Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/06/2023 i'w hateb ar 13/06/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer ymchwil ac arloesi?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganran gweithlu Cymru sy'n gweithio mewn sectorau economaidd â chyflogau uwch?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru?
Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i bobl o ffydd wrth lunio'r Cod Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelu ymchwil ac arloesi yng Nghymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn Sir Ddinbych?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddynodi ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy fel parc cenedlaethol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rheoleiddio deallusrwydd artiffisial?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl democratiaeth leol wrth benderfynu ar gynlluniau datblygu lleol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd dynion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?