Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/01/2026 i'w hateb ar 28/01/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu perfformiad a llywodraethiant cabinetau awdurdodau lleol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn adfywio canol trefi yn Nwyrain De Cymru?
Sut bydd setliad llywodraeth leol 2026-27 yn effeithio ar bobl Pen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yng nghanol trefi ar draws gogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi trosolwg o'r cyllid y mae'n ei ddarparu i Gyngor Sir Powys i gyflawni ei ddyletswyddau statudol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau yn Nwyrain De Cymru i sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu darparu'n effeithiol?
Pa brosesau mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynllun Warm Homes Llywodraeth y DU ar Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i adfywio canol dinas Casnewydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phwysau ariannol sy'n wynebu awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd Cynllun Cartrefi Clyd y Llywodraeth?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod darparwyr addysg drydyddol yn barod ar gyfer twf y sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gweithredu argymhellion adroddiad Estyn, Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu, mewn ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adleoli campws Coleg Gwent i ganol dinas Casnewydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion?
Pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o weithrediad y system anghenion dysgu ychwanegol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod disgwyliad cenedlaethol y bydd ysgolion yng Nghymru yn ddi-ffôn yn ddiofyn yn ystod y diwrnod ysgol, gydag eithriadau clir a chyfyngedig ar gyfer resymau meddygol, cyfrifoldebau gofalu ac anghenion dysgu ychwanegol?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r sector addysg awyr agored ynglŷn â phenderfyniad Cymwysterau Cymru i ddileu'r rhaglenni Dysgu yn yr Awyr Agored lefel 1 a lefel 2?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch yn y dyfodol?
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod Prifysgol Wrecsam yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i economi gogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddarparu cyrsiau galwedigaethol yng ngorllewin Cymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod dysgwyr ym mhob ysgol a choleg yn deall y broses ddemocrataidd yng Nghymru?