Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/05/2025 i'w hateb ar 21/05/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyfleusterau cymunedol?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw ar Ddwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch effaith ei newidiadau arfaethiedig i bolisiau fisâu ar y gweithlu yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiweddu caethwasiaeth fodern yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd sy'n magu plant anabl?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â mynd i'r afael â throseddu mewn ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru gyda Policy in Practice i wella mynediad dinasyddion at fudd-daliadau?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu help i geiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n ffoi rhag yr argyfwng dyngarol yn Gaza?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu mynediad cymunedau at fannau gwyrdd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi ffermwyr ar draws Gorllewin De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am rôl y cynllun ffermio cynaliadwy o ran cyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth Cymru ar gyfer 2030 a gwarchod rhywogaethau sydd dan fygythiad, fel y gylfinir?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cenhadaeth Llywodraeth y DU ar gyfer ynni glân erbyn 2030 ar yr amgylchedd a newid hinsawdd yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd mewn tanau mynydd yn Rhondda dros yr wythnosau diwethaf?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i sefydlu parc morol cenedlaethol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw Cymru yn allforio ei hallyriadau i wledydd eraill drwy gynyddu dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi'i fewnforio?
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o effaith newid Llywodraeth y DU i'r dreth etifeddiaeth amaethyddol ar wragedd gweddw yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar gyfer gweithgareddau awyr agored?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu afancod?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector amaethyddol yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i reoleiddio tacluswyr anifeiliaid anwes, yn dilyn yr ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd lles anifeiliaid?