Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/12/2025 i'w hateb ar 09/12/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ63563 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gartrefi gofal?

 
2
OQ63588 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau tryloywder yn llywodraethiant y GIG?

 
3
OQ63584 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr amseroedd ymateb i geisiadau am i gartrefi gael eu haddasu i bobl sydd wedi cael diagnosis o glefyd niwronau motor a chyflyrau iechyd tebyg?

 
4
OQ63558 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i unioni anghyfiawnderau y mae pensiynwyr Allied Steel and Wire yn eu hwynebu?

 
5
OQ63573 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd i drigolion Powys?

 
6
OQ63583 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru sydd ar gael i awdurdodau lleol?

 
7
OQ63554 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella'r stryd fawr yng Ngorllewin De Cymru?

 
8
OQ63586 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Phrif Weinidog y DU am agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli i Gymru?

 
9
OQ63557 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Sir Benfro?

 
10
OQ63585 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yng Ngogledd Cymru?

 
11
OQ63570 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu y gaeaf hwn?

 
12
OQ63552 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?

Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

1
OQ63564 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2025

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru?

 
2
OQ63555 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2025

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno prentisiaethau cyfreithiol yng Nghymru?

 
3
OQ63556 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2025

Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am yr effaith ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru yn sgil ei chynigion i leihau ôl-groniadau llysoedd drwy leihau nifer y troseddau a fydd yn gymwys i gael eu rhoi ar brawf gerbron rheithgor?