Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/02/2022 i'w hateb ar 09/02/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch hawliau disgyblion ysgol anabl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i amddiffyn pobl ar incwm isel yn sgil yr argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl gyda'u biliau tanwydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chlybiau nos a rhanddeiliaid eraill ynghylch gwella diogelwch menywod yn eu lleoliadau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y mesurau y mae wedi'u cyflwyno yn ystod y pandemig ar hawliau cyfartal pobl sydd â phroblemau golwg yn Arfon?
Sut y mae'r Gweinidog yn defnyddio mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o dlodi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda heddluoedd ledled Cymru ynghylch y cysylltiadau rhwng caethwasiaeth fodern a lleoliadau golchi ceir anrheoleiddiedig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl Cymru drwy'r argyfwng costau byw?
Pa gamau ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad ydi pobl yn llwgu yn wyneb yr argyfwng costau byw?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â diwygio neu ddileu cyfraith yr UE a ddargedwir?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch yr effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU i newid statws cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer deddfwriaeth ar gyfraith yr UE a ddargedwir?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda llywodraethau eraill y DU mewn perthynas â chyfraith yr UE a ddargedwir?
Pa gyngor a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i'r Gweinidog Cyllid ar oblygiadau cyfansoddiadol Bil Cyflwyno Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu amrywiaeth ynadon lleyg yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r angen am ddiwygiadau rhyngseneddol yn sgil y newidiadau i gysylltiadau rhynglywodraethol ar lefel y DU?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch cynigion Llywodraeth y DG i ariannu prosiectau yng Nghymru'n uniongyrchol o dan ei chronfa codi'r gwastad?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau cyfansoddiadol deddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd?
Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â datganoli mwy o bwerau trethiant?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwr adeilad y Ganolfan Cyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Hawliau Dynol 1998?
Comisiwn y Senedd
Sut y bydd y Comisiwn yn cefnogi Senedd leuenctid Cymru yn ystod y Chweched Senedd?
Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a recriwtio agored yng ngweithle'r Senedd?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei raglenni ymgysylltu cyhoeddus a democrataidd?