Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/01/2022 i'w hateb ar 18/01/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw sgil-effeithiau negyddol o weithredu'r Cynllun Gweithredu Teithio Llesol i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gwaith o weithredu pàs COVID GIG Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r sector manwerthu yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at dargedau adeiladu tai Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi cyngor ar ynni i aelwydydd sy'n agored i niwed?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal gyda Gweinidogion cyfatebol Llywodraeth y DU ynghylch mesurau i leihau cyfraddau heintio COVID-19?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu cyllid i fusnesau lletygarwch yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau COVID-19 diweddar Llywodraeth Cymru?
Pa uchelgeisiau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu prentisiaethau?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddod â swyddi sgiliau uchel i Ddwyrain Casnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnal arholiadau ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro?