ymarfer, ymarfer ac ymarfer er mwyn perffeithio eich crefft. Daw hyn â fi at grynswth y ddadl yma, sef y diffyg adnoddau sydd yn ein cymunedau gwledig er mwyn galluogi pobl i berffeithio eu dawn a mynd ymlaen i gystadlu ar y lefel uchaf.
Er mwyn medru ymarfer a pherffeithio dawn, mae'n rhaid wrth adnoddau; mae'n sefyll i reswm. Rŵan, bydd rhai yn pwyntio allan i rai arwyr athletaidd a ddaeth o gefndir difreintiedig cyn llwyddo yn eu maes lwyddo, a hynny er gwaethaf y cefndir yna, ac mae yna enghreifftiau clodwiw o bobl o'r fath. Ond, ar y cyfan, eithriadau ydy'r bobl yma. Dydy o ddim syndod mai'r gwledydd sy'n buddsoddi fwyaf yn eu hadnoddau ac yn eu hathletwyr sydd yn llwyddo i ennill y medalau ym mha bynnag faes. Mae'r un yn wir ar bob lefel, boed yn chwaraeon rhyngwladol neu ar y lefel mwyaf lleol. I unrhyw un sydd yn amau gwerth buddsoddiadau bach, rhaid ichi ond dilyn yr hyfforddwr seiclo llwyddiannus o Ddeiniolen, David Brailsford, a oedd yn hyrwyddo yr enillion ymylol—y marginal gains. Mae'r pethau bychan, chwedl Dewi Sant, yn gwneud gwahaniaeth.
Cefais y pleser o fynd i siarad efo criw o ddisgyblion Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, tua 10 niwrnod yn ôl—sôn am bobl wybodus, chwilfrydig a serchog. Roedd hi'n bleser cael bod yn eu cwmni. Ta waeth, dyma un ohonyn nhw, Elan Davies, yn gofyn i fi:
'Dwi wrth fy modd efo chwaraeon'—
meddai Elan—
'ond yn gweld diffyg cyfleoedd cyfartal i ferched. Pa gyfleoedd ydych chi'n eu gweld sydd i ferched yng Nghymru ym myd chwaraeon, a thu hwnt i hynny, yn eu bywydau o ddydd i ddydd?'
Nid pwynt gwleidyddol er mwyn ennill pwyntiau gwleidyddol oedd hyn gan Elan, ond profiad byw go iawn ein pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru heddiw, ac—a gadewch imi gael y dudalen iawn—mae'n siarad i'r gwelliant a gyflwynodd Heledd Fychan i ddadl yma ar lawr y Senedd ynghylch chwaraeon nôl ym mis Mehefin. Ac mae Elan yn dweud y gwir. Yn fuan ar ôl i mi gael fy ethol, fe gysylltodd clwb pêl-droed merched Porthmadog â fi, a gofyn am unrhyw gymorth posib er mwyn gwella'r adnoddau oedd ar eu cyfer nhw yn Port, gan nad oedd ganddyn nhw gae chwarae 3G, ac yn aml iawn yn y gaeaf roedd yn rhaid atal ymarferion a mynd i chwarae yn rhywle arall gan fod y cae yn llawer yn rhy fwdlyd.
Neu beth am nofio? Mae gennym ni glybiau nofio rhagorol yn y gogledd, ac mae rhai o'r hyfforddwyr yn dweud wrthyf fi fod yna dalent aruthrol yn y gogledd. Ond os ydy un ohonyn nhw am gyrraedd safon cystadlu uwch, yna mae'n rhaid iddyn nhw deithio lawr i Abertawe, a'r teulu oll yn gorfod mynd lawr am amser maith dros benwythnos hir a thalu am westy a thalu am aros yn Abertawe ar gyfer cyfnod yr hyfforddi. Pam hynny? Oherwydd nad oes gennym ni bwll nofio maint Olympaidd yn y gogledd, ac mae'n rhaid cael adnodd o'r fath er mwyn medru mynd a chystadlu ar lefel uwch.
Mae Dwyfor Meirionnydd, yn wir mae Cymru yn ffodus iawn i gael traethau lu a hardd efo llanw a thrai a surf, ac sydd yn cael eu hadnabod i fod ymhlith y traethau gorau ar gyfer syrffio. Ond er mwyn sicrhau bod y dalent leol yma yn medru cyrraedd y lefel nesaf, a gweld mwy o bobl yn syrffio yng Nghymru ac yn cystadlu ar lefel ryngwladol, mae'n rhaid sicrhau hyfforddwyr ac mae'n rhaid i bobl o bob cefndir gael mynediad i'r gamp.
Yn yr un modd, seiclo—boed yn seiclo ffordd neu'n seiclo mynydd, a phob math arall. Mae gennym ni record i ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru, gyda chlybiau seiclo newydd wedi datblygu yn sgil llwyddiannau Geraint Thomas. Ces i'r fraint o ymweld â chanolfan ragorol Beicio Dyfi, yr Athertons, yn fy etholaeth yn ddiweddar, sydd yn denu miloedd o bobl ar draws Cymru, heb sôn, wrth gwrs, am y gwaith gwych gan Antur Stiniog neu yng Nghoed y Brenin yn Nwyfor Meirionnydd.
Mae gennym ni dirwedd ac adnoddau rhagorol, ond mae'n broses ddrud, ac mae llawer o bobl yn methu â chael mynediad i feicio oherwydd eu hamgylchiadau ariannol. Mae'n rhaid sicrhau bod pobl yn medru cael mynediad i'r meysydd yma i gychwyn, er mwyn cael blas ar y maes, yna'n medru ymarfer, perffeithio'u dawn a mynd ymlaen i bethau mwy.
Yr enghraifft amlycaf, wrth gwrs, o'r methiant ydy'r methiant i sefydlu rhanbarth rygbi cystadleuol yn y gogledd, a chreu llwybr clir i dalent leol fedru datblygu drwy'r rhengoedd. Mae yna blant a phobl ifanc efo doniau di-ri yng Nghymru wledig, o baffio, i nofio, i bêl-droed, ond yn amlach na pheidio, dyw'r adnoddau angenrheidiol ddim wedi cael eu rhoi i mewn, a dydy'r doniau yma ddim yn medru cyrraedd eu llawn botensial. Wrth gwrs, mae'r rhesymeg o blaid gwneud y buddsoddiad yma yn fwy o lawer na chwilio am fri a chlod lleol. Fel y clywsom yn y ddadl ar ordewdra yr wythnos diwethaf, mae yna fuddiannau iechyd lu i'w cael o ddatblygu adnoddau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig hefyd.
Rŵan, gadewch inni edrych ar Norwy am ysbrydoliaeth. Mae Norwy wedi dechrau cynhyrchu llu o athletwyr llwyddiannus. Nid yn unig eu bod nhw'n debygol o guro yn y Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing eleni, ond mae ganddyn nhw chwaraewyr tenis, golff, pêl-droed, ac eraill yn dod i'r fei. Sut? Oherwydd yn Norwy maen nhw'n gweithredu polisi 'pleser chwaraeon i bawb'—the joy of sports for all—gyda phlant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon â phosib, a phrisiau cymryd rhan yn cael eu cadw'n isel gan y Llywodraeth. Ymhellach i hyn, dengys gwaith ymchwil yn Norwy fod datblygu rhaglenni chwaraeon yn y cymunedau gwledig wedi denu merched ifanc o gefndiroedd sosioeconomaidd difreintiedig, gan roi cyfleon i bobl na fyddai wedi eu cael ffordd arall.
Felly, dwi'n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog fis diwethaf ynghylch y buddsoddiad o rai miliynau o bunnoedd fydd yn cael ei roi mewn, er enghraifft, meysydd 3G, ac, yn wir, dwi'n disgwyl clywed y datganiad yna'n cael ei gyhoeddi unwaith eto yma heddiw, ond dwi'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog sicrhau bod canran teg o'r pres yma am gael ei wario ar adnoddau yn y cymunedau gwledig. Hoffwn i hefyd glywed pa gynlluniau uchelgeisiol sydd efo'r Llywodraeth er mwyn cynorthwyo â datblygu pwll nofio maint Olympaidd, neu felodrom, neu ddatblygu canolfan ar gyfer chwaraeon yn ymwneud â'r môr yn ein cymunedau gwledig. Beth ydy uchelgais y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod yna lwybr clir ar gael i blant Cymru er mwyn medru dilyn eu breuddwydion a datblygu eu doniau cynhenid?
Fe hoffwn glywed yn benodol ateb y Gweinidog i gwestiwn Elan: pa gyfleoedd ydych chi'n eu gweld sydd i ferched yng Nghymru, ac yng Nghymru wledig yn enwedig, ym myd chwaraeon a thu hwnt i hynny yn eu bywydau o ddydd i ddydd? Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ymuno â fi ac Elan ar ymweliad efo un o gymunedau Dwyfor Meirionnydd—efallai Pwllheli, cymuned Elan ei hun—er mwyn gweld y dalent ryfeddol sydd gennym ni yno, er mwyn gweld yr anghenion buddsoddi? Diolch yn fawr iawn.
Mae pum person y mae Mabon ap Gwynfor wedi cytuno i rannu ei amser â nhw. Os gall pawb fod yn gryno o fewn y funud, yna bydd amser i'r pump. James Evans.
Fe geisiaf, Lywydd. Diolch. Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor—
Fe wnewch chi fwy na cheisio. [Chwerthin].
Fe geisiaf. Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon. Po fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i, ond fel rhywun sy'n ymarfer chwarae dartiau'n aml, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n hollol wir ar nos Wener. [Chwerthin.] Ond yn ein cymuned ni, ein cyfleusterau chwaraeon yw calon y gymuned, boed hynny'n glybiau rygbi, clybiau pêl-droed, clybiau pêl-rwyd, criced, bowls—beth bynnag, hwy yw calon y gymuned. Roeddwn yn ffodus iawn i fod yn rhan o Glwb Rygbi Gwernyfed yn Nhalgarth, y clwb chwaraeon cymunedol gwych sydd â thîm merched a thimau iau ac sy'n gwneud yn arbennig o dda. Dysgodd y clwb hwnnw nifer o bethau i mi: dysgodd barch i mi, dysgodd i mi am waith tîm, dysgodd i mi werthfawrogi pobl eraill a hefyd sut i gael amser da iawn.
Mae ein clybiau yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddod at ei gilydd. Maent yn meithrin cydlyniant cymunedol, yn helpu'r agenda llesiant ac yn helpu i wella iechyd a llesiant y genedl. Ac rwy'n cytuno, Mabon, y dylid darparu mwy o adnoddau mewn cymunedau gwledig, oherwydd rydym i gyd wedi gweld sut y mae'n rhaid i'n sêr chwaraeon ifanc fynd i'r trefi a'r dinasoedd i allu defnyddio'r cyfleusterau chwaraeon sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial. Ac rwy'n annog y Gweinidog, fel y gwnaethoch chi, i sicrhau bod yr adnoddau hynny'n mynd i gymunedau gwledig fel y gall y bobl ifanc yno gyflawni eu potensial. Diolch, Lywydd.
Diolch i'r Aelod o Ddwyfor Meirionnydd am y cyfle i gyfrannu.
Fel rhywun sydd wedi chwarae llu o chwaraeon drwy gydol eu hoes, o bêl-droed, golff, tenis, rygbi, criced a phopeth arall yn y canol, mae'r ddadl hon wedi gwneud i mi gofio'r profiad o dyfu i fyny yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Ac yn aml roedd yn fwy o siwmperi fel pyst gôl nag ydoedd o Stadiwm y Mileniwm—Stadiwm Principality, maddeuwch imi—neu Celtic Manor neu faes criced Lord's. Ac un peth a'm trawodd yn amlwg iawn yw bod y clybiau'n ymfalchïo'n fawr yn y cyfleusterau sydd ganddynt, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy'n dyst i waith y gwirfoddolwyr, na fyddai llawer o'r clybiau cymunedol hyn yn bodoli hebddynt. Gwirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser am ddim, yn torri gwair y caeau, yn brwsio lloriau ystafelloedd newid, yn golchi citiau chwarae neu hyd yn oed yn cludo plant o amgylch yr ardal fel y gallant fynd i ymarfer chwaraeon a chadw'n heini. Heb y gwirfoddolwyr hyn, ni fyddai gennym chwaraeon llawr gwlad yma yng Nghymru, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bob gwirfoddolwr o bob cwr o Gymru am bopeth a wnânt i sicrhau bod chwaraeon llawr gwlad yng Nghymru mor gryf ag y gall fod. Diolch.
Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch hefyd i Mabon, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma.
Un safbwynt arall—ni wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedwyd ac nid oes gennyf unrhyw alluoedd chwaraeon ychwaith—gofynnais i berson ifanc mewn pentref bach o'r enw Llandinam, sydd â 911 o bobl, yn sir Drefaldwyn, beth a fyddai'n ei helpu a beth a wnaeth ei helpu pan oedd yn tyfu i fyny i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, a dywedodd 'gweithwyr ieuenctid'. Ac felly hoffwn alw am fwy o weithwyr ieuenctid. Rydym wedi gweld dirywiad enfawr yn nifer y gweithwyr ieuenctid ledled Cymru, ac mae'n gwneud gwahaniaeth o ran cynnwys pobl ifanc o wahanol gymunedau a'u galluogi i gymryd rhan mewn chwaraeon. Roeddwn i'n lwcus iawn i ymweld â Shedz ym Mlaenau Ffestiniog lle y mae ganddynt drefn anhygoel yno gyda gweithwyr ieuenctid yn ymgysylltu â phobl ifanc. Felly, gadewch inni symud ymlaen cyn gynted ag y gallwn, ond gadewch inni edrych hefyd ar sut y gallwn gael mwy o weithwyr ieuenctid i ymgysylltu â phobl ifanc i'w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl bwysig iawn hon a chaniatáu i mi siarad. Mae'n wych bod yma i glywed trafodaeth ar fater cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig.
Fel yr amlinellwyd hyd yma yn y ddadl, mae chwaraeon mor hanfodol i gymunedau gwledig, yn enwedig ar lawr gwlad, gan gynnwys y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yng ngogledd Cymru, a gwyddom fod chwaraeon yn hanfodol ar gyfer llesiant meddyliol a chorfforol pobl. Mae'n dod â chymunedau, ffrindiau a theuluoedd at ei gilydd; i rai, mae'n rhoi pwrpas. Ond heb y cyfleusterau addas hyn, mae naill ai'n amhosibl i bobl gymryd rhan neu, fel y gwyddom, mae'n rhaid iddynt deithio oriau lawer i fwynhau chwaraeon y maent eisiau cymryd rhan ynddynt. Wrth gwrs, ar ben y manteision llawr gwlad o gael cyfleusterau chwaraeon da yn ein hardaloedd gwledig, rhaid inni geisio ysbrydoli cenhedlaeth o sêr chwaraeon y dyfodol—y rhai a fydd yn ennill y chwe gwlad i ni, y rhai a fydd yn ennill cwpanau byd a medalau Olympaidd, neu hyd yn oed yn dod yn bencampwyr bowls lawnt anwastad. Felly, i gloi, Lywydd, mae'n hanfodol nad ydym yn methu gôl agored yma, ein bod yn taro cefn y rhwyd a sicrhau bod cyfleusterau chwaraeon ar gael yn ein cymunedau gwledig, a gwneud yn siŵr fod Cymru'n parhau i wneud yn well na'r disgwyl mewn chwaraeon.
Nid yw'r Siambr yn hoff iawn o'ch holl chwarae ar eiriau a'ch jôcs. Laura Jones.
Diolch, a diolch, Mabon, am godi'r pwnc pwysig hwn. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i godi'n barhaus ers i mi fod yn wleidydd. Ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, hoffwn eich sicrhau bod consensws llwyr ar draws y Siambr fod cyfleusterau'n flaenoriaeth allweddol i bob un ohonom. Mae angen eu newid. Maent mewn cyflwr gwael, maent yn hen ffasiwn neu nid ydynt yn bodoli, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'n rhaid inni edrych i mewn i hyn.
