Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/01/2022 i'w hateb ar 19/01/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio datblygu economaidd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw DU gyfan yng Nghymru?
Sut mae'r gronfa cadernid economaidd yn cefnogi busnesau yng Nghymru y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth COVID sydd ar gael i fusnesau yng Nghanol De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cefnogi cyflogwyr sy'n ystyried treialu wythnos waith pedwar diwrnod?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau twristiaeth yn ystod pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen a thargedau ar gyfer creu swyddi drwy fewnfuddsoddi yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau yn Nyffryn Clwyd i adfer o bandemig COVID-19?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i wella rhagolygon cyflogadwyedd pobl ifanc yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhwystrau ariannol sy'n atal dechrau busnesau cymdeithasol yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyllid ReAct i gynyddu argaeledd dosbarthiadau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau bach yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd parth menter Eryri?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar basys COVID?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cleifion sy'n mynd i'r ysbyty gyda COVID-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhwystrau o ran cael mynediad at ofal iechyd y mae pobl sydd wedi colli eu clyw yn eu hwynebu?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella gwasanaethau i bobl ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd?
Pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau trosglwyddo COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cynnydd cyflymach a theg o ran gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y cyfrifoldeb dros ddarparu cyfarpar diogelu personol i weithwyr gofal?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith gorweithio a straen ar golli staff o'r gwasanaeth iechyd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fynediad i wasanaethau ysbytai yn Nwyrain De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi awdurdodau lleol gyda phecynnau gofal i ganiatáu i gleifion adael yr ysbyty?