Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/03/2021 i'w hateb ar 16/03/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn natblygiad posibl morlyn llanw ym Mae Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws y berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y cŵn a gaiff eu dwyn yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r dyraniadau cyllid arfaethedig i Gymru o ganlyniad i gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod pandemig COVID-19?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi economi Sir Benfro drwy gydol pandemig COVID-19?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amcanestyniadau o'r angen am dai yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer yng Nghanol Caerdydd?
Cwnsler Cyffredinol
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfansoddiadol cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin?
Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y pwerau cyfreithiol sydd ar gael i gryfhau'r gallu i ddiogelu da byw rhag ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'w gyd-weinidogion ar gynorthwyo lesddeiliaid sy'n wynebu rhwymedigaethau ariannol wrth fynd i'r afael â diffygion mewn adeiladau uchel yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i annog gwell ymwybyddiaeth o reolaeth y gyfraith ymhlith oedolion ifanc yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno mesurau cyfreithiol i fynd i'r afael â throseddau gwledig?