Roeddwn yn arfer bod yn ysgrifennydd clwb pêl-droed iau, ac yn llythrennol mae popeth yn cau yn y gaeaf am fod y caeau mor wael. Nid oes unrhyw gyfleusterau 3G o fewn 20 milltir, er enghraifft. Nid yw diffyg cyfleusterau o'r fath yn ddigon da i'n pobl ifanc nac i bobl o unrhyw oedran mewn gwirionedd. Os ydym o ddifrif ynghylch creu sêr y dyfodol, mae angen inni fod o ddifrif ynghylch gwella ein cyfleusterau. Roeddwn yn arfer nofio dros Gymru gyda'r Pontypool Dolphins fel mae'n digwydd. Felly, roeddwn yn nofio saith diwrnod yr wythnos, ac roedd yn rhaid i fy rhieni fynd â mi o Frynbuga i Bont-y-pŵl ac yn ôl saith diwrnod yr wythnos. Mae hwnnw'n ymrwymiad enfawr, ac roeddwn yn ffodus eu bod yn gallu gwneud hynny, neu fel arall ni fyddwn byth wedi cael y cyfleoedd a gefais. Felly, mae teithio'n rhywbeth y mae gwir angen inni edrych arno er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i'r pethau hyn os na allwn ddarparu'r cyfleusterau hynny ar garreg eu drws. Hoffwn ddweud diolch am gyflwyno—. Rwy'n credu ei fod yn bwnc perffaith i siarad amdano, oherwydd ymarfer, ymarfer, ymarfer yw'r ffordd tuag at berffeithrwydd, a bydd yn creu sêr ein dyfodol. A heb unrhyw le i ymarfer, ni fyddwn yn eu creu. Felly, diolch ichi am gyflwyno'r ddadl hon.
A'r Dirprwy Weinidog nawr i ymateb i'r ddadl. Dawn Bowden.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch, Mabon, am gyflwyno'r ddadl hon. Mae hwn yn bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon, a hoffwn ddweud fy mod yn hoff iawn o deitl y ddadl: 'Po fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i', oherwydd y cyfan y gallaf ei feddwl yw nad yw'r holl dimau rwy'n eu cefnogi yn ymarfer yn aml iawn, yn amlwg, gan nad ydynt yn lwcus iawn, mae hynny'n sicr. Ond mae'n ddadl bwysig, Mabon, roedd yn ddadl a oedd yn ysgogi'r meddwl, ac roedd yn dda clywed cynifer o gyfraniadau mewn dadl drawsbleidiol lle y gallwn gytuno ar bron bopeth a gafodd ei ddweud. Felly, diolch i bawb am hynny.
Felly, a gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod eisiau datgan yn glir iawn ar y dechrau fod buddsoddi yng nghyfleusterau chwaraeon ein gwlad sy'n hygyrch ac yn gwella'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru? A byddwn wrth fy modd yn dod i ymweld â'ch etholaeth rywbryd a gweld rhai o'r cyfleusterau sydd gennych eisoes ac y gallem eu datblygu yn y dyfodol. Nawr, mae'r ymrwymiad hwn yn elfen allweddol o'r rhaglen lywodraethu ac yn ymrwymiad personol i mi. Mae buddsoddi yn ein cyfleusterau yn allweddol i ddatgloi cymaint o'n potensial fel cenedl. Wrth inni droi ein golygon at ein hadferiad o'r pandemig, bydd ehangu ar y cyfleoedd i gynyddu cyfranogiad i gefnogi ein hiechyd meddwl a chorfforol yn bwysicach nag erioed.
Mae'n rhaid inni gael dull clir o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Rwy'n canolbwyntio ar fuddsoddi ar lefel elitaidd ac ar lefel gymunedol, llawr gwlad am yr holl resymau a nodwyd gennych yn eich araith. Mae ein buddsoddiad ar lefel elitaidd, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf i gefnogi llwyddiant chwaraeon ein gwlad ar y llwyfan byd-eang, yn allweddol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Gwyddom fod Cymru eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl yn y byd chwaraeon, ac mae'n rhaid inni gynnal hynny a sicrhau ei fod yn tyfu ac yn datblygu wrth inni symud ymlaen.
Ac ymrwymiad pwysicach fyth, yn fy marn i, yw cefnogi a galluogi'r genhedlaeth nesaf yn awr. Ein hymrwymiad yw buddsoddi mewn cyfleusterau newydd a rhai sy'n bodoli'n barod sy'n gwella sylfaen ein chwaraeon cymunedol. Heb gyfleusterau deniadol a hygyrch, ni allwn obeithio cynyddu cyfranogiad ar draws y campau, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dyma'r allwedd i gefnogi datblygiad ein plant a hybu mynediad at chwaraeon, megis buddsoddi mewn chwaraeon merched a menywod, sydd, unwaith eto, yn agos iawn at fy nghalon.
Ac a gaf fi ddiolch i Mabon am atgoffa pawb am fy nghyhoeddiad diweddar am £4.5 miliwn o gyllid cyfalaf pellach eleni i gefnogi'r ymrwymiad hwnnw? Daw hynny â chyfanswm ein buddsoddiad yn 2021-22 i fwy na £13.2 miliwn. Ac wrth edrych tua'r dyfodol, Lywydd, rydym eisoes wedi ymrwymo £24 miliwn o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y tair blynedd nesaf. O'm rhan i, man cychwyn yn unig yw hynny. Ar gyfer ein huchelgais, byddwn yn ceisio adeiladu ar y buddsoddiad cychwynnol hwnnw o flwyddyn i flwyddyn.
Ond nid yw'n ymwneud â maint ein buddsoddiad yn unig; ystyriaeth allweddol i ni a Chwaraeon Cymru yw sut a lle'r ydym yn buddsoddi. Fel y mae Mabon wedi nodi, mae'n rhaid inni sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bob un o'n cymunedau, gan gynnwys ein cymunedau gwledig. Gwyddom fod gennym yr ymrwymiad hwnnw gan ein cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol, boed yn Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, neu Hoci Cymru ac yn y blaen; maent yn barod i weithio gyda ni ar yr ymdrech genedlaethol honno.
Pan fo'r cyfleusterau hynny ymhellach i ffwrdd, gan ein bod yn cydnabod efallai na fydd cae pêl-droed, cae rygbi, cae criced neu wal ddringo ar gael ym mhob cymuned, ac efallai nad yw'n realistig iddynt fod ar gael ym mhob cymuned, rhaid inni sicrhau bod modd galluogi mynediad, naill ai drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol, a chredaf mai dyna roedd Laura'n cyfeirio ato. Ond rhaid i'r cymorth cofleidiol hwnnw i'r cyfleusterau fod yno, a galwaf ar ein holl sefydliadau chwaraeon, awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol i feithrin y cysylltiadau hynny a dod yn alluogwyr ar gyfer ein chwaraeon a'n hamdden.
Lywydd, rhaid imi dynnu sylw'r Aelodau, fodd bynnag, at ymagwedd siomedig a rhwystredig Llywodraeth y DU yn ddiweddar yn y modd y mae wedi anwybyddu egwyddorion pwysig datganoli. Er bod croeso i bob buddsoddiad wrth gwrs, megis buddsoddiadau pêl-droed a thennis diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn defnyddio Deddf marchnad fewnol y DU i ddarparu cyllid uniongyrchol i sefydliadau chwaraeon yng Nghymru, ac nid dyna'r ffordd gywir o'i wneud yn fy marn i. Mae'n gosod cynsail sy'n peri pryder, gan fynd ag atebolrwydd oddi wrth y sefydliadau datganoledig, ac mae'n ychwanegu haen arall o fiwrocratiaeth gymhleth. Mae'n golygu bod yn rhaid inni weithio'n galetach i sicrhau bod buddsoddiadau'n cyd-fynd â'n rhaglen lywodraethu er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion a sicrhau bod cyllid wedi ei ddosbarthu'n deg ac yn gyfartal ledled y wlad, gan ddefnyddio sefydliadau datganoledig sefydledig.
Ond i droi at rai enghreifftiau cadarnhaol, mae Chwaraeon Cymru wedi darparu symiau sylweddol o arian ar gyfer llawer o wahanol chwaraeon ledled Cymru, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig. Ceir llawer o enghreifftiau ar draws ystod o chwaraeon, o welliant i'r caeau yng nghlwb rygbi Gwernyfed a Chlwb Pêl-droed Dinbych, cyrtiau tennis newydd yng Nghas-gwent, rhwydi ymarfer newydd ar gyfer Clwb Criced Sir Benfro, offer newydd ar gyfer Clwb Canŵio'r Bala a matiau newydd ar gyfer clwb jujitsu Brasilaidd yn Ystradgynlais.
