Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/09/2025 i'w hateb ar 16/09/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyflwr yr economi ymwelwyr yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y Senedd hon?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn Llywodraeth y DU ar Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau presennol adeiladu tai yng Nghymru a’r rhagolygon ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau strôc?
Pa gynlluniau sydd gan Llywodraeth Cymru i sicrhau datganoli Ystad y Goron?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu presgripsiynau meddygol am ddim i bobl yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar restrau aros asesiadau newro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol a'r sector gyhoeddus i sicrhau safonau moesegol mewn gwariant, caffael a buddsoddi?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar effeithiolrwydd mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â recriwtio'r heddlu yng Nghymru?