Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/03/2022 i'w hateb ar 15/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol rhaglen y Cymoedd Technoleg?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi sgiliau yn ystod tymor y Senedd hon?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i groesawu a chefnogi ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion ar gyfer campws iechyd a lles amlasiantaethol yn y Drenewydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau'r argyfwng costau byw ar gymunedau yng Nghanol De Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda chynghorau lleol am dreth dwristiaeth?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru?
Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r baich gofal di-dâl sy'n syrthio'n bennaf ar fenywod?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y rhyfel yn Wcráin ar gyfrifoldebau datganoledig?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chydweithwyr llywodraeth leol am fuddsoddiadau cynllun pensiwn y sector cyhoeddus awdurdodau lleol?