Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/07/2025 i'w hateb ar 09/07/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y mwyaf o fanteision bargeinion dinesig a thwf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu band eang ffeibr cyflym yn Sir Fynwy?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am rôl y sector twristiaeth a lletygarwch yn strategaeth ddiwydiannol y DU?
Pa fesurau y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i gyflymu'r symudiad tuag at ynni domestig glân?
Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghylch ei gynllun datblygu lleol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni datblygiad Parcffordd Caerdydd yn dilyn yr adolygiad gyda chyd-bartneriaid y fenter y disgwylir iddo ddod i gasgliad ddechrau mis Gorffennaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warantu darpariaeth cyflenwadau ynni i seilwaith cenedlaethol hanfodol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r broses o ddatgarboneiddio diwydiant?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fframwaith Llywodraeth Cymru, sef Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau bach yng Ngogledd Caerdydd?
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i gryfhau lleisiau cymunedol yn y system gynllunio?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o’r effaith ar gleifion yn sgil newidiadau arfaethedig diweddaraf Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG?
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o fynediad at wasanaethau meddyg teulu yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ofalwyr ifanc?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch sicrhau nad yw cyflenwadau dŵr yfed yn peri perygl i iechyd pobl?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl y mae colli beichiogrwydd a cholli babanod wedi effeithio arnynt?
Pa fesurau lliniaru y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i gefnogi trigolion yng nghanolbarth Cymru os bydd canolfan ambiwlans awyr y Trallwng yn cau fel y cynlluniwyd yn 2026?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau gwell mynediad at ddeintyddion y GIG ledled Gorllewin De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am rôl nyrsys mewn cartrefi gofal a chartrefi nyrsio?
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i gynyddu’r gefnogaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau marwolaethau babanod yng Nghymru?