Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/06/2023 i'w hateb ar 21/06/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ac ieuenctid eraill ynghylch dod â noeth-chwilio plant i ben, yn dilyn yr argymhelliad yn adroddiad Comisiynwyr Plant Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn Sir Drefaldwyn?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu canllawiau i fynd i'r afael â phryderon am y berthynas rhwng rhannu data a pharodrwydd goroeswyr trais ar sail rhywedd i geisio cymorth?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod tosturi yn cael ei gynnwys mewn systemau cymorth i bobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae undebau credyd yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael ag allgáu digidol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu darpariaeth heddlu cymunedol yn Sir Ddinbych?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu ynghylch mynd i'r afael â masnachu pobl yn ne Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch mesurau trawsbynciol i'w cynnwys yn y strategaeth tlodi plant wedi'i diweddaru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd costau byw yn ei chael ar dlodi yn Rhondda y gaeaf hwn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio rhwng cymunedau yng Nghanol De Cymru a'r heddlu lleol, gan gynnwys swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Chymdeithas yr Ynadon ynghylch profiad pobl ifanc o'r system lysoedd?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr effaith a gaiff y gwelliannau a wnaed i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023 ar Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan Brexit ar gyfer polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r nifer sy'n pleidleisio yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ac amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Senedd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y trefniadau gweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y caiff y gwahaniaeth rhwng systemau adnabod pleidleiswyr a systemau cofrestru yn etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau yng Nghymru ar ymddygiad pleidleiswyr?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r angen am gywirdeb ac eglurder yn y termau a ddefnyddir i ddisgrifio trefniadau awdurdodaeth yn y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu eu cael â'r Prif Ustus newydd ynghylch datganoli cyfiawnder?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at ei nod o ddatganoli rhagor o bwerau i'r Senedd a Llywodraeth Cymru?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddatrys yr anghydfod llafur gydag Undeb y PCS?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd?
Pa gamau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i wella ymgysylltiad y Senedd â'r cyhoedd yng Nghymru?
Pa baratoadau sy'n cael eu gwneud gan y Comisiwn ar gyfer diwygio etholiadol y Senedd erbyn 2026?
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith costau cynyddol ar allu plant ysgol i ymweld â'r Senedd?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynlluniau i ddod â gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan gontractwyr allanol yn fewnol?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei rôl o ran diwygio'r Senedd?
Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hyfforddiant CPR a diffibriliwr i Aelodau o'r Senedd a staff Comisiwn y Senedd?
Pa gynnydd y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ran lleihau faint o wastraff bwyd a gynhyrchir ar ystâd y Senedd eleni o'i gymharu â'r cyfnod cymharol y llynedd?