Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/03/2023 i'w hateb ar 22/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ymdrechion llwyddiannus sy'n mynd ymlaen yn Arfon a mannau eraill i ddenu mwy o ferched i fod yn gynghrowyr sir?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i roi mynediad i amlosgfeydd lleol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl dalentog i weithio mewn llywodraeth leol o ystyried effaith yr argyfwng costau byw?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr llywodraeth leol i symud cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth buddsoddiadau tanwydd ffosil?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o waddol ariannol y fenter cyllid preifat yng Nghymru?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gymorth arainnol ychwanegol i Gyngor Sir Ynys Môn yn sgil cyhoeddiad y 2 Sisters Food Group am gau ei safle yn Llangefni?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am godiadau treth cyngor yng Ngogledd Cymru?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ymyriadau cyllido sy'n galluogi cynghorau Cymru i fynd i'r afael ag effaith tlodi wrth baratoi cyllideb y Llywodraeth ar gyfer 2023-24?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith chwyddiant uchel ar ariannu gwasanaethau cyhoeddus?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith cyllideb wanwyn Canghellor y DU ar Gymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen buddsoddi i arbed Llywodraeth Cymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod ganddi'r ystadegau sydd eu hangen arni i lywio polisi?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â bargen twf y gogledd?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mannau gwyrdd cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid domestig yng Nghwm Cynon?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu gwenyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr ymgynghoriad sydd i ddod ar ddyfodol rasio milgwn yng Nghymru?
Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am uned mamau a babanod i’r gogledd a fyddai'n gwasanaethu pobl Arfon?
Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi gwneud o effeithiolrwydd gwariant y gronfa datblygu gwledig ar y prosiect Down to Earth?
A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i reoleiddio bridio cathod?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymdrechion y Llywodraeth i adfywio economi'r cefn gwlad?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hybu lles anifeiliaid yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant y rhaglen datblygu gwledig?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hwyluso'r gwaith o ficrosglodynnu cathod a chŵn?