Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/04/2022 i'w hateb ar 26/04/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o botensial y gronfa ffyniant gyffredin i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o gymorth ariannol i gyflawni eu dyletswyddau a'u rhwymedigaethau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yn Nwyrain Casnewydd gyda biliau cynyddol yr aelwyd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc mewn cartrefi preswyl arbenigol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o allu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i arwain ar yr ymwchiliad i COVID-19 yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru ynghylch gwella tryloywder yn y broses gynllunio?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru?