Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/07/2019 i'w hateb ar 16/07/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu recriwtio'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo dull o weithredu hawliau plant wrth weithio gyda chyrff sydd heb eu datganoli?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atebolrwydd yn y GIG yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi tai Llywodraeth Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ffigurau cyflogaeth Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau tasglu Llywodraeth Cymru ar waith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y berthynas rhwng ei swydd a lobïwyr proffesiynol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i les anifeiliaid?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu prosiectau ynni yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r rhwydwaith cefnffyrdd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu'r proffesiwn addysgu gyflwyno'r cwricwlwm newydd?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gynyddu amrywiaeth mewn swyddi etholedig?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cedlaethau'r Dyfodol?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella hawliau dynol yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn?