Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/02/2021 i'w hateb ar 10/02/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa gyllid ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddyrannu i fynd i'r afael â phwysau ariannol yn y sector twristiaeth?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddarparu cyllid ychwanegol i'r portffolio addysg?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu asesiad Llywodraeth Cymru o'i gwariant cyfalaf yng Nghwm Cynon yn ystod tymor presennol y Senedd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 yn Islwyn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch gwella'r setliad datganoledig er mwyn darparu cyllid ychwanegol i ddioddefwyr llifogydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru?
Pa ddarpariaeth ariannol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud o fewn ei chyllideb flynyddol i gefnogi'r sector lletygarwch?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd cyllideb 2021-22 o fudd i'r broses o adfywio canol trefi yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi'i chael ar hyrwyddo hawliau plant?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau gweinyddu'r cyfrifiad nesaf yng Nghymru?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant y model buddsoddi cydfuddiannol?
Y Gweinidog Addysg
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer disgyblion awtistig mewn lleoliadau ysgol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau cyfrwng Cymraeg i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod pandemig COVID-19?
Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi dysgwyr yng Nghwm Cynon y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar eu haddysg?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu'r cynllun gweithredu addysg bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cyfyngiadau symud presennol ar blant nad ydynt yn yr ysgol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cyfleoedd a ddarperir gan y cwricwlwm cenedlaethol newydd ar gyfer addysgu dealltwriaeth ryngwladol, cydweithredu a heddwch a hawliau dynol mewn ysgolion?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw dystiolaeth bod cau ysgolion cynradd yn arwain at leihad sylweddol o ran trosglwyddo'r coronafeirws?
Pa ddarpariaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar waith i alluogi disgyblion i ddal i fyny ar addysg y mae mesurau'r pandemig wedi effeithio arnynt?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu dyfeisiau TG i gefnogi dysgu ar-lein yng Ngorllewin De Cymru?
Comisiwn y Senedd
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i dyfu bwyd ar ystad y Senedd?
Pa drefniadau y mae'r Comisiwn yn eu rhoi ar waith i gefnogi'r Senedd Ieuenctid yn y Senedd nesaf?