Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/10/2021 i'w hateb ar 13/10/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth lleol i bobl ifanc?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad gwariant arfaethedig Llywodraeth y DU 2021?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd y setliad llywodraeth leol eleni?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn Sir Benfro?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i wella canlyniadau economaidd yng Ngorllewin De Cymru wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi?
A wnaiff y Gweinidog nodi polisi ardrethi busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor seneddol hwn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i wella'r modd y darperir gwasanaethau?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sicrhau setliad ariannol cynaliadwy gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o adfer 2,100 o domenni glo Cymru yn effeithiol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drawsnewid gwasanaethau llywodraeth leol yn ddigidol?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddatblygu cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau atebolrwydd mewn llywodraeth leol?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddarparu cludiant i blant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig wrth ddyrannu'r gyllideb i'r portffolio newid hinsawdd?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y flaenoriaeth a roddir i ddiogelu bywyd morol wrth benderfynu ar bolisi pysgodfeydd Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch cyrchu cynnyrch lleol ar gyfer prydau ysgol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i daclo pysgota anghyfreithlon?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i fynd i'r afael â llygredd afonydd sy'n deillio o amaethyddiaeth?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o gyfreithiau bridio cŵn?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gwarchodfeydd anifeiliaid yn cymryd camau digonol i fodloni safonau lles?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi iawndal TB Llywodraeth Cymru ar ffermwyr?
Pa ystyriaeth y mae Pwyllgor Cabinet Gogledd Cymru wedi'i rhoi i ddarparu gwasanaethau brys yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith parthau perygl nitradau?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol ym mhob lladd-dy?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith prinder llafur yn y diwydiant prosesu cig?