Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/01/2025 i'w hateb ar 15/01/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ62122 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r economi yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ62088 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Pa gysylltiad oedd gan Lywodraeth Cymru gyda'r National Electricity System Operator ynghylch sicrhau bod ei adroddiad Beyond 2030 yn adlewyrchu anghenion Cymru?

 
3
OQ62109 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraniad Llywodraeth Cymru at y Cyngor Dur a'r effaith y bydd yn ei chael ar economi Gorllewin De Cymru?

 
4
OQ62106 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae polisïau economaidd Llywodraeth y DU o fudd i economi Cymru?

 
5
OQ62104 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y potensial ar gyfer mwy o fuddsoddiad yn y gwyddorau bywyd yng Nghymru?

 
6
OQ62118 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn elwa o ynni adnewyddadwy ar y môr?

 
7
OQ62121 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion y Rhondda i gael y sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd y dyfodol?

 
8
OQ62120 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn darparu digon o arian ar gyfer diwylliant a'r celfyddydau?

 
9
OQ62107 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall oedolion gael mynediad at hyfforddiant a chymorth cyflogaeth priodol ac effeithiol?

 
10
OQ62114 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu twristiaid i Ogledd Cymru?

 
11
OQ62110 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn gwasanaethau dosbarthu cludfwyd yng Nghaerdydd?

 
12
OQ62097 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol lleoliadau cerddorol yng Nghanol De Cymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ62094 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau meddyg teulu ym Mlaenau Gwent?

 
2
OQ62087 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion?

 
3
OQ62113 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl awtistig?

 
4
OQ62095 (d) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc?

 
5
OQ62119 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol?

 
6
OQ62117 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau strôc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
7
OQ62112 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith contractau newydd meddygon teulu ar ofal cleifion?

 
8
OQ62096 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i anfon yr holl waith ymlediad aortig allan o ogledd Cymru, a beth yw'r cynllun tymor hir ar gyfer adfer gwasanaethau fasgiwlar llawn a diogel yn y gogledd?

 
9
OQ62102 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am berfformiad y GIG yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ62098 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol?

 
11
OQ62086 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau strôc yn Nwyrain De Cymru?

 
12
OQ62103 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o ganserau â chyfraddau goroesi is?