Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/11/2022 i'w hateb ar 15/11/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio tanwydd hydrogen ar gyfer cerbydau modur yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i sicrhau cartref i bawb sydd angen un yn sgil yr argyfwng costau byw?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer rhandiroedd cymunedol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r prif flaenoriaethau i Gymru yn y datganiad ar gyllideb yr hydref?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn sector cyhoeddus o danwydd ffosil?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod cynaliadwyedd ariannol ffermydd ac ardaloedd gwledig wrth wraidd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged sero net?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ryddhau carthffosiaeth i’r môr oddi ar arfordir Ynys Môn?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu cynhyrchiant garddwriaeth yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau mynediad at arian parod yng nghymunedau Cymru?