Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/03/2022 i'w hateb ar 15/03/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ57800 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol rhaglen y Cymoedd Technoleg?

 
2
OQ57811 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Nghymru?

 
3
OQ57808 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi sgiliau yn ystod tymor y Senedd hon?

 
4
OQ57778 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i groesawu a chefnogi ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin?

 
5
OQ57815 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc?

 
6
OQ57780 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion ar gyfer campws iechyd a lles amlasiantaethol yn y Drenewydd?

 
7
OQ57777 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau'r argyfwng costau byw ar gymunedau yng Nghanol De Cymru?

 
8
OQ57795 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda chynghorau lleol am dreth dwristiaeth?

 
9
OQ57775 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru?

 
10
OQ57790 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r baich gofal di-dâl sy'n syrthio'n bennaf ar fenywod?

 
11
OQ57809 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y rhyfel yn Wcráin ar gyfrifoldebau datganoledig?

 
12
OQ57788 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chydweithwyr llywodraeth leol am fuddsoddiadau cynllun pensiwn y sector cyhoeddus awdurdodau lleol?