Dim ond rhan o'r darlun hwnnw yw'r cyllid chwaraeon a ddarparwn i Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol. Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedau wedi'i chynllunio i wella cyfleusterau cymunedol sy'n ddefnyddiol ac sy'n cael eu defnyddio gan bobl yn y gymuned. Mae cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, yn chwarae rhan hanfodol, gan weithredu fel ffocws ar gyfer digwyddiadau cymunedol, darparu cyfleoedd i wirfoddoli a galluogi mynediad lleol at wasanaethau. Gall hyn fod hyd yn oed yn bwysicach mewn ardaloedd gwledig. Gall cyfleusterau a weithredir gan y gymuned ac sy'n eiddo i'r gymuned hefyd chwarae rhan bwysig yn grymuso pobl leol, gan ddarparu swyddi lleol yn ogystal â chyfleoedd i gymdeithasu, sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, a gwella iechyd a llesiant cyffredinol wrth gwrs.
Mae'r ystâd addysg drwy ein hysgolion a'n colegau yn darparu llwyfan pwysig ar gyfer cyfleusterau chwaraeon. Mae gan ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn flaenorol, rôl bwysig i'w chwarae yn darparu cyfleusterau chwaraeon. Mae'r rhaglen yn ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i ysgolion a cholegau yng Nghymru gefnogi ein dysgwyr a'r cymunedau ehangach. Ein dyhead yw bod yr holl gyfleusterau sy'n derbyn buddsoddiad yn ymrwymo i sicrhau bod yr asedau hynny ar gael at ddefnydd y gymuned lle y ceir galw lleol, ac mae hyn wedi arwain at ddarparu cyfleusterau chwaraeon rhagorol sydd o fudd i bob oedran. Rydym yn disgwyl i bob prosiect ysgol sy'n derbyn cymorth ariannol ddangos y gall eu cyfleusterau gefnogi'r gymuned o'u cwmpas, ac mae hyn yn cynnwys ymestyn y defnydd o asedau ffisegol, megis cyfleusterau chwaraeon at ddefnydd y gymuned, yn ystod oriau ysgol a thu allan i oriau ysgol. Mae enghreifftiau da o'r hyn y gellir ei gyflawni o dan y rhaglen yn cynnwys Ysgol Bro Teifi yn Llandysul. Mae hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 16 oed—tair i 19 oed, mae'n ddrwg gennyf—sydd wedi symleiddio addysg yn yr ardal i gefnogi dysgwyr o oedran cynradd yr holl ffordd drwodd i addysg uwchradd, gan sicrhau bod eu cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys cae pob tywydd a neuadd chwaraeon, ar gael yn rhwydd i'r gymuned gyfagos y tu allan i'r diwrnod ysgol.
Enghraifft arall yw'r ysgol arbennig newydd, Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd, sy'n sicrhau bod gan ein haelodau mwyaf agored i niwed o'r gymuned gyfleusterau i'w cefnogi hwy a'u teuluoedd, gyda phwll hydrotherapi a man awyr agored estynedig. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb os ydym am ryddhau budd chwaraeon i bawb yng Nghymru, o lawr gwlad i chwaraeon elitaidd.
Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon neu i ddychwelyd at chwaraeon. Mae gwerth iechyd, cymdeithasol ac economaidd chwaraeon yn cael ei gydnabod yn eang, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon a thrwy bŵer ataliol chwaraeon. Yr ymrwymiad i chwaraeon llawr gwlad yw'r bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer ein llwyddiant ehangach fel cenedl ar lwyfan y byd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol yn fyd-eang i sicrhau mynediad cyfartal ac i gefnogi ein hathletwyr a'n hyfforddwyr talentog lle bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cael deialog gadarnhaol ac adeiladol gyda rhai o'n partneriaid cenedlaethol ynghylch cyflawni'r amcanion hynny gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach gyda hwy yn y dyfodol—yn y dyfodol agos. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a diolch i bawb am y ddadl yna. Daw hynny â'n gwaith ni am y dydd heddiw i ben. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:58.