Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/10/2018 i'w hateb ar 09/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu gwerth allforion i wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghasnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am les anifeiliaid yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, 'Trafnidiaeth addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol'?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adfywio yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith credyd cynhwysol yn Nhorfaen?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith ffin tollau neu ffin reoleiddiol ym Môr Iwerddon?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella seilwaith gogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU am y fargen sector dur?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi sector y celfyddydau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer rhieni sydd wedi dioddef camesgoriad neu golli babi?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyllido llywodraeth leol dros y flwyddyn ariannol nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer undebau credyd?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fod yn barod ar gyfer gofynion cleifion orthopedig yng ngogledd Cymru dros y gaeaf?