Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/10/2023 i'w hateb ar 17/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd â phlant mewn tlodi?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi grwpiau cymunedol yn Islwyn drwy'r argyfwng costau byw?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ehangu tai cymdeithasol fforddiadwy?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi wledig ym Mhreseli Sir Benfro?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd yng Nghaerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb i adroddiad y grwp arbenigol ar yr argyfwng costau byw o safbwynt lliniaru tlodi yn Arfon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau iechyd yr ysgyfaint?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl i sefydlu busnesau yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fanteision asedau cymunedol i bobl yn Sir Ddinbych?