Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/02/2019 i'w hateb ar 20/02/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OAQ53454 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith trafnidiaeth eco-gyfeillgar ar lefelau llygredd?

 
2
OAQ53444 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Sut y mae cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru o fudd i gymunedau yn ne-ddwyrain Cymru?

 
3
OAQ53434 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo cynnyrch bwyd a diod o Gymru ymhellach yn 2019?

 
4
OAQ53462 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda rhanddeiliaid o ran lleihau llygredd ym Mhort Talbot?

 
5
OAQ53450 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch trwyddedu ar gyfer anifeiliaid sy'n perfformio?

 
6
OAQ53441 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r risg o lifogydd o ran seilwaith hanfodol?

 
7
OAQ53465 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector cig coch yn dilyn Brexit?

 
8
OAQ53455 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau plannu coed yng Nghymru?

 
9
OAQ53451 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa asesiad diweddar y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o oblygiadau Brexit heb fargen ar economi wledig Cymru?

 
10
OAQ53463 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynllun grantiau ffermwyr ifanc?

 
11
OAQ53461 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ffermydd solar ar gymunedau cyfagos?

 
12
OAQ53431 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddyfodol cynhyrchu ynni niwclear yng Nghymru?

 
13
OAQ53457 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar a gynhaliwyd ar orchymyn pysgodfa'r Afon Menai?

 
14
OAQ53460 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid yng Ngogledd Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn?

 
15
OAQ53427 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau amseriad unrhyw fil amaethyddol i Gymru, ar gyfer y dyfodol, yn ystod tymor y Cynulliad hwn?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OAQ53435 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu rhagor o gartrefi?

 
2
OAQ53433 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru yn 2019?

 
3
OAQ53440 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am foddhad y cyhoedd o ran gwasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru?

 
4
OAQ53464 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y rheoliadau draenio trefol cynaliadwy ar gyflenwad tai?

 
5
OAQ53468 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau fod datblygwyr yn cadw at amodau cynllunio?

 
6
OAQ53446 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Beth yw hyd a lled pwerau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhenti ar gyfer tai cymdeithasol yn fforddiadwy?

 
7
OAQ53456 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau ailgylchu ac ailddefnyddio yng Nghymru?

 
8
OAQ53424 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dai cydweithredol?

 
9
OAQ53447 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Sut y mae'r Gweinidog yn cryfhau'r broses gynllunio mewn ardaloedd gwledig?

 
10
OAQ53439 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anghenion cyn-filwyr o ran tai?

 
11
OAQ53449 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa asesiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwygiadau lles ar gymoedd de Cymru?

 
12
OAQ53467 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ynghylch diwallu anghenion cymunedau?

 
13
OAQ53453 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant polisïau Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar gysgu ar y stryd yng Nghymru?

 
14
OAQ53432 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai cymdeithasol ar gyfer pobl sydd ag anawsterau symud?

 
15
OAQ53430 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru?