Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/06/2023 i'w hateb ar 28/06/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cysylltedd digidol yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau diweithdra yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cynnal gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid eraill ynglŷn â dyfodol Amgueddfa Caerdydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu cynhyrchiant yng Ngorllewin De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lywodraethiant porthladd rhydd Ynys Môn?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu swyddi a chreu cyflogaeth yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gweithgarwch buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch sicrhau bod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024 yn sicrhau’r budd economaidd mwyaf posib a gwaddol diwyllianol i'r ardal?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch rôl incwm sylfaenol o ran cefnogi uwchsgilio a chadw gweithwyr mewn diwydiannau carbon trwm?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dyfu'r economi wledig yng nghanolbarth Cymru?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i helpu busnesau lletygarwch sy'n pryderu am gontractau ynni a lefelau TAW?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro rheolaeth anghydraddoldebau iechyd ar draws Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r gefnogaeth i bobl â diabetes ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar argaeledd gwasanaethau deintyddol drwy'r GIG yn ardal Rhydaman?
Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r broses ymgysylltu a ddefnyddiwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys mewn perthynas â'r adolygiad gwasanaeth?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion â chanser y fron metastatig?
Sut mae'r Gweinidog yn gwella canlyniadau i breswylwyr sy'n cael triniaeth am ganser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fynediad at ofal iechyd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cleifion â myasthenia gravis yn cael mynediad at dabledi bromid pyridostigmine?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth iechyd meddwl i ffermwyr?
Pa bolisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu i annog ymddygiadau byw'n iach yn Islwyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ag anableddau ac anghenion cymhleth i gael mynediad at wasanaethau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru?