Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/09/2024 i'w hateb ar 17/09/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61541 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y warant i bobl ifanc?

 
2
OQ61501 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith toriadau posibl i wariant gan Lywodraeth y DU ar drigolion Gorllewin De Cymru?

 
3
OQ61507 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd Ynni Prydain Fawr o fudd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru?

 
4
OQ61515 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd?

 
5
OQ61542 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad arfaethedig Parcffordd Caerdydd yn Llaneirwg?

 
6
OQ61498 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gamau Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr mewn afonydd?

 
7
OQ61532 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd yn effeithio arnynt?

 
8
OQ61491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
9
OQ61490 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dreftadaeth genedlaethol Cymru?

 
10
OQ61499 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â marwolaethau sy'n gysylltiedig ag opioid yng Nghymru?

 
11
OQ61524 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynghylch colli banciau o'r stryd fawr wledig?

 
12
OQ61493 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2024

Yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf, pa effaith y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd hyn yn ei chael ar bensiynwyr yng Nghymru?