Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/01/2024 i'w hateb ar 23/01/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o nifer y lleoedd hyfforddi therapi lleferydd ac iaith sydd ar gael yng Nghymru?
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol ynghylch y rhesymeg y mae'n rhaid iddynt ei dilyn wrth baratoi eu cynlluniau datblygu lleol?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r ymateb cyhoeddus i adolygiad Llywodraeth Cymru o 20mya?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw toriadau i gyllid awdurdodau lleol yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau sy'n agored i niwed?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adfer cyllideb Cymru yn unol â chwyddiant cynyddol yn y DU?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at gynnig adferiad cyflog teg i feddygon iau?
Pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch canllawiau drafft y Swyddfa Gartref a fyddai'n caniatáu i brotestwyr gwrth-erthyliad fynd at fenywod sy'n mynd i glinigau erthyliad?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gynnydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud ar fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru ers 2018?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi cefnogaeth ariannol i bobl o gefndiroedd difreintiedig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro yn y deuddeg mis nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu canser ceg y groth?