Y Cyfarfod Llawn
Plenary
21/05/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Deputy Presiding Officer (David Rees) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip. Mae cwestiwn 1 gan Altaf Hussain.
Good afternoon and welcome, all, to this Plenary meeting. The first item this afternoon will be questions to the Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip. Question 1 is from Altaf Hussain.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol? OQ62748
1. What action is the Welsh Government taking to support male victims of domestic abuse, gender-based violence and sexual violence? OQ62748

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Thank you very much for your question.
Safer Wales's project Dyn works with male victims of domestic abuse, gender-based violence and sexual violence, and provides them with access to support services and safety. We have recently provided project Dyn with a significant uplift in their revenue award for 2025-26.
Mae Dyn, prosiect Cymru Ddiogelach, yn gweithio gyda dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, ac yn rhoi mynediad iddynt at wasanaethau cymorth a diogelwch. Yn ddiweddar, rydym wedi rhoi cynnydd sylweddol i brosiect Dyn yn eu dyfarniad refeniw ar gyfer 2025-26.
Thank you, Cabinet Secretary. I recently had the pleasure of meeting Jonathan's House Ministries, who provide safe spaces for men and boys experiencing abuse. We discussed their proposal to establish a residential refuge within Bridgend County Borough Council area, Wales's first male-only support service of the type. They highlighted the difficulties in obtaining Government grants, which are traditionally much more focused on violence against women and girls. Cabinet Secretary, would you be happy to meet with Jonathan's House to discuss their proposals?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyfarfod â Jonathan's House Ministries, sy'n darparu mannau diogel i ddynion a bechgyn sy'n cael eu cam-drin. Fe wnaethom drafod eu cynnig i sefydlu lloches breswyl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y gwasanaeth cymorth i ddynion yn unig cyntaf o'i fath yng Nghymru. Fe wnaethant dynnu sylw at yr anhawster i gael grantiau'r Llywodraeth, sydd yn draddodiadol yn canolbwyntio llawer mwy ar drais yn erbyn menywod a merched. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n barod i gyfarfod â Jonathan's House i drafod eu cynigion?
Thank you very much for that feedback from your recent meeting regarding Jonathan's House—and very interesting feedback. In terms of spaces for refuges, we can just give you a picture here: on 1 March 2023, across England and Wales, there were 43 organisations and 92 dedicated spaces for male survivors of abuse, or 183 for either men or women. It's important to see that there is refuge for male survivors, refuge provision. I certainly will ask my officials to meet with Jonathan's House.
Diolch am yr adborth hwnnw o'ch cyfarfod diweddar ynghylch Jonathan's House—ac adborth diddorol iawn. O ran lleoedd ar gyfer llochesi, gallwn roi darlun i chi yma: ar 1 Mawrth 2023, ledled Cymru a Lloegr, roedd 43 o sefydliadau a 92 o leoedd pwrpasol ar gyfer goroeswyr gwrywaidd cam-drin, neu 183 ar gyfer dynion neu fenywod. Mae'n bwysig gweld bod lloches ar gael i oroeswyr gwrywaidd, darpariaeth lloches. Byddaf yn sicr yn gofyn i'm swyddogion gyfarfod â Jonathan's House.
Mae cwestiwn 2 [OQ62730] wedi ei dynnu nôl. Felly, cwestiwn 3, Natasha Asghar.
Question 2 [OQ62730] has been withdrawn. So, question 3, Natasha Asghar.
3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw ar Ddwyrain De Cymru? OQ62738
3. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact on South Wales East of the UK Supreme Court's ruling on the definition of a woman? OQ62738
Thank you for your question. We will take the time to consider the judgment and the forthcoming statutory guidance from the Equality and Human Rights Commission, and take the steps required to meet our obligations under the Equality Act 2010 while respecting the dignity and human rights of all people in Wales.
Diolch am eich cwestiwn. Byddwn yn rhoi amser i ystyried y dyfarniad a'r canllawiau statudol sydd ar y ffordd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac yn cymryd y camau angenrheidiol i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gan barchu urddas a hawliau dynol pawb yng Nghymru.
Thank you. Cabinet Secretary, the UK Labour and Welsh Labour Governments' responses to this clear-cut judgment have been lacklustre, to say the least. Your fatal flaw as a Government has been to be non-offensive to anyone, and yet you've ended up offending everybody, putting yourselves in a unique position of ultimately keeping no-one happy. What amazes me is that a political party who says that they look after women has ignored the fundamental ask that women have been calling for: safe spaces and recognition. This isn't a new request. We've had legislation under your Labour Government, such as the Equality Act of 2010, and even the Sex Discrimination Act of 1975, which are aimed at, ultimately, protecting women. You cannot even bring yourselves to define what a woman is here in the Welsh Parliament, and that really, truly saddens me. So, Cabinet Secretary, can you please tell me, as well as this Parliament here today, when this landmark judgment will be rolled out in every single healthcare setting and public space here in Wales? Thank you.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymatebion Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru i'r dyfarniad clir hwn wedi bod yn ddi-fflach, a dweud y lleiaf. Eich camgymeriad angheuol fel Llywodraeth oedd ceisio peidio â phechu unrhyw un, ac eto, rydych chi wedi pechu pawb, gan roi eich hunain yn y sefyllfa unigryw o beidio â chadw unrhyw un yn hapus. Yr hyn sy'n fy synnu yw bod plaid wleidyddol sy'n dweud ei bod yn gofalu am fenywod wedi anwybyddu'r cais sylfaenol y mae menywod wedi bod yn galw amdano: mannau diogel a chydnabyddiaeth. Nid yw hwn yn gais newydd. Rydym wedi cael deddfwriaeth o dan eich Llywodraeth Lafur, fel Deddf Cydraddoldeb 2010, a hyd yn oed Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, sydd â'r nod, yn y pen draw, o ddiogelu menywod. Ni allwch hyd yn oed ddiffinio beth yw menyw yma yn Senedd Cymru, ac mae hynny'n fy nhristáu'n fawr iawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf i, yn ogystal â'r Senedd yma heddiw, pryd y bydd y dyfarniad nodedig hwn yn cael ei gyflwyno ym mhob lleoliad gofal iechyd a man cyhoeddus yma yng Nghymru? Diolch.
It is important that we take time to consider the implications of the Supreme Court judgment. I was very pleased that there was an open letter from the Westminster women and equalities cross-party committee requesting an extension of the consultation period, to ensure all stakeholders will have adequate time to appropriately engage with the consultation. This is a consultation, of course, that will be undertaken by the Equality and Human Rights Commission, and we have to await the certainty of an updated code of practice in order to fully respond. I think it's important—. The consultation is from 19 May 2025 until 30 June. We'll consider our response at that time, when we have clarity on the code of practice. But we are working at pace to understand, across Government, and several Cabinet Secretaries have responded to questions in the Chamber, which is all-important. We need to understand the implications of this ruling on the public sector and for Wales as a whole. But, as I said in my written statement, we expect the code of practice to fully consider the human rights of all people affected by the Supreme Court ruling.
Mae'n bwysig ein bod yn rhoi amser i ystyried goblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys. Roeddwn yn falch iawn o weld llythyr agored gan y pwyllgor trawsbleidiol ar gydraddoldeb menywod yn San Steffan yn gofyn am estyniad i'r cyfnod ymgynghori, er mwyn sicrhau y bydd gan bob rhanddeiliad ddigon o amser i ymgysylltu'n briodol â'r ymgynghoriad. Ymgynghoriad yw hwn, wrth gwrs, a fydd yn cael ei gynnal gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac mae'n rhaid inni aros am sicrwydd cod ymarfer wedi'i ddiweddaru er mwyn ymateb yn llawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig—. Cynhelir yr ymgynghoriad o 19 Mai 2025 tan 30 Mehefin. Byddwn yn ystyried ein hymateb bryd hynny, pan fydd gennym eglurder ar y cod ymarfer. Ond rydym yn gweithio'n gyflym i ddeall, ar draws y Llywodraeth, ac mae sawl Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb i gwestiynau yn y Siambr, sy'n hollbwysig. Mae angen inni ddeall goblygiadau'r dyfarniad hwn ar gyfer y sector cyhoeddus ac ar gyfer Cymru gyfan. Ond fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, rydym yn disgwyl i'r cod ymarfer ystyried hawliau dynol yr holl bobl yr effeithir arnynt gan ddyfarniad y Goruchaf Lys yn llawn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Questions now from the party spokespeople. The Conservative spokesperson, Altaf Hussain.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, do you agree with me that organisations in receipt of public funds should not be making political statements?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi na ddylai sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus fod yn gwneud datganiadau gwleidyddol?
Well, I'm afraid you'll have to elaborate, I think, on that question, Altaf. Obviously, it's leading to somewhere.
Wel, mae arnaf ofn fy mod yn credu y bydd yn rhaid ichi ymhelaethu ar eich cwestiwn, Altaf. Yn amlwg, mae'n arwain i rywle.
Well, that's my second question. I welcome your response, what you said, that you don't know about it fully. Pride Cymru's decision to ban politicians attending Pride events is a huge backward step. Those of us who champion Pride and the LGB movement are being ditched as allies because we also champion women's rights. The radical trans agenda is setting back lesbian, gay, and bisexual rights by dictating who can and cannot be represented at Pride events. Cabinet Secretary, will you join me in condemning the organisers of Pride Cymru for taking this retrograde step? And will you reconsider providing them with public funding if they continue with this stance?
Wel, dyna fy ail gwestiwn. Rwy'n croesawu eich ymateb, yr hyn a ddywedoch chi, nad ydych yn gwybod popeth am hyn. Mae penderfyniad Pride Cymru i wahardd gwleidyddion rhag mynychu digwyddiadau Pride yn gam enfawr yn ôl. Mae'r rhai ohonom sy'n cefnogi Pride a'r mudiad LHD yn cael ein gwrthod fel cynghreiriaid am ein bod hefyd yn cefnogi hawliau menywod. Mae'r agenda draws radical yn lleihau hawliau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol drwy bennu pwy all a phwy na all gael eu cynrychioli mewn digwyddiadau Pride. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio trefnwyr Pride Cymru am gymryd y cam hwn yn ôl? Ac a wnewch chi ailystyried darparu cyllid cyhoeddus iddynt os ydynt yn parhau â'r safbwynt hwn?
Thank you very much for elaborating and clarifying your question. I'm very pleased that we have been able to fund Pride Cymru over the years. This financial year, we've committed £25,500 to continue our support for Pride Cymru, because we do support grass-roots Pride events, and it's had a successful third year. There are many more local events. I understand one took place in Swansea last weekend. Also, last week, we were able to announce the funding for local Pride events, for local Pride organisations to come forward to apply for this funding.
I think we have to respect the situation in terms of, particularly, the LGBTQ+ community. It does relate back to the previous question, because there is concern about the Supreme Court judgment. I think we have to respect that this is something where we need to understand, and, indeed, I'm meeting with Pride. You'll be glad to hear, Altaf, that I'm meeting with Pride, because I want to understand where their concerns are, but also to reassure them in terms of the fact that we need to respond fully and consider their concerns, their evidence, particularly about the Supreme Court judgment.
Yes, we have a LGBTQ+ action plan, which we were very proud to launch in Wales, and, of course, it has been widely regarded as an example of a plan that's been developed and recognised as an example of human rights policy making.
I did just want to say that, in my written statement, we do acknowledge the fear and uncertainty that trans people across Wales are experiencing. But what we need to do, as the Supreme Court judgment and the judge said, is that we must make sure that there is understanding, that we can listen to everyone, we can understand it. And, as he said, Judge Hodge, this was not a triumph of one group over another. So, I do look forward to meeting with Pride, and I'm sure that we can all attend, if we wish, Pride events in an individual capacity.
Diolch am ymhelaethu ac egluro eich cwestiwn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ariannu Pride Cymru dros y blynyddoedd. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi ymrwymo £25,500 i barhau â'n cymorth i Pride Cymru, gan ein bod yn cefnogi digwyddiadau Pride ar lawr gwlad, ac maent wedi cael trydedd flwyddyn lwyddiannus. Mae llawer mwy o ddigwyddiadau lleol. Rwy'n deall bod un wedi'i gynnal yn Abertawe dros y penwythnos. Hefyd, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi'r cyllid ar gyfer digwyddiadau Pride lleol, fel y gall sefydliadau Pride lleol wneud cais am y cyllid hwn.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni barchu'r sefyllfa o ran y gymuned LHDTC+ yn arbennig. Mae'n ymwneud â'r cwestiwn blaenorol, gan fod pryder ynghylch dyfarniad y Goruchaf Lys. Credaf fod yn rhaid inni barchu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen inni ddeall, ac yn wir, rwy'n cyfarfod â Pride. Byddwch yn falch o glywed, Altaf, fy mod yn cyfarfod â Pride, gan fy mod am ddeall eu pryderon, ond hefyd i roi sicrwydd iddynt ynglŷn â'r ffaith bod angen inni ymateb yn llawn ac ystyried eu pryderon, eu tystiolaeth, yn enwedig ynglŷn â dyfarniad y Goruchaf Lys.
Oes, mae gennym gynllun gweithredu LHDTC+, yr oeddem yn falch iawn o'i lansio yng Nghymru, ac wrth gwrs, fe'i hystyrir gan lawer yn enghraifft o gynllun sydd wedi'i ddatblygu a'i gydnabod fel enghraifft o lunio polisïau hawliau dynol.
Roeddwn eisiau dweud, yn fy natganiad ysgrifenedig, ein bod yn cydnabod yr ofn a'r ansicrwydd y mae pobl draws ledled Cymru yn ei deimlo. Ond yr hyn y mae angen inni ei wneud, fel y dywedodd dyfarniad y Goruchaf Lys a'r barnwr, yw sicrhau bod dealltwriaeth, y gallwn wrando ar bawb, y gallwn ei ddeall. Ac fel y dywedodd y Barnwr Hodge, nid buddugoliaeth i un grŵp ar draul y llall oedd hon. Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod â Pride, ac rwy'n siŵr y gall pob un ohonom fynychu digwyddiadau Pride yn unigol os dymunwn.
Thank you very much, Cabinet Secretary, and I'm thankful to Natasha for raising this issue earlier. Now, since the Supreme Court's supremely sensible ruling clarified the definition of sex in the Equality Act, there has been a lot of hysteria from certain segments. It's not transphobic to welcome the reintroduction of safe spaces for biological women. I understand that your Government wishes to carefully consider the Supreme Court ruling. However, decisions are having to be made right now and many bodies cannot afford to wait for the Welsh Government's guidance. Despite the clarity provided by the Supreme Court and the Equality and Human Rights Commission's interim guidance, many organisations are struggling to understand the impact. The Labour Party are cancelling their women's conference because they believe their stance on self-ID will open them up to legal challenge. Cabinet Secretary, when will the Welsh Government be in a position to advise bodies and organisations in Wales on the impact of the Supreme Court's ruling?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n ddiolchgar i Natasha am godi'r mater hwn yn gynharach. Nawr, ers i ddyfarniad hynod synhwyrol y Goruchaf Lys egluro'r diffiniad o ryw yn y Ddeddf Cydraddoldeb, bu llawer o hysteria gan rai grwpiau. Nid yw croesawu ailgyflwyno mannau diogel i fenywod biolegol yn drawsffobig. Rwy'n deall bod eich Llywodraeth yn awyddus i ystyried dyfarniad y Goruchaf Lys yn ofalus. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ar unwaith, ac mae llawer o gyrff yn methu fforddio aros am ganllawiau Llywodraeth Cymru. Er gwaethaf yr eglurder a ddarparwyd gan ganllawiau dros dro'r Goruchaf Lys a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae llawer o sefydliadau'n ei chael hi'n anodd deall yr effaith. Mae'r Blaid Lafur yn canslo eu cynhadledd fenywod gan eu bod yn credu y bydd eu safbwynt ar hunanddiffinio yn eu gwneud yn agored i her gyfreithiol. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gynghori cyrff a sefydliadau yng Nghymru ar effaith dyfarniad y Goruchaf Lys?
Well, thank you, again, for that follow-up question. I think it is important, to go back to my previous responses, that we do have to await the opportunity to consider what will be a draft code of practice. The consultation opened on 19 May and is open until 30 June. And all organisations—. The Welsh Government, of course, is already looking extensively at the impact of the Supreme Court judgment. And we also have to take into account all of the evidence that's coming from across Government, across civil society, and, indeed, recognise the impact that this may have in terms of how we move forward. I don't think decisions do need to be made right now, but clearly we can't answer for all of those where decisions might affect the forthcoming arrangements and policies that may have to be implemented.
But I'm confident that we are taking the right steps to ensure that—. And it's important that there is scrutiny in this Chamber and that you are asking me these questions, and your colleague this afternoon, because it is important that we learn from these questions—we learn about the concerns, the considerations, the impact this has on all of those who have been affected, and that we also make sure that we have got a correct understanding of this judgment. And, of course, the judgment clarifies that the provisions in the Equality Act 2010 referring to the terms 'man', 'women' and 'sex' can only be interpreted as referring to biological sex. The judgment doesn't remove protections for trans people with or without a gender-recognition certificate. So, it's important that we do take account of all the implications of this judgment.
Wel, diolch eto am eich cwestiwn dilynol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, i fynd yn ôl at fy ymatebion blaenorol, fod yn rhaid inni aros am y cyfle i ystyried yr hyn a fydd yn god ymarfer drafft. Agorodd yr ymgynghoriad ar 19 Mai, a bydd ar agor tan 30 Mehefin. Ac mae pob sefydliad—. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, eisoes yn edrych yn helaeth ar effaith dyfarniad y Goruchaf Lys. Ac mae'n rhaid i ni hefyd ystyried yr holl dystiolaeth sy'n dod o bob rhan o'r Llywodraeth, ar draws cymdeithas sifil, ac yn wir, cydnabod yr effaith y gallai hyn ei chael ar sut rydym yn symud ymlaen. Nid wyf yn credu bod angen gwneud penderfyniadau ar unwaith, ond yn amlwg, ni allwn ateb dros bob un o'r rheini lle gallai penderfyniadau effeithio ar y trefniadau a'r polisïau sydd ar y ffordd ac y gallai fod yn rhaid eu gweithredu.
Ond rwy'n hyderus ein bod yn cymryd y camau cywir i sicrhau bod—. Ac mae'n bwysig fod craffu yn y Siambr hon, a'ch bod yn gofyn y cwestiynau hyn i mi, a'ch cyd-Aelodau y prynhawn yma, gan ei bod yn bwysig ein bod yn dysgu o'r cwestiynau hyn—rydym yn dysgu am y pryderon, yr ystyriaethau, yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bawb sydd wedi cael eu heffeithio, a'n bod hefyd yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gywir o'r dyfarniad hwn. Ac wrth gwrs, mae'r dyfarniad yn egluro mai dim ond fel cyfeiriad at ryw biolegol y gellir dehongli'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy'n cyfeirio at y termau 'dyn', 'menywod' a 'rhyw'. Nid yw'r dyfarniad yn dileu amddiffyniadau i bobl draws pa un a oes ganddynt dystysgrif cydnabod rhywedd ai peidio. Felly, mae'n bwysig ein bod yn ystyried holl oblygiadau'r dyfarniad hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
The Plaid Cymru spokesperson, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae briff ymchwil gan Dr Rhian Croke, o Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru, a Saqib Deshmukh a Yasmin Begum ac eraill o Insaafi CIC, wedi datgelu bod yr arfer o noeth-chwiliadau o blant yn parhau ar lefel annerbyniol o uchel yng Nghymru, er ei fod yn drawmatig ac yn groes i'r hawliau plant yr ydym ni wedi'u hymgorffori i'n cyfreithiau. Dyw plismona ddim wedi'i ddatganoli, ond, ers blynyddoedd, mae yna alwadau wedi bod gan ymgyrchwyr hawliau plant i atal hyn. Fe ofynnais i chi yn ôl yn 2023 am hyn ac fe sonioch chi eich bod chi'n, a dwi'n dyfynnu,
'cymryd y mater...o ddifrif',
a nodi eich bod chi wedi cwrdd â'r comisiynwyr heddlu i wella data ac i gytuno, yn eich geiriau chi,
'camau pellach i'w cymryd'.
Ers hynny, mae Comisiynydd Plant Lloegr wedi cyhoeddi trydydd adroddiad ar y mater gan ddatgelu bod lefel uwch o'r arfer yma yng Nghymru a bod Heddlu De Cymru ar restr o bum ardal heddlu sydd â'r nifer uchaf o noeth-chwiliadau o blant dros y Deyrnas Gyfunol.
A ydych chi'n cytuno, felly, fod angen dod â'r arfer yma i ben? Pam nad oes mwy o weithredu wedi bod ar hyn? Ac a wnewch chi alw ar eich chwaer Lywodraeth Lafur yn San Steffan i ddatblygu canllawiau statudol a dulliau amgen o chwilio sy'n ffocysu ar hawliau ac anghenion penodol plant?
Thank you, Dirprwy Lywydd. A research brief from Dr Rhian Croke, from Children's Legal Centre Wales, and Sagib Dishmukh and Yasmin Begum and others from Insaafi Community Interest Company, revealed that the practice of strip-searching of children is still at an unacceptably high level in Wales, even though it is traumatic and runs counter to the children's rights that we have incorporated into our laws. Policing and criminal justice have not been devolved, but for years there have been calls from campaigners and children's rights advocates to stop this practice. I asked you back in 2023 about this and you said that you had, and I quote,
'taken this issue...seriously',
and you indicated that you'd met with the police commissioners to improve data and to agree on, in your words,
'further action to be taken'.
Since then, the Children's Commissioner for England has published a third report on the matter, revealing that there is a higher level of this practice here in Wales and that South Wales Police is on a list of five police areas that conduct the highest number of strip searches on children across the UK.
Do you agree, therefore, that the practice of strip-searching children needs to end? Why hasn't there been more action on this, and will you call on your sister Labour Government in Westminster to develop statutory guidelines and alternative methods of search that focus on children's specific rights and needs?
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Thank you very much for that really important question and a reminder of that report from the Children's Commissioner for England—the UK Government children's commissioner—in terms of that evidence that she gave and brought forward, which, of course, is of huge concern in terms of strip searches of children. And we will know, of course, of a high-profile case, which is really, really difficult in terms of the circumstances of the young people affected—it comes into the public domain, and then it goes out of the public domain, and there isn’t the scrutiny, the questions, which I do welcome this afternoon.
I will raise this with the police and crime commissioner, the lead commissioner—I meet regularly with Dafydd Llewellyn—but with all of the police and crime commissioners for Wales. I will raise this to see what’s happening in Wales in terms of our police forces. We have a policing and partnership board meeting in July. I will put it on the agenda, but, of course, I’ll also raise this with the policing Minister, who I’m meeting—Dame Diana Johnson. I will raise it with her, as well, when I meet her next week.
Diolch, Sioned Williams. Diolch am eich cwestiwn pwysig iawn ac am ein hatgoffa o'r adroddiad gan Gomisiynydd Plant Lloegr—comisiynydd plant Llywodraeth y DU—o ran y dystiolaeth a roddodd ac a gyflwynwyd ganddi, sydd wrth gwrs yn destun cryn bryder o ran noeth-chwilio plant. A byddwn yn gwybod, wrth gwrs, am achos amlwg iawn, sy'n wirioneddol anodd o ran amgylchiadau'r bobl ifanc yr effeithiwyd arnynt—mae'n dod i'r parth cyhoeddus, ac yna mae'n mynd allan o'r parth cyhoeddus, ac ni cheir y craffu, y cwestiynau, yr wyf yn eu croesawu y prynhawn yma.
Byddaf yn codi hyn gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu, y prif gomisiynydd—rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Dafydd Llywelyn—ond gyda holl gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru. Byddaf yn codi hyn i weld beth sy'n digwydd yng Nghymru o ran ein heddluoedd. Mae gennym gyfarfod bwrdd plismona a phartneriaeth ym mis Gorffennaf. Byddaf yn rhoi hyn ar yr agenda, ond wrth gwrs, byddaf hefyd yn codi hyn gyda'r Gweinidog plismona, yr wyf yn cyfarfod â hi—y Fonesig Diana Johnson. Byddaf yn ei godi gyda hithau hefyd, pan fyddaf yn cyfarfod â hi yr wythnos nesaf.
Dwi’n ddiolchgar eich bod chi’n mynd i godi hyn eto. Mae e’n bwnc pwysig, onid yw e, ond y siom yw eich bod chi wedi dweud ddwy flynedd yn ôl eich bod chi’n mynd i weithredu ar hyn, ac rŷn ni wedi gweld y sefyllfa, mae’n debyg, yn gwaethygu.
Rhaid cwestiynu, felly, cyfeiriad a chyflawniad y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sydd i fod i ganolbwyntio ar amddiffyn pobl ifanc rhag niwed, nid achosi iddyn nhw ddioddef mwy o niwed. A rhaid hefyd, efallai, gwestiynu effeithiolrwydd y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', achos mae’r ymchwil yma wedi amlygu bod plant du a phlant o gefndir ethnig lleiafrifol yn llawer mwy tebygol o gael eu noeth-chwilio—bedair gwaith yn fwy tebygol—a bod y rhelyw o heddluoedd Cymru heb gyflwyno data cynhwysfawr ar yr arfer, sydd hefyd yn nodi ethnigrwydd.
Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi datgelu anghysondebau mawr yn y data sydd wedi cael ei adrodd gan heddluoedd Cymru. A wnewch chi felly bwyso ar heddluoedd yng Nghymru i gyhoeddi data cynhwysfawr, wedi ei ddatgrynhoi, ar noeth-chwiliadau plant, a chefnogi adolygiad annibynnol brys i ddefnydd chwiliadau noeth ar blant ledled Cymru, gyda ffocws penodol ar anghymesuredd hiliol?
I am grateful that you’re going to raise this again. It is a very important subject, isn't it, but it’s disappointing that you said two years ago that you were going to act on this, and we’ve seen the situation deteriorating.
We must question, therefore, the direction and delivery of the youth justice blueprint, which is supposed to focus on protecting young people from harm, instead of causing them to suffer more harm. And we must also, perhaps, question the effectiveness of the 'Anti-racist Wales Action Plan', because research has highlighted that black children and children from minority ethnic backgrounds are much more likely to be strip-searched—four times more likely, in fact—and that the majority of Welsh police forces have not presented comprehensive data on the practice, which also notes ethnicity.
Freedom of information requests have revealed major discrepancies in the data that have been reported by Welsh police. Will you therefore press police forces in Wales to publish comprehensive data, which is disaggregated, on strip searches conducted on children, and will you support an urgent, independent review into the practice of strip-searching children across Wales, with a specific focus on racial disproportionality?
Thank you again.
Diolch eto.
Unwaith eto, diolch am eich cwestiynau pwysig iawn.
Once again, thank you for those very important questions.
It’s really important that we do get the data, as you say, and understand the situation from all the police forces, which I will seek. And I’ve already said that I’ll put it on the policing and partnership board agenda, which, of course, is attended by all the police and crime commissioners, and the chief constables, and also, indeed, by Home Office and UK Government representatives as well. It’s vital that we get the information, and also I think it’s important that you do make that connection with our youth justice blueprint, and also the ‘Anti-racist Wales Action Plan’ on the youth justice blueprint. I am doing an oral statement after the half-term recess on progress in the youth justice blueprint, and the female offending blueprint. So, I’ll make sure that I can get the feedback, hopefully, before then, but I will address this in terms of that statement. But also, in terms of the ‘Anti-racist Wales Action Plan’, of course, as you know, alongside our plan, the criminal justice policy community in Wales did provide a supportive second plan in terms of tackling racism in criminal justice in Wales. And I know that they will have obviously heard these questions today, and I will want to raise it with them.
Can I just make one final point about this whole issue about data? Because, as you know, we have been calling for the disaggregation of data, and you call for the data rightly. Much of that data is held by the Ministry of Justice, and we’ve been working closely with Dr Robert Jones from the Wales Governance Centre, and, indeed, with His Majesty's Prison and Probation Service, and now with the UK Government Ministers. We need that disaggregated data. There is ongoing work on this, which is showing progress, but I will report back on how we’re making progress with getting this disaggregated data, as part of the statement.
But back to the point: this is about ensuring that we understand, and we move to halt this unfortunate information that we have—and it came from the children’s commissioner—about strip searches of children and young people in Wales.
Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cael y data, fel y dywedwch, ac yn deall y sefyllfa gan yr holl heddluoedd, a byddaf yn ceisio sicrhau hynny. Ac rwyf eisoes wedi dweud y byddaf yn rhoi hyn ar agenda'r bwrdd plismona a phartneriaeth, sydd wrth gwrs yn cynnwys yr holl gomisiynwyr heddlu a throseddu, a'r prif gwnstabliaid, yn ogystal â chynrychiolwyr y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU yn wir. Mae'n hanfodol ein bod yn cael y wybodaeth, a chredaf hefyd ei bod yn bwysig eich bod yn gwneud y cysylltiad hwnnw â'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid, a hefyd 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar y glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar ôl y toriad hanner tymor ar gynnydd y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, a'r glasbrint troseddwyr benywaidd. Felly, byddaf yn sicrhau y gallaf gael yr adborth cyn hynny, gobeithio, ond byddaf yn mynd i'r afael â hyn o ran y datganiad hwnnw. Ond hefyd, o ran 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', fel y gwyddoch, ochr yn ochr â'n cynllun, darparodd y gymuned polisi cyfiawnder troseddol yng Nghymru ail gynllun cefnogol i fynd i'r afael â hiliaeth mewn cyfiawnder troseddol yng Nghymru. A gwn y byddant wedi clywed y cwestiynau hyn heddiw, a byddaf am godi hyn gyda hwy.
A gaf i wneud un pwynt olaf ar y mater hwn ynglŷn â data? Oherwydd, fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn galw am ddadgyfuno data, ac rydych yn gywir ddigon yn galw am y data. Mae llawer o'r data hwnnw'n cael ei gadw gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ac yn wir, gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, a nawr gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Rydym angen y data wedi'i ddadgyfuno. Mae gwaith parhaus yn mynd rhagddo ar hyn, sy'n dangos cynnydd, ond byddaf yn adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnawn ar gael y data wedi'i ddadgyfuno, yn rhan o'r datganiad.
Ond yn ôl at y pwynt: mae a wnelo hyn â sicrhau ein bod yn deall, ac rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r wybodaeth anffodus hon sydd gennym—ac fe ddaeth gan y comisiynydd plant—ynglŷn â noeth-chwilio plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Diolch. Ie, Cymru oedd cenedl gyntaf y Deyrnas Gyfunol i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'w chyfreithiau, ac fe ddylai Cymru ddangos arweiniad ar ddod â'r defnydd o noeth chwiliadau o blant i ben. Ddwy flynedd yn ôl, gwnes i ofyn i chi sut byddech chi'n sicrhau, os byddai eich plaid chi yn dod i rym yn San Steffan, na fyddech chi'n fodlon ar ddull tameidiog o ddatganoli cyfiawnder yn sgil yr anghyfiawnder a niwed sy'n cael ei achosi i blant, pobl ifanc, menywod a phobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac yn sgil min yr ymyl arw, finiog honno o rymoedd a chyfrifoldebau datganoledig a chadwedig.
Wrth ymateb i'm cwestiynau, fe ddywedoch chi, o ran datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, eich bod, fel Llywodraeth, nid yn unig wedi gwneud yr achos dros hynny, ond yn paratoi ar eu cyfer. Felly, hoffwn i gael diweddariad ar hynny. Ac ydych chi'n cytuno, heb ddatganoli pwerau ar gyfiawnder a phlismona'n llawn i Gymru, nad oes modd ichi honni eich bod yn cynnal hawliau ein plant a nod polisi y 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'?
Thank you. Yes, Wales was the first nation in the UK to incorporate the United Nations Convention on the Rights of the Child into its laws, and Wales should show leadership in ending the practice of strip-searching. Two years ago, I asked you how you would ensure that, if your party were to come to power in Westminster, you would not be satisfied with a piecemeal approach to the devolution of justice in the wake of the great injustice and harm that has been caused to children, young people, women and black, Asian and ethnic minority people, and as a result of the jagged edge of devolved and reserved powers and responsibilities.
When responding to my questions, you said, in terms of the devolution of youth justice and probation, that you, as a Government, have not only made the case for that, but are preparing for it. Therefore, I would like an update on that. And do you agree that without devolution of justice and policing powers fully to Wales, you cannot claim to be upholding the rights of our children and the policy aim of the 'Anti-racist Wales Action Plan'?
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n ddrwg gyda fi.
Thank you very much, Heledd Fychan. Thank you very much, Sioned Williams. I do apologise.
It could have come from Heledd. Sioned, it is really important that your question about the devolution of youth justice and probation—. Of course, the key responsibility for this lies with the Deputy First Minister, who is responsible for constitutional affairs, but the devolution of youth justice and probation was in the Labour UK Government manifesto. He is due to meet with the Lord Chancellor to discuss progress, and, indeed, we have a have an inter-ministerial group that meets within the Welsh Government. We had a meeting yesterday, when we were talking about the next stages for devolution of youth justice and probation, which is crucially important to your first two questions, in terms of upholding the UN Convention on the Rights of the Child and making sure that we have as much control as we can in the way that we deliver services for children and young people, which is very much on a preventative, child-first, children's rights focus. As you know, it is in the youth justice blueprint.
I am pleased to say that we have got a lot of evidence on this from the academic community, but also from the justice unions, who I met with the Counsel General, only a couple of weeks ago, who were themselves, including NAPO, the National Association of Probation Officers, and Unison—we met and talked about lots of justice issues—very keen to see progress on the devolution of youth justice and probation.
Gallai fod wedi dod gan Heledd. Sioned, mae'n wirioneddol bwysig fod eich cwestiwn ynglŷn â datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf—. Wrth gwrs, y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am faterion cyfansoddiadol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am hyn, ond roedd datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn rhan o faniffesto Llywodraeth Lafur y DU. Mae i fod i gyfarfod â'r Arglwydd Ganghellor i drafod cynnydd, ac yn wir, mae gennym grŵp rhyngweinidogol sy'n cyfarfod o fewn Llywodraeth Cymru. Cawsom gyfarfod ddoe, pan oeddem yn siarad am y camau nesaf ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, sy'n hollbwysig i'ch dau gwestiwn cyntaf, o ran cynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a sicrhau bod gennym gymaint o reolaeth â phosibl yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, sy'n canolbwyntio'n bendant iawn ar wasanaethau ataliol, ar roi'r plentyn yn gyntaf, ar hawliau plant. Fel y gwyddoch, mae hyn yn y glasbrint cyfiawnder ieuenctid.
Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael llawer o dystiolaeth ar hyn gan y gymuned academaidd, ond hefyd gan yr undebau cyfiawnder, y cyfarfûm â hwy gyda'r Cwnsler Cyffredinol ychydig wythnosau yn ôl, ac a oedd, gan gynnwys Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, ac Unsain—fe wnaethom gyfarfod a thrafod llawer o faterion cyfiawnder—yn awyddus iawn i weld cynnydd ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf.
4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch effaith ei newidiadau arfaethedig i bolisïau fisâu ar y gweithlu yng Nghymru? OQ62746
4. What discussions has the Cabinet Secretary had with UK Government regarding the effect of its proposed changes to visa policies on the workforce in Wales? OQ62746
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Y bore ma, mynychais y grŵp rhyngweinidogol ar ddiogelwch, gwarchodaeth a mudo. Pwysleisiais sut y gallai newidiadau i'r system fewnfudo effeithio ar Gymru a'r angen am gysylltu parhaus.
Thank you very much, Heledd Fychan. This morning, I met with the inter-ministerial group for safety, security and migration. I emphasised how changes to the immigration system could impact on Wales and the need to continue to engage.
Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw.
Thank you very much for that response.
Great to hear that. What was the reaction is the question, I think, we'd all be wanting to know the answer to, because obviously the impact could be devastating. We know the huge, significant difference it's made to health and social care to have these workers come to Wales, the way that they have enriched our communities across Wales as well, and are now facing an uncertain future: the changes, in terms of having family members here in Wales with them, having given up lives in other countries to make a contribution here in Wales, and that future at risk. I am very glad that you were able to make those representations. Were they heard? And what is going to happen? And what assurances can we give those people who are here now in our communities, making a difference day in, day out, who may not be here?
Mae'n wych clywed hynny. Beth oedd yr ymateb yw'r cwestiwn y credaf yr hoffai pob un ohonom wybod yr ateb iddo, oherwydd yn amlwg, gallai'r effaith fod yn ddinistriol. Gwyddom am y gwahaniaeth enfawr ac arwyddocaol y mae cael y gweithwyr hyn yn dod i Gymru wedi'i wneud i iechyd a gofal cymdeithasol, y ffordd y maent wedi cyfoethogi ein cymunedau ledled Cymru hefyd, a bellach yn wynebu dyfodol ansicr: y newidiadau, o ran cael aelodau o'u teuluoedd yma yng Nghymru gyda hwy, ar ôl rhoi'r gorau i'w bywydau mewn gwledydd eraill i wneud cyfraniad yma yng Nghymru, a bod y dyfodol hwnnw wedi'i beryglu. Rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu gwneud y sylwadau hynny. A gawsant eu clywed? A beth sy'n mynd i ddigwydd? A pha sicrwydd y gallwn ei roi i'r bobl sydd yma nawr yn ein cymunedau, yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, na fyddant yma o bosibl?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Thank you very much for your question.
It was an important opportunity. It was a four-nations meeting, so we were joined by Scottish Government Ministers and the Deputy First Minister, and Ministers from Northern Ireland. It was chaired by Lord Hanson, who is the Minister of State at the Home Office, but, of course, was a former Welsh MP. I think the key point that we made is that we need to be involved and be able to give evidence, and assess the impact assessment of the White Paper, 'Restoring Control over the Immigration System', because we need to be very clear that Wales's position is fully considered. The fact that you had three nations all saying the same thing to the UK Government is always really helpful, in terms of that inter-governmental machinery.
I made two key points. I made the point about the impact on the social care workforce, and, indeed, I was aided by the fact that my colleague Dawn Bowden, who is obviously taking the lead in terms of looking at the impacts of the immigration White Paper—. I was able to bring to the meeting all of the concerns that have been raised, as far as the social care workforce is concerned. Social Care Wales is doing an assessment of the number of overseas workers, and, indeed, we lost a lot of overseas workers via the previous UK Conservative Government's moves, which, actually, restricted family members as well, and that applied to higher education as well. We got a commitment that we could be fully involved.
They've also set up a labour market engagement group. Other Ministers were raising similar issues. That labour market engagement group will look at skills needs and the impact on our labour market. I talked, of course, about the fact that we valued our social care workforce and that we pay the real living wage and register the workforce, and we are looking to opportunities with the fair pay agreement. But we also know that there are recruitment and retention issues in the social care workforce.
Secondly, I raised the point about higher education and whether the levy that has been cited in these proposals would have an impact on Wales—would it apply to Wales? Also, I did make the point about how important it was that Wales was a nation of sanctuary and that we have good—. Eighty per cent, in our national survey of people in Wales, feel that they get on in their community with people regardless of their background. I did make that point today that community cohesion is important and that Wales actually does benefit from migration in terms of our population.
Roedd yn gyfle pwysig. Roedd yn gyfarfod pedair gwlad, felly ymunodd Gweinidogion a'r Dirprwy Brif Weinidog o Lywodraeth yr Alban, a Gweinidogion o Ogledd Iwerddon, â ni. Fe'i cadeiriwyd gan yr Arglwydd Hanson, sy'n Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref, ond sydd hefyd, wrth gwrs, yn un o gyn-Aelodau Seneddol Cymru. Credaf mai'r pwynt allweddol a wnaethom yw bod angen inni gymryd rhan a gallu rhoi tystiolaeth, ac asesu asesiad effaith y Papur Gwyn 'Restoring Control over the Immigration System', gan fod angen inni fod yn gwbl sicr fod safbwynt Cymru yn cael ei ystyried yn llawn. Mae'r ffaith bod gennych dair gwlad yn dweud yr un peth wrth Lywodraeth y DU bob amser yn ddefnyddiol iawn, o ran y peirianwaith rhynglywodraethol hwnnw.
Fe wneuthum ddau bwynt allweddol. Gwneuthum y pwynt ynglŷn â'r effaith ar y gweithlu gofal cymdeithasol, ac yn wir, cefais fy nghynorthwyo gan y ffaith bod fy nghyd-Aelod Dawn Bowden, sy'n amlwg yn arwain o ran edrych ar effeithiau'r Papur Gwyn ar fewnfudo—. Fe lwyddais i godi yn y cyfarfod yr holl bryderon a godwyd mewn perthynas â'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud asesiad o nifer y gweithwyr tramor, ac yn wir, fe wnaethom golli llawer o weithwyr tramor drwy weithredoedd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, a gyfyngodd ar aelodau'r teulu hefyd, mewn gwirionedd, ac roedd hynny'n berthnasol i addysg uwch hefyd. Cawsom ymrwymiad y gallem gymryd rhan lawn yn hyn.
Maent hefyd wedi sefydlu grŵp ymgysylltu â'r farchnad lafur. Roedd Gweinidogion eraill yn codi materion tebyg. Bydd y grŵp ymgysylltu â'r farchnad lafur yn edrych ar anghenion sgiliau a'r effaith ar ein marchnad lafur. Soniais, wrth gwrs, am y ffaith ein bod yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal cymdeithasol a'n bod yn talu'r cyflog byw gwirioneddol ac yn cofrestru'r gweithlu, a'n bod yn edrych ar gyfleoedd gyda'r cytundeb cyflog teg. Ond gwyddom hefyd fod problemau gyda recriwtio a chadw staff yn y gweithlu gofal cymdeithasol.
Yn ail, codais y pwynt ynglŷn ag addysg uwch ac a fyddai'r ardoll a grybwyllwyd yn y cynigion hyn yn cael effaith ar Gymru—a fyddai'n berthnasol i Gymru? Hefyd, gwneuthum y pwynt ynglŷn â pha mor bwysig oedd hi fod Cymru yn genedl noddfa a bod gennym—. Yn ein harolwg cenedlaethol o bobl yng Nghymru, mae 80 y cant yn teimlo eu bod yn cyd-dynnu gyda phobl yn eu cymunedau ni waeth beth fo'u cefndir. Gwneuthum y pwynt hwnnw heddiw, fod cydlyniant cymunedol yn bwysig a bod Cymru yn elwa o fudo o ran ein poblogaeth.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yng nghanolbarth Cymru? OQ62720
5. How is the Welsh Government supporting the voluntary sector in mid Wales? OQ62720
Diolch, Russell George. Third Sector Support Wales will receive core funding of £8.6 million in 2025-26 to provide third sector support infrastructure across Wales—£408,000 of this funding will go to Powys Association of Voluntary Organisations to help local voluntary organisations with fundraising, good governance, safeguarding and volunteering.
Diolch, Russell George. Bydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru yng Nghymru yn derbyn cyllid craidd o £8.6 miliwn yn 2025-26 i ddarparu seilwaith cymorth i’r trydydd sector ledled Cymru—bydd £408,000 o’r cyllid hwn yn mynd i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys i helpu sefydliadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.
Thank you, Cabinet Secretary. You mentioned in your answer the Powys Association of Voluntary Organisations, or PAVO as it is more commonly known. It has recently launched an initiative, Volunteering in Powys, and that really highlights the work of volunteers and underscores the importance of volunteers as well, particularly in individual organisations and individuals themselves, some examples of which were the Welshpool hub volunteers, who provide services, warm spaces and other social events, and also highlighting individuals such as Carl Hyde and Bob Jones, who coach Newtown's under-13 rugby team, teaching rugby, of course, and also wider life skills as well.
But, notably, Powys has a 42 per cent volunteer participation rate, which is above the Welsh average of 30 per cent, so that, of course, should be celebrated. But often, and I get this raised with me on a regular basis, organisations are struggling to find volunteers and to retain volunteers as well, and it goes without saying the huge contribution that they make. So, what specific measures are the Welsh Government implementing to support volunteer recruitment and retention in mid Wales, and how is the Welsh Government encouraging the next generation of volunteers?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe sonioch chi yn eich ateb am Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, neu PAVO fel y'i gelwir yn aml. Yn ddiweddar, mae wedi lansio menter, Gwirfoddoli ym Mhowys, sy'n sicr yn tynnu sylw at waith gwirfoddolwyr ac yn tanlinellu pwysigrwydd gwirfoddolwyr hefyd, yn enwedig mewn sefydliadau unigol ac unigolion eu hunain, er enghraifft gwirfoddolwyr hyb y Trallwng, sy'n darparu gwasanaethau, mannau cynnes a digwyddiadau cymdeithasol eraill, ac yn tynnu sylw hefyd at unigolion fel Carl Hyde a Bob Jones, sy'n hyfforddi tîm rygbi dan-13 y Drenewydd, gan addysgu rygbi, wrth gwrs, a sgiliau bywyd ehangach hefyd.
Ond yn nodedig, mae gan Bowys gyfradd cyfranogiad gwirfoddolwyr o 42 y cant, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru o 30 y cant, felly dylid dathlu hynny, wrth gwrs. Ond yn aml, ac mae hyn yn cael ei godi gyda mi'n rheolaidd, mae sefydliadau'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i wirfoddolwyr ac i gadw gwirfoddolwyr hefyd, ac nid oes angen dweud bod eu cyfraniad yn enfawr. Felly, pa fesurau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i gefnogi recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yng nghanolbarth Cymru, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog y genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr?
Thank you very much for that really positive question. Can I congratulate PAVO, the Powys Association of Voluntary Organisations, for their initiative in terms of encouraging the recruitment of volunteers? The 42 per cent volunteering rate is impressive. And can I congratulate Carl and Bob and the organisation in Welshpool that you reference? In fact, tomorrow, I'm looking forward to a visit to Mind in mid and north Powys, who've just benefitted from just under £300,000 from the community facilities programme. I'm sure you will be aware of this. This is actually in Llandrindod Wells, but it's a Powys initiative.
The week after next is Volunteers' Week, and there will be a launch by the WCVA, the Wales Council for Voluntary Action, on a new volunteering initiative for Wales. So, this really fits well into what Powys is doing and I'm sure will showcase what can be achieved with volunteering.
Diolch am y cwestiwn positif iawn hwnnw. A gaf i longyfarch Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys am eu mentergarwch yn annog recriwtio gwirfoddolwyr? Mae'r gyfradd wirfoddoli o 42 y cant yn drawiadol. A gaf i longyfarch Carl a Bob a'r sefydliad yn y Trallwng y cyfeirioch chi ato? Mewn gwirionedd, yfory, rwy'n edrych ymlaen at ymweld â Mind yng nghanolbarth a gogledd Powys, sydd newydd elwa o ychydig o dan £300,000 o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o hyn. Mae yn Llandrindod, ond mae'n fenter ar gyfer Powys.
Yr wythnos nesaf yw Wythnos Gwirfoddolwyr, a bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn lansio menter wirfoddoli newydd i Gymru. Felly, mae hyn yn cyd-fynd yn dda â'r hyn y mae Powys yn ei wneud ac rwy'n siŵr y bydd yn arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gwirfoddoli.
6. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiweddu caethwasiaeth fodern yng Nghymru? OQ62745
6. What steps is the Government taking to end modern slavery in Wales? OQ62745
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. We use our influence to combat modern slavery in all its forms. This involves collaboration with partners through the anti-slavery Wales forum, raising awareness of the signs of modern slavery and how to report it, work to develop online learning, and promoting ethical employment practices.
Diolch, Mabon ap Gwynfor. Rydym yn defnyddio ein dylanwad i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern yn ei holl ffurfiau. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â phartneriaid drwy fforwm gwrth-gaethwasiaeth Cymru, codi ymwybyddiaeth o arwyddion o gaethwasiaeth fodern a sut i roi gwybod amdano, gweithio i ddatblygu dysgu ar-lein, a hyrwyddo arferion cyflogaeth moesegol.
Diolch am yr ateb. Mae'r gweithlu gofal tramor wedi cael tipyn o sylw dros yr wythnos neu ddwy diwethaf oherwydd ein dibyniaeth ni arnyn nhw yn y sector gofal. Ond wrth gydnabod eu gwaith caled, rhaid hefyd gydnabod gwirionedd anghyfforddus arall, sef bod nifer ohonyn nhw'n cael eu hecsbloetio gan eu cyflogwyr. Maen nhw'n gweithio yma oherwydd y fisa gofal ac maen nhw'n dibynnu ar eu cyflogwyr am yr hawl i aros yma. Rŵan, mae tystiolaeth dwi wedi'i gweld yn dangos bod nifer yn gweithio sifftiau hir, tua 16 awr y diwrnod, ac yn gweld arferion drwg iawn yn y gweithle. Ac os ydyn nhw'n gadael eu cyflogwyr nhw, yna maen nhw'n wynebu 60 diwrnod cyn gorfod mynd yn ôl adref. Ac os ydyn nhw'n cyhoeddi camweddau'r cwmni, yna maen nhw am golli nawdd y cwmni hwnnw. Mewn geiriau eraill, mae gan y cyflogwyr rym llwyr dros y staff a'u teuluoedd.
Rŵan, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dirwyn y fisas yma i ben, ond, yn y cyfamser, mae pobl sy'n gweithio yn y sector yma yn parhau'n gaeth i'r cwmnïau ac o dan fygythiad. Felly, pa gymorth sydd yma gan Lywodraeth Cymru i'r bobl sydd yn parhau i weithio efo'r fisas yma, a pha gymorth byddwch chi'n ei roi iddyn nhw wrth eu bod nhw'n symud ymlaen o'u cyflogwyr presennol?
Thank you for that answer. The overseas care workforce has received attention over the last few weeks due to our dependence on these workers in the care sector. While acknowledging their hard work, however, another uncomfortable truth must also be acknowledged, namely that many of them are being exploited by their employers. They work here because they are on care visas, and they depend on their employers for the right to stay here. Now, evidence that I have seen shows that many work long shifts, around 16 hours a day, and witness very bad practices in the workplace. And if they leave their employers, they face 60 days before having to return home. And if they publicise the misdeeds of their company, then they lose their corporate sponsorship. In other words, the employers have absolute power over the staff and their families.
Now, the UK Government is bringing these visas to an end, but, in the meantime, people working in this sector continue to be under the power of these companies and under threat. So, what support does the Government have for people who continue to work under these visas, and what support will you give them as they move forward from their current employers?
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. A really important reflection on the all-important care sector—the social care sector—that we've just been discussing, and the crucial role of our international workers, our overseas workers, in the care sector. Raising this question today is important because those employers should be mindful of the fact that they are not adhering to the Modern Slavery Act 2015, which, of course, is UK Government legislation, but we work with the UK Government. It's criminalising various forms of modern slavery and providing mechanisms for victim protection and support.
What we do encourage organisations to do is to sign up to our code of practice on ethical employment in supply chains, and over 700 have signed up to this. But, in relation to the social care sector, I will talk to my colleague Dawn Bowden about this. I know that she is shortly having a meeting, with Unison, with some overseas care workers who work in the system. And I'm sure you're aware of this; they are drawing this to our attention. And, of course, we want to make sure that, again, we welcome our overseas workers to the care sector, and that those employers should adhere to the code of practice on ethical employment.
Diolch, Mabon ap Gwynfor. Ystyriaeth bwysig iawn o'r sector gofal hollbwysig—y sector gofal cymdeithasol—yr ydym newydd fod yn ei drafod, a rôl hanfodol ein gweithwyr rhyngwladol, ein gweithwyr tramor, yn y sector gofal. Mae codi'r cwestiwn hwn heddiw yn bwysig oherwydd dylai'r cyflogwyr hynny fod yn ymwybodol o'r ffaith nad ydynt yn cadw at Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, sydd, wrth gwrs, yn ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU. Mae'n troseddoli gwahanol fathau o gaethwasiaeth fodern ac yn darparu mecanweithiau ar gyfer diogelu a chefnogi dioddefwyr.
Yr hyn rydym yn annog sefydliadau i'w wneud yw ymrwymo i'n cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac mae dros 700 wedi gwneud hynny. Ond mewn perthynas â'r sector gofal cymdeithasol, byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod Dawn Bowden ynglŷn â hyn. Rwy'n gwybod ei bod hi'n cael cyfarfod cyn bo hir, gydag Unsain, gyda rhai gweithwyr gofal tramor sy'n gweithio yn y system. Ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hyn; maent yn tynnu hyn i'n sylw. Ac wrth gwrs, rydym am wneud yn siŵr ein bod yn croesawu ein gweithwyr tramor i'r sector gofal, ac y dylai'r cyflogwyr hynny gadw at y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol.
I'm grateful to Mabon ab Gwynfor for raising this important question with the Cabinet Secretary here today. I think we would all agree around the Chamber that modern slavery is a scourge and needs to be stamped out at every opportunity. Our personal freedom should never be taken for granted, and the personal freedom of people in our communities should always be supported as well, and in particular in the care sector, as mentioned. There's an example in recent times, where nine care workers were rescued from modern slavery in Llangollen in north Wales, which I think goes to the point to show that modern slavery can happen in all sorts of circumstances, in all sorts of places—a beautiful town like Llangollen—and happens right in front of our noses at times. So, I wonder, Cabinet Secretary, in addition to the response you've given to Mabon ap Gwynfor, what more could be done to get the message out there that, sadly, modern slavery does happen here in Wales, and that people have the opportunity when they see it, if they see it, to raise their concerns with relevant authorities so we can see this scourge stamped out in our communities?
Rwy'n ddiolchgar i Mabon ab Gwynfor am ofyn y cwestiwn pwysig hwn i Ysgrifennydd y Cabinet yma heddiw. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn cytuno o amgylch y Siambr fod caethwasiaeth fodern yn bla ac y dylid achub ar bob cyfle i'w ddileu. Ni ddylem byth gymryd ein rhyddid personol yn ganiataol, a dylid cefnogi rhyddid personol pobl yn ein cymunedau bob amser hefyd, ac yn enwedig yn y sector gofal, fel y soniwyd. Mae enghraifft yn ddiweddar, lle cafodd naw gweithiwr gofal eu hachub o gaethwasiaeth fodern yn Llangollen yng ngogledd Cymru, sy'n dangos y gall caethwasiaeth fodern ddigwydd ym mhob math o amgylchiadau, ym mhob math o le—tref hardd fel Llangollen—ac mae'n digwydd o flaen ein trwynau ar adegau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â'r ateb a roddwyd gennych i Mabon ap Gwynfor, beth yn fwy y gellid ei wneud i ledaenu'r neges fod caethwasiaeth fodern yn digwydd yma yng Nghymru, yn anffodus, a bod pobl cyfle i bobl pan fyddant yn ei weld, os ydynt yn ei weld, fynegi eu pryderon wrth yr awdurdodau perthnasol fel y gallwn weld y pla hwn yn cael ei ddileu yn ein cymunedau?
Diolch yn fawr, Sam Rowlands. I'm glad, again, this question has been raised today, and, just responding from a north Wales perspective from our two Senedd Members, of course there were some high-profile modern slavery cases in Gwynedd, notably, in care homes, and also, as you've mentioned, in Llangollen. I think we have been looking to see if there are any more recent examples of high-profile modern slavery cases across Wales, and your questions today are really important to shine a light on this. In terms of the number of people in Wales referred as potential victims of modern slavery, it remains largely unchanged. According to data from the Home Office, there were 563 referrals in Wales in 2024. That's a less than 2 per cent increase on the corresponding figure for 2023.
I have mentioned the trade union Unison. We also have care forum Wales. This is a social partnership issue. We need to get employers, the workforce, trade unions and indeed local authorities and those who are responsible for funding our care sector to engage in this, and I will be asking my officials and the anti-slavery Wales forum to focus on this particular issue.
Diolch, Sam Rowlands. Rwy'n falch, unwaith eto, fod y cwestiwn hwn wedi'i godi heddiw, ac i ymateb ar y persbectif o Ogledd Cymru gan ein dau Aelod o'r Senedd, cafwyd achosion amlwg iawn o gaethwasiaeth fodern yng Ngwynedd, mewn cartrefi gofal, yn arbennig, a hefyd, fel y sonioch chi, yn Llangollen. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn edrych i weld a oes unrhyw enghreifftiau mwy diweddar o achosion amlwg iawn o gaethwasiaeth fodern ledled Cymru, ac mae eich cwestiynau heddiw yn bwysig iawn i daflu goleuni ar hyn. O ran nifer y bobl yng Nghymru y cyfeirir atynt fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern, mae'n parhau i fod heb newid i raddau helaeth. Yn ôl data gan y Swyddfa Gartref, roedd 563 o atgyfeiriadau yng Nghymru yn 2024. Dyna gynnydd o lai na 2 y cant ar y ffigur cyfatebol ar gyfer 2023.
Rwyf wedi sôn am yr undeb llafur Unsain. Mae gennym hefyd fforwm gofal Cymru. Mae hwn yn fater partneriaeth gymdeithasol. Mae angen inni gael cyflogwyr, y gweithlu, undebau llafur ac awdurdodau lleol yn wir a'r rhai sy'n gyfrifol am ariannu ein sector gofal i gymryd rhan yn hyn, a byddaf yn gofyn i fy swyddogion a fforwm gwrth-gaethwasiaeth Cymru ganolbwyntio ar y mater penodol hwn.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd sy'n magu plant anabl? OQ62727
7. How does the Welsh Government support families raising disabled children? OQ62727
Thank you, Mark Isherwood. The Welsh Government works in partnership with local authorities as statutory duty bearers, and with other stakeholders, to support families, including those raising disabled children. This is done through both policy development and targeted grant funding across areas such as childcare, education, social care, play and breaks from caring.
Diolch, Mark Isherwood. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol fel y rhai sydd â dyletswydd statudol, a rhanddeiliaid eraill, i gefnogi teuluoedd, gan gynnwys y rhai sy'n magu plant anabl. Gwneir hyn drwy ddatblygu polisi a chyllid grant wedi'i dargedu ar draws meysydd fel gofal plant, addysg, gofal cymdeithasol, chwarae a seibiant oddi wrth ofalu.
Thank you. The Equality Act 2010 recognises autism as a disability, and I previously raised here the Leeds University school of law research report on the prevalence and impact of allegations of fabricated or induced illness, or FII, of creating or exaggerating a child's difficulties. This includes Wales, and states that this has been a particular concern for autistic parents and autistic children, with mothers of autistic children 100 times more likely to be investigated for FII by children's services. The Association of Directors of Social Services in England report on autism and parental blame reached similar conclusions.
In March, I attended a consultation at St George's House, Windsor castle, on the topic of FII. The conclusion to the resulting report included that false allegations of FII are a constant risk to the public, to families, and especially to vulnerable children, who are consistently failed by aggressive safeguarding responses that ignore evidence and empathy. Although the Welsh Government previously told me five months ago that it would work through the neurodivergence improvement programme to acknowledge the concerns, a Flintshire constituent wrote only last Friday stating that neurodivergent people are being actively targeted with the usual allegations of FII. When, if ever, will the Welsh Government therefore take action to stop this cruel abuse? Urgent action is required.
Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod awtistiaeth fel anabledd, ac fe soniais yma'n flaenorol am adroddiad ymchwil ysgol y gyfraith Prifysgol Leeds ar nifer achosion ac effaith honiadau o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill, o greu neu orliwio anawsterau plentyn. Mae hyn yn cynnwys Cymru, ac mae'n nodi bod hyn wedi bod yn bryder arbennig i rieni awtistig a phlant awtistig, gyda mamau plant awtistig 100 gwaith yn fwy tebygol o gael eu hymchwilio mewn perthynas â salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill gan wasanaethau plant. Daeth adroddiad Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Lloegr ar awtistiaeth a beio rhieni i gasgliadau tebyg.
Ym mis Mawrth, mynychais ymgynghoriad yn St George's House, castell Windsor, ar salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill. Roedd casgliad yr adroddiad dilynol yn cynnwys bod honiadau ffug o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill yn risg gyson i'r cyhoedd, i deuluoedd, ac yn enwedig i blant bregus, sy'n cael eu methu'n gyson gan ymatebion diogelu ymosodol sy'n anwybyddu tystiolaeth ac empathi. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthyf bum mis yn ôl y byddai'n gweithio trwy'r rhaglen gwella niwroamrywiaeth i gydnabod y pryderon, ysgrifennodd etholwr o sir y Fflint ddydd Gwener diwethaf i ddweud bod pobl niwroamrywiol yn cael eu targedu'n weithredol gyda'r honiadau arferol o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru felly yn rhoi camau ar waith i atal y cam-drin creulon hwn? Mae angen gweithredu ar frys.
Thank you. Once more, really important questions this afternoon, and thank you for this question, Mark Isherwood. It is something where I will have to consult my colleague Sarah Murphy on progress in terms of addressing this, particularly in relation to the neurodivergence improvement programme. Indeed, thank you again for drawing attention to not only the legislative rights and protection from the Equality Act 2010, but also the research from Leeds, and for also sharing with us the latest evidence that you have from those parents and families who are affected. So, I will take this back and ensure that there is a follow up, and it has now come into the public domain again, Mark, so I'm grateful for that.
Diolch. Unwaith eto, cwestiynau pwysig iawn y prynhawn yma, a diolch am y cwestiwn hwn, Mark Isherwood. Mae'n rhywbeth lle bydd yn rhaid i mi ymgynghori â fy nghyd-Aelod Sarah Murphy ar gynnydd ar fynd i'r afael â hyn, yn enwedig mewn perthynas â'r rhaglen gwella niwroamrywiaeth. Yn wir, diolch eto am dynnu sylw nid yn unig at yr hawliau a'r amddiffyniad deddfwriaethol yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ond hefyd at yr ymchwil o Leeds, ac am rannu gyda ni hefyd y dystiolaeth ddiweddaraf sydd gennych gan rieni a theuluoedd yr effeithir arnynt. Felly, fe af â hyn yn ôl a sicrhau bod yna waith dilynol yn digwydd, ac mae wedi dod i sylw cyhoeddus nawr eto, Mark, felly rwy'n ddiolchgar am hynny.
Many families with disabled children in my constituency have come to me saying how difficult it is to get access to leisure facilities for them, and I've tried to do a survey and approach businesses to see if they would consider longer opening times or specific times, dedicated times, for disabled children, particularly children who are neurodivergent. I think that, in terms of making progress, it is very slow, and I know many parents get absolutely desperate during the long periods of the holidays and, of course, in the evenings and weekends. So, is there anything more that the Government could do to make leisure facilities for disabled children more widely accessible?
Mae llawer o deuluoedd â phlant anabl yn fy etholaeth wedi dod ataf yn dweud pa mor anodd yw hi i gael mynediad at gyfleusterau hamdden iddynt, ac rwyf wedi ceisio gwneud arolwg a chysylltu â busnesau i weld a fyddent yn ystyried amseroedd agor hirach neu amseroedd penodol, amseroedd dynodedig, ar gyfer plant anabl, yn enwedig plant sy'n niwroamrywiol. O ran gwneud cynnydd, rwy'n credu ei fod yn araf iawn, ac rwy'n gwybod bod llawer o rieni'n anobeithio yn ystod cyfnodau hir y gwyliau, ac wrth gwrs, gyda'r nos ac ar benwythnosau. Felly, a oes unrhyw beth arall y gallai'r Llywodraeth ei wneud i wneud cyfleusterau hamdden i blant anabl yn fwy hygyrch?
Thank you very much for that question, Julie Morgan. I think access to leisure services is vital, and this is one of the points that came up in our disabled people's rights plan, which we launched last week, which had a focus on children and young people, and children and young people with lived experience contributed to that. So, that is out for consultation and it is important that these issues come forward in terms of access to leisure services.
Of course there are other programmes and statutory guidance that is relevant to this: 'Wales: a play-friendly country', directing local authorities to offer play opportunities that are inclusive and accessible. We should encourage all children to play and meet together, very much reflecting the social model of disability. Also Play Wales—we funded the creating accessible play spaces toolkit, under play and inclusion, Play Wales. We have supported families with neurodivergent children. We have just been discussing how we can support them further, and it is important that this looks at the issues in terms of access to leisure centres, leisure services, and that is really important in terms of local government responsibilities.
Can I just finally say that a £1 million Playworks Holiday Project is an element of the children and communities grant to increase play opportunities for all children and young people, including, all importantly, inclusive playwork provision?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Julie Morgan. Rwy'n credu bod mynediad at wasanaethau hamdden yn hanfodol, a dyma un o'r pwyntiau a ddaeth i'r amlwg yn ein cynllun hawliau pobl anabl, a lansiwyd gennym yr wythnos diwethaf, a oedd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, a chyfrannodd plant a phobl ifanc â phrofiad bywyd at hynny. Felly, mae ymgynghoriad ar y gweill ar hwnnw ac mae'n bwysig fod y materion hyn yn cael sylw o ran mynediad at wasanaethau hamdden.
Wrth gwrs, mae yna raglenni a chanllawiau statudol eraill sy'n berthnasol i hyn: 'Cymru: gwlad sy'n gyfeillgar i chwarae', sy'n cyfarwyddo awdurdodau lleol i gynnig cyfleoedd chwarae sy'n gynhwysol ac yn hygyrch. Dylem annog pob plentyn i chwarae a chyfarfod â'i gilydd, gan adlewyrchu'r model cymdeithasol o anabledd. Hefyd Chwarae Cymru—fe wnaethom ariannu'r pecyn cymorth creu mannau chwarae hygyrch, o dan chwarae a chynhwysiant Chwarae Cymru. Rydym wedi cefnogi teuluoedd â phlant niwroamrywiol. Rydym newydd fod yn trafod sut y gallwn eu cefnogi ymhellach, ac mae'n bwysig fod hyn yn edrych ar y materion sy'n codi gyda mynediad at ganolfannau hamdden, gwasanaethau hamdden, ac mae hynny'n bwysig iawn mewn perthynas â chyfrifoldebau llywodraeth leol.
A gaf i ddweud i orffen fod y Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae gwerth £1 filiwn yn elfen o'r grant plant a chymunedau i gynyddu cyfleoedd chwarae i bob plentyn ac unigolyn ifanc, gan gynnwys, yn hollbwysig, darpariaeth gwaith chwarae cynhwysol?

8. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â mynd i'r afael â throseddu mewn ysgolion? OQ62751
8. What discussions has the Cabinet Secretary had with North Wales Police about tackling crime in schools? OQ62751
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. We take any form of violence, especially in schools, very seriously. North Wales Police, together with policing partners, facilitate initiatives such as Operation Sceptre. School officers hold assemblies and workshops on crime, educating students on the consequences of carrying knives, with the aim of preventing crime and violence in schools.
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Rydym o ddifrif ynglŷn ag unrhyw fath o drais, yn enwedig mewn ysgolion. Mae Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â phartneriaid plismona, yn hwyluso mentrau fel Ymgyrch Sceptre. Mae swyddogion ysgol yn cynnal sesiynau a gweithdai ar droseddu, gan addysgu myfyrwyr ar ganlyniadau cario cyllyll, gyda'r nod o atal troseddau a thrais mewn ysgolion.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna? Mi oeddwn i a llawer o'm hetholwyr i'n bryderus iawn o glywed adroddiadau yn yr wythnosau diwethaf am ddisgyblion ysgol ar Ynys Môn yn cario cyllyll i mewn i'r ysgol ac o gwmpas y gymuned wedyn mewn mannau cymdeithasol, er enghraifft. Mae'n rhaid i'n hysgolion ni, wrth gwrs, fod yn lleoedd diogel i bawb, yn ddisgyblion ac yn athrawon, ac mae'r achosion niferus o'r math yma sy'n codi ar draws Cymru ar hyn o bryd yn awgrymu nad dyna'r achos bob amser.
Rŵan, dwi'n derbyn mai cyfrifoldeb y Gweinidog addysg ydy mynd i'r afael â throseddau mewn ysgolion, ond mae gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol gyfrifoldebau dros ddiogelwch y gymuned, ac mae mynd i'r afael â'r problemau sy'n bodoli o fewn ein hysgolion yn dylanwadu ar ddiogelwch ein cymunedau yn ehangach. Felly, a gaf i ofyn a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo galwadau Plaid Cymru am gyflwyno strategaeth gadarn i wella disgyblaeth yn ein hysgolion, a pha drafodaethau y mae hi wedi eu cael efo Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i sicrhau adnoddau digonol i'r heddlu i gefnogi'r ymdrech honno?
May I thank the Cabinet Secretary for that response? I and many constituents were very concerned at hearing reports in the past few weeks of school pupils on Anglesey carrying knives into school and around the community afterwards in social areas. Our schools, of course, need to be safe spaces for everyone, both pupils and teachers, and the numerous cases of this kind that arise across Wales at the moment do suggest that that is not always the case.
Now, I accept that this is the responsibility of the education Minister, in terms of tackling crime in schools, but the Cabinet Secretary for Social Justice has responsibilities for community safety, and tackling the issues that arise within our schools does have an impact on our broader communities. So, may I ask whether the Cabinet Secretary would agree with the calls made by Plaid Cymru for the introduction of a robust strategy to improve discipline in schools, and what discussion has she had with North Wales Police and the Police and Crime Commissioner for North Wales to secure adequate resources for the police to support that effort?
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. I have mentioned Operation Sceptre, which is a national campaign that runs twice a year, and the work in north Wales includes prevention of violence and knife crime with young people of school age. During that campaign, a week of action, as I said—engagement in schools, youth clubs visited, hotspot areas of knife crime are visited, and there have been some positive outcomes from that. Coleg Cambria's unveiled a statue, the Knife Dragon, which was built and constructed with knives collected through the police amnesty bins located in stations. But it is important. Your point is particularly about violence and safety in schools, and you will know that the Cabinet Secretary is hosting our national behaviour summit tomorrow, looking at wider issues of poor behaviour in our schools and colleges.
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Rwyf wedi sôn am Ymgyrch Sceptre, ymgyrch genedlaethol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn, ac mae'r gwaith yng ngogledd Cymru yn cynnwys atal trais a throseddau cyllyll gyda phobl ifanc oedran ysgol. Yn ystod yr ymgyrch honno, mae wythnos o weithredu, fel y dywedais—ymgysylltu mewn ysgolion, ymweliadau â chlybiau ieuenctid, ymweliadau ag ardaloedd lle ceir cyfraddau uwch o droseddau cyllyll, a chafwyd rhai canlyniadau cadarnhaol yn sgil hynny. Dadorchuddiodd Coleg Cambria gerflun, y Ddraig Gyllyll, a gafodd ei chreu o gyllyll a gasglwyd trwy finiau amnest yr heddlu mewn gorsafoedd heddlu. Ond mae'n bwysig. Mae eich pwynt yn ymwneud yn arbennig â thrais a diogelwch mewn ysgolion, ac fe fyddwch yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal ein huwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad yfory, i edrych ar fater ehangach ymddygiad gwael yn ein hysgolion a'n colegau.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Carolyn Thomas.
And finally, question 9, Carolyn Thomas.
I'm sorry. I haven't got it.
Rwy'n ymddiheuro. Nid yw gennyf.
So, you're not going to ask the question?
Felly, nid ydych chi'n mynd i ofyn y cwestiwn?
Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OQ62742].
Question 9 [OQ62742] not asked.
Diolch i'r Trefnydd.
I thank the Trefnydd.
Eitem 2 heddiw yw Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Cwestiwn 1, Sioned Williams.
Item 2 this afternoon is questions to the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs. The first question is from Sioned Williams.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu mynediad cymunedau at fannau gwyrdd? OQ62750
1. How is the Welsh Government securing community access to green spaces? OQ62750

Diolch, Sioned. Quality green spaces and parks provide real opportunities for healthy recreation, they support biodiversity and they contribute to reducing flood risk and air pollution. During 2025 to 2027, Welsh Government will provide over £18 million of capital funding to support the creation of local green spaces and access improvements.
Diolch, Sioned. Mae mannau gwyrdd a pharciau o safon yn darparu cyfleoedd go iawn ar gyfer hamdden iach, maent yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Yn ystod 2025 i 2027, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £18 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o greu mannau gwyrdd lleol a gwella hygyrchedd.
Diolch. This month is National Walking Month, but sadly many barriers prevent people from being able to access green spaces easily, and, of course, the health benefits that they bring. It's essential, therefore, that we ensure everyone has safe, secure and convenient access to local green spaces. Kilvey Hill in Swansea will be the site of the Skyline leisure attraction. Millions of pounds from both Welsh Government and Swansea Council will be supporting the development, and despite assurances from the developers, many residents are concerned about the impact this scheme will have on their ability to enjoy their local green space, the woodland, and, as a result, some areas needing to be fenced off, cut down or built over.
Kilvey Hill is also a designated quiet zone, originally meant to protect and guarantee that residents can access distinctive, unspoiled green spaces. While Skyline and the council claim only 9 per cent of the whole hill will be taken up and access will remain unhindered for the public, residents contend that over 30 per cent of the open access space will be leased to the development. So, is the Government comfortable that it's taking the right approach with this multimillion pound investment as regards the need to protect and promote accessibility to green spaces for all residents and listening to their views? Diolch.
Diolch. Mae'r mis hwn yn Fis Cenedlaethol Cerdded, ond yn anffodus mae llawer o rwystrau yn atal pobl rhag cael mynediad at fannau gwyrdd yn hawdd, ac wrth gwrs, at y manteision iechyd a ddaw yn eu sgil. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn sicrhau bod gan bawb fynediad diogel a chyfleus i fannau gwyrdd lleol. Mynydd Cilfái yn Abertawe fydd safle atyniad hamdden Skyline. Bydd miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe yn cefnogi'r datblygiad, ac er gwaethaf sicrwydd gan y datblygwyr, mae llawer o drigolion yn pryderu am yr effaith y bydd y cynllun hwn yn ei chael ar eu gallu i fwynhau eu man gwyrdd lleol, y coetir, ac o ganlyniad, mae yna rai rhannau y bydd angen eu ffensio, eu torri neu adeiladu drostynt.
Mae Mynydd Cilfái hefyd yn barth tawel dynodedig, a fwriadwyd yn wreiddiol i ddiogelu a gwarantu y gall trigolion gael mynediad at fannau gwyrdd unigryw, heb eu difetha. Er bod Skyline a'r cyngor yn honni mai dim ond 9 y cant o'r bryn cyfan fydd wedi'i gynnwys ac y bydd mynediad yn parhau i fod yn ddirwystr i'r cyhoedd, mae trigolion yn dadlau y bydd dros 30 y cant o'r gofod mynediad agored yn cael ei osod ar les i'r datblygiad. Felly, a yw'r Llywodraeth yn gyfforddus fod ganddi'r ymagwedd gywir gyda'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd hwn mewn perthynas â'r angen i ddiogelu a hyrwyddo hygyrchedd i fannau gwyrdd i bob preswylydd a gwrando ar eu safbwyntiau? Diolch.
First of all, Sioned, can I thank you for raising those matters on behalf of constituents who will have spoken to you as well? I'm sure that Swansea Council, and the potential developers and Natural Resources Wales, will have heard those concerns, and that you're making those representations directly to those various organisations as well. My understanding, from a Welsh Government perspective, is that discussions are progressing there, but I think it's right that they're alive to those concerns, and how you maintain the public access and the green space as well. But I know you'll address those too.
I just want to say, on the principle of it, you're absolutely right: we need to make sure that we maintain and enhance green spaces and access to green spaces as well. That includes things such as the local rights of way network across Wales, as well as the longer distance trails and so on. Those local places that people can get to are very important.
Thank you as well for flagging up the fact that it's National Walking Month. As you know, in my interests, I'm a very keen walker; I have been for many, many years. And again, I think the importance with that is that it's not only those who don a backpack and big boots and woolly socks, and so on, and head off on long-distance trails; it's actually the local access as well. But I appreciate you raising those concerns here in the Senedd, and I would genuinely say to you also to feed those concerns directly into the organisations involved as well.
Yn gyntaf oll, Sioned, a gaf i ddiolch i chi am godi'r materion hynny ar ran etholwyr a fydd wedi siarad â chi hefyd? Rwy'n siŵr y bydd Cyngor Abertawe a'r darpar ddatblygwyr a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clywed y pryderon hynny, a'ch bod chi'n gwneud y sylwadau'n uniongyrchol i'r gwahanol sefydliadau hynny hefyd. Fy nealltwriaeth i, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yw bod trafodaethau'n mynd rhagddynt, ond rwy'n credu ei bod yn iawn eu bod yn fyw i'r pryderon hyn, a sut rydych chi'n cynnal mynediad i'r cyhoedd a'r mannau gwyrdd hefyd. Ond rwy'n gwybod y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r rheini hefyd.
Rydych chi'n hollol iawn ar yr egwyddor: mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cynnal a gwella mannau gwyrdd a mynediad at fannau gwyrdd hefyd. Mae hynny'n cynnwys pethau fel y rhwydwaith hawliau tramwy lleol ledled Cymru, yn ogystal â'r llwybrau pellter hirach ac yn y blaen. Mae'r lleoedd lleol hynny y gall pobl fynd iddynt yn bwysig iawn.
Diolch hefyd am nodi'r ffaith ei bod yn Fis Cerdded Cenedlaethol. Fel y gwyddoch, rwy'n gerddwr brwd iawn; rwyf wedi bod ers blynyddoedd lawer. Ac eto, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig o ran hynny yw bod hyn yn ymwneud â mynediad i bobl leol hefyd, nid dim ond y rhai sy'n gwisgo gwarbac ac esgidiau cerdded a sanau gwlanog ac yn y blaen, ac yn mynd ar lwybrau pellter hir. Ond rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n codi'r pryderon hynny yma yn y Senedd, ac rwyf am ddweud wrthych hefyd i fwydo'r pryderon hynny'n uniongyrchol i'r sefydliadau dan sylw yn ogystal.
Obviously, I wholeheartedly agree that access to community green spaces is important and should be celebrated, especially those areas in high deprivation who have less access to those green spaces.
In recent weeks and months, we've heard the news that the Rhyl pocket park will be installed at the corner of Brighton Road and High Street in Rhyl, which has divided opinion slightly on whether it's the best use of green space, given that we have the success of the botanical gardens, the coronation gardens and other green spaces that have come about through the hard work of local councillors in the area. So, is there any guidance that the Welsh Government give to local authorities in terms of the best use of public green spaces and how we can avoid things like antisocial behaviour, and how those things should be policed at a community and local level?
Yn amlwg, rwy'n cytuno'n llwyr fod mynediad at fannau gwyrdd cymunedol yn bwysig a dylid ei ddathlu, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd uchel sydd â llai o fynediad at y mannau gwyrdd hynny.
Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, rydym wedi clywed y newyddion y bydd parc poced y Rhyl yn cael ei osod ar gornel Ffordd Brighton a'r Stryd Fawr yn y Rhyl, mater sydd wedi hollti barn ynglŷn ag ai dyma'r defnydd gorau o fan gwyrdd, o ystyried bod gennym lwyddiant y gerddi botanegol, gerddi'r coroni a mannau gwyrdd eraill sydd wedi digwydd trwy waith caled cynghorwyr lleol yn yr ardal. Felly, a oes unrhyw ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol ynghylch y defnydd gorau o fannau gwyrdd cyhoeddus a sut y gallwn osgoi pethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, a sut y dylid plismona'r pethau hynny ar lefel gymunedol a lleol?
Gareth, thank you for raising this, and, yes, there is guidance that we have available, and it goes alongside the funding that we make available as well. And I think all Members here have probably availed themselves of the opportunity to visit some of these very much local places for nature in communities—deep in communities—often with land that was formerly derelict or underused, or waste areas that have been transformed into tremendous community spaces for local access. Welsh Government really welcomes communities taking forward the ownership of green spaces, and it funds the Community Land Advisory Service—CLAS Cymru—to provide support for local groups on not only identifying and taking ownership of green spaces for recreation and things like food growing as well, but also how to go about it and how to do that community engagement piece as well.
But simply to say, Dirprwy Lywydd, in the year ahead to 2026, we will take forward once again Local Places for Nature funding to the tune of £16 million, building on the excellent work already being undertaken. We have now, just to remind Members, more than 4,000—4,000—green spaces that have been created or enhanced since we started this Local Places for Nature programme, and those are pollinator sites, food-growing sites, community orchards and therapeutic gardens with health and mental well-being as well. But it needs to involve the community and have good engagement and consultation in taking these forward. They're a great opportunity and I'm sure every Member of the Senedd here has been out and about to see them.
Gareth, diolch am godi hyn, ac oes, mae canllawiau gennym ar gael, ac mae'n mynd ochr yn ochr â'r cyllid a ddarparwn hefyd. Ac rwy'n credu bod pob Aelod yma yn debygol o fanteisio ar y cyfle i ymweld â rhai o'r lleoedd lleol hyn ar gyfer natur mewn cymunedau—yn ddwfn mewn cymunedau—yn aml gyda thir a oedd gynt yn ddiffaith neu wedi'i danddefnyddio, neu ardaloedd gwastraff sydd wedi cael eu trawsnewid yn fannau cymunedol aruthrol ar gyfer mynediad lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o weld cymunedau'n perchnogi mannau gwyrdd, ac mae'n ariannu'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol—CLAS Cymru—i ddarparu cefnogaeth i grwpiau lleol nid yn unig ar nodi a chymryd perchnogaeth ar fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a phethau fel tyfu bwyd, ond hefyd ar sut i fynd ati i wneud hynny a sut i wneud y gwaith ymgysylltu â'r gymuned hefyd.
Ond Ddirprwy Lywydd, yn y flwyddyn i ddod hyd at 2026, byddwn yn bwrw ymlaen unwaith eto â £16 miliwn o gyllid i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn cael ei wneud. I atgoffa'r Aelodau, bellach mae gennym fwy na 4,000—4,000—o fannau gwyrdd sydd wedi'u creu neu eu gwella ers i ni ddechrau'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac mae'r rhain yn safleoedd peillio, safleoedd tyfu bwyd, perllannau cymunedol a gerddi therapiwtig gydag iechyd a lles meddyliol hefyd. Ond mae angen iddo gynnwys y gymuned ac ymgysylltu ac ymgynghori'n dda wrth ddatblygu'r rhain. Maent yn gyfle gwych ac rwy'n siŵr fod pob Aelod o'r Senedd yma wedi bod allan yn eu gweld.
Well, connecting communities to green spaces and nature is good for mental health and for nature. This weekend, as part of No Mow May, Plantlife Cymru invited me to visit a verge in Denbighshire, which, thanks to the Local Places for Nature funding you've just mentioned, has seen, over the last four years, the species increase by 300 per cent in diversity, which is wonderful to see. And from a distance, it may look like overgrown grass and what people might call weeds, but I know the wildflowers are great for insects and those grass seeds feed the birds. It was alive and buzzing.
Would you congratulate Denbighshire council, who have launched a schools wildflower meadow photography competition, which will encourage young people to capture life around Denbighshire and many of the wildlife meadows that they have looked after? I believe it will help them to be inquisitive and connect to nature.
And are you taking place in No Mow May, Cabinet Secretary? [Laughter.]
Wel, mae cysylltu cymunedau â mannau gwyrdd a natur yn dda i iechyd meddwl ac i natur. Y penwythnos hwn, fel rhan o Mai Di-dor, cefais wahoddiad gan Plantlife Cymru i ymweld ag ymyl ffordd yn sir Ddinbych, sydd, diolch i'r cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur rydych chi newydd ei grybwyll, wedi gweld y rhywogaethau'n cynyddu 300 y cant o ran eu hamrywiaeth dros y pedair blynedd diwethaf, sy'n wych i'w weld. Ac o bell, efallai ei fod yn edrych fel glaswellt wedi gordyfu a'r hyn y gallai pobl ei alw'n chwyn, ond rwy'n gwybod bod y blodau gwyllt yn wych ar gyfer pryfed ac mae'r hadau glaswellt yn bwydo'r adar. Roedd yn fwrlwm o fywyd.
A wnewch chi longyfarch cyngor sir Ddinbych, sydd wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth dôl blodau gwyllt i ysgolion, a fydd yn annog pobl ifanc i dynnu lluniau o fywyd gwyllt o amgylch sir Ddinbych a llawer o'r dolydd bywyd gwyllt y maent wedi gofalu amdanynt? Rwy'n credu y bydd yn eu helpu i fod yn chwilfrydig a chysylltu â natur.
Ac a ydych chi'n cymryd rhan ym Mai Di-dor, Ysgrifennydd y Cabinet? [Chwerthin.]
In the spotlight. In the spotlight. [Laughter.] My neighbours will be checking now; they'll have their binoculars out on it. Yes, I can confirm, once again, I am taking part. I mean, last year, we went through the whole of the summer; so we mowed very early on and we mowed very late there. And right now, I can tell you, within my own garden, not only do we have three types of clover and trefoils, we also have vetch coming through, as it always does, and the insects and the pollinators and the bird life are absolutely loving it—as is, by the way, my very large and very ancient tortoise, who loves wandering through and munching on it.
Now, this has a real place. And can I just commend the work, not just of Denbighshire in what they're doing—? And their latest initiative—. Because, actually, Denbighshire local nature partnership, with our support, has now provided in excess of £1 million in the last financial year to Local Places for Nature. There's a myriad of things that they're doing and one of the latest ones is indeed the schools wildlife meadow photography competition. I think it's great to be engaging young people in this, so that they are the next enthusiasts.
But can I also say—? I know there's a lot of champions in this Chamber, but the work you've been doing, Carolyn, with the sub-group on the action plan for pollinators taskforce to develop the 'It's for Them' campaign is part of this as well, so we all need to champion it.
So, there's great work going on. We're committed, as Welsh Government, to keeping it going, and it's great to see places like Denbighshire actually taking this forward, as well, with local groups.
Dan y chwyddwydr. Dan y chwyddwydr. [Chwerthin.] Bydd fy nghymdogion yn edrych i weld nawr; byddant yn tynnu eu binocwlars allan. Ydw, gallaf gadarnhau, unwaith eto, fy mod i'n cymryd rhan. Y llynedd, fe aethom drwy'r haf cyfan; felly fe wnaethom dorri'n gynnar iawn ac fe wnaethom dorri'n hwyr iawn. A nawr, gallaf ddweud wrthych, yn fy ngardd fy hun, nid yn unig mae gennym dri math o feillion, mae gennym y ffacbysen yn dod trwodd, fel y mae bob amser, ac mae'r pryfed a'r peillwyr a'r bywyd adar yn dwli arni—fel y mae fy nghrwban mawr a hen iawn gyda llaw, sydd wrth ei fodd yn crwydro drwyddo a chnoi arno.
Nawr, mae lle go iawn i hyn. Ac a gaf i ganmol y gwaith, nid yn sir Ddinbych yn unig yn yr hyn a wnânt—? A'u menter ddiweddaraf—. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae partneriaeth natur leol sir Ddinbych, gyda'n cefnogaeth ni, bellach wedi darparu dros £1 filiwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Maent yn gwneud llu o bethau ac un o'r pethau diweddaraf yn wir yw'r gystadleuaeth ffotograffiaeth dôl bywyd gwyllt i ysgolion. Rwy'n credu ei bod hi'n wych ennyn diddordeb pobl ifanc yn y ffordd hon, gan mai hwy fydd hyrwyddwyr natur y genhedlaeth nesaf.
Ond a gaf i ddweud hefyd—? Rwy'n gwybod bod llawer o hyrwyddwyr yn y Siambr hon, ond mae'r gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud, Carolyn, gyda'r is-grŵp ar y cynllun gweithredu ar gyfer y tasglu peillwyr i ddatblygu'r ymgyrch 'Iddyn Nhw' yn rhan o hyn hefyd, felly mae angen i bawb ohonom ei hyrwyddo.
Felly, mae gwaith gwych yn digwydd. Rydym wedi ymrwymo, fel Llywodraeth Cymru, i'w barhau, ac mae'n wych gweld llefydd fel sir Ddinbych yn bwrw ymlaen â hyn hefyd, gyda grwpiau lleol.
This is an issue where too often, though, the planning system prioritises the wrong things, I fear. Because access to community green space is so important to people's quality of life, but too often green spaces are threatened with development, even in areas where there are brownfield sites that could be developed instead.
In Gelligaer, a number of cherished green spaces have been earmarked for development by the council's local development plan, and in Trethomas, residents were left deeply disappointed recently when their efforts to maintain a green space for the community were ignored by the council, and the site instead put forward for housing. Now, both of these examples, I know that they are very local, but they highlight how the planning system is letting us down. Because, in Trethomas, residents' award-winning environmental efforts and their plan to turn that space into a community orchard were sidelined, and in Gelligaer a number of green space sites were added to the LDP on the last day of the consultation, thereby preventing residents from having any input. Surely our planning system needs to be changed to strengthen community voices when it comes to protecting green spaces that are so cherished, because when it comes to ecology and people's well-being, the quality of life that we all enjoy, these spaces have to be protected.
Mae hwn yn fater lle rwy'n ofni, fodd bynnag, fod y system gynllunio yn rhy aml yn blaenoriaethu'r pethau anghywir. Oherwydd mae mynediad at fannau gwyrdd cymunedol mor bwysig i ansawdd bywyd pobl, ond yn rhy aml mae mannau gwyrdd yn cael eu bygwth gan ddatblygiadau, hyd yn oed mewn ardaloedd lle ceir safleoedd tir llwyd y gellid eu datblygu yn lle hynny.
Yng Ngelligaer, mae nifer o fannau gwyrdd hyfryd wedi'u clustnodi i'w datblygu gan gynllun datblygu lleol y cyngor, ac yn Nhretomas, cafodd trigolion eu siomi'n fawr yn ddiweddar pan gafodd eu hymdrechion i gynnal man gwyrdd ar gyfer y gymuned eu hanwybyddu gan y cyngor, a chafodd y safle ei neilltuo ar gyfer tai yn lle hynny. Nawr, mae'r ddwy enghraifft yn lleol iawn, ond maent yn dangos sut y mae'r system gynllunio'n ein siomi. Oherwydd, yn Nhretomas, cafodd ymdrechion amgylcheddol arobryn trigolion a'u cynllun i droi'r gofod hwnnw'n berllan gymunedol eu hanwybyddu, ac yng Ngelligaer ychwanegwyd nifer o safleoedd mannau gwyrdd at y cynllun datblygu lleol ar ddiwrnod olaf yr ymgynghoriad, gan atal trigolion rhag cael unrhyw fewnbwn. Yn sicr, mae angen newid ein system gynllunio i gryfhau lleisiau cymunedol er mwyn diogelu mannau gwyrdd y mae pobl mor hoff ohonynt, oherwydd er mwyn ecoleg a lles pobl, ansawdd bywyd y mae pawb ohonom yn ei fwynhau, rhaid diogelu'r mannau hyn.
Delyth, thank you very much for that question, and thank you again. I mean, the great thing about this is the opportunity for Members to raise local issues on their doorstep as well. And whilst I don't want to comment on individual matters and individual ones, what I can say is, you're right, there are often tensions between development pressures, which are not of themselves a bad thing, because we want to develop affordable housing for young people, we want the right infrastructure in place, whether it's for highways or for active travel, but it's that balance against actually protecting nature, and also developing nature. So, if you see, for example, what we're doing now with sustainable urban drainage systems development, that's a good way to resolve development and housing and nature priorities, because it enhances nature and doesn't end up in discharge going into our antiquated Victorian sewer system. So, there are ways to do this, and we have to keep on working on it.
I would say in terms of community engagement, it's vital, but the timeliness is vital as well. So, I am a sad old anorak who, when the LDP iterations come out, will tell my local community councillors and write to them and say, 'Make sure you have your input right here, right now. What green spaces do you want protected, enhanced? What new green spaces do you want? Where does the development go? Where does the business enterprise go?' Et cetera, et cetera. And we need to be in at that time. And I think, probably, we all have a role in that space, as do our local councillors and others, to grab that. LDPs are not a thing that planning officials do, or they shouldn't be, in a council. They should be active documents that, at the right time, we all go, 'Right, let's get in there now, because we can help design our local communities.'
Delyth, diolch am y cwestiwn hwnnw. Y peth gwych am hyn yw'r cyfle i Aelodau godi materion lleol ar garreg eu drws. Ac er nad wyf am wneud sylwadau ar faterion unigol a phenodol, yr hyn y gallaf ei ddweud, rydych chi'n iawn, yw bod tensiynau'n aml rhwng pwysau datblygu, nad ydynt ohonynt eu hunain yn beth drwg, oherwydd rydym eisiau datblygu tai fforddiadwy i bobl ifanc, rydym eisiau'r seilwaith cywir ar waith, boed hynny ar gyfer priffyrdd neu ar gyfer teithio llesol, ond rhaid sicrhau cydbwysedd â gwarchod natur, a datblygu natur hefyd. Felly, os gwelwch, er enghraifft, yr hyn a wnawn nawr gyda datblygu systemau draenio trefol cynaliadwy, mae honno'n ffordd dda o ddatrys blaenoriaethau datblygu, tai a natur, oherwydd mae'n gwella natur ac nid yw'n arwain at ollyngiadau'n mynd i i mewn i'n system garthffosiaeth Fictoraidd hynafol. Felly, mae yna ffyrdd o wneud hyn, ac mae'n rhaid inni barhau i weithio arno.
Ar ymgysylltu â'r gymuned, mae'n hanfodol, ond mae amseroldeb yn hanfodol hefyd. Felly, rwy'n hen ddyn trist sydd, pan fydd iteriadau'r cynllun datblygu lleol yn cael eu cyhoeddi, yn dweud wrth fy nghynghorwyr cymuned lleol ac yn ysgrifennu atynt a dweud, 'Gwnewch yn siŵr fod gennych fewnbwn nawr. Pa fannau gwyrdd rydych chi am eu gwarchod, eu gwella? Pa fannau gwyrdd newydd rydych chi eu heisiau? Ble mae'r datblygiadau'n mynd? Ble mae'r mentrau busnes yn mynd?' Ac ati, ac ati. Ac mae angen i ni fod i mewn ar yr adeg honno. Ac rwy'n credu bod gan bob un ohonom rôl yn y gofod hwnnw, fel sydd gan ein cynghorwyr lleol ac eraill, i fachu'r cyfle hwnnw. Nid swyddogion cynllunio sy'n gwneud y cynlluniau datblygu lleol, neu nid hwy ddylai eu gwneud, mewn cyngor. Dylent fod yn ddogfennau gweithredol y byddwn i gyd, ar yr adeg iawn, yn dweud, 'Iawn, gadewch inni fwrw iddi nawr, oherwydd gallwn helpu i lunio ein cymunedau lleol.'
Mae cwestiwn 2 [OQ62743] wedi'i dynnu'n ôl. Felly, cwestiwn 3, Mark Isherwood.
Question 2 [OQ62743] was withdrawn. So, question 3, Mark Isherwood.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am rôl y cynllun ffermio cynaliadwy o ran cyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth Cymru ar gyfer 2030 a gwarchod rhywogaethau sydd dan fygythiad, fel y gylfinir? OQ62726
3. Will the Cabinet Secretary make a statement on the role of the sustainable farming scheme in meeting Wales’s 2030 biodiversity commitments and protecting threatened species such as the curlew? OQ62726
Diolch, Mark. The sustainable farming scheme will be key in Wales's response to the nature emergency, with proposals for 10 per cent of each farm to be managed as habitat. This will benefit a wide range of species, including the curlew, and will be a significant step towards achieving our 2030 biodiversity commitments.
Diolch, Mark. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn allweddol yn ymateb Cymru i'r argyfwng natur, gyda chynigion ar gyfer rheoli 10 y cant o bob fferm fel cynefin. Bydd hyn o fudd i ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys y gylfinir, a bydd yn gam arwyddocaol tuag at gyflawni ein hymrwymiadau bioamrywiaeth 2030.
Well, there's currently no requirement for sites of special scientific interest included in the sustainable farming scheme to be managed. This is despite the obvious need for this to be the case in order for Wales to meet its 2030 biodiversity commitments. One of Wales's most threatened species, the curlew, will be extinct by 2033 in Wales unless targeted habitat management is put in place now. It will therefore be vital that adequate budget is allocated to the optional and collaborative layers of the scheme to be effective at restoring Welsh wildlife. With the sustainable farming scheme, or SFS, due to be announced at the Royal Welsh Show and be ready for January 2026, what assurance can the Cabinet Secretary provide that the protection, management and restoration of curlews, and the multiple and multispecies benefits this would deliver, will form a part of the SFS, and that farmers, not just landowners, will be supported to deliver the landscape-scale actions needed?
Wel, ar hyn o bryd nid oes gofyniad i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun ffermio cynaliadwy gael eu rheoli. Mae hyn er gwaethaf yr angen amlwg i hyn ddigwydd er mwyn i Gymru allu bodloni ei hymrwymiadau bioamrywiaeth 2030. Bydd un o'r rhywogaethau sydd o dan fwyaf o fygythiad yng Nghymru, y gylfinir, yn diflannu erbyn 2033 yng Nghymru oni bai bod rheolaeth cynefinoedd wedi'i dargedu yn cael ei gynnwys nawr. Felly, bydd yn hanfodol fod cyllideb ddigonol yn cael ei dyrannu i haenau dewisol a chydweithredol y cynllun i allu adfer bywyd gwyllt Cymru yn effeithiol. Gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy i'w gyhoeddi yn y Sioe Frenhinol ac i fod yn barod ar gyfer Ionawr 2026, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi y bydd diogelu, rheoli ac adfer y gylfinir, a'r manteision lluosog ac amlrywogaeth y byddai hyn yn eu cyflawni, yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac y bydd ffermwyr, nid tirfeddianwyr yn unig, yn cael eu cefnogi i gyflawni'r camau gweithredu sydd eu hangen ar raddfa'r dirwedd?
Mark, thank you very much for that supplementary question, and also thanks for meeting with me recently. I also met recently with Gylfinir Cymru, the Curlew Wales group, to discuss the challenges, but also the opportunities we have to arrest the decline in curlew numbers.
First of all, it is worth saying that the curlew is under real threat here. Real threat. It's one of the species that is under significant threat in Wales. But we are investing already £2 million in projects through the Nature Networks fund to drive forward curlew recovery in Wales. There is progress being made through the Wales action plan for the recovery of the curlew, which remains a Government-supported plan. I'm looking forward to seeing the outputs from the 2025 review. I'm also going to be visiting, as I already have in a different area, another one of the important curlew areas this summer, to see the work that's being taken forward. And just to say, the Gylfinir Cymru/Curlew Wales partnership, which includes, by the way, farmers' representatives, has brought forward some really good ideas.
You specifically mention the sustainable farming scheme, so let me address that specifically. We have, as I mentioned earlier, retained the scheme requirement for 10 per cent of the farms to be habitat. This recognises the positive relationship between nature and the environment and profitable, sustainable food production. We are indeed developing the optional and collaborative actions now, many of which will be available from 2026.
I do note your support for making sure that the appropriate quantum of funding is in those optional and collaborative layers, to drive forward that nature piece within them, the added value of them. There are differences of opinion on what the proportion should be between the universal layer, and so on. Under the SFS, there will be opportunities to undertake targeted action to enhance habitats under the optional layer and enhance habitats at a landscape scale under that collaborative layer, to benefit a wide range of species, including curlew.
On SSSIs, improving the condition of SSSIs, our most valuable habitat areas, is actually within the universal action. It's a specific universal action targeted at bringing them under a management agreement and supporting farmers to take positive action to improve their conditions. So, it's in there already. But we haven't landed the whole SFS yet, as you mentioned. That's a few weeks away—a couple of months away.
Mark, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol hwnnw, a diolch hefyd am gyfarfod â mi yn ddiweddar. Cyfarfûm â Gylfinir Cymru yn ddiweddar hefyd, grŵp Gylfinir Cymru, i drafod yr heriau, ond hefyd y cyfleoedd sydd gennym i atal y gostyngiad yn niferoedd y gylfinir.
Yn gyntaf oll, mae'n werth dweud bod y gylfinir o dan fygythiad gwirioneddol yma. Bygythiad go iawn. Mae'n un o'r rhywogaethau sydd o dan fygythiad sylweddol yng Nghymru. Ond rydym eisoes yn buddsoddi £2 filiwn mewn prosiectau drwy gronfa Rhwydweithiau Natur i hyrwyddo adferiad y gylfinir yng Nghymru. Mae cynnydd yn cael ei wneud drwy gynllun gweithredu Cymru ar gyfer adfer y gylfinir, sy'n parhau i fod yn gynllun a gefnogir gan y Llywodraeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr allbynnau o adolygiad 2025. Rwyf hefyd yn mynd i ymweld, fel y gwneuthum eisoes mewn ardal wahanol, ag un arall o'r ardaloedd pwysig ar gyfer y gylfinir yr haf hwn, i weld y gwaith sy'n cael ei ddatblygu. Ac mae partneriaeth Gylfinir Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr ar ran y ffermwyr, gyda llaw, wedi cyflwyno syniadau da iawn.
Rydych chi'n sôn yn benodol am y cynllun ffermio cynaliadwy, felly gadewch imi fynd i'r afael â hynny'n benodol. Rydym wedi cadw gofyniad y cynllun i 10 y cant o'r ffermydd fod yn gynefin. Mae hyn yn cydnabod y berthynas gadarnhaol rhwng natur a'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd yn broffidiol a chynaliadwy. Rydym yn datblygu'r camau gweithredu dewisol a chydweithredol nawr, a bydd nifer ohonynt ar gael o 2026 ymlaen.
Rwy'n nodi eich cefnogaeth i wneud yn siŵr fod y swm priodol o gyllid yn yr haenau dewisol a chydweithredol hynny, i yrru'r gwaith ar natur ymlaen ynddynt, y gwerth ychwanegol. Mae gwahaniaeth barn ynglŷn â beth ddylai'r gyfran fod rhwng yr haen gyffredinol, ac yn y blaen. O dan y cynllun ffermio cynaliadwy, bydd cyfleoedd i ymgymryd â chamau wedi'u targedu i wella cynefinoedd o dan yr haen ddewisol a gwella cynefinoedd ar raddfa'r dirwedd o dan yr haen gydweithredol, er budd ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys y gylfinir.
Ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae gwella cyflwr safleoedd felly, ein hardaloedd cynefin mwyaf gwerthfawr, o fewn y gweithredoedd cyffredinol mewn gwirionedd. Mae'n weithred gyffredinol benodol sydd wedi'i hanelu at ddod â'r safleoedd hyn o dan gytundeb rheoli a chefnogi ffermwyr i weithredu'n gadarnhaol i wella eu cyflwr. Felly, mae yno eisoes. Ond nid ydym wedi lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy eto, fel y nodoch chi. Mae hynny ychydig wythnosau i ffwrdd—mis neu ddau i ffwrdd.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz.
I now call on the party spokespeople. First, the Welsh Conservatives spokesperson, Samuel Kurtz.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, it's good to be back. Last week marked Mental Health Awareness Week, a vital moment to reflect on the well-being of those in our most vulnerable sectors, not least our farmers. A recent study by the Farm Safety Foundation revealed that 91 per cent of UK farmers now consider poor mental health to be one of the biggest hidden dangers they face. Farming may be one of the most rewarding jobs, but it is undoubtedly one of the toughest. The mental health challenges faced by the farming community—financial pressure, regulatory burden, rural isolation, and unpredictable weather—are well documented. So, Cabinet Secretary, can you assure us that your department is taking this issue seriously, and what specific measures are being implemented to ease the pressures faced by farmers?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n dda bod yn ôl. Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, moment hanfodol i fyfyrio ar lesiant y rhai yn ein sectorau mwyaf agored i niwed, yn enwedig ein ffermwyr. Datgelodd astudiaeth ddiweddar gan y Sefydliad Diogelwch Fferm fod 91 y cant o ffermwyr y DU bellach yn ystyried bod iechyd meddwl gwael yn un o'r peryglon cudd mwyaf y maent yn eu hwynebu. Efallai fod ffermio yn un o'r swyddi sy'n rhoi'r boddhad mwyaf, ond heb os, mae'n un o'r anoddaf. Mae'r heriau iechyd meddwl y mae'r gymuned ffermio yn eu hwynebu—pwysau ariannol, baich rheoleiddiol, ynysu gwledig, a thywydd anrhagweladwy—yn dra hysbys. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi sicrwydd i ni fod eich adran o ddifrif ynghylch hyn, a pha fesurau penodol sy'n cael eu rhoi ar waith i leddfu'r pwysau y mae ffermwyr yn ei wynebu?
Sam, croeso nôl. That's genuinely meant as well, because even though we spar sometimes, I think our engagement is also very constructive and challenging to each other, but in the right way as well.
First of all, as I've repeated many times here, we recognise that there is a series of pressures on farming, from TB and animal health, and a variety of animal health and disease issues, that add pressure, the financial pressures, but, on top of that, the desire to get clarity now on the future, the sustainable farming future, that people can have clarity on business investment models and how they farm their land as well.
But underpinning all of that, we will continue our support, as we've always made clear, both in terms of our funding of mental health and well-being support services directly through the Welsh Government and allied farming network support, but also in supporting others, such as the DPJ Foundation and others.
It's important, by the way, that they are represented on the ministerial round-table—and they've been there since day one—because we recognise that part of the development of the SFS in the future, and other aspects of our work in Government, needs to be informed by the pressures that farmers and their families are under.
Sam, croeso'n ôl. Rwy'n golygu hynny hefyd, oherwydd er ein bod yn anghytuno weithiau, rwy'n credu bod ein hymwneud â'n gilydd hefyd yn adeiladol ac yn heriol iawn, ond yn y ffordd iawn hefyd.
Yn gyntaf, fel rwyf wedi'i ailadrodd sawl gwaith yma, rydym yn cydnabod bod cyfres o wahanol fathau o bwysau ar ffermio, o TB ac iechyd anifeiliaid, ac amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chlefydau ac iechyd anifeiliaid, sy'n ychwanegu pwysau, y pwysau ariannol, ond ar ben hynny, yr awydd i gael eglurder nawr ynglŷn â'r dyfodol, dyfodol ffermio cynaliadwy, y gall pobl gael eglurder ar fodelau buddsoddiadau busnes a sut y maent yn ffermio eu tir hefyd.
Ond yn sail i hynny oll, byddwn yn parhau â'n cymorth, fel rydym wedi'i ddweud yn glir bob amser, o ran ein cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a lles yn uniongyrchol drwy Lywodraeth Cymru a chefnogaeth gysylltiedig y rhwydwaith ffermio, ond hefyd i gefnogi eraill, fel Sefydliad DPJ ac eraill.
Mae'n bwysig, gyda llaw, eu bod yn cael eu cynrychioli yn y cyfarfod bord gron gweinidogol—ac maent wedi bod arno ers y cychwyn cyntaf—gan ein bod yn cydnabod bod angen i ran o ddatblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol, ac agweddau eraill ar ein gwaith yn y Llywodraeth, gael ei lywio gan y pwysau sydd ar ffermwyr a'u teuluoedd.
May I suggest, Cabinet Secretary, that, during Mental Health Awareness Week, the rural affairs social media channels didn't post a single post in support of those mental health charities. I think we need to look at the comms element around this as well, in signposting farmers to that support that you are supporting.
But with respect, it's also difficult to believe that Labour more broadly is taking this seriously, because a recent Environment, Food and Rural Affairs Committee report cited a survey showing that, following the autumn budget, just 12 per cent of farmers felt optimistic about the future—a stark fall from 70 per cent beforehand.
That's not just a statistic, that's a signal of widespread despair in the sector. And to make matters worse, the Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs, Steve Reed, recently suggested that revenue from the proposed family farm tax would be used to support mental health services for farmers.
Yet it's Labour's own policies, like the family farm tax, that are contributing to the distress. His comments are nothing more than gaslighting the industry. We've even heard the tragic stories of farmers refusing cancer treatment in the hope that they would pass away before this tax is implemented, and, heartbreakingly, some have already taken their own lives.
So, Cabinet Secretary, do you support the family farm tax, or do you agree with the EFRA committee's recommendation that this damaging policy should be paused?
A gaf i awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, na chafwyd unrhyw beth ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr adran faterion gwledig i gefnogi'r elusennau iechyd meddwl hynny. Credaf fod angen inni edrych ar yr elfen gyfathrebu yn hyn o beth hefyd, wrth gyfeirio ffermwyr at y cymorth rydych chi'n ei gefnogi.
Ond gyda phob parch, mae hefyd yn anodd credu bod y Blaid Lafur ehangach yn cymryd hyn o ddifrif, gan fod adroddiad diweddar gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi nodi arolwg a ddangosai, yn dilyn cyllideb yr hydref, mai dim ond 12 y cant o ffermwyr a oedd yn teimlo'n obeithiol am y dyfodol—cwymp sylweddol o 70 y cant cyn y gyllideb.
Nid ystadegyn yn unig yw hynny, mae'n arwydd o anobaith eang yn y sector. Ac i wneud pethau'n waeth, awgrymodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Steve Reed, yn ddiweddar y byddai refeniw o'r dreth arfaethedig ar ffermydd teuluol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl i ffermwyr.
Serch hynny, polisïau Llafur eu hunain, fel y dreth ar y fferm deuluol, sy'n cyfrannu at y gofid. Nid yw ei sylwadau'n gwneud dim mwy na dibwyllo'r diwydiant. Rydym hyd yn oed wedi clywed straeon trasig am ffermwyr yn gwrthod triniaeth ganser yn y gobaith y byddent yn marw cyn i'r dreth hon gael ei gweithredu, ac yn dorcalonnus, mae rhai eisoes wedi cyflawni hunanladdiad.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cefnogi'r dreth ar y fferm deuluol, neu a ydych chi'n cytuno ag argymhelliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y dylid oedi'r polisi niweidiol hwn?
Can I say a couple of things in response to that? First of all, as we've rehearsed many times here before, the representations that I have repeatedly made to the UK Government in inter-ministerial groups, in correspondence I have sent and so on, have made clear not only the pressures but also the need to protect the development that we are currently doing of the sustainable farming scheme, and to make sure, in their inheritance tax and related reforms, that they don't derail the progress that we are making here in Wales.
I noted the EFRA committee report, and I have read through it already. I do notice that the committee does make an interesting suggestion there, where they say that the UK Government could undertake further consideration of the proposals to ensure they are fair, protect the most vulnerable, and reflect the particular circumstances of the devolved nations. I think I'd agree with that, and those are the representations we've been making as well.
I'm not Rachel Reeves, I'm not the UK Treasury Minister, but we are consistently making those representations so that they get this right. Meanwhile, we will provide the support to the Welsh farming community that enables them to do things such as succession planning to plan their way through this as it currently is.
A gaf i ddweud ychydig o bethau mewn ymateb i hynny? Yn gyntaf oll, fel rydym wedi'i ailadrodd sawl gwaith yma o'r blaen, mae'r sylwadau rwyf wedi'u gwneud dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU mewn grwpiau rhyngweinidogol, mewn gohebiaeth rwyf wedi'i hanfon ac ati, wedi nodi nid yn unig y pwysau ond hefyd yr angen i ddiogelu'r gwaith datblygu yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac i sicrhau, yn eu treth etifeddiant a'u diwygiadau cysylltiedig, nad ydynt yn tanseilio'r cynnydd yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru.
Nodais adroddiad Pwyllgor Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac rwyf eisoes wedi darllen drwyddo. Rwy'n sylwi bod y pwyllgor yn gwneud awgrym diddorol, lle dywedant y gallai Llywodraeth y DU ystyried y cynigion ymhellach i sicrhau eu bod yn deg, yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, ac yn adlewyrchu amgylchiadau penodol y gwledydd datganoledig. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â hynny, a dyna'r sylwadau y buom yn eu gwneud hefyd.
Nid Rachel Reeves wyf i, nid fi yw Gweinidog Trysorlys y DU, ond rydym yn gwneud y sylwadau hynny'n gyson fel eu bod yn gwneud hyn yn iawn. Yn y cyfamser, byddwn yn darparu'r cymorth i gymuned ffermio Cymru i'w galluogi i wneud pethau fel cynllunio ar gyfer olyniaeth i gynllunio eu ffordd drwy hyn fel y saif pethau ar hyn o bryd.
I appreciate that representations are being made, Cabinet Secretary, but at no point in challenging you today or previously have you given your opinion on this or the opinion of the Welsh Government as to whether it supports this policy being inflicted on farmers across the United Kingdom. That clarity as to the direction of what you believe, as the representative of the agricultural community here in Wales within Government, would be a clear steer towards the UK Government.
We are now just a few weeks away from the Royal Welsh Show, a pivotal moment for our rural communities, and potentially the platform for launching the final version of the sustainable farming scheme ahead of its 2026 implementation. You've said it yourself that you'd burn the midnight oil to get this right. Yet outside of those in the room, little is known about the scheme's progress. Many in the farming community feel that they are being kept in the dark, especially around funding.
Let's not forget that concerns around the sustainable farming scheme and its economic analysis, the Government's failure to eradicate bovine TB, and the ill-thought-out all-Wales NVZ regulations were all major drivers of the farming protests last year. You've previously stated, and I quote:
'I will not be making final Scheme design decisions before we have this evidence',
referring to the economic analysis. So, with only eight weeks until the show, Cabinet Secretary, where is the economic analysis?
Rwy'n derbyn bod sylwadau'n cael eu gwneud, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid ydych chi ar unrhyw adeg wrth gael eich herio heddiw nac yn y gorffennol wedi rhoi eich barn chi na barn Llywodraeth Cymru ynglŷn ag a ydych chi'n cefnogi gorfodi'r polisi hwn ar ffermwyr ledled y Deyrnas Unedig. Byddai'r eglurder hwnnw ynghylch cyfeiriad yr hyn rydych chi'n ei gredu, fel cynrychiolydd y gymuned amaethyddol yma yng Nghymru o fewn y Llywodraeth, yn gogwyddo'n glir tuag at Lywodraeth y DU.
Dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan Sioe Frenhinol Cymru, moment hollbwysig i'n cymunedau gwledig, ac o bosibl, y llwyfan ar gyfer lansio fersiwn derfynol y cynllun ffermio cynaliadwy cyn ei weithredu yn 2026. Rydych chi wedi dweud eich hun y byddech yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn iawn. Ac eto, ac eithrio i'r rhai sydd yn yr ystafell, ychydig sy'n hysbys am gynnydd y cynllun. Mae llawer yn y gymuned ffermio yn teimlo eu bod yn cael eu cadw yn y tywyllwch, yn enwedig ynghylch cyllid.
Gadewch inni beidio ag anghofio bod pryderon ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy a'i ddadansoddiad economaidd, methiant y Llywodraeth i ddileu TB buchol, a'r rheoliadau parthau perygl nitradau byrbwyll ar gyfer Cymru gyfan wedi cyfrannu at brotestiadau'r ffermwyr y llynedd. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol:
'[Ni] fyddaf yn gwneud penderfyniadau terfynol ar ddyluniad y Cynllun cyn bod y dystiolaeth wedi dod i law',
wrth gyfeirio at y dadansoddiad economaidd. Felly, gydag wyth wythnos yn unig i fynd tan y sioe, Ysgrifennydd y Cabinet, ble mae'r dadansoddiad economaidd?
I can confirm that we're on target. All the work is being done. We had a ministerial round-table only this week, I think it was, where there were updates given to the ministerial round-table.
I do get, Sam, the frustration out there that it's not all being done on a live-commentary basis and everything being just put out there. It's the nature of the work that we are doing that there is trust around that table, that there is credibility amongst the people in there. We discussed this intently amongst the ministerial round-table members, and, I have to say, amongst the officials group.
I would commend the work that's gone on, because of not just the sheer effort, but the way in which they have been willing—not behind the scenes, not in the dark, but in trust and in confidence with each other—to work on the evidence together, including the economic impact assessment, including the economic analysis, including the final budgetary position we find ourselves in. All of those are coming together as we speak.
You almost answered your own question: I always said we would never bring the thing forward until it was all completed and every element was done. We've always had a timescale to deliver this and a timetable to work through. We've hit every single milestone on it. And before long, not only you, but the wider farming community—. And also, I have to say, the wider environmental community who see this delivering across the four SLM objectives: sustainable farms and farm businesses, highly productive food enterprises as well, delivering value for money here in Wales, and also addressing things such as the nature and climate imperatives.
So, we're on target. I commend the work of the group and the officials, and we will deliver this very, very soon indeed.
Gallaf gadarnhau ein bod ar y trywydd iawn. Mae'r holl waith yn mynd rhagddo. Cawsom gyfarfod bord gron gweinidogol yr wythnos hon, rwy'n credu, lle rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r cyfarfod bord gron gweinidogol.
Rwy'n deall y rhwystredigaeth, Sam, nad yw'r cyfan yn cael ei wneud ar sail sylwebaeth fyw a bod popeth yn cael ei gyhoeddi ar unwaith. Natur y gwaith a wnawn yw bod ymddiriedaeth o amgylch y bwrdd hwnnw, fod hygrededd ymhlith y bobl yno. Fe wnaethom drafod hyn yn fanwl ymhlith aelodau'r cyfarfod bord gron gweinidogol, ac mae'n rhaid imi ddweud, ymhlith y grŵp swyddogion.
Rwy'n canmol y gwaith a wnaed, nid yn unig oherwydd maint yr ymdrech, ond y ffordd y maent wedi bod yn fodlon—nid y tu ôl i'r llen, nid yn y tywyllwch, ond drwy ymddiriedaeth a hyder gyda'i gilydd—i weithio ar y dystiolaeth gyda'i gilydd, gan gynnwys yr asesiad effaith economaidd, gan gynnwys y dadansoddiad economaidd, gan gynnwys y sefyllfa gyllidebol derfynol rydym ynddi. Mae'r rheini oll yn dod at ei gilydd wrth inni siarad.
Bu bron ichi ateb eich cwestiwn eich hun: rwyf bob amser wedi dweud na fyddem yn cyflwyno'r peth hyd nes bod popeth wedi'i gwblhau a phob elfen wedi'i chyflawni. Rydym bob amser wedi cael amserlen i gyflawni hyn ac amserlen i weithio drwyddi. Rydym wedi cyrraedd pob carreg filltir ar hyn. A chyn bo hir, fe fyddwch chi, a'r gymuned ffermio ehangach—. A hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, y gymuned amgylcheddol ehangach sy'n gweld hyn yn cyflawni ar draws y pedwar amcan ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy: ffermydd a busnesau fferm cynaliadwy, mentrau bwyd cynhyrchiol iawn hefyd, darparu gwerth am arian yma yng Nghymru, a hefyd mynd i'r afael â phethau fel yr anghenion natur a hinsawdd.
Felly, rydym ar y trywydd iawn. Rwy'n canmol gwaith y grŵp a'r swyddogion, a byddwn yn cyflawni hyn yn fuan iawn wir.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Plaid Cymru spokesperson, Llyr Gruffydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, I'm sure you'll be aware that sheep dip is used by farmers to control and treat ectoparasites such as sheep scab, lice, ticks, and blowfly strike. They can cause significant health problems and welfare issues if they go unchecked.
We're entering the time of year when that dip is needed most. I wonder whether you're aware of some major concerns that no permitted disposal premises are actively taking used sheep dip here at the minute, leaving the only viable disposal option being to spread the waste dip to land—something that can be done, of course, legally and safely under licence. But Natural Resources Wales have now said that they're ceasing to issue permits for this, partly, they say, because of a lack of demand, but that lack of demand has coincided with the huge increase we've seen in the price of those permits, going up from around £400 to over £3,700.
How, therefore, does your Government intend to make sure that parasite treatment continues safely and effectively if farmers are left with no legal or affordable disposal route for used sheep dip? You're paying a lot of money for Gwaredu Scab, for example, but this disjointed policy is undermining those kinds of efforts, and, of course, is risking causing greater suffering for many of those animals.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod dip defaid yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr i reoli a thrin ectoparasitiaid fel y clafr, llau, trogod, a chlefyd pryfed. Gallant achosi problemau iechyd sylweddol a phroblemau lles os na chânt eu rheoli.
Rydym yn agosáu at yr adeg o'r flwyddyn pan fo fwyaf o angen am y dip. Tybed a ydych ch'n ymwybodol o rai pryderon mawr nad oes unrhyw safleoedd gwaredu trwyddedig yma'n derbyn dip defaid gwastraff ar hyn o bryd, sy'n golygu mai'r unig opsiwn hyfyw ar gyfer ei waredu yw gwasgaru'r dip gwastraff ar dir—rhywbeth y gellir ei wneud, wrth gwrs, yn gyfreithiol ac yn ddiogel o dan drwydded. Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi dweud eu bod yn rhoi'r gorau i roi trwyddedau ar gyfer hyn, yn rhannol, dywedant, oherwydd diffyg galw, ond mae'r diffyg galw hwnnw wedi cyd-daro â'r cynnydd enfawr a welsom ym mhris y trwyddedau hynny, sydd wedi codi o oddeutu £400 i dros £3,700.
Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod triniaeth parasitiaid yn parhau'n ddiogel ac yn effeithiol os nad oes gan ffermwyr lwybr gwaredu cyfreithiol na fforddiadwy ar gyfer dip defaid gwastraff? Rydych chi'n talu llawer o arian am Gwaredu Scab, er enghraifft, ond mae'r polisi di-drefn hwn yn tanseilio'r mathau hynny o ymdrechion, ac wrth gwrs, mae'n creu risg o achosi mwy o ddioddefaint i lawer o'r anifeiliaid hynny.
Thank you. I would just say that the Gwaredu Scab approach, working with the sector and led by the sector, is exactly the way we need to deal with the wider issues here. But in respect of sheep dip, you will know in your role that there is a difficult challenge here because of the environmental impacts of dispersal of this onto the land. It's well documented and well evidenced and you'll be aware of this.
The other aspect is that we regularly not spar but engage on the pressures on NRW, and NRW have moved more towards a cost-recovery model over recent years across a range of things, and this is one of them. I appreciate that it does mean that the cost of those licences then does go up, but the alternative is to say to NRW that they must subsidise it. I think working with the sector is the way forward on this, but if you have any individual instances you want to share with me, please do, because I'll happily take them back to officials.
Diolch. Byddwn yn dweud mai dull gweithredu Gwaredu Scab, gan weithio gyda'r sector a than arweiniad y sector, yw'r union ffordd y mae angen inni fynd i'r afael â'r materion ehangach yma. Ond o ran dip defaid, fe fyddwch yn gwybod o'ch rôl fod her anodd yma oherwydd effeithiau amgylcheddol ei wasgaru ar y tir. Mae hyn wedi'i ddogfennu'n dda a thystiolaeth dda ar gael ac fe fyddwch yn ymwybodol o hyn.
Yr agwedd arall yw ein bod yn aml, nid yn anghytuno ond yn ymgysylltu ar y pwysau ar Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi symud tuag at fodel adennill costau dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfer amryw o bethau, ac mae hwn yn un ohonynt. Rwy'n sylweddoli ei fod yn golygu bod cost y trwyddedau hynny wedyn yn codi, ond y dewis arall yw dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn rhaid iddynt ei sybsideiddio. Rwy'n credu mai gweithio gyda'r sector yw'r ffordd ymlaen ar hyn, ond os oes gennych unrhyw achosion unigol yr hoffech eu rhannu gyda mi, gwnewch hynny, gan fy mod yn fwy na pharod i'w codi gyda swyddogion.
Thank you for that, but I think there is an incoherence in policy here with one policy militating against the other. The evidence provided by NRW actually didn't and couldn't directly link the presence of diazinon to the practice of spreading used dip. So, I would urge you to maybe look at that situation in terms of trying to find a way forward here, because at the end of the day, it's the welfare of the animals that will suffer more than anything else.
We all want to do everything we can to keep bluetongue virus out of Wales. The English restricted zone was extended this week, as I'm sure you're aware, further north, and it's known that the virus continues to creep ever closer. It's likely that the Department for Environment, Food and Rural Affairs is considering implementing an all-England restricted zone. If that happens, then I know there are concerns about the need to find practical solutions that support continued trade and movement of animals between England, Scotland and Wales.
I wonder if you could tell us what discussions you've had with DEFRA regarding the potential extension of the English restricted zone right up to the Welsh border, and what discussions also you may have had with stakeholders such as farm owners and livestock auctions who straddle the border or are close to the border, to help them understand how we can mitigate the disruption that this may cause. We need everyone to be ready for such an eventuality—I was going to say, 'If it happens', but many would say, 'When it happens'.
Diolch am hynny, ond rwy'n credu bod anghysondeb o ran polisi yma gydag un polisi yn milwrio yn erbyn y llall. Ni allai'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru nodi cysylltiad uniongyrchol rhwng presenoldeb diazinon a'r arfer o ledaenu dip gwastraff. Felly, rwy'n eich annog efallai i edrych ar y sefyllfa honno a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen yma, oherwydd yn y pen draw, lles yr anifeiliaid fydd yn dioddef yn fwy nag unrhyw beth arall.
Mae pob un ohonom am wneud popeth yn ein gallu i gadw feirws y tafod glas allan o Gymru. Ehangwyd y parth dan gyfyngiadau yn Lloegr ymhellach i'r gogledd yr wythnos hon, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, ac mae'n hysbys fod y feirws yn parhau i ddod yn agosach ac yn agosach. Mae'n debygol fod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ystyried gweithredu parth cyfyngu ar gyfer Lloegr gyfan. Os digwydd hynny, gwn fod pryderon ynghylch yr angen i ddod o hyd i atebion ymarferol sy'n cefnogi parhad masnachu a symud anifeiliaid rhwng Lloegr, yr Alban a Chymru.
Tybed a allech chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y posibilrwydd o ehangu'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr hyd at ffin Cymru, a pha drafodaethau a gawsoch gyda rhanddeiliaid fel perchnogion ffermydd ac arwerthiannau da byw sydd ar y ddwy ochr i'r ffin neu sy'n agos at y ffin, i'w helpu i ddeall sut y gallwn liniaru'r tarfu y gallai hyn ei achosi. Mae angen i bawb fod yn barod ar gyfer posibilrwydd o'r fath—roeddwn yn mynd i ddweud, 'Os yw'n digwydd', ond byddai llawer yn dweud, 'Pan fydd yn digwydd'.
Llyr, thank you for that. It's such an important issue. Our position that we've articulated in good and productive face-to-face meetings with the UK Minister over recent months on this has been that our preference would be to keep it locked down and two counties away, if you like, from the Welsh border. That's the way to do it. That is still our position. That's the ideal position, because I think we've done exceptionally well, and working with the sector as well to keep this out. Some would argue that we've been fortunate to do so as well. But I have to say that the vigilance has been excellent and the working with the Animal and Plant Health Agency and our veterinary service as well has been tremendous. Where we've identified suspect cases, we go in straight away and we've dealt with it and so on. We need to keep on that basis.
However, I am very aware in the discussions, both with industry and with the UK Minister, that they have some challenges here as well and that they may look to change the border, but it's not decided as yet. We are maintaining our position that our preference, all things being equal, is to keep it away, for very good reason, from the Welsh border, not just for Wales, but for containing the disease very tightly. If that does happen, I'm already having those discussions with the sector, with the farming unions and with others, and with people like the Royal Welsh agricultural show and so on, about what the implications would be then, so that there's a 'no surprises' basis on this. So, we are thinking through this, the ‘what if?’, but we’re trying to maintain—. And if the Minister is listening to these debates today, she will know that this is the position I’ve articulated to her, and my officials have strongly advised, 'Ideally, can we lock it two counties away from Wales?' That would be a help to England, as well, in confining the disease, but we’re aware that other things might happen.
Llyr, diolch. Mae'n fater mor bwysig. Ein safbwynt ni, fel rydym wedi'i fynegi mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb gwerthfawr a chynhyrchiol ar hyn gyda Gweinidog y DU dros y misoedd diwethaf, yw mai ein dewis ni fyddai ei gadw dan gyfyngiadau a ddwy sir i ffwrdd, os mynnwch, oddi wrth ffin Cymru. Dyna'r ffordd i wneud hyn. Dyna ein safbwynt o hyd. Dyna'r safbwynt delfrydol, gan y credaf ein bod wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac wedi gweithio gyda'r sector hefyd i gadw hyn allan. Byddai rhai'n dadlau ein bod wedi bod yn ffodus i wneud hynny hefyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod y wyliadwriaeth wedi bod yn rhagorol a bod y gwaith a wnaed gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'n gwasanaeth milfeddygol hefyd wedi bod yn aruthrol. Lle rydym wedi nodi achosion amheus, rydym yn mynd i mewn ar unwaith ac wedi ymdrin â hwy ac yn y blaen. Mae angen inni barhau ar y sail honno.
Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol iawn yn y trafodaethau, gyda'r diwydiant a chyda Gweinidog y DU, fod ganddynt rai heriau yma hefyd a'u bod efallai'n ystyried newid y ffin, ond nid yw hynny wedi'i benderfynu eto. Ein safbwynt ni o hyd yw y byddem yn ffafrio, a phopeth yn gyfartal, ei gadw draw, am reswm da iawn, oddi wrth ffin Cymru, nid yn unig er lles Cymru, ond er mwyn ynysu'r clefyd. Os yw hynny'n digwydd, rwyf eisoes yn cael y trafodaethau hynny gyda'r sector, gyda'r undebau ffermio ac eraill, a chyda phobl fel Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ac ati, ynglŷn â beth fyddai'r goblygiadau bryd hynny, fel y gallwn ymdrin â hyn ar sail 'dim byd annisgwyl'. Felly, rydym yn meddwl drwy hyn, y 'beth os?', ond rydym yn ceisio cynnal—. Ac os yw'r Gweinidog yn gwrando ar y dadleuon hyn heddiw, fe fydd yn gwybod mai dyma'r safbwynt rwyf wedi'i fynegi iddi hi, ac mae fy swyddogion wedi cynghori'n gryf, 'Yn ddelfrydol, a allwn ei gadw ddwy sir i ffwrdd oddi wrth Gymru?' Byddai hynny o gymorth i Loegr hefyd, wrth ynysu'r clefyd, ond rydym yn ymwybodol y gallai pethau eraill ddigwydd.
Wel, diolch i chi am hynny. Dwi’n credu mai bod yn barod sy’n bwysig, os oes rhywbeth yn digwydd, yn hytrach nag, efallai, fod pobl yn edrych ar ei gilydd pan fydd angen gweithredu ar frys.
Mae’r newidiadau i dreth etifeddiant yn rhywbeth sydd wedi cael ei godi fan hyn yn y Siambr sawl gwaith, wrth gwrs. Rŷn ni’n poeni am yr effaith y bydd e’n ei gael ar hyfywedd y sector yng Nghymru, ac mae wedi bod yn destun dadleuon gan Plaid Cymru fan hyn, wrth gwrs, yn Senedd Cymru, ond hefyd, yn San Steffan. Ac un mater dwi wedi codi gyda chi cyn hyn yw’r effaith, wrth gwrs, y bydd y newid yma’n ei gael ar yr iaith Gymraeg. Nawr, rŷn ni’n gwybod bod 43 y cant o ffermwyr yn siarad Cymraeg, o’i gymharu â dim ond 19 y cant o’r boblogaeth yn gyffredinol. Felly, amaeth yw cadarnle mwya’r iaith Gymraeg pan fyddwch chi’n edrych ar y sectorau economaidd sydd gennym ni yng Nghymru. Nawr, byddai cyflwyno'r newidiadau treth etifeddiant yma, wrth gwrs, yn ei gwneud hi’n anoddach i deuluoedd ifanc barhau i ffermio, neu i aros yng nghefn gwlad, ac mi fyddai hynny'n tanseilio dyfodol yr iaith.
Felly, a gaf i ofyn pa achos rydych chi wedi’i wneud i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i amlinellu eich gofid chi am effaith y newid yma ar yr iaith Gymraeg? Ac a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn â’r mater yma, a’r posibilrwydd, efallai, y gallech chi gyflwyno achos ar y cyd â’r comisiynydd— rhwng y comisiynydd a’r Llywodraeth—i annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i edrych eto ar y cynigion?
Thank you for that. I think preparedness is important, if anything should happen, rather than people looking at each other when urgent action is needed.
The changes to inheritance tax is something that’s been raised in this Chamber many times, of course. We are concerned about the impact that it will have on the viability of the sector in Wales, and it’s been the subject of debates by Plaid Cymru here in the Welsh Parliament, but also in Westminster. And one issue that I’ve raised with you before now is the impact that this change will have on the Welsh language. Now, we know that 43 per cent of farmers are Welsh speakers, as compared with only 19 per cent of the general population. So, agriculture is the greatest heartland of the Welsh language, when you look at the economic sectors that we have in Wales. Now, introducing the changes to inheritance tax would make it more difficult for young families to continue to farm or to stay in rural areas, and that would undermine the future of the language.
So, can I ask you what case you have made to the UK Government to outline your concern about the impact of this change on the Welsh language, and have you had any discussions with the Welsh Language Commissioner on this issue, and on the possibility, perhaps, that you could present a joint case with the commissioner—the Government and the commissioner—to encourage the UK Government to look again at these proposals?
The Welsh Language Commissioner and I haven’t met, nor has a meeting been sought. But I’d be more than happy to, because then we can go through some of the ways in which we are absolutely trying to protect the future of the Welsh language, recognising the integral nature of farming and rural businesses to the Welsh language, and the design of our SFS, going forward, will be in that. So, the Welsh language is a theme in the discussions on the ministerial round-table, in the officials group, alongside the wider social value. But the Welsh language is very specifically raised time and time again. We know that’s part of what we’re trying to deliver. And in the representations I’ve made to UK Government, I’ve made clear that this should not impact upon what we’re doing with that, including the Welsh language aspects as well. And I’ll continue to make those representations. And I welcome, as well, by the way, the fact that similar representations are being made by farming unions and others, and you here today. Farming is more than—what would you call it?—what a layperson would call ‘only farming’ or ‘producing food’ and whatever; it’s deeply embedded in the Welsh language and culture as well. So, we’ll continue making those representations, and if the Welsh Language Commissioner is listening to this and would welcome a meeting, I’d be more than happy to discuss that as well, because it would be a good chance to update the Welsh Language Commissioner on what we are doing as a piece within the agricultural community.
Nid yw Comisiynydd y Gymraeg a minnau wedi cyfarfod, ac nid oes cyfarfod wedi'i geisio. Ond rwy'n fwy na pharod i gael un, oherwydd wedyn, gallwn drafod rhai o'r ffyrdd rydym yn sicr yn ceisio diogelu dyfodol y Gymraeg, gan gydnabod natur hollbwysig ffermio a busnesau gwledig i'r Gymraeg, a bydd ein cynllun ffermio cynaliadwy, wrth symud ymlaen, yn rhan o hynny. Felly, mae'r iaith Gymraeg yn thema yn y trafodaethau yn y cyfarfod bord gron gweinidogol, yn y grŵp swyddogion, ochr yn ochr â'r gwerth cymdeithasol ehangach. Ond mae'r iaith Gymraeg yn cael ei chodi'n benodol iawn dro ar ôl tro. Gwyddom fod hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni. Ac yn y sylwadau a wneuthum i Lywodraeth y DU, rwyf wedi egluro na ddylai hyn effeithio ar yr hyn a wnawn gyda hynny, gan gynnwys agweddau'n ymwneud â'r iaith Gymraeg hefyd. A byddaf yn parhau i wneud y sylwadau hynny. Gyda llaw, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod sylwadau tebyg yn cael eu gwneud gan yr undebau ffermio ac eraill, a chithau yma heddiw. Mae ffermio'n fwy na—beth fyddech chi'n ei alw?—yr hyn y byddai lleygwyr yn ei alw'n 'ffermio'n unig' neu 'gynhyrchu bwyd' a beth bynnag; mae wedi'i wreiddio'n ddwfn yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig hefyd. Felly, byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, ac os yw Comisiynydd y Gymraeg yn gwrando ar hyn ac yn croesawu cyfarfod, rwy'n fwy na pharod i drafod hynny hefyd, gan y byddai'n gyfle da i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gomisiynydd y Gymraeg am yr hyn a wnawn fel rhan o'r gymuned amaethyddol.
4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cenhadaeth Llywodraeth y DU ar gyfer ynni glân erbyn 2030 ar yr amgylchedd a newid hinsawdd yng Nghymru? OQ62747
4. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact on the environment and climate change in Wales of the UK Government's mission for clean power by 2030? OQ62747
Vaughan, thank you very much. Renewable energy, as you know, is a key part of Wales’s future, and we are working very closely with the UK Government to deliver the vision for clean power by 2030. And I'm confident we have robust processes in place to consider the environmental impacts here in Wales.
Diolch yn fawr, Vaughan. Mae ynni adnewyddadwy, fel y gwyddoch, yn rhan allweddol o ddyfodol Cymru, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer pŵer glân erbyn 2030. Ac rwy'n hyderus fod gennym brosesau cadarn ar waith i ystyried yr effeithiau amgylcheddol yma yng Nghymru.
Thank you. Clean power, as you know, is a significant manifesto pledge of the UK Government, elected less than a year ago. It should make a significant difference both in terms of economic opportunity, if we get that right in the supply chains, and, of course, energy security for Wales and the UK. But it is also good news for the environment and the sustainable future that we all need. Cabinet Secretary, can I ask how you are looking to assess the environmental impact of making progress towards clean power, that is including but not limited to carbon emissions, and that progress and its impact here in Wales on delivering that UK clean power mission? So, what work are you doing with the UK Government to understand those impacts, and how will you set out progress to the Senedd and the wider Welsh public on how the clean power mission is making a difference here in Wales?
Diolch. Mae pŵer glân, fel y gwyddoch, yn addewid maniffesto pwysig gan Lywodraeth y DU, a etholwyd lai na blwyddyn yn ôl. Dylai wneud gwahaniaeth sylweddol o ran cyfle economaidd, os cawn hynny'n iawn yn y cadwyni cyflenwi, ac wrth gwrs, diogeledd ynni i Gymru a'r DU. Ond mae hefyd yn newyddion da i'r amgylchedd a'r dyfodol cynaliadwy sydd ei angen ar bob un ohonom. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn sut rydych chi'n bwriadu asesu effaith amgylcheddol gwneud cynnydd tuag at bŵer glân, hynny yw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i allyriadau carbon, a'r cynnydd hwnnw a'i effaith yma yng Nghymru ar gyflawni cenhadaeth pŵer glân y DU? Felly, pa waith rydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth y DU i ddeall yr effeithiau hynny, a sut y byddwch chi'n nodi cynnydd i'r Senedd a'r cyhoedd ehangach yng Nghymru ar sut y mae'r genhadaeth pŵer glân yn gwneud gwahaniaeth yma yng Nghymru?
Well, first of all, I think this is an area where there is real scope for good engagement, building on, by the way, what we're actually doing in Wales already—our ambitions on renewable energy very much chime with the clean power trajectory by 2030 set out. It's because, exactly as you say, this is to do with energy security, energy resilience, climate resilience in terms of energy as well. It's also to do with not being vulnerable and held hostage to external geopolitical factors on energy, that we have much more control over this vital resource ourselves. But we've got some very direct engagement going on at the moment with the UK Government—me, but also the delivery of clean power, of course, sits primarily with the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning—really excellent engagement on the delivery of clean power. We're represented on the committee to oversee the delivery of the action plan taking this forward, and a new group has been established, covering the economic and the workforce opportunities from clean power, where the Welsh Government is also represented. Those big opportunities here we need to grab in Wales, and make sure they're here as well as in parts of England as well. It's a real shared endeavour.
I will definitely bring forward regular updates on our engagement, because what we need to make sure is that, in taking this forward, we're also doing the very best for nature, for ecosystem services and so on, and not having unintended consequences through it. But there's a way to do it—you can actually resolve those tensions through very good planning and engagement. So, I'll bring forward regular updates, and I know Rebecca Evans, my Cabinet Secretary colleague, will as well. But this is an opportunity, not a burden—it's an opportunity, and it's good for the people of Wales.
Wel, yn gyntaf oll, credaf fod hwn yn faes lle mae lle gwirioneddol i ymgysylltu da, gan adeiladu, gyda llaw, ar yr hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru—mae ein huchelgeisiau o ran ynni adnewyddadwy yn cyd-fynd yn agos iawn â'r llwybr pŵer glân a osodwyd ar gyfer 2030. Mae hynny oherwydd, yn union fel y dywedwch, fod hyn yn ymwneud â diogeledd ynni, gwydnwch ynni, a gwydnwch hinsawdd o ran ynni hefyd. Mae a wnelo hefyd â pheidio â bod yn agored i niwed a chael ein dal yn wystlon i ffactorau geowleidyddol allanol mewn perthynas ag ynni, fod gennym lawer mwy o reolaeth dros yr adnodd hanfodol hwn ein hunain. Ond rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol iawn ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU—fi, ond hefyd, mae darpariaeth pŵer glân, wrth gwrs, yn rhan o gyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio—ymgysylltiad rhagorol iawn ar ddarparu pŵer glân. Cawn ein cynrychioli ar y pwyllgor i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r cynllun gweithredu wrth fwrw ymlaen â hyn, ac mae grŵp newydd wedi'i sefydlu, sy'n ymwneud â'r cyfleoedd economaidd a'r cyfleoedd i'r gweithlu mewn perthynas â phŵer glân, lle mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi'i chynrychioli. Mae angen inni fanteisio ar y cyfleoedd mawr hynny yma yng Nghymru, a sicrhau eu bod yma yn ogystal ag mewn rhannau o Loegr hefyd. Mae'n ymdrech wirioneddol gyfunol.
Byddaf yn sicr yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar ein hymgysylltiad, gan mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau, wrth fwrw ymlaen â hyn, ein bod hefyd yn gwneud ein gorau glas ar gyfer natur, ar gyfer gwasanaethau ecosystem ac yn y blaen, a pheidio â chael canlyniadau anfwriadol o'i herwydd. Ond mae ffordd o wneud hynny—gallwch ddatrys y tensiynau hynny drwy gynllunio ac ymgysylltu da. Felly, byddaf yn rhoi diweddariadau rheolaidd, a gwn y bydd Rebecca Evans, fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet, yn gwneud hynny hefyd. Ond mae hwn yn gyfle, nid yn faich—mae'n gyfle, ac mae'n dda i bobl Cymru.
The delivery of the 'Clean Power 2030 Action Plan' does require rapid deployment of new clean energy capacity across the UK with the aim of capturing 43 to 50 GW of offshore wind. Now, we already know a huge scheme, the Awel y Môr project, is set to go ahead under the Celtic sea projects. Now, I've long called for the siting of these developments to be away from the most ecologically marine sensitive areas, but, currently, any developer can just point to an area of the sea bed basically and, before you know it, a scheme comes along—quite large. And I am concerned about our vulnerable marine habitats and species. Now, it's also a year since your UK Labour Government came into power, and when we talk about renewable energy, we've got Wylfa, of course, haven't we, in north Wales? And I'm not hearing much progress from you, Cabinet Secretary, on how Wylfa is progressing. So, an update would be handy. But will you make representations to the UK Government, ensuring that, with any huge marine development for wind power, a full impact assessment of the marine environment in relation to the plan is conducted, and that we ensure that, whilst we have the renewable energy on one hand, we still have the restoration and the protection for our wonderful marine species? Diolch.
I gyflawni 'Cynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030', bydd angen sicrhau capasiti ynni glân newydd yn gyflym ledled y DU, gyda'r nod o gynhyrchu gwerth 43 i 50 GW o ynni gwynt ar y môr. Nawr, gwyddom eisoes fod cynllun enfawr, prosiect Awel y Môr, ar fin cychwyn fel rhan o brosiectau'r môr Celtaidd. Nawr, rwyf wedi galw ers tro am leoli'r datblygiadau hyn ymhell o'r ardaloedd morol mwyaf sensitif yn ecolegol, ond ar hyn o bryd, gall unrhyw ddatblygwr bwyntio at ardal o wely'r môr, yn y bôn, a chyn pen dim, mae cynllun ar y gweill—un eithaf mawr. Ac rwy'n pryderu am ein cynefinoedd a'n rhywogaethau morol agored i niwed. Nawr, mae blwyddyn wedi bod hefyd ers i Lywodraeth Lafur y DU ddod i rym, a phan fyddwn yn sôn am ynni adnewyddadwy, mae gennym Wylfa, wrth gwrs, onid oes, yn y gogledd? Ac nid wyf yn clywed llawer o gynnydd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, ar sut y mae gorsaf Wylfa yn dod yn ei blaen. Felly, byddai diweddariad o gymorth. Ond a wnewch chi wneud sylwadau i Lywodraeth y DU, i sicrhau, gydag unrhyw ddatblygiad morol enfawr ar gyfer ynni gwynt, y cynhelir asesiad effaith llawn o'r amgylchedd morol mewn perthynas â'r cynllun, a'n bod yn sicrhau, er bod gennym yr ynni adnewyddadwy ar un llaw, fod gennym adfer a diogelu ein rhywogaethau morol rhyfeddol hefyd? Diolch.
'Yes', in answer to your last question, because any proposal that comes forward—and this builds on the question from Vaughan earlier—needs to actually go through a consenting and a licensing process, and needs to take into account our marine planning network and designated areas within the sea. But this is all about, actually, in the genuine meaning of this term, the sustainable exploitation of our natural resources, protecting the natural environment and then moving to this renewable future. And the reason we have to do this is because—and we've seen the recent Climate Change Committee report saying it—we need to actually fast track to a decarbonised, electrical future. That means we all have a part to play in it right across the UK and to seize the opportunities of it, because electricity demand, in the cars that we drive and the way we heat our homes and everything else, will triple by 2050. So, that needs to be clean energy, not old fossil fuel stuff. And we've got to make the most of opportunities here in Wales in doing that. Our ambition is for Wales to meet the equivalent of 100 per cent of our annual electricity consumption from renewables by 2050, and then to continue to keep pace with consumption thereafter. But, look, there's a consenting and a licensing process. It needs to be efficient, but also good in protecting nature as well. So, we're already in that space.
You mentioned Wylfa. I'm not directly responsible for that; that is my Cabinet Secretary colleague. But I will pass on your comments to her, because the decarbonisation piece and the green growth piece is a cross-Government piece. I hold, as you know, the responsibility for carbon budgets, and we speak to all Ministers, local government, education, health and so on, about how we decarbonise all aspects of Welsh life.
'Gwnaf', i ateb eich cwestiwn olaf, gan fod angen i unrhyw gynnig a wneir—ac mae hyn yn adeiladu ar y cwestiwn gan Vaughan yn gynharach—fynd drwy broses gydsynio a thrwyddedu, ac mae angen iddo ystyried ein rhwydwaith cynllunio morol a'n hardaloedd dynodedig yn y môr. Ond mae a wnelo hyn oll, mewn gwirionedd, yng ngwir ystyr y term hwn, â manteisio'n gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol, diogelu'r amgylchedd naturiol ac yna symud i'r dyfodol adnewyddadwy hwn. A'r rheswm pam mae'n rhaid inni wneud hyn—ac rydym wedi gweld adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud hyn—yw am fod angen inni gyflymu'r daith at ddyfodol trydanol, di-garbon. Golyga hynny fod gan bob un ohonom ran i'w chwarae ynddo ledled y DU, a bod angen inni fanteisio ar y cyfleoedd, gan y bydd y galw am drydan, yn y ceir yr ydym yn eu gyrru a'r ffordd yr ydym yn cynhesu ein cartrefi a phopeth arall, yn treblu erbyn 2050. Felly, mae angen i hynny fod drwy ynni glân, nid hen danwydd ffosil. Ac mae'n rhaid inni wneud y gorau o gyfleoedd yma yng Nghymru wrth wneud hynny. Ein huchelgais yw i Gymru gyrraedd yr hyn sy'n cyfateb i 100 y cant o'n defnydd blynyddol o drydan drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2050, ac yna i barhau i gadw i fyny â'r defnydd wedi hynny. Ond edrychwch, mae yna broses gydsynio a thrwyddedu. Mae angen iddi fod yn effeithlon, ond yn dda iawn i ddiogelu natur hefyd. Felly, mae hyn eisoes ar y gweill gennym.
Fe sonioch chi am Wylfa. Nid wyf yn uniongyrchol gyfrifol am hynny; fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am hynny. Ond fe drosglwyddaf eich sylwadau iddi, gan fod yr elfen ddatgarboneiddio a'r elfen dwf gwyrdd yn elfennau trawslywodraethol. Fel y gwyddoch, fi sy'n gyfrifol am gyllidebau carbon, ac rydym yn siarad â phob Gweinidog, llywodraeth leol, addysg, iechyd ac yn y blaen, ynglŷn â sut rydym yn datgarboneiddio pob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd mewn tanau mynydd yn Rhondda dros yr wythnosau diwethaf? OQ62729
5. What assessment has the Welsh Government made of the reasons for the increase in mountain fires in Rhondda over recent weeks? OQ62729
Thank you, Buffy. As you know, this issue lies primarily in the Cabinet Secretary for Housing and Local Government’s portfolio. However, what I can say is that an increase in wildfires is likely during these prolonged periods of warm, dry weather, like we've had this spring. South Wales fire and rescue has responded effectively and has conducted follow-up investigations to consider the causes, where required.
Diolch, Buffy. Fel y gwyddoch, mae'r mater hwn yn bennaf ym mhortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Fodd bynnag, yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod cynnydd mewn tanau gwyllt yn debygol yn ystod cyfnodau hir o dywydd cynnes a sych, fel rydym wedi'u cael y gwanwyn hwn. Mae gwasanaeth tân ac achub de Cymru wedi ymateb yn effeithiol ac wedi cynnal ymchwiliadau dilynol i ystyried yr achosion, lle bo angen.
Thank you. Mountain fires pose a serious risk to life, property and our environment, and I want to begin by thanking the crews at Tonypandy, Treorchy, Ferndale and Gilfach who've worked tirelessly to bring recent fires in Rhondda under control. While it's mainly arsonists who carry the greatest blame for the recent mountain fires, we must also look at the wider context that allows these fires to spread so easily. Natural Resources Wales's historic failure to manage brash after tree felling has contributed to devastating flooding during wet periods in the past. And now, with climate change bringing longer, drier spells, this same practice, along with a lack of firebreak maintenance, is making it easier for fires to spread. It feels as though the lessons of the past haven't been acted on. Will the Cabinet Secretary agree to meet with me and local crews to discuss these concerns and others? We need to see urgent changes to keep our communities safe.
Diolch. Mae tanau mynydd yn peri risg ddifrifol i fywyd, eiddo a'n hamgylchedd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r criwiau yn Nhonypandy, Treorci, Glynrhedynog a Gilfach sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddod â thanau diweddar yn y Rhondda dan reolaeth. Er mai llosgwyr bwriadol sydd ar fai i raddau helaeth am y tanau mynydd diweddar, rhaid inni edrych hefyd ar y cyd-destun ehangach sy'n caniatáu i'r tanau hyn ledaenu mor hawdd. Mae methiant hanesyddol Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli tocion ar ôl torri coed wedi cyfrannu at lifogydd dinistriol yn ystod cyfnodau gwlyb yn y gorffennol. A nawr, gyda newid hinsawdd yn arwain at gyfnodau hirach a sychach, mae'r un arfer, ynghyd â diffyg gwaith cynnal a chadw ar rwystrau tân, yn ei gwneud yn haws i danau ledaenu. Mae'n teimlo fel pe na bai gwersi'r gorffennol wedi cael eu rhoi ar waith. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i gyfarfod â mi a chriwiau lleol i drafod y pryderon hyn ac eraill? Mae angen inni weld newidiadau ar frys er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel.
Buffy, thank you very much. Look, I'll acknowledge there's been a massive increase in wildfire incidents in recent months. We'll have full data on this as it comes to September, but I think we can see what's going on already, and that includes some of the major fires that there have been in Treorchy, in the Maerdy area, and in other areas. And the really sad thing is most of these seem to have been started deliberately, and it's a real piece we need to deal with in that, year after year after year, but we need to keep on top of that.
But in terms of meeting, if you're content, if I discuss this with my Cabinet Secretary colleague, we'll discuss how to take this forward. The one thing is, NRW always look at how they learn the lessons about their approach, in terms of tree planting, firebreaks and so on and so forth, and they are increasingly good at this, but also south Wales fire and rescue as well, who are, I have to say, globally, amongst the leaders in terms of tackling wildfires. They will have a view on this as well. So, if you're content, I'll discuss with my Cabinet Secretary colleague and we'll come back to you. I'm sure we'll be happy to meet. The question is whether it's both or one of us, but with the fire crews and with NRW, to look ahead, particularly in your constituency, so you can look at what's going on there and how they plan better for the future. There should always be a willingness to learn lessons and then improve on the way we do this.
Diolch, Buffy. Edrychwch, rwy'n cydnabod bod cynnydd enfawr wedi bod yn y nifer o danau gwyllt dros y misoedd diwethaf. Bydd gennym ddata llawn ar hyn erbyn mis Medi, ond rwy'n credu y gallwn weld beth sy'n digwydd yn barod, ac mae hynny'n cynnwys rhai o'r tanau mawr a fu yn Nhreorci, yn ardal Maerdy, ac mewn ardaloedd eraill. A'r peth trist iawn yw bod y rhan fwyaf o'r rhain wedi'u cynnau'n fwriadol yn ôl pob golwg, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn hynny o beth, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ond mae angen inni gadw rheolaeth ar hynny.
Ond o ran cyfarfod, os ydych chi'n fodlon, fe drafodaf hyn gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet, ac fe allwn drafod sut i fwrw ymlaen â hyn. Yr unig beth yw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru bob amser yn edrych ar sut i ddysgu'r gwersi am eu dull o weithredu, o ran plannu coed, rhwystrau tân ac ati, ac maent yn dod yn well ac yn well am wneud hynny, ond hefyd, gwasanaeth tân ac achub de Cymru yn ogystal, sydd, mae'n rhaid imi ddweud, ymhlith y gorau yn y byd am fynd i'r afael â thanau gwyllt. Bydd ganddynt farn ar hyn hefyd. Felly, os ydych chi'n fodlon, byddaf yn trafod gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet, ac fe ddown yn ôl atoch. Rwy'n siŵr y byddwn yn barod i gyfarfod. Y cwestiwn yw a fydd y ddau ohonom neu un ohonom yn cyfarfod, ond gyda'r criwiau tân a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i edrych ymlaen, yn enwedig yn eich etholaeth chi, fel y gallwch edrych ar yr hyn sy'n digwydd yno a sut y gallant gynllunio'n well ar gyfer y dyfodol. Dylai fod parodrwydd bob amser i ddysgu gwersi ac yna i wella'r ffordd y gwnawn hyn.
6. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i sefydlu parc morol cenedlaethol? OQ62737
6. What consideration has the Welsh Government given to establishing a national marine park? OQ62737
The key aim of national marine parks is to connect people with the sea. I recognise the importance of this connection, and we are already taking action through our 'Y Môr a Ni' framework. Wales has a strong foundation for marine conservation with our network of marine protected areas.
Prif nod parciau morol cenedlaethol yw cysylltu pobl â'r môr. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y cysylltiad hwn, ac rydym eisoes yn rhoi camau ar waith drwy ein fframwaith 'Y Môr a Ni'. Mae gan Gymru sylfaen gref ar gyfer cadwraeth forol gyda'n rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig.
Thank you, Cabinet Secretary. The Campaign for National Parks has recently launched an initiative for Senedd Members to become national marine park champions, taking advantage of the fantastic coastal landscape that we have here in Wales. Having visited Plymouth Sound, the first national marine park in the United Kingdom, I've seen at first-hand the potential of establishing one in Wales and its ability to connect governance of our land and sea, lead to better stewardship across Wales and the rest of the United Kingdom and, ultimately, enable improved awareness of the need for conservation. What barriers do you see to supporting the creation of one or more national marine parks in Wales? Thank you.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, mae Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol wedi lansio menter i Aelodau'r Senedd ddod yn hyrwyddwyr parciau morol cenedlaethol, gan fanteisio ar y dirwedd arfordirol wych sydd gennym yma yng Nghymru. Ar ôl ymweld â Plymouth Sound, parc morol cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig, gwelais â fy llygaid fy hun y potensial o sefydlu un yng Nghymru a'i allu i gysylltu rheolaeth ar ein tir a'n môr, i arwain at well stiwardiaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ac yn y pen draw, i alluogi gwell ymwybyddiaeth o'r angen am gadwraeth. Pa rwystrau a welwch chi i gefnogi'r gwaith o greu un neu fwy o barciau morol cenedlaethol yng Nghymru? Diolch.
Thank you, Joel. I don't see barriers; it's just a question of how we achieve the objective that is set out by those who support the concept of marine parks, which I understand is to promote public awareness and understanding of coastal and marine heritage and seascape recovery, to enable recreation enjoyment and realise the environmental and socioeconomic benefits for coastal communities. So, in Wales, right here, right now, the Welsh Government is funding the coast and seas partnership. Indeed, Pembrokeshire Coast National Park is a member of this, and they're working towards very similar aims, particularly through the work on ocean literacy and coastal capacity building. Dirprwy Lywydd, I went down there, I think it was about six weeks ago, on a very sunny day, to their launch of the ocean literacy events that they were doing, including at the Torch Theatre. [Interruption.] Indeed—I was on my canoe, and I was going up a creek, but with a paddle, not without a paddle [Laughter.] And I paddled back with somebody who was, actually, very interested in chatting. He had just launched his own business that day from the quayside, on paddle boarding—. Sorry, I digress. I digress, Dirprwy Lywydd.
Diolch, Joel. Nid wyf yn gweld unrhyw rwystrau; mae'n fater o sut rydym yn cyflawni'r amcan a nodir gan y rhai sy'n cefnogi'r cysyniad o barciau morol, sef, yn ôl yr hyn a ddeallaf, hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o dreftadaeth arfordirol a morol ac adferiad morweddau, er mwyn gallu mwynhau manteision hamdden a gwireddu'r manteision amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol i gymunedau arfordirol. Felly, yng Nghymru, yma, nawr, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r bartneriaeth moroedd ac arfordiroedd. Yn wir, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn aelod ohoni, ac maent yn gweithio tuag at nodau tebyg iawn, yn enwedig drwy'r gwaith ar lythrennedd cefnforol ac adeiladu capasiti mewn cymunedau arfordirol. Ddirprwy Lywydd, bûm yno, oddeutu chwe wythnos yn ôl rwy'n credu, ar ddiwrnod heulog iawn, i'w lansiad digwyddiadau llythrennedd cefnforol, gan gynnwys yn Theatr Torch. [Torri ar draws.] Yn wir—roeddwn yn fy nghanŵ, ac roeddwn yn mynd i fyny cilfach, ond gyda rhwyf, nid heb rwyf [Chwerthin.] Ac fe rwyfais yn ôl gyda rhywun a oedd yn awyddus iawn i sgwrsio. Roedd newydd lansio ei fusnes ei hun y diwrnod hwnnw o'r cei, busnes padlfyrddio—. Mae’n ddrwg gennyf, rwy'n crwydro. Rwy'n crwydro, Ddirprwy Lywydd.
You are using time that we haven't got.
Rydych chi'n defnyddio amser nad yw gennym.
I know, I know. But the ocean literacy piece is very important to us. The Coasts and Seas Partnership published Europe's first ocean literacy strategy earlier this year—'Y Môr a Ni'. It's got a series of actions that would take forward this vision of people being connected to the seas and all those recreational and social and environmental benefits. So, there's a different way to do it. We also, by the way, note that wording around ocean literacy is now included in the United Nations ocean declaration for the third ocean conference in Nice in June. Wales is actually demonstrating how this can be delivered collaboratively right here and right now.
Rwy'n gwybod, rwy'n gwybod. Ond mae'r gwaith llythrennedd cefnforol yn bwysig iawn i ni. Cyhoeddodd y Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd strategaeth llythrennedd cefnforol gyntaf Ewrop yn gynharach eleni—'Y Môr a Ni'. Mae ynddo gyfres o gamau gweithredu a fyddai'n bwrw ymlaen â'r weledigaeth hon o bobl yn cael eu cysylltu â'r moroedd a'r holl fanteision hamdden, cymdeithasol ac amgylcheddol hynny. Felly, mae yna ffordd wahanol o'i wneud. Rydym hefyd, gyda llaw, yn nodi bod geiriad yn ymwneud â llythrennedd cefnforol bellach wedi'i gynnwys yn natganiad cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y drydedd gynhadledd cefnforoedd yn Nice ym mis Mehefin. Mae Cymru'n dangos sut y gellir cyflawni hyn ar y cyd yma nawr.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw Cymru yn allforio ei hallyriadau i wledydd eraill drwy gynyddu dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi'i fewnforio? OQ62722
7. What is the Welsh Government doing to ensure Wales doesn't off-shore emissions to other countries through increasing reliance on imported fossil fuels? OQ62722
Thank you, Janet. The Welsh Government is committed to a rapid transition away from fossil fuels, including imports. To support this transition, we are making the investment necessary to deliver more renewable energy generation and energy efficiency measures to help us achieve clean, affordable energy security for the people of Wales.
Diolch, Janet. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bontio'n gyflym oddi wrth danwydd ffosil, gan gynnwys mewnforion. Er mwyn cefnogi'r pontio hwn, rydym yn gwneud y buddsoddiad angenrheidiol i ddarparu mwy o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy a mesurau effeithlonrwydd ynni i'n helpu i sicrhau diogeledd ynni glân a fforddiadwy i bobl Cymru.
Thank you. You've often talked about a just transition and one where we actually ensure that we've got energy at an affordable price for our residents. However, we've had the argument here about coal in the past. Labour and Plaid Cymru and even the Liberal Democrat want us to rely solely on the import of 3.4 million tonnes annually. As seen with the Scunthorpe steel plant, the UK imported 55,000 tonnes of coking coal from Australia. We also import coal from Kazakhstan, Canada and the USA. We have heritage railways now dependent on coal from the other side of the world.
Low-carbon hydrogen is also increasingly recognised by Government as having an important role to play in reducing greenhouse gas emissions. Hydrogen production in Wales can come from a range of processes and sources. So, what assessment has the Cabinet Secretary made? How are you looking into the fact that it's a bit of hypocrisy, really, when we're importing so much fossil fuel, when, in fact, we have them locally? Particularly during the remediation stages of the coal tip work, that could actually help to mitigate the amount of fossil fuel and coal we're bringing in. So, how will you be addressing this, because currently there is an imbalance—your thoughts on it? It's somewhat—. We're not allowed to use the word 'hypocrisy'. It's hypocritical in its attempts to actually deliver the agenda you want it to.
Diolch. Rydych chi'n aml wedi siarad am bontio teg ac un lle rydym yn sicrhau bod gennym ynni am bris fforddiadwy i'n trigolion. Fodd bynnag, rydym wedi cael y ddadl yma am lo yn y gorffennol. Mae Llafur a Phlaid Cymru a hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol eisiau inni ddibynnu'n llwyr ar fewnforio 3.4 miliwn tunnell bob blwyddyn. Fel y gwelwyd gyda ffatri ddur Scunthorpe, mewnforiodd y DU 55,000 tunnell o lo golosg o Awstralia. Rydym hefyd yn mewnforio glo o Kazakhstan, Canada a'r UDA. Mae gennym reilffyrdd treftadaeth bellach yn dibynnu ar lo o'r ochr arall i'r byd.
Mae hydrogen carbon isel hefyd yn cael ei gydnabod fwyfwy gan y Llywodraeth fel rhywbeth sydd â rôl bwysig i'w chwarae yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gall cynhyrchu hydrogen yng Nghymru ddigwydd trwy ystod o brosesau a ffynonellau. Felly, pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud? Sut rydych chi'n ystyried ei bod yn rhagrithiol braidd, a ninnau'n mewnforio cymaint o danwydd ffosil, er bod gennym danwydd ffosil yn lleol? Yn enwedig yn ystod camau'r gwaith adfer tomenni glo, a allai helpu i liniaru faint o danwydd ffosil a glo a fewnforiwn. Felly, sut fyddwch chi'n mynd i'r afael â hyn, oherwydd ar hyn o bryd mae anghydbwysedd—eich safbwyntiau ar hynny? Mae braidd—. Ni chaniateir inni ddefnyddio'r gair 'rhagrith'. Mae'n rhagrithiol yn ei ymdrechion i gyflawni'r agenda rydych chi eisiau iddo ei wneud mewn gwirionedd.
Okay. Thank you, Janet. Setting aside the allegation of hypocrisy, when I thought we were all committed here to working towards a zero-carbon future and a fossil fuel-free future, one of the challenges here in what you've put forward, Janet, is the acknowledged position that my colleague Cabinet member, Rebecca Evans, said to you in response to a similar question recently, that the established policy of Welsh Government is to bring to a managed end the extraction and the use of coal. The opening of new coal mines and the extension of existing coal operations in Wales would add to the global supply of coal, having a significant effect—and I say this to you as a member of the climate change committee—on Wales and the UK's legally binding carbon budgets, as well as the international efforts to limit the impact of carbon change.
And also, the climate committee's advice is very, very clear—not the climate committee here, but the CCC committee on a UK basis—where they say that, across the Welsh economy, reducing dependency on fossil fuels will increase economic resilience against price shocks in volatile international fossil fuel markets. So, actually, far from being hypocritical, what I'm trying to do is be consistent, and consistent with Members who previously voted for a route to a just transition to a decarbonised future. So, we're trying to keep coal in the ground. We're definitely not, through the current Bill going forward on disused coal tips, going anywhere near the issue of extraction of coal within that. I think you were advocating then for the extraction of that for commercial ends. That isn't part of it. That Bill is focused on the welfare of communities who are affected by the legacy of our coal tips and the stability of those tips. That's what that Bill sets out to do.
O'r gorau. Diolch, Janet. Gan roi'r cyhuddiad o ragrith i un ochr, pan oeddwn i'n meddwl ein bod i gyd wedi ymrwymo yma i weithio tuag at ddyfodol di-garbon a dyfodol di-danwydd ffosil, un o'r heriau yma yn yr hyn rydych chi wedi'i gyflwyno, Janet, yw'r safbwynt cydnabyddedig a ddywedodd fy nghyd-aelod o'r Cabinet, Rebecca Evans, wrthych mewn ymateb i gwestiwn tebyg yn ddiweddar, mai polisi sefydledig Llywodraeth Cymru yw dod â chloddio am lo a defnyddio glo i ben mewn modd wedi'i reoleiddio. Byddai agor pyllau glo newydd ac ymestyn gweithgarwch glo presennol yng Nghymru yn ychwanegu at y cyflenwad byd-eang o lo, gan effeithio'n sylweddol—ac rwy'n dweud hyn wrthych chi fel aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd—ar gyllidebau carbon cyfreithiol rwymol Cymru a'r DU, yn ogystal â'r ymdrechion rhyngwladol i gyfyngu ar effaith newid carbon.
A hefyd, mae cyngor y pwyllgor hinsawdd yn glir iawn—nid y pwyllgor hinsawdd yma, ond y pwyllgor newid hinsawdd ar sail y DU—lle maent yn dweud, ar draws economi Cymru, y bydd lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil yn cynyddu gwydnwch economaidd yn erbyn siociau prisiau mewn marchnadoedd tanwydd ffosil rhyngwladol anwadal. Felly, mewn gwirionedd, ymhell o fod yn rhagrithiol, yr hyn rwy'n ceisio ei wneud yw bod yn gyson, ac yn gyson gydag Aelodau a bleidleisiodd yn flaenorol dros lwybr tuag at bontio teg i ddyfodol wedi'i ddatgarboneiddio. Felly, rydym yn ceisio cadw glo yn y ddaear. Yn bendant, nid ydym, drwy'r Bil presennol sy'n cael ei gyflwyno ar domenni glo nas defnyddir, yn mynd yn agos at fater cloddio am lo yn hwnnw. Rwy'n credu eich bod chi'n dadlau dros gloddio am lo at ddibenion masnachol. Nid yw hynny'n rhan ohono. Mae'r Bil hwnnw'n canolbwyntio ar les cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan waddol ein tomenni glo a sefydlogrwydd y tomenni hynny. Dyna beth yw nod y Bil.
8. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o effaith newid Llywodraeth y DU i'r dreth etifeddiaeth amaethyddol ar wragedd gweddw yng Nghymru? OQ62741
8. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact of the UK Government's change to agricultural inheritance tax on widowed women in Wales? OQ62741
Diolch, Siân. Mae’r dreth etifeddiaeth yn un sydd wedi ei chadw yn ôl, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n ei goruchwylio. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am gynnal unrhyw asesiad o’r newidiadau, o ran cydraddoldeb.
Thank you, Siân. Inheritance tax is a reserved tax, overseen by the UK Government. It is the responsibility of the UK Government to undertake any equality assessment of the proposed changes.
Diolch am yr ateb yna. Ar ddiwedd Ebrill, fe wnes i holi'r Prif Weinidog am fater a oedd wedi'i dynnu i'm sylw i gan etholwyr am effaith anghymesur y newidiadau i'r dreth etifeddiaeth ar weddwon ffermio, a hynny yn sgil y newidiadau i ryddhad. Mae hyn oherwydd na fyddai rhyddhad treth y gŵr sydd wedi marw yn trosglwyddo i'r weddw er mwyn darparu dwbl y rhyddhad ar farwolaeth y weddw. Ac, wrth gwrs, mae'n gweithio'r ffordd arall hefyd, sef os ydy'r wraig yn marw, byddai'r gŵr gweddw ddim yn cael rhyddhad.
Mae'r teuluoedd yma—ac mae yna nifer ohonyn nhw yn fy etholaeth i—felly wedi colli allan ar gyfleoedd i gynllunio ystadau a llunio ewyllysiau a fyddai'n rhoi sicrwydd i'r plant ar gyfer y dyfodol ac felly sicrwydd i ddyfodol y ffermydd teuluol yma. Yn ei hateb, nôl ym mis Ebrill, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd hi wedi clywed am yr ongl yma o'r blaen ac y byddai hi'n edrych i mewn i'r mater. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo'r Prif Weinidog, a pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael am y mater penodol yma efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig?
Thank you for that response. At the end of April, I asked the First Minister about an issue that had been brought to my attention by constituents on the disproportionate impact of the changes to inheritance tax on farm widows, given the changes to relief. This is because the deceased husband's tax relief wouldn't be transferred to the widow in order to provide double relief at the time of the widow's death. And, of course, it works the other way around, too, namely if the wife died, then the widowed man wouldn't get that relief either.
These families—and there are many of them in my constituency—have therefore missed out on opportunities to plan their estates and to draw up wills that would provide assurances to their children for their future, and therefore assurances for the future of these family farms. In her response, back in April, the First Minister said that she hadn't heard about this angle before and that she would look into the issue. So, what discussions have you had with the First Minister, and what discussions have you had on this specific issue with the UK Government?
Diolch, Siân. I note that you had, indeed, raised this with the First Minister before, and I think that the intention is, Siân, to arrange a meeting, possibly with you and the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, who has that direct line in to dialogue with the Treasury as well. So, there may have been some diary conflicts and scheduling problems, but I think that the intention is to reschedule that meeting so that we can understand more from you on this matter.
But you raised the issue as well of the support available and the succession planning, and just to reiterate that, as part of the support that we are giving to farmers and their families to understand and act on the implications of the changes, Farming Connect have had a series of workshops right across Wales. There has been attendance now by over 1,500 farmers. They've been very useful indeed, but that's just the beginning of the support. So, Farming Connect is also providing access to facilitated family succession meetings, succession reviews, to understand the tax implications and subsidised business and legal advice on this as well. So, Siân and others, I would say please direct them towards Farming Connect and the work that's being done there, but meanwhile I'll take the message back to the First Minister and the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to get that meeting with you.
Diolch, Siân. Nodaf eich bod wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog o'r blaen, ac rwy'n credu mai'r bwriad, Siân, yw trefnu cyfarfod, o bosibl gyda chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, sydd â'r llinell uniongyrchol honno i ddeialog â'r Trysorlys hefyd. Felly, efallai fod peth gwrthdaro yn y dyddiadur a phroblemau amserlennu, ond rwy'n credu mai'r bwriad yw aildrefnu'r cyfarfod hwnnw fel y gallwn ddeall mwy gennych chi ar y mater hwn.
Ond fe wnaethoch chi godi'r mater hefyd am y cymorth sydd ar gael a'r cynllunio olyniaeth, ac os caf ailadrodd, yn rhan o'r gefnogaeth a roddwn i ffermwyr a'u teuluoedd i ddeall a gweithredu ar oblygiadau'r newidiadau, mae Cyswllt Ffermio wedi cael cyfres o weithdai ledled Cymru. Fe'u mynychwyd gan dros 1,500 o ffermwyr hyd yma. Maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ond dim ond dechrau'r gefnogaeth yw hynny. Felly, mae Cyswllt Ffermio hefyd yn darparu mynediad at gyfarfodydd olyniaeth teuluol wedi'u hwyluso, adolygiadau olyniaeth, i ddeall y goblygiadau treth a chyngor busnes a chyfreithiol wedi'i sybsideiddio ar hyn hefyd. Felly, Siân ac eraill, cyfeiriwch hwy tuag at Cyswllt Ffermio a'r gwaith sy'n cael ei wneud yno, ond yn y cyfamser fe af â'r neges yn ôl at y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gael y cyfarfod hwnnw gyda chi.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Sam Rowlands.
And finally, question 9, Sam Rowlands.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar gyfer gweithgareddau awyr agored? OQ62740
9. Will the Cabinet Secretary provide an update on the Welsh Government's work to improve safety for outdoor activities? OQ62740
Thank you, Sam. Welsh Government is committed to supporting the promotion of safety, with an emphasis on prevention and risk mitigation for outdoor activities. Visit Wales works with providers that are accredited under its adventure activity assurance scheme on content and on campaigns featuring adventure activities, to ensure that best practice is followed.
Diolch, Sam. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi hyrwyddo diogelwch, gyda phwyslais ar atal a lliniaru risg ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae Croeso Cymru yn gweithio gyda darparwyr achrededig o dan ei gynllun sicrwydd gweithgareddau antur ar gynnwys ac ar ymgyrchoedd sy'n cynnwys gweithgareddau antur, i sicrhau bod arferion gorau'n cael eu dilyn.
Thank you for your response, Cabinet Secretary. You will know the good work that takes place through the cross-party group on the outdoor activity sector in Wales, and you'll also agree with me that we have some of the best outdoor activity organisations here in Wales that you could possibly imagine. There have, though, been some recent tragic high-profile cases where basic safety standards in the outdoors have been ignored and caused tragic circumstances to arise. But there are also day-to-day pressures on organisations like mountain rescue, who are supporting people in the outdoors who get themselves into bad situations.
The sector is concerned at the moment with its engagement with the Welsh Government, because there doesn't seem to be a clear lead around the Cabinet table as to who is responsible for outdoor safety and any related legislation or policy. I wonder if you could clarify today who the sector should be engaging with as they seek to continue to reassure the public in their work to ensure that people, when they enjoy the outdoors, can do it in as safe a way as possible whilst making the most of the incredible part of the world that we live in. Thank you.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod am y gwaith da sy'n digwydd drwy'r grŵp trawsbleidiol ar y sector gweithgareddau awyr agored yng Nghymru, ac fe fyddwch hefyd yn cytuno â mi fod gennym rai o'r sefydliadau gweithgareddau awyr agored gorau y gallech feddwl amdanynt yma yng Nghymru. Fodd bynnag, cafwyd achosion trasig amlwg iawn yn ddiweddar lle mae safonau diogelwch sylfaenol yn yr awyr agored wedi cael eu hanwybyddu ac wedi arwain at amgylchiadau trasig. Ond mae yna bwysau o ddydd i ddydd hefyd ar sefydliadau fel achub mynydd, sy'n cefnogi pobl yn yr awyr agored mewn sefyllfaoedd gwael.
Mae'r sector yn pryderu ar hyn o bryd am ei ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, oherwydd nid yw'n ymddangos bod arweiniad clir o gwmpas bwrdd y Cabinet ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch awyr agored ac unrhyw ddeddfwriaeth neu bolisi cysylltiedig. Tybed a allech chi egluro heddiw pwy ddylai'r sector ymgysylltu â hwy wrth iddynt geisio parhau i dawelu meddwl y cyhoedd yn eu gwaith i sicrhau bod pobl, pan fyddant yn mwynhau'r awyr agored, yn gallu gwneud hynny mewn ffordd mor ddiogel â phosibl gan wneud y gorau o'r rhan anhygoel o'r byd yr ydym yn byw ynddi. Diolch.
Indeed, thank you, Sam. And can I just commend the group that you chair, the cross-party group on the outdoor activity sector, for the focus it's given to this? And I think it's important, Dirprwy Lywydd, at the outset, to extend our condolences to the family and friends of the victims and all those affected by the tragedy that took place in Haverfordwest in October last year.
We actually want to promote good, effective outdoor adventures in this outdoor playground that we have in Wales, but it needs to be done safely with skilled people, individuals and operators, and people who come here need to know that they're in good hands and are being safely looked after. This, sadly avoidable, tragedy, as we've now heard in the court case, reinforces the importance of effective preventative messaging when promoting outdoor activities. We want visitors to be safe. We say to them, 'Look at Visit Wales', where the responsible messages on outdoor activity are communicated to the public to help them do so safely. And also, look at the advice that we have on AdventureSmartUK for more advice and guidance, and also to mitigate the risk that providers could be operating without a licence—they should have a licence—so, in which case, Visit Wales also ensures its own content is responsible and appropriate, and it works with providers that are accredited under the adventure activity assurance scheme, and Industry Visit Wales as well on content and campaigns featuring adventure activities. Visit Wales has got an established relationship with AdventureSmartUK, working on campaigns with them as well, with the dissemination of safety information and where people should go for those outdoor activities.
The responsibility within Welsh Government is shared between various Ministers, because some are active in the promotion of the outdoor activity sector, and others, like myself, very much are focused on the safety and the promotion of water safety, and outdoor safety as well. So, by all means, get in touch with me on that particular aspect, but, as I say, I think the work the CPG is doing to turn a spotlight on this is commendable, and it's very necessary as well, in light of that sad and avoidable tragedy we had.
Yn wir, diolch, Sam. A gaf i ganmol y grŵp rydych chi'n ei gadeirio, y grŵp trawsbleidiol ar y sector gweithgareddau awyr agored, am y ffocws a roddodd i hyn? Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn estyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau'r dioddefwyr a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi a ddigwyddodd yn Hwlffordd ym mis Hydref y llynedd.
Rydym eisiau hyrwyddo anturiaethau awyr agored da, effeithiol yn y maes chwarae awyr agored sydd gennym yng Nghymru, ond mae angen ei wneud yn ddiogel gyda phobl, unigolion a gweithredwyr medrus, ac mae angen i bobl sy'n dod yma wybod eu bod mewn dwylo da ac yn cael gofal diogel. Mae'r drasiedi hon, un y gellid bod wedi ei hosgoi, fel y clywsom bellach yn yr achos llys, yn atgyfnerthu pwysigrwydd negeseuon ataliol effeithiol wrth hyrwyddo gweithgareddau awyr agored. Rydym am i ymwelwyr fod yn ddiogel. Rydym yn dweud wrthynt, 'Edrychwch ar Croeso Cymru', lle mae'r negeseuon cyfrifol ar weithgareddau awyr agored yn cael eu cyfathrebu i'r cyhoedd i'w helpu i wneud hynny'n ddiogel. A hefyd, edrychwch ar y cyngor sydd gennym ar AdventureSmartUK am fwy o gyngor ac arweiniad, a hefyd i liniaru'r risg y gallai darparwyr fod yn gweithredu heb drwydded—dylai fod ganddynt drwydded—felly, yn yr achos hwnnw, mae Croeso Cymru hefyd yn sicrhau bod ei gynnwys ei hun yn gyfrifol ac yn briodol, ac mae'n gweithio gyda darparwyr sydd wedi'u hachredu o dan y cynllun sicrwydd gweithgareddau antur, a Croeso Cymru: Diwydiant hefyd ar gynnwys ac ymgyrchoedd sy'n cynnwys gweithgareddau antur. Mae gan Croeso Cymru berthynas sefydledig ag AdventureSmartUK, gan weithio gyda hwy ar ymgyrchoedd, a lledaenu gwybodaeth am ddiogelwch a ble y dylai pobl fynd ar gyfer y gweithgareddau awyr agored hynny.
Mae'r cyfrifoldeb o fewn Llywodraeth Cymru yn cael ei rannu rhwng gwahanol Weinidogion, oherwydd mae rhai yn mynd ati i hyrwyddo'r sector gweithgareddau awyr agored, ac mae eraill, fel fi, yn canolbwyntio ar ddiogelwch a hyrwyddo diogelwch dŵr, a diogelwch awyr agored hefyd. Felly, ar bob cyfrif, cysylltwch â mi ar yr agwedd benodol honno, ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod y gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol yn ei wneud i dynnu sylw at hyn yn ganmoladwy, ac mae'n angenrheidiol iawn hefyd, yng ngoleuni'r drasiedi drist a ddigwyddodd, y gellid bod wedi'i hosgoi.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.
The topical questions are next. The first topical question will be asked by Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd yr oedi i gam 2 gwaith atgyweirio Pont Menai yn ei chael ar Ynys Môn? TQ1339
1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the impact that the delay to phase 2 of the Menai suspension bridge repair works will have on Ynys Môn? TQ1339

I'm extremely disappointed that the original design-build-finance-operate programme from UK Highways A55 Ltd is delayed. We were told of the delay this month, and my officials challenged their methodology to try to reduce the overall programme. But once it was clear there would be an unavoidable delay, I issued the written statement.
Rwy'n hynod siomedig fod y rhaglen gynllunio-adeiladu-ariannu-gweithredu wreiddiol gan UK Highways A55 Ltd wedi ei hoedi. Cawsom wybod am yr oedi y mis hwn, a heriodd fy swyddogion eu methodoleg i geisio lleihau'r rhaglen gyffredinol. Ond pan ddaeth yn amlwg y byddai oedi'n anochel, cyhoeddais y datganiad ysgrifenedig.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna, ond alla i wir ddim gorbwysleisio'n siom i a'm rhwystredigaeth i efo'r cyhoeddiad diweddaraf yma, a fydd yn golygu y bydd yr aflonyddwch a'r problemau i gymunedau, nid yn unig rhai sydd reit wrth ymyl y bont, ond ar draws yr ynys ac ar y tir mawr, yn parhau am lawer hirach nag oedden ni yn ei ddisgwyl. Mi fydd y gost yn glir i fusnesau, y gost i gymudwyr yn teithio i'w gwaith, pryder trigolion lleol ynglŷn â'r effaith ar fynediad cerbydau brys ac ati.
Ac mae o, wrth gwrs, yn bwysig cofio nad dyma yr oedi mawr sylweddol cyntaf i'r prosiect yma. Fis Awst eleni roedd y gwaith i fod wedi'i gwblhau; mi gafodd ei wthio nôl tan fis Rhagfyr. Rŵan dŷn ni'n gwybod y gallai gymryd tan fis Gorffennaf 2026 i'r gwaith gael ei gwblhau, a prin iawn oedd y gydnabyddiaeth yn y briefing yr wythnos diwethaf mai oedi dwbl oedd hwn. Mae o'n golygu bron i flwyddyn o oedi ar broject oedd i fod i bara dwy flynedd, ac mae o hefyd yn golygu, o'r adeg y caeodd y bont yn wreiddiol ym mis Hydref 2022 hyd at ddiwedd y project, y bydd bron i bedair blynedd wedi pasio. Dydy hynny ddim yn dderbyniol o gwbl.
Mae o hefyd yn golygu, wrth gwrs, fod y bont ddim yn mynd i fod yn barod ar gyfer ei dathliadau daucanmlwyddiant ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, er gwaethaf beth addawodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn bendant wrth ohirio dechrau cam 2 y project ym mis Hydref y llynedd. Mae'r newyddion yma wedi achosi cymaint o siom yn lleol, a dwi'n rhannu rhwystredigaethau grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi rhoi cymaint o waith i mewn i ddathlu'r hyn a ddylai fod wedi bod yn achlysur arbennig iawn ar Ynys Môn ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Dwi hefyd eisiau nodi fy rhwystredigaeth am y ffordd y cafodd y cyhoeddiad ei wneud. Mae datganiad ysgrifenedig ar brynhawn dydd Gwener yn arwydd o Lywodraeth sydd eisiau osgoi sgrwtini, mae gen i ofn, yn enwedig pan gawson ni wybod mewn sesiwn briffio rhanddeiliaid ddydd Llun fod Llywodraeth Cymru yn gwybod am yr oedi tebygol am wythnosau cyn y cyhoeddiad, sydd ond yn codi cwestiynau a phryderon pellach ynglŷn ag amseriad y cyhoeddiad.
Mae gen i ofn bod hyn hefyd yn ychwanegu at y gred rywsut dyw'r Llywodraeth Llafur yma ddim yn gwneud digon i ddeall ac ymateb i heriau Ynys Môn a'r gogledd yn fwy cyffredinol. Rydym ni'n sôn am bont y Borth, rydym ni'n sôn am borthladd Caergybi dros gyfnod y Nadolig, a'r methiant llwyr o hyd i sicrhau gwydnwch hirdymor pont Britannia. Rydym ni eisiau gweld Llywodraeth sy'n ymateb efo llawer mwy o frys.
Gaf i ofyn felly i'r Ysgrifennydd Cabinet am esboniad mor fanwl â phosib o'r rhesymau pam mae'r prosiect yma wedi ei ohirio hyd yn oed ymhellach? Pryd yn union oedd y Llywodraeth yn gwybod a beth mae swyddogion wedi ei wneud i drio cyflymu'r prosiect o hyn ymlaen? Gaf i ofyn eto pa arian compensation fydd yn cael ei roi i bobl sydd yn dioddef yn sgil hyn? Ac a allaf i hefyd ofyn unwaith eto a ydy Llywodraeth Cymru'n bwriadu gweithredu mesurau ar bont Britannia ar frys i geisio lleddfu pwysau traffig yn ystod y cyfnodau prysur sydd i ddod? Achos, er gwaethaf addewidion, does yna ddim byd i weld yn digwydd yno.
I thank the Cabinet Secretary for that response, but I can't overestimate my frustration and disappointment with this latest announcement, which will mean that the problems for communities, not those just right near the bridge, but across the island and on the mainland, will continue for far longer than we had expected. The cost will be clear for businesses, to those commuting to work, and there'll be concern among local residents in terms of access for emergency vehicles and so on.
And it's important, of course, to remember that this isn't the first major delay for this project. In August of this year, the work should have been completed; it was pushed back until December. Now we know that it could take until July 2026 for the work to be completed, and there was very little recognition in the briefing last week about that double delay. It means almost a year of delay on a project that was supposed to last two years, and it also means, from the time the bridge closed originally in October 2022 up until the end of the project, that almost four years will have passed. That is not acceptable in any way.
It also means, of course, that the bridge won't be ready for its two-hundredth anniversary celebrations, despite the pledges made by the Cabinet Secretary himself when the start of phase 2 of the project was delayed in October last year. This news has caused so much disappointment locally, and I share the frustrations of community groups that have already put so much work into celebrating what should have been a very special occasion on Anglesey in January of next year.
I also want to note my frustration about the way that the announcement was made. A written statement on a Friday afternoon is a sign of a Government that wants to avoid scrutiny, I'm afraid, particularly when we were informed at a stakeholder briefing session on Monday that the Welsh Government was aware of the likely delay weeks before the announcement was made, which only raises questions and further concerns about the timing of the announcement.
I fear that this also adds to the belief that, somehow, the Labour Government here isn't doing enough to understand and respond to the challenges faced by Anglesey and north Wales more generally. We're talking about the Menai bridge, we're talking about the port of Holyhead over the Christmas period, and the total failure still to ensure the long-term resilience of the Britannia bridge. We want to see a Government that responds with far more urgency.
Could I ask the Cabinet Secretary, therefore, for as detailed an explanation as possible as to the reason why this project has been delayed even further? When exactly was the Government aware of the delay and what have officials done to try and accelerate the process from this point forward? May I ask again what compensation will be provided for those suffering as a result of this? And could I also ask once again whether the Welsh Government intends to act on the Britannia bridge as a matter of urgency in order to alleviate traffic pressures during the busy times ahead? Because, despite pledges, nothing seems to be happening there.
Can I thank Rhun ap Iorwerth for his supplementary questions? First of all, the winter break was a break. It was a break that was undertaken in consultation with stakeholders and it was a break designed to ensure that, during a busy period, the Christmas period, businesses were able to operate and to operate in a way that would guarantee maximum income for them. It also allowed us to create resilience during what was a period of extreme weather events. Had we not reopened the bridge at that time, it would have meant that Ynys Môn would be at even more risk of being inaccessible during periods of high wind. There were also opportunities, and they were very much welcomed by organisations such as Always Aim High, to utilise the reopening of the bridge during that break. This is a delay, this next session, but the first period was a break in order to ensure that the island could be accessed in the event of severe weather and so that we could utilise the Christmas period to benefit businesses.
Now, in terms of the reasons why the delay has been caused, there are several reasons, and I'm more than happy to provide a more detailed technical briefing to any Member with an interest in this subject. But one of the reasons, for example, was the length of time that it took UK Highways A55 DBFO Ltd to obtain a licence from Natural Resources Wales. Obviously, if we can find any way of bringing forward the work, we will do. My officials are in very, very regular and challenging dialogue with the contractors to make sure that it can be delivered as soon as possible.
When we learnt that there might be a delay, I wanted to interrogate the reasons in full and challenge them to ensure that we were identifying any means possible to bring forward the date of completion. Now, it's programmed for completion in April, in the spring. Even if it's a backstop finish of early summer, it will still be in time for Telford's birthday and the celebrations for the two-hundredth anniversary of the bridge itself. That will be a remarkable occasion.
On the point that Rhun ap Iorwerth makes about the Britannia bridge, I think it's essential to recognise that we have not ruled out another crossing over the Menai, but we want to take forward the work on resilience measures to make sure that in the short term, not just in the long term, we can improve connectivity on and off the island.
A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau atodol? Yn gyntaf oll, roedd toriad y gaeaf yn doriad. Roedd yn doriad a gyflawnwyd mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac roedd yn doriad i sicrhau bod busnesau'n gallu gweithredu dros gyfnod prysur y Nadolig, a gweithredu mewn ffordd a fyddai'n gwarantu'r incwm mwyaf posibl iddynt. Roedd hefyd yn caniatáu inni greu gwydnwch yn ystod cyfnod o ddigwyddiadau tywydd eithafol. Pe na baem wedi ailagor y bont ar y pryd, byddai wedi golygu y byddai mwy o berygl na fyddai modd mynd i Ynys Môn yn ystod cyfnodau o wynt cryf. Roedd yna gyfleoedd hefyd, a chawsant groeso mawr gan sefydliadau fel Always Aim High, i ddefnyddio ailagor y bont yn ystod yr egwyl hwnnw. Mae'r sesiwn nesaf hon wedi ei hoedi, ond roedd y cyfnod cyntaf yn doriad er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd yr ynys mewn tywydd garw ac er mwyn inni allu defnyddio cyfnod y Nadolig er budd busnesau.
Nawr, ar y rhesymau pam yr achoswyd yr oedi, mae sawl rheswm, ac rwy'n fwy na hapus i roi briff technegol mwy manwl i unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn y mater. Ond un o'r rhesymau, er enghraifft, oedd yr amser y cymerodd UK Highways A55 DBFO Ltd i gael trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn amlwg, os gallwn ddod o hyd i unrhyw ffordd o gael y gwaith wedi'i wneud yn gynt, fe fyddwn yn gwneud hynny. Mae fy swyddogion mewn deialog reolaidd iawn a heriol gyda'r contractwyr i wneud yn siŵr y gellir cyflawni'r gwaith cyn gynted â phosibl.
Pan ddeallom y gallai fod oedi, roeddwn eisiau holi ynghylch y rhesymau'n llawn a'u herio i sicrhau ein bod yn nodi unrhyw fodd posibl o gael dyddiad cynt ar gyfer cwblhau'r gwaith. Nawr, mae wedi'i raglennu i'w gwblhau ym mis Ebrill, yn y gwanwyn. Hyd yn oed os yw, yn y pen draw, yn gorffen erbyn dechrau'r haf, bydd yn dal mewn pryd ar gyfer pen-blwydd Telford a dathliadau daucanmlwyddiant codi'r bont. Bydd hwnnw'n achlysur rhyfeddol.
Ar y pwynt y mae Rhun ap Iorwerth yn ei wneud am bont Britannia, rwy'n credu ei bod yn hanfodol cydnabod nad ydym wedi diystyru croesfan arall dros afon Menai, ond rydym am fwrw ymlaen â'r gwaith ar fesurau gwydnwch i wneud yn siŵr y gallwn wella cysylltedd i ac o'r ynys yn y tymor byr, ac nid yn y tymor hir yn unig.
I'm grateful to Rhun ap Iorwerth for raising this topical question here today. The news of further delays to repair works on the Menai suspension bridge is extremely frustrating, to say the least. I'm grateful the Cabinet Secretary also feels the same way. I'm also grateful that there was a technical briefing earlier this week as well.
People on the island rightly expect infrastructure that’s reliable, resilient and truly serves the needs of the island, but, time and time again, they are being let down. And these continued delays aren’t minor inconveniences; they represent a failure to deliver the basic resilience that people on Ynys Môn have every right to expect. Residents, businesses and visitors all deserve better than the progress taking place at the moment. Indeed, the impact and risk of this disruption goes far beyond the boundaries of the island itself. I’m aware that my colleague Janet Finch-Saunders has businesses in Aberconwy that are also concerned about the effect of this. And the knock-on effects are not just being felt in Ynys Môn and Aberconwy, but across north Wales’s transport network, lengthening journeys and undermining economic development.
On this point, Cabinet Secretary, I want to rest for a moment. You will know that businesses thrive on certainty and resilience. Both those things are being undermined at the moment with this delay taking place on the island. And this certainly does not paint a good picture of Welsh Government’s ability to deliver important infrastructure projects in north Wales. This, to me, seems like a typical issue of lack of urgency for important infrastructure in north Wales. It shouldn’t be too much to ask that vital connections from the island onto the mainland are maintained and fixed with the urgency required. This should be absolutely a priority for the Cardiff Labour Government. It does feel like north Wales, again, has been left to languish, not just on this but in terms of other projects too.
So, to come to my questions, Cabinet Secretary, I’d be keen to understand how you’re holding people to account who are delivering this on the Welsh Government’s behalf. You mentioned in your response to Rhun ap Iorwerth some delays caused by NRW, in terms of permits or licences. I’d be interested in how the Welsh Government is working together on this, rather than it being a siloed project. I'm interested also to know what projections have been made regarding the negative economic impact that this continued delay to the Menai suspension bridge is having on local businesses and the wider economy. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am ofyn y cwestiwn amserol hwn heddiw. Mae'r newyddion am oedi pellach i waith atgyweirio ar bont Menai yn hynod rwystredig, a dweud y lleiaf. Rwy'n ddiolchgar fod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn teimlo'r un peth. Rwy'n ddiolchgar hefyd fod briff technegol wedi'i roi yn gynharach yr wythnos hon.
Yn gywir ddigon, mae pobl ar yr ynys yn disgwyl seilwaith sy'n ddibynadwy, yn wydn ac o ddifrif yn gwasanaethu anghenion yr ynys, ond dro ar ôl tro, cânt eu siomi. Ac nid anghyfleustra bach yw'r oedi parhaus hwn; mae'n fethiant i ddarparu'r gwydnwch sylfaenol y mae gan bobl ar Ynys Môn bob hawl i'w ddisgwyl. Mae trigolion, busnesau ac ymwelwyr oll yn haeddu gwell na'r cynnydd sy'n digwydd ar hyn o bryd. Yn wir, mae effaith a risg yr aflonyddwch yn mynd ymhell y tu hwnt i ffiniau'r ynys ei hun. Rwy'n ymwybodol fod gan fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders fusnesau yn Aberconwy sydd hefyd yn pryderu am effaith hyn. Ac mae'r effeithiau'n cael eu teimlo nid yn unig ar Ynys Môn ac yn Aberconwy, ond ar draws rhwydwaith trafnidiaeth gogledd Cymru, gan estyn hyd teithiau a thanseilio datblygiad economaidd.
Rwyf am aros gyda'r pwynt hwn am eiliad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod busnesau'n ffynnu ar sicrwydd a gwydnwch. Mae'r ddau beth yn cael eu tanseilio ar hyn o bryd gyda'r oedi hwn ar yr ynys. Ac yn sicr nid yw'n adlewyrchu'n dda ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yng ngogledd Cymru. I mi, mae'n enghraifft nodweddiadol o'r diffyg brys mewn perthynas â seilwaith pwysig yng ngogledd Cymru. Ni ddylai fod yn ormod i'w ofyn i gysylltiadau hanfodol o'r ynys i'r tir mawr gael eu cynnal a'u trwsio gyda'r brys angenrheidiol. Dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Caerdydd. Mae'n teimlo fel pe bai gogledd Cymru, unwaith eto, wedi cael ei gadael i ddihoeni, nid yn unig gyda hyn ond gyda phrosiectau eraill hefyd.
Felly, i ddod at fy nghwestiynau, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddeall sut rydych chi'n dwyn y bobl sy'n cyflawni hyn i gyfrif ar ran Llywodraeth Cymru. Fe wnaethoch chi sôn yn eich ymateb i Rhun ap Iorwerth am oedi a achoswyd gan CNC, gyda thrwyddedau. Hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd ar hyn, yn hytrach na'i fod yn brosiect seilo. Hoffwn wybod hefyd pa amcanestyniadau a wnaed o'r effaith economaidd negyddol y mae'r oedi parhaus hwn i bont Menai yn ei chael ar fusnesau lleol a'r economi ehangach. Diolch yn fawr iawn.
Well, can I thank Sam Rowlands for his questions? As I’ve said, I am extremely disappointed that the original programme from UK Highways A55 DBFO Ltd is delayed. We were given assurances that the work would be completed by December 2025, and only this month have we been informed that there will be a delay, for some of the reasons that I have outlined. I will provide further information, if Members wish, concerning the various reasons for the delay, which include procurement, as well as the gaining of necessary licences. But I am absolutely determined that, if we can bring forward that completion date from April, we will do. I am absolutely convinced that we are engaging properly, thoroughly and in a very challenging way, as well, with those at UK Highways A55 DBFO Ltd.
I’ve expressed my disappointment, my dissatisfaction, with what’s happened and the lateness of the information that was conveyed to us, but, as soon as we learnt about this, we tasked ourselves with scrutinising whether we could reduce that period of delay and bring forward the opening from the projected date. But, as soon as it became apparent that that wasn’t going to be possible, we arranged the technical briefing and issued a written statement.
We’ll obviously work with the business community and the local authority in determining the impact and we will take measures, if we can, to ensure that businesses can thrive during what I recognise is a very difficult period. And we’ll do all we can as well to ensure that motorists keep moving through what is a very, very disappointing delay.
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiynau? Fel y dywedais, rwy'n hynod siomedig fod y rhaglen wreiddiol gan UK Highways A55 DBFO Ltd wedi ei hoedi. Cawsom sicrwydd y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025, a dim ond y mis hwn y cawsom wybod y bydd oedi, am rai o'r rhesymau a amlinellais. Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth, os yw'r Aelodau'n dymuno hynny, ynglŷn â'r gwahanol resymau dros yr oedi, sy'n cynnwys caffael, yn ogystal ag ennill trwyddedau angenrheidiol. Ond os gallwn gael dyddiad cwblhau cyn mis Ebrill, rwy'n gwbl benderfynol o sicrhau hynny. Rwy'n gwbl argyhoeddedig ein bod yn ymgysylltu'n briodol, yn drylwyr ac mewn ffordd heriol iawn, hefyd, gyda UK Highways A55 DBFO Ltd.
Rwyf wedi mynegi fy siom, fy anfodlonrwydd, â'r hyn sydd wedi digwydd ac na chafodd y wybodaeth ei rhoi i ni tan yn hwyr yn y dydd, ond cyn gynted ag y cawsom wybod am hyn, fe wnaethom ymrwymo i weld a allwn leihau'r cyfnod o oedi a chael yr agoriad yn gynt na'r dyddiad a ragwelwyd. Ond cyn gynted ag y daeth yn amlwg nad oedd hynny'n mynd i fod yn bosibl, fe wnaethom drefnu'r briff technegol a chyhoeddi datganiad ysgrifenedig.
Byddwn yn amlwg yn gweithio gyda'r gymuned fusnes a'r awdurdod lleol i bennu'r effaith a byddwn yn rhoi mesurau ar waith, os gallwn, i sicrhau y gall busnesau ffynnu yn ystod yr hyn y gwn ei fod yn gyfnod anodd iawn. A byddwn yn gwneud popeth a allwn hefyd i sicrhau bod modurwyr yn parhau i symud trwy gyfnod siomedig iawn o oedi.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Y cwestiwn amserol nesaf gan Rhys ab Owen.
Thank you, Cabinet Secretary. The next topical question comes from Rhys ab Owen.
1. Pa fesurau sy'n cael eu trafod rhwng Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru i wella diogelwch yr amgylchedd tra'n sicrhau bod biliau dŵr yn darparu gwir werth am arian i ddefnyddwyr? TQ1341
1. What measures are being discussed between the Welsh Government and Dŵr Cymru to enhance environmental protection while ensuring that water bills provide genuine value for money to consumers? TQ1341

Diolch, Rhys. My officials meet regularly with water companies and industry regulators to discuss all areas of operations. Following the recent water price review determination, which concluded in December, Dŵr Cymru will invest £6 billion in Wales between 2025 and 2030, including £1.2 billion to specifically deliver environmental improvements, including tackling nutrient pollution.
Diolch, Rhys. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â chwmnïau dŵr a rheoleiddwyr y diwydiant i drafod pob maes gweithgarwch. Yn dilyn penderfyniad diweddar yr adolygiad pris dŵr, a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr, bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi £6 biliwn yng Nghymru rhwng 2025 a 2030, gan gynnwys £1.2 biliwn i gyflawni gwelliannau amgylcheddol yn benodol, gan gynnwys mynd i'r afael â llygredd maethynnau.
Diolch am yr ateb, Dirprwy Brif Weinidog.
Thank you for that response, Deputy First Minister.
We're all aware of the £1.3 million fine Dŵr Cymru received last week for failing to monitor water quality at 300 different sites and committing 800 offences. This is on top of the sewage that was discharged last year over 118,000 times—that is a sewage spill every five minutes, the highest number of sewage discharges of any UK water company. Now, this makes the NRW changes in how they manage reports of pollution absolutely baffling, or 'deeply troubling', as Llyr Huws Gruffydd, the Chair of the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee, described it.
Yet, despite these obvious failures, constituents find it very difficult to believe—it sticks in the back of the throat, Dirprwy Brif Weinidog—that executives are paid eye-watering sums, that there's a discussion for them to be paid even higher salaries, and this at the same time when Dŵr Cymru are increasing household bills by 27 per cent this year, an average of £86 per household. As you well know, Dirprwy Brif Weinidog, costs for householders are increasing, yet scrutiny seems to be decreasing due to a lack of funding and investment by the Welsh Government. Dirprwy Brif Weinidog, what is the plan to support all households whilst holding NRW and Dŵr Cymru to account? Diolch yn fawr.
Rydym i gyd yn ymwybodol o'r ddirwy o £1.3 miliwn a gafodd Dŵr Cymru yr wythnos diwethaf am fethu monitro ansawdd dŵr mewn 300 o wahanol safleoedd ac am gyflawni 800 o droseddau. Mae hyn ar ben y carthion a ollyngwyd y llynedd dros 118,000 o weithiau—dyna ollyngiad carthion bob pum munud, y nifer uchaf o ollyngiadau carthion gan unrhyw gwmni dŵr yn y DU. Nawr, mae hyn yn gwneud newidiadau CNC i'r ffordd y rheolant adroddiadau o lygredd yn gwbl ddryslyd, neu'n 'bryderus tu hwnt', fel y cawsant eu disgrifio gan Llyr Huws Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Ac eto, er gwaethaf y methiannau amlwg hyn, mae etholwyr yn ei chael hi'n anodd iawn credu—mae'n anodd ei ddirnad, Ddirprwy Brif Weinidog—fod swyddogion gweithredol yn cael cyflogau syfrdanol o uchel, fod trafodaeth ar y gweill i roi cyflogau uwch eto iddynt, a hyn ar yr adeg pan fo Dŵr Cymru yn cynyddu biliau aelwydydd 27 y cant eleni, cyfartaledd o £86 yr aelwyd. Fel y gwyddoch yn dda, Ddirprwy Brif Weinidog, mae costau i ddeiliaid tai yn codi, ond mae'n ymddangos bod lefelau craffu'n gostwng oherwydd diffyg cyllid a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ddirprwy Brif Weinidog, pa gynlluniau sydd gennych i gefnogi pob cartref gan ddwyn CNC a Dŵr Cymru i gyfrif? Diolch yn fawr.
Thank you for that supplementary. The first thing to say very, very clearly is that I've been consistently clear with both the water companies and, indeed, the regulator, Ofwat, that customers in Wales expect to see real, tangible improvements in services and in infrastructure and in environmental outcomes, and to have that as rapidly as possible. We'll continue to work with the water companies and our regulators to see those improvements that people actually want to see, as you rightly say, but also deserve to have happening.
Now, you rightly flag up the investment, as I did in my initial response to you, over the next few years, which has, indeed, because it's front loaded, led to increased bills for consumers. So, we need to see that turned into action; we need to see the improvement in environmental performance coming through and doing so rapidly. If the investment is front loaded, we expect to see the benefits come through sooner as well too, and that is right on behalf of the bill payers in Wales.
But to be clear as well, Dŵr Cymru, not only in the recent court case—. My understanding is that, now that it is completed, they acknowledged their failings here, and their fine is significant, I have to say, as well, but also their commitment going forward to reduce the ecological harm from storm overflows by 90 per cent, and they aim for 100 per cent by 2032. Now, I do have, Dirprwy Lywydd, shortly, a meeting coming forward with the Dŵr Cymru chair. Now that the court case has concluded, I can guarantee that this will be one of the matters on the agenda with the chair, and I will be seeking assurance on the trajectory of Dŵr Cymru Welsh Water’s turnaround plan for their performance, because that’s what people want to see, that improvement.
Diolch am y cwestiwn atodol. Y peth cyntaf i'w ddweud yn glir iawn yw fy mod wedi bod yn gyson glir gyda'r cwmnïau dŵr ac yn wir, y rheoleiddiwr, Ofwat, fod cwsmeriaid yng Nghymru yn disgwyl gweld gwelliannau gwirioneddol a diriaethol mewn gwasanaethau, seilwaith a chanlyniadau amgylcheddol, ac i gael hynny cyn gynted â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r cwmnïau dŵr a'n rheoleiddwyr i weld y gwelliannau y mae pobl eisiau eu gweld, fel rydych chi'n dweud yn gywir ddigon, gwelliannau y maent hefyd yn haeddu eu gweld yn digwydd.
Nawr, rydych chi'n iawn i nodi'r buddsoddiad, fel y gwneuthum yn fy ymateb cychwynnol i chi, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, sydd wedi arwain at filiau uwch i ddefnyddwyr am ei fod wedi'i flaenlwytho. Felly, mae angen inni weld hynny'n cael ei droi'n weithredu; mae angen inni weld gwelliant mewn perfformiad amgylcheddol yn digwydd a hynny'n gyflym. Os yw'r buddsoddiad wedi'i flaenlwytho, rydym yn disgwyl gweld y buddiannau'n digwydd yn gynt hefyd, ac mae hynny'n iawn ar ran talwyr biliau yng Nghymru.
Ond i fod yn glir hefyd, mae Dŵr Cymru, nid yn unig yn yr achos llys diweddar—. Fy nealltwriaeth i, gan ei fod wedi'i gwblhau bellach, yw eu bod wedi cydnabod eu methiannau yma, ac mae eu dirwy'n sylweddol, rhaid imi ddweud, ond hefyd eu hymrwymiad yn y dyfodol i leihau'r niwed ecolegol o orlifoedd stormydd 90 y cant, ac maent yn anelu at 100 y cant erbyn 2032. Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae gennyf gyfarfod yn fuan gyda chadeirydd Dŵr Cymru. Gan fod yr achos llys wedi dod i ben erbyn hyn, gallaf warantu y bydd hyn yn un o'r materion ar yr agenda gyda'r cadeirydd, a byddaf yn ceisio sicrwydd ynghylch trywydd cynllun gwella perfformiad Dŵr Cymru, oherwydd dyna'r gwelliant y mae pobl eisiau ei weld.
Thank you, Rhys, for bringing this. I just can’t believe that we’re still discussing this. Whilst we’re talking about it, there are probably dozens of pollution incidents taking place right now. The average Dŵr Cymru customer water bill has already seen increases by an average of 27 per cent. A typical metered customer will see their bill raised from £437 to £575, and an unmetered customer from £693 to £913, and this despite where they do not come out when there are several water leakages or when there are pollution incidents—numerous, as has been mentioned.
Earlier this year, my constituents in Aberconwy saw an incident due to poor infrastructure failings and were nearly five days without water—it was chaos and it was a crisis. Despite there being a compensation scheme in place, many of my constituents actually received their increased bills for water before they received their compensation payments. And I’ve raised it a number of times: the chief executive of Dŵr Cymru, Peter Perry, receiving a scandalous £892,000, who, in 2024, actually took a bonus of £91,000. That sticks in my throat, let alone all our constituents'.
Diolch am gyflwyno hyn, Rhys. Ni allaf gredu ein bod ni'n dal i drafod hyn. Tra bôm yn siarad amdano, mae dwsinau o ddigwyddiadau llygredd yn digwydd ar hyn o bryd yn ôl pob tebyg. Mae bil dŵr cyfartalog cwsmeriaid Dŵr Cymru eisoes wedi gweld cynnydd o 27 y cant ar gyfartaledd. Bydd cwsmer ar fesurydd arferol yn gweld eu bil yn codi o £437 i £575, a chwsmer heb fesurydd o £693 i £913, a hyn er nad ydynt yn dod allan pan fo sawl gollyngiad dŵr neu pan fydd digwyddiadau llygredd—sy'n niferus, fel y dywedwyd.
Yn gynharach eleni, gwelodd fy etholwyr yn Aberconwy ddigwyddiad oherwydd methiannau seilwaith gwael ac aethant heb ddŵr am bron i bum diwrnod—roedd yn anhrefn ac roedd yn argyfwng. Er bod cynllun iawndal ar waith, cafodd nifer o fy etholwyr eu biliau uwch am ddŵr cyn iddynt gael eu taliadau iawndal. Ac rwyf wedi ei godi sawl gwaith: fe gymerodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, sy'n cael £892,000 o gyflog, sy'n sgandal, fonws o £91,000 yn 2024. Mae'n anodd i mi ei ddirnad, heb sôn am ein holl etholwyr.
And mine.
A minnau hefyd.
And Mike's. So, I do think, Cabinet Secretary, that you need to be far more robust in your meeting with the chair, when you meet. This has to stop, and it has to stop immediately, because people deserve better. They deserve better from this Welsh Labour Government, they deserve better from Dŵr Cymru, and they deserve better from Natural Resources Wales. So, please, Minister, can you give me some assurances that you are listening to us at least, if not the people of Wales? This cannot go on for any longer. Diolch.
Ac i Mike. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu bod angen ichi fod yn llawer mwy cadarn yn eich cyfarfod gyda'r cadeirydd, pan fyddwch yn cyfarfod. Mae'n rhaid rhoi diwedd ar hyn, ac mae'n rhaid rhoi diwedd ar hyn ar unwaith, gan fod pobl yn haeddu gwell. Maent yn haeddu gwell gan Lywodraeth Lafur Cymru, maent yn haeddu gwell gan Dŵr Cymru, ac maent yn haeddu gwell gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i mi, os gwelwch yn dda, Weinidog, eich bod o leiaf yn gwrando arnom ni, os nad ar bobl Cymru? Ni all hyn barhau. Diolch.
Well, just to say, on the question of listening to the people of Wales, and listening to the bill payers, and listening to those who want to see environmental improvement, we absolutely are, and we are, as Welsh Government, acting as well. In fact, some of the action we're taking is combined with UK Government, so our agreement to proceed on water legislation that actually increases the ability to go directly to the top of a water company and to take action against directors when the performance is not good enough—[Interruption.]—is within that. I'm not sure if you approve of that or not, but we certainly do approve of that approach.
But, secondly, we've made crystal clear through our strategic priority statement to Ofwat, the regulator, and we made it clear during the recent price review process as well, that water companies need to get this balance right between taking effective action for the environment while also ensuring that they keep bills affordable for customers. Ofwat has signalled greater scrutiny now of water companies' delivery for the five-year period ahead, commencing in 2025, and have said that if water companies do not deliver the performance, that money should be returned to water bill payers. I'm not sure what's more robust than that, and we would agree with that as well.
Now, just to say, over that period of 2025 to 2030, as I've said, there will be £6 billion invested in Wales. Much of it is front-loaded. Bill payers will want to see that that delivers results: increases in performance, fewer spillages, less pollution, and so on. That's a crystal-clear message. Of this amount—by the way, it's an increase of £3.8 billion from the previous period—more than £1.2 billion of this is committed directly to reduce harm from storm overflows and preventing nutrient pollution. So, the money is there, the direction is very, very clear. I will raise this when we meet next with the chair of Dŵr Cymru as well, but we do need to keep the pressure on, and we need to hold them to their commitments of improving that performance. Because, with the uplift in money, which is impacting on people's bills, we now need to see the improvement in performance.
Wel, ar fater gwrando ar bobl Cymru, a gwrando ar dalwyr biliau, a gwrando ar y rhai sydd eisiau gweld gwelliant amgylcheddol, rydym yn sicr yn gwneud hynny, ac fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithredu hefyd. Mewn gwirionedd, mae rhai o'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd yn digwydd ar y cyd â Llywodraeth y DU, felly mae ein cytundeb i fwrw ymlaen â deddfwriaeth dŵr sy'n cynyddu'r gallu i fynd yn uniongyrchol at arweinyddiaeth cwmni dŵr a gweithredu yn erbyn cyfarwyddwyr pan nad yw'r perfformiad yn ddigon da—[Torri ar draws.]—o fewn hynny. Nid wyf yn siŵr a ydych yn cymeradwyo hynny ai peidio, ond rydym ni'n sicr yn cymeradwyo'r dull hwnnw o fynd ati.
Ond yn ail, rydym wedi nodi'n glir iawn drwy ein datganiad blaenoriaeth strategol i Ofwat, y rheoleiddiwr, ac fe wnaethom nodi'n glir iawn yn ystod y broses adolygu pris yn ddiweddar hefyd, fod angen i gwmnïau dŵr gael y cydbwysedd yn iawn rhwng gweithredu'n effeithiol dros yr amgylchedd gan sicrhau hefyd eu bod yn cadw biliau'n fforddiadwy i gwsmeriaid. Mae Ofwat wedi nodi y bydd mwy o graffu nawr ar gyflawniad cwmnïau dŵr ar gyfer y cyfnod nesaf o bum mlynedd, gan ddechrau yn 2025, ac maent wedi dweud os na fydd cwmnïau dŵr yn cyflawni'r perfformiad, y dylid rhoi'r arian hwnnw yn ôl i dalwyr biliau dŵr. Nid wyf yn siŵr beth sy'n fwy cadarn na hynny, ac rydym yn cytuno â hynny hefyd.
Nawr, dros y cyfnod 2025 i 2030, fel rwyf wedi'i ddweud, bydd £6 biliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru. Mae llawer ohono wedi'i flaenlwytho. Bydd talwyr biliau eisiau gweld bod hynny'n arwain at ganlyniadau: cynnydd mewn perfformiad, llai o ollyngiadau, llai o lygredd ac yn y blaen. Mae'r neges honno'n glir fel grisial. O'r swm hwn—gyda llaw, mae'n gynnydd o £3.8 biliwn o gymharu â'r cyfnod blaenorol—mae mwy na £1.2 biliwn ohono wedi'i ymrwymo'n uniongyrchol i leihau niwed o orlifoedd storm ac atal llygredd maethynnau. Felly, mae'r arian yno, mae'r cyfeiriad yn glir iawn. Byddaf yn codi hyn pan fyddwn yn cyfarfod nesaf â chadeirydd Dŵr Cymru hefyd, ond mae angen inni barhau i roi pwysau, ac mae angen inni eu dal at eu hymrwymiadau i wella'r perfformiad hwnnw. Oherwydd, gyda'r cynnydd yn yr arian, sy'n effeithio ar filiau pobl, mae angen inni weld gwelliant mewn perfformiad.
Eleni, mae cwsmeriaid Cymru yn wynebu'r cynnydd mwyaf mewn biliau dŵr yn yr ynysoedd hyn, ymysg y rheini, tra bod carthion, fel rydyn ni wedi clywed, yn cael eu gollwng i'n hafonydd ni, i'n llynnoedd a'n moroedd, bob pum munud ar gyfartaledd. Rwy'n poeni ychydig ein bod ni wedi dod i arfer â dweud bod hynny'n digwydd, a dylai fe ddim bod yn beth normal. Mae e'n rhywbeth sydd mor—. Dwi ddim yn siŵr sut i'w ddweud e: mae e mor disgraceful yn y ffordd mae e'n digwydd.
Dyma'n hadnodd naturiol mwyaf gwerthfawr. Mae e wedi cael ei orfasnacheiddio a'i ddiraddio'n ddifrifol ar yr un pryd. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod, rydyn ni wedi clywed bod ystyriaeth nawr yn cael ei rhoi i uwchraddio tâl y prif weithredwr. Nawr, y system sydd ar fai yma; mae'n rhaid edrych arni hi eto. Dwi ddim yn meddwl bod gorbersonoleiddio pethau yn mynd i fod yn help yma. Yr optics, wrth gwrs bod hynny'n bwysig, ond y system sydd yn caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd. Dyna beth sydd angen ei newid yma, yn enwedig gan fod bron i 115,000 o dai yng Nghymru wedi eu dosbarthu fel rhai sydd mewn tlodi dŵr.
Ydych chi'n cytuno â mi bod y cynigion ynglŷn â thal y prif weithredwr gan bwyllgor taliadau Dŵr Cymru yn mynd yn groes i ysbryd y Ddeddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025, a bod angen, fel rydych chi efallai wedi cynnig fan hyn, adolygiad brys o'r modd y mae cyflogau gweithredol yn cael eu gwneud yn gysylltiedig â pherfformiad? Buaswn i'n mynd ymhellach na hynny: ydych chi'n cytuno efallai fod angen i ni edrych eto ar sut y mae'r system yma yn gweithio? Achos dwi'n meddwl bod y cysylltiad yna wedi cael ei dorri o ran sut mae pobl yn ei weld e, a—.
Wel, buaswn i eisiau gwybod: allwch chi gadarnhau'r dyddiad diwethaf gwnaeth tasglu gwella ansawdd afonydd Cymru gwrdd? Dwi'n meddwl bod hybu tryloywder yn mynd i fod yn rhywbeth pwysig er mwyn gweld atebolrwydd. Ydych chi'n gallu diweddaru'r Senedd cyn gynted â phosibl ar gynnydd y gwaith o gyflawni camau allweddol y tasglu yna, gan gynnwys gosod sgriniau gorlif stormydd? Ydych chi'n cytuno â mi y dylai Dŵr Cymru gyflwyno cynllun fforddiadwyedd dŵr cyffredinol, yn unol â'r rhai sydd eisoes ar gael gan gwmnïau dŵr eraill, i liniaru effaith tlodi dŵr?
Ond eto, ynghyd â hyn oll, ydych chi'n cytuno efallai fod yn rhaid i ni fynd ymhellach ac edrych eto ar y system? Achos dyw e ddim dim ond am yr esiamplau unigryw, ond y system sydd yn caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd. Mewn ffordd, erbyn hyn, mae cymaint o bobl jest yn meddwl, 'Dyma ydy'r norm', a dylai fe ddim fod.
This year, customers in Wales face the biggest increase in water bills in these islands, among those, while, as we've heard, sewage is released into our rivers, lakes and seas every five minutes on average. I'm slightly concerned that we've become used to saying that that happens, and it shouldn't be normalised. It's something that is so—. I'm not sure how to say this, but it's so disgraceful in the way that it happens.
This is our most precious natural resource. It has been over-commercialised and severely degraded at the same time. As we've already heard, we've heard that consideration is being given now to upgrading chief executive pay. Now, the system is to blame here; we need to look at that again. I don't think that over-personalising anything is going to help us here. The optics are important, of course, but it's the system that allows things like this to happen. That's what needs to change here, particularly when nearly 115,000 houses in Wales are categorised as being in water poverty.
Do you agree with me that the proposals regarding chief executive pay from the Dŵr Cymru payments committee run counter to the spirit of the Water (Special Measures) Act 2025, and that we need, as you've proposed here perhaps, an urgent review of the way in which executive salaries are linked to performance? I would go further than that: do you agree that perhaps we need to look again at how this system works? Because I think that that link has been broken in terms of how people see it, and—.
Well, I'd like to know: could you confirm the last meeting date of the Wales better river quality taskforce? I think that boosting transparency is going to be very important in order to see that accountability. Could you update the Senedd as soon as possible on the progress on delivering the taskforce's key steps, including the installation of storm surge screens? Do you agree with me that Dŵr Cymru should introduce a general water affordability scheme, in line with those already provided by other water companies, to mitigate the impact of water poverty?
But again, as well as this, do you agree that we may need to go further and look again at the actual system? Because it's not just about these individual examples, but the system that allows these things to happen. In a way, many people now think, 'This is the norm', and it shouldn't be.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Paul Davies took the Chair.
Diolch yn fawr iawn, Delyth. There were several questions within that. Let me try and address them succinctly. First of all, yes, we are going further in terms of not just the monitoring and the stringency and the powers to push hard on the performance of water companies, but also on those as well who are in the key positions right at the top of those companies.
The Water (Special Measures) Act 2025, which had consent in February, gives regulators new powers to take tougher, faster action against water companies when they fail in their responsibilities to the customers and the environment. There are new measures in there, several of which we've actually agreed to extend to Wales. Sometimes, we have debates here about, 'Is it right to work on an England-Wales basis?' Sometimes, if it's right for the consumer and the people who are concerned about water quality, then it is. So, those include enhanced enforcement powers, a ban on water company executive bonuses, giving regulators the ability to use penalties more readily, and also independent monitoring of sewage outlets. All of those are within that piece. I think this is quite a landmark development. It's a bit of a step change in the way we do this.
Now this goes on top of, by the way, the additional investment we've given to NRW to actually pursue this. One of the criticisms of NRW that has come in from some quarters has been that they're not rushing out to assess every incident that's reported. The response to that is, and there is merit in this, that they need to focus on the worst pollution incidents, the ones that are causing real ecological damage. If they chase every single incident, it's an army of people spending a lot of time in every single incident reported. They have some interesting evidence-based and data-based analysis of this, but we've put additional funds into them to pursue this.
I commend them for the fact that they've pursued the water company in this situation and it's gone through the court. I've seen Judge Jones's determinations on this as well and his analysis of what went wrong, clearly saying there should have been contingency plans in place to militate against what Dŵr Cymru have said were the reasons why this happened. Judge Jones's opinion is, 'No, you should have had plans in place to militate against that.' So, lessons have got to be learnt there.
But, look, what I do agree with you on, and particularly when bills are rising so fast as well, is that people do want the investment in water quality improvements. I do as well. But if the bills are rising commensurately to do that, we have got to demand the increase in performance. It's not one incident like this on the back of a court judgment, but it's that step change now every year for the next five years.
Water bill payers out there, members of the public right across Wales, are going to say, 'Show us how that money was used and show us the improvement, that these spillages aren't happening, these pollution incidents aren't happening', and they're also going to say about NRW, 'Show us that you're enforcing and pursuing the right actions.' And also working with, I have to say, because you did mention the river taskforce approach, and I don't have the date of the last taskforce to hand, but it is meeting regularly.
We met last week at the river summit, and we've refreshed and re-energised those going forward, because they've had merit. But one of the things we focused on in that meeting—. It was co-hosted by Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy, and it was very much focused on how they now use this, not only in hard concrete solutions and dealing with the Victorian sewage CSOs and so on and so forth, but actually how they put funding into the green infrastructure upstream, the development of whether it's the peat bogs or whatever to stop these impacts getting into the system. So, to their credit, despite these headlines here now, they are right in the space of wanting to drive forward those improvements. What we've got to do is encourage them, cajole them, and occasionally our regulator will take them to task over it or take them to court.
Diolch, Delyth. Fe ofynnoch chi sawl cwestiwn. Gadewch imi geisio eu hateb yn gryno. Yn gyntaf oll, rydym yn mynd ymhellach nid yn unig o ran y monitro a'r llymder a'r pwerau i wthio'n galed ar berfformiad cwmnïau dŵr, ond hefyd ar y rhai sydd yn y swyddi allweddol ar frig y cwmnïau hynny.
Mae Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025, a gafodd gydsyniad ym mis Chwefror, yn rhoi pwerau newydd i reoleiddwyr gymryd camau llymach a chyflymach yn erbyn cwmnïau dŵr pan fyddant yn methu yn eu cyfrifoldebau i'r cwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae mesurau newydd yno, ac rydym wedi cytuno i gyflwyno llawer ohonynt yng Nghymru. Weithiau, cawn ddadleuon yma ynglŷn ag, 'A yw'n iawn gweithio ar sail Cymru a Lloegr?' Weithiau, os yw'n iawn i'r defnyddiwr a'r bobl sy'n poeni am ansawdd dŵr, yna mae'n iawn. Felly, mae'r rheini'n cynnwys mwy o bwerau gorfodi, gwaharddiad ar fonysau i swyddogion gweithredol cwmnïau dŵr, rhoi'r gallu i reoleiddwyr ddefnyddio cosbau'n fwy parod, yn ogystal â monitro allfeydd carthion yn annibynnol. Mae pob un o'r pethau hynny'n rhan o hyn. Credaf fod hwn yn ddatblygiad go nodedig. Mae'n newid sylweddol yn y ffordd y gwnawn hyn.
Nawr, mae hyn, gyda llaw, ar ben y buddsoddiad ychwanegol rydym wedi'i roi i Cyfoeth Naturiol Cymru fel y gallant fynd ar drywydd hyn. Un feirniadaeth a wneir gan rai yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad ydynt yn rhuthro allan i asesu pob digwyddiad y rhoddir gwybod amdano. Yr ymateb i hynny, ac mae gwerth yn hyn, yw bod angen iddynt ganolbwyntio ar y digwyddiadau llygredd gwaethaf, y rhai sy'n achosi difrod ecolegol gwirioneddol. Os ydynt yn mynd ar drywydd pob digwyddiad unigol, mae'n golygu byddin o bobl yn treulio llawer iawn o amser ar bob digwyddiad unigol y rhoddir gwybod amdano. Mae ganddynt ddadansoddiad diddorol o hyn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn seiliedig ar ddata, ond rydym wedi rhoi arian ychwanegol iddynt fel y gallant fynd ar drywydd hyn.
Rwy'n eu canmol am fynd ar drywydd y cwmni dŵr yn y sefyllfa hon, ac mae wedi mynd drwy'r llys. Rwyf wedi gweld penderfyniadau'r Barnwr Jones ar hyn, a'i ddadansoddiad o'r hyn a aeth o'i le, gan ddweud yn glir y dylai fod cynlluniau wrth gefn wedi bod ar waith i liniaru'r hyn y mae Dŵr Cymru wedi'i nodi fel y rhesymau pam y digwyddodd hyn. Barn y Barnwr Jones yw, 'Na, dylai fod cynlluniau wedi bod ar waith gennych i liniaru hynny.' Felly, mae'n rhaid dysgu gwersi yno.
Ond edrychwch, yr hyn rwy'n cytuno â chi yn ei gylch, ac yn enwedig pan fo biliau'n codi mor gyflym hefyd, yw bod pobl eisiau'r buddsoddiad mewn gwelliannau ansawdd dŵr. Rwyf innau hefyd. Ond os yw'r biliau'n codi'n gymesur er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid inni fynnu cynnydd mewn perfformiad. Nid un digwyddiad fel hyn yn dilyn dyfarniad llys, ond y newid sylweddol hwnnw bob blwyddyn nawr am y pum mlynedd nesaf.
Mae talwyr biliau dŵr, aelodau'r cyhoedd ledled Cymru, yn mynd i ddweud, 'Dangoswch i ni sut y defnyddiwyd yr arian a dangoswch i ni'r gwelliant, nad yw'r gollyngiadau hyn yn digwydd, nad yw'r digwyddiadau llygredd hyn yn digwydd', ac maent hefyd yn mynd i ddweud am Cyfoeth Naturiol Cymru, 'Dangoswch i ni eich bod yn gorfodi ac yn dilyn y camau cywir.' Ac mae'n rhaid imi ddweud, gan ichi sôn amdano, gweithio gyda'r tasglu afonydd, ac nid oes gennyf ddyddiad y tasglu diwethaf wrth law, ond mae'n cyfarfod yn rheolaidd.
Fe wnaethom gyfarfod yr wythnos diwethaf yn y gynhadledd afonydd, ac rydym wedi diweddaru ac ailfywiogi'r rheini wrth symud ymlaen, gan fod iddynt werth. Ond un o'r pethau y gwnaethom ganolbwyntio arnynt yn y cyfarfod hwnnw—. Fe'i cynhaliwyd ar y cyd gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, ac roedd yn canolbwyntio ar sut y maent yn defnyddio hyn nawr, nid yn unig mewn atebion pendant ac i ymdrin â'r gorlifoedd carthffosiaeth gyfun Fictoraidd ac yn y blaen, ond sut y maent yn rhoi cyllid i'r seilwaith gwyrdd i fyny'r afon, datblygu'r mawnogydd neu beth bynnag i atal yr effeithiau hyn rhag mynd i mewn i'r system. Felly, er clod iddynt, er gwaethaf y penawdau hyn yma nawr, maent yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â'r gwelliannau hynny. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw eu hannog, eu perswadio, a bydd ein rheoleiddiwr yn eu dwyn i gyfrif amdano neu'n mynd â hwy i'r llys.
We've had huge increases in water and sewerage charges, which are hurting my constituents. Increases in charges in other places of a third of that have been described as 'eye-watering', so I think these must be 'very eye-watering'.
Raw sewage is regularly discharged in the river Tawe, and when the river level drops, we have raw sewage left on the banks of the river. Just a reminder that this is the twenty-first century, not the nineteenth century.
We have a highly paid chief executive and other very highly paid executives of Welsh Water. We've seen an almost complete end to the building of new reservoirs since water was taken out of council control. On fining Welsh Water, all that does is fine us, because the only place they can get the money is from us. If the fines were given to their chief executive and the other executives, I'd be all in favour of it, but all you're doing is taking money off us, who are paying for it. Does the Minister agree that the only long-term solution is the public ownership of water, of Welsh Water, so that we will control it rather than relying on somebody else?
Rydym wedi cael cynnydd enfawr mewn taliadau dŵr a charthffosiaeth, sy'n brifo fy etholwyr. Mewn mannau eraill, mae cynnydd o draean o hynny wedi'i alw'n 'syfrdanol', felly credaf fod yn rhaid bod y rhain yn 'syfrdanol iawn'.
Mae carthion amrwd yn cael ei ollwng yn rheolaidd i afon Tawe, a phan fydd lefel yr afon yn gostwng, mae gennym garthion amrwd ar ôl ar lannau'r afon. Os caf eich atgoffa mai'r unfed ganrif ar hugain yw hon, nid y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae gennym brif weithredwr ar gyflog uchel a swyddogion gweithredol eraill ar gyflogau uchel iawn yn Dŵr Cymru. Rydym wedi gweld y gwaith o adeiladu cronfeydd dŵr newydd yn dod i ben bron yn llwyr ers i ddŵr ddod allan o reolaeth y cyngor. O ran dirwyo Dŵr Cymru, y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw ein dirwyo ni, gan mai'r unig le y gallant gael yr arian yw gennym ni. Pe bai'r dirwyon yn cael eu rhoi i'w prif weithredwr a'r swyddogion gweithredol eraill, byddwn yn sicr o blaid hynny, ond y cyfan a wnewch yw mynd ag arian oddi wrthym ni, sy'n talu amdano. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai'r unig ateb hirdymor yw perchnogaeth gyhoeddus ar ddŵr, ar Dŵr Cymru, fel y byddwn ni'n ei reoli yn hytrach na dibynnu ar rywun arall?
Mike, you tempt me into areas of discussing structures of water company ownership. What I would say is that Sir Jon Cunliffe—you tempt me, but I'm not going to go there—is carrying out a review of the regulatory structure within England and Wales. He is looking at models of ownership within that piece. He is also looking at things, such as catchment management, how we improve the overall regulatory structure, not just the ownership model of water companies as well. And he starts from the basis that what we've currently got is not satisfactory. So, that should be coming forward very, very soon indeed. And I think I'm hopeful, based on our dialogue with Sir Jon Cunliffe, that that also is not purely an England piece—it also reflects what could be done here in Wales. So, I'd watch out for that. But, no, don't tempt me down the line of saying whether nationalising all the water companies is the right way—it's probably beyond my pay scale.
Mike, rydych chi'n fy nhemtio i feysydd trafod strwythurau perchnogaeth ar gwmnïau dŵr. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod Syr Jon Cunliffe—rydych chi'n fy nhemtio, ond nid wyf am fynd yno—yn cynnal adolygiad o'r strwythur rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr. Mae'n edrych ar fodelau perchnogaeth mewn perthynas â hynny. Mae hefyd yn edrych ar bethau, fel rheoli dalgylchoedd, sut rydym yn gwella'r strwythur rheoleiddio cyffredinol, ac nid model perchnogaeth ar gwmnïau dŵr yn unig. Ac mae'n dechrau o'r sail nad yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn foddhaol. Felly, dylai'r adolygiad gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Ac rwy'n obeithiol, yn seiliedig ar ein deialog gyda Syr Jon Cunliffe, nad yw hynny'n berthnasol i Loegr yn unig—mae hefyd yn adlewyrchu'r hyn y gellid ei wneud yma yng Nghymru. Felly, cadwch lygad ar hynny. Ond na, peidiwch â'm temtio i ddweud a ddylid gwladoli'r holl gwmnïau dŵr—mae'n debyg fod hynny y tu hwnt i'r hyn y caf fy nghyflogi i'w wneud.
I wanted to come in on this question today because the 27 per cent rise in the household water bills has had a profound impact on my constituents for a suite of different reasons, mainly because I represent a high level of elderly population and indeed people on low incomes as well.
The other reason is because we have a high density of complex water systems in the Vale of Clwyd, in terms of the sea at Rhyl and Prestatyn, which indeed did lose its blue flag status recently in terms of the bathing water quality, and also the Rhyl Cut and the Prestatyn Gutter, which are managed by Welsh Water and rely on a high volume of pumping stations along the line, which aren't always kept to the best of standards. They're dogged with rumours about the illegal dumping of sewage in the River Clwyd at St. Asaph and Rhuddlan. Obviously, that's substantiated by the facts that we know about the illegal dumping of waste across the whole of Wales, so it leads my constituents to believe in that, and quite rightly so. Also there are the failures to tackle the long-standing flooding issues within Dyserth waterfall and the water systems around there.
So, we're really getting a sense that people are seeing these failures on their doorsteps, struggling to pay those bills, and seeing the more global issues around Welsh Water. So, what representations have or will the Welsh Government and you make, specifically on those matters of people on low incomes who are struggling to afford those bills, and that wider hypocrisy around it, in that they're not getting delivery, but they're seeing the bills going up? It's adding insult to injury when they're seeing those issues happening right on their doorsteps and they're not getting value for money.
Roeddwn eisiau gwneud sylwadau ar y cwestiwn hwn heddiw gan fod y cynnydd o 27 y cant ym miliau dŵr aelwydydd wedi cael effaith ddwys ar fy etholwyr am nifer o wahanol resymau, yn bennaf gan fy mod yn cynrychioli poblogaeth â lefel uchel o bobl oedrannus, a phobl ar incwm isel hefyd.
Y rheswm arall yw bod gennym ddwysedd uchel o systemau dŵr cymhleth yn Nyffryn Clwyd, gyda'r môr yn y Rhyl a Phrestatyn, a gollodd ei statws baner las yn ddiweddar o ran ansawdd y dŵr ymdrochi, a hefyd Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, sy'n cael eu rheoli gan Dŵr Cymru ac sy'n dibynnu ar nifer fawr o orsafoedd pwmpio ar hyd y llinell, nad ydynt bob amser yn cael eu cadw i'r safonau gorau. Mae sïon ar led fod carthion yn cael ei ddympio'n anghyfreithlon yn afon Clwyd yn Llanelwy a Rhuddlan. Yn amlwg, mae hynny wedi'i gadarnhau gan y ffeithiau y gwyddom amdanynt am ddympio gwastraff yn anghyfreithlon ledled Cymru gyfan, felly mae'n arwain fy etholwyr i gredu'r sïon, a hynny'n briodol ddigon. Hefyd, bu methiannau i fynd i'r afael â'r problemau llifogydd hirsefydlog yn rhaeadr Dyserth a'r systemau dŵr o'i chwmpas.
Felly, rydym yn cael synnwyr fod pobl yn gweld y methiannau hyn ar garreg eu drws, yn ei chael hi'n anodd talu'r biliau hynny, ac yn gweld y problemau mwy cyffredinol gyda Dŵr Cymru. Felly, pa sylwadau rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud neu y byddwch chi'n eu gwneud, yn benodol ynghylch pobl ar incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd fforddio'r biliau hynny, a'r rhagrith ehangach o gwmpas hynny, gan nad ydynt yn cael y ddarpariaeth, er eu bod yn gweld y biliau'n codi? Mae'n rhoi halen ar y briw pan fyddant yn gweld y problemau hynny'n digwydd ar garreg eu drws ac nad ydynt yn cael gwerth am arian.
Thank you, Gareth. That's a really important issue. We regularly discuss with both our water companies in Wales the issue of affordability, particularly in light of the increase in bills that customers are just experiencing. It is a constant topic of discussion that we have. There are currently 145,000 households in Wales that are receiving additional support through various schemes, through Hafren Dyfrdwy and through Dŵr Cymru.
We're very, very clear that help for households who struggle to pay the bills is key and we will work with the water companies to make sure that they have those schemes in place and that bills are affordable, particularly for the vulnerable customers. I think it’s important that a clear message goes out from this Siambr today, and in our individual dealings with constituents as well, that anybody who’s having difficulty paying their water bill should contact their water company, and do it early. Get in touch with them, ask about their schemes, because there is plenty of not just practical support and advice out there, but financial support available for those vulnerable households as well. Dŵr Cymru are putting forward now, over the next five years, £73 million to support customers who would otherwise struggle to pay. Hafren, a smaller company, with a smaller footprint in Wales, are proportionally putting forward money as well.
But I would also put a suggestion, or maybe even an ask, to all Members in this Chamber: we’ve talked about the scale of investment and the frontloading of it, which is impacting on bills, so do as I’m doing, which is get hold of Dŵr Cymru or Hafren and say, ‘Talk me through the prioritisation of works in your local area. What are the high-risk ones that you’re going to do first? What are the ones that are of a lesser order because they can’t all be done at once? Which year are they going to be done in? What can I tell my constituents?’ I’ve got a role to play as a Welsh Government Minister in my discussions and my officials’ discussions with Dŵr Cymru and Hafren, but equally, we individually can also monitor their performance—where’s that investment going, is it delivering environmental outcomes, and are they keeping the bills affordable for the vulnerable customers.
Diolch, Gareth. Mae hwnnw'n fater pwysig iawn. Rydym yn trafod fforddiadwyedd yn rheolaidd gyda'n dau gwmni dŵr yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni'r cynnydd y mae cwsmeriaid yn ei weld yn eu biliau. Mae'n bwnc trafod cyson gennym. Ar hyn o bryd, mae 145,000 o gartrefi yng Nghymru yn cael cymorth ychwanegol drwy wahanol gynlluniau, drwy Hafren Dyfrdwy a thrwy Dŵr Cymru.
Rydym yn glir iawn fod cymorth i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu'r biliau yn allweddol, a byddwn yn gweithio gyda'r cwmnïau dŵr i sicrhau bod y cynlluniau hynny ar waith ganddynt a bod biliau'n fforddiadwy, yn enwedig i'r cwsmeriaid agored i niwed. Credaf ei bod yn bwysig fod y Siambr hon yn anfon neges glir heddiw, ac yn ein trafodaethau unigol ag etholwyr hefyd, y dylai unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd talu eu bil dŵr gysylltu â'u cwmni dŵr, a gwneud hynny'n gynnar. Cysylltwch â hwy, gofynnwch am eu cynlluniau, gan fod digon o gymorth a chyngor ymarferol ar gael, ac mae cymorth ariannol ar gael i aelwydydd bregus hefyd. Mae Dŵr Cymru yn cynnig £73 miliwn nawr, dros y pum mlynedd nesaf, i gefnogi cwsmeriaid a fyddai'n ei chael hi'n anodd talu fel arall. Mae Hafren Dyfrdwy, cwmni llai, sydd ag ôl troed llai yng Nghymru, yn cynnig arian yn gymesur â hynny hefyd.
Ond rwyf am awgrymu rhywbeth hefyd, neu ofyn rhywbeth i bob Aelod yn y Siambr hon: rydym wedi sôn am raddfa'r buddsoddiad a'i fod wedi'i flaenlwytho, sy'n effeithio ar filiau, felly gwnewch fel y gwnaf i, sef cysylltu â Dŵr Cymru neu Hafren Dyfrdwy a dywedwch, 'Soniwch wrthyf am flaenoriaethu gwaith yn eich ardal leol. Beth yw'r rhai risg uchel rydych chi'n mynd i'w gwneud yn gyntaf? Beth yw'r rhai â llai o flaenoriaeth am na ellir eu gwneud i gyd ar unwaith? Ym mha flwyddyn y byddant yn cael eu gwneud? Beth gaf i ei ddweud wrth fy etholwyr?' Mae gennyf rôl i'w chwarae fel Gweinidog Llywodraeth Cymru yn fy nhrafodaethau a thrafodaethau fy swyddogion gyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, ond yn yr un modd, gallwn fynd ati fel unigolion i fonitro eu perfformiad hefyd—i ble mae'r buddsoddiad hwnnw'n mynd, a yw'n cyflawni canlyniadau amgylcheddol, ac a ydynt yn cadw'r biliau'n fforddiadwy i gwsmeriaid bregus.
Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog.
I thank the Deputy First Minister.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Carolyn Thomas.
We'll move on now to item 4, the 90-second statements. First, Carolyn Thomas.
Thank you. Thursday is International Biodiversity Day, and the theme is ‘Harmony with nature and sustainable development’. Biodiversity means all the kinds of life you’ll find in one area—the variety of animals, plants, fungi. Each of these species and organisms work together in ecosystems, like an intricate web, to maintain balance and support life. We are part of that ecosystem as well, and what we do impacts on it. Without nature, we have no food, we have no economy.
We have seen a huge decline because of the way that land has been managed, the use of chemicals, and the impact of climate change. We are also in the middle of No Mow May at the moment. By leaving lawns to grow, people will be surprised at what seed banks are actually there, and just wanting to grow if given a chance. Sometimes, change doesn’t happen overnight, as I saw with a verge recently when it had been left for four years. The amount of species that developed there—they multiplied by 300 per cent in diversity.
Growing a biodiverse garden can seem wild and messy, because nature isn’t actually neat. Birds, hedgehogs and insects need all these areas of grass and leaves to shelter and shade. All life needs water. Adding a pond, a scrape, a birdbath, or even a shallow dish for insects and bees will help. Grow fragrant flowers with open faces. Let trees and shrubs thrive. I encourage more people across Wales to help and connect with biodiversity in their gardens, and on their walks amongst nature. Thank you.
Diolch. Mae dydd Iau yn Ddiwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth, a'r thema yw 'Cytgord â natur a datblygu cynaliadwy'. Mae bioamrywiaeth yn golygu'r holl fathau o fywyd a welwch mewn un ardal—yr amrywiaeth o anifeiliaid, planhigion, ffyngau. Mae pob un o'r rhywogaethau ac organebau hyn yn gweithio gyda'i gilydd mewn ecosystemau, fel gwe gymhleth, i gynnal cydbwysedd a chefnogi bywyd. Rydym yn rhan o'r ecosystem honno hefyd, ac mae'r hyn a wnawn yn effeithio arni. Heb natur, nid oes gennym fwyd, nid oes gennym economi.
Rydym wedi gweld dirywiad enfawr oherwydd y ffordd y mae tir wedi cael ei reoli, y defnydd o gemegau, ac effaith newid hinsawdd. Rydym hefyd yng nghanol mis Mai Di-dor ar hyn o bryd. Drwy adael i lawntiau dyfu, bydd pobl yn synnu pa fanciau hadau sydd yno mewn gwirionedd, ac sydd eisiau tyfu os rhoddir cyfle iddynt. Weithiau, nid yw newid yn digwydd dros nos, fel y gwelais gyda llain yn ddiweddar pan gafodd ei gadael am bedair blynedd. Datblygodd nifer y rhywogaethau yno—fe wnaethant luosogi 300 y cant o ran amrywiaeth.
Gall tyfu gardd fioamrywiol edrych yn wyllt ac yn flêr, am nad yw natur yn daclus mewn gwirionedd. Mae angen yr holl ardaloedd hyn o laswellt a dail ar adar, draenogod a phryfed i lochesu ac i gysgodi. Mae angen dŵr ar bob math o fywyd. Bydd ychwanegu pwll, bath adar, pwll dŵr tymhorol neu hyd yn oed dysgl fas ar gyfer pryfed a gwenyn yn helpu. Tyfwch flodau pêr gydag wynebau agored. Gadewch i goed a llwyni ffynnu. Rwy'n annog mwy o bobl ledled Cymru i helpu ac i gysylltu â bioamrywiaeth yn eu gerddi, ac wrth gerdded yng nghanol natur. Diolch.
Brain injuries can affect anyone at any point in their life. Here in Wales, we see daily hospital admissions. This week is Action for Brain Injury Week, a campaign dedicated to raising awareness of the impact on individuals and their families.
This year’s theme is ‘A good day’, encouraging greater understanding of what good and bad days look like for someone living with a brain injury, focusing on the fluctuating and unpredictable nature, and the impact on capabilities. A bad day can mean fatigue, headaches, mood changes, capacity and cognition problems, all of which can have a huge impact on an individual’s day-to-day activities, their ability to work, and relationships with friends, family and others.
Today, the UK Acquired Brain Injury Forum, and others, will publish a new report, highlighting the annual costs of brain injury, estimated at £43 billion a year, representing 1.5 per cent of gross domestic product. It will also call for a statutory right to rehab, led by specialists right across the UK, and better use of data, and an end to the current postcode lottery for neurorehabilitation services.
Llywydd dros dro, we must do better for those with brain injuries and their families. Let's make today's report and this year's Action for Brain Injury Week a catalyst for change.
Gall anafiadau i'r ymennydd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Yma yng Nghymru, gwelwn dderbyniadau i'r ysbyty bob dydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu dros Anafiadau i’r Ymennydd, ymgyrch sy'n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ar unigolion a'u teuluoedd.
Thema eleni yw 'Diwrnod da', ac annog gwell dealltwriaeth o sut olwg sydd ar ddiwrnodau da a drwg i rywun sy'n byw gydag anaf i'r ymennydd, gan ganolbwyntio ar y natur amrywiol ac anrhagweladwy, a'r effaith ar alluoedd. Gall diwrnod drwg olygu blinder, cur pen, hwyliau cyfnewidiol, problemau gallu a gwybyddiaeth, a gall pob un ohonynt gael effaith enfawr ar weithgareddau dyddiol unigolyn, eu gallu i weithio, a'u perthynas â ffrindiau, teulu ac eraill.
Heddiw, bydd Fforwm Anafiadau Caffaeledig i'r Ymennydd y DU, ac eraill, yn cyhoeddi adroddiad newydd, yn nodi costau blynyddol anafiadau i'r ymennydd, yr amcangyfrifir eu bod yn £43 biliwn y flwyddyn, sy'n 1.5 y cant o gynnyrch domestig gros. Bydd hefyd yn galw am hawl statudol i adsefydlu, o dan arweiniad arbenigwyr ledled y DU, a gwell defnydd o ddata, a diwedd ar y loteri cod post presennol ar gyfer gwasanaethau niwro-adsefydlu.
Lywydd dros dro, mae’n rhaid inni wneud yn well ar ran y rhai sydd ag anafiadau i'r ymennydd a'u teuluoedd. Gadewch inni wneud adroddiad heddiw ac Wythnos Gweithredu dros Anafiadau i'r Ymennydd eleni yn gatalydd ar gyfer newid.
Unigryw, personoliaeth gadarn, cawr o ddyn. Dyma ddisgrifiadau dwi wedi eu clywed ers i ni glywed cyhoeddi marwolaeth y cyfreithiwr a’r ymgyrchydd iaith Michael Jones. Fe'i magwyd mewn cymdeithas Gymraeg, ddiwylliedig, anghydffurfiol yn Sgiwen. Fel nifer o Gymry ei genhedlaeth, roedd dylanwad ei fam-gu a’i hen fodryb yn gryf iawn arno, a hynny sicrhaodd bod y Gymraeg yn rhugl ar ei wefusau.
Nid oedd croeso i blant ag anghenion arbennig i dderbyn addysg Gymraeg, ond ni dderbyniodd Michael a’i annwyl wraig Ethni ‘na’ fel ateb. Drwy eu hymgyrchu, sicrhawyd uned yng Nghoed y Gof a Glantaf, ac mae miloedd o blant wedi derbyn addysg drwy’r Gymraeg oherwydd eu hymdrechion. Roedd Michael yn dueddol o fod yn hwyr i gyfarfodydd, ond roedd e ar flaen y gad, o flaen ei amser fan hyn, a sicrhaodd fod addysg Gymraeg ar gael i bawb.
Bu’n brwydro â sawl awdurdod lleol ledled Cymru hyd y diwedd am eu diffyg darpariaeth addysg Gymraeg. Roedd yn ddoeth ei gyngor i Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac fe gynorthwyodd cannoedd o deuluoedd yn rhad ac am ddim mewn apeliadau mynediad. Mae’n amhosib pwyso a mesur cyfraniad enfawr Michael Jones. Roedd llawer o’i waith dros ei annwyl iaith yn digwydd tu ôl i ddrysau caeedig, mewn swyddfeydd cynghorau sir ac mewn apeliadau mynediad. Ond, wythnos nesaf, mi welwn ffrwyth ei lafur yn Eisteddfod yr Urdd, ym mro ei febyd. Diolch yn fawr.
Unique, a formidable character, a giant. These are descriptions I've heard since we heard about the death of the lawyer and language campaigner Michael Jones. He was brought up in a Welsh-speaking, cultured, non-conformist community in Skewen. Like many Welsh people of his generation, the influence of his grandmother and great-aunt was very strong on him, and that's what ensured that he was fluent in the Welsh language.
Children with special needs weren't welcome in terms of receiving Welsh-medium education, but Michael and his beloved wife, Ethni, wouldn't take no for an answer. Through their campaigning, a unit was secured in Coed y Gof and Glantaf, and thousands of children have received education through the medium of Welsh because of their efforts. Michael tended to be late to meetings, but he was ahead of his time here and he ensured that Welsh-medium education was available for all.
He battled with several local authorities across Wales until the very end for their lack of Welsh language education provision. He provided wise advice to RhAG and helped hundreds of families free of charge with their admissions appeals. It's impossible to measure the enormous contribution made by Michael Jones. Much of his work for his beloved language took place behind closed doors, in council offices and in admissions appeals. But, next week, we will see the fruits of his labour at the Urdd Eisteddfod in the land of his birth. Thank you very much.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.
We'll move on now to item 5, a debate on the Local Government and Housing Committee report, 'Role, governance and accountability of the community and town council sector'. I call on the Chair of the committee to move the motion. John Griffiths.
Cynnig NDM8903 John Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2025.
Motion NDM8903 John Griffiths
To propose that the Senedd:
Notes the report of the Local Government and Housing Committee, ‘Role, governance and accountability of the community and town council sector’, which was laid in the Table Office on 5 March 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Llywydd dros dro. I'm very pleased to open today's debate on the Local Government and Housing Committee's report on the role, governance and accountability of the town and community council sector. I would like to start by thanking all those who contributed to our inquiry. There are over 700 community and town councils serving their local areas across Wales. They are the closest tier of government to the people. They can provide a range of local services, from community events and park maintenance to running local libraries, cafes and community centres. The size of councils and the resources available to them vary significantly, but they all share the objectives of wanting to deliver and achieve the best outcomes for their communities.
Our report makes 11 recommendations, and I will discuss some of these today. First of all, in terms of audit, good governance is essential for the effective running of any organisation. However, the evidence suggested broad consensus that the current audit regime is too rigid for the sector. We heard that around 30 per cent of councils provide annual accounts that contain basic arithmetical or procedural errors. There is a case to revisit the system. Therefore, we recommended that the Welsh Government and the auditor general work with the sector to co-produce a new bespoke audit system. I am pleased that this has been accepted, and we look forward to hearing what a revised system might look like. I realise this will take time, but I'd be grateful if the Cabinet Secretary could indicate when this work could begin.
Another key issue raised was councillor behaviour. I have spoken in this Chamber many times about the importance of increasing diversity across the local government sector, and we know that poor behaviour is one of the key factors in deterring people from standing or continuing in an elected role. Although the number of formal complaints made against councillors is proportionately very low, they are significant enough to be of concern. A particular concern is the small number of councils where multiple complaints have been made, and such a situation gives reasons to question the functionality of those councils.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Mae dros 700 o gynghorau tref a chymuned yn gwasanaethu eu hardaloedd lleol ledled Cymru. Hwy yw'r haen o lywodraeth agosaf at y bobl. Gallant ddarparu ystod o wasanaethau lleol, o ddigwyddiadau cymunedol a chynnal a chadw parciau i redeg llyfrgelloedd lleol, caffis a chanolfannau cymunedol. Mae maint cynghorau a'r adnoddau sydd ar gael iddynt yn amrywio'n sylweddol, ond mae pob un ohonynt yn rhannu'r amcanion o fod eisiau cyflawni a sicrhau'r canlyniadau gorau i'w cymunedau.
Mae ein hadroddiad yn gwneud 11 o argymhellion, a byddaf yn trafod rhai o'r rhain heddiw. Yn gyntaf oll, o ran archwilio, mae llywodraethu da yn hanfodol ar gyfer rhedeg unrhyw sefydliad yn effeithiol. Fodd bynnag, awgrymodd y dystiolaeth gonsensws eang fod y drefn archwilio bresennol yn rhy anhyblyg i'r sector. Clywsom fod oddeutu 30 y cant o gynghorau yn darparu cyfrifon blynyddol sy'n cynnwys gwallau rhifyddol neu weithdrefnol sylfaenol. Mae achos i'w gael dros ailedrych ar y system. Felly, argymhellwyd bod Llywodraeth Cymru a'r archwilydd cyffredinol yn gweithio gyda'r sector i gydgynhyrchu system archwilio bwrpasol newydd. Rwy'n falch fod hyn wedi'i dderbyn, ac edrychwn ymlaen at glywed sut olwg a fyddai ar system ddiwygiedig. Rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn cymryd amser, ond hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pryd y gallai'r gwaith hwn ddechrau.
Mater allweddol arall a godwyd oedd ymddygiad cynghorwyr. Rwyf wedi siarad yn y Siambr hon sawl gwaith am bwysigrwydd cynyddu amrywiaeth ar draws y sector llywodraeth leol, a gwyddom fod ymddygiad gwael yn un o'r ffactorau allweddol sy'n atal pobl rhag sefyll neu barhau mewn rôl etholedig. Er bod nifer y cwynion ffurfiol a wneir yn erbyn cynghorwyr yn isel iawn yn ôl cyfran, maent yn ddigon sylweddol i fod yn destun pryder. Testun pryder arbennig yw'r nifer fach o gynghorau lle gwnaed cwynion lluosog, ac mae sefyllfa o'r fath yn rhoi rhesymau i gwestiynu gweithrediad y cynghorau hynny.
We heard that the majority of complaints investigated by the ombudsman relate to the promotion of equality and respect. While political debate and discourse can lead to disagreements, showing respect to colleagues, regardless of differences, should be paramount. Despite requirements to abide by their council’s code of conduct, community councillors aren’t currently under any obligation to undertake training. This is despite training being readily available and Welsh Government bursaries to support its delivery.
We heard overwhelming evidence to support the introduction of mandatory code of conduct training, and we agree this could lead to fewer equality and respect complaints. We therefore called on the Welsh Government to explore the options and consult with the sector. This recommendation has been accepted, and I’m pleased that the Welsh Government agrees there is value in further action on this. We also recommended that the Welsh Government should continue to offer a bursary to enable councils to attend One Voice Wales’s code of conduct training, and that it is maintained at existing levels. Again, I’m pleased this has been accepted.
Of course, providing local council clerks with the tools and support to deal with disputes locally could prevent issues escalating in the first place. We would like to see local authorities and professional bodies make it easier for clerks to access such support. We believe there is merit in exploring mechanisms to enable the sector to access support from principal authority monitoring officers and human resource services. The Welsh Government accepted this, but noted that it is for the local government sector to facilitate this through its memorandum of understanding between One Voice Wales and the Welsh Local Government Association.
In terms of possible rationalisation, there was no strong desire from stakeholders to rationalise the number of town and community councils. We were unable to ignore the fact that at the last elections, though, only 22 per cent of seats were contested. This suggests that, in many areas, there is a sense of apathy or disengagement with the most local form of government. This led us to question whether the current structure is appropriate.
In particular, we are very aware that the size of community councils varies significantly, and wonder whether, in some areas, combined councils may provide greater opportunities for effective delivery with more resources and expertise. However, given that the evidence we heard differed, we do not have a firm view on this, although we do believe that further consideration by the Welsh Government and the sector would be beneficial. We would like to see greater exploration of opportunities for councils to cluster and for sharing good practice.
We also explored the sector’s digital capacity and are concerned that many councils lack the most basic IT provision, such as corporate e-mail addresses for clerks and members. We are also concerned that some councils are prevented from holding hybrid meetings due to the lack of infrastructure at their premises, which has resulted in some councils holding only fully virtual meetings. We would like to see greater co-operation between the sector and local authorities on IT support and shared use of hybrid meeting facilities.
When our predecessor committee considered the Local Government and Elections (Wales) Bill, now an Act, back in 2020, they were told that the local council sector was supportive of the eligibility criteria for exercising the general power of competence, and it would reduce the likelihood of community and town councils acting unlawfully. We were therefore surprised that very few councils have taken the opportunity to use this. While the sector continues to welcome the general power of competence, we heard that the eligibility criteria were now considered too restrictive, excluding many competent and well-run councils. A particular issue was the requirement to reaffirm eligibility annually. Our recommendation that legislative changes be made to enable councils to affirm eligibility only once during an electoral term was accepted in principle. I am pleased that the Welsh Government has committed to keeping this under review.
Our recommendations are aimed at tackling many of the challenges faced by the sector and at ensuring its future sustainability. I believe that, along with those made in other recent reports about the future sustainability of the sector, our recommendations can make a positive difference. It is now for the Welsh Government, in partnership with the local government sector and other key stakeholders, to put these recommendations into action.
Thank you again to everyone who has played a part in this report, and I now look forward to Members' contributions to this debate today. Diolch yn fawr.
Clywsom fod y rhan fwyaf o'r cwynion a ymchwiliwyd gan yr ombwdsmon yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch. Er y gall dadleuon a thrafodaethau gwleidyddol arwain at anghytundeb, dylai dangos parch at gydweithwyr, ni waeth beth y bo'r gwahaniaethau, fod yn hollbwysig. Er gwaethaf gofynion i gydymffurfio â chod ymddygiad eu cyngor, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar gynghorwyr cymuned ar hyn o bryd i ymgymryd â hyfforddiant, a hynny er bod hyfforddiant ar gael yn rhwydd a bwrsariaethau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r ddarpariaeth.
Clywsom dystiolaeth lethol i gefnogi cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar y cod ymddygiad, ac rydym yn cytuno y gallai hyn arwain at lai o gwynion yn ymwneud â cydraddoldeb a pharch. Felly, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r opsiynau ac i ymgynghori â'r sector. Mae'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn cytuno bod gwerth mewn gweithredu ymhellach ar hyn. Fe wnaethom hefyd argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnig bwrsariaeth i alluogi cynghorau i fynychu hyfforddiant cod ymddygiad Un Llais Cymru, a'i fod yn cael ei gynnal ar y lefelau presennol. Unwaith eto, rwy'n falch fod hyn wedi'i dderbyn.
Wrth gwrs, gallai rhoi’r offer a’r cymorth i glercod cynghorau lleol ymdrin ag anghydfodau’n lleol atal problemau rhag gwaethygu yn y lle cyntaf. Hoffem weld awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol yn ei gwneud yn haws i glercod gael mynediad at gymorth o’r fath. Credwn fod rhinwedd mewn archwilio mecanweithiau i alluogi’r sector i gael mynediad at gymorth gan swyddogion monitro prif awdurdodau a gwasanaethau adnoddau dynol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn, ond nododd mai cyfrifoldeb y sector llywodraeth leol yw hwyluso hyn drwy ei femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
O ran rhesymoli posibl, nid oedd unrhyw awydd cryf gan randdeiliaid i resymoli nifer y cynghorau tref a chymuned. Ni allem anwybyddu'r ffaith, serch hynny, mai dim ond 22 y cant o seddi a ymladdwyd yn yr etholiadau diwethaf. Mae hyn yn awgrymu, mewn llawer o ardaloedd, fod ymdeimlad o ddifaterwch neu ddatgysylltiad â'r ffurf fwyaf lleol o lywodraeth. Fe wnaeth hyn ein harwain i gwestiynu a yw'r strwythur presennol yn briodol.
Yn fwyaf arbennig, rydym yn ymwybodol iawn fod maint cynghorau cymuned yn amrywio'n sylweddol, ac yn meddwl tybed a allai cynghorau cyfun ddarparu gwell cyfleoedd mewn rhai ardaloedd ar gyfer cyflawni'n effeithiol gyda mwy o adnoddau ac arbenigedd. Fodd bynnag, o ystyried bod y dystiolaeth a glywsom yn amrywio, nid oes gennym farn gadarn ar hyn, er ein bod yn credu y byddai ystyriaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a'r sector yn fuddiol. Hoffem weld mwy o archwilio cyfleoedd i gynghorau glystyru a rhannu arferion da.
Fe wnaethom hefyd archwilio capasiti digidol y sector ac rydym yn pryderu bod llawer o gynghorau yn brin o'r ddarpariaeth TG fwyaf sylfaenol, fel cyfeiriadau e-bost corfforaethol ar gyfer clercod ac aelodau. Rydym hefyd yn pryderu bod rhai cynghorau'n cael eu hatal rhag cynnal cyfarfodydd hybrid oherwydd diffyg seilwaith yn eu hadeiladau, sydd wedi arwain at rai cynghorau'n cynnal cyfarfodydd rhithwir yn unig. Hoffem weld mwy o gydweithredu rhwng y sector ac awdurdodau lleol ar gymorth TG a rhannu cyfleusterau cyfarfodydd hybrid.
Pan ystyriodd ein pwyllgor rhagflaenol Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd bellach yn Ddeddf, yn ôl yn 2020, dywedwyd wrthynt fod y sector cynghorau lleol yn cefnogi'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol, ac y byddai'n lleihau'r tebygolrwydd y byddai cynghorau tref a chymuned yn gweithredu'n anghyfreithlon. Roeddem yn synnu, felly, mai ychydig iawn o gynghorau sydd wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio'r pŵer hwn. Er bod y sector yn parhau i groesawu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol, clywsom fod y meini prawf cymhwysedd bellach yn cael eu hystyried yn rhy gyfyngol, gan eithrio llawer o gynghorau cymwys a reolir yn dda. Mater penodol oedd y gofyniad i ailddatgan cymhwysedd yn flynyddol. Cafodd ein hargymhelliad y dylid gwneud newidiadau deddfwriaethol i alluogi cynghorau i gadarnhau cymhwysedd unwaith yn unig yn ystod tymor etholiadol ei dderbyn mewn egwyddor. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw golwg ar hyn.
Nod ein hargymhellion yw mynd i'r afael â llawer o'r heriau sy'n wynebu'r sector a sicrhau ei gynaliadwyedd yn y dyfodol. Yn ogystal â'r argymhellion a wnaed mewn adroddiadau eraill yn ddiweddar ynglŷn â chynaliadwyedd y sector yn y dyfodol, rwy'n credu y gall ein hargymhellion ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru nawr, mewn partneriaeth â'r sector llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol eraill, yw rhoi'r argymhellion hyn ar waith.
Diolch eto i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon heddiw. Diolch yn fawr.
I’d like to start by thanking my former committee Chair, John Griffiths, for opening this debate. As you know, I am a community councillor and I have served for a number of years. I can honestly say that it has been a very rewarding experience and has allowed me to take an active role within my community. Community and town councillors can do an incredible amount of work for their areas, especially given the very little resources that some have to work with. Considering it is primarily a voluntary role, I believe that it shows the incredible strength of community we have, which is undoubtedly a tremendous benefit for people.
That said, I am also aware that community and town councils can be, quite frankly, a cesspit of bullying and harassment, with behaviour that would simply not be tolerated anywhere else. The conduct of some community councillors that I have witnessed at times is appalling, and sadly it appears to me that the council clerks are more often than not at the receiving end of this behaviour. More needs to be done to raise awareness of this and enforce the various codes of conduct that are in existence. From my own personal experience, there is no doubt in my mind that misogyny plays a part in this as well.
The report produced by the Local Government and Housing Committee into the role, governance and accountability of the community and town council sector is, in my mind, long overdue, and I wish to thank them for producing this. Given my opening remarks, I fully support their recommendations for mandatory code of conduct training, and it has always surprised me how many refuse to undertake this on becoming councillors. As such, I would certainly welcome a much clearer pathway for action when councillors fail to meet the standards that are expected of them.
This problem has arisen because the language and behaviour in meetings is not effectively monitored, and community and town councillors have limited actions available to them when dealing with it. Regular reporting of this is then ultimately essential, so that the public can be notified of when behaviour has not been met. But also I think the public need to take a greater part in this as well, and actually pay attention to who their community and town councillors are. Sadly, as we all know and has already been mentioned, a large majority of them are co-opted, or like me, elected unopposed. In my experience, I have found that political parties have more control over the conduct of councillors due to the nature of them having to be members and having to be formally selected in order to represent the party, and again in my experience, it has been the conduct of independent councillors who do not have to abide by such party rules—they have been the poorest behaved. I would be interested to know the experiences of other Members here.
In terms of clerks and staff, I would like to thank the Welsh Government for accepting my amendment to recent legislation that community and town clerks should no longer hold elected offices. I think this helps strengthen the independence of the role, as well as provide assurances that the clerk is not beholden to political affiliations when performing their role. However, the clerks are very often under-supported and there is a lack of consistent information that would help, from not only organisations like One Voice Wales and the Society of Local Council Clerks, but also from monitoring officers or their parent local authorities, all of whom I believe are woefully unprepared to help when serious situations arise.
More should also be done to raise the professional qualifications that clerks have, and as many here would agree, there seems to be a high degree of variance in the ability of clerks, and this directly contributes to the overall effectiveness of the community or town council. Raising standards will certainly help the consistency of support the council will receive, and help with more joined-up thinking with regard to governance and scrutiny.
In this day and age, we need to be mindful as well of properly supporting councils with digital infrastructure. Not only does this help to speed up meetings, but it also means that those who struggle to attend meetings have greater opportunities to do so, which will certainly help encourage more people to stand as community or town councillors, and it means that members of the public have easier access to what goes on. It also means that these meetings can be recorded, again helping to aid greater scrutiny and engagement, and I would urge the Welsh Government to actually bring this in as a requirement.
It is noted in the report that significant work is still required to improve the digital capacity of town and community councils. There's also the challenge of councils not being in a position to take full advantage of digital resources. I believe that parent local authorities could well take a role in helping to provide this. Not only will it help share resources, but it will mean that smaller community and town councils will be able to focus more on the role that they were elected for.
I'm pleased to see that the Welsh Government has accepted all the recommendations of this report either fully or in principle. I believe that with better governance arrangements and greater access to support community and town councils, we can do so much more for the communities, and let's be honest, this is a win-win situation. It will mean more for communities, it will help build more resilience, improve their areas and help community cohesion.
Finally, I'd just like to thank the committee and the committee's clerking team once again for the report. I support that it is noted and I would urge the Welsh Government to implement its recommendations as swiftly as possible. Thank you.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i gyn-Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am agor y ddadl hon. Fel y gwyddoch, rwy'n gynghorydd cymuned ac rwyf wedi gwasanaethu ers nifer o flynyddoedd. Gallaf ddweud yn onest ei fod wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac wedi fy ngalluogi i gymryd rhan weithredol ym mywyd fy nghymuned. Gall cynghorwyr tref a chymuned wneud llawer iawn o waith i'w hardaloedd, yn enwedig o ystyried yr adnoddau prin iawn sydd gan rai at eu defnydd. O ystyried ei bod yn rôl wirfoddol yn bennaf, credaf ei fod yn dangos y cryfder cymunedol anhygoel sydd gennym, sydd o fudd aruthrol i bobl, heb amheuaeth.
Wedi dweud hynny, a bod yn onest, rwy'n ymwybodol hefyd y gall cynghorau tref a chymuned fod yn fannau lle ceir llawer o fwlio ac aflonyddu, gydag ymddygiad na fyddai'n cael ei oddef yn unman arall. Mae ymddygiad a welais gan rai cynghorwyr cymuned ar adegau yn ofnadwy, ac yn anffodus mae'n ymddangos i mi mai clercod cynghorau yn amlach na pheidio sy'n gorfod dioddef yr ymddygiad hwn. Mae angen gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth o hyn a gwneud y gwahanol godau ymddygiad sy'n bodoli yn orfodol. O fy mhrofiad personol fy hun, nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod casineb at wragedd yn chwarae rhan yn hyn hefyd.
Mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned yn un hirddisgwyliedig, a hoffwn ddiolch iddynt am ei gynhyrchu. O ystyried fy sylwadau agoriadol, rwy'n cefnogi eu hargymhellion ar gyfer hyfforddiant cod ymddygiad gorfodol, ac mae bob amser wedi fy synnu faint sy'n gwrthod ymgymryd â hyn wrth ddod yn gynghorwyr. Felly, rwy'n sicr yn croesawu llwybr llawer cliriach ar gyfer gweithredu pan fydd cynghorwyr yn methu bodloni'r safonau sy'n ddisgwyliedig ganddynt.
Mae'r broblem hon wedi codi am nad yw'r iaith a'r ymddygiad mewn cyfarfodydd yn cael eu monitro'n effeithiol, a chamau cyfyngedig sydd ar gael i gynghorwyr tref a chymuned i fynd i'r afael â'r pethau hyn. Felly mae adrodd yn rheolaidd am hyn yn hanfodol yn y pen draw, fel y gall y cyhoedd gael eu hysbysu pan nad yw ymddygiad yn ddigon da. Ond hefyd, rwy'n credu bod angen i'r cyhoedd gymryd mwy o ran yn hyn, a rhoi sylw i bwy yw eu cynghorwyr tref a chymuned. Yn anffodus, fel y gwyddom i gyd ac fel sydd eisoes wedi'i grybwyll eisoes, caiff y mwyafrif helaeth eu cyfethol, neu eu hethol yn ddiwrthwynebiad fel y cefais i. Yn fy mhrofiad i, gwelais fod gan bleidiau gwleidyddol fwy o reolaeth dros ymddygiad cynghorwyr gan fod yn rhaid iddynt fod yn aelodau a chael eu dewis yn ffurfiol i gynrychioli'r blaid, ac unwaith eto yn fy mhrofiad i, ymddygiad cynghorwyr annibynnol nad oes yn rhaid iddynt gadw at reolau plaid—eu hymddygiad hwy sydd wedi bod waethaf. Hoffwn wybod beth yw profiadau Aelodau eraill yma.
Ar glercod a staff, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am dderbyn fy ngwelliant i'r ddeddfwriaeth ddiweddar na ddylai clercod tref a chymuned ddal swyddi etholedig mwyach. Rwy'n credu bod hyn yn helpu i gryfhau annibyniaeth y rôl, yn ogystal â darparu sicrwydd nad yw'r clerc yn gaeth i gysylltiadau gwleidyddol wrth gyflawni eu rôl. Fodd bynnag, yn aml iawn nid yw clercod yn cael digon o gymorth ac ni cheir digon o wybodaeth gyson a fyddai'n helpu, nid yn unig gan sefydliadau fel Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ond hefyd gan swyddogion monitro neu eu rhiant-awdurdodau lleol, nad oes yr un ohonynt, yn fy marn i, yn barod i helpu pan fo sefyllfaoedd difrifol yn codi.
Dylid gwneud mwy hefyd i gynyddu'r cymwysterau proffesiynol sydd gan glercod, ac fel y byddai llawer yma'n cytuno, mae'n ymddangos bod lefel uchel o amrywiaeth yng ngallu clercod, ac mae hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at effeithiolrwydd cyffredinol y cyngor tref neu gymuned. Bydd codi safonau'n sicr yn helpu i wella cysondeb y gefnogaeth y bydd y cyngor yn ei chael, ac yn helpu gyda meddylfryd mwy cydgysylltiedig mewn perthynas â llywodraethiant a chraffu.
Yn yr oes hon, mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd o gefnogi cynghorau'n briodol gyda seilwaith digidol. Mae hyn yn helpu i gyflymu cyfarfodydd, ond mae hefyd yn golygu bod y rhai sy'n cael trafferth mynychu cyfarfodydd yn cael mwy o gyfleoedd i wneud hynny, sy'n sicr o helpu i annog mwy o bobl i sefyll fel cynghorwyr tref neu gymuned, ac mae'n golygu bod aelodau o'r cyhoedd yn cael mynediad haws at yr hyn sy'n digwydd. Mae hefyd yn golygu y gellir cofnodi'r cyfarfodydd hyn, gan helpu eto i hwyluso mwy o graffu ac ymgysylltu, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyn fel gofyniad mewn gwirionedd.
Nodir yn yr adroddiad fod angen gwaith sylweddol o hyd i wella capasiti digidol cynghorau tref a chymuned. Hefyd, mae cynghorau nad ydynt mewn sefyllfa i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau digidol yn her. Rwy'n credu y gallai rhiant-awdurdodau lleol chwarae rôl yn helpu i ddarparu hyn. Nid yn unig y bydd yn helpu i rannu adnoddau, bydd yn golygu hefyd fod cynghorau tref a chymuned llai o faint yn gallu canolbwyntio mwy ar y rôl y cawsant eu hethol i'w chyflawni.
Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad hwn naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Gyda gwell trefniadau llywodraethu a mwy o allu i gefnogi cynghorau tref a chymuned, rwy'n credu y gallwn wneud cymaint mwy i'r cymunedau, a gadewch inni fod yn onest, mae hon yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Bydd yn golygu mwy i gymunedau, bydd yn helpu i adeiladu mwy o wydnwch, yn gwella eu hardaloedd ac yn hybu cydlyniant cymunedol.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a thîm clercio'r pwyllgor unwaith eto am yr adroddiad. Rwy'n cefnogi ei nodi ac yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ei argymhellion cyn gynted â phosibl. Diolch.
I read this report with interest because I entered politics at this grass-roots level, and will forever be grateful for that. During my time on Penyrheol, Trecenydd and Energlyn Community Council, I learnt much in a short space of time, not least the importance of connecting to a community and listening to what people have to say. These are lessons that have served me well in the Senedd.
Thankfully, my view on community and town councils chimes with that of my party. Plaid Cymru, after all, believes that Wales is a community of communities and that power should be devolved as close to the people as possible. We want to see community and town councils thrive and serve people well, but this does not happen by accident. Community and town councils are the closest tier of government to people's lives. They need the powers, support and capability to provide a strong local lead in their community.
Plaid Cymru is keen to see reform of community and town councils in order to give the communities that they represent a real voice. When people see their ideas taken forward locally, they're engaged, they gain experience of the democratic process and have ownership of the final result. This approach can help restore trust in our politics and institutions at a time when it's most needed. Strong councils can help communities take ownership over spaces, over decisions, over the future. That only works if people are engaged and feel that their council is working well.
We have over 730 councils. As we heard from John Griffiths, though, in 2022 only 22 per cent of the seats were contested, and that tells us that something isn't working. Too many councils lack capacity, too many struggle to fill vacancies. Larger, better-resourced councils could serve their communities more effectively, and a further look at what mechanisms could be deployed to look at the way this could happen needs to be looked at, especially the hub idea that came through.
We support councils playing a bigger role, but they need support to match. And as as Joel James said, part-time clerks with limited access to human resources, legal and training support are being asked to do too much. We need smarter support systems, shared services and mentoring, and digital infrastructure to make things work. There is lots in this report that we welcome, but we now need to see it implemented on the ground, if we are to see grass-roots politics strengthened rather than diminished. So, I'd like to understand what further concrete actions the Government is going to take to action the recommendations of this report and what timescales is it working to. Diolch yn fawr.
Darllenais yr adroddiad hwn gyda diddordeb oherwydd fy mod wedi dechrau yn y byd gwleidyddol ar y lefel sylfaenol hon, a byddaf yn ddiolchgar am hynny am byth. Yn ystod fy nghyfnod ar Gyngor Cymuned Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn, dysgais lawer mewn cyfnod byr o amser, yn enwedig pwysigrwydd cysylltu â chymuned a gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud. Mae'r rhain yn wersi sydd wedi bod o werth mawr i mi yn y Senedd.
Diolch byth, mae fy marn ar gynghorau tref a chymuned yn cyd-fynd â barn fy mhlaid. Wedi'r cyfan, mae Plaid Cymru'n credu bod Cymru'n gymuned o gymunedau ac y dylid datganoli pŵer mor agos at y bobl â phosibl. Rydym eisiau gweld cynghorau tref a chymuned yn ffynnu ac yn gwasanaethu pobl yn dda, ond nid yw hyn yn digwydd trwy ddamwain. Cynghorau tref a chymuned yw'r haen agosaf o lywodraeth at fywydau pobl. Mae angen y pwerau, y gefnogaeth a'r gallu arnynt i ddarparu arweiniad lleol cryf yn eu cymuned.
Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld diwygio cynghorau tref a chymuned er mwyn rhoi llais go iawn i'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Pan fydd pobl yn gweld eu syniadau'n cael eu datblygu'n lleol, maent yn cymryd rhan, maent yn cael profiad o'r broses ddemocrataidd ac yn cael perchnogaeth ar y canlyniad terfynol. Gall hyn helpu i adfer ymddiriedaeth yn ein gwleidyddiaeth a'n sefydliadau ar adeg pan fo fwyaf o'i hangen. Gall cynghorau cryf helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth ar fannau, ar benderfyniadau, ar y dyfodol. Nid yw hynny'n gweithio oni bai bod pobl yn cymryd rhan ac yn teimlo bod eu cyngor yn gweithio'n dda.
Mae gennym dros 730 o gynghorau. Fel y clywsom gan John Griffiths, fodd bynnag, yn 2022 dim ond 22 y cant o'r seddi a ymladdwyd, ac mae hynny'n dweud wrthym fod rhywbeth nad yw'n gweithio. Mae gormod o gynghorau heb allu, mae gormod yn cael trafferth llenwi seddi gwag. Gallai cynghorau mwy o faint, gyda gwell adnoddau wasanaethu eu cymunedau'n fwy effeithiol, ac mae angen edrych ymhellach ar ba fecanweithiau y gellid eu defnyddio i edrych ar y ffordd y gallai hyn ddigwydd, yn enwedig y syniad a gyflwynwyd ynglŷn â hyb.
Rydym yn cefnogi rôl fwy i gynghorau, ond mae angen cefnogaeth arnynt i gyd-fynd â hynny. Ac fel y dywedodd Joel James, gofynnir i glercod rhan-amser sydd â mynediad cyfyngedig at adnoddau dynol, cymorth cyfreithiol a hyfforddiant wneud gormod. Mae angen systemau cymorth craffach, rhannu gwasanaethau a mentora, a seilwaith digidol i wneud i bethau weithio. Rydym yn croesawu llawer yn yr adroddiad hwn, ond mae angen inni ei weld yn cael ei weithredu nawr ar lawr gwlad, os ydym am weld gwleidyddiaeth lawr gwlad yn cryfhau yn hytrach na chrebachu. Felly, hoffwn ddeall pa gamau pendant pellach y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w cymryd i weithredu argymhellion yr adroddiad hwn a pha amserlenni y mae'n eu dilyn. Diolch yn fawr.
I want to put on record also my thanks to everybody who contributed to this important report, and I'm very happy to be associated with the report and its recommendations as a committee member. As we've already heard, and as everybody knows, community and town councils play that incredibly important role in our communities, delivering a wide range of services. But, of course, we need to ensure that they are supported to undertake their work effectively. I was a community councillor for 25 years, and I know just how much work they do in their communities. Whilst there may be some who have things wanting within their community, there are many community councils that do a fantastic job for their communities, and we need to recognise that as well.
One of the recommendations that our Chairman brought forward and highlighted was the issue of technology in the sector, and it was highlighted that One Voice Wales noted that, for many community and town councils, providing the digital services was very challenging. It's been two years since the local government chief digital officer published their report on digital readiness in the sector. The Welsh Government also published its action plan, yet there seems to have been little that has changed. As this report highlights, a third of town and community councils haven't ensured the most basic information technology provision for their staff and councillors yet, and we need to see improvement on that. Far too much council business is undertaken, as we've heard, using personal e-mail addresses, and that raises serious general data protection regulation issues. Furthermore, too many councils do not have the facilities to implement hybrid meetings and are still meeting only online. That doesn't help those councillors who find it a barrier and would rather be more comfortable in meeting in person.
I think an update from the Government on the implementation of its digital action plan would be welcome, to understand what steps are being taken to improve digitalisation of Welsh town and community councils. I also think there must be opportunities for greater co-operation, as John pointed out, between town and community councils, to enable those efficiencies that are needed and the sharing of resources and information, and I believe that county councils can be fundamental to facilitating this in due course.
Llywydd dros dros, finances are tight. The Welsh Government should then ensure that there are initiatives and support available to support our town and community councils, to ensure that both their finances are used efficiently and effectively, and that they have those basic IT provisions necessary to carry out their roles, in the ways that are expected of the twenty-first century. I support the recommendations put forward and look forward to those being enacted. Thank you.
Rwyf i hefyd am gofnodi fy niolch i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad pwysig hwn, ac rwy'n hapus iawn i fod yn gysylltiedig â'r adroddiad a'i argymhellion fel aelod o'r pwyllgor. Fel y clywsom eisoes, ac fel y gŵyr pawb, mae cynghorau tref a chymuned yn chwarae rôl hynod bwysig yn ein cymunedau, yn darparu ystod eang o wasanaethau. Ond wrth gwrs, mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Roeddwn i'n gynghorydd cymuned am 25 mlynedd, ac rwy'n gwybod faint o waith a wnânt yn eu cymunedau. Er y gallai fod rhai sydd heb fod yn berffaith yn eu cymuned, mae yna lawer o gynghorau cymuned sy'n gwneud gwaith gwych i'w cymunedau, ac mae angen inni gydnabod hynny hefyd.
Un o'r argymhellion a nododd ein Cadeirydd oedd mater technoleg yn y sector, a thynnwyd sylw at y ffaith bod Un Llais Cymru wedi nodi, i lawer o gynghorau tref a chymuned, fod darparu'r gwasanaethau digidol yn heriol iawn. Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i'r prif swyddog digidol llywodraeth leol gyhoeddi eu hadroddiad ar barodrwydd digidol yn y sector. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu hefyd, ond ymddengys nad oes fawr ddim wedi newid. Fel y mae'r adroddiad hwn yn nodi, nid yw traean y cynghorau tref a chymuned wedi sicrhau'r ddarpariaeth technoleg gwybodaeth fwyaf sylfaenol i'w staff a'u cynghorwyr eto, ac mae angen inni weld gwelliant ar hynny. Fel y clywsom, mae llawer gormod o fusnes cyngor yn cael ei wneud gan ddefnyddio cyfeiriadau e-bost personol, ac mae hynny'n codi cwestiynau difrifol ynglŷn â rheoleiddio diogelu data cyffredinol. Ar ben hynny, mae gormod o gynghorau heb gyfleusterau i weithredu cyfarfodydd hybrid ac maent yn dal i gyfarfod ar-lein yn unig. Nid yw hynny'n helpu cynghorwyr sy'n ei ystyried yn rhwystr ac a fyddai'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cyfarfod yn y cnawd.
Rwy'n credu y byddai croeso i ddiweddariad gan y Llywodraeth ar weithrediad ei chynllun gweithredu digidol, er mwyn deall pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella digideiddio cynghorau tref a chymuned Cymru. Rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid cael cyfleoedd i gydweithredu mwy, fel y nododd John, rhwng cynghorau tref a chymuned, i alluogi'r arbedion effeithlonrwydd sydd eu hangen a rhannu adnoddau a gwybodaeth, ac rwy'n credu y gall cynghorau sir fod yn allweddol i hwyluso hyn maes o law.
Lywydd dros dros, mae cyllid yn brin. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau felly fod mentrau a chefnogaeth ar gael i gefnogi ein cynghorau tref a chymuned, er mwyn sicrhau defnydd effeithlon ac effeithiol o'u cyllid, a bod ganddynt y darpariaethau TG sylfaenol angenrheidiol i gyflawni eu rolau yn y ffyrdd sy'n ddisgwyliedig yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n cefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu gweithredu. Diolch.
Mi fues i yn gynghorydd cymuned hefyd, ac yn gadeirydd cyngor cymuned, cyn cael fy ethol yn gynghorydd sir ac wedyn yn Aelod o'r Senedd, ac mi oedd o yn brofiad hynod werthfawr o ran dysgu sgiliau pwysig o geisio creu consensws o blith croestoriad eang o safbwyntiau, ac o ran cadeirio cyfarfodydd oedd yn gallu bod yn dymhestlog iawn ar adegau yn lleol. Felly, dwi yn ffan o gynghorau cymuned, fel yr haen o lywodraeth sydd agosaf at y bobl, ac felly roeddwn i'n falch o fod yn rhan o'r ymchwiliad pwyllgor yma.
Ond does yna ddim dwywaith bod yna broblemau a heriau yn y sector yma. Fe glywodd y pwyllgor fod tua 30 y cant o gynghorau tref a chymuned yn cyflwyno cyfrifon blynyddol sy'n cynnwys gwallau rhifyddeg sylfaenol. Mae llawer o gynghorau'n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau statudol oherwydd eu bod nhw'n gwneud gwallau gweithdrefnol eithaf sylfaenol. Mae'r dystiolaeth gawson ni yn y pwyllgor yn awgrymu consensws eang fod y drefn archwilio bresennol yn rhy anhyblyg ar gyfer y sector, ac mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r sector, ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, fynd ati i gyd-gynhyrchu system archwilio bwrpasol newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, a dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru yn agored i'r argymhelliad yma.
Elfen allweddol arall o ymchwiliad y pwyllgor oedd ymddygiad cynghorwyr, ac fe glywodd y pwyllgor nad yw hyn, ar adegau, yn cyd-fynd â'r disgwyliadau ar gyfer y rhai sy'n cyflawni swyddi cyhoeddus. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth sylweddol o blaid cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar y cod ymddygiad, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr opsiynau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ymchwilio, ond mae'n siomedig nad oedd y Llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno'r newid yma, ond mi fydd ymgynghoriad, oni bydd, ac mi fydd adolygiad o'r canllawiau statudol, felly, gobeithio fe wnawn ni weld gwelliant mawr ar yr elfen yma o bethau.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi darparu cyllid i'r sector i gefnogi cynnydd o ran eich cynllun gweithredu iechyd digidol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gyfleoedd i rannu cymorth technoleg gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol a chynghorau cymuned, a dwi'n meddwl yn sicr mae hwn yn rhywbeth dwi a'r pwyllgor yn awyddus iawn i weld, gan nodi y dylai fod disgwyliad bod awdurdodau lleol yn darparu cymorth technoleg gwybodaeth i gynghorau lleol drwy gytundebau lefel gwasanaeth.
Mae yna nifer fawr o heriau mae angen i gynghorau tref a chymuned fynd i'r afael â nhw ac mae'r sector i weld yn ymwybodol iawn o'r rhain. Mae llawer ohonyn nhw'n ymarferol eu natur, ac, efo digon o adnoddau a chefnogaeth, fe ellid ymdrin â nhw yn gymharol gyflym, ond mae yna heriau eraill sydd yn rhai mwy pellgyrhaeddol ac yn gofyn am ymyrraeth a threfnu a chyllid tymor hir. Er enghraifft, efo cyfran sylweddol o glercod yn gweithio ychydig o oriau yr wythnos yn unig, mi fyddai sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r cymwysterau cywir i ymdopi â'r heriau sydd o'u blaenau yn faes allweddol i bob partner fynd i'r afael ag o.
Ac yn olaf, yn sicr, mae angen rhoi ystyriaeth fanwl i annog clystyru neu fodelau cydweithio amgen fel sydd yn llwyddiannus yn nyffryn Ogwen yn fy etholaeth i. Dwi'n gobeithio y bydd yr adroddiad yma yn sbarduno moderneiddio'r haen bwysig hon o'n ddemocratiaeth. Diolch yn fawr.
I was a community councillor too, and I chaired a community council before being elected to the county council and then as a Member of the Senedd, and it was a very valuable experience in learning important skills of trying to get consensus among a broad range of views, and in chairing meetings that could be quite fractious at times at a local level. So, I am a fan of community councils, as the level of government closest to the people, and therefore I was pleased to participate in this committee inquiry.
But there is no doubt that there are problems and challenges in this sector. The committee heard that around 30 per cent of town and community councils present annual accounts that include basic mathematical errors. Many councils can't deliver their statutory responsibilities because of fundamental procedural errors. The evidence that we received as a committee suggests a broad-ranging consensus that the current audit system is too inflexible for the sector, and the committee has recommended that the Welsh Government, along with the sector, and the Auditor General for Wales, should co-produce a purpose-made audit system for town and community councils in Wales, and I'm pleased that the Welsh Government is open to that recommendation.
Another key element of the committee's inquiry was the conduct of councillors, and the committee heard that this, at times, doesn't conform with the expectations of those delivering public roles. The committee heard substantial evidence in favour of introducing compulsory training on the code of conduct, and called on the Welsh Government to consider options in this area. The Welsh Government has agreed to look into that, but it's disappointing that the Government wasn't entirely committed to introducing this change, but there will be a consultation and there will be a review of the statutory guidance, so I do hope that we will see great improvement in that element of things.
The Welsh Government have said that they have provided funding to the sector to support progress in terms of your digital health action plan. This includes looking at opportunities to share information and communications technology support between local authorities and community councils, and I do think that this is certainly something myself and the committee are eager to see, noting that there should be an expectation that local authorities provide information technology support for town and community councils through service level agreements.
There are a number of challenges that town and community councils need to grapple with and the sector seems to be highly aware of these. Many of them are practical in nature and, with sufficient resource and support, they could be dealt with relatively swiftly, but there are other challenges that are more fundamental and require intervention and long-term funding. For example, with a high percentage of clerks only working a few hours a week, ensuring that they have the skills and qualifications required to deal with the challenges facing them would be a key area for every partner to address.
And finally, without doubt, we need to give detailed consideration to encouraging clustering or collaboration arrangements such as those that are working successfully in the Ogwen valley in my constituency. I do hope that this report will engender the modernisation of this important level of our democracy. Thank you.
Dwi nawr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.
I now call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant.

Diolch. Thank you for the opportunity to speak in this debate today. And firstly, I would like to thank the committee members for their work in this inquiry and all those Members today who've shared their experiences—I think every Member, Deputy Llywydd, has shared their experience of being a community councillor. And like the Chair of the committee, I'd also like to extend my thanks to everyone who provided evidence to the committee.
This work has been very timely. It coincides with the recent reports on the democratic health of the community council sector and the Audit Wales report into the sector's financial management and governance. It is evident from each of these reports that there are particular aspects of the sector in need of strengthening, and I'm grateful for the committee's reflections on how to enable community and town councils to effectively support their local communities.
Whilst Wales and the world is almost unrecognisable from 1974, as John Griffiths and Siân Gwenllian said, community and town councils are still the closest form of government to the people. More so than any other layer of government, they are best placed to represent and engage with people at the local level and to help them feel proud of the places where they live.
I'm of the view that supporting the sector is very much a team effort. Our approach is based on collaboration and partnership working, not a hierarchy. I'm pleased to outline our response, reflecting our commitment to furthering the governance and accountability of our community and town councils.
One of the areas that the committee considered was the role of community and town councils. The Welsh Government wants a thriving and dynamic community council sector, with a membership that reflects its communities. We want to see a sector that's well managed and well governed, and a sector that is equipped to do what the community wants it to do. The committee has helpfully provided its views on how to enable that.
I want to make it clear that there's been sustained activity by partners to support the sector, and I'm very grateful to One Voice Wales and the Society for Local Council Clerks for providing advice, guidance and professional support to councils. Our role has been to invest in those partners to increase capacity and increase interest in that support. Members should know that we have a strong history of partnership working between our organisations. This makes responding to this report much easier.
The report reflected on the governance system, particularly in respect of audit. The evidence shows that many councils fail to meet the present audit requirements and provides insights as to the causes. I'm open to the Welsh Government collaborating with Audit Wales and the sector to look at how we can balance streamlining the audit process with assurance of governance. Community and town councils are public authorities, and it's imperative that community councils have sound governance and follow proper practices to account for the public money entrusted to them. I am concerned at the latest financial management and governance report from Audit Wales about the sector, and streamlining governance must not look like we're looking the other way, and it's important that councils are clear and transparent about how they spend their community's precepts.
Standards and behaviours feature in the report, as well as in the democratic health report, and I'd like to thank Joel James for sharing his experiences as a town and community councillor. It is a live and significant concern, and in both cases I'm very grateful to the committee for making actionable recommendations.
Siân Gwenllian mentioned the point around mandatory training. I am supportive of the principle of mandatory training for code of conduct, and I have asked officials to explore with the sector and key partners the workability of mandating code of conduct training, taking into account how it can be implemented and enforced, alongside any impacts.
We will continue to provide financial support to our partners, specifically One Voice Wales and the Society for Local Council Clerks. For 2025-26, I've awarded £440,000, allowing both organisations greater flexibility to innovate to better respond to the needs and demands of councils, and provide increased support to the sector in what they deem are the most important areas.
Deputy Llywydd, I believe that there are real opportunities for clustering and sharing good practice that have not yet been capitalised on, and I'm pleased that the Democracy and Boundary Commission Cymru have begun to take this piece of work forward, and I understand that a procurement exercise to commission this work will begin shortly. In the spirit of partnership and team working, I want to acknowledge the closer working between the principal and community council sector, formalised by a memorandum of understanding between the Welsh Local Government Association and One Voice Wales. The collaboration is vital.
The remaining recommendations cover issues relating to community reviews, clerk training, an update on digital actions, charters and the general power of competence. Members will note that I agree with these and will seek action or support partners to action as appropriate.
I will continue to reflect upon the committee's report, alongside my consideration of the democratic health report of the sector and the Audit Wales report on the sector's financial management and governance. These documents provide essential insights and will guide our ongoing efforts to enhance governance, accountability and financial management across our community and town councils. The time to thoroughly evaluate and decide on actions for the sector make this an important piece of work, noting that this will need the next Government's consideration. Diolch yn fawr.
Diolch. Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Ac yn gyntaf, hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn a'r holl Aelodau sydd wedi rhannu eu profiadau heddiw—rwy'n credu bod pob Aelod, Ddirprwy Lywydd, wedi rhannu eu profiad o fod yn gynghorydd cymuned. Ac fel Cadeirydd y pwyllgor, hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r pwyllgor.
Mae'r gwaith hwn wedi bod yn amserol iawn. Mae'n cyd-fynd â'r adroddiadau diweddar ar iechyd democrataidd y sector cynghorau cymuned ac adroddiad Archwilio Cymru ar reolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu'r sector. Mae'n amlwg ym mhob un o'r adroddiadau hyn fod yna agweddau penodol ar y sector sydd angen eu cryfhau, ac rwy'n ddiolchgar am ystyriaethau'r pwyllgor o sut i alluogi cynghorau tref a chymuned i gefnogi eu cymunedau lleol yn effeithiol.
Er bod Cymru a'r byd yn wahanol iawn i'r hyn oeddent ym 1974, fel y dywedodd John Griffiths a Siân Gwenllian, cynghorau tref a chymuned yw'r ffurf agosaf ar lywodraeth i'r bobl o hyd. Yn fwy felly nag unrhyw haen arall o lywodraeth, maent yn y sefyllfa orau i gynrychioli ac ymgysylltu â phobl ar y lefel leol ac i'w helpu i deimlo'n falch o'r lleoedd y maent yn byw ynddynt.
Rwy'n credu bod cefnogi'r sector yn waith tîm. Mae ein dull o weithredu'n seiliedig ar gydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth, nid hierarchaeth. Rwy'n falch o amlinellu ein hymateb, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo llywodraethiant ac atebolrwydd ein cynghorau tref a chymuned.
Un o'r meysydd a ystyriodd y pwyllgor oedd rôl cynghorau tref a chymuned. Mae Llywodraeth Cymru eisiau sector cynghorau cymuned ffyniannus a deinamig, gydag aelodaeth sy'n adlewyrchu ei chymunedau. Rydym eisiau gweld sector sy'n cael ei reoli'n dda ac wedi'i lywodraethu'n dda, a sector sydd wedi'i gyfarparu i wneud yr hyn y mae'r gymuned eisiau iddo ei wneud. Mae'r pwyllgor wedi rhoi ei safbwyntiau defnyddiol ar sut i alluogi hynny.
Rwyf am ei gwneud yn glir fod gweithgarwch parhaus wedi bod gan bartneriaid i gefnogi'r sector, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Un Llais Cymru a'r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol am ddarparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth broffesiynol i gynghorau. Ein rôl ni oedd buddsoddi yn y partneriaid hynny i gynyddu capasiti a chynyddu diddordeb yn y gefnogaeth honno. Dylai Aelodau wybod bod gennym hanes cryf o weithio mewn partneriaeth rhwng ein sefydliadau. Mae hyn yn gwneud ymateb i'r adroddiad hwn yn llawer haws.
Fe ystyriodd yr adroddiad y system lywodraethu, yn enwedig mewn perthynas ag archwilio. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod llawer o gynghorau yn methu bodloni'r gofynion archwilio presennol ac mae'n taflu cipolwg ar yr achosion. Rwy'n agored i weld Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Archwilio Cymru a'r sector i edrych ar sut y gallwn gydbwyso symleiddio'r broses archwilio â sicrwydd llywodraethiant. Mae cynghorau tref a chymuned yn awdurdodau cyhoeddus, ac mae'n hanfodol fod gan gynghorau cymuned drefniadau llywodraethu cadarn a'u bod yn dilyn arferion priodol i gyfrif am yr arian cyhoeddus a ymddiriedir iddynt. Rwy'n pryderu ynghylch yr adroddiad diweddaraf ar reolaeth ariannol a llywodraethiant y sector gan Archwilio Cymru, ac ni ddylai symleiddio trefniadau llywodraethu edrych fel pe baem yn troi llygad ddall, ac mae'n bwysig fod cynghorau'n glir ac yn dryloyw ynglŷn â sut y maent yn gwario praeseptau eu cymuned.
Mae safonau ac ymddygiad yn cael sylw yn yr adroddiad, yn ogystal ag yn yr adroddiad ar iechyd democrataidd, a hoffwn ddiolch i Joel James am rannu ei brofiadau fel cynghorydd tref a chymuned. Mae'n bryder byw a sylweddol, ac yn y ddau achos rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am wneud argymhellion y gellir gweithredu arnynt.
Soniodd Siân Gwenllian am hyfforddiant gorfodol. Rwy'n gefnogol i'r egwyddor o hyfforddiant gorfodol ar y cod ymddygiad, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio gyda'r sector a phartneriaid allweddol pa mor ymarferol yw gorfodi hyfforddiant cod ymddygiad, gan ystyried sut y gellir ei weithredu a'i orfodi, ochr yn ochr ag unrhyw effeithiau.
Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i'n partneriaid, sef Un Llais Cymru a'r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Ar gyfer 2025-26, rwyf wedi dyfarnu £440,000, gan ganiatáu i'r ddau sefydliad fwy o hyblygrwydd i arloesi i ymateb yn well i anghenion a gofynion cynghorau, a darparu mwy o gefnogaeth i'r sector yn yr hyn a ystyriant yn feysydd pwysicaf.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod cyfleoedd real ar gyfer clystyru a rhannu arferion da na fanteisiwyd arnynt eto, ac rwy'n falch fod Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi dechrau bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac rwy'n deall y bydd ymarfer caffael i gomisiynu'r gwaith hwn yn dechrau cyn bo hir. Mewn ysbryd o bartneriaeth a gwaith tîm, rwyf am gydnabod y gweithio agosach rhwng y prif sector a'r sector cynghorau cymuned, a ffurfiolwyd gan femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru. Mae'r cydweithrediad yn hanfodol.
Mae'r argymhellion sy'n weddill yn cynnwys materion yn ymwneud ag adolygiadau cymunedau, hyfforddiant i glercod, diweddariad ar gamau gweithredu digidol, siarteri a phŵer cymhwysedd cyffredinol. Bydd yr Aelodau yn nodi fy mod yn cytuno â'r rhain ac yn ceisio gweithredu neu'n cefnogi partneriaid i weithredu fel y bo'n briodol.
Byddaf yn parhau i ystyried adroddiad y pwyllgor, ochr yn ochr â'm hystyriaeth o adroddiad iechyd democrataidd y sector ac adroddiad Archwilio Cymru ar reolaeth ariannol a llywodraethiant y sector. Mae'r dogfennau hyn yn darparu mewnwelediad hanfodol a byddant yn llywio ein hymdrechion parhaus i wella llywodraethiant, atebolrwydd a rheolaeth ariannol ar draws ein cynghorau tref a chymuned. Mae'r amser i werthuso'n drylwyr a phenderfynu ar gamau gweithredu ar gyfer y sector yn gwneud hwn yn waith pwysig, gan nodi y bydd angen i'r Llywodraeth nesaf ei ystyried. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl.
I call on John Griffiths to reply to the debate.
Diolch unwaith eto, Llywydd dros dro.
Thank you very much, Llywydd dros dro.
May I thank Members for their contribution to the debate? It's really good, isn't it, to have that input drawn from personal experience of Members who are or have been members of town and community councils, because I think, obviously, that puts them in a very good position to understand the issues and, indeed, understand the possible solutions. So, in that context, it's very good, I think, to reflect on the debate and the general consensus, I think, as I say, not just on the issues, but the responses that are appropriate, because I think that does stand us in good stead here in the Senedd, and the Cabinet Secretary in taking the recommendations forward, with that broad support here in the Senedd for the report and its conclusions.
I think it's good to have examples as well, isn't it? So, it's good to hear Siân Gwenllian talk about Ogwen valley, and the clustering and collaboration that is effected there, because, although there is a lot of variation in the role and the size and the capacity of town and community councils, very often, where we see good practice, it will be possible, I think, to spread that to other parts of Wales. So, it’s very good to have those examples identified, and also to see, I think, a general appreciation of the importance of the principal authorities and what they can bring to the table, whether it's the digital support and resource that Members mentioned, or the role of their monitoring officers in dealing with those significant issues around conduct that can be and sometimes have been very damaging to the town and community council sector and perceptions in the general public of the work that they do and the role that they carry out.
I also think it's very important to reflect on what Members said about the importance of having that closest to the ground tier of local democracy functioning well and supported as effectively as possible, because I think we're all aware, aren't we, of the challenge to engage communities in politics. They say all politics is local, and, to a large extent, I think that's true. If we're going to get effective addressing of that sense of alienation and disengagement with the political process that we see, obviously not just in Wales but across much of the world, unfortunately, it has to start, I think, at that very local level. So, there's a very real role for town and community councils to convince their local communities that engagement with the political process is worthwhile, is important and does produce results. Where we see town and community councils working well, I think we do see that effect amongst their local populations. The challenge then, I think, is to carry that forward to other levels of government.
So, these are really important issues. They really do matter to our local communities right across Wales. Now that we have, I think, a broad consensus of what the issues are and the work that needs to be done, and not just from this report and its conclusions, but, as the Cabinet Secretary rightly mentioned, other important reports and other important work in train, I think that does stand us in good stead to take forward necessary work. As others also said, the acid test, of course, is in implementation. So, I think we all look forward now to seeing that implementation taking place on the ground. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl? Mae'n dda iawn cael y mewnbwn o brofiad personol Aelodau sydd, neu sydd wedi bod yn aelodau o gynghorau tref a chymuned, oherwydd rwy'n credu, yn amlwg, fod hynny'n eu rhoi mewn sefyllfa dda iawn i ddeall y materion sy'n codi, ac yn wir, i ddeall yr atebion posibl. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, mae'n dda iawn myfyrio ar y ddadl a'r consensws cyffredinol, fel y dywedais, nid ar y materion sy'n codi yn unig, ond ar yr ymatebion sy'n briodol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n werthfawr i ni yma yn y Senedd, ac i Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddi ddatblygu'r argymhellion, gyda'r gefnogaeth eang yma yn y Senedd i'r adroddiad a'i gasgliadau.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n dda cael enghreifftiau hefyd, onid yw? Felly, mae'n dda clywed Siân Gwenllian yn siarad am ddyffryn Ogwen, a'r clystyru a'r cydweithio sy'n digwydd yno, oherwydd er bod llawer o amrywiaeth yn rôl a maint a chapasiti cynghorau tref a chymuned, yn aml iawn, lle gwelwn arfer da, fe fydd yn bosibl lledaenu hynny i rannau eraill o Gymru. Felly, mae'n dda iawn cael yr enghreifftiau hynny wedi'u nodi, a gweld gwerthfawrogiad cyffredinol o bwysigrwydd y prif awdurdodau a'r hyn y gallant hwy ei gynnig, boed hynny'n gefnogaeth ddigidol a'r adnoddau y soniwyd amdanynt, neu rôl eu swyddogion monitro yn mynd i'r afael â materion arwyddocaol yn ymwneud ag ymddygiad a all fod, ac sydd wedi bod ar adegau yn niweidiol iawn i'r sector cynghorau tref a chymuned a chanfyddiadau'r cyhoedd o'r gwaith a wnânt a'r rôl a gyflawnant.
Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig iawn myfyrio ar yr hyn a ddywedodd yr Aelodau am bwysigrwydd cael yr haen agosaf at y ddaear o ddemocratiaeth leol yn gweithredu'n dda ac wedi ei chefnogi mor effeithiol â phosibl, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r her i ennyn diddordeb cymunedau mewn gwleidyddiaeth. Maent yn dweud bod pob gwleidyddiaeth yn lleol, ac i raddau helaeth, rwy'n credu bod hynny'n wir. Os ydym am fynd i'r afael yn effeithiol â'r ymdeimlad o ddieithrio a datgysylltiad o'r broses wleidyddol a welwn, nid yn unig yng Nghymru wrth gwrs, ond ar draws llawer o'r byd yn anffodus, mae'n rhaid iddo ddechrau ar y lefel leol hon. Felly, mae yna rôl real iawn i gynghorau tref a chymuned ei chwarae i argyhoeddi eu cymunedau lleol fod ymgysylltu â'r broses wleidyddol yn werth chweil, yn bwysig ac yn cynhyrchu canlyniadau. Lle gwelwn gynghorau tref a chymuned yn gweithio'n dda, rwy'n credu ein bod ni'n gweld yr effaith honno ymhlith eu poblogaethau lleol. Yr her wedyn yw trosglwyddo hynny i lefelau eraill o lywodraeth.
Felly, mae'r rhain yn faterion pwysig iawn. Maent yn wirioneddol bwysig i'n cymunedau lleol ledled Cymru. Gan fod gennym bellach gonsensws eang o beth yw'r materion sy'n codi a'r gwaith sydd angen ei wneud, ac nid o'r adroddiad hwn a'i gasgliadau'n unig, ond fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir ddigon, o adroddiadau pwysig eraill a gwaith pwysig arall sydd ar y gweill, rwy'n credu bod hynny o fudd wrth inni fwrw ymlaen â gwaith angenrheidiol. Fel y dywedodd eraill hefyd, y prawf asid, wrth gwrs, fydd ei weithrediad. Felly, rwy'n credu ein bod i gyd yn edrych ymlaen nawr at weld gweithredu'n digwydd ar lawr gwlad. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Fe symudwn ni ymlaen felly i eitem 6, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar 'Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2024', a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Delyth Jewell.
We'll move on, therefore, to item 6, a debate on the Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee's report, 'International Relations Annual Report 2024', and I call on the Chair of the committee to move the motion—Delyth Jewell.
Cynnig NDM8904 Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2024’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2025.
Motion NDM8904 Delyth Jewell
To propose that the Senedd:
Notes the report of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee ‘International Relations Annual Report 2024’, which was laid in the Table Office on 14 March 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae'n bleser gen i agor y ddadl heddiw. Hoffwn i ddiolch i dîm fy mhwyllgor ac i'r holl aelodau am y gwaith maen nhw yn ei wneud, a'r rhai sydd yn rhoi tystiolaeth i ni. Mae e'n siomedig nad ydy'r Prif Weinidog yma i ymateb i'r ddadl. Rwy'n deall, wrth gwrs, os oes rhesymau, byddem ni yn deall y rheini, er ein bod ni heb eu clywed, ond mae e yn anffodus. Rwy'n gobeithio bydd y Trefnydd yn gallu ymateb i'n pwyntiau ni.
Gwnaethom ni wyth o argymhellion yn yr adroddiad yma. Er bod chwech argymhelliad wedi cael eu derbyn, dydy'r naratif sy'n dod ohonynt ddim yn rhoi llawer o hyder i'n pwyllgor y bydd y Llywodraeth, yn ystod 10 mis olaf y chweched Senedd, yn cymryd y camau rydym ni wedi bod yn galw amdanynt dro ar ôl tro, i gael rhagor o wybodaeth, a gwella'r wybodaeth, hefyd, sydd ar gael inni fel pwyllgor, ac sydd wedi ei chyhoeddi, fel tystiolaeth o gyflawni'r strategaeth ryngwladol.
Thank you, Dirprwy Lywydd dros dro, and it's my pleasure to open this debate today, and I'd like to thank my committee team and all the members for the work that they do, and also those who gave evidence to us. It is disappointing that the First Minister is not here to respond to the debate. I do understand, of course, if there are reasons, and we would understand those, although we haven't heard what they are, but it is unfortunate. I do hope that the Trefnydd will be able to respond to our points.
We did make eight recommendations in this report. While six recommendations were accepted, the accompanying narrative does little to give our committee confidence that the Government, in the final 10 months of the sixth Senedd, will take the steps that we have repeatedly called for, to significantly increase and improve the information that is available to us as a committee, and that is published, as evidence of the delivery of the international strategy.
Again, we note the Welsh Government's decision to accept our first recommendation in principle, whilst the accompanying narrative response contradicts that acceptance. Our committee called for progress updates on the 270 actions listed in the international strategy and its accompanying action plans. We do welcome the First Minister's commitment to provide an update against the 15 key aims set out in the international delivery plan, but this does not constitute an acceptance of our recommendation. Indeed, the approach the Welsh Government is taking here does rather undermine accountability. I think the lack of detailed progress reporting on the full range of actions also hampers our ability to scrutinise the delivery of the international strategy effectively.
In our report, we expressed concern about the continued lack of detail in the evidence that was provided for the draft budget. The information submitted fell below the standard we not only expect, but have consistently called for in previous years. It is incumbent upon the Welsh Government to provide this detail—this robust and transparent written submission to us as a committee. These must include clear articulation of intended outputs, measurable outcomes, demonstrable impact and value for money.
Now, it is regrettable that the First Minister's decision not to attend our committee in person to give oral evidence, coupled with this lack of essential detail in written evidence, has undermined our ability to carry out meaningful scrutiny. That is something I hope very much will change in the future.
Next, I would turn to the international strategy. Since 2023, we have discussed the future of the Welsh Government's international relations strategy beyond 2025 with both former First Ministers. Mark Drakeford firstly committed to refreshing the strategy in this year, and Vaughan Gething later confirmed that work on this refresh was under way. Now, importantly, both former First Ministers pledged to involve our committee in this process.
In November, the First Minister confirmed a fundamental shift in approach to the anticipated refresh of the strategy that had been promised by her predecessors. Instead of a refresh, on 3 April the First Minister published a delivery plan, outlining 15 key aims for delivery in the time remaining before the next election. Our committee was pleased to receive a technical briefing on that plan on 2 April, and we do welcome the Government's commitment to build into its annual reports an update on progress against the key priorities it sets out, but important commitments made to our committee in terms of involvement have been rolled back.
Despite the initial indications, the delivery plan has not replaced the international strategy. Both run in parallel, and that has created confusion. The 15 key priorities are also not aligned with the strategy's core aims or actions, and that has left the relationship between them unclear. This lack of coherence undermines, again, accountability, and makes effective scrutiny all the more difficult.
As we published our latest annual report, we launched a new inquiry on the future of the Welsh Government's international relations strategy. Other stakeholders, too, have faced similar challenges in trying to get a sense of the relationship between the strategy and the delivery plan. Our committee continues to take evidence for this inquiry, and we will closely monitor the progress on delivery for the remainder of the Senedd.
We have also called on the Welsh Government to provide a list of the methods it uses to report on outcomes. It is disappointing that the response we received simply repeats the methods already familiar to our committee and refers to internal monitoring processes that don't, I'm afraid, offer transparency in any meaningful way.
We have called on the Welsh Government to publish a complete and up-to-date list of Wales's international bilateral agreements on a dedicated webpage. I would say that that is not an extraordinary request. These agreements carry real-world consequences that affect our ties to other places in important areas of co-operation, like education, the environment and our daily lives.
There is so much good work that is happening, Dirprwy Lywydd dros dro, that should be celebrated and that should be known about more widely. The reason why this transparency is so crucial is because the work is so vital. As a committee, we want to celebrate successes as well as highlighting what needs to change. Advancing Wales's presence on the world stage is of vital importance. We have a fantastic story to tell; more people should be hearing it. As I said in my foreword to the report,
'Our nation has a long history of contact with other peoples and other places. Our geography...at the edge of a continent, demands that we not only embrace these connections, but take them for granted at our peril.'
We are, in Philip King's words, 'an edgy people', and our focus as we look to those connections will always lead us homewards, for, to quote that other Irishman, that other Celt, Joyce, the
'Longest way round is the shortest way home'.
So, let's do all we can to champion the passion and the enthusiasm that underpins so much of that journeying to ensure that those connections are neither lost nor ever left to chance.
Unwaith eto, nodwn benderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor, tra bod yr ymateb naratif cysylltiedig yn gwrth-ddweud y derbyniad hwnnw. Galwodd ein pwyllgor am ddiweddariadau cynnydd ar y 270 o gamau gweithredu a restrir yn y strategaeth ryngwladol a'i chynlluniau gweithredu cysylltiedig. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu diweddariad yn erbyn y 15 nod allweddol a nodir yn y cynllun cyflawni rhyngwladol, ond nid yw hyn yn gyfystyr â derbyn ein hargymhelliad. Yn wir, mae'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio yma yn tanseilio atebolrwydd. Rwy'n credu bod y diffyg adroddiadau cynnydd manwl ar yr ystod lawn o gamau gweithredu hefyd yn rhwystro ein gallu i graffu ar gyflawniad effeithiol y strategaeth ryngwladol.
Yn ein hadroddiad, fe wnaethom fynegi pryder am y diffyg manylder parhaus yn y dystiolaeth a ddarparwyd ar gyfer y gyllideb ddrafft. Roedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn is na'r safon yr ydym nid yn unig yn ei disgwyl, ond y safon yr ydym wedi galw amdani'n gyson mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r manylion hyn—y cyflwyniad ysgrifenedig cadarn a thryloyw hwn i ni fel pwyllgor. Rhaid i'r rhain gynnwys mynegiant clir o allbynnau arfaethedig, canlyniadau mesuradwy, effaith arddangosadwy a gwerth am arian.
Nawr, mae'n anffodus fod penderfyniad y Prif Weinidog i beidio â mynychu ein pwyllgor yn y cnawd i roi tystiolaeth lafar, ynghyd â'r diffyg manylion hanfodol mewn tystiolaeth ysgrifenedig, wedi tanseilio ein gallu i graffu'n ystyrlon. Mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf yn fawr y bydd yn newid yn y dyfodol.
Nesaf, rwyf am droi at y strategaeth ryngwladol. Ers 2023, rydym wedi trafod dyfodol strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru y tu hwnt i 2025 gyda'r ddau gyn-Brif Weinidog. Yn gyntaf, ymrwymodd Mark Drakeford i ddiweddaru'r strategaeth eleni, a chadarnhaodd Vaughan Gething yn ddiweddarach fod gwaith ar y diweddariad ar y gweill. Nawr, yn bwysig, addawodd y ddau gyn-Brif Weinidog gynnwys ein pwyllgor yn y broses hon.
Ym mis Tachwedd, cadarnhaodd y Prif Weinidog newid sylfaenol yn y dull o ddiweddaru'r strategaeth a addawyd gan ei rhagflaenwyr. Yn hytrach na diweddaru, ar 3 Ebrill cyhoeddodd y Prif Weinidog gynllun cyflawni, yn amlinellu 15 nod allweddol i'w cyflawni yn yr amser sy'n weddill cyn yr etholiad nesaf. Roedd ein pwyllgor yn falch o dderbyn briff technegol ar y cynllun hwnnw ar 2 Ebrill, ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gynnwys diweddariad ar gynnydd yn erbyn y blaenoriaethau allweddol y mae'n eu nodi yn ei hadroddiadau blynyddol, ond mae ymrwymiadau pwysig a wnaed i'n pwyllgor ar gyfranogiad wedi'u tynnu'n ôl.
Er gwaethaf yr arwyddion cychwynnol, nid yw'r cynllun cyflawni wedi cymryd lle'r strategaeth ryngwladol. Mae'r ddau'n rhedeg yn gyfochrog, ac mae hynny wedi creu dryswch. Hefyd, nid yw'r 15 blaenoriaeth allweddol yn cyd-fynd â nodau neu gamau gweithredu craidd y strategaeth, ac mae hynny wedi gwneud y berthynas rhyngddynt yn aneglur. Unwaith eto, mae'r diffyg cydlyniant hwn yn tanseilio atebolrwydd ac yn gwneud craffu effeithiol hyd yn oed yn anos.
Wrth inni gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol diweddaraf, fe wnaethom lansio ymchwiliad newydd ar ddyfodol strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Mae rhanddeiliaid eraill hefyd wedi wynebu heriau tebyg wrth geisio cael syniad o'r berthynas rhwng y strategaeth a'r cynllun cyflawni. Mae ein pwyllgor yn parhau i gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn, a byddwn yn monitro'n agos y cynnydd ar gyflawni dros weddill tymor y Senedd.
Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhestr o'r dulliau y mae'n eu defnyddio i adrodd ar ganlyniadau. Mae'n siomedig nad yw'r ymateb a gawsom ond yn ailadrodd y dulliau sydd eisoes yn gyfarwydd i'n pwyllgor a'i fod yn cyfeirio at brosesau monitro mewnol yr ofnaf nad ydynt yn cynnig tryloywder mewn unrhyw ffordd ystyrlon.
Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhestr gyflawn a chyfredol o gytundebau dwyochrog rhyngwladol Cymru ar dudalen we bwrpasol. Ni fyddwn yn dweud bod hwnnw'n gais allan o'r cyffredin. Mae'r cytundebau hyn yn creu canlyniadau yn y byd real sy'n effeithio ar ein cysylltiadau â lleoedd eraill mewn meysydd cydweithredu pwysig, fel addysg, yr amgylchedd a'n bywydau bob dydd.
Ddirprwy Lywydd dros dro, mae cymaint o waith da'n digwydd y dylid ei ddathlu ac y dylid gwybod amdano'n ehangach. Y rheswm pam y mae'r tryloywder hwn mor hanfodol yw oherwydd bod y gwaith mor hanfodol. Fel pwyllgor, rydym am ddathlu llwyddiannau yn ogystal â thynnu sylw at yr hyn sydd angen ei newid. Mae hyrwyddo presenoldeb Cymru ar lwyfan y byd yn hanfodol bwysig. Mae gennym stori wych i'w hadrodd; dylai mwy o bobl ei chlywed. Fel y dywedais yn fy rhagair i'r adroddiad,
'Mae gan ein cenedl hanes hir o gysylltiad â phobloedd eraill a lleoedd eraill. Mae ein daearyddiaeth...ar gyrion cyfandir, yn mynnu ein bod yn cofleidio’r cysylltiadau hyn, ond gochelwn rhag y perygl o’u cymryd yn ganiataol.'
Yng ngeiriau Philip King, rydym yn bobl 'edgy', a bydd ein ffocws wrth inni edrych ar y cysylltiadau hynny bob amser yn ein harwain tuag adref, oherwydd, i ddyfynnu'r Gwyddel arall hwnnw, y Celt arall hwnnw, Joyce,
'Y ffordd hiraf o amgylch yw'r ffordd fyrraf adref'.
Felly, gadewch inni wneud popeth a allwn i hyrwyddo'r angerdd a'r brwdfrydedd sy'n sail i gymaint o'r teithio er mwyn sicrhau nad yw'r cysylltiadau hynny'n cael eu colli nac ond yn digwydd ar hap.
Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill yn y ddadl yma y prynhawn yma ac i glywed gan y Llywodraeth, yn absenoldeb y Prif Weinidog.
I look forward to hearing the views of other Members during this afternoon's debate and to hear from the Government, in the absence of the First Minister.
It's a pleasure to take part in this debate this afternoon. I welcome this opportunity to speak on the 'International Relations Annual Report 2024', and I thank the committee for its detailed work. This report is a timely examination of a policy area that, while growing in profile, raises serious questions about focus, accountability and constitutional overreach.
Let me start with a fundamental point: international relations are not devolved. They are, and must remain, the responsibility of the UK Government, and the Welsh Government needs to remember that this is part of the devolution settlement. And in response to recommendation 4, the Welsh Government implies that the rationale for the name change is due to the growth in this policy area, which is slightly concerning. Abiding by the devolution settlement ensures that Wales acts as part of a cohesive UK foreign policy and that we avoid confusing or even conflicting signals on the world stage.
I note recommendations 5 and 6 in the report, which urge clarity around the nature and status of bilateral agreements being struck by the Welsh Government. I share that need for clarity. When Ministers enter into an agreement with the Basque Country, Catalonia or Quebec, regions with active separatist movements, we must ask whether this is diplomatically wise or constitutionally appropriate. What message does that send to the Governments of Spain or Canada, for example, two of our long-standing allies with their own constitutional challenges? The Welsh Government must tread carefully. We should be building bridges, not aligning ourselves with separatist causes that could risk long-term damage to our international reputation and diplomatic relationships.
The second issue, Llywydd dros dro, is cost. So, I want to ask the Cabinet Secretary what exactly are Welsh taxpayers getting in return for the 20 overseas offices at a cost of £4.684 million during 2024, and I fear that that answer would be, 'very little'. And that is why the Welsh Conservatives support shutting down overseas offices and redirecting the money back to front-line services, where it is needed most. This network is expensive and, in far too many cases, it appears to be duplicating work already being done by UK embassies and trade commissioners. And this doesn't appear like value for money and, at a time of economic pressure at home, when public services across Wales are crying out for support, we should be asking if this is the best use of limited funds.
That said, Llywydd dros dro, I do recognise the importance of Wales having a strong global identity, particularly when it comes to promoting trade, investment and education. If there is a redeeming priority in this international strategy, it must be the ambition to attract international investment into Wales. I would be grateful if the Welsh Government could provide real and measurable outcomes.
We also have an opportunity to tap into the Welsh diaspora, which I don't think is being fully fulfilled. So, I ask the Cabinet Secretary: where is the plan to engage our Welsh diaspora, our global network of entrepreneurs, creatives, scientists and academics as a genuine driver of investment and influence? The report only briefly touches on this in the context of soft power, but it is an untapped goldmine.
Also, Llywydd dros dro, I'd like to highlight the need for improved transparency and scrutiny of ministerial visits. I agree that every trip abroad should come with a public report on who was met, what was discussed and, crucially, what was achieved. The Welsh public deserve no less. Conclusion 6 in the committee's report highlights the contrast between the Welsh Government's and the Scottish Government's approach, and I think the Cabinet Secretary should consider adopting the publication of the same information on overseas visits that the Scottish Government does.
Regarding recommendation 8, the Welsh Conservatives support making St David's Day a bank holiday, so I am keen for an update from the Cabinet Secretary on how those negotiations are going with the UK Government.
In closing, Llywydd dros dro, international engagement done well can be an asset, but only when it is grounded in constitutional respect, clear purpose and measurable outcomes, and financial prudence. So, can the Cabinet Secretary outline whether the Welsh Government will consider replicating the same information the Scottish Government makes public regarding overseas visits, and can the Cabinet Secretary demonstrate value for money regarding the 20 overseas offices? And finally, with international investment being central to the strategy published five years ago, can the Welsh Government explain how the Welsh diaspora have been utilised for inward investment? Thank you very much.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad ar 'Adroddiad Blynyddol Cysylltiadau Rhyngwladol 2024', a diolch i'r pwyllgor am ei waith manwl. Mae'r adroddiad hwn yn archwiliad amserol o faes polisi sydd, er yn tyfu o ran ei broffil, yn codi cwestiynau difrifol am ffocws, atebolrwydd a gorgyrraedd cyfansoddiadol.
Gadewch imi ddechrau gyda phwynt sylfaenol: nid yw cysylltiadau rhyngwladol wedi eu datganoli. Maent yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid iddynt barhau i fod felly, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gofio bod hyn yn rhan o'r setliad datganoli. Ac mewn ymateb i argymhelliad 4, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y rhesymeg dros y newid enw yn deillio o dwf yn y maes polisi hwn, sydd ychydig yn bryderus. Mae glynu at y setliad datganoli yn sicrhau bod Cymru yn gweithredu'n rhan o bolisi tramor cydlynol y DU a'n bod yn osgoi negeseuon sy'n ddryslyd, neu sy'n gwrthdaro hyd yn oed, ar lwyfan y byd.
Nodaf argymhellion 5 a 6 yn yr adroddiad, sy'n annog eglurder ynghylch natur a statws cytundebau dwyochrog a gaiff eu cytuno gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n rhannu'r angen am eglurder. Pan fydd Gweinidogion yn ymrwymo i gytundeb gyda Gwlad y Basg, Catalwnia neu Quebec, rhanbarthau gyda mudiadau ymwahanol gweithredol, rhaid inni ofyn a yw hyn yn ddoeth yn ddiplomyddol neu'n gyfansoddiadol briodol. Pa neges y mae hynny'n ei anfon i Lywodraethau Sbaen neu Ganada, er enghraifft, dau o'n cynghreiriaid hirsefydlog gyda'u heriau cyfansoddiadol eu hunain? Rhaid i Lywodraeth Cymru droedio'n ofalus. Dylem fod yn adeiladu pontydd, nid alinio ein hunain ag achosion ymwahanol a allai greu risg o niwed hirdymor i'n henw da rhyngwladol a'n cysylltiadau diplomyddol.
Yr ail fater, Lywydd dros dro, yw cost. Felly, rwyf am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet beth yn union y mae trethdalwyr Cymru yn ei gael yn gyfnewid am yr 20 swyddfa dramor ar gost o £4.684 miliwn yn ystod 2024, ac rwy'n ofni mai'r ateb yw, 'ychydig iawn'. A dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cau swyddfeydd tramor ac ailgyfeirio'r arian yn ôl i wasanaethau rheng flaen, lle mae ei angen fwyaf. Mae'r rhwydwaith hwn yn ddrud ac mewn llawer gormod o achosion, mae'n ymddangos ei fod yn dyblygu gwaith a wneir eisoes gan lysgenadaethau a chomisiynwyr masnach y DU. Ac nid yw'n ymddangos yn werth am arian ac ar adeg o bwysau economaidd gartref, pan fo gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn crefu am gymorth, dylem fod yn gofyn ai dyma'r defnydd gorau o arian cyfyngedig.
Wedi dweud hynny, Lywydd dros dro, rwy'n cydnabod ei bod hi'n bwysig i Gymru gael hunaniaeth fyd-eang gref, yn enwedig er mwyn hyrwyddo masnach, buddsoddiad ac addysg. Os oes unrhyw flaenoriaeth achubol yn y strategaeth ryngwladol hon, rhaid mai'r uchelgais i ddenu buddsoddiad rhyngwladol i Gymru yw honno. Hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu darparu canlyniadau real a mesuradwy.
Mae gennym gyfle hefyd i fanteisio ar y diaspora Cymreig, gwaith nad wyf yn credu ei fod yn cael ei gyflawni'n llawn. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: ble mae'r cynllun i ymgysylltu â'n diaspora Cymreig, ein rhwydwaith byd-eang o entrepreneuriaid, pobl greadigol, gwyddonwyr ac academyddion fel ysgogiad gwirioneddol i fuddsoddiad a dylanwad? Mae'r adroddiad yn cyffwrdd â hyn yn fyr yng nghyd-destun pŵer meddal, ond mae'n drysorfa na chaiff ei defnyddio.
Hefyd, Lywydd dros dro, hoffwn dynnu sylw at yr angen am well tryloywder a chraffu ar ymweliadau gweinidogol. Rwy'n cytuno y dylai pob taith dramor ddod gydag adroddiad cyhoeddus ar bwy y cyfarfuwyd â hwy, beth a drafodwyd, ac yn hollbwysig, beth a gyflawnwyd. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu hynny. Mae casgliad 6 yn adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at y cyferbyniad rhwng dull Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban o weithredu, ac rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried mabwysiadu'r arfer o gyhoeddi'r un wybodaeth ar ymweliadau tramor ag y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud.
Ar argymhelliad 8, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc, felly rwy'n awyddus i gael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y mae'r trafodaethau hynny'n mynd gyda Llywodraeth y DU.
I gloi, Lywydd dros dro, gall cysylltiadau rhyngwladol a wneir yn dda fod yn ased, ond nid heb eu seilio ar barch cyfansoddiadol, pwrpas clir a chanlyniadau mesuradwy, a darbodusrwydd ariannol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ailadrodd yr un wybodaeth ag y mae Llywodraeth yr Alban yn ei chyhoeddi ynglŷn ag ymweliadau tramor, ac a all Ysgrifennydd y Cabinet ddangos gwerth am arian mewn perthynas â'r 20 swyddfa dramor? Ac yn olaf, gyda buddsoddiad rhyngwladol yn ganolog i'r strategaeth a gyhoeddwyd bum mlynedd yn ôl, a all Llywodraeth Cymru esbonio sut y defnyddiwyd y diaspora Cymreig ar gyfer mewnfuddsoddi? Diolch.
A gaf i ddiolch, fel aelod o’r pwyllgor, i’m cyd-Aelodau a’r clercod am eu gwaith yn cefnogi’r adroddiad hwn?
Rydw innau’n ategu nifer o’r pwyntiau a godwyd gan y Cadeirydd am ein rhwystredigaeth ni fel pwyllgor ynglŷn â pha mor anodd ydy craffu’r maes hwn. Buaswn i hefyd yn hoffi mynegi fy siom nad ydy'r Prif Weinidog yma i ymateb i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'n anodd iawn cael yr amser i drafod maes sydd yn gyfrifoldeb i'r Prif Weinidog, felly i beidio â chael y Prif Weinidog yma heddiw, a ninnau’n gwybod bod y ddadl yma'n digwydd, mae o'n rhwystredig dros ben. Oherwydd nid yn unig y mae cysylltiadau rhyngwladol yn rhan o’i phortffolio, ond mewn cyfnod o ansefydlogrwydd rhyngwladol, mi fyddai wedi bod yn dda gweld y Prif Weinidog yn manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl ac amlinellu'n glir safbwynt Llywodraeth Cymru ar ganfyddiadau'r adroddiad.
Fel plaid sydd â hanes hir o wthio am ddyfnhau safle Cymru o fewn y gymuned ryngwladol, mae perthynas Cymru gyda gweddill y byd, boed yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn addysgol neu yn wleidyddol, yn bwysig i ni ar y meinciau yma. Ac fel soniais yn gynt, mewn cyfnod o ansefydlogrwydd cynyddol, a gyda heddwch o fewn a rhwng gwledydd a draws y byd mor fregus, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni yma yng Nghymru yn parhau i chwarae ein rhan fel aelod o'r gymuned ryngwladol ac yn cydsefyll â'n cymheiriaid ledled y byd sydd yn wynebu erchyllterau.
Wrth droi at rai o ganfyddiadau'r adroddiad, mi oedd hi’n siomedig gweld yn glir fod tangyflawni wedi bod gan Lywodraeth Cymru yn y maes yma dros y flwyddyn diwethaf. A thra fy mod i'n falch o weld cynllun gweithredu newydd yn ei le o'r diwedd, prin iawn ydy'r manylder ar hyn o bryd, ac mae absenoldeb targedau a cherrig milltir clir yn dilyn patrwm truenus o fewn cynlluniau Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Wn i ddim faint o weithiau, wrth graffu ar y maes yma, rydym ni wedi gofyn am y manylion a methu â'u cael nhw. Mae'n amhosib i bwyllgor wneud craffu effeithiol heb dryloywder llwyr gan y Llywodraeth.
O ran beth sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun, mae yna elfennau, wrth gwrs, y gallwn ni eu croesawu a chytuno arnyn nhw hefyd. Un o'r rheini ydy’r angen i hybu proffil Cymru er mwyn denu buddsoddiad drwy ddigwyddiadau, fel ymddangosiad hanesyddol tîm merched pêl-droed Cymru yn yr Ewros eleni, er enghraifft. Mi fyddwn i'n ddiolchgar, felly, am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar eu cynlluniau o gwmpas hynny, ac yn benodol o ran pa wersi maen nhw wedi eu dysgu o gystadlaethau rhyngwladol yn y gorffennol.
Dwi’n siŵr bod nifer ohonom ni'n cofio gwylio'r Ewros yn Ffrainc yn 2016, neu rhai ohonom ni wedi bod yn ddigon ffodus i fod yna, lle tra bod Cymru'n cael ei chynrychioli'n gampus ar y cae, doedd presenoldeb Cymru oddi ar y cae ddim mor haeddiannol ac amlwg. Mae angen dysgu o'r gorffennol er mwyn sicrhau bod ein cymdogion Ewropeaidd yn gweld Cymru a phopeth sydd gennym ni i’w gynnig ar eu gorau, a’n bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleon mae platfform o'r fath yn ei ddarparu, nid dim ond yn rhyngwladol, ond hefyd yma yng Nghymru, i ysgogi pobl, er enghraifft, i fod yn ymwneud efo chwaraeon. Mae'n rhan bwysig o strategaeth ataliol Llywodraeth Cymru hefyd.
Mae'r adroddiad hefyd yn canfod bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gryfhau cysylltiadau Ewropeaidd, sydd yn amserol iawn o ystyried y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Llun, ond mae’n pryderon ni ar y meinciau yma am y diffyg mewnbwn a gafodd y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn y sgyrsiau yna yn parhau. Mae nifer o’r meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb yn feysydd datganoledig, ac mae’n hanfodol felly bod gan Gymru sedd o gwmpas y bwrdd mewn unrhyw drafodaethau, er mwyn gallu dylanwadu arnyn nhw. Mi wnes i ofyn ddoe am gyfle i ni drafod hwn yn benodol yn bellach, a byddwn i yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi'r cyfle hwnnw ac i'r Prif Weinidog fod yn bresennol ar gyfer hynny, unwaith rydyn ni'n dychwelyd ar ôl y toriad.
Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig ein bod ni'n cael cadarnhad ynglŷn â barn y Llywodraeth, a fynegodd y Prif Weinidog yn y gorffennol, ynghylch a ddylai'r Deyrnas Unedig ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. Byddwn i yn hoffi gwybod safbwynt y Llywodraeth ar hynny.
Ac i gloi, wrth gwrs, fedrwn ni ddim trafod materion rhyngwladol heb adlewyrchu ar yr erchyllterau di-baid yn Gaza. Mi wnaethon ni ym mis Chwefror gyflwyno dadl yn galw am gadoediad parhaol, rhyddhad pob un gwystl ac i gymorth dynol gael ei adael i mewn i’r diriogaeth heb rwystr. Mae'n rhaid i ni adleisio’r galwadau yma ac uno efo pawb sydd yn gwneud yr un galwadau. Mi fyddai datganiad swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi’r gydnabyddiaeth i wladwriaeth Palesteina yn bwerus, ac yn datgan yn glir ein cydsafiad cadarn gyda phobl Palesteina. Mae gennym ni ddyletswydd ryngwladol, ac mae'n rhaid i ni ddangos arweiniad ar adegau fel hyn.
Could I also thank, as a member of the committee, my fellow committee members and the clerks for their work in supporting this report?
I echo a number of the points that were raised by the Chair in terms of our frustration as a committee about how difficult it is to scrutinise this area. I'd also like to express my disappointment that the First Minister is not here to respond to this debate this afternoon. It's very difficult to have the time to discuss an area that is the responsibility of the First Minister, so not having the First Minister here today, given that we knew that this debate was happening, is very frustrating. Because not only are international relations part of her portfolio, but in a period of international instability, it would have been good to see the First Minister taking advantage of the opportunity to participate in the debate and clearly outlining the Welsh Government's position on the report's findings.
As a party with a long history of pushing for deepening Wales's position within the international community, Wales's relationship with the rest of the world, whether economic, cultural, educational or political, is important to us on these benches. And as I mentioned earlier, in a time of increasing instability, and with peace within and between countries across the world so fragile, it is more important than ever that we here in Wales continue to play our part as a member of the international community and stand together with our allies across the world who are facing atrocities.
Turning to some of the report's findings, it was disappointing to see that the Welsh Government has been underachieving in this area over the past year. And while I am pleased to see a new action plan in place at last, there is very little detail at the moment, and the absence of clear targets and milestones follows a sorry pattern in respect of plans issued by the Welsh Government over the past few years. I don't know how many times, when scrutinising this area, we've asked for the details and have failed to receive them. It's impossible for a committee to undertake effective scrutiny without total transparency from the Government.
In terms of what's included in the plan, there are elements, of course, that we can welcome and on which we agree. One of those is the need to boost Wales's profile in order to attract investment through events, such as the historic appearance of the Welsh women's football team at the Euros this year, for example. I would therefore be grateful for more information from the Welsh Government regarding its plans around that, and specifically the lessons it has learned from past international tournaments.
I'm sure that many of us remember watching the Euros in France in 2016, or some of us were fortunate enough to have been there, and while Wales was represented brilliantly on the field, Wales's presence off the field was not as deserving of praise and not so prominent. We need to learn from the past to ensure that our European neighbours see Wales and everything that we have to offer at their best, and that we take the greatest opportunity that such a platform offers, not only internationally, but here in Wales, to encourage people, for example, to engage in sports. It's a very important part of the preventative strategy of the Welsh Government as well.
The report also finds that the Welsh Government needs to do more to strengthen European ties, which is very timely, given the announcement made by the UK Government on Monday, but our concerns on these benches surrounding the lack of input that the First Minister and the Welsh Government had in those conversations remain. Many of the areas included in the agreement are devolved areas, and it's therefore essential that Wales has a seat around the table in any negotiations, in order to be able to influence them. I asked yesterday for an opportunity to discuss this specifically, and I would ask the Welsh Government to provide that opportunity, and for the First Minister to be present for that, after we return after the recess.
I think that it's also important that we do receive confirmation about the Government's view, which the First Minister expressed previously, on whether the United Kingdom should rejoin the single market and the customs union. I'd like to know the Government's position on that.
To conclude, we can't discuss international issues without reflecting on the relentless atrocities in Gaza. In February, we brought forward a debate calling for an immediate ceasefire and for the release of all hostages and for humanitarian aid to be allowed into the territory unimpeded. We have to echo these calls again today and unite with everyone making those same calls. An official statement by the Welsh Government recognising the state of Palestine would be powerful and would clearly state our firm solidarity with the Palestinian people. We have an international duty, and we have to show leadership at times like this.
I'm grateful for the opportunity to take part in this debate. Like others, I'd like to start my remarks this afternoon by thanking colleagues on the committee who've all worked hard on this inquiry and also the committee secretariat who have provided first-class support for us in the work that we've sought to undertake.
I simply want to confine my remarks to just a few short points this afternoon, but I do believe it's important that we provide hard scrutiny, fair challenge to Government and that we have the opportunity to ensure that Welsh taxpayers' money is well spent and achieves the ambitions that I think many of us will share for the work in this field. But I will say that scrutiny doesn't just involve asking questions, it involves understanding, and what we've heard from the Conservative spokesperson this afternoon is a lack of understanding, a lack of knowledge and a lack of integrity in seeking to understand the subject area.
It's the easiest thing in the world to come to this place and read out a speech without understanding the content, but that is neither scrutiny nor is it a contribution to the democracy in this place. This Parliament and our people deserve better from the Conservative Party than that sort of approach and it is time, if the Conservatives see themselves as a serious party of governance, that they take seriously their role as an opposition. What we've seen this afternoon is another example of the Conservative Party failing at the first fence. If you cannot be a serious opposition, you have no opportunity to be a serious Government. Since I've mentioned the Conservative spokesperson, I must only give way to him.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Fel eraill, hoffwn ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma trwy ddiolch i gyd-aelodau o'r pwyllgor sydd i gyd wedi gweithio'n galed ar yr ymchwiliad hwn a hefyd ysgrifenyddiaeth y pwyllgor sydd wedi darparu cymorth o'r radd flaenaf i ni yn y gwaith yr ydym wedi ceisio ei wneud.
Rwyf am gyfyngu fy sylwadau i ychydig o bwyntiau byr y prynhawn yma, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn craffu'n galed, yn herio'r Llywodraeth yn deg a'n bod yn cael cyfle i sicrhau bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario'n dda ac yn cyflawni'r uchelgeisiau y credaf y bydd llawer ohonom yn eu rhannu ar gyfer y gwaith yn y maes hwn. Ond rwyf am ddweud bod craffu'n golygu mwy na gofyn cwestiynau'n unig, mae'n cynnwys dealltwriaeth, a'r hyn a glywsom gan lefarydd y Ceidwadwyr y prynhawn yma yw diffyg dealltwriaeth, diffyg gwybodaeth a diffyg uniondeb wrth geisio deall y maes pwnc.
Y peth hawsaf yn y byd yw dod i'r lle hwn a darllen araith heb ddeall y cynnwys, ond nid craffu yw hynny na chyfraniad i ddemocratiaeth yn y lle hwn. Mae'r Senedd hon a'n pobl yn haeddu gwell gan y Blaid Geidwadol nag ymagwedd o'r fath ac os yw'r Ceidwadwyr yn gweld eu hunain fel plaid a all lywodraethu go iawn, mae'n bryd iddynt fod o ddifrif ynglŷn â'u rôl fel gwrthblaid. Mae'r hyn a welsom y prynhawn yma yn enghraifft arall o'r Blaid Geidwadol yn methu o'r cychwyn cyntaf. Os na allwch fod yn wrthblaid go iawn, ni chewch gyfle i fod yn Llywodraeth go iawn. Gan fy mod wedi sôn am lefarydd y Ceidwadwyr, rhaid imi ildio iddo.
Well, it's more of a right of response, really, in the way that you've—. But do you actually seriously think that £4.684 million or something around that figure on overseas offices is acceptable? That is scrutiny. That is scrutiny of taxpayers' money that any Member of this Senedd can do. When it's a matter of public finances, it doesn't matter whether it's the Conservatives, Plaid Cymru or even you, Alun. It's the right of spokespersons of parties to make those representations that people contact us very frequently on. That's a matter of duty as elected Members of this Parliament, and you know that full well.
Wel, mae'n fwy o hawl i ymateb, mewn gwirionedd, yn y ffordd rydych chi'n—. Ond a ydych chi o ddifrif yn meddwl bod £4.684 miliwn neu rywbeth tebyg i'r ffigur hwnnw ar swyddfeydd tramor yn dderbyniol? Craffu yw hynny. Craffu ar arian trethdalwyr y gall unrhyw Aelod o'r Senedd hon ei wneud. Pan fo'n fater o gyllid cyhoeddus, nid oes ots ai'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru neu hyd yn oed chi, Alun, sy'n ei wneud. Hawl llefarwyr pleidiau yw gwneud y sylwadau y mae pobl yn cysylltu â ni'n aml iawn yn eu cylch. Mater o ddyletswydd fel Aelodau etholedig o'r Senedd hon yw hynny, ac rydych chi'n gwybod hynny'n iawn.
It's an opportunity for an intervention, not a speech, of course. But in terms of what I said, it's exactly that. Four point eight million pounds is actually particularly good value for that, and if you want us to follow the Scottish example, we'd be spending considerably more than that. If you actually visited one of those overseas offices—I don't know how many you've visited, you haven't visited any by the look of it—you'd actually understand what they're doing. We've got Zoom, we've got the means of doing this. You can sit in the office in Rhyl or here and speak to the people who work in there, but you haven't done that either. You haven't done that. You haven’t done the basic work to base your scrutiny on. I’m happy to give way if you have done that, but you haven’t, so there we go. We’re all able to do this. I’ve done that, and I’ve spoken to those people; I’ve spoken to them about the work they’re doing.
This is one of the points I wanted to make, acting Llywydd, in my remarks this afternoon, because I’ve spoken to those people working in those offices about what their programmes are, what their performance indicators are, what actions they’re actually undertaking and how they’ve achieved those objectives. I’ve done my work. I’ve done my homework before coming here, and I advise you to do the same. And what I learnt was that, actually, they were doing many of the things that you’ve just asked them to do. If you talk to the people in Washington, for example, about the work they’re doing with the Welsh diaspora there, they’re seeking out new opportunities to bring work and jobs to this country, to increase the profile of Wales in these places. It’s the work that we need done if Wales is to be taken seriously as a global nation. That is the work that is being undertaken by this Government.
What I want to do this afternoon is say that the international office network is essential to the work that is being undertaken by the Cabinet Secretary for the economy—and I’m glad she’s in the Chamber for this debate this afternoon—because that is essential to us achieving our wider economic ambitions and our ambitions as a country on the world stage. Our offices are fulfilling that function. I think they’re doing an exceptionally good job and I think they’re providing exceptional value, as well. We need to be able to say that. I say that on the basis of having scrutinised them and done the work.
But the major part of my contribution that I wanted to make this afternoon is about the developments of this week and how we want to take forward the relationship with the European Union. We’ve seen a serious and significant step improvement in our relationship with the European Union in the last few months, and we’ve seen a very serious summit and series of agreements signed this week. It is important, therefore, that the Welsh Government looks hard at what that means for Wales, and actually steps up its engagement with the institutions of the European Union.
I was able, last week, to speak in the European Parliament in Brussels as a representative from the UK contact group, speaking in the Committee of the Regions. What I was able to say there was that we want to put the disaster of Brexit behind us, but what we want to do is to deepen and strengthen our relationships and our structural relationships with the institutions of the EU. I would want the Cabinet Secretary and the Welsh Government to address that—[Interruption.] I did take a very long intervention from your colleague.
In conclusion, I would wish to say that it is important, as we enter the last year of this Senedd, that we produce a strategy for engagement with the EU that we can use to hold the Government to account but that the Government can use itself in order to strengthen and deepen its own engagement with the institutions of the European Union.
Cyfle i wneud ymyriad ydyw, nid araith. Ond o ran yr hyn a ddywedais, dyna'n union ydyw. Mae £4.8 miliwn o bunnoedd yn werth am arian arbennig o dda am hynny mewn gwirionedd, ac os ydych chi am inni ddilyn esiampl yr Alban, byddem yn gwario cryn dipyn yn fwy na hynny. Pe baech chi wedi ymweld ag un o'r swyddfeydd tramor hynny—nid wyf yn gwybod sawl un ohonynt rydych chi wedi ymweld â hwy, mae'n edrych yn debyg nad ydych wedi ymweld ag unrhyw un—byddech chi'n deall beth a wnânt. Mae gennym Zoom, mae gennym fodd o wneud hyn. Gallwch eistedd yn y swyddfa yn y Rhyl neu yma a siarad â'r bobl sy'n gweithio yno, ond nid ydych wedi gwneud hynny ychwaith. Nid ydych wedi gwneud hynny. Nid ydych wedi gwneud y gwaith sylfaenol i seilio eich craffu arno. Rwy'n hapus i ildio os ydych chi wedi gwneud hynny, ond nid ydych wedi gwneud hynny, felly dyna ni. Gallwn i gyd wneud hyn. Rwyf i wedi ei wneud, ac rwyf wedi siarad â'r bobl hynny; rwyf wedi siarad â hwy am y gwaith a wnânt.
Dyma un o'r pwyntiau yr oeddwn eisiau ei wneud, Lywydd dros dro, yn fy sylwadau y prynhawn yma, oherwydd rwyf wedi siarad â'r bobl sy'n gweithio yn y swyddfeydd hynny am eu rhaglenni, beth yw eu dangosyddion perfformiad, pa gamau gweithredu y maent yn eu cyflawni a sut y maent wedi cyflawni'r amcanion hynny. Rwyf wedi gwneud fy ngwaith. Rwyf wedi gwneud fy ngwaith cartref cyn dod yma, ac rwy'n eich cynghori chi i wneud yr un peth. A'r hyn a ddysgais oedd eu bod yn gwneud llawer o'r pethau rydych chi newydd ofyn iddynt eu gwneud. Os siaradwch â'r bobl yn Washington, er enghraifft, am y gwaith a wnânt gyda'r diaspora Cymreig yno, maent yn chwilio am gyfleoedd newydd i ddod â gwaith a swyddi i'r wlad hon, i gynyddu proffil Cymru yn y lleoedd hyn. Dyma'r gwaith sydd angen inni ei wneud os yw Cymru am gael ei chymryd o ddifrif fel cenedl fyd-eang. Dyna'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth hon.
Yr hyn yr hoffwn ei wneud y prynhawn yma yw dweud bod y rhwydwaith swyddfeydd rhyngwladol yn hanfodol i'r gwaith a gyflawnir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—ac rwy'n falch ei bod hi yn y Siambr ar gyfer y ddadl hon y prynhawn yma—oherwydd mae hynny'n hanfodol er mwyn i ni gyflawni ein huchelgeisiau economaidd ehangach a'n huchelgeisiau fel gwlad ar lwyfan y byd. Mae ein swyddfeydd yn cyflawni'r swyddogaeth honno. Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith eithriadol o dda ac rwy'n credu eu bod yn darparu gwerth eithriadol am arian yn ogystal. Mae angen inni allu dweud hynny. Rwy'n dweud hynny ar y sail fy mod wedi craffu arnynt ac wedi gwneud y gwaith.
Ond mae'r rhan fwyaf o'r cyfraniad yr oeddwn am ei wneud y prynhawn yma'n ymwneud â datblygiadau'r wythnos hon a sut rydym am fwrw ymlaen â'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gweld gwelliant pwysig a sylweddol yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn ystod y misoedd diwethaf, ac rydym wedi gweld uwchgynhadledd bwysig iawn a chyfres o gytundebau wedi'u llofnodi yr wythnos hon. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn edrych yn galed ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru, ac yn cynyddu ei hymgysylltiad â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd.
Yr wythnos diwethaf, gallais siarad yn Senedd Ewrop ym Mrwsel fel cynrychiolydd o grŵp cyswllt y DU, gan siarad ym Mhwyllgor y Rhanbarthau. Yr hyn y gallais ei ddweud yno oedd ein bod am roi trychineb Brexit y tu ôl i ni, ac rydym eisiau dyfnhau a chryfhau ein perthynas a'n cysylltiadau strwythurol â sefydliadau'r UE. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â hynny—[Torri ar draws.] Fe dderbyniais ymyriad hir iawn gan eich cyd-Aelod.
I gloi, hoffwn ddweud ei bod yn bwysig, wrth inni fynd i mewn i flwyddyn olaf y Senedd hon, ein bod yn cynhyrchu strategaeth ar gyfer ymgysylltu â'r UE y gallwn ei defnyddio i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond un y gall y Llywodraeth ei defnyddio ei hun er mwyn cryfhau a dyfnhau ei hymgysylltiad ei hun â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd.
I also welcome the opportunity to contribute on a few points in this. I will just make a few comments on the contribution that was made from the Conservative side, which I thought was full of contradictions and confusion. It was said that international relations are not devolved. International relations are not reserved. International relations are about supporting Welsh interests in devolved areas. Although the Member said that he wanted to see Wales have a strong global identity, you cannot develop a strong global identity without actually having and developing international relations.
What I would say, following on from some of the contributions, is that I actually do think that we need a full debate on international strategy, which is becoming increasingly crucial, I think, for Wales. I think we need it in Government time and we need to be able to really examine and talk about the way in which Wales should be projecting ourselves.
In terms of the report, firstly, I welcome the report. It deals with a number of really quite technical matters that have already been covered. The first thing is, of course, that I fully support the idea that St David’s Day should be a public holiday; it should be. It should be up to us to decide that. It’s disappointing that it isn’t, but hopefully, at some stage, that will actually happen.
We are, as the UK and as Wales, at a geopolitical crossroads. The economy in the world is developing into four major units: China, the USA, India and Europe. Our future clearly lies in far greater engagement and integration with Europe—it has to be, not only on the economic and social side, but on the political and defence side. We see that now because within Europe we have a major war and we have a major threat from a fascist Russian Federation at the moment, and that cannot be taken lightly.
It's why I also welcome the statement that the first steps towards greater engagement with the EU in the trade and co-operation agreement are absolutely vital, because there are hundreds of billions of pounds at stake in terms of things like defence that we should be participating in. There are many, many millions of pounds available in terms of research, and research cannot be done on a one-off basis. That is where our future lies. I think we have to, as Wales, again, raise our profile internationally.
I attended recently a round-table meeting that was organised by the UK Government on soft power—the recognition that many of those areas that we are involved in, in terms of education, in terms of sport, in terms of culture and in terms of music, the arts and so on, can have a direct impact on political developments, on investment and, also, on our political engagement and our profile. I was quite impressed with the Welsh round-table that was organised, and I've made the point, I think, in committee that we really ought to be thinking about developing some form of soft power council of our own, not in terms of being separate from the UK thing, but ensuring that we don't get overwhelmed by the much larger English structure—that Wales remains on that particular radar.
Can I just say one final thing in terms of the politics of this? We had a cross-party delegation to Ukraine recently from Wales. We attended quite a number of the Ukrainian ministries in terms of culture, in terms of development, in terms of infrastructure—in terms of things that are directly of interest to Wales. I actually think that we, as a Senedd, and the Welsh Government as well, should be getting out far more, in terms of meeting with other countries, meeting with ministries and engaging.
I think the examination of the Brussels office, and the key role that that will play economically, politically, socially, and in terms of our common defence interests, is going to be absolutely vital. So, I would welcome, Minister, if we could consider actually having at some stage a specific debate in Government time where we can really explore in detail the issues around the international profile of Wales and our international strategy. Diolch yn fawr.
Rwyf innau hefyd yn croesawu'r cyfle i gyfrannu ar ychydig o bwyntiau yn hyn. Fe wnaf ychydig o sylwadau ar y cyfraniad a wnaed gan yr ochr Geidwadol, y credwn ei fod yn llawn o wrth-ddweud a dryswch. Dywedai nad yw cysylltiadau rhyngwladol wedi eu datganoli. Nid yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater a gadwyd yn ôl. Mae cysylltiadau rhyngwladol yn ymwneud â chefnogi buddiannau Cymru mewn meysydd datganoledig. Er i'r Aelod ddweud ei fod eisiau gweld hunaniaeth fyd-eang gref i Gymru, ni allwch ddatblygu hunaniaeth fyd-eang gref heb gael a datblygu cysylltiadau rhyngwladol.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, yn dilyn rhai o'r cyfraniadau, yw fy mod yn credu bod angen dadl lawn ar strategaeth ryngwladol, sy'n dod yn fwyfwy allweddol i Gymru. Rwy'n credu bod ei hangen arnom yn amser y Llywodraeth ac mae angen inni allu archwilio a siarad am y ffordd y dylai Cymru fod yn cyflwyno ein hunain.
Ar yr adroddiad, yn gyntaf, rwy'n croesawu'r adroddiad. Mae'n ymdrin â nifer o faterion eithaf technegol sydd eisoes wedi'u trafod. Y peth cyntaf, wrth gwrs, yw fy mod yn cefnogi'n llwyr y syniad y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl gyhoeddus; fe ddylai fod. Dylai hynny fod yn fater i ni ei benderfynu. Mae'n siomedig nad ydyw, ond gobeithio, ar ryw adeg, y bydd hynny'n digwydd.
Rydym ni, y DU a Chymru, ar groesffordd geowleidyddol. Mae'r economi yn y byd yn datblygu'n bedair prif uned: Tsieina, UDA, India ac Ewrop. Mae ein dyfodol ni'n amlwg yn gorwedd mewn llawer mwy o gysylltiad ac integreiddio ag Ewrop—mae'n rhaid iddo fod, nid yn unig ar yr ochr economaidd a chymdeithasol, ond ar yr ochr wleidyddol ac amddiffyn. Gwelwn hynny nawr oherwydd yn Ewrop mae gennym ryfel mawr ac rydym yn wynebu bygythiad mawr gan Ffederasiwn Rwsia ffasgaidd ar hyn o bryd, a rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â hynny.
Dyna pam fy mod hefyd yn croesawu'r datganiad bod y camau cyntaf tuag at fwy o ymgysylltiad â'r UE yn y cytundeb masnach a chydweithredu yn hollol hanfodol, oherwydd mae cannoedd o biliynau o bunnoedd yn y fantol gyda phethau fel amddiffyn y dylem fod yn cymryd rhan ynddynt. Mae yna lawer iawn o filiynau o bunnoedd ar gael ar gyfer ymchwil, ac ni ellir gwneud ymchwil ar sail untro. Dyna lle mae ein dyfodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni, fel Cymru, wella ein proffil yn rhyngwladol unwaith eto.
Yn ddiweddar, mynychais gyfarfod bord gron a drefnwyd gan Lywodraeth y DU ar bŵer meddal—y gydnabyddiaeth y gall llawer o'r meysydd yr ydym yn ymwneud â hwy, addysg, chwaraeon, diwylliant a cherddoriaeth, y celfyddydau ac yn y blaen, gael effaith uniongyrchol ar ddatblygiadau gwleidyddol, ar fuddsoddiad, ac ar ein hymgysylltiad gwleidyddol a'n proffil. Fe wnaeth y cyfarfod bord gron a drefnwyd ar gyfer Cymru argraff fawr arnaf, ac rwyf wedi gwneud y pwynt yn y pwyllgor, rwy'n credu, y dylem fod yn meddwl am ddatblygu rhyw fath o gyngor pŵer meddal ein hunain, nid er mwyn bod ar wahân i'r DU, ond er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein llethu gan faint llawer mwy Lloegr—a bod Cymru'n parhau i fod ar y radar hwnnw.
A gaf i ddweud un peth olaf am wleidyddiaeth hyn? Cawsom ddirprwyaeth drawsbleidiol i Wcráin o Gymru yn ddiweddar. Fe wnaethom fynychu nifer o weinidogaethau Wcráin ym maes diwylliant, datblygu, seilwaith—pethau sydd o ddiddordeb uniongyrchol i Gymru. Rwy'n credu mewn gwirionedd y dylem ni, fel Senedd, a Llywodraeth Cymru hefyd, fod yn mynd allan lawer mwy, a chyfarfod â gwledydd eraill, cyfarfod â gweinidogaethau ac ymgysylltu.
Rwy'n credu bod yr archwiliad o swyddfa Brwsel, a'r rôl allweddol y bydd honno'n ei chwarae yn economaidd, yn wleidyddol, yn gymdeithasol, ac o ran ein buddiannau amddiffyn cyffredin, yn mynd i fod yn hollbwysig. Felly, Weinidog, hoffwn pe gallwn ystyried cael dadl benodol ar ryw adeg yn amser y Llywodraeth lle gallwn archwilio'n fanwl y materion sy'n gysylltiedig â phroffil rhyngwladol Cymru a'n strategaeth ryngwladol. Diolch yn fawr.
Dwi nawr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
I now call on the Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip, Jane Hutt.

Diolch yn fawr. The Welsh Government welcomes the annual report and commends the committee's dedication to working alongside the Government to support our international ambitions and elevate Wales's profile on the world stage. Diolch yn fawr, Delyth Jewell, for opening this debate and for chairing the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee, which is featured in, of course, the international relations annual report in this debate.
The Welsh Government has formally responded to the report's recommendations, but I would like to reassure you that the First Minister is looking forward to meeting with the committee in June to discuss your work and our work, and how we can work together in terms of the international relations strategy. Of course, scrutiny is crucially important, and it will happen not just at that committee meeting but here today as we receive your report. But it will be an opportunity for the First Minister to discuss the work we are doing to enhance our global relationships and how we seek to achieve our goals.
It has been five years since we published the Welsh Government's international strategy. It is a bold statement of intent, committed to raising the profile of our country, growing the economy and telling the world that we are a globally responsible nation. That’s really important, in terms of the tenth anniversary of our well-being of future generations Act—that we are educating our children and young people to be globally responsible citizens. It is a key goal of our well-being of future generations Act to be a globally responsible nation, ready to tackle future-defining challenges and opportunities.
As Delyth Jewell has said, there is much to celebrate, but since the strategy's launch five years ago, the world has changed in ways we could not have predicted. A global pandemic, geopolitical shifts and conflict have necessitated a flexible and adaptive approach. It's also meant that we've progressed actions as opportunities arose, such as sports diplomacy and gender equality in sub-Saharan Africa. I think those initiatives and actions are to be valued. Delivering international success, of course, relies on excellent teamwork. Team Cymru are working with internal and external partners to make a difference.
I just want to respond to Gareth Davies to say—and, indeed, Alun Davies responded very eloquently on this—the overseas officers have tirelessly worked—tirelessly worked—to support trade missions, to help Welsh companies to export their goods and services overseas, promoted Welsh food and drink, opened up new markets to exporters, attracted millions of pounds-worth of investment into Wales. It speaks for itself. They've established new connections across the education sector, showcased the best of Wales during moments such as St David's Day. [Interruption.] And I recognise your point about St David's Day, which I'm sure is shared across the Chamber. Gareth.
Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad blynyddol ac yn canmol ymroddiad y pwyllgor i weithio ochr yn ochr â'r Llywodraeth i gefnogi ein huchelgeisiau rhyngwladol a chodi proffil Cymru ar lwyfan y byd. Diolch yn fawr, Delyth Jewell, am agor y ddadl hon ac am gadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, sy'n gyfrifol am yr adroddiad cysylltiadau rhyngwladol blynyddol yn y ddadl hon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i argymhellion yr adroddiad, ond hoffwn eich sicrhau bod y Prif Weinidog yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r pwyllgor ym mis Mehefin i drafod eich gwaith a'n gwaith ni, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd mewn perthynas â'r strategaeth cysylltiadau rhyngwladol. Wrth gwrs, mae craffu'n hanfodol bwysig, a bydd yn digwydd nid yn unig yng nghyfarfod y pwyllgor hwnnw ond yma heddiw wrth i ni dderbyn eich adroddiad. Ond bydd yn gyfle i'r Prif Weinidog drafod y gwaith a wnawn i wella ein cysylltiadau byd-eang a sut rydym yn ceisio cyflawni ein nodau.
Mae wedi bod yn bum mlynedd ers inni gyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru. Mae'n ddatganiad beiddgar o fwriad, sy'n ymrwymo i godi proffil ein gwlad, tyfu'r economi a dweud wrth y byd ein bod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae hynny'n bwysig iawn, o gofio ei bod yn ddengmlwyddiant ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—ein bod yn addysgu ein plant a'n pobl ifanc i fod yn ddinasyddion sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae'n nod allweddol yn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i fod yn genedl gyfrifol ar lefel fyd-eang, yn barod i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd sy'n diffinio'r dyfodol.
Fel y dywedodd Delyth Jewell, mae llawer i'w ddathlu, ond ers lansio'r strategaeth bum mlynedd yn ôl, mae'r byd wedi newid mewn ffyrdd na allem fod wedi'u rhagweld. Mae pandemig byd-eang, newidiadau geowleidyddol a gwrthdaro wedi galw am ddull hyblyg ac ymaddasol o weithredu. Mae hefyd wedi golygu ein bod wedi bwrw ymlaen â chamau gweithredu wrth i gyfleoedd godi, fel diplomyddiaeth chwaraeon a chydraddoldeb rhywiol yn Affrica Is-Sahara. Rwy'n credu bod y mentrau a'r gweithredoedd hynny'n werthfawr. Mae cyflawni llwyddiant rhyngwladol, wrth gwrs, yn dibynnu ar waith tîm rhagorol. Mae Tîm Cymru yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i wneud gwahaniaeth.
Rwyf am ymateb i Gareth Davies i ddweud—ac yn wir, fe ymatebodd Alun Davies yn huawdl iawn ar hyn—bod y swyddogion tramor wedi gweithio'n ddiflino—wedi gweithio'n ddiflino—i gefnogi teithiau masnach, i helpu cwmnïau o Gymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau dramor, wedi hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, wedi agor marchnadoedd newydd i allforwyr, wedi denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Gymru. Mae'n siarad drosto'i hun. Maent wedi sefydlu cysylltiadau newydd ar draws y sector addysg, wedi arddangos y gorau o Gymru ar adegau fel Dydd Gŵyl Dewi. [Torri ar draws.] Ac rwy'n cydnabod eich pwynt am Ddydd Gŵyl Dewi, ac rwy'n siŵr ei fod yn cael ei rannu ar draws y Siambr. Gareth.
Thank you very much, Cabinet Secretary. Are you privy to any information on what the net figure is, then, between the expenditure for the international offices and what Wales receives back in return? Is there any figure that the Welsh Government is privy to on that, which can be published and, indeed, shared with MSs?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A ydych chi wedi cael unrhyw wybodaeth ynglŷn â beth yw'r ffigur net, felly, rhwng y gwariant ar gyfer y swyddfeydd rhyngwladol a'r hyn y mae Cymru'n ei gael yn ôl yn gyfnewid? A oes unrhyw ffigur y mae Llywodraeth Cymru'n ei wybod ar hynny, y gellir ei gyhoeddi a'i rannu gydag ASau?
As I've said, the work that is done through our overseas offices, the trade missions—and, indeed, the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning recently had a very successful trade mission to Japan—is attracting millions of pounds-worth of investment into Wales. And, of course, you can explore this further, I'm sure, with the First Minister, when she attends the committee.
Over the past 12 months, we've focused on strengthening our international relations, expanding trade. It's about expanding trade, not questioning it. It's expanding trade and investment opportunities and promoting Welsh culture globally. That's always the wonderful aspect of St David's Day all over the world, celebrating Welsh culture globally.
Another point that I wanted to respond to was in term of diaspora. The 2024 Wales in India year saw an agreement with the Kerala Government in India, which resulted in more than 300 healthcare professionals taking up positions across NHS Wales, with another 200 in the coming year. I know that our British Association of Physicians of Indian Origin, BAPIO, works very closely, plays a key role, and I'd like to acknowledge that today, in promoting those links and those opportunities. The First Minister was in India to sign the agreement, and we can see the benefits of its implementation. We've also been pleased to see a significant increase in the positive perception and knowledge of Wales across the education sector, and increased interest in studying in Wales.
Turning to Europe, our biggest trading partner, and welcoming the announcements on 19 May made at the UK-EU summit on trade—[Interruption.] Mark.
Fel y dywedais, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud trwy ein swyddfeydd tramor, y teithiau masnach—ac yn wir, fe gafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio daith fasnach lwyddiannus iawn i Japan yn ddiweddar—yn denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Gymru. Ac wrth gwrs, gallwch archwilio hyn ymhellach, rwy'n siŵr, gyda'r Prif Weinidog, pan fydd hi'n mynychu'r pwyllgor.
Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol, gan ehangu masnach. Mae'n ymwneud ag ehangu masnach, nid ei gwestiynu. Mae'n ehangu cyfleoedd masnach a buddsoddi ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru yn fyd-eang. Dyna sy'n wych bob amser gyda Dydd Gŵyl Dewi ledled y byd, sy'n dathlu diwylliant Cymru yn fyd-eang.
Pwynt arall yr oeddwn eisiau ymateb iddo oedd ynghylch y diaspora. Yn ystod blwyddyn Cymru yn India 2024 daeth cytundeb gyda Llywodraeth Kerala yn India, a arweiniodd at fwy na 300 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael swyddi ar draws GIG Cymru, gyda 200 arall yn y flwyddyn i ddod. Rwy'n gwybod bod ein Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd, BAPIO, yn gweithio'n agos iawn, yn chwarae rôl allweddol, a hoffwn gydnabod hynny heddiw, yn hyrwyddo'r cysylltiadau a'r cyfleoedd hynny. Roedd y Prif Weinidog yn India i lofnodi'r cytundeb, a gallwn weld manteision ei weithredu. Rydym wedi bod yn falch hefyd o weld cynnydd sylweddol yn y canfyddiad cadarnhaol o Gymru a'r wybodaeth amdani ar draws y sector addysg, a chynnydd yn y diddordeb mewn astudio yng Nghymru.
Gan droi at Ewrop, ein partner masnachu mwyaf, a chroesawu'r cyhoeddiadau ar 19 Mai a wnaed yn uwchgynhadledd y DU-UE ar fasnach—[Torri ar draws.] Mark.
As you mentioned India, I sponsored a launch at lunchtime in the Senedd on The History of Indentureship and South Asian Slavery, a book by Dr Sibani Roy. Could I commend it you, urge you to have a look at it and the lessons this provides for the world we're living in today?
Gan eich bod wedi crybwyll India, noddais lansiad amser cinio yn y Senedd ar The History of Indentureship and South Asian Slavery, llyfr gan Dr Sibani Roy. A gaf i ei argymell i chi, a'ch annog i edrych arno a'r gwersi y mae'n eu cynnig i'r byd rydym yn byw ynddo heddiw?
Well, I thank you for that, Mark, and I would very much like to read that. Thank you for also sponsoring that and enabling that, and I’m sure that will be shared with communities and, indeed, in our schools, as we now seek to learn that heritage and understand it, particularly in relation to the slave trade. Thank you for that, Mark.
I will go on to the importance of the developments with Europe. The UK-EU reset, as it’s called, and Mick Antoniw has made some strong points about its importance, the importance of this strengthening relationship, the strengthening of European links—. So, we appointed a Welsh Government representative on Europe to help strengthen those connections across EU institutions and European regional networks at a senior level. We’re at the starting point, aren’t we, in terms of what this means as a result of the summit. Youth mobility, emissions trading scheme alignment, sanitary and phytosanitary agreements and EU programmes—we’ve called for progress in these areas for a number of years, and we believe Monday’s announcements will go some way at least to removing some of the barriers put in place as a result of Brexit.
But closer to home as well, in terms of the role that the First Minister has taken, as far as Europe is concerned—. She has travelled from Dublin to Brussels, Paris and Copenhagen to promote Wales. This is about pressing home the message that Wales is committed to its relationship with the EU and our European partners. So, it is important that we now take this forward. Following our successful bid, Cardiff hosted the European circular economy hotspot last October, a prestigious event recognising nations who lead the way in our circular economy innovation.
Just in terms of moving forward, our women's sporting teams, as mentioned, will perform on the highest stage—the European Football Championship in Switzerland and the Rugby World Cup in England. The announcements about the championships in 2028 are so important in terms of what we are hosting.
Just finally, acting Presiding Officer, the First Minister has published her international delivery plan. It provides clarity on our approach—delivery, not report writing, meaningful collaborations to achieve outcomes. We do use a number of methods to report on outcomes, and I can assure the committee and the Chair that the—[Interruption.]
Wel, diolch i chi am hynny, Mark, a hoffwn yn fawr ei ddarllen. Diolch am noddi a galluogi hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yn cael ei rannu gyda chymunedau ac yn wir, yn ein hysgolion, wrth inni geisio dysgu am y dreftadaeth honno a'i deall, yn enwedig mewn perthynas â'r fasnach gaethweision. Diolch am hynny, Mark.
Fe af ymlaen at bwysigrwydd y datblygiadau gydag Ewrop. Mae ailosod y berthynas DU-UE, fel y'i gelwir, ac mae Mick Antoniw wedi gwneud pwyntiau cryf am ei phwysigrwydd, pwysigrwydd y berthynas hon sy'n cryfhau, cysylltiadau Ewropeaidd sy'n cryfhau—. Felly, fe wnaethom benodi cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop i helpu i gryfhau'r cysylltiadau hynny ar draws sefydliadau'r UE a rhwydweithiau rhanbarthol Ewropeaidd ar lefel uwch. Rydym yn y man cychwyn, onid ydym, o ran beth y mae hyn yn ei olygu o ganlyniad i'r uwchgynhadledd. Symudedd ieuenctid, alinio cynlluniau masnachu allyriadau, cytundebau iechydol a ffytoiechydol a rhaglenni'r UE—rydym wedi galw am gynnydd yn y meysydd hyn ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn credu y bydd cyhoeddiadau dydd Llun yn mynd rywfaint o'r ffordd o leiaf i gael gwared ar rai o'r rhwystrau a roddwyd yn eu lle o ganlyniad i Brexit.
Ond yn agosach at adref hefyd, o ran y rôl y mae'r Prif Weinidog wedi'i chwarae ar Ewrop—. Mae hi wedi teithio o Ddulyn i Frwsel, Paris a Copenhagen i hyrwyddo Cymru. Mae hyn yn ymwneud â phwysleisio'r neges fod Cymru'n ymrwymedig i'w pherthynas â'r UE a'n partneriaid Ewropeaidd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni nawr yn bwrw ymlaen â hyn. Yn dilyn ein cais llwyddiannus, cynhaliodd Caerdydd Hotspot Economi Gylchol Ewrop fis Hydref diwethaf, digwyddiad mawreddog sy'n cydnabod cenhedloedd sy'n arwain y ffordd gydag arloesi yr economi gylchol.
I symud ymlaen, bydd ein timau chwaraeon menywod, fel y soniwyd, yn perfformio ar y cam uchaf—Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop yn y Swistir a Chwpan Rygbi'r Byd yn Lloegr. Mae'r cyhoeddiadau am y pencampwriaethau yn 2028 mor bwysig o ran yr hyn rydym yn ei gynnal.
Yn olaf, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei chynllun cyflawni rhyngwladol. Mae'n darparu eglurder ar ein dull o weithredu—cyflawni, nid ysgrifennu adroddiadau, cydweithio ystyrlon i gyflawni canlyniadau. Rydym yn defnyddio nifer o ddulliau ar gyfer adrodd ar ganlyniadau, a gallaf sicrhau'r pwyllgor a'r Cadeirydd fod y—[Torri ar draws.]
No, I'm afraid the Cabinet Secretary is out of time.
Na, rwy'n ofni bod amser Ysgrifennydd y Cabinet ar ben.
I've taken quite a few; I'm going to have to pull this forward. But I understand that officials will be presenting this to the committee shortly, before the First Minister's appearance in June. We continue, of course, to publish our active cross-cutting international agreements and put mechanisms in place to notify the committee when new cross-cutting international bilateral agreements are signed.
There have been many other points that I have not been able to respond to. I am pleased to respond to this as Cabinet Secretary for social justice, because I do believe that this is a cross-Government response and it is important. I am grateful again that on the horrific events in Gaza now we see action from the UK Government. I delivered a statement only 10 days ago about this, in terms of the fact that we need to ensure that humanitarian aid gets to Palestine, to Gaza. And, of course, this is an opportunity for us to raise these issues with an international debate, but I think Mick Antoniw is right: we need a wider international debate and I am sure the First Minister will be reflecting on that. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi derbyn sawl un; rwy'n mynd i orfod bwrw ymlaen â hyn. Ond rwy'n deall y bydd swyddogion yn cyflwyno hyn i'r pwyllgor cyn bo hir, cyn ymddangosiad y Prif Weinidog ym mis Mehefin. Rydym yn parhau i gyhoeddi ein cytundebau rhyngwladol trawsbynciol gweithredol ac yn rhoi mecanweithiau ar waith i hysbysu'r pwyllgor pan fydd cytundebau dwyochrog rhyngwladol trawsbynciol newydd yn cael eu llofnodi.
Mae yna lawer o bwyntiau eraill nad wyf wedi gallu ymateb iddynt. Rwy'n falch o ymateb i hyn fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn ymateb trawslywodraethol ac mae'n bwysig. Ar y digwyddiadau erchyll yn Gaza, rwy'n ddiolchgar eto nawr ein bod yn gweld gweithredu gan Lywodraeth y DU. Fe gyflwynais ddatganiad 10 diwrnod yn ôl ar hyn, a'r ffaith bod angen inni sicrhau bod cymorth dyngarol yn mynd i Balesteina, i Gaza. Ac wrth gwrs, mae hwn yn gyfle inni godi'r materion hyn gyda dadl ryngwladol, ond rwy'n credu bod Mick Antoniw yn iawn: mae angen dadl ryngwladol ehangach arnom ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ystyried hynny. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw nawr ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
I now call on Delyth Jewell to reply to the debate.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl.
Soniodd Gareth am rai o'r rhwystredigaethau rŷn ni wedi'u profi fel pwyllgor o ran diffyg atebolrwydd.
Thank you, acting Deputy Presiding Officer. Thank you to everyone who has participated in the debate.
Gareth mentioned some of the frustrations that we have experienced as a committee in terms of a lack of accountability.
There weren't many other views that were expressed by Gareth that align with the committee's views or the evidence that we've received. On the Basque Country and other regions, I would say, though, that this is an important point. The ties that link Wales with those regions, they are linguistic, they are cultural. They should be celebrated for those reasons. I hope that is the view of this Senedd.
Ni chafwyd llawer o safbwyntiau eraill gan Gareth sy'n cyd-fynd â barn y pwyllgor na'r dystiolaeth a ddaeth i law. Ar Wlad y Basg a rhanbarthau eraill, byddwn i'n dweud, fodd bynnag, fod hwn yn bwynt pwysig. Mae'r cysylltiadau sy'n cysylltu Cymru â'r rhanbarthau hynny yn rhai ieithyddol, yn rhai diwylliannol. Dylid eu dathlu am y rhesymau hynny. Rwy'n gobeithio mai dyna farn y Senedd hon.
Soniodd Heledd am yr arweiniad ein bod ni fel pwyllgor eisiau ei weld gan y Llywodraeth yn y meysydd hyn. Roedd Heledd wedi sôn am y cyd-destun bregus o ran rhyfel ac erchyllterau. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn ategu'r neges yna o solidariaeth a heddwch. Soniodd Heledd ac Alun am y datblygiadau rydyn ni wedi'u gweld rhwng yr ynysoedd hyn a'r Undeb Ewropeaidd. Hoffwn i nodi ar ran y pwyllgor ein gobaith y bydd mwy o sicrwydd ar gyfer artistiaid, sy'n dal yn wynebu fisas a biwrocratiaeth ddi-ri. Dyw hwnna ddim wedi bod yn un o'r pethau lle rŷn ni wedi gweld lot o newid, ac mae hynny'n rhywbeth rŷn ni fel pwyllgor wedi bod yn gwthio amdano fe.
Heledd mentioned the leadership that we want to see from the Government in these areas. Heledd also mentioned the context in terms of war and atrocities. I am sure that we would all echo that message of solidarity and that call for peace. Heledd and Alun talked about the developments that we have seen between these islands and the European Union. I would like to note on behalf of the committee our hope that there will be greater certainty for artists who still face visas and endless bureaucracy. That has not been an area where we have seen a great deal of change, and that is something that we as a committee have been pressing for.
Alun and Gareth—I won't go into the exchange of views there. As part of Alun's speech, he mentioned the increased budget that other nations of comparable size invest in overseas offices. Now, we heard evidence today on this point comparing the expenditure in Ireland on some of these matters with ourselves. Again, we must perhaps look to our Celtic cousins and learn from how they benefit financially and culturally from that diaspora work. That is something that we as a committee have been very interested in.
On Mick's point that international relations is not reserved, that is constitutionally significant, I think. On the St David's Day point, that is something at least—. Because of the structure of this Tŷ Hywel Chamber, I cannot see Mick or Alun when I'm speaking to them. I'm waving to Mick now. But I think that is a point on which there is unity across this Senedd, and I'm glad that he mentioned that point. Mick also then took the macro view of the world, looking at some of the horrors that we are seeing internationally. We may be on an island, Dirprwy Lywydd dros dro, but the bells of conflict and war, they toll in all of our ears. And if I can speak personally, I hope, for everyone on the committee and everyone in the Senedd, I pay tribute to the work that Mick and Alun have done in championing the citizens of Ukraine, and the cultural ties that link us there. These bells toll for all of us.
I'm grateful to the Trefnydd for responding to the debate. I'm glad that the First Minister is looking forward to that evidence session with us in June. The feeling is very much mutual on that, I assure you. It will be an important session, because as the Trefnydd said, the world has changed since the strategy was first launched, which is why scrutiny of it is so important. Now, it was useful, of course, to hear so much of what is being done, though I do fear we have still had no real reason given as to why the evidence we've received has been so lacking, nor, indeed, why the First Minister was not able to respond to us today. Again, if they are personal reasons, I would, of course, understand, but we do look forward very much to that date in June.
Alun a Gareth—nid wyf am fynd ar drywydd y ddadl a gafwyd yno. Fel rhan o araith Alun, fe soniodd am y gyllideb gynyddol y mae cenhedloedd eraill o faint tebyg yn ei buddsoddi mewn swyddfeydd tramor. Nawr, clywsom dystiolaeth heddiw ar y pwynt hwn yn cymharu'r gwariant yn Iwerddon ar rai o'r pethau hyn â'n gwariant ni. Unwaith eto, efallai fod yn rhaid inni edrych ar ein cefndryd Celtaidd a dysgu o'r ffordd y maent yn elwa'n ariannol ac yn ddiwylliannol o'r gwaith diaspora hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth y mae gennym ni fel pwyllgor ddiddordeb mawr ynddo.
Ar bwynt Mick nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater a gadwyd yn ôl, mae hynny'n arwyddocaol yn gyfansoddiadol, rwy'n credu. Ar y pwynt am Ddydd Gŵyl Dewi, mae hynny'n rhywbeth o leiaf—. Oherwydd adeiladwaith Siambr Tŷ Hywel, ni allaf weld Mick nac Alun wrth imi siarad â hwy. Rwy'n codi llaw ar Mick nawr. Ond rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt lle mae undod ar draws y Senedd hon, ac rwy'n falch ei fod wedi sôn am y pwynt hwnnw. Yna rhoddodd Mick olwg macro ar y byd, gan edrych ar rai o'r erchyllterau a welwn yn rhyngwladol. Efallai ein bod ar ynys, Ddirprwy Lywydd dros dro, ond mae cnul gwrthdaro a rhyfel yn canu yn ein clustiau ni i gyd. Ac os caf siarad yn bersonol, gobeithio, dros bawb ar y pwyllgor a phawb yn y Senedd, rwy'n talu teyrnged i'r gwaith y mae Mick ac Alun wedi'i wneud yn cefnogi dinasyddion Wcráin, a'r cysylltiadau diwylliannol sy'n ein cysylltu yno. Mae cnul y clychau hyn yn canu i bob un ohonom.
Rwy'n ddiolchgar i'r Trefnydd am ymateb i'r ddadl. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog yn edrych ymlaen at y sesiwn dystiolaeth honno gyda ni ym mis Mehefin. Mae'r teimlad yn sicr yr un fath ar y ddwy ochr ar hynny, rwy'n eich sicrhau. Bydd yn sesiwn bwysig, oherwydd fel y dywedodd y Trefnydd, mae'r byd wedi newid ers lansio'r strategaeth gyntaf, a dyna pam y mae craffu arni mor bwysig. Nawr, roedd yn ddefnyddiol clywed cymaint sy'n cael ei wneud, er fy mod yn ofni nad oes unrhyw reswm gwirioneddol wedi'i roi o hyd pam y mae'r dystiolaeth a gawsom wedi bod mor brin, nac yn wir pam nad oedd y Prif Weinidog yn gallu ymateb i ni heddiw. Unwaith eto, byddwn yn deall os ydynt yn rhesymau personol, ond rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y dyddiad hwnnw ym mis Mehefin.
Ac i gloi, Dirprwy Lywydd dros dro, mi fuaswn i'n atgyfnerthu'r pwynt bod argymhellion ein pwyllgor wedi'u gwreiddio mewn ymrwymiad cadarn i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang. I gyflawni hyn, mae angen fframwaith eglur a chynhwysfawr arnom. Wrth inni nesáu at fisoedd olaf y Senedd hon, dŷn ni fel pwyllgor yn pwyso ar y Llywodraeth i fanteisio ar y cyfle hwn i ddarparu'r eglurder sydd wedi bod ar goll cyhyd. Yn yr amser sy'n weddill i ni, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos yn glir ac yn gyhoeddus sut maen nhw am godi proffil Cymru, sut maen nhw wedi codi proffil Cymru yn rhyngwladol, wedi cynyddu allforion ac wedi gosod Cymru yn genedl sydd yn gyfrifol yn fyd-eang. Oherwydd dim ond trwy wir dryloywder ac atebolrwydd y gallwn ni sicrhau bod cysylltiadau rhyngwladol Cymru yn adlewyrchu'n gwerthoedd ni, ein huchelgeisiau ni a buddion gorau ein pobl ni. Diolch.
And to conclude, acting Dirprwy Lywydd, I would echo the point that the recommendations of our committee are rooted in a firm commitment to promoting Wales on the global stage. To deliver this, we need a clear and comprehensive framework. As we approach the last months of this Senedd, we as a committee urge the Government to seize the opportunity to provide that clarity that has been missing for so long. In the time that remains, the Government must clearly and publicly demonstrate how it will raise Wales's international profile, how it has raised that profile internationally, increased exports and positioned Wales as a globally responsible nation. Because only through genuine transparency and accountability can we ensure that Wales's international relations reflect our values, our ambitions and the best interests of our people. Thank you.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
The following amendment has been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt.
Fe symudwn ni nawr ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar bensiynau, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.
We'll move now to item 7, the Plaid Cymru debate on pensions, and I call on Heledd Fychan to move the motion.
Cynnig NDM8906 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.
2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU i:
a) gweithredu ar ymrwymiad blaenorol gan y blaid Lafur i unioni’r cam a wnaed i fenywod a anwyd yn y 1950au yng Nghymru ac y mae newidiadau i bensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ôl chwyddiant; ac
c) trin aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain a chynllun pensiwn y glowyr yn gyfartal.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r achos dros weithredu ar y materion hyn er gwaethaf ei phartneriaeth mewn pŵer, ac yn galw arni i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU i:
a) gweithredu argymhellion Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i fenywod y 1950au;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn unol â chwyddiant; ac
c) estyn Cynllun Pensiwn y Glowyr i gynnwys aelodau Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain.
Motion NDM8906 Heledd Fychan
To propose that the Senedd:
1. Notes the significant and long-standing pensions injustices as a result of the inaction of successive UK Governments.
2. Recognises the work of campaign groups such as 1950’s women, former workers at Allied Steel and Wire, and members of the British Coal staff superannuation scheme.
3. Regrets the failure of the Labour UK Government:
a) to act on a previous Labour party commitment to compensate 1950s-born women in Wales affected by state pension changes;
b) to inflation-proof the pensions of former Allied Steel and Wire workers; and
c) to treat members of the British Coal staff superannuation scheme and miners’ pension scheme equally.
4. Regrets the failure of the Welsh Labour Government to make the case for action on these issues, despite their partnership in power, and calls on them to make representations to the UK Government to:
a) implement the Parliamentary and Health Service Ombudsman's recommendations for 1950s Women;
b) uprate the pensions of former Allied Steel and Wire Workers in line with inflation; and
c) extend the Miners Pensions Scheme to include members of the British Coal staff superannuation scheme.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Cyfiawnder ydy sail ein dadl heddiw—cyfiawnder i’r rhai sydd wedi dioddef anghyfiawnderau pensiwn, ac sydd wedi gweld Llywodraethau dilynol yn San Steffan yn gwrthod unioni’r anghyfiawnder hwn. Gwn fod nifer ohonynt yn gwylio’r ddadl hon heddiw, rhai o’r oriel gyhoeddus ac eraill o gartref, a hoffwn felly ddechrau drwy dalu teyrnged iddynt oll am y brwydro maent wedi ei wneud am flynyddoedd bellach i geisio sicrhau’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw. Mae Plaid Cymru yn cydsefyll gyda chi, ac yn eich cefnogi chi gyda'ch ymdrechion.
Mae tri grŵp penodol yn ganolbwynt i’r ddadl hon heddiw. Yn gyntaf, y grŵp 1950s Women of Wales ac eraill sy’n brwydro am gyfiawnder i’r menywod wedi eu geni yn y 1950au a gafodd eu heffeithio arnynt gan newidiadau i’r oedran pensiwn, ac sydd wedi wynebu caledi oherwydd hynny, a hynny heb unrhyw rybudd i nifer ohonyn nhw, a heb ffordd i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Yn ail, cyn-lowyr oedd o dan gronfa bensiwn y British Coal staff superannuation scheme sy’n galw am yr un cyfiawnder â’r hyn a roddwyd i aelodau’r miners pension scheme ym mis Hydref y llynedd. Ac yn olaf, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire, sydd wedi gweld gwerth eu pensiynau yn erydu am dros ddau ddegawd o ganlyniad i fethiant Llywodraethau San Steffan i’w huwchraddio gyda chwyddiant.
Mae yna un peth yn gyffredin rhwng y tri grŵp. Mae’r aelodau o’r ymgyrchoedd i gyd yn unigolion sydd wedi gweithio yn galed trwy gydol eu bywydau, ac maen nhw’n haeddu yr hawl sylfaenol o sefydlogrwydd yn eu hymddeoliad. Wnaethon nhw ddim byd o’i le, ac mae o’n warth o beth eu bod nhw yn eu hymddeoliad yn gorfod ymgyrchu dros rywbeth y dylent fod gyda hawl i'w dderbyn.
Peidied neb ag anghofio mai penderfyniadau gwleidyddol sy’n gyfrifol am yr anghyfiawnderau hyn, ac y gall penderfyniadau gwleidyddol wneud yn iawn am hyn. A dyna pam heddiw rydym yn gofyn i holl Aelodau'r Senedd gefnogi cynnig Plaid Cymru heb ei ddiwygio, fel ein bod ni fel Senedd yn uno yn ein cefnogaeth, ac i fynnu gweithredu gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.
Wedi'r cyfan, Llywodraeth Tony Blair a wnaeth y penderfyniad yn 2002 i ddim ond sicrhau 90 y cant o werth pensiynau gweithwyr Allied Steel and Wire ar ôl i'w cyflogwyr fynd i'r wal, ac i beidio uwchraddio'r canran yma gyda chwyddiant am bron i dair degawd. A thra mae'r Llywodraeth bresennol wedi ymrwymo i unioni'r anghyfiawnder hirfaith o ran pensiynau aelodau'r miners pension scheme, rhywbeth wrth gwrs rydym ni'n ei groesawu'n fawr, mae'r diffyg ystyriaeth o ran aelodau'r British Coal staff superannuation scheme yn rhywbeth y dylem i gyd ei gondemnio.
Ac o ran menywod y 1950au, sawl gwaith a ydyn nhw wedi cael eu gobeithion wedi'u codi ac yna eu chwalu? Mi oedden nhw'n llawn gobaith y byddai'r anghyfiawnder yn cael ei unioni gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, wedi i nifer o aelodau blaenllaw'r Llywodraeth, gan gynnwys Keir Starmer a Liz Kendall, fod mor barod i'w cefnogi cyn dod i rym. Yn wir, fe wnaeth gwleidyddion blaenllaw yma yng Nghymru, gan gynnwys ein Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, addo y byddai Llywodraeth Lafur yn unioni'r anghyfiawnder hwn. Ond ymddengys bod rhai yn fodlon dweud un peth pan yn wrthblaid, ond gweithredu'n wahanol iawn pan fyddan nhw mewn grym. A phwy sy'n dioddef? Pobl hŷn a ddylai fod yn cael eu cefnogi ym mlynyddoedd olaf eu bywydau, wedi oes o wasanaeth.
Wrth gwrs, nid dim ond yr anghyfiawnderau dwi eisoes wedi'u nodi sy'n effeithio arnyn nhw chwaith. Beth am y newidiadau rydym wedi'u gweld i'r taliad tanwydd gaeaf, sy'n peryglu bywydau pobl hŷn? Efallai y bydd tro pedol, yn ôl penawdau heddiw, ond nid oes cadarnhad eto o'r manylion hynny. Ac rydym ni'n gwybod faint o ofn sydd wedi bod gan bobl hŷn o weld y cyhoeddiad hwnnw. Mi ddylai fod yn destun cywilydd i'r rhai sydd wedi bod mewn grym bod un allan o bob chwech o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, rhywbeth sy'n anodd dirnad pan fo eraill yn byw mor fras.
Fel y dywedais i wrth agor y ddadl heddiw, cyfiawnder sydd wrth wraidd ein cynnig, cyfiawnder i filoedd o bobl sy'n byw yma yng Nghymru, sydd wedi cael eu siomi a'u gadael i lawr gan system a ddylai fod yn eu cynnal fel eu bod yn gallu mwynhau ymddeoliad teg a sefydlog, rhywbeth dwi'n siŵr bod pawb ohonom ni yn ei ddeisyfu. Yn anffodus, rydym ni'n gwybod am gymaint o bobl sydd wedi marw tra'n dal i frwydro, wedi gorfod treulio'u blynyddoedd olaf, weithiau'n sâl ofnadwy, yn gorfod brwydro am gyfiawnder. Felly, dwi'n gofyn i Aelodau'r Senedd heddiw gefnogi'n cynnig ni a gadael inni ailddatgan ein cefnogaeth i'r rhai sy'n brwydro am gyfiawnder, a mynnu gweithredu ar unioni hyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Thank you, Dirprwy Lywydd dros dro. Justice is the basis of our debate today—justice for those who have suffered pension injustices, and who have seen subsequent Governments in Westminster refuse to rectify this injustice. I know that many of them are watching this debate today, some from the public gallery and others from home, and I would therefore like to start by paying tribute to all of them for the battle they have fought over many years now to try to secure what is owed to them. Plaid Cymru stands with you, and we support your efforts.
Three specific groups are central to this debate today. First, we have the 1950s Women of Wales group and others who are fighting for justice for those women born in the 1950s who have been affected by changes to the pension age, and who have faced hardship because of that without any warning, and without a way to plan for their retirement. Secondly, we have former coal miners who were under the pension fund of the British Coal staff superannuation scheme who are calling for the same justice as that afforded to the members of the miners pension scheme in October last year. And finally, we have former workers of Allied Steel and Wire, who have seen the value of their pensions erode for over two decades as a result of the failure of Westminster Governments to uprate them in line with inflation.
These three groups have one thing in common. The members of the campaigns are all individuals who have worked hard throughout their lives, and who deserve the basic right of stability in their retirement. They did nothing wrong, and it is a disgrace that in their retirement they have had to campaign for something that they should be entitled to.
Let no-one forget that political decisions are responsible for these injustices, and that political decisions can also provide redress for this. And that is why we are asking every Member of the Senedd today to support Plaid Cymru's motion unamended, so that we can unite as a Senedd in demonstrating our support and demanding action from the UK Labour Government.
After all, it was the Blair Government that made the decision in 2002 to only secure 90 per cent of the value of the pensions of Allied Steel and Wire workers after their employer went bankrupt, and not to uprate this percentage in line with inflation for nearly three decades. And while the current Government is committed to rectifying the long-standing injustice regarding the pensions of members of the miners pension scheme, something that we very much welcome, the lack of consideration regarding members of the British Coal staff superannuation scheme is something that we should all condemn.
And as for the women of the 1950s, they have had their hopes raised and then dashed so many times. They were full of hope that the injustice would be rectified by the current UK Government, after many leading members of the Government, including Keir Starmer and Liz Kendall, were so ready to support them before they took power. Indeed, leading politicians here in Wales, including our First Minister and the Secretary of State for Wales, pledged that the Labour Government would rectify this injustice. But it seems that some are willing to say one thing when they're in opposition, but act very differently when they're in power. And who suffers? Older people who should be supported during the final years of their lives, following a lifetime of service.
Of course, it isn't only the injustices that I have already cited that affect them either. What about the changes made to the winter fuel payment, which are putting the lives of older people at risk? Maybe there will be a u-turn, according to today's headlines, but there's been no confirmation yet of the details. And we know how much concern there has been among older people because of that announcement. It should shame those who have been in power that one in six older people in Wales is living in poverty, which is difficult to understand when others live such extravagant lives.
As I said when opening the debate, justice is at the heart of our motion, justice for thousands of people living here in Wales who have been let down by a system that should be supporting them so that they can enjoy a fair and stable retirement, something I'm sure we all want. Unfortunately, we know about so many people who have died while still battling, having had to spend the final years of their lives, sometimes very ill, having to battle for justice. So, I'm asking Members of the Senedd today to support our motion and let us reaffirm our support for those who are fighting for justice and demand action to rectify the situation from the UK Government.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
I have selected the amendment to the motion, and I call on the Minister for Culture, Skills and Social Partnership to formally move amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:
a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;
b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac
c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.
Amendment 1—Jane Hutt
Delete points 3 and 4 and replace with:
Welcomes the recent reforms made by the UK Government to the Mineworkers’ Pension Scheme, including the return of the investment reserve fund and the resulting increase in pension payments to former mineworkers.
Notes that the Welsh Government has consistently raised concerns about pension injustices with successive UK Governments, and continues to advocate on behalf of:
a) Allied Steel and Wire pensioners;
b) women born in the 1950s affected by changes to the state pension age; and
c) members of the British Coal staff superannuation scheme.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.

Move.
Cynigiwyd.
Well, thank you, Deputy Presiding Officer. I'm grateful to Plaid Cymru for laying the motion of the debate in front of us here today. And we join the party of Plaid Cymru on these benches in recognising the frustration felt by many pensioners in Wales, as outlined by the motion. The issues raised today span several decades and Governments, and it's right that all parties strive for fair outcomes.
I'd like to open my contribution on the plight of WASPI women, and also declare that my mum is one of those people affected in this category. It was just before the election last year, wasn't it, that the Parliamentary and Health Service Ombudsman issued its findings on the matter. The UK Labour Government responded in December just gone, with work and pensions Secretary Liz Kendall saying that she did not agree with the findings on the issue for WASPI women. And the hypocrisy of the Labour Party on the WASPI question is quite remarkable. In opposition, a glut of senior Labour figures lined up to profess their support for compensating WASPI women. Prime Minister Keir Starmer called the situation 'a huge injustice'. Foreign Secretary David Lammy slammed the 'cliff edge', he said, that faced WASPI women. Home Secretary Yvette Cooper said she was
'fighting for a fair deal for the WASPI women'.
Chancellor Rachel Reeves claimed to 'want justice for WASPI women'. Welsh Secretary Jo Stevens stated that she was
'proud that a UK Labour Government will end the historic pension injustice for 1950s women.'
The First Minister, Eluned Morgan, confidently stated that a Labour Government at Westminster would 'put this right'.
But, as we see now, it's complete rubbish. Labour happily said one thing in opposition, before doing a screeching 180 and reneging on their promises once in Government. All those smiley photos of Labour MPs and candidates with signs supporting the WASPI women were clearly worth nothing. I'm sure people will think twice before trusting the Labour Party on this again.
Wel, diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am osod cynnig y ddadl ger ein bron yma heddiw. Ac rydym yn ymuno â phlaid Plaid Cymru ar y meinciau hyn i gydnabod y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o bensiynwyr yng Nghymru, fel yr amlinellir yn y cynnig. Mae'r materion a godir heddiw yn rhychwantu sawl degawd a Llywodraeth, ac mae'n iawn fod pob plaid yn ymdrechu i gael canlyniadau teg.
Hoffwn agor fy nghyfraniad ar sefyllfa menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI), a datgan hefyd fod fy mam yn un o'r bobl hynny yr effeithir arnynt yn y categori hwn. Ychydig cyn yr etholiad y llynedd, cyhoeddodd yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd eu canfyddiadau ar y mater. Ymatebodd Llywodraeth Lafur y DU ym mis Rhagfyr, gyda'r Ysgrifennydd dros waith a phensiynau Liz Kendall yn dweud nad oedd hi'n cytuno â'r canfyddiadau ar fater menywod WASPI. Ac mae rhagrith y Blaid Lafur ar gwestiwn WASPI yn rhyfeddol. Fel gwrthblaid, roedd llu o uwch ffigyrau Llafur yn baglu dros ei gilydd i brofi eu cefnogaeth i ddigolledu menywod WASPI. Galwodd y Prif Weinidog Keir Starmer y sefyllfa yn 'anghyfiawnder enfawr'. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy feirniadu 'ymyl y dibyn', meddai, a oedd yn wynebu menywod WASPI. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper ei bod yn
'ymladd am fargen deg i fenywod WASPI'.
Honnodd y Canghellor Rachel Reeves ei bod 'eisiau cyfiawnder i fenywod WASPI'. Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, ei bod
'yn falch y bydd Llywodraeth Lafur yn y DU yn dod â'r anghyfiawnder pensiwn hanesyddol i fenywod y 1950au i ben.'
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn hyderus y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn 'unioni hyn'.
Ond fel y gwelwn nawr, nonsens llwyr oedd y cyfan. Roedd Llafur yn hapus i ddweud un peth fel gwrthblaid, cyn gwneud tro pedol llwyr a throi cefn ar eu haddewidion wrth iddynt ddod yn Llywodraeth. Roedd hi'n amlwg nad oedd yr holl luniau o ASau ac ymgeiswyr Llafur yn gwenu gydag arwyddion yn cefnogi menywod WASPI yn golygu dim. Rwy'n siŵr y bydd pobl yn meddwl ddwywaith cyn ymddiried yn y Blaid Lafur ar hyn eto.
So they should.
Fe ddylent.
Not only that, but, yet again, Welsh Labour have completely failed to use their voice in Government to make representations. They claim to be standing up for workers and pensioners, but when they are in a room with power they keep quiet. Frankly, Keir Starmer doesn't seem bothered what the Welsh Government have to say and Eluned Morgan doesn't seem to be able to influence things with him anyway. And today, again, we heard, as referenced by Heledd Fychan, Prime Minister Starmer all over the shop again, when he says he'll 'look' at the disastrous winter fuel payments for pensioners—no commitment from him, no certainty, no idea.
Then we come to Plaid Cymru, who have submitted the motion today, and I applaud them for pointing the finger at UK and Welsh Labour Government's failings. But my concern is that, if possible, Plaid might be in an even worse position than Labour when it comes to pension finances. Plaid Cymru's pursuit of independence relies on fantasy economics that would impoverish the people of Wales. If Plaid Cymru get their way, independence would blow a hole in the pension protections that people in Wales rely on. The truth is clear: pensions are underwritten by the strength of the British economy and guarantees from the UK Government. If that's torn up, as Plaid wants, you plunge the pensions of the Welsh people into real uncertainty and crisis. That's not justice, that's recklessness.
Pensions deserve a serious approach, not Labour's pretend outrage or Plaid's constitutional vandalism. Welsh people deserve, at either end of the M4, Governments that are focused on delivering for the people of Wales, not focused on rewriting history or gambling with the future. The previous UK Conservative Government took great strides in protecting the pensions of hard-working people across Wales and the rest of the United Kingdom. The triple lock, implemented by Conservatives, ensures that pensioners can have security in old age after long working lives—particularly important for our citizens on lower incomes—and the triple lock works in protecting them.
Before the general election campaign, there was a further promise of a tax-free pension allowance, with the triple lock plus. It's the Conservatives that have genuinely protected pensioners from tough economic headwinds, giving them dignity and financial security in old age. The record's clear: you can't trust Labour and you can't trust Plaid Cymru with pensions. Diolch yn fawr iawn.
Nid yn unig hynny, ond unwaith eto, mae Llafur Cymru wedi methu'n llwyr â defnyddio eu llais yn y Llywodraeth i herio ar hyn. Maent yn honni eu bod yn sefyll dros weithwyr a phensiynwyr, ond pan fyddant mewn ystafell gyda phobl mewn grym maent yn cadw'n ddistaw. Yn onest, nid yw'n ymddangos bod Keir Starmer yn poeni beth sydd gan Lywodraeth Cymru i'w ddweud ac nid yw'n ymddangos bod Eluned Morgan yn gallu dylanwadu ar bethau gydag ef beth bynnag. A heddiw eto, fel y nododd Heledd Fychan, clywsom y Prif Weinidog Starmer ar chwâl i gyd unwaith eto, pan fo'n dweud y bydd yn 'edrych' ar daliadau tanwydd trychinebus y gaeaf i bensiynwyr—dim ymrwymiad ganddo, dim sicrwydd, dim syniad.
Yna deuwn at Blaid Cymru, sydd wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, ac rwy'n eu cymeradwyo am bwyntio bys at fethiannau'r DU a Llywodraeth Lafur Cymru. Ond fy mhryder i yw y gallai Plaid fod mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth na Llafur ar gyllid pensiwn. Mae dyhead Plaid Cymru am annibyniaeth yn dibynnu ar economeg ffantasïol a fyddai'n gwneud pobl Cymru'n dlawd. Pe bai Plaid Cymru yn cael eu ffordd, byddai annibyniaeth yn chwythu twll yn yr amddiffyniadau pensiwn y mae pobl Cymru'n dibynnu arnynt. Mae'r gwir yn glir: mae pensiynau'n seiliedig ar gryfder economi Prydain a gwarantau gan Lywodraeth y DU. Os caiff honno ei chwalu, fel y mae Plaid Cymru eisiau, rydych chi'n tynghedu pensiynau'r Cymry i ansicrwydd ac argyfwng go iawn. Nid cyfiawnder yw hynny, ond diofalwch.
Mae pensiynau'n galw am ymagwedd ddifrifol, nid dicter ffug Llafur na fandaliaeth gyfansoddiadol Plaid Cymru. Mae pobl Cymru'n haeddu Llywodraethau, ar y naill ben a'r llall i'r M4, sy'n canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru, nid rhai sy'n canolbwyntio ar ailysgrifennu hanes na gamblo gyda'r dyfodol. Rhoddodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU gamau mawr ar waith i ddiogelu pensiynau pobl weithgar ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae'r clo triphlyg, a roddwyd ar waith gan y Ceidwadwyr, yn sicrhau bod pensiynwyr yn gallu cael sicrwydd yn eu henaint ar ôl bywydau gwaith hir—sy'n arbennig o bwysig i'n dinasyddion ar incwm is—ac mae'r clo triphlyg yn gweithio i'w diogelu.
Cyn ymgyrch yr etholiad cyffredinol, cafwyd addewid pellach o lwfans pensiwn di-dreth, gyda'r clo triphlyg a mwy. Y Ceidwadwyr sydd wedi gwarchod pensiynwyr o ddifrif rhag penderfyniadau economaidd caled, gan roi urddas a sicrwydd ariannol iddynt yn eu henaint. Mae'r hanes yn glir: ni allwch ymddiried yn y Blaid Lafur nac ym Mhlaid Cymru gyda phensiynau. Diolch yn fawr iawn.
Well said, Sam Rowlands.
Clywch, clywch, Sam Rowlands.
Mae ein cynnig ni heddiw yn rhestru sawl enghraifft o anghyfiawnder pensiwn, ond mae un ohonyn nhw, fodd bynnag, yn enghraifft o gamwahaniaethu ar sail rhywedd a'r methiant i unioni'r cam yma yn enghraifft bellach o gamwahaniaethu ar sail rhywedd ac annhegwch cywilyddus.
Mae gwelliant y Llywodraeth, dwi'n meddwl, yn siarad cyfrolau unwaith eto am eu diffyg dylanwad ac, yn wir, eu hamharodrwydd i alw ar eu partneriaid honedig yn San Steffan i ymddwyn mewn modd egwyddorol a chyfiawn. Unwaith eto, roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn fodlon mynegi ei siom gyda diffyg gweithredu'r Ceidwadwyr ar hyn, yn ddigon parod i fynychu'r protestiadau gan fenywod a chafodd eu trin yn annheg, yn ddigon parod i ddal y placardiau, traddodi'r areithiau, ond pan ddaethant i rym yn San Steffan—. Wel, mae'n stori gyfarwydd erbyn hyn, onid yw hi? Newid eu cân.
Rwyf am osod mas yn fy nghyfraniad i pam mae achos y menywod a aned yn yr 1950au a chafodd eu heffeithio'n annheg gan y newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth yn un sydd a'i seiliau mewn anghydraddoldeb rhywedd, anghydraddoldeb y gallai Llywodraeth Lafur San Steffan ei unioni, y dylai ei unioni, ac y dylai Llywodraeth Lafur Cymru fynnu eu bod yn ei unioni er lles menywod Cymru.
Our motion today lists several examples of pension injustice, but one of them, however, is also an example of gender discrimination and the failure to rectify this injustice is another example of gender-based discrimination and shameful unfairness.
The Government's amendment, I think, speaks volumes once again about their lack of influence and indeed, their reluctance to call on their alleged partners in Westminster to behave in a principled and just manner. Once again, the Welsh Labour Government was willing to express its disappointment with the Conservatives' lack of action on this, willing enough to attend the protests by women who were treated unfairly and willing enough to hold the placards, deliver the speeches, but when they came to power in Westminster—. Well, it's a familiar story by now, isn't it? They've changed their tune.
I want to set out in my contribution why the case of women born in the 1950s who were unfairly affected by the changes in the state pension age is one that is based in gender inequality, an inequality that the Westminster Labour Government could rectify and should rectify, and the Welsh Labour Government should demand that they rectify for the benefit of the women of Wales.
I'm sure we're all familiar with the local groups in our constituencies that have been campaigning so hard and so long for justice. In a public meeting I called in Swansea last year with Pension Justice for Swansea Women, we heard that around 15,000 women are believed to be impacted in the Swansea region alone. We heard about women who have to continue to work, often in physically demanding jobs, such as cleaning, caring, stacking shelves in supermarkets, way beyond the age any of them expected to be needing to do so, women who had to sell their homes because they can no longer afford to maintain them, women who are sleeping in their cars or sofa surfing until the council can rehouse them.
As this motion outlines, the failure to act on these injustices is part of a wider pattern, because the case of the 1950s women stands out as a particularly stark example of how successive UK Governments have failed women. It also represents a broader failure to uphold international commitments. Under CEDAW, the UN Convention on the Elimination of All Forms of Discrimination Against Women, the UK Government has a duty to ensure full equality for women, including economic and social rights. The way these changes were implemented, and the refusal to provide fair compensation, flies in the face of these obligations.
And what's even more galling for many of these women is that Labour once stood with them. But, since then, those promises have been disappointingly dropped, with the Chancellor Rachel Reeves even going so far as saying that acknowledging their claims would represent a misuse of taxpayers' money, even though the Parliamentary and Health Service Ombudsman's report found that these women have been disproportionately affected by UK Government policies, and failure to act on such an report is almost unheard of.
Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gyfarwydd â'r grwpiau lleol yn ein hetholaethau sydd wedi bod yn ymgyrchu mor galed ac mor hir dros gyfiawnder. Mewn cyfarfod cyhoeddus a alwais yn Abertawe y llynedd gyda Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod Abertawe, clywsom amcangyfrif bod tua 15,000 o fenywod yr effeithir arnynt yn rhanbarth Abertawe yn unig. Clywsom am fenywod sy'n gorfod parhau i weithio, yn aml mewn swyddi heriol yn gorfforol, fel glanhau, gofalu, llenwi silffoedd mewn archfarchnadoedd, ymhell y tu hwnt i'r oedran y disgwyliai unrhyw un ohonynt y byddai angen iddynt wneud hynny, menywod y bu'n rhaid iddynt werthu eu cartrefi am na allant fforddio eu cynnal mwyach, menywod sy'n cysgu yn eu ceir neu'n mynd o soffa i soffa hyd nes y gall y cyngor eu hailgartrefu.
Fel y mae'r cynnig hwn yn nodi, mae'r methiant i weithredu ar yr anghyfiawnderau hyn yn rhan o batrwm ehangach, oherwydd mae achos menywod y 1950au yn sefyll allan fel enghraifft arbennig o amlwg o sut y mae Llywodraethau DU olynol wedi gwneud cam â menywod. Mae hefyd yn dangos methiant ehangach i gynnal ymrwymiadau rhyngwladol. O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod, mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd i sicrhau cydraddoldeb llawn i fenywod, gan gynnwys hawliau economaidd a chymdeithasol. Mae'r ffordd y gweithredwyd y newidiadau hyn, a'r gwrthodiad i ddarparu iawndal teg, yn mynd yn groes i'r rhwymedigaethau hyn.
A'r hyn sydd hyd yn oed yn fwy cythruddol i lawer o'r menywod hyn yw bod Llafur ar un adeg wedi sefyll gyda hwy. Ond ers hynny, maent wedi troi cefn ar yr addewidion hynny, gyda'r Canghellor Rachel Reeves hyd yn oed yn mynd mor bell â dweud y byddai cydnabod eu hawliadau'n gamddefnydd o arian trethdalwyr, er bod adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd wedi canfod bod y menywod hyn wedi cael eu heffeithio'n anghymesur gan bolisïau Llywodraeth y DU, ac mae methiant i weithredu ar adroddiad o'r fath yn rhywbeth nad yw bron byth yn digwydd.
Wrth ymateb i'r penderfyniad gwarthus a siomedig hwnnw, mae arbenigwyr ar gydraddoldeb rhywedd yn tanlinellu pwysigrwydd ei weld yng nghyd-destun anghydraddoldebau systemig ym mywydau gwaith menywod, sy'n cyfrannu at y bwlch cyflog rhywedd ac sy'n cael effaith uniongyrchol ar y bwlch pensiwn rhywedd. Pedair ar bymtheg. Dyna'r nifer o flynyddoedd, ar gyfartaledd, y mae'n rhaid i fenyw weithio yn hirach na dyn i gronni'r un lefel o gyfoeth pensiwn, yn ôl adroddiad 'Bwlch Pensiynau Rhywedd' 'Gender Pensions Gap' NOW: Pensions, a gyhoeddwyd y llynedd.
Ac rŷn ni'n gyfarwydd iawn yng Nghymru, yn anffodus, gyda'r rhwystrau byd gwaith sy'n gysylltiedig â rhywedd, yn enwedig o ran dyletswyddau gofal, sy'n cael effaith hirdymor ar sefyllfa ariannol menywod, gan gynnwys eu pensiwn gwladol. Roedd y sefyllfa, wrth gwrs, lawer gwaeth o ran bywydau gwaith menywod a aned yn yr 1950au o ran cyfleon gyrfa, diffyg tâl cyfartal, ac agweddau cymdeithasol tuag at waith a rôl menywod. I'r menywod yma, mae'r materion systemig hyn, ynghyd â'r ffordd y gweithredwyd cyfartalu oedran pensiwn y wladwriaeth, wedi dwyn y cyfle i lawer o fenywod gronni lefel ddigonol o incwm pensiwn oddi arnynt, ac wedi gwaethygu anghydraddoldebau maen nhw wedi eu profi gydol eu hoes.
Dyw'r menywod hyn ddim yn gofyn am driniaeth arbennig nac am elusen. Maen nhw'n gofyn am gyfiawnder—cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu. Dyw safbwynt Plaid Cymru erioed wedi newid. Rŷn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth, nid jest mewn gair, ond mewn gweithred: i sefyll gyda menywod yr 1950au a galw ar ei chwaer Lywodraeth Lafur yn San Steffan i unioni'r cam a wnaed iddyn nhw.
In responding to that scandalous and disappointing decision, experts on gender equality underline the importance of seeing this through the prism of systemic inequalities in women's working lives, which contribute to the gender pay gap and have a direct impact on the gender pension gap. Nineteen. That's the number of years, on average, that a woman has to work longer than a man to accumulate the same level of pension wealth, according to the 'Gender Pensions Gap' report published by NOW: Pensions last year.
We're very familiar in Wales, unfortunately, with the work barriers linked to gender, especially in terms of caring duties, which have a long-term impact on women's financial situation, including their state pension. The situation, of course, was much worse in terms of women born in the 1950s in terms of career opportunities, lack of equal pay, and social attitudes towards work and the role of women. For these women, these systemic issues, along with the way in which the equalisation of the state pension age was implemented, have robbed many women of the opportunity to accumulate an adequate level of pension income, and have exacerbated inequalities that they have experienced throughout their lives.
These women are not asking for special treatment or for charity. They're asking for justice—the justice that they deserve. Plaid Cymru's position has never changed. We call on the Welsh Government to do the same, not just in word, but in deed: to stand with the women born in the 1950s and call on its sister Labour Government in Westminster to rectify this injustice.
'All I want is what I paid for, my pension.'
These are the reasonable words of John Benson, who's sitting behind me in the public gallery. All he wants is what he paid for. For that, he has become a tireless campaigner for nearly a quarter of a century to try and right this miscarriage of justice against himself and against many other working-class families. John Benson, Phil Jones, and others behind us, should be enjoying their retirement, spending time with loved ones, and resting after a lifetime of hard and dangerous work. Yet the last 23 years have meant financial hardship, taking on seasonal work long after retirement age, and a never-ending fight for what they are owed. They have visited many colleagues on their death beds, colleagues who have begged them to keep on the fight, colleagues who didn't know whether their loved ones would be able to pay for their funeral or stay in the family home. They have been ignored and insulted by countless Governments of various political colours—Labour, Tory and Lib Dems—told off by politicians for the tone of their e-mails; told off by people who have no idea of the hardship they have lived, and I'm sure wouldn't be able to cope themselves if their pension was taken away.
Since the campaign started, 14 different UK pension Ministers have been appointed, with none of them able or maybe even willing to help repay what these workers and their families rightly deserve. The closest they came was in 2005, when the financial assistance scheme was established by the then UK Government to help those who had been affected by pension failures between 1997 and 2005. But the scandal is, that only covered 90 per cent of the pension value, it didn't account for inflation at all, or any pension accrued before 1997. For many pensioners, like Phil Jones behind me, that 90 per cent figure has now dropped to 50 per cent—half its value. It's absolutely unbelievable. The injustice is obvious. Everybody I talk to about this clearly sees the injustice, but it remains. Maybe the same should be applied to UK Ministers. Maybe that should happen to their pension, because I'm confident we would see legislation passed in Westminster very quickly if that happened to their pensions.
Of the 140,000 pensioners within the scheme, over 40,000 have already passed away—40,000—with many of them not seeing a single penny of the pensions they trustingly paid, and even worse were encouraged to pay into. My late father was fully supportive of ASW workers. He knew many of them, he went to school with them, he played with them. Unfortunately, the miscarriage of justice has outlasted him, and it's outlasted his friends at ASW. It's simply not good enough that this has gone on for a quarter of a century. It's not fair that, due to the passage of time, the campaigning now falls on the shoulders of fewer and fewer people because of death and illness.
But John, Phil and the rest of the campaigners have never given up. In January this year, I joined them for a meeting in London with the newest pension Minister, Torsten Bell, and with Torsten Bell we had very warm words from him, we had plenty of smiles, we had some condescending comments, and then nothing. Nothing at all. They are still waiting for the injustice to be righted. My office has started a petition, calling on the UK Government to take action and to pay these men what they are rightly owed. Every Member has been sent that petition a few weeks ago, but perhaps I can resend it again after this debate, and I urge you all to sign it and share it on your social media. I'm grateful to Mark Isherwood and Natasha Asghar for already sharing it on their social media.
Whatever is said here today, and whatever the action the UK Government may or may not decide to take, one thing is undeniable: John, Phil and all the others behind me today are not going away. They will not stop fighting for the pensions that they deserve, and it's up to us here today to stand beside them and to amplify their voice. Diolch yn fawr.
'Y cyfan rwyf i eisiau yw'r hyn y talais amdano, fy mhensiwn.'
Dyma eiriau rhesymol John Benson, sy'n eistedd y tu ôl i mi yn yr oriel gyhoeddus. Y cyfan y mae ei eisiau yw'r hyn y talodd amdano. Am hynny, mae wedi bod yn ymgyrchydd diflino ers bron i chwarter canrif i geisio cywiro'r camweinyddiad cyfiawnder yn ei erbyn ef ac yn erbyn llawer o deuluoedd dosbarth gweithiol eraill. Dylai John Benson, Phil Jones, ac eraill y tu ôl i ni, fod yn mwynhau eu hymddeoliad, yn treulio amser gydag anwyliaid, ac yn gorffwys ar ôl oes o waith caled a pheryglus. Ond mae'r 23 mlynedd diwethaf wedi golygu caledi ariannol, gwneud gwaith tymhorol ymhell ar ôl oedran ymddeol, a brwydr ddiddiwedd am yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Maent wedi ymweld â llawer o gydweithwyr ar eu gwely angau, cydweithwyr sydd wedi erfyn arnynt i barhau â'r frwydr, cydweithwyr nad oeddent yn gwybod a fyddai eu hanwyliaid yn gallu talu am eu hangladd neu aros yng nghartref y teulu. Maent wedi cael eu hanwybyddu a'u sarhau gan Lywodraethau dirifedi o wahanol liwiau gwleidyddol—Llafur, Torïaidd a Democratiaid Rhyddfrydol—wedi cael pryd o dafod gan wleidyddion am gywair eu negeseuon e-bost; wedi cael pryd o dafod gan bobl nad oes ganddynt syniad pa mor galed yw eu bywydau wedi bod, pobl na fyddent yn gallu ymdopi eu hunain, rwy'n siŵr, pe bai eu pensiwn yn cael ei gymryd oddi wrthynt.
Ers dechrau'r ymgyrch, mae 14 gwahanol Weinidog pensiwn wedi'u penodi yn y DU, heb fod yr un ohonynt yn gallu, neu efallai hyd yn oed yn barod i helpu i ad-dalu'r hyn y mae'r gweithwyr hyn a'u teuluoedd yn ei haeddu. Yr agosaf y daethant oedd yn 2005, pan sefydlwyd y cynllun cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU ar y pryd i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan fethiannau pensiwn rhwng 1997 a 2005. Ond y sgandal yw nad oedd hwnnw ond yn cynnig 90 y cant o werth y pensiwn, nid oedd yn cyfrif chwyddiant o gwbl, nac unrhyw bensiwn a gronnwyd cyn 1997. I lawer o bensiynwyr, fel Phil Jones y tu ôl i mi, mae'r ffigur 90 y cant bellach wedi gostwng i 50 y cant—hanner ei werth. Mae'n hollol anghredadwy. Mae'r anghyfiawnder yn amlwg. Mae pawb y siaradaf â hwy am hyn yn gweld yr anghyfiawnder yn amlwg, ond mae'n parhau. Efallai y dylid cymhwyso'r un peth i Weinidogion y DU. Efallai y dylai hynny ddigwydd i'w pensiwn hwythau, oherwydd rwy'n hyderus y byddem yn gweld deddfwriaeth yn cael ei phasio yn San Steffan yn gyflym iawn pe bai hynny'n digwydd i'w pensiynau hwy.
O'r 140,000 o bensiynwyr yn y cynllun, mae dros 40,000 eisoes wedi marw—40,000—gyda llawer ohonynt heb weld un geiniog o'r pensiynau y gwnaethant eu talu'n llawn ffydd, a hyd yn oed yn waeth, pensiynau y cawsant eu hannog i dalu tuag atynt. Roedd fy niweddar dad yn gwbl gefnogol i weithwyr ASW. Roedd yn adnabod llawer ohonynt, aeth i'r ysgol gyda hwy, fe chwaraeodd gyda hwy. Yn anffodus, mae'r camweinyddu cyfiawnder wedi para'n hwy na'i oes ef, ac mae wedi para'n hwy nag oes ei ffrindiau yn ASW. Nid yw'n ddigon da fod hyn wedi para ers chwarter canrif. Nid yw'n deg, oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio, fod yr ymgyrchu bellach yn disgyn ar ysgwyddau llai a llai o bobl oherwydd marwolaeth a salwch.
Ond nid yw John, Phil a gweddill yr ymgyrchwyr erioed wedi rhoi'r gorau iddi. Ym mis Ionawr eleni, ymunais â hwy ar gyfer cyfarfod yn Llundain gyda'r Gweinidog pensiwn diweddaraf, Torsten Bell, a chawsom eiriau cynnes gan Torsten Bell, digonedd o wenu, ambell sylw nawddoglyd, ac yna dim byd. Dim byd o gwbl. Maent yn dal i aros i'r anghyfiawnder gael ei gywiro. Mae fy swyddfa wedi dechrau deiseb yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ac i dalu'r hyn sy'n ddyledus i'r dynion hyn. Fe gafodd pob Aelod y ddeiseb honno ychydig wythnosau yn ôl, ond efallai y caf ei hail-anfon eto ar ôl y ddadl hon, ac rwy'n eich annog i gyd i'w llofnodi a'i rhannu ar eich cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood a Natasha Asghar am ei rhannu eisoes ar eu cyfryngau cymdeithasol.
Beth bynnag sy'n cael ei ddweud yma heddiw, a beth bynnag fydd y camau y gallai Llywodraeth y DU benderfynu eu cymryd neu beidio â'u cymryd, mae un peth yn ddiamheuol: nid yw John, Phil a'r holl bobl eraill y tu ôl i mi heddiw yn mynd i ddiflannu. Ni wnânt roi'r gorau i ymladd am y pensiynau y maent yn eu haeddu, a'n lle ni yma heddiw yw sefyll gyda hwy a chwyddo eu llais. Diolch yn fawr.
The overarching point I think we need to remember when talking about all of these pension injustices is that pensions aren't a bonus, they are a deferred salary, built on an expectation that people will receive security and support when the time comes for them to retire. Now, I declare an interest as well. When it comes to 1950s women, like Sam, my mother is affected by that change.
Women born in the 1950s have been betrayed by those in power. They were lied to. They were told that Labour in Westminster would do the right thing, like the Tories before them, and ensure that women would be paid the money that they were owed, once they came into power. They have reneged on that promise and have shown, I'm afraid, that their conscience only extends so far as is convenient for them. They've stopped seeing this injustice as something that demands redress. We in Plaid Cymru will not abandon these women—women who are tired of waiting for justice to be done, tired of waiting for the money they are owed. So many women have died without being paid that money. Shame on UK Labour for breaking their word.
We need a public inquiry, we need to see mediation, and we need those women's voices to be heard until they echo in every chamber in Whitehall and Westminster. They cannot be silenced any longer. We know the ombudsman's investigation was flawed. Department for Work and Pensions' Ministers have a duty to attend mediation, but the most recent request for mediation sent by the 1950s Women of Wales group and other campaigners, who have worked tirelessly on this issue, was met only with an acknowledgement of receipt of their message. I'm afraid it rings similarly to what Rhys ab Owen has just been talking to us about with the Allied Steel and Wire workers. I would pay tribute to the many groups in this issue of the women, and in the other issues that we are highlighting too, who have campaigned, who have trusted time and again that this time things would be different. It's vital that their voices be heard by those in power and that representatives on their behalf be part of discussions with the UK Government through mediation.
Now, with the 1950s women, I know some groups have petitioned for alternative dispute resolution, for financial redress focused on both proven discrimination and full maladministration. Another group, CEDAWinLAW, have provided evidence of the state's statutory obligations under UK and international laws. I know they would want to know whether the Government here supports those calls for mediation. Many groups have also called for a full public inquiry, just as the sub-postmasters have been given. If only an ITV drama could be made of all of these injustices, but we shouldn't have to wait for broadcasters to tell the Government what they should be doing, Dirprwy Lywydd.
Our motion also focuses on miners' pensions, which is another issue many brave people have campaigned on. Former miners are still waiting for justice with their pensions. The miners' pension scheme has a slogan that cuts to the heart of that bitter injustice: 'With the last breath of broken men.' These men were crippled by their labour, left with poisoned lungs, and still the state and Westminster have found ways of denying them what they are owed. Former miners were promised justice for their pensions by Labour last year, but there was no mention of the British Coal staff superannuation scheme, which includes ex-miners. And Westminster is now dragging its feet. It won't tell them if they will get their money too, whilst all the while more and more miners are dying every year of respiratory conditions and the aftermath of the dust that clogged their lungs. It should not take that last breath of men or women to demand that justice be done.
I would pay tribute here to the many campaigners, and to the much missed Steffan Lewis, with whom I share my seat in spirit, for all his work on that campaign. Dirprwy Lywydd, with 1950s-born women, with miners, with Allied Steel and Wire workers, these are issues that demand redress. I know that the Government here doesn't like us using that word 'demand', but we must demand that Westminster tries more than just their patience. They must do what is right and pay these people what they were promised.
Credaf mai'r pwynt cyffredinol y mae angen i ni ei gofio wrth siarad am yr holl anghyfiawnderau pensiwn hyn yw nad bonws yw pensiynau, ond cyflog wedi'i ohirio, sy'n seiliedig ar ddisgwyliad y bydd pobl yn cael sicrwydd a chymorth pan fydd yn bryd iddynt ymddeol. Nawr, rwy'n datgan buddiant hefyd. O ran menywod y 1950au, fel Sam, mae fy mam yn cael ei heffeithio gan y newid hwnnw.
Mae menywod a anwyd yn y 1950au wedi cael eu bradychu gan y rhai mewn grym. Dywedwyd celwyddau wrthynt. Dywedwyd wrthynt y byddai Llafur yn San Steffan yn gwneud y peth iawn, fel y Torïaid o'u blaenau, ac yn sicrhau y byddai menywod yn cael yr arian a oedd yn ddyledus iddynt ar ôl iddynt ddod i rym. Maent wedi torri'r addewid hwnnw ac wedi dangos, mae arnaf ofn, nad yw eu cydwybod ond yn ymestyn cyn belled ag sy'n gyfleus iddynt. Maent wedi rhoi'r gorau i ystyried yr anghyfiawnder hwn yn rhywbeth sy'n haeddu cael ei unioni. Ni fyddwn ni ym Mhlaid Cymru yn cefnu ar y menywod hyn—menywod sydd wedi blino aros am gyfiawnder, wedi blino aros am yr arian sy'n ddyledus iddynt. Mae cymaint o fenywod wedi marw heb gael yr arian hwnnw. Rhag cywilydd i Lafur y DU am dorri eu gair.
Mae angen ymchwiliad cyhoeddus arnom, mae angen inni weld camau cyfryngu, ac mae angen i leisiau'r menywod hyn gael eu clywed hyd nes eu bod yn atseinio ym mhob siambr yn Whitehall a San Steffan. Ni ellir eu tawelu mwyach. Gwyddom fod ymchwiliad yr ombwdsmon yn ddiffygiol. Mae gan Weinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau ddyletswydd i fynychu sesiynau cyfryngu, ond ni chafodd y cais diweddaraf am gyfryngu a anfonwyd gan grŵp 1950s Women of Wales ac ymgyrchwyr eraill, sydd wedi gweithio'n ddiflino ar y mater hwn, ddim mwy na chydnabyddiaeth fod y neges wedi'i derbyn. Mae arnaf ofn fod hyn yn swnio'n debyg i'r hyn y mae Rhys ab Owen newydd fod yn sôn wrthym amdano gyda gweithwyr Allied Steel and Wire. Hoffwn dalu teyrnged i'r nifer o grwpiau menywod, yn yr achos hwn, a'r materion eraill y rhoddwn sylw iddynt hefyd, sydd wedi ymgyrchu, sydd wedi ymddiried dro ar ôl tro y byddai pethau'n wahanol y tro hwn. Mae'n hanfodol fod eu lleisiau'n cael eu clywed gan y rhai sydd mewn grym a bod cynrychiolwyr ar eu rhan yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU drwy gyfryngu.
Nawr, gyda menywod y 1950au, gwn fod rhai grwpiau wedi deisebu am ddull amgen o ddatrys anghydfod, am iawndal ariannol sy'n canolbwyntio ar wahaniaethu profedig a chamweinyddu llawn. Mae grŵp arall, CEDAWinLAW, wedi darparu tystiolaeth o rwymedigaethau statudol y wladwriaeth o dan gyfreithiau'r DU a chyfreithiau rhyngwladol. Rwy'n gwybod y byddent am wybod a yw'r Llywodraeth yma'n cefnogi'r galwadau hynny am gyfryngu. Mae llawer o grwpiau hefyd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn, yn union fel y rhoddwyd i'r is-bostfeistri. O na bai modd i ITV greu drama am yr holl anghyfiawnderau hyn, ond ni ddylem orfod aros i ddarlledwyr ddweud wrth y Llywodraeth beth y dylent fod yn ei wneud, Ddirprwy Lywydd.
Mae ein cynnig hefyd yn canolbwyntio ar bensiynau glowyr, sef mater arall y mae llawer o bobl ddewr wedi ymgyrchu yn ei gylch. Mae cyn-lowyr yn dal i aros am gyfiawnder gyda'u pensiynau. Mae gan gynllun pensiwn y glowyr slogan sy'n crynhoi'r anghyfiawnder chwerw hwnnw: 'Gydag anadl olaf dynion a dorrwyd.' Cafodd y dynion hyn eu hanablu gan eu llafur, a'u gadael ag ysgyfaint wedi'u gwenwyno, ac mae'r wladwriaeth a San Steffan wedi dod o hyd i ffyrdd o wrthod yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Addawodd Llafur gyfiawnder i gyn-lowyr gyda'u pensiynau y llynedd, ond nid oedd unrhyw sôn am gynllun pensiwn staff Glo Prydain, sy'n cynnwys cyn-lowyr. Ac mae San Steffan bellach yn llusgo eu traed. Maent yn gwrthod dweud wrthynt a fyddant hwy'n cael eu harian hefyd, tra bo mwy a mwy o lowyr yn marw bob blwyddyn o gyflyrau anadlol a chanlyniadau'r llwch a lenwai eu hysgyfaint. Ni ddylai gymryd yr anadl olaf honno gan ddynion neu fenywod i fynnu cyfiawnder.
Hoffwn dalu teyrnged yma i'r nifer o ymgyrchwyr, ac i Steffan Lewis, y mae hiraeth mawr ar ei ôl, ac y rhannaf fy sedd ag ef mewn ysbryd, am ei holl waith ar yr ymgyrch honno. Ddirprwy Lywydd, gyda menywod a anwyd yn y 1950au, gyda glowyr, gyda gweithwyr Allied Steel and Wire, mae'r rhain yn faterion sy'n mynnu iawn. Gwn nad yw'r Llywodraeth yma'n hoffi inni ddefnyddio'r gair 'mynnu', ond mae’n rhaid inni fynnu bod San Steffan yn rhoi mwy na dim ond eu hamynedd. Rhaid iddynt wneud yr hyn sy'n iawn a thalu'r hyn a addawyd i'r bobl hyn.
The coal beneath Welsh soil powered Britain's rise. When nationalisation came in 1947, we had 250 working collieries across Wales. Each one represented countless lives shortened by dust, by danger, by sacrifice. Then, when British Coal was privatised in 1994, the Government set up pension arrangements that allowed them to take half of any surplus. They promised this was in exchange for guaranteeing the pensions if investments underperformed. Now, here are the cold, hard facts. Since then, the Treasury has taken £3.1 billion from the British Coal staff superannuation scheme. They plan to take another £1.9 billion by 2033. And how much have they put in? Not a single penny. The guarantee has cost them nothing. Meanwhile, the scheme still holds £2.3 billion in reserves—money that rightfully belongs to the 45,000 members and beneficiaries, including more than 4,000 here in Wales. The most damning statistic is this: the average age of those scheme members is 76, and six members die, on average, every single day. That's nearly 2,200 deaths every year—people who, as the numbers rise, will continue to be denied justice if we don't act.
Last autumn, the Government finally acknowledged this injustice for the mine workers' pension scheme. They transferred the £1.5 billion investment reserve, giving 112,000 former miners an average 32 per cent increase in their pension. But what about the staff scheme members? They weren't just administrative employees working in distant offices, they were the surveyors who made sure roofs wouldn't collapse, the electricians who kept ventilation systems working when gas built up, the safety officers who reduced fatalities. Many started underground before moving into these specialised roles through experience and training. They breathed the same dust, they faced the same dangers, they lived in the same communities and now they're being told that they don't deserve the same justice.
The industry Minister has met with trustees and spoke about resolving the issue, but with no firm commitment and no timeline these are just empty words. Every day of delay means that six more scheme members will never see justice. Whether by design or bureaucratic indifference, the effect is the same: fewer and fewer beneficiaries as time passes and less cost to the Treasury in consequence.
I've spent years representing these workers, I've sat in their homes and heard their stories—proud men and women who never ask for charity, just for what they or their partners earned through decades of service. Now they're choosing between heating and eating, while the Treasury sits on billions that rightfully belong to them. Transferring the £2.3 billion reserve would boost pensions by approximately 50 per cent. This isn't money for luxuries, it's for basic dignity, for proper food, for keeping warm in winter, for small comforts in old age. And let's be clear, that money wouldn't disappear into offshore accounts, it would be spent in our communities, in our shops, in our local economies still struggling from the devastation of pit closures.
So, I'm calling on the Welsh Government to show true leadership, use every lever at your disposal—formal channels, the authority of this Chamber and the moral force of a nation built on coal—to demand that that full £2.3 billion is transferred immediately. I say in this Chamber and through us to Westminster: return what was taken, fulfil the debt that is owed, honour these workers now while they still draw breath to feel the difference. Justice delayed is not merely justice denied, it is justice forever lost for every scheme member who dies waiting for what is rightfully theirs. The time for words is over, the time for pension justice is now.
Y glo o dan bridd Cymru a bwerodd gynnydd Prydain. Pan gawsant eu gwladoli ym 1947, roedd gennym 250 o byllau glo gweithredol ledled Cymru. Roedd pob un yn cynrychioli bywydau dirifedi a fyrhawyd gan lwch, gan berygl, gan aberth. Yna, pan breifateiddiwyd Glo Prydain ym 1994, sefydlodd y Llywodraeth drefniadau pensiwn a oedd yn caniatáu iddynt gymryd hanner unrhyw warged. Fe wnaethant addo bod hyn yn gyfnewid am warantu'r pensiynau pe bai buddsoddiadau'n tanberfformio. Nawr, dyma'r ffeithiau oer, caled. Ers hynny, mae'r Trysorlys wedi mynd â £3.1 biliwn o gynllun pensiwn staff Glo Prydain. Maent yn bwriadu mynd ag £1.9 biliwn arall erbyn 2033. A faint y maent wedi'i roi i mewn? Dim ceiniog. Nid yw'r warant wedi costio dim iddynt. Yn y cyfamser, mae'r cynllun yn parhau i ddal £2.3 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn—arian sy'n perthyn i'r 45,000 o aelodau a buddiolwyr, gan gynnwys mwy na 4,000 yma yng Nghymru. Yr ystadegyn mwyaf damniol yw hwn: oedran cyfartalog aelodau'r cynllun yw 76, ac ar gyfartaledd, mae chwe aelod yn marw bob dydd. Dyna bron i 2,200 o farwolaethau bob blwyddyn—pobl a fydd, wrth i'r niferoedd godi, yn parhau i gael eu hamddifadu o gyfiawnder os na weithredwn.
Yr hydref diwethaf, o'r diwedd, fe gydnabu'r Llywodraeth yr anghyfiawnder hwn i gynllun pensiwn y gweithwyr glo. Fe wnaethant drosglwyddo £1.5 biliwn o'r gronfa fuddsoddi wrth gefn, gan roi cynnydd cyfartalog o 32 y cant yn eu pensiwn i 112,000 o gyn-lowyr. Ond beth am aelodau'r cynllun staff? Nid dim ond gweithwyr gweinyddol a weithiai mewn swyddfeydd pell oedd y rhain, ond y syrfëwyr a fyddai'n sicrhau na fyddai toeau'n cwympo, y trydanwyr a gadwodd systemau awyru'n gweithio pan oedd nwy yn cronni, y swyddogion diogelwch a weithiai i leihau marwolaethau. Dechreuodd llawer o dan y ddaear cyn symud i'r rolau arbenigol hyn drwy brofiad a hyfforddiant. Fe wnaethant anadlu'r un llwch, fe wnaethant wynebu'r un peryglon, roeddent yn byw yn yr un cymunedau, a nawr, dywedir wrthynt nad ydynt yn haeddu'r un cyfiawnder.
Mae'r Gweinidog diwydiant wedi cyfarfod ag ymddiriedolwyr ac wedi siarad am ddatrys y mater, ond heb ymrwymiad cadarn a heb amserlen, dim ond geiriau gwag yw'r rhain. Mae pob diwrnod o oedi yn golygu na fydd chwe aelod arall o'r cynllun byth yn gweld cyfiawnder. Boed drwy fwriad neu ddifaterwch biwrocrataidd, mae'r effaith yr un fath: llai a llai o fuddiolwyr wrth i amser fynd heibio a llai o gost i'r Trysorlys o ganlyniad.
Rwyf wedi treulio blynyddoedd yn cynrychioli'r gweithwyr hyn, rwyf wedi eistedd yn eu cartrefi ac wedi clywed eu straeon—dynion a menywod balch nad ydynt byth yn gofyn am gardod, dim ond am yr hyn y maent hwy neu eu partneriaid wedi ei ennill drwy ddegawdau o wasanaeth. Nawr, maent yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, tra bo'r Trysorlys yn eistedd ar y biliynau sy'n ddyledus iddynt. Byddai trosglwyddo'r gronfa wrth gefn o £2.3 biliwn yn rhoi hwb o oddeutu 50 y cant i bensiynau. Nid arian ar gyfer moethau yw hwn, mae ar gyfer urddas sylfaenol, ar gyfer bwyd addas, ar gyfer cadw'n gynnes yn y gaeaf, ar gyfer cysuron bach yn eu henaint. A gadewch inni fod yn glir, ni fyddai'r arian hwnnw'n diflannu i gyfrifon tramor, byddai'n cael ei wario yn ein cymunedau, yn ein siopau, yn ein heconomïau lleol sy'n dal i ddioddef yn sgil dinistr cau'r pyllau glo.
Felly, galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddangos gwir arweinyddiaeth, i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i chi—sianeli ffurfiol, awdurdod y Siambr hon a grym moesol cenedl a adeiladwyd ar lo—i fynnu bod y £2.3 biliwn llawn hwnnw'n cael ei drosglwyddo ar unwaith. Rwy'n dweud hyn yn y Siambr a thrwom ni wrth San Steffan: rhowch yn ôl yr hyn a gymerwyd, talwch yr hyn sy'n ddyledus, anrhydeddwch y gweithwyr hyn nawr tra byddant yn dal i fod yn fyw i allu teimlo'r gwahaniaeth. Nid yn unig fod cyfiawnder a gaiff ei ohirio yn gyfiawnder wedi'i wrthod, mae'n gyfiawnder a gollir am byth i bob aelod o'r cynllun sy'n marw wrth aros am yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Mae'r amser i siarad ar ben, mae'n bryd cael cyfiawnder pensiwn nawr.
My contribution today will be focusing on the injustice faced by ex-workers of Allied Steel and Wire. I'd like to start by acknowledging the hard work and tireless campaigning by the ex-workers of Allied Steel and Wire, a number of whom are in the gallery today. They've fought continuously for justice, and not just for themselves but their peers. Plaid Cymru stands with you and supports you.
This motion today is not just figures on a spreadsheet, it's about broken promises and stolen livelihoods, a moral failure by successive UK Governments and silence from Welsh Government to use their partnership in power to correct the injustice. Allied Steel and Wire workers paid in, they were promised their pensions. Their pensions are not bonuses, they are deferred salary—contributions made by employees over a number of years in return for the expectation of retirement security. And now they are being punished, year after year, by a slow erosion of their pensions because they are not linked to inflation. This is theft in slow motion. And, as we've heard, the tireless campaigner John Benson is in the gallery, and he's kindly shared his story with me, and I'd like to share some parts of it with you today, in his own words.
'It put me on the verge of a nervous breakdown, and at one point I thought I could go over the edge. After all those years working in heavy industry, noise from electric arc furnaces, dust, fumes, unsociable hours, I had nothing to look forward to. I should have retired at 65, but had to work till I was 67, as 41 years in heavy industry was taking its toll on my body. During those years, after we lost our jobs and pensions, we decided to fight this terrible, inhumane injustice, organising protests all over the UK, London, Cardiff, party conferences. We held a banner at the entrance to the European courts in Luxembourg, where the trade unions took our case to them. I thought I would have to sell my house. At one point, I thought I would lose my marriage fighting this campaign, as it took over my life. How could politicians who we put our trust in treat workers with so much unfairness and contempt? Luckily, my wife stuck by me, and I'm sure there are more worrying cases than mine.
'A former work colleague of mine—we both started work together in the steelworks in July 1961, both lost our jobs together in July 2002, travelled to work and back together for 26 years—sadly passed away 15 years ago, aged 59, never married, and never saw a penny of the pension he had paid into for all those years. After all these long and stressful years, we have been fighting this inhumane pension injustice. Under new leadership and with a fresh frontbench, Labour in Westminster have given us hope that all those sacrifices we had made in the past 19 years may be worth it, not just for ourselves but for those innocent victims.'
I think you'll agree that John's account is a powerful one, and conveys the injustice that he and other colleagues went through. This is why we are holding this debate and calling on this Government to play its part. It's not enough just to raise concerns; the Welsh Government needs to demand action. If they can find their voice in the Government amendments to our motion to praise the UK Government on pension reform, then they can find their spine to stand up for ASW workers and others in Wales. Whether it's 1950s women, ASW steelworkers, or British Coal staff, these are people who played by the rules. They were let down not just by policy but by politicians who promised to protect them. We in Plaid Cymru will not let that silence continue. Diolch yn fawr.
Bydd fy nghyfraniad heddiw'n canolbwyntio ar yr anghyfiawnder y mae cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ei wynebu. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith caled a'r ymgyrchu diflino gan gyn-weithwyr Allied Steel and Wire, ac mae nifer ohonynt yn yr oriel heddiw. Maent wedi ymladd yn barhaus dros gyfiawnder, ac nid yn unig iddynt eu hunain, ond i'w cymheiriaid. Mae Plaid Cymru yn cydsefyll gyda chi ac yn eich cefnogi.
Nid ffigurau ar daenlen yn unig yw'r cynnig hwn heddiw, mae'n ymwneud ag addewidion wedi'u torri a bywoliaeth pobl wedi'i dwyn, methiant moesol gan Lywodraethau olynol y DU a distawrwydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu partneriaeth mewn grym i unioni'r anghyfiawnder. Talodd gweithwyr Allied Steel and Wire i mewn, addawyd eu pensiynau iddynt. Nid bonws yw pensiwn, ond cyflog wedi'i ohirio—cyfraniadau a wneir gan weithwyr dros nifer o flynyddoedd yn gyfnewid am y disgwyliad o sicrwydd ar ôl ymddeol. A nawr, cânt eu cosbi, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wrth i'w pensiynau erydu'n araf am nad ydynt wedi'u cysylltu â chwyddiant. Lladrad araf yw hyn. Ac fel y clywsom, mae'r ymgyrchydd diflino John Benson yn yr oriel, a bu'n ddigon caredig i rannu ei stori gyda mi, a hoffwn rannu rhai rhannau ohoni gyda chi heddiw, yn ei eiriau ef.
'Roedd ar fin peri chwalfa nerfol i mi, ac ar un adeg, roeddwn yn credu y gallwn fynd dros y dibyn. Ar ôl yr holl flynyddoedd o weithio mewn diwydiant trwm, sŵn o ffwrneisiau arc drydan, llwch, mygdarth, oriau anghymdeithasol, nid oedd gennyf unrhyw beth i edrych ymlaen ato. Dylwn fod wedi ymddeol yn 65 oed, ond bu'n rhaid imi weithio tan oeddwn yn 67 oed, ac fe wnaeth 41 mlynedd mewn diwydiant trwm adael ei ôl ar fy nghorff. Yn ystod y blynyddoedd hynny, ar ôl inni golli ein gwaith a'n pensiynau, fe wnaethom benderfynu ymladd yr anghyfiawnder ofnadwy ac annynol hwn, gan drefnu protestiadau ledled y DU, Llundain, Caerdydd, cynadleddau pleidiau. Fe wnaethom ddal baner wrth y fynedfa i lysoedd Ewrop yn Lwcsembwrg, lle bu'r undebau llafur yn dadlau ein hachos. Roeddwn yn meddwl y byddai'n rhaid imi werthu fy nhŷ. Ar un adeg, roeddwn yn meddwl y byddai fy mhriodas yn chwalu wrth ymladd yr ymgyrch hon, gan iddi feddiannu pob agwedd ar fy mywyd. Sut y gallai'r gwleidyddion yr oeddem wedi ymddiried ynddynt drin gweithwyr â chymaint o annhegwch a dirmyg? Yn ffodus, fe wnaeth fy ngwraig aros wrth fy ochr, ac rwy'n siŵr fod achosion mwy torcalonnus na fy un i.
'Bymtheg mlynedd yn ôl, bu farw cyn-gydweithiwr i mi—fe ddechreuom ni’n dau weithio yn y gwaith dur ym mis Gorffennaf 1961, fe gollodd y ddau ohonom ein gwaith gyda’n gilydd ym mis Gorffennaf 2002, ar ôl teithio i’r gwaith ac yn ôl gyda’n gilydd am 26 mlynedd—yn 59 oed, heb briodi, ac ni welodd geiniog o’r pensiwn y bu'n talu i mewn iddo am yr holl flynyddoedd hynny. Ar ôl yr holl flynyddoedd hir ac anodd hyn, rydym wedi bod yn ymladd yn erbyn yr anghyfiawnder pensiwn annynol hwn. O dan arweinyddiaeth newydd a chyda mainc flaen newydd, mae Llafur yn San Steffan wedi rhoi gobaith i ni y gallai’r holl aberthau hynny a wnaethom yn ystod y 19 mlynedd diwethaf ddwyn ffrwyth, nid yn unig i ni, ond i’r dioddefwyr diniwed hynny.'
Rwy'n credu y byddwch yn cytuno bod hanes John yn un pwerus, ac yn cyfleu'r anghyfiawnder a ddioddefodd ef a chydweithwyr eraill. Dyma pam ein bod yn cynnal y ddadl hon ac yn galw ar y Llywodraeth hon i chwarae ei rhan. Nid yw'n ddigon codi pryderon yn unig; mae angen i Lywodraeth Cymru fynnu bod camau'n cael eu cymryd. Os gallant ddod o hyd i'w llais yng ngwelliannau'r Llywodraeth i'n cynnig i ganmol Llywodraeth y DU ar ddiwygio pensiynau, gallant ddod o hyd i'w hasgwrn cefn i sefyll dros weithwyr ASW ac eraill yng Nghymru. Boed yn fenywod y 1950au, gweithwyr dur ASW, neu staff Glo Prydain, mae'r rhain yn bobl a chwaraeodd yn ôl y rheolau. Cawsant eu siomi nid yn unig gan bolisi ond gan wleidyddion a addawodd eu diogelu. Nid ydym ni ym Mhlaid Cymru yn mynd i adael i'r distawrwydd hwnnw barhau. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.
I call on the Minister for Culture, Skills and Social Partnership, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Deputy Presiding Officer. Can I thank all Members for their contributions to this important debate this afternoon?
I welcome the opportunity to debate this motion on pensions, in particular the 1950s women affected by changes to the state pension age, former workers at Allied Steel and Wire, and members of the mineworkers' pension scheme and British Coal staff superannuation scheme. These groups have shown remarkable resilience and determination in their quest for justice, in raising awareness and in advocating for reforms. Their work continues to be instrumental. I recognise and pay tribute to their dedication, their persistence and advocacy on behalf of thousands of pensioners.
While we can agree with points 1 and 2 of the motion tabled today, we have tabled an amendment to points 3 and 4, because these injustices we are debating today are years in the making. They did not begin on Thursday 4 July 2024; they are part of a legacy left by the previous UK Government and years of inaction cannot be fixed within 10 months. We have seen progress—
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma?
Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y cynnig hwn ar bensiynau, yn enwedig menywod y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire, ac aelodau cynllun pensiwn y glowyr a chynllun pensiwn staff Glo Prydain. Mae'r grwpiau hyn wedi dangos gwydnwch a phenderfynoldeb rhyfeddol yn eu hymgyrch am gyfiawnder, trwy godi ymwybyddiaeth ac eirioli dros ddiwygiadau. Mae eu gwaith yn parhau i fod yn allweddol. Rwy'n cydnabod ac yn talu teyrnged i'w hymroddiad, eu dyfalbarhad a'u heiriolaeth ar ran miloedd o bensiynwyr.
Er y gallwn gytuno â phwyntiau 1 a 2 yn y cynnig a gyflwynwyd heddiw, rydym wedi cyflwyno gwelliant i bwyntiau 3 a 4, gan fod yr anghyfiawnderau a drafodwn heddiw wedi bod yn datblygu ers blynyddoedd. Ni wnaethant ddechrau ar ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024; maent yn rhan o waddol a adawyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, ac ni ellir unioni blynyddoedd o ddiffyg gweithredu o fewn 10 mis. Rydym wedi gweld cynnydd—
Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
I've just started, but I will.
Rwyf ond newydd ddechrau, ond gwnaf.
Thank you very much. I referenced what happened under Tony Blair, so it is consecutive UK Governments, both Labour and Conservative.
Diolch. Cyfeiriais at yr hyn a ddigwyddodd o dan Tony Blair, felly mae'n Llywodraethau DU olynol, Llafur a Cheidwadol.
Thank you for that. If I can make progress, Chair. As I say, the new UK Government cannot fix in 10 months, but we have seen progress and we should recognise and welcome that. Specifically, the reforms made to the mineworkers' pension scheme, including the return on the investment reserve fund, has resulted in increased pension payments to former mineworkers. I know these changes are a welcome relief for those who have long awaited fair treatment.
The mineworkers' pension scheme is of particular significance to many communities in Wales, and it's an issue on which the Welsh Government made representations to previous UK Governments. I welcome, and the Senedd should welcome, the action taken by the UK Government to fulfil its manifesto promise by transferring the £1.5 billion investment reserve fund back to scheme members. The impact of that change is significant. It means a 32 per cent increase to the annual pensions of over 100,000 former mineworkers across the UK, an average increase of £29 per week for each member.
We have consistently raised our concerns about pensions injustices with successive UK Governments, and we will continue to do so. The red Welsh way means we put our values and the interests of the people of Wales first, regardless of which party occupies No. 10. In relation to Allied Steel and Wire pensions, we have called out that these pensions are not a gift. They are a deferred salary, and the contributions were made in good faith by ASW workers, in the expectation that they would receive security in retirement.
I want to pay particular tribute to the contribution of Rhys ab Owen this afternoon, and his late father, for the campaigning work he does with ASW campaigners, particularly John and Phil. The Cabinet Secretary for Social Justice and I have met them in the Minister's personal constituency capacity. These workers have worked hard and, as John Benson says, they paid in and they made provision for their retirement. But, as we have heard, they have seen the purchasing power of their pensions eroded by inflation.
We have urged the UK Government to take the necessary steps to ensure the pensions of former ASW workers are indexed to inflation to preserve their value over time. We also recognise that, although the recent reforms to the mineworkers' pension scheme are an important step, British Coal staff superannuation scheme members have experienced a similar injustice and history. We know that there has been some engagement between campaigners and the UK Government, but we do urge the UK Government to commit to a fair and transparent review of the scheme's surplus and its potential distribution.
As constituency Members, we will all recognise how changes to the state pension age have disproportionately affected women born in the 1950s. They have found themselves facing unexpected delays in receiving their pensions and experienced financial strain and uncertainty. I know that since the UK Government came into office, they have seriously considered the complex issues raised by the ombudsman's report, including information they were not able to see before they were in Government. As the Welsh Government, we have always been clear that speeding up changes to the state pension age for women without much notice was wrong. We are concerned about that impact, and we have been very clear with the UK Government about this.
State, personal and occupational pensions are a reserved matter. We do not have the powers, either legally or financially, to provide redress to those who are experiencing pensions injustice. However, we do recognise the impacts on the welfare and well-being of these pensioners and their families. These are long-standing issues, and they are part of a challenging legacy inherited by the new UK Government. But we've been far from silent on these matters, and we will continue to advocate for change and for meaningful action that secures a fair and secure future for all. Diolch.
Diolch. Os caf wneud rhywfaint o gynnydd, Gadeirydd. Fel y dywedais, ni all Llywodraeth newydd y DU unioni hyn mewn 10 mis, ond rydym wedi gweld cynnydd, a dylem gydnabod a chroesawu hynny. Yn benodol, mae'r diwygiadau a wnaed i gynllun pensiwn y glowyr, gan gynnwys yr elw ar y gronfa fuddsoddi wrth gefn, wedi arwain at daliadau pensiwn uwch i gyn-lowyr. Gwn fod y newidiadau hyn yn rhyddhad i'w groesawu i'r rhai sydd wedi bod yn aros ers amser am driniaeth deg.
Mae cynllun pensiwn y glowyr o arwyddocâd arbennig i lawer o gymunedau yng Nghymru, ac mae'n fater y gwnaeth Llywodraeth Cymru sylwadau arno i Lywodraethau blaenorol y DU. Rwy'n croesawu, a dylai'r Senedd groesawu, y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid maniffesto drwy drosglwyddo £1.5 biliwn o'r gronfa fuddsoddi wrth gefn yn ôl i aelodau'r cynllun. Mae effaith y newid hwnnw'n sylweddol. Mae'n golygu cynnydd o 32 y cant i bensiynau blynyddol dros 100,000 o gyn-lowyr ledled y DU, cynnydd cyfartalog o £29 yr wythnos i bob aelod.
Rydym wedi codi ein pryderon yn gyson ynghylch anghyfiawnder pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae'r ffordd goch Gymreig yn golygu ein bod yn rhoi gwerthoedd a buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, ni waeth pa blaid sydd yn Rhif 10. Mewn perthynas â phensiynau Allied Steel and Wire, rydym wedi nodi nad rhodd yw'r pensiynau hyn. Cyflog wedi'i ohirio ydynt, a gwnaed y cyfraniadau mewn ffydd gan weithwyr ASW, gan ddisgwyl y byddent yn cael sicrwydd ar ôl ymddeol.
Hoffwn dalu teyrnged arbennig i gyfraniad Rhys ab Owen y prynhawn yma, a'i ddiweddar dad, am y gwaith ymgyrchu y mae'n ei wneud gydag ymgyrchwyr ASW, yn enwedig John a Phil. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi cyfarfod â hwy yn rhinwedd gwaith etholaethol personol y Gweinidog. Mae'r gweithwyr hyn wedi gweithio'n galed, ac fel y dywed John Benson, fe wnaethant dalu i mewn a gwneud darpariaeth ar gyfer eu hymddeoliad. Ond fel y clywsom, maent wedi gweld pŵer prynu eu pensiynau'n cael ei erydu gan chwyddiant.
Rydym wedi annog Llywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod pensiynau cyn-weithwyr ASW yn gysylltiedig â chwyddiant fel eu bod yn cadw eu gwerth dros amser. Rydym hefyd yn cydnabod, er bod y diwygiadau diweddar i gynllun pensiwn y glowyr yn gam pwysig, fod aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain wedi profi anghyfiawnder a hanes tebyg. Gwyddom fod rhywfaint o ymgysylltu wedi bod rhwng ymgyrchwyr a Llywodraeth y DU, ond rydym yn annog Llywodraeth y DU i ymrwymo i adolygiad teg a thryloyw o warged y cynllun a'i ddosbarthiad posibl.
Fel Aelodau etholaethol, bydd pob un ohonom yn ymwybodol o sut y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio'n anghymesur ar fenywod a anwyd yn y 1950au. Maent wedi wynebu oedi annisgwyl cyn cael eu pensiynau ac wedi profi straen ac ansicrwydd ariannol. Ers i Lywodraeth y DU ddod i rym, rwy'n gwybod eu bod wedi ystyried o ddifrif y materion cymhleth a godwyd gan adroddiad yr ombwdsmon, gan gynnwys gwybodaeth nad oeddent yn gallu ei gweld cyn iddynt ddod yn Llywodraeth. Fel Llywodraeth Cymru, rydym bob amser wedi bod yn glir fod cyflymu newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod heb fawr ddim rhybudd yn anghywir. Rydym yn pryderu am yr effaith honno, ac rydym wedi dweud hynny'n glir wrth Lywodraeth y DU.
Mae pensiynau gwladol, personol a galwedigaethol yn fater a gedwir yn ôl. Nid oes gennym y pwerau, yn gyfreithiol nac yn ariannol, i ddarparu iawn i'r rhai sy'n profi anghyfiawnder pensiwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yr effeithiau ar lesiant a lles y pensiynwyr hyn a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn faterion hirsefydlog, ac maent yn rhan o waddol heriol a etifeddwyd gan Lywodraeth newydd y DU. Ond rydym ymhell o fod yn dawel ar y materion hyn, a byddwn yn parhau i ddadlau dros newid a chamau ystyrlon sy'n sicrhau dyfodol teg a sicr i bawb. Diolch.
Galwaf ar Heledd Fychan i ymateb i'r ddadl.
I call on Heledd Fychan to reply to the debate.
Diolch, Dirprwy Lywydd. That was a valiant defence by the Minister of the UK Labour Government. 'Red Welsh way' doesn't mean much if it's just defending the indefensible, because we have to acknowledge it's decades in the making. This is not something that's happened under the UK Conservative Government of recent years. As I illustrated, Tony Blair himself had a key role to play here. So, I think we have a duty to unite as a Senedd to represent our constituents.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd hwnnw'n amddiffyniad dewr gan y Gweinidog o Lywodraeth Lafur y DU. Nid yw'r 'ffordd goch Gymreig' yn golygu llawer os yw'n amddiffyn yr anamddiffynadwy, gan fod yn rhaid inni gydnabod bod hyn wedi bod yn datblygu ers degawdau. Nid yw hyn yn rhywbeth sydd wedi digwydd o dan Lywodraeth Geidwadol y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Fel y dangosais, roedd gan Tony Blair ei hun rôl allweddol i'w chwarae yma. Felly, rwy'n credu bod gennym ddyletswydd i uno fel Senedd i gynrychioli ein hetholwyr.
Whilst not condoning the issues with the Conservative Government, because I also supported the cause then, do you recognise that, due to the actions by Gordon Brown in 1997, when he abolished tax credits on dividends, the tax rate on pensions has cost pension funds now in excess of £250 billion across the UK?
Er nad wyf yn cymeradwyo rhan y Llywodraeth Geidwadol yn y peth, gan fy mod yn cefnogi'r achos bryd hynny hefyd, a ydych chi'n cydnabod, o ganlyniad i weithredoedd Gordon Brown ym 1997, pan ddiddymodd gredydau treth ar ddifidendau, fod y gyfradd dreth ar bensiynau wedi costio dros £250 biliwn i gronfeydd pensiwn ledled y DU bellach?
And that’s why I think we need to admit mistakes made by consecutive UK Governments. This is not apportioning blame to one party solely, and that’s why I’m disappointed by the Minister’s response.
I do think we’ve heard so eloquently and powerfully today why this matters—the casework that we receive, the individuals behind each of these cases, whom we’ve all met. And I thank those of you who have shared your stories and also shared your experiences of campaigning on this issue.
I do really appreciate everyone who has contributed to today’s debate. The injustices are evident. I also think we should remember all those who’ve died without this wrong being put right, who spent the last years of their lives campaigning and struggling to make ends meet, making those difficult choices, or just not able to afford the basics in life.
Sam Rowlands, I welcome your support for the motion. It was a valiant effort to justify the wrecking ball of the Tory Government and gloss over the fact that the Tories could’ve put this right as well. Accountability and responsibility are things that all of us should reflect on. In terms of Sam and Delyth sharing the stories of your own mothers, yes, many of us will know people who’ve been impacted in our own families. This has been far-reaching in all of our communities.
A dyna pam y credaf fod angen inni gyfaddef y camgymeriadau a wnaed gan Lywodraethau DU olynol. Nid rhoi'r bai ar un blaid yn unig yw hyn, a dyna pam fy mod yn siomedig gydag ymateb y Gweinidog.
Rwy'n credu ein bod wedi clywed mewn ffordd huawdl a phwerus heddiw pam mae hyn yn bwysig—y gwaith achos a gawn, yr unigolion y tu ôl i bob un o'r achosion hyn, y mae pob un ohonom wedi cyfarfod â hwy. A diolch i'r rhai ohonoch sydd wedi rhannu eich straeon a hefyd wedi rhannu eich profiadau o ymgyrchu ar y mater.
Rwy'n gwerthfawrogi pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Mae'r anghyfiawnderau'n amlwg. Rwy'n credu hefyd y dylem gofio pawb sydd wedi marw cyn i'r camwedd hwn gael ei unioni, ac a dreuliodd flynyddoedd olaf eu bywydau'n ymgyrchu ac yn brwydro i gael deupen llinyn ynghyd, gan wneud y dewisiadau anodd hynny, neu heb allu fforddio'r pethau sylfaenol mewn bywyd.
Sam Rowlands, rwy'n croesawu eich cefnogaeth i'r cynnig. Roedd yn ymdrech ddewr i gyfiawnhau dinistr y Llywodraeth Dorïaidd ac anwybyddu'r ffaith y gallai'r Torïaid fod wedi unioni hyn hefyd. Mae atebolrwydd a chyfrifoldeb yn bethau y dylai pob un ohonom fyfyrio arnynt. O ran Sam a Delyth yn rhannu straeon eu mamau eu hunain, fe fydd llawer ohonom yn adnabod pobl yr effeithiwyd arnynt yn ein teuluoedd ein hunain. Mae hyn wedi bod yn bellgyrhaeddol yn ein holl gymunedau.
Sioned, o ran y camwahaniaethu ar sail rhywedd, mae hwnna yn eithriadol o bwysig, ein bod ni yn cofio am yr hyn sydd wedi effeithio y tu hwnt i ddim ond y mater pensiynau yma, ar ferched. Mae’n bwysig iawn bod hwnna’n cael ei unioni.
Rhys, dwi’n gwybod dy fod wedi ymgyrchu’n galed iawn ar y mater o Allied Steel and Wire. Ac mi oedd yr hyn roeddet ti’n ei ddweud am John Benson, mi fyddwn i’n hoffi ategu hynny, a hefyd diolch i ti am dy ymgyrchu, a dy dad hefyd. Mae’n bwysig ein bod ni’n nodi pawb sydd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch bwysig hon. Mae’r mater o gyfiawnder yn rhywbeth a ddylai ein huno ni i gyd ar draws y Siambr yma; dydy o ddim yn rhywbeth sy’n bleidiol wleidyddol, mae o’n gyfrifoldeb arnon ni i unioni hynny.
Delyth, mi oeddet ti’n llygad dy le:
Sioned, in terms of the gender discrimination, it is extremely important that we do remember what has impacted beyond simply the pension issue, the impact on women, and it's crucial that that is put right.
Rhys, I know that you have long campaigned on the issue of Allied Steel and Wire. What you said about John Benson, I would like to endorse those remarks, and thank you for your campaigning, as well as your father's campaigning. It's important that we remember everyone who's been involved in this important campaign. The issue of justice is something that should unite us across this Chamber. It is not a party political issue. It is a responsibility on us all to put that right.
Delyth, you were entirely right:
‘A pension is not a bonus—they are a deferred salary.'
'Nid bonws yw pensiwn, ond cyflog wedi'i ohirio.'
Yn sicr. A byddwn i’n hoffi ategu’r hyn roeddet ti’n ei ddweud am Steffan Lewis a oedd yn ymgyrchu ar y mater hwn. Mae yna nifer o bobl o’n blaenau ni sydd wedi ymgyrchu’n galed a dwi eisiau ategu fy niolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.
That's certainly the case. I would also like to echo what you said about Steffan Lewis, who campaigned on these issues. There are many people who have gone before us who have campaigned hard, and I want to echo my thanks to everyone who's been involved in this.
Adam, in terms of the industrial past and sacrifice of our communities, it's important to recognise the sacrifice that was made. No-one should have to choose between heating or eating. The irony of the fact that they were working in the coal industry and had to make that choice cannot be lost. This is about basic dignity, and I agree, showing true leadership is what we're calling for today, and for the Welsh Government not just to advocate, but to use every lever, every possible avenue to right this wrong.
Peredur, you shared John Benson's words—I'm sure John would like to jump into this Chamber from across the back there and actually speak those words himself. I'd echo those tributes to you, and your powerful testimony, as well, about the toll it takes to campaign for what's rightfully yours. You should never have to do that, but I pay tribute to you and all others who have done so.
In closing, I would just like to remind all of us that this debate is about standing shoulder to shoulder with those who've suffered pension injustices, whom each of us here in this Senedd have been elected to represent. It is about calling on our Government here in Wales to make further and stronger representations to their Labour colleagues in Westminster to take action.
If the red Welsh way means something, prove it. If the partnership in power means anything, prove it. It is about calling on everyone to do everything possible, and that's why I was hoping that we could unite and support the motion. But more than anything, I hope the Labour UK Government will listen to not just the Senedd, but the millions of people across the UK who've been denied justice to date. And to all campaigners, I would like to end by saying this: your fight matters to us. We believe you have been treated unfairly. You deserve justice.
Adam, o ran y gorffennol diwydiannol ac aberth ein cymunedau, mae'n bwysig cydnabod yr aberth a wnaed. Ni ddylai unrhyw un orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta. Ni ellir anwybyddu eironi'r ffaith eu bod yn gweithio yn y diwydiant glo ac wedi gorfod gwneud y dewis hwnnw. Mae a wnelo hyn ag urddas sylfaenol, ac rwy'n cytuno, dangos arweinyddiaeth go iawn yw'r hyn rydym yn galw amdano heddiw, ac i Lywodraeth Cymru nid yn unig eirioli, ond defnyddio pob ysgogiad, pob llwybr posibl i gywiro'r camwedd hwn.
Peredur, fe wnaethoch chi rannu geiriau John Benson—rwy'n siŵr y byddai John yn hoffi neidio i mewn i'r Siambr hon o'r cefn a dweud y geiriau hynny ei hun. Rwy'n ategu'r teyrngedau hynny i chi, a'ch tystiolaeth bwerus hefyd, ynglŷn ag effaith ymgyrchu dros yr hyn y mae gennych hawl iddo. Ni ddylech byth orfod gwneud hynny, ond rwy'n talu teyrnged i chi a phawb arall sydd wedi gwneud hynny.
I gloi, hoffwn atgoffa pawb fod y ddadl hon yn ymwneud â chydsefyll â'r rhai sydd wedi dioddef anghyfiawnder pensiwn, y mae pob un ohonom yma yn y Senedd hon wedi cael ein hethol i'w cynrychioli. Mae a wnelo â galw ar ein Llywodraeth yma yng Nghymru i bwyso ymhellach ac yn gryfach ar eu cymheiriaid Llafur yn San Steffan i weithredu.
Os yw'r ffordd goch Gymreig yn golygu unrhyw beth, profwch hynny. Os yw'r bartneriaeth mewn grym yn golygu unrhyw beth, profwch hynny. Mae a wnelo â galw ar bawb i wneud popeth sy'n bosibl, a dyna pam fy mod wedi gobeithio y gallem uno a chefnogi'r cynnig. Ond yn anad dim, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn gwrando nid yn unig ar y Senedd, ond ar y miliynau o bobl ledled y DU y mae cyfiawnder wedi'i wrthod iddynt hyd yma. Ac i bob ymgyrchydd, hoffwn gloi drwy ddweud hyn: mae eich brwydr yn bwysig i ni. Rydym yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Rydych chi'n haeddu cyfiawnder.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will, therefore, defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
That brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed immediately to voting time.
Pleidleisiwn ar eitem 7, dadl Plaid Cymru: pensiynau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 12 yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
We will be voting this evening on item 7, the Plaid Cymru debate on pensions. I call for a vote on the motion without amendment, tabled in the name of Heledd Fychan. If the proposal is not agreed, we will vote on the amendment tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. In favour 11, 12 abstentions and 24 against. Therefore, the motion is not agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Pensiynau. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 24, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y cynnig
Item 7. Plaid Cymru Debate: Pensions. Motion without amendment: For: 11, Against: 24, Abstain: 12
Motion has been rejected
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff—
I now call for a vote on amendment 1. If amendment 1—
No, that's wrong.
Na, mae hynny'n anghywir.
Gwelliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
We will vote on amendment 1. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions and 23 against. Therefore, amendment 1 is agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Pensiynau. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Item 7. Plaid Cymru Debate: Pensions. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt: For: 24, Against: 23, Abstain: 0
Amendment has been agreed
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
I now call for a vote on the motion as amended.
Cynnig NDM8906 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.
2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain.
3. Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:
a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;
b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac
c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.
Motion NDM8906 as amended:
To propose that the Senedd:
1. Notes the significant and long-standing pensions injustices as a result of the inaction of successive UK Governments.
2. Recognises the work of campaign groups such as 1950’s women, former workers at Allied Steel and Wire, and members of the British Coal staff superannuation scheme.
3. Welcomes the recent reforms made by the UK Government to the Mineworkers’ Pension Scheme, including the return of the investment reserve fund and the resulting increase in pension payments to former mineworkers.
4. Notes that the Welsh Government has consistently raised concerns about pension injustices with successive UK Governments, and continues to advocate on behalf of:
a) Allied Steel and Wire pensioners;
b) women born in the 1950s affected by changes to the state pension age; and
c) members of the British Coal staff superannuation scheme.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions and 23 against. Therefore, the motion as amended is agreed.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Pensiynau. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Item 7. Plaid Cymru Debate: Pensions. Motion as amended: For: 24, Against: 23, Abstain: 0
Motion as amended has been agreed
Daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw.
That concludes voting for today.
Symudwn yn awr i'r ddadl fer heddiw, a galwaf ar Mick Antoniw i siarad.
We now move to this afternoon's short debate, and I call on Mick Antoniw to speak to the topic that he has chosen.
Please leave the Chamber quietly. Mick, over to you.
Gadewch y Siambr yn dawel, os gwelwch yn dda. Mick, draw atoch chi.
Dirprwy Lywydd, I'm grateful to be able to bring this important topic for debate, and I've agreed to allocate a minute of time to my colleagues Rhianon Passmore, Carolyn Thomas and Alun Davies. Together with my colleagues on the cross-party Wales for Europe group, I welcome the significant progress made by the UK Labour Government in beginning the process of repairing our relationship with the European Union. At a time when it seems that the world's political and economic systems are characterised by uncertainty and conflict, and the threat from Putin's Russia, the UK Government's proactive engagement and desire for an ever-closer relationship with our friends in Europe offers some genuine hope.
The barriers that the UK chose to erect as a result of Brexit have cost us all dear. According to the Office for Budget Responsibility, Brexit has wiped 4 per cent off our gross domestic product, exports are 15 per cent lower and business failures rose by 52 per cent between 2021 and 2023. Worse still, this all impacts on Wales disproportionately, and almost 60 per cent of our trade is with the European Union, compared to just over 50 per cent for the UK as a whole.
Ddirprwy Lywydd, diolch am allu dod â'r pwnc pwysig hwn i'w drafod, ac rwyf wedi cytuno i neilltuo munud o amser i fy nghyd-Aelodau Rhianon Passmore, Carolyn Thomas ac Alun Davies. Gyda fy nghyd-aelodau o grŵp trawsbleidiol Cymru dros Ewrop, rwy'n croesawu'r cynnydd sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU ar ddechrau'r broses o atgyweirio ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Ar adeg pan fo'n ymddangos bod systemau gwleidyddol ac economaidd y byd wedi eu nodweddu gan ansicrwydd a gwrthdaro, a'r bygythiad gan Rwsia Putin, mae ymgysylltiad rhagweithiol Llywodraeth y DU a'r awydd am berthynas agosach eto â'n cyfeillion yn Ewrop yn cynnig rhywfaint o obaith go iawn.
Mae'r rhwystrau y dewisodd y DU eu codi o ganlyniad i Brexit wedi costio'n ddrud i ni i gyd. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, mae Brexit wedi dileu 4 y cant oddi ar ein cynnyrch domestig gros, mae allforion 15 y cant yn is ac mae nifer y busnesau sy'n methu wedi codi 52 y cant rhwng 2021 a 2023. Yn waeth byth, mae hyn i gyd yn effeithio ar Gymru'n anghymesur, ac mae bron i 60 y cant o'n masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, o'i gymharu ag ychydig dros 50 y cant ar gyfer y DU gyfan.
Whilst set against the low bar of the previous Tory Government's inertia and incompetence, the deal with the European Union announced on Monday by the Labour UK Government is, nevertheless, an important moment for the UK and for Wales. The removal of red tape and the ability for food and drink trade to flow more easily will be welcomed by businesses in Wales, and it is welcomed by businesses in Wales. The prospect of spending less time queuing at EU airports will no doubt come as a relief to many, although nearly all the Brexiteers I know have already got their European Union passports.
I hope that the proposed youth mobility scheme will soon become a reality and, over time, lead to the obvious extension of freedom of movement for all UK and EU citizens. The UK Government's statement clearly signals that this is a start of a journey that will bring us incrementally closer to Europe. It is a journey that we must take together, with the Welsh Government playing its full part in respect of those matters that are devolved to Wales.
Respect and trust between the EU and UK will be vital as the process develops, and that respect and trust must also extend to the UK Government's relationship with the devolved Governments. The Brexit barriers are a block on people's ability to study, gain life experiences and to earn a living. The process of dismantling the barriers has begun, and I'm sure it will be welcomed by business, trade unions and the third sector organisations across Wales.
Trade and security must be a high priority, but so too must removing the day-to-day barriers that restrict people's ability to travel, work and study in Europe. In Wales, as with the UK as a whole, the economic and cultural impact of isolating ourselves from our biggest trading partner has been enormous. UK Music's 2024 report noted that the music industry contributed £4.6 billion in exports and employed over 200,000 people. This is a sector that has been badly hit by Brexit here in Wales and across the UK. UK Music's annual survey of its members in 2023 revealed that 87 per cent of respondents had seen their earnings decrease since leaving the European Union. Six months ago, the culture committee's 'Culture shock: Culture and the new relationship with the European Union' report set out the Brexit barriers for touring artists. UK creative workers touring in the EU must navigate 27 sets of often complex rules. It is a huge drain on resources, both time and money. The Schengen 90 out of 180 days rule, for example, results in either lost work or the need for multiple renewals of an artist's visa. A performance artist, for example, is required to acquire a goods passport for, say, an instrument that cost between £200 and £500, plus a security deposit based on its value.
Access to the EU is incredibly important for Welsh artists, and, as Bectu, the trade union, have highlighted, any employment opportunities available in the UK in no way balance out the work lost in the European Union, but the barriers are numerous. For young artists, the situation is even more challenging as employers in Europe are often unwilling the bear the additional administrative costs associated with employing a UK national. Tom Kiehl, the chief executive of UK Music, was clear on the impact of Brexit on the music industry, saying that, 'For music, Brexit was a "no deal" Brexit. We urgently need a better deal for creative workers, and I call on the UK Government to bring this matter front and centre in its next round of negotiations.'
The Welsh Government has been equally focused on supporting our creative industries, and, as part of its desire for as close a relationship as possible, the First Minister has identified rejoining Creative Europe and addressing issues relating to worker mobility as key objectives. The Welsh Government is also urging the UK to rejoin the Erasmus+ programme and for the mutual recognition of professional qualifications.
It is perhaps younger people who have lost the most as a result of Brexit. The travel and educational freedoms that our generations enjoyed have been denied to them. Most, of course, did not have a say, with today's 16-year-olds being only seven years old when the Brexit referendum took place. We owe it to our young people to put things right, and that is why the UK's re-entry into the Erasmus scheme also needs to be a top priority for us all. The Welsh Government's introduction of the Taith international learning exchange programme in 2022 to replace Erasmus+ was an important initiative that has allowed Welsh students and staff to study, work and volunteer abroad. We have also benefited from learners and educators around the world continuing to come to Wales. Taith cannot, however, provide the same scope and scale of opportunities that Erasmus+ offers. Signing up to Erasmus+ and a youth free movement scheme will help develop more confident, more capable young people, which, in turn, benefits our economy, our culture and our status as a European nation.
Dirprwy Lywydd, let us be clear: Brexit barriers are like an unnecessary tourniquet applied to the country's neck, choking off trade, stifling opportunities and constricting our influence around the world. The UK Government is set on a course that will first bring relief and then opportunity and prosperity. The UK Government is to be congratulated on what it has achieved so far. I know the Welsh Government stands ready to work hand-in-hand with the UK Government to ensure that progress is as rapid as possible and that Wales's interests are robustly represented. I urge every Member here and people watching to get behind this fresh start for Wales and the UK as we bring the barriers down. Diolch yn fawr.
Er bod y bar yn isel i'w fesur yn ei erbyn o ystyried syrthni ac analluogrwydd y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol, serch hynny mae'r cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd a gyhoeddwyd ddydd Llun gan Lywodraeth Lafur y DU yn foment bwysig i'r DU ac i Gymru. Bydd cael gwared ar fiwrocratiaeth a'r gallu i fasnach bwyd a diod lifo'n haws yn cael ei groesawu gan fusnesau yng Nghymru, ac mae'n cael ei groesawu gan fusnesau yng Nghymru. Bydd y posibilrwydd o dreulio llai o amser yn ciwio ym meysydd awyr yr UE yn sicr yn rhyddhad i lawer, er bod bron bob un o'r cefnogwyr Brexit rwy'n eu hadnabod eisoes wedi cael eu pasbortau Undeb Ewropeaidd.
Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun symudedd ieuenctid arfaethedig yn dod yn realiti cyn bo hir, a dros amser, yn arwain yn amlwg at ryddid i symud i holl ddinasyddion y DU a'r UE. Mae datganiad Llywodraeth y DU yn dangos mai dyma ddechrau'r daith a ddaw â ni'n agosach ac yn agosach at Ewrop. Mae'n daith y mae'n rhaid inni ei gwneud gyda'n gilydd, gyda Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan lawn mewn perthynas â'r materion sydd wedi eu datganoli i Gymru.
Bydd parch ac ymddiriedaeth rhwng yr UE a'r DU yn hanfodol wrth i'r broses ddatblygu, a rhaid i'r parch a'r ymddiriedaeth honno hefyd ymestyn i berthynas Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig. Mae'r rhwystrau Brexit yn atal gallu pobl i astudio, i ennill profiadau bywyd ac ennill bywoliaeth. Mae'r broses o ddatgymalu'r rhwystrau wedi dechrau, ac rwy'n siŵr y caiff ei chroesawu gan fusnesau, undebau llafur a sefydliadau'r trydydd sector ledled Cymru.
Rhaid i fasnach a diogelwch fod yn flaenoriaeth uchel, ond hefyd rhaid cael gwared ar y rhwystrau o ddydd i ddydd sy'n cyfyngu ar allu pobl i deithio, gweithio ac astudio yn Ewrop. Yng Nghymru, fel gyda'r DU gyfan, mae effaith economaidd a diwylliannol ynysu ein hunain oddi wrth ein partner masnachu mwyaf wedi bod yn enfawr. Nododd adroddiad 2024 UK Music fod y diwydiant cerddoriaeth wedi cyfrannu £4.6 biliwn mewn allforion ac wedi cyflogi dros 200,000 o bobl. Dyma sector sydd wedi cael ei daro'n wael gan Brexit yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Datgelodd arolwg blynyddol UK Music o'i aelodau yn 2023 fod 87 y cant o'r ymatebwyr wedi gweld eu henillion yn lleihau ers gadael yr Undeb Ewropeaidd. Chwe mis yn ôl, fe wnaeth adroddiad 'Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a'r berthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd' y pwyllgor diwylliant nodi'r rhwystrau Brexit i artistiaid teithiol. Rhaid i weithwyr creadigol y DU sy'n teithio yn yr UE weithio drwy 27 set o reolau sy'n aml yn gymhleth. Mae'n straen enfawr ar adnoddau, amser ac arian. Mae'r rheol Schengen 90 o 180 diwrnod, er enghraifft, yn arwain naill ai at golli gwaith neu at yr angen i adnewyddu fisâu artist sawl gwaith. Mae'n ofynnol i artist perfformio, er enghraifft, gaffael pasbort nwyddau ar gyfer, dyweder, offeryn sy'n costio rhwng £200 a £500, ynghyd â blaendal diogelwch yn seiliedig ar ei werth.
Mae mynediad i'r UE yn hynod bwysig i artistiaid Cymru, ac fel y mae'r undeb llafur Bectu wedi nodi, nid yw unrhyw gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael yn y DU yn cydbwyso'r gwaith a gollir yn yr Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw ffordd, ond mae'r rhwystrau'n niferus. I artistiaid ifanc, mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy heriol gan fod cyflogwyr yn Ewrop yn aml yn anfodlon ysgwyddo'r costau gweinyddol ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflogi dinesydd o'r DU. Roedd Tom Kiehl, prif weithredwr UK Music, yn glir am effaith Brexit ar y diwydiant cerddoriaeth, gan ddweud, 'I gerddoriaeth, roedd Brexit yn Brexit "heb gytundeb". Mae angen cytundeb gwell ar frys i weithwyr creadigol, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i'r mater hwn yn ei rownd nesaf o drafodaethau.'
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â llawn cymaint o ffocws ar gefnogi ein diwydiannau creadigol, ac fel rhan o'i hawydd i gael perthynas mor agos â phosibl, mae'r Prif Weinidog wedi nodi ailymuno ag Ewrop Greadigol a mynd i'r afael â phroblemau'n gysylltiedig â symudedd gweithwyr fel amcanion allweddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog y DU i ailymuno â'r rhaglen Erasmus+ ac i gydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol.
Efallai mai pobl iau sydd fwyaf ar eu colled o ganlyniad i Brexit. Maent wedi'u hamddifadu o'r rhyddid i deithio a'r rhyddid addysgol a fwynhawyd gan ein cenhedlaeth ni. Nid oedd gan y mwyafrif lais, wrth gwrs, gan mai dim ond saith oed oedd pobl ifanc 16 oed heddiw pan gynhaliwyd refferendwm Brexit. Ein lle ni yw unioni pethau i'n pobl ifanc, a dyna pam y mae angen i bawb ohonom ei gwneud yn flaenoriaeth i'r DU ailymuno â chynllun Erasmus. Roedd cyflwyno rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Taith gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i gymryd lle Erasmus+ yn fenter bwysig sydd wedi caniatáu i fyfyrwyr a staff Cymru astudio, gweithio a gwirfoddoli dramor. Rydym hefyd wedi elwa o'r ffaith bod dysgwyr ac addysgwyr ledled y byd yn parhau i ddod i Gymru. Fodd bynnag, ni all Taith ddarparu'r un cwmpas a nifer o gyfleoedd ag y mae Erasmus+ yn ei gynnig. Bydd ymuno ag Erasmus+ a chynllun i ieuenctid allu symud yn rhydd yn helpu i ddatblygu pobl ifanc fwy hyderus, mwy galluog, a fydd, yn ei dro, o fudd i'n heconomi, ein diwylliant a'n statws fel cenedl Ewropeaidd.
Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir: mae rhwystrau Brexit fel llindag diangen wedi'i glymu am wddf y wlad, gan dagu masnach, mygu cyfleoedd a chyfyngu ar ein dylanwad ledled y byd. Mae Llywodraeth y DU ar drywydd a ddaw â rhyddhad yn gyntaf, a chyfle a ffyniant yn sgil hynny. Mae Llywodraeth y DU i'w llongyfarch ar yr hyn y mae wedi'i gyflawni hyd yma. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i sicrhau bod cynnydd yn digwydd mor gyflym â phosibl a bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli'n gadarn. Rwy'n annog pob Aelod yma a phobl sy'n gwylio i gefnogi'r dechrau newydd hwn i Gymru a'r DU wrth inni leihau'r rhwystrau. Diolch yn fawr.
Thank you to Mick Antoniw, Member for Pontypridd, for affording me the opportunity to contribute to this very important debate today.
Welsh musicians, students and ensembles were once part of a thriving cultural dialogue with Europe, but a hard Brexit has built barriers that are now silencing that voice, despite our renowned international excellence across the globe. Musicians touring Europe must now bureaucratically wade through red tape and great expense applying for individual visas or work permits for every EU country they visit. On top of that, individual separate permits are needed, as has been stated, to transport instruments and equipment. Just think what that means for our own Welsh National Opera or a BBC Wales symphony orchestra production if we do the maths. Furthermore, the rules are different in each country, making European tours complex, costly and unviable. According to the Musicians' Union, 72 per cent of musicians reported a drop in EU income since Brexit and 59 per cent have indicated that touring the EU was no longer financially viable for them.
So, that cultural presence across Europe is fading. Therefore, I highly welcome the youth mobility scheme announced this week by the UK Labour Government, which will go some way to ease the current difficulties. Common sense is starting to prevail. It will simplify touring logistics for musicians and expand educational opportunities for our students in Europe. But much more will need to be done. Yesterday, the Cabinet Secretary, Jack Sargeant, published the Welsh Government's ‘Priorities for Culture 2024-2030’ and it states:
'developing cultural relations through the exchange of cultural, creative and artistic practice and experience should be integral to how Wales develops formal and informal relationships with other regions and countries.'
The profile of culture is raised by celebrating and promoting culture at a local, national and international level. So, together we must fight for a future where Welsh creativity and creatives are able to tour freely, study widely and are celebrated on European stages once again. Diolch.
Diolch i Mick Antoniw, yr Aelod dros Bontypridd, am roi cyfle i mi gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw.
Roedd cerddorion, myfyrwyr ac ensembles o Gymru unwaith yn rhan o ddeialog ddiwylliannol ffyniannus gydag Ewrop, ond mae Brexit caled wedi adeiladu rhwystrau sydd bellach yn tawelu'r llais hwnnw, er gwaethaf ein rhagoriaeth ryngwladol enwog ledled y byd. Rhaid i gerddorion sy'n teithio Ewrop ymrafael â biwrocratiaeth a chostau mawr wrth wneud cais am fisâu unigol neu drwyddedau gwaith ar gyfer pob gwlad yn yr UE y byddant yn ymweld â hi. Ar ben hynny, mae angen trwyddedau unigol ar wahân, fel y nodwyd, i gludo offerynnau ac offer. Meddyliwch beth y mae hynny'n ei olygu i Opera Cenedlaethol Cymru neu gynhyrchiad cerddorfa symffoni BBC Cymru os gwnawn y fathemateg. Ar ben hynny, mae'r rheolau'n wahanol ym mhob gwlad, gan wneud teithiau Ewropeaidd yn gymhleth, yn gostus ac yn anymarferol. Yn ôl Undeb y Cerddorion, cofnododd 72 y cant o gerddorion ostyngiad mewn incwm UE ers Brexit ac mae 59 y cant wedi nodi nad oedd teithio'r UE bellach yn ymarferol yn ariannol iddynt.
Mae'r presenoldeb diwylliannol hwnnw ledled Ewrop yn pylu. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y cynllun symudedd ieuenctid a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth Lafur y DU, cynllun a fydd yn mynd rywfaint o'r ffordd i leihau'r anawsterau presennol. Mae synnwyr cyffredin yn dechrau gwreiddio. Bydd yn symleiddio logisteg teithio i gerddorion ac yn ehangu cyfleoedd addysgol i'n myfyrwyr yn Ewrop. Ond bydd angen gwneud llawer mwy. Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jack Sargeant, 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024-2030' Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi:
'Dylai...datblygu cysylltiadau diwylliannol drwy gyfnewid arferion a phrofiad diwylliannol, creadigol ac artistig fod yn rhan annatod o’r ffordd y mae Cymru’n datblygu cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol gyda rhanbarthau a gwledydd eraill.'
Mae proffil diwylliant yn cael ei godi trwy ddathlu a hyrwyddo diwylliant ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Felly, gyda'n gilydd mae'n rhaid inni frwydro dros ddyfodol lle mae creadigrwydd a phobl greadigol Cymru yn gallu teithio'n rhydd, astudio'n eang a chael eu dathlu ar lwyfannau Ewrop unwaith eto. Diolch.
I'm grateful to you, Deputy Presiding Officer, and I'm very grateful to my friend and comrade for his introduction to this debate. I think Mick Antoniw has set out very clearly many of the disasters that have befallen people in Wales and elsewhere as a consequence of Brexit. It's a shame none of our Conservative friends could have stayed for the whole of this debate. I look forward to the Cabinet Secretary replying to the points that have been made by Mick Antoniw and I hope, in doing so—I know she's a strong European and she has spoken very powerfully about her experience as a Minister and the way that Brexit has undermined Wales's trade and economy—that she'll be able to outline how the Welsh Government will now take steps to strengthen Wales's place in Europe and to put together a European strategy, an EU strategy for engagement with the institutions post the agreements that were reached this week by the United Kingdom Government, because we do now have an opportunity, I think, to put right some of the mistakes of the last few years, and to start putting our relationship with the institutions and the countries, nations and regions of Europe back on a firm footing. I hope to join the Cabinet Secretary and other friends in this Chamber campaigning to rejoin the European Union.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod am ei gyflwyniad i'r ddadl hon. Rwy'n credu bod Mick Antoniw wedi nodi llawer o'r trychinebau sydd wedi digwydd i bobl Cymru a mannau eraill o ganlyniad i Brexit yn glir iawn. Mae'n drueni na allai unrhyw un o'n cyfeillion Ceidwadol fod wedi aros i glywed y ddadl yn ei chyfanrwydd. Edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyntiau a wnaeth Mick Antoniw ac rwy'n gobeithio, wrth wneud hynny—rwy'n gwybod ei bod hi'n Ewropead cadarn ac mae hi wedi siarad yn bwerus iawn am ei phrofiad fel Gweinidog a'r ffordd y mae Brexit wedi tanseilio masnach ac economi Cymru—y bydd hi'n gallu amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith nawr i gryfhau lle Cymru yn Ewrop ac i lunio strategaeth Ewropeaidd, strategaeth yr UE ar gyfer ymgysylltu â'r sefydliadau ar ôl y cytundebau a luniwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan fod gennym gyfle nawr, rwy'n credu, i gywiro rhai o gamgymeriadau'r blynyddoedd diwethaf, ac i ddechrau rhoi ein perthynas â sefydliadau a gwledydd, cenhedloedd a rhanbarthau Ewrop yn ôl ar sail gadarn. Rwy'n gobeithio ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet a ffrindiau eraill yn y Siambr hon sy'n ymgyrchu i ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
Thank you, Mick, for a minute of your time. Promises were made to the people of Wales at the time of the Brexit vote. We were promised we'd get back control and that we'd not be a penny worse off, with extra money for the NHS printed on the side of a bus. These soundbites turned out to be nothing more than bravado, and the Tories left us with a botched Brexit that only served to throw up more barriers to prosperity.
Wales had been a net beneficiary of the EU. The cutting of funding of over £1 billion of EU funding to Welsh Government has impacted on organisations and people on a national and regional level. This has included an end to £243 million a year from the EU for farming payments. Replacement funding streams such as levelling-up funding has put a huge strain on local authority resources, and have failed to deliver the boost that Wales needs and deserves.
There were two high-priority bids rejected in Wrexham and Flintshire twice as funding was restricted and very competitive. We've missed out on an awful lot of funding from Creative Europe as well. All these pots have increased for members that are part of the EU. The EU is our nearest neighbour and I'm pleased that the UK Labour Government is back building relations and breaking down trade barriers, turning a botched Brexit into one that is good for Wales, our economy and our people.
Diolch am funud o'ch amser, Mick. Gwnaed addewidion i bobl Cymru adeg y bleidlais Brexit. Cawsom addewid y byddem yn adfer rheolaeth ac na fyddem geiniog yn waeth ein byd, gydag arian ychwanegol i'r GIG wedi'i argraffu ar ochr bws. Gwelsom nad oedd y sloganau hyn yn ddim byd mwy na rhyfyg, a rhoddodd y Torïaid draed moch o Brexit i ni na chreodd ddim byd heblaw mwy o rwystrau i ffyniant.
Roedd Cymru wedi bod yn fuddiolwr net o'r UE. Mae torri dros £1 biliwn o gyllid yr UE i Lywodraeth Cymru wedi effeithio ar sefydliadau a phobl ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Mae hyn wedi cynnwys diwedd ar £243 miliwn y flwyddyn o'r UE ar gyfer taliadau ffermio. Mae ffrydiau cyllido newydd fel arian ffyniant bro wedi rhoi straen enfawr ar adnoddau awdurdodau lleol, ac wedi methu darparu'r hwb y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.
Gwrthodwyd dau gais blaenoriaeth uchel yn Wrecsam a sir y Fflint ddwy waith wrth i'r gystadleuaeth boethi ac wrth i arian ddod yn fwy cyfyngedig. Rydym wedi colli llawer iawn o gyllid Ewrop Greadigol hefyd. Mae'r holl botiau hyn wedi cynyddu ar gyfer aelodau sy'n rhan o'r UE. Yr UE yw ein cymydog agosaf ac rwy'n falch fod Llywodraeth Lafur y DU yn ôl yn adeiladu cysylltiadau ac yn chwalu rhwystrau masnach, gan droi traed moch o Brexit yn un sy'n dda i Gymru, ein heconomi a'n pobl.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
And I call on the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning to reply to the debate—Rebecca Evans.

I'd like to begin by thanking Mick Antoniw for tabling this debate this afternoon, and for giving the Welsh Government the opportunity to set out how we're breaking down the barriers that were built up over the last five years when we left the European Union. Our relationship is built on shared values, mutual respect and a collective commitment to tackling the pressing challenges of our time. As an outward-looking European nation, Wales has always sought to foster meaningful connections with our neighbours. Despite the complexities of recent years, our bonds have actually grown stronger, and they've been underpinned by collaboration in vital areas such as the economy, trade and a desire for better youth mobility.
Of course, the debate is really timely. On Monday I was at 10 Downing Street with the Prime Minister, the UK Cabinet and business leaders from across the United Kingdom, including Wales, and EU representatives. We were considering what had happened earlier that day at the summit between the UK and EU leaders when a number of really important announcements were made, including greater collaboration around defence and security, tackling serious and organised crime, trade and economic growth and youth mobility. These agreements really are a testament to the desire on both sides and all sides to reset that relationship with the EU, and build a brighter future for Wales and for the rest of the UK.
The Welsh Government has continued at every opportunity to make the case for an improved relationship between the UK and the EU, and we've used our inter-governmental structures really effectively, such as the inter-governmental group on the EU, to set out our priorities for the UK-EU reset. I think what's really important now is what comes next. A lot of the things that have been agreed, which will be leading to further discussions with the EU, are actually in areas where it is for the devolved Governments to deliver, not least in the field of sanitary and phytosanitary, where we will see improvements in terms of agriculture, food and drink.
So, it's really important that we take those opportunities now to explore what the right structures are to make sure that the Welsh Government has the opportunity to influence and to be involved in those discussions, and to further develop now our relationships with the EU. I know that colleagues have mentioned that idea of a strategy previously, and I've previously said it's something that I'm very interested in exploring further. I think that as we move into this next phase of relationships now, it will be the right time to explore what might be the best way to have those more strategic relationships with the EU, given the fact that we will now be responsible for delivering on much, or certain parts at least, of what was agreed at the summit.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma, ac am roi cyfle i Lywodraeth Cymru nodi sut rydym yn chwalu'r rhwystrau a adeiladwyd dros y pum mlynedd diwethaf pan wnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein perthynas wedi'i hadeiladu ar werthoedd a rennir, parch ac ymrwymiad cyfunol i fynd i'r afael â heriau dybryd ein hoes. Fel cenedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan, mae Cymru bob amser wedi ceisio meithrin cysylltiadau ystyrlon â'n cymdogion. Er gwaethaf cymhlethdodau'r blynyddoedd diwethaf, mae hyn sy'n ein rhwymo wedi tyfu'n gryfach mewn gwirionedd, ac yn seiliedig ar gydweithio mewn meysydd hanfodol fel yr economi, masnach ac awydd am well symudedd ieuenctid.
Wrth gwrs, mae'r ddadl yn amserol iawn. Ddydd Llun roeddwn yn 10 Stryd Downing gyda'r Prif Weinidog, Cabinet y DU ac arweinwyr busnes o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys Cymru, a chynrychiolwyr yr UE. Roeddem yn ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn gynharach y diwrnod hwnnw yn yr uwchgynhadledd rhwng arweinwyr y DU a'r UE pan wnaed nifer o gyhoeddiadau pwysig iawn, gan gynnwys mwy o gydweithredu mewn perthynas ag amddiffyn a diogelwch, ar fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, masnach a thwf economaidd a symudedd ieuenctid. Mae'r cytundebau hyn yn dyst i'r awydd ar y ddwy ochr a phob ochr i ailosod y berthynas â'r UE, ac adeiladu dyfodol mwy disglair i Gymru ac i weddill y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fanteisio ar bob cyfle i wneud yr achos dros well perthynas rhwng y DU a'r UE, ac rydym wedi defnyddio ein strwythurau rhynglywodraethol yn effeithiol iawn, fel y grŵp rhynglywodraethol ar yr UE, i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer ailosod y berthynas rhwng y DU a'r UE. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig nawr yw beth sy'n dod nesaf. Mae llawer o'r pethau sydd wedi'u cytuno, a fydd yn arwain at drafodaethau pellach gyda'r UE, mewn meysydd sydd i'w cyflawni gan y Llywodraethau datganoledig, yn enwedig yn y maes iechydol a ffytoiechydol, lle byddwn yn gweld gwelliannau o ran amaethyddiaeth, bwyd a diod.
Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd hynny nawr i archwilio beth yw'r strwythurau cywir i wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i ddylanwadu ar y trafodaethau hynny ac i fod yn rhan o'r trafodaethau hynny, ac i ddatblygu ein perthynas â'r UE ymhellach nawr. Rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau wedi sôn am y syniad o strategaeth o'r blaen, ac rwyf wedi dweud yn flaenorol ei fod yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb mawr yn ei archwilio ymhellach. Wrth inni symud i'r cam nesaf yn y berthynas, rwy'n credu mai dyma'r amser iawn i archwilio beth fyddai'r ffordd orau o gael perthynas fwy strategol gyda'r UE, o ystyried y byddwn yn gyfrifol am gyflawni llawer nawr, neu rai rhannau fan lleiaf, o'r hyn a gytunwyd yn yr uwchgynhadledd.
And, of course, the EU remains our most important trading partner, and it accounts for the largest share of our exports and inward investment. This economic relationship, of course, isn't just about transactions, it's a testament to the interwoven destinies of our nations. To ensure that these ties remain robust, we retained our dedicated presence in Brussels, actively engaging with EU institutions, to represent Welsh interests in policy, trade and investment. The ongoing success of the Conference of Peripheral Maritime Regions is just one example of where Wales is taking a leading role in shaping those relationships with Europe and putting them on a positive footing.
In 2023 we hosted the CPMR Atlantic Arc Commission general assembly, bringing together Ministers and regional leaders to discuss inter-regional co-operation within the Atlantic area. That event really was a milestone not just for showcasing Wales's commitment to the European Community, but also in terms of forming partnerships that fuel economic innovation and growth. The Atlantic Arc Commission visited north Wales earlier this month, as part of the two-year EU-funded pilot project, and there were 25 delegates, including representatives from Portugal, Spain, the Basque Country and Ireland. They visited our Advanced Manufacturing Research Centre, Bangor University and the port of Mostyn to learn about Wales's approach to topics such as renewable energy and our circular economy.
We are really investing heavily in the green economy. Recent announcements, such as the multimillion-pound investment by Copenhagen Infrastructure Partners in Welsh onshore wind projects, demonstrate our commitment to sustainable development. This investment won't just help Wales to achieve our net-zero goals by 2050, but also go about creating jobs and empowering local communities, showcasing, really, how collaboration can align with our broader environmental objectives. And, of course, climate change is one of the most pressing issues of our time, and addressing it does require that collective action. We've placed environmental stability and sustainability at the heart of our policies, with our Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 being that groundbreaking model. Of course, this year marks the tenth year of that pioneering legislation, which we know has captured the imagination of policy makers right across Europe. We know that it's more than just a law, it's a mindset, and it's an enduring commitment to leaving a better world for future generations.
So, trade remains a cornerstone of Wales's relationship with Europe, albeit one that's faced some real challenges in recent years. The trade and co-operation agreement provides a framework for UK-EU engagement, but, of course, it's not without its limitations. We've consistently advocated for adjustments to reduce trade barriers and to enhance market access for businesses. That's why I was so pleased that some of our top key priorities in the trade space were reflected in the announcements that were made on Monday. The sanitary and phytosanitary agreement will be key to removing those barriers for agricultural food and drink products, and these measures will alleviate regulatory burdens and remove some of those barriers for Welsh producers, ensuring that our high-quality Welsh goods can be exported to Europe more easily.
Perhaps one of the most profound ways that we can strengthen our relationship with Europe is investing in our young people, and the reduced freedom of movement from within the EU has posed challenges, but Wales has responded with resilience and ingenuity. Our Taith programme is a shining example of this commitment, because it has enabled thousands of learners to experience the transformative power of educational mobility. These experiences help to broaden their horizons, instilling a sense of possibility and ambition that will shape the future of our young people. We've advocated for the establishment of a youth mobility scheme between the UK and the EU, and we know that that scheme would allow young people to be provided with invaluable opportunities to study, work and connect across borders. So, we were really pleased to see the recognition of that. And that's not just an investment in their futures, but actually a foundation for deeper cultural understanding and solidarity between nations. So, we really welcome the announcement that there will be work to establish a mutual commitment to negotiating a youth mobility scheme. We will work closely with the UK Government to ensure that that scheme will benefit Wales, and we look forward to welcoming young people from the EU to Wales to work, study and for internships and other purposeful stays.
The past five years have tested the resilience of our relationship with Europe. We've had Brexit, the global pandemic and the war in Ukraine, and all of these have created some really unprecedented upheavals, but amidst all of these challenges, we have remained steadfast in our commitment to collaboration and to mutual support. And the war in Ukraine has highlighted the importance of that international solidarity. Wales has acted as a nation of sanctuary, providing refuge to thousands of people affected by conflict, and our partnerships with European nations have been absolutely instrumental in co-ordinating these efforts and reaffirming our shared humanity in times of crisis.
So, looking ahead, the reset in UK-EU relations does offer us an opportunity to forge new paths. Wales is proud to be part of the European family and we are committed to strengthening our bonds in the years to come. Whether that's through economic partnerships, environmental leadership, trade or offering the best opportunities to our young people, our collaboration with Europe will continue to inspire progress and prosperity. And by focusing on practical solutions to shared challenges, we can build a future together that benefits everyone.
Ac wrth gwrs, yr UE yw ein partner masnachu pwysicaf o hyd, a thrwyddi y ceir y gyfran fwyaf o'n hallforion a'n mewnfuddsoddiad. Wrth gwrs, mae'r berthynas economaidd hon yn ymwneud â mwy na thrafodiadau ariannol yn unig, mae'n dyst i dynged gydblethedig ein cenhedloedd. Er mwyn sicrhau bod y cysylltiadau hyn yn parhau i fod yn gadarn, fe wnaethom gadw ein presenoldeb penodol ym Mrwsel, gan ymgysylltu'n weithredol â sefydliadau'r UE, i gynrychioli buddiannau Cymru mewn polisi, masnach a buddsoddiad. Un enghraifft yn unig o ble mae gan Gymru rôl flaenllaw yn llunio'r cysylltiadau hynny ag Ewrop a'u rhoi ar sail gadarnhaol yw llwyddiant parhaus Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol.
Yn 2023 fe wnaethom gynnal cynulliad cyffredinol Comisiwn Bwa'r Iwerydd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol, a ddaeth â Gweinidogion ac arweinwyr rhanbarthol ynghyd i drafod cydweithrediad rhyng-ranbarthol yn ardal yr Iwerydd. Roedd y digwyddiad hwnnw'n garreg filltir, nid yn unig ar gyfer arddangos ymrwymiad Cymru i'r Gymuned Ewropeaidd, ond hefyd o ran ffurfio partneriaethau sy'n tanio arloesedd economaidd a thwf. Ymwelodd Comisiwn Bwa'r Iwerydd â gogledd Cymru yn gynharach y mis hwn, fel rhan o'r prosiect peilot dwy flynedd a ariennir gan yr UE, ac roedd yno 25 o gynrychiolwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr o Bortiwgal, Sbaen, Gwlad y Basg ac Iwerddon. Fe wnaethant ymweld â'n Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, Prifysgol Bangor a phorthladd Mostyn i ddysgu am ddull Cymru o weithredu ar bynciau fel ynni adnewyddadwy a'n heconomi gylchol.
Rydym yn buddsoddi'n helaeth yn yr economi werdd. Mae cyhoeddiadau diweddar, megis buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Copenhagen Infrastructure Partners mewn prosiectau gwynt ar y tir yng Nghymru, yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn helpu Cymru i gyflawni ein nodau sero net erbyn 2050, bydd hefyd yn creu swyddi a grymuso cymunedau lleol, gan arddangos sut y gall cydweithio alinio â'n hamcanion amgylcheddol ehangach. Ac wrth gwrs, newid hinsawdd yw un o broblemau mwyaf dybryd ein hoes, ac mae mynd i'r afael ag ef yn galw am weithredu ar y cyd. Rydym wedi rhoi sefydlogrwydd amgylcheddol a chynaliadwyedd wrth wraidd ein polisïau, gyda'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn fodel sy'n torri tir newydd. Wrth gwrs, eleni yw dengmlwyddiant y ddeddfwriaeth arloesol honno, y gwyddom ei bod wedi dal dychymyg llunwyr polisi ledled Ewrop. Fe wyddom ei bod yn fwy na dim ond deddfwriaeth, mae'n feddylfryd, ac mae'n ymrwymiad parhaol i adael byd gwell i genedlaethau'r dyfodol.
Felly, mae masnach yn parhau i fod yn gonglfaen i berthynas Cymru ag Ewrop, er ei bod wedi wynebu heriau gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn darparu fframwaith ar gyfer ymgysylltu rhwng y DU a'r UE, ond wrth gwrs, nid yw heb ei gyfyngiadau. Rydym wedi dadlau'n gyson dros addasiadau i leihau rhwystrau masnach ac i wella mynediad i'r farchnad i fusnesau. Dyna pam fy mod mor falch fod rhai o'n prif flaenoriaethau allweddol yn y gofod masnach wedi'u hadlewyrchu yn y cyhoeddiadau a wnaed ddydd Llun. Bydd y cytundeb iechydol a ffytoiechydol yn allweddol i gael gwared ar y rhwystrau i gynhyrchion bwyd a diod amaethyddol, a bydd y camau hyn yn lliniaru beichiau rheoleiddiol ac yn dileu rhai o'r rhwystrau i gynhyrchwyr Cymru, gan sicrhau y gellir allforio ein nwyddau Cymreig o ansawdd uchel i Ewrop yn haws.
Efallai mai un o'r ffyrdd mwyaf dwys y gallwn gryfhau ein perthynas ag Ewrop yw buddsoddi yn ein pobl ifanc, ac mae llai o ryddid i symud o fewn yr UE wedi creu heriau, ond mae Cymru wedi ymateb gyda gwydnwch a dyfeisgarwch. Mae ein rhaglen Taith yn enghraifft ddisglair o'r ymrwymiad hwn, oherwydd mae wedi galluogi miloedd o ddysgwyr i brofi pŵer trawsnewidiol symudedd addysgol. Mae'r profiadau hyn yn helpu i ehangu eu gorwelion, gan feithrin ymdeimlad o bosibiliadau ac uchelgais a fydd yn siapio dyfodol ein pobl ifanc. Rydym wedi eirioli dros sefydlu cynllun symudedd ieuenctid rhwng y DU a'r UE, ac rydym yn gwybod y byddai'r cynllun hwnnw'n caniatáu i bobl ifanc gael cyfleoedd amhrisiadwy i astudio, gweithio a chysylltu ar draws ffiniau. Felly, roeddem yn falch iawn o weld y gydnabyddiaeth i hynny. Ac mae'n sylfaen ar gyfer dealltwriaeth ddiwylliannol ddyfnach ac undod rhwng cenhedloedd, yn ogystal â buddsoddiad yn eu dyfodol. Felly, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd gwaith yn digwydd i sefydlu ymrwymiad ar y cyd i negodi cynllun symudedd ieuenctid. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y cynllun hwnnw o fudd i Gymru, ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl ifanc o'r UE i Gymru i weithio, i astudio ac ar gyfer interniaethau ac arosiadau pwrpasol eraill.
Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi profi gwydnwch ein perthynas ag Ewrop. Cawsom Brexit, y pandemig byd-eang a'r rhyfel yn Wcráin, ac mae'r rhain i gyd wedi creu aflonyddwch digynsail, ond yng nghanol yr holl heriau hyn, rydym wedi parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i gydweithio ac i gefnogi ein gilydd. Ac mae'r rhyfel yn Wcráin wedi tynnu sylw at bwysigrwydd yr undod rhyngwladol hwnnw. Mae Cymru wedi gweithredu fel cenedl noddfa, gan ddarparu lloches i filoedd o bobl yr effeithiwyd arnynt gan wrthdaro, ac mae ein partneriaethau â chenhedloedd Ewrop wedi bod yn hollol allweddol wrth gydlynu'r ymdrechion hyn ac ailddatgan ein dynoliaeth gyffredin mewn cyfnod o argyfwng.
Felly, gan edrych tua'r dyfodol, mae ailosod y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE yn cynnig cyfle i ni greu llwybrau newydd. Mae Cymru'n falch o fod yn rhan o'r teulu Ewropeaidd ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein cysylltiadau yn y blynyddoedd i ddod. Boed hynny trwy bartneriaethau economaidd, arweinyddiaeth amgylcheddol, masnach neu drwy gynnig y cyfleoedd gorau i'n pobl ifanc, bydd ein cydweithrediad ag Ewrop yn parhau i ysbrydoli cynnydd a ffyniant. A thrwy ganolbwyntio ar atebion ymarferol i heriau cyffredin, gallwn adeiladu dyfodol gyda'n gilydd sydd o fudd i bawb.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch, Mick. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Thank you, Cabinet Secretary, and thank you, Mick. And that brings today's proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:26.
The meeting ended at 18:26.